By continuing to use our site, you are agreeing for us to set a small number of cookies. Cookie policy

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Back to list View this page with hyperlinks
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. The Assembly met at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.
13:30 - Y Llywydd / The Llywydd
Galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn. Ac a gaf i gychwyn drwy ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb? I call the National Assembly to order. And may I start by wishing you all a very happy St David’s Day?
Cwestiwn Brys: Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr Urgent Question: Ford in Bridgend
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. [R] signifies the Member has declared an interest. [W] signifies that the question was tabled in Welsh.
13:30 - Y Llywydd / The Llywydd
A’r eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiwn brys. Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rwy’n galw ar Adam Price i ofyn y cwestiwn brys. And the first item on our agenda this afternoon is an urgent question. I have accepted an urgent question under Standing Order 12.66, and I call on Adam Price to ask the urgent question.
13:30 - Adam Price
Diolch, Lywydd. Thank you, Llywydd.
Adam Price
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiadau bod Ford yn bwriadu cael gwared â dros 1,000 o swyddi o’i waith adeiladu peiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr? EAQ(5)0140(EI) Will the Cabinet Secretary give a statement on reports that Ford plans to cut over 1,000 jobs from its engine plant in Bridgend? EAQ(5)0140(EI)
13:30 - Ken Skates
Yes. I spoke this morning with Ford’s vice-president, who confirmed that there is no employment risk at the Bridgend site in the short term, and that employment numbers will remain broadly similar to today, up to 2021. However, I reiterated our position that we stand ready to do all we can to support the plant in becoming more productive and, crucially, in securing new products for the plant, from 2021 onwards. Gwnaf. Siaradais y bore yma gydag is-lywydd Ford, a gadarnhaodd nad oes unrhyw berygl i gyflogaeth yn ffatri Pen-y-bont ar Ogwr yn y tymor byr, ac y bydd niferoedd cyflogaeth yn aros yr un fath, fwy neu lai, hyd at 2021. Fodd bynnag, pwysleisiais eto ein bod yn barod i wneud popeth yn ein gallu i gynorthwyo’r ffatri i ddod yn fwy cynhyrchiol, ac yn hollbwysig, i sicrhau cynhyrchion newydd ar gyfer y ffatri, o 2021 ymlaen.
13:31 - Adam Price
I’m sure the Cabinet Secretary would agree that the loss of these jobs—over two thirds of the jobs—at our third largest manufacturing plant, would be terrible news for the workers, the families, the communities affected, but also for the whole of Wales, on this, our national day. He referred to the assurances that he has had previously, and had reiterated, until 2021. Can he say when he, for the first time, heard about the plans to reduce these jobs in 2021? Did he hear overnight, with shock and dismay, like the rest of us? Does he feel that he, in any way, and the workforce, are being misled by the company management? Is he satisfied that we are having the right engagement with the company, at the right time, in the right place, with the right person? Rwy’n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod colli’r swyddi hyn—dros ddwy ran o dair o’r swyddi—yn ein ffatri weithgynhyrchu fwyaf ond dwy yn newyddion ofnadwy i’r gweithwyr, y teuluoedd, y cymunedau yr effeithir arnynt, ond hefyd i Gymru gyfan, heddiw ar ein diwrnod cenedlaethol. Cyfeiriodd at y sicrwydd a roddwyd iddo o’r blaen ac a ailadroddwyd, tan 2021. A all ddweud wrthym pryd oedd y tro cyntaf iddo glywed am y cynlluniau i leihau nifer y swyddi hyn yn 2021? A glywodd amdanynt dros nos gyda syndod a siom, fel y gweddill ohonom? A yw’n teimlo ei fod ef a’r gweithlu yn cael eu camarwain mewn unrhyw ffordd gan reolwyr y cwmni? A yw’n fodlon ein bod yn ymgysylltu’n iawn â’r cwmni, ar yr adeg iawn, yn y lle iawn, gyda’r unigolyn iawn?
In September, he promised to visit the Detroit global headquarters of the Ford Motor Company. I understand that visit did not materialise. Last month, he said, Ym mis Medi, addawodd y byddai’n ymweld â phencadlys byd-eang y Ford Motor Company yn Detroit. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, ni ddigwyddodd yr ymweliad hwnnw. Fis diwethaf, dywedodd,
‘If that means going to Detroit, we will go to Detroit.’ Os yw hynny’n golygu mynd i Detroit, fe awn i Detroit.
Will he now go to Detroit, or will the First Minister, who is in the United States for St David’s Day, urgently change his travel plans? We know this is a company that actually listens to political leaders when they lobby them. We had that, of course, when the planned factory for Mexico was changed, moved to Michigan, as a result of a phone call from the White House. A fydd yn mynd i Detroit, neu a fydd y Prif Weinidog, sydd yn yr Unol Daleithiau ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, yn newid ei gynlluniau teithio ar frys? Gwyddom fod hwn yn gwmni sy’n gwrando ar arweinwyr gwleidyddol pan fyddant yn eu lobïo. Gwelsom hynny, wrth gwrs, pan newidiwyd y cynlluniau ar gyfer y ffatri ym Mecsico, a’i symud i Michigan, o ganlyniad i alwad ffôn o’r Tŷ Gwyn.
Now, Ford is a company that is pivoting towards new brands and new technologies, including electric vehicles and driverless cars. What specific progress is he able to report on evaluating the prospects for these technologies in Bridgend? Can he say whether, in his assessment, our exiting the European Union and the affect that this had on Ford, through the devaluation of sterling losing the company, by their own assessment, $600 million a year, has been a factor in their stated plan to seek job cuts and efficiencies throughout its European division? Nawr, mae Ford yn gwmni sy’n rhoi pwyslais ar frandiau newydd a thechnolegau newydd, gan gynnwys cerbydau trydan a cheir di-yrrwr. Pa gynnydd penodol y gall adrodd amdano ar werthuso’r rhagolygon ar gyfer y technolegau hyn ym Mhen-y-bont? A all ddweud, yn ei asesiad, fod ein penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd a’r effaith a gafodd hyn ar Ford, wrth i’r gostyngiad yng ngwerth sterling arwain at golledion o $600 miliwn y flwyddyn i’r cwmni yn ôl eu hasesiad eu hunain, wedi bod yn ffactor yn eu cynllun penodedig i dorri swyddi a sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn eu hadran Ewropeaidd drwyddi draw?
And, finally, can I say that, if this is now on the agenda—losing two thirds of employment at our third biggest manufacturing plant—does he agree that that would be an economic crisis every bit as serious as the one that we faced recently in steel? And will the Welsh Government, therefore, jointly with the UK Government, with unions, and sector representatives, convene an urgent summit on the future of the Welsh and UK automotive industry? Ac yn olaf, a gaf fi ddweud, os yw hyn ar yr agenda bellach—colli dwy ran o dair o’r gyflogaeth yn ein ffatri weithgynhyrchu fwyaf ond dwy—a yw’n cytuno y byddai hynny’n argyfwng economaidd yr un mor ddifrifol â’r un y bu’n rhaid inni ei wynebu’n ddiweddar mewn perthynas â dur? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru, felly, ar y cyd â Llywodraeth y DU, undebau, a chynrychiolwyr y sector, alw uwchgynhadledd frys ar ddyfodol y diwydiant modurol yng Nghymru a’r DU?
13:34 - Ken Skates
I’d like to thank Adam Price for his questions and say that our objective is in averting what could be a crisis, as outlined by the Member. I recognise fully the considerable skills that are apparent at the Bridgend plant, the loyalty of the workforce and, clearly, the anxiety that will be felt by workers and their families right now. There is also a risk not just to the automotive sector in south Wales, but to the supply chain that benefits from the existence of Ford here, and to the wider Welsh economy. And, for that reason, we are absolutely determined to do everything we can to ensure that Ford finds new opportunities, new products to bring to Bridgend, in the next decade. Hoffwn ddiolch i Adam Price am ei gwestiynau, a dweud mai ein hamcan yw osgoi’r hyn a allai droi’n argyfwng, fel yr amlinellwyd gan yr Aelod. Rwy’n llwyr gydnabod y sgiliau sylweddol sydd i’w gweld yn ffatri Pen-y-bont, teyrngarwch y gweithlu, ac yn amlwg, pryderon y gweithwyr a’u teuluoedd ar hyn o bryd. Mae perygl hefyd nid yn unig i’r sector modurol yn ne Cymru, ond i’r gadwyn gyflenwi sy’n elwa o fodolaeth Ford yma, ac i’r economi ehangach yng Nghymru. Ac am y rheswm hwnnw, rydym yn gwbl benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod Ford yn dod o hyd i gyfleoedd newydd, cynhyrchion newydd i Ben-y-bont ar Ogwr, yn y degawd nesaf.
I spoke with the vice-president because the vice-president is the person who will make the decision on Ford in Europe and, therefore, on Ford in Bridgend. But I’ve been very clear that if there is anybody else that needs to be engaged anywhere around the world, including in the United States, I would be happy to do so. But it is my firm belief now that it is the vice-president that ultimately will be making future decisions about the plant and where products in Europe will be manufactured. Siaradais â’r is-lywydd gan mai’r is-lywydd a fydd yn gwneud y penderfyniad ynglŷn â Ford yn Ewrop, ac felly, ynglŷn â Ford ym Mhen-y-bont. Ond os oes angen ymgysylltu ag unrhyw un arall yn unrhyw le yn y byd, gan gynnwys yn yr Unol Daleithiau, rwyf wedi dweud yn glir iawn y buaswn yn fwy na pharod i wneud hynny. Ond credaf yn gryf mai’r is-lywydd a fydd, yn y pen draw, yn gwneud penderfyniadau am y ffatri yn y dyfodol a lle y bydd cynhyrchion yn cael eu gweithgynhyrchu yn Ewrop.
The detail of what has been presented this morning is a worst-case scenario for the Bridgend plant if no new products are secured in the next decade. That is why I am determined to work with not just the company, but also with the workforce and their representatives in the unions, to identify the opportunities that Ford itself has spoken about being able to attract to Bridgend. I wish to, in the coming weeks and coming years, understand better what specific products Ford Europe are looking to bring to Bridgend, so that we as a Welsh Government can continue to support the company, as we have done since the dawn of devolution. There is no doubt that the loss of EU membership does pose a very significant challenge for Ford in Bridgend and, indeed, the automotive industry across Wales and the UK. All of the engines produced there go to Europe to then be sold back within Ford automobiles. And that’s the reason why the First Minister has been absolutely consistent throughout the Brexit talks that our top priority must be free and unfettered access to the single market, as made clear in the White Paper. Mae manylion yr hyn a gyflwynwyd y bore yma yn cynrychioli’r senario waethaf ar gyfer ffatri Pen-y-bont pe na bai unrhyw gynhyrchion newydd yn cael eu sicrhau yn ystod y degawd nesaf. Dyna pam rwy’n benderfynol o weithio nid yn unig gyda’r cwmni ond hefyd gyda’r gweithlu a’u cynrychiolwyr yn yr undebau, er mwyn nodi’r cyfleoedd y mae Ford eu hunain wedi dweud y gellid eu denu i Ben-y-bont. Dros yr wythnosau a’r blynyddoedd nesaf, hoffwn ddeall yn well pa gynnyrch penodol y bwriada Ford Europe ddod â hwy i Ben-y-bont, er mwyn i ni fel Llywodraeth Cymru allu parhau i gefnogi’r cwmni, fel y gwnaethom ers dechrau datganoli. Nid oes amheuaeth fod rhoi’r gorau i fod yn aelodau o’r UE yn creu her sylweddol iawn i Ford ym Mhen-y-bont, ac yn wir, i’r diwydiant modurol ledled Cymru a’r DU. Mae pob injan a gynhyrchir yno yn mynd i Ewrop er mwyn cael ei gwerthu’n ôl mewn cerbyd Ford. A dyna pam fod y Prif Weinidog wedi dweud yn gyson drwy gydol y trafodaethau Brexit y dylai mynediad rhydd a dilyffethair at y farchnad sengl fod yn brif flaenoriaeth, fel y gwnaed yn glir yn y Papur Gwyn.
I do believe that in order to avert the crisis that the Member talks of, we need to have a more meaningful engagement from the UK Government, and what is surely good for Nissan is also good for Ford. I’m also keen to ensure, as I’ve spoken of on previous occasions here in the Chamber, that we secure as much of the £2 billion of research development and innovation funding announced by the UK Government for the Welsh economy and for advanced manufacturing, where we know Wales has a very proud track record. Today is a day of anxiety, there is no doubt, for the workforce, but I am determined to bring together the company, the unions and the workforce to identify the products that will give Ford Bridgend a longer term viable future. Er mwyn osgoi’r argyfwng y sonia’r Aelod amdano, mae angen i ni weld ymgysylltiad mwy ystyrlon gan Lywodraeth y DU, a ‘does bosib nad yw’r hyn sy’n dda i Nissan yn dda i Ford hefyd. Rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau, fel y crybwyllais o’r blaen yma yn y Siambr, ein bod yn sicrhau cymaint â phosibl o’r £2 biliwn o gyllid datblygu, ymchwil ac arloesi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer economi Cymru ac ar gyfer uwch-weithgynhyrchu, lle y gwyddom fod gan Gymru hanes balch iawn. Nid oes amheuaeth y bydd cryn bryder heddiw ymysg y gweithlu, ond rwy’n benderfynol o ddod â’r cwmni, yr undebau a’r gweithlu ynghyd i nodi’r cynhyrchion a fydd yn rhoi dyfodol mwy hyfyw i Ford Pen-y-bont yn y tymor hwy.
13:37 - Russell George
Cabinet Secretary, I think you’re right—there is a lot of anxiety today, since this news came to light yesterday. Adam Price did ask specifically—I don’t think you answered his point—about the First Minister’s schedule whilst he’s in the US. And can I ask if the First Minister has amended his itinerary, and will he be attempting to meet Ford executives whilst he is in the US? Perhaps you could update us on that. Ysgrifennydd y Cabinet, credaf eich bod yn iawn—mae cryn bryder heddiw, ers i’r newyddion hwn ddod i’r amlwg ddoe. Gofynnodd Adam Price yn benodol—ni chredaf eich bod wedi ateb ei bwynt—am amserlen y Prif Weinidog yn yr Unol Daleithiau. A gaf fi ofyn a yw’r Prif Weinidog wedi newid ei daith, ac a fydd yn ceisio cyfarfod â swyddogion gweithredol Ford tra bydd yn yr Unol Daleithiau? Efallai y gallech roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â hynny.
The concerns, of course, are based on the assumption that Ford is unable to bring in any new work. You said in answer to two previous questions that you stand ready as a Government to be supportive to the situation, but can I ask for some specifics? What specifically is the Welsh Government prepared to contribute? Sail y pryderon, wrth gwrs, yw’r rhagdybiaeth na all Ford ddod ag unrhyw waith newydd i mewn. Dywedasoch wrth ateb dau gwestiwn blaenorol eich bod, fel Llywodraeth, yn barod i fod yn gefnogol i’r sefyllfa, ond a gaf fi i ofyn am rai manylion penodol? Beth yn benodol y mae Llywodraeth Cymru yn barod i’w gyfrannu? 
13:38 - Ken Skates
The Member may be aware of numerous forms of support that the Welsh Government has been able to offer Ford over many years. In fact, since 1978, Ford in Bridgend has benefited to the tune of approximately £140 million. Since the dawn of devolution, we’ve been able to support Ford with skills training packages, with capital expenditure, with infrastructure support, and we stand ready to do that again. In particular, I’m keen to ensure that we draw down and utilise research and development funding, so that we can attract new forms of engine manufacturing, and new forms of motor development to Wales, and specifically to Ford. I’d like to explore the opportunity for joint ventures between Ford and other original equipment manufacturers, because I do believe that when it comes to electric vehicles in particular, there are huge opportunities to be had in OEMs working more closely together. And if Welsh Government can facilitate an agreement between Ford and another manufacturer, we would happily do so, and we would support any joint venture, with financial support, if required and if viable. Efallai y bydd yr Aelod yn ymwybodol o’r sawl math o gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu’i gynnig i Ford dros nifer o flynyddoedd. Yn wir, ers 1978, mae Ford ym Mhen-y-bont wedi elwa ar oddeutu £140 miliwn. Ers dechrau datganoli, rydym wedi gallu cefnogi Ford gyda phecynnau hyfforddi sgiliau, gyda gwariant cyfalaf, gyda chymorth seilwaith, ac rydym yn barod i wneud hynny eto. Yn benodol, rwy’n awyddus i sicrhau ein bod yn defnyddio ac yn manteisio ar gyllid ymchwil a datblygu, er mwyn inni allu denu ffyrdd newydd o weithgynhyrchu injans a mathau newydd o ddatblygiadau modurol i Gymru, ac yn benodol i Ford. Hoffwn archwilio’r cyfleoedd ar gyfer mentrau ar y cyd rhwng Ford a gweithgynhyrchwyr cyfarpar gwreiddiol eraill, gan y credaf fod cyfleoedd gwerthfawr i’w cael, yn enwedig mewn perthynas â cherbydau trydan, i weithgynhyrchwyr cyfarpar gwreiddiol weithio’n agosach â’i gilydd. A phe gallai Llywodraeth Cymru hwyluso cytundeb rhwng Ford a gweithgynhyrchwr arall, byddem yn fwy na pharod i wneud hynny, a byddem yn cefnogi unrhyw fenter ar y cyd, gyda chymorth ariannol, pe bai angen a phe bai hynny’n ddichonadwy.
Now, in terms of the FMs visit to the United States, the First Minister has already announced, during his trip to the United States, a further investment by GE, and I think that demonstrates how we have a strong track record as a Government of securing additional work for existing investors in Wales. We will go on doing that with Ford. But I must stress again that I have spoken with the decision maker in Ford. I will meet again with the decision maker in Ford to constantly press upon her the loyalty of the workforce, the skills at the plant, the track record of this Government working with Ford, the investment that we placed in it, and, above all, the interest that Ford itself should have in being in one of the most productive countries in western Europe. Nawr, o ran ymweliad y Prif Weinidog â’r Unol Daleithiau, mae’r Prif Weinidog eisoes wedi cyhoeddi rhagor o fuddsoddiad gan GE yn ystod ei daith i’r Unol Daleithiau, a chredaf fod hynny’n dangos ein hanes cryf fel Llywodraeth o sicrhau rhagor o waith i fuddsoddwyr presennol yng Nghymru. Byddwn yn parhau i wneud hynny gyda Ford. Ond mae’n rhaid i mi bwysleisio eto fy mod wedi siarad â’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau yn Ford. Byddaf yn ei chyfarfod eto i bwysleisio teyrngarwch y gweithlu, y sgiliau yn y ffatri, hanes blaenorol y Llywodraeth hon o weithio gyda Ford, y buddsoddiad a wnaethom yn y ffatri, ac yn anad dim, y diddordeb a ddylai fod gan Ford mewn bod yn un o wledydd mwyaf cynhyrchiol gorllewin Ewrop.
13:40 - Caroline Jones
Cabinet Secretary, without knowing the authenticity or even the validity of this so-called leaked document, we have to be extremely careful about whipping up hysteria about job losses at Ford’s engine plant at Bridgend. The only official indications we have had from Ford is that they’re scaling back investment, but they are still making a multimillion pound investment at Bridgend. It’s too early to be talking about strike action. If Ford did announce that this is their intention, to cut back in Bridgend, it’s my region, and then I would fight alongside everyone else and stand shoulder to shoulder with my constituents and the unions in opposing job losses. But, until then, I think we must try and calm the situation. Cabinet Secretary, do you agree with me that it is too early to be even considering strike action and will you assure my constituents that you will do everything you can to ensure that Ford continue to invest in the Bridgend plant? Ysgrifennydd y Cabinet, heb fod yn sicr ynghylch dilysrwydd, neu ba mor wir hyd yn oed, yw’r ddogfen hon yr honnir iddi gael ei datgelu’n answyddogol, rhaid i ni fod yn hynod o ofalus rhag achosi hysteria ynglŷn â cholli swyddi yn ffatri injans Ford ym Mhen-y-bont. Yr unig sylwadau swyddogol a gawsom gan Ford yw eu bod yn lleihau’r buddsoddiad, ond maent yn dal i wneud buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd ym Mhen-y-bont. Mae’n rhy gynnar i siarad am streic. Pe bai Ford yn cyhoeddi mai dyma yw eu bwriad, lleihau buddsoddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dyna yw fy rhanbarth i, a buaswn yn ymladd ochr yn ochr â phawb arall ac yn sefyll gyda fy etholwyr a’r undebau i wrthwynebu colli swyddi. Ond tan hynny, credaf fod yn rhaid i ni geisio gostegu pethau. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cytuno â mi ei bod yn rhy gynnar i hyd yn oed ystyried streicio, ac a wnewch chi sicrhau fy etholwyr y byddwch yn gwneud popeth yn eich gallu i sicrhau bod Ford yn parhau i fuddsoddi yn ffatri Pen-y-bont?
Finally, Cabinet Secretary, can you update us on the discussions you’ve had with the UK Government about joint action you can take together to secure the long-term future of the engine plant in Bridgend? Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â’r trafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â gweithredu ar y cyd â hwy i sicrhau dyfodol hirdymor y ffatri injans ym Mhen-y-bont?
13:41 - Ken Skates
Can I thank the Member for her questions and reiterate the point that was made to me—the assurance that was given to me by Ford’s vice-president—that there are no employment risks today? But we’ve always known that the risk is longer term for Ford in Bridgend. From 2021, the challenge is in finding new products that can be manufactured at the plant. In recent months, we’ve been assured by Ford that they’re looking at a range of opportunities that can be brought to Bridgend. What I wish to see now is greater detail about what those opportunities are—what it is that Ford is actually looking at specifically and how they’re going about attracting the investment to the Bridgend plant. And, for that reason, I intend meeting with the vice-president again and also with union leaders, because it’s my firm belief that we do our best when we work together as a team. I think Ford have proven in Bridgend that when you have a proactive Government and when you have a positive, proactive unionised workforce, you can produce the best goods imaginable. We need to make sure that that relationship between the workforce and the company and Welsh Government remains strong. But, crucially, we have to ensure that Ford identify the new products and that’s the reason why I will be placing more pressure on them to bring forward detail about what opportunities they are talking about actually materialising. A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiynau ac ailadrodd y pwynt a wnaed i mi—y sicrwydd a roddwyd i mi gan is-lywydd Ford—nad oes unrhyw risg i gyflogaeth heddiw? Ond rydym wedi bod yn ymwybodol erioed fod risgiau mwy hirdymor yn wynebu Ford ym Mhen-y-bont. O 2021, yr her fydd dod o hyd i gynhyrchion newydd y gellir eu gweithgynhyrchu yn y ffatri. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi cael sicrwydd gan Ford eu bod yn edrych ar ystod o gyfleoedd y gellir eu dwyn i Ben-y-bont. Hoffwn weld rhagor o fanylion yn awr ynglŷn â beth yw’r cyfleoedd hynny—beth y mae Ford yn edrych arno’n benodol, a sut y maent yn mynd ati i ddenu’r buddsoddiad i ffatri Pen-y-bont ar Ogwr. Ac oherwydd hynny, rwy’n bwriadu cyfarfod â’r is-lywydd eto, a chydag arweinwyr yr undebau, gan fy mod yn credu’n gryf mai drwy gydweithio fel tîm yr ydym ar ein gorau. Credaf fod Ford wedi profi ym Mhen-y-bont y gallwch gynhyrchu’r nwyddau gorau posibl os oes gennych Lywodraeth ragweithiol ac os oes gennych weithlu undebol cadarnhaol a rhagweithiol. Mae angen inni sicrhau bod y berthynas rhwng y gweithlu a’r cwmni a Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn un gref. Ond yn hanfodol, mae’n rhaid i ni sicrhau bod Ford yn nodi’r cynhyrchion newydd a dyna pam y byddaf yn rhoi mwy o bwysau arnynt i ddarparu manylion ynglŷn â pha gyfleoedd y maent yn sôn am eu gwireddu mewn gwirionedd.
13:43 - Y Llywydd / The Llywydd
Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies.
13:43 - Huw Irranca-Davies
Diolch, Lywydd, and can I thank you for granting this urgent question today? It is a matter that’s caused a lot of concern, but can I say the concerns are not new only today, based on these press reports; they’ve been ongoing for some time? I thank the Cabinet Secretary for, first and foremost, recognising the skills, the loyalty and the sacrifices that the workforce have made already in terms of making this plant productive. But, as we can see from the reports over the weekend, there may be an even bigger task ahead. I think it’s incumbent on all of us as regional Assembly Members, and as a constituency Member with hundreds of the workforce employed within my constituency and their families depending on them, that we make sure that there is a long-term future. And this idea of actually bringing together the workforce and the unions, who are representing their members there on the ground, on the shop floor and on the production floor, with management so that we can talk very hard-nosed about what we need to do to make this the go-to plant of Ford in Europe and worldwide—so that the productivity that they hit will be the one that means that Ford’s management globally will say, ‘The next investment will come to Ford Bridgend.’ Diolch, Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i chi am ganiatáu’r cwestiwn brys hwn heddiw? Mae’n fater sydd wedi achosi llawer o bryder, ond a gaf fi ddweud nad pryderon newydd yw’r rhain heddiw, ar sail yr adroddiadau hyn yn y wasg; maent wedi bod yn bryderon parhaus ers peth amser? Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, yn gyntaf oll, am gydnabod y sgiliau, y teyrngarwch a’r aberth y mae’r gweithlu eisoes wedi’i wneud i sicrhau bod y ffatri hon yn gynhyrchiol. Ond fel y gallwn weld o’r adroddiadau dros y penwythnos, efallai fod tasg fwy fyth o’n blaenau. Credaf ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom fel Aelodau Cynulliad rhanbarthol, ac fel Aelod etholaeth sydd â channoedd o’r gweithlu wedi eu cyflogi yn fy etholaeth a’u teuluoedd yn dibynnu arnynt, i sicrhau dyfodol hirdymor. Ac mae’r syniad hwn o ddod â’r gweithlu a’r undebau, sy’n cynrychioli eu haelodau ar lawr gwlad, ar lawr y siop a llawr y ffatri, a’r rheolwyr at ei gilydd er mwyn inni allu siarad yn blwmp ac yn blaen ynglŷn â’r hyn sydd angen inni ei wneud er mwyn sicrhau mai hon yw prif ffatri Ford yn Ewrop a ledled y byd—er mwyn i’w cynhyrchiant olygu y bydd rheolwyr Ford ledled y byd yn dweud, ‘Bydd y buddsoddiad nesaf yn mynd i Ford Pen-y-bont.’
We know that this is not imminent. We know we have breathing space until 2020-21. The Jaguar engine is coming to the end of its life. We have some investment but not the investment that we wanted on the Dragon engine, but that is good as well. It is surely now that all of us—Welsh Government, ourselves as Assembly Members, the workforce, the unions and the management—need to be sitting down around the table and saying, ‘How do we make this the plant that will bring that investment in?’ So, I have three specific questions. One is: what can the Welsh Government do, beyond what’s been laid out already, to actually facilitate those productive, constructive talks—hard-nosed talks they will be—so that all players around the table agree on a plan to go forward. Does he agree that we need to be doing that now? Because if the investment decisions that we need to secure the future of this plant will be put into place in 2020 and 2021, they need to be taken in the months and the year ahead. Gwyddom nad yw hyn yn ar fin digwydd. Gwyddom fod gennym le i anadlu tan 2020-21. Mae’r injan Jaguar yn agosáu at ddiwedd ei hoes. Mae gennym beth buddsoddiad, er nad y buddsoddiad yr oeddem yn dymuno’i gael, yn yr injan Dragon, ond mae hynny’n dda hefyd. ‘Does bosib nad oes angen i bob un ohonom yn awr—Llywodraeth Cymru, ninnau fel Aelodau’r Cynulliad, y gweithlu, yr undebau a’r rheolwyr—eistedd o amgylch y bwrdd a dweud, ‘Sut y gallwn sicrhau mai’r ffatri hon fydd yn denu’r buddsoddiad hwnnw?’ Felly, mae gennyf dri chwestiwn penodol. Un yw: beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, y tu hwnt i’r hyn sydd wedi’i nodi yn barod, i hwyluso’r trafodaethau cynhyrchiol ac adeiladol hynny—a byddant yn drafodaethau digyfaddawd—er mwyn i bawb o amgylch y bwrdd gytuno ar gynllun ar gyfer symud ymlaen. A yw’n cytuno bod angen inni wneud hynny yn awr? Oherwydd os caiff y penderfyniadau buddsoddi sydd eu hangen arnom i sicrhau dyfodol y ffatri hon eu rhoi ar waith yn 2020 a 2021, mae angen eu gwneud yn ystod y misoedd a’r flwyddyn sydd i ddod.
Thirdly, what do we know now—these months later—about the UK Government guarantees that were given to another plant within the UK, quite rightly, about the insecurities, post Brexit? What do we know about that? And do we know that those same guarantees are being extended to the workers in Ford Bridgend as well, because they damn well should be—pardon my French, Presiding Officer. They really should be given those same guarantees. So, please, we know the investment that’s come over many years from the Welsh Government into this plant, we know the efforts that the workforce has put in, but it seems we have a mountain to climb in very short order. We should all be working together to make sure that we climb this mountain and we have a productive future for this plant and for the workers—there are hundreds of them within my constituency. Yn drydydd, beth a wyddom yn awr—fisoedd yn ddiweddarach—am y gwarantau a roddwyd gan Lywodraeth y DU i ffatri arall yn y DU, yn gwbl briodol, ynglŷn â’r ansicrwydd ar ôl Brexit? Beth a wyddom am hynny? Ac a ydym yn sicr fod y gwarantau hynny’n cael eu cynnig hefyd i’r gweithwyr yn Ford Pen-y-bont, gan y dylent fod yn cael eu cynnig. Dylid rhoi’r un gwarantau iddynt. Felly, os gwelwch yn dda, gwyddom am y buddsoddiad a wnaed dros lawer o flynyddoedd gan Lywodraeth Cymru yn y ffatri hon, gwyddom am yr ymdrechion a wnaed gan y gweithlu, ond ymddengys fod mynydd gennym i’w ddringo mewn byr o dro. Dylem oll fod yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau ein bod yn dringo’r mynydd hwn ac i sicrhau dyfodol cynhyrchiol ar gyfer y ffatri hon ac ar gyfer y gweithwyr—mae cannoedd ohonynt yn fy etholaeth i.
13:46 - Ken Skates
Can I thank the Member for his question and I recognise the deep concern that he has for not just his own constituents, but the constituents living in neighbouring parts of south Wales? I also know his commitment to the Ford Bridgend plant and the workforce there is unwavering. A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, a chydnabod ei bryder gwirioneddol nid yn unig am ei etholwyr ei hun, ond yr etholwyr sy’n byw mewn ardaloedd cyfagos yn ne Cymru hefyd? Gwn hefyd fod ei ymrwymiad i ffatri Ford Pen-y-bont a’i gweithlu yn ddiwyro.
Now, in terms of new technology, there is dynamic change taking place within the automotive sector at the moment and the Member identifies the fact that the Jaguar AJ engine will be ceasing production later this decade. Jaguar are not the only manufacturer looking to produce new engines and new types of engines. For that reason, it’s essential that Ford work with other motor manufacturers across Europe and around the world to identify opportunities to develop new engines together, and to bring them to Bridgend. Bridgend has had a history of being the most competitive and productive plant in Europe. We wish to see that status reinstated and I was told by the vice president of Ford today that the workforce—the plant—is on the right journey towards becoming the most competitive again and the most productive again in Europe. That enabled me to argue strongly for the case that further investment is therefore surely—surely—something that should be welcomed and should be driven to the Bridgend plant, because, as new forms of engines are required, Ford in Bridgend have a proven track record of delivering the highest quality in a timely fashion. Nawr, o ran technoleg newydd, mae newid dynamig yn digwydd yn y sector modurol ar hyn o bryd, a noda’r Aelod y ffaith y bydd Jaguar yn rhoi’r gorau i gynhyrchu’r injan AJ yn ddiweddarach yn ystod y degawd hwn. Nid Jaguar yw’r unig weithgynhyrchwr sy’n ystyried cynhyrchu injans newydd a mathau newydd o injans. Oherwydd hynny, mae’n hanfodol fod Ford yn gweithio gyda gweithgynhyrchwyr modurol eraill yn Ewrop a ledled y byd i nodi cyfleoedd i ddatblygu injans newydd gyda’i gilydd, ac i ddod â hwy i Ben-y-bont. Roedd gan Ben-y-bont hanes am fod y ffatri fwyaf cystadleuol a chynhyrchiol yn Ewrop. Rydym am weld y statws hwnnw’n dychwelyd a dywedodd is-lywydd Ford wrthyf heddiw fod y gweithlu—y ffatri—ar y llwybr iawn tuag at ddod yn ffatri fwyaf cystadleuol a mwyaf cynhyrchiol yn Ewrop unwaith eto. Fe’m galluogwyd gan hynny i ddadlau’n gryf fod buddsoddiad pellach yn sicr yn rhywbeth y dylid ei groesawu ac y dylid ei gyfeirio tuag at y ffatri ym Mhen-y-bont, oherwydd gyda’r galw am fathau newydd o injans, mae gan Ford ym Mhen-y-bont hanes profedig o ddarparu’r safon uchaf mewn modd amserol.
The Member is absolutely right that these are challenging times—there’s no doubt about it—but we do have a First Minister who has a proven track record of securing jobs that are at risk. We only need to look at the Tata crisis as an example of how he has been able to deliver on his promise of securing quality jobs for people here in Wales. Indeed, as I’ve already said, he’s done it again this week with GE. My intention is to meet with Len McCluskey later this afternoon. I’ve already spoken with Andy Richards, the general secretary of Unite Wales. I’ve also spoken with local Assembly Members today. I’ve spoken with the First Minister and with Ford’s vice president this morning. It’s my intention to bring together all partners to reinstate a team Ford ethic at Bridgend, one that will lead to further investment and new products being brought to what is an outstanding plant. Mae’r Aelod yn iawn i ddweud ein bod mewn cyfnod heriol—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny—ond mae gennym Brif Weinidog sydd â hanes profedig o ddiogelu swyddi sydd mewn perygl. Nid oes ond angen inni edrych ar argyfwng Tata fel enghraifft o’r modd y mae wedi gallu cyflawni ei addewid i sicrhau swyddi o ansawdd i bobl yma yng Nghymru. Yn wir, fel y dywedais eisoes, mae wedi gwneud hynny eto yr wythnos hon gyda GE. Rwy’n bwriadu cyfarfod â Len McCluskey yn ddiweddarach y prynhawn yma. Rwyf eisoes wedi siarad ag Andy Richards, ysgrifennydd cyffredinol Unite Cymru. Rwyf hefyd wedi siarad ag Aelodau Cynulliad lleol heddiw. Rwyf wedi siarad â’r Prif Weinidog ac is-lywydd Ford y bore yma. Rwy’n bwriadu dod â’r holl bartneriaid at ei gilydd er mwyn adfer etheg gwaith tîm Ford ym Mhen-y-bont, etheg a fydd yn arwain at ddod â rhagor o fuddsoddiad a chynhyrchion newydd i ffatri ragorol.
13:49 - Bethan Jenkins
Well, Cabinet Secretary, you may have talked to two Assembly Members, but I don’t think you’ve talked to all Assembly Members who represent the area and I think, with respect to democracy here in Wales, it would be good if you could include all Assembly Members who represent the Bridgend region as part of any future discussions. Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, efallai eich bod wedi siarad â dau o Aelodau’r Cynulliad, ond ni chredaf eich bod wedi siarad gyda phob Aelod Cynulliad sy’n cynrychioli’r ardal, a chredaf, mewn perthynas â democratiaeth yma yng Nghymru, y byddai’n dda pe gallech gynnwys pob Aelod Cynulliad sy’n cynrychioli rhanbarth Pen-y-bont ar Ogwr mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol.
Look, you may say that Ford have investment in the area and you may have warm words to say about Ford, but I have the scars from the debates around Ford closing their plant in Swansea and the ensuing Visteon pensions campaign with Ford. So, it may be nice for you to trust them, but their words may not be reflected in the actions that they take post 2021. So, I want to be assured by you, because I didn’t hear you answer Adam Price: when did you find out about these reports in the press today? Yes, they may be leaked reports, but we need to understand what discussions you had with the company to know what the level of severity was up to this point because, of course, those living in the area will be very concerned. Also, this is an anchor company, so I want to try and understand what the other companies working around Ford are feeling today—not only Ford workers, but those smaller companies. You say quite a lot about looking for new products, but what are some of those new products? Are you concerned that, with regard to Tata buying Jaguar Land Rover in 2008, lots of investment has gone to the west midlands plant, and that may be to the detriment of the production in Ford in Bridgend? So, have you looked to analyse the effect of those investments in another part of the UK and how that impacts on us? Edrychwch, efallai y byddwch yn dweud bod Ford wedi buddsoddi yn yr ardal ac efallai fod gennych eiriau caredig i’w dweud am Ford, ond gallaf ddangos fy nghreithiau ar ôl y dadleuon ynglŷn â Ford yn cau eu ffatri yn Abertawe ac ymgyrch bensiynau Visteon gyda Ford a ddilynodd hynny. Felly, efallai ei bod yn braf eich bod yn ymddiried ynddynt, ond efallai na fydd eu geiriau yn cael eu hadlewyrchu yn y camau a gymerant ar ôl 2021. Felly, hoffwn gael sicrwydd gennych, gan na’ch clywais i chi’n ateb Adam Price: pryd y daethoch i wybod am yr adroddiadau yn y wasg heddiw? Ie, efallai mai adroddiadau a ddatgelwyd yn answyddogol ydynt, ond mae angen inni wybod pa drafodaethau a gawsoch gyda’r cwmni er mwyn deall lefel y difrifoldeb a fu cyn hyn, gan y bydd y rhai sy’n byw yn yr ardal honno, wrth gwrs, yn bryderus iawn. Mae hwn hefyd yn gwmni angori, felly hoffwn geisio deall beth y mae’r cwmnïau eraill sy’n gweithio o gwmpas Ford yn ei deimlo heddiw—nid gweithwyr Ford yn unig, ond y cwmnïau llai hynny. Rydych yn sôn cryn dipyn am chwilio am gynhyrchion newydd, ond beth yw rhai o’r cynhyrchion newydd hynny? A ydych yn pryderu, mewn perthynas â Tata yn prynu Jaguar Land Rover yn 2008, fod llawer o fuddsoddiad wedi mynd i’r ffatri yng ngorllewin canolbarth Lloegr, ac y gall hynny fod yn niweidiol i gynhyrchiant ffatri Ford ym Mhen-y-bont? Felly, a ydych wedi ystyried dadansoddi effaith y buddsoddiadau mewn rhan arall o’r DU a sut y mae hynny’n effeithio arnom ni?
We talked about Tata only a few weeks ago. It would be good if we could have that industrial strategy from you as a Government so that we can put all of these tools together in one particular document and we can understand how we as Assembly Members across the Chamber can input into this in a positive way, because we have no interest in trying to make capital out of this. We have to secure those jobs in south Wales, because if Ford do not feel the pressure then, believe me, they may move those jobs elsewhere. Because they’re a multinational corporation and they are not committed to Wales as, potentially, some other Members in this Chamber may think. Buom yn trafod Tata ychydig wythnosau yn ôl. Byddai’n dda pe gallech chi fel Llywodraeth ddarparu’r strategaeth ddiwydiannol honno er mwyn inni allu dod â’r holl offerynnau hyn ynghyd mewn un ddogfen benodol a deall sut y gallwn ninnau fel Aelodau’r Cynulliad ar draws y Siambr gyfrannu at hyn mewn ffordd gadarnhaol, gan nad oes gennym unrhyw ddiddordeb mewn ceisio elwa ar hyn. Mae’n rhaid inni ddiogelu’r swyddi yn ne Cymru, oherwydd os nad yw Ford yn teimlo’r pwysau, yna credwch fi, efallai y byddant yn symud y swyddi hynny i fannau eraill. Oherwydd maent yn gorfforaeth ryngwladol, ac nid ydynt yn ymrwymedig i Gymru fel y bydd rhai Aelodau eraill yn y Siambr hon yn ei feddwl o bosibl.
13:51 - Ken Skates
I should begin by saying to the Member that other Members whom I spoke with this morning actually proactively contacted me, and that’s why I was able to share with them details of conversations that I’ve had with the key decision maker. The Member is welcome to contact me at any time if she feels strongly enough about issues in her region. Dylwn ddechrau drwy ddweud wrth yr Aelod fod Aelodau eraill y siaradais â hwy’r bore yma wedi cysylltu’n rhagweithiol â mi, a dyna pam y gallais rannu manylion gyda hwy ynglŷn â’r sgyrsiau a gefais gyda’r unigolyn sy’n gwneud y penderfyniadau allweddol. Mae croeso i’r Aelod gysylltu â mi ar unrhyw adeg os yw’n teimlo’n ddigon cryf ynglŷn â’r materion yn ei rhanbarth.
I should also say that right now is a time to build trust, not to undermine it or to destroy it, and I believe that it is through reinstating a team approach at Ford in Bridgend that we will see the plant through to a more viable future. There is no doubt that there is great anxiety at the plant, and I have stated today to Ford’s vice president my desire to seek details of the new products that are being looked at. I want to know exactly what it is that Ford in Bridgend can expect and should expect to be manufacturing in the next decade. These products, I understand, could concern electric and hybrid engines, but we need to know exactly what it is that Ford’s Bridgend plant will focus on producing in years to come. Dylwn ddweud hefyd mai yn awr yw’r amser i feithrin ymddiriedaeth, yn hytrach na’i thanseilio neu ei dinistrio, a chredaf mai drwy adfer ymagwedd tîm yn Ford Pen-y-bont y gallwn sicrhau dyfodol mwy hyfyw i’r ffatri. Nid oes unrhyw amheuaeth fod cryn bryder yn y ffatri, a dywedais wrth is-lywydd Ford heddiw am fy nyhead i gael manylion ynglŷn â’r cynhyrchion newydd sy’n cael eu hystyried. Rwy’n awyddus i wybod yn union beth y gall Ford Pen-y-bont ei ddisgwyl a beth y dylent ddisgwyl y byddant yn ei weithgynhyrchu yn y degawd nesaf. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, gallai’r cynhyrchion hyn gynnwys injans trydan a hybrid, ond mae angen inni wybod beth yn union y bydd ffatri Ford ym Mhen-y-bont yn canolbwyntio ar ei gynhyrchu dros y blynyddoedd i ddod.
In terms of the actual details that have been revealed today, they are, as I said to Adam Price, the worst-case scenario for what would happen—what would happen—hypothetically, if no new products were to be secured for the Bridgend plant. But our intention is to secure new product, is to work as part of a team with Ford, with the workforce, with the unions, and that’s the reason that I’m bringing them all together. Everybody has a shared interest in this—the unions, the workforce and Government—to make sure that Ford survives and that Ford in Bridgend thrives well into the future. O ran y manylion a ddatgelwyd heddiw, fel y dywedais wrth Adam Price, maent yn cynrychioli’r senario waethaf o ran yr hyn a fuasai’n digwydd—yr hyn a fuasai’n digwydd—yn ddamcaniaethol, pe na bai unrhyw gynhyrchion newydd yn cael eu sicrhau ar gyfer ffatri Pen-y-bont. Ond ein bwriad yw sicrhau cynnyrch newydd, gweithio’n rhan o dîm gyda Ford, gyda’r gweithlu, gyda’r undebau, a dyna pam y byddaf yn dod â hwy i gyd at ei gilydd. Mae gan bawb ddiddordeb yn hyn—yr undebau, y gweithlu a’r Llywodraeth—er mwyn sicrhau bod Ford yn goroesi a bod Ford ym Mhen-y-bont yn ffynnu ymhell i’r dyfodol.
We will work together, we will develop trust across partners, and we will work with the company, and, if that means playing tough with Ford Europe, we will do so. Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd, byddwn yn datblygu ymddiriedaeth ymysg y partneriaid, a byddwn yn gweithio gyda’r cwmni, ac os yw hynny’n golygu bod yn ddigyfaddawd gyda Ford Europe, byddwn yn gwneud hynny.
13:53 - Y Llywydd / The Llywydd
Ac, yn olaf, Suzy Davies. And, finally, Suzy Davies.
13:53 - Suzy Davies
Diolch yn fawr, Lywydd. Thank you for your replies to date, Cabinet Secretary but I’d like to try another couple past you again, as we haven’t had answers to these. [Interruption.] When did you hear first about this worst-case scenario? The MP for Bridgend confesses that she was completely blindsided by it, so I’m wondering whether you were. Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch am eich atebion hyd yma, Ysgrifennydd y Cabinet, ond hoffwn roi cynnig arall ar gwpl o gwestiynau, gan nad ydym wedi cael atebion iddynt. [Torri ar draws.] Pryd oedd y tro cyntaf i chi glywed am y senario waethaf hon? Mae’r AS dros Ben-y-bont ar Ogwr yn cyfaddef nad oedd yn gwybod unrhyw beth am hyn, felly rwy’n meddwl tybed a oeddech chi.
Can you give me an answer, a straight answer, to the question: has the First Minister attempted to change his schedule in America to meet somebody from Ford? It’s a straightforward question. That’s a ‘yes’ or a ‘no’. A allwch roi ateb i mi, ateb syml, i’r cwestiwn: a yw’r Prif Weinidog wedi ceisio newid ei amserlen yn America i gyfarfod â rhywun o Ford? Mae’n gwestiwn syml. Hynny yw, ‘do’ neu ‘naddo’.
And another couple of questions: last September, Ford did say that the cut in Dragon production would not affect the workforce, and like all of us, you included, Cabinet Secretary, and Assembly Members—and, of course, Len McCluskey himself said in his recent visit that he was asking the company to demonstrate that they were ‘working hard for product replacement’. Those were his words, and I think we share those. A chwpl o gwestiynau eraill: fis Medi diwethaf, dywedodd Ford na fyddai’r toriadau yng nghynhyrchiant Dragon yn effeithio ar y gweithlu, ac fel pob un ohonom, gan eich cynnwys chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac Aelodau’r Cynulliad—ac wrth gwrs, fe ddywedodd Len McCluskey ei hun ar ei ymweliad diweddar ei fod yn gofyn i’r cwmni ddangos eu bod yn ‘gweithio’n galed i sicrhau cynnyrch newydd’. Dyna oedd ei eiriau, a chredaf ein bod yn eu rhannu.
Today’s worst-case scenario report suggests that perhaps Ford has either failed, which means that there’s a bit of a black future facing us, or that they haven’t worked that hard yet. I heard your answer to Caroline Jones earlier on, but I wonder which of those two scenarios you think is probably the more accurate. I think it’s worrying that the company has suggested that work practices at the plant aren’t as efficient or effective as in other UK plants. That’s the first time that we’ve heard that, or at least first that I’ve heard that. Mr McCluskey said that he would ‘work hard’ with the company—I’m quoting him again—so do you agree that the kind of work that Huw Irranca-Davies was talking about earlier on should be undertaken as swiftly as possible so that Ford can never find themselves in a position where they can point to the workforce as an excuse for threatening that plant? I think my other questions have been answered, so, if you can tackle those four questions, I’d be delighted. Awgryma adroddiad heddiw ar y senario waethaf fod Ford naill ai wedi methu, sy’n golygu ein bod yn wynebu dyfodol digon tywyll, neu nad ydynt wedi bod yn gweithio mor galed â hynny eto. Clywais eich ateb cynharach i Caroline Jones, ond tybed pa un o’r ddwy senario sydd agosaf at y gwirionedd yn eich barn chi. Mae’n peri cryn bryder fod y cwmni wedi awgrymu nad yw arferion gwaith yn y ffatri mor effeithlon neu effeithiol ag yn ffatrïoedd eraill y DU. Dyna’r tro cyntaf i ni glywed hynny, neu o leiaf y tro cyntaf i mi glywed hynny. Dywedodd Mr McCluskey y byddai’n ‘gweithio’n galed’ gyda’r cwmni—rwy’n ei ddyfynnu unwaith eto—felly a ydych yn cytuno y dylid dechrau’r math o waith yr oedd Huw Irranca-Davies yn siarad amdano yn gynharach cyn gynted â phosibl fel na all Ford byth fod mewn sefyllfa lle y gallant ddefnyddio’r gweithlu fel esgus i fygwth y ffatri honno? Credaf fod fy nghwestiynau eraill wedi cael eu hateb, felly byddwn wrth fy modd pe gallech ateb y pedwar cwestiwn hwnnw.
13:55 - Ken Skates
Yes. Can I thank the Member for her questions? First of all, the Member asked whether the First Minister will be flying to Detroit to meet with Ford. As I’ve already said, I have spoken with the person who will be making the decision. More importantly, we know what I’ve been doing, we know our position: where has the Prime Minister been on this? We need a similar assurance—[Interruption.] We need a similar assurance for Ford as was given to Nissan. The First Minister has proven that he is able to stand up for Welsh industry: where is the Prime Minister? As I’ve said, I will continue to engage with the person that will make the decisions about the Bridgend plant. That person is the vice-president of Europe, that person is the person I spoke with this morning and will continue a dialogue with, and the mischief making from the Members opposite will not detract me from speaking with key decision makers in securing the future of Ford at Bridgend. Regardless of what mischief they wish to make, we prefer actions not words on this side—so, actually averting a crisis rather than promoting the idea of one. Gallaf. A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiynau? Yn gyntaf, gofynnodd yr Aelod a fydd y Prif Weinidog yn hedfan i Detroit i gyfarfod â Ford. Fel y dywedais eisoes, rwyf wedi siarad â’r unigolyn a fydd yn gwneud y penderfyniad. Yn bwysicach, gwyddom beth y bûm yn ei wneud, gwyddom beth yw’n safbwynt ni: ble mae Prif Weinidog y DU wedi bod ar hyn? Mae arnom angen sicrwydd tebyg—[Torri ar draws.] Mae arnom angen sicrwydd tebyg ar gyfer Ford ag a roddwyd i Nissan. Mae Prif Weinidog Cymru wedi dangos ei fod yn gallu sefyll dros ddiwydiant Cymru: ble mae Prif Weinidog y DU? Fel y dywedais, byddaf yn parhau i ymgysylltu â’r unigolyn a fydd yn gwneud y penderfyniadau ynglŷn â ffatri Pen-y-bont. Yr unigolyn hwnnw yw is-lywydd Ewrop, yr unigolyn hwnnw yw’r unigolyn y siaradais â hi y bore yma ac y byddaf yn parhau i gynnal deialog â hi, ac ni fydd drygioni’r Aelodau gyferbyn yn fy atal rhag siarad gyda’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau allweddol mewn perthynas â diogelu dyfodol Ford ym Mhen-y-bont. Waeth pa helynt y dymunant ei godi, mae’n well gennym weithredoedd na geiriau ar yr ochr hon—osgoi argyfwng felly yn hytrach na hybu’r syniad o argyfwng.
In terms of Ford itself—[Interruption.] In terms of Ford itself, the communications between—[Interruption.] The Members protest too much. O ran Ford eu hunain—[Torri ar draws.] O ran Ford eu hunain, mae cyfathrebu rhwng—[Torri ar draws.] Mae’r Aelodau’n protestio gormod.
13:56 - Y Llywydd / The Llywydd
The Cabinet Secretary is continuing—is finishing—his answer. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn parhau—yn gorffen—ei ateb.
13:56 - Ken Skates
I do think there is a need—[Interruption.] I do believe there is a need for Ford to better communicate to its employees, to its members, the long-term objectives for the plant. That is the reason that I’ve spoken both with the unions and with the vice-president; it’s the reason why I will be bringing them together. Because what was presented today was a worst-case scenario based on a hypothetical situation. The fact of the matter is, for the automotive sector, you have to look long term at what products are coming down the line, but there is a worst-case scenario for any manufacturer if you don’t secure new products. The key question for us, and what we are focused on, is actually securing those new products—not just talking about what opportunities there are, but holding Ford to account for their promise that they’re looking at new opportunities. They may well be looking at new opportunities; we wish to know what exactly they are and when we can expect them to be secured. Credaf fod angen—[Torri ar draws.] Credaf fod angen i Ford gyfathrebu’n well gyda’u gweithwyr, gyda’u haelodau, mewn perthynas â’r amcanion ar gyfer y ffatri yn y tymor hir. Dyna pam fy mod wedi siarad gyda’r undebau yn ogystal â’r is-lywydd; dyna pam y byddaf yn dod â hwy at ei gilydd. Oherwydd yr hyn a gyflwynwyd heddiw oedd y senario waethaf yn seiliedig ar sefyllfa ddamcaniaethol. Y ffaith amdani, ar gyfer y sector modurol, yw bod yn rhaid i chi edrych yn hirdymor ar ba gynhyrchion a ddaw yn y dyfodol, ond mae yna senario waethaf yn bodoli ar gyfer unrhyw weithgynhyrchwr os nad ydych yn sicrhau cynhyrchion newydd. Y cwestiwn allweddol ar ein cyfer ni, a’r hyn yr ydym yn canolbwyntio arno, yw sicrhau’r cynhyrchion newydd hynny—nid siarad yn unig am ba gyfleoedd sydd ar gael, ond dwyn Ford i gyfrif o ran eu haddewid eu bod yn edrych ar gyfleoedd newydd. Efallai’n wir eu bod yn edrych ar gyfleoedd newydd; hoffem wybod beth yn union yw’r cyfleodd hynny a phryd y gallwn ddisgwyl iddynt gael eu sicrhau.
13:57 - Y Llywydd / The Llywydd
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Thank you, Cabinet Secretary.
1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith 1. Questions to the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg. [R] signifies the Member has declared an interest. [W] signifies that the question was tabled in Welsh.
13:57 - Y Llywydd / The Llywydd
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. A’r cwestiwn cyntaf, Dai Lloyd. The next item on our agenda is questions to the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure. The first question is from Dai Lloyd.
Datblygu Gwasanaethau Bysiau Developing Bus Services
13:57 - Dai Lloyd
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ei gynlluniau ar gyfer datblygu gwasanaethau bysiau? OAQ(5)0124(EI) 1. Will the Cabinet Secretary make a statement on his plans for developing bus services? OAQ(5)0124(EI)
13:57 - Ken Skates
Yes. I refer the Member to the oral statement I delivered yesterday and, again, thank the Member for his warm welcome of it. Gwnaf. Cyfeiriaf yr Aelod at y datganiad llafar a roddais ddoe, ac unwaith eto, hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei groeso cynnes iddo.
13:58 - Dai Lloyd
Diolch yn fawr am yr ateb yna. Yn amlwg, ie, cawsom ni’r datganiad ar ôl i fi roi’r cwestiwn yma i mewn, yn natur pethau. Ond hefyd, yn eich datganiad ysgrifenedig yn ôl yn yr hydref, roeddech chi wedi datgan eich bod chi’n mynd i gynnal trafodaethau gyda chynghorau Caerdydd a Chasnewydd ynglŷn â’r manteision o redeg cwmnïau bysus lleol drwy’r sector gyhoeddus. A allaf i ofyn, felly, beth—? [Torri ar draws.] Thank you very much for that response. Clearly, we received the statement after I’d tabled the question; it’s the nature of things. But, in your written statement back in the autumn, you’d said that you were going to hold discussions with Newport and Cardiff councils on the benefits of running local bus companies through the public sector. Can I ask you—? [Interruption.]
13:58 - Y Llywydd / The Llywydd
Iawn. Gelli di gario ymlaen nawr, Dai. Right. You can carry on now.
13:58 - Dai Lloyd
Cario ymlaen neu ailadrodd? Should I carry on or start again?
13:58 - Y Llywydd / The Llywydd
Ailadrodd, Dai. Yes, if you could repeat what you said.
13:58 - Dai Lloyd
Ailadrodd? Ie. Datganiad ysgrifenedig yn ôl yn yr hydref—roeddech chi’n sôn am waith efo cynghorau Caerdydd a Chasnewydd ynglŷn â manteision rhedeg cwmnïau bysus lleol drwy’r sector gyhoeddus. Byddwch chi’n cofio hynny. A allaf i ofyn beth ydy ffrwyth y trafodaethau yna, ac a ydych chi wedi dechrau trafod gydag awdurdodau eraill, megis Abertawe, er enghraifft, y posibilrwydd o greu system debyg i’r rheini sydd yn digwydd yng Nghaerdydd a Chasnewydd? Okay. In a written statement back in the autumn you mentioned work with Cardiff and Newport councils on the benefits of running local bus companies through the public sector. You will recall that, I’m sure. Can I ask you what the outcomes of those discussions were, and have you started to hold discussions with other authorities, such as Swansea, for example, on the possibility of creating a similar system to those in Cardiff and Newport?
13:58 - Ken Skates
Again, I’d like to thank the Member for his keen interest in this subject area. I spoke with both Newport and Cardiff to gather best practice from both, with a view of sharing that with Swansea and with other local authorities. A number of work streams were created as a consequence of the bus summit in Wrexham, one of which looks at how we can create a more sustainable network and ensure that the right form of support is driven into local authorities, and, indeed, to operators, so that they could become more secure for the future. We’re also looking at the franchising potential and also the possibility of more municipal services being created across Wales. This is an area of work that I feel particularly excited about and I think we have a golden opportunity to create a far better bus network for Wales. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei ddiddordeb brwd yn y maes hwn. Siaradais gyda Chasnewydd a Chaerdydd i gasglu’r arferion gorau ganddynt, gyda’r bwriad o’u rhannu gydag Abertawe ac awdurdodau lleol eraill. Crëwyd nifer o ffrydiau gwaith o ganlyniad i’r uwchgynhadledd ar fysiau yn Wrecsam, ac mae un yn edrych ar sut y gallwn greu rhwydwaith mwy cynaliadwy a sicrhau bod y gefnogaeth gywir yn cael ei rhoi i awdurdodau lleol, ac yn wir, i’r gweithredwyr, er mwyn eu diogelu’n well ar gyfer y dyfodol. Rydym yn edrych hefyd ar botensial masnachfraint yn ogystal â’r posibilrwydd o greu mwy o wasanaethau trefol ledled Cymru. Mae hwn yn faes gwaith y teimlaf yn arbennig o gyffrous yn ei gylch a chredaf fod gennym gyfle gwerthfawr i greu rhwydwaith bysiau llawer gwell i Gymru.
13:59 - Russell George
Cabinet Secretary, there is a degree of apprehension, I think, within parts of the bus industry at the potential for the introduction of top-down regulation following the devolution of various pieces of legislation to Wales. Will you give a general overview of how you see the future regulation of the bus industry and also give an assurance that any new regulation will be only introduced after consultation with and in partnership with operators, the industry representatives and, indeed, local authorities? Ysgrifennydd y Cabinet, credaf fod rhywfaint o bryder mewn rhannau o’r diwydiant bysiau mewn perthynas â’r posibilrwydd o gyflwyno rheoleiddio o’r brig i lawr yn sgil datganoli sawl darn o ddeddfwriaeth i Gymru. A wnewch chi roi trosolwg cyffredinol o sut y bydd y diwydiant bysiau’n cael ei reoleiddio yn y dyfodol yn eich barn chi a rhoi sicrwydd hefyd na fydd unrhyw reoliadau newydd ond yn cael eu cyflwyno ar ôl ymgynghori ac mewn partneriaeth â’r gweithredwyr, cynrychiolwyr y diwydiant, ac yn wir, yr awdurdodau lleol?
14:00 - Ken Skates
Can I thank Russell George for his questions and say that work with the industry, with passenger groups and, indeed, with local authorities will continue? There is clearly apprehension about the prospect of new regulation and stronger regulation being introduced, but we will be revealing our intentions and our overall vision in the document that is going out to public consultation on March 8. It’s our view that change is required in order to better integrate bus and rail services and to improve accessibility and punctuality of services. With those changes there will be challenge, but at the end of the day, we have to consider the passengers first and foremost and I have confidence in the best of operators doing that. A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau, a dweud y bydd gwaith gyda’r diwydiant, gyda grwpiau teithwyr, ac yn wir, gydag awdurdodau lleol yn parhau? Mae’n amlwg fod pryder ynghylch y posibilrwydd o gyflwyno rheoliadau newydd a rheoliadau cryfach, ond byddwn yn datgelu ein bwriadau a’n gweledigaeth gyffredinol yn y ddogfen a ddaw’n destun ymgynghoriad cyhoeddus ar Fawrth 8. Ein safbwynt yw bod angen newid er mwyn integreiddio gwasanaethau bysiau a threnau’n well ac er mwyn gwella hygyrchedd a phrydlondeb y gwasanaethau. Daw heriau gyda’r newidiadau hynny, ond yn y pen draw, mae’n rhaid i ni ystyried y teithwyr yn gyntaf oll ac mae gennyf hyder y bydd y gweithredwyr gorau yn gwneud hynny.
14:01 - Gareth Bennett
Thanks, Minister, for your statement yesterday on improving the bus services. I was interested in your plans to improve the bus stop experience, particularly by providing more electronic information. This could be variable due to geographical factors. For instance, in the south Wales Valleys, the stops tend to be relatively smaller with a lack of shelters, plus there is also the issue of the variability of broadband. So, I wondered what your plans were to improve the bus stop experience in the Valleys. Diolch, Weinidog, am eich datganiad ddoe ar wella’r gwasanaethau bysiau. Roedd gennyf ddiddordeb yn eich cynlluniau i wella’r profiad mewn safleoedd bysiau, yn enwedig drwy ddarparu mwy o wybodaeth electronig. Gall hynny amrywio o ganlyniad i ffactorau daearyddol. Er enghraifft, yng Nghymoedd de Cymru, mae’r safleoedd bysiau yn tueddu i fod yn llai o gymharu gyda phrinder llochesi, a hefyd mae’r band eang yn amrywio. Felly, tybed beth yw eich cynlluniau i wella’r profiad mewn safleoedd bysiau yn y Cymoedd.
14:01 - Ken Skates
Can I thank the Member for his question? This is a very important point, because what bus users have regularly told us is that the lack of decent modern facilities, bus stops in particular, is a deterrent to them actually taking public transport. I mentioned a moment ago that a number of work streams were created as a consequence of the bus summit, and another one of those work streams actually focuses specifically on immediate improvements that can be brought to bus stations, in particular the provision of live transport information. A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn? Mae hwn yn bwynt pwysig iawn, gan fod defnyddwyr bysiau wedi dweud wrthym dro ar ôl tro fod diffyg cyfleusterau modern addas, yn enwedig safleoedd bysiau, yn eu rhwystro rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Soniais funud yn ôl fod nifer o ffrydiau gwaith wedi cael eu creu o ganlyniad i’r uwchgynhadledd ar fysiau, ac mae un arall o’r ffrydiau gwaith hynny’n canolbwyntio’n benodol ar welliannau y gellir eu gwneud ar unwaith i safleoedd bysiau, yn enwedig o ran darparu gwybodaeth fyw am drafnidiaeth.
We do not believe, given the roll-out of Superfast Cymru and the availability of other forms of digital technology, that live information could not be provided at all bus stops, regardless of how rural they are. There are various solutions that can be deployed. We are confident that they can be. One of the challenges that we have, though, is that—as I outlined yesterday in the statement—we have been seeking to establish voluntary quality partnerships between local authorities and bus operators for some time. One of the difficulties that we’ve faced is in actually getting the commitment from the local authorities and the operators to invest in their respective infrastructure. For that reason, we’ve got the work stream looking at what support is required to get the investment that is needed into bus stops right across Wales. O ystyried bod Cyflymu Cymru yn cael ei gyflwyno ac o ystyried argaeledd mathau eraill o dechnoleg ddigidol, nid ydym yn cytuno na ellid darparu gwybodaeth fyw yn yr holl safleoedd bysiau, ni waeth pa mor wledig ydynt. Gellir defnyddio amryw o atebion. Rydym yn hyderus y gellir eu defnyddio. Un o’r heriau sy’n ein hwynebu, fodd bynnag, yw ein bod—fel yr amlinellais ddoe yn y datganiad—wedi bod yn ceisio sefydlu partneriaethau gwirfoddol o ansawdd rhwng awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau ers peth amser. Un o’r anawsterau a wynebwyd gennym yw sicrhau ymrwymiad gan yr awdurdodau lleol a’r gweithredwyr i fuddsoddi yn eu seilweithiau. Oherwydd hynny, mae’r ffrwd waith yn edrych ar ba gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn sicrhau’r buddsoddiad angenrheidiol mewn safleoedd bysiau ledled Cymru.
Hyrwyddo Sir Benfro fel Cyrchfan Dwristiaeth Promoting Pembrokeshire as a Tourism Destination
14:03 - Paul Davies
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo Sir Benfro fel cyrchfan dwristiaeth? OAQ(5)0128(EI) 2. Will the Cabinet Secretary make a statement on what the Welsh Government is doing to promote Pembrokeshire as a tourism destination? OAQ(5)0128(EI)
14:03 - Ken Skates
Yes. Pembrokeshire is a vital part of Wales’s overall tourism offering. Our marketing activities feature tourism attractions and products in Pembrokeshire, alongside all the other parts of Wales. Gwnaf. Mae Sir Benfro yn rhan hanfodol o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig o ran twristiaeth yn gyffredinol. Mae ein gweithgareddau marchnata yn cynnwys atyniadau a chynnyrch twristiaeth yn Sir Benfro, ochr yn ochr â phob rhan arall o Gymru.
14:03 - Paul Davies
Cabinet Secretary, as you’re no doubt aware, the city of St David’s, the smallest city in Britain, is developing a bid for the UK city of culture in 2021, which, if successful, would significantly promote Pembrokeshire as a tourism destination. Given that this year is the Year of Legends, which obviously is aimed at enriching and promoting culture in Wales, what support can the Welsh Government offer to the city of St David’s to help it strengthen its bid for the UK city of culture? Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae Tyddewi, dinas leiaf Prydain, yn datblygu cais i fod yn ddinas diwylliant y DU yn 2021, a byddai hynny, pe bai’r cais yn llwyddiannus, yn gwneud llawer i hyrwyddo Sir Benfro fel cyrchfan twristiaeth. O gofio mai eleni yw Blwyddyn y Chwedlau, gyda’r bwriad o gyfoethogi a hyrwyddo diwylliant yng Nghymru, pa gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei rhoi i Dyddewi i’w helpu i gryfhau ei chais i fod yn ddinas diwylliant y DU?
14:04 - Ken Skates
Can I thank Paul Davies for his question and tell him that Pembrokeshire is actually the destination of my regular summer holidays? I believe it’s one of the prettiest and one of the most attractive parts not just of Wales but of Europe. The Pembrokeshire destination partnership, I’m pleased to say, has been able to secure significant resource this year as part of a south-west Wales Year of Legends campaign that brings together various local authorities to celebrate the legends across the region. A gaf fi ddiolch i Paul Davies am ei gwestiwn a dweud wrtho mewn gwirionedd fy mod yn treulio bob gwyliau haf yn Sir Benfro? Credaf ei bod yn un o’r ardaloedd harddaf a mwyaf deniadol, nid yn unig yng Nghymru ond yn Ewrop. Rwy’n falch o ddweud bod partneriaeth cyrchfan Sir Benfro wedi llwyddo i sicrhau adnoddau sylweddol eleni fel rhan o ymgyrch Blwyddyn y Chwedlau de-orllewin Cymru, sy’n dod â gwahanol awdurdodau lleol ynghyd i ddathlu’r chwedlau ar draws y rhanbarth.
I also believe that next year provides a golden opportunity to Pembrokeshire, the Year of the Sea. I can envisage a number of spectacular events and new products being funded by the Government through the tourism investment support scheme and through other financial measures. Credaf hefyd y bydd y flwyddyn nesaf, Blwyddyn y Môr, yn gyfle gwerthfawr i Sir Benfro. Gallaf ragweld nifer o ddigwyddiadau ysblennydd a chynhyrchion newydd yn cael eu hariannu gan y Llywodraeth drwy’r cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth a thrwy fesurau ariannol eraill.
I’m very aware that St David’s is looking at bidding for city of culture status. This would be a magnificent coup if they could secure it. I am also aware that Swansea is investigating a possible bid as well. I will be meeting with the respective organisers in the coming weeks. Although I cannot say at this moment that I am able to prefer one bid over another, I can say that if there is a bid that is taken forward by one and not the other, it would have the support of the Welsh Government. Rwy’n ymwybodol iawn fod Tyddewi yn ystyried gwneud cais am statws dinas diwylliant. Byddai hon yn gamp wych pe gallent ei chyflawni. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod Abertawe yn ystyried gwneud cais. Byddaf yn cyfarfod â threfnwyr y ddwy ddinas dros yr wythnosau nesaf. Er na allaf ddweud ar hyn o bryd a wyf yn ffafrio’r naill gynnig dros y llall, pe bai cais yn cael ei gyflwyno gan un ohonynt ac nid y llall, gallaf ddweud y byddai’n cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Questions Without Notice from Party Spokespeople
14:05 - Y Llywydd / The Llywydd
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies. Questions now from the party spokespeople. The Welsh Conservatives spokesperson, Suzy Davies.
14:05 - Suzy Davies
Diolch yn fawr, Lywydd. Neatly dealt with there, I have to say, Cabinet Secretary. I wonder whether you could give us an indication about when we might expect a full response to the report on Historic Wales. I’m hoping you can do that today, just to give us an idea. Diolch yn fawr, Lywydd. Fe wnaethoch ddelio â hynny’n daclus iawn, mae’n rhaid i mi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet. Tybed a allech roi syniad i ni pryd y gallwn ddisgwyl ymateb llawn i’r adroddiad Cymru Hanesyddol. Gobeithiaf y gallwch wneud hynny heddiw, er mwyn rhoi rhyw fath o syniad i ni.
Until then, I’m also mindful of the fact that your predecessors, despite my coaxing on a number of occasions to think otherwise, also always maintained that Cadw was better placed within Government. You clearly have other ideas, which I’m pleased to see, but I wouldn’t believe that you haven’t proceeded to commission the Historic Wales report without giving at least some early consideration to what extracting Cadw from Government might look like. What details can you give you of the preparatory scoping that you’ve done about taking Cadw out of Government? How have you overcome the arguments of your predecessors? Do you have any sort of indicative figures—I appreciate that this is difficult—so that we can get a general sense of costings, notwithstanding, of course, that you’ve yet to make a final decision? Thank you. Tan hynny, rwyf hefyd yn ymwybodol o’r ffaith fod eich rhagflaenwyr, er gwaethaf fy ymdrechion ar sawl achlysur i’w hudo i feddwl fel arall, wedi mynnu bob amser ei bod hi’n well i Cadw barhau’n rhan o’r Llywodraeth. Yn amlwg, mae gennych syniadau eraill, ac rwy’n falch o weld hynny, ond ni chredaf y byddech wedi comisiynu adroddiad Cymru Hanesyddol heb roi o leiaf rywfaint o ystyriaeth gynnar i’r sefyllfa pe bai Cadw’n annibynnol ar y Llywodraeth. Pa fanylion y gallwch eu rhoi ynglŷn â’ch gwaith cwmpasu paratoadol mewn perthynas â gwneud Cadw’n annibynnol ar y Llywodraeth? Sut y llwyddasoch i oresgyn dadleuon eich rhagflaenwyr? A oes gennych ffigurau dangosol o unrhyw fath—rwy’n sylweddoli fod hyn yn anodd—er mwyn inni gael syniad cyffredinol o’r costau, er nad ydych, wrth gwrs, wedi gwneud y penderfyniad terfynol eto? Diolch.
14:06 - Ken Skates
Can I thank Suzy Davies for her questions? I’ve received the steering group’s report on Historic Wales. It is an excellent report. I’m currently considering it and I’ll respond formally in the coming weeks. I am also awaiting formal responses from the respective organisations and institutions that the paper concerns. A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau? Rwyf wedi derbyn adroddiad Cymru Hanesyddol y grŵp llywio. Mae’n adroddiad ardderchog. Rwy’n ei ystyried ar hyn o bryd a byddaf yn ymateb yn ffurfiol yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwyf hefyd yn aros am ymatebion ffurfiol gan y sefydliadau y mae’r papur yn ymwneud â hwy.
With regard specifically to Cadw, I will give that recommendation particular attention. Cadw has performed exceptionally well in the past 12 months whilst being in Government, and I want to ensure that that success continues. One of the reasons that Cadw has experienced such a remarkable increase in the number of visitors and members, and, indeed, in the amount of income generated, is because of the personnel within the organisation having the freedom and flexibility to operate as commercially as they wish. I wish to make sure that, whether Cadw stays in Government or goes out of Government, it has the right people—the right, if you like, imagineers—who are leading the organisation in order to draw in more visitors. O ran Cadw, byddaf yn rhoi sylw arbennig i’r argymhelliad hwnnw. Mae Cadw wedi perfformio’n eithriadol o dda fel rhan o’r Llywodraeth dros y 12 mis diwethaf, ac rwyf am sicrhau bod y llwyddiant hwnnw’n parhau. Un o’r rhesymau pam fod Cadw wedi gweld cynnydd mor nodedig o ran nifer yr ymwelwyr ac aelodau, ac yn wir, o ran swm yr incwm a gynhyrchwyd, yw am fod rhyddid a hyblygrwydd gan y personél yn y sefydliad i weithredu mor fasnachol ag y dymunant. Pa un a yw Cadw’n aros yn rhan o’r Llywodraeth ai peidio, hoffwn sicrhau bod y bobl iawn yno—y bobl iawn, sy’n llawn dychymyg, os mynnwch—i arwain y sefydliad er mwyn denu mwy o ymwelwyr.
14:07 - Suzy Davies
Thank you very much for that answer. I just want to move on now to something else that we’re waiting on a little bit, which is the small museum review, which reported in August 2015. It was received very well by the sector, and, despite the six-month delay in the Government responding to the recommendations, they’re eager to see progress. Diolch yn fawr am eich ateb. Rwyf am symud ymlaen yn awr at rywbeth arall yr ydym wedi bod yn aros peth amser amdano, sef yr adolygiad o amgueddfeydd bychain, a gyflwynodd adroddiad ym mis Awst 2015. Cafodd ei groesawu gan y sector, ac er i’r Llywodraeth oedi am chwe mis cyn ymateb i’r argymhellion, maent yn awyddus i weld cynnydd.
However, I’ve been told that some of the recommendations are not being delivered upon, at least not at pace. I’d be grateful if you could give us some indication of how your department monitors and scrutinises, actually, your partners, which would include local authorities, to ensure that those good ideas do translate into good practice. Fodd bynnag, dywedwyd wrthyf nad yw rhai o’r argymhellion yn cael eu cyflawni, nid ag unrhyw frys o leiaf. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi rhyw syniad inni ynglŷn â sut y mae eich adran yn monitro a chraffu ar eich partneriaid mewn gwirionedd, gan gynnwys awdurdodau lleol, er mwyn sicrhau bod y syniadau da hynny’n trosi’n arferion da.
14:08 - Ken Skates
I believe that Members should have received an update on the expert panel review, the recommendations and how we are taking this work forward just prior to Christmas. We accepted almost all of the recommendations. The one recommendation that I had reservations about was the creation of a new museums council that potentially could compete with or could tread on the toes of existing organisations. So, it’s my view that before setting up any new organisations or groups, we should first examine whether those that currently exist actually exist to the best of their ability. If not, then are there changes that are required to those organisations? Rwy’n credu y dylai’r Aelodau fod wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf ychydig cyn y Nadolig ynglŷn ag adolygiad y panel o arbenigwyr, yr argymhellion a sut rydym yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn. Derbyniwyd y rhan fwyaf o’r argymhellion gennym. Yr un argymhelliad yr oedd gennyf amheuon yn ei gylch oedd creu cyngor amgueddfeydd newydd a allai gystadlu â sefydliadau presennol neu sathru ar eu sodlau. Felly yn fy marn i, cyn sefydlu unrhyw sefydliadau neu grwpiau newydd, dylem archwilio yn gyntaf a yw’r rhai presennol yn cyflawni hyd eithaf eu gallu. Os nad ydynt, a oes angen gwneud newidiadau i’r sefydliadau hynny?
There are other recommendations that we had actually enacted before the review had emerged. One, for example, was my desire to see local museums being able to access the sort of funding that local libraries were able to access for the purpose of transforming them into lifelong community hubs. I changed the criteria on that fund and increased the amount of money available so that local museums could benefit from it. Mewn gwirionedd, roeddem wedi rhoi rhai o’r argymhellion eraill ar waith cyn i’r adolygiad gael ei gyhoeddi. Un ohonynt, er enghraifft, oedd fy nyhead i amgueddfeydd lleol allu cael mynediad at yr un math o gyllid â llyfrgelloedd lleol, er mwyn eu trawsnewid yn ganolfannau cymunedol gydol oes. Newidiais y meini prawf ar gyfer y gronfa honno a chynyddu’r swm o arian a oedd ar gael er mwyn i amgueddfeydd lleol allu elwa ar hynny.
