Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

e-Ddeiseb: Yr Argyfwng Hinsawdd a Choedwig Genedlaethol i Gymru

open quote / dyfyniad agored

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynyddu gorchudd coed ar frys a hynny er mwyn helpu mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a chwymp natur sydd wedi'i gofnodi'n dda.

Fe ddatgelodd 'Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol' Llywodraeth Cymru nad oes unrhyw ecosystemau yng Nghymru yn wydn yn ecolegol.

Mae arnom angen mwy o goed mewn ardaloedd trefol a gwledig i fynd i'r afael â lefelau uchel o lygredd aer, i leihau cyfnodau poeth dros ben ynghyd â llifogydd, i gynyddu bywyd gwyllt a chreu storfa garbon uwchben ac o dan y ddaear.

Fe all afonydd, gwrychoedd a lleiniau gysylltu cynefinoedd mewn ffordd effeithiol iawn, ac mae'r rhain yn croesi Cymru o'r mynyddoedd i'r arfordir. Mae gan lawer ohonynt goedwigoedd, dolydd a chorsydd hynafol cyfoethog o ran bioamrywiaeth, ond mae eu hystod a'u hansawdd wedi dirywio'n aruthrol dros y 50 mlynedd diwethaf.

Mae ein hafonydd ar eu hiachaf pan fydd stribedi eang o goetir llydanddail wrth eu hochrau, wedi'u pori'n ysgafn. Mae coed yn darparu rhywfaint o gysgod tywyll gan gadw afonydd yn oer a'u hamddiffyn rhag llygredd, gan leihau erydu pridd sy'n digwydd mewn ffordd anghynaladwy, a'u helpu i gadw ffermwyr ar y tir.

Er mwyn helpu natur i wella mae rhaid i ni ail-greu tirweddau sy'n fwy cyfeillgar i fyd natur trwy greu cynefinoedd rhyng-gysylltiedig mwy ac iachach.

Wedi'i gosod a'i hariannu'n gywir, fe all coedwig genedlaethol newydd ddarparu llawer o atebion ar gyfer holl genedlaethau'r dyfodol, sef Cymru 'wytnach'.

Rydym yn galw am strategaeth gynhwysfawr i gyflawni:

  • cynnydd o 5000 hectar y flwyddyn mewn gorchudd coed mewn ardaloedd trefol, ar ffermydd ac yn yr ucheldiroedd
  • gorchudd coed sydd o leiaf 50% o goed llydanddail brodorol, sydd orau ar gyfer bioamrywiaeth, a lles y cyhoedd
  • rheoli coed, coedwigoedd, coetiroedd a gwrychoedd yn gynaliadwy, i'w hamddiffyn rhag difrod a darparu brithwaith cymysg o gynefinoedd i fyd natur a phobl
  • cyllid newydd i ffermwyr ar gyfer 'Gwrychoedd a Lleiniaua phorfa goediog draddodiadol – amaeth-goedwigaeth
  • cyllid ar gyfer meithrinfeydd coed cymunedol, i alluogi pobl i ddod o hyd i safleoedd ar gyfer coed, plannu a thyfu coed ledled Cymru
  • 'Coedwig Genedlaethol Cymru' sy'n wirioneddol genedlaethol ac arloesol

Cyfeiriadau 

Argyfwng Hinsawdd: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-llywodraeth-cymru-yn-datgan-ei-bod-yn-argyfwng-hinsawdd?_ga=2.201866649.961203271.1566908326-1911851882.1561038657 

Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol:

https://cdn.naturalresources.wales/media/682367/sonarr-summary-september-2016-welsh-edited-august-2017.pdf 

Cymru Wydn: https://futuregenerations.wales/cy/aotp/resilience-cy/ 

Gyda stribedi eang o goetir llydanddail wrth eu hochrau, wedi'u pori'n ysgafn: https://www.researchgate.net/publication/281902234_Beyond_cool_Adapting_upland_streams_for_climate_change_using_riparian_woodlands

Meithrinfeydd coed cymunedol: https://www.longforest.cymru/News/planhigfeydd-coed-cymunedol-blog-gan-coed-cadw

Amaeth-goedwigaeth: cyfuno amaethyddiaeth a choed https://www.woodlandtrust.org.uk/blog/2018/07/cynhaeaf-cenedlaethau-r-dyfodol/ 

Geirfa 

Bioamrywiaeth: yr amrywiaeth o fywyd a geir ar y ddaear. Mae'n cynnwys pob rhywogaeth o blanhigion ac anifeiliaid, eu niferoedd a'u hamrywiaeth genetig 

Gwydnwch ecosystem: mae hwn yn golygu pa mor dda y gall ecosystemau ddelio ag aflonyddwch - naill ai trwy eu gwrthsefyll, gwella ohonynt, neu addasu iddynt. Gall ecosystemau gwydn barhau i ddarparu gwasanaethau a buddion er gwaethaf yr aflonyddwch hwn 

Cynefin: cartref neu amgylchedd naturiol anifail, planhigyn neu organeb arall 

Cysylltedd cynefinoedd: sut mae darnau o gynefin yn cysylltu â'i gilydd i ffurfio rhwydwaith cynefinoedd cysylltiedig sy'n caniatáu i rywogaethau ryngweithio a symud 

Gwrychoedd a Lleiniau: y cynefinoedd sy'n ffurfio gwrychoedd, llinellau coed, lleiniau, ymylon afonydd a nentydd, ffosydd, waliau cerrig a ffiniau eraill 

Nwyddau Cyhoeddus: nwyddau neu wasanaeth a ddarperir heb elw i bob aelod o gymdeithas, naill ai gan y llywodraeth neu gan unigolyn neu sefydliad preifat 

Gorchudd Coed: yr ardal sydd wedi'i chysgodi gan ganopïau coed a llwyni

close quote / dyfyniad agos

 

Manylion deiseb

Statws y ddeiseb: Casglu llofnodion
Derbyniwyd y ddeiseb: 02/09/2019
Ar agor tan ganol dydd: 02/03/2020
Prif ddeisebydd Coed Cadw - The Woodland Trust in Wales

 

25 llofnod mwyaf diweddar

Cyfanswm y llofnodion: 3924

Enw Etholaeth neu Ardal breswyl Dyddiad
Anonymous Brecon and Radnorshire 04/02/2020
Tamzin Jones Pontypridd 04/02/2020
Clive Carter Torfaen 04/02/2020
Laura Irene Morris Rhondda 04/02/2020
Jenna osullivan Rhondda 04/02/2020
Kerryanne Hill Pontypridd 04/02/2020
M Thomas Caerphilly 04/02/2020
Christopher Thomas Eardley Clwyd South 04/02/2020
Helen Eardley Clwyd South 04/02/2020
Samantha Rogers Rhondda 04/02/2020
Sara Bickel Gower 03/02/2020
Moth Train Ceredigion 03/02/2020
Val Lynas Dwyfor Meirionnydd 03/02/2020
Robert Worgan Ogmore 03/02/2020
Anonymous Gorllewin Caerdydd 03/02/2020
Anonymous Cardiff Central 03/02/2020
Andy Mardell Cardiff Central 03/02/2020
Alice Forward Ceredigion 03/02/2020
Sonya Douglas Cardiff West 03/02/2020
Robert Jeffrey Southall Islwyn 03/02/2020
Paul Chilcott Torfaen 03/02/2020
Ria Monckton Caerphilly 03/02/2020
Siriol McAvoy Cardiff West 03/02/2020
Victoria miller Cardiff North 03/02/2020
Pam Mahoney Pontypridd 02/02/2020

Partners & Help