By continuing to use our site, you are agreeing for us to set a small number of cookies. Cookie policy

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Back to list View this page with hyperlinks
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair. The Assembly met at 13:30 with the Presiding Officer (Dame Rosemary Butler) in the Chair.
13:31 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Good afternoon. The National Assembly for Wales is now in session. Prynhawn da. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
1. Questions to the First Minister 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog
The first item this afternoon is questions to the First Minister. Question 1, Alun Ffred Jones. Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw’r eitem gyntaf y prynhawn yma. Cwestiwn 1, Alun Ffred Jones. 
Yr Iaith Gymraeg yn y Broses Gynllunio The Welsh Language in the Planning Process
13:31 - Alun Ffred Jones
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl yr iaith Gymraeg yn y broses gynllunio? OAQ(4)2192(FM) 1. Will the First Minister make a statement on the role of the Welsh language in the planning process? OAQ(4)2192(FM)
13:31 - Carwyn Jones
Dylai pob awdurdod cynllunio lleol ystyried y Gymraeg wrth baratoi eu cynlluniau datblygu lleol. Mae’n bwysig, wrth gwrs, fod y system gynllunio yn cyfrannu at gefnogi’r iaith, ac mae nodyn cyngor technegol 20 yn adlewyrchu hynny. Every local planning authority should consider the Welsh language in preparing their local development plans. It is important, of course, that the planning system plays its part in supporting the language, and technical advice note 20 reflects that.
13:31 - Alun Ffred Jones
Mae cynigion y Llywodraeth ym Mil Cynllunio (Cymru) parthed y Gymraeg i’w croesawu, er nad ydyn nhw’n datblygu fawr ddim ar nodyn cyngor technegol 20, fel y cyfeirioch chi rŵan. Pam nad yw’r Llywodraeth yn barod i sicrhau bod y Gymraeg yn cael yr un ystyriaeth mewn astudiaethau ardrawiad â’r amgylchedd neu iechyd mewn rhai ceisiadau cynllunio penodol? The Government's proposals in the Planning (Wales) Bill in relation to the Welsh language are to be welcomed, although they do not develop much at all on technical advice note 20, as you just referred to. Why isn’t the Government willing to ensure that the Welsh language is given the same consideration in impact assessments as the environment or health in specific planning applications?
13:32 - Carwyn Jones
Rŷm ni’n agored i unrhyw drafod ynglŷn ag ym mha ffordd y gallai hwnnw gael ei wneud yn ymarferol—wrth gwrs, o gofio’r ffaith y byddai’n rhaid talu am hwnnw. Byddai’n rhaid i’r person sy’n rhoi’r cais i mewn dalu am hynny, a hefyd, pwy fyddai’n gwneud unrhyw fath o asesiad, a beth fyddai’r methodoleg? Wrth ystyried y pethau ymarferol yna, rŷm ni’n ddigon parod i ystyried ym mha ffordd y gallai’r system gynllunio gario ymlaen i roi cymorth i’r Gymraeg. We are open to any discussion as to how that could be done on a practical level— of course, bearing in mind that that would have to be paid for. The individual making the application would have to pay for that, and also, who would carry out any kind of assessment, and what would the methodology be? In considering those practicalities, we're more than happy to consider how the planning system can continue to assist and support the Welsh language.
13:32 - Suzy Davies
Brif Weinidog, rŷch chi wedi sôn am y gair ‘ymarferol’ yna. Bob tro rwyf wedi gofyn i chi am hyn yma, yn y Cyfarfod Llawn, rŷch chi wedi dweud y dylai unrhyw gymorth i’r iaith fod yn ymarferol yn y Bil cynllunio. Yn ystod Cyfnod 2 y Bil, gwrthododd y Gweinidog pob gwelliant gan y gwrthbleidiau, a oedd yn cynnig atebion ymarferol ynghylch ceisiadau cynllunio. A ydych chi’n fodlon heddiw ddweud bod y Llywodraeth yn fodlon dod ymlaen â gwelliannau eu hunan i sicrhau bod rhai o’r ymatebion ymarferol yn dod drwodd yn ystod Cyfnod 3? First Minister, you’ve mentioned the word 'practical' there. Every time I’ve asked you about this here, in Plenary, you’ve said that any assistance given to the language should be practical in the planning Bill. During Stage 2 of the Bill, the Minister rejected all amendments tabled by opposition parties that proposed practical solutions on planning applications. Are you prepared today to say that the Government is willing to come forward with its own amendments, in order to ensure that some of those practical responses do emerge at Stage 3?
13:33 - Carwyn Jones
Rŷm ni wedi gwneud hynny, wrth gwrs. Rŷm ni wedi symud ymlaen ynglŷn â’r Gymraeg a’r system gynllunio. Y nod yw sicrhau nad yw unigolion yn gorfod gwneud rhyw fath o asesiad ynglŷn â’r iaith Gymraeg—byddai hynny’n ormodol yn fy marn i—a hefyd, stopio datblygwyr lle mae eisiau iddyn nhw ddatblygu ystâd o dai newydd, efallai, rhag torri i lawr y cais cynllunio i mewn i dri neu bedwar o geisiadau er mwyn dod o dan unrhyw linell a allai fod yn y ddeddfwriaeth ei hunan. Felly, wrth ystyried y pethau ymarferol hyn, rŷm ni’n ddigon parod i gario ymlaen â’r drafodaeth. We have done that, of course. We have made progress on the Welsh language and the planning system. The aim is to ensure that individuals don’t have to carry out some sort of language impact assessment—that would be excessive, in my view—and also, to stop developers where they want to develop a new housing estate, perhaps, from cutting down that planning application into three or four different applications in order to get below any line that may be drawn in the legislation itself. So, considering these practicalities, we’re more than happy to continue the debate.
Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru The Mid Wales Healthcare Study
13:33 - Russell George
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru? OAQ(4)2191(FM) 2. Will the First Minister make a statement on the Mid Wales Healthcare Study? OAQ(4)2191(FM)
13:33 - Carwyn Jones
Yes. Following the study, the mid Wales rural healthcare conference took place on 12 March, and this provided an opportunity to bring stakeholders together to highlight successful examples of solutions to rural healthcare problems and to discuss what lessons could be applied to the middle of Wales. Gwnaf. Yn dilyn yr astudiaeth, cynhaliwyd cynhadledd gofal iechyd gwledig y canolbarth ar 12 Mawrth, a darparodd hyn gyfle i ddod â rhanddeiliaid ynghyd i dynnu sylw at enghreifftiau llwyddiannus o atebion i broblemau gofal iechyd gwledig ac i drafod pa wersi a allai fod yn berthnasol i’r canolbarth.
13:34 - Russell George
Thank you, First Minister. I was pleased with that conference. It took place at Cefn Lea Park near Newtown just a couple of weeks ago. The conference and study quite rightly pointed out the strategic importance of Bronglais. However, there was some concern following the conference that there was little reference to cross-border healthcare during the day, and concerns that a new border would be allowed to develop, which would effectively be through the centre of Powys. Can you, First Minister, give an assurance that the provision of healthcare in mid Wales will take into account the whole of mid Wales, and there will not be a line drawn through the centre of Powys? Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Roeddwn i’n falch â’r gynhadledd honno. Fe'i cynhaliwyd ym Mharc Cefn Lea ger y Drenewydd dim ond wythnos neu ddwy yn ôl. Tynnodd y gynhadledd a’r astudiaeth sylw, a hynny’n gwbl briodol, at bwysigrwydd strategol Bronglais. Fodd bynnag, roedd rhywfaint o bryder yn dilyn y gynhadledd mai prin y cyfeiriwyd at ofal iechyd trawsffiniol yn ystod y diwrnod, a phryderon y byddai ffin newydd yn cael ei chaniatáu i ddatblygu, a fyddai yn mynd trwy ganol Powys i bob pwrpas. A allwch chi, Brif Weinidog, roi sicrwydd y bydd y ddarpariaeth o ofal iechyd yn y canolbarth yn cymryd y canolbarth cyfan i ystyriaeth, ac na fydd llinell yn cael ei thynnu trwy ganol Powys?
13:34 - Carwyn Jones
There are no plans to draw a line down the centre of Powys, I can assure the Member of that. Certainly, we know that there will continue to be a number of patients from Powys who will access health services in England, and, indeed, there is a flow that goes in the other direction as well. That is something that has always been the case, it is something the Welsh NHS pay for, and I do not see his constituents, nor anybody else’s constituents in Powys, as refugees—a word that has been used, of course, unfortunately, by a member of his party in London. Nid oes unrhyw gynlluniau i dynnu llinell trwy ganol Powys, gallaf sicrhau'r Aelod o hynny. Yn sicr, gwyddom y byddwn yn parhau i weld nifer o gleifion o Bowys a fydd yn defnyddio gwasanaethau iechyd yn Lloegr, ac, yn wir, ceir llif sy'n mynd i'r cyfeiriad arall hefyd. Mae hynny'n rhywbeth a fu’n wir erioed, mae'n rhywbeth y mae’r GIG yng Nghymru yn talu amdano, ac nid wyf yn gweld ei etholwyr ef, nac etholwyr unrhyw un arall ym Mhowys, fel ffoaduriaid—gair sydd wedi ei ddefnyddio, wrth gwrs, yn anffodus, gan aelod o'i blaid ef yn Llundain.
13:35 - Elin Jones
Brif Weinidog, fe ges i gyfle i fynychu’r gynhadledd, a oedd yn un werthfawr iawn, ac yn rhoi cyfeiriad pwysig i’r gwaith newydd yma, o ran cynllunio iechyd yn y canolbarth. I barhau â’r momentwm yma sydd ar waith nawr yn y canolbarth, a wnewch chi, ar ran eich Gweinidog iechyd, ymrwymo i ddarparu datganiad ysgrifenedig ddwywaith y flwyddyn, er mwyn cynnal y tryloywder, a’r momentwm, a’r atebolrwydd o’r gwaith yma i’r Gweinidog iechyd? First Minister, I had an opportunity to attend that conference, which was very valuable, and provided an important direction for this new work in terms of healthcare planning in mid Wales. To continue with that momentum now in mid Wales, will you, on behalf of your health Minister, undertake to provide a written statement twice a year, in order to maintain the transparency, momentum, and accountability of this work for the health Minister?
13:35 - Carwyn Jones
Wel, rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog iechyd, wrth gwrs, yn barod i ateb cwestiynau ar hyd y llinellau hynny yn y dyfodol. A gaf i ddweud bod ymatebion wedi dod atom ni nawr oddi wrth dri o’r byrddau iechyd, a hefyd oddi wrth yr ymddiriedolaeth ambiwlans? Mae pob bwrdd wedi deall yr analysis sydd wedi cael ei ddodi yn ei le gan yr astudiaeth ei hunan, ac, wrth gwrs, mae’r Gweinidog yn ddiweddar wedi penodi dau gyd-gadeirydd annibynnol i’r cyd-weithrediad iechyd ynglŷn â’r canolbarth, sy’n cael ei sefydlu ar hyn o bryd rhwng y tri bwrdd iechyd, a hefyd yr ymddiriedolaeth ambiwlans. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn parhau i sicrhau bod Aelodau yn gwybod beth yw’r camau nesaf ynglŷn â’r astudiaeth, a hefyd y gynhadledd. Well, I’m sure that the health Minister, of course, will be prepared to answer questions along those lines in future. May I say that responses have now been received from three of the health boards, and also from the ambulance trust? Each board understands the analysis that has been put in place by the study itself, and, of course, the Minister has recently appointed two independent co-chairs of the health collaboration for mid Wales, which is currently being established between the three health boards, and the ambulance trust. I am sure that the Minister will continue to ensure that Members are kept apprised of the next steps regarding the study, and also the conference.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Questions Without Notice from the Party Leaders
13:36 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We now move to questions from the party leaders, and first this afternoon is the leader of the opposition, Andrew R.T. Davies. Symudwn at gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr, ac arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies sydd gyntaf y prynhawn yma.
13:36 - Andrew R.T. Davies
Thank you, Presiding Officer. First Minister, just under two years ago, the chief executive and chairman of Betsi Cadwaladr University Local Health Board in the north resigned, following a damning report from Healthcare Inspectorate Wales. At the time, when the new board was put in place, the health Minister here said, when they were appointed: Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, ychydig yn llai na dwy flynedd yn ôl, ymddiswyddodd prif weithredwr a chadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd, yn dilyn adroddiad echrydus gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Ar y pryd, pan sefydlwyd y bwrdd newydd, dywedodd y Gweinidog iechyd yma, pan gawsant eu penodi:
‘so that we can be confident that they are able to discharge their responsibilities effectively in the future’. 'fel y gallwn fod yn hyderus y gallant gyflawni eu cyfrifoldebau’n effeithiol yn y dyfodol'.
Now, the responsibility of a board, surely, is to communicate and engage with the clinicians, and the staff, and the patients, who depend on their service or operate within the hospitals. Last week, we saw the British Medical Association pass a vote of no confidence in the board. How can patients and the general public have confidence in the board in north Wales, when the clinicians—who you yourself have said should lead reform of the health service here in Wales—are passing votes of no confidence? Nawr, cyfrifoldeb bwrdd, does bosib, yw cyfathrebu ac ymgysylltu â'r clinigwyr, a’r staff, a'r cleifion, sy'n dibynnu ar eu gwasanaeth neu’n gweithredu yn yr ysbytai. Yr wythnos diwethaf, gwelsom Gymdeithas Feddygol Prydain yn pasio pleidlais o ddiffyg hyder yn y bwrdd. Sut all cleifion a'r cyhoedd fod â hyder yn y bwrdd yn y gogledd, pan fo’r clinigwyr—yr ydych chi eich hun wedi dweud mai hwy ddylai arwain y gwaith o ddiwygio'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru—yn pasio pleidleisiau o ddiffyg hyder?
13:37 - Carwyn Jones
Well, my understanding is that it was one part of the BMA that passed that vote of no confidence, not all of it, and certainly not all of the BMA in the whole of Betsi Cadwaladr. But I do welcome the fact that the consultants, following the invitation that the health Minister and I issued, have come forward with plans. I welcome the fact that the health board, now, will consider those plans. It’s early days yet, in terms of how those plans can be made robust, but, certainly, I do very much welcome the fact that the consultants have come forward now with plans of their own. Wel, fy nealltwriaeth i yw mai un rhan o Gymdeithas Feddygol Prydain basiodd y bleidlais honno o ddiffyg hyder, nid y Gymdeithas gyfan, ac yn sicr nid y Gymdeithas gyfan ym Mwrdd cyfan Betsi Cadwaladr. Ond rwyf yn croesawu'r ffaith fod yr ymgynghorwyr, yn dilyn y gwahoddiad a gyflwynwyd gan y Gweinidog iechyd a minnau, wedi cynnig cynlluniau. Croesawaf y ffaith y bydd y bwrdd iechyd, erbyn hyn, yn ystyried y cynlluniau hynny. Mae'n ddyddiau cynnar eto, o ran sut y gellir gwneud y cynlluniau hynny’n gadarn, ond, yn sicr, rwy’n croesawu'n fawr y ffaith fod yr ymgynghorwyr wedi dod ymlaen erbyn hyn gyda'u cynlluniau eu hunain.
13:38 - Andrew R.T. Davies
It is welcome that those plans have come forward, but it is a fact that a vote of no confidence was passed by clinicians yesterday—not yesterday; last week, I should say—in their own board area. The secretary of the BMA in Wales said that there remain poor communications between the board and the ward. Ultimately, you are the Government and you are responsible for supporting the health board in that particular area. It is the biggest public body in Wales. We have seen previous poor reports about governance. We are seeing time and time again this issue arising in north Wales, and what we also see as well is a senior director there—the medical director, Matthew Makin—saying that, if we do nothing, we will simply be ‘sleepwalking into disaster’, when he’s talking about services at district general hospitals in north Wales. Who is correct? Are the clinicians right, or are the directors at board level right when they say they need to reconfigure services in north Wales? Mae i’w groesawu bod y cynlluniau hynny wedi eu cynnig, ond mae'n ffaith y pasiwyd pleidlais o ddiffyg hyder gan glinigwyr ddoe—nid ddoe; yr wythnos diwethaf, ddylwn i ddweud—yn ardal eu bwrdd eu hunain. Dywedodd ysgrifennydd Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru bod y cyfathrebu yn wael rhwng y bwrdd a'r ward o hyd. Yn y pen draw, chi yw'r Llywodraeth a chi sy’n gyfrifol am gefnogi’r bwrdd iechyd yn yr ardal benodol honno. Dyma’r corff cyhoeddus mwyaf yng Nghymru. Rydym ni wedi gweld adroddiadau gwael blaenorol am lywodraethu. Rydym ni’n gweld y mater hwn yn codi dro ar ôl tro yn y gogledd, a’r hyn yr ydym ni hefyd yn ei weld yw uwch gyfarwyddwr yno—y cyfarwyddwr meddygol, Matthew Makin—yn dweud, os byddwn yn gwneud dim, byddwn yn 'cerdded yn ddiarwybod i mewn i drychineb', pan ei fod yn sôn am wasanaethau mewn ysbytai cyffredinol dosbarth yn y gogledd. Pwy sy'n iawn? A yw'r clinigwyr yn iawn, neu a yw’r cyfarwyddwyr ar lefel y bwrdd yn iawn pan fyddant yn dweud bod angen iddynt ad-drefnu gwasanaethau yn y gogledd?
13:39 - Carwyn Jones
Well, they’re both right, because they’re not in argument with each other. I mean, it is right to say that the medical director said there has to be change, certainly in the short term, and the clinicians have recognised that. They put forward an alternative—it’s change, nevertheless, but an alternative. It’s a matter now for the health board to assess the alternatives that they’ve put forward. Nobody is arguing that things can stay exactly as they are, not even, of course, the consultants, which is why they’ve come forward now with an alternative plan for the board to consider. Wel, mae’r ddau yn iawn, gan nad ydyn nhw mewn dadl â'i gilydd. Hynny yw, mae'n iawn dweud bod y cyfarwyddwr meddygol wedi dweud bod yn rhaid cael newid, yn sicr yn y tymor byr, ac mae'r clinigwyr wedi cydnabod hynny. Maen nhw wedi cynnig dewis arall—mae'n newid, serch hynny, ond yn ddewis arall. Mae'n fater nawr i’r bwrdd iechyd asesu'r dewisiadau eraill y maen nhw wedi eu cyflwyno. Nid oes unrhyw un yn dadlau y gall pethau aros yn union fel y maen nhw, dim hyd yn oed, wrth gwrs, yr ymgynghorwyr, a dyna pam maen nhw wedi cyflwyno cynllun arall nawr i’r bwrdd ei ystyried.
13:39 - Andrew R.T. Davies
As I’ve said, we welcome that alternative plan, and I hope there will be genuine consideration of that plan. But time and time again, we are seeing these issues arise in north Wales. As I’ve said, this is the largest public sector body in Wales. It spends the biggest part of the public sector budget on health in north Wales, and you, ultimately, sign those cheques, and give the overall direction. Why should people in north Wales feel such a disconnect from their health board, and what will you be doing to drive forward a better sense of governance and a better sense of delivery in health services in north Wales so people can have confidence that the health service they require will be there for them in the future? Fel yr wyf wedi dweud, rydym ni’n croesawu'r cynllun amgen hwnnw, a gobeithiaf y bydd ystyriaeth wirioneddol o'r cynllun hwnnw. Ond dro ar ôl tro, rydym ni’n gweld y materion hyn yn codi yn y gogledd. Fel yr wyf wedi dweud, hwn yw’r corff sector cyhoeddus mwyaf yng Nghymru. Mae'n gwario’r rhan fwyaf o'r gyllideb sector cyhoeddus ar iechyd yn y gogledd, a chi, yn y pen draw, sy'n llofnodi’r sieciau hynny, ac yn rhoi’r cyfeiriad cyffredinol. Pam ddylai pobl yn y gogledd deimlo cymaint o ddiffyg cysylltiad â’u bwrdd iechyd, a beth fyddwch chi’n ei wneud i hyrwyddo gwell synnwyr o lywodraethu a gwell synnwyr o ddarpariaeth mewn gwasanaethau iechyd yn y gogledd fel y gall pobl fod yn hyderus y bydd y gwasanaeth iechyd sydd ei angen arnyn nhw yno ar eu cyfer yn y dyfodol?
13:40 - Carwyn Jones
Well, two things: first of all, we expect, of course, the local health board to communicate with people as effectively as possible. It’s important that people understand the issues. It’s important that people understand what the options are as well. That is in any health board’s interests. We have appointed a senior Welsh Government official who will be on the implementation board in order to be able to assist and help the board with its future deliberations on service delivery. We expect, where boards are proposing changes in services, that those changes are fully explained and that the public are fully involved in consultation before decisions are taken. Wel, dau beth: yn gyntaf oll, rydym yn disgwyl, wrth gwrs, i’r bwrdd iechyd lleol gyfathrebu â phobl mewn modd mor effeithiol â phosibl. Mae'n bwysig bod pobl yn deall y problemau. Mae'n bwysig bod pobl yn deall beth yw'r dewisiadau hefyd. Mae hynny o fudd i unrhyw fwrdd iechyd. Rydym ni wedi penodi uwch swyddog Llywodraeth Cymru a fydd ar y bwrdd gweithredu er mwyn gallu cynorthwyo a helpu'r bwrdd gyda’i drafodaethau ar ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol. Rydym ni’n disgwyl, pan fo byrddau yn cynnig newidiadau mewn gwasanaethau, bod y newidiadau hynny’n cael eu hesbonio'n llawn a bod y cyhoedd yn cael eu cynnwys yn llawn mewn ymgynghoriad cyn gwneud penderfyniadau.
13:40 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We now move to the leader of Plaid Cymru, Leanne Wood. Symudwn nawr at arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
13:41 - Leanne Wood
Diolch, Lywydd. I know, First Minister, you don’t like to be reminded about your party’s commitment to austerity, but I’m sure that you’ll agree with me that people do deserve to hear what your intentions are. The Shadow Chancellor has said that he would not reverse the Tory budget, yet your party leader has said that the budget would be devastating to Wales. Who do you agree with? Diolch, Lywydd. Rwy’n gwybod, Brif Weinidog, nad ydych chi’n hoffi cael eich atgoffa am ymrwymiad eich plaid i gyni cyllidol, ond rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi bod pobl yn haeddu cael clywed beth yw eich bwriad. Mae Canghellor yr Wrthblaid wedi dweud na fyddai'n gwrthdroi cyllideb y Torïaid, ac eto mae arweinydd eich plaid wedi dweud y byddai'r gyllideb yn drychinebus i Gymru. Gyda phwy ydych chi'n cytuno?
13:41 - Carwyn Jones
Well, I do know that the difference between the election of a Labour Government and the election of a Conservative Government is the difference between what is, admittedly, a small cut in public spending of about 2 per cent and the Conservative plans of a 20 per cent cut in public spending. That is a substantial difference as far as the people of Wales are concerned. Wel, rwyf yn gwybod mai’r gwahaniaeth rhwng ethol Llywodraeth Lafur ac ethol Llywodraeth Geidwadol yw'r gwahaniaeth rhwng yr hyn sydd, mae'n rhaid cyfaddef, yn doriad bach mewn gwariant cyhoeddus o tua 2 y cant a chynlluniau’r Ceidwadwyr o doriad o 20 y cant i wariant cyhoeddus. Mae hynny'n wahaniaeth sylweddol cyn belled ag y mae pobl Cymru yn y cwestiwn.
13:41 - Leanne Wood
So, you refuse to come down on one side or another on that particular question. Let me tell you, First Minister, Plaid Cymru believes that that budget cut will be devastating for Wales, and we maintain that our public services, our communities and our people simply cannot take any more cuts. Am I right in saying, First Minister, that further cuts to Wales’s budget are palatable to you? Felly, rydych chi’n gwrthod cytuno â’r naill ochr na’r llall o ran y cwestiwn penodol hwnnw. Gadewch i mi ddweud wrthych chi, Brif Weinidog, mae Plaid Cymru o’r farn y bydd y toriad hwnnw i’r gyllideb yn drychinebus i Gymru, ac rydym ni’n dadlau na all ein gwasanaethau cyhoeddus, ein cymunedau na'n pobl ymdopi â mwy o doriadau. A wyf i'n iawn i ddweud, Brif Weinidog, eich bod yn fodlon â mwy o doriadau i gyllideb Cymru?
13:42 - Carwyn Jones
Well, no cuts are ever welcome, let’s face it. But, from our point of view, if she asks me to come down on one side, I want to see the election of a Labour Government in London. There we are—there’s coming down on the side of what we want on these benches. We don’t want to see 20 per cent cuts in our finances over the next few years. We don’t want to see a situation where there’s a lack of investment in infrastructure. We don’t want to see a situation where inequality widens. That is what we stand for as a party. I know, of course, as a party, we are in a position of actually being able to form, potentially, a Government in London. Wel, nid yw unrhyw doriadau i’w croesawu fyth, gadewch i ni fod yn blaen. Ond, o'n safbwynt ni, os bydd yn gofyn i mi ddewis ochr, rwy’n dymuno gweld Llywodraeth Lafur yn cael ei hethol yn Llundain. Dyna ni—mae hynny’n dod i lawr ar ochr yr hyn yr ydym ni ei eisiau ar y meinciau hyn. Nid ydym ni eisiau gweld toriadau o 20 y cant i’n cyllid dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Nid ydym ni eisiau gweld sefyllfa lle mae diffyg buddsoddiad mewn seilwaith. Nid ydym ni eisiau gweld sefyllfa lle mae anghydraddoldeb yn ehangu. Dyna'r hyn yr ydym ni’n sefyll drosto fel plaid. Rwy’n gwybod, wrth gwrs, fel plaid, ein bod ni mewn sefyllfa o allu ffurfio, o bosibl, Llywodraeth yn Llundain.
13:42 - Leanne Wood
But you’ll change nothing. Some 250,000 workers in Wales earn less than the living wage; 16,000 fewer people are in employment this year as compared to last year; 70,000 people are underemployed. That’s what austerity has delivered for Wales, First Minister. What will it take? How many more food banks? How many more closures? How many more punitive welfare reforms before you stand up to Westminster, First Minister? What will it take for you to tell London: ‘No more cuts’? Ond ni fyddwch chi'n newid dim. Mae tua 250,000 o weithwyr yng Nghymru yn ennill llai na'r cyflog byw; mae 16,000 yn llai o bobl mewn cyflogaeth eleni o’i gymharu â'r llynedd; mae 70,000 o bobl wedi’u tangyflogi. Dyna’r hyn y mae cyni cyllidol wedi ei gyflawni dros Gymru, Brif Weinidog. Beth fydd ei angen? Faint mwy o fanciau bwyd? Faint mwy o achosion o gau? Faint mwy o ddiwygiadau lles cosbol cyn i chi sefyll i fyny i San Steffan, Brif Weinidog? Beth sydd ei angen er mwyn i chi ddweud wrth Lundain: 'Dim mwy o doriadau'?
13:43 - Carwyn Jones
Well, the difference is that I am in a position and my party’s in a position to deliver on that, and she is not. [Interruption.] Absolutely. The reality of the situation is that we in Wales have seen unemployment drop, we’ve seen employment rise, we’ve seen more foreign direct—[Interruption.] I know it’s uncomfortable for them. We’ve seen more foreign direct investment than ever before. Certainly, there are more new foreign companies coming into Wales to invest in Wales than ever before. There are jobs around Wales being created. I contrast that with when her party ran economic development for four years. We did not see that being done, we did not see that level of investment coming into Wales, we did not see a situation where Wales was being sold around the world, and I will not take lessons in terms of ideas from the party who produced the thinnest manifesto at the last Assembly elections. Wel, y gwahaniaeth yw fy mod i mewn sefyllfa ac mae fy mhlaid mewn sefyllfa i gyflawni ar hynny, ac nid yw hi. [Torri ar draws.] Yn hollol. Gwirionedd y sefyllfa yw ein bod ni yng Nghymru wedi gweld diweithdra’n gostwng, rydym ni wedi gweld, mwy o fuddsoddiad tramor uniongyrchol— [Torri ar draws.] Rwy'n gwybod ei fod yn anghyfforddus iddyn nhw. Rydym ni wedi gweld mwy o fuddsoddiad tramor uniongyrchol nag erioed o'r blaen. Yn sicr, mae mwy o gwmnïau tramor newydd yn dod i mewn i Gymru i fuddsoddi yng Nghymru nag erioed o'r blaen. Mae swyddi’n cael eu creu ledled Cymru. Rwy'n cyferbynnu hynny â’r cyfnod pan roedd ei phlaid hi’n gyfrifol am ddatblygu economaidd am bedair blynedd. Ni welsom hynny’n cael ei wneud, ni welsom y lefel honno o fuddsoddiad yn dod i mewn i Gymru, ni welsom sefyllfa lle’r oedd Cymru’n cael ei gwerthu o gwmpas y byd, ac ni wnaf i dderbyn gwersi o ran syniadau gan y blaid a gynhyrchodd y maniffesto teneuaf yn etholiadau diwethaf y Cynulliad.
13:44 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We now move to our final leader this afternoon. That’s the leader of the Welsh Liberal Democrats, Kirsty Williams. Symudwn nawr at ein harweinydd olaf y prynhawn yma, sef arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams.
13:44 - Kirsty Williams
Thank you very much, Presiding Officer. First Minister, we all saw the disgraceful online abuse of referee Nigel Owens at the weekend. It highlighted the extent of homophobic bullying in all walks of life. What work is your Government undertaking to stamp out all forms of homophobic bullying in Wales? Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Brif Weinidog, gwelodd pob un ohonom ni’r difrïo gwarthus o’r dyfarnwr Nigel Owens dros y penwythnos. Mae'n tynnu sylw at faint o fwlio homoffobig sydd ym mhob agwedd ar fywyd. Pa waith mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gael gwared ar bob math o fwlio homoffobaidd yng Nghymru?
13:44 - Carwyn Jones
Well, I can give the leader of the Liberal Democrats one example. I know that the Minister, Lesley Griffiths, has recently written to all the Police and Crime Commissioners in order to promote awareness of hate crime, and she’s reminded them of their responsibilities to ensure that people are able to live their lives safely without homophobic bullying or, indeed, hate crime of any kind. Wel, gallaf roi un enghraifft i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol. Gwn fod y Gweinidog, Lesley Griffiths, wedi ysgrifennu at holl Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddau yn ddiweddar er mwyn hybu ymwybyddiaeth o droseddau casineb, ac mae hi wedi eu hatgoffa o'u cyfrifoldebau i sicrhau y gall pobl fyw eu bywydau’n ddiogel heb fwlio homoffobig nac, yn wir, troseddau casineb o unrhyw fath.
13:45 - Kirsty Williams
First Minister, one place where bullying is particularly prevalent is in our schools. Ninety per cent of school staff recently surveyed by Stonewall Cymru reported incidents where pupils had suffered bullying and harassment for being, or suspected of being, lesbian, gay or bisexual. What steps are your Government taking to ensure that homophobic, transphobic and biphobic bullying are eradicated in our Welsh schools? Brif Weinidog, un man lle mae bwlio yn arbennig o gyffredin yw yn ein hysgolion. Nododd naw deg y cant o staff ysgolion a arolygwyd yn ddiweddar gan Stonewall Cymru ddigwyddiadau lle'r oedd disgyblion wedi dioddef bwlio ac aflonyddu oherwydd eu bod, neu y tybiwyd eu bod, yn lesbiaid, yn hoyw neu'n ddeurywiol. Pa gamau mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod bwlio homoffobig, trawsffobig a deuffobig yn cael ei ddileu yn ein hysgolion yng Nghymru?
13:45 - Carwyn Jones
Well, we are working with partner organisations to drive forward the Welsh Government's framework for action on tackling hate crimes and incidents. That was published in May. That focuses on prevention, on supporting victims and, of course, on improving multi-agency working. We know, of course, that the issue of bullying is not simply what happens in school but what happens online. On cyber bullying particularly, I have seen examples where people almost hunt as a pack in order to bully an individual, to that individual's great detriment, of course. That is an issue that we expect to work with the police and other agencies on in order to be able to tackle it. Wel, rydym ni’n gweithio gyda sefydliadau partner i fwrw ymlaen â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu ar fynd i'r afael â throseddau a digwyddiadau casineb. Cyhoeddwyd hwnnw ym mis Mai. Mae'n canolbwyntio ar atal, ar gefnogi dioddefwyr ac, wrth gwrs, ar wella gwaith amlasiantaeth. Gwyddom, wrth gwrs, nad yw’r mater o fwlio yn ymwneud â’r hyn sy'n digwydd yn yr ysgol yn unig, ond yr hyn sy'n digwydd ar-lein. O ran seiber-fwlio yn benodol, rwyf wedi gweld enghreifftiau lle mae pobl bron yn hela mewn ciwed er mwyn bwlio unigolyn, er niwed mawr i’r unigolyn hwnnw, wrth gwrs. Mae hwnnw'n fater yr ydym ni’n disgwyl gweithio gyda'r heddlu ac asiantaethau eraill arno er mwyn gallu mynd i'r afael ag ef.
13:46 - Kirsty Williams
First Minister, Stonewall Cymru, in their work, tell us that teachers and school staff want the tools to tackle incidents of homophobic bullying, but they also need support in doing that. Ensuring schools have clear guidance and school behaviour policies is the first step, but it is vital that staff then have the tools to implement those policies and feel confident in doing so. How will you ensure that teachers, as well as pupils, feel confident and supported enough to challenge unacceptable behaviour of this nature, whether it happens in school to our children or whether it happens at home via the online bullying that you just talked about? Brif Weinidog, mae Stonewall Cymru, yn eu gwaith, yn dweud wrthym fod athrawon a staff ysgolion eisiau’r dulliau ar gyfer mynd i'r afael ag achosion o fwlio homoffobig, ond maen nhw hefyd angen cymorth i wneud hynny. Sicrhau bod gan ysgolion ganllawiau a pholisïau ymddygiad yn yr ysgol eglur yw'r cam cyntaf, ond mae'n hanfodol wedyn bod gan staff y dulliau i weithredu'r polisïau hynny a theimlo'n hyderus wrth wneud hynny. Sut gwnewch chi sicrhau bod athrawon, yn ogystal â disgyblion, yn teimlo'n hyderus a’u bod yn cael eu cefnogi’n ddigonol i herio ymddygiad annerbyniol fel hyn, pa un a yw'n digwydd yn yr ysgol i'n plant neu'n digwydd yn y cartref drwy'r bwlio ar-lein yr ydych chi newydd sôn amdano?
13:46 - Carwyn Jones
I would expect schools to ensure that teachers are able to recognise, first of all, bullying, whether it is bullying of the physical kind or abuse at school or cyber bullying. We would expect schools to have in place policies to deal with bullying of that kind, working with the local authorities, which themselves should have those policies in place to deal with bullying in their schools. It's important that schools are able to access local authority advice and support in order to access training, where they feel that’s required, for bullying of all kinds, and, of course, that each secondary school at least has a counsellor who is able to recognise and give advice over bullying, if children and young people go to see that counsellor. It's important, of course, that there is a proactive approach in identifying bullying. We can't rely on youngsters going to see a counsellor, if they don't want to do that, and there are many reasons why youngsters will not do that. But, certainly, we would expect schools, working with local authorities, to have policies and personnel in place to be able to recognise the signs of cyber bullying of all kinds and particularly, of course, homophobic bullying. Byddwn yn disgwyl i ysgolion sicrhau y gall athrawon adnabod, yn gyntaf oll, bwlio, boed yn fwlio o'r math corfforol neu ddifrïo yn yr ysgol neu seiber-fwlio. Byddem yn disgwyl i ysgolion fod â pholisïau ar waith i ymdrin â bwlio o'r math hwnnw, gan weithio gyda’r awdurdodau lleol, y dylai fod ganddyn nhw eu hunain y polisïau hynny ar waith i ymdrin â bwlio yn eu hysgolion. Mae'n bwysig bod ysgolion yn gallu cael gafael ar gyngor a chymorth awdurdod lleol er mwyn cael mynediad at hyfforddiant, lle maen nhw’n teimlo bod ei angen, ar gyfer bwlio o bob math, ac, wrth gwrs, bod o leiaf cwnselydd ym mhob ysgol uwchradd sy'n gallu adnabod a rhoi cyngor ar fwlio, os bydd plant a phobl ifanc yn mynd i weld y cwnselydd hwnnw. Mae'n bwysig, wrth gwrs, bod dull rhagweithiol ar gyfer nodi bwlio. Ni allwn ddibynnu ar bobl ifanc yn mynd i weld cwnselydd, os nad ydyn nhw eisiau gwneud hynny, a cheir llawer o resymau pam na wnaiff pobl ifanc wneud hynny. Ond, yn sicr, byddem yn disgwyl i ysgolion, gan weithio gydag awdurdodau lleol, fod â pholisïau a phersonél ar waith i allu adnabod arwyddion o seiber-fwlio o bob math ac yn arbennig, wrth gwrs, bwlio homoffobig.
13:47 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We now move back to questions on the paper and question 3 is from Joyce Watson. Symudwn yn ôl at y cwestiynau ar y papur nawr a daw cwestiwn 3 gan Joyce Watson.
Cyllideb y DU The UK Budget
13:48 - Joyce Watson
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyllideb y DU? OAQ(4)2201(FM) 3. What assessment has the Welsh Government made of the UK budget? OAQ(4)2201(FM)
13:48 - Carwyn Jones
We have made an assessment and we can say that the UK budget has deepened the Chancellor's austerity programme and more cuts will be passed on to Wales in the future. Rydym ni wedi gwneud asesiad a gallwn ddweud bod cyllideb y DU wedi dyfnhau rhaglen cyni cyllidol y Canghellor ac y bydd mwy o doriadau’n cael eu trosglwyddo i Gymru yn y dyfodol.
13:48 - Joyce Watson
Now the smoke has cleared to George Osborne’s smoke-and-mirrors budget, everyone sees what it is: shoddy electioneering. Within hours, it was shot to pieces. The Office for Budget Responsibility warned of a rollercoaster of deep cuts, a much sharper squeeze on spending than anything we've seen over the past year, and deeper cuts to police, defence and the Welsh grant. First Minister, we know that the coalition's austerity programme has already robbed public services of £1.5 billion since 2010. What damage will further austerity programmes inflict on Wales should the coalition Government find its way back into Government? Nawr bod y mwg wedi clirio o gyllideb mwg a drychau George Osborne, mae pawb yn gweld beth yw hyn: ymgyrchu etholiadol gwael. Cafodd ei saethu’n ddarnau o fewn oriau,. Rhybuddiodd y Swyddfa Cyfrifoldeb dros y Gyllideb am chwyrlwynt o doriadau dwfn, gwasgfa llawer tynnach ar wariant nag unrhyw beth yr ydym ni wedi ei weld dros y flwyddyn diwethaf, a thoriadau dyfnach i’r heddlu, amddiffyn a grant Cymru. Brif Weinidog, rydym ni’n gwybod bod rhaglen galedi’r glymblaid eisoes wedi cymryd £1.5 biliwn oddi wrth wasanaethau cyhoeddus ers 2010. Pa niwed fydd rhagor o raglenni cyni cyllidol yn ei achosi i Gymru pe byddai’r Llywodraeth glymblaid yn llwyddo i fynd yn ôl i Lywodraeth?
13:49 - Carwyn Jones
Well, the plans the Chancellor outlines would have an enormous negative effect on Welsh public services, be it health, education or, indeed, what local government provides through social care. There’s no question about that. It is very much a smoke-and-mirrors budget. Its lead message seems to be the ability, for example, for pensioners with private pension funds to be able to access the money in those funds by selling their annuities. What they haven't said is that the proceeds from that sale are taxable and, secondly, of course, there are fees to be paid to those who potentially would want to provide advice and buy those annuities. So, once again, something that is claimed to be something that would be of advantage to pensioners carries with it an enormous amount of financial liability for pensioners. Wel, byddai’r cynlluniau y mae’r Canghellor yn eu hamlinellu yn cael effaith negyddol enfawr ar wasanaethau cyhoeddus Cymru, boed hynny'n iechyd, yn addysg neu, yn wir, yr hyn y mae llywodraeth leol yn ei ddarparu trwy ofal cymdeithasol. Nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Mae'n sicr yn gyllideb mwg a drychau. Mae’n ymddangos mai ei phrif neges yw’r gallu, er enghraifft, i bensiynwyr â chronfeydd pensiwn preifat i allu cael mynediad at yr arian yn y cronfeydd hynny trwy werthu eu blwydd-daliadau. Yr hyn nad ydyn nhw wedi'i ddweud yw bod treth yn daladwy ar yr hyn a dderbynnir o’r gwerthiant hwnnw ac, yn ail, wrth gwrs, mae ffioedd i'w talu i'r rhai a fyddai o bosibl eisiau darparu cyngor a phrynu’r blwydd-daliadau hynny. Felly, unwaith eto, mae rhwymedigaeth ariannol enfawr i bensiynwyr ynghlwm â rhywbeth yr honnir y byddai’n rhywbeth a fyddai o fantais i bensiynwyr.
13:49 - Nick Ramsay
Well, First Minister, Joyce Watson is, of course, right in some respects, in that this budget does indeed contain a number of important cuts for people in Wales. A cut in the amount of taxation that people on the lowest income will pay by raising the person allowance threshold to £11,000. Also, of course, a cut in the amount that motorists will spend when crossing the Severn bridge, when there is that cut because of the VAT cut in the toll, and, of course, the abolition of the category 2 fee for small vans. All of these are welcome cuts I’m sure. First Minister, I’m sure you do agree with me more than you do with Joyce Watson that there are good elements to this budget. Nothing is perfect, but there are good elements, and this budget is a good deal for Wales and represents a far better budget than we had under the previous UK coalition Government. Wel, Brif Weinidog, mae Joyce Watson, wrth gwrs, yn iawn mewn rhai ffyrdd, o’r safbwynt bod y gyllideb hon wir yn cynnwys nifer o doriadau pwysig i bobl yng Nghymru. Toriad i faint o drethi y bydd pobl ar yr incwm isaf yn eu talu trwy godi'r trothwy lwfans person i £11,000. Hefyd, wrth gwrs, toriad i faint y bydd modurwyr yn ei wario wrth groesi pont Hafren, pan geir y toriad hwnnw oherwydd y toriad i TAW yn y doll, ac, wrth gwrs, diddymu’r ffi categori 2 ar gyfer faniau bach. Mae'r rhain i gyd yn doriadau i’w croesawu rwy'n siŵr. Brif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi yn fwy nag yr ydych chi gyda Joyce Watson bod elfennau da i'r gyllideb hon. Nid oes unrhyw beth sy'n berffaith, ond ceir elfennau da, ac mae'r gyllideb hon yn fargen dda i Gymru ac yn gyllideb llawer gwell na’r hyn a gawsom dan Lywodraeth glymblaid flaenorol y DU.
13:50 - Carwyn Jones
You mentioned the previous UK coalition Government, but I think that was in the 1930s—the national Government—so I can’t comment on that. His memory may go back longer than that, but certainly I can’t comment on budgets that were passed at that time. But, the point is this: he will not be surprised when I say that I agree more with Joyce Watson than I do with him, clearly. There are elements of the budget that cannot be objected to—a reduction in Severn bridge tolls is welcome, although that should have gone further. What does trouble me, however, is the fact that there is nothing about VAT. There are no commitments from his party not to raise VAT after the election, and VAT, as we know, hits the poorest hardest. It’s a regressive tax, where people pay a greater proportion of their income if they are poorer, and I notice that, as we have seen tax cuts for the rich from the party opposite, they’re silent about imposing new tax burdens on the poor. And I’ll believe it when I see it—when he claims that his party is the party of tax cuts—given the burden that they have imposed on so many people with their increase in VAT to 20 per cent just after they were elected in 2010. Soniasoch am Lywodraeth glymblaid flaenorol y DU, ond rwy’n meddwl bod hynny yn y 1930au—y Llywodraeth genedlaethol—felly ni allaf gynnig sylwadau ar hynny. Efallai fod ei gof ef yn mynd yn ôl yn hwy na hynny, ond yn sicr ni allaf wneud sylwadau ar gyllidebau a basiwyd yr adeg honno. Ond, y pwynt yw hyn: ni fydd yn synnu pan ddywedaf fy mod i’n cytuno mwy gyda Joyce Watson nag yr wyf gydag ef, yn amlwg. Mae elfennau o'r gyllideb na ellir eu gwrthwynebu—mae gostyngiad i dollau pont Hafren i’w groesawu, er y dylai hynny fod wedi mynd ymhellach. Yr hyn sydd yn peri gofid i mi, fodd bynnag, yw'r ffaith nad oes unrhyw beth am TAW. Nid oes unrhyw ymrwymiadau gan ei blaid ef i beidio â chodi lefel TAW ar ôl yr etholiad, ac mae TAW, fel y gwyddom, yn taro'r tlotaf galetaf. Mae'n dreth atchweliadol, sy'n golygu bod pobl yn talu cyfran fwy o'u hincwm os ydyn nhw’n dlotach, ac rwy’n sylwi, gan ein bod wedi gweld gostyngiadau i drethi’r cyfoethog gan y blaid gyferbyn, eu bod nhw’n dawel am orfodi beichiau treth newydd ar y tlawd. A byddaf yn ei gredu pan y’i gwelaf—pan ei fod yn honni bod ei blaid ef yn blaid torri trethi—o ystyried y baich maen nhw wedi ei orfodi ar gymaint o bobl gyda’u cynnydd mewn TAW i 20 y cant yn syth ar ôl iddyn nhw gael eu hethol yn 2010.
13:52 - Alun Ffred Jones
Rwy’n nodi sylwadau Mr Ed Balls na fyddai Llywodraeth Lafur yn dadwneud dim ar y gyllideb ‘smoke and mirrors’ yma y cyfeiriwyd ati, gan George Osborne, ac rydych chi wedi cydnabod eich hun, o dan gynlluniau Llafur—petaen nhw mewn Llywodraeth yn Llundain—y byddai cyllideb Cymru yn crebachu dros 2 y cant dros y pum mlynedd nesaf yma. Rŵan, mae fformiwla Barnett, sydd wedi bod mewn bodolaeth ers cymaint o amser, wedi ei chreu gan Lafur wrth gwrs ac yn dod a £400 y pen yn fwy i bobl yr Alban nag i Gymru. Beth ydy’r cyfiawnhad dros wario cymaint yn fwy yn yr Alban o’i gymharu a’r hyn sydd yn digwydd yng Nghymru? I note the comments made by Mr Ed Balls that a Labour Government would not undo any of this smoke-and-mirrors budget that was referred to, by George Osborne, and you’ve acknowledged yourself that, under Labour proposals—if they were in Government in London—the Welsh budget would shrink by more than 2 per cent over the next five years. Now, the Barnett formula, which has been in existence for a long time, was created by Labour, of course, and provides £400 per capita more to the people of Scotland than is the case for Wales. What is the justification for spending so much more in Scotland as compared with what happens here in Wales?
13:52 - Carwyn Jones
Nid oes yna ddim, yn fy marn i. Nid felly fyddai barn yr SNP wrth gwrs, ond fe fydden nhw’n dweud nad ydy hynny’n ddigon i ddechrau gydag e, ond rydyn ni’n croesawu’r ffaith bod yna lawr yn mynd i ddod i rym. Nid wyf yn gwybod eto pryd fydd hynny’n digwydd, wrth gwrs, ond o leiaf mae’r egwyddor wedi cael ei chytuno. Ond, wrth gwrs, mewn amser, mae’n wir i ddweud y bydd yn rhaid i fformiwla Barnett gael ei adolygu—all e ddim para am byth. Wrth gwrs, mae’n bwysig dros ben fod hyn yn rhywbeth a fydd yn cael ei ystyried yn y pen draw, ond mae’n rhaid inni, wrth gwrs, sicrhau bod y llawr gyda ni yn gyntaf, er mwyn adeiladu tuag at hynny. There isn’t any, in my view. That’s not the view of the SNP, of course, but they would say that they did not have enough to begin with, but we welcome the fact that there will now be a floor. I don’t know when that will be introduced, but at least the principle has been agreed. However, it’s a matter of fact that the Barnett formula will, in time, have to be revised—it cannot last forever. Of course, it is extremely important that this is something that will be considered ultimately, but we must of course ensure that we have the floor in the first instance in order to build towards that.
13:53 - Peter Black
First Minister, I note of course, that Ed Balls has said that he won’t reverse anything that was agreed in the budget. Concentrating on the Barnett floor, which I think is very important for the Welsh Assembly, given that that is the principle that has now been accepted, is there in place a work programme or discussions about a work programme between Welsh Government officials and UK Government officials in terms of thrashing out the details of that floor and how that will be introduced in due course? Brif Weinidog, nodaf wrth gwrs, bod Ed Balls wedi dweud na fydd yn gwrthdroi unrhyw beth a gytunwyd yn y gyllideb. Gan ganolbwyntio ar y llawr Barnett, yr wyf yn credu sy’n bwysig iawn i Gynulliad Cymru, o gofio mai dyna'r egwyddor sydd wedi cael ei dderbyn erbyn hyn, a oes rhaglen waith neu drafodaethau am raglen waith ar y gweill rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion Llywodraeth y DU o ran cytuno ar fanylion y llawr hwnnw a sut y bydd hynny'n cael ei gyflwyno maes o law?
13:53 - Carwyn Jones
We continue to have those discussions. The response is always that it’s a matter for after the general election. We don’t know what the timetable is. We don’t know what the value of the floor—the nominal value of the floor— potentially is to Wales. It’s right to say that the floor has been conceded—. Well, not really—it’s been conceded, and that is something that was, to an extent, the case before, but it will be important, after May, for whoever is in Government in London, to move forward now with the implementation of the funding floor to Wales, certainly as part of the process of ensuring that Wales gets the funding that Wales deserves. Rydym ni’n parhau i gynnal y trafodaethau hynny. Yr ymateb bob amser yw ei fod yn fater ar gyfer ar ôl yr etholiad cyffredinol. Nid ydym yn gwybod beth yw'r amserlen. Nid ydym yn gwybod beth yw gwerth y llawr—gwerth nominal y llawr— o bosibl i Gymru. Mae'n iawn dweud bod y llawr wedi cael ei gydsynio—. Wel, nid mewn gwirionedd—mae wedi cael ei gydsynio, ac mae hynny'n rhywbeth a oedd, i raddau, yn wir o'r blaen, ond bydd yn bwysig, ar ôl mis Mai, i bwy bynnag sydd mewn Llywodraeth yn Llundain, symud ymlaen nawr i roi’r llawr cyllid i Gymru ar waith, yn sicr, yn rhan o'r broses o sicrhau bod Cymru'n cael y cyllid y mae Cymru'n ei haeddu.
Ysbytai yng Ngogledd Cymru North Wales Hospitals
13:54 - Rhun ap Iorwerth
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adnoddau mewn ysbytai yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2194(FM) 4. Will the First Minister make a statement on resources in hospitals in north Wales? OAQ(4)2194(FM)
13:54 - Carwyn Jones
Rwy’n disgwyl, wrth gwrs, i’r holl fyrddau iechyd ddarparu gwasanaeth diogel a chynaliadwy o fewn yr adnoddau sydd ar gael iddynt. I expect all health boards, of course, to deliver a safe and sustainable service within the resources available to them.
13:54 - Rhun ap Iorwerth
Can I draw the First Minister’s attention to the situation at Ysbyty Penrhos Stanley in Holyhead, where one of the two wards has been closed now for over two weeks, because of staff absenteeism and the lack of staff to fill in behind them, and the ward is not set to open for another fortnight, until 13 April—nearly three weeks in fact? A gaf fi dynnu sylw'r Prif Weinidog at y sefyllfa yn Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaergybi, lle mae un o'r ddwy ward wedi bod ar gau ers dros bythefnos erbyn hyn, oherwydd absenoldeb staff a diffyg staff wrth gefn, ac ni fydd y ward yn agor am bythefnos arall, tan 13 Ebrill—bron i dair wythnos a dweud y gwir?
Can I also draw the First Minister’s attention to the situation in Ysbyty Gwynedd recently, where a constituent of mine was kept overnight recovering from an operation in a store room, with his drip hanging from a peg on the wall, and with a Victorian brass bell given to him to attract the nurse’s attention. The nurse is doing a wonderful job in difficult circumstances. Does that sound to the First Minister like a well-resourced and well-managed NHS? Whilst the politics of austerity accounts for much of the under-resourcing, it does not excuse the mismanagement of the NHS by the Welsh Government. A gaf i dynnu sylw'r Prif Weinidog hefyd at y sefyllfa yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar, lle cadwyd etholwr i mi mewn ystafell storio dros nos wrth wella ar ôl llawdriniaeth, â’i declyn drip yn hongian oddi ar beg ar y wal, ac y rhoddwyd cloch bres Fictoraidd iddo i dynnu sylw’r nyrs. Mae'r nyrs yn gwneud gwaith gwych dan amgylchiadau anodd. A yw hynny'n swnio i'r Prif Weinidog fel GIG sydd ag adnoddau da ac yn cael ei reoli'n dda? Er bod gwleidyddiaeth cyni cyllidol yn gyfrifol am lawer o'r diffyg adnoddau, nid yw'n esgusodi camreolaeth y GIG gan Lywodraeth Cymru.
13:55 - Carwyn Jones
He has no evidence of that, but let’s not get into that, because we can show exactly—[Interruption.] He has no evidence of that at all. I mean, there are two things here. First of all, he gives an example of a patient. If he wishes for that to be investigated, I’m sure that that can be done. It’s very difficult to comment on an individual’s case. Nid oes ganddo unrhyw dystiolaeth o hynny, ond gadewch i ni beidio â mynd i mewn i hynny, gan y gallwn ni ddangos yn union—[Torri ar draws.] Nid oes ganddo unrhyw dystiolaeth o hynny o gwbl. Hynny yw, ceir dau beth yma. Yn gyntaf oll, mae'n rhoi enghraifft o glaf. Os yw'n dymuno i hynny gael ei ymchwilio, rwy'n siŵr y gellir gwneud hynny. Mae'n anodd iawn cynnig sylwadau ar achos unigolyn.
He does mention Ysbyty Penrhos Stanley. Nine members of staff are not available for work. Some of them are retiring and there are others who are on short-term sick until the beginning of April. It’s an unusual situation in that ward to have so many off sick at the same time, and, as a result of that, temporary measures have had to be taken. It’s nothing to do with resources; it’s to do with the unfortunate situation with regard to sickness absence at this present time in that hospital. Mae’n sôn am Ysbyty Penrhos Stanley. Mae naw aelod o staff nad ydynt ar gael i weithio. Mae rhai ohonyn nhw’n ymddeol ac mae eraill sy’n sâl yn fyrdymor tan ddechrau mis Ebrill. Mae'n sefyllfa anarferol ar y ward honno i fod â chymaint i ffwrdd yn sâl ar yr un pryd, ac, o ganlyniad i hynny, bu’n rhaid cymryd mesurau dros dro. Nid yw’n unrhyw beth i wneud ag adnoddau; mae'n ymwneud â'r sefyllfa anffodus o ran absenoldeb oherwydd salwch ar hyn o bryd yn yr ysbyty hwnnw.
Can I say to him that, in terms of the average send per head in Betsi Cadwaladr, the spend is £1,582 per head, and the Welsh average is £1,568 per head. So, in fact, Betsi Cadwaladr receives more money per head than, for example, the average spend per head in Wales. We know that there will be examples, and he does draw my attention to an example in Holyhead. It is temporary, but there are particular circumstances in Ysbyty Penrhos Stanley that apply there because of an unusual rate of temporary staff absence. It’s a temporary situation and we all want to see things return to normal as quickly as possible. A gaf fi ddweud wrtho, o ran y gwariant cyfartalog fesul pen ym mwrdd Betsi Cadwaladr, mai £1,582 fesul pen yw’r gwariant, a £1,568 fesul pen yw cyfartaledd Cymru. Felly, mewn gwirionedd, mae Betsi Cadwaladr yn derbyn mwy o arian fesul pen nag, er enghraifft, y gwariant cyfartalog fesul pen yng Nghymru. Rydym ni’n gwybod y bydd enghreifftiau, ac mae yn tynnu fy sylw at enghraifft yng Nghaergybi. Mae hyn dros dro, ond ceir amgylchiadau arbennig yn Ysbyty Penrhos Stanley sy'n berthnasol yno oherwydd cyfradd anarferol staff yn absenol dros dro. Sefyllfa dros dro yw hon ac rydym ni i gyd eisiau gweld pethau'n dychwelyd i'r sefyllfa arferol cyn gynted â phosibl.
With regard to an individual’s circumstances, it’s difficult for me to comment given the fact that I am not familiar with the full facts, but, if he wishes to pass those on to me, of course I’d be willing to look at that for him. O ran amgylchiadau unigolyn, mae'n anodd i mi gynnig sylwadau o ystyried y ffaith nad wyf yn gyfarwydd â'r ffeithiau llawn, ond, os yw'n dymuno eu rhannu nhw â mi, byddwn yn barod i edrych ar hynny drosto, wrth gwrs.
13:57 - Darren Millar
First Minister, yours is the only Government that Wales has had that has made real-term cuts to the national health service—something that no Conservative Prime Minister has ever delivered to a national health service. Do you regret the record-breaking cuts that you have imposed, which have resulted in real-terms decreases in the cash available to the national health service—real-terms decreases, of course, that have not taken place over the border in England, where the NHS spending has been protected and increased in real terms in each and every year since the coalition Government, which is led by the Conservatives, has been formed? Brif Weinidog, eich Llywodraeth chi yw'r unig un y bu gan Gymru sydd wedi gwneud toriadau i'r gwasanaeth iechyd gwladol mewn termau real—rhywbeth nad yw unrhyw Brif Weinidog Ceidwadol erioed wedi ei wneud i wasanaeth iechyd gwladol. A ydych chi’n gresynu at y toriadau mwyaf erioed yr ydych chi wedi eu gwneud, sydd wedi arwain at ostyngiadau termau real i’r arian parod sydd ar gael i'r gwasanaeth iechyd gwladol— gostyngiadau termau real, wrth gwrs, nad ydynt wedi digwydd dros y ffin yn Lloegr, lle mae gwario ar y GIG wedi cael ei ddiogelu a'i gynyddu mewn termau real bob blwyddyn ers ffurfio’r Llywodraeth glymblaid, a arweinir gan y Ceidwadwyr?
13:57 - Carwyn Jones
If his comments had any whit of truth, he might be able to explain why his own Prime Minister was heckled today at a conference of pensioners because of his performance on the NHS. He would like to explain that to us, I’m sure. Pe byddai unrhyw ronyn o wirionedd yn ei sylwadau, efallai y gallai esbonio pam y cafodd ei Brif Weinidog ei hun ei heclo heddiw mewn cynhadledd o bensiynwyr oherwydd ei berfformiad o ran y GIG. Hoffai esbonio hynny i ni, rwy'n siŵr.
He comes out with this—and I search for a term here, but the term I think it’s best to apply is ‘cobblers’—about what he claims is a record-breaking cut in the NHS in Wales. It’s absolute nonsense; he has no figures to back up what he says, and he forgets, of course—[Interruption.] I don’t want a soprano-like intervention from the leader of the opposition. Mae'n dod allan gyda’r—ac rwy’n chwilio am derm yn y fan yma, ond rwy’n credu mai’r term sydd orau i’w ddefnyddio yw 'sothach'—yma am yr hyn y mae'n ei honni sy’n doriad mwyaf erioed yn y GIG yng Nghymru. Mae'n lol llwyr; nid oes ganddo unrhyw ffigurau i gefnogi'r hyn mae’n ei ddweud, ac mae’n anghofio, wrth gwrs—[Torri ar draws.] Nid wyf eisiau ymyriad fel soprano gan arweinydd yr wrthblaid.
The reality of the situation is this: if you look at health and social care in Wales—and you cannot divorce one from the other—we are spending substantially more per head on health and social care in Wales than his party is doing in England. Social care in England is being devastated—devastated. We’ve seen a huge increase in delayed transfers of care in England as a result of that. The reality is that spending in Wales per head is at least as high as in England. We know, with regard to cancer drugs, we spend more on cancer treatment per head in Wales than is the case in England. That much is true. And we know that the Nuffield Trust themselves said that, in fact, there wasn’t much difference, as they put it, between the health services of the four nations. He keeps on coming out with this record-breaking stuff about record-breaking cuts in Wales, and the reality is that this Chamber has scarce seen such record-breaking nonsense. Y gwir am y sefyllfa yw hyn: os edrychwch chi ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru—ac ni allwch chi wahanu un oddi wrth y llall—rydym ni’n gwario llawer mwy fesul pen ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru nag y mae ei ​​blaid ef yn ei wneud yn Lloegr. Mae gofal cymdeithasol yn Lloegr yn cael ei ddifetha—ei ddifetha. Rydym ni wedi gweld cynnydd enfawr i achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn Lloegr o ganlyniad i hynny. Y gwir amdani yw bod gwario fesul pen yng Nghymru o leiaf mor uchel ag yn Lloegr. Rydym ni'n gwybod, o ran cyffuriau canser, ein bod ni’n gwario mwy ar driniaeth canser fesul pen yng Nghymru na’r hyn sy'n wir yn Lloegr. Mae cymaint â hynny'n wir. Ac rydym ni’n gwybod bod Ymddiriedolaeth Nuffield ei hun wedi dweud, mewn gwirionedd, nad oedd llawer o wahaniaeth, fel y dywedasant, rhwng gwasanaethau iechyd y pedair gwlad. Mae’n parhau i sôn am y stwff mwyaf erioed yma am doriadau mwyaf erioed yng Nghymru, a’r gwir yw mai prin y mae’r Siambr hon wedi clywed y fath lol am y pethau mwyaf erioed hyn.
