By continuing to use our site, you are agreeing for us to set a small number of cookies. Cookie policy

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Back to list View this page without hyperlinks
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair.
The Assembly met at 13:30 with the Presiding Officer (Dame Rosemary Butler) in the Chair.
 
13:30
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
Good afternoon. The National Assembly for Wales is now in session.
Prynhawn Da. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog
1. Questions to the First Minister
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
[R] signifies the Member has declared an interest. [W] signifies that the question was tabled in Welsh.
 
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
The first item this afternoon is questions to the First Minister. And question 1 is Kirsty Williams.
Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw’r eitem gyntaf y prynhawn yma. A daw cwestiwn 1 gan Kirsty Williams.
 
Ffedereiddio Ysgolion
School Federation
 
13:31
Kirsty WilliamsBywgraffiadBiographyArweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru / The Leader of the Welsh Liberal Democrats
Happy new year, Presiding Officer, and happy new year to the First Minister.
Blwyddyn newydd dda, Lywydd, a blwyddyn newydd dda i'r Prif Weinidog.
 
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ffedereiddio ysgolion ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)2633(FM)
1. Will the First Minister make a statement on the Welsh Government's policy on school federation in Brecon and Radnorshire? OAQ(4)2633(FM)
 
13:31
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
The same to you.
Yr un fath i chithau.
 
We’re committed to school-to-school working, including federation, as part of a self-improving school system, which underpins our policy in ‘Qualified for Life’. But it is for schools and local authorities to determine whether federation is the best option for schools locally and will lead to improved outcomes.
Rydym ni wedi ymrwymo i weithio ar sail ysgol i ysgol, gan gynnwys ffedereiddio, yn rhan o system ysgolion hunanwella, sy'n sail i'n polisi yn 'Cymwys am Oes'. Ond cyfrifoldeb ysgolion ac awdurdodau lleol yw penderfynu ai ffedereiddio yw'r dewis gorau i ysgolion yn lleol ac a fydd yn arwain at well deilliannau.
 
13:31
Kirsty WilliamsBywgraffiadBiography
First Minister, your Government-stated policy is that federation can indeed be a very viable alternative to school closures, especially in rural areas, where school closures may mean young children travelling considerable distances to schools, and also recognising schools as an important social aspect of a wider successful and thriving community. What steps do you take to ensure that your policy intention in your documents is actually carried out by local authorities and they actually do give due consideration to federation as an option, rather than simply looking at closure, as they’re currently doing with the case of Nantmel and other small primary schools in Brecon and Radnor?
Brif Weinidog, eich polisi a nodwyd gan y Llywodraeth yw y gall ffedereiddio yn wir fod yn ddewis amgen ymarferol iawn yn hytrach na chau ysgolion, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle gallai cau ysgolion olygu plant ifanc yn teithio cryn bellter i ysgolion, ac mae hefyd yn cydnabod ysgolion fel agwedd gymdeithasol bwysig ar gymuned lwyddiannus a ffyniannus ehangach. Pa gamau ydych chi’n eu cymryd i sicrhau bod eich bwriad polisi yn eich dogfennau yn cael ei wireddu gan yr awdurdodau lleol a’u bod yn rhoi ystyriaeth briodol mewn gwirionedd i ffedereiddio fel dewis, yn hytrach na dim ond ystyried cau ysgolion, fel y maen nhw’n ei wneud ar hyn o bryd gydag achos Nantmel ac ysgolion cynradd bach eraill ym Mrycheiniog a Maesyfed?
 
13:32
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
We would encourage any local authority, without speaking about a specific instance, to consider federation, and, indeed, schools have had the power to federate by choice since 2010. To encourage greater federation, in 2014 we introduced regulations that allow local authorities to federate schools, as well as schools themselves. It’s certainly an option that local authorities should be looking at wherever they face decisions over schools, and we would expect them to give full consideration to the regulations we put in place in 2014.
Byddem yn annog unrhyw awdurdod lleol, heb siarad am enghraifft benodol, i ystyried ffedereiddio, ac, yn wir, bu’r pŵer gan ysgolion i ffedereiddio trwy ddewis ers 2010. Er mwyn annog mwy o ffedereiddio, cyflwynwyd rheoliadau gennym yn 2014 sy’n caniatáu i awdurdodau lleol ffedereiddio ysgolion, yn ogystal ag ysgolion eu hunain. Mae'n sicr yn ddewis y dylai awdurdodau lleol fod yn ei ystyried ble bynnag y maen nhw’n wynebu penderfyniadau am ysgolion, a byddem yn disgwyl iddyn nhw roi ystyriaeth lawn i'r rheoliadau a roddwyd ar waith gennym yn 2014.
 
Pwysau Eithafol y Gaeaf
Extreme Winter Pressures
 
13:32
William GrahamBywgraffiadBiography
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith pwysau eithafol y gaeaf ar y GIG yn Nwyrain De Cymru? OAQ(4)2646(FM)
2. Will the First Minister make a statement on the impact of extreme winter pressures on the NHS in South Wales East? OAQ(4)2646(FM)
 
13:32
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Yes, the NHS always plans for this as the busiest time of year. Health boards and trusts have managed effectively through the holiday period into January. It is clear that there has been resilience despite some material increases in demand into January that have provided some peaks in pressure that have been managed locally.
Gwnaf, mae’r GIG bob amser yn cynllunio ar gyfer hwn fel cyfnod prysuraf y flwyddyn. Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd wedi ymdopi’n effeithiol trwy gyfnod y gwyliau i mewn i fis Ionawr. Mae'n amlwg y bu cydnerthedd er gwaethaf rhywfaint o gynnydd perthnasol mewn galw i mewn i fis Ionawr, sydd wedi darparu rhywfaint o gyfnodau o bwysau brig a reolwyd yn lleol.
 
13:33
William GrahamBywgraffiadBiography
I’m grateful to the First Minister for his answer. We have had, as you recognise, unseasonal weather. It’s been particularly mild, with very little incidence of frost or snow resulting in breakages and fractures, which would normally mean A&E. We haven’t had a major flu outbreak, yet we still have extreme pressures on the health service in south-east Wales. Does this mean that the correct resources are not being allocated?
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb. Rydym ni wedi cael, fel yr ydych chi’n cydnabod, tywydd annhymhorol. Mae wedi bod yn arbennig o fwyn, gydag ychydig iawn o achosion o rew neu eira yn arwain at doriadau a thorri esgyrn, a fyddai’n golygu mynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys fel rheol. Nid ydym wedi cael achos mawr o ffliw, ac eto rydym ni’n dal i gael pwysau eithafol ar y gwasanaeth iechyd yn y de-ddwyrain. A yw hyn yn golygu nad yw'r adnoddau cywir yn cael eu neilltuo?
 
13:33
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
No. We’ve seen an increase, for example, on some days in A&E of 25 per cent compared with the same period last year, and some days of significant pressure with higher ambulance calls and arrivals at emergency units. Nevertheless, the system has coped. What happens with A&E—. I think I’m right in saying that A&E attendances are actually higher often in the summer, but they tend to be cuts and grazes, sometimes fractures; they don’t involve a long stay at A&E. In the winter, especially when there’s damp weather, respiratory conditions are the issue. They, of course, especially amongst older people, require a longer stay for assessment in A&E, and often admission to hospital. And that’s why, of course, we see pressures building up in the winter, especially at this time of year. But, despite those pressures, we know that the ambulance service and, indeed, the local health boards, have managed, and we’re confident that the plans that they’ve put in place have been effective.
Nac ydy. Rydym ni wedi gweld cynnydd, er enghraifft, ar rai diwrnodau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, o 25 y cant o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd, a rhai dyddiau o bwysau sylweddol â mwy o alwadau ambiwlans a derbyniadau mewn unedau achosion brys. Serch hynny, mae'r system wedi ymdopi. Yr hyn sy’n digwydd gydag adrannau damweiniau ac achosion brys—. Rwy'n meddwl fy mod i’n iawn wrth ddweud bod presenoldeb mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn aml yn uwch yn yr haf, ond maen nhw’n tueddu i fod yn friwiau a chrafiadau, weithiau toriadau; nid ydynt yn golygu arhosiad hir yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Yn y gaeaf, yn enwedig pan fo tywydd llaith, cyflyrau anadlol yw’r broblem. Maen nhw, wrth gwrs, yn enwedig ymhlith pobl hŷn, yn golygu aros yn hwy ar gyfer asesiad yn yr adran damweiniau ac achosion brys, a derbyniad i’r ysbyty yn aml. A dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni’n gweld pwysau’n adeiladu yn y gaeaf, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Ond, er gwaethaf y pwysau hwnnw, rydym ni’n gwybod bod y gwasanaeth ambiwlans ac, yn wir, y byrddau iechyd lleol, wedi ymdopi, ac rydym ni’n hyderus bod y cynlluniau y maen nhw wedi eu rhoi ar waith wedi bod yn effeithiol.
 
13:34
Lindsay WhittleBywgraffiadBiography
Diolch yn fawr a blwyddyn newydd dda, bawb.
Thank you very much and a happy new year, everyone.
 
