By continuing to use our site, you are agreeing for us to set a small number of cookies. Cookie policy

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Back to list View this page with hyperlinks
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. The Assembly met at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.
13:30 - Y Llywydd / The Llywydd
Galw Aelodau i drefn. I call Members to order.
1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 1. Questions to the Cabinet Secretary for Education
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. [R] signifies the Member has declared an interest. [W] signifies that the question was tabled in Welsh.
13:30 - Y Llywydd / The Llywydd
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg. A’r cwestiwn cyntaf, Jeremy Miles. The first item on our agenda this afternoon is questions to the Cabinet Secretary for Education. And the first question, Jeremy Miles.
Addysg ar gyfer Cydweithredu Education for Co-operation
13:30 - Jeremy Miles
1. Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i weithredu argymhellion Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru yn ymwneud ag ‘Addysg ar gyfer Cydweithredu’? OAQ(5)0132(EDU) 1. What steps are being taken by the Cabinet Secretary to implement the recommendations of the Welsh Co-operative and Mutuals Commission relating to ‘Education for Co-operation’? OAQ(5)0132(EDU)
13:30 - Kirsty Williams
Thank you, Jeremy. Our national mission of education reform is building an inclusive and equitable education system that supports every learner. We are continuing to strengthen our approach to policy co-construction across the three-tier model, and will work closely with our partners to develop our new curriculum and our new professional teaching standards. Diolch, Jeremy. Ein cenhadaeth genedlaethol ar gyfer diwygio addysg yw adeiladu system addysg gynhwysol a theg sy’n cefnogi pob dysgwr. Rydym yn parhau i gryfhau ein dull o gydadeiladu polisi ar draws y model tair haen, a byddwn yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid i ddatblygu ein cwricwlwm newydd a’n safonau addysgu proffesiynol newydd.
13:30 - Jeremy Miles
I thank the Cabinet Secretary for that reply. In its update to its report, the commission recognised there were ongoing discussions between the Welsh Government and the Co-operative College, in relation to co-operative education in schools, and described a model that was preserving the maintained status of schools also encouraged the spread of co-operative ethos and principles within the curriculum and in the life of the school. And I wonder whether the Government will be taking proactive steps to encourage that development, having regard to the Bevan Foundation report of a few years ago, which set out some very practical steps, encouraging schools to go along that journey. Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Yn ei ddiweddariad i’w adroddiad, cydnabu’r comisiwn fod trafodaethau ar y gweill rhwng Llywodraeth Cymru a’r Coleg Cydweithredol mewn perthynas ag addysg gydweithredol mewn ysgolion, a dywedodd fod model a oedd yn diogelu statws ysgolion a gynhelir hefyd yn annog lledaenu ethos ac egwyddorion cydweithredol o fewn y cwricwlwm ac ym mywyd yr ysgol. Ac rwy’n meddwl tybed a fydd y Llywodraeth yn cymryd camau rhagweithiol i annog y datblygiad hwnnw, gan ystyried adroddiad Sefydliad Bevan ychydig flynyddoedd yn ôl, a nododd rai camau ymarferol iawn, gan annog ysgolion i fynd ar hyd y daith honno.
13:31 - Kirsty Williams
Thank you, Jeremy. As part of their rapid policy review, the Organisation for Economic Co-operation and Development identified our comprehensive schools system, which emphasises equity and inclusion as one of the strengths of Welsh education. We are making considerable gains towards a self-improving system in Wales. And we must build on these foundations and continue to develop those approaches, which are based on co-operation, across all schools, learning from each other good practice, as well as incorporating issues around co-operation within the curriculum itself. Diolch, Jeremy. Fel rhan o’u hadolygiad cyflym o’r polisi, nododd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ein system ysgolion cyfun, sy’n pwysleisio tegwch a chynhwysiant fel un o gryfderau addysg yng Nghymru. Rydym yn gwneud cynnydd sylweddol tuag at system hunanwella yng Nghymru. Ac mae’n rhaid i ni adeiladu ar y sylfeini hyn a pharhau i ddatblygu’r dulliau hynny, sy’n seiliedig ar gydweithio, ar draws yr holl ysgolion, gan ddysgu arferion da oddi wrth ei gilydd, yn ogystal ag ymgorffori materion yn ymwneud â chydweithredu o fewn y cwricwlwm ei hun.
13:31 - David Melding
Cabinet Secretary, on a slightly different tack, but still in the mainstream of this question, encouraging enterprise in schools, amongst the pupils, in particular, I think is a marvellous thing to do. I’ve many times previously called for social enterprises to be encouraged—I think each secondary school ought to have at least one—and why not use the model of co-operatives? What better way of organising that sort of enterprise? Ysgrifennydd y Cabinet, ar drywydd ychydig yn wahanol, ond yn dal yn ganolog i’r cwestiwn hwn, rwy’n credu bod annog menter mewn ysgolion, ymysg y disgyblion yn arbennig, yn beth gwych i’w wneud. Rwyf wedi galw sawl gwaith am annog mentrau cymdeithasol—credaf y dylai pob ysgol uwchradd gael o leiaf un—a pham ddim defnyddio’r model cydweithredol? Pa ffordd well o drefnu’r math hwnnw o fenter?
13:32 - Kirsty Williams
Thank you, David. The revised Welsh baccalaureate highlights the importance of developing the essential skills and presents opportunities for the co-operative and mutual sector to engage, through the enterprise and employability challenges, and the community challenges. Organisations are therefore being encouraged to develop or become involved in the delivery of those challenges, within individual schools, and, obviously, entrepreneurship forms one of those challenges. I am continually looking at ways in which we can encourage those types of skills to be embedded within the curriculum, because they’re really important skills for our children to learn and utilise in the world of work. Diolch, David. Mae’r Fagloriaeth Gymreig ddiwygiedig yn amlygu pwysigrwydd datblygu’r sgiliau hanfodol ac yn cynnig cyfleoedd i’r sector cydweithredol a chydfuddiannol gymryd rhan, drwy’r heriau menter a chyflogadwyedd, a’r heriau cymunedol. Mae sefydliadau, felly, yn cael eu hannog i ddatblygu neu ddod yn rhan o’r broses o gyflwyno’r heriau hynny, o fewn ysgolion unigol, ac yn amlwg, mae entrepreneuriaeth yn un o’r heriau hynny. Rwy’n barhaol yn edrych am ffyrdd y gallwn annog ymgorffori’r mathau hynny o sgiliau yn y cwricwlwm, am eu bod yn sgiliau pwysig iawn i’n plant eu dysgu a’u defnyddio ym myd gwaith.
Cyfleoedd Profiad Gwaith Work Experience Opportunities
13:33 - Rhun ap Iorwerth
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyfleoedd profiad gwaith i ddisgyblion? OAQ(5)0131(EDU)[W] 2. Will the Cabinet Secretary make a statement on work experience opportunities for pupils? OAQ(5)0131(EDU)[W]
13:33 - Kirsty Williams
Diolch yn fawr, Rhun. Well-planned, structured work experience placements can provide young people with a valuable insight into the world of work. Schools and local authorities are responsible for providing pupils with work-focused experiences as part of the delivery of the careers and the world of work curriculum framework. Diolch yn fawr, Rhun. Gall lleoliadau profiad gwaith strwythuredig, wedi’u cynllunio’n dda roi cipolwg gwerthfawr i bobl ifanc ar fyd gwaith. Mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu profiadau sy’n canolbwyntio ar waith i ddisgyblion fel rhan o’r gwaith o gyflawni’r fframwaith cwricwlwm gyrfaoedd a’r byd gwaith.
13:33 - Rhun ap Iorwerth
Diolch. Mae hwn yn fater godais i efo’r Prif Weinidog mewn cwestiwn atodol ddoe. Mae sawl cyngor, fel rydych chi’n gwybod, wedi cymryd y penderfyniad i ganslo cyfleon profiad gwaith i ddisgyblion blwyddyn 10 a 12, yn cynnwys Ynys Môn. Ac rwyf i eto yn datgan diddordeb fel tad i ddau o blant—un ym mlwyddyn 10 ac un ym mlwyddyn 12. Mae rhieni a disgyblion wedi datgan siom fawr efo hyn, yn enwedig o ystyried y gwaith sydd wedi mynd i mewn i gael lle efo cyflogwyr a’r gystadleuaeth frwd am lefydd mewn rhai achosion. Thank you. This is an issue I raised with the First Minister in a supplementary question yesterday. A number of councils, as you know, have taken the decision to cancel the work-experience placement for year 10 and 12 pupils, including Anglesey. And, again, I declare an interest as the parent of two children—one in year 10 and the other in year 12. Parents and pupils have expressed huge disappointment with this, particularly given the work that’s gone in to getting a placement with an employer and the keen competition for placements in some cases.
Nawr, mi oedd asesiadau o addasrwydd cyflogwyr i gynnig profiad gwaith yn arfer cael ei wneud gan Gyrfa Cymru. Rydych chi wedi cadarnhau mewn llythyr ataf fi bod hyn wedi ei dynnu o gylch gorchwyl Gyrfa Cymru yn sgil tynhau ar gyllid. A ydych chi’n derbyn, felly, bod yna gysylltiad uniongyrchol rhwng penderfyniadau’r Llywodraeth ddiwethaf ar dorri cyllid a’r ffaith bod profiad gwaith yn cael ei ganslo rŵan? Assessments of the appropriateness of employers used to be done by Careers Wales. You’ve confirmed in a letter to me that this has been removed from the remit of Careers Wales as a result of tightening financial positions. Do you accept, therefore, that there is a direct result between the decisions taken by the last Government, in terms of cutting budgets, and the fact that work experience is now being cancelled?
Ond mae yna ddryswch yn fan hyn hefyd. Yn eich llythyr ataf fi, mi rydych chi’n dweud nad oes unrhyw reoliadau iechyd a diogelwch yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion neu awdurdodau lleol gynnal asesiadau o weithleoedd ar gyfer lleoliadau profiad gwaith. Ond mae Cyngor Sir Ynys Môn, wedyn, yn fy nghyfeirio i at ddogfennaeth gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, sy’n nodi bod angen i ysgolion fod yn sicr bod cyflogwyr wedi gwneud y gwiriadau cywir. Pwy sy’n dweud y gwir—chi ynteu y gweithgor iechyd a diogelwch? Ac, os mai chi sy’n dweud y gwir, pa gefnogaeth rydych chi wedi ei chynnig i awdurdodau lleol i roi sicrwydd iddyn nhw bod modd parhau â threfniadau profiad gwaith hollbwysig? But there is a confusion here too. In your letter to me, you state that there are no health and safety regulations that make it a requirement for schools or local authorities to carry out assessments of workplaces for work-experience placements. But the Isle of Anglesey County Council refers me to documentation from the Health and Safety Executive that notes that schools do need to be assured that employers have carried out the appropriate checks. So, who is telling the truth here—you or the Health and Safety Executive? And, if it is you, then, what support have you offered to local authorities to give them the assurance that they can continue with work experience arrangements, which are crucially important?
13:35 - Kirsty Williams
Thank you, Rhun. First of all, I welcome the fact that we both recognise that work placements and work experience have a valuable role to play. I hope you will be pleased to note that I have identified some resource, some £2.4 million over the next four years, to support stronger work between schools and employers, and I will make an announcement shortly on how that is to be spent. I understand that schools have faced challenges following the removal of the work experience database and the health and safety checking of employers’ premises, which used to be undertaken by Careers Wales. But it is a source of regret to me that Ynys Môn and Gwynedd have decided to stop this altogether, and that is in stark contrast to some excellent practice that has gone on in other local authorities and in other schools to maintain this provision. And I declare an interest as a mother of a year 10 pupil myself, and my daughter and her cohort will be going on work placements later on in July, which have been carefully handled by the school. Diolch, Rhun. Yn gyntaf oll, rwy’n croesawu’r ffaith fod y ddau ohonom yn cydnabod bod gan leoliadau gwaith a phrofiad gwaith rôl werthfawr i’w chwarae. Rwy’n gobeithio y byddwch yn falch o nodi fy mod wedi clustnodi rhai adnoddau, tua £2.4 miliwn dros y pedair blynedd nesaf, i gefnogi gwaith cryfach rhwng ysgolion a chyflogwyr, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad cyn bo hir ynglŷn â sut y caiff ei wario. Deallaf fod ysgolion wedi wynebu heriau yn sgil dileu’r gronfa ddata profiad gwaith a gwirio iechyd a diogelwch safleoedd cyflogwyr, a arferai gael eu gwneud gan Gyrfa Cymru. Ond mae’n destun gofid i mi fod Ynys Môn a Gwynedd wedi penderfynu rhoi terfyn ar hyn yn gyfan gwbl, ac mae hynny’n dra gwahanol i waith ardderchog a welwyd mewn awdurdodau lleol eraill ac mewn ysgolion eraill i gynnal y ddarpariaeth hon. Ac rwy’n datgan buddiant fel mam i ddisgybl blwyddyn 10 fy hun, a bydd fy merch a’i chohort yn mynd ar leoliadau gwaith sydd wedi’u trefnu’n ofalus gan yr ysgol, yn nes ymlaen ym mis Gorffennaf.
I would commend the approach taken by Carmarthenshire council for instance, who have stepped up to the plate and have done tremendous work in creating a database for work placements, which will enable children in Carmarthenshire and Pembrokeshire and beyond to avail themselves of this opportunity. And what is frustrating to me is that, in a small nation such as ours, good work that is being carried out in some local authorities, such as Carmarthenshire, cannot be spread more easily to other parts of Wales. And I will be asking the regional consortia to redouble their efforts to ensure that where individual local authority schools have been able to overcome these challenges, and implement a system that allows children to take part in these schemes, that we’re able to spread that good practice to other areas of Wales so that all children can participate. Byddwn yn cymeradwyo’r dull a ddefnyddir gan gyngor Sir Gaerfyrddin, er enghraifft, sydd wedi ymateb i’r her ac wedi gwneud gwaith aruthrol yn creu cronfa ddata ar gyfer lleoliadau gwaith, a fydd yn galluogi plant yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro a thu hwnt i fanteisio ar y cyfle hwn. Yr hyn sy’n rhwystredig i mi, mewn cenedl mor fach â’n hun ni, yw na ellir lledaenu gwaith da sy’n cael ei wneud mewn rhai awdurdodau lleol, fel Sir Gaerfyrddin, yn haws i rannau eraill o Gymru. A byddaf yn gofyn i’r consortia rhanbarthol ddyblu eu hymdrechion i sicrhau, lle mae ysgolion awdurdodau lleol unigol wedi gallu goresgyn yr heriau hyn a gweithredu system sy’n galluogi plant i gymryd rhan yn y cynlluniau hyn, ein bod yn gallu lledaenu’r arferion da hyn i ardaloedd eraill yng Nghymru fel y gall pob plentyn gymryd rhan.
13:37 - Hannah Blythyn
I think we all recognise that access to work experience is incredibly important for young people, and not just any work experience, but decent, valuable experience that is not reliant on perhaps what’s easiest or who you know. Thinking back to my own work experience, I actually went to the ‘Flintshire Chronicle’, where you can find an article by Hannah Blythyn, aged 15, headlined, ‘Don’t criticise what you don’t understand: Having a Go at Politicians’. [Laughter.] That article was actually looking at how young people are stereotyped and need to be listened to, and I am now in a position to do something about it. At a recent event with students at Coleg Cambria in Northop, we talked about access to work, and work experience and things were discussed. And one of the things that they came up with was, alongside your traditional work experience, to look for things that have more taster-type sessions, where people can go into workplaces and experience the different options out there, post 16, to help them influence their decisions for their further education, apprenticeships and training. Does the Cabinet Secretary agree with me that that would be a good idea, with the young people’s idea, to do that, and what steps can be taken to make that happen? Rwy’n credu ein bod i gyd yn cydnabod bod mynediad at brofiad gwaith yn hynod o bwysig i bobl ifanc, ac nid unrhyw brofiad gwaith, ond profiad gwerth chweil a gwerthfawr, nad yw’n dibynnu ar beth sydd hawsaf neu bwy rydych yn ei adnabod o bosibl. Wrth gofio fy mhrofiad gwaith fy hun, euthum i’r ‘Flintshire Chronicle’, lle y gallwch ddod o hyd i erthygl gan Hannah Blythyn, 15 oed, gyda’r pennawd, ‘Don’t criticise what you don’t understand: Having a Go at Politicians’. [Chwerthin.] Roedd yr erthygl honno’n edrych mewn gwirionedd ar sut y mae pobl ifanc yn cael eu stereoteipio a bod angen gwrando arnynt, ac rwyf bellach mewn sefyllfa i wneud rhywbeth am hynny. Mewn digwyddiad diweddar gyda myfyrwyr yng Ngholeg Cambria yn Llaneurgain, buom yn siarad am fynediad at waith, a phrofiad gwaith a thrafodwyd pethau. Ac un o’r pethau a grybwyllwyd ganddynt, ochr yn ochr â’ch profiad gwaith traddodiadol, oedd edrych am bethau sydd â mwy o sesiynau blasu, lle y gall pobl fynd i weithleoedd a phrofi’r opsiynau gwahanol sydd ar gael, yn 16 oed a hŷn, i helpu i ddylanwadu ar eu penderfyniadau ynglŷn â’u haddysg bellach, prentisiaethau a hyfforddiant. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y byddai hynny’n syniad da, gyda syniad y bobl ifanc, i wneud hynny, a pha gamau y gellir eu cymryd er mwyn gwneud i hynny ddigwydd?
13:38 - Kirsty Williams
I think what’s absolutely crucial is that we take into consideration what young people themselves will find useful. And I’m sure all of us will be aware of situations where people have found themselves perhaps doing the photocopying for a week, and that isn’t necessarily the most useful or stimulating or inspiring kind of placement. So, we do have to focus on the quality of those placements, and we have to listen to young people about what they find will be most useful for them, and that might indeed be shorter, taster sessions, that avail them of a variety of opportunities to look at a variety of careers. And we do often need to do that earlier on in a pupil’s life, because, sometimes, the choices that they’re making at GCSE level could be potentially cutting short, or cutting off, future careers options. Rwy’n credu mai’r hyn sy’n hollbwysig yw ein bod yn ystyried beth fydd pobl ifanc eu hunain yn ei weld yn ddefnyddiol. Rwy’n siŵr y bydd pob un ohonom yn ymwybodol o sefyllfaoedd lle mae pobl efallai wedi bod yn gwneud y gwaith llungopïo am wythnos, ac nid dyna’r math mwyaf defnyddiol neu ysgogol neu ysbrydoledig o leoliad o reidrwydd. Felly, rhaid i ni ganolbwyntio ar ansawdd y lleoliadau hynny, ac mae’n rhaid i ni wrando ar bobl ifanc ynglŷn â’r hyn y maent yn ei ystyried yn fwyaf defnyddiol iddynt hwy, ac efallai’n wir mai sesiynau blasu byrrach fydd hynny, i gynnig amrywiaeth o gyfleoedd iddynt edrych ar amrywiaeth o yrfaoedd. Ac yn aml mae angen i ni wneud hynny’n gynharach ym mywyd disgybl, oherwydd weithiau, mae’n bosibl y gall y dewisiadau y maent yn eu gwneud ar lefel TGAU leihau, neu gau’r drws yn llwyr ar opsiynau gyrfaoedd yn y dyfodol.
I would like to commend the work, for instance, of Powys County Council, who earlier this year organised a county-wide careers fair that brought together employment from across the county, both in the public and the private sector, to show young people the wide variety of careers that are available in the county of Powys, and to talk to them about how they can make educational choices that will allow them to take advantage of that. And it’s those kinds of innovative schemes that are being put on by some local authorities that should be applauded, and, again, we need to make sure that that is replicated as good practice across the nation. Hoffwn ganmol gwaith Cyngor Sir Powys, er enghraifft, a drefnodd ffair yrfaoedd yn gynharach eleni ar draws y sir, i ddod â sefydliadau cyflogaeth o bob rhan o’r sir at ei gilydd, yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, i ddangos i bobl ifanc yr amrywiaeth eang o yrfaoedd sydd ar gael yn sir Powys, ac i siarad â hwy ynglŷn â sut y gallant wneud dewisiadau addysgol a fydd yn eu galluogi i fanteisio ar hynny. A dylid cymeradwyo’r mathau hynny o gynlluniau arloesol sy’n cael eu rhoi ar waith gan rai awdurdodau lleol, ac unwaith eto, mae angen i ni wneud yn siŵr fod hynny’n cael ei ailadrodd fel arfer da ar draws y wlad.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Questions Without Notice from Party Spokespeople
13:39 - Y Llywydd / The Llywydd
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd. Questions now from the party spokespeople. The Plaid Cymru spokesperson, Llyr Gruffydd.
13:39 - Llyr Gruffydd
Diolch, Llywydd. I’m sure, Cabinet Secretary, that you’ll have seen the figures from NUT Cymru published this week, showing that, in the four years since 2012, 0.25 million teaching days were lost to stress-related illness in Wales. You’ll also be aware, I’m sure, that college lecturers in Wales are striking tomorrow, with their union warning that a heavy workload is ruining their lives and pushing them to the brink. And, of course, we’ve well trailed in this Chamber the Education Workforce Council’s recent workforce survey, which showed that a third of schoolteachers and a quarter of FE lecturers tell us that they intend to leave their respected professions in the next three years. Now, when you agreed your 10 education priorities with the First Minister on entering Government, shouldn’t you at the very least have included an eleventh, which is the well-being of the workforce, because, without that, you’re not going to achieve any of the 10? Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr eich bod wedi gweld y ffigurau gan NUT Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos hon, sy’n dangos bod 0.25 miliwn o ddiwrnodau addysgu yn y pedair blynedd ers 2012 wedi’u colli o ganlyniad i salwch sy’n gysylltiedig â straen yng Nghymru. Byddwch hefyd yn ymwybodol, rwy’n siŵr, fod darlithwyr coleg yng Nghymru yn mynd ar streic yfory, gyda’u hundeb yn rhybuddio bod llwyth gwaith trwm yn difetha eu bywydau ac yn eu gwthio i ymyl y dibyn. Wrth gwrs, rydym wedi rhoi llawer o sylw yn y Siambr hon i arolwg gweithlu diweddar Cyngor y Gweithlu Addysg, a oedd yn dangos bod traean o athrawon ysgol a chwarter o ddarlithwyr addysg bellach yn dweud wrthym eu bod yn bwriadu gadael eu proffesiynau uchel eu parch yn y tair blynedd nesaf. Nawr, wrth i chi gytuno ar eich 10 blaenoriaeth addysg gyda’r Prif Weinidog pan aethoch yn rhan o’r Llywodraeth, oni ddylech o leiaf fod wedi cynnwys unfed ar ddeg, sef lles y gweithlu, oherwydd heb hynny, nid ydych yn mynd i gyflawni unrhyw un o’r 10?
13:40 - Kirsty Williams
Well, Llyr, as we rehearsed in the committee this morning, one of my priorities is to ensure that we have an excellent and outstanding workforce in all aspects of education, and workload concerns are very real. They vary greatly across the education workforce; they’re not just confined to teachers in schools, as you have recognised. Different issues and priorities arise depending on a variety of factors, including what phase of education somebody might find themselves teaching in; a rurality where, perhaps, teachers are teaching a class with a variety of age groups, requiring significant differentiation, which can be difficult to do; deprivation; subject area; and their role. What’s important is we try to do something about that. The first ever teacher survey that we’ve done has provided us with a wealth of opportunity to try and understand some of these very real concerns from the chalkface, and we continue to analyse those data. Detailed discussions are taking place with the education workforce unions on policy in early development, and we continue to work in partnership with those unions to try and address the concerns to a variety of work streams within the Government. Wel, Llyr, fel y clywsom yn y pwyllgor y bore yma, un o fy mlaenoriaethau yw sicrhau bod gennym weithlu ardderchog a rhagorol ym mhob agwedd ar addysg, ac mae pryderon baich gwaith yn real iawn. Maent yn amrywio’n fawr ar draws y gweithlu addysg; nid ydynt wedi’u cyfyngu i athrawon mewn ysgolion yn unig, fel rydych wedi’i gydnabod. Mae materion a blaenoriaethau gwahanol yn codi yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys ym mha gyfnod addysg y mae rhywun yn addysgu; natur wledig lle mae athrawon efallai yn addysgu dosbarth gydag amrywiaeth o grwpiau oedran, sy’n galw am wahaniaethu sylweddol, ac sy’n gallu bod yn anodd ei wneud; amddifadedd; maes pwnc; a’u rôl. Yr hyn sy’n bwysig yw ein bod yn ceisio gwneud rhywbeth am hynny. Mae’r arolwg athrawon cyntaf i ni ei wneud erioed wedi rhoi llawer iawn o gyfle i geisio deall rhai o’r pryderon gwirioneddol hyn o’r ystafell ddosbarth, ac rydym yn parhau i ddadansoddi’r data. Mae trafodaethau manwl ar y gweill gydag undebau’r gweithlu addysg ar gamau cynnar y polisi, ac rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda’r undebau hynny i geisio mynd i’r afael â’r pryderon i amrywiaeth o ffrydiau gwaith o fewn y Llywodraeth.
13:41 - Llyr Gruffydd
Thank you for your answer, but I think it’s clear to everyone that the statistics tell a clear story that we have a workforce that’s on its knees in terms of struggling to cope with the work that confronts them. Now, the loss of so many teaching days clearly has a number of impacts, least of all on the individual who’s off work. It disrupts the education of the children, schools’ finances, of course, when you have to bring in supply teachers—and I saw that Cardiff alone has spent £12 million on supply teachers in this academic year only—and, of course, on the remaining staff, there’s an impact there because they have to carry an additional burden invariably. Now, a year ago this month, you established the ministerial supply model taskforce. You published the report back in February, but we’ve heard nothing since, really. Now, given that our education system is so reliant on supply teaching, when will we see definitive action from your Government on this front? Diolch i chi am eich ateb, ond rwy’n credu ei bod yn amlwg i bawb fod yr ystadegau’n adrodd stori glir fod gennym weithlu sydd ar ei liniau o ran brwydro i ymdopi â’r gwaith sy’n eu hwynebu. Nawr, mae’n amlwg fod colli cymaint o ddyddiau addysgu yn arwain at nifer o effeithiau, nid yn lleiaf ar yr unigolyn sy’n absennol o’r gwaith. Mae’n tarfu ar addysg y plant, cyllid ysgolion, wrth gwrs, pan fo’n rhaid i chi gyflogi athrawon cyflenwi—a gwelais fod Caerdydd yn unig wedi gwario £12 miliwn ar athrawon cyflenwi yn y flwyddyn academaidd hon yn unig—ac wrth gwrs, ar weddill y staff, mae effaith arnynt hwy am eu bod yn gorfod cario baich ychwanegol yn anochel. Nawr, flwyddyn yn ôl i’r mis hwn, fe sefydlwyd tasglu gweinidogol y model cyflenwi gennych. Cyhoeddwyd yr adroddiad yn ôl ym mis Chwefror, ond nid ydym wedi clywed unrhyw beth ers hynny mewn gwirionedd. Nawr, o gofio bod ein system addysg mor ddibynnol ar athrawon cyflenwi, pryd y byddwn yn gweld camau pendant gan eich Llywodraeth yn hyn o beth?
13:42 - Kirsty Williams
Well, Llyr, I don’t disagree with your analysis of the impact of days lost to teaching. The issue is what to do about it. As I said in my first answer to you, we have a variety of work streams looking to try and avoid that problem in the first place—i.e. not to be reliant on supply teachers, but, actually, to keep teachers well, resilient and in front of our children in the classroom. I, in conjunction with my Cabinet colleague for health, are looking at plans for what we can to do support resilience and support the mental health of teachers by giving them tools to address their own issues around stress management and workload management, as well as being able to teach those then on to the children. Wel, Llyr, nid wyf yn anghytuno â’ch dadansoddiad o effaith y diwrnodau addysgu a gollwyd. Y cwestiwn yw beth i’w wneud am y peth. Fel y dywedais yn fy ateb cyntaf i chi, mae gennym amrywiaeth o ffrydiau gwaith yn ceisio osgoi’r broblem honno yn y lle cyntaf—h.y. peidio â bod yn ddibynnol ar athrawon cyflenwi mewn gwirionedd, ond cadw athrawon yn iach, yn wydn ac o flaen ein plant yn y dosbarth. Rwyf fi, gyda fy nghyd-Aelod o’r Cabinet dros iechyd, yn edrych ar gynlluniau ar gyfer yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi gwydnwch a chefnogi iechyd meddwl athrawon drwy roi arfau iddynt fynd i’r afael â’u problemau eu hunain o ran rheoli straen a rheoli llwyth gwaith, yn ogystal â gallu dysgu’r rheini i’r plant wedyn.
With regard to the task and finish group on the supply workforce, I have to say I was somewhat disappointed with the conclusions of that report. If we had hoped that the task and finish group would come up with a silver bullet to solve this problem, then I’m afraid the report has not been able to do that. We continue to discuss ways in which we can work not to diminish but to limit the reliance on supply teaching, and that is tied up with our work on policy development following the devolution of teachers’ pay and conditions. O ran y grŵp gorchwyl a gorffen ar y gweithlu cyflenwi, rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig braidd â chasgliadau’r adroddiad hwnnw. Pe baem wedi gobeithio y byddai’r grŵp gorchwyl a gorffen wedi dod o hyd i un ateb i ddatrys y broblem hon, yna mae gennyf ofn nad yw’r adroddiad wedi gallu gwneud hynny. Rydym yn parhau i drafod ffyrdd y gallwn weithio, nid i leihau, ond i gyfyngu ar y ddibyniaeth ar athrawon cyflenwi, ac mae hynny’n cysylltu â’n gwaith ar ddatblygu polisi yn dilyn datganoli cyflogau ac amodau gwaith athrawon.
13:44 - Llyr Gruffydd
But it’s four months since you told me that you were looking to move on this agenda, and given, again, the data and the statistics that we have, clearly, time is of the essence. So, I won’t press you further on that today, but, clearly, there’s a message there that needs to be listened to. Ond mae pedwar mis ers i chi ddweud wrthyf eich bod yn ceisio camu ymlaen gyda’r agenda hon, ac o ystyried, unwaith eto, y data a’r ystadegau sydd gennym, yn amlwg, mae amser yn brin. Felly, nid wyf am bwyso arnoch ymhellach ynglŷn â hynny heddiw, ond yn amlwg, mae neges yno y mae angen gwrando arni.
Can I just change direction a little bit for my final question? It’ll become clear, Presiding Officer, why I’m directing my question to the Cabinet Secretary and not the Minister in a moment. It’s about the additional learning needs Bill. The Minister told us that £10 million of the £20 million budget he has for financing the additional learning needs transformation programme comes from the £100 million that you agreed with the First Minister for raising school standards. He told us that at Stage 1 scrutiny of the Bill. Now that it has become evident, of course, that the cost of the additional learning needs legislation is substantially higher—up to £13 million more expensive—than was originally anticipated over the projected period, could you tell us whether you expect a further sum to be vired from the £100 million for school standards, and, if that does happen, what impact do you think that’ll have on that particular budget? A gaf fi newid cyfeiriad ychydig bach ar gyfer fy nghwestiwn olaf? Bydd yn dod yn glir, Llywydd, pam rwy’n cyfeirio fy nghwestiwn at Ysgrifennydd y Cabinet ac nid at y Gweinidog mewn munud. Mae’n ymwneud â’r Bil anghenion dysgu ychwanegol. Dywedodd y Gweinidog wrthym fod £10 miliwn o’r gyllideb £20 miliwn sydd ganddo ar gyfer ariannu’r rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol yn dod o’r £100 miliwn y daethoch i gytundeb â’r Prif Weinidog yn ei gylch ar gyfer codi safonau ysgolion. Dywedodd hynny wrthym yn ystod proses graffu Cyfnod 1 y Bil. Gan ei bod wedi dod yn amlwg yn awr, wrth gwrs, fod cost y ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol yn sylweddol uwch—hyd at £13 miliwn yn fwy drud—nag a ragwelwyd yn wreiddiol yn ystod y cyfnod arfaethedig, a allech ddweud wrthym a ydych yn disgwyl swm pellach i gael ei gyfeirio o’r £100 miliwn ar gyfer safonau ysgolion, ac os yw hynny’n digwydd, pa effaith a gaiff hynny ar y gyllideb benodol honno yn eich barn chi?
13:45 - Kirsty Williams
Let us be absolutely clear: in radically reforming the way in which we support children with additional learning needs, that is integral to our national mission of raising standards in Welsh schools and closing the attainment gap. The performance of those children is crucial if we are to see the changes in Welsh education that we need. Now, undoubtedly, there is a resource implication for ensuring that those children—and that legislation is implemented successfully, and we will continue to have discussions both within the education department on how that piece of legislation is funded, and discussions across Government. But I’m absolutely clear that we cannot divorce the education of our children with additional learning needs from our national mission to raise standards for all. Gadewch inni fod yn hollol glir: wrth ddiwygio’n llwyr y ffordd rydym yn cynorthwyo plant ag anghenion dysgu ychwanegol, mae hynny’n rhan annatod o’n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau mewn ysgolion yng Nghymru a chau’r bwlch cyrhaeddiad. Mae perfformiad y plant hynny’n allweddol os ydym am weld y newidiadau sydd eu hangen arnom mewn addysg yng Nghymru. Nawr, yn ddi-os, ceir goblygiadau o ran adnoddau i sicrhau bod y plant hynny—a bod y ddeddfwriaeth honno’n cael ei gweithredu’n llwyddiannus, a byddwn yn parhau i gael trafodaethau yn yr adran addysg ynglŷn â sut yr ariennir y ddeddfwriaeth, a thrafodaethau ar draws y Llywodraeth. Ond rwy’n hollol bendant na allwn ysgaru addysg ein plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol oddi wrth ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau i bawb.
13:46 - Y Llywydd / The Llywydd
Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar. Conservative spokesperson, Darren Millar.
13:46 - Darren Millar
Diolch, Llywydd. Cabinet Secretary, on Friday, the day after the general election, there was a piece of news that suggested that your Government is cutting £28 million-worth of funding from the Higher Education Funding Council for Wales, which is obviously going to have a significant impact on Welsh universities. Why did you decide to bury bad news on that day, and how can you defend those cuts? Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddydd Gwener, y diwrnod ar ôl yr etholiad cyffredinol, roedd yna eitem newyddion a oedd yn awgrymu bod eich Llywodraeth yn torri gwerth £28 miliwn oddi ar gyllid Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, sy’n amlwg yn mynd i effeithio’n sylweddol ar brifysgolion Cymru. Pam y penderfynasoch gladdu newyddion drwg ar y diwrnod hwnnw, a sut y gallwch amddiffyn y toriadau hynny?
13:46 - Kirsty Williams
The Higher Education Funding Council for Wales made that announcement. As Darren Millar would well know as the spokesperson for his party, HEFCW is an arm’s-length body and the delivery of that particular announcement was nothing to do with me. Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a wnaeth y cyhoeddiad hwnnw. Fel y byddai Darren Millar yn gwybod yn iawn fel llefarydd ar ran ei blaid, mae CCAUC yn gorff hyd braich ac nid oedd gennyf ddim i’w wneud â chyflwyno’r cyhoeddiad penodol hwnnw.
13:46 - Darren Millar
You didn’t answer my question, which was: how can you defend—how can you defend—the cuts that HEFCW is now having to deliver, because of the lack of funding from the Welsh Government, to Welsh universities? We know already that Bangor University, Aberystwyth University, Trinity Saint David, and the University of South Wales have all warned that they’re going to have to make significant cuts to their workforce and restrict courses. How can you defend the cuts that you are now imposing upon our Welsh universities? Nid ydych wedi ateb fy nghwestiwn, sef: sut y gallwch amddiffyn—sut y gallwch amddiffyn—y toriadau y mae CCAUC yn awr yn gorfod eu cyflawni i brifysgolion Cymru oherwydd diffyg cyllid gan Lywodraeth Cymru? Rydym yn gwybod eisoes fod Prifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, y Drindod Dewi Sant, a Phrifysgol De Cymru i gyd wedi rhybuddio eu bod yn mynd i orfod gwneud toriadau sylweddol i’w gweithlu a chyfyngu ar gyrsiau. Sut y gallwch amddiffyn y toriadau rydych yn awr yn eu gorfodi ar ein prifysgolion yng Nghymru?
13:47 - Kirsty Williams
Darren, let’s be clear: education as a whole in Wales faces a very difficult time given the constraints of the budget that the Welsh Government has available to it, and very difficult decisions have to be made. But I’m sure, having taken such a great interest in the press notice, you will have read the words of David Blaney, the chief executive, who has explained that these cuts are a result of the fact that an additional £20 million, which I was able to find in-year for HEFCW, will not be available next year. Part of that money is being used to try and put our universities in a better position going forward. And another part of the cut relates to the fact that we have removed the money for the Coleg Cenedlaethol out of HEFCW and we are funding that work directly as a Welsh Government, and that also appears in the fact that there is less money available in HEFCW. Let’s also be clear: the money available via HEFCW to Welsh universities is a very small proportion of the money available to Welsh HEIs; I understand it is less than 10 per cent of their overall budgets. Darren, gadewch i ni fod yn glir: mae addysg yn ei gyfanrwydd yng Nghymru yn wynebu cyfnod anodd iawn o ystyried y cyfyngiadau ar y gyllideb sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ac mae’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd iawn. Ond rwy’n siŵr, ar ôl dangos y fath diddordeb yn y datganiad i’r wasg, y byddwch wedi darllen geiriau David Blaney, y prif weithredwr, sydd wedi egluro bod y toriadau hyn yn deillio o’r ffaith na fydd £20 miliwn yn ychwanegol, £20 miliwn roeddwn wedi gallu dod o hyd iddo yn ystod y flwyddyn ar gyfer CCAUC, ar gael y flwyddyn nesaf. Mae rhan o’r arian hwnnw’n cael ei defnyddio i geisio rhoi ein prifysgolion mewn gwell sefyllfa wrth symud ymlaen. Ac mae rhan arall o’r toriad yn ymwneud â’r ffaith ein bod wedi symud yr arian ar gyfer y Coleg Cenedlaethol o CCAUC, ac rydym yn ariannu’r gwaith hwnnw’n uniongyrchol fel Llywodraeth Cymru, ac mae hynny hefyd i’w weld yn y ffaith fod llai o arian ar gael gan CCAUC. Gadewch i ni hefyd fod yn glir: cyfran fach iawn o’r arian sydd ar gael i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yw’r arian sydd ar gael drwy CCAUC i brifysgolion Cymru; rwy’n deall ei fod yn llai na 10 y cant o gyfanswm eu cyllidebau.
13:48 - Darren Millar
Well, I’m not surprised it’s very small, and it’s going to get a darn sight smaller, isn’t it, while you keep underfunding our Welsh university sector and the Higher Education funding Council for Wales. The reality is that this is going to widen the funding gap between Welsh universities and universities over the border in England, which is going to make it more difficult for them to recruit students, which is going to widen the funding gap, therefore, even further and have a huge impact on research and training. And I have to say, I’m astonished by your volte-face, given the fact that you were championing extra resources going into HEFCW only last year when you were in opposition. Your tone has completely changed, you’ve clearly adopted the Labour line on our Welsh universities, and I would urge you again to look at the resources within your departmental budget to see what additional resources you can make available to help close this funding gap, which has widened under Welsh Labour-led administrations and looks set to widen even further as a result of you sitting around the Cabinet table. Wel, nid wyf yn synnu ei fod yn fach iawn, ac mae’n mynd i fod yn llai byth, onid yw, tra byddwch yn parhau i danariannu ein sector prifysgolion yng Nghymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Y realiti yw bod hyn yn mynd i ledu’r bwlch cyllido rhwng prifysgolion Cymru a phrifysgolion dros y ffin yn Lloegr, sy’n mynd i’w gwneud yn fwy anodd iddynt recriwtio myfyrwyr, gan ledu’r bwlch cyllido ymhellach eto felly, ac effeithio’n helaeth ar ymchwil a hyfforddiant. Ac mae’n rhaid i mi ddweud, rwyf wedi fy synnu gan eich tro pedol, o ystyried eich bod yn hyrwyddo adnoddau ychwanegol i CCAUC y llynedd pan oeddech yn wrthblaid. Mae eich tiwn wedi newid yn llwyr, rydych yn amlwg wedi mabwysiadu safbwynt Llafur ynglŷn â’n prifysgolion yng Nghymru, a byddwn yn eich annog unwaith eto i edrych ar yr adnoddau yn eich cyllideb adrannol i weld pa adnoddau ychwanegol y gallwch eu darparu i helpu i gau’r bwlch cyllido hwn, sydd wedi lledu o dan weinyddiaethau Llafur Cymru ac sydd i’w weld yn debygol o ledu hyd yn oed ymhellach o ganlyniad i’ch gwneud yn aelod o’r Cabinet.
13:49 - Kirsty Williams
Darren, let’s be absolutely clear what I was able to do on coming into Government: it was to find the additional £20 million that had been taken out of the budget whilst I was in opposition, and we’ve been able to make that money available to higher education. But, seriously, I will take no lectures from a Conservative politician with regard to the funding of higher education. You have, in England, thrown that sector to the market, and it is the market that is driving HE provision in England. That will not happen in Wales, and we will use the opportunity of our radical reforms under the Diamond proposals to move our HE funding onto a more sustainable footing. That is a system that is being looked on with envy by other people, such as Scotland. Darren, gadewch i ni fod yn gwbl glir ynglŷn â’r hyn y llwyddais i’w wneud wrth ddod yn rhan o’r Llywodraeth: daethpwyd o hyd i’r £20 miliwn ychwanegol a dynnwyd o’r gyllideb pan oeddwn yn yr wrthblaid, ac rydym wedi gallu darparu’r arian hwnnw i addysg uwch. Ond o ddifrif, nid wyf am dderbyn unrhyw bregeth gan wleidydd Ceidwadol ar gyllido addysg uwch. Yn Lloegr, rydych wedi taflu’r sector hwnnw i’r farchnad, a’r farchnad sy’n gyrru darpariaeth addysg uwch yn Lloegr. Ni fydd hynny’n digwydd yng Nghymru, a byddwn yn manteisio ar gyfle ein diwygiadau radical o dan argymhellion Diamond i roi ein cyllid addysg uwch ar sylfaen fwy cynaliadwy. Mae honno’n system y mae pobl eraill, megis yr Alban, yn edrych arni gydag eiddigedd.
13:50 - Y Llywydd / The Llywydd
Llefarydd UKIP, Michelle Brown. UKIP spokesperson, Michelle Brown.
13:50 - Michelle Brown
Thank you, Presiding Officer. Can the Cabinet Secretary tell us how many primary schools feed into high schools that are in the red or amber category and how many primaries in the red and amber categories feed into high schools that are in the yellow or green categories? Diolch, Llywydd. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym faint o ysgolion cynradd sy’n bwydo i mewn i ysgolion uwchradd yn y categori coch neu oren a faint o ysgolion cynradd yn y categorïau coch ac oren sy’n bwydo i mewn i ysgolion uwchradd yn y categori melyn neu wyrdd?
13:50 - Kirsty Williams
Presiding Officer, I try to prepare for these sessions, but I have to admit that, for the first time since I’ve stood at this dispatch box, I will have to write to the Member with those specific details. But what I can tell the Member happily is that the number of schools that find themselves in a red category, whether that be secondary or primary, is going down—and that is to be celebrated. Llywydd, rwy’n ceisio paratoi ar gyfer y sesiynau hyn, ond mae’n rhaid i mi gyfaddef, am y tro cyntaf ers imi sefyll yn y fan hon, y bydd yn rhaid imi ysgrifennu at yr Aelod gyda’r manylion penodol hynny. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yn hapus yw bod nifer yr ysgolion sy’n cael eu rhoi yn y categori coch, boed yn ysgolion uwchradd neu gynradd, yn disgyn—ac mae hynny’n rhywbeth i’w ddathlu.
13:51 - Michelle Brown
Okay. Thank you for that answer, Cabinet Secretary. Schools in the amber category will receive up to 15 days’ support, with those in the red category receiving up to 25 days’ support. There’s no mention of additional resources in the guidance given to parents and schools—the additional resources being for the purposes of employing more teachers and to provide additional and upgraded facilities. Are you content that 25 days’ support is enough to take a school out of the red category, and what sort of work is going to be done with schools during those 25 days? Iawn. Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd ysgolion yn y categori oren yn cael hyd at 15 diwrnod o gymorth, gyda’r rhai yn y categori coch yn cael hyd at 25 diwrnod o gymorth. Nid oes unrhyw sôn am adnoddau ychwanegol yn y canllawiau a roddir i rieni ac ysgolion—yr adnoddau ychwanegol at ddibenion cyflogi mwy o athrawon a darparu cyfleusterau ychwanegol ac wedi’u huwchraddio. A ydych yn fodlon fod 25 diwrnod o gymorth yn ddigon i dynnu ysgol o’r categori coch, a pha fath o waith sy’n mynd i gael ei wneud gydag ysgolion yn ystod y 25 diwrnod?
13:51 - Kirsty Williams
The work that goes on to help schools on their improvement journey is tailor-made to the individual circumstances of each school. The Member asked the question, ‘Can we be confident that that level of support is sufficient to move a school forward?’ The answer to that is ‘yes’, and the reason I can say that is because I have visited schools that, just a short four years ago, were in the red category and, year on year, have moved up the categorisation system and now find themselves as green schools. Now, some schools’ school improvement journey will take longer and they will need more sustained levels of support. The whole point behind our categorisation system is that, by working collectively with the consortia and the individual schools, we can identify shortcomings, we can identify what needs to be done, and the support will be put in place to make those improvements. Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud i helpu ysgolion ar eu taith wella wedi’i deilwra ar gyfer amgylchiadau unigol pob ysgol. Gofynnodd yr Aelod y cwestiwn, ‘A allwn fod yn hyderus fod y lefel o gymorth yn ddigonol i symud ysgol yn ei blaen?’ Yr ateb i hynny yw ‘gallwn’, a’r rheswm y gallaf ddweud hynny yw fy mod wedi ymweld ag ysgolion a oedd, bedair blynedd fer yn ôl, yn y categori coch, a flwyddyn ar ôl blwyddyn, maent wedi codi drwy’r system gategoreiddio a bellach yn ysgolion gwyrdd. Nawr, bydd taith wella rhai ysgolion yn cymryd mwy o amser a bydd angen lefelau mwy parhaus o gefnogaeth. Holl bwynt ein system gategoreiddio yw ein bod, drwy weithio ar y cyd â’r consortia a’r ysgolion unigol, yn gallu nodi diffygion, gallwn nodi’r hyn sydd angen ei wneud, a bydd y gefnogaeth yn cael ei rhoi ar waith i wneud y gwelliannau hynny.
13:52 - Michelle Brown
Thank you for that answer, Cabinet Secretary. Schools will clearly benefit from the kind of advice and support you’re talking about, and I realise that improving schools is an ongoing process, which is why the lack of concrete support reflected in the guidance on the school classification system concerns me. However, there are young people who will have spent their education in either an amber or red classified school whilst you’re taking the softly softly approach to school improvement. What are you going to do to improve the life chances of young people who have been failed by the Welsh education system? Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd ysgolion yn amlwg yn elwa o’r math o gyngor a chymorth rydych yn sôn amdanynt, ac rwy’n sylweddoli bod gwella ysgolion yn broses barhaus, a dyna pam fy mod yn pryderu am y diffyg cymorth pendant a adlewyrchir yn y canllawiau ar y system gategoreiddio ysgolion. Fodd bynnag, bydd rhai pobl ifanc wedi treulio eu haddysg naill ai mewn ysgol categori oren neu goch wrth i chi fynd ati i wella ysgolion gan bwyll bach. Beth a wnewch i wella cyfleoedd bywyd pobl ifanc y mae’r system addysg yng Nghymru wedi gwneud cam â hwy?
13:53 - Kirsty Williams
I certainly am not taking a softly softly approach, but I can tell you what will not work is simply me stamping my foot here in this Chamber. School improvement is a collective endeavour that is the responsibility of individual school leaders, the staff within those schools, the governing bodies, local education authorities, the regional consortia, and, indeed, this Welsh Government. I have high expectations of our education system. I have high expectations of our school leaders. They are in no doubt of that. But I also know that I need to put in place measures to help those schools make those improvements, and that’s what I will continue to do. Yn sicr, nid wyf yn mynd ati gan bwyll bach, ond gallaf ddweud wrthych mai’r hyn na fydd yn gweithio yw i mi stampio’r llawr yma yn y Siambr hon. Mae gwella ysgolion yn ymdrech ar y cyd sy’n gyfrifoldeb i arweinwyr ysgolion unigol, y staff yn yr ysgolion hynny, y cyrff llywodraethu, awdurdodau addysg lleol, y consortia rhanbarthol, ac yn wir, y Llywodraeth hon. Rwy’n disgwyl llawer iawn gan ein system addysg. Rwy’n disgwyl llawer iawn gan ein harweinwyr ysgol. Nid oes ganddynt unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Ond rwyf hefyd yn gwybod bod angen i mi roi mesurau ar waith i helpu’r ysgolion hynny i wneud y gwelliannau, a dyna rwy’n mynd i barhau i’w wneud.
Blaenoriaethau Ysgolion Priorities for Schools
13:54 - Lynne Neagle
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer ysgolion yng Nghymru dros y chwe mis nesaf? OAQ(5)0139(EDU) 3. Will the Cabinet Secretary make a statement on her priorities for schools in Wales for the next six months? OAQ(5)0139(EDU)
13:54 - Kirsty Williams
Thank you, Lynne. I have set out our national mission to improve education attainment through a programme of education reforms. These include the development of a new curriculum and assessment reform, improved initial teacher education, teachers’ professional development and building leadership capacity, and, crucially, reducing the attainment gap for our poorer children. Diolch, Lynne. Rwyf wedi nodi ein cenhadaeth genedlaethol i wella cyrhaeddiad addysgol drwy raglen o ddiwygiadau addysg. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu cwricwlwm newydd a diwygio asesu, gwell addysg gychwynnol i athrawon, datblygiad proffesiynol athrawon ac adeiladu gallu arweinyddiaeth, ac yn hollbwysig, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer ein plant tlotach.
13:54 - Lynne Neagle
Thank you, Cabinet Secretary. I very much welcome your assurances in committee this morning that the renamed pupil deprivation grant will continue to be targeted at pupils on free school meals and also thank you for your kind words about Woodlands school in my constituency. It is undoubtedly the case that there is really excellent practice in the use of the PDG in Wales, and I recently visited Garnteg Primary School, where they are making outstanding use of the PDG to promote emotional resilience and mental well-being amongst their pupils. What assurances can you offer that you will continue to prioritise funding for the PDG, and also that you will stringently monitor the use of the PDG to ensure that is does benefit the pupils that it is intended to? Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n croesawu’n fawr eich sicrwydd yn y pwyllgor y bore yma y bydd y grant amddifadedd disgyblion a ailenwyd yn parhau i gael ei dargedu at ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim a hefyd, diolch i chi am eich geiriau caredig am ysgol Woodlands yn fy etholaeth. Nid oes amheuaeth fod yna arfer rhagorol i’w weld yn y defnydd o’r grant amddifadedd disgyblion yng Nghymru, ac ymwelais yn ddiweddar ag Ysgol Gynradd Garnteg, lle maent yn gwneud defnydd rhagorol o’r grant amddifadedd disgyblion i hyrwyddo gwydnwch emosiynol a lles meddyliol ymysg eu disgyblion. Pa sicrwydd y gallwch ei gynnig y byddwch yn parhau i flaenoriaethu cyllid ar gyfer y grant amddifadedd disgyblion, a hefyd y byddwch yn monitro’n llym y defnydd o’r grant amddifadedd disgyblion er mwyn sicrhau ei fod o fudd i’r disgyblion y bwriedir iddo eu cynorthwyo?
13:55 - Kirsty Williams
Thank you. I know that some people have concerns about changing the name of the pupil deprivation grant to ‘pupil development grant’, but let me be clear: the reason for doing so is because I do not want to focus on the barriers that children face to their learning. I want to focus on their ability and having high expectations and ambitions for those children. The PDG will continue to focus on the learning needs of those who are on free school meals, but we’re also extending that to children who are looked-after, and also extending it to children who find themselves in education other than at school, who are some of our most vulnerable learners. Diolch. Gwn fod rhai pobl yn poeni ynglŷn â newid enw’r grant amddifadedd disgyblion i ‘grant datblygu disgyblion’, ond gadewch i mi fod yn glir: y rheswm dros wneud hynny yw oherwydd nad wyf am ganolbwyntio ar y rhwystrau y mae plant yn eu hwynebu yn eu dysgu. Rwyf am ganolbwyntio ar eu gallu a bod â disgwyliadau ac uchelgeisiau uchel ar gyfer y plant hynny. Bydd y grant datblygu disgyblion yn parhau i ganolbwyntio ar anghenion dysgu’r rhai sy’n cael prydau ysgol am ddim, ond rydym hefyd yn ei ymestyn i gynnwys plant sy’n derbyn gofal, a hefyd yn ei ymestyn i gynnwys plant mewn addysg heblaw yn yr ysgol, sy’n rhai o’n dysgwyr mwyaf agored i niwed.
This year, the Welsh Government will spend £93 million via the PDG, and there is excellent practice going on out there that is truly transforming the life chances of our young people. I was delighted to visit Woodlands primary school with you to see at first hand the work they do, and equally delighted to recently visit Blaenymaes Primary School with Mike Hedges AM, a school that has high levels of free school meal pupils, and to note that, in their recent Estyn report, they received an ‘excellent’ categorisation for well-being. The pupil deprivation grant is something that I championed whilst I was in opposition and I am delighted to have the opportunity to expand now that I am in Government. Eleni, bydd Llywodraeth Cymru yn gwario £93 miliwn drwy gyfrwng y grant datblygu disgyblion, ac mae ymarfer rhagorol yn digwydd ar lawr gwlad sydd o ddifrif yn trawsnewid cyfleoedd bywyd ein pobl ifanc. Roeddwn wrth fy modd yn ymweld ag ysgol gynradd Woodlands gyda chi i weld drosof fy hun y gwaith y maent yn ei wneud, a’r un mor falch o ymweld yn ddiweddar ag Ysgol Gynradd Blaenymaes gyda Mike Hedges AC, ysgol sydd â lefelau uchel o ddisgyblion yn cael prydau ysgol am ddim, ac i nodi, yn eu hadroddiad Estyn yn ddiweddar, eu bod wedi cael safon ‘ardderchog’ ar gyfer llesiant. Mae’r grant amddifadedd disgyblion yn rhywbeth roeddwn yn ei hyrwyddo pan oeddwn yn yr wrthblaid ac rwyf wrth fy modd yn cael cyfle i’w ymestyn gan fy mod bellach yn aelod o’r Llywodraeth.
13:56 - Suzy Davies
It’s just over four months, actually, since Members from all sides of the Senedd backed my legislative proposals to receive age-appropriate lifesaving skills as part of their education—as learners, not as Assembly Members. I was pleased, Cabinet Secretary, that actually you were one of the Assembly Members in the previous Assembly who supported my statement of opinion on broadly the same proposals. Mae ychydig dros bedwar mis, mewn gwirionedd, ers i Aelodau o bob ochr i’r Senedd gefnogi fy nghynigion deddfwriaethol i gael sgiliau achub bywyd priodol i oedran yn rhan o’u haddysg—fel dysgwyr, nid fel Aelodau’r Cynulliad. Roeddwn yn falch, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod chi mewn gwirionedd ymhlith yr Aelodau Cynulliad yn y Cynulliad blaenorol a gefnogodd fy natganiad barn ar yr un cynigion yn fras.
As the Government’s preferred route at this stage is to encourage voluntary uptake, I wonder if you would either write to me, if you can’t—. Oh, if you would write to me, actually, because I suspect you might not be able to update me today, firstly on how many schools and colleges in Wales have installed defibrillators since February, and how many more schools and colleges are now providing this kind of training to learners, and how frequently any given cohort of those children and young people receive refresher training. Thank you. Gan mai’r llwybr y mae’r Llywodraeth yn ei ffafrio ar hyn o bryd yw annog defnydd gwirfoddol, tybed a allech ysgrifennu ataf os na allwch—. O, os gallwch ysgrifennu ataf, a dweud y gwir, oherwydd rwy’n amau efallai na fyddwch yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi heddiw, yn gyntaf ynglŷn â faint o ysgolion a cholegau yng Nghymru sydd wedi gosod diffibrilwyr ers mis Chwefror, a faint yn fwy o ysgolion a cholegau sydd bellach yn darparu hyfforddiant o’r fath i ddysgwyr, a pha mor aml y mae unrhyw gohort penodol o’r plant a’r bobl ifanc hynny’n cael hyfforddiant diweddaru. Diolch.
13:57 - Kirsty Williams
Thank you, Suzy. I do think lifesaving skills are crucially important to young people, and I have a particular interest in looking at the availability of defibrillators in both primary and secondary schools. And I have asked officials, actually, to do a mapping exercise for me, to find out how many of our schools currently have those facilities and where there are gaps and what opportunities there may be, working with the voluntary sector, to address that. As always, in Wales, these statistics are not centrally held, and so it is taking a little bit of time to find out who has got what, but I am very interested to find that out and to see what we can do to ensure that there is universal coverage. Diolch yn fawr, Suzy. Rwy’n meddwl bod sgiliau achub bywyd yn hanfodol bwysig i bobl ifanc ac mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn edrych ar argaeledd diffibrilwyr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Ac rwyf wedi gofyn i swyddogion, mewn gwirionedd, i gynnal ymarfer mapio ar fy rhan i ddarganfod faint o’n hysgolion sydd â’r cyfleusterau hynny ar hyn o bryd a lle mae bylchau a pha gyfleoedd y gallai fod, gan weithio gyda’r sector gwirfoddol, i fynd i’r afael â hynny. Fel bob amser, yng Nghymru, nid yw’r ystadegau hyn yn cael eu cadw’n ganolog, ac felly mae’n cymryd peth amser i ganfod pwy sydd â beth, ond byddai’n dda iawn gennyf wybod hynny a gweld beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod y ddarpariaeth ar gael i bawb.
With regard to the place of lifesaving skills in the curriculum, you’ll be aware that one of the areas of learning and experience is health and well-being. The work on the areas of learning and experience is coming to a conclusion, before we do a deep dive into the granular nature of what will be taught, and these issues have been part of the discussions in the areas of learning and experience. Gyda golwg ar le sgiliau achub bywyd yn y cwricwlwm, fe fyddwch yn ymwybodol mai un o’r meysydd dysgu a phrofiad yw iechyd a lles. Mae’r gwaith ar y meysydd dysgu a phrofiad yn dod i ben, cyn i ni balu’n ddyfnach i natur fanwl yr hyn a fydd yn cael ei addysgu, ac mae’r materion hyn wedi bod yn rhan o’r trafodaethau yn y meysydd dysgu a phrofiad.
Llwyth Gwaith Athrawon Teachers’ Workloads
13:58 - Mohammad Asghar
4. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i leihau'r pwysau ar lwyth gwaith athrawon yng Nghymru? OAQ(5)0134(EDU) 4. What plans does the Welsh Government have to reduce the pressure on teachers’ workloads in Wales? OAQ(5)0134(EDU)
13:58 - Kirsty Williams
Thank you, Oscar. Our aim is to build capacity and reduce excessive workload, leading to improved standards through reducing bureaucracy, improved policy delivery and better ways of working. There is no single solution to this complex issue, and it requires a multiple-stream approach, incorporating a number of separate work streams, which Welsh Government is currently undertaking. Diolch i chi, Oscar. Ein nod yw meithrin capasiti a lleihau llwyth gwaith gormodol, gan arwain at wella safonau drwy leihau biwrocratiaeth, cyflawni polisi’n well a ffyrdd gwell o weithio. Nid un ateb sydd i’r mater cymhleth hwn, ac mae’n galw am ymagwedd aml-ffrwd, gan ymgorffori nifer o ffrydiau gwaith unigol, a dyna y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd.
13:59 - Mohammad Asghar
Thank you for the reply, Minister, but the facts are that official figures reveal that there were 275 fewer teachers employed in Wales in 2016, compared to the previous year. Also, there were 446 fewer teaching assistants. A survey by the Education Workforce Council found that more than 88 per cent of teachers said they did not think that they could handle the workload in agreed hours, and that more than a third planned to quit the profession within the next three years, and I think that’s a striking figure, Cabinet Secretary. Is it not the case that the policies you are pursuing have created a teaching profession that is overworked and disillusioned in Wales? Diolch am yr ateb, Gweinidog, ond y ffeithiau yw bod y ffigurau swyddogol yn dangos bod yna 275 yn llai o athrawon wedi’u cyflogi yng Nghymru yn 2016, o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Hefyd, roedd 446 yn llai o gynorthwywyr addysgu. Canfu arolwg gan Gyngor y Gweithlu Addysg fod mwy na 88 y cant o athrawon yn dweud nad oeddent yn meddwl y gallent ymdopi â’r llwyth gwaith yn ystod yr oriau cytunedig, a bod mwy na thraean yn bwriadu rhoi’r gorau i’r proffesiwn o fewn y tair blynedd nesaf, ac rwy’n credu bod hwnnw’n ffigur syfrdanol, Ysgrifennydd y Cabinet. Onid yw’n wir fod y polisïau rydych yn mynd ar eu trywydd wedi creu proffesiwn addysgu sy’n cael ei orweithio ac wedi’i ddadrithio yng Nghymru?
