By continuing to use our site, you are agreeing for us to set a small number of cookies. Cookie policy

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Back to list View this page with hyperlinks
Cofnod y Trafodion The Record of Proceedings
04/04/2016
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair. The Assembly met at 13:30 with the Presiding Officer (Dame Rosemary Butler) in the Chair.
1. Statement on Tata Steel 1. Datganiad ar Tata Steel
13:30 - Y Llywydd / The Presiding Officer
The National Assembly for Wales is now in session. In accordance with Standing Order 12.3, at the request of the First Minister, I have summoned the Assembly as a matter of urgent public importance for a statement on Tata Steel and I call on the First Minister to make the statement. Carwyn Jones. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.3, ar gais y Prif Weinidog, rwyf wedi galw'r Cynulliad fel mater o bwysigrwydd cyhoeddus brys ar gyfer datganiad ar Tata Steel a galwaf ar y Prif Weinidog i wneud y datganiad. Carwyn Jones.
13:30 - Carwyn Jones
Thank you, Llywydd. Can I thank you for recalling the Assembly at an important time in our economic and social history? Diolch i chi, Lywydd. A gaf i ddiolch i chi am alw'r Cynulliad yn ôl ar adeg bwysig yn ein hanes economaidd a chymdeithasol?
Llywydd, I believe that there is a future for steel making in Wales and, working with others, the Welsh Government is doing everything we can to secure that future. Port Talbot, Llanwern, Shotton and Trostre have been producing high-quality steel for years. Whole communities have grown up around those works and the livelihoods of thousands of families depend on decisions being taken now. Those families and those communities are the first concern of this Government, now and in the future. Lywydd, rwy’n credu bod dyfodol i gynhyrchu dur yng Nghymru a, gan weithio gydag eraill, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau’r dyfodol hwnnw. Mae Port Talbot, Llanwern, Shotton a Throstre wedi bod yn cynhyrchu dur o ansawdd uchel ers blynyddoedd. Mae cymunedau cyfan wedi tyfu i fyny o gwmpas y gweithfeydd hynny ac mae bywoliaeth miloedd o deuluoedd yn dibynnu ar benderfyniadau sy'n cael eu gwneud nawr. Y teuluoedd hynny a'r cymunedau hynny yw blaenoriaeth gyntaf y Llywodraeth hon, nawr ac yn y dyfodol.
Llywydd, I have one simple message for the people of Wales and the UK Government. These plants cannot close. Welsh steel—British steel—cannot be allowed to die. These plants are vital to the future of the United Kingdom’s interests. Britain cannot face a twenty-first century where we are dependent exclusively on imported steel. We need capacity to make our own steel and to build our own future. Lywydd, mae gennyf un neges syml i bobl Cymru a Llywodraeth y DU. Ni chaiff y gweithfeydd hyn gau. Ni ellir caniatáu i ddur Cymru—dur Prydain—farw. Mae'r gweithfeydd hyn yn hollbwysig i ddyfodol buddiannau’r Deyrnas Unedig. Ni all Prydain wynebu unfed ganrif ar hugain lle’r ydym yn dibynnu’n gyfan gwbl ar ddur a fewnforir. Mae angen y gallu arnom i wneud ein dur ein hunain ac i adeiladu ein dyfodol ein hunain.
Tata’s decision to put their plants up for sale was deeply disappointing. The board rejected a turnaround plan presented to them by their European management. I believe that Tata’s loyal and efficient workforce deserved the chance to implement that plan and make it work. The plants are well managed and the workforce has done everything asked of them, and more. The current situation has been created by distorted conditions in the global steel market, and not by any inefficiency on the part of the workforce. Roedd penderfyniad Tata i roi eu gweithfeydd ar werth yn siomedig iawn. Gwrthododd y bwrdd gynllun gwrthdroad a gyflwynwyd iddyn nhw gan eu rheolwyr yn Ewrop. Credaf fod gweithlu teyrngar ac effeithlon Tata yn haeddu'r cyfle i weithredu'r cynllun hwnnw a gwneud iddo weithio. Mae'r gweithfeydd yn cael eu rheoli'n dda ac mae'r gweithlu wedi gwneud popeth a ofynnwyd ganddynt, a mwy. Mae'r sefyllfa bresennol wedi cael ei chreu gan amodau gwyrgam yn y farchnad ddur fyd-eang, ac nid gan unrhyw aneffeithlonrwydd ar ran y gweithlu.
Llywydd, I have to say that I’m disappointed that the UK Government has failed to tackle the underlying difficulties in UK steel production in a systematic way. We’ve stood alongside the steel industry for years complaining about high energy costs and steel dumping. UK Government action thus far has been slow and inadequate. It’s clear that they’ve not driven a hard enough bargain at EU level to protect our products from the effects of market-distorting steel dumping. Instead, we discovered at the weekend that it’s not the European Union holding the UK back, but the other way round—the UK Government has been holding back the European Union. Lywydd, mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n siomedig bod Llywodraeth y DU wedi methu â mynd i'r afael â'r anawsterau sylfaenol o ran cynhyrchu dur yn y DU mewn ffordd systematig. Rydym ni wedi sefyll ochr yn ochr â'r diwydiant dur ers blynyddoedd yn achwyn am gostau ynni uchel a dympio dur. Mae camau Llywodraeth y DU hyd yn hyn wedi bod yn araf ac yn annigonol. Mae'n eglur nad yw hi wedi mynnu bargen ddigon cryf ar lefel yr UE i ddiogelu ein cynhyrchion rhag effeithiau dympio dur sy’n ystumio'r farchnad. Yn hytrach, fe wnaethom ddarganfod ar y penwythnos nad yr Undeb Ewropeaidd sy’n dal y DU yn ôl, ond i’r gwrthwyneb—mae Llywodraeth y DU wedi bod yn dal yr Undeb Ewropeaidd yn ôl.
We must deal with what’s in front of us. The Welsh Government is working closely and tirelessly with Tata and the UK Government to do everything we can to secure a viable and sustainable future. We are in close touch, too, with the unions, who are playing a very constructive role. Mae'n rhaid i ni ymdrin â'r hyn sydd o’n blaenau. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio'n agos ac yn ddiflino gyda Tata a Llywodraeth y DU i wneud popeth y gallwn i sicrhau dyfodol hyfyw a chynaliadwy. Rydym ni mewn cysylltiad agos, hefyd, gyda'r undebau, sy'n cyflawni swyddogaeth adeiladol iawn.
Llywydd, three things must happen to secure the future of the plants: firstly, if a buyer cannot be found within the sales period, the UK Government must take the plants into public ownership until a buyer can be found. The Welsh Government is willing to contribute from our resources the money we’ve previously pledged in support of a turnaround. Secondly, the UK Government needs to negotiate a realistic tariff regime at European Union level to mitigate steel dumping. Steel producers in the UK need to operate on a level playing field with the rest of the world. Thirdly, we do need to see a long-term strategy to reduce energy prices and improve energy efficiency for energy-intensive industries in the UK. Without these measures, the underlying problems will re-emerge later and undermine the future of the plants, whoever owns them. What we need, then, is a sustainable plan for the long term. Lywydd, mae’n rhaid i dri pheth ddigwydd i sicrhau dyfodol y gweithfeydd: yn gyntaf, os na ellir dod o hyd i brynwr yn ystod y cyfnod gwerthu, mae’n rhaid i Lywodraeth y DU gymryd y gweithfeydd i berchnogaeth gyhoeddus tan y gellir dod o hyd i brynwr. Mae Llywodraeth Cymru yn barod i gyfrannu o'n hadnoddau yr arian yr ydym ni wedi ei addo yn flaenorol i gefnogi gwrthdroad. Yn ail, mae angen i Lywodraeth y DU gytuno ar drefn tariffau realistig ar lefel yr Undeb Ewropeaidd i liniaru dympio dur. Mae angen i gynhyrchwyr dur yn y DU weithredu ar sail deg mewn cymhariaeth â gweddill y byd. Yn drydydd, mae angen i ni weld strategaeth hirdymor i ostwng prisiau ynni a gwella effeithlonrwydd ynni ar gyfer diwydiannau ynni-ddwys yn y DU. Heb y mesurau hyn, bydd y problemau sylfaenol yn ailymddangos yn ddiweddarach ac yn tanseilio dyfodol y gweithfeydd, pwy bynnag sy'n berchen arnynt. Yr hyn yr ydym ni ei angen, felly, yw cynllun cynaliadwy ar gyfer yr hirdymor.
Llywydd, Tata is preparing a sales prospectus for their operations. They must allow sufficient and realistic time for interested buyers to consider the offer. This should be months, not weeks. As they prepare to withdraw from Wales, Tata must have regard for its legal and moral responsibilities. Tata has duties and obligations to its workforce and steel communities. It is a company with a global reputation for corporate social responsibility and it should not surrender that reputation cheaply. Lywydd, mae Tata yn paratoi prosbectws gwerthu ar gyfer eu gweithrediadau. Mae’n rhaid iddo ganiatáu amser digonol a realistig i brynwyr sydd â diddordeb ystyried y cynnig. Dylai hyn fod yn fisoedd, nid wythnosau. Wrth iddo baratoi i adael Cymru, mae'n rhaid i Tata ystyried ei gyfrifoldebau cyfreithiol a moesol. Mae gan Tata ddyletswyddau a rhwymedigaethau i'w weithlu a’i gymunedau dur. Mae'n gwmni ag enw byd-eang am gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ac ni ddylai ildio’r enw da hwnnw’n rhad.
We owe it to the workforce at the Tata plants to conduct our debate based on honest facts. Any proposed solution must be viable and durable. As I’ve already said, I would strongly support a transfer into UK Government ownership, if necessary, while a buyer is being found. Mae gennym ddyletswydd i'r gweithlu yng ngweithfeydd Tata i gyflwyno ein dadl yn seiliedig ar ffeithiau gonest. Mae’n rhaid i unrhyw ateb a gynigir fod yn ymarferol ac yn gydnerth. Fel yr wyf wedi dweud eisoes, byddwn yn cefnogi'n gryf trosglwyddiad i berchnogaeth Llywodraeth y DU, os oes angen, tra ein bod yn dod o hyd i brynwr.
But on one thing I have to be clear: the Welsh Government simply does not have the resources to own or manage the Tata plants. We do not, and no-one should mislead the workforce into thinking otherwise. But we are working closely with the UK Government and we are prepared to contribute from Welsh Government resources to help secure a long-term solution. Ond mae’n rhaid i mi fod yn eglur ar un peth: nid yw’r adnoddau gan Lywodraeth Cymru i fod yn berchen ar weithfeydd Tata na'u rheoli. Nid ydynt gennym, ac ni ddylai unrhyw un gamarwain y gweithlu i feddwl yn wahanol. Ond rydym ni’n gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ac rydym ni'n barod i gyfrannu o adnoddau Llywodraeth Cymru i helpu i sicrhau ateb hirdymor.
Let me move on, Llywydd, to some specific actions. We have a team of officials in London today working on the detail with the Department for Business, Innovation and Skills and others. I spoke to the Prime Minister last week and I’m talking to him again tomorrow. I repeat: we are committed to working with the UK Government to do everything we can to secure the future. There have been some early expressions of interest in Tata’s plants—I’ve spoken to one potential buyer this morning. How we deal with these expressions of interest is the substance of our joint work with the UK Government. Gadewch i mi symud ymlaen, Lywydd, i rai camau penodol. Mae gennym ni dîm o swyddogion yn Llundain heddiw sy’n gweithio ar y manylion gyda'r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau ac eraill. Siaradais â Phrif Weinidog y DU yr wythnos diwethaf a byddaf yn siarad ag ef eto yfory. Dywedaf eto: rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU i wneud popeth y gallwn i sicrhau’r dyfodol. Bu rhai datganiadau cynnar o ddiddordeb yng ngweithfeydd Tata—rwyf wedi siarad ag un darpar brynwr y bore yma. Sut yr ydym ni’n ymdrin â’r datganiadau o ddiddordeb hyn yw sylwedd ein gwaith ar y cyd â Llywodraeth y DU.
In January, we established the Tata taskforce, chaired by the Minister for Economy, Science and Transport, bringing together unions, local authorities and other partners to look at ways of supporting our steel communities. The taskforce met this morning and we have announced that we’ve established the Port Talbot Waterfront enterprise zone and we’ve today announced that it will be chaired by Roger Maggs, a founder of the investment firm Celtic House Venture Partners. I can also announce that we are launching the enterprise zones business rates scheme in Port Talbot Waterfront. The scheme is open to applications from this week until 30 September. It’s geared towards generating growth amongst small and medium-sized enterprises and will provide an additional stimulus in the area. Ym mis Ionawr, sefydlwyd tasglu Tata gennym, o dan gadeiryddiaeth Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, gan ddod ag undebau, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ynghyd i ystyried ffyrdd o gefnogi ein cymunedau dur. Cyfarfu’r tasglu y bore yma ac rydym ni wedi cyhoeddi ein bod wedi sefydlu ardal fenter Glannau Port Talbot ac rydym ni wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn cael ei gadeirio gan Roger Maggs, un o sylfaenwyr y cwmni buddsoddi Celtic House Venture Partners. Gallaf hefyd gyhoeddi ein bod yn lansio'r cynllun ardrethi busnes ardaloedd menter yng Nglannau Port Talbot. Mae'r cynllun yn agored i geisiadau o'r wythnos hon tan 30 Medi. Ei nod yw cynhyrchu twf ymhlith busnesau bach a chanolig eu maint a bydd yn rhoi hwb ychwanegol i’r ardal.
Llywydd, I expect there will be support for our steel communities in every part of this Chamber. As I said at the outset, the workforce, their families and their communities are at the front of our thoughts. But we are driven not just by sentiment. We are not arguing to prop up a dying industry. Wales needs steel. Britain needs steel. Both as First Minister of Wales and a member of the wider British political community, I say that we cannot contemplate a future without a domestic steel production capacity. Steel is vital to our long-term strategic interests, both for our economy and our defence. A United Kingdom without steel making is a United Kingdom that is enfeebled and smaller in the world. Lywydd, rwy’n disgwyl y bydd cefnogaeth i'n cymunedau dur ym mhob rhan o'r Siambr hon. Fel y dywedais ar y cychwyn, y gweithlu, eu teuluoedd a'u cymunedau sydd flaenaf yn ein meddyliau. Ond nid ydym yn seilio hyn ar deimladau yn unig. Nid ydym yn dadlau dros gynnal diwydiant sy’n marw. Mae Cymru angen dur. Mae Prydain angen dur. Fel Prif Weinidog Cymru, ac fel aelod o gymuned wleidyddol ehangach Prydain, rwy’n dweud na allwn ystyried dyfodol heb allu i gynhyrchu dur gartref. Mae dur yn hanfodol i'n buddiannau strategol hirdymor, ar gyfer ein heconomi a'n hamddiffyniad. Mae Teyrnas Unedig heb gynhyrchu dur yn Deyrnas Unedig sy'n wanach ac yn llai yn y byd.
Llywydd, steel production is not just about statistics and the economy, vital though they are: it’s a fundamental part of who we are as a country. So, the clear message that needs to go from this National Assembly today to all our steel communities—Port Talbot, Llanwern, Trostre and Shotton—is that we stand beside you, shoulder to shoulder. [Applause.] Lywydd, nid yw cynhyrchu dur yn ymwneud ag ystadegau a'r economi yn unig, er bod y rheini’n hanfodol: mae'n rhan sylfaenol o bwy yr ydym ni fel gwlad. Felly, y neges eglur y mae angen i’r Cynulliad Cenedlaethol hwn ei gyfleu heddiw i'n holl gymunedau dur—Port Talbot, Llanwern, Trostre a Shotton—yw ein bod yn sefyll gyda chi, ysgwydd wrth ysgwydd. [Cymeradwyaeth.]
13:38 - Y Llywydd / The Presiding Officer
I now call on the leader of the opposition, Andrew R.T. Davies. Galwaf nawr ar arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
13:38 - Andrew R.T. Davies
Thank you, Presiding Officer, and thank you, First Minister, for your statement this afternoon. Thank you, Presiding Officer, for agreeing to the recall of the National Assembly for Wales in these extraordinary circumstances, but it’s very, very understandable why. We stand shoulder to shoulder with the steel communities the length and breadth of Wales, but, indeed, the length and breadth of the United Kingdom. It is vital that we maintain the steel-producing capacity of this country and we maintain capacity at Port Talbot, Trostre, Llanwern and Shotton, because, without steel, as you quite rightly pointed out, First Minister, this country will become enfeebled, and it is vital that, economically, we keep that domestic capacity. Diolch i chi, Lywydd, a diolch i chithau, Brif Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Diolch i chi, Lywydd, am gytuno i alw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ôl o dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, ond mae'n gwbl ddealladwy pam. Rydym ni’n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r cymunedau dur ar hyd a lled Cymru, ond, yn wir, ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Mae'n hanfodol ein bod yn cynnal gallu cynhyrchu dur y wlad hon a chynnal y gallu ym Mhort Talbot, Trostre, Llanwern a Shotton, oherwydd, heb ddur, fel y dywedasoch yn gwbl gywir, Brif Weinidog, bydd y wlad hon yn wanach, ac mae'n hanfodol, yn economaidd, ein bod yn cadw’r gallu domestig hwnnw.
However, we do understand that there are international whirlwinds around the steel industry that do also need to be faced and challenged, and that is why it is so important to work Government to Government, institution to institution, working with the European Union as well to make sure that the European market does have the tariffs put in place that are required to have a level playing field. Tariffs have been introduced recently that have helped certain sectors of the steel market, but it is vital that discussion continues to make sure that that level playing field is introduced into the UK and, importantly, the Welsh steel market. Fodd bynnag, rydym yn deall bod corwyntoedd rhyngwladol o gwmpas y diwydiant dur y mae angen eu hwynebu a’u herio hefyd, a dyna pam mae hi mor bwysig gweithio Llywodraeth i Lywodraeth, sefydliad i sefydliad, gan weithio gyda'r Undeb Ewropeaidd yn ogystal â gwneud yn siŵr bod gan y farchnad Ewropeaidd y tariffau ar waith sy’n ofynnol er mwyn cael chwarae teg i bawb. Cyflwynwyd tariffau yn ddiweddar sydd wedi helpu rhai sectorau o'r farchnad dur, ond mae'n hanfodol bod y drafodaeth yn parhau i wneud yn siŵr bod y chwarae teg hwnnw’n cael ei gyflwyno i farchnad ddur y DU ac, yn bwysig, marchnad ddur Cymru.