The expert panel report identified this as a transformation fund, and it truly is a transformation fund, but I didn’t wish to wait until the report was responded to and then actioned on before making sure that that valuable resource that could keep local museums alive was made available and, indeed, drawn down. I think the figures are very promising at the moment—there is great interest by local museums. Insofar as the other recommendations are concerned, we are implementing them, but I must stress again that that one recommendation that I have reservations about is based on my belief that we currently have the right institutions, organisations and groups that can represent the museum sector. Fe’i gelwir gan adroddiad y panel o arbenigwyr yn gronfa drawsnewid, ac mae’n wir ei bod yn gronfa drawsnewid, ond nid oeddwn yn awyddus i aros am ymateb i’r adroddiad ac i gamau gweithredu gael eu cymryd ar yr adroddiad cyn sicrhau bod yr adnodd gwerthfawr hwnnw, a allai gadw’r amgueddfeydd lleol yn fyw, ar gael ac yn cael ei ddefnyddio. Credaf fod y ffigurau’n addawol iawn ar hyn o bryd—mae amgueddfeydd lleol wedi dangos cryn ddiddordeb. O ran yr argymhellion eraill, rydym yn eu rhoi ar waith, ond mae’n rhaid i mi bwysleisio unwaith eto fy mod yn gyndyn i dderbyn yr un argymhelliad hwnnw gan fy mod o’r farn fod gennym y sefydliadau a’r grwpiau cywir ar hyn o bryd i gynrychioli’r sector amgueddfeydd.
14:10 - Suzy Davies
Thank you very much for that answer. I’ll certainly feed it back to the sector, if they haven’t already picked it up from this. I just want to move on to something a bit different now, and it’s the fact that Wales is a country of small businesses, many of which will be partnerships rather than companies, and so operating on income tax rather than corporation tax rules. I’m just wondering what kind of discussions you might have had with the finance Secretary about whether—‘whether’ is a genuine question as well—and how income tax-varying powers might be used to encourage the private sector—the kind of private sector we have—to invest in arts and heritage. Diolch yn fawr eich ateb. Byddaf yn sicr yn ei gyfleu i’r sector, os nad ydynt eisoes wedi’i gael drwy hyn. Rwyf am symud ymlaen at rywbeth ychydig yn wahanol yn awr, sef y ffaith fod Cymru’n wlad o fusnesau bach, gyda llawer ohonynt yn bartneriaethau yn hytrach na chwmnïau, sy’n golygu eu bod yn gweithredu yn unol â rheolau treth incwm yn hytrach na’r dreth gorfforaeth. Tybed pa fath o drafodaethau a gawsoch gyda’r ysgrifennydd Cyllid ynglŷn ag a ellid—ac mae ‘a ellid’ yn gwestiwn dilys hefyd—a sut y gellid defnyddio pwerau amrywio treth incwm i annog y sector preifat—y math o sector preifat sydd gennym—i fuddsoddi yn y celfyddydau a threftadaeth.
14:10 - Ken Skates
I’d be very interested to examine any forms of philanthropy or tax breaks that could enable giving to the cultural and sports sector. I think it’s important that we do look at broadening the availability of resource, and encourage more people—not just individuals, but businesses as well as charitable organisations—to ensure that the culture sector is thriving. I will gladly look at any possible scheme that would see more resource diverted into libraries, museums and arts centres. I think the Members makes a very good point, and I will raise with it the finance Minister. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn archwilio unrhyw fath o haelioni neu ostyngiad treth a allai alluogi rhoi i’r sector diwylliant a chwaraeon. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar gynyddu argaeledd adnoddau, ac yn annog mwy o bobl—nid unigolion yn unig, ond busnesau yn ogystal â sefydliadau elusennol—i sicrhau bod y sector diwylliant yn ffynnu. Rwy’n fwy na pharod i edrych ar unrhyw gynllun a fyddai’n arwain at fwy o adnoddau i lyfrgelloedd, amgueddfeydd a chanolfannau’r celfyddydau. Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt da iawn, a byddaf yn ei ddwyn i sylw’r Gweinidog Cyllid.
14:11 - Y Llywydd / The Llywydd
Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price. Plaid Cymru spokesperson, Adam Price.
14:11 - Adam Price
I’d like to return, if I may, to the issue of inward investment and the role that it should play in our wider economic strategy. Assembly Members will be interested to know that in the last few minutes the First Minister has told the BBC that a trip to Detroit would be pointless, and given the gravity of the situation many observers would be forced to conclude that he’s a pretty pointless First Minister. Hoffwn ddychwelyd, os caf, at fewnfuddsoddiad a’r rôl y dylai ei chwarae yn ein strategaeth economaidd ehangach. Bydd diddordeb gan Aelodau’r Cynulliad mewn gwybod bod y Prif Weinidog, yn yr ychydig funudau diwethaf, wedi dweud wrth y BBC y byddai taith i Detroit yn ddibwynt, ac o ystyried difrifoldeb y sefyllfa, byddai’n rhaid i lawer o sylwebwyr ddod i’r casgliad ei fod yntau’n Brif Weinidog eithaf dibwynt.
I would like to ask the Cabinet Secretary, as he prepares to unveil his new economic strategy, how important he thinks inward investment should be to the Welsh economy going forward, given the fact that there are fewer large-scale inward investment projects than in the past, and we’re not successful at winning them. We didn’t win Jaguar Land Rover, where the engines from Bridgend will be now made. Six years ago, we didn’t win Boeing. There was a headline in the ‘Western Mail’ that celebrated Wales coming second. It sounded like some of the post-match interviews we’ve heard recently. Can the Cabinet Secretary confirm whether or not the Welsh Government offered, as I’ve heard, up to £50 million to Boeing to come to Wales? And can he also confirm that one of the reasons that Boeing decided not to was because of their concerns about the adequacy and the quality of the local skills base? Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, wrth iddo baratoi i ddatgelu ei strategaeth economaidd newydd, pa mor bwysig y dylai mewnfuddsoddi fod i economi Cymru wrth symud ymlaen yn ei farn ef o ystyried bod yna lai o brosiectau mewnfuddsoddi mawr nag yn y gorffennol, ac nad ydym yn llwyddo i’w hennill. Ni lwyddasom i ennill Jaguar Land Rover a fydd yn gwneud yr injans o Ben-y-bont o hyn ymlaen. Chwe blynedd yn ôl, ni lwyddasom i ennill Boeing. Roedd pennawd yn y ‘Western Mail’ yn dathlu’r ffaith fod Cymru wedi dod yn ail. Roedd yn swnio fel rhai o’r cyfweliadau a glywsom yn ddiweddar ar ôl gêmau. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig hyd at £50 miliwn i Boeing ddod i Gymru, fel y clywais? A all gadarnhau hefyd mai un o’r rhesymau y penderfynodd Boeing beidio â dod oedd am eu bod yn pryderu ynglŷn â digonolrwydd ac ansawdd y sylfaen sgiliau leol?
14:13 - Ken Skates
I think the Member lets himself down with such cheap pot shots at the First Minister that do nothing to offer security to those workers. But, actually, what the First Minister has said in the past few minutes confirms that I have been speaking to the right person—the person that will make the decision about Ford. In terms of FDI projects, there’s been a 77 per cent increase in the number of projects and an 84 per cent increase in the number of jobs from companies that are headquartered elsewhere in the UK coming to Wales. We do have a very proud record of attracting investment to Wales, as shown by Aston Martin. As we leave the European Union, it will become more important that we work with businesses and investors in England, and that’s why I believe that exports—not just abroad, but also exports across the border to England, Scotland and Ireland—will become essential. I do think that we have to have the right balance between attracting inward investment and ensuring that we have more Welsh-based businesses and indigenous companies exporting outside of Wales. For that reason, we’ve been very clear that as we exit the European Union, we must have tariff-free and unfettered access to the single market. I am pleased—it has taken some time—but I am pleased that the UK Government is now talking of a free and frictionless relationship. I think this recognises that the Welsh Government has been right throughout to call for unfettered access that doesn’t have any tariff or technical barriers that prevent companies in Wales from exporting. But I do think, as a whole, exports will become more important to Wales’s economic growth and prosperity. Credaf fod yr Aelod yn iselhau ei hun gyda’i sylwadau dirmygus am y Prif Weinidog nad ydynt yn gwneud unrhyw beth i roi sicrwydd i’r gweithwyr hynny. Ond mewn gwirionedd, mae’r hyn y mae’r Prif Weinidog wedi’i ddweud yn yr ychydig funudau diwethaf yn cadarnhau fy mod wedi bod yn siarad â’r unigolyn cywir—yr un a fydd yn gwneud y penderfyniad ynglŷn â Ford. O ran prosiectau buddsoddi uniongyrchol o dramor, mae cynnydd o 77 y cant wedi bod yn nifer y prosiectau a chynnydd o 84 y cant yn nifer y swyddi gyda chwmnïau sydd â’u pencadlysoedd mewn rhannau eraill o’r DU yn dod i Gymru. Mae gennym hanes balch iawn o ddenu buddsoddiad i Gymru, fel y dengys Aston Martin. Wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd yn fwyfwy pwysig inni weithio gyda busnesau a buddsoddwyr yn Lloegr, a dyna pam y credaf y bydd allforion—nid dramor yn unig, ond hefyd allforion dros y ffin i Loegr, yr Alban ac Iwerddon—yn dod yn hanfodol. Credaf fod yn rhaid inni sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng denu mewnfuddsoddiad a sicrhau bod mwy o gwmnïau cynhenid a busnesau yng Nghymru yn allforio y tu hwnt i Gymru. Oherwydd hynny, rydym wedi bod yn glir iawn fod yn rhaid inni sicrhau mynediad dilyffethair a di-dariff at y farchnad sengl wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy’n falch iawn—mae wedi cymryd peth amser—ond rwy’n falch iawn fod Llywodraeth y DU yn siarad bellach am berthynas ddilyffethair a diffrithiant. Credaf fod hynny’n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn iawn o’r cychwyn cyntaf i alw am fynediad dilyffethair heb unrhyw dariff na rhwystrau technegol sy’n atal cwmnïau yng Nghymru rhag allforio. Ond ar y cyfan, credaf y bydd allforion yn dod yn fwy pwysig i dwf a ffyniant economaidd Cymru.
14:15 - Adam Price
As a nation, of course, we will always have limited resources—indeed, scarcity, of course, is one of the fundamental principles within economics—so we need to be absolutely clear that we’re investing those scarce resources in the right areas, where they’re going to have the greatest impact. Can I invite the Cabinet Secretary, as he devises and refines his economic strategy, to look at the research project conducted by a team at Cardiff Metropolitan University, including Professors Brian Morgan, Gerry Holtham and Rob Huggins, who have looked across the world at the different variables that are associated with economic success? There were some surprising results—or maybe not so surprising—which actually showed that one of the most important variables is the level of expenditure on education. Indeed, as Professor Holtham has said in the last few weeks, rather than actually raiding the education budget, as we’ve done in recent years to actually inflate our conventional economic development budget, maybe we should be doing it in the opposite direction, and responding, for example, to the call from the Organisation for Economic Co-operation and Development in its report, published yesterday, for sustained investment in education—schools, further education and universities—because that is one of the most reliable determinants of future economic success. Fel cenedl, wrth gwrs, bydd ein hadnoddau bob amser yn gyfyngedig—yn wir, mae prinder, wrth gwrs, yn un o egwyddorion sylfaenol economeg—felly mae angen inni fod yn hollol glir ein bod yn buddsoddi’r adnoddau prin hynny yn y mannau cywir lle y cânt yr effaith fwyaf. A gaf fi wahodd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth iddo ddyfeisio a mireinio ei strategaeth economaidd, i edrych ar y prosiect ymchwil a gynhaliwyd gan dîm ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, sy’n cynnwys yr Athrawon Brian Morgan, Gerry Holtham a Rob Huggins, ac sydd wedi edrych ar y gwahanol newidion sy’n gysylltiedig â llwyddiant economaidd ledled y byd? Roedd rhai canlyniadau’n peri syndod—neu ddim gymaint â hynny o syndod, efallai—ac yn dangos mai un o’r newidion pwysicaf yw lefel y gwariant ar addysg. Yn wir, fel y dywedodd yr Athro Holtham yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn hytrach nag ysbeilio’r gyllideb addysg, fel y gwnaethom dros y blynyddoedd diwethaf, er mwyn cynyddu ein cyllideb ddatblygu economaidd gonfensiynol mewn gwirionedd, efallai y dylem fod yn gwneud i’r gwrthwyneb, gan ymateb, er enghraifft, i’r alwad yn adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a gyhoeddwyd ddoe, am fuddsoddiad parhaus mewn addysg—ysgolion, addysg bellach a phrifysgolion—gan mai dyna un o’r penderfynyddion mwyaf dibynadwy mewn perthynas â llwyddiant economaidd yn y dyfodol.
14:16 - Ken Skates
I think the Member is right, and I’d also add that there is great importance that’s attached to early years education as well, and I think it’s absolutely essential that children get the best possible start in life, and for that reason I think it’s also right that we have a very ambitious childcare pledge and that we continue to invest in early education. What we’ve been able to ascertain from all of the available data is that in terms of the gross value added gap between Wales and the rest of the UK, the vast majority of that gap can be determined by productivity deficits, and the difference in productivity, in turn, is largely owing to factors such as skills gaps. It’s essential, therefore, that we invest in the right area of skills training to make sure that every individual looking to get into the workplace is equipped with the right type of skills. I think it’s also essential that we don’t just educate and skill people generally, but that we actually equip people with those skills that are aligned with their intrinsic interests and with their intrinsic abilities, so that they can secure a long career in the workplace of their choice. Credaf fod yr Aelod yn gywir, a hoffwn ychwanegu bod addysg y blynyddoedd cynnar yn hynod o bwysig hefyd, a chredaf ei bod yn gwbl hanfodol fod plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, ac oherwydd hynny credaf ei bod hefyd yn iawn fod gennym addewid gofal plant uchelgeisiol iawn, a’n bod yn parhau i fuddsoddi mewn addysg gynnar. O’r holl ddata sydd ar gael, rydym wedi gallu canfod, o ran y bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU mewn perthynas â gwerth ychwanegol gros, mai diffyg cynhyrchiant sy’n gyfrifol am y rhan helaeth o’r bwlch hwnnw, a bod y gwahaniaeth mewn cynhyrchiant yn ei dro yn deillio i raddau helaeth o ffactorau megis bylchau sgiliau. Mae’n hanfodol, felly, ein bod yn buddsoddi mewn hyfforddiant sgiliau yn y meysydd iawn er mwyn sicrhau bod pob unigolyn sy’n awyddus i gychwyn yn y gweithle yn meddu ar sgiliau o’r math cywir. Credaf hefyd fod yn rhaid inni wneud mwy nag addysgu pobl yn gyffredinol a rhoi sgiliau cyffredinol iddynt, ond ein bod yn arfogi pobl â’r sgiliau sy’n gydnaws â’u diddordebau a’u galluoedd cynhenid, fel y gallant sicrhau gyrfa hir mewn gweithle o’u dewis.
14:17 - Adam Price
The other variable identified as part of this study of global economic competitiveness is the level of business innovation—research and development. Over a year ago, his predecessor commissioned a second-stage report on creating a dedicated national innovation body for Wales, to drive up our level of R&D, both in the private sector and in higher education. Can he report on some progress on the establishment of that body, and can he also respond to some information that I’ve had that suggests that the full-time director of innovation, which was there leading the Welsh Government’s efforts in this area, and former director of the Confederation of British Industry, has been moved out of that post into a post as director of sport, and we don’t, any more, have a full-time director of innovation, which surely has to be concerning, given its importance to our economic strategy? And finally, an innovation that we are looking forward to in the Heads of the Valleys: the Circuit of Wales programme—can he confirm that it is his intention, provided all the information is provided in time to him, to make an announcement before purdah? Surely the people of Blaenau Gwent deserve to know that before the May elections. Y newidyn arall a nodwyd yn rhan o’r astudiaeth hon o gystadleurwydd economaidd byd-eang yw lefel arloesedd busnes—ymchwil a datblygu. Dros flwyddyn yn ôl, comisiynodd ei ragflaenydd adroddiad ail gam ar greu corff arloesi cenedlaethol penodol i Gymru, i godi lefel ein hymchwil a datblygu, yn y sector preifat ac mewn addysg uwch. A all roi rhywfaint o wybodaeth ynglŷn â’r cynnydd mewn perthynas â sefydlu’r corff hwnnw, a hefyd, a all ymateb i wybodaeth a gefais sy’n awgrymu bod y cyfarwyddwr arloesi amser llawn a fu’n arwain ymdrechion Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, cyn-gyfarwyddwyr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, wedi cael ei symud o’r swydd honno i swydd fel cyfarwyddwr chwaraeon, ac nad oes cyfarwyddwr arloesi amser llawn gennym bellach, sy’n sicr yn achos pryder o ystyried ei bwysigrwydd i’n strategaeth economaidd? Ac yn olaf, arloesedd yr ydym yn edrych ymlaen ato ym Mlaenau’r Cymoedd: rhaglen Cylchffordd Cymru—a all gadarnhau ei fod, cyn belled â bod yr holl wybodaeth yn cael ei darparu iddo mewn pryd, yn bwriadu gwneud cyhoeddiad cyn dechrau purdah? ‘Does bosibl nad yw pobl Blaenau Gwent yn haeddu gwybod hynny cyn etholiadau mis Mai.
14:19 - Ken Skates
In terms of innovation, Innovation Point and other organisations or other initiatives have been able to drive the amount of innovation and enterprise in Wales to new highs. That said, we do need to catch up with many parts of the UK: of that, there is no doubt. But between 1995 and 2015, the average annual increase in real terms, by businesses investing in enterprise research and development, was 5 per cent per year, in contrast to the UK average of just 2 per cent. So, the growth has been greater in Wales, but we still need to see further investment from business, and, indeed, from Government, but it’s absolutely essential that we recognise the challenge that exiting the European Union could have in this regard. It’s also the reason why I’ve been quite clear that we should expect in Wales a considerable proportion of the £2 billion that the Secretary of State for business and enterprise has announced for research and development across the UK. O ran arloesi, mae’r Arloesfa a chyrff neu fentrau eraill wedi gallu sbarduno arloesedd a menter yng Nghymru i gyrraedd uchelfannau newydd. Wedi dweud hynny, mae angen inni ddal i fyny â sawl rhan o’r DU: nid oes amheuaeth am hynny. Ond rhwng 1995 a 2015, roedd y cynnydd blynyddol cyfartalog mewn termau real gan fusnesau’n buddsoddi mewn ymchwil a datblygu mentrau, yn 5 y cant y flwyddyn, mewn cyferbyniad â chyfartaledd y DU o 2 y cant yn unig. Felly, mae mwy o dwf wedi bod yng Nghymru, ond mae angen inni sicrhau rhagor o fuddsoddiad o’r byd busnes, ac yn wir, gan y Llywodraeth, ond mae’n gwbl hanfodol ein bod yn cydnabod yr her y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd ei chreu yn hyn o beth. Dyna pam y bûm yn eithaf clir hefyd y dylem ni yng Nghymru ddisgwyl cyfran sylweddol o’r £2 biliwn y mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros fusnes a menter wedi’i gyhoeddi ar gyfer ymchwil a datblygu ledled y DU.
In terms of the head of innovation within Welsh Government, as far as I’m aware, one of the most impressive academics in this area takes responsibility for innovation and I have every confidence in that official in leading a dedicated and effective team that will drive further resource into research and development, not just in the private sector but across the academic field, and also focus minds, focus attention within Government on what works best to drive enterprise within the Welsh economy. O ran y pennaeth arloesi yn Llywodraeth Cymru, hyd y gwn i, mae un o’r academyddion mwyaf nodedig yn y maes hwn yn gyfrifol am arloesi ac mae gennyf ffydd y bydd y swyddog hwnnw’n arwain tîm ymroddgar ac effeithiol a fydd yn sicrhau rhagor o adnoddau ar gyfer ymchwil a datblygu, nid yn unig yn y sector preifat, ond ar draws y maes academaidd, ac yn sicrhau bod sylw’r Llywodraeth yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n gweithio orau i sbarduno menter o fewn economi Cymru.
In terms of the Circuit of Wales, I said back in January that I believed that the people of Ebbw Vale deserved a decision on this project as soon as possible. That’s why I tasked the developers with bringing forward a firm and formal proposal within the time that I allocated them. They brought that back. I then subsequently said that we would begin a process of due diligence, which would last between four and six weeks from the point of receiving the information. It’s still my hope that it will take just four to six weeks once we have received all of the information, and if a decision can be made within the time that leads us to purdah, then surely a decision before that time should be made. But this is very much at the moment in the hands of the developers. We do need the information in order to begin the process of due diligence so that a decision can be made before purdah if it’s going to be made then. O ran Cylchffordd Cymru, dywedais ym mis Ionawr fy mod yn credu bod pobl Glynebwy yn haeddu penderfyniad ar y prosiect hwn cyn gynted â phosibl. Dyna pam y gofynnais i’r datblygwyr gyflwyno cynnig cadarn a ffurfiol o fewn yr amser a roddais iddynt. Daethant â chynnig yn ôl. Dywedais wedi hynny y byddem yn dechrau proses o ddiwydrwydd dyladwy, a fyddai’n para rhwng pedair a chwe wythnos wedi’r adeg y daeth y wybodaeth i law. Rwy’n dal i obeithio na fydd ond yn para rhwng pedair a chwe wythnos wedi i’r holl wybodaeth ddod i law, ac os gellir gwneud penderfyniad yn yr amser cyn dechrau purdah, yna yn sicr dylid gwneud hynny. Ond mae hyn yn nwylo’r datblygwyr ar hyn o bryd. Mae angen y wybodaeth arnom er mwyn dechrau’r broses o ddiwydrwydd dyladwy fel bod modd gwneud penderfyniad cyn dechrau purdah os yw’n mynd i gael ei wneud bryd hynny.
14:22 - Y Llywydd / The Llywydd
Llefarydd UKIP, David Rowlands. UKIP spokesperson, David Rowlands.
14:22 - David J. Rowlands
Diolch, Lywydd. Cabinet Secretary, this morning the Economy and Infrastructure Committee considered the strategy of the Welsh Government’s proposal to deliver the borders franchise and the metro project. We note that the Welsh Government has adopted the integrated contract approach, meaning, of course, that the rail franchisee—whoever that might be—and the chosen infrastructure company will have to work very closely together. Could the Cabinet Secretary indicate if he is aware of any discussions between those bidding for the franchise and those engaged in the tender process for the infrastructure to establish some compatibility? Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, y bore yma, bu’r Pwyllgor Economi a Seilwaith yn ystyried strategaeth cynnig Llywodraeth Cymru i gyflenwi masnachfraint y gororau a’r prosiect metro. Nodwn fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull contract integredig, sy’n golygu, wrth gwrs, y bydd yn rhaid i ddeiliad masnachfraint y rheilffyrdd—pwy bynnag y bo—gydweithio’n agos iawn â’r cwmni seilwaith a ddewisir. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud a yw’n ymwybodol o unrhyw drafodaethau rhwng y rhai sy’n ymgeisio am y fasnachfraint a’r rhai sy’n cymryd rhan yn y broses dendro ar gyfer y seilwaith er mwyn sefydlu rhywfaint o gydweddoldeb?
14:22 - Ken Skates
We’re encouraging all of the bidders to engage as widely as possible with current stakeholders and potential stakeholders in the future to ensure that investment in the new franchise and in the metro is maximised and that that investment is channelled in the right way to make sure that services are as efficient and as modern as possible. Rydym yn annog pob un o’r ymgeiswyr i ymgysylltu cymaint â phosibl gyda’r rhanddeiliaid presennol a rhanddeiliaid posibl yn y dyfodol i sicrhau’r buddsoddiad mwyaf posibl yn y fasnachfraint newydd ac yn y metro, a bod y buddsoddiad yn cael ei sianelu yn y ffordd iawn er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau mor effeithlon ac mor fodern â phosibl.
14:23 - David J. Rowlands
Does the Cabinet Secretary not agree with me that it is vital that the two parties have an effective working relationship if the whole project is to be delivered on time and on budget? Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod cael perthynas waith effeithiol rhwng y ddau barti yn hanfodol er mwyn cyflenwi’r prosiect ar amser ac o fewn y gyllideb?
14:23 - Ken Skates
Yes, I would agree with the Member. That is absolutely essential. We wish to see a strong relationship developed between those who are responsible for the tracks and those who are responsible for the vehicles that run along them. I think what the Secretary of State for Transport recently announced about bringing together in some form Network Rail and rail operators is very interesting. Of course, what we’re proposing in Wales, to some extent, is similar, but instead of privatising the entire system, we will actually be bringing it closer to public ownership. Ydw, rwy’n cytuno â’r Aelod. Mae hynny’n gwbl hanfodol. Dymunwn weld perthynas gref yn cael ei datblygu rhwng y rhai sy’n gyfrifol am y traciau a’r rhai sy’n gyfrifol am y cerbydau sy’n rhedeg arnynt. Credaf fod yr hyn a gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn ddiweddar ynglŷn â dod â Network Rail a gweithredwyr rheilffyrdd at ei gilydd mewn rhyw ffordd yn ddiddorol iawn. Wrth gwrs, mae’r hyn a argymhellir gennym yng Nghymru yn debyg i raddau, ond yn hytrach na phreifateiddio’r holl system, byddwn yn dod â hi’n nes, mewn gwirionedd, at berchnogaeth gyhoeddus.
Adleoli Swyddi’r Adran Gwaith a Phensiynau The Relocation of DWP Jobs
14:24 - Julie Morgan
3. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynghylch adleoli swyddi'r Adran Gwaith a Phensiynau ledled Cymru? OAQ(5)0136(EI) 3. What discussions has the Cabinet Secretary had about the relocation of DWP jobs throughout Wales? OAQ(5)0136(EI)
14:24 - Julie James
I have written to the UK Government expressing concern at the lack of prior consultation from the UK Government regarding the Department for Work and Pensions’s estate rationalisation, and confirming our commitment to work with the UK Government to seek alternative offices. Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn mynegi fy mhryderon ynglŷn â’r diffyg ymgynghori ymlaen llaw gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â gwaith rhesymoli ystadau’r Adran Gwaith a Phensiynau, ac yn cadarnhau ein hymrwymiad i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddod o hyd i swyddfeydd eraill.
14:24 - Julie Morgan
I thank the Minister for that response. I am extremely concerned about the plans for 1,000 DWP jobs leaving different parts of Wales and being concentrated in or near to Cardiff North. Could the Minister tell the Chamber what the plans are for the DWP jobs that are currently based in Cardiff North and what she can do to bring home to the Ministers in Westminster the folly of concentrating everything in or near Cardiff and moving jobs from areas where every job counts? Diolch i’r Gweinidog am ei hymateb. Rwy’n bryderus iawn ynglŷn â’r cynlluniau i symud 1,000 o swyddi’r Adran Gwaith a Phensiynau o wahanol rannau o Gymru a’u crynhoi yng Ngogledd Caerdydd neu’r cyffiniau. A all y Gweinidog ddweud wrth y Siambr beth yw’r cynlluniau ar gyfer swyddi’r Adran Gwaith a Phensiynau sydd wedi’u lleoli yng Ngogledd Caerdydd ar hyn o bryd, a beth y gall ei wneud i argyhoeddi Gweinidogion yn San Steffan ynglŷn â ffolineb lleoli popeth yng Nghaerdydd neu’r cyffiniau a symud swyddi o ardaloedd lle y mae pob swydd yn cyfrif?
14:24 - Julie James
Well, the Department for Work and Pensions, of course, is stating constantly that there should be no job losses for staff resulting from the future review of the estate, and they are currently recruiting more work coaches. There is a consultation process ongoing at the offices and we know that that consultation also looks at options for relocation. Wel, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud yn gyson na ddylai unrhyw staff golli swyddi o ganlyniad i adolygu’r ystad ar gyfer y dyfodol, ac ar hyn o bryd maent yn recriwtio mwy o hyfforddwyr gwaith. Mae proses ymgynghori barhaus ar y gweill yn y swyddfeydd a gwyddom fod yr ymgynghoriad hwnnw yn edrych hefyd ar opsiynau ar gyfer adleoli.
However, we are very concerned at what the proposals might bring. A lot of the redeployment opportunities in Cardiff North or Pembroke Dock, for example, seem to be illogical and impractical. They threaten to leave staff and communities much worse off and we are urging the UK Government to think again and to work with us to make sure that staff are relocated, if necessary, to the best places to continue the serve the communities that they live and work within. Fodd bynnag, rydym yn bryderus iawn ynglŷn â beth a allai ddeillio o’r cynigion. Mae llawer o’r cyfleoedd adleoli yng Ngogledd Caerdydd neu yn Noc Penfro, er enghraifft, yn ymddangos yn afresymegol ac yn anymarferol. Maent yn bygwth gadael staff a chymunedau yn waeth eu byd o lawer, ac rydym yn annog Llywodraeth y DU i ailfeddwl ac i weithio gyda ni i sicrhau bod staff yn cael eu hadleoli, os oes angen, yn y lleoedd gorau er mwyn iddynt allu parhau i wasanaethu’r cymunedau y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt.
14:25 - Simon Thomas
I’m particularly concerned, of course, in my region at the proposal in Llanelli, which will take out a significant number of workers from the town centre who really need support. But there are wider questions around the way that this process has been undertaken by the UK Government, and I’d like to raise two issues with the Government that I think impact on devolved aspects as well. I was pleased to meet with Public and Commercial Services Union representatives today and I think other Assembly Members have also. They raised with me these two important things: one is that no equality assessment has been done of the impact on the workforce of these moves. For example, a lot of the workers in Llanelli are female, are older, have caring responsibilities and certainly can’t go to Pembroke Dock and would find it difficult to travel by public transport even to Swansea or Cardiff. I think that needs to be taken into account, and I’d like the Welsh Government to urge the UK Government to take a proper equalities assessment, including the workforce and the Welsh language. Rwy’n arbennig o bryderus, wrth gwrs, ynglŷn â’r cynnig yn fy rhanbarth i yn Llanelli, a fydd yn mynd â nifer sylweddol o weithwyr o ganol y dref sydd angen cymorth o ddifrif. Ond mae yna gwestiynau ehangach ynglŷn â’r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi cyflawni’r broses hon, a hoffwn ddwyn dau fater i sylw’r Llywodraeth, materion y credaf eu bod yn effeithio ar agweddau datganoledig yn ogystal. Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â chynrychiolwyr Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol heddiw, a chredaf fod Aelodau Cynulliad eraill wedi gwneud hynny hefyd. Daethant â dau beth pwysig i fy sylw: yn gyntaf, na wnaed unrhyw asesiad cydraddoldeb o effaith y symudiadau hyn ar y gweithlu. Er enghraifft, mae llawer o’r gweithwyr yn Llanelli yn fenywod, yn hŷn, a chyfrifoldebau gofalu ganddynt ac yn sicr ni allant fynd i Ddoc Penfro a byddent yn ei chael hi’n anodd teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus i Abertawe neu Gaerdydd hyd yn oed. Credaf y dylid ystyried hynny, a hoffwn pe bai Llywodraeth Cymru yn annog Llywodraeth y DU i gynnal asesiad cydraddoldeb priodol, gan gynnwys y gweithlu a’r iaith Gymraeg.
The second thing, which the Minister has just mentioned, is co-location. The question is that co-location may take place with devolved public authorities in Wales—are they suitable co-location places? In particular, I’m thinking of the kind of clientele who needs a safe and secure place to be dealt with in a confidential manner. Yr ail beth, sydd newydd ei grybwyll gan y Gweinidog, yw cyd-leoli. Y cwestiwn yw y gall cyd-leoli ddigwydd gydag awdurdodau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru—a ydynt yn lleoedd addas ar gyfer cyd-leoli? Yn benodol, rwy’n meddwl am y math o gwsmeriaid sydd angen lle diogel a saff i allu ymdrin â hwy mewn modd cyfrinachol.
14:27 - Julie James
The Member makes two very good points. I’m more than happy to write again on the equality point. I would just like to reiterate that it isn’t devolved to us, obviously; we have sought to make sure that the DWP is aware that we’re happy to work with them on co-location—correct co-location—with many of the Welsh Government services as well as other non-devolved services. I’m happy to do that publicly again; I’ve already written to that effect. Mae’r Aelod yn gwneud dau bwynt da iawn. Rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu eto ynglŷn â mater cydraddoldeb. Hoffwn ailadrodd nad yw wedi’i ddatganoli i ni, yn amlwg; rydym wedi ceisio sicrhau bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ymwybodol ein bod yn hapus i weithio gyda hwy ar gyd-leoli—cyd-leoli cywir—gyda llawer o wasanaethau Llywodraeth Cymru yn ogystal â gwasanaethau eraill nad ydynt wedi’u datganoli. Rwy’n fwy na pharod i wneud hynny’n gyhoeddus eto; rwyf eisoes wedi ysgrifennu parthed hynny.
We stand ready, of course, if people do find themselves made redundant, to assist with our ReAct programmes and all of the other programmes, as we always do, to help affected staff. But I share the Member’s concern and the concern of Julie Morgan that these proposals are driven by estate management and not by community-focused opportunities. The UK Government has a wider duty to the people of Wales than just to manage its estate in a property-efficient way, and to take into account the wider implications of its investment decisions in its estate on the communities of Wales. We have urged them to do that and I’m very happy to do so again. Os yw pobl yn cael eu diswyddo, rydym yn barod, wrth gwrs, i’w cynorthwyo gyda’n rhaglenni ReAct a’r holl raglenni eraill, fel yr ydym yn ei wneud bob amser, er mwyn helpu staff yr effeithir arnynt. Ond rwy’n rhannu pryder yr Aelod a phryder Julie Morgan fod y cynigion hyn yn cael eu llywio gan waith rheoli ystadau yn hytrach na chyfleoedd sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Mae gan Lywodraeth y DU ddyletswydd ehangach i bobl Cymru na rheoli ei hystad mewn ffordd effeithlon o safbwynt eiddo, a dylai ystyried goblygiadau ehangach ei phenderfyniadau buddsoddi yn ei hystad ar gymunedau Cymru. Rydym wedi eu hannog i wneud hynny ac rwy’n fwy na pharod i wneud hynny eto.
14:28 - Lee Waters
Minister, the MP for Llanelli, Nia Griffith, and I recently held a packed public meeting in Llanelli with the affected workers—an overwhelming majority of which were women—where there was strong support for the idea of co-locating with other public services in the town. To be fair to Carmarthenshire County Council, they’ve done everything they can to make options available to discuss with the DWP. Workers themselves emphasise that they estimate that they spend at least £0.5 million a year in the town centre in the local economy, which would be a devastating blow were that to be lost. Weinidog, gyda’r AS dros Lanelli, Nia Griffith, cynhaliais gyfarfod cyhoeddus gorlawn yn ddiweddar â’r gweithwyr yr effeithir arnynt yn Llanelli—gyda’r mwyafrif llethol ohonynt yn fenywod—ac roedd cryn gefnogaeth yno i’r syniad o gyd-leoli â gwasanaethau cyhoeddus eraill yn y dref. A bod yn deg â Chyngor Sir Caerfyrddin, maent wedi gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod opsiynau ar gael i’w trafod gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’r gweithwyr eu hunain yn pwysleisio eu bod yn amcangyfrif eu bod yn gwario o leiaf £0.5 miliwn y flwyddyn yn yr economi leol yng nghanol y dref, a byddai’n gryn ergyd pe collid hynny.
This week, Nia Griffith had a letter from Damian Hinds, the Minister for employment in the UK Government, who said that they have more estate capacity than is needed, and they’re therefore not in a position to discuss renting space from Carmarthenshire County Council. At the same time, he said that this was still subject to consultation, but it does seem that the UK Government have made up their minds. Would the Minister urge the First Minister to get in touch with the Prime Minister about this, because it is she who said that, post Brexit, the Government is committed to spreading wealth across the UK and this move would fly in the face of that? Yr wythnos hon, cafodd Nia Griffith lythyr gan Damian Hinds, Gweinidog cyflogaeth Llywodraeth y DU, a ddywedodd fod ganddynt fwy o gapasiti yn yr ystad nag sydd ei angen, ac nad ydynt mewn sefyllfa felly i ystyried rhentu gofod gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Ar yr un pryd, dywedodd fod hyn yn dal i fod yn destun ymgynghoriad, ond ymddengys bod Llywodraeth y DU wedi gwneud eu penderfyniad. A wnaiff y Gweinidog annog y Prif Weinidog i gysylltu â Phrif Weinidog y DU ynglŷn â hyn, gan mai hi yw’r un a ddywedodd fod y Llywodraeth wedi ymrwymo i ledaenu cyfoeth i bob rhan o’r DU ar ôl Brexit, a byddai hyn yn mynd yn groes i hynny?
14:29 - Julie James
Yes, I’m very happy to approach the FM to do that. I’m happy to write again myself as well to make those points again. I do think they’re very important points. As Members will know in this Chamber, we are developing our employability plan. Many of the functions of an employability plan coincide with the functions of the DWP, and we have been talking to them about co-location of services. It need not necessarily involve a rental situation; there are other ways of doing this. Gwnaf, rwy’n fwy na pharod i ofyn i’r Prif Weinidog wneud hynny. Rwy’n hapus i ysgrifennu i wneud y pwyntiau hyn fy hun eto. Credaf eu bod yn bwyntiau pwysig iawn. Fel y gŵyr yr Aelodau yn y Siambr hon, rydym yn datblygu ein cynllun cyflogadwyedd. Mae llawer o swyddogaethau’r cynllun cyflogadwyedd yn cyd-daro â swyddogaethau’r Adran Gwaith a Phensiynau, ac rydym wedi bod yn siarad â hwy ynglŷn â chyd-leoli gwasanaethau. Nid yw hynny o reidrwydd yn golygu rhentu; mae yna ffyrdd eraill o wneud hyn.
We are very anxious that those are constructive conversations that are based on the need for services in a particular area and not on the need for a particular estate strategy. I think it’s very short-sighted indeed to plan services very badly needed in communities around an estates policy, and not around a community and public service focus. And I’m very happy to make those points again, and I will do so in due course. Rydym yn awyddus iawn i’r sgyrsiau hynny fod yn adeiladol ac yn seiliedig ar yr angen am wasanaethau mewn ardal benodol, yn hytrach na’r angen am strategaeth ystadau benodol. Credaf y byddai’n annoeth iawn cynllunio gwasanaethau y mae cymaint o’u hangen ar gymunedau ar sail polisi ystadau yn hytrach nag ar sail ffocws ar gymuned a gwasanaeth cyhoeddus. Ac rwy’n hapus iawn i wneud y pwyntiau hynny eto, a byddaf yn gwneud hynny maes o law.
Lleihau Tlodi Reducing Poverty
14:30 - Mark Reckless
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y bydd yn mesur llwyddiant o ran lleihau tlodi? OAQ(5)0131(EI) 4. Will the Cabinet Secretary make a statement on how he will measure success in reducing poverty? OAQ(5)0131(EI)
14:30 - Ken Skates
We monitor progress across a range of indicators, including the relative income measure of poverty, and indicators for employment, for education, skills, and also for health. These reflect the cross-cutting nature of our approach to prosperity for all. Rydym yn monitro cynnydd ar draws ystod o ddangosyddion, gan gynnwys y mesur incwm cymharol ar gyfer tlodi, a dangosyddion ar gyfer cyflogaeth, addysg, sgiliau ac iechyd. Mae’r rhain yn adlewyrchu natur drawsbynciol ein hymagwedd tuag at sicrhau ffyniant i bawb.
14:30 - Mark Reckless
In principle, I support the Cabinet Secretary leading in this area, and using economic development and improving infrastructure to reduce poverty. However, the shift in policy and the abolition of Communities First has caused concern on his own benches. Is he sure the new approach will support the poorest in our society? Mewn egwyddor, rwy’n cefnogi arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet yn y maes hwn, yn ogystal â defnyddio datblygu economaidd a gwella seilwaith er mwyn lleihau tlodi. Fodd bynnag, mae’r newid polisi a chael gwared ar Cymunedau yn Gyntaf wedi achosi pryder ar ei feinciau ei hun. A yw’n sicr y bydd y dull newydd o weithredu yn cynorthwyo’r bobl dlotaf yn ein cymdeithas?
14:31 - Ken Skates
Yes, I am. It’s proven that the best way to prevent people from falling into poverty, and the best way to assist people in getting out of poverty, is through securing them quality, sustainable work. And, for that reason, I think it is important that I lead on the prosperity for all agenda. That said, there are a number of factors that can affect individuals who are not in work, or who have experienced significant periods of their life out of work. And, for that reason, I’m working with Cabinet colleagues in health, in communities, in finance, in education, to ensure that we address those challenges together, and that, as part of four cross-cutting strategies that we are developing, the Government remains focused on ensuring that we leave nobody behind in our attempt to create maximum employment. Ydw. Profwyd mai’r ffordd orau o atal pobl rhag tlodi, a’r ffordd orau o gynorthwyo pobl i godi allan o dlodi, yw sicrhau gwaith cynaliadwy o ansawdd ar eu cyfer. Ac oherwydd hynny, credaf ei bod yn bwysig fy mod yn arwain yr agenda ffyniant i bawb. Wedi dweud hynny, mae sawl ffactor a allai effeithio ar unigolion nad ydynt mewn gwaith, neu sydd wedi treulio cyfnodau sylweddol o’u bywydau allan o waith. Ac am y rheswm hwnnw, rwy’n gweithio gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet ym maes iechyd, cymunedau, cyllid ac addysg i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r heriau hynny gyda’n gilydd, ac fel rhan o bedair strategaeth drawsbynciol yr ydym yn eu datblygu, mae’r Llywodraeth yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau nad ydym yn anghofio neb yn ein hymgais i sicrhau cymaint o gyflogaeth â phosibl.
14:31 - Vikki Howells
Cabinet Secretary, for my question today I’d like to ask you about how you will assess the role of the foundational economy in reducing poverty. For example, do you agree that jobs created in the foundational sector could mark one measure of success in reducing poverty? In addition, will you join with me in congratulating Welsh Hills Bakery, in my constituency, for their success in winning the overseas trade award in the Welsh Business Awards? Ysgrifennydd y Cabinet, yn fy nghwestiwn heddiw, hoffwn eich holi sut y byddwch yn asesu rôl yr economi sylfaenol yn y gwaith o leihau tlodi. Er enghraifft, a ydych yn cytuno y gallai swyddi a grëwyd yn y sector sylfaenol fod yn un ffordd o fesur llwyddiant o ran lleihau tlodi? Yn ogystal â hyn, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Welsh Hills Bakery yn fy etholaeth am eu llwyddiant yn ennill y wobr am fasnachu tramor yng Ngwobrau Busnes Cymru?
14:32 - Ken Skates
I’d very much like to congratulate the company in my colleague’s constituency. Welsh Hills Bakery is a remarkable success story. I believe I visited the company back in the autumn of last year, for their sixtieth anniversary celebrations. Hoffwn yn fawr longyfarch y cwmni yn etholaeth fy nghyd-Aelod. Mae Welsh Hills Bakery yn enghraifft o lwyddiant rhyfeddol. Credaf i mi ymweld â’r cwmni yn yr hydref y llynedd, ar gyfer dathlu eu trigeinmlwyddiant.
And I do believe that the foundation economy will play an increasingly important role in offering all individuals accessibility to the workplace, and indeed opportunities to acquire skills that will enable them to progress through to better careers that are well paid. The foundation economy, of course, can benefit all communities, right across Wales, and for that reason I’m looking very closely at it as part of the wider, broader, prosperous and secure strategy for Wales. A chredaf y bydd yr economi sylfaenol yn chwarae rhan fwyfwy pwysig yn cynnig mynediad i bawb at waith, yn ogystal â chyfleoedd i gaffael sgiliau a fydd yn eu galluogi i gamu ymlaen i yrfaoedd a chyflogau gwell. Wrth gwrs, gall yr economi sylfaenol fod o fudd i’r holl gymunedau ledled Cymru, ac oherwydd hynny rwy’n edrych yn ofalus iawn arni fel rhan o’r strategaeth ffyniannus a diogel ehangach ar gyfer Cymru.
14:33 - Mohammad Asghar
Cabinet Secretary, helping people into employment is a key measure of success in reducing poverty. I very much welcome, therefore, the Welsh Government u-turn on scrapping the youth bus discount scheme. Will the Cabinet Secretary confirm that any new scheme has the necessary support to ensure that it is a long-term success, so that our young people, particularly from our deprived communities in south-east Wales, can access training, job opportunities or further education? Thank you. Ysgrifennydd y Cabinet, mae helpu pobl i gael gwaith yn fesur allweddol o lwyddiant i leihau tlodi. Croesawaf dro pedol Llywodraeth Cymru, felly, ar gael gwared ar y cynllun teithio rhatach ar fysiau i bobl ifanc. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd unrhyw gynllun newydd yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i sicrhau ei fod yn llwyddiant hirdymor, fel bod modd i’n pobl ifanc, yn enwedig yn ein cymunedau difreintiedig yn ne-ddwyrain Cymru, gael mynediad at hyfforddiant, cyfleoedd gwaith neu addysg bellach? Diolch.
14:33 - Ken Skates
Can I thank the Member for his question, and say that, in spite of the longest period of severe austerity that our country has faced—and which the Member and his party have been cheerleaders of—we have actually reduced the poverty rate in Wales by 2 per cent since 1998-99? In terms of the mytravelpass scheme, I was pleased to be able to extend that whilst we consult on what I intend to be a broader and better scheme for young people. A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, a dweud, er gwaethaf y cyfnod hiraf o galedi difrifol a wynebwyd gan ein gwlad—caledi a gefnogwyd gan yr Aelod a’i blaid—ein bod wedi sicrhau gostyngiad o 2 y cant yn y gyfradd tlodi yng Nghymru ers 1998-99 mewn gwirionedd? O ran y cynllun fyngherdynteithio, roeddwn yn falch o allu ei ymestyn wrth i ni ymgynghori ar yr hyn y bwriadaf iddo fod yn gynllun ehangach a gwell ar gyfer pobl ifanc.
I think we have to do all we can to remove the barriers that exist, preventing people from accessing work and training opportunities. Some of those barriers include the acquisition or the lack of availability of skills training, the lack of affordable and accessible childcare, and the lack of reliable and affordable public transport. In terms of how we are dealing with these barriers, the mytravelpass is very important for young people, and, through implementing a broader and better scheme, I hope to create a better offer. In terms of childcare, we are developing the most generous childcare offer anywhere in the United Kingdom. And in terms of giving people better opportunities to acquire the skills that they need to get a life in work, we are rolling out, not just an employability plan, but a very ambitious all-age apprenticeship scheme that will provide at least 100,000 opportunities to the people of Wales. Credaf fod yn rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i gael gwared ar rwystrau sy’n atal pobl rhag cael mynediad at gyfleoedd gwaith a hyfforddiant. Mae rhai o’r rhwystrau hynny’n cynnwys problemau gyda chael gafael ar hyfforddiant sgiliau neu ddiffyg argaeledd hyfforddiant sgiliau, diffyg gofal plant fforddiadwy a hygyrch, a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy a fforddiadwy. Mewn perthynas â sut yr awn i’r afael â’r rhwystrau hyn, mae fyngherdynteithio yn bwysig iawn i bobl ifanc, a thrwy roi cynllun ehangach a gwell ar waith, rwy’n gobeithio creu gwell cynnig. O ran gofal plant, rydym yn datblygu’r cynnig gofal plant mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig. Ac o ran rhoi gwell cyfleoedd i bobl gaffael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael bywyd gwaith, yn ogystal â chynllun cyflogadwyedd, rydym hefyd yn cyflwyno cynllun prentisiaeth uchelgeisiol iawn ar gyfer pob oedran, a fydd yn darparu o leiaf 100,000 o gyfleoedd i bobl Cymru.
Dinas Ranbarth Bae Abertawe The Swansea Bay City Region
14:35 - Suzy Davies
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerodd Llywodraeth Cymru i gynyddu cynhyrchiant economaidd yn ninas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0129(EI) 5. Will the Cabinet Secretary provide an update on action taken by the Welsh Government to increase economic productivity in the Swansea Bay City Region? OAQ(5)0129(EI)
14:35 - Ken Skates
We are working with local partners to support business growth, to improve infrastructure, and to create a more attractive economic environment across the region. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid lleol i hybu twf busnes, gwella seilwaith, a chreu amgylchedd economaidd mwy deniadol ar draws y rhanbarth.
14:35 - Suzy Davies
Thank you very much for that answer, and obviously, locally, we appreciate your support for the Swansea bay city region deal. While attracting large employers to a region is important for jobs and the economy, 99 per cent of our businesses are small and medium-sized enterprises, and 75 per cent are actually microbusinesses, as you already know, which means that small businesses do play a very important part locally, particularly in the supply chain. The UK Government challenge to the current board identified the need for greater private sector involvement in the city deal bid, and I’m wondering are you and the Cabinet Secretary for local government willing to work with partners to ensure that there’s an appropriate balance of small business representation on the project’s next iteration of the board, so that those 95 per cent of our businesses can be adequately represented as well. Thank you. Diolch yn fawr iawn am eich ateb, ac yn amlwg, yn lleol, rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth i fargen dinas-ranbarth Bae Abertawe. Er bod denu cyflogwyr mawr i ranbarth yn bwysig ar gyfer swyddi a’r economi, mae 99 y cant o’n busnesau yn fentrau bach a chanolig eu maint, a 75 y cant yn ficrofusnesau mewn gwirionedd, fel y gwyddoch eisoes, sy’n golygu bod busnesau bach yn chwarae rhan bwysig iawn yn lleol, yn enwedig yn y gadwyn gyflenwi. Nododd her Llywodraeth y DU i’r bwrdd presennol yr angen am ragor o ymwneud ar ran y sector preifat yng nghais y fargen ddinesig, a tybed a ydych chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol yn barod i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod cydbwysedd priodol o gynrychiolwyr busnesau bach ar fwrdd nesaf y prosiect, er mwyn sicrhau bod y 95 y cant hynny o’n busnesau yn cael eu cynrychioli’n ddigonol hefyd. Diolch.
14:36 - Ken Skates
Yes, I would agree with the Member; we are now entering a critical period for the Swansea city deal, and over the past few months, I know that a considerable amount of work has gone into preparing for the challenge process, and that there has been a concerted effort to attract the views of the private sector. But I do believe that the private sector must be fully part of city deal considerations, and that all of the priority projects must benefit not just employers large, but also those small and microbusinesses that the Member talks of, and which constitute something in the region of 98 to 99 per cent of all employers in Wales, but especially in my colleague’s region. Byddwn yn cytuno gyda’r Aelod; rydym yn awr yn dechrau ar gyfnod hollbwysig i fargen ddinesig Abertawe, ac yn ystod y misoedd diwethaf, rwy’n gwybod bod cryn dipyn o waith wedi’i wneud ar baratoi ar gyfer y broses herio, a bod ymdrech ar y cyd i ddenu barn y sector preifat. Ond rwy’n credu bod yn rhaid i’r sector preifat fod yn rhan lawn o ystyriaethau’r fargen ddinesig, a bod rhaid i bob un o’r prosiectau blaenoriaeth fod o fudd nid yn unig i gyflogwyr mawr, ond hefyd i’r microfusnesau bach y mae’r Aelod yn sôn amdanynt, ac sy’n ffurfio rhywbeth yn debyg i 98 i 99 y cant o’r holl gyflogwyr yng Nghymru, yn enwedig yn rhanbarth fy nghyd-Aelod.
I’m also keen to ensure that aside from, and actually along with, the city region approach, we go on assisting small and medium-sized and microbusinesses through the Business Wales programme. And, of course, the latest phase of the Business Wales programme was launched in January, and it tasks Business Wales with assisting tens of thousands of small and micro-sized companies, including those in the city region area. Rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau, ar wahân i’r dull dinas-ranbarth o weithredu, ac ochr yn ochr ag ef mewn gwirionedd, ein bod yn mynd i barhau i gynorthwyo busnesau bach a chanolig eu maint a microfusnesau drwy raglen Busnes Cymru. Ac wrth gwrs, lansiwyd cam diweddaraf y rhaglen Busnes Cymru ym mis Ionawr, ac mae’n rhoi’r dasg i Busnes Cymru o gynorthwyo degau o filoedd o gwmnïau bach a micro, gan gynnwys y rhai yn ardal y ddinas-ranbarth.
14:37 - Jeremy Miles
In an economy event in my constituency, which I held before Christmas, and which was addressed by the Minister for Skills and Science, one of the issues identified to improve productivity was the question of skills acquisition, and importantly skills progression through the employment journey. So, they will have been pleased to hear the emphasis on that in the new apprenticeship plan. But, more broadly than that, does he agree with me that we need to find ways of turning technology, which can often be a threat to some of the jobs in our region, into an asset, and that we should aim to see widely available online skills tools, which are immersive and interactive, and cheap, allowing employees to have tailored, modular training to develop their skills in a way that is consistent with their own needs and demands? And what steps can the Welsh Government take to encourage the development of that? Mewn digwyddiad economi yn fy etholaeth a gynhaliais cyn y Nadolig, pan gafwyd anerchiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, un o’r materion a nodwyd i wella cynhyrchiant oedd mater caffael sgiliau, ac yn bwysig, dilyniant sgiliau drwy’r daith gyflogaeth. Felly, byddant wedi bod yn falch o glywed y pwyslais ar hynny yn y cynllun prentisiaeth newydd. Ond yn fwy eang na hynny, a yw’n cytuno bod angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o droi technoleg, sy’n aml yn gallu bod yn fygythiad i rai o’r swyddi yn ein rhanbarth, yn ased, ac y dylem anelu at weld adnoddau sgiliau ar gael yn eang ar-lein, adnoddau rhad ar gyfer ymdrwytho a rhyngweithio, sy’n caniatáu i weithwyr gael hyfforddiant modiwlaidd wedi’i deilwra i ddatblygu eu sgiliau mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’u hanghenion a’u gofynion eu hunain? A pha gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i annog datblygiad o’r fath?
14:38 - Ken Skates
I’d like to thank the Member for his question and commend him for organising the seminar that took place in his constituency. In-work skills training opportunities, provided through schemes such as Essential Skills in the Workplace and the Wales Union Learning Fund, have proven to be absolutely vital for workers across Wales in gaining valuable skills that enable them to progress up a career ladder. But utilising new and emerging digital technologies will become more and more important. The fact is that many, many young people use their digital devices to learn, as much as they use their schools. Many will use YouTube and other search forms of social media in order to learn, and that should apply equally to adults who are looking to gain and retrain skills. Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn ac rwy’n ei gymeradwyo am drefnu’r seminar a gynhaliwyd yn ei etholaeth. Mae cyfleoedd hyfforddiant sgiliau mewn gwaith a ddarperir drwy gynlluniau megis Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle a Chronfa Ddysgu Undebau Cymru wedi bod yn gwbl allweddol i weithwyr ar draws Cymru allu meithrin sgiliau gwerthfawr sy’n eu galluogi i godi ar ysgol gyrfa. Ond bydd defnyddio technolegau digidol newydd sy’n dod i’r amlwg yn dod yn fwyfwy pwysig. Y ffaith amdani yw bod llawer iawn o bobl ifanc yn defnyddio eu dyfeisiau digidol i ddysgu, yn gymaint ag y maent yn defnyddio eu hysgolion. Bydd llawer yn defnyddio YouTube a dulliau eraill o chwilio cyfryngau cymdeithasol er mwyn dysgu, a dylai fod yr un mor berthnasol i oedolion sy’n awyddus i feithrin ac ailhyfforddi sgiliau.
The Minister for Skills and Science has developed a skills gateway for employers, digitally driven, which enables one single point of entry to all forms of advice and guidance for employers. And, equally, the Minister has devised a similar skills gateway system for all individuals looking to acquire new skills, or to retrain, or to boost their existing learning opportunities. Mae’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth wedi datblygu porth sgiliau ar gyfer cyflogwyr, wedi’i yrru’n ddigidol, sy’n cynnig un pwynt mynediad at bob math o gyngor ac arweiniad ar gyfer cyflogwyr. Ac yn yr un modd, mae’r Gweinidog wedi dyfeisio system porth sgiliau debyg ar gyfer pob unigolyn sy’n awyddus i feithrin sgiliau newydd, neu i ailhyfforddi, neu i hybu eu cyfleoedd dysgu presennol.
14:39 - Simon Thomas
Rwyf innau ac Aelodau eraill, mae’n siŵr, yn croesawu datganiad y bore yma gan y Llywodraeth fod cefnogaeth i’r Egin fel rhan o gynnig dinas-ranbarth Abertawe, ac rwyf yn edrych ymlaen yn awr at bawb yn cydweithio i sicrhau bod Yr Egin yn llwyddiant a bod S4C yn symud yn llwyddiannus i dref Caerfyrddin. Yn anffodus, nid oedd datganiad y bore yma yn sôn am faint o arian y mae’r Llywodraeth yn ei ddodi yn y cynllun, ond mae adroddiadau yn y wasg yn sôn am £6 miliwn—£3 miliwn gan y Llywodraeth a £3 miliwn i ddod gan gynllun dinas-ranbarth bae Abertawe fel y cyfryw. A wnewch chi, Ysgrifennydd Cabinet, gadarnhau’r symiau hynny? Ac a wnaiff ef hefyd gadarnhau o ba ffynonellau ariannol yn y Llywodraeth y mae’r £3 miliwn tuag at Yr Egin yn dod? I, and I’m sure other Members, welcome the statement made this morning by Government that there is going to be support for Yr Egin as part of the Swansea bay city region proposal, and I look forward to everyone collaborating to ensure that Yr Egin is a success and that S4C moves successfully to Carmarthen. Unfortunately, this morning’s statement didn’t mention how much money the Government was providing for the scheme, but press reports do talk about £6 million—£3 million from Government and £3 million from the Swansea bay city region programme. Can the Cabinet Secretary confirm those figures? Will he also confirm from which funding sources within Government that £3 million for Yr Egin is coming from?
14:40 - Ken Skates
Yes, that funding is coming from my own main expenditure group and I’m pleased to be able to support a project that doesn’t just have economic benefits for the region, but it’s my view, and it was the view of my colleagues, that is also has significant Welsh language, education, social and cultural contributions to make to the region as well. Gwnaf, mae’r cyllid hwnnw’n dod o fy mhrif grŵp gwariant fy hun ac rwy’n falch o allu cefnogi prosiect sydd â manteision economaidd i’r rhanbarth, ond sydd hefyd fy marn i, ac ym marn fy nghyd-Aelodau, â chyfraniad sylweddol i’w wneud i’r rhanbarth hefyd mewn perthynas â’r iaith Gymraeg ac addysg, ac yn gymdeithasol a diwylliannol.
Ymwelwyr â Gorllewin De Cymru Visitors to South Wales West
14:41 - Caroline Jones
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr ymwelwyr â Gorllewin De Cymru? OAQ(5)0133(EI) 6. Will the Cabinet Secretary outline the Welsh Government’s plans to increase visitor numbers to South Wales West? OAQ(5)0133(EI)
14:41 - Ken Skates
Wales enjoyed two record-breaking years in 2014 and 2015, and then again in 2016, with visitor numbers crossing the 10 million mark for the first time back in 2014 and growing still further with record spend from staying visitors in 2015. South Wales West has been a significant contributor to that growth, with its wide range of heritage offers and beautiful landscapes and coastal regions. Cafodd Cymru ddwy flynedd well nag erioed o’r blaen yn 2014 a 2015, ac yna eto yn 2016, gyda niferoedd ymwelwyr yn croesi’r 10 miliwn am y tro cyntaf yn ôl yn 2014 ac yn tyfu eto gyda gwariant uwch nag erioed gan ymwelwyr a oedd yn aros dros nos yn 2015. Mae Gorllewin De Cymru wedi cyfrannu’n sylweddol at y twf hwnnw, gyda’i amrediad eang o gynigion treftadaeth a thirweddau hardd ac ardaloedd arfordirol.
14:41 - Caroline Jones
Thank you, Cabinet Secretary. Rhossili has once again been named one of the top-10 beaches in the UK and also enjoys being one of the most dog-friendly beaches in Britain. The Gower beach has just lost out on the top spot, but competes with the top beaches in Devon, Cornwall and Dorset. Cabinet Secretary, if we are to capitalise upon this and increase the number of visitors to my region, we have to ensure that we have adequate public transport links. What plans does your Government have to improve the transport infrastructure to top tourist destinations in Wales? Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Unwaith eto cafodd Rhosili ei enwi’n un o’r 10 traeth gorau yn y DU a hefyd mae’n un o’r traethau gorau ym Mhrydain ar gyfer cŵn. Roedd y traeth ym Mhenrhyn Gŵyr o fewn dim i fod ar y brig, ac mae’n cystadlu gyda’r traethau gorau yn Nyfnaint, Cernyw a Dorset. Ysgrifennydd y Cabinet, os ydym am fanteisio ar hyn a chynyddu nifer yr ymwelwyr â fy rhanbarth, mae’n rhaid i ni sicrhau bod gennym gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus digonol. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i wella’r seilwaith trafnidiaeth i’r cyrchfannau gorau i dwristiaid yng Nghymru?
14:42 - Ken Skates
Can I thank the Member for her question and congratulate Rhossili beach? It’s a magnificent coup and I think it’s fair to say that it is now recognised around Britain and around Europe as one of the continent’s finest beaches. We’re keen to ensure that more people can visit Wales in a convenient way for that reason. We continue to support Cardiff Airport, we continue to support rail travel and we continue to support our bus network, but we do believe that further improvements can be made, not just to our rail infrastructure and rail services, but also to the bus network. As I’ve outlined in a series of statements now to the Chamber, in the coming four years it’s my belief that we can radically change the way that services are provided and operated and see significant improvements for passengers, not just those who are visiting Wales, but for the citizens of Wales as well. A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn a llongyfarch traeth Rhosili? Mae’n gamp wych ac rwy’n credu ei bod yn deg dweud ei fod yn cael ei gydnabod o amgylch Prydain ac ar draws Ewrop fel un o draethau gorau’r cyfandir. Rydym yn awyddus i sicrhau y gall mwy o bobl ymweld â Chymru mewn ffordd gyfleus am y rheswm hwnnw. Rydym yn parhau i gefnogi Maes Awyr Caerdydd, rydym yn parhau i gefnogi teithio ar y rheilffyrdd ac rydym yn parhau i gefnogi ein rhwydwaith bysiau, ond credwn y gellir gwneud gwelliannau pellach, nid yn unig i’n seilwaith rheilffyrdd a’n gwasanaethau rheilffyrdd, ond hefyd i’r rhwydwaith bysiau. Fel yr amlinellais mewn cyfres o ddatganiadau i’r Siambr bellach, yn y pedair blynedd nesaf credaf y gallwn newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu a’u gweithredu yn helaeth a sicrhau gwelliannau sylweddol i deithwyr, nid yn unig y rhai sy’n ymweld â Chymru, ond ar gyfer dinasyddion Cymru yn ogystal.
14:43 - Suzy Davies
Cabinet Secretary, a few weeks ago, you told me that when it comes to the protection of heritage so that we can promote faith tourism, it’s essential that Visit Wales uses its skills to promote Wales around the globe and to offer advice as well. While you outlined to me that Cadw has seen an increase in visitor numbers in Tintern and Valle Crucis, neither of those is actually in South Wales West. Can you give me some detail about how you hope that Visit Wales can use an anchor site like Neath abbey—you knew I was going to say this—to draw attention to what is, after all, a gateway site? The Neath and Swansea valleys are absolute treasure troves for visitors. So, what support can Welsh Government give to Neath abbey as a specific site in order to open up those floodgates for visitors to those two valleys? Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig wythnosau yn ôl, fe ddywedoch wrthyf mewn perthynas â diogelu treftadaeth i allu hyrwyddo twristiaeth ffydd, ei bod hi’n hanfodol fod Croeso Cymru yn defnyddio ei sgiliau i hyrwyddo Cymru o amgylch y byd ac i gynnig cyngor yn ogystal. Er eich bod wedi nodi bod Cadw wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â Thyndyrn a Glyn y Groes, nid oes yr un o’r rheini yng Ngorllewin De Cymru mewn gwirionedd. A allwch roi rhywfaint o fanylion i mi ynglŷn â sut y gobeithiwch y gall Croeso Cymru ddefnyddio safle angor fel Abaty Nedd—fe wyddech y byddwn yn dweud hyn—er mwyn tynnu sylw at yr hyn sydd, wedi’r cyfan, yn safle porth? Mae Cwm Nedd a Chwm Tawe yn llawn o drysorau i ymwelwyr. Felly, pa gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i Abaty Nedd fel safle penodol er mwyn agor y llifddorau i ymwelwyr â’r ddau gwm hwnnw?
14:44 - Ken Skates
Our heritage is remarkably important in our cultural and tourism offer and Neath abbey is a very important component of the heritage landscape in the Member’s region. I’m very pleased to say that Cadw are now supporting Neath abbey by having a dedicated in-house craft team working at the site. As a consequence, some areas of the abbey at the moment are inaccessible to the public, but with that dedicated work from the in-house craft team, I hope to be able to transform the abbey into a far better and more attractive tourist destination and visitor opportunity. But it’s not the only site in the Member’s region that is receiving support from Welsh Government. There are other assets, such as Oxwich castle and Hafod-Morfa Copperworks and Oystermouth castle, all of which are receiving funding. I’m keen to make sure that we can channel as much resource as possible through to south-west Wales because it is an incredibly attractive region of the UK, and I think the Member may, this evening, if she watches television, see the new advertisement from Visit Wales, which showcases some of our finest natural environment, but which also invites people in 2017 to generate their own legendary tales in Wales. Mae ein treftadaeth yn hynod o bwysig yn ein cynnig diwylliannol a thwristiaeth ac mae Abaty Nedd yn elfen bwysig iawn o’r tirlun treftadaeth yn rhanbarth yr Aelod. Rwy’n falch iawn o ddweud bod Cadw yn awr yn cynorthwyo Abaty Nedd drwy gael tîm crefft mewnol pwrpasol sy’n gweithio ar y safle. O ganlyniad, mae rhai rhannau o’r abaty ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd, ond gyda gwaith pwrpasol gan y tîm crefft yn fewnol, rwy’n gobeithio gallu trawsnewid yr abaty i fod yn gyrchfan twristiaeth a chyfle llawer gwell a mwy deniadol i ymwelwyr. Ond nid dyma’r unig safle yn rhanbarth yr Aelod sy’n cael cymorth gan Lywodraeth Cymru. Mae yna asedau eraill, megis castell Oxwich a gwaith copr y Morfa yn yr Hafod a chastell Ystumllwynarth, sydd oll yn derbyn cyllid. Rwy’n awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn gallu sianelu cymaint o adnoddau â phosibl tuag at dde-orllewin Cymru gan ei bod yn rhan hynod o ddeniadol o’r DU, ac rwy’n meddwl efallai y bydd yr Aelod heno, os yw’n gwylio teledu, yn gweld yr hysbyseb newydd gan Croeso Cymru, sy’n arddangos peth o’n hamgylchedd naturiol gorau, ond sydd hefyd yn gwahodd pobl yn 2017 i gynhyrchu eu straeon chwedlonol eu hunain yng Nghymru.
Twf Economaidd Economic Growth
14:45 - Darren Millar
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am dwf economaidd yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0123(EI) 7. Will the Cabinet Secretary make a statement on economic growth in north Wales? OAQ(5)0123(EI)
14:46 - Ken Skates
Yes. Skills, connective infrastructure and innovation are key drivers of productivity and growth. These are central to our approach to economic development across all parts of Wales. Gwnaf. Mae sgiliau, seilwaith cysylltiol ac arloesi yn ffactorau allweddol sy’n sbarduno cynhyrchiant a thwf. Mae’r rhain yn ganolog i’n hymagwedd at ddatblygu economaidd ar draws pob rhan o Gymru.
14:46 - Darren Millar
Cabinet Secretary, what consideration have you given to the potential growth in the wood manufacturing industry in north Wales? You’ll be aware that there are significant parts of north Wales that have forestry on them, but there have been significant concerns raised by people involved in the wood manufacturing industry about the lack of Welsh timber available in the marketplace at present, and that is, frankly, putting a foot on the windpipe of that particular industry and the potential of that industry to grow and for people to come into the industry and invest in new wood manufacturing plants. Clifford Jones Timber in Ruthin in my own constituency, and Blazer’s Fuels Ltd, for example, are two businesses that have the opportunity to expand significantly if there can be a reliable timber resource that they can have. This is a concern, and I wonder what you’re doing from the economic side to promote that particular industry in Wales. Ysgrifennydd y Cabinet, pa ystyriaeth a roesoch i dwf posibl y diwydiant gweithgynhyrchu pren yng ngogledd Cymru? Fe fyddwch yn gwybod bod rhannau sylweddol o ogledd Cymru wedi’u gorchuddio â choedwigaeth, ond lleisiwyd pryderon sylweddol gan bobl sy’n ymwneud â’r diwydiant gweithgynhyrchu pren ynglŷn â phrinder pren o Gymru yn y farchnad ar hyn o bryd, ac mae hynny, a bod yn onest, yn mygu’r diwydiant penodol hwn a photensial y diwydiant i dyfu ac i bobl ddod i mewn i’r diwydiant a buddsoddi mewn safleoedd gweithgynhyrchu pren newydd. Mae Clifford Jones Timber yn Rhuthun yn fy etholaeth, a Blazer’s Fuels Cyf, er enghraifft, yn ddau fusnes sydd â chyfle i ehangu’n sylweddol pe bai modd iddynt gael adnodd pren dibynadwy. Mae hyn yn destun pryder, ac rwy’n meddwl tybed beth rydych yn ei wneud yn economaidd i hyrwyddo’r diwydiant penodol hwn yng Nghymru.
14:47 - Ken Skates
Yes, the Member raises an important point. I’ve met with representative organisations—those who represent the wood manufacturing sector. It’s my belief that the wood manufacturing sector is not just good for the economy; it’s also actually good for the visitor economy more specifically, because the Member will know, from his close proximity to the Clwydian range, that a forested area of Wales is often more attractive than one that is deforested. Ie, mae’r Aelod yn nodi pwynt pwysig. Rwyf wedi cyfarfod â sefydliadau cynrychiadol—y rhai sy’n cynrychioli’r sector gweithgynhyrchu pren. Yn fy marn i mae’r sector gweithgynhyrchu pren nid yn unig yn dda i’r economi, ond hefyd yn dda i’r economi ymwelwyr yn fwy penodol mewn gwirionedd, oherwydd bydd yr Aelod yn gwybod o fod yn byw’n agos at Fryniau Clwyd fod ardal goediog yng Nghymru yn aml yn fwy deniadol nag un a ddatgoedwigwyd.
14:47 - Darren Millar
Llandegla. Llandegla.
14:47 - Ken Skates
Yes, absolutely, Llandegla, as you point out. It is important that we can find opportunities to replant what has often been lost. For that reason, I’m working with the Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs to identify more opportunities to replant lost timber, not just, as I say, for the purpose of supporting the manufacturing sector, but also to support the visitor economy as well. Ie, yn hollol, Llandegla, fel y nodwch. Mae’n bwysig ein bod yn gallu dod o hyd i gyfleoedd i ailblannu’r hyn sy’n aml wedi’i golli. Am y rheswm hwnnw, rwy’n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i nodi mwy o gyfleoedd ar gyfer ailblannu coed a gollwyd, nid yn unig, fel y dywedais, er mwyn cefnogi’r sector gweithgynhyrchu, ond i gefnogi’r economi ymwelwyr yn ogystal.
14:48 - Hannah Blythyn
Cabinet Secretary, as you’ll know, connective infrastructure and high-quality transport networks are essential to the success of any economy and are especially key in the north-east Wales gateway area. It’s for that reason that I’ve welcomed the news of the Welsh Government’s intention to consult on the much-needed major improvements to the Deeside corridor—one of north Wales’s busiest sections of road. You’ll be aware that this has been raised with me time and time again by constituents and commuters alike, and I’ll be encouraging many individuals, community organisations and businesses to take part in the consultation when it opens on 13 March and which outlines two possible options for improvement. Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae seilwaith cysylltiol a rhwydweithiau trafnidiaeth o safon yn hanfodol i lwyddiant unrhyw economi ac maent yn arbennig o allweddol yn ardal porth gogledd-ddwyrain Cymru. Am y rheswm hwnnw, rwyf wedi croesawu’r newyddion am fwriad Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar y gwelliannau mawr eu hangen i goridor Glannau Dyfrdwy—un o’r darnau prysuraf o ffordd yng ngogledd Cymru. Fe fyddwch yn gwybod bod hyn wedi cael ei ddwyn i fy sylw dro ar ôl tro gan etholwyr a chymudwyr fel ei gilydd, a byddaf yn annog llawer o unigolion, sefydliadau cymunedol a busnesau i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, sy’n amlinellu dau opsiwn posibl ar gyfer gwella, pan fydd yn dechrau ar 13 Mawrth.
Whilst we await the outcome of the consultation, I welcome this commitment by the Cabinet Secretary, which will see over £200 million invested in our area. But, Cabinet Secretary, will you make a commitment to keep the Assembly and, therefore, our communities and constituents in the area updated on the progress of this vital scheme, which will make an important contribution to stimulating economic growth in the area? Wrth i ni aros am ganlyniad yr ymgynghoriad, rwy’n croesawu’r ymrwymiad hwn gan Ysgrifennydd y Cabinet, a fydd yn sicrhau dros £200 miliwn o fuddsoddiad yn ein hardal. Ond Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i roi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad ac felly, i’n cymunedau a’n hetholwyr yn yr ardal, ar gynnydd y cynllun hollbwysig hwn a fydd yn gyfraniad pwysig i ysgogi twf economaidd yn yr ardal?
14:49 - Ken Skates
Can I thank the Member for her question? The Member is absolutely right to identify infrastructure as being a major enabler for further economic growth across north Wales. The development of a new corridor and the potential road widening of the A494 does indeed form part of a £200 million proposed investment and part of the biggest package of infrastructure investment in transport in north Wales since the dawn of devolution—something in the region of £600 million is being allocated for transport improvements across north Wales, and I’m pleased to be able to bring those projects forward. A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn? Mae’r Aelod yn hollol gywir i nodi seilwaith fel galluogydd pwysig ar gyfer twf economaidd pellach ar draws gogledd Cymru. Yn wir, mae datblygu coridor newydd a’r posibilrwydd o ledu’r A494 yn rhan o fuddsoddiad o £200 miliwn arfaethedig a rhan o’r pecyn buddsoddi mwyaf mewn seilwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru ers dechrau datganoli—mae rhywbeth yn debyg i £600 miliwn yn cael ei ddyrannu ar gyfer gwelliannau i drafnidiaeth ar draws gogledd Cymru, ac rwy’n falch o allu cyflwyno’r prosiectau hyn.
In terms of consultation, we’ve moved at speed to bring that to commencement on 13 March. It will last 12 weeks. I will keep Members updated on the progress. I’m inviting residents across the region to give their views, not just online but also at a series of exhibitions. O ran ymgynghori, rydym wedi symud yn gyflym i ddechrau hynny ar 13 Mawrth. Bydd yn para 12 wythnos. Byddaf yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau ar y cynnydd. Rwy’n gwahodd preswylwyr ar draws y rhanbarth i roi eu barn, nid yn unig ar-lein ond hefyd mewn cyfres o arddangosfeydd.
The Member will also be interested to know that last week I awarded Flintshire council £85,000 to help it develop bus and active travel projects along the B5129 at Queensferry and into Deeside Industrial Park. As the Member knows, Deeside Industrial Park, as one of Europe’s biggest industrial parks, is a major employer for people in the constituency of Delyn, and we would like to encourage more people to access it through public transport and by active travel means. Our longer term plans for a metro scheme in north-east Wales will see a £50 million investment in the coming four years, and there are huge potential rewards for the local economy. Bydd yr Aelod hefyd â diddordeb mewn gwybod fy mod wedi rhoi £85,000 i Gyngor Sir y Fflint yr wythnos diwethaf i’w helpu i ddatblygu prosiectau bysiau a theithio llesol ar hyd y B5129 yn Queensferry ac i mewn i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Fel y gŵyr yr Aelod, mae Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, fel un o barciau diwydiannol mwyaf Ewrop, yn gyflogwr o bwys i bobl yn etholaeth Delyn, a hoffem annog mwy o bobl i gael mynediad iddo drwy drafnidiaeth gyhoeddus a thrwy deithio llesol. Bydd ein cynlluniau yn y tymor hwy ar gyfer cynllun metro yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn gweld buddsoddiad o £50 miliwn yn y pedair blynedd nesaf, a cheir potensial o enillion enfawr i’r economi leol.
14:50 - Y Llywydd / The Llywydd
Ac yn olaf, Rhun ap Iorwerth. Finally, Rhun ap Iorwerth.
14:50 - Rhun ap Iorwerth
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rydw i’n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygu’r berthynas efo gogledd-orllewin Lloegr ac, wrth gwrs, mae hi’n berthynas naturiol iawn ac mae hi yn berthynas bwysig iawn. Ond, onid oes yna beryg o golli golwg ar bwysigrwydd datblygu economi gogledd Cymru ynddo fo ei hun, datblygu perthynas i’r gorllewin efo Iwerddon, a gyda gweddill Cymru hefyd, drwy roi yr argraff o fodloni ar fod yn rhyw fath yn ‘annexe’ i’r economi dros y ffin? Thank you very much, Llywydd. I know that the Cabinet Secretary is placing great emphasis on developing the relationship with the north-west of England and, of course, it is a very natural relationship and a very important relationship. But, isn’t there a risk of losing sight of the importance of developing the economy of north Wales in and of itself, of developing links with the west in Ireland and with the rest of Wales, by giving the impression that we would be content to be an annexe to the economy over the border?