14:00 - Kirsty Williams
As I said earlier in questions to Llyr, workload is a real issue for the teaching profession and is a real concern to me. We are using the data, as I said, from the workforce survey to try and refine our approaches in this area. We’re also, as I said earlier, having detailed discussions with the education workforce unions. Let me be clear on some of the things that I have done. We have established a headteachers’ advisory panel, comprising of 26 of the most highly performing heads in Wales, whom I and my officials consult on the development of new policies and implementation issues that may arise. We have established and commissioned work on specific issues, including looking at marking and assessment, which are often cited as areas that increase workload for teachers. We have commissioned specific research, such as a project being undertaken by Trinity Saint David university, which is observing and analysing school leaders’ time management, to look to see what school leaders are actually spending their time doing. Work with the consortia, local authorities and other stakeholders has been undertaken to identify and publicise best practice, for example Estyn’s myth-busting campaign. As I said, there is no single answer to this complex issue, but we are working across a number of work streams to address workload where we can. Fel y dywedais yn gynharach mewn ateb i gwestiynau gan Llyr, mae llwyth gwaith yn broblem go iawn i’r proffesiwn addysgu ac yn bryder gwirioneddol i mi. Rydym yn defnyddio’r data, fel y dywedais, o arolwg y gweithlu i geisio mireinio ein dulliau gweithredu yn y maes hwn. Rydym hefyd, fel y dywedais yn gynharach, yn cael trafodaethau manwl gydag undebau’r gweithlu addysg. Gadewch i mi fod yn glir ynglŷn â rhai o’r pethau a wneuthum. Rydym wedi sefydlu panel cynghori penaethiaid, yn cynnwys 26 o’r penaethiaid sy’n perfformio orau yng Nghymru, penaethiaid rwyf fi a fy swyddogion yn ymgynghori â hwy ar ddatblygu polisïau newydd a materion gweithredu a allai godi. Rydym wedi sefydlu a chomisiynu gwaith ar faterion penodol, gan gynnwys edrych ar farcio ac asesu, sy’n aml yn cael eu nodi fel meysydd sy’n cynyddu llwyth gwaith athrawon. Rydym wedi comisiynu gwaith ymchwil penodol, megis prosiect sy’n cael ei gyflawni gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant, ac sy’n arsylwi a dadansoddi’r modd y mae arweinwyr ysgolion yn rheoli amser, i edrych i weld beth y mae arweinwyr ysgol yn treulio’u hamser yn ei wneud mewn gwirionedd. Gwnaed gwaith gyda’r consortia, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i nodi a rhoi cyhoeddusrwydd i arferion gorau, er enghraifft ymgyrch chwalu’r mythau Estyn. Fel y dywedais, nid un ateb sydd i’r mater cymhleth hwn, ond rydym yn gweithio ar draws nifer o ffrydiau gwaith i fynd i’r afael â llwyth gwaith lle y gallwn.
14:01 - Adam Price
In Finland, they have no school inspection, no league tables, no tests or exams up until the age of 16, homework per child is limited to half an hour as a maximum, and they have the most successful education system in the world. That was the model that we were meant to be adopting and yet we start testing at seven and we’ve imported wholesale the overregulated, overworked, overstressed system from the failing education system next door in England. Why? Yn y Ffindir, nid oes ganddynt drefn arolygu ysgolion, dim tablau cynghrair, nac unrhyw brofion neu arholiadau hyd nes eu bod yn 16 oed, caiff gwaith cartref pob plentyn ei gyfyngu i hanner awr fan bellaf, ac mae ganddynt y system addysg fwyaf llwyddiannus yn y byd. Dyna oedd y model roeddem i fod i’w fabwysiadu ac eto rydym yn dechrau cynnal profion ar blant saith oed ac rydym wedi mewnforio system o’r drws nesaf yn Lloegr yn ei chyfanrwydd, system dan ormod o bwysau sy’n cael ei gorweithio a’i gor-reoleiddio, a system addysg sy’n methu. Pam?
14:02 - Kirsty Williams
What needs to be absolutely clear—and I took the opportunity to visit Finland in January, myself, to look at education policy and practice in their schools—is that the Finnish Government are very concerned about Finland. Relative to them—it would be great if we had performance that way—but relative to them, the Finnish system is dropping down the PISA league table. It is not improving. It is not holding its own. Their performance is diminishing. Compared to ours, we would want to have those scores, but that is the reality of the Finnish system. We are looking to learn from international examples, whether that be Finland—. Officials were last week in Ontario in Canada, looking at their very successful model, and we will continue to look at best practice internationally to inform our education reforms. But let me be absolutely clear: removing all forms of accountability has landed us in the position of where we find ourselves in, and nobody—nobody—thinks that what we’re doing at the moment is good enough. We are committed to a national reform mission that is based on raising standards and raising attainment level, and we will learn from the best, wherever that may be. Mae angen bod yn gwbl glir—a manteisiais ar y cyfle i ymweld â’r Ffindir ym mis Ionawr, fy hun, i edrych ar bolisi ac ymarfer addysg yn eu hysgolion—fod Llywodraeth y Ffindir yn bryderus iawn ynglŷn â’r Ffindir. O gymharu â hwy—byddai’n wych pe bai gennym berfformiad o’r fath—ond o gymharu â hwy, mae system y Ffindir yn disgyn i lawr y tabl cynghrair PISA. Nid yw’n gwella. Nid yw’n dal ei thir. Mae eu perfformiad yn gwaethygu. O gymharu â’n perfformiad ni, byddem yn awyddus i gael y sgoriau hynny, ond dyna realiti system y Ffindir. Rydym yn awyddus i ddysgu o enghreifftiau rhyngwladol, boed yn Ffindir—. Roedd swyddogion yn Ontario yng Nghanada yr wythnos diwethaf yn edrych ar eu model llwyddiannus iawn a byddwn yn parhau i edrych ar arferion gorau yn rhyngwladol i lywio ein diwygiadau addysg. Ond gadewch i mi fod yn gwbl glir: mae cael gwared ar bob math o atebolrwydd wedi ein rhoi yn y sefyllfa rydym ynddi, ac nid oes neb—neb—yn meddwl bod yr hyn a wnawn ar hyn o bryd yn ddigon da. Rydym wedi ymrwymo i genhadaeth genedlaethol ar gyfer diwygio sy’n seiliedig ar godi safonau a chodi lefel cyrhaeddiad, a byddwn yn dysgu gan y gorau, lle bynnag y bo.
Addysg Cyfrwng Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru Welsh-medium Education in South Wales West
14:03 - Dai Lloyd
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0133(EDU) 5. Will the Cabinet Secretary make a statement on the promotion of Welsh-medium education in South Wales West? OAQ(5)0133(EDU)
14:03 - Alun Davies
Gyda dyfodiad strategaeth Llywodraeth Cymru am filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rwy’n cytuno bod rhaid inni fod yn gyson ac yn gadarn, gan hoelio sylw agweddau penodol wrth hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Byddwn ni’n lansio ymgyrch cenedlaethol ym mis Medi. With the advent of the Welsh Government’s strategy for a million Welsh speakers by 2050, I agree that the promotion of Welsh-medium education across Wales needs to be consistent, focused and strong. We will be launching a national campaign in September.
14:03 - Dai Lloyd
Diolch yn fawr am yr ymateb yna, Gweinidog. Yn dilyn llwyddiant ysgubol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhen-y-bont ar Ogwr fis diwethaf, mae llawer yn gofyn pam nad yw cyngor Pen-y-bont yn gwneud mwy i hyrwyddo a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir. Dim ond pedair ysgol gynradd Gymraeg sydd yn y sir, lefel isel iawn mewn cymhariaeth ag awdurdodau eraill. A ydych chi’n cytuno bod y sefyllfa bresennol ym Mhen-y-bont yn anfoddhaol, a beth ydych chi’n ei wneud i newid y sefyllfa, yn enwedig drwy hyrwyddo addysg Gymraeg a chodi’r nifer o blant ifanc sy’n derbyn addysg Gymraeg yn y sir? Thank you for that response, Minister. Following the sweeping success of the Urdd Eisteddfod in Bridgend last month, many are asking why Bridgend council aren’t doing more to promote and develop Welsh-medium education in the county. There are only four Welsh-medium primaries in the county, which is very low as compared to other authorities. Do you agree that the current situation in Bridgend is unsatisfactory? What are you doing to change that situation, particularly through the promotion of Welsh-medium education and increasing the number of young children who receive Welsh-medium education in the county?
14:04 - Alun Davies
Rydw i’n bendant yn cytuno bod Eisteddfod yr Urdd wedi bod yn hynod o lwyddiannus, a dylem ni longyfarch pob un o’r gwirfoddolwyr wnaeth hybu a chyfrannu at lwyddiant Eisteddfod yr Urdd. Rwy’n credu bod lot fawr o Aelodau wedi ymweld â maes yr Eisteddfod ac wedi mwynhau eu hymweliad. Mae Aelodau yn ymwybodol fy mod i wedi gofyn i Aled Roberts wneud arolwg o’r WESPs i gyd, yn cynnwys Pen-y-bont, ac mi fydd e’n adrodd imi yn ystod yr wythnosau nesaf. Mi fyddaf i’n cyhoeddi ei adroddiad llawn e unwaith rydw i’n gallu gwneud hynny. Ond a gaf i ddweud hyn? Rydych chi’n gofyn am Ben-y-bont. Mae Pen-y-bont yn dangos bod yna uchelgais a gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae cyngor Pen-y-bont yn gwneud hynny, ond mae’n rhaid i ni gydweithio gyda nhw a chydweithio gyda’n gilydd i sicrhau eu bod nhw yn gallu cyrraedd y weledigaeth y maen nhw wedi ei gosod. I definitely agree that the Urdd Eisteddfod was a sweeping success and we should congratulate all the volunteers that promoted and contributed to the success of the Urdd Eisteddfod. I believe quite a few Members visited the field and enjoyed that visit. I have asked Aled Roberts to undertake a review of all the WESPs, including Bridgend’s, and he will be reporting to me over the ensuing weeks. I will be publishing his full report once I’m able to do so. But may I say this? You were asking about Bridgend. Bridgend does demonstrate that there is ambition and vision for the future. Bridgend demonstrates that, but we must collaborate with them and with each other to ensure that they are able to attain the vision that they have set for themselves.
14:05 - Huw Irranca-Davies
I welcome the question, but also the answer as well, because we must recognise that Bridgend, like others, are starting from a relatively low base in terms of Welsh provision. Certainly, in the period that I’ve represented that seat in different institutions, it has provided now a secondary education facility in Llangynwyd. There are demands from parents that it should be more central, and I understand those demands. My own children—all three of them—were fortunate to go to one of the best primary schools in the whole constituency, literally walking down their road to Ysgol Cynwyd Sant, a first-class, pure Welsh language provision and embedded in the eisteddfodau and so on. But there is more to do, without a doubt. I was at the turf-laying ceremony the other day for the new Betws primary, which will serve not only the northern valleys but also some of the central areas as well. But I want to ask the Minister: what additional support can be given to local authorities that are starting from a lower base—in advice as well—to move forward? Will he also give encouragement to those authorities that are trying to do the right thing, but they know how far they’ve got to go as well? Rwy’n croesawu’r cwestiwn, a’r ateb hefyd, oherwydd rhaid inni gydnabod bod Pen-y-bont ar Ogwr, fel eraill, yn dechrau o sylfaen gymharol isel o ran y ddarpariaeth yng Nghymru. Yn sicr, yn y cyfnod y bûm yn cynrychioli’r sedd mewn gwahanol sefydliadau, mae wedi darparu cyfleuster addysg uwchradd yn Llangynwyd bellach. Ceir galwadau gan rieni y dylai fod yn fwy canolog, ac rwy’n deall y gofynion hynny. Roedd fy mhlant—y tri ohonynt—yn ffodus i fynd i un o’r ysgolion cynradd gorau yn yr etholaeth gyfan, ac yn cerdded yn llythrennol i lawr y ffordd i Ysgol Cynwyd Sant, darpariaeth gwbl Gymraeg ei hiaith o’r radd flaenaf ac wedi’i gwreiddio yn yr eisteddfodau ac yn y blaen. Ond mae mwy i’w wneud, heb amheuaeth. Roeddwn yn y seremoni torri’r dywarchen y diwrnod o’r blaen ar gyfer ysgol gynradd newydd Betws, a fydd yn gwasanaethu nid yn unig y Cymoedd Gogleddol ond rhai o’r ardaloedd canolog hefyd. Ond rwyf am ofyn i’r Gweinidog: pa gymorth ychwanegol y gellir ei roi i awdurdodau lleol sy’n dechrau o sylfaen is—o ran cyngor hefyd—i symud ymlaen? A wnaiff roi anogaeth hefyd i’r awdurdodau sy’n ceisio gwneud y peth iawn, ond sy’n gwybod hefyd pa mor bell y mae’n rhaid iddynt fynd?
14:06 - Alun Davies
I hope we can give encouragement to local authorities. The approach I’ve taken throughout the WESPs process has been to work with people rather than shout at people. I believe it’s incumbent upon all of us here, in this Chamber, to work with our own local authorities. I certainly want to work with my own local authority, in Blaenau Gwent, to ensure that they’re able to grow, and to realise their ambitions as well. I visited the only Welsh language school in Blaenau Gwent some weeks ago in order to discuss how they can improve and develop their provision. What I see, when I travel across the country, is exactly what has been described by the Member for Ogmore, which is great, deep goodwill towards the language and a wish to develop the provision of Welsh-medium education. I think that font of goodwill is something that we must all seek to encourage. The Welsh Government will certainly play its part, both in encouraging provision, encouraging parents to use that provision, and also then ensuring that the local authorities themselves have the support that they need in order to deliver on the vision that most local authorities have outlined in their own plans. Rwy’n gobeithio y gallwn roi anogaeth i awdurdodau lleol. Y dull a ddefnyddiais drwy gydol proses y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg oedd gweithio gyda phobl yn hytrach na gweiddi ar bobl. Rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom yma, yn y Siambr hon, i weithio gyda’n hawdurdodau lleol ein hunain. Rwy’n sicr yn awyddus i weithio gyda fy awdurdod lleol i ym Mlaenau Gwent i sicrhau eu bod yn gallu tyfu, a gwireddu eu huchelgais hefyd. Ymwelais â’r unig ysgol iaith Gymraeg ym Mlaenau Gwent rai wythnosau yn ôl i drafod sut y gallant wella a datblygu eu darpariaeth. Yr hyn a welaf pan fyddaf yn teithio ar draws y wlad yw’r hyn a ddisgrifiodd yr Aelod dros Ogwr, sef ewyllys da dwfn a gwych tuag at yr iaith a dymuniad i ddatblygu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Credaf fod y ffynnon honno o ewyllys da yn rhywbeth y mae’n rhaid i bawb ohonom geisio ei hannog. Bydd Llywodraeth Cymru yn sicr yn chwarae ei rhan, o ran annog y ddarpariaeth, annog rhieni i ddefnyddio’r ddarpariaeth honno, a sicrhau wedyn fod yr awdurdodau lleol eu hunain yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni’r weledigaeth y mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi’i hamlinellu yn eu cynlluniau eu hunain.
14:07 - Suzy Davies
I think there has been a change of officials in the particular area you talk about in Bridgend recently, so hopefully we will see some improvement. But I wanted to ask you about something else. You’ve previously acknowledged the role that Wales’s businesses can play in promoting the Welsh language and, indeed, driving the call for skills, actually, and we often speak positively in this Chamber of collaboration between businesses and schools and colleges, both in influencing and, indeed, facilitating the way that the curriculum is delivered in an engaging way. Do you get any sense that, lately, businesses are perhaps keener to work with Welsh-medium schools because of the aim for 1 million Welsh speakers? Or are these collaborations still very much a local decision—good relationships between business leaders and school or college leaders—where maybe the language isn’t a consideration that’s on their agenda? Rwy’n meddwl bod yna newid swyddogion wedi bod yn yr ardal benodol y soniwch amdani ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar, felly gobeithio y byddwn yn gweld rhywfaint o welliant. Ond roeddwn am ofyn i chi ynglŷn â rhywbeth arall. Rydych wedi cydnabod yn flaenorol y rôl y gall busnesau Cymru ei chwarae yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac yn wir, yn ysgogi’r galw am sgiliau mewn gwirionedd, ac rydym yn aml yn siarad yn gadarnhaol yn y Siambr hon am gydweithio rhwng busnesau ac ysgolion a cholegau, o ran dylanwadu ar, a hwyluso yn wir, y ffordd y caiff y cwricwlwm ei gyflwyno mewn ffordd ddiddorol. A ydych yn cael unrhyw awgrym yn ddiweddar fod busnesau efallai’n fwy awyddus i weithio gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg oherwydd y nod i gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg? Neu a yw’r enghreifftiau hyn o gydweithredu yn dal i fod i raddau helaeth yn benderfyniadau lleol—perthynas dda rhwng arweinwyr busnes ac arweinwyr ysgolion neu golegau—lle nad yw’r iaith yn ystyriaeth ar eu hagenda o bosibl?
14:08 - Alun Davies
What I see, as I’ve said in answer to Huw Irranca-Davies, is a great deal of goodwill from all parts of the community, including business, and what I hope we can do, through the publication of the strategy to achieve a million speakers by 2050, which will be published before we go on recess, is an attempt to ensure that collaboration is made real, is encouraged, is provided with support, and enables people to work together, because I think that is exactly what people want to do, in order to achieve the ambition and vision that we all share for the future of the language. Yr hyn a welaf, fel y dywedais wrth ateb Huw Irranca-Davies, yw llawer iawn o ewyllys da o bob rhan o’r gymuned, gan gynnwys busnesau, a’r hyn y gobeithiaf y gallwn ei wneud, drwy gyhoeddi’r strategaeth i sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050, a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn y toriad, yw ymgais i sicrhau bod cydweithio yn cael ei wireddu, yn cael ei annog, yn cael ei ddarparu gyda chefnogaeth, ac yn galluogi pobl i weithio gyda’i gilydd, oherwydd credaf mai hynny’n union y mae pobl eisiau ei wneud, er mwyn cyflawni’r uchelgais a’r weledigaeth rydym i gyd yn ei rhannu ar gyfer dyfodol yr iaith.
Newidiadau i’r Cwricwlwm Changes to the Curriculum
14:09 - Janet Finch-Saunders
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am newidiadau i’r cwricwlwm yng Nghymru yn y dyfodol? OAQ(5)0135(EDU) 6. Will the Cabinet Secretary make a statement on future changes to the curriculum in Wales? OAQ(5)0135(EDU)
14:09 - Kirsty Williams
Thank you, Janet. The new curriculum for Wales will be based on the fundamental review of existing arrangements that was undertaken by Professor Graham Donaldson. The recommendations are radical, with wide-ranging implications for our education system. Work is now well under way to develop a new curriculum in response to ‘Successful Futures’. Diolch yn fawr, Janet. Bydd y cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru yn seiliedig ar yr adolygiad sylfaenol o’r trefniadau presennol a gyflawnwyd gan yr Athro Graham Donaldson. Mae’r argymhellion yn radical, gyda goblygiadau pellgyrhaeddol i’n system addysg. Mae gwaith yn mynd rhagddo’n dda ar ddatblygu cwricwlwm newydd mewn ymateb i ‘Dyfodol Llwyddiannus’.
14:09 - Janet Finch-Saunders
Thank you, Cabinet Secretary. There are, however, around 3,000 deaf children going through our education system here in Wales unable to access learning through a British Sign Language interpreter. For many deaf children, this is an important, and often the only, means of communication during this important development phase. Deaf Ex-mainstreamers research has shown how BSL should now be included within the Welsh curriculum model. We’ve received, as a Petitions Committee, a petition signed by over 1,000 people calling for improved access to learning through BSL. Will you give some consideration to including this within any curriculum change and ensure that these children can learn equally as well as anybody else? Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fodd bynnag, mae oddeutu 3,000 o blant byddar yn mynd drwy ein system addysg yma yng Nghymru sy’n methu cael mynediad at addysg drwy ddehonglwr Iaith Arwyddion Prydain. I lawer o blant byddar, mae hwn yn gyfrwng cyfathrebu pwysig, a’r unig un yn aml, yn ystod y cyfnod datblygu pwysig hwn. Mae ymchwil gan Deaf Ex-mainstreamers wedi dangos sut y dylai Iaith Arwyddion Prydain gael ei chynnwys yn awr ym model y cwricwlwm Cymreig. Rydym wedi cael deiseb, fel Pwyllgor Deisebau, wedi’i llofnodi gan dros 1,000 o bobl yn galw am well mynediad at addysg drwy Iaith Arwyddion Prydain. A wnewch chi ystyried cynnwys hyn mewn unrhyw newid i’r cwricwlwm a sicrhau y gall y plant hyn ddysgu yr un mor dda ag unrhyw un arall?
14:10 - Kirsty Williams
Well, Janet, I will give more than consideration, and you will know that because I answered a written question on 31 May, which confirmed to you that in developing the area of learning and experience relating to language, literacy and communications, British Sign Language was being considered alongside other languages in the development work of that particular group. It has been included. They have ben liaising with the third-sector organisations who represent children and families in this particular area, and I expect that work to be ongoing and continuing. Wel, Janet, byddaf yn gwneud mwy nag ystyried, a byddwch yn gwybod hynny am fy mod wedi ateb cwestiwn ysgrifenedig ar 31 Mai, a oedd yn cadarnhau bod Iaith Arwyddion Prydain, wrth ddatblygu’r maes dysgu a phrofiad mewn perthynas ag iaith, llythrennedd a chyfathrebu, yn cael ei hystyried ochr yn ochr ag ieithoedd eraill yn y gwaith datblygu ar gyfer y grŵp hwnnw. Mae wedi cael ei chynnwys. Maent wedi bod yn cysylltu â’r sefydliadau trydydd sector sy’n cynrychioli plant a theuluoedd yn y maes arbennig hwn, ac rwy’n disgwyl i’r gwaith hwnnw fynd rhagddo’n barhaus.
14:11 - David Rees
Cabinet Secretary, last Thursday, we saw many young people taking part in the democratic process across the UK, being enthused—mainly by Jeremy Corbyn—to actually get involved and take part in their rights and have their voices heard. Will you agree with me that if this Assembly moves forward to a vote for 16 and 17-year-olds—[Interruption.] I’m disappointed that Members are not prepared to listen to an important aspect for young people. Do you agree with me that, as the Assembly moves forward and 16 and 17-year-olds have the possibility of also taking part in the democratic process here in Wales, it is incumbent on us to ensure that the new curriculum addresses political and citizenship education within it, so that they are prepared and they can be enthused and engaged—taking part and making sure that their voices are heard as well? Ysgrifennydd y Cabinet, ddydd Iau diwethaf, gwelsom lawer o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ar draws y DU, yn cael eu hysbrydoli—yn bennaf gan Jeremy Corbyn—i gymryd rhan ac arfer eu hawliau a lleisio eu barn. A ydych yn cytuno, os yw’r Cynulliad hwn yn symud ymlaen i gynnig pleidlais i rai 16 a 17 oed—? [Torri ar draws.] Rwy’n siomedig nad yw’r Aelodau’n barod i wrando ar agwedd sy’n bwysig i bobl ifanc. A ydych yn cytuno, wrth i’r Cynulliad symud ymlaen a’r posibilrwydd y caiff rhai 16 a 17 oed hefyd gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yma yng Nghymru, ei bod yn ddyletswydd arnom i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn mynd i’r afael ag addysg wleidyddol a dinasyddiaeth, fel eu bod yn cael eu paratoi a’u hysbrydoli i gymryd rhan—cymryd rhan a gwneud yn siŵr fod eu lleisiau’n cael eu clywed hefyd?
14:11 - Kirsty Williams
Well, Presiding Officer, I don’t think that there is anything particularly engaging or enthusing about some of the yah-boo stuff that goes on in this Chamber. What I recognise that young people are interested in is finding solutions to the problems that they face in their lives and in their communities. Equipping those young people with the ability to hold politicians to account, to scrutinise their work, and to be able to make informed choices about how they should vote is absolutely crucial to our ongoing success as a society. Politics and civic engagement is already a part of our current curriculum, under PSE arrangements. I expect politics to play a part in the humanities area of learning and experience. But, it is absolutely crucial—indeed, it is demanded of us by young people themselves—that they have access to this kind of curriculum. They know it is important, they want it, and we will deliver it for them. Wel, Llywydd, nid wyf yn meddwl bod yna unrhyw beth arbennig o atyniadol neu ysbrydoledig ynglŷn â pheth o’r cecru sy’n digwydd yn y Siambr hon. Yr hyn rwy’n ei gydnabod yw bod gan bobl ifanc ddiddordeb mewn dod o hyd i atebion i’r problemau y maent yn eu hwynebu yn eu bywydau ac yn eu cymunedau. Mae arfogi’r bobl ifanc hynny â’r gallu i ddwyn gwleidyddion i gyfrif, i graffu ar eu gwaith ac i allu gwneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â sut y dylent bleidleisio yn gwbl hanfodol i’n llwyddiant parhaus fel cymdeithas. Mae gwleidyddiaeth ac ymwneud dinesig eisoes yn rhan o’n cwricwlwm cyfredol, o dan drefniadau addysg bersonol a chymdeithasol. Rwy’n disgwyl y bydd gwleidyddiaeth yn chwarae rhan ym maes dysgu a phrofiad y dyniaethau. Ond mae’n gwbl hanfodol—yn wir, mae pobl ifanc eu hunain yn ei fynnu gennym—eu bod yn gallu cael mynediad at y math hwn o gwricwlwm. Maent yn gwybod ei fod yn bwysig, maent ei eisiau, a byddwn yn ei ddarparu ar eu cyfer.
Cyllid Ysgolion School Funding
14:12 - Mark Isherwood
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefel y cyllid ysgolion yng Nghymru? OAQ(5)0137(EDU) 7. Will the Cabinet Secretary make a statement on the level of school funding in Wales? OAQ(5)0137(EDU)
14:13 - Kirsty Williams
Thank you very much, Mark. Local authorities are responsible for school funding in Wales, and last year, gross schools expenditure was budgeted to be £2.5 billion overall. That is 0.9 per cent higher than in 2015-16. Local authorities delegated more than £2.1 billion of that funding to schools. Diolch yn fawr iawn, Mark. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ariannu ysgolion yng Nghymru, a’r llynedd, roedd y gyllideb ar gyfer gwariant gros ar ysgolion yn £2.5 biliwn i gyd. Roedd hynny 0.9 y cant yn uwch nag yn 2015-16. Dirprwyodd awdurdodau lleol fwy na £2.1 biliwn o’r arian i ysgolion.
14:13 - Mark Isherwood
Thank you. In September 2010, the WLGA made a commitment to increase school delegation rates to 80 per cent in two years, working towards 85 per cent within a further two years—i.e. 2014. When I questioned your predecessor in March last year, he expressed his understanding that every local authority in Wales had surpassed the 85 per cent delegation rate and said that the Welsh Government had set an expectation for that to reach 90 per cent during this Assembly term. However, the 2016-17 figures published by the Welsh Government showed that 14 out of 22 Welsh local authorities were still below the 85 per cent figure, and that all of them were below the 90 per cent figure. Can you confirm what this Welsh Government’s goal is in this area, and how it proposes to close that gap? Diolch. Ym mis Medi 2010, gwnaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ymrwymiad i gynyddu cyfraddau dirprwyo i ysgol i 80 y cant mewn dwy flynedd, gan weithio tuag at 85 y cant o fewn dwy flynedd arall—h.y. 2014. Pan holais eich rhagflaenydd ym mis Mawrth y llynedd, mynegodd ei fod yn deall fod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi rhagori ar y gyfradd ddirprwyo o 85 y cant a dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi pennu disgwyliad iddi gyrraedd 90 y cant yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Fodd bynnag, dangosodd ffigurau 2016-17 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru fod 14 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn dal yn is na’r ffigur o 85 y cant, a bod pob un ohonynt yn is na’r ffigur o 90 y cant. A allwch gadarnhau beth yw nod y Llywodraeth hon yn y maes hwn, a sut y mae’n bwriadu cau’r bwlch?
14:14 - Kirsty Williams
Well, Mark, it is important that local authorities get as much education money, which is given to them either through the RSG or through special grants from this Government, to the front line. That’s where I expect money to be utilised—in our classrooms. I would urge local authorities again to look at ensuring that as much delegated budget is available as possible. One of the other continuing concerns that I have is that in some cases, we have high levels of reserves being held at a school level. That is usually within the primary sector, and quite often, that is held for very good reasons—if a school is looking to build up a particular reserve of money for a specific project. But, let us be clear: reserves that are held for the sake of it are not doing what that money was intended for, and that is providing opportunities for our children. So, it is incumbent upon all of us, individual schools, local authorities, consortia and, indeed, Welsh Government to get as much money to the front line as possible. Wel, Mark, mae’n bwysig fod awdurdodau lleol yn cael cymaint o arian addysg, sy’n cael ei roi iddynt naill ai drwy’r grant cynnal refeniw neu drwy grantiau arbennig gan y Llywodraeth hon, ar gyfer y rheng flaen. Dyna ble rwy’n disgwyl i arian gael ei ddefnyddio—yn ein hystafelloedd dosbarth. Byddwn yn annog awdurdodau lleol unwaith eto i geisio sicrhau bod cymaint o gyllideb ddirprwyedig ag sy’n bosibl ar gael. Un o’r pryderon cyson eraill sydd gennyf yw bod gennym lefelau uchel o gronfeydd wrth gefn yn cael eu cadw, mewn rhai achosion, ar lefel yr ysgolion. Mae hynny’n digwydd fel arfer yn y sector cynradd, ac yn aml iawn, cânt eu cadw am resymau da iawn—os yw ysgol yn ceisio adeiladu cronfa o arian wrth gefn ar gyfer prosiect penodol. Ond gadewch inni fod yn glir: nid yw cronfeydd wrth gefn sy’n cael eu cadw heb unrhyw bwrpas penodol yn gwneud yr hyn y bwriadwyd yr arian hwnnw ar ei gyfer, sef darparu cyfleoedd i’n plant. Felly, mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom, yn ysgolion unigol, awdurdodau lleol, consortia, a Llywodraeth Cymru yn wir, i gael cymaint o arian i’r rheng flaen ag y bo modd.
Annog Mwy i Ddarllen Encouraging More to Read
14:15 - Jayne Bryant
8. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud i annog mwy o bobl ifanc i ddarllen? OAQ(5)0138(FM) 8. What progress is being made to encourage more young people to read? OAQ(5)0138(FM)
14:15 - Kirsty Williams
Thank you, Jayne. We recognise the importance of fostering a love of reading from an early age. Our national literacy and numeracy programme and its key policies, including the national literacy and numeracy framework and our grant-funded literacy interventions, support us in achieving this aim. Diolch i chi, Jayne. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd meithrin cariad at ddarllen o oedran cynnar. Mae ein rhaglen llythrennedd a rhifedd genedlaethol a’i pholisïau allweddol, gan gynnwys y fframwaith llythrennedd a rhifedd cenedlaethol a’n hymyriadau llythrennedd a ariennir gan grantiau, yn ein cynorthwyo i gyflawni’r nod hwn.
14:15 - Jayne Bryant
Thank you, Cabinet Secretary. The big challenge for teachers is not simply getting students to read, it's getting them to enjoy it, too. English literature can ignite lifelong passion for reading. With changes to the way literacy development is measured at key stage 4, it's vital that we ensure that pupils continue to take up English literature at GCSE level. As one of my constituents, Rajvi Glasbrook Griffiths, who is a teacher, recently wrote: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr her fawr i athrawon yw nid yn unig cael myfyrwyr i ddarllen, ond eu cael i fwynhau gwneud hynny hefyd. Gall llenyddiaeth Saesneg danio angerdd gydol oes tuag at ddarllen. Gyda newidiadau i’r ffordd y mesurir datblygiad llythrennedd yng nghyfnod allweddol 4, mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod disgyblion yn parhau i gael gwersi llenyddiaeth Saesneg ar lefel TGAU. Fel yr ysgrifennodd un o fy etholwyr, Rajvi Glasbrook Griffiths, sy’n athro, yn ddiweddar:
‘cultural literacy is one of the most powerful modes of social mobility and progress’. llythrennedd diwylliannol yw un o’r dulliau mwyaf pwerus o sicrhau symudedd cymdeithasol a chynnydd.
With this in mind, what steps is the Welsh Government taking to ensure that teaching English and Welsh literature continues to play an important role in inspiring and nurturing booklovers of the future, particularly for those who don't have access to books at home? Gyda hyn mewn golwg, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod dysgu llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg yn parhau i chwarae rhan bwysig yn ysbrydoli a meithrin pobl sy’n hoff o ddarllen yn y dyfodol, yn enwedig i rai nad oes ganddynt lyfrau at eu defnydd yn y cartref?
14:16 - Kirsty Williams
Thank you for that. I am aware of concerns on the issue of literature in key stage 4 and that some schools have been lobbying for increased emphasis on literature in performance measures. I have already signalled that school accountability is being reviewed as part of our education reforms and our national mission to improve education standards. We introduced new programmes of study for both English and Welsh in 2015, which require all schools to teach both language and literature elements for all until the end of key stage 4. I am keeping under review entry into Welsh literature and English literature GCSEs, and I will also be asking Estyn to review school practice in the teaching of literature at both key stage 3 and key stage 4. Diolch i chi am hynny. Rwy’n ymwybodol o bryderon ynglŷn â mater llenyddiaeth yng nghyfnod allweddol 4, a bod rhai ysgolion wedi bod yn lobïo dros fwy o bwyslais ar lenyddiaeth yn y mesurau perfformiad. Rwyf eisoes wedi dynodi bod atebolrwydd ysgolion yn cael ei adolygu fel rhan o’n diwygiadau addysg a’n cenhadaeth genedlaethol i wella safonau addysg. Cyflwynasom raglenni astudio newydd ar gyfer y Gymraeg a’r Saesneg yn 2015 a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol addysgu elfennau iaith a llenyddiaeth i bawb hyd at ddiwedd cyfnod allweddol 4. Rwy’n cadw mynediad at lenyddiaeth Gymraeg a llenyddiaeth Saesneg TGAU dan arolwg a byddaf hefyd yn gofyn i Estyn adolygu ymarfer ysgolion yn addysgu llenyddiaeth yng nghyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4.
14:17 - Y Llywydd / The Llywydd
Ac yn olaf, cwestiwn 9—Lynne Neagle. And finally, question 9—Lynne Neagle.
Gwydnwch Emosiynol Emotional Resilience
14:17 - Lynne Neagle
9. Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod ysgolion yng Nghymru yn hyrwyddo gwydnwch emosiynol ymysg plant a phobl ifanc? OAQ(5)0140(EDU) 9. What steps is the Cabinet Secretary taking to ensure schools in Wales promote emotional resilience in children and young people? OAQ(5)0140(EDU)
14:17 - Kirsty Williams
Thank you, Lynne. Promoting the emotional resilience of children and young people must be understood within the wider context of their well-being. Higher levels of well-being are linked to increased educational achievement and engagement. For that reason, we are adding ‘well-being’ as a fifth objective in the next version of ‘Qualified for Life’. Diolch i chi, Lynne. Mae’n rhaid i hyrwyddo gwydnwch emosiynol plant a phobl ifanc gael ei ddeall yng nghyd-destun ehangach eu llesiant. Mae cysylltiad rhwng lefelau uwch o lesiant a chynnydd o ran cyflawniad ac ymgysylltiad addysgol. Am y rheswm hwnnw, rydym yn ychwanegu ‘llesiant’ fel pumed amcan yn y fersiwn nesaf o ‘Cymwys am Oes’.
14:17 - Lynne Neagle
Thank you, Cabinet Secretary. I was very grateful to you for meeting with Samaritans Cymru with me recently. As you know, they have been very, very keen on mainstreaming emotional resilience in the curriculum, and I'm sure they welcome, as I do, that you've gone further, really, in including well-being in ‘Qualified for Life’—that is very, very positive. However, as you know, I have raised previously the need for all Welsh Ministers to work together in partnership to deliver the aims of Together for Children and Young People. Are you able to provide any update on the work that you are doing to deliver your side of that partnership in terms of ensuring that we move as quickly as possible to ensuring that all schools are actively engaged in ensuring that emotional resilience is a priority? Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i chi am gyfarfod â Samariaid Cymru gyda mi yn ddiweddar. Fel y gwyddoch, maent wedi bod yn awyddus iawn i brif ffrydio gwydnwch emosiynol yn y cwricwlwm, ac rwy’n siŵr eu bod yn croesawu, fel finnau, y ffaith eich bod wedi mynd ymhellach, mewn gwirionedd, drwy gynnwys llesiant yn ‘Cymwys am Oes’—mae hynny’n gadarnhaol tu hwnt. Fodd bynnag, fel y gwyddoch, rwyf wedi tynnu sylw o’r blaen at yr angen i holl Weinidogion Cymru weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth i gyflawni nodau Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnewch i gyflawni eich ochr chi o’r bartneriaeth honno o ran sicrhau ein bod yn symud mor gyflym â phosibl i sicrhau bod pob ysgol yn cymryd rhan weithredol yn sicrhau bod gwydnwch emosiynol yn flaenoriaeth?
14:18 - Kirsty Williams
Thank you, Lynne. It is absolutely crucial. As we discussed in committee this morning, there is much that we can do to prevent difficult situations for our young people and children, but we will never, ever be able to prevent them from experiencing life's ups and downs—whether that's bereavement, whether that is the break-up, perhaps, of a significant relationship in their life, whether that is bullying, we will never be able to protect them from all the challenges that they will face, but we can help them to be more resilient and allow them to cope better when those changes happen for them. You're absolutely right; I cannot do this alone. That is why I am very keen to work alongside my Cabinet colleague here, for health, to identify what opportunities there are for joint working. Most recently, we both identified a sum of money, which we hope to be able to deploy to tackle some of these very real issues in our high schools. Diolch i chi, Lynne. Mae’n gwbl hanfodol. Fel y trafodwyd yn y pwyllgor y bore yma, mae llawer y gallwn ei wneud i atal sefyllfaoedd anodd i’n pobl ifanc a’n plant, ond ni fyddwn byth yn gallu eu hatal rhag profi troeon yr yrfa—boed yn brofedigaeth, boed yn chwalfa perthynas bwysig yn eu bywydau, boed yn fwlio, ni fyddwn byth yn gallu eu diogelu rhag yr holl heriau y byddant yn eu hwynebu, ond gallwn eu helpu i fod yn fwy gwydn a chaniatáu iddynt ymdopi’n well pan fydd y newidiadau hynny’n digwydd. Rydych yn hollol gywir; ni allaf wneud hyn ar fy mhen fy hun. Dyna pam rwy’n awyddus iawn i weithio ochr yn ochr â fy nghyd-Aelod Cabinet dros iechyd yma i nodi pa gyfleoedd sydd ar gael ar gyfer gweithio ar y cyd. Yn fwyaf diweddar, nododd y ddau ohonom swm o arian y gobeithiwn allu ei ddefnyddio i fynd i’r afael â rhai o’r problemau real hyn yn ein hysgolion uwchradd.
14:19 - Y Llywydd / The Llywydd
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Thank you, Cabinet Secretary.
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol 2. Questions to the Counsel General
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg. [R] signifies the Member has declared an interest. [W] signifies that the question was tabled in Welsh.
14:19 - Y Llywydd / The Llywydd
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol, a’r cwestiwn cyntaf—Mike Hedges. The next item on our agenda is questions to the Counsel General, and the first question is from Mike Hedges.
Rheolau Sefydliad Masnach y Byd World Trade Organization Rules
14:19 - Mike Hedges
1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r goblygiadau cyfreithiol i Gymru o ran gorfodi rheolau Sefydliad Masnach y Byd, yn absenoldeb cytundeb masnach rhwng Llywodraeth y DU a'r UE? OAQ(5)0041(CG) 1. What assessment has the Counsel General made of the legal implications for Wales of the imposition of World Trade Organisation rules in the absence of a trade agreement between the UK Government and the EU? OAQ(5)0041(CG)
14:20 - Mick Antoniw
Thank you for the question. Officials in a newly established trade policy team are in the process of assessing the policy and legal consequences of the UK trading under World Trade Organization rules. We intend to update Members on this work over the coming months. Diolch am y cwestiwn. Mae swyddogion mewn tîm polisi masnach sydd newydd ei sefydlu yn y broses o asesu’r canlyniadau polisi a’r canlyniadau cyfreithiol i’r DU o fasnachu o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd. Rydym yn bwriadu rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau am y gwaith hwn dros y misoedd nesaf.
14:20 - Mike Hedges
Thank you for that answer. Excluding agriculture, the devaluation of the pound can remove the problem of financial tariffs. Does the Counsel General agree with me that the rules imposed, and making sure that the World Trade Organization rules are being met, is really a far greater problem than a 5 per cent or 10 per cent tariff, which further devaluation can put right? Actually meeting the rules and having to go through all the checks is going to be a greater problem for Welsh industry and Welsh exporters than having the tariffs themselves. Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Ac eithrio amaethyddiaeth, gall y gostyngiad yng ngwerth y bunt ddileu’r broblem o dariffau ariannol. A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi fod y rheolau a osodwyd, a sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn llawer mwy o broblem mewn gwirionedd na thariff o 5 y cant neu 10 y cant, y gallai dibrisio pellach ei unioni? Mae cydymffurfio â’r rheolau a gorfod mynd drwy’r holl wiriadau yn mynd i fod yn fwy o broblem i ddiwydiant Cymru ac allforwyr Cymru na chael y tariffau eu hunain.
14:21 - Mick Antoniw
Well, obviously tariffs are of massive significance because they directly affect cost—goods crossing borders having tariffs imposed upon them. The other issue, of course, with regard to tariffs is what the level of those tariffs is, and also, particularly under World Trade Organization rules, whether there are quotas that might apply as well. But the point you make is an absolutely proper one, and that is that it is the behind-the-border barriers that are sometimes the biggest issues. That is, the compatibility of being able to trade—issues such as product certification, import licences, customs checks and so on. And of course there are all the other issues that relate to the fact that the EU has its own trade agreements, its own versions of the transatlantic trade and investment partnership with different countries, and may have new ones. Of course, part of the purpose of those is to remove some of these behind-the-border barriers, so it may actually mean that, in actual fact, agreements are being made that, whether we like it or not, we’re not party to, but we will need to comply with them in order to actually trade. So, you’re absolutely right: it is a very significant factor, and one that has to be addressed. Wel, yn amlwg mae tariffau’n arwyddocaol tu hwnt am eu bod yn effeithio’n uniongyrchol ar gost—nwyddau’n croesi ffiniau gyda thariffau’n cael eu gosod arnynt. Y broblem arall, wrth gwrs, gyda thariffau yw beth yw lefel y tariffau hynny, a hefyd, yn enwedig o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd, a oes cwotâu a allai fod yn berthnasol hefyd. Ond mae’r pwynt a wnewch yn un hollol briodol, sef mai rhwystrau y tu ôl i’r ffin yw’r problemau mwyaf weithiau. Hynny yw, pa mor gymharus yw’r gallu i fasnachu—materion megis ardystio cynnyrch, trwyddedau mewnforio, gwiriadau tollau ac yn y blaen. Ac wrth gwrs, ceir yr holl faterion eraill sy’n ymwneud â bod gan yr UE ei gytundebau masnach ei hun, ei fersiynau ei hun o’r bartneriaeth masnach a buddsoddiad trawsiwerydd â gwahanol wledydd, a gallai fod ganddo rai newydd. Wrth gwrs, rhan o bwrpas y rhain yw cael gwared ar rai o’r rhwystrau hyn y tu ôl i’r ffin, felly gallai olygu mewn gwirionedd fod cytundebau’n cael eu gwneud nad ydym yn rhan ohonynt, pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, ond bydd angen i ni gydymffurfio â hwy er mwyn masnachu. Felly, rydych yn hollol gywir: mae’n ffactor pwysig iawn, ac yn un y mae’n rhaid rhoi sylw iddo.
14:22 - Mark Reckless
I’m not sure what country the Counsel General thinks the EU has an agreement like TTIP with, which is far broader in scope than any previous trade agreement. But is it not the case that for WTO members, even if they lack a free trade agreement with each other, there is still customs facilitation? The vast majority of our trade with non-EU countries, including the US and China, for which there is no trade agreement, progresses smoothly. Currently our exporters already meet these conformity requirements and the absence of a major free trade deal, which we would all like to see, would not of itself lead to anything like the scale of customs problems that I think Mike Hedges may have suggested. Nid wyf yn siŵr pa wlad y mae’r Cwnsler Cyffredinol yn credu bod gan yr UE gytundeb fel y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddiad Trawsiwerydd â hi, sy’n llawer ehangach ei chwmpas nag unrhyw gytundeb masnach blaenorol. Ond onid yw’n wir fod hwyluso tollau yn dal i fodoli ar gyfer aelodau Sefydliad Masnach y Byd, hyd yn oed os nad oes ganddynt gytundeb masnach rydd â’i gilydd? Mae’r mwyafrif helaeth o’n masnach gyda gwledydd nad ydynt yn yr UE, gan gynnwys yr Unol Daleithiau a Tsieina, lle nad oes cytundeb masnach, yn mynd rhagddi’n llyfn. Ar hyn o bryd mae ein hallforwyr eisoes yn bodloni’r gofynion cydymffurfio hyn ac ni fyddai absenoldeb cytundeb masnach rydd o bwys, y byddai pawb ohonom yn hoffi ei weld, ynddo’i hun yn arwain at unrhyw beth tebyg i faint y problemau tollau y credaf efallai fod Mike Hedges wedi’i awgrymu.
14:23 - Mick Antoniw
First of all, dealing with the point you make abut TTIP, well, of course, there are versions of TTIP that are already in existence, such as with Canada and other countries, all of which deal with those particular issues. Of course, they apply to the UK as long as we are a member of the European Union. Yn gyntaf oll, i ymdrin â’r pwynt a wnewch am y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddiad Trawsiwerydd, wel, wrth gwrs, mae yna fersiynau o’r Bartneriaeth sydd eisoes yn bodoli, megis â Chanada a gwledydd eraill, pob un ohonynt yn ymdrin â’r materion penodol hynny. Wrth gwrs, maent yn berthnasol i’r DU cyhyd â’n bod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.
Of course, the TTIP discussions with the United States of America did not progress, and now seem to have faltered, but part of their objective was to try and remove some of these behind-the-border issues. Whatever happens in respect of those agreements, if you have the European Union working to a particular standard, and those standards become part of an agreement, in order to trade with the EU, it is very likely that it will be the EU standard that we have to comply with, and we will be de facto bound by it if we actually want to trade. Wrth gwrs, ni wnaeth trafodaethau’r Bartneriaeth Masnach a Buddsoddiad Trawsiwerydd gydag Unol Daleithiau America symud ymlaen, ac maent i’w gweld bellach fel pe baent wedi dod i stop, ond rhan o’u hamcan oedd ceisio cael gwared â rhai o’r materion tu ôl i’r ffin. Beth bynnag fydd yn digwydd mewn perthynas â’r cytundebau hynny, os oes gennych yr Undeb Ewropeaidd yn gweithio yn ôl safon benodol, a bod y safonau hynny’n dod yn rhan o gytundeb, er mwyn masnachu gyda’r UE, mae’n debygol iawn mai â safon yr UE y bydd yn rhaid i ni gydymffurfio, a byddwn wedi ein rhwymo de facto ganddi os ydym am fasnachu mewn gwirionedd.
In terms of our position with the World Trade Organization, of course it is presented as though somehow it is an easy fallback position, a sort of default position—if things don’t work out with the EU, there’s nevertheless some sort of simple default position. That really isn’t the case, because the arrangements with the World Trade Organization are negotiated by the EU on behalf of all its members, so we would have to, first of all, extricate ourselves from the European Union and then actually set about the establishment of our own schedules of trade with the World Trade Organization. There was a very interesting quote recently in ‘The Times’ from Roberto Azevêdo, the World Trade Organization’s director general, who said: there is no precedent for extricating itself from an economic union while inside the organisation—the process would not be easy and would likely take years before the UK’s WTO position was settled, not least because all the other member states would have to agree. O ran ein sefyllfa gyda Sefydliad Masnach y Byd, wrth gwrs mae’n cael ei chyflwyno fel pe bai rywsut yn sefyllfa hawdd i gilio’n ôl iddi, rhyw fath o sefyllfa ddiofyn—os nad yw pethau’n gweithio gyda’r UE, mae yna, serch hynny, ryw fath o sefyllfa ddiofyn. Nid yw hynny’n wir mewn gwirionedd, gan fod y trefniadau gyda Sefydliad Masnach y Byd yn cael eu trafod gan yr UE ar ran ei holl aelodau, felly byddai’n rhaid i ni, yn gyntaf oll, ymryddhau oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd a mynd ati wedyn i sefydlu ein hamserlenni masnach ein hunain gyda Sefydliad Masnach y Byd. Roedd dyfyniad diddorol iawn yn ‘The Times’ yn ddiweddar gan Roberto Azevedo, cyfarwyddwr cyffredinol Sefydliad Masnach y Byd, a ddywedodd nad oes cynsail ar gyfer ymryddhau oddi wrth undeb economaidd tra’n dal i fod o fewn y sefydliad—ni fyddai’r broses yn hawdd a byddai’n debygol o gymryd blynyddoedd cyn y gellid cytuno ar sefyllfa’r DU mewn perthynas â Sefydliad Masnach y Byd, nid yn lleiaf oherwydd y byddai’n rhaid i’r holl aelod-wladwriaethau eraill gytuno.
And, of course, one of the consequences is that while you’re going through this period of uncertainty, markets are being targeted and, as a trading nation, the UK is increasingly sidelined. The other problem is, although certain areas of trade might be relatively simple, perhaps in certain areas of manufactured goods, of course there are major problems in respect of agriculture, something which will be of massive concern to Wales, in particular, because it’s not just about tariffs, but it’s also about quotas, and synergistic quotas don’t relate to tariffs and they vary from country to country. So, I suppose the point being made is that the idea that there is somehow some simple fallback position—. It isn’t there, it doesn’t exist, and I have to say that membership of the customs union becomes more attractive the more one delves into the possibility of being bound by World Trade Organization rules. Ac wrth gwrs, un o’r canlyniadau tra byddwch yn mynd drwy’r cyfnod hwn o ansicrwydd, yw y byddai marchnadoedd yn cael eu targedu ac fel gwlad fasnachol, byddai’r DU yn cael ei gwthio fwyfwy i’r naill ochr. Er y gallai rhai meysydd masnachu fod yn gymharol syml, mewn perthynas â nwyddau a weithgynhyrchir efallai, y broblem arall yw bod problemau mawr yn codi o ran amaethyddiaeth wrth gwrs, rhywbeth a fydd yn destun pryder enfawr i Gymru yn arbennig, gan nad â thariffau’n unig y mae’n ymwneud, ond mae hefyd yn ymwneud â chwotâu ac nid yw cwotâu synergaidd yn berthnasol i dariffau ac maent yn amrywio o wlad i wlad. Felly, mae’n debyg mai’r pwynt sy’n cael ei wneud yw bod y syniad syml fod yna sefyllfa i gilio’n ôl iddi rywsut—. Nid yw yno, nid yw’n bodoli, ac mae’n rhaid i mi ddweud bod aelodaeth o’r undeb tollau yn dod yn fwy deniadol po fwyaf y byddwn yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gael ein rhwymo gan reolau Sefydliad Masnach y Byd.
Cronfa Cyd-ffyniant A Shared Prosperity Fund
14:26 - Huw Irranca-Davies
2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch y goblygiadau cyfreithiol i Gymru o ran y bwriad i sefydlu cronfa cyd-ffyniant gan Lywodraeth y DU? OAQ(5)0040(CG) 2. What discussions has the Counsel General had regarding the legal implications for Wales of the proposed establishment of a shared prosperity fund by the UK Government? OAQ(5)0040(CG)
14:26 - Mick Antoniw
Well, officials are considering the matter and the External Affairs and Additional Legislation Committee have been preparing a report on this topic. We intend to update Members on this work over the coming months. Wel, mae swyddogion yn ystyried y mater ac mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi bod yn paratoi adroddiad ar y pwnc hwn. Rydym yn bwriadu rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau am y gwaith hwn dros y misoedd nesaf.
14:26 - Huw Irranca-Davies
I thank the Counsel General for that response and it seems there’s work in progress going on in his department looking at this. But does he give any cognisance to the concerns that have been raised by commentators that suggest that whilst on the surface who could argue with the concept of a shared prosperity fund—it sounds immensely warm and cuddly and fair and just and everybody will have a stake in it—the dilemma here is, of course, that if this is made in Westminster, decided by Westminster, allocated by Westminster, or, alternatively, allocated according to political priorities, it could be very unfair indeed and may indeed, legally, reverse the current situation of funding to the devolved institutions. It could make it very unfair indeed. So, does he share those concerns that this approach could fundamentally change the nature of devolution and actually re-establish Westminster control over devolved funding? Diolch yn fawr i’r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb hwnnw ac mae’n ymddangos bod gwaith yn mynd rhagddo yn ei adran i edrych ar hyn. Ond a yw’n rhoi unrhyw sylw i’r pryderon a godwyd gan sylwebwyr sy’n awgrymu, er na ellid dadlau ar yr wyneb â’r cysyniad o gronfa gyd-ffyniant—mae’n swnio’n hynod o gynnes a meddal a theg a chyfiawn a bydd gan bawb gyfran ynddi—y dilema yma wrth gwrs yw os caiff hyn ei wneud yn San Steffan, ei benderfynu gan San Steffan, ei ddyrannu gan San Steffan, neu fel arall, ei ddyrannu yn unol â blaenoriaethau gwleidyddol, gallai fod yn annheg iawn yn wir a gall yn wir, yn ôl y gyfraith, wrthdroi’r sefyllfa gyllido bresennol i’r sefydliadau datganoledig. Gallai ei gwneud yn annheg iawn yn wir. Felly, a yw’n rhannu’r pryderon y gallai’r dull hwn newid natur datganoli yn sylfaenol ac ailsefydlu rheolaeth San Steffan dros gyllid datganoledig mewn gwirionedd?
14:27 - Mick Antoniw
You make a number of very valid points. First of all, taking the concept of a shared prosperity fund, it’s unclear, when the Government talks about a shared prosperity fund, what prosperity it’s talking about, whose prosperity it is and how exactly it is going to be shared and who’s going to control that sharing. Of course, there’ve been a number of statements, and the problem with the statements that have come out is they’ve been rather contradictory, in my view, in terms of the nuances: on the one hand, that the process of leaving the EU and the great repeal Bill will result in more powers coming to this place and increased responsibility; but then, on the other hand, there is talk about increasing the unity of the United Kingdom of concepts such as no more ‘devolve and forget’. It’s very unclear exactly what that term means and it could mean that you have a situation where there are increasing areas of responsibility and increasing powers but, of course, in order to exit those responsibilities you’ll need to apply then to the shared prosperity fund, which will then determine the way in which moneys can actually be used and, effectively, be a significant drawing back of the fundamental principles on what devolution has proceeded with ever since 1997 and I think the outcome of the various referendums and commitments that have been given. Rydych yn gwneud nifer o bwyntiau dilys iawn. Yn gyntaf oll, gan gymryd y cysyniad o gronfa gyd-ffyniant, pan fo’r Llywodraeth yn sôn am gronfa gyd-ffyniant, mae’n aneglur am ba ffyniant y mae’n sôn, ffyniant pwy ydyw a sut yn union y mae’n mynd i gael ei rannu a phwy sy’n mynd i reoli’r broses o’i rannu. Wrth gwrs, cafwyd nifer o ddatganiadau, a’r broblem gyda’r datganiadau sydd wedi’u gwneud yw eu bod wedi bod braidd yn anghyson o ran y manylion yn fy marn i: ar y naill law, fod y broses o adael yr UE a’r Bil diddymu mawr yn mynd i arwain at fwy o bwerau’n dod i’r lle hwn a mwy o gyfrifoldeb; ond wedyn, ar y llaw arall, mae yna sôn am gynyddu undod y Deyrnas Unedig a chysyniadau megis dim mwy o ‘ddatganoli ac anghofio’. Mae’n aneglur iawn yn union beth y mae hynny’n ei olygu a gallai olygu bod gennych sefyllfa lle mae mwy o feysydd cyfrifoldeb a phwerau cynyddol, ond wrth gwrs, er mwyn ymadael â’r cyfrifoldebau hynny bydd angen i chi wneud cais felly i’r gronfa gyd-ffyniant, a fydd wedyn yn pennu’r ffordd y gellir defnyddio arian mewn gwirionedd ac i bob pwrpas, gall olygu cryn dipyn o dynnu’n ôl ar egwyddorion sylfaenol o ran yr hyn y mae datganoli wedi bwrw ymlaen ag ef ers 1997 ac yn fy marn i, canlyniad y gwahanol refferenda a’r ymrwymiadau sydd wedi’u rhoi.
So, there is a concern there and it is a matter that will need considerable clarity. I’m not quite sure how or when that clarity may emerge, bearing in mind the current situation. But I think the position of the Welsh Government is this: those areas that are the responsibility of this place, the funding that was promised should come here, and it should come here without strings attached because that is the true nature of decentralisation and devolution. Felly, mae yna bryder ac mae’n fater y bydd angen cryn dipyn o egluro arno. Nid wyf yn hollol siŵr sut neu ba bryd y daw’r eglurder hwnnw, o gofio’r sefyllfa bresennol. Ond rwy’n credu mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw hyn: yn y meysydd sy’n gyfrifoldeb i’r lle hwn, dylai’r cyllid a addawyd ddod yma, a dylai ddod yma heb amodau ynghlwm wrtho oherwydd dyna yw gwir natur datganoli.
14:29 - Adam Price
EU state aid rules are currently a reserved matter. But domestic, or UK, state aid—which is defined as any other grant or form of subsidy that doesn’t involve a distortion to trade across EU borders—is devolved. So, in removing the EU state aid framework, what’s the position of the Welsh Government? Should domestic UK state aid remain a devolved matter? Mae rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE yn fater a gadwyd ôl ar hyn o bryd. Ond mae cymorth gwladwriaethol domestig, neu gymorth gwladwriaethol y DU—a ddiffinir fel unrhyw grant neu ffurf arall ar gymhorthdal nad yw’n cynnwys gwyrdroad i fasnachu ar draws ffiniau’r UE—wedi’i ddatganoli. Felly, drwy gael gwared ar fframwaith cymorth gwladwriaethol yr UE, beth yw sefyllfa Llywodraeth Cymru? A ddylai cymorth gwladwriaethol domestig y DU barhau i fod yn fater datganoledig?
14:30 - Mick Antoniw
Well, once we have left the EU, we are in a position where there will be no state aid issues, particularly as regards the internal market within the whole of the United Kingdom. So, the question that will arise—. Well, two things will happen, I think. First of all is what might there be in respect of transitional arrangements in terms of leaving the European Union, and state aid, I would expect, to actually feature as a significant part of that. Wel, pan fyddwn wedi gadael yr UE, byddwn mewn sefyllfa lle na fydd unrhyw faterion cymorth gwladwriaethol, yn enwedig mewn perthynas â’r farchnad fewnol yn y Deyrnas Unedig i gyd. Felly, y cwestiwn a fydd yn codi—. Wel, bydd dau beth yn digwydd, rwy’n meddwl. Yn gyntaf oll beth allai fod o ran trefniadau trosiannol mewn perthynas â gadael yr Undeb Ewropeaidd, a byddwn yn disgwyl i gymorth gwladwriaethol fod yn rhan sylweddol o hynny mewn gwirionedd.