I would pay tribute to the workers at all the Tata sites, but, indeed, all the sites that produce steel here in Wales, because we have Celsa here in Cardiff and Liberty steel in Newport as well, who have also faced their own economic challenges and, obviously, will be looking on with interest to see what support is offered to the entire steel industry. But, importantly, the current issue is how we succeed in getting a successful sale of Tata’s assets. Byddwn yn talu teyrnged i'r gweithwyr ar holl safleoedd Tata, ond, yn wir, yr holl safleoedd sy'n cynhyrchu dur yma yng Nghymru, gan fod gennym ni Celsa yma yng Nghaerdydd a dur Liberty yng Nghasnewydd hefyd, sydd hefyd wedi wynebu eu heriau economaidd eu hunain ac a fydd, yn amlwg, yn edrych gyda diddordeb i weld pa gefnogaeth sy’n cael ei chynnig i'r diwydiant dur cyfan. Ond, yn bwysig, y mater ar hyn o bryd yw sut yr ydym ni’n llwyddo i sicrhau bod asedau Tata’n cael eu gwerthu’n llwyddiannus.
You, First Minister, have, on many occasions through the fourth Assembly, emphasised the working relationship that the Welsh Government has had with Tata Steel, and indeed you have been out to visit the Tata headquarters on numerous occasions. So, it is important, and my first question to you is: could you explain how that working relationship will continue with the UK Government and Tata Steel, importantly, to secure the time and the space to allow potential purchasers to come forward and succeed in those negotiations to secure the futures of the plants, not just in Port Talbot but at Trostre, at Llanwern and Shotton as well? Because it is the whole package that we need to be looking at here, because one job lost is one job too many lost in any one of those communities. Importantly, once we’ve established that working relationship, we need to understand the timescale in which a sale might be coming forward. Obviously, there will be the expressions of interest period, which, as I understand it, is a three to four week period, and Tata Steel are bringing forward their prospectus as we speak this week, I understand. What discussions have you had with Tata Steel as to their flexibility around that expressions of interest period that will be so critical in giving confidence to future purchasers of any part or all of the steelwork operations here in Wales? Rydych chi, Brif Weinidog, ar sawl achlysur yn ystod y pedwerydd Cynulliad, wedi pwysleisio’r berthynas waith a fu gan Lywodraeth Cymru â Tata Steel, ac yn wir rydych chi wedi bod allan i ymweld â phencadlys Tata ar sawl achlysur. Felly, mae'n bwysig, a fy nghwestiwn cyntaf i chi yw: a allech chi esbonio sut y bydd y berthynas waith honno’n parhau gyda Llywodraeth y DU a Tata Steel, yn bwysig, i sicrhau'r amser a'r lle i ganiatáu i ddarpar brynwyr ddod ymlaen a llwyddo yn y trafodaethau hynny i sicrhau dyfodol y gweithfeydd, nid yn unig ym Mhort Talbot, ond yn Nhrostre, yn Llanwern ac yn Shotton hefyd? Oherwydd mae angen i ni fod yn edrych ar y pecyn cyfan yn y fan yma, gan fod un swydd a gollir yn un swydd a gollir yn ormod yn unrhyw un o'r cymunedau hynny. Yn bwysig, unwaith y byddwn wedi sefydlu’r berthynas waith honno, mae angen i ni ddeall yr amserlen y gallai’r gweithfeydd gael ei gwerthu’n unol â hi. Yn amlwg, bydd y cyfnod datganiadau o ddiddordeb, sydd, yn ôl a ddeallaf, yn gyfnod tair i bedair wythnos, ac mae Tata Steel yn cyflwyno ei brosbectws wrth i ni siarad yr wythnos hon, rwy’n deall. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Tata Steel ar eu hyblygrwydd o ran y cyfnod datganiadau o ddiddordeb hwnnw a fydd mor hanfodol o ran rhoi hyder i ddarpar brynwyr unrhyw ran o’r gweithrediadau gwaith dur yma yng Nghymru, neu’r cwbl?
Today, you have talked extensively about what the Welsh Government could put on the table, or you’ve said about the Welsh Government putting support on the table, albeit within the means that you have available to you as a devolved administration, and that’s why it will be so vitally important to work collaboratively with the UK Government, who will, in this particular instance, be able to put so much more onto that table. When you hear the comments from the Secretary of State yesterday, and the entire Government over the weekend, we can be confident that substantial resources will be made available. But could you make clear to the Assembly this afternoon what exactly the Welsh Government will be making available in a meaningful way so that we can understand the offer that is available to prospective purchasers? Heddiw, rydych chi wedi siarad yn helaeth am yr hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei roi ar y bwrdd, neu rydych chi wedi sôn am Lywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth ar y bwrdd, er bod hynny’n unol â’r modd sydd ar gael i chi fel gweinyddiaeth ddatganoledig, a dyna pam y bydd mor hanfodol bwysig gweithio ar y cyd â Llywodraeth y DU, a fydd, yn yr achos penodol hwn, yn gallu rhoi cymaint mwy ar y bwrdd hwnnw. Pan eich bod chi’n clywed y sylwadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol ddoe, a'r Llywodraeth gyfan dros y penwythnos, gallwn fod yn hyderus y bydd adnoddau sylweddol ar gael. Ond a allech chi ei gwneud yn eglur i'r Cynulliad y prynhawn yma beth yn union y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi ar gael mewn ffordd ystyrlon fel y gallwn ddeall y cynnig sydd ar gael i ddarpar brynwyr?
In your statement this afternoon, First Minister, you’ve touched on business rates. This is an area that has been long called for from Tata Steel—progress to be made in this particular area. Regrettably, progress was not made in the given time frame that could have facilitated some support leading up to this decision. You’ve made the decision today, obviously, around enterprise zone status but, specifically, you’ve mentioned that it would affect small and medium-sized businesses. Obviously, this particular package, I presume, will not be of much significant interest to Tata or the successful purchaser. Are you able to offer any comfort around business rates in a wider context that the Welsh Government is considering at the moment that could be part of the offer that you would be putting on the table to assist prospective purchasers of any of the Tata Steel provision in Wales? Yn eich datganiad y prynhawn yma, Brif Weinidog, rydych chi wedi sôn am ardrethi busnes. Mae hwn yn faes y mae Tata Steel wedi galw amdano ers amser maith—i gynnydd gael ei wneud yn y maes penodol hwn. Yn anffodus, ni wnaed cynnydd yn unol â’r amserlen a roddwyd a allai fod wedi hwyluso rhywfaint o gefnogaeth yn arwain at y penderfyniad hwn. Rydych chi wedi gwneud y penderfyniad heddiw, yn amlwg, am statws ardal fenter ond, yn benodol, rydych chi wedi crybwyll y byddai'n effeithio ar fusnesau bach a chanolig eu maint. Yn amlwg, rwy’n tybio na fydd y pecyn penodol hwn o fawr o ddiddordeb o bwys i Tata na'r prynwr llwyddiannus. A allwch chi gynnig unrhyw gysur o ran ardrethi busnes mewn cyd-destun ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried ar hyn o bryd a allai fod yn rhan o'r cynnig y byddech chi’n ei roi ar y bwrdd i gynorthwyo darpar brynwyr unrhyw un o'r darpariaethau Tata Steel yng Nghymru?
Public procurement is a big area that could always be ramped up and, obviously, major infrastructure projects. I heard you talking at length this morning on the radio, First Minister, around the Swansea tidal lagoon concept. I—you will know—and the Welsh Conservatives are fully supportive of the tidal lagoon concept, and we very much welcome the UK Government’s movement on this, and hopefully progress will be made. Obviously, as First Minister, one of the big issues that could be brought forward by a Welsh Government is the M4 relief road, and that could also stimulate demand substantially for Welsh steel. You obviously have had the ability to do that over the last five years. For whatever reason, that hasn’t come forward. Are you able to give us some encouragement as to what specific measures the Welsh Government is taking around public procurement to assist the steel industry here in Wales? Mae caffael cyhoeddus yn faes mawr y gellid ei gynyddu bob amser ac, yn amlwg, prosiectau seilwaith mawr. Fe’ch clywais yn siarad yn faith y bore yma ar y radio, Brif Weinidog, am gysyniad morlyn llanw Abertawe. Rwyf i—byddwch yn gwybod—ac mae Ceidwadwyr Cymru’n gwbl gefnogol o gysyniad y morlyn llanw, ac rydym ni’n croesawu’n fawr camau Llywodraeth y DU yn hyn o beth, ac yn gobeithio y bydd cynnydd yn cael ei wneud. Yn amlwg, fel Prif Weinidog, un o'r prif faterion y gallai Llywodraeth Cymru ei ddwyn ymlaen yw ffordd liniaru'r M4, a gallai hynny hefyd ysgogi galw am ddur Cymru yn sylweddol. Mae'n amlwg y bu’r gallu gennych chi i wneud hynny dros y pum mlynedd diwethaf. Am ba reswm bynnag, nid yw hynny wedi digwydd. A allwch chi roi rhywfaint o anogaeth i ni ynghylch pa fesurau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o ran caffael cyhoeddus i gynorthwyo'r diwydiant dur yma yng Nghymru?
I want to reiterate again, from the Welsh Conservative benches, and I believe passionately from the efforts that the UK Government are undertaking, that steel is absolutely vital to our long-term economic and national security. We must have a domestic steel-making capacity in the United Kingdom and in Wales. I will work tirelessly with any politician from any political party in any institution to make sure that we stand up for the communities that are affected by this announcement, we make sure that a successful outcome is concluded in the negotiations, and that, long into the future, quality Welsh steel is on the international and domestic markets so that we can proudly carry on the great heritage that this country has had in steel making over many, many decades. Hoffwn ailadrodd eto, o feinciau Ceidwadwyr Cymru, ac rwy’n credu’n angerddol o’r ymdrechion y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud, bod dur yn gwbl hanfodol i'n diogelwch economaidd a chenedlaethol yn yr hirdymor. Mae'n rhaid i ni fod â gallu i wneud dur yn ddomestig yn y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru. Byddaf yn gweithio'n ddiflino gydag unrhyw wleidydd o unrhyw blaid wleidyddol mewn unrhyw sefydliad i wneud yn siŵr ein bod yn sefyll dros y cymunedau sy'n cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad hwn, ein bod yn gwneud yn siŵr bod canlyniad llwyddiannus ar ddiwedd y trafodaethau, ac, ymhell i'r dyfodol, bod dur Cymru o ansawdd ar y marchnadoedd rhyngwladol a domestig fel y gallwn barhau’n falch y dreftadaeth wych sydd gan y wlad hon o ran cynhyrchu dur dros lawer iawn o ddegawdau.
13:44 - Carwyn Jones
Could I thank the leader of the opposition for his comments and the tone that he adopted? He has questions there, of course, which I’ll look to answer. The relationship with Tata has been good over the last few years. When I went to Mumbai they announced an investment of £400 million. They delivered on that. It’s right to say that the situation at the heavy end, in Port Talbot particularly, is something that has happened fairly recently. Just over a year ago, Port Talbot was beginning to break even, but the world steel market has taken a turn for the worse, as we know, and that has affected Port Talbot particularly badly. But we’re not talking about a situation here where Port Talbot will always be in a situation where it loses money. It’s a question of bridging the gap between where it was and where it can be in the future, which is as a successful and prosperous steel-making enterprise. A gaf i ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am ei sylwadau a’r dôn iddo ei mabwysiadu? Mae ganddo gwestiynau yn y fan yna, wrth gwrs, y byddaf yn ceisio eu hateb. Mae'r berthynas gyda Tata wedi bod yn dda dros y blynyddoedd diwethaf. Pan es i i Mumbai, cyhoeddwyd buddsoddiad o £400 ganddynt. Cyflawnwyd hynny ganddynt. Mae'n iawn dweud bod y sefyllfa ar y pen trwm, ym Mhort Talbot yn arbennig, yn rhywbeth sydd wedi digwydd yn gymharol ddiweddar. Ychydig dros flwyddyn yn ôl, roedd Port Talbot yn dechrau mantoli’r cyfrifon, ond mae'r farchnad ddur fyd-eang wedi newid er gwaeth, fel y gwyddom, ac mae hynny wedi effeithio’n arbennig o wael ar Bort Talbot. Ond nid ydym yn sôn am sefyllfa yma ble bydd Port Talbot bob amser mewn sefyllfa lle mae'n colli arian. Mae'n gwestiwn o bontio'r bwlch rhwng lle yr oedd a lle y gall fod yn y dyfodol, sef menter gwneud dur lwyddiannus a llewyrchus.
I’ve had numerous conversations with Tata over the last few months, and particularly over the last week or two. I can say that Tata understand the point that I made to them, that they must look at their plants in the UK, and indeed in Wales, as a package—that selling off different areas is not something that we would be supportive of—and, in fact, if you look, for example, at Shotton, which is a plant that, historically, does make money, Shotton is reliant on Port Talbot to source its feedstock, and, if Port Talbot wasn’t there, it would take at least six months, Shotton have told me, to actually source steel to continue its operations. That’s six months without production, and that means a loss of customers. So, even though, on paper, there are some plants that are doing better than others, in fact, they’re quite interdependent. Rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau gyda Tata dros y misoedd diwethaf, ac yn enwedig yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf. Gallaf ddweud bod Tata yn deall y pwynt a wneuthum iddynt, bod yn rhaid iddyn nhw edrych ar eu gweithfeydd yn y DU, ac yn wir yng Nghymru, fel pecyn—nad yw gwerthu gwahanol ardaloedd yn rhywbeth y byddem yn ei gefnogi—ac, a dweud y gwir, os edrychwch chi, er enghraifft, ar Shotton, sy’n waith sydd, yn hanesyddol, yn gwneud arian, mae Shotton yn dibynnu ar Bort Talbot i gael gafael ar ei borthiant, a phe na byddai Port Talbot yno, byddai'n cymryd chwe mis o leiaf, mae Shotton wedi dweud wrthyf, i gael gafael ar ddur i barhau i weithredu. Mae hynny’n chwe mis heb gynhyrchu, ac mae hynny'n golygu colli cwsmeriaid. Felly, er, ar bapur, bod rhai gweithfeydd sy’n gwneud yn well nag eraill, mewn gwirionedd, maen nhw i gyd yn eithaf dibynnol ar ei gilydd.
As part of the conversation I had last week with Tata as well I wanted to explore with them the timescale here. What they’ve said to me is that the timescale is three to four weeks, but, within that time, they would want to see buyers coming forward and making an expression of interest. They don’t expect things to be concluded within three to four weeks. It would take months for there to be a conclusion and a sale. So, what’s vital, of course, is that buyers come forward in the next few weeks. That, of course, then will extend the time frame, Tata have told me, within which a sale can be completed. Yn rhan o'r sgwrs a gefais yr wythnos diwethaf gyda Tata hefyd, roeddwn i eisiau archwilio gyda nhw yr amserlen yma. Yr hyn y maen nhw wedi ei ddweud wrthyf yw mai tair i bedair wythnos yw’r amserlen, ond, yn ystod y cyfnod hwnnw, bydden nhw eisiau gweld prynwyr yn dod yn eu blaenau a gwneud datganiad o ddiddordeb. Nid ydynt yn disgwyl i bethau gael eu cwblhau o fewn tair i bedair wythnos. Byddai'n cymryd misoedd i gloi pethau a gwerthu. Felly, yr hyn sy’n hanfodol, wrth gwrs, yw bod prynwyr yn dod ymlaen yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd hynny wedyn, wrth gwrs, yn ymestyn yr amserlen, mae Tata wedi dweud wrthyf, y gellir gwerthu yn unol â hi.
There is the issue, of course, of pensions, which the UK Government will need to address. I think it’s right to say, and Members wouldn’t be surprised at me saying this, that, as with so many pension schemes, there is a liability, and, as part of any sale process, there will need to be a solution for the pension liability that exists around Tata UK at the moment. That is something the UK Government will need to consider. Ceir y mater, wrth gwrs, o bensiynau, y bydd angen i Lywodraeth y DU roi sylw iddo. Rwy'n meddwl ei bod yn iawn i ddweud, ac ni fyddai'r Aelodau yn synnu fy nghlywed i’n dweud hyn bod rhwymedigaeth, yn yr un modd â chymaint o gynlluniau pensiwn, ac, yn rhan o unrhyw broses werthu, bydd angen ateb ar gyfer y rhwymedigaeth pensiwn sy'n bodoli o gwmpas Tata UK ar hyn o bryd. Mae hynny'n rhywbeth y bydd angen i Lywodraeth y DU ei ystyried.
The leader of the opposition raised the issue of business rates, and, indeed, what that means in terms of the package of support. I think it’s important, first of all, to inform Members of what the situation is with business rates. Business rates targeted at particular sectors are considered to be selective state aid. They can only be awarded in line with de minimus requirements. That means that the amount of relief that can be awarded in terms of business rates is €200,000 over a three-year period. Bear in mind, of course, that the rates bill is £15 million. As you can see, it’s a very small amount of money that we could offer in terms of business rate assistance. Cododd arweinydd yr wrthblaid y mater o ardrethi busnes, ac, yn wir, yr hyn y mae hynny’n ei olygu o ran y pecyn cymorth. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, yn gyntaf oll, hysbysu’r Aelodau am y sefyllfa o ran ardrethi busnes. Ystyrir bod ardrethi busnes sydd wedi’u targedu at sectorau penodol yn gymorth gwladwriaethol detholus. Ceir ond eu dyfarnu yn unol â gofynion de minimus. Mae hynny'n golygu mai €200,000 yw cyfanswm y rhyddhad y gellir ei ddyfarnu o ran ardrethi busnes dros gyfnod o dair blynedd. Cofiwch, wrth gwrs, mai £15 miliwn yw’r bil ardrethi. Fel y gwelwch, mae'n swm bach iawn o arian y gallem ni ei gynnig o ran cymorth ardrethi busnes.
