By continuing to use our site, you are agreeing for us to set a small number of cookies. Cookie policy

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Back to list View this page without hyperlinks
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:31 gyda’r Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair.
The Assembly met at 13:31 with the Presiding Officer (Dame Rosemary Butler) in the Chair.
 
13:31
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
Good afternoon. The National Assembly for Wales is now in session.
Prynhawn da. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
13:31
Datganiad gan y Llywydd
Statement by the Presiding Officer
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
I’m sure Members would like to join me in welcoming Members of the Joint Committee on Public Service Oversight and Petitions from the Parliament of the Irish Republic, who are in the public gallery today. I think they’re behind me up there, somewhere—I’m not sure.
Rwy’n siŵr yr hoffai’r Aelodau ymuno â mi i groesawu Aelodau o'r Cyd-bwyllgor Goruchwylio Gwasanaethau Cyhoeddus a Deisebau o Senedd Gweriniaeth Iwerddon, sydd yn yr oriel gyhoeddus heddiw. Rwy'n credu eu bod y tu ôl i mi i fyny yn y fan yna, yn rhywle—dwi ddim yn siŵr.
 
13:31
Teyrnged i Antoinette Sandbach a Byron Davies
Tribute to Antoinette Sandbach and Byron Davies
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
I wish to inform Members that, on Friday, I received written notification from Antoinette Sandbach of her resignation with immediate effect as an Assembly Member following her election as Member of Parliament for Eddisbury. And, today, I have received notification from Byron Davies that he too is resigning his seat at the Assembly following his election as Member of Parliament for Gower. His resignation will be effective from 15 May.
Hoffwn hysbysu'r Aelodau fy mod, ddydd Gwener, wedi derbyn hysbysiad ysgrifenedig gan Antoinette Sandbach ei bod yn ymddiswyddo ar unwaith fel Aelod Cynulliad ar ôl iddi gael ei hethol yn Aelod Seneddol dros Eddisbury. A, heddiw, rwyf wedi derbyn hysbysiad gan Byron Davies ei fod yntau hefyd yn ymddiswyddo o'i sedd yn y Cynulliad ar ôl iddo gael ei ethol yn Aelod Seneddol dros Gŵyr. Bydd ei ymddiswyddiad ef yn weithredol o 15 Mai.
 
I have informed the regional returning officer for North Wales of the vacancy that now exists for that region, and I’ll be writing to the returning officer for South Wales West in the same vein. I will await the returning officers’ notifications regarding new Members for their respective regions, and I will make further announcements to Members in due course. I’m sure you would all like to join me in wishing Antoinette and Byron all the best for the future.
Rwyf wedi hysbysu’r swyddog canlyniadau rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru am y lle gwag sy’n bodoli yn y rhanbarth hwnnw erbyn hyn, a byddaf yn ysgrifennu at swyddog canlyniadau Gorllewin De Cymru yn yr un modd. Byddaf yn aros am hysbysiadau’r swyddogion canlyniadau ynghylch Aelodau newydd ar gyfer eu rhanbarthau perthnasol, a byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach i'r Aelodau maes o law. Rwy'n siŵr yr hoffech chi i gyd ymuno â mi i ddymuno’n dda i Antoinette a Byron ar gyfer y dyfodol.
 
13:32
1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog
1. Questions to the First Minister
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
We now move to questions to the First Minister, and question 1 is from Julie Morgan.
Symudwn at gwestiynau i'r Prif Weinidog nawr, a daw cwestiwn 1 gan Julie Morgan.
 
Polisïau Llywodraeth Cymru
Welsh Government Policies
 
13:32
1. Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o effaith canlyniad etholiad cyffredinol y DU ar bolisïau Llywodraeth Cymru? OAQ(4)2262(FM)
1. What assessment has the First Minister made of the impact of the outcome of the UK general election on Welsh Government policies? OAQ(4)2262(FM)
 
13:32
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
We have yet to know, of course. We await what the Queen’s Speech will show and what the budget will show. But, of course, I take note of the fact that a promise has been made that legislation for further devolution for Wales will be delivered within 100 days. We wait to see whether that promise is kept.
Nid ydym yn gwybod eto, wrth gwrs. Rydym ni’n disgwyl yr hyn y bydd Araith y Frenhines yn ei ddangos a’r hyn y bydd y gyllideb yn ei ddangos. Ond, wrth gwrs, rwy’n nodi'r ffaith fod addewid wedi ei wneud y bydd deddfwriaeth ar gyfer datganoli pellach i Gymru yn cael ei chyflwyno o fewn 100 diwrnod. Arhoswn i weld a gaiff yr addewid hwnnw ei gadw.
 
13:32
I thank the First Minister for that response. Does he think that a key priority for the Westminster Government must be to deliver the commitments it made to the people of Wales, in terms of cutting the Severn bridge tolls, providing the resources to put in a city deal for Cardiff, funding the electrification of the Valleys lines and the First Great Western main line? And will he be pressing the incoming Government to give the attention to Welsh issues that the people of Wales deserve, so that it doesn’t spend all its energy on Scotland?
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. A yw'n credu ei bod yn rheidrwydd mai blaenoriaeth allweddol i Lywodraeth San Steffan ei bodloni yw’r ymrwymiadau a wnaeth i bobl Cymru, o ran torri tollau pont Hafren, darparu'r adnoddau i sicrhau cytundeb dinas i Gaerdydd, ariannu’r gwaith o drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd a phrif reilffordd First Great Western? Ac a fydd ef yn pwyso ar y Llywodraeth newydd i roi’r sylw i faterion Cymreig y mae pobl Cymru yn ei haeddu, fel nad yw'n defnyddio ei holl egni ar yr Alban?
 
13:33
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Yes. I have a phone call with the Prime Minister very shortly. I will be saying, of course, there is a need to move forward with the Wales Bill, as he has promised. In terms of the Severn bridge tolls, the view of the Welsh Government is that it should be controlled from within Wales, rather than the profits going entirely to pay for English roads, as they will once the bridge returns to public ownership. And, of course, with the metro, there will be a need for the UK Government to deliver alongside us, particularly, for example, if light rail is the option that is preferred in terms of the future of the metro.
Byddaf. Byddaf yn siarad ar y ffôn gyda'r Prif Weinidog yn fuan iawn. Byddaf yn dweud, wrth gwrs, bod angen symud ymlaen â Bil Cymru, fel y mae wedi ei addo. O ran tollau pont Hafren, safbwynt Llywodraeth Cymru yw y dylent gael eu rheoli o Gymru, yn hytrach na bod yr elw’n mynd yn gyfan gwbl i dalu am ffyrdd yn Lloegr, fel y byddant ar ôl i’r bont ddychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus. Ac, wrth gwrs, gyda'r metro, bydd angen i Lywodraeth y DU gyflawni ochr yn ochr â ni, yn enwedig, er enghraifft, os mai rheilffyrdd ysgafn yw'r dewis a ffefrir o ran dyfodol y metro.
 
13:33
Mark IsherwoodBywgraffiadBiography
During the general election, one of the repeated concerns raised on the doorstep applied to devolved matters, such as housing and health, and, nine times out of 10, the comments related to—wrongly—the UK Government, rather than the Welsh Government, which, of course, has been responsible since 1999. Is this a concern that you share with me, and, if so, what action does the Welsh Government propose to try and improve public understanding in places like north-east Wales, and elsewhere, around the matters for which this place is responsible, ahead of the Welsh general election next year?
Yn ystod yr etholiad cyffredinol, roedd un o'r pryderon a godwyd dro ar ôl tro ar garreg y drws yn ymwneud â materion datganoledig, fel tai ac iechyd, a, naw gwaith allan o 10, roedd y sylwadau’n ymwneud—yn anghywir— â Llywodraeth y DU, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, sydd, wrth gwrs, wedi bod yn gyfrifol ers 1999. A yw hyn yn bryder yr ydych chi’n ei rannu â mi, ac, os felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru’n eu cynnig i geisio gwella dealltwriaeth y cyhoedd mewn mannau fel y gogledd-ddwyrain, ac mewn mannau eraill, o’r materion y mae’r lle hwn yn gyfrifol amdanynt, cyn etholiad cyffredinol Cymru y flwyddyn nesaf?
 
13:34
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
We know that part of the problem is, of course, that more than 80 per cent of the population get their print news from outside Wales, and the London media don’t bother with Wales, in terms of publishing separate editions, as they do for Scotland. We know, of course, that it’s the broadcast media that is most responsible for informing the public here in Wales. Of course, in the north-east, historically, there was a tendency to turn aerials to transmitters away from Moel y Parc, as the transmitter for the area. My suspicion is that, as people have begun to understand more about the Assembly, they have taken more interest in terms of what it does. But, the Member is right to say, of course, that the understanding of who does what is not entirely clear to the public yet.
Rydym ni’n gwybod mai rhan o'r broblem, wrth gwrs, yw bod mwy nag 80 y cant o'r boblogaeth yn cael eu newyddion print o'r tu allan i Gymru, ac nid yw cyfryngau Llundain yn trafferthu â Chymru, o ran cyhoeddi rhifynnau ar wahân, fel y maen nhw’n ei wneud ar gyfer yr Alban. Rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, mai’r cyfryngau darlledu sydd fwyaf cyfrifol am hysbysu’r cyhoedd yma yng Nghymru. Wrth gwrs, yn y gogledd-ddwyrain, yn hanesyddol, bu tueddiad i droi erialau at drosglwyddyddion i ffwrdd oddi wrth Foel y Parc, fel y trosglwyddydd ar gyfer yr ardal. Fy amheuaeth i, wrth i bobl ddechrau deall mwy am y Cynulliad, yw eu bod wedi cymryd mwy o ddiddordeb o ran yr hyn y mae'n ei wneud. Ond, mae’r Aelod yn iawn i ddweud, wrth gwrs, nad yw’r ddealltwriaeth o bwy sy'n gwneud beth yn gwbl eglur i'r cyhoedd eto.
 
13:35
Un o ddatganiadau cyntaf y Llywodraeth newydd yn San Steffan yw un i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998. Nawr, mae’r Ddeddf Hawliau Dynol nid yn unig yn amddiffyniad i bobl yng Nghymru, ond mae hefyd wedi ysgrifennu mewn i gyfansoddiad Cymru, drwy Ddeddf Cymru 2014, ac mae’n rhan, yn wir, o’r cyfansoddiad Prydeinig yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban hefyd. Felly, pa drafodaethau, os ydych am gael sgwrs gyda’r Prif Weinidog yn fuan, fyddwch chi’n eu cael gyda’r Prif Weinidog i wneud yn siŵr bod llais Cymru a’r buddiannau sydd yn llifo i Gymru o’r Ddeddf Hawliau Dynol yn cael eu cadw yma yng Nghymru?
One of the first statements made by the new Government in Westminster was on the abolition of the Human Rights Act 1998. The Human Rights Act not only provides safeguards for people in Wales, but it is also written into the Welsh constitution through the Wales Act 2014 and is part of the constitution of the UK in Northern Ireland and Scotland too. So, if you are to have a conversation with the Prime Minister soon, what negotiations will you hold in order to ensure that the Welsh voice and the benefits that comes to Wales from the Human Rights Act are retained here in Wales?
 
13:35
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Wel, fy marn i yw y dylai’r Ddeddf gael ei chadw, wrth gwrs. Nid wyf yn credu bod unrhyw sylw wedi cael ei wneud ynglŷn â beth yw sefyllfa’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Rhyw fath o ailfeddwl fydd hynny, rwy’n siŵr. Fe gwrddais i â’r grŵp a oedd yn edrych ar Fil hawliau Prydeinig sawl blwyddyn yn ôl, ac mae’n wir i ddweud nad oedd lot fawr o glem gyda nhw ynglŷn â fel byddai’n gweithio a fel byddai’n gweithio o ran datganoli. Ond, fe gawn ni weld beth fydd yn cael ei ddweud ynglŷn â beth fydd yn cael ei roi mewn lle yn lle’r Ddeddf ei hunan.
Well, my view, of course, is that that Act should be retained. I don’t think any comment had been made on the situation of Scotland, Wales and Northern Ireland. That won’t be their initial thought, obviously. I met with a group that looked at a British rights Bill some years ago, and it’s true to say that they didn’t have very much of a clue about how it would work alongside devolution. However, we will have to see what will be set out as a replacement for the Act.
 
13:36
First Minister, do you agree with me that we must continue to press for a constitutional convention and, as part of that, a fair funding formula for all the regions of the UK? Do you also agree that Wales should proactively engage with other regions of the UK to press for change that is of benefit and is sustainable for the whole of the UK?
Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â mi bod yn rhaid i ni barhau i bwyso am gonfensiwn cyfansoddiadol ac, yn rhan o hynny, fformiwla ariannu teg ar gyfer holl ranbarthau'r DU? A ydych chi hefyd yn cytuno y dylai Cymru ymgysylltu'n rhagweithiol â rhanbarthau eraill y DU i bwyso am newid sydd er lles ac yn gynaliadwy i’r DU gyfan?
 
13:36
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Yes. We should work, of course, with our fellow nations and with the English regions. I don’t think we’ll ever get to a situation where we have the stability that we need without such a convention. Now, I note the views of my colleague in Northern Ireland, Peter Robinson, who is also in agreement with the principle of a convention. This is not something to be afraid of; this is something to strengthen the constitution of the UK for the twenty-first century.
Ydw. Dylem ni weithio, wrth gwrs, gyda'n cyd-wledydd a chyda rhanbarthau Lloegr. Nid wyf yn meddwl y byddwn i fyth yn cyrraedd sefyllfa lle mae’r sefydlogrwydd sydd ei angen arnom ni gennym heb gonfensiwn o'r fath. Nawr, rwy’n nodi safbwyntiau fy nghydweithiwr yng Ngogledd Iwerddon, Peter Robinson, sydd hefyd yn cytuno â'r egwyddor o gonfensiwn. Nid yw hyn yn rhywbeth i'w ofni; mae hyn yn rhywbeth i gryfhau cyfansoddiad y DU ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
 
Strategaeth yr Iaith Gymraeg
Welsh Language Strategy
 
13:37
Alun Ffred JonesBywgraffiadBiography
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed dros y pedair blynedd diwethaf mewn perthynas â strategaeth iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru? OAQ(4)2264(FM)
2. Will the First Minister make a statement on the progress made over the last four years in relation to the Welsh Government's Welsh language strategy? OAQ(4)2264(FM)
 
13:37
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Dros y pedair blynedd diwethaf rydym wedi cymryd camau breision wrth weithredu strategaeth ‘Iaith fyw: iaith byw’. Mae’r camau hyn yn cynnwys datblygiadau nodedig ym meysydd addysg, deddfwriaeth a hybu. Mae rhagor o waith pwysig o hyd i’w wneud yn ystod y ddwy flynedd sy’n weddill o’r strategaeth.
Over the last four years we have made large strides in implementing our ‘A living language: a language for living’ strategy. These include notable developments in the fields of education, legislation and promotion. We have more important work to do over the remaining two years of the strategy.
 
13:37
Alun Ffred JonesBywgraffiadBiography
Eich pwyslais chi bedair blynedd yn ôl oedd cynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg. Pa gam o fewn y strategaeth rydych chi wedi’i amlinellu rydych chi’n ystyried sy’n cyfrannu fwyaf i gyrraedd y nod yma?
Your emphasis four years ago was on increasing the number of Welsh speakers and providing opportunities to use the Welsh language. What steps within the strategy that you mentioned do you believe will contribute most to achieving these objectives?
 
13:37
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Mae’r egwyddorion yn y datganiad polisi, sef ‘Bwrw mlaen’, ynglŷn ag ym mha ffordd rydym ni’n moyn sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw, yn iaith sy’n cael ei defnyddio, a bod newid ynglŷn â’r arfer o ddefnyddio iaith gan unigolion a chymunedau. Un ffordd o wneud hynny yw sicrhau bod bywoliaeth i’r Gymraeg yn y sector dechnoleg, ac rwyf wedi gweld y Gymraeg yn cael ei defnyddio—mae’r Urdd wedi gwneud gwaith da ynglŷn â’r apps sydd gan yr Urdd—er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn gweld y Gymraeg fel iaith naturiol ac yn un i’w defnyddio ar Facebook a Twitter. Rydym ni’n moyn sicrhau bod y Gymraeg yn iaith sydd yn cael ei siarad, ac mae’n bwysig dros ben i sicrhau hefyd fod y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn y ganrif hon fel iaith dechnolegol.
The principles, of course, are contained within the policy statement ‘Bwrw mlaen’, in relation to how we ensure that the Welsh language is a living language and one that is used, and ensure that there is a change in people’s habits when it comes to its use on an individual and community basis. One way of doing that is to ensure that Welsh has a place in the technological sector, and I have seen it being used here—the Urdd has done very good work with its Welsh apps—and to ensure that young people view the Welsh language as their natural, day-to-day language and one that can be used on Facebook and Twitter. We want to ensure that Welsh is spoken, and it is extremely important that we ensure during this century that Welsh is used as a language of technology.
 