But one of the key issues that we will be concerned with will, obviously, be the issue of inter-UK trade, and what the arrangements are there. And we’ve seen already issues in terms of how aid and regional support, potential distortions of the market, have been dealt with, with regard to things like air passenger duty, whereby it’s very clear the long-standing policy that that, for example, should be devolved to Wales, and we should have the opportunity to develop air transport in the way in which it fits in within our economic model, where there is an imposed, effectively, state aid obstruction, on the grounds it would distort the internal market. It seems to me that one of the most important issues that is going to arise, in terms of post-EU discussions, is actually what the relationship is going to be between the devolved nations in terms of internal trade. So, I think you’re right to highlight it. How it will work out is very difficult to say. But, clearly, there needs to be a model that is sufficiently flexible to enable the devolved nations to pursue their economic objectives and responsibilities in a much more flexible way than probably exists at the moment. Ond un o’r materion allweddol y byddwn yn ymwneud â hwy, yn amlwg, fydd mater masnachu o fewn y DU, a beth yw’r trefniadau o ran hynny. Ac rydym eisoes wedi gweld materion yn codi o ran sut yr ymdriniwyd â chymorth a chefnogaeth ranbarthol, gwyrdroadau posibl o’r farchnad, mewn perthynas â phethau fel y doll teithwyr awyr, lle mae’n glir iawn y dylid datganoli’r polisi hirsefydlog hwnnw, er enghraifft, i Gymru, a dylem gael y cyfle i ddatblygu trafnidiaeth awyr yn y modd y mae’n cyd-fynd â’n model economaidd, lle y ceir rhwystr cymorth gwladwriaethol, i bob pwrpas, wedi’i osod ar y sail y byddai’n ystumio’r fasnach fewnol. Mae’n ymddangos i mi mai un o’r materion pwysicaf sy’n mynd i godi, o ran y trafodaethau ôl-UE, yw beth fydd y berthynas rhwng y cenhedloedd datganoledig o ran masnach fewnol. Felly, rwy’n meddwl eich bod yn iawn i dynnu sylw at hynny. Mae’n anodd iawn dweud sut y bydd yn datblygu. Ond yn amlwg, mae angen model sy’n ddigon hyblyg i alluogi’r gwledydd datganoledig i ddilyn eu hamcanion a’u cyfrifoldebau economaidd mewn ffordd lawer mwy hyblyg na sy’n bodoli ar hyn o bryd yn ôl pob tebyg.
Deddf Cymru 2017 The Wales Act 2017
14:32 - Simon Thomas
3. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal mewn perthynas â dwyn holl ddarpariaethau Deddf Cymru 2017 i rym? OAQ(5)042(CG)[W] 3. What discussions has the Counsel General held in relation to bringing all of the Wales Act 2017’s provisions into force? OAQ(5)042(CG)[W]
14:32 - Mick Antoniw
Members will know that my advice is legally privileged. However, some of the Wales Act 2017 provisions are already in force, such as the provision on the permanence of the Assembly, the Sewel convention, and powers to change the Assembly’s name. Other provisions will be commenced in accordance with section 71 of the Wales Act. Bydd yr Aelodau’n gwybod bod fy nghyngor yn gyfreithiol freintiedig. Fodd bynnag, mae rhai o ddarpariaethau Deddf Cymru 2017 eisoes mewn grym, megis y ddarpariaeth ar barhauster y Cynulliad, confensiwn Sewel a phwerau i newid enw’r Cynulliad. Bydd darpariaethau eraill yn cychwyn yn unol ag adran 71 o Ddeddf Nghymru.
14:33 - Simon Thomas
I thank the Counsel General for his reply. And I’m not seeking legal advice on the cheap, I assure him. But I’m particularly interested in what I understand to be the powers that will come to this place for us to ban fracking. And I wondered whether the Counsel General could tell us when he expects that part of the Act to be enacted, and whether, indeed, he is aware that the Welsh Government intends to exercise those powers, in order that this Assembly can take steps to ban fracking in Wales. Diolch yn fawr i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Ac nid gofyn am gyngor cyfreithiol yn rhad wyf fi, gallaf ei sicrhau. Ond mae gennyf ddiddordeb arbennig yn yr hyn y deallaf yw’r pwerau a ddaw i’r lle hwn i ni wahardd ffracio. Ac rwy’n meddwl tybed a allai’r Cwnsler Cyffredinol ddweud wrthym pryd y mae’n disgwyl i’r rhan honno o’r Ddeddf gael ei rhoi mewn grym, ac a yw’n ymwybodol, yn wir, fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu arfer y pwerau hynny er mwyn i’r Cynulliad hwn allu cymryd camau i wahardd ffracio yng Nghymru.
14:33 - Mick Antoniw
Okay. Well, the majority of the provisions in the Act, including the move to a reserved-powers model of devolution, are expected to come into force on what is labelled the principal appointed day. Our working expectation is that the Wales Office are working towards a principal appointed day sometime in April 2018. It’s too early to say with certainty what the precise date will be, but, of course, there is an obligation on the Secretary of State to consult with Welsh Ministers, and with the Presiding Officer, before determining that particular date. My understanding is that the Secretary of State for Wales will shortly be writing to the First Minister, and the Presiding Officer, seeking views on the designation of that particular day. Iawn. Wel, mae disgwyl i’r rhan fwyaf o’r darpariaethau yn y Ddeddf, gan gynnwys symud i fodel cadw pwerau o ddatganoli, ddod i rym ar yr hyn a labelwyd yn brif ddydd penodedig. Ein disgwyliad gweithredol yw bod Swyddfa Cymru’n gweithio tuag at brif ddydd penodedig rywbryd ym mis Ebrill 2018. Mae’n rhy gynnar i ddweud gyda phendantrwydd beth fydd yr union ddyddiad, ond wrth gwrs, mae dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i ymgynghori gyda Gweinidogion Cymru, a chyda’r Llywydd, cyn penderfynu ar y dyddiad penodol hwnnw. Fy nealltwriaeth i yw y bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru a’r Llywydd cyn hir, yn gofyn am safbwyntiau ar bennu’r diwrnod penodol hwnnw.
14:34 - Y Llywydd / The Llywydd
Diolch i’r Cwnsler Cyffredinol. I thank the Counsel General.
3. Cwestiynau Amserol 3. Topical Questions
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cwestiynau amserol, ond ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau yr wythnos yma. The next item on our agenda is the topical questions, but no questions were tabled this week.
4. Datganiadau 90 Eiliad 4. 90-second Statements
Felly, yr eitem nesaf yw’r datganiadau 90 eiliad. Darren Millar. So, the next item is the 90-second statements. Darren Millar.
14:34 - Darren Millar
Diolch, Llywydd. Thirty-five years ago, the Falkland islands, a small British overseas territory in the south Atlantic, was invaded by Argentina. The conflict that ensued was a major episode in the protracted confrontation in the territory’s sovereignty. On 5 April 1982, the British Government sent a taskforce of over 100 vessels and 26,000 service personnel to reclaim the islands. While the conflict was fought over a relatively short two-month period, the effects of the horrors of war have had a deep cultural, political and psychological impact on both Britain and Argentina, and in particular, on the gallant servicemen and women who fought on both sides of that conflict. Of course, Welsh servicemen and women were also involved in the heart of the conflict, and the Welsh Guards paid an especially high price for their involvement, with 48 deaths and 97 casualties. Diolch, Lywydd. Dri deg pum mlynedd yn ôl, cafodd ynysoedd Falkland, tiriogaeth Brydeinig fach dramor yn ne’r Iwerydd, ei goresgyn gan yr Ariannin. Roedd y gwrthdaro a ddilynodd yn bennod bwysig yn y gwrthdaro hir ynglŷn â sofraniaeth y diriogaeth. Ar 5 Ebrill 1982, anfonodd Llywodraeth Prydain dasglu o dros 100 o longau a 26,000 o filwyr i adennill yr ynysoedd. Er mai dros gyfnod cymharol fyr o ddau fis y digwyddodd yr ymladd, mae effeithiau erchyllterau rhyfel wedi cael effaith ddiwylliannol, wleidyddol a seicolegol ddofn ar Brydain a’r Ariannin, ac yn arbennig, ar y milwyr dewr a ymladdodd ar ddwy ochr y gwrthdaro. Wrth gwrs, roedd milwyr o Gymru yn cymryd rhan hefyd yng nghanol y gwrthdaro, a thalodd y Gwarchodlu Cymreig bris arbennig o uchel am eu cyfraniad, gyda 48 o farwolaethau a 97 o anafiadau.
As chair of the cross-party group on the armed forces and cadets in the National Assembly, I’ve been immensely pleased to be able to welcome some of those former service veterans and their families to the Senedd here today, as we commemorate the thirty-fifth anniversary of the date of the end of the war. In total, 907 were killed during the 74 days of the conflict—255 British servicemen, 649 Argentine servicemen and three islanders. It’s only right that we remember them today and that we pay tribute to all those involved in the conflict, and especially those who made the ultimate sacrifice in the service of our country. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a chadetiaid yn y Cynulliad Cenedlaethol, rwyf wedi bod yn hynod o falch o allu croesawu rhai o gyn-filwyr y lluoedd arfog a’u teuluoedd i’r Senedd yma heddiw, wrth i ni nodi 35 mlynedd o ddyddiad diwedd y rhyfel. Lladdwyd 907 i gyd yn ystod 74 diwrnod y gwrthdaro—255 o filwyr Prydain, 649 o filwyr yr Ariannin a thri o bobl yr ynys. Nid yw ond yn iawn ein bod yn cofio amdanynt heddiw a’n bod yn talu teyrnged i bawb a oedd yn rhan o’r gwrthdaro, ac yn enwedig y rhai a wnaeth yr aberth eithaf wrth wasanaethu ein gwlad.
14:36 - Y Llywydd / The Llywydd
Nathan Gill. Nathan Gill.
14:36 - Nathan Gill
Thank you, Llywydd. On 5 June, I was devastated to hear the news of the death of my friend and colleague Sam Gould. When Sam was diagnosed with bowel cancer, his reaction was to do what he knew best: to campaign. Through his videos and social media campaign, Sam raised awareness of the symptoms of bowel cancer. His videos have been viewed by over 100,000 people, and comments and messages that we’ve received suggest that many people have found comfort from them, and the strength to go to their GP with their symptoms. Diolch i chi, Lywydd. Ar 5 Mehefin, cefais fy nhristáu’n fawr o glywed y newyddion am farwolaeth fy ffrind a fy nghydweithiwr, Sam Gould. Pan gafodd Sam ddiagnosis o ganser y coluddyn, ei ymateb oedd gwneud yr hyn yr oedd yn fwyaf cyfarwydd â’i wneud, sef ymgyrchu. Trwy ei fideos a’i ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, cododd Sam ymwybyddiaeth o symptomau canser y coluddyn. Mae ei fideos wedi’u gweld yma gan dros 100,000 o bobl, ac mae’r sylwadau a’r negeseuon a ddaeth i law yn awgrymu bod llawer o bobl wedi cael cysur ohonynt, a chryfder i fynd at eu meddyg teulu gyda’u symptomau.
Today, I am proud to join Bowel Cancer UK’s Never Too Young campaign, of which Sam was a supporter. The campaign is focusing on young people and raising awareness that you’re never too young to get bowel cancer. Sam Gould was 33 years old. In Wales each year, 2,335 people are diagnosed with bowel cancer, and nearly 1,000 people die from it, making it the second biggest cancer killer. Unfortunately, younger people often have a worse experience of being diagnosed, treated and cared for than older people. Young people also tend to have poorer outcomes: 60 per cent are diagnosed at the later stages of the disease, and 34 per cent are diagnosed in emergency care, when the chance of survival is much lower. If diagnosed at the early stage of the disease, nearly everyone survives. This drops to around 7 per cent if diagnosed at the later stage. I hope all Members will join with me to help raise awareness for the Never Too Young campaign. Heddiw, rwy’n falch o ymuno ag ymgyrch Never Too Young Bowel Cancer UK yr oedd Sam yn ei chefnogi. Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar bobl ifanc a chodi ymwybyddiaeth nad ydych byth yn rhy ifanc i gael canser y coluddyn. Roedd Sam Gould yn 33 mlwydd oed. Yng Nghymru bob blwyddyn, mae 2,335 o bobl yn cael diagnosis o ganser y coluddyn, ac mae bron i 1,000 o bobl yn marw ohono, gan olygu mai dyma’r canser mwyaf ond un o ran y niferoedd y mae’n eu lladd. Yn anffodus, mae pobl iau yn aml yn cael profiad gwaeth o ran cael diagnosis, triniaeth a gofal na phobl hŷn. Mae pobl ifanc hefyd yn tueddu i gael canlyniadau gwaeth: mae 60 y cant yn cael diagnosis yn ystod camau diweddarach y clefyd, ac mae 34 y cant yn cael diagnosis mewn gofal brys, pan fo’r gobaith o oroesi yn llawer is. O gael diagnosis ar gam cynnar o’r clefyd, mae bron bawb yn goroesi. Mae hyn yn gostwng i tua 7 y cant o gael diagnosis ar y cam diweddarach. Rwy’n gobeithio y bydd pob Aelod yn ymuno â mi i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch Never Too Young.
5. Dadl yn Ceisio Cytundeb y Cynulliad i Gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod—Y Bil Awtistiaeth (Cymru) 5. Debate Seeking the Assembly's Agreement to Introduce a Member-proposed Bill—The Autism (Wales) Bill
14:38 - Y Llywydd / The Llywydd
Yr eitem nesaf ar ein agenda ni yw’r ddadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig Aelod ar Fil Awtistiaeth (Cymru). Ac rwy’n galw ar Paul Davies i wneud y cynnig. The next item on our agenda is the debate seeking the Assembly’s agreement to introduce a Member-proposed Bill on the Autism (Wales) Bill. And I call on Paul Davies to move the motion.
Cynnig NDM6304 Paul Davies Motion NDM6304 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91: To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 26.91:
Yn cytuno y caiff Paul Davies AC gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd ar 4 Mai 2017 o dan Reol Sefydlog 26.91A. Agrees that Paul Davies AM may introduce a Bill to give effect to the information included in the Explanatory Memorandum tabled on 4 May 2017 under Standing Order 26.91A.
Cynigiwyd y cynnig. Motion moved.
14:38 - Paul Davies
Diolch, Llywydd. And I’m delighted to have the opportunity to present an autism Bill to the Assembly. I’d like to put on record my appreciation to the Commission staff who have supported me in this process, and helped put together the accompanying explanatory memorandum. I’d also like to put on record my sincere thanks to the National Autistic Society Cymru for their outstanding support throughout this process, and to the wider autistic community in Wales, who have made it very clear, time and time again, that they want to see an autism Act delivered, to bring about the necessary changes to autism provision and support in Wales. Well, the Assembly is now in the position to permit or deny the delivery of an autism Bill, and I hope that Members from all parties will listen to my arguments and seriously consider giving me leave to introduce this Bill. Diolch, Llywydd. Ac rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i gyflwyno Bil awtistiaeth i’r Cynulliad. Hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad o staff y Comisiwn sydd wedi fy nghefnogi yn y broses hon, ac wedi helpu i roi’r memorandwm esboniadol cysylltiedig at ei gilydd. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch diffuant i Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru am eu cefnogaeth ragorol drwy gydol y broses hon, ac i’r gymuned awtistig ehangach yng Nghymru, sydd wedi dweud yn glir iawn, dro ar ôl tro, eu bod eisiau gweld Deddf awtistiaeth yn cael ei chyflwyno, er mwyn sicrhau’r newidiadau angenrheidiol i ddarpariaeth a chymorth awtistiaeth yng Nghymru. Wel, mae’r Cynulliad bellach mewn sefyllfa i ganiatáu neu wrthod cyflwyno Bil awtistiaeth, ac rwy’n gobeithio y bydd Aelodau o bob plaid yn gwrando ar fy nadleuon ac o ddifrif yn ystyried caniatáu i mi gyflwyno’r Bil hwn.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. The Deputy Presiding Officer (Ann Jones) took the Chair.
Paul Davies
At the very heart of these proposals is to ensure that the provision is there to meet the needs of the 34,000 autistic people in Wales, and also to ensure that autism is given its own statutory identity. The intention of this Bill is to secure consistent and continued provision of all autism services across Wales. At present, the current autism strategic action plan is only in place until 2020, and so there is no certainty of any continued prioritisation of the provision of autism services beyond that point. Yn ganolog i’r cynigion hyn, mae sicrhau bod y ddarpariaeth yno i ateb anghenion y 34,000 o bobl awtistig yng Nghymru, a hefyd i sicrhau bod awtistiaeth yn cael ei hunaniaeth statudol ei hun. Bwriad y Bil yw sicrhau bod pob gwasanaeth awtistiaeth yn cael ei ddarparu’n gyson ac yn barhaus ledled Cymru. Ar hyn o bryd, mae’r cynllun gweithredu strategol cyfredol ar awtistiaeth ar waith tan 2020 yn unig, ac felly nid oes unrhyw sicrwydd y bydd darparu gwasanaethau awtistiaeth yn cael unrhyw flaenoriaeth barhaus wedi hynny.
We know that in both England and Northern Ireland, there is legislation requiring those Governments to publish an autism strategy for adults, and for adults and children respectively, and I hope that Wales will join both of these countries in establishing legislation on a cross-party basis that works to deliver real outcomes for the autism community. By creating a legal requirement to publish an autism strategy via the proposed autism Bill, it will help to ensure a level of permanence in the delivery of care and support services for people living with autism across the country. This proposed Bill would fundamentally at its core ensure a continued and dedicated focus on the needs of people with autism, regardless of the colour of Welsh Governments in the future. People living in Wales with autism can be sure that regardless of the outcome of Assembly elections, the provision of autism services will continue to remain a solid priority for any incoming Welsh Government. In effect, this Bill will depoliticise the provision of autism services and ensure that it will no longer be a political issue. Rydym yn gwybod bod deddfwriaeth yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywodraethau hynny gyhoeddi strategaeth awtistiaeth ar gyfer oedolion, ac ar gyfer oedolion a phlant, ac rwy’n gobeithio y bydd Cymru’n ymuno â’r ddwy wlad i sefydlu deddfwriaeth ar sail drawsbleidiol sy’n gweithio i sicrhau canlyniadau go iawn i’r gymuned awtistiaeth. Trwy greu gofyniad cyfreithiol i gyhoeddi strategaeth awtistiaeth drwy’r Bil awtistiaeth arfaethedig, bydd yn helpu i sicrhau lefel o barhauster o ran darparu gwasanaethau gofal a chymorth i bobl sy’n byw gydag awtistiaeth ar draws y wlad. Byddai’r Bil arfaethedig yn sicrhau bod ffocws parhaus a phwrpasol ar anghenion pobl ag awtistiaeth yn sylfaen ganolog iddo, beth bynnag fo lliw Llywodraethau yn y dyfodol yng Nghymru. Gall pobl ag awtistiaeth sy’n byw yng Nghymru fod yn sicr beth bynnag fo canlyniad etholiadau’r Cynulliad, y bydd darparu gwasanaethau awtistiaeth yn parhau i fod yn flaenoriaeth gadarn i unrhyw Lywodraeth Cymru a ddaw i rym. I bob pwrpas, bydd y Bil hwn yn dadwleidyddoli darparu gwasanaethau awtistiaeth ac yn sicrhau na fydd yn fater gwleidyddol mwyach.
I’m sure all Members will agree that in order to provide effective services, health boards and local authorities need to know the extent of demand in their own local areas. I completely accept that diagnosing autism can be very complex and that it will involve multi-agency and specialist assessments that must be carried out by experts in their field of work. Currently, under the Social Services and Well-Being (Wales) Act 2014, local authorities and health boards are required to produce population assessments to assess the levels of need for care and support services in their areas. I understand that one of the core themes of these population assessments is learning disability, which should include autism. However, there are very real concerns that there is a risk that the distinctive needs of people with autism could be subsumed within the broader category of learning disabilities, meaning that the needs of autistic people go unmet once more. Therefore, this Bill is seeking to establish practices, including the collection of reliable and relevant data, on the numbers and needs of autistic children and adults, so that local areas can plan and co-ordinate the delivery of services accordingly. Rwy’n siŵr y bydd pob Aelod yn cytuno bod angen i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol wybod beth yw maint y galw yn eu hardaloedd lleol eu hunain er mwyn darparu gwasanaethau effeithiol. Rwy’n derbyn yn llwyr fod gwneud diagnosis o awtistiaeth yn gallu bod yn gymhleth iawn ac y bydd yn cynnwys asesiadau amlasiantaethol ac arbenigol sy’n rhaid eu cyflawni gan arbenigwyr yn eu maes gwaith. Ar hyn o bryd, o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd gynhyrchu asesiadau poblogaeth i asesu’r lefelau o angen am wasanaethau gofal a chymorth yn eu hardaloedd. Deallaf mai un o themâu craidd yr asesiadau poblogaeth hyn yw anabledd dysgu, a ddylai gynnwys awtistiaeth. Fodd bynnag, mae yna bryderon go iawn fod yna berygl y gallai anghenion penodol pobl ag awtistiaeth gael eu cynnwys yng nghategori ehangach anableddau dysgu, sy’n golygu unwaith eto na fydd anghenion pobl awtistig yn cael eu diwallu. Felly, mae’r Bil hwn yn ceisio sefydlu arferion, gan gynnwys casglu data dibynadwy a pherthnasol ar niferoedd ac anghenion plant ac oedolion awtistig, fel y gall ardaloedd lleol gynllunio a chydlynu’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu yn unol â hynny.
It’s essential that clear pathways to the diagnosis of autism are established in local areas, and that those affected by autism have access to clear, understandable information about pathways. I sincerely hope that the Welsh Government will publish a best practice diagnostic assessment pathway, including how to access assessment as well as expected waiting times between each stage of the process. It’s so important that parents and families across Wales understand the entire process of care from start to finish, so that they know exactly what they can expect at each stage, and so they are aware of what support is available. Mae’n hanfodol fod llwybrau clir at ddiagnosis awtistiaeth yn cael eu sefydlu mewn ardaloedd lleol, a bod gan y rhai yr effeithir arnynt gan awtistiaeth fynediad at wybodaeth glir a dealladwy am y llwybrau. Rwy’n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi llwybr asesu diagnostig yn seiliedig ar arferion gorau, gan gynnwys sut i gael asesiad yn ogystal ag amseroedd aros disgwyliedig rhwng pob cam o’r broses. Mae mor bwysig fod rhieni a theuluoedd ledled Cymru yn deall holl broses gofal o’r dechrau i’r diwedd, fel eu bod yn gwybod yn union beth y gallant ei ddisgwyl ar bob cam, ac felly eu bod yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael.
This Bill, if given leave to be introduced, would enable health boards across Wales to be accountable in law for the provision of a clear pathway for adults and children. Byddai’r Bil, o gael ei gyflwyno, yn galluogi byrddau iechyd ledled Cymru i fod yn atebol yn gyfreithlon am ddarparu llwybr clir ar gyfer oedolion a phlant.
14:42 - Simon Thomas
Would the Member give way? A wnaiff yr Aelod ildio?
14:42 - Paul Davies
Yes, I will in a minute. Gwnaf, fe wnaf mewn munud.
We all know that it’s so crucial that pathways are in place for families as soon as they’ve visited their GP, as early intervention is vital in developing the right support for someone diagnosed with autism. It’s my view that any pathways established should include a basic awareness campaign, so that families really understand what services and support are available in their local communities. It’s disappointing that, in some parts of Wales, there is no clear and publicly available information on pathways to diagnosis, and so many people find it very difficult to fully understand exactly the process of diagnosis and assessment. Indeed, perhaps there’s even some scope for users of existing pathways and those living with autism to be involved in the process of creating new pathways. Rydym i gyd yn gwybod ei bod mor hanfodol i lwybrau fod ar waith ar gyfer teuluoedd cyn gynted â’u bod wedi ymweld â’u meddyg teulu, gan fod ymyrraeth gynnar yn hanfodol er mwyn datblygu’r cymorth cywir i rywun sy’n cael diagnosis o awtistiaeth. Yn fy marn i, dylai unrhyw lwybrau a sefydlir gynnwys ymgyrch ymwybyddiaeth sylfaenol, fel bod teuluoedd yn deall yn iawn pa wasanaethau a chymorth sydd ar gael yn eu cymunedau lleol. Mae’n siomedig nad oes gwybodaeth glir ar gael i’r cyhoedd mewn rhai rhannau o Gymru ar lwybrau i ddiagnosis, ac felly mae llawer o bobl yn ei chael yn anodd iawn deall beth yn union yw’r broses o gael diagnosis ac asesiad llawn. Yn wir, gallai fod rhywfaint o le hyd yn oed i ddefnyddwyr llwybrau presennol a’r rhai sy’n byw gydag awtistiaeth fod yn rhan o’r broses o greu llwybrau newydd.
Of course, this leads on to the wider point that more information must be made available more generally on autism, and I note that the refreshed autism spectrum disorder strategic action plan does highlight that information, guidance and training materials are being developed through the ASD national team, and the ASD Info Wales website. But I believe it’s important that more localised information should be made available at a much more local and community level. I give way to the Member for Mid and West Wales. Wrth gwrs, mae hyn yn arwain at y pwynt ehangach fod yn rhaid i fwy o wybodaeth fod ar gael yn fwy cyffredinol am awtistiaeth, a nodaf fod y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig ar ei newydd wedd yn tynnu sylw at y ffaith fod gwybodaeth, canllawiau a deunyddiau hyfforddi yn cael eu datblygu drwy dîm cenedlaethol anhwylderau’r sbectrwm awtistig, a gwefan ASD Info Cymru. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig sicrhau bod gwybodaeth fwy lleol ar gael ar lefel lawer mwy lleol a chymunedol. Ildiaf i’r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.
14:43 - Simon Thomas
I’m very grateful for his consideration to give way. I do support, indeed, the principle behind his Bill. I just want to return to the health board point that he was making. One of the difficulties dealing, at the moment, with strategies and plans is that the health sector has not come fully on board, and is that something that the Bill tries to address? Rwy’n ddiolchgar iawn iddo am ystyried ildio. Yn sicr, rwy’n cefnogi’r egwyddor sy’n sail i’w Fil. Rwyf eisiau dychwelyd at y pwynt a wnaeth am y bwrdd iechyd. Un o’r anawsterau o ymdrin ar hyn o bryd â strategaethau a chynlluniau yw nad yw’r sector iechyd wedi cefnogi hyn yn llawn, ac a yw hynny’n rhywbeth y mae’r Bil yn ceisio mynd i’r afael ag ef?
14:44 - Paul Davies
Absolutely, and that’s why we need clear pathways so that people understand what services and what support are actually available, and health boards then will know what services they should be delivering in their local communities. Yn bendant, a dyna pam y mae angen llwybrau clir fel bod pobl yn deall pa wasanaethau a pha gymorth sydd ar gael mewn gwirionedd, a bydd byrddau iechyd yn gwybod wedyn pa wasanaethau y dylent fod yn eu cyflawni yn eu cymunedau lleol.
Of course, a key aspect of this proposed Bill requires staff working with people with autism to receive autism training, and I know that this is an issue that has been raised time and time again. I want to make it clear that the work undertaken by the Welsh Government and the Welsh Local Government Association recently on this particular front is welcome, and that the measures contained in the proposed Bill seek to supplement, not to replace, these measures. It’s essential that autism training is provided to professionals working with autistic people and, where appropriate, mandated, and that should include training plans. Wrth gwrs, mae un agwedd allweddol ar y Bil arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i staff sy’n gweithio gyda phobl ag awtistiaeth i gael hyfforddiant awtistiaeth, a gwn fod hwn yn fater sydd wedi’i godi dro ar ôl tro. Rwyf am ei gwneud yn glir fod croeso i’r gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ddiweddar ar y mater penodol hwn, a bod y mesurau a gynhwysir yn y Bil arfaethedig yn ceisio ychwanegu at, nid cymryd lle’r mesurau hyn. Mae’n hanfodol fod hyfforddiant awtistiaeth yn cael ei ddarparu i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl awtistig a lle bo’n briodol, yn cael ei fandadu, a dylai hynny gynnwys cynlluniau hyfforddi.
Members will be aware that one of the difficulties that children on the autism spectrum face is making sure they get the right help at school, and so it’s important that autism is included in initial teacher training and enhanced with continuous professional development. There is scope for more to be done here with regional partnership boards, local health boards and local authorities, and any plans that are produced should also include time frames by which the effectiveness of those plans could be monitored. The introduction of a specific autism Bill could ensure that key professionals such as teachers have compulsory training in autism, which would go some way to improving the outcomes for children with autism as they develop through to adulthood. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol mai un o’r anawsterau y mae plant ar y sbectrwm awtistig yn eu hwynebu yw gwneud yn siŵr eu bod yn cael y cymorth cywir yn yr ysgol, ac felly mae’n bwysig fod hyfforddiant awtistiaeth wedi’i gynnwys mewn hyfforddiant cychwynnol i athrawon a’i wella gyda datblygiad proffesiynol parhaus. Mae lle i wneud mwy yma gyda byrddau partneriaeth rhanbarthol, byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol, a dylai unrhyw gynlluniau a gynhyrchir gynnwys amserlenni hefyd ar gyfer monitro effeithiolrwydd y cynlluniau. Gallai cyflwyno Bil awtistiaeth penodol sicrhau bod gweithwyr proffesiynol allweddol megis athrawon yn cael hyfforddiant gorfodol mewn awtistiaeth, a fyddai’n mynd beth o’r ffordd at wella canlyniadau i blant ag awtistiaeth wrth iddynt ddatblygu i fod yn oedolion.
It’s absolutely essential— Mae’n gwbl hanfodol—
Mike Hedges a gododd— Mike Hedges rose—
14:45 - Paul Davies
Yes, I will give way. Iawn, fe ildiaf.
14:45 - Mike Hedges
Thank you very much. Can I say from the start that I fully support this Bill? I may, like some other Members here, including the Member for Mid and West Wales, actually have to leave before the vote, but could I put on record my support for it? Can I also say that I think the one thing about it is that it brings clarity and it brings compulsion? I think that those are two very important things, and the danger is that you have one set of advice notes to be followed by another set of advice notes. Legislation gives you clarity and compulsion. Diolch yn fawr iawn. A gaf fi ddweud o’r cychwyn fy mod yn llwyr gefnogi’r Bil hwn? Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i mi, fel rhai o’r Aelodau eraill yma gan gynnwys yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, adael cyn y bleidlais mewn gwirionedd, ond a gaf fi gofnodi fy nghefnogaeth iddo? A gaf fi ddweud hefyd fy mod yn credu mai’r un peth amdano yw ei fod yn cynnig eglurder ac yn sicrhau gorfodaeth? Rwy’n meddwl bod y rheini’n ddau beth pwysig iawn, a’r perygl yw bod gennych un gyfres o nodiadau cyngor yn cael ei dilyn gan gyfres arall o nodiadau cyngor. Mae deddfwriaeth yn rhoi eglurder a gorfodaeth i chi.
14:45 - Paul Davies
Well, I’m grateful to the Member for Swansea East for his support, and I agree with everything that he has just said. Wel, rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Ddwyrain Abertawe am ei gefnogaeth, ac rwy’n cytuno â phopeth y mae newydd ei ddweud.
Now, it’s absolutely essential to encourage co-operation between agencies and workforce training to best support those with autism in Wales. It’s my view that an autism Bill would work with the additional learning needs Bill and other wider work undertaken by the Welsh Government in this area in order to make sure that that progress is delivered. It’s my specific intention for this Bill to work alongside the work of the Welsh Government, not against it, to ensure that the autism community in Wales receives the support that it deserves. Naturally, the Welsh Government’s refreshed strategic action plan is welcome, and my intention is that my Bill would work alongside that to ensure that that provision is maintained beyond 2020. Nawr, mae’n gwbl hanfodol ein bod yn annog cydweithio rhwng asiantaethau ac yn hyfforddi’r gweithlu i allu cefnogi rhai sydd ag awtistiaeth yng Nghymru yn y ffordd orau. Yn fy marn i, byddai Bil awtistiaeth yn gweithio gyda’r Bil anghenion dysgu ychwanegol a gwaith ehangach arall a gyflawnir gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn er mwyn gwneud yn siŵr fod y cynnydd yn digwydd. Fy mwriad penodol ar gyfer y Bil hwn yw iddo weithio ochr yn ochr â gwaith Llywodraeth Cymru, nid yn ei erbyn, er mwyn sicrhau bod y gymuned awtistiaeth yng Nghymru yn cael y gefnogaeth y mae’n ei haeddu. Yn naturiol, mae croeso i gynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar ei newydd wedd, a fy mwriad yw i fy Mil weithio ochr yn ochr â’r cynllun gweithredu er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei chynnal y tu hwnt i 2020.
The new national integrated autism plan does a lot to provide support, advice and intervention for those living with autism in Wales, and, again, I welcome that work, particularly around tackling diagnosis for adults in Wales. I very much believe that my Bill will help strengthen that work by securing the rights of autistic people with a statutory duty. Now, I appreciate that the Welsh Government will argue that the additional learning needs and educational tribunal Bill will provide additional support to people with autism. However, the additional learning needs Bill includes support for children and young people with autism up to the age of 25. Again, whilst that is welcome, my Bill will seek to provide support to all people living with autism and make sure that services are available to all age groups. Mae’r cynllun awtistiaeth integredig cenedlaethol newydd yn gwneud llawer i ddarparu cefnogaeth, cyngor ac ymyrraeth ar gyfer y rhai sy’n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru, ac unwaith eto, rwy’n croesawu’r gwaith hwnnw, yn enwedig o ran mynd i’r afael â diagnosis i oedolion yng Nghymru. Credaf yn gryf y bydd fy Mil yn helpu i gryfhau’r gwaith hwnnw drwy sicrhau hawliau pobl awtistig â dyletswydd statudol. Nawr, rwy’n deall y bydd Llywodraeth Cymru yn dadlau y bydd y Bil anghenion dysgu ychwanegol a’r tribiwnlys addysg yn rhoi cymorth ychwanegol i bobl ag awtistiaeth. Fodd bynnag, mae’r Bil dysgu ychwanegol yn cynnwys cymorth ar gyfer plant a phobl ifanc ag awtistiaeth hyd at 25 oed. Eto i gyd, er bod hynny i’w groesawu, bydd fy Mil yn ceisio darparu cymorth i bawb sy’n byw gydag awtistiaeth a gwneud yn siŵr fod gwasanaethau ar gael i bob grŵp oedran.
Members will be aware that there are still gaps in the provision for autism, and diagnosis times in some parts of Wales are simply far too long. In my own constituency, some children have faced a wait of up to seven years for a diagnosis, and that is simply unacceptable. Now, Hywel Dda health board did recognise that there was an issue in Pembrokeshire and it committed to putting in resources, which has led to an improvement. However, those specific resources have since been removed again, and, sadly, as a result, the improvements in diagnosis has fallen again. Whilst good practice and responsive services are evident in some areas, the local focus of the strategic action plan has meant that provision has remained inconsistent across Wales. Quite simply, there is a need to ensure that people with autism receive quality support wherever they live in Wales. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod bylchau yn dal i fodoli yn y ddarpariaeth ar gyfer awtistiaeth, ac mae amseroedd diagnosis mewn rhai rhannau o Gymru yn llawer rhy hir. Yn fy etholaeth fy hun, mae rhai plant wedi wynebu gorfod aros am hyd at saith mlynedd am ddiagnosis, ac mae hynny’n gwbl annerbyniol. Nawr, fe gydnabu bwrdd iechyd Hywel Dda fod yna broblem yn Sir Benfro ac ymrwymodd i ddarparu adnoddau, sydd wedi arwain at welliant. Fodd bynnag, mae’r adnoddau penodol hynny bellach wedi’u dileu unwaith eto, ac yn anffodus, mae’r gwelliannau yn y lefelau diagnosis wedi disgyn eto o ganlyniad i hynny. Er bod arferion da a gwasanaethau ymatebol i’w gweld mewn rhai ardaloedd, mae ffocws lleol y cynllun gweithredu strategol wedi golygu bod y ddarpariaeth wedi aros yn anghyson ar draws Cymru. Yn syml iawn, mae angen sicrhau bod pobl ag awtistiaeth yn cael cefnogaeth o ansawdd lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru.
Now, I appreciate that some of you have concerns about the implementation and delivery of the autism Act in England, but I want to remind you that we have an opportunity to create a bespoke Bill suited to the needs of the autistic community here in Wales, not anywhere else. It’s important to recognise good practice, whether that’s in England, Northern Ireland or anywhere else, but it’s crucial that we tailor any autism-specific legislation to address the needs of the autism community here in Wales. Nawr, rwy’n derbyn bod gan rai ohonoch bryderon ynglŷn â gweithredu a chyflwyno’r Ddeddf awtistiaeth yn Lloegr, ond rwyf am eich atgoffa fod gennym gyfle i greu Bil pwrpasol sy’n addas i anghenion y gymuned awtistiaeth yma yng Nghymru, ac nid unrhyw le arall. Mae’n bwysig cydnabod arferion da, boed hynny yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu unrhyw le arall, ond mae’n hanfodol ein bod yn teilwra unrhyw ddeddfwriaeth benodol ar awtistiaeth i fynd i’r afael ag anghenion y gymuned awtistiaeth yma yng Nghymru.
Of course, if I’m given leave today to take this Bill to the next stage, I will embark on a significant amount of stakeholder engagement to learn more about the particular needs of the autism community across the country and I will work with the Welsh Government to ensure that those views are appropriately addressed by this Bill. I want to make it clear today that I want to work with the Welsh Government and build on some of the good work we’ve seen in recent months. If the next 13 months prove that the Welsh Government’s ongoing work in this area is resulting in an overwhelming improvement in provision and support for those living with autism here in Wales, then I will be prepared to negotiate with the Government and reconsider the need for legislation in this area based on informed evidence. Wrth gwrs, os caf ganiatâd heddiw i fynd â’r Bil i’r cam nesaf, byddaf yn cychwyn ar gryn dipyn o ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddysgu mwy am anghenion penodol y gymuned awtistiaeth ar draws y wlad a byddaf yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y safbwyntiau hynny’n cael sylw priodol gan y Bil hwn. Rwyf am ei gwneud yn glir heddiw fy mod eisiau gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac adeiladu ar beth o’r gwaith da a welsom yn ystod y misoedd diwethaf. Os yw’r 13 mis nesaf yn profi bod gwaith parhaus Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn arwain at welliant helaeth yn y ddarpariaeth a’r gefnogaeth i’r rhai sy’n byw gydag awtistiaeth yma yng Nghymru, yna byddaf yn barod i drafod gyda’r Llywodraeth ac ailystyried yr angen am ddeddfwriaeth yn y maes hwn yn seiliedig ar dystiolaeth ar sail gwybodaeth.
I’d also like to take this opportunity to remind Members that the call for an autism Act in Wales has not come from Assembly Members or politicians, but from the autism community itself. This would be a Bill created by the autism community for the autism community, and I believe that we owe them the right to further explore the need for that legislation to be introduced. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i atgoffa’r Aelodau nad yw’r galw am Ddeddf awtistiaeth yng Nghymru wedi dod gan Aelodau’r Cynulliad neu wleidyddion, ond gan y gymuned awtistiaeth ei hun. Byddai hwn yn Fil a grëwyd gan y gymuned awtistiaeth ar gyfer y gymuned awtistiaeth, ac rwy’n credu bod arnom yr hawl iddynt i archwilio ymhellach yr angen i gyflwyno’r ddeddfwriaeth honno.
This proposed Bill is looking to create a level playing field in access to services for autistic people wherever they live, and will put a statutory duty on local authorities and health boards to deliver those services. I hope that the Welsh Government will be open-minded to this proposed legislation, because all of us in this Chamber want the same thing: to see real and vast improvements to the provision and delivery of services in Wales. Last year, the Minister made it very clear that the door is very much open to autism legislation in Wales, and I sincerely hope that is still the case. I therefore urge Members to support this motion. Mae’r Bil arfaethedig hwn yn anelu at sicrhau chwarae teg o ran mynediad at wasanaethau ar gyfer pobl awtistig lle bynnag y maent yn byw, a bydd yn rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i ddarparu’r gwasanaethau hynny. Gobeithiaf y bydd gan Lywodraeth Cymru feddwl agored ynglŷn â’r ddeddfwriaeth arfaethedig hon, gan fod pob un ohonom yn y Siambr hon eisiau yr un peth: gweld gwelliannau gwirioneddol a helaeth i’r modd y caiff gwasanaethau eu cyflenwi a’u darparu yng Nghymru. Y llynedd, gwnaeth y Gweinidog yn glir iawn fod y drws yn agored iawn i ddeddfwriaeth awtistiaeth yng Nghymru, ac rwy’n mawr obeithio bod hynny’n dal i fod yn wir. Felly, rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi’r cynnig hwn.
14:50 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you. I call on the Minister for Social Services and Public Health, Rebecca Evans. Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans.
14:50 - Rebecca Evans
Thank you, Deputy Presiding Officer. I welcome the opportunity to speak in this debate today and to reaffirm the Welsh Government’s strength of commitment to delivering the improvements that people with autism, their parents and their carers tell us they want to see. Since we last debated autism in this Chamber, good progress has been made. The implementation of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 has now reached its first anniversary and it is beginning to transform the way that people receive care and support. We published a new strategic action plan for autism, completely in response to what people with autism and their families told us that they wanted to see, and we’re already delivering the priorities in this plan, including investing £13 million in our new national integrated autism service, which is a real game changer in the way that we meet the needs of people with autism. Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw ac i ailddatgan cryfder ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni’r gwelliannau y mae pobl ag awtistiaeth, eu rhieni a’u gofalwyr yn dweud wrthym eu bod am eu gweld. Ers i ni drafod awtistiaeth ddiwethaf yn y Siambr hon, mae cynnydd da wedi’i wneud. Mae blwyddyn bellach ers i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gael ei rhoi mewn grym ac mae’n dechrau trawsnewid y ffordd y mae pobl yn cael gofal a chymorth. Cyhoeddasom gynllun gweithredu strategol newydd ar gyfer awtistiaeth, yn gyfan gwbl mewn ymateb i’r hyn y dywedodd pobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd wrthym eu bod eisiau ei weld, ac rydym eisoes yn cyflawni’r blaenoriaethau yn y cynllun hwn, yn cynnwys buddsoddi £13 miliwn yn ein gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol newydd, sy’n newid go iawn i’r ffordd rydym yn diwallu anghenion pobl ag awtistiaeth.
As I set out in my written statement on autism at the end of November, the Welsh Government has the powers and the policy levers we need to deliver the improvements in services and support that people with autism, and their parents and carers, tell us they want to see. I have said that we’ll keep an open mind to the need for more legislation once we can assess the evidence on the outcomes of the new autistic spectrum disorder strategic action plan and the national integrated autism service. Nonetheless, I am pleased to announce today that I will, in this Assembly term, introduce statutory guidance on autism under the social services and well-being Act to underpin delivery of the strategic action plan. This will ensure that statutory bodies understand their responsibilities towards people with autism and take action to meet those needs. As the First Minister has previously stated in this Chamber, I’m exploring how we can introduce legislation to put the autism spectrum strategic action plan on a statutory footing, and I know that this goes to the heart of what Paul Davies has been speaking about in his speech today, and that Members here and people affected by autism will welcome this. Fel y nodais yn fy natganiad ysgrifenedig ar awtistiaeth ar ddiwedd mis Tachwedd, mae gan Lywodraeth Cymru y pwerau a’r ysgogiadau polisi sydd eu hangen arnom i gyflawni’r gwelliannau i wasanaethau a chymorth y mae pobl ag awtistiaeth, eu rhieni a’u gofalwyr, yn dweud wrthym eu bod am eu gweld. Rwyf wedi dweud y byddwn yn cadw meddwl agored ynglŷn â’r angen am fwy o ddeddfwriaeth ar ôl i ni allu asesu’r dystiolaeth ar ganlyniadau’r cynllun gweithredu strategol newydd ar anhwylderau’r sbectrwm awtistig a’r gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol. Serch hynny, mae’n bleser gennyf gyhoeddi heddiw y byddaf, yn ystod y tymor Cynulliad hwn, yn cyflwyno canllawiau statudol ar awtistiaeth o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant i ategu’r gwaith o gyflawni’r cynllun gweithredu strategol. Bydd hyn yn sicrhau bod cyrff statudol yn deall eu cyfrifoldebau tuag at bobl ag awtistiaeth ac yn gweithredu i ddiwallu’r anghenion hynny. Fel y mae’r Prif Weinidog wedi datgan o’r blaen yn y Siambr hon, rwy’n archwilio sut y gallwn gyflwyno deddfwriaeth i roi’r cynllun gweithredu strategol ar y sbectrwm awtistig ar sail statudol, a gwn fod hyn yn mynd at wraidd yr hyn y siaradodd Paul Davies amdano yn ei araith heddiw, ac y bydd yr Aelodau yma a phobl yr effeithir arnynt gan awtistiaeth yn croesawu hyn.
I’ve already made a clear commitment in the strategic action plan to monitor the progress that we’re making. Since our last debate, I’ve established an ASD implementation advisory group, which met for the first time in March. Membership includes people with autism, their parents and carers, their representative organisations and statutory delivery organisations. This group will advise me on what’s working well and where improvements must be made. Since our last debate, I have committed to publishing an annual report that will focus on the improvements being directly experienced by people with autism and their families and carers. We want to know how their day-to-day lives are getting better and that they are receiving the support that they need. Rwyf eisoes wedi gwneud ymrwymiad clir yn y cynllun gweithredu strategol i fonitro’r cynnydd rydym yn ei wneud. Ers ein dadl ddiwethaf, rwyf wedi sefydlu grŵp cynghori ar weithredu ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig, ac fe gyfarfu am y tro cyntaf ym mis Mawrth. Mae’r aelodaeth yn cynnwys pobl sydd ag awtistiaeth, eu rhieni a’u gofalwyr, sefydliadau sy’n eu cynrychioli a sefydliadau cyflawni statudol. Bydd y grŵp hwn yn fy nghynghori ar yr hyn sy’n gweithio’n dda a lle mae’n rhaid gwella. Ers ein dadl ddiwethaf, rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi adroddiad blynyddol a fydd yn canolbwyntio ar y gwelliannau a brofir yn uniongyrchol gan bobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd a’u gofalwyr. Rydym eisiau gwybod sut y mae eu bywydau o ddydd i ddydd yn gwella a’u bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Parents are rightly concerned about waiting times for assessment and diagnosis. I am pleased to report that, through our Together for Children and Young People programme, we are making £2 million available each year to improve neurodevelopmental assessment services. We have introduced a new 26-week waiting time target from referral to first appointment, and we have already put in place a new, nationally agreed children’s assessment pathway right across Wales, so that families know what to expect when their child is referred for assessment and that there’s consistency wherever they live. Mae rhieni yn bryderus iawn ynglŷn ag amseroedd aros am asesiad a diagnosis, a hynny’n ddigon teg. Trwy ein rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, rwy’n falch o ddweud ein bod yn rhyddhau £2 filiwn bob blwyddyn i wella gwasanaethau asesu niwroddatblygiadol. Rydym wedi cyflwyno targed amser aros newydd o 26 wythnos rhwng atgyfeiriad ac apwyntiad cyntaf, ac rydym eisoes wedi rhoi llwybr asesu plant newydd y cytunwyd arno’n genedlaethol ar waith ledled Cymru, fel bod teuluoedd yn gwybod beth i’w ddisgwyl pan fydd eu plentyn yn cael ei gyfeirio i gael asesiad a bod yna gysondeb lle bynnag y maent yn byw.
The Cabinet Secretary for health and I have been very clear with health boards about the priority that the Welsh Government puts on meeting the needs of people with autism. We know that many people with autism may not be eligible for social care services, but they still have significant support needs, which, if not addressed early, can escalate. Through the new, all-age national integrated autism service, we will be supporting people living with autism and their families when they need it most. Support and advice will be available from a range of specialist professions, including speech and language therapy, occupational therapy and psychology. There will also be community workers in every local authority to support and assist with day-to-day issues. The service will provide advice and support in relation to things such as managing anxiety, social skills, daily living skills and accessing other services such as healthcare, employment support and housing. So, this service is now becoming a reality. It’s already up and running in Powys, and, over the next few months, it will be rolled out in Cardiff and the Vale, Gwent and Cwm Taf. All of the remaining regions will start developing the service this year, and I look forward to Wales being the first nation to deliver a fully national integrated autism service by 2018, a year ahead of our own original schedule. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau wedi dweud yn glir iawn wrth y byrddau iechyd ynglŷn â’r flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ddiwallu anghenion pobl ag awtistiaeth. Gwyddom efallai nad yw llawer o bobl ag awtistiaeth yn gymwys i gael gwasanaethau gofal cymdeithasol, ond mae’n dal i fod ganddynt anghenion cymorth sylweddol, a allai waethygu os nad eir i’r afael â hwy’n gynnar. Trwy’r gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol newydd i rai o bob oed, byddwn yn rhoi cefnogaeth i bobl sy’n byw gydag awtistiaeth a’u teuluoedd pan fyddant fwyaf o’i angen. Bydd cymorth a chyngor ar gael gan ystod o broffesiynau arbenigol, gan gynnwys therapi iaith a lleferydd, therapi galwedigaethol a seicoleg. Bydd gweithwyr cymunedol ar gael hefyd ym mhob awdurdod lleol i gefnogi a chynorthwyo gyda materion o ddydd i ddydd. Bydd y gwasanaeth yn darparu cyngor a chefnogaeth mewn perthynas â phethau megis rheoli pryder, sgiliau cymdeithasol, sgiliau bywyd bob dydd a chael gafael ar wasanaethau eraill fel gofal iechyd, cymorth cyflogaeth a thai. Felly, mae’r gwasanaeth hwn bellach yn dod yn realiti. Mae eisoes ar waith ym Mhowys, a dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd yn cael ei gyflwyno yng Nghaerdydd a’r Fro, Gwent a Chwm Taf. Bydd pob un o’r rhanbarthau sy’n weddill yn dechrau datblygu’r gwasanaeth eleni, ac edrychaf ymlaen at weld Cymru yn dod yn wlad gyntaf i ddarparu gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol llawn erbyn 2018, flwyddyn cyn ein hamserlen wreiddiol ein hunain.
In recognition of the importance that I attach to this service, I’ve increased the funding available from £6 million to £13 million, meaning that all regions will receive funding for the rest of this Assembly term, creating a long-term and sustainable service across Wales. This is all very exciting, but I do understand the frustration felt by many families struggling to access the help that they need now. Our plans in Wales are ambitious, and, whilst many are still in the early stages of delivery, there is support available. What’s become clear to me when I’ve met with parents and carers and people with autism, is that families are not always aware of the new services being developed and the resources that they can already access. Our ASD Info Wales website is an essential source of information, and we do need all organisations supporting people with autism in Wales to play their part and work with us in raising awareness of what is on offer. I gydnabod pa mor bwysig yw’r gwasanaeth hwn yn fy marn i, rwyf wedi cynyddu’r cyllid sydd ar gael o £6 miliwn i £13 miliwn, sy’n golygu y bydd pob rhanbarth yn cael cyllid ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn, gan greu gwasanaeth hirdymor a chynaliadwy ar draws Cymru. Mae hyn i gyd yn gyffrous iawn, ond rwy’n deall y rhwystredigaeth a deimlir gan lawer o deuluoedd sy’n ei chael yn anodd cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt yn awr. Mae ein cynlluniau yng Nghymru yn uchelgeisiol, ac er ei bod yn ddyddiau cynnar ar lawer ohonynt, mae cymorth ar gael. Yr hyn sy’n dod yn amlwg i mi wrth i mi gyfarfod â rhieni a gofalwyr a phobl ag awtistiaeth, yw nad yw teuluoedd bob amser yn ymwybodol o’r gwasanaethau newydd sy’n cael eu datblygu a’r adnoddau y gallant wneud defnydd ohonynt eisoes. Mae ein gwefan ASD Info Cymru yn ffynhonnell hanfodol o wybodaeth, ac mae angen i bob sefydliad sy’n cefnogi pobl ag awtistiaeth yng Nghymru chwarae eu rhan a gweithio gyda ni i godi ymwybyddiaeth o’r hyn sydd ar gael.
Many Members will raise the issue of education in this debate. For children and young people with autism to have a positive educational experience, educational settings should provide a learning environment where they feel safe, where they’re understood by their peers, by teaching staff and by non-teaching staff, and are able to learn. Our Learning with Autism programme has proved tremendously popular in school settings, and I can announce today that it is now being adapted for further education and work-based learning settings too. Members will know that the additional learning needs transformation programme is already under way, and is delivering improvements in practice now, which will benefit learners in the current system and in the future system, as proposed by the ALN Bill. Bydd llawer o’r Aelodau yn crybwyll mater addysg yn y ddadl hon. Er mwyn i blant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth gael profiad addysgol cadarnhaol, dylai sefydliadau addysgol ddarparu amgylchedd dysgu lle maent yn teimlo’n ddiogel, lle cânt eu deall gan eu cyfoedion, gan staff addysgu a chan staff nad ydynt yn addysgu, a lle y gallant ddysgu. Mae ein rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth wedi bod yn hynod o boblogaidd mewn ysgolion, a gallaf gyhoeddi heddiw ei bod bellach yn cael ei haddasu ar gyfer addysg bellach a lleoliadau dysgu seiliedig ar waith hefyd. Bydd yr Aelodau’n gwybod bod y rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol eisoes ar y gweill, ac yn cyflawni gwelliannau mewn ymarfer yn awr, a fydd o fudd i ddysgwyr yn y system gyfredol ac yn y system yn y dyfodol, fel yr argymhellwyd gan y Bil anghenion dysgu ychwanegol.
I’d like to take this opportunity to thank all people with autism and their families who are helping us deliver our new ‘Can you see me?’ campaign, to raise awareness of autism in the community. Fronted by Gethin Jones, it is being widely supported across local communities, including by businesses and local facilities such as leisure centres, showing what we can do when we work together and when we put the power in the hands of people with autism and their families. Hoffwn fachu ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl bobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd sy’n ein helpu i gyflawni ein hymgyrch newydd, ‘Weli di fi?’ i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth yn y gymuned. Caiff ei chyflwyno gan Gethin Jones, ac mae’n cael cefnogaeth eang yn y cymunedau lleol, gan gynnwys busnesau a chyfleusterau lleol megis canolfannau hamdden, gan ddangos beth y gallwn ei wneud pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd a phan fyddwn yn rhoi’r grym yn nwylo pobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd.
I believe that we are taking the right action to improve the current system of support for people with autism, but I also recognise that it is early days in seeing the benefits of our new, significant investment. As a result, the Welsh Government will be abstaining on Paul Davies’s proposal today, which means that the draft legislation can move ahead and will be worked on over the next year. At the same time, Welsh Government will continue to move ahead with delivering our social services and well-being Act, our ASD strategic action plan and our national integrated autism service. Paul and I have had a number of very constructive meetings on this issue, and I look forward to meeting him again to work together to further refine those milestones that we will seek to deliver over the coming months to ensure that they’re focused on the outcomes and demonstrable improvements to the lives of people with autism and their families, which we can all agree is what we all want to see. Thank you, Deputy Presiding Officer. Credaf ein bod yn rhoi’r camau cywir ar waith i wella’r system bresennol o gymorth i bobl ag awtistiaeth, ond rwyf hefyd yn cydnabod ei bod yn ddyddiau cynnar o ran gweld manteision ein buddsoddiad newydd sylweddol. O ganlyniad, bydd Llywodraeth Cymru yn ymatal ar gynnig Paul Davies heddiw, sy’n golygu y gall y ddeddfwriaeth ddrafft symud yn ei blaen ac y bydd gwaith yn digwydd arni dros y flwyddyn nesaf. Ar yr un pryd, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i symud ymlaen gyda’r gwaith o gyflawni ein Deddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, ein cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig a’n gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol. Mae Paul a minnau wedi cael nifer o gyfarfodydd adeiladol iawn ar y mater hwn, ac edrychaf ymlaen at ei gyfarfod eto i weithio gyda’n gilydd i fireinio rhagor ar y cerrig milltir y byddwn yn ceisio eu cyflwyno dros y misoedd nesaf er mwyn sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar y canlyniadau a gwelliannau amlwg i fywydau pobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd, sef yr hyn y gall pawb ohonom gytuno ein bod am ei weld. Diolch, Dirprwy Lywydd.
14:58 - Rhun ap Iorwerth
Diolch yn fawr i Paul Davies am gyflwyno'r Bil yma. Mae Plaid Cymru hefyd wedi bod yn gefnogol i alwadau gan bobl am ddeddfwriaeth er mwyn amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl awtistig yng Nghymru, yn ogystal â’u teuluoedd a gofalwyr—deddfwriaeth a fyddai’n gwella’r gwasanaeth mae pobl yn ei dderbyn a chyflymu’r broses o gael diagnosis. Pleidlais rydd fydd hon, ac mi fyddaf i yn sicr yn cefnogi’r cynnig i gyflwyno Bil awtistiaeth (Cymru) yn y cam cychwynnol yma. Rwy’n disgwyl y bydd yr Aelodau ar yr un meinciau â fi yn gwneud hynny hefyd, fel y gwnaethon nhw bleidleisio o blaid yr egwyddor i Fil awtistiaeth pan fuom ni yn ei drafod o yma yn y Senedd yn ôl ym mis Hydref. Thank you very much to Paul Davies for introducing this Bill. Plaid Cymru has been supportive of demands for legislation to safeguard and protect the rights of autistic people in Wales, as well as their families and carers—legislation that would improve the services accessed by people and would improve diagnosis. There will be a free vote on this. I certainly will be supporting the motion to introduce an autism (Wales) Bill is this initial stage, and I expect fellow Members on these benches to also do that, just as they voted in favour of the principle of an autism Bill when we discussed it here in the Senedd back in October.
Rydw i wedi clywed yr hyn oedd gan y Gweinidog i’w ddweud, sef ei bod hi’n credu bod yna ffyrdd eraill o gyflwyno'r math o newidiadau a allai fod yn ddefnyddiol. Ond, wrth gwrs, roedd hi yn ymwybodol bod yna siom bod Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi pleidleisio yn erbyn ar yr adeg yna. Ac, o ran nodi hefyd ar y cofnod, os caf i, rwy’n deall bod un Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud wrth bapur newydd yn ei hetholaeth yn Wrecsam na all hi gefnogi heddiw ac mai ymatal y mae hi’n gorfod ei wneud oherwydd ei bod hi yn Weinidog. I have heard the comments made by the Minister that she believes that there are alternative means of introducing the kinds of changes that could be helpful. But, of course, she was aware that there was some disappointment that Labour and the Liberal Democrats had voted against the Bill at that point. Also, to put this on the record, if I may, I understand that one Cabinet Secretary has told a local newspaper in her constituency in Wrexham that she cannot support this today and that she has to abstain because of the fact she is a Minister.
I’ll quote from that article: Fe ddyfynnaf o’r erthygl honno:
‘As is always the case with Proposed Members’ Bills’, Fel sydd bob amser yn wir gyda Biliau Arfaethedig Aelodau,
she says, meddai,
‘Cabinet Secretaries and Ministers of the Welsh Government are unable to cast a vote and, therefore, I will be abstaining.’ nid yw Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn gallu bwrw pleidlais ac felly byddaf yn ymatal.
That is not actually correct, is it? Because I have a list here of all the Government Ministers that voted against Dai Lloyd’s proposed Member’s Bill on protecting historic place names in Wales. Nid yw hynny’n gywir mewn gwirionedd, nac ydy? Oherwydd mae gennyf restr yma o’r holl Weinidogion Llywodraeth a bleidleisiodd yn erbyn Bil Arfaethedig Aelod Dai Lloyd ynglŷn â diogelu enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru.
At yr hyn sy’n cael ei gynnig, yntefe, mi fydd y Bil anghenion dysgu ychwanegol yn gwella cefnogaeth a darpariaeth ar gyfer unigolion mewn addysg, ond mae angen rhywbeth ar gyfer unigolion y tu allan i addysg hefyd. Weithiau, nid ydy pobl yn cael diagnosis tan eu bod nhw’n oedolion, er enghraifft. Mae angen i gefnogaeth fod ar gael i bobl o bob oed. Rydw i’n ofni bod momentwm positif strategaeth awtistiaeth Llywodraeth Cymru wedi pallu rhywfaint erbyn hyn. Mae yna rŵan achosion ar draws Cymru, rydw i’n meddwl, lle nad ydy’r strategaeth ddim i’w gweld yn gweithio i bobl awtistig a’u teuluoedd, ac yn gadael rhai efo ychydig neu ddim cefnogaeth, a ddim yn gallu byw bywyd y byddan nhw’n ei ddewis ac yn haeddu gallu ei fyw. Felly, dyna pam rydw i’n cytuno bod angen deddfu. In terms of what’s being proposed here, the additional learning needs Bill will improve support and provision for individuals in education, but we need something for individuals outwith education too. On occasion, people don’t receive a diagnosis until they are adults, and support needs to be available for people of all ages. I fear that the positive momentum of the Welsh Government’s autism strategy has declined a little. There are cases now across Wales where the strategy doesn’t seem to be working for autistic people and their families, and is leaving some with little or no support, and they then can’t live the life that they would choose and deserve to live. That’s why I agree that we need legislation.
Rydw i’n croesawu’r amcan yn y Bil i sicrhau llwybr clir a chyson i gael diagnosis o awtistiaeth yn lleol, achos rydym ni’n gwybod bod y ddarpariaeth yn anghyson ar draws Cymru, ac mae’r diagnosis yna mor bwysig. Fel dywedodd un eiriolwr awtistig o ogledd Cymru wrthyf i’r wythnos yma: I welcome the objective in the Bill to provide a clear pathway to diagnosis for autism locally, because we know that the provision is inconsistent across Wales and that diagnosis is so important. As one autism advocate told me in north Wales this week:
‘Receiving a diagnosis didn’t miraculously magic my autism away, but it did give me that deeper understanding and the permission to take the time to understand myself.’ Ni wnaeth cael diagnosis gael gwared ar fy awtistiaeth yn wyrthiol, ond rhoddodd ddealltwriaeth ddyfnach i mi a chaniatâd i gymryd amser i ddeall fy hun.