We’ve also looked at ways of removing certain classes of plant and machinery—we’re working with the Valuation Office Agency on this—from all ratings assessments. There is no quick or easy way to do this that would avoid state aid and appeals from others within the sector, because—. Historically, there’s not a huge amount of data available. But we do estimate that, with regard to Tata, about £4.5 million to £6 million of their rates bill per annum is made up of plant and machinery. What we did instead was to put on the table a package worth £60 million, so 10 times the amount of money that would be made available through any kind of support on plant and machinery, and four times the size of anything that would be made available in terms of the size of their business rate bill. That would be made up of a £30 million commercial loan to convert the CAPL line to a galvanising line, another £30 million for environmental improvements for various projects, and up to €2 million for skills and training. That’s what we’ve put on the table. That remains on the table and we will examine, of course, what we may need to do in the future in order to preserve these jobs in Wales. Rydym ni hefyd wedi edrych ar ffyrdd o dynnu rhai dosbarthiadau o offer a pheiriannau—rydym ni’n gweithio gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar hyn—o bob asesiad ardrethi. Nid oes unrhyw ffordd gyflym na rhwydd o wneud hyn a fyddai'n osgoi cymorth gwladwriaethol ac apeliadau gan eraill yn y sector, oherwydd—. Yn hanesyddol, nid oes llawer iawn o ddata ar gael. Ond rydym ni’n amcangyfrif, o ran Tata, bod tua £4.5 miliwn i £6 miliwn o'i fil ardrethi bob blwyddyn yn cynnwys offer a pheiriannau. Yr hyn a wnaethom yn hytrach oedd cynnig pecyn gwerth £60 miliwn, felly 10 gwaith y swm o arian a fyddai wedi bod ar gael trwy unrhyw fath o gymorth ar gyfer offer a pheiriannau, a phedair gwaith maint unrhyw beth a fyddai'n cael ei roi ar gael o ran maint ei fil ardrethi busnes. Byddai hynny’n cynnwys benthyciad masnachol gwerth £30 miliwn i newid y llinell CAPL yn llinell galfaneiddio, £30 miliwn arall ar gyfer gwelliannau amgylcheddol ar gyfer prosiectau amrywiol, a hyd at €2 filiwn ar gyfer sgiliau a hyfforddiant. Dyna yr ydym ni wedi ei roi ar y bwrdd. Mae hynny’n parhau i fod ar y bwrdd a byddwn yn archwilio, wrth gwrs, yr hyn y gallai fod angen i ni ei wneud yn y dyfodol er mwyn cadw’r swyddi hyn yng Nghymru.
In terms of procurement, it’s fair to say that the Welsh market is not big enough to sustain steel making of itself, although we have seen more and more Welsh businesses be successful in terms of being able to bid successfully for public sector contracts, and 55 per cent of them now are going to Welsh businesses. I heard what he said about the tidal lagoon. We want to see the tidal lagoon go ahead. It’s a hugely important project, it’s on the doorstep of Port Talbot, it has great potential for not just the steelworks but the docks, and it’s got great potential for developing the equipment that would be needed to maintain—and to build that equipment, indeed—in Port Talbot itself, and it would be an enormous boost to steel making if the lagoon was given the go ahead, and also, of course, to see more done in terms of moving ahead with big infrastructure projects, such as the high-speed railway lines that have been mooted so far. O ran caffael, mae'n deg i ddweud nad yw marchnad Cymru yn ddigon mawr i gynnal cynhyrchu dur ynddo'i hun, er ein bod wedi gweld mwy a mwy o fusnesau yng Nghymru yn llwyddo o ran gallu gwneud cais llwyddiannus am gontractau sector cyhoeddus, ac mae 55 y cant ohonynt yn mynd i fusnesau Cymru erbyn hyn. Clywais yr hyn a ddywedodd am y morlyn llanw. Rydym ni eisiau gweld y morlyn llanw yn mynd yn ei flaen. Mae'n brosiect hynod bwysig, mae ar y garreg drws Port Talbot, mae ganddo botensial mawr nid yn unig i’r gwaith dur, ond y dociau, ac mae ganddo botensial mawr ar gyfer datblygu’r offer y byddai ei angen i gynnal a chadw—ac adeiladu’r offer hwnnw, yn wir—ym Mhort Talbot ei hun, a byddai'n hwb enfawr i gynhyrchu dur pe byddai’r morlyn yn cael ei gymeradwyo, a hefyd, wrth gwrs, i weld mwy’n cael ei wneud o ran symud ymlaen gyda phrosiectau seilwaith mawr, fel y rheilffyrdd cyflym sydd wedi eu crybwyll hyd yn hyn.
The issue of the M4—yes, it is true to say that an M4 relief road would be helpful, but, as he knows, the money to build any relief road for the M4 has to come from money that will need to be borrowed. We don’t have those powers yet. We’ve never said that we would be able to able to afford an M4 relief road around Brynglas from our usual capital budget. It would have to be through borrowed money, and that money isn’t available, certainly until those powers come to us. Mater yr M4—ydy, mae'n wir i ddweud y byddai ffordd liniaru i'r M4 yn ddefnyddiol, ond, fel y mae’n gwybod, mae’n rhaid i’r arian ar gyfer adeiladu unrhyw ffordd liniaru i’r M4 ddod o arian y bydd angen ei fenthyg. Nid yw’r pwerau hynny gennym ni eto. Nid ydym erioed wedi dweud y byddem ni’n gallu fforddio ffordd liniaru i'r M4 o gwmpas Brynglas o'n cyllideb gyfalaf arferol. Byddai'n rhaid iddo fod trwy arian a fenthycwyd, ac nid yw’r arian hwnnw ar gael, yn sicr tan y byddwn yn cael y pwerau hynny.
As I said, I’m grateful for the way in which he made his comments. I look forward to the meeting with the Prime Minister tomorrow. I know the Prime Minister and myself are looking at the same objective, and that is to make sure that we continue to have a steel industry in the UK. Of course, I am willing to work with him, and any others of course, to ensure that that remains the case. Fel y dywedais, rwy'n ddiolchgar am y modd y gwnaeth ei sylwadau. Edrychaf ymlaen at gyfarfod â Phrif Weinidog y DU yfory. Gwn fod Prif Weinidog y DU a minnau yn edrych ar yr un amcan, sef sicrhau ein bod yn parhau i fod â diwydiant dur yn y DU. Wrth gwrs, rwy’n barod i weithio gydag ef, ac unrhyw un arall wrth gwrs, i sicrhau bod hynny'n dal i fod yn wir.
13:50 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Now, I have the leader of Plaid Cymru, Leanne Wood. Nawr, mae gen i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
13:50 - Leanne Wood
Diolch, Lywydd. Thank you for your statement, First Minister. From the outset, I want to repeat for Members here today, and for people out there in the wider country—and especially for those communities whose future hangs in the balance—that Plaid Cymru is committed to working for an outcome where steel remains a core industry in this country. It’s always a temptation, especially at election time, to overplay partisan points and to lose sight of what really matters: people, their livelihoods, communities, their futures. That said, there are serious questions for the Welsh Government to answer, and we are here today to scrutinise their actions on this. Diolch, Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Brif Weinidog. O'r cychwyn cyntaf, rwyf eisiau ailadrodd i’r Aelodau yma heddiw, ac i bobl allan yna yn y wlad ehangach—ac yn enwedig i’r cymunedau hynny y mae eu dyfodol yn y fantol—fod Plaid Cymru wedi ymrwymo i weithio am ganlyniad lle mae dur yn parhau i fod yn ddiwydiant craidd yn y wlad hon. Mae bob amser yn demtasiwn, yn enwedig ar adeg etholiad, i roi gormod o sylw i bwyntiau pleidiol a cholli golwg ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig: pobl, eu bywoliaeth, cymunedau, eu dyfodol. Wedi dweud hynny, ceir cwestiynau difrifol i Lywodraeth Cymru eu hateb, ac rydym ni yma heddiw i graffu ar eu camau yn hyn o beth.
The last time we faced an industrial crisis of this nature, there was no devolution. A Tory Government in Westminster freely allowed the deindustrialisation of so many of our communities back then, and they are now prepared for the sequel. This time, we have an opportunity—you, First Minister, have an opportunity—to make devolution count, and to show the leadership that is needed in this country right now. Plaid Cymru’s considered and constructive position is that Government intervention is crucial in order to ride out the current challenge. We’ve been arguing that point since last January, and we have lost precious time since then. Solutions could include a joint venture between Government and the private sector; it could include temporary nationalisation; it could include a permanent public stake. Our view is that nothing should be off the table; nothing at all. Y tro diwethaf i ni wynebu argyfwng diwydiannol o'r math hwn, nid oedd datganoli yn bod. Caniataodd Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan i gynifer o'n cymunedau gael eu dad-ddiwydiannu bryd hynny, ac maen nhw’n barod i wneud hynny eto nawr. Y tro hwn, mae gennym ni gyfle—mae gennych chi, Brif Weinidog, gyfle—i wneud i ddatganoli gyfrif, ac i ddangos yr arweinyddiaeth sydd ei hangen yn y wlad hon nawr. Safbwynt Plaid Cymru, a ystyriwyd ac sy’n adeiladol, yw bod ymyrraeth y Llywodraeth yn hanfodol er mwyn ymateb i’r her bresennol. Rydym wedi bod yn dadlau’r pwynt hwnnw ers mis Ionawr diwethaf, ac rydym ni wedi colli amser gwerthfawr ers hynny. Gallai’r atebion gynnwys menter ar y cyd rhwng Llywodraeth a'r sector preifat; gallai gynnwys gwladoli dros dro; gallai gynnwys cyfran gyhoeddus barhaol. Ein barn ni yw na ddylai unrhyw beth fod oddi ar y bwrdd; dim byd o gwbl.
I have a series of questions for you now, First Minister, and I’d be grateful if you could provide comprehensive answers for these questions. I’d like to begin by asking you about your Government’s taskforce on steel. Did you ask the taskforce to draw up contingency plans in case Tata announced a complete sell-off, as Plaid Cymru demanded in January? Will you be widening the taskforce’s remit and membership now, so that it has the requisite skills and expertise to face the current crisis? This morning, we heard that the Welsh Government hadn’t seen a copy of the McKinsey plan. Can you tell us what efforts you’ve made to get hold of a copy of that plan? Does the UK Government have a copy of that plan? Do the trade unions have a copy of that plan? And, if you can’t get a copy, will you now commission your own rescue plan for steel? Mae gen i gyfres o gwestiynau i chi nawr, Brif Weinidog, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi roi atebion cynhwysfawr i’r cwestiynau hyn. Hoffwn ddechrau trwy ofyn i chi am dasglu eich Llywodraeth ar ddur. A wnaethoch chi ofyn i'r tasglu lunio cynlluniau wrth gefn rhag ofn i Tata gyhoeddi y byddai’n gwerthu’r cwbl, fel y galwodd Plaid Cymru amdano ym mis Ionawr? A fyddwch chi’n ehangu cylch gwaith ac aelodaeth y tasglu nawr, fel ei fod yn meddu ar y sgiliau a'r arbenigedd angenrheidiol i wynebu'r argyfwng presennol? Y bore yma, clywsom nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gweld copi o gynllun McKinsey. A allwch chi ddweud wrthym ni pa ymdrechion yr ydych chi wedi eu gwneud i gael gafael ar gopi o'r cynllun hwnnw? A oes gan Lywodraeth y DU gopi o'r cynllun hwnnw? A oes gan yr undebau llafur gopi o'r cynllun hwnnw? Ac, os na allwch chi gael copi, a wnewch chi gomisiynu eich cynllun achub eich hun ar gyfer dur nawr?
We hear that the UK Government is meeting and discussing with potential buyers. Are you involved in those meetings, alongside UK Government Ministers? Are you conducting your own discussions with potential buyers, or is that being left entirely to UK Ministers? Do you have an assessment of the environmental remediation liability at Port Talbot and the other sites in the country, and do you agree that the costs should be paid as an exit dowry by Tata should they sell the site? Rydym ni’n clywed bod Llywodraeth y DU yn cyfarfod ac yn trafod â darpar brynwyr. A ydych chi'n rhan o’r cyfarfodydd hynny, ochr yn ochr â Gweinidogion Llywodraeth y DU? A ydych chi’n cynnal eich trafodaethau eich hun gyda darpar brynwyr, neu a yw hynny'n cael ei adael i Weinidogion y DU yn gyfan gwbl? A oes gennych chi asesiad o'r rhwymedigaeth adfer amgylcheddol ym Mhort Talbot a safleoedd eraill yn y wlad, ac a ydych chi’n cytuno y dylai'r costau gael eu talu fel gwaddol ymadael gan Tata os byddant yn gwerthu’r safle?
The Welsh Government has already said that it would be prepared to put money on the table to help save the steel industry, and we welcome that. Will you go further today and commit to investing in a public stake if that could help secure the future of this industry? Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud y byddai'n barod i roi arian ar y bwrdd i helpu i achub y diwydiant dur, ac rydym ni’n croesawu hynny. A wnewch chi fynd ymhellach heddiw ac ymrwymo i fuddsoddi mewn cyfran gyhoeddus os gallai hynny helpu i sicrhau dyfodol y diwydiant hwn?
Finally, First Minister, a source in your Government has said that they knew of the likelihood of Tata making an announcement to sell its UK business months ago. Did you know, First Minister? If not, which of your Ministers knew, and, if they did know, why did they not inform you? Yn olaf, Brif Weinidog, mae ffynhonnell yn eich Llywodraeth wedi dweud ei fod yn gwybod am y tebygolrwydd y byddai Tata’n gwneud cyhoeddiad i werthu ei fusnes yn y DU fisoedd yn ôl. A oeddech chi'n gwybod, Brif Weinidog? Os nad oeddech, pa rai o'ch Gweinidogion oedd yn gwybod, ac, os oedden nhw’n gwybod, pam na wnaethant eich hysbysu chi?
There are many other matters to be raised here in this Chamber this afternoon, and my colleagues will raise some of those matters, but, for now, I would be grateful for comprehensive answers to those points. We must all be prepared to do what we can now, to do whatever it takes to keep those furnaces burning in Port Talbot. We owe it to those workers to show leadership on this. So, please, First Minister, don’t rule anything out now. We all agree that we can’t afford to lose this vital industry, so let’s make sure that we don’t. Mae nifer o faterion eraill i'w codi yma yn y Siambr y prynhawn yma, a bydd fy nghydweithwyr yn codi rhai o'r materion hynny, ond, am y tro, byddwn yn ddiolchgar am atebion cynhwysfawr i'r pwyntiau hynny. Mae'n rhaid i ni i gyd fod yn barod i wneud yr hyn y gallwn nawr, i wneud beth bynnag sydd ei angen i gadw’r ffwrneisi hynny’n llosgi ym Mhort Talbot. Mae gennym ddyletswydd i'r gweithwyr hynny i ddangos arweinyddiaeth ar hyn. Felly, os gwelwch yn dda, Brif Weinidog, peidiwch â diystyru unrhyw beth nawr. Rydym ni i gyd yn cytuno na allwn fforddio colli’r diwydiant hanfodol hwn, felly gadewch i ni wneud yn siŵr nad ydym yn gwneud hynny.
13:55 - Carwyn Jones
Could I thank the leader of Plaid Cymru for her comments? There is little she said that I would disagree with. Intervention is indeed crucial. A joint venture is certainly something that needs to be considered. A joint venture certainly needs to be considered. It needs the UK Government’s involvement; there is no way the Welsh Government could get involved in a joint venture, given the sums of money involved, on its own. In terms of a temporary takeover, well, I’ve been saying that for a number of days now, that that has to be an option. Particularly, it needs to be done to ensure that there is more time to find a buyer if that is required. So, the UK Government does need to be ready to take over the steel industry in the UK in order for that space to be created. A gaf i ddiolch i arweinydd Plaid Cymru am ei sylwadau? Ychydig iawn o'r hyn a ddywedodd y byddwn yn anghytuno ag ef. Mae ymyrraeth yn hanfodol, yn wir. Mae menter ar y cyd yn sicr yn rhywbeth y mae angen ei ystyried. Yn sicr mae angen ystyried Menter ar y cyd. Mae angen cyfranogiad Llywodraeth y DU; nid oes unrhyw ffordd y gallai Llywodraeth Cymru gymryd rhan mewn menter ar y cyd, o ystyried y symiau o arian dan sylw, ar ei phen ei hun. O ran cymryd drosodd dros dro, wel, rwyf wedi bod yn dweud hynny ers nifer o ddiwrnodau nawr, bod yn rhaid i hynny fod yn opsiwn. Yn benodol, mae angen ei wneud er mwyn sicrhau bod mwy o amser i ddod o hyd i brynwr os oes angen hynny. Felly, mae angen i Lywodraeth y DU fod yn barod i gymryd y diwydiant dur yn y DU drosodd er mwyn i'r cyfle hwnnw gael ei greu.
