Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Yn ôl i'r rhestr Gweld y dudalen hon gyda lincs
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair.
13:30 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Prynhawn Da. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
13:30 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, a daw cwestiwn 1 gan Mohammad Asghar.
Portffolio Gwasanaethau Cyhoeddus
13:30 - Mohammad Asghar
1. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch y dyraniad yn y gyllideb i’r portffolio gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(4)0655(FIN)
13:30 - Jane Hutt
Cynhaliais drafodaethau gyda llawer o bobl mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus, ac mae’r canlyniadau i’w gweld yn y gyllideb ddrafft, ‘Cymru Decach, Cymru Well—Buddsoddi at y Dyfodol’, a gyhoeddais ar 8 Rhagfyr.
13:30 - Mohammad Asghar
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae ffigurau diweddar wedi datgelu bod tri o’r 10 ardal yn y Deyrnas Unedig sydd â’r crynodiad mwyaf o geiswyr lloches yng Nghymru. Abertawe oedd y chweched, Casnewydd oedd yr wythfed, a Chaerdydd oedd y nawfed, o’r 10 uchaf yn y wlad. Pa ystyriaeth a roddwyd i’r pwysau ar gyllidebau awdurdodau lleol a grëwyd drwy gefnogi ceiswyr lloches yng Nghymru wrth ddyrannu cyllid drwy bortffolio’r gwasanaethau cyhoeddus?
13:31 - Jane Hutt
Wel, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r trydydd sector yng Nghymru i gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches drwy’r grant cydraddoldeb a chynhwysiant. Rhoddwyd tua £904,000 i Gyngor Ffoaduriaid Cymru, y Groes Goch Brydeinig a Chanolfan y Drindod dros dair blynedd. Yn ogystal â hynny, mae awdurdodau lleol Caerdydd ac Abertawe wedi defnyddio eu grant rhaglen Cefnogi Pobl i ddarparu cymorth sy’n gysylltiedig â thai ar gyfer pobl â statws ffoadur.
Cyllideb Llywodraeth Cymru
13:31 - Peter Black
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cyllideb Llywodraeth Cymru ar Orllewin De Cymru? OAQ(4)0658(FIN)
13:31 - Jane Hutt
Mae ein cynlluniau gwariant sydd wedi’u nodi yn ‘Cymru Decach, Cymru Well—Buddsoddi at y Dyfodol’ yn diwallu anghenion pobl Cymru, gan gynnwys Gorllewin De Cymru.
13:32 - Peter Black
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn ychwanegol at ail gampws Prifysgol Abertawe, a’r ail gampws arfaethedig ar gyfer y Drindod Dewi Sant, fe wyddoch wrth gwrs fod Coleg Castell Nedd Port Talbot hefyd yn ystyried ehangu a chael ail gampws. A gaf fi ofyn i chi pa gyfalaf sydd ar gael yn y gyllideb i helpu’r sector addysg bellach gyda’r mathau hyn o ddyheadau?
13:32 - Jane Hutt
Wel, rwy’n credu y buasech yn hapus iawn, rwy’n siŵr, gyda’r cyhoeddiadau yr wythnos diwethaf yn y gyllideb atodol ar gyfer y flwyddyn hon yn rhoi mwy o arian i ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, sydd mewn gwirionedd yn cynnwys arian ar gyfer addysg bellach hefyd, ond hefyd gyda’r cyhoeddiadau cyfalaf a wneuthum ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, sydd wrth gwrs, fel rhan o’r £120 miliwn, yn cynnwys cyllid ar gyfer y sector Addysg Bellach yn ogystal ag ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.
13:32 - David Rees
Weinidog, gwnaed y cyhoeddiad fod dros 1,000 o swyddi wedi’u colli gan Tata a bod tasglu wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru ar ôl cyhoeddi’r gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr. Cafodd y gyllideb ei chymeradwyo ddoe, ond a allwch ddweud wrthym a ydych chi’n rhoi arian o’r neilltu i gefnogi’r tasglu a’i uchelgais i gefnogi’r rhai sy’n colli eu swyddi a buddsoddiad lleol? Ac a ydych wedi cael trafodaethau gyda’r Trysorlys mewn perthynas â’u cefnogaeth ariannol i’r tasglu?
13:33 - Jane Hutt
Diolch i David Rees am y cwestiwn hwnnw. Yr wythnos ddiwethaf, rhoddodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ddiweddariad i’r Aelodau, wrth gwrs, yn ei datganiad ar lafar ynglŷn ag ail gyfarfod tasglu Tata Steel a’r camau gweithredu sy’n cael eu rhoi ar waith. Fel yr amlinellodd y Gweinidog, mae pob un o’r pedair ffrwd waith wedi datblygu camau cychwynnol allweddol sydd angen eu datblygu. Mae hynny’n cynnwys darparu siop un stop i gynnig cymorth a chyngor i weithwyr a datblygu cyflwyniad ardal fenter. Yn ogystal â hynny, fel yr eglurodd y Gweinidog, rydym mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch y potensial ar gyfer lwfansau cyfalaf uwch, a byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gael mynediad at gyllid o gronfa addasiad globaleiddio Ewrop. Ond hefyd, o ran fy rôl i, rwyf hefyd yn cyfarfod â’r Comisiynydd Thyssen, o’r Comisiwn Ewropeaidd, fis nesaf, i drafod y materion hyn ym Mrwsel, gan gynnwys unrhyw gymorth y gallai’r Comisiwn Ewropeaidd ei ddarparu.
13:34 - Suzy Davies
Weinidog, mae eich cyllideb ddrafft yn dangos toriad o bron i £7 miliwn yn y gyllideb amddiffyn rhag llifogydd. O ystyried y tywydd digynsail rydym wedi’i brofi hyd yma eleni, gyda glaw trwm a gwyntoedd o hyd at 100 mya mewn llefydd fel Porthcawl, pa wybodaeth a gawsoch gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol am yr effaith y byddai toriad o’r fath yn ei gael ar ddiogelwch fy etholwyr, eu cartrefi a’u busnesau?
13:34 - Jane Hutt
Wel, cafodd Llywodraeth Cymru £10.7 miliwn o gyllid canlyniadol yn 2015-16 gan Lywodraeth y DU mewn ymateb i ddifrod llifogydd, er enghraifft, a achoswyd gan storm Desmond a storm Eva. Rydym eisoes wedi cyhoeddi £2.3 miliwn ar gyfer cynlluniau cynnal a chadw ac atgyweirio brys ledled Cymru, a £0.5 miliwn ar gyfer gwaith gwella draeniau llifogydd ar yr A55, ac yn wir, £1.9 miliwn ar gyfer cynllun lliniaru llifogydd ar yr A55 ger Talybont. Ers 2011, rydym hefyd wedi ymrwymo £300 miliwn, gan gynnwys cyllid Ewropeaidd, i reoli perygl llifogydd a chyda £150 miliwn yn ychwanegol rydym yn ei fuddsoddi ar gyfer rheoli perygl arfordirol o 2018 ymlaen.
13:35 - Bethan Jenkins
Weinidog, ddoe soniais wrthych am bryderon pobl yn Abertawe, lle y mae’r cyngor wedi dileu cyllid ar gyfer gwasanaethau cerddoriaeth, ac roedd ganddynt gontract gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, sydd wedi dweud y byddant yn cadw’r gwasanaeth hwnnw. Ond rhaid holi pa mor ymarferol fydd hi iddynt allu gwneud hynny heb y cyllid o Abertawe. Weinidog, mae hyn wedi digwydd cyn i’r gyllideb gyrraedd yr awdurdodau lleol hyd yn oed. Beth fyddwch chi’n ei wneud ar y cyd â’r grŵp gorchwyl a gorffen a gyflwynodd y Gweinidog ar gerddoriaeth yn ddiweddar i wneud yn siŵr nad yw hyn yn digwydd?
13:35 - Jane Hutt
Wel, wrth gwrs roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn wir, yr holl awdurdodau lleol yn falch iawn fy mod wedi llwyddo i gyflwyno cyllideb a oedd yn cynnwys toriad llawer llai na’r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol: cyfartaledd o 1.4 y cant. Felly, yn awr, ac yn wir, gan fod y gyllideb wedi’i phasio ddoe, gan roi mwy o sicrwydd i awdurdodau lleol o ran eu proses o bennu’r gyllideb, wrth gwrs, byddant, rwy’n siŵr, yn ystyried canlyniadau’r grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw ar addysg cerdd, a oedd, wrth gwrs, yn cael ei arwain gan y Gweinidog.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
13:36 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Symudwn yn awr at gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau ac yn gyntaf y prynhawn yma, llefarydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones.
13:36 - Alun Ffred Jones
Diolch yn fawr iawn. A allwch chi roi rhagor o fanylion i ni am y newidiadau i’r gyllideb ddrafft ddoe? Rydym ni’n croesawu’r arian ychwanegol i’r sector addysg uwch, wrth gwrs. O’r £31 miliwn sydd wedi’i roi yn ôl yng nghyllideb HEFCW, a allwch chi ddweud wrthym ni o ble daw’r arian yma—ai o’r arian wrth gefn ac, os nad hynny, o ba gyllideb?
13:37 - Jane Hutt
Gallaf sicrhau’r Aelod, Alun Ffred Jones, y bydd hwn yn dod o gronfeydd wrth gefn.
13:37 - Alun Ffred Jones
Diolch yn fawr iawn. Yr un cwestiwn, ac efallai eich bod chi wedi esbonio hwn ddoe: o ran yr arian ar gyfer cynghorau lleol, sef £2.5 miliwn, wrth gwrs, i helpu’r rhai oedd wedi cael eu heffeithio waethaf gan y toriadau, o ble mae’r arian yma’n dod? Ai o’r ‘reserfau’ neu o gyllideb arall?
13:37 - Jane Hutt
Mae hwnnw’n dod o gronfeydd wrth gefn hefyd, ac wrth gwrs, mae’n cael ei ddyrannu fel grant penodol i’r tri awdurdod lleol hynny.
13:37 - Alun Ffred Jones
Diolch yn fawr. Wrth ymateb i’ch sylwadau chi ddoe, fe groesawyd hefyd yr addewid i adeiladu canolfan gofal critigol yn Nhorfaen, yn Llanfrechfra os ydw i’n deall yn iawn, ac mae’n debyg bod cost hon yn tua £500 miliwn. A allwch chi ddweud beth ydy proffil gwariant y cynllun yma a sut y bydd o’n effeithio ar y gyllideb gyfalaf o fewn y gwasanaeth iechyd dros y blynyddoedd nesaf yma?
13:38 - Jane Hutt
Wel, wrth gwrs, fel rhan o fy nghyllideb ar gyfer 2016-17, ddoe, cyhoeddais £120 miliwn pellach mewn dyraniadau cyfalaf hefyd. Ond wrth gwrs, mae’r dyraniadau piblinell sy’n rhan o’r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru yn cynnwys y dyraniadau hynny—y blaenoriaethau a bennwyd gan Weinidogion mewn perthynas â’u dyraniadau adrannol—ac yn wir, cyhoeddwyd y biblinell wedi’i diweddaru yn rhan o fy nghyhoeddiadau cyfalaf.
13:38 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Symudwn yn awr at lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Ramsay.
13:38 - Nick Ramsay
Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, bydd datganoli pwerau trethu yn 2018 yn ddatblygiad enfawr i’r Cynulliad ac mewn sawl ffordd, yn dir newydd. Yr hyn sy’n sicr yw y bydd y cyllid grant bloc i ni yn cael ei leihau am bob treth a ddatganolir. Pa drafodaethau rydych wedi’u cael gyda’r Trysorlys ynghylch y fformiwla a ddefnyddir i gyfrifo’r gostyngiadau hyn?
13:39 - Jane Hutt
Wel, diolch i Nick Ramsay am y cwestiwn hwnnw. Wrth gwrs, rwyf wedi cymryd rhan mewn trafodaethau ar ariannu teg i’n cyllideb dros y chwe blynedd diwethaf fel Gweinidog cyllid ac wrth gwrs, rydym yn croesawu’r ffaith fod cyllid gwaelodol wedi’i gyhoeddi gan y Prif Weinidog a’r Canghellor y llynedd. Ond wrth gwrs, mae’r hyn sydd gennym o ran yr ymrwymiad hwnnw yn brin o fod yn gyllid teg dros y tymor hir, am mai ar gyfer y tymor Seneddol yn unig y gosodir y cyllid gwaelodol.
13:39 - Nick Ramsay
Diolch i chi, Weinidog, ac rwyf hefyd yn croesawu’r llawr Barnett, ond roeddwn yn gofyn i chi mewn gwirionedd am y newidiadau a fydd yn digwydd i’r grant bloc oherwydd datganoli pwerau trethu. Weinidog, er y dylai’r gostyngiadau cychwynnol yn ystod y flwyddyn gyntaf fod yn syml, bydd yn rhaid mynegeio gostyngiadau yn y dyfodol yn ôl twf economaidd a chwyddiant neu gallai cyllideb Llywodraeth Cymru fod yn destun i wasgfa Barnett newydd, ond y tro hwn ar ben trethiant y fformiwla yn hytrach na’r pen gwariant. Pa fath o fynegeio rydych wedi dadlau o’i blaid gyda’r Trysorlys?
13:40 - Jane Hutt
Wel, rydych yn hollol iawn, Nick Ramsay, yn dweud bod yn rhaid i ni drafod y gwrthbwysiad i’n grant bloc o ganlyniad i ddatganoli’r trethi a ddaw ym mis Ebrill 2018. Nawr, mae’n ddiddorol iawn bod Llywodraeth yr Alban yn parhau i drafod a negodi’r gwrthbwysiad i’w grant bloc, ac wrth gwrs, rwy’n gweithio gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys i sicrhau bod gennym fframwaith cyllidol i Gymru sy’n gallu nodi’r gwrthbwysiad yn glir, ac sy’n gallu ei nodi’n glir yn erbyn yr anghenion ehangach hynny. Ac rwy’n ailadrodd y ffaith bod angen i ni sicrhau bod ein grant bloc, o ran fformiwla Barnett, yn cael ei sicrhau mewn ffordd deg gyda’r cyllid gwaelodol.
13:40 - Nick Ramsay
Diolch yn fawr, Weinidog. Cytunaf yn llwyr fod cytundeb ar y cyd yn y maes hwn yn gwbl hanfodol er mwyn sicrhau y bydd datganoli treth yn llwyddo. A ydych yn cytuno bod angen i unrhyw fynegeio sy’n digwydd ar ostyngiadau i’r grant bloc fod fesul y pen, ac a allech ddweud ychydig mwy wrthym am y cynnydd a wnaethoch ar gytuno ar fframwaith cyllidol dros y tymor hwy, er mwyn sicrhau bod gostyngiadau yn y cyllid grant bloc yn gymesur â lefel y dreth a godir yng Nghymru fel na fyddwn ar ein colled yn y pen draw?
13:41 - Jane Hutt
Unwaith eto, rwy’n ddiolchgar iawn am y cwestiwn gan Nick Ramsay, llefarydd cyllid yr wrthblaid, am ei fod yn amlwg yn bwysig. Euthum i weld y prif ysgrifennydd cyn y Nadolig, yn ein cyfarfod diwethaf, i ddweud, ‘Mae gennyf gefnogaeth drawsbleidiol i fy nhrafodaethau; cefnogaeth drawsbleidiol i fframwaith cyllidol.’ Ni all fod yn ddigwyddiad untro; mae’n rhaid iddo fod yn fframwaith cyllidol hirdymor, ac mae’n rhaid iddo gynnwys y mynegeio priodol, fel y dywedwch, a sicrhau bod y gwrthbwysiad yn ein grant bloc yn briodol i’n hanghenion.
13:42 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Ac yn awr llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Peter Black.
13:42 - Peter Black
Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, yn dilyn y cwestiynau hynny gan Nick Ramsay, mae’r wasg yn adrodd bod y rhwystr rhwng Trysorlys y DU a Llywodraeth yr Alban ynglŷn â’r trafodaethau hyn yn canolbwyntio ar yr egwyddor ‘dim niwed’, ac mae’r Trysorlys i’w weld yn amharod i gytuno i hyn. A gaf fi ofyn: a yw hon yn egwyddor rydych chi hefyd yn bwrw ymlaen â hi yn eich trafodaethau gyda’r Trysorlys, a pha ymateb a gawsoch yn sgil cyflwyno’r cynnig hwnnw iddynt?
13:42 - Jane Hutt
Unwaith eto, rydym nid yn unig yn dysgu gwersi, ond rydym yn sicrhau nad ydym yn syrthio i’r un maglau â Llywodraeth yr Alban yn eu trafodaethau hwy, ac wrth gwrs, mae’r egwyddor hon yn bwysig iawn i ni o ran sicrhau nad oes niwed.
13:42 - Peter Black
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog, ond nid ydych wedi dweud yn glir a yw hon yn egwyddor y mae’r Trysorlys yn barod i’w chlywed gennych. Mae Llywodraeth yr Alban yn tybio, os nad ydynt yn rhoi’r egwyddor hon ar waith, y byddant yn colli £3 biliwn dros 10 mlynedd. A ydych chi wedi gwneud unrhyw gyfrifiadau tebyg o ran maint ein colled ar y trethi cyfyngedig y mae gennym fynediad atynt ar hyn o bryd os nad yw’r Trysorlys yn cytuno ar egwyddor ‘dim niwed’ yn eu trafodaethau â ni?
13:43 - Jane Hutt
Rydym yn glir iawn, unwaith eto, o ran yr egwyddor ‘dim niwed’. Buaswn yn dweud ei bod yn ddyddiau cynnar iawn ar y trafodaethau hynny, ac mae’r trafodaethau ar hyn o bryd yn parhau i ganolbwyntio ar y ffaith ein bod yn chwilio am gytundeb rhynglywodraethol hirdymor, fel y dywedodd Nick Ramsay, o ran ein fframwaith cyllidol, ac wrth i ni symud tuag at ddatganoli’r trethi ym mis Ebrill 2018, dyna fydd pwynt allweddol a diben ein trafodaethau.
13:43 - Peter Black
Diolch. Fy mhryder, Weinidog, yw ei bod yn ymddangos bod gan yr Alban fwy o rym na ni gyda’r Trysorlys, ac os na allant newid barn y Trysorlys ar yr egwyddor benodol hon, yna pa obaith sydd gennym ni? A ydych yn gweithio gyda Llywodraeth yr Alban i geisio rhoi pwysau ar y cyd ar y Trysorlys mewn perthynas â hyn, ac efallai gyda Gogledd Iwerddon hefyd, er mwyn sicrhau bod y Trysorlys yn deall bod hwn yn bwynt sylfaenol yn y trafodaethau hynny?
13:44 - Jane Hutt
Rwy’n credu bod hwnnw’n bwynt teg iawn. Yr hyn sy’n siomedig iawn yw nad ydym wedi cael cyfarfod cyllid pedairochrog—sydd o fewn ein setliad a’n cod datganoli—ers mis Tachwedd 2013. Ac fel Gweinidogion cyllid yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru, cyfarfuom y llynedd mewn gwirionedd. Galwasom am gyfarfod cyllid pedairochrog, yn union fel y dywedwch, er mwyn pwysleisio’r pwyntiau hyn o ddiddordeb cyffredin, ac nid y pwyntiau hyn yn unig, wrth gwrs, ond mae llawer o faterion eraill rydym yn bryderus amdanynt yn dairochrog, megis, er enghraifft, yr ardoll prentisiaethau a goblygiadau hynny, a diffyg cydnabyddiaeth i ddatganoli mewn perthynas â’r effeithiau hynny.
Mae gennym ein proses cydbwyllgor y Trysorlysoedd ein hun. Yr unig adeg y mae hwnnw wedi cyfarfod oedd yn ôl yn 2015 pan oedd Danny Alexander yn Brif Ysgrifennydd y Trysorlys. Felly, ar hyn o bryd, ni cheir ymgysylltiad datganoli, na pharch tuag at ddatganoli yn wir, yn y trafodaethau a’r cysylltiadau hynny. Unwaith eto, rwy’n croesawu’r gefnogaeth drawsbleidiol yma yn y Siambr hon er mwyn sicrhau y gallwn symud ymlaen gyda’r mater hwn a dangos bod gennym, fel Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth ein Cynulliad Cenedlaethol, rym i ddylanwadu ar y Trysorlys.
13:45 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Symudwn yn ôl at y cwestiynau ar y papur yn awr, a daw cwestiwn 3 gan Keith Davies.
Datganiad Polisi Caffael Cymru
13:45 - Keith Davies
3. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd datganiad polisi caffael Cymru? OAQ(4)0659(FIN)[W]
13:45 - Jane Hutt
The policy statement has been widely adopted across the Welsh public sector and is reaping real benefits, creating jobs and training and increasing opportunities for Wales-based firms.
13:46 - Keith Davies
Cyn bo hir, cawn weld, gobeithio, y gwaith yn dechrau i ddefnyddio technoleg morlynnoedd llanw ym mae Abertawe. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i hybu’r defnydd o ddur o’r Deyrnas Unedig yn y prosiectau mawr sydd mewn golwg yn y dyfodol agos?
13:46 - Jane Hutt
Yn amlwg, Keith Davies, rydym yn gobeithio y gallwn elwa ar y morlyn llanw arfaethedig ym mae Abertawe a sicrhau bod y penderfyniadau’n cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU i fwrw ymlaen â hyn o ran y cyfleoedd. Ac yna, wrth gwrs, gall sicrhau y gallwn fanteisio ar bob cyfle o ran contractau i ddod o hyd i gynnyrch dur.
13:46 - Paul Davies
Weinidog, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i gynorthwyo ein ffermwyr i dendro am gontractau sector cyhoeddus. Rwy’n sylweddoli bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, y llynedd, wedi dod â chaffael bwyd o fewn ei gwmpas a’i fod yn datblygu strategaeth fwyd. Felly, a allwch chi roi diweddariad ar y strategaeth fwyd hon ac a allwch chi ddweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gweithdrefnau cadarn ar waith i ddethol cyflenwyr ar gyfer contractau bwyd ledled Cymru fel nad yw ffermwyr Cymru yn colli cyfle o ran y contractau hyn?
13:47 - Jane Hutt
Mae’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol eisoes wedi’i sefydlu. Ar 1 Chwefror, mae ganddo 30 o gontractau a fframweithiau byw eisoes, o ran y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Mae wedi dyfarnu chwech o gontractau a fframweithiau mewn meysydd eraill megis gwasanaethau a reolir, cynlluniau buddiannau gweithwyr, cyflenwad tanwydd biomas, gwasanaethau argraffu Cymru gyfan a rheoli cyfleusterau. Felly, yn amlwg, bydd y ffaith fod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn weithredol ac yn amlwg yn cyflawni ar y contractau a’r fframweithiau hynny hefyd yn berthnasol i’r contractau caffael bwyd hollbwysig.
13:48 - Rhun ap Iorwerth
Yn y Siambr ddoe, mi wnaeth y Prif Weinidog wrthod fy awgrym i y dylid deddfu er mwyn ceisio cynyddu’r gyfran o gytundebau cyhoeddus sy’n cael eu rhoi i gwmnïau o Gymru. Y gwir amdani ydy bod Llywodraeth Cymru yn dweud y pethau iawn yn aml iawn ar gaffael, ond yn methu â sicrhau gweithredu effeithiol ar draws y sector cyhoeddus, a dyna pam y byddai Plaid Cymru yn deddfu. Ond mater arall sydd angen sylw, heb os, ydy capasiti caffael ar draws y sector cyhoeddus. A all y Gweinidog ddweud wrthym ni sut mae cyllideb y Llywodraeth yn caniatáu buddsoddiad mewn cynyddu capasiti ac arbenigedd?
13:48 - Jane Hutt
Wrth ddiolch i chi am y cwestiwn hwnnw, buaswn yn dweud bod datganiad polisi caffael Cymru wedi cael ei gryfhau’n fawr yn awr gan y pwerau newydd sydd gennym i reoleiddio ar faterion caffael yng Nghymru. Wrth gwrs, bydd hyn yn arwain at reoleiddio yn hytrach na nodiadau cyngor a chanllawiau ac mae swyddogion bellach yn gweithio i ddatblygu manteision cymunedol fel y maes rheoleiddio cyntaf. Felly, rwy’n credu y byddwch yn gweld y gwahaniaeth hwnnw o ran cryfder y pwerau newydd hynny. Wrth gwrs, rydych yn gywir i ddweud bod cysondeb, ac yn wir, cyflawni o ran capasiti ym maes caffael yn hanfodol. Mae hynny’n rhywbeth lle y mae gennym nid yn unig nawdd cronfa gymdeithasol Ewrop i’n cynorthwyo i ddatblygu ein gallu caffael; yn ogystal â hynny, llwyddodd 28 o hyfforddeion prosiect Doniau Cymru i helpu’r sefydliadau a’u cyflogai i arbed dros £7 miliwn.
Cynnyrch a Wnaed yng Nghymru
13:49 - Bethan Jenkins
4. Faint o gynnyrch a wnaed yng Nghymru a gafwyd mewn perthynas â phrosiectau adeiladu a seilwaith a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod y pedwerydd Cynulliad? OAQ(4)0657(FIN)
13:49 - Jane Hutt
Rydym yn dadansoddi llwybrau contract i roi darlun o’r galw yn y dyfodol am gynnyrch a wnaed yng Nghymru. Er enghraifft, llwyddodd cynllun ffordd Blaenau’r Cymoedd i sicrhau gwariant o 84 y cant gyda busnesau yng Nghymru.
13:50 - Bethan Jenkins
Diolch am yr un ateb penodol hwnnw. Roeddwn yn ceisio deall sawl contract a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru i gynhyrchwyr dur Cymru yn y pum mlynedd diwethaf a pha werth y mae hyn yn ei gynrychioli. Rwy’n credu y byddai’n helpu pobl yn fy ardal, yn enwedig yn awr gyda’r posibilrwydd o golli swyddi yn Tata, i ddeall, yn llawn, beth yw’r ffordd orau i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r dur sy’n cael ei gynhyrchu yno. Rwy’n sylweddoli bod y grŵp caffael yn weithredol gyda’r tasglu, ond efallai pe bai gennym rai ffigurau, gallai helpu’r bobl hynny i ddeall yn well.
13:50 - Jane Hutt
Mae’n rhan bwysig iawn o waith y tasglu dur, y bûm eisoes yn ymateb iddo, ei fod yn holi ynghylch llwybrau caffael yn y dyfodol, gan gynnwys y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, er mwyn sicrhau bod y gwaith adeiladu a chyfleoedd tendro sy’n gysylltiedig â seilwaith yn hysbys ac yn weladwy i fusnesau Cymru. Ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn amlwg yn cymryd rhan, nid yn unig o ran y tasglu dur, ond hefyd gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â chyfleoedd caffael. Mae caffael yn gyfle pwysig iawn wrth fynd i’r afael â rhai o’r materion sy’n wynebu cyflenwyr adeiladu a dur yn y farchnad ar hyn o bryd. Buaswn yn disgwyl i awdurdodau contractio yng Nghymru ddefnyddio caffael fel lifer i leihau’r rhwystrau hynny i gyflenwyr sy’n gwneud cais am gontractau cyhoeddus.
13:51 - David Rees
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae’n bwysig iawn ein bod yn sicrhau bod contractau cyhoeddus yn cael eu defnyddio er budd ein diwydiannau Cymreig. Ond ar y pwynt hwnnw, mae yna hefyd ddiwydiannau y tu hwnt i’r dur sy’n gwasanaethu’r dur, yn arbennig, Fairwood fabrications, er enghraifft, sy’n colli 100 o weithwyr o ganlyniad i golli contractau gyda Tata, a gellir defnyddio eu sgiliau mewn prosiectau seilwaith. A wnewch chi sicrhau bod rheolau caffael hefyd yn edrych ar yr isgontractwyr i sicrhau bod y mathau hynny o fusnesau sy’n mynd i’w chael hi’n anodd hefyd, yn gallu elwa o reolau caffael er mwyn caniatáu i’w sgiliau a’u gweithlu gael eu defnyddio mewn contractau fel hyn?
13:51 - Jane Hutt
Rwy’n credu bod y cwestiwn ar y gadwyn gyflenwi yn allweddol, David Rees, ac wrth gwrs, mae’r siarter ar gyfer dur cynaliadwy Prydeinig yn hanfodol i hynny o ran ei amcanion. Yn wir, mae fy natganiad polisi caffael yn cydweddu ag amcanion y siarter yn llawn. Bydd mabwysiadu egwyddorion allweddol datganiad polisi caffael Cymru yn ehangu cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer busnesau wedi’u lleoli yng Nghymru, a dyna pam ein bod, fel y dywedais, yn cefnogi ffrwd gaffael y tasglu a sefydlwyd gan Edwina Hart.
13:52 - Andrew R.T. Davies
Mewn perthynas â chaffael dur, yn enwedig contractau sector cyhoeddus, mae yna ymgyrch, yn amlwg, sydd wedi bod yn ymgyrchu ers peth amser ynghylch y defnydd o ddur o safon Brydeinig, yn arbennig, a sicrhau bod hynny’n gafeat allweddol yn y contractau. A ydych yn hyderus fod contractau sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwarchod lles cwmnïau sydd wedi’u lleoli yma drwy roi’r cyfle gorau iddynt gael mynediad i’r farchnad gyda chynnyrch o safon Brydeinig, ond yn bennaf oll, nad ydynt wedi cael eu tanseilio gan fewnforion sy’n is na’r safon a allai fod yn dod i mewn am bris rhatach, ond nad oes ganddynt hyd oes sy’n cyfateb i’r hyn sydd gan y cynnyrch o Gymru o bosibl?
13:53 - Jane Hutt
Wel, mae hynny, unwaith eto, yn ateb i hynny, rwy’n credu bod pwysigrwydd y siarter ar gyfer dur cynaliadwy Prydeinig yn allweddol i hyn. Fel rwyf wedi’i ddweud, mae’r ffaith fod gennym ddatganiad polisi caffael i Gymru yn sail i’r ffordd rydym yn llunio contractau yn allweddol—mae’n ategu’r siarter yn llwyr, fel y dywedais, a hefyd yn sicrhau bod polisi caffael yn cynorthwyo busnesau Cymru i gael mynediad at gontractau cyhoeddus. Ystyriwch y ffaith fod gennym gyfle yma ac mae gennym gyfle gyda dur Prydeinig o ran y contractau hynny.
13:53 - Eluned Parrott
Weinidog, fel y byddwch yn gwybod, mae Celsa yn fy rhanbarth yn cynhyrchu barrau atgyfnerthu ar gyfer concrid wedi’i atgyfnerthu, ac nid yn unig y mae’n cyrraedd y safonau uchaf ym Mhrydain, fel y mae Andrew R.T. Davies wedi’i awgrymu, ond y mae hefyd yn cael ei danbrisio gan fewnforwyr mewnforion llwyd i’r farchnad ddur nad ydynt yn gwbl olrheiniadwy. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad oes dim o’r dur sy’n cael ei ddefnyddio yn y gadwyn gyflenwi a phrynu cyhoeddus yng Nghymru yn fewnforion llwyd nad yw’n gwbl bosibl eu holrhain yn ôl i’w ffynhonnell?
13:54 - Jane Hutt
Rwy’n meddwl eto fod y rhain yn gwestiynau gwerthfawr iawn. Maent yn gwestiynau, wrth gwrs, sy’n cael sylw, nid yn unig gan y tasglu dan gadeiryddiaeth Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, ond hefyd gan weithgor caffael dur y DU. Ac, wrth gwrs, mae fy swyddogion wedi mynychu tri o bedwar cyfarfod gweithgor caffael dur Llywodraeth y DU. Allbynnau allweddol o’r gweithgor oedd cyhoeddi canllawiau ar gaffael dur mewn prosiectau mawr a datblygu cerdyn sgorio cytbwys ar gyfer twf er mwyn monitro canlyniadau. Rydym, wrth gwrs, yn cynnal trafodaethau agos iawn, nid yn unig gyda Swyddfa’r Cabinet ynglŷn â’n polisïau a’n datganiad, ond hefyd ynglŷn â’r ffaith ein bod yn arwain y ffordd o ran darparu dehongliad deallus o’r polisi prynu’n lleol.
Arian Ewropeaidd
13:55 - Llyr Gruffydd
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio arian Ewropeaidd? OAQ(4)0665(FIN)
13:55 - Jane Hutt
Rydym wedi buddsoddi £455 miliwn o gronfeydd strwythurol mewn 15 mis, sef chwarter cyfanswm ein dyraniad cyllid a buddsoddiad o £990 miliwn i gyd i gefnogi cymunedau, busnesau a phobl ledled Cymru.
13:55 - Llyr Gruffydd
Diolch ichi am eich ateb. Rwy’n siŵr y byddwch chi’n ymwybodol o gonsyrn nifer yn y sector amaeth ynglŷn ag arafwch y Llywodraeth yn dod â rhaglenni gerbron er mwyn creu diwydiant mwy cydnerth a mwy cynaliadwy o dan y cynllun datblygu gwledig. Mae yna gonsyrn bod y nifer sydd yn gallu cael mynediad i’r grantiau, er enghraifft y cynllun grant cynhyrchu cynaliadwy, yn fychan. Mae lefel y buddsoddiad angenrheidiol yn golygu bod hynny, mewn gwirionedd, yn allgau nifer fawr o ffermwyr Cymru. Nawr, gan dderbyn bod angen i’r buddsoddiad gael ei wneud mewn modd sydd yn cryfhau’r sector ac yn creu, fel roeddwn i’n dweud, sector mwy cynaliadwy, a wnewch chi roi pwysau ar y Dirprwy Weinidog? Fel y Gweinidog, wrth gwrs, sy’n gyfrifol am orolwg ar y gwariant Ewropeaidd, a wnewch chi sicrhau bod yna gynllun grantiau llai yn cael ei gyflwyno ar fyrder er mwyn gweld y trawsnewidiad rydym ni am ei weld ar draws y sector, yn hytrach na dim ond ymhlith grŵp bychan sy’n gallu cael y buddsoddiad angenrheidiol?
13:56 - Jane Hutt
Mae’r cynllun datblygu gwledig ar y gweill ac ar agor i geisiadau. Yn wir, ledled Cymru, fe wyddom ei fod ar y gweill, ond hefyd mae’r cymorth a ddarperir, nid yn unig gan awdurdodau lleol a chan Lywodraeth Cymru, ond hefyd gan gyrff cyfryngol, yn amlwg yn helpu i symud ymlaen â hyn. Yr hyn rwy’n siŵr y byddech yn cytuno â mi yn ei gylch, o ran eich cwestiwn, Llyr Gruffydd, yw diolch byth fod gennym gynllun datblygu gwledig a ariennir gan yr UE i roi hwb i’r economi a sicrhau amrywiaeth yn ein cymunedau gwledig.
13:56 - Mick Antoniw
Weinidog, defnyddiodd Llywodraeth Cymru gyllid Ewropeaidd er mwyn darparu’r pwll nofio gwych ym Mhontypridd ym mharc Ynysangharad. Heddiw, cyhoeddodd y cyngor, am y flwyddyn sydd i ddod mewn gwirionedd, na fydd rhaid talu am ddefnyddio’r cyfleuster hwnnw, ac mai’r bwriad drwy hyn nid yn unig yw gwneud y cyfleuster yn fwy hygyrch ledled Cymru gyfan i’r rhai sydd am ei ddefnyddio, ond hefyd gwella’r cyfleoedd busnes a nifer yr ymwelwyr â thref Pontypridd a helpu i adfywio’r dref. A ydych yn cytuno â mi fod hwn yn ddefnydd trawsbynciol ardderchog o gyllid Ewropeaidd ac a fyddwch yn ysgrifennu at y cyngor i’w llongyfarch ar eu penderfyniad pellgyrhaeddol?
13:57 - Jane Hutt
Rwy’n sicr yn cytuno â Mick Antoniw, yr Aelod dros Bontypridd. Mae hwn yn ddefnydd rhagorol o gyllid Ewropeaidd ac roeddwn wrth fy modd yn agor y pwll nofio’n swyddogol fis Awst diwethaf. Rwy’n sicr yn annog pawb i fynd i nofio yno. Efallai eich bod yno ar Ddydd Calan, nid wyf yn gwybod, ond yn sicr, roedd yno nifer o bobl wedi ymgasglu yn y pwll a’r parc. Ond mae hyn yn ymwneud â sut y gallwn weld â’n llygaid ein hunain y trawsnewid sydd wedi digwydd gyda chefnogaeth yr UE ac yn wir, cronfeydd treftadaeth a Llywodraeth Cymru. Rwy’n llongyfarch Cyngor Rhondda Cynon Taf am agor y pwll nofio yn awr fel cyrchfan allweddol a chyfleuster i dwristiaid.
13:58 - William Graham
Weinidog, yn y flwyddyn 2000, cyhoeddodd Llafur Cymru fod cyllid gan yr UE yn gyfle unwaith mewn oes. Dyma ni, bron i 16 mlynedd yn ddiweddarach, gyda llawer o ardaloedd yng Nghymru yn parhau i fod ymhell o fewn y meini prawf ar gyfer cyllid strwythurol. A hoffech ddyfalu pa bryd y bydd polisi eich Llywodraeth yn codi’r rhan fwyaf o Gymru allan o’i phroblemau strwythurol mewn gwirionedd?
13:58 - Jane Hutt
Os edrychwch ar ba mor bwysig yw cronfeydd yr UE i Gymru, ac rydym wedi cael ambell enghraifft eisoes y prynhawn yma, yn ein helpu ni—ac rwy’n gobeithio y byddech yn cydnabod hyn, William Graham—i helpu pobl i gael gwaith a hyfforddiant drwy brentisiaethau gwerth llawer o filiynau o bunnoedd, hyfforddeiaethau, Cymru Iach ar Waith, tyfu gweithluoedd drwy ddysgu a datblygu a gyhoeddwyd yn ddiweddar, Gwlad, addysg, hyfforddiant a dysgu deunyddiau a gweithgynhyrchu, cynllun METal 2 ym mae Abertawe, a chwmnïau megis Tata Steel—William Graham—y Bathdy Brenhinol ac Oceaneering yn elwa o fwy o hyfforddiant i weithwyr—. A oes rhaid i mi barhau â’r rhestr i ddangos pa mor bwysig yw buddsoddiad cyllid yr UE a ddenwyd i mewn gan Lywodraeth Cymru?
Prosiectau Seilwaith
13:59 - John Griffiths
6. A wnaiff y Gweinidog roi manylion am gyfarfodydd a gynhaliwyd gyda Llywodraeth y DU ynghylch ariannu prosiectau seilwaith? OAQ(4)0669(FIN)
13:59 - Jane Hutt
Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd ag ystod eang o bartïon i drafod buddsoddi yn y seilwaith ledled Cymru, gan gynnwys Llywodraeth y DU. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â’r Arglwydd Adonis, cadeirydd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol newydd.
13:59 - John Griffiths
Weinidog, rwy’n meddwl ein bod wedi gweld yn ddiweddar fod gwledydd sydd ar y blaen gydag ynni gwynt yn elwa’n fawr ar y rôl arweiniol honno. Mae gan Gymru a’r DU gyfle yn awr mewn perthynas ag ynni’r llanw ac yn bersonol, byddwn yn falch iawn o weld morlyn llanw yng Nghasnewydd ar ôl Abertawe a Chaerdydd ac yn amlwg, mae cynlluniau i’w hymestyn i fannau eraill. A fyddech yn cytuno bod yna gyfleoedd gwych yma i ddatblygu gallu gweithgynhyrchu gyda’r sgiliau, swyddi a thechnoleg sy’n cyd-fynd â hynny, y gellid eu hallforio wedyn i weddill y byd, ond ni wireddwn y manteision hyn hyd nes y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi’r gorau i oedi a gwneud ymrwymiad yn gyflym iawn yn awr i gefnogi prosiect y morlyn llanw yn Abertawe, y gellir ei gyflwyno mewn mannau eraill wedyn? Ac a fyddwch yn parhau i annog y Gweinidog i ddod oddi ar y ffens ac i ymrwymo i’r prosiect hwn cyn gynted â phosibl?
14:00 - Jane Hutt
Wel, rwy’n siŵr y bydd eich pwynt, John Griffiths, yn cael ei rannu ar draws y Siambr o ran y neges hon i Lywodraeth y DU. Yn wir, rydym wedi ymgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau cymaint o fudd â phosibl i forlyn llanw arfaethedig bae Abertawe, ac i sicrhau polisi amrediad llanw y DU yn y tymor hwy. Mae hynny’n hollbwysig i’r DU, ac nid yn unig i Gymru, ac yn adlewyrchu dyheadau Cymru gan ddiogelu’r amgylchedd. Byddwn yn dweud, wrth gwrs, fod y morlyn llanw ym mae Abertawe yn un o brosiectau piblinell allweddol ein cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru sydd â’r potensial i ddod â manteision economaidd ac amgylcheddol i Gymru, ac wrth gwrs, dyma’r cyntaf o chwe chynllun morlyn llanw, pedwar ohonynt wedi’u lleoli yng Nghymru, ac mae Tidal Lagoon Power wedi nodi cam nesaf y ddau forlyn sydd i’w lleoli yng Nghaerdydd a Chasnewydd.
14:01 - William Graham
Weinidog, mae gan Gylchffordd Cymru botensial i adfywio, nid yn unig Glyn Ebwy, ond rhannau helaeth o dde-ddwyrain Cymru. A allech amlinellu pa drafodaethau rydych wedi’u cael gyda’ch cyd-Aelodau yn y Cabinet i ddod ag ariannu’r prosiect hwn i ben?
14:01 - Jane Hutt
Wel, mae trafodaeth adeiladol iawn yn parhau.
14:02 - Aled Roberts
Nid wyf yn gwybod a ydych chi’n ymwybodol, ond rhai munudau yn ôl, daeth yn amlwg bod Llywodraeth Prydain wedi dweud eu bod nhw’n cynnal adolygiad o lagwnau llanw ar draws y Deyrnas Gyfunol. Wrth ystyried y ffaith bod y posibiliad o lagŵn yn y gogledd o dan ystyriaeth, heblaw am ddyfodol y lagŵn ym mae Abertawe, a ydych chi’n rhannu â mi y siom o weld Llywodraeth Prydain yn troi eu cefnau ar ynni adnewyddol, sydd yn effeithio nid yn unig ar fuddsoddiad yma yng Nghymru ond ar swyddi ein pobl ni yng Nghymru?
14:02 - Jane Hutt
Aled Roberts, rydych yn hollol gywir. Rydym wedi nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i sefydlu adolygiad o ynni’r DU. Nid yw’n cyflwyno’i adroddiad tan yr hydref, ac rydym yn siomedig y gallai’r cynllun hwn olygu oedi pellach i’r morlyn llanw yn Abertawe o bosibl.
Portffolio Cyfoeth Naturiol
14:03 - William Powell
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad ariannol i’r portffolio Cyfoeth Naturiol yng nghyllideb ddrafft 2016-17? OAQ(4)0668(FIN)
14:03 - Jane Hutt
Fel y nodir yn y gyllideb ddrafft, ‘Cymru Decach, Cymru Well’, y gyllideb arfaethedig ar gyfer y portffolio cyfoeth naturiol y flwyddyn nesaf yw £367 miliwn.
14:03 - William Powell
Weinidog, yn ystod sesiwn graffu ar gyllideb y pwyllgor amgylchedd yn ddiweddar, gofynnais i’r Gweinidog pa asesiad a wnaed o lefel cronfeydd yr UE a bennwyd ar gyfer lliniaru llifogydd ond hefyd ar gyfer cynlluniau rheoli’r arfordir, ac yn garedig iawn, mae wedi addo adrodd yn ôl i’r pwyllgor ar hynny cyn bo hir. O ystyried y bygythiad cynyddol o Brydain yn gadael yr UE yn ddiweddarach eleni, pa gynlluniau wrth gefn sydd gan Lywodraeth Cymru yn eu lle i gyflenwi’r cyllid angenrheidiol i barhau gyda’r gwaith gwerthfawr hwn, pe baem yn gwneud y penderfyniad trychinebus hwnnw?
14:04 - Jane Hutt
Wel, rwy’n credu ei bod yn werth ailadrodd y ffaith unwaith eto—ac mae hyn ar gyfer y cofnod, o ran pwysigrwydd yr Undeb Ewropeaidd—ers 2011, rydym wedi ymrwymo bron i £300 miliwn, gan gynnwys cyllid Ewropeaidd, i reoli perygl llifogydd, a £150 miliwn ychwanegol a fuddsoddir gennym at y dyfodol. Mae’n gwbl glir fod hyn yn dangos sut y mae Cymru yn elwa’n sylweddol o fod yn rhan o’r UE. Wrth gwrs, rydym bob amser wedi dweud fel Llywodraeth Cymru, fel y gwyddoch, y byddai i’r DU adael yn ddrwg i’r economi, y farchnad Lafur a’r amgylchedd yng Nghymru.
14:04 - Janet Haworth
Weinidog, roeddwn yn falch o glywed bod cais sir Conwy am gymorth o’r gronfa adfer wedi’r llifogydd wedi bod yn llwyddiannus. Mae sir Conwy yn awyddus i barhau i baratoi cynlluniau atal llifogydd, ond er mwyn bwrw ymlaen â hyn, maent angen i adroddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru gael eu cwblhau i lywio’r gwaith hwn. Weinidog, a allwch sicrhau y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael y gyllideb i gwblhau’r gwaith pwysig hwn, ac a allwch warantu heddiw, Weinidog, y rhyddheir arian pellach o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith pwysig hwn sydd ei daer angen?
14:05 - Jane Hutt
Wel, rwy’n credu, Janet Haworth, efallai y gallaf eich sicrhau—ac roeddwn yn meddwl y byddech wedi deall hyn—pan fydd cais wedi’i dderbyn, yna bydd yr arian yn dod.
14:05 - Alun Ffred Jones
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn wynebu gostyngiad sylweddol yn ei chyllideb unwaith eto eleni, er gwaethaf yr heriau amlwg gan lifogydd a newid hinsawdd. Wrth benderfynu ar eich cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, a wnaed asesiad o oblygiadau’r costau ychwanegol sydd wedi’u hadnabod oherwydd deddfwriaeth newydd: Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Bil yr Amgylchedd (Cymru)?
14:06 - Jane Hutt
Wel, gan edrych ar y gyllideb ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, ar gyfer y prif grŵp gwariant, bydd portffolio cyfan y Gweinidog, os edrychwch ar refeniw a chyfalaf gyda’i gilydd, £9 miliwn yn uwch na llinell sylfaen 2015-16 o £357 miliwn. Mae’n amlwg ein bod wedi lleddfu effaith gostyngiadau refeniw â chynnydd cyfalaf—sy’n allweddol ac yn bwysig iawn, o ran buddsoddi mewn seilwaith, fel rydym newydd ei drafod, o ran atal llifogydd— o £26 miliwn, sy’n gynnydd o 41 y cant. A gadewch i ni edrych ar bethau rydym yn eu cefnogi gyda Cyfoeth Naturiol Cymru: £3 miliwn i gynllun rheoli perygl llifogydd Llanelwy i leihau’r risg ar hyd Afon Elwy a diogelu dros 400 o eiddo; £5 miliwn ar gyfer y rhaglen rheoli perygl arfordiroedd ar gyfer gwaith paratoadol; £8 miliwn ar gyfer Cartrefi Clyd; a £10 miliwn ar gyfer ‘Twf Gwyrdd Cymru: Ynni Lleol’—ac mae hwnnw’n mynd i gynyddu a chyflymu prosiectau i ddarparu buddsoddiad gwyrdd yng Nghymru. Felly, wrth gwrs, mae hyn i gyd yn cefnogi adnoddau naturiol, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymwneud â’r gwaith o weithredu’r datblygiadau newydd hynny.
Portffolio Addysg a Sgiliau
14:07 - Julie Morgan
8. Pa flaenoriaethau a gafodd eu hystyried gan Lywodraeth Cymru wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio Addysg a Sgiliau? OAQ(4)0662(FIN)
14:07 - Jane Hutt
Mae ein cynlluniau gwariant yn adlewyrchu ein blaenoriaeth i godi safonau a pharhau â’r momentwm newydd mewn addysg yng Nghymru.
14:07 - Julie Morgan
Diolch i’r Gweinidog am yr ymateb hwnnw, ac roeddwn yn croesawu’n fawr y cyhoeddiad ysgrifenedig heddiw fod £85 miliwn mewn cyllid yn cael ei ddyrannu i raglenni addysg a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol—a chredaf ei fod yn cynnwys nyrsys, ffisiotherapyddion a gwyddonwyr clinigol a nifer o bobl eraill. A yw’r Gweinidog yn cytuno ei bod yn bwysig iawn i ni gael y cynnydd hwn yn y niferoedd, er mwyn i ni allu ymdopi ag anghenion rhai o’r henoed bregus iawn y mae’n rhaid i ni ofalu amdanynt yn awr yn yr ysbytai, a bod y cynnydd o 10 y cant yn nifer y nyrsys i’w groesawu’n fawr?