Rydw i hefyd yn croesawu’r amcan i gasglu data dibynadwy a pherthnasol. Heb y wybodaeth yma mae hi’n anodd iawn i awdurdodau lleol allu cynllunio’n briodol ar gyfer y gefnogaeth sydd ei hangen ar deuluoedd ac oedolion ar y sbectrwm awtistiaeth. Rydw i’n gwybod yn y gorffennol fod grŵp awtistiaeth yn Ynys Môn wedi poeni bod cyllido fel petai’n cael ei wneud ar sail poblogaeth yn hytrach nag ar sail anghenion. Mae angen y data er mwyn cael at waelod hynny. I also welcome the objective to gather reliable and relevant data, because, without this information, it’s very difficult for local authorities to plan appropriately for the support required by families and adults on the autistic spectrum. I know that, in the past, an autism group in Anglesey had been worried that funding seemed to be provided on a population basis rather than on a needs basis. We need the data in order to get to the heart of that problem.
Rydw i’n cytuno hefyd efo’r amcanion i wneud yn siŵr bod staff yn cael hyfforddiant awtistiaeth, bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn deall y camau angenrheidiol i roi cymorth amserol, er mwyn gwneud yn siŵr bod gan unigolion ac awdurdodau y ddealltwriaeth i allu cefnogi pobl ar y sbectrwm yn iawn. Mae ymddygiad unigolion ag awtistiaeth yn gallu bod yn gymhleth ac yn anodd i’w ddilyn ac i’w ddeall, felly mae’n bwysig bod yr hyfforddiant yna ar gael. I also agree with the objectives on ensuring that staff are given training on autism, and that local authorities and health boards do understand the necessary steps to providing timely support, in order to ensure that individuals and authorities have the understanding to support people on the spectrum. The behaviour of individuals with autism can be complex and difficult to understand, so it’s important that that training is available.
I gloi, un mater arall rydym ni’n sicr yma ym Mhlaid Cymru eisiau mynd i’r afael ag o ydy’r rhagfarn yn erbyn pobl ar y sbectrwm awtistig. Yn anffodus, er enghraifft, mae rhagfarn gan gyflogwyr yn dal i atal nifer o bobl rhag gallu cael swyddi maen nhw’n fwy nag abl i’w gwneud, ac mi ddangosodd arolwg diweddar gan y gymdeithas awtistiaeth mai dim ond un ym mhob 10 o oedolion awtistig oedd mewn cyflogaeth. Mae hynny’n gwbl, gwbl annerbyniol, a pan fuom ni’n trafod y Bil awtistiaeth yn y Senedd yn yr hydref mi wnaeth Bethan Jenkins gyfeirio hefyd at nifer o enghreifftiau o ragfarn mewn ysgolion hefyd, a’r effaith mi oedd hynny yn ei chael ar blant a’u rhieni. To conclude, one other issue that we in Plaid Cymru certainly want to tackle is the prejudice against people on the autism spectrum. Unfortunately, there is prejudice often from employers and that often holds people back from obtaining jobs that they are more than able to carry out. A recent survey by the autism society showed that only 1 in 10 autistic adults were in employment. That is entirely unacceptable. When we discussed the autism Bill in the Senedd in October, Bethan Jenkins referred to a number of cases of prejudice in schools too, and the impact that that has on children and their parents.
Felly, i gloi, ac wrth ddiolch eto am gyflwyno’r cynnig deddfwriaethol yma, mi ofynnaf i tybed a ydy hynny’n rhywbeth mae’r Aelod wedi ei ystyried wrth gyflwyno’r Bil—a ydy o’n teimlo bod y Bil arfaethedig yn delio â hynny, neu a oes yna rywbeth pellach y gallem ni fod yn ei wneud ar y mater yna’n benodol? So, to conclude, and in thanking you for bringing forward this legislative proposal, I will ask whether that is something that the Member considered in introducing the Bill—does he feel that the proposed Bill does deal with that issue or is there something further that we could be doing on that particular issue?
15:03 - Lynne Neagle
I’m pleased to make a brief contribution in this debate today. I was grateful to the National Autistic Society Cymru for meeting with me after the last time we discussed this. Their passion and also their palpable frustration on behalf of the families they support was really powerful and made a very big impression on me. I am also aware from my own casework of the battles that families often face to get a diagnosis and then to ensure that the support they need is in place. It is on that basis that I will be voting for this Bill to proceed today. Rwy’n falch o gyfrannu’n fyr yn y ddadl hon heddiw. Roeddwn yn ddiolchgar i Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru am gyfarfod â mi ar ôl y tro diwethaf y buom yn trafod hyn. Roedd eu hangerdd a hefyd eu rhwystredigaeth amlwg ar ran y teuluoedd y maent yn eu cefnogi yn bwerus a gwnaeth argraff fawr iawn arnaf. Rwyf hefyd yn ymwybodol o fy ngwaith achos fy hun o’r brwydrau y mae teuluoedd yn aml yn eu hwynebu er mwyn cael diagnosis ac yna i sicrhau bod y cymorth sydd ei angen arnynt yn ei le. Ar y sail honno y byddaf yn pleidleisio dros adael i’r Bil hwn fynd rhagddo heddiw.
I do, as Paul knows, have reservations about the approach of legislating for a particular condition, as I believe that legislation like the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 and the ALN Bill that’s currently going through the Assembly should, if they are working correctly, deliver for all our citizens on the basis of need. I think we do need to consider as well the implications of such a precedent going forward, as services for people with autism is not the only area where there is an urgent need for service improvement, in my view. I also think that if this goes forward it is essential that we fully consider any unintended consequences of legislating on a particular condition, and that we explore any risk that such legislation may impact on our ability to respond to others on the basis of need, and I am thinking in particular here of other children who need prompt access to CAMHS. Fel y gŵyr Paul, mae gennyf amheuon ynglŷn â’r dull o ddeddfu ar gyfer cyflwr penodol, gan fy mod yn credu, os ydynt yn gweithio’n iawn, y dylai deddfwriaeth fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Bil anghenion dysgu ychwanegol sy’n mynd drwy’r Cynulliad ar hyn o bryd ddarparu ar gyfer pawb o’n dinasyddion ar sail angen. Rwy’n credu bod angen i ni ystyried goblygiadau cynsail o’r fath yn y dyfodol hefyd, gan nad gwasanaethau i bobl ag awtistiaeth yw’r unig faes lle mae angen gwella gwasanaethau’n ddybryd yn fy marn i. Rwyf hefyd yn meddwl, os yw hyn yn mynd yn ei flaen, ei bod hi’n hanfodol ein bod yn ystyried yn llawn unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn sgil deddfu ar gyflwr penodol, a’n bod yn archwilio unrhyw berygl y gallai deddfwriaeth o’r fath effeithio ar ein gallu i ymateb i eraill ar sail angen, ac rwy’n meddwl yn benodol yma am blant eraill sydd angen mynediad prydlon at wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed.
However, I do think that this Bill is very worthy of further consideration and I hope that, if it proceeds today, it will provide a major impetus for service improvements in this area. I welcome the constructive approach taken by Paul Davies and his opening remarks, and also the positive comments of the Minister, who I know has a particular commitment to deliver in this area. What we all want is to ensure that families get the support that they need, and I hope that, if this Bill proceeds today, it will be a major step forward in that direction. Thank you. Fodd bynnag, rwy’n credu bod y Bil hwn yn llawn haeddu ystyriaeth bellach ac rwy’n gobeithio, os yw’n mynd rhagddo heddiw, y bydd yn rhoi hwb mawr i wella gwasanaethau yn y maes hwn. Rwy’n croesawu agwedd adeiladol Paul Davies a’i sylwadau agoriadol, yn ogystal â sylwadau cadarnhaol y Gweinidog, y gwn fod ganddi ymrwymiad penodol i gyflawni yn y maes hwn. Yr hyn y mae pawb ohonom ei eisiau yw sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, ac rwy’n gobeithio, os yw’r Bil yn mynd rhagddo heddiw, y bydd yn gam mawr ymlaen i’r cyfeiriad hwnnw. Diolch.
15:05 - Mark Isherwood
On 21 January 2015, I led an individual Member’s debate here that called on the Welsh Government to introduce an autism Act for Wales, and Members voted in favour. Eight months ago, I led a non-partisan debate recognising the need for specific legislation for autism and calling on the Welsh Government to bring forward an autism (Wales) Bill during the fifth Assembly term. Its defeat, on party lines, caused huge distress, and I pray that we can move beyond this today and deliver, at last, for the autism community in Wales. I therefore thank my colleague Paul Davies for bringing forward proposals today to ensure that autism has a proper statutory identity in Wales and that services for people with autism meet their real needs. Ar 21 Ionawr 2015, arweiniais ddadl Aelod unigol yma a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf awtistiaeth i Gymru, a phleidleisiodd yr Aelodau o blaid. Wyth mis yn ôl, arweiniais ddadl amhleidiol yn cydnabod yr angen am ddeddfwriaeth benodol ar gyfer awtistiaeth ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil awtistiaeth (Cymru) yn ystod pumed tymor y Cynulliad. Arweiniodd y ffaith iddo gael ei drechu, yn ôl y pleidiau, at ofid mawr, ac rwy’n gweddïo y gallwn symud y tu hwnt i hyn heddiw a darparu, o’r diwedd, ar gyfer y gymuned awtistiaeth yng Nghymru. Felly, diolch i fy nghyd-Aelod, Paul Davies am gyflwyno cynigion heddiw i sicrhau bod awtistiaeth yn cael hunaniaeth statudol briodol yng Nghymru a bod gwasanaethau ar gyfer pobl ag awtistiaeth yn diwallu eu hanghenion go iawn.
Although autism is neither mental health nor learning difficulty, people with autism fall between two stools as there’s nowhere else to go. There are serious concerns that the Welsh Government’s refreshed strategy isn’t robust enough to make the changes we all want to see unless backed by legislation. Placing specific duties on local authorities and health boards would provide greater clarity on the care and support that people with autism can expect. Online resources for the autism community, training films for front-line professionals, and national autism service flowcharts are all well and good, but the autism community won’t receive the support they know they need until there is statutory underpinning and accountability and we move beyond consultation to a direct role for professional and third sector bodies and the autism community in design, delivery, and monitoring. Er nad yw awtistiaeth yn fater iechyd meddwl nac anhawster dysgu, mae pobl ag awtistiaeth yn disgyn rhwng dwy stôl gan nad oes unman arall i fynd. Ceir pryderon difrifol nad yw strategaeth ddiwygiedig Llywodraeth Cymru yn ddigon cadarn i wneud y newidiadau y mae pawb ohonom am eu gweld oni bai ei bod yn cael ei chefnogi gan ddeddfwriaeth. Byddai gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn rhoi mwy o eglurder ynglŷn â’r gofal a’r cymorth y gall pobl ag awtistiaeth eu disgwyl. Mae adnoddau ar-lein ar gyfer y gymuned awtistiaeth, ffilmiau hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol y rheng flaen a siartiau llif gwasanaeth awtistiaeth cenedlaethol yn iawn, ond ni fydd y gymuned awtistiaeth yn cael y cymorth y maent yn gwybod eu bod ei angen hyd nes y ceir sylfaen ac atebolrwydd statudol a’n bod yn symud y tu hwnt i ymgynghori i rôl uniongyrchol ar gyfer cyrff sector proffesiynol a’r trydydd sector a’r gymuned awtistiaeth mewn perthynas â chynllunio, darparu a monitro.
Attended by autism community members from across Wales, the packed November 2014 meeting of the Assembly cross-party autism group voted unanimously in favour of calling for an autism Act. We heard that the strategy promised to deliver so much, but people are being pushed into further crisis, that people are let down and angry that they have to fight so hard to get the support they need, and that it’s important that people with autism are no longer invisible to services. Pleidleisiodd y cyfarfod o’r grŵp awtistiaeth trawsbleidiol, a fynychwyd gan aelodau o’r gymuned awtistiaeth ledled Cymru ym mis Tachwedd 2014, yn unfrydol o blaid galw am Ddeddf awtistiaeth. Clywsom fod y strategaeth wedi addo cyflawni cymaint ond bod pobl yn cael eu gwthio i argyfwng gwaeth, fod pobl wedi’u siomi ac yn ddig fod yn rhaid iddynt ymladd mor galed i gael y cymorth sydd ei angen arnynt a’i bod yn bwysig nad yw pobl sydd ag awtistiaeth yn anweledig i wasanaethau mwyach.
Although the Welsh Government have said that not one response to its refreshed autistic spectrum disorder strategic action plan consultation document asked for an autism Act, this wasn’t part of the consultation or questions. In fact, the response by the National Autistic Society Cymru, written with input from their branch members across Wales, said that statutory backing to the strategy, combined with much closer measurement of progress to meet the key aims of the strategy, is vital in securing the change that we all want to see for autistic children and adults and their family members. Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oedd unrhyw un o’r ymatebion i’w dogfen ymgynghorol ar y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig ar ei newydd wedd wedi gofyn am Ddeddf awtistiaeth, nid oedd hyn yn rhan o’r ymgynghoriad na’r cwestiynau. Yn wir, dywedai’r ymateb gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, a ysgrifennwyd gyda mewnbwn gan eu haelodau cangen ar draws Cymru, fod cefnogaeth statudol i’r strategaeth, ynghyd â mesur cynnydd yn llawer mwy manwl er mwyn cyflawni amcanion allweddol y strategaeth, yn hanfodol er mwyn sicrhau’r newid y mae pawb ohonom eisiau ei weld ar gyfer plant ac oedolion awtistig ac aelodau eu teuluoedd.
I represent a large number of constituents in the autism community fighting the system to get the services needed by them or their loved ones. This was summarised in an e-mail I received this week, which said, ‘My 11-year-old son has been diagnosed with autism and, at this moment, he doesn’t get the backing and support he needs. Your vote for the Bill could make all the difference to his future and others like him.’ Rwy’n cynrychioli nifer fawr o etholwyr yn y gymuned awtistiaeth sy’n ymladd y system er mwyn cael y gwasanaethau y maent hwy neu eu hanwyliaid eu hangen. Cafodd hyn ei grynhoi mewn e-bost a gefais yr wythnos hon, a oedd yn dweud, ‘Mae fy mab 11 oed wedi cael diagnosis o awtistiaeth ac ar hyn o bryd, nid yw’n cael y gefnogaeth a’r cymorth sydd eu hangen arno. Gallai eich pleidlais dros y Bil wneud byd o wahaniaeth i’w ddyfodol ac eraill tebyg iddo.’
As the autistic women’s empowerment project told the cross-party autism group, which I chair, the different presentations of autism in women and girls suggest that the accepted ratio of five boys to one girl should actually be a lot closer, where many females are left undiagnosed, misdiagnosed, or without support. As the parents of several daughters have told me personally, statutory bodies don’t understand that thinking has changed, that autism presents differently in girls, and that many females are unable to access a diagnosis due to stereotyped views, leaving autistic girls and women vulnerable to low self-worth, anxiety, depression, and self-harm. Too often, parents are then forced to pay for private autism assessment. A 2017 letter from the health board said that Flintshire CAMHS, quote, ‘had raised concerns about the rigour and conclusions in a number of private assessments’, and in some cases didn’t accept the diagnosis, and that there was a requirement for these to be in line with NICE guidelines. But when I referred this to the doctor who had carried out these assessments, she responded that she was in fact a contributor to those very NICE guidelines. This single example illustrates a wider institutional problem and why Wales needs an autism Act to meet the needs of children and adults with autism-spectrum conditions in Wales, and to protect and promote the rights of both adults and children with autism in Wales. Thank you, Paul. Fel y dywedodd y prosiect grymuso menywod awtistig wrth y grŵp awtistiaeth trawsbleidiol a gadeirir gennyf, mae’r gwahaniaeth rhwng y modd y mae awtistiaeth yn amlygu ei hun mewn menywod a merched yn awgrymu y dylai’r gymhareb a dderbynnir o bum bachgen i un ferch fod yn llawer agosach mewn gwirionedd, lle mae llawer o fenywod yn cael eu gadael heb ddiagnosis, gyda diagnosis anghywir neu heb gefnogaeth. Fel y mae rhieni nifer o ferched wedi dweud wrthyf yn bersonol, nid yw cyrff statudol yn deall bod y meddylfryd wedi newid, fod awtistiaeth yn amlygu ei hun yn wahanol mewn merched ac nad yw llawer o fenywod yn gallu cael mynediad at ddiagnosis oherwydd safbwyntiau ystrydebol, gan olygu bod merched a menywod awtistig yn cael eu gadael yn agored i lefelau isel o hunan-werth, pryder, iselder a hunan-niweidio. Yn rhy aml, caiff rhieni eu gorfodi wedyn i dalu am asesiad awtistiaeth preifat. Dywedai llythyr gan y bwrdd iechyd yn 2017 fod gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed Sir y Fflint, ac rwy’n dyfynnu, ‘wedi lleisio pryderon ynglŷn â thrylwyredd a chasgliadau nifer o asesiadau preifat’, ac mewn rhai achosion, nid oedd yn derbyn y diagnosis, a’i bod yn ofynnol i’r rhain fod yn unol â chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Ond pan soniais wrth y meddyg a oedd wedi cynnal yr asesiadau hyn, atebodd ei bod mewn gwirionedd yn un o’r rhai a gyfrannodd at y canllawiau NICE hynny. Mae’r un enghraifft hon yn amlygu problem sefydliadol ehangach, a pham y mae angen Deddf awtistiaeth ar Gymru i ateb anghenion plant ac oedolion â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig yng Nghymru, ac i ddiogelu a hyrwyddo hawliau oedolion a phlant ag awtistiaeth yng Nghymru. Diolch yn fawr, Paul.
15:10 - Leanne Wood
I’d like to thank Paul Davies for bringing forward this Bill today. Plaid Cymru stood, in the last Assembly election, on a manifesto that called for legislation to protect and promote the rights of people with autism, their families and their carers, and this proposal would do exactly that. So, I’ll be voting in favour of the proposal, and I hope that it’ll pass today so that the Member can table a Bill with the support of this Assembly. Hoffwn ddiolch i Paul Davies am gyflwyno’r Bil hwn heddiw. Safodd Plaid Cymru, yn etholiad diwethaf y Cynulliad, ar faniffesto a oedd yn galw am ddeddfwriaeth i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl ag awtistiaeth, eu teuluoedd a’u gofalwyr, a byddai’r cynnig hwn yn gwneud yn union hynny. Felly, byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig, ac rwy’n gobeithio y bydd yn pasio heddiw fel y gall yr Aelod gyflwyno Bil gyda chefnogaeth y Cynulliad hwn.
Like the previous speaker, I’ve lost count of the number of times I’ve met parents with despair, who’ve battled to get services for their children and haven’t been able to. Surely it’s the role of Government to make sure that everyone can play a full part in society—too many people are prevented from doing do at the moment. Too many people feel as though our society is not designed to fit them. Now, I accept that a full inbox isn’t always a guide to what’s right and wrong, but it can be an indication as to what is important, of what matters to citizens in Wales. And, like many others in this Chamber, I have received a lot of correspondence, as well as social media lobbying, calling for legislation on this issue. There is a great demand from people with autism and their family members to see autism recognised in specific legislation. I take on board the points that Lynne Neagle made in her contribution. I do think we need to consider unintended consequences, but I do think that this is something that we do need to proceed with. Fel y siaradwr blaenorol, rwyf wedi colli cyfrif sawl gwaith rwyf wedi cyfarfod â rhieni gofidus sydd wedi brwydro i gael gwasanaethau ar gyfer eu plant ac sydd wedi methu gwneud hynny. Does bosibl nad rôl y Llywodraeth yw gwneud yn siŵr fod pawb yn gallu chwarae rhan lawn yn y gymdeithas—mae gormod o bobl yn cael eu hatal rhag gwneud hynny ar hyn o bryd. Mae gormod o bobl yn teimlo fel pe bai ein cymdeithas heb gael ei chynllunio i’w cynnwys. Nawr, rwy’n derbyn nad yw mewnflwch llawn bob amser yn ganllaw i’r hyn sy’n iawn neu beidio, ond gall fod yn arwydd o’r hyn sy’n bwysig, o beth sydd o bwys i ddinasyddion yng Nghymru. Ac fel llawer o bobl eraill yn y Siambr hon, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth, yn ogystal â lobïo ar y cyfryngau cymdeithasol, yn galw am ddeddfwriaeth ar y mater hwn. Mae yna alw mawr gan bobl ag awtistiaeth ac aelodau o’u teuluoedd i weld awtistiaeth yn cael ei chydnabod mewn deddfwriaeth benodol. Rwy’n derbyn y pwyntiau a wnaeth Lynne Neagle yn ei chyfraniad. Rwy’n credu bod angen inni ystyried canlyniadau anfwriadol, ond rwy’n credu bod hwn yn rhywbeth y mae angen i ni fwrw ymlaen ag ef.
People understand the differences between services and legislation, and they understand that services are more likely to get the resources and attention that they deserve if there is a statutory duty in place. When legislation like this has been put forward in the past, promises of improved services have been made by the Welsh Government. The proposed Bill could be the vehicle to deliver on those improvements. It could be the way to make sure those kinds of promises are kept. Depending on what happens in later stages, the Bill could ensure that local authorities and health boards draw up strategic plans for services and make them provide sufficient resources. The strategic action plan introduced in 2008 was groundbreaking, and the proposal here recognises that. So, this isn’t about criticising previous Welsh Governments, but there are, no doubt, continuing gaps in provision—as there are, of course, as others have said, with so many other conditions. Mae pobl yn deall y gwahaniaethau rhwng gwasanaethau a deddfwriaeth, ac maent yn deall bod gwasanaethau’n fwy tebygol o gael yr adnoddau a’r sylw y maent yn eu haeddu os oes dyletswydd statudol ar waith. Pan gyflwynwyd deddfwriaeth o’r fath yn y gorffennol, gwnaed addewidion am well gwasanaethau gan Lywodraeth Cymru. Efallai mai’r Bil arfaethedig fydd y cyfrwng i gyflawni’r gwelliannau hynny. Gallai fod yn ffordd o wneud yn siŵr fod y mathau hynny o addewidion yn cael eu cadw. Yn dibynnu ar yr hyn sy’n digwydd ar y camau diweddarach, gallai’r Bil sicrhau bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn llunio cynlluniau strategol ar gyfer gwasanaethau a gwneud iddynt ddarparu digon o adnoddau. Roedd y cynllun gweithredu strategol a gyflwynwyd yn 2008 yn arloesol, ac mae’r cynnig yma yn cydnabod hynny. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â beirniadu Llywodraethau Cymru yn y gorffennol, ond heb amheuaeth, ceir bylchau yn y ddarpariaeth o hyd—fel y mae, wrth gwrs, ac fel y mae eraill wedi dweud, gyda chymaint o gyflyrau eraill.
The legislation itself should lead to improved services, but the symbolism of legislation is also important. Legislating on this would send a message about our priorities as a country. It would show that we care about all of those children and adults for whom society doesn’t quite fit. It would tell parents, families, and carers that people with autism matter, and that we will recognise and protect their rights. Dylai’r ddeddfwriaeth ei hun arwain at wasanaethau gwell, ond mae symbolaeth deddfwriaeth hefyd yn bwysig. Byddai deddfu ar hyn yn anfon neges ynglŷn â’n blaenoriaethau fel gwlad. Byddai’n dangos ein bod yn malio am yr holl blant ac oedolion nad oes gan gymdeithas le go iawn ar eu cyfer. Byddai’n dweud wrth rieni, teuluoedd a gofalwyr fod pobl ag awtistiaeth yn cyfrif, ac y byddwn yn cydnabod ac yn diogelu eu hawliau.
Approving this proposal would be a strong endorsement from this Senedd, but it must be followed through as well. For too long, people on the autism spectrum have been prevented from living their lives to the full. By backing this legislation, we will be taking just one small step towards a society where everyone has true equality of opportunity. I’m more than happy to add my voice to those others today in urging Members of all parties to endorse the principles of an autism Bill. And I commend the Member for his proposal today and I look forward to supporting it. Diolch yn fawr. Byddai cymeradwyo’r cynnig hwn yn gefnogaeth gref gan y Senedd hon, ond mae’n rhaid bwrw drwyddi gyda’r gwaith hefyd. Ers gormod o amser, mae pobl ar y sbectrwm awtistig wedi cael eu hatal rhag byw eu bywydau’n llawn. Trwy gefnogi’r ddeddfwriaeth hon, byddwn yn cymryd un cam bach tuag at gymdeithas gyda chyfle cyfartal go iawn i bawb. Rwy’n fwy na hapus i ychwanegu fy llais at y lleisiau eraill heddiw i annog Aelodau o bob plaid i gymeradwyo egwyddorion Bil awtistiaeth. A chymeradwyaf yr Aelod am ei gynnig heddiw ac rwy’n edrych ymlaen at ei gefnogi. Diolch yn fawr.
15:15 - Michelle Brown
I’d like to thank Paul Davies for bringing this motion, and I support the Member’s motion to introduce an autism Bill. I doubt that anyone here would disagree with the principle that the rights of people with autism should be protected and promoted. The clearest and most effective way to do that is by legislation, and it’s a great pity that the Minister will be abstaining on this motion today. Introducing legislation sends out the message to public bodies and others, including autistic people, that their Government is serious about the needs of autistic people. It is a way to change behaviours in the same way that the Sex Discrimination Act 1975 changed behaviours in the workplace. An autism (Wales) Act would place a focus on people affected by autism and incentivise local authorities and health boards to give greater priority to them. Yes, we need to be wary of legislating for legislation’s sake, but I do not think this is the case here. Hoffwn ddiolch i Paul Davies am gyflwyno’r cynnig hwn, ac rwy’n cefnogi cynnig yr Aelod i gyflwyno Bil awtistiaeth. Rwy’n amau y byddai unrhyw un yma yn anghytuno â’r egwyddor y dylai hawliau pobl ag awtistiaeth gael eu diogelu a’u hyrwyddo. Y ffordd gliriaf a mwyaf effeithiol o wneud hynny yw drwy ddeddfwriaeth, ac mae’n drueni mawr fod y Gweinidog yn mynd i ymatal ar y cynnig hwn heddiw. Mae cyflwyno deddfwriaeth yn anfon y neges at gyrff cyhoeddus ac eraill, gan gynnwys pobl awtistig, fod eu Llywodraeth o ddifrif ynglŷn ag anghenion pobl awtistig. Mae’n ffordd o newid ymddygiad yn yr un ffordd ag y newidiodd Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975 ymddygiad yn y gweithle. Byddai Deddf awtistiaeth (Cymru) yn rhoi ffocws ar bobl yr effeithir arnynt gan awtistiaeth ac yn cymell awdurdodau lleol a byrddau iechyd i roi mwy o flaenoriaeth iddynt. Oes, mae angen i ni fod yn wyliadwrus rhag deddfu er mwyn deddfu’n unig, ond nid wyf yn credu mai dyna fyddai hyn.
The proposed Bill seeks to place on a legal footing strategies and pathways to diagnosis and meeting the needs of autistic people. An autism Bill would complement the additional learning needs Bill, which addresses the support needed in the education system by people with autism and other conditions. Indeed, it seems illogical and contrary to place into law the good principles of the ALN Bill in the education setting, but not to do the same in respect of specific conditions like autism in other settings. After all, children and young people with autism do not leave it at the school or college gate at the end of each day or when they complete education. Mae’r Bil arfaethedig yn ceisio gosod strategaethau a llwybrau i ddiagnosis ac ateb anghenion pobl awtistig ar sylfaen gyfreithiol. Byddai Bil awtistiaeth yn ategu’r Bil anghenion dysgu ychwanegol sy’n mynd i’r afael â’r cymorth sydd ei angen yn y system addysg ar bobl ag awtistiaeth a chyflyrau eraill. Yn wir, mae’n ymddangos yn afresymegol ac yn wrthwynebus i ddeddfu ar egwyddorion da y Bil anghenion dysgu ychwanegol mewn cyd-destun addysgol, a pheidio â gwneud yr un peth mewn perthynas â chyflyrau penodol megis awtistiaeth mewn cyd-destunau eraill. Wedi’r cyfan, nid yw plant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth yn gadael y cyflwr wrth gât yr ysgol neu’r coleg ar ddiwedd y dydd neu pan fyddant yn cwblhau eu haddysg.
However, I am wary of imposing further duties on local authorities and health boards when they may well not have the infrastructure or resources to comply, leading to cuts in other areas. Such duties should therefore be primarily on Welsh Government or, alternatively, upon local authorities and health boards with a corresponding duty on Welsh Government to ensure that local authorities and health boards are given the resources they reasonably need to comply with their new duties. It is vital, particularly where there are limited funds available, to properly apply that funding where it is needed. To do that, you need accurate and reliable data and a proper analysis to map service provision onto likely demand. It should be obvious to everyone here that if you do not possess reliable data about how many people are affected by autism, the likely level of need and the distribution of people with autism across Wales, any service planning is going to be basically down to guesswork. Fodd bynnag, rwy’n gochel rhag gosod dyletswyddau pellach ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd pan allai’n hawdd fod yn wir nad oes ganddynt y seilwaith neu’r adnoddau i gydymffurfio o bosibl, gan arwain at doriadau mewn meysydd eraill. Felly dylai dyletswyddau o’r fath gael eu hysgwyddo gan Lywodraeth Cymru’n bennaf neu fel arall, gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd gyda dyletswydd gyfatebol ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt yn rhesymol i gydymffurfio â’u dyletswyddau newydd. Yn enwedig lle mae’r arian sydd ar gael yn gyfyngedig, mae’n hanfodol fod y cyllid yn cael ei ddefnyddio’n briodol lle mae ei angen. I wneud hynny, mae angen data cywir a dibynadwy a dadansoddiad priodol ar gyfer mapio’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu yn ôl y galw tebygol. Dylai fod yn amlwg i bawb yma, os nad ydych yn meddu ar ddata dibynadwy ynglŷn â faint o bobl yr effeithir arnynt gan awtistiaeth, lefel debygol yr angen a dosbarthiad pobl ag awtistiaeth ledled Cymru, bydd unrhyw gynllunio gwasanaethau yn seiliedig i bob pwrpas ar ddyfalu.
Legislation would provide the impetus for local authorities and health boards to review and improve their data collection, although I sincerely hope they’re already doing this. Introducing an autism (Wales) Bill would underpin the provision of support for autistic people. I’m sure that people with autism, their friends, families and support workers will be closely watching the result of the vote on this motion at the end of today to see how high on the priority list their Assembly Member puts them. I urge the Members of this Assembly to vote in favour of this motion. Thank you. Byddai deddfwriaeth yn ysgogi awdurdodau lleol a byrddau iechyd i adolygu a gwella eu dulliau o gasglu data, er fy mod yn mawr obeithio eu bod eisoes yn gwneud hyn. Byddai cyflwyno Bil awtistiaeth (Cymru) yn sail i ddarparu cefnogaeth i bobl awtistig. Rwy’n siŵr y bydd pobl ag awtistiaeth, eu ffrindiau, eu teuluoedd a gweithwyr cymorth yn gwylio canlyniad y bleidlais ar y cynnig hwn ar ddiwedd y dydd heddiw yn agos iawn i weld pa mor uchel ar y rhestr flaenoriaethau y mae eu Haelod Cynulliad yn eu gosod. Rwy’n annog Aelodau’r Cynulliad hwn i bleidleisio o blaid y cynnig hwn. Diolch.
15:18 - Lee Waters
Can I add my thanks to Paul Davies for bringing this legislation forward, and for the consensual way in which he’s engaged in developing the proposal to date? I think there is a consensus in this National Assembly that more needs to be done to help families with autism. And can I say that I agreed with much of what Leanne Wood said? I hope that we can all focus on what we can agree on and resist the temptation to score points. A gaf i ychwanegu fy niolch i Paul Davies am ddod â’r ddeddfwriaeth hon gerbron, ac am ei ffordd gydsyniol o ddatblygu’r cynnig hyd yma? Rwy’n credu bod consensws yn y Cynulliad Cenedlaethol fod angen gwneud mwy i helpu teuluoedd ag awtistiaeth. Ac a gaf fi ddweud fy mod yn cytuno â llawer o’r hyn a ddywedodd Leanne Wood? Gobeithio y gall pawb ohonom ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn gytuno arno a gwrthsefyll y demtasiwn i sgorio pwyntiau.
Since we debated this last year, I have met with the National Autistic Society, I’ve met with the integrated autism service, with families, with professionals, with Paul Davies and with the Minister, and I am persuaded that legislation is an appropriate way to go forward. It is clear that the Welsh Government has made progress, and significant money has been invested, and even though there is still some way to go for this to be fully rolled out, I think it is fair to say, at this early stage, that it’s likely that further action is going to be required because of the nature of the systemic culture change that’s required to properly recognise the range of challenges that people with autism face. I’ve heard stories of the delays in referrals for assessment, delays once on the waiting list, delays in decisions, a lack of signposting once diagnosed and, in my own area, concerns of the lack of a paediatric consultant in Hywel Dda health board. Those are all fair and reasonable concerns, and I was pleased to hear the Minister say that she’s willing to put the autism strategy on a statutory footing. I think that is an important start, though I think it is unlikely to be sufficient. Ers i ni drafod hyn y llynedd, rwyf wedi cyfarfod â’r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, rwyf wedi cyfarfod â’r gwasanaeth awtistiaeth integredig, gyda theuluoedd, gyda gweithwyr proffesiynol, gyda Paul Davies a chyda’r Gweinidog, a chefais fy mherswadio mai deddfwriaeth yw’r ffordd briodol o fwrw ymlaen. Mae’n amlwg fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd, ac mae arian sylweddol wedi’i fuddsoddi, ac er bod tipyn o ffordd i fynd i gyflwyno hyn yn llawn, rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud, ar y cam cynnar hwn, ei bod yn debygol y bydd angen camau pellach oherwydd natur y newid diwylliant systemig sydd ei angen i gydnabod yn iawn yr ystod o heriau y mae pobl ag awtistiaeth yn eu hwynebu. Rwyf wedi clywed straeon am yr oedi cyn atgyfeirio i gael asesiad, yr oedi ar ôl cyrraedd y rhestr aros, yr oedi cyn gwneud penderfyniadau, y diffyg cyfeirio ar ôl cael diagnosis ac yn fy ardal i, y pryderon yn sgil diffyg ymgynghorydd pediatrig ym mwrdd iechyd Hywel Dda. Mae’r rhain oll yn bryderon teg a rhesymol, ac roeddwn yn falch o glywed y Gweinidog yn dweud ei bod yn barod i roi’r strategaeth awtistiaeth ar sail statudol. Credaf fod hwnnw’n ddechrau pwysig, er fy mod yn credu ei fod yn annhebygol o fod yn ddigon.
I do, however, have some concerns. I’m nervous about taking an approach where we legislate for each condition. I think Lynne Neagle was right to raise that earlier. That does set a precedent that we should be cautious about. I’m also nervous about picking one particular condition when there are baskets of conditions that are related, that have similar symptoms and that affect a similar number of people, but don’t have a well-organised and vocal campaign group behind them. I must congratulate the National Autistic Society for the campaign that they have run. It has been a campaign fuelled by an understandable frustration, and at times, that has made itself clear. But we are policy makers and representatives, and we have a responsibility to look beyond the interests of those who shout the loudest. There are similar conditions, and the Welsh Government has recognised this principle in its diagnostic strategy. We have, in Wales, a neurodevelopmental diagnostic assessment pathway that acknowledges the principle that there are related conditions and families who are suffering who deserve a similar approach. I think we would be well served to take a similar approach in drawing up legislation. Why should it be that one type of neurodevelopmental condition gets specific legislation and others do not? I think that that is a question that deserves an answer. I had a tweet this morning from somebody who said: Fodd bynnag, mae gennyf rai pryderon. Rwy’n nerfus ynglŷn â mabwysiadu ymagwedd lle rydym yn deddfu ar gyfer pob cyflwr. Rwy’n credu bod Lynne Neagle yn iawn i grybwyll hyn yn gynharach. Mae’n gosod cynsail y dylem fod yn wyliadwrus yn ei gylch. Rwyf hefyd yn nerfus ynglŷn â dewis un cyflwr penodol pan geir basgedi o gyflyrau sy’n gysylltiedig, sydd â symptomau tebyg ac sy’n effeithio ar nifer tebyg o bobl, ond sydd heb grŵp ymgyrchu huawdl wedi’i drefnu’n dda y tu ôl iddynt. Rhaid i mi longyfarch Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth ar yr ymgyrch y maent wedi’i chynnal. Mae wedi bod yn ymgyrch a daniwyd gan rwystredigaeth ddealladwy, a gwelwyd hynny’n glir ar adegau. Ond llunwyr polisi a chynrychiolwyr ydym, ac mae gennym gyfrifoldeb i edrych y tu hwnt i fuddiannau’r rhai sy’n gweiddi uchaf. Ceir cyflyrau tebyg, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr egwyddor hon yn ei strategaeth ddiagnostig. Yng Nghymru, mae gennym lwybr asesu diagnostig niwroddatblygiadol sy’n cydnabod yr egwyddor fod yna gyflyrau cysylltiedig yn bodoli a theuluoedd sy’n dioddef sy’n haeddu dull tebyg o weithredu. Rwy’n credu y byddai’n werth inni fabwysiadu dull tebyg wrth lunio deddfwriaeth. Pam y dylai un math o gyflwr niwroddatblygiadol gael deddfwriaeth benodol ac nad yw cyflyrau eraill yn ei chael? Credaf fod hwnnw’n gwestiwn sy’n haeddu ateb. Cefais drydariad y bore yma gan rywun a ddywedodd:
‘None of these conditions come on their own. My son is dyspraxic with a touch of Aspergers. Support; negligible, had to fight all the way.’ Nid oes yr un o’r cyflyrau hyn yn digwydd ar eu pen eu hunain. Mae gan fy mab ddyspracsia gydag ychydig o syndrom Asperger. Cymorth; fawr ddim, rhaid oedd ymladd yr holl ffordd.
I think it would be wrong to have legislation that picks on just one condition and ignores the suffering and the struggle and the pain of families who are also suffering and who also face inadequate services. So, today, I will be supporting taking this legislation forward to the next level, but I do it with the proviso that that support may not be forthcoming for future stages unless we address these concerns that I have. I would say to the points made about abstentions that, when someone abstains, they let something go through. That is not the same as opposing something. In particular, I must single out the Minister, Rebecca Evans, who has a background in this field. Autistic families have no greater friend, in my experience, than Rebecca Evans. There may be a debate in this Chamber about how best we support families, but let there be no question mark that we think families need more support and deserve more support. So, I think it is unfortunate to criticise those who are abstaining today, while the details of this proposal are still fleshed out. So, I hope that we can go forward in a unified fashion. I think that the point that Leanne Wood made is that we need to bring about a culture change that underpins how people with autism matter. That’s the challenge for us all, and the debate now needs to be had on the detail of how we best do that. I shall be voting in favour. Rwy’n credu y byddai’n anghywir cael deddfwriaeth sy’n dewis un cyflwr ac yn anwybyddu dioddefaint, brwydr a phoen teuluoedd sydd hefyd yn dioddef ac sydd hefyd yn wynebu gwasanaethau annigonol. Felly, heddiw, byddaf yn cefnogi symud y ddeddfwriaeth yn ei blaen i’r lefel nesaf, ond rwy’n ei wneud ar yr amod efallai na fydd y gefnogaeth honno yno ar gyfer cyfnodau yn y dyfodol oni bai ein bod yn mynd i’r afael â’r pryderon hyn sydd gennyf. Byddwn yn dweud am y pwyntiau a wnaed ynglŷn ag ymatal fod rhywun yn gadael i rywbeth fynd yn ei flaen pan fyddant yn ymatal. Nid yw hynny yr un fath â gwrthwynebu rhywbeth. Yn arbennig, rhaid i mi dynnu sylw at y Gweinidog, Rebecca Evans, sydd â chefndir yn y maes hwn. Nid oes gan deuluoedd awtistig gyfaill mwy, yn fy mhrofiad i, na Rebecca Evans. Efallai ein bod yn cael dadl yn y Siambr hon am y ffordd orau y gallwn gefnogi teuluoedd, ond na foed unrhyw gwestiwn ynglŷn â’r ffaith ein bod yn credu bod angen mwy o gefnogaeth ar deuluoedd a’u bod yn haeddu mwy o gefnogaeth. Felly, rwy’n meddwl bod beirniadu’r rhai sy’n ymatal heddiw yn anffodus, tra bo manylion y cynnig yn dal i gael eu datblygu. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn fwrw ymlaen yn unedig. Credaf mai’r pwynt a wnaeth Leanne Wood yw bod angen i ni sicrhau newid diwylliant sy’n ategu’r modd y mae pobl ag awtistiaeth yn cyfrif. Dyna’r her i bawb ohonom, ac yn awr mae angen cael dadl ynglŷn â manylion y ffordd orau inni wneud hynny. Byddaf yn pleidleisio o blaid.
15:23 - Mohammad Asghar
Everyone in this Chamber will agree with the objective of this Bill. This Bill makes provisions for meeting the needs of children and adults with autism spectrum conditions. It protects and promotes the rights of some 34,000 people living with autism in Wales. In fact, many autism sufferers do not receive the support they need to help them to get into life. They face challenges when they try to access employment, education, health, housing and other services in life. This makes it increasingly difficult to lead independent lives for those people. The Welsh Government has recognised this and published its refreshed autism spectrum disorder strategic action plan—it’s a bit of a long one, Deputy Presiding Officer, but that is the plan they have issued. But, many believe that statutory backing is required to secure the change that we all want to see in this country. Bydd pawb yn y Siambr yn cytuno gyda nod y Bil hwn. Mae’r Bil yn gwneud darpariaethau ar gyfer ateb anghenion plant ac oedolion sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig. Mae’n diogelu ac yn hyrwyddo hawliau oddeutu 34,000 o bobl sy’n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru. Yn wir, nid yw llawer o ddioddefwyr awtistiaeth yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i’w helpu i gamu ymlaen mewn bywyd. Maent yn wynebu heriau pan fyddant yn ceisio cael mynediad at waith, addysg, iechyd, tai a gwasanaethau eraill mewn bywyd. Mae hyn yn ei gwneud yn gynyddol anodd i’r bobl hynny fyw bywydau annibynnol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hyn ac wedi cyhoeddi ei chynllun gweithredu strategol diwygiedig ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig—mae’n enw braidd yn hir, Dirprwy Lywydd, ond dyna’r cynllun y maent wedi’i gyhoeddi. Ond mae llawer yn credu bod angen cefnogaeth statudol i sicrhau’r newid y mae pawb ohonom am ei weld yn y wlad hon.
An autism Act for Wales would provide that statutory backing, protect the rights of autistic people and raise awareness of complex conditions, which is a necessity here. With a focus on giving autism greater recognition, the law could ensure timely diagnosis through statutory means and regular data reviewing. It would ensure access to services and support for people living with the condition, whether adults or children. An Act would also ensure that public services provided operate with support for autistic people and their families in mind. It would place a duty on society to better accept and understand autism and would provide real opportunity for autistic people to reach their full potential in life. Byddai Deddf awtistiaeth i Gymru yn darparu’r gefnogaeth statudol honno, yn diogelu hawliau pobl awtistig ac yn codi ymwybyddiaeth o gyflyrau cymhleth, sy’n angenrheidiol yma. Gyda ffocws ar roi mwy o gydnabyddiaeth i awtistiaeth, gallai’r gyfraith sicrhau diagnosis prydlon drwy ddulliau statudol ac adolygu data rheolaidd. Byddai’n sicrhau mynediad at wasanaethau a chymorth i bobl sy’n byw gyda’r cyflwr, boed yn oedolion neu’n blant. Byddai Deddf hefyd yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir yn gweithredu gyda chefnogaeth i bobl awtistig a’u teuluoedd mewn cof. Byddai’n gosod dyletswydd ar gymdeithas i dderbyn a deall awtistiaeth yn well a byddai’n rhoi cyfle go iawn i bobl awtistig gyrraedd eu potensial llawn mewn bywyd.
With a legislative commitment to regularly review the progress of services, people with autism can expect a consistent level of care from service providers. Sadly, this has not always happened in the past. The lack of understanding about autism is not just present among the general public; it also exists among some professionals in our public services. From education to health services, families and adults with autism are not adequately supported as a result of poor understanding. Local authorities are unaware of how many autistic people are living in their areas, which makes it problematic to plan for appropriate support for those families and those people. Parents and carers often go through a distressing experience prior to obtaining a referral due to this lack of understanding. Gydag ymrwymiad deddfwriaethol i adolygu cynnydd gwasanaethau’n rheolaidd, gall pobl ag awtistiaeth ddisgwyl lefel gyson o ofal gan ddarparwyr gwasanaethau. Yn anffodus, nid yw hyn wedi digwydd bob amser yn y gorffennol. Mae diffyg dealltwriaeth ynglŷn ag awtistiaeth yn bresennol, nid yn unig ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol, mae hefyd yn bodoli ymhlith rhai gweithwyr proffesiynol yn ein gwasanaethau cyhoeddus. O’r byd addysg i wasanaethau iechyd, nid yw teuluoedd ac oedolion ag awtistiaeth yn cael eu cefnogi’n ddigonol o ganlyniad i ddiffyg dealltwriaeth. Nid yw awdurdodau lleol yn ymwybodol o faint o bobl awtistig sy’n byw yn eu hardaloedd, sy’n ei gwneud yn broblematig i gynllunio cymorth priodol ar gyfer y teuluoedd a’r bobl hynny. Mae rhieni a gofalwyr yn aml yn mynd drwy brofiad gofidus cyn cael eu hatgyfeirio oherwydd diffyg dealltwriaeth o’r fath.
There are huge inconsistencies in referral-to-assessment waiting times. A consultation conducted by ASD Info Wales found that 19 per cent of families with potential referrals had been referred for assessment within six months of concern first being raised, but 22 per cent waited over four years. The duration of diagnostic assessment also greatly varies, from less than six months for some families to more than two years for others. Some families received a diagnosis from just one clinician— Ceir anghysondeb mawr yn yr amseroedd aros rhwng atgyfeirio ac asesiad. Canfu ymgynghoriad a gynhaliwyd gan ASD Info Cymru fod 19 y cant o deuluoedd ag atgyfeiriadau posibl wedi cael eu hatgyfeirio i gael asesiad o fewn chwe mis i leisio pryder am y tro cyntaf, ond bu’n rhaid i 22 y cant aros dros bedair blynedd. Mae hyd yr asesiad diagnostig yn amrywio’n fawr hefyd, o lai na chwe mis i rai teuluoedd i dros ddwy flynedd i eraill. Cafodd rhai teuluoedd ddiagnosis gan un clinigydd yn unig—
15:26 - Joyce Watson
Will you take an intervention? A wnewch chi dderbyn ymyriad?
15:27 - Mohammad Asghar
Yes, go on then. Gwnaf, ewch ymlaen.
15:27 - Joyce Watson
Thank you very much for taking the intervention. I share some of the things that you were talking about, and I hope that you will join me in welcoming the statutory footing that the Minister has talked about and the additional funding. I just want to put on the record that I will be supporting this today; I think that Paul has had the right approach in his conciliatory manner, which he always employs when he does things. Diolch yn fawr am dderbyn yr ymyriad. Rwy’n rhannu rhai o’r pethau roeddech yn sôn amdanynt, ac rwy’n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi i groesawu’r sail statudol y siaradodd y Gweinidog amdani a’r cyllid ychwanegol. Roeddwn eisiau cofnodi y byddaf yn cefnogi hyn heddiw; credaf fod Paul wedi mabwysiadu’r ymagwedd gywir yn y ffordd gymodlon y mae bob amser yn ei defnyddio pan fydd yn gwneud pethau.
15:27 - Mohammad Asghar
Thank you, Joyce. Diolch i chi, Joyce.
Some families received a diagnosis from just one clinician, while others were seen by five or more. We need greater training for school staff to be able to support children with ASD. Not all schools are able to accommodate specialist needs. In England, continual professional development exists for teachers in order that they fully understand them. This needs to be done in Wales also. Cafodd rhai teuluoedd ddiagnosis gan un clinigydd yn unig, ond roedd eraill wedi cael eu gweld gan bump neu ragor o glinigwyr. Mae arnom angen mwy o hyfforddiant i staff ysgol allu cynorthwyo plant ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig. Nid yw pob ysgol yn gallu darparu ar gyfer anghenion arbenigol. Yn Lloegr, mae datblygiad proffesiynol parhaus yn bodoli ar gyfer athrawon er mwyn iddynt allu eu deall yn iawn. Mae angen gwneud hyn yng Nghymru hefyd.
Transition support from child services to adult services is routinely problematic. Life skills support is scarce, and employment and housing needs are not met. Deputy Presiding Officer, the experience of the autism Act in England shows that real improvement can be achieved in improving the life of autistic people. Joint working with providers can ensure services are better planned and delivered. I believe an autism Act in Wales will do the same. I support this motion today, and I commend it. Thank you. Mae cymorth pontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion yn broblem reolaidd. Mae cymorth sgiliau bywyd yn brin, ac nid yw anghenion cyflogaeth a thai yn cael eu diwallu. Dirprwy Lywydd, dengys profiad o’r Ddeddf awtistiaeth yn Lloegr fod modd sicrhau gwelliant go iawn i fywydau pobl ag awtistiaeth. Gall cydweithio gyda darparwyr sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cynllunio a’u darparu’n well. Credaf y bydd Deddf awtistiaeth yng Nghymru’n gwneud yr un peth. Rwy’n cefnogi’r cynnig hwn heddiw, ac fe’i cymeradwyaf. Diolch.
15:28 - David Rees
I think, this afternoon, we’ve seen that, like most Members across the Chamber—Leanne Wood, Lynne Neagle, Mark Isherwood—have highlighted, we all receive many representations from families who have children or siblings living with ASD. They often come into our offices angry, stressed, anxious, exhausted, and sometimes holding back tears, as they explain the hardships they’ve experienced in trying to get a simple request of support for their children or loved one. Last October, during the previous debate, I stressed that it was critical that the Welsh Government and all other public bodies supported these families, who, on a daily basis, face many challenges, and not to allow barriers to exist to that support. These families tackle these challenges to the best of their abilities for their loved ones, and our job is to provide mechanisms that help them and to offer support, and definitely not to increase their hardships. The families keep on telling me of their anger and frustration at still having to argue and demand support for their children or siblings, to get the support and care necessary to help those who are living with ASD, and to progress and improve their well-being. Rwy’n credu, y prynhawn yma, ein bod wedi gweld, fel y mae’r rhan fwyaf o’r Aelodau ar draws y Siambr—Leanne Wood, Lynne Neagle, Mark Isherwood—wedi amlygu, fod pawb ohonom yn derbyn llawer o sylwadau gan deuluoedd sydd â phlant neu frodyr a chwiorydd yn byw gydag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig. Maent yn aml yn dod i’n swyddfeydd yn flin, dan straen, yn bryderus, wedi blino’n lân, ac weithiau’n brwydro yn erbyn dagrau, wrth iddynt egluro’r caledi y maent wedi’i brofi wrth geisio cael cais syml am gymorth i’w plant neu rywun annwyl. Fis Hydref diwethaf, yn ystod y ddadl flaenorol, pwysleisiais ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru a phob corff cyhoeddus arall yn cefnogi’r teuluoedd hyn sydd, o ddydd i ddydd, yn wynebu llawer o heriau, ac i beidio â chaniatáu i rwystrau fodoli i’r gefnogaeth honno. Mae’r teuluoedd hyn yn mynd i’r afael â’r heriau hyn hyd eithaf eu gallu ar ran eu hanwyliaid, a’n gwaith ni yw darparu mecanweithiau i’w helpu a chynnig cymorth, ac yn bendant, nid cynyddu eu caledi. Mae’r teuluoedd yn dweud wrthyf yn gyson am eu dicter a’u rhwystredigaeth o orfod parhau i ddadlau a mynnu cymorth i’w plant neu frodyr a chwiorydd, i gael y cymorth a’r gofal angenrheidiol ar gyfer helpu’r rhai sy’n byw ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig, ac i ddatblygu a gwella eu lles.
We are all aware that autism is a lifelong disability that affects how people both perceive the world and interact with others, and I'm pleased that Paul Davies's Bill will actually reflect upon not just the children that we often talk about, but adults as well. I want you to therefore know that the bulk of our casework focuses on children, but let’s not forget the challenges that adults face with ASD. Many have difficulty in the transition period into adulthood, often facing a cliff edge, in regards to the support they’ve had as a child coming to an end at the age of 18. Rydym i gyd yn ymwybodol fod awtistiaeth yn anabledd gydol oes sy’n effeithio ar sut y mae pobl yn gweld y byd ac yn rhyngweithio ag eraill, ac rwy’n falch y bydd Bil Paul Davies yn ystyried nid yn unig y plant rydym yn aml yn siarad amdanynt, ond oedolion yn ogystal. Rwyf am i chi wybod, felly, fod y rhan fwyaf o’n gwaith achos yn canolbwyntio ar blant, ond gadewch i ni beidio ag anghofio’r heriau y mae oedolion ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig yn eu hwynebu. Mae llawer yn cael trafferth yn ystod y cyfnod pontio i fod yn oedolion, gan wynebu ymyl clogwyn yn aml, yn yr ystyr fod y cymorth a gawsant yn blant yn dod i ben yn 18 oed.
And, simultaneously, they are looking into the world of work, and the challenges of getting into employment. They don’t want to be a lifelong recipient of welfare benefits. They actually want to get into work, they want to make their own way, and want to improve their lives. However, as they come across the new challenges, they need to understand that we can offer support to both the individual, but also to the employer as well—and Paul Davies mentioned the training. We need to look at expanding the training areas, to consider that aspect as well, so that the transition into adulthood becomes a bit smoother for them, and not so fearful and frightening, which has been for so many in the cases. Ac ar yr un pryd, maent yn edrych ar fyd gwaith, a’r heriau o ddechrau gweithio. Nid ydynt am dderbyn budd-daliadau lles ar hyd eu hoes. Mewn gwirionedd maent yn awyddus i gael gwaith, maent yn awyddus i ganfod eu ffordd eu hunain, ac yn awyddus i wella eu bywydau. Fodd bynnag, wrth iddynt wynebu heriau newydd, mae angen iddynt ddeall y gallwn gynnig cymorth i’r unigolyn, ond hefyd i’r cyflogwr yn ogystal—a soniodd Paul Davies am yr hyfforddiant. Mae angen i ni edrych ar ehangu’r meysydd hyfforddi, i ystyried yr agwedd honno hefyd, fel bod y cyfnod pontio i fywyd fel oedolyn yn dod ychydig yn llyfnach iddynt, heb beri cymaint o ofn a braw, fel y gwnaeth i gymaint o bobl yn yr achosion hyn.
And, yesterday evening, I was at the event hosted by Jane Hutt, in the Senedd, where Andrea Wayman of Elite Employment Agency spoke of her work, which is a charity that helps people into employment. And she highlighted one example—how it works for young people; how she had one-to-one support for a young man who had autism, and that one-to-one support allowed him to develop in the workplace, in the work placement, and build the confidence that was required. And, as such, that young person then got into work and gainful employment. That is also an important aspect we must not ignore. A neithiwr, roeddwn yn y digwyddiad a gynhaliodd Jane Hutt yn y Senedd, pan siaradodd Andrea Wayman o Elite Employment Agency am ei gwaith yn yr elusen sy’n helpu pobl i gael gwaith. A thynnodd sylw at un enghraifft—sut y mae’n gweithio i bobl ifanc; sut y cafodd gymorth un i un ar gyfer dyn ifanc a oedd ag awtistiaeth, a bod cymorth un i un wedi caniatáu iddo ddatblygu yn y gweithle, yn y lleoliad gwaith, a meithrin yr hyder a oedd yn ofynnol. Ac fel y cyfryw, cafodd yr unigolyn ifanc hwnnw waith cyflogedig. Mae honno hefyd yn agwedd bwysig sy’n rhaid i ni beidio â’i hanwybyddu.
Minister, I know you’ve highlighted the actions being taken by the Welsh Government—the introduction of the 2008 strategy, the update of that strategy, the refreshed delivery plan, and the introduction of the integrated national autism services: £13 million; I did put £7 million, but it said £13 million—all wonderful. They are all positive—there’s no doubt about that—but as Paul Davies highlighted, progress is patchy and slow. It’s essential that we ensure such a strategy is consistently delivered by local authorities and health boards, and is providing the best possible services and support for people living with ASD. And I’m afraid I’m not seeing that on the ground, nor the families. The delivery plan, and the introduction of the integrated service, of the Welsh Government are good, but when families don’t experience that delivery in their communities, then we need to take further action. Gweinidog, gwn eich bod wedi tynnu sylw at y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith—cyflwyno strategaeth 2008, diweddariad y strategaeth honno, y cynllun cyflawni ar ei newydd wedd, a chyflwyno gwasanaethau awtistiaeth integredig cenedlaethol: £13 miliwn; rhoddais £7 miliwn, ond dywedai £13 miliwn—y cyfan yn wych. Maent i gyd yn gadarnhaol—nid oes amheuaeth am hynny—ond fel yr amlygodd Paul Davies, mae’r cynnydd yn anghyson ac yn araf. Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod strategaeth o’r fath yn cael ei chyflawni gyda chysondeb gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd, a’i bod yn darparu’r gwasanaethau a’r cymorth gorau posibl i bobl sy’n byw ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig. Ac rwy’n ofni nad wyf yn gweld hynny ar waith, na’r teuluoedd. Mae cynllun cyflawni, a chyflwyno gwasanaeth integredig Llywodraeth Cymru yn iawn, ond pan na fydd teuluoedd yn profi’r ddarpariaeth yn eu cymunedau, yna mae angen i ni gymryd camau pellach.
I have sought clarification from my own authority on its autism strategy, and the identification of its autism champion, and, unfortunately, that clarity is slow in coming forward. This cannot be allowed to continue, and we must put in place requirements, and therefore, perhaps, the need for legal duties, on public bodies, to both prepare strategies for autism services and have due regard for those strategies when performing their responsibilities. Rwyf wedi gofyn am eglurhad gan fy awdurdod ynglŷn â’i strategaeth awtistiaeth, a phwy yw ei hyrwyddwr awtistiaeth, ac yn anffodus, mae’r eglurhad yn araf yn dod. Ni ellir caniatáu i hyn barhau, ac mae’n rhaid inni roi gofynion ar waith, ac felly, efallai, yr angen am ddyletswyddau cyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i baratoi strategaethau ar gyfer gwasanaethau awtistiaeth a rhoi sylw priodol i’r strategaethau hynny wrth gyflawni eu cyfrifoldebau.
Now, I’m aware that various pieces of legislation have been introduced that may help. We also saw referrals to the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 and the additional learning needs Bill, which is currently going through the Assembly. The question that arises is: are they delivering for these families? And will this new Bill support that existing legislation, and improve the plight of these families? And it’s our duty to ask that question. And if we conclude that such a Bill is needed to make the situation better for families on the ground, then we should introduce a statutory obligation that will hold people to account, which will have them act upon it, and which will allow us and families to hold those bodies to account. Nawr, rwy’n ymwybodol fod deddfau amrywiol wedi’u cyflwyno a allai helpu. Gwelsom gyfeirio hefyd at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Bil anghenion dysgu ychwanegol, sydd ar ei daith drwy’r Cynulliad ar hyn o bryd. Y cwestiwn sy’n codi yw: a ydynt yn cyflawni ar gyfer y teuluoedd hyn? Ac a fydd y Bil newydd hwn yn cefnogi’r ddeddfwriaeth sy’n bodoli eisoes, ac yn gwella trafferthion y teuluoedd hyn? Ac mae’n ddyletswydd arnom i ofyn y cwestiwn hwnnw. Ac os down i’r casgliad fod angen Bil o’r fath i wneud y sefyllfa’n well ar gyfer teuluoedd ar lawr gwlad, yna dylem gyflwyno rhwymedigaeth statudol a fydd yn dwyn pobl i gyfrif, a fydd yn eu cael i weithredu’n unol â hi, ac a fydd yn caniatáu i ni a theuluoedd ddwyn y cyrff hynny i gyfrif.
And I accept there are other conditions that are important, that should be sitting alongside autism, and perhaps, in the intervening time, Paul Davies may wish to look at whether it is possible to expand the Bill, to introduce a Bill that covers all neurodevelopment conditions. And I’m sure that it’s time that we do that. Ac rwy’n derbyn fod yna gyflyrau eraill sy’n bwysig, cyflyrau a ddylai fod yn sefyll ochr yn ochr ag awtistiaeth, ac efallai, yn y cyfamser, y bydd Paul Davies yn dymuno edrych i weld a oes modd ymestyn y Bil, cyflwyno Bil sy’n cwmpasu pob cyflwr niwroddatblygiadol. Ac rwy’n siŵr ei bod yn bryd i ni wneud hynny.