13:38
Brif Weinidog, rwyf wedi clywed heddiw ynglŷn â’ch endid cenedlaethol, ond, fel rydych yn gwybod, mae’r mater o ddewis yr iaith y mae pobl yn mynd ati yn hynod o bersonol. Felly, beth fydd eich neges bersonol chi i oedolion ansicr sydd ddim cweit yn siŵr eto o werth dysgu a defnyddio’r Gymraeg?
First Minister, I’ve heard today about the national entity that you created, but it’s a matter of choice as to which language people use, and that’s a very personal choice. So, what would your personal message be to adults who are a little uncertain and perhaps aren’t quite sure of the value of learning and using the Welsh language?
 
13:39
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Beth rydym yn gwybod yw bod lot fawr o oedolion bob blwyddyn yn dechrau dysgu Cymraeg. Rydym hefyd yn gwybod nad yw llawer ohonyn nhw yn parhau i ddysgu’r Gymraeg. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod pobl yn cael yr hyder er mwyn iddynt allu parhau i ddysgu’r iaith a hefyd, wrth gwrs, i ddefnyddio’r iaith. Rydym ni i gyd yn gwybod am bobl sydd yn wir rugl yn y Gymraeg ond ag arnynt ofn i ddefnyddio’r Gymraeg efallai mewn ffordd swyddogol neu i ddefnyddio’r Gymraeg efallai pan mae nhw ar eu traed. Hybu eu hyder nhw yw un ffordd o sicrhau bod pobl sydd yn dysgu’r Gymraeg wedyn yn defnyddio’r Gymraeg ac yn cael yr hyder i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sawl maes mewn bywyd.
What we do know is that very many adults start to learn Welsh every year, and we also know that very many don’t continue with this learning. So, we must ensure that people have the confidence to continue to learn the language and to use the language. Of course, we all know of people who are truly fluent in Welsh but are apprehensive, or afraid, of using the Welsh language in an official way, or using the language without a script, as it were. Boosting people’s confidence is one way of ensuring that those who learn the language then use the language and have the confidence to use it in many fields.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from the Party Leaders
 
13:39
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
We now move to questions from the party leaders, and first this afternoon is the leader of Plaid Cymru, Leanne Wood.
Symudwn nawr at gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau, ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, sydd gyntaf y prynhawn yma.
 
13:39
Leanne WoodBywgraffiadBiographyArweinydd Plaid Cymru / The Leader of Plaid Cymru
First Minister, the Secretary of State for Wales yesterday made a comment indicating an unwillingness to consider further meaningful devolution, and it’s looking increasingly likely that the previously agreed timetable regarding further devolution no longer stands. Now that we have a Westminster Government without a mandate from this country, would you agree with me that the time is now long overdue to strengthen the Welsh devolution settlement?
Brif Weinidog, gwnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru sylw ddoe yn dynodi amharodrwydd i ystyried datganoli ystyrlon pellach, ac mae'n edrych yn gynyddol debygol nad yw’r amserlen a gytunwyd yn flaenorol ynghylch datganoli pellach yn sefyll mwyach. Nawr bod gennym ni Lywodraeth San Steffan heb fandad gan y wlad hon, a ydych chi’n cytuno â mi ei bod hi’n hen bryd cryfhau setliad datganoli Cymru?
 
13:40
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Yes. Well, I saw what the Prime Minister said in terms of delivering for Wales within 100 days. We’ll have to wait and see. There are signs that that has been rowed back from. I’ve never agreed with Wales being treated differently from Scotland in that regard. I would hope that there was a recognition that there is a mandate for the UK Government in England, not so in Scotland, Wales and Northern Ireland, and the Prime Minister must show that he can be the Prime Minister of Britain and not just the Prime Minister of England.
Ydw. Wel, gwelais yr hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU o ran cyflawni dros Gymru o fewn 100 diwrnod. Bydd yn rhaid i ni aros i gael gweld. Ceir arwyddion yr aethpwyd yn ôl ar hynny erbyn hyn. Nid wyf erioed wedi cytuno â Chymru’n cael ei thrin yn wahanol i'r Alban yn hynny o beth. Byddwn yn gobeithio bod cydnabyddiaeth bod mandad i Lywodraeth y DU yn Lloegr, nid felly yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, ac mae'n rhaid i Brif Weinidog y DU ddangos y gall fod yn Brif Weinidog Prydain ac nid Prif Weinidog Lloegr yn unig.
 
13:40
Thank you for your answer, First Minister. As the person leading Wales’s Government and following on from the response that you’ve just given, can you tell me whether or not your Government’s position has changed regarding this, from before? What measures, for example, do you now support that might help to mitigate the cuts that we know are coming? Do you support measures, for example, that go beyond Silk? And will you be articulating any changed position to the Prime Minister when you speak to him?
Diolch i chi am eich ateb, Brif Weinidog. Fel y sawl sy’n arwain Llywodraeth Cymru ac yn dilyn ymlaen o'r ymateb yr ydych chi newydd ei roi, a allwch chi ddweud wrthyf a yw safbwynt eich Llywodraeth wedi newid am hyn, o'r hyn yr oedd o'r blaen? Pa fesurau, er enghraifft, ydych chi’n eu cefnogi erbyn hyn a allai helpu i liniaru'r toriadau yr ydym ni’n gwybod sy’n dod? A ydych chi’n cefnogi mesurau, er enghraifft, sy'n mynd y tu hwnt i Silk? A fyddwch chi’n mynegi unrhyw safbwynt sydd wedi newid i Brif Weinidog y DU pan fyddwch chi’n siarad ag ef?
 
13:41
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Yes, I do think that we should go beyond Silk. We know that the Smith commission, in terms of Scotland, has offered more devolution for Scotland. I think that offer should be made to Wales. She will know—and I’ve said this before—that that doesn’t automatically mean we should accept everything, because, sometimes, there are bear traps that are laid for us. Nevertheless, Smith changed the nature of devolution as far as Scotland is concerned. It is naive to think, in Whitehall, that, somehow, this has no effect on Wales, but I think the first step has to be for us to see delivery on what is, at least at this moment in time, agreed by all the parties, and then, of course, to look at how the settlement can be strengthened in the future. But, the first thing to do is to make sure that the promise of action within 100 days is kept by the Conservative Government.
Byddaf, rwy’n credu y dylem ni fynd y tu hwnt i Silk. Gwyddom fod comisiwn Smith, o ran yr Alban, wedi cynnig mwy o ddatganoli i'r Alban. Rwy'n credu y dylai’r cynnig hwnnw gael ei wneud i Gymru. Bydd hi'n gwybod—ac rwyf wedi dweud hyn o'r blaen—nad yw hynny'n golygu o reidrwydd y dylem ni dderbyn popeth, oherwydd, weithiau, ceir trapiau arth sy'n cael eu gosod ar ein cyfer. Serch hynny, newidiodd Smith natur datganoli cyn belled ag y mae’r Alban yn y cwestiwn. Mae'n naïf i feddwl, yn Whitehall, rywsut, nad yw hyn yn cael unrhyw effaith ar Gymru, ond rwy’n meddwl mai’n rhaid mai’r cam cyntaf yw i ni weld cyflawni ar yr hyn sydd, o leiaf ar hyn o bryd, wedi ei gytuno gan yr holl bleidiau, ac yna, wrth gwrs, ystyried sut y gellid cryfhau’r cytundeb yn y dyfodol. Ond, y peth cyntaf i'w wneud yw gwneud yn siŵr bod yr addewid o weithredu o fewn 100 diwrnod yn cael ei gadw gan y Llywodraeth Geidwadol.
 
13:42
I think it’s clear, First Minister, that many Welsh communities will be looking to your Government for some sort of protection from the further cuts and the coming reforms that don’t have support from the majority of people in this country. Now, the Tories haven’t been upfront about where the axe is going to fall. We know that we can expect a further £12 billion-worth of welfare cuts. I’m not sure whether or not you’ve considered whether or not a UK-wide welfare system will continue into the future, and, if not, what we are going to do about that. Now, it’s likely that Scotland will get powers over welfare. Will powers over welfare be something that you will now be seeking from Westminster for Wales?
Rwy'n credu ei bod yn eglur, Brif Weinidog, y bydd llawer o gymunedau yng Nghymru yn disgwyl i'ch Llywodraeth ddarparu rhyw fath o amddiffyniad rhag y toriadau pellach a’r diwygiadau i ddod nad oes ganddynt gefnogaeth gan y rhan fwyaf o bobl yn y wlad hon. Nawr, nid yw'r Torïaid wedi bod yn agored ynghylch ble mae’r fwyell yn mynd i ddisgyn. Rydym ni’n gwybod y gallwn ni ddisgwyl gwerth £12 biliwn arall o doriadau lles. Nid wyf yn siŵr a ydych chi wedi ystyried a fydd system les ledled y DU gyfan yn parhau yn y dyfodol, ac, os na fydd, beth yr ydym ni’n mynd i'w wneud am hynny. Nawr, mae'n debygol y bydd yr Alban yn cael pwerau dros les. A fydd pwerau dros les yn rhywbeth y byddwch chi’n gofyn amdanynt nawr gan San Steffan ar gyfer Cymru?
 
13:43
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Two points: first of all, we don’t know what the scale of the cuts will be. We have to wait and see what happens. We have an idea, but we don’t know until we see the first financial settlement. Secondly, the welfare system does transfer money into Wales and we should be very wary about changing a system that provides us with a positive benefit. There is no UK-wide benefit system, of course, it’s a GB-wide benefit system. In Northern Ireland, welfare is devolved, but we see what’s happened there is that there is no agreement in terms of what should happen with the bedroom tax, for example, but there is no money to pay for what the Northern Ireland Executive, or part of it, would want to do. So, having the powers is one thing; having the money to deliver on people’s expectations is another. We should examine very, very carefully whether wholesale welfare devolution is actually in Wales’s interests if it means we then lose a chunk of money that is, at present, being transferred into Wales. That said, I do share her concern about what’s in the pipeline, but neither she nor I will know what’s going to be proposed by the Conservative Government—it’s a change from coalition—and we’ll have to wait and see and then, of course, make our assessment in terms of what it means for Wales.
Dau bwynt: yn gyntaf oll, nid ydym ni’n gwybod beth fydd maint y toriadau. Mae'n rhaid i ni aros i weld beth fydd yn digwydd. Mae gennym ni syniad, ond nid ydym ni’n gwybod tan i ni weld y setliad ariannol cyntaf. Yn ail, mae'r system les yn trosglwyddo arian i mewn i Gymru a dylem ni fod yn wyliadwrus iawn o newid system sy'n rhoi mantais gadarnhaol i ni. Nid oes system budd-daliadau ledled y DU, wrth gwrs, system fudd-daliadau ledled Prydain Fawr yw hi. Yng Ngogledd Iwerddon, mae lles wedi'i ddatganoli, ond rydym ni’n gweld mai’r hyn sydd wedi digwydd yno yw nad oes cytundeb o ran yr hyn a ddylai ddigwydd gyda'r dreth ystafell wely, er enghraifft, ond nid oes unrhyw arian i dalu am yr hyn y byddai Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, neu ran ohoni, eisiau ei wneud. Felly, mae meddu ar y pwerau’n un peth; mae meddu ar yr arian i fodloni disgwyliadau pobl yn rhywbeth arall. Dylem edrych yn ofalus iawn, iawn pa un a yw datganoli lles yn gyfan gwbl o wir les i Gymru os yw'n golygu ein bod ni wedyn yn colli swm o arian sydd, ar hyn o bryd, yn cael ei drosglwyddo i Gymru. Wedi dweud hynny, rwyf yn rhannu ei phryder am yr hyn sydd ar y gweill, ond ni fydd hi na minnau’n gwybod beth sy'n mynd i gael ei gynnig gan y Llywodraeth Geidwadol—mae'n newid o glymblaid—a bydd yn rhaid i ni aros i weld, ac yna, wrth gwrs, gwneud ein hasesiad o ran yr hyn y mae'n ei olygu i Gymru.
 
13:44
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
We now move to the leader of the Welsh Liberal Democrats, Kirsty Williams.
Symudwn nawr at arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams.
 
13:44
Kirsty WilliamsBywgraffiadBiographyArweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru / The Leader of the Welsh Liberal Democrats
Thank you, Presiding Officer. First Minister, Amnesty International have said that human rights must not be a political plaything to be bestowed or scrapped on a whim. My party, the Welsh Liberal Democrats, agree with them. Do you?
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, mae Amnesty International wedi dweud na ddylai hawliau dynol fod yn bwnc i chwarae ag ef yn wleidyddol i’w cyflwyno neu eu diddymu ar fympwy. Mae fy mhlaid i, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn cytuno â nhw. A ydych chi?
 
13:44
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Yes.
Ydw.
 
13:44
Kirsty WilliamsBywgraffiadBiography
It seems pretty clear now, First Minister, that one of the priorities for the new Conservative Government is to put us in the same category as Belarus and Kazakhstan in terms of how we view human rights. In fact, to achieve what they really want, they actually need to withdraw the UK from the European Convention on Human Rights. What assessment has your Government made of the potential impact on our devolution settlement of any changes to the legislation that protects human rights in this country?
Mae'n ymddangos yn eithaf eglur nawr, Brif Weinidog, mai un o'r blaenoriaethau i’r Llywodraeth Geidwadol newydd yw ein rhoi ni yn yr un categori â Belarws a Kazakhstan o ran sut yr ydym ni’n ystyried hawliau dynol. Yn wir, er mwyn cyflawni'r hyn maen nhw wir ei eisiau, mae angen mewn gwirionedd iddyn nhw dynnu'r DU allan o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Pa asesiad mae eich Llywodraeth wedi ei wneud o effaith bosibl unrhyw newidiadau i'r ddeddfwriaeth sy'n diogelu hawliau dynol yn y wlad hon ar ein setliad datganoli?
 
13:44
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Well, it makes us look like a banana republic, frankly. I mean, most countries in Europe, including Russia, are signatories and members of the European convention. The European convention was drafted by British lawyers. It’s a British invention. There’s a complete lack of understanding of history, of course, in Whitehall at the moment, but that is the reality of it. Now, when I met, as I said earlier on in answer to another Member, with the group that was looking at creating a British Bill of rights, it was clear to me they had absolutely no idea what they were being asked to do and they had absolutely no idea where devolution fitted in that regard. We still don’t know, if the Human Rights Act is scrapped, what that means for the different settlements. It’s an essential part of the Northern Ireland settlement. I don’t believe that any thought’s been given to that—it’s all been focused on what it doesn’t mean for Scotland, Wales and Northern Ireland. A lot of work will need to be done by the Conservative Government in terms of ensuring that that is got right.
Wel, mae'n gwneud i ni edrych fel gweriniaeth fanana, a dweud y gwir. Hynny yw, mae mwyafrif gwledydd Ewrop, gan gynnwys Rwsia, wedi llofnodi ac yn aelodau o'r confensiwn Ewropeaidd. Drafftiwyd y confensiwn Ewropeaidd gan gyfreithwyr o Brydain. Dyfais Brydeinig yw hi. Ceir diffyg dealltwriaeth llwyr o hanes, wrth gwrs, yn Whitehall ar hyn o bryd, ond dyna'r gwir amdani. Nawr, pan gyfarfûm, fel y dywedais yn gynharach wrth ateb Aelod arall, gyda'r grŵp a oedd yn edrych ar greu Deddf Hawliau Dynol Brydeinig, roedd yn amlwg i mi nad oedd ganddyn nhw unrhyw syniad o gwbl o’r hyn y gofynnwyd iddyn nhw ei wneud ac nid oedd ganddyn nhw unrhyw syniad o gwbl o sut yr oedd datganoli yn rhan o hynny. Rydym ni'n dal heb fod yn gwybod, os caiff y Ddeddf Hawliau Dynol ei diddymu, beth mae hynny'n ei olygu i’r gwahanol setliadau. Mae'n rhan hanfodol o setliad Gogledd Iwerddon. Nid wyf yn credu y rhoddwyd unrhyw ystyriaeth i hynny—mae’r cwbl wedi canolbwyntio ar yr hyn nad yw'n ei olygu i’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Bydd angen i’r Llywodraeth Geidwadol wneud llawer o waith o ran sicrhau bod hynny'n cael ei wneud yn iawn.
 