First Minister, last year, your Government outlined how it planned to tackle increased winter pressures in our hospitals. Could you outline how well Government efforts to liaise with social services and primary care providers are working so far to reduce unnecessary hospital admissions this winter?
Brif Weinidog, y llynedd, amlinellodd eich Llywodraeth sut yr oedd yn bwriadu mynd i'r afael â phwysau cynyddol y gaeaf yn ein hysbytai. A allech chi amlinellu pa mor dda y mae ymdrechion y Llywodraeth i gysylltu â gwasanaethau cymdeithasol a darparwyr gofal sylfaenol yn gweithio hyd yn hyn i leihau derbyniadau diangen i'r ysbyty y gaeaf hwn?
 
13:34
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
If you look at delayed transfers of care, they are reducing in Wales. I’m glad to see that they’re coming down. The Member will have seen the money we’ve put into the intermediate care fund, which will help in terms of people being able to remain at home and to come home. It’s not simply a question, as the Member will know, of dealing with pressures as they arise in the hospitals, but of also being able to make sure that people can go home as quickly as possible. And we’re seeing a downward trend in Wales in terms of delayed transfers of care
Os edrychwch chi ar achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, maen nhw’n gostwng yng Nghymru. Rwy'n falch o weld eu bod yn gostwng. Bydd yr Aelod wedi gweld yr arian yr ydym ni wedi ei roi i mewn i'r gronfa gofal canolraddol, a fydd yn helpu o ran pobl yn gallu aros yn eu cartrefi ac i ddod adref. Nid yw'n gwestiwn syml, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, o ymdrin â phwysau fel y mae'n codi yn yr ysbytai, ond mae hefyd yn golygu gallu gwneud yn siŵr y gall pobl fynd adref cyn gynted â phosibl. Ac rydym ni’n gweld tuedd at i lawr yng Nghymru o ran oedi wrth drosglwyddo gofal.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from the Party Leaders
 
13:35
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
We now move to questions from the party leaders, and, first this afternoon, we have the leader of Plaid Cymru, Leanne Wood.
Symudwn at gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr, ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, sydd gyntaf y prynhawn yma.
 
13:35
Leanne WoodBywgraffiadBiographyArweinydd Plaid Cymru / The Leader of Plaid Cymru
Diolch, Lywydd, a blwyddyn newydd dda i chi i gyd.
Thank you, Presiding Officer, and a happy new year to you all.
 
A happy new year to you all.
Blwyddyn newydd dda i chi i gyd.
 
First Minister, last night you participated in the first major public debate on the future for Wales within the European Union. You went head to head with the voice of the far right. Do you think your performance helped or hindered the Welsh campaign to remain in the EU?
Brif Weinidog, cymerasoch ran neithiwr yn y ddadl gyhoeddus fawr gyntaf ar ddyfodol Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd. Aethoch benben â llais y dde eithafol. A ydych chi'n meddwl bod eich perfformiad wedi helpu neu niweidio’r ymgyrch yng Nghymru i aros yn yr UE?
 
13:35
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Well, I’ll leave that to others. What I can say is that this is a hugely important issue. It is the major constitutional issue that we will face this year, and I will never stop making the case for Wales’s membership of the EU—to protect the 200,000 jobs that rely on our membership of the European Union, to recognise the billions of pounds of funding that we’ve had, and, of course, the access to one of the world’s biggest single markets. And I will keep on making that case for the next few months.
Wel, gadawaf hynny i eraill. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod hwn yn fater eithriadol o bwysig. Mae'n fater cyfansoddiadol pwysig y byddwn yn ei wynebu eleni, a ni fyddaf byth yn rhoi'r gorau i ddadlau’r achos dros aelodaeth Cymru o'r UE—i amddiffyn y 200,000 o swyddi sy'n dibynnu ar ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, i gydnabod y biliynau o bunnoedd o gyllid yr ydym ni wedi ei gael, ac, wrth gwrs, y mynediad at un o farchnadoedd sengl mwyaf y byd. A byddaf yn parhau i ddadlau’r achos hwnnw dros yr ychydig fisoedd nesaf.
 
13:36
Well, First Minister, I guess it’s up to people to decide whether or not you helped or hindered that case. It’s my view that those who try to frighten people into voting a certain way run the risk of a backlash. People want to hear a positive case for Wales remaining in the European Union, rather than a new version of project fear. Now, you said last night that EU reform was not on the agenda. Have you given up building a better Europe, just as you’ve given up building a better Wales?
Wel, Brif Weinidog, mae’n debyg mai’r bobl sydd i benderfynu a ydych chi wedi helpu neu niweidio’r achos hwnnw. Fy marn i yw bod y rhai sy'n ceisio dychryn pobl i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn perygl o adwaith. Mae pobl eisiau clywed achos cadarnhaol dros Gymru yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd, yn hytrach na fersiwn newydd o brosiect ofn. Nawr, dywedasoch neithiwr nad oedd diwygio’r UE ar yr agenda. A ydych chi wedi troi eich cefn ar adeiladu Ewrop gwell, yn union fel yr ydych chi wedi troi eich cefn ar adeiladu Cymru well?
 
13:36
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
It’s the Prime Minister who has set his face in favour of reform; it’s for him to deliver the reforms that he has suggested. I think there are some areas where the European Union needs to reform itself: it needs to be more transparent; the European Commission needs to be less powerful, and the Parliament more powerful; it could do with not moving around, between Brussels and Strasbourg, as it does. But she and I will both agree that there’s a lot wrong with the structure of the UK as well that needs reform. It’s a question not of walking away from the European Union, but securing reform that keeps Wales at the heart of Europe.
Prif Weinidog y DU sydd wedi penderfynu gweithredu o blaid diwygio; ei gyfrifoldeb ef yw cyflwyno'r diwygiadau y mae wedi eu hawgrymu. Rwy'n meddwl bod rhai meysydd lle mae angen i'r Undeb Ewropeaidd ddiwygio ei hun: mae angen iddo fod yn fwy tryloyw; mae angen i'r Comisiwn Ewropeaidd fod yn llai pwerus, a’r Senedd yn fwy pwerus; byddai’n ddefnyddiol pe na byddai’n symud o gwmpas, rhwng Brwsel a Strasbwrg, fel y mae'n ei wneud. Ond bydd hi a minnau’n cytuno bod llawer o'i le ar strwythur y DU hefyd y mae angen ei ddiwygio. Nid yw’n fater o droi cefn ar yr Undeb Ewropeaidd, ond o sicrhau diwygiadau sy'n cadw Cymru wrth galon Ewrop.
 
13:37
First Minister, people want a positive vision. They are yearning for political change at all levels, and they are fed up with politicians telling them that this is as good as it gets. Now, a new Europe is possible, I believe, just as a new Wales is possible, but you failed to put that positive vision in that debate last night. We got an insight last night, I think, as to how you intend to approach the period leading up to the referendum, and I hope that you will reflect on last night’s debate and give serious consideration to changing tack.
Brif Weinidog, mae pobl eisiau gweledigaeth gadarnhaol. Maen nhw’n dyheu am newid gwleidyddol ar bob lefel, ac maen nhw wedi cael llond bol o wleidyddion yn dweud wrthyn nhw mai dyma’r gorau y gall pethau fod. Nawr, mae Ewrop newydd yn bosibl, rwy’n credu, yn union fel y mae Cymru newydd yn bosibl, ond fe wnaethoch fethu â chyfleu’r weledigaeth gadarnhaol honno yn y ddadl yna neithiwr. Cawsom gipolwg neithiwr, rwy’n credu, ar sut yr ydych chi’n bwriadu ymdrin â’r cyfnod yn arwain at y refferendwm, a gobeithiaf y gwnewch chi fyfyrio ar y ddadl neithiwr a rhoi ystyriaeth ddifrifol i newid trywydd.
 
Now, moving on from last night, can you outline to us what contingency planning your Government has undertaken, or is undertaking, for Wales’s removal from the European Union? Have you sought legal advice on the ramifications of Wales voting in but being taken out? And what action will the Welsh Government take in terms of its relationship with the European Union if we are no longer a part of it? In other words, First Minister, do you have a plan B?
Nawr, gan symud ymlaen o neithiwr, a allwch chi amlinellu i ni pa gynlluniau wrth gefn y mae eich Llywodraeth wedi eu gwneud, neu wrthi’n eu gwneud, ar gyfer ymadawiad Cymru o’r Undeb Ewropeaidd? A ydych chi wedi gofyn am gyngor cyfreithiol ynghylch goblygiadau Cymru’n pleidleisio i aros i mewn ond yn cael ei thynnu allan? A pha gamau wnaiff Llywodraeth Cymru eu cymryd o ran ei pherthynas â'r Undeb Ewropeaidd os nad ydym yn rhan ohono mwyach? Mewn geiriau eraill, Brif Weinidog, a oes gennych chi gynllun B?
 