14:51 - Ken Skates
I think that’s an unfair assessment that, actually, demonstrates a lack of confidence and, dare I say it, pride in the Welsh economy. The fact is that the GVA of the Mersey Dee area, the north-east of Wales, and the local authority areas of Cheshire and the Wirral, amount to something in the region of 50 per cent of the GVA of Wales as a whole. Between them, they are huge economic forces, and they should also—both the Welsh and English partners—be in the driving seat of the Northern Powerhouse agenda. I do not wish to see Wales as a passenger in this area; I wish Wales to be driving the Northern Powerhouse initiative, and for that reason it is essential that we make sure the entire region is properly and fully connected. For that reason in turn, I am looking at developing a third crossing for the Menai strait and looking at improving the port infrastructure, so that we can have an access of economic prosperity that leads from Holyhead right through England, but which also connects, crucially, to the economy of Ireland. Rwy’n credu bod hwnnw’n asesiad annheg sydd, mewn gwirionedd, yn dangos diffyg hyder ac os caf ddweud, diffyg balchder yn economi Cymru. Y ffaith amdani yw bod gwerth ychwanegol gros ardal Mersi a’r Ddyfrdwy, gogledd-ddwyrain Cymru, ac ardaloedd awdurdodau lleol Swydd Gaer a’r Wirral, oddeutu 50 y cant o werth ychwanegol gros Cymru gyfan. Rhyngddynt, maent yn rymoedd economaidd enfawr, a dylent hefyd—y partneriaid yng Nghymru a Lloegr—fod wrth y llyw gydag agenda Pwerdy Gogledd Lloegr. Nid wyf am weld Cymru yn sedd y teithiwr yn hyn o beth; dymunaf weld Cymru’n gyrru menter Pwerdy Gogledd Lloegr, ac oherwydd hynny, mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y rhanbarth cyfan wedi’i gysylltu’n briodol ac yn llawn. Am y rheswm hwnnw yn ei dro, rwy’n edrych ar ddatblygu trydydd croesiad dros afon Menai ac ar wella’r seilwaith porthladd er mwyn i ni allu cael mynediad at ffyniant economaidd sy’n arwain o Gaergybi yr holl ffordd drwy Loegr, ond sydd hefyd yn cysylltu, yn hollbwysig, ag economi Iwerddon.
14:52 - Y Llywydd / The Llywydd
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Thank you, Cabinet Secretary.
2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon 2. Questions to the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg. [R] signifies the Member has declared an interest. [W] signifies that the question was tabled in Welsh.
14:52 - Y Llywydd / The Llywydd
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. A’r cwestiwn cyntaf, David Melding. The next item on our agenda is questions to the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport. The first question is from David Melding.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. The Deputy Presiding Officer (Ann Jones) took the Chair.
Clefydau Prin Rare Diseases
14:52 - David Melding
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am drin clefydau prin? OAQ(5)0125(HWS) 1. Will the Cabinet Secretary make a statement on the treatment of rare diseases? OAQ(5)0125(HWS)
14:52 - Vaughan Gething
Thank you for the question. We launched the Welsh implementation plan for rare diseases in February 2015 and established the rare disease implementation group. These actions reinforce our commitment to promoting equity of access to diagnosis, treatment and support to patients. The annual report, providing an update on progress, was published on 14 February. Diolch am y cwestiwn. Lansiwyd cynllun gweithredu Cymru ar gyfer clefydau prin gennym ym mis Chwefror 2015 a sefydlwyd y grŵp gweithredu ar glefydau prin. Mae’r camau hyn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb mynediad at ddiagnosis, triniaeth a chymorth i gleifion. Cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol, sy’n rhoi’r newyddion diweddaraf ar gynnydd, ar 14 Chwefror.
14:53 - David Melding
Minister, I was very pleased at a recent event held in the Assembly to hear that the Welsh Government of Wales are leading the field in this area in terms of the UK. Whilst the diseases themselves are rare, there are a great many of them, which means that one in 17 of us is likely at some point in our lives to suffer a rare disease, in which the screening, testing, diagnosis and treatment is going to be absolutely crucial. I think it’s a very important area, often, perhaps because of the specific rarity of each condition, that is overlooked, so I hope that this priority will be maintained. Weinidog, roeddwn yn falch iawn o glywed mewn digwyddiad diweddar a gynhaliwyd yn y Cynulliad fod Llywodraeth Cymru yn arwain yn y maes hwn yn y DU. Er bod y clefydau eu hunain yn brin, ceir nifer fawr ohonynt, sy’n golygu bod un o bob 17 ohonom yn debygol o ddioddef o glefyd prin ar ryw adeg yn ein bywydau, pan fydd sgrinio, profion, diagnosis a thriniaeth yn gwbl hanfodol. Rwy’n credu ei fod yn faes pwysig iawn, sy’n aml yn cael ei esgeuluso o bosibl am fod pob cyflwr penodol yn brin, felly rwy’n gobeithio y bydd yn parhau i gael blaenoriaeth.
14:53 - Vaughan Gething
Yes, I’m happy to give him that assurance. In fact, yesterday we published the CARIS data, I’ll tell you what that is—It’s the Congenital Anomaly Register and Information Service. Now, we established that in Wales in 1998, and that is part of what helps us to lead the field. It maintains information on all babies born to mothers in Wales, and that information is held about them if they do have a congenital anomaly or a rare disease until their eighteenth birthday, or when they would have reached their eighteenth birthday. It’s part of looking at that data and information that allows us to try and make further progress. We’re also taking part, with the rest of the UK, in the 100,000 Genomes Project, and have invested directly money within that. And, of course, the monies we’re investing in the new treatment fund—chunks of that money will go to treating people with rare diseases and conditions. So, I’m more than happy to give him the assurance this will continue to be an area of interest and action, and we expect to see further improvement. Rwy’n hapus i roi’r sicrwydd hwnnw iddo. Yn wir, ddoe fe gyhoeddasom y data CARIS, ac fe ddywedaf wrthych beth yw hwnnw—y Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid. Nawr, sefydlwyd hwnnw gennym yng Nghymru yn 1998, ac mae hynny’n rhan o’r hyn sy’n ein helpu i arwain yn y maes. Mae’n cadw gwybodaeth am yr holl fabanod a enir i famau yng Nghymru, a bydd y wybodaeth honno’n cael ei chadw amdanynt os oes ganddynt anomaledd cynhenid neu glefyd prin nes eu pen-blwydd yn ddeunaw oed, neu’r adeg pan fyddent wedi cyrraedd eu pen-blwydd yn ddeunaw oed. Yn rhannol, edrych ar y data a’r wybodaeth honno sy’n caniatáu i ni geisio gwneud cynnydd pellach. Rydym hefyd yn cymryd rhan, gyda gweddill y DU, yn y Prosiect 100,000 o Genomau, ac wedi buddsoddi arian yn uniongyrchol yn hynny. Ac wrth gwrs, yr arian a fuddsoddwn yn y gronfa driniaethau newydd—bydd rhannau mawr o’r arian hwnnw’n mynd tuag at drin pobl sydd ag afiechydon a chyflyrau prin. Felly, rwy’n fwy na pharod i’w sicrhau y bydd hwn yn parhau i fod yn faes diddordeb a gweithredu, ac rydym yn disgwyl gweld gwelliant pellach.
14:54 - Julie Morgan
I was very pleased to meet patients and families who are affected by haemophilia and contaminated blood at the rare disease event that David Melding referred to. As the Cabinet Secretary knows, I’m very concerned about the treatment of people with haemophilia who were given contaminated blood in the 1970s and 1980s, which has resulted in 70 deaths in Wales and many more other families affected. I’m aware that he wrote to his counterpart, Jeremy Hunt, last year giving his support for a public inquiry into the scandal. I wondered if he could tell us if he has had a response and, if he hasn’t, what further he intends to do, and, if he has, what is his reaction? Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â chleifion a theuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan hemoffilia a gwaed halogedig yn y digwyddiad clefydau prin y cyfeiriodd David Melding ato. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n bryderus iawn ynglŷn â thriniaeth pobl â hemoffilia a gafodd waed halogedig yn y 1970au a’r 1980au, gan arwain at 70 o farwolaethau yng Nghymru a llawer mwy o deuluoedd eraill yr effeithiwyd arnynt. Rwy’n ymwybodol ei fod wedi ysgrifennu at ei weinidog cyfatebol yn y Senedd, Jeremy Hunt, y llynedd yn cefnogi ymchwiliad cyhoeddus i’r sgandal. Roeddwn yn meddwl tybed a allai ddweud wrthym a yw wedi cael ateb ac os nad yw, beth y mae’n bwriadu ei wneud ymhellach, ac os yw wedi cael ateb, beth yw ei ymateb ef?
14:55 - Vaughan Gething
No, I wouldn’t say I’ve had a satisfactory response from the UK Government. You’ll note that, after the cross-party Members’ debate we had in this Chamber, I undertook again to press the UK Government, and I’m awaiting a further response. Thus far, the UK Government have been resistant to having a public inquiry, and I recognise that that will be a continual problem for the families of those affected, both living and deceased, because until there is a proper public inquiry—which only the UK Government can provide because of where the information is about how the scandal erupted and was not properly brought to light—then I recognise that injustice will continue. So, this Government will maintain our commitment to keep on pressing the UK Government until we do see the right thing done. Na, ni fyddwn yn dweud fy mod wedi cael ateb boddhaol gan Lywodraeth y DU. Ar ôl dadl drawsbleidiol yr Aelodau a gawsom yn y Siambr hon, euthum ati eto i bwyso ar Lywodraeth y DU, ac rwy’n disgwyl ymateb pellach. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn amharod i gael ymchwiliad cyhoeddus, ac rwy’n cydnabod y bydd honno’n broblem barhaus i deuluoedd y rhai yr effeithiwyd arnynt, yn fyw ac yn farw, oherwydd hyd nes y ceir ymchwiliad cyhoeddus priodol—na all neb ond Llywodraeth y DU ei ddarparu oherwydd lleoliad y wybodaeth ynglŷn â sut y ffrwydrodd y sgandal a’r modd na chafodd ei dwyn i sylw’n briodol—yna rwy’n cydnabod y bydd yr anghyfiawnder yn parhau. Felly, bydd y Llywodraeth hon yn cynnal ein hymrwymiad i barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU hyd nes y gwelwn fod y peth iawn yn cael ei wneud.
Gwasanaethau Orthodontig Orthodontic Services
14:56 - Simon Thomas
2. Pa gasgliadau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dod iddynt yn sgil derbyn yr adroddiad ar gyflwr gwasanaethau orthodontig yng Nghymru fel y trafodwyd yn y Cynulliad ar 7 Rhagfyr 2016? OAQ(5)0123(HWS) [W] 2. What conclusions has the Cabinet Secretary reached in light of the report on the state of orthodontic services in Wales as discussed in the Assembly on 7 December 2016? OAQ(5)0123(HWS) [W]
14:56 - Vaughan Gething
Thank you for the question. The report recognises the continuing good progress being made. Working with Public Health Wales, health boards and the clinical networks, we are using the report’s recommendations to inform action to further improve the effectiveness and efficiency of the delivery of this specialist orthodontic service here in Wales. Diolch am y cwestiwn. Mae’r adroddiad yn cydnabod y cynnydd da parhaus sy’n cael ei wneud. Gan weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd a’r rhwydweithiau clinigol, rydym yn defnyddio argymhellion yr adroddiad i lywio camau gweithredu i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd cyflwyno’r gwasanaeth orthodontig arbenigol yma yng Nghymru.
14:56 - Simon Thomas
I thank the Cabinet Secretary for his reply. I’m not quite sure if we’ve been reading the same report, and I obviously looked at the report from the particular aspect of the area I represent and Hywel Dda in particular, where it says there is a real problem in accessing orthodontic services. I had confirmation this week from the British Dental Association as well that waiting lists in Hywel Dda for children aged between nine and 17 are, at the moment, at three years and four months, and that is against the target of six months. So, I have to ask, in light of the report, which doesn’t have any firm outcomes and targets within it, what is the Government doing to ensure that the constituents who I represent in the Hywel Dda health board region are able—particularly young constituents—to access orthodontic treatment within a reasonable period of time, remembering that this impacts upon their schooling and their upbringing? Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Nid wyf yn hollol siŵr a ydym wedi bod yn darllen yr un adroddiad, ac yn amlwg, edrychais ar yr adroddiad o safbwynt yr ardal rwy’n ei chynrychioli a Hywel Dda yn benodol, lle y mae’n dweud bod problem go iawn gyda sicrhau mynediad at wasanaethau orthodontig. Cefais gadarnhad yr wythnos hon gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain hefyd fod rhestrau aros yn Hywel Dda ar gyfer plant rhwng naw a 17 oed ar hyn o bryd yn dair blynedd a phedwar mis, a hynny yn erbyn y targed o chwe mis. Felly, rhaid i mi ofyn, o ystyried yr adroddiad, nad yw’n cynnwys unrhyw ganlyniadau a thargedau pendant, beth y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod yr etholwyr rwy’n eu cynrychioli yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda—yn enwedig pobl ifanc yn fy etholaeth—yn gallu cael mynediad at driniaeth orthodontig o fewn cyfnod rhesymol o amser, gan gofio bod hyn yn effeithio ar eu haddysg a’u magwraeth?
14:57 - Vaughan Gething
I accept what the Member is saying. Hywel Dda is one of our problem areas within an overall improving national picture. Hywel Dda itself has made further progress in the last few years, but there’s actually been a significant backlog built up within Hywel Dda. Some of that is about making more effective and efficient use of the specialist service that exists. It’s also about making sure that people really do get to see a specialist in this area, as opposed to a general practitioner who does some work. We actually think we get better outcomes for individuals doing that, but also about making sure that referrals are made at an appropriate time and for the appropriate service. So, it’s something about referral behaviour. It means proper investment in the specialist end of the service and those that are genuine specialists in this area, and trying to make sure that we properly meet and match the supply and demand. I do accept that, in Hywel Dda, that has not been the case to date. But the health board are investing in this particular area and I expect to see further improvement made, because, as you said, waiting times in the Hywel Dda area are too long and I expect to see further progress made in the rest of this Assembly term. Rwy’n derbyn yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud. Mae Hywel Dda yn un o’n hardaloedd problemus o fewn darlun cenedlaethol sy’n gwella ar y cyfan. Mae Hywel Dda ei hun wedi gwneud cynnydd pellach yn y blynyddoedd diwethaf, ond roedd yna ôl-groniad sylweddol yn Hywel Dda mewn gwirionedd. Mae rhywfaint o hynny’n ymwneud â defnydd mwy effeithiol ac effeithlon o’r gwasanaeth arbenigol sy’n bodoli. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod pobl yn cael gweld arbenigwr yn y maes yn hytrach nag ymarferydd cyffredinol sy’n gwneud rhywfaint o waith. Mewn gwirionedd credwn ein bod yn sicrhau gwell canlyniadau i unigolion o wneud hynny, ond hefyd o wneud yn siŵr fod atgyfeiriadau’n cael eu gwneud ar adeg briodol ac at y gwasanaeth priodol. Felly, mae’n ymwneud ag ymddygiad atgyfeirio. Mae’n golygu buddsoddiad priodol ym mhen arbenigol y gwasanaeth a’r rhai sy’n arbenigwyr gwirioneddol yn y maes hwn, a cheisio sicrhau ein bod yn ateb y galw ac yn ei baru â’r cyflenwad yn briodol. Rwy’n derbyn nad yw hynny wedi bod yn wir hyd yn hyn yn Hywel Dda. Ond mae’r bwrdd iechyd yn buddsoddi yn y maes penodol hwn, ac rwy’n disgwyl gweld gwelliannau pellach, oherwydd fel y dywedoch, mae amseroedd aros yn ardal Hywel Dda yn rhy hir ac rwy’n disgwyl gweld cynnydd pellach yn cael ei wneud dros weddill y tymor Cynulliad hwn.
14:58 - Paul Davies
Cabinet Secretary, I very much echo the comments of the Member for Mid and West Wales, and I can highlight plenty of examples in my own constituency of patients having to go private and having to travel further afield for orthodontic treatment. So, in the circumstances, what additional steps are the Welsh Government taking to monitor the effectiveness of the working relationships between orthodontic practices and the Hywel Dda Local Health Board in terms of the management of local orthodontic provision? Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n ategu sylwadau’r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn gryf, a gallaf dynnu sylw at ddigon o enghreifftiau yn fy etholaeth fy hun o gleifion yn gorfod mynd yn breifat a gorfod teithio ymhellach i gael triniaeth orthodontig. Felly, yn yr amgylchiadau hyn, pa gamau ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fonitro effeithiolrwydd y berthynas waith rhwng practisau orthodontig a Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda o ran rheoli’r ddarpariaeth orthodontig leol?
14:59 - Vaughan Gething
Well, as I said in my response to the Member and, indeed, to his previous question before the new year break, we recognise in particular in Hywel Dda that there’s been a need to improve on where they are. There is something there, as I said, about making sure that specialist practice is undertaken in the service and that they are actually more effective and more efficient in turning round and providing additional capacity. The health board are investing more in that specialist area of provision, and, in fact, we know that more people have been seen in the last three years within Hywel Dda. We know that there have been 24 more assessment clinics in the last year throughout the health board area. But that doesn’t mean that it resolves the whole problem. They need to continue to do that to actually properly get into the backlog. So, I recognise that constituents across the Hywel Dda health board area, some of them are waiting simply too long for this specialist treatment. So, it is about investing in the future—not pretending that we can fix it within a period of months, but to make sure that people see, progressively, an improvement that is sustainable now and in the future. Wel, fel y dywedais yn fy ateb i’r Aelod ac yn wir, i’w gwestiwn blaenorol cyn toriad y flwyddyn newydd, rydym yn cydnabod yn benodol yn Hywel Dda fod angen wedi bod i wella’u sefyllfa. Mae rhywbeth yno, fel y dywedais, ynglŷn â sicrhau bod ymarfer arbenigol yn cael ei wneud yn y gwasanaeth a’u bod yn gwella a darparu capasiti ychwanegol yn fwy effeithiol ac yn fwy effeithlon mewn gwirionedd. Mae’r bwrdd iechyd yn buddsoddi mwy yn y maes arbenigol hwnnw, ac yn wir, gwyddom fod mwy o bobl wedi cael eu gweld yn y tair blynedd ddiwethaf yn Hywel Dda. Rydym yn gwybod bod 24 yn fwy o glinigau asesu wedi’u cynnal yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar draws ardal y bwrdd iechyd. Ond nid yw hynny’n golygu ei fod yn datrys y broblem gyfan. Mae angen iddynt barhau i wneud hynny er mwyn mynd i’r afael yn iawn â’r ôl-groniad. Felly, rwy’n cydnabod bod rhai etholwyr ar draws ardal bwrdd iechyd Hywel Dda yn aros yn rhy hir am y driniaeth arbenigol hon. Felly, mae’n ymwneud â buddsoddi yn y dyfodol—nid esgus y gallwn ei unioni mewn cyfnod o fisoedd, ond gwneud yn siŵr fod pobl yn gynyddol yn gweld gwelliant sy’n gynaliadwy yn awr ac yn y dyfodol.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Questions Without Notice from Party Spokespeople
15:00 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you. I now call the party spokespersons to question the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport, and first this week is Caroline Jones. Diolch. Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, ac yn gyntaf yr wythnos hon, Caroline Jones.
15:00 - Caroline Jones
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cabinet Secretary, South Wales Police dealt with more mental health incidents last year than any other UK police force. Police officers in south Wales dealt with nearly 39,000 mental health issues during 2016. Cabinet Secretary, do you agree with me that people facing mental health issues should be cared for by specialist mental health services, rather than the criminal justice system? Can you outline the actions you are taking to reduce the number of mental health incidents being dealt with by police officers? Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaeth Heddlu De Cymru ymdrin â mwy o ddigwyddiadau iechyd meddwl y llynedd nag unrhyw heddlu arall yn y DU. Fe wnaeth swyddogion yr heddlu yn ne Cymru ymdrin â bron i 39,000 o ddigwyddiadau iechyd meddwl yn ystod 2016. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cytuno y dylai pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl gael gofal gan wasanaethau iechyd meddwl arbenigol, yn hytrach na’r system cyfiawnder troseddol? A allwch amlinellu’r camau gweithredu yr ydych yn eu cymryd i leihau nifer y digwyddiadau iechyd meddwl sy’n cael eu trin gan swyddogion yr heddlu?
15:01 - Vaughan Gething
I thank the Member for the comments. I think we need to be clear about what we’re talking about, because there’s a challenge of whether people continue to see a police cell as a place of safety, and that is not the view this Government takes, or the police force, or the health service. There’s actually much improved work that’s been undertaken between NHS Wales and police forces across the country, and I’m pleased to see there’s been a significant reduction in people inappropriately placed. We’re now down into very, very small figures. There’s still further improvement to go, but it really does depend on the categorisation that the Member uses, and whether or not these are people who are partly in the criminal justice system appropriately or are people with mental health problems who are being misplaced and not in the appropriate care for their actual care needs themselves. Diolch i’r Aelod am y sylwadau. Rwy’n credu bod angen i ni fod yn glir ynglŷn â’r hyn yr ydym yn siarad yn ei gylch, oherwydd mae i ba raddau y mae pobl yn parhau i weld cell heddlu fel man diogel yn parhau i fod yn her, ac nid dyna farn y Llywodraeth hon, na’r heddlu, na’r gwasanaeth iechyd. Mewn gwirionedd gwnaed llawer o waith gwell rhwng GIG Cymru a heddluoedd ar draws y wlad, ac rwy’n falch o weld bod gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl a leolwyd yn amhriodol. Rydym yn awr i lawr at ffigurau bach iawn. Mae’n dal i fod angen gwelliant pellach, ond mae’n dibynnu’n wirioneddol ar y categoreiddio y mae’r Aelod yn ei ddefnyddio, a pha un a yw’r rhain yn bobl sy’n rhannol yn y system cyfiawnder troseddol yn briodol ai peidio neu’n bobl â phroblemau iechyd meddwl sy’n cael eu camleoli a heb fod yn cael gofal priodol ar gyfer eu hanghenion gofal eu hunain mewn gwirionedd.
15:01 - Caroline Jones
Thank you, Cabinet Secretary. The Mind workplace well-being index shows that mental health problems are the leading cause of workplace absence. Even the NHS is not immune, and we lost a third of a million days to mental health issues amongst health staff last year. One of the biggest barriers to tackling this issue is the lack of access to psychological and talking therapies. What is your Government doing to improve access to psychological therapies and reduce waiting times for mental health treatment in Wales? Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae mynegai lles yn y gweithle Mind yn dangos mai problemau iechyd meddwl yw prif achos absenoldeb yn y gweithle. Nid yw’r GIG hyd yn oed yn rhydd rhag hyn a chollwyd traean o filiwn o ddiwrnodau yn sgil problemau iechyd meddwl ymhlith staff iechyd y llynedd. Un o’r rhwystrau mwyaf i fynd i’r afael â’r broblem yw diffyg mynediad at therapïau seicolegol a siarad. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i wella mynediad at therapïau seicolegol a lleihau amseroedd aros ar gyfer triniaeth iechyd meddwl yng Nghymru?
15:02 - Vaughan Gething
It’s no surprise to me that mental health reasons are a significant cause of workplace absence. From my previous time outside this place, as well as within it, I would be surprised if that were not the case. Our challenge is: how do we recognise it and the issues about stress within the workplace? We have specific programmes of activity, working with employers, and the awards we give about encouraging employers to take better and more anticipatory care of their workforce—recognising the significant gains to them as a business from doing so—as well as how we support people if they are out of the workplace. There’s something there about investing in occupational services in both the private and the public sectors to take care of our workers, and then, if people do need to access specialist mental health services and talking therapies, we, of course, have invested in those services successfully and progressively. This institution, as an Assembly, and, indeed, the Government, has recognised for a number of years the need to treat mental and physical health with a parity of esteem, and that has led to further investment in mental health services. We’re the first part of the UK to have meaningful working-time standards, and, actually, our performance against those is relatively good. However, there is more ground to achieve and more to be done. So, we can take some comfort in what we have done already and the priority for this area of action, but there’s much more to do before any of us can say that we’re satisfied. Nid yw’n syndod i mi mai rhesymau iechyd meddwl yw un o brif achosion absenoldeb yn y gweithle. O fy amser blaenorol y tu allan i’r lle hwn, yn ogystal ag ynddo, buaswn yn synnu pe na bai hynny’n wir. Ein her yw hon: sut y mae adnabod salwch meddwl a phroblemau’n ymwneud â straen yn y gweithle? Mae gennym raglenni gweithgaredd penodol, gan weithio gyda chyflogwyr, a’r dyfarniadau a roddwn i annog cyflogwyr i wella gofal a chynllunio gofal ymlaen llaw i’w gweithlu—gan gydnabod y manteision sylweddol iddynt hwy fel busnes o wneud hynny—yn ogystal â sut i fynd ati i gynorthwyo pobl os ydynt allan o’r gweithle. Mae rhywbeth yno ynglŷn â buddsoddi mewn gwasanaethau galwedigaethol yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus i ofalu am ein gweithwyr, ac yna, os oes angen i bobl gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol a therapïau siarad, rydym wedi buddsoddi yn y gwasanaethau hynny’n llwyddiannus ac yn gynyddol wrth gwrs. Mae’r sefydliad hwn, fel Cynulliad, ac yn wir, y Llywodraeth, wedi cydnabod ers nifer o flynyddoedd yr angen i drin iechyd meddwl a chorfforol gyda pharch cydradd, ac mae hynny wedi arwain at fuddsoddi pellach mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Ni yw’r rhan gyntaf o’r DU i gael safonau amser gweithio ystyrlon, ac mewn gwirionedd, mae ein perfformiad yn erbyn y rheini’n gymharol dda. Fodd bynnag, mae mwy o le i gyflawni a mwy i’w wneud. Felly, gallwn gymryd rhywfaint o gysur yn yr hyn a wnaethom yn barod a’r flaenoriaeth i’r maes gweithredu hwn, ond mae llawer mwy i’w wneud cyn y gall unrhyw un ohonom ddweud ein bod yn fodlon.
15:03 - Caroline Jones
Thank you, Cabinet Secretary. While we welcome steps to improve the numbers working in mental health care, such as the introduction of new courses at Glyndŵr university focusing on mental health and well-being, we are still short of both staff and funding for mental health services in Wales. How do you respond to the director of Mind Cymru, who states that the mental health arena is still ‘significantly underfunded’? What plans does your Government have to increase resources allocated to tackling mental health issues, faced by one in four of us? Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Er ein bod yn croesawu camau i wella’r niferoedd sy’n gweithio ym maes gofal iechyd meddwl, megis cyflwyno cyrsiau newydd ym Mhrifysgol Glyndŵr yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a llesiant, rydym yn dal i fod yn brin o staff a chyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Sut rydych yn ymateb i gyfarwyddwr Mind Cymru, sy’n datgan nad yw’r maes iechyd meddwl yn cael digon o arian o bell ffordd o hyd? Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i gynyddu adnoddau a ddyrennir i fynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl, a wynebir gan un o bob pedwar ohonom?
15:04 - Vaughan Gething
Well, you’ll know from the budget that this place passed that we’ve seen a significant additional resource go into mental health. It’s the largest area of spend within the health service budget, and that came from the sensible and mature conversation that took place between this Government and Plaid Cymru and others. Now, that’s meant that we are continuing to prioritise mental health as an area of action, and that is not the position that the third sector recognises takes place across our borders. I don’t complain about the third sector in this, or any other area, calling for more resources. It’s their job to campaign; it’s their job to champion issues. It’s our job, though, to manage a finite group of resources. So, I don’t think it’s good enough for the Government simply to say, ‘Someone has called for more, therefore we’ll provide it’. We have to balance that against other priorities. I’m clear that this is a priority area of action, and we’re seeing that in deed and not simply in words with the extra investment we are making in mental health services. Wel, fe fyddwch yn gwybod o’r gyllideb fod y lle hwn wedi pasio i roi adnoddau ychwanegol sylweddol tuag at iechyd meddwl. Dyma’r maes gwariant mwyaf yng nghyllideb y gwasanaeth iechyd, a deilliodd hynny o’r drafodaeth synhwyrol ac aeddfed a ddigwyddodd rhwng y Llywodraeth hon a Phlaid Cymru ac eraill. Nawr, mae hynny wedi golygu ein bod yn parhau i roi blaenoriaeth i iechyd meddwl fel maes gweithredu, ac nid dyna’r sefyllfa y mae’r trydydd sector yn cydnabod sy’n digwydd dros y ffin. Nid wyf yn cwyno bod y trydydd sector yn y maes hwn, neu unrhyw faes arall, yn galw am fwy o adnoddau. Eu gwaith yw ymgyrchu; eu gwaith yw hyrwyddo achosion. Ein gwaith ni, fodd bynnag, yw rheoli grŵp cyfyngedig o adnoddau. Felly, nid wyf yn meddwl ei bod yn ddigon da i Lywodraeth ddweud yn syml, ‘Mae rhywun wedi galw am fwy, felly byddwn yn ei ddarparu’. Mae’n rhaid i ni gydbwyso hynny yn erbyn blaenoriaethau eraill. Rwy’n glir fod hwn yn faes gweithredu â blaenoriaeth, ac rydym yn gweld hynny mewn gweithred ac nid mewn geiriau’n unig gyda’n buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
15:05 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you very much. Plaid Cymru spokesperson, Rhun ap Iorwerth. Diolch yn fawr iawn. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
15:05 - Rhun ap Iorwerth
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cabinet Secretary, we have discussed winter pressures on accident and emergency departments on many occasions. We now have the figures for January, which show that, in major A&E units, just 74.1 per cent of patients were seen within four hours. Now, when those figures were released, I think the BBC report stated that: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym wedi trafod pwysau’r gaeaf ar adrannau damweiniau ac achosion brys ar sawl achlysur. Erbyn hyn mae gennym y ffigurau ar gyfer mis Ionawr sy’n dangos mai 74.1 y cant yn unig o gleifion mewn unedau damweiniau ac achosion brys mawr sy’n cael eu gweld o fewn pedair awr. Nawr, pan gafodd y ffigurau hynny eu rhyddhau, rwy’n meddwl bod adroddiad y BBC wedi datgan:
‘Undoubtedly there will be sighs of relief in the Welsh Government’. Yn ddiau, bydd ochneidiau o ryddhad yn Llywodraeth Cymru.
Did you breathe a sigh of relief when you saw those figures? A wnaethoch chi anadlu ochenaid o ryddhad pan welsoch y ffigurau hynny?
15:05 - Vaughan Gething
I think that’s a very odd way to try and pose a question about a serious issue for the health service and for everyone who works within it. This is a real and serious issue for people who require care, in particular during the winter period, when we know that more older people are more likely to need admission into a hospital for care, and more older people need support in their own home. It’s not about breathing a sigh of relief; it’s looking at where we are as a whole system. Where we recognise there’s a need for further improvement—and not just in A&E, but the points we’ve made previously about anticipatory care that you’ll be familiar with in your own constituency, with the advance care work that is taking place in Ynys Môn, but also about the delayed transfers of care as well. As we’ve seen from the last figures, we’ve made improvement and there’s room for further improvement, as the whole system needs to work together, health and social care. It’s not about a sigh of relief; it’s about saying, ‘Where are we now? What more can we do, and is that system resilient?’ The system is coping, but it is a very real struggle. We see it in the staff, we see it in the people needing care, and I expect and I want to see further improvement made over the course of the year, and to get ready for next winter as well. Rwy’n credu bod honno’n ffordd ryfedd iawn o geisio gofyn cwestiwn am fater difrifol i’r gwasanaeth iechyd ac i bawb sy’n gweithio ynddo. Mae hwn yn fater real a difrifol i bobl sydd angen gofal, yn enwedig yn ystod y gaeaf, pan wyddom fod mwy o bobl hŷn yn fwy tebygol o fod angen eu derbyn i’r ysbyty i gael gofal, a mwy o bobl hŷn angen cymorth yn eu cartref eu hunain. Nid yw’n ymwneud ag anadlu ochenaid o ryddhad; mae’n ymwneud ag edrych ble rydym fel system gyfan. Lle rydym yn cydnabod bod angen gwelliant pellach—ac nid yn unig yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys, ond y pwyntiau a wnaethom yn flaenorol ynglŷn â gofal wedi’i gynllunio ymlaen llaw y byddwch yn gyfarwydd ag ef yn eich etholaeth eich hun gyda’r gwaith gofal ymlaen llaw sy’n digwydd ar Ynys Môn, ac ynglŷn ag oedi wrth drosglwyddo gofal yn ogystal. Fel y gwelsom o’r ffigurau diwethaf, rydym wedi gwneud gwelliannau ac mae lle i wella ymhellach, gan fod angen i’r system gyfan weithio gyda’i gilydd, iechyd a gofal cymdeithasol. Nid yw’n ymwneud ag ochenaid o ryddhad; mae’n ymwneud â dweud, ‘Ble rydym yn awr? Beth arall y gallwn ei wneud, ac a yw’r system yn gadarn?’ Mae’r system yn ymdopi, ond mae’n frwydr go iawn. Rydym yn ei weld yn y staff, rydym yn ei weld yn y bobl sydd angen gofal, ac rwy’n disgwyl ac yn dymuno gweld gwelliannau pellach yn ystod y flwyddyn, ac i baratoi ar gyfer y gaeaf nesaf hefyd.
15:06 - Rhun ap Iorwerth
It’s not an odd way of asking at all. It’s asking for your assessment of where we are. I would have liked to hear a much stronger message in terms of ‘there must be much more improvement’. Those figures for Wales—74.1 per cent seen within four hours—I’ll remind you that, in England, the figure was 82 per cent, the worst performance in 13 years, seen as a scandal and a crisis in England. Of course there’s room for improvement in Wales. Nid yw’n ffordd ryfedd o ofyn o gwbl. Mae’n gofyn am eich asesiad o’r sefyllfa rydym ynddi. Buaswn wedi hoffi clywed neges lawer cryfach fel ‘rhaid cael llawer mwy o welliant’. Y ffigurau hynny ar gyfer Cymru—74.1 y cant yn cael eu gweld o fewn pedair awr—carwn eich atgoffa bod y ffigur yn 82 y cant yn Lloegr, y perfformiad gwaethaf ers 13 mlynedd, sy’n cael ei ystyried yn sgandal ac yn argyfwng yn Lloegr. Wrth gwrs fod yna le i wella yng Nghymru.
We’ve discussed, of course, the importance of primary care and social care in helping relieve pressure on A&E on many occasions before. I’d like to focus on the role of general practitioners in providing urgent appointments. I’d like, on the record here, to send my sympathies to the family of Ellie-May Clark, whose case was reported over the weekend. Without getting into the specifics of this case, it’s clear that such a case is not going to help the perception that we’ve all heard, at times, that it’s difficult to get appointments with GPs. Now, yesterday, the older people’s commissioner released a report highlighting the barriers many people face in accessing the GP, with those perceptions about the difficulty of being seen very prominent in that report. Of course, lack of real data means that we don’t really know if perception matches reality, but one result certainly is that, if the perception is there, more people are going to go to A&E; we know the pressures on A&E. One way to address that perception, of course, would be to collect and publish more data on waiting times for the GP. Do you accept that we need performance data on availability of appointments and waiting times for a GP in order to tackle those perceptions? Rydym wedi trafod pwysigrwydd gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol, wrth gwrs, yn helpu i leihau’r pwysau ar yr adrannau damweiniau ac achosion brys ar sawl achlysur o’r blaen. Hoffwn ganolbwyntio ar rôl meddygon teulu yn darparu apwyntiadau brys. Hoffwn gofnodi fy nghydymdeimlad yma â theulu Ellie-May Clark, yr adroddwyd am ei hachos dros y penwythnos. Heb fynd i fanylion am yr achos hwn, mae’n amlwg nad yw achos o’r fath yn mynd i helpu’r canfyddiad a glywsom i gyd, ar adegau, ei bod yn anodd cael apwyntiadau meddygon teulu. Nawr, ddoe, rhyddhaodd y comisiynydd pobl hŷn adroddiad yn tynnu sylw at y rhwystrau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu wrth geisio cael mynediad at feddyg teulu, gyda’r canfyddiadau hynny ynglŷn â’r anhawster i gael eich gweld yn amlwg iawn yn yr adroddiad hwnnw. Wrth gwrs, mae diffyg data go iawn yn golygu nad ydym yn gwybod yn iawn a yw’r canfyddiadau’n cyfateb i realiti, ond un canlyniad yn sicr yw bod mwy o bobl yn mynd i fynd i adrannau damweiniau ac achosion brys os yw’r canfyddiad yno; fe wyddom am y pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys. Un ffordd o fynd i’r afael â’r canfyddiad, wrth gwrs, fyddai casglu a chyhoeddi mwy o ddata am amseroedd aros i weld meddyg teulu. A ydych yn derbyn bod arnom angen data perfformiad ar argaeledd apwyntiadau ac amseroedd aros i weld meddyg teulu er mwyn mynd i’r afael â’r canfyddiadau hynny?
15:08 - Vaughan Gething
I don’t think it would actually be helpful to try and say that we’ll start to collect data for GP waiting times and appointments. You’d need to construct a significant system to do so, and I’m not at all persuaded that that would be the right thing to do to improve patient access. We have a range of different ways of trying to look at improving patient access, including, actually, peer-to-peer conversations between primary care operators who understand what best practice looks like, and the impact that that has had both for the staff within the service as well as for the citizens that they serve. I’m happy to look at alternative ways to improve practice, whether the ideas come from other parties or, indeed, the conversations that we continue to have with the British Medical Association and the Royal College of General Practitioners about the reality of the position that they face in caring for our patients up and down the country. The tragic case you mentioned is an individual instance that I do not think it would be reasonable to try and posit as an illustrative example of the reality of care that is provided up and down our country. It is a tragic case, and I look forward to seeing the outcome of the coroner’s inquest into what took place. Nid wyf yn credu mewn gwirionedd y byddai’n ddefnyddiol ceisio dweud y byddwn yn dechrau casglu data ar gyfer amseroedd aros i weld meddygon teulu ac apwyntiadau. Byddai angen datblygu system sylweddol i wneud hynny, ac nid wyf wedi fy argyhoeddi o gwbl mai dyna fyddai’r peth iawn i’w wneud i wella mynediad i gleifion. Mae gennym ystod o wahanol ffyrdd o geisio edrych ar wella mynediad i gleifion, gan gynnwys sgyrsiau rhwng cymheiriaid mewn gwirionedd, rhwng gweithredwyr gofal sylfaenol sy’n deall beth yw arferion gorau, a’r effaith y mae hynny wedi’i chael ar y staff o fewn y gwasanaeth yn ogystal ag ar y dinasyddion y maent yn eu gwasanaethu. Rwy’n hapus i edrych ar ffyrdd amgen o wella ymarfer, pa un a yw’r syniadau’n dod gan bartïon eraill neu’n wir, y sgyrsiau yr ydym yn parhau i’w cael â Chymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol am realiti’r sefyllfa y maent yn ei hwynebu wrth ofalu am ein cleifion ar hyd a lled y wlad. Mae’r achos trasig a grybwyllwyd gennych yn enghraifft unigol nad wyf yn credu y byddai’n rhesymol ceisio’i gwneud yn enghraifft ddarluniadol o realiti’r gofal a ddarperir ar hyd a lled ein gwlad. Mae’n achos trasig, ac edrychaf ymlaen at weld canlyniad cwest y crwner i’r hyn a ddigwyddodd.
15:09 - Rhun ap Iorwerth
It is about tackling perceptions, though, and I’m slightly disappointed again. Data are very, very important. Quite often, the Minister claims an achievement and there are no data to back it up, when often there are data to back up where the problems are occurring within the NHS. There is an underlying problem, of course, throughout the emergency care system. We know there are people of all ages with chronic conditions that need to be managed in the community, including being able to have same-day consultations and so on where necessary. Mae’n ymwneud â mynd i’r afael â chanfyddiadau, fodd bynnag, ac rwy’n siomedig braidd unwaith eto. Mae data yn bwysig tu hwnt. Yn aml iawn, mae’r Gweinidog yn honni cyflawniad ac ni cheir unrhyw ddata i gefnogi hynny, pan fo data ar gael yn aml i ddangos lle y mae problemau’n digwydd yn y GIG. Ceir problem sylfaenol, wrth gwrs, yn y system gofal brys drwyddi draw. Gwyddom fod yna bobl o bob oed â chyflyrau cronig sydd angen eu rheoli yn y gymuned, gan gynnwys gallu cael ymgynghoriadau ar yr un diwrnod ac yn y blaen lle y bo angen.
Now, the older people’s commissioner’s report also highlighted the barriers many people face in discussing issues with a GP they might not know, with time limits on how long they have to describe the symptoms, and so on. The report even notes that one person said there was a notice in reception at one surgery saying that there was a one-issue rule—clearly not appropriate in an age in which more and more people have multiple conditions that the NHS has to deal with. Do you accept, then, that, if patients feel rushed by a GP, or turned away from an appointment, patient safety is compromised, ultimately? Will you agree that neither practice is acceptable and needs to be stopped? Nawr, mae adroddiad y comisiynydd pobl hŷn hefyd yn tynnu sylw at y rhwystrau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu wrth drafod materion gyda meddyg teulu nad ydynt yn ei adnabod o bosibl, gyda therfyn ar faint o amser sydd ganddynt i ddisgrifio’r symptomau ac yn y blaen. Mae’r adroddiad hyd yn oed yn nodi bod un person wedi sôn am hysbysiad yn nerbynfa un feddygfa yn nodi bod yna reol un mater yn unig—sy’n amlwg yn amhriodol mewn oes lle y mae gan fwy a mwy o bobl gyflyrau lluosog sy’n rhaid i’r GIG ymdrin â hwy. A ydych yn derbyn, felly, os yw cleifion yn teimlo’u bod yn cael eu rhuthro gan feddyg teulu, neu eu troi ymaith o apwyntiad, fod diogelwch cleifion yn cael ei beryglu yn y pen draw? A ydych yn cytuno nad yw’r naill arfer na’r llall yn dderbyniol ac mae angen eu stopio?
15:11 - Vaughan Gething
Well, I think it’s a pretty cheap shot to say that I claim achievement for the health service without there being data or evidence to support it. I recognise what you say about perception, but I don’t think championing perception over evidence is a particularly helpful thing for the opposition spokesperson to do. I take seriously the older person’s commissioner’s report, and I’ve already undertaken to write to health boards highlighting the messages from that report and reminding them about the guidance that the older person’s commissioner will be issuing. Wel, rwy’n meddwl ei bod yn annheg iawn dweud fy mod yn hawlio cyflawniad ar ran y gwasanaeth iechyd heb fod yna ddata neu dystiolaeth i’w gefnogi. Rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch am ganfyddiad, ond nid wyf yn credu bod hyrwyddo canfyddiad dros dystiolaeth yn beth arbennig o ddefnyddiol i lefarydd yr wrthblaid ei wneud. Rwy’n rhoi ystyriaeth ddifrifol i adroddiad y comisiynydd pobl hŷn, ac rwyf eisoes wedi ymrwymo i ysgrifennu at fyrddau iechyd yn tynnu sylw at y negeseuon o’r adroddiad hwnnw ac yn eu hatgoffa am y canllawiau y bydd y comisiynydd pobl hŷn yn eu cyhoeddi.
I want to see a genuine conversation between the Government, the health service, practitioners within the service, and the public, on what would make a difference to them. We see good examples across the country of changes in practice that are improving access for people and making it easier for them to have a consultation with the right healthcare professional at the right time for them. That is the approach we’ll continue to take as we do recognise that we think there is a need to improve access across every part of our healthcare system, to have a more involved and engaged patient, and that does mean that both people who access and use our service will need to behave in a different way and understand different ways of accessing that service, and to be supported in doing so and have the changes that are being made explained—for example, a more remote consultation process as a first point, for example, in the Neath pacesetter that I saw with both Jeremy Miles and David Rees; that’s been well explained there and broadly well supported and received by the public—but also about supporting our staff to work in different ways as well. Rwyf am weld sgwrs go iawn rhwng y Llywodraeth, y gwasanaeth iechyd, ymarferwyr o fewn y gwasanaeth, a’r cyhoedd, ar yr hyn a fyddai’n gwneud gwahaniaeth iddynt hwy. Rydym yn gweld enghreifftiau da ar draws y wlad o newidiadau mewn ymarfer sy’n gwella mynediad ar gyfer pobl ac yn ei gwneud yn haws iddynt gael ymgynghoriad â’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol iawn ar yr adeg iawn iddynt hwy. Dyna fydd ein hymagwedd o hyd gan ein bod yn cydnabod ein bod yn credu bod angen gwella mynediad ar draws pob rhan o’n system gofal iechyd, i sicrhau bod cleifion yn cymryd mwy o ran ac yn cael mwy o ymgysylltiad, ac mae hynny’n golygu y bydd angen i’r bobl sy’n cael mynediad at ein gwasanaeth ac yn ei ddefnyddio ymddwyn mewn ffordd wahanol a deall gwahanol ffyrdd o gael mynediad at y gwasanaeth hwnnw, a’u cefnogi i wneud hynny a chael y newidiadau a wneir wedi’u hesbonio—er enghraifft, proses ymgynghori fwy anghysbell fel pwynt cyntaf, er enghraifft yn y prosiect pennu cyfeiriad yng Nghastell-nedd a welais gyda Jeremy Miles a David Rees; mae hwnnw wedi’i esbonio’n dda yno ac at ei gilydd, yn cael ei gefnogi a’i dderbyn yn dda gan y cyhoedd—ond hefyd mae’n ymwneud â chynorthwyo ein staff i weithio mewn gwahanol ffyrdd.
15:12 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you very much. The Welsh Conservative spokesperson, Suzy Davies. I think your questions are to be directed to the Minister for Social Services and Public Health. Diolch yn fawr iawn. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies. Rwy’n meddwl bod eich cwestiynau i’w cyfeirio at y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd.
15:12 - Suzy Davies
Yes, thank you very much, Dirprwy Lywydd. Good afternoon, Minister. Thank you for your announcement yesterday on the appointment of the inaugural board for Social Care Wales. As we know, its duties will extend well beyond those of registration, as fulfilled by the care council, and its chairman made plan to me yesterday that they’re looking forward to using their combined expertise to be a critical friend to Government as well as influencing direction and priorities in policy for social care and social services. This, hopefully, may redress the imbalance of the solitary expert voice for social care on the parliamentary review panel. How do you as Minister plan to capitalise on this body of expertise in order to avoid the integration agenda resulting in a sort of medical model for social care, and how have you evaluated how much more resource it’ll need than the care council in order to carry out its roles in professional development and policy influence? Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Diolch i chi am eich cyhoeddiad ddoe ar benodi bwrdd cychwynnol Gofal Cymdeithasol Cymru. Fel y gwyddom, bydd ei ddyletswyddau’n ymestyn ymhell y tu hwnt i ddyletswyddau cofrestru fel y’u cyflawnir gan y cyngor gofal, a gwnaeth ei gadeirydd yn glir i mi ddoe eu bod yn edrych ymlaen at ddefnyddio’u harbenigedd cyfunol i fod yn gyfaill beirniadol i’r Llywodraeth yn ogystal â dylanwadu ar gyfeiriad a blaenoriaethau polisi ar gyfer gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol. Gobeithio y bydd hyn yn unioni anghydbwysedd yr un llais arbenigol ar gyfer gofal cymdeithasol ar y panel adolygu seneddol. Sut rydych chi fel Gweinidog yn bwriadu manteisio ar y corff hwn o arbenigedd er mwyn atal yr agenda integreiddio rhag arwain at ryw fath o fodel meddygol ar gyfer gofal cymdeithasol, a sut rydych wedi gwerthuso faint yn fwy o adnoddau fydd eu hangen arno na’r cyngor gofal er mwyn gallu cyflawni ei rolau ym maes datblygiad proffesiynol a dylanwadu ar bolisi?
15:13 - Rebecca Evans
I thank you for the question. I understand that you had a very useful meeting with members of the board yesterday, and I think that the advent of Social Care Wales is a really exciting time for the provision of social services and social care more widely in Wales. When I was putting together the membership of the board—and I should say we had unprecedented interest in it, which, again, is really exciting—I was keen to ensure that the board did have a strong balance of people. So, we have service users on the board, we have people from all kinds of sectors that work within social care, to try and ensure that there is a strong and wide expertise and voices on that board as well. So, I’ll be working closely with the board, especially in the early terms, to work on their programme for the future in terms of their programme of work and so on, and to ensure that they are properly resourced to undertake the work that I’ll be asking them to do. Diolch i chi am y cwestiwn. Rwy’n deall eich bod wedi cael cyfarfod defnyddiol iawn gydag aelodau o’r bwrdd ddoe, ac rwy’n meddwl bod dyfodiad Gofal Cymdeithasol Cymru yn amser cyffrous iawn ar gyfer y ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn ehangach yng Nghymru. Pan oeddwn yn llunio aelodaeth y bwrdd—a dylwn ddweud bod y diddordeb sydd wedi’i ddangos ynddo yn ddigynsail, sydd unwaith eto, yn wirioneddol gyffrous—roeddwn yn awyddus i sicrhau bod y bwrdd yn meddu ar gydbwysedd cryf o bobl. Felly, mae gennym ddefnyddwyr gwasanaethau ar y bwrdd, mae gennym bobl o bob math o sector sy’n gweithio o fewn gofal cymdeithasol, er mwyn ceisio sicrhau bod arbenigedd a lleisiau cryf ac eang ar y bwrdd hwnnw yn ogystal. Felly, byddaf yn gweithio’n agos gyda’r bwrdd, yn enwedig yn y tymhorau cynnar, i weithio ar eu rhaglen ar gyfer y dyfodol o ran eu rhaglen waith ac yn y blaen, ac i sicrhau eu bod yn cael adnoddau priodol i wneud y gwaith y byddaf yn gofyn iddynt ei wneud.
With regard to the parliamentary review, though, I do think it’s unfair to suggest that there isn’t enough expertise in social care on that panel. The members of that panel were chosen because they have such expertise that they can take a whole-system look at health and social care, and the terms of reference have been clear that it is a whole-system approach that we are looking for. Of course, we did set up a specific sub-group as well, which is specifically looking at social care as well, so I do think that social care will be well represented and well considered by the parliamentary review. O ran yr adolygiad seneddol, fodd bynnag, rwy’n meddwl ei bod yn annheg awgrymu nad oes digon o arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol ar y panel hwnnw. Dewiswyd aelodau’r panel am fod ganddynt arbenigedd sy’n eu galluogi i edrych o safbwynt y system gyfan ar iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae’r cylch gorchwyl wedi nodi’n glir mai ymagwedd system gyfan yr ydym yn ei cheisio. Wrth gwrs, sefydlwyd is-grŵp penodol hefyd, sy’n edrych yn benodol ar ofal cymdeithasol yn ogystal, felly rwy’n meddwl y bydd gofal cymdeithasol yn cael ei gynrychioli’n dda a’i ystyried yn dda gan yr adolygiad seneddol.
15:14 - Suzy Davies
You’re well blessed, Minister, in having this support in helping you make sure that the voice of social care is well represented in what’s likely to be happening over the next period of this Assembly, anyway. One of the things that you won’t find any opposition from anybody on, I suspect, in this Chamber, is the focus on the integration of health and social care, really focusing on primary and intermediate care levels. These, themselves, are NHS terms. They’re medical structures, and I think an explicit statement of intent to adopt a more social-focused model of integration would actually be pretty welcome in this Chamber. Medical intervention is, when you come to it, just part of social care. Emotional support and the place of human contact can be just as important, not least to carers, who themselves may not have any medical needs, of course. They’re at the heart of any future look at care—as, indeed, will be the nature of housing and the cross-pollination of skills in an integrated workforce. It’s going to need considerable and ongoing research to support good practice and policy development, so is this a job that you foresee, at some point, Social Care Wales taking over? Obviously it would complement their work in career design and development. And if not, why not? Rydych wedi eich bendithio, Weinidog, o ran cael y cymorth hwn i’ch helpu i wneud yn siŵr fod llais gofal cymdeithasol yn cael ei gynrychioli’n dda yn yr hyn sy’n debygol o fod yn digwydd dros gyfnod nesaf y Cynulliad hwn, beth bynnag. Un o’r pethau rwy’n tybio na fyddwch yn cael unrhyw wrthwynebiad gan neb yn ei gylch yn y Siambr hon yw’r ffocws ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, a chanolbwyntio o ddifrif ar lefelau gofal sylfaenol a chanolraddol. Mae’r rhain, eu hunain, yn dermau GIG. Strwythurau meddygol ydynt, ac rwy’n meddwl y buasai datganiad pendant o fwriad i fabwysiadu model mwy cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar integreiddio yn cael croeso yn y Siambr hon. Mewn gwirionedd, rhan o ofal cymdeithasol yn unig yw ymyrraeth feddygol. Gall cefnogaeth emosiynol a lle cyswllt dynol fod yr un mor bwysig, nid yn lleiaf i ofalwyr, na fydd ganddynt unrhyw anghenion meddygol o bosibl, wrth gwrs. Maent yn ganolog i unrhyw ystyriaeth o ofal yn y dyfodol—fel, yn wir, y bydd natur tai a chroesbeillio sgiliau mewn gweithlu integredig. Mae’n mynd i fod angen ymchwil sylweddol a pharhaus i gefnogi arferion da a datblygu polisi, felly a yw hwn yn waith yr ydych yn rhagweld, ar ryw adeg, y bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn ei wneud? Yn amlwg, byddai’n ategu eu gwaith ym maes cynllunio a datblygu gyrfa. Ac os na, pam ddim?
15:16 - Rebecca Evans
I thank you for that question, and I agree that carers play an absolutely central role in the whole system of social care in Wales, and you’ll be aware that we’re refreshing our carers strategy at the moment. Part of that is looking at young carers, older carers, carers of older people—but also looking to ensure that carers can actually have a life outside caring as well, because we know how important that is. And our carers strategy will be led by the key things that carers are telling us are important to them. When talking about the intermediate care fund, I prefer to talk about it and think about it as an integrated care fund, which is handy because it doesn’t require any changing of the ICF letters, but it is very much integrated in the sense that it is working, in many places, closely with housing, for example, to ensure that we have step-up, step-down facilities available within the extra-care setting: so, places where people can find a residential placement that will change with their needs over time. So, people with early dementia might be able to go to an extra-care setting, where they won’t have to move over time, but the support available to them in that place can change with them, and I think that that’s an important way in terms of improving the care that people receive. Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw, ac rwy’n cytuno bod gofalwyr yn chwarae rhan gwbl ganolog yn y system gofal cymdeithasol yn ei chyfanrwydd yng Nghymru, ac fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn adnewyddu ein strategaeth ofalwyr ar hyn o bryd. Rhan o hynny yw edrych ar ofalwyr ifanc, gofalwyr hŷn, gofalwyr pobl hŷn—ond ceisio sicrhau hefyd y gall gofalwyr gael bywyd y tu allan i ofalu, oherwydd gwyddom pa mor bwysig yw hynny. A bydd ein strategaeth ofalwyr yn cael ei harwain gan y pethau allweddol y mae gofalwyr yn dweud wrthym sy’n bwysig iddynt. Wrth sôn am y gronfa gofal canolraddol, mae’n well gennyf siarad amdani a meddwl amdani fel cronfa gofal integredig, ac mae’n bendant wedi ei hintegreiddio yn yr ystyr ei bod yn gweithio, mewn llawer man, yn agos i’r maes tai, er enghraifft, er mwyn sicrhau bod gennym gyfleusterau cam-i-fyny cam-i-lawr ar gael yn y lleoliad gofal ychwanegol: felly, mannau lle y gall pobl ddod o hyd i leoliad preswyl a fydd yn newid gyda’u hanghenion dros amser. Felly, efallai y bydd pobl â dementia cynnar yn gallu mynd i leoliad gofal ychwanegol, lle na fydd yn rhaid iddynt symud dros amser, ond gall y gefnogaeth sydd ar gael iddynt yn y lle hwnnw newid gyda hwy, a chredaf fod honno’n ffordd bwysig o wella’r gofal y mae pobl yn ei gael.
I recently was at the launch of the Health and Care Research Wales project, which took place in Cardiff, and that’s about bringing universities together with the social care sector itself, because we have such expertise within the social care sector in terms of the practitioners and the social workers and so on, but I don’t think that, so far, we’ve been making the most of that expertise and of those experiences and the potential for research there. So, again, this a new and exciting innovation in terms of being able to understand very well what’s happening in social care, looking at barriers and opportunities and so on, and listening to people who actually do the work on the front line. Yn ddiweddar, roeddwn yn lansiad prosiect Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, ac mae hwnnw’n ymwneud â dod â phrifysgolion a’r sector gofal cymdeithasol ei hun at ei gilydd, gan fod gennym gymaint o arbenigedd yn y sector gofal cymdeithasol o ran ymarferwyr a gweithwyr cymdeithasol ac yn y blaen, ond nid wyf yn credu hyd yn hyn ein bod wedi bod yn gwneud y gorau o’r arbenigedd hwnnw a’r profiadau hynny a’r potensial ar gyfer ymchwil yno. Felly, unwaith eto, dyma arloesi newydd a chyffrous o ran gallu deall yn dda iawn beth sy’n digwydd mewn gofal cymdeithasol, gan edrych ar y rhwystrau a chyfleoedd ac yn y blaen, a gwrando ar y bobl sy’n gwneud y gwaith ar y rheng flaen.
15:18 - Suzy Davies
Thank you very much for that answer, actually. I still want to develop that a little bit further because the future of social care—we’re not talking about it because it’s fashionable. It’s because it matters to so many people and we all recognise that it needs change. And even though I, personally, have no fixed view on whether this should be evolutionary or revolutionary, what I’m really looking for is an indication from you about quite how brave you’re going to be when it comes to innovation. So, for example—this is just an example, as well—there’s a nursing home in the Netherlands that allows university students to live rent free alongside elderly residents in that nursing home, in a 30-hour per month ‘acting as a good neighbour’ contract, as part of a project aimed at warding off negative effects, and there are similar intergenerational programmes in Lyon and in Cleveland in Ohio. One programme, which began in Barcelona in the 1990s, has been replicated in more than 20 cities. We really have to lift our eyes at what’s going on in the rest of the world, I think. So, I’d be very interested to know whether you’re discussing similar ideas with private providers, housing associations and colleges and universities. And I’m glad that you hinted at that earlier on, because if we’re going to make this really work, it has got to be about more than just local authorities and the NHS. Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw. Rwy’n dal yn awyddus i ddatblygu hynny ychydig ymhellach oherwydd mae dyfodol gofal cymdeithasol—nid ydym yn siarad am y peth am ei fod yn ffasiynol, ond oherwydd ei fod yn bwysig i gymaint o bobl ac rydym i gyd yn cydnabod bod angen iddo newid. A hyd yn oed er nad oes gennyf fi, yn bersonol, unrhyw farn bendant ynglŷn ag a ddylai hyn fod yn esblygiadol neu’n chwyldroadol, yr hyn rwy’n edrych amdano mewn gwirionedd yw syniad gennych pa mor ddewr y bwriadwch fod o ran arloesi. Felly, er enghraifft—ac enghraifft yn unig yw hon hefyd—ceir cartref nyrsio yn yr Iseldiroedd sy’n caniatáu i fyfyrwyr prifysgol fyw heb rent ochr yn ochr â phreswylwyr oedrannus yn y cartref nyrsio hwnnw, mewn contract ‘gweithredu fel cymydog da’ 30 awr y mis yn rhan o brosiect sy’n anelu at atal effeithiau negyddol, a cheir rhaglenni pontio’r cenedlaethau tebyg yn Lyon ac yn Cleveland yn Ohio. Mae un rhaglen, a ddechreuodd yn Barcelona yn y 1990au, wedi cael ei hefelychu mewn mwy nag 20 o ddinasoedd. Rwy’n meddwl bod gwir angen i ni edrych ar yr hyn sy’n digwydd yng ngweddill y byd. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod a ydych yn trafod syniadau tebyg gyda darparwyr preifat, cymdeithasau tai a cholegau a phrifysgolion. Ac rwy’n falch eich bod wedi awgrymu hynny yn gynharach, oherwydd os ydym yn mynd i wneud i hyn weithio mewn gwirionedd, mae’n rhaid iddo ymwneud â mwy na’r awdurdodau lleol a’r GIG yn unig.
15:19 - Rebecca Evans
I agree that we do have to think very innovatively about it, because of the scale of the challenge—there’s no doubt about that. Innovation really does need to be central to our approach to meeting those challenges. Some of the models that you described I am familiar with, and I’ve asked officials to provide me with some more advice, because I do think that learning from best practice from other countries is something that we should absolutely be keen to do—as I would hope other countries can look to us in areas where we are performing well, as well. Rwy’n cytuno bod yn rhaid i ni feddwl yn arloesol iawn am y peth, oherwydd maint yr her—nid oes dwywaith am hynny. Mae gwir angen i arloesedd fod yn ganolog i’n hymagwedd at ateb yr heriau hyn. Rwy’n gyfarwydd â rhai o’r modelau a ddisgrifiwyd gennych, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion roi mwy o gyngor i mi, gan fy mod yn credu bod dysgu o arfer da o wledydd eraill yn rhywbeth y dylem fod yn gwbl awyddus i’w wneud—fel y byddwn yn gobeithio y gall gwledydd eraill edrych arnom ni mewn meysydd lle rydym yn perfformio’n dda hefyd.
15:19 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you very much. We now turn to the questions on the order paper again. Question 3—Dawn Bowden. Diolch yn fawr iawn. Trown yn awr at y cwestiynau ar y papur trefn eto. Cwestiwn 3—Dawn Bowden.
Sgrinio am Ganser Cancer Screening
15:20 - Dawn Bowden
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau sgrinio am ganser yng Nghymru? OAQ(5)0134(HWS) 3. Will the Cabinet Secretary make a statement on cancer screening services in Wales? OAQ(5)0134(HWS)
15:20 - Rebecca Evans
We have well-established screening programmes for breast, cervical and bowel cancer, with more than 400,000 men and women routinely screened each year. Breast cancer screening became a fully digitalised service in 2012 and we have recently announced planned improvements to the tests used for bowel and cervical cancer screening. Mae gennym raglenni sgrinio sydd wedi’u sefydlu’n dda ar gyfer canser y fron, canser ceg y groth a chanser y coluddyn, gyda mwy na 400,000 o ddynion a menywod yn cael eu sgrinio’n rheolaidd bob blwyddyn. Daeth sgrinio canser y fron yn wasanaeth wedi’i ddigidoleiddio’n llawn yn 2012 ac yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi gwelliannau arfaethedig i’r profion a ddefnyddir ar gyfer sgrinio canser y coluddyn a chanser ceg y groth.
15:20 - Dawn Bowden
Thank you, Minister, for that response. I’d just like to specifically refer to cervical screening, if I may. I think we all agree on the benefits of early diagnosis of cancer wherever possible, but this also raises the question of the appropriate age at which certain screening should start. I don’t know whether I’m alone in being approached by constituents calling for cervical screening for women to revert to screening at age 20, but certainly I’ve been contacted along those lines. Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Hoffwn gyfeirio’n benodol at sgrinio ceg y groth, os caf. Rwy’n credu ein bod i gyd yn cytuno ar fanteision diagnosis cynnar o ganser lle bynnag y bo hynny’n bosibl, ond mae hyn hefyd yn codi cwestiwn ynglŷn â’r oed priodol y dylai sgrinio penodol ddechrau. Nid wyf yn gwybod ai fi yw’r unig un sy’n cael etholwyr yn dod ataf i alw am newid y drefn sgrinio ceg y groth i fenywod yn ôl i sgrinio’n 20 oed, ond yn sicr mae pobl wedi bod yn cysylltu â mi ar hyd y llinellau hynny.
I’m aware, of course, that the decision to raise the age from 20 to 25 in 2013 was based on guidance from the UK national screening committee, which not only questioned the benefits of early screening but also highlighted some of the potential harm in routine screening on women below the age of 25. In that context, the roll-out of the HPV vaccine to schoolgirls from the age of 12 to 13 has been very welcome, as has the primary testing for HPV as part of the screening process. Rwy’n ymwybodol, wrth gwrs, fod y penderfyniad i godi’r oedran o 20 i 25 oed yn 2013 yn seiliedig ar arweiniad gan bwyllgor sgrinio cenedlaethol y DU, a oedd nid yn unig yn cwestiynu manteision sgrinio cynnar ond hefyd yn amlygu peth o’r niwed posibl yn sgil sgrinio rheolaidd i fenywod o dan 25 oed. Yn y cyd-destun hwnnw, cafodd y broses o gyflwyno’r brechlyn HPV i ferched ysgol rhwng 12 a 13 oed groeso mawr, fel y cafodd y profion sylfaenol ar gyfer HPV yn rhan o’r broses sgrinio.
However, my main concern in relation to cervical cancer screening relates to the slight fall in the percentage of women who are presenting for screening. In particular, it’s noticeably lower in deprived areas. Would the Minister agree with me that, alongside the changes that we are seeing in cervical cancer screening, there is a need to ensure that there’s a key role for Welsh Government and all healthcare providers not only to play their part in raising awareness amongst patients of the screening provisions, but also in operating what NICE termed the low threshold of suspicion when considering referrals for testing? That is the threshold at which, based on symptoms, a GP or care provider takes the decision to refer a patient for further tests. Fodd bynnag, mae fy mhrif bryder mewn perthynas â sgrinio canser ceg y groth yn ymwneud â’r gostyngiad bychan yn y ganran o fenywod sy’n dod i gael eu sgrinio. Yn benodol, mae’n amlwg yn is mewn ardaloedd difreintiedig. A fuasai’r Gweinidog yn cytuno, ochr yn ochr â’r newidiadau a welwn mewn sgrinio am ganser ceg y groth, fod angen sicrhau bod yna rôl allweddol i Lywodraeth Cymru a phob darparwr gofal iechyd, nid yn unig i chwarae eu rhan yn codi ymwybyddiaeth cleifion o’r darpariaethau sgrinio, ond hefyd o ran gweithredu yr hyn yr oedd NICE yn ei alw’n drothwy amheuaeth isel wrth ystyried atgyfeiriadau ar gyfer profion? Dyna’r trothwy lle y bydd meddyg teulu neu ddarparwr iechyd, yn seiliedig ar symptomau, yn penderfynu atgyfeirio’r claf i gael profion pellach.
15:22 - Rebecca Evans
Thank you very much for that question. I absolutely agree with you, obviously, that early detection of cancer is crucial, because it allows for a combination of more effective and less intensive treatments for the individual and, obviously, the better outcomes that that will lead to. Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw. Cytunaf yn llwyr â chi, yn amlwg, fod canfod canser yn gynnar yn hanfodol, am ei fod yn caniatáu ar gyfer cyfuniad o driniaethau mwy effeithiol a llai dwys i’r unigolyn ac yn amlwg, y canlyniadau gwell y byddai hynny’n arwain atynt.
In addition to the screening programmes, it is important that the 2015 NICE guidance for the recognition and referral of suspected cancer is embedded in clinical practice to ensure that the health service identifies more cancers at an early stage. I agree with you there. We’ve developed a programme of support for primary care, in partnership with Macmillan, called the framework for cancer and that’s being led through the Wales cancer network. There are also provisions in the GP contract as well to support practice-based learning and further work through the cancer network to support better access to testing. Yn ogystal â’r rhaglenni sgrinio, mae’n bwysig fod y canllawiau NICE 2015 ar gyfer canfod ac atgyfeirio achosion lle y ceir amheuaeth o ganser yn rhan annatod o ymarfer clinigol er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn canfod mwy o ganserau’n gynnar. Rwy’n cytuno â chi yn hynny o beth. Rydym wedi datblygu rhaglen gymorth ar gyfer gofal sylfaenol, mewn partneriaeth â Macmillan, a elwir yn fframwaith ar gyfer canser ac mae’n cael ei weithredu drwy rwydwaith canser Cymru. Mae yna ddarpariaethau hefyd yn y contract meddyg teulu i gefnogi dysgu seiliedig ar ymarfer a gwaith pellach drwy’r rhwydwaith canser i gefnogi mynediad gwell at brofion.
You referred to the issue of the 2012 UK national screening committee’s recommendation on ceasing cervical screening for those women aged 20 to 24. You’ll be aware that the screening committee is an expert voice, basing its decisions and advice to all UK Government Ministers on the evidence, and the evidence does show that cervical cancer screening for women under 25 offers little protection as abnormalities are very common within this age group and are usually self-limiting. Furthermore, the detection of abnormalities through screening in women under 25 does lead to considerable over-treatment and that can lead to later problems with pregnancy and so on. Fe gyfeirioch at argymhelliad pwyllgor sgrinio cenedlaethol y DU 2012 ar roi’r gorau i sgrinio ceg y groth ar gyfer menywod rhwng 20 a 24 oed Fe fyddwch yn gwybod bod y pwyllgor sgrinio yn llais arbenigol, sy’n seilio ei benderfyniadau a’i gyngor i holl Weinidogion Llywodraeth y DU ar y dystiolaeth, ac mae’r dystiolaeth yn dangos nad yw sgrinio canser ceg y groth i fenywod dan 25 yn cynnig fawr ddim amddiffyniad gan fod annormaleddau’n gyffredin iawn yn y grŵp oedran hwn ac fel arfer yn hunangyfyngol. Ar ben hynny, mae canfod annormaleddau drwy sgrinio menywod o dan 25 yn arwain at or-drin sylweddol a gall hynny arwain at broblemau yn nes ymlaen gyda beichiogrwydd ac yn y blaen.
Going on to the point you raised about the slight fall in uptake, which is a concern to all of us—but particularly of concern is the inequality in uptake. We know that people in more affluent communities are much more likely to take up all of our screening programmes, actually, than those living in poorer communities. For our programmes to reach their potential, we have to ensure that we reach out to all communities. I fynd ymlaen at y pwynt a nodwyd gennych ynglŷn â’r gostyngiad bychan yn nifer y rhai sy’n cael eu sgrinio, sy’n peri pryder i bob un ohonom—ond yr hyn sy’n peri pryder arbennig yw’r anghyfartaledd yn y niferoedd. Gwyddom fod pobl mewn cymunedau mwy cefnog yn llawer mwy tebygol mewn gwirionedd o fanteisio ar ein holl raglenni sgrinio na’r rhai sy’n byw mewn cymunedau tlotach. Er mwyn i’n rhaglenni gyrraedd eu potensial, rhaid i ni sicrhau ein bod yn estyn allan at bob cymuned.
So, how do we do that? I think a combination of awareness raising, which you referred to, and more simple and practical testing and easier testing is important as well, which is why our move to HPV testing for cervical cancer and FIT testing for bowel cancer will be so important in that regard as well. We do have a screening engagement team in Public Health Wales, which is working with public health teams, health boards and primary care to raise uptake amongst particularly hard-to-reach groups. I can certainly write to the Member with some examples of what’s taking place as well. Felly, sut y gwnawn hynny? Rwy’n credu bod cyfuniad o godi ymwybyddiaeth, y cyfeirioch chi ato, a phrofion symlach a mwy ymarferol a haws yn bwysig hefyd, a dyna pam y bydd symud at brofion HPV ar gyfer canser ceg y groth a phrofion FIT ar gyfer canser y coluddyn mor bwysig yn hynny o beth hefyd. Mae gennym dîm ymgysylltu sgrinio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n gweithio gyda thimau iechyd cyhoeddus, byrddau iechyd a gofal sylfaenol i gynyddu’r niferoedd sy’n cael eu sgrinio yn enwedig ymysg grwpiau anodd eu cyrraedd. Yn sicr, gallaf ysgrifennu at yr Aelod gyda rhai enghreifftiau o’r hyn sy’n digwydd yn ogystal.
15:25 - Mohammad Asghar
Minister, women at high risk of ovarian cancer are advised to have their ovaries and fallopian tubes removed as there is, currently, no screening programme for the disease in Wales. Research published in the ‘Journal of Clinical Oncology’ shows that a blood test—a simple blood test—every four months could help to detect ovarian cancer earlier, when tumours should be easier to treat and remove. What plans does the Minister have to make regular blood testing available to women at high risk of ovarian cancer in Wales? Thank you. Weinidog, caiff menywod sydd â risg uchel o gael canser yr ofari eu cynghori i gael eu hofarïau a’u tiwbiau ffalopaidd wedi’u tynnu gan nad oes rhaglen sgrinio ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y clefyd yng Nghymru. Mae ymchwil a gyhoeddwyd yn y ‘Journal of Clinical Oncology’ yn dangos y gallai prawf gwaed—prawf gwaed syml—bob pedwar mis helpu i ganfod canser yr ofari’n gynharach, pan ddylai tiwmorau fod yn haws i’w trin a’u tynnu. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i sicrhau bod profion gwaed rheolaidd ar gael i fenywod sydd â risg uchel o gael canser yr ofari yng Nghymru? Diolch.
15:25 - Rebecca Evans
I thank you for that question. This is an issue that we discussed at some length recently in the Petitions Committee. The Petitions Committee has produced a report based on the evidence that it took from the Government, but also from members of the public and from the leading cancer charities. The leading cancer charities actually were not in favour of introducing the screening. This is one of those cases where you do have to balance up the risks and the benefits, and the risks outweigh the benefits in this case at the moment on the evidence that we have. But, we have said that we will keep a close eye on emerging evidence from the UK and across the globe on this particular issue. Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Mae hwn yn fater a drafodwyd gennym yn helaeth yn ddiweddar yn y Pwyllgor Deisebau. Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y dystiolaeth a gafodd gan y Llywodraeth, ond hefyd gan aelodau o’r cyhoedd a’r prif elusennau canser. Mewn gwirionedd nid oedd y prif elusennau canser o blaid cyflwyno’r sgrinio. Mae hwn yn un o’r achosion hynny lle y mae’n rhaid i chi gydbwyso’r risgiau a’r manteision, ac mae’r risgiau yn gorbwyso’r manteision yn yr achos hwn ar hyn o bryd yn ôl y dystiolaeth sydd gennym. Ond rydym wedi dweud y byddwn yn cadw llygad barcud ar y dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg o’r DU ac ar draws y byd ar y mater penodol hwn.
Amseroedd Aros yng Ngogledd Cymru Waiting Times in North Wales
15:26 - Darren Millar
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amser aros ar gyfer triniaethau yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0117(HWS) 4. Will the Cabinet Secretary provide an update on waiting times for treatment in north Wales? OAQ(5)0117(HWS)
15:26 - Vaughan Gething
I expect all patients, whether in planned or unscheduled care, to be seen and treated in a timely manner based on clinical need. Some orthopaedic waits in particular are not acceptable, as I have already made clear. I expect to see improvement in this year’s March figures, with further improvement in the year ahead. Rwy’n disgwyl i bob claf, boed mewn gofal wedi’i gynllunio neu heb ei drefnu, gael eu gweld a’u trin mewn modd amserol yn seiliedig ar angen clinigol. Nid yw rhai amseroedd aros orthopedig, yn enwedig, yn dderbyniol, fel yr wyf eisoes wedi dweud yn glir. Disgwyliaf weld gwelliant yn y ffigurau ar gyfer mis Mawrth eleni, gyda gwelliant pellach yn y flwyddyn i ddod.
15:26 - Darren Millar
Thank you for that answer, Cabinet Secretary. You’ll be aware that I raised the orthopaedic waiting times for hip operations in particular with the First Minister during a recent First Minister’s question time, and made reference to the fact that the routine waiting time at the moment at Glan Clwyd Hospital is 112 weeks for such operations, in spite of the Welsh Government’s 26-week target. At that time, the First Minister laughably responded that a hand surgeon had been appointed at Glan Clwyd—a locum hand surgeon—in order to reduce waits in this area. I’m pleased that you recognise that that is not going to deal with the problem of waiting times for my constituents. Can I ask you, given that the health board is currently in special measures, what responsibility do you, as a Welsh Government, recognise is your responsibility for the lengthening of these waiting times over the past two years? Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe wyddoch fy mod wedi crybwyll amseroedd aros orthopedig ar gyfer llawdriniaethau clun yn benodol wrth y Prif Weinidog yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog yn ddiweddar, ac wedi cyfeirio at y ffaith fod yr amser aros arferol ar hyn o bryd yn Ysbyty Glan Clwyd yn 112 wythnos ar gyfer llawdriniaethau o’r fath, er gwaethaf targed 26 wythnos Llywodraeth Cymru. Ar y pryd, ymatebodd y Prif Weinidog yn chwerthinllyd drwy ddweud bod llawfeddyg wedi’i benodi yng Nglan Clwyd—llawfeddyg locwm—er mwyn lleihau amseroedd aros yn yr ardal. Rwy’n falch eich bod yn cydnabod nad yw hynny’n mynd i ddatrys problem amseroedd aros i fy etholwyr. A gaf fi ofyn i chi, o ystyried bod y bwrdd iechyd ar hyn o bryd yn destun mesurau arbennig, faint o gyfrifoldeb rydych chi, fel Llywodraeth Cymru, yn ei dderbyn am ymestyn yr amseroedd aros hyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf?
