By continuing to use our site, you are agreeing for us to set a small number of cookies. Cookie policy

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Back to list View this page with hyperlinks
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. The Assembly met at 13:30 with the Presiding Officer (Elin Jones) in the Chair.
13:30 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn. I call the National Assembly to order.
Datganiad gan y Llywydd Statement by the Presiding Officer
Cyn i ni ddechrau, dylai Aelodau fod wedi cael gwybod gan eu rheolwyr busnes o’m bwriad i fod yn fwy llym o hyn ymlaen wrth sicrhau bod Aelodau’n gofyn cwestiynau byr a chryno. Roedd y Pwyllgor Busnes yn cytuno mai dyma’r ffordd orau o sicrhau craffu effeithiol gan y Cynulliad, a byddaf yn galw i drefn unrhyw Aelod sy’n amddifadu eraill o’r cyfle i graffu drwy beidio dod ar eu hunion i gwestiwn. Before we begin, Members should have been informed by their business managers of my intention to be stricter from now on in ensuring that Members ask short, succinct questions. The Business Committee agreed that this is the best way of ensuring effective scrutiny, and I will call to order any Member who deprives others of the opportunity to scrutinise by not coming quickly to a question.
1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog 1. Questions to the First Minister
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. [R] signifies the Member has declared an interest. [W] signifies that the question was tabled in Welsh.
13:30 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Yr eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf gan Nick Ramsay. The first item on the agenda this afternoon is questions to the First Minister, and the first question is from Nick Ramsay.
Canolfan Gofal Critigol Arbenigol Llanfrechfa The Llanfrechfa Specialist Critical Care Centre
13:30 - Nick Ramsay
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer datblygu'r Ganolfan Gofal Critigol Arbenigol yn Llanfrechfa? OAQ(5)0190(FM) 1. Will the First Minister provide an update on the timescale for developing the Specialist Critical Care Centre at Llanfrechfa? OAQ(5)0190(FM)
13:30 - Carwyn Jones
Yes. Following an independent review carried out over the summer, I can confirm that the Cabinet Secretary will receive the information that he needs next week and will then be able to move towards making a decision. Gwnaf. Yn dilyn adolygiad annibynnol a gynhaliwyd dros yr haf, gallaf gadarnhau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn y wybodaeth sydd ei hangen arno yr wythnos nesaf ac yna’n gallu symud tuag at wneud penderfyniad.
13:30 - Nick Ramsay
Thank you, First Minister. You did indicate that that might be the case last week. There is growing concern in south-east Wales at the rate of progress with the specialist critical care centre, first planned over 10 years ago. You’ve said that the health Secretary is going to have that information at his disposal in the near future. Will you do what you can to take charge of this issue now, as a First Minister, and as a Welsh Government, to make sure that people in south Wales can be reassured that they are going to get that vital piece of the national health service infrastructure that they’ve waited for for a long time and really do need as soon as possible? Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Awgrymwyd gennych efallai mai dyna fyddai’r achos yr wythnos diwethaf. Ceir pryder cynyddol yn y de-ddwyrain gyda chyfradd y cynnydd gyda'r ganolfan gofal critigol arbenigol, a gynlluniwyd gyntaf dros 10 mlynedd yn ôl. Rydych chi wedi dweud bod y wybodaeth honno yn mynd i fod ar gael i’r Ysgrifennydd iechyd yn y dyfodol agos. A wnewch chi yr hyn a allwch i gymryd cyfrifoldeb am y mater hwn nawr, fel Prif Weinidog, ac fel Llywodraeth Cymru, i wneud yn siŵr y gall pobl yn y de fod yn sicr eu bod yn mynd i gael y darn hanfodol hwnnw o seilwaith gwasanaeth iechyd gwladol y maen nhw wedi bod yn aros amdano ers amser maith ac y mae wir ei angen arnynt cyn gynted â phosibl?
13:31 - Carwyn Jones
The information is there. I also have to pay tribute to Lynne Neagle, my colleague, the Member for Torfaen, who has been unstinting in her advocacy of the SCCC. And it’s right to say that, with a project of this size, full consideration has to be given to the project from a financial perspective, but the decision-making process can now begin, as it will be in the hands of the Secretary next week. Mae'r wybodaeth yno. Mae'n rhaid i mi hefyd dalu teyrnged i Lynne Neagle, fy nghydweithiwr, yr Aelod dros Dorfaen, sydd wedi bod yn ddiflino yn ei heiriolaeth o’r Ganolfan Gofal Critigol Arbenigol. Ac mae'n iawn i ddweud, gyda phrosiect o'r maint hwn, y rhoddwyd ystyriaeth lawn i'r prosiect o safbwynt ariannol, ond gall y broses o wneud penderfyniad ddechrau nawr, gan y bydd yn nwylo'r Ysgrifennydd yr wythnos nesaf.
Cynllun Peilot Rhagnodi Cymdeithasol The Social Prescription Pilot Scheme
13:31 - Jayne Bryant
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynllun peilot Rhagnodi Cymdeithasol? OAQ(5)202(FM) 2. Will the First Minister make a statement on the Social Prescription pilot scheme? OAQ(5)202(FM)
13:32 - Carwyn Jones
We are committed to piloting a social prescription scheme as part of our programme for government, and we are currently working with stakeholders to scope how the scheme could best operate. Rydym ni wedi ymrwymo i dreialu cynllun rhagnodi cymdeithasol yn rhan o'n rhaglen lywodraethu, ac rydym ni wrthi’n gweithio gyda rhanddeiliaid i gwmpasu sut y gallai'r cynllun weithredu orau.
13:32 - Jayne Bryant
Thank you, First Minister. Social prescribing offers an opportunity to look beyond medication. Chronic loneliness is as bad for our health as smoking 15 cigarettes a day, and as damaging as obesity and physical inactivity. Research shows it affects people across their lifetime. Befriending groups can provide a vital lifeline in the battle against loneliness and are one example that can help reduce medication. In Aneurin Bevan health board, there’s an exciting new project called ‘Ffrind i Mi’ which is designed to act as a prescription for loneliness. Does the First Minister agree with me that communication between health and community services must be as good as possible to make this work, and what support can be given to encourage volunteers, who will be crucial to the success of social prescribing? Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae rhagnodi cymdeithasol yn cynnig cyfle i edrych y tu hwnt i feddyginiaeth. Mae unigrwydd cronig yr un mor ddrwg i'n hiechyd ag ysmygu 15 sigarét y dydd, ac mor niweidiol â gordewdra ac anweithgarwch corfforol. Mae ymchwil yn dangos ei fod yn effeithio ar bobl trwy gydol eu hoes. Gall grwpiau cyfeillio gynnig achubiaeth hollbwysig yn y frwydr yn erbyn unigrwydd ac maen nhw’n un enghraifft a all helpu i leihau meddyginiaeth. Ceir prosiect newydd cyffrous ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan, o'r enw 'Ffrind i Mi' sydd â’r nod o weithredu fel presgripsiwn ar gyfer unigrwydd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod yn rhaid i gyfathrebu rhwng gwasanaethau iechyd a chymunedol fod cystal â phosibl i hyn weithio, a pha gymorth y gellir ei roi i annog gwirfoddolwyr, a fydd yn hanfodol i lwyddiant rhagnodi cymdeithasol?
13:33 - Carwyn Jones
It’s absolutely correct to say that we need to look at holistic approaches to helping people when they feel depressed and when they feel isolated, and the Member’s right to point that out. I can say that the Welsh Government is providing £180,000 over the next three years to help develop volunteer-led networks that support lonely and isolated people within communities, similar to the scheme that she’s already mentioned. Mae'n gwbl gywir i ddweud bod angen i ni edrych ar ddulliau cyfannol i helpu pobl pan fyddan nhw’n teimlo'n isel a phan fyddan nhw’n teimlo’n ynysig, ac mae’r Aelod yn iawn i dynnu sylw at hynny. Gallaf ddweud bod Llywodraeth Cymru yn darparu £180,000 dros y tair blynedd nesaf i helpu i ddatblygu rhwydweithiau a arweinir gan wirfoddolwyr sy'n cynorthwyo pobl unig ac ynysig mewn cymunedau, yn debyg i'r cynllun y mae hi wedi ei grybwyll eisoes.
13:33 - Angela Burns
First Minister, as you’re aware, social prescribing is highly dependent on the third sector, the community organisations and voluntary groups. However, many rural communities have faced consistent downgrading of community assets and the support networks. How will the Welsh Government, the health boards, and local government work effectively together to ensure that community assets are in place? A brief example is the threatened closure of the Avenue Centre in Tenby, which was being threatened with closure under the terms of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014. That’s what the local government tried to do. If you take that kind of asset away, then social prescribing, which we utterly support and think is an excellent way forward, is really going to struggle to be delivered on the ground specifically in rural communities. So, how are you going to tie all this together to make sure— Brif Weinidog, fel y gwyddoch, mae rhagnodi cymdeithasol yn dibynnu'n helaeth ar y trydydd sector, y mudiadau cymunedol a grwpiau gwirfoddol. Fodd bynnag, mae llawer o gymunedau gwledig wedi wynebu israddio cyson o asedau cymunedol a'r rhwydweithiau cymorth. Sut gwnaiff Llywodraeth Cymru, y byrddau iechyd, a llywodraeth leol weithio’n effeithiol gyda'i gilydd i sicrhau bod asedau cymunedol ar gael? Enghraifft gryno yw’r bygythiad i gau Canolfan Avenue yn Ninbych-y-pysgod, yr oedd bygythiad i'w chau o dan delerau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Dyna beth geisiodd llywodraeth leol ei wneud. Os cymerwch chi'r math hwnnw o ased oddi wrth pobl, yna mae rhagnodi cymdeithasol, yr ydym ni’n ei gefnogi’n llwyr ac yn credu sy’n ffordd ragorol ymlaen, wir yn mynd i gael trafferth i gael ei ddarparu ar lawr gwlad, yn enwedig mewn cymunedau gwledig. Felly, sut ydych chi'n mynd i dynnu hyn i gyd at ei gilydd i wneud yn siŵr—
13:34 - Y Llywydd / The Presiding Officer
You’ve asked your question. First Minister. Rydych chi wedi gofyn eich cwestiwn. Brif Weinidog.
13:34 - Carwyn Jones
It’s absolutely right that good communication between health and community services will be crucial for the networks to be developed and established in order to spend the money that I referred to earlier wisely. We did launch our new three-year delivery plan for our mental health strategy, ‘Together for Mental Health’, yesterday, and the social prescribing pilot included in the delivery plan will also complement that action. I would hope then that local government can learn from the delivery plan and implement best practice in their areas. Mae'n gwbl gywir y bydd cyfathrebu da rhwng gwasanaethau iechyd a chymunedol yn hanfodol i’r rhwydweithiau gael eu datblygu a'u sefydlu er mwyn gwario'r arian y cyfeiriais ato’n gynharach yn ddoeth. Fe wnaethom ni lansio ein cynllun cyflawni tair blynedd newydd ar gyfer ein strategaeth iechyd meddwl, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', ddoe, a bydd y cynllun rhagbrofol rhagnodi cymdeithasol a gafodd ei gynnwys yn y cynllun cyflawni hefyd yn ategu’r camau hynny. Byddwn yn gobeithio wedyn y gall llywodraeth leol ddysgu o’r cynllun cyflawni a chyflwyno arfer gorau yn eu hardaloedd.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Questions Without Notice from the Party Leaders
13:34 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Cwestiynau yn awr gan arweinwyr y pleidiau. Rwy’n galw yn gyntaf yr wythnos yma arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. Questions now from the party leaders, and I first of all call the leader of the Welsh Conservatives, Andrew R.T. Davies.
13:34 - Andrew R.T. Davies
Thank you, Presiding Officer. First Minister, I ask these series of questions as a supporter of alleviating the traffic congestion around Newport. But, last week’s announcement was bitterly disappointing, in connection to the potential delay of finding a solution around the traffic problems in that part of Wales. There was a clear letter issued last week to a Member in the Assembly here, which highlighted how the Welsh Government had interacted at various workshops, consultations, and, indeed, the change in methodology had been highlighted as early as 2014 and confirmed in workshops in March 2015, and then brought forward in July 2016. Why did it come as such a shock to the Welsh Government that this methodology was changing and, ultimately, could potentially delay the advancement of the project? Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, rwy’n gofyn y gyfres hon o gwestiynau fel cefnogwr o leddfu’r tagfeydd traffig o amgylch Casnewydd. Ond, roedd cyhoeddiad yr wythnos diwethaf yn hynod siomedig, o ran yr oedi posibl cyn dod o hyd i ateb i’r problemau traffig yn y rhan honno o Gymru. Cyflwynwyd llythyr eglur i Aelod yn y Cynulliad yma yr wythnos diwethaf, a oedd yn amlygu sut yr oedd Llywodraeth Cymru wedi rhyngweithio mewn gwahanol weithdai, ymgynghoriadau, ac, yn wir, amlygwyd y newid methodoleg mor gynnar â 2014, ac fe’i cadarnhawyd mewn gweithdai ym mis Mawrth 2015, cyn ei gyflawni ym mis Gorffennaf 2016. Pam roedd o’n gymaint o syndod i Lywodraeth Cymru bod y fethodoleg hon yn newid ac y gallai, yn y pen draw, oedi datblygiad y prosiect?
13:35 - Carwyn Jones
This is a curious tale, Llywydd, which, I think, with your permission, I’d like to elaborate on. First of all, the letter received by Mohammad Asghar was dated 6 October. It apologised for the delay in responding—remarkable, given the fact the announcement was made on 3 October. I do wonder when that letter originally was sent, then, because, normally, we don’t get a response within three days from the Department for Transport apologising for the delay. That is curious, is it not? Mae hon yn stori ryfedd, Lywydd, yr hoffwn, rwy’n credu, gyda'ch caniatâd, ymhelaethu arni. Yn gyntaf oll, roedd y llythyr a dderbyniwyd gan Mohammad Asghar yn ddyddiedig 6 Hydref. Roedd yn ymddiheuro am yr oedi cyn ymateb—rhyfeddol, o ystyried y ffaith i’r cyhoeddiad gael ei wneud ar 3 Hydref. Rwy’n meddwl tybed pryd yr anfonwyd y llythyr hwnnw’n wreiddiol, felly, oherwydd, fel rheol, nid ydym yn cael ymateb o fewn tri diwrnod gan yr Adran Drafnidiaeth yn ymddiheuro am yr oedi. Mae hynny'n rhyfedd, onid yw?
Secondly, of course, it is not right to say that the information, the planning data, was before the Welsh Government at any time before July of this year. No indication was given by the Department for Transport as to what that planning data would look like. In fact, they said, after the referendum, that they believed that there would be a delay in the publication of that data—that is what our officials were told. It is not the case either that officials had the information before the end of July. What actually happened was that our officials discovered that Highways England had received the information two weeks beforehand. It had not been shared with us as a Government. The information was requested; it was not provided until 28 July. Yn ail, wrth gwrs, nid yw'n iawn i ddweud bod y wybodaeth, y data cynllunio, gerbron Llywodraeth Cymru ar unrhyw adeg cyn mis Gorffennaf eleni. Ni roddwyd unrhyw arwydd gan yr Adran Drafnidiaeth o sut y byddai’r data cynllunio hynny yn edrych. A dweud y gwir, dywedasant, ar ôl y refferendwm, eu bod yn credu y byddai oedi cyn cyhoeddi'r data hynny—dyna ddywedwyd wrth ein swyddogion. Nid yw'n wir ychwaith bod y wybodaeth gan swyddogion cyn diwedd mis Gorffennaf. Yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd oedd bod ein swyddogion wedi darganfod bod Highways England wedi derbyn y wybodaeth bythefnos ymlaen llaw. Nid oedd wedi ei rhannu gyda ni fel Llywodraeth. Gofynnwyd am y wybodaeth; ni chafodd ei darparu tan 28 Gorffennaf.
Even more curious is that the data that was provided is normally, I understand—normally—provided in draft, where a nine to 12-month consultation period is allowed in order for the data to be examined and questioned. On this occasion, it hasn’t been published in draft; it’s been published in final form, which disturbs us because the data is so badly flawed. For example, it uses planning data for Wales that is not included in the local delivery plan and has no apparent basis in fact. We’ve not been provided with any information as to where the DfT got this information from. Hyd yn oed yn fwy rhyfedd yw bod y data a ddarparwyd fel rheol, rwy’n deall—fel rheol—yn cael eu darparu ar ffurf ddrafft, lle caniateir cyfnod ymgynghori o naw i 12 mis er mwyn i'r data gael eu harchwilio a'u cwestiynu. Y tro hwn, nid ydynt wedi eu cyhoeddi ar ffurf ddrafft; maen nhw wedi eu cyhoeddi ar ffurf derfynol, sy'n peri pryder i ni gan fod y data mor hynod o wallus. Er enghraifft, mae'n defnyddio data cynllunio ar gyfer Cymru nad ydynt wedi eu cynnwys yn y cynllun cyflawni lleol ac nad ydynt wedi’u gwreiddio mewn ffaith. Ni ddarparwyd unrhyw wybodaeth i ni o ran o ble y cafodd yr Adran Drafnidiaeth afael ar y wybodaeth hon.
Once the data is provided, it takes a long time to work out what the effect of that data is on any particular road scheme, which is why, normally, there is the nine to 12-month period for it to happen. On this occasion, nothing. It was made final straight away. Curious, then, that Highways England were told before us, and, of course, we know, having analysed the data, that what this set of data does is, in fact, benefit schemes in London, the south-east of England and the east of England at the expense of everywhere else. Even more curious, isn’t it? Unwaith y caiff y data eu darparu, mae'n cymryd amser maith i weld beth yw effaith y data hynny ar unrhyw gynllun ffordd penodol, a dyna pam, fel rheol, y ceir y cyfnod naw i 12 mis i hynny ddigwydd. Y tro hwn, dim byd. Fe'i gwnaed yn derfynol yn syth. Rhyfedd, felly, bod Highways England wedi ei hysbysu o’n blaenau ni, ac, wrth gwrs, rydym ni’n gwybod, ar ôl dadansoddi'r data, mai’r hyn y mae’r gyfres hon o ddata yn ei wneud, mewn gwirionedd, yw bod o fudd i gynlluniau yn Llundain, de-ddwyrain Lloegr a dwyrain Lloegr ar draul pobman arall. Hyd yn oed yn fwy rhyfedd, onid yw?
So, we’re calling on the DfT to re-examine these figures, to work with us to re-examine these figures, to tell us where they found the planning data from, and to work with us in order to provide figures that are far more accurate for the Welsh context. So, there are many curious issues that have been raised there, to which we have not yet received an answer. Felly, rydym ni’n galw ar yr Adran Drafnidiaeth i ailystyried y ffigurau hyn, i weithio gyda ni i ailystyried y ffigurau hyn, i ddweud wrthym ble y daethant o hyd i'r data cynllunio, ac i weithio gyda ni er mwyn darparu ffigurau sy'n llawer mwy cywir i gyd-destun Cymru. Felly, ceir llawer o faterion rhyfedd a godwyd yn y fan yna, nad ydym wedi derbyn ateb iddynt eto.
13:38 - Andrew R.T. Davies
Thank you for that very detailed answer, First Minister. I don’t think there’s very much curiosity around any of this. We have been highlighting for the last 12 months that the methodology did need to be revisited so that the blue and black route could be evaluated on the same methodology, so that, ultimately, the two routes could be compared favourably, and that you could take forward either the blue or the black route. The Welsh Government solution to the traffic crisis around south-east Wales—because it is a crisis; the logjam on the M4 at certain times of the day can stretch back over 12 miles—is to favour the black route. So, can you commit to having a traffic solution in place by 2021 so that people can have confidence that your manifesto commitment to deliver that solution will be met by 2021? Diolch i chi am yr ateb manwl iawn yna, Brif Weinidog. Nid wyf yn credu bod llawer sy’n rhyfedd am unrhyw ran o hyn. Rydym ni wedi bod yn dweud dros y flwyddyn ddiwethaf bod angen ailystyried y fethodoleg fel y gellid gwerthuso’r llwybr glas a du ar sail yr un fethodoleg, fel y gellid, yn y pen draw, cymharu’r ddau lwybr yn ffafriol, ac y gallech fwrw ymlaen â’r llwybr glas neu’r llwybr du. Ateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng traffig o gwmpas y de-ddwyrain—oherwydd mae yn argyfwng; gall y dagfa ar yr M4 ar adegau penodol o'r dydd ymestyn yn ôl dros 12 milltir—yw ffafrio’r llwybr du. Felly, a allwch chi ymrwymo i gael ateb traffig ar waith erbyn 2021 fel y gall pobl fod yn hyderus y bydd yr ymrwymiad yn eich maniffesto i ddarparu’r ateb hwnnw yn cael ei fodloni erbyn 2021?
13:39 - Carwyn Jones
Yes, that is the aim, but it is not helpful when we have Government departments in Whitehall that are acting in this way. They knew that there was a public inquiry that would begin in the autumn of this year, and yet this data was—we had to ask for it, we had to ask for it; it wasn’t even provided, and we were not notified that it even existed. And then, of course, officials worked very hard through August to look at the data, to see what it would mean for Welsh road schemes. It’s not just Wales that’s affected; it’s everywhere outside the south-east of England that is adversely affected by this data. So, as far as the Department for Transport are concerned, I would urge them to revisit this data, to have a proper process, where data is published in draft and then opportunity is given to examine that data, to examine its robustness, rather than adopt the strange and unusual approach that they’ve adopted so far. Gallaf, dyna'r nod, ond nid yw o gymorth pan fo gennym ni adrannau Llywodraeth yn Whitehall sy’n ymddwyn fel hyn. Roedden nhw'n gwybod bod ymchwiliad cyhoeddus a fyddai'n dechrau yn ystod hydref eleni, ac eto ni chafodd y data hyn—bu’n rhaid i ni ofyn amdanynt, bu’n rhaid i ni ofyn amdanynt; ni chawsant eu darparu hyd yn oed, ac ni chawsom ein hysbysu eu bod yn bodoli hyd yn oed. Ac yna, wrth gwrs, gweithiodd swyddogion yn galed iawn trwy fis Awst i edrych ar y data, i weld beth y byddent yn ei olygu i gynlluniau ffyrdd Cymru. Nid dim ond Cymru yr effeithir arni; mae pob man y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr yn cael ei effeithio'n andwyol gan y data hyn. Felly, cyn belled ag y mae’r Adran Drafnidiaeth yn y cwestiwn, byddwn yn ei hannog i ailystyried y data hyn, i gael proses briodol, lle cyhoeddir data ar ffurf drafft ac y rhoddir cyfle wedyn i archwilio’r data hynny, i archwilio eu cadernid, yn hytrach na mabwysiadu'r dull rhyfedd ac anarferol y mae wedi ei fabwysiadu hyd yn hyn.
13:39 - Andrew R.T. Davies
Well, I disagree with you about the strange and unusual process. I mean, as I’ve highlighted, this process has been going on for two years, clearly identified that, in 2016, this change would be coming down the road at you and, obviously, your Government didn’t respond. Traffic Scotland were involved in the negotiations and the Northern Ireland Department for Infrastructure were negotiating with the Department for Transport. They’re all on this letter and identified as participants in the workshops and the consultation. But what is important is that we do find a solution to the traffic gridlock that exists in south-east Wales. Your Government has put its colours firmly on the mast of the black route, and you’re actually on record as saying that if you did support the blue route you could Wel, rwy’n anghytuno â chi am y broses ryfedd ac anarferol. Hynny yw, fel yr wyf i wedi dweud, mae’r broses hon wedi bod ar waith ers dwy flynedd, a nodwyd yn eglur, yn 2016, y byddai'r newid hwn yn dod yn ddiweddarach i chi ac, yn amlwg, ni wnaeth eich Llywodraeth ymateb. Roedd Traffic Scotland yn rhan o’r trafodaethau ac roedd Adran Seilwaith Gogledd Iwerddon mewn trafodaethau gyda'r Adran Drafnidiaeth. Maen nhw i gyd ar y llythyr hwn ac yn cael eu nodi fel cyfranogwyr yn y gweithdai a'r ymgynghoriad. Ond yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn dod o hyd i ateb i'r tagfeydd traffig sy'n bodoli yn ne-ddwyrain Cymru. Mae eich Llywodraeth wedi mynegi ei dewis o’r llwybr du yn eglur, ac rydych chithau wedi dweud ar goedd pe byddech chi’n cefnogi'r llwybr glas y gallech chi
‘kiss goodbye to winning elections in Newport for a generation.’ anghofio am ennill etholiadau yng Nghasnewydd am genhedlaeth.
So, is it winning elections that’s driving the decisions around the traffic gridlock and the solutions to solve that gridlock or are you actually looking at what the best solution is both financially and in terms of dealing with traffic projections going forward, First Minister? Felly, ai ennill etholiadau yw sail y penderfyniadau ynghylch y tagfeydd traffig a'r atebion i ddatrys y tagfeydd hynny neu a ydych chi wir yn ystyried beth yw’r ateb gorau yn ariannol ac o ran ymdrin ag amcanestyniadau traffig yn y dyfodol, Brif Weinidog?
13:40 - Carwyn Jones
It is a fact that the blue route goes past many, many homes and would affect, we think, up to 4,000 people. That’s the reality of it. It would pass very, very close to their houses and, in fact, some buildings will have to be demolished, both commercial and residential. There’s no avoiding that, and I doubt very much whether any Government would be looked upon favourably if it were to move ahead with the blue route without proper consultation. We’ve said in the public inquiry that the public inquiry will look at both the black and blue routes. We want the inquiry to be as wide-ranging as possible and to be as open as possible so that people can see that the process is one that they can have faith in. But I have to say once again: any suggestion that the Welsh Government was involved or knew of the data that was provided on 25 July is wrong—wholly wrong and wholly untrue. I don’t accuse him of saying that, but I’m saying that the information he has received is simply wrong. What happens is that they work on this and they inform people of what they’re doing. On this occasion they did not even tell us when the figures were going to be published. They shared them with Highways England first. They didn’t even tell us they’d done that. We had to ask for them and, when they were shared with us, they were shared with us on the basis that is abnormal. Normally, the data is shared and nine to 12 months is available for the data to be examined carefully. That was not done at this time, and here we have a set of data that at the moment would benefit London and the south-east of England at everyone’s expense, and that we cannot accept. Mae'n ffaith fod y llwybr glas yn mynd heibio llawer iawn o gartrefi a fyddai'n effeithio, rydym ni’n meddwl, ar hyd at 4,000 o bobl. Dyna’r gwirionedd. Byddai'n mynd heibio yn agos iawn, iawn at eu tai ac, a dweud y gwir, byddai’n rhaid dymchwel rhai adeiladau, masnachol a phreswyl. Ni ellir osgoi hynny, ac rwy’n amau’n fawr iawn a fyddai unrhyw Lywodraeth yn cael ei hystyried yn ffafriol pe byddai'n bwrw ymlaen â'r llwybr glas heb ymgynghoriad priodol. Rydym ni wedi dweud yn yr ymchwiliad cyhoeddus y bydd yr ymchwiliad cyhoeddus yn ystyried y llwybrau du a glas. Rydym ni eisiau i'r ymchwiliad fod mor eang â phosibl ac i fod mor agored â phosibl, fel y gall pobl weld bod y broses yn un y gallant fod â ffydd ynddi. Ond mae’n rhaid i mi ddweud unwaith eto: mae unrhyw awgrym bod Llywodraeth Cymru wedi ei chynnwys neu’n gwybod am y data a ddarparwyd ar 25 Gorffennaf yn anghywir—yn gwbl anghywir ac yn gwbl anwir. Nid wyf yn ei gyhuddo ef o ddweud hynny, ond rwy’n dweud bod y wybodaeth y mae wedi ei derbyn, yn syml, yn anghywir. Yr hyn sy’n digwydd yw eu bod yn gweithio ar hyn, ac yna’n hysbysu pobl am yr hyn y maen nhw'n ei wneud. Y tro hwn, ni wnaethant hyd yn oed dweud wrthym pryd yr oedd y ffigurau’n mynd i gael eu cyhoeddi. Fe wnaethant eu rhannu gyda Highways England yn gyntaf. Ni ddywedasant wrthym eu bod wedi gwneud hynny hyd yn oed. Bu’n rhaid i ni ofyn amdanynt a, phan gawsant eu rhannu gyda ni, fe’u rhannwyd gyda ni ar y sail fod hynny’n anarferol. Fel rheol, caiff y data eu rhannu ac mae naw i 12 mis ar gael i archwilio’r data’n ofalus. Ni wnaethpwyd hyn y tro hwn, ac mae gennym ni yn y fan yma gyfres o ddata ar hyn o bryd a fyddai o fudd i Lundain a de-ddwyrain Lloegr ar draul pawb, ac ni allwn dderbyn hynny.
13:42 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Arweinydd yr wrthblaid, Leanne Wood. Leader of the opposition, Leanne Wood.
13:42 - Leanne Wood
Diolch, Lywydd. First Minister, the UK Home Secretary last week announced plans to force companies to publish lists of their foreign workers—a regressive step, I’m sure you’ll agree with me. It’s not clear exactly how this information was intended to be used, but I’m concerned that it could have led us down a very dark path indeed. Since then, the UK Government has rowed back on that position, after a public outcry, but the data are still going to be gathered and there remain questions to be asked about what will happen to that data. Can you prevent any of these measures taking place in Wales? Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, cyhoeddodd Ysgrifennydd Cartref y DU gynlluniau yr wythnos diwethaf i orfodi cwmnïau i gyhoeddi rhestrau o'u gweithwyr tramor—cam at yn ôl, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi. Nid yw'n eglur sut yn union y bwriedir defnyddio’r wybodaeth hon, ond rwy'n pryderu y gallai fod wedi ein tywys i lawr llwybr tywyll iawn yn wir. Ers hynny, mae Llywodraeth y DU wedi camu yn ôl o’r safbwynt hwnnw, yn dilyn protestiadau’r cyhoedd, ond bydd y data yn dal i gael eu casglu mae cwestiynau i'w gofyn o hyd am yr hyn a fydd yn digwydd i'r data hynny. A allwch chi atal unrhyw un o'r mesurau hyn rhag digwydd yng Nghymru?
13:43 - Carwyn Jones
Well, I think the word that’s now being used is ‘nudge’. They want to nudge companies in that direction. What I can say is that as far as we are concerned as a Government, we’re not going to do that, nor are any of the bodies that we sponsor. At the end of the day, it’s a matter for companies who they employ. I don’t think it’s helpful to have lists of people that would be used against those businesses for many, many reasons: firstly, because of what I think is the sinister side of it, which is to suggest that if people are not UK passport holders then they are in some way imposters in the jobs that they hold, which is the message that it would actually convey; and secondly, I can think of no more powerful disincentive to an investor than an investor being told, ‘If you come to Wales or come to the UK, you’ll have to tell us how many workers from outside the UK that you will employ’. They don’t have to do that in other countries, and that’s another barrier to investment as far as Wales is concerned. Like me, I know that she shared the same view very quickly and very publicly when the announcement was made. I do not think that creating lists of people from outside the UK with a view to using those people against the companies who employ them is the right way forward for Wales or Britain. Wel, rwy'n credu mai ‘hwb’ yw’r gair sy'n cael ei ddefnyddio nawr. Maen nhw’n awyddus i roi hwb i gwmnïau i’r cyfeiriad hwnnw. Yr hyn y gallaf ei ddweud cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn fel Llywodraeth, yw nad ydym ni’n mynd i wneud hynny, ac ni fydd unrhyw un o'r cyrff yr ydym ni’n eu noddi yn gwneud hynny ychwaith. Yn y pen draw, mater i gwmnïau yw pwy maen nhw’n eu cyflogi. Nid wyf yn credu ei bod yn ddefnyddiol cael rhestrau o bobl a fyddai'n cael eu defnyddio yn erbyn y busnesau hynny am lawer iawn o resymau: yn gyntaf, oherwydd yr hyn yr wyf yn credu yw ochr sinistr y mater, sef awgrymu os nad oes gan bobl basbort y DU, yna eu bod nhw rywsut yn dwyllwyr yn y swyddi sydd ganddynt, sef y neges y byddai’n ei chyfleu mewn gwirionedd; ac yn ail, ni allaf feddwl am unrhyw wrthanogaeth mwy pwerus i fuddsoddwr na dweud wrtho, 'Os byddwch chi’n dod i Gymru, neu’n dod i'r DU, bydd yn rhaid i chi ddweud wrthym faint o weithwyr o'r tu allan i'r DU y byddwch yn eu cyflogi '. Nid oes rhaid iddynt wneud hynny mewn gwledydd eraill, ac mae hynny'n rhwystr arall i fuddsoddiad cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Fel finnau, gwn iddi rannu'r un farn yn gyflym iawn ac yn gyhoeddus iawn pan wnaed y cyhoeddiad. Nid wyf yn credu mai creu rhestrau o bobl o'r tu allan i'r DU gyda’r nod o ddefnyddio’r bobl hynny yn erbyn y cwmnïau sy'n eu cyflogi yw'r ffordd iawn ymlaen i Gymru nac i Brydain.
13:44 - Leanne Wood
Thank you for answer, First Minister. I very much welcome the sentiment that you’ve conveyed there. Many of our problems in Wales don’t stem from certain people moving in to the country but they stem from the fact that many of our young people move out and don’t return, and this is especially true of graduates, where we have a lower retention rate than any other UK nation. There’s been a lot of focus on immigration, particularly around the debate on Brexit, yet very little attention has been given to out-migration. Plaid Cymru believes that graduates should be able to live and work where they choose, but we should also be able to incentivise some of them to come back so that we can see a return on our public investment, if you like, in their education. We are the only party to have proposed a mechanism, through higher education, to incentivise students to return to work, and you’ll be aware that we put forward those proposals ahead of May’s election. In that election, you had no policy on this and you claimed that Plaid Cymru would charge students fees. If you implement the Diamond review, fees are likely to be charged by your Government. Will you now accept that we do need to incentivise graduates to return to Wales after study? If you do agree with me, what do you intend to do about it? Diolch i chi am yr ateb, Brif Weinidog. Rwy’n croesawu'n fawr y farn yr ydych chi wedi ei mynegi yn y fan yna. Mae llawer o'n problemau yng Nghymru nad ydynt yn deillio o bobl benodol yn symud i mewn i'r wlad, ond maen nhw’n deillio o'r ffaith bod llawer o'n pobl ifanc yn symud allan a ddim yn dychwelyd, ac mae hyn yn arbennig o wir am raddedigion, lle mae gennym ni gyfradd gadw is nag unrhyw wlad arall yn y DU. Bu llawer o bwyslais ar fewnfudo, yn enwedig o ran y ddadl ar Brexit, ac eto ychydig iawn o sylw a roddwyd i allfudo. Mae Plaid Cymru o’r farn y dylai graddedigion gael byw a gweithio yn lle maen nhw’n dewis, ond dylem ni hefyd allu cymell rhai ohonyn nhw i ddod yn ôl fel y gallwn ni weld adenillion ar ein buddsoddiad cyhoeddus, os mynnwch, yn eu haddysg. Ni yw'r unig blaid sydd wedi cynnig mecanwaith, trwy addysg uwch, i gymell myfyrwyr i ddychwelyd i weithio, a byddwch yn ymwybodol ein bod wedi cyflwyno’r cynigion hyn cyn etholiad mis Mai. Yn yr etholiad hwnnw, nid oedd gennych chi unrhyw bolisi ar hyn a honnwyd gennych y byddai Plaid Cymru yn codi ffioedd ar fyfyrwyr. Os byddwch yn gweithredu adolygiad Diamond, mae ffioedd yn debygol o gael eu codi gan eich Llywodraeth chi. A wnewch chi dderbyn nawr bod angen i ni gymell graddedigion i ddychwelyd i Gymru ar ôl astudio? Os ydych chi’n cytuno â mi, beth ydych chi’n bwriadu ei wneud am y peth?
13:45 - Carwyn Jones
Well—[Interruption.]—the reality of the situation is that, if I recall, the—I think the Minister has intervened there, but I will answer the question. If I remember, the policies that she was pursuing in May would have meant that students would have been incentivised to stay in Wales, in the sense that their fees would have been paid if they’d studied in Wales but not elsewhere. That’s not a position that I would share. [Interruption.] From my perspective, what I want to do is to make sure that we attract students into Wales, not just those who are from Wales, but outside Wales as well, and make sure that there are skilled jobs there for them. Wel—[Torri ar draws.]—realiti'r sefyllfa, os wyf yn cofio—rwy’n credu fod y Gweinidog wedi ymyrryd yn y fan yna, ond rwyf yn mynd i ateb y cwestiwn. Os wyf yn cofio, byddai'r polisïau yr oedd hi’n eu dilyn ym mis Mai yn golygu y byddai myfyrwyr wedi cael eu cymell i aros yng Nghymru, yn yr ystyr y byddai eu ffioedd wedi cael eu talu pe byddent wedi astudio yng Nghymru, ond nid yn rhywle arall. Nid yw hwnnw'n safbwynt y byddwn yn ei rannu. [Torri ar draws.] O’m safbwynt i, yr hyn yr wyf i eisiau ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni’n denu myfyrwyr i mewn i Gymru, nid yn unig y rhai sydd o Gymru, ond o’r tu allan i Gymru hefyd, a gwneud yn siŵr bod swyddi medrus yno ar eu cyfer.
For me, it’s not a question of whether they leave, it’s a question of enabling them to return. Because I see no reason why young people wouldn’t want to leave, gain experience elsewhere, and come back and bring that experience back with them, in the same way as I know that there are people who will come to Cardiff in their 20s and then go back to rural Wales when they’re older. I think they take their experience back with them. For us, it’s all about ensuring that the jobs are there. It’s why unemployment is at 4.1 per cent—lower than Scotland, lower than England, lower than Northern Ireland—and it’s why we are seeing Wales as a good place to invest, to bring skilled jobs, on behalf of so many international companies. I mi, nid yw'n gwestiwn o ba un a ydyn nhw’n gadael, mae'n gwestiwn o’u galluogi i ddychwelyd. Oherwydd nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam na fyddai pobl ifanc eisiau gadael, ennill profiad yn rhywle arall, a dod yn ôl a dod â’r profiad hwnnw yn ôl gyda nhw, yn yr un modd ag y gwn y bydd pobl a fydd yn dod i Gaerdydd yn eu hugeiniau ac yna’n dychwelyd i gefn gwlad Cymru pan fyddant yn hŷn. Rwy'n credu eu bod yn mynd â’u profiad yn ôl gyda nhw. I ni, mae'r cwbl yn ymwneud â sicrhau bod y swyddi ar gael yno. Dyna pam mae diweithdra yn 4.1 y cant—is na'r Alban, is na Lloegr, is na Gogledd Iwerddon—a dyna pam rydym ni’n gweld Cymru fel lle da i fuddsoddi ynddo, i ddod â swyddi medrus, ar ran cynifer o gwmnïau rhyngwladol.
13:46 - Leanne Wood
First Minister, you completely misunderstood what we were proposing ahead of that election. What you just said we should be doing is exactly what we were saying should be done, and what you were attacking us for in that election. I suggest you need to get better briefed next time. Brif Weinidog, rydych chi wedi camddeall yn llwyr yr hyn yr oeddem ni’n ei gynnig cyn yr etholiad hwnnw. Yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud y dylem ni fod yn ei wneud yw’r union beth yr ydym ni’n ei ddweud y dylid ei wneud, a'r hyn yr oeddech chi’n ymosod arnom ni amdano yn yr etholiad hwnnw. Rwy’n awgrymu bod angen i chi gael eich briffio’n well y tro nesaf.
I’d now like to turn to a serious issue that’s been raised with me by a Welsh volunteer in the Calais refugee camp. Only yesterday, the UK Government agreed to house the 378 children from the camp in Calais who’ve got connections here in the UK. The woman who has contacted me told me that she’s encountered an unaccompanied child in Calais who is being horrifically exploited by traffickers. She relayed a story to me of how this young boy of 12 has been given heroin by traffickers, promising him that it will help him get to the UK easier and it will make his journey easier. And on his addiction to heroin, he was passed by the traffickers to predatory men outside the camp, not other refuges, who paid those traffickers, with violence being the price of refusal along with the withdrawal of heroin, on which, of course, he is now completely dependent. Hoffwn droi nawr at fater difrifol a godwyd gyda mi gan wirfoddolwr o Gymru yng ngwersyll ffoaduriaid Calais. Ddoe ddiwethaf, cytunodd Llywodraeth y DU i roi llety i 378 o blant o'r gwersyll yn Calais sydd â chysylltiadau yma yn y DU. Dywedodd y fenyw sydd wedi cysylltu â mi wrthyf ei bod wedi dod ar draws plentyn ar ei ben ei hun yn Calais sy'n cael ei gam-drin yn ddychrynllyd, gan fasnachwyr mewn pobl. Adroddodd stori i mi o sut y rhoddwyd heroin i’r bachgen ifanc 12 oed hwn gan fasnachwyr, gan addo iddo y bydd yn helpu iddo gyrraedd y DU yn haws ac yn gwneud ei daith yn haws. Ac ar ôl iddo ddod yn gaeth i heroin, cafodd ei roi gan y masnachwyr i ddynion rheibus y tu allan i'r gwersyll, nid ffoaduriaid eraill, a dalodd i’r masnachwyr hynny, a thrais oedd y pris o wrthod, ynghyd â thynnu heroin yn ôl, y mae, wrth gwrs, yn gwbl gaeth iddo erbyn hyn.
Now, I’m sure that you’ll agree with me, First Minister, that this is a completely abhorrent situation, and I’m sure that you will, like me, want to do what you can to help children in vulnerable situations like this. During the second world war, we did what we could, of course, to help the Kindertransport children. To help these children today, we need to ensure that our child protection systems are ready and prepared to accommodate what will be incredibly vulnerable children who may be sent to Wales. If we are to remove those children from a very vulnerable situation, we can’t risk putting them into another vulnerable situation. So, how can you ensure that local authority social services departments in Wales are ready to step up and help these children now? Nawr, rwy'n siŵr y byddwch chi’n cytuno â mi, Brif Weinidog, fod hon yn sefyllfa hollol wrthun, ac rwy'n siŵr y byddwch chi, fel minnau, eisiau gwneud yr hyn a allwch i helpu plant mewn sefyllfaoedd agored i niwed fel hyn. Yn ystod yr ail ryfel byd, gwnaethom yr hyn a allem, wrth gwrs, i helpu'r plant Kindertransport. I helpu’r plant hyn heddiw, mae angen i ni sicrhau bod ein systemau amddiffyn plant yn barod ac yn fodlon rhoi llety i blant a fydd yn arbennig o agored i niwed a allai gael eu hanfon i Gymru. Os ydym ni am gael y plant hynny allan o sefyllfa lle maen nhw’n agored iawn i niwed, ni allwn gymryd y risg o’u rhoi mewn sefyllfa arall lle maen nhw’n agored i niwed. Felly, sut gallwch chi sicrhau bod adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru yn barod i gamu ymlaen a helpu'r plant hyn nawr?
16:48 - Carwyn Jones
Who can disagree with the powerful testimony that the leader of the opposition has given us? I’ve no reason to disbelieve what has been said. In an atmosphere of desperation, predators will thrive, and it seems that that is the case in Calais. Pwy all anghytuno â'r dystiolaeth rymus y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei rhoi i ni? Nid oes gennyf unrhyw reswm i beidio â chredu’r hyn a ddywedwyd. Mewn amgylchedd o anobaith, bydd rheibwyr yn ffynnu, ac mae'n ymddangos bod hynny'n wir yn Calais.
Last week, I met with the Welsh Local Government Association’s responsible elected member for refugees, Dyfed Edwards, the leader of Gwynedd, and we did work through some of these issues, including unaccompanied children. It’s true to say that few refugees have come to Wales thus far, but the two of us did talk about how we can help local authorities to resettle adult refugees as well as unaccompanied children. Of course, we agreed to work together as well in order to make sure that, where we feel that funds should come from a non-devolved source, those funds do come from Whitehall. But, certainly, it was a good meeting and it emphasised, once again, that ourselves and the WLGA very much want to ensure that children have a safe haven in Wales and are able to move away permanently from the sort of exploitation that she’s relayed to us. Yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod ag aelod etholedig cyfrifol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros ffoaduriaid, Dyfed Edwards, arweinydd Gwynedd, a thrafodwyd rhai o’r materion hyn gennym, gan gynnwys plant heb gwmni. Mae'n wir dweud mai prin yw’r ffoaduriaid sydd wedi dod i Gymru hyd yn hyn, ond siaradodd y ddau ohonom am sut y gallwn helpu awdurdodau lleol i ailsefydlu ffoaduriaid sy'n oedolion yn ogystal â phlant heb gwmni. Wrth gwrs, cytunodd y ddau ohonom i gydweithio hefyd er mwyn gwneud yn siŵr, pan fyddwn yn teimlo y dylai cyllid ddod o ffynhonnell nas datganolwyd, bod y cyllid hwnnw’n dod o Whitehall. Ond, yn sicr, roedd yn gyfarfod da ac yn pwysleisio, unwaith eto, ein bod ni ein hunain a CLlLC yn sicr eisiau sicrhau bod plant yn cael hafan ddiogel yng Nghymru a’u bod yn gallu symud i ffwrdd yn barhaol oddi wrth y math o gamfanteisio y mae hi wedi ei rannu gyda ni.
13:49 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton. Leader of the UKIP group, Neil Hamilton.
13:49 - Neil Hamilton
First Minister, in the year 2000, Wales was second from bottom in the league tables amongst the nations and English regions in the UK for gross weekly earnings. In the interim period, earnings have gone up by 55 per cent in Scotland, 51 per cent in Northern Ireland, but only 46 per cent in Wales. So, we now have the dismal accolade of being bottom of those league tables. We’ve had Labour Governments either in Cardiff or Westminster for either all or most of that time. Do you and your party accept any responsibility for this record of failure? Brif Weinidog, yn y flwyddyn 2000, roedd Cymru yn ail o'r gwaelod yn y tablau cynghrair ymhlith y gwledydd a rhanbarthau Lloegr yn y DU o ran enillion wythnosol gros. Yn y cyfamser, mae enillion wedi cynyddu 55 y cant yn yr Alban, 51 y cant yng Ngogledd Iwerddon, ond dim ond 46 y cant yng Nghymru. Felly, mae gennym ni’r fraint ddigysur erbyn hyn o fod ar waelod y tablau cynghrair hynny. Bu gennym Lywodraethau Llafur un ai yng Nghaerdydd neu yn San Steffan am naill ai’r holl gyfnod hwnnw neu’r rhan fwyaf ohono. A ydych chi a'ch plaid yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am yr hanes hwn o fethiant?
13:50 - Carwyn Jones
Well, he was a member of the Conservative Party once, in the 1980s, and if you look at the statistics—and I can provide him with the graphs on this—inequality increased markedly—markedly—in the 1980s compared to any other decade. That was when people started to lose confidence in politics, when they saw inequality rise. I can say to him that, if we look at the level of employment in Wales, that’s at a record high, far higher than it was when he was in Government. Unemployment is 4.1 per cent, far lower than it was when he was in Government. Youth unemployment in Wales is 13.7 per cent; the UK rate is 14.1 per cent. The fall in Wales was nearly 5 per cent over a year. That’s Jobs Growth Wales for you, and the way that it actually operates. So, as far as numbers are concerned, we know that the economy is moving in the right direction. Wel, roedd ef yn aelod o'r Blaid Geidwadol unwaith, yn y 1980au, ac os edrychwch chi ar yr ystadegau—a gallaf roi’r graffiau iddo ar hyn—cynyddodd anghydraddoldeb yn sylweddol—yn sylweddol—yn y 1980au o’i gymharu ag unrhyw ddegawd arall. Dyna pryd y dechreuodd pobl golli hyder mewn gwleidyddiaeth, pan welsant anghydraddoldeb yn cynyddu. Gallaf ddweud wrtho, os edrychwn ni ar y lefel o gyflogaeth yng Nghymru, ei bod yn uwch nag erioed, yn llawer uwch nag yr oedd pan yr oedd ef yn y Llywodraeth. Mae diweithdra yn 4.1 y cant, yn llawer is nag yr oedd pan yr oedd ef yn y Llywodraeth. 13.7 y cant yw diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru; 14.1 yw cyfradd y DU. Roedd y gostyngiad yng Nghymru bron i 5 y cant dros flwyddyn. Dyna Twf Swyddi Cymru i chi, a'r ffordd y mae'n gweithredu mewn gwirionedd. Felly, cyn belled ag y mae niferoedd yn y cwestiwn, rydym ni’n gwybod bod yr economi yn symud i'r cyfeiriad cywir.
It is right to say that the challenge is to make sure that we raise people’s incomes. The way to do that is to make sure they have the skills that are required in order to bring in well-paid jobs from investors who are coming in from abroad, but also that they have the ability and confidence to set themselves up in business and succeed in the future. None of these things were in place when he was a member of the Conservative Party. No party did more to wreck our economy, raise unemployment and create more inequality than the party he was once a member of. Mae'n iawn i ddweud mai’r her yw sicrhau ein bod yn codi incwm pobl. Y ffordd i wneud hynny yw gwneud yn siŵr eu bod yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt er mwyn dod â swyddi sy'n talu'n dda i mewn gan fuddsoddwyr sy'n dod o dramor, ond hefyd bod y gallu a’r hyder ganddynt i sefydlu eu hunain mewn busnes a llwyddo yn y dyfodol. Nid oedd yr un o'r pethau hyn ar waith pan yr oedd ef yn aelod o'r Blaid Geidwadol. Ni wnaeth unrhyw blaid fwy i ddryllio ein heconomi, i godi diweithdra a chreu mwy o anghydraddoldeb na'r blaid yr oedd ef yn aelod ohoni ar un adeg.
13:51 - Neil Hamilton
I don’t intend, Llywydd, to rehearse the arguments about the winter of discontent in 1979, which led to all the cuts that took place in the 1980s; we’re here to talk about the twenty-first century, not the twentieth. But, looking forward to the future, although the First Minister won’t accept his responsibility for this record of failure, isn’t it clear that we now need to create in Wales an enterprise economy, a low-tax jurisdiction, relatively speaking, and one where we have proportionate regulation? The opportunity that Brexit provides gives us the tools with which to achieve what both he and I want, which is greater prosperity for the Welsh people? Nid wyf yn bwriadu, Lywydd, ailadrodd y dadleuon ynghylch gaeaf o anfodlonrwydd 1979, a arweiniodd at yr holl doriadau a ddigwyddodd yn y 1980au; rydym ni yma i siarad am yr unfed ganrif ar hugain, nid yr ugeinfed. Ond, gan edrych ymlaen at y dyfodol, er na wnaiff y Prif Weinidog dderbyn ei gyfrifoldeb am yr hanes hwn o fethiant, onid yw’n amlwg bod angen i ni greu economi fenter yng Nghymru nawr, awdurdodaeth treth isel, o siarad yn gymharol, ac economi lle mae gennym ni reoleiddio cymesur? Mae'r cyfle y mae Brexit yn ei gynnig i ni yn rhoi’r dulliau i ni ar gyfer cyflawni’r hyn y mae ef a minnau ei eisiau, sef mwy o ffyniant i bobl Cymru.
13:52 - Carwyn Jones
I’m not surprised he doesn’t want to discuss his record in the 1980s, but there was one phrase there that I picked up on—the creation of a low-tax economy. Now, I thought his party’s line was that they didn’t want to see any tax devolution to this place. So, he must make his mind up as to what he means by that. I think there is merit in looking, for example, at the way corporation tax operates, particularly in terms of tax breaks, and I think the Treasury needs to be far more flexible in terms of the powers that it gives in that regard. Why not, for example, have a system of tax breaks for research and development in Wales? These are the sorts of powers that I think will be practical, without carrying too much danger in terms of any potential loss of income through the Barnett formula. So, I think it’s quite correct to say that we want to make sure that Wales is a good place to invest. We see it—we’ve seen a number of big investors coming in to Wales over the past year and beyond. There is the challenge of Brexit, of reassuring investors in the future that they’ll have access to the European market, bigger than America and Russia combined, and we intend to make sure that they see Wales as a natural place to invest to access that market in the future. Nid wyf yn synnu nad yw eisiau trafod ei hanes yn y 1980au, ond roedd un ymadrodd yn y fan yna a dynnodd fy sylw—creu economi treth isel. Nawr, roeddwn i’n meddwl mai neges ei blaid ef oedd nad oedden nhw eisiau gweld unrhyw ddatganoli treth i'r lle hwn. Felly, mae’n rhaid iddo wneud ei feddwl i fyny ynghylch yr hyn y mae'n ei olygu trwy hynny. Rwy'n credu bod rhinwedd o edrych, er enghraifft, ar y ffordd y mae treth gorfforaeth yn gweithredu, yn enwedig o ran gostyngiadau treth, ac rwy’n credu bod angen i'r Trysorlys fod yn llawer mwy hyblyg o ran y pwerau y mae'n eu rhoi yn hynny o beth. Beth am, er enghraifft, gael system o ostyngiadau treth ar gyfer ymchwil a datblygu yng Nghymru? Dyma’r mathau o bwerau y credaf fydd yn ymarferol, heb fod â gormod o berygl o ran unrhyw golled incwm posibl trwy fformiwla Barnett. Felly, rwy’n credu ei bod yn hollol gywir i ddweud ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod Cymru yn lle da i fuddsoddi ynddo. Rydym ni’n ei weld—rydym ni wedi gweld nifer o fuddsoddwyr mawr yn dod i mewn i Gymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a thu hwnt. Ceir her Brexit, o sicrhau buddsoddwyr yn y dyfodol y bydd ganddynt fynediad at y farchnad Ewropeaidd, mwy nag America a Rwsia gyda’i gilydd, ac rydym ni’n bwriadu gwneud yn siŵr eu bod yn gweld Cymru fel lle naturiol i fuddsoddi er mwyn cael mynediad at y farchnad honno yn y dyfodol.
13:53 - Neil Hamilton
My party is not against the devolution of income taxes per se, what we’re against is the devolution of income tax without a referendum, as we were promised before 2011. But, moving to the future and the opportunities that Brexit provides, isn’t it rather disappointing that the European advisory group that the First Minister has appointed, of 20 members, has lots of politicians and academics on it, but very few people with practical business experience? As far as I can divine from looking at the names, very few of these worthy people were actually in favour of leaving the European Union. In fact, the only one I can positively identify is my honourable friend for North Wales, Nathan Gill. Would it not be sensible, therefore, to have more people who actually see Brexit as an opportunity rather than something to be feared on this group? Nid yw fy mhlaid yn erbyn datganoli trethi incwm fel y cyfryw, yr hyn yr ydym ni yn ei erbyn yw datganoli treth incwm heb refferendwm, fel yr addawyd i ni cyn 2011. Ond, gan symud i’r dyfodol a'r cyfleoedd y mae Brexit yn eu cynnig, onid yw braidd yn siomedig bod y grŵp cynghori ar Ewrop y mae'r Prif Weinidog wedi ei benodi, o 20 aelod, yn cynnwys llawer o wleidyddion ac academyddion, ond ychydig iawn o bobl â phrofiad busnes ymarferol? Cyn belled ag y gallaf ei ddeall o edrych ar yr enwau, ychydig iawn o’r bobl deilwng hyn oedd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn gwirionedd. Yn wir, yr unig un y gallaf ei nodi yn bendant yw fy ffrind anrhydeddus dros Ogledd Cymru, Nathan Gill. Oni fyddai'n synhwyrol, felly, i gael mwy o bobl sy’n gweld Brexit fel cyfle yn hytrach na rhywbeth i'w ofni yn y grŵp hwn?
13:54 - Carwyn Jones
The purpose of the group is not to re-fight the referendum; the result is clear. The purpose of the group is to advise Government—not take decisions, but advise Government—on potential ways forward. For example, looking at models like Norway—can that be adapted? Are there other models? These are the things we need to look at. Nathan Gill is a member of that group. He is an MEP, that’s why he is on the group, and he is someone who has contributed greatly to the work of the group thus far, and is somebody who can bring his experience in Europe and use it to good effect on our group. Nid ailymladd y refferendwm yw diben y grŵp; mae’r canlyniad yn eglur. Diben y grŵp yw cynghori’r Llywodraeth—nid gwneud penderfyniadau, ond cynghori’r Llywodraeth—ar ffyrdd posibl ymlaen. Er enghraifft, edrych ar fodelau fel Norwy—a ellir addasu hwnnw? A oes modelau eraill? Dyma'r pethau y mae angen i ni eu hystyried. Mae Nathan Gill yn aelod o'r grŵp hwnnw. Mae'n ASE, dyna pam mae yn y grŵp, ac mae’n rhywun sydd wedi cyfrannu'n helaeth at waith y grŵp hyd yn hyn, ac mae'n rhywun a all ddod â’i brofiad yn Ewrop a’i ddefnyddio i effaith dda yn ein grŵp.
Lefelau Cyllido Ysgolion yng Ngorllewin De Cymru Schools Funding Levels in South Wales West
13:54 - Dai Lloyd
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau cyllido ysgolion yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)203(FM) 3. Will the First Minister make a statement on schools funding levels in South Wales West? OAQ(5)203(FM)
13:55 - Carwyn Jones
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft nesaf a’r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2017-18 cyn bo hir. The Welsh Government will shortly publish its next draft budget and the provisional local government settlement for 2017-18.
13:55 - Dai Lloyd
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Yn naturiol, rydym i gyd yn deall cymhlethdodau’r fformwla gyllido, ond a allaf ofyn beth ydych chi’n ei wneud i sicrhau ariannu digonol i ysgolion llai eu maint? Thank you for that response, First Minister. Naturally, we all understand the complexities of the funding formula, but can I ask you what you’re doing to secure adequate funding for smaller schools?
13:55 - Carwyn Jones
Wel, mae’n rhywbeth, wrth gwrs, i awdurdodau lleol, ynglŷn â sicrhau bod yna ddigon o arian ar gael i’w hysgolion nhw. Rydym, wrth gwrs, yn rhoi arian iddyn nhw ac rŷm ni’n erfyn arnyn nhw i hala swm digonol ar ysgolion er mwyn iddyn nhw allu creu addysg dda yn eu hardaloedd nhw. Ond nhw, wrth gwrs, sydd yn gyfrifol am gyllido ysgolion unigol yn eu hardaloedd nhw. Well, it’s a matter for local authorities, of course, to ensure that there is sufficient funding for their schools. We give them, of course, the funding and we expect them to spend an adequate amount of money on their schools in order to create good education in their areas. But, of course, the responsibility lies with the local authorities for funding their individual schools.
13:55 - Mike Hedges
Does the First Minister agree with me that what is important is outcomes not inputs? And will the First Minister join me in congratulating Swansea council on record-breaking GCSE results, and Pentrehafod School and Morriston Comprehensive School—two Schools Challenge Cymru schools—on their excellent GCSE results? A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai’r hyn sy'n bwysig yw canlyniadau nid mewnbynnau? Ac a wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i longyfarch cyngor Abertawe ar ganlyniadau TGAU gorau erioed, ac Ysgol Pentrehafod ac Ysgol Gyfun Treforys—dwy ysgol Her Ysgolion Cymru—ar eu canlyniadau TGAU rhagorol?
13:56 - Carwyn Jones
Yes, I do very much welcome where Pathways to Success schools have improved with the support of Schools Challenge Cymru. I’d also like to congratulate Pentrehafod and Morriston, which I understand have recorded their best ever sets of results while taking part in the challenge, and the Member is rightly proud of the comprehensives in his area. Gwnaf, rwy’n croesawu’n fawr pan fo ysgolion Llwybrau Llwyddiant wedi gwella gyda chymorth Her Ysgolion Cymru. Hoffwn innau hefyd longyfarch Pentrehafod a Threforys, yr wyf yn deall sydd wedi ennill eu cyfres o ganlyniadau gorau erioed wrth gymryd rhan yn yr her, ac mae’r Aelod yn haeddiannol falch o'r ysgolion cyfun yn ei ardal.
13:56 - Darren Millar
First Minister, it was back in December 2011 that the then education Minister, Leighton Andrews, made an announcement about £1.4 billion-worth of expenditure for the twenty-first century schools programme. That, of course, covered South Wales West and, indeed, other parts of Wales. Can you tell us how much has actually been released of that cash, given that we’re now five years into the programme and that £700 million was supposed to have been spent within the first seven years? Brif Weinidog, roedd hi yn ôl ym mis Rhagfyr 2011 pan wnaeth y Gweinidog addysg ar y pryd, Leighton Andrews, gyhoeddiad am wariant gwerth £1.4 biliwn ar gyfer rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Roedd hynny, wrth gwrs, yn cynnwys Gorllewin De Cymru ac, yn wir, rhannau eraill o Gymru. A allwch chi ddweud wrthym ni faint o’r arian hwnnw sydd wedi ei ryddhau, o gofio ein bod ni bum mlynedd i mewn i'r rhaglen nawr, a bod £700 miliwn i fod i gael ei wario yn ystod y saith mlynedd gyntaf?
13:56 - Carwyn Jones
I believe that half of it, roughly, has been allocated. It’s a matter, of course, for local authorities to come forward with schemes to replace or, indeed, to repair school buildings, and I’ve seen them up and down Wales—from Rhyl to St Teilo’s in Cardiff. I was in the Deeside sixth not a few weeks ago, and we see that new buildings are going up all over Wales to provide facilities that youngsters need and expect, while at the same time nothing is happening under his party in England. Rwy’n credu bod hanner ohono, yn fras, wedi ei ddyrannu. Mae'n fater, wrth gwrs, i awdurdodau lleol gyflwyno cynlluniau i ddisodli neu, yn wir, i atgyweirio adeiladau ysgol, ac rwyf wedi eu gweld nhw ar hyd a lled Cymru—o'r Rhyl i Ysgol Teilo Sant yng Nghaerdydd. Roeddwn i yn y chweched yng Nglannau Dyfrdwy ychydig wythnosau yn ôl, ac rydym ni’n gweld bod adeiladau newydd yn cael eu codi ym mhob cwr o Gymru i gynnig cyfleusterau sydd eu hangen ar bobl ifanc ac y maen nhw’n eu disgwyl, tra, ar yr un pryd nad oes dim yn digwydd o dan ei blaid ef yn Lloegr.
13:57 - Caroline Jones
First Minister, cuts in local authority budgets have put pressure on school budgets throughout my region. In addition to school budgets, Swansea council have also increased the amount they charge for service level agreements, which is impacting upon schools’ ability to deliver things like music lessons, swimming lessons and the supply of library books. Swansea now has one of the lowest per pupil funding levels in Wales. Will the Welsh Government consider the impact that budget cuts are having on schools in my region when it sets the level of Government funding in the forthcoming budget? Brif Weinidog, mae toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol wedi rhoi pwysau ar gyllidebau ysgolion ar draws fy rhanbarth i. Yn ogystal â chyllidebau ysgolion, mae cyngor Abertawe hefyd wedi cynyddu'r swm y mae’n ei godi am gytundebau lefel gwasanaeth, sy'n effeithio ar allu ysgolion i ddarparu pethau fel gwersi cerddoriaeth, gwersi nofio a'r cyflenwad o lyfrau llyfrgell.  Mae gan Abertawe un o'r lefelau isaf o gyllid fesul disgybl yng Nghymru erbyn hyn. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried yr effaith y mae toriadau i gyllidebau yn ei chael ar ysgolion yn fy rhanbarth i pan fydd yn gosod lefel cyllid y Llywodraeth yn y gyllideb nesaf?
13:58 - Carwyn Jones
Well, of course, we expect local authorities to allocate money for local services such as education. It’s for them to justify the amount of money they spend on education. It’s true to say that there are some schemes that we run centrally as a Government, but we would expect all local authorities to fund schools in such a way that we continue to see the improvement that we’ve seen over the last few years in children’s education. Wel, wrth gwrs, rydym ni’n disgwyl i awdurdodau lleol ddyrannu arian ar gyfer gwasanaethau lleol fel addysg. Eu cyfrifoldeb nhw yw cyfiawnhau’r swm o arian y maen nhw’n ei wario ar addysg. Mae'n wir i ddweud bod rhai cynlluniau yr ydym ni’n eu rhedeg yn ganolog fel Llywodraeth, ond byddem ni’n disgwyl i bob awdurdod lleol ariannu ysgolion yn y fath fodd sy’n golygu ein bod yn parhau i weld y gwelliant yr ydym ni wedi ei weld dros y blynyddoedd diwethaf i addysg plant.
Diogelwch ar y Ffyrdd yn Sir Benfro Road Safety in Pembrokeshire
13:58 - Paul Davies
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar y ffyrdd yn Sir Benfro? OAQ(5)0188(FM) 4. Will the First Minister make a statement on road safety in Pembrokeshire? OAQ(5)0188(FM)
13:58 - Carwyn Jones
Mae’r fframwaith diogelwch ar y ffyrdd i Gymru yn amlinellu’r camau gweithredu y byddwn ni a’n partneriaid yn eu cymryd i gyrraedd ein targedau ar gyfer lleihau nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu ar y ffordd. Bydd y fframwaith yn cael ei adolygu unwaith eto unwaith y bydd y ffigurau ar gyfer y rheini a gafodd eu lladd neu eu hanafu yn 2016 gael eu cyhoeddi. The road safety framework for Wales sets out the actions we and our partners will take to achieve our casualty reduction rates on our roads. The framework will be reviewed once again following the release of the 2016 casualty statistics.
13:58 - Paul Davies
Rwy’n ddiolchgar i’r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mae diogelwch ar y ffyrdd yn broblem i gerddwyr yng nghwm Abergwaun, ac er gwaethaf ymrwymiadau cadarnhaol gan Weinidogion blaenorol, ac er bod astudiaeth dichonoldeb wedi cymryd lle yn 2012-13, mae’r Gweinidog presennol wedi gofyn am astudiaeth arall i adeiladu pont droed. Rwy’n siŵr eich bod chi’n gyfarwydd â’r rhan yna o’r dref a’i bod hi’n bwysig i wella diogelwch yn y rhan yna. Felly, pa sicrwydd y gall eich Llywodraeth chi ei roi i bobl yn yr ardal yna y bydd pont droed mewn gwirionedd yn cael ei hadeiladu i’r gymuned leol yn ystod y Cynulliad hwn, yn hytrach na chael ymrwymiadau i astudiaethau dichonoldeb diddiwedd, a pha gyllid a fydd ar gael i brojectau fel hyn? I’m grateful to the First Minister for that response. Road safety is a problem for walkers in lower town Fishguard, and despite positive assurances from previous Ministers, and although a feasibility study was undertaken in 2012-13, the current Minister has asked for another study to build a footbridge. I’m sure that you’re familiar with that part of the town and that it’s important to improve safety in that part of the town. So, what assurances can your Government give to the people of that area that a footbridge will truly be built during the term of this Assembly, rather than having commitments on endless feasibility studies, and what funding will be available for this kind of project?
13:59 - Carwyn Jones
Mae’r Aelod yn sôn am Gwm Gwaun—nid wyf yn gwybod am unrhyw lwybr yng Nghwm Gwaun. Rwy’n gwybod fod yna broblem ynglŷn â Threfdraeth i Lwyngwair, os mai dyna beth mae’n sôn amdano. Ynglŷn â Threfdraeth i Lwyngwair, mae’r gwaith yn symud ymlaen ar hynny. Ynglŷn a’r mater mae wedi ei godi, a gaf i felly ysgrifennu ato fe gyda mwy o fanylion er mwyn ei fod yn gallu sicrhau bod y manylion ar gael i’w etholwyr? The Member mentions Cwm Gwaun—I’m not aware of any footpath there. I know that there is a problem with Newport to Llwyngwair, if that’s what he’s talking about. In terms of Newport and Llwyngwair, the work is progressing on that. On the issue that he himself has raised, may I write to him on the issue with greater detail so that he can ensure that those details are available to his constituents?
14:00 - Dawn Bowden
I thank the First Minister for his answer on that. I just wanted to widen this slightly to road safety issues that certainly have been raised with me, and I’m sure many other Members, particularly relating to safety around schools. It’s often the case that, even with the provision of zebra and pelican crossings, the safety of children travelling to and from schools is a concern. Ideally, the council would employ school-crossing patrol staff at schools, but, with the cost of that clearly prohibitive, councils need to prioritise their spending without this provision. But does the First Minister agree with me that, as part of their obligations under Active Travel (Wales) Act 2013, there is an opportunity for local authorities, when preparing their maps, to think proactively about addressing road safety concerns in the schools that are in their respective areas? Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb ar hynny. Roeddwn i eisiau ehangu hyn rhyw fymryn i faterion diogelwch ar y ffyrdd sy’n sicr wedi cael eu codi gyda mi, a chyda llawer o Aelodau eraill rwy’n siŵr, yn enwedig o ran diogelwch o amgylch ysgolion. Mae'n aml yn wir, hyd yn oed gyda’r ddarpariaeth o groesfannau sebra a phelican, bod diogelwch plant sy'n teithio i ysgolion ac yn ôl adref yn peri pryder. Yn ddelfrydol, byddai'r cyngor yn cyflogi staff patrôl croesfannau ysgol mewn ysgolion, ond, gan fod cost hynny’n amlwg yn grocbris, mae angen i gynghorau barhau i flaenoriaethu eu gwariant heb y ddarpariaeth hon. Ond a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi, yn rhan o'u rhwymedigaethau o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, bod cyfle i awdurdodau lleol, wrth baratoi eu mapiau, feddwl yn rhagweithiol am fynd i'r afael â phryderon diogelwch ar y ffyrdd yn yr ysgolion sydd yn eu hardaloedd hwy?
14:01 - Carwyn Jones
Absolutely. The point of the active travel Act is, of course, to encourage more safety, that much is said, but also, of course, to ensure that local authorities see walking and cycling not just as forms of recreation but as modes of transport, so that more people can be tempted out of cars. Of course, that’s of benefit not just to traffic but to themselves, as individuals, in terms of their health. It was at the very heart of the active travel Act—John Griffiths, of course, is there; he’s somebody who’s very passionate about the Act, and we want to see local authorities ensure that, in the future, cycling and walking are seen as ‘normal’, as they would put it—normal modes of transport alongside other more traditional modes. Yn sicr. Pwynt y Ddeddf teithio llesol, wrth gwrs, yw annog mwy o ddiogelwch, mae cymaint â hynny yn amlwg, ond hefyd, wrth gwrs, sicrhau nad yw awdurdodau lleol yn ystyried cerdded a beicio fel ffurfiau o hamdden yn unig, ond fel math o drafnidiaeth, felly y gellir temtio mwy o bobl allan o'u ceir. Wrth gwrs, mae hynny o fudd nid yn unig i draffig ond iddyn nhw eu hunain, fel unigolion, o ran eu hiechyd. Roedd wrth wraidd y Ddeddf teithio llesol—mae John Griffiths, wrth gwrs, yno; mae’n rhywun sy’n frwdfrydig iawn am y Ddeddf, ac rydym ni eisiau gweld awdurdodau lleol yn sicrhau, yn y dyfodol, yr ystyrir beicio a cherdded yn 'normal', fel y byddent yn ei roi—yn fathau arferol o drafnidiaeth ochr yn ochr â dulliau eraill mwy traddodiadol.
14:01 - Simon Thomas
Mae’n anodd cyrraedd y normalrwydd rŷch chi’n sôn amdano, Brif Weinidog, pan fo seiclo yn golygu 1 y cant o’r holl deithiau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru a sir Benfro, ac mae cael eich lladd neu’ch anafu’n ddifrifol ar feisicl yn 33 y cant. Felly, mae yna ‘mismatch’ eithriadol fanna rhwng yr hyn sy’n cael eu cymryd ar gefn beic a’r hyn sy’n cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol. Mae hynny’n arbennig o wir am bobl ifanc, lle mae gennych chi darged o ostyngiad o 40 y cant, ac rydych chi ond wedi gostwng y nifer o bobl ifanc sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol o 28 y cant. Mae’n ostyngiad, ond nid yw wedi cyrraedd y targed. Pa gamau pellach ydych chi’n mynd i’w cymryd i ddiogelu ffyrdd yn sir Benfro a thu hwnt, yn arbennig ar gyfer seiclwyr a phobl ifanc sy’n gorfod defnyddio’r ffordd? It’s difficult to reach the state of normality that you talk about, First Minister, when cycling accounts for 1 per cent of all journeys taken in Wales and in Pembrokeshire, and being killed or seriously injured on a bicycle is 33 per cent. Therefore there is a huge mismatch there between the journeys taken by those on cycles and those who are killed or seriously injured. It’s particularly true of younger people, where you have a target of a 40 per cent reduction, and you’ve only reduced the number that are killed or seriously injured by 28 per cent. It’s a reduction, but you haven’t reached your target. So, what further steps are you going to take to improve road safety in Pembrokeshire and beyond, particularly for cyclists and young people who have to make use of the roads?
14:02 - Carwyn Jones
Wrth gwrs, un o’r pethau bydd Deddf Cymru yn ei roi i ni yw’r pŵer dros gyflymdra. Mewn rhai heolydd, byddai’n werth, yn fy marn i, ystyried a ddylai’r cyflymdra ddod lawr er mwyn diogelu seiclwyr. Mae yna risg i seiclo, achos y ffaith nad yw seicl mor fawr â char, ond nid yw hynny’n meddwl y dylai pobl gael risg gormodol. I fi—ac rwy’n gwybod nad yw rhai o’r farn hon—mae’n bwysig hefyd sicrhau bod yna lwybrau sydd ddim ond i seiclwyr. Mae rhai yn dweud—ac rwy’n deall y ddadl hon—y dylai seiclwyr gael yr un hawliau ar yr heol â cheir, rwy’n deall hynny. Ond, i lot o bobl, nid oes ganddyn nhw’r hyder i fynd ar yr heol a chymysgu gyda cheir. I fi, y datblygiad rŷm ni wedi’i weld yn ddiweddar—er enghraifft, ffordd osgoi Pentre’r Eglwys yn Rhondda Cynon Taf, lle y mae yna lwybr seiclo wedi cael ei ddodi i mewn fel rhywbeth hollol arferol—mae honno’n un ffordd ymlaen er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio beiciau, yn y pen draw, mewn ffordd maen nhw’n credu sy’n saff. Of course, one of the things that the Wales Act will give us is power over speed. On some roads, it would be worth, in my view, considering whether the speed should be reduced in order to safeguard cyclists. There is a risk in cycling, because, obviously, a cycle isn’t as large as a car, but, obviously, we don’t want people to be at an excessive risk. Others would not agree with me on this, but to me it’s important that we have cycle-only paths. Others believe—and I understand the argument—that cyclists should have the same rights on the road as cars. But for many people they don’t have the confidence to go on the road and mix with cars. To me, the development we’ve seen recently—for example, with the Church Village bypass in Rhondda Cynon Taf, where a cycle path has been put in as something entirely usual—that is one way forward in order to ensure that people can use cycles, ultimately, in a way that they believe is safe.
Darlledwyr sy’n Derbyn Arian Cyhoeddus Broadcasters in Receipt of Public Money
14:03 - Rhianon Passmore
5. Faint o bwys y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar ddarlledwyr sy'n derbyn arian cyhoeddus, o ran darparu lefelau uchel o raglenni gwreiddiol? OAQ(5)0201(FM) 5. What importance does the Welsh Government place on broadcasters in receipt of public money, providing high levels of original programming? OAQ(5)0201(FM)
14:03 - Carwyn Jones
We believe that they should properly portray the diverse communities and culture of Wales. We did ensure that the new BBC charter included a much stronger public purpose to deliver that content. Rydym ni’n credu y dylen nhw bortreadu cymunedau a diwylliant amrywiol Cymru yn briodol. Gwnaethom sicrhau bod siarter newydd y BBC yn cynnwys diben cyhoeddus llawer cryfach i ddarparu’r cynnwys hwnnw.
14:03 - Rhianon Passmore
Thank you for that answer, First Minister. The chief executive of S4C, giving evidence to the Culture, Welsh Language and Communications Committee last week, stated that 57 per cent of its programmes had been shown before compared to a target of 20 per cent when S4C was launched in 1982. Funding from the BBC licence fee for S4C will remain at £74.5 million a year until 2022, and S4C has also received £7 million from the UK Government. So, what actions can the Welsh Government take to underscore the importance of original, universal programming, when programmes such as the successful, bilingual ‘Hinterland’ are universally applauded and when my constituents are concerned at the lack of representation of English language or bilingual Welsh lives across the public sector network? Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Dywedodd prif weithredwr S4C, wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yr wythnos diwethaf, bod 57 y cant o'u rhaglenni wedi cael eu dangos o'r blaen o'i gymharu â tharged o 20 y cant pan lansiwyd S4C ym 1982. Bydd cyllid o ffi trwydded y BBC ar gyfer S4C yn parhau i fod yn £74.5 miliwn y flwyddyn tan 2022, ac mae S4C hefyd wedi derbyn £7 miliwn gan Lywodraeth y DU. Felly, pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd i danlinellu pwysigrwydd rhaglenni gwreiddiol, cyffredinol, pan fo rhaglenni fel rhaglen ddwyieithog lwyddiannus ‘Y Gwyll’ yn cael eu canmol gan bawb a phan fo fy etholwyr yn pryderu am ddiffyg cynrychiolaeth bywydau Cymreig Saesneg eu hiaith neu ddwyieithog ar draws y rhwydwaith sector cyhoeddus?
14:04 - Carwyn Jones
As we are reviewing the charter, the BBC will be obliged to reflect the diverse communities of Wales and the other nations and regions of the UK. It will now have to set out how it will develop upon those new duties, including improving services for Wales. It’ll be required to report in detail on how it’s doing that. That is a new development and one that we believe will help to stem and, indeed, reverse the slow decline in English-language programming made in Wales. Gan ein bod ni’n adolygu'r siarter, bydd ymrwymiad ar y BBC i adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru a gwledydd a rhanbarthau eraill y DU. Bydd yn rhaid iddo bellach nodi sut y bydd yn datblygu yn sgil y dyletswyddau newydd hynny, gan gynnwys gwella gwasanaethau i Gymru. Bydd yn ofynnol iddo adrodd yn fanwl ar sut y mae'n gwneud hynny. Mae hwnnw'n ddatblygiad newydd ac yn un yr ydym ni’n credu y bydd yn helpu i atal ac, yn wir, gwrthdroi'r dirywiad araf o ran rhaglenni Saesneg eu hiaith a wneir yng Nghymru.
14:05 - Dai Lloyd
O gofio’r bleidlais Brexit, ac, yn deillio o hynny, yr angen efallai i wella gwybodaeth pobl Cymru o beth sy’n digwydd yn y lle yma, beth sy’n digwydd yng Nghymru, gwella portread Cymru, a beth yn union y gallwn ni ei wneud yn y lle yma a beth nad ydym ni’n gallu ei wneud, pa drafodaethau, felly, ydych chi wedi eu cael gyda phwysigion y BBC ac eraill ynglŷn â’r angen dybryd i wella portread Cymru y tu mewn i Gymru a’r tu allan i Gymru? Bearing in mind the Brexit vote, and the need emerging from that to improve the information available to the people of Wales as to what happens in this place and what happens in Wales, and the portrayal of Wales and what exactly we in this Assembly can do and what we can’t do, what discussions have you had with the hierarchy of the BBC and others on the dire need to improve the portrayal of Wales both within Wales and outwith Wales?