13:38
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
The leader of Plaid Cymru and I have had discussions—sensible discussions—where we have talked about how it might be possible to put in place a cross-party campaign in order to put the case for Wales’s membership of the European Union. Now, she fails to outline how she would have done anything different and what message she would put forward, and it seems to me she’s already given up, because what she’s talking about is, ‘What will we do if we leave?’ I haven’t given up yet. I will continue to make the case for Wales’s membership of the European Union, I will continue to make the case for Wales’s prosperity, for the need for Wales to be at the heart of Europe, and, certainly, it’s not our intention to give up at this stage, which seems to be the message that she puts across.
Mae arweinydd Plaid Cymru a minnau wedi cael trafodaethau—trafodaethau synhwyrol—lle'r ydym ni trafod sut y gallai fod yn bosibl sefydlu ymgyrch drawsbleidiol er mwyn cyflwyno'r ddadl dros aelodaeth Cymru o'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, mae hi'n methu ag amlinellu sut y byddai wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol a pha neges y byddai'n ei gyfleu, ac mae'n ymddangos i mi ei bod hi eisoes wedi rhoi'r ffidil yn y to, oherwydd yr hyn y mae hi’n siarad amdano yw, 'Beth fyddwn ni’n ei wneud os byddwn ni'n gadael?' Nid wyf i wedi rhoi'r ffidil yn y to eto. Byddaf yn parhau i ddadlau’r achos dros aelodaeth Cymru o'r Undeb Ewropeaidd, byddaf yn parhau i ddadlau’r achos dros ffyniant Cymru, dros yr angen i Gymru fod wrth galon Ewrop, ac, yn sicr, nid ein bwriad yw rhoi'r ffidil yn y to ar y cam hwn, sef y neges y mae’n ymddangos ei bod hi’n ei gyfleu.
 
13:39
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
We now move to the leader of the opposition, Andrew R.T. Davies.
Symudwn nawr at arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
 
13:39
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadBiographyArweinydd yr Wrthblaid / The Leader of the Opposition
Thank you, Presiding Officer. First Minister, happy new year to you—I think it’s still politically correct, in the second week of January, to wish people a happy new year. A happy new year to everyone in the Chamber as well.
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, blwyddyn newydd dda i chi—credaf ei fod dal yn wleidyddol gywir, yn ail wythnos mis Ionawr, i ddymuno blwyddyn newydd dda i bobl. Blwyddyn newydd dda i bawb yn y Siambr hefyd.
 
We all saw the terrible picture in north Wales around the flooding. There can be nothing more depressing, I would suggest, than walking into someone’s home and seeing their lifetime’s possessions thrown outside because of the flooding and the effects, and some of those possessions completely irreplaceable. Some of the issues I’m sure the Minister for Natural Resources will touch on in his statement. You have toured many of the villages and towns that were affected by the flooding. Now some time has passed—not for the victims of the flooding, because they’ll be living with it for many weeks and months ahead—many of the public bodies, such as local authorities, have had time to make an assessment. Have you had any requests from the local authorities for additional support over and above what the Government has made available from the consequential that the Westminster Government has given out on the flooding to date? Will you be furnishing that level of support and making it available in the quickest time possible?
Gwelodd pob un ohonom y darlun ofnadwy yn y gogledd o ran y llifogydd. Ni all fod dim mwy digalon, byddwn yn awgrymu, na cherdded i mewn i gartref rhywun a gweld eiddo eu hoes wedi’u taflu y tu allan oherwydd y llifogydd a'r effeithiau, ac mae rhai o'r eiddo hwnnw’n gwbl unigryw. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol yn cyffwrdd ar rai o’r materion yn ei ddatganiad. Rydych chi wedi teithio o gwmpas llawer o'r pentrefi a’r trefi a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd. Nawr bod ychydig o amser wedi mynd heibio—nid i’r rhai a ddioddefodd lifogydd, gan y byddan nhw’n byw gyda hyn am wythnosau a misoedd lawer i’r dyfodol—mae llawer o'r cyrff cyhoeddus, fel awdurdodau lleol, wedi cael amser i wneud asesiad. A ydych chi wedi cael unrhyw geisiadau gan awdurdodau lleol am gymorth ychwanegol yn ogystal â’r hyn y mae'r Llywodraeth wedi ei roi ar gael o’r cyllid canlyniadol y mae Llywodraeth San Steffan wedi ei ddyrannu ar y llifogydd hyd yn hyn? A fyddwch chi’n ategu’r lefel honno o gefnogaeth ac yn ei rhoi ar gael cyn gynted â phosibl?
 
13:40
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
At this stage, no, but we have put in place about £3.3 million into a fund that local authorities can bid into. It’s early days yet, in fairness, as far as that fund is concerned. Nevertheless, it is money that will be made available to them in order to help with smaller schemes to deal with flooding.
Ar hyn o bryd, na fyddwn, ond rydym ni wedi cyfrannu tua £3.3 miliwn at gronfa y gall awdurdodau lleol wneud cais am gyllid ohoni. Dyddiau cynnar yw hi eto, er tegwch, cyn belled ag y mae’r gronfa honno yn y cwestiwn. Serch hynny, mae'n arian a fydd ar gael iddyn nhw er mwyn helpu gyda chynlluniau llai i ymdrin â llifogydd.
 
When I visited the north, I visited Llanrwst. The flood defences there, by and large, held. Speaking to local representatives, they were very happy with what had been done since I last visited Llanrwst some years ago, with the Member then at the time. There’d been a difficulty not just with the river overflowing its banks—the Conwy—but groundwater was coming up through people’s houses. That didn’t happen this time around.
Pan ymwelais â'r gogledd, ymwelais â Llanrwst. Safodd yr amddiffynfeydd rhag llifogydd yno yn gadarn ar y cyfan. O sgwrsio â chynrychiolwyr lleol, roeddent yn hapus iawn gyda’r hyn a wnaed ers i mi ymweld â Llanrwst ddiwethaf, rai blynyddoedd yn ôl, gyda'r Aelod yno ar y pryd. Bu anhawster nid yn unig gyda'r afon yn gorlifo ei glannau—afon Conwy—ond roedd dŵr daear yn dod i fyny trwy dai pobl. Ni ddigwyddodd hynny y tro hwn.
 
On the A55 at Talybont, money was never an issue in terms of funding the scheme, but the scheme is in the design stage, and Gwynedd county council have been working with Natural Resources Wales and us in order to put such a scheme in place. There was never a question of the funding not being made available. I visited people there, and I was happy to see that that scheme can now move forward.
Ar yr A55 yn Nhalybont, nid oedd arian erioed yn broblem o ran ariannu'r cynllun, ond mae'r cynllun ar y cam dylunio, ac mae cyngor sir Gwynedd wedi bod yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a ninnau er mwyn rhoi cynllun o'r fath ar waith. Ni fu unrhyw amheuaeth erioed na fyddai’r cyllid ar gael. Ymwelais â phobl yno, ac roeddwn i’n falch o weld y gall y cynllun hwnnw symud ymlaen nawr.
 
Bontnewydd, again, is a village where there is a flood defence in place, and, in fact, the flood defences weren’t overtopped; again, it was a problem with groundwater. What NRW were telling me there is that there is a need to look at the entire system—the entire catchment area—to stop the flow of water coming in through the river there at Bontnewydd via the streams. But the message for us is this: we enter an age where it’s becoming ever more difficult to predict where flooding might occur. We know that there are some areas of Wales historically that have suffered flooding. The Conwy valley is one such example, but NRW will need to examine very carefully, as will local authorities as the flood authorities, as to where new pressures may arise and then, of course, deal with them.
Mae Bontnewydd, unwaith eto, yn bentref lle ceir amddiffynfa rhag llifogydd, ac, a dweud y gwir, ni thorrwyd yr amddiffynfeydd rhag llifogydd; eto, roedd y broblem yn ymwneud â dŵr daear. Yr hyn yr oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei ddweud wrthyf yno yw bod angen edrych ar y system gyfan—y dalgylch cyfan—i atal llif y dŵr rhag dod i mewn drwy'r afon yno ym Montnewydd drwy'r nentydd. Ond y neges i ni yw hyn: rydym ni’n cyrraedd oes lle mae'n dod yn fwyfwy anodd rhagweld ble y gallai llifogydd ddigwydd. Rydym ni’n gwybod bod rhai ardaloedd o Gymru yn hanesyddol wedi dioddef llifogydd. Mae dyffryn Conwy yn un enghraifft o'r fath, ond bydd angen i Gyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal ag awdurdodau lleol fel yr awdurdodau llifogydd, edrych yn ofalus iawn o ran lle y gallai pwysau newydd godi ac yna, wrth gwrs, ymdrin â nhw.
 
13:42
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadBiography
Thank you, First Minister, for that answer, and I appreciate that many of these questions might well be addressed also by the natural resources Minister in his statement, but also there are some solutions that can be brought forward via the rural development fund, allowing farmers to use land as floodplains to hold water back. I do declare an interest as a farmer and with regard to the rural development plan. Also, in other parts of the United Kingdom, the rules and regulations around ditch clearance and allowing landowners to clear those ditches without hindrance to allow water capture on their land will be removed as of 1 April. Will the Welsh Government be taking forward some of these proposals? For many communities, it’s the big shiny projects that people look at that cost many millions of pounds, and I get that, but, equally, there are some very small steps that we can take, and I would suggest that the rural development plan and using some of the money that’s in that to help landowners play a more active part in flood prevention, and also adopting some of the measures taken by other parts of the United Kingdom to allow for ditch clearance for water containment, could be welcome additions to the arsenal to help communities stem this flooding problem.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am yr ateb yna, ac rwy’n sylweddoli y gallai llawer o'r cwestiynau hyn gael sylw gan y Gweinidog cyfoeth naturiol yn ei ddatganiad, ond hefyd ceir rhai atebion y gellir eu cynnig drwy'r gronfa datblygu gwledig, gan ganiatáu i ffermwyr ddefnyddio tir fel gorlifdiroedd i ddal dŵr yn ôl. Rwy’n datgan buddiant fel ffermwr ac o ran y cynllun datblygu gwledig. Hefyd, mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, bydd y rheolau a'r rheoliadau o ran clirio ffosydd a chaniatáu tirfeddianwyr i glirio’r ffosydd hynny heb rwystr i ganiatáu i ddŵr gael ei ddal ar eu tir yn cael eu diddymu o 1 Ebrill. A fydd Llywodraeth Cymru'n bwrw ymlaen â rhai o'r cynigion hyn? I lawer o gymunedau, y prosiectau mawr sgleiniog y mae pobl yn eu hystyried, sy’n costio miliynau lawer o bunnoedd, ac rwy'n deall hynny, ond, yn yr un modd, mae rhai camau bach iawn y gallwn eu cymryd, a byddwn yn awgrymu y byddai’r cynllun datblygu gwledig a defnyddio rhywfaint o'r arian sydd yn hwnnw i helpu tirfeddianwyr chwarae rhan fwy ymarferol o ran atal llifogydd, a hefyd mabwysiadu rhai o'r mesurau a gymerwyd gan rannau eraill o'r Deyrnas Unedig i alluogi ffosydd i gael eu clirio i ddal dŵr, yn ychwanegiadau i’w croesawu at yr arfau i helpu cymunedau i ymdrin â’r broblem llifogydd hon.
 