13:45
Kirsty WilliamsBywgraffiadBiography
Well, First Minister, QC Phillippe Sands is on the record, this morning, as saying that to do that we’d have to have a complete rewriting of the Government of Wales Act. First Minister, what steps will your Government take to protect the principles enshrined within the Human Rights Act here in Wales and what will you give us as your guarantee that you will fight alongside others, including my party, to ensure that any moves by the UK Government to abolish the Act are resisted?
Wel, Brif Weinidog, mae Phillippe Sands QC ar goedd, y bore yma, yn dweud y byddai'n rhaid i ni ailysgrifennu Deddf Llywodraeth Cymru yn llwyr er mwyn gwneud hynny. Brif Weinidog, pa gamau wnaiff eich Llywodraeth eu cymryd i amddiffyn yr egwyddorion a ymgorfforir yn y Ddeddf Hawliau Dynol yma yng Nghymru a beth wnewch chi ei roi i ni fel eich sicrwydd y byddwch yn ymladd ochr yn ochr ag eraill, gan gynnwys fy mhlaid i, er mwyn sicrhau bod unrhyw gamau gan Lywodraeth y DU i ddiddymu'r Ddeddf yn cael eu gwrthwynebu?
 
13:46
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
It’s a strange scenario that we find now, where she and I are on the same side, after many years of combat across this Chamber. [Interruption.] I very much welcome that. But she is right to say that we should not move to a situation where the rights of individuals are weakened as a result of proposals by the Conservative Government. We will do, as a Government, all that we can to ensure that the rights that our citizens presently enjoy are not eroded by any proposals that come from Westminster.
Mae'n sefyllfa ryfedd yr ydym ni’n ei gweld nawr, pan fo hi a minnau ar yr un ochr, ar ôl blynyddoedd lawer o frwydro ar draws y Siambr hon. [Torri ar draws.] Rwy’n croesawu hynny'n fawr iawn. Ond mae hi’n iawn i ddweud na ddylem ni symud i sefyllfa lle mae hawliau unigolion yn cael eu gwanhau o ganlyniad i gynigion gan y Llywodraeth Geidwadol. Byddwn yn gwneud, fel Llywodraeth, popeth a allwn i sicrhau nad yw'r hawliau y mae ein dinasyddion yn eu mwynhau ar hyn o bryd yn cael eu lleihau gan unrhyw gynigion a ddaw o San Steffan.
 
13:46
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
We now move to the leader of the opposition, Andrew R.T. Davies.
Symudwn nawr at arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
 
13:46
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadBiographyArweinydd yr Wrthblaid / The Leader of the Opposition
Thank you, Presiding Officer. First Minister, do you agree with the Member for Blaenau Gwent that the Labour Government here has completely lost the argument when it comes to the NHS in Wales?
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â'r Aelod dros Flaenau Gwent fod y Llywodraeth Lafur yma wedi colli’r ddadl yn llwyr pan ddaw hi i'r GIG yng Nghymru?
 
13:47
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Well, let me give you some statistics in terms of the NHS. Every day, 100 babies are born, 50,000 people see a GP, 20,000 people see a dentist, 280,000 individual medicines are prescribed, 12,000 people have an out-patient appointment, 2,500 people are discharged from hospital and 10,000 x-rays are carried out. We know that most people get good treatment most of the time. There will be occasions when that doesn’t happen, and it’s important to rectify matters when there are weaknesses in the system.
Wel, gadewch i mi roi rhywfaint o ystadegau i chi o ran y GIG. Bob dydd, mae 100 o fabanod yn cael eu geni, mae 50,000 o bobl yn gweld meddyg teulu, mae 20,000 o bobl yn gweld deintydd, rhoddir 280,000 o feddyginiaethau unigol ar bresgripsiwn, mae gan 12,000 o bobl apwyntiad cleifion allanol, mae 2,500 o bobl yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty a chyflawnir 10,000 o archwiliadau pelydr-x. Rydym ni’n gwybod bod y rhan fwyaf o bobl yn cael triniaeth dda y rhan fwyaf o'r amser. Bydd adegau pan nad yw hynny'n digwydd, ac mae'n bwysig unioni pethau pan fo gwendidau yn y system.
 
That said, I accept, of course, that there are lessons for us as a party in terms of our messaging. For us, we have very high standards, and we did not reach those standards last week. For us, 25 seats are too low. For him, it would be marvellous, but for us it’s too low. There are, I think, lessons for all parties within this Chamber. There are lessons for us in terms of what happened last week and, as a party, we must listen to the people of Wales and understand what they are saying to us. Particularly, we need to appeal to those people who are running small businesses, for example, who are not millionaires, but are working very, very hard. We must appeal to them and to all sections of society. Plaid will have their own ideas in terms of what happened to them, and the Lib Dems as well, but I have to say to the leader of the Conservatives as well: his party did well last week, I grant him that, and they gained seats. It is still only 11 out of 40, and the people of Wales did say very clearly that they didn’t want to have a Conservative Government. The test for his party will be to make sure that the preferences of Scotland, Wales and Northern Ireland are well understood in London.
Wedi dweud hynny, rwy’n derbyn, wrth gwrs, fod gwersi i ni fel plaid o ran ein negeseuon. I ni, mae gennym ni safonau uchel iawn, ac ni wnaethom ni gyrraedd y safonau hynny yr wythnos diwethaf. I ni, mae 25 o seddi yn rhy isel. Iddo fe, byddai'n wych, ond i ni mae’n rhy isel. Ceir gwersi, rwy’n credu, i bob plaid yn y Siambr hon. Ceir gwersi i ni o ran yr hyn a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf ac, fel plaid, mae'n rhaid i ni wrando ar bobl Cymru a deall yr hyn maen nhw’n ei ddweud wrthym. Yn arbennig, mae angen i ni apelio i’r bobl hynny sy’n rhedeg busnesau bach, er enghraifft, nad ydynt yn filiwnyddion, ond sy'n gweithio'n galed iawn iawn. Mae'n rhaid i ni apelio iddyn nhw ac i bob rhan o gymdeithas. Bydd gan Plaid eu syniadau eu hunain o ran yr hyn a ddigwyddodd iddyn nhw, a'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd, ond mae’n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd y Ceidwadwyr hefyd: gwnaeth ei blaid yn dda yr wythnos diwethaf, rwy’n cyfaddef hynny, ac enillwyd seddi ganddynt. Dim ond 11 allan o 40 yw hi o hyd, a dywedodd pobl Cymru yn eglur iawn nad oedden nhw eisiau Llywodraeth Geidwadol. Yr her i’w blaid ef fydd sicrhau bod dewisiadau yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn cael eu deall yn iawn yn Llundain.
 
13:48
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadBiography
First Minister, we live in the United Kingdom, and the United Kingdom voted for a Conservative Government last week, and comprehensively voted for a Conservative Government. I’m sorry to hear your narrow nationalism here today in response to the nationalists and in response to my first question, which was in relation to what one of your own Members had said: that you had comprehensively lost the argument. Also, it is interesting to know that a former employee and adviser to the public service Minister and a special adviser to the former Secretary of State for Wales, Peter Hain—David Taylor—said that you were in denial. Well, we can see from your answers that you are in denial. What assurances can we get from you today that you will change tack, you will listen to people’s concerns on the NHS and you will start to address the loss of services in communities and, importantly, the one in seven people who are on a waiting list here in Wales?
Brif Weinidog, rydym ni’n byw yn y Deyrnas Unedig, a phleidleisiodd y Deyrnas Unedig dros Lywodraeth Geidwadol yr wythnos diwethaf, a phleidleisiodd yn gynhwysfawr dros Lywodraeth Geidwadol. Mae'n ddrwg gen i glywed eich cenedlaetholdeb cul yma heddiw mewn ymateb i'r cenedlaetholwyr ac mewn ymateb i’m cwestiwn cyntaf, a oedd yn ymwneud â’r hyn yr oedd un o'ch Aelodau eich hun wedi ei ddweud: eich bod wedi colli’r ddadl yn llwyr. Hefyd, mae'n ddiddorol gwybod bod cyn-weithiwr a chynghorydd i'r Gweinidog gwasanaethau cyhoeddus a chynghorydd arbennig i gyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain—David Taylor—wedi dweud eich bod yn gwadu’r sefyllfa. Wel, gallwn weld o'ch atebion eich bod yn gwadu’r sefyllfa. Pa sicrwydd allwn ni ei gael gennych chi heddiw y byddwch yn newid eich dull, y byddwch yn gwrando ar bryderon pobl am y GIG ac y byddwch yn dechrau mynd i'r afael â cholli gwasanaethau mewn cymunedau ac, yn bwysig, yr un o bob saith o bobl sydd ar restr aros yma yng Nghymru?
 
13:49
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
We hear that message loud and clear, and we will be working hard to make sure that the NHS sees its improvements over the next 12 months. I do not underestimate the worry that some people have in some parts of Wales in terms of the NHS. As a Government, we recognise that and we will be working to deal with that. But I’m worried about what he said about the general election. He cannot possibly claim that he can ignore Scotland, Wales and Northern Ireland and what happened there. There are great dangers there. One of the issues that has to be addressed is how we keep—and he is in the same position as me on this particular issue—the UK together. Denying what happened in Scotland will not do that. I hope that that is not within the thought of David Cameron as Prime Minister; otherwise, the union is lost.
Rydym ni’n clywed y neges honno’n blwmp ac yn blaen, a byddwn yn gweithio'n galed i sicrhau bod y GIG yn gweld ei welliannau dros y 12 mis nesaf. Nid wyf yn bychanu'r pryder sydd gan rai pobl mewn rhai rhannau o Gymru o ran y GIG. Fel Llywodraeth, rydym ni’n cydnabod hynny a byddwn yn gweithio i ymdrin â hynny. Ond rwy’n poeni am yr hyn a ddywedodd am yr etholiad cyffredinol. Ni all honni mewn gwirionedd y gall anwybyddu Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon a’r hyn a ddigwyddodd yno. Ceir peryglon mawr yn hynny. Un o'r materion y mae'n rhaid rhoi sylw iddo yw sut rydym ni’n mynd i gadw—ac mae ef o’r un safbwynt â mi ar y mater penodol hwn—y DU gyda'i gilydd. Ni fydd gwadu’r hyn a ddigwyddodd yn yr Alban yn gwneud hynny. Rwy’n gobeithio nad yw hynny ym meddwl David Cameron fel Prif Weinidog y DU; neu fel arall, mae’r undeb wedi ei cholli.
 
13:50
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadBiography
First Minister, first of all, I do have to pass on my former colleague in this institution’s sincere thanks for your canvassing in Barry last Wednesday. Mr Alun Cairns wanted to pass that on, because you doubled his majority by going out and canvassing for him.
Brif Weinidog, yn gyntaf oll, mae'n rhaid i mi gyfleu diolch o galon fy nghyn-gydweithiwr yn y sefydliad hwn am eich canfasio yn y Barri ddydd Mercher diwethaf. Roedd Mr Alun Cairns yn awyddus i basio hynny ymlaen, oherwydd i chi ddyblu ei fwyafrif trwy fynd allan a chanfasio drosto.
 
But I do agree with you entirely that the United Kingdom is vital—and the integrity of the United Kingdom. That is why the Prime Minister, not only on the steps of Downing Street but in his acceptance speech at his own declaration, referred to the importance of Wales, Northern Ireland and Scotland in the United Kingdom, and the commitment that his Government will have in its first 100 days to deliver for those parts of the United Kingdom. But I do want to take up—[Interruption.]
Ond rwy’n cytuno â chi’n llwyr fod y Deyrnas Unedig yn hanfodol—a chyfanrwydd y Deyrnas Unedig. Dyna pam y cyfeiriodd y Prif Weinidog, nid yn unig ar risiau Stryd Downing, ond yn ei araith dderbyn yn ei ddatganiad ei hun, at bwysigrwydd Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban yn y Deyrnas Unedig, a'r ymrwymiad y bydd gan ei Lywodraeth yn ei 100 diwrnod cyntaf i gyflawni ar gyfer y rhannau hynny o'r Deyrnas Unedig. Ond rwyf eisiau derbyn— [Torri ar draws.]
 
13:51
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
Order.
Trefn.
 
13:51
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadBiography
[Continues.]—and offer our support on the comments that you made after the election about business. It is vital that business is encouraged and motivated here in Wales. We need to be speaking more kindly to businesses here. That is why we have brought forward so many proposals—Invest Wales, lowering business rates, inward investment strategies, housing strategy—and I make this commitment to you: where you want to work, we will work with you to make sure Wales is a more prosperous place. We have the ideas. Those ideas can come forward and become a reality if you want to embrace them, First Minister.
[Yn parhau.]—a chynnig ein cefnogaeth i’r sylwadau a wnaethoch ar ôl yr etholiad ynglŷn â busnes. Mae'n hanfodol bod busnes yn cael ei annog a'i ysgogi yma yng Nghymru. Mae angen i ni fod yn siarad yn fwy caredig â busnesau yma. Dyna pam yr ydym ni wedi cyflwyno cynifer o gynigion—Buddsoddi Cymru, gostwng ardrethi busnes, strategaethau mewnfuddsoddi, strategaeth dai—ac rwy’n gwneud yr ymrwymiad hwn i chi: lle rydych chi eisiau gweithio, byddwn yn gweithio gyda chi i wneud yn siŵr bod Cymru yn lle mwy llewyrchus. Mae’r syniadau gennym ni. Gall y syniadau hynny gael eu cyflwyno a throi’n wirionedd os ydych chi eisiau eu croesawu, Brif Weinidog.
 
13:51
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Well, I ran a small business. I know what challenges small businesses face.
Wel, rhedais i fusnes bach. Rwy’n gwybod pa heriau mae busnesau bach yn eu hwynebu.
 
13:51
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadBiography
I’m running one.
Rwyf fi’n rhedeg un.
 
13:51
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Well, some of us are full time in this job. He’s not. I understand what he’s just said then, but there we are. I guess that’s the background that I come from. [Interruption.]
Wel, mae rhai ohonom ni’n llawn amser yn y swydd hon. Dyw ef ddim. Rwy’n deall yr hyn y mae newydd ei ddweud, ond dyna ni. Mae'n debyg mai dyna’r cefndir rwy’n dod ohono. [Torri ar draws.]
 
13:51
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
Can we listen to the First Minister? Thank you, First Minister.
A gawn ni wrando ar y Prif Weinidog? Diolch yn fawr, Brif Weinidog.
 
13:51
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
We have the best foreign direct investment figures for 30 years. We’ve seen unemployment come down. That’s a tribute to the economy Minister and the work that she has done, together with her officials. It is important. I understand full well that if you encourage the private sector you create more jobs, you create more revenue for the public sector and for public services. In return, the public sector delivers the healthy, well-educated workers that the private sector needs and doesn’t have to pay for in the way that they would in the US, for example, with health insurance. That’s a big, big burden on companies in America, believe me.
Mae’r ffigurau buddsoddiad uniongyrchol tramor gorau ers 30 mlynedd gennym. Rydym ni wedi gweld diweithdra’n gostwng. Mae hynny’n deyrnged i Weinidog yr economi a'r gwaith y mae hi wedi ei wneud, ynghyd â'i swyddogion. Mae'n bwysig. Rwy’n deall yn iawn, os ydych chi’n annog y sector preifat eich bod yn creu mwy o swyddi, eich bod yn creu mwy o refeniw i’r sector cyhoeddus ac i’r gwasanaethau cyhoeddus. Mewn ymateb, mae'r sector cyhoeddus yn darparu’r gweithwyr iach, wedi’u haddysgu’n dda sydd eu hangen ar y sector preifat ac nad oes yn rhaid talu amdanynt yn y ffordd y byddai'n rhaid yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, gydag yswiriant iechyd. Mae hynny'n faich mawr iawn ar gwmnïau yn America, credwch chi fi.
 
