By continuing to use our site, you are agreeing for us to set a small number of cookies. Cookie policy

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Back to list View this page without hyperlinks
Cofnod y Trafodion The Record of Proceedings
01/12/2015
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair.
The Assembly met at 13:30 with the Presiding Officer (Dame Rosemary Butler) in the Chair.
 
13:30
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
Good afternoon. The National Assembly for Wales is now in session.
Prynhawn Da. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
13:30
Datganiad gan y Llywydd
Statement by the Presiding Officer
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
Before we move to the First Minister’s questions, it gives me great pleasure to announce, in accordance with Standing Order 26.75, that the Local Government (Wales) Bill was given Royal Assent on 25 November.
Cyn i ni symud at gwestiynau i'r Prif Weinidog, mae'n rhoi pleser mawr i mi gyhoeddi, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, y rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Fil Llywodraeth Leol (Cymru) ar 25 Tachwedd.
 
1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog
1. Questions to the First Minister
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
[R] signifies the Member has declared an interest. [W] signifies that the question was tabled in Welsh.
 
13:30
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
We now move to item 1, which is questions to the First Minister, and first this afternoon, Llyr Gruffydd.
Symudwn at eitem 1 nawr, sef cwestiynau i'r Prif Weinidog, a Llyr Gruffydd sydd gyntaf y prynhawn yma.
 
Y Sector Ynni Adnewyddadwy
The Renewable Energy Sector
 
13:31
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith yr adolygiad o wariant Llywodraeth y DU ar y sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru? OAQ(4)2613(FM)[W]
1. Will the First Minister make a statement on the impact of the UK Government's spending review on the renewable energy sector in Wales? OAQ(4)2613(FM)[W]
 
13:31
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Mae peth i’w groesawu, sef beth maen nhw wedi ei wneud ynglŷn â gwresogi ardal a hefyd arbed ynni. Nid oes eglurhad ar hyn o bryd ynglŷn ag ym mha ffordd y bydd hyn yn effeithio ar Gymru, ond, wrth gwrs, mae pryder gyda ni ynglŷn â beth mae’r Deyrnas Unedig yn ei wneud I danseilio hyder buddsoddwyr mewn projectau ynni adnewyddadwy ar gyfer y dyfodol yng Nghymru.
Some of it is to be welcomed, namely what they’ve done regarding district heating and energy efficiency. There is no clarity at present on how this will impact upon Wales, but, of course, we have concerns about what the United Kingdom Government’s policy is doing to undermine investor confidence in future renewable energy projects in Wales.
 
13:31
Rwy’n rhannu’ch gofid chi, oherwydd mae uchelgais Llywodraeth y Deyrnas Unedig o safbwynt ynni adnewyddadwy, yn amlwg iawn, yn wahanol i’r un y byddai nifer ohonom ni fan hyn yng Nghymru yn ei goleddu. Rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, fod caniatâd, neu hawl i roi caniatâd, i brojectau ynni mawr, yn dod I Gymru, neu mi ddaw yn y pen draw, gobeithio. Ond, wrth gwrs, rŷm ni hefyd yn gwybod bod y grid cenedlaethol yn broblem, a bod diffyg grym a chyfrifoldeb dros rai o’r ‘incentives’ ariannol hefyd yn broblem I ni fan hyn yng Nghymru. Felly, a fyddech chi’n cytuno â fi fod yr amser wedi dod I ni ddim jest setlo am gael hawl I roi caniatâd am brojectau mawr, ond I ofyn am rywfaint o ddylanwad hefyd dros y grid cenedlaethol a’r ‘incentives’ ariannol?
I share your concern, because the ambition of the UK Government in terms of renewable energy is clearly very different to the ambition that many of us hear in Wales would like to see achieved. We know that consents, or the right to consent, to major energy projects, are to come to Wales, or will ultimately come to Wales, we hope. But, of course, we also know that the national grid is a problem and that the lack of powers over some of the financial incentives is also a problem for us in Wales. So, would you agree with me that the time has come for us not just to settle for having the right to consent to major projects, but to ask for some influence in relation to the national grid and the financial incentives?
 
13:32
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Ydw, achos rwy’n credu ei bod hi’n bwysig i ni sylweddoli, fel mae’r Aelod wedi, ei bod yn un peth i gael grym dros roi caniatâd i ffyrdd o greu ynni adnewyddadwy, ond, heb unrhyw fath o reolaeth dros y grid ei hunan, mae yna feto gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â’r ffordd y mae’r ynni’n cael ei dynnu mas o Gymru ac, felly, ar y project ei hunan. Felly, fy marn i yw y dylem ni fod yn yr un sefyllfa â’r Alban, sef rheolaeth dros y grid, ac rŷm ni’n gwybod bod yr ‘incentives’ ariannol y maen nhw wedi gallu’u dodi ar y ford wedi gwneud gwahaniaeth iddyn nhw ynglŷn â thynnu projectau a swyddi i mewn i’r Alban.
Yes, because I think it’s important that we realise, as the Member has said, that it’s one thing to have power over consenting to renewable energy generation projects, but, without any control over the grid itself, there is a UK Government veto as to how that energy is taken from Wales and, therefore, a veto on the project itself. Therefore, my view is that we should be in the same situation as Scotland, in that we should have control over the grid, and we know that the financial incentives that they’ve been able to put on the table there have been beneficial in terms of attracting projects and jobs to Scotland.
 
13:32
First Minister, I share your concerns about last week’s comprehensive spending review, which made no mention of the tidal lagoon project in Swansea. We’ve since seen that company announce redundancies as a consequence of the dithering and inept attitude of the UK Government. It’s an exciting project that offers both clean renewable energy and economic opportunities in south-west Wales for jobs and skills. Will you continue to press the UK Government for a rapid response on the strike price, so that we can see that project progress for the Welsh economy to benefit from?
Brif Weinidog, rwy’n rhannu eich pryderon am yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yr wythnos diwethaf, na wnaeth unrhyw sôn am y prosiect morlyn llanw yn Abertawe. Rydym ni wedi gweld y cwmni hwnnw’n cyhoeddi diswyddiadau ers hynny, o ganlyniad i oedi ac agwedd ddi-glem Llywodraeth y DU. Mae'n brosiect cyffrous sy'n cynnig ynni adnewyddadwy glân yn ogystal â chyfleoedd economaidd yn y de-orllewin ar gyfer swyddi a sgiliau. A wnewch chi barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am ymateb cyflym ar y pris streic, fel y gallwn weld y prosiect hwnnw’n symud yn ei flaen i economi Cymru elwa arno?
 
13:33
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
There’s an enormous amount of foot dragging taking place in Whitehall. This is a fantastic project not just in terms of renewable energy, but in terms of the jobs that could be created for the maintenance and manufacturing of the kit that generates that energy. We’ve heard, of course, of the support that’s been given in the past by the UK Government, but there is no money on the table, no further decision, and it’s about time the people of Wales had a decision from the UK Government and were shown that respect.
Mae llawer iawn o lusgo traed yn digwydd yn Whitehall. Mae hwn yn brosiect gwych, nid yn unig o ran ynni adnewyddadwy, ond o ran y swyddi y gellid eu creu ar gyfer cynnal a chadw a gweithgynhyrchu’r offer sy'n cynhyrchu’r ynni hwnnw. Rydym wedi clywed, wrth gwrs, y gefnogaeth a roddwyd yn y gorffennol gan Lywodraeth y DU, ond nid oes unrhyw arian yn cael ei gynnig, dim penderfyniad pellach, ac mae'n hen bryd i bobl Cymru gael penderfyniad gan Lywodraeth y DU ac i’r parch hwnnw gael ei ddangos atynt.
 
13:33
First Minister, the renewable energy sector in Wales contributes significant funding to the Welsh Government through wind turbines being sited on the Welsh woodland estate. Can you confirm the amount of money made by this scheme, and can you provide assurances that this money is retained and spent within the renewable energy sector and environmental projects in Wales?
Brif Weinidog, mae’r sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cyfrannu cyllid sylweddol i Lywodraeth Cymru trwy leoli tyrbinau gwynt ar ystâd coetiroedd Cymru. A allwch chi gadarnhau faint o arian a wneir gan y cynllun hwn, ac a allwch chi roi sicrwydd bod yr arian hwn yn cael ei gadw a'i wario yn y sector ynni adnewyddadwy a phrosiectau amgylcheddol yng Nghymru?
 
13:34
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Where there are opportunities for revenue being made available to the Welsh Government, we’ll take that, of course, bearing in mind the relevant planning considerations that need to be taken into consideration. What we don’t have, however, is any kind of certainty from the UK Government as to what the energy policy that they want actually is. We don’t know what their view is on renewables. We know they attacked photovoltaic cells and the subsidies there; they’ve attacked wind turbines, which caused the closure of Mabey Bridge in Monmouthshire; we know that they’ve provided substantial funding for the nuclear sector at Hinkley; what we don’t know is what else they want to do. I know, from my conversations with investors, that this uncertainty is something that is wholly unwelcome to those who wish to invest in energy generation in the UK.
Pan geir cyfleoedd i refeniw gael ei roi ar gael i Lywodraeth Cymru, byddwn yn cymryd hwnnw, wrth gwrs, gan gofio’r ystyriaethau cynllunio perthnasol y mae angen eu cymryd i ystyriaeth. Yr hyn nad oes gennym, fodd bynnag, yw unrhyw fath o sicrwydd gan Lywodraeth y DU o ran beth yw’r union bolisi ynni y maen nhw ei eisiau mewn gwirionedd. Nid ydym yn gwybod beth yw eu barn nhw ar ynni adnewyddadwy. Rydym ni’n gwybod eu bod wedi ymosod ar gelloedd ffotofoltaidd a'r cymorthdaliadau yn hynny o beth; maen nhw wedi ymosod ar dyrbinau gwynt, a achosodd i Mabey Bridge yn Sir Fynwy gau; rydym ni’n gwybod eu bod wedi darparu cyllid sylweddol i’r sector niwclear yn Hinkley; yr hyn nad ydym yn ei wybod yw beth arall y maen nhw eisiau ei wneud. Gwn, o fy sgyrsiau gyda buddsoddwyr, bod yr ansicrwydd hwn yn rhywbeth sy’n gwbl annerbyniol i'r rhai sy'n dymuno buddsoddi mewn cynhyrchu ynni yn y DU.
 
13:35
First Minister, as you know, there is a huge amount of concern in the Swansea bay area about the tidal lagoon and about whether that project is going to go ahead. I understand fully the Welsh Government’s commitment to that scheme and I’m very grateful for your support of it. Can I ask you what representations you envisage being able to make to the UK Government over the next few months to try to tie down their particular view of this lagoon, and whether or not they’re able to come to a conclusion on this, and how can we assist them in those deliberations?
Brif Weinidog, fel y gwyddoch, mae llawer iawn o bryder yn ardal bae Abertawe am y morlyn llanw ac ynghylch pa un a yw'r prosiect hwnnw’n mynd i ddigwydd. Rwy’n deall yn llwyr ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r cynllun hwnnw ac rwy'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth iddo. A gaf i ofyn i chi pa sylwadau ydych chi’n rhagweld y byddwch yn gallu eu gwneud i Lywodraeth y DU yn ystod y misoedd nesaf i geisio canfod ei safbwynt pendant ar y morlyn hwn, a pha un a ydynt yn gallu dod i gasgliad ar hyn ai peidio, a sut y gallwn ni eu cynorthwyo yn yr ystyriaethau hynny?
 
13:35
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Well, the message is, ‘Get on with it.’ We’ll be making that message clear to them both orally and in writing. It simply isn’t acceptable that one of the major projects in Wales is not being supported as it should be by the UK Government. But this is nothing different: we’ve also seen delays when it comes to electrification—no date given for that. And it shows that there is a tendency towards incredible foot dragging when it comes to job creation in Wales by the UK Government—something the Welsh Government will never display.
Wel, y neges yw, 'Dewch yn eich blaenau.' Byddwn yn gwneud y neges honno’n eglur iddyn nhw ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae’n gwbl annerbyniol nad oes yr un o'r prosiectau mawr yng Nghymru yn cael ei gefnogi fel y dylai gan Lywodraeth y DU. Ond nid yw hyn yn ddim gwahanol: rydym ni hefyd wedi gweld oediadau pan ddaw i drydaneiddio—ni roddwyd dyddiad ar gyfer hynny. Ac mae'n dangos bod tuedd o lusgo traed anhygoel pan ddaw i greu swyddi yng Nghymru gan Lywodraeth y DU—rhywbeth na fydd Llywodraeth Cymru byth yn ei wneud.
 
Blaenoriaethau’r GIG (Gogledd Cymru)
NHS Priorities (North Wales)
 
13:36
2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y GIG yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2597(FM)
2. Will the First Minister outline his priorities for the NHS in north Wales? OAQ(4)2597(FM)
 
13:36
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Yes. My priorities for the NHS in the north are as for the rest of Wales: to improve health outcomes, access to services and patient experience, to prevent poor health, and to reduce health inequalities.
Gwnaf. Mae fy mlaenoriaethau ar gyfer y GIG yn y gogledd yr un fath ag ar gyfer gweddill Cymru: gwella canlyniadau iechyd, mynediad at wasanaethau a phrofiad y claf, i atal iechyd gwael, ac i leihau anghydraddoldebau iechyd.
 