15:27 - Vaughan Gething
To be fair, the follow-up question that you asked the First Minister wasn’t specifically about hip waiting times, so you got a response about general orthopaedic action. There is a challenge here about hips within the orthopaedic waiting times that the health board are experiencing. On the Ysbyty Glan Clwyd site, it’s where they see the most complex patients, and, actually, they are the long-waiters—they are more likely to be long-waiters. Unfortunately, there isn’t the capacity available to deal with all of those people at present. There’s a medium-term plan that’s being constructed by the health board, together with their clinicians, to actually tackle that, because we recognise that they do need to do that. I fod yn deg, nid oedd y cwestiwn atodol a ofynnoch i’r Prif Weinidog yn ymwneud yn benodol ag amseroedd aros ar gyfer llawdriniaethau clun, felly fe gawsoch ymateb ynglŷn â gweithgarwch orthopedig cyffredinol. Mae’r bwrdd iechyd yn wynebu her yma gyda chluniau o fewn yr amseroedd aros orthopedig. Ar safle Ysbyty Glan Clwyd y maent yn gweld y cleifion mwyaf cymhleth, ac mewn gwirionedd, hwy yw’r rhai sy’n aros yn hir—maent yn fwy tebygol o fod yn aros yn hir. Yn anffodus, nid oes capasiti ar gael i ymdrin â’r holl bobl hynny ar hyn o bryd. Ceir cynllun tymor canolig sy’n cael ei lunio gan y bwrdd iechyd, ynghyd â’u clinigwyr, i fynd i’r afael â hynny mewn gwirionedd, gan ein bod yn cydnabod bod angen iddynt wneud hynny.
Overall waiting times are much more reasonable. The challenge is this particular group and other particular groups of longer-term waiters. Part of the challenge for the health board is the capacity that they do have and the capacity that they’ve previously been able to make use of within the English system, of which there is less, but it’s also, actually, about the fact that there has been a significant increase in demand in the health board area. In fact, the number of people who have been referred for orthopaedic treatment in secondary care has gone up over 83 per cent in the last four years. Actually, the number of people seen and treated within time has gone up by a third in that time. Mae amseroedd aros cyffredinol yn llawer mwy rhesymol. Yr her yw’r grŵp penodol hwn a grwpiau penodol eraill o bobl sy’n aros yn hwy. Rhan o’r her i’r bwrdd iechyd yw’r capasiti sydd ganddynt a’r capasiti y maent wedi gallu gwneud defnydd ohono’n flaenorol o fewn y system yn Lloegr, ac mae llai ohono, ond mae’n ymwneud hefyd, mewn gwirionedd, â’r ffaith fod cynnydd sylweddol wedi bod yn y galw yn ardal y bwrdd iechyd. Yn wir, mae nifer y bobl sydd wedi cael eu hatgyfeirio am driniaeth orthopedig mewn gofal eilaidd wedi cynyddu dros 83 y cant yn y pedair blynedd ddiwethaf. Mewn gwirionedd, cafwyd cynnydd o draean yn nifer y bobl a gafodd eu gweld a’u trin o fewn yr amser yn ystod y cyfnod hwnnw.
So, you see that there’s a mismatch in the ability to see and treat more people, which the health board has done, and to actually meet the demand itself. That’s why actually delivering against the planned care programme is really important—those measures have to go forward. It’s why the support that we provide to the health board matters. It’s not just money, but some of the expertise and the scrutiny of their plans. Of course, I expect to see further improvement over this year and the next year as well. It will be part of the scrutiny and accountability exercise that takes place—whether this health board or any other is in special measures—because, as I’ve said before, I recognise that these long waiting times are not acceptable, and it’s a challenge for this part of the health service and every other. Felly, fe welwch fod anghysondeb rhwng y gallu i weld ac i drin mwy o bobl, fel y mae’r bwrdd iechyd wedi’i wneud, a diwallu’r galw ei hun mewn gwirionedd. Dyna pam ei bod mor bwysig cyflawni yn erbyn y rhaglen gofal wedi’i gynllunio mewn gwirionedd—rhaid i’r mesurau hynny fynd rhagddynt. Dyna pam y mae’r gefnogaeth a ddarparwn i’r bwrdd iechyd yn bwysig. Nid ymwneud ag arian yn unig y mae, ond â’r arbenigedd a’r broses o graffu ar eu cynlluniau. Wrth gwrs, rwy’n disgwyl gweld gwelliannau pellach dros y flwyddyn hon a’r flwyddyn nesaf hefyd. Bydd yn rhan o’r ymarfer craffu ac atebolrwydd sy’n digwydd—pa un a yw’r bwrdd iechyd hwn neu unrhyw fwrdd iechyd arall yn destun mesurau arbennig—oherwydd, fel y dywedais o’r blaen, rwy’n cydnabod nad yw’r amseroedd aros hir hyn yn dderbyniol, ac mae’n her i’r rhan hon o’r gwasanaeth iechyd a phob rhan arall.
15:29 - Llyr Gruffydd
Rwyf wedi codi ar fy nhraed yn y Siambr yma nifer o weithiau yn y gorffennol yn beirniadu’r bwrdd iechyd ac yn tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet ac eraill at nifer o broblemau a rhwystredigaethau. Felly, mae hi ond yn deg fy mod i’n llongyfarch ar adegau pan fo yna le i wneud hynny i’r bwrdd iechyd, ac, yn y cyd-destun yma, i’w llongyfarch nhw ar y defnydd o’r ap ynglŷn ag amserau aros sydd wedi cael ei—wel, ddim cael ei gynhyrchu, ond, yn sicr, maen nhw’n gwneud defnydd ohono fe yn y gogledd nawr. Mae e, fel rhiant, yn rhywbeth rydw i wedi cael achos i’w ddefnyddio, ac rwy’n gwybod am rieni eraill sydd wedi ei ddefnyddio fe. Roeddwn i’n edrych nawr—tair awr yng Nglan Clwyd, ychydig dros ddwy awr ym Maelor, dim aros yn ysbyty, neu yn uned mân anafiadau Dinbych. Ac felly, rwy’n siŵr y gwnewch chi ymuno â fi yn llongyfarch y bwrdd—fel rŷch chi wedi ei gydnabod yn y gorffennol—ar y datblygiad yma. I’ve stood in this Chamber a number of times in the past criticising the health board and drawing the Cabinet Secretary and others’ attention to a number of problems and frustrations, so it’s only fair that I congratulate when there is room to do that. In this context, I want to congratulate the health board on the use of the app on waiting times that has been produced—well, not produced, but, certainly, it is being used in north Wales now. As a parent, it is something that I’ve had cause to use, and I know of other parents who’ve used it. I was looking now—three hours in Glan Clwyd, a little over two hours in Wrexham Maelor, and no waiting time in the minor injuries unit in Denbigh. And so, I’m sure that you would join with me in congratulating the board—as you’ve recognised in the past—on this development.
Ond yr hyn rwyf eisiau ei ofyn, wrth gwrs, yw: beth sy’n cael ei wneud i sicrhau bod yr arfer da yma nawr yn cael ei fabwysiadu ar draws Cymru? Ond hefyd, pa fuddsoddiad mae’ch Llywodraeth chi’n ei wneud i alluogi byrddau iechyd Cymru i wneud buddsoddiadau tebyg yn y dechnoleg yma, sydd gan bob un ohonom ni, a fydd, yn ei dro, wrth gwrs, yn help i daclo rhai o’r problemau ymarferol iawn y mae’r gwasanaeth yn eu hwynebu? But what I want to ask you, of course, is: what is being done to ensure that this best practice is adopted across Wales? But also, what investment is your Government making to enable Welsh health boards to make similar investments in this technology, which each and every one of us has, which, in turn, will help to tackle some of the very practical problems that the service is facing?
15:30 - Vaughan Gething
I thank you for recognising the success of the app, both in terms of how user-friendly it is but also its usefulness to people seeking to access unscheduled care in particular. This isn’t a particular issue about the cost in developing the app from now, and actually spreading it out; it’s actually about understanding enough time and enough evidence about the value of it. And, actually, it’s been really helpful to have one health board leading in its application. Diolch i chi am gydnabod llwyddiant yr ap, o ran hwyluster a hefyd o ran ei ddefnyddioldeb i bobl sy’n ceisio cael mynediad at ofal heb ei drefnu yn benodol. Nid yw hon yn broblem sy’n ymwneud yn arbennig â’r gost o ddatblygu’r ap o hyn ymlaen, a’i ledaenu; mewn gwirionedd mae’n ymwneud â deall digon o amser a digon o dystiolaeth am ei werth. Ac mewn gwirionedd, mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn cael un bwrdd iechyd yn arwain ar ei ddefnydd.
It’s fair to say there was some anxiety within the service about whether this would prove to be an innovation that would be helpful, or whether it would provide more questions than answers. And, in fact, when I was in Ysbyty Gwynedd on Monday, making a positive announcement on investment in a new accident and emergency department, staff themselves commented they’d actually found the app helpful, and people attending had found it helpful as well. So, it’s been a positive start, but I think, once we have more data on its use and its usefulness, then we will of course look at how we can take that learning forward for the rest of our system—not just in north Wales, but across the rest of NHS Wales as well. Mae’n deg dweud bod rhywfaint o bryder o fewn y gwasanaeth ynglŷn ag a fyddai hwn yn profi’n arloesedd defnyddiol, neu a fyddai’n darparu mwy o gwestiynau nag atebion. Ac yn wir, pan oeddwn yn Ysbyty Gwynedd ddydd Llun yn gwneud cyhoeddiad cadarnhaol ar fuddsoddi mewn adran damweiniau ac achosion brys newydd, roedd y staff eu hunain yn dweud eu bod yn ystyried yr ap yn ddefnyddiol, ac roedd y bobl a oedd yno yn ei ystyried yn ddefnyddiol hefyd. Felly, mae wedi bod yn ddechrau cadarnhaol, ond ar ôl i ni gael mwy o ddata ar ei ddefnydd a’i ddefnyddioldeb, rwy’n credu y byddwn yn edrych wedyn wrth gwrs ar sut y gallwn ddatblygu’r gwersi hynny ar gyfer gweddill ein system—nid yn unig yng ngogledd Cymru, ond ar draws gweddill GIG Cymru yn ogystal.
Amseroedd Aros ar gyfer Damweiniau ac Achosion Brys Accident and Emergency Waiting Times
15:31 - Suzy Davies
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros ar gyfer damweiniau ac achosion brys yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0128(HWS) 5. Will the Cabinet Secretary provide an update on accident and emergency waiting times in South Wales West? OAQ(5)0128(HWS)
15:31 - Vaughan Gething
Thank you for the question. Emergency departments in South Wales West have continued to experience significant pressure and demand throughout this winter. Members will, of course, recall that this is part of the reason why Abertawe Bro Morgannwg University Local Health Board is in targeted intervention, because of the lack of sustained progress on unscheduled care. There has been some improvement compared to last winter, but there is still further progress to be made. Diolch am y cwestiwn. Mae adrannau achosion brys yng Ngorllewin De Cymru wedi parhau i brofi pwysau a galw sylweddol drwy gydol y gaeaf hwn. Bydd yr Aelodau, wrth gwrs, yn cofio mai dyma ran o’r rheswm pam y ceir ymyrraeth wedi’i thargedu ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, oherwydd y diffyg cynnydd parhaus ym maes gofal heb ei drefnu. Gwelwyd rhywfaint o welliant o’i gymharu â’r gaeaf diwethaf, ond mae cynnydd pellach i’w wneud eto.
15:32 - Suzy Davies
Thank you for that answer, and I’m glad that you acknowledge the concerns, and can confirm that intervention is actually happening now. I’ve got a slightly different question to ask you, so bear with me on this, because it’s about district nurses. Diolch i chi am yr ateb hwnnw, ac rwy’n falch eich bod yn cydnabod y pryderon, ac yn gallu cadarnhau bod ymyrraeth yn digwydd bellach mewn gwirionedd. Mae gennyf gwestiwn ychydig yn wahanol i’w ofyn i chi, felly byddwch yn amyneddgar gyda mi ar hyn, oherwydd mae’n ymwneud â nyrsys ardal.
The Assembly, as you know, took evidence that the number of district nurses in Wales has dropped by 40 per cent in the last five years, with fears of further losses. And the work that district nurses do, to ensure patient recovery in their own homes, is absolutely part of keeping people out of hospital, and that’s what I’m coming to on this. Things like blocked catheters and undressed wounds shouldn’t actually, in themselves, be reasons for people to go to hospital. But if they’re not dealt with, they do become reasons to go to hospital; the consequences can be very serious, including things like sepsis. Mae’r Cynulliad, fel y gwyddoch, wedi cael tystiolaeth fod nifer y nyrsys ardal yng Nghymru wedi gostwng 40 y cant yn y pum mlynedd ddiwethaf, gydag ofnau y ceir colledion pellach. Ac mae’r gwaith y mae nyrsys ardal yn ei wneud yn sicrhau adferiad cleifion yn eu cartrefi eu hunain yn bendant yn rhan o gadw pobl allan o’r ysbyty, ac at hynny rwy’n dod ar hyn. Ni ddylai pethau fel cathetrau wedi blocio a chlwyfau heb eu gorchuddio ynddynt eu hunain fod yn rhesymau i bobl fynd i’r ysbyty mewn gwirionedd. Ond os nad ymdrinnir â hwy, fe ddont yn rhesymau dros fynd i’r ysbyty; gall y canlyniadau fod yn ddifrifol iawn, gan gynnwys pethau fel sepsis.
So, can you tell us the level of emergency admissions to hospital, in Morriston, and elsewhere, as the result of conditions that have deteriorated due to insufficiently frequent attention by district nurses, and the effect of that then on A&E waiting times? Perhaps you can also tell us whether the new funding you’ve announced for nursing staff will represent replacement of those sorts of skills that district nurses have, and that we are at risk of losing. Thank you, Cabinet Secretary. Felly, a allwch ddweud wrthym beth yw lefel y derbyniadau brys i ysbytai, yn Nhreforys, ac mewn mannau eraill, o ganlyniad i gyflyrau sydd wedi gwaethygu o ganlyniad i ddiffyg sylw cyson gan nyrsys ardal, ac effaith hynny wedyn ar amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys? Efallai y gallwch ddweud wrthym hefyd a fydd y cyllid newydd a gyhoeddwyd gennych ar gyfer staff nyrsio yn sicrhau y cynhelir y mathau o sgiliau sydd gan y nyrsys ardal yr ydym mewn perygl o’u colli. Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.
15:33 - Vaughan Gething
I’m not able to tell you today the sort of data that you’re asking—. I think it’s a fairly complex exercise to undertake. I’ll see if it is possible to do, but to be able to say whether it’s been a challenge to the district nursing service that’s led to an admission that’s led to a challenge in waiting times, I think is some ask, regardless of the identity of the Minister, or the civil servants available to them. Nid wyf yn gallu rhoi’r math o ddata rydych yn gofyn amdano heddiw—. Rwy’n credu ei fod yn ymarfer eithaf cymhleth i’w gyflawni. Fe welaf a yw’n bosibl gwneud hynny, ond mae gallu dweud ai her i’r gwasanaeth nyrsys ardal sydd wedi arwain at lefel derbyn i’r ysbyty sydd wedi arwain at her o ran amseroedd aros yn gofyn llawer yn fy marn i, pwy bynnag yw’r Gweinidog neu’r gweision sifil sydd ar gael iddynt.
But I recognise the point that, actually, the district nursing service is an important part of the care that’s going to keep people in their own homes, and to maintain a level of independence for them. I recently had the opportunity, with my constituency Member hat on, to accompany members of the Royal College of Nursing, in my own constituency, to see some of the variety in the service that they provide—and, actually, quite complex healthcare provision, compared with what you might think takes place, including end-of-life care, recovery from significant injury, and those people who simply aren’t able to get around as they would wish to. Ond rwy’n cydnabod y pwynt, mewn gwirionedd, fod y gwasanaeth nyrsys ardal yn rhan bwysig o’r gofal sy’n mynd i gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain, a chynnal lefel o annibyniaeth ar eu cyfer. Yn ddiweddar, cefais gyfle, gan wisgo fy het Aelod etholaeth, i fynd gydag aelodau o’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn fy etholaeth i weld peth o’r amrywiaeth yn y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu—a darpariaeth gofal iechyd eithaf cymhleth, mewn gwirionedd, o’i gymharu â’r hyn y gallech feddwl sy’n digwydd, gan gynnwys gofal diwedd oes, adferiad rhag anafiadau sylweddol, a’r bobl sy’n methu symud o gwmpas fel y byddent yn dymuno gwneud.
So, I’ve seen for myself the direct value that district nurses provide, in both recovery, rehabilitation, but also in prevention as well. And I’m happy to confirm that the £95 million investment I announced recently, in the future of healthcare training and education, does include a 13 per cent increase in nurse training. So, we recognise the value of district nurses, and we recognise the need to continue to increase, not simply to replace, but to think about how we increase nursing numbers in those areas of particular demand. Felly, rwyf wedi gweld drosof fy hun y gwerth uniongyrchol y mae nyrsys ardal yn ei ddarparu, o ran adferiad, adsefydlu, ac atal hefyd. Ac rwy’n hapus i gadarnhau bod y buddsoddiad o £95 miliwn a gyhoeddais yn ddiweddar yn nyfodol hyfforddiant ac addysg gofal iechyd yn cynnwys cynnydd o 13 y cant ar gyfer hyfforddi nyrsys. Felly, rydym yn cydnabod gwerth nyrsys ardal, ac rydym yn cydnabod yr angen i barhau i gynyddu, nid yn unig i gymryd lle, ond i feddwl sut i gynyddu niferoedd nyrsys yn y meysydd lle y ceir galw penodol.
15:35 - Dai Lloyd
Pa gefnogaeth ychwanegol ydych chi’n ei gynnig i weinyddiaeth yr ysbyty yn Nhreforys i esgor ar welliant yn y trefniadau i ddelio efo’r nifer fawr o gleifion sy’n mynychu’r adran ddamweiniau yno? What additional support are you offering to the administration of the hospital in Morriston to improve arrangements to deal with the number of patients who attend the emergency department there?
15:35 - Vaughan Gething
I recently visited Moriston Hospital to have a presentation, on a range of different topics, actually, but during the visit, I took the opportunity to go into the emergency department. And it was really interesting to see, at that time, that I think they recognise that some of their own internal workings of the system has improved, but also they now think they have a better relationship both outside the front door, with the development of primary care clusters, but importantly as well within the hospital system. You’ll know from your own time within the health system, both in this place and outside it, that there is a feeling in some emergency departments that they’re not properly connected to the rest of the hospital, as if those problems at the front door remain at the front door. And, actually, there’s been a greater level of understanding that it is a whole-hospital system and they need to see that as their problem as well, and with linkage into those other specialities within the hospital to take people out of the emergency department and back into the hospital where their appropriate care and treatment will be needed. Yn ddiweddar, ymwelais ag Ysbyty Treforys i gael cyflwyniad ar ystod o bynciau gwahanol, mewn gwirionedd, ond yn ystod yr ymweliad, manteisiais ar y cyfle i fynd i’r adran achosion brys. Ac roedd yn ddiddorol gweld bryd hynny, rwy’n meddwl, eu bod yn cydnabod bod rhai o’u trefniadau system mewnol eu hunain wedi gwella, ond hefyd maent bellach yn credu bod ganddynt well perthynas y tu allan i ddrws yr ysbyty, gyda datblygiad clystyrau gofal sylfaenol, ond yn bwysig hefyd o fewn y system ysbyty. Fe fyddwch yn gwybod o’ch amser eich hun yn y system iechyd, yn y lle hwn a’r tu allan, fod yna deimlad mewn rhai adrannau achosion brys nad ydynt wedi’u cysylltu’n briodol â gweddill yr ysbyty, fel pe bai’r problemau wrth ddrws yr ysbyty yn aros wrth ddrws yr ysbyty. Ac mewn gwirionedd, cafwyd lefel uwch o ddealltwriaeth ei bod yn system ysbyty cyfan a bod angen iddynt weld bod honno’n broblem iddynt hwy yn ogystal, gyda chysylltiad ag arbenigeddau eraill yn yr ysbyty i fynd â phobl allan o’r adran achosion brys ac yn ôl i’r ysbyty lle y byddant angen gofal a thriniaeth briodol.
And it’s also about the improvements in delayed transfers of care as well. In particular, in the Swansea local authority, there have been some real challenges about some of the care places that are available outside of the hospitals, but we’ve seen some improvement. So, I’m encouraged by the fact that there has been that acknowledgement of the challenge, and that it isn’t just a secondary care challenge—it is a whole-health service challenge, but also, a health and care challenge as well. And, of course, you’ll be aware that, following the £50 million investment we’ve provided, the health board’s share of that is over £9 million. So, there is real support in terms of money, as well as expertise, and some of the sharing, in fact, which is taking place between different health boards about successful systems and processes they have themselves. So, there’s a range of different actions. I expect to see that improvement, and I look forward to having a continued conversation with yourself and other Members to see where that really is going to take place. Ac mae hefyd yn ymwneud â’r gwelliannau i achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal. Yn benodol, yn awdurdod lleol Abertawe, cafwyd rhai heriau gwirioneddol gyda rhai o’r lleoedd gofal sydd ar gael y tu allan i’r ysbyty, ond rydym wedi gweld rhywfaint o welliant. Felly, caf fy nghalonogi gan y ffaith fod yr her wedi’i chydnabod, ac nad her gofal eilaidd yn unig ydyw—mae’n her i’r gwasanaeth iechyd cyfan, ond hefyd, mae’n her iechyd a gofal hefyd. Ac wrth gwrs, yn dilyn y buddsoddiad o £50 miliwn rydym wedi’i ddarparu, fe fyddwch yn gwybod hefyd fod rhan y bwrdd iechyd o hynny dros £9 miliwn. Felly, ceir cefnogaeth go iawn o ran arian, yn ogystal ag arbenigedd, a pheth o’r rhannu sy’n digwydd mewn gwirionedd rhwng byrddau iechyd gwahanol ynglŷn â’r systemau a’r prosesau llwyddiannus sydd ganddynt. Felly, mae yna amrywiaeth o wahanol gamau gweithredu. Disgwyliaf weld y gwelliant hwnnw, ac edrychaf ymlaen at barhau’r sgwrs gyda chi ac Aelodau eraill i weld ble y mae hynny’n mynd i ddigwydd mewn gwirionedd.
15:37 - Caroline Jones
Cabinet Secretary, ABMU has consistently high numbers of people waiting more than 12 hours in its A&E departments. In January we saw a total of 890 people waiting more than 12 hours at the two major accident and emergency departments. Wales’s biggest A&E department only saw 150 people waiting for that length of time. Cabinet Secretary, given that ABMU is trialling the 111 service to reduce inappropriate attendances at A&E, how do we explain such high numbers? Morriston Hospital has the highest number of 12-hour waits for any A&E department in Wales. Thank you. Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan fwrdd iechyd Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg niferoedd cyson o uchel o bobl sy’n aros mwy na 12 awr yn ei adrannau damweiniau ac achosion brys. Ym mis Ionawr gwelsom gyfanswm o 890 o bobl yn aros mwy na 12 awr yn y ddwy brif adran damweiniau ac achosion brys. Nid oedd ond 150 o bobl wedi aros cymaint â hynny o amser yn adran ddamweiniau ac achosion brys fwyaf Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried bod PABM yn treialu gwasanaeth 111 i leihau presenoldeb amhriodol yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys, sut y mae egluro niferoedd mor uchel? Gan Ysbyty Treforys y mae’r nifer uchaf o arosiadau 12 awr ar gyfer unrhyw adran damweiniau ac achosion brys yng Nghymru. Diolch.
15:37 - Vaughan Gething
And those are part of the challenges that I’ve put to the health board and within the service. And it is the case that people do talk to each other across the service. Emergency department consultants talk to each other, and lead nurses talk to each other about practice within their departments. So, there is a genuine attempt to share learning. But you’re right—the Heath has a significantly lower proportion and number of people who wait more than 12 hours to be seen, treated and discharged. That’s part of the challenge that I think has been recognised in my response to Dai Lloyd, actually, about recognising that it’s a whole-system problem within the whole-hospital system, as well as outside it. And if you can’t deal with some of the challenges about being able to move people, not just into an emergency department, but through that department, and either out of the hospital altogether, or into the hospital, if that’s the appropriate place for them, that’s part of the reason why some people wait too long. And I recognise there are too many people waiting too long. And I’ve never tried to soft-soap that, or cover over that. Ac mae’r rheini’n rhan o’r heriau a gyflwynais i’r bwrdd iechyd ac o fewn y gwasanaeth. Ac mae’n wir fod pobl yn siarad â’i gilydd ar draws y gwasanaeth. Mae meddygon ymgynghorol adrannau brys yn siarad â’i gilydd, ac mae nyrsys arwain yn siarad â’i gilydd ynglŷn â’r ymarfer yn eu hadrannau. Felly, ceir ymgais wirioneddol i rannu dysgu. Ond rydych yn gywir—mae gan ysbyty’r Mynydd Bychan gyfran sylweddol is o bobl yn aros mwy na 12 awr i gael eu gweld, eu trin a’u rhyddhau. Dyna ran o’r her y credaf fy mod wedi’i chydnabod yn fy ymateb i Dai Lloyd, mewn gwirionedd, ynglŷn â chydnabod ei bod yn broblem system gyfan o fewn y system ysbyty cyfan, yn ogystal â thu allan iddo. Ac os nad ydych yn gallu mynd i’r afael â rhai o’r heriau o ran gallu symud pobl, nid yn unig i adran achosion brys, ond drwy’rr adran honno, a naill ai allan o’r ysbyty yn gyfan gwbl, neu i mewn i’r ysbyty, os mai dyna’r lle priodol ar eu cyfer, dyna ran o’r rheswm pam y mae rhai pobl yn aros yn rhy hir. Ac rwy’n cydnabod bod gormod o bobl yn aros yn rhy hir. Ac nid wyf erioed wedi ceisio bychanu hynny, neu gelu hynny.
It’s really about: will we see a determined increase in the ability to deliver within this health board, and in others, to make sure that fewer people wait 12 hours to be seen, treated and discharged, and how we build on the successful trial of 111? It’s been a really successful innovation, and, again, compared to what happened in England, where they had real challenges in 111 actually delivering a greater number of people to be referred into emergency departments, that hasn’t happened. And there’s good evidence that 111 is actually taking people away from that department by providing them with alternative pathways for care. So, there are positives within the whole system, but no lack of understanding from this Government, or the health service, that there are still continued challenges and further improvements that all of us expect to see take place. Mae’n ymwneud mewn gwirionedd â hyn: a fyddwn yn gweld cynnydd pendant yn y gallu i gyflawni yn y bwrdd iechyd hwn, ac mewn byrddau iechyd eraill, er mwyn sicrhau bod llai o bobl yn aros 12 awr i gael eu gweld, eu trin a’u rhyddhau, a sut yr adeiladwn ar dreial llwyddiannus 111? Mae wedi bod yn ddatblygiad llwyddiannus iawn, ac unwaith eto, o’i gymharu â’r hyn a ddigwyddodd yn Lloegr, lle y cawsant heriau gwirioneddol gyda 111 yn arwain at nifer fwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio at adrannau achosion brys, nid yw hynny wedi digwydd. A cheir tystiolaeth dda fod 111 mewn gwirionedd yn cyfeirio pobl i ffwrdd o’r adran honno drwy ddarparu llwybrau gofal amgen ar eu cyfer. Felly, mae yna bethau cadarnhaol o fewn y system gyfan, ac mae’r Llywodraeth hon, neu’r gwasanaeth iechyd, yn deall bod heriau parhaus o hyd a gwelliannau pellach y mae pob un ohonom yn disgwyl eu gweld yn digwydd.
Apwyntiadau drwy Skype neu FaceTime Appointments through Skype or FaceTime
15:39 - Lee Waters
6. Pam na all pobl wneud apwyntiadau fel mater o drefn i weld eu meddyg drwy Skype neu FaceTime? OAQ(5)0129(HWS) 6. Why can’t people routinely make appointments to see their doctor via Skype or FaceTime? OAQ(5)0129(HWS)
15:39 - Vaughan Gething
Thank you for the question. The Welsh Government has invested £1.2 million in providing Skype for Business for the NHS. Consultations can be undertaken with this technology when the patient and the health professional are content, although there may be instances when the health professional may need to undertake a face-to-face consultation or physical examination following a consultation. Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1.2 miliwn ar ddarparu Skype for Business ar gyfer y GIG. Gellir cynnal ymgyngoriadau â’r dechnoleg hon pan fydd y claf a’r gweithiwr iechyd proffesiynol yn fodlon i wneud hynny, er y gall fod achosion pan fydd angen i’r gweithiwr iechyd proffesiynol gynnal ymgynghoriad wyneb yn wyneb neu archwiliad corfforol yn dilyn ymgynghoriad.
15:40 - Lee Waters
Thank you, Cabinet Secretary. The widespread adoption of digital technologies means we don’t need to require people who are ill to travel long distances to see doctors anymore. It frustrates me that the NHS often defaults to sending letters or even faxes—surely one of the last bastions of the use of the fax machine in modern society. It’s often patient confidentiality or security that’s cited as barriers as to why these innovations can’t be adopted. But advances are being made in England and the UK common technology services, which are linked to the Cabinet Office, is offering secure internet for the public sector without the need to resort to expensive private networks. I do feel that we need to confront these barriers to make sure that we are capturing the innovation available to other parts of the society for patients within the NHS. Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae mabwysiadu technolegau digidol ar raddfa eang yn golygu nad oes angen i ni ei gwneud yn ofynnol i bobl sy’n sâl deithio pellteroedd maith i weld meddygon mwyach. Mae’n peri rhwystredigaeth i mi fod y GIG yn aml yn gwneud dim mwy nag anfon llythyrau neu ffacsys hyd yn oed—un o gadarnleoedd olaf y defnydd o’r peiriant ffacs yn y gymdeithas fodern yn ddi-os. Yn aml, nodir mai cyfrinachedd neu ddiogelwch cleifion yw’r rhwystrau sy’n atal y datblygiadau newydd hyn rhag cael eu mabwysiadu. Ond mae datblygiadau ar y gweill yn Lloegr a gwasanaethau technoleg cyffredin y DU, sydd wedi’u cysylltu â Swyddfa’r Cabinet, yn cynnig rhyngrwyd ddiogel ar gyfer y sector cyhoeddus heb fod angen troi at rwydweithiau preifat drud. Rwy’n teimlo bod angen i ni fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn i wneud yn siŵr ein bod yn manteisio ar yr arloesedd sydd ar gael i rannau eraill o’r gymdeithas ar gyfer cleifion yn y GIG.
15:40 - Vaughan Gething
I recognise the challenge that you put and it’s part of our informed healthcare digital plan for the future. We expect more people to be able to routinely use remote access and remote consultation with the healthcare profession, in both primary care and also in secondary care. I certainly wouldn’t want to give the impression that none of this had taken place. Some of that can be done by telephone now and some of it can be done by video call as well. For example, when I was in Ysbyty Gwynedd on Monday, I had a very interesting presentation from the Cartref project, which is the future hospital project sponsored by the Royal College of Physicians. They were able to show me an active clinic where someone was actually based in the hospital, and they had people who were attending a clinic in a more remote hospital for people who didn’t have access in their own homes to IT facilities, and they were having their consultation remotely. That was a regular feature and a regular part of it. And actually, the individual citizens using the service in that way were quite happy to do so because they recognised it saved them a long and difficult journey to do so. Rwy’n cydnabod yr her yr ydych yn ei gosod ac mae’n rhan o’n cynllun gofal iechyd digidol ar sail gwybodaeth ar gyfer y dyfodol. Rydym yn disgwyl i fwy o bobl allu defnyddio mynediad o bell ac ymgynghori o bell gyda’r proffesiwn gofal iechyd fel mater o drefn, mewn gofal sylfaenol a hefyd mewn gofal eilaidd. Yn sicr ni fyddwn am roi’r argraff nad oes dim o hyn wedi digwydd. Gellir gwneud peth ohono dros y ffôn yn awr a gellir gwneud rhywfaint ohono drwy alwad fideo yn ogystal. Er enghraifft, pan oeddwn yn Ysbyty Gwynedd ddydd Llun, cefais gyflwyniad diddorol iawn gan y prosiect Cartref, sef prosiect ysbyty’r dyfodol a noddir gan Goleg Brenhinol y Meddygon. Roeddent yn gallu dangos clinig gweithredol i mi lle roedd rhywun wedi’i leoli yn yr ysbyty mewn gwirionedd, ac roedd ganddynt bobl a oedd yn mynychu clinig mewn ysbyty mwy anghysbell i bobl nad oedd ganddynt fynediad yn eu cartrefi eu hunain at gyfleusterau TG, ac roeddent yn cael ymgynghoriad o bell. Roedd honno’n nodwedd reolaidd ac yn rhan reolaidd ohono. Ac mewn gwirionedd, roedd y dinasyddion unigol a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth yn y ffordd honno yn ddigon hapus i wneud hynny am eu bod yn cydnabod ei fod yn arbed taith hir ac anodd iddynt.
So, I recognise the point you make and, in particular, as we reform out-patient services across the NHS in Wales, when you think not just about people who don’t need to use out-patients at all, where the follow-ups aren’t necessary, but those people who do need an out-patients follow-up in particular, what do they need to do and where can they be seen? Certainly, in eye-care, for example, we’ve already seen significant improvements in actually seeing people in different parts of our healthcare system by transferring images to make sure that the person doesn’t need to physically arrive. And actually, it is not just a significant use of time, but it isn’t always a good use of time either for the individual citizen or, sometimes, for the clinician to move around doing it from a remote clinic. So, there are significant opportunities for gain and a much better use of everyone’s resource. Felly, rwy’n cydnabod y pwynt a wnewch ac yn benodol, wrth i ni ddiwygio gwasanaethau cleifion allanol ar draws y GIG yng Nghymru, pan feddyliwch nid yn unig am bobl nad oes angen iddynt ddefnyddio gwasanaethau cleifion allanol o gwbl, lle nad oes angen ymgyngoriadau dilynol, ond y bobl sydd angen ymgynghoriad dilynol ar gyfer cleifion allanol dilynol yn benodol, beth sydd angen iddynt ei wneud a ble y gallant gael eu gweld? Yn sicr, ym maes gofal llygaid, er enghraifft, rydym eisoes wedi gweld gwelliannau sylweddol o ran gweld pobl mewn gwahanol rannau o’n system gofal iechyd drwy drosglwyddo delweddau i wneud yn siŵr nad oes angen i’r person ddod yno’n gorfforol. Ac mewn gwirionedd, nid yn unig y mae’n ddefnydd sylweddol o amser, ond nid yw bob amser yn ddefnydd da o amser ychwaith i’r dinesydd unigol nac i’r clinigydd, weithiau, i fod yn symud o gwmpas a’i wneud o glinig o bell. Felly, mae yna gyfleoedd sylweddol ar gyfer elwa a llawer gwell defnydd o adnoddau pawb.
Anafiadau yn ystod Genedigaeth Injury during Childbirth
15:42 - Jenny Rathbone
7. Pa driniaethau sydd ar gael i famau a ddaw'n anymataliol o ganlyniad i anaf yn ystod genedigaeth? OAQ(5)0118(HWS) 7. What treatments are available to mothers who become incontinent as a result of injury during childbirth? OAQ(5)0118(HWS)
15:42 - Vaughan Gething
I thank the Member for the question. All maternity services in Wales work in collaboration with both physiotherapist and specialist continence services. These services provide assessment and identify continence problems with referral to specialist continence services for treatment and individualised care planning. Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae pob gwasanaeth mamolaeth yng Nghymru yn gweithio ar y cyd gyda gwasanaethau ffisiotherapi ac ymataliaeth arbenigol. Mae’r gwasanaethau hyn yn darparu asesiadau ac yn nodi problemau ymataliaeth gan gyfeirio at wasanaethau ymataliaeth arbenigol ar gyfer triniaeth a chynllunio gofal unigol.
15:43 - Jenny Rathbone
One in 10 women have anal sphincter injuries as a result of childbirth. It’s hardly ever spoken about because people feel too embarrassed to raise it. But I’m glad to say that it’s rising up the medical agenda: there’s a conference being organised by a new charity, which is championing mothers with anal sphincter injuries in childbirth, and it’s being held at the Royal College of Medicine. A lot of eminent physicians and surgeons are involved, and the president of the Royal College of Midwives. So, I very much welcome a light being shone on something that is rarely spoken about, because it causes misery to women across Wales. Mae un o bob 10 o fenywod yn cael anafiadau i’r sffincter rhefrol o ganlyniad i roi genedigaeth. Ni siaredir amdano byth bron am fod pobl yn teimlo gormod o embaras i sôn amdano. Ond rwy’n falch o ddweud ei fod yn codi’n uwch ar yr agenda feddygol: mae cynhadledd yn cael ei threfnu gan elusen newydd sy’n tynnu sylw at anafiadau i’r sffincter rhefrol mewn mamau sydd wedi rhoi genedigaeth, ac mae’n cael ei chynnal yn y Coleg Meddygaeth Brenhinol. Mae llawer o feddygon a llawfeddygon blaenllaw yn cymryd rhan, yn ogystal â llywydd Coleg Brenhinol y Bydwragedd. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith fod sylw’n cael ei roi i rywbeth na siaredir fawr ddim amdano, gan ei fod yn achosi gofid i fenywod ledled Cymru.
So, I’m really concerned that Wales is not going to necessarily be at the forefront of tackling this issue. I wondered if you could tell us why Cwm Taf recently had its application for sacral nerve stimulation therapy for faecal incontinence turned down by the efficiency-through-technology fund, even though Wales is the only country in the UK that doesn’t offer this NICE-approved treatment. Would you be prepared to look at it again, given that there will be a lot more pressure on us to establish why it is we are not able to offer this service to so many mothers? Felly, rwy’n bryderus iawn nad yw Cymru o reidrwydd yn mynd i fod ar flaen y gad wrth fynd i’r afael â’r mater hwn. Roeddwn yn meddwl tybed a allech ddweud wrthym pam y gwrthodwyd cais Cwm Taf yn ddiweddar am therapi ysgogi nerf y sacrwm ar gyfer anymataliaeth ysgarthol gan y gronfa effeithlonrwydd drwy dechnoleg, er mai Cymru yw’r unig wlad yn y DU nad yw’n cynnig y driniaeth hon a gymeradwywyd gan NICE. A fyddech yn barod i edrych ar hynny eto, o ystyried y bydd llawer mwy o bwysau arnom i ganfod pam nad ydym yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn i gymaint o famau?
15:44 - Vaughan Gething
I have slightly certain different figures on the incidence. The incidence that I have is 6 per cent in first-time deliveries as opposed to 10 per cent, but I recognise that there is a significant proportion of women give birth who will suffer this particular injury. It’s partly about the conversations that should take place in good midwifery care about the preparation for birth and being fit and ready for birth but also recovery afterwards too. In the particular issue that you raise about the Cwm Taf application to the efficiency through technology fund, we allocate funds on a competitive basis, looking at the particular level of gain to be made from each application. And it is a simple truth that there are more good ideas and more ways in which we could usefully use that fund than the fund itself can provide. But the point that you make is actually about: I recognise it is NICE approved and it should normally be undertaken in specialist units. Where those specialist units are not available in the local hospital, it’s about making sure that there is access to them and each health board needs to make sure that there’s a proper network to do so. I will, though, given that you’ve raised a particular issue, undertake to go away and look at the particular issue within Cwm Taf and look at how that service is provided to women who give birth in Cwm Taf and how they’re able to access this part of their care after birth. Mae gennyf ffigurau ychydig yn wahanol o ran nifer yr achosion. Nifer yr achosion sydd gennyf yw 6 y cant ar gyfer genedigaethau cyntaf o’i gymharu â 10 y cant, ond rwy’n cydnabod bod cyfran sylweddol o fenywod sy’n rhoi genedigaeth yn dioddef yr anaf hwn. Mae’n ymwneud yn rhannol â’r sgyrsiau a ddylai ddigwydd mewn gofal bydwreigiaeth da ynglŷn â pharatoi ar gyfer geni a bod yn ffit ac yn barod ar gyfer geni yn ogystal ag adferiad wedyn. Yn y mater penodol yr ydych yn ei nodi am gais Cwm Taf i’r gronfa effeithlonrwydd drwy dechnoleg, rydym yn dyrannu cyllid ar sail gystadleuol, gan edrych ar y lefel benodol o fudd y gellid ei wneud o bob cais. Ac mae’n wirionedd syml fod yna fwy o syniadau da a mwy o ffyrdd y gallem ddefnyddio’r gronfa honno’n fuddiol nag y gall y gronfa ei hun ei ddarparu. Ond mae’r pwynt a wnewch yn ymwneud â hyn mewn gwirionedd: rwy’n cydnabod ei fod wedi’i gymeradwyo gan NICE ac y dylai gael ei gyflawni fel rheol mewn uned arbenigol. Lle nad oes unedau arbenigol ar gael yn yr ysbyty lleol, mae’n ymwneud â sicrhau mynediad atynt ac mae angen i bob bwrdd iechyd wneud yn siŵr fod yna rwydwaith priodol ar gael i wneud hynny. Fodd bynnag, gan eich bod wedi cyfeirio at fater penodol, fe ymrwymaf i edrych ar y mater penodol yng Nghwm Taf ac edrych ar sut y darperir y gwasanaeth hwn i fenywod sy’n rhoi genedigaeth yng Nghwm Taf a sut y gellir sicrhau eu bod yn cael y rhan hon o’u gofal ar ôl genedigaeth.
15:45 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you very much, Cabinet Secretary. Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.
3. 90-second Statements 3. Datganiadau 90 Eiliad
We move on to item 3 on the agenda, which is 90-second statements and I call Vikki Howells. Symudwn ymlaen at eitem 3 ar yr agenda, sef y datganiadau 90 eiliad a galwaf ar Vikki Howells.
15:45 - Vikki Howells
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Getting outdoors is so good for us, not just physically, but also mentally. It takes us away from the stresses of the fast-paced, technology-driven world that we live in and gets us back to simplicity and nature to give our brains that much needed rest. Those are the words of my constituent, Tracy Purnell of Newtown, Mountain Ash, who beat almost 500 hopefuls to become the Ordnance Survey champion 2017, in which role she will lead this year’s GetOutside challenge, inviting members of the public to join her on local walks to improve their physical and mental well-being. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae mynd allan i’r awyr agored mor dda i ni, nid yn unig yn gorfforol, ond hefyd yn feddyliol. Mae’n mynd â ni o straen y byd technolegol yr ydym yn byw ynddo ac yn ôl at symlrwydd a natur i roi seibiant mawr ei angen i’n hymennydd. Dyna eiriau un o fy etholwyr, Tracy Purnell o’r Drenewydd, Aberpennar, a gurodd bron i 500 o ymgeiswyr i ddod yn hyrwyddwr yr Arolwg Ordnans 2017, ac yn y rôl honno bydd yn arwain yr Her Awyr Agored eleni, ac yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd i ymuno â hi ar deithiau cerdded lleol i wella eu lles corfforol a meddyliol.
Also today, Ramblers Cymru launched their 10-year vision to create a true walking culture here in Wales, in association with my colleague the AM for Ogmore. Their vision is of a Wales where people understand their rights and responsibilities and where places, landscapes and our natural heritage are treasured community assets and where everyone has the freedom to enjoy the great Welsh outdoors that is, often literally, on our doorsteps. Hefyd heddiw, lansiodd y Cerddwyr eu gweledigaeth 10 mlynedd i greu diwylliant cerdded go iawn yma yng Nghymru, gyda fy nghyd-Aelod, yr AC dros Ogwr. Eu gweledigaeth yw Cymru lle y mae pobl yn deall eu hawliau a’u cyfrifoldebau a lle y mae lleoedd, tirweddau a’n treftadaeth naturiol yn asedau cymunedol i’w trysori a lle y mae pawb yn rhydd i fwynhau’r awyr agored yng Nghymru, sy’n aml, yn llythrennol, ar garreg ein drws.
Walking is the most accessible form of exercise and if we could encourage Welsh citizens to walk more, we could reduce the £314 million that physical inactivity costs the Welsh economy every year. It is also good for Welsh citizens. Heightened physical activity levels through walking reduces the risk of health conditions like heart disease, diabetes and even depression. In particular, we need to encourage our young people to walk more. So, I welcome Welsh Government initiatives like the daily mile to get our schoolchildren into good habits, and look forward to working with ramblers on a project in my constituency this year. Cerdded yw’r math mwyaf hygyrch o ymarfer corff a phe baem yn gallu annog dinasyddion Cymru i gerdded mwy, gallem leihau’r £314 miliwn y mae anweithgarwch corfforol yn ei gostio i economi Cymru bob blwyddyn. Mae hefyd yn dda i ddinasyddion Cymru. Mae lefelau cynyddol o weithgarwch corfforol drwy gerdded yn lleihau’r risg o gyflyrau iechyd megis clefyd y galon, diabetes a hyd yn oed iselder. Yn benodol, mae angen i ni annog ein pobl ifanc i gerdded mwy. Felly, rwy’n croesawu mentrau Llywodraeth Cymru fel y filltir ddyddiol i gyflwyno arferion da i’n plant ysgol, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda cherddwyr ar brosiect yn fy etholaeth eleni.
15:47 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you very much. Nick Ramsay. Diolch yn fawr iawn. Nick Ramsay.
15:47 - Nick Ramsay
Thank you, Deputy Presiding Officer. In the last 10 years, skin cancer diagnosis rates in Wales have risen by 63 per cent, with 140 people dying every year from the disease. In the same time, melanoma incidence rates in Wales have risen by 86 per cent for men and by almost half for women. These rates are unacceptably high for a cancer that can be protected against with one simple change: using sun cream. We need to be doing more to warn the people of Wales about the deadly risks of exposing their skin to UV rays without effective protection in the form of sun cream. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn y 10 mlynedd ddiwethaf, mae cyfraddau diagnosis canser y croen yng Nghymru wedi codi 63 y cant, gyda 140 o bobl yn marw bob blwyddyn o’r clefyd. Ar yr un pryd, mae cyfraddau achosion o melanoma yng Nghymru wedi codi 86 y cant ymhlith dynion a bron i hanner ymhlith menywod. Mae’r cyfraddau hyn yn annerbyniol o uchel ar gyfer canser y gellir diogelu yn ei erbyn gydag un newid syml: defnyddio eli haul. Mae angen i ni wneud mwy i rybuddio pobl Cymru am y risgiau marwol o ddinoethi eu croen i belydrau UV heb amddiffyniad effeithiol ar ffurf eli haul.
Skin Care Cymru is a volunteer-run charity that gives a voice to people with skin conditions in Wales. They campaign to raise awareness and educate on how people can protect themselves and spot the signs of skin cancer. Their message to Welsh people from this March is, ‘Don’t be a lobster on Welsh beaches, and use sun cream as we move into the spring and summer months.’ Mae Gofal Croen Cymru yn elusen sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr i roi llais i bobl sydd â chyflyrau croen yng Nghymru. Maent yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth ac addysgu sut y gall pobl amddiffyn eu hunain ac adnabod arwyddion o ganser y croen. Eu neges i bobl Cymru y mis Mawrth hwn yw, ‘Peidiwch â bod yn gimwch ar draethau Cymru, a defnyddio eli haul wrth i ni nesu at fisoedd y gwanwyn a’r haf.’
You may have already seen that, for St David’s Day, Welsh flags across the country have been transformed. Look out for our famous Welsh dragon being replaced by a bright red lobster. This figure—a well-known symbol for sunburn—will be flying in 35 locations across our country: from the Wales Millennium Centre in Cardiff, to Pembroke Castle, and all the way to the summit of mount Snowdon. All of this is to encourage people to be aware of the risk the sun can pose and to encourage them to cover up with sun cream when they expose their skin to harmful rays. Even in Wales, where the sun doesn’t always shine, it’s important to guard against the dangers of UV and to stay protected. Efallai eich bod eisoes wedi gweld bod baneri Cymru ar draws y wlad ar Ddydd Gŵyl Dewi wedi cael eu trawsnewid. Edrychwch am y cimwch coch llachar sy’n cymryd lle ein draig Gymreig enwog. Bydd y ffigwr hwn—symbol adnabyddus ar gyfer llosg haul—yn hedfan mewn 35 lleoliad ar draws ein gwlad: o Ganolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, i Gastell Penfro, a’r holl ffordd i gopa’r Wyddfa. Gwneir hyn oll i annog pobl i fod yn ymwybodol o’r risg y gall yr haul ei beri a’u hannog i wisgo eli haul pan fyddant yn dinoethi eu croen i belydrau niweidiol. Hyd yn oed yng Nghymru, lle nad yr haul bob amser yn disgleirio, mae’n bwysig gwarchod yn erbyn peryglon UV a diogelu eich hun.
Skin Care Cymru is asking us to fully support its ‘Don’t be a Lobster’ campaign, which launches today and will continue through the summer months. The more Welsh people who are educated about these risks, the more lives will be saved. Mae Gofal Croen Cymru yn gofyn i ni ddangos ein cefnogaeth lwyr i’w hymgyrch ‘Peidiwch â bod yn gimwch’, sy’n cael ei lansio heddiw ac sy’n parhau drwy fisoedd yr haf. Po fwyaf o Gymry sy’n cael eu haddysgu ynglŷn â’r risgiau hyn, y mwyaf o fywydau a gaiff eu hachub.
15:49 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you very much. Sian Gwenllian. Diolch yn fawr iawn. Sian Gwenllian.
15:49 - Sian Gwenllian
Bore ddoe am 9 o’r gloch, roedd merch ifanc, ddisglair o Fangor a’i mam i fod ar eu ffordd i Sri Lanka, yn groes i’w hewyllys. Yn dilyn ymgyrch fer, cafodd Shiromini Satkunarajah aros, am y tro o leiaf. Mae stori Shiromini wedi cydio yn nychymyg miloedd ar filoedd o bobl ym mhob cwr o Brydain. Mae wedi tanlinellu pa mor annymunol ydy’r system mewnfudo. Mae hefyd wedi dangos bod rhywbeth pwysig iawn yn y dyddiau cythryblus yma wedi digwydd. Mae stori Shiromini yn dangos beth sy’n bosibl gyda grym penderfyniad a dyfalbarhad. Mae stori Shiromini yn dangos fod grym pobl yn gweithredu fel un llais cadarn a di-ildio yn gallu creu newid. Yn hwyr iawn yn y dydd, fe lwyddwyd i newid meddwl y Swyddfa Gartref. Roedd rôl Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon, yn allweddol yn hyn. Bu Prifysgol Bangor ac undeb y myfyrwyr yn llafar eu cefnogaeth hefyd. Yn bwysicach efallai, fe ddaru ymhell dros 150,000 godi eu llais—gweithred syml o arwyddo deiseb, ond gweithred dorfol, bwerus iawn. Mae Shiromini yn awr yn awyddus iawn i fynd yn ôl at eu hastudiaethau peirianneg ym Mhrifysgol Bangor. Nid yw ei brwydr i gael aros yng Nghymru ar ben, ond o leiaf cafwyd llwyddiant gyda’r cam cyntaf yma. Mae hi wedi gofyn i mi anfon neges. Mae hi’n awyddus iawn i ddiolch o waelod calon i bawb ddaru ei chefnogi, felly diolch, Ddirprwy Lywydd, am gyfle i ddweud hynny yn ein Senedd cenedlaethol heddiw. Yesterday morning at 9 o’clock, a bright, young student from Bangor, and her mother, were supposed to be on a plane to Sri Lanka against their will. Following a brief campaign, Shiromini Satkunarajah was allowed to stay, for the time being at least. Shiromini’s story has grabbed the imagination of thousands of people in all parts of Britain. It’s underlined just how unpleasant the immigration system is. It’s also demonstrated something very important in these troubled days. Shiromini’s story demonstrates what’s possible with determination and perseverance. Shiromini’s story demonstrates that people power, taking action with one strong voice, can make a change. Very late in the day, we succeeded in changing the Home Office’s mind. The role of Hywel Williams, the Member of Parliament for Arfon, was crucial in this. Bangor University and the students’ union were very vocal in their support too. More importantly, perhaps, way over 150,000 people raised their voices—a simple act of signing a petition, but a mass act that was very powerful indeed. Shiromini is now very eager to return to her engineering studies at Bangor University. Her battle to remain in Wales is not over, but at least we succeeded with this first step. She has asked me to send a message. She is very eager to thank everyone who has supported her, so thank you, Deputy Presiding Officer, for the opportunity to make that point in our national Senedd today.
15:51 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you very much. Diolch yn fawr iawn.
4. Statement by the Chair of the Constitutional and Legislative Affairs Committee on Inquiries and Engagement 4. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Ymchwiliadau ac Ymgysylltu
Item 4, then, is the statement by the Chair of the Constitutional and Legislative Affairs Committee on inquiries and engagement. I call Huw Irranca-Davies as Chair of that committee. Eitem 4, felly, yw datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ymchwiliadau ac ymgysylltu. Galwaf ar Huw Irranca-Davies fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw.
15:51 - Huw Irranca-Davies
Diolch, Ddirprwy Lywydd. As we celebrate our national day, St David’s Day, it’s an ideal opportunity for me to speak on behalf of the committee to outline our current inquiry on Wales’s devolution journey. While looking back, we will also examine how the National Assembly and the Welsh Government, now and in future, can work with counterparts across the UK to further improve the lives of citizens across our country. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth i ni ddathlu ein diwrnod cenedlaethol, Dydd Gŵyl Dewi, mae’n gyfle delfrydol i mi i siarad ar ran y pwyllgor i amlinellu ein hymchwiliad cyfredol ar daith ddatganoli Cymru. Wrth edrych yn ôl, byddwn hefyd yn edrych ar sut y gall y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, yn awr ac yn y dyfodol, weithio gyda chymheiriaid ar draws y DU i wella bywydau dinasyddion ymhellach ar draws ein gwlad.
The National Assembly for Wales is still a very young democratic institution. Less than two decades old, and yet firmly established as a part of Wales’s civic and constitutional life; it is as if it has always been there to new generations of young people. Yet the process of devolution is just that: a process. It has often been remarked that devolution is a journey, not a destination. For some that is a worry, and for others an opportunity. But whichever view you have, it is certainly a reality. Including the Act of Parliament that established the first Welsh Government and National Assembly for Wales, there have now been five—yes, five—substantive pieces of Westminster law that have helped take us along the journey. Each has, to varying degrees, been controversial or contested. Each has taken us a step forward, though, arguably, with an occasional step sideways or backwards. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dal i fod yn sefydliad democrataidd ifanc iawn. Mae’n llai na dau ddegawd oed, ac eto mae wedi ymsefydlu’n gadarn yn rhan o fywyd dinesig a chyfansoddiadol Cymru; mae fel pe bai bob amser wedi bod yno i genedlaethau newydd o bobl ifanc. Eto i gyd, proses yn unig yw’r broses ddatganoli. Yn aml, soniwyd am ddatganoli fel taith, nid cyrchfan. I rai mae hynny’n bryder, ac i eraill mae’n gyfle. Ond beth bynnag yw eich safbwynt, mae’n sicr yn realiti. Gan gynnwys y Ddeddf Seneddol a sefydlodd Lywodraeth gyntaf Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, bellach cafwyd pump—do, pump—darn sylweddol o ddeddfwriaeth o San Steffan sydd wedi ein helpu ar y daith. Mae pob un, i raddau amrywiol, wedi bod yn ddadleuol neu’n heriol. Mae pob un wedi mynd â ni gam ymlaen, er y gellid dadlau bod yna gam achlysurol wysg ein hochr neu am yn ôl wedi bod hefyd.
Meanwhile, with increasing powers in many areas, we have made our own laws in devolved areas, building up a new body of ‘made in Wales’ legislation. We know that on this journey there have been many bumps in the road, and sometimes those bumps are due to difficult negotiations—politically and in policy terms—between Whitehall departments and Welsh Government on the latest transfer of powers. Or those bumps can be the week-by-week departmental issues of diverging policies on the economy, health or education, and so on. So our committee has decided to reflect on the journey so far, finding out what has worked well, and what has been less effective. Our intention is threefold: to produce best practice principles for inter-institutional working for constitutional legislation; to reflect and build on the work of other legislatures on inter-institutional working as it relates to broader policy areas; and, thirdly, to seek, establish and promote opportunities for inter-parliamentary working, including the promotion of citizen engagement. Yn y cyfamser, gyda mwy a mwy o bwerau mewn sawl maes, rydym wedi gwneud ein deddfau ein hunain mewn meysydd sydd wedi’u datganoli, gan adeiladu corff newydd o ddeddfwriaeth ‘a wnaed yng Nghymru’. Gwyddom fod llawer o ddarnau garw wedi bod ar y ffordd ar y daith hon, a’r darnau garw hynny’n deillio weithiau o drafodaethau anodd—yn wleidyddol ac o ran polisi—rhwng adrannau Whitehall a Llywodraeth Cymru ar y pwerau diweddaraf i’w trosglwyddo. Neu mae’n bosibl mai materion adrannol o un wythnos i’r llall yn ymwneud â pholisïau gwahanol ar yr economi, iechyd neu addysg ac yn y blaen yw’r darnau garw hynny. Felly mae ein pwyllgor wedi penderfynu ystyried y daith hyd yn hyn, darganfod beth sydd wedi gweithio’n dda, a beth sydd wedi bod yn llai effeithiol. Mae ein bwriad yn driphlyg: cynhyrchu egwyddorion arfer gorau ar gyfer gwaith rhyngsefydliadol gogyfer â deddfwriaeth gyfansoddiadol; ystyried ac adeiladu ar waith deddfwrfeydd eraill ar weithio rhyngsefydliadol fel y mae’n ymwneud â meysydd polisi ehangach; ac yn drydydd, ceisio, sefydlu a hyrwyddo cyfleoedd i weithio’n rhyngseneddol, gan gynnwys hyrwyddo ymgysylltiad â dinasyddion.
Our recent experience in scrutinising what has now become the Wales Act 2017 will help inform our work, and help us identify how interrelationships can be built on and improved. As a committee, we have already sought to learn lessons: we’ve recognised the benefits of working collaboratively with the House of Lords Constitution Committee to influence the UK Government, where a National Assembly for Wales committee, working on its own, may not be able to do so. This has highlighted to us the need for effective inter-institutional relations, and it’s one of the drivers for taking a closer look at these issues at a parliamentary level. Bydd ein profiad diweddar o graffu ar yr hyn sydd bellach wedi dod yn Ddeddf Cymru 2017 yn helpu i lywio ein gwaith, ac yn ein helpu i nodi sut y gellir datblygu a gwella’r berthynas rhyngom ag eraill. Fel pwyllgor, rydym eisoes wedi ceisio dysgu gwersi: rydym wedi cydnabod y manteision o weithio ar y cyd â Phwyllgor Cyfansoddiadol Tŷ’r Arglwyddi i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU, lle na fyddai pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gweithio ar ei ben ei hun, yn gallu gwneud hynny o bosibl. Mae hyn wedi dangos yr angen am gysylltiadau rhyngsefydliadol effeithiol, ac mae’n un o’r ysgogiadau i edrych yn fanylach ar y materion hyn ar lefel seneddol.
Our inquiry is split into two strands. The first will look at how inter-governmental and inter-parliamentary relations have evolved and impacted on the development of the devolution settlement. And to help us examine the journey we have taken, we’ve secured what I think is quite an impressive line-up of those who’ve been at the sharp end of shaping and working with devolution over the past 18 years. I think they will help us understand why sometimes devolution runs very smoothly, and at other times it runs into potholes—sometimes very publicly. We will look at the people and the personalities, yes, but also the mechanisms that are meant to oil the machine and keep the relationships between these institutions running smoothly. Indeed, we’ve already taken evidence from Lord Murphy. He spoke about the importance of building personal relationships and the challenge of changing mindsets in Whitehall, where that needs to happen, amongst other things. Mae ein hymchwiliad wedi’i rannu’n ddwy elfen. Bydd y gyntaf yn edrych ar sut y mae cysylltiadau rhynglywodraethol a rhyngseneddol wedi esblygu ac wedi effeithio ar ddatblygiad y setliad datganoli. Ac i’n helpu i edrych ar y daith a deithiwyd gennym, rydym wedi sicrhau casgliad trawiadol, yn fy marn i, o’r rhai a fu ar flaen y gad yn ffurfio a gweithio gyda datganoli dros y 18 mlynedd ddiwethaf. Rwy’n meddwl y byddant yn ein helpu i ddeall pam y mae datganoli weithiau’n rhedeg yn esmwyth iawn, ac ar adegau eraill yn wynebu rhwystrau mawr—yn gyhoeddus iawn weithiau. Byddwn yn edrych ar y bobl a’r personoliaethau, byddwn, ond hefyd y mecanweithiau sydd i fod i roi olew yn y peiriant a chadw’r berthynas rhwng y sefydliadau hyn i redeg yn llyfn. Yn wir, rydym eisoes wedi cymryd tystiolaeth gan yr Arglwydd Murphy. Siaradodd am bwysigrwydd meithrin cysylltiadau personol a’r her o newid meddylfryd yn Whitehall, lle y mae angen i hynny ddigwydd, ymhlith pethau eraill.
However, it is not just about reflecting on the past. We must also gain a full understanding of how the existing structures and policies operate in practice. To this end, the second strand will explore the nature of relationships between the Welsh and UK Governments, how these relationships function and how they can be improved. It will look at improving opportunities for improved policy learning between Governments and Parliaments; at best practice in inter-institutional relations from across the UK that could be imported into the Welsh context; and at the nature of the relationships between the Welsh and UK legislatures and identify opportunities for effective inter-parliamentary working. Fodd bynnag, mae’n ymwneud â mwy na myfyrio ar y gorffennol. Mae’n rhaid i ni hefyd gael dealltwriaeth lawn o sut y mae’r strwythurau a’r polisïau presennol yn gweithredu’n ymarferol. I’r perwyl hwn, bydd yr ail elfen yn archwilio natur y gydberthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sut y mae’r gydberthynas hon yn gweithredu a sut y gellir ei gwella. Bydd yn edrych ar gyfleoedd gwell i wella’r modd y dysgir am bolisi rhwng Llywodraethau a Seneddau; ar arferion gorau mewn cysylltiadau rhyngsefydliadol o bob rhan o’r DU y gellid eu trosglwyddo i’r cyd-destun Cymreig; ac ar natur y berthynas rhwng deddfwrfeydd Cymru a’r DU a nodi cyfleoedd ar gyfer gwaith rhyngseneddol effeithiol.
It is not our intention to produce just another report that will sit on a shelf and gather dust. The committee wants to make a real and direct impact on inter-institutional working by producing best practice principles and leading from the front in building those relationships. Other countries are managing this relationship successfully and we believe that there is plenty we can learn and adapt from good practice elsewhere. Nid ein bwriad yw cynhyrchu adroddiad arall i orwedd ar silff yn hel llwch. Mae’r pwyllgor yn awyddus i gael effaith wirioneddol ac uniongyrchol ar weithio rhyngsefydliadol drwy gynhyrchu egwyddorion arferion gorau ac arwain o’r tu blaen wrth adeiladu’r gydberthynas hon. Mae gwledydd eraill yn rheoli’r berthynas yn llwyddiannus a chredwn fod yna ddigon y gallwn ei ddysgu a’i addasu o arferion da mewn mannau eraill.
Assembly Members are seeing the impact of inter-institutional working, both positive and negative, every day in relation to cross-border issues where the devolution lines can sometimes be blurred. That is why it is so important to engage with the public to understand the impact these relationships can have on our citizens. To this end we have trialled a small citizen panel—it’s an Assembly first—to help understand the perceptions of a cross-section of the public. We will also work hard to talk to organisations who do not usually engage with the Assembly and to find out why that is. Mae Aelodau’r Cynulliad yn gweld effaith gweithio rhyngsefydliadol, cadarnhaol a negyddol, bob dydd mewn perthynas â materion trawsffiniol lle y gall llinellau datganoli fod yn aneglur weithiau. Dyna pam ei bod mor bwysig ymgysylltu â’r cyhoedd i ddeall yr effaith y gall y cysylltiadau hyn ei chael ar ein dinasyddion. I’r perwyl hwn rydym wedi treialu panel dinasyddion bach—am y tro cyntaf yn y Cynulliad—i helpu i ddeall canfyddiadau trawstoriad o’r cyhoedd. Byddwn hefyd yn gweithio’n galed i siarad â sefydliadau nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu â’r Cynulliad ac i ddarganfod pam nad yw hynny’n digwydd.
The importance of this work is also heightened by the constitutional implications for the devolution settlement of exiting the European Union. It is vital that the inter-institutional working needed to facilitate the smooth transition across the nations that make up the UK is fit for purpose. In doing so we need to ensure that we do not lose powers and competence that currently rest in Wales as we exit the EU. We hope that our inquiry will contribute to ensuring that is the case. Mae pwysigrwydd y gwaith hwn hefyd yn cael ei ddwysáu gan oblygiadau cyfansoddiadol y setliad datganoli yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n hanfodol fod y gwaith rhyngsefydliadol sydd ei angen i hwyluso trosglwyddiad llyfn ar draws y gwledydd sy’n rhan o’r DU yn addas i’r diben. Wrth wneud hynny mae angen i ni sicrhau nad ydym yn colli pwerau a chymhwysedd sydd ar hyn o bryd yng Nghymru wrth i ni adael yr UE. Rydym yn gobeithio y bydd ein hymchwiliad yn cyfrannu at sicrhau nad yw hynny’n digwydd.
Devolution—moving power closer to the people we serve—is here to stay. As such, for Wales and the devolved nations and regions, but also for the good of the United Kingdom, we need to make sure it works effectively for all of our citizens. This inquiry will go to the very heart of those inter-institutional relationships, and point the way forward for improved working in the future. Mae datganoli—symud pŵer yn nes at y bobl rydym yn eu gwasanaethu—yma i aros. Fel y cyfryw, i Gymru a’r gwledydd a’r rhanbarthau datganoledig, ond hefyd er lles y Deyrnas Unedig, mae angen i ni wneud yn siŵr ei fod yn gweithio’n effeithiol i bob un o’n dinasyddion. Bydd yr ymchwiliad hwn yn mynd at wraidd y cysylltiadau rhyngsefydliadol hynny, ac yn dangos y ffordd ymlaen ar gyfer gweithio’n well yn y dyfodol.
This inquiry will take up much of our time in the months ahead. Alongside it, we also intend looking at the codification of Welsh law. As an initial step, we look forward to welcoming the Counsel General to a committee later in the spring to discuss his ideas in this area and decide how to take this work forward. And of course we will also undertake our core role: the scrutiny of all subordinate legislation made by the Welsh Government and any Bill introduced to the National Assembly. And in that latter role, we will continue to look at the quality of the legislation, particularly against the conclusions and the recommendations of our predecessor committee’s report, ‘Making Laws in Wales’. Bydd yr ymchwiliad hwn yn mynd â llawer o’n hamser yn y misoedd i ddod. Ochr yn ochr â hynny, rydym hefyd yn bwriadu edrych ar godeiddio cyfraith Cymru. Fel cam cyntaf, edrychwn ymlaen at groesawu’r Cwnsler Cyffredinol i bwyllgor yn ddiweddarach yn y gwanwyn i drafod ei syniadau yn y maes hwn a phenderfynu sut i symud y gwaith hwn yn ei flaen. Ac wrth gwrs, byddwn hefyd yn cyflawni ein rôl greiddiol: craffu ar yr holl is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Lywodraeth Cymru ac unrhyw Fil a gyflwynwyd i’r Cynulliad Cenedlaethol. Ac yn y rôl honno byddwn yn parhau i edrych ar ansawdd y ddeddfwriaeth, yn enwedig yn erbyn casgliadau ac argymhellion adroddiad y pwyllgor a’n rhagflaenodd, ‘Deddfu yng Nghymru’.
We will continually ask: are we making good law and how can it be improved? As part of that, we will look at the balance of the legislation and how much policy is being left to be introduced by subordinate legislation, which of course cannot be amended and is therefore subject to less scrutiny. We will also monitor the use and extent of Henry VIII powers being sought by Ministers, the use of consequential provisions and, related to both, the procedures attached to the making of all subordinate legislation. Byddwn yn parhau i ofyn: a ydym yn gwneud cyfraith dda a sut y gellir ei gwella? Yn rhan o hynny, byddwn yn edrych ar gydbwysedd y ddeddfwriaeth a faint o bolisi sy’n cael ei adael i’w gyflwyno gan is-ddeddfwriaeth, na ellir ei newid wrth gwrs, ac sydd felly’n destun llai o graffu. Byddwn hefyd yn monitro defnydd a graddau pwerau Harri’r VIII a geisir gan Weinidogion, y defnydd o ddarpariaethau canlyniadol ac yn gysylltiedig â’r ddau, y gweithdrefnau sydd ynghlwm wrth y broses o lunio’r holl is-ddeddfwriaeth.
So, on this day we remember St David, who told us that the little things matter. Our committee will continue to look after the little but important things of our law and constitution, and by doing so, we might also glimpse the greater things that lie ahead of us as a democratic institution and as a nation. Felly, ar y diwrnod hwn cofiwn am Ddewi Sant, a ddywedodd wrthym fod y pethau bychain yn bwysig. Bydd ein pwyllgor yn parhau i ofalu am y pethau bach ond pwysig yn ein cyfraith a’n cyfansoddiad, a thrwy wneud hynny, efallai y cawn gipolwg hefyd ar y pethau mwy sy’n ein hwynebu fel sefydliad democrataidd ac fel cenedl.
15:59 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you very much. David Melding. Diolch yn fawr iawn. David Melding.
15:59 - David Melding
Thank you, Deputy Presiding Officer. Can I say, I think the Constitutional and Legislative Affairs Committee is a very happy committee to serve on because nearly all the issues we look at are about promoting good, clear government and scrutiny and we don’t really have to labour under the incubus of a heavy partisan load, very often, and division, which is really pleasing. We occasionally have slight disagreements—they’re usually in private session, but they are very, very rare. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Os caf ddweud, rwy’n meddwl bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn bwyllgor hapus iawn i wasanaethu arno am fod bron yr holl faterion yr edrychwn arnynt yn ymwneud â hyrwyddo llywodraethu a chraffu da a chlir ac yn aml iawn nid oes yn rhaid i ni lafurio o dan faich pleidiol trwm a rhaniadau, ac mae hynny’n ddymunol tu hwnt. Rydym yn anghydweld o bryd i’w gilydd—mewn sesiynau preifat fel arfer, ond maent yn achlysuron eithriadol o brin.
I particularly welcome the emphasis that the Chair has given to the examination of intergovernmental working and interparliamentary working, because it does seem to me, as we see devolution mature, and, combined with that now, the challenge of Brexit in how it will change our patterns of governance, that means that a certain formality, perhaps, is required. We’re looking at that. We know that the First Minister has talked about a council of Ministers and some form of independent arbitration. These are very interesting ideas and they would change the constitutional arrangements considerably. But it’s not just about the possibility of UK frameworks being required and then being scrutinised—aspects of them, anyway, being scrutinised—in different legislatures, it’s also learning best practice, seeing where a particular challenge has been examined at great length in perhaps another Parliament, and then not having to do all that work ourselves, taking it, perhaps adapting it, and adding to it. Croesawaf yn arbennig y pwyslais y mae’r Cadeirydd wedi’i roi ar archwilio gwaith rhynglywodraethol a gweithio rhyngseneddol, oherwydd, wrth i ni weld datganoli’n aeddfedu, a her Brexit ynghyd â hynny yn awr o ran y ffordd y bydd yn newid ein patrymau llywodraethu, mae’n ymddangos i mi y bydd hynny’n golygu bod angen rhywfaint o ffurfioldeb o bosibl. Rydym yn edrych ar hynny. Rydym yn gwybod bod y Prif Weinidog wedi siarad am gyngor Gweinidogion a rhyw fath o gyflafareddu annibynnol. Mae’r rhain yn syniadau diddorol iawn a byddent yn newid y trefniadau cyfansoddiadol yn sylweddol. Ond mae’n ymwneud â mwy na’r posibilrwydd fod gofyn cael, a chraffu ar fframweithiau o’r DU—craffu ar agweddau ohonynt, beth bynnag—mewn gwahanol ddeddfwrfeydd, mae hefyd yn golygu dysgu arferion gorau, gweld ble yr archwiliwyd her arbennig yn fanwl iawn mewn Senedd arall o bosibl, a pheidio â gorfod gwneud yr holl waith hwnnw ein hunain, gan ei gymryd, a’i addasu efallai, ac ychwanegu ato.
I think it’s these sorts of connections that are not always there. They tend to be strongest amongst officials, but surprisingly weak once you come to the political actors themselves. So, I think there’s a lot there that’s going to be of great practical benefit and something we would want to share with the other parts of the UK. Rwy’n credu mai’r mathau hyn o gysylltiadau sydd ar goll weithiau. Maent yn tueddu i fod gryfaf ymhlith swyddogion, ond yn syndod o wan o ran y gweithredwyr gwleidyddol eu hunain. Felly, rwy’n meddwl bod llawer yno sy’n mynd i fod o fudd ymarferol mawr ac yn rhywbeth y byddem eisiau ei rannu â rhannau eraill o’r DU.
We’ve talked about codification and I’m glad to see the Counsel General here. I do welcome the Welsh Government’s commitment. It is going to require speed and effort, I think, because this window won’t remain open forever. But we could really deliver something that’s quite unique in the British isles, because we have this opportunity of not formally having had separate laws, now having our own primary law-making powers, and the ability to have a much clearer statute book is going to be open to us. It’s all about the clarity of legislation, which, in turn, gives the citizen much better access to legislation. I think I’ve made this comment before: there’s a lot of legislation in very, very profoundly important areas. We’re talking about housing, education, and health, where, in some of the aspects, if you want to find out what the law actually is, you need to hire a QC to give you an opinion. Now, that cannot be a good situation to be in. Incidentally, they don’t always come out with a clear view even then. So, I think we do have a great opportunity here to show a different way of working. Rydym wedi siarad am godeiddio ac rwy’n falch o weld y Cwnsler Cyffredinol yma. Rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru. Mae’n mynd i alw am gyflymder ac ymdrech, rwy’n credu, oherwydd ni fydd y cyfle hwn gennym am byth. Ond mewn gwirionedd gallem gyflwyno rhywbeth sy’n eithaf unigryw yn Ynysoedd Prydain, am fod gennym y cyfle hwn o fod heb fod â chyfreithiau ar wahân yn ffurfiol, i gael ein pwerau deddfu sylfaenol ein hunain yn awr, ac mae’r gallu i gael llyfr statud llawer cliriach yn mynd i fod yn agored i ni. Mae’n ymwneud yn llwyr ag eglurder y ddeddfwriaeth, sydd, yn ei dro, yn gwneud y ddeddfwriaeth yn llawer mwy hygyrch i’r dinesydd. Rwy’n credu fy mod wedi gwneud y sylw hwn o’r blaen: ceir llawer o ddeddfwriaeth mewn meysydd eithriadol o bwysig. Rydym yn sôn am dai, addysg ac iechyd, ac mewn rhai o’r agweddau, os ydych am gael gwybod beth yw’r gyfraith mewn gwirionedd, mae angen i chi logi Cwnsler y Frenhines i roi barn i chi. Nawr, ni all honno fod yn sefyllfa dda i fod ynddi. Gyda llaw, nid ydynt bob amser yn darparu barn glir hyd yn oed wedyn. Felly, rwy’n meddwl bod gennym gyfle gwych yma i ddangos ffordd wahanol o weithio.
Finally—I don’t think those are the little things, actually, I think those are quite big things, but I suppose, when we talk about the little things, we’re looking at how secondary legislation is conducted, and it is important, because there’s usually good practice from the Welsh Government, but there is inconsistency as well. Sometimes, we are having to remind Welsh Government of the need to use affirmative procedures when things of real political significance and of concern to citizens are being decided, and not to rush through the process. The affirmative process, really, is a great protection for the Government as well as for the legislature, and its more routine use, I think, sometimes—you know, it should be the presumption, really, it shouldn’t be the exception to what is normally a negative procedure. Yn olaf—nid wyf yn credu mai’r rheini yw’r pethau bychain mewn gwirionedd, rwy’n meddwl bod y rheini’n bethau eithaf mawr, ond pan soniwn am y pethau bychain, mae’n debyg ein bod yn edrych ar sut y caiff is-ddeddfwriaeth ei chyflawni, ac mae’n bwysig, oherwydd fel arfer ceir arferion da gan Lywodraeth Cymru, ond ceir anghysondeb yn ogystal. Weithiau, rydym yn gorfod atgoffa Llywodraeth Cymru am yr angen i ddefnyddio gweithdrefnau cadarnhaol pan fydd pethau o arwyddocâd gwleidyddol go iawn sy’n berthnasol i ddinasyddion yn cael eu penderfynu, a’r angen i beidio â rhuthro’r broses. Mae’r broses gadarnhaol, mewn gwirionedd, yn amddiffyniad gwych i’r Llywodraeth yn ogystal ag i’r ddeddfwrfa, ac mae ei defnydd mwy rheolaidd, rwy’n meddwl, weithiau—wyddoch chi, dylai fod yn rhagdybiaeth, mewn gwirionedd, ni ddylai fod yn eithriad i’r hyn sydd fel arfer yn weithdrefn negyddol.
Finally, can I just say that the place of citizens—? I did refer briefly to the clarity of legislation, but I do think all Governments and legislatures in the UK and, in fact, the whole western world, will have to do a lot more work to engage citizens. It’s not enough just at elections or to hope that they leave comments on our websites. We’ve got to go out and road test some things directly with our citizens. But I very much welcome the Chair’s statement today. Yn olaf, a gaf fi ddweud mai lle dinasyddion—? Cyfeiriais yn fyr at eglurder y ddeddfwriaeth, ond rwy’n meddwl y bydd yn rhaid i bob Llywodraeth a deddfwrfa yn y DU, ac yn y byd gorllewinol drwyddo draw mewn gwirionedd, wneud llawer mwy o waith i ymgysylltu â dinasyddion. Nid yw’n ddigon mewn etholiadau’n unig neu obeithio eu bod yn gadael sylwadau ar ein gwefannau. Mae’n rhaid i ni fynd allan i brofi rhai pethau’n uniongyrchol gyda’n dinasyddion. Ond rwy’n croesawu datganiad y Cadeirydd heddiw yn fawr iawn.
