By continuing to use our site, you are agreeing for us to set a small number of cookies. Cookie policy

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Back to list View this page with hyperlinks
Cofnod y Trafodion The Record of Proceedings
15/03/2016
Cynnwys Contents 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog 1. Questions to the First Minister 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 2. Business Statement and Announcement 3. Datganiad: Y Cynllun Addasiadau Gwell 3. Statement: The Enhanced Adaptation System 4. Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 4. The Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (Consequential Amendments) Regulations 2016 5. Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgoriau Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016 5. The Food Hygiene Rating (Promotion of Food Hygiene Rating) (Wales) Regulations 2016 6. Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar gyfer Bil Menter y DU mewn perthynas â Darpariaethau Cod Rheoleiddwyr ac Awdurdod Sylfaenol 6. Supplementary Legislative Consent Memorandum (Memorandum No. 3) for the UK Enterprise Bill in relation to Regulators’ Code and Primary Authority Provisions 7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandum Rhif 4) ar gyfer y Darpariaethau ym Mil Menter y DU sy’n ymwneud â Swyddi Sector Cyhoeddus: Cyfyngu ar Daliadau Ymadael 7. Supplementary Legislative Consent Motion (Memorandum No. 4) on the UK Enterprise Bill Provisions relating to Public Sector Employment: Restriction on Exit Payments 8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil Tai a Chynllunio y DU sy’n ymwneud â Darpariaethau Prynu Gorfodol ac Ati 8. Supplementary Legislative Consent Motion on the UK Housing and Planning Bill relating to Compulsory Purchase Provisions Et Cetera 9. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Darpariaethau ym Mil Menter y DU mewn perthynas â Rhannu Data ar gyfer Prentisiaethau 9. Supplementary Legislative Consent Motion on the UK Enterprise Bill Provisions in relation to Data Sharing for Apprenticeships 10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Darpariaethau ym Mil Mewnfudo’r DU mewn perthynas â Gofynion yr Iaith Gymraeg ar gyfer Gweithwyr yn y Sector Cyhoeddus 10. Legislative Consent Motion on the UK Immigration Bill Provisions relating to Welsh Language Requirements for Public Sector Workers 11., 12., 13., 14. & 15. Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) (Rhif 2) 2016, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 3) 2016, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 4) 2016, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 5) 2016, a Gorchymyn Mesur y Gymraeg 11., 12., 13., 14. & 15. The Welsh Language (Wales) Measure 2011 (Amendment of Schedule 6) (No. 2) Order 2016, The Welsh Language Standards (No. 3) Regulations 2016, The Welsh Language Standards (No. 4) Regulations 2016, The Welsh Language Standards (No. 5) Regulations 16. Dadl ar y Cynllun Addasu Tai 16. Debate on the Housing Adaptation Scheme 17. Cyfnod Pleidleisio 17. Voting Time 14 Mawrth 2016: Neges Diwrnod y Gymanwlad gan Ei Mawrhydi Y Frenhines, Pennaeth y Gymanwlad 14 March 2016: Commonwealth Day Message by Her Majesty The Queen, Head of the Commonwealth
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair. The Assembly met at 13:30 with the Presiding Officer (Dame Rosemary Butler) in the Chair.
13:30 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Good afternoon. The National Assembly for Wales is now in session. Prynhawn da. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog 1. Questions to the First Minister
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. [R] signifies the Member has declared an interest. [W] signifies that the question was tabled in Welsh.
13:30 - Y Llywydd / The Presiding Officer
The first item this afternoon is questions to the First Minister, and question 1 is Kirsty Williams. Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw’r eitem gyntaf y prynhawn yma, a daw cwestiwn 1 gan Kirsty Williams.
Safonau Addysg (Brycheiniog a Sir Faesyfed) Educational Standards (Brecon and Radnorshire)
13:30 - Kirsty Williams
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am safonau addysg ym Mrycheiniog a sir Faesyfed? OAQ(4)2786(FM) 1. Will the First Minister make a statement on educational standards in Brecon and Radnorshire? OAQ(4)2786(FM)
13:30 - Carwyn Jones
Education standards in the area, in common with standards in Wales as a whole, present an improving picture. This includes, at national and local level, an improvement in the key stage 4, level 2 inclusive results. Mae safonau addysg yn yr ardal, yn gyffredin â safonau yng Nghymru yn ei chyfanrwydd, yn cyflwyno darlun sy’n gwella. Mae hyn yn cynnwys, ar lefel genedlaethol a lleol, gwelliant i ganlyniadau cyfnod allweddol 4, gan gynnwys lefel 2.
13:30 - Kirsty Williams
Can I thank the First Minister for that answer? First Minister, on many occasions, you’ve said in this Chamber that schools that are providing a good standard of education should not be closed, and, as you’ve just said yourself, there are improvements in standards of education in Brecon and Radnorshire. Therefore, will you agree with me that Powys County Council’s ill-conceived plans to close a number of small rural primary schools, and amalgamate and potentially close some of our high schools, will do nothing to improve the educational attainment levels of people in Brecon and Radnorshire? I know many of my constituents have already written to you on this subject and are looking to the Welsh Government to intervene, if possible. What can you say to those parents who have written to you concerned that, rather than improving educational outcomes in Brecon and Radnor, the plans by the council will actually make things worse? A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Brif Weinidog, ar sawl achlysur, rydych chi wedi dweud yn y Siambr hon na ddylai ysgolion sy’n darparu safon dda o addysg gael eu cau, ac, fel yr ydych chi newydd ddweud eich hun, ceir gwelliannau i safonau addysg ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Felly, a wnewch chi gytuno â mi y bydd cynlluniau annoeth Cyngor Sir Powys i gau nifer o ysgolion cynradd bach gwledig, ac uno ac o bosibl cau rhai o'n hysgolion uwchradd, yn gwneud dim i wella lefelau cyrhaeddiad addysgol pobl ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? Gwn fod llawer o’m hetholwyr eisoes wedi ysgrifennu atoch ar y pwnc hwn ac yn gobeithio y bydd Lywodraeth Cymru yn ymyrryd, os oes modd. Beth allwch chi ei ddweud wrth y rhieni hynny sydd wedi ysgrifennu atoch yn pryderu y bydd y cynlluniau hyn, yn hytrach na gwella canlyniadau addysgol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, yn gwneud pethau'n waeth mewn gwirionedd?
13:31 - Carwyn Jones
Well, as the Member knows, these are matters for the local authority. Nevertheless, as she also knows, Welsh Ministers have a role in certain statutory circumstances, and therefore I can’t comment on any plans that may be referred to Welsh Ministers. But I know that she, over many weeks in this Chamber, has expressed the concerns of her constituents. I’ve expressed the view many times that I hoped that the local education authority would take those concerns into account. If the matter now, of course, is referred to Welsh Ministers, then these are issues that will be taken into account by the relevant Minister. Wel, fel y mae’r Aelod yn gwybod, materion i’r awdurdod lleol yw’r rhain. Er hynny, fel y mae hi hefyd yn gwybod, mae gan Weinidogion Cymru swyddogaeth o dan rai amgylchiadau statudol penodol, ac felly ni allaf wneud sylwadau ar unrhyw gynlluniau a allai gael eu hatgyfeirio i Weinidogion Cymru. Ond gwn ei bod hi, dros nifer o wythnosau yn y Siambr hon, wedi mynegi pryderon ei hetholwyr. Rwyf wedi mynegi'r farn nifer o weithiau fy mod i wedi gobeithio y byddai'r awdurdod addysg lleol yn cymryd y pryderon hynny i ystyriaeth. Os caiff y mater nawr, wrth gwrs, ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru, yna mae'r rhain yn faterion a fydd yn cael eu hystyried gan y Gweinidog perthnasol.
13:32 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Mick Antoniw on Brecon and Radnorshire. Mick Antoniw ar Frycheiniog a Sir Faesyfed.
13:32 - Mick Antoniw
Yes. First Minister, the quality of educational standards in Brecon and Radnorshire are obviously dependent on the amount of educational funding that’s available. First Minister, on 17 November 2010, the leader of the Welsh Conservatives, when asked how much they would cut the education budget by, said, and I quote, ‘It’s about 20 per cent’. In the light of the refusal of the current leader of the Welsh Conservatives to commit to protecting the education budget, we can only assume they will cut education by 20 per cent, if they were to ever be in power. First Minister, what would be the implications for education in Wales if the Tories were ever to be elected to power? Ie. Brif Weinidog, mae ansawdd y safonau addysgol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed yn amlwg yn dibynnu ar faint o gyllid addysgol sydd ar gael. Brif Weinidog, ar 17 Tachwedd, 2010, dywedodd arweinydd Ceidwadwyr Cymru, pan ofynnwyd iddo o faint y byddent yn torri'r gyllideb addysg, a dyfynnaf, 'Tua 20 y cant'. Yng ngoleuni gwrthodiad arweinydd presennol Ceidwadwyr Cymru i ymrwymo i ddiogelu’r gyllideb addysg, ni allwn ond tybio y byddant yn torri addysg 20 y cant, pe bydden nhw fyth mewn grym. Brif Weinidog, beth fyddai'r goblygiadau i addysg yng Nghymru pe byddai'r Torïaid fyth yn cael eu hethol i rym?
13:32 - Carwyn Jones
If there were to be a 20 per cent cut in education funding in Brecon and Radnorshire, that would have an enormously detrimental effect, as it would elsewhere in Wales, including in the constituencies that we represent. It would mean, for instance, across Wales potentially 5,000 fewer teachers, it would certainly mean fewer resources for schools, and it would certainly mean that schools would not be built in the future. And we had confirmation of this over the weekend, when the leader of the opposition said that he would not protect education spending. Pe byddai toriad o 20 y cant i gyllid addysg ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, byddai hynny'n cael effaith niweidiol aruthrol, fel y byddai mewn mannau eraill yng Nghymru, gan gynnwys yn yr etholaethau yr ydym ni’n eu cynrychioli. Byddai'n golygu, er enghraifft, 5,000 yn llai o athrawon ar draws Gymru o bosibl, byddai'n sicr yn golygu llai o adnoddau i ysgolion, a byddai'n sicr yn golygu na fyddai ysgolion yn cael eu hadeiladu yn y dyfodol. A chawsom gadarnhad o hyn dros y penwythnos, pan ddywedodd arweinydd yr wrthblaid na fyddai'n diogelu gwariant ar addysg.
13:32 - William Powell
In accordance with the Members’ register of interests, I should declare that I am both a member of Powys County Council, but also a governor, and indeed back in the day a former head boy of one of the schools that’s threatened with closure. [Interruption.] Yn unol â chofrestr buddiannau’r Aelodau, dylwn ddatgan fy mod i’n aelod o Gyngor Sir Powys, ond hefyd yn llywodraethwr, ac ers talwm yn wir, yn brif fachgen un o’r ysgolion sydd o dan fygythiad o gau. [Torri ar draws.]
13:33 - Aelod Cynulliad / An Assembly Member
Pre-war. [Laughter.] Cyn y rhyfel. [Chwerthin.]
13:33 - William Powell
Oh, absolutely. First Minister, I’m acutely aware of the current concern in Brecon and Radnorshire around the school reorganisation proposals. One particular issue that’s widely raised by concerned members of the community is the perceived remoteness of cabinet decision making, and this is also mirrored elsewhere in my region, in Pembrokeshire, with current issues that are coming forward. First Minister, would you agree with me that it would serve greatly the cause of transparency if the leaders of local authorities faced with such decisions were to desist from the practice of holding informal, unminuted cabinet meetings ahead of formal business sessions, so as to give communities affected greater confidence of the transparency of the decisions that are arrived at? O, yn sicr. Brif Weinidog, rwy'n ymwybodol iawn o'r pryder ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed ar hyn o bryd ynghylch y cynigion ad-drefnu ysgolion. Un mater penodol sy’n cael ei godi’n eang gan aelodau pryderus o'r gymuned yw arwahanrwydd tybiedig proses gwneud penderfyniadau’r cabinet, a chaiff hyn hefyd ei adlewyrchu mewn mannau eraill yn fy rhanbarth i, yn Sir Benfro, gyda materion presennol sy’n dod i’r amlwg. Brif Weinidog, a fyddech chi’n cytuno â mi y byddai o fudd mawr i achos tryloywder pe byddai arweinwyr awdurdodau lleol sy'n wynebu penderfyniadau o'r fath yn ymatal rhag yr arfer o gynnal cyfarfodydd cabinet anffurfiol, heb eu cofnodi cyn sesiynau busnes ffurfiol, er mwyn rhoi mwy o hyder i’r cymunedau yr effeithir arnynt am dryloywder y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud?
13:34 - Carwyn Jones
I think transparency’s absolutely crucial. It’s important that, where people see decisions being made—even if they disagree with those decisions—they understand how those decisions came about, and the reasoning behind those decisions. I’m not aware of what process was followed in Powys on this occasion, but, clearly, I am aware—as the Member has pointed out, and, indeed, the leader of the Liberal Democrats—that this is a particularly controversial issue in Brecon and Radnor. Rwy'n credu bod tryloywder yn gwbl hanfodol. Mae'n bwysig, lle mae pobl yn gweld penderfyniadau'n cael eu gwneud—hyd yn oed os byddant yn anghytuno â’r penderfyniadau hynny—eu bod yn deall sut y gwnaed y penderfyniadau hynny, a'r rhesymeg sy’n sail i’r penderfyniadau hynny. Nid wyf yn gwybod pa broses a ddilynwyd ym Mhowys y tro hwn, ond, yn amlwg, rwy’n ymwybodol—fel y mae’r Aelod wedi ei nodi, ac, yn wir, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol—bod hwn yn fater arbennig o ddadleuol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed.
Gwasanaethau Iechyd Meddwl (De Cymru) Mental Health Services (South Wales)
13:35 - Julie Morgan
2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau iechyd meddwl yn ne Cymru? OAQ(4)2778(FM) 2. What plans does the Welsh Government have to improve mental health services in south Wales? OAQ(4)2778(FM)
13:35 - Carwyn Jones
Well, one of the Government’s priorities is to improve the mental health and wellbeing of people right across Wales, and services have been improved through increased funding within the ring fence every year throughout this Assembly term, with over £15 million of additional funding this year. Wel, un o flaenoriaethau'r Llywodraeth yw gwella iechyd meddwl a lles pobl ledled Cymru, ac mae gwasanaethau wedi eu gwella trwy gynyddu cyllid yn y clustnodiad bob blwyddyn trwy gydol tymor y Cynulliad hwn, gyda dros £15 miliwn o gyllid ychwanegol eleni.
13:35 - Julie Morgan
I thank the First Minister for that response. I’m sure the First Minister is aware that Whitchurch Hospital is closing its doors at the end of this month after 108 years providing mental health services for Cardiff and the surrounding areas. So, it really is the end of an era. Does the First Minister agree that the new mental health services—the building provided at Llandough hospital—are absolutely outstanding but will he also acknowledge the good work that has been done in Whitchurch by the staff over many years for people with mental health problems? Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol bod Ysbyty'r Eglwys Newydd yn cau ei ddrysau ddiwedd y mis hwn ar ôl 108 mlynedd o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer Caerdydd a'r cyffiniau. Felly, mae wir yn ddiwedd cyfnod. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod y gwasanaethau iechyd meddwl newydd—yr adeilad a ddarparwyd yn ysbyty Llandochau—yn gwbl ragorol ond a wnaiff e hefyd gydnabod y gwaith da sydd wedi ei wneud yn yr Eglwys Newydd gan y staff dros flynyddoedd lawer ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl?
13:35 - Carwyn Jones
I’m more than happy to join the Member in the praise that she has for the staff, both present and past. Whitchurch has served the city of Cardiff since 1908 but it’s time, of course, to ensure that the facilities that we provide for people with mental health problems are state-of-the-art. That’s why, of course, we see the investment in Hafan y Coed at Llandough. It’s a £88 million investment and, of course, it is a facility that will provide the best level of care possible for those who require assistance with their mental health. Rwy'n fwy na pharod i ymuno â'r Aelod yn y ganmoliaeth sydd ganddi i'r staff, yn y presennol a'r gorffennol. Mae’r Eglwys Newydd wedi gwasanaethu dinas Caerdydd ers 1908, ond mae'n bryd, wrth gwrs, sicrhau bod y cyfleusterau yr ydym yn eu darparu i bobl â phroblemau iechyd meddwl yn cynnig y dechnoleg ddiweddaraf. Dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni’n gweld y buddsoddiad yn Hafan y Coed yn Llandochau. Mae'n fuddsoddiad o £88 miliwn ac, wrth gwrs, mae’n gyfleuster a fydd yn darparu'r lefel gorau bosibl o ofal i’r rhai sydd angen cymorth gyda'u hiechyd meddwl.
13:36 - Angela Burns
Minister, mental health services obviously need to evolve as practice and knowledge change. However, I am concerned that vulnerable people are being caught between understaffed resources and policy changes, whether it’s people with severe and enduring mental health illnesses like two of my constituents, one of whom has to go to be in a hospital 200 miles away from that person’s home, and another 150 miles away, or whether it’s people like the Avenue centre users in Tenby, who have severe mental and physical disabilities. The concern that is echoed to me by health professionals or mental health professionals and the families of these kinds of people is that they don’t believe the services are being holistic enough, and it would appear that people are being bent to fit the new policies that come through and the new Acts, rather than those policies being adapted to suit their particular vulnerable requirements. First Minister, what can your Government do to ensure that there are speedy and effective changes to ensure that some of these more vulnerable people really do have tailored packages that best suit them and their families? Weinidog, mae’n amlwg bod angen i wasanaethau iechyd meddwl esblygu wrth i arfer a gwybodaeth newid. Fodd bynnag, rwy’n pryderu bod pobl agored i niwed yn cael eu dal rhwng adnoddau sy’n brin o staff a newidiadau polisi, boed nhw'n bobl â salwch iechyd meddwl difrifol a pharhaus fel dau o’m hetholwyr, y mae’n rhaid i un ohonynt fynd i fod mewn ysbyty 200 milltir i ffwrdd o gartref yr unigolyn hwnnw, ac un arall 150 milltir i ffwrdd, neu boed nhw'n bobl fel defnyddwyr canolfan Avenue yn Ninbych-y-pysgod, sydd ag anableddau meddyliol a chorfforol difrifol. Y pryder sy'n cael ei adleisio i mi gan weithwyr iechyd proffesiynol neu weithwyr iechyd meddwl proffesiynol a theuluoedd y mathau hyn o bobl yw nad ydynt yn credu bod y gwasanaethau’n bod yn ddigon cyfannol, ac mae'n ymddangos bod pobl yn cael eu plygu i gyd-fynd â'r polisïau newydd sy'n dod drwyddo a’r Deddfau newydd, yn hytrach na bod y polisïau hynny’n cael eu haddasu i gyd-fynd â’u gofynion agored i niwed penodol. Brif Weinidog, beth all eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau y bydd newidiadau cyflym ac effeithiol i sicrhau bod rhai o'r bobl fwy agored i niwed hyn wir yn cael pecynnau wedi'u teilwra sy'n gweddu orau iddyn nhw a'u teuluoedd?
13:37 - Carwyn Jones
Well, we, of course, have increased the budget for mental health services. The total spend this year is 600 million, up from 510 million in 2010-11 and, of course, the Member will be aware of an additional £7.65 million a year to improve and develop specialist child and adolescent mental health services. That’s a 17 per cent increase in CAMHS spread across primary and secondary care. We’ve also announced a further £30 million of additional funding for older people. That is a substantial injection of resources and we would, of course, expect the service to wrap around the individual rather, as she has pointed out, than for the individual to be made to fit the service. That is not the sort of service that we would see local health boards providing; we expect the service to be tailored, as far as possible, to the individual. Wel, rydym ni, wrth gwrs, wedi cynyddu'r gyllideb ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. 600 miliwn yw’r cyfanswm a wariwyd eleni, i fyny o 510 miliwn yn 2010-11 ac, wrth gwrs, bydd yr Aelod yn ymwybodol o £7.65 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i wella a datblygu gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed arbenigol. Mae hynny’n gynnydd o 17 y cant mewn CAMHS ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd. Rydym ni hefyd wedi cyhoeddi £30 miliwn arall o gyllid ychwanegol ar gyfer pobl hŷn. Mae hynny'n gyfraniad sylweddol o adnoddau a byddem, wrth gwrs, yn disgwyl i'r gwasanaeth gofleidio o amgylch yr unigolyn yn hytrach na’r unigolyn, fel y dywedodd, yn cael ei wneud i gyd-fynd â'r gwasanaeth. Nid dyna’r math o wasanaeth y byddem yn dymuno gweld byrddau iechyd lleol yn ei ddarparu; rydym yn disgwyl i'r gwasanaeth gael ei deilwra, cyn belled â phosibl, i'r unigolyn.
13:38 - Eluned Parrott
First Minister, I was grateful for the health Minister’s measured response to the mental health debate held last week. However, there was no specific commitment to improving support services and advice and information for families. I wonder, given how important it is, would you look at making that commitment to look at best practice across the UK and assess the support that is available for people who are either caring for someone with mental ill health or concerned about someone in their family who is showing signs of mental distress but they don’t know where to go to for help or support. Brif Weinidog, roeddwn i’n ddiolchgar am ymateb pwyllog y Gweinidog iechyd i’r ddadl iechyd meddwl a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw ymrwymiad penodol i wella gwasanaethau cymorth a chyngor a gwybodaeth i deuluoedd. Tybed, o ystyried pa mor bwysig yw hyn, a wnewch chi ystyried gwneud yr ymrwymiad hwnnw i edrych ar arfer gorau ledled y DU ac asesu'r cymorth sydd ar gael i bobl sydd naill ai'n gofalu am rywun â salwch meddwl neu’n bryderus am rywun yn eu teulu sy'n dangos arwyddion o drallod meddwl, ond nad ydynt yn gwybod ble i fynd i gael cymorth neu gefnogaeth.
13:39 - Carwyn Jones
This is one of the reasons, of course, why we’ve substantially increased the funding for CAMHS, because we know that CAMHS has been a service where there’s been a great deal of demand and we know that, for many parents, where they have, quite often, adolescent children who are displaying signs that are difficult for parents to control, CAMHS is the place that they will get referred to and, in terms of the money we’ve provided for CAMHS, that money will—for example, £2.7 million of it will go to improving CAMHS’s ability to respond out of hours and at times of crisis. What is absolutely crucial is that where, perhaps late in the evening, there is an issue that a carer or a parent can’t deal with, that support is available at a time that’s needed for the individual—the child or young person—and also for the carer or parent, and, in that way, of course, the support for families both within hours and out of hours is improved. Mae hwn yn un o'r rhesymau, wrth gwrs, pam yr ydym ni wedi cynyddu'n sylweddol y cyllid ar gyfer CAMHS, gan ein bod yn gwybod bod CAMHS wedi bod yn wasanaeth lle bu llawer iawn o alw a gwyddom, i lawer o rieni, pan fo ganddynt, yn aml iawn, blant ifanc sy'n dangos arwyddion y mae’n anodd i rieni eu rheoli, mai CAMHS yw'r lle y byddant yn cael eu hatgyfeirio iddo ac, o ran yr arian yr ydym ni wedi ei ddarparu ar gyfer CAMHS, bydd yr arian hwnnw—bydd £2.7 miliwn ohono’n mynd i wella gallu CAMHS i ymateb y tu allan i oriau ac ar adegau o argyfwng, er enghraifft. Yr hyn sy'n gwbl hanfodol pan geir, efallai yn hwyr fin nos, problem na all gofalwr neu riant ymdrin â hi, yw bod cymorth ar gael ar adeg y mae ei angen ar gyfer yr unigolyn—y plentyn neu'r unigolyn ifanc—a hefyd i’r gofalwr neu’r rhiant, ac, felly, wrth gwrs, bydd y cymorth i deuluoedd yn ystod ac y tu allan i oriau arferol yn cael ei wella.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Questions Without Notice from the Party Leaders
13:39 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We now move to questions from the party leaders and, first this afternoon, the leader of the opposition, Andrew R.T. Davies. Symudwn at gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr ac arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies, sydd gyntaf y prynhawn yma.
13:40 - Andrew R.T. Davies
Thank you, Presiding Officer. First Minister, last week, I asked you about the M4 relief road and you said that, yes, it was a commitment of yours to build the M4 relief road. Last week, we also had a report that came out that clearly indicated there had been a considerable uplift in the cost of building such a road, especially the black route, which was identified as this Government’s preferred option. Can you explain why your initial comments before Christmas indicated it would be built for considerably less than £1 billion, and now a Government report is indicating that the actual build cost is £1.1 billion? Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf, gofynnais i chi am ffordd liniaru'r M4 a dywedasoch ydy, mae adeiladu ffordd liniaru'r M4 yn un o’ch ymrwymiadau. Yr wythnos diwethaf, cawsom adroddiad a gyhoeddwyd hefyd a oedd yn nodi'n eglur y bu cynnydd sylweddol i’r gost o adeiladu ffordd o'r fath, yn enwedig y llwybr du, a nodwyd fel y dewis a ffefrir gan y Llywodraeth hon. A allwch chi egluro pam roedd eich sylwadau gwreiddiol cyn y Nadolig yn awgrymu y byddai'n cael ei hadeiladu am swm sylweddol is nag £1 biliwn, a bod adroddiad gan y Llywodraeth yn nodi erbyn hyn mai £1.1 biliwn yw’r gost wirioneddol?
13:40 - Carwyn Jones
First of all, there’s a £147 million contingency within that figure, which we intend to squeeze, of course, as far as possible. There has been a change at the eastern end of the proposal, where an enhanced junction at the M48 is going to be remodelled. That has increased the cost by £60 million. However, that’s been as a result of public requests for better connectivity. There’s also the inclusion of an additional cycle bridge over the proposed motorway to the west of Newport to facilitate the Newport to Cardiff ‘super cycleway’, as well as work on the Duffryn rail tunnel. So, these are issues that have arisen during the course of the scheme. Now, from our perspective, we wish to see an M4 relief road being built. It’s true to say our preferred route is the black route, but, of course, we are willing to examine other options should they prove feasible. Thus far, it’s been difficult to see how they can be as effective as the black route, but there is a statutory process that will need to be followed here. But what is absolutely true is the problem will not go away. It’s a major problem. When we look at hosting large events at the Millennium Stadium, it is an issue that is raised with us and he and I, I think, are in the same position of wanting to see a relief road being built. Yn gyntaf oll, ceir £147 miliwn wrth gefn yn y ffigur hwnnw, yr ydym ni’n bwriadu ei wasgu, wrth gwrs, cyn belled â phosibl. Bu newid i ben dwyreiniol y cynnig, lle mae cyffordd well wrth yr M48 yn mynd i gael ei hailfodelu. Cynyddodd hynny £60 miliwn ar y gost. Fodd bynnag, bu hynny o ganlyniad i geisiadau gan y cyhoedd am well cysylltedd. Mae pont feiciau ychwanegol dros y draffordd arfaethedig i'r gorllewin o Gasnewydd i hwyluso'r Casnewydd i hwyluso 'uwch lwybr beicio' Caerdydd wedi’i gynnwys hefyd, yn ogystal â gwaith ar dwnnel rheilffordd Dyffryn. Felly, mae'r rhain yn faterion sydd wedi codi yn ystod y cynllun. Nawr, o'n safbwynt ni, rydym ni’n dymuno gweld ffordd liniaru yn cael ei hadeiladu i'r M4. Mae'n wir dweud mai'r llwybr du yw’r llwybr yr ydym ni’n ei ffafrio, ond, wrth gwrs, rydym ni’n barod i ystyried dewisiadau eraill pe byddent yn ymarferol. Hyd yn hyn, bu’n anodd gweld sut y gallant fod mor effeithiol â’r llwybr du, ond ceir proses statudol y bydd yn rhaid ei dilyn yma. Ond yr hyn sy’n gwbl wir yw na fydd y broblem yn diflannu. Mae'n broblem fawr. Pan edrychwn ni ar gynnal digwyddiadau mawr yn Stadiwm y Mileniwm, mae'n fater sy'n cael ei godi gyda ni ac mae ef a minnau, rwy’n meddwl, o’r un safbwynt o fod eisiau gweld ffordd liniaru yn cael ei hadeiladu.
13:41 - Andrew R.T. Davies
Thank you for that answer, First Minister. Many people will be concerned by the considerable extent of the numbers that are being talked about and the sudden £300 million difference between, obviously, figures that had been bandied around by yourself, and now this report, confirming a £1.1 billion price tag to this delivery. But one thing is clear, and I agree entirely with you, the situation around Newport cannot continue, and there is a desperate need for an M4 relief road. Do you agree with me that it will be incumbent on whichever Government is formed here after 5 May to have as an integral part of its transport strategy the delivery of the M4 relief road within its term of office here in the fifth Assembly? Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Bydd llawer o bobl yn pryderu at faint sylweddol y rhifau sy’n cael eu trafod a'r gwahaniaeth sydyn o £300 miliwn rhwng, yn amlwg, ffigurau y soniwyd amdanynt gennych chi eich hun, a nawr yr adroddiad hwn, yn cadarnhau pris darparu o £1.1 biliwn. Ond mae un peth yn eglur, ac rwy’n cytuno'n llwyr â chi, ni all y sefyllfa o gwmpas Casnewydd barhau, ac mae angen dybryd am ffordd liniaru i'r M4. A ydych chi’n cytuno â mi y bydd yn ddyletswydd ar ba bynnag Lywodraeth sy’n cael ei ffurfio yma ar ôl 5 Mai i gael y ddarpariaeth o ffordd liniaru'r M4 yn rhan annatod o’i strategaeth drafnidiaeth yn ystod ei dymor yma yn y pumed Cynulliad?
13:42 - Carwyn Jones
I agree with that. It is by far the most difficult traffic problem that we have on our roads. It isn’t going to improve. There is a resilience issue with the tunnels as well. I know there are those who advocate the blue route; the difficulty with the blue route to me is that it’s a dual carriageway, not a three-lane motorway, and, secondly, it affects about 4,000 houses, because it passes very close to so many houses, and some would have to be demolished. There is no easy way to resolve the problem, there is no cheap way to resolve the problem, but we do know the problem needs to be resolved. Rwy’n cytuno â hynny. Dyma’r broblem draffig anoddaf sydd gennym ni ar ein ffyrdd o bell ffordd. Nid yw'n mynd i wella. Ceir problem o ran cydnerthedd y twneli hefyd. Gwn fod rhai sy'n dadlau dros y llwybr glas; yr anhawster gyda'r llwybr glas i mi yw ei fod yn ffordd ddeuol, nid traffordd tair lôn, ac, yn ail, mae'n effeithio ar tua 4,000 o dai, gan ei fod yn mynd yn agos iawn at gymaint o dai, a byddai’n rhaid dymchwel rhai ohonynt. Nid oes unrhyw ffordd rwydd o ddatrys y broblem, nid oes unrhyw ffordd rad o ddatrys y broblem, ond rydym ni’n gwybod bod angen datrys y broblem.
13:43 - Andrew R.T. Davies
Thank you for that answer, First Minister. Presiding Officer, with your indulgence, as this is the last First Minister’s questions that I and the First Minister will engage in before the election, I would just like to pay tribute to the retiring Members who are standing down from the Assembly, from all the parties here. Whilst we might have the political theatre within this Chamber, I’m sure that you will agree with me, First Minister, that everyone does go into public life with the best intentions, whatever political affiliation they have, and, through their own ways and means, they do try and endeavour to deliver for their constituents and, indeed, in the best interests of Wales in this institution. I hope you will be able to join with me in paying tribute to my colleague William Graham who, for 17 years, has served so diligently this institution, with integrity, pride and passion, and, ultimately, has served his constituents so well. But, above all, I hope you will agree with me that, whatever happens in the election over the next six to seven weeks, in the Assembly that will convene here for the fifth Assembly, people do go into public life for the best reasons, and that is to shape and help create a better environment, a better community and a better Wales within the United Kingdom. Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Lywydd, gyda'ch goddefgarwch, gan mai dyma’r cwestiynau i'r Prif Weinidog olaf y byddaf i a'r Prif Weinidog yn cymryd rhan ydynt cyn yr etholiad, hoffwn dalu teyrnged i'r Aelodau sy'n ymddeol sy'n gadael y Cynulliad, oddi wrth yr holl bleidiau yma. Er bod gennym ni’r theatr wleidyddol yn y Siambr hon, rwy'n siŵr y byddwch chi’n cytuno â mi, Brif Weinidog, fod pawb yn mynd i mewn i fywyd cyhoeddus gyda'r bwriadau gorau, beth bynnag fo’u hymlyniad gwleidyddol, a, thrwy eu dulliau eu hunain, maen nhw’n ceisio ac yn ymdrechu i gyflawni dros eu hetholwyr ac, yn wir, er budd gorau Cymru yn y sefydliad hwn. Gobeithiaf y byddwch yn gallu ymuno â mi i dalu teyrnged i’m cyd-Aelod William Graham sydd, ers 17 mlynedd, wedi gwasanaethu’r sefydliad hwn mor ddiwyd, gydag unplygrwydd, balchder ac angerdd, ac, yn y pen draw, wedi gwasanaethu ei etholwyr mor dda. Ond, yn anad dim, rwy’n gobeithio y byddwch chi’n cytuno â mi, beth bynnag fydd yn digwydd yn yr etholiad dros y chwech i saith wythnos nesaf, yn y Cynulliad a fydd yn cynnull yma ar gyfer y pumed Cynulliad, bod pobl yn mynd i mewn i fywyd cyhoeddus am y rhesymau gorau, sef llunio a helpu i greu gwell amgylchedd, gwell cymuned a gwell Cymru o fewn y Deyrnas Unedig.
13:44 - Carwyn Jones
Well, nobody could disagree with what the leader of the opposition has said. William Graham was one of the original 1999 group, as I was, and personally he is somebody who I will miss in this Chamber, and I’m sure I speak for many, if not all, in that regard. I was thinking only yesterday that I’ve probably gone through more than 200 First Minister’s question sessions, with about 2,000 questions that I’ve—I’ll use the phrase ‘dealt with’, and others can judge as to whether they were answered or not. [Laughter.] But, certainly, it is the case that, when somebody stands in my position, then it is hugely important to be tested—sometimes uncomfortably—on the issues of the day, and that comes back to the point that this may be theatre—he and I know that this has an element of theatre—but it has a serious element, and that is to test forensically what Government does. Wel, ni allai neb anghytuno â'r hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud. Roedd William Graham yn un o'r grŵp gwreiddiol ym 1999, fel yr oeddwn innau, ac yn bersonol mae'n rhywun y byddaf yn gweld colled ar ei ôl yn y Siambr hon, ac rwy'n siŵr fy mod i’n siarad dros lawer, os nad pawb, yn hynny o beth. Roeddwn i’n meddwl ddoe ddiwethaf ei bod yn bur debyg fy mod i wedi bod trwy fwy na 200 o sesiynau cwestiynau i’r Prif Weinidog, gyda thua 2,000 o gwestiynau yr wyf i wedi—fe wnaf i ddefnyddio’r ymadrodd ‘ymdrin â nhw’, a gall eraill farnu a gawsant eu hateb ai peidio. [Chwerthin.] Ond, yn sicr, mae'n wir, pan fydd rhywun yn sefyll yn fy lle i, yna mae'n bwysig iawn cael eich profi—yn anghyfforddus weithiau—ar faterion y dydd, a daw hynny yn ôl at y pwynt efallai mai theatr yw hyn—mae ef a minnau’n gwybod bod elfen o theatr i hyn—ond ceir elfen ddifrifol hefyd, sef rhoi prawf fforensig yr hun y mae’r Llywodraeth yn ei wneud.
13:45 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We now move to the leader of Plaid Cymru, Leanne Wood. Symudwn nawr at arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
13:45 - Leanne Wood
I’d like to echo the comments of the leader of the Conservatives in wishing all the retiring Members well, and especially the three retiring Members of my group, Alun Ffred Jones, Jocelyn Davies and Rhodri Glyn Thomas. But I do wish all of you well. Hoffwn adleisio sylwadau arweinydd y Ceidwadwyr wrth ddymuno’n dda i’r holl Aelodau sy'n ymddeol, ac yn enwedig y tri Aelod o fy ngrŵp i sy’n ymddeol, Alun Ffred Jones, Jocelyn Davies a Rhodri Glyn Thomas. Ond dymunaf yn dda i bob un ohonoch chi.
First Minister, when you were elected as Labour leader seven years ago, you said, and I quote, Bri Weinidog, pan gawsoch eich ethol yn arweinydd y Blaid Lafur saith mlynedd yn ôl, dywedasoch, a dyfynnaf,
‘I want to be a leader for the whole of Wales…. To win back Wales, Welsh Labour has to listen and it has to learn.’ Rwyf i eisiau bod yn arweinydd i Gymru gyfan.... I ennill Cymru yn ôl, mae’n rhaid i Lafur Cymru wrando ac mae'n rhaid iddi ddysgu.
What has been the biggest lesson that you’ve learned in seven years as First Minister? Beth fu’r wers fwyaf yr ydych chi wedi ei dysgu mewn saith mlynedd fel Prif Weinidog?
13:45 - Carwyn Jones
The lesson you soon learn as a Minister is that things can’t be done as quickly as you would want on occasion. And she asks—. I wondered whether this question would come. My answer is that, for example, back in 2011 it took longer than we would have expected to start the legislative programme; it was a bigger undertaking, I think, than was realised at the time. Since then, of course, those issues have been resolved, and the Assembly has certainly risen to the task of producing sound legislation that’s been well scrutinised—and 24 Acts in that time. That’s a significant achievement in a very short space of time. But, yes, I think it was difficult at the beginning in 2011 to actually get the legislative programme up and running as quickly as we would have wanted. Y wers yr ydych chi’n ei dysgu’n fuan fel Gweinidog yw na all pethau gael eu gwneud mor gyflym ag y byddech yn dymuno ar adegau. Ac mae hi’n gofyn—. Roeddwn i’n meddwl tybed a fyddai'r cwestiwn hwn yn dod. Fy ateb i yw, er enghraifft, yn ôl yn 2011 cymerodd mwy o amser nag y byddem wedi ei ddisgwyl i gychwyn y rhaglen ddeddfwriaethol; roedd yn ymgymeriad mwy, rwy’n meddwl, nag yr oeddem ni’n ei sylweddoli ar y pryd. Ers hynny, wrth gwrs, mae’r materion hynny wedi eu datrys, ac mae'r Cynulliad yn sicr wedi ymateb i'r dasg o lunio deddfwriaeth gadarn y craffwyd yn ofalus arni—a 24 o Ddeddfau yn y cyfnod hwnnw. Mae hynny’n llwyddiant sylweddol mewn cyfnod byr iawn o amser. Ond, ydw, rwy’n meddwl ei bod yn anodd ar y cychwyn yn 2011 i gael y rhaglen ddeddfwriaethol i weithredu mor gyflym ag y byddem wedi dymuno.
13:46 - Leanne Wood
Okay, so you haven’t learned any lessons about growing NHS waiting lists or deteriorating international standing in terms of education, or economic stagnation. First Minister, among the many comments and feedback that I get from people regarding these sessions is that you are regularly evasive, that you avoid—[Interruption.] Iawn, felly nid ydych chi wedi dysgu unrhyw wersi am restrau aros y GIG yn tyfu neu safle rhyngwladol sy’n gwaethygu o ran addysg, neu ddiffyg cynnydd economaidd. Brif Weinidog, ymhlith y sylwadau a’r adborth niferus yr wyf yn eu cael gan bobl ynghylch y sesiynau hyn yw eich bod yn osgoi cwestiynau’n rheolaidd, eich bod yn osgoi—[Torri ar draws.]
13:47 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Order. Trefn.
13:47 - Leanne Wood
[Continues.]— that you avoid answering the questions and that you rarely engage. Now, given that this is the final question session of the term, do you regret not being more engaging in these sessions? And do you regret not showing real leadership for this country? [Yn parhau.]—eich bod yn osgoi ateb y cwestiynau ac mai anaml y byddwch chi’n ymgysylltu. Nawr, o gofio mai dyma sesiwn gwestiynau olaf y tymor, a ydych chi’n difaru peidio ag ymgysylltu mwy yn y sesiynau hyn? Ac a ydych chi’n difaru peidio â dangos arweinyddiaeth wirioneddol i’r wlad hon?
13:47 - Carwyn Jones
Well, I mean, the leader of Plaid Cymru makes it sound as if I sit here sphinxlike and say nothing in the course of First Minister’s questions. She may not like my answers, but she gets answers. The issues that she raised I don’t agree with. We see waiting lists coming down—diagnostic test waiting lists coming down in health. We see our best GCSE results ever, excellent results at A-level, the foundation phase doing well, new schools being built all across Wales—150 schools either being built or planned to be built. We see in further education that the education maintenance allowance has been maintained. We see that our students are not subject to £22,000 of extra debt as their cohort is in England. As for economic stagnation, our unemployment is lower than in London, it’s lower than in Scotland and lower than in Northern Ireland. That is a significant achievement. We’ve been hugely successful in bringing jobs into Wales—Aston Martin was one example; General Dynamics last week is another example, and there are more to come over the course of the next few weeks. We have never been in such a strong position in terms of bringing investment into Wales. The only thing—she will agree with me, I’m sure, about this point—the only thing that can jeopardise that is the uncertainty over EU membership. Wel, wyddoch chi, mae arweinydd Plaid Cymru yn ei gwneud hi swnio fel pe byddwn i’n eistedd yma fel sffincs ac yn dweud dim byd yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog. Efallai na fydd hi’n hoffi fy atebion, ond mae'n cael atebion. Nid wyf yn cytuno â’r materion y mae wedi eu codi. Rydym ni’n gweld rhestrau aros yn lleihau—rhestrau aros diagnostig yn lleihau ym maes iechyd. Rydym ni’n gweld ein canlyniadau TGAU gorau erioed, canlyniadau Safon Uwch rhagorol, y cyfnod sylfaen yn gwneud yn dda, ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu ledled Cymru—150 o ysgolion naill ai'n cael eu hadeiladu neu y bwriedir eu hadeiladu. Rydym ni’n gweld ym maes addysg bod y lwfans cynhaliaeth addysg wedi ei gynnal. Rydym ni’n gweld nad yw ein myfyrwyr yn ddarostyngedig i £22,000 o ddyled ychwanegol fel y mae eu cymheiriaid yn Lloegr. O ran diffyg cynnydd economaidd, mae ein diweithdra yn is nag yn Llundain, mae'n is nag yn yr Alban ac yn is nag yng Ngogledd Iwerddon. Mae hynny'n llwyddiant sylweddol. Rydym ni wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran dod â swyddi i Gymru—roedd Aston Martin yn un enghraifft; mae General Dynamics yr wythnos diwethaf yn enghraifft arall, ac mae mwy i ddod yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Nid ydym erioed wedi bod mewn sefyllfa mor gryf o ran dod â buddsoddiad i Gymru. Yr unig beth—bydd yn cytuno â mi, rwy'n siŵr, ar y pwynt hwn—yr unig beth a all beryglu hynny yw’r ansicrwydd ynghylch aelodaeth o'r UE.
13:48 - Leanne Wood
First Minister, you don’t accept that there are any problems in this country that you’re responsible for at all, do you? On the day that you were elected leader, you said that you wanted to listen and that you wanted to learn. Now, six years after you became leader, you launched an engagement exercise—a series of public meetings throughout the country, presumably to listen to people and to learn. Now, I wonder, does that mean that you spent the first six years neither listening to people nor learning? As the sun sets on your Government and the fourth Assembly, are you now prepared to show some humility and admit that this isn’t as good as it gets for our country? And will you now accept that now is the time for Wales to have a First Minister who will answer questions, who will engage and who will treat these scrutiny sessions and the Welsh public with the respect that they deserve? Brif Weinidog, nid ydych chi’n derbyn bod unrhyw broblemau yn y wlad hon yr ydych chi’n gyfrifol amdanynt o gwbl, ydych chi? Ar y diwrnod y cawsoch eich ethol yn arweinydd, dywedasoch eich bod eisiau gwrando a’ch bod chi eisiau dysgu. Nawr, chwe blynedd ar ôl i chi ddod yn arweinydd, lansiwyd ymarfer ymgysylltu gennych chi—cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ledled y wlad, i wrando ar bobl ac i ddysgu mae’n debyg. Nawr, tybed, a yw hynny'n golygu eich bod wedi treulio'r chwe blynedd gyntaf ddim yn gwrando ar bobl nac yn dysgu? Wrth i’r haul fachlud ar eich Llywodraeth a'r pedwerydd Cynulliad, a ydych chi’n barod nawr i ddangos rhywfaint o ostyngeiddrwydd a chyfaddef nad yw hyn cystal â phosibl i’n gwlad? Ac a wnewch chi dderbyn mai nawr yw'r amser i Gymru gael Prif Weinidog a fydd yn ateb cwestiynau, a fydd yn ymgysylltu ac a fydd yn trin y sesiynau craffu hyn a'r cyhoedd yng Nghymru gyda'r parch y maen nhw’n ei haeddu?