13:36
Thank you for that answer, First Minister. Today is, obviously, the first day of winter. We know that the health board in north Wales is cash strapped. It’s forecasting to be £30 million over budget by the end of the current financial year at present, and that’s in addition to a carry-over of over £20 million from the previous year. What are you doing to make sure that the financial crisis doesn’t impact over the winter, and that patients can still get access to the services they need? We know, for example, that referrals to Gobowen Hospital at the moment have been halted for people to be able to access some of the orthopaedic services there, all on the basis of finances.
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Heddiw, yn amlwg, yw diwrnod cyntaf y gaeaf. Rydym ni’n gwybod bod y bwrdd iechyd yn y gogledd yn brin o arian. Mae'n rhagweld y bydd £30 miliwn dros y gyllideb erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol ar hyn o bryd, ac mae hynny yn ogystal â swm a gariwyd drosodd o dros £20 miliwn o’r flwyddyn flaenorol. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau nad yw'r argyfwng ariannol yn effeithio dros y gaeaf, ac y gall cleifion ddal i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt? Rydym ni’n gwybod, er enghraifft, bod atgyfeiriadau i Ysbyty Gobowen wedi eu hatal ar hyn o bryd i bobl allu cael mynediad at rai o'r gwasanaethau orthopedig yno, a hynny i gyd ar sail arian.
 
13:37
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
No, the local health boards have their winter plans in place. We’ve been liaising with them for many months, and we expect those plans to be robust. We know that, despite the great pressure that was put on the NHS in Wales last winter, those plans were robust, and we did not see, for example, the situation that took place in England, where tents were being used to house patients who needed treatment in accident and emergency.
Na, mae gan y byrddau iechyd lleol eu cynlluniau gaeaf ar waith. Rydym ni wedi bod yn trafod â nhw ers misoedd lawer, ac rydym ni’n disgwyl i’r cynlluniau hynny fod yn gadarn. Gwyddom, er gwaethaf y pwysau mawr a roddwyd ar y GIG yng Nghymru y gaeaf diwethaf, bod y cynlluniau hynny’n gadarn, ac ni welsom, er enghraifft, y sefyllfa a gafwyd yn Lloegr, lle’r oedd pebyll yn cael eu defnyddio i roi cleifion a oedd angen triniaeth mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ynddynt.
 
13:37
Alun Ffred JonesBywgraffiadBiography
Mae adolygiad o wasanaethau mamolaeth yn digwydd yn y gogledd, fel y gwyddoch chi—un tymor byr, ac un tymor hir—ac un dewis amlwg ydy lleihau nifer yr unedau mamolaeth sydd o dan arweiniad meddygon o dri i ddau. Gan eich bod chi wedi penderfynu bod y SuRNICC yn cael ei gosod yn Ysbyty Glan Clwyd, mae’n dilyn, felly, mai dewis rhwng Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd fydd yr adolygiad hwn. Ydy hon yn broses synhwyrol a theg, i benderfynu ar strwythur gofal mamolaeth yn y gogledd i’r dyfodol, pan fod un penderfyniad allweddol wedi ei gymryd y tu allan i’r cyd-destun yna?
A review of maternity services is ongoing in north Wales, as you know—one in the short term and one in the long term—and one clear option is to reduce the number of maternity units led by medics from three to two. As you have decided that the SuRNICC is to be placed in Glan Clwyd Hospital, it therefore follows that the review will choose between Wrexham Maelor Hospital and Ysbyty Gwynedd. Is this a sensible and fair process for deciding upon the structure of maternity care in north Wales for the future, when one key decision has been taken outwith that context?
 
13:38
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Wel, mae’n rhaid i mi ddweud ei fod yn fy synnu i—roeddwn i’n meddwl bod Plaid Cymru o blaid y SuRNICC. Rwy’n gwybod bod aelodau o’ch plaid chi wedi bod yn gryf yn dweud bod yn rhaid cael uned o’r fath yng Nghymru, ac nid yn Arrowe Park. So, os ydych chi’n dweud yn awr nad ydych chi o blaid cael y SuRNICC, wel mae hynny’n newid, wrth gwrs, o’r sefyllfa a oedd yn wir yn y misoedd yn y gorffennol. Na, rŷm ni’n mynd i barhau â’r SuRNICC. Dyna beth oedd aelodau eich plaid chi ei eisiau ac wedi ei gefnogi. Hefyd, wrth gwrs, bydd yna adroddiad, rwy’n deall, yn cael ei gyhoeddi gan y bwrdd iechyd lleol heno ynglŷn â chynlluniau, ac, yn y pen draw, ynglŷn â’r unedau mamolaeth yn eu hardal nhw.
Well, I am surprised, as I was under the impression that Plaid Cymru were in favour of the SuRNICC. Members of your party have been robustly saying that we need such a unit in Wales and not in Arrowe Park. So, if you are now saying that you are not in favour of the SuRNICC, then that is a total departure from the situation some months ago. No, we are going to continue with the SuRNICC. That is what your party members wanted and supported. Also, of course, I understand that a report will be published by the local health board this evening on the plans, and, ultimately, on the maternity units in their area.
 
13:39
Roeddech chi’n sôn mai un o’ch blaenoriaethau chi ydy gwneud yn siŵr bod gwasanaethau ar gael. Rydw i wedi bod yn gohebu efo’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ers rhyw ddwy flynedd rŵan ynglŷn â gwasanaethau prostheteg yn Wrecsam, ac, i fod yn deg, mi oedd y Gweinidog yn ymweld â’r ysbyty efo fi rai misoedd yn ôl. Mae’r gwasanaethau yma yn cael eu rheoli gan WHSSC yn ganolog, ond bod y ddarpariaeth ar lefel y byrddau iechyd. Er hynny, mae’r graddau y mae doctoriaid yn Wrecsam yn cael eu cynnig yn llawer iawn is na graddau yn y gogledd-orllewin, ac mae hynny wedi creu sefyllfa lle mae’r doctor olaf—neu’r ‘prosthetist’ olaf—wedi dweud ei fod o’n gadael ei swydd. Felly, a gaf fi ofyn i chi edrych i mewn i’r sefyllfa i wneud yn siŵr bod y graddau yma i ddoctoriaid yn gystadleuol, er mwyn inni sicrhau bod gwasanaethau yn dal i fod ar gael yn y gogledd?
You mentioned that one of your priorities is to ensure that services are available. I have been in correspondence with the Minister for Health and Social Services for some two years now on prosthetics services in Wrexham, and, to be fair, the Minister visited the hospital with me some months ago. These services are managed by WHSSC centrally, but the provision is at a health board level. However, the grades offered to doctors in Wrexham are far lower than those for doctors in the north-west, and that means that the remaining doctor—the remaining prosthetist—has said that he intends to leave his post. So, can I ask you to look into that situation to ensure that the doctor grades are competitive, so that we can ensure that services remain available in north Wales?
 
13:39
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Wel, rŷm ni’n gwybod ein bod wedi siarad â WHSSC i ni ddeall beth yw maint y broblem ei hun. Mae yna broblemau wedi bod gyda recriwtio ond, ynglŷn â’r ohebiaeth yr ydym ni wedi’i chael fel Llywodraeth ar WHSSC ei hunan, maen nhw yn delio â’r materion hynny. Mae staff yn cael eu recriwtio, a bydd y rhai newydd yn dechrau yn y flwyddyn newydd. Wrth gwrs, bydd recriwtio yn dal i gymryd lle er mwyn sicrhau bod unrhyw leoedd gwag sydd ar gael ar hyn o bryd yn cael eu llenwi tra bod y recriwtio hwnnw yn cymryd lle.
Well, we know that we’ve spoken to WHSSC in order to understand the size of the problem. There have been some problems with the recruitment but, in terms of the correspondence that we, as Government, have received on WHSSC itself, they are addressing those issues. Staff are being recruited, and new members of staff will commence in the new year. Recruitment will continue to take place, or course, in order to ensure that any currently vacant positions will be filled while that recruitment is ongoing.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from the Party Leaders
 
13:40
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
We now move to questions from the party leaders. First this afternoon we have the leader of the Welsh Liberal Democrats, Kirsty Williams.
Symudwn at gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr. Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams, sydd gyntaf y prynhawn yma.
 
13:40
Kirsty WilliamsBywgraffiadBiographyArweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru / The Leader of the Welsh Liberal Democrats
Thank you, Presiding Officer. First Minister, as world leaders meet in Paris for the climate change conference, we can all agree that governments need to do all that they can to tackle the threat of climate change. Now, the Conservative Government in Westminster is systematically unravelling any progress that was made on renewables under Liberal Democrat leadership. What representations have you made opposing the UK Government’s decision to end tax breaks for clean cars, abandon zero carbon housing targets and scrap support for renewable energy production?
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, wrth i arweinwyr y byd gyfarfod ym Mharis ar gyfer y gynhadledd newid hinsawdd, gallwn i gyd gytuno bod angen i lywodraethau wneud popeth yn eu gallu i fynd i'r afael â bygythiad newid yn yr hinsawdd. Nawr, mae’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn dadwneud unrhyw gynnydd a wnaed ar ynni adnewyddadwy dan arweiniad y Democratiaid Rhyddfrydol yn systematig. Pa sylwadau ydych chi wedi eu gwneud yn gwrthwynebu penderfyniad Llywodraeth y DU i roi terfyn ar ostyngiadau treth ar gyfer ceir glân, cael gwared ar dargedau tai di-garbon a diddymu cefnogaeth ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy?
 
13:41
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Well, the zero carbon in terms of buildings, of course, is a devolved matter. In terms of scrapping subsidies, it’s something that we’ve been very vocal on. We believe that this is not the way forward. We are wholly opposed to the direction—well, if there is a direction—in which energy generation is going at GB level. It seems clear that energy generation is now being dictated by the Treasury in terms of what is the cheapest form of generating energy in the short term. Energy security is an irrelevant consideration in their minds. We made it very clear that there needs to be a mix of energy generation within the UK, there needs to be greater thought given to energy security, and the trend towards scrapping subsidies for renewables has to be reversed.
Wel, mae'r di-garbon o ran adeiladau, wrth gwrs, yn fater datganoledig. O ran diddymu cymorthdaliadau, mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn llafar iawn yn ei gylch. Rydym ni o’r farn mai nad dyna’r ffordd ymlaen. Rydym ni’n gwrthwynebu'n llwyr y cyfeiriad—wel, os oes cyfeiriad—y mae cynhyrchu ynni yn mynd iddo ar lefel Prydain Fawr. Mae'n ymddangos yn eglur bod cynhyrchu ynni yn cael ei bennu gan y Trysorlys erbyn hyn o ran beth yw’r ffordd rataf o gynhyrchu ynni yn y tymor byr. Mae diogelwch ynni yn ystyriaeth amherthnasol yn eu tyb nhw. Fe’i gwnaed yn eglur iawn gennym bod angen cymysgedd o gynhyrchiant ynni yn y DU, mae angen rhoi mwy o ystyriaeth i ddiogelwch ynni, ac mae'n rhaid gwrthdroi’r duedd o ddiddymu cymorthdaliadau ar gyfer ynni.
 
13:41
Kirsty WilliamsBywgraffiadBiography
Thank you for that answer, First Minister, but let’s examine your Government’s record in this area. Wales lags behind the rest of the UK in reducing greenhouse gas emissions. Why have Scotland and England managed to reduce emissions by about a third whilst, in Wales, we’ve managed just a decrease of 12 per cent?
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog, ond gadewch i ni edrych ar hanes eich Llywodraeth yn y maes hwn. Mae Cymru ar ôl gweddill y DU o ran lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Pam mae’r Alban a Lloegr wedi llwyddo i leihau allyriadau o tua thraean tra ein bod ni yng Nghymru wedi llwyddo i gael gostyngiad o ddim ond 12 y cant?
 
13:42
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Well, part of the reason is that we have a higher proportion of energy-intensive industries, and, as they have strengthened, so their emissions have gone up. That much is true, even though we have invested in reducing emissions. Secondly, of course, we don’t have the powers that Scotland and England have. Scotland has the powers that it needs over energy generation, it has the powers over grid connections, and it has the powers to incentivise renewable energy in a way that we have not. I come back to the point that was made by the Member, Llyr Huws Gruffydd: we need to see a level playing field between Wales on the one hand and Scotland and England on the other.
Wel, rhan o'r rheswm yw bod gennym ni gyfran fwy o ddiwydiannau ynni-ddwys, ac, fel y maen nhw wedi cryfhau, mae eu hallyriadau wedi cynyddu. Mae cymaint â hynny’n wir, er ein bod wedi buddsoddi mewn lleihau allyriadau. Yn ail, wrth gwrs, nid oes gennym y pwerau sydd gan yr Alban a Lloegr. Mae gan yr Alban y pwerau sydd eu hangen arni dros gynhyrchu ynni, mae ganddi'r pwerau dros gysylltiadau grid, ac mae ganddi'r pwerau i gymell ynni adnewyddadwy mewn ffordd nad oes gennym ni. Rwy'n dod yn ôl at y pwynt a wnaed gan yr Aelod, Llyr Huws Gruffydd: mae angen i ni weld chwarae teg i Gymru ar y naill law a'r Alban a Lloegr ar y llall.
 