14:05 - Carwyn Jones
Mae yna broblem mewn rhai rhannau o’r BBC lle nad oes yna lot o ddealltwriaeth o Gymru. Un o’r pethau rwyf i wedi trafod gyda’r BBC yw a ddylem ni gael Newyddion 6 ein hunain ac efallai Newyddion 10 hefyd. Mae hynny’n rhywbeth bydd yn rhaid inni ystyried yn y pen draw ynglŷn ag a fyddai hynny’n rhywbeth y byddwn eisiau ei weld ac ym mha ffordd y byddai hynny’n cael ei wneud. Mae’n wir i ddweud, wrth gwrs, bod yna brinder gwybodaeth gan bobl Cymru ynglŷn â beth sy’n digwydd fan hyn, beth rŷm ni’n ei wneud, ac, wrth gwrs, beth sy’n digwydd yng Nghymru ei hunain. Felly, mae yna ddyletswydd i sicrhau bod yna fwy o fanylion a mwy o newyddion ar gael i bobl Cymru sydd yn briodol i bobl Cymru hefyd. There is a problem in some parts of the BBC where there isn’t a great deal of understanding of Wales. One of the things that we have discussed with the BBC is whether we should have our own ‘News at Six’ and also our own ‘News at Ten’. This is something that we’ll have to consider ultimately as to whether this is something we would wish to see and how that should be done. It’s true to say, of course, that there is a lack of knowledge and information amongst the people of Wales about what happens here and what we do, and, of course, what happens in Wales itself. So, we must try to ensure that more news is available for the people of Wales that’s appropriate to the people of Wales.
14:06 - Janet Finch-Saunders
First Minister, the draft charter provides an opportunity for further scrutiny of the BBC, to include the appointment of a non-executive director to be agreed by the UK and Welsh Governments. Amid concerns that the National Assembly for Wales will not be afforded, however, the same weighting as the House of Commons and the House of Lords, what representations are you making on behalf of this Assembly to ensure that we are part of that decision-making process as regards the appointment of a non-executive director and also the further workings of the BBC? Brif Weinidog, mae'r siarter drafft hwn yn cynnig cyfle i graffu ar y BBC ymhellach, gan gynnwys penodiad cyfarwyddwr anweithredol i'w gytuno gan Lywodraethau’r DU a Chymru. Ymhlith pryderon na fydd yr un pwysigrwydd, fodd bynnag, yn cael ei neilltuo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru â Thŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi, pa sylwadau ydych chi’n eu gwneud ar ran y Cynulliad hwn er mwyn sicrhau ein bod yn rhan o’r broses honno o wneud penderfyniadau o ran penodi cyfarwyddwr anweithredol yn ogystal â gweithrediadau pellach y BBC?
14:07 - Carwyn Jones
It’s an important point that the Member raises. It is something that we’re considering at the moment. What I can say is that the Assembly will now have powers to scrutinise the BBC—it’s not happened before, of course—to call it to appear before the Assembly and to hold it directly to account, which puts it on a par with the UK Parliament. Mae'n bwynt pwysig y mae’r Aelod yn ei godi. Mae'n rhywbeth yr ydym ni’n ei ystyried ar hyn o bryd. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw y bydd gan y Cynulliad bwerau bellach i graffu ar y BBC—nid yw wedi digwydd o'r blaen, wrth gwrs—i alw arno i ymddangos gerbron y Cynulliad a’i ddwyn i gyfrif yn uniongyrchol, sy'n ei wneud yn gyfartal â Senedd y DU.
In terms of the issue that the Member raises, it is something that is still, as I say, under discussion in terms of the ability and the role of the National Assembly as part of that process. O ran y mater y mae'r Aelod yn ei godi, mae'n rhywbeth sy’n dal, fel y dywedais, yn destun trafodaeth o ran gallu a swyddogaeth y Cynulliad Cenedlaethol yn rhan o'r broses honno.
Sgiliau Priodol yn y Gweithlu Appropriate Skills in the Workforce
14:07 - Julie Morgan
6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gweithlu sydd â'r sgiliau priodol yng Nghymru? OAQ(5)0206(FM) 6. What is the Welsh Government doing to ensure that there is a workforce with the appropriate skills in Wales? OAQ(5)0206(FM)
14:07 - Carwyn Jones
One of the things we’re doing, of course, is to create a minimum of 100,000 all-age apprenticeships during this Assembly term, and that will continue our focus on raising overall skills. Un o'r pethau yr ydym ni’n ei wneud, wrth gwrs, yw creu o leiaf 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oed yn ystod y tymor Cynulliad hwn, a bydd hynny’n parhau ein pwyslais ar wella sgiliau cyffredinol.
14:07 - Julie Morgan
Would the First Minister be able to tell us what progress has been made on preparations for the introduction of the apprenticeship levy, which was proposed by the former Chancellor, George Osborne? And what are the consequences of that for Wales? A fyddai'r Prif Weinidog yn gallu dweud wrthym ni pa gynnydd sydd wedi ei wneud o ran y paratoadau ar gyfer cyflwyno'r ardoll brentisiaeth, a gynigiwyd gan y cyn-Ganghellor, George Osborne? A beth yw canlyniadau hynny i Gymru?
14:08 - Carwyn Jones
It’s an issue that cuts across much of the work that we are doing. I know that the Minister has been involved in many discussions with the UK Government on this. It is an area where—. I don’t believe many businesses know about it, actually, because, when I’ve raised it with many businesses, they’re not aware that the levy is coming and what it would mean for them in terms of cost and certainly not what they might get out of it. So, I think the UK Government still has a great deal of work to do in informing businesses of how it would work, and particularly what it means in terms of meshing with the programmes we already run as a devolved Government. Mae'n fater sy'n torri ar draws llawer o'r gwaith yr ydym ni’n ei wneud. Gwn fod y Gweinidog wedi cymryd rhan mewn nifer o drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar hyn. Mae'n faes lle—. Nid wyf yn credu bod llawer o fusnesau yn gwybod amdano, a dweud y gwir, oherwydd, pan fy mod wedi codi'r mater gyda llawer o fusnesau, nid ydyn nhw’n ymwybodol bod yr ardoll yn dod a beth fyddai'n ei olygu iddyn nhw o ran cost ac yn sicr nid yr hyn y gallen nhw ei gael ohono. Felly, rwy’n credu bod gan Lywodraeth y DU lawer iawn o waith i'w wneud o hyd i hysbysu busnesau am sut y byddai'n gweithio, ac yn enwedig yr hyn y mae'n ei olygu o ran cyfuno â'r rhaglenni yr ydym ni’n eu rhedeg eisoes fel Llywodraeth ddatganoledig.
14:08 - Llyr Gruffydd
Mae yna dystiolaeth, wrth gwrs, fod plant sy’n cwympo ar ei hôl hi yn y blynyddoedd cynnar, yn enwedig o safbwynt datblygiad ‘cognitive’, yn fwy tebygol o fod yn stryglo yn nes ymlaen yn eu bywyd o safbwynt cyfleon bywyd. Nawr, mae yna dystiolaeth hefyd yn dangos bod cael ymarferwyr lefel gradd o fewn y cyd-destun blynyddoedd cynnar yna yn help mawr i sicrhau nad yw hynny’n digwydd. Mae’ch Llywodraeth chi, wrth gwrs, yn mynd i gyhoeddi yn y gwanwyn cynllun gweithlu'r blynyddoedd cynnar a fydd, gobeithio, yn arfogi gweithwyr yn y sector yna â’r sgiliau angenrheidiol. A fydd y cynllun yna’n cynnwys ymrwymiad clir i sicrhau bod yr ymarferwyr yn y sector yn rhai sydd â gradd, yn enwedig, wrth gwrs, y rhai sy’n gweithio gyda phlant sy’n byw mewn tlodi? There is evidence, of course, that children who fall behind in the early years, particularly in terms of cognitive development, are more likely to struggle later in life in terms of lifetime opportunities. There is now evidence showing that having degree-level practitioners in the early years context is of great assistance in ensuring that that doesn’t happen. Now, your Government, of course, will, in the spring, publish the early years workforce plan, which, hopefully, will give workers in that sector the necessary skills. Will that plan include a clear commitment to ensure that practitioners in the sector are at degree level, particularly those working with children living in poverty?
14:09 - Carwyn Jones
Bydd hyn yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried yn ystod y paratoadau cyn bod y cynllun yn cael ei gyhoeddi, ond rŷm ni’n moyn sicrhau bod y rheini sy’n gweithio gyda phlant pan fônt yn ifanc, y bobl hynny, â’r sgiliau sydd eu heisiau er mwyn sicrhau bod y llwybr gorau’n cael ei ddilyn gan y plant hynny. This will be something that will be discussed during the preparations before the plan is published, but we wish to ensure those working with children when the children are at an earlier age have the skills required in order to ensure that the best pathway is followed by those children.
14:09 - Mohammad Asghar
The Older People’s Commissioner for Wales has stressed the need to keep our older people in the workforce and to bring them back to work as well. How will the Welsh Government ensure that the 100,000 high-quality apprenticeships promised in his programme for government are delivered on a needs base rather than on the age of the person in Wales? Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi pwysleisio'r angen i gadw ein pobl hŷn yn y gweithlu ac i ddod â nhw yn ôl i'r gwaith hefyd. Sut wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau bod y 100,000 o brentisiaethau a addawyd yn ei rhaglen lywodraethu yn cael eu darparu ar sail anghenion yn hytrach nag oedran yr unigolyn yng Nghymru?
14:10 - Carwyn Jones
Well, the intention is, of course, that it’s all-age. I think the question here is making sure that we work with those people who want to come back to work. Some might be retired. They may feel that they are financially comfortable. And, of course, for many people who are retired, they are the basis for the volunteers that we have across Wales. One of the issues that we face as a society, I believe, as people work longer, is the prospect that there will be fewer volunteers in the future because people have less time on their hands. But, nevertheless, the whole point of the all-age scheme is to make sure that it is just that: all-age. Wel, y bwriad, wrth gwrs, yw iddo fod ar gyfer pob oed. Rwy'n meddwl mai’r cwestiwn yn y fan yma yw gwneud yn siŵr ein bod ni’n gweithio gyda'r bobl hynny sydd eisiau dod yn ôl i'r gwaith. Efallai fod rhai wedi ymddeol. Efallai y byddant yn teimlo eu bod yn gyfforddus yn ariannol. Ac, wrth gwrs, i lawer o bobl sydd wedi ymddeol, nhw yw sail y gwirfoddolwyr sydd gennym ni ledled Cymru. Un o'r materion sy'n ein hwynebu fel cymdeithas, rwy’n credu, wrth i bobl weithio’n hwy, yw'r posibilrwydd y bydd llai o wirfoddolwyr yn y dyfodol oherwydd bod gan bobl lai o amser ar eu dwylo. Ond, serch hynny, holl bwynt y cynllun pob oed yw gwneud yn siŵr ei fod yn union hynny: pob oed.
14:10 - Vikki Howells
First Minister, I recently met with Careers Wales staff in Aberdare, and they told me how they’re using the ReAct programme to ensure that people in my constituency who have been affected by redundancy have the skills they need to seek alternative employment. Do you agree with me, First Minister, that Careers Wales and the ReAct programme have a crucial role to play in helping people develop the skills that are needed to re-enter or stay in the workforce? Brif Weinidog, cefais gyfarfod yn ddiweddar, gyda staff Gyrfa Cymru yn Aberdâr, a dywedasant wrthyf sut y maen nhw’n defnyddio rhaglen ReAct i sicrhau bod pobl yn fy etholaeth i sydd wedi cael eu heffeithio gan ddiswyddiad yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i chwilio am swydd arall. A ydych chi’n cytuno â mi, Brif Weinidog, bod gan Gyrfa Cymru a rhaglen ReAct ran hollbwysig i'w chwarae o ran helpu pobl i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ailymuno â’r gweithlu neu aros ynddo?
14:11 - Carwyn Jones
ReAct has been very, very successful, and it’s certainly—. The example that the Member has given illustrates that. From our perspective, we’ll continue to ensure that schemes like ReAct and others that have been so successful over the years continue to work for the benefit of people in terms of them acquiring the skills that they need to enter the workforce. Mae ReAct wedi bod yn llwyddiannus iawn, iawn ac mae’n sicr—. Mae’r enghraifft y mae’r Aelod wedi ei rhoi yn dangos hynny. O'n safbwynt ni, byddwn yn parhau i sicrhau bod cynlluniau fel ReAct ac eraill sydd wedi bod mor llwyddiannus dros y blynyddoedd yn parhau i weithio er budd pobl o ran eu galluogi i gaffael y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i ymuno â'r gweithlu.
Gwella’r Broses Gynllunio Improving the Planning Process
14:11 - David Melding
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fesurau i wella’r broses gynllunio ar gyfer darparu tai? OAQ(5)0197(FM) 7. Will the First Minister make a statement on measures to improve the planning process for the provision of housing? OAQ(5)0197(FM)
14:11 - Carwyn Jones
Yes. Improvements to the planning system are being delivered through the Planning (Wales) Act 2015 and the wider positive planning improvement programme. Gwnaf. Mae gwelliannau i'r system gynllunio yn cael eu cyflawni trwy Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 a'r rhaglen gwella cynllunio cadarnhaol ehangach.
14:11 - David Melding
First Minister, rational land-use policy needs to identify land, provide good-quality pre-planning application advice, and then encourage speedy use so that we don’t have speculative land banks being built up. How will the legislation achieve these core aims? Brif Weinidog, mae angen i bolisi defnydd tir rhesymegol ddynodi tir, darparu cyngor o ansawdd da cyn cyflwyno cais cynllunio, ac yna annog defnydd cyflym fel nad oes gennym ni fanciau tir tybiannol yn cael eu hadeiladu. Sut gwnaiff y ddeddfwriaeth fodloni’r nodau craidd hyn?
14:12 - Carwyn Jones
Well, it will seek to ensure that—if we look, for example, at the local development plan process—that is done in suitable time. It will look at certain developments and remove them from local authorities in order for them to be considered more speedily, not in terms of less detail but in terms of them being considered in an appropriate timescale. Also, of course, it will ensure that, as far as developers and the public are concerned, there will be a better understanding of how the planning process works and at what point the planning process must be identified. But ultimately it’s a matter of ensuring not just that there is land available, but also that there are various different models available in terms of the type of tenure that people wish to get when they either buy or rent houses. Wel, bydd yn ceisio sicrhau—os edrychwn ni, er enghraifft, ar broses y cynllun datblygu lleol—bod hynny’n cael ei wneud mewn amser priodol. Bydd yn edrych ar ddatblygiadau penodol ac yn eu cymryd oddi wrth awdurdodau lleol fel y gellir eu hystyried yn gyflymach, nid o ran llai o fanylder ond o’r safbwynt eu bod yn cael eu hystyried yn unol ag amserlen briodol. Hefyd, wrth gwrs, bydd yn sicrhau, cyn belled ag y mae datblygwyr a'r cyhoedd yn y cwestiwn, y bydd gwell dealltwriaeth o sut y mae'r broses gynllunio yn gweithio ac ar ba adeg y mae’n rhaid nodi’r broses gynllunio. Ond, yn y pen draw, mae'n fater o sicrhau nid yn unig bod tir ar gael, ond hefyd bod amryw o wahanol fodelau ar gael o ran y math o ddaliadaeth y mae pobl yn dymuno ei gael pan eu bod yn prynu neu’n rhentu tai.
14:12 - Sian Gwenllian
Mae cynlluniau datblygu lleol, wrth gwrs, yn ganolog i’r broses o ddarparu tai ac mae’r cynlluniau yma wedi cael eu sefydlu ar sail ystadegau hanesyddol ynglŷn â lefel y twf mewn poblogaeth. A ydych chi felly yn cytuno ei bod hi’n bryd dyfeisio dull mwy dibynadwy o fesur y galw am dai i’r dyfodol, a hefyd bod angen mwy o gydweithio strategol rhwng awdurdodau lleol pan fydd hi’n dod i ddarparu tai? Local development plans, of course, are central to the process of housing provision, and these plans have been established on the basis of historical statistics as regards the level of population growth. Do you therefore agree that it is high time to develop a more effective way of gauging future demand, and also that we need more strategic collaboration between local authorities in housing provision?
14:13 - Carwyn Jones
Mae yna gyfle, wrth gwrs, i awdurdodau lleol greu ffigurau eu hunain, os mae yna dystiolaeth i wneud hynny. So, lle maen nhw’n dweud nad yw’r ffigurau yn iawn, mae fe’n bosib i awdurdodau lleol ddweud, ‘Wel, mae yna ffigurau gyda ni; maen nhw’n ffigurau sydd yn cael eu cefnogi gan dystiolaeth, ac felly rheini yw’r ffigurau rydym ni’n moyn eu defnyddio.’ Mae’n fater wedyn i’r arolygydd ynglŷn â faint o bwysau fydd yn cael ei roi i’r ffigurau hynny. So, mae fe’n bosib yn barod i awdurdodau lleol ddefnyddio ffigurau gwahanol os mae yna dystiolaeth tu ôl i’r ffigurau hynny. There is an opportunity, of course, for local authorities to produce their own figures, if there is evidence for doing that. So, where they say that the figures are incorrect, it is possible for local authorities to say, ‘Well, we have our own figures and they are figures that are supported by evidence. Therefore, these are the figures that we want to use’. Then it’s a matter for the planning inspector as to how much weighting will be given to those figures. So, it is already possible for local authorities to use different figures if they are evidence-based.
14:13 - Michelle Brown
Since the 1960s, Wales has seen many tens of thousands of new homes built that were never destined for local buyers. This has happened on a grand scale across Wales and, in particular, my home area of north-east Wales. The situation we find in rural north Wales, and particularly in parts of Flintshire, is that commuters from across the border buy up the houses as soon as they’re available, distorting the local housing markets. True, these commuters are earning their money in England and spending it in Wales, but at the same time they’re pricing locals out of housing. The situation is cleverly manipulated by planners, developers, estate agents and others in the housing trade as an argument to build yet more new housing, from which most locals are yet again excluded. Improved transport connections between north Wales— Ers y 1960au, adeiladwyd degau lawer o filoedd o gartrefi newydd yng Nghymru nad oeddent i fod ar gyfer prynwyr lleol erioed. Mae hyn wedi digwydd ar raddfa fawr ledled Cymru ac, yn benodol, yn fy ardal gartref i yn y gogledd-ddwyrain. Y sefyllfa a welwn yng nghefn gwlad gogledd Cymru, ac yn enwedig mewn rhannau o Sir y Fflint, yw bod cymudwyr o dros y ffin yn prynu’r tai cyn gynted ag y byddant ar gael, gan ystumio'r marchnadoedd tai lleol. Ydy, mae’r cymudwyr hyn yn ennill eu harian yn Lloegr ac yn ei wario yng Nghymru, ond ar yr un pryd maen nhw’n creu sefyllfa lle na all pobl leol fforddio prynu tai. Mae'r sefyllfa yn cael ei rheoli’n gelfydd gan gynllunwyr, datblygwyr, gwerthwyr tai ac eraill yn y sector tai fel dadl i adeiladu mwy o dai newydd fyth, y mae’r rhan fwyaf o bobl leol yn cael eu heithrio ohonynt unwaith eto. Bydd cysylltiadau trafnidiaeth gwell rhwng gogledd Cymru—
14:14 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Can you bring yourself to a question, please? A allwch chi ddod â’ch hun at gwestiwn, os gwelwch yn dda?
14:14 - Michelle Brown
Okay. I’m coming to it now, Llywydd. Iawn. Rwy’n dod ato nawr, Lywydd.
[Continues.]—and along the A55 corridor will only exacerbate the problem. Are you willing to introduce legislation to reserve a percentage of the housing stock for local buyers, and, if so, when do you propose to do so? [Yn parhau.]—ac ar hyd coridor yr A55 yn gwneud dim ond gwaethygu'r broblem. A ydych chi’n fodlon cyflwyno deddfwriaeth i gadw canran o'r stoc tai ar gyfer prynwyr lleol, ac, os felly, pryd ydych chi’n cynnig gwneud hynny?
14:15 - Carwyn Jones
We already, of course, through the planning system, require developers to reserve a certain percentage of housing developments for affordable housing. One of the issues that we have to look at, I believe, is whether there is scope for intervening in the local market in the future in order to ensure that there is sufficient housing available, particularly in villages where, at the moment, there are no plans to build any houses. The reality is that the cross-border flow is there. It is in the economic interests of both the north-east of Wales and the north-west of England to work together for the prosperity of both those regions. It shows, of course, how popular Wales is as a country to live in when people want to live in Flintshire rather than in Cheshire. Rydym eisoes, wrth gwrs, trwy'r system gynllunio, yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr gadw canran benodol o ddatblygiadau tai ar gyfer tai fforddiadwy. Un o'r materion y mae'n rhaid i ni ei ystyried, rwy’n credu, yw a oes lle i ymyrryd yn y farchnad leol yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod digon o dai ar gael, yn enwedig mewn pentrefi lle, ar hyn o bryd, nad oes unrhyw gynlluniau i adeiladu unrhyw dai. Y gwir amdani yw bod y llif trawsffiniol yno. Mae o fudd economaidd i ogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr gydweithio ar gyfer ffyniant y ddau ranbarth hynny. Mae'n dangos, wrth gwrs, pa mor boblogaidd yw Cymru fel gwlad i fyw ynddi pan fo pobl eisiau byw yn Sir y Fflint yn hytrach nag yn Swydd Gaer.
Adolygu TAN 8 A Review of TAN 8
14:15 - Simon Thomas
8. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu TAN8? OAQ(5)0196(FM)[W] 8. What plans does the Welsh Government have to review TAN8? OAQ(5)0196(FM)[W]
14:15 - Carwyn Jones
Dim, ar hyn o bryd. None, at the moment.
14:15 - Simon Thomas
Wel, mae hynny yn fy siomi, Brif Weinidog, gan fod TAN 8 wedi bod mewn lle heb adolygiad sylweddol ers 2005. Mewn ffordd, mae wedi methu o ran ei brif amcan, sef cynllunio ar gyfer ynni adnewyddol, tuag at y targed yr oedd y Llywodraeth wedi’i osod. Rydym yn bell i ffwrdd o’r targed hwnnw. Wrth gwrs, rydym yn gwybod bod grymoedd newydd dros ynni yn dod i’r Llywodraeth, hyd at 350 MW, sy’n cynnwys yr holl ddatblygiadau ynni ar y tir a hefyd pethau diddorol fel morlynnoedd hefyd. Onid yw’n briodol, erbyn hyn, i adolygu TAN 8 a chael rhyw fath o drefn gynllunio gorfodol sy’n fwy cywir yn ei lle ar gyfer yr amcanion newid hinsawdd, a hefyd i roi pwysau ar y Grid Cenedlaethol i gryfhau’r grid yn y llefydd lle mae angen gwneud hynny? Well, that’s a disappointment, First Minister, because TAN 8 has been in place without significant review since 2005. In a way, it’s failed in its main objective, namely planning for renewable energy and the target that the Government had set. We’re a long way off that target. Of, course we know that new powers in that area will come to the Government, up to 350 MW, which includes all of the terrestrial developments, as well as interesting things such as tidal lagoons. Is it appropriate now to review TAN 8 and to have some enforcement powers for climate change objectives, and also to put pressure on National Grid to strengthen the grid where that needs to be done?
14:16 - Carwyn Jones
Wel, nid wyf yn credu taw’r broblem yw’r TAN. Y broblem oedd y ffiniau a oedd yn eu lle, sef y ffaith nad oeddem yn gallu delio â dim byd yn fwy na 50 MW—ac ar y môr, wrth gwrs, dim byd yn fwy nag 1 MW. Felly, wrth gwrs, nid oedd TAN 8 yn rhywbeth a oedd yn cael ei ystyried gan Weinidogion yn Llundain. Felly, nid y TAN yw’r broblem, ond y ffiniau a oedd yno i ddechrau. Rwy’n croesawu, wrth gwrs, y ffaith mai 350 MW fydd y ffin yn y pen draw. Nid oes unrhyw reswm synhwyrol am y ffigur hwnnw. Wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod fy marn i—a bydd ei farn e yr un peth—sef y dylem ni gael yr un pwerau ynglŷn â’r grid â’r hynny sydd gan yr Alban. Felly, y pwerau yw’r broblem, ac nid y TAN, yn fy marn i. Well, I don’t believe that the problem lies with the TAN. The problem lies with the boundaries, where we can’t deal with anything in excess of 350 MW—and in marine energy nothing more than 1 MW. Of course, TAN 8 was not considered by Ministers in London. So, it’s not the TAN that’s the problem but the artificial boundaries. We welcome the fact that 350 MW will be the boundary ultimately. There’s no real reason why that’s been chosen. But I quite agree—and he would agree with me, I’m sure—that we should have the same powers over the grid as Scotland has. So, it’s the powers that are a problem and not the TAN.
Masnach Rhwng Cymru ac Iwerddon Trade Between Wales and Ireland
14:17 - Rhun ap Iorwerth
9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fasnach rhwng Cymru ac Iwerddon? OAQ(4)0204(FM)[W] 9. Will the First Minister make a statement on trade between Wales and Ireland? OAQ(4)0204(FM)[W]
14:17 - Carwyn Jones
Iwerddon yw ein pedwaredd farchnad allforio fwyaf, ac roedd allforion o Gymru i Iwerddon yn werth ychydig dros £1 biliwn yn 2015. Ireland is our fourth largest export market, with Welsh exports to Ireland worth just over £1 billion in 2015.
14:17 - Rhun ap Iorwerth
Yn fy etholaeth i, Ynys Môn, mae’r cwestiwn o ffiniau efo Iwerddon yn un o’r cwestiynau mwyaf allweddol o ran y drafodaeth am adael yr Undeb Ewropeaidd. Os oes ffin i gael ei gosod o gwmpas ynys Iwerddon, fel sy’n cael ei hawgrymu—ac mae Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon wedi dweud ei fod am gryfhau rheolaeth ffiniau ym mhorthladdoedd a meysydd awyr Iwerddon—beth yw asesiad y Prif Weinidog o effaith debygol hynny ar y man croesi pwysicaf o ran masnach rhwng Prydain ac Iwerddon, sef, yn fy etholaeth i, porthladd Caergybi? In my constituency of Anglesey, the question of borders with Ireland is one of the most crucial questions in terms of the debate on leaving the European Union. If a border is to be placed around the isle of Ireland, as is suggested—and the Secretary of State for Northern Ireland has said that he wants to strengthen border controls in the ports and airports of Ireland—then what’s the First Minister’s assessment of the likely impact of that on the most important crossing point in terms of trade between Britain and Ireland, and that’s in my constituency, the port of Holyhead?
14:18 - Carwyn Jones
Mae yna sawl problem. Fe wnes i sôn am y problemau hyn cyn y bleidlais. Yn gyntaf, nid oes neb am weld ffin galed yn dod yn ôl rhwng Gogledd Iwerddon a’r weriniaeth, ond nid oes neb ar hyn o bryd yn gwybod sut na allai hynny ddigwydd. Pe bai rhyw fath o system yn cael ei dodi mewn lle lle byddai’n rhaid dangos pasbort i hedfan o Belfast i Glasgow, neu o Belfast i Gaerdydd, byddai’r undebwyr, sef y DUP a’r UUP, yn hollol yn erbyn y peth. Maent wedi dweud yn barod na fyddent am weld system lle byddai rhywun yn gorfod dangos pasbort i drafaelio, fel y maen nhw’n ei gweld hi, o un rhan o’r Deyrnas Unedig i’r llall. Os taw dyna fydd y sefyllfa, nid wyf yn gweld ar hyn o bryd beth fydd yn digwydd yng Nghaergybi, nac yn Noc Penfro, nac yn Abergwaun. Am y tro cyntaf, byddai yna bolisïau mewnfudo gwahanol yn y gweriniaeth a’r Deyrnas Unedig. I mi, nid yw’n amlwg ar hyn o bryd pa fath o system fyddai yn ei lle ond am system lle byddai’n rhaid dangos pasbort. Nid oes neb am weld hynny, ond nid oes neb eto wedi dod lan ag unrhyw ffordd o ddatrys hyn. Nid yw hynny o les i drigolion Ynys Môn na Chaergybi. There are a number of problems. I actually alluded to this before the vote. Nobody wants to see a hard border between Northern Ireland and the republic, but nobody at present knows how that can be avoided. If some kind of system was put in place where you had to show your passport to fly from Belfast to Glasgow or Belfast to Cardiff, the unionists, or the DUP and the UUP, would be completely against it. They’ve said that they wouldn’t wish to see a system where you had to show a passport to travel, as they would see it, from one part of the United Kingdom to another. If that does become the position, I don’t see what will take place in Holyhead, Pembroke Dock or Fishguard, because there would be different immigration policies in the republic and in the UK. So, I can’t see what kind of system they can have, unless it is one where you have to show a passport. Nobody wants to see it happening, but no-one has come up with a way to solve this problem. It won’t be of benefit to the residents of Ynys Môn or Holyhead.
14:19 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Diolch i’r Prif Weinidog. Thank you, First Minister.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 2. Business Statement and Announcement
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar Jane Hutt. The next item on the agenda is the business statement and announcement, and I call on Jane Hutt.
14:19 - Jane Hutt
Llywydd, I have two changes to make to today’s agenda. The Cabinet Secretary for Communities and Children will make a statement on resilient communities and, after today’s debate, the Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs will make a statement on last week’s oil spill at Nantycaws in Carmarthenshire. Business for the next three weeks is as shown on the business statement and announcement, which is available to Members among the meeting papers available electronically. Lywydd, mae gennyf ddau newid i'w gwneud i'r agenda heddiw. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn gwneud datganiad ar gymunedau cydnerth ac, ar ôl y ddadl heddiw, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn gwneud datganiad ar ollyngiad olew yr wythnos diwethaf yn Nantycaws yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i’r Aelodau ymhlith y papurau cyfarfod ar gael yn electronig.
14:20 - Steffan Lewis
Today it was announced that Newcastle-Gateshead will host the first Great Exhibition of the North of England, and we also know that Manchester is planning a bid for the World Expo in 2025. Can we have a statement from the Government on its plans to support a bid from a Welsh city to host a major event in order to showcase Welsh innovation? And would the leader of the house agree with me that there couldn't be a better possible candidate city than the great city of Newport? Cyhoeddwyd heddiw y bydd Newcastle-Gateshead yn cynnal Arddangosfa Fawr gyntaf Gogledd Lloegr, ac rydym ni hefyd yn gwybod bod Manceinion yn paratoi cais am y World Expo yn 2025. A allwn ni gael datganiad gan y Llywodraeth ar ei chynlluniau i gefnogi cais gan ddinas yng Nghymru i gynnal digwyddiad mawr er mwyn arddangos arloesedd yng Nghymru? A fyddai arweinydd y tŷ yn cytuno â mi na allai fod dinas well fel ymgeisydd na dinas fawreddog Casnewydd?
14:20 - Jane Hutt
Well, I think, Steffan Lewis, you have raised a very important point about opportunities for bidding appropriately, as I'm sure we would do so, in terms of search an event—and take on board your preference in terms of Newport. Wel, rwy’n meddwl, Steffan Lewis, eich bod chi wedi codi pwynt pwysig iawn am gyfleoedd ar gyfer gwneud cais yn briodol, fel yr wyf yn siŵr y byddem ni’n ei wneud, o ran chwilio am ddigwyddiad—ac rwyf yn nodi eich ffafriaeth i Gasnewydd.
14:20 - Andrew R.T. Davies
Leader of the house, is it possible to have a statement from the transport Minister, please, in relation to lighting on trunk roads? Obviously, trunk roads are the responsibility of Welsh Government, but the pass the day-to-day management over to local authorities in many instances. I’ve noticed, particularly on the A48 through the Vale of Glamorgan, but also in other areas where the trunk road network runs, that there is a considerable number of lights now deliberately switched off. I presume there's a variety of reasons for why that is the case, but it would be good to understand exactly what criteria the Welsh Government set out as to the acceptability of these lights being switched off, which, in some instances, are on quite busy and dangerous junctions. To date, I've yet to find out what the criteria are, so, could we have that statement from the transport Secretary to clearly understand what criteria local authorities are working to under their management agreement with the Welsh Government? Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad gan y Gweinidog trafnidiaeth, os gwelwch yn dda, ar oleuadau ar gefnffyrdd? Yn amlwg, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cefnffyrdd, ond mae'n trosglwyddo’r gwaith o’u rheoli o ddydd i ddydd i awdurdodau lleol mewn llawer o achosion. Rwyf wedi sylwi, yn enwedig ar yr A48 trwy Fro Morgannwg, ond hefyd mewn ardaloedd eraill lle mae’r rhwydwaith cefnffyrdd yn rhedeg, bod nifer sylweddol o oleuadau wedi’u diffodd yn fwriadol erbyn hyn. Rwy'n tybio bod amrywiaeth o resymau pam mae hynny'n digwydd, ond byddai'n dda deall yn union pa feini prawf y mae Llywodraeth Cymru yn eu gosod o ran derbynioldeb diffodd y goleuadau hyn, sydd, mewn rhai achosion, ar gyffyrdd eithaf prysur a pheryglus. Hyd yn hyn, nid wyf wedi darganfod beth yw'r meini prawf, felly, a allwn ni gael y datganiad hwnnw gan yr Ysgrifennydd trafnidiaeth i ddeall yn eglur pa feini prawf y mae awdurdodau lleol yn gweithio’n unol â hwy yn unol â’u cytundeb rheoli gyda Llywodraeth Cymru?
14:21 - Jane Hutt
Well, this is a matter for the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure in terms of responsibilities for trunk roads and guidance to local authorities in terms of maintenance and management. Of course, there are risk assessments, as you will be aware, in terms of safety for pedestrians and, indeed, for all who travel on trunk roads and, indeed, on local road networks as well. So, I will seek to clarify the position in terms of lighting on trunk roads. Wel, mater i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yw hwn o ran cyfrifoldebau am gefnffyrdd a chanllawiau i awdurdodau lleol o ran cynnal a chadw a rheolaeth. Wrth gwrs, ceir asesiadau risg, fel y gwyddoch, o ran diogelwch i gerddwyr ac, yn wir, i bawb sy'n teithio ar gefnffyrdd ac, yn wir, ar rwydweithiau ffyrdd lleol hefyd. Felly, byddaf yn ceisio egluro'r sefyllfa o ran goleuadau ar gefnffyrdd.
14:22 - Julie Morgan
Members of Haemophilia Wales have welcomed the period of specific Welsh consultation announced by the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport last week in his written statement on payments to people affected by NHS-supplied contaminated blood, because this will give an opportunity for their own particular views to be fed into the system. So, would the leader of the house ensure that there is time, following the consultation, for the Cabinet Secretary to come to the Chamber to make a statement and to tell us about what consultation has been received, and then also on the consequent decisions? Mae aelodau Haemoffilia Cymru wedi croesawu'r cyfnod o ymgynghori penodol i Gymru a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon yr wythnos diwethaf yn ei ddatganiad ysgrifenedig ar daliadau i bobl sy’n cael eu heffeithio gan waed halogedig a gyflenwyd gan y GIG, gan y bydd hyn yn rhoi cyfle i’w safbwyntiau penodol nhw gael eu bwydo i mewn i'r system. Felly, a wnaiff arweinydd y tŷ sicrhau bod amser, yn dilyn yr ymgynghoriad, i Ysgrifennydd y Cabinet ddod i'r Siambr i wneud datganiad ac i’n hysbysu pa ymatebion ymgynghori a dderbyniwyd, ac ar y penderfyniadau dilynol wedyn hefyd?
14:22 - Jane Hutt
I thank Julie Morgan for that question and acknowledge that I know the Cabinet Secretary for health would also acknowledge your close involvement and support, particularly for those who have been affected—and the Haemophilia Wales group has welcomed the statement issued last week. And, of course, it does bring an end to uncertainty, as the Member says, about the level of financial support people affected by contaminated blood will receive from the Welsh Government in the future. But, I think, as you say, the importance in terms of now looking forward to responses in terms of work that will be done and taken forward is important—those future arrangements; the seeking of further views—and I'm sure the Cabinet Secretary will want to return to make sure that this is reported back to the Assembly and Senedd appropriately. Diolchaf i Julie Morgan am y cwestiwn yna ac rwy’n cydnabod fy mod i’n gwybod y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd hefyd yn cydnabod eich cyfraniad a’ch cefnogaeth agos, yn enwedig i’r rhai sydd wedi eu heffeithio—ac mae grŵp Hemoffilia Cymru wedi croesawu'r datganiad a wnaed yr wythnos diwethaf. Ac, wrth gwrs, mae’n rhoi terfyn ar ansicrwydd, fel y dywed yr Aelod, am lefel y cymorth ariannol y bydd pobl yr effeithiwyd arnynt gan waed halogedig yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol. Ond, rwy'n credu, fel y dywedwch, bod y pwysigrwydd o ran edrych ymlaen nawr at ymatebion o ran gwaith a fydd yn cael ei wneud a'i ddatblygu yn bwysig—y trefniadau hynny ar gyfer y dyfodol; ceisio rhagor o safbwyntiau—ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau dychwelyd i wneud yn siŵr bod hyn yn cael ei adrodd yn ôl i'r Cynulliad a’r Senedd yn briodol.
14:23 - Mark Isherwood
Could I call for two statements? Firstly on fragile X. Yesterday, in fact, was fragile X awareness day, and, last week, I joined families living with fragile X, a fragile X researcher and the chief officer of the Fragile X Society to walk a mile around Cardiff Bay as part of the ‘fragileXpedition’ of 8,026 miles around the whole of the UK to raise awareness of one of the most common, yet unknown, genetic conditions in the United Kingdom. It is, in fact, one of the most common inherited causes of learning difficulties and is understood to be the underlying cause of up to one in 20 cases of autism. It affects about 600 people in Wales, as well as a further 8,000 who are carriers, yet many people have never heard of it. This has a highly detrimental impact on diagnosis, support and treatment for people with the condition and their families. Given that yesterday was the national awareness day, I hope that my request for a statement will receive an encouraging response. A gaf i alw am ddau ddatganiad? Yn gyntaf ar X frau. Ddoe, a dweud y gwir, oedd diwrnod ymwybyddiaeth o X frau, ac, yr wythnos diwethaf, ymunais â theuluoedd sy'n byw gyda X frau, ymchwilydd i X frau a phrif swyddog Cymdeithas X Frau i gerdded milltir o amgylch Bae Caerdydd yn rhan o’r 'fragileXpedition' o 8,026 o filltiroedd o gwmpas y DU gyfan i godi ymwybyddiaeth o un o'r cyflyrau genetig mwyaf cyffredin, ac eto mwyaf anhysbys, yn y Deyrnas Unedig. Hwn, a dweud y gwir, yw un o’r achosion o anawsterau dysgu a etifeddir yn fwyaf cyffredin a deallir ei fod yn achos sylfaenol hyd at un o bob 20 o achosion o awtistiaeth. Mae'n effeithio ar tua 600 o bobl yng Nghymru, yn ogystal ag 8,000 arall sy'n gludwyr, ac eto mae llawer o bobl nad ydynt wedi clywed amdano. Mae hyn yn cael effaith hynod andwyol ar ddiagnosis, cymorth a thriniaeth i bobl sydd â'r cyflwr a'u teuluoedd. O ystyried mai ddoe oedd y diwrnod ymwybyddiaeth cenedlaethol, rwy’n gobeithio y bydd fy nghais am ddatganiad yn derbyn ymateb calonogol.
Secondly and finally, could I call for clarification on the responsibility for issues affecting poverty within the Welsh Government? I had a question tabled—‘How is the Welsh Government tackling poverty in Wales?’—on the order paper tomorrow, accepted by the Table Office, but we received a response from the Welsh Government that this falls within the portfolio of the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure, and I’ll therefore receive instead a written answer from him. Clearly, poverty has traditionally been considered by the Welsh Government as a social justice matter, falling in the communities portfolio, with contributory factors including family breakdown, substance misuse, childcare, worklessness as an economic matter, and much more. Many of the aspects around poverty such as the tackling poverty programmes and Communities First still remain in the portfolio of the Minister, and in fact, the question I was going to raise was specifically around child poverty, on behalf of the Children’s Society. I would therefore seek clarity on this. For example, where should we in future direct questions on child poverty? Should it be to the Secretary for Economy and Infrastructure, the Secretary for Communities, or otherwise? Thank you. Yn ail ac yn olaf, a gaf i alw am eglurhad ynghylch y cyfrifoldeb am faterion sy'n effeithio ar dlodi o fewn Llywodraeth Cymru? Roeddwn i wedi cyflwyno cwestiwn—'Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru?'—ar y papur trefn yfory, a dderbyniwyd gan y Swyddfa Gyflwyno, ond derbyniwyd ymateb gennym gan Lywodraeth Cymru bod hyn yn rhan o bortffolio Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, ac felly byddaf, yn hytrach, yn derbyn ateb ysgrifenedig oddi wrtho fe. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried tlodi fel mater cyfiawnder cymdeithasol yn draddodiadol, sy’n rhan o’r portffolio cymunedau, gyda ffactorau cyfrannol yn cynnwys teuluoedd yn chwalu, camddefnyddio sylweddau, gofal plant, diweithdra fel mater economaidd, a llawer mwy. Mae llawer o'r agweddau yn ymwneud â thlodi, fel y rhaglenni trechu tlodi a Chymunedau yn Gyntaf yn dal i fod ym mhortffolio’r Gweinidog, ac a dweud y gwir, roedd y cwestiwn yr oeddwn i’n mynd i’w ofyn yn ymwneud â thlodi plant yn benodol, ar ran Cymdeithas y Plant. Gofynnaf am eglurder ar hyn felly. Er enghraifft, ble ddylem ni gyfeirio cwestiynau am dlodi plant yn y dyfodol? Ai at yr Ysgrifennydd dros yr Economi a Seilwaith, yr Ysgrifennydd dros Gymunedau, neu fel arall? Diolch.
14:26 - Jane Hutt
I thank the Member for those questions, and I also thank Mark Isherwood for drawing attention to the national awareness day yesterday for a condition that I’m sure many of us in this Chamber were not aware of—and to see that this is a condition, in terms of fragility, that affects a person’s life chances, and it affects many more people than we perhaps would have been aware of. So, I thank the Member for drawing it to our attention today in the business statement. Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna, a diolchaf hefyd i Mark Isherwood am dynnu sylw at y diwrnod ymwybyddiaeth cenedlaethol ddoe o gyflwr yr wyf yn siŵr nad oedd llawer ohonom ni yn y Siambr hon yn ymwybodol ohono—ac i weld bod hwn yn gyflwr, o ran eiddilwch, sy'n effeithio ar gyfleoedd bywyd unigolyn, ac mae'n effeithio ar lawer mwy o bobl nag y byddem ni wedi bod yn ymwybodol efallai. Felly, diolchaf i’r Aelod am dynnu ein sylw ato heddiw yn y datganiad busnes.
On your second point, of course you are quite right that, in terms of tackling poverty, this is a responsibility across the Welsh Government in terms of ministerial responsibility, but the Table Office was quite right, and you will see this from portfolio responsibilities, that the lead Minister is the Minister for economy and infrastructure. But clearly, if you are gearing your question to issues that affect children or child poverty, it would go to the Cabinet Secretary for Communities and Children. It is absolutely clear that this is something where there is shared responsibility, but the lead for that in terms of the Cabinet as a whole is Ken Skates. O ran eich ail bwynt, rydych chi yn llygad eich lle, wrth gwrs, o ran mynd i'r afael â thlodi, bod hwn yn gyfrifoldeb ar draws Llywodraeth Cymru o ran cyfrifoldeb gweinidogol, ond roedd y Swyddfa Gyflwyno yn gwbl gywir, a byddwch yn gweld hyn o gyfrifoldebau portffolio, mai’r Gweinidog arweiniol yw'r Gweinidog dros yr economi a seilwaith. Ond yn amlwg, os ydych chi’n paratoi eich cwestiwn ar faterion sy'n effeithio ar blant neu dlodi plant, byddai'n mynd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. Mae'n gwbl eglur bod hyn yn rhywbeth lle ceir cyfrifoldeb a rennir, ond Ken Skates yw’r arweinydd ar gyfer hynny o ran y Cabinet yn ei gyfanrwydd.
14:27 - Russell George
I was opposed to the legislation requiring letting agents and managing landlords to undertake training to obtain a licence from Rent Smart Wales, but that debate has been had. I have been contacted by several constituents over the past seven days who have reported to me that Rent Smart Wales don’t seem to have sufficient staff to be able to take calls and queries from members of the public. Now, given the fact that the deadline for completing the training and obtaining a licence is fast approaching, can I ask for a statement from the Cabinet Secretary responsible for housing on Rent Smart Wales and their capacity to communicate and take calls and queries from members of the public effectively? Roeddwn yn gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i asiantau gosod a landlordiaid rheoli gyflawni hyfforddiant i gael trwydded gan Rhentu Doeth Cymru, ond cafwyd y ddadl honno eisoes. Rwyf wedi cysylltu â nifer o etholwyr yn ystod y saith diwrnod diwethaf sydd wedi fy hysbysu nad yw’n ymddangos bod gan Rhentu Doeth Cymru ddigon o staff i allu derbyn galwadau ac ymholiadau gan y cyhoedd. Nawr, o ystyried y ffaith fod y dyddiad cau ar gyfer cwblhau'r hyfforddiant a chael trwydded yn prysur agosáu, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am dai ar Rhentu Doeth Cymru a'i allu i gyfathrebu a derbyn galwadau ac ymholiadau gan y cyhoedd yn effeithiol?
14:28 - Jane Hutt
Well, we’re quite well aware of the fact that you were opposed to what was a very progressive piece of housing legislation that was supported across this Chamber. But it is important, of course, that it is now implemented appropriately and effectively and so of course we will take on board these issues. But clearly, there is a timeline for this in terms of the responsibilities of Rent Smart Wales, and I will ask the Cabinet Secretary to look at the issue that you raise. Wel, rydym ni’n gwbl ymwybodol o'r ffaith eich bod chi’n gwrthwynebu’r hyn a oedd yn ddarn blaengar iawn o ddeddfwriaeth tai a gefnogwyd ar draws y Siambr hon. Ond mae'n bwysig, wrth gwrs, ei fod yn cael ei roi ar waith yn briodol ac yn effeithiol nawr ac felly, wrth gwrs, byddwn yn ystyried y materion hyn. Ond yn amlwg, ceir amserlen ar gyfer hyn o ran cyfrifoldebau Rhentu Doeth Cymru, a byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet edrych ar y mater a godwyd gennych.
14:29 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Diolch i’r Gweinidog. I thank the Minister.
3. Datganiad: Cymunedau Cryf 3. Statement: Resilient Communities
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar gymunedau cryf, ac rwy’n galw ar Carl Sargeant i wneud y datganiad. The next item on our agenda is a statement by the Cabinet Secretary for Communities and Children on resilient communities, and I call on Carl Sargeant.
14:29 - Carl Sargeant
Thank you, Presiding Officer. This Government is determined to deliver more and better jobs through a stronger, fairer economy. We are committed to improving and reforming our public services and we are intent on building a united, connected and sustainable Wales. Within my portfolio, my priorities are well-being and economic prosperity. I’m absolutely determined to meet them. To do that, I firmly believe it’s time for a new approach to build resilient communities. Diolch i chi, Lywydd. Mae'r Llywodraeth hon yn benderfynol o ddarparu mwy o swyddi a swyddi gwell drwy economi gryfach a thecach. Rydym ni’n ymrwymedig i wella a diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus ac rydym yn benderfynol o adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy. O fewn fy mhortffolio, fy mlaenoriaethau yw lles a ffyniant economaidd. Rwy'n hollol benderfynol o’u bodloni. I wneud hynny, rwy’n credu'n gryf ei bod yn amser am ddull newydd i adeiladu cymunedau cryf.
For 15 years, Communities First has supported people in some of our more deprived areas. Over that time, the programme has evolved and changed, and in recent years has sharpened its focus on employability, working alongside Lift, and now our Communities for Work and Parents Childcare and Employment programmes. This is vital because, over those 15 years, our economy and society have faced unparalleled change and challenge. In recent years, families and communities have been left reeling from the impact of welfare reform and changes in employment. The bedroom tax and zero-hours contracts were not even thought of when Communities First was launched. In the coming years, we must also navigate our way through the implications of Brexit. It is clear that no single programme can protect communities from changes of this magnitude. Communities First has had a dedicated workforce and I extend my thanks to them for making a real difference to thousands of people. That said, I am not convinced that continuing to focus on 52 small areas is the most effective way to deliver this for Wales. Am 15 mlynedd, mae Cymunedau yn Gyntaf wedi cefnogi pobl mewn rhai o'n hardaloedd mwy difreintiedig. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae'r rhaglen wedi datblygu a newid, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi canolbwyntio’n fwy ar gyflogadwyedd, gan weithio ochr yn ochr ag Esgyn, a nawr ein rhaglen Cymunedau am Waith a’n rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth. Mae hyn yn hanfodol oherwydd, yn ystod y 15 mlynedd hynny, mae ein heconomi a'n cymdeithas wedi wynebu newid a her ddigyffelyb. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae diwygiadau lles a newidiadau mewn cyflogaeth wedi cael effaith sylweddol ar deuluoedd a chymunedau. Nid oedd neb wedi dychmygu’r dreth ystafell wely neu’r contractau dim oriau pan lansiwyd Cymunedau yn Gyntaf. Yn y blynyddoedd i ddod, bydd yn rhaid i ni hefyd ymdopi â goblygiadau Brexit. Mae'n amlwg na all unrhyw un rhaglen ddiogelu cymunedau rhag newidiadau ar y raddfa hon. Roedd gan Cymunedau yn Gyntaf weithlu ymroddedig ac estynnaf fy niolch iddynt am wneud gwir wahaniaeth i filoedd o bobl. Wedi dweud hynny, nid wyf yn argyhoeddedig mai parhau i ganolbwyntio ar 52 o ardaloedd bach yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ddarparu hyn ar gyfer Cymru.
I am minded to phase out the Communities First programme while establishing a new approach to meet the challenges of the future. Every part of the Welsh Government has a role to play in creating a more prosperous nation of resilient communities. That is why, working together across portfolios, we are investing in the prosperity of our nation: creating 100,000 all-age apprenticeships; piloting a Better Jobs, Closer to Home project, designed to create employment and training hubs in areas of high economic deprivation; delivering the most generous childcare offer for working parents anywhere in the UK, and establishing a ministerial taskforce to develop a fresh approach to improving prosperity in the south Wales Valleys; creating the north Wales and south Wales metros; ensuring every child gets the best start in life through an extended pupil deprivation grant; and, carrying out the work on financial inclusion, including support for advice services, credit unions and promotion of financial literacy. Rwy'n ystyried cael gwared ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn raddol a sefydlu dull newydd i fynd i’r afael â heriau'r dyfodol. Mae gan bob rhan o Lywodraeth Cymru swyddogaeth wrth greu cenedl fwy ffyniannus o gymunedau cadarn. Dyna pam, drwy weithio gyda'n gilydd ar draws portffolios, rydym yn buddsoddi yn ffyniant ein cenedl: creu 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed; treialu prosiect Swyddi Gwell yn Nes at Adref, sydd wedi’i gynllunio i greu canolfannau cyflogaeth a hyfforddiant mewn ardaloedd o amddifadedd economaidd uchel; darparu’r cynnig gofal plant mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU i rieni sy'n gweithio, a sefydlu tasglu gweinidogol i ddatblygu dull newydd o wella ffyniant yng Nghymoedd y de; creu metros y gogledd a’r de; sicrhau bod pob plentyn yn cael y cychwyn gorau mewn bywyd o ganlyniad i grant amddifadedd disgyblion estynedig; a chyflawni’r gwaith o ran cynhwysiant ariannol, gan gynnwys cymorth ar gyfer gwasanaethau cynghori, undebau credyd a hyrwyddo llythrennedd ariannol.
It is in this context that we will look afresh in coming months at how the Welsh Government can support resilient communities. And this means communities that are empowered and engaged, communities that are ready and able to work and communities that can offer children the best start in life—safe and strong communities that we are all signed up to. Our new approach will need to reflect the continuing effects of austerity. Clearly, there are difficult decisions to make. I want, therefore, to focus on three key areas going forward: employment, early years, and empowerment. Yn y cyd-destun hwn y byddwn ni’n ystyried o'r newydd yn ystod y misoedd nesaf sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo cymunedau cryf. Ac mae hyn yn golygu cymunedau sy'n cael eu grymuso a’u hymgysylltu, cymunedau sy'n barod ac yn gallu gweithio a chymunedau sy'n gallu cynnig y dechrau gorau mewn bywyd i blant—cymunedau diogel a chryf yr ydym ni oll ymroddedig i’w sicrhau. Bydd angen i'n dull newydd adlewyrchu yr effeithiau parhaus yn sgil y cyni economiadd. Yn amlwg, mae yna benderfyniadau anodd i’w gwneud. Rwyf eisiau canolbwyntio, felly, ar dri maes allweddol wrth symud ymlaen: cyflogaeth, y blynyddoedd cynnar, a grymuso.
On employment, I want to see resilient communities that have access to jobs and people with the right skills to fill them. Employment offers the best, most sustainable way of escaping poverty, and is fundamental to the new approach to communities. We have made a major commitment to Lift and Communities for Work, and I can confirm today that these important elements of the programmes will continue as planned. Across Government, we are ensuring prosperity for all. The creation of a generous childcare offer for working parents will help to remove one of the major barriers to employment, as well as providing long-term benefits for our children. For early years, more resilient communities prevent and protect children from the impact of adverse childhood experiences or ACEs. ACEs are a major threat to well-being and economic prosperity. Tackling ACEs requires us to be smarter about earlier intervention in the lives of our very youngest members of society. Ynglŷn â chyflogaeth, rwy’n dymuno gweld cymunedau cryf lle mae modd cael gafael ar swyddi a phobl sydd â'r sgiliau cywir i'w llenwi. Mae cyflogaeth yn cynnig y ffordd orau, fwyaf cynaliadwy o ddianc rhag tlodi, ac mae'n hanfodol ar gyfer yr ymagwedd newydd at gymunedau. Rydym wedi gwneud ymrwymiad sylweddol i Esgyn a Chymunedau am Waith, a gallaf gadarnhau heddiw y bydd yr elfennau pwysig hyn o'r rhaglenni yn parhau fel y cynlluniwyd. Ar draws y Llywodraeth, rydym ni’n sicrhau ffyniant i bawb. Bydd creu cynnig gofal plant hael ar gyfer rhieni sy'n gweithio yn helpu i gael gwared ar un o'r prif rwystrau sy’n atal cyflogaeth, yn ogystal â darparu manteision hirdymor ar gyfer ein plant. Ar gyfer y blynyddoedd cynnar, mae cymunedau mwy cydnerth yn atal ac yn amddiffyn plant rhag effeithiau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae profiadau niwediol yn ystod plentyndod yn fygythiad mawr i les a ffyniant economaidd. Mae mynd i'r afael â phrofiadau niwediol yn ystod plentyndod yn gofyn i ni fod yn ddoethach o ran ymyrryd yn gynt ym mywydau aelodau ieuengaf ein cymdeithas.
Llywydd, I don’t underestimate the challenges of doing this, but if we want to break the cycle, we must shift resources into prevention and protection. We can do more in our communities to protect against the damage caused by ACEs, and today, I’m inviting organisations to join with us to develop children’s zones for Wales, collaborating seamlessly to improve children’s and young people’s outcomes. This, along with the continuation of Flying Start and Families First, will support disadvantaged children to get the best possible start in life. Lywydd, nid wyf yn diystyru'r heriau o ran gwneud hyn, ond os ydym ni am dorri'r cylch dieflig, mae'n rhaid i ni symud ein hadnoddau i ganolbwyntio ar atal a diogelu. Gallwn wneud mwy yn ein cymunedau i amddiffyn yn erbyn y difrod sy’n cael ei achosi gan brofiadau niwediol yn ystod plentyndod, a heddiw, rwy’n gwahodd sefydliadau i ymuno â ni i ddatblygu parthau plant yng Nghymru, gan gydweithio’n ddidrafferth i wella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc. Bydd hyn, ynghyd â pharhad Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, yn cefnogi plant dan anfantais i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.
In terms of empowerment, I want resilient communities to have strong local infrastructure and strong and inclusive leadership. Public service boards, established by the Well-being of Future Generations (Wales) 2015 Act, offer a vital means of achieving this. Local authorities also have a key role to play in finding ways to improve local communities’ well-being, embedding integrated, collaborative, long-term and preventative approaches, while reflecting the full diversity of the communities that they serve.  Local authorities and PSBs must now step into the leadership role. I will engage, challenge and support them to deliver success.  I will offer those local authorities that lead the way, supported by their PSBs in developing a more integrated and empowering approach, the opportunity to pilot greater financial freedom and flexibilities across programmes. This approach will build on the work of the Cabinet Secretary for Finance and Local Government to reform local government, ensuring greater participation in civil society and democracy. O ran grymuso, rwy’n dymuno i gymunedau cryf gael seilwaith lleol cryf ac arweinyddiaeth gref a chynhwysol. Mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus, a sefydlwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn cynnig dull hanfodol er mwyn cyflawni hyn.  Mae gan awdurdodau lleol hefyd swyddogaeth allweddol o ran dod o hyd i ffyrdd o wella lles cymunedau lleol, drwy ymgorffori dulliau integredig, cydweithredol, hirdymor ac ataliol, wrth adlewyrchu amrywiaeth lawn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol a darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gymryd yr awenau yn awr. Byddaf yn ymgysylltu â nhw, yn eu herio a'u cefnogi i sicrhau llwyddiant. Byddaf yn cynnig y cyfle i’r awdurdodau lleol hynny sy'n arwain y ffordd, sy’n cael eu cefnogi gan eu darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i ddatblygu dull mwy integredig a grymusol, i dreialu mwy o ryddid a hyblygrwydd ariannol ar draws rhaglenni. Bydd y dull hwn yn adeiladu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ddiwygio llywodraeth leol, gan sicrhau mwy o gyfranogiad mewn cymdeithas sifil a democratiaeth.
I also expect empowered communities to have integrated and responsive public services. That is why we are committed to strengthening community provision of health and social care, where possible, moving these away from hospitals into communities. Schools and colleges also play a vital role, so we will pilot a new model of community learning centres, extending community access to services, including childcare, parenting support and family learning. We will promote the co-location and integration of services, building on successful models developed across Wales and beyond. Rwyf hefyd yn disgwyl i gymunedau sy’n cael eu grymuso fod â gwasanaethau cyhoeddus integredig ac ymatebol. Dyna pam yr ydym yn ymrwymedig i gryfhau'r ddarpariaeth o ran iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned, gan symud y rhain, lle bo modd, i ffwrdd o ysbytai ac i gymunedau. Mae ysgolion a cholegau hefyd yn chwarae rhan hanfodol, felly byddwn ni’n treialu model newydd o ganolfannau dysgu cymunedol, a fydd yn ehangu gallu’r gymuned i gael gafael ar wasanaethau, gan gynnwys gofal plant, cymorth rhianta a dysgu teuluol. Byddwn ni’n hyrwyddo’r broses o gydleoli ac integreiddio gwasanaethau, gan adeiladu ar fodelau llwyddiannus a ddatblygwyd ar draws Cymru a thu hwnt.
Resilient communities are empowered with a strong voice in the decisions that affect their everyday lives. We will develop a made-in-Wales approach to community assets. We will introduce measures to prevent unnecessary closure, and help communities take ownership of community assets, where appropriate. Implicit within this, and, indeed, throughout our new approach to communities, is an important role for the third sector. Caiff cymunedau cryf eu grymuso â llais cryf yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd. Byddwn ni’n datblygu ymagwedd ‘wedi’u creu yng Nghymru’ tuag at asedau cymunedol. Byddwn ni’n cyflwyno mesurau i’w hatal rhag cau heb fod angen, ac yn helpu cymunedau i gymryd perchnogaeth o asedau cymunedol, pan fo hynny'n briodol. Yn rhan o hyn, ac, yn wir, drwy gydol ein dull newydd o weithio gyda chymunedau, y mae swyddogaeth bwysig ar gyfer y trydydd sector.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. The Deputy Presiding Officer (Ann Jones) took the Chair.
Carl Sargeant
Change is never easy, and we cannot duck the new and serious challenges that we face. Rather, we must find a fresh way to respond. Beginning now, we will engage internal and external stakeholders on our future approach, including the proposal to phase out Communities First, and how we will continue to deliver Communities for Work and Lift. We will seek views on how we engage, support and strengthen communities through our new approach, centred on further increasing the resilience of communities, to promote opportunities for all. I expect to make a further statement in the new year. Nid yw newid byth yn hawdd, ac ni allwn osgoi’r heriau newydd a difrifol sy'n ein hwynebu. Yn hytrach, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd newydd i ymateb. Gan ddechrau yn awr, byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar ein hymagwedd yn y dyfodol, gan gynnwys y cynnig i gael gwared ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, a sut y byddwn yn parhau i ddarparu Cymunedau am Waith ac Esgyn. Byddwn ni’n gofyn am safbwyntiau am sut yr ydym yn ymgysylltu â chymunedau, eu cefnogi a’u cryfhau gan ddilyn ein dull newydd, sy'n canolbwyntio ar gryfhau cymunedau ymhellach, er mwyn hyrwyddo cyfleoedd i bawb. Rwy’n disgwyl gwneud datganiad pellach yn y flwyddyn newydd.
14:37 - Bethan Jenkins
I note the Cabinet Secretary’s statement, and I think that it’s important for us to say, as a party, that the flagship programme that you’re announcing the review and the phasing out of today has come under much scrutiny over the years here in the National Assembly. In fact, we’ve probably had review after review, from the Public Accounts Committee, the communities committee, and so forth, looking at how we can sustain and support our communities. Nodaf ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni i ddweud, fel plaid, fod y rhaglen flaenllaw yr ydych chi’n cyhoeddi eich bod am gynnal adolygiad ohoni a chael gwared ohoni heddiw wedi bod yn destun cryn graffu dros y blynyddoedd yma yn y Cynulliad Cenedlaethol. Yn wir, rydym yn ôl pob tebyg wedi cael adolygiad ar ôl yr adolygiad, gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, y pwyllgor cymunedau, ac yn y blaen, yn pwyso a mesur sut y gallwn ni gynnal a chefnogi ein cymunedau.
Yet, I would like to ask a question of the Cabinet Secretary. I’ve read the last part of the statement a few times, and you say that you will develop a made-in-Wales approach to community assets, and of the third sector having much involvement. But I genuinely thought that that’s what Communities First was set out to do, and I thought that we were going to be transforming communities, so that they could, by now, after many years of devolution, be empowered in the way that you have said in the statement. So, I’d like to understand, if Communities First is to be phased out, what will be your vision for difference in the future? Will it be another big scheme, such as Communities First, or will it be smaller, potentially more fragmented schemes, because that is why, was it not, that we did streamline Communities First, so that we could try, potentially, to understand why some of the schemes weren’t working and why some of them were, in fact, working in our communities? So, I’d like to hear a bit more about that. Eto i gyd, hoffwn ofyn cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi darllen rhan olaf y datganiad ychydig o weithiau, ac rydych chi’n dweud y byddwch chi’n datblygu dull ‘wedi’i greu yng Nghymru’ tuag at asedau cymunedol, ac y bydd y trydydd sector yn chwarae rhan bwysig. Ond roeddwn i wirioneddol o’r farn mai dyna beth oedd bwriad Cymunedau yn Gyntaf, ac roeddwn i’n meddwl ein bod am drawsnewid cymunedau, fel y byddent, erbyn hyn, ar ôl blynyddoedd lawer o ddatganoli, wedi’u grymuso yn y modd yr ydych chi wedi ei nodi yn y datganiad. Felly, hoffwn ddeall, os ydych chi am gael gwared ar Gymunedau yn Gyntaf, beth fydd eich gweledigaeth ar gyfer gwneud gwahaniaeth yn y dyfodol? Ai cynllun mawr arall fydd y weledigaeth honno, megis Cymunedau yn Gyntaf, neu ai cynlluniau llai, mwy tameidiog o bosibl, oherwydd dyna pam, yntê, y gwnaethom ni symleiddio Cymunedau yn Gyntaf, er mwyn inni allu deall, o bosibl, pam nad oedd rhai o'r cynlluniau yn gweithio yn ein cymunedau mewn gwirionedd, ac eraill yn gweithio? Felly, hoffwn glywed ychydig mwy am hynny.
I don’t disagree about the legacy of poverty that’s been largely caused by deindustrialisation—considerable problems that still remain with us. But, I need to understand how you are now going to answer those particular challenges. My personal view, having been here for many years now, is that we are very good at looking to treat symptoms and not the causes of poverty. And so we need to get to grips with that. If Communities First was not set up to eradicate poverty in our communities, we need to look around for fresh ideas, but then recognise that, potentially, in many areas, it has not been the success that you and other party members have claimed it to be over the many years of this institution being in existence. Nid wyf yn anghytuno â’r tlodi sydd wedi’i etifeddu yn bennaf o ganlyniad i ddad-ddiwydiannaeth—problemau sylweddol sy'n ein hwynebu o hyd. Ond, mae’n rhaid i mi ddeall sut yr ydych chi am fynd i’r afael â’r heriau penodol hynny yn awr. Fy marn bersonol i, ar ôl bod yma ers blynyddoedd lawer erbyn hyn, yw ein bod ni’n dda iawn am drin symptomau tlodi, ond nid yr hyn sy’n ei achosi. Ac felly mae angen i ni fynd i'r afael â hynny. Os na chafodd Cymunedau yn Gyntaf ei sefydlu mewn ffordd a oedd yn dileu tlodi yn ein cymunedau, mae angen i ni gael syniadau ffres, ond cydnabod wedyn, o bosibl, mewn llawer o feysydd, nad fu mor llwyddiannus ag yr ydych chi ac aelodau eraill o’ch plaid wedi honni yn ystod yr holl flynyddoedd y mae’r sefydliad hwn wedi bod mewn bodolaeth.
On employment, we have the programmes outlined in the statement, but will this actually go hand in hand with economic development? How will you be working with your colleague in that area? Will you be working more closely with your ministerial colleagues to ensure that there are more jobs for people to go into? I would also ask how childcare will be protected when Families First, which provides a lot of these schemes across my region, and elsewhere, is also under review at present. Ynglŷn â chyflogaeth, mae’r rhaglenni wedi’u hamlinellu yn y datganiad, ond a fydd hyn mewn gwirionedd yn mynd law yn llaw â datblygiad economaidd? Sut y byddwch chi’n gweithio gyda'ch cydweithiwr yn y maes hwnnw? A fyddwch chi’n gweithio'n agosach â'ch cyd-Weinidogion i sicrhau bod mwy o swyddi ar gael i bobl? Rwyf hefyd yn gofyn sut y bydd gofal plant yn cael ei ddiogelu pan fo Teuluoedd yn Gyntaf, sy'n darparu llawer o'r cynlluniau hyn ar draws fy rhanbarth i, ac mewn mannau eraill, wrthi’n yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.
Also—probably like some other people here—I don’t actually know what children’s zones are, so that would be good to try and find out what they are. Because we do have quite a lot of schemes in that area. So, why did you choose to do it in the communities sense, and not through the education system? Hefyd—fel rhai pobl eraill yma heddiw mae’n debyg—nid wyf yn gwybod mewn gwirionedd beth yw parthau plant, felly byddai dda ceisio dysgu beth ydynt. Oherwydd mae gennym gryn dipyn o gynlluniau yn y maes hwnnw. Felly, pam y gwnaethoch chi ddewis gwneud hynny yng nghyd-destun cymunedau, ac nid drwy'r system addysg?
Obviously, my passion is to do with financial inclusion, so I’d like to understand from you, Cabinet Secretary, how you’ll be going about introducing the action plan for the refresh of the financial inclusion strategy, which I and others put a lot of time into in the previous Assembly. Again, I believe that this is a key life skill and if we can get people out of poverty by making them have the skills to leave schools, to leave with those tools already, within the system, then we will, I think, be able to tackle some of the core elements of poverty. Yn amlwg, fy angerdd i yw cynhwysiant ariannol, felly hoffwn gael deall gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y byddwch chi’n mynd ati i gyflwyno'r cynllun gweithredu er mwyn diweddaru’r strategaeth sy’n ymwneud â chynhwysiant ariannol, y neilltuais i ac eraill lawer o amser iddi yn y Cynulliad blaenorol. Eto, rwy’n credu bod hwn yn sgil bywyd allweddol ac os gallwn ni gael pobl allan o dlodi drwy sicrhau bod ganddynt y sgiliau i adael yr ysgol, i adael gyda’r arfau hynny yn barod, o fewn y system, yna byddwn, yn fy marn i, yn gallu mynd i'r afael â rhai o’r agweddau sylfaenol ar dlodi.
The thing I’d like to finish on was to do with the empowerment part and the public service boards. Do you see that as the main area as to where this empowerment will arise from? Are you looking at other countries and other ways of working, so that communities can truly take part in discussion in Wales? Because I think I’ve stood up, as have many Members from your own side, when we’ve talked about community asset transfer and when we’ve talked about volunteers taking over services in their communities. We need to understand how they will be able to do that without actually having the resource available that somehow may or may not be envisaged from your statement today. Mae’r pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yn ymwneud â'r rhan ynglŷn â grymuso a'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus. A ydych chi’n gweld hynny fel y prif faes y bydd y grymuso hwn yn deillio ohono? A ydych chi’n astudio gwledydd eraill a ffyrdd eraill o weithio, fel y gall cymunedau wir gymryd rhan mewn trafodaethau yng Nghymru? Oherwydd rwy’n credu fy mod wedi sefyll i fyny, fel y mae llawer o Aelodau o’ch ochr chi eich hun, pan fuom yn siarad am drosglwyddo asedau cymunedol a phan fuom yn siarad am wirfoddolwyr yn cymryd cyfrifoldeb dros wasanaethau yn eu cymunedau. Mae angen i ni ddeall sut y byddant yn gallu gwneud hynny heb fod ganddynt yr adnoddau ar gael mewn gwirionedd, ac efallai y rhagwelir hynny yn eich datganiad heddiw neu efallai ddim.
So, we will be keeping a close eye on what is happening here. We’re not dismissing the review, but we need to understand why you have come to that particular decision, especially when you’ve launched the new taskforce—sorry, not you, but your colleague Alun Davies—for the Valleys, and how that will all integrate together, because what we don’t want here today is more silos and more Ministers working against one another, not in a negative sense, but in their own departments, and not working together as a nation to deliver for the people of Wales. Felly, byddwn ni’n cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd yma. Nid ydym yn gwrthod yr adolygiad, ond mae angen i ni ddeall pam yr ydych chi wedi dod i'r penderfyniad penodol hwnnw, yn enwedig o ystyried eich bod wedi lansio'r tasglu newydd—mae’n ddrwg gennyf, nid chi, ond eich cydweithiwr, Alun Davies—ar gyfer y Cymoedd, a sut y bydd hynny i gyd yn integreiddio gyda'i gilydd, oherwydd yr hyn nad ydym am ei weld yma heddiw yw mwy o seilos a mwy o Weinidogion yn gweithio yn erbyn ei gilydd, nid mewn ystyr negyddol ond yn eu hadrannau eu hunain, ac nid yn gweithio gyda'i gilydd fel cenedl i ddarparu ar gyfer pobl Cymru.
14:41 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you. Cabinet Secretary. Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet.
14:41 - Carl Sargeant
Thank you, Deputy Presiding Officer, and I thank Bethan Jenkins for her measured questions there. I think that while the Member picked up on the issue of Communities First, actually there’s lots in the statement, I believe, that’s quite exciting with an opportunity to drive Wales forward. I’ll give the Member some examples of the choices that we’ve made and the reasoning behind some of them. Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Bethan Jenkins am ei chwestiynau ystyriol yn y fan yna. Rwy’n credu, er bod yr Aelod wedi crybwyll y mater ynglŷn â Chymunedau yn Gyntaf, mewn gwirionedd ceir llawer yn y datganiad, rwy’n credu, sy’n eithaf cyffrous ac yn gyfle i yrru Cymru yn ei blaen. Rhof rai enghreifftiau i’r Aelod o'r dewisiadau yr ydym wedi eu gwneud a'r rhesymeg y tu ôl i rai ohonynt.
We know that, for 15 years, Communities First has been embedded in our communities and we have been keen to ensure that we help communities grow. Prosperity is the key driver here—jobs and growth and skills. This Government’s commitment is two-fold: economic resilience in giving jobs and skills to people across our communities and well-being in terms of the well-being of individuals and the community. Rydym yn gwybod bod rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, am 15 mlynedd, wedi’i hymwreiddio yn ein cymunedau ac rydym wedi bod yn awyddus i sicrhau ein bod yn helpu cymunedau i dyfu. Ffyniant yw'r sbardun allweddol yma—swyddi a thwf a sgiliau. Mae ymrwymiad y Llywodraeth hon yn ddeublyg: cryfder economaidd wrth gynnig swyddi a sgiliau i bobl ar draws ein cymunedau a lles yn nhermau lles unigolion a'r gymuned.
The Member is absolutely right to raise the issue of why we’ve put children’s zones or focused on ACEs in this department and this is because the leverage I have in this department is around children and it touches all of my colleagues’ departments in some way, shape or form. I’ve already had conversations with three Members who have a view on education and it’s a view shared by the Cabinet Secretary. Unless we can get well-being built into the resilience of the individual as a child, actually their attainment is impossible. You can’t get people who are suffering from domestic violence or alcohol misuse or drug misuse to learn, so we have to make sure we’ve got the well-being of the individual firstly promoted. That’s why the prevention and intervention approach of this and the child zones—. That’s what we’ll be doing is a wraparound approach to children and their families in areas. We’re going to do some pilot intervention across Wales and then hopefully roll that out. Mae'r Aelod yn hollol gywir i godi'r mater ynghylch pam yr ydym ni wedi creu parthau plant neu ganolbwyntio ar ACEs yn yr adran hon, ac mae hyn oherwydd bod y trosoledd sydd gennyf yn yr adran hon yn ymwneud â phlant ac mae'n cyffwrdd â phob un o adrannau fy nghydweithwyr mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Rwyf eisoes wedi cael sgyrsiau gyda thri Aelod a chanddynt farn ar addysg, ac mae’n farn a rennir gan Ysgrifennydd y Cabinet. Oni bai ein bod yn gallu gwneud yn siŵr bod lles yn cael ei ymgorffori yng nghryfder y plentyn fel unigolyn, mewn gwirionedd mae cyrhaeddiad yn amhosibl iddynt. Nid oes modd i chi gael pobl sy'n dioddef o drais yn y cartref neu gamddefnyddio alcohol neu gamddefnyddio cyffuriau i ddysgu, felly mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr yr hyrwyddir lles yr unigolyn yn gyntaf. Dyna pam fod y dull atal ac ymyrryd o ran hyn a'r parthau plant—. Yr hyn y byddwn ni’n ei wneud yw gweithredu dull cofleidiol sy’n ystyried plant a'u teuluoedd mewn ardaloedd. Rydym ni’n mynd i ymgymryd â rhywfaint o waith ymyrraeth arbrofol ledled Cymru a gobeithio cyflwyno hynny yn ehangach wedyn.
So, what else are we going to do then? If not Communities First, what is that programme? Part of that is about the discussion we’ll be having over the next couple of months to understand about an exit process, but also about what we need to do to build on the programmes we already have in place and how we can make them better. I mentioned in my statement about Families First and Flying Start, which are two key programmes in delivering against the actions they were set up to do. But, where we have some local authorities that are saying to us, ‘If we can have some more flexibility between those two programmes’—. I’ve had conversations with many in this Chamber about where Communities First was very tight in terms of a place-based approach to support. The flexibility between these two programmes, we hope, will be able to target the interventions so it’s not only about being place based, but actually the people outside those areas who need the support and are able to attract support from these areas. The PSBs are a key element in the legislation that we took through in the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015. It’s about creating a well-being plan, knowing their community and understanding that inclusion and engagement are part of the principles of the WFG Act. I would expect the Minister and also the commissioner to be robust in making sure that happens across Wales. Felly, beth arall ydym ni'n mynd i'w wneud wedyn? Os nad Cymunedau yn Gyntaf, beth fydd y rhaglen honno? Mae rhan o hynny yn ymwneud â'r drafodaeth y byddwn yn ei chael yn ystod y misoedd nesaf i ddeall y broses ymadael, ond hefyd yr hyn y mae angen i ni ei wneud i ddatblygu’r rhaglenni sydd gennym ar waith eisoes, a sut y gallwn eu gwella. Soniais yn fy natganiad am raglenni Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg, sy'n ddwy raglen allweddol wrth fynd i’r afael â’r camau y cawsant eu sefydlu i'w cymryd. Ond, lle mae gennym rai awdurdodau lleol sy’n dweud wrthym, 'Os gallwn ni gael rhywfaint mwy o hyblygrwydd rhwng y ddwy raglen hynny'—. Rwyf wedi cael sgyrsiau gyda llawer yn y Siambr hon ynglŷn â lle’r oedd Cymunedau yn Gyntaf yn llym iawn o ran dull yn seiliedig ar le ar gyfer cefnogaeth. Bydd yr hyblygrwydd rhwng y ddwy raglen hynny, rydym yn gobeithio, yn gallu targedu’r ymyriaethau fel nad ydynt yn seiliedig ar le yn unig, ond ei bod yn bosibl i bobl sy’n byw y tu allan i'r ardaloedd hynny sydd wirioneddol angen y gefnogaeth allu cael gafael ar gefnogaeth o’r ardaloedd hyn. Mae'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn elfen allweddol yn y ddeddfwriaeth a basiwyd gennym yn rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n ymwneud â chreu cynllun lles, adnabod eu cymuned a deall bod cynhwysiant ac ymgysylltedd yn rhan o egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwy’n disgwyl i'r Gweinidog, a hefyd y comisiynydd fod i fod yn gadarn wrth sicrhau bod hynny’n digwydd ar draws Cymru.
With regard to the issue where the Member mentions financial inclusion, I know the Member has a long-standing history of financial inclusion, and I will offer the opportunity to meet with my staff to talk about the financial inclusion programme and what more we can do in terms of communities and to use her expertise in this field to help drive improvement in and across communities in Wales. O ran y mater lle mae'r Aelod yn sôn am gynhwysiant ariannol, gwn fod gan yr Aelod hanes hirsefydlog o gynhwysiant ariannol, a byddaf yn cynnig y cyfle i gyfarfod â’m staff i siarad am y rhaglen cynhwysiant ariannol a beth arall y gallwn ni ei wneud ar gyfer cymunedau, a defnyddio ei harbenigedd yn y maes er mwyn helpu i ysgogi gwelliant mewn cymunedau ac ar eu traws yng Nghymru.