13:49 - Carwyn Jones
Well, I mean, I’ll let other people judge the contrast between the leader of the opposition and the leader of Plaid Cymru. But she makes the point that it’s the last FMQs, that there’s an election coming and that she wishes to be seen as an alternative First Minister. The points that I would make to her are these: I don’t believe the answer to the challenges in the health service is a giant health quango based in Cardiff; I don’t think that’s going to go down well in the west and the north of Wales—a quango, in fact, that would be so big it would be almost as big as the Government itself and have a budget almost as large as the Government itself. I think that is an abdication of responsibility. There’d be no point having a health Minister if we had a quango that big. Wel, hynny yw, byddaf yn gadael i bobl eraill ddyfarnu’r cyferbyniad rhwng arweinydd yr wrthblaid ac arweinydd Plaid Cymru. Ond mae’n gwneud y pwynt mai dyma’r cwestiynau i’r Prif Weinidog olaf, bod etholiad yn dod a’i bod yn dymuno cael ei gweld fel darpar Brif Weinidog. Dyma’r pwyntiau y byddwn i’n eu gwneud iddi: nid wyf yn credu mai’r ateb i'r heriau yn y gwasanaeth iechyd yw cwango iechyd enfawr wedi’i leoli yng Nghaerdydd; nid wyf yn credu bod hynny’n mynd i fod yn boblogaidd yn y gorllewin a'r gogledd—cwango, a dweud y gwir, a fyddai mor fawr y byddai bron mor fawr â'r Llywodraeth ei hun ac y byddai ganddo gyllideb bron mor fawr â'r Llywodraeth ei hun. Credaf fod hynny’n ymwrthod â chyfrifoldeb. Ni fyddai unrhyw bwynt cael Gweinidog iechyd pe byddai gennym ni gwango mor fawr â hynny.
The answer to economic development, despite the great success we’ve been having, is to reintroduce the Welsh Development Agency—to go back to the days long ago, to some imagined nirvana when the WDA was doing better. It seems to me that Plaid Cymru’s proposals usually involve setting up a giant committee of some kind. We saw the same with the national innovation body. That is an evasion of responsibility. You cannot set up, to my mind—. You cannot give away economic development and health and expect to be held accountable as a Government. We’ve had the greatest success we’ve had for 30 years in the field of economic development. That’s because the team we have in place is superb. We were successful in getting Aston Martin because—and I’ll quote what they said—of our passion and professionalism. We cannot unpick that and set up an agency that would cause even more disruption, that would take the attention away from job creation and attracting investment. I do not believe, for example, that, in Ceredigion or in Gwynedd, the idea of a health quango based in Cardiff goes down particularly well. Yr ateb i ddatblygiad economaidd, er gwaethaf y llwyddiant mawr yr ydym ni wedi bod yn ei gael, yw ailgyflwyno Awdurdod Datblygu Cymru—mynd yn ôl i'r dyddiau maith yn ôl, i ryw wynfyd dychmygus pan roedd Awdurdod Datblygu Cymru yn gwneud yn well. Mae'n ymddangos i mi bod cynigion Plaid Cymru fel arfer yn golygu sefydlu pwyllgor anferth o ryw fath. Gwelsom yr un peth gyda'r corff arloesi cenedlaethol. Mae hynny'n ymwrthod â chyfrifoldeb. Ni allwch chi sefydlu, yn fy nhyb i—. Ni allwch chi roi datblygu economaidd ac iechyd i ffwrdd a disgwyl cael eich dwyn i gyfrif fel Llywodraeth. Rydym ni wedi cael y llwyddiant mwyaf a gawsom ers 30 mlynedd ym maes datblygu economaidd. Mae hynny oherwydd bod y tîm sydd gennym ni yn wych. Roeddem ni’n llwyddiannus o ran cael Aston Martin oherwydd—ac rwyf am ddyfynnu yr hyn a ddywedasant—ein brwdfrydedd a’n proffesiynoldeb. Ni allwn ddadwneud hynny a sefydlu asiantaeth a fyddai'n achosi mwy o darfu fyth, a fyddai'n cymryd y sylw oddi wrth greu swyddi a denu buddsoddiad. Nid wyf yn credu, er enghraifft, yng Ngheredigion, neu yng Ngwynedd, bod y syniad o gwango iechyd wedi’i leoli yng Nghaerdydd yn arbennig o boblogaidd.
13:51 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We now move to the leader of— Symudwn nawr at arweinydd y—
13:51 - Elin Jones
[Inaudible.] [Anghlywadwy.]
13:51 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We now move to the leader of the Welsh Liberal Democrats, Kirsty Williams. Not Elin Jones. Symudwn nawr at arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams. Nid Elin Jones.
13:51 - Kirsty Williams
Thank you very much, Presiding Officer. Could I begin by thanking you, Presiding Officer, for the decades of public service that you have given to our country, especially in your role as the Presiding Officer over this Assembly term? I wish you well in your future endeavours. Could I extend those good wishes to all Assembly Members who are retiring at the end of the session, especially to the class of 99 and colleagues who embarked upon the devolution journey alongside me at that time? Could I wish them well in their future endeavours too? Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf i ddechrau trwy ddiolch i chi, Lywydd, am y degawdau o wasanaeth cyhoeddus yr ydych chi wedi ei roi i’n gwlad, yn enwedig yn eich swyddogaeth fel Llywydd yn ystod y tymor Cynulliad hwn? Dymunaf yn dda i chi yn eich ymdrechion yn y dyfodol. A gaf i gyfeirio’r dymuniadau da hynny at holl Aelodau'r Cynulliad sy'n ymddeol ar ddiwedd y sesiwn, yn enwedig i ddosbarth 99 a chydweithwyr a ddechreuodd ar y daith datganoli ochr yn ochr â mi bryd hynny? A gaf i ddymuno’n dda iddynt hwythau yn eu hymdrechion yn y dyfodol hefyd?
First Minister, could I thank you for the personal kindness which you have always shown me? You said that you have dealt with 2,000 FMQs. Back in the old days, I was allowed to ask more than three. I don’t know about dealing with 2,000—you have given precious few answers in that time—but I have greatly enjoyed the encounters across the Chamber, mostly. Ymryson Brif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi am y caredigrwydd personol yr ydych chi bob amser wedi ei ddangos i mi? Dywedasoch eich bod wedi ymdrin â 2,000 gwestiynau i’r Prif Weinidog. Yn ôl yn yr hen ddyddiau, roeddwn i’n cael gofyn mwy na thri. Nid wyf yn gwybod am ymdrin â 2,000—prin iawn yw’r atebion yr ydych chi wedi eu rhoi yn yr amser hwnnw—ond rwyf wedi mwynhau’r trafodaethau ar draws y Siambr yn arw ar y cyfan.
If I can turn to my set of questions today, at the last election, you did promise to make surgeries more accessible to working people so that they could access local GP services in the evenings and on Saturday mornings. The results of a survey that I’ve carried out amongst GPs say that 77 per cent of them say that your policy has failed to improve opening hours. It hasn’t worked. And your own survey by your own Government demonstrated that 40 per cent of people still say it’s very difficult to get a GP appointment. Given that that was your No. 1 health commitment, why do you feel that GPs feel that you haven’t achieved it? Os caf i droi at fy nghyfres o gwestiynau heddiw, yn yr etholiad diwethaf, gwnaethoch addewid i wneud meddygfeydd yn fwy hygyrch i bobl sy'n gweithio er mwyn iddyn nhw gael gafael ar wasanaethau meddygon teulu lleol fin nos ac ar foreau Sadwrn. Mae canlyniadau arolwg yr wyf i wedi ei gynnal ymhlith meddygon teulu yn dweud bod 77 y cant ohonynt yn dweud bod eich polisi wedi methu â gwella oriau agor. Nid yw wedi gweithio. A dangosodd eich arolwg eich hun gan eich Llywodraeth eich hun bod 40 y cant o bobl yn dal i ddweud ei bod yn anodd iawn cael apwyntiad gyda meddyg teulu. O gofio mai dyna oedd eich prif ymrwymiad iechyd, pam ydych chi’n teimlo nad yw meddygon teulu yn teimlo eich bod wedi ei gyflawni?
13:53 - Carwyn Jones
The leader of the Liberal Democrats will forgive me for being sceptical about Lib Dem surveys. [Laughter.] There are many of us in this Chamber who have the experience of seeing leaflets that show that the Liberal Democrats are about to take our own seats or indeed council seats, and she will know we’ve had some sport over that issue over the years in this Chamber. Without having seen the survey or indeed understood how many people responded to it, clearly, I can’t comment on it, but bear in mind my scepticism from the beginning. Bydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn maddau i mi am fod yn amheus am arolygon y Democratiaid Rhyddfrydol. [Chwerthin.] Mae llawer ohonom ni yn y Siambr hon sydd â phrofiad o weld taflenni sy'n dangos bod y Democratiaid Rhyddfrydol ar fin cymryd ein seddau ein hunain neu seddi cyngor yn wir, a bydd hi'n gwybod ein bod wedi cael rhywfaint o sbort dros y mater hwnnw dros y blynyddoedd yn y Siambr hon. Heb weld yr arolwg nac yn wir deall faint o bobl a ymatebodd iddo, yn amlwg, ni allaf wneud sylw arno, ond dylech gofio fy amheuon o'r cychwyn.
In terms of access to GP appointments, 82 per cent of GP practices are open for daily core hours—in other words, 8 a.m. to 6.30 p.m., Monday to Friday; 97 per cent of practices are offering appointments at any time between 5 p.m. and 6:30 p.m. on at least two weekdays—that’s up from 92 per cent in 2011; 79 per cent of practices offer appointments at any time between 5 p.m. and 6:30 p.m. every day—up from 62 per cent in 2011; and the percentage of practices closed half day on one weekday has fallen from 19 per cent in 2011 to 4 per cent in 2015. Of course, because GPs tend to be independent contractors, we are reliant on them ensuring that they are able to provide the service that they should. But, nevertheless, what we have seen is an enormous improvement in GP accessibility in most surgeries in Wales. O ran mynediad at apwyntiadau meddygon teulu, mae 82 y cant o feddygfeydd teulu ar agor yn ystod oriau craidd beunyddiol—8 a.m. i 6.30 p.m. ddydd Llun i ddydd Gwener mewn geiriau eraill; mae 97 y cant o feddygfeydd yn cynnig apwyntiadau ar unrhyw adeg rhwng 5 p.m. a 6.30 p.m. ar o leiaf dau ddiwrnod gwaith—mae hynny i fyny o 92 y cant yn 2011; mae 79 y cant o feddygfeydd yn cynnig apwyntiadau ar unrhyw adeg rhwng 5 p.m. a 6.30 p.m. bob dydd—i fyny o 62 y cant yn 2011; ac mae canran y meddygfeydd sydd ar gau am hanner diwrnod ar un diwrnod gwaith yr wythnos wedi gostwng o 19 y cant yn 2011 i 4 y cant yn 2015. Wrth gwrs, gan fod meddygon teulu yn tueddu i fod yn gontractwyr annibynnol, rydym ni’n dibynnu arnyn nhw i sicrhau eu bod yn gallu darparu'r gwasanaeth y dylent ei ddarparu. Ond, serch hynny, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw gwelliant aruthrol i hygyrchedd meddygon teulu yn y rhan fwyaf o feddygfeydd yng Nghymru.
13:54 - Kirsty Williams
Presiding Officer, I am stung by the First Minister’s assumption and assertions that you cannot trust a Liberal Democrat survey—absolutely stung. [Laughter.] Bar charts maybe, First Minister, but never a survey. The reality is, First Minister, that those appointments are available—of course they are. But the number of people who want to use those appointments far outstrips the number of appointments that are currently available. That’s why 40 per cent of people responding to your Government’s survey say they find it difficult to make an appointment. Lywydd, mae tybiaeth a honiadau’r Prif Weinidog na allwch chi ymddiried mewn arolwg Democratiaid Rhyddfrydol yn fy mrifo—yn fy mrifo’n ofnadwy. [Chwerthin.] Siartiau bar efallai, Brif Weinidog, ond byth arolygon. Y gwir amdani, Brif Weinidog, yw bod yr apwyntiadau hynny ar gael—wrth gwrs eu bod nhw. Ond mae nifer y bobl sydd eisiau defnyddio’r apwyntiadau hynny yn llawer uwch na nifer yr apwyntiadau sydd ar gael ar hyn o bryd. Dyna pam mae 40 y cant o bobl a ymatebodd i arolwg eich Llywodraeth yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd trefnu apwyntiad.
Just before the last election, you also said that when the next PISA international education rankings were published, Wales would be further up the list. Now, when they were published, what they did show was that Wales was performing worst in the UK for reading, in maths and in science. Subsequently, you’ve given up breaking into the top 20 international nations altogether. Why do you feel you weren’t able to meet your pledge with regard to education in Wales that you made at the beginning of this term of office? Ychydig cyn yr etholiad diwethaf, dywedasoch hefyd y byddai Cymru ymhellach i fyny’r rhestr pan fyddai sgoriau addysg rhyngwladol nesaf PISA yn cael eu cyhoeddi. Nawr, pan gawsant eu cyhoeddi, yr hyn a ddangoswyd ganddynt oedd mai Cymru oedd yn perfformio waethaf yn y DU ar gyfer darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Yn dilyn hynny, rydych chi wedi rhoi'r gorau i geisio bod yn un o'r 20 cenedl ryngwladol uchaf yn gyfan gwbl. Pam ydych chi'n teimlo nad oeddech chi’n gallu cadw eich addewid o ran addysg yng Nghymru a wnaethoch ar ddechrau'r tymor hwn yn y swydd?
13:55 - Carwyn Jones
PISA is the one area we need to crack in order to see improvement. Everything else is moving in the right direction. Why do I say that? Well, we pledged in 2011 that we would apply a level of protection to school spending. We’ve done that—£106 million extra is available within the Welsh education system than would otherwise have been the case. Together with her party, of course, we introduced the pupil deprivation grant; that’s been successful. Schools Challenge Cymru has helped to raise the standards of those schools that are not performing as we would expect them to, and we’re seeing results improve across the board, which gives us reason to suspect that the PISA results will improve in the future. We’re seeing it with GCSEs, we’re seeing it with A-levels, and importantly, we’re seeing schools being built across Wales. Most recently, I was opening the new community school in Aberdare, and cutting the first sod on the new campus of Coleg y Cymoedd in Aberdare, as well. That’s a sign of a Government investing in our young people. PISA yw'r un maes y mae angen i ni ei ddatrys er mwyn gweld gwelliant. Mae popeth arall yn symud i'r cyfeiriad iawn. Pam ydw i'n dweud hynny? Wel, gwnaethom yr addewid yn 2011 y byddem yn cymhwyso lefel o amddiffyniad i wariant ysgolion. Rydym ni wedi gwneud hynny—mae £106 miliwn yn ychwanegol ar gael yn system addysg Cymru na fyddai wedi bod ar gael fel arall. Ynghyd â’i phlaid hi, wrth gwrs, cyflwynwyd y grant amddifadedd disgyblion gennym; mae hwnnw wedi bod yn llwyddiannus. Mae Her Ysgolion Cymru wedi helpu i godi safonau’r ysgolion hynny nad ydynt yn perfformio cystal ag y byddem yn disgwyl iddynt, ac rydym ni’n gweld canlyniadau’n gwella yn gyffredinol, sy'n rhoi rheswm i ni amau ​​y bydd y canlyniadau PISA yn gwella yn y dyfodol. Rydym ni’n ei weld gyda TGAU, rydym ni’n ei weld gyda Safon Uwch, ac yn bwysig, rydym ni’n gweld ysgolion yn cael eu hadeiladu ledled Cymru. Yn fwyaf diweddar, roeddwn i’n agor ysgol gymunedol newydd yn Aberdâr, ac yn torri’r dywarchen gyntaf ar gampws newydd Coleg y Cymoedd yn Aberdâr, hefyd. Mae hynny’n arwydd o Lywodraeth sy'n buddsoddi yn ein pobl ifanc.
13:56 - Kirsty Williams
First Minister, earlier this year, you claimed that you needed five more years to complete a decade of delivery. Yet, despite your bluster in answer to the leader of Plaid Cymru, for all but two quarters of this Assembly, unemployment in Wales has been higher than in England, Scotland and the UK as a whole. We have the least productive economy in the UK and the highest levels of child poverty outside of London. Now, if this level of delivery is what we can expect for the next five years of a Labour Government, what hope can there be for those people who haven’t got a job and whose children are living in poverty, many of whom do actually have parents in full-time employment, but are on wages that cannot sustain that family? Brif Weinidog, yn gynharach eleni, hawliwyd gennych eich bod angen pum mlynedd arall i gwblhau degawd o gyflawni. Ac eto, er gwaethaf eich dwndwr wrth ateb arweinydd Plaid Cymru, mae diweithdra yng Nghymru wedi bod yn uwch nag yn Lloegr, yr Alban a'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd yn ystod pob un ond dau chwarter y Cynulliad hwn. Mae gennym ni’r economi lleiaf cynhyrchiol yn y DU a'r lefelau uchaf o dlodi plant y tu allan i Lundain. Nawr, os mai’r lefel hon o ddarpariaeth yw’r hyn y gallwn ni ei ddisgwyl yn ystod y pum mlynedd nesaf o Lywodraeth Lafur, pa obaith all fod i’r bobl hynny nad oes ganddynt swyddi ac y mae eu plant yn byw mewn tlodi, llawer ohonynt sydd â rhieni mewn cyflogaeth lawn amser a dweud y gwir, ond sydd ar gyflogau sy'n golygu na allant gynnal y teulu hwnnw?
13:57 - Carwyn Jones
Well, there are issues there, of course, for the UK Government in terms of working families tax credit, which we don’t control. There are issues with regard to other benefits that we don’t control and we’ve deplored what the UK Government has done in attacking those who are the lowest paid. They didn’t cause the financial crisis on 9 August 2007; it was reckless lending by those in the banking sector, and yet, those are allowed to get away scot free and those who are paid the least are the ones being punished the most. We have—she will agree with me, I’m sure, on this—deplored what has been done there. Wel, mae problemau yno, wrth gwrs, i Lywodraeth y DU o ran credyd treth i deuluoedd sy’n gweithio, nad ydym ni’n eu rheoli. Ceir problemau o ran budd-daliadau eraill nad ydym yn eu rheoli ac rydym ni wedi gresynu’r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud o ran ymosod ar y rhai sy’n derbyn y cyflogau isaf. Nid nhw wnaeth achosi'r argyfwng ariannol ar 9 Awst 2007; y benthyca di-hid gan y rhai yn y sector bancio a wnaeth hynny, ac eto, caniateir iddyn nhw ddianc heb unrhyw gost a'r rhai sy'n cael eu talu’r lleiaf yw'r rhai sy'n cael eu cosbi fwyaf. Rydym ni wedi—a bydd yn cytuno â mi, rwy'n siŵr, ar hyn—gresynu’r hyn sydd wedi ei wneud yn hynny o beth.
But we have brought investment into Wales. And these are not jobs, as in the 1990s, that were brought into Wales because people here were on low wages—that’s what happened in the 1990s; they’d come to Wales, because people would accept less pay than anywhere else. These are jobs that are high-quality jobs; they’re skilled jobs. We want to make sure that our people have those skills. We’ve done it through Jobs Growth Wales and, after May, as she will know, my party has pledged to ensure that apprenticeships are available to all ages. That’s the way to ensure the skills pipeline is there. And, of course, we have pledged to ensure that there are 30 hours of free childcare available for three to four-year-olds, for working parents, for 48 weeks a year. That’s a substantial assistance to many, many working parents with young children to enable them to get to work and that, of course, is the most important way of reducing poverty: removing hurdles for people who wish to get to work and then ensure, of course, that they’re able to get to work and raise their own incomes and those of their families. Ond rydym ni wedi dod â buddsoddiad i Gymru. Ac nid yw'r rhain yn swyddi, fel yn y 1990au, y daethpwyd â nhw i Gymru gan fod pobl yma ar gyflogau isel—dyna beth ddigwyddodd yn y 1990au; bydden nhw’n dod i Gymru, gan y byddai pobl yn derbyn llai o gyflog nag yn unman arall. Mae'r rhain yn swyddi sy'n swyddi o ansawdd uchel; maen nhw’n swyddi medrus. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod y sgiliau hynny gan ein pobl. Rydym ni wedi gwneud hynny trwy Dwf Swyddi Cymru ac, ar ôl mis Mai, fel y bydd hi'n gwybod, mae fy mhlaid wedi addo sicrhau bod prentisiaethau ar gael i bob oedran. Dyna'r ffordd i sicrhau bod y biblinell sgiliau yno. Ac, wrth gwrs, rydym ni wedi addo sicrhau bod 30 awr o ofal plant am ddim ar gael ar gyfer plant tair i bedair blwydd oed, i rieni sy'n gweithio, am 48 wythnos y flwyddyn. Mae hwnnw’n gymorth sylweddol i lawer iawn o rieni sy'n gweithio sydd â phlant ifanc i'w galluogi i gyrraedd y gwaith a dyna, wrth gwrs, yw'r ffordd bwysicaf o leihau tlodi: cael gwared ar rwystrau i bobl sy'n dymuno mynd i’r gwaith ac yna sicrhau, wrth gwrs, eu bod yn gallu cyrraedd y gwaith a chodi eu hincwm eu hunain ac incwm eu teuluoedd.
13:59 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We now move back to questions on the paper and question 3 is from Nick Ramsay. Symudwn yn ôl at gwestiynau ar y papur nawr a daw cwestiwn 3 gan Nick Ramsay.
Yr Uned Gyflenwi The Delivery Unit
13:59 - Nick Ramsay
3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu perfformiad ei uned gyflenwi dros dymor y pedwerydd Cynulliad? OAQ(4)2777(FM) 3. Will the First Minister outline the performance of his delivery unit over the fourth Assembly term? OAQ(4)2777(FM)
13:59 - Carwyn Jones
The performance and effectiveness of the delivery unit should be judged on the delivery of the programme for government, which is almost complete in terms of delivery. Dylid barnu perfformiad ac effeithiolrwydd yr uned gyflenwi ar ddarpariaeth y rhaglen lywodraethu, sydd bron yn gyflawn o ran darpariaeth.
13:59 - Nick Ramsay
Thank you. Presiding Officer, can I also offer you my good wishes for the future? Your advice and guidance has always been much appreciated by myself and, I know, other Members in this Chamber. Diolch. Lywydd, a gaf innau hefyd gynnig fy nymuniadau da i chi ar gyfer y dyfodol? Mae eich cyngor a’ch cyfarwyddyd wedi eu gwerthfawrogi yn fawr erioed gennyf i ac, rwy’n gwybod, Aelodau eraill yn y Siambr hon.
First Minister, it’s always interesting to hear a little bit more on the workings of the delivery unit. Not quite as shadowy as SPECTRE, I admit, but sometimes, it seems to be getting there. Andrew R.T. Davies has asked you about the ballooning costs of the M4 black route today. At what point during the development of that road did the delivery unit tell you that the chosen route would cost in excess of £1 billion? Because, extra junctions and bridges aside, it has not been that long since you told this Chamber the costs would be significantly lower than the £1 billion plus that it now appears to be. Brif Weinidog, mae bob amser yn ddiddorol clywed ychydig mwy am waith yr uned gyflenwi. Nid yw cymaint yn y cysgodion â SPECTRE, rwy’n cyfaddef, ond weithiau, mae'n ymddangos ei bod ar y trywydd hwnnw. Mae Andrew R.T. Davies wedi gofyn i chi am gostau ymchwyddol llwybr du’r M4 heddiw. Ar ba adeg yn ystod datblygiad y ffordd wnaeth yr uned gyflenwi ddweud wrthych y byddai'r llwybr a ddewiswyd yn costio mwy nag £1 biliwn? Oherwydd, ac eithrio cyffyrdd a phontydd ychwanegol, nid yw wedi bod cyhyd â hynny ers i chi ddweud wrth y Siambr hon y byddai'r costau'n sylweddol is na'r £1 biliwn a mwy y mae’n ymddangos yr ydyn nhw nawr.
14:00 - Carwyn Jones
Well, no, because as I mentioned earlier on, there are elements of the scheme that are new, particularly regarding the cycle super highway, which is very important, because it complies with the active travel Act and, of course, the contingency that is built in. It would be remiss of me not to offer my thanks to the Presiding Officer as well. I’m aware that I haven’t done that as yet. Could I offer those thanks now? I know that the Chamber has sometimes been unruly, and I know the Presiding Officer has not always had—and she’s pointing at me—the easiest task, but that is the nature, I suppose, of a robust democracy. I have to say to the Member he has to decide whether he is in favour of the relief road or not, because in this Chamber in the past he has given indication he is sceptical about the need for a relief road at all. He can make that case, of course, between now and May. Wel, na, oherwydd fel y soniais yn gynharach, ceir elfennau o'r cynllun sy'n newydd, yn enwedig o ran yr uwch-briffordd feicio, sydd yn bwysig iawn, gan ei bod yn cydymffurfio â’r Ddeddf teithio llesol ac, wrth gwrs, y trefniadau wrth gefn sy’n rhan o hynny. Byddai'n esgeulus i mi beidio â chynnig fy niolch i'r Llywydd hefyd. Rwy'n ymwybodol nad wyf i wedi gwneud hynny eto. A gaf i gynnig y diolch hwnnw nawr? Gwn fod y Siambr wedi bod yn afreolus weithiau, a gwn nad yw'r Llywydd wedi cael—ac mae hi’n pwyntio ataf i—y dasg rwyddaf, ond dyna natur democratiaeth gadarn, am wn i. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod bod rhaid iddo benderfynu a yw o blaid y ffordd liniaru ai peidio, oherwydd yn y Siambr hon yn y gorffennol mae wedi rhoi awgrym ei fod yn amheus am yr angen am ffordd liniaru o gwbl. Gall ddadlau’r achos hwnnw, wrth gwrs, rhwng nawr a mis Mai.
14:00 - Christine Chapman
First Minister, it’s clear that delivering for the people of Wales has been a key theme for your Government during this Assembly term. It was good to see you break the ground for the new Aberdare campus for Coleg y Cymoedd the other week. Do you agree that this £22 million investment will deliver improved access to further education for the people of Cynon Valley, but also make a contribution to helping them realise their potential, which is invaluable, not just for them as individuals but for Wales as a whole? Brif Weinidog, mae'n amlwg bod cyflawni dros bobl Cymru wedi bod yn thema allweddol i’ch Llywodraeth yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Roedd yn braf eich gweld yn torri'r tir ar gyfer y campws Aberdâr newydd ar gyfer Coleg y Cymoedd yr wythnos o'r blaen. A ydych chi’n cytuno y bydd y buddsoddiad hwn o £22 miliwn yn cynnig gwell mynediad at addysg bellach i bobl Cwm Cynon, ond hefyd yn gwneud cyfraniad i'w helpu i wireddu eu potensial, sy'n hynod werthfawr, nid yn unig iddyn nhw fel unigolion ond i Gymru yn ei chyfanrwydd?
14:01 - Carwyn Jones
Absolutely. Coleg y Cymoedd has been allocated £11 million of Welsh Government funding towards the scheme. It will provide state-of-the-art facilities for 811 full-time and 450 part-time students, replacing, of course, the existing buildings, which are well past their sell-by date, and, of course, it’s very close to public transport hubs, the railway station particularly, which will make it very easy for students to travel to the campus in order to learn there. So, yes, another example of the Welsh Government investing in the future of our youngsters. Yn sicr. Dyrannwyd £11 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru i Goleg y Cymoedd tuag at y cynllun. Bydd yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer 811 o fyfyrwyr llawn amser a 450 o rai rhan-amser gan ddisodli, wrth gwrs, yr adeiladau presennol, nad ydynt wedi bod yn addas ers amser maith, ac, wrth gwrs, mae'n agos iawn at ganolfannau cludiant cyhoeddus, yr orsaf reilffordd yn arbennig, a fydd yn ei gwneud yn hawdd iawn i fyfyrwyr deithio i'r campws er mwyn dysgu yno. Felly, ie, enghraifft arall o Lywodraeth Cymru yn buddsoddi yn nyfodol ein pobl ifanc.
14:02 - Rhodri Glyn Thomas
Mae’r uned gyflenwi yn un o ddirgelion mawr y Cynulliad yma, Brif Weinidog, ac mae’n dristwch mawr i mi orfod gadael y sefydliad yma ar ôl 17 mlynedd heb fyth ddeall beth yn union y mae’r uned gyflenwi hon yn ei gyflawni. Tybed, mewn ysbryd da, gan eich bod chi’n amlwg mewn ysbryd felly ar ddiwedd y tymor yma, a fyddech chi’n rhoi ateb tryloyw a chwbl agored i mi: beth yn union mae’r uned gyflenwi hon yn ei wneud? The delivery unit is one of the great mysteries of this Assembly, First Minister, and it is a source of great sadness for me to have to leave this institution after 17 years without ever understanding exactly what this delivery unit actually delivers. I wonder, in the best of spirits—because you are obviously in high spirits at the end of this term—whether you would give me a transparent and completely open answer to me as to what exactly this delivery unit does.
14:02 - Carwyn Jones
Gweithredu’r rhaglen lywodraethu. Mae hynny’n cael ei ymddangos drwy’r dystiolaeth sydd yno lle rydym wedi cyflawni bron popeth sydd yn y rhaglen honno. Felly, mae’r uned wedi gwneud y gwaith y dylen nhw. It implements the governmental programme. That is demonstrated by the evidence, where we have achieved on almost everything in that programme. So, the delivery unit has done the work that they should have.
Prentisiaethau Apprenticeships
14:02 - Sandy Mewies
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prentisiaethau fel elfen allweddol o'r broses o fynd i'r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc? OAQ(4)2784(FM) 4. How is the Welsh Government supporting apprenticeships as a key element in tackling youth unemployment? OAQ(4)2784(FM)
14:02 - Carwyn Jones
We recently announced an additional £5 million for apprenticeships next year. We have, of course, focused on growing apprenticeship numbers for 16 to 18-year-olds, raising the number of school leavers going on to apprenticeships. Of course, we have plans post May, if we’re given the opportunity, to ensure that we create more apprenticeships for people of all ages. Cyhoeddwyd £5 miliwn ychwanegol gennym yn ddiweddar ar gyfer prentisiaethau y flwyddyn nesaf. Rydym, wrth gwrs, wedi canolbwyntio ar dyfu nifer y prentisiaethau ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 mlwydd oed, gan godi nifer y rhai sy'n gadael yr ysgol ac yn mynd ymlaen i brentisiaethau. Wrth gwrs, mae gennym ni gynlluniau ar ôl mis Mai, os cawn ni’r cyfle, i sicrhau ein bod yn creu mwy o brentisiaethau i bobl o bob oed.
14:03 - Sandy Mewies
Apprenticeship week is an appropriate time to highlight the Welsh Government’s success in helping young people into work through its support for apprenticeships and the Jobs Growth Wales programme. It’s also appropriate to highlight the marvellous work that’s being done in Flintshire by both Airbus and Coleg Cambria. They are getting young people into apprenticeships, both male and female. However, a British Gas survey has learnt that poor careers advice was resulting in girls limiting their career choices, ruling out apprenticeships as a viable career path for them. So, looking into the future, how will a Welsh Labour Government build on its successes to encourage more young women to take up apprenticeships? Mae wythnos prentisiaethau yn adeg briodol i amlygu llwyddiant Llywodraeth Cymru o ran helpu pobl ifanc i mewn i waith trwy ei chefnogaeth i brentisiaethau a rhaglen Twf Swyddi Cymru. Mae hefyd yn briodol i amlygu’r gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud yn Sir y Fflint gan Airbus a Choleg Cambria. Maen nhw’n cael pobl ifanc i mewn i brentisiaethau, yn ddynion a menywod. Fodd bynnag, mae arolwg Nwy Prydain wedi canfod bod cyngor gyrfaoedd gwael yn arwain at fenywod yn cyfyngu eu dewisiadau gyrfaoedd, gan ddiystyru prentisiaethau fel llwybr gyrfa ymarferol ar eu cyfer. Felly, gan edrych i'r dyfodol, sut y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn adeiladu ar ei llwyddiannau er mwyn annog mwy o fenywod ifanc i fanteisio ar brentisiaethau?
14:04 - Carwyn Jones
The Member raises a hugely important issue, because equality is a key theme of our work on apprenticeships. It’s why we commissioned Estyn to carry out a thematic review on barriers to apprenticeships in 2014, but she does mention, of course, good examples, not in her constituency but not very far away, in Airbus, where the Airbus industrial cadet programme at Broughton has two all-girl cohorts. They have given over 140 year 9 and 10 students the opportunity to take part in an industrial engineering project. That, of course, helps to ensure that young girls of that age get the opportunity to see what the job entails and they will, of course, then use that experience to make decisions in the future for themselves. It is hugely important that careers are seen as open to both sexes—we understand that—and it is schemes like the industrial cadet scheme, and there are others such as the Ford Saturday club at Bridgend, that ensure that what has historically been a weakness, in other words, young women going into engineering, is addressed through practical experience. Mae'r Aelod yn codi mater hynod bwysig, gan fod cydraddoldeb yn thema allweddol o’n gwaith ar brentisiaethau. Dyna pam yr ydym ni wedi comisiynu Estyn i gynnal adolygiad thematig o rwystrau i brentisiaethau yn 2014, ond mae hi'n crybwyll, wrth gwrs, enghreifftiau da, nid yn ei hetholaeth hi, ond heb fod yn bell iawn i ffwrdd, yn Airbus, lle mae rhaglen cadetiaid diwydiannol Airbus ym Mrychdyn yn cynnwys dwy garfan menywod yn unig. Maen nhw wedi rhoi cyfle i dros 140 o fyfyrwyr blwyddyn 9 a 10 gymryd rhan mewn prosiect peirianneg diwydiannol. Mae hynny, wrth gwrs, yn helpu i sicrhau bod merched ifanc o'r oedran hwnnw’n cael y cyfle i weld beth y mae’n rhaid ei wneud yn y swydd a byddant, wrth gwrs, yn defnyddio’r profiad hwnnw wedyn i wneud penderfyniadau yn y dyfodol ar gyfer eu hunain. Mae'n hynod bwysig yr ystyrir bod gyrfaoedd yr un mor agored i'r ddau ryw—rydym ni’n deall hynny—a chynlluniau fel y cynllun cadetiaid diwydiannol, a cheir eraill fel clwb Sadwrn Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n sicrhau bod yr hyn sydd wedi bod yn wendid yn hanesyddol, mewn geiriau eraill, menywod ifanc yn mynd i faes peirianneg, yn cael sylw trwy brofiad ymarferol.
14:05 - Janet Finch-Saunders
First Minister, over the past 10 years, under your Government, Wales has fallen 14 places against other nations in standards of science, fallen behind nine places in maths and fallen behind 11 places in reading. More than 30 per cent of 15 to 16-year-olds have not reached the levels of literacy and numeracy that do allow them to communicate and operate effectively in the workplace—that’s according to Estyn’s own figures. One could say that your programme for government has certainly failed over the past five years. This, of course, then leads to disengagement with the education system of young people. A Welsh Conservative Government would see the introduction—I don’t know why you’re looking puzzled—[interruption.] These figures are— Brif Weinidog, yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, o dan eich Llywodraeth, mae Cymru wedi disgyn 14 o leoedd yn erbyn gwledydd eraill o ran safonau gwyddoniaeth, wedi disgyn naw o leoedd mewn mathemateg ac wedi disgyn 11 o leoedd o ran darllen. Mae mwy na 30 y cant o bobl ifanc 15 i 16 mlwydd oed nad ydynt wedi cyrraedd y lefelau llythrennedd a rhifedd sy’n eu galluogi i gyfathrebu a gweithredu'n effeithiol yn y gweithle—mae hynny yn ôl ffigurau Estyn ei hun. Gellid dweud bod eich rhaglen lywodraethu yn sicr wedi methu dros y pum mlynedd diwethaf. Mae hyn, wrth gwrs, yn arwain wedyn at ymddieithrio pobl ifanc o’r system addysg. Byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn arwain at gyflwyno—nid wyf i’n gwybod pam yr ydych chi’n edrych mor ddryslyd—[torri ar draws.] Mae'r ffigurau hyn yn—
14:05 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Come to the question. [Inaudible.]—on how people are looking. Dewch at y cwestiwn. [Anghlywadwy.]—ar sut y mae pobl yn edrych.
14:05 - Janet Finch-Saunders
A Welsh Conservative Government— Byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru—
14:06 - Y Llywydd / The Presiding Officer
No, come to the question. Don’t just read what—. Na, dewch at y cwestiwn. Peidiwch â dim ond darllen yr hyn—.
14:06 - Janet Finch-Saunders
[Continues.]—would see the introduction of university technical colleges that would foster apprenticeships that lead to high-quality, sustainable jobs. Will you support our policy? [Yn parhau.]—yn arwain at gyflwyno colegau technegol prifysgol a fyddai'n meithrin prentisiaethau sy'n arwain at swyddi cynaliadwy o ansawdd uchel. A wnewch chi gefnogi ein polisi?
14:06 - Carwyn Jones
The Member will have to forgive my scepticism, because she represents a party that got rid of the Future Jobs fund and removed one of the most important schemes for assisting young people into work that existed, which is why, of course, we introduced Jobs Growth Wales, the most successful scheme for creating opportunities for young people, I would argue, in Europe. It’s why we’ll build on that to ensure that there are opportunities available for all ages. What she doesn’t explain, of course, is that her leader, amongst his many troubles on Saturday, including being ignored by David Cameron, said that he would only protect one budget. He would not protect the budget for apprenticeships. Now, on that basis, what the Member is suggesting is that there will be a new scheme in place, but with no money. We will make sure, in what we are planning to do, that there are opportunities available for all. Given the track record of the Conservatives with their cutting of the Future Jobs fund, their cutting of support for those who want education, their cutting of the education maintenance allowance and ensuring that students have to pay far more in England, the answer to your question is: ‘No, we don’t agree because their track record is appalling.’ Bydd yn rhaid i'r Aelod faddau fy amheuon, gan ei bod yn cynrychioli plaid a gafodd wared ar gronfa Swyddi'r Dyfodol ac a ddiddymodd un o'r cynlluniau pwysicaf ar gyfer cynorthwyo pobl ifanc i mewn i waith a oedd yn bodoli, a dyna pam, wrth gwrs, y gwnaethom ni gyflwyno Twf Swyddi Cymru, y cynllun mwyaf llwyddiannus ar gyfer creu cyfleoedd i bobl ifanc, byddwn yn dadlau, yn Ewrop. Dyna pam y byddwn ni’n adeiladu ar hynny er mwyn sicrhau bod cyfleoedd ar gael ar gyfer pob oedran. Yr hyn nad yw'n egluro, wrth gwrs, yw bod ei harweinydd, ymhlith ei drafferthion lawer ddydd Sadwrn, gan gynnwys cael ei anwybyddu gan David Cameron, wedi dweud mai dim ond un gyllideb y byddai’n ei diogelu. Ni fyddai'n diogelu’r gyllideb ar gyfer prentisiaethau. Nawr, ar sail hynny, yr hyn y mae'r Aelod yn ei awgrymu yw y bydd cynllun newydd ar waith, ond heb unrhyw arian. Byddwn ni'n sicrhau, yn yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud, bod cyfleoedd ar gael i bawb. O ystyried hanes y Ceidwadwyr o dorri cronfa Swyddi'r Dyfodol, o dorri eu cymorth i’r rhai sydd eisiau addysg, o dorri’r lwfans cynhaliaeth addysg a sicrhau bod yn rhaid i fyfyrwyr dalu llawer mwy yn Lloegr, yr ateb i'ch cwestiwn yw: 'Nac ydym, nid ydym yn cytuno gan fod eu hanes yn drychinebus.'
14:07 - Y Llywydd / The Presiding Officer
I’m being very generous today, Darren Millar. Don’t tempt me. Rhun ap Iorwerth. Rwy’n bod yn hael iawn heddiw, Darren Millar. Peidiwch â fy nhemtio. Rhun ap Iorwerth.
14:07 - Rhun ap Iorwerth
Diolch. Mi oedd hi’n braf iawn cyfarfod Dafydd Jones yr wythnos diwethaf sydd newydd ddechrau ar brentisiaeth fel ffiter efo Orthios yn y parc eco yng Nghaergybi. Mae o’n edrych ymlaen at gael datblygu ei yrfa fel peiriannydd yn Ynys Môn. Wrth gwrs, mae’n bwysig iawn bod cwmnïau yn cael eu tynnu i mewn i raglenni prentisiaethau a bod yna ddigon o brentisiaethau ar gael, ond mae hi hefyd yr un mor bwysig, wrth gwrs, fod pobl ifanc yn dod yn ymwybodol o’r cyfleon sydd ar gael iddyn nhw drwy brentisiaethau. A wnaiff y Prif Weinidog, felly, gydnabod y niwed sy’n cael ei wneud i annog prentisiaethau i gychwyn pobl ifanc ar lwybrau tuag at brentisiaethau drwy gwtogi ar gyllideb Gyrfa Cymru gan dros hanner yn oes y Llywodraeth yma? Oni bai bod y cyngor iawn ar gael yn y lle iawn, nid ydy pobl ifanc yn mynd i fod yn ymwybodol o’r llwybrau sydd ar agor iddyn nhw. Thank you. It was a pleasure to meet with Dafydd Jones last week who has just started an apprenticeship as a fitter with Orthios in the eco-park in Holyhead. He’s looking forward to developing his career as an engineer in Anglesey. Of course, it’s very important that companies are attracted into apprenticeship programmes and that there are sufficient numbers of apprenticeships available, but it’s also just as important, of course, that young people become aware of the opportunities available to them through apprenticeships. Will the First Minister, therefore, acknowledge the damage that is being done in terms of encouraging apprenticeships so that young people take up apprenticeships by cutting the Careers Wales budget by over 50 per cent during the time of this Government? Unless they get the right advice in the right place at the right time, young people aren’t going to be aware of the pathways available to them.
14:08 - Carwyn Jones
Wel, nid oes prinder o gwbl o bobl ifanc sydd eisiau cael prentisiaeth. Rydym ni wedi gweld hynny yn Airbus ac rydym ni’n ei weld e mewn sawl rhan arall o Gymru. Nid oes problem gyda phobl yn gwneud cais i gael prentisiaeth ac, wrth gwrs, os edrychwn ni ar gynllun fel Jobs Growth Wales, mae hwnnw wedi bod yn llwyddiannus dros ben: 80 y cant o bobl ifanc wedi cael y cyfle i fynd ymlaen i addysg bellach neu i swydd. Mae hynny’n dangos, wrth gwrs, fod beth rydym ni wedi bod yn gwneud fel Llywodraeth wedi bod yn llwyddiannus dros ben a’n bwriad ni yw sicrhau bod hwn yn cael ei ymestyn ar ôl mis Mai i rheini o bob oedran. There is no shortage at all of young people who wish to go for an apprenticeship. We’ve seen that in Airbus and in a number of other areas of Wales. There is no problem with the number of people applying for apprenticeships, and, of course, if we look at schemes such as Jobs Growth Wales, that has been extremely successful: 80 per cent of young people have had the opportunity to go on to further education or into employment. That shows, of course, that what we’ve been doing as a Government has been extremely successful, and our intention is to ensure that this will be enhanced after May to those of all ages.
Lleoedd Ysgol (Caerdydd) School Places (Cardiff)
14:09 - Eluned Parrott
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd lleoedd ysgol yng Nghaerdydd? OAQ(4)2785(FM) 5. Will the First Minister make a statement on the availability of school places in Cardiff? OAQ(4)2785(FM)
14:09 - Carwyn Jones
Well, that would be a matter, of course, for the Cardiff local education authority. Wel, mater i awdurdod addysg lleol Caerdydd fyddai hwnnw, wrth gwrs.
14:09 - Eluned Parrott
Thank you for that answer, First Minister, such as it was. I must declare an interest, Llywydd, in that my own son is affected by this situation. You’ll no doubt be aware, First Minister, of the chaos in Cardiff with the allocation of secondary school places. A number of schools across the city are affected, but the east of the city very particularly so. Two weeks after places were supposed to be confirmed, many of my constituents’ children still don’t have a place in any secondary school, and those parents are, understandably, incredibly anxious. First Minister, will you commit to investigate what has gone wrong in Cardiff this year with the allocation of secondary school places, and will you be prepared to step in if the local authority still fails to resolve the situation? Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog, fel ag yr oedd. Mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant, Lywydd, gan fod fy mab fy hun yn cael ei effeithio gan y sefyllfa hon. Rwy’n siŵr y byddwch chi’n ymwybodol, Brif Weinidog, o’r anhrefn yng Nghaerdydd o ran neilltuo lleoedd mewn ysgolion uwchradd. Mae nifer o ysgolion ar draws y ddinas wedi’u heffeithio, ond dwyrain y ddinas yn arbennig. Bythefnos ar ôl yr adeg pan oedd lleoedd i fod i gael eu cadarnhau, mae llawer o blant fy etholwyr nad oes ganddynt le mewn unrhyw ysgol uwchradd o hyd, ac mae'r rhieni hynny, yn ddealladwy, yn hynod bryderus. Brif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ymchwilio i’r hyn sydd wedi mynd o chwith yng Nghaerdydd eleni o ran neilltuo lleoedd mewn ysgolion uwchradd, ac a fyddwch chi’n barod i gamu i mewn os bydd yr awdurdod lleol yn dal i fethu â datrys y sefyllfa?
14:10 - Carwyn Jones
Well, the local authority are obliged to provide places for children. They have to do that fairly. There have to be criteria in place that are transparent in order for people to understand that admission arrangements are being properly implemented. I have to say to the Member that I know one of the issues surrounds Cardiff High School, and pupils, I understand—and this is a matter that has been raised with me by Jenny Rathbone as the Member for Cardiff Central—going from Pentwyn to Llanishen not being able to go to Cardiff High. But that was as a result of a change, I understand, to the catchment area that was made by her party on 1 September 2011. So, that, clearly, hasn’t helped parents in that part of Cardiff. Wel, mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol ddarparu lleoedd i blant. Mae'n rhaid iddyn nhw wneud hynny’n deg. Mae’n rhaid bod meini prawf ar waith sy’n dryloyw fel y gall pobl ddeall nad yw’r trefniadau derbyn yn cael eu gweithredu'n briodol. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod fy mod i’n gwybod bod un o'r problemau’n ymwneud ag Ysgol Uwchradd Caerdydd, a disgyblion, rwy’n deall—ac mae hwn yn fater a godwyd gyda mi gan Jenny Rathbone fel yr Aelod dros Ganol Caerdydd—yn mynd o Bentwyn i Lanisien nad ydynt yn gallu mynd i Ysgol Uwchradd Caerdydd. Ond roedd hynny o ganlyniad i newid, rwy’n deall, i’r dalgylch a wnaed gan ei phlaid hi ar 1 Medi 2011. Felly, nid yw hynny, yn amlwg, wedi helpu rhieni yn y rhan honno o Gaerdydd.