13:59 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Andrew R.T. Davies, I’ve heard enough of your voice this afternoon. Do you want to ask a question? That goes for some of the others as well. I ask that we just listen to what the First Minister is saying and let the questioners have their opportunity. Aled Roberts. Andrew R.T. Davies, rwyf wedi clywed digon ar eich llais chi y prynhawn yma. A ydych chi eisiau gofyn cwestiwn? Mae hynny'n wir am rai o'r lleill hefyd. Rwy’n gofyn ein bod ni ond yn gwrando ar yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud a gadael i'r holwyr gael eu cyfle. Aled Roberts.
13:59 - Aled Roberts
Diolch, Lywydd. Rŷch chi wedi sôn am wasanaeth diogel a chynaliadwy, ond mae yna achosion yn y gogledd lle mae polisïau’r ddeoniaeth yn creu anhawster. Er enghraifft, efo gwasanaethau mamolaeth, mae’r ddeoniaeth yn mynnu mai un ym mhob 11 ydy’r rota, sefyllfa nad yw’n ddilys yn unrhyw adran iechyd arall o fewn y Deyrnas Gyfunol. Felly, a wnewch chi fel Llywodraeth herio rhai o bolisïau’r ddeoniaeth sy’n creu gwir bryder o fewn ardaloedd gwledig, lle, i fod yn deg, ni fydd yn bosibl cynnal gwasanaeth os ydy polisïau’r ddeoniaeth yn dod i rym? Thank you, Presiding Officer. You’ve mentioned a safe and sustainable service, but there are examples in north Wales where the policies of the deanery do create difficulties. For example, with maternity services, the deanery insists upon a one in 11 rota, a situation that doesn’t apply in any other health service within the United Kingdom. So, will you, as a Government, challenge some of the deanery’s policies that create real concern within rural areas, where, to be fair, it wouldn’t be possible to maintain services if the deanery’s policies were implemented?
14:00 - Carwyn Jones
Mae hwn yn rhywbeth, wrth gwrs, sydd yn y papur a gafodd ei greu gan yr arbenigwyr—roedd yn rhywbeth a oedd yn rhan o hynny—ac roeddent yn gwneud y pwynt. Mae hwn yn rhywbeth i’r ddeoniaeth eu hunain. Nhw, wrth gwrs, sy’n gyfrifol am hyfforddi doctoriaid, ond beth hoffwn i weld, tra bod y bwrdd iechyd yn ystyried y papur sydd wedi dod o’r arbenigwyr, yw bod y ddeoniaeth yn rhan o’r ystyriaeth hynny er mwyn gweld a oes ffordd i sicrhau bod y papur sydd wedi cael ei roi yn gallu cael ei ddatblygu. Mae’n anodd gwybod ar hyn o bryd, achos mae’r papur newydd gael ei gyhoeddi, ond, wrth gwrs, byddai pawb yn moyn gweld ein bod yn symud i sefyllfa lle, os yw’n bosib, i barhau gyda’r gwasanaeth—ond, ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae’n rhaid ystyried y papur yn fanwl. Ond rwy’n derbyn bod hynny’n bwynt sydd wedi cael ei wneud yn y papur. That is something, of course, that’s in the paper that was created by the specialists—it was something that was part of that—and they made the point. This is a matter for the deanery itself. They, of course, are the ones who are responsible for training doctors, but what I would like to see is that, whilst the board is considering the specialists’ paper, the deanery is also part of that consideration in order to see whether there is a way to ensure that the paper that has been presented can be developed. It’s difficult to know at present, as the paper’s only just been published, but, of course, everybody would wish us to get to a position where, if it’s possible, to continue with this service—but, at present, of course, we need to consider the paper in detail. But I accept that that is a point that has been made in the paper.
Rhwydwaith Drafnidiaeth Gorllewin Cymru The West Wales Transport Network
14:01 - Keith Davies
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ehangu'r rhwydwaith drafnidiaeth yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)2203(FM) 5. Will the First Minister provide an update on Welsh Government plans to expand the transport network in west Wales? OAQ(4)2203(FM)
14:01 - Carwyn Jones
Wel, byddwn yn cyhoeddi’r cynllun trafnidiaeth cenedlaethol yn y gwanwyn. Bydd hwn yn nodi ein cynigion ar gyfer buddsoddi mewn gwelliannau i drafnidiaeth yn y gorllewin. Well, we will be publishing the national transport plan in the spring. This will set out our proposals for investing in transport improvements in west Wales.
14:01 - Keith Davies
Diolch, Brif Weinidog. Ble ydym ni nawr ar y cynlluniau trafnidiaeth i ddinas ranbarth y gorllewin, wrth ystyried bod y rheilffordd i Abertawe yn cael ei drydaneiddio a bod cytundeb Arriva yn dod i ben yn 2018? Thank you, First Minister. Where are we now with transport plans for the city region in west Wales, given that the line to Swansea is to be electrified and the Arriva franchise comes to an end in 2018?
14:01 - Carwyn Jones
Wel, yn gyntaf i gyd, rwy’n croesawu’r ffaith bod y gwasanaeth i Gaerfyrddin yn mynd i barhau; rwy’n credu, efallai, bod tipyn bach o ofn y byddai hynny’n gorffen ar ôl trydaneiddio, ond y cynllun yw y bydd hynny yn parhau. Wrth gwrs, mae’n rhaid inni gofio bod y trenau eu hunain yn—. Wel, beth rydym ni’n erfyn yw y bydd trên yn cael ei glymu i’r trên trydan yn Abertawe er mwyn mynd i’r gorllewin; mae hynny’n bwysig i ddweud. Wrth gwrs, mae yna drafod bydd yn rhaid cymryd lle pan fydd y ‘franchise’ yn dod i ben yn 2018, os gofiaf, ac rydym ni’n moyn sicrhau, wrth gwrs, bod y gwasanaeth sydd ar gael i’r gorllewin, i Abertawe, mor dda â, ac yn well, na beth sydd yna nawr. Well, first of all, I welcome the fact that the service to Carmarthen is to continue; I think, perhaps, there were fears that it would finish after electrification, but the plan is that that will continue. Of course, we must bear in mind that the trains themselves are—. Well, what we expect is that the train will be hooked on to the electric train in Swansea in order to travel on to the west; it’s important to note that. Of course, there are discussions that will have to take place when the franchise comes to an end in 2018, if I remember rightly, and, of course, we want to ensure that the service to the west, to Swansea, is as good, and better, than the current one.
14:02 - Byron Davies
Thank you for that last answer there, which leads me on to—. Given this investment in electrification by the Westminster Government, First Minister—it’s very evident, as people will see now west of Reading and, indeed, in Swansea—in terms of electrification of the main line, can you outline what added value the integrated transport plans you have for west Wales will bring, if any, that would mean they can also capitalise in west Wales on this substantial and important investment? Diolch i chi am yr ateb olaf yna, sy'n fy arwain i ymlaen at—. O ystyried y buddsoddiad hwn mewn trydaneiddio gan Lywodraeth San Steffan, Brif Weinidog—mae'n amlwg iawn, fel y bydd pobl yn ei weld nawr i'r gorllewin o Reading ac, yn wir, yn Abertawe—o ran trydaneiddio'r brif reilffordd, a allwch chi amlinellu pa werth ychwanegol fydd y cynlluniau trafnidiaeth integredig sydd gennych chi ar gyfer y gorllewin yn ei gynnig, os o gwbl, a fyddai'n golygu y gallant hwythau yn y gorllewin fanteisio ar y buddsoddiad sylweddol a phwysig hwn hefyd?
14:02 - Carwyn Jones
Well, first of all, an increase in services along the main line helps the stations further west; it provides more opportunities for connections from the western stations, and, of course, one of the areas that we’re looking at is how we can better integrate bus services. We don’t have control, as the Member will know, of bus services. It’s not always the case that there is proper integration of the modes between bus and rail transport, but having that power will enable us to make sure that there is the right level of connectivity between the railway stations acting as hubs, and bus services coming into those railway stations. That is something I very much welcome as a result of the St David’s Day process. Wel, yn gyntaf oll, mae cynnydd i wasanaethau ar hyd y brif reilffordd yn helpu'r gorsafoedd ymhellach i'r gorllewin; mae'n cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer cysylltiadau o'r gorsafoedd gorllewinol, ac, wrth gwrs, un o'r meysydd yr ydym ni’n eu hystyried yw sut y gallwn ni integreiddio gwasanaethau bws yn well. Nid oes gennym reolaeth, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, dros wasanaethau bws. Nid yw bob amser yn wir fod integreiddio priodol o'r dulliau rhwng cludiant bysiau a rheilffyrdd, ond bydd meddu ar y pŵer hwnnw’n ein galluogi i wneud yn siŵr bod y lefel gywir o gysylltedd rhwng y gorsafoedd trenau yn gweithredu fel canolfannau, a gwasanaethau bws yn dod i mewn i’r gorsafoedd trenau hynny. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ei groesawu'n fawr yn sgil proses Dydd Gŵyl Dewi.
14:03 - Simon Thomas
Daeth tua 100 o bobl i gyfarfod cyhoeddus nos Iau ddiwethaf yng Nghaerfyrddin i drafod ailagor rheilffordd o ryw fath rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, fel rhan o batrwm cenedlaethol, wrth gwrs, i gysylltu Cymru gyfan. Fe gafwyd cefnogaeth yn y cyfarfod cyhoeddus yna gen i, Rhodri Glyn Thomas, a dau o ymgeiswyr seneddol Llafur, hefyd, a oedd yn bresennol. Mae’n amlwg bod yna ewyllys yn y gorllewin, ar draws y pleidiau, i weld a yw hwn yn gynllun dichonadwy ac a oes modd gwireddu rhywbeth fel hwn dros yr 20 mlynedd nesaf fel cynllun uchelgeisiol tymor hir i agor y gorllewin i drafnidiaeth gyhoeddus a chysylltu trefi pwysig fel Caerfyrddin ac Aberystwyth, lle mae’r iaith yn gryf ac yn dal i gael ei siarad. A oes modd, felly, i’r cynllun trafnidiaeth gyhoeddus a’r Gweinidog, sydd wedi bod yn gefnogol, hyd yma, mae’n rhaid dweud, edrych ar sut y gallwn ni ddechrau edrych ar astudio’r posibiliadau yma, a gwneud hynny yng nghyd-destun economaidd y gorllewin a chyd-destun trafnidiaeth genedlaethol? Around 100 people came to a public meeting last Thursday evening in Carmarthen to discuss reopening a railway of some sort between Carmarthen and Aberystwyth, as part of a national pattern, of course, to link the whole of Wales. There was support in that public meeting from myself, Rhodri Glyn Thomas, and two Labour parliamentary candidates, who were also in attendance. It is clear that there is a will in west Wales, across parties, to see if this is a feasible scheme and whether something like this could be achieved over the next 20 years as an ambitious long-term plan to open west Wales to public transport and to link important towns such as Carmarthen and Aberystwyth, where the Welsh language is strong and still spoken on a daily basis. Would it be possible, therefore, for the national transport plan and the Minister, who has been supportive to date, I have to say, to look at how we can start to look at considering the feasibility of this, and to do that in the context of the economy of west Wales and the context of national transport?
14:04 - Carwyn Jones
Rwy’n gwybod bod y Gweinidog wedi bod yn gefnogol o’r egwyddor. Fel y mae’r Aelod yn derbyn ei hun, mae hwn yn rhywbeth hollol hirdymor. Ynglŷn â’r pris, mae yna rhai mannau lle mae’r trac yn cael ei ddefnyddio, er enghraifft gan reilffordd y Gwili, ond mae hynny’n golygu o leiaf bod y trac yna, ond nid yw’r trac yna i’r gorllewin o Gaerfyrddin—cafodd yr heol osgoi ei hadeiladu drosti i’r gorllewin—ac mae yna bont yn eisiau yn Llambed, er enghraifft. Ond mae yna lot fawr o’r rhwydwaith yn dal i fod yna. Rwy’n credu beth sydd eisiau nawr yw sicrhau bod yna ddealltwriaeth o beth yn gymwys yw’r heriau ynglŷn â dodi’r, fel maen nhw’n dweud yn Saesneg, ‘permanent way’ nôl yn ei le, ac wedyn, wrth gwrs, faint y bydd yn costio er mwyn dodi’r trac yn ôl. Mae’n rhaid inni gofio, wrth gwrs, nad yw hwn yn rhywbeth sydd wedi ei ddatganoli ar hyn o bryd, ond y camau nesaf fyddai gweld faint y byddai’n costio a hefyd beth sy’n gorfod cael ei wneud er mwyn sicrhau bod y rhwydwaith yna yn gyfan gwbl i’r dyfodol. I know that the Minister has been supportive of the principle. As the Member accepts himself, this is a long-term enterprise. In terms of the cost, there are some places where the track is being used, for example by the Gwili railway in some parts, but that at least means that the track is there, but the track doesn’t exist to the west of Carmarthen—the bypass was built across it to the west—and we’re missing a bridge in Lampeter, for example. But there’s a great deal of the infrastructure still there. I think that what we need now is to ensure that there is an understanding of exactly what the challenges are in terms of putting the permanent way back in place and then, of course, how much it will cost to put the track back. We must remember, of course, that this is not something that’s devolved at present, but the next steps will be to see how much it will cost and also what has to be done in order to ensure that the network will be there in its entirety for the future.
14:05 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Question 6, Simon Thomas, with, I’m sure, a shorter supplementary this time than last time. [Laughter.] Cwestiwn 6, Simon Thomas, gyda, rwy'n siŵr, cwestiwn atodol byrrach y tro hwn na'r tro diwethaf. [Chwerthin.]
14:05 - Simon Thomas
Diolch, Lywydd. Mae’r pethau yma’n bwysig. Thank you, Presiding Officer. These are important issues.
Cynhadledd Gofal Iechyd y Canolbarth The Mid Wales Healthcare Conference
14:05 - Simon Thomas
6. Pa wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu o gynhadledd gofal iechyd y canolbarth a gynhaliwyd ar 12 Mawrth? OAQ(4)2195(FM) 6. What lessons has the Welsh Government learnt from the mid-Wales healthcare conference held on 12 March? OAQ(4)2195(FM)
14:05 - Carwyn Jones
Roedd y gynhadledd yn gyfle inni ddod â rhanddeiliaid ynghyd er mwyn tynnu sylw at enghreifftiau llwyddiannus o ddatrysiadau i broblemau gofal iechyd yng nghefn gwlad ac, wrth gwrs, i drafod pa wersi y gellir eu cymhwyso i’r canolbarth. The conference was an opportunity to bring stakeholders together to highlight successful examples of solutions to rural healthcare problems and, of course, to discuss what lessons could be applied to mid Wales.
14:05 - Simon Thomas
Diolch, Brif Weinidog. Bues i yn y gynhadledd yna ac roeddwn yn canfod y gynhadledd yn un gadarnhaol iawn, gyda nifer o enghreifftiau o arfer da wrth recriwtio a chadw meddyginiaeth mewn ardaloedd cefn gwlad dros y byd i gyd, ac rwy’n croesawu’n fawr iawn yr agwedd mwy ffres a phositif sydd gyda ni gan y Llywodraeth tuag at y canolbarth ar hyn o bryd yn y cyd-destun hwn. Thank you, First Minister. I attended that conference and I found it to be very positive, with a number of examples of good practice in recruiting and retaining medics in rural areas across the world, and I very much welcome the more fresh and positive approach of the Government towards mid Wales at the moment in this context.
Un peth gwnaeth fy nharo yn arbennig oedd ein bod ni wedi methu yn y gorffennol i recriwtio GPs. Er enghraifft, o’r 50 o lefydd hyfforddi ym Mhowys a Bronglais, dim ond 28 sydd wedi cael eu llenwi yn y pum mlynedd diwethaf. Roedd yna wersi da iawn ynglŷn â recriwtio tymor hir mewn ardaloedd cefn gwlad, ac mae’n amlwg ein bod ni wedi trio rhai o’r pethau yma ond heb yn llwyr wedi dysgu’r gwersi. A wnewch chi ailedrych ar sut rydym yn recriwtio, yn enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad? One thing that struck me in particular was that we had failed in the past to recruit GPs. For example, of the 50 training places in Powys and Bronglais, only 28 have been filled over the past five years. There were some excellent lessons to be learned in long-term recruitment in rural areas, and it’s clear that we have tried some of these things, but haven’t truly learned the lessons. Will you review how we recruit, particularly in rural areas?
14:06 - Carwyn Jones
Gwnawn ni, wrth gwrs, ac mae’n rhaid inni ystyried hefyd beth sy’n cael ei wneud mewn gwledydd eraill. Roeddwn yn darllen erthygl yn ‘The Economist’ yr wythnos diwethaf, lle roeddent yn siarad am beth roedd wedi digwydd yng nghefn gwlad yr Almaen, yn enwedig dwyrain yr Almaen, lle mae lot fawr o symud o bobl wedi bod, yn enwedig pobl ifanc, i’r gorllewin, ac ym mha ffordd roeddent wedi ystyried sut i sicrhau nad yw syrjeris doctoriaid yn cau a bod pobl wedyn yn ffeindio nad oes dim gyda nhw. Edrychwn ar enghreifftiau fel hynny i weld beth sydd wedi cael ei wneud yn fanna. Un o’r problemau mae doctoriaid yn dweud wrthon ni amdani yw, os yw doctoriaid eisiau mynd i gefn gwlad, maent yn moyn swyddi i’w partneriaid, eu gwragedd a gwŷr, ac felly beth sydd ar gael iddyn nhw? So, mae’n rhaid inni ystyried beth sydd ar gael mewn ffordd holistig i’r teulu yn gyfan gwbl er mwyn sicrhau bod pobl yn dod i mewn i gefn gwlad fel meddygon teulu. Ond mae’n werth edrych ar yr enghreifftiau sydd wedi cael eu dodi yn eu lle mewn ardaloedd eraill yn Ewrop hefyd. Yes, of course, we will do that and we must also consider what is being done in other countries. I read an article in ‘The Economist’ last week, where they were talking about what had happened in the rural areas of Germany, particularly the east of Germany, where there’s been a lot of movement of people, especially of young people, to the west, and how they’d had to consider how to ensure that GPs’ surgeries didn’t close and people then finding that they didn’t have any. We will look at such examples to see what has been done there. One of the problems that GPs tell us about is that, if doctors want to go into rural areas, they need jobs for their partners, their wives and husbands, and so what is available for them? So, we have to consider what’s available in a holistic manner for the whole family in order to ensure that people move to rural areas as GPs. But it is worth looking at the examples that have been put in place in other areas in Europe too.
14:07 - Russell George
I was also at the conference myself, and the First Minister will be aware that many of my constituents access healthcare across the border in Shropshire. The healthcare studies did seem to make little reference to some of the cross-border issues, and what I would like to ask, First Minister, is whether you would agree with me that it’s not only the strategic importance of Bronglais that’s important to the mid Wales population, but it’s also the strategic importance of district general hospitals across the border in England that are also strategically important to constituents in mid Wales. Roeddwn innau hefyd yn y gynhadledd fy hun, a bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod llawer o’m hetholwyr yn cael mynediad at ofal iechyd ar draws y ffin yn Swydd Amwythig. Roedd yn ymddangos mai prin oedd y cyfeiriadau a wnaed gan yr astudiaethau gofal iechyd at rai o'r materion traws-ffiniol, a’r hyn yr hoffwn i ei ofyn, Brif Weinidog, yw a fyddech chi’n cytuno â mi nad dim ond pwysigrwydd strategol Bronglais sy'n bwysig i boblogaeth y canolbarth, ond hefyd pwysigrwydd strategol ysbytai cyffredinol dosbarth ar draws y ffin yn Lloegr sydd hefyd yn strategol bwysig i etholwyr yn y canolbarth.
14:08 - Carwyn Jones
Well, nobody on this side of the border is suggesting that people who live in his constituency should all have to access services in Wales. We’ve never said that. The only person who has ever questioned Welsh patients using the English NHS, and the Welsh NHS paying for those patients, is Jeremy Hunt. I can say clearly to him, and it’s important to state this, that it has always been the case that Welsh patients have accessed services in England. We have always paid for patients to access those services, because it is important that people are able to access good services as close to them as possible, and, for many of his constituents, that does mean accessing hospitals in Shropshire. His constituents are not refugees; they are people who use the NHS in another part of the UK, and the Welsh Government pays for them. Wel, nid oes unrhyw un ar yr ochr hon i'r ffin yn awgrymu y dylai pawb sy'n byw yn ei etholaeth ef orfod defnyddio gwasanaethau yng Nghymru. Nid ydym ni erioed wedi dweud hynny. Yr unig berson sydd erioed wedi cwestiynu cleifion o Gymru yn defnyddio'r GIG yn Lloegr, a’r GIG yng Nghymru yn talu dros y cleifion hynny, yw Jeremy Hunt. Gallaf ddweud wrtho’n eglur, ac mae'n bwysig nodi hyn, ei bod wedi bod yn wir erioed bod cleifion yng Nghymru wedi defnyddio gwasanaethau yn Lloegr. Rydym ni wedi talu i gleifion gael mynediad at y gwasanaethau hynny erioed, gan ei bod yn bwysig bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau da mor agos atynt â phosibl, ac, i lawer o'i etholwyr, mae hynny’n golygu cael mynediad at ysbytai yn Sir Amwythig. Nid yw ei etholwyr yn ffoaduriaid; pobl sy'n defnyddio'r GIG mewn rhan arall o'r DU ydyn nhw, ac mae Llywodraeth Cymru yn talu drostyn nhw.
14:09 - Kirsty Williams
First Minister, the mid Wales study put particular emphasis on good-quality primary care and called for a renaissance of the community hospital model in securing services in rural areas. The good news is, First Minister, that the proposals to close Llanwrtyd surgery in August have been taken off the table, but, in ensuring the long-term survival of such practices, we do need to make progress on the sustainability fund that has been agreed between yourselves and the General Practitioners Committee Wales. Could you give an indication of when the sustainability fund and that process will be made available, so that rural practices, especially branch practices, that could be in danger of folding and therefore limiting access could take advantage of the negotiations that you have secured? Brif Weinidog, rhoddodd yr astudiaeth yn y canolbarth bwyslais penodol ar ofal sylfaenol o ansawdd da a galwodd am adfywiad o'r model ysbytai cymuned i sicrhau gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig. Y newyddion da, Brif Weinidog, yw bod y cynigion i gau meddygfa Llanwrtyd ym mis Awst wedi cael eu tynnu’n ôl, ond, o ran sicrhau dyfodol hirdymor meddygfeydd o'r fath, mae angen i ni wneud cynnydd ar y gronfa gynaliadwyedd y cytunwyd arni rhyngoch chi a Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru. A allech chi roi syniad o bryd y bydd y gronfa gynaliadwyedd a'r broses honno ar gael, fel y gallai meddygfeydd cefn gwlad, yn enwedig meddygfeydd cangen, a allai fod mewn perygl o fynd i’r wal ac felly cyfyngu mynediad, fanteisio ar y trafodaethau yr ydych chi wedi eu sicrhau?
14:10 - Carwyn Jones
I will ask the Minister for Health and Social Services to write to you with detail on that timescale. I very much welcome the fact that matters in Llanwrtyd seem to have been resolved. Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ysgrifennu atoch chi gyda manylion yr amserlen honno. Rwy’n croesawu'n fawr iawn y ffaith ei bod yn ymddangos bod y materion yn Llanwrtyd wedi eu datrys.
Gwasanaethau Mamolaeth Maternity Services
14:10 - Llyr Gruffydd
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o drafnidiaeth i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau mamolaeth yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2200(FM) 7. Will the First Minister make a statement on the provision of transport for people who use maternity services in North Wales? OAQ(4)2200(FM)
14:10 - Carwyn Jones
Rwy’n disgwyl i fyrddau iechyd ddarparu’r drafnidiaeth briodol i gefnogi mynediad at wasanaethau mamolaeth ar draws y gogledd. Bydd hyn yn sicrhau bod cymorth meddygol yn cael ei ddarparu cyn gynted â phosibl. I expect health boards to put in place appropriate transport provisions to support access to maternity services across north Wales. This will ensure that medical help is provided at the earliest opportunity.
14:10 - Llyr Gruffydd
Diolch i chi am eich ateb. Mae Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn ddiweddar wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi delio â rhyw 10,000 o achosion yn y flwyddyn ddiwethaf, llawer iawn o’r rheini yn ddamweiniau ac yn geir yn torri i lawr a oedd yn creu oedi a phroblemau ar hyd yr A55. Yr wythnos diwethaf, mi wnaeth eich Llywodraeth eich hun gyhoeddi gorchymyn traffig dros dro a fyddai’n golygu, wrth gwrs, mwy o waith ar hyd yr A55 am y 12 mis nesaf. Tra mod i’n derbyn, wrth gwrs, bod yn rhaid gwneud gwaith cynnal a chadw ar hyd yr A55 yn achlysurol, a wnewch chi dderbyn fod yna oblygiadau yn hynny o beth i’r trefniadau arfaethedig ar gyfer gwasanaethau mamolaeth, sydd yn gwneud y gwasanaethau yna yn llai diogel? Thank you for your response. The Mid and North Wales Trunk Road Agency has recently announced that it has dealt with some 10,000 cases over the past year, many of those accidents or cars breaking down that caused delays and problems along the A55. Last week, your own Government published a temporary traffic order that would mean, of course, more work along the A55 for the next 12 months. Whilst I accept, of course, that maintenance work must be carried out along the A55 from time to time, will you accept that there are implications of that for the proposed changes to maternity services, which make those services less safe?
14:11 - Carwyn Jones
Yn gyntaf i gyd, byddai unrhyw newid ynglŷn ag unrhyw wasanaeth mamolaeth yn cynnwys ‘safety gateway’ er mwyn sicrhau bod pobl yn gwybod bod y drafnidiaeth yn mynd i fod yn iawn ac yn briodol, ac mae hynny’n rhan allweddol o unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, rydym ni’n gwybod bod yna bapur wedi dod gan yr arbenigwyr yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae’r bwrdd iechyd wedi dweud ei fod yn mynd i ystyried y papur hwnnw, ac, wrth gwrs, gawn ni weld felly beth yw’r canlyniad o hynny. First of all, of course, any change in any maternity service would include a safety gateway in order to ensure that people know that the transport will be appropriate, and that will be a key part of any future developments. At present, of course, we know that a paper has been received from the specialists at Glan Clwyd Hospital. The health board has said that it is going to consider that paper, and, of course, we will therefore have to see the results of that.
14:11 - Mark Isherwood
It’s now three and a half years since the Welsh Government launched its strategic vision for maternity services, and despite proposals by Betsi Cadwaladr University Local Health Board then to downgrade at least one of their maternity units to midwife-led without protecting consultant-led services, raising concern that lives would be put at risk by forcing pregnant women to travel further to give birth. So, that’s more than three and a half years when doctors and midwives were warning against this. How do you respond therefore to the statement today by the leader of the campaigners in north Wales, commenting on the postponement of the removal of doctors in the midwifery unit in Glan Clwyd? She says: Mae tair blynedd a hanner wedi mynd heibio bellach ers i Lywodraeth Cymru lansio ei gweledigaeth strategol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth, ac er gwaethaf cynigion gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedyn i israddio o leiaf un o'i unedau mamolaeth i fod dan arweiniad bydwragedd heb ddiogelu gwasanaethau dan arweiniad ymgynghorwyr, gan godi pryder y byddai bywydau’n cael eu rhoi mewn perygl trwy orfodi menywod beichiog i deithio ymhellach i eni eu plant. Felly, mae meddygon a bydwragedd wedi bod yn rhybuddio yn erbyn hyn am fwy na thair blynedd a hanner. Sut ydych chi’n ymateb, felly, i'r datganiad heddiw gan arweinydd yr ymgyrchwyr yn y gogledd, yn gwneud sylwadau ar ohirio tynnu meddygon o’r uned bydwreigiaeth yng Nglan Clwyd? Mae hi'n dweud:
‘I still feel the Health Minister still needs to put special measures in place to protect the community.’ Rwy'n dal i deimlo bod angen i’r Gweinidog Iechyd roi mesurau arbennig ar waith i ddiogelu'r gymuned.'
14:12 - Carwyn Jones
It’s very unclear as to what special measures would deliver, actually. What’s important is that there is now a proposal on the table from the consultants. And it’s now important that the health board have the opportunity to consider that paper, and they have indicated they will do that and postpone any proposals for a further fortnight, and it’s important that full consideration is given to that paper. Bear in mind, of course, that the announcement has already been made that the Glan Clwyd site will be the site for the sub-regional neonatal intensive care centre. That can only be of assistance to people living in that area. It’s a very specialised unit and something potentially—and I note this from the paper that the consultants themselves provided—that has the potential to be a world-class centre, and I very much welcome that. It is inevitable, though, that with the establishment of a very specialised centre on the Glan Clwyd site there is bound to be an effect on the other maternity sites of some kind across the Betsi Cadwaladr area. So, the next stage is now to examine—for the health board, rather, to examine—the paper that’s been put forward by the consultants in order to examine its robustness, obviously, and to see whether their proposals are practical. Mae'n aneglur iawn beth fyddai mesurau arbennig yn ei gyflawni, mewn gwirionedd. Yr hyn sydd yn bwysig yw bod cynnig ar y bwrdd gan yr ymgynghorwyr erbyn hyn. Ac mae'n bwysig nawr bod y bwrdd iechyd yn cael cyfle i ystyried y papur hwnnw, ac mae wedi nodi y bydd yn gwneud hynny ac yn gohirio unrhyw gynigion am bythefnos arall, ac mae'n bwysig y rhoddir ystyriaeth lawn i'r papur hwnnw. Cofiwch, wrth gwrs, fod y cyhoeddiad eisoes wedi ei wneud mai safle Glan Clwyd fydd y safle ar gyfer y ganolfan isranbarthol ar gyfer gofal dwys i’r newydd-anedig. Gall hynny ond bod o gymorth i bobl sy'n byw yn yr ardal honno. Mae'n uned arbenigol iawn ac yn rhywbeth a allai fod—a nodaf hyn o’r papur y mae’r ymgynghorwyr eu hunain wedi ei ddarparu—â’r potensial i fod yn ganolfan o'r radd flaenaf, a chroesawaf hynny’n fawr. Mae'n anochel, fodd bynnag, wrth sefydlu canolfan arbenigol iawn ar safle Glan Clwyd, y bydd effaith o ryw fath ar y safleoedd mamolaeth eraill ar draws ardal Betsi Cadwaladr. Felly, y cam nesaf nawr yw archwilio—i’r bwrdd iechyd, yn hytrach, archwilio—y papur a gyflwynwyd gan yr ymgynghorwyr er mwyn archwilio ei gadernid, yn amlwg, ac i weld a yw eu cynigion yn ymarferol. 
Gwasanaethau Iechyd Trawsffiniol Cross-border Health Services
14:13 - Aled Roberts
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ar brotocol newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr? OAQ(4)2204(FM) 8. Will the First Minister provide an update regarding discussions on a new protocol for cross-border health services between England and Wales? OAQ(4)2204(FM)
14:14 - Carwyn Jones
Nid oes protocol newydd yn cael ei ddatblygu. We are not developing a new protocol.
14:14 - Aled Roberts
Rwy’n deall bod y protocol presennol ar fin cael ei ail drafod yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Mae adroddiad y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yr wythnos diwethaf yn dweud bod yna ddiffyg trafod rhwng cynghorau iechyd cymunedol a byrddau iechyd rhwng Cymru a Lloegr ynghylch rhai o’r newidiadau trawsffiniol, er enghraifft, gwasanaethau mamolaeth yn cael eu trosglwyddo o’r Amwythig I Telford. Hefyd, mae’r ffaith nad yw bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi trafod efo Ysbyty Countess of Chester ynglŷn â’r capasiti yno ynghylch y newidiadau. Felly, a wnewch chi’n siŵr bod materion sydd wedi cael eu codi yn adroddiad y pwyllgor dethol yn cael eu hystyried wrth I chi drafod y protocol newydd yma efo Llywodraeth Prydain? I understand that the current protocol is about to be renegotiated over this ensuing year. The Welsh Affairs Select Committee report of last week says that there hasn’t been sufficient discussion between community health councils and health boards in England and Wales in terms of some of the cross-border changes, for example, maternity services being transferred from Shrewsbury to Telford. Also, there’s the fact that Betsi Cadwaladr health board hasn’t discussed with the Countess of Chester Hospital issues of capacity there in relation to the changes. So, will you ensure that issues raised in the select committee report are taken into account as you discuss this new protocol with the UK Government?
14:14 - Carwyn Jones
Mae yna brotocol mewn lle, wrth gwrs, a beth sy’n digwydd—ac mae hyn yn digwydd yn aml—yw bod adolygiad yn cymryd lle o’r protocol ei hun er mwyn sicrhau bod y protocol yn berthnasol a’i fod yn cael ei ddatblygu yn y ffordd iawn. Mae yna drafod yn cymryd lle—mae’r trafod yma wastad wedi cymryd lle—rhwng Llywodraeth Cymru a hefyd yr Adran Iechyd yn Lloegr, er mwyn sicrhau bod y protocol ei hunan yn cael ei wella a’i newid, o gofio’r amgylchiadau fel y maen nhw’n newid dros y blynyddoedd. There is a protocol in place, of course, and what’s happening—and this happens regularly—is that there is a review of the protocol itself in order to ensure that it is relevant and that it is developed in the appropriate manner. Discussions are ongoing—they have always taken place—between Welsh Government and the Department of Health in England in order to ensure that the protocol is updated and improved, bearing in mind the circumstances as they change over the years.
14:15 - Janet Finch-Saunders
I’d actually like to endorse a clear and concise protocol coming forward. I know that several of my constituents, when needing treatment—and it’s very specialist treatment that is not available in north Wales—they become embroiled in a trap, really, because, although they require the treatment, the funding doesn’t always follow them, and then there becomes this delay. Would you endorse some kind of protocol that will ensure that constituents can actually access this specialist treatment, without delay, and that there’s a process in place, also, to ensure a smooth transition of service back—when constituents have had their treatment and they need follow-on support back in north Wales? Hoffwn gymeradwyo bod protocol clir a chryno yn cael ei gyflwyno. Gwn fod nifer o’m hetholwyr, pan fyddan nhw angen triniaeth—ac mae'n driniaeth arbenigol iawn nad yw ar gael yn y gogledd—maen nhw’n cael eu dal mewn trap, a dweud y gwir, oherwydd, er bod angen y driniaeth arnyn nhw, nid yw’r cyllid yn eu dilyn nhw bob amser, ac yna ceir yr oedi hwn. A wnewch chi gymeradwyo rhyw fath o brotocol a fydd yn sicrhau y gall etholwyr gael mynediad at y driniaeth arbenigol hon, heb oedi, a bod yna broses ar waith, hefyd, i sicrhau trosglwyddiad didrafferth o wasanaeth yn ôl—pan fydd etholwyr wedi cael eu triniaeth a bod angen cymorth dilynol arnynt yn ôl yn y gogledd?
14:16 - Carwyn Jones
Well, I’m not aware of that being an issue any more than it’s an issue when we take patients from England into Wales—the burns unit at Morriston being an example of that, where that acts as a tertiary unit for the south-west of England as well. There should be no difficulty with patients accessing services in England, nor with people in England accessing services in Wales; it’s a well-established principle, and where those patients access treatment, the money follows from either side of the border. Wel, nid wyf yn ymwybodol bod hynny’n broblem mwy nag y mae’n broblem pan ein bod ni’n mynd â chleifion o Loegr i Gymru—mae’r uned losgiadau yn Nhreforys yn enghraifft o hynny, pan fo honno’n gweithredu fel uned drydyddol ar gyfer de-orllewin Lloegr hefyd. Ni ddylai fod unrhyw anhawster o ran cleifion yn cael mynediad at wasanaethau yn Lloegr, nac o ran pobl yn Lloegr yn defnyddio gwasanaethau yng Nghymru; mae'n egwyddor sydd wedi’i hen sefydlu, a lle mae’r cleifion hynny’n derbyn triniaeth, mae'r arian yn llifo o’r ddwy ochr i'r ffin.
14:16 - Lindsay Whittle
Well, First Minister, the Welsh Affairs Committee report points out that the exchange of information between the NHS in England and Wales is not good enough, and works against patients’ interests. So, what progress is being made, during this review, to make the electronic information systems in Wales compatible with those in England? Wel, Brif Weinidog, mae adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig yn tynnu sylw at y ffaith nad yw’r cyfnewid gwybodaeth rhwng y GIG yng Nghymru ac yn Lloegr yn ddigon da, a’i fod yn gweithio yn erbyn buddiannau cleifion. Felly, pa gynnydd sy'n cael ei wneud, yn ystod yr adolygiad hwn, i wneud y systemau gwybodaeth electronig yng Nghymru yn gydnaws â'r rhai yn Lloegr?
14:16 - Carwyn Jones
Well, we believe the problems are actually more on the English side, rather than on our side, but the discussions are ongoing, and any issues that the Westminster committee has identified will, of course, form part of any discussions. Wel, rydym ni’n credu bod y problemau fwy ar ochr Lloegr, a dweud y gwir, yn hytrach nag ar ein hochr ni, ond mae'r trafodaethau'n parhau, a bydd unrhyw faterion y mae pwyllgor San Steffan wedi eu nodi, wrth gwrs, yn rhan o unrhyw drafodaethau.
14:17 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Thank you, First Minister. Diolch yn fawr, Brif Weinidog.
2. Business Statement and Announcement 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
We now move to the next item on the agenda, which is the business statement. I call on the Minister for Finance and Government Business, Jane Hutt. Symudwn at yr eitem nesaf ar yr agenda nawr, sef y datganiad busnes. Galwaf ar Weinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt.
14:17 - Jane Hutt
Llywydd, I have no changes to announce to this week’s business. Business for the next three weeks is as shown on the business statement and announcement, which can be found among the agenda papers available to Members electronically. Lywydd, nid oes gennyf unrhyw newidiadau i’w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymhlith papurau'r agenda sydd ar gael i'r Aelodau’n electronig.
14:17 - Russell George
Minister, can I ask for a statement on the Superfast Cymru infill project, please? In an answer to a written question, earlier this month, from the Deputy Minister, I have confirmed that 202 residential premises in Montgomeryshire qualify for assistance under phase 1 of the project, but a tender document, published on 11 February, appears to suggest, and I quote, that Weinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad ar brosiect mewnlenwi Cyflymu Cymru, os gwelwch yn dda? Mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig, yn gynharach y mis hwn, gan y Dirprwy Weinidog, rwyf wedi cadarnhau bod 202 o gartrefi preswyl yn Sir Drefaldwyn yn gymwys i gael cymorth dan gam 1 y prosiect, ond mae’n ymddangos bod dogfen dendr, a gyhoeddwyd ar 11 Chwefror, yn awgrymu, a dyfynnaf, y
‘procurement will cover infill requirements for business and industrial parks…only’. 'bydd caffael yn cwmpasu gofynion mewnlenwi ar gyfer parciau busnes a diwydiannol...yn unig'.
There may be a reasonable explanation for this, but I would be grateful if some clarification could be provided. Secondly, I would also urge a statement from the Minister for Economy, Science and Transport, updating on repair works on the A483, between Newtown and Welshpool, following a lorry ending up in the Montgomery canal back in January. I had corresponded with the Minister on this and I understand there are a number of obstacles, but as the Easter holidays are approaching, I think it’s important that the traffic lights are removed, and repair work is under way, before that period on this stretch of road, if that’s possible. A statement from the Minister would be appreciated on that. Efallai bod esboniad rhesymol am hyn, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallai rhyw eglurhad gael ei ddarparu. Yn ail, byddwn hefyd yn annog datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith atgyweirio ar yr A483, rhwng y Drenewydd a'r Trallwng, ar ôl i lori syrthio i mewn i gamlas Trefaldwyn yn ôl ym mis Ionawr. Roeddwn i wedi gohebu â'r Gweinidog am hyn ac rwy’n deall bod nifer o rwystrau, ond gan fod gwyliau'r Pasg yn agosáu, rwy’n credu ei bod yn bwysig cael gwared ar y goleuadau traffig, a bod y gwaith atgyweirio ar y gweill, cyn y cyfnod hwnnw ar y darn hwnnw o ffordd, os yw hynny'n bosibl. Byddwn yn gwerthfawrogi datganiad gan y Gweinidog ar hynny.
14:18 - Jane Hutt
Well, thank you, Russell George, for those two questions, which, of course, very much relate to the area and the people that you represent. I think you’ve already had an update from the Deputy Minister in terms of the situation regarding the Superfast Cymru project. Of course, in terms of the situation on the A483, clearly, that has to be in terms of road safety, but also recognising the importance of ensuring that we can move forward so that the free flow of traffic can, of course, be delivered. Wel, diolch i chi, Russell George, am y ddau gwestiwn yna, sydd, wrth gwrs, yn berthnasol iawn i'r ardal a'r bobl yr ydych chi’n eu cynrychioli. Rwy’n meddwl eich bod chi eisoes wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf gan y Dirprwy Weinidog am y sefyllfa o ran prosiect Cyflymu Cymru. Wrth gwrs, o ran y sefyllfa ar yr A483, yn amlwg, mae’n rhaid i hynny ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd, ond hefyd gan gydnabod pwysigrwydd sicrhau y gallwn symud ymlaen fel y gellir sicrhau bod y traffig yn llifo’n ddirwystr.
14:19 - Lynne Neagle
Minister, can I request a written statement on the educational support available for children awaiting child and adolescent mental health services assessment and diagnosis in Wales? The myriad issues relating to CAMHS is well known, and this is an area the Children, Young People and Education Committee will be focusing on again. However, I’ve dealt with a number of cases in recent weeks where children on the waiting list have been unable to access appropriate support in schools in the interim, and I’m concerned that LEAs and schools are reluctant to provide support without formal diagnosis. Now, we’ve heard the Minister for Health and Social Services state on a number of occasions that he wants to see people kept out of the CAMHS system, and that’s a laudable aim, but I’m concerned that the approach being adopted by schools and local education authorities flies in the face of that commitment and is increasing the pressure on an already overstretched service. Weinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig ar y gefnogaeth addysgol sydd ar gael i blant sy’n aros am asesiad a diagnosis gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yng Nghymru? Mae'r materion lu sy'n ymwneud â CAMHS yn hysbys, ac mae hwn yn faes y bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn canolbwyntio arno unwaith eto. Fodd bynnag, rwyf wedi ymdrin â nifer o achosion yn yr wythnosau diwethaf lle mae plant ar y rhestr aros nad ydynt wedi gallu cael gafael ar gymorth priodol mewn ysgolion yn y cyfamser, ac rwy'n pryderu bod AALl ac ysgolion yn amharod i roi cymorth heb ddiagnosis ffurfiol. Nawr, rydym ni wedi clywed y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi ar sawl achlysur ei fod eisiau gweld pobl yn cael eu cadw allan o'r system CAMHS, ac mae hwnnw’n nod canmoladwy, ond rwy'n pryderu bod y dull a fabwysiadwyd gan ysgolion ac awdurdodau addysg lleol yn mynd yn groes i’r ymrwymiad hwnnw ac yn cynyddu'r pwysau ar wasanaeth sydd eisoes wedi’i orymestyn.
I don’t believe this is unique to Torfaen and I think it would be helpful to have a written statement from the Minister for Education and Skills clarifying his expectations of local government and schools on this matter. Nid wyf yn credu bod hyn yn unigryw i Dorfaen ac rwy’n credu y byddai'n ddefnyddiol cael datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn egluro ei ddisgwyliadau o lywodraeth leol ac ysgolion ar y mater hwn.
14:20 - Jane Hutt
I thank the Member for Torfaen for her question. Of course, as she knows, we have taken steps in the Welsh Government to support children and young people experiencing those emotional difficulties that she describes through the development of our counselling services. I think counselling complements the different approaches that are already in place to support health and emotional and social needs of pupils, particularly, as you say, when they are awaiting further assessment and diagnosis. But, I will also say that the Minister for Education and Skills and the Minister for Health and Social Services have agreed to develop policy implementation guidelines to clarify the respective roles of counselling services for children and young people and CAMHS. Diolch i'r Aelod dros Dorfaen am ei chwestiwn. Wrth gwrs, fel y gŵyr, rydym ni wedi cymryd camau yn Llywodraeth Cymru i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n cael yr anawsterau emosiynol hynny y mae hi'n eu disgrifio trwy ddatblygu ein gwasanaethau cwnsela. Rwy'n credu bod cwnsela yn ategu’r gwahanol ddulliau sydd ar waith eisoes i gefnogi anghenion iechyd ac emosiynol a chymdeithasol disgyblion, yn enwedig, fel y dywedwch, pan fyddant yn aros am asesiad a diagnosis pellach. Ond, byddaf hefyd yn dweud bod y Gweinidog Addysg a Sgiliau a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddatblygu canllawiau gweithredu polisi i egluro swyddogaethau priodol gwasanaethau cwnsela i blant a phobl ifanc a CAMHS.
14:21 - Bethan Jenkins
Minister, I raised with you some time ago the issue of Freya Bevan from Neath, who has had to go to America for treatment for proton beam therapy. I wondered, in light of the statement by the parents of Ashya King, whereby he is now free of cancer, whether the Welsh Government could look at potentially changing their minds on funding Freya Bevan, because, of course, every penny that they’re spending on the treatment is having to come from local people and local charities and businesses. While that’s very laudable, and I’m very proud of the people of Neath, it shouldn’t really be for them to pay for such treatment. Weinidog, codais gyda chi gryn amser yn ôl y mater yn ymwneud â Freya Bevan o Gastell-nedd, y bu’n rhaid iddi fynd i America i gael triniaeth ar gyfer therapi pelydr proton. Roeddwn i’n meddwl tybed, yng ngoleuni'r datganiad gan rieni Ashya King, ac yntau'n rhydd o ganser erbyn hyn, pa un a allai Llywodraeth Cymru ystyried newid eu meddyliau o bosibl am ariannu Freya Bevan, oherwydd, wrth gwrs, mae pob ceiniog y maen nhw’n ei wario ar y driniaeth yn gorfod dod oddi wrth bobl leol ac elusennau a busnesau lleol. Er bod hynny'n ganmoladwy iawn, ac rwy'n falch iawn o bobl Castell-nedd, nid eu cyfrifoldeb nhw ddylai fod talu am driniaeth o'r fath mewn gwirionedd.
The other question I have is with regard to cuts to further education. I know that, in my area, in Bridgend, Neath Port Talbot and Gower colleges, and, I understand, in other areas—Coleg Sir Gâr—there will potentially be huge changes and ramifications and potential campus closures. I would request a statement, in Government time, on these implications, because, of course, we are facing a situation where staff will be made redundant, even having to potentially consider compulsory redundancies in some of these locations, and I think this is something that we should all be having a debate on here to make sure that it’s raised at the highest level. Mae’r cwestiwn arall sydd gen i yn ymwneud â thoriadau i addysg bellach. Gwn, yn fy ardal i, yng ngholegau Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot a Gŵyr, ac, rwy’n deall, mewn ardaloedd eraill—Coleg Sir Gâr—ei bod yn bosibl y bydd newidiadau a goblygiadau enfawr ac achosion posibl o gau campysau. Hoffwn ofyn am ddatganiad, yn amser y Llywodraeth, ar y goblygiadau hyn, oherwydd, wrth gwrs, rydym ni’n wynebu sefyllfa lle bydd staff yn cael eu diswyddo, ac o bosibl yn gorfod ystyried diswyddiadau gorfodol mewn rhai o'r lleoliadau hyn hyd yn oed, ac rwy’n credu bod hyn yn rhywbeth y dylem ni i gyd fod yn cael dadl yn ei gylch yma i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei godi ar y lefel uchaf.
14:22 - Jane Hutt
I think, in terms of your first question, of course, we recognise the needs of constituents and we recognise the ways in which communities support the needs of constituents in these situations. But, you know, of course, the fact that we deliver on National Institute for Health and Care Excellence guidelines, and that we have our All Wales Medicines Strategy Group, is critical in the way that we move forward in terms of the most clinically effective healthcare in Wales for patients. Rwy'n credu, o ran eich cwestiwn cyntaf, wrth gwrs, ein bod yn cydnabod anghenion etholwyr a'n bod yn cydnabod y ffyrdd y mae cymunedau’n cefnogi anghenion etholwyr yn y sefyllfaoedd hyn. Ond, rydych chi'n gwybod, wrth gwrs, bod y ffaith ein bod ni’n darparu ar ganllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a bod gennym ein Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, yn hanfodol i’r ffordd yr ydym ni’n symud ymlaen o ran y gofal iechyd sydd fwyaf effeithiol yn glinigol yng Nghymru ar gyfer cleifion. 
On your second point, I’m sure you will have been glad to see that, despite the fact that we’ve had a situation where we’ve had a £1.5 billion cut to our budget as a result of UK Government cuts—I know you recognise we’ve had a blow on Welsh needs and priorities—last week, I was able to announce a £750,000 invest-to-save project for further education, which I know they’ve warmly welcomed. O ran eich ail bwynt, rwy'n siŵr y byddwch wedi bod yn falch o weld, er gwaethaf y ffaith ein bod ni wedi cael sefyllfa lle’r ydym ni wedi cael toriad o £1.5 biliwn i’n cyllideb o ganlyniad i doriadau Llywodraeth y DU—gwn eich bod yn cydnabod ein bod ni wedi cael ergyd o ran anghenion a blaenoriaethau Cymru—yr wythnos diwethaf, roeddwn i’n gallu cyhoeddi prosiect buddsoddi i gynilo gwerth £750,000 ar gyfer addysg bellach, yr wyf yn gwybod eu bod wedi ei groesawu’n gynnes.
14:23 - Aled Roberts
Rwy’n croesawu, wrth gwrs, y datganiad gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr y bore yma eu bod nhw’n rhoi’r penderfyniad yn ôl am ryw bythefnos, ond mae’n debyg y bydd penderfyniad y Gweinidog yn syrthio yn ystod cyfnod gwyliau’r Pasg. Felly, a gaf i ofyn i chi a wnaiff y Llywodraeth sicrhau bod yna ddatganiad ysgrifenedig yn cael ei wneud a hefyd bod y datganiad yna yn cadarnhau’r sefyllfa ynglŷn â gwasanaethau llawdriniaeth y frest yn Wrecsam a Bangor? Of course, I welcome the statement from the Betsi Cadwaladr University Local Health Board this morning that they will be putting back the decision by about a fortnight, but the Minister’s decisions is likely to fall during the Easter recess. So, may I ask you whether the Government will ensure that a written statement is produced and that that statement confirms the situation as regards breast surgery services in both Wrexham and Bangor?
14:24 - Jane Hutt
Of course, situations occur during the recess periods where Ministers do have to make important decisions, and of course, we then make sure that, in terms of written statements and contact, as appropriate, with spokespeople, that that takes place. Wrth gwrs, mae sefyllfaoedd yn codi yn ystod cyfnodau’r toriad lle mae’n rhaid i Weinidogion wneud penderfyniadau pwysig, ac wrth gwrs, rydym ni’n gwneud yn siŵr wedyn, o ran datganiadau a chyswllt ysgrifenedig, fel y bo’n briodol, gyda llefarwyr, bod hynny’n digwydd.
14:24 - Mark Isherwood
I call for a single statement on breast cancer surgery in north Wales. The health board, Betsi Cadwaladr, has plans to move breast cancer surgery out of Wrexham Maelor and Ysbyty Gwynedd in Bangor to Ysbyty Glan Clwyd, but there’s been no consultation with consultants, the community health council, patients or their families. Campaigners in Wrexham are seeking clarity over whether this is really a temporary change. They say that they’re concerned that this is already a scary and stressful situation for women and this is adding to that, and ask whether a sudden influx of patients in Bodelwyddan could create bigger waiting lists as they struggle to cope at a time when the difference between catching it and being too late, given the rapid onset of the condition, can be critical. Campaigners in north-west Wales, in Gwynedd and Anglesey, said that this isn’t taking into consideration the feeling and wellbeing of all the sick ladies in north-west Wales, both at present and in future, especially when such vast distances are involved. They conclude by saying: Galwaf am un datganiad ar lawdriniaeth canser y fron yn y gogledd. Mae gan y bwrdd iechyd, Betsi Cadwaladr, gynlluniau i symud llawdriniaeth canser y fron allan o Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor i Ysbyty Glan Clwyd, ond ni fu unrhyw ymgynghori gydag ymgynghorwyr, y cyngor iechyd cymuned, cleifion na’u teuluoedd. Mae ymgyrchwyr yn Wrecsam yn chwilio am eglurder ynghylch pa un ai newid dros dro yw hwn mewn gwirionedd. Maen nhw’n dweud eu bod yn pryderu bod hon eisoes yn sefyllfa frawychus a llawn straen i fenywod ac mae hyn yn ychwanegu at hynny, ac yn gofyn a fyddai mewnlifiad sydyn o gleifion ym Modelwyddan yn creu rhestrau aros hwy wrth iddyn nhw gael trafferth i ymdopi ar adeg pan allai'r gwahaniaeth rhwng ei ddal a bod yn rhy hwyr, o gofio datblygiad cyflym y cyflwr, fod yn gritigol. Dywedodd ymgyrchwyr yn y gogledd-orllewin, yng Ngwynedd ac Ynys Môn, nad yw hyn yn cymryd teimladau a lles yr holl fenywod sâl yn y gogledd-orllewin i ystyriaeth, ar hyn o bryd nac yn y dyfodol, yn enwedig pan fo pellteroedd enfawr o'r fath dan sylw. Maen nhw’n cloi trwy ddweud:
‘Centralising this vital service will be detrimental to people’s health and will make visiting difficult for family members.’ Bydd canoli’r gwasanaeth hanfodol hwn yn niweidiol i iechyd pobl ac yn ei gwneud yn anodd i aelodau o'r teulu ymweld.
We know that, in a different context, referred to many times today, similar concerns have been raised about another matter. Could we call for a statement from the Welsh Government to ensure that we don’t end up going down the same path once again? Rydym ni’n gwybod, mewn cyd-destun gwahanol, y cyfeiriwyd ato sawl gwaith heddiw, bod pryderon tebyg wedi eu codi ynghylch mater arall. A gawn ni alw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau nad ydym yn mynd i lawr yr un llwybr unwaith eto?
14:25 - Jane Hutt
I think, Mark Isherwood, you know perfectly well that, not only are these matters for Betsi Cadwaladr University Local Health Board, but these are matters where there is a clear responsibility in terms of consultation on service changes and the involvement, as appropriate, of our community health councils. Rwy’n credu, Mark Isherwood, eich bod chi’n gwybod yn iawn, nid yn unig mai materion i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r rhain, ond eu bod yn faterion lle ceir cyfrifoldeb eglur o ran ymgynghori ar newidiadau i wasanaethau a chyfranogiad, fel y bo'n briodol, ein cynghorau iechyd cymuned.
14:26 - Mick Antoniw
Minister, you will be aware that the Penrose inquiry will be issuing its final report tomorrow. It’s obviously a matter of concern to a number of persons in Wales who have suffered from the HIV and hepatitis contaminated blood issue. The concern is, really, that there should be a statement, or some discussion, on the implications of that. Of the 270 or so persons identified in the 1970s and 1980s, 70 have since died. I wonder if time could be made available for a statement from the health Minister on the report and any issues that might be directly relevant or of benefit to us within Wales. Weinidog, byddwch yn ymwybodol y bydd ymchwiliad Penrose yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol yfory. Mae'n amlwg yn destun pryder i nifer o bobl yng Nghymru sydd wedi dioddef yn sgil y mater gwaed wedi’i halogi gyda HIV a hepatitis. Y pryder yw, mewn gwirionedd, y dylid cael datganiad, neu ryw drafodaeth, ar oblygiadau hynny. O'r tua 270 o unigolion a nodwyd yn y 1970au a'r 1980au, bu 70 farw ers hynny. Tybed a ellid neilltuo amser ar gyfer datganiad gan y Gweinidog iechyd ar yr adroddiad ac unrhyw faterion a allai fod yn uniongyrchol berthnasol neu o fudd i ni yng Nghymru.
14:27 - Jane Hutt
I thank Mick Antoniw for raising that point today as part of the business statement. Of course, in Wales, we are very keen to learn lessons from the Scottish experience and, of course, there are many people who await with interest the announcement of the results of this inquiry. The Minister for Health and Social Services has said that he will discuss the Penrose inquiry report with both Northern Ireland and Scotland Ministers. Of course, that is important, because it’s actually an inquiry that was complicated in terms of the events that it took into account over a number of years. We do anticipate looking at the findings and recommendations very carefully. Diolchaf i Mick Antoniw am godi'r pwynt yna heddiw yn rhan o'r datganiad busnes. Wrth gwrs, yng Nghymru, rydym ni’n awyddus iawn i ddysgu gwersi o brofiad yr Alban ac, wrth gwrs, ceir llawer o bobl sy'n aros yn eiddgar am gyhoeddiad canlyniadau'r ymchwiliad hwn. Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dweud y bydd yn trafod adroddiad ymchwiliad Penrose gyda Gweinidogion Gogledd Iwerddon a’r Alban. Wrth gwrs, mae hynny'n bwysig, oherwydd mae’n ymchwiliad a oedd yn gymhleth o ran y digwyddiadau a gymerodd i ystyriaeth dros nifer o flynyddoedd. Rydym ni’n rhagweld y byddwn yn edrych ar y canfyddiadau a'r argymhellion yn ofalus iawn.
14:27 - Kirsty Williams
Minister, I wonder if you could make available a written statement with regard to assets of community value, especially village pubs. Back in October, the then Minister ruled out commencing Part 5 of Chapter 3 of the Localism Act 2011 and said she was committed to finding a Wales approach to dealing with these issues. Recently, in my constituency, we have seen the granting of planning permission, against the views of the local community council and the strong objections of local people, for the change of use of the old Radnor Arms in Llowes to a private dwelling, thus losing the pub in that village. I’ve been contacted again today by residents in other Radnorshire villages who are very fearful that their village pub will go the same way. What can the Welsh Government do to ensure that village pubs, if they’re the only pub left in the village, often, sometimes, the only communal space left in a village, are protected and that the views of local residents are taken into proper consideration by planning authorities rather than ignored, as was the case in the village of Llowes? Weinidog, roeddwn yn meddwl tybed a allech chi sicrhau bod datganiad ysgrifenedig ar gael o ran asedau o werth cymunedol, yn enwedig tafarndai pentref. Yn ôl ym mis Hydref, diystyrodd y Gweinidog ar y pryd gychwyn Rhan 5 o Bennod 3 Deddf Lleoliaeth 2011 a dywedodd ei bod wedi ymrwymo i ddod o hyd i ddull Cymru o ymdrin â'r materion hyn. Yn ddiweddar, yn fy etholaeth i, rydym ni wedi gweld caniatâd cynllunio’n cael ei roi, yn groes i safbwyntiau’r cyngor cymuned lleol a gwrthwynebiadau cryf pobl leol, ar gyfer newid defnydd yr hen Radnor Arms yn Llowes i annedd preifat, gan golli’r dafarn felly yn y pentref hwnnw. Cysylltodd trigolion mewn pentrefi eraill yn Sir Faesyfed â mi eto heddiw, sy'n bryderus iawn y bydd tafarn eu pentref hwythau’n mynd yr un ffordd. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod tafarndai pentref, os mai nhw yw’r unig dafarndai sydd ar ôl yn y pentref, yn aml, weithiau, yr unig le cymunedol sydd ar ôl mewn pentref, yn cael eu diogelu a bod safbwyntiau trigolion lleol yn cael eu hystyried yn briodol gan awdurdodau cynllunio yn hytrach na’u hanwybyddu, fel y digwyddodd ym mhentref Llowes?
14:29 - Jane Hutt
Kirsty Williams, you will be pleased to hear that the Minister for Communities and Tackling Poverty will be issuing a written statement on this this week. Kirsty Williams, byddwch yn falch o glywed y bydd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar hyn yr wythnos hon.
14:29 - Nick Ramsay
Minister, I wonder if we can have a statement from the Deputy Minister for Farming and Food on the changes to the Welsh Government’s interpretation of the single farm payment scheme this year and in years to come. Farming unions are very concerned about the new exclusions of land, specifically beneath canopy cover of more than one tree. I’m concerned, and farmers are concerned, that this could lead to a clearance of tree cover in order to maximise the amount of money that farmers could receive. This clearly is not something that the Assembly, with its sustainability agenda, would want to encourage. Weinidog, tybed a allem ni gael datganiad gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar y newidiadau i ddehongliad Llywodraeth Cymru o'r cynllun taliad sengl eleni ac yn y blynyddoedd i ddod. Mae undebau ffermio’n bryderus iawn am yr eithriadau tir newydd, yn benodol dan orchudd canopi mwy nag un goeden. Rwy'n poeni, ac mae ffermwyr yn poeni, y gallai hyn arwain at glirio gorchudd coed er mwyn sicrhau bod ffermwyr yn derbyn y swm mwyaf posibl o arian. Yn amlwg, nid yw hyn yn rhywbeth y byddai’r Cynulliad, gyda'i agenda cynaliadwyedd, eisiau ei annog.
Secondly, could I ask for an update from the education Minister on the issue of asbestos in schools in Wales? I have raised this issue over the last few years. There is an ongoing concern by parents and teachers about this problem. I think we do need to hear from the Welsh Government about guidance that is being given to schools and local authorities in terms of how to deal with that asbestos, particularly given that there isn’t the finance to remove a lot of it at the moment. Yn ail, a gaf i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog addysg ar y mater o asbestos mewn ysgolion yng Nghymru? Rwyf wedi codi'r mater hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ceir pryder parhaus ymhlith rhieni ac athrawon am y broblem hon. Rwy’n meddwl bod angen i ni glywed gan Lywodraeth Cymru am ganllawiau sy'n cael eu rhoi i ysgolion ac awdurdodau lleol ar sut i ymdrin â’r asbestos hwnnw, yn enwedig o ystyried nad oes cyllid i gael gwared ar lawer ohono ar hyn o bryd.