13:42
Kirsty WilliamsBywgraffiadBiography
First Minister, it’s that old chestnut again. Last time I asked you these questions you gave the same answer. [Interruption.] Germany has a huge amount of energy-intensive industry, much, much larger than ours, and yet their record on cutting greenhouse gas emissions is commendable. Now, Labour leaders are full of warm words about these issues. Recently, 50 Labour councils in England pledged to reduce by 100 per cent by 2050 their emissions, and your shadow energy secretary stated:
Brif Weinidog, dyma’r un hen gân eto. Rhoesoch yr un ateb y tro diwethaf i mi ofyn y cwestiynau hyn i chi. [Torri ar draws.] Mae gan yr Almaen ddiwydiant ynni-ddwys enfawr, llawer, llawer mwy na ni, ac eto mae ei hanes o ran lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn ganmoladwy. Nawr, mae arweinwyr Llafur yn llawn geiriau gwresog am y materion hyn. Yn ddiweddar, addawodd 50 o gynghorau Llafur yn Lloegr i leihau eu hallyriadau 100 y cant erbyn 2050, a dywedodd eich ysgrifennydd ynni’r wrthblaid:
 
‘Where Labour is in power we will push for a clean energy boom’.
Lle mae Llafur mewn grym, byddwn yn pwyso am ffyniant ynni glân.
 
Why, then, has your Government refused to lead with ambition by supporting a target of a 100 per cent reduction in greenhouse gas emissions by 2050 in legislation before this House?
Pam, felly, y mae eich Llywodraeth wedi gwrthod arwain gydag uchelgais trwy gefnogi targed o ostyngiad o 100 y cant i allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050 mewn deddfwriaeth gerbron y Tŷ hwn?
 
13:43
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Energy-intensive industries are going through a difficult time, especially with the cost of energy in the UK, and we must balance, of course, any decision without prejudice in terms of the target against the effect that it might have on those energy-intensive industries. That’s the thinking. That’s the debate that’s taking place at the moment. But in terms of looking to reduce greenhouse gas emissions, it’s something that we strongly support. I’m glad to hear that I gave the same answer to her in answer to the same question some months ago. It shows, at least, that we are showing consistency in terms of the answers that we give, and we need to see a level playing field in terms of powers as between Wales, Scotland and England.
Mae diwydiannau ynni-ddwys yn mynd trwy gyfnod anodd, yn enwedig gyda chost ynni yn y DU, ac mae'n rhaid i ni gydbwyso, wrth gwrs, unrhyw benderfyniad heb ragfarn o ran y targed yn erbyn yr effaith y gallai ei chael ar y diwydiannau ynni-ddwys hynny. Dyna'r meddylfryd. Dyna'r ddadl sy'n digwydd ar hyn o bryd. Ond o ran ceisio lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, mae'n rhywbeth yr ydym yn ei gefnogi'n gryf. Rwy'n falch o glywed fy mod i wedi rhoi’r un ateb iddi wrth ateb yr un cwestiwn rai misoedd yn ôl. Mae'n dangos, o leiaf, ein bod yn dangos cysondeb o ran yr atebion yr ydym ni’n eu rhoi, ac mae angen i ni weld chwarae teg o ran y pwerau i Gymru, yr Alban a Lloegr.
 
13:44
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
We now move to the leader of the opposition, Andrew R.T. Davies.
Symudwn nawr at arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
 
13:44
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadBiographyArweinydd yr Wrthblaid / The Leader of the Opposition
Thank you, Presiding Officer. First Minister, obviously, in all the news programmes and bulletins at the moment are the terrible scenes of destruction out in the middle east and, in particular, the vote that will take place later this week on whether military action should be undertaken in Syria by British armed services. You have given numerous interviews, as recently as 10 days ago, saying that you supported military action in Syria, and that there shouldn’t be a border or a recognised border between Iraq and Syria. Is that you personally speaking, or are you speaking on behalf of the Welsh Government?
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, yn amlwg, yn yr holl raglenni a bwletinau newyddion ar hyn o bryd ceir golygfeydd ofnadwy o ddinistr yn y dwyrain canol, ac, yn benodol, y bleidlais a fydd yn cael ei chynnal yn ddiweddarach yr wythnos hon o ran a ddylai lluoedd arfog Prydain gymryd camau milwrol yn Syria. Rydych chi wedi rhoi nifer o gyfweliadau, mor ddiweddar â 10 diwrnod yn ôl, yn dweud eich bod yn cefnogi camau milwrol yn Syria, ac na ddylai fod ffin neu ffin gydnabyddedig rhwng Irac a Syria. Ai chi’n siarad yn bersonol yw hynny, neu a ydych chi’n siarad ar ran Llywodraeth Cymru?
 
13:44
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
No, it’s my view, speaking personally, and it’s a view that will be different to some in my party. Nevertheless, it’s my view.
Na, fy marn i yw honno, yn siarad yn bersonol, ac mae'n farn a fydd yn wahanol i rai yn fy mhlaid. Serch hynny, dyna fy marn.
 
13:45
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadBiography
Interestingly, all the articles obviously quote you as First Minister, and so people do take that as being the Government view, they do. It is important that people do obviously examine their constituency postbags and also the position that Britain finds itself in with a plea from the French Government to support their actions in addressing the atrocities in Paris two weeks ago. What action will you be taking? Because you do have a substantial role within the Labour Party. You are the most senior elected figure within the Labour Party. What will you be doing as First Minister of Wales to convey your own view, but also, I would suggest, the majority view that we stand shoulder to shoulder with our allies in France, and address the terrible scenes that we’re seeing in Syria.
Yn ddiddorol, mae’r holl erthyglau yn amlwg yn eich dyfynnu chi fel y Prif Weinidog, ac felly mae pobl yn cymryd hynny fel barn y Llywodraeth, maen nhw wir. Mae'n bwysig bod pobl yn amlwg yn edrych yn eu sachau post etholaethol a hefyd y sefyllfa y mae Prydain yn canfod ei hun ynddi gyda chais gan Lywodraeth Ffrainc i gefnogi eu camau nhw i fynd i'r afael â'r erchyllterau ym Mharis bythefnos yn ôl. Pa gamau fyddwch chi’n eu cymryd? Oherwydd mae gennych chi swyddogaeth bwysig o fewn y Blaid Lafur. Chi yw'r ffigwr etholedig uchaf yn y Blaid Lafur. Beth fyddwch chi'n ei wneud fel Prif Weinidog Cymru i fynegi eich barn eich hun, ond hefyd, byddwn yn awgrymu, barn y mwyafrif ein bod yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â’n cynghreiriaid yn Ffrainc, ac yn mynd i'r afael â'r golygfeydd ofnadwy yr ydym ni’n eu gweld yn Syria.
 
13:45
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
It’s the job of the Prime Minister to provide the evidence in order for MPs to examine that evidence and decide which way they want to vote. It’s not my job to do that. I’ve expressed my view on this. I take the view that there needs to be a final plan. I don’t see that at the moment. I take the view there needs to be thought given to which ground forces are going to be supported. I don’t see progress on that at the moment. I do take the view that there’s no difference in reality between Iraq and Syria. The border’s effectively disappeared. But what troubles me, or what concerns me is that we should not do what happened in Iraq more than a decade ago, and that is to take military action without thinking about what the endgame is and how to bring peace to Syria. I do not see sufficient evidence of that yet on the part of the Prime Minister.
Cyfrifoldeb Prif Weinidog y DU yw darparu'r dystiolaeth er mwyn i ASau archwilio'r dystiolaeth honno a phenderfynu pa ffordd maen nhw eisiau pleidleisio. Nid fy nghyfrifoldeb i yw gwneud hynny. Rwyf wedi mynegi fy marn ar hyn. Rwyf o’r farn bod angen cael cynllun terfynol. Nid wyf yn gweld hynny ar hyn o bryd. Rwyf o’r farn bod angen rhoi ystyriaeth i ba luoedd sy’n mynd i gael eu cefnogi ar lawr gwlad. Nid wyf yn gweld cynnydd ar hynny ar hyn o bryd. Rwyf o’r farn nad oes unrhyw wahaniaeth mewn gwirionedd rhwng Irac a Syria. Mae'r ffin wedi diflannu i bob pwrpas. Ond yr hyn sy’n fy nhrwblu i, neu’r hyn sy'n fy mhoeni i, yw na ddylem ni wneud yr hyn a ddigwyddodd yn Irac fwy na degawd yn ôl, sef cymryd camau milwrol heb feddwl am ben draw'r daith a sut i ddod â heddwch i Syria. Nid wyf yn gweld tystiolaeth ddigonol o hynny eto ar ran y Prif Weinidog.
 
13:46
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadBiography
I disagree with you on the evidence from the Prime Minister, but I agree entirely with you that we do need the endgame in stabilising Syria because of the situation that is developing out in that country, and the immigration crisis, and people being forced from their homes, but, ultimately, the horrendous acts by ISIL in that country against every man, woman and child that they seem to come into contact with. It is a fact that, in Wales, 27,500 servicemen and servicewomen have families here and obviously reside here. There is a big defence estate here in Wales that relies on orders from the armed services. I do believe that it is important that the First Minister of Wales—and you have done that via interviews that you’ve given, offering your support—. But it does need to be clarified that that is personal support, not Government support. But you do have a role, do you not, First Minister, you do have a role in making sure that we speak with one voice and ultimately support our armed services when they are committed to ground offensives or air offensives in Syria. Do you not as First Minister have a key role to play in doing that?
Rwy’n anghytuno â chi o ran y dystiolaeth gan y Prif Weinidog, ond rwy’n cytuno'n llwyr â chi ein bod ni angen gwybod beth yw pen draw'r daith wrth sefydlogi Syria, oherwydd y sefyllfa sy'n datblygu allan yn y wlad honno, a'r argyfwng mewnfudo, a phobl yn cael eu gorfodi o’u cartrefi, ond, yn y pen draw, ceir gweithredoedd erchyll ISIL yn y wlad honno yn erbyn pob dyn, menyw a phlentyn y maen nhw’n dod i gysylltiad â nhw mae’n ymddangos. Mae'n ffaith bod gan 27,500 o filwyr yng Nghymru deuluoedd yma ac yn amlwg yn byw yma. Ceir ystâd amddiffyn fawr yma yng Nghymru sy'n dibynnu ar archebion gan y lluoedd arfog. Rwy’n credu ei bod yn bwysig bod Prif Weinidog Cymru—ac yr ydych chi wedi gwneud hynny trwy gyfweliadau, yn cynnig eich cefnogaeth—. Ond mae angen egluro mai cefnogaeth bersonol yw honno, nid cefnogaeth y Llywodraeth. Ond mae gennych chi swyddogaeth, onid oes, Brif Weinidog, o ran gwneud yn siŵr ein bod yn siarad ag un llais ac yn cefnogi ein lluoedd arfog pan fyddant wedi eu hymrwymo i ymosodiadau ar y tir neu ymosodiadau awyr yn Syria. Onid oes gennych chi fel Prif Weinidog Cymru ran allweddol i'w chwarae o ran gwneud hynny?
 
13:47
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Well, the leader of the opposition is now saying that he is in favour of British ground forces being used in Syria.
Wel, mae arweinydd yr wrthblaid yn dweud nawr ei fod o blaid defnyddio lluoedd tir Prydain yn Syria.
 
13:47
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadBiography
No, anywhere in the world. Anywhere in the world.
Na, mewn unrhyw le yn y byd. Unrhyw le yn y byd.
 