14:08 - Jane Hutt
Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn hwnnw gan y bydd y pecyn £85 miliwn a gyhoeddwyd heddiw gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cefnogi’r amrediad hwnnw, fel y mae Julie Morgan wedi’i ddweud, o raglenni addysgu a hyfforddi ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol—gan gynnwys nyrsys, ffisiotherapyddion a radiograffwyr—mewn ystod o gyfleoedd hyfforddi yn y gwyddorau iechyd.
14:08 - Angela Burns
Weinidog, yn ystod y pump i 10 mlynedd nesaf, bydd newidiadau seismig mewn addysg, megis yr adolygiad o’r cwricwlwm. Er mwyn i’r newidiadau hynny fod yn llwyddiannus, bydd angen rhoi adnoddau sylweddol ar waith—nid pobl yn unig, ond arian. Yr hyn yr hoffwn ei wybod yw pa bryd rydych chi’n bwriadu dechrau cronni arian o fewn y portffolio i gefnogi’r newidiadau hynny wrth iddynt gael eu cyflwyno, a pha mor fawr y credwch y bydd angen i’r cronfeydd hynny fod?
14:09 - Jane Hutt
Wel, drwy gydol tymor y Llywodraeth hon, rydym wedi diogelu cyllid ysgolion 1 y cant yn uwch na’r newid cyffredinol i derfyn gwariant adrannol Cymru, a bydd y cynnydd hwn yn parhau yn 2016-17, gyda £39.7 yn ychwanegol i gyllid rheng flaen ar gyfer ysgolion i helpu disgyblion yng Nghymru i gyflawni eu potensial llawn.
14:09 - Simon Thomas
Weinidog, rwy’n croesawu’r newid cyfeiriad a welwyd ddoe yn y gyllideb o ran y toriad arfaethedig i addysg uwch yng Nghymru. Yn amlwg, fe gawsoch dystiolaeth yn ystod y broses ymgynghori ar y gyllideb ynghylch effaith y toriad, a’r angen i Lywodraeth Cymru gau’r bwlch hwnnw. Fodd bynnag, roedd o leiaf £20 miliwn o’r arian nad ydych bellach yn ei dorri wedi’i bennu ar gyfer y polisi ffioedd dysgu, sy’n bolisi a arweinir gan alw, ac nid oes gennych unrhyw reolaeth dros y galw hwnnw. A allwch gadarnhau, felly, ar gyfer y Cynulliad, o ble y daeth yr arian mewn portffolios eraill rydych yn amlwg wedi gorfod ei ychwanegu yn awr at y portffolio addysg a sgiliau i gau’r toriad a gyhoeddwyd gennych ddoe?
14:10 - Jane Hutt
Daeth yr arian o gronfeydd wrth gefn.
Pwerau Caffael
14:10 - Joyce Watson
9. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleoedd a gynigir gan y pwerau caffael newydd arfaethedig? OAQ(4)0666(FIN)
14:10 - Jane Hutt
Y maes cyntaf ar gyfer rheoleiddio fydd manteision cymunedol, gan helpu i roi hwb i’r economi drwy greu swyddi a threchu tlodi, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i nodi sut y bydd rheoleiddio yn ysgogi’r broses o fabwysiadu polisi caffael Cymru.
14:10 - Joyce Watson
Diolch yn fawr iawn am hynny, Weinidog. Rydych yn briodol wedi rhoi pwyslais mawr ar sut y gall y pwerau hyn sicrhau manteision cymunedol. Dyna rywbeth y mae’r grŵp adeiladu trawsbleidiol wedi canolbwyntio arno hefyd, fel y gwyddoch ar ôl cymryd rhan yn y broses. Ond mae TUC Cymru hefyd wedi gwneud gwaith da ar sut y gall prosiectau gwariant cyhoeddus gefnogi swyddi lleol. A gaf fi ofyn i chi, Weinidog, pan fyddwn yn symud ymlaen gyda’r pwerau hynny, a fyddwch yn rhoi diweddariadau gerbron y Siambr?
14:11 - Jane Hutt
Rwyf wedi ateb cwestiwn yn gynharach y prynhawn yma ar y pwynt ynglŷn â’n pwerau newydd. Byddwch wedi croesawu’r ffaith fod gennym bellach y gorchymyn dynodi a negodais gyda Llywodraeth y DU. Mae gennym bwerau rheoleiddio newydd, a’r maes cyntaf rydym yn ei ddatblygu o ran rheoleiddio yw manteision cymunedol. Felly, o ran ein prosiect Swyddi Gwell, yn Nes at Adref, a gafodd ei hyrwyddo gan TUC Cymru, mae gennyf weithgor eisoes wedi’i sefydlu, ac mae eisoes yn nodi contractau addas, er enghraifft, i gael eu cyflwyno gan ganolbwyntiau pwysig i gyflogaeth. Ceir arfarniad opsiynau o’r canolbwyntiau hynny, ac rydym yn edrych ar y pwerau rheoleiddio newydd hynny, unwaith eto, a sut y gallwn ddatblygu diffiniad o ‘weithiwr dan anfantais’ er mwyn sicrhau’r manteision mwyaf o’r prosiect hwn.
14:12 - Nick Ramsay
Weinidog, a gaf fi adleisio’r sylwadau cynharach mewn cwestiwn gan Bethan Jenkins fod y newyddion yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf yn llawn o’r crebachu yn y diwydiant dur, yn enwedig ym Mhort Talbot? Sut rydych yn bwriadu sicrhau bod y pwerau caffael newydd yn cael eu defnyddio i sicrhau bod mwy o ddur Cymru yn cael ei ddefnyddio mewn prosiectau adeiladu yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn fwy cyffredinol, sut rydych yn rhagweld y defnyddir y pwerau newydd i gefnogi gweithgynhyrchu yn y wlad hon yn gyffredinol?
14:12 - Jane Hutt
Wel, rwyf wedi ateb y cwestiynau hynny yn eithaf llawn y prynhawn yma. Unwaith eto, mae yna dasglu dur sydd â phiblinell gaffael a gweithgor caffael, a hefyd y gwaith rydym yn ei wneud gyda Llywodraeth y DU o ran eu tasglu caffael dur, a Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan flaenllaw yn mabwysiadu’r polisïau hyn.
‘Cymru Decach, Cymru Well—Buddsoddi at y Dyfodol’
14:13 - William Graham
10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amcanion ‘Cymru Decach, Cymru Well—Buddsoddi at y Dyfodol’? OAQ(4)0663(FIN)
14:13 - Jane Hutt
Wel, mae ‘Cymru Decach, Cymru Well—Buddsoddi at y Dyfodol’ yn darparu’r sylfeini ar gyfer sicrhau lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ein cenhedlaeth ni a chenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.
14:13 - William Graham
Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am ei hateb. A allai amlinellu sut y mae hynny’n adlewyrchu neu’n atgynhyrchu buddsoddi i arbed, sy’n bolisi yr un mor llwyddiannus?
14:13 - Jane Hutt
Wel, rwy’n ddiolchgar fod William Graham, yr Aelod, yn cydnabod pwysigrwydd ac effaith buddsoddi i arbed. Gyda buddsoddi i arbed, wrth gwrs, am bob punt a fuddsoddir, dychwelir £3. Mae buddsoddi i arbed, wrth gwrs, yn ymwneud ag arloesi, ond mae hefyd yn ymwneud â defnyddio ynni’n effeithlon, mae’n ymwneud â chydweithredu, ac mae’n ymwneud ag ailgylchu cyllid mewn ffordd arloesol.
Rhaglenni Cyfalaf
14:14 - Angela Burns
11. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglenni cyfalaf yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0664(FIN)
14:14 - Jane Hutt
Mae piblinell y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru yn darparu manylion am ein prosiectau cyfalaf presennol ac arfaethedig ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys gorllewin Cymru, a chyhoeddais biblinell wedi’i diweddaru yr wythnos diwethaf.
14:14 - Angela Burns
Weinidog, byddai gennyf ddiddordeb mewn deall sut y mae eich adran yn edrych ar gostau cyfleoedd a gollwyd, a pha werthusiad a wneir ohonynt pan fyddwch yn edrych ar brosiectau cyfalaf. Felly, er enghraifft, mae’r A40 yn brosiect cyfalaf lle y cafwyd oedi ar ôl oedi. Rwy’n gwybod ei fod bellach yn cael ei roi ar waith, ond serch hynny, dros y pum mlynedd diwethaf, bu costau cyfleoedd a gollwyd sylweddol ar y prosiect penodol hwnnw. Felly, pa werthusiad rydych yn ei wneud ohono, a sut rydych yn monitro’r cyfleoedd a gollwyd?
14:14 - Jane Hutt
Wel, mae gennym saith blaenoriaeth fuddsoddi ar gyfer y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, ond yn wyneb toriad o 30 y cant i’n rhaglen gyfalaf gan Lywodraeth y DU, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn ariannu’r blaenoriaethau mewn perthynas â’r cynllun buddsoddi yn y seilwaith.
14:15 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Diolch yn fawr, Weinidog.
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
14:15 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Symudwn yn awr at eitem 2, sef cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus. Daw cwestiwn 1 gan Andrew R.T. Davies.
Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog
14:15 - Andrew R.T. Davies
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog? OAQ(4)0673(PS)
14:15 - Leighton Andrews
Lywydd, rydym wedi ymrwymo i gefnogi aelodau sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog a chyn-aelodau’r lluoedd arfog yng Nghymru. Mae ein pecyn cymorth yn nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog yng Nghymru.
14:15 - Andrew R.T. Davies
Diolch i chi am eich ateb, Weinidog. Yn ddiweddar, ymwelais â Newid Cam yng Nghaerdydd, sef sefydliad a arweinir gan gyn-filwyr sy’n cynnig cymorth yn y gymuned i gyn-filwyr sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl, yn benodol. Roedd un enghraifft o’r gwaith a wnaed yno yn dangos sut y mae’n sefydliad a arweinir gan gyn-filwyr, felly ceir dealltwriaeth o’r materion cymhleth sydd gan lawer o bobl wrth chwilio am gymorth. Ond mae’r lluoedd arfog o ran eu gwead yn amrywiol iawn heddiw. Yn benodol, mae llawer o recriwtiaid benywaidd ifanc yn mynd i mewn i’r lluoedd arfog bellach. Pa asesiad rydych wedi’i wneud, Weinidog, o’r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn gallu ei darparu i weithio gydag elusennau’r lluoedd arfog i wneud yn siŵr fod y cymorth yn cynrychioli amrywiaeth y cyn-filwyr sy’n gadael y lluoedd arfog ac yn bodloni anghenion y grŵp amrywiol hwn o unigolion?
14:16 - Leighton Andrews
Mae’r Aelod yn iawn i bwysleisio gwerth elusennau a arweinir gan gyn-filwyr a sefydliadau trydydd sector. Ceir llawer ohonynt, wrth gwrs, ac yn wir mae gan sefydliadau fel y Lleng Brydeinig Frenhinol gyn-filwyr yn eu harwain yng Nghymru. Mae’n bwysig ein bod ni, o fewn y pecyn cymorth, yn gallu adlewyrchu anghenion amrywiol cymuned y lluoedd arfog ac mae’n gywir i nodi hynny. Rwy’n sicr yn hapus, wrth i ni fwrw ymlaen â’n hadolygiad o’r pecyn ar gyfer lluoedd arfog Cymru, ein bod yn ei adnewyddu gyda golwg ar sicrhau bod pob grŵp sy’n gadael y lluoedd arfog yn cael eu gwasanaethu’n dda ganddo.
14:17 - Lindsay Whittle
Weinidog, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn amlwg yn ymwybodol o’r dyddiad y bydd gwasanaeth personél milwrol i’w gwlad yn dod i ben. Ond nid wyf yn credu ei bod yn iawn mai Llywodraeth Cymru sy’n gorfod talu llawer o’r biliau, fel y maent yn amlwg yn ei wneud. Pa bwysau y gallwch ei roi fel Gweinidog i sicrhau bod cyswllt gwell rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau, awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd i sicrhau, fan lleiaf, fod pobl yn cael cartrefi, swyddi a gwasanaethau iechyd gweddus?
14:17 - Leighton Andrews
Gadewch i mi ddechrau drwy ddweud fy mod yn credu bod cyswllt da iawn rhwng Llywodraeth Cymru a’r lluoedd arfog. Cyfarfu’r Prif Weinidog a minnau â phennaeth y staff cyffredinol y bore yma a thrafodasom nifer o faterion yn ymwneud â’r agenda hon. Rwy’n credu bod y lluoedd arfog yn falch iawn o’r llwyddiannau y gallasom eu sicrhau yng Nghymru o ran ein buddsoddiad yn ein pecyn ar gyfer y lluoedd arfog, ond hefyd y modd rydym yn ymgysylltu â hwy a llawer o wahanol asiantaethau eraill drwy’r grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog dan fy nghadeiryddiaeth i. Mae hynny’n dwyn ynghyd y gwasanaethau datganoledig a’r gwasanaethau heb eu datganoli yn rheolaidd. Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn, rwy’n meddwl, yn ymwybodol, er enghraifft, o’n llwyddiant yng Nghymru o ran hyrwyddo’r cerdyn braint amddiffyn a’r ffordd y cydweithiasom â hwy wrth hysbysebu’r cerdyn i roi hwb i’r defnydd ohono yma yng Nghymru. Rwy’n credu y gall fod materion yn codi mewn perthynas â rhannu data. Yn gynyddol, mae’r mathau hynny o heriau sy’n ymwneud â rhannu data yn cael eu goresgyn. Yn amlwg, os oes materion penodol y mae’r Aelod yn ymwybodol ohonynt, rwy’n ei wahodd i ysgrifennu ataf yn eu cylch.
14:18 - William Powell
Weinidog, yn ddiweddar mae Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam wedi cychwyn ar brosiect ymchwil dwy flynedd i archwilio’r anawsterau penodol a brofir gan gyn-filwyr wrth newid yn ôl i fywyd sifil. O ystyried bod llawer o’r dystiolaeth ynghylch yr anawsterau hynny yn anecdotaidd ar hyn o bryd, rwy’n teimlo y gallai’r gwaith ymchwil hwn fod o fantais sylweddol. A ydych yn barod i ystyried y canfyddiadau pan gânt eu cyhoeddi i ffurfio rhan o’r ailwampio y cyfeirioch chi ato mewn ateb cynharach?
14:19 - Leighton Andrews
Rwy’n hapus iawn i wneud hynny. Credaf fod cryn dipyn o waith wedi’i wneud, mewn gwirionedd, ar sail fwy nag anecdotaidd, gadewch i mi ddweud, gan sefydliadau trydydd sector a chan sefydliadau statudol. Gwnaed gwaith ardderchog, er enghraifft, yn y gwasanaeth carchardai, yn y gwasanaeth cenedlaethol rheoli troseddwyr, yn ogystal â’n gwasanaethau datganoledig ein hunain. Ond yn sicr, byddwn yn hapus iawn i edrych ar unrhyw dystiolaeth y mae’r adolygiad academaidd hwnnw yn ei gyflwyno.
Trais Domestig
14:19 - Mohammad Asghar
2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r gefnogaeth i ddioddefwyr trais domestig yng Nghymru? OAQ(4)0663(PS)
Alun Ffred Jones
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar drais domestig? OAQ(4)0677(PS)[W]
14:19 - Leighton Andrews
Lywydd, rwy’n deall eich bod wedi rhoi eich caniatâd i grwpio cwestiynau 2 a 5 gyda’i gilydd. Bydd gweithredu’r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn gwella gwaith atal, cynorthwyo a diogelu i ddioddefwyr cam-drin domestig yng Nghymru. Mae’r gyllideb ddrafft yn argymell cynnydd yn y gyllideb ar gyfer y maes gwaith hwn.
14:20 - Mohammad Asghar
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae llochesi yn darparu pecyn cymorth hanfodol i fenywod a phlant sy’n byw mewn ofn o gam-drin neu drais domestig. Mae Cymorth i Fenywod Cymru wedi mynegi pryder nad oes gan wasanaethau o’r fath sy’n achub bywydau gyllid cynaliadwy i ddiogelu a chynorthwyo’r menywod a’r plant mwyaf agored i niwed yng Nghymru. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i roi cyllid digonol i lochesau menywod a darparu model cyllido cynaliadwy iddynt?
14:20 - Leighton Andrews
Wel, roedd hon yn eitem a drafodwyd yn y grŵp arbenigol ar drais yn erbyn menywod yr wythnos diwethaf, ac roedd Cymorth i Fenywod Cymru yn bresennol. Ceir rhai problemau ynglŷn â chynaliadwyedd rhai gwasanaethau lloches. Wrth gwrs, daw cyllid ar eu cyfer o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys llywodraeth leol, ond hefyd o gyllidebau eraill Llywodraeth Cymru, fel y rhai a ddelir gan fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi. Rwy’n credu mai’r hyn sy’n bwysig yw ein bod yn symud tuag at sail gynaliadwy ar gyfer y dyfodol a sail sydd hefyd yn adlewyrchu’r holl anghenion ledled Cymru. Nid wyf yn credu bod rhai o’r gwasanaethau sydd wedi datblygu wedi gwneud hynny o reidrwydd ar y sail fwyaf cynlluniedig posibl, a dyna pam ein bod wrthi’n mapio argaeledd gwasanaethau ledled Cymru ar hyn o bryd.
14:21 - Alun Ffred Jones
Gerbron y Pwyllgor Cyllid, fe ddywedodd Cymorth i Ferched fod 250 o ferched wedi cael eu gwrthod o lochesi yng Nghymru y llynedd oherwydd diffyg capasiti, ac fe fynegon nhw hefyd bryder bod yr arian y maen nhw’n ei dderbyn yn lleol er mwyn cynnal y llochesi yna yn cael ei dorri, yn cael ei gwtogi, ar gyfer y flwyddyn nesaf oherwydd y pwysau sydd ar lywodraeth leol, am un peth. Rydych newydd gyfeirio at y ffaith bod angen creu trefn sy’n gynaliadwy i’r dyfodol. Wel, sut fath o drefn fydd honno os ydy’r darlun ar y llawr yn golygu y gallai rhai llochesi gau, yn ôl tystiolaeth Cymorth i Ferched?
14:22 - Leighton Andrews
Fel y dywedais, trafodwyd hyn gyda Cymorth i Fenywod Cymru yr wythnos diwethaf, a gadewch i mi ddweud fy mod wedi dweud yn glir wrth sefydliadau trydydd sector y byddai eu cyllidebau’n cael eu cynnal ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae’r mater, rwy’n meddwl, yn un sy’n haeddu ystyriaeth ehangach, fodd bynnag, gan fy mod yn credu nad yw’r ddarpariaeth ledled Cymru o reidrwydd yn diwallu’r angen, ac rwy’n meddwl bod yna ardaloedd yng Nghymru lle nad yw’r gwasanaethau hynny ar gael ar hyn o bryd. Dyna pam ein bod yn awyddus i edrych ar hyn yn fwy systematig, ac yn sicr, byddwn yn casglu tystiolaeth i gefnogi’r olwg systematig honno gyda chymorth fy nghynghorydd gweinidogol—mae’n ddrwg gennyf, gyda chymorth y cynghorydd cenedlaethol ar drais yn erbyn menywod.
14:23 - Jeff Cuthbert
Weinidog, mae ymateb i gam-drin domestig yn faes gwaith pwysig i wasanaeth yr heddlu yng Nghymru, mewn partneriaeth â sefydliadau statudol a gwirfoddol eraill. Yn anffodus, mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi torri cyllid ar gyfer yr heddlu dros y pum mlynedd diwethaf, yn ogystal ag ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol. A ydych yn cytuno, Weinidog, er y byddwn ni yng Nghymru yn gwneud ein gorau glas i gefnogi’r gwaith hanfodol hwn, nad yw rhaglen galedi barhaus Llywodraeth Dorïaidd y DU yn helpu dioddefwyr cam-drin domestig yng Nghymru?
14:23 - Leighton Andrews
Mae fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Gaerffili, yn hollol iawn i dynnu sylw at doriadau Llywodraeth y DU i wariant yr heddlu. Efallai y bydd yn bresennol yn nes ymlaen—credaf fod Ffederasiwn yr Heddlu yn cynnal digwyddiad yn y Senedd heno, ac mae’n siŵr y byddwn yn clywed ymhellach ganddynt am rai o’r heriau y mae’r gwasanaeth heddlu yn eu hwynebu. Rwy’n falch ein bod, fel Llywodraeth, wedi buddsoddi yn rhaglen swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, fel bod 500 yn rhagor o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yng Nghymru nag y byddai fel arall. Rydym wedi bod yn buddsoddi i gefnogi ein heddlu er bod Llywodraeth y DU wedi bod yn torri’r cyllid sydd ar gael iddynt.
14:24 - Eluned Parrott
Weinidog, mae atal menywod a dynion ifanc rhag mynd i berthynas ystrywgar ac afiach yn sicr yn allweddol i wneud yn siŵr y gallwn leihau’r niwed y mae trais domestig yn ei wneud yn ein cymdeithas. Tybed pa gynnydd a wnaed ers cwblhau’r Ddeddf trais yn erbyn menywod tuag at ddatblygu cwricwlwm a deunyddiau cymorth i athrawon, fel y gallant fwrw ymlaen â’r agenda hon yn eu gwersi addysg bersonol a chymdeithasol.
14:24 - Leighton Andrews
Ie, yn wir. Cynaliasom ddigwyddiad yn yr hydref, lle bûm yn siarad, a lle siaradodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau. Roedd llawer iawn o bobl yn bresennol yn y digwyddiad a gynhaliwyd, os cofiaf yn iawn, yn stadiwm SSE SWALEC. Roedd cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl ifanc yno, yn ogystal â phobl o’r gwasanaeth addysg. Roedd yno lawer o athrawon sy’n cymryd diddordeb gweithredol yn y maes hwn, a chredaf fod y trafodaethau ar y diwrnod hwnnw yn werthfawr iawn a byddant yn llywio ein gwaith yn y dyfodol.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
14:25 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Symudwn yn awr at gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau, ac yn gyntaf y prynhawn yma mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Janet Finch-Saunders.
14:25 - Janet Finch-Saunders
Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, rwy’n gobeithio eich bod, fel finnau, yn falch iawn o glywed y newyddion ynglŷn â’r ymgyrch dros gael maer i Gaerdydd—cam a allai arwain at gael ein maer cyntaf a gaiff ei ethol yn ddemocrataidd ac yn uniongyrchol yma yng Nghymru. Byddai hyn, wrth gwrs, yn sicrhau cyfranogiad democrataidd llawn, gwir ymgysylltiad cymunedol ac atebolrwydd democrataidd llwyr. Yn bersonol, rwy’n falch o weld menter o’r fath yn cael ei chyflwyno, a chaiff ei chefnogi’n drawsbleidiol, ac rwy’n dymuno’r gorau iddynt gyda’r ymgyrch hon. A ydych chi?
14:26 - Leighton Andrews
Wel, mae gennyf ddiddordeb mawr; nid oeddwn yn ymwybodol fod y Ceidwadwyr Cymreig bellach yn awyddus i weld meiri etholedig yn lle’r holl awdurdodau lleol. Rwy’n tybio efallai y bydd hynny’n newyddion i rai o’u cynghorwyr presennol. Gadewch i mi ddweud bod yna ymgyrch, rwy’n deall, yng Nghaerdydd. Mae ganddynt drothwy i’w gyrraedd cyn y gallant fwrw ymlaen â’u cynlluniau. Fe arhoswn i weld a fyddant yn cyrraedd y trothwy hwnnw.
14:26 - Janet Finch-Saunders
Diolch yn fawr, Weinidog. [Torri ar draws.]
14:26 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Trefn, trefn.
14:26 - Janet Finch-Saunders
Nawr, wrth gwrs, yn dilyn Deddf Lleoliaeth 2011, cynhaliwyd refferenda mewn 10 dinas yn Lloegr ar feiri a gaiff eu hethol yn uniongyrchol. Erbyn hyn, ceir 17 o feiri o’r fath yn Lloegr, gyda mwy ar y ffordd ym Manceinion Fwyaf, dinas-ranbarth Lerpwl, dinas-ranbarth Sheffield, gogledd-ddwyrain Lloegr, Tees Valley a gorllewin canolbarth Lloegr. Yn amlwg, ceir cefnogaeth boblogaidd i gynrychiolydd atebol a democrataidd o’r fath. Mae’n hanfodol fod trigolion Caerdydd yn cael dweud eu barn ynglŷn ag a fydd ganddynt gynrychiolydd o’r fath, ac eto mae’n rhaid i’r ymgyrch yma yng Nghymru ennill 10 y cant o’i gymharu â 5 y cant dros y ffin. Weinidog, fel rhan o’ch gwaith ar ddiwygio llywodraeth leol, a fyddwch yn mynd i’r afael â hyn er mwyn sicrhau bod y dewis hwnnw a’r rhyddid hwnnw gan ein pobl? Ac o ystyried bod cymaint o anhrefn ynghlwm wrth ddiwygio llywodraeth leol ar hyn o bryd, onid yw hon yn fenter dda i chi ei chefnogi?
14:27 - Leighton Andrews
Wel, mae’r Ceidwadwyr, wrth gwrs, yn rheoli un awdurdod lleol yng Nghymru. Rwy’n tybio, felly, y byddant yn cyflwyno cynigion ar gyfer maer Sir Fynwy yn y man. Efallai y gallwn edrych ar y rheini. Nid oeddwn yn ymwybodol eu bod yn bwriadu disodli’r Cynghorydd Peter Fox yn y ffordd honno.
14:27 - Janet Finch-Saunders
Wel, gan symud ymlaen, Weinidog, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi argymell rhewi’r dreth gyngor, yn enwedig felly am y tair blynedd pan ddaeth cyllid digonol oddi wrth Lywodraeth y DU. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy o dan arweiniad Plaid Cymru a Llafur bellach yn argymell newid i gasgliadau bin bob pedair wythnos, y cyntaf yng Nghymru, ac ar yr un pryd yn argymell cynnydd arall o 5 y cant yn y dreth gyngor. Weinidog, a ydych yn falch o’r etifeddiaeth o dan Lafur Cymru sy’n peri bod ein trigolion yn talu mwy a chael llai?
14:28 - Leighton Andrews
Mae preswylwyr Cymru yn talu, ar gyfartaledd, £157 y flwyddyn yn llai o dreth gyngor na phreswylwyr Lloegr. Bydd toriadau i gyllidebau cynghorau yn Lloegr yn y flwyddyn ariannol nesaf yn ddwbl y toriadau y mae cynghorau yng Nghymru yn gorfod eu hwynebu, hyd yn oed os ystyriwch y cildwrn a roddwyd i gynghorau de-ddwyrain Lloegr a arweinir gan y Ceidwadwyr ddoe gan Lywodraeth Geidwadol y DU. A beth rydym yn ei weld yn Lloegr hefyd? Maent wedi ceisio llwgrwobrwyo cynghorau i rewi’r dreth gyngor, ond ni fydd 50 y cant ohonynt, gan gynnwys dwsinau o gynghorau Ceidwadol Lloegr, yn gweithredu’r polisi hwnnw i rewi’r dreth gyngor.
14:29 - Janet Finch-Saunders
O, efallai eu bod wedi dysgu gan y Llywodraeth hon, felly.
14:29 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Symudwn yn awr at lefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Peter Black.
14:29 - Peter Black
Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, i ddilyn y cwestiwn a ofynnodd Alun Ffred Jones mewn perthynas â cham-drin domestig, nid wyf yn siŵr a ydych yn gyfarwydd â’r dystiolaeth a roddodd Cymorth i Fenywod Cymru gerbron y Pwyllgor Cyllid ar ddechrau mis Ionawr ynglŷn â’r mater hwn. Dywedasant wrth y pwyllgor eu bod yn gwybod am 284 o fenywod a gafodd eu troi ymaith o lochesau yng Nghymru y llynedd gan nad oedd lle, a 161 o fenywod yng Nghymru na allai gael llety mewn llochesau am yr un rheswm. Weinidog, o ystyried bod llawer o’r gwasanaethau hyn yn cael eu comisiynu gan lywodraeth leol yn hytrach na Llywodraeth Cymru, a gaf fi ofyn sut y bydd eich adolygiad yn mynd i’r afael â’r materion penodol hyn?
14:30 - Leighton Andrews
Credaf fod y pwynt wedi’i wneud eisoes gan yr Aelod dros Arfon, mewn cwestiwn cynharach. Ac fel y dywedais wrtho, rydym wedi trafod y materion hyn yn y grŵp arbenigol ar drais yn erbyn menywod yr wythnos diwethaf, gyda Cymorth i Fenywod Cymru. Rwyf am i’r cynghorydd cenedlaethol ar gyfer trais yn erbyn menywod edrych ar y materion hyn gyda’r sefydliadau trydydd sector. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud nad yw llochesau wedi datblygu ar sail gynlluniedig ledled Cymru, ac mae’r dosbarthiad ohonynt yn amrywio. Mae’n bwysig ein bod yn newid i gynllunio’r adnoddau hynny’n well, a dyna rydym wrthi’n ei wneud ar hyn o bryd.
14:30 - Peter Black
Wel, diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae hynny’n ddefnyddiol iawn. Rwy’n meddwl mai rhan o’r broblem yw’r ffordd y comisiynir y gwasanaethau hyn. Mae gennyf ddiddordeb yn eich dull o weithredu hyn drwy eich cynghorydd cenedlaethol. A ydych yn awgrymu, yn y dyfodol, eich bod yn edrych ar broses a gomisiynir yn ganolog ledled Cymru, neu a ydych yn ystyried gweithio gyda llywodraeth leol a’r trydydd sector a gwasanaethau iechyd er mwyn ceisio rhesymoli’r gwasanaethau y maent yn eu darparu?
14:30 - Leighton Andrews
Rydym yn sicr yn gobeithio symud, maes o law, tuag at fodel comisiynu rhanbarthol, ac mae gwaith eisoes ar y gweill yn hynny o beth yng Ngwent, er enghraifft. Bydd hynny’n golygu ymgysylltu, gadewch i mi ddweud, rhyngom ni, llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd, a sefydliadau trydydd sector. Byddwn yn ceisio cyflwyno model comisiynu mwy rhanbarthol ledled Cymru, tuag at ddechrau blwyddyn ariannol 2017-18 yn ôl pob tebyg, gan edrych ar y profiad sydd gennym o’r hyn a wnaed yng Ngwent.
14:31 - Peter Black
Mae hynny’n ddefnyddiol iawn. Y mater arall a gododd Cymorth i Fenywod Cymru gyda’r pwyllgor oedd yr anghysondeb o fewn Llywodraeth Cymru ei hun. Hynny yw, mae’n amlwg eich bod yn goruchwylio’r mater hwn, ond roeddent yn cyfeirio at adrannau eraill yn y Cynulliad i ystyried y materion hyn, megis datblygu economaidd. Rwy’n meddwl tybed pa waith trawsbynciol sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i geisio cael dull mwy cydgysylltiedig o drin materion trais domestig ym mhob adran.
14:31 - Leighton Andrews
Wel, mae’r Ddeddf a basiwyd gennym, yn amlwg, yn berthnasol i’r Llywodraeth gyfan, ac mae yna gyfrifoldeb ar draws y Llywodraeth gyfan. Mae’r prif gyllidebau ar gyfer hyn yn dod i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi a minnau, ac yn amlwg, mae’r rhain yn faterion rydym wedi’u trafod, gan gynnwys edrych ar y model comisiynu rhanbarthol rhwng ein hadrannau. Ond mae yna ddeialog reolaidd rhwng swyddogion ar y materion hyn.
14:32 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Symudwn yn awr at lefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
14:32 - Simon Thomas
Diolch, Lywydd, ac rwy’n aros gyda thrais yn y cartref, Weinidog. Roeddech chi’n glir iawn yn ateb cwestiynau gynnau fach yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu torri’r arian sy’n mynd i’r gwasanaethau hyn. Ond, wrth gwrs, mae llawer o gwestiynau wedi cael eu codi ynglŷn â thoriadau ar lefel leol. A ydych chi wedi cael, neu a ydych chi wedi ceisio, sicrhad gan awdurdodau lleol nad ydyn nhw’n bwriadu torri’r gwasanaethau hyn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf?
14:32 - Leighton Andrews
Rydym wedi dweud yn glir iawn wrth lywodraeth leol fod y rhain yn wasanaethau pwysig. Yn amlwg, rwyf wedi diogelu—wel, rwyf wedi mwy na diogelu—y gyllideb; mewn gwirionedd, rydym wedi ychwanegu at y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Wrth i ni symud tuag at fodel comisiynu rhanbarthol, rwy’n credu y bydd hwnnw’n rhoi gwell ffocws cynllunio i ni ar gyfer darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Ac yn sicr, rydym yn ymwybodol iawn o’r materion sy’n cael eu crybwyll gan Cymorth i Fenywod Cymru, ac yn wir, fe’u trafodasom yr wythnos diwethaf.
14:33 - Simon Thomas
Diolch am yr ateb. Rydych chi eisoes wedi crybwyll y comisiynu rhanbarthol yma, ac, wrth ateb Peter Black, fe wnaethoch chi sôn yn benodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18. Ac, wrth gwrs, y pryd hynny hefyd, mae’r Ddeddf trais yn erbyn menywod yn dod i rym yn llawn o safbwynt y bwriad i gyflwyno canllawiau statudol ynglŷn â darparu gwasanaethau. A fedrwch chi gadarnhau, felly, ei bod yn fwriad gyda chi i fynd â’r canllawiau statudol law yn llaw â darparu’r gwasanaethau a’r arian fydd ar gael? Hynny yw, gallwn ni ddisgwyl gweld yr hyn rydych chi newydd ei grybwyll a’i amlinellu yn y Siambr yn dod i rym yn ystod y flwyddyn ariannol honno, gyda chefnogaeth canllawiau statudol y tu ôl iddi hi.
14:34 - Leighton Andrews
Wel, rwy’n meddwl mai’r ateb yn fras i’r cwestiwn a ofynnodd yw ‘gallaf’. I egluro: yn amlwg, mae’r model comisiynu rhanbarthol eisoes ar waith gennym yng Ngwent, ac rydym yn dysgu o hwnnw. Edrychais ar y posibilrwydd o wneud i hyn ddigwydd yn gyflymach, ond byddai hynny wedi golygu trawsnewid anodd iawn i’r holl sefydliadau trydydd sector sydd ar hyn o bryd yn darparu rhai o’r gwasanaethau hynny, a byddai hynny wedi golygu mwy o ansicrwydd yn y flwyddyn ariannol nesaf, fel petai. Felly, rwy’n credu bod rhaid i ni symud hyn ymlaen fesul cam, ond nid wyf yn meddwl bod rheswm pam hefyd na ddylai hynny, wrth i ni ddatblygu’r canllawiau, lywio rhai o’r penderfyniadau cyllido y mae angen i ni eu gwneud.
14:34 - Simon Thomas
Wel, diolch i chi, Weinidog, ac i symud at rywbeth ychydig yn wahanol, fel y maent yn ei ddweud, fe fyddwch yn cofio Michael Gove. [Chwerthin.] Mae ef a’r Prif Weinidog wedi dweud rhywbeth eithaf diddorol, yn fy marn i, ynglŷn â diwygio carchardai yn ystod y dyddiau diwethaf, rhywbeth, efallai, y bydd gennych chi ddiddordeb, fel y mae gennyf i ddiddordeb yn sicr, mewn gweld a allwn wneud defnydd ohono yma yng Nghymru, oherwydd os ydym am symud tuag at system garchar sy’n diwygio yna mae rhai cwestiynau’n codi am y carchar mawr yn Wrecsam a pha un a yw hwnnw, mewn gwirionedd, yn addas i’r diben. Ond mae cwestiynau’n codi hefyd ynglŷn â’r ffordd rydym yn ymdrin â menywod yn ein system farnwrol a throseddwyr ifanc, maes y gwn eich bod â diddordeb arbennig ynddo ac yn bryderus yn ei gylch. Pa gyfle a gewch yn awr i ailgysylltu â Michael Gove i ddatblygu ymagwedd Gymreig amlwg at droseddwyr benywaidd a throseddwyr ifanc yng Nghymru?
14:35 - Leighton Andrews
Lywydd, ffoniodd Michael Gove fi ddoe —[Chwerthin.]—i drafod yr adroddiad a gyhoeddwyd ddoe, yr adolygiad interim ar droseddau ieuenctid, a chawsom sgwrs gychwynnol ynglŷn â rhai o oblygiadau hwnnw i Gymru. Mae’r adolygiad hwnnw, wrth gwrs, yn codi’r posibilrwydd, wrth i’r adolygiad fynd rhagddo, y bydd yn ystyried datganoli cyllidebau a chomisiynu i Gymru. Dyna rywbeth, yn amlwg, y byddem yn hoffi ymwneud ag ef ac y byddwn yn ei ddatblygu.
14:36 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Ni ofynnir cwestiwn 3 [OAQ(4)0675(PS)] y prynhawn yma.
Cyllid Llywodraeth Leol
14:36 - Gwyn R. Price
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(4)0678(PS)
14:36 - Leighton Andrews
Mae mwyafrif y cyllid a ddarperir i lywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddarparu drwy’r setliad refeniw. Cyhoeddais y setliad dros dro ar gyfer 2016-17 ar 9 Rhagfyr. Roedd y gostyngiad cyfartalog o 1.4 y cant yn sylweddol well nag a ragwelwyd.
14:36 - Gwyn R. Price
Diolch am eich ateb. Weinidog, a ydych yn cytuno y bydd y setliad gwell yn rhoi’r cyfle i gynghorau Cymru ddiogelu mynediad y rhai sy’n agored i niwed at wasanaethau fel gofal cymdeithasol a bod hyn yn cyferbynnu’n llwyr â’r toriadau anferth yn Lloegr?
14:36 - Leighton Andrews
Ydw, yn wir, ac mae fy nghyd-Aelod yr Aelod dros Islwyn yn gywir i ofyn y cwestiwn hwn, a gwn y bydd yn gweithio gyda’i gydweithwyr yng Nghaerffili i sicrhau bod y gwasanaethau sy’n cael eu darparu, megis gofal cymdeithasol, yn cael eu diogelu ar lefel leol. Rydym wedi diogelu’r cyllid ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Golyga hyn nad yw llywodraeth leol yng Nghymru wedi profi’r un lefel o doriadau â chynghorau Lloegr.
14:37 - Russell George
Weinidog, y cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol yw diogelu gwasanaethau cymdeithasol a chyllidebau addysg. Yn amlwg, dyma feysydd mwyaf awdurdodau lleol o ran cyllidebau. O ganlyniad i’r swm mawr o arbedion sy’n rhaid eu gwneud mewn meysydd eraill, ac o ystyried y ffaith y byddai llawer iawn o arbedion wedi’u gwneud eisoes yn y meysydd hynny, a gaf fi ofyn pa mor gynaliadwy yw hyn yn eich barn chi?
14:37 - Leighton Andrews
Wel, Lywydd, rwy’n siomedig, gan fod yr Aelod yn aelod o Gyngor Sir Powys, na chychwynnodd drwy groesawu’r arian ychwanegol a ganfu’r Gweinidog cyllid ar gyfer ei awdurdod lleol. Credaf y byddai wedi bod yn hael iawn pe bai wedi gwneud hynny, ond ni wnaeth. Rydym wedi sicrhau bod arian ychwanegol ar gael ar gyfer yr awdurdod lleol hwnnw. Rydym hefyd wedi sicrhau bod arian ychwanegol ar gael yn gyffredinol, wrth gwrs, o ran gwasanaethau cymdeithasol, a thrwy gydol oes y Cynulliad hwn rydym wedi anrhydeddu ein hymrwymiad i sicrhau bod llywodraeth leol yn elwa o wariant ychwanegol ar gyfer ysgolion sydd 1 y cant yn uwch na’r arian a gawn gan Lywodraeth y DU ar gyfer addysg.
14:38 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Grwpiwyd cwestiwn 5 gyda chwestiwn 2, felly symudwn yn awr at gwestiwn 6, sef Keith Davies.
Setliad Llywodraeth Leol 2016-17
14:38 - Keith Davies
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith setliad llywodraeth leol 2016-17 ar orllewin Cymru? OAQ(4)0666(PS)[W]
14:38 - Leighton Andrews
Fe wnes i gyhoeddi’r setliad dros dro ar gyfer 2016-17 ar 9 Rhagfyr. Y gostyngiad ar gyfartaledd oedd 1.4 y cant ac roedd hynny gryn dipyn yn well na’r disgwyl.
14:39 - Keith Davies
Diolch, Weinidog. Hoffwn groesawu’r ymrwymiad a ddangoswyd gan Lywodraeth Lafur Cymru i ysgolion drwy ddarparu cynnydd o 1 y cant ar gyfer cyllidebau ysgolion yn y setliad llywodraeth leol yng Nghymru. Fodd bynnag, yn sir Gâr mae’r weinyddiaeth sy’n cael ei harwain gan Blaid Cymru yn cynllunio ei chyllideb ddrafft i dorri cyllidebau ar gyfer ysgolion gan £3.6 miliwn mewn termau real. A ydych yn cytuno â mi bod Plaid Cymru yn gadael ein pobl ifanc i lawr yn sir Gâr?
Wel, a gaf fi ddweud wrth fy nghyd-Aelod yr Aelod dros Lanelli ei bod yn amlwg fod y setliad rydym wedi’i ddarparu yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddiogelu cyllid ysgolion er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer plant Cymru? Byddwn yn siomedig iawn os ceir unrhyw awdurdod lleol nad yw’n trosglwyddo’r arian hwnnw yn syth i’r ysgolion yn ei ardal, ac rwy’n sicr os yw fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Lanelli, yn meddwl bod problemau penodol yn Sir Gaerfyrddin, fe fydd yn dymuno tynnu sylw’r Gweinidog Addysg a Sgiliau atynt.
14:40 - Suzy Davies
Weinidog, er gwaethaf setliad ffafriol a’r si ynglŷn â chynnydd o tua 5 y cant yn nhreth y cyngor, mae cyngor Abertawe yn ystyried toriadau o £400,000 i’r ddarpariaeth o leoliadau preswyl i blant, £97,000 i lyfrgelloedd a £90,000 i Bwll Cenedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Fe gofiwch mai dyma’r cyngor a fethodd â gwneud cais am ail gyfran o daliadau tai yn ôl disgresiwn, a dychwelyd bron i £1 filiwn gan na allai ei wario ar leihau tlodi. Barn eich Llywodraeth chi yw bod gofal priodol a chyswllt â threftadaeth a chwaraeon yn gwella cyfleoedd bywyd plentyn, felly sut rydych chi’n sicrhau nad yw awdurdodau lleol, wrth wneud dewisiadau ynglŷn ag arbedion, yn tanseilio amcanion polisi eich Llywodraeth?
14:40 - Leighton Andrews
Wel, nid ydym yn dweud wrth lywodraeth leol sut i wario’r arian a gânt gan Lywodraeth Cymru. Nid ydym yn dyrannu cyllidebau wedi’u neilltuo . Credaf fod pob awdurdod lleol yn glir ynglŷn â’u cyfrifoldebau statudol ac ynglŷn â’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl ganddynt. Byddwn yn dweud ei bod yn gyfnod anodd ar bob cyngor yng Nghymru, o ba liw bynnag yn wleidyddol, a bod pob cyngor yn wynebu heriau anodd iawn oherwydd toriadau Llywodraeth Geidwadol y DU.
Y Bil Undebau Llafur
14:41 - David Rees
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wrthwynebiad Llywodraeth Cymru i Fil Undebau Llafur Llywodraeth y DU? OAQ(4)00668(PS)
14:41 - Leighton Andrews
Ysgrifennais at y Gweinidog, Nick Boles, yn dilyn penderfyniad y Cynulliad hwn i wrthod cydsyniad deddfwriaethol. Rwyf wedi cael sgwrs dros y ffôn gydag ef ers hynny. Mae Llywodraeth y DU yn amlwg yn ymwybodol o wrthwynebiad y Cynulliad Cenedlaethol i’r Bil.
14:41 - David Rees
Diolch am eich ateb, Weinidog, a chyn i mi ofyn fy nghwestiwn, hoffwn gofnodi fy mod yn aelod o Unite the Union, a fy rôl flaenorol fel swyddog lleyg Undeb Prifysgolion a Cholegau i’r undeb llafur. Yn dilyn y cwestiynau ddoe i’r Prif Weinidog ar y mater hwn, mae’n amlwg fod Gweinidogion Torïaidd a chyfreithwyr Llywodraeth y DU yn anghytuno â’i gilydd ynglŷn ag effaith y Bil yma yng Nghymru. Weinidog, rwy’n sicr eich bod yn cytuno bod rôl undebau llafur yn hanfodol o ran sicrhau bod gweithwyr yn cael eu cefnogi a’u diogelu rhag heriau i’w hawliau a’u gallu i weithio’n ddiogel, ymhlith llawer o bethau eraill. Mae’n amlwg mai ymosodiad ideolegol ar undebau llafur gan y Torïaid yw hyn er mwyn sicrhau bod y safbwyntiau hynny’n cael eu gwanhau. A fyddwch yn parhau i atgoffa Torïaid y DU nad yw hyn, mewn gwirionedd, yn gymwys yma yng Nghymru, a bod y Cynulliad hwn wedi gwneud datganiad cryf yn gwrthwynebu gosod Bil undebau llafur ar ein gweithwyr sector cyhoeddus?
14:42 - Leighton Andrews
Mae fy nghyd-Aelod yr Aelod dros Aberafan yn hollol gywir i ofyn ei gwestiwn yn y ffordd honno. Fel y gwyddom erbyn hyn, credaf fod Llywodraeth y DU wedi cael cyngor cyfreithiol ynglŷn â’r Bil hwn sy’n ei gwneud yn glir mai achos gwan iawn sydd ganddi i ddeddfu mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Wrth gwrs, eglurodd y Prif Weinidog ein safbwynt ar hyn ddoe. Gwn fod rhai yn ceisio gwneud newidiadau yn Nhŷ’r Arglwyddi er mwyn mynegi pryderon Llywodraeth Cymru, ac mae’n siŵr y cânt eu trafod wedi hynny, a byddaf yn rhoi tystiolaeth yfory i bwyllgor Tŷ’r Arglwyddi ar y mater hwn. Ond gadewch i mi fod yn glir: os aiff Llywodraeth y DU yn ei blaen a cheisio deddfu mewn perthynas â Chymru, byddwn yn gweithio ar Fil Cymru, yn y Cynulliad nesaf, i ddeddfu’n gyflym i ddiddymu darpariaethau allweddol y Bil Undebau Llafur fel yr effeithiant ar Gymru.
14:43 - William Graham
Oni fyddai’r Gweinidog yn cytuno â mi fod y Bil hwn, mewn gwirionedd, yn fesur gwych i ddiogelu hawliau unigol aelodau undebau llafur o ran cytuno neu beidio â chytuno i gael streic? Dyma’r tro cyntaf i’r ddeddfwriaeth hon gynnig hynny, lle y mae pleidlais pob aelod yn cyfrif, ac os yw’r Gweinidog yn pryderu cymaint am ddarpariaethau’r Bil hwn, efallai y gallai ddod yn welliant i’r Bil Cymru cyfredol.
14:44 - Leighton Andrews
Credaf fod yn rhaid i chi ofyn pa broblem y mae’r Bil yn ceisio’i datrys. Ble mae’r meddygon iau ar streic heddiw? Yn Lloegr, nid yng Nghymru. Nid oes gennym broblem ynghylch streiciau yn y sector cyhoeddus yma yng Nghymru. Nid yw hwn, i ddefnyddio geiriau’r Aelod, yn ‘fesur gwych’. Yn wir, mae’n amlwg nad yw cyfreithwyr Llywodraeth y DU, hyd yn oed, yn credu ei fod yn fesur gwych, gan eu bod dweud yn glir iawn eu bod ar dir gwan iawn mewn perthynas â Chymru.
14:44 - Bethan Jenkins
Roeddwn i eisiau dechrau lle roeddech chi wedi gorffen, Weinidog, achos mae un elfen o’r llythyr hwnnw yn dweud bod angen tynnu yn ôl ymhellach yng Nghymru a’r Alban yn sgil barn y Llywodraethau hynny, a barn y Senedd yma. Pa drafodaethau rydych chi wedi’u cael yn hynny o beth, a pha drafodaethau rydych chi wedi’u cael gydag undebau llafur, sydd yn dweud nad yw’r confensiynau yn y llythyr penodol hynny yn mynd yn ddigon pell?