14:30 - Jane Hutt
As far as the first question, Nick Ramsay, the Deputy Minister for Farming and Food is fully aware of these issues because she has such close engagement and regular engagement with the farming unions. So, of course, these issues are discussed on a regular basis. In terms of your second question, it is important that we have clear guidance in terms of tackling asbestos in schools, and of course this forms a very important part as well of our capital guidance for the twenty-first century schools building programme. O ran y cwestiwn cyntaf, Nick Ramsay, mae’r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd yn gwbl ymwybodol o'r materion hyn gan fod ganddi ymgysylltiad mor agos ac ymgysylltiad rheolaidd â'r undebau ffermio. Felly, wrth gwrs, mae'r materion hyn yn cael eu trafod yn rheolaidd. O ran eich ail gwestiwn, mae'n bwysig bod gennym ganllawiau eglur o ran mynd i'r afael ag asbestos mewn ysgolion, ac wrth gwrs mae hyn yn rhan bwysig iawn hefyd o'n canllawiau cyfalaf ar gyfer rhaglen adeiladu ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.
14:30 - Eluned Parrott
Minister, I’m sure you’ll agree that the community transport sector provide an invaluable role in our communities, particularly perhaps in non-emergency patient transport, but also in providing transport for vulnerable groups and vulnerable individuals, and especially in our rural communities. You may be aware that the funding year comes to an end a week today, and yet I understand that the sector have not yet received assurances on their funding for the following year. I wonder if I could request a statement from the Minister, giving a timetable by which that funding will be allocated. Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod y sector cludiant cymunedol yn cyflawni swyddogaeth werthfawr dros ben yn ein cymunedau, yn enwedig efallai o ran cludo cleifion nad ydynt yn achosion brys, ond hefyd o ran darparu cludiant ar gyfer grwpiau sy'n agored i niwed ac unigolion sy'n agored i niwed, ac yn enwedig yn ein cymunedau gwledig. Efallai eich bod yn ymwybodol bod y flwyddyn ariannol yn dod i ben wythnos i heddiw, ac eto rwy’n deall nad yw'r sector wedi derbyn sicrwydd hyd yma o ran eu cyllid ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Tybed a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog, yn rhoi amserlen ar gyfer dyrannu’r cyllid hwnnw.
The second issue I would like to raise is to request a statement from the Deputy Minister for Culture, Sport and Tourism, if I may, regarding the redesign of the BBC News website. I wouldn’t normally take issue with the BBC’s design, but on this occasion, it would appear that Wales has fallen off the front page and is now two clicks away from the front page for people who want to look at Welsh news. This is clearly a problem in a devolved circumstance, when the people of Wales are no further up the list of priorities than the news of Angola or South Africa in the news resource that most of us rely on in the first instance. I wonder if the Deputy Minister for culture has made any representations to the BBC and, if so, if we could have a statement on those representations. Yr ail fater yr hoffwn ei godi yw gofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, os caf, ar ail-ddylunio gwefan newyddion y BBC. Ni fyddwn yn anghytuno â gwaith dylunio’r BBC fel rheol, ond y tro hwn, mae'n ymddangos bod Cymru wedi disgyn oddi ar y dudalen flaen a’i bod bellach ddau glic i ffwrdd o'r dudalen flaen i bobl sydd eisiau edrych ar newyddion Cymru. Mae hyn yn amlwg yn broblem mewn amgylchiadau datganoledig, pan nad yw pobl Cymru ddim pellach i fyny'r rhestr flaenoriaethau na newyddion am Angola neu Dde Affrica yn yr adnodd newyddion y mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n dibynnu arno yn y lle cyntaf. Tybed a yw'r Dirprwy Weinidog diwylliant wedi gwneud unrhyw sylwadau i'r BBC ac, os felly, a allem ni gael datganiad ar y sylwadau hynny.
14:32 - Jane Hutt
Thank you, Eluned Parrott, for your questions on the business statement. On the first point, funding announcements will be made to ensure that those important transport services do have a clear indication of the way forward. Of course, on your second point, the Deputy Minister is very well aware of these issues, and if he had more power in this area, it would make such a huge difference. But, of course, it does help that you raise this point this afternoon. Diolch i chi, Eluned Parrott, am eich cwestiynau ar y datganiad busnes. O ran y pwynt cyntaf, bydd cyhoeddiadau cyllido yn cael ei wneud i sicrhau bod y gwasanaethau cludiant pwysig hynny’n cael arwydd eglur o'r ffordd ymlaen. Wrth gwrs, o ran eich ail bwynt, mae'r Dirprwy Weinidog yn gwbl ymwybodol o'r materion hyn, a phe byddai ganddo fwy o rym yn y maes hwn, byddai'n gwneud gwahaniaeth mor enfawr. Ond, wrth gwrs, mae'n helpu eich bod yn codi'r pwynt hwn y prynhawn yma.
14:32 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Thank you, Minister. Diolch i chi, Weinidog.
3. Statement: Update on Actions from Enterprise and Business Committee Reports 3. Datganiad: Y Diweddaraf ar Gamau Gweithredu sy’n Deillio o Adroddiadau’r Pwyllgor Menter a Busnes
We now move to item 3, which is a statement by the Minister for Economy, Science and Transport, an update on actions from Enterprise and Business Committee reports. Edwina Hart. Symudwn yn awr at eitem 3, sef datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, y wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu o adroddiadau’r Pwyllgor Menter a Busnes. Edwina Hart.
14:33 - Edwina Hart
Thank you, Presiding Officer. I wanted to update Members today on progress in relation to the recommendations from the Enterprise and Business Committee reports on the Welsh Government’s approach to trade and inward investment, youth entrepreneurship and international connectivity through Welsh ports and airports. Diolch, Lywydd. Roeddwn i eisiau diweddaru'r Aelodau heddiw am y cynnydd o ran argymhellion adroddiadau'r Pwyllgor Menter a Busnes ar ymagwedd Llywodraeth Cymru at fasnachu a mewnfuddsoddi, entrepreneuriaeth ieuenctid a chysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Melding) i’r Gadair am 14:33. The Deputy Presiding Officer (David Melding) took the Chair at 14:33.
Edwina Hart
The trade and inward investment recommendations were focused around three areas of the relationship with UK Trade and Investment and the private sector, transparency, and economic statistics. Following my initial response to the report and the debate on 3 December, I said that I would revisit some of the recommendations to see what further action we could be taking. For example, on the recommendations relating to the publication of data, I have now agreed that in addition to data already published on inward investment performance, a consolidated capital investment figure will be published at the end of the financial year. We will also be launching a new export zone shortly, outlining the support available to companies who want to access Welsh Government assistance. Roedd yr argymhellion ynglŷn â masnach a mewnfuddsoddi’n canolbwyntio ar dri maes: y berthynas â Masnach a Buddsoddi y DU a'r sector preifat, tryloywder, ac ystadegau economaidd. Yn dilyn fy ymateb cychwynnol i'r adroddiad a'r ddadl ar 3 Rhagfyr, dywedais y byddwn yn edrych eto ar rai o'r argymhellion i weld pa gamau pellach y gallem eu cymryd. Er enghraifft, o ran yr argymhellion sy'n ymwneud â chyhoeddi data, rwyf bellach wedi cytuno, yn ogystal â data a gyhoeddwyd eisoes ar berfformiad mewnfuddsoddi, y cyhoeddir ffigwr buddsoddiad cyfalaf cyfunol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Byddwn hefyd yn lansio parth allforio newydd cyn bo hir, i amlinellu'r cymorth sydd ar gael i gwmnïau a hoffai gael cymorth gan Lywodraeth Cymru.
Further to the committee’s recommendation about increasing representation at UKTI events, I wrote to the Minister of State for Trade and Investment in November, asking for Welsh Government officials to be routinely invited to UKTI events, and have received a very positive response. The success of our approach to trade and investment is demonstrated through our results. We delivered our strongest inward investment performance for 30 years in 2013-14—up 53 per cent on 2012-13, and that upwards trend continues. Between 1999 and the four quarters up to, and including, quarter four of 2014, there was a 105.9 per cent increase in Welsh exports, the third largest of the UK countries and English regions. I ddilyn argymhelliad y pwyllgor ynglŷn â chynyddu cynrychiolaeth mewn digwyddiadau UKTI, ysgrifennais at y Gweinidog Gwladol Masnach a Buddsoddi ym mis Tachwedd, yn gofyn am i swyddogion Llywodraeth Cymru gael eu gwahodd fel mater o drefn i ddigwyddiadau UKTI, ac rwyf wedi cael ymateb cadarnhaol iawn. Mae llwyddiant ein hymagwedd at fasnachu a buddsoddi i’w weld yn ein canlyniadau. Cyflawnwyd ein perfformiad mewnfuddsoddi cryfaf ers 30 mlynedd yn 2013-14—i fyny 53 y cant ar 2012-13, ac mae’r duedd ar i fyny honno’n parhau. Rhwng 1999 a'r pedwar chwarter hyd at, a gan gynnwys, chwarter pedwar 2014, bu cynnydd o 105.9 y cant mewn allforion o Gymru, y trydydd mwyaf o blith gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
Turning to youth entrepreneurship, as outlined in my response to the committee’s report, we are committed to embedding an entrepreneurial culture in Wales and were pleased that the report recognised the strength of our commitment. Since the response to the report, we have continued to fulfil this commitment, for example, through the ongoing delivery of actions within the youth entrepreneurship strategy action plan. I droi at entrepreneuriaeth ieuenctid, fel yr amlinellir yn fy ymateb i adroddiad y pwyllgor, rydym wedi ymrwymo i ymgorffori diwylliant entrepreneuraidd yng Nghymru ac roeddem yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod cryfder ein hymrwymiad. Ers yr ymateb i'r adroddiad, rydym wedi parhau i gyflawni'r ymrwymiad hwn, er enghraifft, drwy barhau i gymryd camau o fewn cynllun gweithredu’r strategaeth entrepreneuriaeth ieuenctid.
Furthermore, in January 2014, I established the entrepreneurship panel, which has been considering a number of areas on which the committee made recommendations, as part of their work to provide advice and guidance on the entrepreneurship agenda in Wales. The panel, under the chairmanship of James Taylor, Superstars, has been considering areas such as the future direction of youth entrepreneurship, Wales’s participation in the MIT regional entrepreneurship acceleration programme, the role of the panel in communicating the entrepreneurial message, and the development of an online resource for Business Wales. Yn ogystal, ym mis Ionawr 2014, sefydlais y panel entrepreneuriaeth, sydd wedi bod yn ystyried nifer o feysydd y gwnaeth y pwyllgor argymhellion ynglŷn â hwy, yn rhan o’i waith o ddarparu cyngor ac arweiniad ar yr agenda entrepreneuriaeth yng Nghymru. Mae'r panel, dan gadeiryddiaeth James Taylor, Superstars, wedi bod yn ystyried meysydd megis cyfeiriad entrepreneuriaeth ieuenctid yn y dyfodol, cyfranogiad Cymru yn y rhaglen cyflymu entrepreneuriaeth ranbarthol MIT, swyddogaeth y panel wrth gyfleu’r neges entrepreneuraidd, a datblygu adnodd ar-lein ar gyfer Busnes Cymru.
We have also completed an evaluation of youth entrepreneurship activity, drawing on the recommendations from the committee. The evaluation concluded that the youth entrepreneurship programme is delivering extremely valuable work, which gains very positive feedback, and is widely regarded as best practice. The findings will be used to inform the programme delivery and procurement of services under the next round of the European structural funds from January 2016. Rydym hefyd wedi cwblhau gwerthusiad o weithgarwch entrepreneuriaeth ieuenctid, gan ystyried yr argymhellion gan y pwyllgor. Daeth y gwerthusiad i'r casgliad bod y rhaglen entrepreneuriaeth ieuenctid yn cyflawni gwaith gwerthfawr dros ben, sy'n cael adborth cadarnhaol iawn, ac sy’n cael ei ystyried yn gyffredinol fel arfer gorau. Defnyddir y canfyddiadau i lywio'r broses o gyflwyno'r rhaglen a chaffael gwasanaethau o dan rownd nesaf cronfeydd strwythurol Ewropeaidd o Ionawr 2016 ymlaen.
To give further examples of progress on delivering the recommendations that we accepted in December 2014, I approved the future direction of youth entrepreneurship activity. This will build on the success of the youth entrepreneurship service to date, encourage the further and higher education sectors to take greater ownership of the promotion of entrepreneurship, and support them to identify, nurture and track young entrepreneurs. I roi mwy o enghreifftiau o gynnydd ar gyflawni'r argymhellion a dderbyniwyd gennym ym mis Rhagfyr 2014, cymeradwyais gyfeiriad gweithgarwch entrepreneuriaeth ieuenctid yn y dyfodol. Bydd hyn yn adeiladu ar lwyddiant y gwasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid hyd yn hyn, yn annog y sectorau addysg bellach ac uwch i gymryd mwy o berchnogaeth o ran hyrwyddo entrepreneuriaeth, ac yn eu cynorthwyo i nodi, meithrin a dilyn hynt entrepreneuriaid ifanc.
The procurement of the youth entrepreneurship services will be incorporated within the Business Wales entrepreneurship service, to improve transition for young people to business start-up services. The business-led Big Ideas Wales Challenge, which was launched in October 2013, is now in its second year. To date, 71 young people have participated, providing 16 to 24-year-olds with an opportunity to network and receive bespoke support from entrepreneurs to take forward their business ideas. Opportunities to shadow an entrepreneur, attend networking meetings, and be coached by role models are also provided. Bydd caffael y gwasanaethau entrepreneuriaeth ieuenctid yn cael ei ymgorffori o fewn gwasanaeth entrepreneuriaeth Busnes Cymru, i wella cyfnodau pontio pobl ifanc i wasanaethau cychwyn busnes. Mae Her Syniadau Mawr Cymru, a arweinir gan fusnes ac a lansiwyd ym mis Hydref 2013, bellach yn ei hail flwyddyn. Hyd yma, mae 71 o bobl ifanc wedi cymryd rhan, gan roi cyfle i bobl ifanc 16 i 24 oed i rwydweithio a chael cefnogaeth bwrpasol gan entrepreneuriaid i ddatblygu eu syniadau busnes. Hefyd, darperir cyfleoedd i gysgodi entrepreneur, mynychu cyfarfodydd rhwydweithio, a chael hyfforddiant gan rai sy’n gosod esiampl.
The second national final of the Enterprise Troopers competition for primary schools was held last week in the Senedd. The competition gives young pupils the opportunity to showcase their business achievements, and demonstrate their entrepreneurial skills. The competition introduces superhero characters to develop awareness of the skills needed in business, and actively encourages the business community to support young people. Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd ail rownd derfynol genedlaethol cystadleuaeth y Criw Mentrus i ysgolion cynradd yn y Senedd. Mae'r gystadleuaeth yn rhoi cyfle i ddisgyblion ifanc arddangos eu cyflawniadau busnes, a dangos eu sgiliau entrepreneuraidd. Mae'r gystadleuaeth yn cyflwyno cymeriadau archarwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth o’r sgiliau sydd eu hangen mewn busnes, ac yn mynd ati i annog y gymuned fusnes i gefnogi pobl ifanc yn ymarferol.
Finally, turning to the inquiry into international connectivity, we were able to accept, or accept in principle, all of the recommendations, which were focused on using ports and airports as economic levers, and on improving transport links to and from ports and airports. A number of the recommendations relate to policy areas that are non-devolved, and therefore, in taking them forward, we have continued to engage with the UK Government. For example, following discussions with the UK Government, the aviation framework has now been published and recognises the role of the growth and importance of airports outside of London, including those in Wales. Yn olaf, i droi at yr ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol, roeddem yn gallu derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, pob un o'r argymhellion, a oedd yn canolbwyntio ar ddefnyddio porthladdoedd a meysydd awyr fel ysgogiad economaidd, ac ar wella cysylltiadau trafnidiaeth i borthladdoedd a meysydd awyr ac oddi wrthynt. Mae nifer o'r argymhellion yn ymwneud â meysydd polisi nad ydynt wedi’u datganoli, ac felly, wrth fwrw ymlaen â hwy, rydym wedi parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU. Er enghraifft, yn dilyn trafodaethau â Llywodraeth y DU, mae’r fframwaith hedfan bellach wedi ei gyhoeddi ac mae’n cydnabod swyddogaeth twf a phwysigrwydd meysydd awyr y tu allan i Lundain, gan gynnwys y rhai yng Nghymru.
We have also been continuing to engage with the UK Government on the case for the devolution of air passenger duty to Wales, another area on which the committee made a recommendation. The additional powers proposed for Scotland in relation to air passenger duty, through the Smith Commission process, arguably strengthens the case for it to be devolved to Wales. Northern Ireland already has some powers in this regard, and Scotland will also now have powers to exercise their own discretion over the tax. The St David’s Day process gave an undertaking that the UK Government will consider the case in the next parliament. This imbalanced approach is damaging to Wales, and to the UK as a whole. We’ve been consistent on the principle that, whatever is offered to Scotland and Northern Ireland, should also be offered to Wales. Rydym hefyd wedi bod yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynglŷn â’r achos o blaid datganoli toll teithwyr awyr i Gymru, maes arall y gwnaeth y pwyllgor argymhelliad ynglŷn ag ef. Gellid dadlau bod y pwerau ychwanegol a gynigiwyd i’r Alban o ran toll teithwyr awyr, drwy broses Comisiwn Smith, yn cryfhau'r achos o blaid ei datganoli i Gymru. Mae gan Ogledd Iwerddon eisoes rai pwerau yn hyn o beth, a nawr bydd gan yr Alban hefyd bwerau i arfer eu disgresiwn eu hunain dros y dreth. Rhoddodd proses Dydd Gŵyl Dewi ymrwymiad y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried yr achos yn y senedd nesaf. Mae'r sefyllfa anghytbwys hon yn niweidiol i Gymru, ac i'r DU yn ei chyfanrwydd. Rydym wedi bod yn gyson ar yr egwyddor y dylai beth bynnag a gynigir i'r Alban a Gogledd Iwerddon gael ei gynnig i Gymru hefyd.
In terms of the committee’s recommendation on integrating connectivity to Welsh airports with transport and infrastructure policy, our commitment to improving connectivity is reflected in the new national transport plan, and specific improvements, for example, Five Mile Lane, are planned. We also continue to engage on ports policy, and I recently discussed the UK Government’s proposal in relation to the devolution of responsibility for trust ports with the Minister of State for Transport, John Hayes MP. O ran argymhelliad y pwyllgor ar integreiddio cysylltedd â meysydd awyr Cymru gyda pholisi trafnidiaeth a seilwaith, mae ein hymrwymiad i wella cysylltedd wedi’i adlewyrchu yn y cynllun trafnidiaeth cenedlaethol newydd, ac mae gwelliannau penodol, er enghraifft, Five Mile Lane, wedi eu cynllunio. Rydym hefyd yn parhau i ymgysylltu ar bolisi porthladdoedd, ac yn ddiweddar bûm yn trafod cynnig Llywodraeth y DU ynglŷn â datganoli'r cyfrifoldeb dros borthladdoedd ymddiriedolaeth gyda'r Gweinidog Gwladol dros Drafnidiaeth, John Hayes AS.
The UK Government is conducting a review on the options and the strategic importance of ports, and I have agreed with the Minister of State that the Welsh Government will be involved in that review, and have written to confirm this position. With regard to port infrastructure, we have made a bid for preparatory work on the A55, the A40, the Cardiff bay eastern link, and the M4 around Newport, under the first call for trans-European transport network funding. All of the projects will improve connectivity to TEN-T ports, and we hope this integrated approach will be viewed positively. Mae Llywodraeth y DU yn cynnal adolygiad ar y dewisiadau a phwysigrwydd strategol porthladdoedd, ac rwyf wedi cytuno â'r Gweinidog Gwladol y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn yr adolygiad hwnnw, ac rwyf wedi ysgrifennu i gadarnhau’r sefyllfa hon. O ran seilwaith porthladdoedd, rydym wedi gwneud cais am waith paratoadol ar yr A55, yr A40, cyswllt dwyreiniol bae Caerdydd, a’r M4 o amgylch Casnewydd, o dan yr alwad gyntaf am gyllid rhwydwaith trafnidiaeth traws-Ewropeaidd. Bydd pob un o'r prosiectau’n gwella cysylltedd i borthladdoedd TEN-T, ac rydym yn gobeithio y bydd y dull integredig hwn yn cael ei ystyried mewn modd cadarnhaol.
We are also part of the next phase of the EasyWay consortium project for intelligent transport systems on the core road network, and we expect to know the outcome in July. We will continue to explore potential projects for future calls, including public transport and port projects. We continue to consider and take forward the recommendations from all the Enterprise and Business Committee reports, and I’ll provide further updates as appropriate. Rydym hefyd yn rhan o gam nesaf y prosiect consortiwm Easyway ar gyfer systemau trafnidiaeth deallus ar y rhwydwaith ffyrdd craidd, ac rydym yn disgwyl cael gwybod y canlyniad ym mis Gorffennaf. Byddwn yn parhau i archwilio prosiectau posibl ar gyfer galwadau yn y dyfodol, gan gynnwys prosiectau cludiant cyhoeddus a phorthladdoedd. Rydym yn parhau i ystyried a bwrw ymlaen ag argymhellion holl adroddiadau’r Pwyllgor Menter a Busnes, a byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf fel y bo'n briodol.
14:40 - William Graham
Certainly, I welcome the Minister’s statement and sincerely hope that this sets a precedent for regular feedback on progress against committee recommendations. It’s another example of the way in which the Enterprise and Business Committee has an excellent working relationship with those who can effect change in the portfolio, both in the Welsh Government and in the EU Commission. Yn sicr, croesawaf ddatganiad y Gweinidog ac rwyf yn mawr obeithio bod hyn yn gosod cynsail ar gyfer adborth rheolaidd ar gynnydd yn erbyn argymhellion y pwyllgor. Mae'n enghraifft arall o'r berthynas waith ardderchog sydd gan y Pwyllgor Menter a Busnes â’r bobl hynny sy'n gallu sicrhau newid yn y portffolio, yn Llywodraeth Cymru ac yng Nghomisiwn yr UE.
The recommendations relating to the publication of data are certainly welcome, and I have no doubt that the Minister will publish those as time goes on. We also welcome the export zone and, again, we look forward to seeing greater details on that when more information is available. The committee’s recommendation about increasing representation at UKTI events is greatly welcomed and we look forward again to building on that positive response. Again, we welcome the youth entrepreneurship strategy action plan, and the advice and guidance the Minister is now incorporating into those projects is hopefully to be shown in the evaluation of that youth scheme in due course. The business-led Big Ideas Wales Challenge is now in its second year and, once again, no doubt, the Minister will be giving further information on that as it happens. Mae'r argymhellion yn ymwneud â chyhoeddi data yn sicr i’w croesawu, ac nid oes gennyf amheuaeth y bydd y Gweinidog yn cyhoeddi’r rheini wrth i amser fynd ymlaen. Rydym hefyd yn croesawu'r parth allforio ac, eto, rydym yn edrych ymlaen at weld mwy o fanylion am hynny pan fydd mwy o wybodaeth ar gael. Mae croeso mawr i argymhelliad y pwyllgor ynglŷn â chynyddu cynrychiolaeth mewn digwyddiadau UKTI ac rydym yn edrych ymlaen unwaith eto at adeiladu ar yr ymateb cadarnhaol hwnnw. Unwaith eto, rydym yn croesawu cynllun gweithredu'r strategaeth entrepreneuriaeth ieuenctid, a gobeithio y bydd y cyngor a'r arweiniad y mae’r Gweinidog bellach yn eu hymgorffori yn y prosiectau hynny i’w gweld yn y gwerthusiad o'r cynllun ieuenctid hwnnw maes o law. Mae Her Syniadau Mawr Cymru a arweinir gan fusnes bellach yn ei hail flwyddyn ac, unwaith eto, yn ddiau, bydd y Gweinidog yn rhoi mwy o wybodaeth am hynny wrth iddo ddigwydd.
The international connectivity, particularly where it’s focused on using ports and airports as economic levers and on improving transport links to and from ports and airports, has been the subject of great interest and of recommendations made by the committee. Could I ask the Minister to consider some questions further, particularly given she talked about engaging on ports policy? These are not necessarily for answer today, but it gives the Minister the idea of what the committee will be thinking in the future. The need to develop the maritime economy in Wales is clearly understood and we've talked about the motorways of the sea. The call for applications for the Connecting Europe Facility closed at the end of February, and it would be useful to find out whether Welsh Government has submitted applications and what these projects are particularly for, and the North sea-Mediterranean corridor study and how this particular benefit can be helpful to Wales. In time, will the Minister update us on the progress on route development at Cardiff Airport and how the £3 million route development loan will be used and how the Welsh Government will ensure it provides value for money? Mae'r cysylltedd rhyngwladol, yn enwedig lle mae'n canolbwyntio ar ddefnyddio porthladdoedd a meysydd awyr fel ysgogiad economaidd ac ar wella cysylltiadau cludiant i ac o borthladdoedd a meysydd awyr, wedi bod yn destun diddordeb mawr ac argymhellion gan y pwyllgor. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog ystyried rhai cwestiynau ymhellach, yn enwedig o gofio ei bod wedi sôn am ymgysylltu ar bolisi porthladdoedd? Nid yw'r rhain o reidrwydd i'w hateb heddiw, ond mae'n rhoi syniad i’r Gweinidog o'r hyn y bydd y pwyllgor yn meddwl amdano yn y dyfodol. Ceir dealltwriaeth glir o’r angen i ddatblygu economi forol Cymru, ac rydym wedi siarad am draffyrdd y môr. Diweddodd yr alwad am geisiadau ar gyfer y Cyfleuster Cysylltu Ewrop ddiwedd mis Chwefror, a byddai'n ddefnyddiol cael gwybod pa un a yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ceisiadau a beth yw diben y prosiectau penodol hyn, ac astudiaeth coridor Môr y Gogledd a Môr y Canoldir a sut y gall y budd penodol hwn fod o gymorth i Gymru. Ymhen amser, a wnaiff y Gweinidog ein diweddaru am y cynnydd ar ddatblygu llwybrau ym Maes Awyr Caerdydd a sut y bydd y benthyciad o £3 miliwn yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu llwybrau a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau ei fod yn darparu gwerth am arian?
The last update on the YES action plan was in December 2013. Does the Minister or her colleague the Minister for Education and Skills intend to publish a further update? Finally, what does the Donaldson review mean for the promotion of youth entrepreneurship in schools? Roedd y diweddariad olaf am y cynllun gweithredu IE yn Rhagfyr 2013. A yw’r Gweinidog neu ei chydweithiwr y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn bwriadu cyhoeddi diweddariad pellach? Yn olaf, beth mae adolygiad Donaldson yn ei olygu i hyrwyddo entrepreneuriaeth ieuenctid mewn ysgolion?
14:42 - Edwina Hart
Thank you very much indeed. I'm very pleased that I have been able to take forward some of the issues that were raised by the committee. They've been taken forward as a result of discussion on the committee's report, and particularly the publishing of further data. I’ll be more than happy to give further details around how the export zone will work and also, importantly, in due course, perhaps give some details on how we are involved with UKTI at events where we’ve had a presence or, to be frank, where UKTI have looked after our interests at events we've not been present at. So, I'm more than happy to report on that. Diolch yn fawr iawn i chi. Rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu bwrw ymlaen â rhai o'r materion a godwyd gan y pwyllgor. Digwyddodd hynny o ganlyniad i drafodaeth am adroddiad y pwyllgor, ac yn enwedig o ganlyniad i gyhoeddi data pellach. Byddaf yn fwy na pharod i roi rhagor o fanylion ynghylch sut y bydd y parth allforio’n gweithio a hefyd, yn bwysig, maes o law, efallai rhoi rhai manylion am sut yr ydym yn ymwneud ag UKTI mewn digwyddiadau lle bu gennym bresenoldeb neu, i fod yn onest, lle mae UKTI wedi gofalu am ein buddiannau mewn digwyddiadau lle nad ydym wedi bod yn bresennol. Felly, rwy'n fwy na pharod i adrodd ar hynny.
In terms of youth entrepreneurship, I think there’s been some valuable work done across the piece in terms of the committee and discussions here. I, like you, think there is further work to be done in this area. You make an excellent point regarding the curriculum. Interestingly, last week, I attended my youth entrepreneurship panel, chaired by James Taylor, when they were looking at the strands of the curriculum review and how it's not just about entrepreneurship in terms of becoming an entrepreneur, but entrepreneurial skills—because they say that, if you've got entrepreneurial skills, that makes you a much better employee and you’re more imaginative—and how that can be part of the curriculum. We spoke then about the importance of things like sport, art, drama et cetera and how those develop those types of skills that will be very good for business. So, the group itself is now looking at how—. They had a discussion, obviously, with Professor Donaldson. There is a reference to entrepreneurship in it, but they now want to see how those skills can be embedded all the way across the curriculum, and they'll be doing further work in that area. In terms of the Big Ideas Wales Challenge, it has worked well. We will have to assess how it continues to grow because, sometimes, you start something, it goes very well, but then sometimes you have to up the ante on things in future. O ran entrepreneuriaeth ieuenctid, rwy'n credu bod gwaith gwerthfawr wedi’i wneud yn gyffredinol o ran y pwyllgor a thrafodaethau yma. Rwyf finnau, fel chithau, yn credu bod mwy o waith i'w wneud yn y maes hwn. Gwnaethoch bwynt ardderchog ynglŷn â’r cwricwlwm. Yn ddiddorol, yr wythnos diwethaf, es i i gyfarfod fy mhanel entrepreneuriaeth ieuenctid, a gadeirir gan James Taylor, pan oeddent yn edrych ar feysydd yr adolygiad o'r cwricwlwm a’r ffaith ei fod yn cwmpasu mwy na dim ond entrepreneuriaeth o ran mynd yn entrepreneur, ond sgiliau entrepreneuraidd—oherwydd maent yn dweud, os oes gennych sgiliau entrepreneuraidd, bod hynny’n eich gwneud yn weithiwr llawer gwell a’ch bod yn fwy dychmygus—a sut y gall hynny fod yn rhan o'r cwricwlwm. Buom yn siarad wedyn am bwysigrwydd pethau fel chwaraeon, celf, drama ac ati a sut y mae’r rheini’n datblygu’r mathau hynny o sgiliau a fydd yn dda iawn ar gyfer busnes. Felly, mae'r grŵp ei hun nawr yn edrych ar sut—. Cawsant drafodaeth, yn amlwg, gyda'r Athro Donaldson. Ceir cyfeiriad at entrepreneuriaeth ynddi, ond maent nawr yn awyddus i weld sut y gellir gwreiddio’r sgiliau hynny yr holl ffordd ar draws y cwricwlwm, a byddant yn gwneud rhagor o waith yn y maes hwnnw. O ran Her Syniadau Mawr Cymru, mae wedi gweithio'n dda. Bydd yn rhaid inni asesu sut y bydd yn parhau i dyfu oherwydd, weithiau, byddwch yn dechrau rhywbeth, bydd yn mynd yn dda iawn, ond yna weithiau mae’n rhaid ichi osod mwy o her ar bethau yn y dyfodol.
On ports policy, I’ll be very happy to provide an update on where we are on all the aspects of ports policy. I think it's important, perhaps, we all revisit ports policy in due course, because ports are absolutely essential. When we looked at developing Holyhead, we saw that they were absolutely key in terms of developing Holyhead. We look at Milford, and we now look at the opportunity, if we do have trust ports under our control, to really energise them to ensure that we have better value out of them in terms of economic development. But I’m more than happy to update on all the issues that you, as Chair of the committee, raised with me in, perhaps even in my next report to committee. O ran polisi porthladdoedd, byddaf yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein safbwynt ar bob agwedd ar bolisi porthladdoedd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, efallai, ein bod i gyd yn edrych eto ar bolisi porthladdoedd maes o law, gan fod porthladdoedd yn gwbl hanfodol. Pan fuom yn edrych ar ddatblygu Caergybi, gwelsom eu bod yn gwbl allweddol o ran datblygu Caergybi. Rydym yn edrych ar Aberdaugleddau, a nawr mae’n rhaid inni edrych ar y cyfle, os cawn reolaeth dros borthladdoedd ymddiriedolaeth, i’w symbylu'n sylweddol er mwyn sicrhau ein bod yn cael gwell gwerth ohonynt o ran datblygiad economaidd. Ond rwyf yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr holl faterion y gwnaethoch chi, fel Cadeirydd y pwyllgor, sôn amdanynt wrthyf, efallai hyd yn oed yn fy adroddiad nesaf i'r pwyllgor.
14:45 - Rhun ap Iorwerth
Thank you for the statement and an update on the Government response to the various reports. I hope the Government would admit that what is being announced today, what we’re being told, is very incremental and that very little of this is going to set the world alight. Forgive me for not jumping up and down at the news that UKTI have been positive about the idea of asking Welsh Government officials to be routinely invited to UKTI events. Of course they should be invited to UKTI events. Diolch am y datganiad a'r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb y Llywodraeth i'r gwahanol adroddiadau. Rwy'n gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn cyfaddef mai camau bach iawn yw’r hyn sy'n cael ei gyhoeddi heddiw, yr hyn sy’n cael ei ddweud wrthym, ac nad yw rhyw lawer o hyn yn mynd i newid y byd. Maddeuwch imi am beidio â neidio i fyny ac i lawr wrth glywed y newyddion bod UKTI wedi bod yn gadarnhaol am y syniad o ofyn am i swyddogion Llywodraeth Cymru gael eu gwahodd fel mater o drefn i ddigwyddiadau UKTI. Wrth gwrs y dylent gael eu gwahodd i ddigwyddiadau UKTI.
On UKTI, the figures, of course, I welcome on inward investment, and there is a positive shift. I’d rather give a little bit more credit to Welsh Government officials here. UKTI have 600 staff based in the UK. Of those, 498 are based in London, 48 in Glasgow and 54 in nine English regions. They still have no representation in Wales. This is what we need to address. Just imagine what we could do. If UKTI really can drive economic growth in Wales, what would happen if they really engaged in the way that I and, hopefully, the Minister would like to see happening? O ran UKTI, wrth gwrs, rwyf yn croesawu’r ffigurau ar fewnfuddsoddi, a cheir symudiad cadarnhaol. Byddai'n well gennyf roi ychydig mwy o glod i swyddogion Llywodraeth Cymru yn y fan yma. Mae gan UKTI 600 o staff wedi'u lleoli yn y DU. O'r rheini, mae 498 wedi eu lleoli yn Llundain, 48 yn Glasgow a 54 mewn naw rhanbarth yn Lloegr. Nid oes ganddynt unrhyw gynrychiolaeth yng Nghymru o hyd. Dyma’r hyn y mae angen inni ei gywiro. Dychmygwch yr hyn y gallem ei wneud. Os gall UKTI sbarduno twf economaidd yng Nghymru mewn gwirionedd, beth fyddai'n digwydd pe byddent yn ymgysylltu mewn gwirionedd yn y modd yr hoffwn i a, gobeithio, y Gweinidog ei weld yn digwydd?
On data, yes, of course, I welcome the additional data on inward investment performance and the consolidated capital investment figure to be published at the end of the financial year, but this is all in-house information that the Government already has. Let’s remember what kind of information and data we need. It’s absurd that the Government still doesn’t seem to consider up-to-date GDP data necessary. The First Minister has been on the radio this week claiming that the Welsh economy is in a great place. How does he know? The latest GDP data for Wales are from 2011; the latest GVA, from 2013. The Government, I know, likes to use GDHI—gross domestic household income—figures, and this measure includes, of course, income derived from welfare payments, which could explain why it paints Wales in a better light than other indicators, and why the Welsh Government likes to use it. O ran data, ydw, wrth gwrs, rwyf yn croesawu'r data ychwanegol ar berfformiad mewnfuddsoddi a’r ffigur buddsoddi cyfalaf cyfunol a gyhoeddir ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ond gwybodaeth fewnol yw hyn i gyd sydd eisoes gan y Llywodraeth. Dewch inni gofio pa fath o wybodaeth a data sydd eu hangen arnom. Mae'n hurt ei bod yn ymddangos bod y Llywodraeth yn dal i ystyried nad oes angen y data diweddaraf ar gynnyrch domestig gros. Mae'r Prif Weinidog wedi bod ar y radio yr wythnos hon yn honni bod economi Cymru mewn lle gwych. Sut mae'n gwybod hynny? Mae'r data diweddaraf ar gyfer cynnyrch domestig gros Cymru’n dod o 2011; y gwerth ychwanegol gros diweddaraf, o 2013. Mae'r Llywodraeth, rwyf yn gwybod, yn hoff o ddefnyddio ffigurau GDHI—incwm aelwydydd crynswth i’w wario—ac mae’r mesur hwn yn cynnwys, wrth gwrs, incwm sy'n deillio o daliadau lles, a allai egluro pam mae'n dangos Cymru mewn goleuni gwell nag y mae dangosyddion eraill, a pham mae Llywodraeth Cymru yn hoff o’i ddefnyddio.
There’s also much more we need to get in terms of data on export, including to fellow UK nations. Clearly, England will always be a major trading partner for Wales, and Scotland and Northern Ireland too, but we just don’t have the data to back this up. Hefyd, mae angen llawer mwy arnom o ran data ar allforio, gan gynnwys i wledydd eraill y DU. Yn amlwg, bydd Lloegr bob amser yn bartner masnachu mawr i Gymru, a'r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd, ond nid oes gennym y data i ategu hyn.
On youth entrepreneurship, I welcome the steps that have been taken. Perhaps it’s too early to say how effective any changes will be. I will draw attention, though, to the further recommendations that have been made by the committee on the need to build links between business and education across the board, not just concentrating on entrepreneurship. I look forward to seeing the Government taking action on those recommendations, too. O ran entrepreneuriaeth ieuenctid, rwyf yn croesawu'r camau a gymerwyd. Efallai ei bod yn rhy gynnar i ddweud pa mor effeithiol y bydd unrhyw newidiadau. Rwyf am dynnu sylw, fodd bynnag, at yr argymhellion pellach a wnaeth y pwyllgor ynglŷn â’r angen i greu cysylltiadau rhwng busnes ac addysg yn gyffredinol, nid dim ond canolbwyntio ar entrepreneuriaeth. Edrychaf ymlaen at weld y Llywodraeth yn gweithredu ar yr argymhellion hynny, hefyd.
I move finally to international connectivity. I think air passenger duty is another example of the sham that the St David’s Day announcement was, in that the process gave an undertaking that UK Government will consider the case in the next Parliament. Nothing has happened. We, again, hopefully, will see eye to eye with the Government on taking positive steps on that. Yn olaf, trof at gysylltedd rhyngwladol. Rwy'n credu bod toll teithwyr awyr yn enghraifft arall o dwyll y cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi, o ran yr ymrwymiad a roddodd y broses y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried yr achos yn y Senedd nesaf. Nid oes unrhyw beth wedi digwydd. Byddwn, unwaith eto, gobeithio, yn gweld lygad yn llygad â’r Llywodraeth o ran cymryd camau cadarnhaol ar hynny.
I move to ports. It was interesting to listen to a senior official from the Directorate-General for Maritime Affairs and Fisheries in the European Commission last week saying he was surprised that Welsh Government didn’t have ports more at the core of its plans for developing the marine economy in Wales. I look forward to seeing more of a shift, and, hopefully, the devolution of docks policy will enable docks to come more to the centre of economic planning in Wales. Trof at borthladdoedd. Roedd yn ddiddorol gwrando ar un o uwch swyddogion y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol dros Faterion Morol a Physgodfeydd yn y Comisiwn Ewropeaidd yr wythnos diwethaf yn dweud ei fod yn synnu nad oedd porthladdoedd yn agosach at wraidd cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r economi forol yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at weld mwy o symudiad, a, gobeithio, bydd datganoli polisi dociau’n galluogi dociau i ddod yn fwy canolog i gynllunio economaidd yng Nghymru.
I’ll end with the A55/A40 Cardiff bay eastern link and the M4 around Newport, under the first call for TEN-T funding. I’ll draw your attention to the fact, of course, that Newport docks are concerned that the M4 black route proposals would kill off development, especially of the northern dock in Newport. I look forward to hearing from you how you plan to take those concerns into consideration as we move forward to looking at real alternatives for the M4. So, would the Minister agree that this is a very small series of steps that has been announced today? Diweddaf gyda'r A55/cyswllt dwyreiniol yr A40 ym mae Caerdydd a'r M4 o amgylch Casnewydd, o dan yr alwad gyntaf am gyllid TEN-T. Tynnaf eich sylw at y ffaith, wrth gwrs, bod dociau Casnewydd yn pryderu y byddai cynigion llwybr du yr M4 yn lladd datblygiad, yn enwedig yn y doc gogleddol yng Nghasnewydd. Edrychaf ymlaen at glywed gennych sut y bwriadwch ystyried y pryderon hynny wrth inni symud ymlaen at edrych ar ddewisiadau gwirioneddol eraill ar gyfer yr M4. Felly, a fyddai'r Gweinidog yn cytuno mai cyfres fach iawn o gamau a gyhoeddwyd heddiw?
14:49 - Edwina Hart
I’m sorry that the Member is so disappointed that I’ve courteously updated the Chamber on all the reports that have been presented by the Enterprise and Business Committee. I thought it would be helpful, as Members are already indicating. As a Government, we respond to a report and let it lie, so I thought it was important, when we’ve gone the extra mile in terms of using the committee’s report as a basis for developing policy, that I report it back to the Chamber. Mae'n ddrwg gennyf fod yr Aelod mor siomedig fy mod wedi bod mor gwrtais â diweddaru’r Siambr ynglŷn â’r holl adroddiadau a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Menter a Busnes. Roeddwn yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol, fel y mae Aelodau eisoes yn ei nodi. Fel Llywodraeth, rydym yn ymateb i adroddiad ac yn gadael llonydd iddo, felly rwyf yn meddwl ei bod yn bwysig, pan fyddwn wedi cymryd y cam pellach o ddefnyddio adroddiad y pwyllgor fel sail i ddatblygu polisi, fy mod yn adrodd yn ôl am hynny i'r Siambr.
In terms of UKTI, I have to be positive about the relationship that we have, and we do have a reasonable relationship with the UKTI because I’m aware of the number of opportunities the UKTI have indicated to us are available for inward investment into Wales. The fact is that UKTI, when I go on visits abroad or do things, are actually very helpful in terms of how they set up visits, and how they’re helpful to assist. So, I have to speak as I find in respect of the UKTI, and the very positive relationships we’ve had with all Ministers that have had responsibility for UKTI. O ran UKTI, mae’n rhaid imi fod yn gadarnhaol am y berthynas sydd gennym, ac mae gennym berthynas resymol â’r UKTI oherwydd rwyf yn ymwybodol o’r nifer o gyfleoedd y mae UKTI wedi dweud wrthym eu bod ar gael ar gyfer mewnfuddsoddiad i Gymru. Y ffaith yw bod UKTI, pan fyddaf yn mynd ar ymweliadau tramor neu pan wyf yn gwneud pethau, mewn gwirionedd yn gymorth mawr o ran sut y maent yn trefnu ymweliadau, a sut y maent yn hapus i gynorthwyo. Felly, mae’n rhaid imi ddweud fel y gwelaf o ran yr UKTI, a'r berthynas gadarnhaol iawn yr ydym wedi’i chael â’r holl Weinidogion sydd wedi bod yn gyfrifol am UKTI.
In terms of data and information, these are ongoing discussions that I have with the finance Minister about what further data might be required, and I have to say it doesn’t fall on deaf ears in terms of the discussions we have. In due course, we will hope to improve the data that are available. O ran data a gwybodaeth, mae'r rhain yn drafodaethau parhaus yr wyf yn eu cael â’r Gweinidog cyllid am ba ddata pellach y gellid bod ei angen, ac mae’n rhaid imi ddweud nad yw'n syrthio ar glustiau byddar o ran y trafodaethau a gawn. Maes o law, byddwn yn gobeithio gwella'r data sydd ar gael.
On the point you make, yes, England is a very big trading partner with us: look at the numbers in the supply chain just going to Jaguar Land Rover from Wales, but of course it is the United Kingdom we’re talking about, and it’s across our border. We have to see an indication of whether there’s anything in particular. I can probably get figures relating to automotive that might be helpful in terms of future discussion. O ran y pwynt yr ydych yn ei wneud, ydy, mae Lloegr yn bartner masnachu mawr iawn inni: edrychwch ar y niferoedd yn y gadwyn gyflenwi sy’n mynd i Jaguar Land Rover yn unig o Gymru, ond wrth gwrs am y Deyrnas Unedig yr ydym yn sôn, ac mae ar draws ein ffin ni. Mae’n rhaid inni weld awgrym o ba un a oes unrhyw beth penodol. Mae’n debyg y gallaf gael ffigurau sy'n ymwneud â moduron a allai fod yn ddefnyddiol o ran trafodaethau yn y dyfodol.
Now, in terms of youth entrepreneurship, I think as I indicated in my response to the Chair of the committee, there is an issue between business and education and that will be a matter that I know the Minister for education will be very interested in, as is the role that business can have in terms of what they want to do. There are discussions going on about whether there should be businesspeople automatically on boards of governors, and there should be a lot of discussions like that. This is all in the mix as a result of the development of Government policy, and of course the development of the views that have come out of the committee, as well. Nawr, o ran entrepreneuriaeth ieuenctid, fel y nodais yn fy ymateb i Gadeirydd y pwyllgor, rwyf yn credu bod problem rhwng busnes ac addysg, a bydd hynny'n fater y gwn y bydd gan y Gweinidog addysg ddiddordeb mawr ynddo, yn ogystal â’r rhan y gall busnesau ei chwarae o ran yr hyn yr hoffent ei wneud. Mae trafodaethau’n parhau ynghylch pa un a ddylid rhoi pobl fusnes ar fyrddau llywodraethwyr yn awtomatig, a dylid cael llawer o drafodaethau o’r fath. Mae hyn i gyd dan sylw o ganlyniad i ddatblygiad polisi'r Llywodraeth, ac wrth gwrs datblygiad y safbwyntiau sydd wedi dod allan o'r pwyllgor, hefyd.
Can I say that, on the air passenger duty, I think we are all agreed on APD? It’s an absolute insult to us as a nation that this has been put on the backburner. As far as I’m concerned, we should have had APD. If the Scots have had it and the Northern Irish have had it, we should be having it. Of course, now we’re involved in a review that involves English regional airports. Well, you know, Wales is a nation; it’s not an English region. A gaf fi ddweud, ynglŷn â’r doll teithwyr awyr, fy mod i’n meddwl ein bod i gyd yn cytuno o ran y doll teithwyr awyr? Mae'n sarhad llwyr inni fel cenedl bod hyn wedi cael cyn lleied o sylw. Yn fy marn i, dylem fod wedi cael y doll teithwyr awyr. Os yw’r Alban wedi’i chael a Gogledd Iwerddon wedi ei chael, dylem ninnau fod yn ei chael. Wrth gwrs, nawr rydym yn rhan o adolygiad sy'n cynnwys meysydd awyr rhanbarthol yn Lloegr. Wel, wyddoch chi, mae Cymru yn wlad, nid rhanbarth o Loegr.
In terms of ports policy, I have to say as well that I do think there is the opportunity, with further devolution, to look more at ports. It’s very important that we are able to control our destiny in the management of ports. I’m in the absolutely ludicrous position that I have Milford Haven, where I have a haven enterprise zone, but I have no control over the port there and no control over the land that the port owns. Therefore, I can only have a dialogue about issues; whereas I feel, as a Government, we should have more control. O ran polisi porthladdoedd, mae’n rhaid i minnau hefyd ddweud fy mod yn credu bod gennym gyfle, gyda datganoli pellach, i edrych yn fanylach ar borthladdoedd. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gallu rheoli ein tynged wrth reoli porthladdoedd. Rwyf yn y sefyllfa gwbl chwerthinllyd lle mae gennyf Aberdaugleddau, lle mae gennyf ardal fenter hafan, ond nid oes gennyf unrhyw reolaeth dros y porthladd yno nac unrhyw reolaeth dros y tir y mae'r porthladd yn berchen arno. Felly, yr oll y gallaf ei wneud yw cael deialog am faterion; ond rwyf yn teimlo y dylem, fel Llywodraeth, gael mwy o reolaeth.
Obviously, in terms of the M4, the process will go forward. Yn amlwg, o ran yr M4, bydd y broses yn mynd yn ei blaen.
14:52 - Eluned Parrott
I’d like to thank the Minister for her statement. I’m very glad of the update on three very important areas in terms of pushing the Welsh economy forward. I think if we want Wales’s relative wealth to improve, we must be ambitious in terms of the growth that we expect from both export and inward investment. So, looking to the first part of that statement, I’d say, if you want to build Welsh resilience as well when it comes to recession, we need to be looking to a better balance between inward investment and exports, and look at the balance between having branches from international companies based here and growing the export capacity of Welsh businesses. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Rwy'n falch iawn o'r newyddion diweddaraf am dri maes pwysig iawn o ran gwthio economi Cymru yn ei blaen. Rwyf yn meddwl, os ydym am i gyfoeth cymharol Cymru wella, bod yn rhaid inni fod yn uchelgeisiol o ran y twf yr ydym yn ei ddisgwyl o allforio ac o fewnfuddsoddi. Felly, wrth edrych ar ran gyntaf y datganiad hwnnw, byddwn yn dweud, os ydych am adeiladu gwytnwch Cymru yn ogystal yn erbyn dirwasgiad, bod angen inni fod yn chwilio am well cydbwysedd rhwng mewnfuddsoddi ac allforion, ac edrych ar y cydbwysedd rhwng cael canghennau o gwmnïau rhyngwladol wedi’u lleoli yma a thyfu gallu busnesau Cymru i allforio.
In particular, I’d like to ask, Minister, whether or not you’ve done an analysis of how we have improved over the last 15 years building and bedding in supply and demand chains for Welsh businesses from the inward investors that we have had. Clearly, if we want those inward investors to be a permanent fixture, then we have to erect what I would describe as ‘barriers to exit’ from our market. In other words, we have to make sure that they have a really good reason for staying here, whether that be the skills of the people that we’re able to offer them, the supply and demand chains that they have in the local area, or any number of other things. But we want them to feel like they are now a part of the furniture if they are to stay. Yn benodol, hoffwn ofyn, Weinidog, a ydych chi wedi gwneud dadansoddiad o sut yr ydym wedi gwella dros y 15 mlynedd diwethaf o ran adeiladu a sefydlu cadwyni cyflenwad a galw ar gyfer busnesau Cymru gan y mewnfuddsoddwyr yr ydym wedi'u cael. Yn amlwg, os ydym am i’r mewnfuddsoddwyr hynny fod yn rhai parhaol, mae’n rhaid inni godi’r hyn y byddwn yn ei ddisgrifio fel 'rhwystrau i adael' ein marchnad. Mewn geiriau eraill, mae’n rhaid inni wneud yn siŵr bod ganddynt reswm da iawn dros aros yma, boed hynny'n sgiliau'r bobl y gallwn eu cynnig iddynt, y cadwyni cyflenwad a galw sydd ganddynt yn yr ardal leol, neu nifer helaeth o bethau eraill. Ond hoffem iddynt deimlo eu bod bellach yn rhan o bethau yma os ydynt am aros.
I do welcome your statement suggesting that you’re launching a new export zone shortly. I’d very much welcome some additional information on that, and I welcome that information. There are some interesting statistics in this statement, Minister. You’ve suggested there’s been 105.9 per cent increase in Welsh exports since devolution. Actually, in real terms, it’s 32 per cent if you take into account inflation. If you work back over the 15 years of devolution from quarter 2, shall we say, in 1999 when we were established in this place, it’s actually only 1.9 per cent a year on average, which is growth, which is great, but it’s hardly hanging-out-the-bunting territory. It is about average for a developed nation in terms of its annual growth, and it is keeping pace with the UK’s growth as a whole. It is not what is going to be needed to close the gap in GDP, relatively, between Wales and the rest of the UK. So, my question is this: clearly the export zone is a part of this drive to push growth, but what is your ambition for growth in exports over the next 15 years, and what is your ambition in terms of the things that you’ve announced in this statement today? Rwyf yn croesawu eich datganiad sy’n awgrymu y byddwch yn lansio parth allforio newydd cyn bo hir. Byddwn yn bendant yn croesawu ychydig o wybodaeth ychwanegol am hynny, a chroesawaf y wybodaeth honno. Mae rhai ystadegau diddorol yn y datganiad hwn, Weinidog. Rydych wedi awgrymu y bu cynnydd o 105.9 y cant mewn allforion o Gymru ers datganoli. A dweud y gwir, mewn termau real, 32 y cant ydyw os ydych yn ystyried chwyddiant. Os ydych yn gweithio’n ôl dros y 15 mlynedd o ddatganoli o chwarter 2, dewch inni ddweud, yn 1999 pan gawsom ein sefydlu yn y lle hwn, mewn gwirionedd dim ond 1.9 y cant y flwyddyn ydyw ar gyfartaledd, sy’n dwf, sy'n wych, ond go brin ei fod yn destun dathlu. Mae oddeutu’r cyfartaledd ar gyfer gwlad ddatblygedig o ran ei thwf blynyddol, ac mae'n cyd-fynd â thwf y DU yn ei chyfanrwydd. Ni fydd yn ddigon i gau'r bwlch mewn cynnyrch domestig gros, yn gymharol, rhwng Cymru a gweddill y DU. Felly, fy nghwestiwn i yw: yn amlwg mae’r parth allforio’n rhan o'r ymgyrch hon i wthio twf, ond beth yw eich uchelgais ar gyfer twf mewn allforion dros y 15 mlynedd nesaf, a beth yw eich uchelgais o ran y pethau yr ydych wedi’u cyhoeddi yn y datganiad hwn heddiw?
Moving onto youth entrepreneurship, I do welcome the success of the programme, though I would suggest that there’s still an emphasis in terms of assessing success on outputs rather than long-term outcomes. I’d be interested to see how successful those youth entrepreneurs are in the long-term over a period of, perhaps, five years. We need to be tracking them on a longitudinal basis. I droi at entrepreneuriaeth ieuenctid, rwyf yn croesawu llwyddiant y rhaglen, er y byddwn yn awgrymu bod pwyslais o hyd ar asesu llwyddiant ar allbynnau yn hytrach na chanlyniadau hirdymor. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gweld pa mor llwyddiannus yw’r entrepreneuriaid ifanc hynny yn y tymor hir dros gyfnod o bum mlynedd, efallai. Mae angen inni fod yn dilyn eu hynt ar sail hydredol.
The Institute of Welsh Affairs report on the economy that was launched last week suggests that there is a disproportionate number of very small microbusinesses, as opposed to small or medium-sized businesses, in our economy, and, on average, they have lower per capita productivity than larger businesses, very often because they spend a lot of time doing their own paperwork and this impacts on their ability to actually do their business. The next step, really, beyond entrepreneurship, is then asking ourselves the question: how do we support those entrepreneurs who want to push their business to the next stage, who want to grow to a small business and then a medium-sized business? What is it that we can do to make that happen? What can we do to make sure that, when we support people up that escalator, they are supported not only with finance but also with advice at every stage, and also that when they get to a certain size, they don’t feel that the only option available to them now is to sell their business and cash out their investment? That is a real problem, because then we leave ourselves with more branches of multinationals that are also not going to be resilient to economic challenges in future. Mae adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig ar yr economi a lansiwyd yr wythnos diwethaf yn awgrymu bod nifer anghymesur o ficrofusnesau bach iawn, yn hytrach na busnesau bach neu ganolig eu maint, yn ein heconomi, ac, ar gyfartaledd, mae eu cynhyrchiant fesul pen yn is na busnesau mwy, yn aml iawn oherwydd eu bod yn treulio llawer o amser yn gwneud eu gwaith papur eu hunain a bod hyn yn effeithio ar eu gallu i gynnal eu busnes mewn gwirionedd. Y cam nesaf, a dweud y gwir, y tu hwnt i entrepreneuriaeth, yw gofyn wedyn y cwestiwn i ni ein hunain: sut yr ydym yn cefnogi’r entrepreneuriaid hynny sydd am wthio eu busnes i'r cam nesaf, sydd am dyfu’n fusnes bach, ac yna’n fusnes canolig ei faint? Beth y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod hynny’n digwydd? Beth y gallwn ni ei wneud i sicrhau, pan fyddwn yn cynorthwyo pobl i fyny’r grisiau hynny, eu bod yn cael eu cefnogi, nid yn unig â chyllid, ond hefyd â chyngor ar bob cam, a hefyd nad ydynt yn teimlo, ar ôl cyrraedd maint penodol, mai’r unig ddewis sydd ar gael iddynt yw gwerthu eu busnes a chael arian parod am eu buddsoddiad? Mae honno'n broblem wirioneddol, oherwydd wedyn bydd gennym fwy o ganghennau cwmnïau rhyngwladol na fyddant yn gallu gwrthsefyll heriau economaidd yn y dyfodol.
Finally, turning to ports and airports, I think it's very, very clear that the blue economy is a huge opportunity to Wales, not just connectivity through our ports, but, actually, the potential around tidal lagoons, around aquaculture, and around tourism and leisure, particularly if we bring these opportunities together. Three sides of Wales face the sea, but I think we lack the strategic focus at the moment on how we can maximise those kinds of opportunities. Now, Ireland has a target of doubling its GDP from the sea over a period of time. I’m wondering what assessment you’ve made of the potential for Wales to do the same. To what extent do Ministers liaise across the different portfolios to make sure that we are making the most of the opportunities that our ports and the tidal lagoons present, and that the other economic opportunities we have around our coasts are brought together? Yn olaf, i droi at borthladdoedd a meysydd awyr, rwyf yn credu ei bod yn amlwg iawn, iawn bod yr economi las yn gyfle enfawr i Gymru, nid yn unig i gysylltedd drwy ein porthladdoedd, ond, mewn gwirionedd, i’r potensial ym maes morlynnoedd llanw, ym maes dyframaeth, ac ym maes twristiaeth a hamdden, yn enwedig os byddwn yn dod â’r cyfleoedd hyn at ei gilydd. Mae tair ochr o Gymru’n wynebu'r môr, ond nid wyf yn meddwl bod gennym y ffocws strategol ar hyn o bryd i wneud y mwyaf o’r mathau hynny o gyfleoedd. Nawr, mae gan Iwerddon darged o ddyblu ei chynnyrch domestig gros o'r môr dros gyfnod o amser. Roeddwn i’n meddwl tybed pa asesiad yr ydych chi wedi ei wneud o botensial Cymru i wneud yr un peth. I ba raddau y mae Gweinidogion yn cysylltu ar draws y gwahanol bortffolios i wneud yn siŵr ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae ein porthladdoedd a'r morlynnoedd llanw yn eu cyflwyno, a bod y cyfleoedd economaidd eraill sydd gennym o amgylch ein harfordiroedd yn cael eu dwyn at ei gilydd?
Just finally, a very brief note on the infrastructure improvements that are necessary around our ports and airports. I'm grateful to the Minister for mentioning some of these, and residents in my own region will be very glad to hear of improvements on the Five Mile Lane, for example, but, for all of these potential improvements, there is likely to be some short-term pain for people living nearby. I'd welcome the Minister’s assurance that, when plans are more developed, local people will be fully consulted and will have a much clearer idea of what the impacts are going to be than they had, sadly, over recent developments around Windsor bridge in the centre of Cardiff, with several other junctions apparently being dug up within a quarter of a mile of the spot for no good reason that we can see. Thank you. Yn olaf, nodyn byr iawn am y gwelliannau seilwaith sydd eu hangen o amgylch ein porthladdoedd a’n meysydd awyr. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am grybwyll rhai o'r rhain, a bydd trigolion yn fy rhanbarth i yn falch iawn o glywed am welliannau ar Five Mile Lane, er enghraifft, ond, er gwaethaf yr holl welliannau posibl hyn, mae'n debygol y bydd rhywfaint o boen tymor byr i’r bobl sy'n byw gerllaw. Hoffwn gael sicrwydd gan y Gweinidog, pan fydd y cynlluniau’n fwy datblygedig, yr ymgynghorir yn llawn â phobl leol ac y cânt syniad llawer cliriach o'r effeithiau a achosir nag a oedd ganddynt, yn anffodus, dros y datblygiadau diweddar o gwmpas pont Windsor yng nghanol Caerdydd, lle’r oedd yn ymddangos bod llawer o gyffyrdd eraill wedi eu cloddio o fewn chwarter milltir i'r lle heb fod unrhyw reswm da y gallwn ni ei weld. Diolch.