But I have to make this point to him: the UK is in an exceptionally difficult position. To ignore what happened in Scotland is a mistake. Your party has one MP—as does mine—in Scotland. To try and say, ‘Well, that doesn’t really matter in terms of the whole of the UK’, is a mistake. Now, in order to ensure the future of the UK—and you’ve heard me say it many, many times before—the convention is important in terms of getting the structure right. I heard what the Prime Minister said about delivering for Scotland, Wales and Northern Ireland within 100 days; I look to him to keep that promise of delivery within 100 days. Then, of course, we can see, and we can judge, whether what he says and what he delivers are the same thing.
Ond mae'n rhaid i mi wneud y pwynt hwn iddo: mae’r DU mewn sefyllfa eithriadol o anodd. Mae anwybyddu'r hyn a ddigwyddodd yn yr Alban yn gamgymeriad. Mae gan eich plaid un AS—fel fy un innau—yn yr Alban. Mae ceisio dweud, 'Wel, nid yw hynny wir o bwys o ran y DU gyfan', yn gamgymeriad. Nawr, er mwyn sicrhau dyfodol y Deyrnas Unedig—ac rydych chi wedi fy nghlywed i’n ei ddweud lawer, lawer gwaith o’r blaen—mae’r confensiwn yn bwysig o ran cael y strwythur yn iawn. Clywais yr hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU am gyflawni ar gyfer yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon o fewn 100 diwrnod; disgwyliaf iddo gadw’r addewid hwnnw o gyflawni o fewn 100 diwrnod. Yna, wrth gwrs, gallwn weld, a gallwn farnu, pa un a yw’r hyn y mae’n ei ddweud a'r hyn y mae'n ei gyflawni yr un fath â'i gilydd.
 
13:53
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
Thank you very much. We now move back to the questions on the agenda. Question 3 is Nick Ramsay.
Diolch yn fawr iawn. Symudwn yn ôl at y cwestiynau ar yr agenda nawr. Daw cwestiwn 3 gan Nick Ramsay.
 
Seilwaith Ffyrdd
Road Infrastructure
 
13:53
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru i gefnogi ein seilwaith ffyrdd? OAQ(4)2265(FM)
3. Will the First Minister make a statement on Welsh Government policies for supporting our road infrastructure? OAQ(4)2265(FM)
 
13:53
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Transport links are vital to our economy and we are committed to ensuring a robust and well-maintained road network.
Mae cysylltiadau trafnidiaeth yn hanfodol i'n heconomi ac rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau rhwydwaith ffyrdd cadarn sydd wedi’i gynnal a’i gadw’n dda.
 
13:53
Thank you, First Minister. In last week’s questions, you indicated that the port of Newport’s major concerns over disruption to their operations by the Welsh Government’s M4 black route could be mitigated by a new bridge. Now, given that some estimates have already put the cost of your chosen M4 black route at over £1 billion, will you give us the current assessment of how much you think that that route is going to cost, and how much will a new bridge add to the price tag?
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Nodwyd gennych yng nghwestiynau’r wythnos diwethaf, y gellid lliniaru prif bryderon porthladd Casnewydd am darfu ar eu gweithrediadau drwy lwybr du Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 gyda phont newydd. Nawr, o gofio bod rhai amcangyfrifon eisoes wedi nodi y bydd cost llwybr du yr M4 a ddewisiwyd gennych, yn fwy na £1 biliwn, a wnewch chi roi’r asesiad cyfredol i ni o faint yr ydych chi’n ei feddwl mae’r llwybr hwnnw’n mynd i gostio, a faint fydd pont newydd yn ei ychwanegu at y pris?
 
13:54
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Well below £1 billion. The reason why we would not reveal an actual cost at this stage is because we have to negotiate with contractors. The last thing we would do is declare our hand up front in terms of how much money we’re prepared to pay. But it’s a long, long way underneath £1 billion. Now, we have to get clarity from his party. His Prime Minister has said that the Brynglas tunnels are, as he put it, throttling the Welsh economy—he means the south Wales economy. I agree with him. That much is true, but we need to understand two things. First, whether his party is, in fact, in favour of an M4 relief road. We don’t know that. We know that there are different views; we’ve seen them expressed on Twitter. But secondly, we need to understand what is the best route. The preferred route, of course, is the black route. There are still, of course, issues that need to be addressed—we understand that—but it would not be correct to say that there are easy alternatives that are simply being ignored. There are not. If we’re going to get this done, we need to get it right.
Llawer llai nag £1 biliwn. Y rheswm pam na fyddem yn datgelu cost bendant ar hyn o bryd yw oherwydd bod yn rhaid i ni drafod gyda chontractwyr. Y peth olaf fyddem ni’n ei wneud fyddai datgan ein sefyllfa ymlaen llaw, o ran faint o arian rydym ni’n barod i’w dalu. Ond mae'n llawer, llawer iawn llai nag £1 biliwn. Nawr, mae’n rhaid i ni gael eglurder gan ei blaid ef. Mae ei Brif Weinidog wedi dweud bod twneli Brynglas, yn ei eiriau ef, yn tagu economi Cymru—economi de Cymru mae’n ei olygu. Rwy’n cytuno ag ef. Mae cymaint â hynny’n wir, ond mae angen i ni ddeall dau beth. Yn gyntaf, pa un a yw ei blaid ef, mewn gwirionedd, o blaid ffordd liniaru i'r M4. Nid ydym yn gwybod hynny. Rydym ni’n gwybod bod gwahanol safbwyntiau; rydym ni wedi eu gweld nhw’n cael eu mynegi ar Twitter. Ond yn ail, mae angen i ni ddeall beth yw'r llwybr gorau. Y llwybr â ffefrir, wrth gwrs, yw'r llwybr du. Ceir problemau o hyd, wrth gwrs, y mae angen rhoi sylw iddynt—rydym ni’n deall hynny—ond ni fyddai'n gywir i ddweud bod dewisiadau eraill rhwydd sy'n cael eu hanwybyddu. Nid oes. Os ydym ni’n mynd i gyflawni hyn, mae angen i ni ei wneud yn iawn.
 
13:55
John GriffithsBywgraffiadBiography
First Minister, would you agree with me that one way of supporting our road infrastructure in Wales and easing the pressure upon it is by taking forward policies that will achieve modal shift and get people onto the trains and onto the buses in greater number through, for example, the metro system, and also that if we implement our Active Travel (Wales) Act 2013 effectively to get more people walking and cycling, that, too, will ease pressure on our road infrastructure?
Brif Weinidog, a fyddech chi’n cytuno â mi mai un ffordd o gefnogi ein seilwaith ffyrdd yng Nghymru a lleddfu'r pwysau arno yw trwy fwrw ymlaen â pholisïau a fydd yn cyflawni newid moddol a chael pobl ar y trenau ac ar y bysiau mewn niferoedd mwy trwy, er enghraifft, y system fetro, a hefyd, os byddwn yn gweithredu ein Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn effeithiol, cael mwy o bobl i gerdded a beicio, y bydd hynny, hefyd, yn lleddfu'r pwysau ar ein seilwaith ffyrdd?
 
13:55
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
I think that is self-evidently true. When it comes to modal shift, it's easier to get individuals to do it than it is families, for example, because if there are four or five of you it’s cheaper to go by car than it is by train. That can be difficult. It's more difficult again to get modal shift in terms of freight, because of the freight that goes on lorries. So, whilst I agree entirely with him that modal shift is important, in terms of taking pressure off the roads, I don't think we can rely on that in terms of the M4. There's a lot of freight traffic on it that can't be moved easily onto the railways. Especially on weekends, a lot of tourists are coming in with a lot of luggage in their cars adding to the traffic, and it would be difficult to get them to move onto the trains for physical reasons.
Rwy’n credu bod hynny’n gwbl amlwg. Pan ddaw i newid moddol, mae'n haws cael unigolion i’w wneud na theuluoedd, er enghraifft, gan ei bod yn rhatach mynd yn y car nag ar y trên os oes pedwar neu bump ohonoch chi. Gall hynny fod yn anodd. Mae'n fwy anodd eto cael newid moddol o ran cludo nwyddau, oherwydd y nwyddau sy'n cael eu cludo ar lorïau. Felly, er fy mod i’n cytuno'n llwyr ag ef fod newid moddol yn bwysig, o ran cymryd pwysau oddi ar y ffyrdd, nid wyf yn meddwl y gallwn ni ddibynnu ar hynny o ran yr M4. Ceir llawer o draffig cludo nwyddau arni na ellir ei symud ar y rheilffyrdd yn rhwydd. Yn enwedig ar benwythnosau, mae llawer o dwristiaid yn dod i mewn gyda llawer o fagiau yn eu ceir gan ychwanegu at y traffig, a byddai'n anodd eu cael i symud ar y trenau am resymau ffisegol.
 
As somebody who uses public transport regularly, I'm more than happy, of course, to promote its merits. But, I think, sometimes you have to accept, where you have a problem, yes, you can promote modal shift to an extent, but, nevertheless, there will be occasions when, actually, building a new road will be important. The same applies, of course, to the Newtown bypass, where it would be unrealistic to expect modal shift to reduce traffic in Newtown. That's why, of course, we are so pleased to be able to take forward the Newtown bypass and to finance it.
Fel rhywun sy'n defnyddio cludiant cyhoeddus yn rheolaidd, rwy'n fwy na hapus, wrth gwrs, i hyrwyddo ei rinweddau. Ond, rwy'n credu, bod yn rhaid i chi dderbyn weithiau, os oes gennych chi broblem, gallwch, fe allwch chi hyrwyddo newid moddol i raddau, ond, serch hynny, bydd adegau pan, mewn gwirionedd, y bydd adeiladu ffordd newydd yn bwysig. Mae'r un peth yn wir, wrth gwrs, am ffordd osgoi'r Drenewydd, lle y byddai'n afrealistig disgwyl i newid moddol leihau traffig yn y Drenewydd. Dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni mor falch o allu bwrw ymlaen â ffordd osgoi’r Drenewydd a’i hariannu.
 
13:56
Rhun ap IorwerthBywgraffiadBiography
Recently, the Conservatives have been tying in promises of security on funding for Wales, vital for infrastructure spend, to proposals for the devolution of more powers. Now the BBC is reporting that there will be no rush to bring in further devolution, certainly not in the first year of this Government. How does that affect your proposals for investing in infrastructure, including road infrastructure in Wales, and how do you plan to lobby UK Government on that funding and devolution issue?
Yn ddiweddar, mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn cysylltu addewidion am ddiogelu cyllid i Gymru, sy’n hanfodol ar gyfer gwariant seilwaith, â chynigion ar gyfer datganoli mwy o bwerau. Nawr mae’r BBC yn adrodd na fydd unrhyw frys i gyflwyno datganoli pellach, yn sicr nid ym mlwyddyn gyntaf y Llywodraeth hon. Sut mae hynny'n effeithio ar eich cynigion ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith, gan gynnwys seilwaith ffyrdd yng Nghymru, a sut ydych chi’n bwriadu lobïo Llywodraeth y DU ar y mater cyllid a datganoli hwnnw?
 
13:57
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
We don't know. He is right to say that there has been much talk that there will be a rowing back from the promise that was given. We have to wait and see. But, it would be extraordinary if the promise not to move forward with further devolution in Wales was not kept and broken within a week of the Government coming into power. You know, I think that the people of Wales would find that very difficult to accept—to see a promise broken that quickly. But, let's wait and see.
Nid ydym yn gwybod. Mae'n iawn i ddweud y bu llawer o sôn y bydd tynnu yn ôl o'r addewid a wnaed. Mae'n rhaid i ni aros i weld. Ond, byddai'n anhygoel pe na byddai’r addewid i beidio â bwrw ymlaen â datganoli pellach yng Nghymru yn cael ei gadw ac yn cael ei dorri o fewn wythnos i’r Llywodraeth ddod i rym. Wyddoch chi, rwy’n meddwl y byddai pobl Cymru yn gweld hynny’n anodd iawn ei dderbyn—i weld addewid yn cael ei dorri mor gyflym â hynny. Ond, gadewch i ni aros i weld.
 
From our point of view, we do not accept that, somehow, Scotland and Wales have to proceed at different speeds in terms of the legislation proceeding through Westminster. If this is going to be done properly, as I've said many, many times before, there has to be a proper four-nation approach to devolution and to the constitution. Unfortunately, I don't see signs of it so far and I think that will not be to the UK's good over the next five years.
O'n safbwynt ni, nid ydym yn derbyn, rywsut, bod yn rhaid i Gymru a'r Alban symud ymlaen ar wahanol gyflymder o ran y ddeddfwriaeth yn symud drwy San Steffan. Os yw hyn yn mynd i gael ei wneud yn iawn, fel yr wyf wedi ei ddweud lawer, lawer gwaith o'r blaen, mae'n rhaid cael dull pedair gwlad priodol o ymdrin â datganoli a'r cyfansoddiad. Yn anffodus, nid wyf yn gweld arwyddion o hynny hyd yn hyn ac nid wyf yn credu y bydd hynny o les i’r DU dros y pum mlynedd nesaf.
 
Gwasanaethau Orthodontig
Orthodontic Services
 
13:58
4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu prif amcanion y ddarpariaeth o wasanaethau orthodontig yng Nghymru? OAQ(4)2261(FM)
4. Will the First Minister provide an outline of the main objectives of orthodontic service provision in Wales? OAQ(4)2261(FM)
 
13:58
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Ein prif amcan yw sicrhau bod byrddau iechyd yn darparu gwasanaethau orthodontig sy’n cwrdd ag anghenion iechyd deintyddol y bobl—mae hynny’n amlwg. Mae adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn amlinellu’r gwelliannau sydd wedi digwydd.
Our main objective is to ensure health boards provide orthodontic services that meet the clinically assessed dental health needs of their population—that is evident. A recent independent report highlights the improvements that have taken place.
 
13:58
Diolch. Rwyf wedi cael nifer o gŵynion yn ddiweddar bod pobl ifanc ar restr aros am lan i dair blynedd. Pa drafodaethau a geir ar hyn a pha gyfeiriad a roddir i’r byrddau iechyd i leihau’r aros? Pa gefnogaeth y maen nhw wedi’i hamlinellu i wella’r sefyllfa?
Thank you. I’ve received a number of complaints recently that young people are on waiting lists for up to three years. What discussions are being had on this and what direction is given to the health boards to reduce these waiting times? What support have they outlined to improve the situation?
 
13:59
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Rwy’n deall bod Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda wedi sicrhau clinigau estyn mas—‘outreach’—yn yr ardal, ac rwy’n deall nawr bod yr amser y mae pobl yn gorfod aros i gael asesiad wedi lleihau yn sylweddol. Felly, gobeithio bydd y ‘trend’ yn parhau nawr, wrth gwrs, dros y misoedd nesaf.
I understand that Hywel Dda Local Health Board has secured outreach clinics within its area, and I understand now that the time people have to wait for an assessment has been reduced significantly. So, we hope that this trend will continue over the ensuing months.
 
13:59
First Minister, forgive me, but that answer sounded rather complacent from the Welsh Government. These waiting times for orthodontic treatment have been missed year in, year out for as long as you've been First Minister. Some people in Wales are waiting over three and a half years to access their appointments with an orthodontist in Welsh hospitals. That is completely unacceptable. If you're so complacent about this, what are you going to do about the general waiting time problem that your Government has here in Wales, which was so manifestly rejected in the polls in certain parts of north Wales, particularly in the Vale of Clwyd?
Brif Weinidog, maddeuwch i mi, ond roedd yr ateb yna’n swnio braidd yn hunanfodlon gan Lywodraeth Cymru. Methwyd yr amseroedd aros hyn ar gyfer triniaeth orthodontig flwyddyn ar ôl blwyddyn am gyhyd ag yr ydych chi wedi bod yn Brif Weinidog. Mae rhai pobl yng Nghymru’n aros dros dair blynedd a hanner i gael eu hapwyntiadau gydag orthodeintydd yn ysbytai Cymru. Mae hynny'n gwbl annerbyniol. Os ydych chi mor hunanfodlon am hyn, beth ydych chi'n mynd i'w wneud am y broblem amseroedd aros cyffredinol sydd gan eich Llywodraeth yma yng Nghymru, a wrthodwyd mor bendant yn y polau mewn rhai rhannau o’r gogledd, yn enwedig yn Nyffryn Clwyd?
 