16:05 - Huw Irranca-Davies
Can I very much welcome David’s response to the statement, and can I just put on record my appreciation, not only of his approach to the work of the committee, but also of other Members as well? It is genuinely a committee that strives in a hugely non-partisan way to look at the effective operation of both our constitution and the legislation we see in front of us, and that does make it a strangely enjoyable experience in the way that we approach the thing. But also it’s certainly true as well, as I know is the same on other committees, that it benefits as well from the wealth of experience—not least, I have to say, having a former Chair of this committee as well who has seen a long history and evolution of these matters. It’s quite exciting as well, as David has flagged up, to see that the process doesn’t stop when we look at issues such as codification, and I agree with him, it’s great to see here the Counsel General sitting in as we discuss this, because, as we’ve mentioned on previous occasions, whilst we have to be very careful and considered in how we take pioneering work forward, the issue of codification done well and in a thoughtful way could mean that this legislature is at the absolute forefront of simplifying and clarifying live, real-time, updated legislation that is understandable, not simply to the barristers of this world, but to the people who live next door to me on my street as well, so they can pick it up and work with it, and that’s surely what we should be trying to do. A gaf fi groesawu ymateb David i’r datganiad yn fawr iawn, ac a gaf fi gofnodi fy ngwerthfawrogiad, nid yn unig o’i ymagwedd ef tuag at waith y pwyllgor, ond ymagwedd yr Aelodau eraill hefyd? Mae’n bwyllgor sy’n ymdrechu o ddifrif mewn modd hynod o amhleidiol i edrych ar weithrediad effeithiol ein cyfansoddiad a’r ddeddfwriaeth a welwn o’n blaenau, ac mae hynny’n ei wneud yn brofiad pleserus yn rhyfedd iawn, o ran y ffordd yr ydym yn mynd ati. Ond hefyd, yr un fath ag ar bwyllgorau eraill fel y gwn, mae’n sicr yn wir ei fod yn elwa o’r cyfoeth o brofiad—nid yn lleiaf, rhaid i mi ddweud, o’r ffaith fod gennym gyn-Gadeirydd y pwyllgor sydd wedi gweld hanes hir ac esblygiad y materion hyn. Mae’n eithaf cyffrous i weld hefyd, fel y mae David wedi nodi, nad yw’r broses yn dod i ben wrth i ni edrych ar faterion fel codeiddio, ac rwy’n cytuno ag ef, mae’n wych gweld y Cwnsler Cyffredinol yn eistedd yma wrth i ni drafod hyn, oherwydd, fel y soniasom o’r blaen, er bod yn rhaid i ni fod yn ofalus ac yn ystyriol iawn o ran y ffordd yr awn ati i ddatblygu gwaith arloesol, gallai codeiddio wedi’i wneud yn dda ac yn ystyrlon olygu bod y ddeddfwrfa hon ar y blaen yn amlwg o ran symleiddio ac egluro deddfwriaeth fyw, amser real, sydd wedi’i diweddaru ac sy’n ddealladwy, nid yn unig i fargyfreithwyr y byd hwn, ond i’r bobl sy’n byw drws nesaf i mi ar fy stryd hefyd fel y gallant ei deall a’i defnyddio, ac yn sicr dylem geisio gwneud hynny.
I welcome very much, as well—and I think he is quite right in saying this—the fact that we do usually see good practice from Welsh Government, and we’re not averse within the committee to recognising that in our reports. Sometimes, I know, Ministers will say, ‘Oh, you’ve been a bit harsh’ on this or that or the other, but we do recognise where there is good practice, and there is good practice within Welsh Government. Our role and, certainly, when I referred to the little things—curiously, it is the minutia that we focus on that actually drives that progressive improvement as well. So, to the Counsel General, or to the business manager in front of us, or other Ministers that might be listening, my soft apologies that occasionally we are the grit in the oyster, but, actually, that means that we move forward and we improve the legislation that we do have. Croesawaf yn fawr iawn hefyd—ac rwy’n meddwl ei fod yn llygad ei le yn dweud hyn—y ffaith ein bod fel arfer yn gweld arferion da gan Lywodraeth Cymru, ac nid ydym yn gyndyn yn y pwyllgor i gydnabod hynny yn ein hadroddiadau. Weithiau, gwn y bydd Gweinidogion yn dweud, ‘O, rydych wedi bod braidd yn llym’ ar y peth hwn neu’r peth arall, ond rydym yn cydnabod lle y ceir arferion da, ac mae arferion da i’w cael o fewn Llywodraeth Cymru. Ein rôl, ac yn sicr, pan gyfeiriais at y pethau bychain—yn rhyfedd ddigon, y pethau bychain y canolbwyntiwn arnynt sy’n gyrru’r gwelliant cynyddol hwnnw mewn gwirionedd. Felly, i’r Cwnsler Cyffredinol, neu i’r rheolwr busnes o’n blaenau, neu Weinidogion eraill a allai fod yn gwrando, fy ymddiheuriadau ein bod weithiau’n garreg yn eich esgid, ond mewn gwirionedd, mae hynny’n golygu ein bod yn symud ymlaen ac yn gwella’r ddeddfwriaeth sydd gennym.
He mentioned as well—David mentioned as well—the issue of the focus that we have on the committee on the clarity of the law, and also the constitutional fitness for purpose. One of the things that I think’s particularly enjoyable on the committee, but also in the forward programme we’re looking at, is that, very often, to members of the public I think they regard a constitution and law as something that’s set in aspic, it’s done, and that you put it there on the shelf, and then once in a while lawyers and barristers and constitutional experts will take it down and refer you to the relevant point. But, actually, it is an interestingly evolving piece of work, and we can do things quite differently in Wales, and innovate a little bit, and I think that’s what we’re hoping to do here. So, I thank David for his contribution, and I look forward to other contributions here this afternoon. Soniodd hefyd—a gwnaeth David hynny hefyd—am y ffocws sydd gennym yn y pwyllgor ar eglurder y gyfraith, ac addasrwydd i’r diben yn gyfansoddiadol hefyd. Un o’r pethau arbennig o bleserus yn y pwyllgor yn fy marn i, a hefyd yn y flaenraglen yr edrychwn arni, yw fy mod yn credu bod aelodau’r cyhoedd yn aml iawn yn ystyried bod cyfansoddiad a chyfraith yn bethau sydd wedi’u cadw mewn asbig, rhywbeth sydd wedi’i wneud, a’ch bod yn ei osod yno ar y silff, ac yna o dro i dro bydd cyfreithwyr a bargyfreithwyr ac arbenigwyr cyfansoddiadol yn ei dynnu allan ac yn eich cyfeirio at y pwynt perthnasol. Ond mewn gwirionedd, mae’n waith sy’n esblygu’n ddiddorol, a gallwn wneud pethau’n eithaf gwahanol yng Nghymru, ac arloesi ychydig bach, ac rwy’n meddwl mai dyna rydym yn gobeithio ei wneud yma. Felly, diolch i David am ei gyfraniad, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau eraill yma y prynhawn yma.
16:08 - Dai Lloyd
A allaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei ddatganiad, a hefyd croesawu'r ffordd ymlaen, a hefyd diolch am eiriau aeddfed fy nghyd-aelod o’r pwyllgor, David Melding? Yn naturiol, rydym ni yn dathlu heddiw Dydd Gŵyl Dewi Sant a gwneud y pethau bychan, ac rydym ni yn gwneud rhai pethau bychan fel craffu ar is-ddeddfwriaeth—yn eithaf aml mae hynny yn weddol fach. Ond, wrth gwrs, fel yr oedd David yn ei grybwyll, mae yna bethau mawr yn gallu digwydd hefyd, ac rwy’n olrhain yr holl ddadleuon cawsom ni o gwmpas Deddf Cymru yn awr—Bil Cymru fel yr oedd e. I thank the Chair of the Constitutional and Legislative Affairs Committee for his statement, and also welcome the way ahead. I also thank my fellow committee member, David Melding, for his kind words. Naturally, we are celebrating today St David’s Day and doing the little things, and we do do some little things such as scrutinising subordinate legislation—quite often that’s quite small. But, as David said, there are big things that can happen as well, and I’m thinking about all the debates that we had around the Wales Act—the Wales Bill as was.
Wrth gwrs, nid yn unig yn hanes mae gyda ni Dewi Sant, ond rhyw dair canrif ar ei ôl o roedd Hywel Dda—Brenin Hywel Dda; rydw i wedi sôn amdano fe o’r blaen yng nghyd-destun y pwyllgor yma—a’i ddeddfau fo dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl a rhoddodd hawliau i fenywod am y tro cyntaf yn hanes dynoliaeth. Mae’n bwysig nodi hynny, ein bod ni yng Nghymru yn gallu creu deddfau sydd yn gyfan gwbl arloesol, ac, wrth gwrs, mae gyda ni’r cyfle unwaith eto, o dan y setliad cyfansoddiadol diweddaraf yma, i greu deddfau arloesol unwaith eto. Of course, we not only have the history of St David, but some 300 years afterwards we had Hywel Dda—King Hywel Dda; I’ve mentioned him previously in the context of this committee—and his laws of 1,000 years ago that gave women rights for the first time in the history of humanity. It’s important to note that, that we in Wales can create laws that are entirely innovative, and we have the opportunity once again, under the recent constitutional settlement, to create innovative laws.
Wrth gwrs, mae yna nifer o bethau wedi newid ers dyddiau Hywel Dda. Rydw i’n falch bod y Cadeirydd, felly, wedi olrhain tri phrif fwriad y pwyllgor ar hyn o bryd a chrybwyll, fel y mae’n dweud yn fan hyn, Of course, a number of things have changed since Hywel Dda’s days, and I’m pleased that the Chair has set out the three main aims of the committee at present, and mentioned, as it states here, producing
‘llunio egwyddorion arfer gorau ar gyfer dulliau o weithio rhwng sefydliadau ar gyfer deddfwriaeth gyfansoddiadol’ best practice principles for inter-institutional working for constitutional legislation’
a hefyd ystyried gwaith deddfwrfeydd eraill yn yr ynysoedd hyn and also reflecting and building on the work of other legislatures in these islands
‘o ran eu dulliau o weithio rhwng sefydliadau ac adeiladu arno pan fo'n ymwneud â meysydd polisi ehangach’. on inter-institutional working as it relates to broader policy areas’.
Call iawn, ac mae gwir angen gwella cydweithio rhwng y gwahanol senedd-dai yn yr ynysoedd hyn. Rydym ni i gyd yn gallu crybwyll hanesion o’r gorffennol, pan oedd y lle hwn a phwyllgorau yn y lle hwn yn tueddu cael eu hanwybyddu yn eithaf aml, ac mae yna dystiolaeth bod hynny’n dal i ddigwydd, pan oeddem ni’n ceisio fel pwyllgor cael tystiolaeth pan oedd Deddf Cymru yn mynd rhagddi. Felly, rwy’n cefnogi’n gryf y bwriad sydd wedi cael ei amlinellu fan hyn gan y Cadeirydd eisoes. It’s very sensible, and we genuinely need to improve collaboration between the different parliaments on these islands. We can all talk about past events, when this place and committees in this place tended to be ignored quite often, and there is evidence that that is still happening, when we tried as a committee to obtain evidence when the Wales Bill was going through. So, I do support strongly the intention that has been outlined here by the Chair.
Ond a fyddai’r Cadeirydd yn ei ymateb hefyd yn cytuno â fi fod, yn y cwestiwn yma o gydgysylltu rhwng gwahanol senedd-dai yn yr ynysoedd hyn, gryn dipyn o waith eto i’w wneud? Rydym ni wedi sefydlu’r ymchwiliad yma, ond rydym ni’n dechrau mewn lle bregus a gwan yn nhermau lle’r Cynulliad hwn yn y ffordd mae’r ynysoedd hyn yn cael eu rheoli. Felly, mae yna jobyn o waith i’w wneud a buaswn i’n edrych am ragor o sylwadau gan y Cadeirydd i’r perwyl yna. But would the Chair in his response agree with me that, in this question of co-ordination between parliaments in these islands, there’s a lot of work still to be done? Yes, we’ve established this inquiry, but we are starting from a very fragile place in terms of this Assembly in terms of the ways these islands are controlled or managed. So, there is a job of work to be done, and I would look for more comments from the Chair on that subject.
Hefyd, gwnaeth o grybwyll y ffordd rydym ni’n mynd i ymgysylltu efo dinasyddion, ac mae hynny wedi digwydd eisoes. Rydw i’n edrych ymlaen at ragor o gyfarfodydd fel yna, achos, ar ddiwedd y dydd—buaswn i hefyd yn gobeithio buasai’r Cadeirydd yn gallu cytuno â mi bod yna waith i’w wneud yn fan hyn hefyd i esbonio, mewn ffyrdd weddol hawdd, achos yn y pwyllgor yma rydym ni’n aml yn gallu ymdrin â phethau sydd yn gallu edrych yn anodd ac yn sych. Ond, ar ddiwedd y dydd, mae hefyd eisiau gwneud pethau yn weddol hawdd fel bod ein dinasyddion ni, a rhai ohonom ni, yn gallu deall beth sydd yn mynd ymlaen. Hynny yw, mae yna bolisïau gwahanol yng Nghymru nawr o’u cymharu â Lloegr, yr Alban ac ati. Mae angen hefyd egluro’n glir i’n dinasyddion beth yn union sydd wedi cael ei ddatganoli a beth sydd heb ei ddatganoli, goblygiadau Deddf Cymru, sydd yn dod i mewn, ac, wrth gwrs, y gwahaniaeth sylfaenol rhwng Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad. Nawr, yn amlwg, rŷm ni yn fan hyn yn gwybod y gwahaniaeth, ond nid yw o’n amlwg allan fanna, ac yn aml iawn nid yw e’n amlwg i’r sawl sy’n ysgrifennu penawdau yn ein papurau newydd chwaith—y gwahaniaeth rhwng y Llywodraeth yn y lle yma a’r Cynulliad ei hunan fel sefydliad. He also mentioned the way that we are going to engage with citizens, and that’s happened already. I’m looking forward to more meetings of that sort, because, at the end of the day—and I would hope that the Chair would be able to agree with me that there is work to be done here as well to explain, in an easy way, because in this committee we often deal with things that can appear to be difficult and dry. But, at the end of the day, we also need to simplify things so that citizens, and some of us, can understand what’s going on. That is, there are different policies in Wales compared with England and Scotland and so forth. We need to explain clearly to our citizens what has been devolved and what hasn’t been devolved, and the implications of the Wales Act, which is coming into force, and, of course, the basic difference between the Welsh Government and the Assembly. Now, evidently, for us here, we know the difference. But it’s not obvious out there, and very often it’s not obvious to those who write newspaper headlines either—the difference between the Government in this place and the Assembly itself as an institution.
I orffen, wedi crybwyll dau ffigwr mewn hanes, sef Dewi Sant a Hywel Dda, roeddwn i’n mynd i grybwyll Brenin Harri VIII hefyd, achos, cyn i bobl ddweud fy mod i’n sôn am bobl sydd â dim perthnasedd i’n deddfau, yn anffodus, mae Brenin Harri VIII yn dal efo perthnasedd na ddylai fod yna, buaswn i’n ei ddadlau, i’n deddfau ni heddiw drwy’r gorddefnydd, buaswn i’n dweud, o bwerau Harri VIII, sydd yn dal i ddigwydd pum canrif ar ôl i’r brenin yna adael y blaned yma. Felly, buaswn i hefyd yn licio gweld y Cadeirydd yn ymestyn y ddadl ynglŷn â’r defnydd o bwerau Harri VIII yn y lle yma, a’r ffordd ymlaen er mwyn lleihau’r defnydd yna ohonyn nhw. Diolch yn fawr. To close, having mentioned two figures in history, namely St David and Hywel Dda, I was going to talk about Henry VIII as well, because, before anyone says that I talk about people who aren’t relevant to our legislation, unfortunately, Henry VIII still has a relevance that shouldn’t be there, I would argue, to our laws today through the overuse, I would say, of Henry VIII powers, which is still happening 500 years after that king left this planet. So, I would also like to see the Chair extend the debate about the use of Henry VIII powers in this place, and the way ahead in order to reduce the use of those powers. Thank you very much.
16:14 - Huw Irranca-Davies
Diolch, Dai. If I can begin at the end with one regent and move on to another then, certainly the Henry VIII powers, we consistently—and in line with our predecessor committee as well—try to push back on the use of Henry VIII powers. It’s a constant dialogue with Ministers and with Government, but our principles are very firm on the committee, for very good reasons, that we want to minimise—. We recognise that there will be occasions where Henry VIII powers, in limited, restricted areas, might be appropriate, but we’re trying to constantly push back. We have to keep going on that journey, I think, and have the dialogue with Ministers on that. It is quite an interesting dialogue that we do have because, as I alluded to earlier, there is good practice. We do find, within some areas of legislation, and with some Ministers, that they do indeed try very hard to stamp down on the use of Henry VIII powers, and in other areas it unwinds a little bit. We’re going to have to keep on working on that. But I think the important thing, curiously, in respect of the way that we see this place working, and the transparency of this place, is that we have these discussions fairly and amicably. But there will be points of difference, I think, sometimes, from us as the Constitutional and Legislative Affairs Committee and Ministers, but we’ll keep on arguing, because I think there is a good point of principle that we shouldn’t be relying on Henry VIII powers or trying to avoid, wherever possible, the use of them. I’m sure that the former Chair of the committee would agree with that as well. Diolch, Dai. Os caf ddechrau ar y diwedd gydag un rhaglyw a symud ymlaen at un arall, yna, yn sicr gyda phwerau Harri’r VIII, rydym yn gyson—ac yn unol â’r pwyllgor a’n rhagflaenodd—yn ceisio gwthio’n ôl ar y defnydd o bwerau Harri VIII. Mae’n ddeialog gyson gyda Gweinidogion a chyda’r Llywodraeth, ond mae ein hegwyddorion yn gadarn iawn ar y pwyllgor am resymau da iawn, sef ein bod am leihau—. Rydym yn cydnabod y bydd yna adegau pan allai pwerau Harri VIII fod yn briodol mewn rhai meysydd cyfyngedig, ond rydym yn ceisio gwthio’n ôl yn gyson. Mae’n rhaid i ni ddal i fynd ar y daith honno, rwy’n meddwl, a chael y ddeialog honno gyda’r Gweinidogion ar hynny. Mae gennym ddeialog eithaf diddorol oherwydd, fel y dywedais yn gynharach, mae yna arferion da yn bodoli. Gwelwn mewn rhai meysydd deddfwriaeth, a chyda rhai Gweinidogion, eu bod yn ceisio’n galed iawn i leihau’r defnydd o bwerau Harri VIII, ac mewn mannau eraill, mae’n datod ychydig bach. Rydym yn mynd i orfod dal ati i weithio ar hynny. Ond rwy’n credu mai’r peth pwysig, yn rhyfedd ddigon, o ran y ffordd y gwelwn y lle hwn yn gweithio, a thryloywder y lle hwn, yw ein bod yn cael y trafodaethau hyn yn deg ac yn gyfeillgar. Ond bydd yna bwyntiau, rwy’n meddwl, pan fydd ein barn fel y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a Gweinidogion yn wahanol, ond byddwn yn parhau i ddadlau, oherwydd credaf fod yna bwynt da o egwyddor na ddylem ddibynnu ar bwerau Harri’r VIII neu’n ceisio osgoi eu defnydd lle bynnag y bo modd. Rwy’n siŵr y byddai cyn-Gadeirydd y pwyllgor yn cytuno â hynny hefyd
To turn for a moment to Hywel Dda, as Dai rightly points out, he was the original progressive legislator, innovator and pioneer. We sometimes forget in Wales that we can look back a long, long way to where we began a process of legislation and how we learned some of those lessons, and perhaps bring them forward now in terms of how we deal with those issues, such as equality issues. We were the nation that pioneered on that. I droi am funud at Hywel Dda, fel yr oedd Dai yn gywir i nodi, ef oedd y deddfwr a’r arloeswr blaengar gwreiddiol. Weithiau rydym yn anghofio yng Nghymru y gallwn edrych yn ôl yn bell iawn i ble y dechreuasom ar broses ddeddfwriaethol a sut y dysgasom rai o’r gwersi hynny, a’u cyflwyno yn awr o bosibl o ran y modd yr ymdriniwn â’r materion hynny, megis materion cydraddoldeb. Ni oedd y genedl a arloesodd ar hynny.
Dai mentioned that we genuinely need to improve the institutional working. I agree entirely and I would recommend to anybody to go back and have a look at Lord Murphy’s evidence session. Lord Murphy was, of course, twice the Secretary of State for Wales, but also the Secretary of State for Northern Ireland and many other roles within the Government. He has a long pedigree, and he himself has been on a journey, but one of the interesting things that he was alluding to was the difficulty sometimes of persuading Whitehall colleagues, also with long experience, of where we were in this devolution journey and so on. So, I’d recommend that. Soniodd Dai fod taer angen i ni wella’r gwaith sefydliadol. Cytunaf yn llwyr a buaswn yn argymell i unrhyw un fynd yn ôl ac edrych ar sesiwn tystiolaeth yr Arglwydd Murphy. Roedd yr Arglwydd Murphy, wrth gwrs, yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddwywaith, a hefyd yn Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon a llawer o rolau eraill yn y Llywodraeth. Mae ganddo bedigri hir, ac mae ef ei hun wedi bod ar daith, ond un o’r pethau diddorol y cyfeiriodd ato oedd yr anhawster weithiau i berswadio cydweithwyr yn Whitehall, sydd hefyd â phrofiad hir, ynglŷn â ble roeddem ar y daith ddatganoli ac yn y blaen. Felly, buaswn yn argymell hynny.
But there is good practice. We do see good practice. We do see Ministers and committees working on a day-to-day basis, even on cross-border issues, very well. In other areas it’s not so good. What we must try and establish is: what is the best practice and how do we ensure that that best practice is absolutely the norm for every part of the Westminster-to-Wales relationship? I agree entirely when he says that there is a lot of work to be done. Yes, there is. This is why I think it’s an appropriate moment here, after we have finished with the new Wales Act, to reflect and also see how this looks forward. Why is that particularly appropriate? Also because we need to have a look now, as we have this situation where we are in this transition period as we look at article 50 and exiting the European Union: these mechanisms and relationships must be exemplary in the way that they function. So, I think that we can provide a service not only to Wales but also to the UK Government at the same time—and our devolved colleagues. Ond mae arferion da i’w cael. Rydym yn gweld arferion da. Rydym yn gweld Gweinidogion a phwyllgorau’n gweithio’n dda iawn o ddydd i ddydd, hyd yn oed ar faterion trawsffiniol. Mewn ardaloedd eraill nid yw mor dda. Yr hyn sy’n rhaid i ni geisio ei sefydlu yw hyn: beth yw’r arferion gorau a sut y sicrhawn fod yr arferion gorau hynny’n norm pendant ym mhob rhan o’r berthynas rhwng San Steffan a Chymru? Cytunaf yn llwyr pan ddywed fod yna lawer o waith i’w wneud. Oes, mae hynny’n wir. Dyna pam y credaf ei bod yn foment briodol yma, ar ôl i ni orffen â’r Ddeddf Cymru newydd, i fyfyrio a gweld hefyd sut y mae hyn yn edrych ar gyfer y dyfodol. Pam y mae hynny’n arbennig o briodol? Hefyd oherwydd bod angen i ni edrych yn awr, gan fod gennym y sefyllfa hon lle rydym mewn cyfnod o bontio wrth i ni edrych ar erthygl 50 a gadael yr Undeb Ewropeaidd: rhaid i’r mecanweithiau a’r cysylltiadau hyn weithredu’n rhagorol. Felly, rwy’n meddwl y gallwn ddarparu gwasanaeth nid yn unig i Gymru ond hefyd i Lywodraeth y DU ar yr un pryd—a’n cymheiriaid datganoledig.
Finally, he mentioned citizens’ engagement. I entirely agree—a huge body of work here to do for us. I think, probably of all of the committees, because we are not a thematic committee, because we are not something that, very often, is easily translatable to the experiences of my neighbours and so on—it’s not health, it’s not social care, it’s not the buses, it’s not whatever—and yet, if we do not have the right processes in place, much of this good work in those themed areas can fall asunder. So, we have to find a way. I would pay tribute to our team that underpins our work as committee members—the clerks, the researchers, the communications people—for their efforts to try and find those innovative ways, such as the citizens’ panel, where we can go forward and work on it to find ways that we can—. As is often said, people don’t talk about this constitutional stuff in the Dog and Duck, wherever that fictional Dog and Duck is. What we need to find are the clever ways in which citizens can engage with this, because it really does matter. We need to get this right. So, Dai, thank you very much for those comments. Yn olaf, fe soniodd am ymgysylltiad dinasyddion. Cytunaf yn llwyr—corff anferth o waith yma i’w wneud i ni. O bob un o’r pwyllgorau yn ôl pob tebyg, rwy’n meddwl, gan nad ydym yn bwyllgor thematig, gan nad ydym yn rhywbeth sydd, yn aml iawn, yn hawdd i’w drosi i brofiadau fy nghymdogion ac yn y blaen—nid yw’n iechyd, nid yw’n ofal cymdeithasol, nid yw’n fysiau, nid yw’n beth bynnag—ac eto, os nad oes gennym y prosesau cywir ar waith, gall llawer o’r gwaith da hwn yn y meysydd thematig hynny chwalu’n ddarnau. Felly, mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd. Hoffwn dalu teyrnged i’n tîm sy’n sail i’n gwaith fel aelodau’r pwyllgor—y clercod, yr ymchwilwyr, y bobl gyfathrebu—am eu hymdrechion yn ceisio dod o hyd i’r ffyrdd arloesol hynny, megis panel dinasyddion, lle y gallwn fwrw ymlaen a gweithio arno i ddod o hyd i ffyrdd y gallwn—. Fel y dywedir yn aml, nid yw pobl yn siarad am y pethau cyfansoddiadol hyn yn y Dog and Duck, lle bynnag y mae’r Dog and Duck ffuglennol hwnnw. Yr hyn sydd angen i ni ddod o hyd iddynt yw’r ffyrdd clyfar y gall dinasyddion ymgysylltu â hyn, gan ei fod o ddifrif yn bwysig. Mae angen i ni gael hyn yn iawn. Felly, Dai, diolch yn fawr iawn am y sylwadau hynny.
16:19 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
And finally and very briefly—and that means briefly from both of you—David Rowlands. Ac yn olaf ac yn fyr iawn—ac mae hynny’n golygu yn fyr gan y ddau ohonoch—David Rowlands.
16:19 - David J. Rowlands
I particularly like the Chair’s idea of a panel made up of members from the public, but, of course, the strength in that panel will be in its make-up. It would be very detrimental if it had some political bias. So, would the Chair be able to give us any idea as to how he feels that panel would actually be selected? Rwy’n arbennig o hoff o syniad y Cadeirydd o banel yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd, ond wrth gwrs, bydd cryfder y panel yn ei gyfansoddiad. Byddai’n niweidiol iawn pe bai rhywfaint o duedd wleidyddol yn perthyn iddo. Felly, a allai’r Cadeirydd roi unrhyw syniad inni sut y mae’n teimlo y câi’r panel hwnnw ei ddewis mewn gwirionedd?
16:19 - Huw Irranca-Davies
Yes, indeed. David, thank you very much. Very, very briefly, we’ve already trialled this, and our team that supports us have brought together people with different experiences from the community sector, the private sector, from different parts of Wales, different age groups, different genders—they’ve tried to experiment with a mix of people and it’s not the usual. It’s actually people who don’t normally engage. Gallaf, yn wir. David, diolch yn fawr iawn i chi. Iawn, yn fyr iawn, rydym eisoes wedi treialu hyn, ac mae ein tîm sy’n ein cefnogi wedi dwyn pobl ynghyd sydd â gwahanol brofiadau o’r sector cymunedol, y sector preifat, o wahanol rannau o Gymru, grwpiau oedran gwahanol, gwahanol rywiau—maent wedi ceisio arbrofi gyda chymysgedd o bobl ac nid yr arferol. Pobl nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu ydynt mewn gwirionedd.
Now, I think there’s work to do on that, and if he has ideas—. But what it’s not to be is the great and good. This is a citizens panel. So, what we’re looking to do is find those people out there who don’t normally engage with us to come forward and tell us what we’re doing right and wrong. Thank you. Nawr, rwy’n credu bod yna waith i’w wneud ar hynny, ac os oes ganddo syniadau—. Ond yr hyn na ddylai fod yw panel o bwysigion. Panel dinasyddion yw hwn. Felly, rydym yn ceisio dod o hyd i bobl allan yno nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu â ni i ddod ymlaen a dweud wrthym beth rydym yn ei wneud yn gywir ac yn anghywir. Diolch.
16:20 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you very much. You see—it can be done when we have a gentle reminder, can’t it? So, thank you very much. Diolch yn fawr iawn. Welwch chi—mae modd ei wneud pan fyddwn yn eich atgoffa’n garedig, onid oes? Felly, diolch yn fawr iawn i chi.
5. Dadl Plaid Cymru: Ffyniant Economaidd, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Addysg 5. Plaid Cymru Debate: Economic Prosperity, the National Health Service and Education
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt. The following amendment has been selected: amendment 1 in the name of Jane Hutt.
16:20 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Item 5 is the Plaid Cymru debate on economic prosperity, the national health service and education. I call on Rhun ap Iorwerth to move the motion. Rhun. Eitem 5 yw dadl Plaid Cymru ar ffyniant economaidd, y gwasanaeth iechyd gwladol ac addysg. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig y cynnig. Rhun.
Cynnig NDM6245 Rhun ap Iorwerth Motion NDM6245 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: To propose that the National Assembly for Wales:
1. Yn nodi cyfraniad amlwg Cymru i'r chwyldro diwydiannol, i greu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'i rôl arweiniol o ran datblygu'r ddarpariaeth addysg uwchradd. 1. Notes Wales’s prominent contribution to the industrial revolution, to the creation of the National Health Service and its leading role in the development of secondary education provision.
2. Yn gresynu: 2. Regrets:
a) at ystadegau diweddar gwerth ychwanegol gros (GVA) a ryddhawyd ym mis Rhagfyr 2016 sy'n dangos mai 71 y cant o gyfartaledd GVA y pen y DU oedd GVA y pen Cymru yn 2015, sef yr isaf ymysg y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr; a) that recent GVA statistics released in December 2016 show that GVA per head in Wales in 2015 was 71 per cent of the UK average, the lowest amongst the devolved countries and English regions;
b) y bydd cleifion yng Nghymru yn aros yn sylweddol hirach i gael diagnosis a thriniaeth nag y byddent am yr un cyflyrau yn Lloegr a'r Alban; ac b) that patients in Wales will wait substantially longer for diagnosis and treatment than they would for the same conditions in England and Scotland; and
c) at berfformiad diweddaraf Cymru yn Rhaglen Asesiadau Myfyrwyr Rhynglwadol 2015 Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016, a oedd yn dangos bod sgorau mathemateg, darllen a gwyddoniaeth 2015 yn is nag yn 2006, ac yn is na'r cyfartaledd ar gyfer y DU. c) Wales’s most recent performance in the OECD’s 2015 Programme for International Student Assessment, published in December 2016, which revealed that scores in maths, reading, and science were lower in 2015 than in 2006, and lower than the UK average.
3. Yn cydnabod: 3. Recognises:
a) rôl hanfodol addysg a sgiliau fel ysgogiad pwysig i wella lefelau cynhyrchiant economaidd Cymru; a) the essential role of education and skills as an important driver to improve Wales’s economic productivity levels;
b) yr angen am wella cyson o ran amseroedd aros Cymru ar gyfer diagnosis a thriniaeth; ac b) the need for sustained improvement in Welsh waiting times for diagnosis and treatment; and
c) potensial yr economi las a gwyrdd o ran sicrhau ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol. c) the potential of the blue and green economy in ensuring the future economic prosperity of Wales.
Cynigiwyd y cynnig. Motion moved.
16:20 - Rhun ap Iorwerth
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r cynnig yma ar 1 Mawrth, Dydd Gŵyl Dewi. Mae’n bleser dymuno Gŵyl Ddewi hapus i bawb yma yn y Siambr a thu hwnt. Thank you very much, Deputy Presiding Officer. It’s a pleasure to present this motion on 1 March, St David’s Day, and it’s a pleasure to wish everyone a happy St David’s Day—here in the Chamber and outwith the Chamber.
Mi allai rhai ofyn pa rôl sydd i ddyddiau nawddsant yn yr unfed ganrif ar hugain, ond ar draws y byd mae pobloedd a gwledydd yn defnyddio’r dyddiau yma i ddathlu a hybu eu cenedligrwydd, a hir y parhaed hynny. Mae’n gyfle i ddathlu llwyddiannau a hefyd i fyfyrio, rydw i’n meddwl, ar gyflwr cenedl. Heddiw, rydym ni’n defnyddio ein dadl Gŵyl Ddewi i edrych ar ein gorffennol, ein presennol a’n dyfodol, ac yn arbennig i roi sylw i feysydd yr economi, iechyd ac addysg. Some may ask what role there is for patron saint days in the twenty-first century, but across the world, people and nations do use these days to celebrate and promote their nations and nationalities, and long may that continue. It’s an opportunity to celebrate successes and also to consider the state of the nation. Today, we are using our St David’s Day debate to look to our past, our present and our future, and to particularly address the areas of the economy, health and education.
Mae angen gonestrwydd, rwy’n meddwl, am sut mae pethau heddiw. Wrth gwrs, nid edrych yn ôl ydy’r bwriad efo rhyw ysbryd o ‘nostalgia’ am sut roedd bywyd i lawer o ddinasyddion Cymru dros y cwpwl o ganrifoedd diwethaf. Ac i bellhau ein hun oddi wrth slogan gwleidyddol arall diweddar, nid ‘making Wales great again’ ydy ein thema ni heddiw. Yn hytrach, edrych yr ydym ni ar lle rydym ni arni fel cenedl, gan ddatgan yn glir ein bod ni’n credu y gall Cymru wneud yn well. We need honesty in terms of how things are today. Of course, we’re not looking back with a sense of nostalgia in terms of how things were for many Welsh citizens over the past century or two. And to distance ourselves from another recent political slogan, it’s not about ‘making Wales great again’—that’s not our theme here today. We are, rather, looking at where we are as a nation, clearly stating that we believe that Wales can do better.
Mae gan Gymru hanes balch iawn. Efallai bod yna amrywiaeth barn ymhlith Aelodau am arwyddocâd gwahanol elfennau o’n hanes ni, ond yn sicr, fel cenedl fodern mi allwn ni droi at benodau o’n hanes ni er mwyn ysbrydoli ein dyfodol. Ar Ddydd Gŵyl Dewi, mi allwn ni ddweud wrth bobl Cymru: dyma ydy stori ein cenedl ni. Mi wnaeth y cenedlaethau a aeth o’n blaenau ni arloesi; mi wnaethon nhw ddyfeisio pethau, creu pethau—ymateb i sefyllfa Cymru a’r byd fel yr oedd o ar y pryd. Ym maes iechyd, rydym ni’n sôn am Gymro yn creu’r NHS, ac yn creu hynny, wrth gwrs, o fewn cyd-destun Prydeinig, yn y blynyddoedd ar ôl yr ail ryfel byd, yn yr un modd ag y cafodd y chwyldro diwydiannol ei feithrin yma yng Nghymru, eto mewn cyd-destun Prydeinig, neu ymerodraethol, hyd yn oed—nid cyd-destunau y clywch chi Blaid Cymru yn eu dathlu a’u clodfori o reidrwydd, ond dyna oedd y cyd-destun. Wales has a very proud history. There may be a divergence of opinion among Members on the significance of various elements of our history, but certainly, as a modern nation, we can turn to chapters in our history in order to inspire our future. On St David’s Day, we can tell the people of Wales that this is the story of our nation. Our predecessor generations innovated; they created anew, they devised things; and they responded to the situation of Wales and the world as it was at that time. In health, we are talking about a Welshman creating the NHS and doing so within a British context in those years after the second world war, just as the industrial revolution was nurtured here in Wales, again, in a British or imperial context, even—these aren’t contexts that you will hear Plaid Cymru celebrating, necessarily, but that was the context at that time.
Mae’r cyd-destun yna wedi newid bellach, wrth gwrs, ac mae’n siŵr y dylwn i ychwanegu ei fod o wedi newid i raddau helaeth, mae’n siŵr, mewn ymateb i’r hen gyd-destunau yna. Rydym ni’n wlad sydd, yn rhannol, yn hunan-lywodraethu bellach, wrth i’n cenedl ni barhau ar ein taith gyfansoddiadol. Mae’r siwrne honno, rwy’n falch o ddweud, yn parhau, ac rwy’n siŵr y buasai Dewi Sant ei hun yn cytuno ei bod hi’n siwrne gyffrous, ac yn siwrne llawn posibiliadau. That context has now changed. Perhaps I should add that it has changed to a great extent as a result of the response to those contexts of the past. We are partially self-governing now as our nation continues on our constitutional journey. That journey, I’m proud to say, is continuing, and I’m sure that St David himself would agree that it’s an exciting journey, and a journey full of possibilities.
Mae ein cynnig ni heddiw yn sôn am ein cyfraniad ni fel cenedl i’r chwyldro diwydiannol. Ni oedd un o’r economïau diwydiannol cyntaf yn y byd. Mi oedd y profiad hwnnw o ddiwydiannu yn un trawmatig i lawer o weithwyr a dinasyddion yn gyffredinol ar y pryd. Mi oedd tlodi, afiechydon a niwed amgylcheddol yn nodweddion amlwg o’r cyfnod, ond yn y pen draw, dyna ddechrau’r llwybr at fywyd mwy ffyniannus. Mi wnaeth o baratoi’r ffordd at arloesedd, at ddatblygiadau technolegol a blaengarwch, yn gymharol o leiaf. Mi wnaeth yr amgylchiadau caled ar y pryd ysgogi brwydrau am hawliau gweithwyr ac am yr hawl i bleidleisio—brwydrau wnaeth greu sylfaeni, i raddau, a wnaeth ein galluogi ni i adeiladu’r ddemocratiaeth sydd gennym ni rŵan, a’r ffaith ein bod ni yma heddiw yn ein Senedd genedlaethol ni. Our motion today mentions our contribution as a nation to the industrial revolution. We were one of the first industrial economies in the world. That experience of industrialisation was traumatic for many workers, and citizens more generally at the time. Poverty, ill health and environmental damage were clear characteristics of the period, but ultimately that was the start of the journey to a more prosperous future. It prepared the way for innovation and for technological developments and innovation. Those difficult circumstances of the time actually engendered battles for workers’ rights and for the right to vote—battles that laid the foundations to an extent that allowed us to build the democracy that we currently have, and the fact that we here today are in our own national Parliament.
Mi ddaeth heriau i’r iaith Gymraeg hefyd, wrth reswm, er i Gwynfor Evans nodi nad diwydiannu wnaeth ladd y Gymraeg yn ein hardaloedd diwydiannol; polisi llywodraethau canolog oedd yn gyfrifol am hynny, drwy’r system addysg a chyflwr seicolegol pobl Cymru. Mi nododd Gwynfor bod y Gymraeg wedi mynd o ardaloedd gwledig y de-ddwyrain ymhell cyn y trefi, efo’r iaith yn fyw mewn llefydd fel Merthyr Tudful ac Aberdâr a threfi tebyg ar draws Morgannwg a Gwent am ddegawdau ar ôl y cyfnod diwydiannu. There were challenges for the Welsh language also, naturally, although Gwynfor Evans noted that it wasn’t industrialisation that killed the Welsh language; it was the policies of central governments that were responsible for that through the education system and the psychological condition of the people of Wales. Gwynfor noted that the Welsh language had disappeared from the rural areas of the south-east way before the urban areas, with the language alive in areas such as Merthyr Tydfil and Aberdare, and similar towns across Glamorgan and Gwent, for decades after industrialisation.
Heddiw, wrth gwrs, mae’n braf gweld addysg Gymraeg yn tyfu eto yn y llefydd hynny. Mae polisi yn allweddol i yrru’r twf yma. Rydym i gyd yma, gobeithio, yn ei groesawu. Mae yna newid mawr wedi bod mewn seicoleg, y seicoleg y cyfeiriodd Gwynfor ato, er bod dal rhai pobl sy’n dal yn ei chael hi’n anodd ffeindio’r hyder cenedlaethol newydd yna rydym ni i gyd ei angen. Today, of course, it’s good to see Welsh medium education prospering again in those areas. Policy is crucially important to drive that growth. I hope we all here do welcome that growth. There’s been a change in psychology, the psychology that Gwynfor mentioned, although there are still some people who find it difficult to find that new national confidence that we all need.
Mi symudaf ymlaen at iechyd ac at addysg. Fel y cafodd y chwyldro diwydiannol ei feithrin yma, fe gafodd y gwasanaeth iechyd gwladol ei eni yma hefyd. Fe wyddom ni sut y cafodd Aneurin Bevan y weledigaeth a’r dewrder i ddatblygu’r NHS—ie, ffigwr amlwg yn hanes y Blaid Lafur, yn y mudiad Llafur, ond un o gewri ein hanes ni fel gwlad o ran datblygiad gofal iechyd. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu y gallai’r weledigaeth yna gael ei gwireddu rŵan go iawn drwy ein Cynulliad Cenedlaethol ni a thrwy Lywodraeth Cymru, ond mae’n rhaid i’r weledigaeth yna gan Bevan o’n gorffennol ni barhau i’n hysbrydoli ni rŵan. I’ll move on to health and education. As the industrial revolution was nurtured here in Wales, the national health service was also born here. We know how Aneurin Bevan got the vision and the courage to develop the NHS—yes, a prominent member in the history of the Labour Party and the Labour movement, but one of the giants of our history as a nation in terms of the development of healthcare. We in Plaid Cymru believe that that vision can now truly be achieved through our National Assembly and through the Welsh Government. But that vision by Bevan from our past must continue to inspire us now.
Mewn addysg, mae gennym ni hen hanes o gyfraddau uchel o lythrennedd ymhlith y boblogaeth gyffredinol, a rhwydwaith addysg, ganrif a mwy yn ôl, yr oedd Lloegr yn genfigennus ohoni. Yn fwy diweddar, roedd Cymru yn arloeswr mewn addysg uwchradd, ac yma roedd yr ysgol gyfun gyntaf. Rwy’n falch iawn mai yn fy etholaeth i yr oedd honno, sef Ysgol Uwchradd Caergybi. Yn addas iawn, fe gymeraf i’r cyfle yma i longyfarch yr ysgol honno, ac ysgolion eraill y dref a phawb arall a fu’n rhan o’r digwyddiad, am yr orymdaith Gŵyl Ddewi gyntaf i gael ei chynnal yn y dref. Mae’n chwith iawn gen i fy mod i’n methu â bod yna heddiw. In education, we have a long tradition of high rates of literacy among our population, and an education network that, a century a more ago, England was envious of. More recently, Wales innovated in secondary education and Wales was the home of the first comprehensive school. I’m very proud that that was in my constituency, and that was Holyhead High School. Very appropriately, I will take this opportunity to congratulate that school and other schools in the town, and everyone else who were part of the event, for the first St David’s Day parade to be staged in Holyhead—I’m very sorry not to be able to attend today.
Daeth y Llywydd i’r Gadair. The Llywydd took the Chair.
Rhun ap Iorwerth
Rwy’n falch iawn hefyd o ddweud mai Ynys Môn oedd yr awdurdod addysg cyntaf i droi yn llwyr at addysg gyfun nôl yn nechrau’r 1950au. Felly, eto, mewn addysg, mae yna lwyddiannau ac arloesi y gallwn ni fod yn falch ohonynt. I’m very pleased to say that Anglesey was the first education authority to turn entirely to comprehensive education at the beginning of the 1950s. So, again, there are successes and innovation in education that we can be proud of.
Llywydd, I’ve painted a picture, hopefully, of Wales’s past. The question is now: how do we learn from that experience and build on that legacy in order to paint a vision of the future and improve performance and prospects in key areas? We need to be able to turn to our history, not to find excuses for poor performance, but as an inspiration to improve our performance. For our present and future, we say, ‘Wales can do better’. Lywydd, rwyf wedi paentio llun, gobeithio, o orffennol Cymru. Y cwestiwn yn awr yw sut rydym yn dysgu o’r profiad hwnnw ac yn adeiladu ar yr etifeddiaeth honno er mwyn paentio gweledigaeth o’r dyfodol a gwella perfformiad a rhagolygon mewn meysydd allweddol? Mae angen i ni allu troi at ein hanes, nid i ddod o hyd i esgusodion am berfformiad gwael, ond fel ysbrydoliaeth i wella ein perfformiad. Er mwyn ein presennol a’n dyfodol, rydym yn dweud, ‘Gall Cymru wneud yn well’.
It seems like yesterday, but 20 years ago, a narrow majority of the people in Wales had enough confidence to vote ‘yes’ to the idea that they lived in a nation worthy of governing itself. But so far, devolved Governments haven’t been able to, for example, raise our GVA compared with the rest of the UK. They either haven’t had the powers or haven’t had the ambition—perhaps both. For the country that saw so much technological innovation, which used to be the resource exporting capital of the world, is this the best we can do? Mae’n ymddangos fel ddoe, ond 20 mlynedd yn ôl, roedd gan fwyafrif bach o bobl yng Nghymru ddigon o hyder i bleidleisio ‘ie’ i’r syniad eu bod yn byw mewn gwlad sy’n haeddu cael llywodraethu ei hun. Ond hyd yn hyn, nid yw Llywodraethau datganoledig wedi gallu, er enghraifft, codi ein gwerth ychwanegol gros o gymharu â gweddill y DU. Nid ydynt ychwaith wedi meddu ar y pwerau neu’r uchelgais—y ddau o bosibl. Ar gyfer y wlad a welodd gymaint o arloesi technolegol, ac a arferai fod yn brif allforiwr adnoddau’r byd, ai dyma’r gorau y gallwn ei wneud?
Why are we in a situation on St David’s Day where people in this country can’t take enough pride in our level of prosperity and in our levels of wealth? We can see those persistently worrying indicators on health and the PISA rankings for education. Poverty levels are still devastatingly high. We can’t genuinely look people in Wales in the eye and say, ‘Yes, we are reaching our potential’. But, let’s move towards a time when we are able to do so in the future. Pam ein bod mewn sefyllfa ar Ddydd Gŵyl Dewi lle na all pobl yn y wlad hon ymfalchïo yn ein lefel o ffyniant ac yn ein lefelau o gyfoeth? Gallwn weld y dangosyddion hynny sy’n gyson yn peri pryder ar iechyd a’r safleoedd PISA ar gyfer addysg. Mae lefelau tlodi yn dal i fod yn enbyd o uchel. Ni allwn edrych yn ddiffuant i lygaid pobl yng Nghymru a dweud, ‘Ydym, rydym yn cyrraedd ein potensial’. Ond gadewch i ni symud tuag at amser pan fyddwn yn gallu gwneud hynny yn y dyfodol.
Twenty years is young for a democracy, but it is long enough for us to have a Government with a clear vision and an ambitious vision of where we’re heading. I was proud of Plaid Cymru’s manifesto for the election last year—proud of its ideas and proud of its innovation. It’s the duty of all of us here to innovate and to inspire. Mae 20 mlynedd yn ifanc i ddemocratiaeth, ond mae’n ddigon hir i ni gael Llywodraeth gyda gweledigaeth glir a gweledigaeth uchelgeisiol ynglŷn â ble rydym yn mynd. Roeddwn yn falch o faniffesto Plaid Cymru ar gyfer yr etholiad y flwyddyn diwethaf—yn falch o’i syniadau ac yn falch o’i arloesedd. Mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom yma i arloesi ac i ysbrydoli.
With time pressing on, I’ll turn to the Government’s amendment. We won’t be supporting it, not just on the principle that it removes a large part of our motion, but what I see is an amendment that does away with evidence, with data, about some of the challenges that we actually face. Governments should not shy away from realities, and, in fact, to do so blocks the road to improving performance. Gydag amser yn brin, fe drof at welliant y Llywodraeth. Ni fyddwn yn ei gefnogi, nid yn unig ar yr egwyddor ei fod yn dileu rhan fawr o’n cynnig, ond yr hyn a welaf yw gwelliant sy’n cael gwared ar dystiolaeth, ar ddata, am rai o’r heriau sy’n ein hwynebu mewn gwirionedd. Ni ddylai llywodraethau gilio rhag realiti, ac mewn gwirionedd, mae gwneud hynny’n rhwystro’r ffordd rhag gwella perfformiad.
I look forward to today’s debate. In celebrating our patron saint, I trust we all want to celebrate the best of Wales—the best of our yesterdays and of today. But with an honest assessment of where we are today, let’s build a real vision of our tomorrow, too, and let’s never accept anything short of our full potential. Edrychaf ymlaen at y ddadl heddiw. Wrth ddathlu ein nawddsant, hyderaf ein bod i gyd yn awyddus i ddathlu’r gorau o Gymru—y gorau o’n ddoe a’n heddiw. Ond gydag asesiad gonest o’r sefyllfa yr ydym ynddi heddiw, gadewch i ni adeiladu gweledigaeth go iawn ar gyfer ein hyfory hefyd, ac na foed i ni byth dderbyn unrhyw beth nad yw’n cyrraedd ein potensial llawn.
16:31 - Y Llywydd / The Llywydd
Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig, ac rwy’n galw ar arweinydd y tŷ i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn ei henw hi. I have selected the amendment to the motion, and I call on the leader of the house to formally move amendment 1 tabled in her name.
Gwelliant 1—Jane Hutt Amendment 1—Jane Hutt
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Delete point 2 and replace with:
Yn nodi: Notes:
a) bod cyfradd ddiweithdra Cymru wedi gostwng i 4.4%, sy'n is na chyfartaledd y DU; a) the unemployment rate in Wales has fallen to 4.4%, lower than the UK average;
b) bod y dangosyddion ansawdd gofal iechyd a gyhoeddwyd gan yr OECD yn ddiweddar yn dangos bod Cymru'n perfformio ar lefel gyfatebol neu well na gwledydd eraill y DU o ran y rhan fwyaf o'r dangosyddion; b) recently-published OECD healthcare quality indicators show Wales is performing at a similar level or better than other countries in the UK on the majority of indicators;
c) bod canlyniadau arholiadau TGAU Cymru yn 2015/16 yn dangos bod y prif fesur perfformiad wedi cynyddu bob blwyddyn ers i'r cofnodi ddechrau yn 2006-07, a bod y bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a chyrhaeddiad eu cyd-ddisgyblion yn cau. c) the 2015/16 GCSE exam results for Wales show the main performance measure has increased each year since records began in 2006-07, while the attainment gap between pupils eligible for free school meals and their fellow pupils is closing.
Cynigiwyd gwelliant 1. Amendment 1 moved.
16:31 - Jane Hutt
Yn ffurfiol. Formally.
16:31 - Y Llywydd / The Llywydd
Jeremy Miles. Jeremy Miles.
16:31 - Jeremy Miles
Diolch, Lywydd. I wanted to pick up on one of the points in the motion that drew attention to the gross value added performance of Wales against the UK average. It seems to me that what we’re looking at here is actually a fundamental question of the inequality of the UK as a country—it’s uniquely unequal in comparison with other countries, for example, within the European Union. Diolch, Lywydd. Roeddwn eisiau nodi un o’r pwyntiau yn y cynnig a oedd yn tynnu sylw at werth ychwanegol gros perfformiad Cymru yn erbyn cyfartaledd y DU. Mae’n ymddangos i mi mai’r hyn rydym yn edrych arno yn y fan hon mewn gwirionedd yw cwestiwn sylfaenol ynghylch anghydraddoldeb yn y DU fel gwlad—mae’n unigryw o anghyfartal o gymharu â gwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd er enghraifft.
We heard at the Brexit committee earlier this week that the performance of some of the European Union countries, on the basis of their membership of the EU, might have been faster because of the fact that we are, in Wales, a comparatively small part of a larger whole and our economy is so different, in some ways, from the UK in general. But I think it is worth bearing in mind that those comparisons of GVA only take us so far, and they’re a very crude tool for comparing the kind of economy that we want in Wales. Clywsom yn y pwyllgor Brexit yn gynharach yr wythnos hon y gallai perfformiad rhai o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, ar sail eu haelodaeth o’r UE, fod wedi bod yn gyflymach oherwydd ein bod ni, yng Nghymru, yn rhan gymharol fach o gyfanrwydd mwy o faint ac mae ein heconomi mor wahanol, mewn rhai ffyrdd, i’r DU yn gyffredinol. Ond rwy’n credu ei bod yn werth cadw mewn cof nad yw’r cymariaethau hynny o werth ychwanegol gros ond yn mynd â ni ran o’r ffordd yn unig, ac maent yn offerynnau bras iawn ar gyfer cymharu’r math o economi rydym ei heisiau yng Nghymru.
Actually, London and the south-east are the only two parts of the UK that exceed the average, which is a startling fact if you think about it. They’re the only two parts of the UK’s economy that are stronger than the average. So, I think that tells us some of the picture, but it doesn’t tell us the whole story. A dweud y gwir, Llundain a de-ddwyrain Lloegr yw’r unig ddwy ran o’r DU sy’n uwch na’r cyfartaledd, sy’n ffaith syfrdanol os meddyliwch am y peth. Dyna’r unig ddwy ran o economi’r DU sy’n gryfach na’r cyfartaledd. Felly, rwy’n meddwl bod hynny’n rhoi rhywfaint o’r darlun i ni, ond nid yw’n dweud y stori gyfan.
I wanted to pick up on the idea in Rhun ap Iorwerth’s speech that is really about the idea of Wales exporting ideas, if you like, to other parts of the UK and other parts of the world. And the NHS, for example, is one of those, I suppose, exports that we are all proudest of here and across Wales. Roeddwn eisiau mynd ar ôl y syniad yn araith Rhun ap Iorwerth sy’n ymwneud mewn gwirionedd â’r syniad o Gymru yn allforio syniadau, os mynnwch, i rannau eraill o’r DU a rhannau eraill o’r byd. A’r GIG, er enghraifft, yw un o’r allforion hynny yr ydym oll yn fwyaf balch ohono, mae’n debyg, yma ac ar draws Cymru.
There are still things that we can and do export to the world, and some of those are important ideas. I want to touch on a few of those today, and I think all of them play into the idea of the sort of economy that we want to have in Wales. I think that rather than just looking at GVA, we should look at the kind of assets that we’ve got in Wales and build an economy that reflects our assets. One of those assets, and it’s mentioned in the motion, is the idea of the blue economy and the green economy, and I think we must focus on that as one of our key principles in our future economy. Mae yna bethau y gallwn ac yr ydym yn eu hallforio i’r byd yn dal i fod, ac mae rhai o’r rheini’n syniadau pwysig. Rwyf am grybwyll ychydig o’r rhain heddiw, ac rwy’n meddwl bod pob un ohonynt yn cyd-fynd â’r syniad am y math o economi yr ydym am ei chael yng Nghymru. Yn hytrach nag edrych ar werth ychwanegol gros yn unig, dylem edrych ar y math o asedau sydd gennym yng Nghymru ac adeiladu economi sy’n adlewyrchu ein hasedau. Un o’r asedau hynny, ac mae’n cael ei grybwyll yn y cynnig, yw’r syniad o economi las a’r economi werdd, ac rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni ganolbwyntio ar hynny fel un o’n hegwyddorion allweddol yn ein heconomi yn y dyfodol.
We have unique assets that other countries can’t compete with, in terms of the tidal reach that we have and the long coast that we have. We have the prospect in the tidal lagoon not just of green energy but of a massive economic opportunity for not just south Wales but the whole of Wales—a classic example of how the blue economy can become a reality. It’s already worth about £2.1 billion to the Welsh economy, and that’s really before we’ve done very much in terms of marine renewables in particular. We’ve made good innovative strides, but there’s much more potential there for us. And I hope and expect that we’ll see a marine plan from the Welsh Government that commits to focusing on that sector. Mae gennym asedau unigryw na all gwledydd eraill gystadlu â hwy, o ran y cyrhaeddiad llanw sydd gennym a’r arfordir hir sydd gennym. Mae gennym bosibiliadau gyda’r morlyn llanw, nid yn unig mewn perthynas ag ynni gwyrdd, ond o ran cyfle economaidd enfawr nid yn unig i dde Cymru ond i Gymru gyfan—enghraifft glasurol o sut y gall yr economi las ddod yn realiti. Mae’n werth tua £2.1 biliwn arall i economi Cymru eisoes, a hynny cyn i ni wneud llawer iawn mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy morol yn arbennig. Rydym wedi gwneud camau arloesol da, ond mae llawer mwy o botensial yno i ni. Ac rwy’n gobeithio ac yn disgwyl y byddwn yn gweld cynllun morol gan Lywodraeth Cymru sy’n ymrwymo i ganolbwyntio ar y sector hwnnw.
The second asset I want to talk about is the notion of well-being and the innovation that we have in Wales in the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015. We are genuinely groundbreaking in that piece of legislation, and that is an idea that we can export to the world. But the challenge for us, I think, now is finding ways for that to be a catalyst for economic development in itself. What is our analysis of how there is an economic opportunity that comes from having long-termism and sustainability absolutely at the heart of our economy and of our society? We’ve already started to do work to foster the circular economy where we recycle and so forth. There is much more that we can do in that area over time to create a new kind of productivity where we look at assets as things that we have for the long term, not just as disposable items. Yr ail ased rwyf am siarad amdano yw’r syniad o lesiant a’r arloesedd sydd gennym yng Nghymru yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydym yn torri tir newydd go iawn gyda’r ddeddfwriaeth hon, ac mae’n syniad y gallwn ei allforio i’r byd. Ond yr her i ni yn awr, rwy’n meddwl, yw dod o hyd i ffyrdd i hynny fod yn gatalydd ar gyfer datblygiad economaidd ynddo’i hun. Beth yw ein dadansoddiad o’r modd y ceir cyfle economaidd a ddaw o gael agwedd hirdymor a chynaliadwyedd yn gadarn wrth wraidd ein heconomi a’n cymdeithas? Rydym eisoes wedi dechrau gwneud gwaith ar feithrin economi gylchol lle rydym yn ailgylchu ac yn y blaen. Mae llawer mwy y gallwn ei wneud yn y maes hwnnw dros amser i greu math newydd o gynhyrchiant lle rydym yn edrych ar asedau fel pethau sydd gennym ar gyfer y tymor hir, nid fel eitemau tafladwy’n unig.
And the last idea that I think has potential for us to export is the idea of a distributed economy—one where, actually, more of the wealth and more of the economic activity is spread throughout our country. I held a forum in Neath recently for discussing the economy, as I mentioned earlier, and one of the key issues that came up in that was the idea of how we can improve our local supply chains, and how we can work between the public sector and the private sector to boost our local economies. That isn’t really an agenda that has developed much in other parts of the UK, and I think there’s a real opportunity for us in Wales to do that. A’r syniad diwethaf y credaf fod iddo botensial i ni ei allforio yw’r syniad o economi ddosbarthedig—un lle y mae mwy o gyfoeth a mwy o weithgaredd economaidd yn cael ei wasgaru ar draws ein gwlad mewn gwirionedd. Cynhaliais fforwm yng Nghastell-nedd yn ddiweddar ar gyfer trafod yr economi, fel y soniais yn gynharach, ac un o’r materion allweddol a gododd yno oedd y syniad ynglŷn â sut y gallwn wella ein cadwyni cyflenwi lleol, a sut y gallwn weithio rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat i roi hwb i’n heconomïau lleol. Nid yw honno’n agenda sydd wedi datblygu llawer iawn mewn rhannau eraill o’r DU, ac rwy’n meddwl bod cyfle gwirioneddol i ni yng Nghymru wneud hynny.
So, I think we can’t run away from the idea of GVA as an important indicator of the health of the economy—obviously, we want an economy where growth is at the heart of it—but I’d encourage us to debate much broader tests for the success of our economy that reflect well-being and other measures. We need to look at our assets and build an economy that reflects the fantastic assets that we have in Wales. Felly, rwy’n meddwl na allwn droi cefn ar y syniad o werth ychwanegol gros fel dangosydd pwysig o iechyd yr economi—yn amlwg, rydym eisiau economi gyda thwf yn ganolog iddi—ond byddwn yn ein hannog i drafod profion llawer ehangach o lwyddiant ein heconomi sy’n adlewyrchu llesiant a mesurau eraill. Mae angen i ni edrych ar ein hasedau ac adeiladu economi sy’n adlewyrchu’r asedau gwych sydd gennym yng Nghymru.
16:36 - Llyr Gruffydd
Rwyf innau yn mynd i achub ar y cyfle hefyd, rwy’n meddwl, i ddathlu ein llwyddiannau ni gan ei bod hi’n ddydd cenedlaethol arnom ni heddiw, a chymryd ysbrydoliaeth, fel rydym wedi ei glywed, o’n hanes ni wrth fynd i’r afael â nifer o’n heriau ni heddiw. Mi oedd yr Aelod dros Gastell-nedd yn sôn am ein hasedau ni. Wel, un o’r asedau pennaf sydd gyda ni fel cenedl, wrth gwrs, yw ein pobl ni, ac mae buddsoddi ynddyn nhw, er enghraifft drwy’r gyfundrefn addysg, yn rhywbeth pwysig i ni ei wneud, wrth gwrs, ond yn rhywbeth y mae gennym ni draddodiad anrhydeddus o’i wneud hefyd. Rydym yn meddu ar hanes o arloesedd a mentergarwch yn y maes addysg—yn gymaint, fe fyddwn i’n ei ddadlau, ag unrhyw sector arall a fydd yn cael ei drafod heddiw. I’m going to take the opportunity, too, to celebrate our successes as it is our national day today, and to take inspiration, as we’ve heard, from our history in tackling many of the challenges facing us today. The Member for Neath talked about our assets. Well, one of the major assets that we have as a nation, of course, is our people, and investing in our people, for example through the education system, is something that’s important for us, but it’s also something that we have an honourable tradition of doing, too. We have a history of innovation and enterprise in education—as much as any other sector that we will discuss today, I would argue.
Nid oes ond rhaid dweud yr enw Griffith Jones, Llanddowror, yn ôl ar gychwyn y ddeunawfed ganrif, wrth gwrs, i ddeall ac i werthfawrogi'r arloesedd hynny—Griffith Jones a’i ysgolion cylchynol a oedd yn dysgu plant yn ystod y dydd ac oedolion gyda'r hwyr, gyda’r rheini yn mynd yn eu blaenau wedyn i ddysgu eraill, a’r elfen raeadru yna o ddysgu yn y diwedd yn cyrraedd pwynt lle'r oedd yna 0.25 miliwn o bobl erbyn hynny wedi dod yn llythrennog, allan o boblogaeth o lai na 0.5 miliwn. Felly, roedd mwy na hanner y boblogaeth wedi dysgu darllen. Ac erbyn marwolaeth Griffith Jones yn 1761, mi oedd Cymru yn mwynhau un o lefelau llythrennedd uchaf y byd, cymaint felly nes i’r Ymherodres Catrin Fawr o Rwsia yrru comisiynydd i Gymru i ddysgu gwersi, ac i weld a oedd modd addasu’r system ar gyfer Rwsia. Mae hynny efallai yn cyfateb nid i ni yn gofyn i’r OECD ddod i ddweud wrthym ni os ydym ni ar y llwybr iawn, ond i Gymru ddweud wrth yr OECD beth ddylen nhw fod yn ei ddweud wrth y gwledydd eraill. Dyna le rydym ni eisiau ei gyrraedd, ac, wrth gwrs, dyna le rydym ni wedi bod, yn y bennod benodol yna, beth bynnag. We need only mention the name of Griffith Jones, Llanddowror, back at the beginning of the eighteenth century, to understand and appreciate that innovation—Griffith Jones and his circular schools educated children during the day and adults at evening, with those then going on to teach others. That cascading element of learning reached a point where there were 0.25 million people who had become literate, out of a population of less than 0.5 million. So, more than half the population were literate. And by the time that Griffith Jones passed away in 1761, Wales had the highest literacy level in the world, so much so that Catherine the Great of Russia sent a commissioner to Wales to learn lessons, and to see whether the system could be adapted for Russia. That may correspond not to us asking the OECD to come to tell us whether we’re on the right path, but to Wales telling the OECD what they should be telling other nations. That’s where we want to be, and, of course, that’s where we have been, in that specific chapter of our history anyway.
Yn 1889, wedyn, a’r Welsh Intermediate Education Act yn cael ei phasio—deddfwriaeth wedi ei chyflwyno gan Aelodau Cymreig yn San Steffan a oedd yn chwyldroadol, oherwydd roedd yn golygu bod plant, waeth beth oedd eu cefndir economaidd nhw na’u gallu academaidd nhw, yn gallu mynychu ysgol uwchradd am y tro cyntaf. Mi fu’n rhaid aros rhyw 10 mlynedd arall cyn cyflwyno deddfwriaeth gyffelyb yn Lloegr. Roedd llwyddiant y Ddeddf a’r ‘county schools’, wrth gwrs, yn amlwg, gyda’r hanesydd K.O. Morgan—yr Arglwydd Morgan—yn nodi: In 1889, then, the Welsh Intermediate Education Act was passed—legislation introduced by Welsh Members in Westminster that was revolutionary, because it meant that children, whatever their economic background or their academic ability, could attend a secondary school for the first time. We had to wait another 10 years before similar legislation was introduced for England. The success of the Act and the county schools was clear, with the historian K.O. Morgan—Lord Morgan—noting that,
‘By the First World War, Wales was covered with a network of a hundred “county” secondary schools, and had a secondary education system notably in advance of that of England.’ Erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf, gorchuddiwyd Cymru gan rwydwaith o gant o ysgolion uwchradd “sirol”, ac roedd ganddi system addysg uwchradd a oedd yn amlwg yn rhagflaenu’r un yn Lloegr.
Roedd llwyddiant y Ddeddf hefyd i’w weld yn y ffaith mai prin iawn oedd ysgolion uwchradd yn Lloegr, hyd yn oed, heb athro neu athrawes o Gymru yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, adeg pan oedd Cymru yn allforio athrawon. ‘A nation of teachers and preachers’ oedd y disgrifiad yn y cyfnod, a buasai hi ddim yn ffôl o beth petasem ni’n llwyddo i atgynhyrchu hynny heddiw. The success of the Act could also be seen in the fact that secondary schools in England were few and far between where there was no teacher from Wales during the first half of the twentieth century, a time when Wales was exporting teachers. ‘A nation of teachers and preachers’ was the description at the time, and it would be no bad thing if we succeeded in recreating that today.
Ond, wrth gwrs, mae’r hanes erbyn hyn yn wahanol. Dirywiad rydym wedi ei weld, yn anffodus, nid y cynnydd rwy’n siŵr y byddai bob un ohonom ni yn awyddus i’w weld yn digwydd. Rydym wedi gweld canlyniadau PISA yn ddiweddar. Mae adroddiad blynyddol Estyn hefyd yn tynnu sylw at y positif—mae’n rhaid cydnabod hynny: yn barnu deilliannau 16 y cant o ysgolion uwchradd Cymru yn rhagorol, yn uwch nag unrhyw flwyddyn ers 2010. Ond, wrth gwrs, roedd canran yr ysgolion anfoddhaol hefyd wedi cynyddu i 14 y cant. But, of course, our history these days is different: we have seen decline, unfortunately, not the progress that I’m sure each and every one of us would’ve been eager to see happening. We have seen the recent PISA results. The Estyn annual report also highlights the positives—we should acknowledge that: the outcomes of 16 per cent of secondary schools in Wales are excellent, higher than any time since 2010. But those that are not up to standard was also up to 14 per cent.
Nawr, mae hanes datblygiad addysg yng Nghymru yn un diddorol, wrth gwrs, ac yn un y dylem ni ymfalchïo ynddo fe, ond mae’n rhaid inni gydnabod a gobeithio a hyderu ein bod ni ar drothwy cyfnod pwysig iawn yn natblygiad system addysg Cymru heddiw, gyda nifer fawr o gynlluniau ar waith, wrth gwrs, i ddiwygio'r system addysg, fel rŷm ni’n ei wybod ac fel rŷm ni wedi ei drafod fan hyn ar sawl achlysur. Nid yw hi’n anochel bod Cymru yn meddu ar system sydd yn cael ei gweld fel un sydd y tu ôl i nifer o wledydd eraill. Rŷm ni wedi arwain y ffordd o’r blaen ac fe allwn ni wneud hynny eto. Mi fydd angen, wrth gwrs, sicrhau bod gan y Llywodraeth weledigaeth glir a ffocws pendant ar ddelifro ar y potensial sydd gennym ni, ac rwyf i yn un sy’n cefnogi’r llwybr y mae’r Llywodraeth yn mynd ar ei hyd ar hyn o bryd, er efallai bod yna anghytundeb ynglŷn â sut, efallai, y mae ambell elfen yn mynd i gael ei chyflwyno a’i hamseru a rhyw bethau felly. Ond, yn ei hanfod, rydw i’n hyderus, yn symud i’r cyfeiriad cywir. Now, the history of the development of education is very interesting, of course, and is one that we should take great pride in, but we have to acknowledge, hope and be confident that we are on the verge of another exciting time in the development of a Welsh education system, with many programmes in place to reform the education system, as we have discussed in this place many times. It’s not inevitable that Wales will have a system that is seen as falling behind other nations. We have led the way in the past and we can do so again. We will need to ensure, of course, that the Government has a clear vision and a clear focus on delivery in terms of the potential that we have, and I am one who supports the Government’s approach at the moment, although there may be some disagreement as to how certain elements are to be rolled out in terms of timing and so on. But, essentially, I am confident that we are moving in the right direction.
Mi ganmolodd adroddiad yr OECD, wrth gwrs, y symudiad i ffwrdd o gyflwyno digwyddiadau ar hap—digwyddiadau digyswllt, efallai. Beth sydd angen ei wneud nawr, wrth gwrs, yw atgyfnerthu’r weledigaeth ar gyfer y tymor hir, i ddyfalbarhau ar hyd y trywydd rŷm ni eisoes wedi cychwyn arno fe. Ond wrth wneud hynny, wrth gwrs, mae’n rhaid diogelu bod y diwygiadau sydd ar y gweill yn cael eu gweithredu yn effeithiol, wrth gwrs, gwneud yn siŵr bod pawb—o’r athrawon yn yr ystafell ddosbarth i’r consortia ac awdurdodau addysg a phawb arall—yn deall ble rŷm ni’n mynd, yn prynu i mewn i ble rŷm ni’n mynd, bod pawb yn glir am ei rôl yn y cyd-destun hynny, eu bod nhw’n gwybod sut y maen nhw’n cyfrannu at y prosiect, a sut mae’r holl waith, wedyn, yn dod at ei gilydd hefyd. Ond o wneud hynny, fe allwn ni fod yn hyderus y bydd pawb, wedyn, yn cyd-dynnu ac y byddwn ni yn cael y maen i’r wal. The OECD report praised the move away from introducing unconnected events. What we need to do now, of course, is to strengthen the vision for the long term, to continue on the path on which we are travelling. But in so doing, of course, we must ensure that the reforms in the pipeline are implemented effectively and ensure that everyone—from the teachers in the classroom to the consortia and the education authorities and everyone else—do understand where we’re going and buy into the vision, that everyone is clear about their role in that context, and that they know what their contribution is to the project and how all of that work comes together. But in doing that, we can be confident that everyone will be working in the same direction and that we will achieve our aims.
16:41 - Paul Davies
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon y prynhawn yma. Gallaf gadarnhau o'r dechrau y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig hwn. Thank you, Presiding Officer. I’m pleased to participate in this important debate this afternoon. I can confirm, from the outset, that the Welsh Conservatives will support this motion.
Wrth gwrs, rŷm ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn cydnabod bod Cymru yn wynebu nifer o heriau pan ddaw at ein gwasanaeth iechyd, ein system addysg a'n heconomi, a byddaf i’n canolbwyntio fy nghyfraniad i ar y dyfodol. Of course, we on this side of the Chamber recognise that Wales faces a number of challenges when it comes to our health, our education system and out economy, and I’ll be focusing on the future.
Fel mae ail bwynt y cynnig yn dweud, mae perfformiad yn y meysydd polisi hyn yn dangos yn glir bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn llawer mwy creadigol a chydweithredol o ran datblygu polisïau ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus. Os ydym o ddifri ynghylch trawsnewid yr economi, mae'n rhaid inni gefnogi ein busnesau bach sydd yn asgwrn cefn i’n heconomi, a rhaid inni fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith allweddol. As the second point of the motion says, performance in these policy areas clearly shows that the Welsh Government must be more creative and collaborative in developing policies for our public services. If we are serious about transforming the economy, we must support our small businesses, which are the backbone of our economy, and we must invest in key infrastructure projects.
Rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod potensial busnesau bach a chanolig i dyfu economi Cymru a chreu’r amodau sydd eu hangen ar gyfer mwy o fenter yma yng Nghymru. Dim ond yn ddiweddar, mae rhai busnesau wedi cael eu bwrw’n ofnadwy oherwydd cynnydd mewn trethi busnes, ac mae angen i fusnesau wybod a ydyn nhw, mewn gwirionedd, yn gymwys i gael rhywfaint o'r arian ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. The Welsh Government must recognise the potential of SMEs to grow the Welsh economy and create the conditions necessary for more enterprise here in Wales. Only recently, some businesses have suffered terribly because of increases in business rates. Businesses need to know whether they actually qualify for some of the additional funding announced by the Welsh Government.
Rwy’n gwerthfawrogi bod Llywodraeth Cymru yn mynd i edrych ar y system trethi busnes yn y dyfodol, ond gall y Llywodraeth gymryd camau nawr ar y mater hwn. Gallai, er enghraifft, rannu'r lluosydd ardrethi busnes er mwyn rhoi chwarae teg i fusnesau bach o gymharu â busnesau mwy. I appreciate that the Welsh Government is going to look at the business rates system in the future, but the Government can take action now on this issue. For example, it could split the business rate multiplier in order to provide a level playing field for small businesses to compete with larger businesses.
Mae hefyd angen cefnogaeth ar fentrau bach a chanolig o ran cael gafael ar gyllid ac rwy’n credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu dull rhanbarthol i alluogi busnesau i gael mynediad i gyllid er mwyn adlewyrchu eu heconomïau lleol. SMEs also need support in accessing finance, and I believe that the Welsh Government must develop a regional approach to enable businesses to gain access to funding in order to reflect their local economies.
Mae'n rhaid inni feddwl yn llawer mwy creadigol os ydym ni’n mynd i drawsnewid yr economi, a byddai creu cyfres o fanciau'r stryd fawr rhanbarthol ledled Cymru yn sicr o leoleiddio mynediad at gyllid ar gyfer busnesau bach. Gallai cynigion fel hyn gael eu cyflwyno yn weddol gyflym, a byddai hynny'n cael effaith bositif ar yr economi leol a chenedlaethol yng Nghymru, ac rwy’n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych yn ofalus ar y mathau hyn o bolisïau a dod o hyd i ffordd well o gefnogi busnesau bach ledled Cymru. We must think much more creatively if we’re going to transform the economy, and creating a series of regional high-street banks across Wales would certainly localise access to finance for small businesses. Proposals like this could be submitted fairly quickly and would have a positive effect on the local and national economy in Wales, and I hope that the Welsh Government looks carefully at these kinds of policies and finds a better way to support small businesses across Wales.
Wrth gwrs, mae yna hefyd broblemau sylfaenol yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fabwysiadu’r polisi o un maint sydd yn ffitio i bawb tuag at ddarparu gwasanaethau iechyd ledled Cymru, sy'n methu cleifion Cymru. Rhaid i’r Llywodraeth symud i ffwrdd o agenda ganoli ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd; mae angen inni weld polisïau sy'n diogelu gwasanaethau lleol ac mae angen inni weld gwasanaethau cryfach ar draws ysbytai yng Nghymru. Of course, there are also fundamental problems in the health service in Wales. The Welsh Government continues to adopt a one-size-fits-all approach to providing health services across Wales, which is failing Welsh patients. The Government must move away from its centralising agenda for healthcare services. We need to see policies that protect local services and we need to see stronger services across Welsh hospitals.