14:58 - Edwina Hart
Can I thank the Liberal Democrat spokesperson for the general thrust of her contribution here? I think it's important to recognise that we do need to be ambitious in terms of what we do in terms of export and get the balance right as well within inward investment. I think there is an issue about resilience and balancing the economy, definitely, in your contribution, but I would be interested, perhaps, to commission some work on supply chains and how they’ve become embedded, and do some work, because there isn't anything, I don't think, that's easily accessible. Perhaps we could look at a sector. Well, we could look, as I’ve suggested, at the automotive sector, which might be a useful sector to look at. It’s certainly something that we can undertake. They do come here for a variety of reasons and stay. They stay because of good skills. They stay because they actually like where they are, some of the companies. It’s also important to recognise, when we had the discussion about business rates the other week, what more we can do in terms of plant and machinery in securing people to stay here as well, and using our new powers within that area. That’s certainly something that I can do. A gaf fi ddiolch i lefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol am fyrdwn cyffredinol ei chyfraniad yma? Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod yn rhaid inni fod yn uchelgeisiol o ran yr hyn yr ydym yn ei wneud o ran allforio a tharo’r cydbwysedd cywir hefyd ym maes mewnfuddsoddi. Rwy'n credu bod problem ynghylch gwytnwch a chydbwyso’r economi, yn bendant, yn eich cyfraniad, ond byddai gennyf ddiddordeb, efallai, mewn comisiynu rhywfaint o waith ar gadwyni cyflenwi a sut y maent wedi eu hymwreiddio, a gwneud rhywfaint o waith, oherwydd nad oes unrhyw beth, yn fy marn i, sy’n hawdd cael gafael arno. Efallai y gallem edrych ar sector. Wel, gallem edrych, fel yr wyf wedi’i awgrymu, ar y sector modurol, a allai fod yn sector ddefnyddiol i edrych arno. Mae'n sicr yn rhywbeth y gallwn ei wneud. Maent yn dod yma am amrywiaeth o resymau ac yn aros. Maent yn aros oherwydd sgiliau da. Maent yn aros oherwydd eu bod yn wirioneddol hoff o ble y maent, rhai o'r cwmnïau. Mae hefyd yn bwysig cydnabod, pan gawsom y drafodaeth am ardrethi busnes yr wythnos o'r blaen, beth arall y gallwn ni ei wneud o ran offer a pheiriannau i sicrhau bod pobl yn aros yma hefyd, a defnyddio ein pwerau newydd yn y maes hwnnw. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth y gallaf ei wneud.
In terms of the export zone, I'd be delighted to share any further information with Members. I note what she says in terms of the statistics. There are statistics that can be used on every occasion for every issue, of course, as statisticians will tell you, but my ambition is to try and close the gap. That's the important thing. In terms of the long term, we've got to be driving everything to close the gap between us and the rest of the UK, in terms of GDP and what we’re able to do as a Government. O ran y parth allforio, byddwn wrth fy modd yn rhannu unrhyw wybodaeth bellach gyda’r Aelodau. Nodaf yr hyn y mae hi'n ei ddweud ynglŷn â’r ystadegau. Mae ystadegau y gellir eu defnyddio ar bob achlysur ar gyfer pob mater, wrth gwrs, fel y bydd ystadegwyr yn ei ddweud wrthych, ond fy uchelgais i yw ceisio cau'r bwlch. Dyna'r peth pwysig. O ran y tymor hir, mae’n rhaid inni fod yn sbarduno popeth i gau'r bwlch rhyngom ni a gweddill y DU, o ran cynnyrch domestig gros a'r hyn yr ydym yn gallu ei wneud fel Llywodraeth.
Now, in terms of youth entrepreneurship, I think you're absolutely right. It is about tracking where these people go and where they end up, and there is a very difficult period, about which I do agree, when you move from a microbusiness to small and medium-sized business, and you go. And it isn’t just about funding, because I think we’ve had a lot of discussion about how we deal with the funding issues. In terms of life science, it’s quite interesting. I’ve introduced a fund now for the valley of death, so that you can actually have some funding when you’re in the valley of death, which is when you start off, before you go up and nobody wants you, and I think that there are issues around money on that, but, also as well, it’s Business Wales—what more that they can do to support people. But it’s not just those that are going on to be entrepreneurs and want to be multimillionaires; it’s also those who’ve started a business and their spirits then go into other companies with that entrepreneurial spirit, which I think is very important. Nawr, o ran entrepreneuriaeth ieuenctid, rwyf yn meddwl eich bod yn hollol gywir. Mae'n fater o olrhain i ble mae’r bobl hyn yn mynd a ble maent yn ei gyrraedd, ac mae yna gyfnod anodd iawn, rwyf yn cytuno â hyn, pan eich bod yn symud o fod yn ficrofusnes i fod yn fusnes bach a chanolig ei faint, a’ch bod yn mynd. Ac nid dim ond mater o gyllid ydyw, oherwydd rwyf yn credu ein bod wedi cael llawer o drafodaeth am sut yr ydym yn ymdrin â'r materion cyllido. O ran gwyddor bywyd, mae'n eithaf diddorol. Rydw i wedi cyflwyno cronfa nawr ar gyfer glyn cysgod angau, er mwyn ichi allu cael rhywfaint o arian pan fyddwch yng nglyn cysgod angau, sef pan fyddwch yn dechrau, cyn ichi fynd i fyny ac nad oes ar neb eich eisiau, ac rwyf yn meddwl bod materion yn ymwneud ag arian yn gysylltiedig â hynny, ond, hefyd, mae’n ymwneud â Busnes Cymru—beth arall y gall hwnnw ei wneud i gefnogi pobl. Ond nid dim ond y bobl sy’n mynd ymlaen i fod yn entrepreneuriaid ac yn awyddus i fod yn filiwnyddion sawl gwaith drosodd sydd dan sylw yma; mae hefyd yn ymwneud â phobl sydd wedi dechrau busnes ac mae eu hysbryd wedyn yn mynd i mewn i gwmnïau eraill gyda’r ysbryd entrepreneuraidd hwnnw, sy’n bwysig iawn yn fy marn i.
Now, in terms of what we’re doing on maritime, obviously, there are working relationships across the piece in Government, but you are quite right that we do have to focus, when we have more powers, on how we use ports better. Also, do we have the opportunity of tidal lagoons now? There was the welcome announcement, obviously, in the budget for the tidal lagoon project in Swansea. Obviously, strike price will be a big issue in whether that works as a project. So, I think it’s very important that we look across at what we’ve got as our natural resource in Wales, how we can utilise what we’ve got in terms of our ports, and then how we can have more activity there. I’d be delighted to return to that at a later stage in terms of development of a policy agenda, and I know that, in committee, you’re always looking for issues to look at and so it might be a very useful discussion for committee to have in terms of that maritime economy and what more can be done. Nawr, o ran yr hyn yr ydym yn ei wneud ar y sector morol, yn amlwg, ceir perthnasoedd gwaith ym mhob rhan o’r Llywodraeth, ond rydych yn llygad eich lle wrth ddweud bod yn rhaid inni ganolbwyntio, pan gawn fwy o bwerau, ar sut y gallwn ddefnyddio porthladdoedd yn well. Hefyd, a oes gennym gyfle morlynnoedd llanw erbyn hyn? Yn amlwg, roedd croeso i’r cyhoeddiad yn y gyllideb ar gyfer y prosiect morlyn llanw yn Abertawe. Yn amlwg, bydd pris y streic yn bwysig o ran a fydd hynny’n gweithio fel prosiect. Felly, rwyf yn meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych drosodd ar yr hyn sydd gennym fel ein hadnoddau naturiol yng Nghymru, sut y gallwn ddefnyddio’r hyn sydd gennym o ran ein porthladdoedd, ac yna sut y gallwn gael mwy o weithgaredd yno. Byddwn wrth fy modd i ddychwelyd at hynny yn nes ymlaen drwy ddatblygu agenda polisi, a gwn eich bod, yn y pwyllgor, bob amser yn chwilio am faterion i edrych arnynt ac felly gallai fod yn drafodaeth ddefnyddiol iawn i’r pwyllgor ei chael o ran yr economi forol honno a beth arall y gellir ei wneud.
Also as well, you are quite right that there is an awful lot of short-term pain when you’ve got infrastructure projects, and I think that it is important that local people consult and actually understand the timescale and where we are going. The successful projects are the ones where people have clearly understood why it’s going to be done. They haven’t necessarily been happy, but they’ve understood why and they feel that their opinion has been respected, and I certainly take on board the points you made about Windsor bridge and some of the projects that are going on currently. Hefyd, rydych yn llygad eich lle bod llawer iawn o boen tymor byr ym maes prosiectau seilwaith, ac rwyf yn credu ei bod yn bwysig bod pobl leol yn ymgynghori ac mewn gwirionedd yn deall yr amserlen ac i ble'r ydym ni’n mynd. Y prosiectau llwyddiannus yw'r rhai lle mae pobl wedi deall yn glir pam mae'n mynd i gael ei wneud. Nid ydynt o reidrwydd wedi bod yn hapus, ond maent wedi deall pam ac maent yn teimlo bod eu barn wedi cael ei pharchu, ac rwyf yn sicr yn ystyried y pwyntiau a wnaethoch ynghylch pont Windsor a rhai o'r prosiectau sy'n digwydd ar hyn o bryd.
15:02 - Nick Ramsay
Can I thank the Minister for her update today? There is always interesting progress in these areas, and I’ve been reminded myself of the work that went into these three pretty major reports during my tenure as the Chair of the Enterprise and Business Committee, and I’m pleased that they’re not just sitting on a shelf somewhere and that you are revisiting those recommendations. A gaf ddiolch fi i'r Gweinidog am ei diweddariad heddiw? Mae cynnydd diddorol yn digwydd drwy’r amser yn y meysydd hyn, ac rydw i wedi cael fy atgoffa fy hun o’r gwaith a aeth i'r tri adroddiad eithaf sylweddol hyn yn ystod fy nghyfnod i fel Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes, ac rwy'n falch nad ydynt yn eistedd yn segur ar silff yn rhywle a’ch bod yn edrych eto ar yr argymhellion hynny.
Turning to what you said on entrepreneurship, the key recommendation of our report was to investigate the disconnect between levels of interest in those young people who wanted to go into entrepreneurship and the number of young entrepreneurs that we’re actually getting. Now, leaving aside some of the problems with data, what evidence do you have that that gap has been closing anyway? I know it’s still relatively early days, but has there been any closure at all between the number of people expressing interest and those ultimately becoming entrepreneurs, because that is key to what that report wanted? I droi at yr hyn a ddywedasoch am entrepreneuriaeth, argymhelliad allweddol ein hadroddiad oedd ymchwilio i'r diffyg cysylltiad rhwng lefelau diddordeb ymhlith y bobl ifanc hynny a oedd yn dymuno mynd i mewn entrepreneuriaeth a nifer yr entrepreneuriaid ifanc yr ydym yn eu cael mewn gwirionedd. Nawr, gan adael o'r neilltu rai o'r problemau â data, pa dystiolaeth sydd gennych bod y bwlch hwnnw wedi bod yn cau beth bynnag? Rwy'n gwybod ei bod yn dal i fod yn ddyddiau cymharol gynnar, ond a oes unrhyw gau o gwbl wedi bod rhwng nifer y bobl sy’n mynegi diddordeb a’r rhai sy'n mynd yn entrepreneuriaid yn y pen draw, oherwydd mae hynny'n allweddol i'r hyn yr oedd ei eisiau ar yr adroddiad hwnnw?
Also, recommendation 3 of the entrepreneurship report suggested that you might consider holding an annual conference, bringing together young people, educators and parents and interested parties. What progress has been made in this area? I thought that was a secondary recommendation, but it was one that was a very good way of generating interest in Wales in this important area. Hefyd, roedd argymhelliad 3 yr adroddiad entrepreneuriaeth yn awgrymu y gallech ystyried cynnal cynhadledd flynyddol, gan ddod â phobl ifanc, addysgwyr a rhieni a phartïon â diddordeb at ei gilydd. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud yn hyn o beth? Roeddwn yn meddwl mai argymhelliad eilaidd oedd hwnnw, ond roedd yn un a oedd yn ffordd dda iawn o greu diddordeb yng Nghymru yn y maes pwysig hwn.
Turning to the international connectivity of ports and airports, as you say, you accepted all the recommendations, either in principle or fully, which is always pleasant to see. Recommendation 2 called for a clear evidence-based position for developing air transport. I notice, from what you’ve said today, that you’ve been working closely with the UK Government in the aviation framework. That is to be welcomed and had to happen, but what about a specific vision for Welsh aviation? Specifically with regard to Cardiff Airport, how does that fit in into a Welsh aviation plan? What do we want to see coming out of that plan? What do we want to see coming out of developing that airport over the next 10 to 20 years? I think that’s what people would really like to see. I droi at gysylltedd rhyngwladol porthladdoedd a meysydd awyr, fel y dywedwch, gwnaethoch dderbyn yr holl argymhellion, naill ai mewn egwyddor neu'n llawn, sydd bob amser yn beth braf i'w weld. Roedd argymhelliad 2 yn galw am safbwynt clir, seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer datblygu trafnidiaeth awyr. Rwyf yn sylwi, o'r hyn yr ydych wedi'i ddweud heddiw, eich bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU yn y fframwaith hedfan. Mae hynny i'w groesawu ac roedd yn rhaid iddo ddigwydd, ond beth am weledigaeth benodol ar gyfer awyrennau yng Nghymru? Yn benodol o ran Maes Awyr Caerdydd, sut y mae hynny'n cyd-fynd â chynllun hedfan i Gymru? Beth yr hoffem ei weld yn dod allan o'r cynllun hwnnw? Beth yr hoffem ei weld yn dod allan o ddatblygu'r maes awyr hwnnw dros y 10 i 20 mlynedd nesaf? Rwy'n credu mai dyna’r hyn yr hoffai pobl ei weld mewn gwirionedd.
I have to agree with Rhun ap Iorwerth, I was extremely bemused as well, to see in the projects relating to connectivity with Welsh ports that you’ve included the M4. We know full well that your Government’s preferred black-route option for a new M4 is opposed by the commissioners of Newport docks. They’re deeply concerned about the potential economic impact on the docks of splitting the northern dock in two, effectively. They’re against that so I was amused to see that in, and I hope that—as the Welsh Conservative group have called for—that we see a reopening of that consultation and other alternatives to the M4 black route considered. I think Newport docks would very much like that. Mae'n rhaid imi gytuno â Rhun ap Iorwerth; roeddwn innau’n synnu’n fawr o weld eich bod wedi cynnwys yr M4 yn y prosiectau sy'n ymwneud â chysylltedd â phorthladdoedd Cymru. Rydym yn gwybod yn iawn bod comisiynwyr dociau Casnewydd yn gwrthwynebu hoff ddewis eich Llywodraeth ar gyfer M4 newydd, sef y llwybr du. Maent yn bryderus iawn am yr effaith economaidd bosibl ar y dociau o rannu'r doc gogleddol yn ddau, i bob pwrpas. Maent yn erbyn hynny, felly cefais fy nifyrru o weld bod hynny ynddo, ac rwyf yn gobeithio—fel y mae grŵp Ceidwadwyr Cymru wedi galw amdano—y gwelwn ailagor yr ymgynghoriad hwnnw ac ystyried dewisiadau eraill yn hytrach na llwybr du yr M4. Rwy'n credu y byddai dociau Casnewydd yn hoffi hynny’n fawr.
You’ve also included the eastern bay link as an infrastructure project. Well, undoubtedly, it is an infrastructure project, but the budget agreement with the Liberal Democrats that was included pretty late on was only for phase 1 of the eastern bay link. As I said back in that budget debate—and I’ll close on this, Deputy Presiding Officer—there is a very real danger that building just phase 1 of that eastern bay link without any promise of further phases will actually increase congestion in Cardiff south, and increase congestion in the region of the roundabout to nowhere at one of the entrances to the port of Cardiff, and I’m sure that the port here in Cardiff would not want to see the increase in congestion that, I fear, some of these infrastructure projects will cause in their current form. Rydych hefyd wedi cynnwys cyswllt dwyreiniol y bae fel prosiect seilwaith. Wel, yn ddiau, mae yn brosiect seilwaith, ond mae'r cytundeb cyllideb gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol a gafodd ei gynnwys yn eithaf hwyr yn berthnasol i gam 1 cyswllt dwyreiniol y bae yn unig. Fel y dywedais yn ôl yn nadl y gyllideb honno—a byddaf yn gorffen ar hyn, Ddirprwy Lywydd—mae perygl gwirioneddol iawn y bydd adeiladu cam 1 cyswllt dwyreiniol y bae yn unig heb unrhyw addewid o gamau pellach mewn gwirionedd yn cynyddu tagfeydd yn ne Caerdydd, ac yn cynyddu tagfeydd yn ardal y gylchfan i unman yn un o'r mynedfeydd i borthladd Caerdydd, ac rwy'n siŵr na fyddai'r porthladd yma yng Nghaerdydd yn dymuno gweld y cynnydd mewn tagfeydd y byddai, rwyf yn ofni, rhai o’r prosiectau seilwaith hyn yn ei achosi ar eu ffurf bresennol.
15:05 - Edwina Hart
It is interesting that, obviously, the ports have been mentioned in the context of the M4. I have nothing further to add to my comments to Rhun ap Iorwerth, but, of course, we are now drawing in Associated British Ports and the port in Cardiff, and I’ve had no complaints at all about any proposals to do with the eastern bay link from that quarter. I have to say that there’s an excellent agreement between the two parties on this, and this is going to be a route that’s going to be very welcome, to deal with some of the issues within the Cardiff area. Mae'n ddiddorol, yn amlwg, bod y porthladdoedd wedi eu crybwyll yng nghyd-destun yr M4. Nid oes gennyf unrhyw beth arall i'w ychwanegu at fy sylwadau i Rhun ap Iorwerth, ond, wrth gwrs, rydym nawr yn cynnwys Associated British Ports a'r porthladd yng Nghaerdydd, ac nid wyf wedi cael unrhyw gwynion o gwbl am unrhyw gynigion ynglŷn â chyswllt dwyreiniol y bae ganddynt hwy. Mae’n rhaid imi ddweud bod cytundeb ardderchog rhwng y ddwy ochr ar hyn, a bydd croeso mawr i’r llwybr hwn, i ymdrin â rhai o'r problemau yn ardal Caerdydd.
Can I say, in terms of the annual conference, one of the conference issues on youth entrepreneurship is the fact that there is a discussion going on about getting people together perhaps in a more systematic manner? We obviously have the competitions that we do with the youngsters, and they get together annually, and we might do more. We’ve got regional events for that, and we might do some more. So, that is certainly something that I will update on in the future. A gaf fi ddweud, o ran y gynhadledd flynyddol, mai un o faterion y gynhadledd ar entrepreneuriaeth ieuenctid yw'r ffaith bod trafodaeth yn mynd rhagddi ynglŷn â chael pobl at ei gilydd, efallai mewn ffordd fwy systematig? Yn amlwg, mae gennym y cystadlaethau yr ydym yn eu gwneud gyda'r bobl ifanc, ac maent yn dod at ei gilydd bob blwyddyn, a gallem wneud mwy. Mae gennym ddigwyddiadau rhanbarthol ar gyfer hynny, ac efallai y gwnawn fwy ohonynt. Felly, mae hynny'n sicr yn rhywbeth y gwnaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf amdano yn y dyfodol.
In terms of the airport, I’m very conscious as well that, obviously, Members will be having a briefing on the airport tomorrow, and I’ll be more than happy to update in due course on matters that are relevant to us as a Government in the airport, but, of course, you would accept that the airport is managed by an arm’s-length company. But, it is important to look at the various issues around linking Cardiff airport and other airports that are in Wales, and how we utilise those in the future if we need to do so. So, I think there is a piece of work to do there in looking at the evidence there. O ran y maes awyr, rwy'n ymwybodol iawn hefyd, yn amlwg, y bydd yr Aelodau’n cael sesiwn friffio ar y maes awyr yfory, a byddaf yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf maes o law am faterion sy'n berthnasol inni fel Llywodraeth yn y maes awyr, ond, wrth gwrs, byddech yn derbyn bod y maes awyr yn cael ei reoli gan gwmni hyd braich. Ond, mae'n bwysig edrych ar y gwahanol faterion sy’n ymwneud â chysylltu maes awyr Caerdydd a meysydd awyr eraill sydd yng Nghymru, a sut y byddwn yn gwneud defnydd o’r rheini yn y dyfodol os bydd angen gwneud hynny. Felly, rwyf yn meddwl bod gwaith i'w wneud yn hynny o beth i edrych ar y dystiolaeth sydd yno.
Can I say, what is very important, I think, is some of the points, in terms of these reports, about moving the agenda forward? I know that, sometimes, they are very slow moves, and they seem quite slow, but there has been progress in the agenda for these issues as a result of the work we’ve undertaken on the back of the committee’s reports. If Members have found it useful, I’ll be more than happy to continue with this way of updating Members on the reports that have come through in my portfolio, as I think it’s useful for Members to be aware of the progress that has been undertaken. A gaf fi ddweud mai’r hyn sy'n bwysig iawn, yn fy marn i, yw rhai o'r pwyntiau, o ran yr adroddiadau hyn, ynglŷn â symud yr agenda ymlaen? Gwn fod y rhain, weithiau, yn symudiadau araf iawn, ac maent yn ymddangos i fod yn eithaf araf, ond bu cynnydd yn yr agenda ar gyfer y materion hyn o ganlyniad i'r gwaith yr ydym wedi’i wneud o ganlyniad i adroddiadau'r pwyllgor. Os yw Aelodau wedi ei weld yn ddefnyddiol, byddaf yn fwy na pharod i barhau i ddiweddaru'r Aelodau fel hyn am yr adroddiadau sydd wedi ymddangos yn fy mhortffolio, gan fy mod yn credu ei bod yn ddefnyddiol i Aelodau fod yn ymwybodol o'r cynnydd sydd wedi'i wneud.
15:07 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you, Minister. Diolch, Weinidog.
4. Datganiad: Cryfhau Polisi Caffael 4. Statement: Strengthening Procurement Policy
Eitem 4: datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth—cryfhau polisi caffael. Galwaf ar Jane Hutt. Item 4: statement by the Minister for Finance and Government Business—strengthening procurement policy. I call on Jane Hutt.
15:07 - Jane Hutt
Diolch, Ddirprwy Lywydd. I published the Wales procurement policy statement in December 2012, and I’m pleased to deliver this update to outline how I am driving forward improvements through procurement in Wales. Last week saw an array of procurement events. This included the third national Procurement Week, culminating in the Welsh national procurement awards, and the first major Procurex conference in Wales was also held during the week. My commitment to supporting these prestigious events has helped shine a spotlight on, and raise the profile of, what has been achieved through public procurement in Wales. Delegates and presenters attended during Procurement Week from many countries across the world, including Australia, China, USA, Spain, Nigeria, South Africa and Canada. It was gratifying to learn from Procurement Week that our progressive policies, such as community benefits and the supplier qualification information database, are helping to shape the thinking of procurement leaders not only from around the UK, but from other parts of the world. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyhoeddais ddatganiad polisi caffael Cymru ym mis Rhagfyr 2012, ac rwy'n falch o gyflwyno’r diweddariad hwn i amlinellu sut yr wyf yn sbarduno gwelliannau drwy gaffael yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf gwelwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau caffael. Roedd hyn yn cynnwys y drydedd Wythnos Gaffael genedlaethol, a ddaeth i ben drwy gyflwyno gwobrau caffael cenedlaethol Cymru, a hefyd cynhaliwyd y gynhadledd Procurex fawr gyntaf yng Nghymru yn ystod yr wythnos. Mae fy ymrwymiad i gefnogi’r digwyddiadau mawr eu bri hyn wedi helpu i dynnu sylw at yr hyn a gyflawnwyd drwy gaffael cyhoeddus yng Nghymru, a chodi ei broffil. Bu cynadleddwyr a chyflwynwyr yn bresennol yn ystod Wythnos Gaffael o lawer o wledydd ledled y byd, gan gynnwys Awstralia, Tsieina, yr Unol Daleithiau, Sbaen, Nigeria, De Affrica a Chanada. Roedd yn braf dysgu oddi wrth Wythnos Gaffael bod ein polisïau blaengar, megis budd-daliadau cymunedol a'r gronfa ddata gwybodaeth cymwysterau cyflenwyr, yn helpu i lunio ffordd o feddwl arweinwyr caffael, nid yn unig o bob cwr o'r DU, ond o rannau eraill o'r byd hefyd.
As I outlined in a Government debate in December, I have a clear vision for developing Welsh Government policy and support to enable the wider public sector and its suppliers to drive value from procurement, for the economic and social benefit of businesses and communities in Wales. Following discussion with the UK Government, I am confident that the Welsh Government will soon be granted a general designation on public procurement. This designation will put our policies on a much stronger footing, and adoption will be required through regulation. Securing designation will ensure Wales is able to maximise the impact of the new EU directives. Fel yr amlinellais mewn dadl yn y Llywodraeth ym mis Rhagfyr, mae gen i weledigaeth glir ar gyfer datblygu polisïau a chymorth Llywodraeth Cymru i alluogi'r sector cyhoeddus ehangach a'i gyflenwyr i gael gwerth o gaffael, er lles economaidd a chymdeithasol i fusnesau a chymunedau yng Nghymru. Yn dilyn trafodaeth gyda Llywodraeth y DU, rwy'n hyderus y bydd Llywodraeth Cymru yn fuan yn cael dynodiad cyffredinol ar gaffael cyhoeddus. Bydd y dynodiad hwn yn rhoi sylfaen lawer cryfach i’n polisïau, a bydd angen eu mabwysiadu drwy reoleiddio. Bydd sicrhau dynodiad yn sicrhau bod Cymru'n gallu gwneud y mwyaf o effaith cyfarwyddebau newydd yr UE.
As part of the ongoing transformation of public procurement, I launched the eTrading Wales e-procurement programme last week. This initiative is a key part of Value Wales’s five-year eProcurement service strategy, which will enable the Welsh public sector to get more value for the Welsh pound by using the internet to trade more efficiently. Through this programme, I’m providing public bodies in Wales with centrally funded access to e-trading technology, as well as a structured two-year change programme to accelerate engagement with the service. Also, eTrading Wales is another example of how we’re leading the way in Wales. The programme is unprecedented in scale and will improve the capability of the public sector and business to utilise this technology. The programme has been developed to support other initiatives across the Welsh Government. The national procurement service—the NPS—which I launched in November of last year, will use eTrading Wales as the primary mechanism for providing public bodies with access to its collaborative contracts. This means that public bodies can assure themselves that they can purchase best-value solutions and will help deliver the annual £25 million of savings that will be delivered through the NPS. I am pleased to see the programme begin to embed itself across the health service and local government, and also organisations such as the Wales Council for Voluntary Action—early adopters of the service achieving rapid change from paper-based systems to full online e-trading capability. I will be writing to public sector leaders across Wales to urge them to make full use of this service. Our procurement board, chaired by the chief executive of Newport City Council, Will Godfrey, will be monitoring adoption of this programme. Yn rhan o weddnewid parhaus caffael cyhoeddus, lansiais y rhaglen e-gaffael eFasnachu Cymru yr wythnos diwethaf. Mae'r fenter hon yn rhan allweddol o strategaeth gwasanaeth eGaffael pum mlynedd Gwerth Cymru, a fydd yn galluogi'r sector cyhoeddus yng Nghymru i gael mwy o werth am y bunt Gymreig drwy ddefnyddio'r rhyngrwyd i fasnachu’n fwy effeithlon. Drwy'r rhaglen hon, rwyf yn rhoi mynediad a ariennir yn ganolog i gyrff cyhoeddus yng Nghymru at dechnoleg e-fasnachu, yn ogystal â rhaglen newid dwy flynedd strwythuredig i gyflymu'r ymgysylltu â'r gwasanaeth. Hefyd, mae eFasnachu Cymru’n enghraifft arall o sut yr ydym yn arwain y ffordd yng Nghymru. Mae'r rhaglen yn ddigynsail o ran ei maint a bydd yn gwella gallu'r sector cyhoeddus a busnesau i ddefnyddio'r dechnoleg hon. Mae'r rhaglen wedi ei datblygu i gefnogi mentrau eraill ar draws Llywodraeth Cymru. Bydd y gwasanaeth caffael cenedlaethol—a lansiais ym mis Tachwedd y llynedd, yn defnyddio eFasnachu Cymru fel mecanwaith sylfaenol i ddarparu eu contractau cydweithredol i gyrff cyhoeddus. Mae hyn yn golygu y gall cyrff cyhoeddus sicrhau eu hunain eu bod yn gallu prynu datrysiadau gwerth gorau a bydd yn helpu i gyflawni £25 miliwn o arbedion blynyddol a gyflawnir drwy’r gwasanaeth caffael cenedlaethol. Rwy'n falch o weld y rhaglen yn dechrau ymwreiddio ei hun ar draws y gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol, a hefyd mewn sefydliadau megis Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru—a fabwysiadodd y gwasanaeth yn gynnar i gyflawni newid cyflym o systemau papur i allu e-fasnachu’n llawn ar-lein. Byddaf yn ysgrifennu at arweinwyr y sector cyhoeddus ledled Cymru i’w hannog i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn yn llawn. Bydd ein bwrdd caffael, o dan gadeiryddiaeth prif weithredwr Cyngor Dinas Casnewydd, Will Godfrey, yn monitro mabwysiadu'r rhaglen hon.
I have also ensured that the eTrading Wales programme has been developed to help Welsh public sector suppliers. Through the programme, suppliers are provided with free-of-charge expert e-enablement services, which will help transform business processes. This will help our smaller, more local suppliers adopt business improvements that will support their aspirations of winning work not only from the Welsh public sector, but further afield. Small microbusinesses, including, for example, a local milk supplier to Rhondda Cynon Taf County Borough Council, have been able to develop capability to submit invoices electronically, eliminating time and cost from their business operations. Rwyf hefyd wedi sicrhau bod rhaglen eFasnachu Cymru wedi'i datblygu i helpu cyflenwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Drwy'r rhaglen, mae cyflenwyr yn cael gwasanaethau e-alluogi arbenigol yn rhad ac am ddim, a fydd yn helpu i weddnewid prosesau busnes. Bydd hyn yn helpu ein cyflenwyr llai, mwy lleol i fabwysiadu gwelliannau busnes a fydd yn ategu eu dyheadau o ennill gwaith, nid yn unig o’r sector cyhoeddus yng Nghymru, ond o bellach i ffwrdd. Mae microfusnesau bach, gan gynnwys, er enghraifft, cyflenwr llaeth lleol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, wedi gallu datblygu gallu i gyflwyno anfonebau yn electronig, gan ddileu amser a chost o’u gweithrediadau busnes.
Furthermore, eTrading Wales provides the common technology platform that is integral to collaborative procurement. We will use the lessons learned to help support the development of our shared-services programme, which will be fundamental to public service reform in Wales. The groundbreaking work that is already under way on eTrading Wales is part of an overall e-procurement service, including centrally funded e-sourcing services, provided through my Value Wales team. The service means that public bodies in Wales have all been provided with a head start in working towards compliance with the mandatory requirement for the use of e-procurement by 2018, as introduced by the new EU procurement directives. Yn ogystal, mae eFasnachu Cymru yn darparu'r llwyfan technoleg cyffredin sy'n rhan annatod o gaffael cydweithredol. Byddwn yn defnyddio'r gwersi a ddysgwyd i helpu i gefnogi'r gwaith o ddatblygu ein rhaglen rhannu gwasanaethau, a fydd yn hanfodol i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r gwaith arloesol sydd eisoes ar y gweill ar eFasnachu Cymru yn rhan o wasanaeth e-gaffael cyffredinol, sy’n cynnwys gwasanaethau e-gyrchu a ariennir yn ganolog ac a ddarperir drwy fy nhîm Gwerth Cymru. Mae'r gwasanaeth yn golygu bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru i gyd wedi cael cyfle i achub y blaen wrth weithio tuag at gydymffurfio â'r gofyniad gorfodol i ddefnyddio e-gaffael erbyn 2018, fel a gyflwynwyd gan gyfarwyddebau caffael newydd yr UE.
The provision of e-procurement services is also supporting the national procurement service in making its contract opportunities accessible to smaller, more local suppliers. For example, last month, NPS awarded a framework for general building materials, with a value of over £11 million per annum. I am pleased that over 60 per cent of suppliers awarded a place on the framework are based in Wales, and over 53 per cent of these are SMEs. The remainder of the suppliers have Welsh depots and will work with NPS to deliver employment and training opportunities throughout Wales. Similarly impressive results have been achieved on the print and resource efficiency framework agreements. Mae darparu gwasanaethau e-gaffael hefyd yn cefnogi'r gwasanaeth caffael cenedlaethol i ddarparu ei gyfleoedd contract i gyflenwyr llai, mwy lleol. Er enghraifft, y mis diwethaf, dyfarnodd y gwasanaeth caffael cenedlaethol fframwaith ar gyfer defnyddiau adeiladu cyffredinol sydd werth dros £11 miliwn y flwyddyn. Rwyf yn falch bod dros 60 y cant o’r cyflenwyr a enillodd le ar y fframwaith wedi’u lleoli yng Nghymru, ac mae dros 53 y cant o'r rhain yn fusnesau bach a chanolig eu maint. Mae gan weddill y cyflenwyr ganolfannau yng Nghymru a byddant yn gweithio gyda’r gwasanaeth caffael cenedlaethol i gyflwyno cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ledled Cymru. Mae canlyniadau yr un mor drawiadol wedi'u cyflawni ar y cytundebau fframwaith effeithlonrwydd print ac adnoddau.
In addition to the technical procurement support I am providing to the wider public sector, I am continuing to implement new policies that deliver wider economic and social benefits for Wales. The joint bidding policy, which promotes approaches for smaller businesses and third sector organisations to collaborate to win larger contracts, is having a positive impact. I’m delighted that Allied Construction Consortium Ltd, made up of four Wales-based SMEs, has won a place on a £21 million external works framework agreement awarded by Caerphilly County Borough Council. I will promote the lessons learned from this initiative so that others may benefit from the experience. Yn ogystal â’r gefnogaeth caffael technegol yr wyf yn ei darparu i'r sector cyhoeddus ehangach, rwyf yn parhau i roi polisïau newydd ar waith sy'n sicrhau manteision economaidd a chymdeithasol ehangach i Gymru. Mae'r polisi cynnig ar y cyd, sy'n hyrwyddo ffyrdd i fusnesau llai a sefydliadau'r trydydd sector gydweithio i ennill contractau mwy o faint, yn cael effaith gadarnhaol. Rwyf wrth fy modd bod Allied Construction Consortium Ltd, sy’n cynnwys pedwar busnes bach a chanolig a leolir yng Nghymru, wedi ennill lle ar gytundeb fframwaith gwaith allanol gwerth £21 miliwn a ddyfarnwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Byddaf yn hyrwyddo'r gwersi a ddysgwyd o'r fenter hon er mwyn i eraill gael elwa ar y profiad.
In addition, earlier this month, with the support of the trade unions, I launched a new procurement advice note to require fair employment practices for employees engaged in delivery of public sector construction contracts. I have issued this to the Welsh public sector, and I expect it to have the same impact as the guidance I issued in 2013 on blacklisting. Yn ogystal, yn gynharach y mis hwn, gyda chefnogaeth yr undebau llafur, lansiais nodyn cyngor caffael newydd i fynnu arferion cyflogaeth teg i gyflogeion sy'n ymwneud â chyflenwi contractau adeiladu yn y sector cyhoeddus. Rwyf wedi cyhoeddi hwn i sector cyhoeddus Cymru, ac rwyf yn disgwyl y caiff yr un effaith â’r canllawiau a gyhoeddais yn 2013 ar gosbrestru.
So, to conclude, the Welsh Government is continuing to show strong leadership on public procurement for the public sector in Wales. Our progressive policies are now being followed elsewhere in the UK and across the world. Our approaches are having a positive effect on the economy and people of Wales. As I announced in December, Wales-based suppliers now win 55 per cent of our overall expenditure, compared with a baseline of 35 per cent. I will provide a further update on progress in securing the general designation on public procurement after Easter, which will result in a revised Wales procurement policy statement to build on the developments I have outlined today. Felly, i gloi, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddangos arweiniad cryf ym maes caffael cyhoeddus ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae ein polisïau blaengar bellach yn cael eu dilyn mewn mannau eraill yn y DU a ledled y byd. Mae ein dulliau’n cael effaith gadarnhaol ar economi a phobl Cymru. Fel y cyhoeddais ym mis Rhagfyr, mae cyflenwyr a leolir yng Nghymru bellach yn ennill 55 y cant o'n gwariant cyffredinol, o'i gymharu â llinell sylfaen o 35 y cant. Byddaf yn darparu diweddariad pellach am y cynnydd o ran sicrhau’r dynodiad cyffredinol ar gaffael cyhoeddus ar ôl y Pasg, a fydd yn arwain at ddatganiad polisi caffael diwygiedig i Gymru i adeiladu ar y datblygiadau yr wyf wedi'u hamlinellu heddiw.
15:14 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you, Minister. I have a lot of Members who hope to be called, so a slightly less discursive approach to this statement would be most welcome. Nick Ramsay. Diolch, Weinidog. Mae gen i lawer o Aelodau sy'n gobeithio cael eu galw, felly byddwn yn falch iawn pe byddent rywfaint yn llai amleiriog wrth ymateb i'r datganiad hwn. Nick Ramsay.
15:14 - Nick Ramsay
I get the message, Deputy Presiding Officer, so I’ll be brief. Can I thank the Minister today for her update on procurement? As the Minister alluded to, the yearly figure for Welsh Government expenditure in Wales is approximately £4.3 billion on goods and services, spending around a third of Wales’s total gross value added, so we fully accept, on this side of the Chamber, the importance of getting this right. Procurement isn’t always the first thing on people’s minds, Minister, but it should certainly be up there, because, if we can get that right, then we can get other aspects of the economy right as well. Rwy'n deall y neges, Ddirprwy Lywydd, felly byddaf yn gryno. A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog heddiw am ei diweddariad am gaffael? Fel y cyfeiriodd y Gweinidog ato, mae ffigur blynyddol gwariant Llywodraeth Cymru yng Nghymru oddeutu £4.3 biliwn ar nwyddau a gwasanaethau, sy’n golygu ei bod yn gwario tua thraean o gyfanswm gwerth ychwanegol gros Cymru, felly rydym yn derbyn yn llwyr, ar yr ochr hon i'r Siambr, ei bod yn bwysig gwneud hyn yn iawn. Nid caffael yw’r peth cyntaf ar feddyliau pobl bob amser, Weinidog, ond dylai’n sicr fod yn un o’r pethau cyntaf, oherwydd, os gallwn gael hynny'n iawn, gallwn gael agweddau eraill ar yr economi yn iawn hefyd.
It’s most important that you do make best use of the expenditure, also ensuring value for money. So, can you elaborate more on how you intend to get value for money out of all of the schemes that you’ve mentioned here today? I think we would appreciate some more detail on that and also on how you take into account wider economic and environmental considerations of procurement. It’s easy enough to look purely at the financial aspect of it, and that is obviously the important part of it, but there’s also the environmental side to it as well; sustainability should be at the heart of what we’re doing here. Mae'n bwysig iawn eich bod yn defnyddio’r gwariant yn y ffordd orau bosibl, a hefyd yn sicrhau gwerth am arian. Felly, a allwch chi fanylu mwy ar sut yr ydych yn bwriadu cael gwerth am arian allan o bob un o'r cynlluniau yr ydych wedi’u crybwyll yma heddiw? Rwyf yn meddwl y byddem yn gwerthfawrogi ychydig mwy o fanylion am hynny, a hefyd am sut yr ydych yn ystyried materion ehangach economaidd ac amgylcheddol yn ymwneud â chaffael. Mae'n ddigon hawdd edrych ar yr agwedd ariannol arno yn unig, ac mae hynny'n amlwg yn rhan bwysig ohono, ond mae ochr amgylcheddol iddo hefyd; dylai cynaliadwyedd fod wrth wraidd yr hyn yr ydym yn ei wneud yma.
At the end of last year, we debated the impact of procurement policy in Wales, and I made the point then that public procurement is a crucial piece of the Welsh economic jigsaw. How do we develop this policy? This needs to be regularly scrutinised if the Government is to fully strengthen the role of procurement as a tool for stimulating economic growth. So, whilst we welcome today’s statement, could we have a commitment to future updates on this, on all the aspects that you’ve mentioned, to make sure that we are not taking our eye off the ball? Ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, buom yn trafod effaith polisi caffael yng Nghymru, a gwnes y pwynt bryd hynny bod caffael cyhoeddus yn ddarn hanfodol o jig-so economaidd Cymru. Sut ydym ni am ddatblygu’r polisi hwn? Mae angen craffu’n rheolaidd ar hyn er mwyn i’r Llywodraeth gryfhau prosesau caffael yn llawn fel arf i ysgogi twf economaidd. Felly, er ein bod yn croesawu datganiad heddiw, a gawn ni ymrwymiad i roi diweddariadau yn y dyfodol am hyn, am yr holl agweddau yr ydych wedi sôn amdanynt, i wneud yn siŵr ein bod yn parhau i gadw llygad ar y mater?
On the whole, the launch of the Wales procurement policy statement in 2012 was certainly a step in the right direction in order for improvements to be made to the procurement system. We are three years on, so you would expect there to be a level of progress, but we would appreciate an indication, a stronger indication, of the exact ways that there’s going to be progress over the years to come. The McClelland review helped to develop a set of principles that would support the Welsh economy and deliver value for money. While there have been some positive effects since 2012, I’m sure you’d agree with me that there is still a lot of work to be done. Ar y cyfan, roedd lansiad datganiad polisi caffael Cymru yn 2012 yn sicr yn gam i'r cyfeiriad cywir er mwyn gwneud gwelliannau i'r system gaffael. Mae tair blynedd wedi mynd heibio, felly byddech yn disgwyl rhywfaint o gynnydd, ond byddem yn gwerthfawrogi arwydd, arwydd cryfach, o'r union ffyrdd y bydd cynnydd yn cael ei wneud dros y blynyddoedd i ddod. Roedd adolygiad McClelland yn helpu i ddatblygu set o egwyddorion a fyddai'n cefnogi economi Cymru a darparu gwerth am arian. Er y cafwyd rhai effeithiau cadarnhaol ers 2012, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi bod llawer o waith i'w wneud o hyd.
You’ve stated that a programme of fitness checks is under way, but could you inform me of how you intend to make sure that those fitness checks themselves are monitored to make sure that, as I said before, we don’t take our eye off the ball on this? Key to all of this, as I’m sure my colleague, Janet Finch-Saunders is going to allude to in her questions to you, is how local authorities carry forward procurement, for they truly are large procuring agencies within Wales. It’s not always been got right in the past, so, if you could keep us briefed on how you’re updating local authorities to make sure that they are fully up to date in implementing Welsh Government policy so that we do get the most environmental, economic and value-for-money procurement principles operating in Wales now and in the future. Rydych wedi datgan bod rhaglen o wiriadau ffitrwydd ar y gweill, ond a allech chi roi gwybod imi sut yr ydych yn bwriadu sicrhau bod y gwiriadau ffitrwydd hynny eu hunain yn cael eu monitro i sicrhau, fel y dywedais o'r blaen, ein bod yn cadw llygad ar y mater hwn? Y mater allweddol yn hyn i gyd, fel yr wyf yn siŵr y bydd fy nghydweithiwr, Janet Finch-Saunders yn cyfeirio ato yn ei chwestiynau i chi, yw sut y mae awdurdodau lleol yn cyflawni caffael, oherwydd maent hwy’n asiantaethau caffael gwirioneddol fawr o fewn Cymru. Nid yw hyn bob amser wedi cael ei wneud yn iawn yn y gorffennol, felly, pe gallech barhau i’n briffio ynglŷn â sut yr ydych yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i awdurdodau lleol i wneud yn siŵr eu bod yn gwbl gyfoes o ran gweithredu polisi Llywodraeth Cymru fel ein bod yn defnyddio’r egwyddorion caffael gorau o ran yr amgylchedd, yr economi a gwerth am arian yng Nghymru yn awr ac yn y dyfodol.
15:17 - Jane Hutt
I thank Nick Ramsay very much for his constructive contribution and questions this afternoon. I do really value the scrutiny and the interest across this Chamber in terms of the importance of public procurement. In terms of the points that you raised, particularly in relation to value for money and ensuring that we’ve got the capability and the consistency—. You mentioned the importance of the consistency to be delivered across, for example, local government in terms of delivering value for money. On the procurement fitness check programme, in fact, the way in which we’ve taken this forward, we’ve completed all of the local authority fitness checks and those of NHS Wales. That’s been published on the procurement route planner. Fitness checks for higher education, for example, will conclude this month. I think that several common themes have been identified through the fitness checks, which include the need to increase collaboration, adopt e-procurement practices—and I’ve talked a lot about that this afternoon—and the need to develop professional procurement staff, and that’s where the role and the place of our HomeGrown Talent project has been very successful and was acknowledged last week at the conference that was held as part of Procurement Week, 28 trainees having been provided with that structured support to attain professional procurement qualifications, acquiring practical experience and skills. Diolch yn fawr iawn i Nick Ramsay am ei gyfraniad a’i gwestiynau adeiladol y prynhawn yma. Rwyf wirioneddol yn gwerthfawrogi'r gwaith craffu a'r diddordeb ar draws y Siambr hon o ran pwysigrwydd caffael cyhoeddus. O ran y pwyntiau a godwyd gennych, yn enwedig o ran gwerth am arian a sicrhau bod gennym y gallu a'r cysondeb—. Soniasoch am bwysigrwydd sicrhau’r cysondeb ar draws, er enghraifft, llywodraeth leol o ran sicrhau gwerth am arian. O ran y rhaglen gwiriad ffitrwydd i gaffael, a dweud y gwir, o ran y ffordd yr ydym wedi bwrw ymlaen â hyn, rydym wedi cwblhau gwiriadau ffitrwydd pob un o'r awdurdodau lleol a rhai GIG Cymru. Mae hynny wedi ei gyhoeddi ar y canllaw cynllunio caffael. Bydd gwiriadau ffitrwydd ar gyfer addysg uwch, er enghraifft, yn dod i ben y mis hwn. Credaf fod nifer o themâu cyffredin wedi eu nodi drwy'r gwiriadau ffitrwydd, sy'n cynnwys yr angen i gydweithio mwy, mabwysiadu arferion e-gaffael—ac rwyf wedi siarad llawer am hynny y prynhawn yma—a'r angen i ddatblygu staff caffael proffesiynol, a dyna lle bu swyddogaeth a lle ein prosiect Doniau Cymru yn llwyddiannus iawn, a chafodd hynny ei gydnabod yr wythnos diwethaf yn y gynhadledd a gynhaliwyd yn rhan o Wythnos Gaffael. Roedd 28 o hyfforddeion wedi cael y cymorth wedi'i strwythuro hwnnw i gyflawni cymwysterau caffael proffesiynol, gan fagu profiad ymarferol a sgiliau.
You also talked about the importance of environmental issues and impacts, as well as economic and social. Of course, we do have the sustainable risk assessment that ensures that sustainability issues are addressed before the procurement process begins. The SRA tool, in fact, does include sections to assess factors highlighted by the BES 6001 standard, but also our community benefits policy does enable public bodies to use procurement to deliver sustainable outcomes, as well as delivering supply chain opportunities. I’m sure that you will have seen, as I have, on visiting a building site where twenty-first century schools, for example, are being constructed to learn about the environmental impacts in terms of sustainable risk assessment, as well as the community benefit. So, I do believe that we are addressing these issues consistently. Soniasoch hefyd am bwysigrwydd materion ac effeithiau amgylcheddol, yn ogystal â rhai economaidd a chymdeithasol. Wrth gwrs, mae gennym yr asesiad risg cynaliadwy sy'n sicrhau bod materion cynaliadwyedd yn cael sylw cyn i’r broses gaffael ddechrau. Mae'r offeryn SRA, mewn gwirionedd, yn cynnwys adrannau i asesu ffactorau a amlygir gan y safon BES 6001, ond mae ein polisi buddion cymunedol hefyd yn galluogi cyrff cyhoeddus i ddefnyddio caffael i sicrhau canlyniadau cynaliadwy, yn ogystal â sicrhau cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi. Rwy'n siŵr y byddwch wedi gweld, fel yr wyf finnau, wrth ymweld â safle adeiladu lle mae ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, er enghraifft, yn cael eu hadeiladu i ddysgu am effeithiau amgylcheddol o ran asesu risg cynaliadwy, yn ogystal â'r budd i’r gymuned. Felly, rwyf yn credu ein bod yn ymdrin â'r materion hyn mewn modd cyson.
It’s very helpful to have a procurement board chaired by a chief executive of a local authority, but engaging with the health service, the police, fire service and across the public sector, including higher education and further education, all working together in terms of the public sector. Of course, that’s reflected in the national procurement service. I will come back with our refreshed public procurement policy statement as we move forward in terms of the designation that we’re awaiting from the UK Government. Mae'n ddefnyddiol iawn cael bwrdd caffael sydd wedi’i gadeirio gan brif weithredwr awdurdod lleol, ond sy’n ymgysylltu â'r gwasanaeth iechyd, yr heddlu, y gwasanaeth tân ac ar draws y sector cyhoeddus, gan gynnwys addysg uwch ac addysg bellach, i gyd yn gweithio gyda'i gilydd o ran y sector cyhoeddus. Wrth gwrs, mae’r gwasanaeth caffael cenedlaethol yn adlewyrchu hynny. Dof yn ôl gyda'n datganiad polisi caffael cyhoeddus newydd wrth inni symud ymlaen o ran y dynodiad yr ydym yn aros amdano gan Lywodraeth y DU.
15:20 - Alun Ffred Jones
Diolch yn fawr am y datganiad. Mae’r datganiad hwn yn un arall mewn cyfres faith o rai ar y maes yma, maes sydd yn allweddol, wrth gwrs, i hybu a llwyddiant economi Cymru. Thank you very much for the statement. This statement is another in a lengthy series of statements on this particular area, which is a crucial area, of course, for the promotion and success of the Welsh economy.
Rwy’n nodi fod y Gweinidog wedi bod yn brysur iawn yn y maes, ond ein gwaith ni, ar y llaw arall, yw ceisio deall beth yn union sydd yn digwydd. Felly, i droi at y cwestiynau, y ffigur diweddaraf gen i, mae’n rhaid i mi ddweud, oedd bod 52 y cant o werth tendrau cyhoeddus yn cael eu hennill gan gwmnïau o Gymru, ac fe gyhoeddwyd y ffigur hwnnw yn 2012. Yn y datganiad yma, y ffigur ydy 55 y cant, ac mae hwnnw wedi cael ei gladdu yn niwedd y datganiad. Felly, a ydy’r Gweinidog yn teimlo bod cynnydd o tua 1 y cant y flwyddyn yn ddigonol, o gofio’r holl weithgarwch sydd yn digwydd ac sydd wedi ei nodi yn y datganiad yma? I note that the Minister has been very busy in this area, but our work, on the other hand, is to try and understand exactly what is happening. So, to turn to my questions, the latest figure I have, I have to say, was that 52 per cent of the value of public tenders were awarded to Welsh companies, and that figure was published in 2012. In this statement, the figure is 55 per cent, and that is buried at the end of the statement. So, does the Minister feel that progress of some 1 per cent a year is sufficient, given all of the activity that has happened and that is noted in this statement?
Yn ail, byddwn yn gwerthfawrogi pe bai’r Gweinidog yn gallu cyhoeddi map sy’n dangos lleoliad y cwmnïau sydd wedi bod yn llwyddiannus yn ennill tendrau cyhoeddus, achos mae’n bwysig ein bod ni’n sicrhau bod y tendrau yma yn cael eu hennill gan gwmnïau ar hyd a lled Cymru, wrth gwrs, er lles gwahanol gymunedau? Secondly, I would appreciate it if the Minister could publish a map showing the location of those companies that have been successful in gaining public tenders, because it is important that we do ensure that these tenders are won by companies the length and breadth of Wales, of course, for the benefit of various communities?
Un cwestiwn arall sy’n codi o’r ffigur yma o 55 y cant erbyn hyn ydy sut mae sicrhau bod y cwmnïau llwyddiannus o Gymru wedi eu seilio mewn gwirionedd yng Nghymru, achos mae yna arfer cyffredin bellach i gwmnïau mawr o’r tu allan i Gymru brynu cwmnïau llai sydd wedi eu lleoli yma a defnyddio’r cyfeiriad Cymreig wrth dendro. Faint o fonitro sydd yn digwydd, Weinidog, i sicrhau dilysrwydd y ffigurau? One further question arising from that figure of 55 per cent is how do we ensure that the successful Welsh companies are truly based in Wales, because it is common practice now for major companies from outwith Wales to purchase smaller companies rooted here and to use that Welsh address in submitting tenders. How much monitoring happens, Minister, to actually validate those figures?
Ac yn olaf, nid oes neb yn amau bwriad polisi’r Llywodraeth, ond ar y ddaear mae canfyddiad fod y broses yn aml yn fwy o rwystr nag o help i rai cwmnïau. Felly, mae yna ffordd bell i fynd, ond, cyn y gallwn ni fesur llwyddiant neu aflwyddiant y broses yma, mae’n rhaid i ni gael gymaint o ffeithiau ag sy’n bosibl. Felly, a allwch chi sicrhau bod y manylion rydych yn cyfeirio atyn nhw yn y datganiad yma yn rhai cyhoeddus ac ar wefan y Llywodraeth, i ni gael dadansoddiad manwl o’r llwyddiannau yn y gwahanol agweddau rydych yn cyfeirio atynt yn eich datganiad? Diolch yn fawr. And finally, nobody doubts the policy direction of Government, but there is a perception on the ground that the process is often more of a barrier than of assistance to some companies. So, we have a long way to go, but, before we can actually measure the success or otherwise of this process, we need as many facts as possible. So, can you ensure that the details that you refer to in this statement are made public and available on the Welsh Government website, so that we can have a detailed analysis of the success in the various aspects that you refer to in your statement? Thank you.
15:23 - Jane Hutt
Diolch yn fawr, Alun Ffred Jones, for that. As I said, I hope you welcome the fact that I come to the Chamber on a regular basis to ensure that I can update, and also learn from and benefit from the scrutiny that is undertaken, not just here but at committee level as well. I do want to confirm again that I announced in December that our latest assessment is that Wales-based suppliers now win 55 per cent of our overall expenditure, compared with a baseline of 35 per cent. Of course, we are awaiting the outcome of the assessment that’s taking place as well, so I will bring that back to the Assembly as soon as that has been completed. Diolch yn fawr, Alun Ffred Jones, am hynny. Fel y dywedais, rwyf yn gobeithio eich bod yn croesawu'r ffaith fy mod yn dod i'r Siambr yn rheolaidd i sicrhau fy mod yn gallu eich diweddaru, a hefyd i ddysgu oddi wrth y craffu a wneir ac elwa arno, nid yn unig yma ond ar lefel y pwyllgor hefyd. Hoffwn gadarnhau unwaith eto fy mod wedi cyhoeddi ym mis Rhagfyr mai ein hasesiad diweddaraf yw bod cyflenwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru bellach yn ennill 55 y cant o gyfanswm ein gwariant, o'i gymharu â llinell sylfaen o 35 y cant. Wrth gwrs, rydym yn disgwyl am ganlyniad yr asesiad sy'n cael ei gynnal hefyd, felly byddaf yn dod â hwnnw’n ôl i'r Cynulliad cyn gynted ag y bydd wedi’i gwblhau.
I think it is important to recognise that we are addressing the barriers. You recognise that this has been an issue in terms of those who are keen to play their part and to benefit from our public procurement policy, and we are addressing the barriers. One example is the SQuID, which I mentioned, which is now in widespread use—the simplifying pre-qualification helping to support smaller suppliers to succeed—and the way in which we’re integrating SQuID with our e-procurement tools. For example, we can see now that suppliers have stored over 200,000 pre-qualification responses for future reuse, cutting the cost of doing business with the public sector in Wales. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod ein bod yn mynd i’r afael â'r rhwystrau. Rydych yn cydnabod bod hyn wedi bod yn broblem o ran y rhai sy'n awyddus i chwarae eu rhan ac i elwa ar ein polisi caffael cyhoeddus, ac rydym yn mynd i'r afael â'r rhwystrau. Un enghraifft yw'r SQuID, y soniais amdano, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio’n eang—y rhag-gymhwyster symleiddio sy’n helpu i gynorthwyo cyflenwyr llai i lwyddo—a'r ffordd yr ydym yn integreiddio SQuID yn ein dulliau e-gaffael. Er enghraifft, gallwn weld nawr bod cyflenwyr wedi storio dros 200,000 o ymatebion cyn-gymhwyso i’w hailddefnyddio yn y dyfodol, gan leihau cost cynnal busnes â’r sector cyhoeddus yng Nghymru.
We’re closely monitoring this, and now, for example, in the construction sector, Welsh contractors win 76 per cent of all major construction awards through Sell2Wales, and this is up from around 30 per cent prior to the introduction of the SQuID approach. The Federation of Master Builders commended our approach in this area in a report that they’ve produced. This is about simplifying procurement for contractors, enabling them to improve themselves as businesses, so that they can grow and win work beyond the Welsh public sector. I will certainly look at the prospect of producing some kind of map of where those contracts are won around Wales, and to make sure you can see the opportunities that have been gained as a result of the work we’ve taken forward. Rydym yn monitro hyn yn ofalus, a nawr, er enghraifft, yn y sector adeiladu, contractwyr o Gymru sy’n ennill 76 y cant o'r holl ddyfarniadau adeiladu mawr drwy GwerthwchiGymru, ac mae hyn i fyny o tua 30 y cant cyn cyflwyno'r dull SQuID. Mae Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr wedi canmol ein dull gweithredu yn y maes hwn mewn adroddiad a gynhyrchwyd ganddynt. Mae hyn yn fater o symleiddio caffael ar gyfer contractwyr, gan eu galluogi i’w gwella eu hunain fel busnesau, fel y gallant dyfu ac ennill gwaith y tu hwnt i'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Byddaf yn sicr yn edrych ar y posibilrwydd o gynhyrchu rhyw fath o fap o ble mae’r contractau hynny’n cael eu hennill o gwmpas Cymru, ac i wneud yn siŵr y gallwch weld y cyfleoedd sydd wedi eu hennill o ganlyniad i'r gwaith yr ydym wedi bwrw ymlaen ag ef.
If you look at SMEs now, the Wales procurement policy statement requires all contracts over £25,000 to be advertised on the Sell2Wales website to ensure that they’re open and accessible to SMEs, and 83 per cent of all contracts that are advertised on Sell2Wales are below the ‘Official Journal of the European Union’ threshold. So, making contracts suitable for smaller suppliers, and, of course, that’s crucial in terms of SMEs—. And, as I’ve said, we also not only assess the public expenditure on Welsh-based business—and I talk about Welsh-based businesses, not businesses that maybe have depots or offices in Wales. Of course, there are some specialist areas, particularly in areas like the health service, for example, where we don’t necessarily have that specialism available in our SMEs, but then, of course, in terms of the supply chain, they can ensure that SMEs benefit. So, I certainly will want to continue to come back to the Chamber to update and to assess, and not only analyse, but also report on the benefits and progress that we’re making in the Wales procurement policy arena. Os edrychwch ar fusnesau bach a chanolig yn awr, mae datganiad polisi caffael Cymru yn mynnu bod pob contract gwerth dros £25,000 yn cael ei hysbysebu ar wefan GwerthwchiGymru er mwyn sicrhau eu bod yn agored ac yn hygyrch i fusnesau bach a chanolig, ac mae 83 y cant o'r holl gontractau sy'n cael eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru yn is na throthwy 'Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd'. Felly, gwneud contractau’n addas i gyflenwyr llai, ac, wrth gwrs, mae hynny'n hanfodol o ran busnesau bach a chanolig—. Ac, fel yr wyf wedi’i ddweud, rydym hefyd, yn ogystal ag asesu'r gwariant cyhoeddus ar fusnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru—ac rwyf yn sôn am fusnesau sydd â’u pencadlys yng Nghymru, nid busnesau sydd efallai’n berchen ar ganolfannau neu swyddfeydd yng Nghymru. Wrth gwrs, ceir rhai meysydd arbenigol, yn enwedig mewn meysydd megis y gwasanaeth iechyd, er enghraifft, lle nad oes gennym o reidrwydd yr arbenigedd ar gael yn ein busnesau bach a chanolig, ond yna, wrth gwrs, o ran y gadwyn gyflenwi, gallant sicrhau bod busnesau bach a chanolig yn elwa. Felly, byddaf yn sicr eisiau parhau i ddod yn ôl i'r Siambr i ddiweddaru ac i asesu, ac nid dim ond i ddadansoddi, ond hefyd adrodd ar y buddion a'r cynnydd yr ydym yn eu gwneud ym maes polisi caffael Cymru.
15:27 - Mick Antoniw
Minister, as well as all the policies that you have and the EU regulations and so on, and all the success that’s been achieved with procurement, we’re now in an environment where we have our own legislation, the future generations Bill, that actually sets legal parameters in terms of the duty of public bodies, including the Welsh Government and so on, in respect of procurement within that legislation. As you know, there’s a very strong social justice element—decent employment, equality, as well as sustainability. How will that actually change, now, the approach of Welsh Government, and how will that Bill actually achieve yet even more positive procurement and ethical procurement, standards of living, and, hopefully, eventually moves towards a living wage? Weinidog, yn ogystal â'r holl bolisïau sydd gennych a rheoliadau'r UE ac yn y blaen, a'r holl lwyddiant sydd wedi ei gyflawni â chaffael, rydym nawr mewn amgylchedd lle mae gennym ein deddfwriaeth ein hunain, y Bil cenedlaethau'r dyfodol, sy’n gosod paramedrau cyfreithiol gwirioneddol o ran dyletswydd cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru ac yn y blaen, o ran caffael o fewn y ddeddfwriaeth honno. Fel y gwyddoch, mae elfen gref iawn o gyfiawnder cymdeithasol—cyflogaeth weddus, cydraddoldeb, yn ogystal â chynaliadwyedd. Sut y bydd hynny’n newid mewn gwirionedd, nawr, dulliau gweithredu Llywodraeth Cymru, a sut y bydd y Bil hwnnw mewn gwirionedd yn cyflawni hyd yn oed mwy o gaffael cadarnhaol a chaffael moesegol, safonau byw, a, gobeithio, yn y pen draw yn symud tuag at gyflog byw?