13:47
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
That’s what he’s just said, and I do find that worrying, because that’s certainly not my view, and certainly it’s not the view of the Prime Minister, either, but that is exactly what he has just said. The view that I take is that I would not want to see British forces being in a position where politicians had not given sufficient thought to what those forces were there to do, and it means ensuring, first of all, that we understand which sides are being supported in Syria, and which ground forces. The Prime Minister has not made that clear. Are we looking at the Peshmerga and the Free Syrian Army? Are we looking at any others? Because there are forces more moderate than ISIL in Syria, but they’re not people who we would regard as moderate in terms of the people who support them. He’s right to point out that Daesh—call them what we want, Islamic State—need to be eradicated, but air strikes will not do that on their own. They will target, it’s true, some in that organisation, but civilians will also get hurt. Now, it’s important to understand that air strikes are a part of what needs to be a far bigger and broader plan. They are not sufficient on their own. The only way in which you remove ground forces is to support ground forces, perhaps through air strikes, but, ultimately, thinking about what happens at the end. The reason why Syria has been destabilised is because there’s not been a coherent and consistent international view as to which side or sides should be supported in the ground war. Until that’s clear, it’s very difficult to see what air strikes would achieve beyond creating a situation where Daesh remains on the ground, but we see more and more civilian casualties. If there’s evidence to suggest that it would support ground forces in their objective of ridding that part of the world of Daesh, if there’s evidence to suggest that it would shorten the conflict, if there’s evidence to suggest that it would lead to a plan for peace in Syria, then, if that evidence is strong enough, as I have said, I would personally support air strikes. But that evidence is not yet there, and my concern is that too much emphasis is being given to air strikes and not enough to what needs to be done in order to bring peace to Syria.
Dyna’r hyn y mae newydd ei ddweud, ac mae hynny’n peri pryder i mi, oherwydd nid dyna fy marn i yn sicr, ac nid dyna farn Prif Weinidog y DU, chwaith, ond dyna'n union y mae newydd ei ddweud. Rwyf i o’r farn na fyddwn i eisiau gweld lluoedd Prydain mewn sefyllfa lle nad yw gwleidyddion wedi rhoi digon o ystyriaeth i'r hyn y byddai'r lluoedd hynny yno i'w wneud, ac mae'n golygu sicrhau, yn gyntaf oll, ein bod yn deall pa ochrau sy’n cael eu cefnogi yn Syria, a pha luoedd ar y tir. Nid yw Prif Weinidog y DU wedi gwneud hynny'n eglur. A ydym ni’n edrych ar y Peshmerga a Byddin Rydd Syria? A ydym ni’n edrych ar unrhyw rai eraill? Oherwydd mae grymoedd mwy cymedrol nag ISIL yn Syria, ond nid ydynt yn bobl y byddem yn eu hystyried yn gymedrol o ran y bobl sy'n eu cefnogi. Mae'n iawn i nodi bod angen dileu Daesh—beth bynnag yr ydym ni am eu galw nhw, y Wladwriaeth Islamaidd—ond ni fydd cyrchoedd awyr yn gwneud hynny ar eu pen eu hunain. Byddant yn targedu, mae'n wir, rhai yn y sefydliad hwnnw, ond bydd sifiliaid yn cael eu hanafu hefyd. Nawr, mae'n bwysig deall bod cyrchoedd awyr yn rhan o'r hyn y mae angen iddo fod yn gynllun llawer mwy ac ehangach. Nid ydynt yn ddigonol ar eu pen eu hunain. Yr unig ffordd y byddwch chi’n cael gwared ar luoedd ar y tir yw cefnogi lluoedd tir, efallai trwy gyrchoedd awyr, ond, yn y pen draw, gan feddwl am yr hyn sy'n digwydd ar y diwedd. Y rheswm pam mae Syria wedi cael ei ansefydlogi yw oherwydd na fu barn ryngwladol gydlynol a chyson o ran pa ochr neu ochrau y dylid eu cefnogi yn y rhyfel ar y tir. Tan y bydd hynny’n eglur, mae'n anodd iawn gweld beth fyddai cyrchoedd awyr yn ei gyflawni y tu hwnt i greu sefyllfa lle mae Daesh yn parhau i fod ar y tir, ond ein bod ni’n gweld mwy a mwy o sifiliaid yn cael eu hanafu. Os oes tystiolaeth i awgrymu y byddai'n cefnogi lluoedd tir yn eu nod o gael gwared ar Daesh o’r rhan honno o’r byd, os oes tystiolaeth i awgrymu y byddai'n lleihau'r gwrthdaro, os oes tystiolaeth i awgrymu y byddai'n arwain at gynllun ar gyfer heddwch yn Syria, yna, os yw’r dystiolaeth honno’n ddigon cryf, fel y dywedais, byddwn i’n bersonol yn cefnogi cyrchoedd awyr. Ond nid yw'r dystiolaeth honno yno eto, a fy mhryder i yw bod gormod o bwyslais yn cael ei roi ar gyrchoedd awyr a dim digon ar yr hyn y mae angen ei wneud i ddod â heddwch i Syria.
 
13:49
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
Finally, the leader of Plaid Cymru, Leanne Wood.
Yn olaf, arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
 
13:50
Leanne WoodBywgraffiadBiographyArweinydd Plaid Cymru / The Leader of Plaid Cymru
First Minister, you’ve gone on record with your views on the situation in Syria, and I think it’s entirely appropriate that you’ve done that, especially as Wales will be affected in terms of troops, in terms of the involvement of Welsh services in terms of dealing with the refugee crisis, and also the security risk to Welsh communities. You’ve gone on record as saying that you would only consider supporting UK airstrikes in Syria if there was a plan in place for peace and stability. Do you agree with me now, then, that the Prime Minister’s statement last week on proposals for UK airstrikes falls short of those tests?
Brif Weinidog, r ydych wedi mynd ar goedd gyda’ch barn ar y sefyllfa yn Syria, ac rwy’n credu ei bod yn gwbl briodol eich bod wedi gwneud hynny, yn enwedig gan y bydd Cymru'n cael ei heffeithio o ran milwyr, o ran y cyfranogiad gwasanaethau Cymru i ymdrin â'r argyfwng ffoaduriaid, a hefyd y risg diogelwch i gymunedau Cymru. Rydych chi wedi mynd ar goedd i ddweud na fyddech ond yn ystyried cefnogi cyrchoedd awyr gan y DU yn Syria pe byddai cynllun ar waith ar gyfer heddwch a sefydlogrwydd. A ydych chi’n cytuno â mi nawr, felly, bod datganiad y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf ar gynigion ar gyfer cyrchoedd awyr y DU yn methu’r profion hynny?
 
13:50
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
As I’ve said over the last few days, I don’t believe that there is sufficient evidence there yet to support airstrikes.
Fel yr wyf wedi ei ddweud dros y diwrnodau diwethaf, nid wyf yn credu bod digon o dystiolaeth yno eto i gefnogi cyrchoedd awyr.
 
13:50
Thank you for your answer, First Minister. As of 27 November, you said that you’d not been privy to any discussion at UK level within your party on the proposals for UK airstrikes on Syria. Have you been involved in any discussions since, and have you had any discussions with the Labour Party in Wales on this matter?
Diolch i chi am eich ateb, Brif Weinidog. Ar 27 Tachwedd, dywedasoch nad oeddech wedi bod yn rhan o unrhyw drafodaeth ar lefel y DU o fewn eich plaid ar y cynigion ar gyfer cyrchoedd awyr y DU yn Syria. A ydych chi wedi bod yn rhan o unrhyw drafodaethau ers hynny, ac a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'r Blaid Lafur yng Nghymru ar y mater hwn?
 
13:51
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
No. There’s a free vote on this issue at Westminster, so each Member of Parliament will make up his or her own mind as to how they wish to vote.
Naddo. Mae pleidlais rydd ar y mater hwn yn San Steffan, felly bydd pob Aelod Seneddol yn gwneud ei benderfyniad ei hun o ran sut y mae’n dymuno pleidleisio.
 
13:51
Okay. Well, thank you for your answer, First Minister. In your public remarks, you’ve said that we must learn the lessons from the Iraq war, and I would agree with you on that point. At the time, back in 2003, your predecessor said that he did not have a view on that war, and I welcome the fact that you, at least, have gone on record as the UK considers yet again intervening in the middle east. On this occasion, then, will the Welsh Government join other parties and other devolved administrations, if possible, in opposing the proposed bombing of Syria, and will you appeal directly to the Prime Minister to reconsider his Government’s plans to bomb that country?
Iawn. Wel, diolch am eich ateb, Brif Weinidog. Yn eich sylwadau cyhoeddus, rydych chi wedi dweud bod yn rhaid i ni ddysgu gwersi o'r rhyfel yn Irac, a byddwn yn cytuno â chi ar y pwynt hwnnw. Ar y pryd, yn ôl yn 2003, dywedodd eich rhagflaenydd nad oedd ganddo farn ar y rhyfel hwnnw, ac rwy’n croesawu'r ffaith eich bod chi, o leiaf, wedi mynd ar goedd wrth i’r DU ystyried ymyrryd yn y dwyrain canol unwaith eto. Y tro hwn, felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymuno â phleidiau eraill a gweinyddiaethau datganoledig eraill, os yw’n bosibl, i wrthwynebu bomio arfaethedig Syria, ac a wnewch chi apelio'n uniongyrchol i Brif Weinidog y DU i ailystyried cynlluniau ei Lywodraeth i fomio’r wlad honno?
 
13:52
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
First of all, it wasn’t my understanding that her party, nor indeed the SNP, who made the announcement some days beforehand, were actually against airstrikes in principle—namely that the evidence would be considered. It is clear from her views, and I understand that, that she doesn’t feel that the evidence is strong enough to justify those airstrikes, and that’s a position that I also share. Nevertheless, I do take the view that, as the UK Parliament considers this issue, it should consider the issue of how to bring peace to Syria in the broadest possible sense. Airstrikes, it could be argued, can suppress the capacity for terrorist attacks, but they cannot remove the capacity for terrorist attacks; that can only be done by removing the threat on the ground.
Yn gyntaf oll, nid fy nealltwriaeth i oedd bod ei phlaid hi, nac yn wir yr SNP, a wnaeth y cyhoeddiad rai diwrnodau ynghynt, yn erbyn cyrchoedd awyr mewn egwyddor—sef y byddai'r dystiolaeth yn cael ei hystyried. Mae'n amlwg o’i barn, ac rwy’n deall hynny, nad yw'n teimlo bod y dystiolaeth yn ddigon cryf i gyfiawnhau’r cyrchoedd awyr hynny, ac mae hwnnw'n safbwynt yr wyf innau hefyd yn ei rannu. Er hynny, rwyf o’r farn, wrth i Senedd y DU ystyried y mater hwn, y dylai ystyried y mater o sut i ddod â heddwch i Syria yn yr ystyr ehangaf posibl. Gellid dadlau y gall cyrchoedd awyr leihau gallu terfysgwyr i wneud ymosodiadau, ond ni allant gael gwared ar allu terfysgwyr i wneud ymosodiadau; gellir gwneud hynny dim ond trwy gael gwared ar y bygythiad ar lawr gwlad.
 
I have to say, at this moment in time, I don’t believe that there is sufficient evidence before Parliament, or, indeed, the people of Wales and the people of the UK, to suggest that airstrikes on their own would act in a way to shorten the war and remove the threat of Daesh, nor do I believe that there is sufficient information that would allow us to conclude that support is being given to a substantial ground force. The Prime Minister’s talked about 70,000; it’s not clear where those 70,000 ground forces are or which organisations they represent. So, at this moment in time, I have to say that I don’t think the evidence is there to justify airstrikes. That evidence may strengthen in the days and weeks to come, but at this moment in time it’s not there.
Mae'n rhaid i mi ddweud, ar hyn o bryd, nad wyf yn credu bod digon o dystiolaeth gerbron y Senedd, nac, yn wir, pobl Cymru a phobl y DU, i awgrymu y byddai cyrchoedd awyr ar eu pen eu hunain yn gweithredu mewn ffordd a fyddai'n cwtogi'r rhyfel a chael gwared ar fygythiad Daesh, ac nid wyf yn credu ychwaith bod digon o wybodaeth a fyddai'n ein galluogi i ddod i'r casgliad bod cefnogaeth yn cael ei rhoi i luoedd sylweddol ar y tir. Soniodd y Prif Weinidog y DU am 70,000; nid yw'n eglur ble mae’r lluoedd tir hynny o 70,000, na pha sefydliadau y maen nhw’n eu cynrychioli. Felly, ar hyn o bryd, mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf yn credu bod y dystiolaeth yno i gyfiawnhau cyrchoedd awyr. Efallai y bydd y dystiolaeth honno’n cryfhau yn y diwrnodau a'r wythnosau i ddod, ond nid yw yno ar hyn o bryd.
 
13:53
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
We now move back to questions on the paper, and question 3 is Lynne Neagle.
Symudwn yn ôl at gwestiynau ar y papur nawr , a daw cwestiwn 3 gan Lynne Neagle.
 
Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU
The UK Government Spending Review
 
13:53
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith bosibl adolygiad o wariant Llywodraeth y DU ar lywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(4)2611(FM)
3. Will the First Minister make a statement on the potential impact of the UK Government's spending review on local government in Wales? OAQ(4)2611(FM)
 
13:53
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Yes. We are currently considering the implications of the announcement. Further details will be provided on 9 December, with the publication of the provisional local government settlement.
Gwnaf. Rydym ni wrthi’n ystyried goblygiadau'r cyhoeddiad. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu darparu ar 9 Rhagfyr, trwy gyhoeddi setliad llywodraeth leol dros dro.
 
13:53
First Minister, last week’s spending review delivered little more than smoke and mirrors for working families, another revenue funding cut for Wales, and signalled the decimation of local government in England. This Welsh Labour Government has always worked hard to protect local government, and in particular social services, recognising as we do that the health service and social services are inextricably linked and that you can’t protect one without looking after the other. What assurances can you give today that, despite the savage cuts over the border, protecting local government, and in particular social services, will continue to be a priority for this Welsh Labour Government?
Brif Weinidog, darparodd adolygiad o wariant yr wythnos ddiwethaf fawr mwy na mwg a drychau i deuluoedd sy'n gweithio, toriad cyllid refeniw arall i Gymru, gan ddifa llywodraeth leol yn Lloegr. Mae'r Llywodraeth Lafur Cymru hon wedi gweithio'n galed erioed i amddiffyn llywodraeth leol, a gwasanaethau cymdeithasol yn arbennig, gan gydnabod fel yr ydym bod y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi’u cysylltu'n annatod ac na allwch chi amddiffyn un heb ofalu am y llall. Pa sicrwydd allwch chu ei roi heddiw, er gwaetha'r toriadau llym dros y ffin, y bydd diogelu llywodraeth leol, a gwasanaethau cymdeithasol yn arbennig, yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth Lafur Cymru hon?
 