13:43
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Yes. It does depend, of course, on us being members of the European Union to access that money. It has been used, if I remember, for Rhydyfelin in terms of the flood scheme there. But he’s right to say—and I use the Conwy valley as an example—that you cannot simply guard against flooding by building a wall. The issue in the Conwy valley is that there were flood defences around the farm land, so the farm land was protected but the settlements were not. In order to control flooding in the Conwy valley, there are occasions, and I think it happened this time around, where the farm land must be allowed to flood. Farmers, of course, are part of that. There were discussions with them in advance of that project being put in place, but you can’t channel a body of water and try and build walls around it all the time. The water will come up as groundwater; it has to be allowed to flood into its natural floodplain from time to time in order to enable houses to be protected. The Conwy valley is a good example where farmers and the local community worked together in order to put in place an effective flood scheme.
Bydd. Mae'n dibynnu, wrth gwrs, ar inni fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd i gael mynediad at yr arian hwnnw. Fe’i defnyddiwyd, os cofiaf, ar gyfer Rhydyfelin o ran y cynllun llifogydd yno. Ond mae'n iawn i ddweud—ac rwy’n defnyddio Dyffryn Conwy fel enghraifft—na allwch chi ddiogelu rhag llifogydd dim ond trwy adeiladu wal. Y broblem yn nyffryn Conwy yw bod amddiffynfeydd rhag llifogydd o gwmpas y tir fferm, felly roedd y tir fferm wedi’i ddiogelu ond nid oedd yr aneddiadau. Er mwyn rheoli llifogydd yn nyffryn Conwy, ceir adegau, ac rwy’n meddwl ei fod wedi digwydd y tro hwn, lle mae'n rhaid caniatáu llifogydd ar dir fferm. Mae ffermwyr, wrth gwrs, yn rhan o hynny. Cafwyd trafodaethau gyda nhw cyn cyflwyno’r prosiect hwnnw, ond ni allwch chi sianelu corff o ddŵr a cheisio adeiladu waliau o'i gwmpas drwy'r amser. Bydd y dŵr yn dod i fyny fel dŵr daear; mae'n rhaid caniatáu iddo orlifo i'w orlifdir naturiol o bryd i'w gilydd er mwyn galluogi tai i gael eu diogelu. Mae dyffryn Conwy yn enghraifft dda lle gweithiodd ffermwyr a'r gymuned leol gyda'i gilydd i sefydlu cynllun llifogydd effeithiol.
 
13:44
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadBiography
Thank you for that answer, First Minister. The other issue that happened over the Christmas recess and as recently as yesterday morning was the road network, with the adverse weather that was predicted via weather forecasting, in north Wales, for example, with the icy conditions. There were 68 accidents yesterday in north Wales. The M4 in your own area between Pencoed and Sarn was shut at least half a dozen times, and around the Newport area an equal number to that as well because of the adverse weather. There is an issue in my mind about the way the trunk road agency in Wales manage these key routes. I’d be interested to know whether you will commission a study to see exactly how they are managing the maintenance of these roads to look into these adverse weather conditions that are causing, both for flooding and icy conditions, road closures. We can argue about the European Union, we can argue about the middle east, and we can argue about global politics, but, for most people, when they get outside their front door, they want one of three things: to get to work, get the kids to school or get to that appointment that is critical to their end day. Those in north Wales yesterday couldn’t do that and many people in south Wales over the festive period couldn’t do it either. For simple maintenance in many areas, these issues could be resolved, so will you undertake to have a review of the way the trunk road agency is engaging in this process so that we can be satisfied that all corners are covered off?
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Y mater arall a ddigwyddodd yn ystod toriad y Nadolig ac mor ddiweddar â bore ddoe oedd y rhwydwaith ffyrdd, gyda'r tywydd gwael a ragwelwyd trwy ragolygon y tywydd, yn y gogledd, er enghraifft, gyda'r amodau rhewllyd. Bu 68 o ddamweiniau ddoe yn y gogledd. Caewyd yr M4 yn eich ardal eich hun rhwng Pencoed a Sarn o leiaf hanner dwsin o weithiau, a chynifer â hynny o gwmpas ardal Casnewydd hefyd oherwydd y tywydd garw. Mae problem yn fy meddwl am y ffordd y mae’r asiantaeth cefnffyrdd yng Nghymru yn rheoli’r llwybrau allweddol hyn. Byddai gen i ddiddordeb mewn cael gwybod a wnewch chi gomisiynu astudiaeth i weld yn union sut y maen nhw’n rheoli’r gwaith o gynnal a chadw’r ffyrdd hyn i ymchwilio i’r amodau tywydd garw hyn sy'n achosi, o ran llifogydd ac amodau rhewllyd, i ffyrdd gau. Gallwn ddadlau am yr Undeb Ewropeaidd, gallwn ddadlau am y dwyrain canol, a gallwn ddadlau am wleidyddiaeth fyd-eang, ond, i’r rhan fwyaf o bobl, pan fyddant yn mynd y tu allan i'w drws ffrynt, maen nhw eisiau un o dri pheth: cyrraedd y gwaith, cael y plant i'r ysgol neu gyrraedd yr apwyntiad yna sy'n hanfodol i'w diwrnod yn y pen draw. Ni allai’r rhai yn y gogledd wneud hynny ddoe, ac ni allai llawer o bobl yn y de wneud hynny ychwaith dros gyfnod y Nadolig. Ar gyfer gwaith cynnal a chadw syml mewn llawer o ardaloedd, gallai'r problemau hyn gael eu datrys, felly a wnewch chi addo cynnal adolygiad o'r ffordd y mae'r asiantaeth cefnffyrdd yn ymgymryd â’r broses hon fel y gallwn fod yn fodlon bod pob agwedd wedi ei hystyried?
 
13:45
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Well, it’s not to do with maintenance. First of all, most of the accidents, I understand, were on local roads, local authority roads, although there were some instances on trunk roads. What I am informed by local authorities is that the weather was not predicted by the Met Office yesterday. As a result, of course, the roads hadn’t been gritted. But, in terms of what we saw between Christmas and new year, I saw the M4 flooded out between Pyle and Pencoed, something I’ve never seen, ever, in all the years I’ve been living there, such was the volume of the rain. We saw the same thing happen, of course, on the A55 and it goes to show that we do face challenges now of flooding in areas that were previously thought not to be at risk of flooding. That, now, is a challenge for Natural Resources Wales in order to carry out an assessment of where the pressures will come in the future.
Wel, nid yw’n ymwneud â gwaith cynnal a chadw. Yn gyntaf oll, roedd mwyafrif y damweiniau, rwy’n deall, ar ffyrdd lleol, ffyrdd awdurdodau lleol, er bod rhai achosion ar gefnffyrdd. Yr hyn y mae awdurdodau lleol yn ei ddweud wrthyf yw na ragwelwyd y tywydd gan y Swyddfa Dywydd ddoe. O ganlyniad, wrth gwrs, nid oedd y ffyrdd wedi cael eu graeanu. Ond, o ran yr hyn a welsom rhwng y Nadolig a'r flwyddyn newydd, gwelais lifogydd ar yr M4 rhwng y Pîl a Phencoed, rhywbeth nad wyf i erioed wedi ei weld yn yr holl flynyddoedd yr wyf i wedi bod yn byw yno, cymaint oedd y glaw a ddaeth i lawr. Gwelsom yr un peth yn digwydd, wrth gwrs, ar yr A55 ac mae'n dangos ein bod yn wynebu heriau nawr o lifogydd mewn ardaloedd na ystyriwyd cynt eu bod mewn perygl o lifogydd. Mae honno, nawr, yn her i Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cynnal asesiad o ble daw’r pwysau yn y dyfodol.
 
13:46
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
Now we move to the leader of the Welsh Liberal Democrats, Kirsty Williams.
Symudwn nawr at arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams.
 
13:46
Kirsty WilliamsBywgraffiadBiographyArweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru / The Leader of the Welsh Liberal Democrats
Thank you. First Minister, when the literacy and numeracy framework was launched in 2012, you said it would transform standards of literacy and numeracy in Wales. Last year, your schools inspector, Estyn, said that the programme had had no impact in improving literacy levels. One year on, would you expect progress to have been made?
Diolch. Brif Weinidog, pan lansiwyd y fframwaith llythrennedd a rhifedd yn 2012, dywedasoch y byddai'n gweddnewid safonau llythrennedd a rhifedd yng Nghymru. Y llynedd, dywedodd eich arolygwr ysgolion, Estyn, nad oedd y rhaglen wedi cael unrhyw effaith o ran gwella lefelau llythrennedd. Flwyddyn yn ddiweddarach, a fyddech chi'n disgwyl bod cynnydd wedi ei wneud?
 