14:45 - Mark Isherwood
I welcome your statement. You say you want to break the cycle and shift resources into prevention and protection and you cite access to jobs, giving people the right skills and support for those jobs, adverse childhood experiences and empowerment—empowerment in communities and empowerment of communities. All of this is something I’ve been arguing for for many years and in recent weeks. I hope that means you might be, in future, supporting some of those proposals. Rwyf yn croesawu eich datganiad. Rydych chi’n dweud eich bod am dorri'r cylch dieflig a symud adnoddau i ganolbwyntio mwy ar atal ac amddiffyn, ac rydych chi’n nodi swyddi, a rhoi'r sgiliau a'r gefnogaeth gywir i bobl ar gyfer y swyddi hynny, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a grymuso—grymuso mewn cymunedau a grymuso cymunedau. Mae hyn i gyd yn rhywbeth yr wyf wedi bod yn dadlau drosto am flynyddoedd lawer ac yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rwy'n gobeithio bod hyn yn golygu efallai y byddwch chi, yn y dyfodol, yn cefnogi rhai o'r cynigion hynny.
In proposing to phase out the Communities First programme, you state: Wrth gynnig cael gwared ar raglen Cymunedau yn Gyntaf, rydych yn datgan:
‘Resilient communities are empowered with a strong voice in the decisions that affect their everyday lives…and help communities take ownership of community assets, where appropriate. Implicit within this, and, indeed, throughout our new approach to communities, is an important role for the third sector.’ ‘Caiff cymunedau cryf eu grymuso â llais cryf yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd.... helpu cymunedau i gymryd perchnogaeth o asedau cymunedol, pan fo hynny'n briodol. Yn rhan o hyn, ac, yn wir, drwy gydol ein dull newydd o weithio gyda chymunedau, y mae swyddogaeth bwysig ar gyfer y trydydd sector.’
Why, with the benefit of hindsight, didn’t you accept the recommendations, five years ago, of the WCVA commission’s report, ‘Communities First—A Way Forward’, which said exactly that? Unfortunately, despite me and others presenting their arguments at the time, you personally rejected that. Pam, gyda'r fantais o allu edrych yn ôl, na wnaethoch chi dderbyn argymhellion adroddiad y comisiwn CGGC, 'Cymunedau yn Gyntaf—Ffordd Ymlaen', bum mlynedd yn ôl, a oedd yn dweud yr union beth hynny? Yn anffodus, er gwaetha’r dadleuon a gyflwynwyd gennyf i ac eraill ar y pryd, gwnaethoch chi’n bersonol wrthod hynny.
For 15 years after the start of Communities First, child poverty levels in Wales were above England, Scotland and the UK, and so were working-age worklessness figures. Even working-age adults in Wales living in poverty, measured by the 60 per cent median income level—. The level has stayed at the same level, according to Bevan, as 1997, 1998, 1999 and 2000—the beginning of devolution, the beginning of the Communities First programmes. Am 15 mlynedd ar ôl i Gymunedau yn Gyntaf gychwyn, roedd lefelau tlodi plant yng Nghymru yn uwch na’r lefelau yn Lloegr, yr Alban a'r DU, ac felly hefyd yr oedd y ffigurau ar gyfer diweithdra ymhlith pobl o oedran gweithio. Hyd yn oed oedolion o oedran gweithio yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi, a fesurir gan y lefel incwm canolrifol 60 y cant—. Mae’r lefel wedi aros yr un fath, yn ôl Bevan, ag yr oedd ym 1997, 1998, 1999 ac yn 2000—dechrau’r cyfnod o ddatganoli, dechrau’r rhaglenni Cymunedau yn Gyntaf.
Last year, the commission on social mobility and child poverty said in its state of the nation report that: Y llynedd, dywedodd y comisiwn ar symudedd cymdeithasol a thlodi plant yn ei adroddiad ar gyflwr y genedl fod:
‘Trends in employment are moving in the right direction, but Wales has higher rates of low pay than other UK countries, keeping many children in poor working families’ Tueddiadau mewn cyflogaeth yn symud i'r cyfeiriad iawn, ond mae gan Gymru gyfraddau uwch o gyflogau isel na gwledydd eraill y DU, gan gadw llawer o blant mewn teuluoedd tlawd sy’n gweithio
and that: a bod:
‘Educational attainment in Wales at all levels…remains unacceptably low’. Cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru ar bob lefel... yn parhau i fod yn annerbyniol o isel.
How do you respond to the statement that the Welsh Government needs to ensure that services and support will be available to all families, including those not located in the most deprived areas? We clearly need to radically rethink the way in which we support our communities, something the sector’s been saying for goodness knows how long. Do you agree, therefore, that the Welsh Government needs to explore ways to build capacity in local communities so that they can take the lead on regeneration projects instead of the Welsh Government deciding what those projects and programmes should be directly, or through commissioned programme deliverers? Sut ydych chi’n ymateb i'r datganiad bod angen i Lywodraeth Cymru sicrhau y bydd gwasanaethau a chymorth ar gael i bob teulu, gan gynnwys y rhai hynny nad ydynt wedi'u lleoli yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig? Mae’n amlwg fod angen i ni ailystyried yn llwyr y ffordd yr ydym yn cefnogi ein cymunedau, rhywbeth y mae'r sector wedi bod yn ei ddweud ers hydoedd. A ydych chi’n cytuno, felly, fod angen i Lywodraeth Cymru ystyried ffyrdd o feithrin gallu mewn cymunedau lleol er mwyn iddynt allu cymryd yr awenau ar brosiectau adfywio yn hytrach na bod Llywodraeth Cymru yn penderfynu beth y dylai’r prosiectau a'r rhaglenni hynny fod yn uniongyrchol, neu drwy gomisiynu darparwyr rhaglenni?
Two weeks ago, I hosted an event with Co-production Wales, Lives Through Friends, and a team of citizen and user-led organisations in the Assembly, to facilitate a conversation about how there is much more to life than services, recognising that, for too long, policy makers have mistakenly failed to nurture a caring society and have increasingly redefined care as a financial transaction with the consequences of a waste of public money, diminished citizenship and weaker communities. Bythefnos yn ôl, cynhaliais ddigwyddiad gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, Lives Through Friends, a thîm o sefydliadau dan arweiniad defnyddwyr a dinasyddion yn y Cynulliad, i hwyluso sgwrs ynglŷn â sut y mae llawer mwy i fywyd na gwasanaethau, gan gydnabod bod llunwyr polisi, am yn rhy hir, wedi methu â meithrin cymdeithas ofalgar, ac yn gynyddol wedi ailddiffinio gofal yn drafodiad ariannol, ac yn sgil hynny wedi gwastraffu arian cyhoeddus, lleihau dinasyddiaeth a gwanhau cymunedau.
The Care Council for Wales is going to be putting forward expert classes in co-production and there’ll be workshops run by the Wales Co-operative Centre. How will you and your officers engage with those training programmes so that the Welsh Government is fully on board with these community resilience programmes that are already being delivered in Wales and can light the way forward? In fact, the Co-production Network for Wales has highlighted the 1000 Lives team at Public Health Wales as a stalwart in supporting this and other co-production initiatives. The Wales Audit Office are at the forefront of co-productive evaluation and behaviour-change initiatives. Working With Not To is building a great network in north Wales, and links with the School for Social Care Research and a host of statutory and third sector organisations are already making things happen on the ground. How will you engage with them, again, to hopefully together share planning, design and delivery to take this forward? Mae Cyngor Gofal Cymru am gyflwyno dosbarthiadau arbenigol yn ymwneud â chydgynhyrchu a bydd gweithdai yn cael eu cynnal gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Sut y byddwch chi a'ch swyddogion yn ymgysylltu â'r rhaglenni hyfforddi hynny fel bod Llywodraeth Cymru yn gwbl ymwybodol o’r rhaglenni cymunedau cryf hyn sydd eisoes yn cael eu darparu yng Nghymru ac a allai arwain y ffordd ymlaen? Yn wir, nododd Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru fod y tîm 1000 o Fywydau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn un o’r hoelion wyth sy’n cefnogi hwn a mentrau cydgynhyrchu eraill. Mae Swyddfa Archwilio Cymru ar flaen y gad wrth werthuso cydgynhyrchiol a mentrau newid ymddygiad. Mae Gweithio Gyda Nid I yn adeiladu rhwydwaith mawr yn y gogledd, ac mae cysylltiadau â'r Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol a llu o sefydliadau yn y sector statudol a'r trydydd sector eisoes yn gwneud i bethau ddigwydd ar lawr gwlad. Sut y byddwch chi’n ymgysylltu â hwy, eto, yn y gobaith o rannu syniadau cynllunio, dylunio a chyflwyno er mwyn datblygu hyn?
Finally, on that theme, how would you respond to concerns expressed by Oxfam Cymru, who said that the future of the Communities First programme, the Welsh Government’s largest tackling poverty programme, remained unanswered in the Welsh Government’s programme for government, ‘Taking Wales Forward’, and they suggest reforms to Communities First based on the sustainable livelihoods approach. As they say, this three-year Building Livelihoods and Strengthening Communities in Wales project has helped over 1,100 to get their lives on track, helping people identify their strengths and assets in order to identify the root problems preventing them from reaching their potential. They also say it makes financial sense, securing an average return of £4.39 for every £1 spent across Wales—something, I believe, we emphasised in two recent debates in the Assembly. The Welsh Government, they say, must secure lasting change. Do you therefore agree with them that embedding the sustainable livelihoods approach or the asset-based development approach in all policy and service delivery in Wales will help people to break out of poverty and help build resilient communities? Thank you. Yn olaf, o ran y thema honno, sut y byddech chi’n ymateb i bryderon a fynegwyd gan Oxfam Cymru, a ddywedodd fod dyfodol y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, rhaglen fwyaf Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â thlodi, yn dal i fod yn ansicr yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, 'Symud Cymru Ymlaen', ac maent yn awgrymu diwygiadau i Gymunedau yn Gyntaf yn seiliedig ar y dull bywoliaethau cynaliadwy. Fel y maen nhw'n dweud, mae’r prosiect tair-blynedd hwn, sef Adeiladu Bywoliaeth a Chryfhau Cymunedau yng Nghymru wedi helpu dros 1,100 o bobl i gael trefn ar eu bywydau, gan helpu pobl i nodi eu cryfderau a'u hasedau er mwyn nodi’r problemau sylfaenol sy’n eu rhwystro rhag cyrraedd eu potensial. Maent yn dweud hefyd ei fod yn gwneud synnwyr ariannol, gan ei fod yn sicrhau adenillion cyfartalog o £4.39 am bob £1 sy’n cael ei gwario ar draws Cymru—rhywbeth, rwy’n credu, yr ydym wedi ei bwysleisio mewn dwy ddadl ddiweddar yn y Cynulliad. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru, yn ôl yr hyn y maen nhw’n ei ddweud, sicrhau newid parhaol. A ydych chi felly yn cytuno â nhw y byddai ymgorffori'r dull bywoliaethau cynaliadwy neu’r dull datblygu yn seiliedig ar asedau ym mhob darpariaeth polisi a gwasanaeth yng Nghymru yn helpu pobl i ddianc rhag tlodi ac yn helpu i adeiladu cymunedau cryf? Diolch.
14:51 - Carl Sargeant
Thank you, Presiding Officer, and I’m grateful for Mark Isherwood’s contribution. I think, underneath all of that, Mark was actually subtly saying, ‘Well done’ to the Minister, as I think he actually agrees with us, on the basis he was trying to claim credit for some of that. But, on a very real point, the Member raised a couple of issues that I can pick up on. Why was the decision not taken five years ago, and why did we refuse to agree with the recommendations in the report? Well, we didn’t; we made changes to the programme at that time and increased the opportunities around employability, and the last independent report supported the logic model at the time of the refocusing of the 2012 programme. So, we did make some changes. But, we are in a place in time. As I said in the statement, when Communities First was developed, nobody ever envisaged zero-hour contracts or the changes around Brexit or the employment issues. These are things that we have to tackle here and now, and I am excited by the whole new opportunity around the Families First programme and the Flying Start programme, which are very successful interventions—100,000 new all-age apprenticeships and the childcare programme, which is the best settlement around childcare for working parents anywhere in the UK, will be delivered in our communities to help and support the people who he and I represent. Diolch i chi, Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar am gyfraniad Mark Isherwood. Rwy’n credu, yn sail i hynny i gyd, roedd Mark mewn gwirionedd yn dweud yn gynnil, 'Da iawn' wrth y Gweinidog, gan fy mod o’r farn ei fod mewn gwirionedd yn cytuno â ni, ar y sail ei fod yn ceisio cymryd clod am rywfaint o hynny. Ond, o ddifrif, cododd yr Aelod ambell fater y gallaf ymhelaethu arnynt. Pam na chymerwyd y penderfyniad bum mlynedd yn ôl, a pham y gwnaethom ni wrthod cytuno â'r argymhellion yn yr adroddiad? Wel, gwnaethom ni ddim; gwnaethom newidiadau i'r rhaglen ar y pryd a chynyddu'r cyfleoedd yn ymwneud â chyflogadwyedd, ac roedd yr adroddiad annibynnol diwethaf yn cefnogi'r model rhesymeg pan newidwyd pwyslais rhaglen 2012. Felly, fe wnaethom ni rai newidiadau. Ond, dyma ble yr ydym ni ar hyn o bryd. Fel y dywedais yn y datganiad, pan gafodd rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ei datblygu, ni ragwelodd neb o gwbl gontractau dim oriau neu’r newidiadau yn ymwneud â Brexit neu’r materion cyflogaeth. Mae'r rhain yn bethau y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw yn awr ac yn y fan hon, ac rwyf wedi fy nghyffroi gan y cyfle newydd sbon yn gysylltiedig â’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf a'r rhaglen Dechrau'n Deg, sy’n ymyraethau llwyddiannus iawn—100,000 o brentisiaethau newydd ar gyfer bob oed a'r rhaglen gofal plant, sef y setliad gorau ar gyfer rhieni sy'n gweithio o ran gofal plant yn unrhyw le yn y DU, a fydd yn cael ei gyflwyno yn ein cymunedau i helpu a chefnogi'r bobl yr wyf i ac yntau yn eu cynrychioli.
With regard to engagement, I’m very keen to work with all organisations to see how we can better deliver for our communities. The Member raised some very specific programmes, and I don’t have a view on those, but working with agencies like the WCVA will ensure that we can get into communities where Government can sometimes find it hard to do so in the engagement programme. O ran ymgysylltu, rwy'n awyddus iawn i weithio gyda'r holl sefydliadau i weld sut y gallwn ni sicrhau darpariaeth well ar gyfer ein cymunedau. Cododd yr Aelod rai rhaglenni penodol iawn, ac nid oes gennyf farn ar y rheiny, ond bydd gweithio gydag asiantaethau megis CGGC yn sicrhau y gallwn gyrraedd cymunedau y mae’r Llywodraeth weithiau’n ei chael hi’n anodd eu cyrraedd drwy’r rhaglen ymgysylltu.
I don’t agree with the Member with regard to Oxfam’s view on the issue that this Government has lost its way in terms of promoting and tackling poverty. Jane Hutt earlier said about Ken Skates holding the ring for Government in tackling poverty, and I hold some of the programmes, particularly poverty among children and young people, but it is the responsibility of all of the Government to tackle the issue of poverty. The First Minister has been very clear: just because it doesn’t have a line in the programme for government doesn’t mean we’re not interested. If the Member wished to have a line for everything, then they’d be complaining about the programme for government being three very weighty documents in terms of naming everything that we do. Can I assure the Member that poverty has high prominence to make sure that we tackle this across the Government, and not just me or Ken Skates, but all Ministers within this Government? Nid wyf yn cytuno â'r Aelod ynghylch barn Oxfam fod y Llywodraeth hon wedi colli ei ffordd wrth hyrwyddo a mynd i'r afael â thlodi. Dywedodd Jane Hutt yn gynharach am Ken Skates yn goruchwylio gwaith y Llywodraeth ar fynd i'r afael â thlodi, ac rwyf i’n gyfrifol am rai o'r rhaglenni, yn enwedig tlodi ymysg plant a phobl ifanc, ond cyfrifoldeb y Llywodraeth gyfan yw mynd i'r afael â'r mater o dlodi. Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn: nid yw’r ffaith nad yw’n cael ei grybwyll yn y rhaglen lywodraethu yn golygu nad oes gennym ddiddordeb. Os yw'r Aelod yn dymuno cynnwys popeth, yna byddai’n cwyno bod y rhaglen lywodraethu yn dair dogfen swmpus iawn sy’n rhestru popeth yr ydym yn ei wneud. A allaf sicrhau'r Aelod fod gan dlodi le amlwg ar yr agenda er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â hyn ar draws y Llywodraeth, ac nid dim ond fi neu Ken Skates, ond holl Weinidogion y Llywodraeth hon?
14:54 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you very much. We’ve had some lengthy contributions from the spokespeople. I’ve got a number of people who wish to speak, and more are adding their names to the list as well, so could I ask Members now if they could make a very short introduction to their question? That’s not an invitation for you to have a three-minute speech—that’s a short introduction to your question and then all of your other colleagues will be able to speak in this debate. Mike Hedges. Diolch yn fawr iawn. Rydym wedi cael rhai cyfraniadau helaeth gan y llefarwyr. Mae gennyf i nifer o bobl sy'n dymuno siarad, ac mae mwy yn ychwanegu eu henwau at y rhestr hefyd, felly a allaf ofyn i Aelodau yn awr os gallent gyflwyno eu cwestiynau yn gryno iawn? Nid yw hynny'n wahoddiad i chi roi araith tri munud o hyd—dim ond cyflwyniad byr i'ch cwestiwn ac yna gall eich cydweithwyr eraill i gyd siarad yn y ddadl hon. Mike Hedges.
14:54 - Mike Hedges
Thank you, Deputy Presiding Officer. First of all, I’d like to express my disappointment at the statement by the Cabinet Secretary. I believe that Communities First is doing an excellent job in my constituency. But I’ve said for years that Communities First and Flying Start should be based on communities, not driven by the way the Office of National Statistics decides to collect data. That’s generally been rejected by different Ministers, including the current one. Can I start off with a plus? I welcome the continuation of the Lift scheme. The question I have is: after Communities First, what is going to happen to the following: work done on reducing utility bills; smoking cessation schemes and promoting smoke-free homes; promoting exercise and physical activity; the weight loss programmes; the clothes recycling; the food-growing and eat well schemes; the personal financial planning; the family learning; supporting children’s learning; homework clubs and all the other excellent work currently being done by Communities First in my constituency? Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn fynegi fy siom ynghylch y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n credu bod Cymunedau yn Gyntaf yn gwneud gwaith rhagorol yn fy etholaeth i. Ond rwyf wedi dweud ers blynyddoedd y dylai Cymunedau yn Gyntaf a Dechrau'n Deg fod yn seiliedig ar gymunedau, nid yn cael eu llywio gan y ffordd y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn penderfynu casglu data. Mae hynny yn gyffredinol wedi’i wrthod gan wahanol Weinidogion, gan gynnwys yr un presennol. A allaf ddechrau â phwynt cadarnhaol? Rwy’n croesawu parhad y cynllun Esgyn. Y cwestiwn sydd gennyf yw: ar ôl Cymunedau yn Gyntaf, beth sy'n mynd i ddigwydd i'r canlynol: gwaith sy’n cael ei wneud i leihau biliau cyfleustodau; cynlluniau rhoi’r gorau i ysmygu a hyrwyddo cartrefi di-fwg; hybu ymarfer corff a gweithgarwch corfforol; rhaglenni colli pwysau; ailgylchu dillad; y cynlluniau tyfu bwyd a bwyta'n iach; y rhaglen cynllunio ariannol personol; y cynllun dysgu fel teulu; cefnogi dysgu plant; clybiau gwaith cartref a’r holl waith rhagorol arall sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan Gymunedau yn Gyntaf yn fy etholaeth i?
14:55 - Carl Sargeant
I’m grateful to the Member for raising the issues about the things that Communities First does really well, and I also celebrate the work from many communities that has been engaged in by staff and volunteers right across the 52 areas within Wales. But, as I’ve said, we have to consider the time and place now, and I think that there are much stronger interventions that we can lead on through other programmes. And all the things that the Member raises are important; they’re important to him and the community he represents. I’m not saying we should get rid of them either; I’m saying that we have to have a new approach to tackling the issues around prevention and early intervention, as I’ve listed in my statement. I look forward to working with the Member and other communities as to how we can best do this. I think a lot of this is already driven by local people that know their communities very well, working alongside other organisations such as Public Health Wales, who have a good, strong record on adverse childhood experiences and tackling some of the issues that the Member raises today. There are other ways of delivering these services, and I look forward to the discussion that will ensue post this statement. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am godi'r materion ynglŷn â’r pethau y mae Cymunedau yn Gyntaf yn eu gwneud yn dda iawn, ac rwyf hefyd yn clodfori’r gwaith sy'n cael ei wneud mewn llawer o gymunedau, a wnaed gan staff a gwirfoddolwyr ar draws y 52 o ardaloedd yng Nghymru. Ond, fel yr wyf wedi’i ddweud, mae'n rhaid i ni ystyried y sefyllfa bresennol sydd ohoni, ac rwy’n credu bod ymyraethau llawer cryfach y gallwn ni eu gweithredu drwy raglenni eraill. Ac mae’r holl bethau y mae'r Aelod yn eu codi yn bwysig; maen nhw’n bwysig iddo ef ac i'r gymuned y mae ef yn ei chynrychioli. Nid wyf yn dweud y dylem ni gael gwared arnyn nhw ychwaith; rwy’n dweud bod yn rhaid inni gael dull newydd er mwyn mynd i'r afael ag atal ac ymyrryd yn gynnar, fel yr wyf wedi’u rhestru yn fy natganiad. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Aelod a chymunedau i benderfynu ar y ffordd orau o wneud hyn. Rwy'n credu bod llawer o hyn eisoes yn cael ei lywio gan bobl leol sy'n adnabod eu cymunedau yn dda iawn, sy’n gweithio ochr yn ochr â sefydliadau eraill fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd â hanes da a chadarn o ymdrin â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a mynd i’r afael â rhai o'r materion y mae'r Aelod yn eu codi heddiw. Ceir ffyrdd eraill o ddarparu'r gwasanaethau hyn, ac edrychaf ymlaen at y drafodaeth a fydd yn digwydd ar ôl y datganiad hwn.
14:57 - John Griffiths
Minister, I’m looking at the section that refers to integrated and responsive public services in your statement, and the new model of community learning centres. I wonder if you could tell the Chamber a little more about how that would work in relation, for example, to existing ideas around community-focused schools. It seems to me that community-focused schools have a lot to offer in tackling poverty. They can support education through getting parents and the community more involved in the educational effort. They can do a lot around childcare and the extended school day. Community-focused schools can do a lot around sport, physical activity, arts and culture, and the children in the most deprived circumstances often do not get the mum’s taxi experience—it’s only within the school setting, perhaps, that they will get that wider experience. I know it’s patchy across Wales, Minister, in terms of community-focused schools, and I think it would be wonderful if we could develop a mechanism that would require all schools, not just twenty-first century schools, but existing schools stock, to become truly community focused in the way that I’ve described and in other ways. And I wonder if you could say a little bit about community learning centres, how they relate to community-focused schools and whether we can get the mechanism in place to roll out this provision. Weinidog, rwy’n edrych ar yr adran sy'n cyfeirio at wasanaethau cyhoeddus integredig ac ymatebol yn eich datganiad, a'r model newydd o ganolfannau dysgu cymunedol. Tybed a allech chi ddweud ychydig mwy wrth y Siambr am sut y byddai hynny’n gweithio mewn cysylltiad â, er enghraifft, syniadau presennol ynghylch ysgolion bro. Mae'n ymddangos i mi fod gan ysgolion bro lawer i'w gynnig wrth fynd i'r afael â thlodi. Gallant gefnogi addysg drwy sicrhau bod rhieni a'r gymuned yn cymryd mwy o ran yn yr ymdrech addysgol. Gallant wneud llawer o ran gofal plant a'r diwrnod ysgol estynedig. Gall ysgolion bro wneud llawer o ran chwaraeon, gweithgarwch corfforol, y celfyddydau a diwylliant, ac yn aml nid yw’r plant sydd dan yr amgylchiadau mwyaf difreintiedig yn gallu dibynnu ar eu mamau i’w cludo o gwmpas y lle—dim ond yn yr ysgol, efallai, y byddant yn cael y profiad ehangach hwnnw. Gwn ei fod yn anghyson ledled Cymru, Weinidog, o ran ysgolion bro, ac rwy’n credu y byddai'n wych pe byddem yn gallu datblygu mecanwaith a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol, nid dim ond ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ond y stoc o ysgolion presennol, ganolbwyntio o ddifrif ar y gymuned yn y ffordd yr wyf wedi’i disgrifio ac mewn ffyrdd eraill. A tybed a allech chi sôn ychydig am ganolfannau dysgu cymunedol, sut y maent yn berthnasol i ysgolion bro a pha un a allwn ni weithredu’r mecanwaith er mwyn cyflwyno'r ddarpariaeth hon yn ehangach.
14:58 - Carl Sargeant
I’m very grateful for the positive contribution that the Member makes and raises about the important work that community-focused schools do in the way that they change their local community. I’m encouraged that the Cabinet Secretary for Education would be happy to meet with the Member, actually, to discuss the very issues that the Member raises. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfraniad cadarnhaol y mae’r Aelod yn ei wneud ac yn ei godi o ran y gwaith pwysig ysgolion bro wrth newid eu cymunedau lleol. Mae’n galonogol clywed y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn falch o gyfarfod â'r Aelod, mewn gwirionedd, i drafod yr union faterion y mae'r Aelod yn eu codi.
On the issue around childcare, as listed in the statement regarding children’s zones, this is something that we want to build on, and it’s the same principle, John, as regards how we make sure that we have a healthy young person growing up long term. It’s not only morally right but fiscally right for Government as well, looking and planning for the long term. So, these are absolutely the things that we want to concentrate on in making early interventions. I’m already encouraged that my Cabinet colleagues, while they’ve got a day job to do in terms of their portfolio, are starting to think differently about where we should make clever interventions now—so, not just the firefighting of the day job but actually planning for the future. This is, with young people, exactly the space we need to be in, because where we see this investment being made we see much better outcomes, longer term, for young people and as they grow up. Ynglŷn â’r mater yn ymwneud â gofal plant, fel y rhestrir yn y datganiad ynglyn â pharthau plant, mae hyn yn rhywbeth yr ydym am ei ddatblygu, a’r un egwyddor ydyw, John, o ran sut yr ydym yn gwneud yn siŵr fod gennym ni yn y tymor hir unigolyn ifanc sy’n tyfu i fyny yn iach. Nid yn unig y mae'n foesol gywir, ond yn gywir yn gyllidol ar gyfer y Llywodraeth hefyd, wrth edrych a chynllunio ar gyfer y tymor hir. Felly, yn sicr dyma’r pethau yr ydym ni am ganolbwyntio arnynt wrth ymyrryd yn gynnar. Rwyf eisoes yn falch o glywed bod fy nghydweithwyr yn y Cabinet, er bod ganddynt waith bob dydd i’w wneud o ran eu portffolio, yn dechrau meddwl yn wahanol ynglŷn â ble y dylem ni wneud ymyraethau clyfar yn awr—felly, nid dim ond mynd i’r afael â’r heriau sydd ynghlwm wrth waith bob dydd ond, mewn gwirionedd, cynllunio ar gyfer y dyfodol. Dyma’r union sefyllfa, o ran pobl ifanc, y mae angen i ni fod ynddi, oherwydd pan fyddwn ni’n gwneud y buddsoddiad hwn, byddwn ni’n gweld canlyniadau gwell, yn y tymor hir, i bobl ifanc wrth iddynt dyfu i fyny.
15:00 - Lynne Neagle
Can I thank you for your statement, Minister? Can I say at the outset that I want to pay tribute to the staff who deliver Communities First in my constituency and also Torfaen council for their leadership of the project, and to say emphatically that, in Torfaen, it is delivering very real outcomes in the areas of employability, financial inclusion, digital inclusion and well-being? I note your commitment to phase out the Communities First programme, but, for me, the key part of your statement is where you say you will be establishing a new approach to meet the challenges of the future. It was with that in mind that I wanted to ask you a few questions. A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad, Weinidog? A allaf ddweud o’r dechrau fy mod am dalu teyrnged i'r aelodau staff sy'n gweithredu Cymunedau yn Gyntaf yn fy etholaeth a thalu teyrnged hefyd i gyngor Torfaen am y ffordd y maent wedi arwain y prosiect, a dweud yn bendant ei fod, yn Nhorfaen, yn cyflawni canlyniadau gwirioneddol ym meysydd cyflogadwyedd, cynhwysiant ariannol, cynhwysiant digidol a lles? Rwy’n nodi eich ymrwymiad i gael gwared ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf fesul dipyn, ond, i mi, y rhan allweddol o'ch datganiad yw’r hyn yr ydych yn ei ddweud am sefydlu dull newydd er mwyn bodloni heriau'r dyfodol. Gyda hynny mewn golwg, roedd arnaf eisiau gofyn ychydig o gwestiynau i chi.
Of course an emphasis on employability is very welcome, but do you also recognise that in some communities, particularly our most deprived communities, those communities often face so many significant barriers to employability that they often really need the softer approaches that Communities First has been so good at fostering. Can I ask about how you would see the future looking in terms of the interconnectedness, which undoubtedly exists in Torfaen, between Communities First, Families First and Flying Start? We wouldn’t want to see any of the very significant contributions that Communities First make to those programmes being lost. In Torfaen, we take a single-plan approach to these grants so they’re all planned as a unified whole. How will you ensure that that doesn’t jeopardise the vital work in this area? Wrth gwrs mae rhoi pwyslais ar gyflogadwyedd yn cael ei groesawu’n fawr, ond a ydych chi hefyd yn cydnabod mewn rhai cymunedau, yn enwedig ein cymunedau mwyaf difreintiedig, bod y cymunedau hynny yn aml yn wynebu cymaint o rwystrau sylweddol tuag at gyflogadwyedd fel bod gwir angen yn aml iddynt ddilyn y dulliau meddalach y mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod mor dda yn eu meithrin. A gaf i ofyn sut sefyllfa y byddech chi’n ei gweld yn y dyfodol yn nhermau’r cydgysylltiad, sy’n bodoli yn Nhorfaen heb os, rhwng Cymunedau yn Gyntaf, Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg? Nid ydym yn dymuno gweld unrhyw un o'r cyfraniadau sylweddol iawn y mae Cymunedau yn Gyntaf yn ei wneud at y rhaglenni hynny, yn cael eu colli. Yn Nhorfaen, rydym ni’n gweithredu dull un cynllun ar gyfer y grantiau hyn fel eu bod i gyd yn cael eu cynllunio fel cyfanwaith unedig. Sut y byddwch chi’n sicrhau nad yw hynny'n peryglu'r gwaith hollbwysig yn y maes hwn?
On welfare reform, I’ve seen Communities First as being a very important part of making sure that we are actually resilient through these very difficult years of welfare reform. How will you ensure—also linked to what Bethan Jenkins said—that that work is not lost? Ynglŷn â diwygio lles, yn fy marn i mae Cymunedau yn Gyntaf wedi chwarae rhan bwysig iawn wrth sicrhau ein bod mewn gwirionedd yn gryf yn ystod y blynyddoedd anodd iawn hyn o ddiwygio lles. Sut y byddwch chi’n sicrhau—mae hyn hefyd yn gysylltiedig â’r hyn a ddywedodd Bethan Jenkins—nad yw’r gwaith hwnnw yn cael ei golli?
Finally, your statement alludes to engaging with internal and external stakeholders on our future approach. Can you say a little more, please, about exactly how that consultation will take place and what the deadline is likely to be? Thank you. Yn olaf, mae eich datganiad yn cyfeirio at ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar ein dull ar gyfer y dyfodol. A allwch chi ddweud ychydig mwy, os gwelwch yn dda, ynglŷn â sut yn union y bydd yr ymgynghori hynny’n digwydd a beth fydd y dyddiad cau yn debygol o fod? Diolch.
15:02 - Carl Sargeant
I thank the Member. Can I also pay tribute to many staff members in Communities First areas right across Wales who do a fantastic job in changing and creating a resilient community? I don’t doubt the work and intention of those, but we are in a conversation space. We want to talk to Communities First units about what the future looks like for these clusters and how they are shaping. The Member has championed her Communities First area for a long time, and I’m again grateful for her prompts in regarding and recognising the staff who work there. Diolch i'r Aelod. A gaf i hefyd dalu teyrnged i lawer o aelodau staff mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru sy'n gwneud gwaith gwych wrth newid a chreu cymuned gref? Nid wyf yn amau gwaith a bwriad y rhai hynny, ond rydym ni mewn sefyllfa i drafod. Rydym yn awyddus i siarad ag unedau Cymunedau yn Gyntaf am y cynlluniau ar gyfer dyfodol y clystyrau hyn a sut y maent yn cael eu siapio. Mae'r Aelod wedi hyrwyddo ei hardal Cymunedau yn Gyntaf ers amser maith, ac rwyf eto’n ddiolchgar am ei hawgrymiadau yn ymwneud â’r aelodau staff sy'n gweithio yno ac am eu cydnabod nhw hefyd.
In regard to the future, I see Families First and Flying Start and the flexibility approach—and the Member’s right, particularly in her authority, about the flexibility between programmes there. I think there is much more opportunity and the Member is right to say about the softer interventions—I see that part of the work of Flying Start or Families First will need to get into that space. Alongside the Lift programme and Communities for Work, how can we support people to get into the market and therefore their ability to access the childcare pledge that we’ll be doing for working parents? This is a jigsaw of interventions that we have to join up with a very clear picture and I’m conscious of the consultation process, which we will start today, in terms of engagement. The first cluster meeting is in the next two weeks, I think it will be, and my team are already starting to talk to people on the phone this afternoon regarding what comes next. O ran y dyfodol, rwy’n gweld Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg a'r dull hyblyg—ac mae’r Aelod yn gywir, yn enwedig yn ei hawdurdod hi, ynglŷn â’r hyblygrwydd rhwng y rhaglenni yno. Rwy'n credu bod llawer mwy o gyfleoedd ac mae’r Aelod yn iawn i ddweud am yr ymyraethau meddalach—rwy’n credu y bydd angen i’r rhan honno o waith Dechrau'n Deg neu Teuluoedd yn Gyntaf gyflawni hynny. Ochr yn ochr â'r rhaglen Esgyn a Chymunedau am Waith, sut y gallwn ni gefnogi pobl i gamu i’r farchnad ac felly sicrhau eu gallu i gael gafael ar yr adduned gofal plant y byddwn yn ei darparu ar gyfer rhieni sy'n gweithio? Mae hyn yn jig-so o ymyraethau y mae’n rhaid i ni eu trefnu i greu darlun clir iawn ac rwy'n ymwybodol o'r broses ymgynghori, y byddwn yn ei chychwyn heddiw, o ran ymgysylltu. Bydd cyfarfod cyntaf y clwstwr yn cael ei gynnal yn ystod y pythefnos nesaf, rwy’n credu, ac mae fy nhîm i eisoes yn dechrau siarad â phobl ar y ffôn y prynhawn yma ynglŷn â’r hyn sy'n dod nesaf.
In terms of not just Communities First staff and the workforce around that, I want to talk to communities. I want to engage people in their own communities to understand what they need as well. So, rather than a top-down approach of Government telling communities what we think they should have, what do the communities think that they should have? That’s something that I’ve got my team working on. We’ll be doing some digital—what’s the word? [Interruption.] Consultation is the word—and that will be starting very shortly. We just need to get that up and running on the internet for people to engage with us. O ran aelodau staff Cymunedau yn Gyntaf a'r gweithlu sy’n gysylltiedig â hynny, rwyf hefyd yn dymuno siarad â chymunedau. Rwy’n dymuno ymgysylltu â phobl yn eu cymunedau eu hunain er mwyn deall yr hyn sydd ei angen arnyn nhw hefyd. Felly, yn hytrach na gweithredu dull o'r brig i lawr, lle mae’r Llywodraeth yn dweud wrth gymunedau yr hyn yr ydym ni’n credu y dylent ei gael, beth y mae'r cymunedau o’r farn y dylen nhw ei gael? Mae hynny'n rhywbeth y mae fy nhîm yn gweithio arno. Byddwn yn gwneud rhywfaint o waith digidol—beth yw'r gair? [Torri ar draws.] Ymgynghori yw’r gair—a bydd hynny’n dechrau’n fuan iawn. Y cyfan sydd angen i ni ei wneud yw gweithredu hynny ar y rhyngrwyd er mwyn i bobl allu ymgysylltu â ni.
15:04 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you very much. Simon Thomas. Diolch yn fawr iawn. Simon Thomas.
15:05 - Simon Thomas
Thank you, Deputy Presiding Officer. I’ve taken some flak in this Chamber, particularly from Members opposite, in the past for suggesting that Communities First was not effective and not working as it should. That was borne out of the experience of living in a Communities First community myself. I’m not going to welcome the statement as such, however, as I’m not clear yet what the national anti-poverty strategy now is. But can I say to the Minister that £300 million has been spent on Communities First areas? And £100 million has been spent since the 2011 Wales Audit Office report that said it wasn’t working and wasn’t effective at tackling the main aim, which was economic deprivation in those communities. That’s borne out by the fact that the original communities in Communities First in 2001 are still the 100 most deprived communities in Wales. So, taken as that, it hasn’t been effective. Having said that, there have been lots of soft measures that I’ve seen working effectively in bringing communities together and in working to enhance people’s confidence. So, we don’t want to lose that either. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cael fy meirniadu’n sylweddol yn y Siambr hon yn y gorffennol, yn enwedig gan Aelodau gyferbyn, am awgrymu nad oedd Cymunedau yn Gyntaf yn effeithiol, nac yn gweithio fel y dylai. Deilliodd yr awgrym hynny o’m mhrofiad i fy hun o fyw mewn cymuned Cymunedau yn Gyntaf. Nid wyf am groesawu'r datganiad fel y cyfryw, fodd bynnag, gan nad wyf yn glir eto beth yw’r strategaeth genedlaethol yn erbyn tlodi yn awr. Ond a allaf ddweud wrth y Gweinidog fod £300 miliwn wedi’i wario ar ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf? Ac mae £100 miliwn wedi’i wario ers Adroddiad 2011 Swyddfa Archwilio Cymru a oedd yn dweud nad oedd y rhaglen yn gweithio ac nad oedd yn effeithiol wrth fynd i'r afael â'r prif nod, sef amddifadedd economaidd yn y cymunedau hynny. Mae tystiolaeth o hynny yn y ffaith bod y cymunedau gwreiddiol a oedd yn rhan o Gymunedau yn Gyntaf yn 2001, yn dal i fod y 100 o gymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Felly, o gofio hynny, nid yw wedi bod yn effeithiol. Wedi dweud hynny, cafwyd llawer o fesurau meddal yr wyf wedi’u gweld yn gweithio'n effeithiol wrth ddod â chymunedau at ei gilydd ac wrth weithio i wella hyder pobl. Felly, nid ydym am golli hynny ychwaith.
But my main question to the Minister now is: how is he going to ensure that this new programme, or series of programmes, doesn’t reinvent the wheel, but actually builds on what we have and what is already effective? Can I suggest to him that he listens to the wise words of John Griffiths, because what we have and what is already effective is where community schools get really involved in their communities? The best example I’ve seen of that is Pembroke Dock Community School in my region, in a Communities First area, which really integrates everything together. That is the model for the future. I recommend that he goes and sees it with Kirsty Williams if she hasn’t—[Interruption.]. She’s already been. I’ve certainly been several times. It’s a wonderful example of how this can be pursued. And rather than reinvent the wheel, rather than talk about child zones or whatever it may be, just think again: we have the schools, we have the ability, through schools, to work across ward boundaries and to work directly with families. That’s the best way forward. Give the money to Kirsty Williams. I’m sure she knows how to spend it [Laughter.] Ond fy mhrif gwestiwn i'r Gweinidog yn awr yw: sut y mae ef am sicrhau nad yw’r rhaglen newydd hon, neu’r gyfres o raglenni, am wastraffu amser yn gwneud yr un peth, ond yn hytrach yn mynd ati mewn gwirionedd i adeiladu ar yr hyn sydd gennym a’r hyn sydd eisoes yn effeithiol? A allaf awgrymu iddo wrando ar eiriau doeth John Griffiths, oherwydd yr hyn sydd gennym a’r hyn sydd eisoes yn effeithiol yw pan fo ysgolion cymunedol yn cymryd rhan wirioneddol yn eu cymunedau? Yr enghraifft orau yr wyf wedi’i gweld o hynny yw Ysgol Gymunedol Doc Penfro yn fy rhanbarth i, mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf, sydd wirioneddol yn integreiddio popeth â’i gilydd. Hwn yw’r model ar gyfer y dyfodol. Rwy'n argymell ei fod yn mynd i’w gweld gyda Kirsty Williams os nad yw hi wedi— [Torri ar draws.]. Mae hi eisoes wedi bod. Yn sicr, rwyf i wedi bod sawl gwaith. Mae'n enghraifft wych o sut y gellir mynd ar drywydd y dull hwn. Ac yn hytrach na gwastraffu amser yn gwneud yr un peth, yn hytrach na siarad am barthau plant neu beth bynnag y bo, meddyliwch eto: mae gennym yr ysgolion, mae gennym y gallu, drwy ysgolion, i weithio ar draws ffiniau wardiau ac i weithio'n uniongyrchol gyda theuluoedd. Dyna'r ffordd orau ymlaen. Rhowch yr arian i Kirsty Williams. Rwy'n siŵr ei bod hi’n gwybod sut i'w wario [Chwerthin.]
15:06 - Carl Sargeant
I thank the Member for his contribution. It will be no surprise that I don’t agree with him on all he said; I do think that the interventions of Communities First have worked in some areas and worked very well in some areas, and Lynne Neagle and her colleagues have alluded to that. I do agree with him that the issue around the school and space is something we need to concentrate more on. So, Kirsty and I are working very closely around the childcare pledge and other actions where we know that, if we can get the right interventions for young people, it will save us, longer term, in tackling the issues of disorganised families, and the ACE programme and the child zones will support that as well. So, we’re going to have some very high-intensity areas of doing some work there. Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Ni fydd yn syndod nad wyf yn cytuno ag ef ar bob dim a ddywedodd; rwyf yn credu bod ymyraethau Cymunedau yn Gyntaf wedi gweithio mewn rhai meysydd ac wedi gweithio'n dda iawn mewn rhai meysydd, ac mae Lynne Neagle a'i chydweithwyr wedi cyfeirio at hynny. Rwy’n cytuno ag ef fod y mater ynglŷn ag ysgolion a lle yn rhywbeth y mae angen i ni ganolbwyntio mwy arno. Felly, mae Kirsty a minnau yn gweithio'n agos iawn ar yr adduned gofal plant a chamau gweithredu eraill lle’r ydym ni’n gwybod, os gallwn weithredu’r ymyraethau cywir ar gyfer pobl ifanc, y bydd hynny’n arbed i ni, yn y tymor hir, wrth fynd i'r afael â'r materion yn ymwneud â theuluoedd anhrefnus, a bydd y rhaglen profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'r parthau plant yn cefnogi hynny hefyd. Felly, rydym yn mynd i gael rhai meysydd gwaith dwys iawn yn hynny o beth.
I declare an interest: my wife works in a school in north Wales and they’ve just received a school of excellence report from the inspectors. I visited there a couple of weeks back to take some paintings that I was doing over the weekend for them, but also to see how the school operates. I absolutely agree with the Member: if the school can change the way young people feel about themselves—confidence and encouragement—they can take that out as well. I think that, while Kirsty Williams doesn’t need any help looking for my finances in the budget, I’m delighted to be able to work with her to make sure that we get the best value for money with both our interventions. That also relates to not just Kirsty, but all Cabinet colleagues, too. Rwy’n mynegi diddordeb: mae fy ngwraig yn gweithio mewn ysgol yn y gogledd ac mae’r ysgol newydd dderbyn adroddiad ysgol ragoriaeth gan yr arolygwyr. Es i yno ychydig wythnosau yn ôl er mwyn rhoi ambell lun yr oeddwn wedi’u paentio i’r ysgol dros y penwythnos, ond hefyd i weld sut yr oedd yr ysgol yn gweithredu. Rwy’n llwyr gytuno â'r Aelod: os gall yr ysgol newid y ffordd y mae pobl ifanc yn teimlo amdanynt eu hunain—hyder ac anogaeth—mae hynny’n rhywbeth y gallant ei gymryd o hynny. Rwy’n credu, er nad oes angen unrhyw help ar Kirsty Williams wrth chwilio am fy nghyllid yn y gyllideb, rwy'n falch iawn o allu gweithio gyda hi i wneud yn siŵr ein bod yn cael y gwerth gorau am arian ar gyfer ein hymyraethau ill dau. Mae hynny hefyd yn berthnasol nid yn unig i Kirsty, ond i bob cydweithiwr yn y Cabinet, hefyd.
15:08 - Jenny Rathbone
Firstly, I’d just like to welcome your emphasis on the importance of the north and south Wales metro in ensuring that isolated communities are able to take up the job and training opportunities and that if they’re not connected, they simply can’t get there. So, I look forward also to your Better Jobs, Closer to Home project, because I know that in many isolated communities, there’s an in-built resistance to going too far afield. Yn gyntaf, hoffwn groesawu eich pwyslais ar bwysigrwydd metro’r gogledd a'r de wrth sicrhau bod cymunedau anghysbell yn gallu manteisio ar gyfleoedd am swyddi a hyfforddiant ac os nad ydynt yn gysylltiedig, yn syml nid yw’r un cyfleoedd ar gael iddynt. Felly, rwy’n edrych ymlaen hefyd at eich prosiect Swyddi Gwell yn Nes at Adref, gan fy mod yn gwybod mewn llawer o gymunedau anghysbell, fod yna wrthwynebiad annatod i fynd yn rhy bell i ffwrdd.
I very much appreciate your commitment to tackling the messages we get from the analysis of adverse childhood experiences and the long-standing damage that it does to children. We have to bear in mind that the two most common adverse child experiences are verbal abuse and parental separation. Obviously, the root cause of this is often that people have children before they become adults themselves. So, there’s obviously some work to be done there to ensure that people understand just how difficult, challenging and lifelong it is to have a baby. Rwy’n gwerthfawrogi yn fawr iawn eich ymroddiad i fynd i'r afael â'r negeseuon yr ydym yn eu cael wrth ddadansoddi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'r niwed hirsefydlog y maen nhw’n eu cael ar blant. Mae'n rhaid i ni gofio mai’r ddau brofiad niweidiol mwyaf cyffredin yn ystod plentyndod yw cam-drin geiriol a rhieni’n gwahanu. Yn amlwg, gwraidd hyn yn aml yw bod pobl yn cael plant cyn iddynt ddod yn oedolion eu hunain. Felly, mae'n amlwg bod rhywfaint o waith i'w wneud yn hynny o beth i sicrhau bod pobl yn deall pa mor anodd, a heriol yw hi i gael babi a bod yr effaith yn para am oes.
But I want to pick up on something—. Whilst I agree with John Griffiths and Simon Thomas about the importance of having all our schools being community focused, like Llanedeyrn Primary School in my constituency, as well as Pembroke Dock, this misses the point, which is, if we look at the EPPI-Centre evidence, which is the biggest longitudinal study that’s ever been done on childhood outcomes, we know that the die is cast by the time the child is two. So, we cannot rely on schools to meet this need. Therefore, I’d like to know a bit more about what can be done. We know that the most effective way of breaking that link is integrated, high-quality childcare. Ond rwy’n awyddus i ymhelaethu ar rywbeth—. Er fy mod yn cytuno â John Griffiths a Simon Thomas ynglŷn â phwysigrwydd sicrhau bod ein holl ysgolion yn ysgolion bro, fel Ysgol Gynradd Llanedeyrn yn fy etholaeth i, yn ogystal ag Ysgol Doc Penfro, mae hyn yn methu'r pwynt, sef, os edrychwn ar dystiolaeth EPPI-Centre, sef yr astudiaeth hydredol fwyaf sydd erioed wedi'i chynnal ar ganlyniadau plentyndod, rydym yn gwybod bod y niwed wedi’i wneud erbyn bod y plentyn yn ddwy. Felly, ni allwn ddibynnu ar ysgolion i ddiwallu’r angen hwn. Felly, hoffwn wybod ychydig mwy am yr hyn y gellir ei wneud. Rydym yn gwybod mai'r ffordd fwyaf effeithiol o dorri'r cysylltiad hwnnw yw cael gofal plant wedi’i integreiddio, o ansawdd uchel.
I know that your emphasis in your department is on delivering the free childcare for three and four-year-olds of working parents. We do have a particular job here, which is partly being done by Flying Start but only within certain postcodes, and that is to ensure that we both meet the needs of those children and are delivering that parental support and family education. So, I’d like to know a little bit more about the community learning centres, and these child zones for Wales, as to how we can start to ensure that the very poorest children who are most at risk of adverse childhood experiences are getting that high-quality childcare to help them get that best start in life that we expect for all our children. Gwn fod eich pwyslais yn eich adran chi ar ddarparu'r gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio sydd â phlant tair a phedair blwydd oed. Mae gennym swydd benodol yma, sy'n cael ei chyflawni’n rhannol gan Dechrau'n Deg ond dim ond mewn rhai codau post, ac mae hynny i sicrhau bod ein bod yn diwallu anghenion y plant hynny ac yn darparu’r cymorth i rieni a’r addysg teulu hwnnw. Felly, hoffwn wybod ychydig mwy am y canolfannau dysgu cymunedol, a’r parthau plant hyn ar gyfer Cymru, a sut y gallwn ni ddechrau sicrhau bod y plant tlotaf sydd fwyaf mewn perygl o gael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn derbyn gofal plant o ansawdd uchel i'w helpu i gael y cychwyn gorau mewn bywyd yr ydym yn disgwyl i bob plentyn ei gael.
15:11 - Carl Sargeant
I thank the Member for her support and the comprehensive question she raises. As I said in my statement, the Communities First programme is one programme and we must rely on other aspects of what Government interventions do—what Government, local government, third sector organisations bring to our communities—and build resilience around that. We are challenged financially—all aspects of Government and Government tiers—and we have to make sure that when we make these interventions, we make clever interventions based on the evidence presented by many fields. One particular work that I know the Member is familiar with is around Public Health Wales, around ACEs. For people who haven’t seen that programme, I would urge them to do so and realise that that is why we’re taking this step to make early intervention and prevention one of our key planks for intervention for our young people. We’ve seen the devastation that can happen when you start stacking ACEs for the long term. We’ve done some work with the youth justice board and I was incredibly surprised—. Actually, the Member’s right: it is very difficult to tackle the end part of that—the issue of reoffending. When we did some modelling of the young person, actually we looked back at their lifestyle and they had four or five ACEs, which we knew, if we started to tackle those issues around alcohol or substance misuse or incarceration, then, actually, the end bit sorted itself out. So, that’s what we’re going to be doing with people and families, and that’s partly the issue around child zones, about how we get all of the ages—it is to wrap around the child and the family, to see if we can make these clever interventions. There is a great pilot of the 1,000-day programme, which is operating in Wales already. We can learn a lot from that. It’s about that, before the child is born, we know that those first two years are important, and what it is that we need to do at that stage. Diolch i'r Aelod am ei chefnogaeth a'r cwestiwn cynhwysfawr y mae hi’n ei godi. Fel y dywedais yn fy natganiad, mae'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn un rhaglen ac mae’n rhaid i ni ddibynnu ar agweddau eraill ar yr hyn y mae ymyraethau’r Llywodraeth yn eu gwneud—yr hyn y mae’r Llywodraeth, llywodraeth leol, mudiadau'r trydydd sector yn ei gyfrannu at ein cymunedau—a sicrhau cryfder o gwmpas hynny. Rydym wedi ein herio yn ariannol—ym mhob agwedd ar y Llywodraeth a haenau’r Llywodraeth—ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr pan fyddwn yn gwneud yr ymyraethau hyn, ein bod yn gwneud ymyraethau clyfar yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd o lawer o feysydd. Un darn penodol o waith yr wyf yn gwybod bod yr Aelod yn gyfarwydd ag ef yw gwaith gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. I bobl nad ydynt wedi gweld y rhaglen, byddwn i’n annog iddynt wneud hynny a sylweddoli mai dyna pam yr ydym yn cymryd y cam hwn i sicrhau bod ymyrraeth gynnar ac atal yn greiriau allweddol yn yr ymyrraeth ar gyfer ein pobl ifanc. Rydym wedi gweld y dinistr a all ddigwydd yn y tymor hir pan fo mwy a mwy o blant yn cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Rydym wedi gwneud rhywfaint o waith gyda'r bwrdd cyfiawnder ieuenctid ac roeddwn wedi synnu’n fawr—. A dweud y gwir, mae’r Aelod yn gywir: mae'n anodd iawn mynd i'r afael â rhan olaf hynny—y mater o aildroseddu. Pan wnaethom ni rywfaint o waith modelu ar y bobl ifanc, fe wnaethom ni mewn gwirionedd edrych yn ôl ar eu ffordd o fyw, ac fe gawsant bedwar neu bum profiad niweidiol yn ystod eu plentyndod, yr ydym ni’n gwybod, pe baem yn dechrau mynd i'r afael â'r materion hynny yn ymwneud â chamddefnyddio alcohol neu sylweddau neu garcharu, yna, mewn gwirionedd, y byddai pethau’n datrys eu hunain yn y pen draw. Felly, dyna beth yr ydym yn mynd i’w wneud gyda phobl a theuluoedd, a dyna’n rhannol y mater ynglŷn â pharthau plant, o ran sut yr ydym yn sicrhau bod plant o bob oed—mae'n ymwneud â chanolbwyntio ar y plentyn a'r teulu, i weld a allwn ni gyflwyno’r ymyraethau clyfar hyn. Mae cynllun peilot da iawn yn cael ei gynnal o’r rhaglen 1000-diwrnod, sy'n cael ei gweithredu yng Nghymru eisoes. Gallwn ddysgu llawer oddi wrth y rhaglen honno. Mae'n ymwneud â gwybod bod y ddwy flynedd gyntaf yn bwysig, cyn i'r plentyn gael ei eni, a’r hyn y mae angen i ni ei wneud yn ystod y cyfnod hwnnw.
The issue of childcare is something that we are working towards. I’m hoping that, towards the autumn of next year, we’ll start to introduce a very complex scheme of childcare and working, and how that fits in with the school setting as well, so that we have 30 hours of care for young people, which is appropriate and of quality. That’s a meeting that we held actually this morning, with a cross-ministerial discussion about how we start that programme. But this is about building a resilient community with all of our tools rather than one. That’s why I’m grateful for the ability to share with the Chamber today the vision and options for all of us to come together with all of these pieces of the jigsaw to make sure that we have a good future for our young people, driving forward. Mae'r mater gofal plant yn rhywbeth yr ydym yn gweithio tuag ato. Rwy’n gobeithio, tua hydref y flwyddyn nesaf, y byddwn ni’n dechrau cyflwyno cynllun cymhleth iawn o ofal plant a gweithio, a sut y bydd hynny'n cyd-fynd ag amgylchedd yr ysgol hefyd, fel bod gennym 30 awr o ofal ar gyfer pobl ifanc, sy'n briodol ac o ansawdd. Fe gynaliasom y cyfarfod hwnnw y bore yma i ddweud y gwir, a oedd yn cynnwys trafodaeth ymhlith Gweinidogion ynglŷn â sut yr ydym yn cychwyn y rhaglen honno. Ond mae hyn yn ymwneud ag adeiladu cymuned gref gan ddefnyddio pob un o'n hoffer, yn hytrach na dim ond un. Dyna pam rwy'n ddiolchgar i allu rhannu â'r Siambr heddiw yr weledigaeth a'r dewisiadau i bob un ohonom ddod at ein gilydd gyda phob un o’r darnau hyn o'r jig-so, i wneud yn siŵr bod gennym ddyfodol da ar gyfer ein pobl ifanc, wrth symud ymlaen.
15:14 - Dawn Bowden
I think I agree with much of what’s been said by many of my colleagues, so I don’t want to repeat that and prolong it— Rwy'n credu fy mod yn cytuno â llawer o'r hyn sy'n cael ei ddweud gan lawer o’m cydweithwyr, felly nid wyf am ailadrodd hynny a’i barhau—
15:14 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Just a question, please. Dim ond cwestiwn, os gwelwch yn dda.
15:14 - Dawn Bowden
I’m going to do that. What I wanted to say, however, is that I think that we do need to recognise that anti-poverty strategies have been at the forefront of Welsh Government policy for many years. In my own constituency, in common with many other constituencies whose representatives have spoken today, we’ve seen incredible work done on a daily basis—on a daily basis—around social community, digital inclusion, dealing with ex-offenders, tackling isolation, developing parenting skills, assisting with long-term unemployment. We could probably go on and on. So, an incredible amount of work is done. Therefore, I do welcome, Cabinet Secretary, the statement that you have made today, because I think that the initiatives that you have announced today, particularly the focus on ensuring positive outcomes, do take us into that direction that continues the work that we’ve already seen, and ensures that the measures that we’ve got to tackle poverty should underpin all of the work that the Welsh Government does going forward. Rwy’n mynd i wneud hynny. Yr hyn yr wyf eisiau ei ddweud, fodd bynnag, yw fy mod o’r farn bod angen inni gydnabod bod strategaethau yn erbyn tlodi wedi bod amlycaf o ran polisi Llywodraeth Cymru ers blynyddoedd lawer. Yn fy etholaeth fy hun, yn gyffredin â llawer o etholaethau eraill y mae eu cynrychiolwyr wedi siarad heddiw, rydym wedi gweld gwaith anhygoel yn cael ei wneud bob dydd—bob dydd—yn ymwneud â’r gymuned gymdeithasol, cynhwysiant digidol, ymdrin â chyn-droseddwyr, mynd i'r afael ag unigedd, datblygu sgiliau rhianta, cynorthwyo gyda diweithdra hirdymor. Gallem yn ôl pob tebyg fynd ymlaen ac ymlaen. Felly, mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud. Felly, rwyf yn croesawu, Ysgrifennydd y Cabinet, y datganiad yr ydych chi wedi'i wneud heddiw, oherwydd rwy’n credu bod y mentrau yr ydych chi wedi'u cyhoeddi heddiw, yn enwedig y rhai sy’n canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau cadarnhaol, yn ein llywio i'r cyfeiriad hwnnw sy’n parhau â'r gwaith sydd eisoes wedi’i gyflawni, ac yn sicrhau bod y mesurau sydd gennym i fynd i'r afael â thlodi yn sail i’r holl waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud wrth symud ymlaen.
However, my question is around whether the Minister can tell us whether the anti-poverty priorities and programmes in many of our most deprived areas, most of which, or a lot of which, are delivered by Communities First, will be followed through with the new strategy, and, if so, how those transitional arrangements will apply, and whether he has given some thought to how we can retain the skills of the people that have so successfully delivered Communities First in some of our most deprived areas—an asset that I’m sure he wouldn’t want to lose any more than I would. Fodd bynnag, mae fy nghwestiwn yn ymwneud â pha un a all y Gweinidog ddweud wrthym a fydd y blaenoriaethau a’r rhaglenni yn erbyn tlodi mewn llawer o'n hardaloedd mwyaf difreintiedig, y mae'r rhan fwyaf ohonynt, neu lawer ohonynt, yn cael eu darparu gan Gymunedau yn Gyntaf, yn cael eu gweithredu ymhellach o dan y strategaeth newydd, ac, os felly, sut y bydd y trefniadau trosiannol hynny yn berthnasol, a pha un a ydyw wedi rhoi rhywfaint o ystyriaeth i sut y gallwn gadw sgiliau'r bobl sydd wedi cyflawni Cymunedau yn Gyntaf mor llwyddiannus yn rhai o'n hardaloedd mwyaf difreintiedig—ased rwy'n siŵr na fyddai ef yn dymuno’i golli ddim mwy nag y byddwn i.
15:16 - Carl Sargeant
I thank the Member for her questions. Can I say that the anti-poverty strategy and the children’s anti-poverty strategy are still alive and kicking? That document is still there and we still work towards that. I met with Ken Skates about how do we refresh that and start to think about the new interventions that we have. As I said earlier, Communities First is just one of a suite of tools and intervention programmes that we can deliver on. I am still committed to working with the fantastic workforce within the Communities First areas. That’s where the discussion will start about how do we start to frame what the future looks like in terms of delivery of the many programmes that the Member talked about. What we cannot do is turn our backs on communities, but we must help them grow out of poverty and not ensure that we sanction communities to poverty for life. We’ve got to do something different, and the intervention techniques that we are talking about here are about giving personal resilience to young people to grow. This is, I think, very brave politically, because a lot of this stuff is generational. We’ll probably not see some of the effects of our early interventions growing for 10 years or so. But we must start now, and we must make that change and be brave about this, because, if we don’t, this is about a short-term political win. The fact is it’s changing our communities for the better for the future, and that’s what this new programme, I believe, will do. Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. A gaf i ddweud bod y strategaeth trechu tlodi a’r strategaeth trechu tlodi ymhlith plant yn dal i fod yn fyw ac yn iach? Mae'r ddogfen honno yn dal i fod yno, ac rydym yn dal i weithio tuag at hynny. Cyfarfûm â Ken Skates i drafod sut y byddwn yn adnewyddu hynny a dechrau meddwl am yr ymyraethau newydd sydd gennym. Fel y dywedais yn gynharach, dim ond un o blith cyfres o offer a rhaglenni ymyrraeth y gallwn ni eu cyflawni yw Cymunedau yn Gyntaf. Yr wyf yn dal i fod wedi ymrwymo i weithio gyda'r gweithlu rhagorol yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Dyna lle y byddwn yn dechrau’r drafodaeth am sut y byddwn yn dechrau fframio'r dyfodol o ran cyflwyno'r amryw raglenni y soniodd yr Aelod amdanynt. Yr hyn na allwn ni ei wneud yw troi ein cefnau ar gymunedau, ond yn hytrach, mae’n rhaid i ni eu helpu i dyfu allan o dlodi, ac nid sicrhau ein bod yn dedfrydu cymunedau i dlodi am oes. Mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth gwahanol, ac mae'r technegau ymyrryd yr ydym yn sôn amdanynt yn y fan yma yn ymwneud â rhoi cydnerthedd personol i bobl ifanc i’w galluogi i dyfu. Mae hyn, rwy’n credu, yn ddewr iawn yn wleidyddol, gan fod llawer o’r pethau hyn yn bethau a fydd yn cymryd cenedlaethau. Mae'n debyg na fyddwn yn gweld effeithiau rhai o’n hymyraethau cynnar yn dod i’r amlwg am oddeutu 10 mlynedd. Ond mae'n rhaid i ni ddechrau yn awr, ac mae'n rhaid i ni wneud y newid hwnnw a bod yn ddewr, oherwydd, os na wnawn ni, buddugoliaeth wleidyddol tymor byr fydd hon. Y gwir yw, mae’n newid ein cymunedau er gwell ar gyfer y dyfodol, a dyna beth fydd y rhaglen newydd hon yn ei wneud yn fy marn i.
15:17 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you. Finally, then, Llyr Gruffydd. Diolch. Yn olaf, felly, Llyr Gruffydd.
15:17 - Llyr Gruffydd
Thank you, Deputy Presiding Officer. I’m just after a bit more clarity, Cabinet Secretary, around your proposed children’s zones for Wales. Are they geographical zones? Will they be following the footprint of Communities First areas or Flying Start? Because you also say in your statement that you’re not convinced that continuing to focus on 52 small areas is the most effective way to deliver for Wales. Now, you’ll be as aware as I am that there are children outside of those areas facing poverty and adverse childhood experiences as well, so maybe a bit of clarity would be appreciated. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Y cyfan yr wyf ei eisiau, Ysgrifennydd y Cabinet, yw ychydig mwy o eglurder o gwmpas eich parthau plant arfaethedig i Gymru. A yw’r parthau yn barthau daearyddol? A fyddant yn dilyn ôl troed ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf neu Dechrau'n Deg? Oherwydd rydych yn dweud hefyd yn eich datganiad nad ydych yn argyhoeddedig mai parhau i ganolbwyntio ar 52 o ardaloedd bach yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni dros Gymru. Nawr, rydych chi yr un mor ymwybodol â minnau fod yna blant y tu allan i'r ardaloedd hynny sy'n wynebu tlodi a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod hefyd, felly efallai y byddai ychydig o eglurder yn cael ei werthfawrogi.
15:18 - Carl Sargeant
Yes, I’m very happy to do so. It’s a really useful question. In terms of the children’s zones, we are offering statements of intent from local authorities now to come forward with their ideas in terms of how they would like to implement them. Indeed, I think I’m right in saying that Anglesey have already indicated about an ACE-free island, which is quite an impressive challenge for them to undertake. I think it’s ambitious, but there’s nothing wrong with ambition. We should help them to move towards that. I think we should be starting to think about the approach that Simon Thomas and John Griffiths talked about, so, children’s zones around schools and school areas, to try to see if we can get underneath that. There’s a great example of a school in Washington that did this. It turned a school completely around—a very dysfunctional school—and they concentrated on the ACE approach to intervention and turned this around into a high-performing school. So, it does work. But, at the moment, pilot schemes—lots of flexibility to see what works and what doesn’t work. I think I need to be brave enough to say, ‘Well, we’ll give that a go, and, if it doesn’t work, it doesn’t work.’ But I’ll take the political flak for that, for doing something for the right reason, as opposed to for not trying some of these. We’ve got to try these in rural and urban settings and see what we can do in terms of scale as well. So, it’s a lot to work on, but we are offering local authorities flexibility to understand their communities better and know what they need. Ydw, rwy’n hapus iawn i wneud hynny. Mae'n gwestiwn defnyddiol iawn. O ran y parthau plant, rydym yn cynnig bod awdurdodau lleol yn gwneud datganiadau o fwriad yn awr i gyflwyno eu syniadau am sut y byddent yn hoffi eu gweithredu. Yn wir, rwy’n credu fy mod yn iawn wrth ddweud bod Ynys Môn eisoes wedi nodi eu bod yn dymuno bod yn ynys lle na cheir profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, sydd yn her eithaf trawiadol iddynt ymgymryd â hi. Rwy'n credu ei fod yn gynllun uchelgeisiol, ond does dim byd o'i le ar uchelgais. Dylem ni eu helpu i gymryd camau tuag at gyflawni hynny. Rwy'n credu y dylem fod yn dechrau meddwl am y dull y siaradodd Simon Thomas a John Griffiths amdano, felly, parthau plant o gwmpas ysgolion ac ardaloedd ysgol, i geisio gweld os allwn ni fynd o dan groen hynny. Mae 'na enghraifft wych o ysgol yn Washington a wnaeth hyn. Llwyddodd i weddnewid yr ysgol yn llwyr—ysgol heriol iawn—drwy ganolbwyntio ar ymagwedd Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod at ymyrraeth, a llwyddo i’w gweddnewid yn ysgol sy'n perfformio'n dda. Felly, mae yn gweithio. Ond, ar hyn o bryd, cynlluniau arbrofol—llawer o hyblygrwydd i weld beth sy'n gweithio a beth nad yw’n gweithio. Rwy'n credu bod yn rhaid i mi fod yn ddigon dewr i ddweud, 'Wel, mi rown ni gynnig arni, ac os nad yw’n gweithio, nid yw'n gweithio.' Ond fe dderbyniaf y feirniadaeth wleidyddol am hynny, am wneud rhywbeth am y rheswm cywir, yn hytrach nag am beidio â rhoi cynnig ar rai o'r pethau hyn. Mae'n rhaid i ni roi cynnig arnynt mewn lleoliadau gwledig a threfol a gweld beth y gallwn ni ei wneud yn nhermau graddfa hefyd. Felly, mae llawer i weithio arno, ond rydym yn cynnig hyblygrwydd i awdurdodau lleol i ddeall eu cymunedau yn well ac i wybod beth sydd ei angen arnynt.
15:19 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you, Cabinet Secretary. Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.
4. Statement: EU Funding 4. Datganiad: Cyllid yr UE
The next item on our agenda, then, is a statement by the Cabinet Secretary for Finance and Local Government on EU funding. I call on Mark Drakeford to introduce the statement. Mae'r eitem nesaf ar ein hagenda, felly, yn ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar gyllid yr UE. Galwaf ar Mark Drakeford i gyflwyno'r datganiad.
15:19 - Mark Drakeford
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle hwn i roi diweddariad i’r Aelodau am raglenni’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Mae goblygiadau i Gymru o adael yr Undeb Ewropeaidd wedi cael eu trafod yn rheolaidd yn y Siambr hon ers 23 Mehefin. Heddiw, byddaf yn canolbwyntio yn hytrach ar y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran dyrannu’r cyllid sydd eisoes wedi’i sicrhau. Byddaf yn edrych yn benodol ar y cyfnod 2014-2020, lle mai rhaglenni Cymru oedd y cyntaf i gael eu cymeradwyo yn y Deyrnas Unedig ac ymysg y rhai cyntaf yn Ewrop. Mae cynnydd cyson wedi cael ei wneud ers i’r rhaglenni gael eu lansio ym mis Rhagfyr 2014. Rydym ni wedi buddsoddi arian o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd mewn cynlluniau ar hyd a lled y wlad. Mae gan y cynlluniau hynny gysylltiad amlwg ag anghenion rhanbarthol a chyfleoedd i dyfu, ac maen nhw’n dangos potensial i greu budd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol ar hyd a lled Cymru. Thank you very much, Deputy Presiding Officer, and thank you for this opportunity to provide Members with an update on the European structural fund programmes. The implications for Wales of leaving the European Union have been regularly rehearsed in this Chamber since 23 June. Today, I will focus instead on the progress made in deploying funds already secured, particularly in the 2014-2020 round, where Wales’s programmes were the first to be approved in the UK, and amongst the first in Europe. Consistent progress has been made since the programmes were launched in December 2014, investing EU funds in schemes across the country. Those schemes are clearly linked to regional needs and growth opportunities, and they demonstrate the potential to generate significant economic, social and environmental benefits across Wales.
Mae ein busnesau a’n cymunedau a’n bobl wedi elwa’n sylweddol ar gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd ers degawd a mwy, ac maen nhw wedi helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu rhagolygon economaidd Cymru. Maen nhw hefyd wedi gosod ein sylfeini ar gyfer llewyrch economaidd mwy cynaliadwy. EU funds, from which our businesses, communities and people have benefited significantly for more than a decade, have helped to shape the development of Wales’s economic fortunes and to lay the foundations for more sustainable economic prosperity.
So it is, Dirprwy Lywydd, that, since the year 2000, and notwithstanding recent difficult economic times, European Union funding has contributed to marked increases in employment rates, with the largest improvements seen in the west Wales and the Valleys region, up from 64.6 per cent in the year 2000 to 70.7 per cent in June of this year. Over that period, east Wales saw an increase from 71.7 per cent to 72.4 per cent. Levels of economic inactivity in west Wales and the Valleys fell over that time from 30.8 per cent to 25.2 per cent. Since 2004, skill levels across Wales have improved, with the proportion of working-age adults with no qualifications falling from 17 per cent to 9.5 per cent. At the same time, investment in research and innovation has more than doubled and the gap between the GVA of west Wales and the Valleys and the UK average has narrowed. Felly y mae, Ddirprwy Lywydd, ers y flwyddyn 2000, ac er gwaethaf y cyfnod economaidd anodd yn ddiweddar, mae cyllid yr Undeb Ewropeaidd wedi cyfrannu at gynnydd nodedig mewn cyfraddau cyflogaeth, a gwelwyd y gwelliannau mwyaf yn rhanbarthau’r gorllewin a’r Cymoedd, i fyny o 64.6 y cant yn y flwyddyn 2000 i 70.7 y cant ym mis Mehefin eleni. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cynyddodd y ganran yn y dwyrain o 71.7 y cant i 72.4 y cant. Gostyngodd lefelau anweithgarwch economaidd yn y gorllewin a'r Cymoedd yn ystod y cyfnod hwnnw o 30.8 y cant i 25.2 y cant. Ers 2004, mae lefelau sgiliau ledled Cymru wedi gwella, wrth i gyfran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau ostwng o 17 y cant i 9.5 y cant. Ar yr un pryd, mae’r buddsoddiad mewn ymchwil ac arloesedd wedi mwy na dyblu ac mae'r bwlch rhwng gwerth ychwanegol gros y gorllewin a'r Cymoedd a chyfartaledd y DU wedi lleihau.
Since the year 2007, EU structural fund projects alone have helped nearly 73,000 people into work, have helped over 234,000 people to gain qualifications, supported the creation of nearly 12,000 businesses, and helped to create some 37,000 jobs. These achievements, Dirprwy Lywydd, clearly demonstrate the positive impact that EU funds have already made on communities, people and businesses across Wales. Ers y flwyddyn 2007, mae prosiectau cronfeydd strwythurol yr UE ar eu pennau eu hunain wedi helpu bron i 73,000 o bobl i gael gwaith, wedi helpu dros 234,000 o bobl i ennill cymwysterau, wedi cefnogi bron i 12,000 o fusnesau newydd i ddechau, ac wedi helpu i greu rhyw 37,000 o swyddi. Mae'r cyflawniadau hyn, Ddirprwy Lywydd, yn dangos yn glir yr effaith gadarnhaol y mae arian yr UE eisoes wedi ei chael ar gymunedau, pobl a busnesau ledled Cymru.
Last week, the First Minister welcomed the UK Government’s further commitment to guarantee expenditure for all European structural and investment fund schemes approved prior to the UK leaving the European Union. This guarantee itself recognises just how important EU funds are to Wales in addressing economic and social disparities. It remains the case, however, that our ability fully to deliver the 2014-20 programmes as originally planned and in line with our agreements with the European Commission is still hugely dependent on the UK Government’s timescale for leaving the European Union. Within the programmes to date, we have already invested £830 million of structural funds—that’s around 43 per cent of the total allocation for the 2014-2020 period—and that puts us favourably ahead when compared to the performance of other UK regions. Yr wythnos diwethaf, croesawodd y Prif Weinidog ymrwymiad pellach Llywodraeth y DU i sicrhau cyllid ar gyfer pob un o gynlluniau’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd a’r cronfeydd buddsoddi a gymeradwywyd cyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r gwarantu hwn ynddo’i hun yn cydnabod pa mor bwysig yw arian yr UE i Gymru er mwyn mynd i'r afael gwahaniaethau economaidd a chymdeithasol. Mae’n parhau i fod yn wir, fodd bynnag, bod ein gallu i gyflawni rhaglenni 2014-20 yn llawn fel y bwriadwyd yn wreiddiol, ac yn unol â'n cytundebau â'r Comisiwn Ewropeaidd, yn dal i fod yn ddibynnol iawn ar amserlen Llywodraeth y DU ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd. Hyd yn hyn, rydym eisoes wedi buddsoddi £830 miliwn o gronfeydd strwythurol yn y rhaglenni—sef tua 43 y cant o gyfanswm y dyraniad ar gyfer y cyfnod 2014-2020—ac mae hynny'n ein rhoi ni ar y blaen o’i gymharu â pherfformiad rhanbarthau eraill y DU.
Our priority is to continue to make funding decisions as soon as we are able so as to maximise our funding allocation and ensure activities get under way at the earliest opportunities, and I will be making this message clear and discussing this way of doing business with stakeholders and delivery partners at the annual EU fund information event, which will be held in Cardiff next week. Ein blaenoriaeth yw parhau i wneud penderfyniadau ariannu cyn gynted ag y gallwn, er mwyn manteisio i’r eithaf ar ein dyraniad cyllid a sicrhau bod gweithgareddau yn dechrau cyn gynted ag sy’n bosibl, a byddaf yn gwneud y neges hon yn glir ac yn trafod y ffordd hon o wneud busnes â rhanddeiliaid a phartneriaid cyflawni yn y digwyddiad blynyddol i rannu gwybodaeth am gronfa’r UE, a fydd yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf.
Dirprwy Lywydd, I want to make it clear that this is a pan-Welsh Government effort in which all Ministers and Cabinet Secretaries are involved. Just two weeks ago I was able to announce £4.7 million for the OPUS project working with young people and £11.9 million to build on the very successful SEACAMS project, both of which will take place in north Wales. Today, I’ve been pleased to announce an extra £850,000 of European Union funds to Swansea University to support more research Master’s and engineering doctorates for students who will work alongside companies, including Tata Steel. Last week my colleague Jane Hutt was in Cross Hands in Carmarthenshire announcing EU funds of £2.3 million for the £4 million social business growth programme, offering financial support of up to £150,000 to social businesses across Wales. More funding announcements will be made by other Ministers in the days, weeks, and months ahead. Ddirprwy Lywydd, rwyf am ei gwneud yn glir bod hon yn ymdrech gan Lywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd a fydd yn cynnwys yr holl Weinidogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet. Bythefnos yn ôl, roeddwn i’n gallu cyhoeddi £4.7 miliwn ar gyfer y prosiect OPUS sy’n gweithio gyda phobl ifanc, ac £11.9 miliwn i ddatblygu’r prosiect SEACAMS hynod lwyddiannus, a bydd y ddau yn cael eu cynnal yn y gogledd. Heddiw, bu’n bleser gennyf gyhoeddi £850,000 ychwanegol o gyllid yr Undeb Ewropeaidd i Brifysgol Abertawe i gefnogi rhagor o raddau Meistr ymchwil a doethuriaethau mewn peirianneg i fyfyrwyr a fydd yn gweithio ochr yn ochr â chwmnïau, gan gynnwys Tata Steel. Yr wythnos diwethaf, roedd fy nghyd-Aelod, Jane Hutt yn Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin yn cyhoeddi £2.3 miliwn o gyllid yr UE ar gyfer y rhaglen twf busnesau cymdeithasol, gwerth £4 miliwn, gan gynnig cymorth ariannol o hyd at £150,000 i fusnesau cymdeithasol ledled Cymru. Bydd rhagor o gyhoeddiadau cyllido gan Weinidogion eraill yn y dyddiau, wythnosau, a misoedd sydd i ddod.
Through these combined efforts and the tremendous commitment of our partners we hope to have agreements in place covering some 60 per cent of all our funding by the time of the UK Government’s autumn statement in November. We will do so, Dirprwy Lywydd, against the background of the UK Treasury confirmation that, in keeping with the devolution settlement, it will be for the Welsh Government to continue to determine how EU funds are spent in Wales, and we will do so in line with our programme objectives and targets as planned. Drwy’r ymdrechion cyfunol hyn ac ymrwymiad aruthrol ein partneriaid, rydym yn gobeithio rhoi cytundebau ar waith sy'n cwmpasu tua 60 y cant o'n holl gyllid erbyn i Lywodraeth y DU wneud ei datganiad yr hydref ym mis Tachwedd. Byddwn yn gwneud hyn, Ddirprwy Lywydd, ar sail cadarnhad gan Drysorlys y DU, yn unol â’r setliad datganoli, mai mater i Lywodraeth Cymru fydd parhau i bennu sut i wario cyllid yr UE yng Nghymru, a byddwn yn gwneud hyn yn unol ag amcanion a thargedau a gynlluniwyd yn ein rhaglen.