14:10 - Jenny Rathbone
The change that was made by the Liberal Democrat administration in 2011, which seems to be causing this chaos, was not fair, particularly for the residents of Pentwyn, who have to walk past Cardiff High School to get to Llanishen High School. The Member is ill informed when she doesn’t seem to understand that, when people don’t get their first choice, if they don’t put a second choice, it’s impossible for the council then to allocate them a place. Could the First Minister agree with me that what we need is a really transparent system that everybody understands and that is fair to all citizens and is not gerrymandering the system in favour of some? Roedd y newid a wnaed gan weinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2011, y mae’n ymddangos sy’n achosi’r anhrefn hwn, yn annheg, yn enwedig i drigolion Pentwyn, sy'n gorfod cerdded heibio Ysgol Uwchradd Caerdydd i gyrraedd Ysgol Uwchradd Llanisien. Mae'r Aelod yn anwybodus pan nad yw'n ymddangos i fod yn deall, pan nad yw pobl yn cael eu dewis cyntaf, os nad ydynt yn rhoi ail ddewis, yna mae'n amhosibl i'r cyngor neilltuo lle iddyn nhw. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi mai’r hyn sydd wir ei angen arnom ni yw system dryloyw iawn y mae pawb yn ei deall ac sy'n deg i bob dinesydd ac nad yw’n cyffindwyllo’r system o blaid rhai?
14:11 - Carwyn Jones
Well, changes to admission arrangements, such as changes to catchment areas, must be consulted on in accordance with the school admissions code. It sets out a very strong expectation that parents will be involved in consultation, and it’s hugely important that parents understand what the reasoning is when catchment areas are drawn up. On top of that, of course, when it comes to admissions, the council are required to ensure the admission arrangements are transparent and properly implemented, and that the over-subscription criteria are applied fairly. Wel, mae’n rhaid ymgynghori ar newidiadau i drefniadau derbyn, fel newidiadau i ddalgylchoedd, yn unol â'r cod derbyn i ysgolion. Mae'n nodi disgwyliad cryf iawn y bydd rhieni’n cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ac mae'n hynod bwysig bod rhieni yn deall beth yw’r rhesymeg pan gaiff dalgylchoedd eu pennu. Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, pan ddaw i dderbyniadau, mae'n ofynnol i'r Cyngor sicrhau bod y trefniadau derbyn yn dryloyw ac yn cael eu gweithredu'n briodol, a bod y meini prawf sy’n berthnasol pan fydd gormod o geisiadau yn cael eu cymhwyso'n deg.
14:12 - Andrew R.T. Davies
First Minister, one of the things that causes a great deal of concern to parents when trying to seek access to schools are the development plans that councils put forward, which are obviously submitted to Welsh Government for approval. Do you believe that the planning advice that is given to cater for new housing developments—especially in Cardiff, where large housing developments are proposed around the edges of Cardiff—are robust enough in the tests that they set for the provision of schooling, but also other public services that need to be put in to cater for those communities? This bottleneck is not going to go away any time soon, and the number of school places in Cardiff is under huge pressure. Brif Weinidog, un o'r pethau sy'n achosi llawer iawn o bryder i rieni wrth geisio cael lleoedd mewn ysgolion yw’r cynlluniau datblygu y mae cynghorau’n eu cyflwyno, sy’n amlwg yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w cymeradwyo. A ydych chi’n credu bod y cyngor cynllunio a roddir i ddarparu ar gyfer datblygiadau tai newydd—yn enwedig yng Nghaerdydd, lle cynigir datblygiadau tai mawr ar gyrion Caerdydd—yn ddigon cadarn yn y profion y maen nhw’n yn eu gosod ar gyfer darparu addysg, ond hefyd gwasanaethau cyhoeddus eraill y mae angen eu cyflwyno i ddarparu ar gyfer y cymunedau hynny? Nid yw’r dagfa hon yn mynd i ddiflannu’n fuan, ac mae nifer y lleoedd ysgol yng Nghaerdydd o dan bwysau enfawr.
14:12 - Carwyn Jones
Well, overall in Cardiff, of course, there are other schools where there are surpluses. But, of course, inevitably, there are some schools that will be seen as more popular than others. Local authorities do have the ability, through section 106 agreements, to make sure that education provision is made when new housing estates, particularly, are built. There are examples across Wales where that’s happened—where new primary schools have been built, particularly. They must take that into account and obtain a section 106 agreement in order to make sure that education provision is adequate when a new housing estate is built. They have the machinery to do it. It’s hugely important, of course, that they use that machinery. Wel, ar y cyfan yng Nghaerdydd, wrth gwrs, ceir ysgolion eraill lle mae lleoedd dros ben. Ond, wrth gwrs, yn anochel, ceir rhai ysgolion a fydd yn cael eu hystyried yn fwy poblogaidd nag eraill. Mae’r gallu gan awdurdodau lleol, trwy gytundebau adran 106, i wneud yn siŵr bod y ddarpariaeth addysg yn cael ei gwneud pan fydd ystadau tai newydd, yn arbennig, yn cael eu hadeiladu. Ceir enghreifftiau ledled Cymru lle mae hynny wedi digwydd—lle mae ysgolion cynradd newydd wedi eu hadeiladu, yn arbennig. Mae’n rhaid iddyn nhw gymryd hynny i ystyriaeth a chael cytundeb adran 106 er mwyn gwneud yn siŵr bod y ddarpariaeth addysg yn ddigonol pan fod ystâd newydd o dai yn cael ei hadeiladu. Mae’r offerynnau ganddyn nhw i wneud hynny. Mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, eu bod yn defnyddio'r offerynnau hynny.
Rhestru Adeiladau Listing Buildings
14:13 - Aled Roberts
6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog grwpiau cymunedol i gymryd rhan yn y broses o restru adeiladau o arwyddocâd hanesyddol a lleol? OAQ(4)2787(FM)[W] 6. What is the Welsh Government doing to encourage community groups to participate in the process of listing buildings of historical and local significance? OAQ(4)2787(FM)[W]
14:13 - Carwyn Jones
Wel, rydym yn erfyn i Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) gael Cydsyniad Brenhinol ar 21 Mawrth. Bydd y Ddeddf, wrth gwrs, yn galluogi i adeiladau hanesyddol gael eu diogelu yn well. Rydym yn drafftio canllawiau ar lunio a rheoli rhestrau o asedau hanesyddol sydd o ddiddordeb lleol arbennig, a’r angen i annog diddordeb a chyfranogaeth gymunedol o’r dechrau. Well, the Historic Environment (Wales) Bill is expected to receive Royal Assent on 21 March. The Act will afford greater protection to historic buildings. We are drafting guidance on creating and managing lists of historic assets of special local interest and the need to encourage community interest and involvement from the outset.
14:14 - Aled Roberts
Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol o sefyllfa ysgol y Llwyni yn Wrecsam—y ‘Groves’—lle mae’r cyngor, gan roi rhybudd o bedwar diwrnod, wedi dweud eu bod nhw eisiau dymchwel yr adeilad, a hynny’n groes i obeithion mwyafrif y bobl leol. Wrth dderbyn eich bod chi yn drafftio canllawiau eich hun ar hyn o bryd, a wnewch chi ei gwneud yn glir i gyngor Wrecsam nad oes gofyn arnyn nhw ddymchwel yr adeilad tra’u bod yn gwneud cais am grant ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? Dyna’r esboniad y mae’r cyngor yn ei roi ar hyn o bryd, sef nad oes ganddo’r arian i ail-wneud yr adeiladau presennol a’u bod nhw eisiau eu dymchwel er mwyn creu ysgol newydd yn rhatach. A wnewch chi, felly, ei gwneud yn glir i gyngor Wrecsam nad oes disgwyl iddyn nhw ruthro i ddymchwel yr adeilad hanesyddol yma? I’m sure you’ll be aware of the situation of ysgol y Llwyni in Wrexham—the Groves—where the council, in giving notice of four days, have said that they want to demolish the building, contrary to the aspirations of the majority of local people. In accepting that you are currently drafting your own guidance at present, will you make it clear to Wrexham council that there is no requirement for them to demolish the building while they are applying for a twenty-first century schools grant? That is the explanation that they are giving at present, namely that they don’t have the funds available to refurbish the current buildings, and they want to demolish them in order to create a new school that would be cheaper. Will you make it clear to Wrexham council, therefore, that there is no expectation upon them to rush into demolition of this historic building?
14:14 - Carwyn Jones
Wel, nid oes rhaid iddynt wneud hynny; mae hynny’n wir. Rwyf wedi sefyll tu fas i’r ysgol gyda Lesley Griffiths, fel Aelod Wrecsam, ac rwy’n gwybod bod hwn yn rhywbeth sydd yn bwysig iawn yn yr ardal, ac mae pobl yn anhapus gyda phenderfyniad Wrecsam i dynnu’r adeilad lawr. Ond, beth sy’n bwysig yw bod y cyngor yn sylweddoli nad oes yn rhaid iddyn nhw wneud hyn. Mater iddyn nhw yw hwn. Nid yw’n rhywbeth lle dylen nhw dreial rhoi’r bai ar rywun arall, achos mae’n rhywbeth y maen nhw eisiau ei wneud. Mae’n rhaid iddyn nhw sicrhau eu bod nhw’n esbonio hynny i’r bobl leol ac nid ceisio rhoi’r bai ar unrhyw gorff arall. Well, they don’t have to do that; that’s true. I have stood outside the school with Lesley Griffiths, as the Wrexham Member, and I know that this is something that is extremely important to the area, and people are unhappy with Wrexham council’s decision to demolish the building. But, the important point is that the council realises that they don’t have to do this. It’s a matter for them. It’s not something that they should try to blame other people for, because it’s something that they desire to do, and it’s important that they explain that to local people and don’t try to put the blame on any other body.
14:15 - Mike Hedges
We know that almost every one of the large nineteenth-century buildings is listed in some form. Many, unfortunately, are derelict or abandoned, and I can think of three in my own constituency, one of which only has two walls, but is still listed. Couldn’t we agree that we need to get communities to decide which of these buildings are the most important and to try and get the money and investment needed to preserve these buildings? I have serious concerns that some very important buildings are coming—. As the First Minister knows, I’ve got a great interest in chapels of the nineteenth century, and very many of these have collapsing congregations and are in danger of becoming empty in the near future. Isn’t it important that we actually try and work out what we can preserve and then get the investment to preserve them? Rydym ni’n gwybod bod bron pob un o'r adeiladau pedwaredd ganrif ar bymtheg mawr wedi eu rhestru ar ryw ffurf. Mae llawer, yn anffodus, yn adfeiliedig neu wedi cael eu gadael, a gallaf feddwl am dri yn fy etholaeth i, a dim ond dwy wal sydd gan un ohonynt, ond mae’n dal i fod yn rhestredig. Oni allem ni gytuno bod angen i ni gael cymunedau i benderfynu pa rai o'r adeiladau hyn yw'r pwysicaf a cheisio cael yr arian a'r buddsoddiad sydd eu hangen i warchod yr adeiladau hyn? Mae gennyf bryderon difrifol bod rhai adeiladau pwysig iawn yn dod—. Fel y gŵyr y Prif Weinidog, mae gen i ddiddordeb mawr yng nghapeli’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae gan lawer iawn o'r rhain gynulleidfaoedd sy’n diflannu ac mewn perygl o fod yn wag yn y dyfodol agos. Onid yw'n bwysig ein bod yn ceisio penderfynu ar beth allwn ni ei gadw, ac yna cael y buddsoddiad i'w gadw?
14:16 - Carwyn Jones
Yes, the Member, of course, represents a constituency that includes the nonconformist cathedral of the Morriston Tabernacle, but coming back to what I said earlier on, the Act itself is there, and what we’ll see as a result of the Act is that guidance will be created that will mean that there’ll be management of lists of historic assets, and of course communities will need to be engaged from the outset. Communities know best which buildings they wish to preserve that are of particular value to them, and having that list of historic assets will be useful for communities to understand what assets they have, and then of course to move forward with looking to utilise or preserve those assets in the future. Ydy, mae’r Aelod, wrth gwrs, yn cynrychioli etholaeth lle ceir eglwys gadeiriol yr anghydffurfwyr, sef Tabernacl Treforys, ond i ddod yn ôl at yr hyn a ddywedais yn gynharach, mae'r Ddeddf ei hun yno, a'r hyn y byddwn yn ei weld o ganlyniad i'r Ddeddf yw y bydd canllawiau’n cael eu creu a fydd yn golygu y bydd rhestrau o asedau hanesyddol yn cael eu rheoli, a bydd angen ymgysylltu â chymunedau o'r cychwyn cyntaf, wrth gwrs. Cymunedau sy'n gwybod orau pa adeiladau y maen nhw eisiau eu cadw sydd o werth arbennig iddyn nhw, a bydd cael y rhestr honno o asedau hanesyddol yn ddefnyddiol i gymunedau ddeall pa asedau sydd ganddyn nhw, ac yna, wrth gwrs, i fwrw ymlaen â cheisio defnyddio neu warchod yr asedau hynny yn y dyfodol.
14:17 - Suzy Davies
First Minister, I’m sure you’ll join me in welcoming the Friends of Aberdulais Tin Works and Waterfall, who are visiting the Assembly from my region today. They offer a great deal of support to staff at a particularly famous National Trust site, which helps them to be local voices to promote tourism in the Vale of Neath and nearby areas. The scoping work of the heritage Bill considered the role of volunteers and community groups in taking on, where appropriate, responsibility for local heritage assets. While this wasn’t actually reflected in the Historic Environment (Wales) Bill, what evidence did the Government glean during that process that would help local community organisations, perhaps like the Friends, to be at the forefront of shaping these local lists? Brif Weinidog, rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu Cyfeillion Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais, sy'n ymweld â'r Cynulliad o fy rhanbarth i heddiw. Maen nhw’n cynnig llawer iawn o gefnogaeth i staff ar safle Ymddiriedolaeth Genedlaethol arbennig o enwog, sy'n eu helpu i fod yn lleisiau lleol i hyrwyddo twristiaeth yng Nghwm Nedd a'r cyffiniau. Ystyriodd gwaith cwmpasu’r Bil treftadaeth swyddogaeth gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol o ran cymryd, pan fo'n briodol, cyfrifoldeb am asedau treftadaeth lleol. Er na adlewyrchwyd hyn yn y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), pa dystiolaeth a ganfuwyd gan y Llywodraeth yn ystod y broses honno a fyddai'n helpu sefydliadau cymunedol lleol, fel y Cyfeillion efallai, i fod ar flaen y gad o ran llunio'r rhestrau lleol hyn?
14:18 - Carwyn Jones
Well, I was there two months ago, as I am sure they were aware. It was my first visit and it was hugely impressive. It’s a site I’d driven past many times but not visited, and I went there in the second week of January. Wel, roeddwn i yno ddau fis yn ôl, fel yr wyf yn siŵr eu bod nhw’n ymwybodol. Hwnnw oedd fy ymweliad cyntaf a gwnaeth gryn argraff arnaf i. Mae'n safle yr oeddwn i wedi gyrru heibio iddo lawer gwaith, ond erioed wedi ymweld ag ef, ac es i yno yn ystod ail wythnos mis Ionawr.
Coming back to what I said before, community involvement in managing lists of historic assets is hugely important, and as I’ve said now on two previous occasions, it’s hugely important that people are engaged as soon as possible in terms of drawing up those lists and in terms of being able to manage those assets in the future. Gan ddod yn ôl at yr hyn a ddywedais o'r blaen, mae cyfranogiad cymunedol yn y gwaith o reoli rhestrau o asedau hanesyddol yn hynod bwysig, ac fel yr wyf wedi ei ddweud ar ddau achlysur blaenorol bellach, mae'n aruthrol o bwysig bod pobl yn cael eu hymgysylltu cyn gynted â phosibl o ran llunio’r rhestrau hynny ac o ran gallu rheoli’r asedau hynny yn y dyfodol.
14:18 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Thank you, First Minister. Diolch yn fawr, Brif Weinidog.
2. Business Statement and Announcement 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
We now move to item 2, which is the business statement, and I call on the Minister, Jane Hutt. Symudwn at eitem 2 nawr, sef y datganiad busnes, a galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.
14:18 - Jane Hutt
There have been two changes to the business statement for this final week of business, Llywydd—the debate on the housing adaptations scheme has been withdrawn and replaced by a 45-minute oral statement on an enhanced adaptation system by the Minister for Communities and Tackling Poverty; and the First Minister’s items have been re-ordered and will be moved as the final items of business on the Plenary agenda. Bu dau newid i'r datganiad busnes ar gyfer yr wythnos olaf hon o fusnes, Lywydd—tynnwyd y ddadl ar y cynllun addasu tai yn ôl ac fe'i disodlwyd gan ddatganiad llafar 45 munud ar system addasu estynedig gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi; ac ad-drefnwyd eitemau’r Prif Weinidog a chânt eu cynnig fel yr eitemau olaf o fusnes ar agenda’r Cyfarfod Llawn.
14:19 - Russell George
Minister, could I request a statement from the Minister for the economy and transport on the potential for traffic disruption caused by the construction of the Tirgwynt windfarm? I did raise this issue with the First Minister in questions last month and he assured me that officials were working with developers to ensure that the movement of large components would take place outside of peak traffic to minimise any disruption on the roads. That answer was welcome. However, I have had reports from community councils that have certainly had correspondence that indicates that turbine movements will take place during August, which is of course the busiest time of the year. Could I therefore ask for a statement from the Minister providing assurance when the movements will take place, and perhaps could I also ask the Minister to report on issues that have been brought to my attention of developers using B roads, which is prohibited under agreements? Perhaps this could also be reported in any statement coming forward. Weinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr economi a thrafnidiaeth ar y potensial o darfu ar draffig wedi’i achosi gan y gwaith o adeiladu fferm wynt Tirgwynt? Codais y mater hwn gyda'r Prif Weinidog yn ystod cwestiynau y mis diwethaf a rhoddodd sicrwydd i mi fod swyddogion yn gweithio gyda datblygwyr i sicrhau y byddai cydrannau mawr yn cael eu symud y tu allan i'r adegau prysuraf i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar y ffyrdd. Roedd yr ateb hwnnw i’w groesawu. Fodd bynnag, rwyf wedi cael adroddiadau gan gynghorau cymuned sy’n sicr wedi cael gohebiaeth sy'n dangos y bydd gwaith symud tyrbinau’n digwydd yn ystod mis Awst, sef amser prysuraf y flwyddyn wrth gwrs. A gaf i ofyn felly, am ddatganiad gan y Gweinidog yn rhoi sicrwydd o ran pryd y bydd y symudiadau’n digwydd, ac efallai y caf i hefyd ofyn i'r Gweinidog adrodd ar faterion y tynnwyd fy sylw atynt sef bod datblygwyr yn defnyddio ffyrdd B, sydd wedi’i wahardd o dan gytundebau? Efallai y gellid adrodd ar hyn mewn unrhyw ddatganiad a gyflwynir hefyd.
14:20 - Jane Hutt
I can assure the Member, Russell George—I’m very grateful, actually, that you welcomed the answer last week—I can assure you that the Minister will abide by her commitments. Gallaf sicrhau'r Aelod, Russell George—rwy’n ddiolchgar iawn, a dweud y gwir, eich bod wedi croesawu'r ateb yr wythnos diwethaf—gallaf eich sicrhau y bydd y Gweinidog yn cadw at ei hymrwymiadau.
14:20 - Mike Hedges
Minister, can I ask for an update on the children and families delivery grant, because I’m told by constituents that when they click on the link on the Welsh Government page, it shows: ‘The page cannot be found’? It is, however, still being advertised by Swansea Council for Voluntary Service as an available grant. Weinidog, a gaf i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y grant cyflawni dros blant a theuluoedd, gan fy mod i’n cael fy hysbysu gan etholwyr pan eu bod yn clicio ar y ddolen ar dudalen Lywodraeth Cymru, mae'n dangos: 'The page cannot be found’? Mae'n dal i gael ei hysbysebu gan Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe fel grant sydd ar gael, fodd bynnag.
14:20 - Jane Hutt
I’m sure that matter can be rectified as a matter of urgency. Rwy'n siŵr y gellir datrys y broblem honno fel mater o frys.
14:20 - Kirsty Williams
I wonder if the business Minster could make available a written statement by the Minister for Public Services, I believe, on the issue of cyber crime. A number of my constituents and Dyfed-Powys Police have been alerted to an extortion e-mail that is being sent to local B&B and accommodation providers, threatening to post very negative and harming reviews on websites if they do not come up with a substantial amount of bitcoin and money as a result of that. Obviously, it’s a very worrying development for those business owners. Given that this is obviously quite a large-scale operation, it would be useful to know what the Government can do to assist, in the confines of their powers, to alert businesses and to protect businesses. Tybed a allai'r Gweinidog busnes roi datganiad ysgrifenedig ar gael gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, rwy’n credu, ar y mater o droseddau seiber. Mae nifer o’m hetholwyr a Heddlu Dyfed Powys wedi cael eu hysbysu am e-bost cribddeiliaeth sy'n cael ei anfon i ddarparwyr gwely a brecwast a llety lleol, yn bygwth postio adolygiadau hynod negyddol a niweidiol ar wefannau os nad ydynt yn cyflwyno swm sylweddol o bitcoin ac arian yn sgil hynny. Yn amlwg, mae'n ddatblygiad pryderus iawn i berchnogion y busnesau hynny. O ystyried bod hyn yn amlwg yn weithredu ar raddfa fawr, byddai'n ddefnyddiol cael gwybod beth y gall y Llywodraeth ei wneud i gynorthwyo, yn unol â’i phwerau, i rybuddio busnesau ac i ddiogelu busnesau.
14:21 - Jane Hutt
I’m sure you will have already drawn this to the attention of the Minister for Public Services in terms of examples, but the Minister will be happy to look at this in terms of considering a statement. Rwy'n siŵr y byddwch eisoes wedi tynnu sylw'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus at hyn o ran enghreifftiau, ond bydd y Gweinidog yn hapus i edrych ar hyn o ran ystyried datganiad.
14:22 - William Graham
Business Minister, may I just say how much I’ve enjoyed our exchanges over the years? I haven’t always had the information, perhaps, that I wanted, but certainly the questions were always answered both with integrity and, if I may say, imagination. Weinidog Busnes, a gaf i ddweud faint yr wyf i wedi mwynhau ein sgyrsiau dros y blynyddoedd? Nid wyf wedi cael y wybodaeth yr oeddwn i ei heisiau bob amser, efallai, ond yn sicr atebwyd y cwestiynau gydag unplygrwydd ac, os caf i ddweud, dychymyg.
My question today is regarding a written statement, if I may, from the Minister for Economy, Science and Transport regarding the—I think it will be—amazing disruption within the centre of the city of Newport with the closure of some major transport links. Could I ask for that statement, particularly to ask whether there will be any support for businesses that will be adversely affected, and also, bearing in mind the statements that the Minister has given to the Chamber over the last few months, how Network Rail will be adequately supervised to make sure the dates are kept? Mae fy nghwestiwn heddiw yn ymwneud â datganiad ysgrifenedig, os caf, gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar—credaf y bydd—darfu anhygoel yng nghanol dinas Casnewydd wrth i rai cysylltiadau trafnidiaeth mawr gael eu cau. A gaf i ofyn am y datganiad hwnnw, i ofyn yn arbennig a fydd unrhyw gefnogaeth i fusnesau a fydd yn cael eu heffeithio er gwaeth, a hefyd, gan gadw mewn cof y datganiadau y mae’r Gweinidog wedi eu gwneud i'r Siambr dros y misoedd diwethaf, sut y bydd Network Rail yn cael ei oruchwylio'n ddigonol i sicrhau y cedwir at y dyddiadau?
14:22 - Jane Hutt
I would also like to pay tribute and give thanks to William Graham for the very gracious way he’s asked me questions and, of course, wish him well in his future endeavours. I know he will continue to be a very active representative, in many ways, in his community. But I would also say that, of course, the Minister for Economy, Science and Transport will want to reassure the people of Newport in terms of the developments, and of course the outcome will be very beneficial for Newport. Hoffwn innau hefyd dalu teyrnged a diolch i William Graham am y ffordd rasol iawn y mae wedi gofyn cwestiynau i mi ac, wrth gwrs, dymuno'n dda iddo yn ei ymdrechion yn y dyfodol. Gwn y bydd yn parhau i fod yn gynrychiolydd gweithgar iawn, mewn sawl ffordd, yn ei gymuned. Ond byddwn hefyd yn dweud, wrth gwrs, y bydd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth eisiau rhoi sicrwydd i bobl Casnewydd o ran y datblygiadau, ac wrth gwrs, bydd y canlyniad yn fuddiol iawn i Gasnewydd.
14:23 - David Rees
Minister, yesterday, steel workers in Port Talbot were starting the process of actually being informed as to whether they will have a job in the future or not at the works, because of the decision announced in January 2016. To date, the Minister for Economy, Science and Transport has been very helpful to Members by updating us with the information on the taskforce. Will you ensure that the updates will continue during the time ahead, because these are difficult times for many workers and their families, and it’s important that they understand the actions that are available to them following the work of the taskforce and their futures ahead of them? Weinidog, ddoe, roedd gweithwyr dur ym Mhort Talbot yn dechrau’r broses o gael eu hysbysu am ba un a fydd ganddynt swydd yn y dyfodol ai peidio yn y gwaith, oherwydd y penderfyniad a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2016. Hyd yma, mae Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth wedi bod o gymorth mawr i'r Aelodau trwy ein diweddaru ni am y wybodaeth am y tasglu. A wnewch chi sicrhau y bydd y diweddariadau’n parhau yn ystod yr amser i ddod, gan fod hwn yn gyfnod anodd i lawer o weithwyr a'u teuluoedd, ac mae'n bwysig eu bod yn deall y camau sydd ar gael iddyn nhw ar ôl gwaith y tasglu a'r dyfodol o'u blaenau?
14:23 - Jane Hutt
I know, David Rees, that the Minister will want to update Members—particularly the fact that you have raised regularly these issues on behalf of your constituents—on the progress in terms of Tata steelworks. Gwn, David Rees, y bydd y Gweinidog eisiau diweddaru’r Aelodau—yn enwedig y ffaith eich bod wedi codi'r materion hyn yn rheolaidd ar ran eich etholwyr—ar y cynnydd o ran gwaith dur Tata.
14:24 - Eluned Parrott
I wonder if I might request a statement on the maintenance and cleanliness of our trunk road network following complaints from my constituents about the disgraceful state of the verges on the A48(M) as you come into Cardiff, and other roads too. Clearly, with many major events bringing visitors into Wales, this is really a shameful and embarrassing introduction to our city and I would welcome an action plan as to what they’re going to do to resolve the matter. Tybed a gaf i ofyn am ddatganiad ar gynnal a chadw a glendid ein rhwydwaith cefnffyrdd yn dilyn cwynion gan fy etholwyr am gyflwr gwarthus yr ymylon ar yr A48(M) wrth i chi ddod i mewn i Gaerdydd, a ffyrdd eraill hefyd. Yn amlwg, gyda llawer o ddigwyddiadau mawr yn dod ag ymwelwyr i Gymru, mae hwn wir yn gyflwyniad cywilyddus ac yn codi cywilydd ar ein dinas a byddwn yn croesawu cynllun gweithredu ar yr hyn y maen nhw’n mynd i'w wneud i ddatrys y mater.
14:24 - Jane Hutt
These are operational matters that will have to be taken on board, of course, with a great deal of feedback and constructive engagement to ensure that this is addressed fully and comprehensively. Mae'r rhain yn faterion gweithredol a fydd yn rhaid eu hystyried, wrth gwrs, gyda llawer iawn o adborth ac ymgysylltu adeiladol i sicrhau y rhoddir sylw llawn a chynhwysfawr i hyn.
14:24 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Thank you, Minister. Diolch yn fawr, Weinidog.
3. Statement: The Enhanced Adaptation System 3. Datganiad: Y Cynllun Addasiadau Gwell
We now move to item 3, which is a statement by the Minister for Communities and Tackling Poverty on the enhanced adaptation system. I call on the Minister, Lesley Griffiths. Symudwn yn awr at eitem 3, sef datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi am y system addasiadau uwch. Galwaf ar y Gweinidog, Lesley Griffiths.
14:24 - Lesley Griffiths
Thank you, Presiding Officer. Adaptations play a vital part in helping people to remain in their own homes as safely and independently as possible. The current system helps many people achieve this; however, improvement is needed. Assembly Members have discussed this issue on several occasions in Plenary and also in committee. We all wish to see the system improved and delivered more rapidly. Today marks the culmination of a programme of research and work with key stakeholders, and I am pleased to announce an enhanced system with a new identity: Enable—Support for Independent Living, which will be rolled out from 1 April. Diolch, Lywydd. Mae addasiadau’n chwarae rhan hanfodol mewn helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain mor ddiogel ac annibynnol â phosibl. Mae'r system bresennol yn helpu llawer o bobl i gyflawni hyn; fodd bynnag, mae angen ei gwella. Mae Aelodau'r Cynulliad wedi trafod y mater hwn ar sawl achlysur yn y Cyfarfod Llawn a hefyd yn y pwyllgor. Rydym i gyd yn awyddus i weld y system yn gwella ac yn cael ei darparu’n gyflymach. Mae heddiw’n nodi penllanw rhaglen o ymchwil a gwaith gyda rhanddeiliaid allweddol, ac rwy’n falch o gyhoeddi system well â hunaniaeth newydd: Galluogi—Cymorth i Fyw'n Annibynnol, a gaiff ei chyflwyno o 1 Ebrill.
Adaptations not only improve people’s overall quality of life, they reduce avoidable demands on our hard-pressed NHS and social services. Each year, many thousands of people are helped. Over £50 million is spent by local authorities, housing associations and Welsh Government to provide individuals with the adaptations they need. In an average year, 4,500 disabled facilities grants are approved by local authorities and some 6,000 tenants of housing associations receive an adaptation. More than 17,000 people are helped by the rapid response adaptations programme, and Care and Repair agencies help more than 30,000 people. Overall, our organisations have a good record of providing help, but successive reviews have said the system could be improved. Mae addasiadau, yn ogystal â gwella ansawdd cyffredinol bywyd pobl, yn lleihau galwadau y gellir eu hosgoi ar ein GIG a’n gwasanaethau cymdeithasol sydd dan bwysau. Bob blwyddyn, mae miloedd lawer o bobl yn cael cymorth. Bob blwyddyn, mae awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a Llywodraeth Cymru yn gwario dros £50 miliwn i ddarparu'r addasiadau sydd eu hangen ar unigolion. Mewn blwyddyn arferol, mae awdurdodau lleol yn cymeradwyo 4,500 o grantiau cyfleusterau i bobl anabl ac mae tua 6,000 o denantiaid cymdeithasau tai yn cael addasiad. Mae mwy na 17,000 o bobl yn cael cymorth gan y rhaglen addasiadau brys, ac mae asiantaethau Gofal a Thrwsio yn helpu mwy na 30,000 o bobl. Ar y cyfan, mae gan ein sefydliadau hanes da o ddarparu cymorth, ond mae adolygiadau olynol wedi dweud y gellid gwella’r system.
The Welsh Government is not directly responsible for the delivery of adaptations; however, it has a vital role in ensuring the framework for delivery allows them to be provided in an effective and timely manner consistently across Wales. Research into adaptations was commissioned earlier this term, with a view to it being a catalyst for change. I do not want to see another inquiry in the next Assembly term that again identifies the same concerns and draws the same conclusions. We were committed to improving the system and, when the review report was published in January 2015, I asked all key stakeholders to demonstrate that they too were committed. And I’m pleased to say they were. Nid yw Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gyfrifol am ddarparu addasiadau; er hynny, mae ganddi ran hanfodol i’w chwarae wrth sicrhau bod y fframwaith ar gyfer darparu yn caniatáu iddynt gael eu darparu mewn ffordd effeithiol a phrydlon yn gyson ledled Cymru. Cafodd ymchwil i addasiadau ei gomisiynu yn gynharach y tymor hwn, gyda golwg ar fod yn gatalydd ar gyfer newid. Nid wyf eisiau gweld ymchwiliad arall yn nhymor nesaf y Cynulliad a fydd eto'n nodi'r un pryderon ac yn dod i’r un casgliadau. Roeddem yn ymroddedig i wella'r system a, phan gyhoeddwyd adroddiad yr adolygiad ym mis Ionawr 2015, gofynnais i’r holl randdeiliaid allweddol ddangos eu bod hwythau’n ymroddedig hefyd. Ac rwy’n falch o ddweud eu bod.
All applicants will receive a better service irrespective of age, disability, tenure or location. The emphasis will be on the individual and their family. Which organisation delivers and pays for the adaptation is secondary to people getting the support they need, when they need it. It will be a simple, clear system with just three broad levels of assistance. Once the need has been identified, advice and information will be provided. The next step is a needs assessment, with an action plan developed and implemented as quickly as possible. Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael gwasanaeth gwell beth bynnag fo'u hoedran, eu hanabledd, eu deiliadaeth neu eu lleoliad. Bydd y pwyslais ar yr unigolyn a'i deulu. Mae pa sefydliad sy’n darparu’r addasiad ac yn talu amdano yn eilaidd i bobl yn cael y cymorth sydd ei angen, pan fo ei angen arnynt. Bydd yn system syml, glir â dim ond tri lefel bras o gymorth. Cyn gynted ag y bydd yr angen wedi’i ganfod, caiff cyngor a gwybodaeth eu darparu. Y cam nesaf yw asesiad o anghenion, a datblygu cynllun gweithredu a'i roi ar waith cyn gynted ag y bo modd.
There will be three broad categories of assistance. Very small adaptations, for example, the installation of grab and stair rails, will be delivered quickly, without fuss and with the minimum of paperwork. There will be no means test and no requirement for assessment by an occupational therapist. It is envisaged that all very small adaptations will be delivered within seven days. Local authorities and housing associations are already delivering this to their tenants, so there is no reason why this cannot be achieved for everyone. In some cases, such as a very small adaption needed for someone to return home from hospital, adaptations are delivered the same day or the next day. I want this to happen consistently across Wales. Raising awareness amongst health professionals of the help available and how to access it will be a priority. The small category will typically include walk-in showers, stair lifts and ramps. These may involve an assessment by an occupational therapist, but will be fast-tracked to ensure that work is completed as quickly as possible. The large category are those requiring structural change. By definition, these will take longer than the other categories, for example, planning permission may be required. However, by improving the assessment and communications, the applicant can be fully involved and given a clearer picture of works required and a timetable for delivery. Bydd tri chategori bras o gymorth. Caiff addasiadau bach iawn, gosod rheiliau cydio a rheiliau grisiau, er enghraifft, eu cyflwyno’n gyflym, heb ffwdan a gyda chyn lleied â phosibl o waith papur. Ni fydd prawf modd na gofyniad am asesiad gan therapydd galwedigaethol. Rhagwelir y bydd yr holl addasiadau bach iawn hyn yn cael eu darparu o fewn saith diwrnod. Mae awdurdodau lleol a chymdeithasau tai eisoes yn darparu hyn i'w tenantiaid, felly nid oes unrhyw reswm pam na ellir cyflawni hyn i bawb. Mewn rhai achosion, fel yr angen am addasiad bychan iawn er mwyn i rywun gael dychwelyd adref o'r ysbyty, caiff addasiadau eu darparu ar yr un diwrnod neu'r diwrnod wedyn. Hoffwn i hyn ddigwydd yn gyson ledled Cymru. Bydd codi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol am y cymorth sydd ar gael, a sut i’w gael, yn flaenoriaeth. Bydd y categori bach fel arfer yn cynnwys cawodydd cerdded i mewn, lifftiau grisiau a rampiau. Gall y rhain gynnwys asesiad gan therapydd galwedigaethol, ond byddant ar drywydd cyflym i sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl. Y categori mawr yw'r rhai lle mae angen newid i'r adeiledd. Oherwydd eu natur, bydd y rhain yn cymryd mwy o amser na’r categorïau eraill; er enghraifft, efallai y bydd angen caniatâd cynllunio. Fodd bynnag, drwy wella'r asesu a’r cyfathrebu, caiff yr ymgeisydd gymryd rhan lawn a gellir rhoi darlun cliriach iddo o’r gwaith sydd ei angen ac amserlen ar gyfer ei gwblhau.
This is a prudent approach, based on needs, identified in conjunction with the person who requires help. It will make effective use of adaptations and the best possible use of public funding. Means testing will remain for the small and large categories, but support, including home improvement loans, will be available for people who have difficulty meeting their share of any costs. The approach has been designed to ensure consistently good services in all areas, but with flexibility where unusual circumstances are identified. There will be a comprehensive system for monitoring and reporting performance, and one core set of information covering all adaptations by all providers, not just disabled facilities grants. The data will include feedback from recipients to determine the level of satisfaction with help received and identify opportunities to further improve services. Mae hon yn ymagwedd ddoeth, yn seiliedig ar anghenion, a nodir ar y cyd â'r sawl sydd ag angen cymorth. Bydd yn defnyddio addasiadau’n effeithiol ac yn defnyddio arian cyhoeddus yn y ffordd orau bosibl. Bydd profion modd yn parhau ar gyfer y categorïau bach a mawr, ond bydd cymorth, gan gynnwys benthyciadau i wella'r cartref, ar gael i bobl sy'n cael anhawster i dalu eu cyfran o unrhyw gostau. Mae'r system wedi ei chynllunio i sicrhau gwasanaethau cyson dda ym mhob maes, ond gyda hyblygrwydd pan nodir amgylchiadau anarferol. Bydd system gynhwysfawr ar gyfer monitro perfformiad a llunio adroddiadau, ac un gyfres graidd o wybodaeth yn ymwneud â phob addasiad gan bob darparwr, nid dim ond grantiau cyfleusterau i'r anabl. Bydd y data’n cynnwys adborth gan dderbynwyr i ganfod lefel y boddhad â'r cymorth a gafwyd ac i ganfod cyfleoedd i wella gwasanaethau ymhellach.
The enhanced system will be owned by all the key stakeholders, who are committed to playing their part to the full. As a demonstration of our commitment, we are making available another £4 million to support the system in its first year. Bydd y system well yn perthyn i’r holl randdeiliaid allweddol, sy’n ymroddedig i chwarae eu rhan yn llawn. Fel arwydd o'n hymrwymiad, rydym yn darparu £4 miliwn arall i gefnogi'r system yn ei blwyddyn gyntaf.
I am very pleased the Welsh Local Government Association has signed up to the system for local authorities, and Community Housing Cymru has done so on behalf of housing associations. They’ve welcomed the enhanced system and the way in which it has been developed in partnership with organisations that will play a key role in its success. They recognise the benefits the enhanced system will bring to those who need help to live safely and independently. They are committed to working with the Welsh Government and others to roll it out from April 2016. Our working group also involved the College of Occupational Therapists and the Office of the Commissioner for Older People in Wales, both of which are also pleased to see this development. Rwy’n falch iawn bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ymuno â'r system ar gyfer awdurdodau lleol, a bod Cartrefi Cymunedol Cymru wedi gwneud hynny ar ran cymdeithasau tai. Maent wedi croesawu'r system well a'r ffordd y cafodd ei datblygu mewn partneriaeth â sefydliadau a fydd yn chwarae rhan allweddol yn ei llwyddiant. Maent yn cydnabod y manteision y bydd y system well yn eu creu i'r bobl sydd ag angen cymorth i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol. Maent wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i gyflwyno hyn o fis Ebrill 2016 ymlaen. Roedd ein gweithgor hefyd yn cynnwys y Coleg Therapyddion Galwedigaethol a Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ac mae’r naill a’r llall ohonynt yn falch o weld y datblygiad hwn hefyd.
The main outcomes will be improved independence and quality of life. The reduced risk of falls will help reduce demand on health and social services. It will also help people who have been admitted to hospital to return home as soon as possible. The new system will be monitored very closely to ensure we are achieving the outcomes and delivering the benefits expected. Progress will be reported regularly, and I have also allocated funding for an independent evaluation, the results of which will be reported to this Assembly. Y prif ganlyniadau fydd gwella annibyniaeth ac ansawdd bywyd. Bydd y risg llai o godymau yn helpu i leihau'r galw ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Bydd hefyd yn helpu pobl sydd wedi eu derbyn i'r ysbyty i ddychwelyd adref cyn gynted â phosibl. Caiff y system newydd ei monitro'n ofalus iawn i sicrhau ein bod yn cyflawni'r canlyniadau ac yn darparu’r buddion disgwyliedig. Ceir adroddiadau rheolaidd am gynnydd, ac rwyf hefyd wedi dyrannu cyllid ar gyfer gwerthusiad annibynnol; bydd y Cynulliad hwn yn cael adroddiadau am ganlyniadau hwn.
The message is clear: the delivery of adaptations needs to improve across Wales. The development I am announcing today will achieve this, and I look forward to seeing the real difference this makes. Mae'r neges yn glir: mae angen gwella darpariaeth addasiadau ledled Cymru. Bydd y datblygiad yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn cyflawni hyn, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y gwahaniaeth gwirioneddol y bydd hyn yn ei wneud.
14:31 - Mark Isherwood
Well, after 17 years, I couldn’t agree more with your statement: Wel, ar ôl 17 mlynedd, ni allwn gytuno mwy â’ch gosodiad:
‘I do not want to see another inquiry in the next Assembly term that again identifies the same concerns and draws the same conclusions.’ Nid wyf eisiau gweld ymchwiliad arall yn nhymor nesaf y Cynulliad a fydd eto’n nodi’r un pryderon ac yn dod i’r un casgliadau.'
And, of course, I’ve been party to successive inquiries during the three terms that I’ve been here. Ac, wrth gwrs, rwyf wedi gweld ymchwiliadau olynol yn ystod y tri thymor yr wyf wedi bod yma.
The key stakeholders you referred to have told me the key issue for them is that this is the start of a process, not the end. How, therefore, do you respond to their question, ‘How are we secured to commitment to this continuing after the election?’ Clearly, we don’t know exactly what the Welsh Government will be—we all have our hopes, but we don’t know. I know my party will commit ourselves to continuing this after the election, but how, in your legacy, will you ensure commitment to this, whatever the outcome of the election, in the next Assembly? Mae'r rhanddeiliaid allweddol y gwnaethoch sôn amdanynt wedi dweud wrthyf mai’r mater allweddol iddyn nhw yw mai dechrau proses yw hyn, nid ei diwedd. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'w cwestiwn, 'Sut y mae gennym sicrwydd y bydd yr ymrwymiad i hyn yn parhau ar ôl yr etholiad?' Yn amlwg, nid ydym yn gwybod yn union beth fydd Llywodraeth Cymru—mae gennym i gyd ein gobeithion, ond nid ydym yn gwybod. Rwy'n gwybod y bydd fy mhlaid yn ymrwymo ein hunain i barhau â hyn ar ôl yr etholiad, ond sut, yn eich etifeddiaeth, y byddwch chi'n sicrhau ymrwymiad i hyn, beth bynnag fydd canlyniad yr etholiad, yn y Cynulliad nesaf?
As you will be aware, the older people’s commissioner has welcomed the intention behind the new home adaptations scheme. She says this addresses the concerns that she’s raised, but she says it’s important to recognise that the success of the scheme will be dependent on ensuring a new scheme is implemented in a consistent way across Wales, and that people’s experiences are used to drive ongoing improvements. In practice, what tools, what mechanisms, are being implemented to facilitate that? Fel y byddwch yn gwybod, mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi croesawu’r bwriad y tu ôl i'r cynllun newydd addasiadau i gartrefi. Mae hi'n dweud bod hyn yn tawelu’r pryderon y mae hi wedi’u codi, ond mae hi'n dweud ei bod yn bwysig cydnabod y bydd llwyddiant y cynllun yn dibynnu ar sicrhau bod cynllun newydd yn cael ei roi ar waith mewn ffordd gyson ledled Cymru, gan ddefnyddio profiadau pobl i ysgogi gwelliannau parhaus. Yn ymarferol, pa offer, pa fecanweithiau, sy’n cael eu rhoi ar waith i hwyluso hynny?
The independent living revenue action budget for 2016-17 merges three budget lines—Care and Repair, the rapid response adaptations programme, and housing policy and development, which also funds tenant participation and equality organisations. The combined budget line has a 10 per cent reduction on the current year, and I understand that front-line Care and Repair agencies will be given priority for this budget. How, therefore, will funding be protected, for example, for the rapid response adaptations programme, and the wider delivery of your announcement today, in that context? Mae'r gyllideb weithredol refeniw byw'n annibynnol ar gyfer 2016-17 yn cyfuno tair llinell gyllideb—Gofal a Thrwsio, y rhaglen addasiadau ymateb cyflym, a pholisi tai a datblygu, sydd hefyd yn ariannu sefydliadau cyfranogiad tenantiaid a chydraddoldeb. Mae gan y llinell gyllideb gyfunol ostyngiad o 10 y cant ar y flwyddyn gyfredol, ac rwyf ar ddeall mai asiantaethau Gofal a Thrwsio rheng flaen fydd yn cael blaenoriaeth ar gyfer y gyllideb hon. Sut, felly, y caiff cyllid ei ddiogelu, er enghraifft, ar gyfer y rhaglen addasiadau ymateb cyflym, ac ar gyfer darpariaeth ehangach eich cyhoeddiad heddiw, yn y cyd-destun hwnnw?