13:46
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
First of all, it didn’t say that, because the findings of the interim report present a positive picture of the early stages of implementation of the programme. Bear in mind, of course, that fieldwork was carried out between September 2013 and December 2014. That’s the period in which the programmes, such as the literacy and numeracy framework and testing, were first introduced to schools. So, this is an evaluation that’s taken place in the very first period of the testing programme. It shows, overall, a positive picture and we will continue with the national literacy and numeracy programmes.
Yn gyntaf oll, nid oedd yn dweud hynny, oherwydd mae canfyddiadau'r adroddiad dros dro yn cyflwyno darlun cadarnhaol o gamau cynnar y broses o weithredu'r rhaglen. Cofiwch, wrth gwrs, y gwnaed y gwaith maes rhwng mis Medi 2013 a mis Rhagfyr 2014. Dyna’r cyfnod y cyflwynwyd y rhaglenni, fel y fframwaith a phrofion llythrennedd a rhifedd, i ysgolion gyntaf. Felly, mae hwn yn werthusiad a wnaed yn ystod cyfnod cyntaf y rhaglen brofi. Mae'n dangos, ar y cyfan, darlun cadarnhaol a byddwn yn parhau â'r rhaglenni llythrennedd a rhifedd cenedlaethol.
 
13:47
Kirsty WilliamsBywgraffiadBiography
What the evaluation does say, and I quote, is that they have found ‘no robust evidence’ to suggest that the literacy and numeracy framework has supported an improvement in pupil outcomes.
Yr hyn y mae’r gwerthusiad yn ei ddweud, a dyfynnaf, yw nad ydynt wedi canfod unrhyw dystiolaeth gadarn i awgrymu bod y fframwaith llythrennedd a rhifedd wedi cefnogi gwelliant i ddeilliannau disgyblion.
 
Now, it’s four years—four years—since the programme was launched. Four years—half the time a child will spend in primary school. That’s their one chance, First Minister, and it’s your responsibility. So, what is your expectation? When will your programme see real outcomes and real delivery for our school students?
Nawr, mae'n bedair blynedd—pedair blynedd—ers lansio’r rhaglen. Pedair blynedd—hanner yr amser y bydd plentyn yn ei dreulio yn yr ysgol gynradd. Dyna eu hunig gyfle, Brif Weinidog, a’ch cyfrifoldeb chi yw hynny. Felly, beth yw eich disgwyliadau? Pryd fydd eich rhaglen yn arwain at ganlyniadau go iawn a darpariaeth go iawn i’n myfyrwyr ysgol?
 
13:48
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Well, the leader of the Liberal Democrats is mistaken, because the evaluation took place between September 2013 and December 2014, as I’ve said. That was the period in which programmes such as the LNF and testing were first introduced to schools. It doesn’t go back further than that.
Wel, mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn camgymryd, oherwydd cynhaliwyd y gwerthusiad rhwng mis Medi 2013 a mis Rhagfyr 2014, fel y dywedais. Dyna oedd y cyfnod pan gyflwynwyd rhaglenni fel y FfLlRh a phrofion mewn ysgolion gyntaf. Nid yw'n mynd yn ôl ymhellach na hynny.
 
Whilst good progress has been made, we want to see further progress—that much is true. Speaking as a parent, I am delighted that I am able to see the progress that my children are making in school and many, many other parents take the same view. She asked when we will see improvement. We are seeing, of course, the best GCSE results ever in Wales—not as a result of this, that much is true, it is too early yet, but it does show that what we are putting in place is improving education and the frameworks themselves will show improvement over the course of the next few years.
Er bod cynnydd da wedi ei wneud, rydym ni eisiau gweld cynnydd pellach—mae cymaint â hynny’n wir. Yn siarad fel rhiant, rwyf wrth fy modd fy mod i’n gallu gweld y cynnydd y mae fy mhlant yn ei wneud yn yr ysgol ac mae llawer iawn o rieni eraill o'r un farn. Gofynnodd pryd y byddwn ni’n gweld gwelliant. Rydym ni yn gweld, wrth gwrs, y canlyniadau TGAU gorau erioed yng Nghymru—nid o ganlyniad i hyn, mae cymaint â hynny’n wir, mae'n rhy gynnar eto, ond mae'n dangos bod yr hyn yr ydym ni’n ei gyflwyno yn gwella addysg a bydd y fframweithiau eu hunain yn dangos gwelliant yn ystod y blynyddoedd nesaf.
 
13:48
Kirsty WilliamsBywgraffiadBiography
Well, I’m delighted, First Minister, that your children are making progress, but I’m interested in everybody’s child. Every child in this country deserves to go to a decent school—a school that’s not just been put into special measures, like one of the flagship schools in your own county borough has been. Every child in Wales should go to an outstanding school.
Wel, rwyf i wrth fy modd, Brif Weinidog, bod eich plant yn gwneud cynnydd, ond mae gen i ddiddordeb ym mhlentyn pawb. Mae pob plentyn yn y wlad hon yn haeddu mynd i ysgol dda—ysgol nad yw newydd gael ei gwneud yn destun mesurau arbennig, fel y gwnaed yn un o’r ysgolion blaenllaw yn eich bwrdeistref sirol eich hun. Dylai pob plentyn yng Nghymru fynd i ysgol ragorol.
 
Now, the State of the Nation report last year said that the scale of progress required by Wales to ensure that its children—all our children—can compete academically with others is dramatic.
Nawr, dywedodd adroddiad Cyflwr y Genedl y llynedd bod maint y cynnydd sy'n ofynnol gan Gymru i sicrhau y gall ei phlant—ein holl blant—gystadlu’n academaidd gydag eraill yn sylweddol.
 
We need dramatic progress from your Government for our children. Now, you have had 16 years. That is the second longest-running Government in modern history. So, if it can’t be in the first 16 years, when are we going to see the dramatic progress that our country needs, and why should any parent or any pupil in Wales believe and have hope that your Government can deliver it for them?
Mae arnom angen cynnydd sylweddol iawn gan eich Llywodraeth ar gyfer ein plant. Nawr, rydych chi wedi cael 16 mlynedd. Hon yw’r ail Lywodraeth fwyaf hirhoedlog mewn hanes modern. Felly, os na all fod yn y 16 mlynedd gyntaf, pryd ydym ni’n mynd i weld y cynnydd sylweddol sydd ei angen ar ein gwlad, a pham y dylai unrhyw riant neu unrhyw ddisgybl yng Nghymru gredu a bod â gobaith y gall eich Llywodraeth gyflawni ar eu cyfer nhw?
 
13:49
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
The leader of the Liberal Democrats wilfully misrepresented what I just said. Like all parents in Wales, myself included, I am delighted that I am able to see how my children are progressing, as I’m sure she is as well, and all parents are in Wales. She should just be careful what she says, because that’s not what I said, in terms of the way that she represented it. If you look at Wales, we have the best GCSE results ever. We see schools being built—no schools were built when her party was in power in Westminster. [Interruption.] No schools were built when her party was in power in Westminster. We see new comprehensive schools being built across Wales, we see new primary schools being built across Wales, and we are seeing delivery in education. When her party were in power in Westminster, the major pledge that they put forward to the people of Britain is that they would not increase tuition fees. That was broken immediately. [Interruption.] That was broken immediately. So, when it comes to keeping promises, we’re not going to be lectured by the Liberal Democrats.
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol newydd gam-gynrychioli'r hyn yr wyf i newydd ei ddweud yn fwriadol. Fel pob rhiant yng Nghymru, gan gynnwys fy hun, rwyf wrth fy modd fy mod i’n gallu gweld y cynnydd y mae fy mhlant yn ei wneud, fel yr wyf yn siŵr y mae hithau hefyd, ac fel y mae pob rhiant yng Nghymru. Dylai fod yn ofalus o’r hyn y mae'n ei ddweud, oherwydd nid dyna ddywedais i, o ran y ffordd iddi hi ei gyfleu. Os edrychwch chi ar Gymru, mae gennym ni’r canlyniadau TGAU gorau erioed. Rydym ni’n gweld ysgolion yn cael eu hadeiladu—ni adeiladwyd unrhyw ysgolion pan oedd ei phlaid hi mewn grym yn San Steffan. [Torri ar draws.] Ni adeiladwyd unrhyw ysgolion pan oedd ei phlaid hi mewn grym yn San Steffan. Rydym ni’n gweld ysgolion cyfun newydd yn cael eu hadeiladu ledled Cymru, rydym ni’n gweld ysgolion cynradd newydd yn cael eu hadeiladu ledled Cymru, ac rydym ni’n gweld cyflawni mewn addysg. Pan oedd ei phlaid hi mewn grym yn San Steffan, y prif addewid a wnaed ganddynt i bobl Prydain yw na fyddent yn codi ffioedd dysgu. Torrwyd hwnnw’n syth. [Torri ar draws.] Torrwyd hwnnw’n syth. Felly, pan ddaw'n fater o gadw addewidion, nid ydym ni’n mynd i dderbyn pregeth gan y Democratiaid Rhyddfrydol.
 