14:00
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Well, he clearly didn’t listen carefully to what I’ve just said, but then he wouldn’t, would he, because he had his view that he wanted to put beforehand. Hywel Dda provided additional outreach clinics and referral to assessment—
Wel, mae'n amlwg na wrandawodd yn ofalus ar yr hyn yr wyf newydd ei ddweud, ond wedyn, ni fyddai’n gwneud hynny, na fyddai, gan fod y safbwynt yr oedd eisiau ei gyfleu ganddo ymlaen llaw. Darparodd Hywel Dda glinigau allgymorth ychwanegol ac atgyfeirio i asesu—
 
14:00
I’ve listened very carefully. What are you doing about it?
Rydw i wedi gwrando'n ofalus iawn. Beth ydych chi'n mynd i’w wneud am y peth?
 
14:00
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
That has reduced significantly—. If he listened carefully, he might learn something. And the time has been reduced significantly to some four to six weeks.
Mae hynny wedi gostwng yn sylweddol—. Pe byddai’n gwrando'n ofalus, efallai y byddai’n dysgu rhywbeth. Ac mae'r amser wedi cael ei leihau’n sylweddol i oddeutu pedair i chwe wythnos.
 
14:00
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
Darren Millar, will you wait to reply?
Darren Millar, a wnewch chi aros i ymateb?
 
14:00
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
That is what we have done. If he’d listen more carefully, he would get the answers that he seeks.
Dyna'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud. Pe byddai’n gwrando'n fwy gofalus, byddai'n cael yr atebion y mae’n gofyn amdanynt.
 
14:00
Treatment.
Triniaeth.
 
14:00
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
Darren Millar. Have you finished, First Minister?
Darren Millar. A ydych chi wedi gorffen, Brif Weinidog?
 
14:00
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Yes.
Ydw.
 
14:00
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
Thank you. Lindsay Whittle.
Diolch yn fawr. Lindsay Whittle.
 
14:00
Lindsay WhittleBywgraffiadBiography
Diolch, Lywydd. First Minister, you’ve told us about Hywel Dda, and thank you for that, but what specific achievements can you tell us about, regarding orthodontics, measured against the actual oral health plan? Is any of the oral health plan working? It’s clearly doing okay in Hywel Dda, but there are some serious inconsistencies in services available across Wales. What’s happening with the rest of Wales? We don’t just represent Hywel Dda, with the greatest of respect to Hywel Dda.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, rydych chi wedi dweud wrthym am Hywel Dda, a diolch i chi am hynny, ond pa gyflawniadau penodol allwch chi ddweud wrthym ni amdanynt, o ran orthodonteg, wedi eu mesur yn erbyn y cynllun iechyd y geg gwirioneddol? A oes unrhyw ran o’r cynllun iechyd y geg yn gweithio? Mae’n amlwg yn gwneud yn o lew yn Hywel Dda, ond ceir rhai anghysondebau difrifol mewn gwasanaethau ledled Cymru. Beth sy'n digwydd gyda gweddill Cymru? Nid ydym ni’n cynrychioli Hywel Dda yn unig, gyda phob parch i Hywel Dda.
 
14:01
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Well we have been—[Interruption.] I don’t want to add to the discord on the Plaid benches there, but we have been driving through efficiencies and improvements in orthodontic services over the last three years; for example, there has been a 59 per cent reduction in the number of assess and review appointments—that’s a major efficiency gain. It’s meant that health boards have been able to commission an additional 533 patients per year starting treatment, and those actions, of course, are helping to improve the efficiency of the system, and we will continue to drive that efficiency in the future.
Wel rydym ni wedi bod yn—[Torri ar draws.] Nid wyf i eisiau ychwanegu at yr anghytuno ar feinciau Plaid, ond rydym ni wedi bod yn cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gwelliannau mewn gwasanaethau orthodontig yn ystod y tair blynedd diwethaf; er enghraifft, bu gostyngiad o 59 y cant i nifer yr apwyntiadau asesu ac adolygu—mae hynny’n gaffaeliad effeithlonrwydd mawr. Mae wedi golygu bod byrddau iechyd wedi llwyddo i gomisiynu 533 o gleifion ychwanegol y flwyddyn yn dechrau ar driniaeth, ac mae'r camau hynny, wrth gwrs, yn helpu i wella effeithlonrwydd y system, a byddwn yn parhau i sicrhau’r effeithlonrwydd hwnnw yn y dyfodol.
 
Economi Wledig Cymru
The Welsh Rural Economy
 
14:01
William PowellBywgraffiadBiography
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y disgwyliadau ar gyfer economi wledig Cymru yn y dyfodol? OAQ(4)2268(FM)
5. Will the First Minister make a statement on the future prospects for the Welsh rural economy? OAQ(4)2268(FM)
 
14:01
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Yes. We are committed to delivering jobs and growth across Wales, and we recognise the importance of the rural economy, and we provide support for businesses to start, grow and prosper through Business Wales and Farming Connect.
Gwnaf. Rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu swyddi a thwf ledled Cymru, ac rydym ni’n cydnabod pwysigrwydd yr economi wledig, ac rydym ni’n darparu cymorth i fusnesau gychwyn, tyfu a ffynnu trwy Busnes Cymru a Chyswllt Ffermio.
 
14:01
William PowellBywgraffiadBiography
I thank the First Minister very much for that response. At a recent meeting of local farmers in mid Wales, significant concerns were expressed regarding the current lack of grid capacity in the area to connect renewable energy projects. First Minister, what assessment have you made of how many businesses have been dissuaded from inward investment and expansion, particularly in the Newtown and Welshpool area, by this current problem? What engagement do you plan with the newly appointed Minister for Energy and Climate Change, Amber Rudd, in this regard?
Diolchaf yn fawr iawn i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mewn cyfarfod diweddar o ffermwyr lleol yn y canolbarth, mynegwyd pryderon sylweddol ynghylch y diffyg presennol o gapasiti grid yn yr ardal i gysylltu prosiectau ynni adnewyddadwy. Brif Weinidog, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o faint o fusnesau a berswadiwyd i beidio â mewnfuddsoddi ac ehangu, yn enwedig yn ardal y Drenewydd a'r Trallwng, oherwydd y broblem bresennol hon? Pa ymgysylltiad ydych chi'n ei gynllunio gyda’r Gweinidog Ynni a Newid Hinsawdd sydd newydd ei phenodi, Amber Rudd, yn hyn o beth?
 
14:02
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
The mid Wales grid is fragile; we know that. It doesn’t have a lot of capacity, and we do know that it is a potential brake on growth in the area. Of course, that does mean that in order to expand, or to improve rather, grid capacity, and indeed resilience, there need to be bigger pylons, and we know where that takes us in terms of the discussions that have been in previous months and years within this Assembly. But the reality is that the grid is fragile. If the grid is to be expanded in the future, and made more resilient and stronger, it’s inevitable that there’ll be a need to examine once again what the cabling looks like. These are matters for the UK Government, of course. These are not matters that are devolved, and it’s for the public to assess how that balance is actually created between, on the one hand, the need to ensure resilience and greater capacity, and on the other hand, the visual impact of what that capacity would mean.
Mae grid y canolbarth yn fregus; rydym ni’n gwybod hynny. Nid oes ganddo lawer o gapasiti, ac rydym ni’n gwybod ei fod yn ataliad posibl i dwf yn yr ardal. Wrth gwrs, nid yw hynny’n golygu, er mwyn ehangu, neu wella yn hytrach, capasiti, a chydnerthedd yn wir, y grid, bod angen peilonau mwy, ac rydym ni’n gwybod i ble mae hynny'n mynd â ni o ran y trafodaethau a gafwyd yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf yn y Cynulliad hwn. Ond y gwir amdani yw bod y grid yn fregus. Os yw’r grid am gael ei ehangu yn y dyfodol, a chael ei wneud yn fwy gwydn ac yn gryfach, mae'n anochel y bydd angen ystyried unwaith eto sut mae'r ceblau’n edrych. Materion i Lywodraeth y DU yw’r rhain, wrth gwrs. Nid yw'r rhain yn faterion sydd wedi'u datganoli, a chyfrifoldeb y cyhoedd yw asesu sut y sicrheir y cydbwysedd yna rhwng, ar y naill law, yr angen i sicrhau cydnerthedd a mwy o gapasiti, ac ar y llaw arall, effaith weledol yr hyn y byddai’r capasiti hwnnw’n ei olygu.
 
14:03
Russell GeorgeBywgraffiadBiography
You have referred, First Minister, to the grid being fragile and this being a barrier to businesses that need an increased supply, but it’s my understanding that the project proposed by National Grid is to only take power out and not to bring power in. But, can I just confirm: do you have a different understanding to me?
Rydych chi wedi cyfeirio, Brif Weinidog, at y ffaith fod y grid yn fregus a bod hyn yn rhwystr i fusnesau sydd angen cyflenwad cynyddol, ond fy nealltwriaeth i yw bod y prosiect sy’n cael ei gynnig gan y Grid Cenedlaethol ar gyfer cymryd pŵer allan yn unig ac nid dod â phŵer i mewn. Ond, a gaf i gadarnhau: a oes gennych chi wahanol ddealltwriaeth i mi?
 
14:03
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
No. As far as the National Grid is concerned, the grid changes that they propose—and it’s for the Conservative Government to examine—involve primarily the power being taken out of the areas where there are proposed windfarms. Nevertheless, the fragility of the grid, in terms of it being able to service businesses, is clear. As I say, it’s now a matter for him and his party to decide what the grid network will look like in his constituency.
Nac oes. Cyn belled ag y mae’r Grid Cenedlaethol yn y cwestiwn, mae'r newidiadau i’r grid maen nhw’n eu cynnig—a mater i’r Llywodraeth Geidwadol yw archwilio—yn ymwneud yn bennaf â’r pŵer sy'n cael ei gymryd allan o'r ardaloedd lle y ceir ffermydd gwynt arfaethedig. Serch hynny, mae pa mor fregus yw'r grid, o ran ei allu i wasanaethu busnesau, yn eglur. Fel y dywedais, mater iddo ef a'i blaid yw penderfynu nawr sut bydd y rhwydwaith grid yn edrych yn ei etholaeth.
 
14:04
Yr Arglwydd / Lord Elis-ThomasBywgraffiadBiography
A gaf i ehangu’r cwestiwn i’r mater o raglen datblygu gwledig yn gyffredinol a gofyn i’r Prif Weinidog a all e roi sicrwydd i’r cymunedau gwledig y bydd y cyllid a arbedwyd gan Lywodraeth Cymru—gan y Gweinidog blaenorol—i’w ailddosbarthu drwy ddatblygiadau rhaglen datblygu gwledig, y bydd hwnnw’n cael ei fuddsoddi yn sylweddol mewn mentrau a fydd yn ychwanegu gwerth at gynnyrch amaethyddol, fel y datblygiad ardderchog yn y diwydiant llaeth sydd ar y foment hon yn dechrau cael ei adeiladu yn Rhydygwystl ger Chwilog yn fy etholaeth i?
May I expand the question to the issue of the rural development programme more generally and ask the First Minister whether he can give rural communities an assurance that the funding saved by the Welsh Government and the previous Minister will be redistributed through RDP developments, that that will be invested significantly in initiatives that will add value to agricultural produce, such as the excellent development in the dairy industry, which is now starting to be built in Rhydygwystl near Chwilog in my constituency?
 
14:05
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Byddwn i’n erfyn iddo ddigwydd, wrth gwrs, a hefyd i helpu busnesau sydd ddim yn rhan o’r sector amaethyddol, er mwyn sicrhau mwy o swyddi yng Nghymru wledig. Felly, byddwn i’n erfyn hynny i ddigwydd beth bynnag. Un o’r pethau, wrth gwrs, sy’n mynd i helpu’n fawr iawn yw Superfast Cymru, a’r ffaith bod 96 y cant o adeiladau yng Nghymru yn mynd i gael mynediad at Superfast Cymru erbyn mis Medi y flwyddyn nesaf, ac rydym ni’n ystyried ar hyn o bryd sut i gyrraedd y 4 y cant sydd ar ôl hefyd. Bydd hynny’n fuddsoddiad sylweddol ynglŷn â rhwydwaith band eang yng Nghymru wledig.
Of course, I would expect that to happen and also to assist businesses that aren’t part of the agriculture sector in order to secure more jobs in rural Wales. So, I would expect that to happen anyway. One of the things that, of course, will be of great help is Superfast Cymru and the fact that 96 per cent of buildings in Wales will have access to Superfast Cymru by September of next year, and we’re considering at present how to reach the remaining 4 per cent too. That will be a significant investment as regards the broadband network in rural Wales.
 
Y Sector Manwerthu Annibynnol
The Independent Retail Sector
 
14:05
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector manwerthu annibynnol? OAQ(4)2271(FM)
6. What action is the Welsh Government taking to support the independent retail sector? OAQ(4)2271(FM)
 
14:05
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Rydym ni wedi cymryd camau i gefnogi busnesau ar draws pob sector yng Nghymru, gan gynnwys manwerthu. Er enghraifft, fis diwethaf lansiwyd cynllun rhyddhad manwerthu Cymru. Mae hwnnw’n mynd i roi gwerth hyd at £1,500 o ryddhad trethi busnes i safleoedd manwerthu a safleoedd bwyd a diod sy’n gymwys o dan y cynllun.
We’ve taken action to support businesses in Wales across all sectors, including retail. For example, last month we launched the Wales retail relief scheme, which will provide up to £1,500 of business rates relief to qualifying retail and food and drinks premises.
 
14:06
Diolch, Brif Weinidog. Ym Mhontardawe, yn fy etholaeth, rydym wedi gweld cynnydd sydyn yn nifer y manwerthwyr annibynnol: Fresh 2 Go, Decorum a Blissful Bakes. Gallaf argymell yn arbennig eu teisennau banoffee. Maent i gyd wedi agor yn y flwyddyn diwethaf, ac i gyd yn gwneud yn dda iawn. Fel y gwyddom, mae amrywiaeth y stryd fawr yn atyniad sylweddol i dwristiaid ac mewn trefi bach fel Pontardawe, sydd â phoblogaeth o 5,000, mae hyn yn arbennig o bwysig. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith rhagorol wrth gefnogi ardaloedd gwella busnes mewn nifer o drefi mwy. A ydych yn teimlo, Brif Weinidog, y byddai o werth i hyrwyddo ceisiadau o drefi llai, neu hyd yn oed i greu cynllun newydd i dargedu trefi bach gyda photensial twristiaeth uchel?
Thank you, First Minister. In Pontardawe, in my own constituency, we have seen a swift increase in the number of independent retailers: Fresh to Go, Decorum and Blissful Bakes. I can particularly recommend their banoffee cakes. All of these have established over the past year and all are doing very well. As we know, variety on the high street is a great attraction for tourists and in small towns such as Pontardawe, which has a population of 5,000, this is particularly important. The Welsh Government has done excellent work in supporting business improvement districts in many larger towns. Do you believe, First Minister, that it would be of great value to promote applications from smaller towns also, or even to create a new scheme to target smaller towns with high tourist potential?
 
14:07
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Wel, mae’n wir i ddweud, wrth gwrs, bod y BIDs eu hunain—mae yna 10 ohonyn nhw, rhai mewn trefi sy’n eithaf gwledig, rhai mewn trefi sy’n fwy—ac mae hwn yn gynllun sy’n mynd i fod o les i’r ardaloedd hynny. Yn y dyfodol, yn y pen draw, bydd yn rhaid inni barhau i ystyried ym mha ffordd y gallai’r cynllun yna, neu ryw gynllun newydd, helpu trefi fel Pontardawe a rhai o’r un maint, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu tyfu mewn ffordd gynaliadwy yn y dyfodol.
Well, it’s true to say, of course, that the BIDs themselves—there are 10 of them, some of them in quite rural towns and others in larger towns—this is a scheme that will benefit those areas. In future, ultimately, we will have to continue to consider how that scheme, or a new scheme, might assist towns such as Pontardawe and towns of the same size, in order to ensure that they can grow in a sustainable way in future.
 