13:54
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
We will look to protect local government and the services that local government provides to the best of our financial ability. But I don’t know whether talking about local government in England is actually a proper description anymore—I’m not sure local government will exist in England in the next few years. With the substantial cuts that are occurring in local government there, it’s difficult to see what councils will actually do. We know that council tax will increase substantially in England over the next few years to pay for social care. What’s pernicious about what the Chancellor has suggested is this: he is abdicating the responsibility of UK Government to pay for social services in England, and, secondly, he is saying that councils have to raise their own money if they want to provide social services in their own areas. That means that the poorer areas that don’t have a substantial council tax base will not be able to provide the services to a population that probably will need those services more. You begin to ask yourself, if there is no mechanism, or if the mechanism for redistributing money around the UK from the richest to the poorest areas is being eroded, where does that leave the concept of the UK?
Ein nod fydd amddiffyn llywodraeth leol a'r gwasanaethau y mae llywodraeth leol yn eu darparu hyd eithaf ein gallu ariannol. Ond nid wyf yn gwybod a yw siarad am lywodraeth leol yn Lloegr yn ddisgrifiad cywir mwyach—nid wyf yn siŵr y bydd llywodraeth leol yn bodoli yn Lloegr yn y blynyddoedd nesaf. Gyda'r toriadau sylweddol sy’n digwydd mewn llywodraeth leol yno, mae'n anodd gweld beth fydd cynghorau’n ei wneud mewn gwirionedd. Rydym ni’n gwybod y bydd y dreth gyngor yn cynyddu'n sylweddol yn Lloegr dros y blynyddoedd nesaf i dalu am ofal cymdeithasol. Yr hyn sy’n niweidiol am yr hyn y mae'r Canghellor wedi ei awgrymu yw hyn: mae’n ildio cyfrifoldeb Lywodraeth y DU i dalu am wasanaethau cymdeithasol yn Lloegr, ac, yn ail, mae'n dweud bod yn rhaid i gynghorau godi eu harian eu hunain os ydyn nhw eisiau darparu gwasanaethau cymdeithasol yn eu hardaloedd eu hunain. Mae hynny'n golygu na fydd yr ardaloedd tlotach nad oes ganddynt sail treth gyngor sylweddol yn gallu darparu’r gwasanaethau i boblogaeth y mae’n debyg fydd â mwy o angen am y gwasanaethau hynny mwy. Rydych chi’n dechrau gofyn i’ch hunan, os nad oes mecanwaith, neu os yw'r mecanwaith ar gyfer ailddosbarthu arian o gwmpas y DU o'r ardaloedd cyfoethocaf i'r tlotaf yn cael ei erydu, lle mae hynny'n gadael cysyniad y DU?
 
13:55
Janet Finch-SaundersBywgraffiadBiography
Meanwhile, back to Wales. First Minister, given the increase in cash terms in funding coming to Wales over the next four years and the calls yesterday from the leader of Denbighshire County Council for you to apply the same principles to local government, what guarantees are you now able to make in terms of a fair settlement for local government budgets here in Wales?
Yn y cyfamser, yn ôl i Gymru. Brif Weinidog, o ystyried y cynnydd o ran arian parod sy’n dod i Gymru dros y pedair blynedd nesaf a'r galwadau ddoe gan arweinydd Cyngor Sir Ddinbych i chi ddefnyddio'r un egwyddorion ar gyfer llywodraeth leol, pa sicrwydd allwch chi ei roi nawr o ran setliad teg ar gyfer cyllidebau llywodraeth leol yma yng Nghymru?
 
13:56
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Well, I can assure the leader of Denbighshire we won’t be applying the principles of the UK Government when it comes to English local government; I give him that assurance without any shadow of a doubt. Secondly, the Member is not correct in her assumption. This is a 4.5 per cent cut in our budget in Wales, not some sort of great increase in the budget. Only a Tory could interpret a 4.5 per cent cut as a good thing, or an increase, but there it is. Now, we will look at the financial settlement and the statement will be made on 9 December, but we will not be looking to slash local government funding as in England, and we will not be looking to transfer the burden of paying for social care onto local government in Wales, as is being done in England.
Wel, gallaf sicrhau arweinydd Sir Ddinbych na fyddwn yn defnyddio egwyddorion Llywodraeth y DU pan ddaw i lywodraeth leol yn Lloegr; rhoddaf y sicrwydd hwnnw iddo heb unrhyw amheuaeth. Yn ail, nid yw'r Aelod yn gywir yn ei thybiaeth. Mae hwn yn doriad o 4.5 y cant i’n cyllideb yng Nghymru, nid rhyw fath o gynnydd mawr yn y gyllideb. Dim ond Ceidwadwr allai ddehongli toriad o 4.5 y cant fel rhywbeth da, neu gynnydd, ond dyna ni. Nawr, byddwn yn edrych ar y setliad ariannol a bydd y datganiad yn cael ei wneud ar 9 Rhagfyr, ond nid ydym yn bwriadu torri cyllid llywodraeth leol fel yn Lloegr, ac nid ydym yn bwriadu trosglwyddo'r baich o dalu am ofal cymdeithasol i lywodraeth leol yng Nghymru, fel sy'n cael ei wneud yn Lloegr.
 
13:56
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiadBiography
Brif Weinidog, ni fyddwn yn anghytuno â’r hyn rydych chi’n ei ddweud ynglŷn ag effaith y toriadau o San Steffan ar gyllideb Llywodraeth Cymru, ond fe fyddwn am glywed beth yn union yw’ch gweledigaeth chi ynglŷn â llywodraeth leol yng Nghymru. A ydych chi’n gweld llywodraeth leol fel rhywbeth sy’n crebachu dros y degawd nesaf, a’i gwasanaethau i’r bobl yn lleihau, neu a oes gennych chi weledigaeth ehangach am lywodraeth leol yng Nghymru?
First Minister, I wouldn’t disagree with what you say about the impact of the Westminster cuts on the Welsh Government budget, but I would wish to hear what exactly your vision will be for local government in Wales. Do you view local government as something that will contract over the next decade, with services to people being reduced, or do you have a broader vision for local government in Wales?
 
13:57
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Gyda’r strwythur iawn, a mwy o ddatganoli pwerau i lywodraeth leol—nid dim ond i’r siroedd, ond i gynghorau trefol a chynghorau cymunedol hefyd—. Felly, na, rwy’n gweld datganoli’n cymryd lle gyda’r strwythur iawn dros y blynyddoedd nesaf.
With the right structure, and more devolution of powers to local authorities—not only to the counties, but also to town councils and community councils too—. So, no, I see devolution happening with the right structure in place over the next few years.
 
13:57
Eluned ParrottBywgraffiadBiography
I was glad to hear your answer, First Minister, that you want to see devolution of more powers to local authorities. One of the powers we’ve discussed previously is to give them more control over business rates and enable them to incentivise economic development and grow additional revenues, given the very difficult circumstances. When will the Welsh Government, then, take steps towards this devolution of business rates and enable local authorities to do this?
Roeddwn i’n falch o glywed eich ateb, Brif Weinidog, eich bod eisiau gweld datganoli mwy o bwerau i awdurdodau lleol. Un o'r pwerau yr ydym ni wedi eu trafod yn y gorffennol yw rhoi mwy o reolaeth iddyn nhw dros ardrethi busnes a’u galluogi i gymell datblygiad economaidd a thyfu refeniw ychwanegol, o gofio'r amgylchiadau anodd iawn. Pryd y bydd Llywodraeth Cymru, felly, yn cymryd camau tuag at y datganoli hwn o ardrethi busnes a galluogi awdurdodau lleol i wneud hyn?
 
13:57
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Well, two points: as I’ve said before, the structure needs to be right first, and I don’t believe that it is. Secondly, I would be very wary of devolving business rates wholly to local government—I can see the Member nodding—the reason being, of course, that we estimate that 17 local authorities out of 22 would end up with less money. So, Monmouthshire, for example, would be £4.3 million down, if business rates were raised and wholly retained within Monmouthshire. So, there has to be a mechanism in place to redistribute money, rather than saying to local authorities, ‘You raise and you keep’.
Wel, dau bwynt: fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, mae angen i'r strwythur fod yn iawn yn gyntaf, ac nid wyf yn credu ei fod. Yn ail, byddwn yn wyliadwrus iawn o ddatganoli ardrethi busnes yn gyfan gwbl i lywodraeth leol—gallaf weld yr Aelod yn amneidio—y rheswm, wrth gwrs, yw ein bod yn amcangyfrif y byddai gan 17 o awdurdodau lleol allan o 22 lai o arian yn y pen draw. Felly, byddai gan Sir Fynwy, er enghraifft, £4.3 miliwn yn llai, pe byddai ardrethi busnes yn cael eu codi a'u cadw yn gyfan gwbl o fewn Sir Fynwy. Felly, mae'n rhaid cael mecanwaith ar waith i ailddosbarthu arian, yn hytrach na dweud wrth awdurdodau lleol, 'Rydych chi’n codi ac yn cadw'.
 
13:58
First Minister, the most disgraceful part of the Tory spending review is the failure to make any financial provision whatsoever to support adult social care. In Wales, the Conservatives are arguing for a ring-fencing of health spending, but at the expense of social care. Do you believe that the Tories in Wales—? Is it your view that they have now abandoned adult social care in Wales and thrown our vulnerable adults to the wolves?
Brif Weinidog, y rhan fwyaf gwarthus o adolygiad o wariant y Torïaid yw’r methiant i wneud unrhyw ddarpariaeth ariannol o gwbl i gefnogi gofal cymdeithasol i oedolion. Yng Nghymru, mae'r Ceidwadwyr yn dadlau o blaid neilltuo gwariant ar iechyd, ond ar draul gofal cymdeithasol. A ydych chi’n credu bod y Torïaid yng Nghymru—? Ai’ch safbwynt chi yw eu bod wedi troi eu cefnau ar ofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru erbyn hyn ac yn taflu ein hoedolion agored i niwed i’r bleiddiaid?
 
13:59
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
We’ve long learned that, when it comes to policy, pretty much, when you see the Conservatives in Wales, it’s ‘for Wales, see England’. They basically copy what happens in England. Then we see in England adult social care being absolutely destroyed. Despite that, of course, we spend more on health per head in Wales than England does. We spend far more on health and social care in Wales than the Government in the UK does in England. So, we know that we spend more on education, on health, and on health and social care combined. That’s what happens when you get a Labour Government, rather than the cutting instincts of the Tories.
Rydym ni wedi dysgu ers tro, pan ddaw'n fater o bolisi, fwy neu lai, pan welwch chi’r Ceidwadwyr yng Nghymru, ei bod yn 'ar gyfer Cymru, gweler Lloegr'. Maen nhw fwy neu lai’n ailadrodd yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Yna, rydym ni’n gweld gofal cymdeithasol i oedolion yn cael ei ddinistrio’n llwyr yn Lloegr. Er gwaethaf hynny, wrth gwrs, yr ydym ni’n gwario mwy ar iechyd fesul pen yng Nghymru nag y mae Lloegr. Rydym ni’n gwario llawer mwy ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru nag y mae’r Llywodraeth yn y DU yn ei wneud yn Lloegr. Felly, rydym ni’n gwybod ein bod yn gwario mwy ar addysg, ar iechyd, ac ar iechyd a gofal cymdeithasol gyda’i gilydd. Dyna beth sy'n digwydd pan fyddwch chi’n cael Llywodraeth Lafur, yn hytrach na greddfau torri’r Torïaid.
 
Gwasanaethau Bws
Bus Services
 
13:59
Kirsty WilliamsBywgraffiadBiography
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd gwasanaethau bws ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)2598(FM)
4. Will the First Minister make a statement on the availability of bus services in Brecon and Radnorshire? OAQ(4)2598(FM)
 
13:59
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
We recognise the importance of effective and affordable bus services, and our commitment to improving the quality and accessibility of local bus services and community transport is set out in the national transport finance plan, which was published in July.
Rydym ni’n cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau bws effeithiol a fforddiadwy, ac mae ein hymrwymiad i wella ansawdd a hygyrchedd gwasanaethau bws lleol a chludiant cymunedol wedi ei nodi yn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf.
 
13:59
Kirsty WilliamsBywgraffiadBiography
First Minister, your plan seems to be greatly at odds with the decision by Powys County Council at the beginning of November to cut substantially bus services. It means there is no longer a town service in Builth Wells leaving many elderly people isolated in their own home, unable to get into town for their shopping. If you live in Trecastle, now there is no public transport whatsoever through that village: you can’t get into Brecon and you can’t travel to Llandovery for services or for work purposes. What can your Government do to ensure communities like Builth Wells and Trecastle are not abandoned in terms of public transport, and what flexibility can you give to new ways of delivering publicly funded transport services in the community if large buses are no longer viable?
Brif Weinidog, mae’n ymddangos bod eich cynllun yn mynd yn gwbl groes i'r penderfyniad a wnaed gan Gyngor Sir Powys ddechrau mis Tachwedd i dorri gwasanaethau bws yn sylweddol. Mae'n golygu nad oes gwasanaeth tref yn Llanfair-ym-Muallt mwyach gan adael llawer o bobl oedrannus wedi’u hynysu yn eu cartrefi eu hunain, yn methu â mynd i mewn i’r dref i siopa. Os ydych chi’n byw yn Nhrecastell, nid oes unrhyw gludiant cyhoeddus o gwbl drwy'r pentref erbyn hyn: ni allwch fynd i mewn i Aberhonddu ac ni allwch chi deithio i Lanymddyfri ar gyfer gwasanaethau neu at ddibenion gwaith. Beth all eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau nad yw cymunedau fel Llanfair-ym-Muallt a Threcastell yn cael eu hamddifadu o ran cludiant cyhoeddus, a pha hyblygrwydd allwch chi ei roi i ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau cludiant a ariennir yn gyhoeddus yn y gymuned os nad yw bysiau mawr yn ymarferol mwyach?
 