13:50
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
We now move back to questions on the paper, and question 3 is Angela Burns.
Symudwn yn ôl at gwestiynau ar y papur nawr, a daw cwestiwn 3 gan Angela Burns.
 
Llifogydd Gorllewin Cymru
Floods in West Wales
 
13:50
Thank you, Presiding Officer. Good afternoon, First Minister.
Diolch i chi, Lywydd. Prynhawn da, Brif Weinidog.
 
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y llifogydd diweddar yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)2645(FM)
3. Will the First Minister make a statement on the recent floods in west Wales? OAQ(4)2645(FM)
 
13:50
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Yes. Good afternoon. The Minister for Natural Resources will be making a statement later this afternoon on the flooding across the whole of Wales. Over the lifetime of this Government, we will invest over £33 million in flood and coastal risk management in west Wales to help build resilience to flooding.
Gwnaf. Prynhawn Da. Bydd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol yn gwneud datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma ar y llifogydd ar draws Cymru gyfan. Yn ystod oes y Llywodraeth hon, byddwn yn buddsoddi dros £33 miliwn mewn rheoli perygl llifogydd ac arfordirol yn y gorllewin i helpu i gynyddu'r cydnerthedd i wrthsefyll llifogydd.
 
13:51
First Minister, when are you and your Government going to get to grips with planning policy? Because you have a policy that enables county councils to allow house builders to develop in areas of flood risk, as evidenced by the recent builds in my constituency that have been flooded in the last three months, let alone the last few years. However, that same planning policy is being used to stop a £100 million investment into south Carmarthenshire on the grounds that the company is building in an area of risk, yet, when you look at the topography, if that business were to flood, then we would have chunks of Swansea and a significant proportion of Llanelli underwater as well. So, it’s a ridiculous and conflicting situation. It’s a situation that’s been raised here before—this disparity in planning policy and the allowing of one thing, but not another thing, houses versus jobs versus lives versus risk. When, First Minister, will you and your Government finally get to grips with this and go one way or the other and make it coherent and consistent?
Brif Weinidog, pryd ydych chi a'ch Llywodraeth yn mynd i fynd i'r afael â pholisi cynllunio? Oherwydd mae gennych chi bolisi sy'n galluogi cynghorau sir i ganiatáu adeiladwyr tai i ddatblygu mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd, fel y dangoswyd gan yr adeiladau diweddar yn fy etholaeth i sydd wedi dioddef llifogydd yn y tri mis diwethaf, heb sôn am yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae’r un polisi cynllunio yn cael ei ddefnyddio i atal buddsoddiad o £100 miliwn yn ne Sir Gaerfyrddin ar y sail bod y cwmni yn adeiladu mewn ardal o risg, ac eto, pan edrychwch chi ar y topograffi, pe byddai’r busnes hwnnw’n dioddef llifogydd, yna byddai gennym ni rannau o Abertawe a chyfran sylweddol o Lanelli dan ddŵr hefyd. Felly, mae'n sefyllfa chwerthinllyd ac anghyson. Mae'n sefyllfa a godwyd yma o’r blaen—yr anghysondeb hwn o ran polisi cynllunio a chaniatáu un peth, ond nid rhywbeth arall, tai yn erbyn swyddi yn erbyn bywydau yn erbyn risg. Pryd, Brif Weinidog, wnewch chi a'ch Llywodraeth fynd i'r afael o’r diwedd â hyn a dilyn un trywydd neu’r llall a'i wneud yn eglur a chyson?
 
13:52
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
More rain fell in Capel Curig than anywhere else in the UK over the course of the last week of December, and yet we did not see flooding in the Conwy. We did see flooding in Cumbria. Why? Because of the failure of her party to invest in flood defences in England. Those are not my words; those are the words of others—the House of Commons committee. There was not enough investment put in, and so we cannot accept any kind of lecturing from the party opposite, because of their failure to invest in flood defences in England. [Interruption.] When it comes to technical advice note 15—
Syrthiodd mwy o law yng Nghapel Curig nag yn unrhyw le arall yn y DU yn ystod wythnos olaf mis Rhagfyr, ac eto ni welsom lifogydd yng Nghonwy. Gwelsom lifogydd yn Cumbria. Pam? Oherwydd methiant ei phlaid hi i fuddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd yn Lloegr. Nid fy ngeiriau i yw’r rheiny; geiriau pobl eraill ydyn nhw—pwyllgor Tŷ'r Cyffredin. Ni wnaed digon o fuddsoddiad, ac felly ni allwn dderbyn unrhyw fath o bregethu gan y blaid gyferbyn, oherwydd ei methiant i fuddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd yn Lloegr. [Torri ar draws.] Pan ddaw i nodyn cyngor technegol 15—
 
13:52
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
Order, order.
Trefn, trefn.
 
13:52
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
I mean, I know it’s uncomfortable for them, but there we are, that’s the truth. When it comes to TAN 15, I remember, as the Minister responsible for introducing it, the Conservative benches opposed it, because they thought it was too extreme. How many times did I hear Conservative Members saying, ‘We can’t have this policy where you’re not allowed to build in an area where there’s a one-in-1,000-year flood risk, it’s too extreme’? TAN 15 is perfectly clear, but it’s absolutely crucial that local authorities follow TAN 15, and, where that doesn’t happen, of course, there are remedies if they turn down planning permission in circumstances where they do not follow that planning guidance. But the planning guidance is absolutely crystal clear.
Hynny yw, gwn ei fod yn anghyfforddus iddyn nhw, ond dyna ni, dyna'r gwir. Pan ddaw i TAN 15, rwy’n cofio, fel y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am ei gyflwyno, i’r meinciau Ceidwadol ei wrthwynebu, gan eu bod yn meddwl ei fod yn rhy eithafol. Sawl gwaith glywais i Aelodau Ceidwadol yn dweud, 'Ni allwn ni gael y polisi hwn lle nad oes gennych chi ganiatâd i adeiladu mewn ardal lle ceir perygl o lifogydd unwaith mewn 1,000 o flynyddoedd, mae'n rhy eithafol'? Mae TAN 15 yn gwbl eglur, ond mae'n gwbl hanfodol bod awdurdodau lleol yn dilyn TAN 15, a, phan nad yw hynny'n digwydd, wrth gwrs, ceir atebion os byddant yn gwrthod caniatâd cynllunio dan amgylchiadau lle nad ydynt yn dilyn y canllawiau cynllunio hynny. Ond mae'r canllawiau cynllunio yn gwbl, gwbl eglur.
 
13:53
Wel, Brif Weinidog, nid oes yr un blaid sydd wedi bod mewn Llywodraeth wedi cymryd newid hinsawdd o ddifrif yn ddigonol, ac mae hynny, yn anffodus, yn wir. Ond, a throi at effaith y llifogydd yma yng ngorllewin Cymru, mae nifer o fusnesau a thai unigol—. Yn hytrach nac ardaloedd eang, rwy’n gwybod roedd lot o dai unigol wedi cael eu heffeithio—llefydd fel Dinbych-y-pysgod, Saundersfoot ac ati. Rydym ni wedi gweld yn Lloegr fod awdurdodau lleol wedi bod yn rhoi grantiau o £500 i helpu’r bobl yna i ddod yn ôl ar eu traed. Yn yr Alban, maen nhw wedi rhoi grant o £1,500 yn yr un modd, ac roeddem ni’n falch o weld bod y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru wedi lansio cronfa adfer wedi’r llifogydd heddiw. A ydy e’n fwriad gyda chi, a’ch Llywodraeth chi, i gefnogi grantiau o’r math yma yng Nghymru i helpu pobl a helpu busnesau i fynd yn ôl ar eu traed, neu, yn wir, i gyfrannu at y gronfa genedlaethol?
Well, First Minister, no party of Government has taken climate change seriously enough, and that is very unfortunate indeed. But, turning to the impact of these floods in west Wales, a number of businesses and individual homes—. Rather than wide areas, I know that many individual homes have been affected in places such as Tenby, Saundersfoot and so on. We have seen in England that local authorities have been providing grants of £500 to assist those people to get back up on their feet. In Scotland, they have similarly provided a grant of £1,500, and we were pleased to see that the Community Foundation in Wales has launched a fund to restore things after the flooding today. Is it your intention as a Government to support such grants here in Wales to assist people and to assist businesses to get back on their feet, or to contribute to that national fund that I mentioned?
 
13:54
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Mae hynny’n rhywbeth, wrth gwrs, i ni ei ystyried. Bydd gan ran fwyaf o bobl, byddwn i’n erfyn, insiwrans o ryw fath—byddai rhai, wrth gwrs, yn gorfod talu peth arian tuag at unrhyw alwad y byddan nhw’n ei wneud ar insiwrans eu tai neu eu busnesau. Mae hwnnw’n rhywbeth rydym ni’n dal i ystyried ac rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn gallu ateb y cwestiynau yn fanwl yn ystod ei ddatganiad ef.
That is something, of course, for us to consider. Most people, I expect, would have insurance of some kind—some, of course, would have to make partial payments towards any demand that they would make on the insurance on their homes or their businesses. This is something we are still considering, and I’m sure that the Minister will be able to answer these questions in detail during his statement.
 
13:55
William PowellBywgraffiadBiography
Blwyddyn newydd dda, bawb.
A happy new year to you all.
 