15:28 - Jane Hutt
I think we have real potential with the Well-being of Future Generations (Wales) Bill, and, of course, it’s going to help the further deployment of important procurement policies. I think, if you look at it in terms of the central organising principle of sustainable development, that’s long been integral to the development of procurement policies. In terms of the opportunities, the requirement within the Bill will be for public bodies to set and publish wellbeing objectives, and those will be supported through the use of the sustainability risk assessment—I mentioned that earlier on in response to a question from Nick Ramsay—and also the community benefits reporting tool, which, of course, has been successful in ensuring that we are making sure that we get public value and public benefit from our procurement policy in Wales. I think the issue around ethical procurement as well is at the heart, indeed, of the Welsh Government’s procurement practices, and that we, of course, in terms of taking this forward, can show how procurement can be used as a lever to influence businesses. I think we’ve demonstrated that with blacklisting—showing how they can behave responsibly—and now taking this action in terms of the new procurement advice note on fair employment practices operating on public-funded bodies and projects. Rwy'n meddwl bod gennym botensial gwirioneddol gyda Bil Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), ac, wrth gwrs, bydd yn helpu i ddefnyddio mwy ar bolisïau caffael pwysig. Rwyf yn credu, os ydych yn edrych arno o ran y brif egwyddor drefniadol o ddatblygu cynaliadwy, mae hynny wedi bod yn rhan annatod o ddatblygu polisïau caffael ers amser maith. O ran y cyfleoedd, un o ofynion y Bil fydd bod cyrff cyhoeddus yn pennu amcanion lles ac yn eu cyhoeddi, ac ategir y rheini drwy ddefnyddio’r asesiad risg cynaliadwyedd—soniais am hwnnw’n gynharach wrth ateb cwestiwn gan Nick Ramsay—a hefyd yr offeryn adrodd am fanteision cymunedol, sydd, wrth gwrs, wedi llwyddo i sicrhau ein bod yn gwneud yn siŵr ein bod yn cael gwerth cyhoeddus a budd cyhoeddus o’n polisi caffael yng Nghymru. Rwy'n meddwl bod caffael moesegol hefyd wrth wraidd, yn wir, arferion caffael Llywodraeth Cymru, ac y gallwn ni, wrth gwrs, o ran bwrw ymlaen â hyn, ddangos sut y gellir defnyddio caffael fel ysgogiad i ddylanwadu ar fusnesau. Rwy'n credu ein bod wedi dangos hynny gyda chosbrestru—wedi dangos sut y gallant ymddwyn yn gyfrifol—a nawr drwy gymryd y camau hyn o ran y nodyn cyngor caffael newydd ar arferion cyflogaeth teg sy'n gweithredu ar gyrff a phrosiectau a ariennir yn gyhoeddus.
15:29 - Peter Black
Minister, can I start by welcoming the emphasis on e-procurement in this statement. I know that when Swansea council started to use e-procurement many years ago now, they achieved quite substantial savings from that process, and it would be interesting if you could possibly publish wider details of how much e-procurement is being used by local government and other public services in Wales, so that we can assess for ourselves the impact it’s having on the Welsh public sector, and the sort of savings that are being made as a result of that. I would also be interested to know which bodies are lagging behind others in terms of making use of this particular method of acquiring goods and services. Weinidog, a gaf fi ddechrau drwy groesawu'r pwyslais ar e-gaffael yn y datganiad hwn? Gwn, pan ddechreuodd cyngor Abertawe ddefnyddio e-gaffael flynyddoedd lawer yn ôl erbyn hyn, ei fod wedi cyflawni arbedion eithaf sylweddol o'r broses honno, a byddai'n ddiddorol pe gallech efallai gyhoeddi manylion ehangach ynglŷn â faint o e-gaffael a ddefnyddir gan lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru, fel y gallwn asesu drosom ein hunain yr effaith y mae'n ei chael ar y sector cyhoeddus yng Nghymru, a'r math o arbedion sy'n cael eu gwneud o ganlyniad i hynny. Byddai gennyf ddiddordeb hefyd mewn cael gwybod pa gyrff sydd ar ei hôl hi o’u cymharu ag eraill o ran defnyddio'r dull penodol hwn o gaffael nwyddau a gwasanaethau.
If I could just return to the issue that I raised with you in your question time, I think, two weeks ago, in relation to small and medium-sized enterprises and, particularly, bidding for local government contracts, I note your response to Alun Ffred Jones in terms of the way you advertise procurement matters and particularly make sure that SMEs have access to advertising—the £25,000 plus et cetera. However, it does remain the case that a number of SMEs feel that they’re not able to bid for a substantial number of local government contracts because of the size of those contracts. I’m still hearing reports from businesses that I’ve spoken to that the size of local government contracts means that, often, they’re outside the reach of SMEs, which not only maybe don’t have the capacity to meet a particular procurement, but also, of course, aren’t able to access the capital they need to expand to meet that particular procurement target. So, I’d be interested to know what work is going on with local government and with health boards to try to make sure that services and goods that go out to tender are being advertised on a basis that means that SMEs in Wales are able to compete with bigger companies outside of Wales, and that we’re therefore able to keep as much of that business as possible within Wales. Os caf droi’n ôl at y mater a godais gyda chi yn eich sesiwn gwestiynau, rwyf yn meddwl, bythefnos yn ôl, ynglŷn â busnesau bach a chanolig ac, yn benodol, cynnig am gontractau llywodraeth leol, nodaf eich ymateb i Alun Ffred Jones o ran y ffordd yr ydych yn hysbysebu materion caffael ac yn enwedig wrth sicrhau bod hysbysebu ar gael i fusnesau bach a chanolig—y £25,000 a mwy ac ati. Fodd bynnag, mae'n dal i fod yn wir bod nifer o fusnesau bach a chanolig yn teimlo nad ydynt yn gallu gwneud cais am nifer sylweddol o gontractau llywodraeth leol oherwydd maint y contractau hynny. Rwy'n dal i glywed adroddiadau gan fusnesau yr wyf wedi siarad â hwy bod maint contractau llywodraeth leol yn golygu, yn aml, eu bod y tu hwnt i gyrraedd busnesau bach a chanolig, a hynny, efallai, am ddau reswm: nid ydynt yn ddigon mawr i allu cyflawni gwaith caffael penodol, ac, wrth gwrs, ni allant gael gafael ar y cyfalaf sydd ei angen arnynt i ehangu i fodloni’r targed caffael penodol hwnnw. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod pa waith sy'n cael ei wneud gyda llywodraeth leol a gyda byrddau iechyd i geisio sicrhau bod y gwasanaethau a’r nwyddau sy'n mynd allan i dendr yn cael eu hysbysebu ar sail sy'n golygu bod busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn gallu cystadlu â chwmnïau mwy y tu allan i Gymru, ac y gallwn felly gadw cymaint â phosibl o'r busnes hwnnw o fewn Cymru.
I notice also that the procurement board is chaired by a local government chief executive. I’m interested to what extent that procurement board is staffed with people on the other side of the fence—those who are representatives of businesses—and what experience and input they are making in terms of your procurement policies. Do they think that this is fit for purpose, and are the members of your procurement board giving you feedback on their experiences in dealing with the public sector in terms of bidding for contracts? Sylwaf hefyd fod y bwrdd caffael yn cael ei gadeirio gan brif weithredwr llywodraeth leol. Mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod i ba raddau y mae’r bwrdd caffael hwnnw wedi’i staffio â phobl o’r ochr arall i’r ffens—y rhai sy'n gynrychiolwyr busnesau—a pha brofiad a mewnbwn y maent yn ei wneud o ran eich polisïau caffael. A ydynt yn meddwl bod hyn yn addas i’w ddiben, ac a yw aelodau eich bwrdd caffael yn rhoi adborth i chi am eu profiadau wrth ymdrin â'r sector cyhoeddus o ran cynnig am gontractau?
15:32 - Jane Hutt
Thank you very much, Peter Black. Just on your point about e-procurement and how we’re taking this forward, it’s already had a significant impact across Wales in terms of the way we’re taking this forward to develop Wales as the lead player, as I said, in the delivery of e-procurement. I launched the new e-trading Wales e-procurement programme last week and, also, this is building on the work, which I’m sure you’re aware of, Peter, of xchangewales. It’s developing this future service in e-trading Wales that really can help address significant challenges ahead for the Welsh public sector. It’s also about delivering significant savings as a result of e-procurement, and those savings we can then redeploy to our front-line services to support the Welsh people. Diolch yn fawr iawn, Peter Black. Dim ond ar eich pwynt am e-gaffael a sut yr ydym yn bwrw ymlaen â hyn, mae eisoes wedi cael effaith sylweddol ledled Cymru o ran y ffordd yr ydym yn bwrw ymlaen â hyn i ddatblygu Cymru fel y chwaraewr arweiniol, fel y dywedais, wrth gyflawni e-gaffael. Lansiais y rhaglen e-gaffael newydd e-fasnachu Cymru yr wythnos diwethaf ac, hefyd, mae hyn yn adeiladu ar waith cyfnewidcymru, yr wyf yn siŵr eich bod yn ymwybodol ohono, Peter. Drwy ddatblygu'r gwasanaeth hwn yn y dyfodol yng Nghymru Cymru sy’n e-fasnachu, gallwn fod o gymorth mawr i ateb heriau sylweddol sy’n wynebu’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae hefyd yn fater o sicrhau arbedion sylweddol o ganlyniad i e-gaffael, ac yna gallwn adleoli’r arbedion hynny i’n gwasanaethau rheng flaen er budd pobl Cymru.
If you look at the issues of how we’re trying to drive that change—. You mentioned the role of the procurement board. I’ve already outlined the importance of the collaborative partnership and membership of that board, not just local government. It is chaired by a local authority chief executive, who was very engaged with local authorities last week in procurement week, where local government, alongside NHS shared services, won awards at the Wales procurement awards event on Friday night for very much delivering in the way that we want to show best practice in Wales. Os ydych yn edrych ar y materion yn ymwneud â sut yr ydym yn ceisio sbarduno’r newid hwnnw—. Soniasoch am swyddogaeth y bwrdd caffael. Rwyf eisoes wedi amlinellu pwysigrwydd y bartneriaeth gydweithredol ac aelodaeth y bwrdd hwnnw, nid dim ond llywodraeth leol. Mae'n cael ei gadeirio gan brif weithredwr awdurdod lleol, a fu’n ymwneud yn helaeth ag awdurdodau lleol yr wythnos diwethaf yn wythnos gaffael, pryd yr enillodd llywodraeth leol, ochr yn ochr â gwasanaethau a rennir y GIG, wobrau yn nigwyddiad gwobrau caffael Cymru nos Wener am gyflawni pethau yn yr union ffordd yr hoffem ddangos arfer gorau yng Nghymru.
Now it’s interesting, in terms of reaching down to those small employers and the barriers that you identified that small employers and small SMEs feel that they still experience from local authorities—. But if you look—. I’ve mentioned the SQuID approach; it’s actually lowered barriers to smaller, more local contractors, who now win 78 per cent of awards advertised through Sell2Wales. You also mentioned concerns about frameworks, and this was raised before we had the lessons learned report about the frameworks approach, to make sure that frameworks are accessible to smaller businesses. We looked at that in terms of the north Wales framework. Now, indigenous contractors are winning places on this framework and, of course, those are Welsh-based SMEs in local areas. But I think other things that we’re trying to do include listening to business, with the project bank accounts, as well as the joint bidding guides and I gave an example there where we are encouraging and supporting SMEs to come together to collaborate and actually to win contracts as well. I think NPS will help in this in their new role and new arrangements in terms of collaborative procurement, because they do also, of course, help simplify procurement processes for the SMEs in Wales. Nawr mae'n ddiddorol, o ran estyn i lawr at y cyflogwyr bach hynny a'r rhwystrau a nodwyd gennych bod cyflogwyr bach a busnesau bach a chanolig yn teimlo eu bod yn dal i’w profi gan awdurdodau lleol—. Ond os edrychwch chi—. Rwyf wedi sôn am y dull SQuID; mae wedi lleihau rhwystrau i gontractwyr llai, mwy lleol, sydd bellach yn ennill 78 y cant o ddyfarniadau a hysbysebir drwy GwerthwchiGymru. Soniasoch hefyd am bryderon ynghylch fframweithiau, a chafodd hyn ei godi cyn inni gael yr adroddiad gwersi a ddysgwyd am yr ymagwedd fframweithiau, i sicrhau bod fframweithiau ar gael i fusnesau llai. Gwnaethom edrych ar hynny o ran fframwaith y gogledd. Nawr, mae contractwyr brodorol ​​yn ennill lleoedd ar y fframwaith hwn ac, wrth gwrs, busnesau bach a chanolig o Gymru mewn ardaloedd lleol yw’r rheini. Ond rwy'n credu bod y pethau eraill yr ydym yn ceisio eu gwneud yn cynnwys gwrando ar fusnesau, gyda'r cyfrifon banc prosiect, yn ogystal â'r canllawiau cynnig ar y cyd a rhoddais enghraifft yn y fan yna lle’r ydym yn annog ac yn cefnogi busnesau bach a chanolig i ddod at ei gilydd i gydweithio ac mewn gwirionedd i ennill contractau hefyd. Rwy'n credu y bydd y gwasanaeth caffael cenedlaethol yn helpu yn hyn o beth yn ei swyddogaeth newydd a’i drefniadau newydd o ran caffael ar y cyd, oherwydd maent hwythau hefyd, wrth gwrs, yn helpu i symleiddio prosesau caffael i’r busnesau bach a chanolig yng Nghymru.
15:35 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Quick questions now only, please. Jenny Rathbone. Cwestiynau cyflym yn unig nawr, os gwelwch yn dda. Jenny Rathbone.
15:35 - Jenny Rathbone
I very much welcome your conference on procurement. It’s really important that everybody is operating fair and transparent procurement policies across the world. I just wanted to pick up on something that I raised with the First Minister a couple of weeks ago, which is around ensuring that steel, in procurement projects for construction, is to the appropriate standard. This is something that the leader of the City of Cardiff Council has written to all local authorities about to ensure that BES 6001 is being used. I covered the Mexican earthquake, which saw all these buildings fall down because the steel rods in these modern buildings were not fit for purpose. Now I’m not suggesting there’s going to be an earthquake here, but it’s really important for the safety of buildings that they are built with the appropriate standard of steel rod. So, I wonder whether you’re prepared to include that standard in local authority and other public procurement contracts. Rwyf yn croesawu eich cynhadledd ar gaffael yn fawr iawn. Mae'n bwysig iawn bod pawb yn defnyddio polisïau caffael teg a thryloyw ledled y byd. Dim ond eisiau sôn oeddwn i am rywbeth a godais gyda'r Prif Weinidog wythnosau neu ddwy yn ôl, sy’n ymwneud â sicrhau bod dur, mewn prosiectau caffael ar gyfer adeiladu, yn bodloni’r safon briodol. Mae hyn yn rhywbeth y mae arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol yn ei gylch i sicrhau eu bod yn defnyddio BES 6001. Soniais am y daeargryn ym Mecsico, lle syrthiodd yr holl adeiladau hyn am nad oedd y rhodenni dur yn yr adeiladau modern hyn yn addas at eu diben. Nawr dydw i ddim yn awgrymu y bydd daeargryn yma, ond mae'n bwysig iawn er diogelwch adeiladau eu bod wedi’u hadeiladu â rhodenni dur sy’n bodloni’r safon briodol. Felly, tybed a ydych chi’n fodlon cynnwys y safon honno mewn contractau caffael awdurdodau lleol a chontractau caffael cyhoeddus eraill.
15:36 - Jane Hutt
I think that’s a very helpful question from Jenny Rathbone. I welcome the charter for British sustainable steel and the BES 6001 standard. It is very important to the UK steel industry and suppliers. I think our policy statement principles very much support the charter and the standard. I think it is important in terms of looking at the standard of materials in a construction project, for example. That’s a design decision rather than a procurement decision, and public sector buyers can influence design decisions made, but they can’t discriminate against suppliers from across the EU as a result of EU legislation. But we can ensure that we recognise and welcome the charter, although we can’t formally adopt it or the standard in itself. We very much see it as complementary to our principles and policies. Credaf fod hwnnw’n gwestiwn defnyddiol iawn gan Jenny Rathbone. Rwy'n croesawu siarter dur cynaliadwy Prydain a'r safon BES 6001. Mae'n bwysig iawn i ddiwydiant a chyflenwyr dur y DU. Rwy'n credu bod egwyddorion ein datganiad polisi yn bendant yn cefnogi'r siarter a'r safon. Rwy'n credu ei bod yn bwysig o ran edrych ar safon defnyddiau mewn prosiect adeiladu, er enghraifft. Penderfyniad dylunio ydyw yn hytrach na phenderfyniad caffael, a gall prynwyr yn y sector cyhoeddus ddylanwadu ar benderfyniadau dylunio a wneir, ond ni allant wahaniaethu yn erbyn cyflenwyr o bob rhan o'r UE o ganlyniad i ddeddfwriaeth yr UE. Ond gallwn sicrhau ein bod yn cydnabod ac yn croesawu'r siarter, er na allwn fabwysiadu’r siarter na’r safon ynddi'i hun yn ffurfiol. Rydym yn sicr yn credu eu bod yn ategu ein hegwyddorion a'n polisïau.
15:37 - Janet Finch-Saunders
Minister, you will be aware of issues that I’ve raised with you in terms of procurement as regards the Llandudno north shore works, where contract standing orders were not adhered to and were not advertised on Sell2Wales, despite it being a £1.5 million contract. Contracts were approved by a series of e-mails to extend terms for a contract that was already two years out of date. I could go on. On 13 May, another report by the responsible cabinet member, councillor Mike Priestly, went to cabinet seeking retrospective cabinet approval for the work that had been completed weeks before. Minister, I did bring these matters to you here. I have written to you and I’ve met with you. This is now a matter for the Wales Audit Office as well, but I did ask you to investigate. So, please, would you come back to me with your update on what investigations have taken place? Also, would you just provide some reassurance to my constituents in Aberconwy that you do take procurement matters seriously and that you will ensure that things will be embedded across local authorities? My final question is this: when works are deemed as emergency, did you deem these as emergency works and were these exemptions that they’re maintaining they had then allowed to apply? Weinidog, byddwch yn ymwybodol o faterion yr wyf wedi’u codi â chi o ran caffael ar gyfer y gwaith ar lannau gogledd Llandudno, lle na chadwyd at reolau sefydlog contractau ac na chawsant eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru, er ei fod yn gontract gwerth £1.5 miliwn. Cafodd y contractau eu cymeradwyo mewn cyfres o negeseuon e-bost i ymestyn telerau contract a oedd eisoes ddwy flynedd ar ei hôl hi. Gallwn fynd ymlaen. Ar 13 Mai, gwelodd y cabinet adroddiad arall gan yr aelod cabinet â chyfrifoldeb, y cynghorydd Mike Priestly, yn gofyn am gymeradwyaeth ôl-weithredol y cabinet am y gwaith a gwblhawyd wythnosau cyn hynny. Weinidog, rwyf wedi dod â’r materion hyn yma atoch chi. Rwyf wedi ysgrifennu atoch ac rwyf wedi cyfarfod â chi. Mae hwn bellach yn fater i Swyddfa Archwilio Cymru hefyd, ond fe wnes i ofyn i chi ymchwilio. Felly, os gwelwch yn dda, a wnewch chi ddod yn ôl ataf â diweddariad am yr ymchwiliadau sydd wedi eu cynnal? Hefyd, a wnewch chi roi rhywfaint o sicrwydd i fy etholwyr yn Aberconwy eich bod yn cymryd materion caffael o ddifrif ac y gwnewch sicrhau yr ymwreiddir pethau ar draws awdurdodau lleol? Fy nghwestiwn olaf yw: pan ystyrir bod gwaith yn waith brys, a wnaethoch chi farnu bod y gwaith hwn yn waith brys ac a ganiatawyd i’r eithriadau hyn fod yn berthnasol, y maent yn honni eu bod wedi’u cael ar y pryd?
15:38 - Jane Hutt
Well, I think that Janet Finch Saunders, who I have met and discussed these issues with, is absolutely right that the Wales Audit Office is the place for consideration of the handling and management of this particular contract and procurement arrangement, and I think it is where we should leave it today in terms of their responsibility. Wel, credaf fod Janet Finch Saunders, sydd wedi cyfarfod â mi i drafod y materion hyn, yn llygad ei lle mai Swyddfa Archwilio Cymru yw'r lle i ystyried sut y cafodd y trefniant contractau a chaffael penodol hwn ei drin a’i reoli, ac rwyf yn credu mai dyna lle y dylem ni adael pethau heddiw o ran eu cyfrifoldeb.
15:39 - Joyce Watson
I just want to say that I do welcome the progress that’s been made on blacklisting, Minister, and the guidance that you issued last week to clamp down on umbrella payment schemes. It’s something that the cross-party construction group stakeholders have raised at our meetings. I want to put on record my thanks, Minister, to you for engaging so closely with that group. I look forward to presenting you with the findings of our own procurement report in a few weeks’ time and to moving that work forward. Looking ahead, Minister, one of the issues the cross-party group has taken evidence on is the consistency of procurement policies across local authorities. Is that something that you will be looking at in the context of the local government White Paper and local government reform? Hoffwn ddweud fy mod yn croesawu'r cynnydd sydd wedi ei wneud ar gosbrestru, Weinidog, a'r canllawiau a gyhoeddwyd gennych yr wythnos diwethaf i roi terfyn ar gynlluniau talu ymbarél. Mae'n rhywbeth y mae rhanddeiliaid y grŵp adeiladu trawsbleidiol wedi’i godi yn ein cyfarfodydd. Hoffwn gofnodi fy niolch, Weinidog, ichi am ymgysylltu mor agos â’r grŵp hwnnw. Edrychaf ymlaen at gyflwyno canfyddiadau ein hadroddiad caffael ein hunain ichi ymhen ychydig wythnosau, ac at fwrw ymlaen â’r gwaith hwnnw. Wrth edrych ymlaen, Weinidog, un o'r materion y mae’r grŵp trawsbleidiol wedi cymryd tystiolaeth amdano yw cysondeb polisïau caffael ar draws awdurdodau lleol. A yw hynny'n rhywbeth y byddwch yn edrych arno yng nghyd-destun y Papur Gwyn llywodraeth leol a diwygio llywodraeth leol?
15:40 - Jane Hutt
I thank Joyce Watson for recognition of the important step forward in terms of the latest procurement advice note that we’ve produced on fair employment practices, following the procurement advice note on blacklisting. I also congratulate her on the work that she does to co-ordinate and lead the all-Wales cross-party construction group, which I’m looking forward to meeting again, in terms of considering the report that’s coming forward. Diolch i Joyce Watson am gydnabod y cam pwysig ymlaen o ran y nodyn cyngor caffael diweddaraf yr ydym wedi’i gynhyrchu ar arferion cyflogaeth teg, i ddilyn y nodyn cyngor caffael ar gosbrestru. Rwyf hefyd yn ei llongyfarch ar y gwaith y mae'n ei wneud i gydlynu ac arwain grŵp adeiladu trawsbleidiol Cymru gyfan—rwyf yn edrych ymlaen at gwrdd â hwy eto—o ran ystyried yr adroddiad sy’n cael ei gyflwyno.
I think the point about consistency that has been raised across the Chamber this afternoon is very pertinent. I’ve mentioned, of course, the health fitness checks, which now, in terms of the outcomes, are not only published, but they also indicate the weaknesses, as well as the strengths, across the public sector. It is the role of the procurement board, as I said, led by a chief executive from local government, to drive this forward in terms of ensuring that we have consistency. It is very much a part of the way forward in terms of public service reform, working, of course, closely with the Minister for Public Services. Rwy'n meddwl bod y pwynt am gysondeb sydd wedi cael ei godi ar draws y Siambr y prynhawn yma yn berthnasol iawn. Rwyf wedi sôn, wrth gwrs, am y gwiriadau ffitrwydd, sydd bellach, o ran y canlyniadau, nid yn unig wedi’u cyhoeddi, ond maent hefyd yn dangos y gwendidau, yn ogystal â'r cryfderau, ar draws y sector cyhoeddus. Swyddogaeth y bwrdd caffael, fel y dywedais, o dan arweiniad prif weithredwr o lywodraeth leol, yw bwrw ymlaen â hyn o ran sicrhau bod gennym gysondeb. Mae'n rhan bwysig o'r ffordd ymlaen o ran diwygio gwasanaethau cyhoeddus, gan gydweithio, wrth gwrs, yn agos â’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus.
15:41 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you, Minister. Diolch, Weinidog.
5. Datganiad: Adolygiad o’r Diwydiant Llaeth 5. Statement: The Dairy Review
Eitem 5 yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar adolygiad o’r diwydiant llaeth. Galwaf ar Rebecca Evans. Item 5 is a statement by the Deputy Minister for Farming and Food on the dairy review. I call Rebecca Evans.
15:41 - Rebecca Evans
Thank you, Deputy Presiding Officer. On 14 October last year, I presented a written statement announcing that I had commissioned Andy Richardson, a member of my dairy taskforce, to carry out an independent review of the dairy sector in Wales. Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Ar 14 Hydref y llynedd, cyflwynais ddatganiad ysgrifenedig yn cyhoeddi fy mod wedi comisiynu Andy Richardson, aelod o fy nhasglu llaeth, i gynnal adolygiad annibynnol o'r sector llaeth yng Nghymru.
The work is now complete, and I wish to put on record my sincere thanks to Andy for his hard work, enthusiasm and thoroughness in undertaking the review and producing his review report containing 26 recommendations in such a short time frame. I have considered the recommendations in detail, and have accepted 19 in full, four in principle and three in part. Mae'r gwaith bellach wedi'i gwblhau, ac rwyf eisiau cofnodi fy niolch diffuant i Andy am ei waith caled, ei frwdfrydedd a’i drylwyredd wrth gynnal yr adolygiad a chynhyrchu ei adroddiad adolygu yn cynnwys 26 o argymhellion mewn ffrâm amser mor fyr. Rwyf wedi ystyried yr argymhellion yn fanwl, ac wedi derbyn 19 yn llawn, pedwar mewn egwyddor a thri yn rhannol.
My response to Andy’s recommendations comes in the form of an action plan that Members have received by e-mail, and which has been posted on the Welsh Government website alongside Andy’s independent review report. Mae fy ymateb i argymhellion Andy yn dod ar ffurf cynllun gweithredu y mae Aelodau wedi’i dderbyn drwy e-bost, ac sydd wedi ei roi ar wefan Llywodraeth Cymru ochr yn ochr ag adroddiad adolygu annibynnol Andy.
When I commissioned this important review, some of our dairy farmers were facing significant difficulties, and that remains the case for many. I received correspondence from fellow Assembly Members, dairy farmers, stakeholders and members of the public asking what measures I proposed to take to support producers through this difficult period. Of course, it is important to note that the dairy industry in Wales operates within a global market, and we have to be realistic about the extent to which production in Wales has an impact on the price paid for milk at the farm gate. Nevertheless, the dairy industry is a critical component of the overall agriculture industry and food sector in Wales, and the Welsh Government will play its part, working alongside dairy farmers and other key stakeholders, to support the long-term viability and profitability of the dairy sector. Pan gomisiynais yr adolygiad pwysig hwn, roedd rhai o'n ffermwyr llaeth yn wynebu anawsterau sylweddol, ac mae hynny'n dal i fod yn wir i lawer. Derbyniais ohebiaeth gan gyd-Aelodau o'r Cynulliad, ffermwyr llaeth, rhanddeiliaid ac aelodau o'r cyhoedd yn gofyn pa fesurau yr wyf yn bwriadu eu cymryd i gefnogi cynhyrchwyr drwy'r cyfnod anodd hwn. Wrth gwrs, mae'n bwysig nodi bod y diwydiant llaeth yng Nghymru yn gweithredu o fewn marchnad fyd-eang, ac mae'n rhaid i ni fod yn realistig o ran y graddau y mae cynhyrchu yng Nghymru yn cael effaith ar y pris a delir am laeth wrth giât y fferm. Serch hynny, mae'r diwydiant llaeth yn elfen hollbwysig o sector cyffredinol y diwydiant amaethyddiaeth a bwyd yng Nghymru, a bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae ei rhan, gan weithio ochr yn ochr â ffermwyr llaeth a rhanddeiliaid allweddol eraill, i gefnogi hyfywedd tymor hir a phroffidioldeb y sector llaeth.
Since I commissioned the dairy review, the global market has shown signs of recovery with the Fonterra global dairy trade auctions demonstrating a consistent rise in prices since November 2014. Global consumption of dairy products is expected to rise by 36 per cent during the next decade, so I am confident that there is a bright future for the dairy sector in Wales. Ers i mi gomisiynu’r adolygiad llaeth, mae’r farchnad fyd-eang wedi dangos arwyddion o adfer ac mae arwerthiannau masnach laeth byd-eang Fonterra yn dangos cynnydd cyson mewn prisiau ers mis Tachwedd 2014. Disgwylir y bydd bwyta ac yfed cynnyrch llaeth byd-eang yn codi gan 36 y cant yn ystod y degawd nesaf, felly rwy’n hyderus bod dyfodol disglair i'r sector llaeth yng Nghymru.
Having said that, I am acutely aware that many of our dairy farm businesses are experiencing difficulties at the moment, and I know that volatility in the marketplace is likely to continue. I urge the dairy industry as a whole to recognise the importance of each stage within the supply chain, and to ensure that increases in price paid to farmers for milk feed through as quickly as we have seen the decreases applied. Confidence is a vital ingredient if we are to have a successful dairy sector here in Wales, and Andy Richardson’s review and this Government’s response to it are positive moves that I hope will contribute to growing that confidence. Wedi dweud hynny, rwy’n ymwybodol iawn bod llawer o'n busnesau ffermydd godro yn profi anawsterau ar hyn o bryd, a gwn fod anwadalrwydd yn y farchnad yn debygol o barhau. Rwy’n annog y diwydiant llaeth yn ei gyfanrwydd i gydnabod pwysigrwydd pob cam yn y gadwyn gyflenwi, ac i sicrhau bod y cynnydd yn y pris a delir i ffermwyr am laeth yn bwydo drwodd mor gyflym ag y gwelsom y gostyngiadau yn cael eu cymhwyso. Mae hyder yn elfen hanfodol os ydym am gael sector llaeth llwyddiannus yma yng Nghymru, ac mae adolygiad Andy Richardson ac ymateb y Llywodraeth hon iddo yn gamau cadarnhaol yr wyf yn gobeithio y byddant yn cyfrannu at gynyddu'r hyder hwnnw. 
The 26 recommendations within the review are presented in a five-point plan that combines strategy with action. The five elements are leadership, market focus, efficiency, knowledge and skills and the environment. Good leadership is critical to any venture and to all industries. My dairy taskforce for Wales has played a key role over the last two years in advising me and my predecessor on matters across the dairy supply chain, as well as on the operation of the voluntary code. The commitment made by this Government at the inception of the voluntary code was that we would review its operation after two years, and this review delivers on that. Mae’r 26 o argymhellion yn yr adolygiad wedi eu cyflwyno mewn cynllun pum pwynt sy'n cyfuno strategaeth â gweithredu. Y pum elfen yw arweinyddiaeth, pwyslais y farchnad, effeithlonrwydd, gwybodaeth, a sgiliau a'r amgylchedd. Mae arweinyddiaeth dda yn hanfodol i unrhyw fenter ac i bob diwydiant. Mae fy nhasglu llaeth Cymru wedi chwarae rhan allweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf wrth fy nghynghori i a fy rhagflaenydd ar faterion ar draws y gadwyn gyflenwi llaeth, yn ogystal ag ar weithrediad y cod gwirfoddol. Yr ymrwymiad a wnaed gan y Llywodraeth hon ar ddechrau'r cod gwirfoddol oedd y byddem yn adolygu ei weithrediad ar ôl dwy flynedd, ac mae’r adolygiad hwn yn cyflawni hynny.
I note that the vast majority of people interviewed by Andy during the review felt that the voluntary code was preferable to legislation and I’m supportive of the recommendation that we should continue to review the code on an annual basis to ensure that it’s fit for purpose. Nodaf fod y mwyafrif helaeth o bobl a gafodd eu cyfweld gan Andy yn ystod yr adolygiad yn teimlo bod y cod gwirfoddol yn well na deddfwriaeth ac rwy'n gefnogol i'r argymhelliad y dylem barhau i adolygu'r cod yn flynyddol er mwyn sicrhau ei fod yn addas i’w ddiben.
The dairy taskforce for Wales was initially formed with an expectation that it would have a two-year lifespan, but, given the valuable contribution that group makes to the work of the Welsh Government and the value of the representations they’re able to make on behalf of the dairy industry, I’ve decided to accept the recommendation that the work of the taskforce is assimilated into a Welsh dairy leadership board. Cafodd y tasglu llaeth ar gyfer Cymru ei ffurfio yn y lle cyntaf gyda disgwyliad y byddai'n parhau am ddwy flynedd, ond, o ystyried y cyfraniad gwerthfawr y mae’r grŵp yn ei wneud i waith Llywodraeth Cymru a gwerth y sylwadau y maent yn gallu eu gwneud ar ran y diwydiant llaeth, rwyf wedi penderfynu derbyn yr argymhelliad bod gwaith y tasglu yn cael ei gymhathu i mewn i fwrdd arweinyddiaeth llaeth yng Nghymru.
Whilst continuing to provide advice to me on issues affecting the industry, I’m proposing that this board will operate under the future governance arrangements of our new agriculture strategy development programme, as well as linking closely to the food and drink Wales industry board. Whilst the Welsh Government will support the development and subsequent administration of the dairy leadership board, I fully expect the industry to lead it and to help drive forward its work, ensuring that the needs of the whole dairy supply chain are considered. Gan barhau i roi cyngor i mi ar faterion sy'n effeithio ar y diwydiant, rwy'n cynnig y bydd y bwrdd hwn yn gweithredu dan y trefniadau llywodraethu y bydd gan ein rhaglen ddatblygu strategaeth amaethyddiaeth newydd yn y dyfodol, yn ogystal â chael cysylltiad agos â bwrdd diwydiant bwyd a diod Cymru. Er y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu a gweinyddu dilynol y bwrdd arweinyddiaeth llaeth, rwy’n llwyr ddisgwyl i'r diwydiant arwain a helpu i fwrw ymlaen â'i waith, gan sicrhau bod anghenion yr holl gadwyn gyflenwi llaeth yn cael eu hystyried.
I was pleased to see market focus as one of the five key themes in Andy’s report. It’s essential that we give sufficient focus to what the market wants and at what price. We need a dairy industry that’s innovative, competitive, and market focused. The industry levy boards and the industry itself must be at the forefront of efforts to embed this approach. Government can put in place a framework of measures and support, but these are only effective if the industry buys in and responds in a positive manner. Roeddwn yn falch o weld bod pwyslais y farchnad yn un o'r pum thema allweddol yn adroddiad Andy. Mae'n hanfodol ein bod yn rhoi digon o bwyslais ar yr hyn y mae'r farchnad ei eisiau ac am ba bris. Mae arnom angen diwydiant llaeth sy'n arloesol, yn gystadleuol, ac sy’n canolbwyntio ar y farchnad. Mae'n rhaid i fyrddau ardoll y diwydiant a'r diwydiant ei hun fod ar flaen y gad o ran yr ymdrechion i ymwreiddio’r dull hwn. Gall y Llywodraeth sefydlu fframwaith o fesurau a chefnogaeth, ond nid yw’r rhain yn effeithiol oni bai bod y diwydiant yn eu derbyn ac yn ymateb mewn modd cadarnhaol.
Milk production in Wales is primarily concentrated in two areas of our country, the south west and the north east. Our milk fields are vitally important in maintaining a sustainable dairy sector. As Andy’s review report highlights, about half of the milk produced in Wales is transported to England to satisfy the liquid milk market. This dependency on processing outside of Wales is a significant risk in terms of the sector’s long-term viability. Mae cynhyrchu llaeth yng Nghymru yn digwydd yn bennaf mewn dwy ardal o’r wlad, y de-orllewin a'r gogledd-ddwyrain. Mae ein meysydd llaeth yn hanfodol bwysig o ran cynnal sector llaeth cynaliadwy. Fel y mae adroddiad adolygu Andy yn nodi, mae tua hanner y llaeth a gynhyrchir yng Nghymru yn cael ei gludo i Loegr i fodloni'r farchnad laeth hylif. Mae’r ddibyniaeth hon ar brosesu y tu allan i Gymru yn risg sylweddol o ran hyfywedd tymor hir y sector.
Adding value to the product and retaining that value in Wales is critical, and we must look at innovative ways to achieve this. Securing a market-driven, successful processing facility in Wales would be the ideal, and I’m committed to supporting the industry by working with the leadership board to carry out a feasibility study of the potential market for such a facility. Mae ychwanegu gwerth at y cynnyrch a chadw’r gwerth hwnnw yng Nghymru yn hanfodol, ac mae'n rhaid inni edrych ar ffyrdd arloesol o gyflawni hyn. Sicrhau cyfleuster prosesu llwyddiannus sy’n cael ei sbarduno gan y farchnad yng Nghymru fyddai'n ddelfrydol, ac rwy'n ymrwymedig i gefnogi'r diwydiant drwy weithio gyda'r bwrdd arweinyddiaeth i gynnal astudiaeth o ddichonolrwydd o’r farchnad bosibl ar gyfer cyfleuster o'r fath.
Efficiencies in any production system are key to profitability. This doesn’t mean simply cutting costs, but looking at new and more innovative ways of doing things. Our Farming Connect knowledge transfer and advisory services are already, and will continue to be, an important element in the wider support this Government provides to the farming industry. Gareth Williams’s review of Farming Connect has highlighted areas we must address to improve this service, and we’re currently implementing those recommendations. Mae effeithlonrwydd mewn unrhyw system gynhyrchu yn allweddol i broffidioldeb. Nid yw hyn yn golygu torri costau yn unig, ond edrych ar ffyrdd newydd a mwy arloesol o wneud pethau. Mae ein gwasanaethau trosglwyddo gwybodaeth ac ymgynghori Cyswllt Ffermio eisoes, a byddant yn parhau i fod, yn elfen bwysig o'r cymorth ehangach y mae’r Llywodraeth hon yn ei ddarparu i'r diwydiant ffermio. Mae adolygiad Gareth Williams o Cyswllt Ffermio wedi tynnu sylw at feysydd y mae’n rhaid inni roi sylw iddynt i wella'r gwasanaeth hwn, ac ar hyn o bryd rydym yn gweithredu'r argymhellion hynny.
In addition to our new Farming Connect services, which will be implemented under the next rural development programme, we will have a suite of support available to offer the dairy supply chain in Wales, from capital investments through to co-operation measures. The Glastir package of support not only improves the environmental credentials of businesses within the scheme, but, in conjunction with capital investments, it can also deliver economic benefits. I hope that farmers and associated businesses across Wales will make use of all that we offer through the next RDP to ensure that we have an efficient industry that’s able to compete in a global market and, where applicable, on a global scale. Yn ychwanegol at ein gwasanaethau Cyswllt Ffermio newydd, a fydd yn cael eu gweithredu o dan y rhaglen datblygu gwledig nesaf, bydd gennym becyn o gymorth ar gael i’w gynnig i’r gadwyn cyflenwi llaeth yng Nghymru, o fuddsoddiadau cyfalaf hyd at fesurau cydweithredu. Mae'r pecyn cymorth Glastir nid yn unig yn gwella cymwysterau amgylcheddol busnesau o fewn y cynllun, ond, ar y cyd â buddsoddiadau cyfalaf, gall hefyd sicrhau manteision economaidd. Rwy’n gobeithio y bydd ffermwyr a busnesau cysylltiedig ar draws Cymru yn gwneud defnydd o'r cyfan yr ydym yn ei gynnig trwy'r Cynllun Datblygu Gwledig nesaf i sicrhau bod gennym ddiwydiant effeithlon sy'n gallu cystadlu mewn marchnad fyd-eang a, phan fo hynny'n berthnasol, ar raddfa fyd-eang.
We have, in recent months, received independent reports from Professor Wynne Jones and Malcolm Thomas, both highlighting the need for increased knowledge and skills across the agriculture industry. This latest review report is no different, and I welcome Andy’s recommendations relating to what needs to be implemented by both Welsh Government and the industry to attract and retain a well-motivated and skilled workforce. Rydym, yn y misoedd diwethaf, wedi derbyn adroddiadau annibynnol gan yr Athro Wynne Jones a Malcolm Thomas, y ddau yn tynnu sylw at yr angen am fwy o wybodaeth a sgiliau ar draws y diwydiant amaeth. Nid yw'r adroddiad adolygu diweddaraf yn ddim gwahanol, a chroesawaf argymhellion Andy ynglŷn â’r hyn y mae angen ei roi ar waith o ran Llywodraeth Cymru a'r diwydiant i ddenu a chadw gweithlu medrus gyda chymhelliant da.
If we are to achieve the economic growth in the sector that we seek, then we must achieve this in a sustainable manner. Reducing greenhouse gases, protecting our air, soil and water, as well as enhancing biodiversity, are essential if we are to achieve long-term sustainable growth. Os ydym am gyflawni'r twf economaidd yr ydym yn ei ddymuno yn y sector, yna mae'n rhaid i ni gyflawni hyn mewn modd cynaliadwy. Mae lleihau nwyon tŷ gwydr, diogelu ein haer, ein pridd a’n dŵr, yn ogystal â gwella bioamrywiaeth, yn hanfodol os ydym am gyflawni twf hirdymor cynaliadwy.
Good environmental practices are the basis on which we must build our ambition, and there is undoubtedly a market advantage to be had now, and increasingly in the future, from agriculture promoting itself as an environmentally conscious industry. Working alongside the industry, Government will implement the recommendations in Andy Richardson’s report and, as a result, we will achieve the changes that will see a positive future for the dairy industry in Wales. Arferion amgylcheddol da yw’r sail y mae'n rhaid i ni adeiladu ein huchelgais arni, ac mae yna'n sicr fantais o ran y farchnad i'w chael ar hyn o bryd, ac yn gynyddol yn y dyfodol, o amaethyddiaeth yn hyrwyddo ei hun fel diwydiant sy'n ymwybodol o'r amgylchedd. Gan weithio ochr yn ochr â'r diwydiant, bydd y Llywodraeth yn gweithredu'r argymhellion yn adroddiad Andy Richardson, ac, o ganlyniad, byddwn yn cyflawni'r newidiadau a fydd yn gweld dyfodol cadarnhaol ar gyfer y diwydiant llaeth yng Nghymru.
My thanks go, once again, to Andy Richardson for authoring this important piece of work on behalf of this Government and on behalf of dairy farmers and the wider dairy industry across Wales. Hoffwn ddiolch, unwaith eto, i Andy Richardson am awduro’r darn pwysig hwn o waith ar ran y Llywodraeth hon ac ar ran ffermwyr llaeth a'r diwydiant llaeth ehangach ledled Cymru.
15:49 - Russell George
Can I thank the Deputy Minister for her statement this afternoon? I also welcome the inclusive way in which Andy Richardson has conducted this sector review. I think he’s to be thanked for doing a review to such a swift timescale and also for the way in which he’s engaged with the industry. Can I also thank the Deputy Minister for her visit to Meifod in my constituency earlier this year to discuss first-hand the issues being faced by local dairy farmers? A gaf fi ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad y prynhawn yma? Croesawaf hefyd y ffordd gynhwysol y mae Andy Richardson wedi cynnal yr adolygiad hwn o’r sector. Rwy'n credu bod angen diolch iddo am wneud adolygiad i amserlen mor gyflym a hefyd am y ffordd y mae wedi ymgysylltu â'r diwydiant. A gaf fi hefyd ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei hymweliad â Meifod yn fy etholaeth i yn gynharach eleni i drafod yn uniongyrchol y materion sy'n wynebu ffermwyr llaeth lleol?
Clearly, I’ve not had a great deal of time to look at the review, the recommendations and the responses to the recommendations, but there are a couple of questions to be posed from the recommendations today. Establishing a Welsh dairy innovation think tank was one area that I noticed that, Deputy Minister, you only accepted in part. I wonder whether you could expand on why this wasn’t fully accepted. Also, establishing a dairy centre of excellence was a recommendation made by Andy Richardson, and you have explained in full why you haven’t accepted that recommendation, but I wonder what discussions you’ve had with Andy on that particular point. I want to understand the logic of why he believes that is important and you’ve got an alternative view. I would like to understand the logic behind that. Yn amlwg, nid wyf wedi cael llawer iawn o amser i edrych ar yr adolygiad, yr argymhellion a'r ymatebion i'r argymhellion, ond mae un neu ddau o gwestiynau i'w gofyn o'r argymhellion heddiw. Roedd sefydlu melin drafod arloesi llaeth yng Nghymru yn un maes rwy’n sylwi, Ddirprwy Weinidog, na wnaethoch ond ei dderbyn yn rhannol. Tybed a allech chi ymhelaethu ar pam na chafodd hwn ei dderbyn yn llawn. Hefyd, roedd sefydlu canolfan ragoriaeth llaeth yn un o'r argymhellion a wnaed gan Andy Richardson, ac rydych wedi egluro’n llawn pam nad ydych wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw, ond tybed pa drafodaethau ydych chi wedi’u cael gydag Andy ar y pwynt penodol hwnnw. Rwyf yn awyddus i ddeall y rhesymeg pam y mae'n credu bod hynny’n bwysig a bod gennych chi farn wahanol. Hoffwn ddeall y rhesymeg y tu ôl i hynny.
We’re, of course, aware of the Welsh Government’s cut to the agriculture and rural affairs budget. It’s quite a significant cut, and I would like to understand how you envisage that this will impact upon the implementation of the review’s recommendations. Perhaps there are two parts to this question: firstly, what assessment you have made of how much it will cost to implement the recommendations, including the scoping work that is, perhaps, required as well. What is the total cost of undertaking the response to the recommendations? Also, where is the funding to deal with this coming from? Is it coming from the existing budget? It’s already a tight budget, so, what may be affected if funding is being diverted to bring forward responding to these recommendations? Rydym, wrth gwrs, yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi torri'r gyllideb amaethyddiaeth a materion gwledig. Mae'n doriad eithaf sylweddol, a hoffwn ddeall sut yr ydych yn rhagweld y bydd hyn yn effeithio ar roi argymhellion yr adolygiad ar waith. Efallai fod dwy ran i'r cwestiwn hwn: yn gyntaf, pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o faint y bydd yn ei gostio i weithredu'r argymhellion, gan gynnwys y gwaith cwmpasu sydd, efallai, yn angenrheidiol hefyd. Beth yw cyfanswm cost gweithredu'r ymateb i'r argymhellion? Hefyd, o ble mae'r cyllid i ymdrin â hyn yn dod? A yw'n dod o gyllideb bresennol? Mae'n gyllideb dynn eisoes, felly, beth allai gael ei effeithio os bydd cyllid yn cael ei ddargyfeirio i fwrw ymlaen ag ymateb i'r argymhellion hyn?
The Deputy Minister will also be aware that dairy farms are particularly vulnerable to income variations, due to the high capital costs and the unpredictability of commodity prices, which we are all aware of, and also fluctuating energy costs as well. So, I wonder if this is something that the Deputy Minister may have made representations on to the European agriculture commissioner, and, if that’s the case, perhaps the Deputy Minister could inform us of those discussions. Bydd y Dirprwy Weinidog hefyd fod yn ymwybodol bod ffermydd godro yn arbennig o agored i amrywiadau incwm, oherwydd y costau cyfalaf uchel a natur anragweladwy prisiau nwyddau, ac rydym i gyd yn ymwybodol o hynny, ac o gostau anwadal ynni yn ogystal. Felly, tybed a yw hyn yn rhywbeth y mae'r Dirprwy Weinidog wedi cyflwyno sylwadau arno i gomisiynydd amaethyddiaeth Ewrop, ac, os yw hynny wedi digwydd, efallai y gallai'r Dirprwy Weinidog roi gwybod inni am y trafodaethau hynny.
Also, further powers to the Groceries Code Adjudicator could be a way to protect dairy farmers from abuses of powers in the supply chain. Does the Deputy Minister agree with the House of Commons environment committee report, which noted there should be an extension to the Groceries Code Adjudicator’s remit to include small-scale suppliers and, crucially, pricing, which is currently the responsibility of the Competition and Markets Authority? Also, if I could, what is the Welsh Government’s view on the suggestion put forward by my Conservative colleague in the European Parliament that there ought to be an EU intervention price that is more reflective of production costs? Hefyd, gallai pwerau ychwanegol i'r Dyfarnwr Cod Cyflenwi Bwydydd fod yn ffordd o amddiffyn ffermwyr godro rhag camddefnyddio pwerau yn y gadwyn gyflenwi. A yw'r Dirprwy Weinidog yn cytuno ag adroddiad pwyllgor yr amgylchedd Tŷ'r Cyffredin, a oedd yn nodi y dylid cael estyniad i gylch gwaith y Dyfarnwr Cod Cyflenwi Bwydydd i gynnwys cyflenwyr ar raddfa fach ac, yn hollbwysig, prisio, sydd yn gyfrifoldeb i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ar hyn o bryd? Hefyd, os caf i, beth yw barn Llywodraeth Cymru ar yr awgrym a gyflwynwyd gan fy nghydweithiwr Ceidwadol yn Senedd Ewrop y dylai fod pris ymyrraeth UE sy'n fwy adlewyrchol o gostau cynhyrchu?
Finally, the end of the system of milk quotas in April comes at a period of price volatility and a drop in demand from external markets, but some industry commentators have suggested that it could result in a significant expansion of the Welsh dairy industry. Does the Deputy Minister feel that this is the case? I noticed that in the Deputy Minister’s opening comments, she talked about a bright future for the industry, so does the Welsh Government intend to embrace these opportunities in developing markets through encouraging an increase in processing capacity and building export links in emerging markets, such as China, Asia and Africa? Yn olaf, mae diwedd y system cwotâu llaeth ym mis Ebrill yn dod ar gyfnod o ansefydlogrwydd prisiau a gostyngiad yn y galw o farchnadoedd allanol, ond mae rhai sylwebyddion y diwydiant wedi awgrymu y gallai arwain at ehangu sylweddol ar y diwydiant llaeth yng Nghymru. A yw'r Dirprwy Weinidog yn teimlo bod hyn yn wir? Sylwais yn sylwadau agoriadol y Dirprwy Weinidog, ei bod yn sôn am ddyfodol disglair ar gyfer y diwydiant, felly a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cofleidio’r cyfleoedd hyn wrth ddatblygu marchnadoedd drwy annog cynnydd o ran capasiti prosesu ac adeiladu cysylltiadau allforio mewn marchnadoedd sy'n dod i'r amlwg, megis China, Asia ac Affrica?
15:54 - Rebecca Evans
I thank the Member for that contribution and for your welcome to the report. I also thank you for that visit that you organised for me to the dairy farm in your constituency, which I found very useful, particularly given the opportunities to talk to dairy farmers who are on a wide range of contracts with different processors. That was very informative, and I did have discussions with Andy Richardson following that visit. Diolch i'r Aelod am y cyfraniad yna ac am eich croeso i'r adroddiad. Rwyf hefyd yn diolch i chi am yr ymweliad hwnnw a drefnwyd gennych i mi i’r fferm odro yn eich etholaeth, a fu'n ddefnyddiol iawn i mi, yn enwedig o ystyried y cyfleoedd i siarad â ffermwyr godro sydd ar ystod eang o gontractau gyda gwahanol brosesyddion. Roedd hynny’n addysgiadol iawn, ac fe gefais i drafodaethau gydag Andy Richardson yn dilyn yr ymweliad hwnnw.
You said that this report is inclusive. I would agree with you. Over 100 people were spoken to right across the supply chain, from farmers themselves to retailers, the banks and so on. That’s very much the approach of the Welsh Government in terms of the dairy industry. It is taking a whole supply chain approach, and that would be the approach that I hope that the new Welsh dairy leadership board will take forward. That, of course, relates to recommendation 1 within the report. Dywedasoch fod yr adroddiad hwn yn gynhwysol. Byddwn yn cytuno â chi. Siaradwyd â dros 100 o bobl ar draws y gadwyn gyflenwi, o ffermwyr eu hunain i fanwerthwyr, y banciau ac yn y blaen. Dyna mewn gwirionedd yw dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran y diwydiant llaeth. Mae'n defnyddio dull cadwyn gyflenwi gyfan, a dyna fyddai'r dull gweithredu rwy’n gobeithio y bydd y bwrdd arweinyddiaeth llaeth newydd yng Nghymru yn ei ddatblygu. Mae hynny, wrth gwrs, yn ymwneud ag argymhelliad 1 yn yr adroddiad.
You asked about those recommendations that we have only agreed in part or in principle. We agree the thrust and the aims of those particular recommendations, although we feel that more work needs to be done in terms of the delivery mechanism for those recommendations. Gofynasoch am yr argymhellion hynny nad ydym ond wedi’u cytuno yn rhannol neu mewn egwyddor. Rydym yn cytuno â byrdwn a nodau’r argymhellion penodol hynny, er ein bod yn teimlo bod angen gwneud mwy o waith o ran y dulliau cyflawni ar gyfer yr argymhellion hynny.
With regard to the think tank, for example, we agree very much with the thrust of that recommendation, but we would want to discuss that with the Welsh dairy leadership board to work out what the most appropriate mechanism for that would be, and also to do that within the context of our forthcoming agriculture strategy. O ran y felin drafod, er enghraifft, rydym yn cytuno i raddau helaeth iawn â byrdwn yr argymhelliad hwnnw, ond byddem eisiau trafod hynny gyda'r bwrdd arweinyddiaeth llaeth yng Nghymru i benderfynu beth fyddai'r dull mwyaf priodol ar gyfer hynny, a hefyd i wneud hynny yng nghyd-destun ein strategaeth amaethyddiaeth sydd ar ddod.
With regard to the centre of excellence, we already feel that we have centres of excellence here in Wales, in the Institute of Biological, Environmental and Rural Sciences, and in Coleg Sir Gâr as well. So, we would work to see how we could enhance, really, their offer for the dairy industry, rather than creating a stand-alone institution there. O ran y ganolfan ragoriaeth, rydym eisoes yn teimlo bod gennym ganolfannau rhagoriaeth yma yng Nghymru, yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, ac yng Ngholeg Sir Gâr hefyd. Felly, byddem yn gweithio i weld sut y gallem wella, mewn gwirionedd, eu cynnig ar gyfer y diwydiant llaeth, yn hytrach na chreu sefydliad annibynnol yn hynny o beth.
With regard to energy costs, I think there’s great scope for us under the next rural development programme to support our dairy farmers in terms of creating on-farm energy. We’ll be looking at what we can offer farmers in terms of grants in order to do that, in order to reduce their costs and help boost their farm incomes as well. So, you have my assurance that we’re looking proactively at that. O ran costau ynni, rwy’n meddwl bod cyfle gwych i ni o dan y rhaglen ddatblygu gwledig nesaf i gefnogi ein ffermwyr godro o ran creu ynni ar y fferm. Byddwn yn edrych ar yr hyn y gallwn ei gynnig i ffermwyr mewn grantiau ar gyfer gwneud hynny, er mwyn lleihau eu costau a helpu i roi hwb i'w hincwm fferm hefyd. Felly, gallaf eich sicrhau ein bod yn edrych yn rhagweithiol ar hynny.
With regard to Europe, I look forward to welcoming Commissioner Phil Hogan to Wales during the Royal Welsh Show this year. I think that will be an excellent opportunity for Government and farmers to discuss key issues with him, such as simplification of CAP, greening measures and so on, which we’ve been discussing in our most recent Council of Ministers meeting, which took place last week. I was able to make the case again for the dairy industry. Dairy has been on the agenda in September, January and again last month in Europe, so it’s something that we’re very much in discussion on, and it’s the corner that I’m fighting for Wales in those meetings. O ran Ewrop, edrychaf ymlaen at groesawu’r Comisiynydd Phil Hogan i Gymru yn ystod Sioe Frenhinol Cymru eleni. Rwy'n credu y bydd hynny'n gyfle gwych i'r Llywodraeth a ffermwyr drafod materion allweddol gydag ef, fel symleiddio PAC, mesurau gwyrddu ac yn y blaen, yr ydym wedi bod yn eu trafod yn ein cyfarfod Cyngor y Gweinidogion diweddaraf, a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf. Cefais gyfle unwaith eto i gyflwyno achos y diwydiant llaeth. Mae llaeth wedi bod ar yr agenda ym mis Medi, mis Ionawr ac eto y mis diwethaf yn Ewrop, felly mae'n rhywbeth yr ydym yn sicr yn ei drafod, a dyma’r hyn yr wyf yn brwydro drosto ar ran Gymru yn y cyfarfodydd hynny.
With regard to intervention rates, that has been considered alongside my ministerial colleagues across the UK. Our member-state position is not to support an increase in the intervention rate at this time, although interventions must be kept under review. The reason for taking that position is that lowering the rate could use up a considerable amount of the EU budget, and it would mainly benefit other member states where the price of milk is lower than it is here in Wales. So, whenever we take decisions in Europe, we need to be doing so mindful, really, of what the impact would be on other member states and the knock-on effect for Welsh farmers as well. O ran cyfraddau ymyrraeth, sydd wedi eu hystyried ochr yn ochr â fy nghydweithwyr gweinidogol ar draws y DU. Ein safbwynt aelod-wladwriaeth yw peidio â chefnogi cynnydd yn y gyfradd ymyrraeth ar hyn o bryd, er bod yn rhaid cadw ymyraethau dan adolygiad. Y rheswm dros gymryd y safbwynt hwnnw yw y gallai gostwng y gyfradd ddefnyddio cryn dipyn o gyllideb yr UE, a byddai o fudd yn bennaf i aelod-wladwriaethau eraill lle mae pris llaeth yn is nag y mae yma yng Nghymru. Felly, pryd bynnag yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn Ewrop, mae angen i ni fod yn gwneud hynny yn ystyriol, mewn gwirionedd, o beth fyddai'r effaith ar aelod-wladwriaethau eraill a'r sgîl-effaith i ffermwyr Cymru hefyd.
You asked about the Groceries Code Adjudicator. I had the pleasure of having a meeting with her just yesterday. Of course, it’s been our Welsh Government’s position for some time that she should be given the necessary powers to ensure fairness right across the business supply chain, and that includes for the smaller suppliers as well. I invited the Groceries Code Adjudicator to come to Wales to hold an event for our suppliers, including smaller suppliers in Wales, so that they can better understand her role and the opportunities that she presents to them in terms of fairness right across the supply chain, and transparency in the supply chain as well. Gofynasoch am y Dyfarnwr Cod Cyflenwi Bwydydd. Cefais y pleser o gael cyfarfod gyda hi ddoe ddiwethaf. Wrth gwrs, safbwynt Llywodraeth Cymru ers peth amser yw y dylai hi gael y pwerau angenrheidiol i sicrhau tegwch ar draws y gadwyn gyflenwi busnes, ac mae hynny'n cynnwys ar gyfer y cyflenwyr llai yn ogystal. Gwahoddais y Dyfarnwr Cod Cyflenwi Bwydydd i ddod i Gymru i gynnal digwyddiad ar gyfer ein cyflenwyr, gan gynnwys cyflenwyr llai yng Nghymru, er mwyn iddynt allu deall yn well ei swyddogaeth hi a'r cyfleoedd y mae’n eu cyflwyno iddynt o ran tegwch ar draws yr holl gadwyn gyflenwi, a thryloywder yn y gadwyn gyflenwi yn ogystal.
I think I’ve addressed all of your questions, apart from the one on processing. Of course, we’ve accepted the recommendation in the report to explore what we could do to have the market-led processing capacity increase in the south-west of Wales. That’s something, again, that we would look to do in partnership with the Welsh dairy leadership board. Rwy'n credu fy mod i wedi rhoi sylw i bob un o'ch cwestiynau, ar wahân i'r un ar brosesu. Wrth gwrs, rydym wedi derbyn yr argymhelliad yn yr adroddiad i archwilio'r hyn y gallem ei wneud i gael y cynnydd gallu prosesu a arweinir gan y farchnad yn ne-orllewin Cymru. Mae hynny'n rhywbeth, unwaith eto, y byddem yn ceisio ei wneud mewn partneriaeth â'r bwrdd arweinyddiaeth llaeth yng Nghymru.
15:59 - Llyr Gruffydd
A gaf innau hefyd ategu’r diolch sydd wedi cael ei dalu i Andy Richardson am y gwaith yn paratoi’r adolygiad yma? Rwy’n siŵr y bydd yn gwneud cyfraniad pwysig i’n hystyriaethau ni. Er i fi fod yn un o’r rhai, efallai, a oedd yn llai na chanmol penderfyniad y Llywodraeth i gyhoeddi adolygiad arall, yn amlwg rwy’n derbyn bod y gwaith sydd wedi cael ei gwblhau yn mynd i fod yn gyfraniad pwysig i’r drafodaeth, ac rwy’n sicr yn ei groesawu e yn hynny o beth. May I also echo the thanks given to Andy Richardson for his work in preparing this review? I’m sure that it will make an important contribution to our deliberations. Although I was perhaps one of those who were less than full of praise for the Government’s decision to have another review, clearly I accept that the work that has been completed is going to be an important contribution to the debate, and I certainly welcome it in those terms.