Now, this afternoon, I will be supporting this motion and I will be looking forward to the delivery of its ambition, and its offer of improvements to those who live with autism spectrum conditions. It’s important that we legislate for a purpose, and that any legislation will improve the lives of those it targets in Wales. And I will support and look forward to that happening. Nawr, y prynhawn yma, byddaf yn cefnogi’r cynnig hwn, a byddaf yn edrych ymlaen at weld ei uchelgais yn cael ei gyflawni, a’i gynnig o welliannau i’r rhai sy’n byw gyda chyflyrau ar y sbectrwm awtistig. Mae’n bwysig ein bod yn deddfu i bwrpas, ac y bydd unrhyw ddeddfwriaeth yn gwella bywydau’r rhai y mae’n eu targedu yng Nghymru. A byddaf yn cefnogi ac yn edrych ymlaen at weld hynny’n digwydd.
15:33 - Bethan Jenkins
I don’t intend to speak for very long, but I firstly just wanted to thank the campaigners for all your hard work, and it shows that people power does really work. And I don’t think you should undermine the fact that campaigners are doing this for a very real purpose, regardless of the fact that there might be other neuromuscular diseases that warrant that law. Why not legislate for those when we do have those campaigners who come and knock on our doors in the future? So, thank you very much for your tenacity and for your perseverance in this. Nid wyf yn bwriadu siarad yn hir iawn, ond roeddwn eisiau diolch yn gyntaf i’r ymgyrchwyr am eich holl waith caled, ac mae’n dangos bod grym pobl yn gweithio. Ac nid wyf yn meddwl y dylech danseilio’r ffaith fod ymgyrchwyr yn gwneud hyn am reswm real iawn, er gwaethaf y ffaith y gallai fod clefydau niwrogyhyrol eraill sy’n haeddu’r ddeddf honno. Beth am ddeddfu ar gyfer y rheini pan fydd yr ymgyrchwyr hynny’n dod i guro ar ein drysau yn y dyfodol? Felly, diolch yn fawr iawn am eich dycnwch ac am eich dyfalbarhad yn hyn.
I also think it’s important to thank Mark Isherwood for chairing the cross-party group for all these years. Sometimes, when we chair cross-party groups, we often do it looking in on ourselves, and we carry on regardless of what other politicians are doing, and I think you deserve to have that praise here today, Mark, as well. Paul, obviously I’m glad that you’re able to take this forward, and I’m sure, as you’ve heard from people here today, that you have that support, and you have my support, of course. Rwy’n meddwl hefyd ei bod yn bwysig diolch i Mark Isherwood am gadeirio’r grŵp trawsbleidiol am yr holl flynyddoedd. Weithiau, pan fyddwn yn cadeirio grwpiau trawsbleidiol, byddwn yn aml yn ei wneud gan edrych i mewn arnom ein hunain, ac rydym yn bwrw iddi waeth beth fo gwleidyddion eraill yn ei wneud, ac rwy’n meddwl eich bod yn haeddu cael y clod hwnnw yma heddiw hefyd, Mark. Paul, yn amlwg rwy’n falch eich bod yn gallu bwrw ymlaen â hyn, ac rwy’n siŵr, fel y clywsoch gan bobl yma heddiw, fod gennych y gefnogaeth honno, ac mae gennych fy nghefnogaeth i, wrth gwrs.
I go back to the quote that I used in the last debate, when I did a cross-party hustings before I was elected again, and the lady in the audience said, ‘I find it harder to fight the system than I do to deal with my son’s condition day-in, day-out.’ And if we have to hear that as politicians, then that is reason, if anything, to vote ‘yes’ today—not to abstain, to let it through, but to vote ‘yes’, as a matter of principle. That’s what I would urge the Government Ministers to do, because that shows the people in this room who have bothered to come down here today, to listen— Rwy’n mynd yn ôl at y dyfyniad a ddefnyddiais yn y ddadl ddiwethaf, pan gymerais ran mewn hustyngau trawsbleidiol cyn imi gael fy ethol eto, a dywedodd y wraig yn y gynulleidfa, ‘Rwy’n ei chael yn anos ymladd yn erbyn y system nag rwy’n ei chael i ymdopi ddydd ar ôl dydd â chyflwr fy mab.’ Ac os oes rhaid inni glywed hynny fel gwleidyddion, yna dyna reswm, os rhywbeth, dros bleidleisio o blaid heddiw—nid ymatal, er mwyn gadael iddo fynd yn ei flaen, ond pleidleisio o blaid fel mater o egwyddor. Dyna’r hyn y byddwn yn annog Gweinidogion y Llywodraeth i’w wneud, oherwydd bod hynny’n dangos i’r bobl yn yr ystafell hon sydd wedi trafferthu i ddod i lawr yma heddiw, i wrando—
15:35 - Lee Waters
You’re playing to the gallery now. Rydych yn chwarae i’r galeri yn awr.
15:35 - Bethan Jenkins
No, I am not playing to the gallery. I’m speaking based on what I’ve experienced in my constituency, and the level of support for this that you can see here today. And if Government Ministers can see that, they should support that Bill. Na, nid wyf yn chwarae i’r galeri. Rwy’n siarad yn seiliedig ar yr hyn rwyf wedi’i brofi yn fy etholaeth, a lefel y gefnogaeth i hyn y gallwch ei weld yma heddiw. Ac os gall Gweinidogion y Llywodraeth weld hynny, dylent gefnogi’r Bil hwn.
And in answering your question with regard to other conditions, I believe, having consulted the GP next to me before I stood up, that Asperger’s will be part of autistic legislation. Ac wrth ateb eich cwestiwn mewn perthynas â chyflyrau eraill, ar ôl ymgynghori â’r meddyg teulu wrth fy ymyl cyn i mi sefyll, rwy’n credu y bydd Asperger yn rhan o ddeddfwriaeth awtistiaeth.
15:35 - Lee Waters
But what about any other condition? Ond beth am unrhyw gyflwr arall?
15:36 - Bethan Jenkins
Well, okay, we can have a back and forth here— Wel, iawn, gallwn fynd yn ôl ac ymlaen yn y fan hon—
15:36 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
No, you can’t— Na allwch—
15:36 - Bethan Jenkins
[Continues.]—you are supporting the Bill, I’m supporting the Bill. Working on this consensus, perhaps—. I’m not doing it just to get a clap, I’m doing it because I care about the people who have come here today and are bothering to care about these issues. I have somebody on a waiting list for two and a half years for the interim diagnosis of global development delay, waiting in my constituency for that diagnosis. They do not deserve to wait any longer for that diagnosis, and if this legislation can do anything, it is to make that change a reality for them in their everyday lives, not for us sitting making policy—in their everyday lives. So, please support this Bill. [Yn parhau.]—rydych yn cefnogi’r Bil, rwy’n cefnogi’r Bil. Gan weithio ar y consensws hwn, efallai—. Nid wyf yn ei wneud er mwyn cael clap, rwy’n ei wneud am fy mod yn malio am y bobl sydd wedi dod yma heddiw ac sy’n trafferthu i falio am y materion hyn. Mae gennyf rywun ar y rhestr aros ers dwy flynedd a hanner am ddiagnosis interim o oedi mewn datblygiad cyflawn, yn aros am y diagnosis hwnnw yn fy etholaeth. Nid ydynt yn haeddu gorfod aros yn hwy am y diagnosis, ac os gall y ddeddfwriaeth hon wneud unrhyw beth, mae’n mynd i wneud y newid hwnnw’n realiti iddynt yn eu bywydau bob dydd, nid i ni sy’n llunio polisi—yn eu bywydau bob dydd. Felly, os gwelwch yn dda, cefnogwch y Bil hwn.
15:36 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you very much. I call on Paul Davies to reply to the debate. Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Paul Davies i ymateb i’r ddadl.
15:36 - Paul Davies
Thank you, Deputy Presiding Officer. And can I thank Members for their contributions this afternoon? We’ve heard some very useful and thoughtful contributions on an issue that is very important, given the sheer volume of people affected by autism in Wales, and I apologise from the outset that I will not be able to refer to everyone’s comments, given the time available to me. Now, we’ve heard some concerns about whether there is a need for primary legislation to tackle the gaps and inconsistency in provision across Wales. I just want to reiterate that this Bill intends to work alongside Welsh Government strategies and policies, not against them. Diolch, Dirprwy Lywydd. Ac a gaf fi ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma? Rydym wedi clywed rhai cyfraniadau defnyddiol ac ystyriol iawn ar fater sy’n bwysig iawn, o ystyried y nifer fawr o bobl yr effeithir arnynt gan awtistiaeth yng Nghymru, ac ymddiheuraf o’r cychwyn na fyddaf yn gallu cyfeirio at sylwadau pawb, o ystyried yr amser sydd ar gael i mi. Nawr, rydym wedi clywed rhai pryderon ynglŷn ag a oes angen deddfwriaeth sylfaenol i fynd i’r afael â’r bylchau ac anghysondeb yn y ddarpariaeth ledled Cymru. Hoffwn ailadrodd bod y Bil hwn yn bwriadu gweithio ochr yn ochr â strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru, nid yn eu herbyn.
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Ynys Môn am ei gefnogaeth ac am dynnu sylw at grŵp awtistiaeth Ynys Môn, sydd yn poeni am fel mae’r data yn cael eu casglu a pha mor bwysig yw hynny. Ac i ateb ei bwynt e ynglŷn ag a fyddwn i’n barod i ehangu’r Bil, wel, rwyf eisiau sicrhau fy mod i’n barod i edrych i ehangu’r Bil os yn bosib, a byddaf i yn ymgynghori’n eang gyda chi, a chyda rhanddeiliaid, i wneud yn siŵr bod y Bil yma mor effeithiol ag sydd yn bosib. I’m grateful to the Member for Anglesey for his support and for drawing attention to the Anglesey autism group’s concern about how data are collected and how important that is. To respond to his point as to whether I would be willing to broaden the remit of the Bill, I want to give an assurance that I am willing to do that, if possible, and I will consult widely with you and with stakeholders to ensure that this Bill is as effective as it possibly can be.
I’m grateful to the Member for Torfaen for her support, and I understand her reservations about specific legislation. I want to reassure her that I will review the situation over the next 13 months if sufficient progress is being made. I also understand the Member for Llanelli’s reservations about concentrating on one specific condition, and I want to reassure him that I’m more than happy to look at widening the Bill to include other neurodevelopmental conditions, if possible, and that’s something I will be consulting on, should this Bill be given permission to advance to the next stage. Diolch i’r Aelod dros Dorfaen am ei chefnogaeth, ac rwy’n deall ei hamheuon ynglŷn â deddfwriaeth benodol. Hoffwn ei sicrhau y byddaf yn adolygu’r sefyllfa dros y 13 mis nesaf os gwneir digon o gynnydd. Rwyf hefyd yn deall amheuon yr Aelod dros Lanelli ynglŷn â chanolbwyntio ar un cyflwr penodol, ac rwyf am ei sicrhau fy mod yn fwy na pharod i edrych ar ehangu’r Bil i gynnwys cyflyrau niwroddatblygiadol eraill, os yn bosibl, ac mae hynny’n rhywbeth y byddaf yn ymgynghori yn ei gylch, os caiff y Bil ganiatâd i symud ymlaen i’r cyfnod nesaf.
I’m also grateful to David Rees for his support, and he makes a very valid point, I think, about the support people with autism need in getting into employment, and that’s something, hopefully, this Bill will help with. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i David Rees am ei gefnogaeth, ac mae’n gwneud pwynt dilys iawn, rwy’n meddwl, am y cymorth sydd ei hangen ar bobl ag awtistiaeth i gael gwaith, ac mae hynny’n rhywbeth y gobeithiaf y bydd y Bil hwn yn helpu i’w wneud.
Now, we’ve also heard some criticism of the plans brought forward in England, and, so, I’ll say again that we have an opportunity here in Wales to look at other legislatures, learn lessons and create a Bill that is bespoke to the needs of the Welsh autism community. I have no intention of delivering a cut-and-paste job, should this Bill proceed to the next stage. Indeed, my intention is to work closely with the Welsh Government, local stakeholders and those living with autism, to develop a Bill that not only recognises that many people still do not receive the services and support they need, but secures consistent and continued provision for all autism services, regardless of where they live in Wales. And I’m confident that should this proposed Bill proceed to the next stage, I can work with the Welsh Government and the autism community in Wales to establish a piece of legislation that addresses the gaps in provision. Nawr, rydym wedi clywed rhywfaint o feirniadaeth o’r cynlluniau a gyflwynir yn Lloegr hefyd, ac felly, fe ddywedaf unwaith eto fod gennym gyfle yma yng Nghymru i edrych ar ddeddfwrfeydd eraill, dysgu gwersi a chreu Bil sy’n bwrpasol i anghenion y gymuned awtistiaeth yng Nghymru. Nid oes gennyf unrhyw fwriad i gyflwyno rhywbeth torri a gludo os yw’r Bil hwn yn mynd ymlaen i’r cyfnod nesaf. Yn wir, fy mwriad yw gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, rhanddeiliaid lleol a’r rhai sy’n byw gydag awtistiaeth, er mwyn datblygu Bil sydd nid yn unig yn cydnabod bod llawer o bobl yn dal i fethu cael y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt, ond sy’n sicrhau darpariaeth gyson a pharhaus o’r holl wasanaethau awtistiaeth, ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru. Ac rwy’n hyderus, os yw’r Bil arfaethedig hwn yn symud ymlaen i’r cam nesaf, y gallaf weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r gymuned awtistiaeth yng Nghymru i sefydlu deddfwriaeth sy’n mynd i’r afael â’r bylchau yn y ddarpariaeth.
I’m also confident that we can deliver a Bill that meets the needs of those living with autism in Wales and truly ensure that their voices are being heard loud and clear. It’s crucial that we create a Bill that gives autism its own statutory identity, and sends a clear message that the provision of autism services will always be a priority for any Welsh Government, regardless of its political colour or make-up. Rwyf hefyd yn hyderus y gallwn ddarparu Bil sy’n ateb anghenion y rhai sy’n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru a sicrhau o ddifrif fod eu lleisiau’n cael eu clywed yn glir. Mae’n hanfodol ein bod yn creu Bil sy’n rhoi ei hunaniaeth statudol ei hun i awtistiaeth, ac yn anfon neges glir y bydd darparu gwasanaethau awtistiaeth bob amser yn flaenoriaeth i unrhyw Lywodraeth Cymru, waeth beth fo’i lliw gwleidyddol neu ei chyfansoddiad.
And in responding to the Minister, can I thank her for the constructive dialogue we’ve had on this matter, and can I thank her officials for engaging with me? Of course, I’m disappointed that the Minister has indicated the Government will abstain on today’s motion, but I accept that this will still provide an opportunity for today’s motion to go through. However, I’m pleased that the Minister has announced today that the Government will look at putting the action plan on a statutory footing, and I would urge her to take action now so that families living with autism can access the services they need, today and in the future. Ac wrth ymateb i’r Gweinidog, a gaf fi ddiolch iddi am y ddeialog adeiladol a gawsom ar y mater hwn, ac a gaf fi ddiolch i’w swyddogion am ymgysylltu â mi? Wrth gwrs, rwy’n siomedig fod y Gweinidog wedi dweud y bydd Llywodraeth yn ymatal ar y cynnig heddiw, ond rwy’n derbyn y bydd hyn yn parhau i roi cyfle i gynnig heddiw gael ei basio. Fodd bynnag, rwy’n falch fod y Gweinidog wedi cyhoeddi heddiw y bydd y Llywodraeth yn ystyried rhoi’r cynllun gweithredu ar sail statudol, a byddwn yn ei hannog i weithredu yn awr fel y gall teuluoedd sy’n byw gydag awtistiaeth gael mynediad at y gwasanaethau y maent eu hangen, heddiw ac yn y dyfodol.
Therefore, in closing, Deputy Presiding Officer, today the Assembly has an opportunity to send a strong message to the autism community in Wales that its voice is being heard loud and clear. Calls have consistently been made for an autism Bill, and now is the time for this Assembly to step up to the plate, and give the autistic community the support it deserves. I urge Members to support this motion. Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, heddiw mae cyfle gan y Cynulliad i anfon neges gref at y gymuned awtistiaeth yng Nghymru fod ei llais yn cael ei glywed yn glir. Cafwyd galwadau cyson am Fil awtistiaeth, a dyma’r amser i’r Cynulliad hwn ysgwyddo ei chyfrifoldeb a rhoi’r gefnogaeth y mae’n ei haeddu i’r gymuned awtistiaeth. Anogaf yr Aelodau i gefnogi’r cynnig hwn.
15:41 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you very much. The proposal is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] Thank you. Therefore, I defer voting under this item until voting time. Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch yn fawr. Felly, gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Voting deferred until voting time.
6. Debate by Individual Members under Standing Order 11.21(iv): Hepatitis C 6. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Hepatitis C
15:41 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
The next item is on the agenda is a debate by individual Members under Standing Order 11.21, and I call on Julie Morgan to move the motion—Julie. Yr eitem nesaf ar yr agenda yw dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21, a galwaf ar Julie Morgan i gynnig y cynnig—Julie.
Cynnig NDM6311 Julie Morgan, Hefin David, Dai Lloyd, Angela Burns, Mark Isherwood Motion NDM6311 Julie Morgan, Hefin David, Dai Lloyd, Angela Burns, Mark Isherwood
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: To propose that the National Assembly for Wales:
1. Yn llongyfarch staff GIG Cymru am drin a gwella'r nifer uchaf erioed o gleifion â Hepatitis C. 1. Congratulates the staff in the NHS in Wales for treating and curing an unprecedented number of patients with Hepatitis C.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei hymrwymiad i ddyddiad dileu Hepatitis C Sefydliad Iechyd y Byd o 2030. 2. Calls on the Welsh Government to confirm their commitment to the World Health Organisation eradication date of 2030.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried canllawiau gweithredu newydd er mwyn cefnogi'r GIG i weithio tuag at ddileu Hepatitis C yng Nghymru. 3. Calls on the Welsh Government to consider new operational guidelines to support the NHS to work towards the eradication of Hepatitis C in Wales.
Cynigiwyd y cynnig. Motion moved.
15:41 - Julie Morgan
Thank you very much, Deputy Presiding Officer, for calling me to move this very important motion, supported by Hefin David, Dai Lloyd, Angela Burns and Mark Isherwood. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am fy ngalw i gynnig y cynnig pwysig hwn a gefnogir gan Hefin David, Dai Lloyd, Angela Burns a Mark Isherwood.
We have started out on a journey in Wales in the last two years to identify and treat everyone who has the blood-borne virus hepatitis C. In this motion today, we are calling on the Welsh Government to reconfirm its commitment to eradicate hepatitis C in Wales by 2030, the date set by the World Health Organization. And we’re congratulating the NHS doctors and nurses for the work that they’ve already done towards treating and curing an unprecedented number of people with hepatitis C. We’re also calling for new operational guidelines to be considered by the Welsh Government that will help NHS medical staff in this difficult task. Great progress has already been made in enabling equitable and transparent access to new medicine in an affordable and responsible way. The new treatments are approved by the National Institute for Health and Care Excellence and the All Wales Medicines Strategy Group and are cost-effective. All patients in Wales are now able to access the new highly effective antiviral drugs, and, in fact, there has been a cure rate of 95 per cent, which is so encouraging. The work is being led by the blood-borne virus group, and I’d like to pay tribute to them and to Dr Brendan Healy, who is the lead consultant. He said: ‘I’m really proud to be able to represent such an amazing team. The work and effort they have put in is phenomenal’. My contact with this group, I think, does really show the NHS at its very best. Rydym wedi dechrau ar daith yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf i nodi a thrin pawb sydd â’r feirws a gludir yn y gwaed, hepatitis C. Yn y cynnig hwn heddiw, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailgadarnhau ei hymrwymiad i ddileu hepatitis C yng Nghymru erbyn 2030, y dyddiad a bennwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd. Ac rydym yn llongyfarch meddygon a nyrsys y GIG am y gwaith y maent eisoes wedi’i wneud ar drin a gwella nifer digynsail o bobl sydd â hepatitis C. Rydym hefyd yn galw am ganllawiau gweithredol newydd i’w hystyried gan Lywodraeth Cymru i helpu staff meddygol y GIG yn y dasg anodd hon. Gwnaed cynnydd gwych eisoes ar alluogi mynediad teg a thryloyw at feddyginiaethau newydd mewn ffordd fforddiadwy a chyfrifol. Mae’r triniaethau newydd wedi’u cymeradwyo gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru ac maent yn gosteffeithiol. Bydd pob claf yng Nghymru bellach yn gallu cael mynediad at gyffuriau newydd gwrthfeirysol hynod o effeithiol, ac yn wir, cafwyd cyfradd wella o 95 y cant, sydd mor galonogol. Mae’r gwaith yn cael ei arwain gan y grŵp feirysau a gludir yn y gwaed, a hoffwn dalu teyrnged iddynt hwy ac i Dr Brendan Healy, sef y meddyg ymgynghorol arweiniol. Dywedodd: ‘Rwy’n falch iawn o allu cynrychioli tîm mor anhygoel. Mae’r gwaith a’r ymdrech y maent wedi’i wneud yn aruthrol’. Mae fy nghysylltiad â’r grŵp hwn, rwy’n meddwl, o ddifrif yn dangos y GIG ar ei orau.
Hepatitis C is a blood-borne virus that affects the liver. Eighty per cent of people who are infected develop chronic hepatitis C, which can cause fatal cirrhosis and liver cancer if untreated. The estimate is that 240,000 people are chronically infected with hepatitis C in the UK, and about 12,000 of these are in Wales. But the exact figure is unknown because there are so many people who have it, but don’t know that they have it. And we know that it particularly affects people from disadvantaged communities; almost half come from the poorest fifth of society. Mae hepatitis C yn feirws a gludir yn y gwaed sy’n effeithio ar yr afu. Mae 80 y cant o’r bobl a heintir yn datblygu hepatitis C cronig, sy’n gallu achosi sirosis angheuol a chanser yr iau os na chaiff ei drin. Yr amcangyfrif yw bod 240,000 o bobl wedi’u heintio’n gronig â hepatitis C yn y DU, ac mae oddeutu 12,000 o’r rhain yng Nghymru. Ond nid yw’r union ffigur yn hysbys oherwydd bod cymaint o bobl â’r haint heb wybod ei fod arnynt. Ac rydym yn gwybod ei fod yn effeithio’n arbennig ar bobl o gymunedau difreintiedig; daw bron hanner yr achosion o’r un rhan o bump tlotaf o’r gymdeithas.
Hepatitis C is transmitted though contact with infected blood. And it is true that the majority become infected after injecting drugs. The latest figures from the Hepatitis C Trust show that 50 per cent of injecting drug users in Wales have hepatitis C. But the virus also affects those who could possibly have had overseas medical care, and people who have had a blood transfusion in the UK before 1991, which, of course, include haemophiliacs, as I know from my work as chair of the cross-party group on haemophilia and contaminated blood. Caiff hepatitis C ei drosglwyddo drwy gysylltiad â gwaed a heintiwyd. Ac mae’n wir fod y rhan fwyaf yn cael eu heintio ar ôl chwistrellu cyffuriau. Mae’r ffigurau diweddaraf gan Ymddiriedolaeth Hepatitis C yn dangos bod 50 y cant o’r bobl sy’n chwistrellu cyffuriau yng Nghymru wedi’u heintio gan hepatitis C. Ond mae’r feirws hefyd yn effeithio ar y rhai a allai fod wedi cael gofal meddygol dramor, a phobl sydd wedi cael trallwysiad gwaed yn y DU cyn 1991, sydd hefyd, wrth gwrs, yn cynnwys hemoffiligion, fel y gwn o fy ngwaith fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed halogedig.
In many ways hepatitis C is a hidden disease because people can live without symptoms for decades after infection. I think we all know of the case of Anita Roddick, who founded The Body Shop, because she only discovered she had hepatitis C in 2004. She contracted it through a blood transfusion after giving birth to her daughter in 1971. So, she was actually living with this disease for 30 years without knowing it, and she died from a complication of liver disease in 2007. Mewn nifer o ffyrdd mae hepatitis C yn glefyd cudd oherwydd gall pobl fyw heb symptomau am ddegawdau ar ôl cael eu heintio. Rwy’n credu ein bod i gyd yn gwybod am achos Anita Roddick, a sefydlodd The Body Shop, gan na ddarganfu fod ganddi hepatitis C hyd nes 2004. Fe’i cafodd drwy drallwysiad gwaed ar ôl rhoi genedigaeth i’w merch yn 1971. Felly, roedd yn byw gyda’r clefyd hwn ers 30 mlynedd heb yn wybod iddi, a bu farw o gymhlethdod yn sgil clefyd yr afu yn 2007.
I am very proud of the progress we have made so far in Wales thanks to the Welsh Government’s leadership and funding. The 2015 liver disease action plan set out a plan to eradicate hepatitis C, alongside treating other types of liver disease. A huge breakthrough came in September 2015, when the finance Minister, Jane Hutt, agreed the funding of £13.8 million for new, interferon-free drugs sofosbuvir, Harvoni and AbbVie. The funding was used to treat 466 of the most seriously ill patients with hepatitis C, and 432 were cured, including members of the haemophilia community in Wales. This has made an absolutely huge impact on these people’s lives, and the haemophiliacs have in fact been treated with the new drugs ahead of their counterparts in England, some of whom are still waiting to get help. Rwy’n falch iawn o’r cynnydd a wnaed gennym hyd yn hyn yng Nghymru, diolch i arweiniad a chyllid Llywodraeth Cymru. Roedd cynllun gweithredu ar gyfer clefyd yr afu 2015 yn nodi cynllun i ddileu hepatitis C, ochr yn ochr â thrin mathau eraill o glefyd yr afu. Daeth llwyddiant mawr ym mis Medi 2015, pan gytunodd y Gweinidog cyllid, Jane Hutt, ar gyllid o £13.8 miliwn am gyffuriau newydd di-interfferon sofosbuvir, Harvoni a AbbVie. Defnyddiwyd yr arian i drin 466 o’r cleifion mwyaf sâl â hepatitis C, a gwellodd 432 ohonynt, gan gynnwys aelodau o’r gymuned hemoffilia yng Nghymru. Mae hyn wedi cael effaith enfawr ar fywydau’r bobl hyn, ac mewn gwirionedd cafodd yr hemoffiligion eu trin â’r cyffuriau newydd cyn eu cymheiriaid yn Lloegr, ac mae rhai o’r rheini’n dal i aros am help.
One example of a Welsh patient is David Thomas, who is a constituent of the Cabinet Secretary and is a member of the cross-party group on haemophilia and contaminated blood. He contracted hepatitis C through contaminated blood when he was a teenager in the 1980s and lived with it for 30 years, but was one of the first to have treatment with the new drugs, which have absolutely transformed his life, lifting a massive cloud, as he said. Un enghraifft o glaf yng Nghymru yw David Thomas, sy’n un o etholwyr Ysgrifennydd y Cabinet ac mae’n aelod o’r grŵp trawsbleidiol ar haemoffilia a gwaed halogedig. Daliodd hepatitis C drwy waed halogedig pan oedd yn ei arddegau yn y 1980au a bu’n byw gydag ef am 30 mlynedd, ond roedd yn un o’r rhai cyntaf i gael triniaeth gyda’r cyffuriau newydd, sydd wedi trawsnewid ei fywyd yn llwyr, ac wedi cael gwared ar gwmwl enfawr, fel y dywedodd.
So, obviously, one of the challenges now is to convince people to come forward again for treatment for hepatitis C who may previously have had failed treatment using the interferon drugs. I welcome the fact that health boards now have £25 million a year that allows 900 people a year to be tested over five years. We must ensure that that money is used to fund all the associated costs of doing this. More than 700 people were treated in 2016-17, but I understand that the problem now is finding the people who need to be tested at this point. There are currently no waiting lists for treatment. The funding and the drugs are there, but we need to identify the 50 per cent of people who have got hepatitis C but don’t know it. Felly, yn amlwg, un o’r heriau yn awr yw argyhoeddi pobl a allai fod wedi cael triniaeth aflwyddiannus yn y gorffennol i ddod i gael triniaeth ar gyfer hepatitis C gan ddefnyddio’r cyffuriau interfferon. Croesawaf y ffaith fod gan fyrddau iechyd £25 miliwn y flwyddyn bellach sy’n caniatáu i 900 o bobl y flwyddyn gael eu profi dros gyfnod o bum mlynedd. Rhaid i ni sicrhau bod yr arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio i ariannu’r holl gostau sy’n gysylltiedig â hyn. Cafodd mwy na 700 o bobl eu trin yn 2016-17, ond rwy’n deall mai’r broblem yn awr yw dod o hyd i’r bobl y mae angen cynnal profion arnynt ar y pwynt hwn. Nid oes unrhyw restrau aros i gael triniaeth ar hyn o bryd. Mae’r arian a’r cyffuriau yno, ond mae angen dod o hyd i’r 50 y cant o bobl sydd â hepatitis C heb yn wybod iddynt.
The other great challenge we face in trying to eradicate hepatitis C is to reach people who are unaware of the virus because they may not be regulars at their GP surgery. As I’ve said, 50 per cent of people who have the virus are undiagnosed, according to the Hepatitis C Trust. Other groups that may be at risk of this are gym users who take performance-enhancing drugs; drug users with hepatitis C; prisoners who get tested during their sentence and may not get the results in time for their release; asylum seekers, migrants and homeless people. Everyone working on eradicating hepatitis C says that one of the biggest problems is the stigma that is attached to it, and I’m very pleased that there’s going to be a public awareness raising campaign that will be launched in Wales here in the Assembly on 11 July. Yr her fawr arall a wynebwn wrth geisio cael gwared ar hepatitis C yw cyrraedd pobl nad ydynt yn ymwybodol o’r feirws am nad ydynt yn ymweld â’u meddygfa yn rheolaidd. Fel y dywedais, nid yw 50 y cant o’r bobl sydd â’r feirws wedi cael diagnosis eto yn ôl Ymddiriedolaeth Hepatitis C. Grwpiau eraill a allai fod mewn perygl yw pobl sy’n defnyddio’r gampfa ac sy’n cymryd cyffuriau i wella’u perfformiad; defnyddwyr cyffuriau sydd â hepatitis C; carcharorion sy’n cael eu profi yn ystod eu carchariad ond nad ydynt yn cael y canlyniadau mewn pryd cyn eu rhyddhau; ceiswyr lloches, mewnfudwyr a phobl ddigartref. Mae pawb sy’n gweithio i ddileu hepatitis C yn dweud mai un o’r problemau mwyaf yw’r stigma sydd ynghlwm ag ef, ac rwy’n falch iawn fod ymgyrch yn mynd i gael ei lansio yng Nghymru yma yn y Cynulliad ar 11 Gorffennaf i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd.
One way of tackling the lack of awareness and stigma around hepatitis C is by using peer mentors, which have proved very successful. We also need a programme to educate other health professionals about hepatitis C, not just members of the public, because it’s very important that GPs pick up on the signals and recommend testing and refer people for treatment. There is need for more health professionals to have training. Pharmacies need national agreed targets and training in dried-blood-spot testing. Community pharmacies could play a major role, as well as drug outreach projects and needle exchange centres. All the people involved in treating this blood-borne virus agree that tackling the issue in the community where they live is the key. There are lots of examples of how this is done: for example, they are testing asylum seekers and people in accident and emergency in Cardiff; in Tesco at Fforestfach in Swansea, there is a community testing room next to a gym, so gym users are getting tested; and there’s a form to improve patient management and collect data automatically that is being developed in Cardiff and in other centres. Un ffordd o fynd i’r afael â’r diffyg ymwybyddiaeth a’r stigma ynglŷn â hepatitis C yw drwy ddefnyddio mentoriaid cymheiriaid, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae angen rhaglen i addysgu gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ynglŷn â hepatitis C, nid aelodau’r cyhoedd yn unig, gan ei bod yn bwysig iawn fod meddygon teulu yn sylwi ar yr arwyddion ac yn argymell profion ac yn atgyfeirio pobl i gael triniaeth. Mae angen i fwy o weithwyr iechyd proffesiynol gael hyfforddiant. Mae angen targedau wedi’u cytuno’n genedlaethol a hyfforddiant mewn profion smotiau gwaed sych i fferyllfeydd. Gallai fferyllfeydd cymunedol chwarae rhan bwysig, yn ogystal â phrosiectau allgymorth cyffuriau a chanolfannau cyfnewid nodwyddau. Mae pob un o’r bobl sy’n ymwneud â thrin y feirws hwn a gludir yn y gwaed yn cytuno mai mynd i’r afael â’r mater yn y gymuned lle maent yn byw yw’r allwedd. Ceir llawer o enghreifftiau o sut i wneud hyn: er enghraifft, maent yn cynnal profion ar geiswyr lloches a phobl yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys yng Nghaerdydd; yn Tesco yn Fforestfach yn Abertawe, ceir ystafell gymunedol ar gyfer cynnal profion drws nesaf i gampfa, felly cynhelir profion ar ddefnyddwyr y gampfa; ac mae ffurflen ar gyfer gwella rheolaeth cleifion a chasglu data’n awtomatig yn cael ei datblygu yng Nghaerdydd ac mewn canolfannau eraill.
The motion also calls for new operational guidelines to be considered to support NHS staff working to eradicate hepatitis C. We need to streamline the paperwork involved. We need to use electronic referrals to speed up the whole process of getting people treated. The medical staff would also like to see a strategic plan specifically for the elimination of hepatitis C, with all the elements fully funded, including the cost of extra lab testing and community testing. Mae’r cynnig hefyd yn galw am ystyried canllawiau gweithredol newydd er mwyn cynorthwyo staff y GIG sy’n gweithio i ddileu hepatitis C. Mae angen inni symleiddio’r gwaith papur sy’n gysylltiedig â hyn. Mae angen inni ddefnyddio dulliau atgyfeirio electronig i gyflymu’r holl broses o gael pobl wedi’u trin. Hefyd, byddai’r staff meddygol yn hoffi gweld cynllun strategol penodol ar gyfer dileu hepatitis C, gyda’r holl elfennau wedi’u hariannu’n llawn, gan gynnwys cost profion labordy ychwanegol a chynnal profion yn y gymuned.
I would like to end, really, by praising the health professionals, public health officials and the third sector organisations who are so committed to tackling this blood-borne disease. There has been a tremendous positive movement in Wales to get to the stage where we can eradicate it. It’s been the wonders of modern science, along with the commitment from the Welsh Government, to ensure that this will happen. But we do need more people to come forward for testing and I think we’d all welcome some high-profile celebrities to come out and say they have hepatitis C to help de-stigmatise the disease. So, I’m very pleased that we have begun this process of eliminating hepatitis C and I hope that the journey will end with a hepatitis C-free Wales. Hoffwn orffen, mewn gwirionedd, drwy ganmol y gweithwyr iechyd proffesiynol, y swyddogion iechyd y cyhoedd a’r mudiadau trydydd sector sydd wedi ymrwymo i’r fath raddau i drechu’r clefyd hwn a gludir yn y gwaed. Cafwyd symud cadarnhaol aruthrol yng Nghymru i gyrraedd y cam lle y gallwn ei ddileu. Rhyfeddodau gwyddoniaeth fodern, ynghyd ag ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi sicrhau y bydd hyn yn digwydd. Ond mae angen cynnal profion ar fwy o bobl ac rwy’n credu y byddai pawb ohonom yn falch o weld pobl enwog proffil uchel yn dweud bod ganddynt hepatitis C i helpu i gael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig â’r clefyd. Felly, rwy’n falch iawn ein bod wedi dechrau ar y broses hon o ddileu hepatitis C, ac rwy’n gobeithio mai pen y daith fydd Cymru heb achosion o hepatitis C.
15:50 - Mark Isherwood
An estimated—we heard—12,000 to 14,000 people are currently living with hepatitis C in Wales, around half undiagnosed. It’s one of three main causes of liver disease and the only one of the five big killers in Wales and England where deaths are rising. It therefore represents a significant public health challenge. As I said in January’s debate on the contamination of blood, in the 1970s and 1980s, a large proportion of blood products supplied to patients by the NHS was contaminated with HIV or hepatitis C. Around 4,670 patients with haemophilia were infected and over 2,000 have since died in the UK, including 70 in Wales, from the effects of these viruses. However, evidentially, hepatitis C primarily affects people from particular groups, such as injecting drug users, homeless people, gay and bisexual men, and migrant populations from high-prevalence regions. Clywsom fod 12,000 i 14,000 amcangyfrifedig o bobl yn byw gyda hepatitis C yng Nghymru ar hyn o bryd, ac oddeutu eu hanner heb gael diagnosis. Mae’n un o dri phrif achos clefyd yr afu a’r unig un o’r pum clefyd sy’n lladd fwyaf o bobl yng Nghymru a Lloegr lle mae nifer y marwolaethau ar gynnydd. Felly, mae’n her iechyd cyhoeddus sylweddol. Fel y dywedais yn y ddadl ym mis Ionawr ar waed halogedig, yn y 1970au a’r 1980au roedd cyfran fawr o’r cynhyrchion gwaed a ddarparwyd i gleifion gan y GIG wedi’i halogi â HIV neu hepatitis C. Cafodd oddeutu 4,670 o gleifion â hemoffilia eu heintio ac ers hynny mae dros 2,000 wedi marw o effeithiau’r feirysau hyn yn y DU, gan gynnwys 70 yng Nghymru. Fodd bynnag, yn ôl y dystiolaeth, mae hepatitis C yn effeithio’n bennaf ar bobl o grwpiau penodol, megis defnyddwyr cyffuriau sy’n chwistrellu, pobl ddigartref, dynion hoyw a deurywiol, a phoblogaethau mudol o fannau sydd â nifer fawr o achosion.
Daeth y Llywydd i’r Gadair. The Presiding Officer took the Chair.
Mark Isherwood
The recent Hepatitis C Trust report, ‘Hepatitis C in Wales: Perspectives, challenges & solutions’, concludes with a number of key recommendations for action as follows: the inclusion of a commitment to eliminate hepatitis C Mae adroddiad diweddar Ymddiriedolaeth Hepatitis C, ‘Hepatitis C in Wales: Perspectives, challenges & solutions ‘, yn gorffen gyda nifer o argymhellion allweddol ar gyfer gweithredu, fel a ganlyn: cynnwys ymrwymiad i ddileu hepatitis C
‘as a serious public health concern…within the Welsh Government’s forthcoming Public Health Bill. fel problem ddifrifol o ran iechyd y cyhoedd... ym Mil Iechyd y Cyhoedd Llywodraeth Cymru sydd ar y ffordd.
‘The implementation of a public awareness campaign aimed at tackling stigma around hepatitis C and at encouraging individuals to access testing. Cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd gyda’r nod o fynd i’r afael â stigma ynghylch hepatitis C ac annog unigolion i gael profion.
‘A continuation of, and long-term commitment to, the successful all-Wales hepatitis C treatment protocol, which ensures equal access to new, highly effective treatments for increased numbers of people. Parhau’r ymrwymiad yn hirdymor i brotocol triniaeth hepatitis C llwyddiannus ar gyfer Cymru gyfan, sy’n sicrhau mynediad cyfartal at driniaethau newydd hynod o effeithiol ar gyfer nifer cynyddol o bobl.
‘An increase in the number of community-based treatment services…to ensure access to treatment for groups who traditionally find services difficult to access. Cynyddu nifer y gwasanaethau triniaeth yn y gymuned... i sicrhau mynediad at driniaeth ar gyfer grwpiau sy’n draddodiadol yn ei chael yn anodd cael mynediad at wasanaethau.
‘Full implementation of an opt-out approach to BBV testing in substance misuse services, as set out in the Welsh Government’s Working Together to Reduce Harm: Substance Misuse Delivery Plan 2016–2018.’ Gweithredu dull optio allan llawn ar gyfer profion feirysau a gludir yn y gwaed mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, fel y nodir yn Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed: Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Gamddefnyddio Cyffuriau 2016-2018.
And, A
‘The utilisation of opportunities, such as mandatory GP education days, to deliver BBV training to key primary care professionals.’ Defnyddio cyfleoedd, megis diwrnodau addysg orfodol i feddygon teulu er mwyn darparu hyfforddiant ar feirysau a gludir yn y gwaed i weithwyr proffesiynol gofal sylfaenol allweddol.
The approval of new drug treatments by NICE and the All Wales Medicines Strategy Group means that the elimination of hepatitis C as a serious public health concern in Wales is now a wholly achievable goal. To seize this new opportunity, we must find the 50 per cent of people currently undiagnosed by widening access to testing and further investigating which groups can be cost-effectively screened. By increasing diagnoses we will be able to treat and cure more people. With effective and accessible new treatments now available to all who need to them, it’s easier than ever to treat and cure patients, presenting a great opportunity to achieve the elimination of hepatitis C in Wales. Mae cymeradwyo triniaethau cyffuriau newydd gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru NICE yn golygu bod dileu hepatitis C fel problem ddifrifol o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru bellach yn nod cwbl gyraeddadwy. I achub ar y cyfle newydd hwn, mae’n rhaid i ni ddod o hyd i’r 50 y cant o bobl nad ydynt wedi cael diagnosis ar hyn o bryd drwy ehangu mynediad at brofion ac ymchwilio ymhellach pa grwpiau y gellir eu sgrinio’n gosteffeithiol. Trwy gynyddu cyfraddau diagnosis, byddwn yn gallu trin a gwella mwy o bobl. Gyda thriniaethau newydd effeithiol a hygyrch ar gael bellach i bawb sydd eu hangen, mae’n haws nag erioed i drin a gwella cleifion, sy’n cynnig cyfle gwych i ddileu hepatitis C yng Nghymru.
The key steps that the Hepatitis C Trust believes will help to drive progress in this, and reflecting what I said earlier, are increasing testing in primary care, antenatal care and pharmacies in order to find the undiagnosed; implementing a strategy to re-engage patients who have tested positive for hepatitis C but disengaged from the care pathway; launching a public awareness campaign to find undiagnosed patients, particularly those who may have contracted the virus a long time ago and are unaware that they were ever at risk; making treatment available to hepatitis C patients in community settings, such as drug services and GP surgeries, to widen access to patients traditionally considered hard to reach; providing training and information about hepatitis C to healthcare professionals, particularly GPs; and, making the use of buddy schemes more widespread and ensuring the provision of peer education in substance misuse services in order to tackle barriers to patients engaging in treatment and to spread key messages to at risk groups. Y camau allweddol y mae’r Ymddiriedolaeth Hepatitis C yn credu y byddant yn helpu i ysgogi cynnydd yn hyn o beth, gan adlewyrchu’r hyn a ddywedais yn gynharach, yw cynyddu lefel y profion a gynhelir mewn gofal sylfaenol, gofal cyn geni a fferyllfeydd er mwyn dod o hyd i’r rhai sydd heb gael diagnosis; gweithredu strategaeth i ailymgysylltu â chleifion sydd wedi cael canlyniad positif i brawf hepatitis C ond sydd wedi ymddieithrio o’r llwybr gofal; lansio ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd i ddod o hyd i gleifion sydd heb gael diagnosis, yn enwedig y rhai a allai fod wedi dal y feirws amser maith yn ôl ac nad ydynt yn ymwybodol eu bod wedi wynebu risg erioed; sicrhau bod triniaeth ar gael i gleifion hepatitis C mewn lleoliadau cymunedol, megis gwasanaethau cyffuriau a meddygfeydd meddygon teulu, er mwyn ehangu mynediad i gleifion yr ystyrir yn draddodiadol eu bod yn anodd eu cyrraedd; darparu hyfforddiant a gwybodaeth am hepatitis C i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn enwedig meddygon teulu; ac ehangu defnydd o gynlluniau cyfeillio a sicrhau y darperir addysg gan gymheiriaid mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau er mwyn mynd i’r afael â rhwystrau i gleifion rhag cael triniaeth ac i ledaenu negeseuon allweddol i grwpiau sy’n wynebu risg.
Backing calls for a hepatitis C elimination strategy, a global research-based biopharmaceutical company, AbbVie, has contacted Members calling for this to set out the steps to elimination, including annual testing, screening, diagnosis and treatment numbers. The strategy should have ministerial oversight and be driven by the hepatitis C sub-group of the Welsh liver plan implementation board, with a mandate to ensure that ambitious targets are met across all local health boards. And the Welsh Government and NHS, they say, should continue its open approach to engagement with all partners involved in delivering care and treatment to people living with hepatitis C, so that flexible and innovative care models can be established, including peer-to-peer support in community settings. As they say, changing models of care will require a renewed approach to education, training and workforce development. And as today’s motion therefore states, we call on the Welsh Government to confirm their commitment to the World Health Organization eradication date of 2030, and to consider new operational guidelines to support NHS Wales to work towards this. Thank you. Gan gefnogi’r galw am strategaeth i ddileu hepatitis C, mae cwmni ymchwil biofferyllol byd-eang, AbbVie, wedi cysylltu ag Aelodau yn galw am sicrhau bod y strategaeth yn nodi’r camau ar gyfer dileu’r clefyd, gan gynnwys niferoedd profion blynyddol, sgrinio, diagnosis a thriniaeth. Dylai’r strategaeth gael ei goruchwylio gan weinidog a chael ei gyrru gan is-grŵp hepatitis C bwrdd gweithredu cynllun yr afu ar gyfer Cymru, gyda mandad i sicrhau bod targedau uchelgeisiol yn cael eu cyrraedd ar draws yr holl fyrddau iechyd lleol. Ac maent yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru a’r GIG barhau â’u dull agored o ymgysylltu â’r holl bartneriaid sy’n ymwneud â darparu gofal a thriniaeth i bobl sy’n byw gyda hepatitis C, fel y gellir sefydlu modelau gofal hyblyg ac arloesol, yn cynnwys cymorth gan gymheiriaid mewn lleoliadau cymunedol. Fel y maent yn ei ddweud, bydd modelau gofal sy’n newid yn galw am ymagwedd newydd tuag at addysg, hyfforddiant a datblygu’r gweithlu. Ac fel y mae cynnig heddiw yn datgan felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei hymrwymiad i ddyddiad Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer dileu’r clefyd, sef 2030, ac i ystyried canllawiau gweithredol newydd i gynorthwyo GIG Cymru i weithio tuag at hyn. Diolch.
15:55 - Rhun ap Iorwerth
Mi wnaf gadw fy nghyfraniad heddiw yn fyr. Eisiau datgan fy nghefnogaeth ydw i, yn syml iawn, i’r cynnig pwysig iawn yma. Mae’r nod yn syml iawn, iawn yn fan hyn, onid yw, ac mae hefyd yn hynod, hynod gyffrous rwy’n meddwl. Y nod ydy dileu hepatitis C yng Nghymru yn gyfan gwbl. Oes, mae yna ymrwymiad gan Sefydliad Iechyd y Byd i waredu erbyn 2030, ond mi allem ni yng Nghymru symud ar amserlen dynnach na hynny. Mae cymal 1 y cynnig sydd o’n blaenau ni heddiw yn dangos bod llawer o’r isadeiledd iechyd gennym ni yn barod, yn benodol, ac yn arbennig felly, y bobl sydd gennym ni o fewn ein cyfundrefn iechyd, ac rwy’n falch iawn o allu diolch iddyn nhw heddiw am y camau bras sydd wedi cael eu cymryd yn barod o ran hyn. I’ll keep my contribution today short. I just want to state my support, very simply, for this important motion. The aim is very simple too, and it’s also extremely exciting, I think. The aim is to eradicate hepatitis C in Wales in its entirety. Yes, there is a commitment from the World Health Organization to eradicate by 2030, but we, here in Wales, could move according to a tighter timescale than that. The first part of the motion before us shows that a great deal of the infrastructure, in terms of health, is available to us already, specifically the people within our health service, and I’m very pleased to be able to thank them for the major steps that have already been taken in that regard.
Mi fyddwn i hefyd yn hoffi diolch i Julie Morgan am y gwaith mae hi yn ei wneud yn y maes yma. Mae wedi bod yn bleser cydweithio nid yn unig ar hepatitis C a’r gwaredu y gobeithiwn y gwelwn ni yn y blynyddoedd i ddod, ond hefyd ar y testun o waed wedi ei heintio. Ond mae wedi fy nharo i, fel mae o wedi taro yr Aelod dros Ogledd Caerdydd, mai’r broblem sydd gennym ni bron iawn ydy diffyg cleifion ar hyn o bryd, ac mae hynny, onid yw, yn deyrnged i’r staff sydd gennym ni o fewn y gwasanaeth iechyd. Mae o’n swnio’n od iawn, ond mae gennym ni fwy o gapasiti nag sydd gennym ni o gleifion i fynd drwy y system, ac mae’n deg dweud nad ydym ni yn sôn am hynny’n aml iawn pan rydym yn sôn am yr NHS, ond mae’n wir yn yr achos hwn. A’r gwir ydy mai canfod y rheini sydd ddim wedi cael y diagnosis, sydd ddim yn gwybod eu bod nhw mewn grŵp risg, sydd ddim yn dangos symptomau, ydy’r her o’n blaenau ni er mwyn i ni allu symud ymlaen tuag at waredu. I’d also like to thank Julie Morgan for the work that she does in this particular field. It’s been a pleasure to collaborate not just on hepatitis C and the eradication that we hope to see in the years to come, but also on the subject of contaminated blood. It’s struck me, as it has the Member for Cardiff North, that the problem is a lack of patients, almost, at present. That’s a tribute to the staff that we have within the health service. It sounds very strange, but we have more capacity than we have patients to go through the system. It’s fair to say that we don’t talk about that very often when we talk about the NHS, but it is true in this particular instance. The truth is it’s about finding those people who haven’t yet received a diagnosis, who don’t know that they’re in an at-risk group, who don’t show symptoms. That’s the challenge in front of us, to be able to move forward towards eradication.
Ni wnaf ailadrodd rhai o’r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod ynglŷn â sut i wneud hynny drwy dynhau pethau o fewn gofal sylfaenol, drwy chwilio am grwpiau a allai fod o risg uchel—mwy o brofion mewn carchardai ar ddefnyddwyr cyffuriau, profion yn y system ‘antenatal’, ac yn y blaen. Mae’r gwaith da a’r sylfeini wedi cael eu gosod yn barod, ac rwy’n ddiolchgar i’r Llywodraeth am y gwthio sydd wedi cael ei wneud yn y fan hyn yn barod. Ond rwyf yn falch bod y cynnig yma gennym ni heddiw, ac rwy’n falch iawn o gael cefnogi’r cynnig heddiw er mwyn rhoi gwthiad pellach tuag at gyrraedd y nod yma, sydd yn uchelgais gwirioneddol gyraeddadwy yma yng Nghymru, a rhywbeth rwy’n gwybod y byddwn ni fel cenedl yn falch iawn ohono fo pan rydym ni yn cyrraedd y nod. I won’t repeat some for the comments that have already been made with regard to how to do that, by tightening up primary care, by searching for groups that might be at a higher risk—more testing in prisons and for drug users, and in the antenatal system, and so on. The good work and the foundations have already been laid, and I’m very grateful to the Government for the strides taken in this regard already. But I’m pleased that the motion is before us today, and I’m pleased to be able to support this motion to give that extra push towards reaching that aim that is genuinely achievable in Wales. It’s something that I know that we, as a nation, will be very proud of when we do achieve it.
15:59 - Hefin David
I’d like to start my comments by saying how glad I am to see Julie Morgan back in the Chamber, and it’s a real privilege to work with her on these issues, particularly the contaminated blood, and to support her lead here on this issue with regard to hepatitis C—a real privilege. Hoffwn ddechrau fy sylwadau drwy ddweud mor falch yr wyf o weld Julie Morgan yn ôl yn y Siambr, ac mae’n fraint gweithio gyda hi ar y materion hyn, yn enwedig y gwaed halogedig, ac i gefnogi ei harweiniad yma ar y mater hwn mewn perthynas â hepatitis C—braint go iawn.
I support the motion because of the work that has been done by the Welsh Government and health boards in Wales, and agree with what Rhun has said and Mark Isherwood has said that we have more work to do. I’d like to give some examples from the Aneurin Bevan health board, which serves my constituency and the area of Gwent, particularly the recognition that they’ve made that it can take decades to identify those people who are suffering from this disease and to treat them. The Aneurin Bevan health board’s hepatology service works with partners in a variety of settings to increase the diagnosis of hepatitis infection and on the phased introduction of new hepatitis C drugs. The Aneurin Bevan health board prison healthcare team have implemented an opt-out blood-borne virus testing policy at reception appointments at HMP Prescoed in Usk. In 2016, they reported to me—I’ve investigated this in preparation for this debate—a significant increase in the number of prisoners tested and the percentage of admissions tested, and there’s been a steady increase in Prescoed. Cefnogaf y cynnig oherwydd y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd yng Nghymru, ac rwy’n cytuno â’r hyn y mae Rhun wedi’i ddweud ac mae Mark Isherwood wedi dweud bod gennym fwy o waith i’w wneud. Hoffwn roi rhai enghreifftiau o fwrdd iechyd Aneurin Bevan, sy’n gwasanaethu fy etholaeth ac ardal Gwent, yn arbennig eu cydnabyddiaeth y gall gymryd degawdau i nodi pa bobl sy’n dioddef o’r clefyd hwn a rhoi triniaeth iddynt. Mae gwasanaeth hepatoleg bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn gweithio gyda phartneriaid mewn amrywiaeth o leoliadau i gynyddu lefelau diagnosis o haint hepatitis ac i gyflwyno cyffuriau hepatitis C newydd fesul cam. Mae tîm gofal iechyd mewn carchardai bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi gweithredu polisi optio allan ar gyfer cynnal profion feirysau a gludir yn y gwaed yn ystod apwyntiadau derbyn carcharorion i Garchar Prescoed ym Mrynbuga. Yn 2016, clywais ganddynt—rwyf wedi ymchwilio i hyn wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon—am gynnydd sylweddol yn nifer y carcharorion a gafodd brofion a chanran y carcharorion newydd a gafodd profion, ac mae cynnydd cyson wedi bod yng Ngharchar Prescoed.
There’s also been, within the Aneurin Bevan area, targeted action to increase access to needle exchange services and blood-borne virus testing in people who inject drugs—those people at risk who’ve already been mentioned by other Members. Public Health Wales are working with area planning boards on a proposal to develop a five-year costed action plan to increase the investment in needle exchange to ensure 100 per cent coverage, which means that clean needles are used for every injecting occasion. Cyflawnwyd camau gweithredu wedi’u targedu yn ardal Aneurin Bevan hefyd i gynyddu mynediad at wasanaethau cyfnewid nodwyddau a phrofion feirysau a gludir yn y gwaed i bobl sy’n chwistrellu cyffuriau—y bobl sy’n wynebu risg a grybwyllwyd eisoes gan Aelodau eraill. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda byrddau cynllunio’r ardaloedd ar gynnig i ddatblygu cynllun gweithredu pum mlynedd wedi’i gostio i gynyddu’r buddsoddiad mewn cynlluniau cyfnewid nodwyddau i sicrhau darpariaeth 100 y cant, sy’n golygu bod nodwyddau glân yn cael eu defnyddio ar gyfer pob achos o chwistrellu.
A key policy development in Gwent has been the pharmacy pick and mix pilot, which provides drug-using paraphernalia and harm reduction literature, together with increased interaction with clients to allow for harm reduction messages and signposting for blood-borne virus testing. The Gwent area planning board commissioned an integrated Gwent drug and alcohol service for adults, which went live in May 2015. This includes the delivery of specialist needle exchange, with a small dedicated budget for the provision of needle exchange paraphernalia. And Aneurin Bevan health board have also reported to me the Gwent specialist substance misuse service for people with more complex needs, and this service also offers needle exchange and BBV testing. Datblygiad polisi allweddol yng Ngwent yw’r cynllun peilot ‘dewis a dethol’ ar gyfer fferyllfeydd, sy’n darparu deunydd defnyddio cyffuriau a thaflenni ar leihau niwed, ynghyd â mwy o ryngweithio â chleientiaid i hyrwyddo negeseuon i leihau niwed a chyfeirio at brofion feirysau a gludir yn y gwaed. Comisiynodd bwrdd cynllunio ardal Gwent wasanaeth cyffuriau ac alcohol integredig Gwent i oedolion, gwasanaeth a ddaeth yn weithredol ym mis Mai 2015. Mae’n cynnwys cyflwyno gwasanaethau cyfnewid nodwyddau arbenigol, gyda chyllideb fach bwrpasol ar gyfer darparu deunyddiau cyfnewid nodwyddau. Ac mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan hefyd wedi sôn wrthyf am wasanaeth camddefnyddio sylweddau arbenigol Gwent ar gyfer pobl sydd ag anghenion mwy cymhleth, ac mae’r gwasanaeth hwn hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfnewid nodwyddau a phrofion feirysau a gludir yn y gwaed.
But, also recognised by other Members, one of the major at-risk groups for hepatitis C infection are people of South Asian origin. Aneurin Bevan’s public health team has had discussions with religious leaders about promoting blood-borne virus testing in mosques in Newport. In addition, the ‘Living Well Living Longer’ programme will also be raising awareness of hepatitis C through its programme of health checks in Newport. Ond fel roedd Aelodau eraill hefyd yn cydnabod, un o’r prif grwpiau risg ar gyfer haint hepatitis C yw pobl sy’n hanu o dde Asia. Mae tîm iechyd cyhoeddus Aneurin Bevan wedi cael trafodaethau gydag arweinwyr crefyddol ynglŷn â hyrwyddo profion feirysau a gludir yn y gwaed mewn mosgiau yng Nghasnewydd. Yn ogystal, bydd y rhaglen ‘Byw’n Dda, Byw’n Hirach’ hefyd yn codi ymwybyddiaeth o hepatitis C drwy ei rhaglen o archwiliadau iechyd yng Nghasnewydd.
These are all examples of what the Aneurin Bevan health board is doing to help with harder-to-reach individuals who are at risk of hepatitis C, and I’d like the Cabinet Secretary to be aware of these practices. The Welsh Government can build on this good practice, and, when it comes to the final point of the motion, consider new operational guidelines to support the NHS in Wales in eradicating hepatitis C. This is something that can be done, and, again, I say it is a privilege to champion the cause that has been pioneered by Julie Morgan in this Chamber. We’ve come a long way, and eradicating hepatitis C is within our reach. Mae’r rhain i gyd yn enghreifftiau o’r hyn y mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn ei wneud i helpu gydag unigolion anos eu cyrraedd sydd mewn perygl o fod â hepatitis C, a hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet fod yn ymwybodol o’r arferion hyn. Gall Llywodraeth Cymru adeiladu ar yr arfer da hwn, a phan ddaw at bwynt olaf y cynnig, gallai ystyried canllawiau gweithredol newydd i gynorthwyo’r GIG yng Nghymru i ddileu hepatitis C. Mae hyn yn rhywbeth y gellir ei wneud, ac unwaith eto, mae’n fraint cael hyrwyddo’r achos a gafodd ei arwain gan Julie Morgan yn y Siambr hon. Rydym wedi dod yn bell, ac mae dileu hepatitis C o fewn ein cyrraedd.
16:03 - Caroline Jones
UKIP fully support this motion and efforts to eradicate hepatitis C by 2030. As others have highlighted, hepatitis C is a disease that affects about 2 per cent of the world’s population and is responsible for hundreds of thousands of deaths each year. It is therefore unsurprising that the World Health Organization wants to eliminate the disease. Mae UKIP yn llwyr gefnogi’r cynnig hwn ac ymdrechion i ddileu hepatitis C erbyn 2030. Fel y mae eraill wedi nodi, mae hepatitis C yn glefyd sy’n effeithio ar oddeutu 2 y cant o boblogaeth y byd ac mae’n gyfrifol am gannoedd o filoedd o farwolaethau bob blwyddyn. Felly, nid yw’n syndod fod Sefydliad Iechyd y Byd yn awyddus i gael gwared ar y clefyd.
The UK Government has pledged its support for the World Health Organization’s eradication goals last year and I would urge the Welsh Government to follow this example. The Welsh NHS has made significant strides in treating people with hepatitis C in recent years. Nearly 900 patients were treated last year in an attempt to clear the backlog of patients awaiting treatment. However, with up to 7,000 people in Wales unknowingly infected with the hepatitis C virus, much, much more must be done to identify and treat people living with the disease. Addawodd Llywodraeth y DU ei chefnogaeth i nodau dileu Sefydliad Iechyd y Byd y llynedd a byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i ddilyn yr esiampl hon. Mae’r GIG yng Nghymru wedi gwneud cynnydd sylweddol yn trin pobl sydd â hepatitis C yn y blynyddoedd diwethaf. Cafodd bron i 900 o gleifion eu trin y llynedd mewn ymgais i glirio’r ôl-groniad o gleifion sy’n aros am driniaeth. Fodd bynnag, gyda hyd at 7,000 o bobl yng Nghymru wedi’u heintio’n ddiarwybod iddynt gan firws hepatitis C, rhaid gwneud llawer iawn mwy i ganfod a thrin pobl sy’n byw gyda’r clefyd.