Nid yw gwasanaethau mwy a mwy canolog o reidrwydd yn golygu gwell gwasanaethau pan ddaw at gyflenwi angen gofal iechyd ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wrthdroi'r duedd hon sy'n peri pryder a dechrau datblygu gwasanaethau lleol sy’n fwy integredig o fewn ein cymunedau. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ehangu rôl ysbytai cymunedol ar draws Cymru er mwyn helpu i leihau'r pwysau ar ein hunedau ysbyty sydd eisoes o dan straen enfawr. Rwyf hefyd yn credu bod yn rhaid i'r gwasanaeth iechyd fod yn fwy atebol i'r rhai y mae'n eu gwasanaethu. Yn fy marn i, byddai hyn yn arwain at welliannau drwy roi llais cleifion wrth wraidd penderfyniadau y tu mewn i’r gwasanaeth iechyd. Yn wir, byddai sefydlu atebolrwydd lleol a throsglwyddo penderfyniadau dros wasanaethau iechyd oddi wrth lywodraeth ganolog ym Mae Caerdydd a rhoi’r awdurdod hwnnw yn ôl i ddwylo cymunedau lleol, yn fy marn i, yn gwella ein gwasanaethau iechyd lleol. Centralising services does not necessarily mean better services when it comes to meeting healthcare needs and the Welsh Government must reverse this worrying trend and start developing more integrated local services within our communities. The Welsh Government must expand the role of community hospitals across Wales in order to help reduce the pressure on our hospital units, which are already under enormous strain. I also believe that the health service must be more accountable to those it serves. In my opinion, this would lead to improvements by giving patients a voice at the heart of decisions made in the health service. Indeed, establishing local accountability and transferring decisions relating to health services away from the central government in Cardiff Bay and putting that authority back in the hands of local communities, in my opinion, would improve our local health services.
O ran ein system addysg, rwy’n siŵr bod yr holl Aelodau yn y Siambr yn cytuno bod ein plant yn haeddu gwell. Rwy’n gwerthfawrogi bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cychwyn ar ystod eang o fesurau mewn perthynas â’r system addysg yng Nghymru, ond fel y mae, mae’r ffigurau’n dangos nad yw Cymru, yn syml, lle yr hoffem iddi fod o ran meincnodau rhyngwladol. In terms of our education system, I’m sure that all Members in the Chamber agree that our children deserve better. I appreciate that the Cabinet Secretary is embarking on a broad range of measures in relation to the education system in Wales, but as things stand, the figures show that Wales is simply not where we want it to be in terms of international benchmarks.
Wrth symud ymlaen, rhaid cael mwy o uchelgais ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru ac y mae'n rhaid eu pasio ymlaen i athrawon ledled Cymru. Dangosodd adroddiad diweddar Estyn fod diffyg enfawr o ran arweinyddiaeth gref, sy'n dal athrawon a phlant yn ôl rhag cyflawni eu potensial. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio mwy ar wella safonau addysgu a datblygu strategaeth i dargedu a datblygu materion arweinyddiaeth yn y system addysg. Going forward, there must be greater ambition and leadership from the Welsh Government and that must be passed on to teachers throughout Wales. A recent report by Estyn stated that a significant lack of strong leadership was holding teachers and children back from achieving their potential. Thus, the Welsh Government needs to focus more on improving teaching standards and developing a strategy to target and develop leadership issues in the education system.
Fel rhan o ymgyrch i rymuso athrawon, rhaid i Lywodraeth Cymru sefydlu fformiwla genedlaethol gydag arian yn cael ei dargedu'n uniongyrchol at ysgolion i roi'r holl ddysgwyr, boed hwy mewn lleoliadau gwledig neu drefol, ar sail fwy cyfartal. Trwy wneud hyn, fe fydd yn rhyddhau mwy o adnoddau i mewn i'r ystafell ddosbarth. Byddai ariannu ysgolion yn uniongyrchol mewn gwirionedd yn gwthio grym i lawr i'r athrawon a phenaethiaid sy'n gwybod beth sydd orau ar gyfer eu hysgolion, gan roi mwy o hyblygrwydd a rheolaeth i athrawon dros flaenoriaethau eu hysgolion. A rhaid i Lywodraeth Cymru roi’r offer i ysgolion i fod yn fwy creadigol wrth weithredu'r cwricwlwm. Er enghraifft, gallai wneud ysgolion yn hybiau entrepreneuraidd drwy sefydlu mentrau cymdeithasol ym mhob ysgol i helpu i wella sgiliau busnes cenedlaethau'r dyfodol. As part of a campaign to empower teachers, the Welsh Government must establish a national formula with money being directly targeted at schools to put all learners, whether in rural or urban settings, on a more equal footing. By doing this, it will release more resources for the classroom. Directly funding schools would actually drive power down to the teachers and headteachers who know what is best for their schools, giving them more flexibility and control over the priorities of their schools. And the Welsh Government must provide the tools for schools to be more creative in implementing the curriculum, for example, by making schools entrepreneurial hubs by establishing social enterprises in each school to improve the business skills of future generations.
Wrth gloi, Lywydd, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn llawer mwy arloesol a chreadigol er mwyn gwella bywydau pobl Cymru. Ni fydd parhau gyda'r un hen ddull yn gweld gwelliannau yn ein gwasanaeth iechyd, na’n system addysg ac ni fydd yn tyfu ein heconomi. Felly, rwy’n annog Llywodraeth Cymru i weithredu a bod yn llawer mwy arloesol. In closing, Llywydd, the Welsh Government must be much more innovative and creative in order to improve the lives of people in Wales. Continuing with the same old approaches will not bring improvements to our health service, or our education system and will not grow our economy. Therefore, I urge the Welsh Government to act and to be much more innovative.
16:47 - Dai Lloyd
Mae hefyd yn bleser i minnau gymryd rhan yn y ddadl yma ar Ddydd Gŵyl Dewi Sant, yn adlewyrchu’r ffaith ein bod yn cofio marwolaeth Dewi ar y diwrnod yma yn y flwyddyn 589—rhyw 1,500 o flynyddoedd yn ôl. Mae yna hen, hen hanes i’r genedl yma sydd yn dal i gael ei wireddu trwy ein hiaith a’n celfyddyd a’n ffydd. Ac, ie, mae’n ddiwrnod o falchder cenedlaethol ac rwy’n mynd i ddilyn yr un un trywydd. Roeddwn i wedi’ch atgoffa o rai o bileri ein hanes yn y ddadl ddiwethaf, wedyn man y man imi gario ymlaen lle’r oeddwn i wedi gorffen yn y cyfraniad diwethaf. It is also a pleasure for me to participate in this debate on St David’s Day, reflecting the fact that we’re commemorating the death of Dewi on this day in the year 589—some 1,500 years ago. This nation’s history goes back a long way and it’s still reflected in our language, our art and our faith. And, yes, it is a day of national pride and I’m going to follow the same route. I reminded you of some of the pillars of our history in the previous debate, and I might as well continue where I left off in the last debate.
Ond yn benodol felly yn y maes iechyd, lawr y blynyddoedd cyn y gwasanaeth iechyd, roedd Cymru wedi arloesi yn y maes: Meddygon Myddfai yn arloesi yn eu maes nôl yn y canol oesoedd. Pentref bach weddol ddi-nod ydy Myddfai y dyddiau hyn, ond sawl cant o flynyddoedd yn ôl, roedd yn arwain y byd meddygol yn yr ynysoedd hyn. Wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf o’r hanes yna wedi mynd ar goll, ond roedd yna arloesi mawr yn digwydd rhai cannoedd o flynyddoedd yn ôl yn y byd meddygol. But, specifically in health, over the years before the days of the NHS, Wales had innovated in this area: Meddygon Myddfai—the Medics of Myddfai—were innovative in this area in medieval times. Myddfai is a small village now, but many hundreds of years ago, it led the medical world in these isles. Much of that history has been lost, but there was huge innovation happening hundreds of years ago in medicine here.
Ychydig bach yn nes ymlaen—rhyw ganrif a hanner yn ôl—rydym yn gweld Hugh Owen Thomas, ac wedyn ei nai, Robert Jones, yn arloesi ym myd llawdriniaeth esgyrn, ac, yn wir, Robert Jones yn cael ei gydnabod y dyddiau hyn yn fyd-eang fel tad yr arbenigedd o ‘orthopaedics’. Fo a wnaeth lunio ‘orthopaedics’ yn y lle cyntaf ac mae’n cael ei gydnabod ar draws y byd fel arweinydd a sylfaenydd ‘orthopaedics’. A little later on—about a century and a half ago—we see Hugh Owen Thomas and his nephew, Robert Jones, innovating in the area of bone surgery, and Robert Jones is recognised these days on a global level as the father of orthopaedics. He shaped orthopaedics initially and he is recognised globally as the leader and founder of orthopaedics.
Wrth gwrs, rydym ni wedi clywed yr hanes am greu’r gwasanaeth iechyd ac rydym yn parhau yn hynod falch o gyfraniad Cymru i’r gwasanaeth iechyd. Wrth gwrs, i droi ymlaen ychydig bach eto, ac yn y flwyddyn 2007, enillodd yr Athro Syr Martin Evans o Brifysgol Caerdydd wobr Nobel mewn meddygaeth ar sail ei waith ymchwil arloesol ym maes celloedd boncyff a DNA. Of course, we have heard the history of the creation of the NHS and we continue to be extremely proud of the contribution that Wales made to the health service. And, of course, if we come forward a little further again, in the year 2007, Professor Sir Martin Evans of Cardiff University won a Nobel prize in medicine on the basis of his innovative research in stem cells and DNA.
Felly, mae’n anodd, weithiau, i bobl gyffredin yn ein gwlad i feddwl, ‘Wel, beth mae Cymru erioed wedi gwneud? Nid wyf yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen. Pwy sydd wedi arloesi a phwy sydd wedi bod yn hyderus ac yn llwyddiannus?’ Wel, mae yna res, a gallwn i gario ymlaen, ond yn naturiol, ni allaf fod yma drwy’r prynhawn, felly mae’r rhestru yn mynd i stopio yn fanna. Ond, mae’n ddigon i nodi bod yna ddatblygiadau cyffrous iawn, iawn yn mynd ymlaen y dyddiau hyn ym myd meddygaeth, yn ein prifysgolion ac yn ein hysgolion meddygol. Mae ein hysgolion meddygol ni—wrth gwrs, mae gennym ni ddwy erbyn nawr yng Nghaerdydd ac yn Abertawe—yn cynhyrchu meddygon ifanc, disglair. Fe allen nhw gynhyrchu mwy, yn naturiol. Mae yna, ar hyn o bryd, lai nag 20 y cant o fyfyrwyr meddygol ysgolion meddygol Cymru yn dod o Gymru. Nid oes gwlad arall yn gweithredu fel yna. Mae dros hanner myfyrwyr meddygol ysgolion meddygol yr Alban yn dod o’r Alban a dros 80 y cant o fyfyrwyr meddygol ysgolion meddygol Lloegr yn dod o Loegr, ac eto rydym ni’n gweithredu ar ryw lefel fel 12 y cant o fyfyrwyr meddygol Caerdydd ac Abertawe yn dod o Gymru. Wel, rydym ni i fod yn cynhyrchu meddygon am y dyfodol, ond nid ydym yn cynhyrchu digon ohonyn nhw ac, yn naturiol, dyna hefyd pam mae eisiau ysgol feddygol newydd ym Mangor—i bentyrru mwy o feddygon ifanc, disglair i’n gwlad. Ie, rydym ni yn falch o’r gwasanaeth iechyd, ond mae’r system o dan straen anferthol. Mae angen cyflogi mwy o feddygon a nyrsys ac ati, mae angen hyfforddi mwy ohonyn nhw yn y lle cyntaf, ac, wrth gwrs, mae angen darparu y dechnoleg ddiagnostig cywrain yma sydd ar gael—[Torri ar draws.]—ond mae e’n enbydus o ddrud. Sometimes it’s difficult for people in our nation to think, ‘Well, what’s Wales ever contributed? I don’t know what’s going on. Who’s been innovative and who’s been confident and successful?’ Well, there’s a list and I could go on, but naturally I can’t go on all afternoon, so I’m going to stop listing names now. But it’s enough to note that there are very exciting developments happening now in medicine in our universities and in our medical schools. Our medical schools—we have two now, one in Cardiff and one in Swansea—are producing bright junior doctors. Of course, they could produce more. At the moment, less than 20 per cent of our medical students in Welsh medical schools come from Wales. No other country works in that way. Over half of the medical students in Scotland come from Scotland and over 80 per cent of medical students in medical schools in England come from England, and yet we are operating at a level of 12 per cent of students in Cardiff and Swansea coming from Wales. Well, we’re supposed to be producing doctors for our future, but we’re not producing enough and that is why we need a new medical school in Bangor too, so that we can produce more bright junior doctors for our nation. Yes, we are proud of our health service, but the system is under huge pressure. We need to employ more doctors and nurses and so on, and we need to train more doctors and nurses in the first place, and, of course, we need to provide the most modern diagnostic technology, which is available—[Interruption.]—but it is exceptionally expensive.
Wrth gwrs, mae angen gweledigaeth amgen o wasanaeth iechyd efo’i ffocws yn y gymuned—[Torri ar draws.] Ie, efo’r gymuned sydd wedi ei chysylltu yn ddigidol. A man y man bod y Gweinidog wrthi yn arloesi yn y maes yna hefyd. [Chwerthin.] Sy’n ein hatgoffa ni ein bod ni’n gallu gwneud pethau mawr yn ein gwasanaeth iechyd ni yn ddigidol hefyd. Rwy’n falch i’r Gweinidog ein hatgoffa ni o hynny, achos mae hynny’n helpu gofal cynradd hefyd. Ac mae eisiau gweld mwy o arbenigwyr yn ein hysbytai ni yn dod i’r gymuned i weithio, yn torri’r barau yma i lawr rhwng ysbytai a gofal cynradd, a—ydy, mae wedi cael ei ddweud sawl tro—iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio yn agos. And, of course, we need an alternative vision of a health service that is focused on the community—[Interruption.] Yes, a community that is digitally connected. The Minister is clearly innovating in that area too. [Laughter.] That reminds us that we can do great things in our health service digitally too. I’m pleased that the Minister reminded us of that, because that also assists primary care. And I want to see more specialists in our hospitals coming into the community to work, to break down these barriers between hospitals and primary care, and—yes, it’s been said a number of times—health and social care collaborating more closely.
I orffen, felly, rydym ni yn falch iawn o’n gwasanaeth iechyd. Rydym ni’n falch iawn o’r holl arloesi sydd wedi digwydd yn y gorffennol, sydd yn digwydd ar hyn o bryd, ac mi fydd yn digwydd yn y dyfodol. Rydym ni’n benderfynol o gadw ein gwasanaeth iechyd yn gynhwysfawr, yn gyhoeddus yma yng Nghymru. Ond, mae angen newidiadau i ddarparu y gwasanaeth gorau i’n pobl, gan ddefnyddio y talent disglair sydd gyda ni ar gael. Diolch yn fawr. So, to conclude, yes, we are proud of our health service. We are proud of all of the innovation that has happened in the past, which is happening now, and will continue to happen in the future. We are determined to keep our comprehensive health service and to keep it in the public domain here in Wales. But we do need changes to provide the best possible services for our people, using the talent that we clearly have. Thank you.
16:52 - Neil Hamilton
Well, I’m very happy to support this motion of Plaid Cymru today, and my party will be voting for it. I hope that leads to a spontaneous outbreak of rejoicing on Plaid Cymru benches. I’m going to be consensual today in a rather different way from yesterday, as it’s our national day. Although St David’s message to us all isn’t, perhaps, entirely to our taste, because the monastic rule of St David was that monks should pull the plough without draught animals, drink only water, eat only bread with salt and herbs, and spend their evenings in prayer, reading or writing, and have no personal possessions. So, Wales would be a very ascetic place if we followed that prescription exactly. Wel, rwy’n hapus iawn i gefnogi’r cynnig hwn gan Blaid Cymru heddiw, a bydd fy mhlaid yn pleidleisio drosto. Rwy’n gobeithio y bydd hynny’n arwain at fonllef o lawenydd digymell ar feinciau Plaid Cymru. Rwy’n mynd i fod yn gydsyniol heddiw mewn ffordd ychydig yn wahanol i ddoe, gan mai heddiw yw ein diwrnod cenedlaethol. Er efallai nad yw neges Dewi Sant at ddant pawb ohonom yn llwyr, gan mai rheol fynachaidd Dewi Sant oedd y dylai’r mynachod dynnu’r aradr heb anifeiliaid gwedd, yfed dim heblaw dŵr, bwyta dim ond bara gyda halen a pherlysiau, a threulio eu nosweithiau’n gweddïo, yn darllen neu’n ysgrifennu, a byw heb eiddo personol. Felly, byddai Cymru’n lle asgetig iawn pe baem yn dilyn y cyfarwyddebau hynny i’r llythyren.
I agree with everything that was said by Rhun ap Iorwerth in opening his debate today, and it’s right, I think, to look back to Wales’s history and what we’ve given to the world. I’m sad to say that in my lifetime the history has been rather different, at least in relative terms: we’ve been a nation in decline economically although, as I fully acknowledge and indeed glory in, it’s been a nation that has grown culturally and in terms of the feeling of nationhood. Although I am a firm believer in the United Kingdom, I feel myself also to be a proud Welshman, and I think one can have two kinds of nationhood that exist side by side with one another. I would also say that if Wales were to become an independent nation politically, there’s no reason whatever why it could not be one of the most successful nations in the world, because scale is not everything in this respect. [Interruption.] Singapore, for example, is a minute speck in the ocean, and it all depends upon—[Interruption.] It all depends upon the kind of economy that can be developed, which, of course, depends upon the political environment. I’m sad to say that, on the current manifesto of Plaid Cymru, it would be unlikely to replicate the success of Singapore. Rwy’n cytuno â phopeth a ddywedodd Rhun ap Iorwerth wrth agor ei ddadl heddiw, ac mae’n iawn, rwy’n meddwl, i edrych yn ôl ar hanes Cymru a’r hyn yr ydym wedi’i roi i’r byd. Rwy’n drist i ddweud bod yr hanes wedi bod yn wahanol braidd yn ystod fy oes, yn gymharol o leiaf: rydym wedi bod yn genedl sy’n dirywio’n economaidd er ei bod, fel rwy’n cydnabod yn llawn ac yn gorfoleddu yn ei gylch yn wir, yn genedl sydd wedi tyfu’n ddiwylliannol ac o ran y teimlad o genedligrwydd. Er fy mod yn credu’n gryf yn y Deyrnas Unedig, rwy’n teimlo fy mod hefyd yn Gymro balch, ac rwy’n meddwl y gall rhywun gael dau fath o genedligrwydd ochr yn ochr â’i gilydd. Byddwn yn dweud hefyd pe bai Cymru yn dod yn genedl annibynnol yn wleidyddol, nid oes unrhyw reswm o gwbl pam na allai fod yn un o’r gwledydd mwyaf llwyddiannus yn y byd, oherwydd nid yw maint yn bopeth yn hyn o beth. [Torri ar draws.] Nid yw Singapore, er enghraifft, yn fwy na brycheuyn bach yn y môr, ac mae’r cyfan yn dibynnu ar—[Torri ar draws.] Mae’r cyfan yn dibynnu ar y math o economi y gellir ei datblygu, sydd, wrth gwrs, yn dibynnu ar yr amgylchedd gwleidyddol. Yn anffodus, yn ôl maniffesto presennol Plaid Cymru, byddai’n annhebygol o ailadrodd llwyddiant Singapore.
But the Plaid Cymru motion today is quite right to point out Wales’s relative decline in recent years, economically. Wales does have only 71 per cent of the GVA of the United Kingdom. That compares with 93 per cent in Scotland, and Northern Ireland, which previously, 20 years ago, was below Wales on that table, is today above us. We are at the bottom of the table. So, we’ve had 20 years of decline, sad to say, under a Labour Government here in Cardiff and, for most of that time, a Labour Government in London as well. In my region, west Wales and the Valleys, in fact, it’s only 63.3 per cent of the GVA of the United Kingdom, which is even worse. Ond mae cynnig Plaid Cymru heddiw yn hollol iawn i dynnu sylw at ddirywiad cymharol Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, yn economaidd. Dim ond 71 y cant o werth ychwanegol gros y Deyrnas Unedig sydd gan Gymru. Mae hynny’n cymharu â 93 y cant yn yr Alban, ac mae Gogledd Iwerddon, a oedd yn flaenorol, 20 mlynedd yn ôl, yn is na Chymru ar y tabl, yn uwch na ni heddiw. Rydym ar waelod y tabl. Felly, rydym wedi cael 20 mlynedd o ddirywiad, yn anffodus, o dan Lywodraeth Lafur yma yng Nghaerdydd a Llywodraeth Lafur yn Llundain hefyd am y rhan fwyaf o’r amser hwnnw. Yn fy rhanbarth i, gorllewin Cymru a’r Cymoedd, nid yw ond yn 63.3 y cant o werth ychwanegol gros y Deyrnas Unedig mewn gwirionedd, sydd hyd yn oed yn waeth.
Although I’ve taken a lot of stick from the First Minister and others for having been a Minister in Conservative Governments in the 1980s and 1990s, actually, in 1989, Wales had 89 per cent of the GVA of the United Kingdom, and so we’ve gone back from 89 per cent to 71 per cent under the great excoriaters of Thatcherism of the 1980s. So, every year since 1996, Wales has either flat-lined or gone backwards in this table. So, it is a record of unrelieved gloom, I’m afraid, and failure. Er fy mod wedi cael fy nifrïo gan y Prif Weinidog ac eraill am fod wedi bod yn Weinidog mewn Llywodraethau Ceidwadol yn y 1980au a’r 1990au, mewn gwirionedd, yn 1989, roedd gan Gymru 89 y cant o werth ychwanegol gros y Deyrnas Unedig, ac felly rydym wedi mynd yn ôl o 89 y cant i 71 y cant o dan y rhai a fu’n fflangellu Thatcheriaeth y 1980au. Felly, bob blwyddyn ers 1996, mae Cymru naill ai wedi aros yn ei hunfan neu wedi llithro’n is i lawr y tabl. Felly, mae’n hanes o ddigalondid diymgeledd, mae arnaf ofn, a methiant.
But, looking to the future, the future doesn’t actually lie with Government. Governments can’t do more for people than they can do for themselves. They can affect the environment within which people live and work, of course. But we have been coping, for the whole of my lifetime, with the decline of major extractive and manufacturing industries, which couldn’t actually be reversed, although it could be slowed down, and today we’ve been discussing the current problems of Ford in Bridgend. Where we have large employers who dominate one particular area, we are at risk, of course, of major changes in global demand or conditions. The future must lie in the promotion of enterprise with small businesses, as Paul Davies was pointing out in his speech, and also the technologies of the future. Ond wrth edrych tua’r dyfodol, nid yw’r dyfodol yn perthyn i’r Llywodraeth mewn gwirionedd. Ni all Llywodraethau wneud mwy dros bobl nag y gallant ei wneud drostynt eu hunain. Gallant effeithio ar yr amgylchedd lle y mae pobl yn byw ac yn gweithio, wrth gwrs. Ond rydym wedi bod yn ymdopi, ar hyd fy oes, gyda dirywiad y diwydiannau echdynnu a gweithgynhyrchu mawr, dirywiad na ellid ei wrthdroi mewn gwirionedd, er y gellid ei arafu, a heddiw rydym wedi bod yn trafod problemau presennol Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Lle y mae gennym gyflogwyr mawr sy’n dominyddu mewn un maes, rydym mewn perygl, wrth gwrs, yn sgil newidiadau mawr yn y galw neu’r amodau byd-eang. Rhaid i’r dyfodol fod yn seiliedig ar hyrwyddo menter gyda busnesau bach, fel yr oedd Paul Davies yn ei nodi yn ei araith, a hefyd gyda thechnolegau’r dyfodol.
Today, on the front page of ‘The Times’, there’s a story about how Sir James Dyson is going to fund a new technology campus, just by junction 17 on the M4. He himself lives by junction 16 on the M4. This is less than an hour from Cardiff, and yet where are the equivalents in Wales? These are the kinds of industries of the future that the Government should be encouraging and doing its best to attract and to support. So, let’s, yes, glory in our past, but let’s have a Government that will produce a future in which future generations can glory when they look back. Heddiw, ar y dudalen flaen ‘The Times’, ceir stori ynglŷn â sut y mae Syr James Dyson yn mynd i ariannu campws technoleg newydd, wrth gyffordd 17 ar yr M4. Mae ef ei hun yn byw wrth gyffordd 16 ar yr M4. Mae hyn lai nag awr o Gaerdydd, ac eto ble mae’r pethau cyfatebol yng Nghymru? Dyma’r math o ddiwydiannau’r dyfodol y dylai’r Llywodraeth fod yn eu hannog ac yn gwneud ei gorau i’w denu a’u cefnogi. Felly, gadewch i ni orfoleddu yn ein gorffennol yn wir, ond gadewch i ni gael Llywodraeth a fydd yn creu dyfodol lle y gall cenedlaethau’r dyfodol orfoleddu wrth edrych yn ôl.
16:58 - Simon Thomas
Well, in fact, I did want to give a very uplifting view of Wales’s future and how we can, for all the wonders that we’ve achieved in the past, as teachers and preachers, become a nation of scientists and technologists and move our nation onwards. I think that I want to describe us as an energy nation. One of the earliest ecological poems in the Welsh language, ‘Torri Coed Glyn Cynon’, talks of the cutting of the woods of the Cynon valley in order to feed the early industrial revolution, the medieval ironworks of that time. So, we’ve been an energy nation for a long period of time. Wel, mewn gwirionedd, roeddwn am roi golwg galonogol iawn o ddyfodol Cymru a sut y gallwn, er yr holl ryfeddodau a gyflawnwyd gennym yn y gorffennol fel athrawon a phregethwyr, ddod yn genedl o wyddonwyr a thechnolegwyr a symud ein cenedl ymlaen. Rwy’n meddwl fy mod am ein disgrifio fel cenedl ynni. Mae un o’r cerddi ecolegol cynharaf yn yr iaith Gymraeg, ‘Torri Coed Glyn Cynon’, yn sôn am dorri coed cwm Cynon er mwyn bwydo’r chwyldro diwydiannol cynnar, gwaith haearn canoloesol y cyfnod hwnnw. Felly, rydym wedi bod yn genedl ynni ers amser maith.
But the question we must face now is: how can we be an energy nation once again and how can we become the California of the Atlantic? Because we’ve got the beaches, we’ve got the surf, we’ve got the film studios, some of us have got the beach bodies—[Laughter.] Definitely. I can see the Cabinet Secretary for communities nodding his head at that. But, more importantly, we have universities, we have research, we have a history of technological development that has already been alluded to in several contributions, and we have huge energy resources still, no longer underground—no longer underground in a safe and sustainable way, anyway—but in our seas, in our air, on our hills and in the sun. It’s how we marry our latest understanding of technology with the challenges of things like climate change and the challenges of energy security that I think will give Wales a unique selling point for the next generations, and I think will make Wales that successful small nation, whether we labour still under devolution or become an independent nation. Ond y cwestiwn sy’n rhaid i ni ei wynebu yn awr yw hwn: sut y gallwn fod yn genedl ynni unwaith eto a sut y gallwn ddod yn Galiffornia yr Iwerydd? Oherwydd mae gennym y traethau, mae gennym ewyn y don, mae gennym y stiwdios ffilm, mae gan rai ohonom gyrff ar gyfer y traeth—[Chwerthin.] Yn bendant. Gallaf weld Ysgrifennydd y Cabinet dros gymunedau yn nodio’i ben ar hynny. Ond yn bwysicach, mae gennym brifysgolion, mae gennym ymchwil, mae gennym hanes o ddatblygiad technolegol y cyfeiriwyd ato eisoes mewn sawl cyfraniad, ac mae gennym adnoddau ynni enfawr o hyd, nid o dan y ddaear mwyach—nid o dan y ddaear mwyach mewn modd diogel a chynaliadwy, beth bynnag—ond yn ein moroedd, yn ein hawyr, ar ein bryniau ac yn yr haul. Dyna sut y cyplyswn ein dealltwriaeth ddiweddaraf o dechnoleg â heriau pethau fel newid yn yr hinsawdd a heriau diogelwch ynni y credaf y byddant yn darparu pwynt gwerthu unigryw i Gymru dros y cenedlaethau nesaf, ac rwy’n meddwl y bydd yn gwneud Cymru yn wlad fach lwyddiannus, pa un a fyddwn yn ymlafnio o hyd o dan ddatganoli neu’n dod yn genedl annibynnol.
We can build on some of those building blocks already and I think all of us would want to see Wales become as self-sufficient as possible in terms of our use of energy, in terms of our economy, in terms of the way we develop our own skills and our own people, whether it’s in medicine or in technology or in the education field. And we’re way behind. Scotland already produces, for example, 32 per cent of its electricity from renewables. We are at 10 per cent. One of the countries with the most rich renewable resource, both in the sea and on land, is one of the ones that’s actually lagging behind the United Kingdom in terms of production. Since the early 1970s, we’ve had another little revolution in Wales, because Wales is a nation of competing political narratives. One of the interesting narratives that happened in the 1970s in Wales is the small country, the small nation, kind of approach—people coming into Wales to look for self-sufficiency, living on the land, some crazy ideas and some crazy ways of living from time to time, but leading to ideas, like I said, of alternative technology and a real re-evaluation of how we produce our energy and how we go forward. So, we’re at the cusp at the moment. We still have very poisonous nitrogen oxide emissions from coal-burning power stations. We still have old technology. We have old communication links and old energy grids that are actually holding us back from this new energy future. But we also have the skills and the ideas to do it. I think it turns around three things that I’d like to see us, very imminently, doing here in Wales. Gallwn adeiladu ar rai o’r blociau adeiladu hynny eisoes ac rwy’n meddwl y byddai pob un ohonom am weld Cymru’n dod mor hunangynhaliol â phosibl o ran ein defnydd o ynni, o ran ein heconomi, o ran y ffordd y datblygwn ein sgiliau ein hunain a’n pobl ein hunain, boed mewn meddygaeth neu mewn technoleg neu yn y maes addysg. Ac rydym ymhell ar ei hôl hi. Mae’r Alban eisoes yn cynhyrchu, er enghraifft, 32 y cant o’i thrydan o ffynonellau adnewyddadwy. Rydym ni ar 10 y cant. Un o’r gwledydd sydd â’r adnoddau adnewyddadwy mwyaf cyfoethog yn y môr ac ar y tir yw un o’r rhai sy’n llusgo ar ôl y Deyrnas Unedig o ran cynhyrchu mewn gwirionedd. Ers y 1970au cynnar, rydym wedi cael rhyw fath o chwyldro bach arall yng Nghymru, oherwydd mae Cymru yn genedl o naratifau gwleidyddol sy’n cystadlu. Un o’r naratifau diddorol a ddigwyddodd yn y 1970au yng Nghymru yw’r cysyniad o’r wlad fach, y genedl fach—pobl yn dod i Gymru i geisio bod yn hunangynhaliol, yn byw ar y tir, rhai syniadau gwallgof a rhai ffyrdd gwallgof o fyw o bryd i’w gilydd, ond yn arwain at syniadau, fel y dywedais, am dechnoleg amgen ac ailwerthusiad go iawn o’r modd yr ydym yn cynhyrchu ein hynni a sut yr ydym yn symud ymlaen. Felly, rydym ar fin newid ar hyn o bryd. Mae’n dal i fod gennym allyriadau nitrogen ocsid gwenwynig iawn o orsafoedd pŵer sy’n llosgi glo. Mae’n dal i fod gennym hen dechnoleg. Mae gennym hen gysylltiadau cyfathrebu a hen gridiau ynni sy’n ein dal yn ôl mewn gwirionedd rhag y dyfodol ynni newydd hwn. Ond hefyd mae gennym sgiliau a syniadau i’w wneud. Rwy’n credu ei fod yn ymwneud â thri pheth yr hoffwn ein gweld yn eu gwneud yma yng Nghymru yn fuan iawn.
First of all, I would like us to examine how we can establish a Welsh energy company. The Welsh Government has been quite warm of late to this idea, which originated with Plaid Cymru, and I hope that we can work with the Welsh Government and anyone who’s interested in trying to explore the ability for a Welsh energy company to be established in Wales. So, we’ll make the best use and keep those skills and resources within our nation. Yn gyntaf oll, hoffwn i ni archwilio sut y gallwn sefydlu cwmni ynni i Gymru. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cynhesu at y syniad hwn, a darddodd gyda Phlaid Cymru, ac rwy’n gobeithio y gallwn weithio gyda Llywodraeth Cymru ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn ceisio archwilio’r gallu i sefydlu cwmni ynni i Gymru. Felly, byddwn yn gwneud y defnydd gorau ac yn cadw’r sgiliau a’r adnoddau hynny yn ein gwlad.
A second thing that I think we could look at very seriously in Wales is hydrogen. The Congress in America celebrates hydrogen cell day. Why are they celebrating hydrogen cell day? Because they say that they produced the hydrogen cell economy—particularly in California, as it happens. It originated in 1838, here in Swansea—in Swansea, with William Grove, an absolute genius, if you examine his history: a barrister who became a scientist, and a leading scientist at that, and developed the hydrogen cell technology that is still, in principle, that which can drive our trains now, our public transport, commercial vehicles, and, perhaps more for the private vehicles and private cars, looking at where we develop an infrastructure around electric cars and electric vehicles. These two go very well together. These technologies—electric vehicles and hydrogen technology—go very well together with renewable energy, because it’s a storage system that you can use in your transport system that helps smooth out the infrequencies that we get, particularly in renewable energy, and particularly with wind. Ail beth y credaf y gallem edrych arno o ddifrif yng Nghymru yw hydrogen. Mae’r Gyngres yn America yn dathlu diwrnod y gell hydrogen. Pam y maent yn dathlu diwrnod y gell hydrogen? Am eu bod yn dweud mai hwy a gynhyrchodd economi’r gell hydrogen—yn enwedig yng Nghaliffornia, fel y mae’n digwydd. Tarddodd yn 1838, yma yn Abertawe—yn Abertawe, gyda William Grove, athrylith digamsyniol, os edrychwch ar ei hanes: bargyfreithiwr a ddaeth yn wyddonydd, a gwyddonydd blaenllaw ar hynny, a datblygodd dechnoleg celloedd hydrogen sy’n dal, mewn egwyddor, i fod yr hyn a all yrru ein trenau, ein trafnidiaeth gyhoeddus, ein cerbydau masnachol yn awr, ac efallai’n fwy o ran y cerbydau preifat a cheir preifat, gan edrych ar ble rydym yn datblygu seilwaith o gwmpas ceir trydan a cherbydau trydan. Mae’r ddau’n mynd yn dda iawn gyda’i gilydd. Mae’r technolegau hyn—cerbydau trydan a thechnoleg hydrogen—yn mynd yn dda iawn gyda’i gilydd gydag ynni adnewyddadwy, oherwydd mae’n system storio y gallwch ei defnyddio yn eich system drafnidiaeth sy’n helpu i lyfnhau’r anamleddau a gawn, yn enwedig mewn ynni adnewyddadwy, a chyda gwynt yn arbennig.
But, of course, the other thing that we can do—the third thing—has already been alluded to. It is the tidal lagoon. So, we turn to Swansea once again, where, instead of losing, as we did 150 years ago, that technology that was originated in Swansea and ended up in California, let’s make sure that this technology, which can be trialled in Swansea as the pathfinder project, as recommended by the Hendry review, isn’t lost to us and does become the technology that we now take forward and learn from, and use the skills from. Ond wrth gwrs, cyfeiriwyd eisoes at y peth arall y gallwn ei wneud—y trydydd peth, sef y morlyn llanw. Felly, rydym yn troi at Abertawe unwaith eto, ac yn lle colli’r dechnoleg a darddodd o Abertawe a chyrraedd Califfornia, fel y gwnaethom 150 mlynedd yn ôl, gadewch i ni wneud yn siŵr nad ydym yn colli’r dechnoleg hon y gellir ei threialu yn Abertawe ar ffurf prosiect braenaru, fel yr argymhellwyd gan adolygiad Hendry, a’i bod yn dod yn dechnoleg yr ydym yn ei datblygu yn awr ac yn dysgu oddi wrthi, ac yn defnyddio’r sgiliau ohoni.
So, to conclude, as is traditional on this day, with some words of Dewi Sant, when he told us, ‘gwnewch y pethau bychain—do ye the little things in life’, and to say that’s a load of rubbish. Like the Californians say, don’t sweat the small things. Let’s do the big things—let’s do the lagoon, hydrogen and electricity. Felly, i gloi, fel sy’n draddodiadol ar y diwrnod hwn, gyda rhai o eiriau Dewi Sant, pan ddywedodd wrthym, ‘gwnewch y pethau bychain mewn bywyd’, a dweud mai rwtsh llwyr yw hynny. Fel y bydd pobl Califfornia’n dweud, peidiwch â chwysu dros y pethau bychain. Gadewch i ni wneud y pethau mawr—gadewch i ni wneud y môr-lynnoedd llanw, yr hydrogen a’r trydan.
17:03 - Y Llywydd / The Llywydd
Rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt. I call on the leader of the house, Jane Hutt.
17:03 - Jane Hutt
Well, I’d like to start by thanking Plaid Cymru for tabling this motion for debate in the Chamber today and returning the Welsh Government’s good wishes for a happy St David’s Day. It does provide us with the opportunity to talk about our performance across these three key areas of the economy, education and health, and I welcome that opportunity. I also think it’s apt. As Rhun ap Iorwerth has said in his opening remarks, it’s about looking at where we are today, and that’s appropriate on St David’s Day. Wel, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r cynnig hwn ar gyfer dadl yn y Siambr heddiw a dymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’n rhoi cyfle i ni siarad am ein perfformiad ar draws tri maes allweddol yr economi, addysg ac iechyd, a chroesawaf y cyfle hwnnw. Rwyf hefyd yn credu ei fod yn addas. Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth yn ei sylwadau agoriadol, mae’n ymwneud ag edrych ar ein sefyllfa heddiw, ac mae hynny’n briodol ar Ddydd Gŵyl Dewi.
But, looking back over the last few years against the backdrop of the recession and austerity budgets forced upon us by the UK Government, it’s clear that Wales’s economy has grown. There’s close to a record number of people in work, and the employment rate has increased more than the UK average over the last 12 months. The unemployment rate has also decreased more in Wales than the UK average over the same time. Last year, this Welsh Government helped to create and protect 37,500 jobs through intelligent and effective partnerships with businesses in Wales. We have also seen real gains in educational improvement. The overall 2016 GCSE results showed another strong performance, with two thirds of our learners achieving at least A* to C, with an increase in the top grades. Ond o edrych yn ôl dros y blynyddoedd diwethaf yn erbyn cefndir y dirwasgiad a’r cyllidebau caledi a orfodwyd arnom gan Lywodraeth y DU, mae’n amlwg fod economi Cymru wedi tyfu. Ceir yn agos at y nifer uchaf erioed o bobl mewn gwaith, ac mae’r gyfradd gyflogaeth wedi cynyddu mwy na chyfartaledd y DU dros y 12 mis diwethaf. Hefyd mae’r gyfradd ddiweithdra wedi gostwng mwy yng Nghymru na chyfartaledd y DU dros yr un cyfnod. Y llynedd, helpodd y Llywodraeth hon yng Nghymru i greu a diogelu 37,500 o swyddi drwy bartneriaethau deallus ac effeithiol gyda busnesau yng Nghymru. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd gwirioneddol o ran gwella addysg. Dangosodd y canlyniadau TGAU cyffredinol ar gyfer 2016 berfformiad cryf arall, gyda dwy ran o dair o’n dysgwyr yn cyflawni o leiaf A* i C, gyda chynnydd yn y graddau uchaf.
In terms of the health service, we recognise that some waiting times are too long, but referral-to-treatment waiting times are now 30 per cent lower than the high point in August 2015, and diagnostic waiting times are 63 per cent lower than the high point of January 2014. We expect to see further reductions before the end of this month. We accept there’s always room for more improvement, but we are making significant progress in these areas. O ran y gwasanaeth iechyd, rydym yn cydnabod bod rhai amseroedd aros yn rhy hir, ond mae amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth bellach 30 y cant yn is na’r uchafbwynt ym mis Awst 2015, ac mae amseroedd aros diagnostig 63 y cant yn is na’r uchafbwynt ym mis Ionawr 2014. Rydym yn disgwyl gweld gostyngiadau pellach cyn diwedd y mis hwn. Rydym yn derbyn bod lle i fwy o welliant bob amser, ond rydym yn gwneud cynnydd sylweddol yn y meysydd hyn.
In moving the Government amendment, I’m pleased to provide perhaps a more comprehensive overview of Wales’s position. The unemployment rate in Wales has fallen to 4.4 per cent, lower than the UK average. The recently published OECD healthcare quality indicator showed that Wales is performing at a similar level or better than other countries in the UK on the majority of indicators. The 2015-16 GCSE exam results for Wales show the main performance measure has increased each year since records began in 2006-07, while the attainment gap between pupils eligible for free schools meals and their fellow pupils is closing. Yesterday, the OECD, of course, published its rapid assessment of education in Wales, and we discussed this report in the Chamber—the statement from the Cabinet Secretary. But the OECD provided us with independent evidence on where we have improved, and they point to progress made to support the professional learning of teachers, to increase school-to-school collaborations, the rationalisation of school grants, the development of a national schools categorisation system, and the steps taken to develop a new curriculum fit for the twenty-first century. Llyr Gruffydd spoke of the historical landmarks in our history of education in Wales, and, yes, the OECD does identify areas where we need to strengthen further. But this independent analysis does show that we’re on the right track. We’ve laid the foundations for a self-improving system that will grow from strength to strength. Wrth gynnig gwelliant y Llywodraeth, rwy’n falch o ddarparu trosolwg mwy cynhwysfawr efallai o sefyllfa Cymru. Mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru wedi gostwng i 4.4 y cant, yn is na chyfartaledd y DU. Dangosodd dangosydd ansawdd gofal iechyd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar fod Cymru yn perfformio ar lefel debyg neu well na gwledydd eraill yn y DU yn y rhan fwyaf o ddangosyddion. Mae canlyniadau arholiadau TGAU 2015-16 ar gyfer Cymru yn dangos bod y prif fesur perfformiad wedi cynyddu bob blwyddyn ers dechrau cadw cofnodion yn 2006-07, ac mae’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cyd-ddisgyblion yn cau. Ddoe, wrth gwrs, cyhoeddodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ei asesiad cyflym o addysg yng Nghymru, a buom yn trafod yr adroddiad hwn yn y Siambr—y datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Ond rhoddodd y Sefydliad dystiolaeth annibynnol i ni ar ble rydym wedi gwella, ac maent yn cyfeirio at y cynnydd a wnaed ar gefnogi dysgu proffesiynol athrawon, ar gynyddu cydweithrediad rhwng ysgolion, ar resymoli grantiau ysgol, ar ddatblygu’r system gategoreiddio ysgolion ar lefel genedlaethol, ac ar y camau a gymerwyd i ddatblygu cwricwlwm newydd sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Siaradodd Llyr Gruffydd am y tirnodau hanesyddol yn hanes addysg yng Nghymru, ac ydy, mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn nodi meysydd lle y mae angen i ni gryfhau ymhellach. Ond mae’r dadansoddiad annibynnol hwn yn dangos ein bod ar y trywydd iawn. Rydym wedi gosod y sylfeini ar gyfer system hunanwella a fydd yn mynd o nerth i nerth.
In responding to some of the other points in this debate, the Welsh Government’s approach to delivering our commitments in Wales is key, so our programme for government, ‘Taking Wales Forward’, shows how we are driving improvement in the Welsh economy and public services, and our aim is to deliver a Wales that is prosperous and secure, healthy and active, ambitious and learning, united and connected. But, to achieve this, we have to set out where we have the levers to intervene—where the Welsh Government can intervene to maximise the impact, and how our key commitments will contribute. We’ve set out these areas, which we will focus on, that allow us to make the greatest impact. Ambitious measures, but aimed at—. These measures are aimed at making a difference for everyone at every stage in their lives. Wrth ymateb i rai o’r pwyntiau eraill yn y ddadl hon, mae dull Llywodraeth Cymru o gyflawni ein hymrwymiadau yng Nghymru yn allweddol, felly mae ein rhaglen lywodraethu, ‘Symud Cymru Ymlaen’, yn dangos sut rydym yn gyrru gwelliant yn economi Cymru a gwasanaethau cyhoeddus, a’n nod yw sicrhau Cymru sy’n ffyniannus a diogel, yn iach ac yn weithgar, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, yn unedig ac yn gysylltiedig. Ond er mwyn cyflawni hyn, mae’n rhaid i ni nodi ble y mae gennym y dulliau i ymyrryd—ble y gall Llywodraeth Cymru ymyrryd i sicrhau cymaint o effaith â phosibl, a sut y bydd ein hymrwymiadau allweddol yn cyfrannu. Rydym wedi nodi’r meysydd hyn, a byddwn yn canolbwyntio arnynt, gan ein galluogi i gael yr effaith fwyaf. Mesurau uchelgeisiol, ond wedi’u hanelu tuag at—. Nod y mesurau hyn yw gwneud gwahaniaeth i bawb ar bob cam o’u bywydau.
We will use the opportunity given to us by the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 to work differently, to develop innovative solutions to challenges that we face, to help us to maximise our impact in these uncertain times—a new kind of productivity, as Jeremy Miles has said, based on sustainable investment. We recognise the potential of the blue and green economy. We’re committed to supporting new and existing enterprises in Wales to take advantage of major marine industry and energy infrastructure—again, as Jeremy Miles has highlighted, and, indeed, Simon Thomas, unique opportunities that we have in Wales to take us forward—I think it’s being talked about as Wales’s next industrial revolution—such as the proposed tidal lagoon, and isn’t it great when we all agree, as we did in a debate only a couple of weeks ago, and send such a strong message to the UK Government that we want to take up that challenge here in Wales? Byddwn yn defnyddio’r cyfle a roddwyd i ni gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i weithio mewn ffordd wahanol, i ddatblygu atebion arloesol i’r heriau sy’n ein hwynebu, er mwyn ein helpu i wneud y gorau o’n heffaith ar yr adegau ansicr hyn—math newydd o gynhyrchiant, fel y dywedodd Jeremy Miles, yn seiliedig ar fuddsoddiad cynaliadwy. Rydym yn cydnabod potensial yr economi las a’r economi werdd. Rydym wedi ymrwymo i gynorthwyo mentrau newydd a mentrau sy’n bodoli eisoes yng Nghymru er mwyn manteisio ar ddiwydiant morol mawr a seilwaith ynni—unwaith eto, fel y nododd Jeremy Miles, a Simon Thomas yn wir, cyfleoedd unigryw sydd gennym yng Nghymru i’n symud ymlaen—rwy’n credu y sonnir amdano fel chwyldro diwydiannol nesaf Cymru—megis y morlyn llanw arfaethedig, ac onid yw’n wych pan fyddwn i gyd yn cytuno, fel y gwnaethom mewn dadl ychydig wythnosau yn ôl, ac anfon neges mor gryf at Lywodraeth y DU ein bod am fynd i’r afael â’r her honno yma yng Nghymru?
Simon Thomas is right: the energy sector is a key sector for the Welsh economy as we move forward. It’s based on our natural resources, the long tradition of generation, and, of course, the pipeline for future investment. This links directly to education and skills and the central role they play in improving Wales’s economy and productivity. Our education system must provide learners with the skills, knowledge and attributes they need for the modern world to enable us to compete and our young people to succeed for their own benefit and for the benefit of Wales. Mae Simon Thomas yn iawn: mae’r sector ynni yn sector allweddol ar gyfer economi Cymru wrth inni symud ymlaen. Mae’n seiliedig ar ein hadnoddau naturiol, y traddodiad hir o gynhyrchu, ac wrth gwrs, y biblinell ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol. Mae hyn yn cysylltu’n uniongyrchol ag addysg a sgiliau a’r rôl ganolog y maent yn eu chwarae yn gwella economi a chynhyrchiant Cymru. Rhaid i’n system addysg roi’r sgiliau, y wybodaeth a’r priodoleddau sydd eu hangen ar ddysgwyr ar gyfer y byd modern i’n galluogi i gystadlu ac i’n pobl ifanc lwyddo er eu budd eu hunain ac er lles Cymru.
This is why we are making these changes to the education system, aimed at realising a world-class curriculum geared to equip our children and young people to thrive amid the challenges and opportunities of the twenty-first century. Dyma pam yr ydym yn gwneud y newidiadau hyn i’r system addysg, wedi’i hanelu at wireddu cwricwlwm o’r safon orau gyda’r nod o arfogi ein plant a’n pobl ifanc i ffynnu yng nghanol heriau a chyfleoedd yr unfed ganrif ar hugain.
Finally, in relation to our beloved national health service, we, of course, should and will expect health boards to continue to make improvements to patient care and access to treatment during 2017-18. By the end of March 2018, we expect no-one to be waiting more than 36 weeks in the majority of specialities. I’m sure you will all have welcomed the announcement made by the Cabinet Secretary of the extra £95 million for healthcare professionals—that’s absolutely critical, as Dai Lloyd has said—in terms of a demonstration, again, of where this Government sees its priorities. Yn olaf, mewn perthynas â’n gwasanaeth iechyd gwladol annwyl wrth gwrs, fe ddylem ac fe fyddwn yn disgwyl i fyrddau iechyd barhau i wneud gwelliannau i ofal cleifion a mynediad at driniaeth yn ystod 2017-18. Erbyn diwedd mis Mawrth 2018 rydym yn disgwyl na fydd neb yn aros mwy na 36 wythnos yn y mwyafrif o arbenigeddau. Rwy’n siŵr y byddwch i gyd wedi croesawu’r cyhoeddiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet am y £95 miliwn ychwanegol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol—mae hwnnw’n gwbl hanfodol fel y dywedodd Dai Lloyd—o ran dangos, unwaith eto, beth yw’r blaenoriaethau i’r Llywodraeth hon.
So, Llywydd, as I said, we welcome this debate. It does give us an opportunity to take stock, and also to welcome constructive scrutiny and to feed into the direction of travel. We need to ensure we’re delivering on our commitments, we’re enabling people to live healthy and fulfilled lives, and continue to support our economy with investment in skills and infrastructure. But we do, as a Welsh Labour Government, have an additional goal, to tackle inequalities, which are as bad for our health as they are for the economy, against the backdrop of continuing UK Government austerity policies. Felly, Lywydd, fel y dywedais, rydym yn croesawu’r ddadl hon. Mae’n rhoi cyfle i bwyso a mesur, a hefyd i groesawu craffu adeiladol ac i fwydo i mewn i’r cyfeiriad teithio. Mae angen inni sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau, ein bod yn galluogi pobl i fyw bywydau iach a chyflawn, ac yn parhau i gefnogi ein heconomi drwy fuddsoddi mewn sgiliau a seilwaith. Ond fel Llywodraeth Lafur Cymru, mae gennym nod ychwanegol, sef mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, sydd yr un mor ddrwg i’n hiechyd ag y maent i’r economi, yn erbyn cefndir o bolisïau caledi parhaus Llywodraeth y DU.
I just have to say one comment in response to Neil Hamilton. Now, Neil says he supports this motion but I feel that, in terms of his rather disparaging and glib remarks, I need to remind him again about our position in terms of the impact we’ve had in terms of the economy. The jobs market in Wales has continued to outperform almost every part of the UK over the past year. Good news for Wales. Employment in Wales has increased faster than England, Scotland or Northern Ireland. I don’t know where you’ve been, Neil Hamilton, during this time in terms of these figures. Unemployment—[Interruption.] Rhaid i mi wneud un sylw mewn ymateb i Neil Hamilton. Nawr, mae Neil yn dweud ei fod yn cefnogi’r cynnig hwn, ond rwy’n teimlo bod angen i mi ei atgoffa eto, o ran ei sylwadau difenwol a slic braidd, am ein safle mewn perthynas â’r effaith a gawsom ar yr economi. Mae’r farchnad swyddi yng Nghymru wedi parhau i berfformio’n well na bron bob rhan o’r DU dros y flwyddyn ddiwethaf. Newyddion da i Gymru. Mae cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu’n gyflymach nag yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Nid wyf yn gwybod ble y buoch dros y cyfnod hwn mewn perthynas â’r ffigurau hyn, Neil Hamilton. Mae diweithdra—[Torri ar draws.]
17:12 - Y Llywydd / The Llywydd
The Minister is bringing her comments to a close. Mae’r Gweinidog yn dod â’i sylwadau i ben.
17:12 - Jane Hutt
[Continues.]—has fallen by 1.4 per cent over the last year and I would say Wales should be rightly proud of its place in the world. Some of our most significant achievements are centred around an equal society. From Hywel Dda’s laws to Aneurin Bevan’s vision, our education system is founded on these same principles—a good, comprehensive system for all, no matter their background. This is what we’re taking forward in our programme for government. [Yn parhau.]—wedi gostwng 1.4 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf a byddwn yn dweud y dylai Cymru fod yn haeddiannol falch o’i lle yn y byd. Mae rhai o’n llwyddiannau mwyaf sylweddol yn canolbwyntio ar gymdeithas gyfartal. O gyfreithiau Hywel Dda at weledigaeth Aneurin Bevan, mae ein system addysg yn seiliedig ar yr un egwyddorion—system gynhwysfawr dda i bawb, waeth beth fo’u cefndir. Dyma’r hyn yr ydym yn bwrw ymlaen ag ef yn ein rhaglen lywodraethu.
Diolch yn fawr. Dydd Gŵyl Dewi hapus. Thank you and happy St David’s Day.
17:12 - Y Llywydd / The Llywydd
Rhun ap Iorwerth, i gloi’r ddadl. Rhun ap Iorwerth, to conclude the debate.
17:12 - Rhun ap Iorwerth
A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl? Could I thank everyone who’s taken part in this debate?
I’ll thank everybody who’s taken part in the debate today. The Minister points to where she believes we are doing well. We’re right to celebrate our successes. We’re right that we should highlight successes and the achievements of great ordinary men and women in Wales across the public and the private sectors. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw. Mae’r Gweinidog yn tynnu sylw at ble y mae’n credu ein bod yn gwneud yn dda. Mae’n iawn i ni ddathlu ein llwyddiannau. Mae’n iawn i ni dynnu sylw at lwyddiannau a chyflawniadau dynion a menywod cyffredin gwych yng Nghymru ar draws y cyhoedd a’r sectorau preifat.
I’m glad to hear the Minister saying that more could be done, but I hear the echo from around Wales saying, ‘Well, do more, then’, because Government, of course, is in the position where you are able to take action. Government can set a tone for a nation. Government can set the context in which ambition and innovation, and by that I mean real ambition and innovation—. It can set the context for when that can become the norm, can become the default, and that is what I am waiting for from Government. Rwy’n falch o glywed y Gweinidog yn dweud y gellid gwneud rhagor, ond rwy’n clywed yr adlais o amgylch Cymru’n dweud, ‘Wel, gwnewch fwy felly’, oherwydd mae’r Llywodraeth, wrth gwrs, mewn sefyllfa lle y gallwch weithredu. Gall y Llywodraeth osod y naws ar gyfer y genedl. Gall y Llywodraeth osod y cyd-destun lle y gall uchelgais ac arloesedd, ac wrth hynny rwy’n golygu uchelgais ac arloesedd go iawn—. Gall osod y cyd-destun ar gyfer pan fydd hynny’n gallu dod yn norm, yn gallu dod yn rhagosodiad, a dyna rwy’n aros amdano gan y Llywodraeth.
I’ll turn to Jeremy Miles’s comments on GVA. Thank you for focusing on GVA. You’re right that it is by no means the only measure, that it doesn’t tell the whole story, but, whilst inequalities have persisted in the UK for too long—we are in agreement on that—we have not always languished at the bottom of the pile, a point reiterated by the leader of UKIP here. I find myself in the unusual position of being in agreement with him on one comment he made, in that he believes that, if Wales were to choose to go down an independent path, it could become a successful nation. It’s tantalising, isn’t it? The difference is that I’m excited about that and he, despite making that assertion, would rather it didn’t happen. That doesn’t seem particularly logical to me. Trof at sylwadau Jeremy Miles ar werth ychwanegol gros. Diolch i chi am ganolbwyntio ar werth ychwanegol gros. Rydych yn iawn nad dyna’r unig fesur ar unrhyw gyfrif, nad yw’n dweud y stori gyfan, ond er bod anghydraddoldebau wedi parhau yn y DU am gyfnod rhy hir—rydym yn cytuno ar hynny—nid ydym bob amser wedi dihoeni ar y gwaelod, pwynt a ailadroddwyd gan arweinydd UKIP yma. Rwy’n cael fy hun yn y sefyllfa anarferol o fod yn cytuno ag ef ar un sylw a wnaeth, sef ei fod yn credu, pe bai Cymru yn dewis mynd ar hyd llwybr annibynnol, y gallai ddod yn genedl lwyddiannus. Mae’n bryfoclyd, onid yw? Y gwahaniaeth yw bod hynny yn fy nghyffroi i a byddai’n well ganddo ef, er gwaethaf ei honiad, pe na bai hynny’n digwydd. Nid yw hynny’n ymddangos yn arbennig o resymegol i mi.
But back to GVA: as a comparator of where we stand in comparison with others—competitors, if you like, in the positive sense of the term—it is a very useful tool; it’s very valid. I’m glad he said that we shouldn’t ignore GVA. I would remind him, of course, that the Government amendment seeks to remove our reference to GVA whilst replacing it with unemployment figures, as if that tells the whole story—I’m sure that the Member would agree with me that it doesn’t. Ond yn ôl at y gwerth ychwanegol gros: fel cymharydd o ble rydym o’i gymharu ag eraill—cystadleuwyr, os mynnwch, yn ystyr bositif y term—mae’n arf defnyddiol iawn; mae’n ddilys iawn. Rwy’n falch ei fod wedi dweud na ddylem anwybyddu’r gwerth ychwanegol gros. Hoffwn ei atgoffa, wrth gwrs, fod gwelliant y Llywodraeth yn ceisio cael gwared ar ein cyfeiriad at y gwerth ychwanegol gros gan ei ddisodli â ffigurau diweithdra, fel pe bai hynny’n dweud y stori gyfan—rwy’n siwr y byddai’r Aelod yn cytuno nad yw’n gwneud hynny.
Thank you to Dai Lloyd, Llyr Gruffydd and Simon Thomas for going into detail about some of our proposals about where we could go in future. Thanks to Paul Davies—we will not agree always on how to reach our goal as a nation, but I am grateful for the support for our motion today and for that agreement that Government somehow needs to set a higher bar. Diolch i Dai Lloyd, Llyr Gruffydd a Simon Thomas am fanylu ar rai o’n cynigion ynglŷn â lle y gallem fynd yn y dyfodol. Diolch i Paul Davies—ni fyddwn yn cytuno bob amser ar sut i gyrraedd ein nod fel cenedl, ond rwy’n ddiolchgar am y gefnogaeth i’n cynnig heddiw ac am y cytundeb fod angen rywsut i’r Llywodraeth osod y bar yn uwch.
We need ambition and we need political will if we’re going to build on our ambition for a healthier, wealthier and well-educated Wales—that’s a phrase that reminds me of our manifesto for last year. The manifesto that Plaid Cymru stood on for the National Assembly elections was for a well-educated and wealthier Wales. We’re proud to be innovators in this party. We don’t want to have a monopoly on innovation, but we will continue to outline our positive vision to achieve that ambition. Let’s set that bar higher and let’s aim for it. Dydd Gŵyl Dewi hapus, bawb. Mae arnom angen uchelgais ac mae angen ewyllys wleidyddol os ydym yn mynd i adeiladu ar ein huchelgais ar gyfer Cymru sy’n iachach, yn gyfoethocach ac wedi’i haddysgu’n dda—dyna ymadrodd sy’n fy atgoffa o’n maniffesto ar gyfer y llynedd. Roedd maniffesto Plaid Cymru yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn sefyll dros Gymru gyfoethocach wedi’i haddysgu’n dda. Rydym yn falch o fod yn arloeswyr yn y blaid hon. Nid ydym am gael monopoli ar arloesedd, ond byddwn yn parhau i amlinellu ein gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer cyflawni’r uchelgais hwnnw. Gadewch i ni osod y bar yn uwch a gadewch i ni anelu amdano. Dydd Gŵyl Dewi hapus, bawb.
17:16 - Y Llywydd / The Llywydd
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio. The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting under this item until voting time.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Voting deferred until voting time.
6. Dadl UKIP Cymru: Contractau Dim Oriau 6. UKIP Wales Debate: Zero-hours Contracts
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 3, 4, 5 a 7 yn enw Rhun ap Iorwerth, gwelliant 2 yn enw Paul Davies, a gwelliant 6 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol. The following amendments have been selected: amendments 1, 3, 4, 5 and 7 in the name of Rhun ap Iorwerth, amendment 2 in the name of Paul Davies, and amendment 6 in the name of Jane Hutt. If amendment 2 is agreed, amendment 4 will be deselected.
17:16 - Y Llywydd / The Llywydd
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Gyfunol ar gontractau dim oriau, ac rwy’n galw ar David Rowlands i wneud y cynnig. The next item on the agenda is the United Kingdom Independence Party debate on zero-hours contracts, and I call on David Rowlands to move the motion.
Cynnig NDM6244 David J. Rowlands Motion NDM6244 David J. Rowlands
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: To propose that the National Assembly for Wales:
1. Yn credu, er y gall contractau dim oriau fod o fantais i gyflogwyr a gweithwyr o ran y rhyddid a'r hyblygrwydd y gallant ei gynnig, gallant hefyd greu problemau o ran incwm sefydlog, sicrwydd o ran cyflogaeth, statws cyflogaeth a'r cydbwysedd o ran y pŵer rhwng cyflogwr a chyflogai. 1. Believes that, although zero-hours contracts can benefit employers and workers in the freedom and flexibility they can offer, they can also create problems relating to reliability of income, security of employment, employment status and the balance of power between employer and employee.
2. Yn nodi mai rhithiol yn hytrach na real yw'r rhyddid hwn i'r rhan fwyaf o'r rhai a gaiff eu cyflogi ar gontractau dim oriau, a bod bywyd ar gontractau dim oriau, i'r rhai sydd angen isafswm oriau gwaith wythnosol i sicrhau diogelwch ariannol i'w teulu, yn un o ansicrwydd parhaol; 2. Notes that, for the majority of those employed on zero-hours contracts, this freedom is more illusory than real and, for those who need a minimum number of working hours per week to ensure financial security for their family, life on a zero-hours contract is one of almost permanent uncertainty;
3. Yn nodi bod yr ansicrwydd hwn, i'r rhai y mae eu horiau wedi'u cwtogi neu eu newid oherwydd amharodrwydd canfyddedig i weithio'r oriau sydd eu hangen ar y cyflogwr neu'n dilyn cŵyn yn y gweithle, yn gallu cyd-fynd â'r pryder sy'n deillio o gamfanteisio. 3. Notes that, for those who have had their hours reduced or changed because of a perceived unwillingness to work the hours their employer requires or following the lodging of a workplace complaint, this uncertainty can be coupled with the anxiety that comes from exploitation.
4. Yn credu bod gan weithio contractau dim oriau y gallu i: 4. Believes that working on zero hours contracts has the potential to:
a) creu bywyd o straen; a) create a life of stress;
b) cael effaith negyddol ar reoli cyllidebau teuluol; b) impact negatively on the management of household budgets;
c) effeithio ar ymrwymiadau teuluol; c) impinge on family commitments;
d) tanseilio hawliau a chysylltiadau cyflogaeth; ac d) undermine employment rights and relations; and
e) cymhlethu'r gallu i gael gafael ar gredydau treth a budd-daliadau eraill, gyda phryder cynyddol am y nifer gynyddol o bobl sy'n dibynnu arnynt. e) complicate access to tax credits and other benefits, the continued rise of which is a growing concern.
Cynigiwyd y cynnig. Motion moved.
17:16 - David J. Rowlands
Diolch, Lywydd. Over the last 17 years, the UK has seen a huge proliferation of zero-hours contracts, rising from under 200,000 in the year 2000 to approaching 1 million today. This unprecedented increase correlates directly to the phenomenon of mass uncontrolled immigration over those years. Diolch, Lywydd. Dros y 17 mlynedd ddiwethaf, mae’r DU wedi gweld toreth enfawr o gontractau dim oriau, gan godi o lai na 200,000 yn y flwyddyn 2000 i bron 1 filiwn heddiw. Mae’r cynnydd digyffelyb hwn yn cyd-daro’n uniongyrchol â’r ffenomen o fewnfudo torfol heb ei reoli yn ystod y blynyddoedd hynny.
In truth, ‘zero-hours contract’ is a misnomer—it is not a contract at all. A contract is an instrument drawn up by the signees that indicates an agreement between the two parties. This so-called contract of employment is no such thing, because it is completely one-sided. It contains none of the safeguards for workers usually incorporated in such a document—indeed, it is, in fact, the complete opposite, because it takes away any rights normally associated with such a contract. It is, quite frankly, a contract to abuse. Mewn gwirionedd, mae’r term ‘contract dim oriau’ yn gamarweiniol—nid yw’n gontract o gwbl. Mae contract yn offeryn a luniwyd gan y sawl a’i llofnoda sy’n dynodi cytundeb rhwng y ddau barti. Nid yw’r contract cyflogaeth hwn fel y’i gelwir yn unrhyw beth o’r fath, gan ei fod yn gwbl unochrog. Nid yw’n cynnwys unrhyw un o’r mesurau diogelu gweithwyr a ymgorfforir fel arfer mewn dogfen o’r fath—yn wir, mae’n gwneud i’r gwrthwyneb yn llwyr mewn gwirionedd, gan ei fod yn cael gwared ar unrhyw hawliau a gysylltir fel arfer â chontract o’r fath. Yr hyn ydyw, a dweud y gwir, yw contract i gam-drin.
The zero-hours contract is almost exclusively used in the semi-skilled and unskilled labour market—that very section of the labour market that is universally accepted as most affected by mass immigration. There has been the spurious argument—indeed, promulgated in this very Chamber—that it is a gateway to employment. It is, of course, no such thing. Agency contracts were used for such work opportunities, until, of course, legislation was passed to give agency workers at least some of the rights enjoyed by fully contracted workers. Defnyddir y contract dim oriau bron yn ddieithriad yn y farchnad lafur led-grefftus a heb sgiliau—yr union ran o’r farchnad lafur y derbynnir yn gyffredinol ei bod yn cael ei heffeithio fwyaf gan fewnfudo torfol. Cafwyd y ddadl ffug—a ledaenwyd yn y Siambr hon yn wir—ei fod yn borth i gyflogaeth. Wrth gwrs, nid yw’n ddim o’r fath. Cafodd contractau asiantaeth eu defnyddio ar gyfer cyfleoedd gwaith o’r fath, hyd nes y pasiwyd deddfwriaeth, wrth gwrs, i roi o leiaf rai o’r hawliau a fwynheir gan weithwyr dan gontract llawn i weithwyr asiantaeth.
This instrument of employment is a prime example of the ability of big business and multi-national corporations to circumvent any legislation when there are market forces that allow them to do so. Mass uncontrolled immigration has provided just such a market. Mae’r offeryn cyflogaeth hwn yn enghraifft berffaith o allu busnesau mawr a chorfforaethau rhyngwladol i osgoi unrhyw ddeddfwriaeth pan fo grymoedd y farchnad yn caniatáu iddynt wneud hynny. Mae mewnfudo torfol heb ei reoli wedi darparu marchnad o’r fath.
It is said that many jobless people are forced to take zero-hours contracts or face losing their benefit payments. Little wonder we have record in-work poverty and a huge escalation in food banks. Indeed, that well-loved political personality Tony Blair promised as far back as 1997 that he would abolish these contracts. Unfortunately, like so many of his promises, it was pure rhetoric. Dywedir bod llawer o bobl ddi-waith yn cael eu gorfodi i gymryd contractau dim oriau neu wynebu colli eu budd-daliadau. Nid oes rhyfedd fod gennym lefelau uwch nag erioed o dlodi mewn gwaith a chynnydd enfawr mewn banciau bwyd. Yn wir, addawodd y bersonoliaeth wleidyddol annwyl, Tony Blair, mor bell yn ôl â 1997 y byddai’n cael gwared ar y contractau hyn. Yn anffodus, fel cynifer o’i addewidion, rhethreg pur oedd y cyfan.
I confine myself in this debate to some economic consequences—[Interruption.] I think you’ll have plenty of time after I’ve finished. Cyfyngaf fy hun yn y ddadl hon i rai canlyniadau economaidd—[Torri ar draws.] Rwy’n meddwl y cewch ddigon o amser ar ôl i mi orffen.
17:19 - Jeremy Miles
I have a short question on that. Mae gennyf gwestiwn byr ar hynny.
17:19 - David J. Rowlands
Yes, of course. Iawn, wrth gwrs.
17:19 - Jeremy Miles
On the subject of empty rhetoric, will he accept that people in the Chamber will find the premise of the debate and the motion brought forward by UKIP completely incredible, given that their leader in the Assembly here spent a whole political career in Parliament denouncing and calling for the deregulation of working conditions? I’m afraid that most of us will find what you’re saying completely incredible. Ar bwnc rhethreg wag, a wnaiff dderbyn y bydd pobl yn y Siambr yn ystyried sail y ddadl a’r cynnig a gyflwynwyd gan UKIP yn hollol anhygoel, o ystyried bod eu harweinydd yn y Cynulliad yma wedi treulio gyrfa wleidyddol gyfan yn y Senedd yn beirniadu ac yn galw am ddadreoleiddio amodau gwaith? Rwy’n ofni y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ystyried yr hyn yr ydych yn ei ddweud yn hollol anhygoel.
17:19 - David J. Rowlands
It is said that many jobless people are forced to take these zero-hours contracts. I confine myself in this debate to some economic consequences of mass immigration, but it brings in its wake perhaps even more dire abuses than those I seek to outline: people trafficking, sex exploitation, child abuse and even an unbelievable concept in Britain in the twenty-first century—slavery. Dywedir bod llawer o bobl ddi-waith yn cael eu gorfodi i gymryd contractau dim oriau. Cyfyngaf fy hun yn y ddadl hon i ychydig o ganlyniadau economaidd mewnfudo torfol, ond daw â chamdriniaethau hyd yn oed yn fwy enbyd na’r rhai rwy’n ceisio’u hamlinellu yn ei sgil: masnachu pobl, camfanteisio rhywiol, cam-drin plant a hyd yn oed cysyniad sy’n anhygoel ym Mhrydain yn yr unfed ganrif ar hugain—caethwasiaeth.
I have spoken before in this Chamber of the huge proliferation of car wash facilities since the onset of the free movement of people. I make no apology for highlighting these establishments yet again, because they are a prime example of that huge underbelly of exploitation for which mass, uncontrolled immigration is wholly responsible. How many in this Chamber would be content to work 10 hours a day, seven days a week for just £3 per hour? It is a disgrace that no local authority, most of whom in Wales are controlled by the Labour Party, has made any attempt to close these appalling establishments. Nor indeed has there been any pressure applied by the Welsh Government to get them to do so. My cynical side makes me wonder: is it because many in this Chamber are content to use their services? Here please note that I am not talking against migrant workers, but rather in their defence. I am not content to see people, whoever and from wherever they come, to be exploited in this way. Rwyf wedi siarad o’r blaen yn y Siambr hon am y doreth enfawr o gyfleusterau golchi ceir ers dyfodiad yr hawl i bobl symud yn rhydd. Nid wyf yn ymddiheuro am dynnu sylw at y sefydliadau hyn eto am eu bod yn enghraifft amlwg o’r nifer enfawr o achosion o gamfanteisio y mae mewnfudo torfol heb ei reoli yn gyfan gwbl gyfrifol am eu creu. Sawl un yn y Siambr hon a fyddai’n fodlon gweithio 10 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos am £3 yr awr? Mae’n warthus nad oes unrhyw awdurdod lleol, y rhan fwyaf ohonynt yng Nghymru yn cael eu rheoli gan y Blaid Lafur, wedi gwneud unrhyw ymdrech i gau’r sefydliadau ofnadwy hyn. Ac yn wir, nid yw Llywodraeth Cymru erioed wedi pwyso arnynt i wneud hynny. Mae fy ochr sinigaidd yn gwneud i mi feddwl tybed ai’r rheswm am hynny yw bod llawer yn y Siambr hon yn fodlon defnyddio’u gwasanaethau? Nodwch yma os gwelwch yn dda nad wyf yn siarad yn erbyn gweithwyr mudol, ond yn hytrach yn eu hamddiffyn. Nid wyf yn fodlon gweld pobl, pwy bynnag ydynt nac o ble bynnag y dônt, yn destun camfanteisio o’r math hwn.
I have no doubt that contributors to this debate will use the same spurious argument that I and my party blame immigrants for every conceivable problem in this country. By doing so, they seek to stifle sensible, informed debate on the subject. They have attempted to do this ever since we in the UK Independence Party had the temerity to bring the subject into the public domain, this despite the fact that we were reflecting the concerns of the people with regard to immigration, not leading it. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd cyfranwyr i’r ddadl hon yn defnyddio’r un ddadl ffug fy mod i a fy mhlaid yn beio mewnfudwyr am bob problem bosibl yn y wlad hon. Drwy wneud hynny, maent yn ceisio mygu trafodaeth synhwyrol a gwybodus ar y pwnc. Maent wedi ceisio gwneud hyn byth ers i ni ym Mhlaid Annibyniaeth y DU gael yr hyfdra i ddod â’r pwnc i sylw’r cyhoedd, a hynny er gwaethaf y ffaith mai adlewyrchu pryderon y bobl o ran mewnfudo a wnaem, yn hytrach na’u harwain.
We were reflecting concerns that were expressed to us time and again on the doorsteps throughout the south Wales Valleys, as well as in many working class areas across the length and breadth of the United Kingdom—concerns completely ignored by all the other parties. Indeed, they have done everything possible to suppress such debate. They continually use the racist card against anyone who shows concern, concern that is based purely on numbers, not on race, colour or religion. There are some in this Chamber who still seek to do so; a deliberate attempt to ignore the voice of those very people they claim to represent and who are most affected by the subject of immigration. Roeddem yn adlewyrchu pryderon a fynegwyd wrthym dro ar ôl tro ar garreg y drws drwy Gymoedd de Cymru, yn ogystal â mewn llawer o ardaloedd dosbarth gweithiol ar hyd a lled y Deyrnas Unedig—pryderon a anwybyddwyd yn llwyr gan yr holl bleidiau eraill. Yn wir, maent wedi gwneud popeth posibl i atal dadl o’r fath. Maent yn defnyddio’r cerdyn hiliol yn barhaus yn erbyn unrhyw un sy’n dangos pryder, pryder sy’n seiliedig yn unig ar niferoedd, nid ar hil, lliw na chrefydd. Ceir rhai yn y Siambr hon sy’n dal i geisio gwneud hynny; ymgais fwriadol i anwybyddu llais yr union bobl y maent yn honni eu bod yn eu cynrychioli ac yr effeithir arnynt fwyaf gan bwnc mewnfudo.
We have recently witnessed, quite rightly, the outrage with regard to Sports Direct and their almost exclusive use of zero-hours contracts, but other corporations are using these contracts in the same way, including that corporate giant, McDonald’s. Those who work under zero-hours contracts find it impossible to obtain a mortgage. The sporadic nature of their work gives no security of income, and therefore precludes them from the possibility of entering the homebuyers market. Some finance companies will advance loans under hire purchase agreements, due mainly to their ability to repossess items purchased in such a way, and unfortunately it very often results in such action being taken. Non-security of income leads to non-payment, through no fault of the borrower, simply the fact that they may go weeks or even months without a wage. Zero-hours contracts can therefore be seen to create a life of stress by impacting negatively on family budgets and undermining employment rights, and complicate the access to tax credits and other benefits. The zero-hours contracts take us back to the nineteenth century, when workers were forced to turn up at dockyard gates to be given, or not given, a single day’s work. They have no place in twenty-first century Britain. The UK Independence Party utterly condemns this cynical instrument of worker exploitation. Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn dyst, yn gwbl briodol, i’r dicter mewn perthynas â Sports Direct a’u defnydd bron yn ddieithriad o gontractau dim oriau, ond mae corfforaethau eraill yn defnyddio’r contractau hyn yn yr un ffordd, gan gynnwys y cawr corfforaethol, McDonalds. Mae’r rhai sy’n gweithio o dan gontractau dim oriau yn ei chael yn amhosibl cael morgais. Nid yw natur ysbeidiol eu gwaith yn rhoi unrhyw sicrwydd o incwm, ac felly mae’n eu hatal rhag y posibilrwydd o fynd i mewn i’r farchnad prynwyr. Bydd rhai cwmnïau cyllid yn rhoi benthyciadau o dan gytundebau hurbwrcasu, yn bennaf oherwydd eu gallu i adfeddiannu eitemau a brynwyd yn y fath fodd, ac yn anffodus mae’n arwain yn aml iawn at gamau o’r fath yn cael eu cymryd. Mae diffyg diogelwch incwm yn arwain at fethu talu, heb fod unrhyw fai ar y benthyciwr, yn syml oherwydd eu bod yn mynd wythnosau neu hyd yn oed fisoedd heb gyflog. Felly, gellir ystyried bod contractau dim oriau yn creu bywyd o straen drwy effeithio’n negyddol ar gyllidebau teuluoedd a thanseilio hawliau cyflogaeth, a chymhlethu’r mynediad at gredydau treth a budd-daliadau eraill. Mae’r contractau dim oriau yn mynd â ni yn ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd gweithwyr yn cael eu gorfodi i ddod at giatiau’r dociau i gael, neu i beidio â chael, gwaith am un diwrnod. Nid oes lle iddynt ym Mhrydain yr unfed ganrif ar hugain. Mae Plaid Annibyniaeth y DU yn condemnio’n llwyr yr offeryn sinigaidd hwn ar gyfer camfanteisio ar weithwyr.