These programmes were developed and are being implemented and monitored in partnership between the Welsh Government and organisations across the private, third and public sectors. This partnership approach has been fundamental to the success of our programmes and will continue to be a strong feature of the way we do business here in Wales. The programme monitoring committee for the structural and investment funds in particular will continue to have an important role to play in ensuring we maximise the impact of the EU funds. The PMC will also help to shape the Welsh Government’s strategy for securing the best possible results for Wales as we prepare for our EU transition. I have therefore been particularly pleased to see that Julie Morgan has been appointed by the First Minister as the new PMC chair and will be chairing her first meeting later this year. I wish Julie every success in that very important new role and look forward to working closely with her. Datblygwyd y rhaglenni hyn, ac maent yn cael eu gweithredu a'u monitro, mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau ar draws y sector preifat, y trydydd sector a'r sector cyhoeddus. Bu'r dull partneriaeth hwn yn hanfodol i lwyddiant ein rhaglenni a bydd yn parhau i fod yn nodwedd gref o sut yr ydym yn gwneud busnes yma yng Nghymru. Bydd y pwyllgor monitro rhaglenni ar gyfer y cronfeydd strwythurol a’r cronfeydd buddsoddi yn arbennig, yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth i ni sicrhau bod cronfeydd yr UE yn cael yr effaith fwyaf. Bydd y Pwyllgor Monitro Rhaglenni hefyd yn helpu i lywio strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i Gymru wrth i ni baratoi ar gyfer gadael yr UE. Rwyf wedi bod, felly, yn arbennig o falch o weld bod Julie Morgan wedi'i phenodi gan y Prif Weinidog yn gadeirydd newydd ar y Pwyllgor Monitro Rhaglenni ac y bydd yn cadeirio ei chyfarfod cyntaf yn ddiweddarach eleni. Dymunaf bob llwyddiant i Julie yn y swydd newydd bwysig iawn hon ac edrychaf ymlaen at weithio'n agos â hi.
In conclusion, Dirprwy Lywydd, Wales has a strong track record in relation to European funding and the delivery of regional programmes through committed and effective partnerships. Our priority now is to build on those achievements still further to ensure that EU investments continue to make a positive impact in the lives of our fellow citizens, to do that to the fullest possible extent, and over the whole of the period for which funding is available. Thank you very much. I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae gan Gymru hanes cryf o ran cyllid Ewropeaidd a chyflawni rhaglenni rhanbarthol drwy bartneriaethau ymrwymedig ac effeithiol. Ein blaenoriaeth yn awr yw adeiladu ar y cyflawniadau hynny yn fwy fyth i sicrhau bod buddsoddiadau yr UE yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar fywydau ein cyd-ddinasyddion, i wneud hynny i'r graddau mwyaf posibl, ac am y cyfnod cyfan y mae’r cyllid ar gael. Diolch yn fawr iawn.
15:28 - Adam Price
I obviously welcome the Cabinet Secretary’s statement, but I have to take issue with him that the course of this period from 2000 to 2014 has been somehow an unalloyed economic success for those of us who live in west Wales and the Valleys. He was very selective in the figures that he quoted. Because we’re talking about a European programme, if we look at where west Wales and the Valleys are in relation to the whole of the European Union, they’ve gone down in terms of GVA per capita: 73 per cent of the EU 27 income per capita in 2000, 69 per cent for 2014, the latest year for which statistics are available. We compare that with Poland, 47 per cent at the beginning of this period, now up to 68 per cent; Saxony, 79 per cent rising to 94 per cent—other areas that have benefitted and used the European structural funds, I have to say, far more strategically and successfully than this Government over the course of this period. Yn amlwg rwy’n croesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae’n rhaid i mi anghytuno ag ef y bu’r cyfnod rhwng 2000 a 2014 rywsut yn llwyddiant economaidd pur i’r rhai hynny ohonom sy'n byw yn y gorllewin a'r Cymoedd. Dewisodd y ffigurau a ddyfynnodd yn ofalus iawn. Gan ein bod yn sôn am raglen Ewropeaidd, os edrychwn ar sefyllfa’r gorllewin a'r Cymoedd o’i chymharu â’r Undeb Ewropeaidd gyfan, maen nhw wedi disgyn o ran gwerth ychwanegol gros y pen: 73 y cant o incwm y pen 27 gwlad yr UE yn 2000, 69 y cant yn 2014, sef y flwyddyn ddiwethaf y mae ystadegau ar gael ar ei chyfer. Wrth gymharu hynny â Gwlad Pwyl, a oedd yn 47 y cant ar ddechrau'r cyfnod hwn, ac erbyn hyn wedi cyrraedd 68 y cant; Sacsoni, 79 y cant ac erbyn hyn wedi codi i 94 y cant—ardaloedd eraill sydd wedi elwa ar, ac wedi defnyddio cronfeydd strwythurol Ewropeaidd, mae’n rhaid i mi ddweud, mewn ffordd fwy strategol a llwyddiannus o lawer na'r Llywodraeth hon yn ystod y cyfnod hwn.
I’ve a number of particular questions to him. Obviously, we’re living in a time of economic turbulence. What effect does the volatility of the exchange rate have on the amount of allocation available? I note in the rural development plan that the planning exchange rate has been revised, but it seems to have been revised the wrong way in terms of the exchange rate movement. The co-financing rate as well in the rural development plan has been revised downwards—the local Welsh UK contribution—from 57 per cent to 47 per cent. I note that First Ministers have lost their heads in this Chamber before as a result of additionality questions, so I’d like him to say if that co-financing rate change also applies more widely to the structural funds. Mae gen i nifer o gwestiynau penodol iddo. Yn amlwg, rydym yn byw mewn cyfnod o gynnwrf economaidd. Pa effaith y mae anwadalrwydd y gyfradd gyfnewid yn ei chael ar faint o ddyraniad sydd ar gael? Nodaf yn y cynllun datblygu gwledig fod y gyfradd gyfnewid cynllunio wedi ei diwygio, ond ymddengys ei bod wedi ei diwygio yn anghywir o ran sut y cyfeiriad y mae’r gyfradd gyfnewid yn mynd iddo. Mae'r gyfradd gydgyllido yn y cynllun datblygu gwledig hefyd wedi ei diwygio tuag i lawr—cyfraniad lleol Cymru y DU—o 57 y cant i 47 y cant. Nodaf fod Prif Weinidogion wedi drysu’n lân yn y Siambr hon o'r blaen o ganlyniad i gwestiynau ynglŷn ag ychwanegedd, felly hoffwn iddo ddweud a yw'r newid hwnnw i’r gyfradd gydgyllido hefyd yn berthnasol i'r cronfeydd strwythurol yn ehangach.
On WEFO, surely the important thing now is to get the money committed and programmes all set up, because the real danger—the gravest danger of all—is that we lose funds and funds are de-committed because we do not change the decision-making pace, which is still, unfortunately, grinding very slow, as far as I can see, in WEFO. Ynglŷn â WEFO, onid y peth pwysig yn awr yw ymrwymo’r arian a sefydlu’r rhaglenni, achos y gwir berygl—y perygl mwyaf difrifol oll—yw ein bod yn colli’r cyllid a dad-ymrwymo’r cyllid oherwydd nad ydym yn newid cyflymder gwneud penderfyniad, sydd yn dal, yn anffodus, yn hynod o araf, hyd y gwelaf i, yn WEFO.
Finally, on the programme monitoring committee, is it true that the programme monitoring committee is now going to meet less often? I heard ‘longer meetings’, but surely, shorter meetings more often would actually meet the challenge of the times that we’re facing over the course of the next two and a half years as we’re leaving the European Union. While I admire Julie Morgan, surely what we need is not a pan-Welsh Government approach to European structural funds, but a pan-Wales approach. Why was the opportunity not taken to actually appoint a member of an opposition party to chair that important committee, because surely, on this issue, we should be working together across Wales—[Interruption.] Why not release them? Absolutely. It’s always been a Labour Member. Why was the Chair of the programme monitoring committee subject to Cabinet collective responsibility, when, the last time I checked, they’re not even in the Cabinet? Yn olaf, ynglŷn â’r pwyllgor monitro rhaglenni, a yw'n wir y bydd y pwyllgor monitro rhaglenni yn cwrdd yn llai aml o hyn ymlaen? Clywais am ‘gyfarfodydd hirach’, ond ’does bosibl mai cyfarfodydd byrrach ac amlach fyddai mewn gwirionedd yn ateb heriau’r cyfnod sydd o’n blaenau yn ystod y ddwy flynedd a hanner nesaf wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Er fy mod i’n edmygu Julie Morgan, onid ymagwedd Cymru gyfan at gronfeydd strwythurol Ewropeaidd sydd ei hangen arnom, nid ymagwedd Llywodraeth Cymru gyfan. Pam na achubwyd ar y cyfle mewn gwirionedd i benodi aelod o wrthblaid i gadeirio'r pwyllgor pwysig hwnnw, oherwydd ’does bosib na ddylem ni i gyd fod yn gweithio gyda'n gilydd ar y mater hwn, ledled Cymru—[Torri ar draws.] Pam nad eu rhyddhau? Yn hollol. Mae bob amser wedi bod yn Aelod Llafur. Pam oedd Cadeirydd y pwyllgor monitro rhaglenni yn ddarostyngedig i gydgyfrifoldeb y Cabinet, pan, y tro diwethaf i mi edrych, nid yw yn y Cabinet hyd yn oed?
15:32 - Mark Drakeford
I thank the Member for those questions. It was never a claim that I made in my statement that European funds have been, to quote the Member, an unalloyed success. My case was that, in the difficult times that we have faced, European funding has been a fundamental element in bringing about some very significant improvements. If the Member thought that I was selective in my examples, then I’m afraid he will have wanted to have looked through this own list of particular examples that he chose to highlight this afternoon. Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Ni honnais yn fy natganiad o gwbl fod cronfeydd Ewropeaidd wedi bod, i ddyfynnu'r Aelod, yn llwyddiant pur. Fy mhwynt i oedd, bod cyllid Ewropeaidd, yn y cyfnodau anodd yr ydym wedi'u hwynebu, yn elfen hollbwysig o gyflawni rhai gwelliannau sylweddol iawn. Os oedd yr Aelod o’r farn fy mod innau wedi dethol fy enghreifftiau yn ofalus, mae arna i ofn y dylai yntau fod wedi ystyried ei restr ei hun o enghreifftiau penodol y dewisodd dynnu sylw atynt y prynhawn yma.
He went to raise a series of important points. Of course, the exchange rate—trying to keep abreast of changes in the exchange rate is a particular challenge at the moment for all our European funding programmes. Part of WEFO, and other direct links with the Commission, is about making sure that we try to have planning rates, co-financing rates and intervention rates that are sensible and do the very best they can from a Welsh point of view. But it is a rapidly moving picture and the decisions are not entirely in the hands of Wales. They are agreed with the Commission as those planning rates change. As far as WEFO is concerned, I entirely agree that the core task for all of us involved in this in Wales is to make sure that money is committed, but more than committed—that programmes deliver on the ground, so that funding can be rapidly drawn down for important purposes here in Wales. Aeth ymlaen i godi cyfres o bwyntiau pwysig. Wrth gwrs, y gyfradd gyfnewid—mae ceisio cadw i fyny â’r newidiadau yn y gyfradd gyfnewid yn her arbennig ar hyn o bryd ar gyfer ein holl raglenni cyllid Ewropeaidd. Mae rhan o WEFO, a chysylltiadau uniongyrchol eraill â’r Comisiwn, yn ymwneud â sicrhau ein bod yn ceisio cael cyfraddau cynllunio, cyfraddau cydgyllido a chyfraddau ymyrryd sy'n synhwyrol ac yn gwneud y gorau y gallant o safbwynt Cymru. Ond mae'r darlun yn symud yn gyflym ac nid yw'r penderfyniadau yn gyfan gwbl yn nwylo Cymru. Cânt eu cytuno â'r Comisiwn wrth i’r cyfraddau cynllunio hynny newid. O ran WEFO, rwy’n cytuno yn llwyr mai’r brif dasg i bob un ohonom sy’n rhan o hyn yng Nghymru, yw sicrhau bod cyllid wedi’i ymrwymo, ond yn fwy na hynny—bod rhaglenni yn cyflawni ar lawr gwlad, er mwyn gallu cael gafael ar gyllid yn gyflym at ddibenion pwysig yma yng Nghymru.
I don’t think it is fair to characterise the decision-making pace as being grindingly slow. Forty three per cent of all structural funds are already committed. That will rise to 60 per cent by 23 November, and that demonstrates the way in which, with our partners, we have done our best to accelerate the approval of important programmes. I do say this, and I’ve said it to WEFO: I want an accelerated pace of approving programmes that will make a real difference. I will not be willing to think of approving programmes simply to draw down the money. The programmes have to be programmes that we would agree will make the difference we need them to make in Wales. Nid wyf yn credu ei bod yn deg i ddweud bod cyflymder gwneud penderfyniadau yn araf tu hwnt. Mae pedwar deg tri y cant o'r holl gronfeydd strwythurol eisoes wedi’i ymrwymo. Bydd hynny yn codi i 60 y cant erbyn 23 Tachwedd, ac mae hynny'n dangos y ffordd yr ydym ni, gyda'n partneriaid, wedi gwneud ein gorau i gyflymu'r broses o gymeradwyo rhaglenni pwysig. Fe ddywedaf hyn, ac rwyf wedi dweud hyn wrth WEFO: rwyf eisiau i’r broses o gymeradwyo rhaglenni gyflymu fel ei bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ni fyddaf yn fodlon ystyried cymeradwyo rhaglenni dim ond er mwyn cael gafael ar y cyllid. Mae’n rhaid i'r rhaglenni fod yn rhai yr ydym yn cytuno y byddant yn gwneud y gwahaniaeth y mae arnom angen iddynt ei wneud yng Nghymru.
I do understand that, at its last meeting, the programme monitoring committee discussed the best way of organising its time, and the best way of working. It is for them entirely to do that. I understand there was a possibility of fewer but longer meetings. As I understand it, that was one of a number of suggestions, and not necessarily the one that gathered the largest amount of support. Rwy’n deall bod y pwyllgor monitro rhaglenni yn ei gyfarfod diwethaf, wedi trafod y ffordd orau o drefnu ei amser, a'r ffordd orau o weithio. Eu penderfyniad nhw yn llwyr yw gwneud hynny. Rwy’n deall bod yna bosibilrwydd o gynnal llai o gyfarfodydd ond y byddent yn hirach. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, un o sawl awgrym oedd hwnnw, ac nid oedd yn un o reidrwydd a ddenodd fwy o gefnogaeth nag eraill.
15:35 - Nick Ramsay
Can I thank the Cabinet Secretary for his statement today? Cabinet Secretary, you cite improvements in employment rates since 2000 in your statement as a major success of structural funds. I would agree that they have played their part, along with other elements. I would suggest UK Government economic policy, over the last few years, has also played a part, along with those structural funds. Do you recognise, though, that, as Adam Price said in his remarks earlier, whilst the unemployment rates of west Wales and the Valleys have, thankfully, improved, that region still has an unacceptably low level of gross value added, relative to the rest of the UK? It’s a situation that has not been improved as much as it should have been after consecutive rounds of structural funding, and it’s certainly not fulfilling the prophecy of one Rhodri Morgan, former First Minister, who predicted that one round of structural funds would be enough, and that we would have a more sustainable economy across Wales in the future. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw? Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn dweud yn eich datganiad bod gwelliannau i gyfraddau cyflogaeth ers 2000 yn un o lwyddiannau mawr y cronfeydd strwythurol. Byddwn i’n cytuno eu bod wedi chwarae eu rhan, ynghyd ag elfennau eraill. Byddwn i’n awgrymu bod polisi economaidd Llywodraeth y DU, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi chwarae rhan hefyd, ynghyd â'r cronfeydd strwythurol hynny. Fodd bynnag, a ydych yn cydnabod, fel y dywedodd Adam Price yn ei sylwadau yn gynharach, er bod cyfraddau diweithdra y gorllewin a'r Cymoedd wedi gwella, diolch byth, bod gan y rhanbarth hwnnw lefel annerbyniol o isel o hyd o werth ychwanegol crynswth, o'i chymharu â gweddill y DU? Mae'n sefyllfa nad yw wedi gwella cymaint ag y dylai yn dilyn cylchoedd olynol o gyllid strwythurol, ac yn sicr, nid yw’n cyflawni proffwydoliaeth Rhodri Morgan, y cyn-Brif Weinidog, a ragfynegodd y byddai un cylch o’r gronfa strwythurol yn ddigon, ac y byddai gennym economi fwy cynaliadwy ledled Cymru yn y dyfodol.
Can I ask you how are you intending to use the remaining EU funds to develop a more sustainable local economy that can better support itself in west Wales and the Valleys, and, indeed, across the rest of the supported areas? Along with you, I welcome the UK Government’s firm commitment to guarantee expenditure for all European structural and investment funds approved prior to the UK leaving the EU. What discussions have you had with the UK Government about the nature of that guarantee, most importantly the length of it? Now, I appreciate, of course, that this ball, in many ways, is not in your court—it is with the UK Government. But I think we all agree it would be very helpful if we could have some indication, at the earliest opportunity, of the type of support that will, ultimately, be replacing EU funds when we leave, in terms of a UK solution. A gaf i ofyn sut yr ydych yn bwriadu defnyddio cronfeydd yr UE sy'n weddill i ddatblygu economi leol fwy cynaliadwy a all gefnogi ei hun yn well yn y Gorllewin a'r Cymoedd, ac, yn wir, yng ngweddill yr ardaloedd a gefnogir? Rwyf innau, fel yr ydych chi, yn croesawu ymrwymiad cadarn Llywodraeth y DU i warantu cyllid ar gyfer yr holl gronfeydd buddsoddi a strwythurol Ewropeaidd a gymeradwywyd cyn i'r DU adael yr UE. Pa drafodaethau yr ydych wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynglŷn â natur y warant honno, ac yn bwysicaf oll, ynglŷn â’i hyd? Nawr, rwyf yn gwerthfawrogi, wrth gwrs, nad ydych chi, mewn sawl ffordd, yn rheoli hyn—mater i Lywodraeth y DU ydyw. Ond rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno y byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallem gael ryw syniad, cyn gynted â phosibl, o'r math o gymorth a fydd, yn y pen draw, yn disodli cronfeydd yr UE pan fyddwn yn gadael, o ran ateb y DU.
I welcome the fact that the UK Treasury have confirmed that the Welsh Government will continue to determine how EU funds are spent in Wales. It would have been very odd if this had not been the case. Only recently, we had a debate on the programme for government here, and we spoke about the importance of delivery, so delivery, and maximising what we’ve got left of European funds, up until 2020, becomes very important. Croesawaf y ffaith bod Trysorlys y DU wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bennu sut y caiff cyllid yr UE ei wario yng Nghymru. Byddai’n rhyfedd iawn pe na byddai hynny’n wir. Cawsom ddadl yn ddiweddar ar y rhaglen lywodraethu yma, a buom yn siarad am bwysigrwydd cyflawni, felly mae cyflawni, a manteisio i'r eithaf ar yr hyn sy’n weddill o’r cronfeydd Ewropeaidd, hyd at 2020, yn dod yn bwysig iawn.
You mentioned monitoring. Can I congratulate Julie Morgan on her appointment to her new position on the Wales monitoring committee? I hope you have a little bit more luck that Jenny Rathbone did during her time in a similar position. It is not an easy job, Julie, but we do certainly recognise that it’s a job that has to be done. Gwnaethoch chi sôn am fonitro. A gaf i longyfarch Julie Morgan ar ei phenodiad i’w swydd newydd ar bwyllgor monitro Cymru? Rwy'n gobeithio y cewch chi fwy o lwc nag y cafodd Jenny Rathbone yn ystod ei chyfnod hi mewn swydd debyg. Nid yw'n waith hawdd, Julie, ond yr ydym yn sicr yn cydnabod ei bod yn swydd y mae’n rhaid ei gwneud.
Can I echo Adam Price’s earlier comments that it would be good if this Assembly as a whole could have a little bit more of a hold on the scrutinising of the spend of structural funds? I heard the comments that were made about the reductions in meetings. Whether you have shorter meetings, longer meetings or more frequent meetings, I do think it would be helpful if this Assembly itself had more of a scrutinising role over what is going on in those meetings, because it is clearly a very important job that is being done, and will increase in importance as we move towards the end of this 2020 period. So, if you could tell us how you plan, or how you think we could improve scrutiny, and whether you’d be willing for us to do that here, that would be very helpful, although I do appreciate it is a Welsh Government committee, of course, and not an Assembly committee. A gaf i adleisio sylwadau cynharach Adam Price gan ddweud y byddai'n dda pe gallai’r Cynulliad hwn yn ei gyfanrwydd gael gwell gafael ar graffu ar wariant y cronfeydd strwythurol? Clywais y sylwadau a wnaed ynghylch lleihau nifer y cyfarfodydd. Pa un a yw’r cyfarfodydd yn fyrrach, yn hirach neu’n amlach, rwy’n credu y byddai’n ddefnyddiol pe bai’r Cynulliad hwn ei hun yn craffu’n fwy ar yr hyn sy'n digwydd yn y cyfarfodydd hynny, oherwydd yn amlwg, mae swydd bwysig iawn yn cael ei gwneud, a bydd ei phwysigrwydd yn cynyddu wrth i ni nesáu at ddiwedd y cyfnod 2020 hwn. Felly, byddai’n ddefnyddiol iawn pe gallech ddweud wrthym sut yr ydych yn bwriadu, neu sut yr ydych yn credu y gallem wella prosesau craffu, a pha un a fyddech yn fodlon i ni wneud hynny yma, er fy mod yn gwerthfawrogi ei fod yn un o bwyllgorau Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, ac nid yn un o bwyllgorau’r Cynulliad.
Two very quick, final questions. Horizon 2020, Cabinet Secretary, is not the subject directly of today’s statement, but is nonetheless a very important aspect. When I was on the Finance Committee in the fourth Assembly, we looked at the spending that was involved in the Horizon 2020 programme. It would be good if we could have some clarity on how you see that going over the next couple of years. Dau gwestiwn cyflym iawn i gloi. Nid yw Horizon 2020, Ysgrifennydd y Cabinet, yn cael ei drafod yn uniongyrchol yn y datganiad heddiw, ond serch hynny mae’n agwedd bwysig iawn. Pan oeddwn ar y Pwyllgor Cyllid yn y pedwerydd Cynulliad, gwnaethom edrych ar y gwariant a oedd ynghlwm wrth raglen Horizon 2020. Byddai'n dda pe gallem gael rhywfaint o eglurder o ran sut yr ydych yn rhagweld y bydd hynny’n parhau yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
And, finally, when the Finance Committee looked at the funding opportunities, we thought there was a role for the championing of the Welsh creative sector, which I don’t think has been mentioned today. Could you tell us how you plan to use the remainder of this period of structural funds to better support the Welsh creative sector, which has a very important role to play in boosting and delivering for the Welsh economy? Ac, yn olaf, pan edrychodd y Pwyllgor Cyllid ar y cyfleoedd cyllido, roeddem yn credu bod lle i hyrwyddo’r sector creadigol yng Nghymru, ac nid wyf yn credu bod hyn wedi ei grybwyll heddiw. A wnewch chi ddweud wrthym sut yr ydych yn bwriadu defnyddio gweddill y cyfnod hwn o gronfeydd strwythurol i gefnogi’r sector creadigol yn well yng Nghymru, gan ei fod yn sector sy’n chwarae rhan bwysig iawn wrth hybu a darparu ar gyfer economi Cymru?
15:40 - Mark Drakeford
Thank you, Dirprwy Lywydd. I’ll move straight into the questions that the Member raised. Our plans for using the remaining European funds that we have at our disposal during the 2014-20 programme will be by delivering the programme that was agreed at a UK level with the European Union. It involved learning the lessons from the 2007-13 round. It involved making sure that we have a proper mix of private, public and third sector partners and schemes on the table. It involved making sure that we focus on those people who are furthest away from the labour market, because that’s where the earlier programme showed that interventions derived the greatest value. I’m happy to say again that I welcomed the UK Government’s announcement that it would guarantee these structural funds for the whole of the 2014-20 period. That’s an important measure for boosting confidence amongst our partners. I discussed it with the Chief Secretary to the Treasury during my meeting with him on 28 September. We touched then in a very introductory way on how these sorts of funds will be deployed post membership of the European Union. Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Symudaf yn syth at y cwestiynau a godwyd gan yr Aelod. Ein cynlluniau ar gyfer defnyddio gweddill y cronfeydd Ewropeaidd sydd ar gael i ni yn ystod y rhaglen 2014-20 yw cyflawni'r rhaglen a gytunwyd ar lefel y DU â'r Undeb Ewropeaidd. Roedd hyn yn cynnwys dysgu’r gwersi o gylch 2007-13. Roedd yn cynnwys sicrhau bod gennym gymysgedd briodol o bartneriaid y sector preifat, sector cyhoeddus a'r trydydd sector a chynlluniau ar y bwrdd. Roedd yn cynnwys sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y bobl hynny sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur, oherwydd dyna lle y dangosodd y rhaglen gynharach fod ymyraethau yn arwain at greu’r gwerth mwyaf. Rwy'n hapus i ddweud unwaith eto i mi groesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU y byddai'n gwarantu’r cronfeydd strwythurol hyn ar gyfer y cyfnod 2014-20 cyfan. Dyna fesur pwysig i roi hwb i hyder ymhlith ein partneriaid. Trafodais y mater â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ystod fy nghyfarfod ag ef ar 28 Medi. Gwnaethom grybwyll bryd hynny mewn ffordd ragarweiniol iawn sut y bydd y mathau hyn o arian yn cael eu defnyddio ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Can I say from my perspective that it will be very important to make sure that, in our discussions with the UK Government, we set a number of important ground rules? First of all, competencies that are located with the National Assembly but have been exercised through the European Union, when we are no longer a member of the European Union, revert to this Assembly. They do not go to London and then get handed on. They are already devolved here and when we no longer exercise them through the European Union they return here for us to exercise them. It may well be sensible in some instances to re-pool some of those responsibilities so that we exercise them jointly within the United Kingdom. But that’s a decision for us to make rather than one to be presumed on our behalf. The European Union funding that we have in Wales is the only funding that we get that is based on the needs that we have in Wales and those needs are recognised through a rule book, which we sometimes regard as a bit sclerotic and difficult to navigate, but nevertheless there is a rule book and we are able to argue about or have an ability to draw down funding according to the rules. And we will need a rules-based system for the way that we discharge these responsibilities when they revert from the European Union in future. So, the Member is absolutely right to point to the need to have these sorts of discussions and to work those things out, because they will be very important in future. A gaf i ddweud o fy safbwynt i y bydd yn bwysig iawn sicrhau ein bod, yn ein trafodaethau â Llywodraeth y DU, yn sefydlu nifer o reolau sylfaenol pwysig? Yn gyntaf, bod cymwyseddau sydd wedi eu lleoli gyda’r Cynulliad Cenedlaethol, ond sydd wedi eu harfer drwy'r Undeb Ewropeaidd, yn dychwelyd i'r Cynulliad hwn pan nad ydym bellach yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Nid ydynt yn mynd i Lundain ac wedyn yn cael eu trosglwyddo. Maen nhw eisoes wedi eu datganoli yma a phan na fyddwn yn eu harfer mwyach drwy'r Undeb Ewropeaidd byddan nhw’n dychwelyd yma i ni eu harfer. Efallai bydd yn synhwyrol mewn rhai achosion i ail-gronni rhai o'r cyfrifoldebau hynny er mwyn i ni eu harfer ar y cyd yn y Deyrnas Unedig. Ond mae hynny'n benderfyniad i ni ei wneud yn hytrach na’i fod yn cael ei ragdybio ar ein rhan. Cyllid yr Undeb Ewropeaidd yw'r unig gyllid sydd gennym yng Nghymru a gawn ar sail yr anghenion sydd gennym yng Nghymru, a chaiff yr anghenion hynny eu cydnabod drwy lyfr rheolau, a hwnnw’n llyfr yr ydym weithiau yn ystyried ei fod braidd yn anhyblyg ac yn anodd ei ddefnyddio, ond serch hynny, mae yna lyfr rheolau a gallwn ddadlau neu gael gafael ar gyllid yn unol â’r rheolau hynny. A bydd angen system reolau arnom o ran sut yr ydym yn cyflawni'r cyfrifoldebau hyn pan fyddant yn dychwelyd o’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Felly, mae’r Aelod yn llygad ei le i dynnu sylw at yr angen i gael y mathau hyn o drafodaethau ac i drefnu’r materion hynny, oherwydd byddant yn bwysig iawn yn y dyfodol.
On PMC meetings, let me just say again: it’s not a matter for the Welsh Government at all as to how the PMC discharges its responsibilities. It’s a monitoring programme that is not set up at the behest of the Welsh Government. It is a requirement of structural funding as part of our agreement with the European Union. It operates, again, within that rule book. I’m very glad to be able to be making a statement today so that Members can ask questions and scrutinise the way in which these responsibilities are being discharged. O ran cyfarfodydd y Pwyllgor Monitro Rhaglenni, gadewch i mi ddweud unwaith eto: nid yw'n fater i Lywodraeth Cymru o gwbl o ran sut y mae'r Pwyllgor yn cyflawni ei gyfrifoldebau. Nid yw’r rhaglen fonitro wedi'i sefydlu ar gais Llywodraeth Cymru. Mae'n ofyniad y cyllid strwythurol yn rhan o'n cytundeb â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n gweithredu, unwaith eto, yn unol â’r llyfr rheolau hwnnw. Rwy'n falch iawn o allu gwneud datganiad heddiw er mwyn i Aelodau allu gofyn cwestiynau a chraffu ar sut y caiff y cyfrifoldebau hyn eu cyflawni.
The final points that Nick Ramsay asked were about Horizon 2020. It is covered by the same guarantee that the Chancellor announced a week or so ago. Wales does very well out of Horizon 2020. By June of this year, there had been 93 Welsh participations in Horizon 2020, drawing down £36 million worth of funding for research purposes in Wales. So, that guarantee is very welcome. The creative sector plays its part in a range of different European programmes and I’m sure that Members will have heard what was said about its importance in the remaining time that we have to make use of those funds. Mae'r pwyntiau terfynol y gofynnodd Nick Ramsay yn eu cylch yn ymwneud â Horizon 2020. Maen nhw’n cael eu cynnwys o dan yr un gwarantu a gyhoeddwyd gan y Canghellor wythnos neu ddwy yn ôl. Mae Cymru yn elwa’n dda iawn ar Horizon 2020. Erbyn mis Mehefin eleni, bu 93 o geisiadau o Gymru i Horizon 2020, a sicrhaodd gwerth £36 miliwn o gyllid ar gyfer ymchwil yng Nghymru. Felly, mae croeso mawr i’r warant honno. Mae'r sector creadigol yn chwarae ei ran mewn ystod o wahanol raglenni Ewropeaidd ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau wedi clywed yr hyn a ddywedwyd am ei bwysigrwydd yn y cyfnod sy'n weddill gennym i wneud defnydd o'r cronfeydd hynny.
15:44 - Neil Hamilton
Like everybody else, I welcome the statement as far as it goes, which isn’t very far. I think there’s widespread agreement across the floor here and that the important questions have already been asked. I endorse what Adam Price said and what Nick Ramsay said. The statement is very self-congratulatory, of course, and expresses the extent to which these funds have helped shape the development of Wales’s economic fortunes, in the words of the statement. But, as I pointed out in questions to the First Minister today, these increases in employment have gone hand in hand with a relative falling away of wages compared with other parts of the United Kingdom. I was very interested to hear what Adam Price said about GVA compared with other parts of Europe that are in a similar condition to west Wales and the Valleys. It seems to me that this programme has not actually performed as well as it might have done. Fel pawb arall, croesawaf y datganiad cyn belled ag y mae'n mynd, ac nid yw hynny’n bell iawn. Credaf fod cytundeb eang ymhlith y bobl yma a bod y cwestiynau pwysig eisoes wedi eu gofyn. Rwy’n cefnogi’r hyn a ddywedodd Adam Price a Nick Ramsay. Mae'r datganiad yn hunan-longyfarchol iawn, wrth gwrs, ac yn mynegi i ba raddau y mae’r cronfeydd hyn wedi helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu llewyrch economaidd Cymru, yng ngeiriau'r datganiad. Ond, fel y nodais yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, mae’r cynnydd hwn mewn cyflogaeth wedi mynd law yn llaw â gostyngiad cymharol i gyflogau o gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Roedd gen i ddiddordeb mawr i glywed yr hyn a ddywedodd Adam Price am werth ychwanegol gros o’i gymharu â rhannau eraill o Ewrop sydd mewn cyflwr tebyg i’r gorllewin a'r Cymoedd. Ymddengys i mi nad yw'r rhaglen hon mewn gwirionedd wedi perfformio cystal ag y gallai fod wedi’i wneud.
I welcome, of course, the fact that the United Kingdom Government has guaranteed the spending decisions that have been made and will be made by the Welsh Government in this funding period, and I certainly endorse what Mr Cabinet Secretary has just said about the reversion of competence to this Chamber and to the Welsh Government, following our leaving the EU, of various matters that currently are out of our hands. Obviously, for the time being, the spending decisions that have been made remain subject to EU rules, but we have to remember that it’s all British taxpayers’ money, fundamentally, even though it comes via the prism of the EU. Once we leave the EU, the opportunity will be ours and ours alone to decide on our priorities and to make our own rules as to how this money will be spent, subject, of course, to what the UK Government provides for us through the Barnett formula, which is something else that we need to revisit, I think, considering the relativities of income that I set out earlier on today, and which were mentioned by Adam Price. Rwyf yn croesawu, wrth gwrs, y ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwarantu’r penderfyniadau gwariant sydd wedi eu gwneud ac a fydd yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod ariannu hwn, ac yn sicr rwy’n cefnogi'r hyn y mae Mr Ysgrifennydd y Cabinet newydd ei ddweud am ddychwelyd cymhwysedd i'r Siambr hon ac i Lywodraeth Cymru, ar ôl i ni adael yr UE, o ran materion amrywiol na allwn eu rheoli ar hyn o bryd. Yn amlwg, am y tro, mae'r penderfyniadau gwariant sydd wedi eu gwneud yn parhau i fod yn ddarostyngedig i reolau'r UE, ond mae'n rhaid i ni gofio mai arian trethdalwyr Prydain yw’r cyfan, yn y bôn, er ei fod yn dod trwy brism yr UE. Pan fyddwn yn gadael yr UE, gennym ni a ni yn unig fydd y cyfle i benderfynu ar ein blaenoriaethau ac i wneud ein rheolau ein hunain ynghylch sut i wario’r arian hwn, yn amodol, wrth gwrs, ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i ni drwy fformiwla Barnett, rhywbeth arall y credaf y bydd yn rhaid i ni ei drafod eto, o ystyried perthynoledd yr incwm a nodais yn gynharach heddiw, ac a nodwyd gan Adam Price.
So, I don’t really have a great deal to add to what has been said already. As regards the programme monitoring committee, of course, I’m delighted to welcome Julie Morgan as the chair of it. As we see the stratospheric rise of another ex-First Lady across the Atlantic, who knows where her political career may go from here? Wales may have, in due course, a female First Minister and the sooner the better, I would say, in that respect. Felly, nid oes gennyf lawer iawn i’w ychwanegu at yr hyn a ddywedwyd eisoes. O ran y pwyllgor monitro rhaglenni, wrth gwrs, rwyf wrth fy modd yn croesawu Julie Morgan i’w gadeirio. Wrth i ni weld dyrchafiad anhygoel cyn-Brif Foneddiges arall yr ochr draw i’r Iwerydd, pwy a ŵyr lle y gallai ei gyrfa wleidyddol ei harwain o fan hyn? Gallai Cymru, maes o law, gael menyw yn Brif Weinidog a gorau po gyntaf, ddywedwn i, yn hynny o beth.
I think the statement was rather ungenerous in not paying tribute to Jenny Rathbone for her conscientious commitment to the role when she was the chairman of this committee, and I wonder whether that has anything to do with her statement that her sacking was the result of a culture at the top of the Welsh Government that doesn’t allow for rigorous debate or reflection on the best use of public funds. Credaf fod y datganiad braidd yn angharedig trwy beidio â thalu teyrnged i Jenny Rathbone am ei hymrwymiad cydwybodol i'r swydd pan oedd hithau’n gadeirydd ar y pwyllgor hwn, a thybed a yw hynny oherwydd ei datganiad ei bod wedi ei diswyddo o ganlyniad i ddiwylliant ar frig Llywodraeth Cymru nad yw'n caniatáu am ddadl neu fyfyrio trwyadl ar y defnydd gorau o arian cyhoeddus.
15:47 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Can we stick to the statement? Sorry. Can we stick to the statement, please? Can you question the Minister on the statement? A gawn ni gadw at y datganiad? Mae'n ddrwg gennyf. A gawn ni gadw at y datganiad, os gwelwch yn dda? A wnewch chi holi'r Gweinidog ynglŷn â’r datganiad?
15:47 - Neil Hamilton
Yes, well, this is the question. I’m asking— Ie, wel, hwn yw’r cwestiwn. Rwy'n gofyn—
15:47 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
No, I think we’ve had a bit of rhetoric from previous, so if we can come to questions on the statement, please, I would be grateful. Na, rwy’n credu ein bod wedi cael ychydig o rethreg yn flaenorol, felly os gallwn ddod i'r cwestiynau ar y datganiad, os gwelwch yn dda, byddwn i’n ddiolchgar.
15:48 - Neil Hamilton
So, I would like to underline the importance of what Adam Price said about including more Members from opposition parties in such functions. As I said earlier on in First Minister’s questions about the external advisory group in relation to the EU, it’s unfortunate that there isn’t a broader collection of people who are involved in giving that advice, and similarly in relation to this committee. ‘Keep your enemies close’, is what I would say, because then you will get more out of them. Felly, hoffwn i danlinellu pwysigrwydd yr hyn a ddywedodd Adam Price am gynnwys mwy o Aelodau o wrthbleidiau mewn swyddogaethau o'r fath. Fel y dywedais yn gynharach yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ynglŷn â’r grŵp ymgynghorol allanol mewn cysylltiad â’r UE, mae'n anffodus nad oes casgliad ehangach o bobl sy'n ymwneud â rhoi’r cyngor hwnnw, ac yn yr un modd o ran y pwyllgor hwn. ‘Cadwch eich gelynion yn agos’, dyna ddywedwn i, oherwydd cewch chi fwy ganddyn nhw drwy wneud hynny.
15:48 - Mark Drakeford
I think I heard two questions in the middle of that, Dirprwy Lywydd. Let me confirm for the Member: he asked whether spending decisions that are made while we remain within the European Union are to be made in a way that is consistent with the legal obligations that membership provides; the answer to that is ‘yes’. He then asked whether future regional policy outside the European Union would give us a greater freedom of decision making to design that policy here in Wales; the answer to that is ‘yes’, as well. Rwy'n credu y clywais i ddau gwestiwn yng nghanol hynny, Ddirprwy Lywydd. Gadewch i mi gadarnhau i’r Aelod: gofynnodd pa un a fyddai penderfyniadau gwariant a wneir tra byddwn yn parhau yn yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu gwneud mewn ffordd sy'n gyson â'r ymrwymiadau cyfreithiol sydd ynghlwm wrth yr aelodaeth; yr ateb i hynny yw ‘byddant’. Gofynnodd wedyn pa un a fyddai polisi rhanbarthol yn y dyfodol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn rhoi mwy o ryddid i ni wneud penderfyniadau i ddylunio’r polisi hwnnw yma yng Nghymru; yr ateb i hynny hefyd yw ‘byddai’.
15:49 - Huw Irranca-Davies
Can I welcome the statement and welcome the appointment of my colleague Julie Morgan to this important position? Could I simply note that, whilst we might disagree at the rate of progress, we cannot ignore the fact that in this generation, the communities that Adam and I represent were thrown into the seven pits of hell, down to the deepest in terms of economic and social ills, and we had to pull ourselves up from that, but the direction of travel is the right direction of travel? I’m pleased to see the commitment of funds, with up to 43 per cent of structural funds now allocated, and the further progress that will be made very shortly. I’ve seen my own constituency benefiting in terms of Jobs Growth Wales, apprenticeship schemes with the local Bridgend College and local employers, and direct investment in safeguarding and growing employment within my community. But, I note that the Cabinet Secretary says, in the middle of his statement, A gaf i groesawu'r datganiad a chroesawu penodiad fy nghydaelod Julie Morgan i'r swydd bwysig hon? A gaf i nodi yn syml, er efallai y byddwn yn anghytuno ar gyfradd y cynnydd, ni allwn anwybyddu'r ffaith bod y cymunedau y mae Adam a minnau yn eu cynrychioli, wedi bod trwy bob lefel o uffern yn ystod y genhedlaeth hon, ac wedi cyrraedd y gwaelod o ran gofid cymdeithasol ac economaidd, a’n bod ni wedi gorfod tynnu ein hunain allan o’r sefyllfa honno, ond ein bod yn teithio i’r cyfeiriad cywir? Rwy'n falch o weld yr ymrwymiad cyllid, gyda hyd at 43 y cant o'r cronfeydd strwythurol wedi’i ddyrannu erbyn hyn, a’r cynnydd pellach a fydd yn cael ei wneud yn fuan iawn. Rwyf wedi gweld fy etholaeth fy hun yn elwa ar Twf Swyddi Cymru, cynlluniau prentisiaeth gyda’r coleg lleol, Choleg Penybont lleol a chyflogwyr lleol, a buddsoddiad uniongyrchol mewn diogelu a chynyddu cyflogaeth yn fy nghymuned. Ond, nodaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud, yng nghanol ei ddatganiad,
‘It remains the case, however, that our ability fully to deliver the 2014-2020 programmes as originally planned and in line with our agreements with the European Commission, is still hugely dependent on the UK Government’s timescale for leaving the EU.’ ‘Mae’n parhau i fod yn wir, fodd bynnag, bod ein gallu i gyflawni rhaglenni 2014-20 yn llawn fel y bwriadwyd yn wreiddiol, ac yn unol â'n cytundebau â'r Comisiwn Ewropeaidd, yn dal i fod yn ddibynnol iawn ar amserlen Llywodraeth y DU ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.’
And as we know, Deputy Presiding Officer, that is clouded, still, in confusion. So, could I say to the Cabinet Secretary: isn’t this absolutely the imperative, that the UK Government now needs to listen to employers, colleges, Welsh Government and the people of Wales in shaping both the speed and the shape of the exit from the European Union? That is an imperative, otherwise we, the people who are most dependent on this as a contribution to our economic and social regeneration, will be the ones worst affected by decisions at the other end of the M4. Ac fel y gwyddom, Ddirprwy Lywydd, mae hynny yn dal i fod yn ddryswch. Felly, a gaf i ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet: onid yw hyn yn gwbl hanfodol, bod angen i Lywodraeth y DU wrando yn awr ar gyflogwyr, colegau, Llywodraeth Cymru a phobl Cymru i lunio cyflymder a ffurf yr ymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd? Mae hynny'n hanfodol, neu fel arall ni, y bobl sy'n fwyaf dibynnol ar hyn i gyfrannu at ein hadfywiad economaidd a chymdeithasol, fydd y rhai a fydd yn teimlo’r effaith waethaf yn sgil y penderfyniadau a wneir ar ben arall yr M4.
15:51 - Mark Drakeford
Dirprwy Lywydd, can I say how much I agree with both points that the Member made? I emphasise in my statement the timescale for leaving and the importance of that in relation to the current round of structural funds, but the Member emphasises not simply the speed but the shape of that exit—the nature of it. And while we remain in close dialogue with the United Kingdom Government to make sure that Wales’s interests are fully understood and articulated to them, it also remains the case that there is no secret plan in the drawer that is slowly being revealed to us. We continue to deal with a Westminster and Whitehall end where the infighting, the lack of clarity, the impossibility, it seems, of trying to arrive at a single perspective, which would govern the speed, scale and nature of exit, remains hugely problematic. Ddirprwy Lywydd, a gaf i ddweud cymaint yr wyf yn cytuno â'r ddau bwynt y mae’r Aelod wedi’u gwneud? Rwy’n pwysleisio yn fy natganiad yr amserlen ar gyfer gadael a phwysigrwydd hynny o ran y cylch cyfredol o gronfeydd strwythurol, ond mae'r Aelod yn pwysleisio nid yn unig y cyflymder ond ffurf yr ymadael—ei natur. Ac er ein bod yn parhau â thrafodaethau agos â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cyfleu iddynt a bod dealltwriaeth lawn ohonynt, mae hefyd yn parhau i fod yn wir nad oes unrhyw gynllun cyfrinachol ganddynt sy'n cael ei ddatgelu i ni yn raddol. Rydym yn parhau i drafod â San Steffan a Whitehall lle mae'r ymladd mewnol, y diffyg eglurder, a’r amhosibilrwydd, yn ôl pob tebyg, o geisio cyrraedd safbwynt unigol, a fyddai'n rheoli cyflymder, maint a natur yr ymadawiad, yn parhau i fod yn broblem enfawr.
15:52 - Nathan Gill
Cabinet Secretary, will you finally recognise that there is no such thing as EU funding? It is, and always has been, UK taxpayers’ money. If the British taxpayer was to give the EU this £10 note, we would get back this £5 note. It is not, and never has been, EU money. Would you please recognise that? Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi, o’r diwedd, gydnabod nad oes y fath beth ag arian yr UE? Mae’r arian yn arian trethdalwyr y DU, a dyna beth a fu erioed. Pe bai trethdalwr Prydeinig yn rhoi papur £10 i’r UE, byddai’n cael papur £5 yn ôl. Nid arian yr UE mohoni, ac ni fu erioed yn arian yr UE. A wnewch chi gydnabod hynny os gwelwch yn dda?
Also, you said in your statement that the UK Government recognises how important EU funds are to Wales in addressing economic and social disparity. Actually, I think that we all recognise how much there needs to be an immediate review of the Barnett formula to establish a fairer and more robust funding model for Wales, to ensure it is not left behind from the impending Brexit dividend. So, let’s not just have Brexit for breakfast, let’s have it for lunch and dinner, too. So, will you agree with me that a review of the Barnett formula is needed to ensure a longer lasting funding solution to Wales’s needs? Hefyd, dywedasoch yn eich datganiad bod Llywodraeth y DU yn cydnabod pwysigrwydd arian yr UE i Gymru wrth fynd i'r afael ag anghyfartaledd economaidd a chymdeithasol. Mewn gwirionedd, rwy’n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod cymaint y mae angen adolygiad ar unwaith o fformiwla Barnett i sefydlu model cyllid tecach a mwy cadarn i Gymru, i sicrhau nad yw'n cael ei gadael ar ei hôl hi o ran y budd a dddaw yn sgil Brexit. Felly, beth am i ni beidio â chael Brexit i frecwast yn unig, gadewch i ni ei gael i ginio a swper, hefyd. Felly, a wnewch chi gytuno â mi bod angen adolygiad o fformiwla Barnett er mwyn sicrhau mwy parhaus i anghenion cyllid Cymru?
15:53 - Mark Drakeford
Let me begin by disagreeing with Nathan Gill. When I pay my subscription to Glamorgan County Cricket Club every year, I don’t then go around saying every time I go there, ‘By the way, that’s my money, not yours.’ It becomes Glamorgan County Cricket Club’s money, which they use on my entertainment. [Interruption.] Or not, as the case may be. [Laughter.] Gadewch i mi ddechrau drwy anghytuno â Nathan Gill. Pan fyddaf i’n talu fy nhanysgrifiad i Glwb Criced Morgannwg bob blwyddyn, nid wyf i wedyn yn troi a dweud bob tro yr af i ‘Gyda llaw, fy arian yw hynny, nid eich arian chi’. Mae'n dod yn arian Clwb Criced Morgannwg, ac maen nhw yn ei ddefnyddio er adloniant imi. [Torri ar draws.] Neu ddim, yn ôl y digwydd. [Chwerthin.]
As for his second point, as to whether or not leaving the European Union and the funding changes that brings about ought to lead to a wider review of the way in which funding flows to Wales, including the Barnett formula, well, there I do agree with him. O ran ei ail bwynt, pa un a fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd, a’r newidiadau cyllido a ddaw yn sgil hynny, yn arwain at adolygiad ehangach o sut y mae cyllid yn llifo i Gymru, gan gynnwys fformiwla Barnett, wel, yn hynny o beth, rwyf yn cytuno ag ef.
15:54 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you very much. I’ve no more speakers; thank you. Diolch yn fawr iawn. Does gen i ddim siaradwyr eraill; diolch.
5. Statement: ‘Together for Mental Health’ 5. Datganiad: ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’
We move on to item 5, which is a statement by the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport, entitled ‘Together for Mental Health’. I call on the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport, Vaughan Gething. Symudwn ymlaen at eitem 5, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon, o'r enw 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon, Vaughan Gething.
15:54 - Vaughan Gething
Thank you, Deputy Presiding Officer. In July, Members will recall that I presented the Welsh Government’s draft of the second delivery plan in support of our 10-year cross-government strategy, ‘Together for Mental Health’. I launched the finalised delivery plan yesterday to coincide with World Mental Health Day. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ym mis Gorffennaf, bydd yr Aelodau'n cofio i mi gyflwyno drafft Llywodraeth Cymru ar yr ail gynllun cyflawni i gefnogi ein strategaeth traws lywodraethol 10 mlynedd, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Lansiais y cynllun cyflawni terfynol ddoe i gyd-fynd â Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.
The 2016-19 delivery plan sets out 10 priority areas for service improvement, including examples of cross–working with areas such as housing and education, which demonstrates how we should be joined up in our delivery. It also demonstrates how we will continue to drive the implementation of the strategy. It sets out clear actions and performance measures to ensure delivery, and the detail has been informed by both the Plenary debate we held in July and the extensive consultation with service users and voluntary sector agencies, as well as a wide range of partners, agencies and stakeholders. Mae cynllun cyflawni 2016-19 yn nodi 10 maes blaenoriaeth ar gyfer gwella gwasanaeth, gan gynnwys enghreifftiau o draws-weithio gyda meysydd fel tai ac addysg, sy'n dangos sut y dylem fod yn gydgysylltiedig yn ein darpariaeth. Mae hefyd yn dangos sut y byddwn yn parhau i sbarduno rhoi’r strategaeth ar waith. Mae'n nodi camau gweithredu a mesurau perfformiad clir i sicrhau cyflawni, ac mae'r manylion wedi eu llywio gan ddadl y Cyfarfod Llawn a gynhaliwyd gennym ym mis Gorffennaf a’r ymgynghori helaeth â defnyddwyr gwasanaeth ac asiantaethau yn y sector gwirfoddol, yn ogystal ag amrywiaeth eang o bartneriaid, asiantaethau a rhanddeiliaid.
Since the launch of ‘Together for Mental Health’ in 2012, there has been significant progress across a range of key areas, including the implementation of the Mental Health (Wales) Measure 2010. However, more can and needs to be done so we can make a sustained difference to people whose lives are affected by mental health problems. Ers lansio 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn 2012, bu cynnydd sylweddol ar draws ystod o feysydd allweddol, gan gynnwys rhoi Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ar waith. Fodd bynnag, gellir gwneud mwy ac mae angen gwneud mwy, fel y gallwn wneud gwahaniaeth parhaus i bobl y mae eu bywydau yn cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl.
Our debate in July emphasised areas that are important to all of us: building resilience in individuals and communities to tackle poor mental health when it occurs; improved support for our young people, particularly those at risk of adverse childhood experiences; and ensuring that services are provided in a safe, timely and effective way, with dignity and respect for service users. Roedd ein dadl ym mis Gorffennaf yn pwysleisio meysydd sy'n bwysig i bob un ohonom: adeiladu cydnerthedd mewn unigolion a chymunedau i fynd i'r afael ag iechyd meddwl gwael pan ei fod yn digwydd; gwell cefnogaeth ar gyfer ein pobl ifanc, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod; a sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu mewn modd diogel, amserol ac effeithiol, gydag urddas a pharch ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.
This new plan will also contribute to the delivery of some key objectives laid down in the healthy and active section of the programme for government, including sustained work on tackling stigma and discrimination, introducing a new well-being bond in Wales, aimed at improving both physical and mental health, and the piloting of a social prescription scheme to improve the availability of sources of support within the community. Bydd y cynllun newydd hwn hefyd yn cyfrannu at gyflawni rhai amcanion allweddol a nodir yn adran iach ac egnïol y rhaglen lywodraethu, gan gynnwys gwaith parhaus ar fynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu, gan gyflwyno bond lles newydd yng Nghymru, gyda'r nod o wella iechyd corfforol a meddyliol, a threialu cynllun presgripsiwn cymdeithasol i wella’r gallu i gael gafael ar ffynonellau cefnogaeth yn y gymuned.
We’ve continued to spend more on mental health services than on any other part of NHS Wales and funding increased to over £600 million in this year. Over the last two financial years, we’ve announced over £22 million of new funding for a range of new provision across all ages. We expect that to further improve accessibility to services and outcomes for service users. Rydym wedi parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o GIG Cymru a chynyddodd cyllid i dros £600 miliwn yn y flwyddyn hon. Dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf, rydym wedi cyhoeddi dros £22 miliwn o arian newydd ar gyfer ystod o ddarpariaethau newydd ar draws pob oedran. Rydym yn disgwyl i hynny wella hygyrchedd gwasanaethau a chanlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth ymhellach.
Since the implementation of the groundbreaking legislation, the mental health Measure, there have been real improvements to the care and support that people receive. Central to the delivery of the Measure has been a co-productive approach, because we place the needs and the voice of service users at the heart of both service design and care and treatment planning. Ers rhoi’r ddeddfwriaeth arloesol, y Mesur iechyd meddwl, ar waith, bu gwelliannau gwirioneddol i'r gofal a'r cymorth y mae pobl yn eu derbyn. Yn ganolog i gyflwyno’r Mesur hwn yr oedd ymagwedd gydgynhyrchiol, gan ein bod yn gosod anghenion a llais defnyddwyr gwasanaeth wrth wraidd dylunio gwasanaethau a chynllunio gofal a thriniaeth.
Since April 2013, over 100,000 people have been assessed by local primary mental health support services established under the Measure. Over half of those have gone on to receive treatment in those services. Waiting times for assessment and treatment in primary care have continued to improve and that, of course, must be sustained. Ers mis Ebrill 2013, mae dros 100,000 o bobl wedi cael eu hasesu gan y gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol a sefydlwyd o dan y Mesur. Mae dros hanner y rheini wedi mynd ymlaen i gael triniaeth yn y gwasanaethau hynny. Mae amseroedd aros am asesiad a thriniaeth mewn gofal sylfaenol wedi parhau i wella ac mae’n rhaid cynnal hynny, wrth gwrs.
Significant steps have been taken to improve the provision of psychological therapies in Wales, with an additional investment of £3 million in adult and children’s services last year and another £1.15 million this year focusing on in-patient services. We expect further improvement in talking therapies through this delivery plan period, and again that commitment is reinforced in ‘Taking Wales Forward’. Mae camau sylweddol wedi'u cymryd i wella darpariaeth therapïau seicolegol yng Nghymru, gyda buddsoddiad ychwanegol o £3 miliwn yn y gwasanaethau i oedolion a phlant y llynedd a £1.15 miliwn arall eleni yn canolbwyntio ar wasanaethau cleifion mewnol. Rydym yn disgwyl gwelliant pellach mewn therapïau siarad drwy gyfnod y cynllun cyflawni hwn, ac unwaith eto caiff yr ymrwymiad hwnnw ei atgyfnerthu yn ‘Symud Cymru Ymlaen'.
In relation to the workplace, as a Government we support businesses and organisations to recognise that mental ill health is not necessarily a barrier to effective working. Providing employment and maintaining people in good jobs is a positive way of supporting individuals who are recovering from mental health problems. Improving the mental health and well-being of staff is a key element of the Welsh Government’s Healthy Working Wales awards. Our corporate health standard and small workplace health awards aim to improve the health and well-being of the working-age population and reduce the mental, physical and financial burdens associated with sickness absence. O ran y gweithle, fel Llywodraeth rydym yn cefnogi busnesau a sefydliadau i gydnabod nad yw salwch meddwl o reidrwydd yn rhwystr i weithio’n effeithiol. Mae darparu cyflogaeth a chynnal pobl mewn swyddi da yn ffordd gadarnhaol o gynorthwyo unigolion sy'n gwella ar ôl problemau iechyd meddwl. Mae gwella iechyd meddwl a lles staff yn elfen allweddol o wobrau Cymru Iach ar Waith Llywodraeth Cymru. Nod ein safon iechyd corfforaethol a’n gwobrau iechyd gweithleoedd bach yw gwella iechyd a lles y boblogaeth o oedran gweithio a lleihau'r beichiau meddyliol, corfforol ac ariannol sy'n gysylltiedig ag absenoldeb oherwydd salwch.
This delivery plan also identifies a priority area that aims to ensure children and young people with mental health problems get better sooner. We’re working and supporting the NHS ‘Together for Children and Young People’ programme, which is working with partners across agencies, not just health, to consider how best to meet the emotional and mental health needs of our young people. When young people need more specialist mental health services, we’re investing almost £8 million annually in specialist child and adolescent mental health services to help improve timely access. Mae'r cynllun cyflawni hwn hefyd yn nodi maes blaenoriaeth sydd â'r nod o sicrhau bod plant a phobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl yn gwella yn gynt. Rydym yn gweithio ac yn cefnogi rhaglen ‘Gyda’n Gilydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc' y GIG, sydd yn gweithio gyda phartneriaid ar draws asiantaethau, nid dim ond iechyd, er mwyn ystyried y ffordd orau o fodloni anghenion emosiynol ac iechyd meddwl ein pobl ifanc. Pan fydd pobl ifanc angen gwasanaethau iechyd meddwl mwy arbenigol, rydym yn buddsoddi bron i £8 miliwn y flwyddyn mewn gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed arbenigol i helpu i wella mynediad amserol.
The delivery plan also includes goals to help ensure groups at a higher risk of mental health issues receive the care that they need. We recognise that pregnancy and early parenthood are particularly challenging times, and we are offering additional support to families. So, we’ll ensure that parents have access to the information and support they need, alongside the £1.5 million we are investing in community perinatal mental health services across Wales. Mae'r cynllun cyflawni hefyd yn cynnwys nodau er mwyn helpu i sicrhau bod grwpiau sydd mewn mwy o risg o gael problemau iechyd meddwl yn derbyn y gofal sydd ei angen arnynt. Rydym yn cydnabod bod beichiogrwydd a chyfnod cynnar bod yn rhiant yn gyfnodau arbennig o heriol, ac rydym yn cynnig cymorth ychwanegol i deuluoedd. Felly, byddwn yn sicrhau bod rhieni yn gallu cael gafael ar y wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt, ochr yn ochr â'r £1.5 miliwn yr ydym yn ei fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol cymunedol ledled Cymru.
This Welsh Government remains committed to providing support to people in Wales with dementia and their families. Last year, we announced a number of areas of priority work and the steps we would take to support each of these. This includes work on dementia risk reduction, increasing public awareness, improving diagnosis rates and ensuring that support is available to those affected by the illness. Investment made over the last two years is already showing some progress in this important area. In the delivery plan, we recommit to developing a dementia strategic plan to ensure the necessary drive and focus needed on this agenda. Engagement with experts in the field, with carers, with people living with dementia themselves, is under way. I expect that work to be completed so we can formally consult on the dementia plan in December this year. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu cymorth i bobl yng Nghymru sydd â dementia ac i’w teuluoedd. Y llynedd, cyhoeddwyd nifer o feysydd gwaith blaenoriaeth a'r camau y byddem yn eu cymryd i gefnogi pob un o'r rhain. Mae hyn yn cynnwys gwaith ar leihau'r risg o ddementia, cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, gwella cyfraddau diagnosis a sicrhau bod cymorth ar gael i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan y salwch. Mae buddsoddiad a wnaed dros y ddwy flynedd ddiwethaf eisoes yn dangos rhywfaint o gynnydd yn y maes pwysig hwn. Yn y cynllun cyflawni, rydym yn ail ymrwymo i ddatblygu cynllun strategol dementia er mwyn sicrhau'r sbardun a'r pwyslais angenrheidiol sydd eu hangen ar yr agenda hon. Mae ymgysylltu gydag arbenigwyr yn y maes, gyda gofalwyr, gyda phobl sy'n byw gyda dementia eu hunain, wedi cychwyn. Rwy'n disgwyl i’r gwaith hwnnw gael ei gwblhau fel y gallwn ymgynghori'n ffurfiol ar y cynllun dementia ym mis Rhagfyr eleni.
The delivery plan sets out what the Welsh Government, the broader public sector, voluntary organisations and business can do to achieve our shared aims over the next three years. We’ve seen the third sector taking an ever more active role in the way mental health services are shaped and delivered in recent years, and help to ensure the ethos of co-production in service planning and delivery. Mae'r cynllun cyflawni yn nodi'r hyn y gall Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus ehangach, mudiadau gwirfoddol a busnes ei wneud i gyflawni ein nodau cyffredin dros y tair blynedd nesaf. Rydym wedi gweld y trydydd sector yn cymryd rhan hyd yn oed mwy gweithgar yn y ffordd y mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu llunio a'u darparu yn y blynyddoedd diwethaf, ac yn helpu i sicrhau’r ethos o gydgynhyrchu wrth gynllunio a chyflwyno gwasanaethau.
The past three years have shown that while ‘Together for Mental Health’ is a challenging agenda, real progress is achievable. I trust that Members from all parties will recognise the achievements to date. This new delivery plan is ambitious, but by working in partnership, I believe we can continue to make progress over the next phase of delivery. Mae’r tair blynedd diwethaf wedi dangos, er bod 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn agenda heriol, bod cynnydd gwirioneddol yn bosibl. Hyderaf y bydd Aelodau o bob plaid yn cydnabod yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn. Mae'r cynllun cyflawni newydd yn uchelgeisiol, ond drwy weithio mewn partneriaeth, rwy’n credu y gallwn ni barhau i wneud cynnydd yn ystod y cam nesaf o ddarparu.
16:01 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you very much. There are a number of speakers who want to speak. This is a 30-minute debate, so can I ask for some brief contributions and some brief answers as well? Rhun ap Iorwerth. Diolch yn fawr iawn. Mae nifer o siaradwyr sy’n dymuno siarad. Dadl hanner awr yw hon, felly a gaf i ofyn am gyfraniadau byr ac atebion byr hefyd? Rhun ap Iorwerth.
16:01 - Rhun ap Iorwerth
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch am y datganiad ac am y cynllun strategol a gafodd ei gyhoeddi ddoe? Rwy’n cydnabod, yn sicr, y camau ymlaen sydd wedi bod ers lansio cynllun 2012, ond mae’r Ysgrifennydd Cabinet ei hun wedi cydnabod gymaint sydd ar ôl i’w wneud, ac rwy’n edrych ymlaen at y ddadl brynhawn fory yn y Siambr hefyd, lle y cawn ni drafod rhai o’r gwendidau—gwendidau sylfaenol o hyd mewn rhai meysydd—sydd yna yn y ddarpariaeth. Thank you very much, Deputy Presiding Officer. May I thank you for the statement and for the strategic plan that was published yesterday? I do recognise, certainly, the steps forward that have taken place since the launch of the plan in 2012, but the Cabinet Secretary himself has acknowledged just how much remains to be done, and I do look forward to the debate tomorrow afternoon in the Chamber, where we will have an opportunity to discuss some of the weaknesses—some fundamental weaknesses, indeed—in some areas of provision.
Tri chwestiwn sydd gen i, yn gyntaf ynglŷn â gofalwyr. Nid ydy’r datganiad ddim yn crybwyll gofalwyr y rheini sydd â phroblemau iechyd meddwl ar wahân i ddweud y byddan nhw’n cael eu cynnwys yn y strategaeth ddementia. Mae edrych ar ôl aelod o’r teulu sydd â phroblem iechyd meddwl hefyd yn gallu effeithio ar iechyd meddwl y gofalwr. Felly, pa fath o strwythurau cefnogaeth sydd yn mynd i gael eu rhoi mewn lle, yn enwedig gan ystyried bod gofalu am rywun sydd â phroblemau iechyd meddwl yn cynnig set wahanol iawn o heriau i ofalu am rywun sydd â phroblem gorfforol? I have three questions, first of all on carers. The statement doesn’t mention carers of those who have mental health issues, apart from saying that they will be included in the dementia strategy. Looking after a member of the family who has a mental health problem can also affect the mental health of the carer. So, what kind of support structures are going to be put in place, particularly taking into account that caring for someone with mental health problems does pose a very different set of challenges to caring for someone with a physical problem?
Yn ail, nid ydy’r datganiad ddim yn sôn am y staff sydd eu hangen er mwyn delifro gwelliannau i’r gwasanaeth, sef yr angen am gynnydd yn nifer therapyddion a hefyd sicrhau bod yna ddigon o amser ar gael ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaol. Rydym ni’n gwybod, er enghraifft, fod yna lawer o therapyddion yn gweithio yn y sector breifat. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i dynnu’r rheini i mewn i’r NHS, hyd yn oed os dim ond yn rhan amser, er mwyn cynyddu capasiti? Secondly, the statement doesn’t mention the staff needed in order to deliver improvements in services, namely the need for an increase in the number of therapists and also ensuring that there is adequate time available for continuous professional development. We know, for example, that many therapists work in the private sector, so what plans does the Welsh Government have to actually draw those people into the NHS, even if that’s only on a part-time basis, in order to enhance capacity?
Ac yn drydydd, un o’r problemau gwirioneddol yn aml iawn o ran y rheini sydd angen gofal brys er mwyn atal hunananafu neu hunanladdiad ydy un ai eu bod nhw ddim yn hysbys i’r gwasanaeth neu eu bod nhw rhywsut wedi llithro drwy y rhwyd—bod yna ddim galwadau ‘follow-up’, os liciwch chi, wedi bod i ofyn pam na wnaethon nhw droi i fyny ar gyfer apwyntiadau ac ati. Mi wnaeth awdit o achosion rhai yn eu harddegau yn ddiweddar ddangos bod llawer o’r rheini a oedd wedi cymryd eu bywydau eu hunain ddim yn hysbys i CAMHS neu ddim wedi cael eu monitro, felly yr union broblem rwy’n sôn amdani. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn bod natur y problemau y mae rhai o’r unigolion yma yn eu hwynebu yn golygu nad oes ganddyn nhw’r cymhelliad yn aml—yr un ‘motivation’—i droi i fyny ar gyfer apwyntiad, yn enwedig, o bosib, apwyntiadau yn gynnar yn y bore os mai un o sgileffeithiau y cyflwr sydd arnyn nhw ydy methiant i godi yn y bore ac ati? A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet, yn y cyd-destun hwnnw, yn derbyn bod angen, yn aml iawn, bod yn llawer mwy rhagweithiol wrth helpu yr unigolion yma sydd angen ein cymorth ni? And thirdly, one of the very real problems, very often in terms of those who need emergency care to prevent self-harm or suicide is either that they are not known to the service or that they have somehow slipped through the net—that there haven’t been follow-up calls in order to ask why they didn’t they turn up for their appointments and so on. An audit of cases among teenagers recently showed that many of those who had committed suicide weren’t known to CAMHS or hadn’t been monitored, so it’s the exact problem I was mentioning earlier. Would the Cabinet Secretary except that the nature of the problems that some of these individuals face means that they don’t have the motivation to turn up for their appointments, particularly, possibly, appointments early in the morning if one of the side effects of the condition is a failure to actually motivate themselves to get up in the morning and so on? In that context, would the Cabinet Secretary accept that, very often, we need to be far more proactive in assisting these individuals who need our support?
16:04 - Vaughan Gething
Thank you for the three questions. I’ll be happy to respond. I’ll take first your question about carers. In fact, of course, we talk about carers throughout the range of our different strategies and not just in this one too. They’re specifically mentioned in part of priority area 4, but that isn’t the only one of the 10 priority areas where carers are relevant. I would reference back to the fact that carers now have a statutory right to have their care and support needs assessed and met under the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014. So, it isn’t just about seeing the strategy on its own and saying that carers aren’t mentioned enough, because we recognise that, throughout this, to treat the individual service user with dignity and respect, you also need to understand the context in which that care is being provided. The family and friends who are providing that informal or formalised care around them are part of that. So, their care and support needs are also part of what we need to take into account. So, I think that’s part of where we see this. It isn’t that carers have been forgotten—far from it. Diolch am y tri chwestiwn. Rwyf yn hapus i ymateb. Rwyf am ateb yn gyntaf eich cwestiwn am ofalwyr. Mewn gwirionedd, wrth gwrs, rydym yn sôn am ofalwyr ym mhob rhan o’n gwahanol strategaethau ac nid dim ond yn yr un yma ychwaith. Maen nhw’n cael eu crybwyll yn benodol yn rhan o faes blaenoriaeth 4, ond nid dyna'r unig un o'r 10 maes blaenoriaeth lle mae gofalwyr yn berthnasol. Byddwn yn cyfeirio yn ôl at y ffaith fod gan ofalwyr hawl statudol i gael asesu a diwallu eu hanghenion gofal a chymorth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Felly, nid yw’n ymwneud yn unig â gweld y strategaeth ar ei phen ei hun a dweud nad oes digon o sôn am ofalwyr, oherwydd ein bod yn cydnabod, ym mhob rhan o hyn, er mwyn trin y defnyddiwr gwasanaeth unigol gydag urddas a pharch, mae angen i chi hefyd ddeall y cyd-destun y mae’r gofal hwnnw yn cael ei ddarparu ynddo. Mae'r teulu a’r ffrindiau sy'n darparu’r gofal anffurfiol neu ffurfiol o'u hamgylch yn rhan o hynny. Felly, mae eu hanghenion gofal a chefnogaeth hefyd yn rhan o'r hyn y mae angen i ni eu hystyried. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhan o ble yr ydym yn gweld hyn. Nid yw'n fater bod gofalwyr wedi eu hanghofio—dim o gwbl.
I’ll deal with the point you make about suicide, because, of course, we launched the second phase of ‘Talk to me 2: Suicide and Self Harm Prevention Strategy for Wales 2015-2020’ in July 2015, and it’s taking a more targeted approach than the previous strategy. So, in particular, we’re looking to identify particular groups of vulnerable people. So, for someone who isn’t attending appointments, there are risk points there that are actually raised. The challenge is someone who really isn’t known to the services—it’s really difficult. That’s really difficult to prevent. The challenge here is understanding those people who really are potentially vulnerable, who should be a higher priority and how to help to support those. That is explicitly part of the ‘Talk to me 2’ strategy. I was very pleased, yesterday, to have an opportunity to discuss that with Samaritans Wales, when I spoke at the launch of their impact report in Wales. There’s a really positive flow of work and we’re actually seeing suicides reducing in Wales, which is not a trend we’re seeing in every other part of the UK. But there’s no complacency about where we are and it’s why we’ve got a specific strategy in this area to be more proactive in understanding who is at risk. Rwyf am ymdrin â'r pwynt a wnewch am hunanladdiad, oherwydd, wrth gwrs, lansiwyd ail gam 'Beth am Siarad â Fi 2: Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed yng Nghymru 2015-2020' ym mis Gorffennaf 2015, ac mae'n cymryd ymagwedd wedi'i thargedu’n fwy na'r strategaeth flaenorol. Felly, yn arbennig, rydym yn ceisio nodi grwpiau penodol o bobl agored i niwed. Felly, ar gyfer rhywun nad yw'n mynychu apwyntiadau, mae pwyntiau risg yn hynny o beth sy’n cael eu codi mewn gwirionedd. Yr her yw rhywun sydd ddim wir yn hysbys i'r gwasanaethau—mae'n wirioneddol anodd. Mae hynny wir yn anodd ei atal. Yr her yn y fan yma yw deall y bobl hynny sydd wir o bosibl yn agored i niwed, a ddylai fod yn flaenoriaeth uwch a sut i helpu i gefnogi'r rheini. Mae hynny'n benodol yn rhan o'r strategaeth 'Beth am Siarad â Fi 2'. Roeddwn yn falch iawn, ddoe, o gael cyfle i drafod hynny gyda Samariaid Cymru, pan siaradais yn lansiad eu hadroddiad effaith yng Nghymru. Ceir llif cadarnhaol iawn o waith ac rydym mewn gwirionedd yn gweld hunanladdiadau yn lleihau yng Nghymru, nad yw'n duedd yr ydym yn ei gweld ym mhob rhan arall o'r DU. Ond does dim hunanfodlonrwydd ynglŷn â ble yr ydym ni a dyna pam mae gennym strategaeth benodol yn y maes hwn i fod yn fwy rhagweithiol o ran deall pwy sydd mewn perygl.
Finally, on your point about staff, there’s a fair point here about recognising who we need for the workforce of the future to actually achieve the objectives that we have, and a vision that I think people around this Chamber would buy into. It’s then about how we deliver it. But while I have discussed and set out the range of cash that we spend and the additional investment that we’ve made, the greatest call on that resource is actually wages. It’s money—and it’s staff that that money is procuring. So, when you see the step forward made in the NHS Wales veteran service, that’s because we’ve actually got more staff to provide the service and that’s why waiting times are significantly better than other parts of the UK that have a similar service. When we talk about CAMHS, almost all of that is going into staff, and that’s where we’re finally seeing waiting times reduced, because we’ve got the staff resource in place who are actually addressing the challenges within the service. Yn olaf, ar eich pwynt ynglŷn â staff, mae pwynt teg yn y fan yma ynghylch cydnabod pwy yr ydym eu hangen ar gyfer gweithlu’r dyfodol i gyflawni'r amcanion sydd gennym mewn gwirionedd, a gweledigaeth yr wyf yn meddwl y byddai pobl o amgylch y Siambr hon yn credu ynddi. Mae'n ymwneud wedyn â sut yr ydym yn ei chyflawni. Ond er fy mod wedi trafod a nodi’r ystod o arian parod yr ydym yn ei wario a’r buddsoddiad ychwanegol yr ydym wedi ei wneud, y galw mwyaf ar yr adnodd hwnnw mewn gwirionedd yw cyflogau. Arian ydyw—a’r aelodau staff y mae’r arian hwnnw yn eu caffael. Felly, pan fyddwch yn gweld y cam ymlaen a wnaed yn y gwasanaeth cyn-filwyr GIG Cymru, mae hynny oherwydd bod gennym mewn gwirionedd fwy o staff i ddarparu'r gwasanaeth a dyna pam y mae amseroedd aros yn sylweddol well na rhannau eraill o'r DU sydd â gwasanaeth tebyg. Pan fyddwn yn sôn am CAMHS, mae bron y cyfan o hynny yn mynd ar gyfer staff, a dyna ble yr ydym yn gweld o'r diwedd amseroedd aros yn lleihau, oherwydd ein bod wedi cael yr adnodd o staff ar waith sydd mewn gwirionedd yn mynd i'r afael â'r heriau o fewn y gwasanaeth.
Daeth y Llywydd i’r Gadair. The Presiding Officer took the Chair.
Vaughan Gething
So, a lot is about having the right staff in place. We recognise that there are still gaps in terms of where we want to be. It’s one of the few challenged areas, for example, in public services, as we have them now, where money is tighter, but there’s still a call for more staff in the NHS in different specialities. Our challenge will always be how we match up what we need and what we want with the staff who are available and make sure that they’re working in the right model of care and seeing the right people at the right time. Felly, mae llawer yn ymwneud â chael y staff cywir wedi’u sefydlu. Rydym yn cydnabod bod bylchau yn dal i fod o ran ble yr ydym eisiau bod. Mae'n un o'r ychydig feysydd a gaiff ei herio, er enghraifft, mewn gwasanaethau cyhoeddus, fel y meant gennym erbyn hyn, lle mae arian yn dynnach, ond mae galw yn dal i fod am fwy o staff yn y GIG mewn gwahanol arbenigeddau. Ein her ni bob amser fydd sut yr ydym yn cyfateb yr hyn yr ydym ei angen a'r hyn yr ydym ei eisiau gyda’r staff sydd ar gael a gwneud yn siŵr eu bod yn gweithio yn y model cywir o ofal ac yn gweld y bobl iawn ar yr adeg iawn.
16:08 - Angela Burns
Minister, thank you for the statement today and for publishing the delivery plan yesterday on World Mental Health Day. I have a number of questions I just want to ask you about this. Going back to a question I asked the First Minister, in your statement, in the area where you have your three bullet points, you talk about emphasising the areas that are important to us and you particularly talk about building resilience in individuals and communities to tackle poor mental health and well-being when it occurs. You also go on to talk about the piloting of a social prescription scheme. I raised concerns this morning with the First Minister, so I’d like to ask you directly: can you tell us how much read-across there was between this mental health delivery plan and other Welsh Government Acts, particularly the Social Services and Well-being (Wales) Act? I think there are some tensions between this implementation plan and that Act, in terms of one consolidating and encouraging individuals to very much do things and be responsible for themselves, and yet the social prescription and the comment about individuals and communities talks very much about actually relying on your community and getting involved in your community. I cited one particular area, but it’s about where you get organisations or community groups that are being closed down under the social services Act, because people are being told to be empowered and to take charge themselves, and yet this mental health delivery plan is all about how we integrate people with mental health, how we build them into communities and how we sustain and support them. So, I would just like to understand the read-across between different Government objectives. Weinidog, diolch ichi am y datganiad heddiw ac am gyhoeddi'r cynllun cyflawni ddoe ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Mae gennyf nifer o gwestiynau yr wyf eisiau eu gofyn i chi am hyn. Gan fynd yn ôl at gwestiwn a ofynnais i'r Prif Weinidog, yn eich datganiad, yn y man lle mae gennych chi eich tri phwynt bwled, rydych yn sôn am bwysleisio'r meysydd sy'n bwysig i ni ac roeddech yn siarad yn arbennig am adeiladu cydnerthedd mewn unigolion a chymunedau i fynd i'r afael ag iechyd meddwl a lles gwael pan fydd yn digwydd. Rydych hefyd yn mynd ymlaen i sôn am dreialu cynllun presgripsiwn cymdeithasol. Codais bryderon y bore yma gyda'r Prif Weinidog, felly hoffwn ofyn i chi yn uniongyrchol: a allwch chi ddweud wrthym faint o gydberthynas oedd rhwng y cynllun cyflawni iechyd meddwl hwn a Deddfau eraill Llywodraeth Cymru, yn enwedig Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)? Rwy'n credu bod rhai tensiynau rhwng y cynllun cyflawni hwn a’r Ddeddf honno, o ran cael rhywun yn cyfnerthu ac yn annog unigolion i wneud pethau a bod yn gyfrifol amdanynt hwy eu hunain, ac eto mae'r rhagnodi cymdeithasol a'r sylwadau am unigolion a chymunedau yn siarad i raddau helaeth iawn am ddibynnu ar eich cymuned a chymryd rhan yn eich cymuned. Cyfeiriais at un maes penodol, ond mae'n ymwneud â phan fod gennych sefydliadau neu grwpiau cymunedol sy'n cael eu cau o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol, oherwydd bod pobl yn cael eu gorchymyn i fod wedi eu grymuso ac i gymryd cyfrifoldeb eu hunain, ac eto mae’r cynllun cyflawni iechyd meddwl hwn yn ymwneud i raddau helaeth â sut yr ydym yn integreiddio pobl ag iechyd meddwl, sut yr ydym yn eu cynnwys mewn cymunedau a sut yr ydym yn eu cynnal ac yn eu cefnogi. Felly, hoffwn ddeall y gydberthynas rhwng gwahanol amcanion y Llywodraeth.