Wales urgently needs a hepatitis C reduction strategic action plan to ensure that local health boards prioritise elimination of the disease within the Welsh liver disease delivery plan. The strategic action plan should, as an absolute minimum, implement and build upon the recommendations contained within the Hepatitis C Trust’s 2016 report on hepatitis C in Wales. In preparing that report, the Hepatitis C Trust found that hepatitis C sufferers in Wales are disproportionately drawn from some of the most disadvantaged and marginalised groups in society, and three quarters of people with the virus come from the lowest two socioeconomic quintiles. They also found that their disadvantage was compounded by the stigma of hepatitis C. The Hepatitis C Trust found that those who were diagnosed in the 1980s were told by health professionals not to tell anyone else of their diagnosis, and many commented on the years of internalised guilt and shame that resulted. Thankfully, our NHS has moved on from that shameful period. However, the stigma perpetuates. We still have far too many people with hepatitis C who report the sense of guilt and shame they feel or how, in some way, they feel dirty. Unfortunately, this often results in those individuals disengaging with care entirely, despite being aware of their diagnosis—a decision that greatly increases the risk of liver cirrhosis or cancer. Mae gwir angen cynllun gweithredu strategol ar Gymru i leihau achosion o hepatitis C er mwyn sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn blaenoriaethu gwaith ar ddileu’r clefyd yng nghynllun cyflawni Cymru ar gyfer clefyd yr afu. Dylai’r cynllun gweithredu strategol, fan lleiaf un, weithredu ac adeiladu ar yr argymhellion yn adroddiad Ymddiriedolaeth Hepatitis C ar gyfer 2016 ar hepatitis C yng Nghymru. Wrth baratoi’r adroddiad hwnnw, canfu Ymddiriedolaeth Hepatitis C fod pobl sy’n dioddef o hepatitis C yng Nghymru yn cynnwys nifer anghymesur o bobl o’r grwpiau mwyaf difreintiedig ac ymylol mewn cymdeithas, a daw tri chwarter y bobl sydd â’r feirws o’r ddau gwintel economaidd-gymdeithasol isaf. Canfuwyd hefyd fod eu hanfantais wedi’i waethygu gan stigma hepatitis C. Canfu Ymddiriedolaeth Hepatitis C fod gweithwyr iechyd proffesiynol wedi dweud wrth y rhai a gafodd ddiagnosis yn y 1980au i beidio â dweud wrth unrhyw un arall am eu diagnosis, a soniodd sawl un am y blynyddoedd o euogrwydd wedi’i fewnoli a’r cywilydd a ddeilliodd o hynny. Diolch byth, mae ein GIG wedi symud ymlaen o’r cyfnod cywilyddus hwnnw. Fodd bynnag, mae’r stigma’n parhau. Mae gennym lawer gormod o bobl â hepatitis C sy’n sôn am yr ymdeimlad o euogrwydd a chywilydd a deimlant neu’r ffordd y maent, rywsut, yn teimlo’n fudr. Yn anffodus, mae hyn yn aml yn arwain at wneud i’r unigolion hynny ymddieithrio o ofal yn gyfan gwbl, er eu bod yn ymwybodol o’u diagnosis—penderfyniad sy’n cynyddu’r risg o sirosis neu ganser yr afu yn fawr.
In order to tackle this pervading stigma and the incredible harm it does, the Hepatitis C Trust report recommends action be taken to normalise the disease by undertaking positive media campaigns to highlight the cross-section of people living with the virus. I hope that the Cabinet Secretary will work with his counterparts in the rest of the UK and the Hepatitis C Trust to deliver such a campaign. However, if we are to fully eradicate the stigma, we have to ensure that those living with the virus have positive experiences when dealing with all health professionals. People with hepatitis C have reported always being booked in for the last dental appointment of the day, apparently to allow time for dental practices to undertake additional infection control practices. Such practices left people feeling as though they posed a danger to others and were in some way distinct from the rest of the population. This has to stop. Additional infection control measures should be unnecessary—dental practices should have sufficient infection control measures in place with every patient to prevent transmission of every blood-borne virus. Er mwyn mynd i’r afael â stigma gorchfygol o’r fath a’r niwed anhygoel y mae’n ei wneud, mae adroddiad Ymddiriedolaeth Hepatitis C yn argymell y dylid cymryd camau i normaleiddio’r clefyd drwy gynnal ymgyrchoedd cadarnhaol ar y cyfryngau i dynnu sylw at y trawstoriad o bobl sy’n byw gyda’r feirws. Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio gyda’i gymheiriaid yng ngweddill y DU ac Ymddiriedolaeth Hepatitis C i gyflwyno ymgyrch o’r fath. Fodd bynnag, os ydym am gael gwared ar y stigma yn gyfan gwbl, mae’n rhaid inni sicrhau bod y bobl sy’n byw gyda’r feirws yn cael profiadau cadarnhaol wrth ymdrin â phob gweithiwr iechyd proffesiynol. Mae pobl sydd â hepatitis C wedi sôn am y modd y trefnir bob amser iddynt gael triniaeth ddeintyddol olaf y dydd er mwyn rhoi amser, mae’n debyg, i bractisau deintyddol gyflawni arferion rheoli heintiau ychwanegol. Mae arferion o’r fath wedi peri i bobl deimlo eu bod yn creu perygl i bobl eraill ac mewn rhyw ffordd yn wahanol i weddill y boblogaeth. Mae’n rhaid rhoi diwedd ar hyn. Dylai mesurau rheoli heintiau ychwanegol fod yn ddiangen—dylai fod gan bractisau deintyddol ddigon o fesurau rheoli heintiau ar waith gyda phob claf i atal trosglwyddo pob feirws a gludir yn y gwaed.
We have to educate not just the public, but also our health professionals, about hepatitis C. I urge the Welsh Government to adopt the Hepatitis C Trust’s recommendations and I urge Members to support the motion. Together, we can eradicate this terrible disease. Diolch yn fawr, Llywydd. Mae’n rhaid i ni addysgu nid yn unig y cyhoedd, ond ein gweithwyr iechyd proffesiynol hefyd, ynglŷn â hepatitis C. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu argymhellion Ymddiriedolaeth Hepatitis C ac anogaf yr Aelodau i gefnogi’r cynnig. Gyda’n gilydd, gallwn ddileu’r clefyd ofnadwy hwn. Diolch yn fawr, Llywydd.
16:07 - Dawn Bowden
Can I also thank Julie Morgan, in particular, for bringing forward this debate, as I know how much work, Julie, you’ve done on this issue and I fully endorse the sentiments and proposals set out in the motion? I think we can all be proud of the record here in Wales of the diagnosis and treatment of hepatitis C, and, of course, welcome a continued commitment to achieve the eradication of the disease by 2030. A gaf fi ddiolch i Julie Morgan hefyd, yn arbennig, am gyflwyno’r ddadl hon, gan fy mod yn gwybod faint o waith rydych wedi’i wneud ar y mater hwn, Julie, ac rwy’n llwyr gefnogi’r sylwadau a’r cynigion a nodir yn y cynnig? Rwy’n credu y gallwn i gyd fod yn falch o’r record o ddiagnosis a thriniaeth hepatitis C yma yng Nghymru, ac wrth gwrs, rydym yn croesawu ymrwymiad parhaus i gyflawni’r gwaith o ddileu’r clefyd erbyn 2030.
But it’s on the third point of the motion that I would like to focus my comments, and, in particular, to look at the issues of screening healthcare workers, particularly surgeons. To support this, I would like to refer to the case of a constituent of mine who was diagnosed with a rare form of hepatitis C in 2012. She’d been suffering symptoms for a number of years, but was only ever tested for hepatitis A and B. When she was eventually tested for, and diagnosed with, hepatitis C she was on the verge of liver cirrhosis. But her treatment—despite the debilitating side effects, and the stigma that she suffered and the precautions that she had to take within the family in terms of use of toothbrushes and other equipment in the house—was very quickly effective. She responded to the treatment within a matter of weeks, having been told to expect that it would take many months, and has had nothing but praise for the treatment that she received at that point. But what had remained a mystery was how she contracted the illness in the first place. It was only towards the end of her treatment that the specialist nurse who was treating her identified that she was also treating a surgeon who’d operated on my constituent in 1997. Ond hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar drydydd pwynt y cynnig, ac yn benodol, hoffwn edrych ar faterion sgrinio gweithwyr gofal iechyd, yn enwedig llawfeddygon. I gefnogi hyn, hoffwn gyfeirio at achos etholwr i mi a gafodd ddiagnosis o fath prin o hepatitis C yn 2012. Roedd hi wedi bod yn dioddef symptomau ers sawl blwyddyn, ond profion ar gyfer hepatitis A a B yn unig a gafodd. Pan gafodd ei phrofi yn y pen draw ar gyfer hepatitis C, a chael diagnosis ohono, roedd ar fin cael sirosis yr afu. Ond roedd ei thriniaeth—er gwaethaf y sgil-effeithiau gwanychol, a’r stigma a ddioddefodd a’r rhagofalon y bu’n rhaid iddi eu harfer o fewn y teulu o ran y defnydd o frwsys dannedd ac offer arall yn y tŷ—yn effeithiol yn gyflym iawn. Ymatebodd i’r driniaeth o fewn mater o wythnosau, ar ôl cael gwybod y dylai ddisgwyl y byddai’n cymryd sawl mis, ac mae’n llawn o ganmoliaeth i’r driniaeth a gafodd ar y pwynt hwnnw. Ond yr hyn a oedd wedi aros yn ddirgelwch oedd sut y daliodd y salwch yn y lle cyntaf. Tuag at ddiwedd ei thriniaeth yn unig y nododd y nyrs arbenigol a oedd yn ei thrin ei bod hi hefyd yn trin llawfeddyg a oedd wedi rhoi llawdriniaeth i fy etholwr yn 1997.
So, once the source of her infection had been identified, NHS Wales wrote to some 5,000 patients treated by this surgeon, offering to test them for hepatitis C. Around 3,000 of those patients responded, and, from that subsequent testing, a further four patients were identified as having contracted the virus, almost certainly from the same surgeon. Felly, ar ôl nodi ffynhonnell ei haint, ysgrifennodd GIG Cymru at oddeutu 5,000 o gleifion a gafodd driniaeth gan y llawfeddyg hwn, yn cynnig profion hepatitis C iddynt. Ymatebodd oddeutu 3,000 o’r cleifion hynny, ac o’r profion a ddilynodd, nodwyd bod pedwar claf arall wedi dal y feirws, bron yn sicr gan yr un llawfeddyg.
Llywydd, since 2007, all NHS staff involved in exposure-prone procedures are required to be screened, but there is no screening requirement for current staff who have been practicing since before 2007. Now, obviously, where any practicing surgeon is found to have hep C, he or she is taken off current duties. But there is no automatic process of looking back at the practice of the affected surgeon to identify and contact patients who might have been at risk. Such a look-back only happens when it’s approved by the UK advisory panel, as happened in the case of my constituent. As I understand it, the UK advisory panel guidance for pre-2007 healthcare workers places a clear expectation on surgeons to put themselves forward for testing if they believe that they may have been exposed to a communicable disease. Llywydd, ers 2007, mae’n ofynnol i bob aelod o staff y GIG sy’n cyflawni triniaethau a allai arwain at gysylltiad gael eu sgrinio, ond nid oes gofyniad i sgrinio staff presennol sydd wedi bod yn ymarfer ers cyn 2007. Nawr, yn amlwg, lle y gwelir bod hep C ar unrhyw lawfeddyg sy’n gweithio, caiff ef neu hi ei wahardd rhag cyflawni eu dyletswyddau presennol. Ond nid oes unrhyw broses awtomatig o edrych yn ôl ar ymarfer y llawfeddyg yr effeithir arnynt i nodi a chysylltu â chleifion a allai fod wedi wynebu risg. Ni fydd edrych yn ôl o’r fath ond yn digwydd pan gaiff ei gymeradwyo gan banel ymgynghori’r DU, fel a ddigwyddodd yn achos fy etholwr. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae canllawiau panel ymgynghori’r DU ar gyfer gweithwyr gofal iechyd cyn 2007 yn gosod disgwyliad clir y bydd llawfeddygon yn mynd am brawf eu hunain os ydynt yn credu y gallent fod wedi dod i gysylltiad â chlefyd trosglwyddadwy.
Now, hepatitis C has been referred to by some as the hidden killer. Now, whether that’s an appropriate description is debatable, but it has gained that tag because those who have it often don’t know, as we’ve already heard, and, as we’ve also already heard, we have an estimated 12,000 to 14,000 people in Wales who carry the virus, the majority of whom remain undiagnosed. Often causing no symptoms and no sickness, hepatitis C can lie dormant in a person’s body for decades. In this context, it’s quite likely that many health professionals will not actually be able to identify themselves as a carrier of the hepatitis C virus. Nawr, cyfeiriwyd at hepatitis C gan rai fel y lladdwr cudd. Nawr, mae’n ddadleuol pa un a yw hwnnw’n ddisgrifiad priodol, ond cafodd y label hwnnw oherwydd, yn aml, ni fydd y rhai sydd â’r clefyd yn gwybod ei fod arnynt, fel y clywsom eisoes, ac fel y clywsom hefyd, mae gennym 12,000 i 14,000 amcangyfrifedig o bobl yng Nghymru sy’n cario’r feirws, gyda’r mwyafrif ohonynt yn dal i fod heb gael diagnosis. Yn aml ni fydd yn achosi unrhyw symptomau a dim salwch, a gall hepatitis C lechu’n segur yng nghorff yr unigolyn am ddegawdau. Yn y cyd-destun hwn, mae’n eithaf tebygol na fydd llawer o weithwyr iechyd proffesiynol yn gallu nodi mewn gwirionedd eu bod yn cludo’r feirws hepatitis C.
Now, I recently wrote to the Minister for Social Services and Public Health regarding the particular circumstances pertaining to my constituent, including issues around the limitation of compensation arrangements for hep C sufferers, whereby patients infected by their surgeons have no access to compensation, unlike those infected by contaminated blood. Now, I’ll come back to that at another time, because today I want to concentrate on the eradication aspect. Nawr, yn ddiweddar, ysgrifennais at y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd ynglŷn ag amgylchiadau penodol fy etholwr, gan gynnwys materion yn ymwneud â chyfyngu ar drefniadau iawndal ar gyfer dioddefwyr hep C, lle nad oes iawndal ar gael i gleifion a heintiwyd gan eu llawfeddygon, yn wahanol i’r rhai a heintiwyd gan waed halogedig. Nawr, dychwelaf at hynny rywbryd eto, oherwydd heddiw rwyf am ganolbwyntio ar yr agwedd sy’n ymwneud â dileu’r clefyd.
So, given the widespread recognition that one of the biggest challenges to achieving eradication by 2030 is the extent to which the disease goes undiagnosed, I’d like to think that, building on Mark Isherwood’s theme of expanding screening, if a regime of screening healthcare workers on a more comprehensive basis, including those practicing before 2007, could assist in identifying latent cases amongst practitioners, and therefore potentially their former patients, I’d suggest this is something that the Welsh Government should give serious consideration to when developing its strategy for reaching the ambitious but very achievable target of eradicating the virus by 2030. Felly, o ystyried y gydnabyddiaeth eang mai un o’r heriau mwyaf i ddileu’r clefyd erbyn 2030 yw i ba raddau y mae’n mynd heb ei ganfod, byddwn yn hoffi meddwl, gan adeiladu ar thema Mark Isherwood o ymestyn y ddarpariaeth sgrinio, pe gallai cyfundrefn sgrinio gweithwyr gofal iechyd ar sail fwy cynhwysfawr, gan gynnwys y rhai a oedd yn ymarfer cyn 2007, helpu i nodi achosion cudd ymysg ymarferwyr, ac felly eu cyn-gleifion o bosibl, byddwn yn awgrymu bod hyn yn rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth ddifrifol iddo wrth ddatblygu ei strategaeth ar gyfer cyrraedd y targed uchelgeisiol ond cyraeddadwy iawn o ddileu’r feirws erbyn 2030.
So, once again, can I thank Julie for bringing forward this motion and for the debate today, and ask Welsh Government to consider all measures available that might help to attain the eradication of hepatitis C in Wales? Felly, unwaith eto, hoffwn ddiolch i Julie am gyflwyno’r cynnig hwn ac am y ddadl heddiw, a gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried yr holl fesurau sydd ar gael a allai helpu i ddileu hepatitis C yng Nghymru.
16:13 - Y Llywydd / The Llywydd
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething. I call on the Cabinet Secretary for Health, Welfare and Sport, Vaughan Gething.
16:13 - Vaughan Gething
Thank you, Presiding Officer. I really am pleased to respond to today’s debate across Members, and I thank people for the thoughtful way in which they’ve approached the issue. We, of course, recognise the importance of this issue for people right across Wales, and I’m happy to say that, together with the NHS, the Welsh Government has made major advancements in the treatment and management of viral hepatitis, a number of which have been recognised by a variety of Members across the Chamber, and I’m pleased to have the opportunity to talk about that some more today. The Welsh Government, of course, has been committed to tackling the burden of blood-borne viruses for more than a decade. We funded the blood-borne virus action plan for Wales up to 2014, and laid the foundations for the even more successful hepatology services that we now have. Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n hynod o falch o ymateb i’r ddadl heddiw gan yr Aelodau, a diolch i bobl am y modd ystyriol y maent wedi ymdrin â’r mater hwn. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y mater hwn i bobl ledled Cymru, wrth gwrs, ac rwy’n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru, gyda’r GIG, wedi gwneud camau mawr ymlaen yn trin a rheoli hepatitis feirysol, a chafodd nifer ohonynt eu cydnabod gan amryw o’r Aelodau ar draws y Siambr, ac rwy’n falch o gael y cyfle i siarad ychydig yn fwy am hynny heddiw. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi ymrwymo i fynd i’r afael â baich feirysau a gludir yn y gwaed ers mwy na degawd. Ariannwyd cynllun gweithredu Cymru ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed gennym hyd at 2014, a gosodasom y sylfeini ar gyfer y gwasanaethau hepatoleg hyd yn oed yn fwy llwyddiannus sydd gennym yn awr.
When that funding was made available, it was on the understanding that health boards would invest in these services and develop the resource to prevent and treat viral hepatitis, and I really am proud that Wales has a strong and effective clinical hepatology network led, as Julie Morgan said in her introduction, by Dr Brendan Healy. That network co-ordinates the treatment of those identified with both hepatitis B and C. I want to pause there for a moment to recognise not just the work of Dr Healy but, actually, the whole network, because this is something that colleagues in England don’t have—they don’t have the same unified approach to treatment, the way in which we’re using best value treatments, both in terms of finance and outcome for the citizen, and some of the colleagues in England look on with a degree of, I wouldn’t say just envy, but they think it’s a standard and an approach to aspire to that is being pioneered and led successfully by our clinicians in Wales, and absolutely benefits the patients in so doing. It’s a model, in many ways, for services across the country—they need to collaborate and co-operate across the whole country to have a unified approach that is actually focused on improvement. Pan ryddhawyd y cyllid hwnnw, gwnaed hynny ar y ddealltwriaeth y byddai byrddau iechyd yn buddsoddi yn y gwasanaethau hyn ac yn datblygu adnoddau i atal a thrin hepatitis feirysol, ac rwy’n falch iawn fod gan Gymru rwydwaith hepatoleg clinigol cadarn ac effeithiol o dan arweiniad y Dr Brendan Healy, fel y dywedodd Julie Morgan yn ei chyflwyniad. Mae’r rhwydwaith yn cydlynu triniaeth y rhai y nodwyd eu bod â hepatitis B ac C. Rwyf am oedi yn y fan honno am ennyd i gydnabod, nid yn unig gwaith Dr Healy ond y rhwydwaith cyfan mewn gwirionedd, gan fod hyn yn rhywbeth nad oes gan gydweithwyr yn Lloegr mohono—nid oes ganddynt yr un ymagwedd unedig tuag at driniaeth, y ffordd y defnyddiwn driniaethau gwerth gorau, o ran cyllid a chanlyniad i’r dinesydd, ac mae rhai o’r cydweithwyr yn Lloegr yn edrych ar hyn gyda rhywfaint o, ni fyddwn yn dweud cenfigen yn unig, ond maent yn credu ei bod yn safon ac yn ymagwedd i anelu ati sy’n cael ei harloesi a’i harwain yn llwyddiannus gan ein clinigwyr yng Nghymru, ac mae’n bendant o fudd i gleifion yn hynny o beth. Mewn sawl ffordd mae’n fodel ar gyfer gwasanaethau ar draws y wlad—mae angen iddynt gydweithio a chydweithredu ar draws y wlad gyfan i gael dull unedig sy’n canolbwyntio mewn gwirionedd ar wella.
The all-Wales hepatitis C roll-out programme was initiated in 2014, and part of this is to make the best use of the new wave of more effective antiviral medication, in particular, as Julie Morgan said, interferon-free medication. That started by being initially very expensive to treat, but, actually, there’s a much longer term saving, both in financial terms, but also—mentioning my constituent Mr Thomas, who has a young family—a significant improvement in the overall well-being, not just in the medical sense, of people who receive the treatment, with quite startling cure rates for people as a result of that successful introduction. That has received both national and international recognition. Cychwynnwyd y rhaglen hepatitis C i’w chyflwyno ar draws Cymru gyfan yn 2014, a rhan o hyn yw gwneud y defnydd gorau o’r don newydd o feddyginiaeth wrthfeirysol fwy effeithiol, yn enwedig meddyginiaeth ddi-interfferon, fel y dywedodd Julie Morgan. Dechreuodd hynny drwy fod yn ddrud iawn i’w drin ar y cychwyn, ond mewn gwirionedd, ceir arbedion sy’n llawer mwy hirdymor, yn ariannol, ond hefyd—i grybwyll fy etholwr Mr Thomas, sydd â theulu ifanc—gwelliant sylweddol o ran lles cyffredinol y bobl sy’n cael y driniaeth, ac nid yn unig yn yr ystyr feddygol, gyda chyfraddau gwella eithaf trawiadol i bobl yn sgil cyflwyno’r driniaeth yn llwyddiannus. Mae hynny wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol.
We’ve treated more than 1,000 patients in the last 18 months, and I’m proud to say we’ve now treated all of the patients who are known to services in Wales and who are still accessing care. That is a remarkable step forward made by our service. We recognise, though, that there are individuals at risk of both hepatitis B and C who do not access traditional healthcare settings, and there are numerous projects already under way in development across Wales to address this—again, recognised in the comments of people earlier in the debate on how do we get to those people who are harder to reach and don’t always access care services, either individually or even consistently. Those projects will look at ways to increase awareness of hepatitis C infection, to provide access to simpler diagnostic tests in community settings for those at risk—and, again, there’s a point here about developing and not just standing still in our service—and also to ensure that individuals who are infected are able to access treatment. Rydym wedi trin mwy na 1,000 o gleifion yn y 18 mis diwethaf, ac rwy’n falch o ddweud ein bod yn awr wedi trin yr holl gleifion y gŵyr y gwasanaethau yng Nghymru amdanynt ac sy’n dal i gael gofal. Mae hwnnw’n gam hynod ymlaen a wnaed gan ein gwasanaeth. Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, fod yna unigolion sy’n wynebu risg o ddal hepatitis B ac C nad ydynt yn defnyddio lleoliadau gofal iechyd traddodiadol, ac mae nifer o brosiectau eisoes yn cael eu datblygu ledled Cymru i fynd i’r afael â hyn—a chafodd hyn eto ei gydnabod yn sylwadau pobl yn gynt yn y ddadl ar sut y cyrhaeddwn y bobl sy’n anodd eu cyrraedd ac nad ydynt bob amser yn defnyddio gwasanaethau gofal, naill ai’n unigol neu hyd yn oed yn gyson. Bydd y prosiectau hynny’n edrych ar ffyrdd o gynyddu ymwybyddiaeth o haint hepatitis C, er mwyn darparu mynediad at brofion diagnostig symlach mewn lleoliadau cymunedol i’r rhai sy’n wynebu risg—ac unwaith eto, mae pwynt yma ynglŷn â datblygu ac nid sefyll yn llonydd yn ein gwasanaeth—a hefyd i sicrhau bod unigolion sydd wedi’u heintio yn gallu cael mynediad at driniaeth.
These projects, along with the all-Wales hepatitis C roll-out programme are led and guided by the Welsh viral hepatitis sub-group that Julie Morgan, again, referred to. They’re a sub-group of the liver disease implementation group—one of our, again, short, snappy titles in the world of health. But the importance of this group—and it is really important—is that it’s comprised of clinicians, nurse specialists, patient representatives, the third sector, pharmacy, laboratory staff, substance misuse services, health protection staff and Welsh Government officials. Again, that’s a feature of our approach here in Wales—genuinely taking advantage of the fact that, as a small country, we should be able to bring together the right group of people within the same room to make genuinely national choices and then expect that to be got on and delivered on a national basis. I want to thank all of those who have led on this work across all sectors and who have contributed to the very real success of the programme so far. Mae’r prosiectau hyn, ynghyd â’r rhaglen hepatitis C a gyflwynir ar draws Cymru yn cael eu harwain a’u cyfeirio gan is-grŵp hepatitis feirysol Cymru y cyfeiriodd Julie Morgan ato, unwaith eto. Maent yn is-grŵp o’r grŵp gweithredu ar glefyd yr afu—un o’n teitlau byr a bachog unwaith eto yn y byd iechyd. Ond pwysigrwydd y grŵp hwn—ac mae’n wirioneddol bwysig—yw ei fod wedi’i ffurfio o glinigwyr, nyrsys arbenigol, cynrychiolwyr cleifion, y trydydd sector, fferyllwyr, staff labordy, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, staff diogelu iechyd a swyddogion Llywodraeth Cymru. Unwaith eto, dyna un o nodweddion ein dull o weithredu yma yng Nghymru—mynd ati o ddifrif i fanteisio ar y ffaith y dylem, fel gwlad fach, allu dwyn ynghyd y grŵp cywir o bobl yn yr un ystafell i wneud dewisiadau gwirioneddol genedlaethol a disgwyl wedyn i hynny gael ei ddatblygu a’i ddarparu ar sail genedlaethol. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi arwain ar y gwaith hwn ar draws pob sector ac sydd wedi cyfrannu at lwyddiant gwirioneddol y rhaglen hyd yn hyn.
On 28 May last year, the World Health Assembly, the decision-making body of the World Health Organization, adopted a global health sector strategy on viral hepatitis. That strategy introduced the first ever global targets for viral hepatitis B and C control, including the goal of elimination of viral hepatitis by 2030. Achieving these targets will mean that the diagnosis and treatment of viral hepatitis is prioritised in public health services. Ar 28 Mai y llynedd, mabwysiadodd Cynulliad Iechyd y Byd, y corff sy’n gwneud penderfyniadau yn Sefydliad Iechyd y Byd, strategaeth sector iechyd fyd-eang ar gyfer hepatitis feirysol. Cyflwynodd y strategaeth honno y targedau byd-eang cyntaf erioed ar gyfer rheoli hepatitis B ac C feirysol, gan gynnwys y nod o gael gwared ar hepatitis feirysol erbyn 2030. Bydd cyflawni’r targedau hyn yn golygu bod diagnosis a thriniaeth hepatitis feirysol yn cael eu blaenoriaethu yn y gwasanaethau iechyd cyhoeddus.
I am pleased to confirm again today to Members that Wales has signed up to and is committed to the World Health Organization target to eliminate hepatitis B and C. To reflect this, the Welsh viral hepatitis sub-group has amended its own term of reference to reflect the leadership and guidance that will be required from it to ensure that the elimination targets are achieved. We’ve already made huge progress against these targets, and the sub-group is developing a draft framework of actions that will be required over the coming years to achieve our goal. Officials in the Government will receive the draft framework this month. I expect them to include consideration of how to identify and test hard-to-reach groups; testing and treating in community settings; and an assurance that all those with the infection will have the opportunity to be tested and treated. The framework will provide the basis for guidance on the next steps, which will be issued to the NHS this summer. Mae’n bleser gennyf gadarnhau eto heddiw wrth yr Aelodau fod Cymru wedi cytuno ac wedi ymrwymo i darged Sefydliad Iechyd y Byd i ddileu hepatitis B ac C. I adlewyrchu hyn, mae is-grŵp hepatitis feirysol Cymru wedi diwygio ei gylch gwaith ei hun i adlewyrchu’r arweiniad a’r canllawiau a fydd yn ofynnol ganddo er mwyn sicrhau bod y targedau dileu yn cael eu cyrraedd. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd aruthrol yn erbyn y targedau hyn, ac mae’r is-grŵp yn datblygu fframwaith drafft o’r camau gweithredu y bydd eu hangen dros y blynyddoedd nesaf i gyflawni ein nod. Bydd swyddogion yn y Llywodraeth yn derbyn y fframwaith drafft y mis hwn. Rwy’n disgwyl iddynt gynnwys ystyriaeth o sut i ganfod a chynnal profion ar grwpiau anodd eu cyrraedd; profion a thriniaeth mewn lleoliadau cymunedol; a sicrwydd y bydd pawb sydd â’r haint yn cael cyfle i gael profion a thriniaeth. Bydd y fframwaith yn darparu’r sylfaen i ganllawiau ar y camau nesaf, a fydd yn cael eu dosbarthu i’r GIG yn ystod yr haf.
We have what it takes here in Wales to prevent hepatitis B and C, and Wales, amongst other UK countries, has a strong preventative agenda. We have effective and targeted hepatitis A and B vaccination programmes, and the current uptake for those vaccinations is 95 per cent. From September this year, the hepatitis B vaccine will be incorporated into the routine infant programme, and all babies will be offered it at two, three and four months of age. All pregnant women are offered hepatitis B testing as part of antenatal screening, and all babies born to mothers who test positive for hepatitis B are managed according to clinical guidelines. We’re able to effectively prevent mother-to-child transmission of the hepatitis B virus through timely hep B virus birth-dose vaccination. Mae gennym yr hyn sydd ei angen yma yng Nghymru i atal hepatitis B ac C, ac mae gan Gymru, ymhlith gwledydd eraill y DU, agenda ataliol gref. Mae gennym raglenni brechu effeithiol ac wedi’u targedu ar gyfer hepatitis A a B, ac mae’r nifer sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd yn 95 y cant. O fis Medi eleni, bydd brechlyn hepatitis B yn cael ei ymgorffori yn y rhaglen arferol ar gyfer babanod, a chaiff ei gynnig i fabanod yn ddau, tri a phedwar mis oed. Mae pob menyw feichiog yn cael cynnig profion hepatitis B fel rhan o’r drefn sgrinio cyn-geni, ac mae pob baban a enir i famau sy’n cael canlyniad positif ar gyfer hepatitis B yn cael eu trin yn unol â chanllawiau clinigol. Rydym yn gallu atal feirws hepatitis B rhag cael ei drosglwyddo o fam i blentyn yn effeithiol drwy roi brechiad feirws hep B amserol adeg yr enedigaeth.
As Hefin David mentioned, we already have a well-established needle exchange programme in community pharmacies, ensuring access to sterile injecting equipment and effective drug dependence treatment, in order to prevent and control epidemics of viral hepatitis B and C. The majority of the current ongoing transmission of hepatitis C occurs within people who inject drugs, and we therefore prioritise the identification of individuals with hepatitis C within these communities and in providing treatment. Fel y crybwyllodd Hefin David, mae gennym raglen gyfnewid nodwyddau eisoes sydd wedi’i sefydlu’n dda mewn fferyllfeydd cymunedol, gan sicrhau mynediad at gyfarpar chwistrellu di-haint a thriniaeth effeithiol ar gyfer dibyniaeth ar gyffuriau er mwyn atal a rheoli epidemigau o hepatitis B ac C feirysol. Mae’r rhan fwyaf o’r achosion parhaus o drosglwyddo hepatitis C ar hyn o bryd yn digwydd ymhlith pobl sy’n chwistrellu cyffuriau, ac felly rydym yn blaenoriaethu’r gwaith o ganfod unigolion â hepatitis C yn y cymunedau hyn a darparu triniaeth.
For those already infected, new oral, well-tolerated medicines and treatment regimens for people with chronic hepatitis C virus infection are achieving cure rates of over 90 per cent, as Julie Morgan mentioned in her remarks. And that effective treatment is also available for people with chronic hepatitis B virus infection, although for most people, such treatment needs to be lifelong. Suppressing the virus limits damage to the liver, and often it is liver damage that causes people to lose their lives. These treatments reduce the risk of long-term complications of hepatitis B and C, including cirrhosis and liver cancer. As a consequence, cost to the NHS is reduced, as these conditions are very expensive to manage. It also reduces the requirement for liver transplantation—again, a costly and complicated procedure and a resource that is in great demand. The most recent data suggest that we’re at least seeing a downward trend in liver transplants and deaths. We’re fortunate in Wales that we do have generally excellent services, with a proven expertise to lead and support these, and that those at risk can be confident that every opportunity will be taken to provide for their care. I will receive updates on progress through the viral hepatitis sub-group, and I will of course keep Members informed of this work. I’r rhai sydd eisoes wedi’u heintio, mae meddyginiaethau drwy’r geg a oddefir yn dda a gweithdrefnau triniaethau newydd i bobl â haint feirws hepatitis C cronig yn gweld cyfraddau gwella o dros 90 y cant, fel y crybwyllodd Julie Morgan yn ei sylwadau. Ac mae’r driniaeth effeithiol honno ar gael hefyd i bobl â haint feirws hepatitis B cronig hefyd, er bod angen i driniaeth o’r fath bara drwy gydol oes y rhan fwyaf o bobl. Mae llethu’r feirws yn cyfyngu ar y niwed i’r afu, ac yn aml, niwed i’r afu sy’n peri i bobl golli eu bywydau. Mae’r triniaethau hyn yn lleihau’r perygl o gymhlethdodau hirdymor yn sgil hepatitis B ac C, yn cynnwys sirosis a chanser yr afu. O ganlyniad, caiff y gost i’r GIG ei lleihau, gan fod y cyflyrau hyn yn ddrud iawn i’w rheoli. Mae hefyd yn lleihau’r galw am drawsblannu’r afu—sydd unwaith eto yn llawdriniaeth gostus a chymhleth ac yn adnodd y mae galw mawr amdano. Mae’r data diweddaraf yn awgrymu ein bod o leiaf yn gweld tuedd ar i lawr yn nifer y trawsblaniadau afu a marwolaethau. Rydym yn ffodus yng Nghymru fod gennym wasanaethau ardderchog ar y cyfan, gydag arbenigedd profedig i arwain a chefnogi hyn, ac y gall y rhai sy’n wynebu risg fod yn hyderus y manteisir ar bob cyfle i ddarparu ar gyfer eu gofal. Byddaf yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd drwy’r is-grŵp hepatitis feirysol, ac wrth gwrs, byddaf yn rhoi gwybod i’r Aelodau am y gwaith hwn.
16:21 - Y Llywydd / The Llywydd
Galwaf ar Dai Lloyd i ymateb i’r ddadl. I call on Dai Lloyd to reply to the debate.
16:21 - Dai Lloyd
Mae’n bleser i godi ac i gloi’r ddadl yma, sydd wedi bod yn ddadl arbennig. A allaf i longyfarch pawb sydd wedi cymryd rhan? Ac wrth gwrs, beth sydd o’n blaenau ni ydy hanes llwyddiant ysgubol yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Nôl yn y dyddiau pan oeddwn i’n fyfyriwr meddygol ifanc, llachar—cwpwl o flynyddoedd yn ôl—roeddem ni’n sôn am hepatitis A, hepatitis B ac wedyn hepatitis ‘non-A’ a ‘non-B’. Ers hynny, rydym ni wedi darganfod sawl firws arall: hepatitis A, B, C, D, E—gwahanol is-grwpiau o’r rheini i gyd. It’s a pleasure to reply to this debate, which has been an excellent debate. May I congratulate everyone who’s participated in it? What we have before us is the story of great success in the health service in Wales. Back in the day, when I was a young medical student with a bright future—just a few years ago—we were talking about hepatitis A and hepatitis B and then hepatitis non-A and non-B. We have since then found a number of other viruses: hepatitis A, B, C, D, E—all different sub-strains of that virus.
A hefyd, nid yn unig rydym ni wedi darganfod mwy o fathau, ond rydym ni wedi gallu eu trin nhw hefyd. ’Slawer dydd, roeddem ni’n darganfod llid ar yr afu—hepatitis—ond nid oeddem ni’n gallu gwneud unrhyw beth amdano fe; nid oedd yna driniaeth. Mae’r tirlun wedi newid yn syfrdanol, ac weithiau yng nghanol yr holl gwyno sy’n mynd ymlaen ynglŷn â’r gwasanaeth iechyd ac ati, rydym ni’n anghofio’r pictiwr mawr: mae yna waith bendigedig yn mynd ymlaen yn y cefndir. Mae’r gallu gyda ni rŵan i gael gwared â hepatitis C a hepatitis B. Mae’r dechnoleg gyda ni, ac mae’r cyffuriau gyda ni. Not only have we discovered these, but we’ve also been able to treat them. Many years ago, we would find hepatitis but we couldn’t do anything to treat it. The landscape has been transformed. Amid all of these complaints about our health service, we forget about the bigger picture: that there is wonderful work happening in the background. We have the ability now to eradicate hepatitis C and hepatitis B. We have the technology and we have the drugs available to us.
Rydw i’n falch bod fy nghyd-Aelodau am gefnogi’r cynnig sydd gerbron, sydd yn naturiol yn llongyfarch staff y gwasanaeth iechyd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau eu hymrwymiad—ac rydw i’n clywed geiriau’r Ysgrifennydd Cabinet, ac rydw i’n diolch iddo fe o waelod calon amdanyn nhw—a hefyd yr ystyriaethau eraill sydd gerbron. Felly, i ddechrau, rydw i’n diolch i Julie Morgan am ei hamlinelliad gwych o’r clefyd yma ar y dechrau, a hefyd yn ei llongyfarch hi ar ei gwaith fel cadeirydd y grŵp haemoffilia. Wrth gwrs, mae nifer o’r ffactorau yn fan hyn yn trawstorri’r ddau bwnc, megis. Ac rydw i hefyd yn llongyfarch Mark Isherwood ar ei gyfraniad yntau, a Rhun hefyd. I’m particularly grateful to my fellow Members for supporting this motion, which naturally congratulates the staff of the NHS, calls on the Welsh Government to confirm their commitment—and I’ve heard the words of the Cabinet Secretary and I thank him from the bottom of my heart for those words—and also the other considerations before us in this debate this afternoon. First of all, I’d like to thank Julie Morgan for her expert opening of this debate and congratulate her on her work as the chair of the haemophilia group. Many of the aspects here are crosscutting in terms of these issues. I also congratulate Mark Isherwood on his contribution, as well as Rhun, of course.
Ac wrth gofio am gyfraniad Hefin David, ie, mae hi yn gallu cymryd sawl blwyddyn i’r clefyd yma ddod i’r amlwg, achos mae o yn glefyd annelwig—mae e’n anodd iawn. Rydych chi’n gallu cwestiynu a chwestiynu pobl, ac nid yw pobl yn cofio os ydyn nhw wedi cael rhyw amser pan oedden nhw gyda blinder mawr, affwysol. Nid ydym ni’n cofio. Mae pethau’n mynd nôl yng nghymylau amser, mae pethau’n mynd yn angof. Ac wedyn, mae hi yn anodd gwneud y diagnosis, yn aml, os nad ydych chi’n canolbwyntio ar y bobl hynny, fel sydd wedi cael ei olrhain gan nifer ohonoch chi: carcharorion, y sawl sy’n brechu cyffuriau ac ati. A dyna pam mae’r rhaglenni yna sydd yn darparu nodwyddau glân mor allweddol i gael gwared ar y clefyd yma—ac fe wnaeth hynny gael ei olrhain hefyd gan Hefin David. In recalling Hefin David’s contribution, well, yes, it can take many years for this disease to emerge, because it is very difficult to identify. You can question people and they simply don’t remember if, at some point in the past, they suffered extreme tiredness. People simply don’t remember; they forget. Therefore, it is difficult to carry out that diagnosis, unless you focus on those people, as many people have already mentioned, in prisons and those injecting drugs, of course. That is why those needle exchange programmes are so crucially important in eradicating this disease. That was also mentioned by Hefin David.
A gaf i ddiolch hefyd i Caroline Jones ac i Dawn Bowden am eu cyfraniadau, a hefyd wrth gwrs, fel rydw i wedi cyfarch eisoes, i’r Ysgrifennydd Cabinet am olrhain y drefn arbennig sydd gyda ni yma yng Nghymru? Mae Cymru ar y blaen, rŵan. Rydym ni, yn eithaf aml, yn cymharu ein hunain yn anffafriol yn y wlad yma gyda gwledydd eraill, ond mae Cymru ar y blaen pan mae’n dod i faterion fel hepatitis C. Achos mae’n aros yn her, er ein bod ni’n gallu cael gwared ohono fe. Achos, fel rydym wedi clywed eisoes, rydym yn trin y bobl yna yr ydym wedi eu hadnabod eisoes. Y pwynt yw, nid ydym yn adnabod 50 y cant o’r bobl. Hynny yw, mae yna waith i’w wneud i adnabod a darganfod y bobl sydd â’r clefyd yma. May I also thank Caroline Jones and Dawn Bowden for their contributions and, as I’ve already mentioned, the Cabinet Secretary, who told us about the excellent system that we have here in Wales? We’re in the vanguard. We often compare ourselves unfavourably in this country with other countries, but Wales is in the vanguard when it comes to issues such as hepatitis C. Because the challenge remains, despite our ability to eradicate it. Because, as we’ve already heard, we are treating those people who are already identified. The point is we’re not identifying 50 per cent of the people. So, there is some work to be done in identifying those people who carry this virus.
Mae’n rhaid inni fynd i’r afael efo’r stigma ac mae’n rhaid inni gael gafael—. Hynny yw, mae pobl ofn, weithiau, dod i weld meddyg achos mae gyda nhw fywydau sydd yn anodd, yn ddi-drefn, a hefyd maen nhw’n credu bod pobl yn mynd i’w beirniadu nhw am beth maen nhw wedi’i wneud yn y gorffennol. Felly, mae yna her yn y fan yna i ni fynd i’r afael efo’r systemau yna i gyd. We have to deal with stigma, of course. People often fear going to their GP because they have lives that are often difficult and chaotic, and they feel that people will criticise them for what they’ve done in the past. Therefore, there is a challenge there for us to deal with all those systems.
Ond, yn y bôn, pan fydd rhywun yn gallu cyplysu blinder affwysol efo’r posibilrwydd eu bod nhw wedi cael eu heintio gan waed halogedig, mae’n rhaid inni feddwl am y posibilrwydd bod llid ar yr afu math C gyda nhw. Dyna yw’r her i ni fel meddygon a nyrsys: i fod yn ymwybodol o hynny. Ond, hefyd mae yna her, unwaith ein bod ni’n darganfod pobl, i wneud yn siŵr eu bod nhw’n parhau efo’r driniaeth. Pan mae gyda chi fywyd anodd, sy’n llawn heriau, yn llawn anhrefn, mae’n anodd cadw i fyny efo’r driniaeth hefyd. But ultimately, when one can identify exhaustion with the possibility that they have been infected by contaminated blood, we have to then start to think about the possibility that hepatitis C is the cause, and that’s the challenge for us, as doctors and nurses: to be aware of that. But also, there is a challenge, once we’ve identified those people, to ensure that they continue with the treatment. When you do have difficult, challenging lifestyles, which are often chaotic, then it’s difficult to maintain that treatment too.
Mae yna sawl her, ond, gan groesawu’r cyfraniadau i gyd yr ydym wedi eu clywed y prynhawn yma, a hefyd croesawu ymateb y Llywodraeth, mae’r wlad yma ar y blaen pan mae’n dod i faterion yn ymwneud â hepatitis C. Mae’r dechnoleg gyda ni, mae’r triniaethau gyda ni, ac awn amdani. Cefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr. There are a number of challenges, but, whilst I welcome all of the contributions that we’ve heard this afternoon—and I also welcome the Government’s response—this country is in the vanguard when it comes to issues related to hepatitis C. We have the technology, we have the treatments available, and we should go for it. Please support the motion. Thank you.
16:27 - Y Llywydd / The Llywydd
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. The proposal is to agree the motion. Does any Member object? The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
7. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 'Y Darlun Mawr: Safbwyntiau Cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru' 7. Debate on the Report by the Culture, Welsh Language and Communications Committee: 'The Big Picture: The Committee's Initial Views on Broadcasting in Wales'
16:27 - Y Llywydd / The Llywydd
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Y Darlun Mawr: Safbwyntiau Cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru’, ac rwy’n galw ar Bethan Jenkins, y Cadeirydd, i wneud y cynnig. The next item on our agenda is the debate on the report by the Culture, Welsh Language and Communications Committee, ‘The Big Picture: The Committee’s Initial Views on Broadcasting in Wales’, and I call on Bethan Jenkins, the Chair, to move the motion.
Cynnig NDM6329 Bethan Jenkins Motion NDM6329 Bethan Jenkins
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: To propose that the National Assembly for Wales:
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Y Darlun Mawr—Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2017. 1. Notes the report of the Culture, Welsh Language and Communications Committee, ‘The Big Picture—The Committee’s Initial views on Broadcasting in Wales’, which was laid in the Table Office on 1 February 2017.
2. Yn cytuno y dylai S4C, wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor i’r perwyl hwn, osod adroddiadau ariannol a datganiadau archwiliedig o gyfrifon gerbron y Cynulliad. 2. Agrees that S4C, having accepted the committee’s recommendation to this effect, should lay before the Assembly annual reports and audited statements of accounts.
Cynigiwyd y cynnig. Motion moved.
16:27 - Bethan Jenkins
Diolch, Llywydd. Rwy’n falch iawn o allu agor y ddadl hon ar adroddiad cychwynnol y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar ddarlledu yng Nghymru, ‘Y Darlun Mawr’, a diolch yn fawr i’r clercod ac i’r Aelodau Cynulliad o bob plaid am eu gwaith caled ar y pwyllgor. Thank you, Llywydd. I am very pleased to open this debate on the initial report of the Culture, Welsh Language and Communications Committee on broadcasting in Wales, ‘The Big Picture’. Thank you to the clerks and the Assembly Members of all parties for their hard work on the committee.
Er gwaethaf diffyg pwerau ffurfiol y Cynulliad yn y maes hwn ar hyn o bryd, rwy’n credu bod yna gonsensws nawr bod angen i’r BBC a sefydliadau cyfryngau eraill sy’n gweithredu yng Nghymru fod yn atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol o ran eu cyfrifoldebau a’u hymrwymiadau yng Nghymru. Mae gan ddarlledwyr ddylanwad diwylliannol a gwleidyddol enfawr yng Nghymru, ac mae absenoldeb amlwg cyfryngau masnachol a phrint cryf yn y wlad hon yn golygu bod craffu cyhoeddus ar eu rôl yn bwysicach fyth. Er ein bod yn disgwyl ac yn croesawu i ddarlledwyr a’r cyfryngau ein dwyn i gyfrif fel gwleidyddion, mae gan y Cynulliad fuddiant clir a dilys o ran dwyn darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus eu hunain i gyfrif. Mae gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus rwymedigaeth ddiwylliannol clir i bortreadu Cymru a chymdeithas Cymru mewn ffordd sy’n adlewyrchu’r wlad hon ac yn dangos i ddinasyddion yma, yng ngweddill y Deyrnas Unedig, ac ar draws y byd, pwy ydym ni fel cenedl. Rwy’n gobeithio y bydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn darparu’r ffocws angenrheidiol ar gyfer dwyn ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i gyfrif. Despite the Assembly’s current lack of formal powers in this area, I believe there is now a consensus that the BBC and other media organisations operating in Wales need to be publicly accountable to the National Assembly for their responsibilities and commitments to Wales. Broadcasters wield enormous cultural and political influence in Wales, and the widely acknowledged absence of a strong, home-grown commercial and print media makes public scrutiny of their role even more important. While we expect and welcome broadcasters and the media to hold us to account as politicians, the Assembly also has a clear and legitimate interest in holding public service broadcasters themselves to account. Public service broadcasters have a clear cultural obligation to portray Wales and Welsh society in a way that holds up a mirror to this country and shows citizens here, in the rest of the UK, and across the world, who we are as a nation. I hope that the Culture, Welsh Language and Communications Committee will provide the necessary focus for holding our public service broadcasters to account.
The report before us today is not the result of a specific committee inquiry. Instead, after taking evidence from a number of key figures and organisations in broadcasting, both within and outside Wales, it summarises our initial views on some of the key issues. It is our first contribution to what I hope will be a continuing debate about whether Wales gets the media it deserves. It provides a foundation for the more focused work that we have already started and intend to undertake throughout this Assembly. For instance, we have conducted an inquiry on the future of S4C—we are conducting an inquiry, I should say—and we hope to publish our conclusions before the summer recess in order to influence the outcome of the, we hope, imminent DCMS review of S4C’s future funding and remit. Nid yw’r adroddiad sydd ger ein bron heddiw yn ganlyniad ymchwiliad gan bwyllgor penodol. Yn lle hynny, ar ôl cymryd tystiolaeth gan nifer o ffigyrau a sefydliadau allweddol ym maes darlledu, yng Nghymru a thu hwnt, mae’n crynhoi ein safbwyntiau cychwynnol ar rai o’r materion allweddol. Dyma yw ein cyfraniad cyntaf i’r hyn y gobeithiaf y bydd yn ddadl barhaus ynglŷn ag a yw Cymru’n cael y cyfryngau y mae’n eu haeddu. Mae’n darparu sylfaen ar gyfer gwaith â mwy o ffocws rydym eisoes wedi’i ddechrau ac y bwriadwn ei wneud drwy gydol y Cynulliad hwn. Er enghraifft, rydym wedi cynnal ymchwiliad ar ddyfodol S4C—rydym yn cynnal ymchwiliad, dylwn ddweud—ac rydym yn gobeithio cyhoeddi ein casgliadau cyn toriad yr haf er mwyn dylanwadu ar ganlyniad adolygiad yr adran dros ddiwylliant, y cyfryngau a chwaraeon y gobeithiwn ei fod ar fin digwydd o gyllid a chylch gwaith S4C yn y dyfodol.
We are concerned at the continuing decline of local media and local journalism in Wales, and we have also started an inquiry in this area, which I hope will recommend real, lasting solutions. Rydym yn pryderu ynglŷn â dirywiad parhaus cyfryngau lleol a newyddiaduraeth leol yng Nghymru, ac rydym hefyd wedi dechrau ymchwiliad yn y maes hwn, ac rwy’n gobeithio y bydd yn argymell atebion go iawn a pharhaol.
The role of radio in Wales needs more consideration. Some of the most popular public and commercial radio stations operating in Wales provide very little specific Welsh content or Welsh news. This is another area where we intend to do more detailed work. Mae angen mwy o ystyriaeth i rôl radio yng Nghymru. Ychydig iawn o gynnwys Cymreig penodol neu newyddion Cymreig y mae rhai o’r gorsafoedd radio cyhoeddus a masnachol mwyaf poblogaidd sy’n gweithredu yng Nghymru yn eu darparu. Mae hwn yn faes arall lle rydym yn bwriadu gwneud gwaith mwy manwl.
Bydd yr Arglwydd Tony Hall, cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor unwaith eto ar 28 Mehefin. Mewn tystiolaeth i'r pwyllgor ym mis Mawrth eleni, ailadroddodd yr Arglwydd Hall ymrwymiad i gyllid ychwanegol ar gyfer darlledu Saesneg yng Nghymru. Ynghylch faint y dylai'r cyllid ychwanegol fod, rydym yn argymell, fel pwyllgor blaenorol y Cynulliad, y Sefydliad Materion Cymreig a Llywodraeth Cymru ei hun, y dylai £30 miliwn yn ychwanegol gael ei ddarparu bob blwyddyn. Byddai cyllid ychwanegol ar y lefel hon o bosibl wedi caniatáu dyblu'r allbwn ac i’r BBC gynhyrchu rhaglenni o ansawdd sydd â siawns well o ennill lle ar rwydwaith y BBC. Lord Tony Hall, the director general of the BBC, will be giving evidence to the committee once again on 28 June. In evidence to the committee in March this year, Lord Hall reiterated a commitment to additional funding for English-language broadcasting in Wales. As to how much that extra funding should be, we recommended, like a previous Assembly committee, the Institute of Welsh Affairs and the Welsh Government itself, that an additional £30 million should be provided annually. Extra funding at this level would have potentially allowed for a doubling of output and for BBC Wales to produce quality programmes that have a better chance of earning a place on the BBC’s network.
Since we reported, Lord Hall has responded with an additional £8.5 million for English language broadcasting in Wales. While any increase is of course welcome, I am personally disappointed that this is significantly less than the £30 million that the committee has called for. I am also disappointed that the extra funding for Wales was considerably less than the extra £40 million that BBC Scotland is set to get, including funding for an additional television channel devoted to Scotland, especially when Ofcom told us—to our committee—that Scotland was over-indexed when financing for network was concerned. Whether Wales needs a dedicated channel is a matter for debate, which we haven’t yet had, but the disparity in the amount of extra funding is significant and needs further explanation. I am sure that the committee will ensure Lord Hall provides those explanations in two weeks’ time. Ers i ni gyflwyno adroddiad, mae’r Arglwydd Hall wedi ymateb gydag £8.5 miliwn ychwanegol ar gyfer darlledu Saesneg yng Nghymru. Er bod unrhyw gynnydd i’w groesawu wrth gwrs, yn bersonol rwy’n siomedig ei fod gryn dipyn yn llai na’r £30 miliwn y mae’r pwyllgor wedi galw amdano. Rwyf hefyd yn siomedig fod y cyllid ychwanegol ar gyfer Cymru gryn dipyn yn llai na’r £40 miliwn ychwanegol y mae BBC Scotland yn mynd i’w gael, gan gynnwys cyllid ar gyfer sianel deledu ychwanegol wedi’i neilltuo ar gyfer yr Alban, yn enwedig gan fod Ofcom wedi dweud wrthym—wrth ein pwyllgor—fod yr Alban wedi’i gormynegeio mewn perthynas ag ariannu ar gyfer y rhwydwaith. Mae’r angen am sianel bwrpasol ar gyfer Cymru yn fater ar gyfer trafodaeth, ac nid ydym wedi ei chael eto, ond mae’r gwahaniaeth yn y swm o gyllid ychwanegol yn arwyddocaol ac yn galw am eglurhad pellach. Rwy’n sicr y bydd y pwyllgor yn sicrhau bod yr Arglwydd Hall yn rhoi’r esboniadau hynny ymhen pythefnos.
Mae'n deg nodi bod Cymru wedi sicrhau mwy na'i chyfran o'r boblogaeth o wariant gan y BBC yng Nghymru. I raddau helaeth, mae hyn yn adlewyrchu llwyddiant sylweddol Porth y Rhath a'r rhaglenni sy'n cael eu gwneud yno. Fodd bynnag, nid yw llawer o'r gwariant hwn yn cyfrannu at adlewyrchu hunaniaeth a safbwynt unigryw Cymreig. Mae gennym bryderon am ddyfodol Porth y Rhath ar ôl i gomisiynau wedi'u gwarantu gan y BBC ddod i ben. Mae hefyd pryderon newydd gennym ynglŷn â’r ffaith bod ‘The Wales Report’ yn dirwyn i ben a bod angen ailgomisiynu’r rhaglen wleidyddol honno. Mae angen mwy o raglenni gwleidyddol, nid, efallai, glastwreiddio’r rhai sydd gennym ni yn barod. It is fair to note that Wales has secured more than its population share of spending by the BBC. In large part, this reflects the considerable success of the Roath Lock complex and the programmes made there. However, much of this spending does little to reflect a distinctly Welsh identity and viewpoint. We also have concerns about the future of Roath Lock once guaranteed commissions from the BBC come to an end. There are also concerns that have just been raised with regard to the fact that ‘The Wales Report’ is coming to an end, and that we need to recommission that political programme. We need more political programmes, not just a dilution of the ones that we already have.
Ar y radio, nid yw allbwn newyddion gorsafoedd radio poblogaidd y BBC fel Radio 2 a Radio 1 yn gwneud llawer i hyrwyddo'r agenda newyddion unigryw yng Nghymru—a gwnaethom ni weld hyn yn ystod yr etholiad cyffredinol yma hefyd—ac yn aml gall atgyfnerthu neu greu mwy o ddryswch ynglŷn â chyfrifoldeb dros benderfyniadau gwleidyddol ar draws gwledydd ac o fewn y Deyrnas Unedig. Felly, rydym ni wedi argymell slot newyddion lle ceir optio allan i Gymru ar gyfer Radio 2 a Radio 1. A bydd hyn, yn ôl yr hyn yr ydym ni’n ei ddeall, yn cael ei ystyried fel rhan o adolygiad newyddion y BBC ac edrychaf ymlaen at gael gweld y canlyniad o hynny. On radio, the news output of popular BBC radio stations like Radio 2 and Radio 1 does little to promote the very distinctive news agenda in Wales—and we saw that during the general election, too—and can often reinforce or create more confusion about the responsibility for political decisions across the nations of the UK. So, we have recommended a Wales news opt-out for Radio 2 and Radio 1. And this, we understand, will be considered as part of the BBC’s news review and I look forward to the outcome of that.
With regard to BBC support for local journalism, we are glad that the BBC is actively looking at ways of helping to improve the scrutiny of local democracy in the UK. However, we do have reservations about how they are approaching this. This is an area that we intend to scrutinise further as part of our inquiry into local journalism in Wales. I think—for my part anyway—I have reservations here about, if journalists are embedded in places like Media Wales, whether they would see that the BBC funding would potentially accommodate them, being able to take back some of those positions that they currently have in those organisations. We would not want to see that happen on any level, and I would hope the Minister would agree on that. O ran cefnogaeth y BBC i newyddiaduraeth leol, rydym yn falch fod y BBC yn edrych o ddifrif ar ffyrdd o helpu i wella craffu ar ddemocratiaeth leol yn y DU. Fodd bynnag, mae gennym amheuon ynglŷn â sut y maent yn ymdrin â hyn. Mae hwn yn faes y bwriadwn graffu ymhellach arno fel rhan o’n hymchwiliad i newyddiaduraeth leol yng Nghymru. Rwy’n meddwl—o’m rhan i beth bynnag—fod gennyf amheuon yma ynglŷn ag os yw newyddiadurwyr yn cael eu lleoli mewn llefydd fel Media Wales, a fyddent yn gweld y byddai arian y BBC yn darparu ar eu cyfer o bosibl, drwy allu cymryd rhai o’r swyddi sydd ganddynt ar hyn o bryd yn y sefydliadau hynny yn ôl. Ni fyddem am weld hynny’n digwydd ar unrhyw lefel, a byddwn yn gobeithio y byddai’r Gweinidog yn cytuno ynglŷn â hynny.
O ran llywodraethu’r BBC, roedd gan y pwyllgor nifer o bryderon am y trefniadau llywodraethu newydd ar gyfer y BBC. Er enghraifft, ni fydd cyfarwyddwr BBC Cymru mwyach yn aelod o brif fwrdd y BBC; nid oes digon o bwys wedi cael ei roi i farn y gynulleidfa yn strwythurau llywodraethu newydd y BBC; ac ai swydd y cyfarwyddwr gwledydd a rhanbarthau’r BBC a atgyfodwyd yw'r ffordd orau ymlaen, gan nad ydym wedi'n hargyhoeddi y gall un unigolyn gyflawni'r rôl hon yn effeithiol. Efallai bydd newyddion gan Lord Hall yn gallu gwneud inni feddwl yn wahanol, ond ar hyn o bryd, nid ydym ni’n credu bod hynny’n ddigon cryf. In terms of the governance of the BBC, the committee had a number of concerns about the new governance arrangements for the BBC. For instance, that the director of BBC Cymru Wales will no longer be a member of the BBC’s main board; that insufficient weight has been given to the audience’s view in the new BBC governance structures; and whether the resurrected post of BBC director of the nations and regions is the best way forward, as we are not convinced that one individual can carry out this role effectively. Perhaps Lord Hall will have some information that can ease our minds in that regard, but at present, we don’t think that that’s been strongly said.
Pre-appointment hearings: I know Lee Waters has been leading the charge on this. We are, however, pleased to note that the consent of the Welsh Government is now needed before the new BBC board member for Wales can be appointed. But our report recommended that there should be a pre-appointment hearing for this post, and that the nominee should answer questions from the committee before Welsh Ministers decide whether to give their consent to the person nominated. Since our report was published, the Welsh Government has, of course, withheld its consent to the appointment of the candidate nominated for this role. The appointment process, I understand, is therefore being re-run. The Welsh Government’s response to our report has accepted the principle of a pre-appointment hearing. So, there does not seem to me to be any practical reason why the Minister cannot give a simple undertaking here today that he will not give his consent to an appointment until there has been an opportunity for a committee hearing with the nominated candidate. This would not remove Ministers’ prerogative to confirm that appointment, but it would allow them to consider the views of the committee before making that decision. Gwrandawiadau cyn penodi: gwn fod Lee Waters wedi bod ar flaen y gad ar hyn. Fodd bynnag, rydym yn falch o nodi bod angen caniatâd Llywodraeth Cymru yn awr cyn y gellir penodi aelod bwrdd newydd y BBC ar gyfer Cymru. Ond argymhellodd ein hadroddiad y dylid cael gwrandawiad cyn penodi ar gyfer y swydd hon, ac y dylai’r enwebai ateb cwestiynau gan y pwyllgor cyn i Weinidogion Cymru benderfynu a ydynt am roi eu cydsyniad i benodi’r sawl a enwebwyd ai peidio. Ers cyhoeddi ein hadroddiad, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi ymatal rhag rhoi ei chydsyniad i benodi’r ymgeisydd a enwebwyd ar gyfer y rôl hon. Deallaf fod y broses benodi yn cael ei hailgynnal felly. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’n hadroddiad wedi derbyn yr egwyddor o wrandawiad cyn penodi. Felly, nid yw’n ymddangos i mi fod unrhyw reswm ymarferol pam na all y Gweinidog roi ymrwymiad syml yma heddiw na fydd yn rhoi ei gydsyniad i benodiad hyd nes y ceir cyfle i gynnal gwrandawiad pwyllgor gyda’r ymgeisydd a enwebwyd. Ni fyddai hyn yn cael gwared ar hawl Gweinidogion i gadarnhau’r penodiad, ond byddai’n caniatáu iddynt ystyried barn y pwyllgor cyn gwneud y penderfyniad hwnnw.