I was hoping, Minister, maybe we’d get a firmer steer in terms of your broader, higher level ambitions for the dairy sector in Wales. We know, for example, that the Irish Government wants to make Ireland the fastest growing dairy producer on the face of this earth within the next five years, if not within the next 10 years. I was just wondering what your ambition for the growth of the dairy sector is in Wales, just to give us, maybe, a firmer context. You recognise in your statement that you were pleased to see market focus as one of the five key themes and it's essential, you say, that we give sufficient focus to what the market wants. But what we know is that, longer term, the market will want more milk. I think you quote a 36 per cent increase in global demand over the coming years. We know the global population is expected to exceed 9 billion, I think, in the next 30 or 40 years, and we know about demand soaring in Africa and Asia and other parts of this world. Yr oeddwn yn gobeithio, Weinidog, efallai byddem yn cael arweiniad mwy cadarn o ran eich uchelgeisiau ar lefel ehangach ac uwch ar gyfer y sector llaeth yng Nghymru. Rydym yn gwybod, er enghraifft, fod Llywodraeth Iwerddon yn dymuno gwneud Iwerddon y cynhyrchydd llaeth sy'n tyfu gyflymaf ar wyneb y ddaear hon o fewn y pum mlynedd nesaf, os nad o fewn y 10 mlynedd nesaf. Roeddwn i'n meddwl tybed beth yw eich uchelgais chi ar gyfer twf y sector llaeth yng Nghymru, dim ond i roi i ni, efallai, gyd-destun mwy cadarn. Rydych yn cydnabod yn eich datganiad eich bod yn falch o weld bod pwyslais y farchnad yn un o'r pum thema allweddol ac mae'n hanfodol, meddech chi, ein bod yn rhoi digon o bwyslais ar yr hyn y mae'r farchnad ei eisiau. Ond yr hyn a wyddom yw, yn y tymor hwy, y bydd y farchnad eisiau mwy o laeth. Rwy'n credu eich bod yn dyfynnu cynnydd o 36 y cant mewn galw byd-eang dros y blynyddoedd i ddod. Rydym yn gwybod y disgwylir i'r boblogaeth fyd-eang fod dros 9 biliwn, rwyf yn credu, yn y 30 neu 40 mlynedd nesaf, a gwyddom fod y galw yn cynyddu'n aruthrol yn Affrica, yn Asia ac mewn rhannau eraill o'r byd yma.
Now, farmers in Ireland expect to be producing at least 50 per cent more milk by 2020. I'm just wondering whether you as a Government have a target in mind for Wales. Indeed, am I right in presuming that upscaling production in Wales is an objective of your Government? I'm asking because we know that there is a direct correlation between an increase in production and the creation of additional jobs. In Ireland, for example, they expect an additional 15,000 to 20,000 jobs to be created in the rural economy as a direct result of their increase in production. So, I’m just wondering whether you are able to offer a similar correlation for us here in Wales. But we also know, of course, that, if expansion does happen in Ireland, the Irish farming Minister tells us that, by 2020, Ireland will be exporting an extra €1 billion-worth of milk. Now, given its close proximity to us here in Wales, a lot of that milk no doubt will find its way into the UK market and will, of course, be in direct competition to us here in Wales. So, I'm just wondering what assessment the Government has made of the proposed increase and its impact in terms of competition from Ireland. Nawr, mae ffermwyr yn Iwerddon yn disgwyl y byddant yn cynhyrchu o leiaf 50 y cant yn fwy o laeth erbyn 2020. Rwy’n meddwl tybed fel Llywodraeth a oes gennych chi darged mewn golwg ar gyfer Cymru. Yn wir, a wyf yn iawn yn rhagdybio bod cynnydd mewn cynhyrchu yng Nghymru yn un o amcanion eich Llywodraeth? Rwy’n gofyn oherwydd ein bod yn gwybod bod cydberthynas uniongyrchol rhwng cynnydd mewn cynhyrchu a chreu swyddi ychwanegol. Yn Iwerddon, er enghraifft, maent yn disgwyl i 15,000 i 20,000 o swyddi ychwanegol gael eu creu yn yr economi wledig o ganlyniad uniongyrchol i'w cynnydd mewn cynhyrchu. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi gynnig cydberthynas tebyg i ni yma yng Nghymru. Ond rydym hefyd yn gwybod, wrth gwrs, os bydd ehangu yn digwydd yn Iwerddon, bod Gweinidog ffermio Iwerddon yn dweud wrthym, erbyn 2020, y bydd Iwerddon yn allforio gwerth €1 biliwn yn ychwanegol o laeth. Nawr, o ystyried ei hagosrwydd i ni yma yng Nghymru, bydd llawer o’r llaeth hwnnw yn dod i mewn i farchnad y DU, a bydd, wrth gwrs, mewn cystadleuaeth uniongyrchol i ni yma yng Nghymru. Felly, rwy’n meddwl tybed pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o'r cynnydd arfaethedig a'i effaith o ran y gystadleuaeth o Iwerddon.
I don't see a reference to the end of quota in the Welsh Government response, despite it, in the review, being identified as both an opportunity and a threat. And, of course, given that the post-quota era dawns next Wednesday, it would be interesting to understand, maybe, what your response to that is. The European Commission, of course, has started to monitor the global dairy market in order to predict potential oversupply and potential price collapses months in advance. I'm wondering whether the Government similarly intends to monitor markets and prices, or maybe what scenario planning the Government has undertaken for the different eventualities in a post-milk-quota Wales. Dydw i ddim yn gweld cyfeiriad at ddiwedd cwotâu yn ymateb Llywodraeth Cymru, er gwaethaf iddo, yn yr adolygiad, gael ei nodi fel bod yn gyfle ac yn fygythiad. Ac, wrth gwrs, o ystyried bod y cyfnod ar ôl y cwota yn gwawrio ddydd Mercher nesaf, byddai'n ddiddorol i ddeall, efallai, beth yw eich ymateb i hynny. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd, wrth gwrs, wedi dechrau monitro'r farchnad laeth fyd-eang er mwyn rhagfynegi gorgyflenwad posibl a dymchwel prisiau posibl fisoedd ymlaen llaw. Roeddwn i'n meddwl tybed a yw'r Llywodraeth yn bwriadu monitro marchnadoedd a phrisiau yn yr un modd, neu tybed pa gynllunio ar gyfer sefyllfaoedd y mae’r Llywodraeth wedi ei wneud ar gyfer y gwahanol bosibiliadau yng Nghymru ar ôl diwedd y cwota llaeth.
You’re right to refer to the RDP, of course, as a potential source of investment in the industry. I'm not sure whether you can give us an indication of how much you anticipate the Welsh Government investing in the dairy sector, particularly over the next, say, five years, and also what other potential sources of investment there are that you could identify as a Government available to the sector, or, indeed, are all your eggs in the RDP basket? Rydych chi'n iawn i gyfeirio at y Cynllun Datblygu Gwledig, wrth gwrs, fel ffynhonnell bosibl o fuddsoddi yn y diwydiant. Nid wyf yn siŵr a allwch chi roi syniad i ni o faint yr ydych yn ei ragweld y bydd Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi yn y sector llaeth, yn enwedig dros y pum mlynedd nesaf, dyweder, a hefyd pa ffynonellau posibl eraill o fuddsoddiad y gallech chi nodi fel Llywodraeth eu bod ar gael i'r sector, neu, yn wir, a yw eich holl wyau yn y fasged Cynllun Datblygu Gwledig?
Mi wnaf gloi drwy gyfeirio at rai o’r argymhellion yn benodol, ac rwy’n ddiolchgar am fod wedi derbyn copi ychydig o funudau cyn ichi godi ar eich traed, ond, yn amlwg, bydd angen mwy o amser i bwyso a mesur yr argymhellion a’ch ymateb chi iddyn nhw yn fwy gofalus. Rwy’n nodi’r cyfeiriad at y cod llaeth, sy’n cael ei wneud yn eich datganiad chi, ond mi fyddwn i’n eich atgoffa chi hefyd, wrth gwrs, bod 12 o aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd wedi cyflwyno cod llaeth gorfodol, ac felly nid oes angen inni fod ofn gwneud hynny. Rwy’n siŵr y bydd hynny’n cael ei bwyso a’i fesur bob 12 mis, fel y mae’n ymddangos nawr y bydd hynny’n cael ei ystyried. I will conclude by making reference to some specific recommendations, and I am grateful for having received a copy a few minutes before you stood to speak, but, obviously, I’ll need some more time to actually weigh up the recommendations and your response to them more carefully. I note the reference to the dairy code, which is made in your statement, but I would remind you also, of course, that 12 member states of the European Union have introduced a compulsory dairy code, and therefore we don’t need to fear doing that. I’m sure that that will be weighed up every 12 months, as it appears now that that will be considered.
Mae argymhelliad 6, wrth gwrs, i’w groesawu. Rŷm ni wastad wedi dweud fel plaid bod angen gwneud mwy i gyflwyno prosesu llaeth yn lleol. Mae astudiaeth ddichonoldeb yn gam cyntaf, am wn i, ar gyfer gwireddu mwy o hynny yn ne-orllewin Cymru. Mi fyddwn i’n gorfoleddu yn fwy fyth petai yna ymrwymiad i weithredu yn bositif i wireddu hynny hefyd, ond mae’r datganiad yna i’w groesawu. A hefyd, yn argymhelliad 11, rydych yn sôn am gaffael cyhoeddus. Wrth gwrs, mae Plaid Cymru wedi bod yn gwbl glir ynglŷn â’r angen i ddefnyddio caffael cyhoeddus yn fwy effeithiol i ddod â budd i gynhyrchwyr Cymreig ac i’r economi Gymreig. Rwy’n gobeithio y byddwch chi, wrth wneud hynny, yn annog awdurdodau lleol ar draws Cymru i efelychu llwyddiant Cyngor Gwynedd, wedi’i arwain gan Blaid Cymru, wrth gwrs, lle mae 100 y cant o’u cytundebau nhw i ddarparu cinio ysgol naill ai’n dod o’r tu mewn i Wynedd neu o siroedd sy’n ffinio gyda Gwynedd. Recommendation 6 is to be welcomed, of course. We’ve always said as a party that more needs to be done to introduce milk processing at a local level. The feasibility study is a first step, I suppose, towards achieving more of that in south-west Wales. We would be even more jubilant if there was a commitment to take positive action to achieve that as well, but that statement is to be welcomed. And also, in recommendation 11, you mention public procurement. Of course, Plaid Cymru has been entirely clear on the need to use public procurement more effectively to bring benefits to Welsh producers and to the wider Welsh economy. I do hope that you, in doing that, will encourage local authorities across Wales to emulate the success of Gwynedd Council, which is led by Plaid Cymru, of course, where 100 per cent of their contracts to provide school lunches are either from within Gwynedd or from bordering counties.
16:04 - Rebecca Evans
Thank you for that contribution and for your questions and your warm welcome for the report. You ask about the overriding strategy and aim for the sector in Wales. This is captured, really, in the UK dairy industry growth plan, which is called ‘Leading the Way’. It was launched last summer, suggesting that we adopt a strategic aim to eliminate the UK dairy trade deficit by 2020, which is something that we aim to do by import substitution, by growing the sector, and so on. That would require an increase in output in the whole supply chain of around 4 billion extra litres of milk and at least 0.5 million more cows UK wide, and so we would certainly see that Wales would have an important and significant role to play in achieving that aspiration. Diolch ichi am y cyfraniad ac am eich cwestiynau a'ch croeso cynnes i’r adroddiad. Rydych yn gofyn am y brif strategaeth a’r nod ar gyfer y sector yng Nghymru. Mae hyn wedi ei gynnwys, mewn gwirionedd, yng nghynllun twf y diwydiant llaeth yn y DU, a elwir yn 'Arwain y Ffordd'. Fe'i lansiwyd yr haf diwethaf, gan awgrymu ein bod yn mabwysiadu nod strategol i ddileu diffyg masnach laeth y DU erbyn 2020, sef rhywbeth yr ydym yn bwriadu ei wneud drwy amnewid mewnforio, drwy dyfu’r sector, ac yn y blaen. Byddai hynny'n gofyn am gynnydd allbwn yn y gadwyn gyflenwi gyfan o tua 4 biliwn litr ychwanegol o laeth ac o leiaf 0.5 miliwn yn fwy o wartheg ledled y DU, ac felly byddem yn sicr yn gweld y byddai gan Gymru ran bwysig a sylweddol i'w chwarae o ran cyflawni’r dyhead hwnnw.
The aim—. Well, we think that we can do this because the ‘Welsh Dairy Farmers Survey Report’ suggests that our farmers will expand their production by 20 per cent by 2019, and we’re certainly well placed to displace, certainly, some of the cheese imports, the butter imports and so on, especially if we’re successful in increasing our processing capacity in Wales. Y nod—. Wel, rydym yn credu y gallwn wneud hyn oherwydd mae 'Adroddiad Arolwg Ffermwyr Llaeth Cymru' yn awgrymu y bydd ein ffermwyr yn ehangu eu cynhyrchiant gan 20 y cant erbyn 2019, ac rydym yn sicr mewn sefyllfa dda i ddisodli, yn sicr, rhai o'r mewnforion caws, y mewnforion menyn ac yn y blaen, yn enwedig os byddwn yn llwyddo i gynyddu ein capasiti prosesu yng Nghymru.
You referred to procurement, and, as you know, we have ‘Towards Sustainable Growth: an Action Plan for the Food and Drink Industry’ to grow the sector by 30 per cent by 2020 to a value of £7 billion, and action 30 within that plan refers specifically to enabling public sector purchasing, which we’re doing in a measurable way, so we want to see an increase in the numbers of food and drink suppliers supplying to our public sector in Wales, as well as the numbers, volumes and values of products being supplied increasing as well. We’re benchmarking that against what’s happening in England, Scotland and Northern Ireland—because you referred to Northern Ireland in your comments—just to make sure that we are leading the way in Wales across the UK. The Food and Drink Wales Industry Board had its first meeting just a couple of weeks ago, which I was pleased to attend, and they’ll be working very closely with us to open up opportunities and enable the public sector to purchase from our producers here in Wales. We also have the National Procurement Service, which was established two years ago now, and our officials are actively engaged in working up proposals to increase the options in the value of food and the range of food, particularly dairy, that can be supplied to the public sector through that. Cyfeiriasoch at gaffael, ac, fel y gwyddoch, mae gennym 'Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod' i dyfu'r sector gan 30 y cant erbyn 2020 i werth o £7 biliwn, ac mae cam gweithredu 30 o fewn y cynllun hwnnw yn cyfeirio'n benodol at alluogi prynu yn y sector cyhoeddus, yr ydym yn ei wneud mewn ffordd fesuradwy, felly mae arnom eisiau gweld cynnydd yn y nifer o gyflenwyr bwyd a diod sy’n cyflenwi ein sector cyhoeddus yng Nghymru, yn ogystal â gweld niferoedd, swmp a gwerth cynhyrchion sy’n cael eu cyflenwi yn cynyddu hefyd. Rydym yn meincnodi hynny yn erbyn yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon—oherwydd cyfeiriasoch at Ogledd Iwerddon yn eich sylwadau—dim ond i wneud yn siŵr ein bod yn arwain y ffordd yng Nghymru ar draws y DU. Cafodd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru ei gyfarfod cyntaf dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, ac roeddwn yn falch o fod yn bresennol, a bydd y bwrdd yn gweithio'n agos iawn gyda ni i greu cyfleoedd ac i alluogi'r sector cyhoeddus i brynu gan ein cynhyrchwyr yma yng Nghymru. Mae gennym hefyd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, a sefydlwyd ddwy flynedd yn ôl erbyn hyn, ac mae ein swyddogion yn cymryd rhan weithredol mewn cynhyrchu cynigion i gynyddu'r dewisiadau o ran gwerth bwyd a'r amrywiaeth o fwyd, yn enwedig cynnyrch llaeth, y gellir ei gyflenwi i'r sector cyhoeddus drwyddo.
You also asked about the voluntary code. You’ll see in our response that we’ve made a commitment to reviewing that on an annual basis and we’ll be doing that. Roeddech yn gofyn hefyd am y cod gwirfoddol. Byddwch yn gweld yn ein hymateb ein bod wedi gwneud ymrwymiad i adolygu hynny yn flynyddol a byddwn yn gwneud hynny.
You asked about the Milk Market Observatory, which will play an important role across Europe in terms of horizon scanning and helping us to plan for the future as well. With regard to the RDP, we have proposals under the next RDP to create the sustainable production grant, which will be a crucial element, particularly for the dairy industry. We’ll be ensuring that capital grants are available to farmers who are looking to modernise their facilities in areas such as production housing, animal health and welfare, and soil management as well. We’re looking at on-farm renewable energy, as I mentioned in my answer to the previous questions, and applicants for all of these will need to demonstrate how those investments will address the cross-cutting areas of energy efficiency, nutrient efficiency and water efficiency, which were also important themes picked out in Andy Richardson’s report. Roeddech yn gofyn am yr Arsyllfa Marchnad Laeth, a fydd yn chwarae rhan bwysig ar draws Ewrop o ran sganio'r gorwel a’n helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn ogystal. O ran y Cynllun Datblygu Gwledig, mae gennym gynigion o dan y Cynllun Datblygu Gwledig nesaf i greu'r grant cynhyrchu cynaliadwy, a fydd yn elfen hanfodol, yn enwedig ar gyfer y diwydiant llaeth. Byddwn yn sicrhau bod grantiau cyfalaf ar gael i ffermwyr sy'n awyddus i foderneiddio eu cyfleusterau mewn meysydd fel siediau cynhyrchu, iechyd a lles anifeiliaid, a rheoli pridd yn ogystal. Rydym yn edrych ar ynni adnewyddadwy ar ffermydd, fel y soniais yn fy ateb i'r cwestiynau blaenorol, a bydd angen i ymgeiswyr ar gyfer pob un o'r rhain ddangos sut y bydd y buddsoddiadau hynny yn mynd i'r afael â meysydd trawsbynciol effeithlonrwydd ynni, effeithlonrwydd maetholion ac effeithlonrwydd dŵr, a oedd hefyd yn themâu pwysig a nodwyd yn adroddiad Andy Richardson.
16:08 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Right, it’s taken us 27 minutes to get through two exchanges so we need to speed things up or all the milk will turn to cheese. Jenny Rathbone. Iawn, mae wedi cymryd 27 munud i i fynd drwy ddwy drafodaeth felly mae angen i ni gyflymu pethau, neu bydd yr holl laeth yn troi yn gaws. Jenny Rathbone.
16:08 - Jenny Rathbone
I’m less interested in volumes than quality, because I think that what people want is to know where their milk comes from and what’s in it. It isn’t just the parents of Gwynedd who want to have their school food locally sourced and, therefore, there is certainly a huge opportunity for us in Wales to ensure that we’re able to deliver for our local market as well as further afield. So, I’m a little bit puzzled as to why the 1,800 or so farmers haven’t been able to collaborate to get a local processing, both in the south-west and in the north-east, so that they’re not subject to the often predatory behaviour of the processors and the supermarkets. If we had processing done in Wales, would it not be a lot easier to ensure that we got a fair price for milk and other dairy products, which could be building on the Welsh mark and the natural resources that we have? Mae gennyf lai o ddiddordeb mewn swmp nag mewn ansawdd, oherwydd credaf mai’r hyn y mae pobl ei eisiau yw gwybod o ble mae eu llaeth yn dod a beth sydd ynddo. Nid dim ond rhieni Gwynedd sydd yn dymuno cael eu bwyd ysgol o ffynhonnell leol ac, felly, yn sicr mae cyfle enfawr i ni yng Nghymru i sicrhau ein bod ni'n gallu cyflawni ar gyfer ein marchnad leol yn ogystal â thu hwnt iddi. Felly, rwyf braidd yn ddryslyd ynghylch pam nad yw’r 1,800 neu lai o ffermwyr wedi gallu cydweithio i gael prosesu lleol, yn y de-orllewin ac yn y gogledd-ddwyrain, fel nad ydynt yn dioddef o ymddygiad y proseswyr a'r archfarchnadoedd sydd yn aml yn cymryd mantais arnynt. Pe byddai'r prosesu'n cael ei wneud yng Nghymru gennym, oni fyddai'n llawer haws sicrhau ein bod yn cael pris teg am laeth a chynhyrchion llaeth eraill, a allai fod yn adeiladu ar farc Cymru a'r adnoddau naturiol sydd gennym?
16:09 - Rebecca Evans
Thank you for those questions. Of course, in south-west Wales, Haverfordwest, we have First Milk, which is a farmer-owned operation. I was pleased to visit them earlier on in the year, where I met with the chair shortly after they made the announcement in January that they were taking steps to deal with their cash-flow problems. I was pleased again to visit just a couple of weeks ago, where I did meet some of their farmer members, and some of the management again, to talk about the vision for the site. You’ll be aware that the co-operative has recently concluded a recruitment process to appoint a new chief executive officer, Mike Gallacher, and he took up position last week, so I’m seeking early meetings with him as well to understand his vision for First Milk in Wales. Diolch am y cwestiynau yna. Wrth gwrs, yn ne-orllewin Cymru, yn Hwlffordd, mae gennym First Milk, sy'n weithrediad sy'n eiddo i ffermwyr. Roeddwn yn falch o ymweld â hwy yn gynharach yn y flwyddyn, pryd y cwrddais â’r cadeirydd yn fuan ar ôl iddynt wneud y cyhoeddiad ym mis Ionawr eu bod yn cymryd camau i ymdrin â'u problemau llif arian. Roeddwn yn falch unwaith eto o ymweld dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, pan gwrddais i â rhai o'u haelodau sy’n ffermwyr, a rhai o'r rheolwyr unwaith eto, i siarad am y weledigaeth ar gyfer y safle. Byddwch yn ymwybodol bod y cwmni cydweithredol wedi cwblhau proses recriwtio yn ddiweddar i benodi prif swyddog gweithredol newydd, Mike Gallacher, a ddechreuodd yn y swydd yr wythnos diwethaf, felly rwy'n ceisio cael cyfarfodydd cynnar gydag yntau hefyd i ddeall ei weledigaeth ar gyfer First Milk yng Nghymru.
With regard to the supermarkets, I think it’s fair to say that not all supermarket contracts are the same. I’ve met many farmers, actually, who can’t speak highly enough of the kind of contracts that they have with particular supermarkets, because they are cost of production and above, and they also benefit then from the supermarkets’ investment in them in terms of helping them with their animal health and welfare, and giving them offers for various different things—calf coats, and things like that. So, I’ve heard mixed messages, it’s fair to say, in terms of people’s experiences, and it does very much depend on the kind of contract that they’ve been able to secure. O ran yr archfarchnadoedd, rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud nad yw pob contract archfarchnad yr un fath. Rwyf wedi cwrdd â llawer o ffermwyr, mewn gwirionedd, nad ydynt yn gallu siarad yn ddigon canmoladwy am y math o gontractau sydd ganddynt gydag archfarchnadoedd penodol, oherwydd eu bod yn gost cynhyrchu ac yn uwch, ac maent hefyd yn elwa wedyn o fuddsoddiad yr archfarchnadoedd ynddynt o ran eu helpu gyda'u hiechyd a lles anifeiliaid, a rhoi cynnigion iddynt ar gyfer gwahanol bethau—cotiau llo, a phethau felly. Felly, rwyf wedi clywed negeseuon cymysg, mae'n deg dweud, o ran profiadau pobl, ac mae'n dibynnu i raddau helaeth ar y math o gontract y maent wedi gallu ei sicrhau.
16:11 - Kirsty Williams
Could I thank the Minister for her statement, and thank Andy Richardson for his work in this important area? Undoubtedly, there have been some very tough times recently for the dairy sector, not just in Wales, but across the UK. But I think it’s always worth remembering that we have some excellent dairy production units here within Wales, and we’re producing an excellent product, both in terms of raw milk and processed product, in terms of yoghurt, cheese and butter, and we should celebrate the fact, what we can achieve. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad, a diolch i Andy Richardson am ei waith yn y maes pwysig hwn? Yn ddiau, bu rhai cyfnodau anodd iawn yn ddiweddar i'r sector llaeth, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y DU. Ond rwy'n credu ei fod bob amser yn werth cofio bod gennym rai unedau cynhyrchu llaeth rhagorol yma yng Nghymru, ac rydym yn cynhyrchu cynnyrch rhagorol, o ran llaeth amrwd a chynnyrch wedi'i brosesu, sef iogwrt, caws a menyn, a dylem werthfawrogi'r ffaith, yr hyn y gallwn ei gyflawni.
Can I ask you, with regard to recommendation 1, how will the effectiveness of the Welsh dairy leadership board be monitored and assessed by the Government? The creation of the board itself is welcome, but a board alone can’t make a difference unless it’s effective. With regards to processing, processing and added value has been the holy grail of the Welsh dairy sector for the last 15 years. Ministers have come and gone and said very similar things. I’m just wondering why you feel that you’re now in a position to make a difference with regard to this. You say in the statement that you want to see a greater take-up of Glastir by those in the dairy sector. Could you tell us what the current percentage take-up is, and what your goal is in terms of what a good outcome against this recommendation would look like to you as Minister? Again, throughout your statement and your answers, you referred to the potential of the rural development plan. You have given an outline as to the kind of schemes that you envisage being available. Could you then give us some clarity about when you feel you will be in a final position to open up applications for the rural development plan and for assistance under it? A gaf i ofyn i chi, o ran argymhelliad 1, sut bydd effeithiolrwydd y bwrdd arweinyddiaeth llaeth yng Nghymru yn cael ei fonitro a'i asesu gan y Llywodraeth? Croesewir creu'r bwrdd ei hun, ond ni all bwrdd ar ei ben ei hun wneud gwahaniaeth oni bai ei fod yn effeithiol. O ran prosesu, prosesu a gwerth ychwanegol fu greal sanctaidd sector llaeth Cymru am y 15 mlynedd diwethaf. Mae Gweinidogion wedi mynd a dod ac wedi dweud pethau tebyg iawn. Rwy’n meddwl tybed pam yr ydych yn teimlo eich bod bellach mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth o ran hyn. Rydych yn dweud yn y datganiad eich bod eisiau gweld mwy o fanteisio ar y cynllun Glastir gan y rhai sydd yn y sector llaeth. A allech chi ddweud wrthym beth yw'r ganran o fanteisio ar hyn o bryd, a beth yw eich nod o ran sut byddai canlyniad da yn erbyn yr argymhelliad hwn yn edrych i chi fel Gweinidog? Unwaith eto, drwy gydol eich datganiad ac yn eich atebion, cyfeiriasoch at botensial y cynllun datblygu gwledig. Rydych wedi rhoi amlinelliad o ran y math o gynlluniau yr ydych yn rhagweld fydd ar gael. A allwch chi wedyn roi rhywfaint o eglurder i ni ynghylch pryd y byddwch yn teimlo y byddwch mewn sefyllfa derfynol i agor ceisiadau ar gyfer y cynllun datblygu gwledig ac i gael cymorth oddi tano?
We do know, in terms of efficiency, that animal health is absolutely crucial. There are recommendations about animal health issues in the e-mail that you’ve sent out this afternoon. For instance, it talks about bovine viral diarrhoea. I don’t want to play down the importance of BVD, but you will know that, for many dairy farmers, it is TB that is the greatest risk to them and their business, and I’m wondering what role you see for the new dairy leadership board in terms of not just BVD, but TB, also issues around lameness, and how we can increase longevity in the cattle herd. We do know that some studies show that longevity can be as short as three lactation cycles before animals are culled out, and this can be hugely expensive and impact hugely on efficiency. So, could you give us some clarity on what animal health aspects you perceive the leadership board taking forward? Thank you. Rydym yn gwybod, o ran effeithlonrwydd, bod iechyd anifeiliaid yn gwbl hanfodol. Mae argymhellion am faterion iechyd anifeiliaid yn yr e-bost yr ydych wedi’i anfon allan y prynhawn yma. Er enghraifft, mae'n sôn am ddolur rhydd feirysol mewn gwartheg. Nid wyf am ddiystyru pwysigrwydd BVD, ond byddwch yn gwybod, i lawer o ffermwyr llaeth, mai bTB yw’r risg mwyaf iddynt hwy a'u busnes, ac rwy'n meddwl tybed pa ran yr ydych yn gweld y bwrdd arweinyddiaeth llaeth newydd yn ei chwarae o ran nid yn unig BVD, ond bTB, a hefyd materion yn ymwneud â chloffni, a sut y gallwn gynyddu hirhoedledd yn y fuches. Rydym yn gwybod bod rhai astudiaethau yn dangos y gall hirhoedledd fod mor fyr â thri chylch cyfnod llaetha cyn i anifeiliaid gael eu lladd, a gall hyn fod yn hynod o ddrud a chael effaith aruthrol ar effeithlonrwydd. Felly, a allech chi roi rhywfaint o eglurder i ni ynghylch pa agweddau iechyd anifeiliaid yr ydych yn rhagweld y bwrdd arweinyddiaeth yn bwrw ymlaen â nhw? Diolch yn fawr.
16:14 - Rebecca Evans
I thank you for those questions. With regard to the RDP, we’re hoping for informal approval from the European Commission imminently now, and that will enable us to go ahead, at risk, with opening windows, I expect as early as July of this year. As soon as we have informal approval from the European Commission, I’ll be looking to provide Members with the windows of when the various schemes will be opened for application under the RDP, including windows for expression of interest and then windows for the actual applications to take place as well. We have an animal health and welfare framework group now—that was launched alongside the animal health and welfare strategy at the Royal Welsh Show last year. It’s very much a group of experts in the field of animal health and welfare who have taken steps themselves to identify what they feel are the priorities for the industry. Amongst those are BVD, for example, and they’ll be looking to recommend how we can use the animal health strand of the RDP to deal with BVD and help farmers to do that. Diolch i chi am y cwestiynau yna. O ran y Cynllun Datblygu Gwledig, rydym yn gobeithio cael cymeradwyaeth anffurfiol gan y Comisiwn Ewropeaidd yn fuan bellach, a fydd yn ein galluogi i fynd ymlaen, gyda risg, ag agor ffenestri, mor gynnar â mis Gorffennaf eleni yr wyf yn disgwyl. Cyn gynted ag y byddwn wedi cael cymeradwyaeth anffurfiol gan y Comisiwn Ewropeaidd, byddaf yn edrych i ddarparu Aelodau gyda'r ffenestri o ran pa bryd y bydd y cynlluniau amrywiol yn cael eu hagor ar gyfer ceisiadau dan y Cynllun Datblygu Gwledig, gan gynnwys ffenestri ar gyfer datganiad o ddiddordeb ac yna ffenestri ar gyfer y ceisiadau gwirioneddol i ddigwydd hefyd. Mae gennym grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid erbyn hyn—a gafodd ei lansio ochr yn ochr â'r strategaeth iechyd a lles anifeiliaid yn Sioe Frenhinol Cymru y llynedd. Mae'n sicr yn grŵp o arbenigwyr ym maes iechyd a lles anifeiliaid sydd wedi cymryd camau eu hunain i nodi'r hyn y maent o'r farn yw'r blaenoriaethau ar gyfer y diwydiant. Ymhlith y rheini y mae BVD, er enghraifft, a byddant yn edrych i argymell sut y gallwn ddefnyddio elfen iechyd anifeiliaid y Cynllun Datblygu Gwledig i ymdrin â BVD a helpu ffermwyr i wneud hynny.
Of course, much of this has to be industry-led, as well, in that it makes sense for farmers to take whatever steps that they can to deal with BVD in their herds in order to increase their output and so on, because healthy animals are productive animals. So, it’s important that the industry take ownership of this themselves, as well. Wrth gwrs, mae'n rhaid i lawer o hyn fod dan arweiniad y diwydiant, yn ogystal, gan ei fod yn gwneud synnwyr i ffermwyr gymryd pa bynnag gamau a allant i ymdrin â BVD yn eu buchesi er mwyn cynyddu eu cynhyrchiant ac yn y blaen, gan fod anifeiliaid iach yn anifeiliaid cynhyrchiol. Felly, mae'n bwysig bod y diwydiant yn cymryd perchnogaeth o hyn eu hunain, yn ogystal.
We can also look at what we can do about projects exploring longevity, perhaps. We’ve got projects going on at the moment on calf health, for example, at Gelli Aur, so we can see what other projects would be appropriate under the RDP. Gallwn hefyd edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud am brosiectau sy’n archwilio hirhoedledd, efallai. Mae gennym brosiectau sy'n mynd ymlaen ar hyn o bryd ar iechyd lloi, er enghraifft, yn y Gelli Aur, felly gallwn weld pa brosiectau eraill fyddai’n briodol dan y Cynllun Datblygu Gwledig.
You’ve mentioned our excellent products; I think it’s important that we reflect on that. We have an excellent story to tell in terms of our exports. Our exports are up—I think they’re at the highest level that they’ve been in 25 years. In Wales, we’re outperforming the rest of the UK in terms of our exports of products, including our dairy products. I was at the international food and drink expo in London just yesterday. I managed to talk to some of our excellent producers—for example, Snowdonia Cheese Company, Daioni milk and Frank’s Ice Cream—all of whom were flying the flag for our Welsh produce. There was a huge amount of excitement and interest in Wales and what we can produce here. So, I think that there’s much more that we can do. We’ve got the ambitious targets that I talked about earlier, and we have a strong export strategy and a strong business development strategy for our Welsh food and drink businesses as well. So I think that the future there is looking really positive. Rydych wedi crybwyll ein cynnyrch ardderchog; rwy'n credu ei fod yn bwysig ein bod yn myfyrio ar hynny. Mae gennym stori ardderchog i'w hadrodd o ran ein hallforion. Mae ein hallforion yn uwch—rwy'n credu eu bod ar y lefel uchaf y maent wedi bod mewn 25 mlynedd. Yng Nghymru, rydym yn gwneud yn well na gweddill y DU o ran ein hallforion o gynhyrchion, gan gynnwys ein cynnyrch llaeth. Roeddwn yn yr expo bwyd a diod rhyngwladol yn Llundain ddoe ddiwethaf. Llwyddais i siarad â rhai o'n cynhyrchwyr rhagorol—er enghraifft, Cwmni Caws Eryri, llaeth Daioni a Hufen Iâ Frank—pob un ohonynt yn chwifio'r faner ar ran ein cynnyrch o Gymru. Roedd llawer iawn o gyffro a diddordeb yng Nghymru a'r hyn y gallwn ei gynhyrchu yma. Felly, credaf fod llawer mwy y gallwn ei wneud. Mae gennym y targedau uchelgeisiol y siaradais amdanynt yn gynharach, ac mae gennym strategaeth allforio gref a strategaeth ddatblygu busnes gref ar gyfer ein busnesau bwyd a diod o Gymru yn ogystal. Felly, rwy’n credu bod y dyfodol yn hyn o beth yn edrych yn gadarn iawn.
16:17 - Alun Davies
Like others this afternoon, Deputy Minister, I very much welcome the report that Andy Richardson has completed, and the fact that you’ve responded so quickly to it; I think that both of those things are to be commended. Do you not agree with me, Deputy Minister, that there are two broad areas where Government has a role in these matters? First of all is to establish regulation of the market. The voluntary code largely did that; I accept that it does need to be reviewed, and I very much welcome your commitment to reviewing it on an annual basis. It was foreseen that a biennial review would be sufficient, but I think we recognise that market volatility, and the actions of producers and others in the market, does mean that an annual review is appropriate. Fel eraill y prynhawn yma, Ddirprwy Weinidog, croesawaf innau yn fawr iawn yr adroddiad y mae Andy Richardson wedi’i gwblhau, a'r ffaith eich bod wedi ymateb mor gyflym iddo; credaf fod y ddau beth hynny i'w canmol. Onid ydych chi'n cytuno â mi, Ddirprwy Weinidog, bod dau faes eang lle mae gan y Llywodraeth ran i'w chwarae yn y materion hyn? Y cyntaf o'r rhain yw sefydlu rheoleiddio'r farchnad. Gwnaeth y cod gwirfoddol hynny i raddau helaeth; rwy’n derbyn bod angen iddo gael ei adolygu, a chroesawaf yn fawr eich ymrwymiad i’w adolygu’n flynyddol. Rhagwelir y byddai adolygiad bob dwy flynedd yn ddigonol, ond rwy’n meddwl ein bod yn cydnabod bod anweddolrwydd y farchnad, a gweithredoedd cynhyrchwyr a phobl eraill yn y farchnad, yn golygu bod adolygiad blynyddol yn briodol.
The powers of the Groceries Code Adjudicator were, of course, watered down by the coalition Government, and the significant powers that were given to the adjudicator’s role by the last Labour UK Government were watered down. It might well be time for us to look again at the powers available to that adjudicator to ensure that the powers that the last Labour UK Government envisaged are actually passed through to it. At the same time, producer organisations, which have already been referred to this afternoon, may also be a way by which producers themselves are able to strengthen their part in the market. Cafodd pwerau'r Dyfarnwr Cod Cyflenwi Bwydydd, wrth gwrs, eu gwanhau gan y Llywodraeth glymblaid, a chafodd y pwerau sylweddol a roddwyd i swyddogaeth y dyfarnwr gan Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU eu gwanhau. Gallai'n wir fod yn amser i ni edrych eto ar y pwerau sydd ar gael i'r dyfarnwr i sicrhau bod y pwerau a ragwelodd Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU yn cael eu trosglwyddo iddo mewn gwirionedd. Ar yr un pryd, gall y sefydliadau cynhyrchydd, y cyfeiriwyd atynt eisoes y prynhawn yma, hefyd fod yn ffordd y mae cynhyrchwyr eu hunain yn gallu cryfhau eu rhan yn y farchnad.
The second side of this, and the second aspect where I think Government has a role, is very much where Andy Richardson’s report focuses, which is on efficiency and operation of the industry. In my view and experience, the Agriculture and Horticulture Development Board has never been a particularly good friend of Wales, and we also know that farmers already pay a levy to DairyCo to provide many services, which I don’t believe are being effectively delivered in Wales. It is, surely, now time that we created a levy board for Wales that is able to deliver these services for Wales, to look at the very successful Hybu Cig Cymru model and to ensure that we have that model operating in Wales that delivers support to the dairy sector, working alongside Farming Connect and Government, to ensure that the levies that farmers pay already actually deliver the sorts of efficiencies, market support and industry support that they very much require. Ail ochr hyn, a’r ail agwedd lle rwy'n credu bod gan y Llywodraeth swyddogaeth, yn sicr yw'r hyn y mae adroddiad Andy Richardson yn canolbwyntio arno, sef effeithlonrwydd a gweithrediad y diwydiant. Yn fy marn a’m profiad i, nid yw'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth erioed wedi bod yn ffrind arbennig o dda i Gymru, ac rydym hefyd yn gwybod bod ffermwyr eisoes yn talu ardoll i DairyCo i ddarparu llawer o wasanaethau, nad wyf yn credu sy’n cael eu darparu'n effeithiol yng Nghymru. Siawns ei bod yn amser bellach i ni greu bwrdd ardollau ar gyfer Cymru sy'n gallu darparu'r gwasanaethau hyn i Gymru, i edrych ar y model llwyddiannus iawn Hybu Cig Cymru ac i sicrhau bod gennym y model hwnnw yn gweithredu yng Nghymru sy'n darparu cefnogaeth i’r sector llaeth, gan weithio ochr yn ochr â Cyswllt Ffermio a'r Llywodraeth, i sicrhau bod yr ardollau y mae ffermwyr yn eu talu eisoes mewn gwirionedd yn cyflawni'r math o effeithlonrwydd, cefnogaeth y farchnad a chefnogaeth y diwydiant y maent wir ei angen.
16:19 - Rebecca Evans
I thank you for those questions. I’ve written to George Eustice very much in the manner that you suggest regarding the role of the Groceries Code Adjudicator. I’m very supportive of her work, and I would like to see our suppliers in Wales, large and small, making more use of the services that she provides. With regard to producer organisations, of course, the first dairy producer organisation has now been established and recognised across the border in England, so we’ll be taking a keen interest in the work of that to see whether there are options there for the future for our Welsh dairy farmers. Diolch i chi am y cwestiynau yna. Rwyf wedi ysgrifennu at George Eustice, yn y modd yr ydych yn ei awgrymu i raddau helaeth, ynglŷn â swyddogaeth y Dyfarnwr Cod Cyflenwi Bwydydd. Rwy'n gefnogol iawn o'i gwaith, a hoffwn weld ein cyflenwyr yng Nghymru, mawr a bach, yn gwneud mwy o ddefnydd o'r gwasanaethau y mae hi'n eu darparu. O ran sefydliadau cynhyrchwyr, wrth gwrs, mae’r sefydliad cynhyrchwyr llaeth cyntaf bellach wedi'i sefydlu a'i gydnabod ar draws y ffin yn Lloegr, felly byddwn yn cymryd diddordeb brwd yng ngwaith hwnnw i weld a oes dewisiadau yno ar gyfer y dyfodol o ran ein ffermwyr llaeth yng Nghymru.
With regard to DairyCo and the levy, it is, I think, a question of scale in the sense that, as you know, we drink about 50 per cent of the milk that we produce; the other 50 per cent goes into added-value products. It would be very difficult, if we are talking about advertising in the way that HCC does in terms of advertising all of those different products, many of which are branded products anyway and have access to large advertising budgets, and so on. But, recommendation 2 in the report that we’ve published today has recommended that we appoint a Welsh dairy champion. That role is very similar, really, to the role that we’re currently sponsoring through the post of the head of dairy development within DairyCo in Wales. So, I’ll be reviewing our partnership agreement with DairyCo very shortly on that. O ran DairyCo a'r ardoll, mae hwn, rwy’n meddwl, yn gwestiwn o raddfa yn yr ystyr, fel y gwyddoch, ein bod yn yfed tua 50 y cant o'r llaeth a gynhyrchir gennym; mae’r 50 y cant arall yn mynd i mewn i gynnyrch gwerth ychwanegol. Byddai'n anodd iawn, os ydym yn sôn am hysbysebu yn y ffordd y mae HCC yn ei wneud o ran hysbysebu’r holl gynhyrchion gwahanol hynny, y mae llawer ohonynt yn gynhyrchion wedi’u brandio beth bynnag, ac sydd â chyllidebau hysbysebu mawr ar gael iddynt, ac yn y blaen. Ond, mae argymhelliad 2 yn yr adroddiad yr ydym wedi’i gyhoeddi heddiw wedi argymell ein bod yn penodi hyrwyddwr llaeth ar gyfer Cymru. Mae'r gwaith hwnnw yn debyg iawn, mewn gwirionedd, i'r gwaith yr ydym yn ei noddi ar hyn o bryd drwy'r swydd pennaeth datblygu llaeth o fewn DairyCo yng Nghymru. Felly, byddaf yn adolygu ein cytundeb partneriaeth â DairyCo yn fuan iawn ynglŷn â hynny. 
16:20 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
And finally, Dafydd Elis-Thomas. Ac yn olaf, Dafydd Elis-Thomas.
16:20 - Yr Arglwydd / Lord Elis-Thomas
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid wyf am eich cywiro chi, ond mae’n cymryd mwy nag 20 munud i aeddfedu caws. Thank you, Deputy Presiding Officer. I do not want to correct you, but it takes more than 20 minutes to mature cheese.
Diolch yn fawr am y datganiad, ac yn arbennig am yr ymroddiad, unwaith eto, i ychwanegu gwerth yng Nghymru at gynnyrch llaeth. Diolch i’r tasglu, dan arweiniad Andy Richardson. Mae’n fraint arbennig i fi gael cynrychioli Hufenfa De Arfon, sydd yn uned gynhyrchu gydweithredol, sydd yn cael ei harwain gan y farchnad ac sy’n llwyddo i werthu caws i mewn i Iwerddon. Felly, mae popeth yn bosib yn y farchnad gaws, os yw’r cynnyrch yn iawn. Thank you for the statement, and particularly for the commitment, once again, to add value to dairy produce in Wales. I’d like to thank the taskforce, led by Andy Richardson. It is a particular privilege for me to represent South Caernarfon Creameries, a collaborative production unit, led by the market, that successfully sells cheese into Ireland. Therefore, everything is possible in the cheese market, if the product is right.
Felly, a gaf i nid yn unig eich gwahodd chi—os nad ydych wedi bod yn ddiweddar—i Chwilog, i ymweld â ni yn y fan honno, ond hefyd i ddysgu gwersi o’r buddsoddiad enfawr sydd i ddigwydd yn y lle yna o fewn wythnosau? Drwy gefnogaeth Llywodraeth Cymru o bron i £3 miliwn, mi fydd y cwmni yna, y cwmni cydweithredol yna, yn creu uned gynhyrchu caws newydd—un o’r rhai cyntaf I gael eu hagor yn y diwydiant caws ers degawdau. Felly, os gallwch chi fel Gweinidog hyrwyddo’r gweithgarwch yma ymhellach a dysgu I gynhyrchwyr eraill a phroseswyr eraill beth sy’n bosib, rwy’n croesawu’n arbennig ddatblygiad cyfatebol yn y de-orllewin. So, may I not only invite you to visit us in Chwilog—if you have not been recently—but also to learn lessons from the huge investment that is to happen there there within weeks? With support of almost £3 million from Welsh Government, that company, that co-operative, will create a new cheese production unit—one of the first to be opened in the cheese industry for decades. So, if you as Minister could promote that activity further and roll-out good practice to other producers and processors others, I particularly welcome a corresponding development in south-west Wales.
16:22 - Rebecca Evans
Excellent; thank you very much for that contribution. I had the pleasure of meeting with South Caernarfon Creameries just yesterday, actually, at the international food and drink exhibition, to which I’ve referred, and I did invite myself along to go and visit them later in the year, but I’d be more than happy to do so with you. I understand that, following investment from the Welsh Government, they’ll be expanding and opening up the new part of their plant in October of this year, so, perhaps we could visit then. Ardderchog; diolch yn fawr iawn am y cyfraniad yna. Cefais y pleser o gwrdd â Hufenfa De Arfon ddoe ddiwethaf, mewn gwirionedd, yn yr arddangosfa bwyd a diod rhyngwladol, yr wyf wedi cyfeirio ati, ac fe wnes i wahodd fy hun draw i ymweld â hwy yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ond byddwn yn fwy na hapus i wneud hynny gyda chi. Rwy’n deall, yn dilyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, y byddant yn ehangu ac yn agor y rhan newydd o’u ffatri ym mis Hydref eleni, felly, efallai y gallem ymweld bryd hynny. 
16:23 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Diolch yn fawr. Thank you very much.
6. Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) (Cymru) 2015 6. The Welsh Language Standards (No. 1) (Wales) Regulations 2015
Eitem 6 yw’r Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) (Cymru) 2015. Galwaf ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig—Carwyn Jones. Item 6 is on the Welsh Language Standards (No. 1) (Wales) Regulations. I call on the First Minister to move the motion—Carwyn Jones.
Cynnig NDM5732 Jane Hutt Motion NDM5732 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: To propose that the National Assembly for Wales; in accordance with Standing Order 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 yn cael eu llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2015. Approves that the draft The Welsh Language Standards (No. 1) Regulations 2015 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 3 March 2015.
Cynigiwyd y cynnig. Motion moved.
16:23 - Carwyn Jones
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n symud, wrth gwrs, y rheoliadau eu hunain. Mae’n bleser mawr cael agor y ddadl hon ar Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015. Fel y mae’r teitl yn awgrymu, bydd rhagor o safonau ar eu ffordd yn y dyfodol a fydd yn delio â chyrff eraill yn y sector cyhoeddus ac yn ymestyn hefyd i’r sector preifat. Thank you, Deputy Presiding Officer. I move, of course, the regulations themselves. It is a great pleasure to open this debate on the Welsh Language Standards (No. 1) Regulations 2015. As the title suggests, there will be more standards on their way in the future that will deal with other public sector bodies and extend also to the private sector.
Cafodd y safonau hyn eu paratoi ar gyfer awdurdodau lleol, y parciau cenedlaethol a Gweinidogion Cymru—26 o sefydliadau i gyd sy’n darparu gwasanaethau i bobl ym mhob cwr o Gymru. Mae’r safonau yma yn hanesyddol ac yn torri tir newydd o safbwynt deddfwriaeth ieithyddol. Cawsant eu drafftio’n arbennig ar gyfer sefyllfa’r Gymraeg gyda golwg ar yr heriau penodol sy’n ei hwynebu. Nid oes dim byd yn gymwys yr un fath mewn unrhyw wlad arall. These standards have been prepared for local authorities, the national parks and Welsh Ministers—26 organisations in all, which provide services to people throughout Wales. The standards here are historical and break new ground in terms of linguistic legislation. They were drafted especially for the Welsh language with a view to the specific challenges it faces. There is nothing that is exactly the same in any other country.
Ddirprwy Lywydd, bydd y safonau hyn yn gosod sylfaen bwysig a fydd, yn ei thro, yn hybu mwy o ddefnydd o’r Gymraeg, sef un o flaenoriaethau, wrth gwrs, strategaeth Bwrw Mlaen. Drwy wybod beth yn union sydd angen iddyn nhw wneud, bydd modd i’r sefydliadau dan sylw wella’r gwasanaethau Cymraeg a ddarperir ganddynt, a bydd hynny o fantais i’r cyhoedd a’r bobl sy’n gweithio i’r sefydliadau eu hunain. Deputy Presiding Officer, these standards will provide an important foundation and will, in turn, promote greater use of the Welsh language, which is one of the priorities of the ‘Bwrw Mlaen’ strategy, of course. By knowing exactly what they need to do, it will be possible for the organisations concerned to improve their Welsh-medium services, and that will benefit the public and the people who work for the organisations themselves.
Ynglŷn â’r safbwynt cynllunio ieithyddol, mae’r seilwaith wedi bod yn ei le ers Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Roedd hynny, wrth gwrs, dros 20 mlynedd yn ôl. Ers hynny, rydym ni wedi dod i arfer â thrin y Gymraeg ar lefel strategol, gyda’r nod o hybu a hyrwyddo’r iaith, ond dyma ni nawr yn gwireddu un o brif hoelion wyth Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a gosod hawliau ar sail ddeddfwriaethol gref. In terms of linguistic planning, the infrastructure has been in place since the Welsh Language Act 1993. That was, of course, more than 20 years ago. Since then, we have become used to dealing with the language on a strategic level, with the aim of supporting and promoting the language, but here we are now realising one of the main objectives of the Welsh Language (Wales) Measure 2011, placing rights on a strong legislative basis.
Ddirprwy Lywydd, bydd y safonau a gweithgareddau’r comisiynydd a’r tribiwnlys yn atgyfnerthu’r agwedd strategol ac yn helpu i symud yr iaith ymlaen i’r lefel nesaf, ac mae’r sancsiynau sy’n rhan o gyfundrefn y safonau hefyd yn elfen newydd. Ein nod yn y pen draw yw i’r Gymraeg gael ei hystyried fel mwy na mater cyfieithu yn unig, gan ddod yn rhan awtomatig o wasanaethau yng Nghymru. Rydym ni am weld y Gymraeg yn cael ei normaleiddio ym mhob rhan o fywyd preifat a chyhoeddus, ac, wrth gwrs, yn y gwaith. Rydym yn hyderus, felly, y bydd y safonau yn gam allweddol tuag at hynny. Deputy Presiding Officer, the standards, along with the activities of the commissioner and the tribunal, will reinforce the strategic approach and help to move the language to the next level, and the sanctions that are part of the standards system are also a new element. Our ultimate aim is for the language to be considered as more than just a translation issue, becoming an automatic part of service provision in Wales. We want to see the Welsh language being normalised in all parts of private and public life, and, of course, in the workplace. We are confident, therefore, that the standards will be a key step towards that.
Mae’r safonau, felly, yn hanesyddol, Ddirprwy Lywydd, ac rydym yn edrych ymlaen at glywed y drafodaeth ac at weld cefnogaeth y Cynulliad i’r rheoliadau eu hunain. The standards, therefore, are historic, Deputy Presiding Officer, and we look forward to hearing the debate and to receiving the Assembly’s support for the regulations themselves.
16:26 - Suzy Davies
Diolch i chi, Brif Weinidog, am ddod o’r diwedd â’r rheoliadau hyn i’r Siambr. Mae wedi bod yn gyfnod beichiogrwydd hir ac anghyfforddus weithiau—saga go iawn. Yn unol â’r hen chwedlau, rydym hyd yn oed wedi gweld ymgais gan y comisiynydd iaith i gyflwyno plentyn newid yng nghrud gwag y Llywodraeth. Ond, fwy na phedair blynedd ers Cydsyniad Brenhinol i Fesur y Gymraeg, dyma ni. Thank you, First Minister, for at last bringing these regulations to the Chamber. It has been a long and sometimes uncomfortable gestation period—a real saga. In accordance with the old myth, we've even seen an attempt by the language commissioner to introduce a changeling into the Government's empty cradle. But, more than four years after the Welsh language Measure gained Royal Assent, here we are.
Daeth y Llywydd i’r Gadair am 16:26. The Presiding Officer took the Chair at 16:26.
Suzy Davies
Gofynnais i chi yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a allech chi roi unrhyw enghreifftiau o ddeddfwriaeth a oedd wedi cael eu dylanwadu neu eu diwygio o ganlyniad i ymgynghoriad cyhoeddus. Rwy’n synnu nad oeddech chi’n sôn, Brif Weinidog, am y safonau hyn, achos mae’n ymddangos bod nifer o newidiadau wedi canlyn ymgynghoriad cyhoeddus ar y rheoliadau drafft, ac ymarfer da yw pethau drafft. Ni fydd y newidiadau yn bodloni pawb sy’n ceisio cynyddu defnydd y Gymraeg a pharch tuag at hawliau ieithyddol. Fodd bynnag, rwy’n falch, o safbwynt craffu, bod y rheoliadau yn dangos bod y Llywodraeth wedi ymateb yn gadarnhaol i bryderon penodol. I asked you in the Constitutional and Legislative Affairs Committee whether you could give any examples of legislation that had been influenced or amended as a result of public consultation. I'm surprised that you didn't mention these standards, First Minister, as it appears to me that a number of changes were made as a result of the public consultation on the draft regulations, and draft regulations are good practice. The changes won’t satisfy everyone who is seeking to increase the use made of the Welsh language and to bolster respect for linguistic rights. However, I am pleased, in terms of scrutiny, that the regulations show that the Government has responded positively to specific concerns.
Rwy’n siŵr bod nifer o bryderon y bydd Aelodau am glywed amdanynt heddiw, ond byddaf yn cyfeirio at jest ddau welliant—y gwelliannau sy’n trio ymateb i rai o’r cwestiynau a godwyd gan lefarwyr y tair gwrthblaid yn eu llythyr atoch chi y mis diwethaf. Mae rheoliad 1(5) yn ei gwneud yn glir os oes un o’r cyrff sydd wedi eu heffeithio gan y rheoliadau hyn yn gyfrifol am weithgaredd neu wasanaeth yn amodol ar safon benodol, mae’r safon dal yn berthnasol os bydd trydydd parti yn darparu’r gweithgaredd neu’r gwasanaeth. Ni all y corff cynradd ddianc ei rwymedigaeth drwy anfon y gwaith allan. Mae adran 48 y Mesur ei hun yn datgan lle mae trydydd parti ei hun yn ffaelu cyrraedd y safon, gall y comisiynydd iaith roi hysbysiad cydymffurfio i’r trydydd parti, yn yr un ffordd ag y gellir ei roi i’r corff cynradd. I'm sure that there are a number of concerns that Members will want to air today, but I will refer to just two amendments—those that try to respond to some of the questions raised by the three opposition spokespeople in their letter to you last month. Regulation 1(5) makes it clear that, if a body impacted by these regulations is responsible for an activity or service that is subject to a particular standard, that standard still applies if a third party provides that activity or service. The primary body cannot evade its responsibility by outsourcing the work. Section 48 of the Measure itself states that, where a third party itself cannot attain a standard, the commissioner can issue a compliance notice to the third party, in the same way as the primary body.
Ond, a allech chi egluro un pwynt i mi, achos nid wyf cweit yn deall hynny? Beth sy’n digwydd lle mae’r contract rhwng y corff cynradd a’r trydydd parti yn ôl-ddyddio—‘pre-dates’—hysbysiad cydymffurfio’r comisiynydd, lle mae contract yn bodoli yn barod? Mae’r safonau yn disgyn tu allan i’r contract, siŵr. Mae’n debyg nad oes gan y comisiynydd na’r corff cynradd ddim pŵer i orfodi’r trydydd parti i gydymffurfio. A yw hynny’n gywir? Beth sy’n digwydd os nad oes unrhyw ddarpariaeth yn y contract i ganiatáu terfynu mewn amgylchiadau o’r fath? Sut y byddai hawliau ieithyddol yn cael eu gorfodi? But could you clarify one point for me, because I do not quite understand this? What happens when the contract between the primary body and a third party pre-dates the commissioner’s compliance notice, where a contract already exists? The standards fall outwith the contract, surely. It would appear that neither the commissioner nor the primary body have the power to compel the third party to comply. Is that correct? What happens if there is no provision in the contract to allow termination in such circumstances? How would linguistic rights be enforced?
Mae’r ail bwynt yn ymwneud â’n hymholiad ynghylch recriwtio. Ni all neb gonsurio siaradwyr Cymraeg sydd â’r sgiliau swydd priodol allan o’r gwynt, wrth gwrs. Pe bai polisi’r Llywodraeth ar gyfer addysgu a defnydd o’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg wedi bod yn fwy effeithiol dros y 15 mlynedd diwethaf, efallai y byddem mewn sefyllfa lot gwell. Rwy’n falch felly bod rhaid i’r cyrff asesu pa lefel o sgiliau iaith a fydd yn angenrheidiol ar gyfer pob swydd newydd neu wag. Yn ogystal â ‘hanfodol’ a ‘dymunol’, a gawn ni hefyd ‘mae angen i’w dysgu’? The second point relates to our query about recruitment. Nobody can just conjure up Welsh speakers with the appropriate job skills out of thin air, of course. If the Government's policy for the teaching of the Welsh language, and its use, in English-medium schools had been more effective over the last 15 years, we could have been in a far stronger position. I am pleased, therefore, that organisations do have to assess what level of language skills will be necessary for all new or vacant posts. In addition to 'essential' and 'desirable', can we also have ‘need to learn'?
Gall y safonau finio ein dealltwriaeth o hawliau iaith Gymraeg, ond nid ydynt i fod yn rhwystr i’r rhai sy’n dechrau caffael yr iaith. Rwy’n gobeithio bod safon 98, sy’n gofyn am ddatblygu polisi i wella’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y sefydliad, yn arbennig o sensitif i anghenion pobl sy’n chwilio am swydd yn y categori newydd. The standards could sharpen our understanding of linguistic rights, but they shouldn’t be a barrier to those who start acquiring the language. I hope that standard 98, which requires the development of a policy to improve the use of the language within the organisation, is particularly sensitive to the needs of people who are seeking employment in that new category.
Ar yr ochr arall, rwyf braidd yn drist i weld, o hyd, fod yna swyddi yn y cyrff hyn lle nad oes angen unrhyw sgiliau iaith Gymraeg. Rwy’n siŵr, yn ymarferol, fod hynny’n adlewyrchu’r sefyllfa fel ag y mae. Efallai y bydd safon 98, dros y blynyddoedd, yn arwain at ostyngiad yn nifer y swyddi lle y mae’r Gymraeg yn cael ei gweld fel rhywbeth sydd o ddim defnydd o gwbl. On the other side, I'm a bit disappointed to see that there are still jobs in these organisations that don’t require any Welsh language skills at all. I'm sure that, on a practical level, that reflects the situation as it currently is. Standard 98 may, over the years, lead to a reduction in the number of posts where the Welsh language is seen as being of no use whatsoever.
Dyma’r set gyntaf o safonau, a hoffwn gydnabod y gwaith sydd wedi mynd i mewn iddynt. Mae angen inni nawr eu cefnogi nhw, gweld sut y maen nhw’n gweithio yn ymarferol, ymateb i’r ymholiadau ynglŷn â phwy sy’n gwneud beth ynglŷn â chyhoeddusrwydd, a gwylio gyda diddordeb i weld a fydd y comisiynydd yn dod ymlaen, maes o law, gydag awgrymiadau am welliannau. Diolch. This is the first set of standards, and I would like to acknowledge the work that has gone into them. We now need to support them, see how they work in practice, respond to enquiries in terms of who does what on publicity, and watch with interest to see whether the commissioner comes forward, in due course, with suggestions for improvements. Thank you.
16:31 - Keith Davies
Pwrpas yr holl broses safonau ydy creu rhai rhesymol a chymesur, ac mae gen i ddau gwestiwn. Gyda’r cylch cyntaf hwn, mae’n peri pryder i mi fod y costau’n amrywio cymaint ymysg yr awdurdodau lleol. Er enghraifft, mae Penfro a Wrecsam yn sôn am £0.75 miliwn—amcangyfrif yn unig, wrth gwrs, cyn i’r comisiynydd rhoi hysbysiadau cydymffurfio. Pa drafodaethau a ydych chi wedi eu cael gyda’r comisiynydd ynglŷn â’r costau ac amserlen cyflwyno’r cylch? Yn ail, mae’r comisiynydd wedi bod o flaen y grŵp trawsbleidiol ar y Gymraeg sawl gwaith, gan bwysleisio pwysigrwydd amserlen y cylchoedd. A ydy’r Llywodraeth yn cynllunio bod mewn sefyllfa i allu gwneud rheoliadau’r holl gylchoedd erbyn 2016? The purpose of the whole standards process is to create reasonable and proportionate standards, and I have two questions. With this first round, it concerns me that the costs vary so much among local authorities. For example, Pembrokeshire and Wrexham are talking about £0.75 million—that is only an estimate, of course, before the commissioner provides compliance notices. What discussions have you had with the commissioner about the costs and the timetable for implementing this round? Secondly, the commissioner has appeared before the cross-party group on the Welsh language several times, and has emphasised the importance of the timetables for these rounds. Does the Government intend to be in a position to be able to make regulations on all rounds of standards by 2016?