In terms of the taskforce, no, the taskforce hasn’t been asked to look at what should be done if the plants in Wales were to close. That’s because our focus has been on making sure that they don’t close. When I met with Tata before Christmas, at that time, they outlined their concerns, but they at no time have said to us that they’re looking to close the plants—never. In fact, that’s obvious by the fact that they haven’t announced closure of the plants; they’ve announced a sale. I made it clear, as did the Community union, to Tata that any suggestion that there would be closure of Port Talbot or any other plant in the future would be wholly unacceptable, and if they were not able to run the plants, they should make sure that those plans were put up for sale, and that, of course, is what happened following the conversations I had last week. O ran y tasglu, naddo, ni ofynnwyd i’r tasglu edrych ar yr hyn y dylid ei wneud pe byddai’r gweithfeydd yng Nghymru yn cau. Mae hynny oherwydd bod ein pwyslais wedi bod ar sicrhau nad ydynt yn cau. Pan gyfarfûm â Tata cyn y Nadolig, amlinellwyd eu pryderon ganddynt ar yr adeg honno, ond nid ydynt wedi dweud wrthym ar unrhyw adeg eu bod yn bwriadu cau'r gweithfeydd—erioed. Yn wir, mae hynny'n amlwg o’r ffaith nad ydynt wedi cyhoeddi eu bod yn cau'r gweithfeydd; maen nhw wedi cyhoeddi eu bod yn gwerthu. Fe’i gwnes yn eglur, fel y gwnaeth yr undeb Community, i Tata y byddai unrhyw awgrym y byddai Port Talbot neu unrhyw waith arall yn cau yn y dyfodol yn gwbl annerbyniol, a phe na byddent yn gallu rhedeg y gweithfeydd, y dylent wneud yn siŵr bod y gweithfeydd hynny’n cael eu rhoi ar werth, a dyna, wrth gwrs, ddigwyddodd yn dilyn y sgyrsiau a gefais yr wythnos diwethaf.
In terms of the McKinsey plan, well, Tata own the McKinsey plan. We don’t own it; we have no way of obtaining it. I have asked for it. In the discussion that I had last week with Mr Chatterjee from Tata, I asked him for a copy of the plan. He said to me that he would have to consult lawyers before that plan could be made available. The UK Government doesn’t have that plan either. As regards the union, they would have to answer that, but I’ve had no indication that the union has the McKinsey plan. The McKinsey plan should be made available to Government. It’s important that we’re able to see it—and, indeed, the UK Government—so that we can make a judgment as to that plan being taken forward. So, I’ve made my position very clear to Tata that I expect that plan to be made available to the Governments in order that we may be able to assess it. O ran cynllun McKinsey, wel, Tata yw perchennog cynllun McKinsey. Nid ni sy’n berchen arno; nid oes gennym unrhyw ffordd o gael gafael arno. Rwyf wedi gofyn amdano. Yn y drafodaeth a gefais yr wythnos diwethaf gyda Mr Chatterjee o Tata, gofynnais iddo am gopi o'r cynllun. Dywedodd wrthyf y byddai'n rhaid iddo ymgynghori â chyfreithwyr cyn y gellid rhoi'r cynllun hwnnw ar gael. Nid yw’r cynllun hwnnw gan Lywodraeth y DU ychwaith. O ran yr undeb, byddai'n rhaid iddyn nhw ateb hynny, ond nid wyf wedi cael unrhyw arwydd bod cynllun McKinsey gan yr undeb. Dylai cynllun McKinsey fod ar gael i'r Llywodraeth. Mae'n bwysig ein bod yn cael ei weld—a Llywodraeth y DU, yn wir—fel y gallwn lunio barn ynghylch bwrw ymlaen â’r cynllun hwnnw. Felly, rwyf wedi gwneud fy safbwynt yn eglur iawn i Tata fy mod i’n disgwyl i’r cynllun hwnnw fod ar gael i'r Llywodraethau fel y gallwn ei hasesu.
In terms of remediation, a substantial amount of money would need to be obtained in order to remediate the Port Talbot site. It’s been there for 70 years. There are a number of issues that Natural Resources Wales have already identified, and it’s correct to say that many hundreds of millions, at least, would be needed to remediate the site, which is why, to my mind, it’s actually better from an economic perspective—if we see it purely from that perspective—to ensure that steel making continues, because of the liabilities that crystallise if steel making ceases in Port Talbot and if the other plants are threatened as well. O ran gwaith adfer, byddai angen cael gafael ar swm sylweddol o arian i adfer safle Port Talbot. Mae wedi bod yno ers 70 mlynedd. Ceir nifer o faterion y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi eu nodi eisoes, ac mae'n gywir i ddweud y byddai angen llawer o gannoedd o filiynau, o leiaf, i adfer y safle, a dyna pam, yn fy marn i, y mae'n well o safbwynt economaidd—os ydym ni’n ei weld o'r safbwynt hwnnw yn unig—i sicrhau bod cynhyrchu dur yn parhau, oherwydd y rhwymedigaethau sy'n dod i'r amlwg os bydd cynhyrchu dur yn dod i ben ym Mhort Talbot ac os bydd y gweithfeydd eraill o dan fygythiad hefyd.
In terms of a public stake, well, it depends on how much. I’ve seen members of her party talk about hundreds of millions of pounds that the Welsh Government has squirrelled away. We don’t have it. Our reserves at the moment and no more than £392 million—that’s at the start of the financial year, and that’s every single penny that we have in reserve. So, we don’t have the £500 million to £600 million that’s been suggested to buy a stake in an industry, although we do have money, as I mentioned, available to support the industry, but we have to work with the UK Government on that. The reality is that the UK Government does have far greater resources, as the leader of the opposition has said, than we do. It has the ability to borrow and to raise money, which we don’t. And so, in terms of finances, yes, we stand ready to help financially. That’s true; I’ve already said that. But, the UK Government does have access to far more resources. And, of course, we are talking about the steel industry that exists mainly in Wales, but also outside Wales as well. This is a UK strategic industry. It is as strategic as the banks, and it’s why we need to make sure that there is a UK approach that ensures that the steel industry continues. O ran cyfran gyhoeddus, wel, mae'n dibynnu ar faint. Rwyf wedi gweld aelodau o’i phlaid yn siarad am gannoedd o filiynau o bunnoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi o’r neilltu. Nid yw’r arian hwnnw gennym. Nid yw ein cronfeydd wrth gefn ar hyn o bryd yn ddim mwy na £392 miliwn—mae hynny ar ddechrau'r flwyddyn ariannol, ac mae hynny’n cynnwys pob un geiniog sydd gennym ni wrth gefn. Felly, nid yw’r £500 miliwn i £600 miliwn a awgrymwyd gennym ni i brynu cyfran mewn diwydiant, er bod gennym ni arian, fel y soniais, sydd ar gael i gefnogi'r diwydiant, ond mae’n rhaid i ni weithio gyda Llywodraeth y DU ar hynny. Y gwir amdani yw bod gan Lywodraeth y DU lawer mwy o adnoddau, fel y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud, na’r hyn sydd gennym ni. Mae ganddi'r gallu i fenthyg ac i godi arian nad oes gennym ni. Ac felly, o ran cyllid, ydym, rydym ni’n barod i helpu’n ariannol. Mae hynny'n wir; rwyf eisoes wedi dweud hynny. Ond, mae gan Lywodraeth y DU fynediad at lawer mwy o adnoddau. Ac, wrth gwrs, rydym ni’n sôn am y diwydiant dur sy'n bodoli yn bennaf yng Nghymru, ond hefyd y tu allan i Gymru hefyd. Mae hwn yn ddiwydiant strategol i’r DU. Mae mor strategol â’r banciau, a dyna pam mae angen i ni wneud yn siŵr y gweithredir dull y DU gyfan sy'n sicrhau bod y diwydiant dur yn parhau.
With regard to the suggestion that we knew that there was going to be closure, that’s just wrong. Nobody knew that the plants were going to close, and, indeed, the plants are not going to close at this moment in time; they are up for sale. There is a threat, of course; we understand that. What’s absolutely crucial now is working with the UK Government and, indeed, all parties in this Chamber to make sure that the buyers who have already identified themselves come forward with plans and there’s Government help for those plans and we can save our steel making jobs. O ran yr awgrym ein bod yn gwybod y byddai gweithfeydd yn cau, mae hynny’n anghywir. Nid oedd unrhyw un yn gwybod bod y gweithfeydd yn mynd i gau, ac, yn wir, nid yw'r gweithfeydd yn mynd i gau ar hyn o bryd; maen nhw ar werth. Ceir bygythiad, wrth gwrs; rydym ni’n deall hynny. Yr hyn sy'n gwbl hanfodol nawr yw gweithio gyda Llywodraeth y DU ac, yn wir, yr holl bleidiau yn y Siambr hon i wneud yn siŵr bod y prynwyr sydd eisoes wedi amlygu eu hunain yn cynnig cynlluniau a bod cymorth gan y Llywodraeth ar gyfer y cynlluniau hynny ac y gallwn achub ein swyddi cynhyrchu dur.
13:59 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Now we call on Kirsty Williams, the leader of the Welsh Liberal Democrats—Kirsty Williams. Rydym yn galw nawr ar Kirsty Williams, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru—Kirsty Williams.
14:00 - Kirsty Williams
Thank you very much, Presiding Officer. Can I thank you for recalling Members to the Chamber this afternoon, and I can I thank the First Minister for his statement? Like you, First Miniser, I think at the forefront of our minds must be the individuals directly affected by the threat to their livelihoods, those who currently work in the plants, not just in Port Talbot—and it’s clear why Port Talbot is at the forefront of our minds—but also the people working in Newport, in Shotton and in Trostre in Llanelli, too, all of whom will be facing grave uncertainty. Of course, it goes beyond those directly employed, to the wider community. You and I will both have witnessed in our youth what happens to a community when employers and industry of this nature is ripped out of a community: it hits the entire poulation—the smaller businesses that deal directly with the bigger plants and the service industries that grow up around those plants. We know how communities have struggled in the past to find alternative forms of employment for their citizens should these jobs be lost. Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf i ddiolch i chi am alw’r Aelodau yn ôl i’r Siambr y prynhawn yma, ac a gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad? Fel chithau, Brif Weinidog, rwy’n meddwl bod yn rhaid i’r unigolion yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y bygythiad i'w bywoliaeth fod yn flaenllaw yn ein meddyliau, y rhai sy'n gweithio yn y gweithfeydd ar hyn o bryd, nid yn unig ym Mhort Talbot—ac mae'n amlwg pam mai Port Talbot sydd flaenaf yn ein meddyliau—ond hefyd y bobl sy'n gweithio yng Nghasnewydd, yn Shotton ac yn Nhrostre yn Llanelli, hefyd, y bydd pob un ohonynt yn wynebu ansicrwydd difrifol. Wrth gwrs, mae'n mynd y tu hwnt i'r rhai a gyflogir yn uniongyrchol, i'r gymuned ehangach. Byddwch chi a minnau wedi bod yn dyst yn ein hieuenctid i’r hyn sy'n digwydd i gymuned pan fydd cyflogwyr a diwydiant o'r math hwn yn cael eu rhwygo allan o gymuned: mae’n taro’r boblogaeth gyfan—y busnesau llai sy’n ymdrin yn uniongyrchol â'r gweithfeydd mwy a’r diwydiannau gwasanaeth sy'n tyfu i fyny o gwmpas y gweithfeydd hynny. Rydym ni’n gwybod sut y mae cymunedau wedi ei chael yn anodd yn y gorffennol i ddod o hyd i fathau eraill o gyflogaeth i’w dinasyddion pe byddai’r swyddi hyn yn cael eu colli.
Can I also say that it’s inconceivable to me that any Government—whether that is a UK Government or, indeed a devolved Government—would allow the UK to lose an industry that is one of national strategic importance? In an ever-increasingly unstable and uncertain world, it would be foolish, I would suggest, in the extreme, to leave our nation as the only developed economy in the world without its own capacity to produce steel. A gaf i hefyd ddweud ei bod yn annirnadwy i mi y byddai unrhyw Lywodraeth—pa un a yw honno'n Llywodraeth y DU neu, yn wir yn Llywodraeth ddatganoledig—yn caniatáu i'r DU golli diwydiant sy'n un o bwysigrwydd strategol cenedlaethol? Mewn byd fwyfwy ansefydlog ac ansicr, byddai'n hynod o ffôl, byddwn yn awgrymu, i adael ein cenedl fel yr unig economi ddatblygedig yn y byd heb ei allu ei hun i gynhyrchu dur.
I’m afraid to say the alarm bells should have been ringing. With the loss of Redcar and with the threat to Scunthorpe, we should have been on our guard that our plants would be next. It’s very clear that that danger was recognised by the industry as a whole when the Rotherham steel summit was held last year. The industry was very clear coming out of that steel summit about what it needed—what it needed from the Westminster Government and what it needed from devolved institutions. It is, sadly, clear to me that those calls were not responded to in a timely fashion, especially, I’m afraid, by the Westminster Government. Mae’n ddrwg gen i ddweud y dylai’r clychau larwm fod wedi bod yn canu. Ar ôl colli Redcar a’r bygythiad i Scunthorpe, dylem ni wedi bod ar ein gwyliadwriaeth mai ein gweithfeydd ni fyddai nesaf. Mae'n eglur iawn y gwelwyd y perygl hwnnw gan y diwydiant yn ei gyfanrwydd pan gynhaliwyd uwchgynhadledd ddur Rotherham y llynedd. Roedd y diwydiant yn eglur iawn yn dod allan o'r uwchgynhadledd ddur honno am yr hyn yr oedd ei angen arno—yr hyn yr oedd ei angen gan Lywodraeth San Steffan a'r hyn yr oedd ei angen gan sefydliadau datganoledig. Yn anffodus, mae’n eglur i mi na ymatebwyd i’r galwadau hynny yn brydlon, yn enwedig, mae gen i ofn, gan Lywodraeth San Steffan.
What we need to do now is actually look to see what steps we can take to make the plants as attractive for a potential buyer as possible, and that’s what I’d like to concentrate on. We do know that business rates are a factor, and the existing business rates regime is not structured in a way that would make a meaningful difference. We do know that, when the Sutton review of business rates was published 18 months ago, they made a very specific recommendation around plant and machinery. First Minister, you’ve said here today that you’ve offered something instead of taking steps around plant and machinery; I ask the question: why does it have to be an either/or? At this stage, given the seriousness of the situation, why can’t we do both? I appreciate that maybe these things take time, but it has been 18 months since the recommendation was made to your Government about plant and machinery, and I wonder when you will be in a position to introduce a regime that will look to assist not just Tata but all our manufacturing industries with business rates with regard to plant and machinery, because, I’m sure you’d agree with me, that would be one way in which we could make a possible sale more attractive. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud nawr yw edrych i weld pa gamau y gallwn eu cymryd i wneud y gweithfeydd mor ddeniadol â phosibl i ddarpar brynwr, a dyna yr hoffwn ganolbwyntio arno. Rydym ni’n gwybod bod ardrethi busnes yn ffactor, ac nid yw’r drefn ardrethi busnes bresennol wedi’i strwythuro mewn ffordd a fyddai'n gwneud gwahaniaeth ystyrlon. Rydym ni’n gwybod, pan gyhoeddwyd adolygiad Sutton o ardrethi busnes 18 mis yn ôl, eu bod wedi gwneud argymhelliad penodol iawn ynghylch offer a pheiriannau. Brif Weinidog, rydych chi wedi dweud yma heddiw eich bod wedi cynnig rhywbeth yn hytrach na chymryd camau’n gysylltiedig ag offer a pheiriannau; rwy’n gofyn y cwestiwn: pam mae’n rhaid iddo fod yn un neu’r llall? Ar hyn o bryd, o ystyried difrifoldeb y sefyllfa, pam na allwn ni wneud y ddau? Rwy’n sylweddoli efallai fod y pethau hyn yn cymryd amser, ond bu 18 mis ers i’r argymhelliad gael ei wneud i’ch Llywodraeth ynghylch offer a pheiriannau, ac rwy’n meddwl tybed pryd y byddwch chi mewn sefyllfa i gyflwyno trefn a fydd yn ceisio cynorthwyo nid yn unig Tata ond pob un o'n diwydiannau gweithgynhyrchu gydag ardrethi busnes o safbwynt offer a pheiriannau, oherwydd, rwy'n siŵr y byddech chi’n cytuno â mi, byddai honno'n un ffordd y gallem ni wneud gwerthiant posibl yn fwy deniadol.
You are also correct to say, of course, that Wales’s contribution to public procurement is limited, and I would ask you what discussions you have been having in your conversations with the Prime Minister and the Westminster Government about how far we can push the issue of procurement of Welsh and British steel in public projects. I appreciate that there are rules around that, but what can we do to maximise the opportunity for the use of these products? Let’s be clear: they are a quality product. Only this week, I spoke to a manufacturer that had imported some Chinese steel only to have it arrive and discover it was unusable in their products. We are producing a first-class product that should be used as much as possible in public procurement. Rydych chi hefyd yn gywir i ddweud, wrth gwrs, bod cyfraniad Cymru at gaffael cyhoeddus yn gyfyngedig, a byddwn yn gofyn i chi pa drafodaethau yr ydych chi wedi bod yn eu cael yn eich sgyrsiau gyda Phrif Weinidog y DU a Llywodraeth San Steffan ynghylch pa mor bell y gallwn ni wthio’r mater o gaffael dur Cymru a Phrydain mewn prosiectau cyhoeddus. Rwy’n sylweddoli bod rheolau ynghylch hynny, ond beth allwn ni ei wneud i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle i ddefnyddio’r cynhyrchion hyn? Gadewch i ni fod yn eglur: maen nhw’n gynnyrch o ansawdd. Dim ond yr wythnos hon, siaradais â gweithgynhyrchydd a oedd wedi mewnforio dur o Tsieina dim ond iddo gyrraedd a darganfod ei bod yn amhosibl ei ddefnyddio yn eu cynhyrchion. Rydym ni’n cynhyrchu cynnyrch o'r radd flaenaf y dylid ei ddefnyddio cymaint â phosibl o ran caffael cyhoeddus.