Fel y soniais yn gynharach, mae'r pwyllgor wrthi'n cynnal ymchwiliad i adolygiad DCMS o gylch gwaith, cyllid ac atebolrwydd S4C. Felly, nid wyf yn bwriadu mynd i mewn i’r manylion hynny heddiw. Ond rŷm ni wedi dweud bod toriadau termau real i gyllideb S4C ers 2010 yn ddifrifol ac yn anghymesur. Mae'r toriadau hyn wedi arwain at sefyllfa lle mae 57 y cant o raglenni S4C yn awr yn ailddarllediadau. Mae hyn yn llawer rhy uchel ac yn fater o gryn bryder i'r pwyllgor. As I mentioned earlier, the committee is currently undertaking an inquiry into the DCMS review of the remit, funding and accountability of S4C, so I don’t intend to cover this aspect of our report in detail today. But we have said that the real-terms cuts to S4C’s budgets since 2010 are severe and disproportionate. These cuts have led to a situation where 57 per cent of S4C’s programmes are now repeats. This is far too high and is a matter of considerable concern to the committee.
Mae S4C wedi bod yn barod iawn i ymddangos gerbron pwyllgorau'r Cynulliad. Er y croesewir hyn, ni fyddem yn disgwyl dim llai. Fodd bynnag, rydym yn falch iawn bod S4C wedi cydnabod ei hatebolrwydd i'r Cynulliad Cenedlaethol ac wedi cytuno i ffurfioli'r berthynas drwy osod ei hadroddiadau blynyddol a'i chyfrifon archwiliedig gerbron y Cynulliad. Bydd y cynnig yr ydym yn ei drafod heddiw yn galluogi gosod y dogfennau hynny gerbron y Cynulliad yn y dyfodol ac yn darparu ffocws rheolaidd ar gyfer craffu ar S4C gan y pwyllgor a'r Cynulliad. S4C has willingly appeared before Assembly committees. While this is welcome, it is no less than we would expect. However, we are pleased that S4C has recognised its accountability to the National Assembly and has agreed to formalise the relationship by laying its annual reports and audited accounts before the Assembly. The motion that we are debating today will enable those documents to be laid before the Assembly in future, and will provide a regular focus for scrutiny of S4C by the committee and the Assembly.
In the time I have left, I will briefly mention ITV Wales. They may be part of a private company, but it is still very much a public service broadcaster with obligations to the public it serves. ITV has pointed out that it is exceeding its licence requirements for audiences in Wales. While that may be true, the independently owned channel 3 service in Scotland, again, has increased its non-news provision in recent years, while ITV Cymru Wales’s provision has declined. I would urge ITV to think about putting more of a proactive stance on providing more Welsh-specific output. While we can commend them for programmes like ‘Aberfan’ on network, I think there is much more to be done. Yn yr amser sydd gennyf yn weddill, fe soniaf yn fyr am ITV Cymru. Mae’n bosibl eu bod yn rhan o gwmni preifat, ond mae’n dal i fod i raddau helaeth yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus gyda rhwymedigaethau i’r cyhoedd y mae’n eu gwasanaethu. Mae ITV wedi nodi ei fod yn rhagori ar ofynion ei drwydded ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru. Er y gallai hynny fod yn wir, mae’r gwasanaeth trydedd sianel yn yr Alban sydd mewn dwylo annibynnol unwaith eto wedi cynyddu ei ddarpariaeth nad yw’n newyddion yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae darpariaeth ITV Cymru wedi dirywio. Byddwn yn annog ITV i feddwl am arddel safbwynt mwy rhagweithiol o ran darparu cynnyrch sy’n fwy penodol Gymreig. Er y gallwn eu canmol am raglenni fel ‘Aberfan’ ar y rhwydwaith, rwy’n credu bod llawer mwy i’w wneud.
Well, I was going to declare an interest because my brother is a journalist on ‘Channel 4 News’, but he may be grateful to know that I am not going to speak any more, to let other Members come in. I am sure that other Members can also talk about Ofcom and their new roles in relation to the BBC and their future role here in Wales. Wel, roeddwn yn mynd i ddatgan buddiant gan fod fy mrawd yn newyddiadurwr ar ‘Channel 4 News’, ond efallai y bydd yn ddiolchgar i wybod nad wyf yn mynd i siarad rhagor, er mwyn gadael i’r Aelodau eraill gyfrannu. Rwy’n sicr y gall Aelodau eraill hefyd sôn am Ofcom a’u rolau newydd mewn perthynas â’r BBC a’u rôl yma yng Nghymru yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn i’r Aelodau sydd wedi bod yn rhan o’r drafodaeth. Gobeithio y gallwn gael mwy o drafodaethau yn y dyfodol. Thank you very much to the Members who have been part of this debate. I hope that we can have more debate in future.
16:38 - Suzy Davies
I’m going to disappoint you there, Bethan—I’m not going to start off talking about Ofcom. I won’t have time in my short submission, I’m afraid. I did want to stress, actually, to start with—while thanking the committee and the staff for their work on this—that it is a very innovative committee, the one that we are sitting on now. I just wanted to, as I said, talk about that for a moment. This report, as you heard, is a report of initial views. It’s the beginning of a series in which we’ll interrogate the story of broadcast media in a way that we can actually measure our influence on the progress of that story over the next—well, it will be four years now, but five in total. Because it is easy for us, as Members, to fall into a pattern of short-term scrutiny because we are so small in number. There will always be new and compelling work to be done, and assessing our legacy as a committee—any committee, really—as parliamentarians isn’t something to which we can devote as much time as we might need to. It limits our ability to prove to the people of Wales that we, the Assembly, have the ability to make representation an active tool. Representing constituents isn’t just about name checks here in the Chamber or using some particular issue as a political baseball. Yet, in the small media country it is difficult to try and build up any kind of momentum of understanding of what this Assembly can achieve on our constituents’ behalf—whether that is improving Government policy and legislation, yes, but by actually getting our public, private and third sectors, as well as everybody in Wales as individuals, to consider our behaviour, our rights, our responsibilities—indeed, their power, if you like. So, I genuinely commend this committee. I know I am a part of it, but I think that this is such a good lead for taking the long view and starting a much longer piece of work in this case on the—[Interruption.] Well, only the best are on this committee. Rwy’n mynd i’ch siomi yn y fan honno, Bethan—nid wyf yn mynd i ddechrau siarad am Ofcom. Ni fydd gennyf amser yn fy nghyflwyniad byr, mae arnaf ofn. Roeddwn am bwysleisio i gychwyn, mewn gwirionedd—er fy mod yn diolch i’r pwyllgor a’r staff am eu gwaith ar hyn—ei fod yn bwyllgor arloesol iawn, yr un rydym yn aelodau ohono ar hyn o bryd. Roeddwn eisiau sôn am hynny am eiliad, fel y dywedais. Mae’r adroddiad hwn, fel y clywsoch, yn adroddiad ar safbwyntiau cychwynnol. Mae’n ddechrau ar gyfres pan fyddwn yn holi cwestiynau ynglŷn â stori’r cyfryngau darlledu mewn ffordd inni allu mesur ein dylanwad mewn gwirionedd ar gynnydd y stori honno dros y—wel, fe fydd yn bedair blynedd bellach, ond pum mlynedd i gyd. Oherwydd mae’n hawdd i ni, fel Aelodau, i lithro i batrwm o graffu yn y tymor byr gan nad oes llawer ohonom. Bydd yna bob amser waith newydd a phwysig i’w wneud, ac nid yw asesu ein hetifeddiaeth fel pwyllgor—unrhyw bwyllgor, mewn gwirionedd—fel seneddwyr yn rhywbeth y gallwn roi cymaint o amser iddo ag y gallai fod angen i ni ei wneud. Mae’n cyfyngu ar ein gallu i brofi i bobl Cymru ein bod ni, y Cynulliad, â gallu i wneud cynrychiolaeth yn offeryn gweithredol. Mae cynrychioli etholwyr yn golygu mwy na rhestru enwau yma yn y Siambr, neu ddefnyddio mater penodol fel pêl fas wleidyddol. Eto i gyd, mewn gwlad fach o ran ei chyfryngau, mae’n anodd ceisio adeiladu unrhyw fath o fomentwm o ddealltwriaeth ynglŷn â’r hyn y gall y Cynulliad ei gyflawni ar ran ein etholwyr—boed yn wella polisïau a deddfwriaeth y Llywodraeth, ie, ond drwy gael ein sector cyhoeddus, ein sector preifat a’r trydydd sector, yn ogystal â phawb yng Nghymru fel unigolion, i ystyried ein hymddygiad, ein hawliau, ein cyfrifoldebau mewn gwirionedd—yn wir, eu grym, os mynnwch. Felly, rwy’n cymeradwyo’r pwyllgor hwn o ddifrif. Gwn fy mod yn rhan ohono, ond rwy’n meddwl bod hyn yn arweiniad mor dda ar gyfer edrych ar y mater yn hirdymor a dechrau ar waith llawer hwy yn yr achos hwn ar y—[Torri ar draws.] Wel, dim ond y gorau sydd ar y pwyllgor hwn.
Now, when this report—this initial report, remember—was published, it did ruffle a few feathers, and I think that's a good thing. None of us wishes to be adversarial in committee; we value the evidence that witnesses give us. But our public service media in Wales has so few players in it that the expectations of each of them will be that much higher. We acknowledge completely that the funding cuts have consequences, and this report doesn't just shy away from the role of a UK Government in that, but we also recognise that the BBC has direct responsibility for the decisions that affect both BBC Cymru Wales and S4C, and a number of our recommendations, as you will see, are directly for the BBC’s attention nationally. And I think it will be interesting to see how this Assembly can influence a body that is not actually accountable to us or Welsh Government. Nawr, pan gyhoeddwyd yr adroddiad hwn—yr adroddiad cychwynnol hwn, cofiwch—fe achosodd ychydig o gynnwrf, ac rwy’n credu bod hynny’n beth da. Nid oes yr un ohonom yn dymuno bod yn wrthwynebus yn y pwyllgor; rydym yn gwerthfawrogi’r dystiolaeth a roddodd y tystion i ni. Ond mae cyn lleied o chwaraewyr yn ein cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru fel bod yr hyn a ddisgwylir gan bob un ohonynt gymaint yn fwy. Rydym yn cydnabod yn llwyr fod y toriadau ariannol wedi arwain at ganlyniadau, ac nid yw’r adroddiad hwn yn celu rhag rôl Llywodraeth y DU yn hynny, ond rydym hefyd yn cydnabod bod gan y BBC gyfrifoldeb uniongyrchol dros y penderfyniadau sy’n effeithio ar BBC Cymru ac S4C, ac mae nifer o’n hargymhellion, fel y gwelwch, at sylw uniongyrchol y BBC yn genedlaethol. Ac rwy’n meddwl y bydd yn ddiddorol gweld sut y gall y Cynulliad hwn ddylanwadu ar gorff nad yw’n atebol i ni na Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd.
Now, this report gives early pointers towards certain expectations of the BBC in terms of Wales's portrayal and, more importantly, the reach of that portrayal into network. It also points to the BBC's spend in Wales, both on, primarily, but not exclusively, the likes of Roath Lock—you know, the national drama production base—and the news there, of course, is undeniably quite good. I mean, the money that’s spent there is higher than some notional Barnett formula equivalent, if you like. But the spend at the time on English language drama that was in some overt way about Wales was not so good. That was certainly a worry, and the charter review was of course imminent at that point, and good news was promised. Now, we know the outcome of the charter review, and Bethan has mentioned it. Our wider response to that will be one of the next chapters in this ongoing series, and, as we heard, we're taking evidence from Tony Hall in about a fortnight, I think. Nawr, mae’r adroddiad hwn yn rhoi awgrymiadau cynnar ynglŷn â’r hyn a ddisgwylir yn benodol gan y BBC o ran y portread o Gymru ac yn bwysicach, cyrhaeddiad y portread hwnnw ar y rhwydwaith. Mae hefyd yn cyfeirio at wariant y BBC yng Nghymru, ar bethau fel Roath Lock yn bennaf, er nad hynny’n unig—wyddoch chi, y ganolfan gynhyrchu drama genedlaethol—ac ni ellir gwadu bod y newyddion yno, wrth gwrs, yn eithaf da. Hynny yw, mae’r arian sy’n cael ei wario yno yn fwy na rhywbeth tybiannol sy’n cyfateb i fformiwla Barnett, os mynnwch chi. Ond nid oedd y gwariant cystal ar y pryd ar ddrama Saesneg a oedd am Gymru mewn rhyw ffordd amlwg. Roedd hynny’n sicr yn destun pryder, ac wrth gwrs, roedd yr adolygiad o’r siarter ar fin digwydd ar y pwynt hwnnw, a newyddion da wedi’i addo. Nawr, rydym yn gwybod beth oedd canlyniad yr adolygiad o’r siarter, ac mae Bethan wedi sôn amdano. Ein hymateb ehangach i hynny fydd un o’r penodau nesaf yn y gyfres barhaus hon, ac fel y clywsom, rydym yn cymryd tystiolaeth gan Tony Hall mewn oddeutu pythefnos, rwy’n meddwl.
Now, Bethan, you've done the main spoilers, but I just wanted to mention that that extra £8.5 million for English language drama came with an aim that half of any new programmes grown from this would be broadcast across the UK, i.e. network, not just here in Wales. And when you bear in mind that the sum is the same as, or actually even slightly less than, BBC Cymru Wales is likely to be asked to save in view of the BBC's cash-flat settlement from the UK Government, it really doesn't look like extra money, does it? It looks like recycled money, but with some instructions on how to spend it attached. We've heard that the investment in Scotland is about four times higher, and I think it will be interesting to see how the BBC itself can be sure that its charter commitment to better balance representation, including portrayal of the nations and regions, and what that actually ends up looking like when some nations, shall I say, and regions do considerably better financially than others, notwithstanding a funding floor built into the charter. Nawr, Bethan, rydych wedi datgelu’r prif sbwylwyr, ond roeddwn eisiau sôn bod yr £8.5 miliwn ychwanegol ar gyfer drama Saesneg wedi dod gyda’r nod y byddai hanner unrhyw raglenni newydd a dyfir o hyn yn cael eu darlledu ar draws y DU, sef y rhwydwaith, nid yma yng Nghymru yn unig. A phan gofiwch fod y swm yr un fath, neu hyd yn oed ychydig yn llai nag y mae’n debyg y bydd gofyn i BBC Cymru ei arbed o ystyried y setliad ariannol nad yw wedi’i godi gan Lywodraeth y DU i’r BBC, nid yw’n edrych fel arian ychwanegol o gwbl, nac ydy? Mae’n edrych fel arian wedi’i ailgylchu, ond gyda rhai cyfarwyddiadau wedi’u hatodi ar sut i’w wario. Rydym wedi clywed bod y buddsoddiad yn yr Alban oddeutu pedair gwaith yn fwy, ac rwy’n credu y bydd yn ddiddorol gweld sut y gall y BBC ei hun fod yn sicr fod ei ymrwymiad siarter i gynrychiolaeth wedi’i chydbwyso’n well, gan gynnwys y modd y portreadir y gwledydd a’r rhanbarthau, a sut olwg fydd ar hynny yn y pen draw mewn gwirionedd pan fo rhai cenhedloedd, os caf ddweud, a rhanbarthau yn gwneud yn llawer gwell yn ariannol nag eraill, er gwaethaf y cyllid gwaelodol a ymgorfforwyd yn y siarter.
Just to finish, I think we ought to say as well that we did not shy away from trying to find out whether those broadcasters in Wales were basically just going to cry about dealing with the terrible lot that they had, or whether, indeed, despite the severe cuts, they were up for the challenge of meeting those cuts. And I think it was fair to say that, yes, they have. And I think it might also be fair to say that there are still some reassurances that we are looking for. As we sought better network coverage of BBC Wales productions on the BBC network, we also sought it of ITV Wales on the ITV network, and we know that, in both cases, the pitch and quality of programmes is critical. I think it's fair to say—sorry, I know I'm running out of time—ITV did step up to the plate; their ‘The Aberfan Young Wives’ Club’ won an award on national network TV, so I don't want to hear any backsliding from ITV Wales on this. And I think I will leave it there. I have got similar things to say, but I appreciate that I'm running a risk with you. [Laughter.]Thank you. I orffen, rwy’n meddwl y dylem ddweud hefyd na wnaethom gilio rhag ceisio darganfod a oedd y darlledwyr hynny yng Nghymru yn mynd i wneud rhywbeth heblaw colli dagrau ynglŷn â dod i ben â chyn lleied a oedd ganddynt, neu a oeddent, yn wir, er gwaethaf y toriadau llym, yn barod am yr her o wynebu’r toriadau hynny. Ac rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud eu bod wedi gwneud hynny. Ac rwy’n meddwl y gallai hefyd fod yn deg dweud ein bod yn dal heb gael peth o’r sicrwydd y chwiliem amdano. Wrth i ni geisio cael mwy o gynyrchiadau BBC Cymru ar rwydwaith y BBC, roeddem yn galw am hynny hefyd gan ITV Cymru ar rwydwaith ITV, a gwyddom yn y ddau achos fod natur ac ansawdd y rhaglenni’n allweddol. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud—mae’n ddrwg gennyf, rwy’n gwybod fy mod yn brin o amser—fod ITV wedi ymateb i’r her; enillodd ‘The Aberfan Young Wives Club’ wobr ar y rhwydwaith teledu cenedlaethol, felly nid wyf am glywed unrhyw dynnu’n ôl gan ITV Cymru ar hyn. Ac rwy’n credu fy mod am ei gadael yn y fan honno. Mae gennyf bethau tebyg i’w dweud, ond rwy’n sylweddoli fy mod yn ei mentro hi gyda chi. [Chwerthin.] Diolch.
16:43 - Y Llywydd / The Llywydd
Wise indeed. Dai Lloyd. Doeth iawn yn wir. Dai Lloyd.
16:43 - Dai Lloyd
Diolch yn fawr, Llywydd, ac rwy’n falch o godi yn y ddadl bwysig yma ar y ddogfen hardd yma, ‘Y Darlun Mawr: Safbwyntiau Cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru’, ac, fel mae’r Cadeirydd doeth, cadarn, aeddfed—Bethan yn fan hyn—wedi crybwyll eisoes, dechrau ar y daith yr ŷm ni yn fan hyn nawr, achos—. A’r cefndir, yn naturiol, ydy’r portread o Gymru ar ein rhwydweithiau, fel y BBC ac ITV ac ati. Ac wrth gwrs, y cefndir ydy nid ydym ni’n credu bod yna fawr o bortread o Gymru—mae yna le i gael llwyddiant syfrdanol. Mae pobl wastad wedi dweud wrthych ar stepen drws, gan ein bod ni wedi bod ar stepen ambell ddrws yn ddiweddar, yn cwyno am ddiffyg sylw Cymru yn gyffredinol—‘Cymru wastad yn cael ei hanwybyddu’, yr oeddwn i’n ei glywed yr wythnos diwethaf. Ac, wrth gwrs, rhan o hynny ydy’r diffyg sylw penodol i Gymru ar y BBC ac ati, ond hefyd y ffaith bod y cyfrwng printiedig, ein papurau newydd ni, mor affwysol o wan yma yng Nghymru hefyd. Nid oes yna braidd neb ar ôl sydd yn dal i ddarllen y ‘Western Mail’ ac ati. Thank you very much, Llywydd, and I’m pleased to contribute to this important debate on this wonderful document, ‘The Big Picture: the Committee’s Initial Views on Broadcasting in Wales’. As our wise, firm, and mature Chair, Bethan, has already mentioned, we are starting the journey here, because—. The background to this, naturally, is the portrayal of Wales on our networks, such as the BBC and ITV and so forth. And of course, the background is that we don’t believe that there is much portrayal of Wales at all—there is room for considerable improvement. People always tell you on the doorstep, given that we have been on a few doorsteps recently—they complain about the lack of coverage for Wales generally. Wales is always ignored. I heard that just last week. Of course, part of that is related to the lack of coverage specific to Wales on the BBC and so on, but also the fact that our print media and newspapers are so appallingly weak here in Wales, too. There’s virtually nobody left still reading the ‘Western Mail’ and so on.
Nawr, yn nhermau—. Gan ein bod ni yn nodi’r adroddiad yma yn y cynnig, gwnaf i lynu wrth yr adroddiad a chanolbwyntio ar argymhellion 1, 2 a 3. Mae Bethan wedi cyfeirio eisoes at yr angen i wario mwy o bres yma ar ran y BBC. Fe fuon ni i gyd rownd stiwdios y BBC yma, dros y ffordd, ac mae’n hyfryd gweld yr holl arian sy’n cael ei wario ar wneud ‘Casualty’ a ‘Meddyg Pwy’— ‘Doctor Who’—ond nid yw e wastad yn glir o’r rhaglenni yna eu bod nhw’n adlewyrchu bywyd yng Nghymru o gwbl, a dweud y gwir. Rydw i wedi gwneud y pwynt o’r blaen: nid fy mod i’n gofyn am daleks dwyieithog, ond efallai, o bryd i’w gilydd, dylai’r rhaglenni yna o leiaf olrhain eu bod nhw yng Nghymru. Achos mae pob ysbyty arall yng Nghymru efo arwyddion dwyieithog, megis; gallai’r ysbyty yn ‘Casualty’, efallai, adlewyrchu’r wlad lle mae’n cael ei wneud. Mae’r pwynt yna’n bwysig achos rydym ni’n colli pres, fel mae Suzy newydd ddweud, ar bortreadu Cymru yn yr iaith Saesneg achos efallai ei fod e’n cael ei wario yn y fan hyn. Mae angen mwy o bwyslais ar bortreadu Cymru yn yr iaith Saesneg. Fe ddof i nôl at hynny os bydd yna amser. Now, in terms of—. As we are noting this report in the motion this afternoon, I will adhere to it and focus on recommendations 1, 2 and 3. Bethan has already referred to the need to spend more money here in terms of the BBC. We all visited the BBC studios just over the road here, and it was wonderful to see all the money spent on ‘Casualty’ and ‘Doctor Who’, but it’s not always clear from those programmes that they reflect Welsh life in any way whatsoever. I’ve made this point before: I’m not asking for bilingual daleks, but perhaps, from time to time, those programmes should actually reveal the fact that they’re made here in Wales. Every hospital in Wales has bilingual signs, for example; the hospital in ‘Casualty’ should perhaps reflect the nation where it’s produced. That’s an important point because we are losing money, as Suzy has just said, in terms of the portrayal of Wales through the medium of English, perhaps because it is spent here. We need more emphasis on portraying Wales in English-medium productions, and I will return to that point if time permits.
Yn y bôn, mae angen mwy o bwyslais ar bortreadu Cymru neu fe fydd yna ganlyniadau. Rydym ni wedi cael y canlyniadau, megis yn y refferendwm Brexit y llynedd, sef nad oedd yna fawr neb o’n trigolion yn sylweddoli bod Cymru yn elwa o fod yn aelod o Ewrop. Buasai gwasg a phortreadu mwy clyfar, gwir o beth sy’n digwydd yma yng Nghymru wedi ei gwneud yn eglur taw’r syniad gorau buasai pleidleisio i aros i mewn yn Ewrop. Roedd y rhan fwyaf o’n pobl yn dilyn yn llafurus iawn y wasg brintiedig a’r cyfryngau torfol sy’n deillio o Lundain. Ac wrth gwrs, fel y mae’r Cadeirydd eisoes wedi dweud, mae mwy o bobl yn gwrando ar Radio 1 a Radio 2 yng Nghymru na sydd, yn anffodus, yn gwrando ar Radio Cymru neu Radio Wales. Efallai y buasai’n syniad petai Radio 1 a Radio 2 yn eu slot newyddion yn sôn am Gymru rhywbryd. Slot bach a fyddai’n neis, ontefe, yn lle ein hanwybyddu ni yn gyfan gwbl. Dyna her i’r BBC, felly. Achos y tro diwethaf roedd y meddygon iau ar streic—ac mi fuon nhw ar streic cwbl o weithiau y llynedd—roedd pobl sydd ddim yn arfer gwrando ar ein cyfryngau ni yma yng Nghymru, fel rhai o’n meddygon iau ni yn Ysbyty Treforys, yn credu eu bod nhw ar streic hefyd. Wrth gwrs, rydym ni mewn gwlad wahanol yn y fan hyn, ac nid oedd ein meddygon ni ar streic. Felly, dyna pam mae angen darparu’r wybodaeth iawn neu fe fydd pobl yn camgymryd. Essentially, we need more emphasis on the portrayal of Wales or there will be outcomes to that. We have seen the result of that in the Brexit referendum last year, in that virtually none of our people realised that Wales benefited from its membership of the European Union. A smarter, truer portrayal of what happens here in Wales would have made it clear that the best idea would be to vote to remain in Europe. Most of our people were following the print media and mass media emerging from London. And of course, as the Chair’s already said, more people listen to Radio 1 and Radio 2 in Wales then unfortunately listen to Radio Cymru and Radio Wales. It would be an idea if Radio 1 and Radio 2, in their news slots, mentioned Wales from time to time. A slot would be nice, rather than ignoring us outright. That is a challenge for the BBC there. The last time the junior doctors were on strike—and they were on strike a few times last year—people who don’t habitually listen to our media here in Wales, such as some of our junior doctors in Morriston Hospital, thought that they were on strike too. But, of course, we are in a different country here, and our junior doctors weren’t on strike. That is why we need to provide accurate information or people will misunderstand the situation.
Dathlwn fodolaeth S4C, yn naturiol. Rydym ni’n cefnogi’u bwriad nhw i esblygu yn aml-blatfform. Mae’n adlewyrchu Cymru yn y Gymraeg. Dyna pam mae’n bwysig bod gennym ni ryw fath o blatfform sy’n adlewyrchu Cymru yn yr iaith Saesneg, ac mae hynny yn dal yn ddiffygiol. We celebrate the existence of S4C, naturally. We support their intention to develop into a multiplatform broadcaster. It does reflect Wales through the medium of Welsh. That’s why it’s important that we have some sort of platform that reflects Wales through the medium of English too. That is still deficient.
Yn nhermau amser, gwnaf orffen efo bwriad y BBC i gael gwared ar ‘The Wales Report’. Sut mae hynny’n mynd i wella’r portread o Gymru, beth sy’n digwydd yn y fan hyn, ein gwleidyddiaeth ni, yr ‘issues’ rydym ni’n eu trafod o hyd, a phan fydd pobl yn dweud, ‘Smo ni’n gwybod pwy sydd yn y Senedd. A ydych chi’n Aelod o’r Cynulliad? ‘Smo ni’n gwybod’? A beth yw’r adwaith? Cael gwared ar ‘The Wales Report’. Gwarthus. Mae angen ailedrych ar hynny, achos mae pobl yn cwyno allan fanna nad ydyn nhw’n gwybod beth rydym ni’n ei wneud. A beth sy’n digwydd? Rydym ni’n cael gwared ar un rhaglen sy’n dweud wrth bobl beth rydym ni’n ei wneud. In terms of time, I will conclude with the intentions of the BBC in scrapping ‘The Wales Report’. How is that going to improve the portrayal of Wales, what happens in this place, our politics and the issues that we discuss, and when people say, ‘Well, we don’t know who’s in the Senedd. Are you a Member of the Assembly? We simply don’t know’? What’s the reaction? Scrapping ‘The Wales Report’. That is disgraceful. They need to revisit that decision. People out there are complaining that they don’t know what we do. And what happens? We’re scrapping the one programme that actually tells people what we do here.
Cefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr. So, support the motion. Thank you.
16:48 - Neil Hamilton
Well, Llywydd, I was intending to begin my remarks by saying that I agree with everything that’s been said hitherto, but I’m afraid that Dai Lloyd’s lapse into European controversy just a couple of minutes ago precludes me from doing that, sadly. It’s one of the very few disagreements that we have on the committee. Bethan Jenkins began her speech earlier on, on autism, by making an encomium to Mark Isherwood for his role in running the cross-party group, and I would like to begin my speech by issuing an encomium to her for the exemplary way in which she has chaired the committee. We are indeed, as Suzy said, a happy and naturally consensual band, at least in the narrow confines of the subjects that we have discussed. There is broad agreement in the committee on the approach that we take to the issues that we discussed. Wel, Llywydd, roeddwn yn bwriadu dechrau fy sylwadau drwy ddweud fy mod yn cytuno â phopeth sydd wedi cael ei ddweud hyd yn hyn, ond rwy’n ofni bod y modd y llithrodd Dai Lloyd i ddadl Ewropeaidd funud neu ddwy yn ôl yn fy atal rhag gwneud hynny, yn anffodus. Mae’n un o’r ychydig iawn o destunau rydym yn anghytuno yn eu cylch ar y pwyllgor. Dechreuodd Bethan Jenkins ei haraith yn gynharach, ar awtistiaeth, drwy roi molawd i Mark Isherwood am ei ran yn rhedeg y grŵp trawsbleidiol, a hoffwn ddechrau fy araith i drwy roi molawd iddi hi am y modd rhagorol y mae hi wedi cadeirio’r pwyllgor. Yn wir, fel y dywedodd Suzy, rydym yn griw hapus ac yn naturiol gydsyniol, o leiaf o fewn cyfyngiadau cul y pynciau a drafodwyd gennym. Ceir cytundeb cyffredinol yn y pwyllgor ar ein dull o fynd ati ar y materion a drafodwyd gennym.
This report is very largely about public service broadcasting, and this is an important element in the debate about the educative role of both the broadcasting institutions and, indeed, the print media and their online versions. Dai referred a moment ago to the fact that very little of what we do in this place is reported, and there is very little real debate about serious issues. I don’t actually agree with what he said also about people following what’s said in the newspapers to make decisions on, for example, whether they’re pro or anti-Brexit. People generally tend to buy newspapers, I think, to reinforce their prejudices rather than to have them confronted. So, I don’t think there’s much scope for newspapers to change people’s opinions. But I do feel—and this is not a criticism that I level at Wales as opposed to any other part of the United Kingdom—that we’re really failed by our media institutions, which don’t actually have much serious political reporting at all. Unless I’m called to order by the Llywydd in this place, it’s very difficult to get reported at all, and certainly not for anything sensible that I might say. [Laughter.] Not that I’m inviting the Llywydd to do so yet again, but that seems to be the fact of the matter, that the media tend to concentrate on the trivialities rather than the important issues, so there’s no depth to reporting at all, which is a great shame. I raddau helaeth iawn mae’r adroddiad hwn yn ymwneud â darlledu gwasanaeth cyhoeddus, ac mae hon yn elfen bwysig yn y ddadl am rôl addysgol y sefydliadau darlledu ac yn wir, y cyfryngau print a’u fersiynau ar-lein. Cyfeiriodd Dai funud yn ôl at y ffaith nad adroddir fawr ddim ar yr hyn a wnawn yn y lle hwn, ac ychydig iawn o drafodaeth go iawn a geir am faterion difrifol. Nid wyf yn cytuno mewn gwirionedd â’r hyn a ddywedodd hefyd am bobl yn dilyn yr hyn a ddywedir yn y papurau newydd er mwyn gwneud penderfyniadau ar, er enghraifft, pa un a ydynt o blaid Brexit ai peidio. Mae pobl yn gyffredinol yn tueddu i brynu papurau newydd, rwy’n credu, i atgyfnerthu eu rhagfarnau yn hytrach na’u herio. Felly, nid wyf yn credu bod llawer o le i bapurau newydd newid barn pobl. Ond rwy’n teimlo—ac nid yw hon yn feirniadaeth rwy’n ei hanelu at Gymru yn hytrach nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig—ein bod wedi cael cam go iawn gan ein sefydliadau cyfryngol nad ydynt yn cynnwys fawr ddim gohebiaeth wleidyddol ddifrifol o gwbl mewn gwirionedd. Oni bai fy mod yn cael fy ngalw i drefn gan y Llywydd yn y lle hwn, mae’n anodd iawn cael sylw’r wasg o gwbl, ac yn sicr nid ynglŷn ag unrhyw beth synhwyrol y gallwn ei ddweud. [Chwerthin.] Nid fy mod yn gwahodd y Llywydd i wneud hynny unwaith eto, ond mae’n ymddangos mai felly y mae, fod y cyfryngau’n tueddu i ganolbwyntio ar y pethau dibwys yn hytrach na’r materion pwysig, felly ni cheir gohebu gydag unrhyw ddyfnder yn perthyn iddo o gwbl, sy’n drueni mawr.
I think, for our public service broadcasters, there is a positive duty upon them to raise the level of debate and to perform that educative function. As regards the role of the BBC, I’d just like to make what I think is a simple point, that we’re classed as part of the nations and regions of the UK, but I do think that nations ought to be treated as more important than regions, and the cultural dimension of a nation is much more important. I know that Yorkshiremen would probably disagree with this and they regard themselves as God’s own country, but, nevertheless, we have the four nations and they ought, I think, to have a disproportionate share of the resources. It shouldn’t just be based on population or anything of that kind. Rwy’n credu, ar gyfer ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, fod dyletswydd gadarnhaol arnynt i godi lefel y drafodaeth ac i gyflawni swyddogaeth addysgol. O ran rôl y BBC, hoffwn wneud yr hyn rwy’n ei ystyried yn bwynt syml, sef ein bod wedi ein dosbarthu’n rhan o wledydd a rhanbarthau’r DU, ond rwy’n credu y dylai gwledydd gael eu trin ar lefel bwysicach na rhanbarthau, ac mae dimensiwn diwylliannol gwlad yn llawer pwysicach. Gwn y byddai pobl Swydd Efrog yn anghytuno â hyn yn ôl pob tebyg ac maent yn ystyried eu hunain fel gwlad Duw ei hun, ond serch hynny, mae gennym y pedair gwlad ac rwy’n credu y dylent gael cyfran anghymesur o’r adnoddau. Ni ddylai fod yn seiliedig ar boblogaeth neu unrhyw beth felly.
Suzy referred in her speech, as indeed did Bethan, to the disparity of funding between Wales and Scotland. I don’t particularly want to deprive Scotland of anything that it has at the moment, but I do think that, as with the Barnett formula in general, Wales does have the thin end of the wedge and that does need to be addressed. I know this is happening to an extent with the latest funding decisions of the BBC, but there does still remain—and the figures have already been stated in this debate—a significant difference between what’s available to Wales and what’s available to Scotland. I also want to say, in the context of that remark, that S4C is a vital part of the strategy of increasing the number of Welsh speakers in Wales. It has an indispensable role to play and, therefore, should get the funding commensurate with the importance of that. It has suffered in recent years from staggering cuts, which amount to about 36 per cent in real terms, and I do believe that we ought to give greater priority to the needs of S4C. They’ve achieved, actually, a minor miracle on a much smaller budget in maintaining the standards of programmes and the breadth of them. There’s been a very substantial reduction in staff, from 220 to 130. Their overheads are a very lean 4 per cent of the total and I think, all told, it’s a very considerable success story and Huw and Ian Jones, in particular, have made an enormous contribution to the future of Welsh language broadcasting, not just in Wales, because they see their role as being broadcasters to Welsh speakers wherever they are in the world. And that’s a very important part of S4C, which I think ought to be underlined. Cyfeiriodd Suzy yn ei haraith, fel yn wir y gwnaeth Bethan, at y gwahaniaeth yn y cyllid rhwng Cymru a’r Alban. Nid wyf yn arbennig o awyddus i amddifadu’r Alban o unrhyw beth sydd ganddi ar hyn o bryd, ond rwy’n credu, fel gyda fformiwla Barnett yn gyffredinol, fod Cymru’n cael llai nag y dylai ac mae angen mynd i’r afael â hynny. Rwy’n gwybod bod hyn yn digwydd i raddau gyda phenderfyniadau ariannu diweddaraf y BBC, ond mae’n dal i fod gwahaniaeth sylweddol—ac mae’r ffigyrau eisoes wedi cael eu nodi yn y ddadl hon—rhwng yr hyn sydd ar gael i Gymru a’r hyn sydd ar gael i’r Alban. Hoffwn ddweud hefyd, yng nghyd-destun y sylw hwnnw, fod S4C yn rhan hanfodol o’r strategaeth i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Mae ganddi rôl anhepgor i’w chwarae ac felly, dylai gael cyllid sy’n gymesur â phwysigrwydd hynny. Mae wedi dioddef yn ystod y blynyddoedd diwethaf o doriadau syfrdanol, sy’n cyfateb i oddeutu 36 y cant mewn termau real, a chredaf y dylem roi mwy o flaenoriaeth i anghenion S4C. Maent wedi cyflawni gwyrth fach, mewn gwirionedd, ar gyllideb lawer llai, yn cynnal safonau rhaglenni a’u hehangder. Cafwyd gostyngiad sylweddol iawn yn nifer y staff, o 220 i 130. Mae eu gorbenion yn denau iawn, ar 4 y cant o’r cyfanswm ac rwy’n credu, at ei gilydd, ei bod yn stori lwyddiant sylweddol iawn ac mae Huw ac Ian Jones, yn arbennig, wedi gwneud cyfraniad enfawr i ddyfodol darlledu Cymraeg, nid yn unig yng Nghymru, oherwydd fe welant eu rôl fel darlledwyr i siaradwyr Cymraeg lle bynnag y maent yn y byd. Ac mae honno’n rhan bwysig iawn o S4C y credaf y dylid ei thanlinellu.
I see that the red light has come on and I haven’t got time to say the many other things that I did intend to say, but I do believe that this is, for an initial report, a very good piece of work and it’s a good foundation upon which we can build a much bigger picture in due course. Gwelaf fod y golau coch wedi dod ymlaen ac nid oes gennyf amser i ddweud y nifer o bethau eraill y bwriadwn eu dweud, ond rwy’n credu bod hwn, fel adroddiad cychwynnol, yn waith da iawn ac mae’n sylfaen dda inni allu adeiladu darlun llawer mwy maes o law.
16:54 - Lee Waters
Diolch, Llywydd, and I shan’t follow the example of my colleagues in heaping praise upon the work of our own committee—that’s for others to form an opinion. It’s worth reminding ourselves why we set about this piece of work and the rather dismal backdrop when we began our work. There’s been, over the last 10 years, a 22 per cent cut in the number of hours of English language programming broadcast by BBC Wales, a 24 per cent cut in the funding of S4C and a 40 per cent cut in ITV Wales output in 2009. Throw in the turmoil and the changing landscape in the print and online media and, as many others have commented, Wales is not well served. Even though broadcasting is not a devolved subject, it profoundly impacts, not only in allowing people to make informed decisions about how our nation is run, but also telling stories to ourselves about our own communities and to the wider world, which is essential, I think, for any country’s cultural fabric. Diolch, Llywydd, ac nid wyf am ddilyn esiampl fy nghyd-Aelodau a chanu clodydd gwaith ein pwyllgor ein hunain—mater i eraill ffurfio barn yn ei gylch yw hwnnw. Mae’n werth atgoffa ein hunain pam ein bod wedi cychwyn ar y gwaith hwn a’r cefndir braidd yn ddigalon pan aethom ati i ddechrau ar ein gwaith. Mae toriad o 22 y cant wedi bod dros y 10 mlynedd diwethaf yn nifer yr oriau o raglenni Saesneg a ddarlledwyd gan BBC Cymru, toriad o 24 y cant i gyllid S4C a thoriad o 40 y cant i gynnyrch ITV Cymru yn 2009. Cynhwyswch y cythrwfl a’r tirlun newidiol yn y cyfryngau print ac ar-lein ac fel y mae llawer o bobl eraill wedi dweud, nid yw Cymru’n cael ei gwasanaethu’n dda. Er nad yw darlledu yn fater a ddatganolwyd, mae’n effeithio’n ddwfn, nid yn unig o ran galluogi pobl i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â sut y caiff ein cenedl ei rheoli, ond hefyd o ran adrodd straeon wrthym ein hunain ynglŷn â’n cymunedau ein hunain ac wrth y byd yn ehangach, sy’n hanfodol, rwy’n meddwl, i wead diwylliannol unrhyw wlad.
My colleagues have commented deftly on the main thrust of the report, so I shan’t dwell on that. I wanted to focus primarily on one area. We do rather well at kicking the BBC and holding them to account, which I think is entirely right, but one of the things that was important about this report was that it put the spotlight on the other public service broadcasters too, who I think for too long have gotten away with too little scrutiny of Welsh politics, and that needs to change. And this report, I hope, sends a signal that it will do. Mae fy nghyd-Aelodau wedi gwneud sylwadau deheuig ar brif fyrdwn yr adroddiad, felly nid wyf am oedi gormod gyda hynny. Roeddwn eisiau canolbwyntio’n bennaf ar un maes. Rydym yn eithaf da am gicio’r BBC a’u gwneud yn atebol, a chredaf fod hynny’n gwbl gywir, ond un o’r pethau a oedd yn bwysig am yr adroddiad hwn oedd ei fod yn rhoi sylw i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill hefyd, y credaf eu bod wedi llwyddo i osgoi craffu’n ddigonol ar wleidyddiaeth Cymru, ac mae angen i hynny newid. Ac mae’r adroddiad hwn, gobeithio, yn anfon neges y bydd yn gwneud hynny.
Channel 5, for example, a public service broadcaster that benefits from the airwaves granted by the people of this country: we could find no discernible content about Wales. Channel 4, just 2 per cent—2 per cent—of their first-run programming originated in Wales. And ITV. I should declare an interest as a former employee of ITV, and someone with a great fondness for the organisation and respect for the work they should do. This is not a criticism of ITV Wales, but it is a challenge to ITV plc, who cried wolf, I think, back in 2007 when advertising revenues did look perilous. It is fair to say that the impact that the Ofcom regulations had on them meant that were they not lessened, they would walk away from broadcasting public service programmes in Wales, but that call was listened to by politicians and regulators, and their requirements were dramatically reduced—as I mentioned earlier, a 40 per cent reduction. They’re now only required to broadcast four hours of news every week, and 90 minutes of non-news. The amount of money they spend is about £7 million a year—even though they don’t publish these figures, that’s what they confirmed to the committee was broadly right—a figure that has been, as they put it, broadly flat since 2008. So, since they’ve had their obligations cut by 40 per cent, they’ve spent no extra money on Wales, although they have been able to release some funding from technological advances. But I don’t think this is good enough. Mae Channel 5, er enghraifft, yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus sy’n cael budd o’r tonnau awyr a gawsant gan bobl y wlad hon: ni allem ddod o hyd i unrhyw gynnwys gweladwy am Gymru. Channel 4, dim ond 2 y cant—2 y cant—o’u rhaglenni darllediad cyntaf a oedd yn tarddu o Gymru. Ac ITV. Dylwn ddatgan buddiant fel rhywun a arferai weithio yn ITV, a rhywun sydd â hoffter o’r sefydliad a pharch tuag at y gwaith y dylent ei wneud. Nid beirniadaeth o ITV Cymru yw hon, ond her i ITV ccc, a wnaeth weiddi blaidd, rwy’n meddwl, yn ôl yn 2007 pan oedd refeniw hysbysebu i’w weld yn fregus. Mae’n deg dweud bod yr effaith a gafodd rheoliadau Ofcom arnynt yn golygu na chawsant eu lleihau, byddent yn troi cefn ar ddarlledu rhaglenni gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, ond gwrandawodd gwleidyddion a rheoleiddwyr ar yr alwad honno, a chafodd eu gofynion eu lleihau’n ddramatig—fel y soniais yn gynharach, gostyngiad o 40 y cant. Yn awr nid yw ond yn ofynnol iddynt ddarlledu pedair awr o newyddion bob wythnos, a 90 munud o gynnwys heb fod yn newyddion. Maent yn gwario oddeutu £7 miliwn y flwyddyn—er nad ydynt yn cyhoeddi’r ffigurau hyn, dyna a gadarnhawyd ganddynt i’r pwyllgor ei fod at ei gilydd yn gywir—ffigur sydd wedi bod, fel y maent yn ei roi, fwy neu lai yr un fath ers 2008. Felly, ers torri 40 y cant oddi ar eu rhwymedigaethau, nid ydynt wedi gwario unrhyw arian ychwanegol ar Gymru, er eu bod wedi gallu rhyddhau rhywfaint o arian o ddatblygiadau technolegol. Ond nid wyf yn credu bod hyn yn ddigon da.
When you look at the profit of ITV plc, in 2007 it stood at £137 million, and last year it stood at £448 million. So, a staggering rise in profits by the parent company in exchange for a sharply reduced commitment to Wales. They told us that there’s no surplus value in the public service broadcasting licences, which again is the same tactic they tried in 2007—not a terribly subtle hint that if we asked them to do too much, they would simply walk away and we’d be left the poorer for it. And we would be the poorer without the presence of ITV Wales, because they do bring a plurality to the coverage in Wales. They bring a different tone and a different focus to BBC Wales, and we value that, but I think we are entitled to ask more of them in the way that they cover Wales. Pan edrychwch ar elw ITV ccc, yn 2007 roedd yn £137 miliwn, a’r llynedd roedd yn £448 miliwn. Felly, cynnydd syfrdanol yn elw’r rhiant gwmni yn gyfnewid am gyfyngu amlwg ar yr ymrwymiad i Gymru. Dywedasant wrthym nad oes unrhyw werth dros ben yn y trwyddedau darlledu gwasanaeth cyhoeddus, sef yr un dacteg eto ag y ceisiasant ei defnyddio yn 2007—nad yw’n awgrym ofnadwy o gynnil y byddent, pe baem yn gofyn iddynt wneud gormod, yn troi cefn a ninnau’n dlotach o’r herwydd. Ac fe fyddem yn dlotach heb bresenoldeb ITV Cymru, gan eu bod yn cynnig lluosogrwydd i ddarlledu yng Nghymru. Maent yn cynnig naws wahanol a ffocws gwahanol i’r hyn a geir gan BBC Cymru, ac rydym yn gwerthfawrogi hynny, ond rwy’n credu bod gennym hawl i ofyn am ragor ganddynt yn y ffordd y maent yn rhoi sylw i Gymru.
Now, they do point to their BAFTA success this year, and we congratulate them for their excellent programme on Aberfan. But beyond that, ITV as a network—and, again, I must make a distinction between ITV Wales and ITV as a network—pays very little attention to Wales. There is very little programming for the whole of the UK about Wales. The last example they would give us was in 2014 when the programme about Dylan Thomas was aired, and they’re going to struggle in the future because we don’t have many significant anniversaries coming up. They do really need to broaden their imagination. They’ve said that there are no barriers per se; it is a meritocracy, they suggested—there aren’t good enough ideas coming from Welsh commissioners. Well, this argument has been proven to be bogus with the BBC, where they failed to deliver for Wales for a long time, and we’ve now, through the new licence, required them to do more. And I think we need to require ITV to do more too, because clearly left to themselves we’ll get more of the same. So, the committee has recommended that Ofcom review the ITV licence at the mid-point to ask them to deliver more for Wales. That’s our message, Llywydd, to all the public service broadcasters, not just the BBC—we’ll be coming back to them shortly: we expect better. Diolch. Nawr, maent yn cyfeirio at eu llwyddiant BAFTA eleni, ac rydym yn eu llongyfarch am eu rhaglen ragorol ar Aberfan. Ond y tu hwnt i hynny, ychydig iawn o sylw y mae ITV fel rhwydwaith—ac unwaith eto, rhaid imi wahaniaethu rhwng ITV Cymru ac ITV fel rhwydwaith—yn ei roi i Gymru. Ychydig iawn o raglenni a geir ar gyfer y DU gyfan am Gymru. Yr enghraifft olaf a roesant i ni oedd yn 2014 pan ddarlledwyd y rhaglen am Dylan Thomas, ac maent yn mynd i gael trafferth yn y dyfodol gan nad oes gennym lawer o ddyddiadau arwyddocaol ar y gorwel. Mae gwir angen iddynt ymestyn eu dychymyg. Maent wedi dweud nad oes unrhyw rwystrau fel y cyfryw; roeddent yn awgrymu ei bod yn feritocratiaeth—nid oes syniadau digon da yn dod gan gomisiynwyr yng Nghymru. Wel, profwyd bod y ddadl hon yn ffug gyda’r BBC, lle roeddent wedi methu cyflawni dros Gymru am gyfnod hir, ac rydym bellach, drwy’r drwydded newydd, wedi ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud rhagor. Ac rwy’n credu bod angen inni ei gwneud yn ofynnol i ITV wneud rhagor hefyd, gan ei bod yn amlwg mai’r un peth a gawn ganddynt os ydym yn gadael llonydd iddynt. Felly, mae’r pwyllgor wedi argymell bod Ofcom yn adolygu trwydded ITV ar ei chanol i ofyn iddynt gyflawni mwy dros Gymru. Dyna ein neges, Llywydd, i’r holl ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, nid y BBC yn unig—down yn ôl atynt cyn bo hir: rydym yn disgwyl gwell. Diolch.
16:59 - Y Llywydd / The Llywydd
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies. I call upon the Minister for Lifelong Learning and Welsh Language, Alun Davies.
16:59 - Alun Davies
Thank you very much, Presiding Officer, and I would like to join members of the committee in congratulating themselves on the work that they’ve carried out over the last few months. [Laughter.] They haven’t sold themselves short this afternoon, and they certainly don’t in the report that they’ve written, which I think Members across the whole Chamber will agree is a real tour de force, looking at all broadcasters and the structures of broadcasting and the structures of accountability. I can see that Members have had a great deal to do, and they’ve produced a report that, in many ways, is a blueprint for the sort of debate that we need to have about broadcasting in this country, as we move forward. Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a hoffwn ymuno ag aelodau’r pwyllgor i longyfarch eu hunain ar y gwaith y maent wedi’i wneud dros y misoedd diwethaf. [Chwerthin.] Nid ydynt wedi gwerthu eu hunain ar golled y prynhawn yma, ac yn sicr nid ydynt wedi gwneud hynny yn yr adroddiad a ysgrifennwyd ganddynt y credaf y bydd Aelodau ar draws y Siambr gyfan yn cytuno ei fod yn gampwaith go iawn, adroddiad sy’n edrych ar yr holl ddarlledwyr a strwythurau darlledu a strwythurau atebolrwydd. Gallaf weld bod yr Aelodau wedi cael llawer iawn i’w wneud, ac maent wedi llunio adroddiad sydd, mewn sawl ffordd, yn lasbrint ar gyfer y math o ddadl sydd angen i ni ei chael am ddarlledu yn y wlad hon, wrth inni symud ymlaen.
Can I say this? At the heart of much of what we’re going to discuss and debate this afternoon and at other times is that issue of accountability and the issue of scrutiny. I absolutely believe that it’s right and proper—and the points that have been made by Members this afternoon demonstrate absolutely clearly that the current structures and frameworks of accountability, regulation, and scrutiny have failed. Wales has been failed by the existing structures and parliamentary scrutiny, because we have seen—and the report outlines very clearly—a diminution of coverage in Wales. We’ve seen reductions of hours of programming produced in Wales for Wales, and that has been done within a process of public scrutiny and public accountability. So, those structures, if they are to mean anything for this country, need to be reformed, and reformed fundamentally. A gaf fi ddweud hyn? Wrth wraidd llawer o’r hyn rydym yn mynd i’w drafod a dadlau yn ei gylch y prynhawn yma ac ar adegau eraill, mae mater atebolrwydd a mater craffu. Rwy’n credu’n bendant ei bod yn iawn ac yn briodol—ac mae’r pwyntiau a wnaed gan Aelodau y prynhawn yma yn dangos yn hollol glir fod y strwythurau a’r fframweithiau atebolrwydd, rheoleiddio, a chraffu cyfredol wedi methu. Gwnaeth y strwythurau a’r craffu seneddol sy’n bodoli eisoes gam â Chymru, oherwydd fe welsom—ac mae’r adroddiad yn amlinellu’n glir iawn—y gostyngiad yn y sylw yng Nghymru. Rydym wedi gweld lleihau nifer yr oriau o raglenni a gynhyrchir yng Nghymru ar gyfer Cymru, a gwnaed hynny o fewn proses o graffu cyhoeddus ac atebolrwydd cyhoeddus. Felly, os yw’r strwythurau hynny’n mynd i olygu unrhyw beth i’r wlad hon, mae angen eu diwygio, a’u diwygio’n sylfaenol.
Now, many of us have spent time in this place over the past few years looking at how we create and we recreate different structures of inter-institutional accountability across the United Kingdom. Now, I do not and I have not made the case for the devolution of Executive responsibility for broadcasting to Wales. For me, I feel that Executive responsibility is something that should rest properly with Westminster and the United Kingdom Government. However—however—I do not believe that accountability is something that should be centralised, for the reasons we’ve already seen and the reasons we’ve already given. For me, it is important that accountability is something that is delivered and carried out across the democratic institutions of the United Kingdom and done collectively, ensuring that we do have a model of inter-institutional accountability that works for the whole of the United Kingdom, and, particularly here, for the people of Wales. Nawr, mae llawer ohonom wedi treulio amser yn y lle hwn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn edrych ar sut rydym yn creu ac yn ail-greu gwahanol strwythurau atebolrwydd rhyngsefydliadol ar draws y Deyrnas Unedig. Nawr, nid wyf, ac nid wyf wedi cyflwyno achos dros ddatganoli cyfrifoldeb gweithredol dros ddarlledu i Gymru. I mi, rwy’n teimlo bod cyfrifoldeb gweithredol yn rhywbeth a ddylai aros yn San Steffan a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag—fodd bynnag—nid wyf yn credu bod atebolrwydd yn rhywbeth y dylid ei ganoli, am y rhesymau a welsom yn barod, a’r rhesymau rydym wedi’u rhoi eisoes. I mi, mae’n bwysig fod atebolrwydd yn rhywbeth sy’n cael ei gyflawni a’i weithredu ar draws sefydliadau democrataidd y Deyrnas Unedig a’i wneud yn gyfunol, gan sicrhau bod gennym fodel o atebolrwydd rhyngsefydliadol sy’n gweithio ar gyfer y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, ac yn enwedig yma ar gyfer pobl Cymru.
It is clear that all the issues of citizenship, which are absolutely fundamental to who we are as a country and who we want to be as a nation, are being failed at present. I hear what’s been said, and I’ve seen reports that ‘The Wales Report’ from the BBC is being scrapped—I hope that’s not true. I think the work that has been led by Huw Edwards over the past few years to inform and to establish a platform for debate and discussion about the public policy arena in Wales has been a success and is absolutely fundamental. It is not good enough for our most significant public service broadcaster not to have a serious programme about the politics of Wales run at prime time at some point in the week. Mae’n amlwg fod yr holl faterion sy’n ymwneud â dinasyddiaeth, sy’n gwbl allweddol i bwy ydym fel gwlad a phwy ydym am fod fel cenedl, yn cael eu methu ar hyn o bryd. Rwy’n clywed yr hyn a ddywedwyd, ac rwyf wedi gweld adroddiadau fod ‘The Wales Report’ gan y BBC yn cael ei ddirwyn i ben—rwy’n gobeithio nad yw hynny’n wir. Rwy’n credu bod y gwaith a gafodd ei arwain gan Huw Edwards dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i lywio ac i sefydlu llwyfan ar gyfer dadl a thrafodaeth ynglŷn â’r maes polisi cyhoeddus yng Nghymru wedi bod yn llwyddiant ac yn gwbl hanfodol. Nid yw’n ddigon da i’n darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf arwyddocaol beidio â chael rhaglen ddifrifol am wleidyddiaeth Cymru yn darlledu ar oriau brig ar ryw adeg yn ystod yr wythnos.
But we need to be careful as well in what we say and what we do. If we are serious about public accountability and public scrutiny being carried out—and I believe that it should be by the Welsh Parliament and not by the Welsh Government; I think it’s important that parliamentarians do this collectively, not Ministers—we need to be very, very clear that we understand the difference between democratic scrutiny and accountability and interference. It is not right that politicians seek to interfere in decisions that are right and properly decisions for editors and managers within any broadcaster, within any public broadcaster, and we, ourselves, need to exercise the discipline of ensuring accountability without crossing the line into interference in editorial decisions, and we need to be very, very clear that we understand that and I hope and I trust that people here do. Ond mae angen i ni fod yn ofalus hefyd o ran yr hyn rydym yn ei ddweud a’r hyn rydym yn ei wneud. Os ydym o ddifrif ynglŷn â chyflawni atebolrwydd cyhoeddus a chraffu cyhoeddus—a chredaf y dylai gael ei wneud gan Senedd Cymru ac nid gan Lywodraeth Cymru; rwy’n credu ei bod yn bwysig mai seneddwyr a ddylai wneud hyn ar y cyd, nid Gweinidogion—mae angen i ni fod yn glir iawn ein bod yn deall y gwahaniaeth rhwng craffu ac atebolrwydd democrataidd ac ymyrraeth. Nid yw’n iawn fod gwleidyddion yn ceisio ymyrryd mewn penderfyniadau sy’n benderfyniadau priodol a chywir i olygyddion a rheolwyr mewn unrhyw gorff darlledu, mewn unrhyw gorff darlledu cyhoeddus, ac mae angen i ni ein hunain arfer y ddisgyblaeth o sicrhau atebolrwydd heb groesi’r llinell i ymyrryd mewn penderfyniadau golygyddol, ac mae angen i ni wneud yn berffaith siŵr ein bod yn deall hynny a gobeithiaf a hyderaf fod pobl yn deall hynny yma.
17:03 - Lee Waters
Will the Minister give way? A wnaiff y Gweinidog ildio?
17:04 - Alun Davies
Yes, I will. Gwnaf, fe wnaf hynny.
17:04 - Lee Waters
Given the distinction that he makes between the role of us as parliamentarians and the Government in the inter-institutional arrangements, as he puts it, does he have any reflections on the recommendation in the report that, before he gives the go-ahead for the approval of a BBC Wales appointee to the board, the Assembly’s culture committee has an opportunity to question that nominee? O ystyried y gwahaniaeth y mae’n ei wneud rhwng ein rôl ni fel seneddwyr a’r Llywodraeth yn y trefniadau rhyngsefydliadol, fel y mae’n eu galw, a oes ganddo unrhyw farn ar yr argymhelliad yn yr adroddiad, cyn iddo roi sêl ei fendith i gymeradwyo penodiad BBC Cymru i’r bwrdd, fod pwyllgor diwylliant y Cynulliad yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i’r cyfryw enwebai?
17:04 - Alun Davies
Lee Waters—it’s now become a tradition in this place for him to intervene and ask that question. I think he’s done it on every occasion that there’s been a debate here. And he’s obviously not pleased with the answers I’ve tried to give him. Let me say—[Interruption.] Let me say this, let me say this: I agree with the principle that has been outlined by the committee in terms of confirmation hearings, or whatever term we wish to use. I do agree with that process. This is not a Welsh Government process, it’s a UK Government process, so we don’t have the power to deliver that at present. Lee Waters—mae bellach yn draddodiad yn y lle hwn iddo ymyrryd a gofyn y cwestiwn hwnnw. Rwy’n credu ei fod wedi gwneud hynny ar bob achlysur y cafwyd dadl yma. Ac mae’n amlwg nad yw’n hapus gyda’r atebion rwyf wedi ceisio eu rhoi iddo. Gadewch i mi ddweud—[Torri ar draws.] Gadewch i mi ddweud hyn, gadewch i mi ddweud hyn: rwy’n cytuno â’r egwyddor a amlinellwyd gan y pwyllgor o ran gwrandawiadau cadarnhau, neu ba derm bynnag rydym am ei ddefnyddio. Rwy’n cytuno â’r broses honno. Nid proses Llywodraeth Cymru yw hon, mae’n broses Llywodraeth y DU, felly nid oes gennym bŵer i gyflawni hynny ar hyn o bryd.