The Communities, Equality and Local Government Committee inquiry into home adaptations, in 2013, made a series of recommendations, including putting in place mechanisms to monitor customer satisfaction on longer term outcomes, and auditing adaptation services to identify best practice and its implementation. Your predecessor rejected those proposals, but the review of independent living adaptations again supported them, and recommended collecting performance data in a consistent way from all delivery agencies. How, therefore, will the new system ensure that data are shared, learnt from, and used, to ensure the most effective ways of providing and enabling adaptations? Gwnaeth ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i addasiadau cartref, yn 2013, gyfres o argymhellion, gan gynnwys rhoi mecanweithiau ar waith i fonitro bodlonrwydd cwsmeriaid â chanlyniadau mwy hirdymor, ac archwilio gwasanaethau addasiadau i nodi arfer gorau a'i roi ar waith. Gwrthododd eich rhagflaenydd y cynigion hynny, ond gwnaeth yr adolygiad o addasiadau byw'n annibynnol eu cefnogi eto, ac yn argymell casglu data perfformiad mewn ffordd gyson gan yr holl asiantaethau cyflenwi. Sut, felly, y bydd y system newydd yn sicrhau bod data yn cael ei rannu, a’n bod yn dysgu oddi wrtho ac yn ei ddefnyddio, er mwyn sicrhau’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddarparu a galluogi addasiadau?
The College of Occupational Therapists welcomed their involvement in this process. They said the development group has drawn all stakeholders together effectively to truly commit to the system. But they say the group needs to continue to work to ensure learning from the monitoring and evaluation is implemented, and ask how this can be assured, given the coming election. Again, we would commit to that, but, again, what mechanisms have been put in place in your legacy on this? Croesawodd Coleg y Therapyddion Galwedigaethol eu cyfranogiad yn y broses hon. Roeddent yn dweud bod y grŵp datblygu wedi dod â’r holl randdeiliaid at ei gilydd yn effeithiol i wir ymrwymo i'r system. Ond maent yn dweud bod angen i'r grŵp barhau i weithio i sicrhau bod yr hyn a ddysgir o'r gwaith monitro ac adolygu yn cael ei roi ar waith, ac yn gofyn sut y gellir sicrhau hyn, o ystyried yr etholiad sydd ar ddod. Unwaith eto, byddem ni’n ymrwymo i hynny, ond, unwaith eto, pa fecanweithiau sydd wedi eu rhoi yn eich etifeddiaeth ar hyn?
And, moving to, I think, my final question, the College of Occupational Therapists welcomes the focus on adaptations as part of a total package for people with complex needs and wishes, but say it will be critical to ensure that people can gain information and advice to arrange their own actions and access greater levels of support in a timely and effective manner to ensure the right solution is made for the person regardless of tenure, age or funding. This includes adaptation, alternative housing solutions and a range of options. How do you, therefore, respond to their statement that this can only be achieved by all the services working together, with the person’s desired outcomes central to the decision making—something I call co-production, you call something different, but, basically, it’s about doing things together? Ac, i symud at, rwy’n meddwl, fy nghwestiwn olaf, mae Coleg y Therapyddion Galwedigaethol yn croesawu'r pwyslais ar addasiadau yn rhan o becyn cyflawn i bobl ag anghenion a dymuniadau cymhleth, ond yn dweud y bydd yn hanfodol sicrhau y gall pobl gael gwybodaeth a chyngor i drefnu’r hyn y maent yn ei wneud eu hunain a sicrhau bod mwy o gymorth ar gael mewn modd amserol ac effeithiol i sicrhau y rhoddir yr ateb cywir i’r unigolyn heb ystyried daliadaeth, oed na chyllid. Mae hyn yn cynnwys addasiadau, datrysiadau tai amgen ac ystod o ddewisiadau. Sut yr ydych chi, felly, yn ymateb i'w datganiad mai’r unig ffordd o gyflawni hyn yw i’r holl wasanaethau gydweithio, gyda chanlyniadau dymunol yr unigolyn yn ganolog i'r broses o wneud penderfyniadau—rhywbeth yr wyf fi’n ei alw’n gyd-gynhyrchu, rhywbeth yr ydych chi’n ei alw’n rhywbeth gwahanol, ond, yn y bôn, sy’n golygu pobl yn gwneud pethau gyda’i gilydd?
14:35 - Lesley Griffiths
I thank Mark Isherwood for his questions and I think, like you—and I said it in my opening statement—I absolutely don’t want to be here in a new Assembly looking at these issues again. The reason I’ve taken some time to do this and get this system up and running is because we absolutely wanted to do it right this time because I think we have seen inconsistency across Wales over the past few years. Diolch i Mark Isherwood am ei gwestiynau ac rwy’n meddwl, fel chithau—a dywedais hyn yn fy natganiad agoriadol—yn sicr ni hoffwn fod yma mewn Cynulliad newydd yn edrych ar y materion hyn eto. Y rheswm yr wyf wedi cymryd rhywfaint o amser i wneud hyn a rhoi’r system hon ar waith yw oherwydd ein bod yn benderfynol o’i wneud yn iawn y tro hwn oherwydd fy mod yn credu ein bod wedi gweld anghysondeb ledled Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
You question how we’ll go forward, and I will have an independent evaluation over the first year and that will make its findings available to this Assembly. However, I want an interim evaluation part way through the year to ensure that we are on the right track. I mentioned that the WLGA have signed up on behalf of the local authorities and Community Housing Cymru has signed up on behalf of the housing associations. So, that’s how I feel that we will take it forward, because there is going to be a lull now because of the election, obviously, but I think it’s really important that we had that sign-up going into this scheme being rolled out from 1 April and, like you, I am committed to carrying this forward. Rydych yn gofyn sut y byddwn yn symud ymlaen, a byddaf yn trefnu gwerthusiad annibynnol yn ystod y flwyddyn gyntaf, a bydd canfyddiadau hwnnw ar gael i'r Cynulliad hwn. Fodd bynnag, hoffwn gael gwerthusiad dros dro rywbryd yn ystod y flwyddyn i sicrhau ein bod ar y trywydd iawn. Soniais fod CLlLC wedi ymuno ar ran yr awdurdodau lleol a bod Cartrefi Cymunedol Cymru wedi ymuno ar ran y cymdeithasau tai. Felly, dyna sut yr wyf yn teimlo y byddwn yn symud ymlaen â hyn, oherwydd bydd cyfnod tawel nawr oherwydd yr etholiad, yn amlwg, ond rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn y bydd y rheini wedi ymuno cyn i’r cynllun hwn gael ei gyflwyno o 1 Ebrill ymlaen ac, fel chithau, rwy’n ymroddedig i fwrw ymlaen â hyn.
I think what the implementation—you know, I absolutely say what the older people’s commissioner says: it is all about the implementation. It’s okay having a scheme, but, if it’s not implemented in the correct way, then there is, clearly, not going to be the improvement that we all want to see. And what I would want the evaluation to show is where the blockages are, because, clearly, there are blockages. If you see how inconsistent provision is across Wales, you can identify the blockages. So, by having that data collected—. So, every adaptation that is installed in somebody’s house, we will now have those data. So, we’ll be able to monitor that much more closely. For instance, the Welsh Government has been criticised for not doing the disabled facilities grants, not signing them off quickly enough, so we will see where that blockage is. We’ll see in the local authorities—you know yourself that there are local authorities that have very good and quick delivery of adaptations, and others that aren’t so quick. So, again, we will be able to identify those blockages much more easily. Rwy'n meddwl bod y rhoi ar waith—wyddoch chi, rwy’n dweud yn union yr un peth â’r comisiynydd pobl hŷn: mae'r rhoi ar waith yn hollbwysig. Mae'n iawn cael cynllun, ond, os nad yw'n cael ei roi ar waith yn y ffordd gywir, yn amlwg, ni chawn y gwelliant yr hoffem i gyd ei weld. A hoffwn i'r gwerthusiad ddangos ble mae'r rhwystrau, oherwydd, yn amlwg, mae yna rwystrau. Os ydych yn gweld pa mor anghyson yw’r ddarpariaeth ledled Cymru, gallwch ganfod y rhwystrau. Felly, drwy gasglu’r data hwnnw—. Felly, ar gyfer pob addasiad sy'n cael ei osod yng nghartref rhywun, byddwn nawr yn cael y data hwnnw. Felly, byddwn yn gallu monitro hynny’n llawer mwy gofalus. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu am beidio â gwneud y grantiau cyfleusterau i bobl anabl, am beidio â’u cadarnhau’n ddigon cyflym, felly cawn weld ble mae’r rhwystr hwnnw. Cawn weld yn yr awdurdodau lleol—rydych yn gwybod eich hun bod rhai awdurdodau lleol yn darparu addasiadau’n dda iawn ac yn gyflym, a bod rhai eraill yn arafach. Felly, unwaith eto, byddwn yn gallu canfod y rhwystrau hynny’n llawer haws.
You mentioned about customer service satisfaction and, again, alongside the evaluation of every adaptation the provider of that adaptation will then, on completion, provide a form to the person who’s received the adaptation and we will be able to find out the levels of customer satisfaction. I mentioned I was given £4 million of new money to support this scheme in the first year. You questioned the 10 per cent cut to the budget of Care and Repair, for instance. You’ll appreciate all our budgets have taken significant cuts in certain areas, but I have had meetings with Care and Repair over the past 18 months to ensure that front-line services won’t be affected and I’ve had that assurance. I think it’s really important that, going over the next year, we do pick up from the evaluation the lessons learned to ensure that we are able to, as I say, identify blockages and see where we can improve services. Soniasoch am fodlonrwydd cwsmeriaid â gwasanaethau ac, unwaith eto, ochr yn ochr â gwerthuso pob addasiad bydd darparwr yr addasiad hwnnw wedyn, ar ôl ei gwblhau, yn darparu ffurflen i'r unigolyn sydd wedi cael yr addasiad a byddwn yn gallu canfod lefelau boddhad cwsmeriaid. Soniais fy mod wedi cael £4 miliwn o arian newydd i gefnogi’r cynllun hwn yn y flwyddyn gyntaf. Gwnaethoch gwestiynu’r toriad 10 y cant i gyllideb Gofal a Thrwsio, er enghraifft. Byddwch yn gwerthfawrogi bod ein cyllidebau ni i gyd wedi cael toriadau sylweddol mewn rhai meysydd, ond rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda Gofal a Thrwsio dros y 18 mis diwethaf i sicrhau na fydd hyn yn effeithio ar wasanaethau rheng flaen, ac rwyf wedi cael y sicrwydd hwnnw. Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod, dros y flwyddyn nesaf, yn dysgu gwersi o'r gwerthusiad i sicrhau ein bod yn gallu, fel y dywedais, canfod rhwystrau a gweld lle y gallwn wella gwasanaethau.
You asked about information and advice to individuals and that will be part of the communications plan. Again, as I say, there will be a lull before the election but I have set aside funding for a communications plan that will ensure members of the public, health professionals, GPs and Citizens Advice bureaux will have key fact sheets, or—. We will make sure that information gets out much more readily. Gwnaethoch ofyn am wybodaeth a chyngor i unigolion, a bydd hynny’n rhan o'r cynllun cyfathrebu. Unwaith eto, fel y dywedais, bydd cyfnod tawel cyn yr etholiad, ond rwyf wedi neilltuo cyllid ar gyfer cynllun cyfathrebu a fydd yn sicrhau bod aelodau o'r cyhoedd, gweithwyr iechyd proffesiynol, meddygon teulu a chanolfannau Cyngor ar Bopeth yn cael taflenni ffeithiau allweddol, neu—. Byddwn yn sicrhau bod gwybodaeth yn mynd allan yn llawer haws.
14:39 - Mike Hedges
Minister, I really welcome the proposed speeding up of small adaptations. From my experience of being an elected politician for over a quarter of a century, most of the adaptations people come and ask for are small adaptations. You sometimes get people telling them they need a lot more but often what they are asking for are very small minor adaptations to make living in their home so much easier. And I also know over 30,000 older people have been helped by Care and Repair services according to the most recent figures. I’m sure the Minister will join with me in congratulating Care and Repair for the excellent job they do in providing small, easy changes in people’s homes, which are making such a difference and, in many cases, allow people to stay at home. Weinidog, rwyf wir yn croesawu'r cynnig i gyflymu addasiadau bach. O fy mhrofiad i o fod yn wleidydd etholedig ers dros chwarter canrif, addasiadau bach yw’r rhan fwyaf o'r addasiadau y mae pobl yn dod i ofyn amdanynt. Weithiau, cewch bobl yn dweud wrthynt bod angen llawer mwy arnynt ond yn aml yr hyn y maent yn gofyn amdanynt yw mân addasiadau bach iawn i’w gwneud hi gymaint yn haws byw yn eu cartref. Ac rwyf hefyd yn gwybod bod dros 30,000 o bobl hŷn wedi cael cymorth gan y gwasanaethau Gofal a Thrwsio yn ôl y ffigurau diweddaraf. Rwy'n siŵr y gwnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch Gofal a Thrwsio ar y gwaith ardderchog y maent yn ei wneud i ddarparu newidiadau bach, hawdd yng nghartrefi pobl, sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth ac, mewn llawer o achosion, yn caniatáu i bobl aros yn eu cartrefi.
I know in my constituency that adaptations work is playing a hugely important role in improving the quality of life of many of the older citizens who require help to make their homes more suited to their needs. I also know that the delivery of adaptations needs to improve—as you said, Minister, earlier. What more can the Welsh Government do, working with the agencies and organisations who are delivering these services on a day-to-day basis, to improve the service to ensure that more people can stay in their homes where they want to stay? Rwy’n gwybod yn fy etholaeth i bod gwaith addasiadau yn chwarae rhan hynod o bwysig o ran gwella ansawdd bywyd llawer o’r dinasyddion hŷn sydd ag angen cymorth i wneud eu cartrefi'n fwy addas i'w hanghenion. Rwyf hefyd yn gwybod bod angen gwella darpariaeth addasiadau—fel y dywedasoch, Weinidog, yn gynharach. Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, gan weithio gyda'r asiantaethau a'r sefydliadau sy'n darparu'r gwasanaethau hyn bob dydd, i wella'r gwasanaeth i sicrhau y gall mwy o bobl aros yn eu cartrefi lle y maent yn dymuno aros?
14:40 - Lesley Griffiths
I thank Mike Hedges for those questions, and I absolutely join you in congratulating the fantastic work that Care and Repair do, as you say—30,000 adaptations a year. Some of them are very small and are done within the seven days target that we’ve now got. Many are done on the same day, particularly if somebody is waiting to come out of hospital and that’s what they need to ensure they’re discharged on time. I remember visiting a lady in Newport—I’m not sure if it was in Newport West or in Newport East, because both John Griffiths and Rosemary Butler were with me—but there was a lady in her nineties who’d had, simply, two hand rails, and, you know, it had turned her life around. So, we can see that very small adaptations sometimes can make a huge difference to somebody’s quality of life. I mentioned that we’ll be having this evaluation over the next year. I think it’s really important that, if we are to help providers deliver much more consistently and much more effectively, we know where the difficulties are and we can work with the providers to ensure that we overcome them. Diolch i Mike Hedges am y cwestiynau yna, ac rwy’n sicr yn ymuno â chi i longyfarch gwaith gwych Gofal a Thrwsio, fel y dywedwch—30,000 o addasiadau y flwyddyn. Mae rhai ohonynt yn fach iawn ac yn cael eu gwneud o fewn y targed saith diwrnod sydd gennym erbyn hyn. Mae llawer yn cael eu gwneud ar yr un diwrnod, yn enwedig os oes rhywun yn aros i ddod allan o'r ysbyty ac mai dyna beth sydd ei angen arnynt i sicrhau eu bod yn cael eu rhyddhau ar amser. Rwy’n cofio ymweld â menyw yng Nghasnewydd—nid wyf yn siŵr ai yng Ngorllewin Casnewydd ynteu yn Nwyrain Casnewydd oedd hyn, oherwydd roedd John Griffiths a Rosemary Butler ill dau gyda mi—ond roedd menyw yno yn ei nawdegau a oedd wedi cael, yn syml, dwy o reiliau llaw, a, wyddoch chi, roedd hynny wedi gweddnewid ei bywyd. Felly, gallwn weld bod addasiadau bach iawn weithiau’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i ansawdd bywyd rhywun. Soniais y byddwn yn cael y gwerthusiad hwn dros y flwyddyn nesaf. Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig iawn, os ydym am helpu darparwyr i ddarparu’n llawer mwy cyson ac yn llawer mwy effeithiol, ein bod yn gwybod ble mae’r anawsterau ac y gallwn weithio gyda'r darparwyr i sicrhau ein bod yn eu goresgyn.
14:41 - Jocelyn Davies
Minister, of course, this system, the home adaptations system, has been looked at, I think, at least six times that I can remember—indeed, once while I was Minister—and each time problems have been identified and improvements then, of course, promised, and then we see similar issues being picked up again by the next review. I think it’s quite depressing that something that’s been a priority for so long continues to have perennial problems. You outlined the importance of the adaptations in helping people live independently and safely in their own home for as long as possible, and I’m sure you’d agree that it’s been frustrating that the system’s remained so patchy, with some, I have to say, excellent services being provided in some areas, but also with too many people waiting too long in others. Now, your review last year set out a number of clear recommendations to spread the pockets of very good practice across Wales, and I’d like to thank you today, Minister, for bringing this statement and reiterate my hope that the next review will say that the improvements have been made. And I’m very pleased to hear that evaluation is going to be built into the system, because I think that’s vitally important. So, how will this new system then spread that good practice across Wales, and how will you ensure that we’ll see improvement in all local authority areas? And will the evaluation be right across the country, and will it be published so we’ll be able to see where people are not getting the service they deserve? Weinidog, wrth gwrs, mae’r system hon, y system addasiadau i'r cartref, wedi cael sylw, rwy’n meddwl, o leiaf chwe gwaith i mi gofio—yn wir, unwaith tra’r oeddwn i’n Weinidog—a bob amser mae problemau wedi cael eu nodi a gwelliannau wedyn, wrth gwrs, wedi eu haddo, ac yna mae’r adolygiad nesaf yn canfod problemau tebyg eto. Rwy'n meddwl ei bod yn eithaf digalon bod rhywbeth sydd wedi bod yn flaenoriaeth ers cyn hired yn dal i wynebu problemau parhaus. Gwnaethoch amlinellu pwysigrwydd yr addasiadau o ran helpu pobl i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y bo modd, ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno ei bod wedi bod yn rhwystredig bod y system wedi parhau i fod mor anghyson, a bod rhai, mae'n rhaid i mi ddweud, gwasanaethau rhagorol yn cael eu darparu mewn rhai ardaloedd, ond bod gormod o bobl hefyd yn aros yn rhy hir mewn ardaloedd eraill. Nawr, roedd eich adolygiad y llynedd yn nodi nifer o argymhellion clir i ledaenu'r enghreifftiau o arfer da iawn ledled Cymru, a hoffwn ddiolch i chi heddiw, Weinidog, am wneud y datganiad hwn ac ailadrodd fy ngobaith y bydd yr adolygiad nesaf yn dweud bod y gwelliannau wedi eu gwneud. Ac rwy’n falch iawn o glywed y bydd gwerthuso wedi’i gynnwys yn y system, oherwydd rwy’n meddwl bod hynny'n hollbwysig. Felly, sut y bydd y system newydd hon yna’n lledaenu'r arfer da hwnnw ledled Cymru, a sut y byddwch yn sicrhau y byddwn yn gweld gwelliant ym mhob ardal awdurdod lleol? Ac a fydd y gwerthuso’n digwydd ledled y wlad i gyd, ac a fydd yn cael ei gyhoeddi fel y gallwn weld lle nad yw pobl yn cael y gwasanaeth y maent yn ei haeddu?
You mentioned health professionals in your statement and in answer to Mark Isherwood, and I hope that it’s not just a one-off awareness-raising campaign. So, will you be monitoring, or how will you be monitoring, if health professionals are taking up the opportunities to get information? And perhaps you’ll let us know if it’s going to be part of their training. Soniasoch am weithwyr iechyd proffesiynol yn eich datganiad ac wrth ateb Mark Isherwood, ac rwy’n gobeithio nad dim ond ymgyrch codi ymwybyddiaeth untro yw hon. Felly, a fyddwch yn monitro, neu sut y byddwch yn monitro, pa un a yw gweithwyr iechyd proffesiynol yn manteisio ar y cyfleoedd i gael gwybodaeth? Ac efallai y rhowch wybod inni os bydd hynny’n rhan o'u hyfforddiant.
And just my last question: do you see a time when these things will no longer be means tested—I know that they’re not means tested for everything—but can you envisage a time when we’ll just do away with the means test on disabled adaptations? A fy nghwestiwn olaf: a ydych chi'n gweld adeg pan na fydd y pethau hyn mwyach yn destun prawf modd—rwy’n gwybod nad yw pob un yn destun prawf modd—ond a allwch chi ragweld adeg pan fyddwn yn cael gwared â'r prawf modd ar gyfer addasiadau i bobl anabl?
14:43 - Lesley Griffiths
I thank Jocelyn Davies for those questions. We’ll start with the last one, and, you know, we won’t be means testing the very small adaptations, which is one of the ways I think we’ll get over the bureaucracy and we’ll be able to speed up those very small adaptations. It would be great not to means test, but there just isn’t the funding available. Looking to the future, if things improve financially, who knows, but at the moment there just isn’t the budget to have that. Diolch i Jocelyn Davies am y cwestiynau yna. Dechreuwn â’r un olaf, a, wyddoch chi, ni fyddwn yn cynnal profion modd ar gyfer yr addasiadau bach iawn, sy'n un o'r ffyrdd yr wyf yn meddwl y byddwn yn goresgyn y fiwrocratiaeth ac y byddwn yn gallu cyflymu’r addasiadau bach iawn hynny. Byddai'n wych peidio â chynnal profion modd, ond nid oes digon o arian ar gael. Wrth edrych i'r dyfodol, pe byddai pethau'n gwella yn ariannol, pwy a ŵyr, ond ar hyn o bryd nid oes gennym y gyllideb i wneud hynny.
You’re quite right, there are excellent services, but it is patchy and it is inconsistent across Wales, and it would have been good to see that best practice shared out much more consistently, but unfortunately it wasn’t. We’ve sort of relied on local authorities to do this, and I think the difference with this system is that we are, as a Welsh Government, sort of rolling this out now and we’re taking much more responsibility for it. I mentioned that I was very pleased that the WLGA have signed up the local authorities and committed to the scheme, and Community Housing Cymru have done the same for housing associations. The evaluation will be right across Wales. The evaluation will be reported to this Assembly. There will be an interim evaluation to the Minister part way through the year, but I think it is important that we are able to identify very quickly that the system is improving. Rydych yn llygad eich lle, mae rhai gwasanaethau rhagorol, ond mae'n dameidiog ac mae'n anghyson ledled Cymru, a byddai wedi bod yn braf gweld yr arfer gorau hwnnw’n cael ei rannu’n llawer mwy cyson, ond yn anffodus nid oedd hynny’n digwydd. Rydym wedi dibynnu i raddau ar awdurdodau lleol i wneud hyn, ac rwy’n meddwl mai’r gwahaniaeth gyda'r system hon yw ein bod ni, fel Llywodraeth Cymru, yn rhyw fath o gyflwyno hyn nawr ac yn cymryd llawer mwy o gyfrifoldeb amdano. Dywedais fy mod yn falch iawn bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ymrwymo’r awdurdodau lleol i'r cynllun, a bod Cartrefi Cymunedol Cymru wedi gwneud yr un peth ar gyfer cymdeithasau tai. Bydd y gwerthuso’n digwydd ledled Cymru gyfan. Bydd y Cynulliad hwn yn cael adroddiadau am y gwerthuso. Gwneir gwerthusiad dros dro i'r Gweinidog yn ystod y flwyddyn, ond rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn gallu gweld yn gyflym iawn bod y system yn gwella.
14:45 - Peter Black
Minister, can I first of all welcome the statement? As Jocelyn Davies has said, I think we’ve had at least five or six of these reviews of the system, certainly while I’ve been here—all 17 years in this Assembly—including maybe two or three committee reports and a couple of Government reviews as well. The latest statistics available in terms of disabled facilities grants show that, of the 22 local authorities, 17 are delivering their DFGs an average number of calendar days—. More than six months—they’re taking more than six months to deliver their DFGs, which I think is quite appalling. There is certainly some consistency there, but that consistency is not necessarily in favour of those who are reliant on those adaptations being delivered quickly. I am concerned, given that the last committee report was in July 2013, that the Minister—I’m not sure whether it was you—responded to it in September 2013 and the last report, which you referred to in your statement, was January 2015, which is now 14 months ago. Why is it taking so long to actually address this problem? Why are we only getting a statement now when not only have previous committees highlighted this, but there have been two reports over a year and two years ago looking at this particular issue? I am concerned it’s taking so long in terms of that. Weinidog, a gaf i'n gyntaf oll groesawu'r datganiad? Fel y mae Jocelyn Davies wedi'i ddweud, rwy’n meddwl ein bod wedi cael o leiaf pump neu chwech o'r adolygiadau hyn o’r system, yn sicr ers i mi fod yma—17 mlynedd i gyd yn y Cynulliad hwn—gan gynnwys efallai ddau neu dri adroddiad pwyllgor ac un neu ddau o adolygiadau Llywodraeth hefyd. Mae'r ystadegau diweddaraf sydd ar gael o ran grantiau cyfleusterau i bobl anabl yn dangos, o'r 22 awdurdod lleol, bod 17 yn darparu’r grantiau hyn ar nifer cyfartalog o ddiwrnodau calendr—. Mwy na chwe mis—maent yn cymryd mwy na chwe mis i ddarparu’r grantiau hyn, ac rwy’n meddwl bod hynny’n eithaf trychinebus. Yn sicr ceir rhywfaint o gysondeb yno, ond nid yw’r cysondeb hwnnw o reidrwydd o blaid y bobl sy'n dibynnu ar ddarparu’r addasiadau hynny’n gyflym. Rwy’n pryderu, o gofio mai ym mis Gorffennaf 2013 oedd adroddiad diwethaf y pwyllgor, bod y Gweinidog—nid wyf yn siŵr ai chi ydoedd—wedi ymateb iddo ym mis Medi 2013 a bod yr adroddiad diwethaf, y gwnaethoch sôn amdano yn eich datganiad, yn Ionawr 2015, sydd bellach 14 mis yn ôl. Pam mae’n cymryd cymaint o amser i ddatrys y broblem hon yn iawn? Pam mai dim ond nawr yr ydym yn cael datganiad? Nid yn unig y mae pwyllgorau blaenorol wedi tynnu sylw at hyn, ond bu dau adroddiad dros flwyddyn yn ôl a dwy flynedd yn ôl yn edrych ar y mater penodol hwn. Rwy’n pryderu ei bod yn cymryd cymaint o amser ar gyfer hynny.
If I could just refer to the committee’s report back in July 2013 and, in particular, one aspect that relates to your statement, the committee recommended that we should have a look at the performance indicators that are available, and which I’ve just referred to, in terms of DFGs and provide a number of solutions to that. The Minister at the time rejected that recommendation on the grounds that the objective is to reduce the number of performance indicators, not increase them. Os caf gyfeirio at adroddiad y pwyllgor yn ôl ym mis Gorffennaf 2013 ac, yn arbennig, at un agwedd sy'n ymwneud â'ch datganiad, argymhellodd y pwyllgor y dylem edrych ar y dangosyddion perfformiad sydd ar gael, ac yr wyf newydd gyfeirio atynt, o ran grantiau cyfleusterau i bobl anabl a darparu nifer o atebion i hynny. Gwrthododd y Gweinidog ar y pryd yr argymhelliad hwnnw ar y sail mai’r amcan yw lleihau nifer y dangosyddion perfformiad, nid eu cynyddu.
In your statement, you now say: Yn eich datganiad, rydych nawr yn dweud:
‘There will be a comprehensive system for monitoring and reporting performance, one core set of information covering all adaptations by all providers, not just Disabled Facilities Grants.’ 'Bydd system gynhwysfawr ar gyfer monitro perfformiad a llunio adroddiadau, un gyfres graidd o wybodaeth sy'n cynnwys pob addasiad gan bob darparwr, nid dim ond Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl.'
Could you therefore clarify whether the current national and strategic indicators that I’ve referred to will now be scrapped and replaced with an alternative indicator, or will there be additional indicators on top of that? And what exactly will you be measuring from now on? The current indicators, as I understand it, measure from the initial enquiry to completion. Will you be measuring a different time period? Will there be a strategic indicator in relation to quality? Can you just give us some more information as to what exactly these indicators are now going to be that will enable us to actually monitor how effective your new system is? Felly, a allwch chi egluro pa un a fydd y dangosyddion cenedlaethol a strategol presennol yr wyf wedi cyfeirio atynt yn cael eu dileu nawr a'u disodli â dangosydd arall, ynteu a fydd dangosyddion ychwanegol ar ben hynny? A beth yn union y byddwch chi'n ei fesur o hyn ymlaen? Mae'r dangosyddion presennol, fel y deallaf, yn mesur o'r ymholiad cychwynnol hyd at gwblhau. A fyddwch yn mesur cyfnod gwahanol? A fydd yna ddangosydd strategol yn ymwneud ag ansawdd? A allwch roi ychydig mwy o wybodaeth inni ynglŷn â beth yn union fydd y dangosyddion hyn bellach, a fydd yn ein galluogi i fonitro pa mor effeithiol yw eich system newydd mewn gwirionedd?
Another recommendation of the committee report was that there should be a single point of entry to the system within each local authority area. You haven’t actually referred to that in your statement, but I’m interested, given that you’ve been working with both housing associations and local authorities, is it your intention that there will now be a single point of entry for these queries or are you still relying on the split between housing associations and local authorities, albeit operating a similar or the same system? Un arall o argymhellion adroddiad y pwyllgor oedd y dylai fod un pwynt mynediad i'r system o fewn pob ardal awdurdod lleol. Nid ydych wedi cyfeirio mewn gwirionedd at hynny yn eich datganiad, ond mae gennyf ddiddordeb, o ystyried eich bod wedi bod yn gweithio gyda chymdeithasau tai a gydag awdurdodau lleol, ai eich bwriad yw y bydd yna un pwynt mynediad yn awr ar gyfer yr ymholiadau hyn ynteu a ydych chi'n dal i ddibynnu ar y rhaniad rhwng cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol, er y byddant yn gweithredu system debyg neu'r un system?
In terms of further recommendations of the committee, one of the recommendations in relation to the means test was that the Government should conduct a cost-benefit analysis of the means test and report back to the committee on its conclusions. You said that the means test will be abolished in relation to the very small adaptations. Are you carrying out a cost-benefit analysis in relation to the other adaptations in terms of that? O ran argymhellion ychwanegol y pwyllgor, un o'r argymhellion ynglŷn â'r prawf modd oedd y dylai'r Llywodraeth gynnal dadansoddiad cost a budd o’r prawf modd ac adrodd yn ôl i'r pwyllgor am eu casgliadau. Dywedasoch y bydd y prawf modd yn cael ei ddiddymu o ran yr addasiadau bach iawn. A ydych chi'n cynnal dadansoddiad cost a budd o’r addasiadau eraill ynglŷn â hynny?
Finally, Minister, in relation to those housing associations that are stock transfer associations, there are particular issues in relation to those because, of course, they can’t access the same funds that other housing associations can and rely on their business plans in relation to that. I’ve had casework—and I know you’ve written to me today about one of those issues that I’ve raised with you—where, with a large-scale adaptation, the LSVT has effectively tried to farm it off on the local authority and not given the relevant support to their tenant. How will that now work in this new system with those LSVTs? Will they now be subject to the same regime as other housing associations? Will they have the same access to funds as other housing associations? Will there be a duty on them to work more closely with local authorities? Thank you. Yn olaf, Weinidog, o ran y cymdeithasau tai hynny sy'n gymdeithasau trosglwyddo stoc, ceir materion penodol ynglŷn â'r rheini oherwydd, wrth gwrs, ni allant gael gafael ar yr un arian â chymdeithasau tai eraill ac maent yn dibynnu ar eu cynlluniau busnes yn hynny o beth. Rwyf wedi cael gwaith achos—ac rwy’n gwybod eich bod wedi ysgrifennu ataf heddiw am un o'r materion hynny yr wyf wedi’u codi gyda chi—lle, gydag addasiad ar raddfa fawr, mae'r gymdeithas TSRF i bob diben wedi ceisio ei drosglwyddo i’r awdurdod lleol heb roi’r gefnogaeth berthnasol i'w tenant. Sut y bydd hynny’n gweithio bellach yn y drefn newydd gyda’r cymdeithasau TSRF hynny? A fyddant bellach yn ddarostyngedig i'r un drefn â chymdeithasau tai eraill? A fydd yr un cronfeydd ar gael iddynt ag i gymdeithasau tai eraill? A fydd dyletswydd arnynt i weithio'n agosach gydag awdurdodau lleol? Diolch.
14:49 - Lesley Griffiths
I thank Peter Black for his questions. No, I wasn’t the Minister in September 2013, but I was the Minister in January 2015 when, as you say, this review came forward. I mentioned previously that I thought it was right to take time to get it right this time so that we don’t have to have yet another review. Diolch i Peter Black am ei gwestiynau. Na, nid fi oedd y Gweinidog ym mis Medi 2013, ond fi oedd y Gweinidog ym mis Ionawr 2015 pryd, fel y dywedwch, y daeth yr adolygiad hwn i'r amlwg. Rwyf eisoes wedi dweud fy mod yn meddwl ei bod yn iawn i gymryd amser i wneud hyn yn iawn y tro hwn fel nad oes rhaid inni gael adolygiad arall eto.
You ask whether there will be a single point. Well, we won’t have a one-stop shop, for instance, but I don’t want people to have to go round and round the houses. If they apply for an adaptation to a local authority or to a housing association, I want it to be done as seamlessly as possible, and I think the system we’ve brought forward now will help in that way. Rydych yn gofyn a fydd un pwynt. Wel, ni fydd gennym siop un stop, er enghraifft, ond nid wyf eisiau i bobl orfod mynd i sawl gwahanol fan. Os ydynt yn gwneud cais am addasiad i awdurdod lleol neu i gymdeithas dai, hoffwn i hynny gael ei wneud mewn modd mor ddi-dor â phosibl, ac rwy’n meddwl y bydd y system yr ydym wedi’i chyflwyno nawr yn helpu yn y ffordd honno.
In relation to disabled facilities grants, they can take a long time to deliver, but that could be for a multitude of reasons: the scale of the work or whether there are delays requested by the applicant, for instance. But I think the statistics do hide the fact that a significant number of adaptations are carried out very quickly and with the minimum of bureaucracy. I think the fact that we will have this data, which we haven’t had before, and the way it’s going to be collected now will give us a much fuller picture of what’s being done, where the problem is and if there’s a blockage in the system. O ran grantiau cyfleusterau i bobl anabl, gall gymryd amser hir i’w darparu, ond gallai hynny fod am lu o resymau: maint y gwaith neu pan fo'r ymgeisydd wedi gofyn am oedi, er enghraifft. Ond rwy'n meddwl bod yr ystadegau’n cuddio'r ffaith bod nifer sylweddol o addasiadau’n cael eu cynnal yn gyflym iawn a gyda chyn lleied â phosibl o fiwrocratiaeth. Rwy'n meddwl y bydd y ffaith y bydd y data hwn gennym, nad oedd gennym o'r blaen, a'r ffordd y caiff ei gasglu bellach yn rhoi darlun llawer llawnach inni o'r hyn sy'n cael ei wneud, ble mae'r broblem ac a oes rhwystr yn y system.
You asked about the DFGs indicator; I’ve got no plans to change the indicators immediately, but I think the enhanced system will provide much more comprehensive information on what’s delivered. DFGs are only one part of the system. Independent evaluation will show us where there might possibly be a need for changes to performance indicators. I think that’s something we can look at over the year. Gofynasoch am y dangosydd grantiau cyfleusterau i bobl anabl; nid oes gennyf unrhyw gynlluniau i newid y dangosyddion ar unwaith, ond rwy'n credu y bydd y system well yn darparu gwybodaeth lawer mwy cynhwysfawr am yr hyn sy'n cael ei ddarparu. Dim ond un rhan o'r system yw’r grantiau hyn. Bydd gwerthusiad annibynnol yn dangos inni lle y gallai o bosibl fod angen newid y dangosyddion perfformiad. Rwy'n meddwl bod hynny'n rhywbeth y gallwn edrych arno yn ystod y flwyddyn.
You asked me regarding means-tested adaptations. Obviously, the very small adaptations won’t be means tested. In relation to the small and large, they will be and we will have to look at the data around those two, going forward with the evaluation. It’s really important that housing associations—and you referred to the ones that have had the stock transfer—work more closely with local authorities. That’s something that, again, we can look at as we take the evaluation forward. Gwnaethoch ofyn imi am addasiadau sy’n destun prawf modd. Yn amlwg, ni fydd yr addasiadau bach iawn yn destun prawf modd. O ran y rhai bach a mawr, byddant yn destun prawf modd a bydd yn rhaid inni edrych ar y data ynglŷn â’r rheini, wrth fwrw ymlaen â’r gwerthusiad. Mae'n bwysig iawn bod cymdeithasau tai—a gwnaethoch gyfeirio at y rhai sydd wedi cael y trosglwyddiad stoc—yn gweithio’n agosach gydag awdurdodau lleol. Mae hynny'n rhywbeth y gallwn, unwaith eto, edrych arno wrth inni fwrw ymlaen â’r gwerthusiad.
14:52 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Thank you, Minister. Diolch, Weinidog.
4. The Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (Consequential Amendments) Regulations 2016 4. Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016
We now move to item 4, which is the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (Consequential Amendments) Regulations 2016, and I call on the Minister for Health and Social Services—Mark Drakeford. Symudwn yn awr at eitem 4, sef Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Gwelliannau Canlyniadol) 2016, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—Mark Drakeford.
Cynnig NDM5999 Jane Hutt Motion NDM5999 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2016. Approves that the draft The Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (Consequential Amendments) Regulations 2016 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 9 February 2016.
Cynigiwyd y cynnig. Motion moved.
14:52 - Mark Drakeford
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n cynnig y cynnig. Thank you, Presiding Officer. I move the motion.
Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn uno dyletswyddau a swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â gwella llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, mewn un Ddeddf. The Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 merges the functions and duties of local authorities in relation to improving the wellbeing of those needing care and support, and the carers who need support, in one Act.
Mae’n darparu fframwaith statudol i gyflawni ymrwymiad ar y cyd i ganolbwyntio ar lesiant, hawliau a chyfrifoldebau. It provides a statutory framework to provide a joint commitment to concentrate on wellbeing, rights and responsibilities.
Llywydd, in order for the 2014 Act to achieve its goal of reforming social services in Wales, there are a number of amendments that must be made to existing legislation. These regulations before the Assembly this afternoon amend and, in some cases, repeal the primary legislation that currently underpins the provision of care and support for people and support for carers in Wales, because that previous legislation will now be overtaken by the 2014 Act, when it comes into force on 6 April this year. Lywydd, er mwyn i Ddeddf 2014 gyflawni ei nod o ddiwygio gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, mae’n rhaid gwneud nifer o welliannau i'r ddeddfwriaeth bresennol. Mae'r rheoliadau hyn gerbron y Cynulliad y prynhawn yma yn diwygio ac, mewn rhai achosion, yn diddymu'r ddeddfwriaeth sylfaenol sydd ar hyn o bryd yn sail i ddarpariaeth gofal a chymorth i bobl a chefnogaeth i ofalwyr yng Nghymru, oherwydd bydd y ddeddfwriaeth flaenorol honno bellach yn cael ei disodli gan Ddeddf 2014, pan ddaw i rym ar 6 Ebrill eleni.
The regulations are necessary to ensure that there is no duplication or overlapping of functions under the 2014 Act, and functions under existing primary legislation. Mae angen y rheoliadau i sicrhau nad oes unrhyw ddyblygu na gorgyffwrdd rhwng swyddogaethau o dan Ddeddf 2014, a swyddogaethau o dan y ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol.
It is also necessary to make consequential amendments to other primary legislation, which refers to provisions that are being amended or repealed by the regulations. The Schedule to the regulations contains transitional and saving provisions in connection with the amendments made by the regulations. The effect of these provisions will be to preserve the application of the current law to people currently receiving care and support. This will ensure a smooth transition takes place for such individuals into the arrangements post 6 April. There will be further transitional provisions for the same purpose, as part of the commencement Order bringing the Act into force on 6 April 2016. Hefyd, mae angen gwneud gwelliannau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol arall, sy'n cyfeirio at ddarpariaethau sy'n cael eu diwygio neu eu diddymu gan y rheoliadau. Mae'r Atodlen i'r rheoliadau’n cynnwys darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed mewn cysylltiad â'r diwygiadau y mae’r rheoliadau’n eu gwneud. Effaith y darpariaethau hyn fydd parhau i gymhwyso'r gyfraith bresennol ar gyfer pobl sydd ar hyn o bryd yn cael gofal a chymorth. Bydd hyn yn sicrhau bod trosglwyddiad didrafferth yn digwydd i unigolion o'r fath i mewn i'r trefniadau ar ôl 6 Ebrill. Ceir darpariaethau trosiannol pellach at yr un diben, yn rhan o'r Gorchymyn cychwyn sy’n dod â'r Ddeddf i rym ar 6 Ebrill 2016.
Llywydd, the provision in these regulations taken together with the transitional provisions in the commencement Order are necessary to ensure that the law for children and adults passed by this Assembly will be introduced in an orderly and effective fashion and I ask Members to support them. Lywydd, mae angen y ddarpariaeth yn y rheoliadau hyn ynghyd â'r darpariaethau trosiannol yn y Gorchymyn cychwyn i sicrhau y bydd y gyfraith ar gyfer plant ac oedolion a basiwyd gan y Cynulliad hwn yn cael ei chyflwyno’n drefnus ac yn effeithiol ac rwy’n gofyn i'r Aelodau eu cefnogi.
14:54 - Altaf Hussain
The Welsh Conservatives will be supporting these regulations, but I wanted to put on record my thanks to my colleague, William Graham, and to the former Deputy Minister, Gwenda Thomas for delivering the social services and wellbeing Act. Bydd Ceidwadwyr Cymru yn cefnogi'r rheoliadau hyn, ond roedd arnaf eisiau cofnodi fy niolch i fy nghyd-Aelod, William Graham, ac i'r cyn Ddirprwy Weinidog, Gwenda Thomas, am ddarparu'r Deddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant.
It is a fitting legacy that the day these two Members retire is the day that this new way of delivering social services comes into force. This Act is one of the greatest achievements of this Assembly and, as one of the newest Members, I would like to thank all those who have worked so hard to improve the delivery of social care, and I am pleased I was able to play a small part. Thank you. Mae'n etifeddiaeth addas mai’r diwrnod y mae’r ddau Aelod hyn yn ymddeol yw'r diwrnod y mae’r ffordd newydd hon o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol yn dod i rym. Mae'r Ddeddf hon yn un o lwyddiannau mwyaf y Cynulliad hwn ac, fel un o'r Aelodau mwyaf newydd, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed i wella darpariaeth gofal cymdeithasol, ac rwy’n falch fy mod wedi gallu chwarae rhan fach. Diolch.
14:55 - Lindsay Whittle
Llywydd, I echo most of Altaf Hussain’s sentiments, of course. There have been some concerns expressed from some quarters, including the Carers Trust, about these regulations. I also note that the Association of Directors of Social Services fully support the regulations, as do I. But, I have to agree with the Carers Trust, Minister, that a stronger reference could be made, perhaps, to ensuring that further and higher education needs of young carers, in particular aged 16 to 24, must be catered for in any carers support plans. But, I would agree that, overall, the Act’s regulations are there to make sure that individuals whose needs cannot be met informally will be eligible to seek and get support and care from social services. We fully support the Act. Lywydd, rwy’n ategu’r rhan fwyaf o deimladau Altaf Hussain, wrth gwrs. Mae rhai pryderon wedi eu mynegi gan rai pobl, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, am y rheoliadau hyn. Rwyf hefyd yn nodi bod y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn cefnogi'r rheoliadau, fel finnau. Ond, mae’n rhaid imi gytuno â'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr, Weinidog, y gellid gwneud cyfeiriad cryfach, efallai, at sicrhau bod yn rhaid diwallu anghenion addysg bellach ac addysg uwch gofalwyr ifanc, yn enwedig y rhai rhwng 16 a 24 oed, mewn unrhyw gynlluniau cymorth i ofalwyr. Ond, byddwn yn cytuno, ar y cyfan, bod rheoliadau'r Ddeddf yno i wneud yn siŵr y bydd unigolion na ellir diwallu eu hanghenion yn anffurfiol yn gymwys i geisio a chael cymorth a gofal gan y gwasanaethau cymdeithasol. Rydym yn llwyr gefnogi’r Ddeddf.