First Minister, the RainScape sustainable drainage project in Llanelli has proved to be worth its weight in the recent flooding events, particularly at Queen Mary’s Walk in Llanelli. Dŵr Cymru, as I understand it, has got further plans to roll out similar schemes in other flood-risk zones across Wales between now and 2020, but what plans does the Welsh Government have to undertake a full evaluation of how that scheme has actually worked in practice so that we can build in as many learning points as possible to make other locations resilient against flooding in the future?
Brif Weinidog, mae prosiect draenio cynaliadwy RainScape yn Llanelli wedi bod yn effeithiol iawn yn ystod ar achosion diweddar o lifogydd, yn enwedig yn Rhodfa'r Frenhines Mary yn Llanelli. Mae gan Ddŵr Cymru, yn ôl a ddeallaf, gynlluniau pellach i gyflwyno cynlluniau tebyg mewn ardaloedd eraill sydd mewn perygl o lifogydd ledled Cymru rhwng nawr a 2020, ond pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad llawn o sut y mae'r cynllun wedi gweithio'n ymarferol fel y gallwn gynnwys cynifer o bwyntiau dysgu â phosibl i wneud lleoliadau eraill yn gydnerth rhag llifogydd yn y dyfodol?
 
13:55
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
It’s something that’s always under consideration. The Member is absolutely right to point out that controlling flooding is not just about building walls. It’s about stemming the flow of water by planting trees, quite often, in the upland areas. I’ve seen examples of that in Montgomeryshire where that has happened. With that, of course, the trees absorb the water and help to stem the speed of the water coming down the hillsides. There’s the issue of soakaways and the issue, of course, of not building driveways particularly that are impermeable to water. Part of the challenge that we face is that many of our road surfaces were built at a time when those standards were far lower. Water does not soak through the road; it comes off the road quite often—as I saw in Talybont—down the camber and into some people’s houses. Many of the roads—the A55 was one—were built to a far lower standard than we would build now, and, of course, what we try to do is to look at sections of the A55 in order to improve those sections and avoid the risk of flooding. But the Member’s quite right to point out that there are a number of ways to deal with flooding rather than simply building walls all the time.
Mae'n rhywbeth sy’n cael ei ystyried yn barhaus. Mae'r Aelod yn gwbl gywir i nodi nad yw rheoli llifogydd yn golygu adeiladu waliau yn unig. Mae'n golygu atal llif dŵr trwy blannu coed, yn ardaloedd yr ucheldir yn aml iawn. Rwyf wedi gweld enghreifftiau o hynny yn Sir Drefaldwyn lle mae hynny wedi digwydd. O wneud hynny, wrth gwrs, mae'r coed yn amsugno’r dŵr ac yn helpu i atal cyflymder y dŵr sy’n dod i lawr y llechweddau. Ceir y mater o ffosydd cerrig a’r mater, wrth gwrs, o beidio ag adeiladu tramwyfeydd yn benodol sy'n anhydraidd i ddŵr. Rhan o'r her sy'n ein hwynebu yw bod llawer o arwynebau ein ffyrdd wedi cael eu hadeiladu ar adeg pan yr oedd y safonau hynny’n llawer is. Nid yw dŵr yn socian drwy'r ffordd; mae'n dod oddi ar y ffordd yn aml iawn—fel y gwelais yn Nhalybont—i lawr y cambr ac i mewn i dai rhai pobl. Adeiladwyd llawer o'r ffyrdd—roedd yr A55 yn un—i safon is o lawer nag y byddem yn adeiladu nawr, ac, wrth gwrs, yr hyn yr ydym ni’n ceisio ei wneud yw edrych ar rannau o'r A55 er mwyn gwella’r rhannau hynny ac osgoi’r perygl o lifogydd. Ond mae’r Aelod yn gwbl gywir i nodi bod nifer o ffyrdd i ymdrin â llifogydd yn hytrach na dim ond adeiladu waliau drwy'r amser.
 
Trosglwyddo Asedau
Asset Transfers
 
13:56
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithdrefnau ar gyfer trosglwyddo asedau gan awdurdodau lleol? OAQ(4)2648(FM)[W]
4. Will the First Minister make a statement on procedures for local authority asset transfers? OAQ(4)2648(FM)[W]
 
13:56
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Wel, mater i awdurdodau lleol unigol yw gweithdrefnau ar gyfer trosglwyddo asedau gan awdurdodau lleol, ond byddwn i’n erfyn, wrth gwrs, iddynt gysylltu’n fanwl gyda’r gymuned leol.
Well, procedures for local authority asset transfers are a matter for individual local authorities, but of course I would expect them to consult in detail with the local communities.
 
13:57
Diolch. Bu pryderon ymhlith trigolion sir Gaerfyrddin ynghylch cynigion gan y cyngor sir i drosglwyddo parciau i gynghorau cymuned neu elusennau neu sefydliadau preifat, gan gynnwys Parc Howard yn Llanelli, a wnaeth sbarduno deiseb a lofnodwyd gan dros 5,000 o bobl i gadw’r parc mewn perchnogaeth gyhoeddus, a fydd yn cael ei chyflwyno i’r cyngor sir yfory. A ydych chi’n cytuno y dylai awdurdodau lleol gynnal ymgynghoriad gydag aelodau o’r cyhoedd ar unrhyw gynnig i drosglwyddo asedau a chynnal diwydrwydd taladwy o unrhyw sefydliad preifat sy’n dymuno cymryd rhan mewn trosglwyddo asedau?
Thank you. There have been concerns among Carmarthenshire residents about proposals by the council to transfer parks to community councils or charities or private organisations, including Parc Howard in Llanelli, which engendered a petition signed by over 5,000 people to keep the park in public ownership, which will be presented to the council tomorrow. Do you agree that local authorities should hold a consultation with members of the public on any proposal to transfer assets, and conduct due diligence of any private organisation that wishes to take part in any such asset transfer?
 
13:57
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Ydwyf. Asedau awdurdodau lleol yw asedau cyhoeddus, ac felly dylai cynghorau siarad a chysylltu â chymunedau a hefyd preswylwyr pan fônt yn meddwl am drosglwyddo asedau. Dylen nhw, wrth gwrs, hefyd ymgymryd ‘analysis’ llawn o’r risgiau pan fônt yn trosglwyddo asedau cyhoeddus i unrhyw drydydd parti. Mae yna ganllawiau ar gael—mae yna ganllawiau ar gael o Lywodraeth Cymru, sef y canllawiau ar drosglwyddo asedau cymunedol—cafodd hynny, wrth gwrs, ei gyhoeddi gennym ni llynedd.
Yes. Local authority assets are public assets and so councils should discuss and consult with their communities and also with their residents when they are considering the transfer of assets. Of course, they should also undertake a full analysis of the risks when they transfer public assets to any third party. Guidelines are available on this from Welsh Government, namely the guidelines on community asset transfer—that was published by us last year.
 
13:58
Janet Finch-SaundersBywgraffiadBiography
First Minister, following your recent Government’s assessment and consultation on protecting assets of community value, what consideration have you given to the 78 per cent of respondents who actually support the power to initiate asset transfer from public sector bodies? We are so far behind in Wales compared to how the UK Government are handling this. In the same consultation, 68 per cent actually reckoned that we should have greater opportunities for a first-refusal basis. How are you taking forward the community asset transfer and, you know, why are you not bringing forward solid proposals, like the community right to bid here in Wales, and allow them to actually make the decisions about how they retain their local assets?
Brif Weinidog, yn dilyn asesiad ac ymgynghoriad diweddar eich Llywodraeth ar ddiogelu asedau o werth cymunedol, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i'r 78 y cant o ymatebwyr sy’n cefnogi'r pŵer i gychwyn trosglwyddiad asedau o gyrff sector cyhoeddus? Rydym ni mor bell ar ei hôl hi yng Nghymru o'i gymharu â sut mae Llywodraeth y DU yn ymdrin â hyn. Yn yr un ymgynghoriad, roedd 68 y cant yn meddwl y dylem ni gael mwy o gyfleoedd ar gyfer sail cynnig cyntaf. Sut ydych chi’n bwrw ymlaen â'r trosglwyddiad asedau cymunedol a pham nad ydych chi’n cyflwyno cynigion cadarn, fel yr hawl gymunedol i wneud cais yma yng Nghymru, a chaniatáu iddynt wneud y penderfyniadau am sut y maen nhw’n cadw eu hasedau lleol?
 
13:59
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Well, the reason, of course, why this is being carried on in England at a great rate is because of the massive cuts in funding that local authorities have received in England—cuts that I’m sure her party would like to replicate. We know that they want to cut local government funding by 12 per cent here in Wales. That seems unambitious compared to their colleagues elsewhere in England. Our view is that, where councils can no longer continue to support assets, we would encourage them to seek community solutions, making the disposal of assets a key decision, as the Minister, in fairness, proposes as part of the draft local government Bill, will facilitate asset transfer and make the whole process more transparent. But, fortunately, local authorities are not under the same pressure in Wales as they are in England, where the cuts are so large.
Wel, y rheswm, wrth gwrs, pam mae hyn yn digwydd ar raddfa fawr yn Lloegr yw oherwydd y toriadau enfawr i gyllid y mae awdurdodau lleol wedi eu dioddef yn Lloegr—toriadau yr wyf yn siŵr y byddai ei phlaid hi yn hoffi eu hailadrodd. Rydym ni’n gwybod eu bod eisiau torri cyllid llywodraeth leol gan 12 y cant yma yng Nghymru. Mae hynny'n ymddangos yn anuchelgeisiol o'i gymharu â'u cydweithwyr mewn mannau eraill yn Lloegr. Ein barn ni yw lle na all cynghorau barhau i gefnogi asedau mwyach, byddem yn eu hannog i chwilio am atebion cymunedol, gan wneud cael gwared ar asedau yn benderfyniad allweddol, fel y mae’r Gweinidog, er tegwch, yn ei gynnig yn rhan o'r Bil llywodraeth leol drafft, a fydd yn hwyluso trosglwyddiad asedau ac yn gwneud y broses gyfan yn fwy tryloyw. Ond, yn ffodus, nid yw awdurdodau lleol o dan yr un pwysau yng Nghymru ag y maen nhw yn Lloegr, lle mae’r toriadau mor fawr.
 