Moving swiftly on, a very brief question: I think the Welsh Government’s Healthy Working Wales awards are an absolutely excellent idea. I just wanted to understand if you were able to offer guidance and mentoring funds to the small workplaces to ensure that the mental health stigma really is removed, because it sounds like a great idea, but we need to bring small organisations as well as large corporates with us. Gan symud ymlaen yn gyflym, cwestiwn byr iawn: rwy’n meddwl bod gwobrau Cymru Iach ar Waith Llywodraeth Cymru yn syniad cwbl ardderchog. Roeddwn eisiau deall os oeddech chi’n gallu cynnig cyllid ar gyfer arweiniad a mentora i'r gweithleoedd bach i sicrhau bod y stigma iechyd meddwl yn cael ei waredu mewn gwirionedd, gan fod hwn yn swnio’n syniad gwych, ond mae angen i ni fynd â mudiadau bach yn ogystal â chorfforaethau mawr gyda ni yn hyn o beth.
I finally want to turn to the area of child and adolescent mental health services. I really welcome the fact that you say here, Rwyf yn olaf am droi at faes gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Rwyf wir yn croesawu'r ffaith eich bod yn dweud yn y fan yma,
‘When young people need more specialist mental health services, we are investing almost £8 million annually in specialist CAMHS’. Pan fydd pobl ifanc angen gwasanaethau iechyd meddwl mwy arbenigol, rydym yn buddsoddi bron i £8 miliwn yn flynyddol mewn CAMHS arbenigol.
You also talk about the fact that you are putting together a plan that’s working with partners across agencies to best consider how to meet the emotional and mental health requirements of young people. CAMHS is a great service. I’m glad that you’re putting more money into it, but the problem is that there’s such a gap between the services that can be offered by local government, by partner organisations and by health boards and the kinds of services or conditions that a young person needs to have in order to access CAMHS. First Minister—. I keep calling you ‘First Minister’. I must have a prescience about this. [Interruption.] It is. [Laughter.] Cabinet Secretary, can you confirm or give an opinion as to whether or not you think that this is enough to try to close that gap, because young people need to have an incredibly wide range of conditions in order to be able to access CAMHS? What is happening is that a great many young people with suicidal tendencies, who are self-harming or have multiple conditions or multiple disabilities with conditions are being denied access to CAMHS because they don’t fit those strict criteria. I cannot see in the mental health implementation plan that you’ll be able to actually close that gap that well. Rydych hefyd yn siarad am y ffaith eich bod yn llunio cynllun sy'n gweithio gyda phartneriaid ar draws asiantaethau i ystyried orau sut i fodloni gofynion emosiynol ac iechyd meddwl pobl ifanc. Mae CAMHS yn wasanaeth gwych. Rwy'n falch eich bod yn rhoi mwy o arian i mewn iddo, ond y broblem yw bod cymaint o fwlch rhwng y gwasanaethau y gellir eu cynnig gan lywodraeth leol, gan sefydliadau partner a gan fyrddau iechyd a'r mathau o wasanaethau neu gyflyrau y mae angen i berson ifanc eu cael er mwyn cael mynediad at CAMHS. Brif Weinidog—. Rwy'n mynnu eich galw yn 'Brif Weinidog'. Mae’n rhaid fy mod i’n cael rhagwelediad ynglŷn â hyn. [Torri ar draws.] Dyna ydyw. [Chwerthin.] Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi gadarnhau neu roi barn ynghylch pa un a ydych yn credu bod hyn yn ddigon i geisio cau'r bwlch hwnnw, gan fod angen i bobl ifanc gael amrywiaeth anhygoel o eang o gyflyrau er mwyn gallu cael mynediad at CAMHS? Yr hyn sy'n digwydd yw bod nifer fawr o bobl ifanc gyda thueddiadau hunanladdol, sy'n hunan-niweidio neu sydd â chyflyrau lluosog neu anableddau lluosog gyda chyflyrau yn cael eu gwrthod rhag cael mynediad at CAMHS am nad ydynt yn cyd-fynd â’r meini prawf caeth hynny. Ni allaf weld yn y cynllun gweithredu iechyd meddwl y byddwch yn gallu mewn gwirionedd gau'r bwlch hwnnw mewn modd mor dda â hynny.
Finally, Presiding Officer, because I know I did just say ‘finally’. [Interruption.] I did. This is my last ‘final’. In the plan you talk an awful lot about measuring outcomes, which is something that is very dear to a Conservative’s heart. What is less clear is how you’re going to measure those outcomes. You talk about asking for people’s views. There’s not much clarity over whether it’s quantitative research or qualitative research. On an awful lot of the outcomes, where you’re going to do the measurements, you don’t identify what people are going to be measured against and what their baselines are. So, I’d like your view on how well we think we can really monitor this plan to ensure that it does deliver for the people of Wales. Yn olaf, Lywydd, oherwydd gwn fy mod i newydd ddweud 'yn olaf'. [Torri ar draws.] Mi wnes i. Dyma fy ‘olaf ' terfynol. Yn y cynllun yr ydych yn siarad llawer iawn am fesur canlyniadau, sef rhywbeth sy'n agos iawn at galon Ceidwadwr. Yr hyn sy'n llai clir yw sut yr ydych yn mynd i fesur y canlyniadau hynny. Rydych yn sôn am ofyn am farn pobl. Does dim llawer o eglurder ynghylch a yw'n ymchwil meintiol neu ymchwil ansoddol. Ar lawer iawn o'r canlyniadau, lle yr ydych yn mynd i wneud y mesuriadau, nid ydych yn nodi beth mae pobl yn mynd i gael eu mesur yn ei erbyn a beth yw eu llinellau sylfaen. Felly, hoffwn eich barn ar ba mor dda yr ydym yn credu y gallwn ni wir fonitro'r cynllun hwn i sicrhau ei fod yn cyflawni dros bobl Cymru.
16:12 - Vaughan Gething
Thank you for the series of questions. I’ll try and run through them briefly and quickly, bearing in mind the directive we had earlier on. On the point about building resilience and social prescribing, I don’t think there is any conflict between this delivery plan and the terms of the Social Services and Well-being (Wales) Act. I think there may be a challenge about the way people are choosing to implement that and the priorities that they’re actually drawing up, but there’s nothing in this delivery plan and the terms of the Social Services and Well-being (Wales) Act that cuts across and should prevent effective working between agencies to try and improve the voice for the service user. I’d be really interested, perhaps, if you’d write to me or speak to me about the particular example you’ve raised, both with the First Minister and me, about the community facilities that you say have been closed because of the Social Services and Well-being (Wales) Act, because I’d be very, very surprised if there was a real statutory imperative to close the service that you referred to. Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Rwyf am geisio mynd drwyddynt yn fyr ac yn gyflym, gan gadw mewn cof y gyfarwyddeb a gawsom yn gynharach. O ran y pwynt am adeiladu cydnerthedd a rhagnodi cymdeithasol, nid wyf yn credu bod unrhyw wrthdaro rhwng y cynllun cyflawni hwn a thelerau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Rwy’n credu y gallai fod her o ran y ffordd y mae pobl yn dewis gweithredu hynny a'r blaenoriaethau y maent mewn gwirionedd yn eu llunio, ond nid oes unrhyw beth yn y cynllun cyflawni hwn a thelerau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) sy’n torri ar draws ac a ddylai atal gweithio effeithiol rhwng asiantaethau i geisio gwella llais y defnyddiwr gwasanaeth. Byddai gennyf wir ddiddordeb, efallai, pe byddech yn ysgrifennu ataf neu’n siarad â mi ynglŷn â'r enghraifft benodol yr ydych wedi ei chodi, gyda'r Prif Weinidog a minnau, am y cyfleusterau cymunedol yr ydych yn dweud sydd wedi cael eu cau oherwydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), oherwydd byddwn i'n synnu'n fawr iawn os oedd rheidrwydd statudol gwirioneddol i gau'r gwasanaeth y cyfeiriasoch ato.
There’s always the challenge about money, and you know that we’re living in straitened times. There is less money available to some services, which we would all value in all parties, but they are unlikely to receive that money to keep on moving forward. There’s always a choice about people who are able to provide those services, whether they’re volunteers or employees. Equally, there’s the perspective we made about the people commissioning those services, whether it’s the NHS or local government, about the purpose of that service, about the purpose of people providing it in the third sector or otherwise, and the quality that it is then providing as well. I’d be interested to hear more from you so that I can give, perhaps, a more helpful or specific response to the specific issue that you raised. Ceir bob amser yr her ynglŷn ag arian, ac rydych yn gwybod ein bod yn byw mewn cyfnod o gyni. Mae llai o arian ar gael i rai gwasanaethau, y byddem i gyd yn eu gwerthfawrogi ym mhob plaid, ond maent yn annhebygol o gael yr arian hwnnw i barhau i symud ymlaen. Mae bob amser ddewis o ran y bobl sy'n gallu darparu'r gwasanaethau hynny, pa un a ydynt yn wirfoddolwyr neu’n weithwyr cyflogedig. Yn yr un modd, ceir y safbwynt a gymerwyd genym o ran y bobl sy’n comisiynu’r gwasanaethau hynny, boed hynny y GIG neu lywodraeth leol, am ddiben y gwasanaeth hwnnw, am ddiben y bobl sy'n ei ddarparu yn y trydydd sector neu fel arall, a’r ansawdd y mae’n ei ddarparu wedyn hefyd.  Byddai gennyf ddiddordeb clywed mwy gennych fel y gallaf roi, efallai, ymateb mwy defnyddiol neu benodol i’r mater penodol a godwyd gennych.
On the Healthy Working Wales awards, I presented a number of these awards in the past, and it’s been really interesting to see the way that businesses—small, medium and large businesses—have actually responded. Mental health and well-being has been a really important part of the criteria that are used. In each of the storyboards we understand the journey that a business has gone on. They’ve learnt an awful lot themselves about looking after the well-being of their employees and supporting people to come back into the workplace. So, I’m content that, in the process that we have in looking at how small workplaces are involved and engaged, any small workplace that wants to engage in this award will find proactive support from the Government and our agencies and our partners in Public Health Wales to try and get engaged and to understand the real value of supporting their employees before they have mental health problems, during that time, and, hopefully, to help them back into the workplace as well. O ran y gwobrau Cymru Iach ar Waith, cyflwynais nifer o’r gwobrau hyn yn y gorffennol, ac mae wedi bod yn ddiddorol iawn gweld y ffordd y mae busnesau—busnesau bach, canolig a mawr—wedi ymateb mewn gwirionedd. Mae iechyd meddwl a lles wedi bod yn rhan bwysig iawn o'r meini prawf sy'n cael eu defnyddio. Ym mhob un o'r byrddau stori yr ydym yn deall y daith y mae busnes wedi mynd arni. Maen nhw wedi dysgu llawer iawn eu hunain am ofalu am les eu gweithwyr a chefnogi pobl i ddod yn ôl i'r gweithle. Felly, rwy'n fodlon, yn y broses sydd gennym yn edrych ar sut y mae gweithleoedd bach yn cymryd rhan ac yn ymgysylltu, fod unrhyw weithle bach sy'n awyddus i gymryd rhan yn y wobr hon yn canfod cefnogaeth ragweithiol gan y Llywodraeth a'n hasiantaethau a'n partneriaid yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i geisio ymgysylltu ac i ddeall gwir werth cefnogi eu gweithwyr cyn bod ganddynt broblemau iechyd meddwl, yn ystod y cyfnod hwnnw, a, gobeithio, eu helpu yn ôl i mewn i'r gweithle hefyd.
On CAMHS, the £8 million that we are investing in our ‘Together for Children and Young People’ programme, we have the NHS; it’s being led by the NHS. We have the third sector. We have a range of children and young people themselves involved as stakeholders. I think it’s actually a really positive way of people working together and recognising that, sharing together, actually they’re able to understand the challenges and the range of the problems and the answers as well. So, I recognise the point that you make about the difference between the specialist service, where people really do have very, very high-level needs, and people who understandably have a need that is not being currently resolved in a way that matches the needs of that individual young person and their family context in which it’s being seen. That’s part of the challenge of the work that we need to do with partners—it’s also why the mental health Measure has been important—about local services being made available. So, it’s seeing the whole spectrum from health and well-being—say, for a child at a young age, what happens within their education setting and other parts of their life, and then what happens if they do need additional support as well. So, I recognise that it’s not a complete picture as we are now, and I wouldn’t try to say that it is. But it features very heavily in the priorities that we have in this delivery plan. O ran CAMHS, yr £8 miliwn yr ydym yn ei fuddsoddi yn ein rhaglen 'Gyda'n Gilydd dros Blant a Phobl Ifanc', mae gennym y GIG; mae'n cael ei arwain gan y GIG. Mae gennym y trydydd sector. Mae gennym ystod o blant a phobl ifanc eu hunain yn cymryd rhan fel rhanddeiliaid. Rwy'n credu ei fod mewn gwirionedd yn fodd cadarnhaol iawn o bobl yn gweithio gyda'i gilydd a chydnabod eu bod, o rannu gyda'i gilydd, mewn gwirionedd yn gallu deall yr heriau a'r ystod o broblemau a'r atebion hefyd. Felly, rwy’n cydnabod y pwynt a wnewch am y gwahaniaeth rhwng y gwasanaeth arbenigol, lle mae wir gan bobl anghenion lefel uchel iawn, iawn, a phobl sydd yn ddealladwy ag angen nad yw'n cael ei ddatrys ar hyn o bryd mewn ffordd sy'n cyd-fynd ag anghenion y person ifanc unigol a'u cyd-destun teuluol lle mae'n cael ei weld. Dyna ran o her y gwaith y mae angen inni ei wneud gyda phartneriaid—dyna hefyd pam y mae’r Mesur iechyd meddwl wedi bod yn bwysig—ynghylch sicrhau bod gwasanaethau lleol ar gael. Felly, mae'n gweld y sbectrwm cyfan o iechyd a lles—dyweder, ar gyfer plentyn o oedran ifanc, yr hyn sy'n digwydd o fewn eu lleoliad addysg a rhannau eraill o'u bywydau, ac yna beth fydd yn digwydd os oes angen cymorth ychwanegol yn ogystal. Felly, rwy’n cydnabod nad yw’n ddarlun cyflawn fel yr ydym ar hyn o bryd, ac ni fyddwn yn ceisio dweud ei fod. Ond mae'n rhan bwysig iawn o’r blaenoriaethau sydd gennym yn y cynllun cyflawni hwn.
Finally, on outcomes, we’ve worked to look at and to borrow heavily from the public health outcomes to have an approach about how we understand whether outcomes are improving. Equally, it’s been part of what the third sector alliance was very, very interested in, about how this work has improved. Some of that work is in place, and there is more that’s being developed with the third sector to understand outcomes of real value, so they can really buy into them and they can understand themselves what that looks like. I’ll be more than happy to have a conversation with you and other spokespeople and colleagues in the Chamber about how we’re developing that work and how we’ll then be able to actually assess each year, second and third year, the outcomes that we are achieving for people across Wales. Yn olaf, o ran canlyniadau, rydym wedi gweithio i edrych ar ganlyniadau iechyd y cyhoedd ac wedi benthyca yn helaeth oddi wrthynt i gael ymagwedd am sut yr ydym yn deall pa un a yw canlyniadau yn gwella. Yn yr un modd, mae wedi bod yn rhan o'r hyn yr oedd y gynghrair trydydd sector â diddordeb mawr iawn ynddo, am y modd y mae’r gwaith hwn wedi gwella. Mae rhywfaint o'r gwaith hwnnw ar waith, ac mae mwy sy'n cael ei ddatblygu gyda'r trydydd sector i ddeall canlyniadau o werth gwirioneddol, fel y gallant mewn gwirionedd gredu ynddynt ac y gallant ddeall eu hunain sut y mae hynny’n edrych. Byddaf yn fwy na hapus i gael sgwrs gyda chi a llefarwyr a chydweithwyr eraill yn y Siambr am sut yr ydym yn datblygu’r gwaith hwnnw a sut y byddwn wedyn yn gallu asesu bob blwyddyn, yr ail a'r drydedd flwyddyn, y canlyniadau yr ydym yn eu cyflawni i bobl ledled Cymru.
16:07 - Caroline Jones
Thank you for providing us with this update today, Cabinet Secretary, and for providing us with the final delivery plan yesterday. When we discussed the draft plan in July, I raised the issue of access to psychological therapies. Early access to talking therapies, such as CBT, are proven to improve recovery and reduce the need for more acute services. I therefore welcome the commitment to improve access to psychological therapies and details of the funding. I would be grateful if the Cabinet Secretary could outline how the Welsh Government will reduce waiting times for CBT in Wales. I also thank the Cabinet Secretary for the commitment to improving the CAMHS service. It will be welcome news that young people will not wait more than 48 hours for an urgent referral or more than 28 days for a routine appointment. However, I remain concerned about the out-of-area placement of children and young people. I welcome the commitment to reduce the number of out-of-area placements and the length of such placements. Can the Cabinet Secretary please explain why the reduction will only be by 10 per cent of the 2013-14 baseline? Surely, we can be more ambitious than that. Should we not aim to eradicate the majority of out-of-area placements, given the obvious impact this has on the mental health of those young people and their families? Diolch i chi am roi’r wybodaeth ddiweddaraf hon i ni heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am ddarparu'r cynllun cyflawni terfynol ddoe. Pan y gwnaethom drafod y cynllun drafft ym mis Gorffennaf, codais fater mynediad at therapïau seicolegol. Profwyd bod mynediad cynnar at therapïau siarad, megis therapi gwybyddol ymddygiadol, yn gwella adferiad a lleihau'r angen am wasanaethau mwy acíwt. Felly, rwy’n croesawu'r ymrwymiad i wella mynediad at therapïau seicolegol a manylion y cyllid. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lleihau amseroedd aros ar gyfer therapi gwybyddol ymddygiadol yng Nghymru. Diolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymrwymiad i wella'r gwasanaeth CAMHS. Bydd yn newyddion i'w croesawu na fydd pobl ifanc yn aros mwy na 48 awr am atgyfeiriad brys neu fwy na 28 diwrnod am apwyntiad arferol. Fodd bynnag, rwy’n dal yn bryderus am leoli plant a phobl ifanc y tu allan i'r ardal. Croesawaf yr ymrwymiad i leihau nifer y lleoliadau y tu allan i'r ardal a hyd lleoliadau o'r fath. A all Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam na fydd y gostyngiad ond yn 10 y cant o linell sylfaen 2013-14? Siawns y gallwn fod yn fwy uchelgeisiol na hynny. Oni ddylem ni fod â’r nod o gael gwared ar y rhan fwyaf o leoliadau y tu allan i'r ardal, o ystyried yr effaith amlwg mae hyn yn ei chael ar iechyd meddwl y bobl ifanc hynny a'u teuluoedd?
I look forward to learning more about how the new well-being bond will work in practice and for details of the social prescription scheme pilot. It is important that we ensure that everyone in Wales has access to community support schemes such as the excellent Sandfields centre or Tŷ Elis counselling service within my region. Will the social prescription scheme fund referrals to community support schemes such as these? They currently receive no funding from the NHS, despite offering valuable services to them. We welcome the commitment to developing a dementia strategic plan. Dementia care and elderly mental health care is sadly lagging behind the level of care that we expect. Also, to state something similar to Rhun, actually, the well-being of our carers, whether they are paid or unpaid, is of paramount importance, in ensuring that they take their breaks when they should, and also their holidays, as we need them to be fully fit for the delivery of these services. Finally, Cabinet Secretary, we welcome the recognition that the role of the third sector has to play in the delivery of this plan. The voluntary sector and all of us have a very important role to play not only in improving mental health care, but also in tackling the stigma of mental health, and how does the Cabinet Secretary propose to support the very important work undertaken by Time to Change Cymru? Thank you again for your statement; I look forward to working with you to deliver improvements to the mental health of the people in Wales. Diolch yn fawr. Rwy'n edrych ymlaen at ddysgu mwy am sut y bydd y bond lles newydd yn gweithio'n ymarferol ac am fanylion y cynllun rhagnodi cymdeithasol arbrofol. Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at gynlluniau cymorth cymunedol megis y ganolfan Sandfields ragorol neu wasanaeth cynghori Tŷ Elis o fewn fy rhanbarth i. A fydd y cynllun rhagnodi cymdeithasol yn ariannu atgyfeiriadau at gynlluniau cymorth cymunedol fel y rhain? Ar hyn o bryd nid ydynt yn cael unrhyw gyllid gan y GIG, er gwaethaf y ffaith eu bod yn cynnig gwasanaethau gwerthfawr iddynt. Rydym yn croesawu'r ymrwymiad i ddatblygu cynllun strategol dementia. Mae gofal dementia a gofal iechyd meddwl yr henoed yn anffodus yn llusgo y tu ôl i lefel y gofal yr ydym yn ei ddisgwyl. Hefyd, i ddatgan rhywbeth tebyg i Rhun, mewn gwirionedd, mae lles ein gofalwyr, pa un a ydynt yn cael eu talu neu nad ydynt yn cael eu talu, yn hollbwysig, wrth sicrhau eu bod yn cymryd eu seibiannau pan y dylent, a hefyd eu gwyliau, gan fod angen iddynt fod yn gwbl ffit ar gyfer darparu'r gwasanaethau hyn. Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn croesawu'r gydnabyddiaeth o’r rhan sydd gan y trydydd sector i'w chwarae wrth gyflwyno'r cynllun hwn. Mae gan y sector gwirfoddol a phob un ohonom ran bwysig iawn i'w chwarae, nid yn unig o ran gwella gofal iechyd meddwl, ond hefyd wrth fynd i'r afael â stigma iechyd meddwl, a sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu cefnogi’r gwaith pwysig iawn a wnaed gan Amser i Newid Cymru? Diolch i chi unwaith eto am eich datganiad; rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau gwelliannau i iechyd meddwl pobl yng Nghymru. Diolch yn fawr.
16:20 - Vaughan Gething
Thank you for the series of comments and questions. I'll just stick to dealing with the questions. Your question about psychological therapies—I indicated in my statement and partially in answer to Rhun ap Iorwerth and his series of questions, of course, that the money we’re talking about is going to be largely invested in staff to provide the therapies, and that's the point about how we want to see improvement in the quality of care and in waiting times themselves as well. We know there’s a need for expanded capacity. And at the same time, though, not just by expanding the capacity we have, we need to look—and this is part of the question in CAMHS as well—and also make sure that the right pathway exists so that people who don't need that specialist care have an appropriate form of care in another part of the system, so that means that people who really do need access to specialist therapeutic support can and will receive it. It's also why we've changed our waiting time standards. Our waiting times standards are now tougher than in other parts of the UK. We’ve halved the time it takes to get to actually see someone to have an assessment, and then the time it takes to actually start a therapeutic intervention as well. So, we're actually moving to have a more demanding system, recognising that access to therapy when somebody needs it is often more important and, actually, you often get a better result the earlier that access is provided, which is why we are making the significant investment that I've already outlined. Diolch i chi am y gyfres o sylwadau a chwestiynau. Byddaf yn cadw at ymdrin â'r cwestiynau. Mae eich cwestiwn am therapïau seicolegol—nodais yn fy natganiad ac yn rhannol wrth ateb Rhun ap Iorwerth a'i gyfres o gwestiynau, wrth gwrs, fod yr arian yr ydym yn sôn amdano yn mynd i gael ei fuddsoddi yn bennaf mewn staff i ddarparu'r therapïau, a dyna'r pwynt ynglŷn â sut yr ydym yn dymuno gweld gwelliant yn ansawdd y gofal ac yn yr amseroedd aros eu hunain hefyd. Rydym yn gwybod bod angen mwy o gapasiti. Ac ar yr un pryd, fodd bynnag, nid yn unig drwy ehangu'r capasiti sydd gennym, mae angen i ni edrych—ac mae hyn yn rhan o'r cwestiwn yn CAMHS yn ogystal—a hefyd gwneud yn siŵr bod y llwybr cywir yn bodoli fel bod gan y bobl nad ydynt angen y gofal arbenigol hwnnw ffurf briodol o ofal mewn rhan arall o'r system, fel bod hynny’n golygu y gall ac y bydd pobl sydd wir angen mynediad at gymorth therapiwtig arbenigol yn ei dderbyn. Dyma pam hefyd yr ydym wedi newid safonau ein hamseroedd aros. Mae ein safonau amseroedd aros bellach yn llymach nag mewn rhannau eraill o'r DU. Rydym wedi haneru'r amser y mae'n ei gymryd mewn gwirionedd i gael gweld rhywun i gael asesiad, ac yna'r amser y mae'n ei gymryd i ddechrau ymyrraeth therapiwtig hefyd. Felly, rydym mewn gwirionedd yn symud i gael system fwy heriol, gan gydnabod bod cael gafael ar therapi pan fo rhywun angen hynny, yn aml yn fwy pwysig ac, mewn gwirionedd, rydych yn aml yn cael gwell canlyniad y cynharaf y bydd y mynediad hwnnw yn cael ei ddarparu, a dyna pam yr ydym yn gwneud y buddsoddiad sylweddol yr wyf wedi’i amlinellu eisoes.
On out-of-area placements for children, we're very clear we've got an ambition to see the number of placements—not just for children, but also for adults, too, but you asked specifically about children—improve, so we need to make less use of these residential placements for children. We want to see more and more of that care provided in a local setting, in a community setting, and, often, the outcomes will be better. It's really if someone has very particular high-level needs that they would need an out-of-area placement, and that’ll be part of the work we need to do, to understand who really needs to have that placement and then to make sure an appropriate place is available for them. And sometimes that may not be in Wales—that may be the right thing for that person to do, but that is not the preferred option that we've set out or that services recognise they would want to have. O ran lleoliadau y tu allan i'r ardal ar gyfer plant, rydym yn glir iawn bod gennym uchelgais i weld nifer y lleoliadau—nid yn unig ar gyfer plant ond hefyd ar gyfer oedolion, yn ogystal, ond roeddech yn gofyn yn benodol am blant—yn gwella, felly mae angen i ni wneud llai o ddefnydd o’r lleoliadau preswyl hyn i blant. Rydym eisiau gweld mwy a mwy o’r gofal hwnnw’n cael ei ddarparu mewn lleoliad lleol, mewn lleoliad cymunedol, ac, yn aml, bydd y canlyniadau yn well. Mae mewn gwirionedd yn fater o pan fo gan rywun anghenion lefel uchel penodol iawn yn golygu y byddent angen lleoliad y tu allan i'r ardal, a bydd hynny’n rhan o'r gwaith y mae angen i ni ei wneud, er mwyn deall pwy sydd angen cael y lleoliad hwnnw mewn gwirionedd ac wedyn gwneud yn siŵr bod lle addas ar gael ar eu cyfer. Ac weithiau efallai na fydd hwnnw yng Nghymru—gall hynny fod y peth iawn i’r person hwnnw ei wneud, ond nid dyna'r dewis a ffefrir gennym ni nac yr un y mae gwasanaethau yn ei gydnabod y byddent yn dymuno ei gael.
On your points about the well-being bond and social prescribing, the Minister for public health and I will provide Members with more details as we’ve more data to provide you, and in particular, on the well-being bond, what that could look like, what it will mean for communities, and, on social prescribing, too, it goes across both of our responsibilities, because there is a lot to this that is about public health and how we get people active and engaged and recognising that a lot of this is about a person's general sense of well-being, and social prescribing can help that and really help physical health outcomes, too. O ran eich pwyntiau am y bond lles a rhagnodi cymdeithasol, bydd y Gweinidog iechyd y cyhoedd a minnau yn rhoi mwy o fanylion i Aelodau pan fydd gennym fwy o ddata i’w rhoi i chi, ac yn arbennig, ar y bond lles, sut y gallai hwnnw edrych, yr hyn y bydd yn ei olygu i gymunedau, ac, o ran rhagnodi cymdeithasol, hefyd, mae'n mynd ar draws cyfrifoldebau’r ddau ohonom, oherwydd mae llawer o hyn sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd a sut yr ydym yn cael pobl i fod yn egniol ac i ymgysylltu, a chydnabod bod llawer o hyn yn ymwneud ag ymdeimlad cyffredinol unigolyn o les, a gall rhagnodi cymdeithasol helpu hynny a helpu canlyniadau iechyd corfforol hefyd, mewn gwirionedd.
There is real interest in this from the GP community right across Wales, and Dr Richard Lewis, once of the BMA, who is now the national clinical lead for primary care, is leading a piece of work on this, and I'm really optimistic about not just people buying into the idea, but then buying into a, hopefully, more simplified way to understand what social prescribing is and how to make that real for individual citizens and GPs themselves. Mae gan y gymuned meddygon teulu ledled Cymru diddordeb gwirioneddol yn hyn, ac mae Dr Richard Lewis, gynt o’r BMA, sydd bellach yn arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol, yn arwain darn o waith ar hyn, ac rwy'n wirioneddol ffyddiog y bydd pobl nid yn unig yn cytuno â’r syniad, ond wedyn yn cytuno, gobeithio, â ffordd symlach o ddeall beth yw rhagnodi cymdeithasol a sut i wireddu hynny i ddinasyddion unigol a’r meddygon teulu eu hunain.
And, finally, on Time to Change Wales, it enjoys cross-party support. We’ve continued to fund it. We'll review the delivery of Time to Change Wales, what we've achieved, and we’ll then look at what we do next, because the campaign to end stigma and discrimination against people with mental health—we've made real strides on a cross-basis in Wales that we can be proud of, but no-one should pretend that this is completed. There’s still more for us to do, so we'll continue to need to engage with both the third sector and the wider public about what we still need to do to change the narrative on mental health that is a normal part of everyday life. Ac, yn olaf, ynghylch Amser i Newid Cymru, mae'n mwynhau cefnogaeth drawsbleidiol. Rydym wedi parhau i'w ariannu. Byddwn yn adolygu cyflwyno Amser i Newid Cymru, yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni, a byddwn wedyn yn edrych ar yr hyn y byddwn yn ei wneud nesaf, gan fod yr ymgyrch i roi terfyn ar stigma a gwahaniaethu yn erbyn pobl ag iechyd meddwl—rydym wedi gwneud camau gwirioneddol ar sail drawsbleidiol yng Nghymru y gallwn fod yn falch ohonynt, ond ni ddylai neb gymryd arno bod hyn wedi ei gwblhau. Mae mwy i ni ei wneud o hyd, felly byddwn yn parhau i fod angen ymgysylltu â’r trydydd sector a'r cyhoedd yn gyffredinol am yr hyn y mae angen i ni ei wneud i newid y naratif ar iechyd meddwl sydd yn rhan arferol o fywyd bob dydd.
16:23 - Lynne Neagle
Can I thank you, Cabinet Secretary, for your statement? If I could just start with CAMHS, I very much welcome the extra investment that the Welsh Government has put into CAMHS, and I'm really pleased that we're starting to see some progress, but, as you know yourself, waiting lists still remain unacceptably high. It was something that the children's commissioner highlighted before the children’s committee last week, and we also know that there are areas of regional variation that are problematic. Can I just ask—we’re part way through the programme now—how exactly the Welsh Government is monitoring this and also monitoring any regional variations? A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad? Os caf ddechrau gyda CAMHS, rwy’n croesawu'n fawr iawn y buddsoddiad ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i CAMHS, ac rwy'n falch iawn ein bod yn dechrau gweld rhywfaint o gynnydd, ond, fel y gwyddoch eich hun, mae rhestrau aros yn parhau i fod yn annerbyniol o uchel. Roedd yn rhywbeth y tynnodd y comisiynydd plant sylw ato gerbron pwyllgor y plant yr wythnos diwethaf, ac rydym hefyd yn gwybod bod meysydd o amrywiad rhanbarthol sydd yn broblemus. A gaf i ofyn—rydym ran o'r ffordd drwy'r rhaglen erbyn hyn—sut yn union mae Llywodraeth Cymru yn monitro hyn a hefyd yn monitro unrhyw amrywiadau rhanbarthol?
At the Samaritans’ impact launch yesterday, we learnt about their pilot schools programme, DEAL, delivering emotional awareness and listening in schools, which is a way of trying to improve the support that's available to young people in a school setting, and I welcome the commitment in the plan to looking at initiatives like that. Is that the kind of initiative that you would look to roll out across Wales, and will you be able to discuss this with the Cabinet Secretary for Education to see whether that might be possible? Yn ystod lansiad effaith y Samariaid ddoe, dysgwyd am eu rhaglen ysgolion arbrofol, DEAL, darparu ymwybyddiaeth emosiynol a gwrando mewn ysgolion, sy'n ffordd o geisio gwella'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc mewn lleoliad ysgol, ac rwy’n croesawu'r ymrwymiad yn y cynllun i edrych ar fentrau o’r fath. Ai dyna’r math o fenter y byddech yn gobeithio ei chyflwyno ledled Cymru, ac a fyddwch yn gallu trafod hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i weld a allai hynny fod yn bosibl?
If I can just move on to dementia, as you know, I have been a champion of the need for a fully resourced dementia strategy for Wales. Dementia is, I believe, the biggest challenge that health and social care now faces in Wales, and I believe it should be on a par with conditions like cancer. I’m really pleased that the commitment to a dementia strategic plan remains in the plan that you published yesterday. Os caf symud ymlaen at ddementia, fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn hyrwyddwr o'r angen am strategaeth dementia gydag adnoddau llawn ar gyfer Cymru. Dementia, rwy’n credu, yw’r her fwyaf y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn ei hwynebu ar hyn o bryd yng Nghymru, ac rwy’n credu y dylai fod ar yr un lefel â chyflyrau fel canser. Rwy'n falch iawn bod yr ymrwymiad i gynllun strategol dementia yn parhau i fod yn y cynllun a gyhoeddwyd gennych ddoe.
I do just have a couple of questions, though. One of the areas of concern that I’ve identified previously is that the support workers, welcome though they are, will be done on the basis of GP clusters—a minimum of one dementia support worker per two GP clusters in Wales. That would allow a total of just 32 across Wales. Even on the basis of our current diagnosis rates, for everybody to have a dementia support worker we’d need around 370. So, I’d like to ask if that’s something you’re willing to keep under review, and whether that is something you will look at further when this plan goes out to consultation. Mae gennyf un neu ddau o gwestiynau, fodd bynnag. Un o'r meysydd o bryder yr wyf wedi’i nodi o'r blaen yw y bydd y mater gweithwyr cymorth, er mor dderbyniol yr ydynt, yn cael ei wneud ar sail y clystyrau meddyg teulu—lleiafrif o un gweithiwr cymorth dementia fesul dau glwstwr meddygon teulu yng Nghymru. Byddai hynny'n caniatáu cyfanswm o ddim ond 32 ledled Cymru. Hyd yn oed ar sail ein cyfraddau diagnosis presennol, er mwyn i bawb gael gweithiwr cymorth dementia byddai angen tua 370 ohonynt. Felly, hoffwn ofyn a yw hynny'n rhywbeth yr ydych yn fodlon parhau i’w adolygu, ac a yw hynny'n rhywbeth y byddwch yn edrych arno ymhellach pan fydd y cynllun hwn yn mynd allan i ymgynghoriad.
Similarly with diagnosis rates, they’re currently at 43 per cent in Wales, which is the lowest rate in the UK at the moment. The 2016 target is 50 per cent. The Alzheimer’s Society thinks the figure should be more like 75 per cent. It would be unthinkable if 50 per cent of people with cancer in Wales didn’t get a diagnosis. So, is that also something that you will continue to keep under review, and look to introduce more ambitious targets as time goes on? Yn yr un modd â chyfraddau diagnosis, maen nhw ar hyn o bryd yn 43 y cant yng Nghymru, sef y gyfradd isaf yn y DU ar hyn o bryd. Y targed ar gyfer 2016 yw 50 y cant. Mae'r Gymdeithas Alzheimer yn credu y dylai'r ffigur fod yn nes at 75 y cant. Byddai y tu hwnt i amgyffred pe byddai 50 y cant o bobl gyda chanser yng Nghymru ddim yn cael diagnosis. Felly, a yw hynny hefyd yn rhywbeth y byddwch yn parhau i’w adolygu'n gyson, ac yn ceisio cyflwyno targedau mwy uchelgeisiol ar ei gyfer wrth i amser fynd yn ei flaen?
Finally, any plan is only as good as its actual implementation on the ground. The cancer delivery plan has been driven forward by Welsh Government with some considerable success. Will you look at what mechanisms we can put in place to ensure that the dementia plan is driven forward at a senior Welsh Government level? Thank you. Yn olaf, nid yw unrhyw gynllun ond cystal â’r modd y’i gweithredir mewn gwirionedd ar lawr gwlad. Mae'r cynllun cyflawni canser wedi cael ei sbarduno gan Lywodraeth Cymru gyda llwyddiant sylweddol. A wnewch chi edrych ar ba fecanweithiau y gallwn eu rhoi ar waith i sicrhau bod y cynllun dementia yn cael ei sbarduno ar lefel uwch gan Lywodraeth Cymru? Diolch.
16:27 - Vaughan Gething
Thank you for the series of questions. I’ll start with CAMHS. I recognise that we’ve had about a 21 per cent improvement in waiting times for people across Wales. However, the number’s still too high, and far too many people wait for too long. This still goes back to making sure that people who don’t need the specialist service have an alternative pathway for alternative support, because there almost certainly is a support need there, but CAMHS may not be the appropriate place for it. The investment that we’re making in staff should help with that, too. So, both things need to be done. Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Dechreuaf gyda CAMHS. Rwy’n cydnabod ein bod wedi cael gwelliant o tua 21 y cant mewn amseroedd aros ar gyfer pobl ledled Cymru. Fodd bynnag, mae'r nifer yn dal yn rhy uchel, ac mae llawer gormod o bobl yn aros yn rhy hir. Mae hyn yn mynd yn ôl o hyd at wneud yn siŵr bod gan bobl nad ydynt angen y gwasanaeth arbenigol lwybr gwahanol ar gyfer cymorth gwahanol, gan fod bron yn sicr angen cymorth, ond efallai nad CAMHS yw’r lle priodol ar ei gyfer. Dylai'r buddsoddiad yr ydym yn ei wneud mewn staff helpu gyda hynny, hefyd. Felly, mae angen gwneud y ddau beth.
So, I recognise there’s more to do, and, indeed, on CAMHS it’s part of the issue that I’ll raise with vice chairs. In my regular meetings with vice chairs I’ve made it clear this will be something I’ll return to each time we sit down. They know they’ll have to tell me about where they are and whether they’ve improved from where they were previously. So, this will be part of the direct accountability they’ll have from me as a Cabinet Secretary, so it’s not going to fall off the agenda. Even when we reach a position where we can say that we’re comfortable, that will need to be sustained as well. So, I don’t think this will fall off my particular agenda, or theirs, for some time to come. Felly, rwy’n cydnabod bod mwy i'w wneud, ac, yn wir, o ran CAMHS mae'n rhan o'r mater y byddaf yn ei godi gydag is-gadeiryddion. Yn fy nghyfarfodydd rheolaidd gydag is-gadeiryddion rwyf wedi ei gwneud yn glir y bydd hyn yn rhywbeth y byddaf yn dychwelyd ato bob tro y byddwn yn eistedd i lawr. Maen nhw’n gwybod y bydd yn rhaid iddyn nhw ddweud wrthyf ble y maen nhw a pha un a ydynt wedi gwella o ble yr oeddent o'r blaen. Felly, bydd hyn yn rhan o'r atebolrwydd uniongyrchol y byddant yn ei gael gennyf i fel Ysgrifennydd y Cabinet, felly nid yw'n mynd i ddisgyn oddi ar yr agenda. Hyd yn oed pan fyddwn yn cyrraedd sefyllfa lle gallwn ddweud ein bod yn gyfforddus, bydd angen i hynny gael ei gynnal hefyd. Felly, nid wyf yn credu y bydd hyn yn disgyn oddi ar fy agenda benodol, na’u hagenda hwythau, am beth amser i ddod.
On the points you made, I’ll be happy to have further discussions with the Cabinet Secretary for Education about the role of support in and around schools, both primary and secondary. I’m sure that you and many others have visited schools in our constituencies and seen the school counselling service that exists, and recognise the value that teachers and headteachers in particular place on that service, and the difference they think it’s made both to behaviour and outcomes for the whole school community. So, it’s something we do want to see maintained, and there’s a clear strategic direction to support school counselling services. So, I’m more than happy to think about what we can do to understand what works best, and how people share practice, and what is an effective school counselling service for a particular school community or across a larger area. O ran y pwyntiau a wnaethoch, byddaf yn hapus i gael trafodaethau pellach gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am swyddogaeth cymorth mewn ac o amgylch ysgolion, cynradd ac uwchradd. Rwy'n siŵr eich bod chi a llawer o bobl eraill wedi ymweld ag ysgolion yn ein hetholaethau a gweld y gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion sy'n bodoli, a’ch bod yn cydnabod y gwerth y mae athrawon a phenaethiaid yn benodol yn ei roi ar y gwasanaeth hwnnw, a'r gwahaniaeth y maent yn credu ei fod wedi ei wneud o ran ymddygiad a chanlyniadau ar gyfer y gymuned ysgol gyfan. Felly, mae'n rhywbeth yr ydym eisiau ei weld yn cael ei gynnal, ac mae cyfeiriad strategol clir i gefnogi gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion. Felly, rwy'n fwy na pharod i feddwl am yr hyn y gallwn ei wneud i ddeall beth sy'n gweithio orau, a sut mae pobl yn rhannu arfer, a beth sy’n wasanaeth cwnsela mewn ysgolion effeithiol ar gyfer cymuned ysgol arbennig neu ar draws ardal fwy.
On your final series of questions on the dementia strategy, the work leading up to consultation—the stakeholders have taken part, they represent different parts of the community, so it isn’t just that Welsh Government are sitting down on their own, and that’s important. It’s also important that the chief medical officer is part of that group as well, so there is some senior leadership from Welsh Government reiterating the importance of this particular strategy to the Government. I hope that when you see the consultation come in you’ll see that it’s real and meaningful. O ran eich cyfres olaf o gwestiynau ar y strategaeth dementia, y gwaith sy’n arwain at ymgynghoriad—mae’r rhanddeiliaid wedi cymryd rhan, maent yn cynrychioli gwahanol rannau o'r gymuned, felly nid yw’n golygu bod Llywodraeth Cymru yn eistedd ar ei phen ei hun, ac mae hynny’n bwysig. Mae hefyd yn bwysig bod y prif swyddog meddygol yn rhan o'r grŵp hwnnw, hefyd, felly mae rhywfaint o arweinyddiaeth uwch gan Lywodraeth Cymru yn ailadrodd pwysigrwydd y strategaeth benodol hon i’r Llywodraeth. Rwy’n gobeithio, pan fyddwch yn gweld yr ymgynghoriad yn dod i mewn y byddwch yn gweld ei fod o ddifrif ac yn ystyrlon.
Of course I‘ll review the points you made about the number of support workers, their role and function. I’ll review the points about diagnosis rates. I want us to achieve our current target of 50 per cent, and it should then be about, ‘And what do we then do next?’ I expect that, in the consultation, we’ll hear plenty from people about both of those points, and I would expect that to be the case, and encourage people to have a view on what is in the consultation and what people think is important, including if it isn’t there. Wrth gwrs, mi wnaf adolygu'r pwyntiau a wnaethoch am nifer y gweithwyr cymorth, eu rhan a'u swyddogaeth. Mi wnaf adolygu'r pwyntiau am gyfraddau diagnosis. Rwyf eisiau i ni gyrraedd ein targed presennol o 50 y cant, ac yna dylai fod yn ymwneud â, 'A beth felly ydym ni’n mynd i’w wneud nesaf?' Rwy’n disgwyl, yn yr ymgynghoriad, y byddwn yn clywed digon gan bobl am y ddau bwynt hynny, a byddwn yn disgwyl i hynny ddigwydd, ac rwyf yn annog pobl i gael barn ar yr hyn sydd yn yr ymgynghoriad a beth mae pobl yn ei ystyried sy’n bwysig, gan gynnwys os nad yw yno.
That goes to your final point about delivery. Yes, we will think seriously about delivery and how we make sure there is both senior oversight and a clear rationale about how that reporting is then made on the progress that we’re making, and whether we’re making the sort of progress that we really want to and that we set out to. Mae hynny'n mynd at eich pwynt olaf ynglŷn â chyflawni. Byddwn, mi fyddwn yn meddwl o ddifrif am gyflawni a sut yr ydym yn gwneud yn siŵr bod goruchwylio uwch a rhesymeg glir ynghylch sut y bydd yr adrodd hwnnw wedyn yn cael ei wneud ar y cynnydd yr ydym yn ei wneud, a pha un a ydym yn gwneud y math o gynnydd yr ydym wirioneddol eisiau ei wneud ac yr oeddem yn bwriadu ei wneud o’r dechrau.
16:30 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We are way over time in this statement, but I have several Members not yet called. If I can get very short questions from each Member and short answers from the Minister, then I’ll call a few more speakers and extend the time. So, one question each, please. Joyce Watson. Rydym ymhell dros amser yn y datganiad hwn, ond mae gennyf sawl Aelod nad ydynt wedi eu galw hyd yma. Os gallaf gael cwestiynau byr iawn gan bob Aelod ac atebion byr gan y Gweinidog, yna byddaf yn galw ychydig mwy o siaradwyr ac yn ymestyn yr amser. Felly, un cwestiwn yr un, os gwelwch yn dda. Joyce Watson.
16:30 - Joyce Watson
I thought you were looking at me. Yes, I’ll be very brief and I thank you for extending it. First Minister—sorry, I’ve done it now. I’ve promoted you now. [Laughter.] Cabinet Secretary, can I ask you—it will be a brief question—whether you agree that the importance of tackling mental health head on really starts in the workplace? Will you welcome the fact that the Assembly yesterday—the Commission—signed an understanding called the Time to Change pledge, which clearly sets out our vision that we will support anybody, whoever they are, if they have a need to access support in the workplace because of their own mental health well-being, and that we will always be there for them? Roeddwn i'n meddwl eich bod yn edrych arnaf i. Iawn, byddaf yn gryno iawn ac rwy’n diolch i chi am ymestyn. Brif Weinidog—mae'n ddrwg gennyf, rwyf innau wedi ei wneud nawr. Rwyf wedi rhoi dyrchafiad i chi nawr. [Chwerthin.] Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn i chi—fe fydd yn gwestiwn cryno—pa un a ydych chi'n cytuno bod y pwysigrwydd o fynd i'r afael yn uniongyrchol ag iechyd meddwl wir yn dechrau yn y gweithle? Ydych chi’n croesawu'r ffaith bod y Cynulliad ddoe—y Comisiwn—wedi llofnodi dealltwriaeth o'r enw yr addewid Amser i Newid, sy'n nodi'n glir ein gweledigaeth y byddwn yn cefnogi unrhyw un, pwy bynnag ydyn nhw, os ydyn nhw angen cael gafael ar gymorth yn y gweithle oherwydd lles eu hiechyd meddwl eu hunain, ac y byddwn bob amser yno i’w helpu?
16:31 - Vaughan Gething
Yes, I completely agree. I think it’s important that the Assembly and the Commission are showing leadership in this area too, not only in signing up to the Time to Change Wales pledge, but in recognising that being able to go back to work, and being able to remain in work, is really important for maintaining people’s sense of self-worth and well-being. I think most of us here get some enjoyment from actually being in the workplace. For lots of people, it can be a really important part of staying well and then recovering too. So, I’m really pleased to hear that the Commission is showing leadership in this area. Ydw, rwy’n cytuno’n llwyr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y Cynulliad a'r Comisiwn yn dangos arweiniad yn y maes hwn hefyd, nid yn unig drwy ymrwymo i'r addewid Amser i Newid Cymru, ond drwy gydnabod bod gallu mynd yn ôl i'r gwaith, a gallu aros mewn gwaith, yn wirioneddol bwysig ar gyfer cynnal ymdeimlad pobl o hunanwerth a lles. Rwy’n credu bod y rhan fwyaf ohonom ni yma yn cael rhywfaint o fwynhad o fod yn y gweithle mewn gwirionedd. I lawer o bobl, gall fod yn rhan bwysig iawn o gadw'n iach ac yna gwella hefyd. Felly, rwy’n falch iawn o glywed bod y Comisiwn yn dangos arweiniad yn y maes hwn.
16:31 - Darren Millar
Thank you, Cabinet Secretary, for your statement today. One of the things that I noted in the report and very much welcome is an increased focus on prevention and general health, mental health and well-being. I wonder to what extent you’ve considered the opportunities to introduce mindfulness into our schools across Wales. You’ll be aware that there’s been a fantastic project, which is being led by Pen y Bryn school in my own constituency in the town of Colwyn Bay, where they’ve been using mindfulness in that school. It’s built up tremendous resilience amongst the pupils there to be able to cope with the day-to-day pressures of school life and, indeed, gives them that resilience, which they can then take on into their high school education and even further. I note that there is a reference to mindfulness in the plan. I’m very pleased to see that. It’s the first time that it’s appeared. But, I wonder to what extent that’s going to be delivered and how it’s going to be delivered to people of all ages. We’ve heard about the pressures on CAMHS in particular. This, I believe, is an opportunity for us to seize the moment and do something in particular around mindfulness in our schools. Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Un o'r pethau a nodais yn yr adroddiad ac yr wyf yn ei groesawu’n fawr iawn yw pwyslais cynyddol ar atal ac iechyd cyffredinol, iechyd meddwl a lles. Tybed i ba raddau yr ydych wedi ystyried y cyfleoedd i gyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar i’n hysgolion ledled Cymru. Byddwch yn ymwybodol y bu brosiect gwych, sy'n cael ei arwain gan ysgol Pen y Bryn yn fy etholaeth fy hun yn nhref Bae Colwyn, lle y maent wedi bod yn defnyddio ymwybyddiaeth fyfyriol yn yr ysgol honno. Mae'n meithrin cydnerthedd aruthrol ymhlith y disgyblion yno i allu ymdopi â phwysau bywyd yr ysgol o ddydd i ddydd ac, yn wir, yn rhoi’r cydnerthedd, y gallant wedyn ei ddefnyddio yn eu haddysg ysgol uwchradd a hyd yn oed ar ôl hynny. Nodaf fod cyfeiriad at ymwybyddiaeth fyfyriol yn y cynllun. Rwy'n falch iawn o weld hynny. Dyma'r tro cyntaf iddo ymddangos. Ond, tybed i ba raddau y mae hynny'n mynd i gael ei ddarparu a sut mae'n mynd i gael ei ddarparu i bobl o bob oed. Rydym wedi clywed am y pwysau ar CAMHS yn arbennig. Mae hyn, yn fy marn i, yn gyfle i ni achub ar y cyfle a gwneud rhywbeth yn ymwneud ag ymwybyddiaeth fyfyriol, yn arbennig, yn ein hysgolion.
16:33 - Vaughan Gething
Thank you for the comments. I met Chris Ruane some time ago around the work that he had done in the cross-party group in Westminster. There was a consensus there for a broader approach, and the politicians themselves have found the usefulness of a mindfulness approach. I’m pleased you recognise that it’s formally mentioned in the delivery plan as well. The challenge will always be: what is the most effective route to support people to have that prevention and that resilience? I’d be very happy for you to write to me with details of the project that you mentioned in your constituency and how the school thinks that they have seen an improvement. That can then help to inform our approach as well. It’s something that we’re open-minded to, if you like. Diolch am y sylwadau. Cyfarfûm â Chris Ruane beth amser yn ôl ynghylch y gwaith yr oedd wedi'i wneud yn y grŵp trawsbleidiol yn San Steffan. Roedd consensws yno am ymagwedd ehangach, ac mae'r gwleidyddion eu hunain wedi canfod defnyddioldeb ymagwedd ymwybyddiaeth fyfyriol. Rwy'n falch eich bod yn cydnabod ei fod yn cael ei grybwyll yn ffurfiol yn y cynllun cyflawni hefyd. Yr her bob amser fydd: beth yw'r llwybr mwyaf effeithiol i gefnogi pobl i gael yr atal hwnnw a’r cydnerthedd hwnnw? Byddwn yn hapus iawn i chi ysgrifennu ataf gyda manylion y prosiect a grybwyllwyd gennych yn eich etholaeth chi a sut mae'r ysgol yn credu eu bod wedi gweld gwelliant. Gallai hynny wedyn helpu i lywio ein hymagwedd ninnau hefyd. Mae'n rhywbeth y mae gennym feddwl agored ynglŷn ag ef, os mynnwch.
16:33 - Huw Irranca-Davies
Thank you for the statement, Cabinet Secretary, and for the launch of the strategy yesterday. It was a busy day for you on World Mental Health Day 2016 with events at Hafal, the Samaritans and others. You will have heard, as well, the inspirational speech by Nigel Owens, talking about removing the stigma and talking openly about mental health issues, which we all need to do. Could I ask him, in terms of community resilience, what role he thinks initiatives such as Maesteg becoming a dementia-friendly town, the parish of Kenfig Hill and some of the churches joining together to become dementia-friendly parishes, the men’s shed movement—the first one in the UK was in Tondu in my constituency, but now is in Maesteg and is spreading throughout the country—and the work of champions in mental health, such as Mark Williams in Ogmore Vale, championing perinatal mental health, which is touched upon in this strategy, and also men’s mental health as well—? Isn’t it right that these people and these organisations will underpin the success of this strategy? Diolch i chi am y datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am lansiad y strategaeth ddoe. Roedd yn ddiwrnod prysur i chi ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2016 gyda digwyddiadau yn Hafal, y Samariaid ac eraill. Byddwch wedi clywed, hefyd, yr araith ysbrydoledig gan Nigel Owens, yn siarad am gael gwared ar y stigma a siarad yn agored am faterion iechyd meddwl, y mae angen i ni i gyd ei wneud. A gaf fi ofyn iddo, o ran cydnerthedd cymunedol, pa ran a chwaraeir gan fentrau megis Maesteg yn dod yn dref sy’n ystyriol o ddementia, plwyf Mynydd Cynffig a rhai o'r eglwysi yn ymuno â'i gilydd i ddod yn blwyfi sy’n ystyriol o ddementia, y mudiad siediau dynion— roedd yr un gyntaf yn y DU yn Nhondu yn fy etholaeth i, ond mae nawr ym Maesteg ac yn lledaenu ledled y wlad—a gwaith hyrwyddwyr ym maes iechyd meddwl, fel Mark Williams ym Mro Ogwr, sy’n hyrwyddo iechyd meddwl amenedigol, a grybwyllir yn y strategaeth hon, a hefyd iechyd meddwl dynion yn ogystal? Onid yw’n iawn y bydd y bobl hyn a'r sefydliadau hyn yn tanategu llwyddiant y strategaeth hon?
16:34 - Vaughan Gething
Yes. I’m very happy to recognise the series of references you made to your constituency, where real work is taking place. You’ll recognise that we’ve got an ambition for Wales to be a generally dementia-friendly nation, and that means more dementia-friendly communities and a broader approach that we need to take as a society. Some of that is about recognising that a number of the problems that men face are about their inability or unwillingness to talk or to be open about challenges, which are internalised and then end up being a bigger problem than they otherwise might need to. I’m really pleased to recognise the volunteer movements that are taking place, encouraging men in particular to find the space to have that conversation, to be more open and to actually have a better way of dealing with the challenges that many of us will face at different points in our life. Ie. Rwy'n hapus iawn i gydnabod y gyfres o gyfeiriadau a wnaethoch at eich etholaeth, lle mae gwaith gwirioneddol yn cael ei wneud. Byddwch yn cydnabod bod gennym uchelgais i Gymru fod yn genedl sy’n gyffredinol ystyriol o ddementia, ac mae hynny'n golygu mwy o gymunedau ystyriol o ddementia ac ymagwedd ehangach y mae angen inni ei chymryd fel cymdeithas. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â chydnabod bod nifer o'r problemau sy'n wynebu dynion yn ymwneud â'u hanallu neu eu hamharodrwydd i siarad neu i fod yn agored am heriau, sy'n cael eu mewnoli ac yna yn y pen draw yn mynd yn broblem fwy nag y dylai fod fel arall. Rwy'n hynod o falch o gydnabod y mudiadau gwirfoddol sy'n digwydd, gan annog dynion yn arbennig i ddod o hyd i'r lle i gael y sgwrs honno, i fod yn fwy agored ac mewn gwirionedd i gael ffordd well o ymdrin â'r heriau y bydd llawer ohonom yn eu hwynebu ar wahanol adegau yn ein bywyd.
I’m really pleased to deal with the point you raised about stigma, and not just Nigel Owens—there’s a broader point here about the world of sport, where actually there’s an opportunity to reach out, not just to men, and to recognise people who achieve at a high level and the challenges that they face, and for them to be open to talking about their own experiences, and about how that can feed into community-based sport for men and women, too. So, there’s lots for us to be excited about, and to harness the advantages we can gain for all those different parts of our community and the different reach that different people have, because sometimes the message isn’t most effectively delivered by a politician. Rwy'n falch iawn o ymdrin â'r pwynt a godwyd gennych ynglŷn â stigma, ac nid dim ond Nigel Owens—mae pwynt ehangach yma am y byd chwaraeon, lle mae cyfle mewn gwirionedd i estyn allan, nid yn unig at ddynion, ac i gydnabod pobl sy'n cyflawni ar lefel uchel a'r heriau y maen nhw’n eu hwynebu, ac iddynt fod yn agored i siarad am eu profiadau eu hunain, ac am sut y gall hynny fwydo i mewn i chwaraeon yn y gymuned ar gyfer dynion a menywod, hefyd. Felly, mae llawer i ni fod yn gyffrous amdano, ac i harneisio’r manteision y gallwn eu cael ar gyfer yr holl wahanol rannau hynny o'n cymuned a'r cyrhaeddiad gwahanol sydd gan wahanol bobl, oherwydd weithiau nid yw'r neges yn cael ei chyflwyno'n fwyaf effeithiol gan wleidydd.
16:36 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Finally, Nathan Gill. Yn olaf, Nathan Gill.
16:36 - Nathan Gill
Thank you, Llywydd. Cabinet Secretary—for now—Nigel Owens OBE yesterday talked about the need to talk about mental health issues, and he also talked about how suicide is the biggest killer of men under the age of 45. I would like to see counselling services in every school in Wales, which I think would go a long way towards preventative medicine, which is something that you’ve hit on quite a lot in this report. It would also encourage people, especially men, to talk about their feelings from a younger age. Do you agree with that, and do you think it is possible for us as a nation to be able to have counsellors in every school in Wales? Diolch i chi, Lywydd.  Ysgrifennydd y Cabinet—am nawr—siaradodd Nigel Owens OBE ddoe am yr angen i siarad am faterion iechyd meddwl, ac roedd hefyd yn siarad am hunanladdiad fel y lladdwr mwyaf ar gyfer dynion dan 45 oed. Hoffwn weld gwasanaethau cwnsela ym mhob ysgol yng Nghymru, ac rwy’n meddwl y byddai yn mynd yn bell tuag at feddygaeth ataliol, sy'n rhywbeth yr ydych wedi sôn amdano gryn dipyn yn yr adroddiad hwn. Byddai hefyd yn annog pobl, yn enwedig dynion, i siarad am eu teimladau o oedran iau. A ydych chi’n cytuno â hynny, ac a ydych chi’n credu ei bod yn bosibl i ni fel cenedl allu cael cwnselwyr ym mhob ysgol yng Nghymru?
16:36 - Vaughan Gething
Yes, I do. We’ve made significant progress on school counselling, in fact, and I’m pleased to see that there’s some recognition both of the importance of it and support for the difficult choices that local authorities and headteachers will have to make about their budget lines, as we face significant challenge over public expenditure generally. But, you make an important point about middle-aged men in particular and suicide risk, and there is this point again about different actors being prepared to stand up and say that they face challenges themselves and to describe how they got through it. What’s been really interesting, actually, is not just veterans talking about it, but often serving emergency services personnel as well, who’ve talked about the challenges they’ve had and how they got through them. So, there’s a wide range of different people who recognise that they’ve got a role in improvement across the country. We have a responsibility as the Government, and the NHS does as well, but actually a greater number of actors taking part in challenging stigma and discrimination will also help, I think, to improve the outcomes of people who really do reach out for support when they most need it. Ydw. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ar gwnsela mewn ysgolion, mewn gwirionedd, ac rwy'n falch o weld bod rhywfaint o gydnabyddiaeth o’i bwysigrwydd a chefnogaeth ar gyfer y dewisiadau anodd y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol a phenaethiaid eu gwneud am eu llinellau cyllideb, wrth i ni wynebu her sylweddol o ran gwariant cyhoeddus yn gyffredinol. Ond, rydych yn gwneud pwynt pwysig am ddynion canol oed yn arbennig a risg hunanladdiad, a cheir y pwynt hwn eto am wahanol actorion yn barod i sefyll a dweud eu bod yn wynebu heriau eu hunain ac i ddisgrifio sut y maent wedi dod drwyddynt. Beth sydd wedi bod yn ddiddorol iawn, mewn gwirionedd, yw nid yn unig cyn-filwyr yn siarad am y peth, ond yn aml personél gwasanaethau brys sy’n gwasanaethu hefyd, sydd wedi siarad am yr heriau y maent wedi eu hwynebu a sut y maent wedi dod drwyddynt. Felly, mae amrywiaeth eang o wahanol bobl sy'n cydnabod bod ganddynt ran mewn gwelliant ar draws y wlad. Mae gennym gyfrifoldeb fel y Llywodraeth, ac mae gan y GIG hefyd, ond mewn gwirionedd bydd mwy o actorion yn cymryd rhan mewn herio stigma a gwahaniaethu hefyd yn helpu, rwy’n credu, i wella canlyniadau pobl sydd wir yn estyn allan am gymorth pan fyddant fwyaf ei angen.
16:37 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Thank you to the Cabinet Secretary.
6. Datganiad: Band Eang Cyflym Iawn yng Nghymru 6. Statement: Superfast Broadband in Wales
Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ar fand eang cyflym iawn. Rwy’n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Julie James. The next item is a statement by the Minister for Skills and Science on superfast broadband in Wales. I call on the Minister to make the statement—Julie James.
16:38 - Julie James
Diolch, Lywydd. Today, I want to provide you with an update on the progress of Superfast Cymru, together with our emerging work to address the final few per cent of premises not part of the project or commercial roll-outs and a refreshed approach to communications and marketing. Diolch, Lywydd. Heddiw, rwyf eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar gynnydd Cyflymu Cymru, ynghyd â'n gwaith sy'n dod i'r amlwg i fynd i'r afael â'r ganran fechan olaf o safleoedd nad ydynt yn rhan o'r prosiect na chyflwyno masnachol ac ymagwedd newydd tuag at gyfathrebu a marchnata.
I’m sure that I do not need to impress on Members the growing importance of connectivity to homes and businesses. The opportunities it affords are limitless, and we need as many people as possible to be able to access it, but also to make the most of that access. Our aim, as outlined in ‘Taking Wales Forward’, is to bring people together digitally by offering fast, reliable broadband to every property in Wales. Rwy'n siŵr nad oes angen i mi bwysleisio i’r Aelodau bwysigrwydd cynyddol cysylltedd i gartrefi a busnesau. Mae'r cyfleoedd y mae'n eu cynnig yn ddiderfyn, ac mae arnom angen cynifer o bobl â phosibl i allu cael mynediad ato, ond hefyd i fanteisio i'r eithaf ar y mynediad hwnnw. Ein nod, fel yr amlinellwyd yn ‘Symud Cymru Ymlaen', yw dod â phobl at ei gilydd yn ddigidol drwy gynnig band eang cyflym, dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru.
We continue to make solid progress on Superfast Cymru. To the end of June this year, we have provided access to superfast broadband to over 610,000 premises that would not have been able to receive superfast broadband speeds without our intervention. Today I have also provided Members with information about progress by local authority. Let me be clear: that’s 610,000 premises across Wales that can now enjoy broadband download speeds averaging around 66 Mbps as a result of this investment. This compares to an average speed of less than 10 across Wales when we started this work in 2013. However, this remains a complex project and deployment remains challenging. BT Openreach needs to maintain the momentum if it is to hit its contractual targets. My officials and I are monitoring progress very closely as the project moves towards completion. Rydym yn parhau i wneud cynnydd cadarn ar Cyflymu Cymru. Hyd at ddiwedd mis Mehefin eleni, rydym wedi darparu mynediad at fand eang cyflym iawn i dros 610,000 o safleoedd na fyddai wedi gallu cael cyflymderau band eang cyflym iawn heb ein hymyrraeth ni. Heddiw, rwyf hefyd wedi darparu gwybodaeth i'r Aelodau am gynnydd fesul awdurdod lleol. Gadewch imi fod yn glir: mae hynny’n 610,000 o safleoedd ar draws Cymru sydd erbyn hyn yn gallu mwynhau cyflymdra lawrlwytho band eang o tua 66 Mbps ar gyfartaledd o ganlyniad i'r buddsoddiad hwn. Mae hyn yn cymharu â chyflymder cyfartalog o lai na 10 ledled Cymru pan ddechreuasom ar y gwaith hwn yn 2013. Fodd bynnag, mae hwn yn dal i fod yn brosiect cymhleth ac mae gweithredu yn parhau i fod yn heriol. Mae angen i BT Openreach gynnal y momentwm os yw am gyrraedd ei dargedau cytundebol. Mae fy swyddogion a minnau yn monitro cynnydd yn ofalus iawn wrth i'r prosiect symud tuag at gael ei gwblhau.
However, this is not just about numbers of premises and speed. The real benefit of Superfast Cymru is going to be how it is improving lives and supporting businesses. I’d like to share two examples with you. The mother of an autistic boy has told us how her son uses superfast connectivity to use specialist apps and websites on his iPad. He reads on his Kindle and does and submits his homework via an online portal. With a household of five, superfast broadband means he can still get online even if everyone else is online too. An entrepreneur in Conwy county, north Wales, who runs a cake-baking business uses broadband on a daily basis to communicate with customers, upload all her images quickly to a cloud storage system, keep up to date on social media and learn new skills from webinars and tutorials. Superfast broadband has enabled her to be far more efficient, dedicating more time to baking and decorating, rather than waiting for documents to download or trying to get in touch with customers. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ymwneud â nifer y safleoedd a chyflymder yn unig. Budd gwirioneddol Cyflymu Cymru fydd sut mae'n gwella bywydau a chefnogi busnesau. Hoffwn rannu dwy enghraifft gyda chi. Mae mam bachgen awtistig wedi dweud wrthym bod ei mab yn defnyddio cysylltedd cyflym iawn i ddefnyddio aps a gwefannau arbenigol ar ei iPad. Mae'n darllen ar ei Kindle ac yn gwneud ac yn cyflwyno ei waith cartref drwy borth ar-lein. Er ei fod yn byw ar aelwyd o bump, mae band eang cyflym iawn yn golygu y gall ddal i fynd ar-lein hyd yn oed os yw pawb arall ar-lein hefyd. Mae entrepreneur yn Sir Conwy, yn y gogledd, sy'n rhedeg busnes pobi cacennau yn defnyddio band eang yn ddyddiol i gyfathrebu â chwsmeriaid, llwytho ei holl ddelweddau yn gyflym i system storio cwmwl, cadw’n gyfredol ar gyfryngau cymdeithasol a dysgu sgiliau newydd o weminarau a thiwtorialau. Mae band eang cyflym iawn wedi ei galluogi i fod yn llawer mwy effeithlon, neilltuo mwy o amser i bobi ac addurno, yn hytrach nag aros i ddogfennau lawrlwytho neu geisio cysylltu â chwsmeriaid.
However, the roll-out has had its fair share of challenges and Members regularly write to me seeking answers and updates on a range of issues related to the roll-out. I thought it would be helpful if I addressed some of the common themes here. Firstly, the build phase of the Superfast Cymru project is due to be completed in June 2017. As with other major contracts of this size, there will then be a six- month window for Openreach to complete any in-build elements ahead of a contract drop dead date of 31 December 2017. You will all recall that the project was extended to June 2017 to allow for the inclusion of an additional 40,000 premises. The extension followed an open-market review which showed the number of premises that needed to be addressed under the project had increased, for example because of new-build premises or where premises due for roll-out under telecommunications companies’ own plans had been deemed economically unviable by them. Fodd bynnag, mae'r broses o gyflwyno wedi cael ei chyfran deg o heriau ac mae Aelodau yn ysgrifennu'n rheolaidd ataf yn gofyn am atebion a diweddariadau ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â'r broses gyflwyno. Roeddwn i'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol pe byddwn yn mynd i'r afael â rhai o'r themâu cyffredin hyn. Yn gyntaf, mae cam adeiladu prosiect Cyflymu Cymru i fod i gael ei gwblhau ym mis Mehefin 2017. Fel gyda chontractau mawr eraill o'r maint hwn, bydd wedyn ffenestr chwe mis i Openreach gwblhau unrhyw fewn-adeiladu elfennau cyn dyddiad terfynol eithaf y contract, sef 31 Rhagfyr 2017. Byddwch i gyd yn cofio bod y prosiect yn ymestyn i fis Mehefin 2017 er mwyn caniatáu ar gyfer cynnwys 40,000 o safleoedd ychwanegol. Mae'r estyniad yn dilyn adolygiad y farchnad agored a oedd yn dangos bod nifer y safleoedd yr oedd angen mynd i'r afael â nhw o dan y prosiect wedi cynyddu, er enghraifft, oherwydd safleoedd a adeiladwyd o’r newydd neu pan oedd safle lle’r oedd y rhaglen i fod i gael ei chyflwyno dan gynlluniau cwmnïau telathrebu eu hunain wedi eu hystyried fel bod yn annichonadwy yn economaidd ganddynt.
Secondly, BT is delivering superfast fibre broadband using two technologies—fibre to the cabinet and fibre to the premises. Fibre to the cabinet involves installing a fibre roadside cabinet close to an existing copper cabinet and connecting the two so that the broadband signal travels to the home or business over the existing copper telephone cable. This is the most straightforward, cost-effective and common option, as it enables BT to improve the broadband for multiple premises at once. Fibre to the premises is more complicated. It involves extending a fibre cable to the premises itself. In many cases, the solution for each premises is bespoke. This adds to the cost, complexity and time taken to deliver. Yn ail, mae BT yn darparu band llydan ffibr cyflym iawn gan ddefnyddio dau dechnoleg—ffibr i'r cwpwrdd a ffibr i'r safle. Mae ffibr i'r cwpwrdd yn golygu gosod cwpwrdd ffibr ar ochr y ffordd yn agos at gwpwrdd copr presennol a chysylltu'r ddau fel bod y signal band eang yn teithio i'r cartref neu fusnes dros y cebl ffôn copr sy'n bodoli eisoes. Dyma'r dewis symlaf, mwyaf cost-effeithiol a chyffredin, gan ei fod yn galluogi i BT wella band eang ar gyfer safleoedd lluosog ar yr un pryd. Mae ffibr i'r safle yn fwy cymhleth. Mae'n golygu ymestyn cebl ffibr i'r safle ei hun. Mewn llawer o achosion, mae’r ateb ar gyfer pob safle yn benodol ar gyfer y safle hwnnw. Mae hyn yn ychwanegu at y gost, y cymhlethdod a'r amser a gymerir i ddarparu’r gwasanaeth.
Fibre cannot be the answer for every premises. The Access Broadband Cymru scheme will continue to play a part in helping people to achieve a step change in their broadband speed, and the ultrafast connectivity voucher will continue to help businesses get the speeds they need to ensure they remain competitive. Furthermore, we have commissioned Airband Community Internet Ltd to deliver to around 2,000 business premises using a wireless solution. This work is progressing at pace and will be completed by December of this year. Ni all ffibr fod yr ateb ar gyfer pob safle. Bydd y cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn parhau i chwarae rhan mewn helpu pobl i gyflawni newid sylweddol yn eu cyflymder band eang, a bydd y daleb gwibgyswllt yn parhau i helpu busnesau i gael y cyflymder y maent ei angen i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gystadleuol. Hefyd, rydym wedi comisiynu Airband Community Internet Ltd i gyflenwi i oddeutu 2,000 o safleoedd busnes gan ddefnyddio datrysiad di-wifr. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ar gyflymder a bydd wedi ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr eleni.
As the Superfast Cymru and Airband projects enter the home straight, we cannot rest on our laurels. We will need to focus on what comes next and how we are going to reach the final few per cent of premises. We’ve already started work to define where those premises will be. On 9 September, we published a public consultation to primarily engage with the telecoms industry to understand their deployment plans. This will enable us to target premises currently not part of any roll-out to further extend the Superfast Cymru project using £12.9 million of funding generated through the predicted take-up levels. We hope that this funding can be used to provide superfast broadband access ahead of the end of the current contract in December 2017. This extra funding will, however, only go part of the way to addressing the remaining premises. That is why I have asked officials to look at how deployment can continue into 2018 and beyond. Wrth i’r prosiectau Cyflymu Cymru ac Airband agosáu at y terfyn, ni allwn orffwys ar ein rhwyfau. Bydd angen i ni ganolbwyntio ar yr hyn sy'n dod nesaf a sut yr ydym yn mynd i gyrraedd y ganran fechan olaf o safleoedd. Rydym eisoes wedi dechrau gweithio i ddiffinio lle bydd y safleoedd hynny. Ar 9 Medi, cyhoeddwyd ymgynghoriad cyhoeddus i ymgysylltu’n bennaf â'r diwydiant telathrebu i ddeall eu cynlluniau gweithredu. Bydd hyn yn ein galluogi i dargedu safleoedd nad ydynt ar hyn o bryd yn rhan o unrhyw gyflwyno i ymestyn y prosiect Cyflymu Cymru ymhellach gan ddefnyddio £12.9 miliwn o gyllid a gynhyrchir drwy'r lefelau manteisio a ragwelir. Rydym yn gobeithio y gellir defnyddio’r cyllid hwn i ddarparu mynediad band eang cyflym iawn cyn diwedd y contract presennol ym mis Rhagfyr 2017. Bydd yr arian ychwanegol, fodd bynnag, ddim ond yn mynd ran o'r ffordd i fynd i'r afael â'r safleoedd sy'n weddill. Dyna pam yr wyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar sut y gall gweithredu barhau i 2018 a thu hwnt.
Work is already well under way, with plans to launch a further detailed formal open-market review process later in the autumn. This is required to underpin the evidence-based assessment of where public intervention can take place under EU state aid guidelines. Only once the outcome of the review has been analysed will we be in a position to confirm whether and how a new procurement to provide access for further premises can be taken forward. Procurement activity could take place during 2017 with a new contract to commence in early 2018. However, I need to be clear that we cannot provide fibre connectivity at any cost, as providing value for money for the public purse is also vital. Mae gwaith eisoes wedi dechrau, gyda chynlluniau i lansio proses bellach o adolygu ffurfiol, manwl y farchnad agored, yn ddiweddarach yn yr hydref. Mae hyn yn ofynnol i fod yn sail i'r asesiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ble y gall ymyrraeth gyhoeddus ddigwydd dan ganllawiau cymorth gwladwriaethol yr UE. Dim ond ar ôl i ganlyniad yr adolygiad gael ei ddadansoddi y byddwn mewn sefyllfa i gadarnhau pa un a ellir datblygu proses gaffael newydd i ddarparu mynediad ar gyfer safleoedd eraill, a sut y gellir gwneud hynny. Gallai'r gweithgaredd caffael ddigwydd yn ystod 2017 gyda chontract newydd i ddechrau yn gynnar yn 2018. Fodd bynnag, mae angen imi fod yn glir na allwn ddarparu cysylltedd ffibr ar unrhyw gost, gan fod darparu gwerth am arian i bwrs y wlad hefyd yn hanfodol.
Work is also in hand to explore future funding options, including EU funding. We will be pressing BT to release further funding that it generates through take-up of the existing Superfast Cymru roll-out so that we can reinvest this funding in future deployments. We will also be seeking further support from the UK Government as well as looking to our own budget. Mae gwaith ar y gweill hefyd i ymchwilio i ddewisiadau ariannu yn y dyfodol, gan gynnwys cyllid yr UE. Byddwn yn pwyso ar BT i ryddhau cyllid ychwanegol y mae'n ei gynhyrchu drwy fod pobl yn manteisio ar y cyflwyno presennol o Cyflymu Cymru fel y gallwn ailfuddsoddi’r arian hwn mewn gweithredu yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn ceisio cymorth pellach gan Lywodraeth y DU yn ogystal ag edrych ar ein cyllideb ein hunain.
Like the two examples I mentioned earlier, we want to make sure that everyone can make the most of the access they have to superfast broadband. This month, we have begun a multi-layered regional communications and engagement programme across Wales to raise awareness of the benefits of superfast broadband to consumers and to encourage use of the technology available to them. Fel y ddwy enghraifft y soniais amdanynt yn gynharach, rydym eisiau gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu gwneud y gorau o'r mynediad sydd ganddynt at fand eang cyflym iawn. Y mis hwn, rydym wedi dechrau rhaglen gyfathrebu ac ymgysylltu rhanbarthol aml-haenog ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o fanteision band eang cyflym iawn i ddefnyddwyr ac i annog y defnydd o'r dechnoleg sydd ar gael iddynt.
We will be delivering activity in every local authority in Wales between now and December 2017 through a blended approach of events, public relations, community engagement and advertising. We are working closely with local authorities to provide them with a toolkit to promote the use of superfast broadband, in addition to our own activity in each area. Byddwn yn cyflwyno gweithgarwch ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru rhwng nawr a Rhagfyr 2017 drwy ddull cyfunol o ddigwyddiadau, cysylltiadau cyhoeddus, ymgysylltu â'r gymuned a hysbysebu. Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i roi pecyn cymorth iddynt i hybu'r defnydd o fand eang cyflym iawn, yn ychwanegol at ein gweithgarwch ein hunain ym mhob ardal.
Finally, we are developing our website further to include personalised advice for customers and consumers to help people make more informed choices about their broadband. Members can be certain that I remain committed to offering fast, reliable broadband to every property in Wales, that plans to tackle the final few per cent are already in hand and that we are putting in place a programme to encourage consumers to make the most of the opportunities that this superfast broadband provides. Yn olaf, rydym yn datblygu ein gwefan ymhellach i gynnwys cyngor personol i gwsmeriaid a defnyddwyr i helpu pobl i wneud dewisiadau mwy gwybodus am eu band eang. Gall aelodau fod yn sicr fy mod yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnig band eang dibynadwy, cyflym i bob eiddo yng Nghymru, bod cynlluniau i fynd i'r afael â'r ychydig y cant olaf eisoes ar y gweill a’n bod yn rhoi rhaglen ar waith i annog defnyddwyr i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd y mae’r band eang cyflym iawn hwn yn eu darparu.