14:56 - Kirsty Williams
Now, I’m aware that the Minister is very fond of reminding me that the Act is a fact and that I have to learn to live with it, but I continue, as does my group, to have grave concerns about the consequences of this legislation. Far from Altaf Hussain hailing it as being one of the stand-out moments of this National Assembly for Wales, I am deeply concerned about the effects that this legislation will have on some of the most vulnerable people in our communities Nawr, rwy'n ymwybodol bod y Gweinidog yn hoff iawn o’m hatgoffa bod y Ddeddf yn ffaith, a bod yn rhaid imi ddysgu byw gyda hi, ond mae gennyf i, a fy ngrŵp, bryderon difrifol o hyd am ganlyniadau’r ddeddfwriaeth hon. Ymhell o honiad Altaf Hussain ei bod yn un o uchafbwyntiau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rwy’n bryderus iawn am yr effeithiau a gaiff y ddeddfwriaeth hon ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
The Minister didn’t use the word ‘technical’, but just to inform Members, these amendments and changes here in the regulations are far from technical in nature, as they, as the Minister said, repeal rights that have already been accrued under the law for certain citizens. We have to be absolutely clear that we are not rowing back on rights and entitlements that were previously enjoyed by individuals. In that regard, for instance, I am concerned—and I’ve had concerns expressed to me—if we turn to page 83, which is modifications to section 53, with regard, for instance, to the right of carers to a direct payment and the circumstances when that may be available, it seems to me that, certainly, one reading of this is that the Government could be rowing back on the many promises it made about direct payments to carers during the passage of the legislation. If that is the case and that turns out to be the case, I’m deeply concerned of the effect that that will have on carers. Ni ddefnyddiodd y Gweinidog y gair 'technegol', ond dim ond i roi gwybod i Aelodau, mae’r gwelliannau a’r newidiadau hyn yn y rheoliadau ymhell o fod yn dechnegol eu natur, oherwydd eu bod, fel y dywedodd y Gweinidog, yn diddymu hawliau sydd eisoes wedi eu cronni o dan y gyfraith ar gyfer dinasyddion penodol. Mae'n rhaid inni fod yn gwbl glir nad ydym yn tynnu’n ôl ar hawliau a hawliadau yr oedd unigolion yn arfer eu mwynhau. Yn hynny o beth, er enghraifft, rwy’n pryderu—ac mae pryderon wedi eu mynegi i mi—os byddwn yn troi at dudalen 83, sef addasiadau i adran 53, o ran, er enghraifft, hawl gofalwyr i gael taliad uniongyrchol a'r amgylchiadau pan y gallai hynny fod ar gael, mae'n ymddangos i mi, yn sicr, mai un ffordd o ddarllen hyn fyddai y gallai’r Llywodraeth fod yn tynnu’n ôl ar y llawer o addewidion a wnaethpwyd am daliadau uniongyrchol i ofalwyr yn ystod hynt y ddeddfwriaeth. Os yw hynny'n wir, a bod hynny’n dod yn wir, rwy'n bryderus iawn am yr effaith a gaiff hynny ar ofalwyr.
The Minister quite rightly says that the Act will come into being in April of this year, and there are widespread concerns amongst many people working in the sector, especially the third sector, about the adequacy of the preparation and training that has been undertaken. That’s not to say that the Minister and his officials haven’t put in place an education and training programme to support the implementation of the legislation to ensure that those staff will have a role in rolling out the legislation and applying the legislation to their clients, but there are grave concerns about the adequacy of that and whether people are truly in a position to be able to implement the Act as of next month. Mae’r Gweinidog yn dweud yn gwbl gywir y bydd y Ddeddf yn dod i fodolaeth ym mis Ebrill eleni, a cheir pryderon eang ymhlith llawer o bobl sy’n gweithio yn y sector, yn enwedig y trydydd sector, am ddigonolrwydd y paratoi a’r hyfforddiant sydd wedi digwydd. Nid wyf yn dweud nad yw’r Gweinidog a'i swyddogion wedi sefydlu rhaglen addysg a hyfforddiant i gynorthwyo i roi’r ddeddfwriaeth ar waith i sicrhau y bydd y staff hynny’n cael chwarae rhan yn y broses o gyflwyno’r ddeddfwriaeth a chymhwyso'r ddeddfwriaeth i'w cleientiaid, ond ceir pryderon difrifol ynghylch digonolrwydd hynny ac ynghylch pa un a yw pobl wir mewn sefyllfa i allu rhoi’r Ddeddf ar waith y mis nesaf.
The Minister will be aware of, and will know, I’m sure, personally, Professor Luke Clements at Cardiff University, one of the pre-eminent experts in this field of social care legislation. Interestingly, he advised the previous Westminster Government on social care legislation there, and I would quote the word of Professor Clements: Bydd y Gweinidog yn gwybod am yr Athro Luke Clements ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn ei adnabod yn bersonol, rwy'n siŵr; mae ef yn arbenigwr amlwg ym maes deddfwriaeth gofal cymdeithasol. Yn ddiddorol, cynghorodd y Llywodraeth flaenorol yn San Steffan ar ddeddfwriaeth gofal cymdeithasol yno, ac rwyf yn dyfynnu geiriau’r Athro Clements:
‘There is everything to be gained by allowing at least a further 6 months (ideally a year) before this enormous piece of legislation is brought into force.’ Mae popeth i'w ennill drwy ganiatáu o leiaf 6 mis arall (blwyddyn yn ddelfrydol) cyn dod â’r darn enfawr o ddeddfwriaeth hwn i rym.
I think we should heed the warning of this eminent expert in this area, because I’m not convinced that we are truly ready and practitioners are truly ready to implement the law as of April. Thank you. Rwy’n meddwl y dylem wrando ar rybudd yr arbenigwr amlwg hwn yn y maes hwn, gan nad wyf yn argyhoeddedig ein bod yn wirioneddol barod na bod ymarferwyr yn wirioneddol barod i roi’r gyfraith ar waith ym mis Ebrill. Diolch.
14:59 - Y Llywydd / The Presiding Officer
The Minister to reply to the debate. Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
14:59 - Mark Drakeford
Thank you very much, Llywydd. Well, let me begin with Kirsty Williams’s scepticism about the Act, a scepticism she has maintained throughout its passage. I entirely disagree with her. I can think of nothing more likely to cause difficulty to social services departments and those who use their services than, at this very late stage, to throw all the preparations that have been made into chaos by announcing that, on 6 April, we won’t be implementing the Act after all. I can think of nothing that would be more counter-productive than that. Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Wel, gadewch imi ddechrau ag amheuaeth Kirsty Williams am y Ddeddf, amheuaeth y mae hi wedi’i chynnal drwy gydol ei thaith. Rwyf yn anghytuno’n llwyr â hi. Ni allaf feddwl am ddim byd sy’n fwy tebygol o achosi trafferth i adrannau gwasanaethau cymdeithasol a'r bobl sy'n defnyddio eu gwasanaethau nag, ar y cam hwyr iawn hwn, taflu’r holl baratoadau sydd wedi’u gwneud i mewn i anhrefn drwy gyhoeddi na fyddwn, ar 6 Ebrill, yn rhoi’r Ddeddf ar waith wedi'r cyfan. Ni allaf feddwl am ddim byd a fyddai'n fwy gwrthgynhyrchiol na hynny.
I have been enormously heartened, during the last 12 months, by the enthusiasm with which those who will be responsible for front-line services under this piece of legislation have responded to the extensive programme of preparation and training that’s been made available by the Government, working through the Care Council for Wales, a direct responsibility taken for that programme by Rhian Huws Williams, the chief executive of the care council, who has put an enormous amount of personal energy into making sure that we do everything we can to make people aware of the Act, the way it will work and the way that it will change their working lives. Because we’ve had such a success, Llywydd, with that preparation and training effort, I have decided to provide the care council with £1 million again next year to replicate the £1 million they’ve had this year, because I do recognise that, on 7 April, the whole world will not change and that workers in that first year will find themselves needing to become further familiar with the detail of the Act and how it is working out on the ground. That £1 million will be available again next year to make sure that we can do exactly that. Rwyf wedi cael fy nghalonogi’n fawr, yn ystod y 12 mis diwethaf, gan ymateb brwdfrydig y bobl a fydd yn gyfrifol am wasanaethau rheng flaen o dan y darn hwn o ddeddfwriaeth i’r rhaglen helaeth o baratoi a hyfforddi y mae’r Llywodraeth wedi’i darparu, gan weithio drwy Gyngor Gofal Cymru, cyfrifoldeb uniongyrchol a gymerwyd am y rhaglen honno gan Rhian Huws Williams, prif weithredwr y cyngor gofal, sydd wedi rhoi llawer iawn o egni personol i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth a allwn i wneud pobl yn ymwybodol o'r Ddeddf, sut y bydd yn gweithio a sut y bydd yn newid eu bywydau gwaith. Gan ein bod wedi cael cymaint o lwyddiant, Lywydd, gyda'r ymdrechion paratoi a hyfforddi, rwyf wedi penderfynu darparu £1 filiwn i'r cyngor gofal unwaith eto y flwyddyn nesaf i ailadrodd yr £1 filiwn y maent wedi’i chael eleni, oherwydd rwy’n cydnabod, ar 7 Ebrill, na fydd y byd i gyd yn newid ac y bydd gweithwyr yn y flwyddyn gyntaf honno’n canfod bod angen iddynt ddod yn fwy cyfarwydd â manylion y Ddeddf a sut y mae'n gweithio ar lawr gwlad. Bydd yr £1 filiwn honno ar gael eto y flwyddyn nesaf i wneud yn siŵr y gallwn wneud yn union hynny.
The regulations in front of the Assembly this afternoon do indeed repeal certain rights that are on the statute book already, but only—only—in order to replace them with the extended rights that will accrue to those individuals as a result of the 2014 Act. That does include direct payments and it does include the liberalisation of direct payments, including making them available to a wider range of users for a wider range of purposes and to allow those users to deploy their direct payments to employ a wider range of individuals, including family members, which would not have been possible in the past. Mae'r rheoliadau sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma wir yn diddymu rhai hawliau sydd ar y llyfr statud eisoes, ond dim ond—dim ond—er mwyn rhoi’r hawliau estynedig yn eu lle a fydd gan yr unigolion hynny o ganlyniad i Ddeddf 2014. Mae hynny yn cynnwys taliadau uniongyrchol ac mae yn cynnwys agwedd fwy rhydd tuag at daliadau uniongyrchol, gan gynnwys eu darparu i ystod ehangach o ddefnyddwyr ar gyfer ystod ehangach o ddibenion a chaniatáu i’r defnyddwyr hynny ddefnyddio eu taliadau uniongyrchol i dalu ystod ehangach o unigolion, gan gynnwys aelodau o'r teulu, na fyddai wedi bod yn bosibl yn y gorffennol.
I’m grateful to Lindsay Whittle for the points that he raised about carers’ issues. Carers have been concerned about the legislation. We’ve worked hard with them to make sure that the transitional arrangements that these regulations put in place protect the ground that was gained through the carers Measure placed on the statute book by this Assembly. I recently met a group of young carers, a very impressive group of young people, including a young woman from the Caerphilly area. I’ll take away the point that Lindsay Whittle has raised this afternoon in making sure that any plans that we have with those young carers take into account their needs in both further and higher education. Rwy'n ddiolchgar i Lindsay Whittle am y pwyntiau a gododd am faterion gofalwyr. Mae gofalwyr wedi bod yn pryderu am y ddeddfwriaeth. Rydym wedi gweithio'n galed gyda nhw i wneud yn siŵr bod y trefniadau trosiannol y mae’r rheoliadau hyn yn eu rhoi ar waith yn amddiffyn y tir a enillodd y Mesur gofalwyr a roddodd y Cynulliad hwn ar y llyfr statud. Yn ddiweddar, cyfarfûm â grŵp o ofalwyr ifanc, grŵp trawiadol iawn o bobl ifanc, gan gynnwys menyw ifanc o ardal Caerffili. Byddaf yn rhoi sylw i’r pwynt a gododd Lindsay Whittle y prynhawn yma o ran sicrhau bod unrhyw gynlluniau sydd gennym gyda’r gofalwyr ifanc hynny yn ystyried eu hanghenion o ran addysg bellach ac addysg uwch.
So, Dirprwy Lywydd, I find myself agreeing with Altaf Hussain that this is a genuine landmark Act. It is the single largest piece of legislation that will have been passed through this Assembly. There has been an enormous legislative effort, both in the direct primary legislation and in the flow of regulations through this Assembly as well. I echo his thanks to Gwenda Thomas, in particular, but also to William Graham and all those other members of the social services department who worked so hard to make sure that the Act is as good as we can make it, and we now hand it on to those who are responsible for its implementation. These regulations are essential to them in doing so. I ask Members to support them. Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy’n fy nghanfod fy hun yn cytuno ag Altaf Hussain bod hon yn Ddeddf wirioneddol nodedig. Hwn fydd y darn unigol mwyaf o ddeddfwriaeth erioed i gael ei basio drwy'r Cynulliad hwn. Bu ymdrech ddeddfwriaethol enfawr, o ran y ddeddfwriaeth sylfaenol uniongyrchol ac o ran llif rheoliadau drwy'r Cynulliad hwn hefyd. Ategaf ei ddiolch i Gwenda Thomas, yn arbennig, ond hefyd i William Graham ac i’r holl aelodau eraill hynny o'r adran gwasanaethau cymdeithasol a weithiodd mor galed i sicrhau bod y Ddeddf cystal ag y gallwn ei gwneud, ac rydym nawr yn ei throsglwyddo i'r bobl sy’n gyfrifol am ei rhoi ar waith. Mae'r rheoliadau hyn yn hanfodol iddynt allu gwneud hynny. Gofynnaf i'r Aelodau eu cefnogi.
15:03 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Thank you. The proposal is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] Object. I’ll defer all voting on this item until voting time. Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu. Gohiriaf yr holl bleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Voting deferred until voting time.
5. The Food Hygiene Rating (Promotion of Food Hygiene Rating) (Wales) Regulations 2016 5. Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgoriau Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016
15:03 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We now move on to item 5, which is the Food Hygiene Rating (Promotion of Food Hygiene Rating) (Wales) Regulations 2016. I call on the Deputy Minister for Health to move the motion—Vaughan Gething. Rydym nawr yn symud ymlaen i eitem 5, sef Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgorio Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd i gynnig y cynnig—Vaughan Gething.
Cynnig NDM5998 Jane Hutt Motion NDM5998 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Chwefror 2016. Approves that the draft The Food Hygiene Rating (Promotion of Food Hygiene Rating) (Wales) Regulations 2016 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 22 February 2016.
Cynigiwyd y cynnig. Motion moved.
15:04 - Vaughan Gething
Thank you, Presiding Officer. I move the motion. The subject of the regulations before Assembly Members today was first discussed by the Health and Social Care Committee during the passage of the Food Hygiene Rating (Wales) Bill in 2012. The committee, of which I was a member at the time, recognised the benefits of referring potential customers to the Food Standards Agency’s food hygiene rating website to check the rating of a business before they order food remotely. These regulations fulfil the Welsh Government commitment at the time to act. Diolch, Lywydd. Rwy’n cynnig y cynnig. Trafodwyd pwnc y rheoliadau sydd gerbron Aelodau'r Cynulliad heddiw am y tro cyntaf yn y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod hynt y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) yn 2012. Roedd y pwyllgor—roeddwn yn aelod ohono ar y pryd—yn cydnabod manteision cyfeirio darpar gwsmeriaid at wefan sgoriau hylendid bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd i wirio sgôr busnes cyn iddynt archebu bwyd o bell. Mae'r rheoliadau hyn yn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru ar y pryd i weithredu.
Takeaway food businesses will now be required to publish a bilingual statement on certain hard-copy materials directing the consumer to the food hygiene ratings website. We specify the minimum size for the font to ensure the message is clearly seen. The statement also reminds consumers that they can ask the food business for their food hygiene rating when they place their order. Compliance is based on the display of the statement on the leaflet. This is rendered invalid if the ratings of the food business change. The regulations also provide for takeaway food businesses to voluntarily display their food hygiene ratings on their leaflets. Many takeaways already do this, of course, but, unfortunately, there are a small minority that have displayed false or misleading ratings. The regulations therefore specify that, if displayed, a rating must be valid and in the specified format. The regulations enhance the statutory food hygiene ratings scheme in Wales by filling a gap where consumers remotely ordering food—for example, for home delivery—do not have the opportunity to see the food hygiene rating of that takeaway before placing their order. The display of the statement on the leaflet should encourage consumers to view or request a takeaway food business’s food hygiene rating before ordering. The statutory scheme is a success, and I’m pleased about that. We must futureproof it, and I believe these regulations help us to do that. Bydd yn ofynnol bellach i fusnesau cludfwyd gyhoeddi datganiad dwyieithog ar ddeunyddiau copi caled penodol i gyfeirio'r defnyddiwr at y wefan sgoriau hylendid bwyd. Rydym yn pennu'r isafswm maint ar gyfer y ffont i sicrhau bod y neges yn cael ei gweld yn glir. Mae'r datganiad hefyd yn atgoffa defnyddwyr y cânt ofyn i'r busnes bwyd am ei sgôr hylendid bwyd wrth archebu. Mae cydymffurfiad yn seiliedig ar arddangos y datganiad ar y daflen. Bydd y daflen yn annilys os yw sgôr y busnes bwyd yn newid. Mae'r rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer busnesau cludfwyd i arddangos eu sgoriau hylendid bwyd yn wirfoddol ar eu taflenni. Mae llawer o siopau cludfwyd eisoes yn gwneud hyn, wrth gwrs, ond, yn anffodus, mae lleiafrif bach wedi arddangos sgoriau ffug neu gamarweiniol. Mae'r rheoliadau felly yn nodi, os oes sgôr wedi’i arddangos, bod yn rhaid iddo fod yn ddilys ac ar y fformat a nodir. Mae'r rheoliadau’n gwella'r cynllun sgoriau hylendid bwyd statudol yng Nghymru drwy lenwi bwlch lle nad yw defnyddwyr sy’n archebu bwyd o bell—er enghraifft, i’w ddanfon i’r cartref—yn cael cyfle i weld sgôr hylendid bwyd y siop cludfwyd cyn archebu. Dylai arddangos y datganiad ar y daflen annog defnyddwyr i edrych ar sgôr hylendid bwyd busnes cludfwyd, neu ofyn amdano, cyn archebu. Mae'r cynllun statudol yn llwyddiant, ac rwy'n falch am hynny. Mae'n rhaid inni ei ddiogelu at y dyfodol, ac rwy’n credu bod y rheoliadau hyn yn ein helpu i wneud hynny.
Importantly, the regulations do, of course, provide that, if a food business does not comply, they commit an offence, and appropriate penalties are set out in the regulations. This will allow local authorities to take appropriate enforcement action where necessary. If the regulations are approved, they will come into force on 28 November 2016, which will be the third anniversary of the commencement of the statutory food hygiene ratings scheme in Wales. Yn bwysig, mae'r rheoliadau, wrth gwrs, yn darparu, os na fydd busnes bwyd yn cydymffurfio, ei fod yn cyflawni trosedd, ac mae’r rheoliadau’n nodi cosbau priodol. Bydd hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol gymryd camau gorfodi priodol pan fo angen. Os caiff y rheoliadau eu cymeradwyo, byddant yn dod i rym ar 28 Tachwedd 2016, sef tair blynedd union ar ôl cychwyn y cynllun sgoriau hylendid bwyd statudol yng Nghymru.
Finally, Llywydd, it remains the intention of the Welsh Government, subject to the approval of the next Assembly to develop regulations to address the promotion of food hygiene ratings on food business websites. Yn olaf, Lywydd, bwriad Llywodraeth Cymru o hyd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cynulliad nesaf, yw datblygu rheoliadau i roi sylw i hyrwyddo sgoriau hylendid bwyd ar wefannau busnesau bwyd.
15:06 - Darren Millar
Thank you, Deputy Minister, for outlining the Government’s intentions in bringing forward these regulations. It’s something that I advocated significantly during the Health and Social Care Committee’s consideration of the Food Hygiene Rating (Wales) Bill—that there needed to be some opportunity for takeaway customers to be able to determine what the food rating of the establishment was through their literature. But I am a little bit concerned that there may be some unintended consequences from the regulations as laid out, so I am afraid that we’re going to be voting against the proposals before the Assembly today. If I can just set out the reasons why we want to do that, so that the Minister can consider whether there may need to be an amendment to the regulations. Diolch, Ddirprwy Weinidog, am amlinellu bwriadau'r Llywodraeth i gyflwyno'r rheoliadau hyn. Mae'n rhywbeth y gwnes ei argymell yn daer wrth i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ystyried y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)—bod angen rhyw gyfle i gwsmeriaid siopau cludfwyd allu canfod sgôr bwyd y sefydliad drwy ei lenyddiaeth. Ond rwyf ychydig yn bryderus y gallai’r rheoliadau fel y’u nodwyd greu rhai canlyniadau anfwriadol, felly rwy’n ofni y byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynigion sydd gerbron y Cynulliad heddiw. Os caf nodi'r rhesymau pam yr ydym eisiau gwneud hynny, gall y Gweinidog ystyried a allai fod angen gwelliant i'r rheoliadau.
I fully support the suggestion that there ought to be a pointer to the food hygiene ratings that are online in takeaway leaflets. I think that’s the place where people will be able to access the most up-to-date information about their local takeaways and the food hygiene rating that has been awarded to them. However, when it comes to the publicity materials themselves displaying a rating, I think that that has the potential to significantly mislead the consumer and potentially give them a false assurance about the food hygiene rating that actually may be at the establishment that they want to order something from. So, for example, a food hygiene rating of 5 may be awarded to an establishment, and leaflets may be distributed on that basis, only for there to be a further inspection of its food hygiene standards and a rating of 0 or 1 to be awarded at the subsequent inspection. Of course, a leaflet will have a shelf-life. It could sit in somebody’s top drawer in their apartment or at home somewhere and be used on a regular basis over a number of years. I don’t want consumers to have a false assurance about a hygiene rating if that hygiene rating on those leaflets is inaccurate. So, I would far rather see a system whereby, if a rating is permitted to be displayed on a leaflet, the date that that rating was awarded is stamped firmly on the rating, so that people can be aware when it was awarded, and that there may be a risk that it could be significantly out of date. These regulations make no such provision for that. They certainly don’t require that to be done, and I think that they’re flawed as a result of it. Rwy'n llwyr gefnogi'r awgrym y dylai fod pwyntydd at y sgoriau hylendid bwyd sydd ar-lein mewn taflenni cludfwyd. Rwy'n meddwl mai dyna'r man lle bydd pobl yn gallu cael y wybodaeth ddiweddaraf am eu siopau cludfwyd lleol a'r sgôr hylendid bwyd sydd wedi'i ddyfarnu iddynt. Fodd bynnag, o ran arddangos sgôr ar y deunyddiau cyhoeddusrwydd eu hunain, rwy’n meddwl y gallai hynny gamarwain y defnyddiwr yn sylweddol ac o bosibl roi sicrwydd ffug am sgôr hylendid bwyd gwirioneddol y sefydliad y maent yn dymuno archebu rhywbeth ganddo. Felly, er enghraifft, gellid rhoi sgôr hylendid bwyd o 5 i sefydliad, a gellid dosbarthu taflenni ar y sail honno, ond bod arolygiad pellach o’i safonau hylendid bwyd yn cael ei gynnal a bod sgôr o 0 neu 1 yn cael ei ddyfarnu yn ystod yr arolygiad dilynol. Wrth gwrs, bydd gan daflen oes silff. Gallai fod yn nrôr uchaf rhywun yn ei fflat neu gartref yn rhywle a chael ei defnyddio’n rheolaidd dros nifer o flynyddoedd. Nid wyf eisiau i ddefnyddwyr gael sicrwydd ffug am sgôr hylendid os yw'r sgôr hylendid hwnnw ar y taflenni hynny’n anghywir. Felly, byddai’n llawer gwell gennyf weld system lle, os caniateir arddangos sgôr ar daflen, bod dyddiad rhoi’r sgôr wedi’i stampio’n glir ar y sgôr, fel y gall pobl fod yn ymwybodol o ba bryd y cafodd ei roi, ac y gallai fod perygl ei fod wedi dyddio’n sylweddol. Nid yw’r rheoliadau hyn yn gwneud unrhyw fath o ddarpariaeth ar gyfer hynny. Yn sicr nid ydynt yn mynnu bod hynny’n cael ei wneud, ac rwy’n meddwl eu bod yn ddiffygiol o ganlyniad.
I’m also a little bit concerned that, obviously, the operators can wheedle their way out of committing an offence if they have a reasonable excuse in relation to the offence that may have been caused in terms of providing misleading information. Again, a food hygiene rating can be outdated literally a day after leaflets have been distributed in a place. I think it’s very easy for people to wheedle themselves out of being held to account for what may be a deliberate act in misleading members of the public via the regulations that are before the Assembly today. So, whilst I completely and wholeheartedly support the Government’s intention of ensuring that there’s good, high-quality information available to consumers about the food hygiene ratings when they are ordering over the telephone or online or from a piece of literature that pops through their letterbox, I don’t think that the regulations as set out would achieve that. In fact, I think they have the potential to mislead the consumer and give them false assurance about the food hygiene ratings. Therefore, we’ll be voting against these, and I’d encourage other Members in other political parties to do likewise. Rwyf hefyd yn pryderu ychydig bach bod y gweithredwyr, yn amlwg, yn gallu seboni eu ffordd allan o fod wedi cyflawni trosedd os oes ganddynt esgus rhesymol o ran y drosedd a allai fod wedi'i chyflawni o ran darparu gwybodaeth gamarweiniol. Unwaith eto, gall sgôr hylendid bwyd fod yn hen yn llythrennol ddiwrnod ar ôl o daflenni gael eu dosbarthu mewn lle. Rwy'n meddwl ei bod yn hawdd iawn i bobl seboni eu ffordd allan o gael eu dwyn i gyfrif am yr hyn a allai fod yn weithred fwriadol o gamarwain aelodau'r cyhoedd drwy gyfrwng y rheoliadau sydd gerbron y Cynulliad heddiw. Felly, er fy mod yn cefnogi bwriad y Llywodraeth, yn llwyr ac yn llawn, o sicrhau bod gwybodaeth dda, o safon uchel ar gael i ddefnyddwyr am y sgoriau hylendid bwyd pan eu bod yn archebu dros y ffôn neu ar-lein neu oddi ar ddarn o lenyddiaeth sy'n dod drwy eu blwch llythyrau, nid wyf yn meddwl y byddai’r rheoliadau fel y maent wedi’u nodi yn cyflawni hynny. Mewn gwirionedd, rwy’n meddwl bod ganddynt y potensial i gamarwain y defnyddwyr a rhoi sicrwydd ffug iddynt am y sgoriau hylendid bwyd. Felly, byddwn ni’n pleidleisio yn erbyn y rhain, ac rwyf yn annog Aelodau eraill mewn pleidiau gwleidyddol eraill i wneud hynny hefyd.
15:10 - Ann Jones
Minister, can I welcome today’s regulations, which build on the Welsh Government’s, I suggest, pioneering Food Hygiene Rating (Wales) Act 2013, or, as most of us affectionately refer to it, the ‘scores on the doors’? I think that becoming the first country in the UK to introduce such a statutory food hygiene rating scheme proves that this Government again has taken the lead on public health issues, and also in the way that we can perhaps help to protect our citizens. Weinidog, a gaf i groesawu rheoliadau heddiw, sy'n adeiladu ar Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 Llywodraeth Cymru, deddf arloesol, byddwn yn awgrymu, neu, fel y mae’r rhan fwyaf ohonom yn cyfeirio ati’n annwyl, y 'scores on the doors'? Rwy’n credu bod y ffaith mai ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun sgorio hylendid bwyd statudol o’r fath yn profi bod y Llywodraeth hon eto wedi cymryd yr awenau ar faterion iechyd y cyhoedd, a hefyd yn y ffordd y gallwn o bosibl helpu i amddiffyn ein dinasyddion.
Now, I know that many businesses, as you’ve indicated, have also welcomed this work as it provides their customers with an assurance of the quality of their products. As we continue to develop these regulations, Deputy Minister, I wonder—and I did hear you say that a future Assembly would be asked to consider the regulations, including those who trade over the internet, or that there would be ratings on websites—whether that would be something that would be a priority for an incoming or a new Labour Government after May, or whether it was something that we would have to go back to the drawing board over, or whether there are some plans there. I feel that those who do trade over the internet should have the same confidence and the same level of confidence in the food hygiene rating system as those of us who buy locally at shops or takeaways. Nawr, rwy’n gwybod bod llawer o fusnesau, fel yr ydych wedi’i nodi, hefyd wedi croesawu'r gwaith hwn gan ei fod yn rhoi sicrwydd i’w cwsmeriaid o ansawdd eu cynnyrch. Wrth inni barhau i ddatblygu’r rheoliadau hyn, Ddirprwy Weinidog, tybed—ac fe’ch clywais yn dweud y byddai gofyn i Gynulliad yn y dyfodol ystyried y rheoliadau, gan gynnwys y rhai sy'n masnachu dros y rhyngrwyd, neu y byddai sgoriau ar wefannau—a fyddai hynny’n rhywbeth a fyddai'n flaenoriaeth i Lywodraeth Lafur a ddaw i mewn neu Lywodraeth Lafur newydd ar ôl mis Mai, neu a oedd yn rhywbeth y byddai'n rhaid inni fynd yn ôl i'r cychwyn ynglŷn ag ef, ynteu a oes rhai cynlluniau yno. Rwy'n teimlo y dylai'r rheini sy’n masnachu dros y rhyngrwyd fod â’r un hyder a'r un lefel o hyder yn y system sgorio hylendid bwyd â’r rhai ohonom sy'n prynu’n lleol mewn siopau neu siopau cludfwyd.
15:12 - Y Llywydd / The Presiding Officer
The Minister to reply. Y Gweinidog i ymateb.
15:12 - Vaughan Gething
Thank you, Presiding Officer, and thank you for the questions. I’ll deal with Ann Jones’s point first, if I may. I’m glad that there’s a welcome for the regulations and the impact they’ve had. Over 60 per cent of Welsh food businesses now have the highest rating of 5, and there’s been a real and significant improvement in the rating of food businesses, including the extension to food trading just over a year ago. So, I think the ratings overall have been a very real success in helping consumers to make informed choices. Diolch, Lywydd, a diolch am y cwestiynau. Rhoddaf sylw i bwynt Ann Jones yn gyntaf, os caf. Rwy'n falch bod y rheoliadau wedi cael croeso ac yn falch o’r effaith y maent wedi ei chael. Mae dros 60 y cant o fusnesau bwyd Cymru bellach â’r sgôr uchaf, sef 5, ac mae gwelliant gwirioneddol a sylweddol wedi bod yn sgoriau busnesau bwyd, gan gynnwys yr estyniad i fasnachu bwyd ychydig dros flwyddyn yn ôl. Felly, rwy’n meddwl bod y sgoriau at ei gilydd wedi bod yn llwyddiant mawr iawn wrth helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau doeth.
During the debate in the committee at the time the initial scheme was being passed there was a significant amount of debate around ordering via a website as well. Some people won’t physically go into a shop or need to ring someone face to face. We did consider this, and so the Government maintained its commitment to do something about that. It’s slightly more complex in dealing with website ordering, because a number of them go through a large website, whether it’s Cook, or there is an alternative, Just Eat, as well. So, potentially you have one website, one place to go in, with a number of different food businesses. So, we want to look to work that through. In the consultation that we ran for these regulations we did actually ask a question about this. So, there is a bit more work to do, but I wanted to be clear with Members that the Government has not resiled from or tried to avoid the commitment we’ve given to actually act and to do something, but it will be for the next Assembly to hopefully pass a set of regulations that will do that in a proportionate and effective way for both the food business and, importantly, for the consumer as well. Yn ystod y drafodaeth yn y pwyllgor ar adeg pasio’r cynllun cychwynnol, bu cryn dipyn o drafodaeth am archebu drwy wefan hefyd. Bydd rhai pobl na fuddant yn gorfforol yn mynd i mewn i siop neu’n gorfod ffonio rhywun wyneb yn wyneb. Gwnaethom ystyried hyn, ac felly cadwodd y Llywodraeth ei haddewid i wneud rhywbeth am hynny. Mae ychydig yn fwy cymhleth wrth ymdrin ag archebu ar wefan, gan fod nifer ohonynt yn mynd drwy wefan mawr, boed hynny yn Cook, neu mae yna ddewis arall, Just Eat, hefyd. Felly, efallai y bydd gennych un wefan, un lle i fynd i mewn, gyda nifer o wahanol fusnesau bwyd. Felly, rydym yn awyddus i geisio gweithio drwy hynny. Yn yr ymgynghoriad y gwnaethom ei gynnal ar gyfer y rheoliadau hyn, gwnaethom ofyn cwestiwn am hyn. Felly, mae ychydig mwy o waith i'w wneud, ond roeddwn am fod yn glir gyda’r Aelodau nad yw’r Llywodraeth wedi ymgilio na cheisio osgoi'r ymrwymiad yr ydym wedi ei roi i weithredu ac i wneud rhywbeth, ond lle’r Cynulliad nesaf, gobeithio, fydd pasio cyfres o reoliadau a fydd yn gwneud hynny mewn ffordd gymesur ac effeithiol ar gyfer y busnes bwyd ac, yn bwysig, ar gyfer y defnyddiwr hefyd.
Dealing with Darren Millar’s two essential points, there have been two consultations for these regulations, both with food businesses, the general public, and across the European Union—importantly, with local authorities as well, about the ability to properly enforce the scheme of regulations that we want to introduce. There’s no disagreement about the point and the purpose. You made the point that there was cross-party support for them to do something about this in the committee at the time that the initial scheme was passed. I ateb dau bwynt hanfodol Darren Millar, bu dau ymgynghoriad ar gyfer y rheoliadau hyn, y ddau gyda busnesau bwyd, y cyhoedd yn gyffredinol, a ledled yr Undeb Ewropeaidd—yn bwysig, gydag awdurdodau lleol yn ogystal, am y gallu i orfodi'r cynllun rheoliadau yr ydym yn awyddus i’w gyflwyno yn briodol. Does dim anghytundeb ynghylch y pwynt a’r pwrpas. Gwnaethoch y pwynt bod cefnogaeth drawsbleidiol iddynt wneud rhywbeth am hyn yn y pwyllgor ar adeg pasio’r cynllun gwreiddiol.
In my opening remarks, I did point out that we recognise that there are a small number of food businesses that already provide misleading ratings on literature that they put out. We’re being really clear in these regulations that that will be an offence, and it will be for local authorities to enforce that as well. So, we’re being really clear that, if displayed, a rating must be valid and must be in a specified format. Yn fy sylwadau agoriadol, fe wnes i nodi ein bod yn cydnabod bod nifer bach o fusnesau bwyd sydd eisoes yn darparu sgoriau camarweiniol ar lenyddiaeth y maent yn ei dosbarthu. Rydym yn bod yn wirioneddol glir yn y rheoliadau hyn y bydd hynny'n drosedd, a mater i'r awdurdodau lleol fydd gorfodi hynny hefyd. Felly, rydym yn bod yn glir iawn, os oes sgôr wedi’i arddangos, bod yn rhaid iddo fod yn ddilys a bod yn rhaid iddo fod mewn fformat penodol.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Melding) i’r Gadair. The Deputy Presiding Officer (David Melding) took the Chair.
Vaughan Gething
When you then go on to your second point about being able to get around this very easily by saying there’s a reasonable excuse, well, having practiced and understood what lawyers do and don’t make of the term ‘reasonable’, I don’t think it’s going to be as simple as saying, ‘We published leaflets three years ago that we want to carry on using.’ I’ll take the intervention. Pan ydych yna’n troi at eich ail bwynt am allu osgoi hyn yn hawdd iawn drwy ddweud bod yna esgus rhesymol, wel, ar ôl ymarfer a deall yr hyn y mae cyfreithwyr yn ei olygu ac nad ydynt yn ei olygu wrth y term 'rhesymol', nid wyf yn meddwl y bydd hi mor syml â dweud, 'Rydym wedi cyhoeddi taflenni dair blynedd yn ôl ac yn dymuno parhau i’w defnyddio.' Derbyniaf yr ymyriad.
15:14 - Darren Millar
Thank you for taking the intervention. The point I’m making is that, clearly, a leaflet has an indeterminate shelf-life—it is as long as somebody decides to keep it—and unless there’s a date stamp required against the food hygiene rating that is on that leaflet—and these regulations don’t require that—then it’s very easy for people to be misled about the information in the leaflets. It may be correct at the time of printing. Is it that there needs to be a correction at the time of printing—it needs to be correct then—or at the time of distribution, or at the time of the order? I mean, at what point should that rating be valid when a person is ordering? From a consumer’s point of view, it would be much easier if there was a simple date stamp required on that food hygiene rating so that people could see when it was awarded. Diolch am dderbyn yr ymyriad. Y pwynt yr wyf yn ei wneud yw, yn amlwg, bod gan daflen oes silff amhenodol—mor hir ag y mae rhywun yn penderfynu ei chadw—ac oni bai bod stamp dyddiad yn ofynnol ynghyd â’r sgôr hylendid bwyd sydd ar y daflen—ac nid yw'r rheoliadau hyn yn mynnu hynny—mae'n hawdd iawn i bobl gael eu camarwain am y wybodaeth yn y taflenni. Gallai fod yn gywir ar adeg argraffu. A oes angen cywiro ar adeg yr argraffu—mae angen iddi fod yn gywir ar yr adeg honno—ynteu ar adeg y dosbarthu, ynteu ar adeg yr archeb? Hynny yw, pryd ddylai’r sgôr hwnnw fod yn ddilys pan fo rhywun yn archebu? O safbwynt defnyddiwr, byddai'n llawer haws ei gwneud yn ofynnol bod stamp dyddiad syml ar y sgôr hylendid bwyd hwnnw er mwyn i bobl allu gweld pryd y cafodd ei ddyfarnu.
15:15 - Vaughan Gething
I recognise the point the Member is making. But, in terms of the shelf-life of leaflets, I don’t think it’s going to be a reasonable excuse for a food business to say they distributed a leaflet, or they had leaflets printed, three years ago and they’re not going to take account of the change to their rating. It is for the food business to ensure that the leaflets that they produce and that they deliver to consumers are valid at the time they go into the hands of consumers. It will not be a reasonable excuse to say that they provided a print run several years previous. Rwy’n cydnabod y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud. Ond, o ran oes silff taflenni, nid wyf yn meddwl y bydd yn esgus rhesymol i fusnes bwyd ddweud ei fod wedi dosbarthu taflen, neu wedi argraffu taflenni, dair blynedd yn ôl ac nad yw’n mynd i ystyried y newid i'w statws. Lle’r busnes bwyd yw sicrhau bod y taflenni y mae’n eu cynhyrchu a’u danfon i ddefnyddwyr yn ddilys ar yr adeg y maent yn mynd i ddwylo defnyddwyr. Ni fydd yn esgus rhesymol dweud eu bod wedi argraffu nifer ohonynt sawl blwyddyn yn flaenorol.
This Assembly will have another opportunity in the next term to look again at the scheme for food hygiene ratings. We’ll have practical experience, if the regulations are passed, of what really has happened. I don’t recognise the alleged significant flaw that the Member refers to. I think this is a good scheme. It’s taken forward the ratings we’ve introduced. It’s taken forward a scheme to provide real consumer confidence. Actually, for good food businesses that provide appropriate standards of food hygiene and high standards of food hygiene, it is a proper and appropriate competitive advantage. I urge Members to agree to the regulations being made before you today. Bydd y Cynulliad yn cael cyfle arall yn y tymor nesaf i edrych eto ar y cynllun sgoriau hylendid bwyd. Bydd gennym brofiad ymarferol, os caiff y rheoliadau eu pasio, o'r hyn a fydd wedi digwydd mewn gwirionedd. Nid wyf yn cydnabod y diffyg sylweddol honedig y mae’r Aelod yn cyfeirio ato. Rwy'n meddwl bod hwn yn gynllun da. Mae wedi symud ymlaen â’r sgoriau yr ydym wedi’u cyflwyno. Mae wedi bwrw ymlaen â chynllun i ddarparu hyder gwirioneddol i ddefnyddwyr. A dweud y gwir, i fusnesau bwyd da sy'n darparu safonau hylendid bwyd priodol a safonau hylendid bwyd uchel, mae'n fantais gystadleuol deg a phriodol. Anogaf yr Aelodau i dderbyn y rheoliadau sydd wedi’u gosod ger eich bron heddiw.
15:16 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting until voting time. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Voting deferred until voting time.
6. Supplementary Legislative Consent Memorandum (Memorandum No. 3) for the UK Enterprise Bill in relation to Regulators’ Code and Primary Authority Provisions 6. Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar gyfer Bil Menter y DU mewn perthynas â Darpariaethau Cod Rheoleiddwyr ac Awdurdod Sylfaenol
15:16 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Item 6 is the supplementary legislative consent memorandum for the Enterprise Bill in relation to the regulators’ code and primary authority provisions. I call on the Minister for Public Services to move the motion—Leighton Andrews. Eitem 6 yw'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol ar gyfer y Bil Menter o ran y cod rheoleiddwyr a’r darpariaethau awdurdod sylfaenol. Galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus i gynnig y cynnig—Leighton Andrews.
Cynnig NDM5992 Leighton Andrews Motion NDM5992 Leighton Andrews
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â gwelliannau i Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 mewn perthynas â'r cynllun Awdurdod Sylfaenol a gwelliannau i Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 mewn perthynas ag egwyddorion a chod y rheoleiddwyr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 29.6 agrees that provisions in the Enterprise Bill, relating to amendments to the Regulatory Enforcement and Sanctions Act 2008 in respect of the Primary Authority scheme and amendments to the Legislative and Regulatory Reform Act 2006 in respect of the regulators' principles and code in so far as they fall within the legislative competence of the National Assembly for Wales, should be considered by the UK Parliament.
Cynigiwyd y cynnig. Motion moved.
15:17 - Leighton Andrews
Thank you, Deputy Presiding Officer. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
I move the motion and I am grateful to the Enterprise and Business Committee for considering this legislative consent motion. They have indicated that they are content with the memorandum. Rwy’n cynnig y cynnig ac rwy’n ddiolchgar i'r Pwyllgor Menter a Busnes am ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Maent wedi nodi eu bod yn fodlon â’r memorandwm.
The UK Government introduced the Enterprise Bill into Parliament on 16 September last year. The Bill makes amendments to the existing provisions relating to the regulators’ code and the primary authority scheme. Perhaps I should explain: the regulators’ code is a code of practice that seeks to provide a principles-based framework for regulators on how they should engage with those whom they regulate. Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Menter i'r Senedd ar 16 Medi y llynedd. Mae'r Bil yn gwneud gwelliannau i’r darpariaethau presennol sy'n ymwneud â chod y rheoleiddwyr a'r cynllun prif awdurdod. Efallai y dylwn esbonio: mae’r cod rheoleiddwyr yn god ymarfer sy'n ceisio darparu fframwaith seiliedig ar egwyddorion i reoleiddwyr ynglŷn â sut y dylent ymgysylltu â'r rhai y maent yn eu rheoleiddio.
Nearly all non-economic regulators, including local authorities and fire and rescue authorities, must have regard to the code when developing standards, policies or procedures. The Enterprise Bill places a new requirement on regulators to report on the effect the code has had on the way that they exercise their functions, making it easier to measure the effect of the code and assess its benefits. Mae’n rhaid i bron bob rheoleiddiwr nad yw’n economaidd, gan gynnwys awdurdodau lleol ac awdurdodau tân ac achub, ystyried y cod wrth ddatblygu safonau, polisïau neu weithdrefnau. Mae'r Bil Menter yn gosod gofyniad newydd ar reoleiddwyr i adrodd am yr effaith y mae’r cod wedi ei chael ar y ffordd y maent yn arfer eu swyddogaethau, gan ei gwneud yn haws mesur effaith y cod ac asesu ei fanteision.
The Bill also removes the restriction on the functions of certain regulators from being brought within the scope of the code. It will allow the functions of Ofgem, Ofcom, the Office of Rail and Road and Ofwat to be brought within the scope of the code. Mae'r Bil hefyd yn dileu'r cyfyngiad ar ddod â swyddogaethau rhai rheoleiddwyr penodol o fewn cwmpas y cod. Bydd yn caniatáu i ddod â swyddogaethau Ofgem, Ofcom, y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd ac Ofwat o fewn cwmpas y cod.
We’ve ensured, through UK Government amendments to the Bill, that it is for the Welsh Ministers to specify functions for the purpose of the code where the functions are within the legislative competence of the National Assembly or in respect of which functions are exercisable by Welsh Ministers. It is of course appropriate that this power should sit in Wales. Rydym wedi sicrhau, drwy welliannau Llywodraeth y DU i'r Bil, mai lle Gweinidogion Cymru yw pennu swyddogaethau at ddiben y cod pan fo'r swyddogaethau o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol neu o ran pa swyddogaethau y caiff Gweinidogion Cymru eu harfer. Wrth gwrs, mae'n briodol y dylai’r pŵer hwn fod yng Nghymru.
Turning now to the primary authority scheme. The scheme has been in place since 2009 and enables businesses to form a statutory partnership with one local authority or fire and rescue authority, which then provides advice for other local regulators to take into account when carrying out inspections or addressing non-compliance. The aim is to ensure that local regulation is consistent at a national level and sufficiently flexible to address local circumstances. I droi yn awr at y cynllun prif awdurdod. Mae'r cynllun wedi bod ar waith ers 2009 ac mae'n galluogi busnesau i ffurfio partneriaeth statudol ag un awdurdod lleol neu awdurdod tân ac achub, sydd yna’n darparu cyngor i reoleiddwyr lleol eraill ei ystyried wrth gynnal arolygiadau neu ymdrin â diffyg cydymffurfiad. Y nod yw sicrhau bod rheoleiddio lleol yn gyson ar lefel genedlaethol ac yn ddigon hyblyg i ymdrin ag amgylchiadau lleol.
Provisions in the Enterprise Bill simplify the eligibility and application process for the primary authority scheme generally; allow trade bodies to provide their members with easier access to the scheme by simplifying the application processes and by moving out the requirement that each individual business should hold a separate partnership; make technical amendments relating to notification requirements; extend the scheme so that other regulators, in addition to local authorities, can be qualifying regulators; enable supporting regulators to provide support to the primary authority; and require certain other complementary regulators with functions that overlap with local authorities to act consistently with primary authority advice. Mae darpariaethau yn y Bil Menter yn symleiddio prosesau cymhwyster ac ymgeisio'r cynllun prif awdurdod yn gyffredinol; yn caniatáu i gyrff masnach ddarparu mynediad haws at y cynllun i’w haelodau drwy symleiddio'r prosesau ymgeisio a drwy gael gwared ar y gofyniad y dylai pob busnes unigol gynnal partneriaeth ar wahân; yn gwneud gwelliannau technegol sy'n ymwneud â gofynion hysbysu; yn ymestyn y cynllun fel bod rheoleiddwyr eraill, yn ogystal ag awdurdodau lleol, yn gallu bod yn rheoleiddwyr cymwys; yn galluogi rheoleiddwyr cefnogol i roi cymorth i'r prif awdurdod; ac yn mynnu bod rhai rheoleiddwyr ategol eraill sydd â swyddogaethau sy'n gorgyffwrdd ag awdurdodau lleol yn gweithredu'n gyson â chyngor y prif awdurdod.