14:00
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Yes, there are three things. First of all, that decision is for Powys to explain, because it is not a Welsh Government decision. Secondly, there are alternative modes of provision: the Bwcabus service has been widely used in Carmarthenshire and elsewhere now for some time in communities with a similar population density. I don’t know the extent or whether such a service exists in Powys but that is something the council needs to look at, it would seem to me, because others have done it successfully and that’s worked in very rural communities. Of course, in the medium term, powers over bus regulation will rest here, and that will make it easier in terms of being able to direct where bus services should run in the future.
Ie, mae tri pheth. Yn gyntaf oll, cyfrifoldeb Powys yw esbonio’r penderfyniad hwnnw, gan nad yw'n benderfyniad Llywodraeth Cymru. Yn ail, ceir dulliau darparu eraill: mae'r gwasanaeth Bwcabus wedi cael ei ddefnyddio'n eang yn Sir Gaerfyrddin ac mewn mannau eraill ers cryn amser erbyn hyn, mewn cymunedau â dwysedd poblogaeth tebyg. Nid wyf yn gwybod a oes gwasanaeth o'r fath yn bodoli ym Mhowys nac i ba raddau, ond mae hynny'n rhywbeth y mae angen i'r cyngor ei ystyried, mae'n ymddangos i mi, gan fod eraill wedi ei wneud yn llwyddiannus, ac mae hynny wedi gweithio mewn cymunedau gwledig iawn. Wrth gwrs, yn y tymor canolig, bydd pwerau dros reoleiddio bysiau yn gorwedd yma, a bydd hynny’n ei gwneud yn haws o ran gallu cyfarwyddo lle y dylai gwasanaethau bws redeg yn y dyfodol.
 
14:01
William GrahamBywgraffiadBiography
First Minister, the Community Transport Association have highlighted the need for stable, long-term funding for the community transport sector and, in particular, the impact of the reduction in the minimum ring-fenced funding by your Government’s reduction of the bus service support grant by 50 per cent. Would you commit to looking again at this grant and, perhaps, devising an adequate strategy, which would give a much closer examination for bus services to all parts of rural Wales?
Brif Weinidog, mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol wedi tynnu sylw at yr angen am gyllid sefydlog, hirdymor ar gyfer y sector cludiant cymunedol ac, yn arbennig, effaith y gostyngiad i’r isafswm cyllid wedi'i neilltuo yn sgil gostyngiad eich Llywodraeth i'r grant cymorth gwasanaethau bws gan 50 y cant. A wnewch chi ymrwymo i edrych eto ar y grant hwn ac, efallai, llunio strategaeth briodol, a fyddai'n rhoi archwiliad llawer manylach i wasanaethau bws i bob rhan o Gymru wledig?
 
14:01
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Well, it does surprise me when I stand here week after week and hear every Tory ask for more money in every area, ignoring the fact—. He is not a culprit normally, I would say that to him. But we hear it every week, don’t we: ‘More money here, more money there’ as if the cuts haven’t actually happened. I believe it is exceptionally important for local authorities to look at the most cost-effective way of providing transport in their areas. Indeed, Carmarthenshire have done that with Bwcabus and I know, for example, that the Grass Routes project in Monmouthshire has been very successful in terms of delivering transport opportunities for rural communities.
Wel, mae'n fy synnu i pan fyddaf yn sefyll yma wythnos ar ôl wythnos ac yn clywed pob Ceidwadwr yn gofyn am fwy o arian ym mhob maes, gan anwybyddu'r ffaith—. Nid fe sy’n euog fel rheol, byddwn yn dweud hynny wrtho. Ond rydym ni’n ei glywed bob wythnos, onid ydym: 'Mwy o arian fan hyn, mwy o arian fan draw' fel petai'r toriadau heb ddigwydd. Rwy’n credu ei bod yn eithriadol o bwysig i awdurdodau lleol edrych ar y ffordd fwyaf cost-effeithiol o ddarparu cludiant yn eu hardaloedd. Yn wir, mae Sir Gaerfyrddin wedi gwneud hynny gyda Bwcabus a gwn, er enghraifft, bod y prosiect Grass Routes yn Sir Fynwy wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran cyflwyno cyfleoedd cludiant i gymunedau gwledig.
 
Meddygon Teulu yng Nghanolbarth Cymru
General Practitioners in Mid Wales
 
14:02
Russell GeorgeBywgraffiadBiography
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu annog meddygon teulu i weithio yng nghanolbarth Cymru? OAQ(4)2602(FM)
5. Will the First Minister make a statement on how the Welsh Government intends to incentivise GPs to practise in mid Wales? OAQ(4)2602(FM)
 
14:02
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
The actions that need to be taken to support GPs are set out in our plan for the primary care workforce. Those actions include work to incentivise general practice, both in terms of entry into training and taking up practice in areas where there are shortages of doctors.
Mae'r camau y mae angen eu cymryd i gefnogi meddygon teulu wedi'u nodi yn ein cynllun ar gyfer y gweithlu gofal sylfaenol. Mae’r camau hynny’n cynnwys gwaith i gymell ymarfer cyffredinol, o ran mynediad at hyfforddiant ac agor meddygfeydd mewn ardaloedd lle mae prinder meddygon.
 
14:02
Russell GeorgeBywgraffiadBiography
Thank you for your answer, First Minister. There are currently five surgeries in Montgomeryshire which are attempting to recruit GPs. Over the past three years the medical practice in Newtown, for example, has spent thousands of pounds in recruitment trying to recruit, and not one suitable candidate has come forward. It is a very similar position in Llanidloes. There is a concern that surgeries are having to change their practices in a way that doesn’t allow patients direct contact with GPs. In addition to the efforts of Powys teaching health board, will you commit the Welsh Government to promoting local GP vacancies on its website? I’d be grateful for your wider views on what other measures can be taken to incentivise GPs, specifically to mid Wales.
Diolch i chi am eich ateb, Brif Weinidog. Ceir pum meddygfa yn Sir Drefaldwyn ar hyn o bryd sy'n ceisio recriwtio meddygon teulu. Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r feddygfa deulu yn y Drenewydd, er enghraifft, wedi gwario miloedd o bunnoedd yn ceisio recriwtio, ac ni chafwyd yr un ymgeisydd addas. Mae'r sefyllfa yn debyg iawn yn Llanidloes. Ceir pryder bod meddygfeydd yn gorfod newid eu harferion mewn ffordd nad yw'n caniatáu cysylltiad uniongyrchol â meddygon teulu i gleifion. Yn ogystal ag ymdrechion bwrdd iechyd addysgu Powys, a wnewch chi ymrwymo Llywodraeth Cymru i hyrwyddo swyddi meddygon teulu gwag lleol ar ei gwefan? Byddwn yn ddiolchgar am eich barn ehangach ar ba fesurau eraill y gellid eu cymryd i gymell meddygon teulu, yn benodol i’r canolbarth.
 
14:04
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
First of all, of course, the mid Wales health collaborative is working well. It had its first meeting on 23 November, I understand, and that’s being supported in terms of the work that that is taking forward. I know that the health board is working with practices in Machynlleth and Newtown. A number of solutions are being implemented to support those practices, including workload support, through the deployment of pharmacists, advance nurse practitioners and physiotherapists, with clinical triage being undertaken by advanced nurse practitioners. I know that the health board has been working with the community health council and the local medical committee to ensure that applications through the GP sustainability assessment framework are assessed and addressed rapidly. So, good work is being done to ensure the sustainability of practices in Powys and, indeed, elsewhere. They are also looking at different models for delivering primary care services, for example, allowing GP practices to deliver different services, social enterprises—there are a number of ways in which they’re looking to vary the service as far as attracting GPs is concerned, but also, of course, to improve the service for patients.
Yn gyntaf oll, wrth gwrs, mae menter iechyd gydweithredol y canolbarth yn gweithio'n dda. Cafodd ei chyfarfod cyntaf ar 23 Tachwedd, rwy’n deall, ac mae hynny'n cael ei gefnogi o ran y gwaith y mae hynny’n ei gyflawni. Gwn fod y bwrdd iechyd yn gweithio gyda meddygfeydd ym Machynlleth a'r Drenewydd. Mae nifer o atebion yn cael eu rhoi ar waith i gefnogi’r meddygfeydd hynny, gan gynnwys cymorth llwyth gwaith, trwy ddefnyddio fferyllwyr, ymarferwyr nyrsio uwch a ffisiotherapyddion, wrth i frysbennu clinigol gael ei gyflawni gan ymarferwyr nyrsio uwch. Gwn fod y bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio gyda'r cyngor iechyd cymuned a'r pwyllgor meddygol lleol i sicrhau bod ceisiadau drwy'r fframwaith asesu cynaliadwyedd meddygon teulu yn cael eu hasesu ac yn cael sylw’n gyflym. Felly, mae gwaith da’n cael ei wneud i sicrhau cynaliadwyedd meddygfeydd ym Mhowys ac, yn wir, mewn mannau eraill. Maen nhw hefyd yn ystyried gwahanol fodelau ar gyfer darparu gwasanaethau gofal sylfaenol, er enghraifft, gan ganiatáu i feddygfeydd teulu ddarparu gwahanol wasanaethau, mentrau cymdeithasol—ceir nifer o ffyrdd y maen nhw’n ceisio amrywio'r gwasanaeth cyn belled ag y mae denu meddygon teulu yn y cwestiwn, ond hefyd, wrth gwrs, i wella'r gwasanaeth i gleifion.
 
Dyfodol S4C
The Future of S4C
 
14:04
6. Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am ddyfodol S4C? OAQ(4)2606(FM)[W]
6. What discussions has the First Minister had with the UK Government on the future of S4C? OAQ(4)2606(FM)[W]
 
14:05
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Ysgrifennais ato yn ddiweddar ynglŷn ag S4C yn galw am adolygiad brys o S4C a oedd wedi cael ei addo gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu ato yn gofyn am gyfarfod brys i drafod S4C a materion darlledu eraill.
I recently wrote him regarding S4C, calling for an urgent review of S4C, which had been promised by the UK Government. I have also written to him asking for an urgent meeting to discuss S4C and other broadcasting matters.
 
14:05
Diolch, Brif Weinidog. Wythnos diwethaf, byddwch yn gwybod bod George Osborne wedi torri 26 y cant o gyllideb DCMS tuag at S4C, tra bod yr Ysgrifennydd Gwladol, John Whittingdale, a oedd yn gyfrifol am hynny, yn brolio ei fod wedi llwyddo i gadw cyllideb ar gyfer y celfyddydau yn Lloegr yn ddi-dor, ond yn trin S4C mewn ffordd cwbl wahanol. Chi yw’r Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg, ac rwy’n credu ei bod yn wir i ddweud bod dyfodol darlledu yn y Gymraeg yn y fantol ar hyn o bryd, ac felly rwy’n croesawu’r ffaith eich bod wedi ysgrifennu yn gofyn am gyfarfod gyda John Whittingdale. Rwy’n credu ei bod yn hollbwysig nawr bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn derbyn y cais yna a bod y cyfarfod yn digwydd, er mwyn newid y penderfyniad yma a rhoi sail ddiogel ar gyfer cyllido S4C i’r dyfodol. Dyna beth addawodd y Torïaid yn eu maniffesto cyn yr etholiad. Mae’n bwysig iddyn nhw gadw at eu haddewid ac i chi gynnal y cyfarfod pwysig yna.
Thank you, First Minister. Last week, you will know that George Osborne cut 26 per cent of the DCMS budget for S4C, while the Secretary of State, John Whittingdale, who is responsible for that, was boasting that he had managed to retain the budget for the arts in England without any cut, but treated S4C in an entirely different way. You are the Minister with responsibility for the Welsh language, and I think it’s true to say that the future of Welsh-language broadcasting is in the balance at present, and therefore I welcome the fact that you have written, asking for a meeting with John Whittingdale. I think it is crucially important now that the Secretary of State accepts that request for a meeting and that that takes place, in order to overturn this decision and to provide a safe funding basis for S4C in the future. That’s what the Tories pledged in their manifesto prior to the election. It’s important that they keep to their promise and for you to hold that important meeting.
 
14:06
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Ynglŷn â’r sŵn rwy’n ei glywed o feinciau’r Torïaid—
As regards the noise that I hear from the Tory benches—
 
14:06
Maen nhw’n dawel iawn.
They’re very quiet.
 
14:06
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Maen nhw’n dawel, neu yn dweud nad oedd addewid wedi cael ei wneud. Ond fe glywon nhw’r addewid yna yn cael ei roi. Beth sy’n bwysig yw bod yna setliad cynaliadwy ynglŷn ag ariannu S4C—nid yw hynny’n wir ar hyn o bryd—a’n bod ni’n gweld yr addewid ynglŷn ag S4C yn cael ei gadw. Felly, rydym yn aros nawr i glywed ateb yr Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn â chael cyfarfod i sicrhau dyfodol S4C.
They are quiet, or they are denying that such a pledge was made. But they did hear that pledge being made. What’s clear is that we should have a sustainable settlement for the funding of S4C—which isn’t the case at the moment—and that we see the pledge on S4C being kept. So, we now await the response of the Secretary of State on whether we can have a meeting to secure the future of S4C.
 
14:06
Diolch i’r Prif Weinidog am ei eiriau. Er gwaethaf cyhoeddiad rhagorol arall yn yr adolygiad gwariant, rydym yn rhannu siom Aelodau ynghylch y cynigion ar gyfer toriad uniongyrchol, anghymesur i gyllid S4C. Gallwn eich sicrhau y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gwneud sylwadau i Lywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd i gyflwyno’r achos dros beidio â gweithredu'r cynigion hynny. A ydych chi’n cytuno bod llais unedig ar hyn yn debygol o gael y pwys mwyaf, a bod yr amcan yn bwysicach na gwneud pwyntiau lleol gwleidyddol?
Thank you to the First Minister for his words. Despite the excellent statement made in the spending review, we share Members’ disappointment on the proposals for a direct and disproportionate cut to the budget of S4C. We can assure you that the Welsh Conservatives will be making representations to the UK Government too, to make the case for not implementing those proposals. Do you agree that a united voice on this issue is likely to have the greatest effect, and that the objective is more important than making localised political points?
 