16:45 - Dai Lloyd
A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei datganiad? Yn naturiol, mater pwysig iawn—band eang cyflym iawn. Mae wedi bod yn destun nifer o sylwadau gan bobl yn fy ardal i. Yn naturiol, rydym ni’n croesawu bod yna gynnydd yn y gwaith gerbron, ac wrth gwrs rydym ni wedi cael darpariaeth gwybodaeth ychwanegol ynglŷn â’r sefyllfa fesul sir yn ogystal. Wrth gwrs, fel y mae’r Gweinidog wedi dweud eisoes, mae’r prosiect yma wedi bod yn hir ac yn gymhleth ac erys sawl her i’w datrys. May I thank the Minister for her statement? Naturally, it’s a very important subject—superfast broadband. It’s been the subject of a number of comments from people in my region. Naturally, we welcome the fact that there has been progress in this work and we have received additional information about the situation, on a county-by-county basis. As the Minister has already said, this project has been a long-term one and a complex one, with several challenges to face.
Rhai o’r rheini—o edrych ar y tabl o’r ddarpariaeth mynediad i fand eang yn ein gwahanol siroedd ni, rŷm ni’n gweld, yn llefydd fel Ceredigion, mai dim ond 60 y cant o’r tai sydd â mynediad i fand eang yng Ngheredigion. Ym Mhowys, nid yw’r sefyllfa fawr gwell: 65 y cant, yn y fan honno, o dai sy’n cael mynediad i fand eang cyflym iawn. Buaswn i’n gobeithio, pan fydd yr adolygiad yma’n dod i weld faint o waith sydd yn dal i’w wneud—fel rydych chi’n ei ddweud yn fan hyn, yn 2018 ac ymlaen o hynny—y bydd yna adolygiad o’r niferoedd o’r cartrefi yn ein hardaloedd mwyaf gwledig ni sydd yn cael problemau ar hyn o bryd o ran cael mynediad i fand eang, achos mae o’n fater i’w resynu braidd bod y ffigurau yna mor isel yn y siroedd yna, o gysidro bod yna gynnydd da iawn mewn llefydd eraill. Some of those—from looking at the table of the provision of broadband access in our counties, we see that places such as Ceredigion have only 60 per cent of premises with access to broadband. In Powys, the situation isn’t much better: 65 per cent of premises there have access to superfast broadband. I would hope, when this review takes place into how much work there is still to do—as you said here, in 2018 and onwards—that there will be a review of the number of premises in our most rural areas that are having problems at present in gaining access to broadband, because it is a matter of regret that those figures are so low in those counties, considering the fact that there has been very good progress in other areas.
Yn troi at yr ochr fusnes i bethau, yn naturiol, mae’n dda i ddweud, dros y blynyddoedd, fod BT wedi cael arian sylweddol o gronfeydd Ewropeaidd, felly, o ERDF—rhywbeth fel £250 miliwn dros y blynyddoedd. Mae busnes yn deall bod angen buddsoddiad fel yna, ond hefyd beth na all busnes ei weld—y rheini sydd wedi bod yn siarad efo fi, ta beth—ydy bod eu costau nhw fel busnes hefyd wedi dyblu ac yn gallu bod yn uchel iawn, jest er mwyn iddyn nhw gael mynediad i fand eang cyflym iawn. Nawr, rwy’n deall bod hynny, wrth gwrs, y tu allan i unrhyw fuddsoddiad y mae’r Llywodraeth yma’n ei wneud i gynllun Superfast Cymru, ond dyna beth sy’n pryderu busnesau allan yn y fan yna. Rwyf wedi cael sawl cyfarfod dros y misoedd diwethaf ynglŷn ag argaeledd band eang cyflym iawn, a phan mae o’n dod gerllaw, y gost gynyddol i’r busnes—maen nhw’n gorfod talu lot amdano fo. I’r perwyl yna, buaswn i’n gofyn i’r Gweinidog, yn ogystal â’r diweddariad ar y pwyntiau ar sut rydym ni’n mynd i wella’r sefyllfa yng Ngheredigion a Phowys i bobl yn yr ardaloedd hynny, a fyddai’r Gweinidog yn fodlon cyfarfod â rhai arweinyddion busnes sydd wedi bod yn dwyn eu cwynion lleol i mi yn ardal Abertawe, un o’r dyddiau yma, er mwyn i ni allu rhoi sicrwydd i’n busnesau ni sydd yn dibynnu yn gynyddol ar y dechnoleg yma, fod yna sicrwydd am y ffordd ymlaen ynglŷn â’r ddarpariaeth ac ynglŷn â’r costau. Diolch yn fawr. Turning to the business aspect of things, it’s good to say that, over the years, BT has received significant funding from EU funds, such as ERDF and so on—around £250 million over the years. Business understands that that kind of investment is needed, but what business can’t see—those that have been talking to me, at least—is that their costs as businesses have also doubled and can be very high, just for them to gain access to superfast broadband. I understand that that is outwith any investment that this Government does make into the Superfast Cymru scheme, but that’s what’s of concern to businesses out there. I’ve had several meetings over the past few months about the availability of superfast broadband and, when it is available, the increasing costs to businesses—they have to pay a lot for that service. In that regard, I would ask the Minister, as well as having an update on the points as to how we’re going to improve the situation in Ceredigion and Powys, for people in those areas, would the Minister be willing to meet with some business leaders who have been voicing their concerns in the Swansea region in order for me to give assurance to our businesses, which are increasingly reliant on these services, that there is certainty about the way forward in terms of the provision and in terms of the costs. Thank you very much.
16:48 - Julie James
Thank you very much for those points. In terms of the roll-out and the rurality issue, the point about this programme is it is almost entirely based in rural areas, or non-metropolitan areas, because it’s a market intervention. So, the point about it is, we’re only allowed to go where the market isn’t going to go. So, it’s a truism, I’m afraid, that the market only goes to high-population areas and therefore this programme goes to lower population areas. So, you can see from the roll-out that that’s how it works. The figures are for the whole of the connectivity across, and bear in mind we’ve still got another year or so to go. Diolch yn fawr iawn i chi am y pwyntiau yna. O ran y cyflwyno a’r mater natur wledig, y pwynt am y rhaglen hon yw ei bod yn seiliedig bron yn gyfan gwbl mewn ardaloedd gwledig, neu ardaloedd anfetropolitan, oherwydd mai ymyrraeth y farchnad ydyw. Felly, y pwynt amdano yw, ni chawn ond mynd i le nad yw'r farchnad yn mynd i fynd iddo. Felly, mae'n wireb, rwy'n ofni, nad yw’r farchnad ond yn mynd i ardaloedd poblogaeth uchel ac felly mae'r rhaglen hon yn mynd i ardaloedd poblogaeth is. Felly, gallwch weld o'r cyflwyno mai dyna sut y mae'n gweithio. Mae'r ffigurau hyn ar gyfer yr holl gysylltedd ar draws, a chofiwch fod gennym tua blwyddyn arall i fynd.
So, this isn’t the final situation; this is the situation of premises passed—those are premises that definitely have a speed of 30 Mbps download or more, and most of them have 66 plus, but it’s 30 Mbps that’s the cut-off point. BT does not get paid for any premises that do not make the 30 Mbps mark. That is the target for them. So, the roll-out of broadband is faster than the premises passed number—this is from the end of June—and that’s because we have a rigorous process to test that the premises that they claim actually get the speeds that we think they should. So, there’s quite a lag in that and I spoke about the lag at the end of the contract while we get those final premises through and so on. This has been a very vigorous process to make sure that people get what we’re paying for, and we’re very keen that they should do that. Felly, nid dyma’r sefyllfa derfynol; dyma'r sefyllfa o safleoedd wedi’u pasio—dyma’r safleoedd sydd yn bendant â chyflymder lawrlwytho o 30 Mbps neu fwy, ac mae gan y rhan fwyaf ohonynt 66 a throsodd, ond 30 Mbps yw’r torbwynt. Nid yw BT yn cael eu talu am unrhyw safleoedd nad ydynt yn cyrraedd y marc 30 Mbps. Dyna'r targed iddyn nhw. Felly, mae'r broses o gyflwyno band eang yn gyflymach na nifer y safleoedd a basiwyd—mae hyn o ddiwedd mis Mehefin—ac mae hyn oherwydd bod gennym broses drylwyr i brofi bod y safleoedd y maent yn hawlio yn cael y cyflymder yr ydym yn credu y dylent fod yn ei gael mewn gwirionedd. Felly, mae cryn dipyn o oedi yn hynny a siaradais am yr oedi ar ddiwedd y contract tra byddwn yn cael y safleoedd hynny drwodd ac yn y blaen. Mae hon wedi bod yn broses gadarn iawn i wneud yn siŵr bod pobl yn cael yr hyn yr ydym yn talu amdano, ac rydym yn awyddus iawn iddynt gael hynny.
At the same time, we always knew that this wasn’t going to get to 100 per cent of premises across Wales. We all are aware of the beautiful terrain in Wales and it is glorious and very much part of what we are, but it is, of course, problematic in telecommunications terms. It’s difficult to cable, there isn’t line of sight for telegraph poles and all the rest of it; Members will be more than familiar with that, I don’t need to tell them that. That’s why we have a project that is aimed at getting to the final 4 per cent or 5 per cent of premises and that will be via other methodologies. So, people will be aware—. I’m sure all Members have had constituents talk to them about the Access Broadband Cymru scheme, for example. There are some really good examples across rural Wales. I visited one with Kirsty Williams only the other day, where really excellent satellite technology is used to get speeds of up to 100Mbps down and upload, actually. So, it’s not a second-class service in any way; it just isn’t that cable service that we’re paying for. Ar yr un pryd, roeddem yn gwybod erioed nad oedd hyn yn mynd i gyrraedd 100 y cant o safleoedd ar draws Cymru. Rydym i gyd yn ymwybodol o'r tir hardd yng Nghymru ac mae'n ogoneddus ac yn rhan bwysig o’r hyn yr ydym ni, ond y mae, wrth gwrs, yn broblemus o ran telathrebu. Mae'n anodd gosod cebl, nid oes llinell weld ar gyfer polion telegraff a phopeth arall; bydd aelodau yn fwy na chyfarwydd â hynny, nid oes angen i mi ddweud hynny wrthynt. Dyna pam mae gennym brosiect sydd â’r nod o gyrraedd y 4 y cant neu 5 y cant olaf o safleoedd a bydd hynny drwy fethodolegau eraill. Felly, bydd pobl yn ymwybodol—. Rwy'n siŵr bod pob Aelod wedi cael etholwyr yn siarad â nhw am y cynllun Allwedd Band Eang Cymru, er enghraifft. Ceir rhai enghreifftiau da iawn ar draws cefn gwlad Cymru. Ymwelais ag un gyda Kirsty Williams dim ond y diwrnod o'r blaen, lle mae technoleg lloeren ragorol mewn gwirionedd yn cael ei defnyddio i gael cyflymder o hyd at 100Mbps i lawrlwytho a lanlwytho, mewn gwirionedd. Felly, nid yw'n wasanaeth ail ddosbarth mewn unrhyw ffordd; ond nid dyma’r gwasanaeth cebl hwnnw yr ydym yn talu amdano.
So, we will get to everyone. The problem we’ve got is that nobody wants to be in the last year. So, we are where we are. BT are going to meet those targets or pay a very severe financial penalty for not doing so. They will meet them. We monitor them very closely in that and, at that point, we will have a picture right across Wales where we can target the further resource we get from the gain share from the contract into those last few premises. Felly, byddwn yn cyrraedd pawb. Y broblem sydd gennym yw nad oes neb eisiau bod yn y flwyddyn olaf. Felly, rydym lle yr ydym. Mae BT yn mynd i gyrraedd y targedau hynny, neu dalu cosb ariannol ddifrifol iawn am beidio â gwneud hynny. Byddant yn eu cyrraedd. Rydym yn eu monitro yn ofalus iawn yn hynny o beth ac, ar yr adeg honno, bydd gennym ddarlun ledled Cymru lle y gallwn dargedu'r adnoddau pellach yr ydym yn eu cael o’r gyfran o enillion o'r contract i’r ychydig safleoedd olaf hynny.
On the businesses, we don’t control the cost that the ISP people charge, but I encourage all businesses to shop around, as I encourage all individuals to shop around. I’m more than happy, if you want to write to me, to come and meet any businesses that have concerns in that regard. We do have a list of ISPs that are available, and as they say on the BBC, other brands are available. But shopping around really does get benefits for people in terms of the cost of the service afterwards. O ran y busnesau, nid ydym yn rheoli'r gost y mae'r bobl ISP yn ei chodi, ond rwy’n annog pob busnes i chwilio o gwmpas, fel yr wyf yn annog pob unigolyn i chwilio o gwmpas. Rwy'n fwy na pharod, os ydych yn dymuno ysgrifennu ataf, i ddod i gyfarfod unrhyw fusnesau sydd â phryderon yn hynny o beth. Mae gennym restr o ISPs sydd ar gael, ac fel y maent yn ei ddweud ar y BBC, mae brandiau eraill ar gael. Ond mae chwilio o gwmpas wir yn fanteisiol i bobl o ran cost y gwasanaeth wedyn.
16:52 - Russell George
I would like to firstly thank the Minister for the welcome statement today and the fact that the Superfast Cymru project has improved the availability of fibre broadband across Wales, benefiting residents and businesses alike in the intervention area. So, that should be welcome. Hoffwn ddiolch yn gyntaf i'r Gweinidog am y datganiad derbyniol heddiw a'r ffaith bod y prosiect Cyflymu Cymru wedi gwella faint o fand eang ffibr sydd ar gael ar draws Cymru, gan roi budd i drigolion a busnesau fel ei gilydd yn y maes ymyrraeth. Felly, dylai fod croeso i hynny.
Despite there being many advancements in Wales’s connectivity as a result of the Superfast Cymru project, the recently published evaluation of the programme highlights some key failings of the project to target the areas of Wales that are most in need of improved connectivity. Dai Lloyd has mentioned Ceredigion and Powys and, of course, I’m a resident of Powys myself and I appreciate the Minister providing those examples in her statement today, but I’ve got plenty of examples of constituents who’ve got alternative experiences. But, I appreciate the Minister will accept and be aware of that. I’ve got to say that I was pleased you’ve committed to the new funding stream to target premises that are not part of the roll-out. That’s to be welcomed as well. Er bod llawer o ddatblygiadau yng nghysylltedd Cymru o ganlyniad i'r prosiect Cyflymu Cymru, mae'r gwerthusiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y rhaglen yn amlygu rhai methiannau allweddol y prosiect i dargedu'r ardaloedd yng Nghymru sydd fwyaf angen gwell cysylltedd. Mae Dai Lloyd wedi crybwyll Ceredigion a Phowys ac, wrth gwrs, rwy'n byw ym Mhowys fy hun ac rwy’n gwerthfawrogi’r Gweinidog yn darparu’r enghreifftiau hynny yn ei datganiad heddiw, ond mae gennyf ddigon o enghreifftiau o etholwyr sydd wedi cael profiadau gwahanol. Ond, rwy’n gwerthfawrogi y bydd y Gweinidog yn derbyn hynny ac y bydd hi’n ymwybodol ohono. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn falch eich bod wedi ymrwymo i'r ffrwd ariannu newydd i dargedu safleoedd nad ydynt yn rhan o'r broses o gyflwyno. Mae hynny i'w groesawu hefyd.
I do have a few questions. First, are you still confident that BT will meet its contractual obligations, or are you expecting to reinvest clawback funding as a result of the failure to meet the contractual obligations or the targets? In your statement, when I heard the date of 31 December 2017, I was a little alarmed by that, but I would just like some confirmation that it is in regard to the in-built elements that you continue to work through, and that that’s no excuse for any slippage from the June 2017 date. I’m sure that is the case, but it’d be useful to have that confirmation. Mae gennyf ychydig o gwestiynau. Yn gyntaf, a ydych chi’n dal yn ffyddiog y bydd BT yn cyflawni ei rwymedigaethau cytundebol, neu a ydych chi’n disgwyl ailfuddsoddi arian adfachu yn sgil y methiant i fodloni’r rhwymedigaethau cytundebol neu'r targedau? Yn eich datganiad, pan glywais y dyddiad 31 Rhagfyr, 2017, roeddwn wedi fy nychryn braidd gan hynny, ond hoffwn gael rhywfaint o gadarnhad ei fod yn ymwneud â'r elfennau a adeiladwyd i mewn yr ydych yn parhau i weithio drwyddynt, ac nad yw hynny'n unrhyw esgus dros unrhyw lithriad o'r dyddiad Mehefin 2017. Rwy'n siŵr mai dyma yw'r sefyllfa, ond byddai'n ddefnyddiol cael y cadarnhad hwnnw.
The original open-market review conducted by Mott MacDonald identified 45,000 premises in Wales that would not benefit from the project. I’m sure you will agree that a number of businesses are making business-critical decisions based on assumptions that they will receive a fast, reliable broadband connection by a certain date. So, can I ask, are you in a position to provide the revised projected number and percentage of households and businesses, by local authority area, that will be outside the scope of the project? And are you able to proactively provide details on those households and businesses that will definitely miss out, so that they can make those contingency plans and they can make alternative arrangements via, of course, Access Broadband Cymru and the ultrafast connectivity voucher scheme? Roedd yr adolygiad marchnad agored gwreiddiol a gynhaliwyd gan Mott MacDonald yn nodi 45,000 o safleoedd yng Nghymru na fyddai'n elwa ar y prosiect. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod nifer o fusnesau yn gwneud penderfyniadau busnes hollbwysig wedi'u seilio ar ragdybiaethau y byddant yn cael cysylltiad band eang cyflym, dibynadwy erbyn dyddiad penodol. Felly, a gaf i ofyn, a ydych chi mewn sefyllfa i ddarparu'r nifer amcanol diwygiedig a chanran yr aelwydydd a busnesau, yn ôl ardal awdurdod lleol, a fydd y tu allan i gwmpas y prosiect? Ac a ydych yn rhagweithiol yn gallu rhoi manylion am yr aelwydydd a’r busnesau hynny a fydd yn bendant ar eu colled, er mwyn iddynt allu gwneud y cynlluniau wrth gefn hynny ac y gallant wneud trefniadau eraill trwy, wrth gwrs, Allwedd Band Eang Cymru a'r cynllun talebau cysylltedd gwibgyswllt?
You’ve also talked about an engagement project as well, with regard to take-up, but can I ask you about your agreeability, if you like, to having a project of engagement for those communities that are missing out, and to explain the schemes that I’ve just mentioned, and which you’ve mentioned in your statement as well? I’d also be grateful if you could set out in some detail an area that I was disappointed was absent from the programme for government, about how you may be working to reform the planning system for telecommunications and to improve access by the telecoms industry to public sector assets to support further infrastructure investment and network deployment. I appreciate that there are elements that are not devolved, but there are elements that are devolved that you have got the levers to. Rydych hefyd wedi siarad am brosiect ymgysylltu yn ogystal, ynglŷn â manteisio, ond a gaf i eich holi am eich bodlonrwydd, os mynnwch chi, i gael prosiect o ymgysylltu â’r cymunedau hynny sy'n cael eu siomi, ac i egluro'r cynlluniau yr wyf wedi sôn amdanynt, ac yr ydych chithau wedi sôn amdanynt yn eich datganiad hefyd?  Byddwn hefyd yn ddiolchgar pe gallech nodi yn fanwl faes yr oeddwn yn siomedig nad oedd yn y rhaglen lywodraethu, ynghylch sut y gallech fod yn gweithio i ddiwygio'r system gynllunio ar gyfer telathrebu a gwella mynediad y diwydiant telathrebu at asedau sector cyhoeddus i gefnogi buddsoddiad seilwaith pellach a defnyddio rhwydwaith. Rwy’n gwerthfawrogi bod elfennau nad ydynt wedi'u datganoli, ond mae elfennau sydd wedi'u datganoli y mae’r sbardun iddynt gennych chi.
I’d also be grateful if you could explain a little about how the Welsh Government is going to improve the situation with regard to marketing and communications and updating people. There are thousands of people who want answers. I get hundreds of people contacting me over a period of months. I was just a little concerned when you took the marketing element in-house. I know, Minister, that you’ve written to me in detail on this point, and I appreciate that, but perhaps you could explain, when you had the extension to the contract, why there wasn’t an element in there to ensure that Superfast Cymru were expected to deal with that marketing deployment, or marketing element, if you like. Because I appreciate answers to my letters, Minister, and when I write to you, there’s a fairly fast response in terms of ministerial correspondence—a couple of weeks—but I was getting a faster response before, when I was speaking directly to BT. So, that’s the element I would like you to address. Byddwn hefyd yn ddiolchgar pe gallech esbonio ychydig am sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i wella'r sefyllfa o ran marchnata a chyfathrebu a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl. Mae miloedd o bobl eisiau atebion. Rwy'n cael cannoedd o bobl yn cysylltu â mi dros gyfnod o fisoedd. Roeddwn ychydig yn bryderus pan wnaethoch chi’r elfen farchnata yn fewnol. Rwy’n gwybod, Weinidog, eich bod wedi ysgrifennu ataf yn fanwl ar y pwynt hwn, ac rwy’n gwerthfawrogi hynny, ond efallai y gallech egluro, pan gawsoch yr estyniad i'r contract, pam nad oedd elfen i mewn yno i sicrhau bod disgwyl i Cyflymu Cymru ymdrin â’r gweithredu marchnata hwnnw, neu’r elfen farchnata, os mynnwch chi. Rwyf yn gwerthfawrogi atebion i fy llythyrau, Weinidog, a phan fyddaf yn ysgrifennu atoch, mae ymateb gweddol gyflym o ran gohebiaeth gweinidogol—wythnos neu ddwy—ond roeddwn yn cael ymateb cyflymach o'r blaen, pan oeddwn yn siarad yn uniongyrchol â BT. Felly, dyna'r elfen yr hoffwn ichi roi sylw iddi.
Finally, your announcement that the Welsh Government is now placing a greater emphasis on demand stimulation and will be launching a communication engagement programme around that is very much to be welcomed. I think it is disappointing that the demand stimulation budget only equated to about 0.5 per cent of the overall programme budget. So, now that the delivery of the Superfast Cymru project is reaching the final stages, I think it’s essential, of course, that the Welsh Government ensures that the infrastructure is not left dormant—I’m sure that you’ll agree with that—but reaches its full potential for both domestic and business customers. You, Minister, have previously spoken about the need for the industry to drive up take-up, and I agree with you on that, but also, of course, it’s right that the Welsh Government benefits from the take-up as well, and I think that you should be aggressively promoting take-up because we’ve got to see that benefit released on the taxpayers’ investment and ensure that take-up surpasses the rather modest—I would say—take-up target of 50 per cent by 2024. Yn olaf, mae eich cyhoeddiad bod Llywodraeth Cymru bellach yn rhoi mwy o bwyslais ar ysgogi galw ac y bydd yn lansio rhaglen ymgysylltu gyfathrebu o amgylch hynny i'w groesawu’n fawr iawn. Credaf ei bod yn siomedig nad oedd y gyllideb ysgogi galw ond yn cyfateb i tua 0.5 y cant o gyllideb y rhaglen yn gyffredinol. Felly, nawr bod y gwaith o gyflwyno'r prosiect Cyflymu Cymru yn cyrraedd y camau olaf, rwy’n credu ei bod yn hanfodol, wrth gwrs, bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw'r seilwaith yn cael ei adael yn segur—rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â hynny— ond yn cyrraedd ei botensial llawn ar gyfer cwsmeriaid domestig a busnes. Rydych chi, Weinidog, wedi siarad o'r blaen am yr angen i'r diwydiant wella cyfraddau manteisio, ac rwy’n cytuno â chi ar hynny, ond hefyd, wrth gwrs, mae’n iawn bod Llywodraeth Cymru yn elwa ar y nifer sy'n manteisio, yn ogystal, ac rwy’n meddwl y dylech fod yn hyrwyddo manteisio yn frwdfrydig oherwydd mae’n rhaid i ni weld y budd hwnnw yn cael ei ryddhau ar fuddsoddiad y trethdalwyr a sicrhau bod cyfraddau manteisio yn rhagori ar y targed braidd yn gymedrol—byddwn i’n ddweud—o 50 y cant erbyn 2024.
Finally, I would just like a definition— Yn olaf, hoffwn gael diffiniad—
16:58 - Y Llywydd / The Presiding Officer
That’s your second ‘finally’. [Laughter.] You’re not getting around my stricter ruling by trying to adopt a second ‘finally’ policy. Dyna eich ail 'yn olaf'. [Chwerthin.] Nid ydych yn mynd i osgoi fy nyfarniad llymach drwy geisio mabwysiadu ail bolisi 'yn olaf'.
16:58 - Russell George
The two ‘finally’, the five-second ‘finally’— Y ddau 'yn olaf', yr ‘olaf’ pum eiliad—
16:58 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Very quickly. Yn gyflym iawn.
16:58 - Russell George
A definition of ‘fast and reliable’, please, as well, Minister. Diffiniad o 'cyflym a dibynadwy', os gwelwch yn dda, hefyd, Weinidog
16:58 - Julie James
Thank you for that series of questions and comments, Russell George. A day is not complete in my ministerial office without a letter from you on Superfast Cymru; so, I very much appreciate your interest on behalf of your constituents in this matter. I’ll try and get through all of them. The contractual obligations point: we’re not relying on clawback as a result of failure of BT to get the money we’re talking about. We have a gain share written into the contract. So, if take-up in any area where Superfast Cymru has arrived is more than 21 per cent, we get a profit share back of that. So, that’s the money we’re relying on. I do expect BT to meet its contractual obligations because the contract carries heavy financial penalties for them if they do not. So, it would very much not be in their interest to get into that position. The money that I talked about is not from clawback, as you put it; it is from a gain share that’s written into the contract. So, we’re already talking to BT about the use of that gain share and how we can get to the premises that are not included in it as a result. Diolch ichi am y gyfres o gwestiynau a sylwadau, Russell George. Nid yw diwrnod yn gyflawn yn fy swyddfa weinidogol i heb lythyr oddi wrthych chi ar Cyflymu Cymru; felly, rwy’n gwerthfawrogi yn fawr iawn eich diddordeb ar ran eich etholwyr yn y mater hwn. Byddaf yn ceisio rhoi sylw i bob un ohonynt. Y pwynt rhwymedigaethau cytundebol: nid ydym yn dibynnu ar adfachu o ganlyniad i fethiant BT i gael yr arian yr ydym yn sôn amdano. Mae cyfran o’r enillion wedi’i ysgrifennu yn y contract. Felly, os yw cyfraddau manteisio mewn unrhyw ardal lle mae Cyflymu Cymru wedi cyrraedd yn fwy na 21 y cant, rydym yn cael cyfran o’r elw yn ôl o hynny. Felly, dyna’r arian yr ydym yn dibynnu arno. Rwy’n disgwyl i BT fodloni ei rwymedigaethau cytundebol oherwydd bod y contract yn cario cosbau ariannol trwm iddyn nhw os na fyddant yn gwneud hynny. Felly, ni fyddai’n fanteisiol o gwbl iddyn nhw fod yn y sefyllfa honno. Nid yw'r arian yr wyf wedi'i grybwyll yn dod o adfachu, fel yr ydych yn ei alw; mae'n dod o gyfran o enillion sydd wedi’i ysgrifennu yn y contract. Felly, rydym eisoes yn siarad â BT ynghylch y defnydd o’r gyfran o enillion honno a sut y gallwn gyrraedd y safleoedd nad ydynt wedi eu cynnwys ynddi o ganlyniad.
In my statement I did talk about another open-market review, which we will do in the autumn, because, again, it is a market intervention, so I have to make sure that I’m not going anywhere where there is going to be commercial roll-out. So, the best way to do that is to ask the commercial operators for their final analysis of where they are going to go, so that we can go to the places that other commercial operators cannot reach. Sorry, I couldn’t resist that. I am confident that we will get there. Yn fy natganiad, fe wnes i sôn am adolygiad marchnad agored arall, y byddwn yn ei wneud yn yr hydref, oherwydd, unwaith eto, mae'n ymyrraeth yn y farchnad, felly mae'n rhaid i mi wneud yn siwr nad wyf yn mynd i unrhyw le lle bydd cyflwyno masnachol. Felly, y ffordd orau o wneud hynny yw gofyn i'r cwmnïau masnachol am eu dadansoddiad terfynol o ble y maent yn mynd i fynd iddo, fel y gallwn fynd i'r mannau na all gweithredwyr masnachol eraill eu cyrraedd. Mae'n ddrwg gennyf, roedd yn rhaid i mi ddweud hynna. Rwy’n hyderus y byddwn yn llwyddo i gyrraedd yno.
In terms of identifying those premises early, he will know that I have been pushing BT for a very considerable period of time to tell us the premises that they know definitely that they won’t get to. We have now got around 1 per cent of those, and the website is slowly changing over this week and next week to reflect that. Some of your constituents, when logging on to the website, will now get the message ‘out of scope’. They will also then get something to say what we are going to do for them. In some ways, they are the lucky ones because it means that we can get to them fast, whereas the people who are still ‘in scope’ but with no build date will have to wait until June 2017 for us to see whether BT gets there. The reason for that is this: we run this project as an all-Wales project. BT can go to any premises in Wales that they want to and get it to 30 Mbps or more, and we will pay them for that. So, we do not control where they go. They go where they can get to. It’s obviously in their interests to get to as many premises as possible as fast as possible because that’s what gives them their income. So, as the technology changes—and, indeed, it has changed over the sequence of this contract—. For example, re-capacitising—if that is a word—the cabinets that are already at capacity is one route to them getting more premises engaged up to 30 Mbps. As I say, it’s important for Members to realise how strict we are about that. They do not claim it and we pay them. We check the speeds on a premises-passed basis, and that’s how they get paid. So, it’s very strict, and we monitor it very, very carefully. O safbwynt nodi’r safleoedd hynny yn gynnar, bydd yn gwybod fy mod wedi bod yn gwthio BT am gyfnod sylweddol iawn o amser i ddweud wrthym pa safleoedd y maen nhw’n gwybod yn bendant na fyddant yn eu cyrraedd. Rydym bellach wedi cael tua 1 y cant o'r rheini, ac mae'r wefan yn newid yn araf dros yr wythnos hon a'r wythnos nesaf i adlewyrchu hynny. Bydd rhai o'ch etholwyr, wrth fewngofnodi ar y wefan, yn awr yn cael y neges 'allan o gwmpas'. Byddant hefyd wedyn yn cael rhywbeth i ddweud beth yr ydym yn mynd i'w wneud drostynt. Mewn rhai ffyrdd, nhw yw’r rhai lwcus oherwydd mae'n golygu y gallwn gael atyn nhw yn gyflym, tra bydd y bobl sy'n dal i fod 'o fewn y cwmpas', ond heb unrhyw ddyddiad adeiladu yn gorfod aros tan fis Mehefin 2017 er mwyn i ni weld a fydd BT yn cyrraedd yno. Y rheswm am hynny yw hyn: rydym yn cynnal y prosiect hwn fel prosiect Cymru gyfan. Gall BT fynd i unrhyw safle yng Nghymru y maent yn dymuno a’i gael i 30 Mbps neu fwy, a byddwn yn eu talu am hynny. Felly, nid ydym yn rheoli ble maen nhw’n mynd. Maen nhw’n mynd i ble y gallant gael ato. Mae'n amlwg er eu budd i gyrraedd cynifer o safleoedd ag sy'n bosibl mor gyflym â phosibl oherwydd dyna beth sy’n rhoi eu hincwm iddyn nhw. Felly, fel y mae’r dechnoleg yn newid—ac, yn wir, mae wedi newid dros ddilyniant y contract hwn—. Er enghraifft, mae ailgapasiteiddio—os yw hwnnw’n air—y cypyrddau sydd eisoes yn llawn yn un ffordd iddyn nhw gael mwy o safleoedd yn ymgysylltu hyd at 30 Mbps. Fel yr wyf yn dweud, mae'n bwysig i'r Aelodau sylweddoli pa mor llym yr ydym ynghylch hynny. Nid ydyn nhw’n ei hawlio ac rydym ni’n eu talu. Rydym yn edrych ar y cyflymder ar sail safleoedd sydd wedi’u pasio, a dyna sut y maent yn cael eu talu. Felly, mae'n llym iawn, ac rydym yn ei fonitro'n ofalus iawn, iawn.
In terms of the planning and mobile issues, mobile, as you know, is not devolved to Wales. [Interruption.] Yes. The Cabinet member for planning and I have already met and discussed the issues here. We have some officials doing a piece of work for us on what can be achieved in terms of permitted development, what can be achieved in consultation with things like the national park authorities, for example, and so on. There are restrictions that people will want to see. But as always with these things, it’s a trade-off: do you want very high mobile connectivity in your national park, or do you want no masts? I’m afraid that you can’t have both of those things, so it will be for local people to make those choices. It’s a matter for them which of those choices they want to make, and we can facilitate that choice for them. O ran y materion cynllunio a symudol, nid yw symudol, fel y gwyddoch, wedi ei ddatganoli i Gymru. [Torri ar draws.] Ydym. Mae aelod y Cabinet dros gynllunio a minnau eisoes wedi cyfarfod a thrafod y materion hyn. Mae gennym swyddogion yn gwneud darn o waith i ni ar yr hyn y gellir ei gyflawni o ran y datblygu a ganiateir, yr hyn y gellir ei gyflawni mewn ymgynghoriad â phethau fel awdurdodau'r parciau cenedlaethol, er enghraifft, ac yn y blaen. Mae cyfyngiadau y bydd pobl eisiau eu gweld. Ond fel bob tro gyda’r pethau hyn, mae'n gyfaddawd: ydych chi eisiau cysylltedd symudol uchel iawn yn eich parc cenedlaethol, neu ydych chi eisiau dim mastiau? Rwy'n ofni na allwch chi gael y ddau beth hynny, felly mater i bobl leol fydd gwneud y dewisiadau hynny. Mater iddyn nhw yw pa un o'r dewisiadau hynny y maent yn dymuno ei wneud, a gallwn ni hwyluso’r dewis hwnnw ar eu cyfer.
In terms of getting everywhere with what speed, the Member will know that the UK Government currently has a digital Bill going through Parliament and that that has a universal service obligation in it. That universal service obligation is currently at 10 Mbps, which is very considerably lower than where we want to be. We are pressing them to up that and to put an accelerator into it. It’s also not clear quite how universal the universal service obligation will be. Members will be familiar with how that works, for example, with telephones. There’s an amount of money that the telephone operator will pay to connect you to a landline, and after that you are expected to pay the rest yourself. Clearly, we are not happy with that because it disadvantages people in rural communities that are a long way from anything. So, we are putting a lot of work into understanding from them what exactly it is they mean, what those cut-off marks might look like, and what we can do as a Welsh Government to fill in the gaps for people. People left out of that universal service obligation will obviously be at a disadvantage unless we can fill those gaps in, and that’s very much what the gain share money is for. O ran cael i bob man â pha gyflymder, bydd yr Aelod yn gwybod bod gan Lywodraeth y DU Fil digidol yn mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd a bod rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol ynddo. Mae’r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol hwnnw ar hyn o bryd yn 10 Mbps, sy'n sylweddol iawn yn is na ble yr ydym ni eisiau bod. Rydym yn pwyso arnyn nhw i godi hynny ac i roi sbardun i mewn iddo. Nid yw’n glir ychwaith pa mor gyffredinol fydd y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol. Bydd yr Aelodau'n gyfarwydd â sut mae hynny'n gweithio, er enghraifft, gyda ffonau. Mae swm o arian y bydd y gweithredwr ffôn yn ei dalu i’ch cysylltu chi i linell dir, ac ar ôl hynny disgwylir i chi dalu’r gweddill eich hun. Yn amlwg, nid ydym yn hapus â hynny oherwydd ei fod yn creu anfantais i bobl mewn cymunedau gwledig sydd ymhell oddi wrth unrhyw beth. Felly, rydym yn gwneud llawer o waith i ddeall ganddyn nhw beth yn union y maen nhw’n ei olygu, sut bydd y marciau torri i ffwrdd yn edrych, a’r hyn y gallwn ni fel Llywodraeth Cymru ei wneud i lenwi'r bylchau i bobl. Bydd y bobl sy’n cael eu gadael allan o’r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol hwnnw yn amlwg o dan anfantais oni bai ein bod yn gallu llenwi'r bylchau hynny, a dyna i raddau helaeth yr hyn y mae'r arian cyfran o enillion ar ei gyfer.
Lastly, in terms of their response, we’ve only just taken that in-house, and I’m afraid the team is taking a little while to get sorted. But I assure you that the response speeds will be back up to normal—I hope this week, but very soon. On marketing, we took it in-house because we wanted to target it specifically at areas with high take-up and at businesses that are vital to our economy. We wanted the local and regional Assembly Members to be involved in that marketing campaign. Because as I said, the higher the take-up, the more the gain share and the more money we have to reinvest in the programme. Yn olaf, o ran eu hymateb, dim ond newydd ddod â hynny yn fewnol yr ydym ni, ac rwy'n ofni bod y tîm yn cymryd ychydig o amser i gael trefn arno. Ond rwy’n eich sicrhau y bydd y cyflymder ymateb yn ôl i fyny i normal—yr wythnos hon rwy’n gobeithio, ond yn fuan iawn. O ran marchnata, fe’i gwnaethom yn fewnol oherwydd ein bod yn awyddus i’w dargedu yn benodol at ardaloedd sydd â chyfraddau manteisio uchel ac at fusnesau sy'n hanfodol i'n heconomi. Roeddem eisiau i'r Aelodau Cynulliad lleol a rhanbarthol fod yn rhan o’r ymgyrch farchnata honno. Oherwydd fel y dywedais, po fwyaf fydd y niferoedd sy'n manteisio, y mwyaf fydd y gyfran o enillion a mwyaf fydd yr arian sydd gennym i ailfuddsoddi yn y rhaglen.
17:04 - David J. Rowlands
I will try to make my comments a little more succinct, I promise. First of all, Cabinet Minister, I would like to thank you for your comprehensive statement this afternoon. First, can I sincerely congratulate the Welsh Government, on behalf of my party, for their extraordinary achievements over the last three years in making Wales the best-performing country in the UK, after England, at providing superfast broadband? I sincerely mean that, but can I draw your attention to the Government Social Research report in September of this year, which identified the lack of visibility on business take-up of superfast broadband due to the absence of relevant data? However, it was estimated that this was as low as 28 per cent after six months of availability. I think Dai Lloyd actually touched on this when he spoke to you earlier on. And given that the take-up by business is the main driver of economic growth anticipated through superfast broadband, can the Secretary indicate whether these two shortcomings have been, or are being, addressed? Can you also comment on the disparity in different areas of Wales? One may, to a certain extent, understand Powys lagging some way behind other areas, though, of course, this is not entirely acceptable, but it's very difficult to understand why Torfaen, one of my constituencies, also lags behind similar built-up regions. Byddaf yn ceisio gwneud fy sylwadau ychydig yn fwy cryno, rwy’n addo. Yn gyntaf oll, Weinidog y Cabinet, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad cynhwysfawr y prynhawn yma. Yn gyntaf, a gaf i yn ddiffuant longyfarch Llywodraeth Cymru, ar ran fy mhlaid, am eu cyflawniadau eithriadol yn ystod y tair blynedd diwethaf wrth wneud Cymru y wlad sy'n perfformio orau yn y DU, ar ôl Lloegr, o ran darparu band eang cyflym iawn? Rwyf wir yn golygu hynny, ond a gaf i dynnu eich sylw at adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth ym mis Medi eleni, a nododd y diffyg gwelededd ar fusnesau sy'n manteisio ar fand eang cyflym iawn oherwydd absenoldeb data perthnasol? Fodd bynnag, amcangyfrifwyd bod hyn mor isel â 28 y cant ar ôl iddo fod ar gael am chwe mis. Rwy’n credu bod Dai Lloyd mewn gwirionedd wedi crybwyll hyn pan siaradodd â chi yn gynharach. Ac o gofio mai manteisio gan fusnes yw prif sbardun y twf economaidd a ragwelir drwy fand eang cyflym iawn, a all yr Ysgrifennydd nodi pa un a yw’r ddau ddiffyg hyn naill ai wedi cael sylw, neu eu bod yn cael sylw? A allwch chi hefyd roi sylwadau ar y gwahaniaeth mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru? Gall rhywun, i ryw raddau, ddeall fod Powys yn llusgo rhyw ffordd y tu ôl i ardaloedd eraill, er, wrth gwrs, nid yw hyn yn gwbl dderbyniol, ond mae'n anodd iawn deall pam mae Torfaen, un o fy etholaethau, hefyd yn llusgo y tu ôl i ranbarthau adeiledig tebyg .
17:06 - Julie James
Okay, well, thank you for that, and thank you very much for your kind remarks. We’re very proud of the fact that we've got Wales to be one of the leaders in digital connectivity right across Europe, and it's a matter of some concern to us that we get people to take up the benefits of it now that we've spent the money in rolling it out. Iawn, wel, diolch ichi am hynna, a diolch yn fawr iawn i chi am eich sylwadau caredig. Rydym yn falch iawn o'r ffaith ein bod wedi sicrhau bod Cymru yn un o'r arweinwyr mewn cysylltedd digidol ar draws Ewrop, ac mae'n fater o gryn bryder i ni ein bod yn cael pobl i fanteisio ar y buddion gan ein bod erbyn hyn wedi gwario'r arian i’w gyflwyno.
In terms of business take-up, one of the reasons that we have got our marketing back in-house is that we want to target it. BT were doing it previously, but, obviously, it's caught up in their commercial roll-out as well, and we very much wanted to emphasise the point that I was making earlier to Dai Lloyd, that many ISPs are available; you can shop around, you can get a better service for your business and so on. But also, our business advisers are running sessions right across Wales alongside this to demonstrate the benefits of broadband for businesses that hitherto haven't had it. Yn nhermau busnes yn manteisio, un o'r rhesymau pam yr ydym wedi dod â’n marchnata yn ôl yn fewnol yw ein bod eisiau ei dargedu.  BT oedd yn gwneud hynny o'r blaen, ond, yn amlwg, mae wedi ei ddal yn eu cyflwyno masnachol yn ogystal, ac rydym yn awyddus iawn i bwysleisio'r pwynt yr oeddwn yn ei wneud yn gynharach i Dai Lloyd, fod llawer o ISPs ar gael; gallwch chwilio o gwmpas, gallwch gael gwell gwasanaeth ar gyfer eich busnes ac yn y blaen. Ond hefyd, mae ein hymgynghorwyr busnes yn cynnal sesiynau ledled Cymru ochr yn ochr â hyn i ddangos manteision band eang i fusnesau nad yw hyd yn hyn wedi ei gael.
And if I can just tell you this little anecdote, because you'll appreciate it, I often meet with people who say they haven't got any, ‘I just want 1 Mb—please, anything’, and I say, ‘Well, no, we don't want to do that. We want to get you to the point where you can do things that your business requires.’ ‘No, no, we’d just like to have the ability to download things.’ I always use the analogy of people who don't have electricity wanting enough electricity to have a light bulb in the middle of their house, but, actually, as soon as they've got that lightbulb, realising how many other things they should’ve asked for and, not having had the house wired in the first place, it's then much more expensive. So, it's a similar analogy—1 Mb will not get you very much at all; you cannot do cloud servicing, for example, off 1 Mb. Ac os caf fi adrodd yr hanesyn bach hwn i chi, oherwydd byddwch yn ei werthfawrogi, rwyf yn aml yn cwrdd â phobl sy'n dweud nad oes ganddynt unrhyw beth, ‘Dim ond 1 Mb yr wyf i ei eisiau —os gwelwch yn dda, unrhyw beth', ac rwyf i’n dweud, 'Wel , na, nid ydym eisiau gwneud hynny. Rydym yn awyddus i fynd â chi i’r pwynt lle y gallwch wneud pethau sydd eu hangen ar eich busnes.' 'Na, na, hoffem gael dim ond y gallu i lawrlwytho pethau.' Rwyf bob amser yn defnyddio'r gyfatebiaeth o bobl nad oes ganddynt drydan eisiau digon o drydan i gael bwlb golau yng nghanol eu tŷ, ond, mewn gwirionedd, cyn gynted ag y maen nhw wedi cael y bwlb golau, maen nhw’n sylweddoli faint o bethau eraill y dylent fod wedi gofyn amdanynt a, gan na chafodd y tŷ ei weirio yn y lle cyntaf, mae wedyn yn llawer mwy costus. Felly, mae'n gyfatebiaeth debyg —ni fydd 1 Mb yn rhoi fawr iawn o gwbl i chi; ni allwch gael gwasanaethu cwmwl, er enghraifft, oddi ar 1 Mb.
So, what our business advice is now doing is it gives you a sort of menu at the back of what service you need to do what. So, you know, if you are a hotel venue in Wales, and you want to just offer those internet services that give you 2-for-1 vouchers and so on—there are a lot of companies that do that—because you want to fill up your venue on hitherto difficult-to-fill-up days—Tuesdays and Wednesdays, for the sake of argument—then, great, you can do that. You can get online and you can get people to book that way and so on, and lots of people take advantage of that. But, once you've filled up your hotel, you realise that the people who are there will want to streamline television on their devices, they want to upload their photographs, they want to tell their friends how great it is, and if they can't do that in your rooms, because you have no Wi-Fi, because you don't have enough broadband to allow people to log on all at once, then they will put a very nasty remark on TripAdvisor about your service and you'll suffer for that. And so what we're trying to make people see is what is available to them before they have the broadband in the first place, rather than them wait to get it and then try to upgrade it, because that's more expensive. So, that's the purpose of the business intervention. That's just one small example; there are many, many others that we could go into. So, that is what the take-up driver is for. That's what the marketing is for, and it's very targeted, and Members will hopefully see it happening in their areas, on their local radio stations. We'll have billboards up and so on. Lots of the business organisations in the area will be invited. So, I hope you will see that happening very much. Felly, beth mae ein cyngor busnes yn awr yn ei wneud yw rhoi rhyw fath o ddewislen i chi o ran pa wasanaeth sydd ei angen arnoch i wneud beth. Felly, wyddoch chi, os ydych yn lleoliad gwesty yng Nghymru, a’ch bod ond eisiau cynnig y gwasanaethau rhyngrwyd hynny sy'n rhoi talebau 2 am 1 i chi ac yn y blaen—mae llawer o gwmnïau sy'n gwneud hynny—oherwydd eich bod eisiau llenwi eich lleoliad ar beth fu hyd yma yn ddyddiau anodd eu llenwi—dydd Mawrth a dydd Mercher, er mwyn dadl—yna, gwych, gallwch wneud hynny. Gallwch fynd ar-lein a gallwch gael pobl i archebu yn y ffordd honno ac yn y blaen, ac mae llawer o bobl yn manteisio ar hynny. Ond, ar ôl i chi lenwi eich gwesty, byddwch yn sylweddoli y bydd y bobl sydd yno eisiau cael teledu ar eu dyfeisiau, byddant eisiau lanlwytho eu lluniau, byddant yn awyddus i ddweud wrth eu ffrindiau pa mor wych ydyw, ac os na allant wneud hynny yn eich ystafelloedd, oherwydd nad oes gennych unrhyw Wi-Fi, oherwydd nad oes gennych ddigon o fand eang i alluogi pobl i fewngofnodi i gyd ar unwaith, yna byddant yn rhoi sylw cas iawn ar TripAdvisor am eich gwasanaeth a byddwch yn dioddef oherwydd hynny. Ac felly yr hyn yr ydym yn ceisio gwneud i bobl ei weld yw’r hyn sydd ar gael iddyn nhw cyn iddyn nhw gael y band eang yn y lle cyntaf, yn hytrach na’u bod yn aros i’w gael ac yna ceisio ei uwchraddio, oherwydd mae hynny’n ddrutach. Felly, dyna ddiben yr ymyrraeth busnes. Dim ond un enghraifft fach yw honna; mae llawer iawn o rai eraill y gallem fynd i mewn iddynt. Felly, dyna beth yw pwrpas y sbardun manteisio. Dyna beth y mae'r marchnata ar ei gyfer, ac mae wedi’i dargedu'n fanwl, a gobeithio y bydd yr Aelodau'n ei weld yn digwydd yn eu hardaloedd nhw, ar eu gorsafoedd radio lleol. Bydd gennym hysbysfyrddau wedi’u gosod ac yn y blaen. Bydd llawer o sefydliadau busnes yn yr ardal yn cael eu gwahodd. Felly, rwy’n gobeithio’n fawr iawn y byddwch yn gweld hynny'n digwydd.
And then, lastly, in terms of the geographical disparity, as you put it, I'll answer this again, even though I've answered it for every Member so far. We don't control the contracts on a local authority area; we control the contract for Wales. So, BT have to get to the number of premises in Wales that they need. I have no control over where that is. I don't know why it's more difficult to get it in Torfaen, but it could be something like the ducts are blocked, the cabinets could be at capacity, the previous phone network line hasn't been up to speed. I have absolutely no idea; there are all kinds of issues that come up in this contract. Rurality is not the only problem here; sometimes the streets are a problem, sometimes there are problems with, you know, all kinds of blockages and so on. But they have to get to the premises number for Wales that we have set, and then we will use the gain share money to get to the rest. So, it doesn't matter whether the percentage in Torfaen is lower at the moment. At the end of this administration it will be at 100 per cent. Ac yna, yn olaf, o ran y gwahaniaeth daearyddol, yn eich geiriau chi, byddaf yn ateb hyn eto, er fy mod wedi ei ateb ar gyfer pob Aelod hyd yn hyn. Nid ydym yn rheoli’r contractau ar gyfer ardal awdurdod lleol; rydym yn rheoli'r contract ar gyfer Cymru. Felly, mae’n rhaid i BT gyrraedd y nifer o safleoedd yng Nghymru y mae arnynt eu hangen. Nid oes gennyf unrhyw reolaeth dros ble mae hynny. Nid wyf yn gwybod pam mae hi’n anoddach ei gael yn Nhorfaen, ond gallai fod yn rhywbeth tebyg i fod y pibellau wedi eu blocio, gallai’r cypyrddau fod yn llawn, nid oedd y llinell rhwydwaith ffôn blaenorol wedi bod yn gweithredu ar y cyflymder llawn. Does gen i ddim math o syniad; mae bob math o faterion sy'n codi yn y contract hwn. Nid natur wledig yw'r unig broblem yma; weithiau mae'r strydoedd yn broblem, weithiau mae problemau gyda, wyddoch chi, pob math o rwystrau ac yn y blaen. Ond mae’n rhaid iddynt gyrraedd y nifer o safleoedd ar gyfer Cymru yr ydym wedi'u gosod, ac yna byddwn yn defnyddio’r arian cyfran o enillion i gyrraedd y gweddill. Felly, nid oes gwahaniaeth a yw'r ganran yn Nhorfaen yn is ar hyn o bryd. Ar ddiwedd y weinyddiaeth hon, bydd yn 100 y cant.
17:10 - Jenny Rathbone
My understanding, Minister, is that this wasn’t exclusively a contract to connect rural communities, because I do recall that the Penylan notspot in my constituency was one of the early wins of this contract. As they no longer bother me about this issue, I can rather assume that they’re now very happy bunnies. Fy nealltwriaeth i, Weinidog, yw nad oedd hwn yn gontract i gysylltu cymunedau gwledig yn unig, oherwydd rwy’n cofio fod man gwan Penylan yn fy etholaeth i yn un o fuddugoliaethau cynnar y contract hwn. Gan nad ydynt bellach yn fy nhrafferthu i ynglŷn â’r mater hwn, gallaf gymryd yn ganiataol eu bod yn awr yn bobl hapus iawn.
But I recently visited, with the Climate Change and Rural Affairs Committee, Ceredigion—in the last two weeks—and there farmers were very concerned that they had almost no connectivity at all, which, for rural communities, is a massive problem. How they are expected to run their business and submit their basic payment proposals online when they don’t actually have any connection in their homes is obviously a major issue for their businesses, particularly when new technology is increasingly being used to enable farmers to be more efficient. For example, in New Zealand I understand they’re using pasture meter sensor technology to examine every blade of grass on people’s land to ensure the right piece of grass to be directing their animals to. So, we are clearly going to need that sort of technology in the future here in Wales, with all the challenges posed by Brexit. Ond yn ddiweddar, ymwelais, gyda'r Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, â Cheredigion—yn ystod y bythefnos diwethaf—ac roedd ffermwyr yno yn bryderus iawn nad oedd ganddynt fawr o gysylltedd o gwbl, sydd, ar gyfer cymunedau gwledig, yn broblem enfawr. Mae sut mae disgwyl iddynt redeg eu busnes a chyflwyno eu cynigion taliad sylfaenol ar-lein pan nad oes ganddynt mewn gwirionedd unrhyw gysylltiad yn eu cartrefi yn amlwg yn broblem fawr ar gyfer eu busnesau, yn enwedig pan fydd technoleg newydd yn cael ei defnyddio fwyfwy i alluogi ffermwyr i fod yn fwy effeithlon. Er enghraifft, yn Seland Newydd rwy’n deall eu bod yn defnyddio technoleg synhwyrydd mesurydd porfa i archwilio pob blewyn o laswellt ar dir pobl i sicrhau eu bod yn cyfeirio eu hanifeiliaid i’r darn iawn o laswellt. Felly, rydym yn amlwg yn mynd i fod angen y math hwnnw o dechnoleg yn y dyfodol yma yng Nghymru, gyda'r holl heriau a ddaw yn sgil Brexit.
So, I’m a bit unclear as to why the fact that wireless technology is not devolved in some way prevents us insisting with BT that, in this second contract, they use the wireless connections they now have, since they took over EE, because it’s perfectly clear that it’s going to be almost impossible to connect every single remote farm in every part of wales, or it’s going to be hugely expensive. Surely, wireless technology is going to a much more efficient way of doing it. But technology has moved on so much in the last five years, since you signed the contract with BT, that it seems that we’re in danger of missing a trick. You didn’t mention in your statement that Airband community internet is providing wireless solutions for around 2,000 business premises. Why is it therefore not possible to insist with BT that they use wireless solutions to connect the more remote communities? That would enable them to get much more quickly connected, and clearly they are not going to be able to run these rural businesses in the future unless they are connected. So, I’d be grateful for some guidance on that. Felly, rwyf braidd yn aneglur pam mae’r ffaith nad yw technoleg ddi-wifr wedi'i datganoli mewn rhyw ffordd yn ein hatal rhag mynnu gyda BT eu bod, yn yr ail gytundeb hwn, yn defnyddio'r cysylltiadau di-wifr sydd ganddynt erbyn hyn, ers iddynt gymryd EE drosodd, oherwydd mae'n hollol glir ei bod yn mynd i fod bron yn amhosibl cysylltu pob fferm anghysbell unigol ym mhob rhan o Gymru, neu mae'n mynd i fod yn hynod ddrud. Does bosib nad yw technoleg ddi-wifr yn mynd i fod yn ffordd llawer mwy effeithlon o wneud hynny. Ond mae technoleg wedi symud ymlaen cymaint yn y pum mlynedd diwethaf, ers i chi lofnodi contract gyda BT, fel ei bod yn ymddangos ein bod mewn perygl o golli cyfle. Nid wnaethoch sôn yn eich datganiad bod rhyngrwyd cymunedol Airband yn darparu atebion di-wifr ar gyfer tua 2,000 o safleoedd busnes. Pam, felly, nad yw'n bosibl i fynnu gyda BT eu bod yn defnyddio atebion di-wifr i gysylltu'r cymunedau mwy anghysbell? Byddai hynny'n eu galluogi i gael eu cysylltu yn llawer cyflymach, ac yn amlwg nid ydynt yn mynd i fod yn gallu rhedeg y busnesau gwledig hyn yn y dyfodol oni bai eu bod wedi eu cysylltu. Felly, byddwn yn ddiolchgar am rywfaint o arweiniad ar hynny.
17:13 - Julie James
So, on your first point, of course it’s not just rural, it’s just that most areas where there’s no commercial roll-out are rural. But you correctly identified a place in your own constituency that didn’t have commercial, although, weirdly, there’s a triangle in the middle of Swansea that didn’t have it either. But it’s just a sort of generality that, for the most part, it’s where there’s not a concentration of population. Felly, ar eich pwynt cyntaf, wrth gwrs nid gwledig yn unig yw hyn, dim ond bod y rhan fwyaf o ardaloedd lle nad oes cyflwyno masnachol yn wledig. Ond rydych yn gywir i nodi lle yn eich etholaeth eich hun lle na fu cyflwyniad masnachol, er, yn rhyfedd, mae triongl yng nghanol Abertawe nad oedd ganddo hynny ychwaith. Ond mae’n rhyw fath o gyffredinolrwydd ei fod, ar y cyfan, lle nad oes crynhoad o boblogaeth.
In terms of the farmers, actually the Cabinet Secretary and I have already spoken about getting data on how many farmers are not connected in Wales. We don’t actually have those data, because that’s not how we collect them, but we’re doing a piece of work at the moment to get the data on exactly how many farmers are not connected. We don’t have the data to know that. But I would say this: first of all, everybody is included in the roll-out, and there’s another year to go, as I’ve just said, for everybody else. Plus, we have the two schemes, the Access Broadband Cymru scheme and the ultrafast connectivity scheme, so if people want to invest in it now, they can do that, and we’ll help them. There’s a sliding scale of how much money the Welsh Government will help them with on that, depending on what improvements in their connection speeds they get. O ran y ffermwyr, mewn gwirionedd mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau eisoes wedi siarad am gael data am faint o ffermwyr sydd heb eu cysylltu yng Nghymru. Nid yw’r data hynny gennym mewn gwirionedd, oherwydd nid dyna sut yr ydym yn eu casglu, ond rydym yn gwneud darn o waith ar hyn o bryd i gael y data ar union faint o ffermwyr nad ydynt wedi eu cysylltu. Nid oes gennym y data i wybod hynny. Ond byddwn yn dweud hyn: yn gyntaf oll, mae pawb wedi ei gynnwys yn y broses o gyflwyno, ac mae blwyddyn arall i fynd, fel yr wyf wedi ei ddweud, ar gyfer pawb arall. Hefyd, mae gennym y ddau gynllun, y cynllun Allwedd Band Eang Cymru a'r cynllun cysylltedd gwibgyswllt, felly os yw pobl eisiau buddsoddi ynddo yn awr, gallant wneud hynny, ac fe wnawn ni eu helpu. Ceir graddfa symudol o ran faint o arian y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i’w helpu â hynny, yn dibynnu ar ba welliannau yn eu cyflymder cysylltu y maent yn eu cael.
I recognise the problems that you mention, and everybody has them, and that’s why we want people to take it up. So, that’s why we have those schemes. We’re also working with communities to band together so they can get them as a community scheme as well. Rwy’n cydnabod y problemau yr ydych yn sôn amdanynt, ac maen nhw gan bawb, a dyna pam yr ydym am i bobl fanteisio arno. Felly, dyna pam mae gennym y cynlluniau hynny. Rydym hefyd yn gweithio gyda chymunedau i ddod at ei gilydd fel y gallant eu cael fel cynllun cymunedol yn ogystal.
In terms of why we don’t insist that BT does that, the simple answer to that is because it’s not in the contract. It was a tendered contract done through European procurement. The contract is as it is. That’s what BT tendered for. They won the contract. Airband tendered for the 2,000 business premises, and they won that contract, so they’re putting their technology into it. O ran pam nad ydym yn mynnu bod BT yn gwneud hynny, yr ateb syml i hynny yw oherwydd nad yw yn y contract. Roedd yn gontract a gafodd ei dendro a wnaed drwy gaffael Ewropeaidd. Mae'r contract fel ag y mae. Dyna’r hyn y gwnaeth BT dendro amdano. Enillon nhw'r contract. Tendrodd Airband ar gyfer y 2,000 o safleoedd busnes, ac enillon nhw'r contract hwnnw, felly maen nhw’n rhoi eu technoleg i mewn iddo.
Our ultrafast and ABC schemes, though, use any technology that’s available to get to the premises. So, the last 4 per cent that I’m always talking about probably won’t be cable fibre. It might be, but it probably won’t be—it will probably be satellite or other digital technologies. That’s not to be confused with the roll-out of 4G and 5G and the mobile infrastructure, which is not devolved to Wales. Although I have constant meetings with the mobile network operators, I have no power over them, so we are just simply enjoining them to do their best and putting a lot of pressure on the UK Government to make sure that we have geographical coverage in Wales as well as population coverage. Mae ein cynlluniau gwibgyswllt ac ABC, fodd bynnag, yn defnyddio unrhyw dechnoleg sydd ar gael i gyrraedd y safle. Felly, ni fydd y 4 y cant olaf yr wyf bob amser yn siarad amdano yn ôl pob tebyg yn ffibr cebl. Gallai fod, ond mwy na thebyg na fydd—bydd yn fwy na thebyg yn lloeren neu’n dechnolegau digidol eraill. Ni ddylid drysu rhwng hynny â'r broses o gyflwyno 4G a 5G a'r seilwaith symudol, nad ydynt wedi'u datganoli i Gymru. Er fy mod yn cael cyfarfodydd cyson gyda gweithredwyr rhwydwaith ffonau symudol, nid oes gennyf unrhyw bŵer drostynt, felly rydym yn syml ond yn eu hannog i wneud eu gorau ac yn rhoi llawer o bwysau ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod gennym signal daearyddol yng Nghymru yn ogystal â signal o ran poblogaeth.
17:15 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Quick questions and quick answers and I’ll try and get through as many of the people who have made an application to speak. Paul Davies. Cwestiynau cyflym ac atebion cyflym a byddaf yn ceisio rhoi cyfle i gymaint â phosibl o'r bobl sydd wedi gwneud cais i siarad. Paul Davies.
17:15 - Paul Davies
Diolch, Lywydd. Like others, I also welcome that the Welsh Government has committed £12.9 million to reaching those final few per cent of properties. But can the Minister perhaps provide any further details at this stage on how that funding will actually be allocated across Wales, given concerns raised by many of my constituents regarding the lack of action in some areas? I know that the Minister has said today that the Government monitors the delivery of broadband services very carefully, but can she tell us specifically how the Government will be monitoring to make sure that these services are actually being delivered on time or within acceptable timescales? If they’re not achieved, I think the Minister confirmed earlier that penalties can be imposed by the Government if the work is not carried out in a timely and appropriate manner. So, can she confirm if she believes the penalties she has at her disposal are sufficient to ensure that the work is undertaken in a timely and appropriate manner? Diolch, Lywydd. Fel eraill, rwyf innau hefyd yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £12.9 miliwn i gyrraedd y ganran fechan olaf o safleoedd. Ond a all y Gweinidog efallai ddarparu rhagor o fanylion ar hyn o bryd ar sut y bydd cyllid mewn gwirionedd yn cael ei ddyrannu ar draws Cymru, o gofio’r pryderon a godwyd gan lawer o fy etholwyr ynghylch y diffyg gweithredu mewn rhai ardaloedd? Gwn fod y Gweinidog wedi dweud heddiw fod y Llywodraeth yn monitro darparu gwasanaethau band eang yn ofalus iawn, ond a all hi ddweud wrthym yn benodol sut y bydd y Llywodraeth yn monitro i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu mewn gwirionedd ar amser neu o fewn amserlenni derbyniol? Os nad ydynt yn cael eu cyflawni, rwy’n meddwl bod y Gweinidog wedi cadarnhau yn gynharach y gall y Llywodraeth osod cosbau os nad yw'r gwaith yn cael ei wneud mewn modd amserol a phriodol. Felly, a all hi gadarnhau os yw hi'n credu bod y cosbau sydd ganddi yn ddigonol i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud mewn modd amserol a phriodol?
17:16 - Julie James
I thank the Member for those important questions. We had a long meeting very recently to discuss some of these issues. I think it’s important not to conflate two separate issues. One is the ‘promise’, if you like, that BT used to have on their website that you might be in scope in the next three months. People were rightly very cheesed off when the three months went past and they weren’t connected and it rolled on another three months and so on. One of the reasons we’ve taken those functions in house is because we too were very cheesed off with that. That is not a matter for the contractual arrangements of the contract, however. As I say, the contractual arrangements of the contract are simply for Wales in the time available. So, we were putting a lot of pressure on BT to give people proper information, and not to give them overly optimistic information, to enable, for example, people to make sensible arrangements about whether they should invest in the ABC scheme. It’s very annoying to find, after a year, that you’ve been told every three months you’ll have the connectivity, when a year ago you could have invested in it and had it, for example. Diolch i'r Aelod am y cwestiynau pwysig yna. Cawsom gyfarfod hir yn ddiweddar iawn i drafod rhai o'r materion hyn. Credaf ei bod yn bwysig peidio â chyfuno dau fater gwahanol. Un yw'r 'addewid', os mynnwch chi, oedd yn arfer bod gan BT ar eu gwefan y gallech fod o fewn cwmpas yn y tri mis nesaf. Roedd pobl yn iawn i fod yn anfodlon ar ôl i’r tri mis fynd heibio a hwythau heb eu cysylltu a hynny’n mynd ymlaen am dri mis arall ac yn y blaen. Un o'r rhesymau pam yr ydym wedi dod â’r swyddogaethau hynny yn fewnol yw oherwydd ein bod ninnau hefyd yn anfodlon iawn â hynny. Nid yw hynny'n fater ar gyfer trefniadau cytundebol y contract, fodd bynnag. Fel y dywedais, mae trefniadau cytundebol y contract ar gyfer Cymru yn unig yn yr amser sydd ar gael. Felly, roeddem yn rhoi llawer o bwysau ar BT i roi gwybodaeth briodol i bobl, ac i beidio â rhoi gwybodaeth rhy obeithiol iddynt, er mwyn galluogi, er enghraifft, pobl i wneud trefniadau synhwyrol ynghylch pa un a ddylent fuddsoddi yn y cynllun ABC. Mae'n eich gwylltio i ganfod, ar ôl blwyddyn, eich bod wedi cael gwybod bob tri mis, y byddwch yn cael y cysylltedd, pryd y gallech fod wedi buddsoddi ynddo flwyddyn yn ôl a’i gael, er enghraifft.
So, I have forcibly made those points to BT and, in fairness to them, they have changed the information. The website is now very different and gives you a lot more specific information and it doesn’t give you overly optimistic timescales. We’ve worked hard with them to do that. That’s not to be confused at all with the end date of the contract and the number of premises passed. So, I don’t have any control over whether they went to 32 Acacia Gardens or not, what I have control over is how many premises in Wales that they will get to. I’m confident they’ll meet that because there are severe penalties for them not doing so, but there aren’t rolling penalties in the contract. Felly, rwyf wedi gwneud y pwyntiau hynny yn rymus i BT ac, er tegwch iddynt, maent wedi newid y wybodaeth. Mae'r wefan yn wahanol iawn erbyn hyn ac yn rhoi gwybodaeth llawer mwy penodol i chi ac nid yw'n rhoi amserlenni rhy obeithiol i chi. Rydym wedi gweithio'n galed gyda nhw i wneud hynny. Ni ddylid drysu o gwbl rhwng hynny â dyddiad terfyn y contract a nifer y safleoedd a basiwyd. Felly, nid oes gennyf unrhyw reolaeth dros ba un a aethant i 32 Gerddi Gwynion ai peidio, yr hyn y mae gennyf reolaeth drosto yw faint o safleoedd yng Nghymru y byddant yn eu cyrraedd. Rwy'n ffyddiog y byddant yn bodloni hynny oherwydd bod cosbau llym am iddynt beidio â gwneud hynny, ond nid oes cosbau treigl yn y contract.
We do have quarterly review targets that we look at with BT and, because the technology has changed recently, for example, in how you make a cabinet have more connectivity to it, we flex those targets occasionally. But, so far, they’re on target. So, I have no qualms. I have no reason to believe they won’t make the target at the end of next year. I have every sympathy with people who expected to get it in the next three months period and then don’t. I didn’t want to move the website to saying, ‘You’ll get it by the end of June 2017’, because I felt that wasn’t very helpful either. So, what we’ve done is we’ve asked them to be very pessimistic about where people are and give them that information. So, if it says ‘in the next three months’, they would be 90 per cent certain of getting it in the next three months. I share the Member’s frustration about the rolling targets. I’ve similar problems in my own constituency. Mae gennym dargedau adolygu chwarterol yr ydym yn edrych arnynt gyda BT ac, oherwydd bod y dechnoleg wedi newid yn ddiweddar, er enghraifft, yn y modd y byddwch yn gwneud i gwpwrdd gael mwy o gysylltedd iddo, rydym yn ystwytho’r targedau hynny o bryd i'w gilydd. Ond, hyd yn hyn, maen nhw ar y targed. Felly, nid oes gennyf amheuaeth. Nid oes gennyf unrhyw reswm i gredu na fyddant yn cyrraedd y targed ddiwedd y flwyddyn nesaf. Mae gennyf bob cydymdeimlad â phobl a oedd yn disgwyl ei gael yn y cyfnod tri mis nesaf ac yna ddim yn ei gael. Doeddwn i ddim eisiau newid y wefan i ddweud, 'Byddwch yn ei gael erbyn diwedd mis Mehefin 2017', oherwydd fy mod yn teimlo nad oedd hynny’n ddefnyddiol iawn ychwaith. Felly, yr hyn yr ydym wedi ei wneud yw gofyn iddynt fod yn besimistaidd iawn am ble y mae pobl arni a rhoi'r wybodaeth honno iddynt. Felly, os bydd yn dweud 'yn y tri mis nesaf', byddent 90 y cant yn sicr o’i gael yn y tri mis nesaf. Rwy'n rhannu rhwystredigaeth yr Aelod am y targedau treigl. Mae gennyf broblemau tebyg yn fy etholaeth fy hun.
So, we’ve worked with them very hard to overcome some of those problems, but the contractual obligations are not to be conflated with these ongoing timing issues, if that makes sense. Felly, rydym wedi gweithio gyda nhw yn galed iawn i oresgyn rhai o'r problemau hynny, ond nid yw'r rhwymedigaethau cytundebol i gael eu cyfuno â'r materion amseru parhaus hyn, os yw hynny'n gwneud synnwyr.
17:19 - Hannah Blythyn
Can I thank the Minister for her update today? She’ll no doubt be familiar from her postbag that access to superfast broadband is a hot topic for many of my constituents in Delyn. Not only does that highlight the problems people are having in terms of accessing that provision and the provider, but I think, for me, it shows just how far we’ve shifted in the past few years in terms of moving from superfast broadband being a luxury good to being an essential utility that we expect to receive now, with demand rising in line with that. I welcome the commitment and the intervention by the Welsh Government to ensure communities are able or will be able to access superfast broadband, but, echoing what many have said today, part of the process is ensuring that providers such as BT do meet their obligation to homes and businesses and communities across Wales. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei diweddariad heddiw? Heb os bydd hi'n gwybod o’i bag post bod cael mynediad at fand eang cyflym iawn yn bwnc llosg ar gyfer llawer o fy etholwyr yn Nelyn. Nid yn unig y mae hynny'n tynnu sylw at y problemau y mae pobl yn eu cael o ran cael mynediad at y ddarpariaeth a'r darparwr, ond rwy’n meddwl, i mi, mae'n dangos pa mor bell yr ydym wedi symud yn y blynyddoedd diwethaf o ran symud o ystyried band eang cyflym iawn yn rhywbeth moethus i fod yn gyfleustod hanfodol yr ydym yn disgwyl ei gael erbyn hyn, gyda galw yn cynyddu yn unol â hynny. Croesawaf yr ymrwymiad a'r ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cymunedau yn gallu neu y byddant yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn, ond, gan adleisio’r hyn y mae llawer wedi ei ddweud heddiw, rhan o'r broses yw sicrhau bod darparwyr fel BT yn bodloni eu rhwymedigaeth i gartrefi a busnesau a chymunedau ledled Cymru.
17:19 - Julie James
Indeed, and the Member is indeed a prolific correspondent on the subject, as are many Members in the Chamber. But, yes, I think it is important to recognise the cultural change that’s happened during the course of this programme. In 2013, when we started this programme, amongst the most common comments from people were, ‘Ah, you’ll never get it to us, and we don’t want it anyway. People want to come to’—name of place—‘to get away from it all, and to come offline’ and all the rest of it. That was a common thing said to us, and now the most common thing said to us is, ‘When am I getting this broadband?’ So, those three years have seen a big cultural shift in how people regard it. You don’t come to Wales to get away from it all, you come to have an adventure, and you want to tweet that adventure as you’re having it. And that’s great, but we want to keep pace with that. Again, I want to assure Members that we will get to everybody. It is difficult for the people who are at the end of the programme, but, as with all programmes, some people are at the beginning and some people are at the end. It’s frustrating if you are at the end, but we will get to you. Yn wir, ac mae'r Aelod yn wir yn ohebydd toreithiog ar y pwnc, fel y mae llawer o Aelodau yn y Siambr. Ond, ydi, rwy’n credu ei bod yn bwysig cydnabod y newid diwylliannol sydd wedi digwydd yn ystod y rhaglen hon. Yn 2013, pan ddechreuasom ni'r rhaglen hon, ymhlith y sylwadau mwyaf cyffredin gan bobl oedd, 'O, ni fyddwch fyth yn ei gael atom ni, ac nid ydym ei eisiau beth bynnag. Mae pobl eisiau dod i’—enw lle—‘i ddianc rhag popeth, ac i ddod oddi ar-lein' ac yn y blaen. Roedd hynny’n rhywbeth cyffredin a ddywedwyd wrthym ni, ac erbyn hyn y peth mwyaf cyffredin a ddywedir wrthym yw, ‘Pryd ydw i'n cael y band eang yma?' Felly, mae’r tair blynedd yna wedi gweld newid diwylliannol mawr yn y ffordd y mae pobl yn ei ystyried. Nid ydych yn dod i Gymru i ddianc rhag popeth, rydych yn dod i gael antur, ac rydych eisiau trydar am yr antur wrth i chi ei chael. Ac mae hynny'n wych, ond rydym eisiau cadw i fyny â hynny. Unwaith eto, rwyf eisiau sicrhau Aelodau y byddwn yn cyrraedd pawb. Mae'n anodd i'r bobl sydd ar ddiwedd y rhaglen, ond, fel gyda phob rhaglen, mae rhai pobl ar y dechrau ac mae rhai pobl ar y diwedd. Mae'n rhwystredig os ydych chi ar y diwedd, ond byddwn yn eich cyrraedd chi.
17:20 - Darren Millar
Minister, I’m afraid that many people across Wales are just fed up of waiting for this. You’re in a Government that has overpromised about superfast broadband and absolutely failed to deliver. This was in your programme for government—[Interruption.] It was in your programme for government back in 2011 that you would deliver to every household and residential business in Wales superfast broadband. You’ve failed on that, and you can blame BT Openreach all you like, but you are the ones that gave them the contract, you are the ones that have moved the goalposts twice now in terms of delivery against that contract, and you’re the people who are letting the people and businesses of Wales down. Weinidog, rwy'n ofni bod llawer o bobl ledled Cymru wedi cael llond bol ar aros am hyn. Rydych chi mewn Llywodraeth sydd wedi goraddo am fand eang cyflym iawn ac wedi methu yn llwyr â chyflawni. Roedd hyn yn eich rhaglen lywodraethu [Torri ar draws.] Yr oedd yn eich rhaglen lywodraethu yn ôl yn 2011 y byddech yn cyflwyno band eang cyflym iawn i bob cartref a busnes preswyl yng Nghymru. Rydych chi wedi methu ar hynny, a gallwch feio BT Openreach gymaint ag y dymunwch, ond chi yw'r rhai a roddodd y contract iddynt, chi yw'r rhai sydd wedi newid yr amserlen ddwywaith erbyn hyn o ran cyflawni yn erbyn y contract hwnnw, a chi yw’r bobl sy'n siomi pobl a busnesau Cymru.
Frankly, Minister, I’m not convinced that, even by the end of this term of this coalition Government, you’re going to achieve your objective, either. You’ve already said very clearly in your statement today that you cannot provide fibre connectivity at any cost, because you need to provide value for money. I accept that you need to provide value for money, but you also need to stop promising things that you’re failing to deliver. You failed to deliver it in the last term, and I suspect you’re going to fail again. A dweud y gwir, Weinidog, nid wyf yn argyhoeddedig, hyd yn oed erbyn diwedd y cyfnod hwn o Llywodraeth glymblaid, eich bod chi'n mynd i gyflawni eich nod, ychwaith. Rydych eisoes wedi dweud yn glir iawn yn eich datganiad heddiw nad ydych yn gallu darparu cysylltedd ffibr ar unrhyw gost, gan fod angen i chi ddarparu gwerth am arian. Rwy’n derbyn bod angen i chi ddarparu gwerth am arian, ond mae hefyd angen i chi roi'r gorau i addo pethau yr ydych chi’n methu â’u cyflawni. Rydych wedi methu cyflawni yn y tymor diwethaf, ac rwy’n amau ​​eich bod yn mynd i fethu eto.
Let’s just remind ourselves of those things that were promised. In your programme for government back in 2011, which I note, Llywydd, has been deleted from the Welsh Government’s website, you said that, by the end of 2015, all homes and businesses would receive superfast broadband. Then you moved the goalposts into 2016, then you moved it to the end of 2017. By now, there should be at least 655,000 homes and business premises attached to superfast broadband, but there aren’t. You’ve said in your statement today that there are only 610,000. So, what you’ve done is you’ve nudged the goalposts further and further along; I suspect you’ll move them beyond the next election as well, because you don’t want the electorate to hold you to account for these failures, either. Gadewch i ni atgoffa ein hunain o'r pethau hynny a addawyd. Yn eich rhaglen lywodraethu yn ôl yn 2011, sydd, rwy’n sylwi, Lywydd, wedi ei dileu o wefan Llywodraeth Cymru, dywedasoch y byddai pob cartref a busnes yn derbyn band eang cyflym iawn erbyn diwedd 2015. Yna newidiwyd yr amserlen i 2016, yna fe’i symudwyd i ddiwedd 2017. Erbyn hyn, dylai fod o leiaf 655,000 o gartrefi ac adeiladau busnes ynghlwm i fand eang cyflym iawn, ond nid yw hynny wedi digwydd. Rydych chi wedi dweud yn eich datganiad heddiw nad oes ond 610,000 ohonynt. Felly, yr hyn yr ydych wedi ei wneud yw eich bod wedi newid yr amserlen ymhellach ac ymhellach i’r dyfodol; rwy’n amau ​​y byddwch yn eu symud y tu hwnt i’r etholiad nesaf hefyd, oherwydd nad ydych eisiau i’r etholwyr eich dwyn i gyfrif am y methiannau hyn, ychwaith.
What my constituents want to know is that, if they’re not going to get fibre broadband, how on earth are you going to address their needs? Why should my constituents in upper Colwyn Bay and in rural parts of Denbighshire and in other parts of Conwy, why should they put up with not being able to access these things, which are essential for those households today if they want to get the best deals on their utility bills, if they want their young people to get on with their homework and do the research that they need to support their education? It’s not acceptable; you need to pull your finger out and get this sorted. Yr hyn y mae fy etholwyr eisiau ei wybod yw, os nad ydynt yn mynd i gael band eang ffibr, sut ar y ddaear ydych chi’n mynd i fynd i'r afael â'u hanghenion? Pam y dylai fy etholwyr yn rhan uchaf Bae Colwyn ac yn rhannau gwledig Sir Ddinbych ac mewn rhannau eraill o Gonwy, pam y dylent ddioddef methu â chael mynediad at y pethau hyn, sy'n hanfodol ar gyfer yr aelwydydd hynny heddiw os ydynt eisiau cael y fargen orau ar eu biliau cyfleustodau, os ydynt eisiau eu pobl ifanc i wneud eu gwaith cartref a gwneud yr ymchwil sydd ei hangen arnynt i gefnogi eu haddysg? Nid yw’n dderbyniol; mae angen i chi roi eich meddwl ar waith a datrys hyn.