We have ensured, through UK Government amendments, that the Secretary of State for Business, Innovation and Skills will be required to obtain the consent of the Welsh Ministers before specifying, for the purpose of the primary authority scheme, a regulator whose functions relate only to devolved Welsh matters or a regulatory function, so far as exercisable in Wales, that relates to a devolved Welsh matter. I commend this motion to the Chamber. Rydym wedi sicrhau, drwy ddiwygiadau Llywodraeth y DU, y bydd yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn pennu, at ddibenion y cynllun prif awdurdod, rheoleiddiwr y mae ei swyddogaethau'n ymwneud â materion datganoledig i Gymru yn unig neu swyddogaeth reoleiddio, i'r graddau y mae’n arferadwy yng Nghymru, sy'n ymwneud â mater datganoledig i Gymru. Cymeradwyaf y cynnig hwn i'r Siambr.
15:20 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
I have no speakers. Therefore, the proposal is to agree the motion. Does any Member object? The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, mae’r cynnig wedi’i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
7. Supplementary Legislative Consent Motion (Memorandum No. 4) on the UK Enterprise Bill Provisions relating to Public Sector Employment: Restriction on Exit Payments 7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandum Rhif 4) ar gyfer y Darpariaethau ym Mil Menter y DU sy’n ymwneud â Swyddi Sector Cyhoeddus: Cyfyngu ar Daliadau Ymadael
15:20 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Item 7 is a supplementary legislative consent motion on the UK Enterprise Bill provisions relating to public sector employment: restrictions on exit payments. I call on the Minister for Public Services to move the motion—Leighton Andrews. Eitem 7 yw cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol ar ddarpariaethau Bil Menter y DU sy'n ymwneud â chyflogaeth yn y sector cyhoeddus: cyfyngiadau ar daliadau ymadael. Galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus i gynnig y cynnig—Leighton Andrews.
Cynnig NDM5994 Leighton Andrews Motion NDM5994 Leighton Andrews
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter sy'n ymwneud â chyfyngu ar daliadau ymadael y sector cyhoeddus, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 29.6 agrees that provisions in the Enterprise Bill, relating to restrictions on public sector exit payments in so far as they fall within the legislative competence of the National Assembly for Wales, should be considered by the UK Parliament.
Cynigiwyd y cynnig. Motion moved.
15:21 - Leighton Andrews
Deputy Presiding Officer, I would again like to express my thanks to the Communities, Equality and Local Government Committee for considering this legislative consent memorandum, and also to the workforce partnership council for their engagement with it. Unfortunately, the committee were unable to consider the revised memorandum, and this was outside my control as the UK Government tabled very late amendments to the Bill on 1 March. Ddirprwy Lywydd, hoffwn unwaith eto fynegi fy niolch i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol am ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn, a hefyd i gyngor partneriaeth y gweithlu am eu hymgysylltiad ag ef. Yn anffodus, nid oedd y pwyllgor yn gallu ystyried y memorandwm diwygiedig, ac roedd hyn y tu allan i fy rheolaeth i gan fod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno gwelliannau hwyr iawn i'r Bil ar 1 Mawrth.
As I said on the other LCM, the UK Government’s Enterprise Bill entered Parliament on 16 September 2015. It includes provisions restricting public sector exit payments. The Bill confers regulation-making powers on the Treasury to cap the total value of public sector exit payments at £95,000. The Bill will cover devolved public sector workforces in Wales. That includes the NHS, local government and sponsored bodies in Wales. These bodies, of course, are the responsibility of the Welsh Government and the National Assembly. Fel y dywedais ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol arall, daeth Bil Menter Llywodraeth y DU i'r Senedd ar 16 Medi 2015. Mae'n cynnwys darpariaethau sy'n cyfyngu ar daliadau ymadael yn y sector cyhoeddus. Mae'r Bil yn cyflwyno pwerau i wneud rheoliadau i’r Trysorlys i gapio cyfanswm gwerth y taliadau ymadael yn y sector cyhoeddus ar £95,000. Bydd y Bil yn cwmpasu gweithluoedd sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys y GIG, llywodraeth leol a chyrff a noddir yng Nghymru. Mae'r cyrff hyn, wrth gwrs, yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol.
The Welsh Government supports the principle of restricting excessive public sector exit payments. Large payments to highly paid public employees do not sit well with the people of Wales, nor do they offer value for money to our hard-pressed public services— many of which have seen budgets reduced by cuts imposed by Westminster. Furthermore, we believe that it’s important that exit payments are fair, proportionate and represent value for money to Welsh taxpayers, but it is right and proper that Welsh Ministers have the power to determine the capping regime for the Welsh public sector. This was not, of course, reflected in the Bill as originally drafted. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r egwyddor o gyfyngu taliadau ymadael gormodol yn y sector cyhoeddus. Nid yw taliadau mawr i weithwyr cyhoeddus ar gyflog uchel yn boblogaidd â phobl Cymru, ac nid ydynt yn cynnig gwerth am arian i'n gwasanaethau cyhoeddus sydd dan bwysau—llawer ohonynt wedi gweld cyllidebau wedi’u lleihau gan doriadau a osodwyd gan San Steffan. Yn ogystal â hynny, rydym yn credu ei bod yn bwysig bod y taliadau ymadael yn deg, yn gymesur ac yn cynrychioli gwerth am arian i drethdalwyr Cymru, ond mae'n iawn ac yn briodol bod gan Weinidogion Cymru y pŵer i benderfynu ar y drefn gapio ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. Ni chafodd hyn, wrth gwrs, ei adlewyrchu yn y Bil fel y'i drafftiwyd yn wreiddiol.
After very lengthy negotiations with the UK Government, we’ve now reached an agreement on amendments to the Bill. This includes a power to waive or relax the operation of the cap on the devolved public services in Wales should the Welsh Ministers feel it appropriate to do so. In practice, the Welsh Ministers will be able to determine appropriate arrangements for how the cap will apply. This power addresses concerns expressed by the workforce partnership council, in particular relating to pensions and lower paid workers, and we obviously want to protect the position of low-paid workers. Ar ôl trafodaethau hir iawn gyda Llywodraeth y DU, rydym bellach wedi dod i gytundeb ar newidiadau i'r Bil. Mae hyn yn cynnwys pŵer i hepgor neu lacio gweithredu’r cap ar y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru pe digwydd i Weinidogion Cymru deimlo ei bod yn briodol i wneud hynny. Yn ymarferol, bydd Gweinidogion Cymru yn gallu pennu trefniadau priodol ar gyfer sut y bydd y cap yn berthnasol. Mae'r pŵer hwn yn mynd i'r afael â phryderon a fynegwyd gan gyngor partneriaeth y gweithlu, yn enwedig o ran pensiynau a gweithwyr ar gyflogau is, ac rydym yn amlwg yn awyddus i amddiffyn sefyllfa gweithwyr cyflog isel.
There will be some exceptions to consider when using the new powers. For example, pay arrangements for Assembly Members are rightly something for the remuneration board to decide upon, and I give this guarantee to the Assembly that Welsh Ministers will not be exercising powers in respect of Assembly Members. We want to respect the appropriate constitutional relationship between Welsh Government and the National Assembly for Wales. Bydd rhai eithriadau i'w hystyried wrth ddefnyddio pwerau newydd. Er enghraifft, mae trefniadau cyflog ar gyfer Aelodau'r Cynulliad yn briodol yn rhywbeth i'r bwrdd taliadau benderfynu arno, ac rwy’n rhoi’r gwarantiad hwn i'r Cynulliad na fydd Gweinidogion Cymru yn arfer pwerau ynglŷn ag Aelodau’r Cynulliad. Rydym yn awyddus i barchu’r berthynas gyfansoddiadol briodol rhwng Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
I appreciate the amendments that we have secured have come at a very late stage, as I said, but I am pleased that we have managed to secure those amendments from the UK Government, and I ask the Assembly to support this motion. Rwy’n sylweddoli bod y gwelliannau yr ydym wedi’u sicrhau wedi dod yn hwyr iawn, fel y dywedais, ond rwy’n falch ein bod wedi llwyddo i sicrhau’r gwelliannau hynny gan Lywodraeth y DU, a gofynnaf i'r Cynulliad gefnogi'r cynnig hwn.
15:23 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
I call on the Chair of the Communities, Equality and Local Government Committee to speak—Christine Chapman. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i siarad—Christine Chapman.
15:23 - Christine Chapman
Thank you. The supplementary LCM for the Enterprise Bill was referred to the Communities, Equality and Local Government Committee for consideration, and this was completed on 25 February. The committee did not have the opportunity to consider the revised supplementary memorandum before us today, as this was laid after we had agreed our report. Our report, therefore, relates to the earlier of the LCMs. Diolch. Cafodd y cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol ar gyfer y Bil Menter ei gyfeirio at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i'w ystyried, a chwblhawyd ar 25 Chwefror. Ni chafodd y pwyllgor y cyfle i ystyried y memorandwm atodol diwygiedig sydd ger ein bron heddiw, gan fod ei fod wedi ei gyflwyno ar ôl i ni gytuno ar ein hadroddiad. Mae ein hadroddiad, felly, yn ymwneud â’r cynharaf o'r cynigion cydsyniad deddfwriaethol.
In our report, there were two matters that we wished to draw to the Assembly’s attention. First, we do not accept that the UK Government should be seeking to legislate in relation to the terms and conditions for public sector employees in Wales; instead, this should be a matter for the Welsh Government. Secondly, Assembly Commission staff are likely to be caught by the provisions in the Bill, and the effect of this would be that certain exit payments for Commission staff would need to be approved by the Welsh Ministers or the Secretary of State, and this is something that we do not support. Yn ein hadroddiad, roedd dau fater yr oeddem yn dymuno eu dwyn i sylw'r Cynulliad. Yn gyntaf, nid ydym yn derbyn y dylai Llywodraeth y DU geisio deddfu ynglŷn â thelerau ac amodau ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru; yn hytrach, dylai hyn fod yn fater i Lywodraeth Cymru. Yn ail, mae staff Comisiwn y Cynulliad yn debygol o gael eu dal gan y darpariaethau yn y Bil, ac effaith hyn yw y byddai angen i rai taliadau ymadael ar gyfer staff y Comisiwn gael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol, ac mae hyn yn rhywbeth nad ydym yn ei gefnogi.
Following our consideration of the memorandum, the Minister wrote to inform us of the outcome of discussions between him and the UK Government. These discussions had resulted in amendments being tabled to the Enterprise Bill, which enabled the Minister to lay a revised memorandum and to promote today’s motion. As I’ve mentioned, the committee did not have the opportunity to consider the revised LCM, but I am grateful to the Minister for keeping us informed about developments. Yn dilyn ein hystyriaeth o'r memorandwm, ysgrifennodd y Gweinidog i roi gwybod i ni am ganlyniad trafodaethau rhyngddo ef a Llywodraeth y DU. Roedd y trafodaethau hyn wedi arwain at welliannau yn cael eu cyflwyno i'r Bil Menter, a oedd yn galluogi'r Gweinidog i osod memorandwm diwygiedig ac i hyrwyddo cynnig heddiw. Fel yr wyf wedi ei grybwyll, ni chafodd y pwyllgor gyfle i ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol diwygiedig, ond rwy’n ddiolchgar i'r Gweinidog am roi’r newyddion diweddaraf i ni am ddatblygiadau.
15:25 - Mark Isherwood
After the Secretary of State tabled amendments to the Bill on 1 March, giving Welsh Ministers power to make regulations restricting relevant Welsh exit payments, members of the Communities, Equality and Local Government Committee received legal advice from Assembly lawyers that said that the constitutional separation between the Assembly and the Welsh Government is of paramount importance, but does not seem to have been taken properly into account in this Bill. Ar ôl i’r Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno gwelliannau i'r Bil ar 1 Mawrth, yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n cyfyngu taliadau ymadael perthnasol Cymru, derbyniodd aelodau o'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol gyngor cyfreithiol gan gyfreithwyr y Cynulliad a oedd yn dweud bod y gwahaniad cyfansoddiadol rhwng y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn hollbwysig, ond nid yw'n ymddangos bod hyn wedi cael ei ystyried yn briodol yn y Bil hwn.
You laid a further LCM, Minister, on 3 March with the Secretary of State’s proposed further amendments, as you detail. The legal advice we had was that if amendments proposed here are agreed, the Welsh Ministers would have the power to make regulations restricting exit payments for Assembly Members, and that if regulations were made the following would be caught: resettlement grants to Assembly Members voluntarily standing down, and an uplift in the pension paid to an Assembly Member who stands down early—for example, if they are not well. This cuts across the role of the remuneration board—the independent remuneration board. In passing the National Assembly for Wales (Remuneration) Measure 2010, the Assembly established the principle of the independence of that board. In the Presiding Officer’s letter to you of 7 March, she said that in passing the National Assembly for Wales (Remuneration) Measure 2010, the Assembly established the principle that all decisions relating to Members’ remuneration were made independently of the Assembly, the Assembly Commission and the Welsh Government, namely by the remuneration board. She said it’s therefore inappropriate for the Welsh Ministers to have any remit in relation to Members’ remuneration, including those who hold additional offices. She said there’s been no recognition of the need for constitutional separation between the Welsh Ministers and the Assembly in relation to exit payments for staff of the Assembly Commission—a matter referred to by the Chair of the Communities, Equality and Local Government Committee a moment ago. Gwnaethoch gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol pellach, Weinidog, ar 3 Mawrth gyda gwelliannau arfaethedig ychwanegol yr Ysgrifennydd Gwladol, fel yr ydych wedi eu manylu. Y cyngor cyfreithiol a gawsom oedd os bydd y gwelliannau arfaethedig hyn yn cael eu derbyn, byddai gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud rheoliadau sy'n cyfyngu taliadau ymadael ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, a phe byddai rheoliadau'n cael eu gwneud byddai’r canlynol yn cael eu dal: grantiau ailsefydlu i Aelodau'r Cynulliad sy’n rhoi’r gorau iddi yn wirfoddol, a chynnydd yn y pensiwn a delir i Aelod Cynulliad sy'n rhoi’r gorau iddi yn gynnar—er enghraifft, os nad ydynt yn dda eu hiechyd. Mae hyn yn torri ar draws swyddogaeth y bwrdd taliadau—y bwrdd taliadau annibynnol. Wrth basio Mesur (Taliadau) Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2010, sefydlodd y Cynulliad yr egwyddor o annibyniaeth y bwrdd. Yn llythyr y Llywydd atoch chi ar 7 Mawrth dywedodd hi fod y Cynulliad, wrth basio Mesur (Taliadau) Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2010 wedi sefydlu’r egwyddor fod pob penderfyniad sy'n ymwneud â thâl Aelodau yn cael eu gwneud yn annibynnol ar y Cynulliad, Comisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru, sef gan y bwrdd taliadau. Dywedodd ei bod yn anaddas, felly, i Weinidogion Cymru gael unrhyw gylch gorchwyl yn ymwneud â thâl cydnabyddiaeth yr Aelodau, gan gynnwys y rhai sy'n dal swyddi ychwanegol. Dywedodd na fu unrhyw gydnabyddiaeth o'r angen am wahanu cyfansoddiadol rhwng Gweinidogion Cymru a'r Cynulliad mewn cysylltiad â thaliadau ymadael ar gyfer staff Comisiwn y Cynulliad—mater y cyfeiriwyd ato gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol funud yn ôl .
In your response, you say the amendments would give Welsh Ministers regulation-making powers in relation to exit payments to Assembly Members. You say, ‘However, I can confirm that it’s not my intention to interfere with the systems already in place’. And you also confirm that if the regulation-making power lies with the Welsh Ministers, you would not seek to exercise that power. But you are only Ministers for the next few weeks, and this is a regulation power in place until there will be a subsequent legislative change in the future. It’s the transfer of the power that is the constitutional outrage and the breach of the vote of the Assembly in 2010 regarding the independence of remuneration, and not what you individually or your current colleagues, individually, may themselves do in the remaining weeks of this Assembly. Yn eich ymateb, dywedwch y byddai'r gwelliannau yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau yn ymwneud â thaliadau ymadael i Aelodau'r Cynulliad. Rydych yn dweud, 'Fodd bynnag, gallaf gadarnhau nad yw'n fwriad gennyf i amharu ar y systemau sydd eisoes ar waith'. Ac rydych hefyd yn cadarnhau, os bydd y pŵer i wneud rheoliadau yn gorwedd gyda Gweinidogion Cymru, ni fyddech yn ceisio arfer y pŵer hwnnw. Ond dim ond am yr ychydig wythnosau nesaf yr ydych yn Weinidogion, ac mae hwn yn bŵer rheoleiddio sydd ar waith hyd nes y bydd newid deddfwriaethol dilynol yn y dyfodol. Y trosglwyddo ar y pŵer yw’r ymosodiad cyfansoddiadol ac sy’n groes i bleidlais y Cynulliad yn 2010 ynghylch annibyniaeth cydnabyddiaeth tâl, ac nid yr hyn y gallech chi yn unigol neu eich cydweithwyr presennol, yn unigol, ei wneud yn yr wythnosau sy'n weddill o'r Cynulliad hwn.
You also refer to the need for further discussion and confirmation from the Treasury as to their intention regarding Assembly office holders, such as the Presiding Officer, the Deputy Presiding Officer and Assembly Commissioners, and the need to discuss available options with the Treasury officials more broadly regarding the delegation of the power to relax the cap to Assembly Commissioners in respect of Assembly Commission staff. But we don’t know how Treasury officials might have responded to that, and whether that is responding in a way that would further perhaps address the concerns we might have, and yet we’re being asked to vote on this. So, we can’t vote in support of a matter that raises serious questions about not only the separation of power between Parliament and Government, but also acts in apparent breach of the vote of the Assembly in 2010 regarding the essential principle that remuneration of Members here must be independent. Rydych hefyd yn cyfeirio at yr angen am drafodaeth bellach a chadarnhad gan y Trysorlys ynghylch eu bwriad o ran deiliaid swyddi’r Cynulliad, megis y Llywydd, y Dirprwy Lywydd a Chomisiynwyr y Cynulliad, a'r angen i drafod y dewisiadau sydd ar gael gyda swyddogion y Trysorlys yn ehangach ynglŷn â dirprwyo'r pŵer i lacio'r cap i Gomisiynwyr y Cynulliad mewn cysylltiad â staff Comisiwn y Cynulliad. Ond nid ydym yn gwybod sut y gallai swyddogion y Trysorlys fod wedi ymateb i hynny, a pha un a yw hynny'n ymateb mewn ffordd a fyddai o bosibl yn mynd i'r afael ymhellach â'r pryderon y gallai fod gennym, ac eto gofynnir i ni bleidleisio ar hyn. Felly, ni allwn bleidleisio o blaid mater sy'n codi cwestiynau pwysig ynghylch nid yn unig gwahanu pŵer rhwng y Senedd a'r Llywodraeth, ond sydd hefyd yn gweithredu yn groes yn ymddangosiadol i bleidlais y Cynulliad yn 2010 ynghylch yr egwyddor hanfodol bod yn rhaid i daliadau cydnabyddiaeth i’r Aelodau yma fod yn annibynnol.
15:29 - Mick Antoniw
Minister, it’s an intriguing LCM and, of course, the legislation is intriguing itself, more by the things it selectively chooses, rather than what it does. Can I first of all say that I think the amendments that you have secured are very much to be welcomed and very important in terms of the role that we play in this Assembly within the public sector? Can I also say that this particular section that the LCM deals with is unfortunate in a way, because it seeks to treat the public sector very differently from the private sector? For example, we know that the top pay—the ‘Financial Times’ recent data are that top pay is now 120 times that of the average working person’s pay, and that’s a 21 per cent increase—or 44 per cent, if you take share advantages that are given. It was only 47 times in 2000; 30 times a decade earlier. We also see that the pay of directors and chief executives in the private sector—which this section actually avoids—is now an average of £2.5 million for the average FTSE 100 director, and the average chief executive is £3.5 million. And, over the last 14 years, they’ve secured for themselves a 278 per cent increase. Weinidog, mae’n gynnig cydsyniad deddfwriaethol diddorol ac, wrth gwrs, mae'r ddeddfwriaeth yn ddiddorol ynddi ei hun, yn fwy o ran y pethau y mae'n eu dewis yn ddetholus, yn hytrach na'r hyn y mae'n ei wneud. A gaf i yn gyntaf oll ddweud fy mod yn meddwl bod y gwelliannau yr ydych wedi’u sicrhau i'w croesawu yn fawr iawn ac yn bwysig iawn o ran y swyddogaeth yr ydym ni yn ei chyflawni yn y Cynulliad hwn o fewn y sector cyhoeddus? A gaf i hefyd ddweud bod yr adran benodol hon y mae’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn ymdrin â hi yn anffodus mewn ffordd, oherwydd ei bod yn ceisio trin y sector cyhoeddus yn wahanol iawn i'r sector preifat? Er enghraifft, rydym yn gwybod bod cyflog uchaf—data diweddar y 'Financial Times' yw bod y cyflog uchaf yn awr 120 gwaith yn fwy na chyflog yr unigolyn cyfartalog sy’n gweithio, ac mae hynny'n gynnydd o 21 y cant—neu 44 y cant, os ydych yn ystyried manteision cyfranddaliadau a roddir. Dim ond 47 gwaith oedd hyn yn 2000; 30 gwaith ddegawd cyn hynny. Rydym hefyd yn gweld bod tâl cyfarwyddwyr a phrif weithredwyr yn y sector preifat—y mae’r adran hon mewn gwirionedd yn ei osgoi—bellach yn £2.5 miliwn ar gyfartaledd ar gyfer cyfarwyddwr cyfartalog y FTSE 100, ac mae tâl prif weithredwr cyfartalog yn £3.5 miliwn. A, dros y 14 mlynedd diwethaf, maen nhw wedi sicrhau cynnydd o 278 y cant iddynt hwy eu hunain.
Now, I only mention that to emphasise the way in which that is not being dealt with by the Government in the Enterprise Bill, and it seems to me that there is a vendetta against the public sector. Now, we know from other legislation that’s coming through that the Tories do not like the public sector, they do not like the concept of collective bargaining, and we can also see that from the Trade Union Bill, which you have also been dealing with. And I just wonder, Minister, in terms of the different approach that we have in Wales of social partnership, social engagement, engagement with trade unions, arranging to work alongside and in conjunction with the people who serve us so well in the public sector, are there any ways in which you can see the Enterprise Bill being further amended in order to protect the position that we want to pursue, one of co-operation and partnership in Wales, as opposed to the sort of conflict that legislation coming from Westminster seeks to engage. Nawr, rwyf yn sôn am hynny dim ond i bwysleisio’r ffordd nad yw hynny’n cael sylw gan y Llywodraeth yn y Bil Menter, ac mae'n ymddangos i mi fod fendeta yn erbyn y sector cyhoeddus. Nawr, rydym yn gwybod o ddeddfwriaeth arall sy'n dod trwodd nad yw'r Torïaid yn hoffi’r sector cyhoeddus, nad ydynt yn hoffi’r cysyniad o fargeinio ar y cyd, a gallwn hefyd weld hynny o’r Bil Undebau Llafur, yr ydych hefyd wedi bod yn ymdrin ag ef. Ac rwy’n meddwl, Weinidog, o ran y dull gwahanol sydd gennym yng Nghymru o ran partneriaeth gymdeithasol, ymgysylltiad cymdeithasol, ymgysylltu ag undebau llafur, trefnu i weithio ochr yn ochr ac ar y cyd â'r bobl sy'n ein gwasanaethu mor dda yn y sector cyhoeddus, a oes unrhyw ffyrdd y gallwch weld y Bil Menter yn cael ei ddiwygio ymhellach er mwyn amddiffyn y safbwynt yr ydym yn dymuno ei ddilyn, un o gydweithrediad a phartneriaeth yng Nghymru, yn hytrach na'r math o wrthdaro y mae deddfwriaeth sy'n dod o San Steffan yn ceisio ymgysylltu ag ef.
15:31 - Rhun ap Iorwerth
A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am nodi rhai o’r gwendidau, yr wyf i’n cytuno efo fo, sydd wedi bod yn y broses sydd wedi’n harwain ni at y pwynt yma? Yn sicr, mae’r diffygion o ran y gallu gan y Cynulliad yma i sgrwtineiddio cynigion a oedd yn dod yn rhy hwyr, ac, yn sgîl hynny, y methiant gan bwyllgor yn y fan hyn i ddylanwadu ar y Bil yn y pen draw. May I thank the Minister for noting some of the weaknesses that, I agree with him, there have been in the process that has led us to this point? Certainly, there have been deficiencies in terms of the ability of this Assembly to scrutinise the proposals, which came at too late a date, and, as a result of that, the failure of the committee here to actually bring influence to bear on the Bill, ultimately.
Ar y cwestiwn o rôl Gweinidogion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â thaliadau i Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol, rwyf wedi darllen y llythyr a dderbyniwyd gan y Gweinidog heddiw, yn nodi ei fod o’n teimlo ei fod o wedi cael y sicrwydd angenrheidiol—er nad y sicrwydd terfynol, felly. Ond mi dderbyniwn ni yr hyn sydd yn y llythyr hwnnw, er mwyn ein galluogi ni i gefnogi’r memorandwm heddiw. In terms of the role of Welsh Ministers in relation to payments to Members of the National Assembly, I have read the letter that was issued by the Minister today, noting that he feels that he has been given the necessary assurances—although not perhaps the final assurances. But we will accept the content of that letter at face value to enable us to support the memorandum today.
Mi wnaf fi ddefnyddio’r cyfle yma, serch hynny, i dynnu sylw at un mater o bryder ynglŷn â’r cap ar daliadau diswyddo. Mi gytunaf fi efo’r Gweinidog, a oedd yn dweud, mewn egwyddor, wrth gwrs, rydym ni’n cytuno â’r angen i fod yn gyfrifol ynglŷn â sut mae taliadau diswyddo yn cael eu gweithredu. Mae yna wahaniaeth, serch hynny, yn gallu dod i’r amlwg rhwng egwyddor y mae rhywun yn ei chefnogi a beth sy’n bosib ac yn deg yn ymarferol. I will take this opportunity, however, to highlight one issue of concern on the cap on redundancy payments. I agree with the Minister, who said that, in principle, of course, we are agreed on the need to be responsible on how exit payments are made. There is a difference, however, that can emerge between a principle that one could support and what is possible and fair on a practical level.
Mi dynnaf fi sylw at bryderon dwys gan aelodau o staff yn Wylfa, sydd yn wynebu cyfnod anodd rŵan lle mae nifer yn mynd i allu derbyn taliadau diswyddo heb eu capio ar ôl gyrfaoedd hir yn Wylfa, lle mae eraill, a fyddai o bosib wedi dewis derbyn tâl diswyddo rŵan, yn cael eu gofyn i aros ymlaen i barhau â’r gwaith o ddatgomisiynu yr orsaf honno oherwydd bod ganddyn nhw’r sgiliau angenrheidiol i wneud hynny. Ond, oherwydd y byddan nhw yn aros ymlaen, bydd y taliadau diswyddo maen nhw’n gwybod sy’n mynd i ddod ymhen ychydig flynyddoedd yn mynd i gael eu capio. Ac, yn amlwg, mae hynny’n achos o amodau a thelerau gwaith yn cael eu newid mewn ffordd annheg, dadleuwn i, yng nghanol tymor cyflogaeth. I will highlight the serious concerns of staff members at Wylfa, who are facing a difficult period now where many will be able to access redundancy payments at an uncapped level after lengthy careers at Wylfa, whereas others, who perhaps would have chosen to take a redundancy payment now, are asked to stay on to continue with the decommissioning work because they have the necessary skills to do that. But, because they are to stay on, the redundancy payment that they know will come in a few years’ time will be capped. Clearly, that is a case of terms and conditions being changed in a way that, I would say, is unfair in the middle of their term of employment.
Ond, wrth gwrs, nid ydy hynny’n rhywbeth sydd wedi cael ei ddatganoli i’r Cynulliad nac i Weinidogion yn y fan hyn. Mi oedd hi’n bwysig, serch hynny, nodi hynny ar y cofnod. Ond, ar ôl derbyn y sicrwydd gan y Gweinidog bod y camau cywir wedi cael eu cymryd gan Lywodraeth Prydain, o ran rhoi sicrwydd ar ambell i fater, mi wnawn ni gefnogi’r memorandwm. But that isn’t something that has been devolved to this Assembly or to Ministers here. It was important, however, to note that and put it on the record. But, having been given assurances by the Minister that the necessary steps have been taken by the UK Government, in terms of providing assurances on certain issues, we will support the memorandum.
15:34 - Peter Black
The Welsh Liberal Democrats will also support the memorandum, because, although we have reservations—as have been expressed by other Members—we recognise the policy intent is one that we can support, but it’s right that we should be restricting pay offs too at a certain level in terms of the use of public money. I think, though, that there are some clear issues around the way this Bill has been drafted and I think it underlines the problems of Government departments writing legislation that have had no previous engagement with the devolution process and don’t understand how the Welsh Assembly and the Welsh Government work. I think, clearly, the issue around the independence of the remuneration board is one that does give some concern. I should say, in talking today, I declare that I’m a member of the Assembly Commission because I will be talking about Assembly Commission staff, which should retain—details around that should remain with the Assembly Commission in my view. Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hefyd yn cefnogi'r memorandwm, oherwydd, er bod gennym amheuon—fel sydd wedi eu mynegi gan Aelodau eraill—rydym yn cydnabod bod bwriad y polisi yn un y gallwn ei gefnogi, ond mae'n iawn y dylem fod yn cyfyngu cyflogau olaf hefyd ar lefel benodol o ran y defnydd o arian cyhoeddus. Rwy’n meddwl, fodd bynnag, bod rhai materion clir o amgylch y ffordd y mae’r Bil hwn wedi ei ddrafftio ac rwy'n credu ei fod yn tanlinellu problemau adrannau'r Llywodraeth yn ysgrifennu deddfwriaeth pan nad ydynt wedi cael unrhyw ymgysylltiad blaenorol â'r broses ddatganoli ac nad ydynt yn deall sut y mae Cynulliad Cymru a Llywodraeth Cymru yn gweithio. Rwy’n credu, yn amlwg, bod y mater o amgylch annibyniaeth y bwrdd taliadau yn un sy’n codi rhywfaint o bryder. Dylwn ddweud, wrth siarad heddiw, fy mod yn datgan fy mod yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad oherwydd byddaf yn siarad am staff Comisiwn y Cynulliad, a ddylai gadw—dylai manylion ynghylch hynny aros gyda Chomisiwn y Cynulliad yn fy marn i.
I take on board the Minister’s assurances, which he’s given in relation to this, that he does not wish to compromise the independence of the remuneration board and he does not wish to interfere with the Assembly Commission in how they deal with their particular staff. But I am concerned, of course. As I understand it, the Secretary of State for Wales may still have the power to do that. I wonder whether the Minister could confirm whether the amended Bill still allows the Secretary of State for Wales to carry out that role separate from Welsh Ministers if needs be, or does it have to now all go through Welsh Ministers, because if the Secretary of State for Wales can carry out this role then I think he needs to be aware of the way we set up and how the remuneration board is considered to be independent, because I don’t want to be involved with dealing with Assembly Members’ pay and conditions, and I don’t think anybody else in this Chamber does, and I think, clearly, we shouldn’t have UK legislation that, effectively, gives Ministers the right to do so. Rwy’n derbyn sicrwydd y Gweinidog, y mae ef wedi’i roi ynglŷn â hyn, nad yw'n dymuno peryglu annibyniaeth y bwrdd taliadau ac nad yw'n dymuno ymyrryd â Chomisiwn y Cynulliad yn y ffordd y mae’n ymdrin â’i staff penodol. Ond rwyf yn pryderu, wrth gwrs. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, gallai Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddal i fod â’r pŵer i wneud hynny. Tybed a allai'r Gweinidog gadarnhau pa un a yw'r Bil wedi’i ddiwygio yn dal yn caniatáu i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gynnal y swyddogaeth ar wahân i Weinidogion Cymru os oes angen, neu a oes yn rhaid iddo i gyd bellach fynd drwy Weinidogion Cymru, oherwydd os gall Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyflawni'r swyddogaeth hon, yna rwy’n meddwl bod angen iddo fod yn ymwybodol o'r ffordd y gwnaethom sefydlu’r bwrdd taliadau a sut y caiff ei ystyried i fod yn annibynnol, oherwydd nid wyf yn dymuno ymwneud ag ymdrin â thâl ac amodau Aelodau'r Cynulliad, ac nid wyf yn credu bod unrhyw un arall yn y Siambr hon, ac rwy’n credu, yn amlwg, na ddylem gael deddfwriaeth y DU, sydd, mewn gwirionedd, yn rhoi'r hawl i Weinidogion wneud hynny.
Deputy Presiding Officer, I think the key issue here is whether the Minister can secure any further amendments to actually reflect the actual position that is set out in the Bill. I understand, of course, we won’t be able to have an LCM, because this is our penultimate meeting. But I wonder whether the Minister is still talking to the UK Government about whether any further amendments can be brought to this legislation that do recognise the way things have been set up in the Welsh Assembly. Ddirprwy Lywydd, rwy’n meddwl mai’r mater allweddol yma yw pa un a all y Gweinidog sicrhau unrhyw welliannau pellach i adlewyrchu'r sefyllfa wirioneddol sy'n cael ei nodi yn y Bil mewn gwirionedd. Rwy’n deall, wrth gwrs, na fyddwn yn gallu cael cynnig cydsyniad deddfwriaethol, oherwydd mai hwn yw ein cyfarfod olaf ond un. Ond tybed a yw'r Gweinidog yn dal i siarad â Llywodraeth y DU ynghylch pa un a all unrhyw welliannau pellach gael eu dwyn i’r ddeddfwriaeth hon sydd yn cydnabod y ffordd y mae pethau wedi eu sefydlu yn y Cynulliad.
15:37 - Jeff Cuthbert
I’m grateful for the opportunity to contribute on this matter. I thank the Minister for his update and support the Welsh Government’s position on this particular aspect of the Bill. It appears that the amended LCM put forward by the UK Government gives powers back to the Welsh Government, which is, essentially, what we have asked for. It is quite right that decisions with regard to how any cap is applied to public bodies that fall within a devolved competence are made here in Wales in line with the principles of our devolution settlement. While the UK Government has certainly taken its time in coming back to the negotiating table on this one and, as ever, does not seem to trust the devolved Government in Wales, the power of the Welsh Government to vary Treasury regulations as they affect devolved areas is to be welcomed and establishes clarity. As I’m sure the Minister would agree, the amended LCM is not ideal in terms of what we originally wanted, but we have established some key priorities here in line with our devolution settlement and I thank the Minister for his work in this area. It is for this reason that I will be supporting the Welsh Government. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu ar y mater hwn. Diolchaf i'r Gweinidog am ei ddiweddariad ac rwy’n cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru ar yr agwedd benodol hon ar y Bil. Mae'n ymddangos bod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol diwygiedig a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn rhoi pwerau yn ôl i Lywodraeth Cymru, sydd, yn ei hanfod, yr hyn yr ydym wedi gofyn amdano. Mae'n hollol iawn bod penderfyniadau o ran sut y mae unrhyw gap yn cael ei gymhwyso i gyrff cyhoeddus sy'n dod o fewn cymhwysedd datganoledig yn cael eu gwneud yma yng Nghymru yn unol ag egwyddorion ein setliad datganoli. Er bod Llywodraeth y DU yn sicr wedi cymryd ei hamser i ddod yn ôl at y bwrdd trafod ar y mater hwn ac, fel arfer, nid yw'n ymddangos i fod yn ymddiried yn y Llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, mae pŵer Llywodraeth Cymru i amrywio rheoliadau'r Trysorlys fel y maent yn effeithio ar feysydd datganoledig i'w groesawu ac yn sefydlu eglurder. Fel rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno, nid yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol diwygiedig yn ddelfrydol o ran yr hyn yr ei eisiau yn wreiddiol, ond rydym wedi sefydlu rhai blaenoriaethau allweddol yma yn unol â'n setliad datganoli ac rwy’n diolch i'r Gweinidog am ei waith yn y maes hwn. Dyma pam y byddaf yn cefnogi Llywodraeth Cymru.
15:38 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
And the Minister to reply. A’r Gweinidog i ateb.
15:38 - Leighton Andrews
Thank you, Deputy Presiding Officer. I’m grateful to all the Members who’ve taken part in the debate here today and to the Chair and members of the Communities, Equality and Local Government Committee for their scrutiny of the previous LCM, and it was important that the Assembly consider the impact of the public sector exit payment capping provisions within the Enterprise Bill. And can I say to the Chair of the Communities, Equality and Local Government Committee that, of course, had we not secured the amendments that we have now secured from the UK Government then we would have been voting against the original LCM that we tabled? Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl yma heddiw ac i Gadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol am eu craffu ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol blaenorol, ac roedd yn bwysig bod y Cynulliad yn ystyried effaith darpariaethau capio taliadau ymadael y sector cyhoeddus yn y Bil Menter. Ac a gaf i ddweud wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, wrth gwrs, pe na byddem wedi sicrhau'r gwelliannau yr ydym bellach wedi eu sicrhau gan Lywodraeth y DU yna byddem wedi bod yn pleidleisio yn erbyn y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gwreiddiol a gyflwynwyd gennym.
I do need to spell out, I think, to Mark Isherwood that the situation we face is not of our doing. It is actually down to his colleagues in Westminster and their Bill and the approach that they have taken, which has resulted in the situation that we now have to address. Let me say that my officials and I have been seeking amendments to this Bill since last September and I have a very clear chronology of the way in which we’ve sought to take this forward. And, Peter Black, let me say, is right to say that this is another example of Westminster legislation being drawn up on a Westminster-only template without thought of the impact on devolved administrations. Therefore, we have had to make it clear very firmly to the UK Government that we were prepared to vote against an LCM unless amendments were brought forward, and they were brought forward at a very late stage indeed. Mae angen i mi egluro, rwy’n credu, i Mark Isherwood nad ni sy’n gyfrifol am y sefyllfa sy'n ein hwynebu. Mae'n fater mewn gwirionedd i'w gydweithwyr ef yn San Steffan a'u Bil a'r agwedd y maent wedi ei chymryd, sydd wedi arwain at y sefyllfa y mae’n rhaid i ni fynd i'r afael â hi yn awr. Gadewch i mi ddweud bod fy swyddogion a minnau wedi bod yn ceisio gwelliannau i'r Bil hwn ers mis Medi diwethaf ac mae gen i gronoleg glir iawn o'r ffordd yr ydym wedi ceisio bwrw ymlaen â hyn. Ac mae, Peter Black, gadewch i mi ddweud, yn iawn i ddweud bod hyn yn enghraifft arall o ddeddfwriaeth San Steffan yn cael ei llunio ar dempled San Steffan yn unig heb feddwl am yr effaith ar y gweinyddiaethau datganoledig. Felly, bu'n rhaid i ni ei gwneud yn glir yn gadarn iawn i Lywodraeth y DU ein bod yn barod i bleidleisio yn erbyn Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol oni bai bod gwelliannau yn cael eu dwyn ymlaen, a chawsant eu dwyn ymlaen yn hwyr iawn yn wir.
I am grateful for the assurances from the Liberal Democrats and from Plaid Cymru that they will be supporting the LCM today and that they appreciate the problems that have arisen in our approach to this issue and the way in which we’ve had to seek those amendments and the way that we have given reassurances also, let me say, on the constitutional position to the Presiding Officer in respect of the issues that have arisen over the balance between Welsh Government, the National Assembly and, indeed, the independence of the remuneration board. Can I just quote from the letter I’ve sent to the Presiding Officer today? I said that I’d confirmed in my previous letter that it would be inappropriate for Welsh Ministers to make any regulations that fetter the power of the remuneration board to make decisions on exit payments. Rwy’n ddiolchgar am y sicrwydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru y byddant yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw a'u bod yn gwerthfawrogi'r problemau sydd wedi codi yn ein hymagwedd at y mater hwn a'r ffordd yr ydym wedi gorfod chwilio am y gwelliannau hynny a'r ffordd yr ydym wedi rhoi sicrwydd hefyd, gadewch i mi ddweud, ar y sefyllfa gyfansoddiadol i’r Llywydd o ran y materion sydd wedi codi dros y cydbwysedd rhwng Llywodraeth Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol ac, yn wir, annibyniaeth y bwrdd taliadau. A gaf i ddyfynnu o'r llythyr yr wyf wedi anfon at y Llywydd heddiw? Dywedais fy mod i wedi cadarnhau yn fy llythyr blaenorol y byddai'n amhriodol i Weinidogion Cymru wneud unrhyw reoliadau sy'n llyffetheirio pŵer y bwrdd taliadau i wneud penderfyniadau am daliadau ymadael.
I think that there are some outstanding issues, as Peter Black has rightly mentioned, and there are still conversations going on between my officials and Treasury officials, and we are also engaging, obviously, with the Presiding Officer in this as well, and it is right that we do so. I think the Presiding Officer has circulated my letter of today to Assembly Members so that they can see the steps that we have been taking to resolve these issues. I appreciate, as the Plaid Cymru spokesperson said, that this has made difficult effective scrutiny within the Assembly, but I do think that we have got to a position that is clearly far better than the original position. I’m glad that my colleague Jeff Cuthbert was able to put that on the record. My colleague Mick Antoniw, the Member for Pontypridd, rightly raised the difference in approach between the private sector and the public sector, and I am pleased that we’ve had the opportunity to discuss these issues in some detail at our workforce partnership council, where we’ve had the views of both employers and trade unions, demonstrating our commitment to the social partnership approach, and they have welcomed the way in which we’ve taken this forward and the amendments that we’ve been able to secure. Credaf fod rhai materion nad ydynt wedi eu datrys, fel y mae Peter Black wedi sôn yn briodol, ac mae sgyrsiau yn digwydd rhwng fy swyddogion i a swyddogion y Trysorlys o hyd, ac rydym hefyd yn ymgysylltu, yn amlwg, gyda'r Llywydd yn hyn hefyd, ac mae'n iawn ein bod yn gwneud hynny. Rwy'n credu bod y Llywydd wedi dosbarthu fy llythyr dyddiedig heddiw i Aelodau'r Cynulliad er mwyn iddynt allu gweld y camau yr ydym wedi bod yn eu cymryd i ddatrys y materion hyn. Rwy’n sylweddoli, fel y dywedodd llefarydd Plaid Cymru, fod hyn wedi gwneud gwaith craffu effeithiol yn anodd yn y Cynulliad, ond rwyf yn meddwl ein bod wedi cyrraedd sefyllfa sydd yn amlwg yn llawer gwell na'r sefyllfa wreiddiol. Rwy'n falch fod fy nghydweithiwr Jeff Cuthbert wedi gallu rhoi hynny ar y cofnod. Gwnaeth fy nghydweithiwr Mick Antoniw, yr Aelod dros Bontypridd, yn briodol godi’r gwahaniaeth yn y dull rhwng y sector preifat a'r sector cyhoeddus, ac rwy’n falch ein bod wedi cael y cyfle i drafod y materion hyn yn fanwl yn ein cyngor partneriaeth y gweithlu, lle’r ydym wedi cael barn cyflogwyr ac undebau llafur, gan ddangos ein hymrwymiad i'r dull partneriaeth gymdeithasol, ac maent wedi croesawu'r ffordd yr ydym wedi datblygu hyn a’r gwelliannau yr ydym wedi gallu eu sicrhau.
Deputy Presiding Officer, I’d like to close by reiterating our support for the LCM and our continued support for ensuring exit payments made in Wales are fair, appropriate and offer value to taxpayers. We believe that the amendments to the Enterprise Bill enable Welsh Ministers to ensure the restriction of excessive exit payments across the devolved public sector workforce but, at the same time, will allow us to protect low-paid people. But we will ensure that we implement the powers that are given to us as Welsh Ministers in a way that respects the constitutional settlement here in Wales and respects the independence of the remuneration board. Ddirprwy Lywydd, hoffwn gloi drwy ailadrodd ein cefnogaeth i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol a'n cefnogaeth barhaus i sicrhau bod taliadau ymadael a wneir yng Nghymru yn deg, yn briodol ac yn cynnig gwerth i drethdalwyr. Rydym yn credu bod y gwelliannau i'r Bil Menter yn galluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau cyfyngiad ar daliadau ymadael gormodol ar draws y gweithlu datganoledig yn y sector cyhoeddus, ond, ar yr un pryd, yn ein galluogi i ddiogelu pobl ar gyflog isel. Ond byddwn yn sicrhau ein bod yn gweithredu'r pwerau sy'n cael eu rhoi i ni fel Gweinidogion Cymru mewn ffordd sy'n parchu’r setliad cyfansoddiadol yma yng Nghymru ac yn parchu annibyniaeth y bwrdd taliadau.
15:42 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting on this item to voting time. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Voting deferred until voting time.
8. Supplementary Legislative Consent Motion on the UK Housing and Planning Bill relating to Compulsory Purchase Provisions Et Cetera 8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil Tai a Chynllunio y DU sy’n ymwneud â Darpariaethau Prynu Gorfodol ac Ati
15:42 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Item 8 is a supplementary legislative consent motion on the Housing and Planning Bill, relating to compulsory purchase provisions, et cetera. I call on the Minister for Natural Resources to move the motion—Carl Sargeant. Eitem 8 yw cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol ar y Bil Tai a Chynllunio, sy'n ymwneud â darpariaethau prynu gorfodol, ac ati. Galwaf ar y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i gynnig y cynnig—Carl Sargeant.