16:32 - Simon Thomas
Bydd Plaid Cymru’n cefnogi’r rheoliadau heddiw, ac yn gobeithio y bydd pob un yn y Cynulliad yn uno i gefnogi’r rheoliadau, fel ein bod ni’n gallu gyrru neges unfrydol o’r Cynulliad heddiw fod angen y safonau hyn ar ein hawdurdodau cyhoeddus ni, er gwaethaf rhai cwestiynau sydd gen i ynglŷn ag union natur y safonau, er mwyn sicrhau’r hawliau i siaradwyr Cymraeg sydd yn dod yn sgil Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Dyma gyflawni addewid Plaid Cymru mewn Llywodraeth, mewn ffordd, i weld y safonau yn eu lle a hawliau i siaradwyr Cymraeg yn cael eu darparu, yn sgil gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Plaid Cymru will be supporting these regulations today, and we hope that everyone in the Assembly will unite in supporting these regulations so that we can send a unanimous message from the Assembly today that our public authorities need these standards, despite some questions that I have about the precise nature of the standards, in order to secure rights for Welsh speakers as a result of the Welsh Language (Wales) Measure 2011. This achieves a pledge made by Plaid Cymru in Government, in a way, to see the standards put in place and rights provided to Welsh speakers, in light of making the Welsh language an official language in Wales.
Nawr, mae’n eironig braidd ein bod ni’n pasio’r safonau, fel Senedd ddeddfwriaethol lawn, ar sail Mesur a gafodd ei basio o dan yr hen drefn, fel petai, achos mae’n debyg pe byddem ni’n gwneud y job eto, ni fyddem ni’n ei gwneud cweit yn y ffordd yma. Serch hynny, mae’n bwysig nodi bod y safonau yn darparu’r hyn y dylai awdurdodau lleol, parciau cenedlaethol a Llywodraeth Cymru ei hunan, wrth gwrs, ei wneud nawr, i sicrhau hawliau i siaradwyr Cymraeg. Heb fynd i fanylu ar yr union safonau, achos mae yna rai cannoedd ohonyn nhw, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig tanlinellu pa mor hanfodol y bydd hi nawr i’r safonau hyn gael eu hwyluso a’u hyrwyddo, a bod cyhoeddusrwydd yn eu cylch, ynglŷn â’r ffordd y maen nhw’n darparu hawliau. Bydd angen llyfryn bach syml i esbonio’r hawliau hyn; nid oes modd disgwyl i’r cyhoedd, does bosib, ddarllen yr is-ddeddfwriaeth sydd gerbron y Cynulliad heddiw. Now, it is somewhat ironic that we are passing these standards as a full legislative Assembly, on the basis of a Measure passed under the old regime, as it were, because it would appear that if we were to do that job again, we wouldn’t do it in exactly this way. However, it is important to note that the standards do provide for what local authorities the national parks and the Welsh Government itself, of course, should do now, to ensure rights for Welsh speakers. Without going into too much detail on the standards, because there are a few hundred of them, I think it’s important to highlight how crucial it will be now for these standards to be facilitated and promoted, and advertised in terms of how they provide rights. We will need a simple booklet explaining these rights; we cannot expect the public, surely, to read the subordinate legislation that is before the Assembly today.
Rwy’n ofni bod y toriadau i gyllideb y comisiynydd iaith, sydd wedi bod yn doriadau sylweddol iawn yn y gyllideb ddiwethaf, yn mynd i rwystro gallu’r comisiynydd i wneud y gwaith yma, er mai priod waith y comisiynydd, wrth gwrs, yw plismona’r safonau, fel petai. Rwy’n credu bod rôl hefyd gan y Llywodraeth i’w chwarae, yn hyrwyddo’r egwyddor o safonau a’r ffordd y maent yn darparu hawliau, bellach. Mae’r gost, wrth gwrs, yn cael ei chodi bob tro y mae dyn yn cynnig unrhyw fath o ddeddfwriaeth. Mae’n bwysig, rwy’n meddwl, yn y cyd-destun yma, i danlinellu nad yw’r safonau hyn, o leiaf ar y diwrnod cyntaf, ond yn disgwyl i’r awdurdodau lleol wneud yr hyn y maen nhw i fod i’w wneud nawr o dan drefn bresennol y cynlluniau iaith. Mae’n ddigon posib nad yw pob un yn gwneud hynny, nac wedi llwyr sylweddoli eu dyletswydd statudol o dan yr hen Ddeddf iaith, ond yn sicr beth mae cynlluniau’r safonau presennol yn ei wneud yw adeiladu ar y cynlluniau iaith a’r gwariant sydd eisoes i fod yn ei le. Ond mae disgwyl i wella, hefyd, yn y safonau hyn. Mae disgwyl i wella o safbwynt rhai awdurdodau yn dod yn fwy Cymraeg yn eu gweithdrefnau mewnol, hyrwyddo staff Cymraeg a gweithlu gyda sgiliau dwyieithog, a thrwy hynny, wrth gwrs, sicrhau bod yr ystod ehangaf posibl o wasanaethau ar gael yn yr iaith Gymraeg. I do fear that the cuts in the budget of the language commissioner, which were very significant cuts in the last budget, are going to hinder the commissioner’s ability to carry out this work, although the main role of the commissioner, of course, is to police the standards, as it were. I do think that the Government also has a role to play in promoting the principle of standards and the way in which they provide rights now. The cost, of course, is an issue raised every time anyone proposes any sort of legislation. It is important, I think, in this context to highlight the fact that these standards, at least on the first day, expect local authorities to do only what they're supposed to be doing now under the current regime of language schemes. It’s quite possible that not everyone is achieving that, or hasn’t fully realised their statutory duty under the old language Act, but certainly what the current standards do is build on those language schemes and the expenditure that is already supposed to be in place. But there is an expectation of improvement, too, in these standards, and expectations that some authorities should have a greater Welsh ethos in their internal activities, promoting Welsh-language staff and a bilingual workforce and, thereby, of course, ensuring that the broadest possible range of services is available through the medium of the Welsh language.
Nawr, mae’n wir dweud hefyd, wrth inni weld cyfnod o gyni a thoriadau yn yr awdurdodau a’n gwasanaethau cyhoeddus, fod mwy a mwy o gontractio allan yn digwydd y tu mewn I awdurdodau lleol. Mae’r safonau, rwy’n meddwl, yn glir fod y ddyletswydd I ddarparu gwasanaeth Cymraeg yn mynd gyda’r contract—hynny yw, nid ydych chi’n rhyddhau eich hunan fel awdurdod o’r hawl honno os ydych chi’n contractio allan. Ond, mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid ei fonitro yn ofalus iawn, yn fy marn i. Yn yr un ffordd, bydd yn rhaid monitro’n ofalus iawn beth sy’n digwydd pan mae’r awdurdodau lleol yn rhoi grantiau I gyrff I ymwneud â gwaith yn y gymuned, achos mae hi’r un mor bwysig bod y safonau sy’n ymwneud â llunio polisi yn cael eu hadlewyrchu wrth roi grant I gorff I roi, dywedwch, wersi nofio I blant yn yr ardal, fel bod y Gymraeg yn cael ei chydnabod yn y cyd-destun hwnnw. Now, it is also true to say, as we see a period of austerity and cuts within our local authorities and public services, that more and more contracting out is taking place within local authorities. The standards, I think, are clear that the duty to provide Welsh-medium services go with the contract. That is to say you don't divest yourself as an authority of that responsibility if you contract things out. But, this is something that will have to be monitored very carefully, in my view. Likewise, we need to monitor very carefully what happens when local authorities give grants to organisations to work in the community, because it’s just as important that the standards in relation to policy formulation are reflected in the contract given to a body to provide, for example, swimming lessons to children in the area, and that the Welsh language is recognised in that context.
Dyma feysydd newydd i raddau i rai o’n cyrff cyhoeddus ni, yn enwedig mewn rhai ardaloedd sydd ddim wedi meddwl drwyddo hyd yma, efallai, rai o’r dyletswyddau statudol sydd eisoes arnyn nhw, ond sy’n fwy clir nawr yn y safonau, gan fod y rhain yn rhoi hawliau i siaradwyr Cymraeg. Rwy’n gobeithio y gwelwn ni yn fuan iawn gylchoedd nesaf y safonau. Er bod gennym ni dempled yn fan hyn, nid wyf am i hyn aros yn yr unfan. Mae’n bosib iawn gwella ar y safonau sydd ger ein bron. Pan fyddwn ni’n edrych ar y gwasanaeth iechyd, er enghraifft, bydd eisiau ymwneud mwy ar lefel bersonol, wyneb yn wyneb. Pan fyddwn ni’n edrych ar y cyfleustodau, mae adroddiad gan Gyngor ar Bopeth allan heddiw ar ddefnydd pobl o wasanaethau cyfleustodau, a bydd angen edrych ar hynny drachefn. Ond, mae’r safonau, am y tro cyntaf, yn dangos bod y Gymraeg yn iaith swyddogol ac yn dangos bod gan siaradwyr Cymraeg hawliau. Fel dywedodd yr Arlywydd Obama tua tair wythnos yn ôl, wrth gydnabod beth ddigwyddodd yn Selma, , pan fyddwch chi’n rhoi hawliau i un grŵp o bobl, rydych chi’n rhoi hawliau i bawb. These are new areas to a certain extent for some of our public bodies, particularly in some areas that perhaps haven't thought through fully, so far, some of the statutory duties that they already have but which are more clearly set out now in the standards, because these do provide rights to Welsh speakers. I very much hope that we will soon see the next rounds of standards. Although we have a template here, I don't want this to remain static. We can improve upon the standards before us today. When we look at the health service, for example, we will need to have more coverage of engagement on a face-to-face basis. When we look at the utilities, there is a report from Citizens Advice today in terms of the use that people make of the utilities, and we will need to look at that again. But, for the first time, the standards do demonstrate that the Welsh language is an official language and that Welsh speakers have rights. As President Obama said some three weeks ago, when recognising what happened in Selma, when you give one group of people rights, you give everyone rights.
16:37 - Aled Roberts
Fe fyddwn ni hefyd yn cefnogi’r safonau yma y prynhawn yma, er mae’n debyg ein bod ni’n rhannu rhai o’r pryderon a’r rhwystredigaethau ynglŷn â’r safonau. Ond, rydym wedi symud ymlaen, ac rwyf i hefyd yn diolch i’r Prif Weinidog am gynnig cyfarfodydd â’r swyddogion i drafod union fanylion rhai o’r newidiadau. Erbyn hyn, rwy’n meddwl bod ein prif amheuon ni mewn tri maes, a bod yn deg. Rwy’n meddwl ein bod ni’n dal i bryderu ynglŷn â phwy sydd â’r ddyletswydd i hyrwyddo’r hawliau newydd yma. Mae’n debyg bod yna gryn ddryswch o ran a yw’r goblygiadau hynny’n syrthio ar y comisiynydd. Yn bendant, mae rhai ohonom yn pryderu, os ydym yn sôn am reoleiddiwr, i bob pwrpas, am y cyfrifoldeb dros hyrwyddo safonau. Felly, rydym ni am weld yn union beth yw sefyllfa’r Llywodraeth o ran hyrwyddo, a gweld a oes yna gyllideb wedi’i phennu er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn ymwybodol o’r hawliau newydd yma. Wrth feddwl, wrth gwrs, am yr e-bost yr ydym wedi’i dderbyn y prynhawn yma gan Gyngor ar Bopeth, sydd yn cyfeirio at y ffaith fod defnyddwyr yn dal i ganfod cryn dipyn o rwystrau ar hyn o bryd wrth geisio gwasanaethau Cymraeg, boed hynny o fewn y sector gyhoeddus neu’r sector breifat, rwy’n gofyn am eglurder ynglŷn â phwy yn union sy’n gyfrifol am hyrwyddo. We will also be supporting these standards this afternoon, although we share some of the concerns and frustrations about the standards. But, we have moved forward and I do thank the First Minister for proposing meetings with officials to discuss the details of the changes. By now, I think that our main doubts are in three areas, to be fair. I think that we are still concerned about who has the duty to promote these new rights. It is likely that there is some confusion as to whether those duties fall to the commissioner. Certainly, some of us are concerned, if we're talking about a regulator, to all intents and purposes, about the responsibility for promoting standards. So, we want to see what exactly the position of the Government is in terms of promotion and whether there is a budget that has been set to ensure that everyone is aware of these new rights. In considering, of course, the e-mail that we’ve received this afternoon from Citizens Advice, which refers to the fact that users are still experiencing some barriers when it comes to acquiring Welsh-language services, be they in the public or private sectors, we are asking for clarity about who exactly is responsible for promotion.
Hefyd, rwy’n meddwl bod y trafodaethau yn ystod yr wythnos diwethaf yma ynglŷn ag allanoli wedi bod o fudd. Mae Simon Thomas wedi sôn bod y safonau’n ddibynnol iawn ar y berthynas gytundebol rhwng llywodraeth leol a chyrff eraill yn y sector gyhoeddus, ond rwy’n meddwl bod cynnydd yn cael ei wneud yn nifer y gwasanaethau sy’n cael eu hallanoli. Beth sy’n peri pryder i mi yw bod yna enghreifftiau erbyn hyn lle mae’r gwasanaeth, i bob pwrpas, yn diflannu os nad oes yna gyrff lleol yn dod ymlaen i ddarparu’r gwasanaeth. Nid oes cytundeb yn y sefyllfa honno rhwng y cyngor lleol a’r cyrff newydd. Felly, beth yn union fydd y sefyllfa lle nad oes perthynas gytundebol? I also think that the discussions over this last week about outsourcing have been beneficial. I think Simon Thomas has referred to the fact that the standards are very reliant on the contractual relationship between local government and other bodies within the public sector, but I do think that there is progress being made in terms of many of the services that are outsourced. What I'm concerned about is that there are examples where services are, to all intents and purposes, disappearing unless a local body comes forward to provide those services. There is no contract in that situation between the local council and the new bodies. Therefore, what exactly will the situation be where there is no contractual relationship?
Hefyd, mae’ch strategaeth iaith chi’ch hunain fel Llywodraeth yn ceisio sicrhau bod yna amodau priodol o ran defnydd y Gymraeg yn cael eu cynnwys wrth i grantiau gael eu dyfarnu. A ydych chi’n rhagweld mai dyna un o’r arfau a fydd gan lywodraeth leol? Roedd y swyddogion yn sôn am un enghraifft yn y Barri, rwy’n meddwl—ym mhafiliwn y Barri—lle nad oes unrhyw arwyddion dwyieithog hyd yn oed, ond lle, gan nad oes perthynas cytundebol rhwng y sector gyhoeddus a’r mudiad newydd, nid oes hawl gan y sector gyhoeddus i bwyso ar y mudiad yna. Also, your language strategy, as a Government, tries to ensure that appropriate conditions in terms of the use of the Welsh language are included as grants are awarded. Do you foresee that that will be one of the tools that local government will have? The officials mentioned one example in Barry, I think—in the Barry pavilion—where there are no bilingual signs, but, because there’s no contractual relationship between the public sector and the new body, the public sector has no right to bring pressure to bear on that new body.
Hefyd, rwy’n meddwl bod yna gryn dipyn o bryderon ynglŷn ag adrefnu llywodraeth leol. Wrth gwrs, mae yna rai cynghorau erbyn hyn yn gwasanaethu neu’n gweithredu’n fewnol yn y Gymraeg—sir Gwynedd, rwy’n meddwl, ydy’r unig un ar hyn o bryd. Wrth iddyn nhw, hwyrach, uno efo cynghorau eraill lle nad yw’r staff yn gweithredu ar hyn o bryd yn y Gymraeg, a fydd yna gamau’n cael eu cymryd i ddiogelu safle’r Gymraeg yn y cyrff hynny, wrth i chi drafod, fel Llywodraeth, o ran adrefnu? Furthermore, I think that there are concerns about the reorganisation of local government. Of course, some councils are now operating bilingually internally—Gwynedd, I think, is the only one at present. As they merge with other councils where the staff perhaps don’t operate through the medium of Welsh, will steps be taken to safeguard the position of the Welsh language within those bodies, as you, as a Government, discuss the reorganisation?
Jest i godi’r pwynt y gwnaeth Keith Davies gyfeirio ato fo ynglŷn â’r amserlen, nid oes yna amserlen benodol ar gyfer cylch 4, sy’n ymwneud â chwmnïau ynni a thelathrebu, yn eich datganiad chi. A ydy hynny’n dibynnu, felly, ar sut rydym ni’n symud ymlaen at gylch 2 a chylch 3, neu a ydych chi’n dweud wrthym y prynhawn yma fydd yna symud o ran cylch 4 cyn etholiadau’r Cynulliad? Just to raise the point that Keith Davies referred to in terms of the timetable, there is no specific timetable in your statement for round 4, which is to with energy and telecommunications companies. Does that depend, therefore, on how we move forward on rounds 2 and 3, or are you telling us this afternoon that there will be movement on round 4 before the Assembly elections?
Yn olaf, rwyf i ar ddeall na fydd yna adroddiad monitro tan o leiaf mis Gorffennaf 2017. Felly, os oes yna ffaeleddau neu wendidau yn dod yn amlwg yn ystod y cyfnod rhwng rŵan a 2017, a fydd eich Llywodraeth yn barod i adolygu rhai o’r mesurau sydd wedi cael eu cymryd yng ngham 1 fel rhan o’r broses tuag at gam 2 a cham 3? Finally, I understand that there won’t be a monitoring report until July 2017 at the earliest. So, if deficiencies or weaknesses emerge between now and 2017, will your Government be prepared to review some of the measures that have been taken in stage 1, as part of the process of moving towards stage 2 and stage 3?
16:42 - Gwenda Thomas
Rhyw 18 mis yn ôl, roeddwn yn ymweld â chartref gofal yng Nghaerdydd. Mae’n gartref hyfryd gyda staff rhagorol. Ar ddechrau’r ymweliad, dywedwyd wrthyf fod un o’r trigolion wedi gofyn a fyddai modd imi ddod i’w gweld hi yn ei hystafell. Wrth gwrs, roeddwn yn fwy na pharod i wneud hynny. Wrth gerdded i mewn, dywedais, ‘Prynhawn da’ yn Saesneg; daeth yr ateb yn y Gymraeg. Eglurodd y wraig imi ei bod wedi gofyn imi alw heibio am ei bod yn gwybod fy mod yn siarad Cymraeg ac yr oedd am sgwrs yn ei hiaith gyntaf. Some 18 months ago, I visited a care home in Cardiff. It’s a beautiful home with excellent staff. At the start of the visit, I was told that one of the residents had asked whether it would be possible for me to go and see her in her room. Of course, I was more than willing to do that. As I walked in, I said, ‘Good afternoon’ in English; the response came in Welsh. The lady told me that she had asked me to call by because she knew that I spoke Welsh and she wanted to have a conversation in her first language.
Roedd y wraig yma yn ei 90au, yn llwyr fwynhau defnyddio ei iPad newydd i e-bostio ei theulu a’i ffrindiau. Nid oedd ganddi ddim byd ond canmoliaeth am y cartref gofal, ond yr un peth yr oedd yn gweld ei eisiau, ac yn gweld ei eisiau’n ofnadwy, oedd ei hiaith ei hun. Ni allai golli’r cyfle i siarad â rhywun yn yr iaith roedd wedi siarad â’i mam a’i thad pan yn ferch fach. I’r bobl sy’n derbyn gofal a chefnogaeth gan ein gwasanaethau cyhoeddus, gall yr hawl i dderbyn y gwasanaethau hynny yn Gymraeg, yn aml, fod yn fater ansawdd bywyd. Mae hynny’n arbennig o wir ar gyfer ein defnyddwyr mwyaf agored i niwed—plentyn bach yn sâl ac yn ofnus ac yn ddryslyd yn yr ysbyty neu berson oedrannus sy’n dioddef o ddementia. Mae angen iddynt allu cyfathrebu yn yr iaith y maent fwyaf cyfforddus gyda hi—yr iaith maent yn breuddwydio ynddi. This lady was in her 90s, and she enjoyed using her new iPad to e-mail her friends and family. She had nothing but praise for the care home, but the one thing that she was missing, and missing terribly, was her own language. She couldn’t pass up the opportunity to speak to somebody in the language that she had spoken to her parents in as a young girl. To the people who receive care and support from our public services, the right to receive those services in Welsh, often, can be a matter of quality of life. That is very true for our most vulnerable users—a child who is sick and scared and confused in hospital or an older person who suffers from dementia. They need to be able to communicate in the language that they are most comfortable in—the language that they dream in.
Roeddwn yn falch iawn o gefnogi gwelliannau i’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), yn eu plith, gwelliant Plaid Cymru o osod dyletswydd i roi sylw i anghenion ieithyddol ar wyneb y Ddeddf. Rwy’n falch iawn y bydd y safonau sydd gerbron heddiw yn ymgorffori’r hawliau ieithyddol hyn ymhellach. Bydd y safonau hyn, wrth gwrs, yn helpu i annog defnydd o’r Gymraeg. Byddant yn ein helpu i hyrwyddo conglfaen ein treftadaeth ddiwylliannol. Mae hynny’n bwysig, ond yn fwy pwysig yn fy nhyb i, yw’r hawl y byddant yn ei rhoi i unigolion i ddefnyddio’r iaith o’u dewis ac, wrth wneud hynny, byddant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau llawer o’n dinasyddion yng Nghymru. I was very pleased to support amendments to the Social Services and Well-being (Wales) Bill, among them a Plaid Cymru amendment to impose a duty to give attention to linguistic needs on the face of the Bill. I’m very pleased that the standards that are before us today will further establish those linguistic rights. Those standards, of course, will help to encourage use of the Welsh language. They will help us to promote the cornerstone of our cultural heritage. That’s important, but more important, in my opinion, is the right that they will give to individuals to use the language of their choice and, in doing so, they will make a genuine difference to the lives of many of our citizens in Wales.
16:45 - Y Llywydd / The Presiding Officer
The First Minister to reply. Y Prif Weinidog i ymateb.
16:45 - Carwyn Jones
Diolch, Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb am eu cyflwyniadau i’r ddadl ei hun? Mae sawl peth wedi codi gan y siaradwyr. Yn gyntaf, ynglŷn â chostau, ni fyddwn i’n erfyn i hyn gostio llawer i’r cyrff sydd wedi cael eu penodi yn y rheoliadau hyn achos y faith y dylen nhw fod yn cynnig y gwasanaethau hyn, mwy na lai, nawr. Felly, iddyn nhw, ddylai hyn ddim fod yn rhywbeth sydd yn gostus, ynglŷn â newid y ffordd y maen nhw’n rhoi gwasanaethau, o gofio’r ffaith y dylent fod mewn sefyllfa lle mae hyn yn cael ei wneud yn barod. Thank you, Presiding Officer. May I thank everyone for their contributions to this debate? A number of issues have been raised by contributors. First of all, on the costs, I wouldn’t expect this to cost a great deal to the bodies specified in these regulations because they should, of course, be providing these services, more or less, now. So, for them, this should not be particularly expensive in terms of changing the way that they deliver services, bearing in mind that they should be in a position where this is already being done.
Ynglŷn â’r amserlen yn y dyfodol, ynglŷn â chylch 2 y safonau, bydd y comisiynydd yn rhoi adroddiad ynglŷn â’r arolygiad y mae wedi’i wneud ar y safonau i ni erbyn mis Mai eleni. Byddwn ni fel Llywodraeth wedyn yn dechrau’r broses o ddrafftio rheoliadau er mwyn bod yr ail gylch o safonau yn barod erbyn yr hydref eleni, ac wedyn, wrth gwrs, symud ymlaen i ddechrau’r broses o ddod â’r rheoliadau o flaen y Cynulliad erbyn diwedd y flwyddyn hon. Ynglŷn â’r trydydd cylch, wedyn, bydd y comisiynydd ei hunan yn dechrau’r arolygiad ynglŷn â hynny ym mis Mai. Wrth gwrs, rydym ni’n gobeithio, erbyn dechrau’r flwyddyn nesaf, bydd yn bosib symud ymlaen gyda’r rheoliadau hynny. Felly, nid yw’n bosib, jest i sôn am beth oedd gan Aled Roberts ei ddweud, bydd cylch pedwar, a mwy o bethau, yn digwydd cyn yr etholiad y flwyddyn nesaf. In terms of the timetable for the future, in terms of round 2 of the standards, the commissioner will provide a report on her review of the standards to us by May of this year. We as a Government will then start the process of drafting regulations so that the second round of standards can be ready by the autumn of this year, and then, of course, we will move on to start the process of bringing those regulations before the Assembly by the end of this year. In terms of round 3, the commissioner herself will start the inquiry into that in May. Of course, we hope, by the beginning of next year, it will be possible to progress with those regulations. So, it isn’t possible, just to mention what Aled Roberts had to say, that round 4, and more things, will be complete before the election next year.
Rwy’n ddigon hyderus y bydd y comisiynydd yn gallu plismona’r rheoliadau a sicrhau ei bod yn gallu chwarae rôl y mae’r rheoliadau wedi’i rhoi iddi hi. I am entirely confident that the commissioner will be able to police these regulations and ensure that she can play the role provided to her by the regulations.
Ynglŷn â sefyllfa contractwyr, rwy’n credu bod Aelodau yn gwybod, yn ôl rheoliad 1(5), lle bydd corff dan ddyletswydd i gydymffurfio ag unrhyw safonau a osodir arno, p’un a yw’r gwasanaethau dan sylw yn cael eu darparu gan y corff ei hun neu ar ei ran gan gontractwr, felly, wrth gwrs, bydd y safonau yn effeithio arnyn nhw. Os bydd gwasanaethau yn cael eu darparu gan gontractwr, bydd y corff yn gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaethau hynny’n cydymffurfio â’n safonau ni. Nid yw’r rheoliadau hyn yn gosod dyletswyddau yn uniongyrchol ar gontractwyr. Os bydd tor safon yn digwydd, y corff ei hun, sef y corff sydd wedi rhoi’r contract, fydd yn atebol i’r comisiynydd. In terms of the situation of contractors, I think that Members are aware, according to regulation 1(5), where a body has a duty to comply with any standards placed upon it, whether the services are provided by the body itself or on its behalf by a contractor, therefore, of course, the standards will still apply to them. If services are provided by a contractor, the body will be responsible for ensuring that those services do comply with our standards. These regulations don’t place duties directly on contractors. If there is a failure to comply with standards, the body itself, that is, the body that awarded the contract, will be accountable to the commissioner.
Beth felly sy’n digwydd, gofynnodd Aled Roberts, ynglŷn â gwasanaethau sy’n cael eu darparu nad ydynt o dan gontract? Mae yna fodelau newydd yn cael eu datblygu gan lywodraethau lleol. Mae’n amhosib, wrth gwrs, i gynllunio am bob math o fodel a fyddai’n cael ei fabwysiadu gan awdurdodau lleol, ond mae hi’n bwysig, os oes yna ‘trend’ yn y dyfodol i gael modelau newydd, bod y safonau yn cael eu hadolygu er mwyn bod y safonau yn cael eu gweithredu gan unrhyw gyrff sy’n dod o dan fodelau newydd. Byddwn i’n erfyn, wrth gwrs, y byddai adolygu yn gorfod cymryd lle pe byddem yn gweld hynny’n digwydd yn y pen draw. What will happen, therefore, as Aled Roberts asked, in terms of services provided that are not contracted? New models are being developed by local authorities. It’s impossible, of course, to plan for all eventualities or all models that would be adopted by local authorities, but it is important, if there is a trend in future to have alternative models, that the standards should be reviewed to ensure that the standards are applied properly by any organisations under the new models. I would expect, of course, that a review would have to take place if that were to ultimately be the case.
Ynglŷn â hyrwyddo iaith, rôl y Llywodraeth yw hybu a hyrwyddo’r Gymraeg. Mae hynny ynghlwm, wrth gwrs, â’r strategaeth ‘Iaith fyw’ a’r polisïau sy’n cael eu gweithredu dan hynny. Yn ogystal â rôl rheoleiddio, mae gan y comisiynydd rôl bwysig i hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yng nghyd-destun y safonau. In terms of promoting the language, promoting the Welsh language is the role of Government. That is part, of course, of the ‘A living language’ strategy and the policies implemented under that. In addition to a regulatory role, the commissioner has an important role in promoting the use of the Welsh language in the context of the standards.
Ynglŷn â rhai o’r pwyntiau eraill a gafodd eu codi gan Aelodau, o ran llywodraeth leol, lle mae yna unrhyw fath o uno rhwng un awdurdod a’r llall, neu fwy na dau awdurdod, byddwn i’n erfyn i’r safon uchaf gael ei defnyddio gan unrhyw awdurdod newydd. Ni fyddwn i’n erfyn, er enghraifft, petasai Gwynedd a Chonwy neu Wynedd ac Ynys Môn yn uno â’i gilydd, i safonau Gwynedd felly gael eu lleihau; byddwn i’n erfyn i safonau’r awdurdod arall i ddod lan i safon awdurdod fel Gwynedd. Felly, dyna beth fyddwn i’n erfyn gweld. In terms of some of the other points raised by Members, in terms of local government, where there is any kind of merger between one authority and another, or more than two authorities, I would expect the highest standard to be applied by any new authority. I would not expect, for example, if Gwynedd and Conwy or Gwynedd and Anglesey were to merge, the standards within Gwynedd to be diluted; I would expect the standards of the other authority to come up to the standards of an authority such as Gwynedd. So, that’s what I would expect to see.
Felly, rwy’n gobeithio bod hynny wedi delio â rhai o’r cwestiynau y mae Aelodau wedi’u gofyn. Mae’r rheoliadau eu hunain, wrth gwrs, yn rhan gyntaf proses sy’n ein symud ni ymlaen ynglŷn ag egluro pa hawliau sydd gan siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r Gymraeg gydag awdurdodau cyhoeddus wrth ddechrau’r broses hon ac, wrth gwrs, i symud ymlaen er mwyn normaleiddio’r iaith. Fel y dywedais ar y dechrau, beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol yw bod pobl wedi tueddu gweld y Saesneg fel yr unig iaith gweinyddu mewn sawl corff cyhoeddus yng Nghymru, a’r Gymraeg, felly, yn iaith sydd ddim ond yn cael ei chyfieithu iddi unwaith mae’r Saesneg wedi dod i rym. Nid rhywbeth felly rŷm ni’n moyn ei weld. Rŷm ni’n moyn gweld dwyieithrwydd yn rhywbeth sydd yn hollol normal yn ein cyrff ac rwy’n hyderus y bydd y rheoliadau yn gwneud hynny. So, I hope that’s dealt with some of the questions raised by Members. The regulations themselves, of course, are the first part of a process that moves us forward in terms of explaining what rights Welsh speakers have to use the Welsh language with public authorities at the start of this process and, of course, we will progress in order to normalise the use of the Welsh language. As I said at the outset, what has happened in the past is that people have tended to view English as the only language for administration within many public bodies in Wales, and the Welsh language, therefore, as a language that is only translated into once the English version has been finalised. That is not what we want to see. We want to see bilingualism as the norm in our public bodies and I’m confident that the regulations will achieve that.
16:50 - Y Llywydd / The Presiding Officer
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No objections, therefore, the motion is agreed in accordance with Standing Orders. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dim gwrthwynebiad, felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â'r Rheolau Sefydlog.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
7. The Regulation of Private Rented Housing (Designation of Licensing Authority) (Wales) Order 2015 7. Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015
16:50 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We now move on to item 7, which is the Regulation of Private Rented Housing (Designation of Licensing Authority) (Wales) Order 2015. I call on the Minister to move the motion—Lesley Griffiths. Symudwn ymlaen nawr at Eitem 7, sef Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu). (Cymru) 2015. Galwaf ar y Gweinidog i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM5731 Jane Hutt Motion NDM5731 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: To propose that the National Assembly for Wales; in accordance with Standing Order 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2015. Approves that the draft The Regulation of Private Rented Housing (Designation of Licensing Authority) (Wales) Order 2015 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 2 March 2015.
Cynigiwyd y cynnig. Motion moved.
16:51 - Lesley Griffiths
Thank you, Presiding Officer. I move the motion to approve the Regulation of Private Rented Housing (Designation of Licensing Authority) (Wales) Order 2015. The Housing (Wales) Act 2014 was passed by the National Assembly for Wales on 8 July 2014. Part 1 of the Act will introduce a number of measures to improve letting and management practices in the private rented sector in Wales. These include a requirement for private landlords to register and for landlords and agents who carry out letting and management tasks to be licensed. A licence will be granted to a fit-and-proper applicant who has undertaken the necessary licensing training. Diolch i chi, Lywydd. Cynigiaf y cynnig i gymeradwyo Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015. Cafodd Deddf Tai (Cymru) 2014 ei phasio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 8 Gorffennaf 2014. Bydd rhan 1 y Ddeddf hon yn cyflwyno nifer o fesurau i wella arferion gosod a rheoli yn y sector rhentu preifat yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys gofyniad i landlordiaid preifat gofrestru ac i landlordiaid ac asiantau sy'n cyflawni tasgau gosod a rheoli gael eu trwyddedu. Bydd trwydded yn cael ei chaniatáu i ymgeisydd addas a phriodol sydd wedi ymgymryd â'r hyfforddiant trwyddedu angenrheidiol.
Section 3 of Part 1 of the Housing (Wales) Act 2014 permits Welsh Ministers to designate either a single licensing authority for the whole of Wales or a number of licensing authorities to cover different areas of Wales. The designation must be made to a person who exercises functions of a public nature. The intention of the designation Order we are discussing today is to appoint a single licensing authority for the whole of Wales, and for the City of Cardiff Council to be the authority designated. Mae Adran 3 o Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddynodi naill ai awdurdod trwyddedu sengl ar gyfer Cymru gyfan neu nifer o awdurdodau trwyddedu i gwmpasu gwahanol ardaloedd yng Nghymru. Mae'n rhaid i'r dynodiad gael ei wneud i berson sy'n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus. Bwriad y Gorchymyn dynodiad yr ydym yn ei drafod heddiw yw penodi awdurdod trwyddedu sengl ar gyfer Cymru gyfan, ac i Ddinas Cyngor Caerdydd fod yr awdurdod dynodedig.
Appointing a single licensing authority will offer greater cost-effectiveness, as a single database to collect registration and licence application information can be operated. Landlords and agents will only have to register once and only pay one fee, rather than multiple times if they have properties in more than one authority area. It will also ensure consistency in the service provided and consistency in the interpretation and application of the legislation set out in the Act. Bydd penodi awdurdod trwyddedu sengl yn cynnig mwy o effeithiolrwydd cost, oherwydd y gellir gweithredu un gronfa ddata i gasglu gwybodaeth cofrestru a chais am drwydded. Dim ond unwaith y bydd yn rhaid i landlordiaid ac asiantau gofrestru a thalu un ffi yn unig, yn hytrach na sawl gwaith os oes ganddynt eiddo yn ardal mwy nag un awdurdod. Bydd hefyd yn sicrhau cysondeb yn y gwasanaeth a ddarperir a chysondeb wrth ddehongli a chymhwyso'r ddeddfwriaeth a nodir yn y Ddeddf.
Designating the City of Cardiff Council as the sole licensing authority covering all parts of Wales builds on the experience the authority has developed administering the current voluntary landlord accreditation Wales scheme on behalf of all 22 local authorities. The City of Cardiff Council has confirmed they are content to take on the role of licensing authority, and I am confident, from the evidence they’ve submitted, they have the knowledge and experience necessary to successfully implement the new legal regime. In December last year, I consulted on the intention to designate a single licensing authority and proposed it would be the City of Cardiff Council. Responses indicated significant support for the proposals and, therefore, I am more than happy to move this motion to designate the City of Cardiff Council. I’d welcome Members’ support. Mae dynodi Dinas Cyngor Caerdydd fel yr unig awdurdod trwyddedu sy'n cwmpasu pob rhan o Gymru yn adeiladu ar y profiad y mae'r awdurdod wedi’i ddatblygu drwy weinyddu'r cynllun gwirfoddol achredu landlordiaid Cymru presennol ar ran pob un o'r 22 awdurdod lleol. Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi cadarnhau eu bod yn fodlon ymgymryd â'r swyddogaeth awdurdod trwyddedu, ac rwy’n ffyddiog, ar sail y dystiolaeth y maent wedi ei chyflwyno, bod ganddynt y wybodaeth a'r profiad angenrheidiol i weithredu'r gyfundrefn gyfreithiol newydd yn llwyddiannus. Ym mis Rhagfyr y llynedd, ymgynghorais ar y bwriad i ddynodi awdurdod trwyddedu unigol a chynigiais mai Cyngor Dinas Caerdydd fyddai hwnnw. Dangosodd ymatebion gefnogaeth sylweddol i'r cynigion ac, felly, rwyf yn fwy na pharod i gynnig y cynnig hwn i ddynodi Cyngor Dinas Caerdydd. Byddwn yn croesawu cefnogaeth yr Aelodau.
16:53 - Mark Isherwood
Well, of course, this Order is consequent upon the Housing (Wales) Act 2014, which focused on regulation for all landlords, rather than targeted enforcement against bad and criminal landlords and support for the worst affected tenants. Those parts of the sector that invest or decide to invest in supply stated it would have the reverse impact and would disincentivise investment, which would, in turn, impact another key element of the Act, which was to help tackle homelessness by increasing the supply of private rented sector housing to those who are homeless, those on waiting lists, and those who needed extra support. Although the recommendations of the Communities and Culture Committee report on private sector rented housing at the end of the last Assembly recognised the need to embrace the private rented sector as an option of first choice for social housing, the Residential Landlords Association didn’t think the scheme proposed in the Act would achieve the aim of raising standards and rooting out bad landlords. The Country Land and Business Association has said the adoption of the scheme would only serve as additional red tape and bureaucracy, stifling the Welsh economy and jeopardising the supply of much-needed private sector rented housing. The National Landlords Association said that what we needed in investment terms to deliver quality homes that people can afford to rent was a true social venture partnership between the public, private and third sectors, which it had been offering for years. But it said that this was not warmly received—quote—by the Welsh Government despite its willing offer of expertise. Wel, wrth gwrs, mae’r Gorchymyn hwn o ganlyniad i Ddeddf Tai (Cymru) 2014, a oedd yn canolbwyntio ar reoleiddio ar gyfer pob landlord, yn hytrach na gorfodaeth wedi'i dargedu yn erbyn landlordiaid drwg a throseddol a chefnogaeth i’r tenantiaid yr effeithir arnynt waethaf. Nododd y rhannau hynny o'r sector sy'n buddsoddi neu sy’n penderfynu buddsoddi mewn cyflenwi y byddai'n cael yr effaith groes ac y byddai'n anghymell buddsoddiad, a fyddai, yn ei dro, yn effeithio ar elfen allweddol arall o'r Ddeddf, sef helpu i fynd i'r afael â digartrefedd drwy gynyddu'r cyflenwad o dai yn y sector rhentu preifat i'r rhai sy'n ddigartref, y rhai sydd ar restrau aros, a'r rhai oedd angen cymorth ychwanegol. Er bod argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant ar dai rhent y sector preifat ar ddiwedd y Cynulliad diwethaf yn cydnabod yr angen i gofleidio’r sector rhentu preifat fel opsiwn dewis cyntaf ar gyfer tai cymdeithasol, nid oedd y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl yn credu y byddai'r cynllun a gynigir yn y Ddeddf yn cyflawni'r nod o godi safonau a chael gwared ar landlordiaid drwg. Mae’r Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad wedi dweud na fyddai mabwysiadu'r cynllun ond yn gwasanaethu fel biwrocratiaeth ychwanegol, gan fygu economi Cymru a pheryglu’r cyflenwad o dai rhent sector preifat mawr eu hangen. Dywedodd Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid mai’r hyn yr ydym ei angen yn nhermau buddsoddi i ddarparu cartrefi o safon y gall pobl fforddio eu rhentu yw partneriaeth fenter gymdeithasol wirioneddol rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, yr oedd wedi bod yn ei gynnig ers blynyddoedd. Ond dywedodd na chafodd hyn dderbyniad cynnes—dyfyniad—gan Lywodraeth Cymru er gwaethaf ei gynnig parod o arbenigedd.
So, although the designation of a single council as the licensing authority for the whole of Wales is better than the alternative, we will be abstaining accordingly. Felly, er bod dynodi cyngor unigol fel yr awdurdod trwyddedu ar gyfer Cymru gyfan yn well na'r dewis arall, byddwn yn ymatal yn unol â hynny.
16:55 - Y Llywydd / The Presiding Officer
The Minister to reply. Y Gweinidog i ymateb.
16:55 - Lesley Griffiths
I thank Mark Isherwood for his comments. I am disappointed that the Welsh Conservatives will be abstaining. I think private rented housing is becoming increasingly important. I think it’s absolutely vital we have a strong private rented sector. That’s very much an essential part of a well-functioning housing market. I think this Order will be a key milestone in the implementation of Part 1 of the Act. Diolch. Diolch i Mark Isherwood am ei sylwadau. Rwy’n siomedig y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal. Rwy'n credu bod tai rhent preifat yn dod yn fwyfwy pwysig. Rwy'n credu ei bod yn hollbwysig bod gennym sector rhentu preifat cryf. Mae hynny'n rhan hanfodol o farchnad dai sy'n gweithio'n dda. Rwy'n credu y bydd y Gorchymyn hwn yn garreg filltir allweddol mewn rhoi Rhan 1 y Ddeddf ar waith. Diolch.
16:55 - Y Llywydd / The Presiding Officer
So, the proposal is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] Object. We will defer all voting on this item until voting time. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Byddwn yn gohirio'r holl bleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Voting deferred until voting time.
8. Debate on the General Principles of the Qualifications Wales Bill 8. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Cymwysterau Cymru
16:56 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We now move on to item 8, which is the debate on the general principles of the Qualifications Wales Bill. I call on the Minister for Education and Skills to move the motion. Huw Lewis. Symud ymlaen nawr at eitem 8, sef y ddadl ar egwyddorion cyffredinol Bil Cymwysterau Cymru. Galwaf ar y Gweinidog Addysg a Sgiliau i gynnig y cynnig. Huw Lewis.
Cynnig NDM5729 Huw Lewis Motion NDM5729 Huw Lewis
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: To propose that the National Assembly for Wales in accordance with Standing Order 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Cymwysterau Cymru. Agrees to the general principles of the Qualifications Wales Bill.
Cynigiwyd y cynnig. Motion moved.
16:56 - Huw Lewis
Thank you, Presiding Officer. I move the motion. Diolch i chi, Lywydd. Cynigiaf y cynnig.
I am very pleased to have this opportunity to open the debate on the general principles of the Qualifications Wales Bill. I am delighted by the overwhelming support for our plans to establish a new body to strengthen regulation and simplify the qualifications system in Wales. I am grateful especially to Ann Jones and the Children, Young People and Education Committee, to David Melding and the Constitutional and Legislative Affairs Committee, and to contributing stakeholders, for their thorough scrutiny. I will consider each of the committees’ recommendations carefully, of course, during Stage 2, but I will touch on some of these now, starting with the views of stakeholders. Rwy'n falch iawn o gael y cyfle hwn i agor y ddadl ar egwyddorion cyffredinol Bil Cymwysterau Cymru. Rwyf wrth fy modd gyda’r gefnogaeth aruthrol i'n cynlluniau i sefydlu corff newydd i gryfhau rheoleiddio a symleiddio'r system gymwysterau yng Nghymru. Rwyf yn arbennig o ddiolchgar i Ann Jones a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, i David Melding a'r Pwyllgor Materion Deddfwriaethol a Chyfansoddiadol, ac i randdeiliaid a gyfrannodd, am eu craffu trylwyr. Byddaf yn ystyried pob un o argymhellion y pwyllgorau yn ofalus, wrth gwrs, yn ystod Cyfnod 2, ond byddaf yn sôn am rai o'r rhain yn awr, gan ddechrau gyda safbwyntiau rhanddeiliaid.
The appointment of an interim chief executive for Qualifications Wales, Mr Philip Blaker, has enabled timely and active dialogue with stakeholders, including the Federation of Awarding Bodies, about the implementation of the Bill. For example, I have been advised that, during a recent conference that was attended by over 50 awarding bodies, the feedback was positive. Mr Blaker intends to continue to work with stakeholders and experts to provide the shadow board of Qualifications Wales with draft policies and processes to consider so that the full board, once appointed, may move swiftly and with an informed view to agree the strategic direction. Mae penodi prif weithredwr dros dro ar gyfer Cymwysterau Cymru, Mr Philip Blaker, wedi galluogi deialog amserol a gweithredol gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu, ynghylch rhoi’r Bil ar waith. Er enghraifft, rwyf wedi cael fy nghynghori, yn ystod cynhadledd ddiweddar a fynychwyd gan dros 50 o gyrff dyfarnu, bod yr adborth yn gadarnhaol. Mae Mr Blaker yn bwriadu parhau i weithio gyda rhanddeiliaid ac arbenigwyr i ddarparu bwrdd cysgodol Cymwysterau Cymru â pholisïau a phrosesau drafft i’w hystyried fel bod y bwrdd llawn, ar ôl ei benodi, yn gallu symud yn gyflym a gyda barn wybodus i gytuno ar y cyfeiriad strategol.
To help provide continuity of provision for awarding bodies, centres and learners, I am considering bringing forward some amendments at Stage 2, which will smooth the transition to the new regulatory regime. Er mwyn helpu i ddarparu parhad y ddarpariaeth ar gyfer cyrff dyfarnu, canolfannau a dysgwyr, rwy’n ystyried cyflwyno rhai gwelliannau yng Nghyfnod 2, a fydd yn hwyluso'r broses o drosglwyddo i'r gyfundrefn reoleiddio newydd.
I intend Qualifications Wales to be independent of Ministers in regulating qualifications, and I welcome the committee’s judgement that the Bill provides Qualifications Wales with sufficient independence. Rwy’n bwriadu i Cymwysterau Cymru fod yn annibynnol ar Weinidogion o ran rheoleiddio cymwysterau, a chroesawaf farn y pwyllgor fod y Bil yn darparu Cymwysterau Cymru gyda digon o annibyniaeth.
I would like to respond to some concerns raised about the framework document and remit letter. Now, all Welsh Government sponsored bodies have a framework document, which sets out their financial and reporting arrangements. They receive an annual remit letter, which sets out the amount to be provided and any specific terms and conditions. These are both covered in Schedule 1 to the Bill. As the letter will not actually set out the remit of Qualifications Wales, I propose to refer to it instead as a grant allocation letter. I’m also willing to place on record that the Government will publish the framework document and the annual letters when they are issued. I also place on record that this Government will hold an annual debate on the annual report of Qualifications Wales. Hoffwn ymateb i rai pryderon a godwyd ynghylch y ddogfen fframwaith a'r llythyr cylch gwaith. Nawr, mae gan yr holl gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru ddogfen fframwaith, sy'n nodi eu trefniadau ariannol a chyflwyno adroddiadau. Maent yn derbyn llythyr cylch gwaith blynyddol, sy'n nodi'r swm sydd i'w darparu ac unrhyw delerau ac amodau penodol. Caiff y rhain eu cynnwys yn Atodlen 1 i'r Bil. Gan na fydd y llythyr, mewn gwirionedd yn nodi cylch gwaith Cymwysterau Cymru, bwriadaf gyfeirio ato yn hytrach fel llythyr dyraniad grant. Rwy'n barod hefyd i roi ar gofnod y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi'r ddogfen fframwaith a'r llythyrau blynyddol pan fyddant yn cael eu cyhoeddi. Rwyf hefyd yn cofnodi y bydd y Llywodraeth hon yn cynnal dadl flynyddol ar adroddiad blynyddol Cymwysterau Cymru.
In relation to the eight matters in section 3 to which Qualifications Wales must have regard, a number of additional matters have been suggested. Now, while I fully endorse their importance, vocational qualifications and international benchmarking are already covered by the principal aims and matters in the Bill. The Bill quite deliberately makes no distinction between general and vocational qualifications, and in so doing assumes and indicates parity of esteem. Mewn cysylltiad â'r wyth mater yn adran 3 y mae'n rhaid i Cymwysterau Cymru eu hystyried, mae nifer o faterion ychwanegol wedi eu hawgrymu. Nawr, er fy mod yn llwyr gymeradwyo eu pwysigrwydd, mae cymwysterau galwedigaethol a meincnodi rhyngwladol eisoes wedi eu cynnwys yn y prif amcanion a materion yn y Bil. Mae’r Bil yn gwbl fwriadol yn osgoi gwahaniaethu mewn unrhyw ffordd rhwng cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol, ac wrth wneud hynny, mae’n derbyn ac yn dangos parch cydradd.
If it is a reasonable need of all learners—and I believe that it is—that their qualifications, whether vocational or academic, are held in high esteem then Qualifications Wales must address this need. And in considering the reasonable requirements of employers, Qualifications Wales would need to pay very careful consideration to vocational qualifications. Os yw'n angen rhesymol gan bob dysgwr—ac rwy’n credu ei fod—bod eu cymwysterau, boed nhw'n alwedigaethol neu'n academaidd, yn cael parch uchel, yna mae'n rhaid i Gymwysterau Cymru fynd i'r afael â'r angen hwn. Ac wrth ystyried gofynion rhesymol cyflogwyr, byddai angen i Cymwysterau Cymru roi ystyriaeth ofalus iawn i gymwysterau galwedigaethol.
Now, as regards international benchmarking, this is covered by Nawr, o ran meincnodi rhyngwladol, mae hyn yn dod o dan
‘comparable qualifications whether awarded in Wales or elsewhere’ gymwysterau tebyg pa un a'u dyfarnwyd nhw yng Nghymru neu yn rhywle arall
in section 3(2)(f). Learners, reasonably, need their qualifications to be recognised internationally and so this is an automatic consideration for Qualifications Wales. yn adran 3 (2) (f). Mae dysgwyr, yn rhesymol, angen i’w cymwysterau gael eu cydnabod yn rhyngwladol ac felly mae hon yn ystyriaeth awtomatig ar gyfer Cymwysterau Cymru.
I note also the committee’s concern about the lack of clarity over the use of the term ‘Welsh version’. I have asked officials to consider whether and how further clarification may be provided in the Bill. In other words, Presiding Officer: point taken. Nodaf bryder y pwyllgor ynghylch y diffyg eglurder ynghylch y defnydd o'r term 'fersiwn Gymraeg' hefyd. Rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried pa un a oes eglurhad pellach y gellid ei ddarparu yn y Bil a sut y gellid gwneud hynny. Mewn geiriau eraill, Lywydd: rwyf yn derbyn y pwynt.
The powers to prioritise and restrict are, arguably, the most novel and imaginative provisions of the Bill. I remain convinced that they are valuable components of the toolkit for Qualifications Wales. Any restriction is only likely to be contemplated after a detailed consideration of the views of stakeholders and of the likely impact. Qualifications Wales must notify recognised awarding bodies, and others with an interest, of any potential to restrict a qualification, and must also take into account any representations made by them. Y pwerau i flaenoriaethu a chyfyngu, gellid dadlau, yw darpariaethau mwyaf newydd a dychmygus y Bil. Rwy’n parhau i fod yn argyhoeddedig eu bod yn elfennau gwerthfawr o'r pecyn cymorth ar gyfer Cymwysterau Cymru. Mae unrhyw gyfyngiad yn debygol dim ond o gael ei ystyried ar ôl ystyriaeth fanwl o farn rhanddeiliaid ac o'r effaith debygol. Mae'n rhaid i Cymwysterau Cymru roi gwybod i gyrff dyfarnu cydnabyddedig, ac eraill sydd â budd, am unrhyw botensial i gyfyngu ar gymhwyster, ac mae'n rhaid hefyd ystyried unrhyw sylwadau a wneir ganddynt.
17:01 - Simon Thomas
Will the Minister give way? A wnaiff y Gweinidog ildio?
17:01 - Huw Lewis
If time permits, Presiding Officer. Os yw amser yn caniatáu, Lywydd.
17:01 - Simon Thomas
Thank you, Minister. Just briefly on that point, I certainly agree with you that these aspects should be included in the Bill, so that Qualifications Wales can have these powers, but you talk about stakeholder involvement. How do you envisage the Assembly itself might get to know which qualifications in Wales are being considered for restriction in this way? Diolch i chi, Weinidog. Dim ond yn fyr ar y pwynt hwnnw, rwy’n sicr yn cytuno â chi y dylai'r agweddau hyn gael eu cynnwys yn y Bil, fel y gall Cymwysterau Cymru gael y pwerau hyn, ond rydych yn siarad am gyfranogiad rhanddeiliaid. Sut ydych chi'n rhagweld y gallai’r Cynulliad ei hun ddod i wybod pa gymwysterau yng Nghymru sy’n cael eu hystyried ar gyfer cyfyngiad yn y modd hwn?
17:02 - Huw Lewis
I’ll come on to that oversight issue in my remarks, Presiding Officer. Fe ddof at y mater goruchwylio hwnnw yn fy sylwadau, Lywydd.
Just coming back to the point on restrictions, Qualifications Wales will be best placed to monitor the impact on the market of any such restrictions and, of course, it is likely to report upon this in its annual report. In part answer to Simon Thomas’s questions, of course the usual scrutiny would apply through the committee system, as well as the annual debate within this Assembly, as well as oversight, of course, from Ministers. So, in similar terms to other Assembly sponsored public bodies. A dod yn ôl at y pwynt ar gyfyngiadau, Cymwysterau Cymru fydd yn y sefyllfa orau i fonitro effaith unrhyw gyfyngiadau o'r fath ar y farchnad ac, wrth gwrs, mae'n debygol o adrodd ar hyn yn ei adroddiad blynyddol. I ateb cwestiynau Simon Thomas yn rhannol, wrth gwrs byddai'r craffu arferol yn berthnasol drwy'r system pwyllgorau, yn ogystal â'r drafodaeth flynyddol o fewn y Cynulliad hwn, yn ogystal â goruchwyliaeth, wrth gwrs, gan Weinidogion. Felly, ar delerau tebyg i gyrff cyhoeddus eraill a noddir gan y Cynulliad.
Now, regarding apprenticeships, I will consider the role that Qualifications Wales might have, once the current review is complete. Nawr, ynghylch prentisiaethau, byddaf yn ystyried y swyddogaeth y gallai Cymwysterau Cymru ei chyflawni, pan fydd yr adolygiad presennol wedi'i gwblhau.
Just one other point: I note concerns about the potential conflicts of interest if Qualifications Wales provides commercial services. This also has been raised. It is important not to overstate these, however. Any public body has an inherent duty to manage potential and actual conflicts of interest. Qualifications Wales will be able to develop a protocol for mitigating any potential conflicts of interest and is unlikely to offer commercial services from day one, to say the least. Should Qualifications Wales wish to set up a separate company for commercial services, it must obtain ministerial approval. Dim ond un pwynt arall: nodaf bryderon am y gwrthdaro buddiannau posibl os bydd Cymwysterau Cymru yn darparu gwasanaethau masnachol. Mae hyn hefyd wedi ei godi. Mae'n bwysig peidio â gorbwysleisio hyn, fodd bynnag. Mae gan unrhyw gorff cyhoeddus ddyletswydd gynhenid ​​i reoli gwrthdaro buddiannau posibl a gwirioneddol. Bydd Cymwysterau Cymru yn gallu datblygu protocol ar gyfer lliniaru unrhyw wrthdaro buddiannau posibl ac mae’n annhebygol o gynnig gwasanaethau masnachol o'r diwrnod cyntaf, a dweud y lleiaf. Pe byddai Cymwysterau Cymru yn dymuno sefydlu cwmni ar wahân ar gyfer gwasanaethau masnachol, mae'n rhaid iddo gael cymeradwyaeth weinidogol.
Concerns have been raised about Qualifications Wales’s ability to charge fees for its services. Now, this power actually presently exists for Ministers, and is included as a prudent option, I believe, for Qualifications Wales for the future. Any scheme of charges that Qualifications Wales proposes can only have effect with ministerial approval, so Ministers will have the opportunity to consider whether impacts have been properly assessed. Mae pryderon wedi eu codi ynglŷn â gallu Cymwysterau Cymru i godi ffioedd am ei wasanaethau. Nawr, mae’r pŵer hwn yn bodoli mewn gwirionedd i Weinidogion ar hyn o bryd, ac wedi ei gynnwys fel dewis doeth, yn fy marn i, i Cymwysterau Cymru ar gyfer y dyfodol. Ni all unrhyw gynllun ffioedd y bydd Cymwysterau Cymru yn ei gynnig ond cael effaith gyda chymeradwyaeth weinidogol, felly bydd Gweinidogion yn cael y cyfle i ystyried pa un a yw effeithiau wedi eu hasesu'n briodol ai peidio.
Finally, regarding the recommendations about commencement Orders, Members are aware that it is my intention, subject to the Bill’s progress, for Qualifications Wales to be up and running from September this year. This would require commencement in August of some of the establishment provisions. The timing, of course, is tight, but it will be important for the organisation to be up and running so that our learners benefit early in the academic year. Members will, of course, be aware that the First Minister wrote to the Constitutional and Legislative Affairs Committee in October 2013, setting out the Welsh Government’s position concerning powers for commencement Orders. Commencement Orders are not usually subject to any procedure, and I do not see advantages in this case. The Assembly will already have scrutinised the Bill and passed the provisions that are being commenced, or so I hope, so it is unnecessary to make provision for a procedure to apply that would allow the Assembly to vote against its own commencement. However I am happy to provide Members with details about the proposed transitional arrangements as soon as possible. Yn olaf, ynghylch yr argymhellion ynglŷn â Gorchmynion cychwyn, mae Aelodau yn ymwybodol ei fod yn fwriad gennyf, yn amodol ar gynnydd y Bil, i Cymwysterau Cymru fod yn weithredol o fis Medi eleni. Byddai hyn yn gofyn am gychwyn ym mis Awst ar rai o ddarpariaethau’r sefydliad. Mae'r amseru, wrth gwrs, yn dynn, ond bydd yn bwysig i'r sefydliad fod yn weithredol er mwyn i'n dysgwyr elwa yn gynnar yn y flwyddyn academaidd. Bydd aelodau, wrth gwrs, yn ymwybodol bod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ym mis Hydref 2013, yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch pwerau ar gyfer Gorchmynion cychwyn. Nid yw Gorchmynion Cychwyn fel arfer yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn, ac nid wyf yn gweld manteision yn yr achos hwn. Bydd y Cynulliad eisoes wedi craffu ar y Bil ac wedi pasio’r darpariaethau sy'n cael eu cychwyn, neu felly yr wyf yn gobeithio, felly nid oes angen darparu ar gyfer gweithdrefn i fod yn berthnasol a fyddai'n caniatáu i'r Cynulliad bleidleisio yn erbyn ei broses cychwyn ef ei hun. Fodd bynnag, rwy’n hapus i roi manylion i'r Aelodau am y trefniadau trosiannol arfaethedig cyn gynted â phosibl.
In conclusion, I thank the committees for their constructive engagement and ideas for improving the Bill. I have not responded to every recommendation here this afternoon, but I look forward to detailed debate during Stage 2 scrutiny. I urge Members to support the Bill today. I gloi, hoffwn ddiolch i'r pwyllgorau am eu cyfraniad adeiladol a'u syniadau ar gyfer gwella'r Bil. Nid wyf wedi ymateb i bob argymhelliad yma y prynhawn yma, ond rwy’n edrych ymlaen at drafodaeth fanwl yn ystod craffu Cyfnod 2. Anogaf yr Aelodau i gefnogi'r Bil heddiw.
17:05 - Y Llywydd / The Presiding Officer
I call on the Chair of the Children, Young People and Education Committee, Ann Jones. Rwy'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Ann Jones.
17:05 - Ann Jones
Thank you, Presiding Officer. It’s always a pleasure to follow the Minister in debates like this—I cut out swathes of my speech, because he readily agrees with the committee. But I just wanted to touch on the views of the committee during the Stage 1 debate. Diolch i chi, Lywydd. Mae bob amser yn bleser i ddilyn y Gweinidog mewn dadleuon fel hyn—rwyf wedi torri rhannau helaeth o fy araith, oherwydd ei fod yn barod iawn i gytuno â'r pwyllgor. Ond roeddwn eisiau crybwyll barn y pwyllgor yn ystod dadl Cyfnod 1.
The committee were unanimous in our view that the establishment of Qualifications Wales is a positive step forward, and we fully support the general principles of the Minister’s Bill. The committee also welcomes that the Bill does not contain any provisions for conferring functions or powers on Qualifications Wales as an awarding body, and this reflected the findings of the pre-legislative scrutiny the committee undertook, and the commitment given by the Minister following that. During Stage 1 evidence taking, however, there were a number of concerns raised with stakeholders, and we believe that the Minister needs to give careful consideration—I think he’s already indicated that he’s prepared to do so—prior to the formal establishment of Qualifications Wales. Roedd y pwyllgor yn unfrydol yn ein barn bod sefydlu Cymwysterau Cymru yn gam cadarnhaol ymlaen, ac rydym yn llwyr gefnogi egwyddorion cyffredinol Bil y Gweinidog. Mae'r pwyllgor hefyd yn croesawu'r ffaith nad yw'r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaethau ar gyfer rhoi swyddogaethau neu bwerau i Cymwysterau Cymru fel corff dyfarnu, ac mae hyn yn adlewyrchu'r canfyddiadau craffu cyn deddfu a gynhaliwyd gan y pwyllgor, a'r ymrwymiad a roddwyd gan y Gweinidog yn dilyn hynny. Yn ystod cymryd tystiolaeth Cyfnod 1, fodd bynnag, roedd nifer o bryderon a godwyd gyda rhanddeiliaid, ac rydym yn credu bod angen i'r Gweinidog roi ystyriaeth ofalus—rwy’n meddwl ei fod eisoes wedi nodi ei fod yn fodlon gwneud hynny—cyn sefydlu Cymwysterau Cymru yn ffurfiol.