14:45 - Leighton Andrews
Wel, fel y dywedais yn fy ateb cynharach, bûm yn siarad â Gweinidog perthnasol y DU ddydd Gwener. Rwyf wedi cael cyfarfodydd rheolaidd gyda’r undebau llafur ac wedi cyfarfod gyda TUC Cymru a’u cynghorydd cyfreithiol yn ystod y pythefnos diwethaf, yn sicr. Rwyf wedi cael cyfarfodydd eraill gydag undebau llafur ac rwyf wedi cael trafodaethau gyda chynrychiolwyr eraill yn San Steffan sy’n feirniadol o ddarpariaethau’r Bil Undebau Llafur. Rydym yn glir iawn yn ein gwrthwynebiad i’r Bil, a byddwn yn parhau â’r gwrthwynebiad hwnnw, ac yn gwrthdroi darpariaethau’r Bil Undebau Llafur os oes angen, pe bai’n cael ei basio gan San Steffan yn ei ffurf bresennol.
Dyfodol y Gwasanaethau Tân
14:45 - Ann Jones
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y gwasanaethau tân yng Nghymru? OAQ(4)0664(PS)
14:45 - Leighton Andrews
Rwyf wedi ymrwymo i gynnal record wych y gwasanaeth tân ac achub o ddiogelu pobl a chymunedau.
14:45 - Ann Jones
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. A gaf fi holi am sicrwydd gennych ar ran y gwasanaeth tân yng Nghymru na fyddwch yn caniatáu i’r comisiynwyr heddlu a throseddu gymryd yr awenau o ran y gwaith o redeg y gwasanaethau tân yma yng Nghymru?
14:46 - Leighton Andrews
Gallaf gadarnhau na fyddwn yn caniatáu i’r comisiynwyr heddlu a throseddu redeg y gwasanaethau tân yng Nghymru. Byddai cynigion Llywodraeth y DU yn peryglu gallu’r gwasanaethau tân i atal tanau bwriadol ac i ymgysylltu â’r gymuned, byddent yn darostwng gwasanaeth cyhoeddus datganoledig i reolaeth corff heb ei ddatganoli ac ni fyddai’n arwain at unrhyw arbedion ariannol. Nid oes unrhyw beth i’w ganmol am y cynigion ac ni fyddant yn digwydd yma.
14:46 - Angela Burns
Yng nghyllideb 2016-17, mae’r llinell wariant gyfunol ar gyfer y gwasanaethau tân ac achub wedi disgyn 8.8 y cant dros y ddwy linell wariant ar wahân yn y gyllideb ar gyfer cadernid gwasanaethau tân ac achub a’r fframwaith tân ac achub. Os cyfunwch hynny gyda’r prosiect i gysoni’r dreth gyngor, a allai gymryd hyd at naw mlynedd i awdurdodau lleol ei weithredu ac a fyddai hefyd yn cael effeithiau canlyniadol ar awdurdodau tân ac achub, byddai gwasanaethau tân o dan bwysau aruthrol. Beth a wnewch, Weinidog, i sicrhau na fydd gwasanaethau tân megis canolbarth a gorllewin Cymru yn cael eu peryglu ymhellach gan y gostyngiadau hyn gan roi bywydau pobl mewn perygl?
14:47 - Leighton Andrews
Wel, yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, rydym wedi gallu darparu rhagor o arian i ganolbarth a gorllewin Cymru, er enghraifft, i brynu drôn. Felly, rydym wedi bod yn barod iawn i dderbyn ceisiadau am gymorth pellach gan awdurdodau tân ac achub. Credaf ei bod yn bwysig iddi edrych yn ofalus ar y gyllideb, oherwydd bu’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn craffu ar fy ngwaith ar hyn a bu’n rhaid i mi esbonio rhai o’r newidiadau a wnaed. Rydym yn hyderus fod yr awdurdodau tân ac achub yn cael digon o adnoddau. Rydym yn falch o’u llwyddiant yn lleihau’r nifer o danau dros y blynyddoedd diwethaf, ac maent yn ymgysylltu’n weithgar iawn â’r agenda diogelwch cymunedol, ac rydym yn croesawu hynny.
14:48 - Rhun ap Iorwerth
Mi gefais i gyfarfod ardderchog efo swyddogion tân yng Nghaergybi yn ddiweddar. Maen nhw’n griw cwbl ymroddedig i’w gwaith nhw, ond mae’n bryder ganddyn nhw, fel finnau, fod problem recriwtio swyddogion tân wrth gefn, neu ‘retained’, yn creu problemau gwirioneddol i ddarparu cyfar tân mewn ardaloedd gwledig fel Ynys Môn. A ydy’r Gweinidog yn cytuno, felly, fod angen i ymgyrchoedd recriwtio ganolbwyntio’n wirioneddol ar y lleol a phwysleisio bod swyddogion tân ‘retained’ yn darparu gwasanaeth hanfodol i’w cymunedau nhw?
14:48 - Leighton Andrews
Ategaf yr hyn y mae’r Aelod wedi’i ddweud o ran y rôl bwysig sydd gan ddiffoddwyr tân wrth gefn mewn gorsafoedd megis Caergybi, ond gadewch i mi ddweud bod yr awdurdodau tân ac achub wedi cyfuno i gynnal ymarfer recriwtio ledled Cymru dros y misoedd diwethaf, a chawsant lawer iawn o ymgeiswyr mewn perthynas â hynny. Yn wir, mae’r lefel yn llawer uwch na nifer y swyddi gwag sydd ar gael. Felly, rwy’n hyderus fod y recriwtio sy’n cael ei wneud gan y gwasanaeth tân ac achub yn cyflawni’r hyn sydd ei angen.
14:49 - Aled Roberts
Weinidog, mae ymgynghoriad awdurdod tân y gogledd yn ei gwneud hi’n glir, heblaw am y broses recriwtio rydych chi newydd gyfeirio ati, mai, erbyn hyn, dim ond naw brigâd dân, neu beiriant, yn y gogledd sy’n cael ei staffio gan weithwyr llawn amser. Maen nhw’n dweud, o achos hynny, eu bod nhw’n symud oddi wrth y model o gael dynion tân wrth gefn i sefyllfa lle maen nhw’n edrych ar ddynion tân sydd ar gytundeb llawn ond sydd yn rhan amser. A ydy hynny, felly, yn batrwm y bydd yn rhaid ei ystyried ar draws Cymru wrth gofio, wrth gwrs, fod y broblem yma efo dynion tân wrth gefn, mae’n ymddangos yn yr ymgynghoriad, yn un sy’n cynyddu?
14:50 - Leighton Andrews
Wel, credaf mai materion i’r awdurdodau tân ac achub yw’r penderfyniadau hyn ar y cyfan. Felly, o ran gogledd Cymru, mae’n rhaid i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru wneud y penderfyniadau cywir i gefnogi’r broses o staffio’r gorsafoedd yn ei ranbarth ei hun. Fel y dywedais, credaf fod y tri awdurdod tân ac achub yng Nghymru wedi cynnal ymarfer recriwtio, ac mae hynny’n amlwg wedi cael cefnogaeth dda iawn ac maent wedi cael nifer uchel iawn o ymgeiswyr ar gyfer yr ymarfer recriwtio hwnnw.
Diogelwch Cymunedol
14:50 - Altaf Hussain
9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch cymunedol yng Nghymru? OAQ(4)0669(PS)
14:50 - Leighton Andrews
Fel rhan o’n gwaith ar ddiogelwch cymunedol, rydym wedi darparu cyllid ar gyfer 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol yng Nghymru.
14:51 - Altaf Hussain
Weinidog, oni bai fod gennym gymunedau hollol integredig, mae diogelwch cymunedol a chydlyniant cymunedol mewn perygl. Mae parch at gyfreithiau’r Deyrnas Unedig a pharch at y rhai sy’n plismona’r cyfreithiau hynny yn rhan annatod o gymuned wirioneddol integredig. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo parch tuag at yr heddlu ar draws holl gymunedau Cymru?
14:51 - Nick Ramsay
Clywch, clywch. Cwestiwn da.
14:51 - Leighton Andrews
Mae’n gwestiwn pwysig. Yn amlwg, rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’r heddlu a chredaf eu bod hwy eu hunain yn ymwneud ag ystod eang o weithgareddau cydlyniant cymunedol. I ddangos hynny, rwy’n credu, yn y misoedd diwethaf, er enghraifft, gyda’r Gweinidog Addysg a Sgiliau a’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, rydym wedi bod yn edrych ar faterion sy’n ymwneud ag atal eithafiaeth; rydym wedi bod yn edrych ar fynd i’r afael â materion fel Islamoffobia yng Nghymru. Rydym hefyd wedi cael trafodaethau rheolaidd gyda’r heddluoedd yng Nghymru ar y materion hyn. Credaf eu bod yn sensitif iawn i’r materion hynny o ran y modd y cânt eu datblygu yn holl gymunedau Cymru, gan gydnabod ein bod yn dymuno adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau yng Nghymru, ond ein bod hefyd eisiau sicrhau cydlyniant cymunedol. Gadewch i mi ddweud bod yr heddlu’n weithgar iawn hefyd o ran targedu’r eithafwyr asgell dde a fyddai’n gwneud niwed difrifol i amrywiaeth ein cymunedau yng Nghymru.
14:52 - John Griffiths
Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gymeradwyo’r gyfres o ddigwyddiadau diwrnod agored y mosgiau a gynhaliwyd ddydd Sul diwethaf? Mynychais un yng Nghasnewydd, ynghyd â’r Llywydd a gwleidyddion lleol blaenllaw eraill, ac roedd yn galonogol iawn gweld gwahanol rannau o’r gymuned yn dod at ei gilydd, a dysgu mwy am y ffydd Fwslimaidd a datblygu cysylltiadau. A ydych yn cytuno ei bod yn bwysig iawn fod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi integreiddio o’r fath yn ein cymunedau lleol?
14:53 - Leighton Andrews
Ydw, yn wir. Ac rwy’n ymwybodol iawn nad cyd-Aelodau o Gasnewydd yn unig a fynychodd y digwyddiadau hynny, a bod llawer o rai eraill wedi gwneud hynny, a’u bod wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau llwyddiannus i hyrwyddo mosgiau dros y penwythnos. Yn dilyn trafodaethau gyda’r Gweinidog Addysg a Sgiliau a’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, gadewch i mi ddweud bod fy adran i wedi cymryd rhan yn edrych ar ffyrdd y gallwn sicrhau mwy o fynediad gan Lywodraeth Cymru, ac yn wir, gan y Cynulliad Cenedlaethol, i amrywiaeth eang o sefydliadau o fewn y ffydd Fwslimaidd. Rydym wedi cynnal sesiynau grŵp yn ddiweddar yn y Cynulliad Cenedlaethol gyda hyd at 80 o gyfranogwyr mewn gwahanol grwpiau—dynion ifanc, menywod ifanc, dynion hŷn a menywod hŷn—a bu llawer o ymwneud â’r rheini. Mae’r ymgysylltiad wedi bod yn ardderchog ac rwy’n credu ei fod wedi rhoi llawer o syniadau i Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu yn y dyfodol.
14:54 - Llyr Gruffydd
Mae pryderon mawr yn ardal Wrecsam, Weinidog, ynglŷn ag eiddo a thai yn cael eu rhoi ar dân. Mae yna 55 achos o losgi ceir wedi bod yn Wrecsam yn y flwyddyn ddiwethaf. Nawr, mae’r heddlu wedi cyfaddef eu bod nhw’n methu â chael gwybodaeth o’r gymuned mewn rhai ardaloedd a bod hynny’n llesteirio ymdrechion i ddatrys y broblem. A fyddech chi, felly, yn cefnogi bwriad y cyngor cymuned ym Mharc Caia i gynnig gwobr o £1,000 er mwyn dal un o’r llosgwyr?
14:54 - Leighton Andrews
Wel, gadewch i mi ddechrau drwy ddweud bod llosgi bwriadol yn drosedd sy’n cael effaith ddinistriol ar unigolion a chymunedau mewn llawer o achosion. Ac mae llosgi bwriadol wedi bod yn destun cyfres o ymgyrchoedd gan yr holl awdurdodau tân ac achub yng Nghymru i geisio lleihau nifer yr achosion. Croesawaf ymdrechion gan sefydliadau lleol i geisio gweithio gyda’r heddlu i gyflwyno gwybodaeth am droseddwyr.
Fformiwla Llywodraeth Leol
14:55 - Mike Hedges
10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith fformiwla llywodraeth leol Cymru ar y gyfran o'r gyllideb ar gyfer 2016-17? OAQ(4)0665(PS)
14:55 - Leighton Andrews
Lywydd, mae pob awdurdod yn gyfrifol am bennu ei gyllideb, gan ystyried yr amrywiaeth o ffynonellau cyllid sydd ar gael iddo. Mae’r rhain yn cynnwys ei ddyraniad drwy’r setliad llywodraeth leol a ffynonellau megis grantiau, y dreth gyngor ac incwm o ffioedd a thaliadau.
14:55 - Mike Hedges
Diolch yn fawr, Weinidog. Er bod y fformiwla yn eithaf cymhleth, mae iddi dair prif elfen: newid poblogaeth neu boblogaeth gymharol, teneurwydd poblogaeth ac amddifadedd. Nid oes unrhyw beth ynddi ar gyfer lleoedd fel Caerdydd neu Abertawe sy’n darparu canolfannau rhanbarthol ac yn darparu gwasanaethau ar gyfer ardal fwy o lawer o ran orielau celf, ac yn y blaen, ac yn sicr, efallai fod angen iddi wneud hynny. Wrth gwrs, mae pawb yn meddwl y bydd newid i’r fformiwla yn golygu y byddant yn cael mwy o arian. Gyda’r un swm o arian yn y system, am bob un sy’n ennill, mae rhywun yn colli, ond pwy a gytunodd ar y fformiwla mewn gwirionedd?
14:55 - Leighton Andrews
Cytunir ar y fformiwla ariannu gyda llywodraeth leol drwy gyngor partneriaeth Cymru a’i is-grwpiau, gan gynnwys yr is-grŵp dosbarthu a’r is-grŵp cyllid. Fodd bynnag, wrth gwrs, yn ogystal â’r cynrychiolwyr llywodraeth leol ar y grwpiau hynny, ceir aelodau annibynnol sydd wedi dilysu’r elfennau o fewn y fformiwla. Felly, roedd yn gytundeb ar y cyd eleni, fel y mae bob amser.
14:56 - Janet Finch-Saunders
Weinidog, cawsom sesiwn dystiolaeth dda iawn y bore yma yn y pwyllgor, gyda thystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinwyr cynghorau eraill. Nawr, roedd un o’r cwestiynau sylfaenol a ofynnwyd yn ymwneud ag ariannu ad-drefnu a diwygio llywodraeth leol, ac fe ddywedoch yn hollol glir, wyddoch chi, mai mater i’r awdurdodau lleol yw ariannu hyn mewn gwirionedd. Weinidog, rydych wedi gweld y setliadau gwael rydych wedi’u rhoi i’n hawdurdodau lleol—[Torri ar draws.] O, do.
14:57 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Cwestiwn.
14:57 - Janet Finch-Saunders
Rydych wedi gweld y setliadau gwael iawn—rhai yn arbennig, wrth gwrs, y rhai mwy gwledig—. Sut ar y ddaear ydych chi’n disgwyl i’ch rhaglen ad-drefnu llywodraeth leol symud ymlaen a chithau eisoes wedi torri ein hawdurdodau gwledig at yr asgwrn?
14:57 - Leighton Andrews
A gaf fi ddechrau drwy atgoffa’r Aelod ei bod wedi pleidleisio ddoe yn erbyn yr arian ychwanegol ar gyfer Powys, Ceredigion a Sir Fynwy pan drafodwyd y gyllideb? Gadewch i mi siarad am yr ymgynghoriad—gadewch i mi siarad am y rhaglen ddiwygio llywodraeth leol. Rydym ar hyn o bryd yn y broses o ymgynghori ar hyn; daw’r ymgynghoriad i ben ddydd Llun. Gyda’r Bil drafft, rydym wedi cyhoeddi dadansoddiad effaith rheoleiddiol a dadansoddiad manwl o’r costau. Mae’n glir iawn o’n hamcangyfrifon, ac yn wir, o’r amcangyfrifon a ddarparwyd gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar gyfer Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fod modd gwneud arbedion mawr o ganlyniad i ad-drefnu llywodraeth leol. Nid oes unrhyw wahaniaeth yn y ffigurau. Mae Swyddfa Archwilio Cymru hefyd wedi dweud ei bod yn credu bod y ffigurau a gynhyrchwyd gennym yn amcangyfrif rhesymol o gostau tebygol uno a’r arbedion posibl tebygol. A gaf fi ddweud yn olaf fy mod yn ei hatgoffa bod y setliad llywodraeth leol yng Nghymru, unwaith eto, yn llawer gwell na’r setliad a roddwyd i gynghorau yn Lloegr gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan?
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
14:58 - Leanne Wood
11. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith addysgol Gwasanaeth Tân De Cymru? OAQ(4)0670(PS)
14:58 - Leighton Andrews
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gweithredu nifer o raglenni addysg effeithiol iawn. Mae’r rhain yn gwella diogelwch tân yn ogystal â dargyfeirio pobl ifanc rhag cyflawni troseddau sy’n gysylltiedig â thân.
14:59 - Leanne Wood
Weinidog, bu colli gorsaf dân y Porth yn ergyd fawr, nid yn unig i’r gymuned leol, ond i’r ardal ehangach, a gwasanaethodd yr orsaf hon a’i diffoddwyr tân teyrngar ac ymroddedig yn rhagorol. Rydym yn ymwybodol iawn o’r gorchestion roedd y diffoddwyr tân hyn yn eu cyflawni’n rheolaidd, ond roedd y gwaith addysgol y buont yn ei gyflawni y tu ôl i’r llenni hefyd yn hanfodol bwysig. Nawr, deallaf o siarad â chynrychiolwyr o’r orsaf mai diffoddwyr tân y Porth fyddai wedi bod yn cynnal yr ymweliadau ysgol a oedd yn digwydd yn flaenorol a’r gwaith a gâi ei wneud gyda’r oedolion ifanc yr ystyrid eu bod mewn perygl o droseddu, ond bod y gwaith hwnnw wedi lleihau’n ddramatig ers cau’r orsaf. Pa ddarpariaethau y gellir eu gwneud i sicrhau bod y gwaith addysgol hanfodol hwn yn digwydd cyn y cyfnod o danau glaswellt sydd ar fin dechrau? Yn ail, a ydych yn difaru na wnaeth eich Llywodraeth fwy i atal cau gorsaf dân y Porth, o ystyried bod gennych bwerau a dyletswyddau i sicrhau diogelwch y cyhoedd?
15:00 - Leighton Andrews
Wel, mae’n rhaid i mi gywiro’r Aelod ar gyfres o bwyntiau. Gadewch i mi ddechrau, fodd bynnag, drwy dalu teyrnged i waith ymladdwyr tân yn y Porth, y cyfarfûm â hwy ar sawl achlysur. Maent yn gwneud gwaith rhagorol yn y gymuned leol yn eu rôl fel diffoddwyr tân, ond hefyd o ran y gwaith addysgol a chymunedol y maent wedi’i wneud hefyd. Mae’r Aelod yn gwbl anghywir o safbwynt Llywodraeth Cymru a’i phwerau. Materion ar gyfer awdurdod tân ac achub de Cymru yw’r rhain.
O ran y rhaglenni addysgol, gadewch i mi ddweud bod y rhaglenni addysgol yn parhau. Rwy’n credu mai yn ystod yr wythnos diwethaf y lansiodd awdurdod tân ac achub de Cymru raglen addysg Bernie, sy’n ymwneud â thanau mynydd a thanau glaswellt, yn Ysgol Gynradd Parc y Darren yng Nglynrhedynog yn y Rhondda. Mae’n ddrwg gennyf nad oedd yr Aelod yn ymwybodol o hynny. Mae diffoddwyr tân o awdurdod tân ac achub de Cymru wedi hen fwrw iddi gyda’r gwaith o gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau addysgol ledled yr ardal.
15:01 - Andrew R.T. Davies
Weinidog, mae tanau glaswellt yn broblem ddifrifol iawn yn ne Cymru. Rydym ar drothwy’r gwanwyn yn awr ac yn eironig, yn y gwanwyn y cafwyd y tanau glaswellt gwaethaf y llynedd, gan fod yr haf braidd yn wlyb. A allwch chi roi gwybod i’r Siambr—gan eich bod wedi sefydlu gweithgorau amrywiol i gynorthwyo’r gwasanaeth tân yn eu gwaith, ym maes addysg ac i fynd i’r afael â’r tanau hyn—pa syniadau newydd a allai fod gennych o’r gweithgorau hynny ar gyfer gwella gallu’r gwasanaeth tân yn ne Cymru, ac yn wir ledled Cymru, i fynd i’r afael â’r fandaliaeth ofnadwy hon sy’n difetha cynifer o gymunedau?
15:01 - Leighton Andrews
Mae’r Aelod yn iawn i grybwyll y mater. Fe gofiwch fod y Prif Weinidog a minnau wedi cynnal uwchgynhadledd ar danau glaswellt a oedd yn cynnwys aelodau o’r awdurdodau lleol yn Ne Cymru, gwasanaeth tân ac achub de Cymru, Heddlu De Cymru ac eraill, ac rydym wedi gwneud buddsoddiadau i gynorthwyo’r gwasanaethau tân ac achub. Cyfeiriais yn gynharach at y cerbyd awyr di-griw, a adwaenir yn gyffredin fel drôn, a ddarparwyd gennym ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru, ac a fydd yn cael ei ddefnyddio y tu hwnt i ffiniau awdurdodau tân ac achub canolbarth a gorllewin Cymru. Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn cyfarpar ychwanegol ar ffurf cerbydau ar gyfer tân ac achub de Cymru yn ogystal. Fel y soniais wrth ateb y cwestiwn cynharach, wrth gwrs, mae awdurdod tân ac achub de Cymru yn parhau â’i waith addysgol yn y gymuned. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud bod ein hymgysylltiad dros y 12 mis diwethaf wedi rhoi mwy o sylw i’r mater hwn a ffocws o’r newydd, rwy’n credu, gan asiantaethau megis yr heddlu. Roeddwn yn falch o weld yr erlyniadau a ddigwyddodd y llynedd o ganlyniad i weithgaredd cyfunol rhwng awdurdodau tân ac achub a’r heddlu.
15:02 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Diolch yn fawr, Weinidog.
3. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cau Canghennau Banc
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 3, sef dadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21. Galwaf ar Julie Morgan i gynnig y cynnig.
Cynnig NNDM5942 Julie Morgan, Elin Jones, Darren Millar, Aled Roberts
Cefnogwyd gan Christine Chapman, Janet Finch-Saunders, Russell George, Rhun ap Iorwerth, Mark Isherwood, Jenny Rathbone, John Griffiths, Mike Hedges, David Rees, Sandy Mewies, Llyr Gruffydd, Ann Jones, Alun Ffred Jones, Gwyn Price, Joyce Watson.
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at nifer y canghennau banc sydd wedi’u cau yng Nghymru ac, yn arbennig, pa mor aml y mae canghennau yn cael eu cau hyd yn oed pan mai’r gangen banc yw’r banc olaf yn yr ardal.
2. Yn galw ar fanciau i ystyried effaith cau canghennau banc ar gymunedau trefol a gwledig ac unigolion, yn enwedig pobl hŷn a busnesau bach, cyn i benderfyniadau terfynol gael eu gwneud ynghylch eu cau.
3. Yn galw ar fanciau i gynnal ymgynghoriad ystyrlon, gan gynnwys sefydliadau cymunedol lleol, sefydliadau pensiynwyr a grwpiau busnes cyn dod i benderfyniadau terfynol ynghylch cau canghennau, yn enwedig pan mai’r gangen banc dan sylw yw’r unig un sydd ar ôl yn yr ardal.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol i sicrhau eu bod yn ystyried effaith cau canghennau banc wrth lunio eu polisïau perthnasol ar wasanaethau ariannol, datblygu economaidd a rheoleiddio ariannol.
Cynigiwyd y cynnig.
15:03 - Julie Morgan
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy’n falch iawn o fod wedi cael y ddadl hon ar gau banciau yng Nghymru heddiw. Hoffwn ddiolch i noddwyr trawsbleidiol fy nadl, Aled Roberts, Darren Millar ac Elin Jones. Bydd Aled Roberts yn cloi’r ddadl. Hoffwn ddiolch hefyd i holl Aelodau’r Cynulliad sydd wedi ymuno â’r ddadl a rhoi eu cefnogaeth. Rwy’n meddwl bod y nifer fawr yn dangos cryfder y teimlad ynglŷn â’r mater yma yn y Senedd.
Yn fy nghyflwyniad i’r ddadl, hoffwn sôn am raddau’r cau yng Nghymru, pa mor ystyrlon yw’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd gan y banciau cyn cau, a’r effaith ar unigolion a chwsmeriaid yn fy etholaeth fy hun.
Yn y DU, mae papur briffio i’r Tŷ’r Cyffredin yn 2015 yn dangos y duedd i gau canghennau banciau rhwng 1988 a 2012. Ym 1988, roedd yna 20,583 o brif fanciau a chymdeithasau adeiladu. Yn 2012, roedd yna 8,873—gostyngiad gwirioneddol enfawr. Felly, yn amlwg mae’n fater eang. Mae’n fater eang ar draws y ffin, nid yng Nghymru’n unig. Nodaf fod yr Aelod Seneddol dros Dde Clwyd, Susan Elan Jones, wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Busnes, Arloesedd a Sgiliau yn Nhŷ’r Cyffredin i alw am ymchwiliad llawn i gau banciau. Dyfynnaf o eiriau Susan Elan Jones, sy’n dweud:
Mae digonedd o wledydd yn y byd Gorllewinol na fyddai byth yn dioddef y math o ymddygiad gwael a gawn bellach gan ein banciau cenedlaethol fel y’u gelwir.
Rwy’n meddwl bod ymddygiad gwael o’r fath wedi’i weld yng Nghymru.
Yn ôl Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad, ymddengys nad oes rhestr yn cael ei chadw’n ganolog o ganghennau banciau yng Nghymru. Sefydlwyd yr Ymgyrch dros Wasanaethau Bancio Cymunedol i ymgyrchu dros barhau i ddarparu rhwydweithiau o ganghennau banciau, a dechreuodd gasglu data yn 2003. Ers 2011, mae’r Ymgyrch yn amcangyfrif bod 108 o ganghennau banciau yng Nghymru wedi cau—47 HSBC, 43 NatWest a 18 Barclays. Yn ystod y pythefnos diwethaf, cyhoeddwyd bod banciau eraill yn mynd i gau ac mae’n ymddangos fel pe bai trywydd diddiwedd o fanciau’n cau ledled Cymru. Erbyn hyn mae tua 30 o gymunedau un banc yng Nghymru wedi bod heb gangen o fanc o gwbl ers 2011, ac rwy’n meddwl y byddem i gyd yn cytuno bod honno’n sefyllfa anodd iawn i dref neu bentref—bod heb fanc o gwbl.
Gwelwyd cau’r banciau hyn ar hyd a lled Cymru, ac mae llawer o Aelodau’r Cynulliad wedi ymgyrchu yn erbyn eu cau. Ymgyrchais yn erbyn cau banc y NatWest yn Rhiwbeina, a chau banc Barclays ar y groesffordd yn Birchgrove, sydd—er yr holl ymdrechion—yn mynd i gau ar 19 Chwefror. Mae’r Aelod Cynulliad dros y Rhondda, Leighton Andrews, hefyd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn cau banciau yn ei etholaeth, yn enwedig y NatWest yn Pentre, Banc Lloyds yn y Porth a HSBC yn y Porth a Threorci. Gwn fod Jane Hutt wedi arwain yr ymgyrch i atal cau banc NatWest yn Llanilltud Fawr, a gaeodd fis Tachwedd diwethaf. Yn fuan wedyn, cafwyd cyhoeddiad fod banc Barclays hefyd yn cau. Rwy’n siŵr y bydd Aelodau eraill yn ystod y ddadl hon yn sôn wrthym am eu profiad o fanciau’n cau.
Gall cau cangen o fanc effeithio’n fawr ar gymuned, yn enwedig lle nad oes banc arall ar ôl, a dyna’n bendant yw’r sefyllfa yn Rhiwbeina pan gaeodd y banc yn fy etholaeth. Lleisiodd trigolion lleol lawer iawn o’u pryder wrthyf, yn enwedig trigolion oedrannus. Iddynt hwy, roedd llawer o’r teithiau i’r gangen leol yn rhan o’u ffordd o fyw. Y grŵp arall yr effeithir arno’n fawr iawn, wrth gwrs, yw masnachwyr bach, am fod angen i fasnachwyr bach fancio’u harian ar ddiwedd y dydd. Gall cau banc lleol fod yn ergyd farwol i gymuned o ran denu busnesau bach a galluogi busnesau bach i barhau. Byddwn yn gwneud y pwynt hefyd am elusennau bach lleol. Mae arnynt angen canghennau lleol i allu mynd i mewn ac ymdrin â hwy’n bersonol.
Dywedodd un o fy etholwyr yn Rhiwbeina ynglŷn â chau banc NatWest yn Rhiwbeina: ‘Rwy’n 93 mlwydd oed ac yn ei chael hi’n anodd mynd i swyddfa bost Heol Llanisien Fach, neu i fanc arall. Mae’r cymorth rwy’n ei gael gan staff y banc yn amhrisiadwy i fy helpu i aros yn annibynnol.’ Dywedodd etholwr arall yn Rhiwbeina wrthyf: ‘Rwyf wedi ysgrifennu llythyr cryf at NatWest yn dweud fy mod wedi bod yn gwsmer ers 60 mlynedd. Rwy’n teimlo fy mod wedi cael cam, ac rwy’n teimlo eu bod wedi bradychu fy ffydd ynddynt.’
Pan fydd banciau’n cyhoeddi eu bod yn bwriadu cau cangen, mae’n ymddangos i mi fod ymdrech fawr yn cael ei wneud fel arfer i geisio atal hyn, ond nid yw i’w weld yn gwneud unrhyw wahaniaeth. Cefais gyfarfodydd gyda staff banciau, gan gynnwys rheolwr rhanbarthol NatWest, a’r un peth gyda Barclays. Ysgrifennais lythyrau’n egluro pam y byddai’r cau yn niweidiol i fywydau a busnesau pobl. Rwyf wedi ysgrifennu at George Osborne, wedi trefnu deisebau ac wedi casglu gwybodaeth ar gyfer yr hyn a elwir yn ddatganiadau effaith. Eto i gyd nid yw’n ymddangos bod y datganiadau effaith hynny’n cael unrhyw effaith o gwbl. Ysgrifennodd Jane Hutt, Vaughan Gething a minnau lythyr ar y cyd at Sajid Javid, yr Ysgrifennydd Gwladol dros fusnes, ynglŷn â’r protocol ar gyfer cau yr ymddengys nad yw’n effeithio mewn unrhyw fodd o gwbl ar y penderfyniad terfynol. Gwn fod Jane Hutt hefyd wedi bod drwy broses debyg i minnau wrth geisio atal banc rhag cau yn ei hetholaeth. Er iddynt gadeirio cyfarfod cyhoeddus gyda nifer fawr o bobl yn bresennol, casglu llofnodion ar ddeiseb, darparu tystiolaeth ar yr effaith ar gwsmeriaid sy’n agored i niwed, cwsmeriaid oedrannus a busnesau, diystyrwyd hyn.
Gwyddom mai’r rheswm y mae banciau’n ei roi dros gau yw gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid a chynnydd mewn bancio ar-lein. Credaf nad oes unrhyw amheuaeth fod yn rhaid i ni dderbyn bod honno’n duedd; mae llawer mwy o bobl yn bancio ar-lein. Ond dywedodd llawer o fy etholwyr wrthyf eu bod wedi’u synnu’n fawr gan y ffigurau a gynhyrchwyd gan y banc o ran nifer y defnyddwyr rheolaidd sy’n arwain at benderfyniad i gau. Dywedodd un meddyg teulu lleol wrthyf ei bod yn synnu clywed y ffigur a roddwyd fel nifer defnyddwyr rheolaidd y gangen yn Rhiwbeina. Dywedodd: ‘Mae’n rhaid i mi ddweud, bob tro rwy’n mynd i mewn i’r gangen hon, mae yna giw. Mae defnydd da iawn arni, mae’n aml yn llawn o bobl oedrannus neu berchnogion busnesau lleol yn bancio’u henillion.’ Dyna’r argraff a gawn innau wrth ymweld â’r gangen honno hefyd. Yn Rhiwbeina, rwy’n falch o ddweud bod y banc o leiaf wedi cydnabod yr angen am ryw fath o wasanaeth parhaus, a bydd yn darparu fan bancio symudol wythnosol o 10 Mawrth ymlaen, a bydd yno am ddwy awr. Nid yw’n ddelfrydol yn bendant, ond o leiaf mae’n rhywfaint o help i gwsmeriaid.
Felly, un o’r pethau rwy’n credu bod angen inni edrych arno yw sut i sicrhau craffu annibynnol ar y ffigurau y mae banciau’n eu darparu ar niferoedd eu cwsmeriaid rheolaidd. Rwy’n credu hefyd y dylid cael rhagdybiaeth lwyr yn erbyn cau os mai’r banc yw’r olaf mewn ardal benodol. Nid wyf yn credu y dylai’r banciau fwrw ymlaen â’r cau os mai dyna’r unig fanc sydd yno, gan fod hynny’n dinistrio cymunedau.
Yn olaf, rwy’n credu bod angen i ymgynghori fod yn ystyrlon, oherwydd ar hyn o bryd, waeth pa ddeisebau, protestiadau a chyfarfodydd a gawn gyda’r banciau, mae’n ymddangos bod yr effaith ar y gymuned yn cael ei diystyru. Efallai y dylai’r banciau ganolbwyntio mwy ar ddarparu gwasanaeth i’w cwsmeriaid, eu cwsmeriaid mwy agored i niwed mewn rhai achosion, y busnesau bach sy’n anadl einioes i’n gwlad, ac efallai y dylent ystyried rhoi mwy o arian tuag at wneud hynny yn hytrach na noddi digwyddiadau proffil uchel neu bencampwriaethau pêl-droed. Efallai y dylent ailystyried eu blaenoriaethau a chanolbwyntio ar barhau i ddarparu’r gwasanaeth gwerthfawr iawn y maent yn ei ddarparu i’n hetholwyr.
15:11 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Wel, mae’r eitem hon yn amlwg wedi creu llawer o ddiddordeb o blith yr Aelodau. Rwyf wedi cael 12 o geisiadau i siarad. Nid wyf yn credu ein bod yn mynd i fynd drwy bob un, ond fe ymdrechwn i wneud hynny. Ond efallai na lwyddaf i fynd drwyddynt i gyd. Darren Millar.
15:11 - Darren Millar
Diolch i chi, Lywydd, a diolch i Julie am awgrymu’r ddadl hon i’r Aelodau heddiw. Rwy’n credu ei fod yn fater pwysig iawn sy’n aml wedi cael ei esgeuluso gan Siambr y Cynulliad hwn, ond serch hynny, gwn fod nifer o Aelodau’r Cynulliad wedi dangos diddordeb mawr yn hyn yn eu hetholaethau eu hunain. Fel Julie ac Aelodau eraill o’r Siambr hon, yn anffodus, rwyf wedi gorfod brwydro dros ddyfodol banciau i fyny yng Ngorllewin Clwyd, ac mae pobl eraill yn y gogledd wedi gorfod ymgodymu â hyn hefyd. Caeodd y banc cyntaf yn fy etholaeth yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf, ym Mae Cinmel, a gallaf gofio’r frwydr a gefais gyda’r HSBC ynghylch dyfodol y gangen honno. Mae Bae Cinmel yn gymuned eithaf mawr, gydag 8,000 o bobl yno, ac eto nid oes un banc yn y gymuned honno. Roeddwn yn ei ystyried yn destun pryder mawr yn wir nad oedd unrhyw fanc yn gwasanaethu cymuned o’r faint. Rwy’n meddwl bod yna ddiffygion sylweddol yn y prosesau y mae pob banc yn mynd drwyddynt wrth benderfynu ble y dylent ddosbarthu eu canghennau, ac rwyf wedi rhyfeddu, a dweud y gwir, ynglŷn â’u diffyg ystyriaeth i farn cwsmeriaid lleol. Mae eu busnesau’n dibynnu ar gwsmeriaid, ac yn y pen draw, ni allwch fforddio diystyru eu barn.
Rwyf wedi gweld canghennau’n cau ers hynny hefyd. Caeodd canghennau HSBC yn Llandrillo-yn-Rhos, ac yn wir, yn fwyaf diweddar, yng Ngherrigydrudion, ac mae’n rhaid i mi ddweud bod y cymunedau gwledig yn dioddef llawer mwy, rwy’n meddwl, na llawer o’n cymunedau trefol yn sgil cau banciau, oherwydd pan fo cangen yn cau mewn cymuned, wrth gwrs, os mai dyna’r gangen olaf yn y gymuned honno, mae’n rhaid iddynt deithio’n llawer pellach er mwyn gallu defnyddio gwasanaethau bancio yn rhywle arall. Gwn fod adroddiad diweddar wedi’i gyhoeddi ar fynediad i ganghennau gwledig, ac mae rhai pobl yn gorfod teithio wyth milltir a mwy er mwyn cyrraedd cyfleuster cangen leol. Mae’n amlwg nad yw hynny’n dderbyniol o gwbl.
Ond nid mater o gau canghennau’n unig yw hyn. Mae rhai canghennau’n cyfyngu ar yr oriau y maent ar agor, a gall hynny hefyd gyfyngu’n fawr ar allu cwsmeriaid i wneud defnydd o wasanaethau. Gwelais hynny’n digwydd i gangen o’r Royal Bank of Scotland draw ym Mae Colwyn, a oedd yn cwtogi ei oriau yn ôl yn 2011 ac unwaith eto, achosodd lawer iawn o ofid i’r cwsmeriaid sy’n defnyddio’r cyfleuster yn rheolaidd. Mae NatWest hefyd wedi bod yn cau canghennau yn fy etholaeth yn Abergele a Llandrillo-yn-Rhos, a gallwch weld bod y duedd hon, os yw’n parhau, yn mynd i fod o anfantais bellach i bobl sy’n dibynnu ar y gwasanaethau. Nododd Julie, yn gwbl briodol, y ffaith fod pobl hŷn dan fwy o anfantais yn sgil cau canghennau na llawer o bobl eraill, a’r rheswm am hynny yw nad oes llawer ohonynt yn mynd ar-lein ac nid ydynt yn gallu manteisio ar rai o’r technolegau mwy modern y gallai pobl iau eu defnyddio i allu gwneud defnydd o’u cyfleusterau bancio. Gadewch i ni ei wynebu, mae llawer o bobl yn hoffi gwasanaeth wyneb yn wyneb mewn perthynas â bancio. Maent wedi ymddiried yn eu banciau dros y blynyddoedd, tan y nifer o ddigwyddiadau diweddar dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig fod yna wasanaeth cownter ar gael yn llawer o’n cymunedau, ac nid rhywbeth sy’n ddim mwy na thwll yn y wal, sef yr unig beth y bydd banc yn ei adael ar ôl yn rhai o’r cymunedau hyn yn aml iawn. Nid yw twll yn y wal yn wasanaeth bancio gweddus ac ni ellir byth ei ystyried yn dderbyniol yn fy marn i.
Hefyd, rwyf am bwysleisio pa mor bwysig yw’r rhwydwaith bancio i bobl sy’n ymweld â Chymru. Rydym yn anghofio weithiau fod gan Gymru economi dwristiaeth ffyniannus a rhan o’i hatyniad yw gallu defnyddio, ie, pethau fel band eang a Wi-Fi y dyddiau hyn, ond hefyd mae argaeledd cangen leol i gael rhywfaint o arian, yn hynod o bwysig, enwedig i ymwelwyr tramor. Ni allwn anwybyddu’r ffaith, pan fyddwch yn colli canghennau—yn enwedig mewn rhannau gwledig o Gymru, rhannau hardd o Eryri, ar hyd peth o’n rhwydwaith cefnffyrdd mewn llefydd fel Cerrigydrudion—mae’n effeithio ar yr ymwelwyr sy’n dod i’n gweld ni a gall adael blas sur iawn yn y geg pan na allant godi arian parod i’w wario yn ein heconomi. Nid yw’n dda o safbwynt economaidd.
Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig cydnabod yr effaith anghymesur ar gymunedau gwledig, yr effaith anghymesur ar bobl hŷn ac effaith niweidiol hyn ar y diwydiant twristiaeth, yn arbennig, pan fydd ein rhwydwaith o ganghennau banc yn dirywio. Felly, rwy’n eich cefnogi, Julie, wrth i chi alw ar bawb sy’n rhan o’r penderfyniadau hyn i roi mwy sylw i’r materion hyn yn y dyfodol ac i wrando’n iawn ar lais eu cwsmeriaid wrth wneud y penderfyniadau hyn.
15:16 - Mike Hedges
Y rhan fwyaf o’r amser pan fydd pobl yn trafod neu’n gwrthwynebu cau banciau, maent yn sôn am y problemau—fel y soniodd Darren Millar—yng nghefn gwlad Cymru. Nid cefn gwlad Cymru yn unig sy’n dioddef. Rwyf am dynnu sylw at yr hyn sydd wedi digwydd yn Stryd Woodfield, Treforys, dros y 25 mlynedd diwethaf. Mae’n un o brif faestrefi Abertawe ac mae ardal Stryd Woodfield, Heol y Clâs a Heol Pentrepoeth yn ardal siopa bwysig. Mae’n cynnwys nifer fawr o fusnesau bach, a chadwyni cenedlaethol fel Iceland a Wilkinson hefyd.
Pan gefais fy ethol gyntaf fel cynghorydd sir yn 1989, y gŵyn a glywn yn rheolaidd oedd, ‘Mae gormod o fanciau a chymdeithasau adeiladu yma. Nid oes arnom eu hangen i gyd’—enghraifft o’r angen i fod yn ofalus ynglŷn â’r hyn rydych yn ei ddymuno. O’r pump banc—Barclays, Lloyds, NatWest, HSBC a TSB—mae dau wedi cau a chaeodd un gangen yn sgil uno Lloyds TSB. Erbyn hyn mae gennym ddau fanc ar ôl ar Stryd Woodfield—Lloyds a HSBC. Ond mae Lloyds yn brysur yn cau canghennau—cafwyd cyhoeddiad yr wythnos hon fod canghennau Sgiwen, yn etholaeth David Rees, a’r Uplands, yn etholaeth Julie James, i gau. A yw’r dyfyniad canlynol o’r ‘South Wales Evening Post’ yn swnio’n gyfarwydd?
Mae Lloyds yn dweud bod cwsmeriaid o’r canghennau wedi cael gwybod am y cau drwy lythyr.
Mae’r cau’n digwydd er gwaethaf galwadau gan gwsmeriaid a chynghorwyr yn annog y cawr bancio i beidio â bwrw yn ei flaen â’r cynllun, ond maent yn bwrw ymlaen ag ef beth bynnag. Roedd y cwynion, y cyfrannodd pawb ohonom tuag atynt—. Rydym i gyd wedi anfon llythyr, rydym i gyd wedi llofnodi’r ddeiseb. Nid wyf yn gwybod am unrhyw le y mae wedi gweithio erioed. Os gall rhywun ddweud wrthyf ble mae wedi gweithio—. Ond pan ymddengys eu bod yn gwneud y penderfyniad hwn, nid ydynt yn talu sylw i neb.
Yn anffodus—rwy’n teimlo efallai y byddwn yn anghytuno â Darren Millar i raddau—weithiau mae’r banciau’n cau’r twll-yn-y-wal ar yr un pryd—nid banc yw twll-yn-y-wal, ond mae’n darparu arian i bobl—sy’n golygu mewn llawer o achosion mai’r unig ddewis yw talu am godi arian neu deithio sawl milltir i gael gafael ar arian parod. Wrth gwrs, nid ffenomen Brydeinig yn unig yw hon. Yn Des Moines yn Iowa mae canghennau banc gwag yn dechrau amlhau yn ardaloedd busnes trefi bach ar draws y wlad wrth i’r sefydliadau ariannol sy’n berchen arnynt ganoli eu hadnoddau.
Yng nghanol dinasoedd, megis Stryd y Gwynt, mae’n bosibl y bydd banciau sydd wedi cau’n cael eu troi’n dafarndai a bariau gwin, ac mae hynny wedi digwydd, ond nid oes cyfleoedd o’r fath mewn maestrefi, trefi llai o faint a phentrefi. Yn achos Treforys, mae adeiladau hen fanciau Barclays a HSBC yn dal yn wag. Rwy’n ofni y byddant yn parhau’n wag am beth amser. Mae banciau yn fath penodol o adeilad. Nid ydynt yn addas ar gyfer unrhyw ffurf arall ar fanwerthu mewn gwirionedd. Mae troi banc yn lleoliad manwerthu A1 cyffredinol yn anodd. Maent wedi rhoi cynnig ar hynny gyda banc TSB yn Nhreforys sawl gwaith ac nid yw’n ymddangos ei fod wedi gweithio i unrhyw un.
Er fy mod yn derbyn bod bancio ar y rhyngrwyd wedi lleihau nifer y bobl sy’n defnyddio banciau, mae angen o hyd i fusnesau a’r boblogaeth yn gyffredinol i ymweld â banciau. Ni allwn fforddio gadael i nifer y banciau leihau ymhellach. [Anghlywadwy.] Yn bendant—
15:19 - Andrew R.T. Davies
Rwy’n ddiolchgar i chi am dderbyn ymyriad. Un o’r pethau allweddol sy’n cael ei golli pan fydd banc yn cau yw cyswllt busnes—mae busnesau bach, yn arbennig, yn meithrin perthynas. Yn aml iawn, pan fydd yr ysbryd entrepreneuraidd yn taro’r busnes, a bod angen benthyciad bychan arnynt, oherwydd bod y cyswllt personol yn cael ei golli mae’r busnes yn ei chael hi’n anodd iawn i gael gafael ar gyllid. Mae’r cyfle hwnnw i sicrhau cyflogaeth ar raddfa fach mewn ardaloedd gwledig neu drefol yn gostwng yn ddramatig oherwydd diffyg mynediad at gyllid.
15:19 - Mike Hedges
Er mor anarferol yw hyn, rwy’n cytuno â phob gair y mae Andrew R.T. Davies newydd ei ddweud. Hefyd, y broblem arall yw bod nifer o fusnesau angen newid mân yn ddyddiol—mae tafarndai, er enghraifft, bwytai a chaffis angen cael newid, ac nid ydynt yn gwybod faint o newid y byddant ei angen yfory tan y byddant yn cyfrif yr arian parod y noson cynt. Felly, mae gennych y sefyllfa hon lle na allant gael newid, neu mae’n rhaid iddynt deithio sawl milltir i gael newid, sy’n sicr yn tarfu ar y busnesau.
Rwy’n credu ei bod yn sicr yn bryd i Lywodraeth San Steffan weithredu. Mae’n rhy hwyr i lawer o gymunedau—nid i Stryd Woodfield yn Nhreforys, er enghraifft, ond i nifer o gymunedau eraill. Mae angen i ni weithredu cyn i fanciau fynd yn bethau a welwn yng nghanol dinasoedd neu mewn canolfannau manwerthu mawr yn unig a bydd yn rhaid i’r gweddill ohonom deithio yno. A gaf fi roi’r rhybudd ein bod wedi gweld yr hyn sy’n digwydd gyda dirywiad gorsafoedd petrol, a chyn lleied o orsafoedd petrol sydd ar ôl? Mewn gwirionedd, ceir llai o orsafoedd petrol ym Mhrydain yn awr nag a oedd yn 1921, yn ôl ffigurau a ddarllenais. Felly, mae’r dirywiad hwn yn gallu digwydd. Mae angen i ni ddechrau ymladd yn eu herbyn, mae angen i ni ddechrau eu gwrthwynebu, ac mae angen i ni ddwyn y banciau i gyfrif am y dirywiad. Ein harian ni y maent yn ei gadw, ac nid ydynt yn gadael i ni gael gafael arno.