Cynnig NDM5995 Carl Sargeant Motion NDM5995 Carl Sargeant
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Tai a Chynllunio sy’n ymwneud â phrynu gorfodol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 29.6 agrees that provisions in the Housing and Planning Bill, relating to compulsory purchase in so far as they fall within the legislative competence of the National Assembly for Wales, should be considered by the UK Parliament.
Cynigiwyd y cynnig. Motion moved.
15:42 - Carl Sargeant
Thank you, Deputy Presiding Officer. I welcome this opportunity to explain the background of the supplementary legislative consent memorandum, tabled on 22 January. I’d also like to thank the Environment and Sustainability Committee for their scrutiny of this Bill. Compulsory purchase is an important tool to help assemble the land necessary to deliver sustainable development where negotiation with landowners has failed. There exist compulsory purchase provisions associated with many areas of devolved competence, including roads, planning and regeneration. The LCM deals with the changes to the compulsory purchase regime set out in Part 7 of Schedules 14 to 19 to the Housing and Planning Bill. The stated aim of the changes is to streamline and update the compulsory purchase regime to make it clearer, faster and fairer. The proposals are generally technical in nature and make changes in a number of areas, including the surveying of land by acquiring authorities and compensation arrangements, et cetera. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu'r cyfle hwn i esbonio cefndir y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol, a gyflwynwyd ar 22 Ionawr. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd am eu gwaith craffu ar y Bil hwn. Mae prynu gorfodol yn arf pwysig i helpu i grynhoi’r tir sy'n angenrheidiol i gyflawni datblygu cynaliadwy pan fo trafodaethau gyda thirfeddianwyr wedi methu. Mae darpariaethau prynu gorfodol yn bodoli sy'n gysylltiedig â llawer o feysydd o gymhwysedd datganoledig, gan gynnwys ffyrdd, cynllunio ac adfywio. Mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn ymdrin â'r newidiadau i'r drefn prynu gorfodol a nodir yn Rhan 7 o Atodlenni 14 i 19 y Bil Tai a Chynllunio. Nod datganedig y newidiadau yw symleiddio a diweddaru'r drefn prynu gorfodol i'w gwneud yn gliriach, yn gyflymach ac yn decach. Mae'r cynigion yn gyffredinol dechnegol eu natur ac yn gwneud newidiadau mewn nifer o feysydd, gan gynnwys tirfesur tir gan awdurdodau caffael a threfniadau iawndal, ac ati.
As the committee report makes clear, consultation has not taken place in Wales. I’m grateful for the committee seeking the initial views of stakeholders, including the Law Society, Dŵr Cymru and the Welsh Local Government Association, on these matters, and I note that these stakeholders broadly support the proposals. To ensure the proper consultation can take place in Wales, I wrote to Brandon Lewis MP, the Minister for Housing and Planning, to request that the Bill be amended to give the Welsh Ministers a power to apply, with modification, the compulsory purchase provisions in relation to Wales—an approach that has been agreed in the past. Unfortunately, the Minister for Housing and Planning has refused my request as he does not consider that compulsory purchase is within the legislative competence of the National Assembly. I disagree with him on this point. Compulsory purchase clearly relates to areas of devolved competence and is an essential tool to deliver Welsh policy objectives. Therefore, Deputy Presiding Officer, I can no longer support the motion, as it would be wrong to introduce the legislation in Wales without consultation and the consent of this National Assembly. Fel y mae adroddiad y pwyllgor yn ei wneud yn glir, nid yw ymgynghori wedi digwydd yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am geisio barn gychwynnol rhanddeiliaid, gan gynnwys Cymdeithas y Gyfraith, Dŵr Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ar y materion hyn, a nodaf fod y rhanddeiliaid hyn yn fras yn cefnogi'r cynigion. Er mwyn sicrhau y gall yr ymgynghori priodol ddigwydd yng Nghymru, ysgrifennais at Brandon Lewis AS, y Gweinidog dros Dai a Chynllunio, i ofyn bod y Bil yn cael ei ddiwygio i roi pŵer i Weinidogion Cymru i gymhwyso, gydag addasiad, y darpariaethau prynu gorfodol yn ymwneud â Chymru—dull y cytunwyd arno yn y gorffennol. Yn anffodus, mae’r Gweinidog dros Dai a Chynllunio wedi gwrthod fy nghais gan nad yw'n ystyried bod prynu gorfodol o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Rwy’n anghytuno ag ef ar y pwynt hwn. Mae prynu gorfodol yn ymwneud yn glir â meysydd lle mae'r pwerau wedi'u datganoli ac mae’n offeryn hanfodol i gyflawni amcanion polisi Cymru. Felly, Ddirprwy Lywydd, ni allaf gefnogi'r cynnig mwyach, gan na fyddai’n iawn i gyflwyno'r ddeddfwriaeth yng Nghymru heb ymgynghori a chydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol hwn.
15:44 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
I call the Chair of the Environment and Sustainability Committee, Alun Ffred Jones. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Alun Ffred Jones.
15:44 - Alun Ffred Jones
Diolch yn fawr. Fe drafodom ni’r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol ar y Bil Tai a Chynllunio yn ein cyfarfod ar 25 Chwefror 2016. Thank you very much. We discussed the supplementary legislative consent memorandum on the Housing and Planning Bill in our meeting on 25 February 2016.
Mae ein hystyriaeth o’r memorandwm wedi canolbwyntio ar ddwy agwedd: yn gyntaf, rhinweddau’r newidiadau deddfwriaethol arfaethedig, ac yn ail, y broses a ddilynwyd i ganfod tystiolaeth o’r angen am y newid arfaethedig hwn i’r gyfraith yng Nghymru. Fe gyhoeddwyd ein hadroddiad ar 3 Mawrth. Am y rhesymau sy’n cael eu nodi yn yr adroddiad, rydym wedi cytuno, fel pwyllgor, na ddylai'r Cynulliad roi ei gydsyniad i Senedd y Deyrnas Unedig ddeddfu ar y mater hwn. Our consideration of the memorandum has focused on two aspects: first of all, the merits of the proposed legislative changes, and secondly, the process followed to derive the necessary evidence for this proposed change to the law in Wales. We published our report on 3 March. For the reasons noted in the report, we have agreed as a committee that the Assembly should not give its consent to the UK Parliament to legislate on this matter.
Ar gyfer y ddadl yma, canolbwyntiaf ar ein pryderon ynglŷn â’r broses. Ar sail yr ymatebion a gawsom gan randdeiliaid—ac nid oedd gennym gyfle i ymgynghori’n eang—a’r ffaith y cynhaliwyd ymgynghoriad cychwynnol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar sail Lloegr yn unig, mae’n amlwg nad ymgynghorwyd â rhanddeiliaid yng Nghymru, ac mae hyn yn peri inni bryderu ynghylch ar ba sail y caiff y newidiadau hyn i’r gyfraith eu cynnig. For the purposes of this debate, I will focus on our concerns regarding the process. On the basis of the responses that we received from stakeholders—we didn’t have an opportunity to consult widely—and the fact that an initial consultation by the UK Government was held on an England-only basis, it’s clear that stakeholders were not consulted in Wales, and this has caused concern for us regarding on what basis the changes to the law are proposed.
Fel pwyllgor sydd wedi cael y cyfrifoldeb o graffu ar ddeddfwriaeth, ni fyddem yn fodlon cytuno ar newid y gyfraith os na fu’n destun ymgynghori a gwaith craffu priodol. Mi gredwn ni y dylid cymhwyso’r un prawf cyn i'r Cynulliad benderfynu a yw am roi caniatâd i Senedd y Deyrnas Unedig ddeddfu ar ei ran yn y mater hwn. As a committee that has had the responsibility of scrutinising legislation, we would not be content to agree to a change to the law if it had not been subject to appropriate consultation and scrutiny. We believe that the same criteria should be applied before the Assembly decides whether it is to give its consent to the UK Parliament to legislate on its behalf on this matter.
Felly, rydym wedi dod i'r casgliad na ddylai’r Cynulliad, o dan yr amgylchiadau, roi ei gydsyniad i Senedd y Deyrnas Unedig ddeddfu ar y mater. Rydym yn falch bod y Llywodraeth wedi ailfeddwl ei chefnogaeth i’r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, a’i bod wedi ceisio cael newidiadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi cyfle am ymgynghoriad. Er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod cais y Gweinidog, mae casgliad y pwyllgor yn sefyll na ddylai’r Cynulliad roi ei gydsyniad i Senedd y Deyrnas Unedig ddeddfu ar y mater yma. So, we’ve come to the conclusion that the Assembly, under the circumstances, should not give its consent to the UK Parliament to legislate on this matter. We’re pleased that the Government has reconsidered its support for the supplementary legislative consent memorandum and that it has tried to secure changes from the UK Government to give an opportunity for consultation. Even though the UK Government has rejected the Minister’s request, the committee’s findings stand—that the Assembly should not give its consent for the UK Parliament to legislate on this matter.
15:47 - Joyce Watson
Minister, I was very concerned to hear what you had to say about the UK Minister for housing and planning’s attitude towards your request that the Bill be amended in order to allow a proper consultation on an area that, as you say, is clearly of devolved competence. This seems to be the latest in a long list of instances when the UK Government has ignored the needs and views of the people of Wales. Would you agree with me, Minister, that it’s high time that this Tory UK Government showed some commitment to the respect agenda that it claims that it is committed to? Weinidog, roeddwn yn bryderus iawn o glywed yr hyn oedd gennych i'w ddweud am agwedd Gweinidog dros dai a chynllunio y DU tuag at eich cais bod y Bil yn cael ei ddiwygio er mwyn caniatáu ymgynghoriad priodol ar faes sydd, fel y dywedwch, yn amlwg yn un o gymhwysedd datganoledig. Mae hyn yn ymddangos i fod y diweddaraf mewn rhestr hir o achosion pan fo Llywodraeth y DU wedi anwybyddu anghenion a barn pobl Cymru. A ydych chi’n cytuno â mi, Weinidog, ei bod yn hen bryd i Lywodraeth Dorïaidd y DU hon ddangos rhywfaint o ymrwymiad i'r agenda barch y mae'n honni ei bod wedi ymrwymo iddi?
15:48 - Llyr Gruffydd
Rwyf innau hefyd am gefnogi sylwadau Cadeirydd y pwyllgor a’r hyn sy’n cael ei amlinellu yn adroddiad y pwyllgor. Mae’n anaddas, yn fy marn i, i gefnogi’r cydsyniad deddfwriaethol atodol yma. Mi gawsom dystiolaeth gyfyngedig o safbwynt niferoedd, ac ar fyr rybudd, a bod yn deg, ac mae’r Gweinidog wedi cyfeirio at y rhanddeiliaid a wnaeth gyfrannu at hynny, ond mi oedd tystiolaeth arbennig o gryf gan Gymdeithas y Gyfraith yn fy marn i, a oedd yn amlygu’r gofidiau rydym ni wedi’u hadlewyrchu, wrth gwrs, yn yr adroddiad. I’d also like to support the committee Chair’s comments and the issues highlighted in the committee’s report. It would be inappropriate, in my view, to support this supplementary LCM. We received a limited amount of evidence, which was carried out at short notice, and the Minister has referred to the stakeholders who did contribute to that, but there was very strong evidence from the Law Society, in my view, that highlighted the concerns that we have reflected in our report as a committee.
Mae’n rhaid imi ddweud, mi oedd hi’n ymddangos i fi, yn sicr yn gynnar yn y broses yma, bod y Llywodraeth yn llawn bwriadu cydsynio i’r cydsyniad deddfwriaethol atodol yma, tan i’r pwyllgor eu deffro i’r sylweddoliad bod yr amgylchiadau fel ag y maen nhw. Ond, wrth gwrs, rwy’n falch iawn bod y Gweinidog yn cydnabod bod angen gwrthwynebu hyn nawr oherwydd, fel rŷm ni wedi clywed, nid yw wedi bod yn destun ymgynghoriad digonol na chraffu digonol yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mi gyfrannodd Cymdeithas y Gyfraith i’r ymgynghoriad gan Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol San Steffan yn y dybiaeth mai cynigion i Loegr yn unig oedd o dan sylw, oherwydd roedden nhw, fel yr oeddem ni, wrth gwrs, o’r farn bod prynu gorfodol ac iawndal yn faterion sydd wedi’u datganoli. Ond, wrth gwrs, yn eu tystiolaeth wedyn, maen nhw’n ein hatgoffa ni, ac mi ddyfynnaf: I have to say that it appeared to me, certainly, early on in this process, that the Government fully intended to give its consent to this supplementary LCM, until the committee actually made them realise what the circumstances were. But I’m very pleased that the Minister has recognised that we should oppose this now, because, as we have heard, it hasn’t been subject to sufficient scrutiny or consultation here in Wales. Of course, the Law Society contributed to the Department for Communities and Local Government’s consultation in Westminster, believing that these proposals were for England only, because they were of the opinion, as were we, that compulsory purchase and compensation are devolved issues. But of course, in their evidence then, they remind us, and I quote:
‘The approach of DCLG to this consultation is further evidence of the Department’s disregard or ignorance of the continuing Welsh dimension to certain of its functions arising from the non-devolution of certain subjects’. Mae dull yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol o ran yr ymgynghoriad hwn yn dystiolaeth bellach o ddiystyru gan yr Adran neu ei hanwybodaeth o ddimensiwn Cymreig parhaus rhai o'i swyddogaethau sy'n deillio o beidio â datganoli rhai pynciau.
Geiriau cryf gan Gymdeithas y Gyfraith. Byddwn i’n sicr yn cefnogi peidio â chefnogi’r cydsyniad deddfwriaethol atodol yma. Those are strong words by the Law Society and I certainly would support not giving our support to this supplementary LCM.
15:49 - William Powell
The Welsh Liberal Democrat group will also be supporting the Government in this matter and voting against. The issue of compulsory purchase is something that I have raised on a number of occasions in this Assembly from the early days and the fact that it is absolutely key to delivering regeneration, construction and other projects that are in the interest of the our communities. It is clear from the work that my committee, the Environment and Sustainability Committee, has done to highlight the weaknesses here in the UK Government’s case and, as Llyr Gruffydd has also said, the valuable work that’s been done in contributing to the consultation by the Law Society. I think it’s very disappointing that we see this kind of virtually colonial attitude from Brandon Lewis representing the UK Government. It is very disappointing, and we give the Government here today our full support in voting against the proposed LCM. Bydd grŵp Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hefyd yn cefnogi’r Llywodraeth yn y mater hwn ac yn pleidleisio yn erbyn. Mae'r mater o brynu gorfodol yn rhywbeth yr wyf wedi'i godi ar sawl achlysur yn y Cynulliad hwn o'r dyddiau cynnar a'r ffaith ei fod yn gwbl allweddol i gyflawni adfywio, adeiladu a phrosiectau eraill sydd er budd ein cymunedau. Mae'n amlwg o'r gwaith y mae fy mhwyllgor i, y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, wedi ei wneud i dynnu sylw at y gwendidau hyn yn achos Llywodraeth y DU ac, fel y mae Llyr Gruffydd hefyd wedi ei ddweud, y gwaith gwerthfawr sydd wedi ei wneud wrth gyfrannu at yr ymgynghoriad gan Gymdeithas y Cyfreithwyr. Rwy'n credu ei bod yn siomedig iawn ein bod yn gweld y math hwn o agwedd drefedigaethol bron gan Brandon Lewis wrth gynrychioli Llywodraeth y DU. Mae'n siomedig iawn, ac rydym yn rhoi ein cefnogaeth lawn i’r Llywodraeth yma heddiw mewn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol arfaethedig.
15:50 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
The Minister to reply. Y Gweinidog i ymateb.
15:50 - Carl Sargeant
Thank you, Deputy Presiding Officer. It appears that the majority of the contributions by Members today is in support of the stance made by Government. We will not be seeking to support this motion today. I formally move. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o'r cyfraniadau gan Aelodau heddiw o blaid y safiad a wnaed gan y Llywodraeth. Ni fyddwn yn ceisio cefnogi'r cynnig hwn heddiw.  Cynigiaf yn ffurfiol.
15:51 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting until voting time on that item. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio ar yr eitem yna.
9. Supplementary Legislative Consent Motion on the UK Enterprise Bill Provisions in relation to Data Sharing for Apprenticeships 9. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Darpariaethau ym Mil Menter y DU mewn perthynas â Rhannu Data ar gyfer Prentisiaethau
Item 9 is the supplementary legislative consent motion on the UK Enterprise Bill provisions in relation to data sharing for apprenticeships. I call on the Deputy Minister for Skills and Technology to move the motion—Julie James. Eitem 9 yw’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol ar ddarpariaethau Bil Menter y DU ynglŷn â rhannu data ar gyfer prentisiaethau. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg i gynnig y cynnig—Julie James.
Cynnig NDM5996 Julie James Motion NDM5996 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth mewn perthynas â phrentisiaethau, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 29.6 agrees that provisions in the Enterprise Bill, relating to apprenticeship information sharing in so far as they fall within the legislative competence of the National Assembly for Wales, should be considered by the UK Parliament.
Cynigiwyd y cynnig. Motion moved.
15:51 - Julie James
Thank you, Deputy Presiding Officer. I move the motion. This motion concerns a late amendment to the UK Government’s Enterprise Bill. The purpose of this amendment is to permit data sharing between HM Revenue and Customs and the Welsh Ministers on apprenticeships. As the amendment was tabled so late by the UK Government, there has, unfortunately, been very little time to deal with the memorandum. I would therefore like to thank the Business Committee for agreeing not to send the memorandum to an Assembly committee for scrutiny. This has allowed us the time to schedule this debate today. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig. Mae'r cynnig hwn yn ymwneud â gwelliant hwyr i Fil Menter Llywodraeth y DU. Diben y gwelliant hwn yw caniatáu rhannu data rhwng Cyllid a Thollau EM a Gweinidogion Cymru ar brentisiaethau. Gan fod y gwelliant wedi'i gyflwyno mor hwyr gan Lywodraeth y DU, ychydig iawn o amser a fu, yn anffodus, i ymdrin â'r memorandwm. Felly hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am gytuno i beidio ag anfon y memorandwm at un o bwyllgorau'r Cynulliad i graffu arno. Mae hyn wedi caniatáu'r amser i ni drefnu'r ddadl hon heddiw.
The legislation would give powers to the Welsh Minister to request from HM Revenue and Customs information on apprenticeship levy payments made by employers in Wales. This information could then be used to understand more fully the impact of the UK Government’s apprenticeship levy on Wales. It would enable us to consider the interface between our own apprenticeship policies and the demand likely to be created from levy-paying employers. It starts to give us the evidence base we need to work with employers and potentially negotiate with the UK Government. Byddai'r ddeddfwriaeth yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud cais am wybodaeth gan Gyllid a Thollau EM ar daliadau ardoll prentisiaethau a wnaed gan gyflogwyr yng Nghymru. Yna gellid defnyddio’r wybodaeth hon i ddeall yn llawnach effaith ardoll prentisiaethau Llywodraeth y DU ar Gymru. Byddai'n ein galluogi i ystyried y rhyngwyneb rhwng ein polisïau prentisiaethau ein hunain a'r galw a fyddai’n debygol o gael ei greu gan gyflogwyr sy'n talu ardoll. Mae'n dechrau rhoi’r sylfaen dystiolaeth y mae ei hangen arnom i weithio gyda chyflogwyr ac i drafod o bosibl â Llywodraeth y DU.
The levy remains an unwelcome tax on employers. You’ve heard me say this on several occasions this year. But, the motion is not about the introduction of the levy; that is a matter for the Chancellor. This motion is about the Welsh Ministers being able to establish data-sharing gateways with HM Revenue and Customs. The data will be subject to data protection legislation and will not be published in any way that identifies individual employers. It will enable the Government to gain a strategic understanding of the levy on the skills landscape in Wales, particularly its interaction with our co-investment framework and the impact on different sectors of the economy. Members may also wish to note that the Scottish Parliament and Northern Ireland Assembly approved similar motions last week. Mae'r ardoll yn parhau i fod yn dreth annymunol ar gyflogwyr. Rydych chi wedi fy nghlywed yn dweud hyn ar sawl achlysur eleni. Ond, nid yw'r cynnig yn ymwneud â chyflwyno'r ardoll; mater i'r Canghellor yw hwnnw. Mae'r cynnig hwn yn ymwneud â Gweinidogion Cymru yn gallu sefydlu pyrth rhannu data gyda Chyllid a Thollau EM. Bydd y data yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth diogelu data ac ni fydd yn cael ei gyhoeddi mewn unrhyw fodd sy'n nodi cyflogwyr unigol. Bydd yn galluogi'r Llywodraeth i gael dealltwriaeth strategol o’r ardoll ar y dirwedd sgiliau yng Nghymru, yn enwedig ei rhyngweithio â'n fframwaith cyd-fuddsoddi a'r effaith ar wahanol sectorau o'r economi. Efallai y bydd aelodau hefyd yn dymuno nodi bod Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon wedi cymeradwyo cynigion tebyg yr wythnos diwethaf.
It is the view of this Government that it is appropriate for this provision to be made for Wales in the Enterprise Bill. This will enable the provisions to come into force across the UK at the same time, allowing a coherent and consistent approach. Barn y Llywodraeth hon yw ei bod yn briodol i’r ddarpariaeth hon gael ei gwneud ar gyfer Cymru yn y Bil Menter. Bydd hyn yn galluogi darpariaethau i ddod i rym ar draws y DU ar yr un pryd, gan ganiatáu dull cydlynol a chyson.
The provision does not confer a duty on Welsh Ministers or other Welsh authorities. Welsh Ministers and other Welsh authorities will be able to decide when to exercise the power to share information with HM Revenue and Customs. So, I emphasise again: the motion is not about the levy itself; it’s about the potential for data sharing to enable us to better understand the impact on employers and the economy in Wales. I commend the motion to the Chamber. Nid yw'r ddarpariaeth yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru nac awdurdodau eraill Cymru. Bydd Gweinidogion Cymru ac awdurdodau eraill Cymru yn gallu penderfynu pryd i arfer y pŵer i rannu gwybodaeth gyda Chyllid a Thollau EM. Felly, rwy’n pwysleisio eto: nid yw’r cynnig yn ymwneud â'r ardoll ei hun; mae'n ymwneud â'r potensial ar gyfer rhannu data i'n galluogi i ddeall yn well yr effaith ar gyflogwyr a'r economi yng Nghymru. Cymeradwyaf y cynnig i'r Siambr.
15:53 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
I have no speakers. The proposal therefore is to agree the motion. Does any Member object? The motion is agreed, therefore, in accordance with Standing Order 12.36. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr. Y cynnig, felly, yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff y cynnig ei dderbyn, felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
10. Legislative Consent Motion on the UK Immigration Bill Provisions relating to Welsh Language Requirements for Public Sector Workers 10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Darpariaethau ym Mil Mewnfudo’r DU mewn perthynas â Gofynion yr Iaith Gymraeg ar gyfer Gweithwyr yn y Sector Cyhoeddus
15:53 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Item 10 is a legislative consent motion on the UK Immigration Bill provisions relating to Welsh language requirements for public sector workers. I call the First Minister to move the motion. Eitem 10 yw cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar ddarpariaethau Mesur Mewnfudo y DU ynglŷn â gofynion y Gymraeg ar gyfer gweithwyr yn y sector cyhoeddus. Galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM5993 Carwyn Jones Motion NDM5993 Carwyn Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y Deyrnas Unedig ystyried y darpariaethau yn y Bil Mewnfudo sy'n ymwneud â gofynion iaith Gymraeg ar gyfer gweithwyr penodol yn y sector cyhoeddus, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 29.6 agrees that provisions in the Immigration Bill, relating to Welsh language requirements for particular public sector workers in so far as they fall within the legislative competence of the National Assembly for Wales, should be considered by the UK Parliament.
Cynigiwyd y cynnig. Motion moved.
15:54 - Carwyn Jones
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar Ran 7 o Fil Mewnfudo y Deyrnas Unedig yn ymwneud â darpariaethau i roi dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i sicrhau bod personau a gyflogir mewn rolau sy’n ymdrin â chwsmeriaid yn gallu siarad Cymraeg neu Saesneg yn rhugl. Mae’r Bil hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau cyhoeddus hynny sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion ynghylch torri’r ddyletswydd honno ac i roi sylw i god ymarfer wrth benderfynu a yw’r gweithdrefnau hynny yn ddigonol. Thank you, Deputy Presiding Officer. This legislative consent motion on Part 7 of the UK Government’s Immigration Bill relates to provisions to place duties on public authorities to ensure that persons employed in roles that deal with customers can speak Welsh or English fluently. The Bill also makes it a requirement that those public authorities should establish systems in order to deal with complaints in terms of breaches of that duty and to give due regard to a code of practice in terms of the adequacy of those arrangements.
Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol am ei waith craffu ar y cynnig hwn ac am yr adroddiad. Rwy’n nodi, wrth gwrs, nad oedd y pwyllgor yn codi unrhyw wrthwynebiad ynghylch cytuno i’r cynnig hwn. I would like to thank the Communities, Equality and Local Government Committee for its scrutiny work on this proposal and for their report. I note that the committee didn’t raise any opposition to the agreement of this proposal.
A gaf i ddweud, o’r dechrau, nad yw Llywodraeth Cymru’n cytuno â pholisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n sail i’r darpariaethau hyn? Nid wyf i wedi gweld unrhyw dystiolaeth sy’n awgrymu bod yna broblem sydd angen ei ddatrys. Rwy’n hyderus bod gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru sydd mewn rolau sy’n ymdrin â chwsmeriaid yn rhugl yn y Gymraeg neu’r Saesneg, neu yn y ddwy iaith mewn llawer o achosion. Felly, gofynnais i wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig i hepgor gwasanaethau cyhoeddus datganoledig o’r Bil a gwnaeth y Llywodraeth honno gytuno. Can I say, from the outset, that the Welsh Government doesn’t agree with the UK Government policy that is the basis of these provisions? I haven’t seen any evidence that suggests that there is a problem that needs to be resolved. I am confident that the public sector employees in Wales who are in roles that deal with customers are fluent in either Welsh or English, or both languages in many cases. Therefore, I asked the UK Government to exclude devolved public services from the Bill, and the Government agreed.
Y rheswm, heddiw, pam rwy’n gofyn i Aelodau gefnogi’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yw’r egwyddor—er mwyn diogelu statws y Gymraeg. Er na fydd gwasanaethau cyhoeddus datganoledig wedi eu rhwymo gan y darpariaethau hyn, mi fydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sydd heb eu datganoli yn rhan o hwn. Yn achos gweithwyr sector cyhoeddus mewn cyrff sydd heb eu datganoli, mae’n bwysig bod y ddeddfwriaeth yn darparu bod rhuglder yn y Gymraeg yr un mor ddilys â rhuglder yn y Saesneg. Mae hwnnw’n egwyddor bwysig, wrth gwrs, i ni. The reason I’m asking Members to support this LCM today is as a matter of principle in order to safeguard the status of the Welsh language. Although devolved public services will not be subject to these provisions, public services in Wales that are non-devolved will be subject to the provisions. In the case of public sector workers in non-devolved areas, it’s important that the legislation provides that fluency in the Welsh language is of equal validity to fluency in the English language. That’s an important principle to us, of course
Er gwaethaf fy amheuon i am y polisi ei hun, rwy’n croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cynnwys y Gymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg yn y Bil. Rwyf felly yn annog Aelodau i gytuno ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Despite my own personal doubts about the policy itself, I do welcome the fact that UK Government has included the Welsh language alongside the English language within the Bill. Therefore, I encourage Members to support this LCM today.
15:56 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
I have no speakers. The proposal then is to agree the motion. Does any Member object? The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr. Y cynnig felly yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff y cynnig ei dderbyn felly yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
15:56 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
In accordance with Standing Order 12.24, I propose that the following five motions under items 11, 12, 13, 14 and 15 are grouped for debate. Does any Member object? Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, rwyf yn cynnig bod y pum cynnig canlynol o dan eitemau 11, 12, 13, 14 a 15 eu grwpio ar gyfer y ddadl. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu?
11., 12., 13., 14. & 15. The Welsh Language (Wales) Measure 2011 (Amendment of Schedule 6) (No. 2) Order 2016, The Welsh Language Standards (No. 3) Regulations 2016, The Welsh Language Standards (No. 4) Regulations 2016, The Welsh Language Standards (No. 5) Regulations 11., 12., 13., 14. & 15. Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) (Rhif 2) 2016, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 3) 2016, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 4) 2016, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 5) 2016, a Gorchymyn Mesur y Gymraeg
These motions relate to the Welsh Language (Wales) Measure 2011 and various regulations. I call on the First Minister to move the motions. Mae'r cynigion yn ymwneud â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a rheoliadau amrywiol. Galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y cynigion.
Cynnig NDM6001 Jane Hutt Motion NDM6001 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) (Rhif 2) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016. Approves that the draft The Welsh Language (Wales) Measure 2011 (Amendment of Schedule 6) (No. 2) Order 2016 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 23 February 2016.
Cynnig NDM6002 Jane Hutt Motion NDM6002 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 3) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016. Approves that the draft The Welsh Language Standards (No. 3) Regulations 2016 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 23 February 2016.
Cynnig NDM6003 Jane Hutt Motion NDM6003 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: To propose that the National Assembly for Wales; in accordance with Standing Order 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 4) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016. Approves that the draft The Welsh Language Standards (No. 4) Regulations 2016 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 23 February 2016.
Cynnig NDM6004 Jane Hutt Motion NDM6004 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: To propose that the National Assembly for Wales; in accordance with Standing Order 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 5) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016. Approves that the draft The Welsh Language Standards (No. 5) Regulations 2016 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 23 February 2016.
Cynnig NDM6005 Jane Hutt Motion NDM6005 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: To propose that the National Assembly for Wales; in accordance with Standing Order 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016. Approves that the draft The Welsh Language (Wales) Measure 2011 (Consequential Provisions) Order 2016 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 23 February 2016.
Cynigiwyd y cynnig. Motion moved.
15:57 - Carwyn Jones
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i, felly, symud yn gyntaf, wrth gwrs, y Gorchymyn i ddiwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg 2011, rheoliadau 3, 4 a 5, a hefyd, wrth gwrs, Gorchymyn darpariaethau canlyniadol Mesur y Gymraeg 2011? Thank you, Deputy Presiding Officer. May I move, first of all, the amendment of Schedule 6 Order in relation to the Welsh language Measure 2011, regulations Nos. 3, 4 and 5 and also, of course, the Welsh language Measure 2011 consequential provisions Order?
A gaf i ddechrau’r ddadl drwy esbonio beth yw’r rhesymau y tu ôl i’r gwahanol reoliadau a hefyd Orchmynion a dechrau gyda’r Gorchymyn i ddiwygio Atodlen 6 o Fesur y Gymraeg 2011 a Gorchymyn i ddod â dyletswydd Gweinidogion Cymru i fabwysiadu cynllun iaith Gymraeg o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ben? A gaf i droi’n gyntaf, felly, at y Gorchymyn i ddiwygio Atodlen 6 o Fesur y Gymraeg 2011? Mae Atodlen 6 o’r Mesur wedi dyddio ers i’r Mesur cael ei basio yn 2011. Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio enwau rhai cyrff ac yn cynnwys cyrff eraill o’r newydd ac mae’n sicrhau bod y comisiynydd yn gallu gosod safonau ar bob corff sydd wedi ei enwi yn y rheoliadau. May I open the debate by explaining the rationale behind these various regulations and Orders, starting with the amendment of Schedule 6 Order and the Order to bring the duties of the Welsh Ministers to adopt a Welsh language scheme under the Government of Wales Act 2006 to a close? I’ll turn, therefore, to the Order on the amendment of Schedule 6 to the Welsh language Measure 2011. Schedule 6 to the Measure has dated since the Measure was passed in 2011. This Order does amend the names of certain bodies and includes other bodies anew and it ensures that the commissioner can impose standards on all named bodies within the regulations.
Ynglŷn â’r rheoliadau, mae’r rheoliadau sydd ger eich bron heddiw wedi cael eu teilwra ar gyfer sectorau penodol. Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 3) wedi eu paratoi ar gyfer darparwyr addysg bellach ac uwch Cymru, Career Choices Dewis Gyrfa a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae’n allweddol nad yw’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i fyfyrwyr yn lleihau neu’n mynd yn fwy anghyson wrth iddyn nhw barhau â’u haddysg bellach ac uwch. Mae’r rheoliadau yn mynd i’r afael â hynny. In terms of the regulations, the regulations before us today have been tailored for specific sectors. The Welsh Language Standards (No. 3) Regulations have been prepared for further and higher education providers in Wales, Career Choices Dewis Gyrfa and HEFCW. It’s crucial that the Welsh-language services currently available to students are not diminished and do not become more inconsistent as they continue with their further or higher education. The regulations get to grips with that.
Cyfoethogi profiad Cymraeg y myfyriwr yw’r nod. Mae’r rheoliadau, felly, yn gwneud darpariaeth i ystyried y Gymraeg wrth gynllunio cyrsiau academaidd. Mae’n allweddol bod pobl ifanc yn gallu parhau i dderbyn gwasanaethau Cymraeg wrth iddyn nhw barhau â’u haddysg bellach ac uwch, a bydd modd i’r comisiynydd hefyd roi safonau ar gyrff sy’n rhoi’r hawl i fyfyrwyr gyflwyno asesiadau yn Gymraeg. Enhancing the Welsh-language experience of students is the aim, and the regulations make a provision for the consideration of the Welsh language in planning academic courses. It’s crucial that young people can continue to access Welsh-language services as they continue with their further and higher education, and it will be possible for the commissioner to impose standards on bodies that give students the right to present assessments through the medium of Welsh.
Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 4) yn caniatáu i Gomisiynydd y Gymraeg osod safonau ar bum tribiwnlys sy’n weithredol yng Nghymru yn ogystal â Chyngor y Gweithlu Addysg. Bydd y safonau hyn yn sicrhau bod gan bobl hawliau penodol wrth ddelio â’r cyrff hyn sydd yn cynnal gwrandawiadau. Mae’r rheoliadau yn gwneud hynny drwy gyflwyno safonau penodol ar gyfer achosion cyfreithiol. The Welsh Language Standards (No. 4) Regulations allow the Welsh Language Commissioner to impose standards on five tribunals operational in Wales, as well as the Education Workforce Council. These standards will ensure that people have specific rights in dealing with these bodies that hold hearings. The regulations do that by introducing specific standards for legal cases.
A gaf i symud ymlaen, felly, at reoliadau Rhif 5, sy’n gwneud safonau yn benodol gymwys i’r heddluoedd, i’r awdurdodau tân ac achub a Chomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu? Mae’r rhain yn gyrff sydd yn dod i gyswllt cyson â’r cyhoedd mewn amryw o sefyllfaoedd. Maent yn chwarae rhan bwysig, wrth gwrs, o ran sicrhau diogelwch, ac mae’r safonau’n adlewyrchu hynny. Can I move on, therefore, to the No. 5 regulations, which make standards that apply specifically to police forces, fire and rescue authorities and the Independent Police Complaints Commission? These are bodies that come into regular contact with the public in a number of different scenarios. They play an important role, of course, in ensuring the safety of the public, and the standards reflect that.
Mae safonau penodol yn cael eu cyflwyno i ddiogelu hawl y cyhoedd i gael gwasanaeth Cymraeg wrth gael cyfweliadau gyda’r heddlu, i roi un enghraifft. Mae’r safonau hefyd yn cydnabod yr heriau arbennig sydd ynghlwm wrth ddarparu gwasanaethau Cymraeg wrth ymateb i argyfwng. Rydym hefyd wedi cynnwys safonau newydd yn rheoliadau 3, 4 a 5 sy’n annog sefydliadau i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gwisgo bathodynnau i nodi eu bod yn siarad Cymraeg, sy’n ei gwneud yn rhwyddach wedyn, wrth gwrs, i bobl siarad Cymraeg—unwaith y maent yn gwybod bod rhywun arall gyda nhw sydd yn siarad yr iaith. There are specific standards introduced to safeguard the public’s right to access a Welsh-language service in conducting interviews with the police, for example. The standards also acknowledge the particular challenges related to the provision of Welsh-language services in responding to emergencies. We’ve also included new standards in regulations 3, 4 and 5 that encourage institutions to ensure that Welsh speakers wear badges to note that they are Welsh speakers, making it easier then, of course, for people to speak Welsh—once they know that another individual is able to communicate through the medium of Welsh.
Yn olaf, mae’n bleser gen i gyflwyno Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol) 2016. Mae’n dod â dyletswydd Gweinidogion Cymru i fabwysiadu cynllun iaith Gymraeg statudol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ben. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi gosod hysbysiad cydymffurfio ar Weinidogion Cymru, sydd yn golygu y byddwn yn cydymffurfio â safonau’r iaith Gymraeg o ddiwedd fis Mawrth 2016—diwedd y mis hwn—sef 30 Mawrth. Pan ddaw corff o dan y drefn safonau, mae Mesur y Gymraeg yn darparu nad yw ei gynllun iaith yn gymwys bellach. Mae’r Gorchymyn hwn yn sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn yr un sefyllfa â phob corff arall, ac yn dod â’r ddyletswydd i gael cynllun iaith statudol i ben. Finally, it is my pleasure to introduce the Welsh Language (Wales) Measure 2011 (Consequential Provisions) Order 2016. It brings the duty placed upon Welsh Ministers to adopt a statutory Welsh language scheme under the Government of Wales Act 2006 to an end. The Welsh Language Commissioner has issued a compliance notice on Welsh Ministers, which will mean that we will comply with Welsh language standards from the end of March 2016—the end of this month—namely 30 March. When a body is included under the standards regime, the Welsh language Measure makes provision that its language scheme is no longer applicable. This Order ensures that Welsh Ministers are in the same situation as all other bodies, and brings the duty to have a statutory language scheme to an end.
Rwy’n eich annog, felly, i gefnogi’r Gorchmynion a’r rheoliadau, sy’n destun pleidlais heddiw, er mwyn symud ymlaen â’r gwaith o sicrhau bod rôl a sefyllfa’r iaith Gymraeg yn y rhannau hyn o’r sector cyhoeddus yn cael eu cryfhau. I therefore encourage you to support these Orders and regulations, which are subject to a vote today, in order that we can move on with the work to ensure that the role and position of the Welsh language in these parts of the public sector are enhanced.
16:02 - Suzy Davies
Diolch i chi, Brif Weinidog. Mae'r oedi o ran cyflwyno Gorchmynion ar yr iaith Gymraeg yma yn ein gadael eto gyda chyfle llai na pherffaith i graffu. Nid yw'r Gorchmynion hyn y tu hwnt i bob dadl ychwaith, ond dyma ni, yn wythnos olaf y Cynulliad hwn, bum mlynedd ar ôl i’r Mesur gael ei gyflwyno, yn ceisio gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar ychydig iawn o dystiolaeth gytbwys. Nid gwaith y Cynulliad hwn yw dodi sêl bendith ar is-ddeddfwriaeth y Llywodraeth, yn fwy na gwaith y Cynulliad hwn yw dodi sêl bendith ar ddeddfwriaeth gynradd, ond dyna beth yr ydych chi, i bob diben, yn gofyn inni ei wneud. Thank you, First Minister. The delay in tabling these Welsh language Orders once again leaves us with a less-than-perfect opportunity for scrutiny. These Orders are not beyond all debate either, but here we are, in the last week of this Assembly, five years after the Measure was tabled, trying to make decisions based on scant balanced information. It is not the work of this Assembly to approve Government subordinate legislation, any more than it is for this Assembly to approve primary legislation, but this is what, to all intents and purposes, you are asking us to do.
Do, fe ddaeth y Gorchmynion hyn gerbron y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, CLAC, ond rydych chi’n gwybod ein bod ni’n edrych ar is-ddeddfwriaeth drwy lens benodol iawn yn y pwyllgor hwnnw. Nid ein rôl ni yw asesu cynnwys polisi. Y gorau y gallwn ni ei wneud yw tynnu sylw at unrhyw bryderon nad yw is-ddeddfwriaeth, fel y'i drafftiwyd, yn cyrraedd nod polisi'r Llywodraeth. Os yw memorandwm esboniadol y Llywodraeth yn dweud bod y nod wedi’i fodloni, mae’n anodd inni herio hynny heb dystiolaeth sy’n gwrthwynebu hynny. Mae yna ddadl y dylai Gorchymyn Rhif 3, o leiaf, fod wedi mynd at bwyllgor pwnc er mwyn asesu cryfder y gwrthwynebiadau sydd wedi dod i mewn oddi wrth gymdeithas sifil. Ond nid oedd digon o amser, nag oedd? Yes, these Orders did come before the Constitutional and Legislative Affairs Committee, CLAC, but you will be aware that we look at subordinate legislation through a very specific lens in that committee. It is not our role to assess policy content. The best that we can do is draw attention to any concerns that subordinate legislation, as drafted, does not meet the Government’s policy aims. If the Government’s explanatory memorandum states that the aims have been met, it is difficult for us to challenge that without any conflicting evidence to oppose that. There is an argument that Order No. 3, at least, should have been referred to a subject committee to assess the strength of opposition that has been voiced by civil society. But there was not enough time, was there?
Gadewch inni ddechrau â Gorchymyn Rhif 2. Nid yw cymryd rhan mewn ymchwiliad safonau Comisiynydd y Gymraeg yr un fath ag ymgynghori ar ddeddfwriaeth y Llywodraeth. Nid yw gwneud y cyntaf yn gyfiawnhad egwyddorol am fethu â gwneud yr ail. Fodd bynnag, i fod yn bragmatig unwaith eto, rydych yn lwcus bod y sefydliadau a restrir yn y Gorchymyn i’w gweld mor amlwg o fewn profion Atodlen 5. Fel arall, ni fyddem ni’n cefnogi'r Gorchymyn hwn. Mae Gorchmynion Rhif 4 a Rhif 5 dim ond yn atgyfnerthu'r ddadl. Mae'r Gorchmynion hyn yn caniatáu i’r comisiynydd i gyflwyno hysbysiadau cydymffurfio ar nifer o sefydliadau. Roedd y sefydliadau eu hunain wedi gweithio gyda'r comisiynydd cyn iddi gynghori'r Llywodraeth ar y safonau perthnasol, ac mae gan y sefydliadau hynny yr hawl i apelio os ydynt yn credu bod y safonau yn rhy feichus. Ond ble mae'r cyfle i gymdeithas sifil roi sylwadau ar briodoldeb y safonau yn y Gorchmynion—defnyddwyr y gwasanaethau a’r buddiolwyr llawer o’r hawliau? Let us begin with Order No. 2. Taking part in the Welsh Language Commissioner’s standards inquiries is not the same thing as consulting on Government legislation. The former is not a principled justification for failing to do the latter. However, to be pragmatic once again, you are lucky that the organisations listed in the Order fall so clearly within the compass of the tests noted in Schedule 5. Otherwise, we would not support this Order. Orders No. 4 and No. 5 only serve to reinforce the argument. These Orders allow the commissioner to issue compliance notices to a number of organisations. The organisations themselves have worked with the commissioner before she advised the Government on the relevant standards, and these organisations have the right to appeal if they believe that the standards are too onerous. But where is the opportunity for civil society to comment on the appropriateness of the standards in the Orders—the service users and beneficiaries of many of these rights?
Dyna beth sydd wedi digwydd yng Ngorchymyn Rhif 3, yntê? Tra bu distawrwydd ar Orchmynion Rhif 4 a Rhif 5, oherwydd diffyg ymgynghori cyhoeddus, gwnaeth gynrychiolwyr myfyrwyr oresgyn y diffyg gwahoddiad i ymgynghori a nodir yn rhagweithiol eu pryderon am Orchymyn Rhif 3 yn eu llythyr at CLAC yn gynharach y mis hwn. Maen nhw’n honni nad yw Gorchymyn Rhif 3 yn cyflawni nodau polisi'r Llywodraeth ac maen nhw wedi darparu tystiolaeth i gefnogi eu dadleuon. Nid oedd i CLAC i brofi y dystiolaeth honno, dim ond i roi gwybod i'r Cynulliad—felly, mae'n rhaid i mi edrych arno o ran eu golwg nhw. This is what has happened in Order No. 3, is it not? Whilst there was silence regarding Orders Nos 4 and 5, due to a lack of public consultation, student representatives overcame the lack of consultation to note proactively their concerns regarding Order No. 3 in their letter to CLAC earlier this month. They allege that Order No. 3 does not meet the Government’s policy objectives and they have provided evidence to corroborate their arguments. It was not for CLAC to prove the veracity of this evidence, just to bring it to the Assembly’s attention—therefore, I can only look at it from their point of view.
Mae cynrychiolwyr myfyrwyr yn nodi bod y safonau sydd i'w cymhwyso i sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch, yn ogystal â thri chorff addysg eraill, yn cynnig llai o gyfle i siaradwyr Cymraeg na chynlluniau iaith Gymraeg sydd eisoes yn bodoli. Mae eu llythyr yn nodi’r achosion penodol lle mae’r safonau yn wannach na’r cynlluniau. Mae hynny’n peri pryder achos rydych chi eich hunan, Brif Weinidog, wedi Student representatives note that the standards to be applied to further and higher education institutions, as well as three other education institutions, offer less of an opportunity for Welsh speakers than existing Welsh language schemes. Their letter notes specific cases where the standards are weaker than existing schemes. That is a cause for concern, because you have yourself, First Minister,
‘cytuno y dylai’r safonau sy’n cael eu gosod ar gyrff cyhoeddus, fel isafswm, sicrhau bod y lefel o wasanaethau Cymraeg sy’n cael eu cynnig gan gyrff ar hyn o bryd yn parhau.’ agreed that the standards imposed on public bodies should, as a minimum, ensure that the level of Welsh-language services offered by bodies at present should continue.