17:24 - Y Llywydd / The Llywydd
Rwyf wedi dethol y saith gwelliant i’r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol. Rwy’n galw ar Bethan Jenkins i gynnig gwelliannau 1, 3, 4, 5 a 7, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Bethan Jenkins. I have selected the seven amendments to the motion, and if amendment 2 is agreed, amendment 4 will be deselected. I call on Bethan Jenkins to move amendments 1, 3, 4, 5 and 7, tabled in the name of Rhun ap Iorwerth. Bethan Jenkins.
Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth Amendment 1—Rhun ap Iorwerth
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Delete point 1 and replace with:
Yn credu y gall y potensial i waith ac enillion amrywio o ganlyniad i gontractau dim oriau fod yn ffynhonnell straen ac ansefydlogrwydd ariannol ac y gall telerau ac amodau cyflogaeth annheg gael effaith negyddol ar forâl a chynhyrchiant staff mewn modd sy'n arwain at wasanaeth o ansawdd gwaeth. Believes that the potential variability of work and earnings as a result of zero hour contracts can be a source of financial instability and stress and that unfair employment terms and conditions can have a negative impact on staff morale and productivity in a way that leads to a poorer quality service.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth Amendment 3—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny: Add as new point after point 3 and renumber accordingly:
Yn gresynu bod ymdrechion gan Blaid Cymru i wahardd contractau dim oriau mewn gwahanol sectorau ar bum achlysur gwahanol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad wedi cael eu trechu gan Lywodraeth Lafur Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig. Regrets that attempts by Plaid Cymru to ban zero hour’s contracts in various sectors on five different occasions during the fourth Assembly were voted down by the Labour Welsh Government and Welsh Conservatives.
Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth Amendment 4—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu is-bwynt newydd at bwynt 4: In point 4, add as new sub-point:
'arwain at wasanaeth o ansawdd gwaeth.' lead to a poorer quality service.’
Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth Amendment 5—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Add as new point at end of motion:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd y defnydd o gontractau dim oriau ym mhob gwasanaeth cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Calls upon the Welsh Government to ban the use of zero hours contracts in all devolved Welsh public services.
Gwelliant 7—Rhun ap Iorwerth Amendment 7—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Add as new point at end of motion:
Yn sicrhau bod y defnydd o gontractau dim oriau, gan gynnwys pennu hyn drwy unrhyw wasanaethau sy'n cael eu caffael, yn cael ei wahardd yn y Cynulliad. Ensures that the use of zero-hour contracts, including specifying this through any services that are procured, is prohibited in the Assembly.
Cynigiwyd gwelliannau 1, 3, 4, 5 a 7. Amendments 1, 3, 4, 5 and 7 moved.
17:24 - Bethan Jenkins
Llywydd, I’m pleased to be taking part in this debate, because in Plaid Cymru we have absolutely nothing to hide or be ashamed of when it comes to this important issue of supporting working people. We have consistently championed an end to exploitative and unstable zero-hours contracts, and we’ve used our votes in this Chamber to prove it. It’s ironic that UKIP has presented to this debate today. Despite UKIP’s recent efforts to adopt a left-wing face, the truth is often hidden below the surface. In fact, UKIP’s small business manifesto, published just a few short years ago in 2013, proposed, and I quote, that Lywydd, rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon, oherwydd ym Mhlaid Cymru nid oes gennym ddim o gwbl i’w guddio neu i fod â chywilydd ohono mewn perthynas â’r mater pwysig o gefnogi pobl sy’n gweithio. Rydym yn gyson wedi cefnogi’r alwad i roi diwedd ar gontractau dim oriau camfanteisiol ac ansefydlog, ac rydym wedi defnyddio ein pleidleisiau yn y Siambr hon i brofi hynny. Mae’n eironig bod UKIP wedi ei gyflwyno ar gyfer y ddadl hon heddiw. Er gwaethaf ymdrechion diweddar UKIP i fabwysiadu wyneb adain chwith, mae’r gwir yn aml wedi’i guddio o dan yr wyneb. Yn wir, roedd maniffesto busnesau bach UKIP, a gyhoeddwyd ychydig o flynyddoedd yn ôl yn 2013, yn cynnig, ac rwy’n dyfynnu,
‘UKIP would put an end to most legislation regarding matters such as weekly working hours, holidays…overtime, redundancy or sick pay etc. and provide a statutory, standard, very short employment contract template’. Byddai UKIP yn rhoi diwedd ar y rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â materion megis oriau gweithio wythnosol, gwyliau... goramser, tâl diswyddo neu salwch ac ati ac yn darparu templed contract cyflogaeth statudol, safonol, byr iawn.
That doesn’t, to me, show commitment to legislate in favour of these working people, something that you have said that you would want to do earlier on today. Nid yw hynny, i mi, yn dangos ymrwymiad i ddeddfu o blaid y gweithwyr hyn, rhywbeth yr ydych wedi dweud y byddech yn dymuno ei wneud yn gynharach heddiw.
We believe that the amendments put forward by my colleague Rhun ap Iorwerth would offer hope to the thousands in Wales who earn just half of what those on stable contracts earn. We offer those amendments on behalf of the women who make up over half of those who are on zero-hours contracts. Rydym yn credu y buasai’r gwelliannau a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth yn cynnig gobaith i’r miloedd yng Nghymru sy’n ennill hanner yn unig yr hyn y mae’r rhai ar gontractau sefydlog yn ei ennill. Rydym yn cynnig y gwelliannau hynny ar ran y menywod sy’n ffurfio dros hanner y nifer sydd ar gontractau dim oriau.
We do not accept Tory and Labour arguments regarding the necessity or the inevitability of zero-hours contracts, and we reject arguments that point to changes in working patterns as evidence, as if this is a natural process in a modern world; in most cases, it isn’t. In most cases, the so called flexibility of these contracts may be a dream for profit-driven, cost-cutting employers, but they can be a cause of great heartache and uncertainty for workers and their families. Nid ydym yn derbyn dadleuon y Torïaid a Llafur ynghylch yr angen am gontractau dim oriau neu eu natur anochel, ac rydym yn gwrthod dadleuon sy’n cyfeirio at newidiadau mewn patrymau gweithio fel tystiolaeth, fel pe bai hon yn broses naturiol mewn byd modern; yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw hynny’n wir. Yn y rhan fwyaf o achosion, efallai fod hyblygrwydd honedig y contractau hyn yn ddelfrydol i gyflogwyr sy’n cael eu gyrru gan elw a’r ysfa i dorri costau, ond gallant achosi gofid ac ansicrwydd mawr i weithwyr a’u teuluoedd.
It will be interesting to see which way the Labour Party votes today. On five different occasions in the last Assembly term, they voted in lockstep with the Conservatives against ending zero-hours contracts. Labour even voted with the Tories against a Plaid Cymru amendment to ban these damaging contracts in the care sector in Wales. Bydd yn ddiddorol gweld pa ffordd y bydd y Blaid Lafur yn pleidleisio heddiw. Ar bum achlysur gwahanol yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, fe wnaethant bleidleisio ochr yn ochr â’r Ceidwadwyr yn erbyn rhoi diwedd ar gontractau dim oriau. Fe wnaeth Llafur bleidleisio gyda’r Torïaid hyd yn oed yn erbyn gwelliant gan Blaid Cymru i wahardd y contractau niweidiol hyn yn y sector gofal yng Nghymru.
17:26 - Lynne Neagle
Thank you for giving way. I wonder whether you would concede that that is a very unfair accusation, because on those occasions, we voted because the inclusion of zero-hours contracts would have led to a Supreme Court challenge of very important legislation on things like the social services and well-being Act, and that we have always made clear our opposition to these kinds of employment arrangements. Diolch i chi am ildio. Tybed a fyddech yn cyfaddef bod hwnnw’n gyhuddiad annheg iawn, oherwydd ar yr achlysuron hynny, fe wnaethom bleidleisio am y byddai cynnwys contractau dim oriau wedi arwain at her yn y Goruchaf Lys i ddeddfwriaeth bwysig iawn ar bethau fel y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, a’n bod bob amser wedi gwneud ein gwrthwynebiad yn glir i’r mathau hyn o drefniadau cyflogaeth.
17:27 - Bethan Jenkins
I don’t, actually, because we obviously put forward the agricultural wages Bill and that was challenged in the Supreme Court, and I think if you’re going to be setting the agenda, politically and principally, we need to be doing that with the trade union Bill. I would concur that the Welsh Government is doing the right thing by taking that forward, and I would have thought that, on issues such as zero-hours contracts, the same could have been done and should be done, and I would hope that that would be reflected in how you operate in the next five years here in this Assembly. Na fyddwn, mewn gwirionedd, oherwydd yn amlwg fe gyflwynasom y Bil cyflogau amaethyddol a gafodd ei herio yn y Goruchaf Lys, ac rwy’n credu, os ydych yn mynd i fod yn gosod yr agenda, yn wleidyddol ac yn bennaf, mae angen i ni wneud hynny gyda Bil yr undebau llafur. Byddwn yn cytuno bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y peth iawn drwy gyflwyno hwnnw, a byddwn wedi meddwl, ar faterion megis contractau dim oriau, y gellid ac y dylid bod wedi gwneud yr un fath, a byddwn yn gobeithio y byddai hynny’n cael ei adlewyrchu yn y modd y byddwch yn gweithredu yn y pum mlynedd nesaf yma yn y Cynulliad hwn.
The dramatic rise in the number of zero-hours contracts in Wales lays bare the weakness of Labour’s record on protecting workers’ rights in Wales and is a strong indication that insecure and low-wage employment is becoming a bigger feature of the job market here in Wales. Mae’r cynnydd dramatig yn nifer y contractau dim oriau yng Nghymru yn amlygu gwendid record Llafur ar ddiogelu hawliau gweithwyr yng Nghymru, ac yn arwydd cryf fod cyflogaeth ansicr a chyflogau isel yn dod yn nodwedd fwy amlwg o’r farchnad swyddi yma yng Nghymru.
We believe that the success and well-being of working people across Wales needs to be absolute if we want to improve our economy. We do not believe in the race to the bottom and we do not accept that our workers should be forced to live with financial insecurity. We call it an outrage when hard-working people in Wales cannot make ends meet because they have no idea whether or not they will get paid from one week to the next. We want to see a Wales where work is rewarded properly and fairly, where a working week or month provides enough for somebody to live on and the stability and reassurance to be able to plan ahead financially. We must begin by making these commitments here as an Assembly, and I urge Members to support our amendments here today. Credwn fod angen i lwyddiant a lles gweithwyr ar draws Cymru fod yn absoliwt os ydym am wella ein heconomi. Nid ydym yn credu yn y ras i’r gwaelod ac nid ydym yn derbyn y dylai ein gweithwyr gael eu gorfodi i fyw gydag ansicrwydd ariannol. Ystyriwn ei bod yn warthus na all pobl weithgar yng Nghymru gael dau ben llinyn ynghyd am nad oes ganddynt unrhyw syniad a fyddant yn cael eu talu o un wythnos i’r llall. Rydym am weld Cymru lle y caiff gwaith ei wobrwyo’n briodol ac yn deg, lle y mae wythnos waith neu fis gwaith yn darparu digon i rywun i fyw arno a’r sefydlogrwydd a’r sicrwydd i allu cynllunio ymlaen llaw yn ariannol. Mae’n rhaid i ni ddechrau drwy wneud yr ymrwymiadau hyn yma fel Cynulliad, ac rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliannau yma heddiw.
17:28 - Y Llywydd / The Llywydd
Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Russell George. I call on Russell George to move amendment 2, tabled in the name of Paul Davies. Russell George.
Gwelliant 2—Paul Davies Amendment 2—Paul Davies
Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle: Delete points 2, 3 and 4 and replace with:
Yn nodi bod arferion cyflogaeth yn newid yn gyflym, gan gynnwys cynnydd mewn contractau dim oriau, hunangyflogaeth a gwaith 'gig' tymor byr. Notes that employment practices are rapidly changing, including an increase in zero hours contracts, self-employment and short-term ‘gig’ work.
Yn cydnabod y gwaith a wnaed gan Lywodraeth y DU i gael gwared ar achosion o gamddefnyddio contractau dim oriau, gan gynnwys gwahardd cymalau cyfyngu. Recognises the work carried out by the UK Government to clamp down on abuses in zero-hours contracts, including the banning of exclusivity clauses.
Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi comisiynu Adolygiad Taylor ar Arferion Cyflogaeth Modern a fydd yn ystyried goblygiadau mathau newydd o waith i hawliau a chyfrifoldebau gweithwyr. Welcomes the UK Government’s commissioning of the Taylor Review on Modern Employment Practices which will consider the implications of new forms of work on workers’ rights and responsibilities.
Cynigiwyd gwelliant 2. Amendment 2 moved.
17:28 - Russell George
Diolch, Presiding Officer. I formally move the Welsh Conservative amendments in the name of Paul Davies, the objective of which is to recognise the extensive work that has been carried out by the UK Government into zero-hours contracts, a reality which has not been, of course, reflected in the motion. Diolch, Lywydd. Rwy’n cynnig gwelliannau’r Ceidwadwyr Cymreig yn ffurfiol yn enw Paul Davies, a’u hamcan yw cydnabod y gwaith helaeth a wnaed gan Lywodraeth y DU ar gontractau dim oriau, realiti nad yw, wrth gwrs, wedi’i adlewyrchu yn y cynnig.
I’d like to make some points and put some of the issues into perspective in this debate today. One thing to be acknowledged is that employment practices have rapidly changed, of course, in recent years and less than 3 per cent of the total workforce are on zero-hours contracts. Since 2010, employment has increased by almost 3 million; that’s something that I think everyone can celebrate. The leader of the house in the last debate, of course, this afternoon, pointed and celebrated that fact out. Now, three quarters of this rise has been in full-time employment; the number of people working full time has risen by 2 million since 2010. Of course, while not suitable for everyone, I would contend that zero-hours contracts do have a part to play in a modern, flexible labour market, because for a small proportion of the workforce, that may be the kind of contract that is right for them, if they want to structure their work around childcare or education, for example. Hoffwn wneud rhai pwyntiau a rhoi rhai o’r materion mewn persbectif yn y ddadl hon heddiw. Un peth i’w gydnabod yw bod arferion cyflogaeth wedi newid yn gyflym, wrth gwrs, yn y blynyddoedd diwethaf ac mae llai na 3 y cant o gyfanswm y gweithlu ar gontractau dim oriau. Ers 2010, mae cyflogaeth wedi cynyddu bron i 3 miliwn; mae hynny’n rhywbeth y credaf y gall pawb ei ddathlu. Fe nododd ac fe ddathlodd arweinydd y tŷ y ffaith honno yn y ddadl ddiwethaf y prynhawn yma wrth gwrs. Nawr, mae tri chwarter y cynnydd hwn wedi bod mewn cyflogaeth amser llawn; cafwyd cynnydd o 2 filiwn ers 2010 yn nifer y bobl sy’n gweithio amser llawn. Wrth gwrs, er nad ydynt yn addas i bawb, byddwn yn dadlau bod rhan gan gontractau dim oriau i’w chwarae mewn marchnad lafur hyblyg fodern, oherwydd i gyfran fach o’r gweithlu, efallai mai dyna’r math o gontract sy’n iawn iddynt hwy, os ydynt am strwythuro eu gwaith o amgylch gofal plant neu addysg, er enghraifft.
Now, on average, people on these contracts— Nawr, ar gyfartaledd, mae’r bobl ar y contractau hyn—
17:30 - Rhianon Passmore
Will you take an intervention? A wnewch chi dderbyn ymyriad?
17:30 - Russell George
Yes, I will. Iawn, fe wnaf.
17:30 - Rhianon Passmore
Thank you. Would you agree, if you look at the data for those who are on zero-hours contracts, that many are taking two or three jobs and trying to operate on that basis, and a lot of them are not doing it out of choice—they’re doing it because it’s the only thing available to them? Diolch. Os edrychwch ar y data ar gyfer y rhai sydd ar gontractau dim oriau, a fyddech yn cytuno bod nifer yn gwneud dwy neu dair o swyddi ac yn ceisio gweithredu ar y sail honno, ac nid yw llawer ohonynt yn ei wneud o ddewis—maent yn ei wneud am mai dyna’r unig beth sydd ar gael iddynt?
17:30 - Russell George
I don’t think I would agree with that, because, on average, people on these contracts work an average of 25 hours a week. Nearly 70 per cent of those people don’t want more hours. So, that’s what I would say. Nid wyf yn credu y byddwn yn cytuno â hynny, oherwydd, ar gyfartaledd, mae pobl ar y contractau hyn yn gweithio cyfartaledd o 25 awr yr wythnos. Nid yw bron 70 y cant o’r bobl hyn eisiau mwy o oriau. Felly, dyna beth y byddwn i’n ei ddweud.
The Chartered Institute of Personnel and Development has said that these contracts can benefit, of course, both the employer and the employee. Now, that said, it is clearly important to make sure that those benefitting from the flexibility of these contracts are not exploited by unscrupulous employers. Of course I agree with that. I therefore welcome the fact that the UK Government has already taken action and is now reviewing whether employment rules have kept pace with changes to the economy, especially for those who do not have traditional employment relationships. In 2015 the UK Government legislated for change with regard to zero-hours contracts, and it’s now illegal, of course, for employers to include exclusivity clauses in these contracts. For me, I think that’s a welcome step that means that people have the freedom to look for and take other work opportunities and have more control over their working hours and income. Individuals on these contracts can also make a complaint to an employment tribunal if they want to as well, if the employer mistreats them in that regard, or for seeking work elsewhere. Mae’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu wedi dweud y gall y contractau hyn fod o fudd, wrth gwrs, i’r cyflogwr a’r gweithiwr. Nawr, wedi dweud hynny, mae’n amlwg yn bwysig sicrhau nad yw cyflogwyr diegwyddor yn camfanteisio ar y rhai sy’n elwa o hyblygrwydd y contractau hyn. Wrth gwrs fy mod yn cytuno â hynny. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith fod Llywodraeth y DU eisoes wedi rhoi camau ar waith ac yn awr yn adolygu a yw’r rheolau cyflogaeth yn gyson â newidiadau yn yr economi, yn enwedig ar gyfer y rhai nad oes ganddynt berthynas gyflogaeth draddodiadol. Yn 2015 deddfodd Llywodraeth y DU dros newid mewn perthynas â chontractau dim oriau, ac mae bellach yn anghyfreithlon, wrth gwrs, i gyflogwyr gynnwys cymalau cyfyngu yn y contractau hyn. I mi, rwy’n credu bod hwnnw’n gam i’w groesawu sy’n golygu bod pobl yn rhydd i chwilio am, a manteisio ar gyfleoedd gwaith arall a chael mwy o reolaeth dros eu horiau gwaith a’u hincwm. Hefyd, gall unigolion ar y contractau hyn wneud cwyn i dribiwnlys cyflogaeth os ydynt yn dymuno, os yw’r cyflogwr yn eu yn cam-drin yn y ffordd honno, neu am chwilio am waith yn rhywle arall.
Now, the independent Taylor review on modern employment practices under the leadership of the chief executive of the Royal Society of Arts and former senior Labour adviser, Matthew Taylor, is further considering zero-hours contracts and will assess whether our employment rules have kept pace with the changes in the economy, such as the growth in self-employment, on-demand working and the practice of contracting rather than hiring. So, I, of course, hope—I do hope—that it will make recommendations about how to maintain the employment flexibility, which is essential, I think, for a modern economy, whilst at the same time supporting job security, workplace rights and opportunities at the same time. I think that can be achieved. So, I believe that it’s right to look at how these contracts are used in practice, and if there is evidence of problems or abuse—address them. That would be my view, and that’s exactly what I think the Taylor review is doing, and I support that approach. Nawr, mae adolygiad annibynnol Taylor ar arferion cyflogaeth modern o dan arweiniad prif weithredwr Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau a’r cyn uwch-ymgynghorydd Llafur, Matthew Taylor, yn ystyried contractau dim oriau ymhellach a bydd yn asesu a yw ein rheolau cyflogaeth yn gyson â’r newidiadau yn yr economi, megis twf mewn hunangyflogaeth, gweithio ar alwad a’r arfer o gontractio yn hytrach na llogi. Felly, wrth gwrs, rwy’n gobeithio—rwy’n gobeithio—y bydd yn gwneud argymhellion ynglŷn â sut i gynnal yr hyblygrwydd cyflogaeth, sy’n hanfodol yn fy marn i ar gyfer economi fodern, ac ar yr un pryd yn cefnogi sicrwydd swydd, hawliau yn y gweithle a chyfleoedd. Rwy’n meddwl y gellir cyflawni hynny. Felly, rwy’n credu ei bod yn iawn i edrych ar sut y caiff y cytundebau hyn eu defnyddio’n ymarferol, a mynd i’r afael ag unrhyw dystiolaeth o broblemau neu gamdriniaeth. Dyna fyddai fy marn i, a dyna’n union y credaf y mae adolygiad Taylor yn ei wneud, ac rwy’n cefnogi’r ymagwedd honno.
17:33 - Mike Hedges
I very much welcome the opportunity to take part in a debate on working conditions and wages. The reason the Labour Party exists and was formed in the beginning was to defend workers against exploitation. Rwy’n croesawu’n fawr y cyfle i gymryd rhan mewn dadl ar amodau gwaith a chyflogau. Y rheswm dros fodolaeth y Blaid Lafur a pham y cafodd ei ffurfio yn y dechrau oedd i amddiffyn gweithwyr rhag camfanteisio.
Times in terms of employment have changed, and for most workers, not for the better, over the last 40 years. In the 1970s, the expectation was for full-time, either waged or salaried employment in a job, if not for life, then until you wished to move on. Most large employers were fully unionised, with overtime rates at time-and-a-half and double time for Sundays, and if you had to work regular shifts, there was a shift supplement, generally in the order of 30 per cent of basic salary. It will probably come as a surprise to an awful lot of people working today that such conditions existed, certainly within the lifetime of many of them. O ran cyflogaeth, mae pethau wedi newid, ac nid er gwell, i’r rhan fwyaf o weithwyr dros y 40 mlynedd ddiwethaf. Yn y 1970au, y disgwyl oedd cyflogaeth amser llawn, naill ai am dâl neu gyflog mewn swydd, os nad am oes, yna hyd nes y byddech yn dymuno symud ymlaen. Roedd y rhan fwyaf o gyflogwyr mawr yn gwbl undebol, gyda chyfraddau goramser ar amser a hanner a thâl dwbl ar gyfer dydd Sul, ac os oedd yn rhaid i chi weithio sifftiau rheolaidd, roedd yna dâl sifft atodol, a oedd oddeutu 30 y cant o’r cyflog sylfaenol yn gyffredinol. Mae’n debyg y bydd yn syndod i lawer iawn o bobl sy’n gweithio heddiw fod amodau o’r fath yn bodoli, yn sicr o fewn oes llawer ohonynt.
The Conservative Government, as well as destroying whole industries, also set about casualising the labour market. It was described as having a flexible workforce, but what it meant was poorer terms and conditions for the workforce. This, alongside the vicious attack on collective bargaining and the trade unions, has led to the employment conditions of today. Today, the world of work is very different to that of the 1970s, with the growth of not only zero-hours contracts or low guaranteed-hours contracts, but a large number of agency workers and self-employed subcontractors. Yn ogystal â dinistrio diwydiannau cyfan, aeth y Llywodraeth Geidwadol ati i wneud y farchnad lafur yn fwy ysbeidiol. Fe’i disgrifiwyd fel gweithlu hyblyg, ond yr hyn a olygai oedd telerau ac amodau gwaeth ar gyfer y gweithlu. Hyn, ochr yn ochr â’r ymosodiad milain ar gydfargeinio a’r undebau llafur, sydd wedi arwain at yr amodau cyflogaeth sy’n bodoli heddiw. Heddiw, mae’r byd gwaith yn wahanol iawn i un y 1970au, gyda thwf contractau dim oriau neu gontractau oriau isel gwarantedig, yn ogystal â nifer fawr o weithwyr asiantaeth ac isgontractwyr hunangyflogedig.
There are areas of the economy where each of those suits both employers and employees: for zero-hours contracts, things such as irregular sports events, such as people working behind the bar in the Liberty Stadium once a fortnight. Now, that’s obviously going to be irregular because they only play there once a fortnight. It would be unreasonable for anybody to expect that to be a full-time job—people to turn up for 35 hours, or even every Saturday, when there are only matches once a fortnight. But they are used far more than in places like that. Zero-hours contracts do work for that. And agency workers do fill a skill gap. In fact, agency workers used to be highly paid people in areas like engineering and computing, who went in and were paid substantial sums of money. Unfortunately, that’s changed. And self-employed subcontractors for short-term needs, and low guaranteed hours to fit in with caring responsibilities. Unfortunately, those are not the only reasons that the above contract types are used. Ceir rhannau o’r economi lle y mae pob un o’r rheini’n addas i gyflogwyr a gweithwyr: ar gyfer contractau dim oriau, pethau fel digwyddiadau chwaraeon afreolaidd, fel y bobl sy’n gweithio y tu ôl i’r bar yn Stadiwm Liberty unwaith bob pythefnos. Nawr, mae hynny’n amlwg yn mynd i fod yn afreolaidd am nad ydynt ond yn chwarae yno unwaith bob pythefnos. Byddai’n afresymol i unrhyw un ddisgwyl i honno fod yn swydd amser llawn—i bobl ddod yno am 35 awr, neu hyd yn oed bob dydd Sadwrn, pan nad oes gêm ond unwaith bob pythefnos. Ond cânt eu defnyddio’n llawer ehangach nag mewn llefydd fel hynny. Mae contractau dim oriau yn gweithio ar gyfer pethau felly. Ac mae gweithwyr asiantaeth yn llenwi bwlch sgiliau. Yn wir, arferai gweithwyr asiantaeth fod yn bobl y telid llawer o arian iddynt mewn meysydd fel peirianneg a chyfrifiadureg, telid symiau sylweddol o arian iddynt am wneud y gwaith. Yn anffodus, mae hynny wedi newid. Ac isgontractwyr hunangyflogedig ar gyfer anghenion tymor byr, ac oriau isel gwarantedig i gyd-fynd â chyfrifoldebau gofalu. Yn anffodus, nid dyna’r unig reswm y caiff y mathau uchod o gontractau eu defnyddio.
Zero-hours contracts, which offer no guaranteed minimum hours of work, can require a worker to be available for work at all times and give the employer total control over the amount of work each worker gets each week. This is a twenty-first century version of the dockers having to queue up to be called for work, except you don’t have to queue anymore, you have to wait for a text message instead. But it is effectively the same process of waiting for a call to work by your employer. Low guaranteed hours, which is very common in areas such as retail, of one hour a day over a five or six days, are very similar to zero-hours contracts, but everyone has to clock in, at 8 o’clock or 9 o’clock, so that the employer can decide how long they will be needed to work. This, in many respects, does cause even more problems that zero-hours contracts, because people don’t know how much money they’re going to earn each week, and that’s really causing huge problems—that’s part of the call on food banks, part of the call on everything. People one week will work 40 hours, the next week they’ll work their minimum six. You can’t live like that. It’s easy for people sat in here, who get their salary paid in every month, to not understand just how bad it is for those people who are living lives like this. Some days they’ll go in and work one hour, from eight to nine in the morning, and another day they’ll work eight until nine, but that will be nine at night. The cost of variable workloads, instead of being shared between the employer and the employee, is shared solely by the employee. Agency workers and self-employed subcontractors have the equivalent of zero-hours contracts, but without even minimum employment support. The above explains why the majority of people in poverty in Wales are also in work. Gall contractau dim oriau, nad ydynt yn cynnig unrhyw leiafswm oriau gwarantedig o waith, ei gwneud yn ofynnol i weithiwr fod ar gael i weithio ar bob adeg a rhoi rheolaeth lwyr i gyflogwr dros faint o waith y bydd pob gweithiwr yn ei gael bob wythnos. Dyma fersiwn yr unfed ganrif ar hugain o’r docwyr yn gorfod ciwio i gael eu galw ar gyfer gwaith, ond nad oes rhaid i chi giwio mwyach, rhaid i chi aros am neges destun yn lle hynny. Ond dyma’r un broses, i bob pwrpas, o aros am alwad i weithio gan eich cyflogwr. Mae oriau isel gwarantedig, sy’n gyffredin iawn mewn meysydd fel manwerthu, o un awr y dydd dros gyfnod o bump neu chwe diwrnod, yn debyg iawn i gontractau dim oriau, ond mae’n rhaid i bawb glocio i mewn, am 8 o’r gloch neu 9 o’r gloch, fel y gall y cyflogwr benderfynu pa mor hir y bydd angen iddynt weithio. Mae hyn, mewn sawl ffordd, yn achosi mwy o broblemau na chontractau dim oriau hyd yn oed, am nad yw pobl yn gwybod faint o arian y maent yn mynd i’w ennill bob wythnos, ac mae hynny’n achosi problemau enfawr—mae’n rhan o’r galw am fanciau bwyd, rhan o’r galw am bopeth. Un wythnos bydd pobl yn gweithio 40 awr, yr wythnos nesaf, byddant yn gweithio eu lleiafswm o chwech. Ni allwch fyw fel hynny. Mae’n hawdd i’r bobl sy’n eistedd yma, sy’n cael eu cyflog wedi’i dalu bob mis, fethu deall yn union pa mor ddrwg yw hi ar y bobl hynny sy’n byw bywydau fel hyn. Ar rai dyddiau byddant yn mynd i mewn ac yn gweithio un awr, o wyth i naw yn y bore, ac ar ddiwrnod arall byddant yn gweithio wyth tan naw, ond naw yn y nos fydd hynny. Ac yn lle rhannu’r gost o lwyth gwaith amrywiol rhwng y cyflogwr a’r gweithiwr, caiff ei hysgwyddo’n llwyr gan y gweithiwr. Mae gan weithwyr asiantaeth ac isgontractwyr hunangyflogedig yr hyn sy’n cyfateb i gontractau dim oriau, ond heb isafswm cymorth cyflogaeth hyd yn oed. Mae’r uchod yn esbonio pam y mae’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru hefyd yn gweithio.
Can I just say, from 1 April 2016, the Conservative Government at Westminster renamed the minimum wage ‘the living wage’, and introduced a mandatory national living for workers aged 25 and over? I think it was basically done to confuse. Renaming the minimum wage as ‘the living wage’ when we already had a living wage. I’m very proud to wear the living wage badge in here today—the real living wage badge—and I just cannot understand why anybody would support people being paid less than it costs for them to live. I believe everyone should be paid a living wage, as defined by the Living Wage Foundation. I don’t believe it makes sense that the Government enforces a minimum wage that it itself knows is not enough for people to live on— Os caf fi ddweud, o 1 Ebrill 2016, fe ailenwodd y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yr isafswm cyflog yn ‘gyflog byw’, a chyflwyno cyflog byw cenedlaethol gorfodol ar gyfer gweithwyr 25 oed a hŷn. Rwy’n credu ei fod wedi cael ei wneud er mwyn peri dryswch yn y bôn. Ailenwi’r isafswm cyflog yn ‘gyflog byw’ pan oedd gennym gyflog byw eisoes. Rwy’n falch iawn o wisgo’r bathodyn cyflog byw yma heddiw—bathodyn y cyflog byw go iawn—ac ni allaf ddeall pam y byddai unrhyw un yn cefnogi talu llai i bobl nag y mae’n costio iddynt fyw. Rwy’n credu y dylid talu cyflog byw i bawb, fel y’i diffinnir gan y Sefydliad Cyflog Byw. Nid wyf yn credu ei bod yn synhwyrol i Lywodraeth orfodi isafswm cyflog y mae hi ei hun yn gwybod nad yw’n ddigon i bobl fyw arno—
17:38 - Darren Millar
Will you take an intervention? A wnewch chi dderbyn ymyriad?
17:38 - Mike Hedges
I’ve only got 17 seconds, I’m afraid, Darren. Our ambition for Wales must be to create a high-wage, high-skilled economy, and become a living wage country. That’s what we have to do. ‘We cannot afford it’ and ‘It will cost jobs’ have been the arguments against every progressive change from the abolition of slavery to the minimum wage. Nid oes gennyf ond 17 eiliad, yn anffodus, Darren. Dylem gael uchelgais i greu Cymru ag economi sgiliau uwch a chyflogau uchel, a dylai ddod yn wlad cyflog byw. Dyna sydd yn rhaid i ni ei wneud. Mae ‘Ni allwn ei fforddio’ a ‘Bydd yn arwain at golli swyddi’ wedi bod yn ddadleuon yn erbyn pob newid blaengar o ddiddymu caethwasiaeth i’r isafswm cyflog.
17:38 - Y Llywydd / The Llywydd
I forgot to call an amendment, so better late than never, I call on the Minister for Skills and Science to propose formally the amendment 6 in the name of Jane Hutt. Anghofiais alw gwelliant, felly gwell hwyr na hwyrach, galwaf ar y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i gynnig gwelliant 6 yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.
Gwelliant 6—Jane Hutt Amendment 6—Jane Hutt
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Add as new points at end of motion:
Yn cydnabod y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymdrin â'r defnydd o gontractau dim oriau mewn gofal cymdeithasol. Recognises the action the Welsh Government is taking to address the use of zero hours contracts in social care.
Yn croesawu gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn y maes hwn, a arweiniodd at gyhoeddi egwyddorion a chanllawiau Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus ar ddefnyddio trefniadau oriau gwaith heb eu gwarantu yn briodol yng ngwasanaethau cyhoeddus datganoledig Cymru. Welcomes the work of the Workforce Partnership Council in this area, which led to the publication of the Public Services Staff Commission’s principles and guidance on the appropriate use of non-guaranteed working hours arrangements in devolved public services in Wales.
Cynigiwyd gwelliant 6. Amendment 6 moved.
17:38 - Julie James
Formally. Yn ffurfiol.
17:38 - Y Llywydd / The Llywydd
Thank you. Caroline Jones. Diolch. Caroline Jones.
17:38 - Caroline Jones
Diolch, Lywydd. Speaking as an Assembly Commissioner, I would like to make clear that there are no Commission staff on zero-hours contracts—that is a long-standing policy. The same applies to the staff directly employed by our contractors such as CBRE, Charlton House and TSS. In addition, the Commission specifies that employees must be paid at least the living wage, as recommended by the Living Wage Foundation, in our cleaning and catering contracts and equality clauses in our contract terms and conditions. In exceptional circumstances, our contractors might use third-party staff on zero-hours contracts. However, this is very much the exception rather than the rule. Diolch, Lywydd. Gan siarad fel Comisiynydd Cynulliad, hoffwn ei gwneud yn glir nad oes unrhyw un o staff y Comisiwn ar gontract dim oriau—mae hwnnw’n bolisi hirsefydlog. Mae’r un peth yn berthnasol i’r staff a gyflogir yn uniongyrchol gan ein contractwyr megis CBRE, Charlton House a TSS. Yn ogystal, mae’r Comisiwn yn nodi bod yn rhaid talu o leiaf y cyflog byw i weithwyr, fel yr argymhellwyd gan y Sefydliad Cyflog Byw, yn ein contractau glanhau ac arlwyo a chymalau cydraddoldeb yn ein telerau ac amodau contract. Mewn amgylchiadau eithriadol, gallai ein contractwyr ddefnyddio staff trydydd parti ar gontractau dim oriau. Fodd bynnag, eithriad yn hytrach na’r rheol yw hyn i raddau helaeth iawn.
As Commissioners, we all believe that we should be promoting and maintaining consistently high standards in our employment practices, both as an employer of our own staff and in entering into contracts. At a recent Commission meeting, Commissioners asked officials to look again at our approach to seeking assurance about supplier arrangements for employee terms and conditions, including via our subcontractors. As a result, we are introducing an extra clause to our terms and conditions, stipulating that we will work with contractors to monitor and ensure fair employment practices. Beyond this, Commission staff will be considering, on a contract-by-contract basis, what additional specific clauses to introduce to help protect and promote fair employment practices. Diolch yn fawr. Fel Comisiynwyr, rydym i gyd yn credu y dylem fod yn hyrwyddo ac yn cynnal safonau uchel cyson yn ein harferion cyflogaeth, fel cyflogwr ein staff ein hunain ac wrth ymrwymo i gontractau. Mewn cyfarfod diweddar o’r Comisiwn, gofynnodd y Comisiynwyr i swyddogion edrych eto ar ein dull o geisio sicrwydd ynglŷn â threfniadau cyflenwyr o ran telerau ac amodau gweithwyr, gan gynnwys drwy ein hisgontractwyr. O ganlyniad, rydym yn cyflwyno cymal ychwanegol i’n telerau ac amodau, yn nodi y byddwn yn gweithio gyda chontractwyr i fonitro a sicrhau arferion cyflogaeth teg. Y tu hwnt i hyn, bydd staff y Comisiwn yn ystyried, ar sail contractau unigol, pa gymalau penodol ychwanegol i’w cyflwyno i helpu i ddiogelu a hyrwyddo arferion cyflogaeth teg. Diolch yn fawr.
17:40 - Jenny Rathbone
Last week I visited my local Royal Mail sorting office, and all the talk was about the way in which private companies are eating into the profitable parts of their business, while they continue to have an obligation to deliver the universal postal service. These predators have no obligation to meet the pay and conditions that Royal Mail workers have fought for over the years, and they are, unfortunately, exploiting the large numbers of desperate young unemployed people, offering employment packages far inferior to the Royal Mail counterparts. They are paid by the number of packages they get rid of, regardless of whether there’s anyone in or there’s a safe place to store the parcel. An undercover TNT deliverer explained that, Yr wythnos diwethaf ymwelais â fy swyddfa ddidoli’r Post Brenhinol yn lleol, ac roedd yr holl siarad am y ffordd y mae cwmnïau preifat yn bwyta i mewn i’r rhannau proffidiol o’u busnes, tra’u bod yn parhau i fod dan rwymedigaeth i ddarparu’r gwasanaeth post cyffredinol. Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar yr ysglyfaethwyr hyn i gydymffurfio â’r tâl a’r amodau y mae gweithwyr y Post Brenhinol wedi brwydro drostynt dros y blynyddoedd, ac yn anffodus, maent yn camfanteisio ar nifer fawr o bobl ifanc ddi-waith a thlawd drwy gynnig pecynnau cyflogaeth sy’n llawer mwy israddol na’r hyn a gynigir yn gyfatebol gan y Post Brenhinol. Cânt eu talu yn ôl nifer y pecynnau y cânt wared arnynt, ni waeth a oes unrhyw un adref, neu le diogel i adael y parsel. Esboniodd darparwr a fu’n gweithio dan gudd i TNT,
‘Denied any fixed hours of employment, I was forced to hustle for my next day's work on an almost daily basis. Sometimes I took a gamble to come in as a “relief worker”, arriving at the depot at 7.30am in the hope that someone would have dropped out so I could cover their rounds.’ Gwrthodwyd unrhyw oriau gwaith sefydlog i mi, a chefais fy ngorfodi i hwrjo am waith y diwrnod wedyn ar sail ddyddiol bron. Weithiau mentrais ddod i mewn fel "gweithiwr cyflenwi", gan gyrraedd y depo am 7.30 y bore yn y gobaith y byddai rhywun wedi rhoi’r gorau iddi er mwyn i mi gael eu rowndiau.
Of course, if they didn’t get the work, they’d still be having to pay for their transport to get to the employment. Wrth gwrs, hyd yn oed os nad oeddent yn cael y gwaith, byddai’n rhaid iddynt dalu am drafnidiaeth i gyrraedd y gwaith.
This is entirely reminiscent of the insecurity of dockworkers in the first half of the twentieth century, forced to compete with each other every day for the chance of work, with all the damaging impact this had on their family income and family life. Companies like Amazon are exploiting the universal delivery obligation to dump on the Royal Mail the least attractive delivery rounds, while, at the same time, cherry-picking the easiest, most concentrated delivery rounds, using the Royal Mail’s very own performance monitoring of the speed with which Amazon parcels have been delivered to identify the places where they can make an easy killing. You can be certain that all the Amazon delivery drivers will be on zero-hours contracts. Mae hyn yn atgoffa rhywun yn glir o ansicrwydd gweithwyr y dociau yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, gweithwyr a gâi eu gorfodi i gystadlu â’i gilydd bob dydd am y cyfle i gael gwaith, gyda’r holl effaith niweidiol a gâi hynny ar eu hincwm teuluol a’u bywyd teuluol. Mae cwmnïau fel Amazon yn camfanteisio ar y rhwymedigaeth gyffredinol i ddosbarthu er mwyn dadlwytho’r rowndiau dosbarthu lleiaf deniadol ar y Post Brenhinol, gan ddewis a dethol ar yr un pryd y rowndiau dosbarthu hawsaf a mwyaf crynodedig, a chan ddefnyddio proses fonitro perfformiad y Post Brenhinol ei hun i fonitro pa mor gyflym y dosbarthwyd parseli Amazon er mwyn nodi’r mannau lle y gallant elwa fwyaf. Gallwch fod yn sicr y bydd holl yrwyr dosbarthu Amazon ar gontractau dim oriau.
This, frankly, is an unsustainable business model for Royal Mail, and we should all worry that it will, eventually, lead to the undermining of the universal postal service obligation, which, as you may recall, ends in 2022. If we continue to have a society that only knows about the price of everything and the value of nothing, that is undoubtedly what will happen. A bod yn onest, mae hwn yn fodel busnes anghynaliadwy i’r Post Brenhinol, a dylem i gyd boeni y bydd, yn y pen draw, yn arwain at danseilio rhwymedigaeth gyffredinol y gwasanaeth post sydd, os cofiwch, yn dod i ben yn 2022. Os yw cymdeithas yn mynd i barhau i wybod pris popeth a gwerth dim byd, dyna sy’n mynd i ddigwydd, yn ddi-os.
According to the Office for National Statistics, real wages have undergone the most prolonged fall in 70 years under this regime. Over 400,000 people over 25 years old have been on zero-hours contracts, according to them, with the same employer for more than 12 months. This level of insecurity, given the consistency with which they’ve been turning up at work, is completely unacceptable, in my view. The Resolution Foundation highlights that 93p per hour is the penalty for zero-hours workers doing the same work as those on permanent contracts. So, I would like to suggest that we have to remind ourselves that workers in the UK currently depend on EU legislation for many of their rights and protections at work. And although the UK Government has promised that such rights will be transferred into British law, we have to remind ourselves that the Conservatives opposed many of these hard-won rights and protections when they were first introduced and dismissed them as red tape. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gwelwyd y cwymp mwyaf estynedig ers 70 mlynedd mewn cyflogau real o dan y drefn hon. Yn ôl yr hyn a ddywedant, mae dros 400,000 o bobl dros 25 oed wedi bod ar gontractau dim oriau gyda’r un cyflogwr ers dros 12 mis. O ystyried pa mor gyson y maent wedi bod yn dod i’r gwaith, mae’r lefel hon o ansicrwydd yn gwbl annerbyniol yn fy marn i. Mae Sefydliad Resolution yn nodi mai 93c yr awr yw’r gosb i weithwyr dim oriau sy’n gwneud yr un gwaith â’r rhai ar gontractau parhaol. Felly, hoffwn awgrymu bod yn rhaid i ni atgoffa ein hunain fod gweithwyr yn y DU ar hyn o bryd yn dibynnu ar ddeddfwriaeth yr UE am lawer o hawliau a mesurau diogelu yn y gwaith. Ac er bod Llywodraeth y DU wedi addo y bydd hawliau o’r fath yn cael eu trosglwyddo i gyfraith Prydain, mae’n rhaid i ni atgoffa ein hunain fod y Ceidwadwyr wedi gwrthwynebu llawer o’r hawliau a’r mesurau diogelu hyn yr ymdrechwyd mor galed i’w hennill pan gawsant eu cyflwyno gyntaf ac wedi eu diystyru fel biwrocratiaeth.
Now, UKIP, who have proposed this motion, as Jeremy Miles has pointed out, have said, in the past, that they would put an end to most legislation regarding matters such as weekly working hours, holidays and holiday overtime, redundancy or sick pay, and provide a statutory standard, very short-term employment contract template. That was in your small business manifesto in 2013, so I’d be very keen, in your summing up, to find out what is the extent of your Damascene conversion and—[Interruption.] Well, that was in—. Well, that’s—. Nawr, mae UKIP, sydd wedi cynnig y cynnig hwn, fel y nododd Jeremy Miles, wedi dweud yn y gorffennol y byddent yn rhoi diwedd ar y rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â materion fel oriau gwaith wythnosol, gwyliau a gwyliau goramser, tâl diswyddo neu salwch, ac yn darparu templed contract cyflogaeth statudol, safonol, tymor byr iawn. Dyna oedd yn eich maniffesto busnesau bach yn 2013, felly rwy’n awyddus iawn, wrth i chi grynhoi, i gael gwybod beth yw graddau eich tröedigaeth Ddamascaidd a—[Torri ar draws.] Wel, dyna ydoedd mewn—. Wel, dyna—.
So, in response to Bethan Jenkins, I do not agree that it is only Plaid Cymru that proposed zero-hours contracts. I would remind you that, in the 2015 election, Labour promised employees a legal right to a regular contract after 12 weeks’ work. In August last year, Jeremy Corbyn had pledged to introduce the New Zealand-style laws that force employers to give workers guaranteed hours in a written contract. New Zealand shows what can be done, and the law forces employers to guarantee a minimum number of hours’ work each week, and workers can refuse extra hours without repercussions. That, of course, is not the state of zero-hours workers in this country. Cardiff Central, unfortunately, has the highest proportion of zero-hours workers anywhere in Wales. If people even contest the type of hours they’re doing, they are then turned down a shift or threatened with having hours taken away. This level of vulnerability and insecurity is causing major mental health problems, as well as genuine hardship, as people are simply unable to know whether or not their wages are going to be reliable, and whether they’re going to be able to pay the wages the following week. So, I think zero-hours contracts need to be abolished. Felly, mewn ymateb i Bethan Jenkins, nid wyf yn cytuno mai Plaid Cymru yn unig a gynigiodd gontractau dim oriau. Hoffwn eich atgoffa, yn etholiad 2015, fod y Blaid Lafur wedi addo hawl gyfreithiol i weithwyr i gontract rheolaidd ar ôl 12 wythnos o waith. Ym mis Awst y llynedd, addawodd Jeremy Corbyn gyflwyno deddfau tebyg i’r hyn sydd gan Seland Newydd yn gorfodi cyflogwyr i roi oriau gwarantedig mewn contract ysgrifenedig i weithwyr. Mae Seland Newydd yn dangos yr hyn y gellir ei wneud, ac mae’r gyfraith yn gorfodi cyflogwyr i warantu isafswm o oriau o waith bob wythnos, a gall gweithwyr wrthod oriau ychwanegol heb ôl-effeithiau. Nid dyna’r sefyllfa i weithwyr dim oriau yn y wlad hon wrth gwrs. Yn anffodus, Canol Caerdydd sydd â’r gyfran uchaf o weithwyr dim oriau yn unrhyw le yng Nghymru. Os yw pobl hyd yn oed yn cwestiynu’r math o oriau y maent yn eu gweithio, gwrthodir sifftiau iddynt neu fygwth torri eu horiau. Mae’r lefel hon o hyglwyfedd ac ansicrwydd yn achosi problemau iechyd meddwl mawr, yn ogystal â chaledi gwirioneddol, gan nad oes modd i bobl wybod a yw eu cyflogau’n mynd i fod yn ddibynadwy, ac a ydynt yn mynd i allu talu’r cyflogau yr wythnos ganlynol. Felly, rwy’n meddwl bod angen diddymu contractau dim oriau.
17:46 - Gareth Bennett
The issue of zero-hours contracts is a major one for many people in the job market in Wales; so, I welcome the debate brought forward today by my colleague David Rowlands. UKIP’s UK-wide policy, as outlined in the 2015 general election manifesto, is to end the abuse of zero-hours contracts. We do not call today for an outright ban as we recognise that some workers may benefit from them, but for the majority of workers these contracts do constitute a sort of insecurity and anxiety. So, we do need to examine if there is any way of tackling this issue through the Assembly. Mae mater contractau dim oriau yn un mawr i lawer o bobl yn y farchnad swyddi yng Nghymru; felly, rwy’n croesawu’r ddadl a gyflwynwyd heddiw gan fy nghyd-Aelod David Rowlands. Polisi UKIP ledled y DU, fel yr amlinellwyd ym maniffesto etholiad cyffredinol 2015, yw rhoi terfyn ar gamddefnyddio contractau dim oriau. Nid ydym yn galw heddiw am waharddiad llwyr gan ein bod yn cydnabod y gall rhai gweithwyr gael budd ohonynt, ond i’r rhan fwyaf o weithwyr mae’r contractau hyn yn creu rhyw fath o ansicrwydd a phryder. Felly, mae angen i ni archwilio a oes unrhyw ffordd o fynd i’r afael â’r mater hwn drwy’r Cynulliad.
A pertinent question in this regard is one of legal competence. Does any area of employment law rightly fall within the competence of the Assembly? Opinions do seem to vary on this point, but with the Welsh Government attempting to pilot the Trade Union (Wales) Bill through the Assembly currently, we will proceed today on the basis of the assurances that finance Minister Mark Drakeford has given: that the Assembly does have competence over public sector employment; although, in reality, that case may not be proven. So, if it is the case that the Assembly has competence in this field, then there is scope for legislation in this place on zero-hours contracts. We then have to establish the following: one, is there widespread abuse of zero-hours contracts by employers? Two, does this abuse take place in Wales and in the public sector? And three, what should we do to address this problem if it exists? Mae un cwestiwn perthnasol yn y cyswllt hwn yn ymwneud â chymhwysedd cyfreithiol. A oes unrhyw ran o gyfraith cyflogaeth yn dod yn briodol o fewn cymhwysedd y Cynulliad? Mae’r farn i’w gweld yn amrywio ar y pwynt hwn, ond gyda Llywodraeth Cymru yn ceisio treialu Bil yr Undebau Llafur (Cymru) drwy’r Cynulliad ar hyn o bryd, byddwn yn bwrw ymlaen heddiw ar sail y sicrwydd y mae’r Gweinidog cyllid, Mark Drakeford, wedi’i roi: fod gan y Cynulliad gymhwysedd dros gyflogaeth yn y sector cyhoeddus; er, mewn gwirionedd, efallai nad yw’r achos hwnnw wedi’i brofi. Felly, os yw’n wir fod gan y Cynulliad gymhwysedd yn y maes hwn, yna mae lle i ddeddfwriaeth yn y lle hwn ar gontractau dim oriau. Yna, rhaid i ni sefydlu’r canlynol: un, a oes camddefnydd eang o gontractau dim oriau gan gyflogwyr? Dau, a yw’r camddefnydd hwn yn digwydd yng Nghymru ac yn y sector cyhoeddus? A thri, beth y dylem ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem hon os yw’n bodoli?
There was a survey carried out in 2013 by the Chartered Institute of Personnel and Development—CIPD—which quizzed the employers regarding their use of zero-hours contracts. One in five respondents reported that they used zero-hours contracts—or ZHCs—to avoid costs to their own company, rather than to benefit the employee. There was also evidence that, once employment rights were strengthened for agency workers, employers began limiting their use of agency contracts in favour of greater use of ZHCs. Roedd arolwg a gynhaliwyd yn 2013 gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu yn holi cyflogwyr ynglŷn â’u defnydd o gontractau dim oriau. Dywedodd un o bob pump o’r ymatebwyr eu bod yn defnyddio contractau dim oriau er mwyn osgoi costau i’w cwmni eu hunain, yn hytrach nag er budd y gweithiwr. Roedd tystiolaeth hefyd, pan gafodd hawliau cyflogaeth eu cryfhau i weithwyr asiantaeth, fod cyflogwyr wedi dechrau cyfyngu ar eu defnydd o gontractau asiantaeth o blaid mwy o ddefnydd o gontractau dim oriau.
There is also evidence that this was happening in the public sector. In 2015, the Welsh Government brought out a research paper investigating the use of ZHCs in the public sector in Wales. It found that 56 per cent of public sector organisations were using ZHCs, although we were assured that the Welsh Government itself did not do so. Alas, 18 months later, that claim was disproved as BBC Wales revealed that night cleaners at Cathays Park were on ZHCs. This followed close on from a row over Monmouthshire County Council employing 320 people on ZHCs. Ceir tystiolaeth hefyd fod hyn yn digwydd yn y sector cyhoeddus. Yn 2015, cyflwynodd Llywodraeth Cymru bapur ymchwil yn ymchwilio i’r defnydd o gontractau dim oriau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Canfu fod 56 y cant o sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn defnyddio contractau dim oriau, er i ni gael ein sicrhau nad oedd Llywodraeth Cymru ei hun yn gwneud hynny. Ysywaeth, 18 mis yn ddiweddarach, cafodd yr honiad ei wrthbrofi wrth i BBC Cymru ddatgelu bod glanhawyr nos ym Mharc Cathays ar gontractau dim oriau. Daeth hyn yn fuan ar ôl ffrae am Gyngor Sir Fynwy yn cyflogi 320 o bobl ar gontractau dim oriau.
There is also the issue of companies that successfully tender for contracts with councils. Often, councils in Wales have policies whereby they don’t give out contracts to companies that use ZHCs, but often, this only applies to principal contractors. These principal contractors will routinely use subcontractors who, in many cases, do use ZHCs. So, this also needs to be examined. If the Welsh Government is going to defend trade union rights, as they are currently proposing, then perhaps they can also look again at the other side of the coin, which is workers unwillingly working in Wales, in the public sector, on zero-hours contracts. Thank you. Hefyd ceir problem mewn perthynas â chwmnïau sy’n cyflwyno tendrau llwyddiannus am gontractau gyda chynghorau. Yn aml, mae gan gynghorau yng Nghymru bolisïau i beidio â dyfarnu contractau i gwmnïau sy’n defnyddio contractau dim oriau, ond yn aml, nid yw hyn ond yn berthnasol i brif gontractwyr. Bydd y prif gontractwyr hyn yn defnyddio isgontractwyr sydd, mewn llawer o achosion, yn defnyddio contractau dim oriau fel mater o drefn. Felly, mae angen archwilio hyn hefyd. Os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i amddiffyn hawliau undebau llafur, fel y maent yn ei argymell ar hyn o bryd, yna efallai y gallant hefyd edrych eto ar yr ochr arall i’r geiniog, sef gweithwyr sy’n gweithio’n anfoddog ar gontractau dim oriau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Diolch.
17:50 - Julie Morgan
Thank you very much, Presiding Officer, for calling me to speak in this debate. I must start off by saying that I think it is ironic that UKIP has brought forward this debate. When you think of the huge significant improvements in pay equality, protection from discrimination, childcare, parental leave, care for pregnant women and care for new mothers that membership of the European Union has brought to us, and leaving the European Union will risk all those great gains, I do think it is very ironic that UKIP have brought forward this debate today. Diolch yn fawr iawn, Lywydd, am fy ngalw i siarad yn y ddadl hon. Rhaid i mi ddechrau drwy ddweud fy mod yn credu ei bod yn eironig fod UKIP wedi cyflwyno’r ddadl hon. Pan feddyliwch am y gwelliannau sylweddol enfawr mewn cydraddoldeb cyflog, diogelwch rhag gwahaniaethu, gofal plant, absenoldeb rhiant, gofal am fenywod beichiog a gofal am famau newydd y mae aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd wedi eu rhoi i ni, a’r ffaith y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn peryglu’r holl welliannau gwych hynny, rwy’n credu ei bod yn eironig iawn fod UKIP wedi cyflwyno’r ddadl hon heddiw.
I wanted to use the opportunity to look at the performance of the devolved public services in this area. It has been drawn to my attention that, in some of our arm’s-length bodies, there is a lot of use of what they call ‘pool hours’— being ‘in the pool’, or ‘on pool’, as the expression is used. I understand that, at the National Museum Wales, there are at least 40 members of staff who are in the pool, which is very similar to being on a zero-hours contract. I really wanted to highlight that here, because I know the Welsh Government has tried hard to tackle this sort of issue with the guidance that it has given, but I wanted to draw attention to some of the problems that this is causing. Because staff on such contracts are not entitled to any form of sick pay, despite the majority of staff being on at least part-time hours and others being on nearly full-time hours, and I’m told there is a culture of staff feeling that they’ve got to return to work soon after an illness because they’re worried about lack of pay, and also worried about job security and being seen as unreliable. I also understand that, on accepting a pool-hours contract, staff are supposed to be told that they can apply for a formal contract after three months. But I’d like to find out whether staff are actually being told that they are able to do this after three months, and whether they are told of any vacancies that are coming up. Because it seems that in some of the arm’s-length bodies there are so few people on full-time contracts that there are concerns about not having enough staff to do particular checks. The other big issue, I think, is that staff on pool contracts receive very little in the way of training, including—if you think about how important some of the training is—fire safety training. Roeddwn eisiau defnyddio’r cyfle i edrych ar berfformiad y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn y maes hwn. Daeth i fy sylw fod llawer o ddefnydd yn rhai o’n cyrff hyd braich o’r hyn y maent yn eu galw’n ‘oriau cyfun’—neu fod ‘yn y gronfa’, fel y defnyddir yr ymadrodd. Deallaf fod o leiaf 40 aelod o staff Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn y gronfa, sy’n debyg iawn i fod ar gontract dim oriau. Roeddwn yn awyddus iawn i dynnu sylw at hynny yma, oherwydd gwn fod Llywodraeth Cymru wedi ymdrechu’n galed i fynd i’r afael â’r math hwn o beth gyda’r canllawiau y mae wedi’u rhoi, ond roeddwn am dynnu sylw at rai o’r problemau y mae hyn yn ei achosi. Oherwydd nid oes gan staff ar gontractau o’r fath hawl i unrhyw fath o dâl salwch, er bod y rhan fwyaf o’r staff ar oriau rhan-amser fan lleiaf ac eraill bron ar oriau amser llawn, ac rwy’n gwybod bod yna ddiwylliant o staff yn teimlo bod yn rhaid iddynt ddychwelyd i’r gwaith yn fuan ar ôl salwch am eu bod yn poeni am ddiffyg tâl, a hefyd yn poeni am sicrwydd swydd a chael eu hystyried yn annibynadwy. Rwyf hefyd yn deall, wrth dderbyn contract oriau cyfun, fod staff i fod i gael gwybod y gallant wneud cais am gontract ffurfiol ar ôl tri mis. Ond hoffwn gael gwybod a yw staff yn cael gwybod y cânt wneud hyn ar ôl tri mis mewn gwirionedd, ac a ydynt yn cael gwybod am unrhyw swyddi gwag sydd ar y ffordd. Oherwydd mae’n ymddangos bod cyn lleied o bobl ar gontractau amser llawn fel bod pryderon nad oes digon o staff i wneud gwiriadau penodol mewn rhai o’r cyrff hyd braich. Y broblem fawr arall, rwy’n meddwl, yw nad yw staff ar gytundebau oriau cyfun yn derbyn fawr iawn o hyfforddiant, gan gynnwys—os meddyliwch pa mor bwysig yw peth ohono—hyfforddiant diogelwch tân.
I think it has already been said here generally about the huge problems that there are for people who are in such uncertainty, about the stress levels, and the inability to get a mortgage. I know that the Welsh Government has issued guidance to all devolved public services in Wales that does include staff being able to request a review of their working arrangements with a view to changing their contract if they have been working regular hours, for example, which can be as little as four hours per week over a continuous period of three months. In addition, this guidance says that staff should be allocated a named line manager, should be able to take annual leave and there should be clear procedures to let staff transition into permanent roles and/or apply for permanent vacancies where opportunities exist. Rwy’n credu ei fod wedi’i ddweud yma’n gyffredinol eisoes am y problemau enfawr sy’n wynebu pobl mewn ansicrwydd o’r fath, am y lefelau straen, a’r anallu i gael morgais. Rwy’n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i bob gwasanaeth cyhoeddus datganoledig yng Nghymru sy’n cynnwys y gallu i staff ofyn am adolygiad o’u trefniadau gweithio gyda golwg ar newid eu contract os ydynt wedi bod yn gweithio oriau rheolaidd, er enghraifft, a allai fod cyn lleied â phedair awr yr wythnos dros gyfnod parhaus o dri mis. Yn ogystal, mae’r canllawiau hyn yn dweud y dylid pennu rheolwr llinell a enwir i’r staff, dylai staff allu cymryd gwyliau blynyddol a dylai fod gweithdrefnau clir i adael i staff symud i rolau parhaol a/neu wneud cais am swyddi gwag parhaol lle y ceir cyfleoedd i wneud hynny.
So, I do think it is very important. I know the Government is committed to pursuing this agenda in devolved public services, but I think it is important to find out if bodies that are funded from the public purse are following these guidelines, and are not relying more and more on members of staff who are in the pool. I wondered if there are mechanisms for the Government to check what is happening in such bodies. I’m sure that the Minister, when she gives her contribution, will say that it is a priority that the people who are working in devolved public services are treated fairly and equitably in the workplace. Felly, rwy’n credu ei fod yn bwysig iawn. Rwy’n gwybod bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i fynd ar drywydd yr agenda hon mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, ond rwy’n meddwl ei bod yn bwysig canfod a yw cyrff sy’n cael eu hariannu o bwrs y wlad yn dilyn y canllawiau hyn, ac nad ydynt yn dibynnu fwyfwy ar aelodau o staff yn y gronfa. Roeddwn yn meddwl tybed a geir mecanweithiau i’r Llywodraeth allu gwirio beth sy’n digwydd mewn cyrff o’r fath. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog, wrth iddi gyfrannu, yn dweud ei bod yn flaenoriaeth fod y bobl sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal yn y gweithle.
In the written statement by the Welsh Government in December, the clear expectation was stressed that non-guaranteed-hours arrangements should only be used in clearly and narrowly defined circumstances, and their use should not be open-ended. Bearing in mind that the use of non-guaranteed hours may be ongoing at some of the public bodies we fund, I wondered if there should be a proposal to bring forward the review that the Cabinet Secretary for Finance and Local Government has said he intends to carry out in 2018, about whether the guidance of the Public Services Staff Commission is being implemented. Yn y datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, pwysleisiwyd y disgwyliad clir na ddylid defnyddio trefniadau oriau heb eu gwarantu heblaw mewn amgylchiadau wedi’u diffinio’n glir ac yn fanwl, ac na ddylai eu defnydd fod yn benagored. Gan gadw mewn cof y gallai rhai o’r cyrff cyhoeddus a gyllidir gennym fod yn defnyddio oriau heb eu gwarantu ar hyn o bryd, tybed a ddylai fod cynnig i ddwyn ymlaen yr adolygiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi dweud ei fod yn bwriadu ei gynnal yn 2018 i weld a yw canllawiau Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael eu gweithredu.
So, I wanted to use this opportunity to highlight these issues that may be there in these devolved bodies and hope that the Government can take a look and see what progress is being made. Thank you. Felly, rwy’n awyddus i ddefnyddio’r cyfle hwn i dynnu sylw at y materion hyn a allai fod yno yn y cyrff datganoledig hyn ac yn gobeithio y gall y Llywodraeth fwrw golwg i weld pa gynnydd sy’n cael ei wneud. Diolch.
17:55 - Michelle Brown
Zero-hours contracts, which I’ll call ZHCs, have been around for a long time, benefiting both employers and workers with their flexibility. However, since 2004, there’s been a huge increase in the number of ZHCs. So, why the increase? Mae contractau dim oriau wedi bod o gwmpas ers amser hir, ac wedi bod o fudd i gyflogwyr a gweithwyr gyda’u hyblygrwydd. Fodd bynnag, ers 2004, gwelwyd cynnydd enfawr yn nifer y contractau dim oriau. Felly, pam y cynnydd?
An employer responding to new legislation is likely to ask, ‘Does it apply to me and, if so, how can I avoid it and how do I minimise its cost?’ Some remainers claim that only the EU will protect workers’ rights. Well, I have news for you: EU employment directives are subjected to years of consultation. In other words, lobbyists employed by industry work hard to incorporate exclusions and loopholes in them, such as qualifying periods. Qualifying periods in legislation merely lead to the termination of a worker’s employment before the end of that qualifying period. Mae cyflogwr sy’n ymateb i ddeddfwriaeth newydd yn debygol o ofyn, ‘A yw’n berthnasol i mi ac os felly, sut y gallaf ei hosgoi a sut y gallaf leihau ei chost?’ Mae rhai o’r bobl a oedd o blaid aros yn yr UE yn honni mai dim ond yr UE sy’n diogelu hawliau gweithwyr. Wel, mae gennyf newyddion i chi: mae cyfarwyddebau cyflogaeth yr UE yn destun blynyddoedd o ymgynghori. Mewn geiriau eraill, mae lobïwyr sy’n cael eu cyflogi gan ddiwydiant yn gweithio’n galed i ymgorffori eithriadau a thyllau ynddynt, megis cyfnodau cymhwyso. Nid yw cyfnodau cymhwyso mewn deddfwriaeth ond yn arwain at derfynu cyflogaeth gweithiwr cyn diwedd y cyfnod cymhwyso hwnnw.
We now have three categories of workers: employees, the self-employed and a third, intermediate construct, that of a worker, which is largely thanks to the EU—each with a wide range of rights accruing to their category. The category a worker falls into determines the extent of their rights. A big driver in the increase of ZHCs and abuses of employment contracts has been the desire of employers to minimise a worker’s chances of being deemed to be an employee. Another driver is for employers to ensure that any costs associated with the rights of non-employees are minimised. Erbyn hyn mae gennym dri chategori o weithwyr: cyflogeion, yr hunangyflogedig a thrydydd cysyniad yn y canol, sef gweithiwr, diolch i’r UE i raddau helaeth—ac mae gan bob un ystod eang o hawliau ynghlwm wrth eu categori. Mae’r categori y bydd gweithiwr yn perthyn iddo yn pennu hyd a lled ei hawliau. Ysgogiad mawr i’r cynnydd mewn contractau dim oriau a chamddefnyddio contractau cyflogaeth yw awydd cyflogwyr i leihau’r posibilrwydd y caiff gweithiwr ei ystyried yn gyflogai. Ysgogiad arall yw awydd cyflogwyr i sicrhau bod unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â hawliau rhai nad ydynt yn gyflogeion yn cael eu lleihau.
The employment appeal tribunal is alive to this political issue and said, in 2007, Mae’r tribiwnlys apelau cyflogaeth yn ymwybodol o’r mater gwleidyddol hwn a dywedodd, yn 2007,
‘that armies of lawyers will simply place substitution clauses, or clauses denying any obligation to accept or provide work in employment contracts’. y bydd byddinoedd o gyfreithwyr yn mynd ati i osod cymalau amnewid, neu gymalau’n gwadu unrhyw rwymedigaeth i dderbyn neu ddarparu gwaith mewn contractau cyflogaeth.
Consequently, the employment appeal tribunal has said that it’s the reality of the working relationship that they will look at, not the contractual wording, because they’re alive to the fact that employers will merely alter the terms of their workers’ contracts in response to not just new legislation, but case law emanating from the tribunal and elsewhere. This may make life more difficult for employers, but their response to this is likely to be simply to work to the terms of the contract. Consequently, less secure and regular work is available, which is emblematic of the worst ZHCs. O ganlyniad, mae’r tribiwnlys apelau cyflogaeth wedi dweud mai ar realiti’r berthynas waith y byddant yn edrych, nid geiriad y contract, am eu bod yn ymwybodol y bydd cyflogwyr yn mynd ati i newid telerau cytundebau eu gweithwyr mewn ymateb nid yn unig i ddeddfwriaeth newydd, ond i gyfraith achosion sy’n deillio o’r tribiwnlys a mannau eraill. Efallai y bydd hyn yn gwneud bywyd yn anos i gyflogwyr, ond mae’n debygol mai eu hymateb i hyn yn syml fydd gweithio yn ôl telerau’r contract. O ganlyniad, mae llai o waith diogel a rheolaidd ar gael, sy’n symbol o’r contractau dim oriau gwaethaf.
The parties opposite may suggest more regulation, resulting in evermore complexity. The left will no doubt claim that the answer is simply to ban ZHCs or regulate them out of existence. Labour suggested in the Pickavance report of 2014 that legislation should be introduced banning employers from requiring workers to be available for work. This law would do nothing but encourage the employer to deny that a worker is an employee and consequently deny them their entitlements and rights. They also recommended that after a period of six months—which now seems to have been reduced to 12 weeks—on a ZHC, a worker should be entitled to a minimum-hours contract. Efallai y bydd y pleidiau gyferbyn yn awgrymu mwy o reoleiddio, gan arwain at fwyfwy o gymhlethdod. Mae’n sicr y bydd y chwith yn honni mai’r ateb yn syml yw gwahardd contractau dim oriau neu eu rheoleiddio allan o fodolaeth. Awgrymodd y Blaid Lafur yn adroddiad Pickavance 2014 y dylid cyflwyno deddfwriaeth yn gwahardd cyflogwyr rhag ei gwneud yn ofynnol i weithwyr fod ar gael i weithio. Ni fyddai deddfu yn y fath fodd yn gwneud dim ar wahân i annog y cyflogwr i wadu bod gweithiwr yn gyflogai a gwadu iddynt eu hawliau o ganlyniad i hynny. Roeddent hefyd yn argymell, ar ôl cyfnod o chwe mis—sydd i’w weld wedi’i ostwng i 12 wythnos bellach—ar gontract dim oriau, y dylai fod hawl gan weithiwr i gontract lleiafswm oriau.
Now, I’m not going to criticise the motivation of the report and what the authors were trying to do—I’m sure they really did mean well. But, given how employers have reacted to various employment laws over the years, I think we can safely assume that, if the UK were to give a right to a minimum-hours contract after six months, say, few workers on ZHCs would be employed after that period. Similarly, stipulating—as recommended by the Pickavance report—that a resulting minimum-hours contract should be based on the regular worked hours only ensures that workers will be given even less regular work than they are now, during that first six-month period. Nawr, nid wyf yn mynd i feirniadu cymhelliant yr adroddiad a’r hyn y ceisiai’r awduron ei wneud—rwy’n siŵr fod ganddynt fwriadau da. Ond o ystyried sut y mae cyflogwyr wedi ymateb i wahanol ddeddfau cyflogaeth dros y blynyddoedd, pe bai’r DU yn rhoi hawl i gontract isafswm oriau ar ôl chwe mis, dyweder, rwy’n meddwl y gallwn gymryd yn ganiataol mai ychydig o weithwyr ar gontractau dim oriau a fyddai’n cael eu cyflogi ar ôl y cyfnod hwnnw. Yn yr un modd, mae pennu—fel yr argymhellir gan adroddiad Pickavance—y dylid seilio contract isafswm oriau ar yr oriau a weithir yn rheolaidd yn mynd i sicrhau y bydd gweithwyr yn cael llai o waith rheolaidd nag y maent yn ei gael yn awr, yn ystod y chwe mis cyntaf hwnnw.
So, complicating an already complex system and making people ever more dependent on experts, whether they be in law firms or unions, may be good for those groups, but not for the people who are being exploited. We need to balance the benefits of ZHCs with the need for secure, reliable employment. Employers have been abusing their greater bargaining power, and workers’ bargaining powers are now non-existent, thanks to the ready supply of replacement staff provided by the unlimited immigration so beloved of the other parties. Felly, efallai y bydd cymhlethu system sydd eisoes yn gymhleth a gwneud pobl yn fwyfwy dibynnol ar arbenigwyr, boed yn gwmnïau cyfreithiol neu undebau, yn dda i’r grwpiau hynny, ond nid i’r bobl y camfanteisir arnynt. Mae angen i ni gydbwyso manteision contractau dim oriau gyda’r angen am gyflogaeth gadarn, ddibynadwy. Mae cyflogwyr wedi bod yn camddefnyddio’u grym bargeinio cryfach, a phrin fod grym bargeinio gweithwyr yn bodoli bellach diolch i gyflenwad parod o staff wrth gefn a ddarperir drwy’r mewnfudo digyfyngiad sydd mor annwyl i’r pleidiau eraill.
17:59 - Rhianon Passmore
Will you take an intervention? A wnewch chi dderbyn ymyriad?
17:59 - Michelle Brown
No. We need employment laws that are simple and accessible—laws that don’t require a law degree to navigate them. We need a tribunal system that is accessible, simple and inexpensive. The Tory Act in the last Government to introduce substantially greater tribunal fees, where somebody wanting to make a claim for unfair dismissal is now having to pay £1,250 for the privilege of having their rights protected, is absolutely unacceptable. Young people should also come out of school understanding their basic legal rights and obligations as workers, tenants and customers. Na wnaf. Mae arnom angen deddfau cyflogaeth sy’n syml ac yn hygyrch—deddfau nad oes angen gradd yn y gyfraith i lywio drwyddynt. Mae arnom angen system dribiwnlysoedd sy’n hygyrch, yn syml ac yn rhad. Mae’r Ddeddf Dorïaidd gan y Llywodraeth ddiwethaf i gyflwyno ffioedd tribiwnlys gryn dipyn yn uwch, lle y mae rhywun sydd am wneud hawliad am ddiswyddiad annheg bellach yn gorfod talu £1,250 am y fraint o gael eu hawliau wedi’u diogelu, yn gwbl annerbyniol. Dylai pobl ifanc hefyd adael yr ysgol yn deall eu hawliau a’u rhwymedigaethau cyfreithiol sylfaenol fel gweithwyr, tenantiaid a chwsmeriaid.
The left have spent the last 40 years patting themselves on the back for introducing or supporting laws that help them fly a flag of compassion. Big business gets what it wants anyway and the people at the bottom with no bargaining power get to live with less secure employment and zero-hours contracts. No matter how well Labour and their fellow travellers think they’ve done by adding all of these laws to the statute book, it’s an illusion. The proof of the pudding is in the eating, and the consequences of Labour and Conservative policies in the area of employment over the last 20 years, and their slavish devotion to the EU, can be seen in the exponential rise of ZHCs, low pay and poor conditions. Thank you. Mae’r chwith wedi treulio’r 40 mlynedd ddiwethaf yn canmol eu hunain am gyflwyno neu gefnogi deddfau sy’n eu helpu i hedfan baner tosturi. Mae busnesau mawr yn cael yr hyn y maent ei eisiau beth bynnag, ac mae’r bobl ar y gwaelod heb unrhyw rym bargeinio yn gorfod byw gyda chyflogaeth lai diogel a chontractau dim oriau. Ni waeth pa mor dda y mae’r Blaid Lafur a’u cyd-deithwyr yn meddwl eu bod wedi gwneud drwy ychwanegu pob un o’r cyfreithiau hyn at y llyfr statud, nid yw’n ddim ond rhith. Wrth ei flas y mae profi pwdin, a gellir gweld canlyniadau polisïau Llafur a’r Ceidwadwyr ym maes cyflogaeth dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, a’u hymrwymiad slafaidd i’r UE, yn y cynnydd eithafol o gontractau dim oriau, cyflogau isel ac amodau gwael. Diolch.
18:01 - Y Llywydd / The Llywydd
Rwy’n galw ar y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James. I call on the Minister for Skills and Science, Julie James.
18:01 - Julie James
Diolch, Lywydd. Can I thank Members for their contributions today? As most speakers have noted eloquently, zero-hours contracts can place enormous pressure on individuals and their families. For those who earn a living on a zero-hours basis, the uncertainty, instability and insecurity under which they work can weigh very heavily on their lives. Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Fel y mae’r rhan fwyaf o’r siaradwyr wedi nodi’n huawdl, gall contractau dim oriau osod pwysau aruthrol ar unigolion a’u teuluoedd. I’r rhai sy’n ennill bywoliaeth ar sail dim oriau, gall yr ansicrwydd a’r ansefydlogrwydd y maent yn gweithio ynddo bwyso’n drwm iawn ar eu bywydau.
I believe very firmly that organisations that rely on models of employment that pass risks on to individuals and their families in this way fail society and ultimately fail their own businesses as well, because people are what make a success of any enterprise, whether it’s a business in production or service, high-tech or administrative, or an organisation in the private or the public sectors. When individuals in any organisation or firm do not feel valued or respected, nobody wins—neither the individual nor the organisation. Credaf yn gryf iawn fod sefydliadau sy’n dibynnu ar fodelau cyflogaeth sy’n trosglwyddo risgiau i unigolion a’u teuluoedd yn y ffordd hon yn gwneud cam â chymdeithas ac yn y pen draw yn gwneud cam â’u busnesau eu hunain yn ogystal, gan mai pobl yw’r hyn sy’n gwneud unrhyw fenter yn llwyddiant, boed yn fusnes cynhyrchu neu wasanaeth, uwch-dechnoleg neu weinyddol, neu sefydliad yn y sector preifat neu’r sector cyhoeddus. Pan nad yw unigolion mewn unrhyw sefydliad neu gwmni yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi neu eu parchu, nid oes neb yn ennill—fel unigolion nac fel sefydliad.
As a Welsh Government, we have long recognised the pernicious effects of inappropriate use of zero-hours contracts. It is why we have committed in our programme for government to limiting the use of zero-hours contracts across Wales together with other bad employment practices. We work closely with our trade union partners in raising awareness of the very clear benefits of trade unions for both firms and their employees. For individuals, the benefit of trade union membership is collective strength in standing up against poor employment practice. For a company, effective relationships with employees through recognising a trade union leads to a much more productive workforce. Rydym ni yn Llywodraeth Cymru wedi hen gydnabod effeithiau niweidiol defnydd amhriodol o gontractau dim oriau. Dyma pam yr ymrwymasom yn ein rhaglen lywodraethu i gyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau ledled Cymru ynghyd ag arferion cyflogaeth gwael eraill. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn yr undebau llafur ar godi ymwybyddiaeth o fanteision clir iawn undebau llafur i gwmnïau a’u gweithwyr. I unigolion, mantais aelodaeth o undeb llafur yw cryfder cyfunol i allu gwrthsefyll arferion cyflogaeth gwael. I gwmni, mae perthynas effeithiol gyda gweithwyr drwy gydnabod undeb llafur yn arwain at weithlu mwy cynhyrchiol.