17:23 - Julie James
Can I say to Darren Millar how very much I’ve missed his righteous indignation; it’s been absent from the Chamber for a little while now, so it’s nice to see it back in full flood. Sadly, it is a little over-zealous in this instance, because I think he failed, really, to listen very carefully to my previous answers to Members. So, I’ll just reiterate them. We haven’t moved the goalposts, we haven’t changed the outcome of these, what we’ve done is we’ve added premises in during subsequent open-market reviews in order to get to as many premises in Wales as possible. The original targets were for 96 per cent of the premises that were built in Wales in 2011. Clearly, you don’t have to be a genius to know that other premises have been built between then and now. Also, it’s a market intervention—it isn’t an infrastructure project, it’s a market intervention. We have to make sure that we only go where the market doesn’t go, and so we are obliged to go through open-market review processes in order to add other premises to that. A gaf i ddweud wrth Darren Millar cymaint yr wyf wedi colli ei ddicter cyfiawn; mae wedi bod yn absennol o'r Siambr am beth amser erbyn hyn, felly mae'n braf ei weld yn ôl yn ei anterth. Yn anffodus, mae ychydig yn or-eiddgar yn yr achos hwn, oherwydd credaf ei fod wedi methu, mewn gwirionedd, â gwrando'n ofalus iawn ar fy atebion blaenorol i'r Aelodau. Felly, rwyf am eu hailadrodd. Nid ydym wedi newid yr amserlen, nid ydym wedi newid canlyniad hyn, yr hyn yr ydym wedi ei wneud yw ychwanegu safleoedd yn ystod adolygiadau marchnad agored dilynol er mwyn cyrraedd cynifer o safleoedd yng Nghymru ag y bo modd. Roedd y targedau gwreiddiol ar gyfer 96 y cant o'r safleoedd a oedd wedi eu hadeiladu yng Nghymru yn 2011.Yn amlwg, nid oes rhaid i chi fod yn athrylith i wybod bod safleoedd arall wedi eu hadeiladu rhwng yr adeg honno a nawr. Hefyd, mae'n ymyrraeth yn y farchnad—nid yw’n brosiect seilwaith, ymyrraeth yn y farchnad ydyw. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydym ond yn mynd i lle nad yw'r farchnad yn mynd, ac felly mae'n rhaid i ni fynd trwy brosesau adolygu marchnad agored er mwyn ychwanegu safleoedd eraill at hynny.
In the first open-market review, several telecommunications companies, for example, identified that they would commercially roll out to a number of industrial premises across Wales, and it became clear that they weren’t actually going to make good on those promises, and that’s why we conducted the second open-market review, in order to be able to include those premises. That’s what the second tranche was about. I’ve explained that to Members lots of times; I’m happy to explain it again. Yn yr adolygiad marchnad agored cyntaf, nododd nifer o gwmnïau telathrebu, er enghraifft, y byddent yn fasnachol yn cyflwyno i nifer o safleoedd diwydiannol ledled Cymru, a daeth yn amlwg nad oeddent mewn gwirionedd yn mynd i gadw’r addewidion hynny, a dyna pam y gwnaethom gynnal yr ail adolygiad o’r farchnad agored, er mwyn gallu cynnwys y safleoedd hynny. Dyna beth yr oedd yr ail gyfran yn ymwneud ag ef. Rwyf wedi esbonio hynny i Aelodau lawer gwaith; rwy'n hapus i’w esbonio eto.
17:24 - Y Llywydd / The Presiding Officer
You don’t need to explain it again, even if Darren Millar has asked you to. Nid oes angen i chi egluro eto, hyd yn oed os yw Darren Millar wedi gofyn i chi.
17:24 - Julie James
Okay, Llywydd, I’ll refrain from explaining it again, but I have explained it several times already. Iawn, Lywydd, mi wnaf ymatal rhag egluro eto, ond rwyf wedi ei esbonio sawl gwaith yn barod.
So, I don’t accept what he says. The final thing he said, though, I do accept very much: it has gone from a luxury to an essential, and that is why this Government is promising to get it to everybody. What I said about fibre broadband was that not everybody would be cabled. I said everybody would get fast, reliable broadband but it would not necessarily be via a fibre cable, and that is because other technologies have advanced very rapidly over the last three years. I mentioned one in another Member’s constituency, and, if Darren Millar would like to invite me to his constituency to speak to his constituents about what’s available, I’d be very happy to accept that invitation. Felly, nid wyf yn derbyn yr hyn y mae’n ei ddweud. Y peth olaf a ddywedodd, fodd bynnag, yr wyf yn ei dderbyn yn llawn: mae wedi mynd o fod yn rhywbeth moethus i fod yn hanfodol, a dyna pam mae'r Llywodraeth hon yn addo ei gael i bawb. Yr hyn a ddywedais am fand eang ffibr oedd na fyddai pawb yn cael cebl. Dywedais y byddai pawb yn cael band eang cyflym a dibynadwy, ond na fyddai o reidrwydd trwy gebl ffibr, ac mae hynny oherwydd bod technolegau eraill wedi datblygu’n gyflym iawn dros y tair blynedd diwethaf. Soniais am un mewn etholaeth Aelod arall, ac, os byddai Darren Millar yn dymuno fy ngwahodd i'w etholaeth i siarad â’i etholwyr am yr hyn sydd ar gael, byddwn yn hapus iawn i dderbyn y gwahoddiad hwnnw.
17:25 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Finally, David Rees. Yn olaf, David Rees.
17:25 - David Rees
Diolch, Lywydd. I will be brief. Minister, you’ve identified broadband in the industrial areas by Airband contract. Can you confirm that there are no more industrial areas that will be requiring additional contracts, which is critical? Can you also tell us what market will be in those industrial areas once they have been connected up, so that we can get the message out to people as soon as possible? Diolch, Lywydd. Byddaf yn gryno. Weinidog, rydych chi wedi nodi band eang yn yr ardaloedd diwydiannol drwy gontract Airband. A allwch chi gadarnhau nad oes mwy o ardaloedd diwydiannol lle bydd contractau ychwanegol yn ofynnol, sy'n hollbwysig? A allwch chi ddweud wrthym hefyd pa farchnad fydd yn yr ardaloedd diwydiannol hynny ar ôl iddynt gael eu cysylltu, fel y gallwn gyflwyno’r neges i bobl cyn gynted ag y bo modd?
You’ve also talked about re-capacitating today. As you know, I’ve got a problem with one of the boxes. Will you ensure that BT provides sufficient capacity in their cabinets so that there is no need to re-capacitate within that short space of time? Actually, they should be looking at a target of at least 50 per cent capacity for the houses in that box to ensure that it can deliver to the communities, and not put people on hold and they’ll come back in years to come when they’ve got time, not when people need it. Rydych hefyd wedi siarad am ailalluogi heddiw. Fel y gwyddoch, mae gen i broblem gydag un o'r blychau. A wnewch chi sicrhau bod BT yn darparu digon o allu yn eu cypyrddau fel nad oes angen ailalluogi o fewn y cyfnod byr hwnnw o amser? Mewn gwirionedd, dylent fod yn edrych ar darged capasiti o 50 y cant o leiaf ar gyfer y tai yn y blwch er mwyn sicrhau y gall ddarparu ar gyfer y cymunedau, ac nid gadael i bobl aros a byddant yn dod yn ôl mewn blynyddoedd i ddod pan fydd amser ganddynt, nid pan fydd pobl ei angen.
17:26 - Julie James
Thank you. On that last point, as I’ve said repeatedly, BT needs to get to as many premises as possible as fast as possible to get through its contractual requirements, and I know that it’s taken a review of the cabinets that it previously put forward to see if it can increase the capacity on it. And if you want to write to me again about cabinet 16, which is the one I assume you’re talking about—the Member is also a prolific correspondent—I will be happy to have a look at that with him again in our quarterly meetings. Diolch. Ar y pwynt olaf, fel yr wyf wedi dweud dro ar ôl tro, mae angen i BT gyrraedd cynifer o safleoedd ag sy'n bosibl mor gyflym â phosibl i gyflawni ei ofynion cytundebol, ac rwy’n gwybod ei fod wedi cynnal adolygiad o'r cypyrddau yr oedd yn eu cynnig yn flaenorol i weld a ellir cynyddu’r capasiti ar hynny. Ac os ydych chi eisiau ysgrifennu ataf eto am gwpwrdd 16, sef yr un yr wyf yn cymryd yn ganiataol yr ydych yn siarad amdano—mae’r Aelod hefyd yn ohebydd toreithiog —rwy’n hapus i gael golwg ar hynny gydag ef eto yn ein cyfarfodydd chwarterol .
In terms of the Airband contract, yes, absolutely, we will be extending the marketing to ensure that businesses are aware and available and all of the things I mentioned to David Rowlands earlier, so that they understand what the take-up can get to them; we will be doing that. O ran contract Airband, ie, yn hollol, byddwn yn ymestyn y marchnata i sicrhau bod busnesau yn ymwybodol ac ar gael a'r holl bethau a grybwyllais wrth David Rowlands yn gynharach, er mwyn iddynt ddeall yr hyn y gall y manteisio ei gael atynt ; byddwn yn gwneud hynny.
I can’t actually guarantee at this very moment that no industrial premises will be left out, but we are, as I said, looking at another open-market review in the autumn, and that will be the final tranche. So, if there are any left out there, which I hope there aren’t, they’ll be swept up in that last open-market review. Ni allaf warantu mewn gwirionedd yr union funud hon na fydd unrhyw safleoedd diwydiannol yn cael eu hepgor, ond rydym, fel y dywedais, yn edrych ar adolygiad marchnad agored arall yn yr hydref, a dyna fydd y gyfran olaf. Felly, os oes unrhyw rai wedi eu hepgor allan yna, ac rwy’n gobeithio nad oes, byddan nhw'n cael eu cynnwys yn yr adolygiad marchnad agored olaf hwnnw.
17:27 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet—diolch i’r Gweinidog. I thank the Cabinet Secretary—I thank the Minister.
7. Dadl: Mynd i’r Afael â Throseddau Casineb—Cynnydd a Heriau 7. Debate: Tackling Hate Crime—Progress and Challenges
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies. The following amendment has been selected: amendment 1 in the name of Paul Davies.
17:27 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Rydym ni’n symud ymlaen i eitem 7, y ddadl ar fynd i’r afael â throseddau casineb, ac i wneud y cynnig, yr Ysgrifennydd Cabinet—Carl Sargeant. We move on to item 7, the debate on tackling hate crime, and to move the motion, the Cabinet Secretary—Carl Sargeant.
Cynnig NDM6113 Jane Hutt Motion NDM6113 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: To propose that the National Assembly for Wales:
1. Nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud drwy Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb. 1. Notes the progress made through the Welsh Government's Tackling Hate Crime Framework.
2. Cydnabod, yn sgil digwyddiadau diweddar, yr heriau parhaus sy'n bodoli o ran troseddau casineb. 2. Recognises, in light of recent events, the continuing challenges posed by hate crime.
Cynigiwyd y cynnig. Motion moved.
17:27 - Carl Sargeant
Thank you, Presiding Officer. I welcome this opportunity to update Members on the progress made to date in Wales on tackling hate crime and the current challenges. Diolch i chi, Lywydd. Croesawaf y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn yng Nghymru ar drechu troseddau casineb a'r heriau presennol.
I remind Members that I published an annual update in 2016-17 and a delivery plan in July that highlights the cross-Government action. Atgoffaf yr Aelodau fy mod wedi cyhoeddi diweddariad blynyddol yn 2016-17 a chynllun cyflawni ym mis Gorffennaf sy'n amlygu'r camau ar draws y Llywodraeth.
I’d like to turn to the amendment at this point. I am happy for Members to note the all-Wales hate crime research project. This debate today will demonstrate how we have used the key recommendations from this report and other related research to raise awareness of hate crime, and increase the confidence of victims and witnesses to report hate crime. This is true, for example, in relation to restorative approaches for hate crime perpetrators. While criminal justice remains a non-devolved issue, Victim Support Cymru, who manage our hate crime report and support centre, are currently working with the Wales Community Rehabilitation Company to create a hate crime restorative justice and education programme for hate crime offenders. I therefore support the amendment laid today. Hoffwn droi at y gwelliant ar yr adeg hon. Rwy’n hapus i Aelodau nodi’r prosiect ymchwil troseddau casineb Cymru gyfan. Bydd y ddadl hon heddiw yn dangos sut yr ydym ni wedi defnyddio'r argymhellion allweddol o’r adroddiad hwn a gwaith ymchwil cysylltiedig arall i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb, a chynyddu hyder dioddefwyr a thystion i roi gwybod am droseddau casineb. Mae hyn yn wir, er enghraifft, mewn cysylltiad â dulliau adferol ar gyfer y rhai sy’n cyflawni troseddau casineb. Er bod cyfiawnder troseddol yn parhau i fod yn fater sydd heb ei ddatganoli, mae Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, sy'n rheoli ein canolfan cenedlaethol ar gyfer rhoi cymorth ac adrodd am droseddau casineb, wrthi'n gweithio gyda'r Cwmni Adsefydlu Cymunedol i greu rhaglen cyfiawnder adferol ac addysg troseddau casineb ar gyfer y rhai sy’n cyflawni troseddau casineb. Felly, rwy’n cefnogi'r gwelliant a osodir heddiw.
This week is Hate Crime Awareness Week. It is a key time for our third sector partners and the four police forces. I have again made funding available to the four police and crime commissioners to support activities during the week, with a focus on increasing awareness and community engagement across Wales. Mae'r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth o Drosedd Casineb. Mae'n gyfnod allweddol i'n partneriaid yn y trydydd sector a'r pedwar heddlu. Rwyf unwaith eto wedi darparu cyllid i'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu i gefnogi gweithgareddau yn ystod yr wythnos, gyda phwyslais ar godi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu cymunedol ledled Cymru.
In 2014, we launched ‘Tackling Hate Crimes and Incidents: A Framework for Action’, which sets out this Government’s commitment to change hostility and prejudice across all the protected characteristics. Our framework includes objectives on prevention, support and improving the multi-agency response. I published an updated delivery plan, as I said, in July. Since 2014, we have provided funding to Victim Support Cymru to operate the national hate crime report and support centre, and I’ve recently agreed to fund a national reporting centre for a further three years. This service, which is currently out to tender, is critical to provide independent advocacy and support for victims. Yn 2014, lansiwyd ‘Mynd i'r afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu’, sy'n nodi ymrwymiad y Llywodraeth hon i newid gelyniaeth a rhagfarn ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig. Mae ein fframwaith yn cynnwys amcanion ar atal, cefnogi a gwella’r ymateb amlasiantaeth. Cyhoeddais gynllun cyflenwi wedi’i ddiweddaru, fel y dywedais, ym mis Gorffennaf. Ers 2014, rydym wedi darparu cyllid i Cymorth i Ddioddefwyr Cymru i weithredu’r ganolfan genedlaethol ar gyfer rhoi cymorth ac adrodd am droseddau casineb, ac rydw i wedi cytuno'n ddiweddar i ariannu canolfan adrodd cenedlaethol am dair blynedd arall. Mae'r gwasanaeth hwn, sydd allan i dendr ar hyn o bryd, yn hanfodol er mwyn darparu eiriolaeth a chefnogaeth annibynnol i ddioddefwyr.
We also continue to work closely with a range of criminal justice agencies through the hate crime criminal justice board, and our independent advisory group, which helps to monitor the progress from the grass-roots level. Rydym hefyd yn parhau i weithio'n agos gydag ystod o asiantaethau cyfiawnder troseddol drwy'r bwrdd cyfiawnder troseddol ar gyfer troseddau casineb, a’n grŵp cynghori annibynnol, sy'n helpu i fonitro cynnydd o lawr gwlad i fyny.
So, what progress have we made? We have seen a 20 per cent increase in hate crime reporting in 2015-16 and this can in large part be attributed to better awareness, confidence amongst victims and more accurate recording. However, we know that up to 50 per cent of victims are still not reporting, so there is much more to be done to assure victims that it is both important and worthwhile to report what they have suffered. Felly, pa gynnydd yr ydym ni wedi'i wneud? Rydym ni wedi gweld cynnydd o 20 y cant mewn adroddiadau am droseddau casineb yn 2015-16 a gellir priodoli hyn i raddau helaeth i fwy o ymwybyddiaeth, hyder ymysg dioddefwyr a chofnodi mwy cywir. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod hyd at 50 y cant o ddioddefwyr yn dal i beidio ag adrodd, felly mae llawer mwy i'w wneud i sicrhau dioddefwyr ei bod yn bwysig ac yn werth chweil i adrodd am yr hyn y maent wedi ei ddioddef.
We have made huge strides and we can be immensely proud that Wales is leading the way, but there is no room for complacency. We cannot ignore that part of the reported increase reflects a real spike in hate crimes following the EU referendum, nor the reality that some groups in our communities are more fearful following that vote. There are significant challenges ahead to reassure the majority and confront the few who want to incite hatred. We are ready for those challenges. The national reporting centre has delivered hate crime training to front-line key staff and community partners. In total 2,390 people have benefitted from this training. Rydym wedi cymryd camau anferth a gallwn fod yn falch iawn bod Cymru yn arwain y ffordd, ond nid oes lle i fod yn hunanfodlon. Ni allwn anwybyddu'r ffaith bod rhan o'r cynnydd yn yr achosion a adroddwyd yn adlewyrchu twf sydyn iawn iawn mewn troseddau casineb yn dilyn refferendwm yr UE, na'r realiti bod rhai grwpiau yn ein cymunedau yn fwy ofnus yn dilyn y bleidlais honno. Mae heriau sylweddol o'n blaenau i dawelu meddwl y mwyafrif a herio’r ychydig sydd am annog casineb. Rydym yn barod ar gyfer yr heriau hynny. Mae'r ganolfan adrodd genedlaethol wedi darparu hyfforddiant troseddau casineb i staff rheng flaen a phartneriaid cymunedol allweddol. Mae cyfanswm o 2,390 o bobl wedi elwa ar yr hyfforddiant hwn.
We must listen to the concerns that communities have voiced following the referendum and we must also be very clear indeed that the vote has not—and will not—legitimised hatred or abuse toward ethnic minority people and non-British nationals. Many people have said that they have lived in Wales for a generation but have experienced hate for the first time in the past few months; this will not be tolerated. I have spoken to the police and crime commissioners to ensure everything possible is being done to monitor and support the situation and the victims. Mae'n rhaid i ni wrando ar y pryderon y mae cymunedau wedi eu lleisio yn dilyn y refferendwm ac mae’n rhaid i ni hefyd fod yn glir iawn iawn nad yw’r bleidlais—ac ni fydd hi—yn rhoi unrhyw sail dderbyniol i gasineb neu gam-drin tuag at bobl o leiafrifoedd ethnig a gwladolion nad ydynt yn Brydeinig. Mae llawer o bobl wedi dweud eu bod wedi byw yng Nghymru ers cenhedlaeth, ond wedi profi casineb am y tro cyntaf yn ystod y misoedd diwethaf; ni fydd hyn yn cael ei oddef. Rwyf wedi siarad â'r comisiynwyr heddlu a throseddu i sicrhau bod popeth posibl yn cael ei wneud i fonitro a chefnogi’r sefyllfa a'r dioddefwyr.
As Assembly Members, we work with and listen to a wide range of people across our communities and constituencies. It’s important that we all reinforce the importance of reporting. This, of course, applies to hate crime based on a range of characteristics, including disability. Despite all the progress that’s been made, for example around the Paralympics, disabled people continue to be stigmatised and to experience abuse and hate. Whilst we’ve seen progress, including an increase in reporting, we must continue to strengthen and link with the disability organisations and communities across Wales. Fel Aelodau o'r Cynulliad, rydym yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl ledled ein cymunedau ac etholaethau ac yn gwrando arnynt. Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn atgyfnerthu pa mor bwysig yw hi i bobl adrodd am droseddau. Mae hyn, wrth gwrs, yn berthnasol i droseddau casineb sy’n seiliedig ar amrywiaeth o nodweddion, gan gynnwys anabledd. Er gwaethaf yr holl gynnydd sydd wedi'i wneud, er enghraifft ynghylch y Gemau Paralympaidd, mae pobl anabl yn dal i gael eu gwaradwyddo ac yn dioddef cam-driniaeth a chasineb. Er ein bod wedi gweld bod pethau’n gwella, gan gynnwys cynnydd yn y niferoedd sy’n adrodd, mae'n rhaid i ni barhau i gryfhau’r sefydliadau a’r cymunedau anabledd ledled Cymru, a chreu cysylltiadau â nhw.
Similarly, we need to be aware and maintain a clear focus on hate crime against lesbian, gay, bisexual and transgender people. In fact, across Wales, sexual orientation hate crime was the second most commonly recorded hate crime. We will continue to tackle all forms of homophobia in our schools, in the workplace and in our communities. In Wales, transgender hate crimes had the lowest levels of reporting during 2015 and 2016, and we are committed to addressing this through our transgender action plan and will continue to work with partners across Wales. Yn yr un modd, mae angen i ni fod yn ymwybodol o droseddau casineb yn erbyn pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, a chadw pwyslais clir ar hynny. Yn wir, ledled Cymru, troseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol oedd y troseddau casineb a gofnodwyd amlaf ond un. Byddwn yn parhau i fynd i'r afael â phob math o homoffobia yn ein hysgolion, yn y gweithle ac yn ein cymunedau. Yng Nghymru, roedd y lefelau adrodd ar eu hisaf ar gyfer troseddau casineb trawsrywiol yn ystod 2015 a 2016, ac rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â hyn drwy ein cynllun gweithredu trawsrywiol a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid ledled Cymru.
It is clear that education plays a vital role in addressing hate. Children and young people need an inclusive learning environment that values diversity, builds tolerance and understanding. When incidents happen, schools need to be clear about their arrangements to challenge unacceptable words and behaviour, including racism, and support the children involved. The Welsh Government has been working with Show Racism the Red Card since 2013 in developing resources to support schools and practitioners in tackling racism in the education sector. We’ve approved further work that will help equip and empower our teachers with the confidence to tackle racism and discrimination in our classrooms. Mae'n amlwg bod addysg yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â chasineb. Mae angen amgylchedd dysgu cynhwysol i blant a phobl ifanc sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth, ac yn datblygu goddefgarwch a dealltwriaeth. Pan fydd achosion yn digwydd, mae angen i ysgolion fod yn glir ynghylch eu trefniadau i herio geiriau ac ymddygiad annerbyniol, gan gynnwys hiliaeth, a chefnogi'r plant dan sylw. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ers 2013 i ddatblygu adnoddau i gefnogi ysgolion ac ymarferwyr i fynd i'r afael â hiliaeth yn y sector addysg. Rydym wedi cymeradwyo gwaith pellach a fydd yn helpu arfogi a grymuso ein hathrawon â’r hyder i fynd i'r afael â hiliaeth a gwahaniaethu yn ein hystafelloedd dosbarth.
Social media plays a significant role in most of our lives, and in this area there are significant challenges we all have the responsibility to face. We can see every day how the media and social networks affect our views on the world. Responses to the recent world events have led to an increase in the number of people airing racist and religious intolerance online. This is totally unacceptable and we will continue to look at new and innovative ways to tackle it. This week we’re publishing guides on online hate crime aimed at practitioners, the public and young people. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan sylweddol ym mywydau’r rhan fwyaf ohonom, ac yn y maes hwn ceir heriau sylweddol y mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i’w hwynebu. Gallwn weld bob dydd sut mae'r cyfryngau a rhwydweithiau cymdeithasol yn effeithio ar ein barn ar y byd. Mae’r ymatebion i'r digwyddiadau diweddar yn y byd wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n mynegi anoddefgarwch hiliol a chrefyddol ar-lein. Mae hyn yn gwbl annerbyniol a byddwn yn parhau i ystyried ffyrdd newydd ac arloesol o fynd i'r afael ag ef. Yr wythnos hon, rydym yn cyhoeddi canllawiau ar droseddau casineb ar-lein ar gyfer ymarferwyr, y cyhoedd a phobl ifanc.
I look forward to the comments made by Members today on this very important day marking hate crime week. Edrychaf ymlaen at y sylwadau y bydd yr Aelodau yn eu nodi heddiw ar y diwrnod pwysig iawn hwn, sy’n nodi wythnos troseddau casineb.
17:34 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig ac rwy’n galw ar Mark Isherwood i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. I have selected the amendment to the motion. I call on Mark Isherwood to move the amendment tabled in the name of Paul Davies.
Gwelliant 1—Paul Davies Amendment 1—Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Add as new point at end of motion:
Yn nodi argymhellion allweddol y 'Prosiect Ymchwil Trosedd Casineb Cymru Gyfan', sy'n cynnwys: Notes the key recommendations of the 'All Wales Hate Crime Research Project', which include that:
a) bod angen gwneud mwy i ennyn hyder dioddefwyr a thystion i roi gwybod am ddigwyddiadau casineb a hyrwyddo'r farn mai rhoi gwybod am gasineb yw'r peth iawn i'w wneud; a a) more needs to be done to increase the confidence of victims and witnesses to report hate incidents and to promote the view that reporting hate is the ‘right thing to do’; and
b) dylid gwneud mwy i sicrhau y caiff y rhai sy'n cyflawni troseddau casineb eu trin yn effeithiol ac y dylid sicrhau bod dulliau adferol ar gael yn fwy eang yng Nghymru. b) more should be done to ensure that hate crime perpetrators are dealt with effectively and that restorative approaches should be made more widely available in Wales.
Cynigiwyd gwelliant 1. Amendment 1 moved.
17:34 - Mark Isherwood
As North Wales Police state, a hate crime incident is any incident perceived by the victim as being motivated by prejudice or hate. Although the National Police Chiefs Council have stated that recorded hate crimes increased following the result of the EU referendum, this problem is not exclusive to the post-EU-referendum period. Hate crimes recorded by South Wales Police for the two weeks to the end of June decreased slightly, but increased slightly in the first week of July, compared to the same weeks in 2015. The number of recorded hate crimes in Wales rose by more than 20 per cent during 2014-15, with almost 75 per cent classed as race hate crimes—a 19 per cent increase on the previous year. But campaigners said then that much of the rise was due, as the Minister said, to better reporting and communities feeling more positive about coming forward to report incidents. Fel y mae Heddlu Gogledd Cymru yn nodi, achos o drosedd casineb yw unrhyw ddigwyddiad y mae’r dioddefwr o’r farn ei fod wedi'i ysgogi gan ragfarn neu gasineb. Er bod Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu wedi dweud bod nifer y troseddau casineb a gofnodwyd wedi cynyddu yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE, nid yw’r broblem hon yn unigryw i'r cyfnod ar ôl refferendwm yr UE. Bu ychydig o ostyngiad yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd gan Heddlu De Cymru ar gyfer y pythefnos hyd at ddiwedd mis Mehefin, ond cynyddodd ychydig yn ystod wythnos gyntaf mis Gorffennaf, o’i chymharu â'r un wythnosau yn 2015. Cynyddodd nifer y troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru fwy nag 20 y cant yn ystod 2014-15, a chafodd bron i 75 y cant ohonynt eu dosbarthu yn droseddau casineb hiliol—cynnydd o 19 y cant ar y flwyddyn flaenorol. Ar yr adeg honno, dywedodd ymgyrchwyr bod llawer o'r cynnydd wedi digwydd o ganlyniad i welliannau yn y cyfraddau adrodd a chymunedau yn teimlo'n fwy cadarnhaol am ddod ymlaen i adrodd am ddigwyddiadau, fel y dywedodd y Gweinidog.
Reporting of hate crimes should be encouraged, hence our amendment 1 noting the key recommendations of the all-Wales hate crime research project on which the Welsh Government’s tackling hate crime framework is based. These include: Dylid annog pobl i roi gwybod am droseddau casineb, a dyna pam y mae ein gwelliant 1 yn nodi argymhellion allweddol y prosiect ymchwil troseddau casineb Cymru gyfan y mae fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â throseddau casineb yn seiliedig arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys:
‘more needs to be done to increase the confidence of victims and witnesses to report hate incidents and to promote the view that reporting hate is the “right thing to do”.’ angen gwneud mwy i gynyddu hyder dioddefwyr a thystion i adrodd am ddigwyddiadau casineb ac i hybu’r farn mai adrodd am gasineb yw'r "peth cywir i'w wneud".
More needs to be done. It goes on to say that victims felt that incidents were too trivial to report or that the police were unable to do anything, and recommends that Welsh Government should take the lead on ensuring that accessible third-party reporting mechanisms are in place for victims who don’t want to report directly to the police. Mae angen gwneud mwy. Mae'n mynd ymlaen i ddweud bod dioddefwyr yn teimlo bod achosion yn rhy ddibwys i roi gwybod amdanynt neu nad oedd yr heddlu yn gallu gwneud unrhyw beth, ac mae'n argymell y dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau wrth sicrhau bod dulliau adrodd trydydd parti hygyrch ar waith ar gyfer dioddefwyr nad ydynt yn dymuno adrodd yn uniongyrchol i'r heddlu.
As the Minister said, Victim Support has been commissioned by the Welsh Government as the official national hate crime report and support centre for Wales. I also attended last year’s launch of the north Wales victim help centre—a partnership between Victim Support, the north Wales police and crime commissioner, North Wales Police, the Crown Prosecution Service and local third sector services, providing victim-centred emotional and practical support for victims of all crime types. They have a dedicated mental health and well-being caseworker and hate crime caseworker. Their strapline states that they will ensure that the needs of victims will be at the heart of everything they do. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae Cymorth i Ddioddefwyr wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yn ganolfan genedlaethol ar gyfer rhoi cymorth ac adrodd am droseddau casineb swyddogol i Gymru. Roeddwn i’n bresennol hefyd yn lansiad canolfan gymorth dioddefwyr gogledd Cymru y llynedd—partneriaeth rhwng Cymorth i Ddioddefwyr, comisiynydd heddlu a throseddu gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron a gwasanaethau lleol y trydydd sector, sy’n darparu cymorth emosiynol ac ymarferol sy'n canolbwyntio ar y dioddefwr ar gyfer pobl sydd wedi dioddef troseddau o bob math. Mae ganddynt weithiwr achos iechyd meddwl a llesiant a gweithiwr achos troseddau casineb penodedig. Mae eu harwyddair yn datgan y byddant yn sicrhau y bydd anghenion dioddefwyr wrth wraidd popeth a wnânt.
I also sponsored last year’s Rainbow Bridge launch event here in the Pierhead building, where Victim Support has been funded by the Big Lottery Fund to run a specialist domestic abuse service for people who identify as lesbian, gay, bisexual and/or transgender. Quoting the all-Wales hate crime research project, our amendment also states that Gwnes i hefyd noddi digwyddiad lansio Rainbow Bridge yma yn adeilad y Pierhead y llynedd, pan gafodd Cymorth i Ddioddefwyr ei ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr i redeg gwasanaeth cam-drin domestig arbenigol i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a/neu drawsrywiol. Gan ddyfynnu’r prosiect ymchwil troseddau casineb Cymru gyfan, mae ein gwelliant hefyd yn datgan y
‘more should be done to ensure that hate crime perpetrators are dealt with effectively and that restorative approaches should be made more widely available in Wales.’ 'dylid gwneud mwy i sicrhau bod pobl sy’n cyflawni troseddau casineb yn cael eu trin yn effeithiol a dylai fod dulliau adferol ar gael yn fwy eang yng Nghymru.'
It continues: the research shows Mae'n parhau: mae’r ymchwil yn dangos
‘that victims’ overriding desire is for the hate incidents to stop happening to them.’ 'mai awydd pennaf dioddefwyr yw i'r digwyddiadau casineb beidio â digwydd iddynt.’
They also want sanctions to be relevant to the offence committed and for perpetrators to recognise the impact of their actions. Many of the respondents emphasised the importance of education, indicating that restorative approaches should be used more widely and consistently. It is a concern, therefore, it said, to find that there is currently very little restorative practice being undertaken in Wales. Maen nhw hefyd yn dymuno i’r cosbau fod yn berthnasol i'r drosedd a gyflawnwyd ac i’r sawl sy’n cyflawni’r drosedd gydnabod effaith ei weithredoedd. Pwysleisiodd llawer o'r ymatebwyr bwysigrwydd addysg, gan nodi y dylai dulliau adferol gael eu defnyddio yn fwy eang a chyson. Mae'n bryder, felly, mae'n dweud, i ganfod mai ychydig iawn o arfer adferol a weithredir yng Nghymru ar hyn o bryd.
The Older People’s Commissioner for Wales has warned that there is an increasing problem of older people being specifically targeted by criminals due to their supposed vulnerabilities. Despite this, they say, there remains a gap in the law that does not recognise these crimes, committed against older people because of their age, as hate crimes, whereas crimes committed against someone because of their disability, gender identity, race, religion, belief or sexual orientation are recognised in legislation as hate crimes due to their motivating factors and, as a consequence, additional penalties are considered there. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi rhybuddio bod problem gynyddol o bobl hŷn yn cael eu targedu'n benodol gan droseddwyr oherwydd y tybir eu bod yn agored i niwed. Er gwaethaf hyn, maent yn dweud, mae bwlch yn parhau i fod yn y gyfraith nad yw'n cydnabod bod y troseddau hyn, a gyflawnir yn erbyn pobl hŷn oherwydd eu hoedran, yn droseddau casineb, ond mae troseddau a gyflawnir yn erbyn rhywun oherwydd ei anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd, hil, crefydd, cred neu gyfeiriadedd rhywiol yn cael eu cydnabod mewn deddfwriaeth yn droseddau casineb oherwydd eu ffactorau ysgogol ac, o ganlyniad i hynny ystyrir cosbau ychwanegol ar eu cyfer.
Hate crime is a serious offence that can have devastating and long-lasting effects on individuals and communities across Wales. During this National Hate Crime Awareness Week, we must tackle hate crime issues by raising awareness of what hate crime is and how to respond to it, encouraging reporting and promoting local support services and resources. As the North Wales Association for Multicultural Integration states, it believes Mae troseddau casineb yn drosedd ddifrifol a all gael effeithiau dinistriol sy’n para am amser hir ar unigolion a chymunedau ledled Cymru. Yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Drosedd Casineb Cenedlaethol, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â materion sy’n ymwneud â throseddau casineb drwy godi ymwybyddiaeth o’r hyn yw troseddau casineb a sut i ymateb iddynt, gan annog pobl i roi gwybod i’r heddlu amdanynt a hybu gwasanaethau ac adnoddau cymorth lleol. Fel y mae Cymdeithas Integreiddio Amlddiwylliannol Gogledd Cymru yn nodi, mae'n credu mewn creu
‘in the formation of a respectful, peaceful and healthy society through an understanding of the diverse cultures that exist in Wales today’. ‘cymdeithas barchus, heddychlon ac iach drwy ddeall y diwylliannau amrywiol sy'n bodoli yng Nghymru heddiw’.
And, as the holocaust survivor Elie Wiesel stated, Ac, fel y dywedodd y Elie Wiesel, a oroesodd yr holocost,
‘I swore never to be silent whenever…human beings endure suffering and humiliation. We must always take sides. Neutrality helps the oppressor, never the victim. Silence encourages the tormentor, never the tormented.’ ‘fe wnes i dyngu i beidio byth â bod yn dawel pryd bynnag... y mae bodau dynol yn wynebu dioddefaint ac yn cael eu cywilyddu. Mae'n rhaid i ni gymryd ochrau bob amser. Mae niwtraliaeth yn helpu'r gormeswr, byth y dioddefwr. Mae distawrwydd yn annog y poenydiwr, byth y sawl sy’n cael ei boenydio.’
17:39 - Bethan Jenkins
Thank you for this debate today. Plaid Cymru obviously is completely opposed to hate crime, and what I’d like to say at the beginning is that I think the target of hate crime changes from generation to generation and from community to community. I say this because my mother comes from Belfast, from the north of Ireland, and I remember distinctly, when we were walking down the street—sadly, in a Valleys community, but I’m not branding everybody that way—and a woman came up to her and heard her talking and said, ‘Why don’t you just go home?’ My mother said, ‘Well, this is my home, and I’ve got nowhere else to go’. So, I think, sometimes—I remember that and I was only about seven years old—the things that you remember have a distinct way of shaping your life. I think that’s why it’s so important that, even though there may be people who come to our country for various reasons, we should always start from a degree of tolerance. Everybody has their own stories to tell. Everybody has their own backgrounds to their own situations, regardless of ethnicity, sexuality or gender. So, I think sometimes, in all of this debate, yes, there may be people who are coming here for the wrong reasons, but we don’t know that until we actually talk to them. I think many people—the media and political parties—brand certain ethnicities or groups of people without even taking a second thought as to the torment that they’ve gone through to perhaps get to this country in the first place. Diolch i chi am y ddadl hon heddiw. Mae Plaid Cymru yn amlwg yn llwyr wrthwynebu troseddau casineb, a’r hyn yr hoffwn i ei ddweud ar y dechrau yw fy mod yn credu bod targed troseddau casineb yn newid o genhedlaeth i genhedlaeth ac o gymuned i gymuned. Rwy'n dweud hyn am fod fy mam yn dod o Belfast, o ogledd Iwerddon, ac rwy’n cofio’n bendant, pan oeddem yn cerdded i lawr y stryd—yn anffodus, mewn cymuned yn y Cymoedd, ond dydw i ddim yn brandio pawb y ffordd honno—a daeth gwraig ati a’i chlywed yn siarad a dweud, ‘Pam nad ewch chi adref?’ Dywedodd fy mam, ‘Wel, hwn yw fy nghartref, a does gen i unman arall i fynd’. Felly, rwy’n credu weithiau—rwy’n cofio hynny a dim ond tua saith mlwydd oed oeddwn i—mae’r pethau yr ydych yn eu cofio â modd amlwg o siapio eich bywyd. Dyna pam rwy’n credu ei bod mor bwysig, hyd yn oed os oes pobl sy'n dod i'n gwlad am wahanol resymau, y dylem bob amser ddechrau o safbwynt o oddefgarwch. Mae gan bawb eu straeon eu hunain i'w hadrodd. Mae gan bawb eu cefndiroedd eu hunain i’w sefyllfaoedd eu hunain, waeth beth fo'u hethnigrwydd, eu rhywioldeb neu eu rhyw. Felly, rwy’n credu weithiau, yn yr holl ddadl hon, ie, efallai bod yna bobl sy'n dod yma am y rhesymau anghywir, ond nid ydym yn gwybod hynny hyd nes y byddwn yn siarad â nhw mewn difrif calon. Rwy’n credu bod llawer o bobl—y cyfryngau a phleidiau gwleidyddol—yn brandio ethnigau neu grwpiau o bobl penodol—heb hyd yn oed ystyried y boenedigaeth y maent wedi’i dioddef i gyrraedd y wlad hon yn y lle cyntaf.
We all know that hate crime has grown as a result of Brexit. I don’t know if it’s directly associated or whether it was a way in which people then thought that it was acceptable to come out with some inflammatory behaviour. When we had the communities and culture briefing with various organisations recently, we heard people saying that it’s getting worse in our schools, whereby other children are saying, because of the colour of their skin, they should not be present in the school environment anymore. I think that’s very, very worrying, if this type of attitude is deemed acceptable. Rydym ni i gyd yn gwybod bod troseddau casineb wedi cynyddu o ganlyniad i Brexit. Nid wyf yn gwybod a yw'n uniongyrchol gysylltiedig neu a oedd yn rhywbeth a wnaeth i bobl wedyn feddwl ei bod yn dderbyniol i arddangos rhai mathau o ymddygiad ymfflamychol. Pan gawsom y briff cymunedau a diwylliant gydag amryw sefydliadau yn ddiweddar, clywsom pobl yn dweud ei bod yn mynd yn waeth yn ein hysgolion, lle mae plant eraill yn dweud, oherwydd lliw eu croen, na ddylent fod yn bresennol yn amgylchedd yr ysgol bellach. Rwy'n credu bod hynny'n peri pryder mawr iawn, os ystyrir bod y math hwn o agwedd yn dderbyniol.
Last weekend, we had the social media campaign #WeAreWales, showing an appetite to combat this kind of hostility. People want to live in strong, happy and inclusive communities. The principle of treating everyone with respect, regardless of who they are or what their background is, is under threat, and we need to protect that. Y penwythnos diwethaf, cawsom yr ymgyrch #NiYwCymru yn y cyfryngau cymdeithasol, a oedd yn dangos awydd i frwydro yn erbyn y math hwn o elyniaeth. Mae pobl eisiau byw mewn cymunedau cryf, hapus a chynhwysol. Mae'r egwyddor o drin pawb â pharch, waeth pwy ydynt neu beth yw eu cefndir, o dan fygythiad, ac mae angen inni amddiffyn hynny.
We know that the Welsh Government’s report suggests that the increase in recorded hate crime offences could be viewed as a positive indicator, much like, potentially, with people reporting domestic violence, that people are coming forward to report that more because they feel more empowered to be able to do so. So, that might be a good indicator, but then it might show also that our communities are becoming more fraught with issues that we really need to get to grips with. So, I would call for some more rational and logical approach to the public debate on immigration, rather than fearmongering, which is driving division in our communities. Gwyddom fod adroddiad Llywodraeth Cymru yn awgrymu y gallai'r cynnydd mewn troseddau casineb a gofnodir gael ei weld fel arwydd cadarnhaol, yn debyg iawn, o bosibl, i bobl yn adrodd am drais yn y cartref, sef bod pobl yn dod ymlaen i roi gwybod i’r heddlu am hynny mwy oherwydd eu bod yn teimlo eu bod wedi'n grymuso mwy i allu gwneud hynny. Felly, gallai hynny fod yn ddangosydd da, ac eto gallai ddangos hefyd bod mwy o broblemau yn ein cymunedau y mae angen gwirioneddol i ni fynd i'r afael â nhw. Felly, byddwn yn galw am ymagwedd fwy synhwyrol a rhesymegol i'r ddadl gyhoeddus ar fewnfudo, yn hytrach na chodi bwganod, sy'n achosi rhaniadau yn ein cymunedau.
We need to have an informed debate. There may be people from different political parties who are as guilty as each other in all of this. Rachel Reeves claimed at her party’s annual conference in September that tensions over immigration could explode into riots if the issue isn’t controlled. Using the word ‘riots’—it’s quite a strong word when you think about how this could impact on our communities. Mae angen i ni gael trafodaeth wybodus. Efallai y bydd pobl o wahanol bleidiau gwleidyddol sydd mor euog â’i gilydd yn hyn i gyd. Honnodd Rachel Reeves yng nghynhadledd flynyddol ei phlaid ym mis Medi y gallai tensiynau ynglŷn â mewnfudo ffrwydro yn derfysgoedd os nad yw'r mater yn cael ei reoli. Mae defnyddio'r gair ‘terfysgoedd’—mae'n air eithaf cryf pan feddyliwch chi am y modd y gallai hyn effeithio ar ein cymunedau.
We need to address the fears of people in our communities with practical steps, like legislation to stop employers from undercutting the domestic workforce, not with reckless rhetoric. Much of people’s concerns arise from problems caused by the Tory UK Government’s destructive austerity agenda. Rather than acknowledging this and holding the Tories to account, we see, again, communities being pitted against other communities and then increasing that fear that I’ve mentioned already. It hasn’t been helpful—. I watched ‘Question Time’ last night. I hadn’t been here to see it originally, on Thursday. I just think that the Secretary of State for Wales not only attacking our own party but distorting history with smears and insinuation also made politicians come over in a very negative light. I think that he needs to justify what he said, and if he is associating a political party with what he said on that programme, then he needs to justify why and how, and give us evidence as to how he’s come to that conclusion. Mae angen i ni fynd i'r afael ag ofnau pobl yn ein cymunedau â chamau ymarferol, fel deddfwriaeth i atal cyflogwyr rhag talu cyflogau sy’n rhy isel i’r gweithlu domestig, ac nid â rhethreg ddi-hid. Mae llawer o bryderon pobl yn deillio o broblemau a achoswyd gan agenda cyni dinistriol Llywodraeth Dorïaidd y DU. Yn hytrach na chydnabod hyn a dwyn y Torïaid i gyfrif, rydym yn gweld, unwaith eto, cymunedau yn troi yn erbyn cymunedau eraill ac yna'n cynyddu’r ofn hwnnw yr wyf wedi ei grybwyll eisoes. Nid yw wedi bod o fudd—. Gwyliais 'Question Time' neithiwr. Doeddwn i ddim yma i'w weld yn wreiddiol, ddydd Iau. Rwyf o’r farn bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, nid yn unig yn ymosod ar ein plaid ein hun ond yn gwyrdroi hanes drwy bardduo ac ensynio, hefyd yn dangos gwleidyddion mewn modd negyddol iawn. Credaf fod angen iddo gyfiawnhau yr hyn a ddywedodd, ac os yw'n cysylltu plaid wleidyddol â'r hyn a ddywedodd ar y rhaglen honno, yna mae angen iddo gyfiawnhau pam a sut, a rhoi tystiolaeth i ni o ran sut y daeth i'r casgliad hwnnw.
We all want to be treated in this place with respect amongst each other. We all want that to happen. Yes, we will argue and debate, but we can go outside this Chamber and we can talk to each other in a civil fashion. I think sometimes, if we just think about how we would like to be treated as human beings, then we can perhaps frame our political debate in a more positive and constructive way. Rydym ni i gyd yn awyddus i gael ein trin â pharch ymysg ei gilydd yn y lle hwn. Rydym i gyd am i hynny ddigwydd. Ie, byddwn ni’n dadlau a thrafod, ond gallwn fynd y tu allan i'r Siambr hon a gallwn siarad â'n gilydd mewn modd sifil. Rwy’n credu weithiau, os ydym yn ystyried sut y byddem yn hoffi cael eu trin fel bodau dynol, yna efallai y gallwn fframio ein dadl wleidyddol mewn ffordd fwy cadarnhaol ac adeiladol.
17:44 - Dawn Bowden
Can I thank the Cabinet Secretary for bringing forward this particular motion, which I think is well timed, given where we are this week? No doubt a good proportion of what we are going to hear today will be related to hate crime post Brexit. We’ve heard some of that already. But we shouldn’t forget that hate crime does include attacks—as we’ve already heard—based on gender, homophobia, disability and gender assignment. As figures and anecdotal evidence indicate, there’s not only an increase in race hate crime, but in all these other areas as well. Although it has been indicated that Brexit may or may not be responsible for this, I just think that it is too coincidental that, post-Brexit, we have seen such rises in other areas. It’s almost as though Brexit itself gave people—well, certain people—the green light to express their abhorrent prejudices, directing their hatred at anyone whom they perceive to be different to themselves. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r cynnig penodol hwn, sy’n amserol iawn yn fy marn i, o ystyried y sefyllfa sydd ohoni yr wythnos hon? Mae'n siŵr y bydd cyfran dda o'r hyn yr ydym yn mynd i’w glywed heddiw yn gysylltiedig â throseddau casineb ar ôl Brexit. Rydym wedi clywed rhywfaint o hynny yn barod. Ond ni ddylem anghofio bod troseddau casineb yn cynnwys ymosodiadau—fel yr ydym eisoes wedi’i glywed—yn seiliedig ar ryw, homoffobia, anabledd a rhywedd. Fel y mae ffigurau a thystiolaeth anecdotaidd yn dangos, nid yn unig y mae cynnydd mewn troseddau casineb hiliol, ond yn yr holl feysydd eraill hyn hefyd. Er yr awgrymwyd y gallai Brexit fod yn gyfrifol am hyn, rwy’n credu ei bod yn ormod o gyd-ddigwyddiad ein bod ni, ar ôl Brexit, wedi gweld cynnydd o'r fath mewn meysydd eraill. Mae bron fel pe bai Brexit ei hun wedi rhoi’r hawl i bobl—wel, rhai pobl—fynegi eu rhagfarnau ffiaidd, a chyfeirio eu casineb at unrhyw un y maent yn ei ystyried yn wahanol iddyn nhw eu hunain.
Llywydd, today, I wanted to specifically deal with attacks on those with disabilities. As the Cabinet Secretary has already indicated, figures did show that in 2014-15, there was a 20 per cent increase reported in all hate crime, of which 9 per cent related to disability. But of greater concern to me is the suggestion that at least 50 per cent of all hate crime is not reported at all. I will be amazed if the 2015-16 figures that we are about to see—they will be announced this week—don’t show that that figure has increased significantly as a result of the post-Brexit situation. Lywydd, heddiw, roeddwn i eisiau ymdrin yn benodol ag ymosodiadau ar bobl anabl. Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi dweud, roedd y ffigurau yn dangos y bu cynnydd o 20 y cant yn yr holl droseddau casineb, a bod 9 y cant yn ymwneud ag anabledd, yn ystod 2014-15. Ond yr hyn sy’n peri mwy o bryder i mi yw'r awgrym na chaiff o leiaf 50 y cant o'r holl droseddau casineb eu hadrodd o gwbl. Byddaf yn synnu os na fydd ffigurau 2015-16 yr ydym ar fin eu gweld—byddant yn cael eu cyhoeddi yr wythnos hon—yn dangos bod y ffigur hwnnw wedi cynyddu'n sylweddol o ganlyniad i'r sefyllfa ar ôl Brexit.
But while referencing the increase in reported cases of disability-related hate crime, we should always remember to look behind the figures. As has been said, an increase in reported cases could, of course, mean that more people have the confidence to report such crimes, knowing that they will be both believed and supported, and that authorities will pursue, with appropriate vigour, action against the perpetrator. So, perhaps of more significance might be an analysis of the number of prosecutions over that same period, and we don’t have that information at the moment. Ond wrth gyfeirio at y cynnydd mewn achosion o droseddau casineb a adroddwyd sy'n gysylltiedig ag anabledd, dylem gofio edrych y tu ôl i'r ffigurau bob amser. Fel y dywedwyd, gallai’r cynnydd mewn achosion a adroddwyd, wrth gwrs, olygu bod gan fwy o bobl yr hyder i roi gwybod am droseddau o'r fath, gan wybod y byddant yn cael eu credu a'u cefnogi, ac y bydd awdurdodau’n cymryd camau, â’r egni priodol, yn erbyn y tramgwyddwr. Felly, efallai ei bod yn fwy arwyddocaol i gael dadansoddiad o nifer yr erlyniadau dros yr un cyfnod, ac nid oes gennym yr wybodaeth honno ar hyn o bryd.
However, there is always a danger in focusing solely on statistics. We should never lose sight of the fact that, for every case of disability-related hate crime, whether reported or not, whether a prosecution results or not, there is a victim—a victim who may already be among the most vulnerable in our society. So, we must always be mindful of their needs and how best we, as a society, can support them. To start addressing this, we do need to have a fully developed prevention strategy. Part of that, as the Cabinet Secretary has alluded to, must be the education, not just of children, but of the whole society. Of particular importance is that everyone appreciates that diversity should not just be accepted but should be welcomed and fostered. It is for this reason, Llywydd, that I wholeheartedly welcome the Welsh Government’s framework for action delivery plan. I am particularly pleased to see specific initiatives set out in the delivery plan in the areas of disability: the equality and inclusion grant supporting the work of Taking Flight theatre with young people; the work with Disability Sport Wales to recruit and train more coaches and leaders who are disabled; support for the disability hate crime group to work with communities in raising awareness of hate crime; and ensuring flexible and accessible reporting mechanisms to report hate crime. Fodd bynnag, mae perygl bob amser wrth ganolbwyntio ar ystadegau yn unig. Ni ddylem byth golli golwg ar y ffaith bod dioddefwyr, ar gyfer pob achos o droseddau casineb sy'n gysylltiedig ag anabledd, pa un a yw’n cael ei adrodd i’r heddlu ai peidio, a pha un a oes erlyniad o ganlyniad i hynny ai peidio,—dioddefwyr sydd eisoes o bosibl ymhlith y bobl mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Felly, mae'n rhaid i ni bob amser fod yn ymwybodol o'u hanghenion a’r modd gorau i ni, fel cymdeithas, allu eu cefnogi. Er mwyn dechrau mynd i'r afael â hyn, mae'n rhaid i ni gael strategaeth atal sydd wedi’i datblygu'n llawn. Mae’n rhaid i addysg fod yn rhan o hynny, fel y mae Ysgrifennydd Cabinet wedi cyfeirio ato, ac addygu nid dim ond plant, ond y gymdeithas gyfan. Yr hyn sy’n arbennig o bwysig yw bod pawb yn gwerthfawrogi na ddylid dim ond derbyn amrywiaeth, dylid ei groesawu a'i feithrin. Am y rheswm hwn, Lywydd, rwy’n croesawu cynllun cyflawni fframwaith gweithredu Llywodraeth Cymru. Rwy'n arbennig o falch o weld mentrau penodol wedi’u nodi yn y cynllun cyflawni ym meysydd anabledd: y grant cydraddoldeb a chynhwysiant sy’n cefnogi gwaith theatr Taking Flight gyda phobl ifanc; y gwaith gyda Chwaraeon Anabledd Cymru i recriwtio a hyfforddi mwy o hyfforddwyr ac arweinwyr sy'n anabl; cefnogaeth i’r grŵp troseddau casineb anabledd er mwyn iddynt weithio gyda chymunedau i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb; a sicrhau bod dulliau adrodd hyblyg a hygyrch ar gyfer rhoi gwybod am droseddau casineb.
In conclusion, colleagues, can I urge not just support for this motion, but ask each and every one of you, as elected Members of this Assembly, to make delivery of this wide-ranging, innovative and progressive delivery plan a reality across the whole of Wales? I gloi, gydweithwyr, a gaf i eich annog chi nid yn unig i gefnogi'r cynnig hwn, ond a gaf i ofyn i bob un ohonoch, fel Aelodau etholedig y Cynulliad hwn, sicrhau bod darparu’r cynllun cyflawni arloesol a blaengar hwn yn realiti yng Nghymru benbaladr?
17:49 - Michelle Brown
I welcome effective measures to tackle hate crime and all forms of prejudice. Hate crime is a crime based in prejudice and bigotry. I have always lived by the principle of live how you choose, believe what you like as long as you don’t harm anyone. Sadly, there are many people who don’t live by that principle. There are people who want to drive out behaviours they see as aberrant, who want to drive out people they regard as different, who want to silence those with different beliefs or political views, and who will use violence and intimidation to do so. There is a continuum of prejudice, with ignorance at one end and hate crime at the other. Bigots and thugs sit on the left and right of politics. It was prejudice that said voting ‘leave’ was about ignorance, lack of education and fear, when it was really about people understanding that the EU wasn’t working for them. We in north-east Wales have seen how the local Labour Party conducts itself and controls its thugs at an electoral count. Prejudice against the English or people who live in England is just as nasty as prejudice against any immigrant who comes to Wales. Rwy’n croesawu mesurau effeithiol o fynd i'r afael â throseddau casineb a rhagfarn o bob math. Mae troseddau casineb yn droseddau sy’n seiliedig ar ragfarn a chulni. Rwyf bob amser wedi dilyn yr egwyddor y dylech fyw yn y modd yr ydych yn dewis, a chredu’r hyn a fynnwch ar yr amod nad ydych yn niweidio unrhyw un. Yn anffodus, mae llawer o bobl nad ydynt yn dilyn yr egwyddor honno. Mae yna bobl sydd eisiau cael gwared ar ymddygiadau y maent yn eu hystyried yn anarferol, sydd am gael gwared ar bobl y maent yn eu hystyried yn wahanol, sy'n awyddus i dawelu’r rhai hynny sydd â gwahanol gredoau neu safbwyntiau gwleidyddol, a byddant yn defnyddio trais a brawychu i wneud hynny. Ceir continwwm o ragfarn, gydag anwybodaeth ar un pen a throseddau casineb ar y pen arall. Mae pobl ragfarnllyd a chiaidd yn eistedd ar y dde a’r chwith o wleidyddiaeth. Rhagfarn a ddywedodd bod pleidleisio ‘gadael’ yn ymwneud ag anwybodaeth, diffyg addysg ac ofn, pan oedd mewn gwirionedd yn ymwneud â phobl yn deall nad oedd yr UE yn gweithio ar eu cyfer nhw. Rydym ni yn y gogledd-ddwyrain wedi gweld sut y mae’r Blaid Lafur leol yn cynnal ei hun ac yn rheoli pobl giaidd mewn cyfrif etholiadol. Mae rhagfarn yn erbyn y Saeson neu bobl sy'n byw yn Lloegr yr un mor gas â rhagfarn yn erbyn unrhyw fewnfudwr sy'n dod i Gymru.
As with other crime statistics, an increase in the number of hate crimes reported is not necessarily an indication that more of those crimes are actually being committed. Increases in reported crime are therefore more a testament to the effectiveness of the publicity machine surrounding hate crime than evidence that our society has become more intolerant. The statistics that gave rise to this debate are far from indicative of what’s happening on the streets and elsewhere. We need a proper investigation into the actual prevalence of hate crime in our society, and not leap on some unreliable data because it suits certain people’s political agendas. Fel gydag ystadegau troseddau eraill, nid yw cynnydd yn nifer y troseddau casineb yr adroddir amdanynt o reidrwydd yn arwydd bod mwy o'r troseddau hynny yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd. Mae cynnydd mewn troseddau a gofnodwyd felly yn fwy o brawf o effeithiolrwydd y peiriant cyhoeddusrwydd ynghylch troseddau casineb na thystiolaeth bod ein cymdeithas yn fwy anoddefgar. Mae'r ystadegau a wnaeth esgor ar y ddadl hon ymhell o fod yn arwydd o'r hyn sy'n digwydd ar y strydoedd ac mewn mannau eraill. Mae angen ymchwiliad go iawn arnom i nifer yr achosion gwirioneddol o droseddau casineb yn ein cymdeithas, a pheidio â defnyddio ryw ddata annibynadwy oherwydd ei fod yn gweddu agendâu gwleidyddol rhai pobl.
17:50 - Julie Morgan
I'm very pleased to take part in this debate, especially during this awareness week, and I thank the Cabinet Secretary for updating us on the progress that has been made and his acknowledgement that there is still a long way to go. Although progress has been made, hate crime is still a daily reality for many people in Wales, ruining people’s lives and people living in dread of being the victims of hate crimes. It is an appalling reflection of the society we live in, and it does cover so many areas. Today, I wanted to particularly concentrate on the treatment of members of the Gypsy, Roma and Traveller community, who are very frequently the target of hate crimes and discrimination here in Wales. This targeting of this community is nothing new; it has gone on for many, many years. Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon, yn enwedig yn ystod yr wythnos ymwybyddiaeth hon, a hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar y cynnydd sydd wedi'i wneud ac am gydnabod bod ffordd bell i fynd o hyd. Er bod cynnydd wedi'i wneud, mae troseddau casineb yn dal i fod yn realiti dyddiol i lawer o bobl yng Nghymru, yn difetha bywydau pobl, ac mae pobl yn byw mewn ofn o ddioddef troseddau casineb. Mae'n adlewyrchiad ofnadwy o’r gymdeithas yr ydym yn byw ynddi, ac mae’n cwmpasu cymaint o feysydd. Heddiw, roeddwn i’n awyddus i ganolbwyntio yn arbennig ar driniaeth aelodau o'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, sydd yn aml iawn yn darged troseddau casineb a gwahaniaethu yma yng Nghymru. Nid yw targedu’r gymuned hon yn ddim byd newydd; mae wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd lawer.
During Hate Crime Awareness Week, I know that a group of young people from the community in south-east Wales will be meeting with the Police and Crime Commissioner for Gwent to talk about tackling bullying and hate crime directed at the Gypsy, Roma and Traveller community. I think that is very welcome, so that the issues can be considered by the commissioner, because, sadly, the community suffers from discrimination and there is a need to tackle negative attitudes towards this community. Young people from the Gypsy and Traveller community who were involved in the Travelling Ahead project feel very strongly that there is still a need to train teachers, police officers and other professionals, because there is still discrimination and hate crimes being targeted at them, and they have collated and created a number of resources to combat this. For example, they’ve made some short films, written poems and presentations, which will be made available when training teachers, police, councillors and other young people. Yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, gwn y bydd grŵp o bobl ifanc o'r gymuned yn y de-ddwyrain yn cyfarfod â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent i siarad am fynd i'r afael â bwlio a throseddau casineb yn erbyn y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Rwy’n meddwl bod croeso mawr i hynny, er mwyn i’r materion gael eu hystyried gan y comisiynydd, oherwydd, yn anffodus, mae'r gymuned yn dioddef o wahaniaethu ac mae angen mynd i'r afael ag agweddau negyddol tuag at y gymuned hon. Mae pobl ifanc o'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr a oedd yn ymwneud â'r prosiect Teithio Ymlaen yn teimlo'n gryf iawn bod angen o hyd i hyfforddi athrawon, swyddogion yr heddlu a gweithwyr proffesiynol eraill, oherwydd eu bod yn parhau yn dargedau ar gyfer gwahaniaethu a throseddau casineb, ac maent wedi cydgasglu a chreu nifer o adnoddau i fynd i'r afael â hyn. Er enghraifft, maen nhw wedi gwneud rhai ffilmiau byrion, wedi ysgrifennu cerddi ac wedi gwneud cyflwyniadau, a fydd ar gael er mwyn hyfforddi athrawon, yr heddlu, cynghorwyr a phobl ifanc eraill.
And that leads me on to another point, which is that when hate crimes are reported, it still seems that there is a problem with how those crimes are dealt with and how they are recorded. The all-Wales hate crime research project collated the number of hate crimes that had been recorded in England and Wales in 2011-12, and the vast majority of those, 82 per cent, were race hate crimes, but only 45 per cent of those who were victims of hate crime felt that the police took the matter as seriously as they should have done, and this chimes with the experiences of Gypsies and Travellers involved in the Travelling Ahead project. They feel that the police still don't listen to them. I know that there is training going on with the police, but the perception of the young people is that they are not being listened to. Ac mae hynny'n fy arwain ymlaen at bwynt arall, sef pan fo troseddau casineb yn cael eu hadrodd, mae'n ymddangos bod problem yn parhau gyda'r modd yr ymdrinnir â’r troseddau hynny a sut y maent yn cael eu cofnodi. Gwnaeth prosiect ymchwil troseddau casineb Cymru gyfan gydgasglu nifer y troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru a Lloegr yn 2011-12, ac roedd y mwyafrif helaeth o'r rhain, 82 y cant, yn droseddau casineb hiliol, ond dim ond 45 y cant o'r rheini a oedd wedi dioddef trosedd casineb a oedd o’r farn bod yr heddlu wedi rhoi ystyriaeth mor ddifrifol ag y dylent fod wedi ei rhoi i’r mater, ac mae hyn yn cyd-fynd â phrofiadau Sipsiwn a Theithwyr a oedd yn rhan o'r prosiect Teithio Ymlaen. Maen nhw o’r farn nad yw’r heddlu yn gwrando arnynt o hyd. Gwn fod hyfforddi ar waith yn yr heddlu, ond canfyddiad y bobl ifanc yw nad ydynt yn gwrando arnynt.
I think there's also an issue about the way that police forces collect statistics about hate crime and that the ethnic status data are quite difficult to break down. So, it is actually quite difficult to get an analysis of the number of hate crimes that are specifically directed against Gypsies and Travellers, because they are subsumed in the overall ethnic crime figures. I think that would be a great improvement if we could actually break down the figures, because, in particular with Gypsies and Travellers, we need to know what those figures are and how great this suffering is. Rwy'n credu bod problem hefyd ynglŷn â'r modd y mae heddluoedd yn casglu ystadegau am droseddau casineb a bod y data statws ethnig yn eithaf anodd ei ddadansoddi. Felly, mae'n eithaf anodd, mewn gwirionedd, i gael dadansoddiad o nifer y troseddau casineb a gyfeirir yn benodol yn erbyn Sipsiwn a Theithwyr, oherwydd eu bod wedi eu cynnwys yn y ffigurau troseddu ethnig cyffredinol. Rwy'n credu y byddai’n welliant mawr pe bai modd i ni rannu’r ffigurau hynny, oherwydd, yn enwedig gyda Sipsiwn a Theithwyr, mae angen inni wybod beth yw’r ffigurau hynny a pha mor fawr yw’r dioddefaint hyn.
I'd like to just finally, really, end with the thoughts of one of the young people from the Travelling Ahead group, Tyrone Price. He put forward a question that I think is very thought provoking, and I think it’s a very valid question: have we actually improved tackling racism, or are people just pretending to accept this concept of equality? I think this is obviously what a young person feels very strongly, that a lot of the progress we have made towards equality, some of it is perhaps token, and we have to really make race equality an absolute reality, particularly for the young people who are suffering from prejudice and hate crime. As I say, my remarks are really about the Gypsy and Traveller community today. Yn olaf hoffwn i, mewn gwirionedd, gloi gyda syniadau un o'r bobl ifanc o'r grŵp Teithio Ymlaen, Tyrone Price. Gofynnodd gwestiwn sy’n peri i rywun feddwl, yn fy marn i, ac rwy'n credu ei fod yn gwestiwn dilys iawn: a ydym ni wedi gwella’r modd o fynd i'r afael â hiliaeth mewn gwirionedd, neu a yw pobl yn gwneud dim ond esgus eu bod yn derbyn y cysyniad hwn o gydraddoldeb? Rwy'n credu bod hyn yn amlwg yn rhywbeth y mae’r person ifanc hwn ei deimlo i’r byw, sef bod llawer o'r cynnydd a wnaed gennym tuag at gydraddoldeb, yn arwynebol neu’n symbolaidd efallai, a bod yn rhaid i ni fynd ati o ddifrif i wneud cydraddoldeb hiliol yn realiti llwyr, yn enwedig ar gyfer y bobl ifanc sy'n dioddef o ragfarn a throseddau casineb. Fel y dywedais, mae fy sylwadau heddiw yn ymwneud mewn gwirionedd â’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr.
17:55 - Darren Millar
I want to just speak briefly in this debate today, and I’m pleased that we’re having it, because I think it is important that we take the time to reflect on the intolerance that sometimes exists here in Welsh society. We know that, by and large, the overwhelming majority of people in Wales are very tolerant people, and our communities by and large get on very well. But, as the son of an Irish immigrant, I also know of the hate that has existed towards smaller populations in Wales, and indeed in other parts of the United Kingdom in the past. I certainly don’t want to see that manifesting here on our doorsteps in our communities. Rwyf yn dymuno’n siarad yn gryno yn y ddadl hon heddiw, ac rwy'n falch ein bod ni'n cael y ddadl hon, oherwydd rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cymryd yr amser i fyfyrio ar yr anoddefgarwch sydd weithiau'n bodoli yn y gymdeithas yma yng Nghymru. Gwyddom fod y mwyafrif llethol o bobl yng Nghymru, ar y cyfan, yn bobl oddefgar iawn, ac mae ein cymunedau, ar y cyfan, yn tynnu ymlaen yn dda iawn â’i gilydd. Ond, fel mab fewnfudwr o Iwerddon, rwyf hefyd yn gwybod am y casineb sydd wedi bodoli tuag at boblogaethau llai yng Nghymru, ac yn wir yn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn y gorffennol. Yn sicr, nid wyf am weld hynny'n amlygu ei hun yma ar garreg ein drws yn ein cymunedau ni.
I’m very pleased that the Minister, and indeed the Welsh Government, is taking this issue seriously, and that they’ve been working with the police and other agencies in order to try and do what they can to deal with and address the hate crime that does exist here in Wales. Rwy'n falch iawn bod y Gweinidog, ac yn wir Llywodraeth Cymru, yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r mater hwn, a'u bod wedi bod yn gweithio gyda'r heddlu ac asiantaethau eraill er mwyn ceisio gwneud yr hyn a allant i ymdrin â throseddau casineb a mynd i'r afael â'r achosion sy’n bodoli yma yng Nghymru.
I was very pleased last week to chair the cross-party group on faith in the National Assembly, and a number of Assembly Members were also able to attend. At that meeting we heard some very interesting statistics, talking about the spike in hate crime that occurred post Brexit, and we were very relieved to hear that that spike in reported crime had actually settled down. I hope that that will become something that continues to reduce, of course, in the future. But I wonder, Minister, in your response to the debate today, whether you might be able to update us on the work of the faith communities forum that the First Minister convenes on a regular basis? Because I know how important that forum has been in terms of being able to improve the relationships between different faiths here in Wales, and indeed to help the faith community leaders of Wales to disseminate information back to their faith communities about the need to be tolerant and, indeed, to improve relationships more generally. Will you also join me, Minister, when you close the debate, in congratulating members of the faith communities forum, Cytûn, the Muslim Council of Wales, the Evangelical Alliance and many others, who’ve contributed to that excellent understanding and joint working across the different faith communities, which has achieved so much, really, here in Wales in recent years? Roeddwn yn falch iawn yr wythnos diwethaf i gadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar ffydd yn y Cynulliad Cenedlaethol, a bu modd i nifer o Aelodau'r Cynulliad fod yn bresennol hefyd. Yn y cyfarfod hwnnw clywsom rai ystadegau diddorol iawn, yn siarad am y cynnydd sydyn yn nifer y troseddau casineb a ddigwyddodd ar ôl Brexit, ac roeddem yn falch iawn o glywed bod y cynnydd sydyn yn nifer y troseddau a adroddwyd wedi gostegi mewn gwirionedd. Rwy’n gobeithio y bydd yn rhywbeth sy'n parhau i ostwng, wrth gwrs, yn y dyfodol. Ond tybed, Weinidog, yn eich ymateb i'r ddadl heddiw, p'un allwch chi efallai roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am waith y fforwm cymunedau ffydd y mae’r Prif Weinidog yn eu cynnal yn rheolaidd? Oherwydd rwy’n gwybod pa mor bwysig y mae’r fforwm hwnnw wedi bod er mwyn gwella'r berthynas rhwng gwahanol gymunedau ffydd yma yng Nghymru, ac yn wir i helpu arweinwyr y cymunedau ffydd yng Nghymru i rannu gwybodaeth â’u cymunedau ffydd am yr angen i fod yn oddefgar ac, yn wir, i wella cydberthnasau yn fwy cyffredinol. A wnewch chi hefyd ymuno â mi, Weinidog, pan fyddwch yn cloi'r ddadl, i longyfarch aelodau'r fforwm cymunedau ffydd, Cytûn, Cyngor Mwslimiaid Cymru, y Cynghrair Efengylaidd a llawer o rai eraill, sydd wedi cyfrannu at y ddealltwriaeth ragorol a’r gwaith ar y cyd ar draws y gwahanol gymunedau ffydd, sydd wedi cyflawni cymaint, mewn gwirionedd, yma yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf?
I notice as well that the report does touch on the importance of religious education in helping to get these messages about tolerance and understanding of people’s faiths and different attitudes in society over to the next generation. I really do believe that the curriculum overhaul that’s going on in Wales provides an opportunity to improve religious education in order to deal with, if you like, any emerging issues that there might be amongst our younger people, particularly when they’ve seen some of the reports in the media during the Brexit debate, and how that might have influenced their attitudes towards one another. I do believe that religious education has a very key role in helping to address hate crime in the future for our nation. So, I wonder, Minister, whether you can tell us what discussions you’ve been having with the Cabinet Secretary for Education in relation to ensuring that the development of our curriculum does include a focus on hate crime within the religious education curriculum. Thank you. Sylwaf yn ogystal bod yr adroddiad yn sôn yn gryno am bwysigrwydd addysg grefyddol wrth helpu i gyfleu’r negeseuon hyn am oddefgarwch a dealltwriaeth o gredoau ac agweddau gwahanol bobl yn y gymdeithas i'r genhedlaeth nesaf. Rwy’n credu o ddifrif calon bod y gwaith o ailwampio'r cwricwlwm sy'n digwydd yng Nghymru yn rhoi cyfle i wella addysg grefyddol er mwyn ymdrin, os mynnwch chi, ag unrhyw faterion sy'n dod i'r amlwg y gallai fodoli ymhlith ein pobl ifanc, yn enwedig pan fyddant wedi gweld rhai o adroddiadau yn y cyfryngau yn ystod y ddadl Brexit, a sut y gallai hynny fod wedi dylanwadu ar eu hagweddau tuag at ei gilydd. Rwyf yn credu bod gan addysg grefyddol swyddogaeth allweddol iawn wrth helpu i fynd i'r afael â throseddau casineb yn y dyfodol ar gyfer ein cenedl. Felly, tybed, Weinidog, a wnewch chi ddweud wrthym pa drafodaethau yr ydych chi wedi bod yn eu cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â sicrhau bod y gwaith o ddatblygu ein cwricwlwm yn cynnwys pwyslais ar droseddau casineb yn y cwricwlwm addysg grefyddol. Diolch.
17:59 - John Griffiths
Minister, I think it’s very obviously the case—and I think all Members here would hopefully agree with this—that misunderstandings often occur and cause problems when we don’t have the level of integration that we might have in our communities, and we’re not effective enough in bringing different sections of the community together. Certainly, in my experience, having been born and brought up in Pill in Newport, a very multi-ethnic community, it adds a great deal to life experience, growing up in such a community, because there’s such a great variety of culture, of music, of dance, of food, and it’s really instructive and interesting to talk to other people in terms of their backgrounds, their family backgrounds and the parts of the world that they know a lot about. So, I believe it’s very enriching, and when people are brought together from different sections of the community, that is commonly their view, but perhaps not enough is done to try to achieve that integration and bring different parts of our society together. Weinidog, rwy’n meddwl ei bod yn amlwg iawn—yn wir rwy’n credu y byddai pob Aelod yma, gobeithio, yn cytuno â hyn—fod camddealltwriaeth yn aml yn digwydd ac yn achosi problemau pan nad oes gennym y lefel o integreiddio y gallai fod gennym yn ein cymunedau, ac nid ydym yn ddigon effeithiol wrth ddod â gwahanol rannau o'r gymuned at ei gilydd. Yn sicr, yn fy mhrofiad i, o gael fy ngeni a'm magu yn y Pil yng Nghasnewydd, cymuned amlethnig iawn, mae'n ychwanegu llawer iawn i brofiad bywyd, tyfu i fyny mewn cymuned o'r fath, oherwydd mae amrywiaeth mor fawr o ddiwylliant, cerddoriaeth, dawns, bwyd, ac mae'n wirioneddol addysgiadol a diddorol i siarad â phobl eraill am eu cefndiroedd, eu cefndiroedd teuluol a rhannau o'r byd y maent yn gwybod llawer amdanynt. Felly, rwy’n credu bod dwyn pobl at ei gilydd o wahanol rannau o'r gymuned yn cyfoethogi bywyd yn fawr, dyna yw eu barn nhw, yn gyffredinol, ond efallai na wneir digon i geisio cyflawni’r integreiddio hynny a dod â gwahanol rannau o'n cymdeithas at ei gilydd.
When we do have effective ways of doing that, I think we should celebrate them and build on them. In that respect, I’d like to mention Maindee Festival in Newport, which, for a number of years, has done really good work in bringing different sections of the multi-ethnic Maindee community together. There are substantial Asian communities in Maindee, lots of new arrivals from the European Union, eastern Europe and beyond, West Indian communities, and many others. And, of course, that’s in addition to people from Ireland—and my own mother, like the relative that Darren Millar mentioned, came over to Newport from Ireland. So, very many people from different backgrounds come together, and the Maindee Festival really does allow that coming together to take place and that integration to happen. Pan fo gennym ddulliau effeithiol o wneud hynny, rwy’n credu y dylem eu dathlu a’u datblygu. Yn hynny o beth, hoffwn sôn am ŵyl Maendy yng Nghasnewydd, sydd ers nifer o flynyddoedd, wedi gwneud gwaith da iawn wrth ddod â gwahanol rannau o gymuned amlethnig Maendy at ei gilydd. Mae cymunedau Asiaidd sylweddol ym Maendy, llawer o newydd-ddyfodiaid o'r Undeb Ewropeaidd, dwyrain Ewrop a thu hwnt, cymunedau o India’r Gorllewin, a llawer o rai eraill. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n ychwanegol at bobl o Iwerddon—a fy mam fy hun, fel y perthynas a grybwyllwyd gan Darren Millar, a ddaeth draw i Gasnewydd o Iwerddon. Felly, mae llawer iawn o bobl o wahanol gefndiroedd yn dod at ei gilydd, ac mae Gŵyl Maendy wir yn caniatáu i bobl ddod at ei gilydd ac i’r integreiddio hwnnw ddigwydd.
So, I’d like to pay tribute to the organisers of the Maindee Festival. For many years now, they’ve built upon the initial event. There’s a parade every year, every summer, and a festival follows. It’s music, it’s dance, it’s food and drink, it’s art and culture generally, and it’s very, very successful. Of course, it doesn’t happen without a lot of work, and the work to organise the next year’s event really begins just after the festival ends, during the summer. So, I wonder whether Welsh Government might look at how they work not just with the Maindee Festival, but with similar organisations right across Wales that are organising these events, so that they can be built further and made even more effective. And I would like to invite the Minister to the Maindee Festival next summer in Newport. I’d be very pleased if he accepted that invitation in his contribution to this debate later. Felly, hoffwn dalu teyrnged i drefnwyr Gŵyl Maendy. Ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn, maen nhw wedi datblygu ar y digwyddiad cychwynnol. Mae gorymdaith bob blwyddyn, bob haf, ac mae gŵyl yn dilyn. Mae'n gyfuniad o gerddoriaeth, dawns, bwyd a diod, celf a diwylliant yn gyffredinol, ac mae'n llwyddiannus iawn, iawn. Wrth gwrs, nid yw'n digwydd heb lawer o waith, ac mae'r gwaith o drefnu digwyddiad y flwyddyn nesaf yn dechrau yn syth ar ôl i’r ŵyl ddod i ben, yn ystod yr haf. Felly, tybed a allai Llywodraeth Cymru edrych ar sut y mae’n gweithio, nid yn unig gyda Gŵyl Maendy, ond gyda sefydliadau tebyg ar hyd a lled Cymru sy'n trefnu digwyddiadau o’r fath, fel y gellir eu datblygu ymhellach a'u gwneud yn fwy effeithiol fyth. A hoffwn wahodd y Gweinidog i Ŵyl Maendy yr haf nesaf yng Nghasnewydd. Byddwn yn falch iawn pe byddai’n derbyn y gwahoddiad hwnnw wrth iddo gyfrannu ar y ddadl hon yn nes ymlaen.