15:21 - Rhun ap Iorwerth
Diolch eto i Julie Morgan am gynnig hwn fel testun trafod pwysig iawn, a rhywbeth sydd wedi cyffwrdd â phob un ohonom ni, rwy’n siŵr, yn ein hetholaethau. Mi wnaf i drio peidio ag ailadrodd yn ormodol, achos rwy’n meddwl ei bod hi’n eithaf dealladwy y bydd yna lawer o bynciau cyffredin yn ein taro ni fel Aelodau o bob cwr o Gymru. Wrth gwrs, mae colli banc lleol yn ergyd fawr i unrhyw un yn unrhyw gymuned. Ar y gorau, gallai hynny olygu bod rhywun yn gorfod newid cyfrif banc i’r banc arall lawr y ffordd; ar y gwaethaf, ac yn llawer rhy aml, y realiti, wrth gwrs, ydy mai’r banc sy’n gadael ydy’r banc olaf yn y gymuned.
Y ddwy enghraifft sydd gen i o fy etholaeth i yn ddiweddar ydy Porthaethwy ac Amlwch. Ym Mhorthaethwy, mae HSBC yn cau yn y fan honno—tref ffyniannus, llawn bwrlwm economaidd, ac nid yw’n gwneud dim synnwyr i unrhyw un sy’n edrych o’r tu allan pam y byddai HSBC yn bwriadu cau’r gangen honno, yn enwedig o ystyried mai mater o flwyddyn neu ddwy sydd yna ers i’r gangen ym Miwmares gau. Yr hyn a ddywedwyd wrth gwsmeriaid y banc ar y pryd oedd: ‘Peidiwch â phoeni, ewch i Borthaethwy i wneud eich bancio.’ Yn Amlwch, mae’r gangen yn y fan honno’n cau. Mae Amlwch yn dref sydd yn mynd i fod yng nghanol bwrlwm economaidd rhyfeddol yn y degawd nesaf, ond mae’n amlwg nad oes edrych ymlaen tua’r dyfodol wedi digwydd gan y banc yn y cyd-destun hwnnw. Beth sy’n cael ei ddweud wrth gwsmeriaid rŵan? ‘Peidiwch â phoeni, mi allwch chi wneud eich bancio yn y post.’ Ond rydym yn gwybod yn Amlwch fod yna ansicrwydd ynglŷn â dyfodol y post yn y fan honno ac rydym yn gwybod am ormod o gymunedau yng Nghymru lle mae’r post wedi cael ei golli hefyd.
Rydym yn gwybod bod hyn, yn ôl y banciau, yn cael ei yrru gan newid yn ein harferion bancio, ac, wrth gwrs, rydym ni, bob un ohonom ni, rwy’n siŵr, yn y Siambr yma yn gwneud mwy o’n bancio ar-lein ac ati. Ond mae’r penderfyniadau i gau’r canghennau yn digwydd ar adeg lle nad yw’n cymunedau ni drwyddi draw yn barod i allu dweud, ‘Ydyn, rydym yn gymunedau sy’n llwyr fancio ar-lein.’ Mae yna ormod o bobl sy’n fregus, yn oedrannus yn ein cymunedau ni nad ydynt yn barod i allu cymryd rhan yn yr oes fodern o fancio ar-lein. Rydym yn siarad hefyd yn y Siambr yma’n ddigon aml am broblemau efo band llydan yn ein hardaloedd gwledig ni. Mae yna ormod o ardaloedd nad oes ganddynt y gallu o ran yr isadeiledd digidol i allu cymryd rhan lawn mewn bancio ar-lein.
Yr hyn mae’r banciau yn ei ddweud, wrth gwrs, ydy nad ydy’r canghennau yma’n broffidiol. Mae’n siŵr eu bod nhw’n iawn, o ystyried y canghennau eu hunain. Mi gyfeiriaf at bapur a gafodd ei gyhoeddi gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ym mis Awst y llynedd fel rhan o ymchwiliad i’r farchnad bancio a manwerthu:
Roedd yr is-adrannau "bancio manwerthu" yn ffynhonnell bwysig o incwm i’r pum banc mwyaf yn y DU. Yn 2014, deilliai yn agos at 60% o’u cyfanswm refeniw, ar gyfartaledd, o’r is-adrannau manwerthu. Cofnododd yr is-adrannau bancio manwerthu ar draws y pum banc gyfanswm incwm o £42.1 biliwn ac elw cyn treth o £14.2 biliwn yn 2014. Mae ffigurau... yn dangos, er bod cyfanswm yr incwm a gofnodwyd gan y banciau wedi aros yn gymharol sefydlog rhwng 2012 a 2014, mae’r elw a gofnodwyd, yn gyffredinol, wedi dangos tueddiad ar i fyny yn ystod y cyfnod hwn.
Mae’r banciau’n gwneud arian oddi ar eu bancio manwerthu. Beth ddylai ddigwydd ydy bod banciau yn gweithredu fel rhwydwaith, efo canghennau proffidiol yn helpu, yn eu tro, i gynnal y rhai llai proffidiol, mewn ffordd y mae rheoleiddio yn sicr yn digwydd efo marchnad breifat ffonau symudol, er enghraifft—dydy mastiau yn Ynys Môn ddim yn gwneud arian i’r cwmnïau ffôn, ond fel rhan o rwydwaith maen nhw’n gorfod, wrth gwrs, darparu gwasanaeth ehangach. Felly, dyna ddylai ddigwydd efo’r banciau, ond yn amlwg nid oes gan y banciau ddiddordeb yn hynny. Felly, mae’n rhaid inni gadw’r pwysau ar y banciau ac ar Lywodraethau i sicrhau bod yna ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi gan y sefydliadau yma o effaith eu penderfyniadau nhw ar gymunedau.
Fe allwn ni wneud ymdrechion i sicrhau hyfywedd y stryd fawr, er enghraifft, er mwyn dod â rhagor o gwsmeriaid i’r banciau, ond, wrth gwrs, banc ydy un o’r pethau hynny sydd yn creu stryd fawr ffyniannus. Mi wnawn ni chwarae’n rhan, wrth gwrs, o ran ceisio sicrhau bod yna bobl a ‘footfall’ mewn banciau, ond mae’n rhaid i fanciau ystyried eu cyfrifoldebau fel rhan, fel rwy’n dweud, o rwydwaith sy’n gwasanaethu nid ein hardaloedd poblog a chyfoethog yn unig, ond ein hardaloedd gwledig a thlotach hefyd.
15:26 - Kirsty Williams
A gaf fi ddweud cymaint rwy’n croesawu’r ddadl a gefnogir gan Aelodau ar draws y Siambr yma y prynhawn yma ar fynediad at fancio yng Nghymru? Fel y mae nifer o’r Aelodau eisoes wedi’i ddisgrifio yn eu hetholaethau, mae Brycheiniog a Sir Faesyfed wedi cael ei tharo’n wael gan y cau, ac mae wedi colli banciau yn Ystradgynlais a Thalgarth yn y gorffennol. Yn y don ddiweddaraf i gau, rydym wedi gweld Barclays yn cau’r banc olaf yn Llanwrtyd, a NatWest yn cau ei gangen yng Nghrucywel. Ar hyn o bryd mae disgwyl i gangen HSBC yn Llanfair-ym-Muallt gau, yn ogystal â changen HSBC yn Rhaeadr Gwy, sef y banc olaf yn y dref, unwaith eto.
Mae’n rhaid dweud, nid yw agwedd y banciau wedi gwneud dim i adfer delwedd y diwydiant ar hyn o bryd ar ôl i’w byrbwylltra a’u hymddygiad helpu i fynd ag economi ein gwlad at ymyl y dibyn. Mae’n ymddangos eu bod wedi anghofio’r hyn a wnaeth y wlad hon i’w cynorthwyo. Nid ydynt wedi bod yn barod i wrando ar yr effaith y bydd cau canghennau mewn cymunedau yn ei chael ar bobl leol, a’r ateb ystrydebol yw bod pobl yn cael eu hannog i ddefnyddio cangen wahanol neu amgen filltiroedd lawer i ffwrdd, neu ddefnyddio gwasanaethau ffôn neu wasanaethau bancio ar y rhyngrwyd—nad yw’n hawdd iawn i’w wneud pan fo diffyg cludiant cyhoeddus mewn sawl rhan o Frycheiniog a Sir Faesyfed, a diffyg seilwaith digonol ar gyfer ffonau symudol a’r rhyngrwyd.
Maent hefyd yn barod iawn i drosglwyddo’r baich i Swyddfa’r Post, heb ymgynghori fawr ddim gyda’r sefydliad hwnnw, os o gwbl, i weld a allant ysgwyddo’r baich mewn gwirionedd. Nawr, rwy’n ddiolchgar iawn i Swyddfa’r Post a’u gweithwyr sydd wedi ymateb mor gadarnhaol mewn llawer o’n cymunedau. Yn Llanwrtyd, cytunodd Swyddfa’r Post i uwchraddio’r cyfleusterau a oedd ar gael fel y gellid cyflawni mwy o drafodion ariannol, ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r bostfeistres yno, fel i’r postfeistresi yn Rhaeadr Gwy sy’n mynd ati o ddifrif i geisio pontio’r bwlch i bobl leol, ac yng Nghrucywel hefyd.
Hefyd, gallai cau banc olygu colli’r unig beiriannau twll-yn-y-wal 24 awr rhad ac am ddim sydd gan y gymuned. Nawr, ar ôl llawer o ymgyrchu a llawer o waith caled, rwy’n falch o ddweud ein bod wedi llwyddo i gadw’r twll-yn-y-wal yn Llanwrtyd ac yng Nghrucywel, ond dyfodol ansicr sydd i’r unig beiriant twll-yn-y-wal 24 awr rhad ac am ddim yn Rhaeadr Gwy. Mae HSBC wedi’i gwneud yn gwbl glir nad oes ganddynt unrhyw fwriad o sicrhau y bydd y twll-yn-y-wal yn dal ar gael, ac rydym yn awr yn nwylo Cashzone i weld a fyddant yn cydsynio i’w gadw yno.
Ym Mhowys y ceir y cyflog cyfartalog isaf ond un yn y wlad hon. Mae mynediad at gyfleusterau codi arian am ddim sy’n caniatáu i bobl godi symiau bach o arian ar y tro yn gwbl hanfodol yn y cymunedau hyn.
A gaf fi droi at y cod mynediad i fancio felly? Ar ei orau, sylw ystrydebol y mae’r cod yn ei gael gan y banciau y bûm yn ymwneud â hwy’n ddiweddar. Ac ar ei waethaf, yn achos HSBC a’r person a oedd yn gyfrifol am gau’r canghennau hynny, bu’n rhaid i mi ddweud wrthynt ei fod yn bodoli; nid oedd ganddo syniad fod ganddo unrhyw rwymedigaethau o dan y cod mynediad i fancio. Nid yw’n ddigon da. Ond wrth gwrs, pwy all feio’r banciau pan fyddant yn gwybod nad ydynt yn mynd i gael eu dwyn i gyfrif? Rwy’n dal i aros, fel y mae cyngor cymuned Llanwrtyd, am ymatebion gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, Sajid Javed, nad yw wedi trafferthu ymateb i’n gohebiaeth mewn perthynas â sicrhau ei fod yn gorfodi’r cod mynediad i fancio.
15:30 - Mick Antoniw
Rwy’n gwerthfawrogi ac yn deall yr hyn a ddywedwch, oherwydd, onid ydych yn derbyn pan oedd Vince Cable yn Ysgrifennydd busnes ac yn trafod y protocol gyda’r banciau, a’i gwrthododd, dyna oedd y cyfle i reoleiddio, pan ddylid bod wedi cyflwyno rheoleiddio, a methodd â gwneud hynny mewn gwirionedd? A phe bai rheoliadau wedi’u cyflwyno bryd hynny—gan mai drwy reoleiddio’n unig y gellir cadw rheolaeth ar y banciau o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus.
15:30 - Kirsty Williams
Mick, ni fyddwn yn anghytuno. Mae’n amlwg i mi nad yw’r cod mynediad i fancio yn gweithio, ac nid yw’n werth y papur y mae wedi’i ysgrifennu arno i fy etholwyr. Felly, mae’n ymddangos i mi mai’r unig ffordd ymlaen yw darparu sail statudol i’r cod, i wneud banciau’n atebol am eu gweithredoedd. Rwy’n eithaf clir ynglŷn â hynny. Dyna’r unig ffordd y gallwn sicrhau bod ein cymunedau yn cael gofal priodol yn hyn o beth.
Ond yn ogystal â sail statudol i’r cod—ac nid wyf yn gweld hynny’n digwydd yn y dyfodol agos, rhaid dweud—mae angen i ni chwilio am atebion eraill, yn enwedig yr hyn y gallwn ei wneud i hyrwyddo dulliau eraill o sicrhau mynediad at wasanaethau ariannol mewn cymunedau, megis yr undeb credyd er enghraifft. Os edrychwch ar ddatblygiad ac ehangder gwasanaethau undebau credyd, yn Unol Daleithiau America er enghraifft, yn hytrach na’r hyn sydd gennym yma, rwy’n credu ei bod yn bryd inni edrych ar ddatblygu dewisiadau eraill yn lle’r sefydliadau bancio mawr, sydd wedi dangos, yn eithaf amlwg, nad oes ganddynt ddiddordeb mewn sawl rhan o Gymru.
15:31 - Mark Isherwood
Wel, yn wahanol i’r ffyliaid a gafodd eu caniatáu i ddinistrio ein system fancio, rwy’n fanciwr cymwysedig, a arferai weithio yn y sector cymdeithasau adeiladu, ac rwyf wedi ymgyrchu yn erbyn cau canghennau o fanciau a chymdeithasau adeiladu cydfuddiannol.
Wrth siarad yma ym mis Tachwedd 2013, ar ôl i HSBC gyhoeddi eu bod yn cau canghennau yn Llangollen, Conwy a Biwmares, dywedais fod pryderon eang wedi’u mynegi gan etholwyr ynghylch yr effaith y bydd hyn yn ei gael arnynt, lles y busnesau yn eu trefi, eu cymunedau, a’r miloedd o dwristiaid sy’n ymweld â’r ardal. Maent yn ofni mai ardaloedd gwledig sy’n ei chael hi waethaf ac yn credu bod angen i ni weithredu’n fwy hirdymor gan ganolbwyntio ar y cwsmer go iawn. Fodd bynnag, dywedodd HSBC wrthyf fod lefelau defnydd isel gan gwsmeriaid yn golygu na allai’r banc newid ei feddwl.
Fis Mehefin diwethaf, clywsom fod y banc pentref a serennodd mewn hysbyseb teledu NatWest, yn addo cadw pob cangen ar agor cyhyd âi bod yr olaf yn y gymuned, yn mynd i gau. Clywsom y mis hwn fod Barclays yn cau ei gangen ym Mwcle, Sir y Fflint, a chyfrifon yn mynd i gael eu symud i’r Wyddgrug—taith gron o chwe milltir i gwsmeriaid. Dyma’r trydydd banc i gyhoeddi ei fod yn cau yn y dref yn ystod y chwe mis diwethaf, gan adael un gangen yn unig.
Yn dilyn cyhoeddiad HSBC o’r bwriad i gau canghennau yn y Waun a Rhiwabon, cynhaliodd Simon Baynes, darpar ymgeisydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer De Clwyd, arolygon banciau cymunedol a chyfarfodydd cyhoeddus yn y ddwy gymuned. A chyda dau gynghorydd sir, cyfarfu â HSBC a chyflwyno cwestiynau iddynt a ofynnwyd gan y cyhoedd. Roedd y rhain yn cynnwys: ‘Byddwch yn benodol ynglŷn â’r ffactorau yn eich penderfyniad i gau; mae cwsmeriaid yn cael trafferth deall y penderfyniad, o gofio bod ciwiau yn aml yn y ddwy gangen hon o’r banc.’ ‘Onid yw’r penderfyniad hwn yn dangos diffyg meddwl ymlaen llaw?’ Yn ymarferol, mae’n anodd iawn i lawer o gwsmeriaid fynd i Wrecsam, yn enwedig siopau sydd angen bancio arian parod, ac o ystyried mai ychydig o arianwyr sydd i’w cael bellach yn y gangen yn Wrecsam. ‘Yn sicr, mae cau o’r fath yn gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd heb y rhyngrwyd, a phobl nad ydynt yn gallu gyrru.’ ‘Onid yw HSBC yn ystyried sgil-effeithiau cau ar yr ardaloedd a’r busnesau cyfagos, yn ogystal â’r ddwy dref eu hunain?’ Fe ildiaf.
15:33 - Llyr Gruffydd
Cytunaf yn llwyr ynglŷn â’r diffyg meddwl ymlaen llaw, ac rwy’n siŵr y byddech yn cytuno mai testun gofid oedd cau cangen Corwen o HSBC, pan ddywedwyd wrth bawb, ‘Ewch i Langollen.’ Yna, caewyd Llangollen a dywedwyd wrth bobl am fynd i’r Waun neu Riwabon. Yn awr, maent yn cau’r Waun a Rhiwabon ac yn y pen draw, mae pobl yn mynd hyd yn oed ymhellach, i Wrecsam. Mae diffyg meddwl ymlaen llaw o’r fath yn dangos diffyg parch llwyr tuag at hawliau pobl yn eu cymunedau eu hunain.
15:34 - Mark Isherwood
Yn union. Ac fel roeddent yn dweud, ‘Pam nad yw HSBC yn poeni mwy am effaith cau’r canghennau hyn ar yr henoed, a’r gost o gyrraedd banciau eraill? ‘ A ‘Pha gysylltiadau sydd gennych’, meddent, "â modelau bancio cymunedol, ac undebau credyd, ac a allwch helpu sefydliadau o’r fath, o ystyried eich bod yn gadael?’ Fodd bynnag, deallaf eu bod yn dweud nad oedd ganddynt unrhyw fwriad o newid eu penderfyniad.
Felly, gadewch i ni wrando ar ganfyddiadau allweddol yr arolwg. Mae pobl yn teimlo’n gryf eu bod angen banc. Mae nifer y defnyddwyr yn sylweddol yn y ddau fanc. Maent yn bwysig i bobl hŷn, y rheini heb gludiant, siopwyr a busnesau bach. Mae 0.5 miliwn o dwristiaid y flwyddyn yn ymweld â’r Waun ac mae banciau yn chwarae rhan yn hynny, ac ni fydd swyddfa’r post yn gallu llenwi’r bwlch a adewir wrth gau banc.
Gyda bancio digidol yn dinistrio’r defnydd o wasanaethau traddodiadol, ffurfiwyd cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Chymdeithas Bancwyr Prydain yn gynnar y flwyddyn ddiwethaf sy’n rhwymo banciau i weithio gyda chymunedau lleol er mwyn pennu effaith cau’r gangen cyn y cau, gan ddod o hyd i ddarpariaeth arall addas i gymunedau unigol ac i roi gwasanaethau bancio amgen boddhaol ar waith cyn cau’r gangen. Ym mis Mai 2015, daeth y protocol mynediad i fancio i rym, gan amlinellu gofynion ymgynghori ac ymgysylltu â’r gymuned cyn cau cangen ac yn ei gwneud yn ofynnol cynnal asesiad o effaith unrhyw gau arfaethedig ar y gymuned ehangach, gan gynnwys busnesau. Roedd llythyr mis Awst y llynedd gan Lywodraeth y DU i Gymdeithas Bancwyr Prydain yn amlinellu eu safbwynt drwy ddweud:
Mae cau canghennau yn parhau i fod yn fater o bryder i ddefnyddwyr a busnesau bach yn y cymunedau yr effeithir arnynt... mae’n bwysig fod y penderfyniadau i gau yn cael eu gwneud mewn ffordd gyfrifol, ac y gwneir ymdrechion i ddarparu trefniadau bancio amgen digonol sy’n adlewyrchu amgylchiadau lleol—gan gynnwys anghenion busnesau bach—cyn y bydd cangen yn cau.
Dyna pam y dechreuodd Cymdeithas Bancwyr Prydain a Swyddfa’r Post gytuno ar set safonol o wasanaethau a fyddai ar gael i gwsmeriaid banciau dros gownteri swyddfeydd post a pham y mae hynny’n dal yn hanfodol. Mae’r llythyr hefyd yn gofyn i Gymdeithas Bancwyr Prydain am farn y diwydiant ar hyfywedd trefniadau rhannu canghennau. Mae gweithrediad y protocol i fod i gael ei adolygu’n annibynnol yn haf 2016—yr haf hwn. Felly, gadewch i’r ddadl hon helpu i lywio a dylanwadu ar yr adolygiad hwnnw. Diolch.
15:36 - Jeff Cuthbert
Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl bwysig hon heddiw. Mae’r gyfres o fanciau sy’n cau ledled Cymru yn sicr yn achos pryder mawr. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Julie Morgan eisoes, rwy’n ymwybodol o’r symudiadau sydd ar y gweill yn San Steffan i drafod cau banciau ac rwy’n falch iawn fod Susan Elan Jones AS wedi ysgrifennu at gadeirydd y Pwyllgor Dethol Busnes, Arloesedd a Sgiliau i ofyn am roi’r mater gerbron aelodau’r pwyllgor hwnnw. Diolch i Julie Morgan AC am hwyluso’r ddadl hon ac rwy’n siŵr y bydd pob Aelod sy’n cyfrannu at y ddadl—fel y maent wedi’i wneud hyd yma—yn gallu cyfeirio at enghreifftiau o’u hetholaethau eu hunain—
Sandy Mewies a gododd—
15:37 - Jeff Cuthbert
Mewn un eiliad. Enghreifftiau o’u hetholaethau a’u rhanbarthau o sut y mae newidiadau bancio wedi peri anghyfleustra i gwsmeriaid ffyddlon pan fyddant naill ai’n adleoli neu’n mynd yn gyfan gwbl. Fe gymeraf yr ymyriad.
15:37 - Sandy Mewies
Diolch. Er fy mod yn cytuno â phopeth a ddywedwyd hyd yma ynglŷn â chau’r banciau, a fyddech yn cytuno bod hyn yn difreinio pobl heb fynediad at y rhyngrwyd ymhellach? Mae banciau yn annog pobl yn barhaus i dalu biliau drwy’r rhyngrwyd. Gellir cael mynediad at fudd-daliadau drwy’r rhyngrwyd. Bellach, maent yn dweud wrthych eu bod eisiau i’ch biliau i gwmnïau cyfleustodau gael eu talu drwy’r rhyngrwyd. Beth fydd yn digwydd i’r bobl nad oes ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd, nad oes ganddynt fynediad i fanciau, nad ydynt yn gallu cyrraedd llefydd—pobl o bob oed—os nad yw pethau’n newid i ddarparu ar gyfer y bobl sydd angen y ddarpariaeth honno?
15:38 - Jeff Cuthbert
Rwy’n cytuno’n llwyr â chi. Mae gwasanaethau bancio yn wasanaeth cyhoeddus i bob pwrpas. Mae gan bobl bob hawl i gael mynediad at eu harian eu hunain er mwyn talu biliau ac nid yw’r rhyngrwyd yn addas i bawb. Cytunaf yn llwyr â’r teimladau rydych wedi’u mynegi.
Ym mis Awst 2014, caeodd cangen HSBC ym Margoed yn fy etholaeth i a symud i’r Coed Duon, tua phum milltir i ffwrdd. Efallai y bydd rhai’n dweud nad yw pum milltir mor bell â hynny, ond mae topograffi’r cymoedd ynghyd â’r ffaith fod llai na’r cyfartaledd o bobl yn berchen ar geir wedi’i gwneud yn anodd iawn i rai o fy etholwyr yn ardal Bargoed i barhau i fancio gyda HSBC. Mae cynghorwyr lleol wedi bod yn pryderu ynglŷn ag effaith cau o’r fath ar nifer yr ymwelwyr â’r dref, yn enwedig ar ôl i arian sylweddol gan Lywodraeth Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a’r awdurdod lleol fynd tuag at adfywio Bargoed. Mae’r gwaith o adeiladu cyfleuster parcio a theithio, gorsaf fysiau newydd ym mhen gogleddol y dref, adeiladu ffordd newydd gwerth £25 miliwn, Angel Way, a datblygiad manwerthu newydd, Plateau, wedi rhoi bywyd newydd i dref Bargoed. Ar adeg pan fo arian cyhoeddus ar raddfa fawr yn cael ei fuddsoddi ym Margoed, mae penderfyniad HSBC i adleoli yn cyfleu’r neges anghywir i bobl leol a buddsoddwyr posibl.
Ni ddylem danbrisio’r berthynas agos rhwng cwsmeriaid hirsefydlog a gweithwyr yn y banc. Yn benodol, bydd pobl hŷn a fu’n bancio gyda’r un gangen ers 30 neu 40 mlynedd yn tueddu i ymweld â’u cangen leol yn fwy na rhai sydd newydd adael yr ysgol ac oedolion ifanc. Rhaid cydnabod, fel y crybwyllwyd, nad yw pawb eisiau, neu’n gyfforddus gyda bancio ar-lein. I’r rhai sy’n dewis parhau’n ffyddlon i’w banc, gallai’n hawdd fod yn rhaid iddynt ddibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Rydym i gyd yn gwybod, yn anffodus, nad yw ein bysiau bob amser yn gweithredu yn ôl yr amserlen, a gallai’r gwasanaeth ddwywaith yr awr o’r Coed Duon i Fargoed lithro gan achosi anghyfleustra pellach. Mae hefyd yn gywir i dynnu sylw at y costau teithio i unigolion nad ydynt yn ddigon hen i gael tocyn bws am ddim. I bob pwrpas, felly, mae trigolion Bargoed, sydd wedi aros yn ffyddlon i HSBC ac sydd wedi gwneud y newid i’r Coed Duon, wedi gorfod talu o’u pocedi eu hunain am benderfyniad nad oedd ganddynt lais o gwbl ynddo.
Lywydd, a gaf fi orffen drwy ategu galwad Kirsty Williams ynghylch pwysigrwydd undebau credyd fel dewis amgen ymarferol yn lle banciau’r stryd fawr? A hyderaf fod pob AC yn aelodau o’u hundebau credyd lleol.
15:40 - Leanne Wood
Fel aelod o fy undeb credyd lleol yn y Rhondda, rwyf wrth fy modd yn dilyn ymlaen o’r cyfraniad diwethaf. Mae Plaid Cymru yn y Rhondda wedi ymgyrchu’n frwd yn erbyn cau canghennau banciau sy’n effeithio ar y Rhondda hefyd. Mae HSBC, sydd, yn eironig, yn marchnata eu hunain fel banc lleol y byd, wedi cyhoeddi eu bod yn mynd i gau eu canghennau yn y Porth a Threorci. Mae cwsmeriaid wedi cael gwybod y bydd angen iddynt deithio i Bontypridd os ydynt am gael gwasanaeth cownter ac yn anffodus, mae mwy o newyddion drwg ar y ffordd gan fod Banc Lloyds hefyd wedi dweud eu bod yn bwriadu cau eu cangen yn y Porth hefyd. Felly, os ydych yn ffit ac yn iach ac yn berchen ar eich car eich hun, bydd teithio i Bontypridd yn dal i fod yn anghyfleustra mawr i lawer o drigolion y Rhondda, ond os nad ydych yn ffit ac yn iach, a heb fod yn berchen ar eich car eich hun, yna gallai fod bron iawn yn amhosibl i chi deithio i Bontypridd o ben uchaf y Cwm.
Nid yw’n ymddangos bod HSBC yn sylweddoli, neu efallai nad ydynt hyd yn oed yn malio, nad yw pawb yn gallu bancio dros y rhyngrwyd. Yn Rhondda Cynon Taf y ceir un o’r lefelau isaf ledled y DU o rai newydd yn defnyddio’r rhyngrwyd, gyda thua chwarter y boblogaeth erioed wedi bod ar y rhyngrwyd. Ar ben hynny, fel y dywedodd masnachwr ym Maerdy yr wythnos diwethaf, sut y gall fancio’i arian parod dros y rhyngrwyd? Daw’r newyddion ar ôl colli llawer o gyfleusterau a gwasanaethau lleol, a rhai ohonynt gan gyrff cyhoeddus. Yn ddiweddar, er enghraifft, caeodd ein cyngor lleol lyfrgelloedd, canolfannau dydd, ac rydym hefyd wedi colli tafarndai, siopau a swyddfeydd post—collwyd y rhain oll yn ein cymunedau yn y cyfnod diweddar. Dyma pam rwy’n teimlo ei bod yn bwysig i ni wneud popeth a allwn i gyflwyno sylwadau cryf i HSBC ynglŷn â’u cynlluniau, a dyna pam y mae Plaid Cymru wedi treulio cymaint o amser yn cefnogi trigolion, gyda chynlluniau ar gyfer deiseb ac yn y blaen.
Ond mae’n rhaid i mi ofyn y cwestiwn: a oes unrhyw un yn gwrando ar yr holl bobl a’r holl ymgyrchoedd a’r holl ddeisebau yn erbyn yr holl golledion gwasanaethau lleol? Hyd yn hyn, nid yw’r record wedi bod yn wych. Nid oes llawer o’r ymgyrchoedd wedi bod yn llwyddiannus mewn gwirionedd. Rydym wedi colli cymaint er gwaethaf ymdrechion mawr ar ran llawer o bobl leol. Wedi dweud hynny, ni fyddwn yn troi cefn ar ganol ein trefi a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae’n rhaid i ni wneud popeth a allwn i gadw’r gwasanaethau hanfodol hyn yn ein cymunedau. Y cyfleusterau hynny, wedi’r cyfan, sy’n gwneud y cymunedau yr hyn ydynt.
15:43 - Russell George
Diolch i Julie Morgan am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Nid yw llawer o’r hyn sy’n cael ei ddweud yn newyddion i mi, ond mae’r ffaith fod hon yn broblem drefol fawr yn ogystal â phroblem wledig sy’n effeithio ar ein banciau cefn gwlad wedi bod yn agoriad llygad i mi. Yn fy etholaeth yn Sir Drefaldwyn, yn ddiweddar cyhoeddodd HSBC eu bwriad i gau dwy o’u canghennau yn Llanfyllin a Llanfair Caereinion. Mae banciau eraill wedi cau ar draws gogledd Powys: mae’r Royal Bank of Scotland wedi cau canghennau yn Nhrefaldwyn, Llanidloes, a Llanfair Caereinion ac mae HSBC hefyd wedi cau canghennau yn Llanidloes a Machynlleth. Mae Barclays hefyd wedi cyfyngu ar yr oriau agor yn Llanidloes. Nid yn ystod y 10 mlynedd diwethaf y digwyddodd hyn; digwyddodd dros y 18 mis i ddwy flynedd ddiwethaf yn unig. Mae cau’r banciau hyn yn fy etholaeth yn cael yr un effaith ddinistriol, wrth gwrs, ag y mae ar bentrefi a strydoedd mawr eraill ledled Cymru.
Rwyf wedi cael yr un profiad â Julie Morgan ac Aelodau eraill, lle y mae banc wedi ysgrifennu ataf a rhoi gwybod i mi am eu penderfyniad; yna rwyf wedi ysgrifennu at y banc ac wedi gofyn iddynt am gyfarfod; yna, rwy’n eu cyfarfod ac yn gofyn iddynt newid eu safbwynt ac maent yn dweud ‘na’. Dyna’r fersiwn fer, ond beth bynnag a wnewch i gymryd rhan mewn deisebau, mewn ymgyrchoedd, mewn arolygon, fe fyddwch yn dal i gael yr un ateb negyddol. Mae Leanne Wood newydd grybwyll nad yw’r rhan fwyaf o ymgyrchoedd yn llwyddiannus. Wel, rwyf eto i glywed am unrhyw ymgyrch sydd wedi bod yn llwyddiannus hyd yma. Os gall unrhyw un ddweud wrthyf eu bod wedi cael ymgyrch lwyddiannus, os gwelwch yn dda a wnewch chi ymyrryd a gadael i mi wybod beth yw eich cyfrinach. Yn fwy diweddar, yn hytrach na ffurfio deisebau, fy null i o weithredu yw cynnal fy ymgynghoriad fy hun, gan nad yw’r banciau’n gwneud. Felly, cyn gynted ag y caf wybod, rwyf wedi cynnal fy arolwg fy hun ac wedi cyflwyno canlyniadau’r data hwnnw i’r banciau wrth i mi eu cyfarfod, ac rwyf wedi cyfarfod â’r holl fanciau yn fy etholaeth yn y 18 mis diwethaf—HSBC, Barclays, NatWest. Rwyf wedi cyfarfod â’u rheolwyr rhanbarthol, wedi cyflwyno data iddynt a gesglais o ganlyniad i fy arolygon fy hun, ac yn aml iawn hefyd, mae’r data’n wahanol i’r wybodaeth y maent hwy’n ei chyflwyno i mi. Cyfarfûm â banc HSBC yn Llanfyllin ym mis Rhagfyr. Roeddent yn dweud wrthyf, ‘Dyma faint o bobl a ddefnyddiodd ein banc y llynedd.’ Dywedais, ‘Wel, faint yw hynny bob dydd?’ Buont yn ei gyfrifo i mi tra oeddwn i yno ac roedd yn dri o bobl y dydd. Wel, roeddwn yn eistedd yn yr ystafell nesaf atynt a gallwn weld ar y monitor fod yna dri o bobl yn aros yn y ciw. Felly, rwy’n cwestiynu’r data y maent yn ei ddarparu weithiau. Rwy’n credu eu bod yn ddetholus iawn gyda’u data.
Yn fy mhrofiad i, y grwpiau yr effeithir arnynt fwyaf yw busnesau bach, wrth gwrs, yn enwedig os ydynt yn cymryd rhan mewn gweithgaredd manwerthu, oherwydd bod problemau gyda bancio arian a chael newid yn gyflym a heb ffwdan. Effeithir ar sefydliadau elusennol yn fawr iawn oherwydd y mathau o gyfrifon banc y mae’n rhaid iddynt eu cael—rhaid iddynt fynd i mewn i fanc—ac effeithir ar drigolion anabl a thrigolion hŷn hefyd, mae’n amlwg. Hefyd, effeithir yn amlwg ar gymunedau heb fawr o fand llydan neu signal ffonau symudol, os o gwbl. Wrth gwrs, fel y nodwyd, ceir gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr o ganlyniad i gau banciau, sy’n effeithio ar fusnesau lleol eraill hefyd.
Nawr, rwy’n meddwl fy mod yn deall i raddau—fel y credaf ein bod i gyd yn deall—pam y mae’r banciau’n gweithredu fel hyn. I raddau, rydym yn deall bod yna ddatblygiadau technolegol, a dyna’r prif ffactor. Rwy’n euog beth bynnag o ddefnyddio bancio ar-lein, ac felly rwy’n mynd i mewn i fy manc yn llai aml o ganlyniad i hynny. Ond i mi, dyna fwy o reswm pam y mae angen i’r banciau ddod at ei gilydd i archwilio model newydd o fancio a fydd yn arwain at rannu adeiladau, rhannu gwasanaethau a pharhau i wasanaethu cwsmeriaid.
Mae rôl yma hefyd i Lywodraeth Cymru—rwyf wedi crybwyll hyn wrth Weinidogion yn y gorffennol ac wedi siarad mewn dadleuon—i weithredu fel hwylusydd i ddod â’r banciau at ei gilydd—
15:47 - Mick Antoniw
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
15:47 - Russell George
Gwnaf, yn bendant.
15:47 - Mick Antoniw
Onid y cyfeiriad go iawn i fynd iddo yw ein bod am i Lywodraeth y DU reoleiddio’r banciau mewn gwirionedd i’w gwneud yn ofynnol iddynt, fel gydag unrhyw wasanaeth cyhoeddus arall, i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw? Ac onid y rheswm pam na fydd y Llywodraeth Dorïaidd yn ei wneud yw’r swm o arian sy’n cael ei roi yn eu coffrau gan fancwyr unigol a chan y diwydiant cyllid? Nid yw’r Llywodraeth Dorïaidd yn mynd i reoleiddio. Onid dyna’r broblem?
15:48 - Russell George
Roeddwn o ddifrif yn gobeithio, Mick, y gallem ddod â’r ddadl hon i ben ar nodyn lle y caem gonsensws trawsbleidiol. Rwy’n cytuno â rhan gyntaf yr hyn a ddywedoch. Rwy’n cytuno â’r rhan gyntaf o’r hyn a ddywedoch. Yr hyn rwyf am ei weld—. Gadewch i ni weld pob plaid yn y Siambr yn rhoi rhywbeth yn eu maniffestos cyn etholiadau’r Cynulliad a gadewch i ni weld pwy bynnag sy’n ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru yn bwrw ymlaen â hyn fel hwylusydd, gan ddod â banciau a’r rheoleiddwyr at ei gilydd a gwneud hynny ar sail drawsbleidiol, gyda chefnogaeth drawsbleidiol.
15:48 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Galwaf yn awr ar Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i siarad ar ran y Llywodraeth—Edwina Hart.
15:48 - Edwina Hart
Er fy mod, wrth gwrs, yn ymateb i’r ddadl, Lywydd, fel Gweinidog y Llywodraeth, rwy’n deall yn llawn ac yn cytuno â’r pryderon a leisiwyd yn y Siambr hon gan yr holl Aelodau sy’n cynrychioli etholaethau yma, oherwydd rydym i gyd yn ei weld â’n llygaid ein hunain. Roeddwn i’n meddwl bod ymyrraeth Llyr yn ddiddorol iawn, pan ddywedodd eich bod, yn gyntaf, yn dechrau gydag un ac yna rydych chi’n cael mynd filltir i lawr y ffordd, yna fe ewch i’r banc hwnnw ac maent yn dweud wrthych fod yn rhaid i chi fynd dair milltir i lawr y ffordd. Felly, pa bryd y mae tair milltir yn troi’n 10 a pha bryd y mae tair milltir yn troi’n 30? Dyna mewn gwirionedd yw’r broblem oherwydd, drwy’r amser, rwy’n meddwl, weithiau maent wedi bod â’r ddealltwriaeth y byddai ganddynt raglen gau ehangach yn hytrach na’r un gangen y byddent yn ei thrafod gyda chi mewn blwyddyn a beth sy’n digwydd yn ystod y flwyddyn wedyn.
Yn amlwg, mae’n rhaid i ni roi’r ddadl hon mewn rhyw fath o gyd-destun gan fod bancio’n fater i Lywodraeth y DU ac yn y pen draw, materion masnachol ar gyfer y banciau yw penderfyniadau ynglŷn â chau. Efallai mai ni yw eu cwsmeriaid, ond nid oes ganddynt ddiddordeb mewn dim mewn gwirionedd heblaw sut y mae’r farchnad yn ymateb i’w helw neu fel arall a sut y cânt eu gweld o fewn y Ddinas a sut y maent yn gweld yr economi ehangach a’u perthynas â hi.
Os caf ddweud, mae’n amlwg fod nifer o resymau dros gau. Rwy’n credu bod Russell George wedi cyffwrdd ag un o’r rheini, sef arloesi ariannol a thueddiadau yn y gymdeithas tuag at leihad yn y galw am y defnydd o sieciau fel dull o dalu, ac mae’r defnydd cynyddol o wasanaethau talu electronig yn un o’r materion a nododd y banciau. Hefyd, wrth gwrs, arweiniodd yr argyfwng ariannol at nifer o achosion o fanciau’n uno a dyblygu canghennau mewn rhai ardaloedd yn sgil hynny. Cyfeiriodd Mike at ei etholaeth, am TSB a Lloyds a beth a ddigwyddodd yno.
Roedd yr argyfwng ariannol hefyd yn gosod pwysau ar y banciau, gan eu gorfodi i edrych am ffyrdd o dorri costau. Wrth gwrs, mae Cymdeithas Bancwyr Prydain yn amcangyfrif bod nifer y bobl sy’n mynd i ganghennau i fancio wedi gostwng tua 30 y cant rhwng 2012 a 2015. Ond hyd yn oed ar sail anecdotaidd, rwy’n credu y gallem gwestiynu’r ffigurau y mae’r banciau wedi bod yn eu defnyddio o ran yr hyn a welwn â’n llygaid ein hunain pan awn i’r canghennau ar y stryd fawr y byddwn yn taro i mewn iddynt i wneud peth o’n gwaith, o ran yr hyn rydym yn ei gyflawni.
Nawr, pan edrychwn ar rai o’r problemau gyda’r gostyngiad yn y niferoedd, rydym hefyd yn cydnabod y pryder ynglŷn ag effaith cau ar gymunedau lleol. Nid wyf yn ymwybodol mewn gwirionedd o unrhyw dystiolaeth neu ymchwil yn ddiweddar—a byddai’n werth gwneud peth, mewn gwirionedd—yn benodol ar effaith cau banciau ar yr economi leol, gan fod y rhan fwyaf o’r dystiolaeth wedi bod yn anecdotaidd. Ond gwnaed rhywfaint o ymchwil gan Brifysgol Nottingham, a oedd yn nodi mai’r ardaloedd sydd â’r gyfradd uchaf o gau yw ardaloedd gweithgynhyrchu traddodiadol, lle y collir canghennau ar gyfradd 3.5 gwaith yn uwch na’r ardaloedd sydd â’r gyfradd isaf o ddirywiad. Mae’n ddiddorol iawn yn awr fod angen i ni gydnabod nad cymunedau gwledig yn unig yr effeithiwyd arnynt, ond cymunedau diwydiannol yn ogystal.
Nawr, rhaid i mi ddweud, fel Julie Morgan, rwy’n meddwl y gallwn ddweud gwaith mor rhagorol y mae sefydliadau defnyddwyr, fel yr ymgyrch dros wasanaethau bancio cymunedol, wedi’i wneud pan gawsant eu sefydlu i edrych ar rwydweithiau o ganghennau, ac maent wedi tynnu sylw at y problemau. Y broblem yw mynediad at wasanaethau ariannol, y gost economaidd a’r anghyfleustra i fusnesau bach, yr henoed, yr anabl ac eraill o orfod defnyddio lleoliadau a chyfleusterau bancio amgen. Yn y cyd-destun hwnnw, wrth gwrs, daw’r pwyntiau a wnaed am undebau credyd, am ba ddewisiadau eraill y gallwn eu defnyddio i geisio helpu a chynorthwyo a allai fod yn ddewisiadau amgen i unigolion.
Hefyd ceir y gost gymdeithasol o eithrio defnyddwyr incwm isel o wasanaethau ariannol prif ffrwd, wedi’i gwaethygu gan ddiffyg presenoldeb bancio yn y gymuned, ac mae hynny hefyd yn cysylltu â’r materion digidol, rwy’n meddwl, a’r pwyntiau a wnaeth Sandy Mewies.
Hefyd ceir cynaladwyedd cymunedau, a chredaf fod Jeff Cuthbert ac eraill wedi nodi hyn. Mae cau canghennau o fanciau yn cyfrannu at ddirywiad masnachol cymunedau, wrth i ddefnyddwyr gwell eu byd newid eu harferion prynu, ynghyd â’r angen i deithio ymhellach i gael gwasanaethau bancio. Mae busnesau’n cau ac adfywio’n mynd yn fwy annhebygol a chyllid cychwynnol ar gyfer busnesau lleol yn mynd yn anos ei gael. Er bod rhai pobl yn meddwl y gallwch ddal i fynd i mewn i’r gangen leol a chael penderfyniad ar rai agweddau o fenthyca fel busnes, weithiau fe welwch fod hynny’n cael ei wneud yn llawer pellach i ffwrdd yn awr.
Hefyd, mae’n ymwneud â’r amgylchedd, oherwydd mae’n rhaid i ni edrych ar y materion amgylcheddol, oherwydd, os ydym yn gofyn i bobl deithio ymhellach, rydym hefyd yn effeithio ar yr amgylchedd, a chredaf fod angen i ni gydnabod hynny hefyd.
Un peth hefyd nad wyf yn credu ei fod wedi cael sylw yn y drafodaeth gan unrhyw un o’r cyfranwyr heddiw, yw effaith cau canghennau ar swyddi a phobl. Mae swyddi’n mynd allan o’r cymunedau hyn. Mae pobl yn cael eu cyflogi ac ni fyddant yn cael eu cyflogi mwyach. Mae hynny’n eithriadol o bwysig ym mhob ardal. Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd ag uwch gynrychiolwyr o’r prif fanciau ac rwyf wedi pwyso arnynt am well mynediad i gyllid ar gyfer busnesau ac i roi ystyriaeth lawn i effeithiau cau canghennau cymunedol cyn penderfynu gwneud hynny.
Mae pobl wedi cyfeirio at yr Ysgrifennydd busnes Vince Cable, a ysgrifennodd mewn gwirionedd at fanciau yn galw am weithdrefnau clir, yn 2014 rwy’n meddwl, gan nodi’r camau y byddai banciau’n eu cymryd wrth gau cangen i sicrhau nad oedd cwsmeriaid mewn ardaloedd gwledig a difreintiedig ar eu colled. Rwy’n cytuno â Mick Antoniw pan ddywedodd y dylai fod sylfaen statudol i hyn oll. Rwy’n meddwl ein bod i gyd yn cytuno ar draws y Siambr, os ydym yn mynd i elwa o hyn o gwbl, fod angen i ni gael rhyw elfen o reoleiddio yma i wneud yn siŵr eu bod yn rhoi sylw i’r hyn y mae eu cwsmeriaid yn ei ddweud wrthynt. Ym mis Mawrth 2015, fe ymrwymodd prif fanciau’r stryd fawr a grwpiau defnyddwyr i’r cytundeb ar draws y diwydiant y soniodd Mark amdano, ac mae’n bryd adolygu’r protocol hwnnw—mae’n bwysig ein bod yn cymryd rhan ac yn gwneud rhywbeth ar yr adolygiad hwnnw, oherwydd bydd yn edrych ar sut rydym yn gweithio gyda chymunedau lleol, yn dod o hyd i ddarpariaeth addas arall, ac yn darparu dulliau bancio amgen boddhaol. Rhaid i hynny fod yn realiti o safbwynt y cod.
Mae swyddfeydd post lleol yn darparu ystod ardderchog o wasanaethau ac rwy’n credu mai ym mis Awst 2015 yr ysgrifennodd Anna Soubry at brif weithredwr Cymdeithas Bancwyr Prydain mewn gwirionedd yn croesawu’r protocol mynediad gwyrdd i fancio, a phwysleisio pa mor bwysig yw hi i fanciau ddilyn y broses a nodwyd yn y protocol. Edrychai hefyd ar brif elfennau cytundeb telerau rhwng y banciau a Swyddfa’r Post ar ddarparu gwasanaethau.
Ond fel y dangosodd Kirsty Williams, mae’r gwirionedd yn hollol wahanol i’r hyn sy’n digwydd o ran y cod. Ni cheir unrhyw ymgynghori priodol. Weithiau mewn swyddfeydd post, mae postfeistri’n rhuthro i helpu a chynorthwyo am na fu unrhyw ddeialog. Felly, mae’n sicr fod problemau gyda’r cod hwn sy’n rhaid bod o ddifrif yn eu cylch, rwy’n credu.
Rwy’n credu ein bod wedi cael dadl dda iawn heddiw, ac mae angen i bawb ddefnyddio’r cyfleoedd a nodais i gyflwyno sylwadau ar y cod, a byddaf yn ysgrifennu at Anna Soubry, ond i mi mae’r holl fater yn ymwneud â rheoleiddio. Gofynnodd Leanne, ‘A oes unrhyw un yn gwrando? A yw’r banciau gwrando?’ Gallaf ddweud wrthych nad yw’r banciau’n gwrando, ac mae’n rhaid i ni ofyn i ni ein hunain, ‘Pwy achubodd y banciau? Pwy sy’n berchen ar ran o’r banciau?’ Y cyhoedd, dyna pwy. Yn y pen draw, mae angen i ni gyflwyno sylwadau cryf iawn ar sut i symud pethau yn eu blaenau, ac rwy’n croesawu cyd-destun y ddadl hon heddiw yn fawr iawn.
15:56 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Galwaf ar Aled Roberts i ymateb i’r ddadl. Aled Roberts.
15:56 - Aled Roberts
Diolch, Lywydd, ac a gaf i hefyd ddiolch i bawb am eu cyfraniadau yn ystod y prynhawn? Diolch yn arbennig i Julie Morgan am ofyn i’r tri ohonom ni gefnogi’r ddadl yma heddiw. Rwy’n meddwl beth sydd yn thema sydd wedi mynd trwy’r ddadl yma ydy rhwystredigaeth, o achos rydym ni i gyd wedi bod drwy’r broses yma am nifer o flynyddoedd. Rwy’n meddwl roedd y ffigurau roedd Julie yn rhoi ar y cychwyn yn dangos mai problem am ryw 20 mlynedd ydy o erbyn hyn, ond mae’r broblem yna yn cynyddu.