Now, we made 14 recommendations, and I’m not going to go through them all, but I just wanted to touch on a couple of the major amendments. Nawr, gwnaethom 14 o argymhellion, ac nid wyf am fynd drwy bob un ohonynt, ond rwyf eisiau sôn am un neu ddau o'r prif welliannau.
The committee looked in some detail at the main purpose of the Bill, and in doing so we considered the limitations in the current system identified by the Minister, the principal aims set out for Qualifications Wales, and the list of matters within the Bill to which Qualifications Wales must have regard. In general, the committee and those giving evidence supported these elements. A number of stakeholders suggested additional matters, those matters being the promotion of vocational qualifications, establishing parity of esteem—I’ve heard what the Minister said—and international benchmarking. The committee’s view was that the list of matters contained in the Bill should include those areas. Edrychodd y pwyllgor yn fanwl ar brif ddiben y Bil, ac wrth wneud hynny ystyriwyd y cyfyngiadau yn y system bresennol a nodwyd gan y Gweinidog, y prif nodau a osodwyd ar gyfer Cymwysterau Cymru, a'r rhestr o faterion o fewn y Bil y mae rhaid i Cymwysterau Cymru roi sylw iddynt. Yn gyffredinol, roedd y pwyllgor a'r rhai a roddodd dystiolaeth yn cefnogi’r elfennau hyn. Awgrymodd nifer o randdeiliaid faterion ychwanegol, sef hyrwyddo cymwysterau galwedigaethol, sefydlu parch cydradd—rwyf wedi clywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog—a meincnodi rhyngwladol. Barn y pwyllgor oedd y dylai'r rhestr o faterion a gynhwysir yn y Bil gynnwys y meysydd hynny.
On the independence of the new body, again concerns were expressed by a number of those giving evidence that the Bill may not provide Qualifications Wales with the level of independence it needed to undertake its role. The committee considered this carefully as we believe that, to ensure a successful qualifications system, it is essential that the regulator has operational independence. We looked closely at how Qualifications Wales would operate, and how the relationship with Welsh Government would be managed. As the Minister has outlined, this will primarily now be through what he’s calling his ‘grant letter’ and a framework document that will be managed by a unit within Welsh Government. The committee is content that, if managed properly, the proposed arrangements would not detract from the operational independence of Qualifications Wales. We were a little unclear as to the process for agreeing the framework document and the annual letter, given that there is no provision on the face of the Bill; however, I’m pleased that the Minister has accepted that this will become a debate, and a chance for the Assembly to debate the annual remit letter and the framework. O ran annibyniaeth y corff newydd, unwaith eto mynegwyd pryderon gan nifer o'r rhai a roddodd dystiolaeth nad yw'r Bil efallai yn rhoi’r lefel o annibyniaeth i Cymwysterau Cymru yr oedd ei hangen arno i ymgymryd â'i waith. Ystyriodd y pwyllgor hyn yn ofalus gan ein bod yn credu, er mwyn sicrhau system gymwysterau lwyddiannus, ei bod yn hanfodol bod gan y rheoleiddiwr annibyniaeth weithredol. Edrychwyd yn fanwl ar sut y byddai Cymwysterau Cymru yn gweithredu, a sut y byddai'r berthynas â Llywodraeth Cymru yn cael ei rheoli. Fel y mae'r Gweinidog wedi amlinellu, bydd hyn yn bennaf erbyn hyn drwy’r hyn y mae'n ei alw ei 'lythyr grant' a dogfen fframwaith a fydd yn cael ei rheoli gan uned o fewn Llywodraeth Cymru. Mae'r pwyllgor yn fodlon, o’u rheoli'n briodol, na fyddai'r trefniadau arfaethedig yn amharu ar annibyniaeth weithredol Cymwysterau Cymru. Roeddem ychydig yn aneglur ynghylch y broses ar gyfer cytuno ar y ddogfen fframwaith a'r llythyr blynyddol, o gofio nad oes darpariaeth ar wyneb y Bil; fodd bynnag, rwy'n falch bod y Gweinidog wedi derbyn y bydd hyn yn dod yn ddadl, ac yn gyfle i'r Cynulliad drafod y llythyr cylch gwaith blynyddol a'r fframwaith.
On prioritising qualifications, the majority of evidence received suggested that there is a need to streamline and rationalise the qualifications that currently exist in Wales. The committee believes that having a list of priority qualifications would enable Qualifications Wales to focus public resources on those qualifications that are most significant. We do acknowledge, however, concerns raised by stakeholders about the potential difficulties involved in prioritising qualifications, and believe the Minister should give further consideration to these difficulties. We welcome the commitment from the Minister that, in moving forward with prioritising, he will be having those discussions with Qualifications Wales’s chief executive, as to how that first priority list is actually drawn up. O ran blaenoriaethu cymwysterau, awgrymodd y rhan fwyaf o'r dystiolaeth a gafwyd bod angen symleiddio a rhesymoli'r cymwysterau sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae'r pwyllgor yn credu y byddai cael rhestr o gymwysterau blaenoriaethol yn galluogi Cymwysterau Cymru i ganolbwyntio adnoddau cyhoeddus ar y cymwysterau hynny sydd fwyaf pwysig. Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, y pryderon a godwyd gan randdeiliaid am yr anawsterau posibl sy'n gysylltiedig â blaenoriaethu cymwysterau, ac yn credu y dylai'r Gweinidog roi ystyriaeth bellach i'r anawsterau hyn. Rydym yn croesawu'r ymrwymiad gan y Gweinidog, wrth symud ymlaen â blaenoriaethu, y bydd yn cael y trafodaethau hynny gyda phrif weithredwr Cymwysterau Cymru, ynghylch sut y bydd y rhestr blaenoriaethau gyntaf honno yn cael ei llunio mewn gwirionedd.
On restricting qualifications, now, the evidence here received by the committee shows that there is a clear split in opinion on the provisions relating to restricting qualifications. Some saw this as a mechanism to simplify and streamline the quantity of qualifications on offer, while others saw it as limiting choice over qualifications, which could potentially distort the qualifications market. O ran cyfyngu cymwysterau, nawr, mae'r dystiolaeth yma a gafodd y pwyllgor yn dangos bod rhaniad clir mewn barn ar y darpariaethau sy'n ymwneud â chyfyngu cymwysterau. Roedd rhai yn gweld hyn fel dull o symleiddio ac ailwampio nifer y cymwysterau sydd ar gael, tra bod eraill yn ei weld fel rhywbeth sy'n cyfyngu dewis dros gymwysterau, a allai o bosibl ystumio'r farchnad gymwysterau.
There were concerns about the potential unintended consequences, and these were raised by the Federation of Awarding Bodies, and we felt that the Minister should fully consider these concerns before the Bill is enacted. What was clear from the committee’s consideration is that there’s no firm evidence either way to suggest what the ongoing impact of restricting priority qualifications will be. We therefore believe that the Welsh Government should review the impact on the qualifications market of decisions made to restrict priority qualifications, and that you should report back the findings of that review to the Assembly. I am pleased to hear, however, the Minister confirm that the Assembly will be able to scrutinise Qualifications Wales’s work. Roedd pryderon am y canlyniadau anfwriadol posibl, a chafodd y rhain eu codi gan Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu, ac roeddem yn teimlo y dylai'r Gweinidog ystyried yn llawn y pryderon hyn cyn i'r Bil gael ei wneud yn ddeddf. Yr hyn a oedd yn amlwg o ystyriaeth y pwyllgor yw nad oes unrhyw dystiolaeth gadarn naill ffordd na'r llall i awgrymu beth fydd effaith barhaus cyfyngu cymwysterau blaenoriaeth. Felly, rydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r effaith ar y farchnad gymwysterau y penderfyniadau a wnaed i gyfyngu cymwysterau blaenoriaeth, ac y dylech adrodd canfyddiadau'r adolygiad hwnnw yn ôl i'r Cynulliad. Rwy’n falch o glywed, fodd bynnag, y Gweinidog yn cadarnhau y bydd y Cynulliad yn gallu craffu ar waith Cymwysterau Cymru.
Creating a strategic approach to qualifications: we looked at that, and much of the evidence stressed the importance of taking opportunities to develop a more strategic approach to vocational qualifications, and to promote a parity of esteem with their general academic counterparts. The committee believes that the Bill makes sufficient provision to enable Qualifications Wales to take such a strategic approach, and provides Qualifications Wales with that toolkit, allowing them to tailor their approach for both general academic and vocational qualifications where necessary. We were a little concerned that, where the approach by Qualifications Wales does vary, there needs to be an effective mechanism for scrutiny and accountability of that variation, and I think the Minister has given his assurance that that will be included within the scrutiny role of this Assembly. Committee believes that the Minister should consider including provision within the Bill in order that we can have scrutiny of that annual report of Qualifications Wales. Creu dull strategol o gymwysterau: edrychwyd ar hynny, ac mae llawer o'r dystiolaeth yn pwysleisio pwysigrwydd cymryd cyfleoedd i ddatblygu ymagwedd fwy strategol tuag at gymwysterau galwedigaethol, a hyrwyddo parch cydradd gyda'u cymheiriaid academaidd cyffredinol. Mae'r pwyllgor yn credu bod y Bil yn gwneud darpariaeth ddigonol i alluogi Cymwysterau Gymru i gymryd ymagwedd strategol o'r fath, ac yn darparu Cymwysterau Cymru â'r pecyn cymorth hwnnw, gan ei alluogi i deilwra ei ymagwedd ar gyfer cymwysterau academaidd a galwedigaethol cyffredinol pan fo angen. Roeddem ychydig yn bryderus, pan fo’r ymagwedd Cymwysterau Cymru yn amrywio, bod angen cael mecanwaith effeithiol ar gyfer craffu ac atebolrwydd yr amrywiad hwnnw, ac rwy'n credu bod y Gweinidog wedi rhoi ei sicrwydd y bydd hynny'n cael ei gynnwys o fewn swyddogaeth graffu’r Cynulliad hwn. Mae’r pwyllgor yn credu y dylai'r Gweinidog ystyried cynnwys darpariaeth yn y Bil er mwyn i ni gael craffu ar yr adroddiad blynyddol Cymwysterau Cymru hwnnw.
On the financial and commercial issues, generally, the committee was content with the cost of establishing Qualifications Wales, agreeing with the Welsh Government’s statement that the additional costs were justifiable to ensure the independence of the qualifications system here in Wales. However, concerns again were raised about the provisions within the Bill enabling Qualifications Wales to provide commercial services and to charge fees. The committee believes that, as an independent body, Qualifications Wales should have the ability to provide commercial services, and agrees in principle with the provisions set out in section 40 of the Bill. Committee, again, was concerned that there must be clear protocols in place to mitigate any potential conflict of interest that might arise through the provision of such services. Work to establish such a protocol must be undertaken, again before the Bill is enacted. O ran y materion ariannol a masnachol, yn gyffredinol, mae'r pwyllgor yn fodlon â'r gost o sefydlu Cymwysterau Cymru, gan gytuno â datganiad Llywodraeth Cymru fod y costau ychwanegol yn gyfiawnadwy i sicrhau annibyniaeth y system gymwysterau yma yng Nghymru. Fodd bynnag, codwyd pryderon unwaith eto ynghylch y darpariaethau yn y Bil i alluogi Cymwysterau Cymru i ddarparu gwasanaethau masnachol ac i godi ffioedd. Mae'r pwyllgor yn credu y dylai Cymwysterau Cymru, fel corff annibynnol, gael y gallu i ddarparu gwasanaethau masnachol, ac yn cytuno mewn egwyddor â'r darpariaethau a nodir yn adran 40 y Bil. Roedd y pwyllgor, unwaith eto, yn pryderu bod yn rhaid cael protocolau clir ar waith i liniaru unrhyw wrthdaro buddiannau posibl a allai godi drwy ddarparu gwasanaethau o'r fath. Mae'n rhaid i waith i sefydlu protocol o'r fath gael ei wneud, unwaith eto cyn i'r Bil gael ei deddfu.
In relation to the powers to charge fees, the committee acknowledges that the powers contained in the Bill are a carry-over of powers already held by Welsh Ministers. As such, we are content that the same powers should be given, then, to Qualifications Wales. Given that the power has never been used by Welsh Ministers, however, it is not possible to provide a clear picture about the effect on awarding bodies and others should Qualifications Wales decide to charge fees. Therefore the committee believes that, should fees be charged, Qualifications Wales should be required to undertake an assessment of the impact this would have, which should be included within their annual report. O ran y pwerau i godi ffioedd, mae'r pwyllgor yn cydnabod bod y pwerau sydd yn y Bil yn barhad o bwerau sy’n cael eu dal eisoes gan Weinidogion Cymru. Fel y cyfryw, rydym yn fodlon y dylai'r un pwerau gael eu rhoi, felly, i Cymwysterau Cymru. O ystyried nad yw’r pŵer erioed wedi ei ddefnyddio gan Weinidogion Cymru, fodd bynnag, nid yw'n bosibl rhoi darlun clir am yr effaith ar gyrff dyfarnu ac eraill pe digwydd i Cymwysterau Cymru benderfynu codi ffioedd. Felly, mae'r pwyllgor yn credu y dylai ffioedd gael eu codi, dylai fod yn ofynnol i Cymwysterau Cymru gynnal asesiad o'r effaith y byddai hyn yn ei chael, a dylid cynnwys hyn yn ei adroddiad blynyddol.
To conclude, Presiding Officer, can I just offer my thanks to the other members of the Children, Young People and Education Committee, and to the clerking team—Marc Jones, Gareth Rogers, Sarah Bartlett and Annette Millet—for their continued hard work and support, and to the Minister and his officials for answering the many questions that we have had on this Bill? We commend the report to you, and to the Minister. I gloi, Lywydd, a gaf fi gynnig fy niolch i aelodau eraill y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg , ac i'r tîm clercio—Marc Jones, Gareth Rogers, Sarah Bartlett ac Annette Millet—am eu gwaith caled parhaus a’u cefnogaeth, ac i'r Gweinidog a'i swyddogion am ateb y nifer o gwestiynau oedd gennym ar y Bil hwn? Rydym yn cymeradwyo'r adroddiad i chi, ac i'r Gweinidog.
17:13 - Y Llywydd / The Presiding Officer
I call on the Chair of the Constitutional and Legislative Affairs Committee, David Melding. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, David Melding.
17:13 - David Melding
We reported on this Bill on 13 March. Can I just remind Members that it’s our job to comment on the construction of the Bill? It’s not our duty to pass any judgment on the policy; that is a matter for others. Gwnaethom adrodd ar y Bil hwn ar 13 Mawrth. A gaf i atgoffa Aelodau mai ein gwaith ni yw gwneud sylwadau ar y gwaith o adeiladu’r Bil? Nid ein dyletswydd ni yw rhoi unrhyw farn ar y polisi; mater i eraill yw hynny. 
It’s a pleasure to be able to commend the Minister for the way in which the Bill is drafted. It is clear to follow and understandable. We found the level of detail placed on the face of the Bill to be appropriate, with a small number of regulation-making powers that are clear and justifiable. Most of these are then subject to the more robust scrutiny afforded by the affirmative procedure, and we welcome the recognition that such a procedure should be used for statutory instruments that amend or repeal primary legislation. We hope that this good practice becomes the norm in the drafting of Welsh Government legislation. Mae'n bleser gallu cymeradwyo'r Gweinidog am y ffordd y mae'r Bil wedi ei ddrafftio. Mae'n glir i’w ddilyn ac yn ddealladwy. Roeddem yn ystyried lefel y manylion a roddwyd ar wyneb y Bil yn briodol, gyda nifer fach o bwerau gwneud rheoliadau sy'n glir ac yn gyfiawnadwy. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain wedyn yn destun craffu mwy cadarn a gynigir gan y weithdrefn gadarnhaol, ac rydym yn croesawu'r gydnabyddiaeth y dylai gweithdrefn o'r fath gael ei defnyddio ar gyfer offerynnau statudol sy'n diwygio neu'n diddymu deddfwriaeth sylfaenol. Rydym yn gobeithio y bydd yr arfer da hwn yn dod y norm wrth ddrafftio deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.
17:15 - Paul Davies
Thank you, Presiding Officer, and I’m pleased to take part in this debate today. Can I make it clear from the outset that we, on this side of the Chamber, agree with the key objectives of this proposed Bill? We look forward to working constructively with the Welsh Government, where we can, to strengthen it. Diolch i chi, Lywydd, ac rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. A gaf i ei gwneud yn glir o'r dechrau ein bod, ar yr ochr hon i'r Siambr, yn cytuno ag amcanion allweddol y Bil arfaethedig? Rydym yn edrych ymlaen at weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru, lle y gallwn, i'w gryfhau.
I don’t think there are many people who would disagree with plans to establish an independent regulatory body for Wales, and I think that was certainly clear from the evidence received by the Children, Young People and Education Committee. However, that’s not to say that concerns were not raised by stakeholders in the education sector, and I know that the Minister has sought to address some of these concerns today, but I hope that the Minister, in responding to this debate, would be able to alleviate all of those concerns. Nid wyf yn credu bod llawer o bobl a fyddai'n anghytuno â'r cynlluniau i sefydlu corff rheoleiddio annibynnol ar gyfer Cymru, a chredaf fod hynny’n sicr yn glir o'r dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu na fynegwyd pryderon gan randdeiliaid yn y sector addysg, a gwn fod y Gweinidog wedi ceisio mynd i'r afael â rhai o'r pryderon hyn heddiw, ond rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon, yn gallu lliniaru pob un o'r pryderon hynny.
The first issue that I’d like to focus on is the power to restrict the provision of certain qualifications to a few bodies or even a single awarding body. As the Chair of the Children, Young People and Education Committee said, there was certainly mixed feedback from stakeholders regarding this particular matter. The National Union of Students, Estyn and the Catholic Education Service said that restricting qualifications would provide consistency in qualifications taken by learners and would help to streamline the number of qualifications available to learners. However, the Federation of Awarding Bodies were very critical of this aspect of the Bill, and felt that restricting qualifications would remove the choice for employers, colleges and training providers over which awarding body they believe would best serve their learners’ needs and, indeed, their own needs. Y mater cyntaf y byddwn i'n hoffi canolbwyntio arno yw'r pŵer i gyfyngu ar ddarparu cymwysterau penodol i ychydig o gyrff neu hyd yn oed i un corff dyfarnu. Fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, roedd yr adborth gan randdeiliaid yn sicr yn gymysg ynghylch y mater penodol hwn. Dywedodd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Estyn a'r Gwasanaeth Addysg Gatholig y byddai cyfyngu cymwysterau yn darparu cysondeb o ran cymwysterau a gymerir gan ddysgwyr a byddai'n helpu i symleiddio nifer y cymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr. Fodd bynnag, roedd Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu yn feirniadol iawn o'r agwedd hon ar y Bil, ac yn teimlo y byddai cyfyngu cymwysterau yn cael gwared ar y dewis i gyflogwyr, colegau a darparwyr hyfforddiant o ran pa gorff dyfarnu y maent yn ei gredu fyddai'n gwasanaethu anghenion eu dysgwyr orau ac, yn wir, eu hanghenion eu hunain hefyd.
Pearson also voiced concerns regarding the lack of competition in the Welsh qualifications market if a single awarding body provided Wales’s priority qualifications. I believe that the Minister, in responding to these concerns, needs to ensure that the qualifications market is secure in the future, and that learners are not disadvantaged compared to their counterparts across the UK and further afield. Lleisiodd Pearson bryderon hefyd ynghylch y diffyg cystadleuaeth yn y farchnad gymwysterau yng Nghymru pe byddai corff dyfarnu unigol yn daprau cymwysterau blaenoriaeth Cymru. Credaf fod angen i’r Gweinidog, wrth ymateb i'r pryderon hyn, sicrhau bod y farchnad cymwysterau yn ddiogel yn y dyfodol, ac na fydd dysgwyr dan anfantais o'u cymharu â'u cymheiriaid ar draws y DU a thu hwnt.
Another key issue that has arisen from discussing this proposed Bill is Qualifications Wales’s ability to offer consultancy services for commercial gain, which the Minister has referred to in his opening remarks. The WJEC said that this introduces significant potential for a conflict of interest, because, in theory, Qualifications Wales could consult an awarding body on a qualification that it would eventually receive for approval. Whilst I appreciate the Minister’s view that there would be protocols in place to counter any potential conflict of interest, and I heard what he said today, I still have reservations that this Bill could allow the regulator to regulate itself. Mater allweddol arall sydd wedi codi o drafod y Bil arfaethedig hwn yw gallu Cymwysterau Cymru i gynnig gwasanaethau ymgynghori ar gyfer elw masnachol, y mae'r Gweinidog wedi cyfeirio ato yn ei sylwadau agoriadol. Dywedodd CBAC fod hyn yn cyflwyno potensial sylweddol ar gyfer gwrthdaro buddiannau, oherwydd, mewn theori, gallai Cymwysterau Cymru ymgynghori â chorff dyfarnu ar gymhwyster y byddai'n ei dderbyn yn y pen draw i'w gymeradwyo. Er fy mod yn gwerthfawrogi barn y Gweinidog y byddai protocolau ar waith i wrthsefyll unrhyw wrthdaro buddiannau posibl, a chlywais yr hyn a ddywedodd heddiw, rwy’n dal i fod ag amheuon y gallai’r Bil hwn ganiatáu i'r rheoleiddiwr reoleiddio ei hun.
Stakeholders such as the Oxford Cambridge and RSA, WJEC and Pearson also expressed concerns over Qualifications Wales’s ability to charge for applications for recognition of awarding bodies and approval of their qualifications. Both the WJEC and OCR have made it absolutely clear that they would have to pass on these costs to examination centres, and this is, therefore, a cause for concern. I accept that the Welsh Government already has these powers, despite not using them, and that this would merely be passing on current provisions to the new body. Indeed, the Minister has said, in his evidence to the Children, Young People and Education Committee, that it is a matter of prudence, in a very uncertain world, where financial considerations might change. Whilst the committee is in favour of transferring these powers, there are calls to ensure that Qualifications Wales carries out assessments of how these fees may affect stakeholders in the future, and I would certainly agree with that. Mynegodd rhanddeiliaid megis yr Oxford Cambridge and RSA, CBAC a Pearson hefyd bryderon ynghylch gallu Cymwysterau Cymru i godi ffi am geisiadau i gydnabod cyrff dyfarnu a chymeradwyo eu cymwysterau. Mae CBAC a'r OCR wedi ei gwneud yn gwbl glir y byddai'n rhaid iddynt drosglwyddo'r costau hyn i ganolfannau arholi, ac mae hyn, felly, yn achos pryder. Rwy’n derbyn bod gan Lywodraeth Cymru y pwerau hyn eisoes, er gwaethaf y ffaith nad yw’n eu defnyddio, ac mai dim ond trosglwyddo darpariaethau cyfredol i'r corff newydd fyddai hyn. Yn wir, mae'r Gweinidog wedi dweud, yn ei dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, mai mater o ddoethineb yw hyn, mewn byd ansicr iawn, lle y gallai ystyriaethau ariannol newid. Er bod y pwyllgor o blaid trosglwyddo'r pwerau hyn, ceir galwadau i sicrhau bod Cymwysterau Cymru yn cynnal asesiadau o sut y gall y ffioedd hyn effeithio ar randdeiliaid yn y dyfodol, a byddwn yn sicr yn cytuno â hynny.
I’d also like to quickly focus on recommendation 3 of the Children, Young People and Education Committee’s report, which is that the Welsh Government should give a commitment to the holding of a debate on the annual report of Qualifications Wales. Naturally, the monitoring of Qualifications Wales will be done directly by the National Assembly, and that is something that I welcome. Indeed, I made my views on this very issue well known last year, when we discussed qualifications reform in this very Chamber. In light of this recommendation, I am, therefore, pleased that the Minister has, today, made it clear he will ensure that a debate will be held in this place on Qualifications Wales’s annual report. Hoffwn hefyd ganolbwyntio yn gyflym ar argymhelliad 3 adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef y dylai Llywodraeth Cymru roi ymrwymiad i gynnal dadl ar adroddiad blynyddol Cymwysterau Cymru. Yn naturiol, bydd y gwaith o fonitro Cymwysterau Cymru yn cael ei wneud yn uniongyrchol gan y Cynulliad Cenedlaethol, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ei groesawu. Mewn gwirionedd, gwnes fy sylwadau ynghylch hyn yn hysbys iawn y llynedd, pan fuom yn trafod diwygio cymwysterau yn y Siambr. Yng ngoleuni’r argymhelliad hwn, yr wyf, felly, yn falch bod y Gweinidog, heddiw, wedi ei gwneud yn glir y bydd yn sicrhau y bydd dadl yn cael ei chynnal yn y lle hwn ar adroddiad blynyddol Cymwysterau Cymru.
Finally, Presiding Officer, there is also a need to clarify in the Bill that vocational qualifications will receive parity with academic qualifications, and that Welsh qualifications will be compatible with the European qualifications framework and international benchmarking. Ultimately, any qualifications that our pupils achieve in Wales must be meaningful and provide young people with cast-iron guarantees that their results will be recognised across the UK and further afield. Yn olaf, Lywydd, mae hefyd angen egluro yn y Bil y bydd cymwysterau galwedigaethol yn cael cydraddoldeb â chymwysterau academaidd, ac y bydd cymwysterau yng Nghymru yn gydnaws â'r fframwaith cymwysterau Ewropeaidd a meincnodi rhyngwladol. Yn y pen draw, mae'n rhaid i unrhyw gymwysterau y mae ein disgyblion yn eu cyflawni yng Nghymru fod yn ystyrlon a rhoi gwarantau cwbl gadarn i bobl ifanc y bydd eu canlyniadau'n cael eu cydnabod ledled y DU a thu hwnt.
In closing, Presiding Officer, I’m sure we all look forward to Qualifications Wales adopting the principles of good regulation, which must include transparency and accountability. Whilst we, on this side of the Chamber, still have concerns regarding the Welsh Government’s long-term vision for Qualifications Wales, which, as I understand it, includes proposals to give this new body awarding powers as well as regulatory powers in the future, given that we agree with the general principles of this proposed Bill, we will be supporting its passage to Stage 2. Thank you. Wrth gloi, Lywydd, rwy'n siŵr ein bod i gyd yn edrych ymlaen at weld Cymwysterau Cymru yn mabwysiadu'r egwyddorion rheoleiddio da, y bydd yn rhaid iddynt gynnwys tryloywder ac atebolrwydd. Er ein bod, ar yr ochr hon i'r Siambr, yn dal i fod â phryderon ynghylch gweledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymwysterau Cymru, sydd, fel y deallaf, yn cynnwys cynigion i roi pwerau dyfarnu i’r corff newydd hwn yn ogystal â phwerau rheoleiddio yn y dyfodol, o gofio ein bod yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil arfaethedig hwn, byddwn yn cefnogi ei daith i Gyfnod 2. Diolch yn fawr.
17:20 - Jeff Cuthbert
I very much welcome the opportunity to contribute to this debate today, on a matter concerning a significant change and, I believe, a step forward for education and skills in Wales. I would like to pay tribute to the Minister and his predecessor for the work that they have done in developing this Bill, beginning of course with the decision in December 2012 to adopt, early, recommendation 5 of the review of qualifications for 14 to 19-year-olds in Wales, led by Huw Evans OBE. Rwy’n croesawu'n fawr y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw, ar fater sy'n ymwneud â newid sylweddol ac, yn fy marn i, sy’n gam ymlaen ar gyfer addysg a sgiliau yng Nghymru. Hoffwn dalu teyrnged i'r Gweinidog a'i ragflaenydd am y gwaith y maent wedi'i wneud wrth ddatblygu'r Bil hwn, gan ddechrau wrth gwrs gyda'r penderfyniad ym mis Rhagfyr 2012 i fabwysiadu, yn gynnar, argymhelliad 5 yr adolygiad o gymwysterau ar gyfer y rhai 14 i 19 oed yng Nghymru, dan arweiniad Huw Evans OBE.
Now, I declare an interest here, of course, because when I was the Deputy Minister for skills, I commissioned a qualifications review in September of that year. I’m pleased to see the Qualifications Wales Bill as one of the long-term results of this. The main purpose of my commissioning the qualifications review was to look at how we could simplify and strengthen the qualifications system in Wales, thus ensuring that they were both nationally and internationally recognised and that they were relevant to the needs of learners, schools and colleges, higher education institutions and, of course, the Welsh economy. I’m very grateful for the work that Huw Evans did on this and his recommendation for the creation of an independent singular body to be responsible for the regulation and quality assurance of all non-degree level qualifications available in Wales. Nawr, rwy’n datgan buddiant yma, wrth gwrs, oherwydd pan mai fi oedd y Dirprwy Weinidog Sgiliau, comisiynais adolygiad o gymwysterau ym mis Medi y flwyddyn honno. Rwy'n falch o weld y Bil Cymwysterau Cymru fel un o ganlyniadau tymor hir hyn. Prif bwrpas comisiynu adolygiad cymwysterau gennyf oedd edrych ar sut y gallem symleiddio a chryfhau'r system cymwysterau yng Nghymru, gan sicrhau eu bod yn cael eu cydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a'u bod yn berthnasol i anghenion dysgwyr, ysgolion a cholegau, sefydliadau addysg uwch ac, wrth gwrs, economi Cymru. Rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith a wnaeth Huw Evans ar hyn a’i argymhelliad ar gyfer creu corff unigol annibynnol i fod yn gyfrifol am reoleiddio a sicrhau ansawdd pob cymhwyster lefel nad yw’n radd sydd ar gael yng Nghymru.
As Welsh learners prepare to enter an increasingly high-skilled and globalised labour market, it is vital that they have sound qualifications that are portable and acceptable across the board. It’s vital that the recommendations of the Donaldson review of the curriculum are taken into account when developing this further. I therefore welcome paragraph 95 of the Bill’s explanatory memorandum, which demonstrates the Welsh Government’s recognition of the need for Welsh qualifications to positively compare with those in the rest of the United Kingdom and further afield. However, the Minister will also know of my long-held passion for establishing parity of esteem between general and vocational qualifications, and I’m very pleased with the comments that have been made here in this Chamber today on this matter. I’m pleased that the Minister has stated here in the Chamber that he envisages Qualifications Wales as being very active in the vocational field. On this note, I believe it is important that relevant vocational qualifications are developed on a UK-wide basis, and it will therefore be important to work with bodies such as the qualifications providers, sector skills councils, training bodies and appropriate regulatory authorities across the UK to ensure that this is the case. Wrth i ddysgwyr Cymru baratoi i fynd i mewn i farchnad lafur fwyfwy hyfedr a byd-eang, mae'n hanfodol bod ganddynt gymwysterau cadarn sy'n gludadwy ac yn dderbyniol yn gyffredinol. Mae'n hanfodol bod argymhellion adolygiad Donaldson o'r cwricwlwm yn cael eu hystyried wrth ddatblygu hyn ymhellach. Felly, rwy’n croesawu paragraff 95 o femorandwm esboniadol y Bil, sy'n dangos cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o'r angen am gymwysterau yng Nghymru i gymharu’n gadarnhaol â'r rhai yng ngweddill y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Fodd bynnag, bydd y Gweinidog hefyd yn gwybod fy mod yn frwdfrydig iawn ers cryn amser i sefydlu parch cydradd rhwng cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol, ac rwy'n falch iawn o'r sylwadau sydd wedi'u gwneud yma yn y Siambr hon heddiw ar y mater hwn. Rwy'n falch bod y Gweinidog wedi datgan yma yn y Siambr ei fod yn rhagweld Cymwysterau Cymru fel bod yn weithgar iawn yn y maes galwedigaethol. Ar y nodyn hwn, rwy’n credu ei bod yn bwysig bod cymwysterau galwedigaethol perthnasol yn cael eu datblygu ar sail y DU gyfan, a bydd, felly, yn bwysig gweithio gyda chyrff megis y darparwyr cymwysterau, cynghorau sgiliau sector, cyrff hyfforddi ac awdurdodau rheoleiddio priodol ar draws y DU i sicrhau bod hyn yn digwydd.
I agree with the Minister that qualifications are essentially all about confidence. Learners, universities, learning providers and, of course, employers all need to have confidence in the qualifications that are awarded here in Wales. The establishment of a single, independent regulatory body will go a long way towards that, in conjunction with other reforms that we are making and have already made to assessment and to the curriculum. Joined-up working is crucial. This is about strengthening the regulation of qualifications in Wales and it is also about simplifying the qualifications system. I support the Welsh Government’s ambition that Qualifications Wales should ultimately become an awarding body, too. Now, I declare another interest here, as a former WJEC employee, but I agree that it needs to be rigorously tested as a regulator first to ensure that it is able to carry out the tasks that this Bill sets. Rwy’n cytuno â'r Gweinidog bod cymwysterau yn eu hanfod yn ymwneud â hyder. Wrth gwrs, mae angen i ddysgwyr, prifysgolion, darparwyr dysgu ac, wrth gwrs, cyflogwyr gael hyder yn y cymwysterau sy'n cael eu dyfarnu yma yng Nghymru. Bydd sefydlu corff rheoleiddio sengl, annibynnol yn mynd ymhell tuag at hynny, ar y cyd â diwygiadau eraill yr ydym yn eu gwneud ac eisoes wedi eu gwneud i asesiad ac i'r cwricwlwm. Mae gweithio cydgysylltiedig yn hanfodol. Mae hyn yn ymwneud â chryfhau rheoleiddio cymwysterau yng Nghymru ac mae hefyd yn ymwneud â symleiddio'r system gymwysterau. Rwy’n cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru y dylai Cymwysterau Cymru yn y pen draw ddod yn gorff dyfarnu, hefyd. Nawr, rwy’n datgan buddiant arall yma, fel cyn-weithiwr CBAC, ond rwy’n cytuno bod angen iddo ei gael ei brofi yn drylwyr fel rheoleiddiwr gyntaf i sicrhau ei fod yn gallu cyflawni'r tasgau y mae’r Bil hwn yn eu pennu.
Llywydd, I support the general principles of this Bill, and I look forward to detailed scrutiny in the months ahead. The establishment of an independent regulator will help establish Welsh qualifications on a level playing field with other parts of the UK and elsewhere, and will open doors for our learners. This is just one piece of the jigsaw, but a significant and important one. Lywydd, rwy’n cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, ac edrychaf ymlaen at graffu manwl yn y misoedd i ddod. Bydd sefydlu rheoleiddiwr annibynnol yn helpu i sefydlu cymwysterau yng Nghymru ar yr un lefel â rhannau eraill o'r DU ac mewn mannau eraill, a bydd yn agor drysau ar gyfer ein dysgwyr. Dim ond un darn o'r jig-so yw hwn, ond mae'n un arwyddocaol a phwysig.
17:24 - Simon Thomas
Bydd Plaid Cymru hefyd yn cefnogi’r Bil—yr egwyddorion y tu ôl i’r Bil—ac rydym yn croesawu, a dweud y gwir, sefydlu Cymwysterau Cymru fel corff rheoleiddio ar wahân i’r Llywodraeth. Mae’n rhywbeth rydym wedi bod yn gyson yn galw amdano yn y Cynulliad hwn ac rydym yn enwedig eisiau gweld diwedd rhai o’r agweddau ar y marchnadeiddio sydd yn digwydd mewn cymwysterau, sydd wedi arwain yn y gorffennol at rai cymwysterau yn cael eu disodli neu eu tanseilio, yn fy marn i. Plaid Cymru will be supporting the Bill—the general principles of the Bill—and we welcome the establishment of Qualifications Wales as a regulatory body independent of Government. It’s something that we have called for consistently in this Assembly and we particularly want to see an end to some of the aspects of the marketisation of qualifications that has, in the past, led to some qualifications being replaced or undermined, in my opinion.
Mae’r Bil hefyd yn rhoi cyfle i ni sefydlu cydbwysedd rhwng y cymwysterau academaidd a’r cymwysterau galwedigaethol, ac rwy’n croesawu beth ddywedodd y Gweinidog ynglŷn â’r ffaith bod y Bil yn cefnogi’r cydbwysedd a’r cydraddoldeb yna rhwng y ddau beth. Mae’n mynd i fod yr un mor bwysig i bobl ifanc Cymru yn y genhedlaeth nesaf i ddewis y llwybr galwedigaethol ag yw e i ddewis y llwybr academaidd. Mae’n wir efallai nad ydym yn y gorffennol wedi talu gymaint o sylw i’r ochr alwedigaethol, yn enwedig sylw i gysoni, egluro a hyrwyddo’r ochr alwedigaethol i’r dysgwyr, ond hefyd i gwmnïau, busnesau a'r sectorau eraill. The Bill also provides us with an opportunity to strike a balance between academic and vocational qualifications, and I welcome the Minister’s comments on the fact that the Bill does support that balance and parity of esteem between the two issues. It will be just as important for the next generation of young people in Wales to choose the vocational route as it will be to choose the academic route. It’s been true in the past, perhaps, that we haven’t given due regard to the vocational side, particularly in terms of standardising and promoting the vocational side to learners, but also to companies, businesses and other sectors.
Fel mae sawl Aelod arall wedi ei ddweud, mae’n mynd i fod yn hynod bwysig bod y cymwysterau newydd yma o dan Cymwysterau Cymru yn dwyn hygrededd ac yn rhai sy’n cael eu derbyn yn rhyngwladol a drwy Brydain gyfan. Rwy’n credu bod yr allwedd i hynny yn gorwedd mewn meincnodi, ac rwy’n croesawu felly beth mae’r Gweinidog wedi ei ddweud ynglŷn â’r ffaith ein bod ni yn mynd i fesur ein cymwysterau galwedigaethol yn erbyn meincnodau rhyngwladol ac yn annibynnol ar y Llywodraeth. Ni fyddwn yn gweld eto Weinidog yn camu i mewn i gywiro, ai peidio, ganlyniadau TGAU unigol disgyblion yng Nghymru. Nid yw hynny yn dderbyniol, ac mae hynny yn ei hun yn gyfiawnhad dros y Mesur yma, os nad y gweddill ohono fe. As a number of other Members have already said, it’s going to be extremely important that the new qualifications under Qualifications Wales do have credibility and are portable on an international level as well as at a UK level. I think that the key to that sits in benchmarking, and I welcome therefore the Minister’s comments on the fact that we are going to evaluate our vocational qualifications against international benchmarks and independently of Government. So, we will not again see a Minister stepping in to correct, or otherwise, individual GCSE results in Wales. That isn’t acceptable and that in itself is a justification for this Bill, if not the rest.
Yr unig agweddau ar y Bil sydd efallai wedi creu rhywfaint o ddadlau neu bryder yn eu cylch yw’r rhai sydd yn caniatáu Cymwysterau Cymru i gyfyngu ar nifer y cyrff sydd yn dyfarnu yng Nghymru, neu mewn rhyw ffordd yn cyfyngu ar y cymwysterau eu hunain. Rwy’n credu bod blaenoriaethu cymwysterau yng Nghymru yn rhywbeth sydd yn bwysig i’r corff newydd, ond rwyf hefyd yn meddwl ei bod yn bwysig bod hyn yn cael ei weld mewn ffordd dryloyw ac mewn ffordd lle mae pawb yn rhan o’r broses yna. Er bod rhai efallai yn meddwl mai cystadlu rhwng gwahanol fyrddau arholi yw’r ffordd i godi neu gadw safonau, nid dyna yw’r unig ffordd o wneud hynny; mae meincnodi yn rhyngwladol yn ffordd arall o wneud yr un peth. Wrth gwrs, os ydych chi yn cystadlu, rydych hefyd yn dod ag elfen o elw ac arian i mewn i’r broses, ac o bosibl felly mae’n dod yn fwy buddiol i werthu cymwysterau sydd yn is eu safonau, yn hytrach na chymwysterau sydd yn cadw’r safonau. Mae honno’n ddadl y byddwn yn ei chael yn Nghyfnod 2, gobeithio, o’r Bil yma, ond mae’n agwedd ar y Bil rwyf mewn egwyddor yn ei chefnogi. The only aspects of the Bill that have caused some consternation or concern are those that allow Qualifications Wales to restrict the number of awarding bodies in Wales, or one way or another restrict the number of qualifications themselves. I do think that prioritising qualifications in Wales is something that is important for the new body, but I also think that it’s important that that should be transparent and inclusive. Although some believe that competition between various awarding bodies is the way to raise or maintain standards, that is isn’t the only way of doing that; international benchmarking is also a way of achieving the same thing. Of course, if you are in competition, you also bring an element of profit into the process, and it may be more beneficial to sell qualifications that have lower standards, rather than ones that actually maintain standards. That is a debate that we’ll have in Stage 2 of this Bill, but it is something that I, in principle, support within the Bill.
Yr elfen sydd ddim yn y Bil, ond mae’n rhaid i’r Llywodraeth ei gwneud yn awr—rwyf wedi codi hyn sawl gwaith eisoes—yw’r angen i hyrwyddo y dulliau newydd yma, a gwerthu yn rhyngwladol y system arholiadau a chymwysterau a fydd gennym ni yng Nghymru. Mae yna job o waith i’w wneud gan y Llywodraeth yna, a byddwn yn licio gweld mwy o frwdfrydedd i wneud hynny. One element not in the Bill, but the Government has to address now—I’ve raised this on a number of occasions already—is the need to promote these new methods, and to sell internationally the examination and qualifications system that we in Wales will have. There’s a job of work to be done by the Government in that regard, and I would like to see more enthusiasm to do that.
Rwyf hefyd yn meddwl bod y rhan o’r Bil sydd yn caniatáu i’r bwrdd yma ymchwilio yn rhyngwladol, darparu yn rhyngwladol ac edrych ar arfer da yn rhyngwladol yn rhywbeth sy’n mynd i ychwanegu at hygrededd y corff, ac efallai bod yn rhan wedyn o’r ffordd rydym yn gallu gwerthu a hyrwyddo’r corff yma yn rhyngwladol, ac felly roi hygrededd, ffydd a hyder ynddo ymysg ein pobl ifanc eu bod yn cael y cymwysterau gorau oll. I also believe that the section of the Bill that allows this board to carry out research on an international level, to make provision at an international level and to look at international best practice is something that is going to add to the credibility of the body, and may then be a way in which we can sell and promote this body on an international level, thereby giving it credibility and giving our young people confidence that they are getting the best possible qualifications.
Nid wyf yn siŵr iawn a ddylai’r corff yma ddod yn gorff dyfarnu yn ogystal â chorff rheoli, ac rwy’n croesawu felly fod y Llywodraeth wedi gwrando ar y craffu cyn deddfu a wnaed gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac wedi rhannu’r ddau beth yn ddwy Ddeddf ar wahân. Rwy’n edrych ymlaen at y ddadl yna rywdro arall. I’m not sure whether this body should become an awarding body as well as a regulatory body, and I therefore welcome the fact that the Government has listened to the pre-legislative scrutiny carried out by the Children, Young People and Education Committee and have separated the two things into two separate Bills. I look forward to that debate on another occasion.
Y pwynt olaf rwyf am ei wneud fan hyn yw ei bod yn lletchwith braidd ein bod yn delio â chymwysterau ar ôl derbyn adolygiad cwricwlwm Donaldson. Fe ddylem ni edrych ar y cwricwlwm yn gyntaf ac wedyn y cymwysterau; mae’n ffordd lletchwith o’i wneud e. Rwy’n sylwi yng ngwlad y Ffindir eu bod eisoes yn cael gwared ar gymwysterau sy’n seiliedig ar bwnc, ac yn edrych ar gymwysterau sydd yn adlewyrchu rhai o’r pethau sydd yn adolygiad Donaldson, sy’n adlewyrchu’r sail profiad. Mae honno’n ddadl arall ar gyfer tro arall, ond yn fras rydym yn cefnogi’r Bil ac am weld y Bil yn dod yn Ddeddf. The final point I want to make here is that it is slightly awkward that we are dealing with qualifications having already received the Donaldson review of the curriculum. We should look at the curriculum first and then the qualifications; this is not the best way of dealing with it. I note that in Finland they are already abolishing qualifications based on subjects and are looking at qualifications that reflect some of the issues raised in Donaldson, which reflect experience. That’s another debate for another day, but broadly speaking we support the Bill and want to see it being made an Act.
17:29 - Aled Roberts
Byddwn ni hefyd fel grŵp yn cefnogi egwyddorion Bil Cymwysterau Cymru. Roedd y Gweinidog yn diolch i aelodau’r pwyllgor am eu gwaith cadarnhaol, ond, hefyd, rwy’n meddwl y dylem ni, fel aelodau’r pwyllgor, ddiolch i’r Gweinidog am y ffordd y mae o wedi ymateb i nifer fawr o’r argymhellion. Rwy’n meddwl y gwnes i ddweud ym mis Rhagfyr, pan ddaru’r Bil gael ei gyflwyno i’r Senedd, fod hyn yn esiampl dda o waith craffu sydd wedi cael ei wneud cyn i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno i’r Senedd. Rwy’n meddwl bod hynny wedi gwneud y Bil yma yn Fil gwell, o achos hynny. We will also, as a group, support the principles of the Qualifications Wales Bill. The Minister thanked the members of the committee for their positive work, but I also think that we, as members of the committee, should thank the Minister for the way he has responded to a great number of the recommendations. I think I said back in December, when the Bill was introduced to the Senedd, that this was a good example of the scrutiny that’s been undertaken before legislation was introduced to the Senedd. I think that that made this Bill a better Bill as a result.
Rwy’n meddwl bod mwyafrif llethol aelodau’r pwyllgor yn cydnabod ac yn cefnogi y ffordd rydym ni’n symud tuag at reoleiddiwr annibynnol, er mae’n debyg nad yw mwyafrif y pwyllgor, ar hyn o bryd, fel y dywedodd Simon Thomas, o blaid symud at uno’r cyrff dyfarnu efo dyletswyddau rheoleiddiwr. Amser a ddengys. Rwy’n meddwl ein bod ni yn camu ymlaen. I think that the vast majority of the members of the committee recognise and support the way that we’re moving towards an independent regulator, although the majority of the committee, as Simon Thomas said, are probably in favour of a move towards merging the awarding bodies with the duties of a regulator at this stage. Time will tell. I think that we are making strides.
Rwy’n meddwl hefyd fod ymateb y Gweinidog wedi delio â rhan o’r pryderon a oedd gennym ni fel pwyllgor. Yn bendant, rwy’n croesawu beth y mae o wedi’i ddweud ynglŷn â’r ddogfen fframwaith. Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith bod gennym ni eglurder, rŵan, ynglŷn â’r ffordd y bydd gan y Senedd yma gyfle, bob blwyddyn, i gael dadl ar yr adroddiad o ran Cymwysterau Cymru. I ryw raddau, rwy’n meddwl bod y manion sydd ar ôl yn seiliedig ar sut y mae’r cymwysterau blaenoriaethol yma yn cael eu cyflwyno. Buaswn i’n awyddus iawn i weld a oes yna unrhyw fath o drafodaethau wedi cymryd lle rhwng y Gweinidog, neu ei staff, a’r prif weithredwr dros dro, o ran Cymwysterau Cymru, ynglŷn â sut y mae’r gwaith yna yn mynd rhagddo. Yn bendant, mi oedd Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu yn dweud bod yna risg o ran symud at sefyllfa lle’r oedd y cymwysterau galwedigaethol, hwyrach, yn creu sefyllfa lle’r oedd y rhan helaeth o’r cyrff dyfarnu yn tynnu’n ôl o Gymru, a bod hynny’n creu risg mai dim ond un corff a fuasai ar ôl i gyflwyno’r cymwysterau yna. I also think that the Minister’s response has dealt with part of the concerns that we had as as a committee. Certainly, I welcome what he has said about the framework document. I also welcome the fact that we have clarity, now, about the way in which this Senedd will have an opportunity, every year, to have a debate on the report from Qualifications Wales. To a certain extent, I think that the details that remain are based on how these priority qualifications will be introduced. I would be very keen to see whether any kinds of discussions have taken place between the Minister, or his staff, and the acting chief executive of Qualifications Wales about how that work is progressing. Certainly, the Federation of Awarding Bodies said that there was a risk in terms of moving towards a situation where the vocational qualifications might create a situation where the majority of the awarding bodies withdrew from Wales, and that would cause a risk that only a single body would be left to deal with those qualifications.
Rwy’n meddwl mai’r prif bryder ar hyn o bryd ydy yn union beth y mae’r rhan fwyaf o’r Aelodau wedi cyfeirio ato—a gwnaf i ddim mynd i fanylder—y sefyllfa ynglŷn â phwerau masnachol, a’r tyndra sydd rhwng sefyllfa’r rheoleiddiwr, ond mae’n debyg y bydd yna gyfle, wrth inni drafod y Bil ymhellach, inni weld yn union pa fath o ddiogelwch sydd gan y Gweinidog. Felly, rwy’n ddigon parod i gefnogi’r egwyddorion y prynhawn yma. Nid oes yn rhaid imi ymhelaethu, ond fe fyddwn ni’n cefnogi. I think that the main concern at the moment is exactly what the majority of Members have referred to—and I will not go into detail on this—the situation regarding commercial powers, and the tension between the position of the regulator, but it’s likely that there will be an opportunity, as we discuss the Bill further, for us to see exactly what kind of assurance the Minister can give us. Therefore, I am quite prepared to support the principles this afternoon. There is no need to elaborate, but we will be supporting them.
17:32 - Y Llywydd / The Presiding Officer
The Minister to reply to the debate. Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
17:33 - Huw Lewis
Thank you, Presiding Officer. Can I, first of all, welcome what I think is each Member’s broad acceptance of the principle of this legislation? Of course, it is now the job of all of us to make sure that that general principle is put into workable practice. Could I, through Ann Jones, thank her for her comments and for the input of her committee? Since there were remarks made by Ann, and, of course, by Simon Thomas, too, just on the issue of restriction, perhaps it would help if, at this stage, I just addressed very briefly some of the concerns that were raised there. Diolch i chi, Lywydd. A gaf i, yn gyntaf oll, groesawu'r hyn sydd yn fy marn i yn arwydd bod pob Aelod yn derbyn egwyddor y ddeddfwriaeth hon yn gyffredinol? Wrth gwrs, gwaith pob un ohonom bellach yw gwneud yn siŵr bod yr egwyddor gyffredinol honno yn cael ei rhoi ar waith yn ymarferol. A gaf i, drwy Ann Jones, ddiolch iddi am ei sylwadau ac am gyfraniad ei phwyllgor? Gan fod sylwadau a wnaed gan Ann, ac, wrth gwrs, gan Simon Thomas, hefyd, ar y mater o gyfyngiad yn unig, efallai y byddai'n helpu os, ar hyn o bryd, fy mod yn mynd i'r afael yn fyr iawn â rhai o'r pryderon a godwyd ynglŷn â hynny.
It is important for all of us to realise, of course, that it will be the role of Qualifications Wales, rather than the Welsh Ministers, to monitor the impact on the qualifications market of any decision to restrict priority qualifications. Indeed, one of the requirements for its annual report to the Assembly is to include details of the conclusions of any assessment carried out, during the reporting period, of the impact of the exercise of its functions on the Welsh qualifications system and on learners, employers and HEIs. So, I know that we’ll want to talk through the details of those issues around restriction, but I think that was worth underlining at this stage. Mae'n bwysig i bob un ohonom sylweddoli, wrth gwrs, mai swyddogaeth Cymwysterau Cymru, yn hytrach na Gweinidogion Cymru, yw monitro effaith unrhyw benderfyniad i gyfyngu cymwysterau blaenoriaeth ar y farchnad gymwysterau. Yn wir, un o'r gofynion ar gyfer ei adroddiad blynyddol i'r Cynulliad yw cynnwys manylion o gasgliadau unrhyw asesiad a wnaed, yn ystod y cyfnod adrodd, o effaith ymarfer ei swyddogaethau ar y system gymwysterau yng Nghymru ac ar ddysgwyr, cyflogwyr a sefydliadau addysg uwch. Felly, gwn y byddwn eisiau trafod manylion y materion hynny ynghylch cyfyngiad, ond credaf ei fod o werth i danlinellu hynny ar y cam hwn.
Could I also thank David Melding and, through him, the members of his committee, for his very kind remarks about the overall look and structure of the legislation? I do regard that as praise indeed, coming from him. A gaf i ddiolch hefyd i David Melding a, thrwyddo ef, aelodau ei bwyllgor, am ei sylwadau caredig iawn am strwythur y ddeddfwriaeth a sut y mae'n edrych yn gyffredinol? Rwy’n ystyried hynny yn ganmoliaeth yn wir, yn dod ganddo ef.
In general terms, regarding some of the comments that were made here this afternoon, this legislation, of course, does not establish Qualifications Wales as an awarding body. I happen to regard that evolution as a strategic need for Wales if we’re to have a robust educational system over time. That’s my personal view. But I do accept that Qualifications Wales must first establish itself, with impeccable credentials, as a regulator, and that’s what this legislation is all about. Yn gyffredinol, ynghylch rhai o'r sylwadau a wnaethpwyd yma y prynhawn yma, nid yw’r ​​ddeddfwriaeth hon, wrth gwrs, yn sefydlu Cymwysterau Cymru fel corff dyfarnu. Rwyf digwydd bod yn ystyried y datblygiad hwnnw fel angen strategol i Gymru os ydym am gael system addysg gadarn dros gyfnod o amser. Dyna fy marn bersonol i. Ond rwy’n derbyn bod yn rhaid i Cymwysterau Cymru yn gyntaf sefydlu ei hun, gyda rhinweddau na ellir gweld unrhyw fai arnynt, fel rheoleiddiwr, a dyna beth y mae’r ddeddfwriaeth hon yn ymwneud ag ef.
Could I pay tribute, also, to Jeff Cuthbert’s work as Deputy Minister? It is quite right to acknowledge that Jeff’s work as Deputy Minister really was the genesis of all the work that’s led up towards this legislation being presented to the Assembly. It can all be traced back to Jeff’s fantastic commitment at that time. There are other points that have been raised here this afternoon, and of course, Stage 2 is there for that, but if I could echo Aled Roberts’s remarks in terms of the process thus far, I agree with him wholeheartedly. I think this has been a good example of scrutiny, and I look forward to us being able to continue in that vein to produce some good legislation around this issue. A gaf i dalu teyrnged, hefyd, i waith Jeff Cuthbert fel y Dirprwy Weinidog? Mae'n hollol iawn i gydnabod mai gwaith Jeff fel y Dirprwy Weinidog mewn gwirionedd oedd dechrau’r holl waith sydd wedi arwain tuag at i'r ddeddfwriaeth hon gael ei chyflwyno i'r Cynulliad. Gellir ei olrhain i gyd yn ôl i ymroddiad ardderchog Jeff ar y pryd. Mae pwyntiau eraill sydd wedi'u codi yma'r prynhawn yma, ac wrth gwrs, mae Cyfnod 2 yno ar gyfer hynny, ond os caf adleisio sylwadau Aled Roberts o ran y broses hyd yn hyn, rwy’n cytuno ag ef yn llwyr. Rwy'n credu bod hyn wedi bod yn enghraifft dda o graffu, ac edrychaf ymlaen at ein gweld yn gallu parhau yn yr un modd i gynhyrchu deddfwriaeth dda ynghylch y mater hwn.
17:36 - Y Llywydd / The Presiding Officer
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? There are no objections; therefore, the motion is agreed in accordance with Standing Order 12.36. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid oes unrhyw wrthwynebiadau; Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
9. Motion to Agree the Financial Resolution on the Qualifications Wales Bill 9. Cynnig i Gytuno ar y Penderfyniad Ariannol ar Fil Cymwysterau Cymru
17:36 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We now move to item 9, which is a motion to agree the financial resolution on the Qualifications Wales Bill, and I call on the Minister for Education and Skills to move that motion. Huw Lewis. Symudwn yn awr at eitem 9, sef cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ar Fil Cymwysterau Cymru, a galwaf ar y Gweinidog Addysg a Sgiliau i gynnig y cynnig hwnnw. Huw Lewis.
Cynnig NDM5730 Jane Hutt Motion NDM5730 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Cymwysterau Cymru, yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil. To propose that the National Assembly for Wales, for the purposes of any provisions resulting from the Qualifications Wales Bill, agrees to any increase in expenditure of a kind referred to in Standing Order 26.69, arising in consequence of the Bill.
Cynigiwyd y cynnig. Motion moved.
17:36 - Huw Lewis
I move. Cynigiaf y cynnig.
17:36 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Formally move. Simon Thomas. Yn cynnig yn ffurfiol. Simon Thomas.
17:36 - Simon Thomas
Thank you, Presiding Officer. I won’t be opposing this motion in any way, but I think we need to put on the record some concerns regarding the ongoing funding of this proposal. The Minister himself, in evidence to the committee, described Qualifications Wales as the most expensive option. He can justify that, I think, quite adequately, and has the support of the committee in that regard, but his own estimate is that this will cost £16 million over five years, of which only £2 million has so far actually been identified in his budget. Diolch i chi, Lywydd. Ni fyddaf yn gwrthwynebu'r cynnig hwn mewn unrhyw ffordd, ond yr wyf yn credu bod angen i roi ar y cofnod rai pryderon am gyllid parhaus y cynnig hwn. Disgrifiodd y Gweinidog ei hun Cymwysterau Cymru, mewn tystiolaeth i'r pwyllgor, fel y dewis drutaf. Gall gyfiawnhau hynny, rwy’n credu, yn eithaf digonol, ac mae cefnogaeth y pwyllgor ganddo yn hynny o beth, ond ei amcangyfrif ei hun yw y bydd hyn yn costio £16 miliwn dros bum mlynedd, a dim ond £2 filiwn o hynny sydd wedi ei nodi hyd yn hyn yn ei gyllideb mewn gwirionedd.
Now, I think it is crucial that adequate resources be put in place so that this body can operate and carry out its functions independently of Government. I am concerned that, in the current arrangements, that will put further pressure on other parts of the education budget and, in fact, we’ll be robbing Peter to pay Paul in this regard. That’s just something that I wanted to put on record and something that I hope the Minister will be able to use, perhaps, in his own internal wranglings with his own finance Minister and First Minister to gain a little more extra money in the budget negotiations to pay for this very good choice for Wales and for qualifications, but one which, on the current budgetary provision, is a little under-resourced. Nawr, rwy’n credu ei bod yn hanfodol bod adnoddau digonol yn cael eu sefydlu fel y gall y corff hwn weithredu a chyflawni ei swyddogaethau yn annibynnol ar y Llywodraeth. Rwy’n pryderu y bydd hynny, o fewn y trefniadau presennol, yn rhoi pwysau ychwanegol ar rannau eraill o'r gyllideb addysg ac, yn wir, byddwn yn cymryd o'r naill law i dalu'r llall yn hyn o beth. Dyna rywbeth yr oeddwn am ei ddweud ar goedd ac mae'n rhywbeth yr wyf yn gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ei ddefnyddio, efallai, yn ei ddadleuon mewnol ei hun gyda’i Weinidog cyllid ei hun a Phrif Weinidog Cymru i gael ychydig mwy o arian ychwanegol yn y trafodaethau ar y gyllideb i dalu am y dewis da iawn hwn i Gymru ac ar gyfer cymwysterau, ond un sydd, ar y ddarpariaeth gyllidebol bresennol, braidd yn brin o adnoddau.
17:37 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Minister, do you want to reply? Weinidog, a ydych chi eisiau ymateb?
17:37 - Huw Lewis
Just to thank Simon Thomas for his charitable concern for my welfare in Government. Of course, these are very, very important issues, but in terms of the legislation before us now, I think there is an obvious next step in terms of supporting the vote this afternoon, and then moving on to Stage 2 to talk through the detail of these issues. Dim ond i ddiolch i Simon Thomas am ei bryder caredig am fy lles yn y Llywodraeth. Wrth gwrs, mae'r rhain yn faterion pwysig iawn, iawn ond o ran y ddeddfwriaeth ger ein bron ar hyn o bryd, rwy’n meddwl bod cam nesaf amlwg o ran cefnogi'r bleidlais y prynhawn yma, ac yna symud ymlaen i Gyfnod 2 i drafod manylion y materion hyn.
17:38 - Y Llywydd / The Presiding Officer
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No objections; therefore, the motion is agreed in accordance with Standing Order 12.36. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dim gwrthwynebiad; Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
10. Voting Time 10. Cyfnod Pleidleisio
17:38 - Y Llywydd / The Presiding Officer
It was agreed that voting would take place at the end of business. We’ve now reached that stage. So, I propose to move straight into the vote. Cytunwyd y byddai pleidleisio yn digwydd ar ddiwedd busnes. Rydym bellach wedi cyrraedd y cam hwnnw. Felly, cynigiaf symud yn syth i bleidlais.
The vote is on the Regulation of Private Rented Housing (Designation of Licensing Authority) (Wales) Order 2015. I call for a vote on the motion tabled in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. In favour 37, nine abstentions, and none against; therefore, the motion is agreed. Mae'r bleidlais ar Orchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 37, naw yn ymatal, a neb yn erbyn; felly, caiff y cynnig ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig: O blaid 37, Yn erbyn 0, Ymatal 9. Motion agreed: For 37, Against 0, Abstain 9.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM5731 Result of the vote on motion NDM5731
17:39 - Y Llywydd / The Presiding Officer
That brings today’s business to a close. Thank you very much. Dyna ddiwedd busnes heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:39. The meeting ended at 17:39.
Back to List View this page with hyperlinks

Partners & Help