18:02 - Neil Hamilton
UKIP supports the motion and the amendments, but I want to deal right at the very start of my short contribution with the canard that we’ve heard a few times in the debate today about the influence of Brexit upon the prevalence of hate crimes. Well, there’s no point in going back over the arguments on the numbers immediately post the referendum, because the National Police Chief’s Council has released the data for the period since the referendum, up to the end of August. Mark Hamilton—no relation—assistant chief constable says, Mae UKIP yn cefnogi’r cynnig a'r gwelliannau, ond ar ddechrau fy nghyfraniad byr, hoffwn ymdrin â’r myth yr ydym wedi ei glywed sawl gwaith yn y ddadl heddiw ynghylch dylanwad Brexit ar nifer yr achosion o droseddau casineb. Wel, does dim pwynt mynd yn ôl dros y dadleuon ar y niferoedd yn syth ar ôl y refferendwm, oherwydd bod Cyngor Prif Swyddogion yr Heddlu wedi rhyddhau data ar gyfer y cyfnod ers y refferendwm, hyd at ddiwedd mis Awst. Mae Mark Hamilton—dim perthynas—prif gwnstabl cynorthwyol yn dweud,
‘We have seen continued decreases in reports of hate crimes to forces and these reports have now returned to formerly seen levels for 2016. For this reason, we will return to our previous reporting procedures and will no longer be requiring weekly updates from forces.’ ‘Rydym wedi gweld gostyngiadau parhaus yn yr adroddiadau am droseddau casineb i heddluoedd ac mae’r adroddiadau hyn bellach wedi dychwelyd i lefelau a welwyd yn flaenorol yn 2016. Am y rheswm hwn, byddwn yn dychwelyd at ein gweithdrefnau adrodd blaenorol ac ni fyddwn bellach yn ei gwneud yn ofynnol i’r heddluoedd ddarparu diweddariadau wythnosol.’
So, if there was a spike immediately after the referendum, then it has disappeared. Felly, os oedd cynnydd sydyn yn syth ar ôl y refferendwm, mae wedi diflannu.
18:03 - Darren Millar
Thank you. I was just going to say, they are not Wales-specific figures, I assume, that you’re referring to. One thing that we do know is that there was a spike post Brexit in Wales. Things have settled down, as I said in my speech earlier. That’s the reported information that’s coming back to us. But, you must accept that some people, albeit few, used the Brexit situation to fuel hatred between communities in Wales, and that was not acceptable. Diolch. Roeddwn i'n mynd i ddweud nad ydych chi’n cyfeirio at ffigurau sy'n benodol i Gymru, rwy’n tybio. Un peth yr ydym yn ei wybod yw y bu cynnydd sydyn ar ôl Brexit yng Nghymru. Mae pethau wedi arafu rhywfaint, fel y dywedais yn fy araith yn gynharach. Dyna’r wybodaeth a adroddwyd sy'n dod yn ôl atom ni. Ond, mae'n rhaid i chi dderbyn bod rhai pobl, nid llawer, wedi defnyddio sefyllfa Brexit i danio casineb rhwng cymunedau yng Nghymru, ac nid oedd hynny'n dderbyniol.
18:03 - Neil Hamilton
Well, of course it’s not acceptable, if it happened, but the extent to which it happened—[Interruption.] We have no first-hand information; we are assuming it happened. You are making assumptions that it happened. We have no first-hand information as to what this—. In fact, this is the point I wanted—[Interruption.] I’m afraid I can’t give way, because of the shortness of time. Wel, wrth gwrs nad yw'n dderbyniol, os digwyddodd, ond mae'r graddau y digwyddodd— [Torri ar draws.] Nid oes gennym unrhyw wybodaeth uniongyrchol; rydym yn tybio ei fod wedi digwydd. Rydych chi’n gwneud rhagdybiaethau ei fod wedi digwydd. Nid oes gennym unrhyw wybodaeth uniongyrchol ynghylch yr hyn—. Yn wir, dyma'r pwynt yr oeddwn eisiau ei—[Torri ar draws.] Rwy'n ofni na allaf ildio, oherwydd nad oes llawer o amser.
18:03 - Y Llywydd / The Presiding Officer
It’s your decision, if you’re not taking an intervention. Eich penderfyniad chi yw hynny, os nad ydych yn derbyn ymyriad.
18:04 - Neil Hamilton
I do want to make what I think is an important point here, that, of course, hate crime, in whatever form it exists is to be deplored and not to be tolerated and, indeed, to be punished, and punished severely. But, we must keep this in perspective. Britain, and Wales in particular, are tolerant countries. We are not bigots. The number of hate crimes recorded is actually very, very small. The figures to which the Cabinet Secretary referred in the 2014-15 report show a total of 2,259. That’s 2,259 too many, but even if there is underreporting, as we all assume that there is, it’s still not a vast number for a year. Dawn Bowden made the point that the increases may partly be a result of greater awareness of the means of reporting and of the need to report. So, I don’t think that this is an epidemic, by any means. Rwyf i am wneud pwynt yr wyf i o’r farn ei fod yn un pwysig, sef bod troseddau casineb, ar ba ffurf bynnag y maent yn bodoli, i’w ffieiddio ac na ddylid eu goddef ac, yn wir, y dylid eu cosbi, a’u cosbi’n ddifrifol. Ond, mae'n rhaid i ni gadw hyn mewn persbectif. Mae Prydain, a Chymru yn arbennig, yn wledydd goddefgar. Nid ydym yn rhagfarnllyd. Mae nifer y troseddau casineb a gofnodir mewn gwirionedd yn fach iawn, iawn. Mae'r ffigurau y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet atynt yn adroddiad 2014-15 yn dangos cyfanswm o 2,259. Mae hynny’n 2,259 yn ormod, ond hyd yn oed os oes yna dangofnodi’n digwydd, fel yr ydym ni i gyd yn tybio sy’n digwydd, nid yw'n nifer uchel dros flwyddyn gyfan. Gwnaeth Dawn Bowden y pwynt y gallai’r cynnydd fod yn ganlyniad rhannol i fwy o ymwybyddiaeth o'r dulliau adrodd ac o'r angen i adrodd. Felly, nid wyf yn credu bod hwn yn epidemig, o bell ffordd.
We have seen, in the last couple of years, the disappearance of the British National Party, the English Defence League has shrivelled to a fraction of its former importance, and my party, for years, has had a policy of proscribing political parties and not allowing refugees from them into our ranks. So, if anybody is trying to libel us by saying that we take in racists, they are very much to be deplored themselves. Indeed, Joyce Watson accused me the other day in this Chamber of standing on a platform of hatred. That in itself is a form of hate crime, I suppose, and intolerance. So, I think that Members on all sides of the house should treat each other with respect, as Bethan Jenkins said in her opening remarks. What I want this Chamber to accept is that hate crime, yes, of course, is to be deplored, but it is not an epidemic and it doesn’t look as though it’s going to become so. Rydym wedi gweld, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, diflaniad Plaid Genedlaethol Prydain, nid yw Cynghrair Amddiffyn Lloegr ond cysgod o’r hyn oedd, ac mae fy mhlaid i, ers blynyddoedd, wedi bod â pholisi o wahardd pleidiau gwleidyddol a pheidio â chaniatáu ffoaduriaid oddi wrthynt i’n rhengoedd ni. Felly, os yw unrhyw un yn ceisio ein henllibio ni drwy ddweud ein bod yn croesawu pobl hiliol, maent i’w ffieiddio eu hunain. Yn wir, cefais fy nghyhuddo gan Joyce Watson y diwrnod o'r blaen yn y Siambr hon o sefyll ar lwyfan o gasineb. Mae hynny ynddo'i hun yn fath o drosedd casineb, am wn i, ac anoddefgarwch. Felly, rwy’n credu y dylai Aelodau ar bob ochr i'r tŷ drin ei gilydd â pharch, fel y dywedodd Bethan Jenkins yn ei sylwadau agoriadol. Yr hyn yr wyf am i’r Siambr hon ei dderbyn yw bod troseddau casineb, ie, wrth gwrs, i’w ffieiddio, ond nid yw'n epidemig ac nid yw'n edrych fel pe bai’n mynd i fod felly.
The figures that are recorded in the report to which the Cabinet Secretary referred come from the True Vision website. Not all of the reports are investigated by the police, because you can make reports anonymously and, therefore, it would be impossible to take them further. So, that reinforces the point that I started making at the beginning of my speech. It is also self-selecting, and I quote—because this is what justifies a hate crime in terms of the figures that are recorded: Mae'r ffigurau sy'n cael eu cofnodi yn yr adroddiad y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet atynt yn dod o wefan True Vision. Nid yw pob un o'r adroddiadau yn cael eu hymchwilio gan yr heddlu, oherwydd mae modd gwneud adroddiadau yn ddienw ac, felly, byddai'n amhosibl i fynd â nhw ddim pellach. Felly, mae hynny'n atgyfnerthu'r pwynt yr oeddwn i wedi dechrau ei wneud ar ddechrau fy araith. Mae hefyd yn hunanddewisol, a dyfynnaf—oherwydd dyma sy’n cyfiawnhau troseddau casineb o ran y ffigurau sy'n cael eu cofnodi:
‘Evidence of the hostility is not required for an incident or crime to be recorded as a hate crime or hate incident…. the perception of the victim, or any other person…is the defining factor….The victim does not have to justify or provide evidence of their belief, and police officers or staff should not directly challenge this perception.’ Nid oes angen tystiolaeth o elyniaeth i ddigwyddiad neu drosedd gael ei gofnodi yn drosedd casineb neu ddigwyddiad casineb... canfyddiad y dioddefwr, neu unrhyw berson arall... yw'r ffactor diffiniol... Nid oes yn rhaid i'r dioddefwr gyfiawnhau na darparu tystiolaeth o'u cred, ac ni ddylai swyddogion yr heddlu na’r staff herio’r canfyddiad hwn yn uniongyrchol.
So, the figures that we have have to be seen in the light of those self-selecting rules. I mean, 1 per cent of the figures cover bicycle thefts, for example. I don’t know what a racially motivated bicycle theft is, but that, I think, should inspire us to treat with caution treating the figures as if they are holy writ. Felly, mae'n rhaid ystyried y ffigurau sydd gennym yng ngoleuni’r rheolau hunanddewisol hynny. Mewn difrif calon, mae 1 y cant o'r ffigyrau yn cynnwys achosion o ddwyn beic, er enghraifft. Nid wyf yn gwybod beth yw lladrad beic â chymhelliad hiliol, ond rwy’n credu y dylai hynny ein hysbrydoli i fod yn ofalus wrth drin y ffigurau fel pe baent yn Ysgrythur Lân.
It is indeed a slur upon the millions and millions of people who voted for Brexit because of their fears about the social effects of too rapid mass immigration to call their motivations racist. Actually, the Labour Party, in making that claim, are actually attacking their own supporters and former supporters, because the biggest Brexit votes in Wales, of course, as we know, took place in places like Torfaen, Merthyr, Ebbw Vale, and so on, and so forth. So, I think it is a mistake for us to allow the debate on hate crime to wander off into the byways of politics because, yes, hate crime is something to be deplored and, so far as we can do it, to be eradicated, but we will not do that by casting slurs upon people who do not hate and are not racists. Therefore, we need to keep this in perspective. Mae'n wir sarhad ar y miliynau a miliynau o bobl a bleidleisiodd o blaid Brexit oherwydd eu hofnau am effeithiau mewnfudo torfol rhy gyflym ar y gymdeithas i ddweud bod eu cymhellion yn rhai hiliol. Yn wir, mae’r Blaid Lafur, wrth honni hynny, yn ymosod ar eu cefnogwyr eu hunain a’u cyn-gefnogwyr, oherwydd roedd y nifer uchaf o bleidleisiau o blaid Brexit yng Nghymru, wrth gwrs, fel y gwyddom, wedi digwydd mewn mannau fel Torfaen, Merthyr, Glynebwy, ac yn y blaen, ac yn y blaen. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn gamgymeriad i ni i ganiatáu i'r ddadl ar droseddau casineb grwydro i gilffyrdd gwleidyddiaeth oherwydd, ydyn’, mae troseddau casineb yn rhywbeth i'w ffieiddio ac, i'r graddau y gallwn wneud hynny, i gael gwared arnynt, ond ni fyddwn yn gwneud hynny drwy sarhau pobl nad ydynt yn casáu ac nad ydynt yn bobl hiliol. Felly, mae angen i ni gadw hynny mewn persbectif.
Yes, we support the motion and we support the aims of the Government, and the measured way in which the Cabinet Secretary introduced this debate today is to be applauded. For my part and my party’s part, we will support the initiatives that the Government has set in train. But, please, don’t cast the slur of racism and intolerance upon us. Ydym, rydym yn cefnogi'r cynnig ac rydym yn cefnogi amcanion y Llywodraeth, ac mae'r modd pwyllog y cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet y ddadl hon heddiw i'w ganmol. O fy rhan i a rhan fy mhlaid, byddwn yn cefnogi'r mentrau y mae'r Llywodraeth wedi eu cychwyn. Ond, os gwelwch yn dda, peidiwch â’n sarhau ni â chyhuddiadau o hiliaeth ac anoddefgarwch.
18:08 - Hannah Blythyn
I welcome the Welsh Government’s position of tackling hate crime as a priority and it continues to take a zero-tolerance approach, as each and every one of us should, to hate crime. It’s right that the tackling hate crime and incidents framework covers hate crime of all kinds, including race, religion, disability, sexual orientation, gender identity and age. There can be no hierarchy of hate and our resolve to tackle all crimes of this nature must be absolute. The challenge for us is to ensure that the intentions and guidance in the framework translate positively into action and change in real life for people in our communities across Wales. All of us in elected and public life have a responsibility and duty of care regarding how we conduct ourselves and the way in which we choose to communicate. What may just be words for one person have the potential to inflict pain and, in some cases, incite hate on another. Rwy’n croesawu safbwynt Llywodraeth Cymru o roi blaenoriaeth i fynd i'r afael â throseddau casineb, a pharhau i arddel ymagwedd dim goddefgarwch, fel y dylai pob un ohonom, tuag at droseddau casineb. Mae'n briodol bod y fframwaith mynd i’r afael â throseddau a digwyddiadau casineb yn cwmpasu troseddau casineb o bob math, gan gynnwys hil, crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd ac oedran. Ni all fod unrhyw hierarchaeth o gasineb ac mae’n rhaid i ni fod yn gwbl benderfynol wrth fynd i'r afael â’r holl droseddau o'r math hwn. Yr her i ni yw sicrhau bod y bwriadau a'r canllawiau yn y fframwaith yn trosi’n gamau gweithredu cadarnhaol a newid mewn bywyd go iawn i bobl yn ein cymunedau ledled Cymru. Mae gan bob un ohonom mewn bywyd etholedig a chyhoeddus gyfrifoldeb a dyletswydd gofal o ran sut yr ydym yn cynnal ein hunain a'r ffordd yr ydym yn dewis cyfathrebu. Mae gan yr hyn sy’n eiriau’n unig i un person y potensial i achosi poen ac, mewn rhai achosion, ysgogi casineb mewn un arall.
I was shocked, but sadly not surprised, to learn over the weekend of a rise in homophobic attacks since the EU referendum vote in May. Figures released by the charity Galop show that homophobic attacks rose by 147 per cent in the people surveyed in the same three-month period following this year’s Brexit vote compared to the same time last year. And this is just the people surveyed, the people who felt able to share their experiences. The real figures could be even higher— Cefais fy nychryn, ond yn anffodus nid fy synnu, i gael gwybod dros y penwythnos am gynnydd mewn ymosodiadau homoffobaidd ers pleidlais refferendwm yr UE ym mis Mai. Mae ffigurau a ryddhawyd gan yr elusen Galop yn dangos bod ymosodiadau homoffobaidd wedi cynyddu 147 y ymhlith y bobl a holwyd yn yr un cyfnod o dri mis yn dilyn pleidlais Brexit eleni o'i gymharu â'r un adeg y llynedd. A dim ond y bobl a holwyd yw hyn, y bobl a oedd yn teimlo eu bod yn gallu rhannu eu profiadau. Gallai'r gwir ffigurau fod hyd yn uwch fyth—
18:10 - Jeremy Miles
Will you take an intervention? A wnewch chi dderbyn ymyriad?
18:10 - Hannah Blythyn
Quickly. Yn gyflym.
18:10 - Jeremy Miles
She raises the question of people feeling able to share their experiences. Would she acknowledge that the incidents of transphobic hate crime are significantly under-reported at about 1 per cent of all hate crimes? And, would she agree that a focus on community work between trans organisations and the police, for example, the Swansea Sparkle event partnership with the South Wales Police, can help support people to report crimes that they’ve been victims of? Mae hi'n codi'r cwestiwn o bobl yn teimlo eu bod yn gallu rhannu eu profiadau. A fyddai hi'n cydnabod bod nifer yr achosion o droseddau casineb trawsffobaidd a adroddir yn sylweddol is na’r rhai sy’n digwydd mewn gwirionedd, sef tua 1 y cant o'r holl droseddau casineb? Ac, a fyddai hi'n cytuno bod pwyslais ar waith cymunedol rhwng sefydliadau trawsrywiol a'r heddlu, er enghraifft, partneriaeth digwyddiad Sparkle Abertawe â Heddlu De Cymru, yn gallu helpu i gefnogi pobl i adrodd am droseddau y maent wedi’u dioddef?
18:10 - Hannah Blythyn
Absolutely, yes. It’s important that trans people and their voices are heard in shaping and being instrumental in strategies and services that are there to support them. Continued action, partnership and vigilance is needed by all, and tackling hate crime and the conduct and compassion of political representatives is integral. Yn hollol, ydw. Mae'n bwysig bod pobl drawsrywiol a’u lleisiau'n cael eu clywed wrth lunio strategaethau a gwasanaethau sydd yno i'w cefnogi, a’u bod yn rhan allweddol ohonynt. Mae angen gweithredu, partneriaeth a gwyliadwriaeth barhaus gan bawb, ac mae mynd i'r afael â throseddau casineb ac ymddygiad a thosturi cynrychiolwyr gwleidyddol yn rhan annatod o hyn.
This week might be Hate Crime Awareness Week, but today is National Coming Out Day, and to use an analogy that Members might be more familiar with, coming out, like devolution, can be a process not an event. For many of us, coming out is not a one-off experience, but something you repeat time and time again, because there is still a straight assumption in society reinforced by rigid stereotypes and gender roles. We’ve come a long way, but coming out still remains a deeply personal moment for most LGBT people. Our choice to reveal this part of our identity comes with a fear of how others will react, a fear of rejection, of prejudice and even of hate. I felt some of this trepidation myself and a little bit of fear when I first stood for election, as an out woman. But I was lucky; I knew I had the support of amazing family, friends, Welsh Labour colleagues and campaigners, and I hope that every LGBT person can find a network of friendship and support that allows them to be themselves and, in turn, challenge isolation and hate. Efallai ei bod hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, ond heddiw yw Diwrnod Cenedlaethol Dod Allan, ac i ddefnyddio cyfatebiaeth y mae Aelodau efallai yn fwy cyfarwydd â hi, gall dod allan, fel datganoli, fod yn broses, nid yn ddigwyddiad. I lawer ohonom, nid yw dod allan yn brofiad unigol, yn hytrach mae’n rhywbeth yr ydych yn ei wneud dro ar ôl tro, gan fod rhagdybiaeth heterorywiol yn y gymdeithas o hyd sy’n cael ei hatgyfnerthu gan ystrydebau anhyblyg a rolau rhywedd. Rydym wedi dod yn bell, ond mae dod allan yn dal i fod yn foment hynod bersonol i’r rhan fwyaf o bobl LGBT. Mae ein dewis i ddatgelu’r rhan hon o'n hunaniaeth yn cynnwys ofn am sut y bydd pobl eraill yn ymateb, ofn cael eich gwrthod, ofn rhagfarn a hyd yn oed ofn casineb. Roeddwn i’n teimlo rhywfaint o’r petruster hwn ac ychydig o ofn pan sefais am y tro cyntaf mewn etholiad, fel menyw sydd wedi dod allan. Ond roeddwn i’n ffodus; roeddwn i’n gwybod bod gen i gefnogaeth fy nheulu, ffrindiau, cydweithwyr ac ymgyrchwyr Llafur Cymru anhygoel, a gobeithiaf y gall pob person lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol ddod o hyd i rwydwaith o gyfeillgarwch a chefnogaeth sy'n eu caniatáu i fod yn hwy eu hunain ac, yn ei dro, i herio arwahanrwydd a chasineb.
The Welsh Government’s hate crime delivery plan sets out the actions to prevent hate crime and support victims across Government. Now we must all work to ensure that this equals positive actions across life, on our streets, in our workplaces and in our communities. Mae cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar droseddau casineb yn nodi'r camau i atal troseddau casineb ac i roi cymorth i ddioddefwyr ar draws y Llywodraeth. Yn awr, mae’n rhaid i ni i gyd weithio i sicrhau bod hyn gyfystyr â chamau gweithredu cadarnhaol mewn bywyd, ar ein strydoedd, yn ein gweithleoedd ac yn ein cymunedau.
18:12 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb i’r ddadl—Carl Sargeant. I call on the Cabinet Secretary to respond to the debate—Carl Sargeant.
18:12 - Carl Sargeant
Thank you, Presiding Officer. I’m grateful for the opportunity to respond to this broadly welcomed debate by many. The successes around tackling hate crime have focused on an integral partnership approach with a range of third sector and statutory partners across Wales. This approach has paid dividends as we take forward the delivery of better outcomes for victims. Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ymateb i’r ddadl hon a groesawyd yn eang gan lawer. Mae’r llwyddiannau o ran mynd i’r afael â throseddau casineb wedi canolbwyntio ar ddull partneriaeth annatod gydag ystod o bartneriaid statudol a phartneriaid trydydd sector ledled Cymru. Mae'r dull hwn wedi talu ar ei ganfed wrth i ni fwrw ymlaen â chyflawni canlyniadau gwell i ddioddefwyr.
Many comments were shared across the Chamber that I consistently support, and I’m grateful for the contributions by many Members, including the opening remarks by Bethan Jenkins in her view of localised issues that she was aware of as well, which happen on a daily basis, and as a child. Rhannwyd llawer o sylwadau ar draws y Siambr yr wyf yn eu cefnogi yn gyson, ac rwy’n ddiolchgar am y cyfraniadau gan lawer o Aelodau, gan gynnwys y sylwadau agoriadol gan Bethan Jenkins yn ei barn hi ar faterion lleol yr oedd hi’n ymwybodol ohonynt hefyd, sy'n digwydd yn ddyddiol, ac fel plentyn.
The points Darren Millar raised about the faith forum is an important one. The faith forum has been used as a useful, effective tool of sharing different faiths and understandings in a reasoned way with people who can help each other understand the difficulties of explaining faith and remove tensions. It’s something that the First Minister and now I, as chair, work very closely with organisations across Wales on. I’ve already had a message from the education Cabinet Secretary telling us about the new curriculum and how faith will feature in there. It may be a discussion that the Member wishes to pursue. Mae'r pwyntiau a godwyd gan Darren Millar am y fforwm ffydd yn bwysig. Mae'r fforwm ffydd wedi ei ddefnyddio fel arf defnyddiol ac effeithiol i rannu gwahanol grefyddau a dealltwriaethau mewn ffordd resymegol â phobl a all helpu ei gilydd i ddeall anawsterau esbonio ffydd a dileu tensiynau. Mae'n rhywbeth y mae'r Prif Weinidog a minnau erbyn hyn, fel cadeirydd, yn gweithio'n agos iawn â sefydliadau ledled Cymru arno. Rwyf eisoes wedi cael neges gan Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg yn dweud wrthym am y cwricwlwm newydd a sut y bydd ffydd yn ymddangos ynddo. Efallai y bydd yr Aelod am barhau â’r drafodaeth hon.
Can I say, apart from the contributions made by the UKIP Members, I very warmly welcome the consideration made by Members? But I’m speechless—I’m speechless—at the contributions from Michelle Brown and Neil Hamilton today. Bethan Jenkins used the quote about treating others how we would like to be treated—equally—and I think that’s an important point that I would ask those Members to reflect on. Of course, the suggestion by UKIP of ‘dodgy figures’, ‘It was only a few figures…it was only a few hate crimes…1 per cent…it doesn’t really matter then, does it?’ Well, let me tell you, those people— A gaf i ddweud, heblaw am y cyfraniadau gan Aelodau UKIP, rwy’n croesawu’n fawr iawn yr ystyriaeth gan yr Aelodau? Ond does gennyf ddim geiriau—dim geiriau—am gyfraniadau Michelle Brown a Neil Hamilton heddiw. Defnyddiodd Bethan Jenkins y dyfyniad am drin pobl eraill fel yr hoffem ni gael ein trin—yn gyfartal—a chredaf fod hynny’n bwynt pwysig y gofynnaf i’r Aelodau hynny fyfyrio arno. Wrth gwrs, mae awgrym UKIP o ‘ffigyrau amheus’, ‘Dim ond rhai ffigurau oeddent... dim ond ychydig bach o droseddau casineb... 1 y cant ... nid oes llawer o ots wedyn, nac oes?’ Wel, gadewch i mi ddweud wrthych chi, mae gan y bobl hynny—
Neil Hamilton a gododd— Neil Hamilton rose—
18:14 - Carl Sargeant
No. I will give way in a second. Na. Mi ildiaf mewn eiliad.
[Continues.]—those people who are suffering from hate crime have got a right to equality here in Wales. And whether the Member lives in Wiltshire or wherever, the fact is, here, we’re a welcoming country here in Wales—[Interruption.] I’ll take the intervention from the Member if he wants to try and dig a hole further. [Yn parhau.] —mae gan y bobl hynny sy'n dioddef o droseddau casineb yr hawl i gydraddoldeb yma yng Nghymru. A pha un a yw'r Aelod yn byw yn Wiltshire neu le bynnag, y ffaith yw, ein bod ni yma, yn wlad groesawgar yng Nghymru— [Torri ar draws.] Cymeraf ymyriad gan yr Aelod os yw am geisio gwaethygu’r sefyllfa i’w hun.
18:14 - Neil Hamilton
I’m not sure whether it’ll be worth it, Llywydd, but, nevertheless, I said in the course of my speech that hate crime was wholly to be deprecated and not to be tolerated and to be punished severely where it exists. All I did was to refer to the figures in the report, which the Minister himself referred to in his speech, and subject them to a little statistical scrutiny. What’s wrong with that? Nid wyf i’n siŵr pa un a fydd gwerth gwneud, Lywydd, ond, serch hynny, dywedais yn fy araith nad yw troseddau casineb i gael eu cymeradwyo na’u goddef o gwbl ac y dylid cosbi’r rhai sy’n gyfrifol yn ddifrifol. Y cyfan y gwnes i oedd cyfeirio at y ffigyrau yn yr adroddiad, y cyfeiriodd y Gweinidog ei hun ato yn ei araith, a’u gwneud yn destun craffu ystadegol. Beth sydd o'i le ar hynny?
18:15 - Carl Sargeant
Yes, well I’m grateful for the intervention from the Member. Let me remind the Member of these statistics: 1,574 were race related; 319 related to sexuality; 240 to disability; 90 to religion; and 25 to transgender. These are the ‘small’ numbers that the Member refers to in regard to a small proportion of hate crime. Let me remind the Member also of the referendum, which he also dismisses as having had any impact on hate crime at all. In light of the recent rises in racism following the outcomes of the EU referendum it’s important that we continue to work together to tackle this intolerance. In the month following the EU referendum—the Member can’t contradict these; they are figures issued by the Home Office—there was a 72 per cent increase in referrals to the Welsh Government-funded national hate crime report and support centre in comparison to the referrals in 2015. The only common thing that happened there was the EU referendum. You cannot dispute that programme. Ie, wel rwy’n ddiolchgar am yr ymyriad gan yr Aelod. Gadewch i mi atgoffa'r Aelod o'r ystadegau hyn: roedd 1,574 yn ymwneud â hil; 319 yn ymwneud â rhywioldeb; 240 ag anabledd; 90 â chrefydd; a 25 â thrawsrywedd. Dyma’r niferoedd ‘bach’ y mae’r Aelod yn cyfeirio atynt o ran u gyfran fach o droseddau casineb. Gadewch i mi atgoffa'r Aelod hefyd am y refferendwm, gan ei fod hefyd yn diystyru’r posibilrwydd bod y refferendwm wedi cael unrhyw effaith o gwbl ar droseddau casineb. Yn wyneb y cynnydd diweddar mewn hiliaeth yn dilyn canlyniadau refferendwm yr UE, mae'n bwysig ein bod yn parhau i gydweithio i fynd i'r afael â’r anoddefgarwch hwn. Yn y mis yn dilyn refferendwm yr UE—ni all yr Aelod wadu’r rhain; maen nhw’n ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref—bu cynnydd o 72 y cant yn nifer yr atgyfeiriadau i’r ganolfan genedlaethol ar gyfer adrodd a rhoi cymorth ar droseddau casineb a ariennir gan Lywodraeth Cymru, o gymharu â'r atgyfeiriadau yn 2015. Yr unig beth cyffredin a ddigwyddodd oedd refferendwm yr UE. Ni allwch ddadlau â’r rhaglen honno.
As the Member is the leader now of the UKIP programme, maybe he would have a view, when he said about people suggesting that UKIP bring into their ranks racists et cetera—maybe now the leader would like to refer back to a media report where one of his Members, currently, blamed ethnic minorities for litter and hygiene problems here in Cardiff. Now, what’s the Member going to do about that in his statement regarding hate crime? Gan fod yr Aelod bellach yn arweinydd ar raglen UKIP, efallai yr hoffai, pan soniodd am bobl sy'n awgrymu bod UKIP yn denu pobl hiliol i’w rengoedd ac ati—efallai yr hoffai’r arweinydd yn awr gyfeirio yn ôl at adroddiad yn y cyfryngau lle mae un o'i Aelodau ef, aelod presennol, yn beio lleiafrifoedd ethnig am y problemau sbwriel a hylendid yma yng Nghaerdydd. Nawr, beth y mae’r Aelod am ei wneud ynglŷn â hynny yn ei ddatganiad ar droseddau casineb?
Let me just remind Members—this is an important debate in national hate crime week, and we should all come together to deliver on a welcoming country for all. I hope Neil Hamilton and Michelle Brown will reflect on their comments today and consider their implications for the wider communities that they are now here to represent. I’m glad for the opportunity to speak about these issues during hate crime week and I look forward to working with Members of all parties to tackle all forms of hate wherever that occurs. Gadewch i mi atgoffa Aelodau—mae hon yn ddadl bwysig i’w chael yn ystod wythnos troseddau casineb cenedlaethol, a dylem ni i gyd ddod at ein gilydd i sicrhau gwlad groesawgar i bawb. Rwy'n gobeithio y bydd Neil Hamilton a Michelle Brown yn myfyrio ar eu sylwadau heddiw ac yn ystyried eu goblygiadau ar gyfer y cymunedau ehangach y maen nhw’n eu cynrychioli yma yn awr. Rwy'n falch o gael y cyfle i siarad ynglŷn â’r materion hyn yn ystod wythnos troseddau casineb ac edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau o bob plaid i fynd i'r afael â chasineb o bob math, ni waeth ble y mae’n digwydd.
18:17 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Os na, fe dderbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Thank you to the Cabinet Secretary. The proposal is to agree amendment 1. Does any Member object? No, so amendment 1 is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Amendment 1 agreed in accordance with Standing Order 12.36.
18:17 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig fel y’i diwygiwyd? The proposal therefore is to agree the motion as amended.
Cynnig NDM6113 fel y’i diwygiwyd: Motion NDM6113 as amended:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: To propose that the National Assembly for Wales:
1. Nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud drwy Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb. 1. Notes the progress made through the Welsh Government's Tackling Hate Crime Framework.
2. Cydnabod, yn sgil digwyddiadau diweddar, yr heriau parhaus sy'n bodoli o ran troseddau casineb. 2. Recognises, in light of recent events, the continuing challenges posed by hate crime.
3. Yn nodi argymhellion allweddol y 'Prosiect Ymchwil Trosedd Casineb Cymru Gyfan', sy'n cynnwys: 3. Notes the key recommendations of the 'All Wales Hate Crime Research Project', which include that:
a) bod angen gwneud mwy i ennyn hyder dioddefwyr a thystion i roi gwybod am ddigwyddiadau casineb a hyrwyddo'r farn mai rhoi gwybod am gasineb yw'r ‘peth iawn i'w wneud’; a a) more needs to be done to increase the confidence of victims and witnesses to report hate incidents and to promote the view that reporting hate is the ‘right thing to do’; and
b) dylid gwneud mwy i sicrhau y caiff y rhai sy'n cyflawni troseddau casineb eu trin yn effeithiol ac y dylid sicrhau bod dulliau adferol ar gael yn fwy eang yng Nghymru. b) more should be done to ensure that hate crime perpetrators are dealt with effectively and that restorative approaches should be made more widely available in Wales.
18:17 - Y Llywydd / The Presiding Officer
A oes unrhyw wrthwynebiad? Os na, fe dderbynnir y cynnig fel y’i diwygiwyd. Does any Member object? No, so the motion as amended is agreed.
Derbyniwyd cynnig NDM6113 fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Motion NDM6113 as amended agreed in accordance with Standing Order 12.36.
8. Datganiad: Arllwysiad Olew yn Nantycaws, Sir Gaerfyrddin 8. Statement: Oil Spill at Nantycaws, Carmarthenshire
18:17 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Yr eitem olaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar arllwysiad olew yn Nantycaws, Caerfyrddin. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Lesley Griffiths. The final item on our agenda is the statement by the Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs on the oil spill at Nantycaws in Carmarthenshire. I call on the Cabinet Secretary, Lesley Griffiths.
18:17 - Lesley Griffiths
Diolch, Lywydd. As Members will be aware, on 4 October, Natural Resources Wales were notified of a kerosene spill from the pipeline adjacent to the A48 near Nantycaws. Diolch, Lywydd. Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, ar 4 Hydref, rhoddwyd gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru am arllwysiad cerosin o'r biblinell wrth ochr yr A48 ger Nantycaws.
In the immediate response to the incident, the fire and rescue service deployed emergency oil spill containment booms on the Nant Pibwr and Natural Resources Wales established a multi-agency co-ordination centre. Specialist clean-up contractors engaged by the operator, Valero, were on site by Tuesday afternoon to begin the work of removing the oil from the stream. According to Valero an estimated 140,000 litres had escaped from the mainline pipeline. However, more than two thirds of this has now been recovered by Valero’s specialist contractors. A series of oil spill containment booms remains in place while the oil is being removed. Valero and its contractors are undertaking the clean-up response with advice from Natural Resources Wales. Yn syth ar ôl y digwyddiad, defnyddiodd y gwasanaeth tân ac achub freichiau cyfyngu arllwysiad olew mewn argyfwng ar Nant Pibwr a sefydlodd Cyfoeth Naturiol Cymru ganolfan gydgysylltu aml-asiantaethol. Roedd contractwyr glanhau arbenigol a gyflogir gan y gweithredwr, Valero, ar y safle erbyn prynhawn dydd Mawrth i ddechrau ar y gwaith o gael gwared ar yr olew o’r nant. Yn ôl Valero, amcangyfrifwyd bod 140,000 litr wedi dianc o biblinell y brif linell. Fodd bynnag, mae dros ddwy ran o dair o hyn wedi ei glirio erbyn hyn gan gontractwyr arbenigol Valero. Mae cyfres o freichiau cyfyngu arllwysiad olew yn parhau i fod ar waith wrth gael gwared ar yr olew. Mae Valero a'i gontractwyr yn cynnal yr ymateb glanhau gyda chyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
NRW is undertaking monitoring of potential environmental impacts, together with Dŵr Cymru Welsh Water, Public Health Wales and Carmarthenshire County Council. People are of course concerned about their drinking water. An article in yesterday’s ‘Western Mail’ about the Nantycaws kerosene spill mistakenly stated that Welsh Water confirmed on Friday that there was an impact on water supplies, when it should have said that they had confirmed there was no impact on public water supplies. This was a mistake and Dŵr Cymru contacted the editor yesterday to get this corrected as soon as possible, and a correction has been printed in today’s edition of the newspaper. I understand all other relevant media outlets have been informed that this was an error on the part of the newspaper and Dŵr Cymru have also put out a message on social media in order to mitigate any unmerited levels of concern. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgymryd â monitro’r effeithiau amgylcheddol posibl, ynghyd â Dŵr Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Sir Gaerfyrddin. Mae pobl wrth gwrs yn pryderu am eu dŵr yfed. Mewn erthygl ddoe yn y ‘Western Mail’ am yr arllwysiad cerosin yn Nantycaws, dywedwyd yn anghywir bod Dŵr Cymru wedi cadarnhau ddydd Gwener bod effaith ar gyflenwadau dŵr, pryd y dylai fod wedi dweud eu bod wedi cadarnhau nad oedd unrhyw effaith ar gyflenwadau dŵr cyhoeddus. Camgymeriad oedd hwn, a chysylltodd Dŵr Cymru â’r golygydd ddoe i gywiro hyn cyn gynted ag y bo modd, ac argraffwyd y cywiriad yn rhifyn heddiw o’r papur newydd. Rwyf ar ddeall bod yr holl gyfryngau perthnasol eraill wedi cael gwybod mai camgymeriad ar ran y papur newydd oedd hwn a rhoddodd Dŵr Cymru neges hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn lliniaru unrhyw lefelau pryder diangen.
Four local properties of the 12 that draw water from private supplies in the immediate area as a precaution are not using their supplies for the time being. Dŵr Cymru has provided bottled water and will continue to do so on request. Dŵr Cymru has also offered to temporarily connect those properties to the public water supply network. One property has accepted this offer. The other properties have been advised to contact the Valero liaison officer who will then liaise with Dŵr Cymru on their behalf should they wish to connect. Nid yw pedwar o'r 12 eiddo lleol sy'n tynnu dŵr o gyflenwadau preifat yn yr ardal gyfagos yn defnyddio eu cyflenwadau am y tro fel rhagofal. Mae Dŵr Cymru wedi darparu dŵr potel a bydd yn parhau i wneud hynny ar gais. Mae Dŵr Cymru hefyd wedi cynnig cysylltu’r eiddo hynny dros dro i'r rhwydwaith cyflenwad dŵr cyhoeddus. Mae un eiddo wedi derbyn y cynnig hwn. Cynghorwyd lleill i gysylltu â swyddog cyswllt Valero a fydd wedyn yn cydgysylltu â Dŵr Cymru ar eu rhan os byddant yn dymuno cae eu cysylltu â’r cyflenwad dŵr.
Initial river ecological surveys have been carried out to assess the significance of localised damage to the river ecology and a fish kill assessment was also conducted. The ecological impacts appear to have been limited to a small section of the Nant Pibwr and there is no sign of significant impact downstream on the River Towy. Cynhaliwyd arolygon ecolegol cychwynnol ar yr afon i asesu arwyddocâd niwed lleol i ecoleg yr afon a chynhaliwyd asesiad o farwolaeth pysgod hefyd. Ymddengys bod yr effeithiau ecolegol wedi eu cyfyngu i adran fach o Nant Pibwr ac nid oes unrhyw arwydd o effaith arwyddocaol i lawr yr afon ar Afon Tywi.
Work on site to monitor and remediate the potential longer term impact will continue, and a number of boreholes are to be drilled around the point of discharge to enable monitoring of the impacts on groundwater. Natural Resources Wales are providing advice on weather and hydrology and are overseeing the proposals for remediation submitted by the operator. Bydd gwaith ar y safle i fonitro ac adfer yr effaith tymor hwy bosibl yn parhau, a bydd nifer o dyllau turio yn cael eu drilio o amgylch y pwynt rhyddhau er mwyn gallu monitro'r effeithiau ar ddŵr daear. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cyngor ar y tywydd a hydroleg ac yn goruchwylio'r cynigion ar gyfer adfer a gyflwynwyd gan y gweithredwr.
On Saturday I visited Nantycaws to see the ongoing work to minimise the impacts of the oil spill for myself. I met Emyr Roberts, chief executive of NRW, and his local team, and thanked NRW staff at the incident centre in Cross Hands for their work in co-ordinating the response. I also met senior representatives and contractors of the operator, Valero, to see the remedial work that they had put in place. Ddydd Sadwrn ymwelais â Nantycaws i weld y gwaith sy'n cael ei wneud i leihau effeithiau'r arllwysiad olew fy hun. Cyfarfûm ag Emyr Roberts, prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, a'i dîm lleol, a diolchais i staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn y ganolfan digwyddiadau yn Cross Hands am eu gwaith o gydgysylltu'r ymateb. Cyfarfûm hefyd ag uwch gynrychiolwyr a chontractwyr y gweithredwr, Valero, i weld y gwaith adfer yr oedden nhw wedi ei roi ar waith.
Whilst such an incident should, of course, be prevented in the first place, I am satisfied with the incident response and handling. The speed of the response has contained the spread of the kerosene and avoided wider impacts. I am receiving regular updates on the situation and will continue to monitor its progress. Er y dylai digwyddiad o'r fath gael ei atal yn y lle cyntaf, wrth gwrs, rwyf yn fodlon ar yr ymateb a’r ymdriniaeth o’r digwyddiad. Mae cyflymder yr ymateb wedi cyfyngu lledaeniad y cerosin ac wedi osgoi effeithiau ehangach. Rwyf yn cael diweddariadau rheolaidd ar y sefyllfa a byddaf yn parhau i fonitro cynnydd.
In order for Valero to replace the fractured pipeline, the A48 will unfortunately need to be closed in both directions from the evening of 14 October to early Monday 17 October. All traffic will be diverted along the official diversion route through Llangunnor. Whilst I acknowledge this will cause inconvenience for people and businesses in west Wales, the weekend closure should minimise the impact on the travelling public and allow a speedy completion of the necessary works to restore the pipeline and seal the affected section. Er mwyn i Valero osod piblinell newydd, bydd yn anffodus yn angenrheidiol cau’r A48 i'r ddau gyfeiriad o fin nos 14 Hydref tan yn gynnar dydd Llun 17 Hydref. Bydd yr holl draffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd y ffordd dargyfeirio traffig swyddogol trwy Langynnwr. Er fy mod yn cydnabod y bydd hyn yn peri anghyfleustra i bobl a busnesau yn y gorllewin, dylai cau’r ffordd ar y penwythnos leihau'r effaith ar y cyhoedd sy'n teithio a chaniatáu i’r gwaith angenrheidiol gael ei gwblhau yn gyflym i adfer y biblinell a selio’r rhan dan sylw.
Once the incident is concluded, the Health and Safety Executive and NRW, as the relevant regulators, will investigate the cause of the pipeline breach and the pollution incident respectively, and will take appropriate action under their powers. Ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben, bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y rheoleiddwyr perthnasol, yn ymchwilio i achos y toriad i’r biblinell a'r digwyddiad o lygredd yn y drefn honno, ac yn cymryd camau priodol o dan eu pwerau.
18:22 - Adam Price
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad heddiw, a hefyd am y sgwrs ffôn a gawsom ni yn gynnar bore ddydd Gwener a’i pharodrwydd hi i ymweld â’r ardal brynhawn ddydd Sadwrn. Fe soniodd hi ei bod yn fodlon gyda pha mor gyflym oedd yr ymateb, ond a gaf i ofyn am ychydig mwy o wybodaeth ynglŷn â’r amserlen? Yn union pryd hysbyswyd Cyfoeth Naturiol Cymru gan y cwmni am y lleihad yn y pwysedd o fewn y biben? Pryd ymwelodd staff NRW â’r safle yn gyntaf? Pryd y gwnaethant ddyfarnu bod yr arllwysiad yn un mwy difrifol? Pryd y caewyd y biben? A phryd gorffennodd y gwaddod o olew a oedd yn yr adran yma o’r biben rhag gollwng ymhellach? I thank the Cabinet Secretary for her statement this afternoon, and also for the telephone conversation that we had early on Friday morning and her willingness to visit the area on Saturday afternoon. She mentioned that she was content with the speed of the response, but may I ask for a little more information about the timetable? When exactly was NRW informed by the company of the reduction in pressure in the pipeline? When did NRW staff visit the site on the first occasion? When did they decide that the spill was more serious? When was the pipeline closed? And when did the remaining oil in the pipeline cease to leak further?
Fe gaewyd falfiau ynysu—‘isolation valves’—yn ôl y wybodaeth sydd gen i, yn ardal Llandeilo a Llangain. A all yr Ysgrifennydd esbonio pam na chaewyd y falf sydd, mae’n debyg, yn nes at yr ardal yn Nantgaredig, a fyddai o bosib wedi arbed degau o filoedd o litrau o olew rhag cael ei ollwng? The isolation valves were closed, according to the information that I have, in the Llandeilo and Llangain areas. Can the Cabinet Secretary explain why the valve that is apparently closer to the area of Nantgaredig was not closed, which could have perhaps prevented tens of thousands of litres of oil from being leaked?
A ydy’r Ysgrifennydd yn cytuno bod angen ymchwiliad llawn i’r hyn a achosodd yr anffawd yma? A all hi gadarnhau hefyd fod pwerau NRW yn cynnwys yr hawl i ddod ag erlyniadau gerbron os oes tystiolaeth o esgeulustra? Pryd oedd y tro olaf, er enghraifft, i’r biben yma gael ei harchwilio? Ac, wrth gwrs, mae’r cwmni yma yn gwmni proffidiol, gyda £4 biliwn o incwm y flwyddyn, felly a allwn ni gael sicrhad y byddan nhw yn talu iawndal i’r trigolion a’r ffermwyr lleol sydd wedi cael eu heffeithio? Does the Cabinet Secretary agree that we need a full inquiry into the cause of this unfortunate incident? Can she also confirm that NRW’s powers include the right to bring prosecutions if there is evidence of malpractice? When, for example, was the last time that this pipeline was inspected? And, of course, this company is a company with an income of £4 billion per annum, so can we be given an assurance that it will pay compensation to local residents and farmers affected by this?
A ydy’r biben wedi cael ei chofrestru o dan Reoliadau Diogelwch Piblinellau 1996, ac os nad ydy, pam? Has the pipeline been registered under the Pipelines Safety Regulations 1996, and if not, why?
And finally, on the matter of the A48, she will appreciate and has already referred to, of course, the effect that this will have locally on residents who are already having to cope, on Friday night, for example, with the closure in one direction—a severe impact. Have all the alternatives not been looked at here in terms of the remedial work that needs to happen on the pipeline? We've heard, for instance, that work is not ongoing round the clock. Surely, we should be looking at that before closing what is, after all, the main arterial route for the whole of west Wales in both directions. So, is she satisfied that all other alternatives were looked at, and can she confirm that at least one of the relevant agencies actually opposed the proposal to close the route in both directions when it was first put to them? Ac yn olaf, o ran mater yr A48, bydd hi’n gwerthfawrogi a chyfeiriwyd at hyn eisoes, wrth gwrs, yr effaith y bydd hyn yn ei chael yn lleol ar drigolion sydd eisoes yn gorfod ymdopi, nos Wener, er enghraifft, â chau’r ffordd i un cyfeiriad—effaith ddifrifol. A ystyriwyd yr holl ddewisiadau eraill yn y fan yma o ran y gwaith adfer sydd angen ei wneud ar y biblinell? Rydym wedi clywed, er enghraifft, na fydd y gwaith yn cael ei wneud dydd a nos. Does bosib na ddylem ni ystyried hynny cyn cau yr hyn sydd, wedi'r cyfan, yn brif wythïen i’r gorllewin cyfan i’r ddau gyfeiriad. Felly, a yw hi'n fodlon bod yr holl ddewisiadau eraill wedi eu hystyried, ac a wnaiff hi gadarnhau bod o leiaf un o'r asiantaethau perthnasol wedi gwrthwynebu'r cynnig mewn gwirionedd i gau'r ffordd i’r ddau gyfeiriad pan gafodd hynny ei gynnig iddynt i ddechrau?
18:25 - Lesley Griffiths
Diolch, Adam Price, for those questions. In relation to the timeline, I can inform Members that, last Tuesday—so, 4 October—the first phone call received by NRW from Valero was at 10:46 when Valero said that they were self-reporting damage to a kerosene pipeline and where the location was. The quantity of discharge at that time was unknown, and they had approved contractors being—. They were using approved contractors to investigate and process a repair and clean-up. At 11 a.m., so very quickly after, Valero called back NRW and confirmed there had been a leak, but they were unsure if any oil—. They didn't think any oil had reached a watercourse, but they had called the contractors in case. NRW officers then did visit the site on their own—. You know, they wanted to see for themselves, so they then visited the site. So, as I said, I was very content with the response and I think NRW have co-ordinated the response in a very professional way. Diolch, Adam Price, am y cwestiynau yna. O ran y llinell amser, gallaf ddweud wrth yr Aelodau, ddydd Mawrth diwethaf—felly, 4 Hydref—cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru yr alwad ffôn gyntaf gan Valero am 10:46 pan ddywedodd Valero eu bod yn rhoi gwybod eu hunain am ddifrod i biblinell cerosin a’i lleoliad. Roedd maint yr arllwysiad yn anhysbys ar y pryd, ac roedden nhw wedi cymeradwyo contractwyr yn—. Roedden nhw’n defnyddio contractwyr cymeradwy i ymchwilio a phrosesu gwaith atgyweirio a glanhau. Am 11am, felly yn gyflym iawn ar ôl hynny, ffoniodd Valero Cyfoeth Naturiol Cymru unwaith eto a chadarnhau y bu gollyngiad, ond eu bod yn ansicr pa un a oedd unrhyw olew—. Nid oeddent yn credu bod unrhyw olew wedi cyrraedd dyfrffordd, ond eu bod wedi cysylltu â’r contractwyr rhag ofn. Aeth swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru i ymweld â'r safle eu hunain wedyn—. Wyddoch chi, roedden nhw’n awyddus i weld y sefyllfa drostynt eu hunain, felly aethant i ymweld â'r safle. Felly, fel y dywedais, roeddwn i’n fodlon iawn â'r ymateb a chredaf fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cydgysylltu’r ymateb mewn modd proffesiynol iawn.
In relation to the questions regarding the valves, I have been told that the valves were switched off, as you say, to contain the oil that was in the pipe. You asked about compensation to the local residents, and I think this is an issue that I can't really comment on at the moment. I mentioned that Natural Resources Wales and HSE will be able to investigate the cause of the breach, once the incident is concluded. They will take the appropriate action under their powers, and I don't really think it would be right for me to comment further ahead of that work being undertaken. And I think we need to wait until all the investigations are done. O ran y cwestiynau ynglŷn â'r falfiau, rwyf wedi cael gwybod bod y falfiau wedi eu cau, fel y dywedwch, i gyfyngu’r olew a oedd yn y biblinell. Gwnaethoch ofyn am iawndal i drigolion lleol, ac nid wyf yn credu bod hwn yn fater y gallaf roi sylwadau arno hyn o bryd. Soniais y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn gallu ymchwilio i achos y toriad, pan fydd y digwyddiad wedi dod i ben. Byddant yn cymryd y camau priodol o dan eu pwerau, ac nid wyf, mewn gwirionedd, yn credu y byddai'n iawn i mi roi sylwadau eraill cyn i’r gwaith gael ei wneud. A chredaf fod angen i ni aros nes bod yr holl ymchwiliadau wedi eu gwneud.
Regarding the impact of the planned A48 road closures, Members will appreciate, Presiding Officer, that this is really a matter for my colleague the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure, but, obviously, he's not here today. So, I'm able to respond to certain concerns and, you know, I want Members to realise this decision was not taken lightly and to have the road both ways closed over the weekend I know will cause inconvenience, but I think, because it is a weekend, that should minimise the impact on the travelling public and allow a speedy completion of the necessary works to restore the pipeline and seal the affected section. Ynghylch effaith cau’r A48 fel y bwriedir ei wneud, bydd yr Aelodau yn gwerthfawrogi, Lywydd, mai mater i fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yw hwn, ond, yn amlwg, nid yw yma heddiw. Felly, gallaf ymateb i rai pryderon a, wyddoch chi, rwyf eisiau i Aelodau sylweddoli nad ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad hwn a bydd cau’r ffordd i’r ddau gyfeiriad dros y penwythnos, mi wn, yn peri anghyfleustra, ond, rwy’n credu, oherwydd ei bod yn benwythnos, y dylai hyn leihau'r effaith ar y cyhoedd sy'n teithio a chaniatáu ar gyfer cwblhau’r gwaith angenrheidiol yn gyflym i adfer y biblinell a selio’r rhan dan sylw.
18:28 - Joyce Watson
Cabinet Secretary, I have spoken with a senior spokesperson from Valero regarding the kerosene spillage in Nantycaws, and I was assured, because I asked very much the same questions that have already been asked to you, that immediately upon realising that there was a pressure drop within that pipe—because that's how they knew—they notified NRW and other agencies therein. And I think it's only right and fair at this point, before I move on, to recognise the hard work that has been done by those staff—continually done by the staff—outside their normal working hours so that they can do their best to protect the public from all the other issues that I think were fairly stated by Adam Price. And I think it's also fair to mention the emergency services, because the fire authority also turned up and responded as quickly and efficiently as they could. So, I want to put those things on the record. Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi siarad ag uwch lefarydd o Valero ynghylch y gollyngiad cerosin yn Nantycaws, a chefais fy sicrhau, oherwydd gofynnais lawer iawn o’r cwestiynau a ofynnwyd i chithau eisoes, eu bod, yn syth ar ôl sylweddoli bod gostyngiad i’r gwasgedd yn y biblinell—oherwydd dyna sut yr oedden nhw’n gwybod—wedi rhoi gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru ac asiantaethau eraill oddi mewn. Ac rwy’n credu nad yw ond yn iawn ac yn deg ar y pwynt hwn, cyn i mi symud ymlaen, i gydnabod y gwaith caled a wnaed gan y staff hynny —a wneir gan y staff yn barhaus—y tu allan i'w horiau gwaith arferol er mwyn gwneud eu gorau i ddiogelu’r cyhoedd rhag yr holl faterion eraill y credaf iddynt gael eu datgan yn deg gan Adam Price. Ac rwy’n credu ei bod hefyd yn deg i sôn am y gwasanaethau brys, oherwydd bod yr awdurdod tân hefyd wedi dod yno ac ymateb mor gyflym ac effeithlon â phosibl. Felly, rwyf am nodi’r pethau hynny ar y cofnod.
I did drive through here, actually, on Sunday, and I have to tell you that it was a three-quarter-of-an-hour journey from one end of Carmarthen to getting up the other end, and that was on a Sunday afternoon at 4 o’clock in the afternoon. So, you know, it is probably wise to say that, whilst it might be on a weekend, nonetheless, there will be significant inconvenience. I probably unwisely chose to travel at 4 o’clock, not thinking, because I wasn’t shopping, that maybe the shops were closing at the same time, so I suppose it’s fair to add that. But, nonetheless, that’s how long it took me to go from one end of Carmarthen to get back onto the A48. Fe wnes i yrru drwy’r ardal hon ddydd Sul, mewn gwirionedd, ac mae'n rhaid i mi ddweud wrthych ei bod yn daith tri chwarter awr o un pen o Gaerfyrddin i’r llall, a hynny am 4 o'r gloch ar brynhawn dydd Sul. Felly, wyddoch chi, mae'n debyg ei bod yn ddoeth dweud, er efallai mai ar benwythnos oedd hyn, serch hynny, bydd yn achosi anghyfleustra sylweddol. Roeddwn i, mae'n debyg yn annoeth yn dewis teithio am 4 o'r gloch, heb feddwl, gan nad oeddwn yn siopa, bod y siopau efallai yn cau bryd hynny, felly mae'n debyg ei bod yn deg ychwanegu hynny. Ond, serch hynny, dyna pa mor hir a gymerodd i mi i fynd o un pen o Gaerfyrddin i fynd yn ôl ar yr A48.
So, anyway, moving on, I understand that there were four sites of pollution and that now a total of three of those have been cleared, but one is still being recovered. I did ask the question, of course, about downstream and any effect on the Towy and was assured, at this point, that that is an unlikely situation. Nonetheless, while that is the case, and I recognise that people might be impacted for a few days by having to go around the road, what I’m really concerned about is that impact on that watercourse and how we intend to monitor any effects within that watercourse that have happened—it has destroyed it, let’s be clear: if you poison a river, you have destroyed it—and how it is going to be monitored and brought back to life. Felly, beth bynnag, wrth symud ymlaen, rwyf ar ddeall bod pedwar safle o lygredd a bod cyfanswm o dri o'r rhain wedi eu clirio erbyn hyn, ond bod un yn dal i gael ei adfer. Fe wnes i ofyn y cwestiwn, wrth gwrs, am unrhyw effaith i lawr yr afon ac ar afon Tywi a rhoddwyd sicrwydd i mi, ar y pwynt hwn, fod honno yn sefyllfa annhebygol. Serch hynny, tra bod hynny’n wir, ac rwy’n cydnabod y gallai pobl gael eu heffeithio am rai dyddiau drwy orfod mynd o amgylch y ffordd, yr hyn sy’n fy mhoeni i’n fawr yw’r effaith honno ar y ddyfrffordd honno a sut yr ydym yn bwriadu monitro unrhyw effeithiau a gafwyd ar y ddyfrffordd honno—y mae wedi ei dinistrio, gadewch i ni fod yn glir: os ydych yn gwenwyno afon, rydych wedi ei ddinistrio—a sut y bydd yn cael ei monitro a’i hadfywio.
I was elected just after the Sea Empress; I know how devastating these things are, and I’m not suggesting that this is on that scale at all. I will thank, however, Valero for being honest when I asked questions and also, as far as I know, they’ve been on site and they’ve apologised profusely for the pollution, which was unmistakeable, because I smelled it myself on Sunday, in the air. At the moment, as far as I’m led to believe and others are led to believe, the fumes were not toxic. But some families did choose to move from there. Cefais fy ethol yn fuan ar ôl achos y Sea Empress; rwy’n gwybod pa mor ddinistriol yw’r pethau hyn, ac nid wyf yn awgrymu bod hyn ar yr un raddfa o gwbl. Rwyf yn diolch, fodd bynnag, i Valero am fod yn onest pan ofynnais gwestiynau ac maen nhw hefyd, hyd y gwn i, wedi bod ar y safle ac maen nhw wedi ymddiheuro’n llaes am y llygredd, a oedd yn ddigamsyniol, oherwydd fe wnes i ei arogli fy hun ddydd Sul, yn yr aer. Ar hyn o bryd, rwyf i ar ddeall ac mae eraill ar ddeall, nad oedd y mygdarth yn wenwynig. Ond fe wnaeth rhai teuluoedd ddewis symud oddi yno.
So, I think, at this stage, what could be done perhaps has been done, but, in moving forward, I think what is important for me to know, as somebody representing that area, is that the monitoring of that site will be diligent, will be long term, and will be reported back to us. Felly, rwy’n credu, am y tro, y gwnaed yr hyn y gellid ei wneud, ond, wrth symud ymlaen, credaf mai’r hyn sy'n bwysig i mi wybod, fel rhywun sy'n cynrychioli'r ardal honno, yw y bydd y gwaith o fonitro’r safle yn ddiwyd, yn hirdymor, ac yn cael ei adrodd yn ôl i ni.
18:32 - Lesley Griffiths
Thank you, Joyce Watson, for those questions. I’m very pleased you have met with Valero and I should have said that both Valero and NRW are very happy to meet any Assembly Member to discuss this matter. You’re quite right, we should also take the opportunity to thank the emergency services for their attendance. Diolch i chi, Joyce Watson, am y cwestiynau yna. Rwy'n falch iawn eich bod wedi cwrdd â Valero a dylwn i fod wedi dweud bod Valero a Cyfoeth Naturiol Cymru yn hapus iawn i gwrdd ag unrhyw Aelod o'r Cynulliad i drafod y mater hwn. Rydych chi'n hollol iawn, dylem hefyd fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r gwasanaethau brys am eu presenoldeb.
In relation to the A48, I did say I do accept there will be inconvenience, but my colleague Ken Skates’s department wanted to avoid half-term week. It’s about minimising the impact, but of course there’s no good time. As I say, we didn’t take the decision lightly and we’re very sorry that we’ve had to do it and we’re very disappointed that we’ve had to take this course of action, but I do think Members will agree it’s the only way forward. O ran yr A48, fe wnes i ddweud fy mod i’n derbyn y bydd anghyfleustra, ond mae adran fy nghyd-Aelod Ken Skates yn dymuno osgoi wythnos hanner tymor. Mae'n ymwneud â lleihau'r effaith, ond wrth gwrs nid oes unrhyw amser da. Fel yr wyf wedi’i ddweud, ni wnaethom y penderfyniad yn ddifeddwl ac mae’n flin iawn gennym bod yn rhaid i ni ei wneud ac rydym yn siomedig iawn ein bod wedi gorfod cymryd y camau hyn, ond credaf y bydd yr Aelodau yn cytuno mai dyma’r unig ffordd ymlaen.
I was very pleased also that a hotline was set up by Valero, and NRW obviously have one, and I know there had been some calls. I was told there had been two calls, even on the Friday, from local houses and these residents have been visited straight away, because I think it’s really important and it’s absolutely a priority for me that people’s concerns are addressed, particularly in relation to public health. Roeddwn i’n falch iawn hefyd bod Valero wedi sefydlu llinell gymorth, ac yn amlwg mae un gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a gwn y cafwyd rhai galwadau. Dywedwyd wrthyf y cafwyd dwy alwad, hyd yn oed ar y dydd Gwener, gan dai lleol ac ymwelwyd â’r preswylwyr hyn ar unwaith, gan fy mod i’n credu ei bod yn hynod bwysig ac mae'n flaenoriaeth lwyr i mi bod pryderon pobl yn cael sylw, yn enwedig o ran iechyd cyhoeddus.
I mentioned that 140,000 litres is the figure that we’ve been given by Valero in relation to the spill. And today I’ve been told—today’s update is that 100,000 litres have been recovered, which I think is a significant amount. In relation to monitoring, NRW have had officers out monitoring the river daily. They’ve carried out an ecological assessment and a fish carcase count, which I understand remains at 100. The company involved have specialist contractors assessing the impact on land. They’re liaising with NRW’s geoscience team and I know NRW are chairing the tactical technical group, where all interested partner agencies and Valero are focusing on mitigating the impact of the oil spill. But, you’re right, this is long term, and I want to give Members assurance that I am monitoring this very carefully. I’m receiving several updates a day and I, of course, am very happy to report back to Members. Soniais mai 140,000 litr yw'r ffigur yr ydym wedi ei gael gan Valero o ran yr arllwysiad. A heddiw, dywedwyd wrthyf—diweddariad heddiw yw bod 100,000 litr wedi eu hadennill, sy’n swm sylweddol yn fy marn i. O ran monitro, mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod allan yn monitro'r afon yn ddyddiol. Maen nhw wedi cynnal asesiad ecolegol ac wedi cyfrif carcasau pysgod, a deallaf fod hyn wedi aros ar 100. Mae gan y cwmni cysylltiedig gontractwyr arbenigol yn asesu'r effaith ar y tir. Maent yn cysylltu â thîm geowyddoniaeth Cyfoeth Naturiol Cymru a gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadeirio'r grŵp technegol tactegol, lle mae'r holl asiantaethau partner perthnasol a Valero yn canolbwyntio ar liniaru effaith yr arllwysiad olew. Ond, rydych chi'n iawn, camau hirdymor yw’r rhain, ac rwyf yn dymuno rhoi sicrwydd i'r Aelodau fy mod i’n monitro hyn yn ofalus iawn. Rwyf yn cael diweddariadau niferus bob dydd ac rwyf, wrth gwrs, yn hapus iawn i adrodd yn ôl i'r Aelodau.
18:35 - Angela Burns
Minister, thank you very much for your statement today. I think that your response and the response from Valero have been entirely reasonable, given the circumstances—no-one wanted this to happen, no-one expected it to happen, and it is very, very unfortunate, to say the least. Weinidog, diolch yn fawr iawn am eich datganiad heddiw. Credaf fod eich ymateb a'r ymateb gan Valero wedi bod yn gwbl resymol, o dan yr amgylchiadau—nid oedd unrhyw un yn dymuno i hyn ddigwydd, nid oedd unrhyw un yn disgwyl iddo ddigwydd, ac mae'n hynod, hynod anffodus, a dweud y lleiaf.
I think that Adam Price raised some excellent points in the comments and I’d like to actually align myself with them. Although I would add that I believe that any investigation should be conducted by the statutory bodies and any penalties coming forward should also be as a result of those investigations by the statutory bodies. I don’t think it’s incumbent upon any of us to second-guess either what happened or to lay out what we think any punishment should be. Credaf fod Adam Price wedi codi pwyntiau ardderchog yn ei sylwadau a hoffwn innau, mewn gwirionedd, gysylltu fy hun â nhw. Er yr hoffwn i ychwanegu fy mod i’n credu y dylai unrhyw ymchwiliad gael ei gynnal gan y cyrff statudol ac y dylai unrhyw gosbau ddod o ganlyniad i'r ymchwiliadau hynny gan y cyrff statudol. Nid wyf yn credu ei fod yn ddyletswydd ar unrhyw un ohonom i ragfynegi yr hyn a ddigwyddodd nac i osod yr hyn yr ydym yn credu y dylai unrhyw gosb fod.
I do have one concern, though: in your letter of 7 October, you referred to the fact that this pipeline is 12m below ground and that you cannot be sure of the condition of the pipe or of the cause of the leak. I’ve also been discussing this with Valero, who—and I agree with Joyce Watson—have been very straight about it all and said it as they see it, and they don’t know either. So, have you got any contingency plan in place in case the A48 has to be closed for longer than the weekend? Because, when they finally dig down to get to it, I understand they’re going to go in from the side and knock through the tarmac, but if it actually turns out to be worse and they’re going to have to take the road up in order to do whatever it is they need to do—so, really, do we have a contingency plan in place in case this closure is going to go for much longer than anticipated? Mae gennyf un pryder, fodd bynnag: yn eich llythyr ar 7 Hydref cyfeiriasoch at y ffaith bod y biblinell hon 12m o dan y ddaear ac na allwch chi fod yn sicr o gyflwr y biblinell nac o achos y gollyngiad. Rwyf hefyd wedi bod yn trafod hyn â Valero, sydd—a chytunaf â Joyce Watson—wedi bod yn eglur iawn ac wedi siarad yn blaen iawn am y cyfan, ac nid ydynt hwythau’n gwybod ychwaith. Felly, a oes gennych chi unrhyw gynllun wrth gefn ar waith rhag ofn y bydd yr A48 ar gau am fwy na’r penwythnos? Oherwydd, pan fyddant o’r diwedd yn cloddio i lawr at y bibell, rwyf ar ddeall eu bod yn bwriadu mynd i mewn o'r ochr a chnocio drwy’r tarmac, ond os bydd, mewn gwirionedd, yn waeth yn y pen draw ac y bydd yn rhaid iddyn nhw godi rhan o’r ffordd er mwyn gwneud y gwaith angenrheidiol—felly, mewn gwirionedd, a oes gennym ni gynllun wrth gefn ar waith rhag ofn y bydd y ffordd ar gau am gyfnod llawer hirach na’r disgwyl?
I would also like to ask if you would liaise with your colleague, Ken Skates, Cabinet Secretary for business, to talk to him about whether or not we can hasten the entire issue of the A48. My concern is that the weekend after next is the beginning of half-term. As Joyce Watson said, that road is absolutely packed. We’ve got the tourists coming down; it’s vitally important that that artery is opened up for Carmarthenshire and Pembrokeshire. I don’t think there are any further points west of that, but we really do need to make sure that tourists can come—it’s a vital part of our industry. So, would you please give me your view on whether or not you think that we could try to persuade 24/7 working to be put in place to get that road fixed as soon as possible? Hoffwn ofyn i chi hefyd gysylltu â'ch cydweithiwr, Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros fusnes, i siarad ag ef ynghylch pa un a allwn gyflymu holl fater yr A48. Fy mhryder yw bod hanner tymor yn dechrau y penwythnos ar ôl y nesaf. Fel y dywedodd Joyce Watson, mae’r ffordd honno yn orlawn o draffig. Mae gennym y twristiaid yn cyrraedd; mae’n hanfodol bwysig bod yr wythïen honno ar agor ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Nid wyf yn credu bod unrhyw ardaloedd yn bellach i'r gorllewin o’r fan honno, ond mae angen i ni wneud yn siŵr y gall twristiaid ddod yma–mae'n rhan hanfodol o'n diwydiant. Felly, a fyddech cystal â dweud wrthyf pa yn a ydych chi’n meddwl y gallem geisio eu perswadio i weithio ddydd a nos i drin y ffordd honno cyn gynted â phosibl?
Finally, I’d like to say how impressed I was by the way the silver command response team swung into action and how all the organisations came together, and, on behalf of the Welsh Conservatives, I’d like you to express our thanks to them because they have really proven that this is what the emergency services are all about and they’ve done exceptionally well under the circumstances. Yn olaf, hoffwn ddweud cymaint o argraff a wnaed arnaf gan ymateb y tîm trefn rheoli arian wrth iddynt fwrw iddi, ac wrth i’r holl sefydliadau ddod at ei gilydd, ac, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, hoffwn fynegi ein diolch iddyn nhw, oherwydd maen nhw wedi profi o ddifrif mai dyma beth yw hanfod y gwasanaethau brys, ac maent wedi gwneud yn arbennig o dda o dan yr amgylchiadau.
18:38 - Y Llywydd / The Presiding Officer
For information, Ceredigion is west of Carmarthen. Er gwybodaeth, mae Ceredigion i’r gorllewin o Gaerfyrddin.
18:38 - Angela Burns
I beg your pardon, Presiding Officer, but not west of Pembrokeshire. [Laughter.] Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd, ond nid i'r gorllewin o Sir Benfro. [Chwerthin.]
18:38 - Lesley Griffiths
Thank you, Presiding Officer, and I thank Angela Burns for those comments and certainly the ones around the silver command team. You’re absolutely right: it was very good to see just how well NRW did co-ordinate that multi-agency response and silver command has met on a daily basis and I’ve received an update from them. Diolch i chi, Lywydd, ac rwy’n diolch i Angela Burns am y sylwadau yna ac yn sicr am y sylwadau am y tîm trefn rheoli arian. Rydych chi yn llygad eich lle: roedd yn dda iawn gweld pa mor dda y llwyddodd Cyfoeth Naturiol Cymru i gydgysylltu’r ymateb amlasiantaethol hwnnw, ac mae’r tîm trefn rheoli arian wedi cyfarfod yn ddyddiol ac maent wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi.
I’m very happy to talk to Ken Skates’s officials in his absence. As I mentioned—I think it was in my response to Joyce Watson—we’re very aware that the weekend after next is the start of half-term and that’s why we have chosen this weekend. I’m sure the Member will be aware that one side of the A48 had been planned for closure while Valero had worked on that pipe. Rwy'n hapus iawn i siarad â swyddogion Ken Skates yn ei absenoldeb. Fel y soniais—yn fy ymateb i Joyce Watson rwy’n credu—rydym yn ymwybodol iawn bod hanner tymor yn dechrau y penwythnos ar ôl y nesaf a dyna pam yr ydym wedi dewis y penwythnos hwn. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol y trefnwyd bod un ochr o’r A48 yn cael ei chau wrth i Valero weithio ar y bibell honno.
In relation to the fact that it’s 12m down, as you said, the main pipeline that the leak reported from has been switched off and there’s now very little oil being collected in the stream, which we hope means that it’s not leaking. Unfortunately, Valero can’t reach the damaged pipe because it’s been sealed off by the Health and Safety Executive. So, Valero are going to build a new pipe alongside the pipe and reconnect it, when HSE say that’s the case, and then they’ll be able to look at the old pipe. So, I think it is important that we have those conversations with officials to make sure that we do cover all eventualities along the road. But, as I say, Members will appreciate that this work has to be done and I’m hoping that it can be done over those four days. O ran y ffaith ei fod yn 12 metr i lawr, fel y dywedasoch, mae’r brif bibell y mae’r gollyngiad yn deillio oddi wrthi wedi ei throi i ffwrdd ac erbyn hyn ychydig iawn o olew sy’n casglu yn y nant, ac rydym yn gobeithio bod hyn yn golygu nad yw’n gollwng. Yn anffodus, ni all Valero gyrraedd y bibell sydd wedi’i difrodi gan fod yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cau’r mynediad ati. Felly, mae Valero yn mynd i adeiladu pibell newydd ochr yn ochr â'r bibell a’i hailgysylltu, pan fydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn dweud bod hynny’n bosibl, ac yna byddant yn gallu edrych ar yr hen bibell. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni’n cael y sgyrsiau hynny gyda swyddogion i wneud yn siŵr ein bod ni’n ymdrin â phob posibilrwydd ar hyd y ffordd. Ond, fel y dywedais, bydd yr Aelodau'n gwerthfawrogi bod yn rhaid i’r gwaith hwn gael ei wneud ac rwy'n gobeithio y bydd modd ei wneud dros y pedwar diwrnod hynny.
In relation to the 24/7 working, as I say I will speak to the Cabinet Secretary’s officials. O ran y gwaith dydd a nos, fel y dywedais, byddaf yn siarad â swyddogion Ysgrifennydd y Cabinet.
18:39 - Y Llywydd / The Presiding Officer
And, finally, Simon Thomas. Ac, yn olaf, Simon Thomas.
18:40 - Simon Thomas
A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei datganiad a jest gofyn cwpwl o bethau iddi yn sgil yr hyn sydd wedi cael ei drafod y prynhawn yma? Yn gyntaf oll, rwy’n deall nad oes eto eglurhad neu reswm am y digwyddiad hwn, ond mae’n dal i fod yn ddigwyddiad llygredd o bwys ar y tir mawr, un o’r rhai mwyaf rydym ni wedi ei gael mewn blynyddoedd diweddar. Bydd pobl leol yn sicr yn gofyn a oes cysylltiad rhwng y digwyddiad yma o ollyngiad olew, neu cerosin, a'r ffaith bod y biben yn cael gwaith wedi’i wneud arno yn gyffredinol. Felly, pa fath o eiriau y mae’r Gweinidog yn gallu eu cael ynglŷn ag ymchwiliad o unrhyw fath ar yr adeg hon i sicrhau nad yw’r gwaith sy’n digwydd ar y biben mewn llefydd eraill yn mynd i arwain at unrhyw ddigwyddiad tebyg, a pha waith sy’n digwydd yn y cyd-destun hwnnw? Can I thank the Cabinet Secretary for her statement and just ask a few questions following what has been discussed this afternoon? First of all, I understand that there isn’t yet an explanation or a reason for this particular incident, but it’s still a serious pollution event on this land, one of the most serious that we’ve had in the past few years. Now, local people will certainly be asking whether there is a link between this incident, the kerosene spillage, and the fact that the pipe was being worked on in general terms. So what kind of statement can the Cabinet Secretary make in terms of an inquiry at this time to ensure that the work that’s being done on the pipe in other areas isn’t going to lead to a similar incident again, and what kind of work is happening in that context?
Mae’r ail gwestiwn sydd gennyf ynglŷn â’r effaith ar yr amgylchfyd. Rwy’n deall nad yw’r tanwydd wedi cyrraedd Afon Tywi, a gobeithio na fydd hynny’n digwydd. Serch hynny, mae yna effaith ddifrifol ar Nant Pibwr ei hunan, a bydd pawb, efallai, wedi gweld y lluniau o bysgod meirw, sy’n awgrymu eu bod nhw wedi marw yn y nant oherwydd llygredd. A fydd yna gamau nawr gan Gyfoeth Naturiol Cymru—wedi eu talu amdano gan y cwmni, gobeithio—i adfer y nant ac i wneud yn siŵr bod rhyw fath o ailstocio yn digwydd o bysgod er mwyn dod â bywyd yn ôl i’r nant, fel petai, fel ei fod yn un byw unwaith eto? A’r pwynt olaf yw y bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod y biben yma yn mynd trwy’r rhan fwyaf o’r rhanbarth rwy’n ei chynrychioli, a dweud y gwir. Ar ei ffordd i orllewin y midlands, mae’n rhedeg drwy de canolbarth Cymru, a thrwy nifer o lefydd diarffordd iawn, iawn. Pa drafodaethau y mae hi yn eu cael, neu y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu cael, gyda Valero ar hyn o bryd i wneud yn siŵr bod yna ryw archwiliad a sicrwydd diogelwch yn digwydd am weddill y biben i wneud yn siŵr nad oes—gallwn ni ddim gwneud yn siŵr, ond i geisio gwneud yn siŵr, nad oes unrhyw wendid mewn llefydd eraill ar hyd y biben hirfaith yma? The second question I have is about the impact on the environment. I understand that the kerosene hasn’t reached the River Towy, and I hope that that doesn’t happen, but there has been a serious effect on Nant Pibwr itself, and everyone will, perhaps, have seen the images of the dead fish, which suggest that they died in the stream because of the pollution. Will there now be steps taken by NRW—paid for by the company, hopefully—to restore the stream and to ensure that there is a restocking of fish in the stream to ensure that it does come back to life, as it were, so that it is alive again? And the final point is that the Cabinet Secretary will be aware that this pipe goes through the majority of the region that I represent. On the way to the midlands, it runs through the south of mid Wales, through many isolated areas. What kind of discussions is she having, or is NRW having, with Valero at present to ensure that there is an inquiry and assurance given for the rest of the pipe to ensure—we can’t make it 100 per cent sure, but to try and make sure that there isn’t another vulnerability in this very long pipe?
18:42 - Lesley Griffiths
I thank Simon Thomas for his questions. I’ve already said that I think we cannot speculate as to the cause of it. Once the incident has been concluded, which I hope will be very soon, that’s the time, then, for NRW and HSE to carry out a full investigation. I would like to assure Members that I did ask NRW if, at the current time, they felt they had additional resources to manage this incident and they assured me that they had. Diolch i Simon Thomas am ei gwestiynau. Rwyf wedi dweud eisoes fy mod o’r farn na allwn ddyfalu ynghylch beth achosodd hyn. Ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n digwydd yn fuan iawn, dyna fydd yr amser, wedyn, i Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gynnal ymchwiliad llawn. Hoffwn sicrhau yr Aelodau fy mod wedi gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru os ydynt yn teimlo, ar hyn o bryd, bod ganddynt yr adnoddau ychwanegol i reoli'r digwyddiad hwn, ac fe wnaethant fy sicrhau bod ganddynt yr adnoddau hynny.
In relation to the pipe, you’re right, it does carry fuel, oil, to the midlands, to Manchester and also to Heathrow. So, those are discussions that I’ve had and I’ve been reassured in relation to the issues that the Member raised. O ran y bibell, rydych chi'n iawn, mae hi'n cario tanwydd, olew, i ganolbarth Lloegr, i Fanceinion ac i Heathrow hefyd. Felly, rwyf wedi cael y trafodaethau hynny ac rwyf wedi cael sicrwydd o ran y materion a godwyd gan yr Aelod.
Again, the impact on the environment: we very much hope it won’t reach the River Towy and, as I said, the amount of oil that’s being collected is diminishing now, which I think can be—it’s a very positive thing, going forward. And, again, in the long term, it’s, again, too early to talk about that, but, obviously, those are discussions I will be having with NRW. Unwaith eto, yr effaith ar yr amgylchedd: rydym yn gobeithio’n fawr iawn na fydd yn cyrraedd Afon Tywi ac, fel y dywedais, mae’r olew sy'n cael ei gasglu yn lleihau erbyn hyn, ac rwy’n credu y gall hynny fod—mae’n rhywbeth cadarnhaol iawn, wrth i ni symud ymlaen. Ac, unwaith eto, yn y tymor hir, mae'n rhy gynnar i sôn am hynny, ond, yn amlwg, mae’r rheiny yn drafodaethau y byddaf yn eu cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.
18:43 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Fe ddaw hynny â’n trafodion ni am heddiw i ben. I thank the Cabinet Secretary. That brings today’s proceedings to a close.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:43. The meeting ended at 18:43.
Back to List View this page with hyperlinks

Partners & Help