Rwy’n meddwl, pan wnaeth Ken Skates a minnau gael cyfarfod ar y cyd efo rheolwr rhanbarthol HSBC yn y gogledd, ei bod hi’n amlwg bod hynny’n mynd i gynyddu achos dywedodd o fod yna benderfyniad wedi cael ei wneud gan fwrdd HSBC ar lefel Brydeinig eu bod nhw eisiau mynd ati yn fwy cyflym i gau banciau. Fe ddywedodd o ar y pryd mai rhwydwaith HSBC yng ngorllewin Cymru, yn y gogledd a’r de, fyddai’n gweld y mwyaf o ganghennau yn cau yn y pen draw.
I believe that, by now, we have reflected that frustration, and a number of speakers have said—. I have to say, from the point of view of Russell George’s contribution, that the problem we have is that we can introduce all of these elements within our manifestos for the Assembly elections, but, ultimately, it is a UK-wide problem. We have to ask why a number of politicians at a UK level, from every party, don’t seem to be willing to address the problem or to move to a system of regulation. We’ve tried voluntary protocols in the past and it’s obvious by now that those protocols don’t work.
Mi oedd Darren Millar yn dweud bod yna broblem hefyd o ran hyd yn oed y canghennau hynny sydd ar ôl—bod eu horiau nhw yn cael eu cyfyngu. Mi ddywedodd o hefyd fod angen, yn y pen draw, inni gadw gwasanaethau cownteri os yn bosibl. Er, mae’n rhaid imi ddweud ein bod ni wedi bod yn awyddus iawn yn y gogledd—. Mi oedd Rhun yn sôn am broblemau yn Ynys Môn. Mae yna bum cangen o HSBC yn y gogledd yn mynd trwy’r broses yma o gau: y ddau yn sir Fôn, Betws-y-coed yn ardal Conwy, a hefyd y Waun a Rhiwabon yn Wrecsam. Mae HSBC, hwyrach, ar flaen y gad, ond, fel y dywedodd Mark Isherwood, wrth gwrs, mae Barclays hefyd rŵan yn dechrau edrych ar eu rhwydwaith. Ond Barclays sydd ar ôl yn Ne Clwyd—un banc o fewn etholaeth o ryw 60,000 o bobl, un banc ar ôl yn Llangollen.
Beth sydd yn fy synnu i ydy’r ffaith nad ydyn nhw’n edrych ymlaen. Fe wnes i gynnal cyfarfod gyda HSBC ar ddiwedd yr haf ac mi oeddwn i’n pryderu bryd hynny am ddyfodol y banc yn y Waun a Rhiwabon. Ryw dri mis cyn iddyn nhw gael y penderfyniad neu’r awgrym eu bod nhw’n mynd i gau’r banciau, roedd y rheolwr rhanbarthol yn dweud, ‘O na, nid oes yna ddim problem o gwbl efo Rhiwabon na’r Waun. Mae’r Waun efo busnes Kronospan yn mynd trwyddo fo. Mae Rhiwabon yn brysur o ran pobl sydd wedi cael eu gorfodi i symud yna o’r Rhos.’ Felly, nid penderfyniadau sydd yn cael eu cymryd ar lefel rhanbarthol ydy’r rhai yma, ond penderfyniadau ar lefel cenedlaethol. Rwy’n meddwl, fel y dywedodd Mark Isherwood, mae’n anodd deall yn union sut mae’r bobl yma sy’n rheoli ein banciau ni ar hyn o bryd yn gwneud y penderfyniadau yma. Fel y dywedodd Kirsty Williams, mae’n anodd hefyd, fel trethdalwyr, inni dderbyn, ar ôl yr holl arian a aeth i mewn i’r banciau yma yn ystod y dirwasgiad, eu bod nhw ar ôl hynny yn delio efo trethdalwyr yn y modd yma.
Fe ddywedodd Mike Hedges nad problem gwledig ydy hon. Roedd Russell George yn dweud ei fod o rŵan yn deall y sefyllfa yna. Rwy’n meddwl bod Mike wedi’i gwneud hi’n amlwg. Mae o’n wastad yn ein cymryd ni nôl i Dreforys, ac fe soniodd am yr argraff a’r effaith mae hynny’n ei gael—fel Jeff Cuthbert ym Margoed—ar fusnesau o fewn y pentrefi neu’r maestrefi bychain yna, lle mae yna bobl, hwyrach, sy’n gallu mynd i fanciau o fewn trefi cyfagos neu o fewn dinasoedd cyfagos. Yn y pen draw, nid ydynt yn gwario dim o’u harian o fewn y siopau lleol achos maen nhw jest yn mynd ar yr un trip yna. Mae hynny, wrth gwrs, meddai Jeff Cuthbert, yn anodd i’w dderbyn, lle mae yna gymaint o arian cyhoeddus yn mynd i mewn i lefydd fel Bargoed, sy’n ceisio adnewyddu y trefi a’r pentrefi yma. Yn y pen draw, mae penderfyniad masnachol yn meddwl bod y broblem yn dirywio.
Rwy’n meddwl bod yn rhaid inni edrych yn sylfaenol ar y system yma. Rwy’n meddwl bod gan y mudiad o fanciau cymunedol batrwm y gallwn ni ei ystyried. Maen ganddynt gwahanol haenau o fanciau, ond yn y pen draw rwy’n meddwl bod angen inni gwestiynu yma ym Mhrydain pam, yn wahanol iawn i’r sefyllfa ar y cyfandir, pam mae’r holl benderfyniadau yma yn cael eu cymryd yn ganolig yn Llundain, achos rwy’n meddwl mai dyna’r broblem. Ni fuasai’r sefyllfa yma yn bod yn yr Almaen neu lefydd felly, lle mae na lawer iawn mwy o benderfyniadau’n cael eu gwneud ar lefel leol. Mae’r mudiad banciau cymunedol yn sôn am greu rhyw fath o ‘franchise’ yn y lle cyntaf, lle mae’r banciau i gyd yn dod at ei gilydd i gadw cangen leol, ond ar ôl hynny, hwyrach symud i system—ac mae nifer wedi sôn am yr undebau credyd—a symud at system lle rydym yn sicrhau rhyw fath o wasanaeth, nid yn unig i’r henoed, nid yn unig i bobl nad oes ganddynt—. Fel y dywedodd Rhun, mae yna ardaloedd lle nad yw band eang yn ddibynadwy. Ond hefyd, mae’r busnesau bychain yma sydd angen arian parod er mwyn iddyn nhw gynnal eu busnesau o fewn yr ardaloedd.
Felly, rwy’n meddwl mai’r neges y prynhawn yma ydy hwyrach bod yr holl amser am greu deisebau, yr holl amser am geisio llythyru efo rheolwyr drosodd, ac mae’n amser inni fynnu bod ein pleidiau ni i gyd ar lefel Brydeinig yn gweithredu ar frys os ydym eisiau gweld banciau yn ein cymunedau ni yn y dyfodol.
16:03 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid oes gwrthwynebiad; felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
16:03 - Y Llywydd / The Presiding Officer
A gaf fi atgoffa’r Aelodau, os byddwch yn cymryd rhan mewn dadl, disgwylir i chi aros i wrando ar weddill y ddadl? Mae’n hynod o anghwrtais i Aelodau adael y Siambr cyn gynted ag y maent wedi siarad, ac rwy’n edrych yn anffafriol iawn ar hynny. Gwnaeth dau Aelod hynny y prynhawn yma.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Melding) i’r Gadair.
4. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi
16:03 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Eitem 4 yw’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar waith athrawon cyflenwi, a galwaf ar Ann Jones i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM5951 Ann Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2015.
Cynigiwyd y cynnig.
16:04 - Ann Jones
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gyflwyno adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar waith athrawon cyflenwi i’r Cynulliad ei drafod y prynhawn yma.
Mae athrawon cyflenwi yn rhan hanfodol o’r system addysg. Mae absenoldeb athrawon yn anochel, felly mae’n rhaid cael nod cyffredin i sicrhau, lle y mae angen gwaith athrawon cyflenwi, y gellir ei ddarparu’n effeithiol a’i fod o’r ansawdd gorau er mwyn i ni ddarparu addysg safonol barhaus i ddisgyblion.
Archwiliwyd yr heriau a’r anawsterau niferus wrth gyflawni’r disgwyliadau uchel hyn ar gyfer gwaith athrawon mewn tri adroddiad diweddar a gynhyrchwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, Estyn a Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad. Cafodd yr adroddiadau hyn groeso mawr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a nododd fod pryderon yn dal i gael eu crybwyll. Felly, roedd y pwyllgor yn arbennig o awyddus i ddysgu a oedd gwaith athrawon cyflenwi yn effeithio ar ddisgyblion a pha effaith a gâi ar daith y disgyblion.
Fel rhan o’r ymchwiliad, cynhaliwyd arolygon gyda phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, a ddenodd bron i 1,500 o ymatebion. Rydym yn hynod ddiolchgar i’r rheini a roddodd amser i ymateb, gan fod hyn wedi rhoi darlun clir o’r hyn y mae’r rhai sy’n ei dderbyn yn ei feddwl o waith athrawon cyflenwi. Yn ystod yr ymchwiliad, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau newydd ar reoli presenoldeb y gweithlu ysgolion yn effeithiol. Mae’n bwysig nodi bod llawer o’r dystiolaeth y cyfeirir ati yn ein hadroddiad wedi’i dderbyn cyn cyhoeddi’r canllawiau hyn. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn awyddus i sicrhau bod y canllawiau newydd yn cael eu hystyried. Mae’r adroddiad felly yn cynnwys tystiolaeth ychwanegol gan randdeiliaid ar effaith bosibl y canllawiau hynny.
Gwnaeth y Pwyllgor 22 o argymhellion yn ei adroddiad. Nid af drwy bob un o’r rhain yn fanwl, a gallaf glywed pawb yn dweud, ‘Diolch byth.’ Yn lle hynny, hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar yr hyn y mae’r pwyllgor yn ei gredu yw’r meysydd allweddol a ddaeth yn amlwg. Mae ein hargymhelliad trosfwaol yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ystod o opsiynau ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi yn y dyfodol, gan gynnwys trefniadau clwstwr a weithredir gan awdurdodau lleol neu drwy gorff cenedlaethol. Rydym yn credu y byddai trefniadau agosach rhwng y cyflogwyr a’r rhai sydd â chyfrifoldeb am ddarparu addysg ysgol yn helpu i ddatrys llawer o’r materion a nodwyd. Câi’r farn hon ei rhannu’n eang gan bawb a roddodd dystiolaeth. Byddai newid o’r fath yn gam hanfodol ymlaen, ond mae’n debygol o fod yn nod yn y tymor hwy, gan fod y contract presennol ar gyfer athrawon cyflenwi i fod i barhau i redeg tan fis Awst 2018.
Nododd yr ymchwiliad nifer o feysydd lle y gellid gwneud gwelliannau o fewn ffrâm amser y contract presennol. Roedd diffyg data ystyrlon, cyson, cymharol ar absenoldeb athrawon yn bryder mawr. Mae’r diffyg data’n golygu bod y rhesymau dros absenoldebau athrawon yn aneglur felly, gan ei gwneud yn anodd rheoli a lleihau absenoldeb oherwydd salwch. Roedd y dystiolaeth hefyd yn tynnu sylw at system ar gyfer gwaith athrawon cyflenwi, gan gynnwys casglu data, sy’n rhy gymhleth. Felly, er bod angen gwella dulliau o gasglu data, mae angen gwneud hyn mewn ffordd glir a hawdd ei rheoli.
Ar ymddygiad disgyblion a chanlyniadau, dangosodd tystiolaeth gan Estyn, a’r ymatebion i’r arolwg, fod y defnydd o athrawon cyflenwi yn effeithio’n negyddol ar ymddygiad disgyblion, ac mae’n cael effaith negyddol bellach ar eu cyflawniad a’u cynnydd mewn gwersi. Fodd bynnag, awgrymodd Estyn hefyd, er efallai nad oedd cynnydd disgyblion mewn gwersi unigol mor gyflym ag y dylai fod, nid oedd hyn o reidrwydd yn effeithio’n gyffredinol ar ddeilliannau disgyblion. Unwaith eto, mae’r diffyg data dilys, dibynadwy yn y maes yn ei gwneud yn anodd iawn asesu’n gywir beth yw effaith gwaith athrawon cyflenwi ar ddeilliannau disgyblion. Mae’r pwyllgor yn credu y dylid gwneud ymchwil er mwyn cael dealltwriaeth o effeithiau gwaith athrawon cyflenwi ar ymddygiad a deilliannau disgyblion.
Rwyf am droi at ddatblygiad proffesiynol parhaus yr athrawon yn awr. Darparu DPP i athrawon cyflenwi oedd un o’r prif feysydd pryder a fynegwyd gan bron bawb a roddodd dystiolaeth. Roedd y materion a nodwyd yn awgrymu: nad oes llawer o fynediad at DPP ar gyfer athrawon cyflenwi; bod cost DPP yn broblem fawr; ac nad yw’r DPP sydd ar gael o reidrwydd yn adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Er bod y Gweinidog wedi ailddatgan ei ymrwymiad y bydd y fargen newydd ar gyfer y gweithlu addysg yn berthnasol i athrawon cyflenwi, nid yw’n glir sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni. Dylai cyflwyno cynlluniau datblygu ysgol helpu i ddarparu gwell hyfforddiant yn gyffredinol ar draws y gweithlu ysgol. Nid yw’n glir, fodd bynnag, sut y bydd y cynlluniau datblygu hyn yn cael eu defnyddio i ystyried anghenion athrawon cyflenwi sydd ar gontractau dyddiol neu gontractau tymor byr. Mae angen mynd i’r afael â hyn ar frys. Crybwyllwyd y defnydd posibl o ddysgu ar-lein, yn arbennig cyflwyno’r pasbort dysgu proffesiynol, fel ffordd gadarnhaol ymlaen. Cafwyd cydnabyddiaeth hefyd o bwysigrwydd rhannu arferion proffesiynol ac arsylwi uniongyrchol. Mae’r pwyllgor yn credu y dylai’r Gweinidog hyrwyddo pwysigrwydd DPP wyneb yn wyneb ochr yn ochr â dysgu ar-lein. Roedd nifer yn cefnogi’r awgrym o DPP gorfodol i athrawon. Mae’r pwyllgor yn derbyn y gallai fod anawsterau posibl wrth sefydlu dull statudol ar gyfer DPP, ond mae’n credu bod hyn yn rhywbeth y dylai’r Gweinidog ymchwilio iddo.
Fe symudaf ymlaen at athrawon sydd newydd gymhwyso. Roedd y pwyllgor yn bryderus iawn o glywed tystiolaeth fod y diffyg cefnogaeth i athrawon sydd newydd gymhwyso yn arwain at ganran uchel yn gadael y proffesiwn. Mae’r pwyllgor yn credu bod yn rhaid cael cymorth digonol a gwell i athrawon cyflenwi sy’n athrawon newydd gymhwyso i’w galluogi i ddangos eu bod yn cyrraedd safonau athrawon proffesiynol yn llawn. O ran rheoli perfformiad, clywodd y pwyllgor lawer o dystiolaeth a oedd yn awgrymu na cheir rheoli perfformiad go iawn ar gyfer athrawon cyflenwi. Roedd llawer o’r rhai sy’n darparu tystiolaeth yn cydnabod yr anawsterau o ran darparu rheoli perfformiad, ac yn cwestiynu ymarferoldeb system ar gyfer staff tymor byr. Mae’r pwyllgor yn credu bod yn rhaid cael system fwy cadarn ar gyfer rheoli perfformiad, gan gynnwys darparu adborth ar bob lefel, a dylai Llywodraeth Cymru ystyried y ffordd orau o gyflawni hyn.
Ar sicrhau ansawdd, unwaith eto roedd y dystiolaeth a ddaeth i law yn mynegi pryder ei bod yn anodd mesur sicrwydd ansawdd gwaith athrawon cyflenwi, yn enwedig gan nad oedd unrhyw nod neu safon ansawdd cyfredol yr oedd yn ofynnol i asiantaethau cyflenwi ei fodloni. Cred y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ystyried a fyddai sefydlu nod ansawdd ar gyfer Cymru yn gwella sicrwydd ansawdd.
Os caf droi at ddarpariaeth gwaith cyflenwi yn y Gymraeg, mynegwyd pryder ynghylch prinder cyffredinol o athrawon cyflenwi cyfrwng Cymraeg. Er bod llawer o’r dystiolaeth a gawn yn anecdotaidd, oherwydd bod graddedigion hyfforddiant athrawon cyfrwng Cymraeg yn fwy tebygol o allu dod o hyd i swydd barhaol, awgrymwyd nad oeddent yn mynd i mewn i’r gronfa o athrawon cyflenwi. Mae’n hollbwysig cael darlun cywir o effaith gwaith cyflenwi cyfrwng Cymraeg, er mwyn sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd os oes angen. Cred y pwyllgor y dylid ystyried materion cyflenwi drwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o’r adolygiad thematig o waith cyflenwi yn y dyfodol y dywedodd y Gweinidog y byddai’n gofyn amdano gan Estyn.
Soniais yn gynharach am ganllawiau newydd Llywodraeth Cymru ar reolaeth effeithiol ar bresenoldeb y gweithlu ysgolion fel ffordd ymlaen a allai helpu i ddatrys rhai o’r materion a nodwyd yn yr ymchwiliad hwn. Fodd bynnag, mae’r pwyllgor yn credu ei bod yn rhy fuan i ddweud a fydd y canllawiau’n cyflawni eu dibenion datganedig ac yn effeithio’n gadarnhaol ar reoli absenoldeb athrawon yn effeithiol. Mae’r pwyllgor felly yn croesawu argymhellion Llywodraeth Cymru i ofyn am yr adolygiad thematig pellach ar waith athrawon cyflenwi gan Estyn, ac ar yr adeg honno, bydd modd asesu effeithiolrwydd y canllawiau.
I gloi, felly, Ddirprwy Lywydd, fel bob amser, hoffwn ddiolch i’r rhai a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor, yn enwedig y bobl ifanc eu hunain, yn ogystal ag aelodau o’r pwyllgor a’r tîm clercio a helpodd i lunio ein hadroddiad. Cymeradwyaf yr adroddiad i’r Cynulliad. Diolch yn fawr iawn.
16:12 - Angela Burns
Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad ar adroddiad arall gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Dengys ei fod wedi bod yn effeithiol yn gyson wrth graffu ar Lywodraeth Cymru, rhywbeth y mae’r Gweinidog addysg ei hun wedi’i ddweud. Mewn gwirionedd, mae Cadeirydd y pwyllgor wedi mynd drwy’r rhan fwyaf o’r argymhellion yn gryno iawn, felly yn hytrach na darllen beth a roddais i lawr yma, yr hyn yr hoffwn ei ddweud yw—. Rwy’n teimlo y dylwn ddatgan buddiant, Ddirprwy Lywydd, gan fod gennyf ddau o blant, un yn yr ysgol uwchradd ac un yn yr ysgol gynradd. I mi, mae’n ymwneud ag effeithiau cael athrawon cyflenwi ar addysg plant. Ymatebais i’r ymchwiliad hwn fel rhiant mewn gwirionedd, ac ymesgusodais o lawer o’r ymchwiliad pan oedd y dystiolaeth yn cael ei chymryd, gan fy mod wedi rhoi tystiolaeth o’r fath.
Rwyf am siarad o brofiad personol. Roeddwn yn synnu’n fawr wrth weld sut yr oedd fy mhlentyn ieuengaf, a oedd bob amser wedi gwneud yn dda iawn yn yr ysgol gynradd wedi dioddef go iawn yn ystod y flwyddyn y cafodd gyfres o athrawon cyflenwi. Nid hi’n unig a ddioddefodd. Rwyf hefyd yn siarad ar ran y rhan fwyaf o’i chyd-ddisgyblion, gan nad un athro cyflenwi yn unig a ddaeth i mewn i edrych ar eu holau am wythnos, neu bythefnos. Roedd yn gyfnod hir iawn o amser, ac roeddent yn cael un athro cyflenwi am rai dyddiau, un athro cyflenwi ar gyfer y diwrnod canol, ac yna athro cyflenwi arall ar gyfer diwedd yr wythnos. Felly, roeddent yn cael tri o bobl wahanol. Pan oeddwn yn darllen y dystiolaeth a welodd gweddill y pwyllgor, a’r adroddiad a gyflwynwyd gennym wrth gwrs, roedd yn ddiddorol iawn gweld bod y plant eu hunain—ac rwy’n dyfynnu yn y fan hon—fod 80 y cant o’r disgyblion a ymatebodd i arolwg y pwyllgor ar athrawon cyflenwi wedi dweud
‘eu bod wedi dysgu llai gydag athro cyflenwi nag yr oeddent gyda’u athro dosbarth arferol.’
Dywedodd yr un gyfran o ymatebwyr fod eu hymddygiad yn waeth wrth gael eu dysgu gan athro cyflenwi. Un o’r rhesymau wrth wraidd y rhifau hyn yw nad yw disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu herio gan y gwaith a roddir iddynt gan yr athrawon cyflenwi, ac yn aml iawn, llenwi amser y mae llawer o’r gwaith yn hytrach na dysgu go iawn. Unwaith eto yn fy mhrofiad fy hun a ffrindiau fy merch, canfûm y byddent yn cael gwaith cartref gan athro A, ond byddai athrawon B a C yn cymryd drosodd am weddill yr wythnos ac nid oedd gan y plant neb i roi’r gwaith iddynt a neb i’w fonitro.
Y peth arall a ddaeth yn amlwg iawn oedd bod cyfraddau bwlio wedi codi. Nawr, nid wyf yn siarad am fwlio mawr, rwy’n siarad am fwlio gyda ‘b’ fach iawn. Cellwair ystafell ddosbarth a âi ychydig bach yn rhy bell oedd hwn. Unwaith eto, daw’n ôl at athrawon cyflenwi nad oeddent yn adnabod y cymeriadau cystal â hynny ac nad oeddent yn cael y cyfle hwnnw. Felly, rwy’n meddwl fod yna gydberthynas glir iawn rhwng yr hyn y mae plentyn yn ei ddysgu a sut y mae’n dod yn ei flaen yn yr ysgol a’r berthynas y mae’n ei hadeiladu â’i athro. Mae’n bwysig iawn i blant oed ysgol gynradd.
Y maes arall a ddaeth yn amlwg iawn pan oeddwn yn darllen tystiolaeth y tystion—ac mae’n gysylltiedig â hyn eto—yw’r effaith y mae hynny wedyn yn ei chael ar athrawon sy’n gweithio mewn ardaloedd difreintiedig ac ar y bobl ifanc sydd mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Roeddent yn ei chael hi’n anos fyth ymdopi gydag athro cyflenwi. Ni châi’r lefelau cyrhaeddiad eu nodi ac unwaith eto, roedd yr holl broblem honno’n gwaethygu.
Felly, er ei bod yn amlwg fod y Cadeirydd wedi mynd drwy weddill yr argymhellion, Weinidog, rwy’n meddwl mai’r hyn yr hoffwn ei wneud yw cael eich barn, i rywun fel fi sy’n rhiant, sydd wedi bod drwy hyn, ac i’r holl rieni allan yno, fod athrawon cyflenwi yn angenrheidiol iawn. Mae gennym athrawon sydd angen amser i gael hyfforddiant ac sy’n amlwg angen amser i gael babanod neu oherwydd eu bod yn sâl neu oherwydd bod gennym lefelau eithaf uchel o straen, neu mae gennym ysgolion lle y maent yn ei chael yn anodd iawn recriwtio athrawon. Felly, mae arnom angen athrawon cyflenwi. Maent yn rhan hanfodol iawn—yn rhan sylfaenol o’n system addysg. Ond sut rydym yn sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn rhan o wead yr ysgol? Sut y credwn y gallant gael ymgysylltiad go iawn â’r disgyblion y maent yn gofalu amdanynt fel bod cysondeb a chydlyniant er mwyn sicrhau nad yw’r dyddiau yn yr ysgol yn cael eu gwastraffu ond yn hytrach, eu bod yn werthfawr i’r disgyblion ifanc hynny? Diolch.
16:17 - Keith Davies
A gaf i ddiolch hefyd i’r pwyllgor ac i’r clerc am y gwaith manwl a wnaethant yn edrych i mewn i athrawon cyflenwi? Rydych yn gallu gweld pa mor bwysig yr oedd e fod dros 20 o argymhellion o’r ffordd y gallem wella’r sefyllfa. Mae’n debyg—ac mae pawb, rwy’n credu, yn cytuno—nad yw pethau’n dda nawr.
Ond mae lle i ymfalchïo yn llwyddiant ein hysgolion ac yn y ffordd, ar y cyfan, y mae awdurdodau lleol yn gweithredu wrth gynnal a chynorthwyo ein hysgolion. Roedd adeg pan roedd awdurdodau addysg yn trefnu athrawon cyflenwi. Ar y cyfan, mae’r trefniadau erbyn hyn wedi cael eu preifateiddio. Yno, yn y byd addysg, cawn gipolwg ar y ffordd y gallwn ddatblygu yn y dyfodol heb strwythur democrataidd lleol. Nid yw’r darlun yn ffafriol o bell ffordd.
Lle mae athrawon cyflenwi yn y cwestiwn, yn rhy aml, annibyniaeth yw annibendod. Mae sôn wedi bod am raddfeydd cyflog rhanbarthol. Nid yw pethau’n argoeli’n dda os ydym yn gweld athrawon cyflenwi’n braenaru’r ffordd honno. Ar gyfartaledd, mae’r tâl a dderbynnir gan athrawon cyflenwi Cymru yn is nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig.
A gawn ni gyhoeddi yn blwmp ac yn blaen yn y Siambr hon nad yw athrawon cyflenwi yn berthnasau eilradd i weddill ein hathrawon? Maent yn haeddu’r un urddas proffesiynol, gan gynnwys hyfforddiant mewn swydd a’r cyfle i gael dyrchafiad, fel dywedodd y Cadeirydd yn gynharach. Rwy’n feirniadol ambell waith ein bod yn rhy aml yn edrych dros Glawdd Offa am ysbrydoliaeth. Serch hynny, a gaf i argymell enghraifft Cyngor Sefton yn Lloegr? Yno, mae’r awdurdod yn rhedeg ei asiantaeth ei hun ar gyfer athrawon cyflenwi. Yng Ngogledd Iwerddon, mae cyngor Belffast yn cadw cofrestr o athrawon cyflenwi ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn derbyn y tâl sy’n unol â’u cymwysterau a’u profiad, a hefyd yn rhan o gynllun pensiwn yr athrawon ac yn derbyn hyfforddiant proffesiynol. Rwy’n credu bod y ddau beth yna, Sefton a Belffast, yn dangos ffordd inni gefnogi ein hathrawon cyflenwi.
Hoffwn weld cofrestr genedlaethol dros Gymru benbaladr. Yng Nghymru, yr awdurdodau lleol a oedd ymysg sylfaenwyr Cyd-bwyllgor Addysg Cymru. Dyma’r ffordd ymlaen—nid dyfodol sy’n cynnig elw i’r person yn y canol, ond sylfaen â’i wreiddiau yn nhraddodiad cenedlaethol democrataidd Cymru.
Arwyddair Cymdeithas Bêl-droed Cymru—rydych wedi fy nghlywed yn dweud hyn o’r blaen—yw: ‘Gorau chwarae, cyd chwarae’. Nid yng nghwpan Ewrop yn Ffrainc yn unig y bydd hynny’n berthnasol, ond yn ein byd addysg yn ogystal. Rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad yn cael ei dderbyn gan y Gweinidog ac y bydd yn edrych ar le mae pethau’n gallu gwella, achos, yn y pen draw, mae’n rhaid inni edrych ar ôl ein hathrawon cyflenwi, neu byddwn ni’n cael rhai o’r problemau yr oedd Angela Burns yn sôn amdanynt yn gynharach. Diolch.
16:20 - Simon Thomas
Rwy’n falch iawn i allu cyfrannu at y drafodaeth ar adroddiad pwysig iawn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—adroddiad, wrth gwrs, sydd wedi ei gytuno gan bob plaid ar y pwyllgor hwnnw ac, oherwydd hynny, yn un pwerus, ond oherwydd hynny hefyd, wrth gwrs, nid yw cweit yn adlewyrchu yn llwyr yr hyn y mae Plaid Cymru yn meddwl am y sefyllfa. Felly, gan fod y Cadeirydd wedi gosod allan mor glir yr argymhellion a gytunwyd arnyn nhw gan bob plaid, rwyf am ganolbwyntio yn y ddadl yma ar yr agwedd y bydd Plaid Cymru yn ei chymryd yn yr etholiad ac yn y Cynulliad nesaf.
Nid oes dwywaith gennym ni, fel mae’r adroddiad yn ei ddweud, fod angen ailedrych yn llwyr ar y ffordd rydym yn cefnogi athrawon cyflenwi yng Nghymru. Byddai’n well gan Blaid Cymru weld un asiantaeth genedlaethol ar gyfer darparu athrawon cyflenwi, a gorau oll os yw’r asiantaeth yna’n un â seiliau cydweithredol gyda’r athrawon eu hunain, fel bod unrhyw elw yn cael ei ailgylchu i hyfforddi athrawon ac i dalu graddfeydd cyflog gwell ac ati. Wrth gwrs, nid oes rhaid mynd yn bell i weld hwn ar waith ar yr ynysoedd hyn, achos dyna beth sydd gyda chi yng Ngogledd Iwerddon, lle mae’r un asiantaeth yn darparu ar gyfer cenedl fach o 2 filiwn o bobl, ac mae gennym y gallu, rwy’n meddwl, i’w wneud e yn fan hyn.
Ar hyn o bryd, nid yw athrawon cyflenwi o reidrwydd yn cael unrhyw gyfraniadau pensiwn, ac nid ydynt yn cael y raddfa gyflog y byddai athro yn ei gael. Mae New Directions, rwy’n deall gan y rhai sy’n gweithio i New Directions, yn talu £90 y diwrnod, ac, wrth gwrs, yn codi ychydig mwy na £90 y diwrnod ar yr ysgol sy’n cyflogi’r person hwnnw. Rydym hefyd yn gweld bod asiantaethau fwyfwy—er bod yr adroddiad yma ynglŷn ag athrawon yn benodol—yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall o fanylion gan Gyngor y Gweithlu Addysg, hefyd bellach yn darparu rhai miloedd o gynorthwywyr dosbarth. A dweud y gwir, mae’r gwaith yn ehangu yn gyflym iawn ym maes cynorthwywyr dosbarth, yn fwy na gydag athrawon cyflenwi. Yn yr un cyd-destun, rydych wedyn yn cael athro—rhywun sydd wedi cymhwyso fel athro—yn cael ei dalu a’i ddefnyddio jest i fod yn cyfyr ac nid yn dysgu; rydych yn cael cynorthwywyr dosbarth yn gorfod gweithio gyda phlentyn gydag anghenion jest ar y diwrnod, heb wybod dim. Mae’r hyn roedd Angela Burns yn ei amlinellu o ran plant eraill yn arbennig o wir ar gyfer plant sy’n fregus ac angen cefnogaeth benodol, wrth gwrs. Felly, un asiantaeth, un ddarpariaeth, un ffordd o wneud pethau, a chyflog teilwng ar gyfer hynny.
Yn sgil hynny, fe ddaw cyfle wedyn i ymwneud ag ail ran y gwendid mwyaf sydd gennym yn fan hyn, sef yr angen am hyfforddiant datblygu proffesiynol yn y maes yma. Mae’r Llywodraeth—ac rwy’n croesawu hyn—wedi bod yn siarad yn gyson yn ddiweddar ynglŷn â’r ‘new deal’, ynglŷn â’r ffaith bod angen i’r proffesiwn ddatblygu yn broffesiwn sy’n gosod ei safonau ei hunan, yn plismona’r safonau yna, ac wedyn yn gweithredu ar sail hynny. Ni fedrwn gyrraedd y nod os oes 10 y cant neu fwy o’r gweithlu yn gweithio trwy asiantaethau a ddim yn cael chwarae teg yn y maes yna. Fe welsom yn y pwyllgor mai ychydig iawn o hyfforddiant datblygu proffesiynol—a hynny’n elfennol iawn, a dweud y gwir—a oedd yn cael ei wneud gan yr asiantaethau. Pe bai corff mwy priodol ar gyfer Cymru, byddai modd cynnwys pob un wedyn, gan gynnwys rhai o’r cynorthwywyr dosbarth, hefyd, yn y maes yma.
Mae hynny’n golygu, wrth gwrs, mewn ffordd, fod yn rhaid trin, yn fwyfwy, rwy’n meddwl, dysgu fel athro cyflenwi fel gyrfa. Dylai fod yn bosib i rywun ystyried gyrfa fel athro cyflenwi. Nid yw’n bosib ar hyn o bryd. A dweud y gwir, rydym yn dibynnu ar bobl sydd ar ddechrau eu gyrfa ac ar ddiwedd eu gyrfa i gynnal yr holl system yma. Ond meddyliwch chi, os ydym ni am weld y ddelfryd sydd gan y Gweinidog ar gyfer proffesiwn fel hyn yn dod i fodolaeth, byddai’n golygu lot o athrawon yn y dosbarth yn gorfod gadael y dosbarth ar gyfer hyfforddiant proffesiynol, nid jest ar y pum diwrnod sy’n cael eu caniatáu nawr, ond yn gyson, fel yn yr Alban, drwy'r wythnos, drwy’r misoedd a drwy’r tymor. Mae angen athrawon cyflenwi arnom ni, nid jest ar gyfer salwch, ond ar gyfer rhesymau datblygu’r gweithlu sydd yn gyflogedig. Ac felly rwyf am weld bod modd i rywun feddwl ac ystyried yn y tymor hir fod bod yn athro cyflenwi yn rhywbeth gwerth chweil—rhywbeth sy’n cyfrannu yn llawn at ein system addysg ni, ac nid rhywbeth rydych chi’n ei wneud tra’ch bod yn trio mynd yn athro neu pan fyddwch chi yn trio gadael ac ymddeol o fod yn athro.
Rwy’n credu mai dyna beth sydd yn wynebu y Cynulliad nesaf a’r Llywodraeth nesaf. Rwy’n mawr obeithio, felly, y bydd yr adroddiad yma yn gam pwysig ymlaen i’r Llywodraeth nesaf fynd i’r afael â’r broblem yma.
16:26 - David Rees
Rwy’n falch o siarad am yr adroddiad ar waith athrawon cyflenwi, ac i gofnodi fy niolch i’r tîm clercio a’r tystion i’r pwyllgor. Rwy’n meddwl bod Cadeirydd y pwyllgor wedi amlinellu’n fanwl y materion a grybwyllwyd yn y pwyllgor, felly cadwaf at un neu ddau o bwyntiau.
Mae athrawon cyflenwi yn rhan hanfodol o’r system addysg yma yng Nghymru. Hebddynt, byddem yn gweld llawer o blant yn colli allan ar rannau o’u haddysg yn ddyddiol. Mae bron i chwarter y disgyblion ysgol yn cael eu haddysgu gan athro cyflenwi o leiaf unwaith yr wythnos, ac mae 30 y cant yn cael eu haddysgu gan wahanol athrawon cyflenwi bob tro. Ac er bod yr athrawon absennol yn aml yn gadael gwaith iddynt, neu fod pennaeth adran yn dweud wrth yr athro cyflenwi beth sydd angen ei wneud, mewn gwirionedd gwelsom lawer o athrawon cyflenwi yn wynebu dosbarthiadau heriol heb fod dealltwriaeth a chyd-destun y gwersi yn hysbys iddynt. Rwy’n clywed gan athrawon cyflenwi sy’n dynodi bod disgyblion yn aml yn gallu bod yn afreolus pan fyddant yn cymryd dosbarthiadau, a bod lefel y gefnogaeth gan benaethiaid adran ac uwch staff ysgolion yn amrywio’n helaeth iawn, gydag un athrawes gyflenwi yn dweud wrthyf fod cadair wedi’i thaflu ati yn ystod gwers roedd hi’n ei dysgu. Yn ogystal, yn aml ni ddywedir wrth athrawon cyflenwi am unrhyw gyflyrau dysgu neu gyflyrau ymddygiadol neu feddygol a allai fod gan ddisgyblion dan eu gofal, ac mae hyn yn aml yn arwain at ddryswch, anhrefn a digwyddiadau fel yr un a nodais yn awr.
Ar y cychwyn, hoffwn ei gwneud yn glir fod athrawon cyflenwi eisiau dysgu. Nid ydynt am fod yn oruchwylwyr ystafell ddosbarth. Maent yn awyddus i ddefnyddio eu sgiliau addysgu a helpu ein plant i ddysgu, ond yn aml maent yn wynebu ymddygiad anodd a chymorth cyfyngedig. Yn syml iawn, maent eisiau cael eu trin yn gyfartal â staff parhaol, yn enwedig o ran cael eu parchu, eu cefnogi a chael yr un telerau cyflogaeth.
Mae’r system bresennol o athrawon cyflenwi wedi creu dull wedi’i breifateiddio i bob pwrpas, gydag asiantaethau’n llenwi’r bwlch roedd awdurdodau lleol yn ei lenwi’n flaenorol. Mae yna dros 40 o asiantaethau athrawon cyflenwi yng Nghymru, ac yn aml, er mwyn dod o hyd i waith parhaol, mae llawer o athrawon cyflenwi’n gweithio i fwy nag un asiantaeth. Mae hyn yn aml yn arwain at athrawon yn gorfod talu treth ychwanegol ar ail swydd fel anghysonder sy’n gysylltiedig â’u cyflog. Ac yn aml, rhaid iddynt dalu ffi i ddefnyddio cwmni talu wrth ennill, a chaiff yr arian hwnnw ei gymryd o’u cyflog, sydd wedi cael ergyd ddifrifol eisoes gan yr asiantaethau cyflenwi’n cymryd eu dogn hwy, fel y mae Simon Thomas wedi nodi’n barod yn yr achos hwnnw.
Ac ar hyn o bryd, drwy’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, mae’r asiantaeth New Directions wedi cael cytundeb fframwaith, sy’n weithredol tan fis Awst 2018, ac ohono, deillia anogaeth gref i awdurdodau lleol ac ysgolion ddefnyddio’r asiantaeth benodol hon ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Rwy’n croesawu ymateb y Llywodraeth i argymhelliad 1 y bydd Estyn yn cynnal adolygiad thematig pellach, oherwydd mae gennyf bryderon mawr ynghylch y model presennol, ac rwyf yn erbyn y polisi o gael un asiantaeth gyflenwi ledled Cymru, sy’n gweithredu i bob pwrpas fel yr unig ddarpariaeth i’w defnyddio ar gyfer athrawon cyflenwi. Ac rwyf wedi cael gwybod gan gynrychiolwyr Undeb Cenedlaethol yr Athrawon yn fy etholaeth fod athro a wnâi waith cyflenwi wedi cael gwybod i bob pwrpas y dylai ymuno â New Directions neu fethu â chael gwaith cyflenwi. Ni all hynny fod yn wir ac ni ddylai fod yn wir. Mewn gwirionedd, rwyf yn erbyn y cysyniad o asiantaethau cyflenwi preifat yn darparu gwasanaeth mor bwysig yn ein system addysg.
Credaf y dylem edrych ar enghreifftiau eraill, megis model Gogledd Iwerddon, fel y crybwyllwyd. Mae hwnnw wedi bod yn hynod lwyddiannus, lle y caiff yr holl athrawon cyflenwi eu cofrestru ar gofrestr athrawon cyflenwi Gogledd Iwerddon, cyfleuster ar-lein ar y we sy’n darparu systemau archebu amser real a chronfa ddata ganolog ranbarthol ar gyfer pob athro cyflenwi yng Ngogledd Iwerddon. Mae’n galluogi ysgolion i gael mynediad i’r gronfa ddata ar fyr rybudd er mwyn archebu athrawon llanw. Yna gwneir taliad am bob cyfnod a gymeradwyir o waith cyflenwi ar sail fisol, ac mae hyn yn caniatáu i athrawon cyflenwi yng Ngogledd Iwerddon gael yr un tâl ac amodau ag athrawon a gyflogir yn yr ysgol mewn gwirionedd. A pheidiwch ag anghofio’r materion pensiwn mewn perthynas ag athrawon cyflenwi, sef yr hyn y mae’n ymwneud ag ef yn y bôn, oherwydd os na chewch eich talu gan awdurdod addysg lleol neu ysgol, nid ydych o reidrwydd yn rhan o’r cytundeb tâl ac amodau a’r cytundebau pensiwn.
Mae’r system bresennol yn annog y defnydd o asiantaethau. Mae’n arwain at lai o dâl i athrawon cyflenwi na’u cydweithwyr a gyflogir gan yr awdurdod lleol, ac mae hyd yn oed yn agor y ffordd i ddefnydd o randdirymiad Sweden er mwyn osgoi cydymffurfio â’r rheoliadau gweithwyr asiantaethau, sy’n diogelu gweithwyr ar ôl 12 wythnos yn yr un swydd. Mae’n annheg ac yn anghyfiawn.
Mae datganoli tâl ac amodau athrawon i’r Cynulliad, fel y nododd Silk, yn caniatáu cyfleoedd i sicrhau bod pob athro’n cael yr un tâl ac amodau ac yn gallu ymuno â chynllun pensiwn yr athrawon. Edrychaf ymlaen, efallai, at y diwrnod pan fydd hynny’n digwydd.
Edrychwyd hefyd ar DPP ar gyfer athrawon cyflenwi. Rhaid i ni sicrhau ei fod o’r un ansawdd ac ar gael yn rhwydd er mwyn iddynt wella ansawdd yr addysgu a’r dysgu yn y dosbarthiadau. Rydym i gyd am i ansawdd yr addysgu fod mor uchel â phosibl i’n plant. Mae argymhellion 11 i 18 yn mynd i’r afael â DPP. Nid af drwyddynt yn fanwl oherwydd fy mod wedi crybwyll DPP ar sawl achlysur, ond mae’n hanfodol fod ein plant yn ein hysgolion yn cael addysg o’r ansawdd uchaf. Mae’n hanfodol fod pob athro sy’n addysgu ein plant, gan gynnwys athrawon cyflenwi, yn cael mynediad at DPP safonol o’r fath. Mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi ein hathrawon sydd newydd gymhwyso wrth iddynt symud drwy’r system.
Mae’n rhaid i ni sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar frys ar oblygiadau’r effeithiau sydd gennym, ac rwy’n annog y Llywodraeth mewn gwirionedd i dderbyn yr argymhellion yn yr adroddiad ac i weithredu arnynt.
16:31 - Aled Roberts
A gaf i hefyd ddiolch i’r staff a phawb a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor? Rwy’n teimlo fy mod i wedi bod yn ymwneud ag athrawon cyflenwi am bron tair blynedd erbyn hyn, o achos mi oedd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn edrych ar y sefyllfa ar ôl I ni gael cyhoeddiad adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru yn 2013. Ond, mi oedd gwaith y pwyllgor plant yn adeiladu ar waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn flaenorol. Rwy’n meddwl bod y Cadeirydd, fel y mae nifer wedi dweud eisoes, wedi crybwyll y pethau a oedd yn ein pryderu ni, gan fwyaf.
Roedd gennym ni bryderon ynglŷn â data, y ffaith ei bod hi’n anodd iawn gweld beth yn union oedd y sefyllfa ac rwy’n meddwl, hyd yn oed ers I ni gyflawni’n gwaith, fod y sefyllfa wedi gwaethygu I ryw raddau o achos mi oedd adroddiadau yn cael eu casglu gan Lywodraeth Cymru ac fe roddwyd y gorau I hynny yn 2013. Felly, hwyrach, pe baem ni’n mynd yn ôl at y sefyllfa byddem ni’n gweld ei bod wedi gwaethygu. Hefyd, roeddem ni, mae’n debyg, yn pryderu ynglŷn â’r hyn glywon ni ynglŷn â’r ffaith bod rhai penaethiaid ddim yn cynnal cyfweliadau wrth I staff ddychwelyd I weld beth yn union oedd y problemau a oedd wedi achosi eu habsenoldeb yn y lle cyntaf.
Rwy’n meddwl bod cyfran fawr o’r gwaith yma yn dibynnu ar ba mor effeithiol ydy pennaeth o fewn ysgol—rhai o’r materion roedd Angela Burns yn sôn amdanynt—ond, fel dywedodd y Cadeirydd, mi oedd y Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau newydd ym mis Gorffennaf y llynedd, er mae’n debyg bod yr undebau’n teimlo nad yw’r canllawiau hynny yn mynd i’r afael efo’r broblem sylfaenol. Rwyf yn cytuno efo beth ddywedodd Keith Davies, Simon Thomas a David Rees: cafodd camgymeriad ei wneud wrth ailosod y cytundeb yma am dair mlynedd tra yr oeddem ni yn edrych ar y sefyllfa fel pwyllgor. Rwy’n meddwl bod y model yma o fasnachu addysg I ryw raddau yn gamgymeriad. Mae’n anodd I dderbyn fel athro neu athrawes eich bod chi’n derbyn tâl o £90 ac eto bod rhyw gwmni preifat yn derbyn llawer iawn mwy na hynny. Wrth gwrs, mae’r sefyllfa yn mynd I waethygu o achos mae Llywodraeth San Steffan erbyn hyn wedi dweud, o fis Ebrill eleni, mi fydd y gostyngiadau treth ar gyfer athrawon cyflenwi yn newid. Ar hyn o bryd mae’n bosib I chi ofyn am ryw fath o ostyngiad o ran treuliau teithio a hefyd prydau a phethau am eich bod chi’n athro cyflenwi. O fis Ebrill ymlaen, fe fydd hynny’n diflannu. Felly, bydd gennych lawer iawn yn llai yn eich poced na hyd yn oed y £90 roedd Simon Thomas yn cyfeirio ato.
Rwyf wedi cael yr un trafodaethau a Simon Thomas efo Cyngor y Gweithlu Addysg. Maen nhw wedi’u synnu bod 5,000 o gymorthyddion dosbarth erbyn hyn, wedi cofrestru efo nhw, sydd yn cael eu cyflogi gan asiantaethau. Felly nid ydym jest yn sôn am athrawon yma; rydym yn sôn am yr holl weithlu addysg. Dyna beth sy’n ein pryderu ni fel pwyllgor. Rwy’n meddwl bod angen i’r Llywodraeth ddweud wrthym yn union sut maen nhw’n mynd i ddelio efo sefyllfa athrawon newydd eu cymhwyso o fewn y trefniadau hyn. Fe glywon ni dystiolaeth fod yna ganran cynyddol o athrawon newydd eu cymhwyso sydd yn cael cytundebau cyflenwi yn unig, ac felly mae’r holl broblemau roeddem ni’n eu gweld ynglŷn â faint o hyfforddiant roedden nhw’n ei dderbyn yn y blynyddoedd cynnar hynny—y blynyddoedd lle mae eu proffesiynoldeb yn cael ei ffurfio—a sut yn union gallwn ni fynd i fynd i’r afael efo hynny.
Yn olaf, rwy’n meddwl bod nifer ohonom ni’n teimlo bod y model yng Ngogledd Iwerddon, y model cydweithredol yma—yr oedd Keith hefyd yn sôn am y Sefton—fod hynny, hwyrach, yn rhywbeth y mae angen inni ddechrau gweithio arno fo rŵan. Os ydym ni o ddifri yn y Cynulliad nesaf ac yn awyddus i weld model gwahanol, mae’n rhaid inni baratoi ar sail hynny.
Yn olaf, wrth gwrs, mae yna gyfrifoldeb ar y consortia i edrych ar ôl gwella safonau o fewn ein hysgolion ni, ac rwy’n meddwl bod angen iddyn nhw gael dealltwriaeth gyfan hefyd ynglŷn ag effaith athrawon cyflenwi, hwyrach, sydd yn cael eu penodi ar fyr rybudd mewn rhai ysgolion, ac effaith hynny ar safonau eu disgyblion nhw. Mi oedd y dystiolaeth oddi wrth y plant eu hunain yn eithaf cadarn, ac eto nid oedd yna lawer o arbenigwyr yn gallu dweud wrthym ba fath o effaith yr oedd hynny’n ei chael ar y disgyblion unigol yn y pen draw. Diolch.
16:36 - Jenny Rathbone
Rwy’n credu bod hwn yn bwnc pwysig iawn. Roeddwn yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystod ei ymchwiliad i waith cyflenwi yn dilyn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’n debyg mai un o’r pethau a oedd y peri fwyaf o syndod oedd i ba raddau y defnyddir gwaith athrawon cyflenwi, oherwydd ni ellir ei egluro drwy gyfeirio at absenoldeb oherwydd salwch yn unig; ymddengys bod defnydd cyffredinol yn cael ei wneud o waith cyflenwi ac roedd hynny’n peri pryder, felly gobeithiaf fod hynny bellach wedi’i atal o ganlyniad i ganllawiau newydd y Llywodraeth.