Can I turn to the issue of the enterprise zone? I welcome very much its establishment. Could you outline to me what outcomes you’re expecting as a result of the creation of the enterprise zone? What do you expect it to achieve? And again, whilst I understand that the focus, naturally, is on the Port Talbot area, what additional help may be available to small and medium-sized industries around the other plants across Wales? Are there any plans to take similar action with regards to Newport, Llanelli and the plant at Shotton? A gaf i droi at fater yr ardal fenter? Rwy'n croesawu ei sefydliad yn fawr iawn. A allech chi amlinellu i mi pa ganlyniadau yr ydych chi’n eu disgwyl o ganlyniad i greu’r ardal fenter? Beth ydych chi'n disgwyl iddo ei gyflawni? Ac eto, er fy mod i’n deall bod y pwyslais, yn naturiol, ar ardal Port Talbot, pa gymorth ychwanegol allai fod ar gael i ddiwydiannau bach a chanolig eu maint o amgylch y gweithfeydd eraill ledled Cymru? A oes unrhyw gynlluniau i gymryd camau tebyg o ran Casnewydd, Llanelli a'r gwaith yn Shotton?
Can I ask also, in your discussions with the Westminster Government, what are you asking for? Could we have clarity about what your expectations are and what your asks are? We do know that the pension liability is one of the bigger issues that may put off a potential buyer. Could you say what discussions you’ll been having with the Westminster Government about the issue around pensions, and what reassurance you can give to those people in receipt of a pension who may perhaps be extremely worried about what might happen to that? A gaf i ofyn hefyd, yn eich trafodaethau gyda Llywodraeth San Steffan, beth ydych chi’n gofyn amdano? A allem ni gael eglurder ynghylch beth yw eich disgwyliadau a’r hyn yr ydych chi’n gofyn amdano? Rydym ni’n gwybod mai’r rhwymedigaeth pensiwn yw un o'r materion mwy a allai anghymell darpar brynwr. A allech chi ddweud pa drafodaethau y byddwch chi’n eu cael gyda Llywodraeth San Steffan am y mater o ran pensiynau, a pha sicrwydd y gallwch chi ei roi i’r bobl hynny sy'n derbyn pensiwn sydd efallai’n bryderus iawn am yr hyn a allai ddigwydd i hwnnw?
I believe the UK Government has to be the lender of last resort in this case, and, if necessary, provide that bridging finance to allow a successful sale to take place in the future. Have you directly asked that question of the Prime Minister, and what was his response, please? Could you also assure us that, in your discussions with the Westminster Government and your team that you have sent to London to work with BIS, in looking at a future buyer there will be some assurances that this plant and these workers won’t be sold off to someone whose ultimate purpose is to asset strip the company? We want to sell this to a business that is going to continue to produce steel, not to come into Wales, cut and run, strip out what is best and then to leave the rest behind. We need some reassurances that this will be sold as an ongoing and successful business. Rwy’n credu bod yn rhaid i Lywodraeth y DU fod y benthyciwr pan fetho popeth arall yn yr achos hwn, ac, os oes angen, darparu’r cyllid pontio hwnnw i alluogi gwerthiant llwyddiannus i ddigwydd yn y dyfodol. A ydych chi wedi gofyn y cwestiwn hwnnw’n uniongyrchol i Brif Weinidog y DU, a beth oedd ei ymateb, os gwelwch yn dda? A allech chi hefyd ein sicrhau, yn eich trafodaethau gyda Llywodraeth San Steffan a’ch tîm yr ydych wedi ei anfon i Lundain i weithio gyda’r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, wrth ystyried darpar brynwr y bydd rhywfaint o sicrwydd na fydd y gwaith hwn a’r gweithwyr hyn yn cael eu gwerthu i rywun sydd â'r bwriad yn y pen draw o stripio asedau’r cwmni? Rydym ni eisiau gwerthu hwn i fusnes sy’n mynd i barhau i gynhyrchu dur, nid dod i mewn i Gymru, a chymryd y goes wedyn, ar ôl tynnu’r hyn sydd orau allan ac yna gadael y gweddill ar ôl. Mae angen rhywfaint o sicrwydd arnom y bydd hwn yn cael ei werthu fel busnes parhaus a llwyddiannus.
And in that regard, First Minister, we know we produce an excellent quality product. We know we produce innovative steel products, above and beyond what may be available in the rest of the world. What plans are you discussing internally within your own Government and with the Westminster Government about a long-term strategic future for our industry? Because I believe there is one. This is an industry not only too big to fail; it’s an industry too good to let fail, and I’d appreciate your insight on what you will do to produce a plan for a long-term commitment to steel production in our nation. Ac yn hynny o beth, Brif Weinidog, rydym ni’n gwybod ein bod yn cynhyrchu cynnyrch o ansawdd rhagorol. Rydym ni’n gwybod ein bod yn cynhyrchu cynhyrchion dur arloesol, sy’n well na’r hyn a allai fod ar gael yng ngweddill y byd. Pa gynlluniau ydych chi’n eu trafod yn fewnol o fewn eich Llywodraeth eich hun a chyda Llywodraeth San Steffan am ddyfodol strategol hirdymor i’n diwydiant? Oherwydd rwy’n credu bod dyfodol iddo. Mae hwn yn ddiwydiant sydd nid yn unig yn rhy fawr i fethu; mae’n ddiwydiant sy'n rhy dda i adael iddo fethu, a byddwn yn gwerthfawrogi eich safbwynt ar yr hyn y byddwch yn ei wneud i lunio cynllun ar gyfer ymrwymiad hirdymor i gynhyrchu dur yn ein gwlad.
14:08 - Carwyn Jones
Can I thank the leader of the Liberal Democrats for her comments and for her questions? The issue of the pension liability is an important one and, of course, the issue of the pension liability is important in terms of a sale. There will need to be further discussion with the UK Government, who are aware of the issue, in order to make sure that that pension liability does not become the hurdle that prevents a sale from taking place, and that’s something that I’ll be discussing again with the Prime Minister tomorrow. A gaf i ddiolch i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol am ei sylwadau ac am ei chwestiynau? Mae mater y rhwymedigaeth pensiwn yn un pwysig ac, wrth gwrs, mae mater y rhwymedigaeth pensiwn yn bwysig o ran gwerthu’r cwmni. Bydd angen cael trafodaeth bellach gyda Llywodraeth y DU, sy'n ymwybodol o'r mater, er mwyn gwneud yn siŵr nad y rhwymedigaeth pensiwn yw’r rhwystr sy'n atal gwerthiant rhag digwydd, ac mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn ei drafod eto gyda Phrif Weinidog y DU yfory.
With regard to plant and machinery, as I said earlier on, we have been looking hard at ways of removing certain classes of plant and machinery from all ratings assessments. We’ve looked at whether a cap could be applied to the rateable value and whether reliefs could be applied against new investments in plant and machinery. We have had detailed discussions with the Valuation Office Agency. They haven’t identified a quick way of doing this that would avoid state aid and appeals, given the lack of data that they have available and the technical complexities. That said, the Valuation Office Agency will be looking at an improved situation with regard to business rates next year, which will be helpful for the sector. But as I said earlier on, plant and machinery is worth about £4.5 million to £6 million on the rates bill as far as Tata are concerned. What we’ve put in place is a package that’s 10 times bigger, and faster; that was the issuers that we had. And again, with business rates we are limited to €200,000 over a three-year period because of state aid rules. So, the decision that we took was that, rather than to plough through the mud in that regard, we should just put an offer on the table that was far larger than the offer that could be made with regard to plant and machinery and business rates, and that is still on the table for any potential new buyer. O ran offer a pheiriannau, fel y dywedais yn gynharach, rydym ni wedi bod yn edrych yn ofalus ar ffyrdd o dynnu dosbarthiadau penodol o offer a pheiriannau o bob asesiad ardrethi. Rydym ni wedi ystyried pa un a ellid cyflwyno cap ar y gwerth ardrethol a pha un a ellid cynnig rhyddhad yn erbyn buddsoddiadau newydd mewn offer a pheiriannau. Rydym ni wedi cael trafodaethau manwl gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Nid ydynt wedi nodi ffordd gyflym o wneud hyn a fyddai'n osgoi cymorth gwladwriaethol ac apeliadau, o ystyried y diffyg data sydd ganddynt ar gael a’r cymhlethdodau technegol. Wedi dweud hynny, bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn edrych ar sefyllfa well o ran ardrethi busnes y flwyddyn nesaf, a fydd o gymorth i’r sector. Ond fel y dywedais yn gynharach, mae offer a pheiriannau werth tua £4.5 miliwn i £6 miliwn ar y bil ardrethi cyn belled ag y mae Tata yn y cwestiwn. Yr hyn yr ydym ni wedi ei gyflwyno yw pecyn sydd 10 gwaith yn fwy, a chyflymach; dyna oedd y problemau a oedd gennym. Ac eto, gydag ardrethi busnes rydym ni wedi ein cyfyngu i €200,000 dros gyfnod o dair blynedd oherwydd rheolau cymorth gwladwriaethol. Felly, y penderfyniad a wnaethpwyd gennym oedd, yn hytrach na chamu drwy'r mwd yn hynny o beth, y dylem ni roi cynnig ar y bwrdd a oedd yn llawer mwy na'r cynnig y gellid ei wneud o ran offer a pheiriannau ac ardrethi busnes , ac mae hynny'n dal i fod ar y bwrdd i unrhyw ddarpar brynwr newydd.
In terms of procurement, what can be done in order to stimulate demand? Build things; to make sure that road projects go ahead; to make sure that rail projects go ahead; to make sure that the tidal lagoon goes ahead. It is possible to specify certain types of steel as part of those projects, but the projects need to go ahead in the first place. They are UK projects, and infrastructure is a hugely important driver when it comes to driving demand for steel. O ran caffael, beth ellir ei wneud er mwyn ysgogi galw? Adeiladu pethau; gwneud yn siŵr bod prosiectau ffyrdd yn mynd yn eu blaenau; gwneud yn siŵr bod prosiectau rheilffyrdd yn mynd yn eu blaenau; gwneud yn siŵr bod y morlyn llanw yn mynd yn ei flaen. Mae'n bosibl nodi mathau penodol o ddur yn rhan o'r prosiectau hynny, ond mae angen i'r prosiectau fynd yn eu blaenau yn y lle cyntaf. Prosiectau'r DU ydyn nhw, ac mae seilwaith yn sbardun hynod o bwysig pan ddaw i sbarduno galw am ddur.
In terms of the enterprise zone, that is indeed aimed at SMEs and we are looking, of course, to see that enterprise zone grow. O ran yr ardal fenter, amcan honno yn wir yw helpu busnesau bach a chanolig, a’n nod, wrth gwrs, yw gweld yr ardal fenter honno’n tyfu.
With regard to the other sites that she asked about, well, of course, Port Talbot is the site at the moment that is in the most difficult position. The heavy end of Port Talbot is losing the most money, although I am not convinced it’s £1 million a day, if I’m honest. But it is definitely losing money. So, what we’ve done thus far is to look primarily at Port Talbot, but not exclusively. We know, of course, that there will be concerns and worries in Trostre, in Llanwern, in Orb, and also, of course, in Shotton. We understand that, and we’ll work with all the sites to make sure that we can work to ensure their future. O ran y safleoedd eraill y gofynnodd hi amdanynt, wel, wrth gwrs, Port Talbot yw'r safle ar hyn o bryd sydd yn y sefyllfa anoddaf. Pen trwm Port Talbot sy’n colli’r mwyaf o arian, er nad wyf yn argyhoeddedig ei fod yn £1 filiwn y dydd, a dweud y gwir. Ond mae'n bendant yn colli arian. Felly, yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud hyd yn hyn yw edrych ar Bort Talbot yn bennaf, ond nid yn unig. Rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, y bydd pryderon a gofidiau yn Nhrostre, yn Llanwern, yn Orb, a hefyd, wrth gwrs, yn Shotton. Rydym ni’n deall hynny, a byddwn yn gweithio gyda'r holl safleoedd i wneud yn siŵr y gallwn weithio i sicrhau eu dyfodol.
The leader of the Liberal Democrats asked me what we’re asking of the UK Government. We need the UK Government to back higher tariffs. They are there, but they’ve not, thus far, backed them enough. Other countries—we saw China do it over the weekend—are imposing tariffs on certain steel products. We need to make sure there’s a level playing field and, thus far, it’s not the European Union that have been preventing this, it’s been the UK Government. I hope now that the issue is understood, and we would support the UK Government, of course, in terms of making sure that the tariffs are fair and are similar to tariffs that are being imposed by other countries around the world. Gofynnodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol i mi beth yr ydym ni’n gofyn amdano gan Lywodraeth y DU. Rydym ni angen i Lywodraeth y DU gefnogi tariffau uwch. Maen nhw yno, ond nid ydynt, hyd yn hyn, wedi eu cefnogi’n ddigonol. Mae gwledydd eraill—gwelsom Tsieina yn ei wneud dros y penwythnos—yn gosod tariffau ar gynhyrchion dur penodol. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod chwarae teg a, hyd yn hyn, nid yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi bod yn rhwystro hyn, ond Llywodraeth y DU. Rwy’n gobeithio nawr bod dealltwriaeth o’r mater, a byddem yn cefnogi Llywodraeth y DU, wrth gwrs, o ran gwneud yn siŵr fod y tariffau yn deg ac yn debyg i dariffau sy'n cael eu gosod gan wledydd eraill ledled y byd.
Energy prices—we’ve been lobbying on energy prices since 2011. I’ve personally discussed energy prices with Vince Cable in Tata when he was the Secretary of State. We need to see movement on that. There is no doubt—you can speak to energy-intensive industries around Wales, and they will tell you the same thing—that energy prices in the UK are higher than in Germany or in Spain. This has to be dealt with; otherwise the message will be that the UK is not a place where energy-intensive industries are welcomed. That will need to be dealt with. Prisiau ynni—rydym ni wedi bod yn lobïo ar brisiau ynni ers 2011. Rwyf i wedi trafod prisiau ynni yn bersonol gyda Vince Cable yn Tata pan oedd ef yn Ysgrifennydd Gwladol. Mae angen i ni weld symud ar hynny. Nid oes amheuaeth—gallwch siarad â diwydiannau ynni-ddwys ledled Cymru, a byddant yn dweud yr un peth wrthych—bod prisiau ynni yn y DU yn uwch nag yn yr Almaen ac yn Sbaen. Mae'n rhaid ymdrin â hyn; fel arall, y neges fydd yw nad yw'r DU yn fan lle mae croeso i ddiwydiannau ynni-ddwys. Bydd angen ymdrin â hynny.
And, of course, to show a commitment to the industry. I don’t doubt the Prime Minister when he says he is committed to ensuring that steel making continues. In the conversations I’ve had—and he’s said this publicly—he said that nationalisation is not the answer. Define ‘nationalisation’, of course, is the question there. What is needed, though, is a willingness to ensure that Government will take over Tata’s assets in order—if need be—for a buyer to be found. It’s creating that space for a buyer to make sure that there is every opportunity for the workers in Tata to have a future. Ac, wrth gwrs, i ddangos ymrwymiad i'r diwydiant. Nid wyf yn amau ​​Prif Weinidog y DU pan ei fod yn dweud ei fod yn ymrwymedig i sicrhau bod cynhyrchu dur yn parhau. Yn y sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael—ac mae wedi dweud hyn yn gyhoeddus—dywedodd nad gwladoli yw'r ateb. Diffiniwch 'gwladoli', wrth gwrs, yw'r cwestiwn yn y fan yna. Yr hyn sydd ei angen, fodd bynnag, yw parodrwydd i sicrhau y bydd y Llywodraeth yn cymryd asedau Tata drosodd—os bydd angen—er mwyn dod i hyd i brynwr. Mae'n golygu creu’r cyfnod hwnnw i brynwr wneud yn siŵr bod pob cyfle i'r gweithwyr yn Tata gael dyfodol.
She is absolutely right to say that the last thing we’d want to see is an asset stripper coming in to run the plants in Wales. The conversation that I’ve had with a potential buyer—this particular buyer, although I can’t reveal who it is, is not an asset stripper; it is somebody who would be very interested indeed in actually making steel. But, it’s absolutely right that the last thing we’d want to see is for a business to come in to strip the asset in order to remove competition, perhaps elsewhere—for plants elsewhere in Europe. So, having somebody who is going to run Tata’s assets as a going concern is absolutely crucial. Mae hi yn llygad ei lle i ddweud mai’r peth olaf y byddem ni eisiau ei weld yw tynnwr asedau’n dod i mewn i redeg y gweithfeydd yng Nghymru. Mae'r sgwrs yr wyf i wedi ei chael gyda darpar brynwr—nid yw’r prynwr penodol hwn, er na allaf ddatgelu pwy ydyw, yn dynnwr asedau; mae’n rhywun a fyddai â diddordeb mawr mewn cynhyrchu dur. Ond, mae'n hollol iawn mai’r peth olaf y byddem ni eisiau ei weld yw i fusnes ddod i mewn i stripio’r ased er mwyn dileu cystadleuaeth, yn rhywle arall efallai—ar gyfer gweithfeydd mewn rhannau eraill o Ewrop. Felly, mae cael rhywun sy'n mynd i redeg asedau Tata fel busnes yn gwbl hanfodol.
In terms of the strategic future of steel, well, about a year ago, Port Talbot was not losing money; it was breaking even. It had gone through difficult times before, that’s true, but it was breaking even. What’s happened in the world steel market has caused great difficulties for Port Talbot for the reasons that we’ve already outlined. But the point that I’ve made is: these problems are not permanent. This is not an industry that’s doomed to die; it’s not an industry that is doomed to lose money for ever and a day. It just needs help to go through a current, short-term crisis. We will stand ready to help. The UK Government has indicated that it stands ready to help and it’s important that those commitments are translated into action. O ran dyfodol strategol dur, wel, tua blwyddyn yn ôl, nid oedd Port Talbot yn colli arian; roedd yn mantoli’r cyfrifon. Roedd wedi bod trwy gyfnodau anodd o'r blaen, mae hynny'n wir, ond roedd yn mantoli’r cyfrifon. Mae’r hyn sydd wedi digwydd yn y farchnad ddur fyd-eang wedi achosi anawsterau mawr i Bort Talbot am y rhesymau yr ydym ni wedi eu hamlinellu eisoes. Ond y pwynt yr wyf i wedi ei wneud yw: nid yw’r problemau hyn yn barhaol. Nid yw hwn yn ddiwydiant sy'n siŵr o farw; nid yw'n ddiwydiant sy'n siŵr o golli arian am byth a thu hwnt. Y cwbl sydd ei angen arno yw cymorth i gael trwy'r argyfwng byrdymor cyfredol. Byddwn yn barod i helpu. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bod yn barod i helpu ac mae'n bwysig bod yr ymrwymiadau hynny’n cael eu troi’n weithredu.