14:07
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Rwy’n gweld bod dylanwad Guto Bebb yn gryf yn y Torïaid ynglŷn â beth roedd wedi ei drydaru ynglŷn â’r pwnc hwn. Rwy’n croesawu’r ffaith bod yna feirniadaeth gref gan y Ceidwadwyr Cymreig ynglŷn â beth sydd wedi digwydd gyda S4C, ac rwy’n siŵr eu bod nhw’n gefnogol iawn i sicrhau bod yna gyfarfod yn cymryd lle gyda’r Ysgrifennydd Gwladol er mwyn sicrhau dyfodol darlledu yn Gymraeg.
I see that Guto Bebb’s influence is very strong amongst the Conservatives in terms of what he’s been tweeting on this issue. I welcome the fact that there is strong criticism from the Welsh Conservatives about what is happening to S4C, and I’m sure that they would be very supportive to ensure that a meeting takes place with the Secretary of State in order to secure the future of Welsh-language broadcasting.
 
Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig
The United Nations Climate Change Summit
 
14:08
Jenny RathboneBywgraffiadBiography
7. Pa neges y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei chyfleu i uwchgynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ym Mharis? OAQ(4)2612(FM)
7. What message does the Welsh Government intend to take to the UN Climate Change Summit in Paris? OAQ(4)2612(FM)
 
14:08
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
We want to see an ambitious, legally binding global climate agreement, underpinned by transparency and accountability, which will deliver against the scientific imperative.
Rydym ni eisiau gweld, cytundeb hinsawdd byd-eang uchelgeisiol, sy’n rhwymo mewn cyfraith, wedi’i seilio ar dryloywder ac atebolrwydd, a fydd yn cyflawni yn erbyn y rheidrwydd gwyddonol.
 
14:08
Jenny RathboneBywgraffiadBiography
First Minister, you’re probably aware that the UN global compact survey of world leaders indicates that a majority are very positive about the growth and innovation that can come from addressing the climate challenge, and that increases to 70 per cent amongst the top leaders in the world’s biggest companies. Here in Wales, with the groundbreaking work we’ve been doing at the Low Carbon Research Institute, the development of the house as a power station and last week’s launch of the compound semiconductor centre for Europe, which is all about developing sustainable technologies and more efficient energy generation, can we not be bold and promise some really clear targets for the Welsh Government that we could take to Paris—some interim targets up to 2020 for the fifth Assembly Government, as well as that 100 per cent by 2050?
Brif Weinidog, mae'n debyg eich bod yn ymwybodol bod arolwg compact byd-eang y Cenhedloedd Unedig o arweinwyr y byd yn dangos bod y mwyafrif yn gadarnhaol iawn am dwf ac arloesedd a all ddod o fynd i'r afael â her yr hinsawdd, ac mae hynny'n codi i 70 y cant ymhlith yr arweinwyr uchaf yng nghwmnïau mwyaf y byd. Yma yng Nghymru, gyda'r gwaith arloesol yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yn y Sefydliad Ymchwil Carbon Isel, datblygiad y tŷ fel gorsaf bŵer a lansio canolfan lled-ddargludyddion Ewrop y llynedd, sydd â’r nod o ddatblygu technolegau cynaliadwy a chynhyrchu ynni’n fwy effeithlon, oni allwn ni fod yn feiddgar ac addo targedau gwirioneddol eglur i Lywodraeth Cymru y gallem ni fynd â nhw i Baris—targedau dros dro hyd at 2020 ar gyfer pumed Lywodraeth y Cynulliad, yn ogystal â’r 100 y cant yna erbyn 2050?
 
14:09
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
I think the important thing is that there is an international agreement. Whilst we can make our contribution in Wales, we are very small compared to the world’s major emitters. What is encouraging is that, in the run-up to COP 21, we’ve seen a groundswell of momentum from businesses declaring their commitment to decarbonisation, and that’s been the major difference between Paris and Copenhagen, where that wasn’t really happening in the same way. It’s one of the reasons why the UN now describe the transition to low carbon as inevitable and irreversible. As a Government, of course, we are committed to green growth and to maximising the benefits of the transition to low carbon for Wales. That was the approach that I outlined in ‘Energy Wales: A Low Carbon Transition’, and of course, we continue to look to deliver that.
Rwy’n meddwl mai’r peth pwysig yw bod cytundeb rhyngwladol. Er y gallwn ni wneud ein cyfraniad yng Nghymru, yr ydym ni’n fach iawn o gymharu â phrif allyrwyr y byd. Yr hyn sy’n galonogol, yn y cyfnod yn arwain at COP 21, yw ein bod wedi gweld ymchwydd o fomentwm gan fusnesau yn datgan eu hymrwymiad i ddatgarboneiddio, a dyna fu’r gwahaniaeth mawr rhwng Paris a Copenhagen, lle nad oedd hynny'n digwydd yn yr un ffordd mewn gwirionedd. Dyna un o'r rhesymau pam mae’r Cenhedloedd Unedig yn dweud erbyn hyn bod y newid i garbon isel yn anochel ac yn anghildroadwy. Fel Llywodraeth, wrth gwrs, rydym ni wedi ymrwymo i dwf gwyrdd, a sicrhau’r manteision mwyaf posibl i Gymru o newid i garbon isel. Dyna oedd y dull a amlinellais yn 'Ynni Cymru: Newid Carbon Isel', ac wrth gwrs, yr ydym ni’n parhau i geisio cyflawni hynny.
 
14:10
Russell GeorgeBywgraffiadBiography
First Minister, you have previously said it will be a challenge to achieve your own Government’s targets to reduce greenhouse gas emissions. The Welsh Government has cut its climate change budget by 6 per cent, and yet the UK Government has made a commitment to increase funding. Would you not agree that if the Welsh Government is to meet its target, then sufficient budgetary commitments do have to be attached to that target?
Brif Weinidog, rydych chi wedi dweud o'r blaen y bydd yn her i gyrraedd targedau eich Llywodraeth eich hun i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae Llywodraeth Cymru wedi torri ei chyllideb newid yn yr hinsawdd gan 6 y cant, ac eto mae Llywodraeth y DU wedi gwneud ymrwymiad i gynyddu cyllid. Oni fyddech chi’n cytuno, os yw Llywodraeth Cymru’n mynd i gyrraedd ei tharged, bod yn rhaid i ymrwymiadau cyllidebol digonol fod ynghlwm wrth y targed hwnnw?
 
14:10
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
More money again—so how much money is going to be bid for in the course of the afternoon? DEFRA’s budget has been hammered—if the Member hasn’t noticed—in England, to the point that we are concerned about the services that DEFRA deliver in Wales. I do not see any commitment by the UK Government to promote renewable energy. I do not see any commitment by the UK Government to move to a low-carbon economy, otherwise why would they have cut subsidies to photovoltaic? Why would they have cut subsidies to wind? Why are they looking primarily to have more gas-fired power stations, importing the gas as they go? No, we need to make sure that we create more renewable energy, that we reduce our greenhouse gas emissions and, of course, that we have more energy security than the Tories are prepared to allow us.
Mwy o arian eto—felly faint o arian y bydd ceisiadau’n cael ei wneud amdano yn ystod y prynhawn? Mae cyllideb DEFRA wedi cael ei tharo—os nad yw'r Aelod wedi sylwi—yn Lloegr, i'r pwynt lle’r ydym yn pryderu am y gwasanaethau y mae DEFRA yn eu darparu yng Nghymru. Nid wyf yn gweld unrhyw ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i hyrwyddo ynni adnewyddadwy. Nid wyf yn gweld unrhyw ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i symud i economi carbon isel, pam fydden nhw wedi torri cymorthdaliadau i ynni ffotofoltäig fel arall? Pam maen nhw wedi torri cymorthdaliadau i ynni’r gwynt? Pam maen nhw'n edrych yn bennaf i gael mwy o orsafoedd ynni nwy, gan fewnforio'r nwy wrth wneud hynny? Na, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn creu mwy o ynni adnewyddadwy, ein bod yn lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr ac, wrth gwrs, bod gennym ni fwy o ddiogelwch ynni nag y mae'r Torïaid yn barod i’w roi i ni.
 
14:11
Nid oes un o’r gwledydd sydd wedi methu â chyrraedd eu targedau o dan brotocol Kyoto wedi wynebu unrhyw fath o sancsiynau, sydd, yn fy marn i, wedi golygu bod yna lawer o wledydd wedi gallu cael bant gyda pheidio â chwrdd â’u hymrwymiadau. Nawr, mae gennych chi fel Llywodraeth gynrychiolydd allan ym Mharis. A fydd y cynrychiolydd yna yn dadlau dros greu sancsiynau yn erbyn y gwledydd sydd yn methu cwrdd â’r targedau y maen nhw eu hunain yn eu gosod o dan y trafodaethau ym Mharis?
Not one of the nations that’s failed to reach its targets under the Kyoto protocol has faced any sort of sanctions, which, in my view, has meant that many nations have got away with not meeting their commitments. Now, you as a Government have a representative out there in Paris. Will that representative be making a case for the introduction of sanctions over those countries that can’t meet their targets under the current Paris negotiations?
 
14:11
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Wel, mewn egwyddor, iawn, ond yn ymarferol, mae’n anodd dros ben, achos mae’n rhaid cael cytundeb y gwledydd hynny er mwyn cael cytundeb sydd yn fyd-eang. Ar hyn o bryd, beth sy’n bwysig yw bod yna gytundeb yn yr un traddodiad â phrotocol Kyoto. Unwaith y bydd hynny wedi cael ei wneud, rhaid ystyried ym mha ffordd y bydd y cytundeb hwnnw’n cael ei blismona. Ond mae’n wir i ddweud, wrth gwrs, bod rhaid cael cytundeb y bydd pobl yn cadw ato. Felly, cael y cytundeb yw’r cam cyntaf, ac wedyn yr ail gam yw sicrhau bod yna ffordd, o leiaf, i enwi’r gwledydd sydd wedi torri’r cytundeb hwnnw a, gobeithio, mynd ymhellach na hynny.
Well, that’s fine in principle, but in practice, it’s very difficult, because you have to have the agreement of those countries in order to secure a global agreement. At present, what’s important is that an agreement exists, in the same tradition as the Kyoto protocol. Once that is reached, we must consider how that agreement should be policed. It’s true to say, of course, that you have to have an agreement that people can adhere to. So, securing the agreement is the first step, and then the second step is to ensure that there is a means of at least naming those countries that have broken the agreement and, hopefully, go further than that.
 
Blaenoriaethau Cyllidebol (Iechyd a Gofal Cymdeithasol)
Budgetary Priorities (Health and Social Care)
 
14:12
Janet Finch-SaundersBywgraffiadBiography
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau cyllidebol Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol? OAQ(4)2608(FM)
8. Will First Minister make a statement on the Welsh Government's budgetary priorities for health and social care? OAQ(4)2608(FM)
 
14:12
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Yes. We’ve invested more in the Welsh health service than ever before. In the last two years, we’ve invested an extra £1 billion in the Welsh NHS, despite the £1.3 billion that has been cut from the overall Welsh budget by the UK Government since 2011. We are not looking to local government to fund social care.
Gwnaf. Rydym ni wedi buddsoddi mwy yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru nag erioed o'r blaen. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym ni wedi buddsoddi £1 biliwn ychwanegol yn y GIG yng Nghymru, er gwaethaf yr £1.3 biliwn sydd wedi cael ei dorri o gyllideb gyffredinol Cymru gan Lywodraeth y DU ers 2011. Nid ydym yn gofyn i lywodraeth leol ariannu gofal cymdeithasol.
 
14:13
Janet Finch-SaundersBywgraffiadBiography
Thank you, First Minister. I’m sure you’ll join me in welcoming the historic funding floor introduced by the UK Conservative Government, set at 115 per cent, in line with the Holtham commission’s recommendation—a level that you yourself have previously called for—and the increase of £945 million to Wales’s consequential share of increased health spending in England. Will you now commit to protecting the health budget in Wales in real terms?
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu'r ariannu gwaelodol hanesyddol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU, a bennwyd ar 115 y cant, yn unol ag argymhelliad comisiwn Holtham—lefel yr ydych chi eich hun wedi galw amdano o'r blaen—a’r cynnydd o £945 miliwn i gyfran ganlyniadol Cymru o wariant iechyd cynyddol yn Lloegr. A wnewch chi ymrwymo nawr i ddiogelu'r gyllideb iechyd yng Nghymru mewn termau real?
 