Yn amlwg, mae modd rhagweld peth absenoldeb, ond mae llawer ohono na ellir ei ragweld. Y pethau sy’n rhagweladwy yw pethau fel yr amser y mae athrawon ei angen i baratoi eu gwersi, eu datblygiad proffesiynol parhaus a goruchwylio ac arsylwi ar ymarfer athrawon eraill, ac mae hyn oll yn rhan o’r ffyrdd pwysig o wella addysgu a dysgu.
Credaf fod trefniadau clwstwr yn syniad da iawn. Yn Ysgol Pen-y-Groes, sy’n ysgol gynradd un dosbarth mynediad Cymraeg ei chyfrwng ym Mhentwyn, lle rwy’n llywodraethwr, mae’r ysgol eisoes yn datblygu polisïau cyffredin, datblygu proffesiynol parhaus cyffredin ac arsylwi addysgu ei gilydd gyda grŵp cyfan o ysgolion cyfrwng Cymraeg eraill, cynradd ac uwchradd. Felly, mae’n gwbl bosibl rhannu athrawon peripatetig i gyflenwi dros absenoldeb a gynlluniwyd yn ogystal ag absenoldebau heb eu cynllunio yn achlysurol. Byddwn wedi meddwl bod honno’n ffordd dda iawn, naill ai drwy ei seilio ar ofynion cyfrwng Cymraeg neu ar glwstwr o ysgolion cyfagos.
Ar hyn o bryd mae fy merch yn addysgu dri diwrnod yr wythnos, o’i dewis ei hun, yn rhan-amser mewn ysgol gynradd gyda nifer uchel iawn o blant ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol, yn ogystal ag anfantais. Er mai ei rôl greiddiol yw gweithio gyda rhai y mae eu dysgu yn llithro ar ôl eu hoedran cronolegol, nid yn anfynych gofynnir iddi gyflenwi dros absenoldeb ar fyr rybudd ac addysgu dosbarth cyfan. Fel athrawes brofiadol, mae hyn yn rhywbeth y mae hi’n gallu ei wneud yn dda, ac mewn ysgol gyda chynlluniau gwersi wedi’u trefnu’n dda, ni ddylai hon fod yn broblem fawr. Mae’n gweithio’n dda yn yr ysgolion hynny, ond yn rhy aml mae gwaith cyflenwi yn ymwneud â’r athrawon lleiaf profiadol gydag ond ychydig o fynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus, os o gwbl, ac mae’n rhaid bod rhywfaint o bryder ynglŷn â nifer yr achosion posibl o’r defnydd o waith athrawon cyflenwi mewn ardaloedd difreintiedig, ac rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn edrych ymhellach ar hynny.
Mewn ysgolion sy’n cael trafferth i gyflawni oherwydd arweinyddiaeth wael ac addysgu a dysgu gwael, gallwn wynebu storm berffaith o anfantais lle nad yw amcanion dysgu yn cael eu bodloni, caiff cynnydd disgyblion ei atal neu ei wrthdroi a gall ymddygiad ddirywio i’r fath raddau fel bod amheuaeth ynglŷn â diogelwch disgyblion ac yn wir, lles yr athro cyflenwi. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod faint o athrawon newydd gymhwyso sydd ond yn cael profiad o waith cyflenwi, oherwydd byddwn yn ystyried gwaith cyflenwi fel un o’r mathau mwyaf anodd o addysgu. Mae’n ymddangos i mi yn wastraff adnoddau os yw athrawon newydd gymhwyso ond yn cael eu defnyddio yn y ffordd hon, ac yn amlwg, mewn llawer o achosion, yn rhoi’r gorau iddi, gan feddwl ei bod yn ormod o her.
Ceir rhai athrawon cyflenwi rhagorol iawn, ac rydym yn awyddus iawn i ganmol y gwaith a wnânt, ond yn syml iawn, ni fyddwn yn recriwtio a chadw athrawon da fel athrawon cyflenwi oni bai ein bod yn eu talu’n briodol. Felly, mae peth o’r gwaith a wnaed i ddatrys gwaith asiantaethau cyflenwi, a phenaethiaid mae’n rhaid i mi ddweud, yn caniatáu i bobl barhau i dalu llawer llai na’r gyfradd ar gyfer y swydd i bobl yn groes i’r gyfarwyddeb oriau gwaith Ewropeaidd, drwy annog neu orfodi athrawon cyflenwi i arwyddo i golli eu hawliau—. Mae’n rhywbeth rwy’n credu y dylid bod wedi’i wahardd. Rwyf wedi ysgrifennu’n bersonol at holl gadeiryddion llywodraethwyr yr holl ysgolion yn fy etholaeth, ac mae’n ddrwg gennyf ddweud nad oes llawer ohonynt wedi ysgrifennu’n ôl, oherwydd, mewn rhai achosion, rwy’n ofni nad yw’r uwch dîm rheoli wedi dangos y llythyr i gadeirydd y llywodraethwyr mewn gwirionedd, gan fod yna broblem, mae’n amlwg, gyda phenaethiaid sy’n barod i dalu llawer llai na’r gyfradd ar gyfer y swydd a hynny’n syml oherwydd eu cyllideb. Felly, rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y trefniadau newydd a ddaw i rym ar ôl 2018 yn cadw argymhellion y pwyllgor mewn cof, ac yn sicrhau bod gennym athrawon cyflenwi o ansawdd da ar gyfer y dyfodol.
16:41 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Galwaf ar y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis.
16:41 - Huw Lewis
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy gofnodi fy niolch i’r pwyllgor plant a phobl ifanc, ac yn enwedig y Cadeirydd, am eu hymchwiliad ac am yr adroddiad dilynol? Fel y dywedais wrth y pwyllgor wrth roi tystiolaeth, mae athrawon cyflenwi yn rhan sylweddol a phwysig o’r gweithlu athrawon yng Nghymru. Mae’n bwysig fod gennym y strwythurau priodol ar waith i’w cefnogi yn eu rôl, a chredaf fod yr adroddiad hwn wedi ein helpu i ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth gadarn sydd ei hangen arnom i wneud newidiadau cadarnhaol ar gyfer y dyfodol, gan fod angen newid.
Roeddwn yn falch o weld bod llawer o argymhellion y pwyllgor yn cyd-fynd yn agos â’n cyfeiriad polisi ein hunain, ac rwy’n falch o allu derbyn pob un ohonynt, o leiaf mewn egwyddor. Mae rhai angen gwaith ac ystyriaeth bellach, ond rwy’n cefnogi bwriad yr argymhellion ac yn croesawu cefnogaeth y Cynulliad i roi’r camau nesaf ar waith tuag at sicrhau strwythur cryfach ar gyfer athrawon cyflenwi ar draws Cymru.
Mae ein system addysg yn newid yn sylfaenol: datblygiad y cwricwlwm newydd i Gymru, y fargen newydd ar gyfer y gweithlu addysg a’n gwaith i drawsnewid hyfforddiant cychwynnol athrawon, o’u cymryd gyda’i gilydd, yw’r pecyn mwyaf o ddiwygiadau addysg yng Nghymru ers 1944. Mae’r cyd-destun newidiol hwn yn rhoi cyfle inni edrych ar fodelau darparu newydd ac amgen ar gyfer darparu gwaith cyflenwi a fydd yn adlewyrchu gofynion y system addysg newydd rydym yn ei chreu. Yn ychwanegol at y gwaith sy’n codi o adroddiad y pwyllgor, mae yna faterion ehangach i ni fynd i’r afael â hwy pan fyddwn yn ystyried sut i greu gweithlu mwy hyblyg ac o ansawdd uchel ar gyfer y dyfodol.
Wrth gwrs, bydd yr Aelodau eisoes yn ymwybodol fod tâl ac amodau athrawon yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU. Pe bai tâl ac amodau yn cael eu datganoli, byddai’n caniatáu i ni greu system a fyddai’n adlewyrchu’r gwerth a’r parch sydd gennym tuag at ein holl athrawon yma yng Nghymru. Mae’r pwyllgor yn argymell edrych ar ystod o opsiynau ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi, ac mae hyn yn ategu ein gwaith parhaus ar fodelau cyflawni amgen ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Daeth yr ymgynghoriad ar ein cynllun gweithredu mewn ymateb i’r adroddiad ‘Ai cydfuddiannaeth yw’r ffordd ymlaen?’ i ben ar 13 Ionawr. Edrychaf ymlaen at weithio drwy’r ymatebion mewn perthynas â’r model gwaith cyflenwi, a fydd yn helpu i lywio ein gwaith cynllunio a’r ddarpariaeth yn y tymor hwy ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus hyn. Byddwn yn parhau i edrych ar fodelau cyflawni cenedlaethol a rhyngwladol i sicrhau bod strwythur cyflenwi gwersi yng Nghymru yn cefnogi datblygu adnodd addysgu hyblyg o ansawdd uchel.
Ar hyn o bryd, mae cytundeb fframwaith yn cael ei osod gan y gwasanaeth caffael cenedlaethol ar gyfer cyflenwi gweithwyr dros dro drwy ddarparwr gwasanaeth a reolir. Mae’r cytundeb fframwaith yn ei le, fel y mae Aelodau wedi sôn, tan 2018. Rhaid i mi ddweud, fodd bynnag, nad oes rhaid i ysgolion aros tan 2018 i ystyried a gweithredu trefniadau cyflenwi arloesol, cynaliadwy a chynhwysol. Byddwn yn eu hannog i wneud hyn yn awr, yn fwyaf arbennig, wrth gwrs, ein hysgolion arloesi y fargen newydd, a ddylai fod yn ystyried yr holl opsiynau hyn yn fanwl iawn.
Mae gan ysgolion ystod o ddewisiadau ar gael iddynt wrth ystyried sut i gyflenwi gwersi. Dylai penaethiaid a llywodraethwyr archwilio’r opsiynau amgen, fel y nodir yn ein dogfen ganllawiau, wrth gynllunio trefniadau cyflenwi. Hoffwn weld mwy o arloesi gan ysgolion yn y maes hwn.
Mae’n werth atgoffa ein hunain ar y pwynt hwn, rwy’n meddwl, am y pwyntiau a nododd Angela Burns, Keith Davies a David Rees, yn arbennig, na chafwyd unrhyw benderfyniad gan Lywodraeth Cymru i anelu tuag at y model o waith cyflenwi sydd gennym mewn ysgolion ar hyn o bryd. System a wnaed gan awdurdodau lleol yw hon, a dewisiadau a wnaed gan benaethiaid. Mae’r rhain yn benderfyniadau ac yn ddewisiadau y gall awdurdodau lleol a phenaethiaid eu dad-wneud. Rwy’n meddwl mai rôl Llywodraeth Cymru yma yw cynnig enghreifftiau gwell o ffyrdd o weithio er mwyn rhoi hyder i’r rhanddeiliaid ym mhotensial system well. Yn y cyfamser, byddwn yn gweithio gyda’r rhai sy’n darparu athrawon cyflenwi yn ein hystafelloedd dosbarth i sicrhau eu bod yn gweithredu systemau rheoli perfformiad sydd o fudd i’r athro, yr ysgolion, ac yn y pen draw, y dysgwyr. Fel yr argymhellwyd, byddwn yn sicrhau bod ein dogfen ganllawiau yn cael ei chryfhau yn hyn o beth.
Mae’r pwyllgor yn ddigon teg yn amlygu pwysigrwydd dysgu proffesiynol i athrawon cyflenwi, ac mae hyn yn rhywbeth sy’n hanfodol ar gyfer pob addysgwr. Mae’n bwysig fod pob athro yn cymryd cyfrifoldeb am eu dysgu proffesiynol drwy gydol eu gyrfa. Bydd y fargen newydd yn cynnig hawl i bawb, gan gynnwys athrawon cyflenwi, i gael mynediad at gyfleoedd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel er mwyn datblygu eu gyrfa. Bydd rôl y Cyngor Gweithlu Addysg yn y dyfodol, fel y corff proffesiynol ar gyfer yr holl athrawon, gan gynnwys athrawon cyflenwi, yn hanfodol i gefnogi’r broses o gyflawni llawer o argymhellion y pwyllgor, gan gynnwys mynediad at y ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel ac unrhyw nodau ansawdd posibl, fel rwyf eisoes wedi sôn amdanynt mewn perthynas â rôl cyngor y gweithlu yn y dyfodol.
Mae sicrhau bod pawb o’n gweithlu addysg yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr ac yn cael y statws a haeddant yn allweddol i ddarparu system addysg ragorol. I ategu’r gwaith hwn, hoffwn gyhoeddi y prynhawn yma fy mod yn sefydlu tasglu i ystyried opsiynau ar gyfer darparu athrawon cyflenwi i Gymru yn y dyfodol. Mae hwn yn fater ar gyfer y sector ac fel y cyfryw, mae’n hanfodol fod cyflogwyr, undebau a rhanddeiliaid allweddol yn mynd ati’n weithredol i gyfrannu at y gwaith o ddatblygu opsiynau ar gyfer y dyfodol.
Felly, rwyf am ddiolch i’r pwyllgor am ei gefnogaeth yn codi ymwybyddiaeth am y materion hyn, ac rwy’n credu bod y dystiolaeth a gasglwyd yn rhoi sail gref yn awr ar gyfer gwaith yn y maes wrth i ni symud ymlaen i ddyfodol gwahanol o ran gwaith cyflenwi.
16:48 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Ann Jones i ymateb.
16:48 - Ann Jones
Ie. Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i aelodau’r pwyllgor a gymerodd ran yn y ddadl hon hefyd? Rwy’n credu ei bod yn eithaf amlwg ein bod i gyd yn gweithredu fel un, sy’n beth da i’w wneud, rwy’n meddwl, ar gyfer adroddiad—fod pawb yn meddwl yr un ffordd. Dechreuodd Angela drwy siarad o safbwynt rhiant, ond gallaf gofio bod yn yr ysgol pan oedd ganddynt athrawon cyflenwi ac mae’n gas gennyf feddwl sut roeddwn yn trin rhai o’r athrawon cyflenwi hynny. Felly, nid yw bob amser yn ymwneud â pha mor dda y gall yr athro cyflenwi ymdopi; mae’n ymwneud ag a ydynt yn gallu ymdopi â phobl afreolus fel fi, ond dyna ni.
Rwy’n credu ein bod i gyd wedi deall y profiadau, ac roedd yn ddiddorol clywed Jenny yn dweud hefyd o safbwynt y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus sut roeddech wedi edrych ar hynny, ac yn sicr ar y ffordd y câi gwaith athrawon cyflenwi ei ddefnyddio. Rwy’n credu mai’r hyn rydym yn ceisio ei wneud yw dweud nad oes gennym broblem gyda gwaith athrawon cyflenwi, ond yr hyn y mae gennym broblem yn ei gylch yw’r ffordd roedd athrawon cyflenwi yn cael eu trin.
Roedd yn dda clywed y Gweinidog yn dweud bod angen newid a’i fod yn derbyn pob un o’n hargymhellion—wel, mewn egwyddor, beth bynnag. Hynny yw, mae’n ddechrau da; o leiaf rydym yn dweud ein bod ar yr un donfedd fel Gweinidog a Llywodraeth Cymru, a’n bod ni, fel pwyllgor, hefyd yn derbyn, Weinidog, eich bod yn cyflwyno un o’r pecynnau mwyaf o ddiwygiadau addysg rydym yn debygol o weld. Felly, mae’n dweud ein bod yn ceisio eich cynorthwyo i wneud hynny, mewn ffordd, ac yn ceisio llyfnhau’r llwybr, yn enwedig fel nad yw athrawon cyflenwi yn cael eu hanghofio. Ie, dewisiadau i’r awdurdodau lleol eu gwneud ydynt, ond gwyddom am yr heriau ariannol sy’n wynebu awdurdodau lleol, er gwaethaf y ffaith ein bod wedi diogelu cyllidebau ysgolion yn y Cynulliad hwn. Mae’n dal yn anodd iawn iddynt wneud hynny. Ond rydym yn croesawu gwaith eich tasglu ar hyn eto heddiw.
Ar y cyfan, roeddwn yn falch o’r adroddiad. Roeddwn yn falch o’r ffordd rydym wedi delio â hynny ar ran athrawon cyflenwi. Rwy’n credu ei fod wedi achosi tipyn o ddadlau ymhlith athrawon, ymhlith athrawon cyflenwi, sy’n beth da, oherwydd wedyn, gobeithio, ar gyfer eich tasglu, Weinidog, byddwn yn gallu cyfeirio’r dystiolaeth bellach honno o’n canfyddiadau at ddefnydd y tasglu, fel y gallwn ddweud, unwaith ac am byth, ein bod yn gwerthfawrogi athrawon cyflenwi, sy’n rhywbeth roedd y pwyllgor yn awyddus iawn i’w ategu. Rwy’n gwybod eich bod chi wedi dweud hynny eich hun hefyd.
Felly, ar y cyfan, rydym yn edrych ymlaen at y model cydweithredol y cyfeiriodd Simon a Keith ato. Efallai y gallem gael—nid wyf yn gwybod beth fyddem yn ei alw—model Cymru. Nid wyf yn gwybod. Ni allwn ei alw’n fodel Caerdydd, oherwydd byddem yn cael ein cyhuddo o’i wneud yn un ar gyfer de Cymru. Yn sicr ni fydd hynny’n gwneud y tro i Simon yn y gorllewin na Keith yn y gorllewin a minnau yn y gogledd. Felly, bydd yn rhaid meddwl am rywbeth i’w alw. Ond serch hynny rwy’n meddwl—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf?
16:51 - Simon Thomas
Model Clwyd.
16:51 - Ann Jones
O na, na, na. [Chwerthin.] Na, na. Nid wyf yn credu hynny chwaith. Rwy’n meddwl bod y ffordd rydym wedi ymdrin â hyn, rydym wedi cael tystiolaeth dda gan athrawon eu hunain, ac roedd rhai ohonynt yn onest iawn gyda ni yn ogystal, felly rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am hynny. Rydym yn gobeithio yn awr y gallwn symud ymlaen ac wrth i ni edrych ar yr adolygiad o’r cwricwlwm ac ar y ffordd y mae’r fargen newydd yn helpu athrawon, bydd yr athrawon cyflenwi i fyny yno gyda’r athrawon hynny, ac mewn gwirionedd fe gawn weithlu yn awr a fydd, pan ddônt i mewn i lanw dros salwch neu absenoldeb o’r ystafell ddosbarth, yn trosglwyddo’n llyfn ar gyfer ein disgyblion.
Yn y pen draw, am hynny roeddem yn chwilio: dweud ein bod yn gwerthfawrogi athrawon cyflenwi, ond ein bod hefyd yn awyddus i weld y trosglwyddo di-dor o’r adeg y bydd yr athro llawn amser yn mynd i wneud datblygiad proffesiynol parhaus a’r athro cyflenwi yn dod i mewn. Ni ddylai fod unrhyw wahaniaeth yn lefel yr addysg neu lefel ymddygiad y disgyblion, hyd yn oed os yw’n golygu y byddai’n rhaid i bobl fel fi fynd i eistedd yn y gornel i ysgrifennu llinellau. Gwnes lawer o’r rheini yn fy ngyrfa fel disgybl, felly—. Byddaf yn parhau i gefnogi athrawon yn y ffordd y dylem eu gwerthfawrogi. Dylem edrych ymlaen at sicrhau eu bod yn—. Pa un a ydynt yn dewis bod yn athrawon rhan-amser ai peidio, dylem ddweud, ‘Mae hynny’n iawn. Mae yna yrfa i chi fel athro cyflenwi rhan-amser. Ac yn yr un modd, rydych yn cael eich gwerthfawrogi fel athro sy’n gweithio pum niwrnod a mwy ar gytundeb parhaol.’ Diolch.
16:52 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Y cynnig yw nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5. Dadl Plaid Cymru: Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 3 yn enw Aled Roberts, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol.
16:53 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Eitem 5 yw dadl Plaid Cymru: masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM5952 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i ddatganoli manyleb a phroses gaffael masnachfraint nesaf rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.
2. Yn nodi â braw bwriad Llywodraeth y DU i ddileu rhai gwasanaethau o'r fasnachfraint honno cyn ei datganoli.
3. Yn nodi nad yw cyfyngiad o'r fath yn gymwys, ac ni fu'n gymwys, i'r fasnachfraint rheilffyrdd yn yr Alban.
4. Yn credu y byddai ail-lunio map gwasanaethau masnachfraint Cymru a'r Gororau yn sylweddol yn tanseilio'r broses o ddatganoli swyddogaethau trafnidiaeth ac yn niweidio buddiannau teithwyr rheilffyrdd yng Nghymru a'r Gororau.
Cynigiwyd y cynnig.
16:53 - Rhun ap Iorwerth
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fy mhleser i yw cyflwyno’r cynnig hwn yn enw Elin Jones. Rydym ni’n trafod mater heddiw o ddifrifoldeb mawr, sef dyfodol ein masnachfraint rheilffordd ni—masnachfraint Cymru a’r gororau, a bwriad Adran Drafnidiaeth Llywodraeth Prydain i chwalu, ‘fragment-io’, y fasnachfraint honno. Rydym ni’n gwybod am y mater hwn ers cyhoeddi papur gorchymyn Bil Cymru. Mi godais y mater efo’r Gweinidog y llynedd. Rydym ni’n gwybod bod trafodaethau’n digwydd ers y llynedd, ond yn yr wythnosau diwethaf mae gwir fwriad yr Adran Drafnidiaeth wedi dod yn glir, ac mae ein hofnau gwaethaf ni yn cael eu cadarnhau.
Crëwyd masnachfraint Cymru gyfan gan Lywodraeth y DU yn 2001 a’i dyfarnu i’r cwmni presennol, Arriva, yn 2003. Ni chafodd ei chreu na’i dyfarnu gan Lywodraeth ddatganoledig, ond mae’n amlwg mai datganoli oedd yr ysbrydoliaeth yn sail iddi, a chafodd y newid groeso cynnes gan Lywodraeth y Cynulliad ar y pryd. Roedd creu masnachfraint Cymru gyfan yn paratoi’r ffordd ar gyfer datganoli rheoli perfformiad a chyllido’r fasnachfraint yn 2006, yn dilyn Deddf trafnidiaeth y flwyddyn flaenorol. Felly, yn 2006, cymerodd y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru gyfrifoldeb dros reoli masnachfraint Cymru a’r gororau, er nad dros ei hadnewyddu neu ei hailgaffael yn y dyfodol ar y pwynt hwnnw. Roedd hynny’n cynnwys—ac mae’n cynnwys—cyfrifoldeb, wrth gwrs, dros wasanaethau sy’n mynd i gyrchfannau yn Lloegr. Ehangodd Llywodraeth Cymru’n Un y gwasanaethau rheilffyrdd yn sylweddol, gan gynnwys gwasanaethau sy’n rhedeg ar hyd rheilffordd Gororau Cymru ac sy’n aros mewn gorsafoedd yn Lloegr. Mae’r Llywodraeth bresennol hefyd wedi ariannu gwasanaethau ychwanegol i’r Amwythig o Aberystwyth, yr ymgyrchodd Plaid Cymru drostynt, felly dyna’r cefndir.
Bwriad blaenorol Llywodraeth y DU, fel y gwyddom o’r geiriad yn y papur gorchymyn, oedd pennu bod rhai gwasanaethau yn gwasanaethu marchnadoedd yn Lloegr, a’u tynnu oddi ar fap y fasnachfraint a’u hailaseinio i fasnachfreintiau rheilffyrdd yn Lloegr, gan ddiystyru’r ffaith, wrth gwrs, y byddai’r masnachfreintiau Seisnig hyn mewn gwirionedd yn rhedeg gwasanaethau i mewn i Gymru, ond byddai ein masnachfraint Gymreig ni yn cael ei gwahardd rhag gwneud hynny. Dyma’n union yr un agwedd ag a welsom ym Mil Cymru. Pan oedd y model cadw pwerau yn cael ei lunio, gofynnwyd i adrannau Llywodraeth y DU ysgrifennu beth oeddent eisiau ei gadw’n ôl, felly mae’r polisi datganoli yn methu’n llwyr yn y fan hon.
Wel, ymddengys bellach fod y syniad o ddiffinio marchnadoedd Lloegr mewn gwirionedd yn golygu unrhyw wasanaeth nad yw’n dechrau ac yn gorffen yng Nghymru. Bydd gwasanaeth Caergybi i Gaerdydd yn ddiogel, ond nid gwasanaeth Caergybi i Fanceinion. Byddai gwasanaeth Aberdaugleddau i Fanceinion, yn rhedeg drwy Gaerdydd, yn cael ei gymryd oddi wrth Weinidogion Cymru, fel y byddai Aberystwyth i Birmingham International. Byddai’r gwasanaethau hynny yn ôl pob tebyg yn dal i weithredu o dan fasnachfreintiau Seisnig, ond byddem yn colli’r refeniw, ni fyddai gennym unrhyw ddylanwad dros y gwasanaethau na’r amserlenni, ac ni fyddai fawr ddim cydgysylltiad. Byddai masnachfraint Cymru sy’n weddill yn gragen wag ac mae’n debyg y byddai’n rhaid i ni dorri gwasanaethau cyhoeddus ymhellach er mwyn ei hariannu.
Wrth gwrs ni cheir unrhyw waharddiad o’r fath yn yr Alban. Er bod materion rheilffyrdd rhwng yr Alban a Lloegr yn wahanol, a masnachfraint ar wahân ar gyfer y trên cysgu i Lundain, mae’r fasnachfraint ar wahân honno’n dal i fod dan reolaeth Gweinidogion yr Alban. Mae’r syniad o gosbi’r Alban yn y fath fodd y tu hwnt i amgyffred yn llwyr, ac er bod gwers wleidyddol yno, yn ddiau, ni wrandewir ar Gymru oni bai ein bod yn uno ar y materion hyn.
O’u cymryd gyda’i gilydd, mae’r bygythiad i fap masnachfraint Cymru a’r gororau yn haeddu cael ei drin gyda’r un difrifoldeb a ddangoswn tuag at Fil Cymru. Roedd cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar hyn yn dweud yn glir y bydd masnachfraint Cymru a’r gororau’n cael ei datganoli. Mae hynny’n awgrymu’r map presennol. Efallai’n wir fod colli Caer i Crewe, y trên gwennol yno, yn gwneud synnwyr, gan ei fod yn gyfan gwbl yn Lloegr, ond dylem allu caffael gwasanaethau ar gyfer pob llwybr arall. Wrth gwrs, dylem gael mecanwaith ymgynghori agored i breswylwyr yn Lloegr allu manteisio ar ein gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru, ac os oes angen, gellid darparu ar gyfer hynny yn y ddeddfwriaeth. Ond mae erydu’r fasnachfraint yn gyfystyr ag erydu dyfodol rheilffyrdd yng Nghymru.
Gan droi at y gwelliannau, rydym yn derbyn gwelliant y Democratiaid Rhyddfrydol, yn sicr. Unwaith eto, maent yn amlygu pwysigrwydd y llwybr trawsffiniol i fasnachfraint Cymru, ac yn bwysicach, i deithwyr yng Nghymru. Mae gwelliant y Ceidwadwyr yn dileu pob un o’n pryderon ynghylch y fasnachfraint. Os caf ddweud, mae’n syndod ac yn anffodus eu gweld yn gwneud hynny, gan ein bod yn awyddus i sicrhau undod trawsbleidiol ar hyn, ac rydym yn credu bod hynny’n hollbwysig. Rydym yn gresynu at y gwelliant hwnnw gan y Ceidwadwyr heddiw, gan mai datganoli masnachfraint y rheilffyrdd yw polisi swyddogol Llywodraeth Geidwadol y DU—a grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad hefyd, gellid tybio. Mae’n rhyfedd iawn cael gwelliant ger ein bron sy’n awgrymu nad oes unrhyw bryderon yn bodoli ynglŷn â map y fasnachfraint.
Felly, i gloi, dadl allweddol Plaid Cymru heddiw yw y byddai ail-lunio radical ar fap gwasanaethau masnachfraint Cymru a’r gororau yn tanseilio datganoli swyddogaethau trafnidiaeth ac yn niweidio buddiannau teithwyr rheilffyrdd yng Nghymru a’r gororau. Rydym yn amlwg yn dal i fod eisiau i ddatganoli’r fasnachfraint fynd yn ei flaen. Mae’n gwbl hanfodol. Ceir enghreifftiau yn y DU a hyd yn oed rhwng gwledydd Ewrop o wasanaethau trawsffiniol lle y caiff refeniw ei rannu, ac o lunio cytundebau. Nid ydym eisiau anghydfod cyfansoddiadol arall. Ond bydd anghydfod cyfansoddiadol o’r fath yn digwydd beth bynnag os yw’r ailgynllunio radical hwn yn mynd rhagddo. Pan fydd yr anghydfod hwnnw’n digwydd, bydd angen i ni fod yn glir iawn ar bwy y mae’r bai.
Yn olaf, galwn ar Lywodraeth Cymru yma i fod yn glir gyda’r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch yr union faterion sydd yn y fantol fel y maent yn eu deall, y cam rydym arno o ran trafodaethau ar ddyfodol y fasnachfraint, a pha mor ddifrifol yw’r bygythiad i uniondeb ac yn wir i ddyfodol masnachfraint Cymru a’r gororau.
16:59 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Eluned Parrott i gynnig gwelliannau 1 a 3, a gyflwynwyd yn enw Aled Roberts.
Gwelliant 1—Aled Roberts
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi pwysigrwydd cysylltiadau rheilffordd trawsffiniol i Fanceinion, Lerpwl a Birmingham i economïau gogledd a chanolbarth Cymru.
Gwelliant 3—Aled Roberts
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2:
', yn enwedig cael gwared ar lwybrau trawsffiniol a all danseilio atyniad masnachol y fasnachfraint'.
Cynigiwyd gwelliannau 1 a 3.
17:00 - Eluned Parrott
Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw. Mae rheilffyrdd yn hanfodol i’n llwyddiant economaidd yn y dyfodol ac i’n gobeithion ar gyfer lleihau ein hôl troed carbon drwy annog pobl i wneud dewisiadau mwy cadarnhaol. O’r 20 miliwn o deithiau a wneir yn gyfan gwbl yng Nghymru, mae 8 miliwn—neu 40 y cant—yn dod i ben yng Nghaerdydd. Mae’n hanfodol i’r economi leol, ac mae’n hanfodol i economi Cymru yn ogystal, nad cael eu cynnal yn unig y bydd y llwybrau hyn yn y dyfodol, ond y byddant yn cael eu hehangu, rwy’n gobeithio. Mae arnom angen i liferi pŵer gael eu datganoli i Gymru er mwyn rheoli hynny. Fodd bynnag, mae’r sibrydion cyfredol hyn yn peri pryder mawr.
Mae mwy na 9 miliwn o deithiau—felly, mae hynny’n fwy na’r nifer sy’n gorffen eu taith yng Nghaerdydd—yn dechrau neu’n gorffen eu taith yn Lloegr. Mae’r traffig trawsffiniol hwnnw’n hanfodol i bobl sy’n byw yng Nghymru. Byddwn yn dadlau mai dyna’r farchnad i bobl sy’n byw yng Nghymru. Prif reilffordd gogledd Cymru, rheilffordd Calon Cymru, prif reilffordd de Cymru—maent i gyd yn cysylltu i fyny ac i lawr asgwrn cefn o reilffordd, sef rheilffordd y Gororau, sy’n dolennu ar hyd y ffin, fel y gwyddom. Ond byddai datganoli’r rhwydwaith heb ddatganoli’r asgwrn cefn sy’n ei ddal at ei gilydd yn nonsens. Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bod ein dadl ni, wrth i ni ei chyflwyno, yn un gadarn.
Mae Plaid Cymru yn gywir; yn yr Alban, ni thynnwyd unrhyw wasanaethau o’r fasnachfraint cyn datganoli. Ond nid yw’n gymhariaeth gwbl deg, gan nad yw masnachfraint ScotRail yn dolennu’r ffin yn y ffordd y mae rheilffordd y Gororau yn ei wneud. Mewn gwirionedd, dim ond trên cysgu Llundain a’r gwasanaeth anfynych i Newcastle sy’n croesi’r ffin o gwbl. Felly, byddwn yn awgrymu na ddylem gyflwyno achos ar sail y gymhariaeth; dylem gyflwyno achos da, achos cadarn, ar ei delerau ei hun.
Yn gyntaf, mae’n rhaid i ni gyflwyno’r achos fod ein gwasanaethau trawsffiniol yn hanfodol i ddatblygiad economaidd Cymru, yn faes cymhwysedd datganoledig. Mae llwybrau i Fanceinion, Lerpwl a Birmingham yn hanfodol i economïau lleol gogledd a chanolbarth Cymru. Byddai unrhyw ddifrod iddynt yn taro Cymru’n anghymesur. Dyna pam rydym wedi cyflwyno ein gwelliant cyntaf.
Yn ail, mae’n debygol y niweidir effeithiolrwydd y gwasanaethau os parhawn ar y llwybr hwn, a byddwn yn hel teithwyr yn ôl i mewn i’w ceir drwy hollti gwasanaethau. Pan fo’n rhaid i deithwyr newid trenau, gwyddom eu bod yn llawer llai tebygol o ddefnyddio’r gwasanaeth hwnnw. Gallai gwahanu’r fasnachfraint arwain at wasanaeth cryn dipyn yn waeth i’r unigolion hynny. Byddai hynny’n drychinebus i economi Cymru, i’r rhai nad oes ganddynt y gallu i ddewis trafnidiaeth amgen, a byddai’n drychinebus o ran ein targedau carbon.
Yn drydydd, mae’n rhaid i ni edrych yn ofalus iawn ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei olygu pan gyhoeddodd, ym mis Chwefror, ei bwriad i drosglwyddo gwasanaethau sy’n gwasanaethu marchnadoedd yn Lloegr yn bennaf i fasnachfreintiau a fyddai’n parhau i fod o dan eu rheolaeth, ar ôl datganoli masnachfraint Cymru a’r gororau. Fel rwy’n awgrymu, marchnadoedd Cymreig yw’r rheini i raddau helaeth, hyd yn oed pan fydd y rheilffordd yn Lloegr. Er y gall pobl ddechrau neu orffen taith mewn gorsaf yn Lloegr, mae’n bur bosibl y byddant wedi cymudo i’r orsaf honno o gyrchfan yng Nghymru.
Yn olaf, os yw Llywodraeth y DU yn tynnu rheilffordd y Gororau o’r fasnachfraint, bydd yn tanseilio’n sylfaenol atyniad masnachol y fasnachfraint yn ei chyfanrwydd. Er mwyn sicrhau bod masnachfraint Cymru a’r gororau yn gosteffeithiol fel rhwydwaith cyfan, mae’n hanfodol fod modd i weithredwr groesgymorthdalu gwasanaethau ar gyfer cymunedau gwledig, a fyddai fel arall wedi’u hynysu rhag gweddill Cymru, â’r elw o’r llwybrau mwy hyfyw’n fasnachol. Byddai cael gwared ar y rheilffyrdd sy’n gwneud elw yn golygu bod Llywodraeth Cymru o unrhyw liw yn y dyfodol yn cael ei gadael gyda rheilffordd lawer mwy costus yn seiliedig ar gymhorthdal, a baich ar ein cyllideb, wedi’i chreu’n unig er mwyn i weithredwyr yn Lloegr allu gwneud mwy o elw. Mae hynny’n gwbl annerbyniol.
Nawr, mae gwelliant y Ceidwadwyr yn ceisio peintio darlun llawer mwy gobeithiol o’r byd na’r hyn sy’n wir. Fel rwy’n dweud, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad ym mis Chwefror i drosglwyddo gwasanaethau i fasnachfreintiau a fyddai’n parhau i fod o dan ei rheolaeth, nid wyf yn credu ei bod yn meddwl yn glir am ganlyniadau’r hyn a fyddai’n cael ei adael ar ôl. Byddwn yn croesawu eglurhad ynghylch beth yn union y maent yn ei olygu wrth ‘wasanaethu marchnadoedd yn Lloegr’. Ond byddwn yn awgrymu, y naill ffordd neu’r llall, fod y risg ar y pwynt hwn yn rhy fawr os yw’r sibrydion hyn yn wir mewn gwirionedd.
17:04 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Galwaf ar William Graham i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 2—Paul Davies
Dileu pwyntiau 2, 3 a 4.
Cynigiwyd gwelliant 2.
17:04 - William Graham
Diolch i Blaid Cymru unwaith eto am gyflwyno’r ddadl hon. Ond hoffwn nodi bod yr Adran Drafnidiaeth wedi datgan, yn nhelerau’r cytundeb ar ddatganoli pwerau masnachfraint y rheilffyrdd i Gymru, y byddai gwasanaethau sy’n gwasanaethu marchnadoedd yn Lloegr yn bennaf yn cael eu trosglwyddo i fasnachfreintiau yn Lloegr, gyda’r ymrwymiad y byddai’n sicrhau nad yw Llywodraeth Cymru ar ei hennill nac ar ei cholled o ganlyniad i unrhyw ailfapio o 2018 ymlaen.
17:04 - Simon Thomas
A wnaiff yr Aelod ildio?
17:04 - William Powell
Nid oes gennym lawer iawn o amser. Os ydych yn gyflym iawn, gwnaf.
17:04 - Simon Thomas
I fod yn onest, nid wyf yn poeni a yw Llywodraeth Cymru yn well ei byd neu’n waeth ei byd, rwy’n meddwl am y dinesydd yng Nghymru. Os teithiaf o Aberystwyth i Birmingham, os wyf yn fyfyriwr sy’n cael fy nenu at Brifysgol Aberystwyth, nid wyf eisiau gorfod newid yn yr Amwythig am nad yw llywodraeth Lloegr yn deall sut y mae economi Cymru yn gweithio.
17:05 - William Graham
Yn anffodus, nid ydych yn dechrau o’r rhagdybiaeth gywir. Mae teithwyr eisiau cyrraedd cyrchfannau—nid oes ganddynt fawr o wahaniaeth pwy sy’n ei weithredu cyn belled â’u bod yn cyrraedd yno mewn pryd, yn rhesymol ac am bris cystadleuol.
Cafodd hyn ei bwysleisio gan y Canghellor ym mis Tachwedd pan ailadroddodd fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwrw ymlaen â phrosiect trydaneiddio’r Great Western fel rhan o fuddsoddiad seilwaith allweddol yn y Deyrnas Unedig. Methodd y fenter brawf arferol y Trysorlys, ac mae trydaneiddio’r Great Western yn gydnabyddiaeth wleidyddol o ymrwymiad y Blaid Geidwadol i wella prif linell y Great Western. Cydnabyddir yn eang y gallai trydaneiddio’r brif reilffordd, rheilffyrdd Cymoedd de Cymru a’r cysylltiadau â HS2 greu manteision economaidd a chymdeithasol enfawr i Gymru.
Gyda mwy o ddatganoli daw mwy o gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, ac maent yn gyd-lofnodwyr masnachfraint bresennol Cymru a’r gororau, a byddant yn mabwysiadu’r broses o gaffael y fasnachfraint yn 2018. Yn hynny, byddant yn penderfynu ar yr ymrwymiad gwasanaeth y disgwylir i’r fasnachfraint ei ddarparu. Amcanion economaidd ac amgylcheddol sylfaenol y rhai sy’n rheoli ein rhwydwaith trafnidiaeth rheilffyrdd, yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig, yw chwyddo nifer y teithwyr, nid gosod rhwystrau yn ffordd datblygu teithwyr. Mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor Menter a Busnes, amlygodd yr Adran Drafnidiaeth na wneir penderfyniad ar unrhyw fuddsoddiad mawr yng Nghymru heb ystyried barn Llywodraeth Cymru, ac ymgynghorir â hi ar unrhyw benderfyniad yn Lloegr sy’n creu goblygiadau i’r fasnachfraint Gymreig. Deallaf fod y trafodaethau a gafwyd ar hyn rhwng ein Gweinidog a’r Gweinidog yn Llundain yn rhai cadarn eu natur, ac mae gennyf bob hyder y bydd ein Gweinidog trafnidiaeth presennol yn gwneud ei gorau o dan yr amgylchiadau.
Mae cludo nwyddau ar y rheilffyrdd yn dangos yr angen am gyd-ddibyniaeth rhwng gwasanaethau’r rhwydwaith rheilffyrdd. Dyma fusnes rhyngwladol ledled y wlad nad yw’n cyfateb yn daclus i ffiniau gweinyddol rheilffyrdd. Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau cludo nwyddau ar drenau yn gweithredu ar draws o leiaf ddwy ffin diwydiant rheilffyrdd, a mwy na hynny’n aml, ac yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gysylltiad rhwng seilwaith a rheolaeth y rheilffyrdd yng Nghymru a Lloegr fod yn ddi-dor. Mae’n rhaid i ddatganoli gynnig rhwyddineb, effeithlonrwydd a chystadleurwydd, yn hytrach na chymhlethdod diangen, rhwystrau ymarferol a biwrocratiaeth bellach. Er mai llwybrau trawsffiniol yw’r llwybrau mwyaf ymarferol yn fasnachol, yn 2014-15, derbyniodd Cymru a’r gororau £101.9 miliwn mewn cymorthdaliadau, sy’n cyfateb i gymhorthdal ​​o 8.5c y teithiwr y cilometr, sef yr uchaf yn y Deyrnas Unedig. O ran gwasanaethau rheilffyrdd, nid yw cymariaethau rhwng Cymru a’r Alban yn ddilys, fel y soniwyd eisoes. Mae gwasanaethau trawsffiniol yn yr Alban yn amlwg yn ddaearyddol wahanol i Gymru. Dau gysylltiad rheilffordd yn unig a geir â Lloegr, heb unrhyw wasanaethau’n tarddu yn yr Alban, yn croesi i Loegr ac yna’n dychwelyd i’r Alban. Mae gan Gymru naw cysylltiad rheilffordd â Lloegr, gan gynnwys gwasanaeth sy’n tarddu yng Nghymru, yn croesi i Loegr ac yna’n dychwelyd.
Bydd y fasnachfraint yn y dyfodol yn caniatáu i wasanaethau gael eu datglymu, gyda mwyafrif y gwasanaethau yn Lloegr yn parhau’n gyfrifoldeb i Whitehall, a’r rhan fwyaf o wasanaethau Cymru yn cael eu datganoli. Ar y cam hwn, mae ein Llywodraethau yn parhau i drafod y gwasanaethau, a bydd Cymru yn ennill rheolaeth ar wasanaethau rheilffordd ac yn penderfynu ar y ddarpariaeth o wasanaethau a ddisgwylir gan y fasnachfraint. Yn y bôn, ffactor allweddol er mwyn sicrhau cynnydd yn nifer y teithwyr a’r nwyddau a gludir ar gyfer ein rhwydwaith rheilffyrdd yw gwasanaeth di-dor, sy’n galw am wasanaethau rheilffyrdd uniongyrchol ac integreiddio’r rhwydwaith yn ehangach.
17:08 - Aled Roberts
William, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
17:08 - William Graham
Wel, os byddwch yn gyflym iawn; ychydig iawn o amser sydd gennym.
17:08 - Aled Roberts
A gaf fi i ofyn a fyddech yn derbyn, felly, fod gan Swyddfa Cymru rôl mewn gwirionedd yn edrych ar ôl buddiannau teithwyr rheilffyrdd Cymru, yn hytrach na dim ond derbyn y briff gan y Gweinidog trafnidiaeth?
17:08 - William Graham
Wel, gallaf gadarnhau eu bod yn ymgynghorai, ond nid yn un statudol.
Felly, cydweithredu a chydweithio yw’r ffordd i gyflawni hyn, ond penderfynu hefyd ar ganlyniadau’r fasnachfraint a’r rhai sy’n gwneud cais i’w cyflawni. Byddai Llywodraeth Geidwadol Cymru yn sicrhau bod y fasnachfraint newydd yn adlewyrchu anghenion Cymru.
17:09 - Keith Davies
Rwyf i, hefyd, yn croesawu’r ddadl y prynhawn yma ar ddatganoli masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r gororau. Yn sicr, rwy’n cytuno ag Eluned a Llyr a’r hyn roeddent yn ei ddweud yn gynharach. Beth rwyf fi’n ei weld nawr, a beth sy’n digwydd nawr gyda’r Ceidwadwyr yn Llundain, a nawr, efallai, gyda’r Ceidwadwyr yn fan hyn, yw eu bod yn cynnig llai a llai I ni nag sydd gennym ni nawr. Rwy’n credu y dylem ni gael beth sydd gennym ni nawr ac, efallai, tamaid bach yn fwy. Dyna’r pwyntiau rwyf I eisiau eu gwneud y prynhawn yma. Beth rydym ni eisiau yw mwy nag sydd gyda ni nawr.
Wythnos diwethaf, roeddwn ni, fel Aelodau, yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes a oedd yn sôn am drafnidiaeth ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yng Nghaerdydd. Nid wyf am ailadrodd yr hyn a ddywedais i yr wythnos diwethaf, ond rwy’n credu y dylai’r cyfrifoldeb dros ddarparu trafnidiaeth i bobl fynychu digwyddiadau mawr yng Nghymru gael ei ysgrifennu i mewn i gontract y fasnachfraint.
Fel yr Aelod Cynulliad dros Lanelli, hoffwn weld llawer mwy o wasanaethau yn teithio i’r gorllewin o Abertawe yn y dyfodol, yn enwedig gan y dylai mwy o wasanaethau alw mewn gorsafoedd aros ar gais fel Cydweli yn fy etholaeth. Mae pobl sy’n byw mewn trefi fel Cydweli yn dibynnu ar wasanaethau trên i deithio i’r gwaith ac i gysylltu â’r brif rwydwaith, yn enwedig yn absenoldeb gwasanaethau bysiau hwyr ac ar ddyddiau Sul. Fe all gwasanaethau mwy aml wneud bywyd yn haws i fy etholwyr, ac arwain at lai o amser yn cael ei golli yn aros yng ngorsaf Abertawe.
Mae fy etholwyr hefyd eisiau mwy o ddewis o ran pryd y maent yn teithio. Mae gwasanaethau Great Western yn gadael gorsaf Abertawe yn oriau mân y bore, ond nid oes gwasanaeth yn rhedeg o orllewin Cymru i gysylltu â’r trenau cynnar yna.
Yn olaf—ac efallai nad yw’n rhan o’r ddadl y prynhawn yma—hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn cael dylanwad dros dermau masnachfraint Great Western. Rwy’n gweld trenau Great Western yn ennill estyniad i’w contract hyd at 2019, ond mae gwasanaethau Great Western yn chwarae rhan hanfodol drwy redeg gwasanaethau o Abertawe drwy dde-orllewin Cymru, Caerdydd a thuag at Llundain. Beth rydym ni’n moyn yw mwy na sydd gennym yn awr, ac nid llai.
17:11 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Galwaf ar Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart.
17:11 - Edwina Hart
Diolch yn fawr iawn yn wir, Ddirprwy Lywydd. Croesawaf yn fawr iawn y ddadl hon heddiw a’r cyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am drosglwyddo swyddogaethau masnachfreinio rheilffyrdd i Weinidogion Cymru.
Rydym wedi ymrwymo i wneud gwasanaethau rheilffyrdd yn rhan ganolog o’n system drafnidiaeth, ac rwy’n falch iawn ein bod wedi cytuno gyda Llywodraeth y DU y byddwn yn cael pwerau i ddyfarnu masnachfraint nesaf Cymru a’r gororau. Mae hwn yn amser cyffrous i’n rheilffyrdd, gan y bydd penderfyniadau ynghylch ein rheilffyrdd yn cael eu gwneud yma yng Nghymru, nid yn unig ar gyfer dyfarnu’r fasnachfraint nesaf ond ar gyfer adeiladu ar a chyflwyno gwelliannau i wasanaethau yn y dyfodol. Rydym yn disgwyl gweld trosglwyddo swyddogaethau masnachfreinio rheilffyrdd i Weinidogion Cymru yn 2017. Masnachfraint nesaf Cymru a’r gororau fydd y fasnachfraint rheilffyrdd gyntaf a bennir gan Lywodraeth Cymru, ac mae trafodaethau ar y gweill gyda Llywodraeth y DU ynghylch telerau manwl y trosglwyddiad, gan gynnwys pa wasanaethau a gaiff eu cynnwys, ac mae disgwyl iddynt ddod i ben erbyn canol y flwyddyn hon.