14:13 - David Rees
Diolch, Lywydd. Can I thank you again for actually recalling the Assembly, because it is important that politicians have an opportunity to ask the questions of the Government to find out answers for the future of the steel industry, particularly for the communities that survive from the steel industry? First Minister, can I start by thanking you for your statement? There's nothing in there anybody can disagree with on that. I think it’s what we all want to go forward with. Can I also thank the Welsh Government for the work that has been done to date on the industry? I know we’ve been raising the question of energy prices for many years—since I’ve been in the Assembly. Also, the taskforce was immediately put into place following the last announcement, and I would hope that the taskforce now will be, perhaps, looking also at some of the issues that will arise following last week’s devastating news from Tata about the decision to actually sell off the UK steel sector of its business, particularly at Port Talbot. Diolch, Lywydd. A gaf i ddiolch i chi unwaith eto am alw’r Cynulliad yn ôl, gan ei bod yn bwysig bod gwleidyddion yn cael cyfle i ofyn y cwestiynau i’r Llywodraeth i gael atebion ar gyfer dyfodol y diwydiant dur, yn enwedig i’r cymunedau sy'n goroesi oherwydd y diwydiant dur? Brif Weinidog, a gaf i ddechrau trwy ddiolch i chi am eich datganiad? Nid oes unrhyw beth ynddo y gall neb anghytuno ag ef yn hynny o beth. Rwy'n credu mai dyna’r ydym ni i gyd eisiau bwrw ymlaen ag ef. A gaf i hefyd ddiolch i Lywodraeth Cymru am y gwaith sydd wedi ei wneud ar y diwydiant hyd yn hyn? Gwn ein bod wedi bod yn codi’r cwestiwn o brisiau ynni ers blynyddoedd lawer—ers i mi fod yn y Cynulliad. Hefyd, sefydlwyd y tasglu ar unwaith yn dilyn y cyhoeddiad diwethaf, a byddwn yn gobeithio y bydd y tasglu nawr, efallai, yn edrych hefyd ar rai o'r materion a fydd yn codi yn dilyn newyddion trychinebus yr wythnos diwethaf gan Tata am y penderfyniad i werthu sector dur y DU o'i fusnes, ac ym Mhort Talbot yn arbennig.
We’d all hoped that Tata would accept the survival plan, or as most people know it, the bridge. But, unfortunately, it seems that they didn’t accept that, and no-one actually expected the news that we had last Tuesday evening. I don’t want to be party political—I know there are comments over the UK Government’s involvement and its inability to actually act up to now, but we’ll leave that aside because I want to look, like you, to the future. Like you, I believe that there is a future for steel making in Wales, particularly in Port Talbot. Thousands of people in my constituency—steelworkers, contractors, the supply chain workers, businesses and all their families—actually want answers to some questions about the future of the works and the actions that we’re going to be taking to secure that. We’ve heard words from both yourself and the UK Government that no stone will be left unturned and all options are on the table. I include in that comment, therefore, state intervention. We don’t want to call it ‘nationalisation’—fine; let’s call it ‘state intervention’. That’s okay with me. But we want support for the works, and we want to give it sufficient time. Now, you indicated that there’s time for expressions of interest, but expressions of interest are based upon viability often and we need time for the works to demonstrate the viability and the potential that the works can offer to anyone who is interested in buying the plant. So, I think the discussions you have with Tata must ensure that that flexibility is provided, or the UK Government must provide that support to allow the time for an expression of interest to be made. We can’t do it now, and that’s my concern. You just can’t do an expression of interest in six weeks. You need to know the viability, the potential of the plant, you need to do the due diligence, and, if someone’s coming in now, then that time is not good enough. Roeddem ni i gyd yn gobeithio y byddai Tata yn derbyn y cynllun goroesi, neu’r bont, fel y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei adnabod. Ond, yn anffodus, mae'n ymddangos na wnaethant dderbyn hynny, ac nid oedd neb yn disgwyl y newyddion a gawsom ni nos Fawrth diwethaf. Nid wyf eisiau bod yn bleidiol—gwn fod sylwadau am gyfranogiad Llywodraeth y DU a’i hanallu i weithredu hyd yma, ond gadawaf hynny o’r neilltu gan fy mod i, fel chithau, eisiau edrych i’r dyfodol. Fel chithau, rwy’n credu bod dyfodol i gynhyrchu dur yng Nghymru, yn enwedig ym Mhort Talbot. Mae miloedd o bobl yn fy etholaeth i—gweithwyr dur, contractwyr, gweithwyr y gadwyn gyflenwi, busnesau a'u holl deuluoedd—eisiau atebion i rai cwestiynau am ddyfodol y gwaith a'r camau yr ydym ni’n mynd i’w cymryd i sicrhau hynny. Rydym ni wedi clywed geiriau gennych chi a Llywodraeth y DU na fydd unrhyw garreg yn cael ei gadael heb ei throi a bod yr holl ddewisiadau ar y bwrdd. Rwy’n cynnwys yn y sylw hwnnw, felly, ymyrraeth y wladwriaeth. Nid ydym eisiau ei alw’n 'wladoli'—iawn; gadewch i ni ei alw’n 'ymyrraeth y wladwriaeth'. Mae hynny'n iawn gennyf i. Ond rydym ni eisiau cefnogaeth i’r gwaith, ac rydym ni eisiau rhoi digon o amser iddo. Nawr, dywedasoch fod amser ar gyfer datgan diddordeb, ond mae datganiadau o ddiddordeb yn seiliedig ar hyfywedd yn aml ac mae angen amser arnom ni i’r gwaith ddangos hyfywedd a’r potensial y gall y gwaith ei gynnig i unrhyw un sydd â diddordeb mewn prynu'r gwaith. Felly, rwy’n meddwl bod yn rhaid i'r trafodaethau yr ydych chi’n eu cael gyda Tata yn sicrhau y cynigir hyblygrwydd, neu mae'n rhaid i Lywodraeth y DU roi’r cymorth hwnnw er mwyn caniatáu amser i ddatganiad o ddiddordeb gael ei wneud. Ni allwn ei wneud nawr, a dyna fy mhryder. Ni allwch chi wneud datganiad o ddiddordeb mewn chwe wythnos. Mae angen i chi fod yn ymwybodol o hyfywedd, potensial y gwaith, mae angen i chi wneud y diwydrwydd dyladwy, ac, os oes rhywun yn dod i mewn nawr, yna nid yw’r amser hwnnw’n ddigon da.
There’s clearly a time for both Governments to work together as one, to unite. The Welsh Government and the UK Government need to be in unison on this. I hope that if the UK Government doesn’t take the lead—and I’ve got to be honest, my faith has not been convinced yet in the UK Government—I would want the Welsh Government to take the lead on this to ensure that the steel industry actually survives here in Wales. Mae'n amlwg yn amser i’r ddwy Lywodraeth weithio gyda'i gilydd fel un, i uno. Mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fod yn unsain ar hyn. Rwy’n gobeithio os bydd Llywodraeth y DU yn arwain—ac mae'n rhaid i mi fod yn onest, nid yw fy fydd yn Llywodraeth y DU wedi ei hargyhoeddi eto—byddwn eisiau i Lywodraeth Cymru arwain ar hyn er mwyn sicrhau bod y diwydiant dur yn goroesi yma yng Nghymru.
First Minister, I have got many questions for you. Some have already been answered and asked, so I’ll try to avoid repeating and duplicating those, Llywydd. But I want to praise the steelworkers first. Those who know the Port Talbot plant know the works and know the production levels in those works. Those steelworkers have committed themselves above and beyond normal working practices to demonstrate the viability and the operation that works. We need to do something because they deserve our support. They deserve this Welsh Government actually taking action to ensure that steel continues, not just in Port Talbot, although it is the main focus, but across Wales. Because, as has been rightly pointed out, Newport, Shotton, Trostre are all in this—and the Orb in Newport. We can’t forget that either, because that’s part of Tata steel. Can I also thank, before I go on, the leaders of the other parties? Because the support is important across party for this industry, for the sector and for the communities that will be affected by this decision. Brif Weinidog, mae gennyf lawer o gwestiynau i chi. Mae rhai wedi eu hateb a’u gofyn eisoes, felly byddaf yn ceisio osgoi ailadrodd y rheini, Lywydd. Ond rwy’n awyddus i ganmol y gweithwyr dur yn gyntaf. Mae'r rhai sy'n adnabod ffatri Port Talbot yn adnabod y gwaith ac yn ymwybodol o’r lefelau cynhyrchu yn y gwaith hwnnw. Mae’r gweithwyr dur hynny wedi ymrwymo eu hunain y tu hwnt i arferion gwaith arferol i ddangos yr hyfywedd a’r gweithrediad sy'n gweithio. Mae angen i ni wneud rhywbeth gan eu bod yn haeddu ein cefnogaeth. Maen nhw’n haeddu i’r Llywodraeth Cymru hon gymryd camau i sicrhau bod dur yn parhau, nid yn unig ym Mhort Talbot, er mai dyna’r prif bwyslais, ond ledled Cymru. Oherwydd, fel y nodwyd yn gywir eisoes, mae Casnewydd, Shotton, Trostre i gyd yn rhan o hyn—a'r Orb yng Nghasnewydd. Ni allwn anghofio hwnnw ychwaith, gan fod hwnnw’n rhan o Tata Steel. A gaf i hefyd ddiolch, cyn i mi barhau, i arweinwyr y pleidiau eraill? Oherwydd mae cefnogaeth ar draws y pleidiau yn bwysig i’r diwydiant hwn, i’r sector ac i’r cymunedau a fydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniad hwn.
First Minister, you’ve had discussions with Tata. I think it’s important that you keep in discussions with Tata, but can you tell me the flexibilities that Tata are talking about in this timescale? They’ve indicated it’s six weeks, from what I understand, but is there flexibility in their discussions to extend that and not do a cut-off point and not say in six weeks’ time, ‘We are closing’? That’s crucial, not just for Port Talbot, but, as you pointed out, the six-month order list for Shotton is going to be crucial in that aspect. So, is there discussion on flexibility? Brif Weinidog, rydych chi wedi cael trafodaethau gyda Tata. Rwy'n credu ei bod yn bwysig eich bod yn parhau i drafod gyda Tata, ond a allwch chi ddweud wrthyf am yr hyblygrwydd y mae Tata yn siarad amdano yn yr amserlen hon? Maen nhw wedi nodi mai chwe wythnos yw'r cyfnod, o'r hyn rwy’n ei ddeall, ond a oes hyblygrwydd yn eu trafodaethau i ymestyn hynny a pheidio â phennu torbwynt a pheidio â dweud ymhen chwe wythnos, 'Rydym ni’n cau'? Mae hynny'n hanfodol, nid yn unig i Bort Talbot, ond, fel y nodwyd gennych, mae'r rhestr archebion chwe mis ar gyfer Shotton yn mynd i fod yn hanfodol yn hynny o beth. Felly, a oes trafodaeth ar hyblygrwydd?
You also talked about the package that you put forward to Tata. Did you ever have a response from Tata about that package, and is there flexibility in that package? You mentioned today £60 million that was put on the table. Is that flexible? Is there a possibility of more? Could we look at other projects, such as the power plant—because I don’t think you mentioned that possibility—and flexibility in joint ventures for the power plant at Port Talbot, which would make it, again, attractive to a potential buyer? Soniasoch hefyd am y pecyn a gyflwynwyd gennych i Tata. A gawsoch chi ymateb gan Tata am y pecyn hwnnw, ac a oes hyblygrwydd yn y pecyn hwnnw? Soniasoch heddiw am y £60 miliwn a roddwyd ar y bwrdd. A yw hwnnw'n hyblyg? A oes posibilrwydd o fwy? A allem ni edrych ar brosiectau eraill, fel yr orsaf bŵer—oherwydd nid wyf yn credu i chi grybwyll y posibilrwydd hwnnw—a hyblygrwydd mewn mentrau ar y cyd ar gyfer yr orsaf bŵer ym Mhort Talbot, a fyddai'n ei wneud, unwaith eto, yn ddeniadol i ddarpar brynwr?
Now, I want to ask a couple of points regarding the joint funding of UK Government. What discussions have you had with UK Government about state intervention, and will the Welsh Government be part and parcel, beyond the package that you’ve talked about? Is there a possibility, beyond that package, to get involved in the state intervention of the industry? Nawr, hoffwn ofyn un neu ddau o bwyntiau am gyllid ar y cyd Llywodraeth y DU. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ymyrraeth y wladwriaeth, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn rhan o hyn, y tu hwnt i'r pecyn yr ydych chi wedi sôn amdano? A oes posibilrwydd, y tu hwnt i'r pecyn hwnnw, i gymryd rhan yn ymyrraeth y wladwriaeth yn y diwydiant?
What actions have the Welsh Government taken to address the issues in the EU? We all know that cheap imports have been highlighted by many people, including workers at Port Talbot. Have you had discussions with the EU, yourselves, as a Welsh Government? What discussions have you had with the UK Government? You quite rightly pointed out that they are blocking the lower rate duties. I wouldn’t give them credit for looking at anything. They’ve actually blocked lower rate duties, and they need to change tack on that and they need to start actually putting duties at a reasonable level that make the industry competitive with the Chinese imports and Russian imports. Will you demand a place at the Council of Ministers whenever steel is being discussed in Europe? Because, at the moment, it seems—and I’m going to be blunt, I have no faith in Sajid Javid because his comments in the past have actually shown his lack of understanding of steel, full stop. Will you demand a place at that table, so that we can have someone who knows the steel industry going out to Europe to discuss those things? Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion yn yr UE? Rydym ni i gyd yn gwybod bod mewnforion rhad wedi eu hamlygu gan lawer o bobl, gan gynnwys gweithwyr ym Mhort Talbot. A ydych chi wedi cael trafodaethau gyda'r UE, eich hunain, fel Llywodraeth Cymru? Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU? Fe wnaethoch nodi yn gwbl gywir y ffaith eu bod yn rhwystro'r dyletswyddau cyfradd is. Ni fyddwn yn rhoi clod iddyn nhw am edrych ar unrhyw beth. Maen nhw wedi rhwystro dyletswyddau cyfradd is, ac mae angen iddyn nhw newid tac ar hynny ac mae angen iddyn nhw ddechrau gosod dyletswyddau ar lefel resymol sy'n gwneud y diwydiant yn gystadleuol gyda'r mewnforion o Tsieina a mewnforion o Rwsia. A wnewch chi fynnu cael lle ar Gyngor y Gweinidogion pa bryd bynnag y bydd dur yn cael ei drafod yn Ewrop? Oherwydd, ar hyn o bryd, mae'n ymddangos—ac rwy’n mynd i fod yn blaen, nid oes gennyf unrhyw ffydd yn Sajid Javid gan fod ei sylwadau yn y gorffennol wedi dangos ei ddiffyg dealltwriaeth llwyr o ddur. A wnewch chi fynnu cael lle wrth y bwrdd hwnnw, fel y gallwn gael rhywun sy'n adnabod y diwydiant dur yn mynd allan i Ewrop i drafod y pethau hynny?
Will you also seek to ensure that Tata act as a responsible seller? I have deep concern over the current situation with regard to the order books and the procurement of products. I think we need to ensure that those now are handled in Wales for Wales. At the moment, I understand that it’s in joint position with the Dutch plant. We need to make sure that that separation occurs, so that we can demonstrate that Wales is a profitable opportunity. Steelworkers have actually told me that the stockyards are being diminished and depleted. Again, I’ve great concern over that because, if the stockyards are being depleted, the production levels will go down. We can’t allow that to happen because, the blast furnaces, once they’ve gone cold, that’s an end to them, full stop. We need to ensure that those blast furnaces keep operating. So, will you ensure that Tata act responsibly in all aspects of their business, and don’t just simply do it by stealth, which I fear is the position they’re leaving us? A wnewch chi hefyd geisio sicrhau bod Tata yn gweithredu fel gwerthwr cyfrifol? Mae gennyf bryder dwys am y sefyllfa bresennol o ran y llyfrau archebion a chaffael cynhyrchion. Rwy'n credu bod angen i ni sicrhau nawr ein bod yn ymdrin â'r rheini yng Nghymru ar gyfer Cymru. Ar hyn o bryd, rwy’n deall ei fod yn safle ar y cyd â'r gwaith yn yr Iseldiroedd. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y gwahaniad hwnnw’n digwydd, fel y gallwn ddangos bod Cymru yn gyfle proffidiol. Mae gweithwyr dur wedi dweud wrthyf fod yr ierdydd stoc yn cael eu lleihau a’u disbyddu. Unwaith eto, mae gen i bryder mawr ynghylch hynny oherwydd, os yw’r ierdydd stoc yn cael eu disbyddu, bydd y lefelau cynhyrchu yn gostwng. Ni allwn adael i hynny ddigwydd oherwydd, y ffwrneisi chwyth, unwaith y byddant wedi mynd yn oer, dyna ddiwedd arnynt, am byth. Mae angen i ni sicrhau bod y ffwrneisi chwyth hynny’n parhau i weithredu. Felly, a wnewch chi sicrhau bod Tata yn gweithredu’n gyfrifol ym mhob agwedd ar eu busnes, ac nad ydynt yn ei wneud yn llechwraidd, a dyna rwyf yn ofni yw’r sefyllfa y maen nhw’n ein gadael ni ynddi?