But I would suggest to the committee that this is a matter they continue to pursue. They certainly could pursue this with their colleagues in other institutions of the United Kingdom, and I certainly, as the Minister in Wales, would be very happy to see that sort of system introduced here for that level of accountability and scrutiny. But, in terms of where we’re going, the Chair, in her introduction to this debate, did outline some of her concerns about decisions taken by the BBC in terms of resources and funding, and then she made a rather unhappy comparison with Scotland. Let me say this: what I want to do is to hold the BBC accountable for what it delivers. The decisions that they take about budgets and structures within the BBC are a matter for the BBC and not a matter for us. However, what is right and proper that we scrutinise is what they actually deliver and what they actually produce on our screens. Ond byddwn yn awgrymu wrth y pwyllgor fod hwn yn fater iddynt barhau i fynd ar ei drywydd. Yn sicr gallent fynd ar ei drywydd gyda’u cydweithwyr yn sefydliadau eraill y Deyrnas Unedig, ac yn sicr, fel y Gweinidog yng Nghymru, byddwn yn hapus iawn i weld system o’r fath yn cael ei chyflwyno yma ar gyfer y lefel honno o atebolrwydd a chraffu. Ond o ran ble rydym yn mynd, fe amlinellodd y Cadeirydd, yn ei chyflwyniad i’r ddadl hon, rai o’i phryderon ynglŷn â phenderfyniadau a wnaed gan y BBC o ran adnoddau a chyllid, ac yna gwnaeth gymhariaeth braidd yn anffodus â’r Alban. Gadewch i mi ddweud hyn: yr hyn rwyf am ei wneud yw dwyn y BBC yn atebol am yr hyn y mae’n ei ddarparu. Mater i’r BBC, nid mater i ni, yw’r penderfyniadau y maent yn eu gwneud ynglŷn â chyllidebau a strwythurau o fewn y BBC. Fodd bynnag, mae’n iawn ac yn briodol ein bod yn craffu ar yr hyn y maent yn ei gyflawni mewn gwirionedd a’r hyn y maent yn ei gynhyrchu ar ein sgriniau.
I would counsel anybody who believes that establishing a standalone channel in English for Wales would succeed in garnering great audiences and would deliver a significant enhancement of our citizenship or democratic debate in this country—as somebody who has worked in broadcasting himself in terms of marketing and the rest of it, I would say to you it will be very, very difficult to grow significant audiences. Far better, I believe, is that the BBC network recognises the whole of its responsibilities to the whole of the United Kingdom, and the absolutely crucial thing for me is that we hold broadcasters to account for producing programming and reporting for the whole of the United Kingdom that represents the needs of the whole of the United Kingdom. Now, we haven’t seen that to date, we don’t see it at the moment, and I hope and believe that we should be able to ensure that we do have fair play when it comes to recognising the whole of the UK on our screens. Byddwn yn cynghori unrhyw un sy’n credu y byddai sefydlu sianel annibynnol yn y Saesneg ar gyfer Cymru yn llwyddo i gywain cynulleidfaoedd mawr ac y byddai’n gwella ein dinasyddaeth neu drafodaeth ddemocrataidd yn sylweddol yn y wlad hon—fel rhywun sydd wedi gweithio yn y byd darlledu o ran marchnata a’r gweddill i gyd, byddwn yn dweud wrthych y bydd yn anodd iawn tyfu cynulleidfaoedd sylweddol. Mae’n llawer gwell, yn fy marn i, i rwydwaith y BBC gydnabod ei holl gyfrifoldebau i’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, a’r peth hollol hanfodol i mi yw ein bod yn dwyn darlledwyr i gyfrif am gynhyrchu rhaglenni a gohebu ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd sy’n cynrychioli anghenion y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Nawr, nid ydym wedi gweld hynny hyd yn hyn, nid ydym yn ei weld ar hyn o bryd, ac rwy’n gobeithio ac yn credu y dylem allu sicrhau ein bod yn cael chwarae teg o ran cydnabod y DU gyfan ar ein sgriniau.
I’ll bring my comments to an end here, Presiding Officer, by saying this: I hope—and the point that was made by Lee Waters in terms of ITV and other public service broadcasters is well made—that, over the coming years, we can develop a culture of accountability that ensures that all broadcasters, all public service broadcasters, and all producers of news and entertainment produced in Wales for Wales are able to do so in a way that enhances not only our citizenship, but also our cultural and historical inheritance, and we create a country whereby we can have the debate that we need to have as a country, that platforms are created where people can talk and debate amongst ourselves, we can tell each other our stories, we can look at the world through our eyes, and we can, at the same time, be a part of a greater whole in the United Kingdom. To do that, we will need new structures of governance, new structures of regulation, and new structures of accountability. I hope, and I am confident, that the report that we’re debating this afternoon is a significant step forward to achieving that. Thank you very much. Dof â fy sylwadau i ben yma, Llywydd, drwy ddweud hyn: rwy’n gobeithio dros y blynyddoedd nesaf—a gwnaed y pwynt yn dda gan Lee Waters mewn perthynas ag ITV a darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill—y gallwn ddatblygu diwylliant o atebolrwydd sy’n sicrhau bod pob darlledwr, pob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, a phob cynhyrchydd newyddion ac adloniant a gynhyrchir yng Nghymru ar gyfer Cymru yn gallu gwneud hynny mewn ffordd sy’n gwella nid yn unig ein dinasyddiaeth, ond ein hetifeddiaeth ddiwylliannol a hanesyddol hefyd, a’n bod yn creu gwlad lle y gallwn gael y ddadl sydd angen i ni ei chael fel gwlad, lle y caiff llwyfannau eu creu i bobl allu siarad a dadlau ymysg ein gilydd, lle y gallwn ddweud ein straeon wrth ein gilydd, lle y gallwn edrych ar y byd drwy ein llygaid ein hunain, a lle y gallwn, ar yr un pryd, fod yn rhan o gyfanrwydd mwy yn y Deyrnas Unedig. I wneud hynny, bydd angen strwythurau llywodraethu newydd, strwythurau rheoleiddio newydd, a strwythurau atebolrwydd newydd. Rwy’n gobeithio, ac rwy’n ffyddiog, fod yr adroddiad rydym yn ei drafod y prynhawn yma yn gam sylweddol ymlaen tuag at gyflawni hynny. Diolch yn fawr iawn.
17:08 - Y Llywydd / The Llywydd
Galwaf ar Bethan Jenkins i ymateb i’r ddadl. I call on Bethan Jenkins to respond to the debate.
17:08 - Bethan Jenkins
Thank you. I’m not going to speak for very long, but thank you all who have contributed and I’m sure this will—as Suzy captured quite well, I think, saying this is the first chapter of many that we will look into in relation to broadcasting, the newspaper industry, radio, and such, as part of this committee. Other committees of the Assembly have looked at it sporadically, but I think there has been a place here to have more focus, with communications being in the title of this committee. So, I’m hopeful that we can achieve what some of us have self-congratulated on already achieving, although I think we have much more to achieve. Let’s not sit on our laurels; we have much more to learn. Diolch. Nid wyf yn mynd i siarad yn hir iawn, ond diolch i bawb sydd wedi cyfrannu ac rwy’n siŵr y bydd hyn—fel y nododd Suzy yn dda, rwy’n meddwl, drwy ddweud mai dyma’r bennod gyntaf o lawer y byddwn yn edrych arni o ran darlledu, y diwydiant papurau newydd, radio ac yn y blaen fel rhan o’r pwyllgor hwn. Mae pwyllgorau eraill y Cynulliad wedi edrych arno’n achlysurol, ond rwy’n credu bod lle wedi bod yma i gael mwy o ffocws, gyda chyfathrebu yn rhan o enw’r pwyllgor hwn. Felly, rwy’n obeithiol y gallwn gyflawni’r hyn y mae rhai ohonom wedi llongyfarch ein hunain am ei gyflawni eisoes, er fy mod yn credu bod gennym lawer mwy i’w gyflawni. Gadewch i ni beidio ag eistedd ar ein rhwyfau; mae gennym lawer mwy i’w ddysgu.
In relation to what the Minister says on pre-appointment hearings, what I tried to say in what I was saying earlier was that you could potentially not give consent until you were satisfied that we would be able to have that appointment hearing—I’m not sure if the Minister’s listening to me—and whether we could have a committee discussion before it would get to you as a Minister. If other legislatures are not doing it at the moment, we could show the way in that regard in having that appointment hearing. So, I’m not sure whether I agree that you don’t have the power, and I’m sure many of us will be pursuing this issue with you down the line. Mewn perthynas â’r hyn y mae’r Gweinidog yn ei ddweud am wrandawiadau cyn penodi, yr hyn y ceisiais ei ddweud yn yr hyn a ddywedais yn gynharach oedd y gallech beidio â rhoi cydsyniad o bosibl nes eich bod yn fodlon y byddem yn gallu cael y gwrandawiad penodi hwnnw—nid wyf yn siŵr a yw’r Gweinidog yn gwrando arnaf—a pha un a allem gael trafodaeth yn y pwyllgor cyn iddo eich cyrraedd chi fel Gweinidog. Os nad yw deddfwrfeydd eraill yn gwneud hynny ar hyn o bryd, gallem ddangos y ffordd yn hynny o beth drwy gael y gwrandawiad penodi hwnnw. Felly, nid wyf yn siŵr a wyf yn cytuno nad oes gennych y pŵer, ac rwy’n siŵr y bydd llawer ohonom yn mynd ar drywydd y mater hwn gyda chi maes o law.
I would agree with you that accountability should lie here also. I think the committee would diverge on where the power should lie. I’m sure everybody knows where my view stands on that. But, especially now we have this committee, accountability is clear, and, as Suzy said also, ruffling the feathers is something that we have done. I think, with Lee’s comments on ITV, that’s where some of the feathers were ruffled, I should say. Byddwn yn cytuno â chi y dylai fod gennym atebolrwydd yma hefyd. Rwy’n credu y byddai’r pwyllgor â barn wahanol ynglŷn â ble y dylai’r pŵer fod. Rwy’n siŵr fod pawb yn gwybod beth yw fy marn ar hynny. Ond yn enwedig gan fod gennym y pwyllgor hwn bellach, mae’r atebolrwydd yn glir, ac fel y dywedodd Suzy hefyd, mae creu cynnwrf yn rhywbeth rydym wedi’i wneud. Rwy’n meddwl, gyda sylwadau Lee am ITV, mai dyna ble y crëwyd y cynnwrf, fe ddywedwn i.
But I think, from taking all the comments together, this is a good start for us for the future, not only looking at BBC—I do believe that that comment was correct. We have focused quite a lot, but I think that’s because the charter renewal process was coming up, and we had that focus on the charter. It’s safe to say that everybody is within grasp for us to scrutinise and hold to account, and, hopefully, they will see it in a good light, that we want to scrutinise in the best possible way so that we can make portrayal as effective as possible in future here in Wales, and to ensure that the funding streams fall in line to make sure that that is a possibility. We don’t want to be here in 10 years’ time without bilingual daleks. We would like to see bilingual daleks in 10 years’ time. So, therefore, we need to have those programmes—we need to have ‘Casualty’ with bilingual signs, and then we know we will have achieved our aim as a committee. No, to be serious, we have lots more work to do. Ond rwy’n credu, o ystyried yr holl sylwadau gyda’i gilydd, fod hwn yn ddechrau da i ni ar gyfer y dyfodol, nid yn unig wrth edrych ar BBC—rwy’n credu bod y sylw hwnnw’n gywir. Rydym wedi canolbwyntio cryn dipyn, ond rwy’n credu bod hynny oherwydd bod y broses o adnewyddu’r siarter ar y ffordd, ac roedd y ffocws ar y siarter. Mae’n ddiogel dweud bod pawb o fewn ein cyrraedd i ni eu craffu a’u dwyn i gyfrif, a gobeithio y byddant yn ei weld mewn golau da, ein bod am graffu yn y ffordd orau sy’n bosibl fel y gallwn greu portread mor effeithiol â phosibl yn y dyfodol yma yng Nghymru, ac er mwyn sicrhau bod y ffrydiau cyllid yn eu lle i wneud yn siŵr fod hynny’n bosibl. Nid ydym am fod yma ymhen 10 mlynedd heb ddaleks dwyieithog. Hoffem weld daleks dwyieithog ymhen 10 mlynedd. Felly, mae angen i ni gael y rhaglenni hynny—mae angen i gael ‘Casualty’ gydag arwyddion dwyieithog, ac yna byddwn yn gwybod ein bod wedi cyflawni ein nod fel pwyllgor. Na, i fod o ddifrif, mae gennym lawer mwy o waith i’w wneud.
Diolch yn fawr iawn i bawb ar y pwyllgor ac i’r clercod am fod mor drylwyr yn cefnogi’r pwyllgor, a gobeithio byddan nhw’n ein cefnogi ni yn y gwaith sydd yn dod ohono gydag S4C a gyda newyddiaduraeth leol. Diolch yn fawr iawn. Thank you very much to everyone on the committee and to the clerks for being so thorough in supporting the committee. I hope that they will continue to support us in the work that will stem from this with regard to local journalism and S4C.
17:11 - Y Llywydd / The Llywydd
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir hynny yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. The proposal is to note the committee’s report. Does any Member object? The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
8. Cyfnod Pleidleisio 8. Voting Time
17:11 - Y Llywydd / The Llywydd
Rydym ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, rydw i’n symud yn syth i’r bleidlais, a’r bleidlais honno ar ddadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno’r Bil arfaethedig ar awtistiaeth. Rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 40, naw yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly fe dderbyniwyd y cynnig. We now move to voting time. Unless three Members wish for the bell to be rung, I will move directly to the vote, and that vote is on the debate seeking the Assembly’s agreement to introduce a Member-proposed Bill on autism. I call for a vote on the motion tabled in the name of Paul Davies. Open the vote. Close the vote. In favour 40, nine abstentions, none against. And therefore the motion is agreed.
Derbyniwyd y cynnig: O blaid 40, Yn erbyn 0, Ymatal 9. Motion agreed: For 40, Against 0, Abstain 9.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6304. Result of the vote on motion NDM6304.
9. Dadl Fer: Cymru yn y Byd—Meithrin Cysylltiadau Rhyngwladol Cymru 9. Short Debate: Wales in the World—Developing Wales's International Links
17:12 - Y Llywydd / The Llywydd
Dyma ni felly’n symud ymlaen i’r eitem nesaf ar y agenda, sef y ddadl fer. Wrth i Aelodau adael yn dawel, mi wnaf i alw’r ddadl fer yn enw Jeremy Miles. Gwnaf i alw ar Jeremy Miles i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo—Jeremy Miles. That brings us to our next item on the agenda, the short debate. If Members could leave the Chamber quietly, I will call the short debate in the name of Jeremy Miles. I call on Jeremy Miles to speak to the topic he has chosen—Jeremy Miles.
17:12 - Jeremy Miles
Diolch, Llywydd. Today, in the Senedd, we commemorated the thirty-fifth anniversary of the end of the Falklands war, in which many young men went to defend the Falkland islands from attack by Argentina, and many lost their lives. Wales has played its part on the world stage in many ways, not least among them the contribution of our young people to our armed forces. Diolch, Llywydd. Heddiw, yn y Senedd, rydym yn coffáu 35 mlynedd ers diwedd rhyfel y Falklands, yr aeth llawer o ddynion ifanc iddi i amddiffyn ynysoedd Falkland rhag ymosodiad gan yr Ariannin, a chollodd llawer eu bywydau. Mae Cymru wedi chwarae ei rhan ar y llwyfan byd-eang mewn sawl ffordd, nid yn lleiaf drwy gyfraniad ein pobl ifanc i’n lluoedd arfog.
Mae’r ddadl hon heddiw ar rôl Cymru yn y byd, mewn sawl ffordd, yn ymgais i ddisgrifio ystod ehangach o ffyrdd y mae Cymru yn chwarae rôl adeiladol a buddiol ar y llwyfan rhyngwladol. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gael cyflwyno’r ddadl hon, ac i David Rees, Cadeirydd y pwyllgor materion allanol, a Joyce Watson, a fydd hefyd yn cyfrannu yn y ddadl. This debate today is on Wales’s role in the world and it’s, in several ways, an attempt to describe the wider range of ways that Wales does play a constructive and beneficial role on the international stage. I am pleased to have this opportunity to put forward this debate, and to David Rees, the Chair of the external affairs committee, and Joyce Watson, who will also be contributing to this debate.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair. The Deputy Presiding Officer took the Chair.
Jeremy Miles
Argentina has played a significant part in the history of Wales in the world. A little more than a century before the Falklands war, 153 pioneers left the shores of Wales for Patagonia, for the expanses of Chubut. There they formed a community that still, to this day, speaks and identifies as Welsh. The parliament they set up there gave Welsh women the vote in 1867, a full 51 years before their sisters back home achieved that same right. We have exported our progressive Welsh values to the world ever since. When we recently celebrated the hundred and fiftieth anniversary of the settlement in Patagonia, the BBC National Orchestra of Wales travelled there, backed by the Welsh Government and the British Council. This kind of cultural exchange and export is at the heart of what must become a global network of Welsh soft power. Whilst our hard power is limited, our enormous artistic, sporting, cultural, and educational assets, world-class in many instances—opera, instrumental, and theatre to name just a few— can, if properly deployed, create significant soft power, which can build bridges to all parts of the world, and through that, attract people to Wales, with their ideas and their ingenuity. We will not fulfil our potential if we do not invest in and harness that soft power intelligently and, critically, if we do not ally the way we deploy and support it closely to our economic policy. Mae Ariannin wedi chwarae rhan arwyddocaol yn hanes Cymru yn y byd. Ychydig dros ganrif cyn rhyfel y Falklands, gadawodd 153 o arloeswyr lannau Cymru am Batagonia, am eangderau Chubut. Yno, ffurfiasant gymuned sy’n dal i siarad Cymraeg ac i arddel eu Cymreictod hyd heddiw. Rhoddodd y senedd a sefydlasant yno bleidlais i’r menywod Cymreig yn 1867, 51 o flynyddoedd cyn i’w chwiorydd gartref gael yr un hawl. Rydym wedi allforio ein gwerthoedd Cymreig blaengar i’r byd byth ers hynny. Pan oeddem yn dathlu 150 mlwyddiant y Wladfa ym Mhatagonia yn ddiweddar, teithiodd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yno, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Prydeinig. Mae’r math hwn o gyfnewid ac allforio diwylliannol yn ganolog i’r hyn a ddylai ddod yn rhwydwaith byd-eang o bŵer meddal Cymreig. Er bod ein pŵer caled yn gyfyngedig, gall ein hasedau celfyddydol, chwaraeon, diwylliannol ac addysgol enfawr, sydd o safon fyd-eang mewn llawer o achosion—opera, offerynnol, a theatr i enwi ond ychydig—o’u defnyddio’n gywir, greu pŵer meddal sylweddol, sy’n gallu adeiladu pontydd i bob rhan o’r byd, a thrwy hynny, gall ddenu pobl i Gymru, gyda’u syniadau a’u dyfeisgarwch. Ni fyddwn yn cyflawni ein potensial os nad ydym yn buddsoddi yn y pŵer meddal hwnnw ac yn ei harneisio’n ddeallus, ac yn allweddol, os nad ydym yn cysylltu’r modd y’i defnyddiwn ac y’i cefnogwn yn agos at ein polisi economaidd.
Mae hyn wastad wedi bod yn hollbwysig, ond mae hi’n bwysicach fyth gan ein bod ni nawr yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Un o’r sialensiau mwyaf o’n blaenau ni i gyd yw diwygio ein perthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd. Un o’r datganiadau pwysicaf mewn blynyddoedd ar rôl Cymru yn y byd yw hwnnw sydd ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’. Rhaid nawr sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn delifro ar y blaenoriaethau y mae’r papur yn eu datgan. Ond tra nad yw ein perthynas ni gyda’r farchnad sengl yn glir, bydd yr ansicrwydd a achosir gan y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu nad yw’r rhagolygon o ddenu busnes newydd i Gymru yn y blynyddoedd nesaf yn dda. This has always been crucially important, but it’s now even more important as we are now leaving the European Union. One of the greatest challenges for us all is to reform that relationship with the European Union. One of the most important statements in years on Wales’s role in the world is contained within the Welsh Government and Plaid Cymru White Paper, ‘Securing Wales’ Future’. We must now ensure that the UK Government delivers on the priorities set out in that White Paper. But, whilst our relationship with the single market remains unclear, the uncertainty caused by the process of leaving the European Union will mean that the prospects of attracting new businesses to Wales over the next few years are not particularly good.
Mae gyda ni eisoes fuddsoddwyr rhyngwladol sylweddol, wrth gwrs, ac mae ein cyd-ddibyniaeth byd-eang wedi ei ymgorffori yn GE, yn Tata, yn Ford, yn Airbus ac eraill—sy’n cyflogi rhyngddyn nhw miloedd ar filoedd o’n pobl. Ond rhaid i ni hefyd osod fel nod cryfhau ein busnesau brodorol. We do already have significant international investors in Wales and our global co-dependence is incorporated in GE, Tata, Ford, Airbus and others—that, between them, employ thousands of our people. But, we must also set as a target for strengthening our indigenous businesses.
Helping Welsh business to access overseas markets must remain a priority. Welsh Government should, in my opinion, set up an industry-led body—we’ll call it ‘Trade Wales’—with Welsh Government backing, but operating independently, and with a clear remit to drive up the capacity of Welsh businesses to sell overseas, including online, providing both an ambassadorial role to overseas buyers, and a smart, mentor-led business support function. In some sectors, this is an urgent priority. More than 90 per cent of Welsh food and drink sector exports are to the EU. New markets must be found as a priority. And the trade deals that bring those new markets to us and that affect the basics of economic life should come to us in this Chamber for approval, so that the particular interests of the Welsh economy are protected. Rhaid i helpu busnesau Cymru i gael mynediad at farchnadoedd tramor barhau i fod yn flaenoriaeth. Dylai Llywodraeth Cymru, yn fy marn i, sefydlu corff dan arweiniad y diwydiant—fe’i galwn yn ‘Masnach Cymru’—gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ond yn gweithredu’n annibynnol, a chyda chylch gorchwyl clir i wella gallu busnesau Cymru i werthu tramor, gan gynnwys ar-lein, gan ddarparu rôl lysgenhadol i brynwyr tramor, a swyddogaeth cymorth busnes ddeallus wedi’i harwain gan fentoriaid. Mewn rhai sectorau, mae hon yn flaenoriaeth frys. Mae mwy na 90 y cant o allforion sector bwyd a diod Cymru yn mynd i’r UE. Rhaid dod o hyd i farchnadoedd newydd fel mater o flaenoriaeth. A dylai’r cytundebau masnach sy’n dod â’r marchnadoedd newydd hyn atom ac sy’n effeithio ar hanfodion bywyd economaidd ddod ger ein bron yn y Siambr hon i’w cymeradwyo, fel bod buddiannau penodol economi Cymru yn cael eu diogelu.
But we must look beyond Europe for our inspiration, and continue to build our relations with other parts of the globe. We should look to the work of the Saltire Fellowship Programme in Scotland, which connects entrepreneurs and executives in Scottish businesses with peers overseas to share global best practice and develop first-hand experience of overseas markets. Why shouldn’t we have an equivalent to that in Wales? Ond rhaid i ni edrych y tu hwnt i Ewrop am ysbrydoliaeth, a pharhau i adeiladu ein cysylltiadau â rhannau eraill o’r byd. Dylem edrych ar waith Rhaglen Gymrodoriaeth Saltire yn yr Alban, sy’n cysylltu entrepreneuriaid a swyddogion gweithredol mewn busnesau yn yr Alban gyda chymheiriaid tramor i rannu arferion gorau byd-eang a datblygu profiad uniongyrchol o farchnadoedd tramor. Pam na ddylem gael rhywbeth sy’n cyfateb i hynny yng Nghymru?
Now, we know that anxiety about immigration from Europe lay as one of the main causes behind the decision to leave the European Union, but those of us who argued for keeping our European Union membership must not fall into the trap of believing that the current version of the freedom of movement rules are the only way for us to express our internationalism. Putting our national economic interest—both long term and in all parts of the UK—at the heart of a new migration system is the right thing to do. And yes, why should we not, as Canadian provinces do, have the power to stipulate local migration needs as part of a UK-wide system? Nawr, fe wyddom mai pryder am fewnfudo o Ewrop oedd un o’r prif achosion a oedd yn sail i’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond ni ddylai’r rhai ohonom a ddadleuodd dros gadw ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd syrthio i’r fagl o gredu mai’r fersiwn gyfredol o reolau rhyddid i symud yw’r unig ffordd i ni fynegi ein rhyngwladoliaeth. Rhoi ein budd economaidd cenedlaethol—yn hirdymor ac ym mhob rhan o’r DU—yn ganolog i system fudo newydd yw’r peth iawn i’w wneud. A pham yn wir na ddylem gael pŵer, fel sydd gan daleithiau Canada, i bennu anghenion mudo lleol fel rhan o system ar gyfer y DU gyfan?
Ond dylem ni hefyd adlewyrchu ein rhyngwladoliaeth mewn ymrwymiad i groesawu’r rheini sydd yn ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth, ac rwy’n annog y Llywodraeth, felly, i weithredu ar argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i helpu gwneud Cymru yn genedl noddfa gyntaf. But, we should also reflect our internationalism in a commitment to welcome those who are fleeing war and persecution. I encourage the Government, therefore, to take action on the recommendations of the Equality, Local Government and Communities Committee to make Wales a first nation of refuge.
Let us remember that global migration is not a one-way street. Welsh people have always lived beyond our shores, and we should be proud of our Welsh diaspora. Whilst outreach initiatives such as Global Welsh are to be welcomed, as far as they go, what we really need is a crisp and clear policy statement from the Welsh Government about the aims and purpose of the diaspora policy, how we will map the diaspora, who we can work with to achieve that, the role that Government can play, what Government expects of others, and how it will work with the UK Government to develop and nurture relationships with Welsh people overseas. Gadewch inni gofio nad yw mudo byd-eang yn digwydd i un cyfeiriad yn unig. Mae’r Cymry bob amser wedi byw y tu hwnt i’n glannau, a dylem fod yn falch o’n diaspora Cymreig. Er bod mentrau allgymorth megis Cymru Byd-eang i’w croesawu cyn belled ag y maent yn mynd, yr hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw datganiad polisi croyw a chlir gan Lywodraeth Cymru ynghylch nodau a diben y polisi diaspora, sut y byddwn yn mapio’r diaspora, pwy y gallwn weithio gyda hwy i gyflawni hynny, y rôl y gall y Llywodraeth ei chwarae, beth y mae’r Llywodraeth yn ei ddisgwyl gan eraill, a sut y bydd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu a meithrin perthynas gyda Chymry dramor.
This is not about soft networking and nostalgia, enjoyable though both those things can be. It’s about how Wales can flourish from the talent, creativity and commitment of all Welsh people, wherever they happen to live. Without an unambiguous strategy and policy framework, we risk failing in that ambition. And yet, this isn’t just about what Government can do. We must also issue a challenge to our Welsh diaspora. Wherever you live, our question must be, ‘What can you do now for Wales?’ But the skills and outlooks that we need to take advantage of our role in the world must, principally, be nurtured here at home, through an outward-looking education system. Nid yw hyn yn ymwneud â rhwydweithio meddal a hiraeth, er mor bleserus y gall y ddau beth hynny fod. Mae’n ymwneud â sut y gall Cymru ffynnu ar dalent, creadigrwydd ac ymrwymiad yr holl Gymry, lle bynnag y maent yn digwydd byw. Heb strategaeth ddiamwys a fframwaith polisi, rydym mewn perygl o fethu yn yr uchelgais hwn. Ac eto, nid yw’n ymwneud yn unig â’r hyn y gall y Llywodraeth ei wneud. Mae’n rhaid i ni hefyd ddatgan her i’n diaspora Cymreig. Ble bynnag yr ydych yn byw, rhaid i ni ofyn y cwestiwn, ‘Beth allwch chi ei wneud yn awr dros Gymru?’ Ond yn bennaf, rhaid meithrin y sgiliau a’r syniadau sydd eu hangen arnom i fanteisio ar ein rôl yn y byd, yma gartref, drwy system addysg sy’n edrych tuag allan.
Rwy’n cymeradwyo Llywodraeth Cymru ar ei rhaglen addysg ryngwladol, sy’n cael ei darparu gan y British Council ac sy’n helpu i roi persbectif rhyngwladol i ddisgyblion. Rwy’n gobeithio gweld adeiladu ar hyn wrth inni ddatblygu ein cwricwlwm yn yr ysgolion. Ond rŷm ni hefyd yn gwybod pa mor bell y tu ôl rŷm ni yn dysgu ieithoedd tramor modern, sydd wedi bod yn dirywio ers dros ddegawd, gyda gostyngiad o dros 44 y cant dros y 15 mlynedd diwethaf o ddisgyblion yn astudio hynny i lefel A. Mae’n ymddangos nad yw’r camau rŷm ni’n eu cymryd i fynd i’r afael â hyn wedi bod yn gweithio. Mae’r galw am ieithoedd modern i sicrhau llwyddiant yn yr economi rhyngwladol ar gynnydd, ac ni fyddwn yn paratoi ein pobl ifanc yn ddigonol i ffynnu mewn economi byd-eang oni yr awn i’r afael â’r sialens honno ar fyrder. I applaud the Welsh Government on its international education programme, which is provided by the British Council and assists in giving an international perspective to our pupils. I hope to see this being built on as we develop our schools curriculum. But we also know how far behind we are in the teaching of modern foreign languages, which have been in decline for over a decade, with a reduction of over 44 per cent over the past 15 years in terms of pupils studying those subjects up to A-level. It appears that the steps we’re taking to tackle this have not been working. The demand for modern languages to ensure success in the international economy are increasing, and we won’t be preparing our young people adequately to prosper in a global economy unless we tackle that particular challenge as a matter of urgency.
Mae ein prifysgolion yn rhan o rwydwaith byd-eang o ymchwil ac astudiaeth, a gallwn ni fod yn falch ohonyn nhw. Mae dros 25,000 o fyfyrwyr rhyngwladol yn astudio yn ein prifysgolion yng Nghymru, pob un ohonyn nhw yn ddarpar-lysgennad dros Gymru wrth iddyn nhw fynd adref i’w gwledydd. Mae rhaglenni megis Global Wales yn cynorthwyo ein prifysgolion i ymestyn eu cyrhaeddiad, ond rhaid iddyn nhw gael eu trwytho gydag ymdeimlad newydd o gyfrifoldeb i ddefnyddio’r rhwydweithiau hynny, nid dim ond i wella eu hymchwil ac addysgu eu hunain, ond i adeiladu economi a chymdeithas Cymru ehangach. Our universities are part of a global network of research and study that we should be proud of. Over 25,000 international students are studying at our universities here in Wales, each of them prospective ambassadors for Wales when they return to their home nations. Programmes such as Global Wales assist universities in extending their reach, but they must be imbued with a new feeling of responsibility to use those networks, not just to improve their own research and education but also to build the wider Welsh economy and society.
Thousands of students have crossed new horizons as a part of the European Union’s Erasmus programmes. Outside the EU, we must ensure these opportunities remain, and not as bilateral deals between universities, but as a multilateral network of mutual exchange opportunities, helping to weave that fabric of international citizenship. As we seek to create a level playing field between academic and vocational education, what is the scale of the Government’s ambition to give apprentices the same opportunity to work and study overseas? There are already good examples for us to build upon, but until we can offer the opportunity of overseas placement to apprentices as widely as we do to students, we will not achieve that parity of esteem, which is one of the core values that we have in our new approach to skills and education. Mae miloedd o fyfyrwyr wedi croesi gorwelion newydd fel rhan o raglenni Erasmus yr Undeb Ewropeaidd. Y tu allan i’r UE, rhaid i ni sicrhau bod y cyfleoedd hyn yn parhau, ac nid fel trefniadau dwyochrog rhwng prifysgolion, ond fel rhwydwaith amlochrog o gyfleoedd cyfnewid i bawb, gan helpu i weu patrwm dinasyddiaeth ryngwladol. Wrth i ni geisio sicrhau chwarae teg rhwng addysg academaidd a galwedigaethol, beth yw maint uchelgais y Llywodraeth i roi’r un cyfle i weithio ac astudio dramor i brentisiaid? Mae yna enghreifftiau da eisoes i ni adeiladu arnynt, ond hyd nes y gallwn gynnig cyfle i brentisiaid fynd ar leoliad tramor i’r un graddau ag y gwnawn i fyfyrwyr, ni fyddwn yn cyflawni’r parch cydradd hwnnw, sy’n un o’r gwerthoedd craidd sydd gennym yn ein hymagwedd newydd tuag at sgiliau ac addysg.
With our values, in all that we do, our activities overseas must reflect the values we cherish at home. We have legislated in this place to be a globally responsible nation. Whether that be through Wales in Africa or through our Under2 Coalition of environmental partnerships, we’ve taken our global citizenship obligations seriously for a small country. But we must also live our values as we trade—as we choose our trading partners and as we choose to describe them. Relationships that we choose to describe as special relationships are hard won and must be based on shared values and not simply mutual commercial gain. Gyda’n gwerthoedd, ym mhopeth a wnawn, rhaid i’n gweithgareddau tramor adlewyrchu gwerthoedd rydym yn eu trysori gartref. Rydym wedi deddfu yn y lle hwn i fod yn genedl gyfrifol yn fyd-eang. Boed hynny drwy Gymru yn Affrica neu drwy ein Under2 Coalition o bartneriaethau amgylcheddol, rydym wedi bod o ddifrif ynglŷn â’n rhwymedigaethau dinasyddiaeth fyd-eang ag ystyried ein bod yn wlad fach. Ond rhaid i ni hefyd fyw ein gwerthoedd wrth i ni fasnachu—fel y dewiswn ein partneriaid masnachu ac fel y dewiswn eu disgrifio. Caiff cysylltiadau y dewiswn eu disgrifio fel perthnasoedd arbennig eu hennill drwy ymdrech galed a rhaid eu seilio ar werthoedd a rennir ac nid yn syml ar elw masnachol i’r ddwy ochr.
So, the ways in which we engage with the rest of the world are varied, complex and connected. It is essential not only that we act to shore up our cultural soft power, support our exporters, build a network of students and researchers and remain engaged and responsible global partners, but in an age of scarce resources and complex challenges, each of the steps that we take must complement and support one another. Those working to extend our cultural links should be able to collaborate with those delivering trade missions. Those working to meet our environmental aims should know what we are doing to extend our educational reach. That requires a co-ordinated ‘Wales in the world’ strategy, which tells us the Welsh Government’s priorities, how it will act, and indeed what the Government seeks in the interests of Wales from the UK Government’s foreign policy—and a strategy that is routinely debated and scrutinised in this Chamber. Felly, mae’r ffyrdd yr ymgysylltwn â gweddill y byd yn amrywiol, yn gymhleth ac yn gysylltiedig. Mae’n hanfodol, nid yn unig ein bod yn gweithredu i hybu ein pŵer meddal diwylliannol, i gefnogi ein hallforwyr, i adeiladu rhwydwaith o fyfyrwyr ac ymchwilwyr a pharhau i fod yn bartneriaid byd-eang ymroddgar a chyfrifol, ond mewn oes o adnoddau prin a heriau cymhleth, rhaid i bob un o’r camau a gymerwn ategu a chefnogi ei gilydd. Dylai’r rhai sy’n gweithio i ymestyn ein cysylltiadau diwylliannol allu cydweithio â’r rhai sy’n darparu teithiau masnach. Dylai’r rhai sy’n gweithio i gyrraedd ein nodau amgylcheddol wybod beth rydym yn ei wneud i ymestyn ein cyrhaeddiad addysgol. Mae hynny’n galw am strategaeth ‘Cymru yn y byd’ gydgysylltiedig, sy’n dweud wrthym beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, sut y bydd yn gweithredu, ac yn wir, beth y mae’r Llywodraeth yn ei geisio er budd Cymru o bolisi tramor Llywodraeth y DU—a strategaeth sy’n destun trafod a chraffu fel mater o drefn yn y Siambr hon.
For most of my working life, prior to being elected, I worked for international businesses, working on projects in the US, in Europe, in Australia, in the far east, as well as here in the UK. The global context was ever present. Since being elected, it struck me how little we bring to bear international context on our discussions in this place. In 2015, the Welsh Government published a good strategy for its engagement with the world, which bears the same name as this debate. It has not featured in any significant way in the proceedings of this institution. So, I welcome the fact that the Government has now convened an international group under the auspices of the office of the First Minister, and I look forward to this Chamber having an opportunity to debate and discuss its work. Am y rhan fwyaf o fy mywyd gwaith, cyn cael fy ethol, roeddwn yn gweithio ar ran busnesau rhyngwladol, yn gweithio ar brosiectau yn yr Unol Daleithiau, yn Ewrop, yn Awstralia, yn y dwyrain pell, yn ogystal ag yma yn y DU. Roedd y cyd-destun byd-eang bob amser yn bresennol. Ers cael fy ethol, cefais fy nharo gan gyn lleied rydym yn cynnwys y cyd-destun rhyngwladol yn ein trafodaethau yn y lle hwn. Yn 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth dda ar gyfer ei hymwneud â’r byd, sy’n dwyn yr un enw â’r ddadl hon. Nid yw wedi ymddangos mewn unrhyw ffordd arwyddocaol yn nhrafodion y sefydliad hwn. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith fod y Llywodraeth bellach wedi cynnull grŵp rhyngwladol o dan nawdd y Prif Weinidog, ac edrychaf ymlaen at weld y Siambr hon yn cael cyfle i ddadlau a thrafod ei waith.
How we choose to relate to other countries is not a discretionary item. Get it right and we can help our communities; we can help Wales flourish. Get it wrong, and we will be left behind. We are living through an age where turning inwards and circling the wagons is tempting in a world of rapid change. It is up to us, in this place, to make the case for a clear, visible, joined-up external strategy, and to make the case for Wales in the world. Nid yw’r modd y dewiswn ymwneud â gwledydd eraill yn eitem ddisgresiynol. O’i gael yn iawn, gallwn helpu ein cymunedau; gallwn helpu Cymru i ffynnu. O’i gael yn anghywir, cawn ein gadael ar ôl. Rydym yn byw mewn oes pan fo troi tuag i mewn ac amddiffyn yr hyn sydd gennym yn demtasiwn mewn byd o newid cyflym. Mater i ni, yn y lle hwn, yw cyflwyno achos dros strategaeth allanol glir, weladwy a chydgysylltiedig, ac i gyflwyno’r achos dros Gymru yn y byd.
17:25 - David Rees
Can I thank the Member for Neath for this debate this evening and for offering me a minute of his time? He has talked about Patagonia and our moves across in the 1850s, but can I also remind him of where our values of fairness and social justice have also been expressed? It is with the many Welsh citizens that joined the international brigade in the Spanish civil war, to fight fascism, to fight the extreme right wing, and to ensure that social justice was available to all across the world. I think that what we are trying to say this evening is that that outward-looking aspect of Wales needs to come to the fore now as well. Post Brexit there is an opportunity for us to do that. We are seeing the changes in the European Union relationship. We are seeing the opportunities for Wales to take itself out to the world once more, to sell itself out to the world once more, and to ensure that what we have—the values that we have and the values that we share—is suitable to all the trading agreements that will be in place and will serve our communities well. A gaf fi ddiolch i’r Aelod dros Gastell-nedd am y ddadl heno ac am gynnig munud o’i amser i mi? Mae wedi siarad am Batagonia a’n symud draw yno yn y 1850au, ond a gaf fi hefyd ei atgoffa ynglŷn â ble arall y mynegwyd ein gwerthoedd sy’n seiliedig ar degwch a chyfiawnder cymdeithasol? Fe’u mynegwyd gan y llu o ddinasyddion Cymru a ymunodd â’r frigâd ryngwladol yn rhyfel cartref Sbaen i ymladd yn erbyn ffasgaeth, i ymladd yn erbyn yr asgell dde eithafol, ac i sicrhau bod cyfiawnder cymdeithasol ar gael i bawb ar draws y byd. Credaf mai’r hyn y ceisiwn ei ddweud heno yw bod angen i’r agwedd ar Gymru sy’n edrych tuag allan ddod i’r amlwg yn awr hefyd. Ar ôl Brexit mae cyfle i ni wneud hynny. Rydym yn gweld y newidiadau yn y berthynas â’r Undeb Ewropeaidd. Rydym yn gweld y cyfleoedd i Gymru fynd allan i’r byd unwaith eto, i werthu ei hun i’r byd unwaith eto, ac i sicrhau bod yr hyn sydd gennym—y gwerthoedd sydd gennym a’r gwerthoedd a rannwn—yn addas ar gyfer yr holl gytundebau masnachu a fydd ar waith ac a fydd yn gwasanaethu ein cymunedau’n dda.
17:26 - Joyce Watson
Thank you, Jeremy, for giving me time to speak in your short debate today. As regional chair of the Commonwealth Women Parliamentarians association, I am acutely aware of the value of international partnerships and the benefits that they can and do deliver for all of us. The excellent partnership of the CWPA and the agreed programme of action has helped to deliver progress and change in a number of hugely important areas that include ending violence against women and children, trafficking of human beings and enhancing women’s prospects in the economy. So, it is by working in partnership with countries across the Commonwealth that has allowed us to share our knowledge and our ideas, and also to help to deliver change. At a time when Brexit is looming large on the agenda, partnerships with our friends both within the Commonwealth and also Europe will, I believe, be more crucial than ever they were before. Diolch i chi, Jeremy, am roi amser i mi siarad yn eich dadl fer heddiw. Fel cadeirydd rhanbarthol cymdeithas Seneddwragedd y Gymanwlad, rwy’n ymwybodol iawn o werth partneriaethau rhyngwladol a’r manteision y gallant ac y maent yn eu cynnig i bob un ohonom. Mae partneriaeth ardderchog Seneddwragedd y Gymanwlad a’r rhaglen weithredu a gytunwyd wedi helpu i sicrhau cynnydd a newid mewn nifer o feysydd hynod bwysig sy’n cynnwys rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a phlant, masnachu mewn pobl a gwella rhagolygon menywod yn yr economi. Felly, gweithio mewn partneriaeth â gwledydd ar draws y Gymanwlad sydd wedi ein galluogi i rannu ein gwybodaeth a’n syniadau, a hefyd i helpu i sicrhau newid. Ar adeg pan fo Brexit ar frig yr agenda, bydd partneriaethau gyda’n ffrindiau yn y Gymanwlad ac yn Ewrop hefyd yn fwy allweddol nag erioed o’r blaen yn fy marn i.
17:27 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you. I call on the Leader of the house to reply to the debate—Jane Hutt. Diolch. Galwaf ar Arweinydd y tŷ i ymateb i’r ddadl—Jane Hutt.
17:28 - Jane Hutt
Thank you very much, Deputy Presiding Officer. I would like to thank Jeremy Miles for raising this important topic. I think this is probably the most critical time since devolution in terms of Wales’s international agenda. It’s also good to use the opportunity tonight to welcome the extensive experience that you are bringing to this debate, and indeed, into this Assembly, and to draw attention to the fact that we are probably not fully enabling that experience and that focus—which David Rees also drew attention to—in our proceedings. But, I think it is important, as you say, that we did publish ‘Wales in the World’, the Welsh Government’s international agenda, in 2015. But, what a great—you know, what happenings. What a great deal has happened since then. The EU referendum result and last week’s election showed, of course, the impact of events, and of course, these events have a major impact on our international agenda. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Jeremy Miles am godi’r pwnc pwysig hwn. Rwy’n credu mai dyma’r adeg fwyaf allweddol, mae’n debyg, ers datganoli o ran agenda ryngwladol Cymru. Mae hefyd yn dda i ddefnyddio’r cyfle heno i groesawu’r profiad helaeth rydych yn ei gynnig i’r ddadl hon, ac yn wir, i’r Cynulliad hwn, ac i dynnu sylw at y ffaith nad oeddem yn ôl pob tebyg yn gwneud defnydd llawn o’r profiad hwnnw a’r ffocws hwnnw—a thynnodd David Rees sylw at hyn hefyd—yn ein trafodion. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig, fel y dywedwch, ein bod wedi cyhoeddi ‘Cymru yn y Byd’, agenda ryngwladol Llywodraeth Cymru, yn 2015. Ond am anferth—wyddoch chi, am ddigwyddiadau. Mae cymaint wedi digwydd ers hynny. Dangosodd canlyniad refferendwm yr UE a’r etholiad yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, effaith digwyddiadau, ac wrth gwrs, mae’r digwyddiadau hyn yn effeithio’n fawr ar ein hagenda ryngwladol.
I think that when the implications of Brexit are clearer, we will be able to prioritise how we engage in a reshaped European Union and beyond, and take informed decisions about how best to allocate our resources. At that point, we will publish a new international strategy. But, in the meantime, we are continuing with our international engagement on all the fronts that you have referred to, and I will touch on those. Now, more than ever, we need to develop the economy to ensure that Wales continues to prosper. The focus of our international work is clear: to create a more prosperous and sustainable Wales through increased export and investment while increasing Wales's influence and international recognition. I think that's that kind of wider diplomatic, political role that we need to focus on that you've drawn attention to today. We need to continue to promote Wales as a great place to live, study, work, visit and do business. We need to secure the financial position for this generation, our children's generation, and generations to come. Pan fydd goblygiadau Brexit yn gliriach, credaf y byddwn yn gallu blaenoriaethu sut y byddwn yn cymryd rhan mewn Undeb Ewropeaidd ar ei newydd wedd a thu hwnt, ac yn gwneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’r ffordd orau i ddyrannu ein hadnoddau. Ar yr adeg honno, byddwn yn cyhoeddi strategaeth ryngwladol newydd. Ond yn y cyfamser, rydym yn parhau â’n hymgysylltiad rhyngwladol ym mhob un o’r ffyrdd a grybwyllwyd gennych, a byddaf yn cyffwrdd â’r rheini. Yn awr, yn fwy nag erioed, mae angen i ni ddatblygu’r economi i sicrhau bod Cymru yn parhau i ffynnu. Mae ffocws ein gwaith rhyngwladol yn glir: creu Cymru fwy ffyniannus a chynaliadwy drwy fwy o allforio a buddsoddi gan wella dylanwad ac enw Cymru yn rhyngwladol. Rwy’n credu mai ar rôl ddiplomyddol, rôl wleidyddol ehangach o’r fath y dylem ganolbwyntio, fel rydych wedi tynnu sylw ati heddiw. Mae angen i ni barhau i hyrwyddo Cymru fel lle gwych i fyw, astudio, gweithio, ymweld ag ef a gwneud busnes. Mae angen i ni ddiogelu’r sefyllfa ariannol ar gyfer y genhedlaeth hon, cenhedlaeth ein plant, a chenedlaethau i ddod.
Since devolution, the Welsh Government has a good story to tell. Our international reputation around the globe has grown and continues to grow, and where we are known we are no longer regarded as a little backwater with a scarred landscape, as a reminder of days gone by when we had a thriving coal industry; we now have a completely different profile and are better known for our knowledge-based economy, cutting-edge research, excellent higher education sector, a fantastic location to visit, with tourism figures going up and up, and for the excellent quality of our food and produce. In terms of reputation, earlier this month, the eyes of the world were on Wales when over 200 million people from over 200 countries and territories watched the UEFA Champions League finals, the first time that the men's and women's finals have been held in the same city on the same weekend, and 170,000 visitors from across the globe came to Cardiff for these events. And you can't put a price on the value of positive international profile. Ers datganoli, mae gan Lywodraeth Cymru stori dda i’w hadrodd. Mae ein henw da yn rhyngwladol o gwmpas y byd wedi tyfu ac yn parhau i dyfu, a lle mae pobl yn gwybod amdanom, ni chawn ein hystyried bellach fel man anghysbell gyda thirlun creithiog, fel atgof o’r dyddiau a fu pan oedd gennym ddiwydiant glo ffyniannus; erbyn hyn mae gennym broffil hollol wahanol ac rydym yn fwy adnabyddus am ein heconomi sy’n seiliedig ar wybodaeth, ein hymchwil arloesol, ein sector addysg uwch ardderchog, lleoliad gwych i ymweld ag ef, gyda ffigurau twristiaeth yn codi o hyd, ac am ansawdd rhagorol ein bwyd a’n cynnyrch. O ran enw da, yn gynharach y mis hwn, roedd llygaid y byd ar Gymru pan fu dros 200 miliwn o bobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau yn gwylio rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA, y tro cyntaf i rowndiau terfynol y dynion a’r menywod gael eu cynnal yn yr un ddinas ar yr un penwythnos, a daeth 170,000 o ymwelwyr o bedwar ban byd i Gaerdydd ar gyfer y digwyddiadau hyn. Ac ni allwch roi pris ar werth proffil rhyngwladol cadarnhaol.
You've mentioned culture. Culture has a huge part to play in developing profile, helping to develop influential links at all levels. And Wales is rich in culture and heritage, and we need to make that work for us, now becoming known internationally as the home of the Singer of the World competition, which is taking place this week, of Artes Mundi, the largest art prize in the UK and one of the most significant in the world, and of the Dylan Thomas prize, one of the most prestigious awards for young writers. Rydych wedi crybwyll diwylliant. Mae gan ddiwylliant ran enfawr i’w chwarae yn datblygu proffil, yn helpu i ddatblygu cysylltiadau dylanwadol ar bob lefel. Ac mae gan Gymru gyfoeth o ddiwylliant a threftadaeth, ac mae angen i ni wneud i hynny weithio drosom, a ninnau bellach yn dod yn enwog yn rhyngwladol fel cartref cystadleuaeth Canwr y Byd, sy’n cael ei chynnal yr wythnos hon, Artes Mundi, gwobr gelf fwyaf y DU ac un o’r rhai mwyaf arwyddocaol yn y byd, a gwobr Dylan Thomas, un o’r gwobrau mwyaf mawreddog i ysgrifenwyr ifanc.
And Wales is also at the forefront in leading the world in several initiatives, such as becoming the world's first Fairtrade Nation, developing a Wales for Africa programme, and introducing the Well-being of future Generations (Wales) Act 2015. And since devolution, we have developed relations with countries and regions such as Ireland and Brittany, where we have clear affinities, all of which have meant developing productive international working relationships and creating opportunities to share best practice. Post Brexit, we’ll be looking to develop new relationships where it makes sense to do so, and I'm also glad that Joyce Watson drew attention to the vibrant work and engagement led by Joyce in particular in terms of the Commonwealth Women Parliamentarians group and association—and we had a great conference here in Cardiff, which Joyce hosted, only recently, looking at women's entrepreneurship and looking at some really interesting examples here from Wales. Ac mae Cymru hefyd ar flaen y gad yn arwain y byd mewn nifer o fentrau, megis dod yn Genedl Masnach Deg gyntaf y byd, datblygu rhaglen Cymru o blaid Affrica, a chyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Ac ers datganoli, rydym wedi datblygu cysylltiadau gyda gwledydd a rhanbarthau fel Iwerddon a Llydaw, lle mae gennym gysylltiadau clir, ac mae pob un ohonynt wedi golygu datblygu perthynas waith gynhyrchiol yn rhyngwladol a chreu cyfleoedd i rannu arferion gorau. Ar ôl Brexit, byddwn yn ceisio datblygu cysylltiadau newydd lle mae’n gwneud synnwyr i wneud hynny, ac rwy’n falch hefyd fod Joyce Watson wedi tynnu sylw at y gwaith bywiog a’r ymrwymiad dan arweiniad Joyce yn arbennig mewn perthynas â grŵp a chymdeithas Seneddwragedd y Gymanwlad—a chawsom gynhadledd wych yma yng Nghaerdydd, a gynhaliwyd gan Joyce yn ddiweddar iawn, cynhadledd a edrychai ar entrepreneuriaeth menywod ac a edrychodd ar enghreifftiau diddorol iawn yma o Gymru.
But at the heart of our international and economic strategy, it's about how we provide meaningful support for Welsh companies that want to export their goods and services, internationalise their business, increasing the values of exports, and the number of Welsh companies that export—central pillars of our economic strategy. We've got a comprehensive range of support for existing and would-be exporters that is focused on four key areas: inspiring them to start or grow their exports; transferring the knowledge and skills to build their capabilities to export; helping them to connect with potential customers overseas; and supporting visits to overseas markets. So, we assist companies at every stage of their export journey, and we've helped Welsh companies to win new export orders. And last year, we took more than 170 different companies on trade missions and overseas exhibitions to a diverse range of markets. And this year, our programme includes some familiar destinations: India, China, Japan, for example, as well as less familiar markets such as Singapore, Vietnam, South Korea and Iran. And while Wales exports two thirds of its goods to EU countries, this programme emphasises the importance of maintaining and creating trade links with markets outside of Europe. But we're determined to support Welsh exporters as much as we can in a post-Brexit economy—at the front and centre of any message to companies is the statement that Wales is open for business. Ond wrth wraidd ein strategaeth ryngwladol ac economaidd, mae’n ymwneud â sut rydym yn darparu cefnogaeth ystyrlon i gwmnïau o Gymru sy’n awyddus i allforio eu nwyddau a’u gwasanaethau, rhyngwladoli eu busnesau, cynyddu gwerth allforion, a nifer y cwmnïau o Gymru sy’n allforio—pileri canolog ein strategaeth economaidd. Mae gennym ystod gynhwysfawr o gymorth i allforwyr presennol a darpar allforwyr sy’n canolbwyntio ar bedwar maes allweddol: eu hysbrydoli i ddechrau neu dyfu eu hallforion; trosglwyddo’r wybodaeth a’r sgiliau i adeiladu eu gallu i allforio; eu helpu i gysylltu â darpar gwsmeriaid dramor; a chefnogi ymweliadau â marchnadoedd tramor. Felly, rydym yn helpu cwmnïau ar bob cam o’u taith allforio, ac rydym wedi helpu cwmnïau o Gymru i ennill archebion allforio newydd. Ac yn y flwyddyn ddiwethaf, aethom â mwy na 170 o gwmnïau gwahanol ar deithiau masnach ac i arddangosfeydd tramor mewn ystod amrywiol o farchnadoedd. Ac eleni, mae ein rhaglen yn cynnwys rhai cyrchfannau cyfarwydd: India, Tsieina, Japan, er enghraifft, yn ogystal â marchnadoedd llai cyfarwydd, megis Singapore, Fietnam, De Korea ac Iran. Ac er bod Cymru’n allforio dwy ran o dair o’i nwyddau i wledydd yr UE, mae’r rhaglen hon yn pwysleisio pwysigrwydd cynnal a chreu cysylltiadau masnach gyda marchnadoedd y tu allan i Ewrop. Ond rydym yn benderfynol o gefnogi allforwyr Cymru gymaint ag y gallwn mewn economi ôl-Brexit—ar y blaen ac ynghanol unrhyw neges i gwmnïau, mae’r datganiad fod Cymru ar agor i fusnes.
Companies in Wales have already taken action to respond to the challenges of a post-EU economy, and we're working with more and more companies to support them to export. And I want everyone across Wales and the rest of Europe to understand that, for us, departing the EU in no sense means that Wales will turn its back on Europe; we've always been clear that the Welsh Government respects the decision to leave the European Union, but our White Paper, ‘Securing Wales’ Future’, does provide a comprehensive and credible plan for the negotiations as the UK prepares to exit from the EU. Can I also say again how important is David Rees’s chairing of what is now increasingly the external affairs rather than additional legislation Committee—what an important role that is playing here in the Assembly, and is recognised beyond here in the UK and Europe? Of course, Jeremy Miles is a key member of that committee. I think the role will develop, and is developing substantially, as we move forward. Mae cwmnïau yng Nghymru eisoes wedi rhoi camau ar waith i ymateb i heriau economi ôl-UE, ac rydym yn gweithio gyda mwy a mwy o gwmnïau i’w cynorthwyo i allforio. Ac rwyf am i bawb ar draws Cymru a gweddill Ewrop ddeall nad yw gadael yr UE, i ni, mewn unrhyw ystyr yn golygu y bydd Cymru yn troi ei chefn ar Ewrop; rydym bob amser wedi bod yn glir fod Llywodraeth Cymru yn parchu’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond mae ein Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, yn darparu cynllun cynhwysfawr a chredadwy ar gyfer y trafodaethau wrth i’r DU baratoi i adael yr UE. A gaf fi ddweud eto hefyd pa mor bwysig yw cadeiryddiaeth David Rees o’r hyn sydd bellach yn gynyddol yn Bwyllgor materion allanol yn hytrach na deddfwriaeth ychwanegol—am rôl bwysig y mae’r pwyllgor hwnnw’n ei chwarae yma yn y Cynulliad, rôl sy’n cael ei chydnabod y tu hwnt i’r fan hon yn y DU ac Ewrop? Wrth gwrs, mae Jeremy Miles yn aelod allweddol o’r pwyllgor hwnnw. Rwy’n credu y bydd y rôl yn datblygu, ac mae’n datblygu’n sylweddol, wrth inni symud ymlaen.
We stand ready to work constructively with the UK Government to secure a deal that protects Welsh businesses, our economy and the future prosperity of Wales. Our young people have not known life outside the European Union, with its free exchange of people and EU-funded programmes. You mentioned Erasmus; in 2015, Erasmus+ in Wales support some 2,600 staff and students in the higher and further education and youth sectors to study, work, volunteer, teach and train in Europe. We must see these opportunities continue after Brexit. Rydym yn barod i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i sicrhau cytundeb sy’n diogelu busnesau Cymru, ein heconomi a ffyniant Cymru yn y dyfodol. Nid yw ein pobl ifanc yn gwybod am fywyd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, gyda’i hawliau i bobl symud yn rhydd a rhaglenni a ariannwyd gan yr UE. Soniasoch am Erasmus; yn 2015, roedd Erasmus + yng Nghymru yn cynorthwyo tua 2,600 o staff a myfyrwyr yn y sector addysg bellach ac uwch a’r sector ieuenctid i astudio, gweithio, gwirfoddoli, dysgu a hyfforddi yn Ewrop. Rhaid i ni weld y cyfleoedd hyn yn parhau ar ôl Brexit.
Also, you talked about Wales being a welcoming country, benefitting from inward migration, from many parts of the world, including the EU, and migrants in Wales are making a huge contribution to delivering our vital public services and working in our key economic sectors, welcoming thousands of students from all over the world to study here and strengthening our world-class university offering. Hefyd, fe siaradoch am Gymru’n wlad groesawgar sy’n elwa ar fewnfudo o sawl rhan o’r byd, gan gynnwys yr UE, ac mae ymfudwyr i Gymru yn cyfrannu’n helaeth tuag at ddarparu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a gweithio yn ein sectorau economaidd allweddol, gan groesawu miloedd o fyfyrwyr o bob cwr o’r byd i astudio yma a chryfhau ein prifysgolion o safon fyd-eang.
I think, looking ahead, we need to see that we still need to recruit from both the EU and around the world for jobs where there is a clear need to do so because of a shortage. We want to make those who are already here continue to play their part in making Wales the successful, outward-looking nation that it is. I’m glad you’ve drawn attention again to the outward-looking, welcoming work that’s been done by the Equality, Local Government and Communities Committee on refugees, and we will be debating that again shortly. Wrth edrych i’r dyfodol, rwy’n credu bod angen i ni weld bod angen o hyd i ni recriwtio o’r UE ac o amgylch y byd i swyddi lle mae angen clir i wneud hynny oherwydd prinder. Rydym am wneud i’r rhai sydd eisoes yma barhau i chwarae eu rhan yn gwneud Cymru yn genedl lwyddiannus sy’n edrych tuag allan. Rwy’n falch eich bod wedi tynnu sylw eto at y gwaith croesawus, sy’n edrych tuag allan, a wneir gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ffoaduriaid, a byddwn yn trafod hynny eto cyn bo hir.
So, finally I want to mention the fact that, over the past 10 years as a Government we’ve supported and encouraged tens of thousands of people in Wales to get involved and contribute to international development through our Wales for Africa programme. More children are now going to school, thousands of women have been empowered through skills training and some of the poorest families are healthier thanks to the extensive training Welsh health workers have offered as part of that. Felly, yn olaf rwyf am sôn am y ffaith ein bod fel Llywodraeth, dros y 10 mlynedd diwethaf, wedi cynorthwyo ac annog degau o filoedd o bobl yng Nghymru i gymryd rhan a chyfrannu at ddatblygu rhyngwladol drwy ein rhaglen Cymru o blaid Affrica. Mae mwy o blant yn mynd i’r ysgol bellach, mae miloedd o fenywod wedi cael eu grymuso drwy hyfforddiant sgiliau ac mae rhai o’r teuluoedd tlotaf yn iachach diolch i’r hyfforddiant helaeth y mae gweithwyr iechyd Cymru wedi’i gynnig yn rhan o hynny.
In conclusion, Brexit and globalisation present both challenges and opportunities for Wales. Working together across the political spectrum with a wide range of partners in Wales, the UK and internationally, we can maximise our footprint across the world and help Wales to become a more prosperous, globally responsible nation. I gloi, mae Brexit a globaleiddio yn cyflwyno heriau a chyfleoedd i Gymru. Trwy weithio gyda’n gilydd ar draws y sbectrwm gwleidyddol gydag ystod eang o bartneriaid yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol, gallwn adael cymaint â phosibl o’n hôl ar y byd a helpu Cymru i ddod yn wlad fwy ffyniannus a chyfrifol yn fyd-eang.
17:38 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you very much. That brings today’s proceedings to a close. Thank you. Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:38. The meeting ended at 17:38.
Back to List View this page with hyperlinks

Partners & Help