Roeddwn yn bryderus iawn, felly, i glywed adroddiadau diweddar am drafodaethau a oedd yn cael eu cynnal ar lefel swyddogol o fewn Llywodraeth y DU ynglŷn â thynnu rhai gwasanaethau o’r fasnachfraint cyn ei throsglwyddo. Ac yn wir, gallaf ddeall y pryderon a fynegwyd gan Blaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ynghylch y mater penodol hwn. Nid dyma’r ffordd iawn o fwrw ymlaen yn fy marn i, ac ni ddylai fynd yn ei flaen yn y ffordd honno. Felly, hoffwn dawelu meddyliau’r Aelodau nad yw Gweinidogion yr Adran Drafnidiaeth wedi dweud wrthyf eu bod am gadw gwasanaethau sy’n teithio i mewn i Loegr, ond rwy’n bwriadu cael cyfarfod pellach gyda Gweinidogion yr Adran Drafnidiaeth maes o law i mi allu sicrhau fy hun nad yw hynny’n wir.
Mae’r gwasanaethau hyn yn werthfawr i’r fasnachfraint, a byddwn yn pwyso i sicrhau bod y trefniadau masnachfraint yn cynnwys yr holl wasanaethau trawsffiniol. Mae gwaith asesu a wnaed gan Drenau Arriva Cymru wedi dangos bod y gwasanaethau hyn ynghlwm wrth y gwasanaethau eraill ar gyfer Cymru a’r gororau. Bydd gwahanu’r gwasanaethau oddi wrth y fasnachfraint yn anodd yn weithredol, ac yn aneffeithlon, ac rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni gofio hynny hefyd. Mae fy swyddogion fy hun yn archwilio opsiynau ar gyfer cadw’r gwasanaethau yn y fasnachfraint, ac rwy’n cydnabod yn llawn fod llwybrau a chysylltedd trawsffiniol o ansawdd uchel yn bwysig i wneud y fasnachfraint yn ddeniadol yn fasnachol, ac mae’n rhaid i ni gadw hynny mewn cof hefyd wrth i ni gael y broses hon ar gyfer trefniadau masnachfraint ar hyn o bryd yn y DU.
Mae’r cysylltiadau rheilffordd trawsffiniol hyn yn bwysig i’r economi ar draws pob rhan o Gymru, a hynny o ran cysylltedd i unigolion yn ogystal â materion yn ymwneud â busnesau. Er enghraifft, rydym yn parhau i gefnogi Trenau Arriva Cymru yn ei gais parhaus i’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd i gael pwerau i ddarparu gwasanaethau ychwanegol o ogledd Cymru i Faes Awyr Manceinion. Bydd y fasnachfraint hefyd yn cynnwys gwasanaethau rheilffordd sydd i’w cyflwyno’n rhan o fetro de Cymru a gyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf.
Rwy’n cydnabod bod yn rhaid i’r Adran Drafnidiaeth sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir i deithwyr yn Lloegr yn cael eu cynnal a’u gwella, ac rydym yn hapus i gytuno ar drefniadau i’r perwyl hwn. Ond o dan y trefniadau presennol yn yr Alban, fel y dangosodd Rhun hefyd, gall Gweinidogion yr Alban gynnwys unrhyw wasanaethau trawsffiniol y barnant eu bod yn briodol yn y cytundeb masnachfraint. Felly, unwaith eto, rydym yn ddinasyddion eilradd mewn perthynas â rhai o’r materion sy’n ymwneud â rheilffyrdd.
Ar gyfer masnachfraint Cymru a’r gororau, mae’n hanfodol nad yw map y fasnachfraint yn newid yn sylweddol, fel y gellir diogelu cysylltiadau rhwng Cymru a Lloegr ynghyd â chynaliadwyedd ariannol y rhwydwaith yn ei gyfanrwydd. Dyna un o fy mhrif bryderon yma—mae’n rhaid iddo fod yn gynaliadwy yn ariannol. Ni all baich hyn i gyd drosglwyddo i’n hysgwyddau ni, a defnyddio cronfeydd sydd gennym yn ychwanegol at y trefniadau masnachfraint ar gyfer gwella gwasanaethau. Mae hyn yn allweddol mewn gwirionedd.
Felly, y mis diwethaf, cyflwynais ymgynghoriad i wahodd barn ar y canlyniadau ansawdd allweddol ar gyfer manyleb y fasnachfraint nesaf, gan gynnwys canlyniadau a blaenoriaethau ar gyfer gwella, cyfluniad gwasanaethau a chapasiti, perfformiad a thrin aflonyddwch, prisiau a thocynnau ac wrth gwrs, cerbydau. Yr ymgynghoriad yw’r cam cyntaf mewn rhaglen ymgysylltu â’r cyhoedd a diwydiant a fydd ar waith tan 18 Mawrth. Rydym eisoes wedi cael 30 o ymatebion i’r ymgynghoriad a barn teithwyr a rhanddeiliaid fydd yn llywio’r ffordd y caiff y gwasanaeth rheilffordd ei ddarparu ar ôl 2018. Paratoir adroddiad yn crynhoi’r sylwadau a fynegwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori a bydd yn cael ei gyhoeddi ar ôl yr etholiad. Yna cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus pellach ar y cynigion manwl a’r manylebau ar gyfer dyfarnu’r fasnachfraint nesaf.
Hefyd, wrth gwrs, rwyf wedi sefydlu is-gwmni di-ddifidend sy’n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru i ddarparu’r fasnachfraint, a bydd y cwmni’n gweithio gyda Network Rail i gyflawni newidiadau ffisegol i’r rhwydwaith rheilffyrdd, a fydd yn hanfodol i sicrhau darpariaeth effeithlon. Mae’n bwysig ein bod yn gweithio gyda Network Rail i sicrhau gwelliannau seilwaith ar ein rhwydwaith rheilffyrdd ac i sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni mewn da bryd ac o fewn y gost—rhywbeth nad yw’n digwydd fel y dylai ar hyn o bryd gydag oedi ar brosiectau a chostau cynyddol—ac i sicrhau ein bod yn cael ein cyfran deg o arian yn dod gan Network Rail i sicrhau y gallwn redeg pethau yn iawn yma yng Nghymru.
Os caf droi at y gwelliannau yn awr, byddwn yn amlwg yn cefnogi gwelliant 1 Aled Roberts. O ran gwelliant Paul Davies, ni fyddwn yn cefnogi’r gwelliant am ein bod yn cefnogi’r cynnig gwreiddiol. Ac rydym yn cefnogi’r trydydd gwelliant gan Aled. A gaf fi ddweud, i mi, mae’n bwysig iawn fod datganoli’r seilwaith rheilffyrdd i Gymru yn uchelgais ac yn fwriad gennym? Mae angen i ni barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU ar y mater hwn, ond rhaid iddynt beidio â cheisio tanseilio hynny gyda’u lleisiau croch ynglŷn â sut y maent yn mynd i ymdrin—
17:16 - Yr Arglwydd / Lord Elis-Thomas
Diolch yn fawr. Roeddwn yn gobeithio ei bod yn mynd i sôn am ddatganoli’r rheilffyrdd. A all hi roi adroddiad cynnydd byr iawn dwy frawddeg o hyd ar ble y mae hyn arni ar hyn o bryd?
17:17 - Edwina Hart
Gallaf. Rydym yn bwrw ymlaen yn dda gyda’r trafodaethau ar y mater penodol hwn, ond fy mhryder i yw y byddwn yn y pen draw yn cael datganoli’r rheilffyrdd ac yna byddwn yn gweld tanseilio’r trefniadau masnachfraint, efallai, cyn i bopeth ddigwydd. Nawr, nid oes pwynt rhoi un peth i chi gydag un llaw a’i gymryd yn ôl gyda’r llall, ac rwy’n ofni bod enw gwael iawn gan y Llywodraeth hon ar hyn ac o ran cynnal uniondeb y setliad cyfan.
Felly, o’m rhan i, mae’n bwysig ein bod yn parhau i bwyso am ddatganoli pwerau rheilffyrdd. Mae’n bwysig iawn ein bod yn delio â’r materion sy’n ymwneud â’r fasnachfraint gan na fyddwn yn gallu rheoli ein tynged ein hunain hyd nes y gwnawn hynny yn fy marn i. Os ydym am gael trafnidiaeth gyhoeddus integredig yng Nghymru a chael rheolaeth ar bethau, mae’n rhaid i ni gael y pwerau perthnasol. Nid oes diben inni siarad am y rheilffyrdd hyd yn oed oni bai ein bod yn cael y pwerau yn y Siambr hon.
17:17 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Rhun ap Iorwerth i ateb.
17:17 - Rhun ap Iorwerth
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Can I thank all those today who have spoken very concisely and clearly about the threat that is facing the future of rail services in Wales? And I thank the Minister, Keith Davies and Eluned Parrott, who reiterated very clearly the importance of getting the necessary levers to design a twenty-first-century rail system for Wales. To the Conservatives, I must say that I am bitterly disappointed to hear a party in this Chamber, when we are looking for unity, seeming to suggest that we should be grateful for whatever we’re given. I’m not sure if William Graham was here speaking for the UK Government and saying that we should accept what is to be handed down from the Department for Transport. You say that passengers in Wales don’t mind which franchise runs their passenger services, but I can assure you that passengers in Wales do care about the vitality, the viability and the co-ordinated nature of the railway service that we have. You say that a Conservative Government would provide for an effective franchise in Wales. There will not be a rail service in Wales of note if these changes, as we fear may happen, do come to fruition.
Nodaf sicrwydd y Gweinidog ei bod yn clywed rhai negeseuon cadarnhaol gan Lywodraeth y DU. Rhaid i mi ddweud nad oes gennyf fawr o ffydd yng ngallu Llywodraeth y DU i weithredu er lles Cymru ar y mater hwn. Yn bendant, mae angen i ni glywed datganiad cyhoeddus o gefnogaeth i gynnal uniondeb ein masnachfraint. Gadewch i ni siarad heddiw gyda llais clir ac unedig iawn.
17:19 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
6. Dadl Plaid Cymru: Cynnal Digwyddiadau Mawr
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Aled Roberts.
17:19 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Eitem 6 yw dadl Plaid Cymru ar gynnal digwyddiadau mawr, a galwaf ar Bethan Jenkins i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM5954 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y gwerth i economi Cymru o gynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru.
2. Yn galw am lunio cais i gynnal Gemau’r Gymanwlad gyda Chymru’n croesawu’r Gemau hynny yn 2026 neu 2030.
3. Yn galw am lunio cais i ddod â Ras Fawr beicio i Gymru, ar gyfer dynion a menywod.
4. Yn galw am ddigwyddiad swyddogol yn y Cynulliad hwn i ffarwelio â thîm pêl-droed Cymru wrth iddo fynd i gystadlu yn Ewro 2016 yr UEFA.
5. Yn galw am sefydlu ‘parthau cefnogwyr’ ledled Cymru fel bod y rhai na allant fod yn bresennol yn Ewro 2016 yr UEFA yn gallu cefnogi eu tîm gartref.
Cynigiwyd y cynnig.
17:19 - Bethan Jenkins
Diolch. Byddwn yn cefnogi gwelliant y Democratiaid Rhyddfrydol. Gwelsom yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd pa fath o broblemau y gellir eu hachosi—problemau a all ddifetha’r profiad i gefnogwyr—pan na chaiff trafnidiaeth ei reoli mor effeithiol ag y gallai yn ystod y mathau hyn o ddigwyddiadau. Ond byddaf yn canolbwyntio fy nghyfraniad ar Ewro 2016 sydd ar y ffordd. Rydym i gyd yn parhau i fod yn hynod o falch o gyflawniadau tîm Chris Coleman ac yn edrych ymlaen at haf o’u gweld yn gwneud hyd yn oed yn well. Efallai y bydd gan rai ohonom docynnau ar gyfer y gêm, efallai na fydd. Rwy’n dal i aros am loteri ffurfiol UEFA, felly byddaf yn dal yn obeithiol ynglŷn â hynny yr wythnos nesaf, ond fel arall, rwy’n agored i gynigion.
Yn amlwg, fel plaid, rydym yn credu ei bod yn hynod o bwysig i ni anrhydeddu’r tîm a dyna pam rydym wedi ysgrifennu at y Llywydd, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru i alw am dderbyniad i’r chwaraewyr cyn iddynt adael am Ffrainc ym mis Mehefin. Dechreuwyd ar y broses honno ym mis Tachwedd ac er bod y Llywydd wedi ysgrifennu ataf i ddweud bod trafodaethau ar y gweill, mae’n ymddangos nad ydym yn nes heddiw at drefnu digwyddiad. Felly, wrth dderbyn y cynnig hwn y prynhawn yma, fel rwy’n gobeithio y byddwn yn ei wneud, rwy’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi ymdeimlad o frys i’r digwyddiad hwn, gan y byddai’n embaras go iawn pe bai’r achlysur digyffelyb hwn yn mynd heibio heb i Senedd Cymru ei hun ei nodi’n swyddogol, ac mae’r cloc yn tician yn awr.
Dylwn ychwanegu fy mod wedi cael gohebiaeth gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru y bore yma yn dweud, er bod amser yn mynd i fod yn gyfyngedig yr ochr hon i’r Ewros, efallai y gallem yn hytrach gynnal digwyddiad croeso adref ar gyfer y tîm. Rwy’n dal i gredu y byddai momentwm yno i gael y math hwnnw o ddigwyddiad.
Rydym hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i helpu i sefydlu parthau cefnogwyr ledled Cymru ar gyfer pan fydd yr Ewros ar y gweill. Yr hyn rydym yn meddwl amdano yw rhywbeth tebyg i lwyddiant parth cefnogwyr Parc yr Arfau, Caerdydd yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd y llynedd, a ddenodd mwy na 150,000 o gefnogwyr. Creodd hyn awyrgylch gwych ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Credaf fod angen i Gymru adeiladu ar hynny. Rydym yn cymryd rhan yn rowndiau terfynol pencampwriaeth bêl-droed fawr am y tro cyntaf ers 1958 a dylai Llywodraeth Cymru fod ar flaen y gad yn yr ymdrechion i sicrhau bod cynifer o gefnogwyr â phosib o bob cwr o Gymru yn gallu mwynhau’r profiad. Felly, rwy’n edrych ymlaen at glywed gan y Gweinidog am unrhyw gynnydd a wnaed hyd yn hyn.
Rydym hefyd yn credu y gallai Llywodraeth Cymru ystyried sefydlu parth cefnogwyr nid yn unig yng Nghaerdydd, ond mewn ardaloedd eraill yng Nghymru, megis Wrecsam, Abertawe, ac ardaloedd eraill. Mae gan Aberystwyth, rwy’n gwybod, a Chaerfyrddin draddodiad cryf o gefnogi pêl-droed ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn gweithio gyda phartneriaid i geisio gwneud i hyn ddigwydd. Dyna pam rwyf wedi ysgrifennu at gynghorau lleol i weld a oes ganddynt ddiddordeb ynddo, a hefyd at amryw o glybiau pêl-droed yn yr ardaloedd perthnasol i ofyn am eu cefnogaeth hefyd.
Os nad yw Llywodraeth Cymru o blaid arwain ar ddatblygiad o’r fath, gallwn ddefnyddio’r ddadl hon i glywed gan y Gweinidog pa gynlluniau sydd ar waith i nodi’r Ewros yr haf hwn? Rwy’n credu bod yna awydd i glywed gan y Llywodraeth, am fod gan y cefnogwyr ddiddordeb mawr mewn cymryd rhan yn yr holl broses.
Dadleuais yn flaenorol hefyd y dylai tîm o arbenigwyr marchnata a busnes deithio i Ffrainc yn ystod y bencampwriaeth i hyrwyddo Cymru dramor, felly byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed gan y Gweinidog os gwnaed unrhyw gynnydd ar y syniad hwn.
Heb amheuaeth, ni fyddai neb yn yr ystafell hon yn anghytuno â’r angen i Gymru fod ar fap chwaraeon y byd, ac mae’n rhoi ysbrydoliaeth fawr i Gymru pan fo gennym ddigwyddiadau mawr o’r fath. Nid oes ond angen i ni edrych ar y Cwpan Ryder: creodd y Celtic Manor fudd economaidd gwerth £82.4 miliwn—o hynny, denwyd gwerth £74.6 miliwn i’r de-ddwyrain, a chronnodd Casnewydd £28.3 miliwn. Mae hyn hyd yn oed yn fwy anhygoel pan ystyriwch nad oedd cyfran sylweddol o’r 244,000 o ymwelwyr yn ystod y digwyddiad wythnos o hyd yn aros yng Nghymru, gyda rhai’n dod o hyd i lety mor bell i ffwrdd â Llundain.
Rydym hefyd yn siarad yn y ddadl hon heddiw am ddod ag achlysur beicio mawr i Gymru. Rydym yn gwybod bod momentwm newydd i feicio yng Nghymru a gwelsom pa mor llwyddiannus oedd y rhan o’r Tour de France a gynhaliwyd yn Swydd Efrog. Rwy’n credu y byddwn i gyd yn cytuno nad yw’n fater gwleidyddol ond yn rhywbeth y gallai Cymru ei gael yma—naill ai ran o’r Tour de France neu’r Giro d’Italia Eidalaidd. Rwy’n gwybod bod yna bobl yng Nghymru mewn cwmnïau amrywiol sy’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i edrych ar bosibiliadau’r cynlluniau hynny, a byddwn yn awyddus i weld hynny’n cael ei ddatblygu ar gyfer y dyfodol.
Mewn trafodaethau ar y mathau hyn o faterion, rwy’n credu ei fod yn bwysig am ein bod am gael mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon ac yn gyffrous ynghylch y cyfleoedd y mae chwaraeon yn eu cynnig iddynt. Gwyddom ar yr un pryd fod llawer o bobl nad ydynt yn gwneud ymarfer corff, ac sy’n ordew neu dros bwysau. Os ydynt yn gweld Cymru yn llwyddo mewn digwyddiadau byd-eang fel hyn, yna gwyddom y gall hynny annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon. Felly, rwy’n annog pobl i gefnogi’r cynnig yma heddiw.
17:24 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig. Galwaf ar Eluned Parrott i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Aled Roberts.
Gwelliant 1—Aled Roberts
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu bod angen cynllunio trafnidiaeth a gwaith rheoli effeithiol ar bob digwyddiad mawr i sicrhau profiad o ansawdd uchel i ymwelwyr a lleihau aflonyddwch i drigolion a busnesau lleol.
Cynigiwyd gwelliant 1.
17:24 - Eluned Parrott
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi, Blaid Cymru, am gyflwyno’r cynnig ac am dderbyn ein gwelliant heddiw.
Mae gan Gymru hanes balch o gynnal digwyddiadau mawr, ac fel Aelod sy’n cynrychioli Caerdydd i gyd, gallaf ddweud wrthych fod croesawu’r byd ar ran Cymru yn destun balchder mawr i bob un ohonom. Rwy’n croesawu’r cynnig y dylai Cymru wneud cais i gynnal Gemau’r Gymanwlad. Efallai y credwch y dylai fod yn Aberafan; rwy’n meddwl efallai y gallai fod yng Nghaerdydd. Byddai’n ddinas wych ar gyfer eu cynnal. Rhoddodd hwb o tua £282 miliwn i fusnes twristiaeth Glasgow, a hoffwn weld hynny yn y fan hon. Hefyd, fodd bynnag, mae’n darparu terfyn amser, onid yw, ar gyfer creu’r newid sylweddol yn y seilwaith lleol a fydd yn cael effaith barhaol, ac arenâu chwaraeon newydd a phentrefi athletwyr sy’n rhoi cartrefi a chyfleusterau wedyn i bobl Cymru am genedlaethau i ddod. Felly, gallai Gemau’r Gymanwlad ein galluogi i gael sylw o gwmpas y byd a rhoi sylw i’n diwylliant a’n cyflawniad mewn cymaint o ffyrdd. Felly, mae honno’n ystyriaeth i’w chroesawu’n fawr.
Rwyf hefyd yn cytuno gyda’r syniad, efallai, o geisio dod ag un o’r rasys beicio mawr i Gymru hefyd, er, yn yr unfed ganrif ar hugain, oni fyddai’n wych pe na bai angen i ni ddweud y dylai fod ar gyfer dynion a menywod, gan nad oes unrhyw reswm pam na fyddai, ‘does bosibl? Ond mae’r hyn ydyw, ac mae’r felothon—. Yn amlwg, mae gennym rywfaint o brofiad o gynnal y felothon bellach yng Nghaerdydd a de-ddwyrain Cymru ers y llynedd. Roedd yn llwyddiannus iawn yn denu cystadleuwyr chwaraeon a hamdden, ac rwy’n deall bod y sefydliad yn bwriadu dod yn ôl eto eleni hefyd. Ond bydd yr Aelodau’n gwybod ei fod wedi achosi rhai anawsterau. Er y gallai ras beicio fawr fod yn dderbyniol iawn yn ddamcaniaethol, yn ymarferol, roedd trigolion lleol yn teimlo’i fod yn ddigwyddiad heriol ac aflonyddgar iawn. Roedd yr ardaloedd o gwmpas yn arbennig yn teimlo bod cau ffyrdd am ddiwrnod ar y tro, efallai, yn aflonyddgar. Nid oeddent yn gallu mynd a dod fel arfer, a dyna pam rwyf wedi cyflwyno ein gwelliant.
Fel y clywsom yn y ddadl yr wythnos diwethaf ar Gwpan Rygbi’r Byd, er y gallai digwyddiadau mawr greu hwb enfawr i rai yn yr economi leol, os na chânt eu cynllunio a’u rheoli’n effeithiol, gallant fod yn niweidiol i eraill. Rhaid i Gaerdydd allu gweithredu fel dinas yn ogystal ag â lleoliad digwyddiad. Mae hyn yn wir, wrth gwrs, am leoliadau eraill yng Nghymru, ond mae’n fater arbennig o wir yng Nghaerdydd, oherwydd y nifer o ddigwyddiadau rydym yn eu cynnal.
Gan edrych ar barthau cefnogwyr, er enghraifft, mae’r parth cefnogwyr yn un o’r pethau a gynhaliwyd gennym adeg Cwpan Rygbi’r Byd yng nghanol dinas Caerdydd. Mae’r syniad o barth cefnogwyr yn wych. Maent yn darparu awyrgylch gwych i bobl ac yn bendant, dylid cynnal digwyddiad i ffarwelio â’r tîm. Ond mae’n rhaid gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynnal mewn lleoliadau priodol. Ar y cychwyn, roedd y syniad o’i gynnal ym Mharc yr Arfau, Caerdydd yn wych, heblaw, wrth gwrs, ei fod yn lleoliad preswyl; mae wedi’i amgylchynu gan fflatiau. Er nad yw gêm rygbi bob tua deufis o bosibl yn broblem, neu gêm rygbi lai bob ychydig wythnosau nad yw’n gymaint o broblem, gallai awyrgylch parti saith diwrnod yr wythnos tan hanner nos bob nos greu ychydig bach mwy o straen ar nerfau’r trigolion lleol, rhaid i mi ddweud.
Nid wyf yn gwybod ble y mae Llywodraeth Cymru yn tynnu llinell rhwng yr hyn sy’n ddigwyddiad o bwys a digwyddiad ychydig yn llai o faint, mewn gwirionedd, ond yn ôl un amcangyfrif a roddodd rhywun i mi yn ddiweddar, mae Caerdydd yn croesawu mwy na 400 o ddigwyddiadau y flwyddyn i fwy na 1,000 o ymwelwyr, a mwy na 50 o ddigwyddiadau i fwy na 10,000 o ymwelwyr mewn unrhyw flwyddyn. Pan na all trigolion Caerdydd barhau â’u bywydau arferol o ddydd i ddydd ar ddiwrnod digwyddiad, pan fydd gennych gymaint â hynny o bobl, mae gennym broblem. Pan na all y cyngor glirio’r sbwriel oddi ar ein strydoedd rhwng digwyddiadau am fod un yn dilyn syth ar ôl y llall, pan fydd bysus yn cael eu canslo, pan fydd pobl yn methu â mynd i’r gwaith yn y siopau ac arcedau, a hyd yn oed os gallant gyrraedd yno, ni all eu cwsmeriaid wneud hynny, os na allwn gael pobl i mewn i’r swyddfeydd sydd wedi’u lleoli yng nghanol y ddinas, yna mae gennym broblem. Felly, fel y dywedais, pan na all Caerdydd weithredu fel dinas oherwydd y digwyddiadau mae’n eu cynnal, yna mae honno’n broblem i bob un ohonom.
Nawr, mae trafnidiaeth, cynllunio a rheoli’r digwyddiadau hynny’n effeithiol yn hynod o bwysig, fel y clywsom yr wythnos diwethaf. Mae rhan o hynny’n digwydd yn y fan a’r lle, ond y gwir amdani yw, pan gynhelir y digwyddiadau hyn, rydym yn ymladd yn erbyn y llanw mewn gwirionedd. Nid oes gennym y seilwaith rydym ei angen o ddifrif er mwyn ystyried cynnal digwyddiadau llwyddiannus ar raddfa o’r fath yn y dyfodol. Mae gwir angen cynnydd ar ddatblygu ein gorsaf fysus yng nghanol y ddinas. Mae gwir angen buddsoddiad mawr yn ein gorsaf drenau i wneud yn siŵr y gallwn barhau i roi’r profiad gorau posibl i’n gwesteion, fel eu bod yn gadael Caerdydd a digwyddiad yn unrhyw le yng Nghymru gan gofio lle mor wych ydoedd i fynd yno a mwynhau.
17:29 - Mike Hedges
Y tro diwethaf y chwaraeodd Cymru mewn pencampwriaeth bêl-droed fawr, roeddwn yn un oed—yn ôl pob tebyg nid oedd y rhan fwyaf o’r bobl yn yr ystafell hon wedi’u geni. Fel rhywun sydd wedi bod yn gefnogwr chwaraeon drwy gydol fy oes, yn enwedig pêl-droed, rwy’n teimlo’n gyffrous iawn fod Cymru wedi mynd drwodd i rowndiau terfynol pencampwriaeth fawr. Pwy arall yma sy’n dal i gofio hunllef Paul Bodin yn methu cic gosb, Joe Jordan yn taro’r bêl â’i law, neu’r goleuadau yn mynd allan yng Nghae’r Vetch pan oedd Cymru’n curo Gwlad yr Iâ?
Yn gyntaf, a gaf fi sôn am y parthau cefnogwyr? Rwy’n disgwyl y bydd ardal Sgwâr y Castell yn Abertawe yn dangos holl gemau Cymru, fel y mae wedi bod yn dangos yr holl ddigwyddiadau chwaraeon mawr. Rwyf wedi siarad â Dinas Abertawe mewn gwirionedd i ofyn iddynt ystyried agor y cae a dangos y gemau ar y sgriniau mawr sydd yno. Mae’n debyg mai parth cefnogwyr mewn cae pêl-droed yw’r lle gorau i’w cael. Byddwn yn synnu os nad yw’r Llywydd, pwy bynnag y bydd ar y pryd, yn trefnu parti, naill ai cyn i’r tîm adael neu ar ôl iddo ddychwelyd, ar ôl mynd yn bell iawn yn y bencampwriaeth, gobeithio.
Mae angen digwyddiadau mawr arnom yng Nghymru. Un o gyflawniadau’r Cynulliad Cenedlaethol hwn—a Llywodraeth Cymru, mentraf ddweud—yw ein bod wedi cael mwy o ddigwyddiadau mawr yng Nghymru ers datganoli nag a gawsom cyn hynny. Beth sy’n gyraeddadwy? Mae gan bawb eu barn eu hunain ynglŷn â beth sy’n ddigwyddiad mawr. Byddwn yn dadlau bod gan Gymru 19 o ddigwyddiadau chwaraeon mawr bob blwyddyn—pob gêm Uwch Gynghrair y mae Dinas Abertawe yn ei chwarae. Mae diddordeb y byd yn yr uwch gynghrair yn aruthrol. Mewn rhai rhannau o’r byd, mae Dinas Abertawe yn fwy cyfarwydd na Chymru oherwydd poblogrwydd yr uwch gynghrair. Y cystadlaethau allweddol i’w cael yw rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr a chynghrair Europa. Wrth gwrs, mae Cynghrair y Pencampwyr yn dod i Gaerdydd yn 2017—cyflawniad enfawr. Yn sicr mae angen llongyfarch cymdeithas bêl-droed Cymru a Llywodraeth Cymru ar gael rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr.
Wrth gwrs, os ydych am ddigwyddiadau chwaraeon mawr, bydd angen y seilwaith arnoch. Dyna pam y mae cadw maes awyr Cymru Caerdydd fel maes awyr mor bwysig. Yn syml, heb faes awyr ni allwch gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr.
Gan droi at Gemau’r Gymanwlad, o ran Gemau’r Gymanwlad, mewn gwirionedd mae yna ddau gwestiwn cychwynnol: faint fyddai’n ei gostio, a sut rydych yn mynd i dalu amdano? Er bod pob un Gemau’r Gymanwlad yn costio swm gwahanol, ac weithiau mae’r costau’n hynod o niwlog, yn ôl ‘The Independent’, gwyddom fod Manceinion wedi costio £300 miliwn, a Glasgow, yn ôl ‘The Daily Telegraph’, wedi costio £400 miliwn. Os yw Cymru yn gwneud cais, mae bron yn sicr o fod yn llwyddiannus. Mae’n ymddangos bod dyddiau cynigwyr lluosog am Gemau’r Gymanwlad ar ben. Sut y telir amdanynt? A ydym yn ei dynnu o’r cyllidebau addysg neu iechyd? Wrth gwrs, mae yna ffordd syml o dalu amdano: rhoi swm canlyniadol Barnett o Gemau Olympaidd Llundain i Gymru. Byddai hynny’n rhoi tua 5.4 y cant o’r £9 biliwn amcangyfrifedig am Gemau Olympaidd Llundain i Gymru, gan roi bron i £500 miliwn, llai’r £20 miliwn rydym wedi’i gael, a byddai’n ddigon.
Gan droi at ble yng Nghymru i gynnal y gemau hyn, gan fod Gemau’r Gymanwlad—fel y Gemau Olympaidd—yn cael eu rhoi i ddinas, nid i wlad, beth am Abertawe—prif ddinas chwaraeon Cymru, tîm pêl-droed gorau Cymru, tîm rygbi gorau Cymru? Er y byddai’r digwyddiadau’n cael eu cynnal ledled Cymru, dylai Abertawe fod yn ddinas arweiniol. Mae’r Gemau wedi bod yng Nghaerdydd; tro Abertawe yw hi yn awr.
17:32 - Mohammad Asghar
Diolch am y cyfle i siarad am gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yng Nghymru, a byddwn yn cefnogi’r cynnig.
Fel y gwyddom, mae potensial gan gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr i sicrhau nifer o fanteision. Ceir manteision iechyd, sy’n dod o ddiddordeb a chyfranogiad cynyddol mewn chwaraeon y mae cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yn eu meithrin. Mae gordewdra yn broblem gynyddol yng Nghymru. Gallai chwaraeon ac ymarfer corff rheolaidd, ar y cyd â deiet iach, helpu i ostwng lefelau gordewdra. Byddai hefyd yn lleihau’r risg o ddatblygu clefydau cronig mawr, megis clefyd coronaidd y galon, strôc, diabetes a rhai mathau o ganser. A cheir manteision economaidd sy’n deillio o’r mewnlifiad o nifer fawr o wylwyr i’r lleoliad sy’n cynnal y digwyddiad a’r cyfle i hyrwyddo’r lleoliad dramor.
Mae gan Gymru hanes cryf o gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr, fel gemau Cwpan Ryder a gemau’r Lludw; ac mae economi Cymru wedi elwa o ganlyniad. Mae Bethan Jenkins eisoes wedi sôn am Gwpan Ryder yn y Celtic Manor yn 2010, a chwistrellodd dros £80 miliwn i economi de Cymru. Amcangyfrifodd cadeirydd Clwb Criced Morgannwg fod y fantais o gynnal gemau criced rhyngwladol yn fwy na £75 miliwn dros chwe blynedd, ac eto diffyg uchelgais sy’n nodweddu ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr gefnogi gwneud cais i ddod â Gemau’r Gymanwlad i Gymru yn 2026 neu 2030. Cynhaliwyd Gemau’r Gymanwlad ddiwethaf yng Nghymru ym 1958. Byddai cais llwyddiannus i ddod â’r gemau i Gymru yn cael effaith economaidd sylweddol. Byddai’n creu cyfleoedd i unigolion, cymunedau, busnesau a sefydliadau ledled Cymru i rannu yn y manteision a gâi eu creu, a chyfle i farchnata Cymru dramor.
Mae gennym eisoes leoliadau o safon fyd-eang. Credaf y byddai dod â Gemau’r Gymanwlad i Gymru unwaith eto yn gwella ein henw da cynyddol am gynnal digwyddiadau rhyngwladol. Ar Sul 22 Mai eleni, bydd hyd at 18,000 o feicwyr yn cymryd rhan yn Felothon Nghymru. Mae’r digwyddiad beicio ar ffyrdd caeedig ar ei hyd yn cynnwys rhai o olygfeydd mwyaf godidog Cymru. Mae’n debygol o ddenu rhai o dimau a beicwyr gorau’r byd. Mae’n addo bod yn benwythnos ysblennydd o ddigwyddiadau beicio. Rwy’n credu bod tirwedd Cymru, gyda’i chyfuniad o amgylcheddau trefol a mynyddig yn berffaith ar gyfer digwyddiadau beicio. Rwy’n llwyr gefnogi datblygu cais i ddod ras feicio fawr i Gymru.
Ddirprwy Lywydd, am y tro cyntaf ers 1958 bydd cyfle i bobl ar draws Cymru wylio ein tîm pêl-droed yn cystadlu yn erbyn timau gorau Ewrop. Mae’n iawn y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol nodi’r achlysur hanesyddol hwn i ffarwelio’n swyddogol â Chris Coleman a’i dîm. Fodd bynnag, ni fydd y mwyafrif helaeth o’r cefnogwyr yn gallu cael tocynnau ar gyfer y gemau eu hunain. Dyna pam rydym yn llwyr gefnogi sefydlu parthau cefnogwyr ledled Cymru, er mwyn i gefnogwyr allu rhannu’r profiad o wylio Cymru gyda’i gilydd. Yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd, ymwelodd tua 150,000 o bobl â’r parth cefnogwyr ym Mharc yr Arfau. Mae gennym gyfle i wneud y gorau o’r brwdfrydedd y mae Ewro 2016 yn ei gynnig i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon yng Nghymru. Rwy’n galw ar Aelodau ar bob ochr i’r Siambr i lofnodi’r datganiad barn a gyflwynwyd gan Andrew R.T. Davies a chefnogi parthau cefnogwyr ledled Cymru.
Mae digwyddiadau chwaraeon nid yn unig yn creu swyddi a chyfleoedd eraill, ac yn hyrwyddo’r wlad; maent hefyd yn rhoi’r ewyllys i bobl ymladd, i wella eu—beth rydych yn ei alw—disgyblaeth, cystadleuaeth ac arweinyddiaeth. Mae yna gryn dipyn o bethau sydd ynghlwm wrth ddigwyddiadau chwaraeon. Yn bendant bydd angen denu ein plant i wneud yn siŵr fod yr hyn a wnaethom yn ystod y Gemau Olympaidd diwethaf, lle’r oeddem yn cystadlu ar lefel uwch a chael mwy o fedalau nag erioed o’r blaen—. Mae gan y genedl fach hon dalent fawr, ac rwy’n eithaf ffyddiog y gallwn ddweud wrth y byd mai ni yw’r gorau yn y byd mewn digwyddiadau chwaraeon. Diolch.
17:37 - Llyr Gruffydd
Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn teimlo poen Mike Hedges gyda’i gyfeiriadau at Paul Bodin a Joe Jordan, ond mae hynny’n pylu’n ddim o’i gymharu â dyfnderoedd yr anobaith a’r digalondid a deimlid gan lawer o gefnogwyr Tref Caerfyrddin pan oedd Mike yn ddyfarnwr yng nghynghrair Cymru, wrth gwrs, flynyddoedd yn ôl. [Chwerthin.] Ond gadewch i ni beidio ag edrych yn ôl. Gadewch i ni beidio ag oedi ar y costau a’r problemau. Gadewch i ni edrych ar y manteision a’r pethau cadarnhaol a fyddai’n deillio, er enghraifft, o gynnal Gemau’r Gymanwlad yma yng Nghymru.
Felly, gadewch inni edrych ar y profiad a gafwyd yn yr Alban yn 2014, lle cynhyrchwyd gwerth bron £0.75 biliwn i’r economi yn sgil cynnal Gemau’r Gymanwlad—£390 miliwn yn ôl un ‘estimate’ i Glasgow ei hun yn economaidd. Rhwng 2007 a 2014, roedd 2,100 o swyddi, ar gyfartaledd, wedi’u creu, gyda thros hanner o’r rheini, mae’n debyg, yn Glasgow hefyd. Trefnwyd y gemau yn fanna ar amser ac o fewn y gyllideb, a hynny, yn ei dro, yn sbarduno lefel uchel o gefnogaeth gan y cyhoedd i chwaraeon, a llawer mwy o gyfranogaeth hefyd. Denwyd 690,000 o ymwelwyr unigryw i’r gemau hynny. Buddsoddwyd mewn isadeiledd, wrth gwrs, yn enwedig mewn campau lefel perfformiad uchel, sydd yn amlwg wedi dod â budd ehangach iddyn nhw yn fanna.
Mae gweithgaredd corfforol ar i fyny am y tro cyntaf mewn blynyddoedd mawr yn sgil y gemau hynny yn yr Alban hefyd. Ar yr un pryd, wrth gwrs, mi welon nhw fuddsoddiad sylweddol mewn isadeiledd yn yr Alban, ac mewn adfywio dwyrain y ddinas yn enwedig, a hynny yn dod â buddsoddiad mewn tai ac, fel yr oeddwn yn ei ddweud, legasi ehangach o safbwynt gwella ffitrwydd corfforol ac elfennau o iechyd y cyhoedd, yn ogystal â budd economaidd. Felly, mae’r achos dros ddenu’r gemau i Gymru yn 2026 neu 2030 yn ddiamheuol yn fy marn i.
Rwyf jest hefyd am sôn yn fyr am yr angen i ddenu campau seiclo i Gymru. Cyfeiriodd Bethan Jenkins, wrth gwrs, at y Grand Départ fel rhan o’r Tour de France, a ddaeth i swydd Efrog, wrth gwrs, yn 2014, a hynny’n denu 2.5 miliwn o bobl i droi allan ar y ffyrdd i weld y Tour de France yn eu hardal nhw. Rwy’n siŵr bod hynny’n dod â buddiannau sylweddol iawn. Nid oes rheidrwydd, wrth gwrs, inni geisio denu’r Tour de France yn benodol. Rydym yn gwybod bod Gogledd Iwerddon wedi cynnal agoriad y Giro d'Italia. Byddai’n bosibl inni, efallai, edrych yn y cyfeiriad yna. Hefyd, y Vuelta, y ‘cyclists’ grand tour’, sydd ddim ond wedi cychwyn y tu fas i Sbaen ar ddau achlysur, ac nid ers nifer o flynyddoedd, ond rwyf yn meddwl bod yna gyfle inni fanna, efallai, i geisio denu’r rheini i Gymru.
Felly, mae angen ychydig o ddychymyg. Mae angen ychydig o sbardun gan y Llywodraeth yma, a dyna yn union, wrth gwrs, pam fod Plaid Cymru wedi gosod y ddadl yma y prynhawn yma. Ond, edrych ar y manteision ac ar y cyfleon sydd angen inni wneud, a gweld tu hwnt i’r problemau.
17:40 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates.
17:40 - Kenneth Skates
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl hon heddiw, sydd hefyd yn rhoi cyfle i mi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Siambr ar y cynnydd rydym wedi’i wneud ar gyflawni ein strategaeth digwyddiadau mawr? Ers i ni drafod yr union bwnc hwn fis Mai diwethaf, rydym wedi gwneud camau pellach ymlaen ar atgyfnerthu enw da Cymru fel cyrchfan digwyddiadau o’r radd flaenaf. Yn 2015, gyda llygaid y byd arnom unwaith eto, fe gefnogom y gwaith o gyflwyno nifer o ddigwyddiadau chwaraeon mawr y byd yn llwyddiannus, gan gynnwys gêm brawf y Lludw, Cwpan Rygbi’r Byd, a Rali Cymru Prydain Fawr. Hefyd, fe gefnogom yr hyn y credaf ei fod yn gymysgedd cyfoethog ac amrywiol o ddigwyddiadau diwylliannol, gan gynnwys Gŵyl Gomedi Machynlleth, Gŵyl y Gelli, Gŵyl Rhif 6, Ffocws Cymru yn Wrecsam, ac wrth gwrs y Good Life Experience ym Mhenarlâg.
O ran pwynt 1, mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gydnabod gwerth economaidd cynnal digwyddiadau mawr. Maent yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’n hymgyrch i gefnogi swyddi a chreu cyfoeth, a gallant hefyd chwarae rhan hanfodol yn gwella proffil ac enw da rhyngwladol Cymru fel lle i ymweld ag ef, fel lle i fyw, ac wrth gwrs fel lle i fuddsoddi ynddo. Yn 2015, fe gefnogom 39 o ddigwyddiadau ledled Cymru, a ddenodd tua 400,000 o ymwelwyr, gan greu effaith economaidd uniongyrchol o dros £120 miliwn. Mae hynny’n adenillion sylweddol ar fuddsoddiad o £30 am bob £1 a fuddsoddwyd gan Lywodraeth Cymru.
O ran pwynt 2, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol ar astudiaeth ddichonoldeb fanwl mewn perthynas â’r cais posibl am gemau 2026. Ystyriodd y Cabinet bapur cynnydd ym mis Hydref, a chomisiynwyd gwaith pellach ar fodel busnes pum achos. Yn dilyn llwyddiant Glasgow 2014, rydym yn llwyr gydnabod yr awydd i Gymru fwrw ati ar gais am Gemau’r Gymanwlad yn y dyfodol, a’r materion allweddol o hyd wrth ystyried cais, fel y nododd Mike Hedges, yw’r costau a’r manteision tebygol i Gymru. Gallaf hysbysu’r Aelodau ein bod yn rhoi ystyriaeth lawn i’r astudiaeth o effaith economaidd gemau Glasgow 2014.
Ar bwynt 3, mae beicio hefyd yn cael lle amlwg yn ein rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau a gefnogir, gan adlewyrchu’r twf sylweddol yn ddiweddar ym mhoblogrwydd y gamp. Mae Cymru wedi cynnal camau o’r Tour of Britain ers 2010, a’r llynedd, cynhaliwyd y ras Felothon Cymru gyntaf yn llwyddiannus ar draws de Cymru. Mae hyn mewn gwirionedd yn golygu bod Cymru yn cynnal dau o’r pedwar digwyddiad beicio ar y ffordd rhyngwladol mawr yn y DU ar hyn o bryd. Ond rydym yn uchelgeisiol yn ein dymuniad i gynnal y digwyddiadau mwyaf eu bri sydd gan y gamp i’w cynnig. Wrth gwrs, ni cheir digwyddiadau beicio ar y ffordd mwy o ran eu maint ac o ran traddodiad nag un o’r rasys beicio mawr. Ni ellir amau’r sylw byd-eang a ddenodd Swydd Efrog drwy gynnal Grand Départ y Tour de France yn 2014. Yn yr un modd, cynhyrchodd y Giro d’Italia ddiddordeb enfawr yn Iwerddon, gan helpu i sefydlu tirweddau’r gogledd a’r de fel cyrchfannau twristiaeth posibl.
Ddirprwy Lywydd, ar bwynt 4 rydym wrth gwrs yn hynod falch o gyflawniad ein tîm cenedlaethol yn cyrraedd un o bencampwriaethau mwyaf y byd, a gallant ddibynnu ar ein cefnogaeth lwyr wrth iddynt baratoi i gystadlu yn erbyn timau gorau Ewrop. Mae swyddogion wedi trafod y posibilrwydd o ddigwyddiad ffarwelio i dîm Cymru cyn Ewro 2016 gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Fodd bynnag, mae’r amser fydd gan y tîm gyda’i gilydd cyn teithio i Ffrainc yn gyfyngedig, a bydd blaenoriaeth rheolwyr y tîm, yn gwbl briodol yn fy marn i, ar baratoadau cyn y bencampwriaeth. Fel y gŵyr yr Aelodau, yn dilyn yr e-bost a anfonwyd gan y Gymdeithas Bêl-droed y prynhawn yma, rwy’n credu ei bod yn hollol hanfodol ein bod felly’n edrych ar y potensial o ddathliad pan fydd y tîm yn dychwelyd. Bydd y gêm gartref olaf i’r tîm yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 24 Mawrth, a chredaf fod hynny’n rhoi cyfle i bawb ffarwelio â hwy yn y modd y maent yn ei lwyr haeddu.
Ar bwynt 5, byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu sefydlu, gyda phartneriaid, unrhyw gyfleoedd i gefnogwyr pêl-droed yng Nghymru ddod at ei gilydd gyda ffrindiau a theulu i wylio’r gemau yma. O gofio y bydd y BBC ac ITV yn rhannu’r gwaith o ddarlledu’r gemau, mae llawer o’r gweithgarwch hwn eisoes yn cael ei gynllunio ar gyfer tafarndai a chlybiau ar draws y genedl. Gwn fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cefnogi’r syniad o sefydlu parthau cefnogwyr ledled Cymru ac yn archwilio’r cyfleoedd gyda phartïon â diddordeb, gan gynnwys noddwyr y tîm cenedlaethol. Fodd bynnag, fel y dywedais, mae ffocws y Gymdeithas Bêl-droed ar baratoadau helaeth y tîm cenedlaethol yn Ffrainc a’r logisteg weithredol ar gyfer rheoli’r tîm, y cyfryngau a chefnogwyr.
Rwy’n credu ei bod yn werth nodi hefyd fod y bencampwriaeth yn rhoi cyfle euraid i dafarndai a chlybiau pêl-droed—yn wir, clybiau chwaraeon o bob math ym mhob cwr o Gymru—i fanteisio ar y gemau. Felly, er y gallai parthau cefnogwyr ymddangos yn ddymunol, ni fyddwn eisiau iddynt amddifadu busnesau bach, megis tafarndai a chlybiau chwaraeon, o refeniw gwerthfawr.
Bethan Jenkins, sut y gallwn anghytuno â’ch awgrym fy mod yn mynd ag aelodau o Lywodraeth Cymru i Ffrainc y flwyddyn nesaf i hyrwyddo Cymru? Yn rhyfedd ddigon, mae’n rhywbeth y mae nifer o’r Aelodau eisoes wedi’i grybwyll wrthyf. Gwelliant 1, Aled Roberts: byddem yn cefnogi’r gwelliant hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda pherchnogion a threfnwyr digwyddiadau i sicrhau bod cynlluniau cyflawni a chyfathrebu effeithiol ar waith yn ystod y camau cynharaf o’r broses o gynllunio digwyddiad i sicrhau profiad o ansawdd uchel i ymwelwyr ac i leihau aflonyddwch i drigolion a busnesau lleol.
Wrth gloi, fe ellir, ac fe ddylid tyfu digwyddiadau mawr gartref, yn ogystal â’u denu i Gymru. 2016 yw Blwyddyn Antur yng Nghymru, sydd eisoes wedi sicrhau nifer digynsail o safleoedd ar frig y rhestrau twristiaeth ar gyfer 2016 o’r ‘Rough Guide’ i’r ‘Lonely Planet’ a ‘Forbes’—pob un yn enwi Cymru fel lle sy’n rhaid ymweld ag ef yn 2016. Mae ein gweledigaeth o Gymru fel cyrchfan sy’n gyson ragorol ar gyfer digwyddiadau mawr yn parhau. Wrth ddatblygu portffolio arbennig o ddigwyddiadau, Ddirprwy Lywydd, byddwn yn ceisio taro’r cydbwysedd cywir rhwng denu digwyddiadau rhyngwladol i Gymru a datblygu digwyddiadau yma ar gyfer ein cymunedau a chan ein busnesau.
17:47 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Bethan Jenkins i ateb.
17:47 - Bethan Jenkins
Diolch i chi a diolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl y prynhawn yma. Yn amlwg, mae’n amser cyffrous i dîm pêl-droed Cymru a chredaf fod hynny wedi’i adlewyrchu yng nghyfraniadau pawb heddiw. Yn amlwg, byddwn wedi hoffi clywed ymagwedd fwy gweithredol o ran sefydlu’r parthau cefnogwyr o bosibl. Mewn gwirionedd rwy’n cytuno â’r hyn y mae Mike Hedges yn ei ddweud o ran y potensial o’u cynnal mewn stadia ar draws Cymru, oherwydd credaf fod ganddynt y capasiti eisoes yn y system. Mae’n fater arall a fyddent ond yn dangos y gemau Cymru, neu a fyddent yn dangos pob gêm. Ond rwy’n credu bod y posibilrwydd yno i allu gwneud hynny. Felly dyna pam yr ysgrifennais, fel y dywedoch, at wahanol glybiau er mwyn i ni allu edrych ar ddichonoldeb hynny.