You mentioned buyers, First Minister. You mentioned asset stripping, and I will mention the name: Mr Gupta has been highlighted and reported quite a lot in the newspapers and the press. Again, he apparently indicates that he wants to actually put an arc furnace into Port Talbot, which would shut the blast furnaces down, which would take the sinter plant, the stockyards, the concasts, the coke ovens and the BOS plant all out of action—basically, two thirds of the plant going. It was built as an integrated plant. It works as an integrated plant. That would take thousands of jobs, not just in the works, but in the community and in the supply chain and contracts out. So, will you have those discussions to ensure that we don’t get into that position, we don’t see the works being broken up, and we don’t see those thousands of jobs being lost as a consequence of that? Soniasoch am brynwyr, Brif Weinidog. Soniasoch am stripio asedau, a byddaf yn sôn am yr enw: amlygwyd Mr Gupta ac mae wedi cael cryn dipyn o sylw yn y papurau newydd a’r wasg. Unwaith eto, mae'n debyg ei fod yn awgrymu ei fod eisiau gosod ffwrnais arc ym Mhort Talbot, a fyddai'n cau'r ffwrneisi chwyth i lawr, a fyddai'n rhoi terfyn ar y gwaith sinter, yn yr ierdydd stoc, y concastiau, y ffyrnau golosg a’r gwaith BOS i gyd—cau dwy ran o dair o'r gwaith fwy neu lai. Fe’i hadeiladwyd fel gwaith integredig. Mae'n gweithio fel gwaith integredig. Byddai hynny'n cymryd miloedd o swyddi, nid yn unig yn y gwaith, ond yn y gymuned ac yn y gadwyn gyflenwi a chontractau allanol. Felly, a fyddwch chi’n cael y trafodaethau hynny er mwyn sicrhau nad ydym yn cyrraedd y sefyllfa honno, nad ydym yn gweld y gwaith yn cael ei ddatgymalu, ac nad ydym yn gweld y miloedd o swyddi hynny'n cael eu colli o ganlyniad i hynny?
Finally, First Minister, you’ve got, perhaps, confidence—I don’t have confidence—in the UK Government. I’m being open; I’m being honest. They have taken over two years to actually implement—and, from what I understand, the money still hasn’t come through—the green tax compensation package. Do you really have confidence that they will get their act together and do something for the steel industry? Because, as has been pointed out today, it’s a foundation industry, a strategic industry. Without steel in the UK, and particularly here in Wales, there is going to be a major impact upon manufacturing and the rest of our economy. It is important that my constituents—and they don’t have confidence at this point in time in the Tory Government—have confidence that we are going forward with a future plan in mind. I make no excuses for asking all of these questions, because thousands of people’s livelihoods depend upon the decisions that we take as a Government, both here and in the UK. I can tell people now: I will be no friend to any Government that abandons them. [Applause.] Yn olaf, Brif Weinidog, mae gennych chi, efallai, hyder—nid oes gennyf i hyder—yn Llywodraeth y DU. Rwy’n bod yn agored; rwy’n bod yn onest. Maen nhw wedi cymryd dros ddwy flynedd i weithredu—ac o'r hyn rwy’n ei ddeall, nid yw'r arian wedi dod drwyddo o hyd—pecyn iawndal y dreth werdd. A oes gennych chi wir hyder y byddant yn trefnu eu hunain ac yn gwneud rhywbeth dros y diwydiant dur? Oherwydd, fel y nodwyd heddiw, mae’n ddiwydiant sylfaenol, yn ddiwydiant strategol. Heb ddur yn y DU, ac yn enwedig yma yng Nghymru, bydd effaith fawr ar weithgynhyrchu a gweddill ein heconomi. Mae'n bwysig bod gan fy etholwyr hyder—ac nid oes ganddyn nhw hyder yn y Llywodraeth Dorïaidd ar hyn o bryd—ein bod ni’n symud ymlaen gyda chynllun â golwg ar gyfer y dyfodol. Nid wyf yn gwneud unrhyw esgusodion am ofyn yr holl gwestiynau hyn, gan fod bywoliaeth miloedd o bobl yn dibynnu ar y penderfyniadau a gymerwn fel Llywodraeth, yma ac yn y DU. Gallaf ddweud wrth bobl nawr: Ni fyddaf yn gyfaill i unrhyw Lywodraeth sy'n troi ei chefn arnyn nhw. [Cymeradwyaeth.]
14:23 - Carwyn Jones
Can I thank the Member for his comments? I know that he has been present at every opportunity to support those working in his constituency, and those living in his constituency. Whenever I have been in Port Talbot, he has been there, and he and I have had extensive discussions over the past few weeks about Port Talbot itself. So, could I pay tribute to him in that regard? A gaf i ddiolch i’r Aelod am ei sylwadau? Gwn ei fod wedi bod yn bresennol ar bob cyfle i gefnogi'r rhai sy'n gweithio yn ei etholaeth, a'r rhai sy'n byw yn ei etholaeth. Pryd bynnag yr wyf i wedi bod ym Mhort Talbot, mae wedi bod yno, ac mae ef a minnau wedi cael trafodaethau helaeth dros yr ychydig wythnosau diwethaf am Bort Talbot ei hun. Felly, a gaf i dalu teyrnged iddo yn hynny o beth?
I met with Tata Europe just before Christmas. It was at that point that it was indicated to me that there was a turnaround plan—the McKinsey plan, as it’s been suggested. Unfortunately, we know that the Tata board did not accept the turnaround plan. So, it’s at that point that we know that Tata decided that they wished to sell their assets within the UK. He is absolutely right to point out the difficulties of gathering expressions of interest in a very short timescale. Three to four weeks is the timescale that they mentioned to me. It’s an incredibly truncated timetable, not realistic, which is why, of course, I’ve been saying that the UK Government needs to stand ready—and we, of course, would be part of that process—to take over the running of those assets in order, at least, for there to be more time for a buyer to be found. Because the timetable is exceptionally truncated. The thing to emphasise again, as I mentioned earlier on, is that this is not some kind of antiquated industry. Port Talbot has seen investment—hundreds of millions of pounds of investment. It’s a good plant with modern machinery and a skilled workforce. So, in times where the world steel market was more robust than it is at this present moment in time, it would be a plant that would be attractive. It is a question of making sure it’s still there when the steel market picks up—as it will at some point in time; we know that. Cyfarfûm â Tata Europe ychydig cyn y Nadolig. Ar yr adeg honno yr awgrymwyd i mi bod cynllun gwrthdroad—cynllun McKinsey, fel y’i hawgrymwyd. Yn anffodus, rydym ni’n gwybod na wnaeth bwrdd Tata dderbyn y cynllun gwrthdroad. Felly, ar yr adeg honno yr ydym ni’n gwybod bod Tata wedi penderfynu ei fod yn dymuno gwerthu ei asedau yn y DU. Mae'n gwbl gywir i dynnu sylw at yr anawsterau o gasglu datganiadau o ddiddordeb mewn cyfnod byr iawn. Tair i bedair wythnos yw'r amserlen y gwnaethant ei chrybwyll i mi. Mae'n amserlen hynod o fyr, nad yw’n realistig, a dyna pam, wrth gwrs, yr wyf i wedi bod yn dweud bod angen i Lywodraeth y DU fod yn barod—a byddem ni, wrth gwrs, yn rhan o’r broses honno—i gymryd drosodd y gwaith o redeg yr asedau hynny er mwyn, o leiaf, cael mwy o amser i ddod o hyd i brynwr. Oherwydd mae’r amserlen yn fyr dros ben. Y peth i’w bwysleisio eto, fel y soniais yn gynharach, yw nad yw hwn yn rhyw fath o ddiwydiant hynafol. Mae Port Talbot wedi cael buddsoddiad—cannoedd o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad. Mae'n waith da â pheiriannau modern a gweithlu medrus. Felly, mewn cyfnod pan roedd y farchnad ddur fyd-eang yn fwy cadarn nag y mae ar hyn o bryd, byddai'n waith a fyddai'n ddeniadol. Mae'n gwestiwn o wneud yn siŵr ei fod yn dal i fod yno pan fydd y farchnad dur yn gwella—fel y gwnaiff ar ryw adeg; rydym ni’n gwybod hynny.
With regard to the steelworkers themselves, he has paid tribute to those in his community. He will know that the ‘abbey’, as everyone calls it, has been a source of employment for many in the wider area as well. In the south-west of my own constituency, the village of Cornelly was built to accommodate workers at the steelworks. So, the reach and influence of those works is very wide indeed. O ran y gweithwyr dur eu hunain, mae wedi talu teyrnged i'r rhai yn ei gymuned. Bydd yn gwybod fod yr 'abaty', fel y mae pawb yn ei alw, wedi bod yn ffynhonnell o gyflogaeth i lawer yn yr ardal ehangach hefyd. Yn ne-orllewin fy etholaeth fy hun, adeiladwyd pentref Corneli ar gyfer gweithwyr yn y gwaith dur. Felly, mae cyrhaeddiad a dylanwad y gwaith hwnnw’n eang iawn yn wir.
In terms of the responses that I've had from Tata, Tata have been aware of the package that was on the table. I think we have to accept that there is a limit to what we can do, and so there needs to be money put in as well by the UK Government. There is no getting away from the fact that, in order for the plants to be seen as attractive to buy, money needs to be on the table from Governments. We accept that. We've already put down that amount of money; we will have to look to see what might be needed in the future, and we’ll do that. That's already on the table, but the UK Government as well, of course, will need to put, from its more substantial resources, money in as well in order to make sure that a sale can take place. O ran yr ymatebion yr wyf wedi eu cael gan Tata, mae Tata wedi bod yn ymwybodol o'r pecyn a oedd ar y bwrdd. Rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni dderbyn bod terfyn i'r hyn y gallwn ei wneud, ac felly mae angen i Lywodraeth y DU gyfrannu arian hefyd. Nid oes modd dianc rhag y ffaith, er mwyn i'r gweithfeydd gael eu hystyried yn ddeniadol i’w prynu, bod angen i arian i fod ar y bwrdd gan Lywodraethau. Rydym ni’n derbyn hynny. Rydym eisoes wedi cynnig y swm hwnnw o arian; bydd yn rhaid i ni edrych i weld beth allai fod ei angen yn y dyfodol, a byddwn yn gwneud hynny. Mae hynny eisoes ar y bwrdd, ond bydd angen i Lywodraeth y DU hefyd, wrth gwrs, gyfrannu arian hefyd, o'i hadnoddau mwy sylweddol, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir sicrhau gwerthiant.
There has been extensive correspondence between ourselves and the UK Government, and between ourselves and the EU, in terms of the issue of tariffs, as the Member would expect, when this issue was a live—. I mean, there's extensive correspondence over energy prices going back many years, and, as the Member would expect, there's been correspondence over the issue of tariffs as well and the fact that the tariff barriers are far too low, particularly when compared to other countries and particularly after the news we heard on the weekend, in terms of what China has done. Bu gohebiaeth helaeth rhyngom ni a Llywodraeth y DU, a rhyngom ni a'r UE, o ran y mater o dariffau, fel y byddai'r Aelod yn ei ddisgwyl, pan roedd y mater hwn yn fyw—. Hynny yw, bu gohebiaeth helaeth ynghylch prisiau ynni ers blynyddoedd lawer, ac, fel y byddai'r Aelod yn ei ddisgwyl, bu gohebiaeth ynghylch y mater o dariffau, yn ogystal â'r ffaith bod y rhwystrau tariff yn llawer rhy isel, yn enwedig o'u cymharu â gwledydd eraill ac yn enwedig ar ôl y newyddion a glywsom dros y penwythnos, o ran yr hyn y mae Tsieina wedi ei wneud.
We want to be as constructive as we can. He is right to say that Tata need to act as a responsible seller. I’ve said that to them, and I've said that publicly, and they have said to me that they understand that their assets in the UK need to be in a state where they can be sold, and that would mean, of course, ensuring that the blast furnaces are still lit. He and I both know that, once blast furnaces cool down, a substantial amount of money has to be invested in order to get them back up and running again that would affect adversely the economics of any purchase, and that is what Tata have said to me, that they will ensure at the very least that what they are offering for sale will be in a state to be sold and, indeed, to be bought. So, I can assure the Member that we will continue to work with the UK Government and with others in order to ensure a future for our steel industry. I cannot imagine a major industrial economy without steel-making capacity, and that is what is staring us in the face here in the UK. It's important, then, that Governments at all levels work together to make sure that what is a strategic industry continues in that way in the future. Rydym ni eisiau bod mor adeiladol ag y gallwn. Mae'n iawn i ddweud bod angen i Tata weithredu fel gwerthwr cyfrifol. Rwyf wedi dweud hynny wrthynt, ac rwyf wedi dweud hynny’n gyhoeddus, ac maen nhw wedi dweud wrthyf eu bod yn deall bod angen i’w hasedau yn y DU fod mewn cyflwr lle gellir eu gwerthu, a byddai hynny'n golygu, wrth gwrs , sicrhau bod y ffwrneisi chwyth yn dal wedi’u cynnau. Mae ef a minnau’n gwybod, unwaith y bydd ffwrneisi chwyth yn oeri, bod yn rhaid buddsoddi swm sylweddol o arian er mwyn eu gwneud yn weithredol eto a byddai hynny'n effeithio’n andwyol ar economeg unrhyw bryniant, a dyna y mae Tata wedi ei ddweud wrthyf, y byddant yn sicrhau, o leiaf, y bydd yr hyn y maen nhw’n ei gynnig ar werth mewn cyflwr i'w werthu ac, yn wir, i gael ei brynu. Felly, gallaf sicrhau'r Aelod y byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a chydag eraill i sicrhau dyfodol i'n diwydiant dur. Ni allaf ddychmygu economi ddiwydiannol fawr heb allu i gynhyrchu dur, a dyna beth sy'n ein hwynebu yma yn y DU. Mae'n bwysig, felly, bod Llywodraethau ar bob lefel yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod yr hyn sy’n ddiwydiant strategol yn parhau felly yn y dyfodol.
14:27 - Y Llywydd / The Presiding Officer
I call William Graham, as Chair of the Enterprise and Business Committee—William Graham. Galwaf ar William Graham, fel Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes—William Graham.
14:27 - William Graham
Thank you, Presiding Officer, for this chance to consider the critical situation facing the Welsh steel industry. As Chair of the Enterprise and Business Committee, we held a meeting with the industry, the unions and the Minister to address the imminent dangers to steel—and this was a month ago. On behalf of that committee, I wrote to both the Secretary of State for business and the Welsh Secretary calling for urgent action on tariffs to counteract the dumping of Chinese steel on the market. We did note some of the EU measures have been successful. Chinese imports of wire rod fell to virtually zero last year after measures were imposed in 2009 and renewed last year. Inorganic coated steel Chinese imports fell 90 per cent following duties imposed in 2013, and stainless steel flat products again fell by almost 90 per cent following duties calculated under the lesser duty rule. And there are promising signs that measures imposed in January on rebar are starting to have an effect, with imports already reduced. But we also noted, as David Rees pointed out, that Russian steel now has entered the market at five and 10 per cent below even Chinese steel. Diolch i chi, Lywydd, am y cyfle hwn i ystyried y sefyllfa argyfyngus sy'n wynebu diwydiant dur Cymru. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes, fe wnaethom gynnal cyfarfod â'r diwydiant, yr undebau a'r Gweinidog i fynd i'r afael â'r peryglon a oedd ar fin digwydd i’r diwydiant dur—ac roedd hyn fis yn ôl. Ar ran y pwyllgor hwnnw, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros fusnes ac Ysgrifennydd Cymru yn galw am gamau gweithredu brys ar dariffau i leddfu effeithiau dympio dur o Tsieina ar y farchnad. Fe wnaethom nodi bod rhai o fesurau’r UE wedi bod yn llwyddiannus. Gostyngodd mewnforion o wialen wifr o Tsieina i fwy neu lai sero y llynedd ar ôl i fesurau gael eu gosod yn 2009 a’u hadnewyddu y llynedd. Gostyngodd mewnforion o ddur anorganig wedi’i orchuddio o Tsieina 90 y cant yn dilyn ardollau a osodwyd yn 2013, a bu gostyngiad o bron i 90 y cant i gynhyrchion dur di-staen gwastad eto yn dilyn ardollau a gyfrifir o dan y rheol ardollau llai. Ac mae arwyddion addawol bod mesurau a osodwyd ym mis Ionawr ar fariau dur atgyfnerthu yn dechrau cael effaith, ac mae mewnforion yn gostwng yn barod. Ond roeddem yn nodi hefyd, fel y dywedodd David Rees, bod dur o Rwsia erbyn hyn wedi dod i'r farchnad ar bump a 10 y cant yn is na dur o Tsieina hyd yn oed.
So, we highlighted the cost of energy prices to our manufacturers, which the First Minister has already covered, and we felt very strongly there should be a level playing field for producers in Wales. We also would call on the Welsh Government to speed up action on business rates, which were identified as a major factor in the wider financial pressures affecting the industry, and the First Minister has given an exposition already of how difficult that is. We noted, for example, in the plant and machinery, that even the reservoir is taxed, and that sort of facility is just some of the complexity in this. Felly, gwnaethom dynnu sylw at gost prisiau ynni i'n cynhyrchwyr, ac mae'r Prif Weinidog eisoes wedi ymdrin â hynny, ac roeddem yn teimlo'n gryf iawn y dylai fod chwarae teg i gynhyrchwyr yng Nghymru. Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r broses o weithredu ar ardrethi busnes, a nodwyd fel ffactor pwysig yn y pwysau ariannol ehangach sy'n effeithio ar y diwydiant, ac mae'r Prif Weinidog wedi rhoi esboniad eisoes o ba mor anodd yw hynny. Nodwyd gennym, er enghraifft, o ran offer a pheiriannau, bod hyd yn oed y gronfa yn cael ei threthu, ac nid yw'r math hwnnw o gyfleuster ond yn rhan o'r cymhlethdod yn hyn o beth.