14:00
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiadBiography
Roedd Keith Davies yn disgrifio sefyllfa a oedd yn bodoli yn sir Gaerfyrddin 12 mis yn ôl, pan oedd y cyngor, o dan arweinyddiaeth y Blaid Lafur bryd hynny, yn bygwth clybiau a chymdeithasau lleol, gan ddweud pe na baen nhw’n cymryd cyfrifoldeb am yr asedau hynny, y byddent yn wynebu codiad o 1,000 y cant yn y rhenti yr oedd y cyngor yn eu cyflwyno iddyn nhw. Llwyddodd Plaid Cymru, fel yr wrthblaid, i wyrdroi'r penderfyniad hwnnw. Maent yn parhau i wneud hynny wrth arwain y cyngor. A wnewch chi longyfarch Emlyn Dole yn sir Gaerfyrddin am gynnal trafodaeth gyda chlybiau a chymdeithasau lleol ynglŷn â dyfodol yr asedau hyn, mewn sefyllfa o doriadau enbyd ar gyllid llywodraeth leol, ac mewn sefyllfa lle maen nhw’n wynebu penderfyniadau anodd dros ben?
Keith Davies described a situation that existed in Carmarthenshire 12 months ago, when the council, which was led by Labour at that time, threatened clubs and societies at a local level that, if they didn’t take responsibility for these assets, they would face an increase of 1,000 per cent in the rents that the council was charging them. Plaid Cymru’s opposition managed to overturn that decision. They continued to do that in leading the council. Will you congratulate Emlyn Dole in Carmarthenshire for holding discussions with local clubs and societies on the future of these assets, in a situation of huge cuts on local authority funding, and in a situation where they are facing very difficult decisions indeed?
 
14:01
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Wel, rydym i gyd yn gallu gweld yn y Siambr hon bod cyngor sir Gâr wedi newid ynglŷn â phwy sy’n rhedeg y cyngor. Rwy’n gweld yn awr bod yr Aelod yn siarad mewn ffordd wahanol am y cyngor i’r ffordd yr oedd yn siarad amdano o’r blaen, pan roedd y Blaid Lafur yn rhedeg y cyngor. Rwy’n siŵr y byddwn yn gweld mwy o sbort a sbri ynglŷn â hynny dros y misoedd nesaf. Byddwn yn dweud wrth unrhyw gyngor sir, wrth gwrs, i ymgysylltu mewn ffordd fanwl iawn gyda phobl leol er mwyn sicrhau bod eu lleisiau nhw yn cael eu clywed.
Well, we can all see in this Chamber that Carmarthenshire council has changed its leadership. I see now that the Member is alluding to the council in a very different way to the way he talked about the council when the Labour party were in charge. I’m sure there’ll be more fun and games about that over the ensuing months. I would say to any county council, of course, that they should consult in great detail with the local people to ensure that their voices are heard.
 
Tlodi Plant
Child Poverty
 
14:01
Lindsay WhittleBywgraffiadBiography
5. Pa fesurau arbennig y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddileu tlodi plant erbyn 2020? OAQ(4)2641(FM)
5. What special measures is the Welsh Government taking in order to eradicate child poverty by the year 2020? OAQ(4)2641(FM)
 
14:01
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Our child poverty strategy, published last year, does set out our priorities for tackling child poverty. Specific actions in that strategy include the roll-out of the Healthy Child Wales programme, doubling the numbers accessing Flying Start, closing education attainment gaps and reducing the number of children living in workless households.
Mae ein strategaeth tlodi plant, a gyhoeddwyd y llynedd, yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant. Mae camau penodol yn y strategaeth honno yn cynnwys cyflwyno rhaglen Plant Iach Cymru, dyblu nifer y bobl sy’n defnyddio Dechrau'n Deg, cau bylchau o ran cyrhaeddiad addysg a lleihau nifer y plant sy'n byw mewn cartrefi di-waith.
 
14:02
Lindsay WhittleBywgraffiadBiography
Well, First Minister, we know that the UK Tory Government’s policies on tax credits and welfare reforms are not helping poorer children and families in Wales, to say the least. But, can you really explain why, after 16 years in office, this Welsh Government has still left Wales with the highest level of child poverty in the United Kingdom?
Wel, Brif Weinidog, rydym ni’n gwybod nad yw polisïau Llywodraeth Dorïaidd y DU ar gredydau treth a diwygiadau lles yn helpu plant a theuluoedd tlotach yng Nghymru, a dweud y lleiaf. Ond, a allwch chi wir esbonio pam, ar ôl 16 mlynedd, y mae’r Llywodraeth Cymru hon yn dal i fod wedi gadael Cymru â'r lefel uchaf o dlodi plant yn y Deyrnas Unedig?
 
14:02
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
We are not helped, he’s quite right, by the policies of the UK Government. Bear in mind that his party were in Government for four years—something that they try to sweep under the carpet. They were part of the previous Government, which I think we should emphasise. But we have a child poverty strategy. It reaffirms our ambition to eradicate child poverty by 2020, and we will continue to move towards achieving that ambition.
Nid ydym ni’n cael ein helpu, mae'n gwbl gywir, gan bolisïau Llywodraeth y DU. Cofiwch fod ei blaid ef mewn Llywodraeth am bedair blynedd—rhywbeth y maen nhw’n ceisio ei ysgubo o dan y carped. Roedden nhw’n rhan o'r Llywodraeth flaenorol, ac rwyf yn meddwl y dylem ni bwysleisio hynny. Ond mae gennym ni strategaeth tlodi plant. Mae'n ail-bwysleisio ein huchelgais i ddileu tlodi plant erbyn 2020, a byddwn yn parhau i symud tuag at gyflawni’r uchelgais hwnnw.
 
14:02
In Swansea East, Flying Start ensures that children start in nursery with a developmental age equal to their chronological age. Communities First gives support to children in education via an evening homework club and evening holiday support. Does the First Minister agree that it is important to continue these two schemes and also to ensure the maximum take-up of these opportunities for the benefit of our children?
Yn Nwyrain Abertawe, mae Dechrau'n Deg yn sicrhau bod plant yn dechrau yn y feithrinfa gydag oedran datblygiadol sy’n cyfateb i’w hoedran cronolegol. Mae Cymunedau yn Gyntaf yn rhoi cymorth i blant mewn addysg trwy glwb gwaith cartref fin nos a chymorth gwyliau fin nos. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno ei bod yn bwysig parhau’r ddau gynllun hyn a hefyd i sicrhau bod cymaint â phosibl yn manteisio ar y cyfleoedd hyn er lles ein plant?
 
14:03
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
The Member is absolutely right to highlight schemes that this Government has introduced in order to help many families and many children. That is a commitment that we will never waver from. It is a commitment that we will always make to our poorest families. It is a commitment that is at the very heart of what we stand for as a party.
Mae'r Aelod yn gwbl gywir i dynnu sylw at gynlluniau y mae'r Llywodraeth hon wedi eu cyflwyno i helpu llawer o deuluoedd a llawer o blant. Mae hwnnw'n ymrwymiad na fyddwn ni fyth yn troi ein cefnau arno. Mae'n ymrwymiad y byddwn bob amser yn ei wneud i’n teuluoedd tlotaf. Mae'n ymrwymiad sydd wrth wraidd yr hyn yr ydym ni’n ei gynrychioli fel plaid.
 
14:03
Mark IsherwoodBywgraffiadBiography
Although the proportion of children living in poverty in low-income households in England is at its lowest since the 1980s, as we heard, Wales has the highest child poverty among the UK nations, and the second highest among the 12 UK regions, but persists in using a measure of child poverty that appears to show child poverty reducing when economies are shrinking and families are getting poorer. What consideration have you therefore given to looking at measures being applied in England to look at matters that lead to the underlying causes of poverty, such as educational attainment, drug and alcohol abuse, family breakdown and, of course, worklessness?
Er bod cyfran y plant sy'n byw mewn tlodi mewn cartrefi incwm isel yn Lloegr ar ei isaf ers y 1980au, fel y clywsom, Cymru sydd â'r tlodi plant uchaf ymhlith gwledydd y DU, a'r ail uchaf ymhlith 12 rhanbarth y DU, ond mae’n parhau i ddefnyddio mesur o dlodi plant sy'n ymddangos ei fod yn dangos bod tlodi plant yn lleihau pan fo economïau’n crebachu a theuluoedd yn mynd yn dlotach. Pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi, felly, i edrych ar fesurau sy’n cael eu cymryd yn Lloegr i ystyried materion sy'n arwain at achosion sylfaenol tlodi, fel cyrhaeddiad addysgol, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, teuluoedd yn chwalu ac, wrth gwrs, bod heb waith?