14:07
William GrahamBywgraffiadBiography
The First Minister will know that the retail industry is the second-largest private employer in Wales, employing over 130,000 people. Now, for many companies, corporation tax is less of a worry than business rates. Isn’t it now time to extend your scheme, particularly for small businesses?
Bydd y Prif Weinidog yn gwybod mai’r diwydiant manwerthu yw'r ail gyflogwr preifat mwyaf yng Nghymru, yn cyflogi dros 130,000 o bobl. Nawr, i lawer o gwmnïau, mae’r dreth gorfforaeth yn llai o bryder nag ardrethi busnes. Onid yw'n bryd erbyn hyn i ymestyn eich cynllun, yn enwedig ar gyfer busnesau bach?
 
14:08
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
We will not put our small businesses in a more difficult position than exists elsewhere in the UK. However, if it is a proposal from the Welsh Conservatives that they wish to extend any scheme, they will have to explain where the money comes from to do that. That, I think, is the responsible thing to do.
Ni fyddwn yn rhoi ein busnesau bach mewn sefyllfa fwy anodd na’r hyn sy’n bodoli mewn mannau eraill yn y DU. Fodd bynnag, os yw'n gynnig gan Geidwadwyr Cymru eu bod yn dymuno ymestyn unrhyw gynllun, bydd yn rhaid iddyn nhw esbonio o ble y daw'r arian i wneud hynny. Dyna, rwy’n credu, yw'r peth cyfrifol i'w wneud.
 
14:08
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiadBiography
Brif Weinidog, fel rŷm ni i gyd yn gwybod, mae yna her yn ein wynebu ni o ran cynyddu’r economi a chreu economi hyfyw y tu allan i goridorau’r M4 a’r A55. A ydych chi’n gallu gweld manwerthu fel modd nid yn unig i greu economi hyfyw yn ein trefi bach ni, ac yn enwedig trefi marchnad yng nghefn gwlad, ond yn fodd hefyd i fod yn hwb ar gyfer busnesau eraill yn yr ardal?
First Minister, as we all know, there is a challenge facing us in terms of growing the economy and creating a viable economy outside the M4 and A55 corridors. Do you see retailing as a means of not only creating a viable economy in our smaller towns, particularly our market towns in rural Wales, but also a means of boosting other businesses in those areas?
 
14:08
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Mae’n dibynnu, mewn ffordd, ar sut mae’r BIDs yn gweithio. Mae Aberystwyth yn un, wrth gwrs, ac mae Abergavenny yn un; Bae Colwyn, Caernarfon, Bangor. Rŷm ni’n siarad am drefi sydd ddim yn drefi mawr, ond yn drefi sydd yn sylweddol yn eu hardaloedd ac yn drefi sy’n bwysig dros ben ynglŷn â bod yn ganolfannau yn yr ardaloedd lle maen nhw. Rŷm ni’n deall, wrth gwrs, fod yn rhaid inni sicrhau cynaliadwyedd yn nhrefi Cymru, ac un ffordd o wneud hynny yw defnyddio’r ardaloedd gwellhad busnes, y BIDs, ac hefyd, wrth gwrs, yr arian rydym ni wedi’i fuddsoddi drwy’r cynllun ‘Vibrant and Viable Places’.
It depends, in a way, on how the BIDs work. Aberystwyth is one, of course, and Abergavenny is another; Colwyn Bay, Caernarfon, Bangor. We’re talking about towns that aren’t large, but they are significant in their areas and extremely important as centres within their regions. So, we understand, of course, that we must secure sustainability in Welsh towns, and the only way of doing that is to use the businesses improvement districts, the BIDs, and also, of course, the money that we’ve invested through the ‘Vibrant and Viable Places’ scheme.
 
14:09
First Minister, the chamber of trade in Port Talbot estimates that the impact on local businesses, particularly independent retailers, of the closure of junction 41 has been roughly a 20 per cent drop in footfall. Can you give us an indication of when the uncertainty about the future of Port Talbot will come to a close, and you’ll be able to announce a decision on whether junction 41 will close permanently or not?
Brif Weinidog, mae'r siambr fasnach ym Mhort Talbot yn amcangyfrif yn fras mai gostyngiad o 20 y cant i nifer yr ymwelwyr fu effaith cau cyffordd 41 ar fusnesau lleol, yn enwedig manwerthwyr annibynnol. A allwch chi roi syniad i ni pryd bydd yr ansicrwydd ynghylch dyfodol Port Talbot yn dod i ben, ac y byddwch chi’n gallu cyhoeddi penderfyniad ynghylch pa un a fydd cyffordd 41 yn cau’n barhaol ai peidio?
 
14:09
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Yes, there will be an announcement later this month.
Gallaf, bydd cyhoeddiad yn ddiweddarach y mis hwn.
 
Cwpan Rygbi’r Byd 2015
The 2015 Rugby World Cup
 
14:10
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wneud y gorau o'r manteision a fydd yn deillio o gemau Cwpan Rygbi'r Byd 2015 a gaiff eu chwarae yng Nghaerdydd? OAQ(4)2269(FM)
7. Will the First Minister make a statement on maximising the benefits of the 2015 Rugby World Cup matches that will be played in Cardiff? OAQ(4)2269(FM)
 
14:10
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Yes. We have been working collaboratively with England 2015 to ensure that the eight Wales fixtures secure maximum benefit for Wales, including leveraging once again the increase in Wales’s international profile that will arise as a result of the event.
Gwnaf. Rydym ni wedi bod yn gweithio ar y cyd â Lloegr 2015 i sicrhau bod yr wyth gem yng Nghymru yn sicrhau'r budd mwyaf posibl i Gymru, gan gynnwys hyrwyddo unwaith eto y cynnydd i broffil rhyngwladol Cymru a fydd yn codi o ganlyniad i'r digwyddiad.
 
14:10
Thank you for that answer. First Minister, the Rugby World Cup will be a fantastic opportunity to showcase the very best of what Wales has to offer to an international audience. What action is the Welsh Government taking to encourage fans to visit tourist attractions in Wales?
Diolch i chi am yr ateb yna. Brif Weinidog, bydd Cwpan Rygbi'r Byd yn gyfle gwych i arddangos y gorau o'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig i gynulleidfa ryngwladol. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog cefnogwyr i ymweld ag atyniadau twristiaeth yng Nghymru?
 
14:10
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
We’re working with VisitBritain to encourage official tour operators to include Wales in their fan itineraries. We’ve taken advertising space in the relevant official travel guides with which visiting fans will plan their trip around the UK. We’re also undertaking marketing activities with selected overseas fans who are travelling to Wales to see their home team play.
Rydym ni’n gweithio gyda VisitBritain i annog gweithredwyr teithiau swyddogol i gynnwys Cymru yn eu teithlyfrau i gefnogwyr. Rydym ni wedi trefnu gofod hysbysebu yn y canllawiau teithio swyddogol perthnasol y bydd cefnogwyr sy'n ymweld yn eu defnyddio i gynllunio eu taith o gwmpas y DU. Rydym ni hefyd yn ymgymryd â gweithgareddau marchnata gyda chefnogwyr tramor dethol sy'n teithio i Gymru i weld eu tîm cartref yn chwarae.
 
14:11
Mohammad AsgharBywgraffiadBiography
Further to my friend’s question, the Rugby World Cup affords a great opportunity to promote Wales abroad. The fact is that only 3%—only three 3%—of overseas visitors to the United Kingdom spend a night in Wales. This demonstrates that the Welsh Government has failed to successfully promote Wales as a tourist destination. What action will the First Minister take to ensure we maximise the full potential presented by the Rugby World Cup with the promotion of Wales to foreign visitors?
Ymhellach i gwestiwn fy nghyfaill, mae Cwpan Rygbi'r Byd yn cynnig cyfle gwych i hyrwyddo Cymru dramor. Y ffaith yw mai dim ond 3%—dim ond tri 3%—o ymwelwyr tramor â'r Deyrnas Unedig sy’n treulio noson yng Nghymru. Mae hyn yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi methu â hyrwyddo Cymru’n llwyddiannus fel cyrchfan i dwristiaid. Pa gamau wnaiff y Prif Weinidog eu cymryd i sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar y potensial a gyflwynir gan Gwpan Rygbi'r Byd trwy hyrwyddo Cymru i ymwelwyr tramor?
 
14:11
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
We’ve just had some of the best tourism figures, in terms of visitors to Wales, we’ve ever had, so it shows the work that we are doing is working. Bear in mind that when his party was in Government in the late 1970s, 1980s and 1990s, the Wales Tourist Board was banned from marketing Wales abroad. So, we’re not going to take any lessons from people who actually prevented Wales from being marketed abroad, especially as we celebrate the best tourism figures that we’ve had for many, many years.
Rydym ni newydd weld rhai o'r ffigurau twristiaeth gorau, o ran ymwelwyr â Chymru, rydym ni wedi eu cael erioed, felly mae'n dangos fod y gwaith yr ydym ni’n ei wneud yn gweithio. Cofiwch, pan roedd ei blaid ef mewn Llywodraeth ddiwedd y 1970au, y 1980au a'r 1990au, y gwaharddwyd Bwrdd Croeso Cymru rhag marchnata Cymru dramor. Felly, nid ydym yn mynd i gymryd unrhyw wersi gan bobl a wnaeth atal Cymru rhag cael ei marchnata dramor, yn enwedig wrth i ni ddathlu’r ffigurau twristiaeth gorau rydym ni wedi eu cael ers blynyddoedd lawer iawn.
 
14:12
Bethan JenkinsBywgraffiadBiography
Jest yn dilyn ymlaen o’r cwestiwn blaenorol, gyda’r wyth gwlad sydd yn mynd i fod yn chwarae eu gemau yma, sef Uruguay, Fiji, Iwerddon, Canada, pa waith a ydych chi wedi bod yn ei wneud yn y gwledydd penodol hynny er mwyn eu hannog i aros yng Nghymru tra’u bod draw fan hyn, oherwydd, os oes gemau ganddynt yn y stadiwm, mae’n gwneud mwy o synnwyr iddyn nhw wario eu harian a threulio amser yma yng Nghymru nag yw e i dreulio’r amser hynny yn Lloegr?
Just following on from the previous question, with eight nations who are going to be playing those games here, that is, Uruguay, Fiji, Ireland, Canada and so on, what work have you been doing in those specific nations in order to encourage them to stay in Wales when they are visiting, because if the games are in the Millennium Stadium, it makes more sense for them to spend their money and to spend their time here in Wales rather than spending that time in England?
 
14:12
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
I ddod yn ôl at beth y dywedais o’r blaen, rydym wedi bod yn gweithio gyda’r cwmnïau sy’n mynd i redeg y teithiau i bobl sy’n dod i mewn i gwpan y byd er mwyn sicrhau bod y teithiau eu hunain yn cynnwys Cymru. Hefyd, drwy weithio gyda VisitBritain, rydym yn targedu’r rheini sydd ddim yn mynd i drafeilio mewn taith swyddogol er mwyn sicrhau eu bod nhw’n sefyll yng Nghymru ei hun. Bydd yna lot fawr o bobl yn gwylio’r gêm, yn sefyll dros nos ac, efallai, yn mynd rhywle arall; bydd rhai’n mo’yn aros am fwy o amser yng Nghymru, a thrwy weithio yn y ffordd rwyf wedi’i dweud yn barod, rŷm ni’n hyderus y bydd yna fwy o bobl yn aros yng Nghymru o achos y cwpan ei hunan.
To return to what I was saying previously, we’ve been working with the companies that will be running the tours for people coming in to the world cup in order to ensure that the tours themselves include Wales. Also, we’ve been working with VisitBritain to target people who will be coming in as individuals in order to ensure that they stay in Wales itself. Very many people will be watching the matches, staying overnight and then moving on; others will wish to stay for longer and, by working in the way that I’ve already mentioned, we’re confident that more people will stay in Wales because of the world cup itself.
 
14:13
Eluned ParrottBywgraffiadBiography
First Minister, according to your statement on the NATO summit on 16 December, you said that the Welsh Government had spent £1 million promoting Wales on the world stage using that major event. Can you tell us what analysis you have done of what kinds of activities were most effective in reaching a world audience and how much you anticipate investing in promoting us through the Rugby World Cup, as well?
Brif Weinidog, yn ôl eich datganiad ar uwchgynhadledd NATO ar 16 Rhagfyr, dywedasoch fod Llywodraeth Cymru wedi gwario £1 filiwn yn hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd gan ddefnyddio’r digwyddiad mawr hwnnw. A allwch chi ddweud wrthym pa ddadansoddiad yr ydych chi wedi ei wneud o ba fath o weithgareddau sydd fwyaf effeithiol ar gyfer cyrraedd cynulleidfa fyd-eang a faint ydych chi’n bwriadu ei fuddsoddi yn ein hyrwyddo ni yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd hefyd?
 
14:13
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
In terms of the NATO summit, it was hugely important in terms of showcasing Wales—it was NATO Wales. It worked very well in terms of the fact that many people came to Wales who probably would not have come to Wales, or who were coming to Wales for the first time. It was important to ensure that it was understood that we had in Wales a facility that could host an event of that size, as it did with the Ryder Cup in 2010. In terms of promoting Wales for those coming in for the Rugby World Cup, as I say, we’re working with organisations such as VisitBritain to make sure that, when people come to the world cup, they come to Wales and stay in Wales as well.
O ran uwchgynhadledd NATO, roedd yn hynod bwysig ar gyfer arddangos Cymru— NATO Cymru oedd hwn. Gweithiodd yn dda iawn o ran y ffaith bod llawer o bobl wedi dod i Gymru y mae’n debyg na fyddent wedi dod i Gymru, neu a oedd yn dod i Gymru am y tro cyntaf. Roedd yn bwysig sicrhau y deallwyd bod gennym gyfleuster yng Nghymru a allai gynnal digwyddiad o'r maint hwnnw, fel y gwnaeth gyda Chwpan Ryder yn 2010. O ran hyrwyddo Cymru i'r rhai sy'n dod i mewn ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd, fel y dywedais, rydym ni’n gweithio gyda sefydliadau fel VisitBritain i wneud yn siŵr, pan fydd pobl yn dod i gwpan y byd, eu bod yn dod i Gymru ac aros yng Nghymru hefyd.
 
Gofal Iechyd Llygaid
Eye Health Care
 
14:14
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal iechyd llygaid? OAQ(4)2272(FM)
8. Will the First Minister provide an update on the Welsh Government's eye health care delivery plan? OAQ(4)2272(FM)
 
14:14
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
We remain the only Government in the world with an eye health care delivery plan. There has been significant progress over the last 12 months. This is a tribute to all those involved, including NHS staff and the third sector.
Ni yw’r unig Lywodraeth yn y byd o hyd sydd â chynllun cyflenwi gofal iechyd llygaid. Bu cynnydd sylweddol dros y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn deyrnged i bawb dan sylw, gan gynnwys staff y GIG a'r trydydd sector.
 
14:14
Thank you for that. This lunch time, I was delighted to sponsor the annual Wales vision strategy event here in the Senedd, where the Deputy Minister gave a speech outlining the work of the Welsh Government, which was widely welcomed. Many of the people present have been central in the drive to improve eye care services in Wales, and I know that you recognise their dedication and hard work, but, over the next 25 years, the number of people with sight loss is expected to double. So, First Minister, can you provide an update on the work that’s going on to ensure health statistics and demographics are being routinely included in NHS needs assessments?
Diolch i chi am hynna. Yn ystod amser cinio, roeddwn i’n falch iawn o noddi digwyddiad blynyddol strategaeth golwg Cymru yma yn y Senedd, pryd y gwnaeth y Dirprwy Weinidog araith yn amlinellu gwaith Llywodraeth Cymru, a gafodd ei groesawu'n eang. Mae llawer o'r bobl a oedd yn bresennol wedi bod yn ganolog i’r ymgyrch i wella gwasanaethau gofal llygaid yng Nghymru, a gwn eich bod yn cydnabod eu hymroddiad a'u gwaith caled, ond, dros y 25 mlynedd nesaf, disgwylir i nifer y bobl sydd wedi colli'u golwg ddyblu. Felly, Brif Weinidog, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod ystadegau iechyd a demograffeg yn cael eu cynnwys fel mater o drefn yn asesiadau anghenion y GIG?
 