Ni fyddwn yn ei weld yn rhywbeth sy’n tarfu ar fusnesau bach, gan fy mod yn credu bod màs critigol o bobl na fydd yn gallu mynd i Ffrainc, nad ydynt efallai’n gallu fforddio mynd, pobl sy’n gweithio, yn rhy sâl i allu mynd, neu bobl nad ydynt yn gallu dod o hyd i westai neu lefydd aros. Felly, efallai na fyddant yn gallu teithio. Felly, bydd yna bob amser bobl a fydd yn awyddus i gymryd rhan.
Clywaf yr hyn y mae Eluned Parrott yn ei ddweud o ran trafnidiaeth ac o ran y problemau sy’n cael eu creu mewn ardaloedd preswyl. Yn amlwg byddwn o ddifrif ynghylch y pryderon hynny, ond rwy’n meddwl weithiau efallai y gall ardaloedd preswyl o’r fath ymuno yn yr hwyl hefyd a gweld os gallant gymryd rhan yn y dathliadau. Rwy’n siŵr y byddaf yn cael e-bost yn cwyno am y sylw hwnnw yn awr, ar ôl i mi eistedd.
O ran Mike Hedges, mae’n amlwg yn angerddol iawn ynglŷn ag Abertawe. Roeddwn yn cyfrif sawl gwaith y dywedodd ‘Abertawe’. Ond yn amlwg, mae gennym dîm pêl-droed gwych yno. Felly, wrth gwrs y byddem am roi hynny ar y map.
O ran y Ceidwadwyr, wel, diolch am y cyfraniad, er, ar ddechrau’r wythnos, roedd arweinydd y Ceidwadwyr yn awyddus iawn i gyhoeddi datganiad barn ar barthau cefnogwyr, ond mae wedi methu â dod i’r ddadl heddiw i ddangos ei angerdd ynglŷn â’u creu yma. Felly, wyddoch chi—.
Yn amlwg, mae Llyr wedi rhoi mwy o fanylion i chi ynghylch safbwyntiau Plaid Cymru ar y Grand Départ a’r ffigurau mewn perthynas â hynny, ac mae’r Dirprwy Weinidog hefyd wedi dweud pa mor llwyddiannus yw’r digwyddiadau hyn ledled y byd. Byddwn yn amlwg yn croesawu llawer mwy o fuddsoddiad yn y maes hwn oherwydd—gan mai rhedwr wyf fi, nid beiciwr—pan fydd gennych chi fàs critigol o bobl sy’n ymwneud llawer â champ benodol, credaf ei bod yn bwysig ein bod yn dilyn y duedd honno ac yn dod â’r digwyddiadau hynny i Gymru.
Rwy’n credu y bydd hon yn drafodaeth barhaus, yn enwedig o ran digwyddiad i ddathlu’r tîm. Cawsom un yma ar gyfer y rhai a oedd yn rhan o’r Gemau Olympaidd. Mae’n ffordd y gall y gymdeithas yng Nghymru ddathlu. Nid oedd yn ymwneud mewn gwirionedd â gwleidyddion yn llongyfarch neu’n awyddus i gyfarfod â’r tîm, mae’n ymwneud â’r clybiau ar lawr gwlad a allai fod yn dod i lawr i Gaerdydd, neu gael digwyddiad yn rhywle heblaw Caerdydd, fel y gallant ddathlu gyda’r tîm y cyfan sydd gan bêl-droed i’w gynnig i’r gymdeithas yng Nghymru, ac rwy’n diolch i chi i gyd am gymryd rhan yn y ddadl hon.
17:50 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rydych yn gwrthwynebu. Gohiriaf y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
7. Dadl Cyfnod 4 ar Fil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru)
17:50 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Eitem 7 yw dadl Cyfnod 4 ar y Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru), a galwaf ar Kirsty Williams i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM5956 Kirsty Williams
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
17:50 - Kirsty Williams
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a chynigiaf y cynnig ar y papur Trefn yn ffurfiol a gofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo’r Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru). Os bydd cyd-Aelodau yn y Siambr hon heddiw yn penderfynu gwneud hynny, bydd yn golygu mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn Ewrop i basio deddf sy’n sicrhau y bydd gan nyrsys, yn y lle cyntaf ar wardiau acíwt i gleifion mewnol, amser i ddarparu gofal nyrsio diogel, effeithiol a safonol. Bydd yn golygu y bydd y GIG yng Nghymru yn arwain y byd nid yn unig o ran cydnabod y cysylltiad rhwng cymarebau nyrsys-cleifion a chanlyniadau cleifion, ond hefyd o ran cymryd y cam eithaf sydd ar gael i senedd, sef deddfu ar ei gyfer.
Gadewch inni fod yn glir ynghylch y dystiolaeth: heddiw ddiwethaf, cyhoeddodd y ‘British Medical Journal’ adroddiad ar yr effaith y mae nifer y nyrsys cofrestredig i bob chwe chlaf yn ei chael ar ganlyniadau cleifion. Mae’r dystiolaeth yn y BMJ heddiw yn atgyfnerthu astudiaethau eraill sydd wedi dangos effaith gadarnhaol lefelau staff nyrsio diogel ar ganlyniadau cleifion. Canfu astudiaeth ar draws 30 o ymddiriedolaethau acíwt yn Lloegr fod ysbytai sydd â’r nifer uchaf o gleifion fesul nyrs â chyfradd farwolaethau 26 y cant yn uwch. Ond mae’r Bil hwn yn mynd y tu hwnt i rifau syml. Mae’n rhoi sylw i aciwtedd cleifion—hynny yw, pa mor sâl yw claf—ac i mi, yn bwysicaf oll, mae’n parchu barn broffesiynol y nyrs â gofal ar y ward ac yn eu grymuso i ddatgan yn glir beth sydd er lles y claf ar y ward honno ar unrhyw ddiwrnod penodol. Ond bydd y Bil hwn yn mynd ymhellach. Mae’n gosod y sylfeini ar gyfer lefelau staff nyrsio diogel nid yn unig ar wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt yn ein hysbytai cyffredinol dosbarth, ond hefyd mae’n gosod y sylfeini ar gyfer rhannau eraill o’r GIG yn ogystal. Yr wythnos diwethaf, yn y ddadl Cyfnod 3, clywsom am y gwaith sydd eisoes wedi’i ddatblygu’n fawr ar wardiau iechyd meddwl i gleifion mewnol, y gwaith sy’n cael ei wneud i sefydlu offer aciwtedd i’r rhai sy’n gweithio mewn ysbytai cymunedol ac i nyrsys sy’n gweithio yn y gymuned.
Ddirprwy Lywydd, mae’n hwyr yn y dydd. Bûm yn ddigon ffodus i ennill pleidlais y Bil Aelod preifat, ac mae’r cyfle i gyflawni’r newid hwn yn ein cyfraith wedi bod yn fraint enfawr, ond ni fyddem wedi cyrraedd y fan hon heddiw heblaw am waith caled llawer iawn o bobl eraill. Nawr, rwy’n sylweddoli fy mod mewn perygl o wireddu’r ystrydeb o grwydro i diriogaeth areithiau derbyn Oscar. [Chwerthin.] Ond nid yw ond yn deg ein bod yn cydnabod y bobl sydd wedi gweithio mor galed. Felly, hoffwn ddiolch i ymdrechion fy staff fy hun, Siân Donne a John Williams yn fy swyddfa, a thîm gwych Biliau’r Cynulliad, sy’n gweithio ar ran yr holl Aelodau. Mae eu cyngor o ran polisi, gweithdrefn a drafftio cyfreithiol wedi bod yn wych, a hebddynt, ni fyddwn yn sefyll yma heddiw.
A gaf fi ddiolch hefyd i’r Coleg Nyrsio Brenhinol, a nyrsys yn y gorffennol a’r presennol y mae eu tystiolaeth wedi bod gymaint yn fwy huawdl ac yn fwy argyhoeddiadol na dim y gallwn ei ddweud fy hun? A gaf fi ddiolch i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, nad oedd, yn y diwedd, yn rhy frawychus i eistedd o’i flaen ac nad oedd ei ddial yn rhy ormodol wrth fy ngweld i ar yr ochr arall i’r bwrdd? Rwy’n ddiolchgar am eu gwaith caled ar y Bil. Mae’r gwelliannau a gyflwynwyd wedi bod yn brawf go iawn i sicrhau mai dyma’r ddeddfwriaeth gywir, ac rwy’n ddiolchgar iddynt am eu hymdrechion ac am ymdrechion y llefarwyr swyddogol o’r blaid Geidwadol a Phlaid Cymru am eu cefnogaeth.
Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i’r Gweinidog, a oedd, os caf ddweud, ychydig yn amheus ar y dechrau efallai ond mae wedi dal ati gyda mi a’r ddeddfwriaeth, ac wedi cydnabod bod hwn yn gyfraniad gwerthfawr i’w wneud i ofal iechyd yng Nghymru.
Mae’r Bil ger ein bron yn fyr o ran ei natur ac yn fach, ond rwy’n credu y bydd yn creu gwahaniaeth mawr i ganlyniadau cleifion yng Nghymru ac i allu nyrsys Cymru i wneud yr hyn y maent yn ei wneud orau, sef gofalu amdanom i gyd pan fyddwn angen gofal.
17:55 - Darren Millar
Codaf i siarad o blaid y cynnig a gyflwynwyd yn enw Kirsty Williams, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i’w llongyfarch am ddyfalbarhau gyda’r ddeddfwriaeth hon. Mae wedi cymryd amser hir i gyrraedd y cam yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ond rwy’n falch bod cytundeb ynghylch y Bil ar bob ochr i’r tŷ hwn fod arnom angen deddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi canllawiau i fyrddau iechyd a chyrff eraill y GIG yng Nghymru ar y gofynion staffio mewn perthynas â nyrsio.
Fel y mae’r Aelod wedi nodi’n ddigon teg, cyflwynwyd tystiolaeth glir iawn i’r pwyllgor a oedd yn edrych ar y ddeddfwriaeth hon a awgrymai fod canlyniadau cleifion yn gwella pan fo mwy o nyrsys ar gael i ofalu am gleifion, a dyna’n union yw hyn. Hoffwn yn fawr dalu teyrnged i Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru gyda’u hymgyrch ‘Amser i Ofalu’, a arweiniodd at gyflwyno’r Bil hwn. Rwy’n cofio bod yng nghwmni nyrsys mewn digwyddiadau i fyny’r grisiau yn yr Oriel, ac yn wir, yn fy etholaeth fy hun, yn helpu i hyrwyddo’r angen am y ddeddfwriaeth hon, ac rwyf am dalu teyrnged i bob un ohonynt.
Rwy’n falch hefyd fod y Bil hwn yn gwneud mwy na chydnabod yr angen i gael lefelau cymarebau nyrsio cywir a lefelau staffio cywir, a’i fod hefyd yn mynd i’r afael â’r angen i gynllunio’r gweithlu’n fwy effeithiol. Roeddwn yn falch iawn fod y Gweinidog wedi cydnabod hyn hefyd yn ystod taith y Bil drwy’r ddeddfwrfa, oherwydd mae’n hanfodol sicrhau bod cyflenwad digonol o nyrsys ar gael ar gyfer ein GIG ac yn wir, i sectorau eraill yng Nghymru allu manteisio arnynt i wneud yn siŵr fod yna lefelau staff nyrsio diogel. Rwy’n falch iawn fod y rhan o’r Bil sy’n cyfeirio at gynllunio’r gweithlu wedi’i wella drwy gyflwyno’r sectorau ysbytai annibynnol a chartrefi gofal, ac mae’r GIG, wrth gwrs, yn gweithio’n fwyfwy agos â’r sectorau hyn ar hyn o bryd.
Yn amlwg, roeddwn yn siomedig na dderbyniwyd rhai o’r gwelliannau a gyflwynwyd i geisio cyflwyno’r geiriau ‘diogel’ ac ‘yn ddiogel’ ar y wyneb y Bil, ond nid yw hynny’n golygu fy mod yn credu na fydd y Bil yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i ofal cleifion ar draws Cymru ac i amgylchedd gwaith ein nyrsys. Felly, byddwn yn ei gefnogi, ac edrychaf ymlaen yn fawr iawn, gobeithio, at ddychwelyd i’r Cynulliad hwn yn y dyfodol agos ar ôl yr etholiadau i glywed canlyniad y gwaith y mae’r Gweinidog a’i dîm, neu unrhyw Weinidog yn y dyfodol a’i dîm, wedi bod yn ei wneud ar asesu’r dystiolaeth mewn perthynas â’r lleoliadau gofal eraill y bydd y Bil hwn, os daw’n ddeddf, yn gymwys ar eu cyfer yn y dyfodol—yn enwedig lleoliadau gofal iechyd meddwl, ond nid lleoliadau gofal iechyd meddwl yn unig, wardiau plant, ac yn wir, wardiau ysbytai cymunedol yn ogystal. Felly, byddwn yn cefnogi’r Bil hwn heddiw. Gobeithiwn yn fawr weld ei effaith ar lawr gwlad yn ein hysbytai yng Nghymru yn y dyfodol agos.
17:58 - Lindsay Whittle
Byddaf yn gryno. Rwyf innau hefyd yn falch iawn o gefnogi Kirsty Williams a’i Bill yma heddiw. Os caf, hoffwn ddarllen dyfyniad byr iawn o arolwg diweddar iawn gan Unsain; gwn fod gan Unsain nifer o aelodau yn y Siambr hon. Dyma’r dyfyniad:
Mae canlyniadau’r arolwg yn dangos problem barhaus gyda phrinder staff sy’n bodoli ledled y wlad, sy’n golygu bod gofal cleifion yn dioddef ar draws y wlad.
Ond fel y byddai Corporal Jones yn ei ddweud, peidiwch â mynd i banig—mae’r adroddiad yn ymwneud â lefelau staff nyrsio yn Lloegr. Yma yng Nghymru, rydym yn gwneud rhywbeth am y broblem, ac mae’r diolch am hynny yn y lle cyntaf yn wir i’r enillydd Oscar, Kirsty Williams, fel y clywsom heddiw. Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau yma ac aelodau o’r cyhoedd yn cytuno, yn ystod y cyfnod gwirion sydd o’n blaenau, fod yna wleidyddion sy’n ddigon aeddfed i gydnabod bod gan bleidiau eraill syniadau da hefyd, ac y gallwn eu cefnogi. Ac rwy’n falch, ar ran fy mhlaid, Plaid Cymru, i gefnogi’r enillydd Oscar, Kirsty Williams. Ond edrychwch, y Bil hwn yw’r cam cyntaf yn unig tuag at wneud yn siŵr nad yw cleifion yn wynebu risgiau oherwydd lefelau anniogel o staff nyrsio. Os gwelwch yn dda, gadewch i ni beidio ag anghofio’r gwaith pwysig y mae cynorthwywyr gofal iechyd a nyrsys cynorthwyol yn ei wneud hefyd. Pam mai cam cyntaf yn unig yw hwn? Wel, oherwydd mai un peth yw gwybod beth rydym ei eisiau; mae gwybod sut i’w gyflawni yn fater arall.
Felly, yn olaf, wrth gefnogi’r Bil hwn yn llawn, byddwn yn disgwyl yn awr i drafodaethau bellach gael eu trefnu ar frys gan eich cynnwys chi, Weinidog, byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau, ac wrth gwrs, y Coleg Nyrsio Brenhinol, i weld sut y gallwn ddenu a chadw staff nyrsio—staff sy’n bwysig iawn i bob un ohonom yma yng Nghymru; staff sydd eu hangen arnom a staff rydym yn eu gwerthfawrogi. Diolch yn fawr iawn.
18:00 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford.
18:01 - Mark Drakeford
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Aelodau o bob plaid a chwaraeodd ran adeiladol yn ystod hynt y Bil hwn a’i ddiwygio ar wahanol gamau craffu? Yn bennaf, fodd bynnag, hoffwn longyfarch yr Aelod sy’n gyfrifol am y ffordd y mae wedi llywio’r ddeddfwriaeth drwy’r Cynulliad Cenedlaethol, a gobeithio ar y llyfr statud heddiw. Mae hi wedi glynu’n agos ac yn llwyddiannus, os caf ddweud, at yr hen ddywediad gwleidyddol: mai dyletswydd gyntaf y rheini sy’n ceisio bod yn flaengar, o reidrwydd, yw dod o hyd i ffyrdd o fwrw ymlaen. A chan fod yr Aelod sy’n gyfrifol wedi bod yn barod i ddod o hyd i’r ffyrdd hynny, mae gennym Fil y bydd ochr y Llywodraeth yn falch iawn o’i gefnogi ar y cam terfynol hwn. Mae’r cymorth hwnnw’n sylweddol ac yn ymarferol, yn ogystal â bod yn gymorth mewn egwyddor. Yn gynharach heddiw, roeddwn yn falch o gadarnhau y byddwn, yn y flwyddyn academaidd nesaf, yn buddsoddi swm mwy nag erioed o’r blaen, sef £85 miliwn, yma yng Nghymru mewn hyfforddiant ar gyfer gweithlu’r gwasanaeth iechyd gwladol yn y dyfodol, a bydd yr arian hwnnw’n ariannu 135 o leoedd addysg nyrsio ychwanegol. Bydd llawer o’r unigolion hynny’n cael gwaith ar wardiau acíwt i oedolion pan fyddant wedi cymhwyso. Dyma gynnydd o 10 y cant mewn lleoedd addysg nyrsio ar ben y cynnydd o 22 y cant y llynedd. Erbyn hyn mae gennym y nifer fwyaf o nyrsys dan hyfforddiant yng Nghymru ers i’r Cynulliad Cenedlaethol hwn ddod i fodolaeth. Yn ddi-os bydd y niferoedd hynny’n helpu i gyflawni’r dyletswyddau newydd a bennir gan y Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) ac i wneud llwyddiant ohono yn y ffordd y mae’r Aelod sy’n gyfrifol, ac eraill a chwaraeodd ran yn ystod ei daith, am ei weld i gleifion yng Nghymru yn y dyfodol.
18:03 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
A Kirsty Williams, am y tro olaf, i ymateb i’r ddadl.
18:03 - Kirsty Williams
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl Cyfnod 4 heddiw? Mae Darren Millar yn iawn i wneud y pwyntiau pwysig ynghylch cynllunio’r gweithlu, ac rwy’n falch ein bod wedi gallu newid y Bil mewn ffordd sy’n gosod pwyslais priodol ar yr angen i gael hynny’n iawn.
Diolch i Lindsay Whittle am ei sylwadau. Ddirprwy Lywydd, mae eistedd drws nesaf i Lindsay yn y pwyllgor iechyd ers bron i bum mlynedd wedi bod yn addysg, ac yn un hyfryd ar hynny. Gwn fod sicrhau ein bod yn cael y gwasanaethau iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol yn iawn yng Nghymru yn agos iawn at ei galon, ac rwy’n ddiolchgar am ei gefnogaeth. Mae’n gwneud pwyntiau pwysig ynglŷn â recriwtio a chadw staff. Yr hyn a wyddom yw hyn: mewn gwledydd eraill, megis Seland Newydd, ac mewn rhannau o Awstralia a rhannau o’r Unol Daleithiau, lle y rhoddwyd deddfwriaeth debyg ar waith eisoes, mae wedi bod yn gymorth gwych i recriwtio a chadw staff nyrsio oherwydd eu bod yn gwybod y byddant yn nyrsio ar wardiau gyda nifer digonol o gydweithwyr o’u hamgylch, gan eu galluogi i wneud y gwaith y cawsant eu hyfforddi i’w wneud.
Rwy’n croesawu cyhoeddiadau’r Gweinidog heddiw ddiwethaf ar fater y gweithlu. Rydym yn mynd i angen mwy o nyrsys nid yn unig oherwydd y Bil hwn, ond oherwydd demograffeg ein poblogaeth, ac rwy’n croesawu hynny’n fawr iawn yn wir. Rwy’n meddwl, Ddirprwy Lywydd, mai Lloyd George a ddywedodd mai’r huodledd mwyaf yw’r un sy’n sicrhau bod pethau’n cael eu gwneud. Gyda’n gilydd, mae’r Gweinidog a minnau wedi gallu gwneud hyn, ac rwy’n ddiolchgar iddo am ei amser.
Rwyf am orffen gyda dyfyniad gan Tilda Shalof. Nyrs uned gofal dwys yng Nghanada yw hi mewn gwirionedd, ond mae ei geiriau, rwy’n meddwl, yn crynhoi’n hardd yr hyn y mae’r ddeddfwriaeth hon yn ceisio ei wneud:
Ni fydd yr ysbyty byth yn iach i gleifion os nad yw’n amgylchedd iach i nyrsys, lle y caiff eu lleisiau eu clywed a lle y gallant ofalu am eu cleifion a defnyddio graddau llawn eu gwybodaeth, eu galluoedd a’u sgiliau. Wedi’r cyfan, mae ysbytai heddiw wedi dod yn un uned gofal dwys fawr: mae pob claf angen gofal dwys.
Bydd y Bil hwn yn rhoi amser i nyrsys wneud yn union hynny ac fe’i cymeradwyaf i’r Siambr.
18:05 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8. Cyfnod Pleidleisio
18:05 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Yr eitem nesaf yw’r cyfnod pleidleisio. Cyn i mi gynnal y bleidlais gyntaf, a oes tri Aelod sy’n dymuno i’r gloch gael ei chanu? Nac oes.
Pleidleisiwn yn gyntaf ar ddadl gyntaf Plaid Cymru, ar fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r gororau. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Elin Jones. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 35 o blaid, pleidleisiodd 16 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Derbyniwyd y cynnig: O blaid 35, Yn erbyn 16, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM5952.
18:06 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Pleidleisiwn yn awr ar ail ddadl Plaid Cymru, ar gynnal digwyddiadau mawr. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Elin Jones. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 51 o blaid, ni chafwyd unrhyw bleidleisiau yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Derbyniwyd y cynnig: O blaid 51, Yn erbyn 0, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM5954.
18:07 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
A wnaiff yr Aelodau sy’n mynd i adael y Siambr wneud hynny’n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda?
Yn gyflym, os gwelwch yn dda.
9. Dadl Fer: Pwysigrwydd Ysgolion Gwledig—Y Modd y Mae Ysgolion yn Enaid Cymunedau Gwledig
Yr eitem olaf yw’r ddadl fer, a galwaf ar Kirsty Williams i siarad ar y pwnc mae wedi’i ddewis.
18:08 - Kirsty Williams
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae’n ymddangos bod dadleuon yn dod heibio fel bysiau—nid oes raid i chi wneud un am dipyn o amser ac yna mae gennych dair mewn prynhawn.
Rwy’n ddiolchgar iawn i gael y cyfle i dynnu sylw at y mater pwysig hwn, ac mae fy nghyd-Aelod, William Powell, wedi gofyn am funud i siarad, ac rwy’n gobeithio y bydd amser ar gyfer hynny.
Mewn rhai ffyrdd, rwy’n teimlo’n drist iawn fod yn rhaid i mi gyflwyno dadl fel hon. Byddwn yn gobeithio y byddai gwerth ysgolion gwledig i gymuned yn amlwg i wleidyddion ar bob lefel sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb am addysg ein plant. Yn anffodus, nid yw hynny wedi bod yn wir yng Nghyngor Sir Powys yn y cyfnod diweddar. Rydym wedi colli brwydrau i achub ysgolion fel Llanddewi-yn-Hwytyn a Llanigon a Bugeildy ac yn y misoedd diwethaf, cyflwynwyd cynigion i gau ysgolion yn Llanbister a Nantmel ac yn Llanfihangel Rhydithon, sy’n gyfarwydd i’r bobl leol fel ysgol Dolau. Ar ôl ymladd cynigion cychwynnol i gau Ysgol Uwchradd Gwernyfed, daethpwyd â’r cynigion hynny yn ôl eto gyda bygythiadau hefyd i ddyfodol hirdymor ysgolion uwchradd Llandrindod a Llanfair-ym-Muallt.
Nawr, rwy’n sylweddoli nad yw’r Gweinidog mewn sefyllfa i siarad am gynigion ynglŷn ag ysgolion unigol rhag ofn y gelwir arno’n ddiweddarach i wneud penderfyniadau mewn perthynas â’r ysgolion. Rwy’n deall hynny. Ond i mi a fy etholwyr, mae gweithredoedd Cyngor Sir Powys yn teimlo fel ymosodiad di-ildio ar addysg yn fy ardal, yn enwedig yn Sir Faesyfed, sef y rhan fwyaf gwledig o fy etholaeth. Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, gofynnais i bobl yn yr etholaeth i ddweud wrthyf sut y maent yn teimlo y bydd cau ysgolion yn effeithio ar eu cymuned, ac mae eu hymateb wedi bod yn llethol, Ddirprwy Lywydd. Os oes gan y Gweinidog, neu Gyngor Sir Powys, unrhyw amheuon ynghylch y teimladau cryf ar y mater hwn ymhlith aelodau o’r cyhoedd, rwy’n eu hannog i ddarllen y sylwadau ar yr edefyn ar fy safle Facebook.
Mae’r ansicrwydd yn effeithio’n fawr ar blant Brycheiniog a Sir Faesyfed. Bydd unrhyw un sydd wedi symud ysgol yn blentyn yn gwybod ei fod yn amser brawychus a’r modd y gall niweidio addysg plentyn. Fel y dywedodd un etholwr o’r enw Sharon Punter, ‘Rwy’n bryderus iawn y bydd yn rhaid i fy mhlant newid ysgol unwaith eto. Maent eisoes wedi gorfod newid ysgol gynradd yn sgil cau Llanigon. Ni all y math hwn o ansicrwydd fod yn dda i addysg plentyn’.
Dywedodd un sylwebydd a oedd yn dymuno aros yn ddienw, ‘Mae fy mab yn ysgol uwchradd Llanfair-ym-Muallt, ac rwy’n pryderu bod y gwahanol ymgynghoriadau parhaus eisoes wedi niweidio ei addysg yn ddifrifol. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r ysgol wedi wynebu bygythiad o gau ac uno, ac yn y blaen. Mae ysbryd y staff i’w weld yn isel iawn ac mae hyn yn effeithio ar y plant. Nid yw’n rhyfedd fod ysgol Llanfair-y-Muallt wedi methu â recriwtio pennaeth ers cymaint o amser’.
Gadewch i ni fod yn glir: ceir manteision addysgol i gael eich addysgu mewn ysgol fach. Ni fyddwn yn eu hamddiffyn pe bawn yn meddwl eu bod yn gwneud cam â’n plant. Mae Ffindir yn wlad sy’n gyson ymhlith y 10 uchaf yn y byd ar raddfa PISA mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth. Eto i gyd, mae llai na 50 o ddisgyblion yn ychydig dros chwarter yr holl ysgolion cyfun. Nawr, nid wyf yn argymell ysgolion uwchradd gyda 50 o ddisgyblion, ond mae’n dangos nad yw ysgolion bach yn rhwystr i ddeilliannau addysgol plentyn. Cyfartaledd maint dosbarthiadau blynyddoedd 1 i 6 o addysg sylfaenol yw 19.8 o ddisgyblion, ac mae cyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn 21.6. Ar gyfer graddau 7 i 9, maint dosbarth cyfartalog yw 20.1 o ddisgyblion, ac mae cyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn 23.9. Rydym yn gwybod ei bod hi’n aml yn well gan ddisgyblion ac athrawon ddosbarthiadau bach, felly, mewn ffordd debyg, ni ddylem ofni effaith ysgolion bach. Mae plant yn ffynnu yn yr amgylchedd hwnnw. Mae Ofsted hefyd wedi gweld rhinwedd ysgolion bach. Maent wedi dweud o’r blaen fod ansawdd yr addysgu mewn ysgolion bach yn well ar y cyfan, a daeth arolygwyr i’r casgliad fod eu hethos cadarnhaol a’u lle pwysig yn y gymuned yn golygu bod achos da dros gadw ysgolion bach.
Os caf droi at fater yr effaith ar y gymuned, mae’n bwysig iawn cynnwys hynny fel ffactor—nid yr effaith ar y plant yn unig, ond hefyd yr effaith ar y gymuned gyfan. Cafodd un enghraifft o hyn ei chrynhoi gan fy etholwr Kate Platt, a ddywedodd,
‘Rwy’n teimlo y byddai cau Gwernyfed yn cael effeithiau pellgyrhaeddol ar y gymuned. Pam y byddai teuluoedd ifanc yn symud i ardal lle nad oes ysgol o fewn 20 milltir? Felly, mae cwmnïau’n cael trafferth i recriwtio— meddygon, milfeddygon, cyfreithwyr, fferyllwyr... Os nad oes teuluoedd yn dod, yna mae cymunedau’n marw. Bydd effaith cau ar ein plant yn ofnadwy, ond mae cymaint mwy iddi na hynny.’
Mae Kate yn iawn. Mae’n anodd gorbwysleisio effaith cau ysgol ar y gymuned. Ar wahân i’r effaith ar y plant, fy mhryder mawr yw y byddai cau yn creu cymuned anghytbwys. Er mwyn i gymuned ffynnu, mae angen iddi gynnwys pobl o bob oedran a phob cefndir. Mae gennym eisoes boblogaeth sy’n heneiddio ym Mhowys, sy’n uwch na chyfartaledd Cymru. Os caniateir i’r ysgolion hyn gau, gallai wneud yr ardal yn llai dymunol i deuluoedd ifanc symud i mewn ac i aros, a thrwy hynny waethygu’r mater ymhellach. Yn ddiweddar, dywedodd arbenigwr eiddo lleol wrthyf mai’r peth cyntaf y mae teulu ifanc yn edrych amdano wrth symud i ardal yw ysgol leol dda. Os yw’r ysgol leol wedi cau, neu hyd yn oed o dan fygythiad o gau, ni fyddant yn symud i mewn.
Rwyf hefyd yn bryderus iawn ynglŷn â sefyllfa strategol rhai o’r ysgolion sydd o dan fygythiad o gael eu cau. Rwy’n bryderus iawn ynghylch colli disgyblion dros y ffin i ysgolion yn Lloegr a’r sgil-effaith bosibl y gallai hynny ei chael. Mae gennym ddraen dawn eisoes ym Mhowys, lle y mae pobl ifanc talentog yn gadael. Os nad ydynt wedi mynychu ysgol yn yr ardal, bydd hyd yn oed yn anos eu hannog i aros.
Ysgrifennodd Caroline Clinch Price:
A ninnau’n byw yn Rhosgoch rydym eisoes wedi colli ysgol gynradd. Os byddwn yn colli [yr ysgol uwchradd] bydd fy mhlant yn wynebu taith o 20 milltir i Aberhonddu neu Lanfair-ym-Muallt, a byddai hyn yn fy ngorfodi i’w hanfon dros y ffin i Geintun, pellter o 10 milltir yn unig. Mae teuluoedd gwledig yn ei chael hi’n anodd iawn i aros yn eu cymunedau, ac mae plant mewn perygl o golli unrhyw synnwyr o hunaniaeth Gymreig, a’r hawl i fod yn ddwyieithog. Bydd blynyddoedd o astudio Cymraeg yn yr ysgol gynradd yn cael eu lluchio ymaith.
Dywedodd sylwebydd arall, ‘Rwyf wedi symud i’r ardal o ogledd Cymru ac ers hynny wedi priodi a phrynu tŷ yn Libanus. Rydym yn mwynhau’r gymuned yma cymaint fel ein bod wedi dechrau magu teulu yma a’n gobaith yw ymestyn ac aros yn y gymuned. Ein pryder yw y bydd y bygythiad i addysg yn lleol yn ein gorfodi allan, yn enwedig gan ein bod yn magu ein merch i fod yn ddwyieithog. Mae fy ngŵr a minnau’n teimlo’n gryf iawn am hyn. Symud fyddai ein dewis olaf, gan ein bod wedi gwneud ein bywyd yma, ond o ran addysg ein merch, gallai fod yn rhaid ei ystyried.’ Mae hunaniaeth Gymreig yr ardaloedd hyn dan fygythiad yn sgil y cynigion hyn. Pa ystyriaeth wahanol y dylid ei rhoi i gau ysgolion pan fo’r ffin yn golygu bod yr ysgol agosaf ar gyfer y plentyn ar draws y ffin honno?
Ac wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd, ceir polisïau addysgol mwyfwy gwahanol, ymagweddau gwahanol tuag at y ffordd rydym yn addysgu ein plant, ar y ddwy ochr i’r ffin. Gwn y bydd gan bobl safbwyntiau gwahanol ar briodoldeb hynny; ond rwy’n cefnogi’n fawr y cynigion yn adolygiad Donaldson fel y mae’r mwyafrif o arweinwyr ysgolion ac athrawon rwy’n eu cyfarfod, rwy’n meddwl. Ond nid yw ein plant yn mynd i gael mynediad at y cwricwlwm blaengar hwnnw os cânt eu gorfodi i fynd dros y ffin.
Hefyd, mae cludo plant mewn bysiau dros bellteroedd sylweddol yn effeithio ar y gallu i gyflawni dros blant yn yr ystyr ehangach o addysg drwy hepgor y cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cwricwlaidd ar ôl ysgol na ellir eu cyflwyno ar ddiwedd y diwrnod ysgol oherwydd cyfyngiadau’r system cludiant ysgol. Teimlir yr effeithiau hyn fwyaf gan y teuluoedd mwy difreintiedig sy’n byw yn y cymunedau. Ond hefyd, mewn rhannau eraill o fywyd plentyn, pwy fyddai’n dymuno cymryd rhan mewn Clwb Ffermwyr Ifanc, clwb rygbi, clwb pêl-droed neu weithgareddau diwylliannol, ar ôl taith sylweddol o hir ar ddechrau ac ar ddiwedd eich diwrnod ysgol?
Felly, beth y gellir ei wneud i gadw’r ysgolion gwledig hyn ar agor? Yn yr Alban, cryfhaodd Deddf Plant a Phobl Ifanc (Yr Alban) 2014 y rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgol. Roedd yn cynnwys nifer o gynigion eraill sydd wedi helpu i gadw ysgolion ar agor, megis ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal ymgynghoriad mwy trylwyr ar gau ysgolion, yn enwedig os yw ar y rhestr o ysgolion gwledig a gynhelir gan Weinidogion; mae gan gymunedau hawl i herio unrhyw gamgymeriadau yng nghynigion cynghorau; mae wedi cyflwyno trefn newydd ar gyfer adolygu penderfyniadau i gau ysgolion; os gwrthodir y cau, caiff yr ysgol ei gwarchod rhag cau am bum mlynedd arall, gan osgoi’r niwed sy’n digwydd mor aml yn y gymuned lle y daw awdurdod lleol eto ac eto ac eto os ydynt wedi penderfynu na ddylai’r ysgol gael dyfodol.
Roedd hefyd yn mynd y tu hwnt i’r gofyniad fod rhaid i awdurdodau lleol roi sylw arbennig i ddewisiadau amgen hyfyw i gau ac effaith trefniadau teithio gwahanol a’r effaith ar y gymuned leol—rhaid i awdurdodau lleol ddangos sut y cydymffurfiwyd â’r gofynion hyn. Rwy’n cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru y cod trefniadaeth ysgolion a chymeradwyaf y ddogfen. Mae’n glir ynglŷn â beth yw’r disgwyliadau. Ac yn wir, gwnaethom ddefnydd llwyddiannus ohono wrth herio’r cynigion gwreiddiol mewn perthynas â Gwernyfed. Ond mae llawer o fy etholwyr yn teimlo mai sylw arwynebol yn unig y mae Cyngor Sir Powys yn ei roi i’r ddogfen honno yn hytrach na mynd i’w hysbryd. Byddwn yn gofyn i’r Gweinidog a fyddai modd iddo ofyn i’w swyddogion edrych yn fanwl iawn i weld i ba raddau y mae swyddogion Cyngor Sir Powys yn cydymffurfio go iawn â llythyren, gair ac ysbryd y ddogfen honno.
Yn nyddiau cynnar y Cynulliad hwn, pan ffurfiai’r Democratiaid Rhyddfrydol ran o’r weinyddiaeth gyda’r Llywodraeth Lafur, fe sefydlom gronfa ysgolion bach, a luniwyd i sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael. Tybed pa ystyriaeth y gallai’r Gweinidog ei rhoi i edrych ar ddichonoldeb grant o’r fath eto. Efallai y gellid ystyried dichonoldeb yn rhan o waith cyffredinol gan y Llywodraeth ar ddyfodol addysg wledig a allai edrych ar bob agwedd o sut y gallwn fynd i’r afael â’r heriau o ddarparu addysg mewn ardal wledig; sut y gallem ddefnyddio technolegau newydd, er enghraifft, er mwyn sicrhau bod yr ystod ehangaf bosibl o ddewis a phynciau ar gael i’n myfyrwyr hŷn; a sut y gallem fynd i’r afael ag arwahanrwydd proffesiynol drwy harneisio pŵer TG.
Mae’r Gweinidog, yn ei bolisi, hefyd yn datgan y gall ffedereiddio fod yn ddewis amgen ymarferol iawn yn lle cau ysgol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, a gall ddod â manteision go iawn o ran deilliannau addysgol a chyfleoedd i blant. Cytunaf ag ef ynglŷn â hynny. Unwaith eto, fy mhryder yw bod yr opsiynau hyn i ffedereiddio a gwahanol fathau o drefniadau llywodraethu yn cael eu diystyru’n llwyr gan Gyngor Sir Powys. Beth am edrych ar y cyfleoedd a gynigir gan Donaldson i ffedereiddio nid yn unig rhwng un ysgol gynradd a’r llall ond mewn gwirionedd o’r ysgol gynradd ymlaen i’r ysgol uwchradd? Mae hynny’n cyd-fynd yn fawr â dyheadau’r ddogfen honno ac rwy’n meddwl y gallai fynd beth o’r ffordd tuag at gadw ein plant yn ein cymuned, yn ogystal â mynd i’r afael â materion yn ymwneud â heriau recriwtio penaethiaid.
Weinidog, rwy’n gadael i bobl Brycheiniog a Sir Faesyfed grynhoi fy nghyfraniad heddiw. Daw’r dyfyniad hwn gan Angharad Woodland: ‘Mae daearyddiaeth a diwylliant yn pennu na ellir gosod glasbrint trefol ar addysg wledig. Mae Cyngor Sir Powys yn ymddwyn fel y chwiorydd hyll, yn ceisio gwasgu eu system addysg enfawr i sliper wydr PWC. Ni cheir un ateb sy’n addas i bob ardal pan fo hynny’n cwmpasu’r sir fwyaf yng Nghymru.’ Fel y dywed Delyth Jones, ‘Plant yw ein dyfodol, hwy yw’r Aelodau Seneddol nesaf, cynghorwyr sir nesaf Powys, y ffermwr, y meddyg, y triniwr gwallt, y glanhawr—pa swydd bynnag y maent yn ei dewis. Ond mae cau ein hysgolion gwerthfawr o un i un yn mynd i ddifetha a’u hamddifadu o’r dewis hwnnw. Beth am wrando ar y plant, ar yr athrawon, ar lais y gymuned? Dyna yw hawl ein plant.’
Ac yn olaf, mae Jackie wedi’i grynhoi’n dwt: ‘Os cewch wared ar yr ysgol, byddwch yn cael gwared ar galon y gymuned.’ Weinidog, ysgolion yw anadl einioes cymuned wledig, gwnewch bopeth a allwch i ddiogelu eu dyfodol.
18:20 - William Powell
Rwy’n ddiolchgar iawn i Kirsty Williams am gyflwyno’r ddadl fer bwysig hon heddiw ac am gyflwyno’r achos mor angerddol dros addysg wledig yn ei chyfanrwydd. Rwy’n gyfarwydd iawn â’r materion y mae hi wedi’u crybwyll, a chânt eu hailadrodd ledled fy rhanbarth yng nghanolbarth a gorllewin Cymru hefyd—o ddalgylch Dolgellau yn y gogledd, hyd at Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, ac i fy Mhowys frodorol fy hun. Byddwn yn ymuno â hi i dalu teyrnged i god trefniadaeth ysgolion 2013, a etifeddwyd gan y Gweinidog blaenorol ac roedd yn bendant yn un lle roedd yn barod i wrando. Byddwn yn annog y Gweinidog heddiw i gynnal egwyddorion y ddogfen bwysig honno wrth asesu digonolrwydd ymagwedd unrhyw awdurdod lleol tuag at gau ysgolion, sy’n asedau mor hanfodol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
18:21 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Galwaf ar y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ateb—Huw Lewis.
18:21 - Huw Lewis
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Aelod am gyflwyno’r ddadl fer hon yma heddiw? Nid yw hyn wedi bod yn destun dadl fer ers peth amser, ac felly rwy’n croesawu’r cyfle i drafod y materion hyn, a chymeradwyaf Kirsty Williams, yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, am gadw’r mater pwysig hwn ar yr agenda.
Mae’n sicr y bydd Kirsty ac eraill yn cofio bod yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig wedi cynnal ymchwiliad cynhwysfawr i ad-drefnu ysgolion gwledig yn 2008, o ganlyniad i ddeiseb gan drigolion ym Mhowys mewn gwirionedd. Roedd yr adroddiad a gynhyrchodd y pwyllgor yn gytbwys iawn. Mae llawer o’i ganfyddiadau yn parhau i fod yn gwbl berthnasol i’r drafodaeth heddiw, a gweithredwyd ar lawer o’i argymhellion ers hynny. Roedd y pwyllgor o’r farn, ar y pryd, mai prif ddiben unrhyw ysgol yw darparu’r addysg orau bosibl ar gyfer y plant y mae’n eu gwasanaethu. Roedd yn glir ar y pwynt na ddylai’r gefnogaeth y mae ysgol yn ei darparu i gymuned byth fod yn brif ddiben iddi, na’n brif ysgogydd polisi. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Alun Davies, yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru ar y pryd,
‘Anghenion y plant sy’n dod gyntaf.’
Ni fyddai’r un ohonom, am wn i, yn dadlau â’r egwyddorion sylfaenol hynny.
Mae pob ysgol yn bwysig, pa un a ydynt mewn ardaloedd gwledig neu drefol, yn union fel y mae pob plentyn yn bwysig hefyd. Dyma pam roedd hi’n hollol glir, pan luniwyd deddfwriaeth ddiwygiedig ar gyfer trefniadaeth ysgolion, mai’r ystyriaeth bwysicaf oedd effaith newid arfaethedig ar safonau addysgol. Mater i awdurdodau lleol yw penderfynu ar batrwm cywir y ddarpariaeth er mwyn darparu addysg o’r safon orau; mater iddynt hwy hefyd yn awr yw cynnal ymgynghoriad trylwyr ac ystyried opsiynau eraill cyn gwneud newidiadau. Mae angen iddynt hefyd gynnal gwerthusiad o’r effaith ar y gymuned yn rhan o’r broses ymgynghori.
Mae plant mewn ardaloedd gwledig yn haeddu mynediad at ysgolion da. Dylai fod yn bosibl creu patrwm o ysgolion ar lefel gynradd ac uwchradd sy’n sicrhau bod plant o bob cymuned, gan gynnwys cymunedau gwledig iawn, yn cael mynediad at ysgolion o ansawdd uchel gydag adnoddau da o fewn pellter rhesymol i’w cartref. Ar ben hynny, mae gan bob ysgol botensial i fod yn ganolbwynt i’r gymuned neu’r cymunedau a wasanaethant—wrth gwrs hynny. Yng nghefn gwlad Cymru, gall ysgolion o’r maint cywir yn y llefydd iawn ddod â chymunedau gwahanol at ei gilydd er lles pawb. Rwy’n cydnabod y parch mawr a roddir i lawer o ysgolion gwledig, ond y gwir amdani yw bod rhai wedi cau am eu bod yn anghynaliadwy yn addysgol. Yn y mwyafrif helaeth o achosion, crëwyd ysgolion mwy cynaliadwy yn sgil ad-drefnu, ac mae’r rhain hefyd yn ysgolion gwledig, pa un a ydynt mewn pentref mwy o faint neu dref fechan.
Fel y soniodd Kirsty Williams wrth gwrs, ni allaf roi sylwadau ar unrhyw newidiadau sydd ar y gweill ym Mhowys nac unrhyw le arall yn unigol, ond pan fydd cynigion yn galw am benderfyniad gennyf fi, buddiannau dysgwyr sy’n dod gyntaf. Dylem gofio hefyd, fodd bynnag, fel y mae’r Aelod wedi ein hatgoffa, fod ymchwiliad y pwyllgor wedi nodi’n benodol y gall ffederasiwn a mathau eraill o drefniadaeth ysgolion arloesol helpu ysgolion gwledig i oresgyn yr heriau y maent yn eu hwynebu. Cyflwynwyd deddfwriaeth gennym yn 2010 sy’n galluogi ysgolion i ffedereiddio drwy ddewis. Yn fwy diweddar yn 2014, cyflwynais bwerau i awdurdodau lleol ffedereiddio ysgolion. Gall ffedereiddio ganiatáu i ysgolion bach gwledig fod yn hyfyw ac i aros ar agor yn eu cymunedau, a byddwn yn barod i gynnwys mewn unrhyw ystyriaeth o gynigion i ffedereiddio unrhyw syniadau a allai gynnig cymysgedd o ysgolion cynradd ac uwchradd, efallai mewn ardal dalgylch, i’w cyflwyno fel modelau ffederal arfaethedig. Mae’n gwneud llawer o synnwyr, yn fy marn i.
Mae ein cod trefniadaeth ysgolion yn nodi’n glir y dylai awdurdodau lleol ystyried dewisiadau eraill, gan gynnwys ffedereiddio, pan fyddant yn ystyried cau ysgolion. Fodd bynnag, mater i’r ysgolion ac awdurdodau lleol yw penderfynu a yw ffedereiddio er budd gorau disgyblion ac a fydd yn arwain at well canlyniadau.
Argymhellodd ymchwiliad y pwyllgor hefyd y dylid gwneud cynnydd clir ar wella adeiladau ysgolion, a bu cynnydd sylweddol dros y pum mlynedd diwethaf ar yr agenda hon. Roedd Band A y rhaglen addysg ac ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn cynnwys buddsoddiad o £1.4 biliwn dros y cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben yn 2019. Bydd pob awdurdod lleol yn elwa ar y rhaglen fawr hon i wella ysgolion, a fydd yn cefnogi’r gwaith o ailadeiladu ac ailwampio dros 150 o ysgolion a cholegau. Mae’r ysgolion yn ein rhaglen o fudd i ardaloedd trefol a gwledig. Cefnogir prosiectau llawn dychymyg i ddarparu ysgolion cynaliadwy mewn nifer o ardaloedd gwledig, megis y Bala, Llandysul a Dolgellau. Er y bydd y rhain yn cynnwys cau rhai ysgolion, bydd yr ysgolion mwy o faint yn gwasanaethu eu cymunedau yn well.
Mae’r cyllid refeniw a ddarparwn i awdurdodau lleol bob blwyddyn drwy gyfrwng y setliad yn cael ei ddosbarthu yn ôl angen cymharol, gan ddefnyddio fformiwla sy’n ystyried toreth o wybodaeth am nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol awdurdodau. Yn gynwysedig yn y fformiwla ceir nifer o ddangosyddion i gyfrif am raddau amrywiol o wledigrwydd ar draws awdurdodau yng Nghymru. Ymhlith meysydd eraill, caiff y rhain eu defnyddio drwy holl elfen addysg y fformiwla er mwyn ystyried gallu cyfyngedig awdurdodau gwledig i elwa o arbedion maint.
Rydym yn credu mai’r awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i farnu ynghylch anghenion ac amgylchiadau lleol eu hysgolion, ac i’w hariannu’n unol â hynny. Mae awdurdodau lleol yn atebol i’w hetholwyr am y penderfyniadau a wnânt. Nod polisi Llywodraeth Cymru ar ysgolion gwledig yw sicrhau cydbwysedd. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau mynediad at ysgolion ardderchog ym mhob rhan o Gymru, ond nid yw hynny o reidrwydd yn golygu bod y system yn aros fel y mae. Mewn rhai achosion, bydd trefniadau amgen, gan gynnwys cau, gan gynnwys ffederasiynau a chreu ysgolion ardal mwy o faint er lles gorau’r plant lleol. Byddaf yn parhau i annog rhagoriaeth ym mhob rhan o Gymru, a diolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau ystyriol y prynhawn yma.
18:28 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Diolch yn fawr, Weinidog. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:28.
Yn ôl i'r rhestr Gweld y dudalen hon gyda lincs

Partners & Help