Ni chafwyd unrhyw ymateb gan y Llywodraeth i'r gwrthwynebiadau—cyn belled ag y gwn i—er bod y llythyr yn gyhoeddus, ac a gefnogir ymhellach gan Gymdeithas yr Iaith. The Government’s made no response to these objections—as far as I’m aware—even though the letter is in the public domain, and is further supported by Cymdeithas yr Iaith.
Nid oes gennyf unrhyw awydd i rwystro amcanion y Mesur neu waith y comisiynydd, neu, yn wir, y tro yma, gwaith y Llywodraeth. Ond tra byddwch chi’n rhwystro gwaith y Cynulliad hwn drwy fethu ag ymgynghori—a gwrthod y cyfle i ni i wneud hynny gan osod y Gorchmynion hyn mor hwyr—wel, ni fyddwn yn gallu cefnogi’r Gorchmynion hyn. Byddwn ni, fodd bynnag, yn cefnogi’r Gorchymyn darpariaethau canlyniadol ac rydym yn falch o nodi y defnydd o’r weithdrefn gadarnhaol i ddiwygio’r Mesur. Diolch I have no desire to impede the Measure’s objectives or the commissioner’s work, nor, indeed, this time, that of the Government. However, while you impede the Assembly’s work by failing to consult, and while you refuse us an opportunity to consult by tabling these Orders so late, well, we will be unable to support these Orders. We will, however, be supporting the consequential provisions Order and we are pleased to note the use of the affirmative procedure to amend the Measure. Thank you.
16:07 - Simon Thomas
Mae Plaid Cymru hefyd yn gresynu bod cyn lleied o ymgynghori wedi bod ar y rheoliadau hyn. Serch hynny, rydym yn gweld bod y rhan fwyaf yn rhai yr ydym yn fodlon eu cefnogi heddiw. Rwyf yn mynd i ganolbwyntio fy sylwadau ar y set o reoliadau Rhif 3, sy’n ymwneud yn bennaf â phrifysgolion a cholegau. Plaid Cymru also regrets the fact that there has been so little consultation on these regulations. However, we do believe that most are ones that we are willing to support today. I’m going to concentrate my comments on the No. 3 regulations that relate mainly to colleges and universities.
Fe ddywedodd y Prif Weinidog, wrth agor y drafodaeth, mai bwriad y Gorchmynion hyn a’r rheoliadau hyn o dan y Mesur oedd peidio â lleihau hawl myfyrwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, ac yn wir, byddwn i’n gobeithio, i gryfhau’r hawliau hynny. Yn y cyd-destun hwnnw, rwyf yn dal heb fy argyhoeddi o gwbl, ac fel y mae Suzy Davies wedi’i amlinellu, mae nifer o bobl wedi bod mewn cysylltiad â fi yn ddiweddar. Rwyf wedi manteisio ar y cyfle i gwrdd â swyddogion y Gymraeg o undebau’r myfyrwyr yng Nghaerdydd ac yn Aberystwyth, ac rwy’n credu heddiw hefyd fod rhai o Fangor wedi ymuno â nhw, i friffio Aelodau’r Cynulliad ynglŷn â’r diffyg sydd yn y safonau fel y maen nhw wedi cael eu cyflwyno gan y Llywodraeth. Mae hwn, yn fy marn i, wedi deillio o’r ffaith bod y Llywodraeth yn ceisio brysio a hastu’r broses yma er mwyn ei chwblhau cyn diwedd y Cynulliad. Mae’r Llywodraeth wedi cael pum mlynedd i gyflawni safonau o dan y rheoliadau, ers pasio Mesur gwreiddiol yr iaith Gymraeg, ac mae’n siomedig i’n gweld ni’n cael ein gwasgu a’n pwyso ar y diwrnod olaf i basio safonau nad ydynt o reidrwydd yn dderbyniol i Blaid Cymru, ond, yn fwy pwysig, nad ydynt wedi cael derbyniad gwresog gan y bobl sydd yn ymdrin â’r safonau ac sy’n mynd i’w defnyddio nhw. The First Minister, in opening this debate, said that the intention of the regulations under the Measure was to see no reduction in the rights of students to make use of the Welsh language, and certainly, I would hope that those rights would be strengthened. In that context, I remain to be convinced, and as Suzy Davies has already highlighted, many people have been in touch with me recently. I’ve taken the opportunity to meet Welsh language officials from the student unions in Aberystwyth and in Cardiff, and also there were some from Bangor today who joined them to brief Assembly Members on the deficiencies of the standards as tabled by Government. This, in my view, has emerged from the fact that the Government is rushing through this process in order to complete it before the end of this Assembly. The Government has had five years to introduce standards under the Measure, since it was passed, and it is disappointing to see us being pushed on this very last day to pass standards that aren’t necessarily acceptable to Plaid Cymru, but, more importantly, that haven’t been given an enthusiastic welcome by those who will be subject to the standards and those who will use them.
Nid nad yw’r Llywodraeth wedi cael rhybudd. Flwyddyn union yn ôl, fe unwyd pob un o’r gwrthbleidiau yma mewn llythyr at y Prif Weinidog i rybuddio nad oedd ei set gyntaf o safonau yn ddigon cryf. Fe ysgrifennais i, ar y cyd â Suzy Davies ac Aled Roberts, at y Prif Weinidog ym mis Chwefror y llynedd, yn mynegi nad oedd yna ddigon o baratoi a thryloywder yn y safonau arfaethedig. Fe wellwyd ar y safonau hynny, ac fe ddaeth y Llywodraeth nôl gyda set a oedd wedi gwella rhywfaint—digon i ni eu cefnogi er mwyn gweld y daith yma tuag at safonau’r iaith Gymraeg yn cael ei gweithredu. Byddwn i wedi gobeithio y byddai’r Llywodraeth wedi dysgu o’r broses yma, a pheidio â dod eto gyda set o safonau i’r Cynulliad nad oedd naill ai wedi cael eu trafod ymlaen llaw â’r gwrthbleidiau, er mwyn ennyn cefnogaeth, na hyd yn oed wedi cael eu trafod gyda’r bobl a oedd yn mynd i gael eu heffeithio fwyaf ganddyn nhw—ar wahân i sefydliadau. Nid pwrpas y safonau yw darparu ar gyfer sefydliadau, ond darparu hawliau ar gyfer dinasyddion ac ar gyfer unigolion. Y rheini sydd wedi cael eu colli o’r cyfle yma. It’s not that the Government wasn’t warned. Exactly a year ago, each of the opposition parties united in writing a letter to the First Minister to warn him that his first set of standards wasn’t sufficiently robust. I wrote, jointly with Aled Roberts and Suzy Davies, to the First Minister in February of last year expressing our concern that there hadn’t been sufficient transparency in the proposed standards. Those standards were improved, and the Government came back with a set of standards that had been improved a little—enough to allow us to support them so that we could continue this journey. I would have hoped that that the Government would have learnt from this process, and wouldn’t once again bring forward a set of standards to the Assembly that hadn’t been discussed with the opposition parties beforehand, in order to engender their support, or hadn’t even been discussed with those people who would be most affected by them—apart from institutions. The purpose of standards is not to provide for institutions, but to provide rights for citizens and individuals, and that’s what’s been lost here.
Hyd yn oed heddiw, roedd Plaid Cymru’n awyddus i drafod â’r Llywodraeth ynglŷn â thynnu’r safonau penodol yma—Rhif 3—yn ôl er mwyn iddyn nhw gael mwy o amser i ystyried—[Torri ar draws.] Mae yn wir—sori, Brif Weinidog. Mae yn wir. Even today, Plaid Cymru was eager to discuss with Government the withdrawal of these particular standards—the No. 3 regulation—so that they could have further time for consideration—[Interruption.] Well it is true—sorry, First Minister. It is true.
16:10 - Carwyn Jones
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ildio. Rhaid imi ddweud, rydym wedi bod yn trio siarad â’ch plaid a phleidiau eraill, a heb gael ateb ynglŷn â beth yn gwmws yw’r problemau. Rwy’n deall bod yna broblem, ond nid oes neb wedi esbonio eto beth yn gwmws yw’r broblem, neu’r problemau, gyda Rhif 3. Rydym wedi bod yn ceisio cael y sgwrs hon trwy’r dydd. I am grateful to the Member for giving way. I have to say, we have been trying to discuss with your party and other parties, and we have not had an answer on what exactly the problems are. I understand that there is a problem, but nobody has explained exactly what the problem is with No. 3. We have been trying to have this discussion all day.
16:11 - Simon Thomas
Wel, pan mae rhywun yn dod atoch chi gan ddweud, ‘Mae yna broblem. Tynnwch yn ôl er mwyn trafod y broblem’, nid yr ateb yw dweud, ‘Rhowch inni y problemau i gyd nawr er mwyn inni eu trafod.’ Yr ateb yw, ‘Fe wnawn ni eu tynnu’n ôl ac fe gawn ni drafod.’ Mae mor syml â hynny. [Torri ar draws.] Brif Weinidog—. Ie, y bore yma, Brif Weinidog, oherwydd eich bod chi mor hwyr yn cyflwyno’r rheoliadau yma yn y lle cyntaf. Nid ydych wedi caniatáu cyfle i bwyllgor pwnc ystyried hyn. Nid ydych wedi rhoi cyfle i fwy na’r pwyllgor CLAC i’w wneud e yn ystod y 10 diwrnod diwethaf. Dyna’i gyd o graffu y mae’r rheoliadau hyn wedi ei gael. Mae angen mwy na hynny. Well, when someone comes to you and says, ‘There’s a problem. Withdraw them so that we can discuss it’, it’s not the solution to respond by saying, ‘Well, tell us exactly what the problems are now so that we can discuss them.’ The solution is that you withdraw them and then discuss it. It’s as simple as that. [Interruption.] First Minister—. Yes, this morning, First Minister, because you were so late in bringing these regulations forward in the first place. You haven’t given an opportunity for a subject committee to consider these. You haven’t given an opportunity for anyone other than the CLAC committee to consider them over the past 10 days. That’s the only scrutiny that these regulations have been subjected to. There is a need for greater scrutiny.
Gadewch inni restru rhai o’r pethau sy’n codi gwrychyn rhai o’r bobl sy’n gorfod byw gyda’r rheoliadau hyn. Mae’r rheoliadau, er enghraifft, yn rhoi’r hawl i staff prifysgolion gael mewnrwyd Gymraeg, ond nid y myfyrwyr. Wel, mae hynny’n gam yn ôl, does bosib? Maen nhw’n rhoi’r hawl i sicrhau bod—. Nid ydynt, yn hytrach, yn rhoi’r hawl i sicrhau bod llety Cymraeg ar gael i fyfyrwyr. I’r myfyrwyr yn Aberystwyth sydd wedi wynebu problemau gyda Phantycelyn yn ddiweddar, mae hynny fel ergyd iddyn nhw. Dyna beth maen nhw’n ei ddweud. Dyna beth sy’n eu poeni nhw. Let me just list some of the things that have angered some of the people who will have to live with these regulations. The regulations, for example, give university staff the right to have a Welsh-medium intranet, but the same right is not given to students. Surely that’s a retrograde step. They provide the right to ensure that—. They don’t, rather, provide the right to ensure that Welsh-language accommodation is available for students. For students in Aberystwyth who have faced problems with Pantycelyn recently, that is a blow. That’s what they tell us. That’s their concern.
Nid yw’n glir a oes hawl gan bobl i gael cwnsela neu gael tiwtor personol neu gael materion bugeiliol wedi’u darparu’n Gymraeg. Fe ddywedodd y Prif Weinidog fod hawl i gyflwyno gwaith yn y Gymraeg. Ond os yw hynny’n syml iawn ond yn cael ei gyfieithu er mwyn cael ei asesu, mae hynny’n gofyn cwestiwn ynglŷn ag ansawdd yr asesu academaidd. Felly, mae’n hynod bwysig cael trafod gwaith yn y Gymraeg, yn ogystal â chael ei gyfieithu. It isn’t clear as to whether people have a right to access counselling or personal tutoring or to have pastoral services provided through the medium of Welsh. The First Minister said that there is a right to present academic work through the medium of Welsh. But if that then is only translated so that it can be assessed, then it poses a question on the quality of academic assessment. Therefore, it’s very important that work can be discussed through the medium of Welsh, as well as having it translated to English.
Maen nhw hefyd yn hepgor nifer o weithgareddau prifysgolion, megis y ganolfan gelf Pontio ym Mangor a’r un yn Aberystwyth, o weithgareddau’r rheoliadau eu hunain. Nawr, rwy’n deall efallai bod cyd-destun masnachol i rai o’r pethau yma, ond mae yna arian cyhoeddus sylweddol wedi mynd i mewn, ac yn mynd i mewn i’r gweithgareddau hyn sydd hefyd angen cael eu cynnwys, rywsut neu’i gilydd, o fewn deddfwriaeth. They also exclude a number of university activities, such as the Pontio arts centre and the arts centre in Aberystwyth, from the activities within the regulations. Now, I understand that there is a commercial aspect to some of this, but a significant amount of public money has been invested, and is being invested in these activities, which should be included, one way or another, within legislation.
Dyna pam mae’r rheoliadau hyn yn ddiffygiol a dyna pam y byddem ni wedi disgwyl cael mwy o amser i’w trafod ac efallai ymgynghori mewn pwyllgor arnyn nhw. Mae’n drueni o beth, Ddirprwy Lywydd, ein bod, ar y diwrnod olaf o ddeddfu yn y lle hwn, yn gorfod delio â rhywbeth sy’n cael ei hastu drwyddo, ac yn gorfod gwneud penderfyniad un ffordd neu’r llall heb gael cyfle mewn ffordd synhwyrol i wneud hynny—mewn pwyllgor, drwy gasglu tystiolaeth, drwy weld a oes sail i’r pryderon hyn ai peidio—ond yn hytrach drwy araith fer o bum munud yn y Cynulliad. Ar sail yr hyn sydd wedi cael ei gyflwyno, ni allaf argymell y safonau arbennig yma. Fe allaf argymell y gweddill, ond ni allaf argymell y rhain achos bod yna bryderon dybryd gan y rhai sy’n mynd i weithio a derbyn addysg oddi tanynt. Rwy’n credu y byddwn yn gofyn, felly, i bob un o’r pleidiau yn y lle hwn ofyn i’r Llywodraeth ailystyried ac ailfeddwl. That is why these regulations are deficient and it is why we would have expected to have more time for discussion and consultation on them within committee. It is a shame, Deputy Presiding Officer, that, on the last day on which we legislate in this place, we have to deal with something that’s being rushed through and we have to make a decision one way or another without having the opportunity to do so in a reasonable manner—through a committee process of gathering evidence and seeing whether there is any foundation to some of these concerns—but, rather, by means of a brief, five-minute speech in the Assembly. On the basis of what’s been presented, I cannot support these regulations. I can support the others, but I cannot support these because there are serious concerns amongst those who are to receive education under these regulations. Therefore, I would ask every party in this place to ask the Government to rethink and reconsider.
16:14 - Aled Roberts
Mi fyddwn ni hefyd, fel grŵp, yn pleidleisio yn erbyn rheoliadau 3, a hynny o achos y nifer o achosion sydd wedi cael eu hategu gan Simon Thomas. Wrth wneud hynny, rwyf eisiau datgan bod fy mab yn aelod o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a hefyd bod fy ngwraig â chyfrifoldeb am y Gymraeg o fewn coleg addysg bellach. We, too, as a group, will be voting against regulations No. 3 because of a number of cases that have been echoed by Simon Thomas. In doing that, I want to state that my son is a member of the Coleg Cymraeg Cenedlaethol, and also that my wife has responsibility for the Welsh language within a further education college.
Fe wnes i dderbyn, i fod yn deg, gan swyddfa’r Prif Weinidog, ddatganiad neu e-bost ddydd Gwener a oedd yn ceisio dweud yn union beth oedd safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â rhai o’r materion a oedd wedi cael eu codi gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, ond wrth i nifer ohonom ni drafod efo myfyrwyr Cymraeg penodol—o Gaerdydd, o Fangor, ac o Aberystwyth—mae’n debyg bod yr amheuon yna yn dal i fodoli. Nid wyf yn deall, wrth i ni greu’r sefyllfa yma sydd yn wahanol iawn i’r hyn a gafwyd ymgynghoriad arno fo—ac mae rhestr rŵan o wasanaethau sydd yn cael eu cynnwys o fewn y rheol yma—pam rydym ni wedi symud, achos mae’r esboniad gan swyddfa’r Prif Weinidog yn awgrymu mai ymateb i safbwyntiau sefydliadau yr ydym ni yn y fan yma, hwyrach rhai o’r pryderon roedden nhw’n eu codi ynglŷn â rhai o’u gweithgareddau masnachol, ac mae yna sôn am ymchwil yn benodol. Os mai dyna yw’r bwriad, nid wyf yn deall pam fod colegau addysg bellach, er enghraifft, wedi cael eu cynnwys o fewn yr un mesurau â phrifysgolion, os ydyn ni’n dweud mai ymchwil ydy’r broblem. I did receive, to be fair, from the First Minister’s office, a statement or e-mail on Friday that tried to state exactly what the Government’s stance was on some of the matters that have been raised by the National Union of Students, but as a number of us discussed with Welsh students specifically—from Cardiff, from Bangor and from Aberystwyth—it’s likely that those doubts still exist. I don’t understand, as we create this situation that is very different to what was consulted on—there’s a list now of services that are included within this regulation—why we’ve made that shift, because the explanation from the First Minister’s officer suggests that this here is a response to the point of view of institutions, perhaps some of the concerns that they raised about some of their commercial activities, and there is talk of research specifically. If that was the intention, I don’t understand why further education colleges, for example, have been included within the same measures as universities, if we’re saying that research is the problem.
Mi fydd y Prif Weinidog a’r Gweinidog addysg yn ymwybodol o dueddiad y colegau addysg bellach i greu is-gwmnïau masnachol ar hyn o bryd. Mae cwestiwn yn codi yn fy meddwl i: a fydd rhai o’r is-gwmnïau yna yn sefyll y tu allan i’r meysydd penodol yma? Hefyd, fel y dywedodd Simon Thomas, mae hefyd gwestiwn ynglŷn â rhai o’r is-gwmnïau masnachol, neu’r gweithgareddau masnachol sy’n cael eu cynnal gan y prifysgolion, wrth gyfeirio at Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth a Pontio ym Mangor, lle mae’n ymddangos nad yw’r un hawliau o ran myfyrwyr yn benodol, a hefyd y cyhoedd, yn cael eu cynnwys am fod y gweithgareddau yna wedi cael eu heithrio. The First Minister and the education Minister will be aware of the tendency by the further education colleges to create commercial subsidiaries. A question arises in my mind: will some of those subsidiaries stand outwith these specific regulations? Also, as Simon Thomas said, there is also a question regarding some of the commercial subsidiaries, or the commercial activities undertaken by universities, referring to the Aberystwyth Arts Centre and Pontio yn Bangor, where it appears that the same rights in terms of students specifically, and also the public, aren’t included because those specific activities are omitted.
Hefyd, mae’n rhaid i mi ddweud bod yna bryder ymysg y myfyrwyr. Ar hyn o bryd, rydym yn gwerthfawrogi’r ffaith bod yna lawer iawn mwy o gyrsiau ar gael yn y Gymraeg. Mae’r esboniad yma yn dweud mai nod hwn, fel y dywedodd y Prif Weinidog, ydy cyfoethogi profiad myfyrwyr, ond eto mae cwestiynau wedi codi nad ydynt wedi cael eu hateb gan y Llywodraeth, am wn i. Mae’n bosibl, o dan y rheol yma, i asesiad gwaith gael ei gyfieithu, ond mae myfyrwyr yn gofyn o ran yr adborth, felly, os yw’r asesiad yn cael ei gyfieithu, a fydd hawl gan y brifysgol i fynnu bod yr adborth personol i’r myfyriwr yn cael ei gynnig yn Saesneg, yn hytrach na’r Gymraeg, achos mae yna gynlluniau iaith penodol o fewn y prifysgolion ar hyn o bryd sydd yn cywiro hynny. Also, I have to say that there is a concern among students. At present, we appreciate the fact that there are a great many more courses available through the medium of Welsh. This explanation says that the aim of this, as the First Minister said, is to enrich students’ experiences, but there have been questions raised that haven’t been answered by the Government, as far as I’m aware. It is possible, under this regulation, for an assessment of work to be translated, but students are asking, in terms of feedback, therefore, if the assessment has been translated, will there will be a right for the university to demand that the personal feedback to the student be offered in English, rather than Welsh, because there are specific language schemes within the universities at present that correct that.
Mae’n rhaid i mi ddweud hefyd, o ran profiad personol, roedd fy mab i yn awyddus iawn i gael llety Cymraeg yng Nghaerdydd. Nid oes darpariaeth Gymraeg benodol yng Nghaerdydd, o gymharu efo Bangor ac Aberystwyth. Er iddo wneud cais am hynny—ac mi oedd gan adran llety Caerdydd nifer o achosion tebyg—nid oedd darpariaeth Gymraeg ar gael yn y pen draw. Felly, mae sefyllfa lle mae pobl yn awyddus i gael llety cyfrwng Cymraeg, os yn bosib, er mwyn iddyn nhw gynnal eu hiaith a chynnal gweithgareddau trwy’r iaith Gymraeg. Mae yna gwestiynau penodol yn codi hefyd o ran llety. Rwyf wedi ei dderbyn o, ond mae yna gwestiynau. I have to say also, in terms of personal experience, my son was very eager to have Welsh-speaking accommodation in Cardiff. There is no specific provision in the Welsh language in Cardiff, as compared to Bangor and Aberystwyth. Even though he requested that—and the accommodation department at Cardiff had many similar cases—there was no Welsh-medium provision ultimately. So, the situation is that people are eager to have Welsh-medium accommodation, if possible, so that they can maintain their language and hold activities through the medium of Welsh. There are specific questions that arise about accommodation. I have accepted it, but there are questions.
Rwy’n deall ein bod ni i gyd wedi rhoi’r Prif Weinidog dan bwysau o ran gwneud yn sicr bod y rheoliadau yma’n cael eu cynnig yn ystod y Cynulliad yma, ond yn anffodus, mae yna ryw ruthro yn ystod y sesiwn olaf yma wedi cymryd lle, lle, hwyrach, pe baem ni wedi cael mwy o amser, buasai rhai o’r problemau yma wedi cael eu gwyntyllu ymysg y bobl. Rwy’n gweld bod yna gyfeiriad yn y fan yma a bod rhyw fath o drafodaethau wedi cymryd lle ar ôl i’r Llywodraeth newid ei pholisi a symud at sefyllfa lle mae gwasanaethau’n cael eu rhestru. Ond, yn amlwg, nid yw rhai o’r grwpiau yma a oedd yn ymwneud â’r ymgynghoriad yn y lle cyntaf yn teimlo eu bod nhw wedi cael cyfle i ymateb i’r newid o ran polisi. I understand that we have all put pressure on the First Minister to ensure that these regulations were put forward during this Assembly, but unfortunately there has been some kind of rush during this last session and perhaps if we’d had more time, some of these problems would have been discussed. I see that there is a reference here and that some kind of discussion has taken place after the Government changed its policy and moved towards a situation where services are listed. But, clearly, some of these groups that were involved with the consultation in the first instance don’t feel that they’ve had an opportunity to respond to the change in policy.
16:19 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
The First Minister to reply. Y Prif Weinidog i ateb.
16:19 - Carwyn Jones
A gaf i ddweud ar y dechrau nad wyf yn dal yn gwybod cweit beth yw’r broblem yma? Fe wrandawais i ar Suzy Davies, a dywedodd hi fod hwn yn gwanhau’r sefyllfa bresennol heb roi unrhyw dystiolaeth ynglŷn â sut roedd hynny’n iawn. Mi wnaeth Simon Thomas ac Aled Roberts ychwanegu mwy ar hynny. Nid wyf yn dal cweit yn deall beth yw’r broblem yma, ond i ddweud bod hon yn broblem i’r Llywodraeth, nid wyf yn derbyn hynny o gwbl. Fe wnaethom ni ‘shar-io’ gyda’r pleidiau eraill y manylion wythnos diwethaf ac nid oedd dim ateb, neb yn cwyno, dim byd bryd hynny—dim byd tan y bore yma. Bore yma y clywon ni am y tro cyntaf fod yna ryw broblem. May I say at the outset that I still don’t quite know what the problem is? I listened to Suzy Davies and she said that this weakens the current position without giving any evidence as to how it would do that. Simon Thomas and Aled Roberts did put more meat on the bone there. But I still don’t quite understand what the problem is, but to say that it’s a problem for Government, then I don’t accept that at all. We shared, with the other parties, details of this last week and there was no response and no complaints at that point—nothing until this morning. So, it was this morning that we heard for the first time that there was some sort of problem.
16:20 - Suzy Davies
Cawsom ni ddim byd, gyda’r Ceidwadwyr, mae’n ddrwg gen i. Cawsom ni ddim byd wrthych chi. We didn’t receive anything, as the Conservative group, I’m afraid. We didn’t receive anything from you.
16:20 - Carwyn Jones
Ni chlywais i mo hynny. Bore yma, roedd hi’n amlwg bod yna broblem. Fe wnaethom ni gysylltu â’r pleidiau er mwyn i ni wybod beth yn gwmws oedd y broblem, a’r ateb roeddem yn ei gael nôl oedd, ‘Wel, nid yw’r rheoliadau yn rheoliadau rydym yn gallu eu derbyn’. Dyna fe. Wel, dyna le rydym ni ar hyn o bryd. I’m sorry; I didn’t hear that intervention. This morning, it became clear that there was a problem. We contacted the parties to identify the problem, and the response that we received was, ‘Well, the regulations are not acceptable to us’. That was it. That’s where we are at present.
Ynglŷn â rhai o’r pethau sydd wedi cael eu sôn amdanynt, yn gyntaf i gyd os edrychwch chi ar reoliad 29, mae llety yno—mae yn y rheoliad ei hun—felly nid yw’n wir i ddweud bod yna ddim byd yna ynglŷn â llety; mae’n amlwg o’r rheoliad ei hun fod yn rhaid i brifysgolion sicrhau bod yna ddarpariaeth yn cael ei rhoi i fyfyrwyr ynglŷn a sicrhau bod llety ar gael iddyn nhw yn yr iaith Gymraeg. Mae’n amlwg—mae yna yn y rheoliad. Felly, nid wyf yn derbyn o gwbl bod yna broblem ynglŷn â llety; mae’n glir. Mae’r un peth ynglŷn â lles myfyrwyr a sicrhau eu bod nhw’n gallu cael cymorth a help. Mae’n amlwg yn fanna fod yn rhaid i hynny gael ei wneud yn Gymraeg; dyna’n gwmws pam ei fod ar wyneb y Bil ei hun. In terms of some of the issues that have been highlighted, first of all if you look at regulation 29, accommodation is included—it’s included there within the regulation—so it’s not true to say that accommodation is omitted; it’s clear from the regulations themselves that universities do have to ensure that provision is made for students ensuring that Welsh-language accommodation is available. It’s obvious—it’s in the regulation. So, I don’t accept at all that there is a problem on accommodation; it’s clear. The same is true on student welfare and ensuring that they can access support and assistance. It’s clear that that has to be provided through the medium of Welsh; that’s why it’s on the face of the regulations themselves.
Mae dau beth arall wedi cael eu cwnnu. Yn gyntaf, wrth gwrs, ynglŷn â gweithgareddau masnachol, nid dim ond bidiau rydym yn siarad amdanynt fan hyn. Dywedwch, er enghraifft, fod prifysgol eisiau masnachu dramor, a ydym wir yn dweud bod yn rhaid cael popeth yn Gymraeg hefyd? I mi, mae hynny’n rhywbeth sydd yn mynd ymhellach na beth sydd ei eisiau ynglŷn â masnachu dramor. Two other issues have been raised. First of all, of course, on commercial activities, we’re not just talking about bids here. Let’s say, for example, that a university wants to trade abroad, are we really saying that everything should be available through the medium of Welsh? To me, that goes further than what is actually needed for working abroad.
Ynglŷn â’r sefyllfa ynglŷn â gallu rhoi gwaith mewn yn Gymraeg, wel, wrth gwrs, mae’n bwysig dros ben fod hawl gan fyfyriwr i wneud hynny. Os ydym wir yn dweud bod yna hawl ganddynt i gael eu hasesu yn Gymraeg hefyd, felly rydym wedyn yn arwain at sefyllfa lle byddai’n rhaid cael darpariaeth ddwyieithog i bob pwnc ym mhob prifysgol. Dyna’r unig ffordd o sicrhau y byddai hynny yn gallu cael ei wneud. Aled. In terms of the situation in terms of submitting work through the medium of Wales, it’s very important that a student has the right to do that. If we’re really saying that they have a right to be assessed through the medium of Welsh too, then we are bringing ourselves to a position where there would have to be bilingual provision for all subjects in all universities. That’s the only way that that could be achieved.
16:22 - Aled Roberts
Nid oeddwn yn dweud hynny; rwy’n deall bod yna arbenigedd o fewn pynciau unigol, lle hwyrach fod yn rhaid i ni gyfieithu’r gwaith er mwyn i’r gwaith gael ei asesu. Ond y cwestiwn sy’n codi ydy: ar hyn o bryd, mae yna hawl i chi gael yr adborth yn ôl yn y Gymraeg, ond nid yw hynny’n glir o’r ymgynghoriad sydd wedi cymryd lle, o ran y myfyrwyr beth bynnag. I wasn’t saying that; I understand that there si expertise within individual subjects, where perhaps we have to translate the work so that the work is assessed. But the question that arises is: at present, you have the right to have the feedback in the Welsh language, but that is not clear from the consultation that has taken place, in terms of the students anyway.
16:22 - Carwyn Jones
Mae e yna, yn fy marn i, yn y rheoliad sydd yn delio ag asesu a phrofi myfyrwyr. Ni fyddwn yn erfyn i hynny newid o gwbl; mae honno’n hawl y bydd yn rhaid iddi aros. Y broblem yw os ydych chi’n dweud bod yna hawl gan fyfyrwyr i gael unrhyw fath o asesiad yn Gymraeg—rwy’n deall nad ydych chi’n dweud hynny—ond os taw dyna beth yw’r ddadl, mae hynny’n meddwl y byddai’n rhaid i bob cwrs gael ei ddarparu’n ddwyieithog, ac mae hynny’n ormodol yn fy marn i, er bod yn rhaid sicrhau bod myfyrwyr Cymraeg yn gallu rhoi gwaith i mewn a chael adborth nôl yn Gymraeg. Mae hynny, i mi, ar wyneb y rheoliadau eu hunain. It’s there, in my view, in the regulation that deals with student assessment and testing. I wouldn’t expect that to change at all; that is a right that should remain. The problem arises if you say that a student has a right to have any sort of assessment through the medium of Wales—I understand that’s not the point you’re making—but if that is the argument, then that would mean that all courses would have to provided bilingually and that, in my view, is excessive, although we do need to ensure that Welsh students can submit their work in Welsh and get feedback in Welsh. For me, that is on the face of the regulations themselves.
Nid oes modd i brifysgol na choleg addysg bellach roi’r ddyletswydd ar is-gwmni a dianc o’r ddyletswydd, achos nhw sydd â’r ddyletswydd i sicrhau bod yr is-gwmni yn sicrhau bod darpariaeth ar gael yn Gymraeg. Felly, maen nhw’n ffaelu jest dweud, ‘Nage ni’n sy’n gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaeth yna yn cael ei roi i’r cyhoedd, felly mae’n gallu cael ei roi dim ond yn Saesneg.’ Nid oes modd iddyn nhw wneud hynny o dan y rheoliadau. There is no way for a university or an FE college to place a duty on a subsidiary and escape their responsibility, because it’s their responsibility to ensure that the subsidiary company does ensure that provision is available through the medium of Welsh. They can’t just say, ‘Well it’s not our responsibility any more to ensure that that service is provided to the public, so it can be provided in English only.’ That simply isn’t possible under the regulations.
Heb unrhyw bwynt arall sydd wedi cael ei wneud ynglŷn â’r rheoliadau eu hunain, gallaf ddweud: ynglŷn â llety, mae ar wyneb y rheoliadau. Mae yno’n glir. Nid oes problem ynglŷn â sicrhau bod yna lety ar gael i fyfyrwyr Cymraeg; mae yno—29(j) yw’r rheoliad ei hun. Mae’r un peth gyda lles—29(c) sy’n delio â lles myfyrwyr; 29(g) sydd yn delio ag asesu myfyrwyr, ac mae hynny yn cynnwys, yn fy marn i, sicrhau eu bod nhw’n cael cymorth ac adborth yn ôl ynglŷn a’r gwaith maen nhw wedi ei roi mewn. Dyna beth yw’r sefyllfa. In terms of other points made on the regulations, I can say: on accommodation, it is included in the regulation. That is clear. There is no problem in terms of ensuring that accommodation is available for Welsh students; it’s 29(j)—that’s the regulation itself. It’s the same thing with welfare—29(c) deals with student welfare; 29(g) deals with student assessment, and that, in my view, includes ensuring that they are given feedback on their work. That is the situation.
Rwy’n gwybod bod rhai yn meddwl bod hwn yn gwanhau’r sefyllfa; nid ydyw. Mae’n trio ei gwneud yn llawer cliriach nag y mae hi ar hyn o bryd. Dyna pam rydym wedi ceisio sicrhau bod 29 mor eang ag sy’n bosib, er mwyn sicrhau bod y pryderon sydd wedi cael eu codi gan rai myfyrwyr yn cael eu delio â nhw. Rydym yn dod i ddiwedd y Cynulliad ac os nad yw’r rheoliadau hyn yn mynd trwyddo, ni fydd rheoliadau. Dyna fe. Mae’n bosib, wrth gwrs, i ailystyried y peth ar ôl yr etholiad, ond rwy’n dal i ddweud nad wyf yn gweld beth yn gwmws yw’r broblem yn fan hyn ynglŷn â’r rheoliadau eu hunain. Rwyf wedi delio, yn fy marn i, â’r pryderon sydd wedi cael eu rhoi o flaen y Cynulliad y prynhawn yma ac, i fi, nid wyf yn gweld bod yna unrhyw achos yn fan hyn i ddweud bod rheoliadau Rhif 3 yn gwanhau’r sefyllfa o gwbl. I know that some people think that this is a retrograde step; I don’t believe it is. I think it makes things clearer than they are at present. That’s why we've tried to ensure that regulation 29 is as broad as possible, in order to ensure that the concerns expressed by some students are addressed in that. We’re coming to the end of this Assembly and if these regulations don’t go through, there won’t be regulations in place. That’s it. We could perhaps reconsider it after the election, but I still say that I don’t see exactly what the problem is here in terms of the regulations themselves. I think I’ve dealt with the concerns that have been raised in the Assembly this afternoon and, for me, I don’t see that there is any cause here to say that regulations No. 3 actually weaken the situation in any way whatsoever.
16:25 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
The proposal is to agree the motion under item 11. Does any Member object? The motion under item 11 is therefore agreed. Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 11. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Mae'r cynnig o dan eitem 11 wedi ei dderbyn felly.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
16:26 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
The proposal is to agree the motion under item 12. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting under item 12 until voting time. Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 12. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan eitem 12 tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Voting deferred until voting time.
16:26 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
The proposal is to agree the motion under item 13. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting on item 13. Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 13. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar eitem 13.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Voting deferred until voting time.
16:26 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
The proposal is to agree the motion under item 14. Does any Member object? [Objection.] I’ll defer that item also. Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 14. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf yr eitem honno hefyd.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Voting deferred until voting time.
16:26 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Finally, the proposal is to agree the motion under item 15. Does any Member object? Then the motion under item 15 is agreed. Yn olaf, y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 15. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Yna mae’r cynnig o dan eitem 15 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
16. Debate on the Housing Adaptation Scheme 16. Dadl ar y Cynllun Addasu Tai
16:26 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Item 16, the debate on the housing adaptation scheme, was withdrawn and discussed under a statement earlier today. Eitem 16, cafodd y ddadl ar y cynllun addasu tai, ei dynnu'n ôl a'i drafod o dan ddatganiad yn gynharach heddiw.
17. Voting Time 17. Cyfnod Pleidleisio
Item 17 is voting time. Before I proceed to conduct the votes, are there three Members who wish for the bell to be rung? There are not. So, we’ll vote first on the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (Consequential Amendments) Regulations 2016. I call for a vote on the motion tabled in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. There voted in favour 47, there voted against five. Therefore, the motion is agreed. Eitem 17 yw’r cyfnod pleidleisio. Cyn i mi symud ymlaen i gynnal y pleidleisio, a oes tri Aelod sy'n dymuno i'r gloch gael ei chanu? Nid oes. Felly, byddwn yn pleidleisio yn gyntaf ar Reoliadau 2016 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol). Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Mae 47 wedi pleidleisio o blaid, mae pump wedi pleidleisio yn erbyn. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig: O blaid 47, Yn erbyn 5, Ymatal 0. Motion agreed: For 47, Against 5, Abstain 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM5999. Result of the vote on motion NDM5999.
16:27 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
We’ll now vote on the food hygiene rating regs. I call for a vote on the motion tabled in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. There voted in favour 40, there voted against 12. Therefore, the motion is agreed. Byddwn yn awr yn pleidleisio ar y rheoliadau sgôr hylendid bwyd. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Mae 40 wedi pleidleisio o blaid, mae 12 wedi pleidleisio yn erbyn. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig: O blaid 40, Yn erbyn 12, Ymatal 0. Motion agreed: For 40, Against 12, Abstain 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM5998. Result of the vote on motion NDM5998.
16:28 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
We’ll now vote on the supplementary legislative consent motion on the UK Enterprise Bill’s provisions relating to public sector employment restrictions on exit payments. I call for a vote on the motion tabled in the name of Leighton Andrews. Open the vote. Close the vote. There voted in favour 40, there voted against 12. Therefore, the motion is agreed. Byddwn yn awr yn pleidleisio ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol ar ddarpariaethau Bil Menter y DU sy'n ymwneud â chyfyngiadau ar daliadau ymadael yn y sector cyhoeddus. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Leighton Andrews. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Mae 40 wedi pleidleisio o blaid, mae 12 wedi pleidleisio yn erbyn. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig: O blaid 40, Yn erbyn 12, Ymatal 0. Motion agreed: For 40, Against 12, Abstain 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM5994. Result of the vote on motion NDM5994.
16:29 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
We’ll now vote on the supplementary legislative consent motion on the Housing and Planning Bill relating to compulsory purchase provisions. I call for a vote on the motion, tabled in the name of Carl Sargeant. Open the vote. If Members just listen to me—we are out of sync on the technology; I’m sorry. Close the vote. There voted in favour 0, there voted against 52. Therefore, the motion is not agreed. Byddwn yn awr yn pleidleisio ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol ar y Mesur Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â darpariaethau prynu gorfodol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Carl Sargeant. Agorwch y bleidlais. Os gwnaiff yr Aelodau wrando arnaf i—nid yw’r dechnoleg yn gyd-amserol; mae'n ddrwg gennyf. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 0 o blaid, pleidleisiodd 52 yn erbyn. Felly, ni chaiff y cynnig ei dderbyn.
Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 0, Yn erbyn 52, Ymatal 0. Motion not agreed: For 0, Against 52, Abstain 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM5995. Result of the vote on motion NDM5995.
16:30 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
We’ll now vote on the Welsh language standards regs. First, on item 12, I call for a vote on the motion tabled in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. There voted in favour 26, there voted against 26. As required under Standing Order 6.20, I exercise my casting vote against the motion, which consequently falls. Byddwn yn awr yn pleidleisio ar reoliadau safonau’r Gymraeg. Yn gyntaf, ar eitem 12, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 26 o blaid, pleidleisiodd 26 yn erbyn. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwyf yn bwrw fy mhleidlais fwrw yn erbyn y cynnig, sydd o ganlyniad yn methu.
Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 26, Yn erbyn 26, Ymatal 0. Motion not agreed: For 26, Against 26, Abstain 0.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. As required by Standing Order 6.20, the Deputy Presiding Officer exercised his casting vote by voting against the amendment.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6002. Result of the vote on motion NDM6002.
16:31 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
We’ll now vote on item 13. I call for a vote on the motion tabled in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. Voted in favour 40, voted against 12. Therefore, the motion is agreed. Byddwn yn awr yn pleidleisio ar eitem 13. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 40 o blaid, pleidleisiodd 12 yn erbyn. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig: O blaid 40, Yn erbyn 12, Ymatal 0. Motion agreed: For 40, Against 12, Abstain 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6003. Result of the vote on motion NDM6003.
16:31 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
We’ll now vote on item 14. Open the vote. Close the vote. Voted in favour 40, voted against 12. Therefore, the motion is agreed. Byddwn yn awr yn pleidleisio ar eitem 14. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 40 o blaid, pleidleisiodd 12 yn erbyn. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig: O blaid 40, Yn erbyn 12, Ymatal 0. Motion agreed: For 40, Against 12, Abstain 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6004. Result of the vote on motion NDM6004.
16:31 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
That concludes our voting and concludes today’s business. Thank you very much. Dyna ddiwedd ein pleidleisio a diwedd busnes heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Daeth y cyfarfod i ben am 16:31. The meeting ended at 16:31.
14 Mawrth 2016: Neges Diwrnod y Gymanwlad gan Ei Mawrhydi Y Frenhines, Pennaeth y Gymanwlad 14 March 2016: Commonwealth Day Message by Her Majesty The Queen, Head of the Commonwealth
Ym mha bynnag ran o'r Gymanwlad rydym yn byw, gallwn elwa bob amser ar fod yn agored i syniadau ac anogaeth y rhai sydd o'n cwmpas. Gall pob un ohonom hefyd wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau eraill drwy ein parodrwydd i gyfrannu a chynnig cefnogaeth. Wherever we live in the Commonwealth, we can always benefit from being open to the ideas and encouragement of those around us. Each of us can also make a positive difference in the lives of others by being willing to contribute and offer support.
Mae hon yn elfen graidd o berthyn i'r Gymanwlad: parodrwydd i rannu, i gyfnewid ac i weithredu er lles pawb. Drwy gynnwys pobl eraill a defnyddio dealltwriaeth, gwybodaeth ac adnoddau cyfunol, yn ogystal â meddwl a gweithio gyda'n gilydd, rydym yn gosod sylfeini cymdeithas gytûn a blaengar. Po fwyaf yw'r amrywiaeth o ran y bobl mewn menter gyfunol o'r fath, y mwyaf y bydd pawb yn elwa. Mae gan bob un ohonom achos i ddathlu'r ymdeimlad o berthyn sy'n cael ei fynegi yn ein thema ar gyfer 2016: 'Cymanwlad Gynhwysol'. This is an essential ingredient of belonging to the Commonwealth: the willingness to share, to exchange and to act for the common good. By including others, drawing on collective insights, knowledge and resources, and thinking and working together, we lay the foundations of a harmonious and progressive society. The greater the diversity of those included in such a shared enterprise, the greater the gains. Each of us has cause to celebrate the sense of belonging expressed in our 2016 theme: 'An Inclusive Commonwealth'.
Mae Siarter y Gymanwlad yn cydnabod y gwerth hwnnw, a doethineb pawb yn parchu ei gilydd. Mae'r geiriau agoriadol, ‘Ni, bobl y Gymanwlad’, yn cyfleu'r argyhoeddiad mai unigolion, yn ogystal â llywodraethau, sy'n datblygu ac yn llywio ein llwyddiannau. Our recognition of this value, and the wisdom of mutual respect for each other, is set out in the Commonwealth Charter. Its opening words, ‘We the people of the Commonwealth’ convey the conviction that individuals, as well as governments, build and shape our success.
Mae bod yn gynhwysol a derbyn amrywiaeth yn treiddio'n llawer dyfnach na derbyn gwahaniaethau ar yr wyneb a bod yn berson goddefgar. Mae gwir ddathlu urddas unigolion, a gwerth eu cyfraniad a'r ffaith eu bod yn unigryw, yn cynnwys ymestyn allan, cydnabod a chroesawu eu hunaniaeth unigol. Being inclusive and accepting diversity goes far deeper than accepting differences at face value and being tolerant. True celebration of the dignity of each person, and the value of their uniqueness and contribution, involves reaching out, recognising and embracing their individual identity.
Yng nghyfarfod diweddar Penaethiaid Llywodraethau'r Gymanwlad, roedd fforymau ar gyfer menywod, pobl ifanc, busnes a chymdeithas sifil. Roedd y fforymau hyn yn fodd i fyfyrio ar sut i gyfrannu ar y cyd at gyflawni newid byd-eang cadarnhaol, rhywbeth y mae gan y Gymanwlad enw da am wneud. At the recent Commonwealth Heads of Government Meeting, there were forums for women, youth, business and civil society. These forums were a place for reflection on how to contribute collectively to achieving positive global change, for which the Commonwealth is widely respected.
Heddiw, ac yn ystod y flwyddyn i ddod, bydd y thema ‘Cymanwlad Gynhwysol’ yn ysbrydoliaeth i ni i gyd. Gadewch inni gymryd camau ymarferol i gefnogi'r rhai sydd mewn angen a'r rhai sy'n teimlo eu bod wedi'u heithrio o bob agwedd ar fywyd. Drwy wneud hynny, byddwn yn parhau i ddatblygu cymuned wirioneddol gynrychiadol o fewn y Gymanwlad. Today, and in the year ahead, the theme ‘An Inclusive Commonwealth’ is an inspiration for us all. Let us give it practical effect by supporting those in need and those who feel excluded in all walks of life. By doing so, we will continue to build a truly representative Commonwealth community.
Back to List View this page with hyperlinks

Partners & Help