14:15
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Yes. The integrated medium-term plans of health boards, and, indeed, our trusts, are underpinned by comprehensive needs assessments. They cover both the physical and mental health and wellbeing of the resident population. Those plans are scrutinised by the health boards and the trusts, and ourselves as Welsh Government, to ensure that health statistics and demographics are routinely included in order, of course, to make sure that the plan continues to be effective.
Gallaf. Mae cynlluniau tymor canolig integredig byrddau iechyd, ac, yn wir, ein hymddiriedolaethau, wedi’u seilio ar asesiadau cynhwysfawr o anghenion. Maen nhw’n ymdrin ag iechyd a lles corfforol a meddyliol y boblogaeth sy’n byw yma. Caiff y cynlluniau eu harchwilio gan y byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau, a gennym ni ein hunain fel Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod ystadegau iechyd a demograffeg yn cael eu cynnwys fel mater o drefn er mwyn, wrth gwrs, gwneud yn siŵr bod y cynllun yn parhau i fod yn effeithiol.
 
14:15
Janet Finch-SaundersBywgraffiadBiography
Minister, the delivery plan acknowledges the need to work on the delays—and that was raised a lot in the plan—in patients being seen for follow-up treatment. Will the Minister provide an update on the action taken by your Government to work with the NHS Wales Informatics Service to develop electronic referrals and electronic patient records for eye care in order to deal with this problem?
Weinidog, mae'r cynllun cyflawni yn cydnabod yr angen i weithio ar yr oediadau—a chodwyd hynny sawl gwaith yn y cynllun—cyn i gleifion gael eu gweld ar gyfer triniaeth ddilynol. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd gan eich Llywodraeth i weithio gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i ddatblygu atgyfeiriadau electronig a chofnodion cleifion electronig ar gyfer gofal llygaid er mwyn ymdrin â’r broblem hon?
 
14:16
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Yes, we work very closely with them. It’s important that the patients involved do not experience any delays. We have invested £34 million in extra eye care in terms of primary and secondary care over the past three years, and, indeed, provided new treatment. It was only in 2007 that there was no treatment available for wet age-related macular degeneration. Now, of course, 16,000 courses of treatment are being provided in Wales, and that helps, of course, to prevent sight loss that was caused by wet AMD—a treatment that wasn’t available, of course, before 2007.
Gwnaf, rydym ni’n gweithio'n agos iawn gyda nhw. Mae'n bwysig nad yw'r cleifion dan sylw yn dioddef unrhyw oediadau. Rydym ni wedi buddsoddi £34 miliwn mewn gofal llygaid ychwanegol o ran gofal sylfaenol ac eilaidd yn ystod y tair blynedd diwethaf, ac, yn wir, wedi darparu triniaeth newydd. Mor ddiweddar â 2007 nid oedd unrhyw driniaeth ar gael ar gyfer dirywiad macwlaidd gwlyb sy'n gysylltiedig ag oedran. Nawr, wrth gwrs, darperir 16,000 o gyrsiau o driniaeth yng Nghymru, ac mae hynny’n helpu, wrth gwrs, i atal colli golwg a achoswyd gan ddirywiad macwlaidd gwlyb sy'n gysylltiedig ag oedran—triniaeth nad oedd ar gael, wrth gwrs, cyn 2007.
 
14:16
Brif Weinidog, rwy’n derbyn bod y galw yn cynyddu, ond, yn ôl y cynllun gweithredol, mae yna dros 7,800 o bobl yn y gogledd ar hyn o bryd yn aros am driniaeth ar eu llygaid, yn cynnwys 568 sydd wedi aros dros 36 wythnos. Felly, os ydych yn gwneud yr holl fonitro yma, sut y gallwch chi sicrhau pobl yn y gogledd bod y sefyllfa yn mynd i wella, wrth ystyried, ar hyn o bryd, mai prif ymateb y bwrdd iechyd, mae’n amlwg, ydy prynu gwasanaethau o Loegr?
First Minister, I accept that demand is increasing, but, according to the action plan, there are over 7,800 people in north Wales currently awaiting eye treatment, including 568 who have waited over 36 weeks. So, if you are carrying out all of this monitoring work, how can you give assurances to people in north Wales that the situation will improve, given that, at present, the main response of the health board, clearly, is to buy in services from England?
 
14:17
Carwyn JonesBywgraffiadBiographyY Prif Weinidog / The First Minister
Wel, beth sy’n bwysig yw bod pobl yn cael y gwasanaeth, yn fy marn i. O ran ble mae’n dod, o ran Cymru neu Loegr, rydym ni yn hanesyddol wedi defnyddio gwasanaethau yn Lloegr, ac nid yw hynny’n mynd i newid. A gaf i ddweud bod wyth mas o bob 10 person yn sefyll llai na 26 wythnos ynglŷn â thriniaeth, ac, o rheini, mae hanner yn aros llai nag 11 wythnos? Rydym ni’n moyn sicrhau bod yr amser aros yn mynd i lawr eto dros y misoedd nesaf.
Well, what’s important is that people should receive the service, in my view. In terms of where it comes from, in terms of England or Wales, historically we’ve used services in England, and that’s not going to change. Can I say that eight out of every 10 people wait fewer than 26 weeks for treatment, and, of those, half again are waiting for fewer than 11 weeks? We want to ensure that the waiting time reduces again over the next months.
 
14:17
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
Thank you, First Minister.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog.
 
14:17
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
2. Business Statement and Announcement
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
We now move to item 2, which is the business statement, and I call on the Minister, Jane Hutt.
Symudwn yn awr at eitem 2, sef y datganiad busnes, a galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.
 
14:18
Jane HuttBywgraffiadBiographyY Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth / The Minister for Finance and Government Business
Diolch, Lywydd. I’ve one change to announce to this week’s business. My oral statement on EU funding ambassadors has been postponed from today to next Tuesday, 19 May. Business for the next three weeks is as shown on the business statement and announcement, which can be found among the agenda papers available to Members electronically.
Diolch, Lywydd. Mae gen i un newid i'w gyhoeddi i fusnes yr wythnos hon. Mae fy natganiad llafar ar lysgenhadon cyllid yr UE wedi ei ohirio o heddiw tan ddydd Mawrth nesaf, 19 Mai. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel a ddangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ymhlith papurau'r agenda sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
 
14:18
Two issues I’d like to raise with you, Minister: firstly, last Sunday was World Lupus Day, which focuses on the need for increased public awareness and understanding of lupus, as well as improved diagnosis times and treatment for the condition. It’s a serious chronic illness, for which there is no cure, and there are a number of people living in Wales who struggle with it every day. I wonder if we could have an update from your Government—maybe from the health Minister—about how Welsh Government policies are specifically helping to raise the profile of this condition and to help the sufferers.
Hoffwn godi dau fater gyda chi, Weinidog: yn gyntaf, dydd Sul diwethaf oedd Diwrnod Lwpws y Byd, sy'n canolbwyntio ar yr angen am fwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o lwpws ymhlith y cyhoedd, yn ogystal â gwell amseroedd diagnosis a thriniaeth ar gyfer y cyflwr. Mae'n salwch cronig difrifol, lle nad oes gwellhad, ac mae nifer o bobl sy'n byw yng Nghymru yn brwydro yn ei erbyn bob dydd. Tybed a allem ni gael y wybodaeth ddiweddaraf gan eich Llywodraeth—efallai gan y Gweinidog iechyd—ynglŷn â sut y mae polisïau Llywodraeth Cymru yn helpu’n benodol i godi proffil y cyflwr hwn ac i helpu'r dioddefwyr.
 
Secondly, I have long been a campaigner of the dark skies project—along with William Powell, of course—which saw the Brecon Beacons National Park granted official dark sky status back in 2013. As part of Cadw’s support for this project and Welsh Government support, Tintern abbey will be hosting late-night astronomy sessions this coming weekend. I will be attending, and you are more than welcome to join me as well, if you like. This is a great opportunity for young people to learn more about the night sky. Ninety per cent of Wales already has dark sky status; I wonder if you could tell us how Welsh Government policies will help us push forward to, ultimately, 100 per cent status.
Yn ail, rwyf wedi ymgyrchu ers amser maith dros y prosiect awyr dywyll—ynghyd â William Powell, wrth gwrs—a welodd Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cael statws awyr dywyll swyddogol yn ôl yn 2013. Yn rhan o gefnogaeth Cadw i’r prosiect hwn a chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd abaty Tyndyrn yn cynnal sesiynau seryddiaeth yn hwyr yn y nos y penwythnos yma. Byddaf i yno, ac mae croeso mawr i chi ymuno â mi hefyd, os hoffech. Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc ddysgu mwy am awyr y nos. Mae gan naw deg y cant o Gymru statws awyr dywyll eisoes; tybed a allech chi ddweud wrthym sut y bydd polisïau Llywodraeth Cymru’n ein helpu i wthio ymlaen tuag at, yn y pen draw, statws 100 y cant. 
 
14:19
I thank Nick Ramsay for both those questions. I’m sure that the Minister will consider updating on raising awareness, as you say, most importantly, in terms of the first point you made. Secondly, I know of your interest and support for the dark skies project—I think we might have once jointly-sponsored an event here in the Senedd on this matter—in terms of opportunities, and also the educational opportunities in terms of astronomy with our young people. So, I’m not sure whether I can join you at Tintern abbey, Nick Ramsay, but I know that members of the public will be. Of course, I’m very much aware of the facility we’ve got in my constituency, in Dyffryn Gardens, which you will also be aware of, where we can look at the night sky.
Diolch i Nick Ramsay am y ddau gwestiwn yna. Rwy'n siŵr y gwnaiff y Gweinidog ystyried rhoi diweddariad am godi ymwybyddiaeth, fel y dywedwch, yn bwysicaf oll, o ran y pwynt cyntaf a wnaethoch. Yn ail, rwyf yn gwybod am eich diddordeb yn y prosiect awyr dywyll a'ch cefnogaeth iddo—credaf ein bod unwaith wedi cyd-noddi digwyddiad yma yn y Senedd ar y mater hwn—o ran cyfleoedd, a hefyd y cyfleoedd addysgol o ran seryddiaeth gyda'n pobl ifanc. Felly, nid wyf yn siŵr a allaf ymuno â chi yn abaty Tyndyrn, Nick Ramsay, ond gwn y bydd aelodau o'r cyhoedd yno. Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol iawn o'r cyfleuster sydd gennym yn fy etholaeth i, yng Ngerddi Dyffryn, y byddwch hefyd yn ymwybodol ohono, lle y gallwn edrych ar awyr y nos.
 
14:20
Minister, the Conservative Government has made it very clear that it intends to put on the parliamentary agenda the abolition of the Hunting Act 2004 to re-allow hunting of live animals by dogs. Now, this is a matter that is not devolved to us, although it clearly fits in with the agricultural agenda, but also it is very clear that around 80 per cent of the population of Wales is dead opposed to the ripping apart of live animals as a sport with dogs. Now, will the Government be considering making time available, so we consider the implications of those proposals, but also that this is clearly a matter that should be devolved to Wales, so that we can decide it in this Chamber?
Weinidog, mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi ei gwneud yn glir iawn ei bod yn bwriadu rhoi diddymu Deddf Hela 2004 ar yr agenda seneddol i ganiatáu hela anifeiliaid byw gan gŵn unwaith eto. Nawr, nid yw’r mater hwn wedi'i ddatganoli i ni, er ei fod yn cyd-fynd yn glir â'r agenda amaethyddol, ond mae'n amlwg iawn hefyd bod tua 80 y cant o boblogaeth Cymru’n teimlo’n gryf yn erbyn rhwygo anifeiliaid byw’n ddarnau fel chwaraeon gyda chŵn. Nawr, a fydd y Llywodraeth yn ystyried sicrhau bod amser ar gael, er mwyn inni ystyried goblygiadau'r cynigion hynny, ond hefyd bod hwn yn amlwg yn fater y dylid ei ddatganoli i Gymru, fel y gallwn benderfynu arno yn y Siambr hon?
 
14:21
Well, of course, Mick Antoniw, this is one of many items, I believe, in the Conservative manifesto that will raise concerns, as you say, with 80 per cent, at least, of the population. I think there will be many other items also in the manifesto; we will see what emerges in the Queen’s Speech. I’m sure that we will have to find time to address these items to represent the people of Wales in terms of their opinions in terms of those concerns.
Wel, wrth gwrs, Mick Antoniw, mae hon yn un o nifer o eitemau, yn fy marn i, ym maniffesto'r Ceidwadwyr a fydd yn codi pryderon, fel y dywedwch, gyda 80 y cant, o leiaf, o'r boblogaeth. Rwy'n credu y bydd llawer o eitemau eraill hefyd yn y maniffesto; cawn weld beth a ddaw yn Araith y Frenhines. Rwy'n siŵr y bydd yn rhaid inni ddod o hyd i amser i roi sylw i'r eitemau hyn i gynrychioli pobl Cymru o ran eu barn am y pryderon hynny.
 
14:21
Weinidog, rŷm ni newydd glywed y Prif Weinidog yn dweud y bydd yn cael galwad ffôn neu sgwrs ffôn gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Gyfunol brynhawn yma. Rwy’n cymryd mai dyna’r sgwrs gyntaf ffurfiol y maen nhw’n ei chael—ers yr etholiad beth bynnag. A ydych chi’n cofio, yn ystod ymgyrch yr etholiad, fe ddaeth George Osborne mor bell dros y ffin â’r Clas-ar-Wy, ger y Gelli, a datgan y byddem ni’n gweld Deddf Cymru o fewn 100 diwrnod o ddyddiad yr etholiad cyffredinol? Mae nawr yn ymddangos bod y 100 diwrnod yna wedi mynd yn ofer ac yn angof, a bod yn rhaid i ni aros hyd at flwyddyn, efallai, ar gyfer Deddf o’r fath. A oes modd i ni gael datganiad, felly, gan y Prif Weinidog, yn sgil ei sgwrs heddiw gyda’r Prif Weinidog yn Llundain ynglŷn â’r amserlen ar gyfer y Ddeddf, gan fod yna gytundeb pob plaid, yn y lle hwn, ar gyfer gweithredu argymhellion Silk a rhannau o argymhellion rhan 2 o gomisiwn Silk hefyd?
Minister, we’ve just heard the First Minister saying that he will be having a telephone conversation with the UK Prime Minister this afternoon. I assume that’ll be the first formal conversation they’ve had—since the election in any case. Do you recall, during the election campaign, that George Osborne came as far over the border as Glasbury, near Hay on Wye, and said that we would see a Wales Act within 100 days of the date of the general election? It now appears that that 100 days has been forgotten, and that we will know have to wait for up to a year, perhaps, for such an Act. Could we therefore have a statement from the First Minister in light of his conversation today with the Prime Minister in England on the timetable for the Wales Bill, as there is cross-party agreement in this place for implementing the Silk recommendations and parts of Silk 2 also?
 
14:22
Well, I’m very grateful to Simon Thomas for that very helpful and constructive question. We do need clarity, as you say, certainly as that promise was made and we have to ensure that Wales is not left out, and particularly, I would say, because we do have cross-party agreement on how we should take this forward in terms of the Silk commission, and indeed reflected in manifestos in terms of implementation of the funding floor.
Wel, rwy’n ddiolchgar iawn i Simon Thomas am y cwestiwn buddiol ac adeiladol iawn yna. Mae angen eglurder arnom, fel y dywedwch, yn sicr gan fod yr addewid hwnnw wedi’i wneud ac mae'n rhaid inni sicrhau na chaiff Cymru ei gadael ar ôl, ac yn arbennig, byddwn i’n dweud, oherwydd bod gennym gytundeb trawsbleidiol ar sut y dylem fwrw ymlaen â hyn o ran comisiwn Silk, ac yn wir mae hynny wedi’i adlewyrchu mewn maniffestos o ran rhoi’r cyllid gwaelodol ar waith.
 