14:13
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Well, first of all, the floor is fine in principle, but because there’s no commitment beyond 2020, it doesn’t work. So, we need to see a commitment to a floor beyond 2020, otherwise the floor is not going to be effective. If that floor is to stay in place, it needs to stay in place for a substantial amount of time, not for five years; that simply isn’t going to be enough. In terms of the consequentials—we’re not getting consequentials of over £900 million, I don’t know where she gets that figure from. I can say the consequential from the CSR is £110 million for this year. So, the suggestion that somehow we are getting consequentials for health alone is quite simply untrue, because as the party opposite full well knows, when we get consequentials, we get negative consequentials in other areas. So, what the Chancellor gives with one hand he takes away with the other. So, the consequential for the coming financial year is £110 million. It’s not more than that.
Wel, yn gyntaf oll, mae’r cyllid gwaelodol yn iawn mewn egwyddor, ond gan nad oes ymrwymiad y tu hwnt i 2020, nid yw'n gweithio. Felly, mae angen i ni weld ymrwymiad i gyllid gwaelodol y tu hwnt i 2020, neu did yw’n mynd i fod yn effeithiol fel arall. Os yw’r cyllid gwaelodol hwnnw’n mynd i aros ar waith, mae angen iddo aros ar waith am gyfnod sylweddol o amser, nid am bum mlynedd; nid yw hynny’n mynd i fod yn ddigon. O ran y symiau canlyniadol—nid ydym yn cael symiau canlyniadol o dros £900 miliwn, nid wyf yn gwybod o ble mae hi'n cael y ffigur hwnnw. Gallaf ddweud mai £110 miliwn yw’r swm canlyniadol o'r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant ar gyfer eleni. Felly, mae’r awgrym ein bod ni rywsut yn cael symiau canlyniadol ar gyfer iechyd yn unig yn gwbl anghywir, oherwydd fel y mae’r blaid gyferbyn yn ei wybod yn iawn, pan fyddwn ni’n cael symiau canlyniadol, rydym ni’n cael symiau canlyniadol negyddol mewn meysydd eraill. Felly, yr hyn y mae'r Canghellor yn ei roi gydag un llaw, mae'n mynd i'w ddwyn gyda'r llall. Felly, £110 miliwn yw’r swm canlyniadol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Nid yw’n fwy na hynny.
 
14:14
First Minister, as the Tories preside over the destruction of adult social care, do you agree with me that we must do all we can to maintain a comprehensive adult social care system in Wales? Do you share my genuine concern that Offa’s Dyke could become the dividing line between the failure and destruction of adult social care services in England, and the maintenance of a comprehensive package of adult social care in Wales?
Brif Weinidog, wrth i’r Torïaid lywyddu dros ddinistrio gofal cymdeithasol i oedolion, a ydych chi’n cytuno â mi bod yn rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i gynnal system gofal cymdeithasol gynhwysfawr i oedolion yng Nghymru? A ydych chi’n rhannu fy mhryder gwirioneddol y gallai Clawdd Offa droi’n ffin rhwng methiant a dinistrio gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn Lloegr, a chynnal pecyn cynhwysfawr o ofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru?
 
14:14
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
I believe that if we look at the way things are going in England, in time, our border will become the difference between care on one side and neglect on the other.
Rwy’n credu, os edrychwn ni ar y ffordd y mae pethau'n mynd yn Lloegr, mewn amser, ein ffin fydd y gwahaniaeth rhwng gofal ar un ochr ac esgeulustod ar y llall.
 
14:15
Lindsay WhittleBywgraffiadBiography
First Minister, can you explain why the public health Bill makes no reference to child obesity at all?
Brif Weinidog, a allwch chi egluro pam nad yw’r Bil iechyd y cyhoedd yn gwneud unrhyw gyfeiriad o gwbl at ordewdra plant?
 
14:15
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Well, these are matters, of course, that can be examined as the Bill progresses through the Assembly, and I’m sure, if Members have ideas as to how the Bill might be improved, the Minister, I’m sure, would look to consider how that can be done.
Wel, mae'r rhain yn faterion, wrth gwrs, y gellir eu harchwilio wrth i'r Bil symud drwy'r Cynulliad, ac rwy'n siŵr, os oes gan Aelodau syniadau ynghylch sut y gellid gwella’r Bil, y byddai’r Gweinidog, rwy'n siŵr, yn ystyried sut y gellir gwneud hynny.
 
14:15
First Minister, you recently commented on the recent figures that indicate that the spend in Wales per person on health and social care is actually greater than in England. Now, as the Member for Pontypridd and the Member for Torfaen have actually identified, the Welsh Labour Government believe that health and social care are inextricably linked together and, as such, we fund it properly. Do you believe that, with the increased delayed transfers of care in English hospitals and the blocking they create, it’s time the Welsh model was used in England?
Brif Weinidog, gwnaethoch sylwadau yn ddiweddar ar y ffigurau diweddar sy'n dangos bod y gwariant fesul pen yng Nghymru ar iechyd a gofal cymdeithasol yn uwch nag yn Lloegr. Nawr, fel y mae’r Aelod dros Bontypridd a'r Aelod dros Dorfaen wedi ei nodi a dweud y gwir, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn credu bod iechyd a gofal cymdeithasol wedi’u cysylltu'n annatod â’i gilydd ac, fel y cyfryw, rydym ni’n eu hariannu’n briodol. A ydych chi’n credu, gydag oedi cynyddol wrth drosglwyddo gofal mewn ysbytai yn Lloegr a'r blocio y mae’n ei greu, ei bod yn amser i fodel Cymru gael ei ddefnyddio yn Lloegr?
 
14:15
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Do you know what you find with the Tories? The more uncomfortable they get, the more they shout. And the less they understand, the more they laugh. That’s one of the things you find. Yes, Darren Millar’s right: record-breaking cuts in social care in England—record-breaking cuts in social care in England. People who are being neglected, people who will not get the care that they need, and the responsibility is being dumped on local authorities and his Chancellor and his party are abdicating their responsibility for older people. Insufficient funding for the NHS in England; we saw that from their own figures. Insufficient funding for education in England; we saw that from their own figures. And now we see older people who will be denied social care in the future because of an appalling—an appalling—attitude by the UK Government that will lead to the most record-breaking cuts for older people any part of the UK has ever seen.
Wyddoch chi beth yr ydych chi’n ei ganfod gyda'r Torïaid? Po fwyaf anghyfforddus y byddan nhw, y mwyaf y maen nhw’n gweiddi. A po leiaf y maen nhw’n ei ddeall, y mwyaf y maen nhw’n chwerthin. Dyna un o'r pethau yr ydych chi’n ei ganfod. Ydy, mae Darren Millar yn iawn: y toriadau mwyaf erioed ym maes gofal cymdeithasol yn Lloegr—y toriadau mwyaf erioed ym maes gofal cymdeithasol yn Lloegr. Mae pobl yn cael eu hesgeuluso, pobl na fyddant yn cael y gofal sydd ei angen arnynt, ac mae'r cyfrifoldeb yn cael ei roi ar awdurdodau lleol ac mae ei Ganghellor a'i blaid yn troi eu cefnau ar eu cyfrifoldeb am bobl hŷn. Cyllid annigonol ar gyfer y GIG yn Lloegr; gwelsom hynny o’u ffigurau eu hunain. Dim digon o arian ar gyfer addysg yn Lloegr; gwelsom hynny o’u ffigurau eu hunain. A nawr rydym ni’n gweld pobl hŷn y bydd gofal cymdeithasol yn cael ei wadu iddynt yn y dyfodol oherwydd agwedd ofnadwy—ofnadwy—gan Lywodraeth y DU a fydd yn arwain at y toriadau mwyaf i bobl hŷn y mae unrhyw ran o'r DU wedi eu gweld erioed.
 
14:16
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
Thank you, First Minister.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog.
 
Cwestiwn Brys: West London Vocational Training College
Urgent Question: West London Vocational Training College
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
[R] signifies the Member has declared an interest. [W] signifies that the question was tabled in Welsh.
 
14:16
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
I have agreed to an urgent question under Standing Order 12.66, and I call on Andrew R.T. Davies to ask the question. Andrew R.T. Davies.
Rwyf wedi cytuno i gwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, a galwaf ar Andrew R.T. Davies i ofyn y cwestiwn. Andrew R.T. Davies.
 
14:16
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadBiography
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am benderfyniad Llywodraeth Cymru i dynnu cyllid yn ôl o’r West London Vocational Training College yn sgil yr ymchwiliad parhaus i honiadau ehangach o dwyll? EAQ(4)0663(ESK)
Will the Minister make a statement on the Welsh Government’s decision to withdraw funding from the West London Vocational Training College, in light of the on-going investigation into wider allegations of fraud? EAQ(4)0663(ESK)
 
14:17
Huw LewisBywgraffiadBiographyY Gweinidog Addysg a Sgiliau / The Minister for Education and Skills
Yes, I will, Presiding Officer. I issued a written statement on Friday last week. I’ve asked officials to pass to the police the information we have available today. Officials will also refer this issue to the Quality Assurance Agency for Higher Education and continue to investigate with the Student Loans Company.
Gwnaf, mi wnaf, Lywydd. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ddydd Gwener yr wythnos diwethaf. Rwyf wedi gofyn i swyddogion rannu’r wybodaeth sydd gennym ar gael heddiw gyda’r heddlu. Bydd swyddogion hefyd yn cyfeirio’r mater hwn at yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch ac yn parhau i ymchwilio gyda'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.
 
14:17
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadBiography
Thank you for that answer, Minister. Obviously, the Welsh Government makes significant loans and grants available—£6,000 to students, and the student finance company pays out loans of £21,000 to students as well. As I understand it, there are few or no checks or balances undertaken by the Welsh Government over the legitimacy of students registered at colleges, like the college in question, the West London Vocational Training College. What assurances can the Minister give that this isn’t a wider issue around support that you offer to similar students in other colleges?
Diolch i chi am yr ateb yna, Weinidog. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi benthyciadau a grantiau sylweddol ar gael—£6,000 i fyfyrwyr, ac mae'r cwmni cyllid myfyrwyr yn talu benthyciadau o £21,000 i fyfyrwyr hefyd. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, prin neu ddim yw'r mesurau cadw cydbwysedd a gaiff eu cyflawni gan Lywodraeth Cymru o ran cyfreithlondeb myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru mewn colegau, fel y coleg dan sylw, Coleg Hyfforddiant Galwedigaethol Gorllewin Llundain. Pa sicrwydd all y Gweinidog ei roi nad yw hwn yn fater ehangach o amgylch cefnogaeth yr ydych chi’n ei gynnig i fyfyrwyr tebyg mewn colegau eraill?
 
14:18
Presiding Officer, I can assure the Member that this is simply not true. Of course there are checks and balances, and the usual checks around residency and so on would apply and were applied in this case. It would be difficult to see that this particular problem, if it turns out to be an allegation with some substance, could have spread much wider as this is the only English-based private provider currently operating in Wales. My understanding is that the numbers of students involved is in the low hundreds—although it doesn’t matter: one would be too many, if there were any substance to the allegations of fraud, and we will, of course, work with partner authorities to get to the bottom of the matter and take whatever action is necessary.
Lywydd, gallaf sicrhau'r Aelod nad yw hyn yn wir. Wrth gwrs bod mesurau cadw cydbwysedd, a byddai'r gwiriadau arferol yn ymwneud â phreswylio ac yn y blaen yn cael eu cynnal, ac fe’u cynhaliwyd yn yr achos hwn. Byddai'n anodd gweld y gallai’r broblem benodol hon, os bydd yn honiad â rhywfaint o sylwedd iddo yn y pen draw, fod wedi lledaenu llawer ymhellach gan mai hwn yw'r unig ddarparwr preifat wedi’i leoli yn Lloegr sy'n gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd. Fy nealltwriaeth i yw bod nifer y myfyrwyr dan sylw yn y cannoedd isel—er nad oes ots am hynny: byddai un yn ormod, pe byddai unrhyw sylwedd i'r honiadau o dwyll, a byddwn, wrth gwrs, yn gweithio gydag awdurdodau partner i fynd at wraidd y mater a chymryd pa bynnag gamau sy'n angenrheidiol.
 
14:18
Bethan JenkinsBywgraffiadBiography
Minister, during the Stage 1 debate of the higher education Bill, we expressed concerns by Cardiff Metropolitan University and others that there may not be sufficient safeguards in respect of provision delivered within Wales by private or alternative providers, and we said that a review was needed to see if there were any gaps in regulation of publicly funded bodies. Have any lessons been learned from previous instances, such as at Glyndŵr University, and have you put forward any spot checks or snap inspections that may prevent these issues from happening again?
Weinidog, yn ystod dadl Cyfnod 1 y Bil addysg uwch, mynegwyd pryderon gennym gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ac eraill efallai nad oes digon o fesurau diogelu o ran darpariaeth a wneir yng Nghymru gan ddarparwyr preifat neu amgen, a nodwyd gennym fod angen cynnal adolygiad i weld a oedd unrhyw fylchau o ran rheoleiddio cyrff a ariennir yn gyhoeddus. A ddysgwyd unrhyw wersi o'r achosion blaenorol, fel ym Mhrifysgol Glyndŵr, ac a ydych chi wedi cyflwyno unrhyw haparchwiliadau neu arolygiadau heb rybudd a allai atal y materion hyn rhag digwydd eto?
 
14:19
Well, I refer the Member to my statement on Friday in terms of the checks that were undertaken earlier in the autumn. The Member will also be aware that I consulted earlier this year on proposals to strengthen criteria around specific designation and the applications for designation, and new and more stringent criteria are due to be implemented in the new year.
Wel, cyfeiriaf yr Aelod at fy natganiad ddydd Gwener o ran yr archwiliadau a gynhaliwyd yn gynharach yn yr hydref. Bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol fy mod i wedi ymgynghori’n gynharach eleni ar gynigion i gryfhau meini prawf yn ymwneud â dynodiad penodol a'r ceisiadau ar gyfer eu dynodi, a disgwylir i feini prawf newydd a llymach gael eu rhoi ar waith yn y flwyddyn newydd.
<