Public procurement policy is a significant lever for the Welsh Government as we try to recognise responsible and ethical employment practices from businesses that deliver contracts for the Welsh public sector. We have already led the way across the UK by introducing procurement policy that supports the Welsh public sector to address unacceptable employment practices such as blacklisting and the use of umbrella agencies. Mae polisi caffael cyhoeddus yn ysgogiad sylweddol i Lywodraeth Cymru wrth i ni geisio adnabod arferion cyflogaeth cyfrifol a moesegol gan fusnesau sy’n cyflawni contractau ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rydym eisoes wedi arwain y ffordd ar draws y DU drwy gyflwyno polisi caffael sy’n cynorthwyo’r sector cyhoeddus yng Nghymru i fynd i’r afael ag arferion cyflogaeth annerbyniol megis cosbrestru a’r defnydd o asiantaethau ymbarél.
18:02 - Mark Isherwood
Will you give way? Why, given what you’re saying, does Wales have the highest percentage of employees not on permanent contracts amongst the UK nations and regions, according to the latest report from the Carnegie UK Trust? A wnewch chi ildio? Pam, o ystyried yr hyn a ddywedwch, mai Cymru sydd â’r ganran uchaf o weithwyr nad ydynt ar gontractau parhaol o holl wledydd a rhanbarthau’r DU yn ôl yr adroddiad diweddaraf gan Ymddiriedolaeth Carnegie UK?
18:03 - Julie James
If the Member would let me get to the end of my speech, he might find out. Pe bai’r Aelod yn gadael i mi gyrraedd diwedd fy araith, efallai y caiff wybod.
We have already led the way across the UK by introducing procurement policy that supports the Welsh public sector to address unacceptable employment practices such as blacklisting and the use of umbrella agencies, as I just said. Rydym eisoes wedi arwain y ffordd ar draws y DU drwy gyflwyno polisi caffael sy’n cynorthwyo’r sector cyhoeddus yng Nghymru i fynd i’r afael ag arferion cyflogaeth annerbyniol fel cosbrestru a’r defnydd o asiantaethau ymbarél, fel yr wyf newydd ei ddweud.
Working with partners across the Welsh public sector, we are finalising a code of practice on ethical employment in supply chains, which the Cabinet Secretary for Finance and Local Government will launch at next week’s workforce partnership council. This will ensure that all public sector organisations are taking action to work with their suppliers to eradicate unlawful and unethical employment practices in public sector contracts, and to ensure that all workers at every stage of the supply chain are treated fairly. Gan weithio gyda phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, rydym yn cwblhau cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn ei lansio yng nghyngor partneriaeth y gweithlu yr wythnos nesaf. Bydd hyn yn sicrhau bod pob sefydliad yn y sector cyhoeddus yn cymryd camau i weithio gyda’u cyflenwyr i gael gwared ar arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesol mewn contractau sector cyhoeddus, ac i sicrhau bod pob gweithiwr ar bob cam o’r gadwyn gyflenwi yn cael eu trin yn deg.
In November of last year, we published public sector guidance on the appropriate use of non-guaranteed-hours contracts. This was developed and agreed through the work of the workforce partnership council and the Public Services Staff Commission. The guidance and principles set out clear expectations on practices that all public sector employers should adopt in order to ensure that non-guaranteed-hours arrangements are only used in clearly and narrowly defined circumstances in ways that benefit people as well as organisations. I thank Julie Morgan for highlighting a potential implementation issue in this regard, which I will certainly pursue. Ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddasom ganllawiau i’r sector cyhoeddus ar y defnydd priodol o gontractau heb oriau gwarantedig. Cafodd ei ddatblygu a’i gytuno drwy waith cyngor partneriaeth y gweithlu a Chomisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus. Roedd y canllawiau a’r egwyddorion yn nodi disgwyliadau clir mewn perthynas ag arferion y dylai pob cyflogwr yn y sector cyhoeddus eu mabwysiadu er mwyn sicrhau nad yw trefniadau heb oriau gwarantedig ond yn cael eu defnyddio mewn amgylchiadau wedi’u diffinio’n glir ac yn fanwl mewn ffyrdd sydd o fudd i bobl yn ogystal â sefydliadau. Diolch i Julie Morgan am dynnu sylw at broblem bosibl gyda’u gweithrediad yn hyn o beth, a byddaf yn sicr yn mynd ar drywydd hynny.
Such contracts should ensure that people are able to accept or decline the work with no detriment. They should have access to the same pay and progression as full-time employees and to induction and training, as well as the opportunity to apply for internal vacancies as they arise. Our guidance makes clear that the use of such contracts should not be open ended. Staff must be able to request that their working arrangements are reviewed if they have been undertaking regular hours over a continuous period of time. We will keep these measures under review to ensure that our approach strikes the right balance between flexibility and protection of services. Dylai contractau o’r fath sicrhau bod pobl yn gallu derbyn neu wrthod gwaith heb unrhyw anfantais iddynt hwy. Dylent gael mynediad at yr un cyflog a datblygiad â chyflogeion amser llawn ac i broses sefydlu a hyfforddiant, yn ogystal â chyfle i wneud cais am swyddi gwag mewnol wrth iddynt godi. Mae ein canllawiau’n nodi’n glir na ddylai’r defnydd o gontractau o’r fath fod yn benagored. Rhaid i staff allu gofyn i’w trefniadau gwaith gael eu hadolygu os ydynt wedi bod yn gweithio oriau rheolaidd dros gyfnod parhaus o amser. Byddwn yn cadw’r mesurau hyn dan arolwg er mwyn gwneud yn siŵr fod ein dull o weithredu yn sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng hyblygrwydd a diogelu gwasanaethau.
I note the motion from UKIP today and the strong statements they have made condemning the impact that zero-hours contracts can have on individuals and their families. I also note their reprehensible connection of that with what they referred to as ‘mass uncontrolled immigration’. In fact, immigration in Wales at this time is just under 3 per cent, and I for one very much value the contribution that all the people who have come to Wales to live and make their lives can make, including, for example, the oncologist who saved my life during the last Assembly, and to whom I’m extremely grateful. I’m very glad that he came here to Wales to live and work. Nodaf y cynnig gan UKIP heddiw a’r datganiadau cryf a wnaed ganddynt yn condemnio’r effaith y gall contractau dim oriau ei chael ar unigolion a’u teuluoedd. Nodaf hefyd y modd gresynus y maent yn cysylltu hynny â’r hyn a elwir ganddynt yn ‘fewnfudo torfol heb ei reoli’. Mewn gwirionedd, mae mewnfudo yng Nghymru ychydig o dan 3 y cant ar hyn o bryd, ac yn bersonol, rwy’n gwerthfawrogi’n fawr iawn y cyfraniad a wneir gan yr holl bobl sydd wedi dod i Gymru i fyw a gwneud bywyd iddynt eu hunain, gan gynnwys, er enghraifft, yr oncolegydd a achubodd fy mywyd yn ystod y Cynulliad diwethaf, dyn rwy’n hynod ddiolchgar iddo. Rwy’n falch iawn ei fod wedi dod yma i Gymru i fyw a gweithio.
I do think it’s important to point out that this is the same party that has voted against measures to combat precarious employment practices in the European Parliament and that this is the same party that has campaigned vigorously against the United Kingdom’s membership of the European Union, through which many of the most vital workers’ rights and protections have been secured. Despite today’s motion, I would remind everyone in this Chamber and across Wales that this is emphatically not the position they have taken in recent times. Rwy’n credu ei bod yn bwysig nodi mai dyma’r un blaid a bleidleisiodd yn erbyn mesurau i ymladd arferion cyflogaeth amheus yn Senedd Ewrop ac mai hon yw’r blaid sydd wedi ymgyrchu’n frwd yn erbyn aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd a sicrhaodd lawer o’r hawliau a’r mesurau diogelu gweithwyr mwyaf hanfodol. Er gwaethaf y cynnig heddiw, hoffwn atgoffa pawb yn y Siambr hon ac ar draws Cymru yn bendant iawn nad dyma’r safbwynt a fu ganddynt yn ddiweddar.
We do agree with Plaid Cymru that there is a very particular issue in social care. Last year’s Plaid Cymru amendment to the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Bill sought to provide an outright ban on the use of zero-hours contracts in the provision of regulated services in social care. But, in reality, it would have fatally compromised the Bill, meaning its important reforms were lost for Wales. And making unnecessary challenges available is not a good strategy for Government. Any law relating to social care workers’ terms and conditions must have the clear intention of improving social welfare, which means there needs to be an evidence-based relationship between zero-hours contracts and the quality of social care provision. That is why the Government commissioned research from Manchester Metropolitan University on this issue, followed by a consultation on terms and conditions of employment in social care. There is a clear need to drive forward a change in behaviour away from those who see these contracts as the norm. Rydym yn cytuno â Phlaid Cymru fod yna broblem benodol iawn ym maes gofal cymdeithasol. Roedd gwelliant Plaid Cymru y llynedd i Fil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn ceisio rhoi gwaharddiad llwyr ar ddefnyddio contractau dim oriau wrth ddarparu gwasanaethau a reoleiddir mewn gofal cymdeithasol. Ond mewn gwirionedd, byddai wedi peryglu dyfodol y Bil, gan olygu y byddai Cymru wedi’i hamddifadu o’i ddiwygiadau pwysig. Ac nid yw galluogi heriau diangen yn strategaeth dda i’r Llywodraeth. Rhaid i unrhyw gyfraith sy’n ymwneud â thelerau ac amodau gweithwyr gofal cymdeithasol gynnwys bwriad clir i wella lles cymdeithasol, sy’n golygu bod angen perthynas yn seiliedig ar dystiolaeth rhwng contractau dim oriau ac ansawdd y ddarpariaeth gofal cymdeithasol. Dyna pam y comisiynodd y Llywodraeth ymchwil gan Brifysgol Metropolitan Manceinion ar y mater hwn, gydag ymgynghoriad i ddilyn ar delerau ac amodau cyflogaeth ym maes gofal cymdeithasol. Mae yna angen clir i ysgogi newid ymddygiad i ffwrdd oddi wrth y rhai sy’n ystyried y contractau hyn fel y norm.
We have already made it clear that we will use regulations under the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 to influence the use of zero-hours contracts in domiciliary care. These will require domiciliary care providers to publish details of their use of zero-hours within the public annual returns required by the 2016 Act. Such an approach is likely to galvanise influence from the workforce, commissioners, service users and their families, allowing the use of zero-hours contracts only in ways that harmonise with the needs of workers and clients. However, requiring transparency does not in itself guarantee a change of behaviour, and some providers may continue to use zero-hours contracts in ways detrimental to staff and quality of care. Rydym eisoes wedi dweud yn glir y byddwn yn defnyddio rheoliadau o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i ddylanwadu ar y defnydd o gontractau dim oriau mewn gofal cartref. Bydd y rhain yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gofal cartref gyhoeddi manylion am eu defnydd o gontractau dim oriau yn y cofnodion cyhoeddus blynyddol sy’n ofynnol o dan Ddeddf 2016. Mae ymagwedd o’r fath yn debygol o symbylu dylanwad gan y gweithlu, comisiynwyr, defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd, gan ganiatáu’r defnydd o gontractau dim oriau mewn ffyrdd sy’n gyson ag anghenion gweithwyr a chleientiaid yn unig. Fodd bynnag, nid yw gwneud tryloywder yn ofynnol yn gwarantu newid ymddygiad ynddo’i hun, ac mae’n bosibl y bydd rhai darparwyr yn parhau i ddefnyddio contractau dim oriau mewn ffyrdd sy’n andwyol i staff ac ansawdd y gofal.
We are currently examining the case for other regulations through which we could reduce the use of zero-hours contracts, by limiting the proportion of care that can be provided through zero-hours contracts, or requiring providers to give workers a choice as to whether they’re employed on zero-hours contracts or fixed-hours contracts. We are also looking at how we can employ other measures to help improve the terms and conditions of the workforce, including increasing the separation between travel and call time, and reinforcing absolute compliance with the national minimum wage, all of which pursue further opportunities to establish domiciliary care as an attractive, supported and rewarding long-term career for the people of Wales. Ar hyn o bryd rydym yn archwilio’r achos dros reoliadau eraill ar gyfer lleihau’r defnydd o gontractau dim oriau, drwy gyfyngu ar y gyfran o ofal y gellir ei darparu drwy gontractau dim oriau, neu ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr roi dewis i weithwyr a ydynt am gael eu cyflogi ar gontractau dim oriau neu gytundebau oriau penodedig. Rydym yn edrych hefyd ar sut y gallwn ddefnyddio mesurau eraill i helpu i wella telerau ac amodau’r gweithlu, gan gynnwys cynyddu’r rhaniad rhwng amser teithio a galw, ac atgyfnerthu cydymffurfiaeth lwyr â’r isafswm cyflog cenedlaethol, ac mae pob un o’r rhain yn mynd ar drywydd cyfleoedd pellach i sefydlu gofal cartref fel gyrfa hirdymor sy’n ddeniadol, yn cael ei chefnogi ac yn werth chweil i bobl Cymru.
Fairness is at the heart of the Welsh Government, and we are committed to building a prosperous and balanced economy that delivers social justice and opportunity for all the people of Wales. I welcome the opportunity to reiterate that, as a Government, we will continue to work tirelessly to eliminate poor employment practice in every part of Wales. Diolch. Mae tegwch yn ganolog i Lywodraeth Cymru, ac rydym yn ymrwymedig i adeiladu economi ffyniannus a chytbwys sy’n sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a chyfle i holl bobl Cymru. Croesawaf y cyfle i ailadrodd y byddwn fel Llywodraeth yn parhau i weithio’n ddiflino i ddileu arferion cyflogaeth gwael ym mhob rhan o Gymru. Diolch.
18:08 - Y Llywydd / The Llywydd
Galwaf ar David Rowlands i ymateb i’r ddadl. David Rowlands. I call on David Rowlands to reply to the debate. David Rowlands.
18:08 - David J. Rowlands
Diolch, Lywydd. First of all, I want to take up two points, one by Julie Morgan and the other by Bethan Jenkins, when they said it’s ironic we should bring this debate to the Chamber. Well, it’s not ironic at all. We’re the only party in this Chamber that has consistently tried to protect British workers from exploitation, and this whole fact of the zero-hour contract shows that we were right in what we were trying to do. Diolch, Lywydd. Yn gyntaf oll, rwyf am fynd ar ôl dau bwynt, un gan Julie Morgan a’r llall gan Bethan Jenkins, pan ddywedasant ei bod yn eironig ein bod wedi dod â’r ddadl hon i’r Siambr. Wel, nid yw’n eironig o gwbl. Ni yw’r unig blaid yn y Siambr hon sydd wedi mynd ati’n gyson i geisio diogelu gweithwyr Prydain rhag camfanteisio, ac mae union ffaith y contract dim oriau yn dangos ein bod yn iawn yn yr hyn y ceisiem ei wneud.
18:09 - Dawn Bowden
Will you take an intervention? A wnewch chi dderbyn ymyriad?
18:09 - David J. Rowlands
Yes, of course. Gwnaf, wrth gwrs.
18:09 - Dawn Bowden
Thank you. Can I just quote you from UKIP’s small business manifesto, published in 2013? Diolch. A gaf fi ddyfynnu i chi o faniffesto busnesau bach UKIP a gyhoeddwyd yn 2013?
‘UKIP would put an end to most legislation regarding matters such as weekly hours, holidays and holiday, overtime, redundancy and sick pay, and provide statutory standard very short employment contracts templates’. Byddai UKIP yn rhoi diwedd ar y rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â materion megis oriau gweithio wythnosol, gwyliau, goramser, tâl diswyddo a salwch, ac yn darparu templed contract cyflogaeth statudol, safonol, byr iawn.
Does the Member recognise that? A yw’r Aelod yn cydnabod hwnnw?
18:09 - David J. Rowlands
Yes, and I’m absolutely certain that if I went through any of the parties’ manifestos in this Chamber—every one of the parties—we would be able to punch huge holes in them as well. But anyway, back to—[Interruption.] Ydw, ac rwy’n hollol sicr pe bawn yn mynd drwy unrhyw un o faniffestos y pleidiau yn y Siambr hon—pob un o’r pleidiau—byddem yn gallu torri tyllau enfawr ynddynt hwy hefyd. Ond beth bynnag, yn ôl at—[Torri ar draws.]
18:10 - Y Llywydd / The Llywydd
Allow the Member to continue. Gadewch i’r Aelod barhau.
18:10 - David J. Rowlands
Back to the debate, please, if we can. First of all, I’d like to take up with Russell George, who says that it helps some people that they would prefer to be in this type of zero-hours contract. The truth of the matter, actually, Russell, is that it’s the employer who usually sets the times and number of hours and not the employee unfortunately. Yn ôl at y ddadl, os gwelwch yn dda, os gallwn. Yn gyntaf oll, hoffwn fynd ar ôl yr hyn a ddywedodd Russell George, sy’n dweud ei fod yn helpu rhai pobl, y byddai’n well ganddynt fod yn y math hwn o gontract dim oriau. Y gwir amdani, mewn gwirionedd, Russell, yw mai’r cyflogwr sydd fel arfer yn pennu amseroedd a nifer yr oriau ac nid y gweithiwr, yn anffodus.
I want to take up with Jenny Rathbone, where she was talking about the postal offices. Well, Jenny, I want to remind you that it’s the European Union that insisted on Britain opening up postal services, and they’ve been very much exploited by German companies. It’s left the Post Office having to deliver letters to farms and outposts whilst German companies make fortunes out of delivering parcels in inner cities. Rwyf am fynd ar ôl yr hyn a ddywedodd Jenny Rathbone, pan soniodd am y swyddfeydd post. Wel, Jenny, carwn eich atgoffa mai’r Undeb Ewropeaidd a fynnodd fod Prydain yn gwneud gwasanaethau post yn agored, ac mae cwmnïau o’r Almaen wedi camfanteisio’n helaeth arnynt. Mae wedi golygu bod Swyddfa’r Post yn gorfod dosbarthu llythyrau i ffermydd a mannau anghysbell tra bo cwmnïau o’r Almaen yn gwneud eu ffortiwn o ddosbarthu parseli yng nghanol dinasoedd.
So, in bringing this motion to the Assembly, the UK Independence Party sought to draw not only the Assembly’s attention to this ever expanding problem but also the attention of the general public. We must use all the powers at our disposal to end this appalling system of employment. Only by highlighting these abuses will we be able to call employers to account. We must make it abundantly clear to those who wish to exploit workers’ rights in this way that we, in this Welsh Assembly, will not tolerate such actions. Felly, wrth gyflwyno’r cynnig hwn i’r Cynulliad, ceisiodd Plaid Annibyniaeth y DU dynnu sylw nid yn unig y Cynulliad i’r broblem hon sy’n tyfu fwyfwy ond sylw’r cyhoedd yn gyffredinol hefyd. Mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r holl bwerau sydd ar gael i ni i roi terfyn ar y system gyflogaeth echrydus hon. Ni fyddwn yn gallu dwyn cyflogwyr i gyfrif heb i ni amlygu camddefnydd o’r fath. Mae’n rhaid i ni ei gwneud yn gwbl glir i’r rhai sy’n dymuno camfanteisio ar hawliau gweithwyr yn y modd hwn na fyddwn ni, yng Nghynulliad Cymru, yn goddef gweithgaredd o’r fath.
Every worker, wherever he works and at whatever level, should have some security of employment with hours and conditions clearly laid out. We agree with Plaid Cymru that the use of zero-hours contracts in devolved public services should be banned and that any services procured by the Assembly should also be subject to such a ban, and we will therefore be supporting Plaid Cymru’s amendments 5 and 7, which cover this issue. Dylai pob gweithiwr, lle bynnag y bo’n gweithio ac ar ba lefel bynnag, gael rhywfaint o sicrwydd cyflogaeth gydag oriau ac amodau wedi’u pennu’n glir. Rydym yn cytuno â Phlaid Cymru y dylid gwahardd y defnydd o gontractau dim oriau yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig ac y dylai unrhyw wasanaethau a gaffaelwyd gan y Cynulliad fod yn destun gwaharddiad o’r fath hefyd, ac felly byddwn yn cefnogi gwelliannau 5 a 7 Plaid Cymru, sy’n ymdrin â’r mater hwn.
The absence of working entitlements and conditions are totally unacceptable in twenty-first century Britain, and I ask the parties in this Chamber to support this motion. Mae absenoldeb hawliau ac amodau gwaith yn gwbl annerbyniol ym Mhrydain yr unfed ganrif ar hugain, a gofynnaf i’r pleidiau yn y Siambr hon gefnogi’r cynnig hwn.
18:12 - Y Llywydd / The Llywydd
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rwy’n gohirio’r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting on this item until voting time.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Voting deferred until voting time.
7. Cyfnod Pleidleisio 7. Voting Time
18:12 - Y Llywydd / The Llywydd
A dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r bleidlais. We’ve reached voting time, and unless three Members wish for the bell to be rung, I will proceed directly to the first vote.
Y bleidlais gyntaf, felly, ar ddadl Plaid Cymru, ac rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi’i wrthod. The first vote therefore is on the Plaid Cymru debate. I call for a vote on the motion, tabled in the name of Rhun ap Iorwerth. Open the vote. Close the vote. In favour 23, no abstentions, 25 against, and therefore the motion is not agreed.
Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 23, Yn erbyn 25, Ymatal 0. Motion not agreed: For 23, Against 25, Abstain 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6245. Result of the vote on motion NDM6245.
18:13 - Y Llywydd / The Llywydd
Rwy’n galw felly am bleidlais ar welliant 1—gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi ei dderbyn. I therefore call for a vote on amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. In favour 25, no abstentions, 23 against, and therefore amendment 1 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 25, Yn erbyn 23, Ymatal 0. Amendment agreed: For 25, Against 23, Abstain 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6245. Result of the vote amendment 1 to motion NDM6245.
18:13 - Y Llywydd / The Llywydd
Rwy’n galw nawr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd. I now call for a vote on the motion as amended.
Cynnig NDM6245 fel y’i diwygiwyd. Motion NDM6245 as amended.
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: To propose that the National Assembly for Wales:
1. Yn nodi cyfraniad amlwg Cymru i'r chwyldro diwydiannol, i greu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'i rôl arweiniol o ran datblygu'r ddarpariaeth addysg uwchradd. 1. Notes Wales’s prominent contribution to the industrial revolution, to the creation of the National Health Service and its leading role in the development of secondary education provision.
Yn nodi: Notes:
a) bod cyfradd ddiweithdra Cymru wedi gostwng i 4.4%, sy'n is na chyfartaledd y DU; a) the unemployment rate in Wales has fallen to 4.4%, lower than the UK average;
b) bod y dangosyddion ansawdd gofal iechyd a gyhoeddwyd gan yr OECD yn ddiweddar yn dangos bod Cymru'n perfformio ar lefel gyfatebol neu well na gwledydd eraill y DU o ran y rhan fwyaf o'r dangosyddion; b) recently-published OECD healthcare quality indicators show Wales is performing at a similar level or better than other countries in the UK on the majority of indicators;
c) bod canlyniadau arholiadau TGAU Cymru yn 2015/16 yn dangos bod y prif fesur perfformiad wedi cynyddu bob blwyddyn ers i'r cofnodi ddechrau yn 2006-07, a bod y bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a chyrhaeddiad eu cyd-ddisgyblion yn cau. c) the 2015/16 GCSE exam results for Wales show the main performance measure has increased each year since records began in 2006-07, while the attainment gap between pupils eligible for free school meals and their fellow pupils is closing.
3. Yn cydnabod: 3. Recognises:
a) rôl hanfodol addysg a sgiliau fel ysgogiad pwysig i wella lefelau cynhyrchiant economaidd Cymru; a) the essential role of education and skills as an important driver to improve Wales’s economic productivity levels;
b) yr angen am wella cyson o ran amseroedd aros Cymru ar gyfer diagnosis a thriniaeth; ac b) the need for sustained improvement in Welsh waiting times for diagnosis and treatment; and
c) potensial yr economi las a gwyrdd o ran sicrhau ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol. c) the potential of the blue and green economy in ensuring the future economic prosperity of Wales.
18:13 - Y Llywydd / The Llywydd
Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 25, saith yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. Open the vote. Close the vote. In favour 25, seven abstentions, 16 against, and therefore the motion as amended is agreed.
Derbyniwyd cynnig NDM6245 fel y’i diwygiwyd: O blaid 25, Yn erbyn 16, Ymatal 7. Motion NDM6245 as amended agreed: For 25, Against 16, Abstain 7.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6245 fel y’i diwygiwyd. Result of the vote on motion NDM6245 as amended.
18:14 - Y Llywydd / The Llywydd
Y bleidlais nesaf, felly, ar ddadl UKIP, ac rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw David Rowlands. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid chwech, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei wrthod. The next vote is on the UKIP debate, and I call for a vote on the motion, tabled in the name of David Rowlands. Open the vote. Close the vote. In favour six, no abstentions, 42 against, and therefore the motion is not agreed.
Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 6, Yn erbyn 42, Ymatal 0. Motion not agreed: For 6, Against 42, Abstain 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6244. Result of the vote on motion NDM6244.
18:14 - Y Llywydd / The Llywydd
Rwy’n galw nawr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 32, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi’i dderbyn. I call now for a vote on amendment 1, tabled in the name of Rhun ap Iorwerth. Open the vote. Close the vote. In favour 32, no abstentions, 16 against. Therefore, amendment 1 is agreed.
Derbyniwyd gwelliant 1: O blaid 32, Yn erbyn 16, Ymatal 0. Amendment 1 agreed: For 32, Against 16, Abstain 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6244. Result of the vote on amendment 1 to motion NDM6244.
18:15 - Y Llywydd / The Llywydd
Gwelliant 2: os derbynnir gwelliant 2, mi fydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol. Rydw i’n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. Deg o blaid, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi’i wrthod. Amendment 2: if amendment 2 is agreed, amendment 4 will be deselected. I call for a vote on amendment 2, tabled in the name of Paul Davies. Open the vote. Close the vote. Ten in favour, no abstentions, 38 against. Therefore, amendment 2 is not agreed.
Gwrthodwyd gwelliant 2: O blaid 10, Yn erbyn 38, Ymatal 0. Amendment 2 not agreed: For 10, Against 38, Abstain 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6244. Result of the vote on amendment 2 to motion NDM6244.
18:15 - Y Llywydd / The Llywydd
Galw nawr am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. Saith o blaid, chwech yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi’i wrthod. I call now for a vote on amendment 3, tabled in the name of Rhun ap Iorwerth. Open the vote. Close the vote. Seven in favour, six abstentions, 35 against. Therefore, amendment 3 is not agreed.
Gwrthodwyd gwelliant 3: O blaid 7, Yn erbyn 35, Ymatal 6. Amendment 3 not agreed: For 7, Against 35, Abstain 6.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6244. Result of the vote on amendment 3 to motion NDM6244.
18:16 - Y Llywydd / The Llywydd
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 32, chwech yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 4 wedi’i dderbyn. I call now for a vote on amendment 4, tabled in the name of Rhun ap Iorwerth. Open the vote. Close the vote. In favour 32, six abstentions, 10 against. Therefore, amendment 4 is agreed.
Derbyniwyd gwelliant 4: O blaid 32, Yn erbyn 10, Ymatal 6. Amendment 4 agreed: For 32, Against 10, Abstain 6.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6244. Result of the vote on amendment 4 to motion NDM6244.
18:16 - Y Llywydd / The Llywydd
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. Un deg tri o blaid, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 5 wedi’i wrthod. I call now for a vote on amendment 5, tabled in the name of Rhun ap Iorwerth. Open the vote. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 35 against. Therefore, amendment 5 is not agreed.
Gwrthodwyd gwelliant 5: O blaid 13, Yn erbyn 35, Ymatal 0. Amendment 5 not agreed: For 13, Against 35, Abstain 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 5 i gynnig NDM6244. Result of the vote on amendment 5 to motion NDM6244.
18:16 - Y Llywydd / The Llywydd
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 6, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 26, pump yn ymatal, 17 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 6 wedi’i dderbyn. I call now for a vote on amendment 6, tabled in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. In favour 26, five abstentions, 17 against. Therefore, amendment 6 is agreed.
Derbyniwyd gwelliant 6: O blaid 26, Yn erbyn 17, Ymatal 5. Amendment 6 agreed: For 26, Against 17, Abstain 5.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 6 i gynnig NDM6244. Result of the vote on amendment 6 to motion NDM6244.
18:17 - Y Llywydd / The Llywydd
Galwaf am bleidlais ar welliant 7, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 12, un yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 7 wedi’i wrthod. I call now for a vote on amendment 7, tabled in the name of Rhun ap Iorwerth. Open the vote. Close the vote. In favour 12, one abstention, 35 against. Therefore, amendment 7 is not agreed.
Gwrthodwyd gwelliant 7: O blaid 12, Yn erbyn 35, Ymatal 1. Amendment 7 not agreed: For 12, Against 35, Abstain 1.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 7 i gynnig NDM6244. Result of the vote on amendment 7 to motion NDM6244.
18:17 - Y Llywydd / The Llywydd
Rydw i’n galw nawr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd. I now call for a vote on the motion as amended.
Cynnig NDM6244 fel y’i diwygiwyd: Motion NDM6244 as amended:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: To propose that the National Assembly for Wales:
1. Yn credu y gall y potensial i waith ac enillion amrywio o ganlyniad i gontractau dim oriau fod yn ffynhonnell straen ac ansefydlogrwydd ariannol ac y gall telerau ac amodau cyflogaeth annheg gael effaith negyddol ar forâl a chynhyrchiant staff mewn modd sy'n arwain at wasanaeth o ansawdd gwaeth. 1. Believes that the potential variability of work and earnings as a result of zero hour contracts can be a source of financial instability and stress and that unfair employment terms and conditions can have a negative impact on staff morale and productivity in a way that leads to a poorer quality service.
2. Yn nodi mai rhithiol yn hytrach na real yw'r rhyddid hwn i'r rhan fwyaf o'r rhai a gaiff eu cyflogi ar gontractau dim oriau, a bod bywyd ar gontractau dim oriau, i'r rhai sydd angen isafswm oriau gwaith wythnosol i sicrhau diogelwch ariannol i'w teulu, yn un o ansicrwydd parhaol; 2. Notes that, for the majority of those employed on zero-hours contracts, this freedom is more illusory than real and, for those who need a minimum number of working hours per week to ensure financial security for their family, life on a zero-hours contract is one of almost permanent uncertainty;
3. Yn nodi bod yr ansicrwydd hwn, i'r rhai y mae eu horiau wedi'u cwtogi neu eu newid oherwydd amharodrwydd canfyddedig i weithio'r oriau sydd eu hangen ar y cyflogwr neu'n dilyn cŵyn yn y gweithle, yn gallu cyd-fynd â'r pryder sy'n deillio o gamfanteisio. 3. Notes that, for those who have had their hours reduced or changed because of a perceived unwillingness to work the hours their employer requires or following the lodging of a workplace complaint, this uncertainty can be coupled with the anxiety that comes from exploitation.
4. Yn credu bod gan weithio contractau dim oriau y gallu i: 4. Believes that working on zero hours contracts has the potential to:
a) creu bywyd o straen; a) create a life of stress;
b) cael effaith negyddol ar reoli cyllidebau teuluol; b) impact negatively on the management of household budgets;
c) effeithio ar ymrwymiadau teuluol; c) impinge on family commitments;
d) tanseilio hawliau a chysylltiadau cyflogaeth; d) undermine employment rights and relations;
e) cymhlethu'r gallu i gael gafael ar gredydau treth a budd-daliadau eraill, gyda phryder cynyddol am y nifer gynyddol o bobl sy'n dibynnu arnynt; ac e) complicate access to tax credits and other benefits, the continued rise of which is a growing concern; and
f) arwain at wasanaeth o ansawdd gwaeth. f) lead to a poorer quality service.
5. Yn cydnabod y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymdrin â'r defnydd o gontractau dim oriau mewn gofal cymdeithasol. 5. Recognises the action the Welsh Government is taking to address the use of zero hours contracts in social care.
Yn croesawu gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn y maes hwn, a arweiniodd at gyhoeddi egwyddorion a chanllawiau Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus ar ddefnyddio trefniadau oriau gwaith heb eu gwarantu yn briodol yng ngwasanaethau cyhoeddus datganoledig Cymru. Welcomes the work of the Workforce Partnership Council in this area, which led to the publication of the Public Services Staff Commission’s principles and guidance on the appropriate use of non-guaranteed working hours arrangements in devolved public services in Wales.
18:17 - Y Llywydd / The Llywydd
Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 33, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi’i ddiwygio wedi’i dderbyn. Open the vote. Close the vote. In favour 33, no abstentions, 15 against. Therefore, the motion as amended is agreed.
Derbyniwyd cynnig NDM6244 fel y’i diwygiwyd: O blaid 33, Yn erbyn 15, Ymatal 0. Motion NDM6244 as amended agreed: For 33, Against 15, Abstain 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6244 fel y’i diwygiwyd. Result of the vote on motion NDM6244 as amended.
8. Dadl Fer: Cyfoethogi Bywydau Gofalwyr: Gofalu am y rhai sy'n Gofalu 8. Short Debate: Enriching Lives of Carers: Caring for those that Care
18:18 - Y Llywydd / The Llywydd
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl fer. I’r rhai ohonoch chi sy’n gadael— The next item on our agenda is the short debate. For those of you who are leaving—
Those of you leaving, will you do so quietly and quickly? I emphasise ‘quietly’. Y rhai ohonoch sy’n gadael, a wnewch chi hynny’n ddistaw ac yn gyflym? Rwy’n pwysleisio ‘yn ddistaw’.
Rydw i’n galw, felly, ar Jayne Bryant i gyflwyno’r ddadl—Jayne Bryant. I therefore call on Jayne Bryant to present the debate—Jayne Bryant.
18:18 - Jayne Bryant
Diolch, Lywydd. Thank you. I’m pleased to be able to raise the issue of carers in the Chamber today. I’m particularly pleased to have the short debate on St David’s Day and on an issue that I believe is so crucial to our society. I’ve agreed to give my colleagues Joyce Watson, Julie Morgan, and Hannah Blythyn a minute of the time allocated. Diolch, Lywydd. Diolch. Rwy’n falch o allu trafod mater gofalwyr yn y Siambr heddiw. Rwy’n arbennig o falch o gael y ddadl fer ar Ddydd Gŵyl Dewi ac ar fater y credaf ei fod mor hanfodol i’n cymdeithas. Rwyf wedi cytuno i roi munud o’r amser a neilltuwyd i fy nghyd-Aelodau Joyce Watson, Julie Morgan, a Hannah Blythyn.
One of the huge privileges of being an elected representative is the opportunity to meet people and talk with them about their experiences, hopes and ideas. Since being elected, it has struck me how many people in Wales are caring for loved ones at all ages, for different family members, and at different stages in their lives. It has been said that there are four types of people: those who have cared for someone, those who are caring for someone, those who will care for someone, and those who will be cared for. I think this sums up the importance of this issue. Un o’r breintiau mawr o fod yn gynrychiolydd etholedig yw’r cyfle i gyfarfod â phobl a siarad â hwy am eu profiadau, eu gobeithion a’u syniadau. Ers cael fy ethol, mae wedi fy nharo cymaint o bobl yng Nghymru sy’n gofalu am anwyliaid o bob oedran, am wahanol aelodau o’r teulu, ac ar wahanol gyfnodau yn eu bywydau. Dywedwyd bod yna bedwar math o bobl: y rhai sydd wedi gofalu am rywun, y rhai sydd yn gofalu am rywun, y rhai a fydd yn gofalu am rywun, a’r rhai a fydd yn cael gofal. Rwy’n credu bod hynny’n crynhoi pwysigrwydd y mater hwn.
With a growing older population, often with complex care needs, it’s inevitable that we need more carers. Already in 2017, Carers UK estimated that the number of older people needing care will outnumber family members able to meet their need. Gyda phoblogaeth hŷn sy’n tyfu, gydag anghenion gofal cymhleth yn aml, mae’n anochel bod angen mwy o ofalwyr. Eisoes yn 2017, amcangyfrifodd Carers UK y bydd nifer y bobl hŷn sydd angen gofal yn fwy na nifer yr aelodau teuluol a fydd yn gallu diwallu eu hangenion.
Daeth Suzy Davies i’r Gadair. Suzy Davies took the Chair.
Jayne Bryant
It’s difficult to get an accurate current figure of the number of people who care for loved ones. Many would not define themselves as carers, but would see it as something you just do. In Wales, there are an estimated 400,000 unpaid carers, which is the highest proportion in the UK. In my own city of Newport alone, there are an estimated 22,000. Many of these people fall into the category of the ‘sandwich generation’, those people who are caring for multiple generations—elderly parents, adult children and grandchildren—at a time in their life that they were expected to still be working, or enjoying their retirement. Unpaid carers in Wales are estimated to provide 96 per cent of all care services in the community, and Carers Wales estimated that they saved £8.1 billion to the Welsh economy per year. They’re an unpaid workforce that underpins our NHS and social care system, and there is no doubt that we could not do without them. Mae’n anodd cael ffigur cyfredol cywir o nifer y bobl sy’n gofalu am anwyliaid. Ni fyddai llawer yn diffinio eu hunain fel gofalwyr, dim ond ei ystyried yn rhywbeth y bydd rhywun yn ei wneud. Yng Nghymru, amcangyfrifir bod 400,000 o ofalwyr di-dâl, sef y gyfran uchaf yn y DU. Amcangyfrifir bod 22,000 o ofalwyr yn fy ninas i, sef Casnewydd. Mae llawer o’r bobl hyn yn perthyn i gategori’r ‘genhedlaeth frechdan’, y bobl sy’n gofalu am fwy nag un genhedlaeth—rhieni oedrannus, plant sy’n oedolion ac wyrion—ar adeg yn eu bywydau y mae disgwyl iddynt ddal i fod yn gweithio, neu’n mwynhau eu hymddeoliad. Amcangyfrifir bod gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn darparu 96 y cant o’r holl wasanaethau gofal yn y gymuned, ac amcangyfrifodd Gofalwyr Cymru eu bod yn arbed £8.1 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn. Maent yn weithlu di-dâl sy’n sail i’n GIG a’n system gofal cymdeithasol, ac nid oes amheuaeth na allem wneud hebddynt.
I believe it’s our duty to lead the way in protecting and supporting carers. It’s important to note that the Welsh Government has already made incredible strides. In the Social Services and Well-being (Wales) Act 2015, for the first time the same rights are extended to carers as those they care for. This is an excellent opportunity to support our carers, but today I want to focus on older people who care, and what happens after their time as a carer comes to an end. In particular, how do we support our carers at a time when they feel isolated and like they’ve lost their identity? We need to acknowledge the impact caring has on someone’s health, their future prospects, and the importance of respite. We must recognise the unique expertise carers have, and how valuable they are to our community and society, and, importantly, we need to think about how we can harness these skills, and prepare carers for the future, to ensure that no-one is left behind. Rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd arnom i arwain y ffordd drwy amddiffyn a chefnogi gofalwyr. Mae’n bwysig nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi camau anhygoel ar waith. Yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015, am y tro cyntaf rhoddir yr un hawliau i ofalwyr â’r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Mae hwn yn gyfle gwych i gefnogi ein gofalwyr, ond heddiw rwyf am ganolbwyntio ar bobl hŷn sy’n gofalu, a beth sy’n digwydd ar ôl i’w hamser fel gofalwyr ddod i ben. Yn benodol, sut rydym yn cefnogi ein gofalwyr ar adeg pan fyddant yn teimlo’n ynysig ac fel pe baent wedi colli eu hunaniaeth? Mae angen i ni gydnabod yr effaith y mae gofalu’n ei chael ar iechyd rhywun, eu rhagolygon yn y dyfodol, a phwysigrwydd seibiant. Mae’n rhaid i ni gydnabod yr arbenigedd unigryw sydd gan ofalwyr, a pha mor werthfawr ydynt i’n cymuned a’n cymdeithas, ac yn bwysig, mae angen i ni feddwl sut y gallwn harneisio’r sgiliau hyn, a pharatoi gofalwyr ar gyfer y dyfodol, er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl.
It’s a common feeling that, after caring for an extended period, many carers feel like they’ve lost their own identity. The experience of one of my constituents illustrates this. At the over 50s information event in Newport last year, I met a woman who’d been a full-time carer. She devoted her life after leaving school to caring for her mum, and then afterwards her husband. When I met her, sadly both of her beloved family members had passed away. She felt as though she had nothing. As a full-time carer she found it difficult to maintain a social life, and had never been able to start her own career. After spending most of her life caring for loved ones who depended entirely upon her, being a carer defined her. When those she cared for passed away, she felt that she had no purpose. At 55 she was healthy and keen to be active in society, but with no way to use the skills that she’d gained. This is just one example of many thousands of people who, after doing something that as a society I believe we should value immensely, felt left behind with little to look forward to in the future. Mae’n deimlad cyffredin, ar ôl gofalu am gyfnod estynedig, fod llawer o ofalwyr yn teimlo fel pe baent wedi colli eu hunaniaeth. Mae profiad un o fy etholwyr yn dangos hyn. Yn y digwyddiad gwybodaeth i bobl dros 50 oed yng Nghasnewydd y llynedd, cyfarfûm â menyw a oedd wedi bod yn ofalwr amser llawn. Rhoddodd ei bywyd ar ôl gadael yr ysgol i ofalu am ei mam, ac yna ar ôl hynny ei gŵr. Pan gyfarfûm â hi, yn anffodus, roedd y ddau aelod annwyl o’i theulu wedi marw. Teimlai fel pe na bai ganddi ddim. Fel gofalwr amser llawn roedd hi’n ei chael yn anodd cynnal bywyd cymdeithasol, ac nid oedd erioed wedi gallu dechrau ei gyrfa ei hun. Ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’i hoes yn gofalu am anwyliaid a oedd yn dibynnu’n gyfan gwbl arni, roedd bod yn ofalwr yn ei diffinio. Pan fu farw’r rhai roedd hi’n gofalu amdanynt, teimlai nad oedd iddi unrhyw bwrpas. Yn 55 oed, roedd hi’n iach ac yn awyddus i fod yn weithgar yn y gymdeithas, ond heb unrhyw ffordd o ddefnyddio’r sgiliau roedd hi wedi’u meithrin. Dyma un enghraifft yn unig o filoedd lawer o bobl sydd, ar ôl gwneud rhywbeth y credaf y dylwn ei werthfawrogi’n helaeth fel cymdeithas, yn teimlo eu bod wedi’u gadael ar ôl heb fawr i edrych ymlaen ato yn y dyfodol.
The impact that caring can have on both physical and mental health can be debilitating and long lasting. This can be particularly damaging to older carers. Conditions like arthritis, high blood pressure, back problems, are common amongst older carers, and, if left without the right support, the physical process of caring can exacerbate this even further. Carers can feel mentally exhausted, which is often worsened by worry, anxiety, and lack of sleep caused by the challenges of caring. In a survey conducted by Age UK of older carers, 75 per cent of those between 60 and 69 said caring had a negative impact on their mental health. We do not want to see anybody in a position where they’re sacrificing their own health, and if the health of the carer fails then it often puts the cared for in a crisis situation. Gall yr effaith y gall gofalu ei chael ar iechyd corfforol a meddyliol fod yn wanychol a hirsefydlog. Gall hyn fod yn arbennig o niweidiol i ofalwyr hŷn. Mae cyflyrau fel arthritis, pwysedd gwaed uchel a phroblemau cefn yn gyffredin ymysg gofalwyr hŷn, ac os cânt eu gadael heb gefnogaeth gywir, gall y broses gorfforol o ofalu waethygu hyn ymhellach. Gall gofalwyr deimlo’n flinedig yn feddyliol, sy’n cael ei waethygu’n aml drwy boeni, pryder, a diffyg cwsg a achosir gan heriau gofalu. Mewn arolwg o ofalwyr hŷn a gynhaliwyd gan Age UK, dywedodd 75 y cant o’r rhai rhwng 60 a 69 oed fod gofalu yn effeithio’n negyddol ar eu hiechyd meddwl. Nid ydym am weld unrhyw un mewn sefyllfa lle y maent yn aberthu eu hiechyd eu hunain, ac os yw iechyd y gofalwr yn methu yna mae’n aml yn rhoi’r sawl sy’n cael gofal mewn sefyllfa argyfyngus.
The physical and mental impact caring can have is demonstrated by another constituent of mine who was working abroad as a secondary school teacher when she came home to care for her 85-year-old mother who has dementia. Her 86-year-old father had previously cared for his wife until he fell and broke his ribs. Her father sadly died. My constituent gave up her job, moved in with her mother, and became a full-time carer. The physical challenges of caring had an impact, and she began to lose her confidence and became isolated, struggling to take part in social events as she would need to pay someone to look after her mother. Although she had some carers on some days, she had very little respite. Her mother did not sleep because of the dementia, which meant that they were both up all night, making it incredibly difficult to cope. My constituent’s mother died just before her ninetieth birthday, after nearly five years of being full-time cared for. Her isolation increased as care workers stopped visiting; the house was empty. She no longer had caring tasks and her allowance stopped. She was expected to go onto jobseeker’s allowance. Being a full-time carer changed my constituent’s life. After a successful career as a teacher, my constituent felt there was no way to get back on track again due to her age. She’d applied for several jobs, but had been unsuccessful, and this is heartbreaking, as she gave up a bright career to care for her mum when she needed her the most. Again, this is just one example of many. Mae modd dangos effaith gorfforol a meddyliol gofalu drwy hanes un arall fy etholwyr a oedd yn gweithio dramor fel athrawes ysgol uwchradd pan ddaeth adref i ofalu am ei mam 85 oed sydd â dementia. Roedd ei thad 86 oed wedi gofalu am ei wraig cyn hynny nes iddo gwympo a thorri ei asennau. Yn anffodus, bu ei thad farw. Rhoddodd fy etholwr y gorau i’w swydd, symud at ei mam a dod yn ofalwr amser llawn. Effeithiodd heriau corfforol gofalu arni, a dechreuodd golli ei hyder a mynd yn ynysig, ac roedd yn ei chael yn anodd cymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol gan y byddai angen iddi dalu rhywun i edrych ar ôl ei mam. Er ei bod yn cael peth gwasanaeth gofalwyr ar rai dyddiau, ychydig iawn o seibiant a gâi. Nid oedd ei mam yn cysgu oherwydd y dementia, a oedd yn golygu bod y ddwy ohonynt yn effro drwy’r nos, gan ei gwneud yn hynod o anodd ymdopi. Bu farw mam fy etholwr yn union cyn ei phen-blwydd yn 90 oed, ar ôl bron i bum mlynedd o gael gofal amser llawn. Cynyddodd ei harwahanrwydd wrth i weithwyr gofal roi’r gorau i ymweld; roedd y tŷ yn wag. Bellach, nid oedd ganddi dasgau gofalu a daeth ei lwfans i ben. Roedd disgwyl iddi fynd ar lwfans ceisio gwaith. Newidiodd bod yn ofalwr amser llawn fywyd fy etholwr. Ar ôl gyrfa lwyddiannus fel athrawes, teimlai nad oedd unrhyw ffordd o fynd yn ôl ar lwybr gyrfa eto oherwydd ei hoedran. Roedd hi wedi ymgeisio am nifer o swyddi, ond yn aflwyddiannus, ac mae hyn yn dorcalonnus, gan iddi roi’r gorau i yrfa ddisglair i ofalu am ei mam pan oedd hi fwyaf o’i hangen. Unwaith eto, un enghraifft yn unig o blith nifer yw hon.
Carers know the importance of respite. It can be a lifeline to give the carer space and time to continue to be able to look after them in their own home. It’s a big step for many people to feel that they can leave their loved one with someone else, but, once the first step is taken, it’s an essential way of supporting the carer. Respite cannot be a one-size-fits-all model. Flexible forms of respite have to be looked at to ensure that it works for each individual carer and situation. Mae gofalwyr yn gwybod pa mor bwysig yw gofal seibiant. Gall fod yn achubiaeth i roi gofod ac amser i ofalwyr allu parhau i ofalu amdanynt yn eu cartref eu hunain. Mae’n gam mawr i lawer o bobl i deimlo eu bod yn gallu gadael eu hanwyliaid gyda rhywun arall, ond ar ôl cymryd y cam cyntaf, mae’n ffordd hanfodol o gefnogi’r gofalwr. Ni all gofal seibiant fod yn ateb un model sy’n addas i bawb. Rhaid edrych ar ffurfiau hyblyg o seibiant i sicrhau ei fod yn gweithio ar gyfer pob gofalwr a sefyllfa unigol.
I also think that it’s important that we do all we can to support those who have a caring responsibility to stay in their jobs for as long as possible. Initiatives to reward employers that support carers and recognise the importance of retaining experienced staff members must be looked at. Rwyf hefyd yn credu ei bod yn bwysig i ni wneud popeth a allwn i gynorthwyo’r rhai sydd â chyfrifoldeb gofalu i aros yn eu swyddi cyhyd ag y bo modd. Rhaid edrych ar fentrau i wobrwyo cyflogwyr sy’n cefnogi gofalwyr ac yn cydnabod pwysigrwydd cadw aelodau staff profiadol.
In my constituency, Aneurin Bevan health board have launched a new initiative, Ffrind i mi, which is looking for volunteers to match with anyone who’s feeling lonely and isolated. The idea is to say, ‘Let me introduce you to a friend of mine’. Working with Newport City Council community connectors and other befriending services, they want to get to as many people as possible. Initiatives like these can make a huge difference to carers, who can be isolated. Yn fy etholaeth i, mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi lansio menter newydd, Ffrind i Mi, sy’n chwilio am wirfoddolwyr i baru gydag unrhyw un sy’n teimlo’n unig ac yn ynysig. Y syniad yw dweud, ‘Gadewch i mi eich cyflwyno i ffrind i mi’. Gan weithio gyda chysylltwyr cymunedol Cyngor Dinas Casnewydd a gwasanaethau cyfeillio eraill, maent am gyrraedd cymaint o bobl ag y bo modd. Gall mentrau fel y rhain wneud gwahaniaeth enfawr i ofalwyr, a allai fod wedi’u hynysu.
Now, more than ever, it’s vital that we harness the expertise of these highly skilled carers, while simultaneously providing for carers once their cared for has passed away. The Open University in Wales developed a free online course last year designed specifically for carers called, ‘What about me?’ The point of the course was to help carers identify the skills they have and help them to return to education or employment. Again, this is something that I feel needs to be supported and promoted. Indeed, I feel we need to go further to explore potential training opportunities and qualifications for our unpaid carers. I wholeheartedly believe that, after years of devoting their lives to others, carers deserve the recognition and future prospects that a qualification can give. They deserve respite, they deserve recognition, but, most of all, they deserve our unwavering support. Yn awr, yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol ein bod yn harneisio arbenigedd y gofalwyr medrus hyn, gan ddarparu ar gyfer gofalwyr ar yr un pryd pan fydd y rhai y maent wedi bod yn gofalu amdanynt yn marw. Datblygodd y Brifysgol Agored yng Nghymru gwrs ar-lein rhad ac am ddim y llynedd a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer gofalwyr, cwrs o’r enw ‘What about me?’ Pwynt y cwrs oedd helpu gofalwyr i nodi’r sgiliau sydd ganddynt a’u helpu i ddychwelyd at addysg neu gyflogaeth. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth y teimlaf fod angen ei gefnogi a’i hyrwyddo. Yn wir, rwy’n teimlo bod angen i ni fynd ymhellach i archwilio cyfleoedd hyfforddi a chymwysterau posibl ar gyfer ein gofalwyr di-dâl. Ar ôl blynyddoedd o neilltuo eu bywydau i eraill, rwy’n credu’n bendant fod gofalwyr yn haeddu’r gydnabyddiaeth a’r rhagolygon ar gyfer y dyfodol y gall cymhwyster ei roi. Maent yn haeddu seibiant, maent yn haeddu cydnabyddiaeth, ond yn bennaf oll, maent yn haeddu ein cefnogaeth ddiwyro.
18:28 - Joyce Watson
Thank you very much for bringing this extremely important debate forward here today. I’m going to focus my minute on young carers, those under 18 years of age, who, according to the 2011 census—it identified over 11,500 young carers in Wales offering ongoing care and emotional support to their family members. Young carers often experience isolation, bullying, and they struggle educationally, and they can miss out on those opportunities that other children enjoy when it comes to play and learning. They’re often too frightened to ask for help, as they’re worried about letting their family down, and, consequently, being taken into care. That is why it’s so imperative that all schools, health professionals and other organisations that do come into contact with young carers are appropriately trained to identify and engage with them to ensure that their needs are met. The young carers online toolkit that was commissioned by the Welsh Government does help tackle that very issue, but organisations like Action for Children are critically important in supporting those carers. They have nine young carers projects in Wales, they offer a range of services, and work with schools. They have outings for young carers, advocacy, and there are several in Pembrokeshire, and there is one in Ceredigion in my area. Diolch yn fawr am gyflwyno’r ddadl eithriadol o bwysig hon yma heddiw. Rwy’n mynd i ganolbwyntio fy munud ar ofalwyr ifanc, y rhai dan 18 oed, a oedd, yn ôl cyfrifiad 2011—nododd fod dros 11,500 o ofalwyr ifanc yng Nghymru sy’n cynnig gofal parhaus a chefnogaeth emosiynol i aelodau o’u teuluoedd. Mae gofalwyr ifanc yn aml yn profi unigrwydd a bwlio, ac maent yn ei chael hi’n anodd yn addysgol, a gallant golli’r cyfleoedd y bydd plant eraill yn eu mwynhau o ran chwarae a dysgu. Maent yn aml yn rhy ofnus i ofyn am help, gan eu bod yn poeni ynglŷn â gwneud cam â’u teuluoedd, a chael eu rhoi mewn gofal o ganlyniad i hynny. Dyna pam ei bod mor hanfodol fod yr holl ysgolion, gweithwyr iechyd proffesiynol a sefydliadau eraill sy’n dod i gysylltiad â gofalwyr ifanc yn cael eu hyfforddi’n briodol i’w hadnabod ac i ymgysylltu â hwy er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu. Mae’r pecyn cymorth ar-lein i ofalwyr ifanc a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn helpu i fynd i’r afael â’r union fater hwnnw, ond mae sefydliadau fel Gweithredu dros Blant yn hanfodol bwysig o ran cefnogi’r gofalwyr hynny. Mae ganddynt naw prosiect ar gyfer gofalwyr ifanc yng Nghymru, maent yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, ac yn gweithio gydag ysgolion. Mae ganddynt wibdeithiau ar gyfer gofalwyr ifanc, eiriolaeth, ac mae sawl un yn Sir Benfro, ac un yng Ngheredigion yn fy ardal.
18:29 - Suzy Davies
Diolch. Julie Morgan. Diolch. Julie Morgan.
18:29 - Julie Morgan
Thank you, and thanks very much to Jayne Bryant for holding this very important debate. I think Jayne has illustrated the huge toll that caring can take on the carers, especially when they’re elderly themselves. I think it’s very important to remember that, however great the toll is, the carers want to care because it’s often their most loved person that they are caring for. Diolch i chi, a diolch yn fawr iawn i Jayne Bryant am gynnal y ddadl bwysig hon. Rwy’n meddwl bod Jayne wedi dangos yr effaith enfawr y gall gofalu ei chael ar y gofalwyr, yn enwedig pan fyddant yn hŷn eu hunain. Waeth pa mor fawr yw’r effaith, credaf ei bod yn bwysig iawn cofio bod gofalwyr yn awyddus i ofalu am mai’r person mwyaf annwyl iddynt yw’r person y maent yn gofalu amdanynt.
I just wanted to illustrate the real problems that can come from a caring situation with the very sad events that happened in my constituency last year. My 86-year-old constituent had been caring for his wife, also 86, who had been suffering from dementia for many years. Their children had left home. My constituent wanted to remain independent, and his wife had begged him not to put her in a home. Sadly, in July last year, everything became too much. My constituent killed his wife and threw himself under a train at Cardiff Central. He died in hospital seven weeks later. This is a very extreme case, but in the inquest, the inquest was told that my constituent had been caught in the fog of fatigue and he had given up. I think it is an illustration—an extreme illustration—of the state that you can get in, because this was a loving family: a carer who loved his wife but was driven to extreme measures because of the great toll that it had taken on him. So, I’d like to thank Jayne very much for highlighting these issues today. Roeddwn eisiau dangos y problemau go iawn a all ddod o sefyllfa ofalu gyda’r digwyddiadau trist iawn a ddigwyddodd yn fy etholaeth y llynedd. Roedd un o fy etholwyr 86 oed wedi bod yn gofalu am ei wraig, a oedd hefyd yn 86, ac wedi bod yn dioddef o ddementia ers blynyddoedd lawer. Roedd eu plant wedi gadael cartref. Roedd fy etholwr eisiau aros yn annibynnol, ac roedd ei wraig wedi erfyn arno i beidio â’i rhoi mewn cartref. Yn anffodus, ym mis Gorffennaf y llynedd, daeth popeth yn ormod. Lladdodd fy etholwr ei wraig a thaflu ei hun o dan drên yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Bu farw yn yr ysbyty saith wythnos yn ddiweddarach. Mae hwn yn achos eithafol iawn, ond yn y cwest, dywedwyd wrth y cwest fod fy etholwr wedi cael ei ddal mewn niwl o flinder ac roedd wedi rhoi’r ffidil yn y to. Rwy’n credu ei bod yn enghraifft—enghraifft eithafol—o’r cyflwr y gallwch fynd iddo, gan fod hwn yn deulu cariadus: gofalwr a oedd yn caru ei wraig ond a gafodd ei yrru i wneud rhywbeth eithafol oherwydd yr effaith fawr a gafodd hynny arno. Felly, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Jayne am dynnu sylw at y materion hyn heddiw.
18:31 - Hannah Blythyn
I too want to thank Jayne Bryant for bringing this most important issue of our time, I believe, to the floor of the Assembly today. I just wanted to briefly contribute, because, like many others, this is an issue that is very close to my heart, because, like many others in this Chamber and across the country, my family has first-hand experience of the challenges faced by unpaid carers. I know that the Member for Newport West is an incredibly strong advocate in this area. Rwyf finnau hefyd am ddiolch i Jayne Bryant am ddod â mater pwysicaf ein hoes yn fy marn i i lawr y Cynulliad heddiw. Roeddwn ond eisiau cyfrannu’n fyr, oherwydd, fel llawer o bobl eraill, mae hwn yn fater sy’n agos iawn at fy nghalon, oherwydd, fel llawer o bobl eraill yn y Siambr hon ac ar draws y wlad, mae fy nheulu wedi cael profiad uniongyrchol o’r heriau a wynebir gan ofalwyr di-dâl. Gwn fod yr Aelod dros Orllewin Casnewydd yn ddadleuwr anhygoel o gryf yn y maes hwn.
At my local level, in the local authority, I know, to my knowledge, that there is a lot more that’s being done to help unpaid carers through the local authority and the voluntary sector working together, but I think what we need to do now is build on this work to develop innovative and sustainable solutions to plug that gap that still exists sometimes between the acute hospital setting, community hospitals and other means of respite step-up and step-down care, as well as homecare, but these need to fit, be tailored and be flexible to fit the family and the circumstances. So, we all know that the pressures are growing and that people are living longer, which obviously is a positive, but we need to actually deal with how we meet those challenges, both financial and demographic. So, I’ll just finish by saying that I think that we need to see how all partners can work together to develop new models of public sector provision that have both those needing care and those providing care at their core. Ar fy lefel leol, yn yr awdurdod lleol, fe wn fod yna lawer mwy sy’n cael ei wneud i helpu gofalwyr di-dâl drwy’r awdurdod lleol a’r sector gwirfoddol yn gweithio gyda’i gilydd, ond rwy’n meddwl mai’r hyn sydd angen i ni ei wneud yn awr yw adeiladu ar y gwaith hwn i ddatblygu atebion arloesol a chynaliadwy i gau’r bwlch sy’n dal i fodoli weithiau rhwng ysbytai acíwt, ysbytai cymunedol a mathau eraill o ofal seibiant cam-i-fyny cam-i-lawr, yn ogystal â gofal cartref, ond mae angen i’r rhain fod yn addas, a chael eu teilwra a bod yn hyblyg i weddu i’r teulu a’r amgylchiadau. Felly, rydym i gyd yn gwybod bod y pwysau’n cynyddu a bod pobl yn byw’n hwy, sy’n amlwg yn gadarnhaol, ond mae angen inni ymdrin â sut rydym yn ateb yr heriau hynny mewn gwirionedd, yn ariannol ac yn ddemograffig. Felly, fe orffennaf drwy ddweud fy mod yn meddwl bod angen i ni weld sut y gall yr holl bartneriaid gydweithio i ddatblygu modelau newydd o ddarpariaeth yn y sector cyhoeddus sydd â’r rhai sydd angen gofal a’r rhai sy’n darparu gofal yn ganolog iddynt.
18:32 - Suzy Davies
Galwaf ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i’r ddadl. I call on the Minister for Social Services and Public Health to reply to the debate.
18:32 - Rebecca Evans
Thank you. As a Government, we recognise the vital role that carers undertake on a daily basis, and these include husbands, wives, parents, children, relatives, friends and neighbours, who provide unpaid but invaluable care for some of the most vulnerable people in our communities. In Wales, there are around 385,000 carers, accounting for more than 10 per cent of our population, and it’s estimated that that number will double over the next 15 years. Given the outstanding and selfless work that carers do, we have to ensure that they’re not taken for granted and are provided with the appropriate help and support that they need. Diolch. Fel Llywodraeth, rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae gofalwyr yn ymgymryd â hi’n ddyddiol, ac mae’r rhain yn cynnwys gwŷr, gwragedd, rhieni, plant, perthnasau, ffrindiau a chymdogion, yn darparu gofal di-dâl ond amhrisiadwy i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Yng Nghymru, mae tua 385,000 o ofalwyr, sy’n fwy na 10 y cant o’n poblogaeth, ac amcangyfrifir y bydd y rhif hwnnw’n dyblu dros y 15 mlynedd nesaf. O ystyried y gwaith rhagorol a dihunan y mae gofalwyr yn ei wneud, mae’n rhaid i ni sicrhau nad ydynt yn cael eu cymryd yn ganiataol a’u bod yn cael y cymorth a’r gefnogaeth briodol sydd eu hangen arnynt.
The Welsh Government has long sought to improve the lives of carers. In 2000, we published our carers strategy for Wales, which provided a framework for delivering services and support for carers. This was followed 10 years later with the Carers Strategies (Wales) Measure 2010 and, more recently, the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 has enabled us to build on the progress and strengthen our commitment to carers. Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio gwella bywydau gofalwyr ers amser maith. Yn 2000, fe gyhoeddasom ein strategaeth ofalwyr ar gyfer Cymru, a oedd yn rhoi fframwaith ar gyfer darparu gwasanaethau a chymorth i ofalwyr. Dilynwyd hyn 10 mlynedd yn ddiweddarach gan y Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 ac, yn fwy diweddar, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi ein galluogi i adeiladu ar y cynnydd a chryfhau ein hymrwymiad i ofalwyr.
As Jayne recognised in her opening speech, the Act, which came into force in April of last year, significantly strengthens the rights of carers. Now, for the first time, carers have an equal right to assessment and support as the people they care for. They no longer need to demonstrate that they provide significant care in order to have their needs assessed. Whilst previously the onus was on the carer to request an assessment, the Act now places a statutory duty on local authorities to proactively inform carers of their right to be assessed. Once an assessment has been undertaken, and if it’s confirmed that the carer is eligible, then the local authority is required to put in place a statutory care plan to meet the needs that have been identified. Fel y cydnabu Jayne yn ei haraith agoriadol, mae’r Ddeddf, a ddaeth i rym ym mis Ebrill y llynedd, yn cryfhau hawliau gofalwyr yn sylweddol. Nawr, am y tro cyntaf, mae gan ofalwyr yr un faint o hawl â’r bobl y maent yn gofalu amdanynt i asesiad a chefnogaeth. Nid oes angen iddynt ddangos mwyach eu bod yn darparu gofal sylweddol er mwyn cael eu hanghenion wedi’u hasesu. Er bod y cyfrifoldeb ar y gofalwr yn flaenorol i ofyn am asesiad, mae’r Ddeddf yn awr yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fynd ati’n rhagweithiol i hysbysu gofalwyr am eu hawl i gael eu hasesu. Pan fydd asesiad wedi’i gynnal, ac os caiff ei gadarnhau bod y gofalwr yn gymwys, yna mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol sefydlu cynllun gofal statudol i ddiwallu’r anghenion a nodwyd.
We know that, sometimes, it can be difficult for carers to find the right information and advice, and this is why the Act requires local authorities to ensure that carers can readily access information, advice and assistance about the type of support and services available in their communities. As well as ensuring that services and support are available, we also need to ensure that there’s effective working across health and local authorities, as well as with the third sector and other partners. Seven statutory regional partnership boards have therefore been established. The boards must work together to ensure the provision of integrated services, care and support. A number of priority areas have been set out in statutory guidance, one of which relates to carers. There’s also a requirement to have a carer representative on the board to ensure that the carer’s perspective is always at the heart of the agenda. I hope that this level of partnership working and innovative approach will meet some of those challenges that Hannah Blythyn set out in her speech. Weithiau, gwyddom y gall fod yn anodd i ofalwyr ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cyngor cywir, a dyma pam y mae’r Ddeddf yn gofyn i awdurdodau lleol sicrhau y gall gofalwyr gael hyd i wybodaeth, cyngor a chefnogaeth yn rhwydd ynglŷn â’r math o gymorth a gwasanaethau sydd ar gael yn eu cymunedau. Yn ogystal â sicrhau bod gwasanaethau a chymorth ar gael, mae angen sicrhau bod gweithio effeithiol yn digwydd hefyd ar draws awdurdodau iechyd a lleol, yn ogystal â’r trydydd sector a phartneriaid eraill. Felly sefydlwyd saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol statudol. Mae’n rhaid i’r byrddau gydweithio i sicrhau bod gwasanaethau, gofal a chymorth integredig yn cael eu darparu. Nodwyd nifer o feysydd blaenoriaeth mewn canllawiau statudol, gydag un ohonynt yn ymwneud â gofalwyr. Mae gofyniad hefyd i gael cynrychiolydd gofalwyr ar y bwrdd er mwyn sicrhau bod safbwynt y gofalwr bob amser wrth galon yr agenda. Rwy’n gobeithio y bydd y lefel hon o waith partneriaeth ac ymagwedd arloesol yn ateb rhai o’r heriau a nodwyd gan Hannah Blythyn yn ei haraith.
The Act will be evaluated to determine progress and whether or not it’s delivering what we set out to achieve. This will be undertaken in three phases. Policies under the Act will be monitored during the initial year of implementation to understand whether they’re being implemented as intended and whether they have supported improvements. There’ll be ongoing evaluation through the national outcomes framework and the local authority performance measurement framework. Reporting will be undertaken annually and will provide information on whether well-being is improving nationally. An independent, external piece of research will be commissioned. We will work with stakeholders to ensure that the sector continues to be involved and provides guidance for this important work. Bydd y Ddeddf yn cael ei gwerthuso i bennu cynnydd a pha un a yw’n cyflawni’r hyn y bwriadwyd ei gyflawni ai peidio. Gwneir hyn mewn tri cham. Bydd polisïau o dan y Ddeddf yn cael eu monitro yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu er mwyn deall a ydynt yn cael eu gweithredu yn ôl y bwriad ac a ydynt wedi cefnogi gwelliannau. Bydd gwerthuso parhaus yn digwydd drwy’r fframwaith canlyniadau cenedlaethol a fframwaith mesur perfformiad yr awdurdod lleol. Ceir adroddiadau blynyddol i ddarparu gwybodaeth er mwyn dangos pa un a yw lles yn gwella’n genedlaethol. Comisiynir ymchwil annibynnol allanol. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod y sector yn parhau i fod wedi’i gynnwys ac yn darparu canllawiau ar gyfer y gwaith pwysig hwn.
Whilst the Act provides significant gains for carers, it is important that we recognise the progress already made by local authorities, health boards and the third sector under the carers Measure. This has included work to mainstream carers’ issues, improve early identification of carers and empower carers in decision making. To support transition from the requirements in the carers Measure to the enhanced duties in the Act, £1 million-worth of funding was allocated for 2016-17 and there will also be a further £1 million for 2017-18. This spending is to provide support for health, local authorities and the third sector to work in partnership and support carers. The funding has been provided to strengthen the partnership approach at a regional level and create opportunities to enable the third sector to fully participate in delivery. It has also been provided to enable existing good practice to be embedded and mainstreamed so that it becomes common practice. Er bod y Ddeddf yn darparu gwelliannau sylweddol i ofalwyr, mae’n bwysig ein bod yn cydnabod y cynnydd a wnaed eisoes gan awdurdodau lleol, byrddau iechyd a’r trydydd sector o dan y Mesur gofalwyr. Mae hyn wedi cynnwys gwaith ar brif ffrydio problemau gofalwyr, gwella’r modd o adnabod gofalwyr yn gynnar a grymuso gofalwyr yn y broses o wneud penderfyniadau. I gefnogi’r trawsnewid o’r gofynion yn y Mesur gofalwyr i’r dyletswyddau manylach yn y Ddeddf, dyrannwyd £1 filiwn o arian ar gyfer 2016-17 a cheir £1 filiwn o arian pellach ar gyfer 2017-18. Bwriedir i’r gwariant hwn ddarparu cefnogaeth i’r maes iechyd, awdurdodau lleol a’r trydydd sector weithio mewn partneriaeth a chefnogi gofalwyr. Darparwyd y cyllid i gryfhau’r dull partneriaeth ar lefel ranbarthol a chreu cyfleoedd i alluogi’r trydydd sector i gymryd rhan lawn yn y gwaith o gyflawni. Fe’i rhoddwyd hefyd i alluogi arferion da presennol i gael eu hymgorffori a’u prif ffrydio fel eu bod yn dod yn arferion cyffredin.
We’re currently refreshing our carers strategy and this will reflect the enhancement of carers’ rights in the Act and will set out the key priority areas and actions that will be taken forward to support carers. This will be developed in partnership with carers’ networks and organisations and with carers themselves to ensure there is joint ownership and action taken to address the issues that really matter to carers. I met with the Wales Carers Alliance in December so that I could hear directly from them the issues that they think we need to be considering when developing the plan. Ar hyn o bryd rydym yn adnewyddu ein strategaeth ofalwyr a bydd yn adlewyrchu’r gwelliannau i hawliau gofalwyr yn y Ddeddf ac yn nodi’r meysydd blaenoriaeth allweddol a chamau gweithredu a gaiff eu datblygu i gefnogi gofalwyr. Datblygir hyn mewn partneriaeth â rhwydweithiau a sefydliadau gofalwyr a chyda gofalwyr eu hunain i sicrhau bod perchnogaeth ar y cyd a chamau ar y gweill i fynd i’r afael â’r materion sydd o bwys gwirioneddol i ofalwyr. Cyfarfûm â Chynghrair Cynhalwyr Cymru ym mis Rhagfyr er mwyn i mi glywed yn uniongyrchol ganddynt am y materion y credant fod angen i ni eu hystyried wrth ddatblygu’r cynllun.
The strategic action plan will set out what we’ve done, what we’ve been told by carers and what actions we will take in response to that. Carers have told us that they want to be recognised for the work that they do. They want easy access to the right information and assistance and they want support for their lives outside of the caring role, including access to respite care and short breaks. We know the importance of people being able to remain in their jobs when they’re caring for others. We also know how difficult it can be for carers when their caring role comes to an end, and Jayne referred earlier to the loneliness and isolation that carers can experience. Along with Jayne I attended the launch of Ffrind i Mi—Friend of Mine—in Newport, and recognise the importance of befriending schemes and the valuable role of volunteers. As I said in the recent debate on loneliness and isolation, as a Government we’re committed to doing all we can to address this issue, and this will include looking at what we can do to support carers. Therefore, in order to respond to what carers say is important to them, initial discussions with stakeholders have identified three key themes, which include identification and recognition of carers; information, advice and assistance; and life outside the caring role. Further discussions will be held over the coming months to identify the priority actions for delivery under each of these themes. This will be followed by formal public consultation over the summer. We have, however, already committed to exploring the provision of ID cards for young carers and we are also examining a national approach to respite care. Bydd y cynllun gweithredu strategol yn nodi’r hyn a wnaethom, yr hyn y dywedwyd wrthym gan ofalwyr a pha gamau y byddwn yn eu cymryd mewn ymateb i hynny. Mae gofalwyr wedi dweud wrthym eu bod am gael eu cydnabod am y gwaith y maent yn ei wneud. Maent eisiau mynediad hawdd at y wybodaeth a’r cymorth cywir ac maent eisiau cefnogaeth gyda’u bywydau y tu allan i’r rôl ofalu, gan gynnwys mynediad at ofal seibiant a gwyliau byr. Gwyddom pa mor bwysig yw hi i bobl allu aros yn eu swyddi pan fyddant yn gofalu am eraill. Gwyddom hefyd pa mor anodd y gall fod i ofalwyr pan ddaw eu rôl ofalu i ben, a chyfeiriodd Jayne yn gynharach at yr unigrwydd a’r arwahanrwydd sy’n gallu wynebu gofalwyr. Mynychais lansiad Ffrind i mi yng Nghasnewydd gyda Jayne, ac rwy’n cydnabod pwysigrwydd cynlluniau cyfeillio a rôl werthfawr gwirfoddolwyr. Fel y dywedais yn y ddadl ddiweddar ar unigrwydd ac arwahanrwydd, fel Llywodraeth rydym yn ymrwymedig i wneud popeth yn ein gallu i fynd i’r afael â’r mater hwn, a bydd yn cynnwys edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi gofalwyr. Felly, er mwyn ymateb i’r hyn y mae gofalwyr yn ei ddweud sy’n bwysig iddynt, mae trafodaethau cychwynnol gyda rhanddeiliaid wedi nodi tair thema allweddol, sy’n cynnwys adnabod a chydnabod gofalwyr; gwybodaeth, cyngor a chymorth; a bywyd y tu allan i’r rôl ofalu. Cynhelir trafodaethau pellach dros y misoedd nesaf i nodi’r camau gweithredu â blaenoriaeth sydd i’w cyflawni o dan bob un o’r themâu hyn. Dilynir hyn gan ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol yn ystod yr haf. Fodd bynnag, rydym eisoes wedi ymrwymo i archwilio’r posibilrwydd o ddarparu cardiau adnabod i ofalwyr ifanc, ac rydym hefyd yn archwilio ymagwedd genedlaethol tuag at ofal seibiant.
We’re also working as part of the British-Irish Council on a number of priority areas in relation to carers, and these include specific work streams on young carers—and certainly, I’ll be taking on board the comments that Joyce Watson has raised—and the carers of older people, including older carers. Julie’s very sad story illustrates the specific and very special pressures that are on older carers. Also, the identification of carers, and telecare and telehealth services and assistive technologies. This work will be used to inform the development of our strategic action plan for carers. Rydym hefyd yn gweithio’n rhan o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar nifer o feysydd blaenoriaeth mewn perthynas â gofalwyr, ac mae’r rhain yn cynnwys ffrydiau gwaith penodol ar ofalwyr ifanc—yn sicr, byddaf yn ystyried sylwadau Joyce Watson—a gofalwyr pobl hŷn, gan gynnwys gofalwyr hŷn. Mae stori drist iawn Julie yn dangos y pwysau penodol ac arbennig iawn sydd ar ofalwyr hŷn. Hefyd, nodi gofalwyr, a gwasanaethau teleofal a theleiechyd a thechnolegau cynorthwyol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei ddefnyddio i lywio’r broses o ddatblygu ein cynllun gweithredu strategol ar gyfer gofalwyr.
Finally, on behalf of the Welsh Government, I’d like to thank carers across Wales for their dedication and commitment to improving the lives of the people they care for. I’d also encourage them to exercise their rights and take up the support to which they’re entitled. We want carers to be actively involved in the work we’re undertaking to refresh the carers strategy so that we and other partners can ensure that we take action to address the issues that are really important to them. Thank you. Yn olaf, ar ran Llywodraeth Cymru, hoffwn ddiolch i ofalwyr ar draws Cymru am eu hymroddiad a’u hymrwymiad i wella bywydau’r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Hoffwn hefyd eu hannog i arfer eu hawliau a manteisio ar y cymorth y mae ganddynt hawl iddo. Rydym am i ofalwyr gymryd rhan weithredol yn y gwaith rydym yn ei wneud ar ailwampio’r strategaeth ofalwyr er mwyn i ni a phartneriaid eraill allu sicrhau ein bod yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r materion sy’n wirioneddol bwysig iddynt. Diolch.
18:40 - Suzy Davies
Diolch yn fawr. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Thank you. That brings today’s proceedings to a close.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:40. The meeting ended at 18:40.
Back to List View this page with hyperlinks

Partners & Help