14:23
Eluned ParrottBywgraffiadBiography
Minister, it is Mental Health Awareness Week this week, and I’m sure you’ll join me in welcoming the campaigns that have improved the position for people who do suffer from mental ill health. However, I would very much welcome a statement from the Welsh Government on the importance that they place on good mental health. Also, what work has been done in the last year to improve the awareness among public sector workers of the role that they can play in assisting people with mental ill health—particularly, perhaps, health workers, who are not always as aware of the impact of their words as, perhaps, we would wish them to be? That would be most appreciated.
Weinidog, mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yr wythnos hon, ac rwy'n siŵr y gwnewch ymuno â mi i groesawu’r ymgyrchoedd sydd wedi gwella sefyllfa pobl sy’n dioddef o salwch meddwl. Fodd bynnag, byddwn yn croesawu'n fawr datganiad gan Lywodraeth Cymru am bwysigrwydd iechyd meddwl da iddynt. Hefyd, pa waith sydd wedi’i wneud yn y flwyddyn ddiwethaf i wella ymwybyddiaeth ymysg gweithwyr y sector cyhoeddus o’r rhan y gallant ei chwarae wrth gynorthwyo pobl â salwch iechyd meddwl—yn enwedig, efallai, gweithwyr iechyd, nad ydynt bob amser mor ymwybodol o effaith eu geiriau ag, efallai, y byddem yn dymuno iddynt fod? Byddwn yn gwerthfawrogi hynny'n fawr.
 
On a second matter, I was shocked to discover yesterday that Roath Library in Cardiff is scheduled for closure—just two months after we were told by Cardiff Council that it was saved, along with all of the other libraries in Cardiff. Obviously, this throws all of the consultation process into absolute chaos. It means that the people of Roath have had no opportunity to represent themselves. I wonder if I could ask for a written statement from the Minister, outlining what dialogue he’s had with local authorities on their obligations to make sure that library provision is adequate across our cities, our communities, but also that, when closures are, sadly, considered, they will be properly consulted upon in an open and honest and professional manner.
Ar ail fater, cefais sioc o ddarganfod ddoe bod bwriad i gau Llyfrgell y Rhath yng Nghaerdydd—dim ond ddau fis ar ôl i Gyngor Caerdydd ddweud wrthym ei bod wedi’i hachub, ynghyd â phob llyfrgell arall yng Nghaerdydd. Yn amlwg, mae hyn yn rhoi’r holl broses ymgynghori mewn anhrefn llwyr. Mae'n golygu nad yw pobl y Rhath wedi cael unrhyw gyfle i gynrychioli eu hunain. Tybed a gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog, i amlinellu'r ddeialog y mae wedi ei chael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â’u rhwymedigaethau i wneud yn siŵr bod darpariaeth llyfrgell yn ddigonol ar draws ein dinasoedd, ein cymunedau, ond hefyd, ar yr adegau anffodus pan ystyrir eu cau, y cynhelir ymgynghoriadau priodol mewn ffordd agored a gonest a phroffesiynol.
 
14:25
In terms of your first point, clearly, the awareness that we raise—not just in terms of our funding of mental health services in Wales but also tackling the stigma and raising awareness, of course—is at the forefront of the priorities of the health and social services Minister, and I’m sure the Minister will want to update us on that in terms of not only the financial prioritisation that we’re giving but also in terms of the awareness campaigns that, of course, we’re supporting, many of which are taken forward by some of the third sector organisations, in terms of raising awareness about mental health.
O ran eich pwynt cyntaf, yn amlwg, mae'r ymwybyddiaeth yr ydym yn ei chodi—nid yn unig drwy gyllido gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, ond hefyd drwy ymdrin â'r stigma a chodi ymwybyddiaeth, wrth gwrs—yn un o brif flaenoriaethau’r Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am hynny o ran nid yn unig y flaenoriaeth ariannol yr ydym yn ei rhoi, ond hefyd o ran yr ymgyrchoedd ymwybyddiaeth yr ydym, wrth gwrs, yn eu cefnogi, llawer ohonynt wedi’u datblygu gan rai o'r sefydliadau trydydd sector, o ran codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl.
 
Of course, the issues in terms of decisions made by local authorities are for those local authorities. In the context of the most difficult time, because of the cuts that, of course, we have suffered in Wales—cuts of £1.4 billion—we are protecting the local authorities as far as we can, but, obviously, we’re getting to the point where local government now has also to make very tough and difficult decisions. What I would say is that not only the Deputy Minister for Culture, Sport and Tourism but also I as Minister for Finance and Government Business have produced very important guidance, particularly in terms of community asset transfers. Of course, I’ve made a statement on this, and you’ll be aware of this to share with your constituents.
Wrth gwrs, mae penderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol yn fater i’r awdurdodau lleol hynny. Yng nghyd-destun y cyfnod anoddaf, oherwydd y toriadau yr ydym, wrth gwrs, wedi’u dioddef yng Nghymru—toriadau o £1.4 biliwn—rydym yn diogelu'r awdurdodau lleol cyn belled ag y gallwn, ond, yn amlwg, rydym yn cyrraedd y pwynt lle mae’n rhaid i lywodraeth leol hefyd wneud penderfyniadau caled ac anodd iawn erbyn hyn. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw fy mod i fel Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, yn ogystal â’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, wedi cynhyrchu canllawiau pwysig iawn, yn enwedig o ran trosglwyddo asedau cymunedol. Wrth gwrs, rwyf wedi gwneud datganiad am hyn, a byddwch yn ymwybodol o hyn i’w rannu â’ch etholwyr.
 
14:26
Mark IsherwoodBywgraffiadBiography
I call for a single statement on women’s clinical services at Ysbyty Glan Clwyd. The Minister might be aware that at Mold Crown Court last Friday, the British Medical Association legal team successfully applied for an interim injunction prohibiting the health board from implementing its plans and for full disclosure of documents relating to the closure decision by the health board. Now, I know you cannot comment on legal matters and ongoing legal proceedings, but I’ve been advised—I’ve had feedback from midwives who feel under extreme scrutiny and great pressure—that the health board are trying to engineer some sort of crisis so they can get around the injunction, with staffing so tight that they wouldn’t need many to resign before rotas become unworkable, and that at least five midwives have already accepted jobs in Chester, following open interview, and that another similar sort of day is planned at Arrowe Park Hospital soon, when other nurses and midwives from Ysbyty Glan Clwyd will be attending. I hope you won’t, on this occasion, pass the buck to the health board, because, if you do, we’ll have to question what your Government is for. I hope you will take responsibility and intervene to ensure that, if the outcome of this legal action is to lead to the unit staying open, they aren’t closed by default because the staff have all been forced to leave.
Galwaf am un datganiad am wasanaethau clinigol i fenywod yn Ysbyty Glan Clwyd. Efallai y bydd y Gweinidog yn gwybod, yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener diwethaf, bod tîm cyfreithiol Cymdeithas Feddygol Prydain wedi gwneud cais llwyddiannus am waharddeb dros dro i wahardd y bwrdd iechyd rhag rhoi ei gynlluniau ar waith ac am i’r bwrdd iechyd ddatgelu’n llawn y dogfennau sy'n ymwneud â'r penderfyniad i gau. Nawr, rwy’n gwybod nad ydych chi’n gallu rhoi sylwadau am faterion cyfreithiol ac achosion cyfreithiol sy’n parhau, ond rwyf wedi cael gwybod—rwyf wedi cael adborth gan fydwragedd sy'n teimlo eu bod yn destun craffu eithafol ac o dan bwysau mawr—bod y bwrdd iechyd yn ceisio creu rhyw fath o argyfwng fel y gall osgoi’r waharddeb, gyda staffio mor dynn fel na fyddai angen i lawer ohonynt ymddiswyddo cyn i rotas ddod yn anymarferol, a bod o leiaf pum bydwraig eisoes wedi derbyn swyddi yng Nghaer, ar ôl cyfweliad agored, a bod diwrnod tebyg arall wedi’i gynllunio yn Ysbyty Arrowe Park yn fuan, pryd y bydd nyrsys a bydwragedd eraill o Ysbyty Glan Clwyd yn bresennol. Rwyf yn gobeithio na wnewch chi, y tro hwn, daflu'r baich ar y bwrdd iechyd, oherwydd, os gwnewch chi hynny, bydd yn rhaid inni gwestiynu beth yw diben eich Llywodraeth. Rwy’n gobeithio y gwnewch chi gymryd cyfrifoldeb ac ymyrryd i sicrhau, os bydd canlyniad y camau cyfreithiol hyn yn golygu bod yr uned yn aros ar agor, na chaiff ei gau’n ddiofyn oherwydd bod y staff i gyd wedi eu gorfodi i adael.
 
14:27
Well, of course, Mark Isherwood is clearly aware, and he made this point in terms of what we can and cannot say, that the legal challenge against the health board’s temporary changes was heard on 7 and 8 May, and we do await the outcome from the court.
Wel, wrth gwrs, mae Mark Isherwood yn amlwg yn ymwybodol, a gwnaeth y pwynt hwn ynglŷn â’r hyn y cawn ac na chawn ei ddweud, bod yr her gyfreithiol yn erbyn newidiadau dros dro y bwrdd iechyd wedi cael gwrandawiad ar 7 ac 8 Mai, ac rydym yn aros am y canlyniad oddi wrth y llys.
 
14:28
Jocelyn DaviesBywgraffiadBiography
Minister, you’ll be aware that the human papilloma virus vaccine has been offered to young women and teenage girls for some time now to protect them from the cervical cancer caused by the warts virus. I wonder if you’d arrange for the health Minister to issue a statement on his intention or otherwise to extend this to the other 50% of the population to protect them from the cancer that they might develop from the exact same virus.
Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod y brechlyn feirws papiloma dynol wedi cael ei gynnig i fenywod ifanc a merched yn eu harddegau ers peth amser bellach i'w diogelu rhag canser ceg y groth a achosir gan y firws dafadennau. Tybed a fyddech yn trefnu bod y Gweinidog iechyd yn cyhoeddi datganiad am ei fwriad neu fel arall i ymestyn hyn i 50% arall y boblogaeth i'w hamddiffyn rhag y canser y gallent ei ddatblygu o’r un firws yn union?
 
14:28
I thank Jocelyn Davies for that question, and I will ask the Minister for Health and Social Services to update on the matter.
Diolchaf i Jocelyn Davies am y cwestiwn yna, a byddaf yn gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y mater.
 
14:28
Kirsty WilliamsBywgraffiadBiography
Minister, today, children from year 5 and year 6 of Rhayader primary school were visiting the Assembly. They were greatly concerned over their future, given that Powys County Council has raised questions over the future of secondary education in Radnorshire, proposing, potentially, the closure of Llandrindod High School. One of the reasons why Powys say they need to make these devastating changes is the difficulty in the recruitment and retention of headteachers and senior leaders in schools. What steps is the Welsh Government taking to ensure that there is an adequate supply of headteachers and those people willing to take on senior leadership roles within our secondary schools so that we don’t have to resort to closing institutions and making pupils travel ever increasing distances to receive their secondary education?
Weinidog, heddiw, roedd plant o flwyddyn 5 a blwyddyn 6 ysgol gynradd Rhaeadr Gwy yn ymweld â'r Cynulliad. Roeddent yn pryderu’n fawr am eu dyfodol, o gofio bod Cyngor Sir Powys wedi codi cwestiynau ynghylch dyfodol addysg uwchradd yn Sir Faesyfed, gan gynnig, o bosibl, cau Ysgol Uwchradd Llandrindod. Un o'r rhesymau pam mae Powys yn dweud bod angen iddynt wneud y newidiadau trychinebus hyn yw'r anhawster i recriwtio a chadw penaethiaid ac uwch arweinwyr mewn ysgolion. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i sicrhau bod cyflenwad digonol o benaethiaid a'r bobl hynny sy'n barod i ymgymryd â swyddogaethau arweinyddiaeth uwch o fewn ein hysgolion uwchradd fel nad oes yn rhaid inni droi at gau sefydliadau a gwneud i ddisgyblion deithio mwy a mwy o bellteroedd i gael eu haddysg uwchradd?
 
14:29
Well, I believe, Kirsty Williams, you will be reassured by the work that the Minister for Education and Skills is undertaking to ensure that we do have routes to ensure we have the leadership that is required in order to encourage and train teachers to move into those important roles that they play, because, of course, this is key in terms of being able to sustain primary education at that excellent level in your community.
Wel, rwyf yn credu, Kirsty Williams, y cewch eich calonogi gan y gwaith y mae'r Gweinidog Addysg a Sgiliau’n ei wneud i sicrhau bod gennym lwybrau i sicrhau bod gennym yr arweinyddiaeth sydd ei hangen er mwyn annog a hyfforddi athrawon i symud i’r swyddi pwysig hynny y maent yn eu cyflawni, oherwydd, wrth gwrs, mae hyn yn allweddol o ran gallu cynnal addysg gynradd ar y lefel ragorol honno yn eich cymuned.
 
14:30
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
Thank you, Minister.
Diolch, Weinidog.
 
14:30
3. Datganiad: Nodi Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop—Gweithio gyda a Chefnogi ein Cymuned Lluoedd Arfog Heddiw
3. Statement: Anniversary of VE Day—Working with and Supporting our Armed Forces Community Today
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiadBiography
We now move on to item 3, which is the statement by the Minister for Public Services on the anniversary of VE Day and working with and supporting our armed forces community today. I call on Leighton Andrews.
Rydym nawr yn symud ymlaen at eitem 3, sef y datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus am ben-blwydd Diwrnod VE a gweithio gyda a chefnogi ein cymuned lluoedd arfog heddiw. Galwaf ar Leighton Andrews.
 
14:30
Leighton AndrewsBywgraffiadBiographyY Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus / The Minister for Public Services
Llywydd, Members will be well aware of the events that have taken place over the last few days to commemorate the seventieth anniversary of Victory in Europe Day.
Lywydd, bydd yr Aelodau’n gwybod yn iawn am y digwyddiadau sydd wedi’u cynnal dros y dyddiau diwethaf i ddathlu deg mlynedd a thrigain ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop.
 
On 8 May, the First Minister attended a service of remembrance at the Cenotaph in London, laying a wreath on behalf of the Welsh Government and people of Wales, and also attended a service of thanksgiving at Westminster abbey on 10 May. I attended commemorations in Wales at a service of remembrance in Cardiff castle on 8 May, laying a wreath on behalf of the Welsh Government and the people of Wales in remembrance of those who fought and lost their lives.
Ar 8 Mai, roedd y Prif Weinidog yn bresennol mewn gwasanaeth coffa yn y Senotaff yn Llundain, gan osod torch ar ran Llywodraeth Cymru a phobl Cymru, ac roedd hefyd yn bresennol mewn gwasanaeth diolchgarwch yn abaty Westminster ar 10 Mai. Roeddwn innau’n bresennol mewn gwasanaeth coffa yng Nghymru yng nghastell Caerdydd ar 8 Mai, gan osod torch ar ran Llywodraeth Cymru a phobl Cymru er cof am y rhai a ymladdodd ac a gollodd eu bywydau.
 
Many people who were present at other events held at towns and cities across Wales were present and celebrating on VE Day itself, in 1945. But, this is also an opportunity for the younger generation to learn and appreciate the sacrifices our servicemen and women went through in defending our freedoms. With this in mind, and in remembrance of all the other conflicts that have taken place over the years that involved our armed services, I’d like to set out the support and services that the Welsh Government is providing today to those who have served and to their families.
Roedd llawer o’r bobl a oedd yn bresennol mewn digwyddiadau eraill a gynhaliwyd mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru yn bresennol ac yn dathlu ar Ddiwrnod VE ei hun, yn 1945. Ond mae hwn hefyd yn gyfle i'r genhedlaeth iau i ddysgu a gwerthfawrogi’r aberth a wnaed gan ein lluoedd arfog i amddiffyn ein rhyddid. Gyda hyn mewn golwg, ac er cof am yr holl ryfeloedd eraill sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd pryd yr oedd ein gwasanaethau arfog yn cymryd rhan, hoffwn nodi'r gefnogaeth a'r gwasanaethau y mae Llywodraeth Cymru’n eu darparu heddiw i'r bobl hynny sydd wedi gwasanaethu ac i'w teuluoedd.
 
Transition into civilian life can be a very daunting experience for an unfortunate few from the services, and their families, as they leave. Of course, the majority of service leavers adapt into civilian life effectively, using their skills to find themselves meaningful employment, and contributing to the communities in which they have settled. A few require our support, as a failed transition can lead to multiple and complex problems, leading to a breakdown of relationships, unemployment, or health issues. The Welsh Government has measures in place to support people where necessary, through our package of support.
Gall pontio i fywyd fel sifiliaid