However, when it comes to public sector procurement, the committee felt that we should ensure that contracting authorities in Wales and the rest of the United Kingdom do more to specify that our contracts deliver social benefits. We should do more to make sure that we use the weight of our buying power to support the steel industry, and infrastructure has already been identified. But we noted that, since 2011, of 130 Welsh Government corporate procurement contracts worth more than £0.5 million, only 53 per cent of those have been awarded to Welsh businesses. With Welsh Government capital procurement having awarded 44 contracts worth more than £500,000, just 36 per cent went to Wales-based businesses. The committee felt strongly that the Welsh Government should have published guidance, through its Value Wales division, ensuring the procurement of steel that meets the standards endorsed by the charter for sustainable British steel. At the meeting, we also heard that the Welsh Government was looking into the quality of Welsh steel, and perhaps the First Minister could give an indication of what has happened in that particular respect. We also enquired about the discussions with the United Kingdom Government on the possibility of an application to the European globalisation adjustment fund, and asked the First Minister for an update on that. Fodd bynnag, pan ddaw i gaffael yn y sector cyhoeddus, teimlai'r pwyllgor y dylem sicrhau bod awdurdodau contractio yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn gwneud mwy i nodi bod ein contractau yn sicrhau manteision cymdeithasol. Dylem wneud mwy i wneud yn siŵr ein bod yn defnyddio ein holl bŵer prynu i gefnogi'r diwydiant dur, ac mae seilwaith eisoes wedi'i nodi. Ond rydym wedi nodi, er 2011, o 130 o gontractau caffael corfforaethol Llywodraeth Cymru oedd werth mwy na £0.5 miliwn, mai dim ond 53 y cant o'r rheini sydd wedi eu dyfarnu i fusnesau Cymru. Mae adran caffael cyfalaf Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu 44 o gontractau gwerth mwy na £500,000, a dim ond 36 y cant o’r rheini aeth i fusnesau sydd wedi eu lleoli yng Nghymru. Teimlai'r pwyllgor yn gryf y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi cyhoeddi canllawiau, trwy ei his-adran Gwerth Cymru, i sicrhau ein bod yn caffael dur sy'n bodloni'r safonau a gymeradwywyd gan y siarter ar gyfer dur Prydeinig cynaliadwy. Yn y cyfarfod, clywsom hefyd fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar ansawdd dur Cymru, ac efallai y gallai'r Prif Weinidog roi syniad i ni o'r hyn sydd wedi digwydd ynglŷn â hynny yn benodol. Gwnaethom ofyn hefyd am y trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â’r posibilrwydd o wneud cais i Gronfa Addasu Globaleiddio Ewrop, a gwnaethom ofyn i'r Prif Weinidog am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â hynny.
The house will know that the committee is a cross-party committee, and what was absolutely resounding within our remarks was that Welsh steel must remain. Bydd y senedd yn gwybod bod y pwyllgor yn bwyllgor trawsbleidiol, a’r hyn a oedd yn atseinio'n bendant yn ein sylwadau oedd bod yn rhaid i ddur Cymru barhau.
14:30 - Carwyn Jones
Could I thank the Member for his comments? It’s correct to say that the amount of successful bids by Welsh businesses for public sector contracts has increased substantially over the years, although it’s true to say that we want to do more. We can’t stipulate that contracts should only go, obviously, to Welsh businesses—either by law or in any other way—but it is important that we’re able to help businesses to understand what is required in order to bid successfully for contracts. We understand, of course, that there is a role here for Welsh Government procurement as well as the much larger UK market. A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Mae'n gywir i ddweud bod nifer y ceisiadau llwyddiannus gan fusnesau o Gymru am gontractau sector cyhoeddus wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd, ond mae’n wir i ddweud ein bod yn dymuno gwneud mwy. Ni allwn bennu y dylai contractau fynd i fusnesau o Gymru—yn ôl y gyfraith neu mewn unrhyw ffordd arall, yn amlwg,—ond mae'n bwysig ein bod yn gallu helpu busnesau i ddeall beth sydd ei angen er mwyn iddynt allu gwneud cais llwyddiannus am gontractau. Rydym yn deall, wrth gwrs, fod swyddogaeth yma i adran gaffael Llywodraeth Cymru, yn ogystal â marchnad llawer mwy y DU.
The Member has already identified what I’ve said about business rates and about plant and machinery. He is correct in what he says with regard to some of the tariffs that have been imposed at EU level, but they don’t go far enough, that’s the difficulty. The situation is a swiftly changing one; we saw that following the Chinese decision on Saturday. I do emphasise this is not some kind of attack on China, as China is an important trading partner; it’s simply a plea for a level playing field. We know that other countries have put in place measures to protect their strategic industries of steel, of course; we need to make sure that the UK and, indeed, the Dutch Government both support what is needed and what is required in order to make sure that the steel industry has a level playing field here in Wales. I’ll continue to make that point, of course, to the Prime Minister tomorrow and, indeed, in subsequent discussions. Mae’r Aelod eisoes wedi nodi yr hyn yr wyf wedi ei ddweud am ardrethi busnes ac am offer a pheiriannau. Mae'n gywir yn yr hyn y mae'n ei ddweud o ran rhai o'r tariffau sydd wedi eu gosod ar lefel yr UE, ond nid ydynt yn mynd yn ddigon pell, dyna'r anhawster. Mae'r sefyllfa yn un sy’n newid yn gyflym; gwelsom hynny yn dilyn penderfyniad y Tsieineaid ddydd Sadwrn. Rwyf yn pwysleisio nad yw hyn yn rhyw fath o ymosodiad ar Tsieina, gan fod Tsieina yn bartner masnachu pwysig; apêl ydyw, yn syml, am chwarae teg. Rydym yn gwybod bod gwledydd eraill wedi rhoi mesurau ar waith i ddiogelu eu diwydiannau strategol sef dur, wrth gwrs; mae angen i ninnau wneud yn siŵr bod y DU ac, yn wir, Llywodraeth yr Iseldiroedd yn cefnogi'r hyn sydd ei angen a’r hyn sy’n ofynnol er mwyn gwneud yn siŵr bod y diwydiant dur yn cael chwarae teg yma yng Nghymru. Byddaf yn parhau i wneud y pwynt hwnnw, wrth gwrs, i'r Prif Weinidog yfory ac, yn wir, mewn trafodaethau dilynol.
14:32 - Rhun ap Iorwerth
Can I firstly thank the First Minister for responding positively to the requests for a recall of the Assembly and thank the Presiding Officer for ordering that recall? I think it was inconceivable that we would not have reconvened at this time. I should say at the outset that we all here want to see the UK Government do more—do much, much more. But, we’ve reconvened, of course, not just as a means to lobby UK Government, but to hold Welsh Government to account for its actions in responding to the steel crisis. A gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Prif Weinidog am ymateb yn gadarnhaol i'r ceisiadau am ailalw’r Cynulliad a diolch i'r Llywydd am orchymyn yr ailalw hwnnw? Rwy'n credu y byddai wedi bod yn annirnadwy na fyddem wedi ailymgynnull ar yr adeg hon. Dylwn ddweud ar y dechrau ein bod ni i gyd yma eisiau gweld Llywodraeth y DU yn gwneud mwy—gwneud llawer, llawer mwy. Ond, rydym wedi ailymgynnull, wrth gwrs, nid yn unig fel modd o lobïo Llywodraeth y DU, ond i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei gweithredoedd wrth ymateb i'r argyfwng dur.
Ministers, as I have, have regularly worn their ‘Save our Steel’ badges, since the onset of the current crisis, and saving our steel is something that all of us here are passionate about, but I’d remind Ministers that, making a public statement like that, asking for steel to be saved, can’t be a substitute for action. Welsh Government is not a pressure group in all this. Welsh Government is in a privileged position of being able to help forge the strategy, to lead the strategy, that can give steel a future, and Welsh Government should be very clear, not only in calling for UK Government action, but in spelling out exactly the kind of UK Government action that’s needed and how Welsh Government itself is ready to feed into that strategy in every way possible. A UK without a steel industry is something that isn’t worth thinking about, but there is added incentive, surely, for Welsh Government in seeking to show strategic leadership on the needs of steel in Wales, because to lose the steel industry here would be catastrophic—not only for the individuals directly affected, for the workers, their families and their communities, but for the Welsh economy as a whole. Wales is the most heavily dependent nation in Europe on the steel industry, and to lose steel for Wales would be like the UK losing its car industry three times over. That’s why we have needed a proactive Welsh Government and not a reactive one. Weinidogion, gan fy mod, yn rheolaidd wedi gwisgo eu bathodynnau 'Achubwch ein Dur', ers dechrau’r argyfwng presennol, ac mae achub ein dur yn rhywbeth y mae pob un ohonom yma yn angerddol drosto, ond byddwn i'n atgoffa’r Gweinidogion, na all gwneud datganiad cyhoeddus o'r fath, yn gofyn am i ddur gael ei achub, gymryd lle camau gweithredu. Nid grŵp pwyso yw Llywodraeth Cymru yn hyn i gyd. Mae Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa freintiedig o allu helpu i lunio’r strategaeth, i arwain y strategaeth, a all roi dyfodol i ddur, a dylai Llywodraeth Cymru fod yn glir iawn, nid yn unig wrth alw am gamau gweithredu gan Lywodraeth y DU, ond o ran egluro yn union y math o gamau y mae angen i Lywodraeth y DU eu cymryd a sut mae Llywodraeth Cymru ei hun yn barod i gyfrannu at y strategaeth honno ym mhob ffordd bosibl. Mae DU heb ddiwydiant dur yn rhywbeth nad yw'n werth meddwl amdano, ond mae cymhelliant ychwanegol, yn sicr, i Lywodraeth Cymru wrth geisio dangos arweinyddiaeth strategol ar anghenion dur yng Nghymru, oherwydd byddai colli'r diwydiant dur yma yn drychinebus—nid yn unig i’r unigolion yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, y gweithwyr, eu teuluoedd a'u cymunedau, ond ar gyfer economi Cymru gyfan. Cymru yw'r wlad sydd fwyaf dibynnol ar y diwydiant dur yn Ewrop, a byddai colli dur i Gymru fel y DU yn colli ei diwydiant ceir dair gwaith drosodd. Dyna pam mae arnom angen Llywodraeth Cymru ragweithiol ac nid adweithiol.
I’ll ask a number of questions to the First Minister. Looking forward, of course, is what is important now, but it is important also, I think, to revisit Government actions in the period leading up to where we are today. Firstly, whilst I’ve certainly regularly supported moves taken in light of the job losses announcement in January to respond to that situation in terms of seeking reskilling, and so on, and some of the announcements that have been made today in relation to enterprise zones and business rates, can the First Minister explain also what parallel work has been ongoing since January on the more strategic work of securing the industry’s very existence? Welsh Government knew since Christmas that the writing was on the wall, according to the ‘Financial Times’. Can I ask what detailed assessments did the First Minister order to be made, around Christmas perhaps, of the potential impact on the Welsh economy of the various options being sought by Tata? Rwyf am ofyn nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog. Edrych i’r dyfodol, wrth gwrs, sy’n bwysig nawr, ond mae'n bwysig hefyd, rwy’n meddwl, edrych eto ar weithredoedd y Llywodraeth yn y cyfnod yn arwain at y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw. Yn gyntaf, er ​​fy mod i yn sicr, yn rheolaidd, wedi cefnogi camau a gymerwyd yn sgil y cyhoeddiad am golli swyddi ym mis Ionawr i ymateb i'r sefyllfa honno o ran ceisio dysgu sgiliau newydd i’r gweithlu, ac yn y blaen, a rhai o'r cyhoeddiadau sydd wedi eu gwneud heddiw ynglŷn â pharthau menter ac ardrethi busnes, a all y Prif Weinidog egluro hefyd pa waith cyfochrog sydd wedi ei wneud ers mis Ionawr ar y gwaith mwy strategol o sicrhau bodolaeth y diwydiant? Roedd Llywodraeth Cymru yn gwybod ers y Nadolig fod yr ysgrifen ar y mur, yn ôl y 'Financial Times'. A gaf i ofyn pa asesiadau manwl y gwnaeth y Prif Weinidog orchymyn iddynt gael eu cynnal, o gwmpas y Nadolig efallai, o'r effaith bosibl ar economi Cymru gan y gwahanol ddewisiadau yr oedd Tata yn eu ceisio?
On the issue of tariffs, the First Minister was critical of UK Government on radio this morning; he’s been critical again this afternoon for blocking higher tariffs on Chinese steel imports. I must disagree with him, though, that this is not something we found out about at the weekend. Can I ask what formal representations Welsh Government made to UK Ministers at the time of the European-level deliberations about the risk of blocking tariffs on Chinese steel? Ar fater y tariffau, roedd y Prif Weinidog yn feirniadol o Lywodraeth y DU ar y radio y bore yma; mae ef wedi bod yn feirniadol eto y prynhawn yma am flocio tariffau uwch ar fewnforion dur o Tsieina. Mae'n rhaid i mi anghytuno ag ef, fodd bynnag, nad yw hyn yn rhywbeth y daethom i wybod amdano ar y penwythnos. A gaf i ofyn pa sylwadau ffurfiol a wnaed gan Lywodraeth Cymru i Weinidogion y DU ar adeg y trafodaethau ar lefel Ewrop am y risg o flocio tariffau ar ddur o Tsieina?
Can I ask what is the financial package available from Welsh Government, if not in pounds and pence at this stage, perhaps for valid commercial reasons, then perhaps the First Minister can tell us in terms of the purpose of that financial package, and how it fits in with what Welsh Government wants from UK Government? The First Minister said in his statement this afternoon that Welsh Government is willing to contribute from its resources the money they had previously pledged in support of a turnaround. Has the First Minister considered perhaps that it’s time to reassess the scale of that financial contribution, in light of the increased seriousness of the situation that we find ourselves in, perhaps reprioritising expenditure or current expenditure plans? Can I also ask what scale of contribution you have calculated you are seeking from UK Government in order to make your strategic proposals for the future of steel in Wales workable? A gaf i ofyn beth yw'r pecyn ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, os nad mewn punnoedd a cheiniogau ar y cam hwn, efallai am resymau masnachol dilys, yna efallai y gall y Prif Weinidog ddweud wrthym am ddiben y pecyn ariannol hwnnw, a sut y mae'n cyd-fynd â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru ei eisiau gan Lywodraeth y DU? Dywedodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad y prynhawn yma fod Llywodraeth Cymru yn barod i gyfrannu o'i hadnoddau yr arian yr addawodd yn flaenorol i gefnogi’r gwaith o wrthdroi’r sefyllfa. A yw'r Prif Weinidog efallai wedi ystyried ei bod yn amser i ailasesu maint y cyfraniad ariannol hwnnw, o ystyried difrifoldeb cynyddol y sefyllfa yr ydym yn canfod ein hunain ynddi, efallai ailflaenoriaethu gwariant neu’r cynlluniau gwariant cyfredol? A gaf i ofyn hefyd faint o gyfraniad yr ydych chi wedi’i gyfrifo i’w geisio gan Lywodraeth y DU er mwyn gwneud eich cynigion strategol ar gyfer dyfodol dur yng Nghymru yn ymarferol?
Now, the First Minister said this morning that Wales has only limited funds—true, of course—but he also said in an article in the ‘Independent’ a few days ago, ‘We cannot nationalise even if we had the resources and powers to do it’. Now, I’m not joining some ideological drive for permanent nationalisation—I’m looking for practical measures to get us through this crisis—but the Labour shadow chancellor said yesterday, ‘If we have to nationalise in the short term, fine.’ Even Sajid Javid for the UK Government, as an ideological opponent of intervention, said he didn’t want to rule it out. Can the First Minister perhaps explain why he seemed in that article unwilling to commit to doing whatever it takes, even if it is the last roll of the dice? Nawr, dywedodd y Prif Weinidog y bore yma mai cronfeydd cyfyngedig yn unig sydd gan Gymru—mae hyn yn wir, wrth gwrs—ond dywedodd hefyd mewn erthygl yn yr 'Independent' ychydig ddiwrnodau yn ôl na allwn wladoli hyd yn oed os byddai gennym yr adnoddau a'r pwerau i wneud hynny. Nawr, nid wyf yn ymuno â rhyw ymgyrch ideolegol dros wladoli parhaol—rwy’n chwilio am fesurau ymarferol i'n cael ni drwy'r argyfwng—ond dywedodd canghellor yr wrthblaid ddoe, os bydd yn rhaid i ni wladoli yn y tymor byr, mae hynny’n iawn. Dywedodd Sajid Javid hyd yn oed, ar ran Lywodraeth y DU, fel gwrthwynebydd ideolegol i ymyrraeth, nad oedd am ei ddiystyru. A all y Prif Weinidog efallai esbonio pam yr oedd yn ymddangos yn yr erthygl honno ei fod yn amharod i ymrwymo i wneud beth bynnag sydd ei angen, hyd yn oed os mai hwnnw yw’r cyfle olaf?
Now, we have put forward our ideas. I’m sure they’re not perfect; I’m sure that some proposals we have made raise further questions that need answering. But we have worked diligently with those in the industry in Wales and the UK and further afield, with economists, with unions, because we believe passionately in seeking a future for steel. Will the First Minister commit to engaging genuinely with us and other parties in pursuing solutions? Nawr, rydym wedi cyflwyno ein syniadau. Rwy'n siŵr nad ydyn nhw'n berffaith; Rwy'n siŵr bod rhai cynigion a wnaed gennym yn codi cwestiynau pellach y mae angen eu hateb. Ond rydym wedi gweithio'n ddiwyd gyda'r rhai hynny yn y diwydiant yng Nghymru ac yn y DU a thu hwnt, gydag economegwyr, gydag undebau, oherwydd ein bod yn angerddol dros geisio canfod dyfodol ar gyfer dur. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i ymgysylltu’n wirioneddol â ni a phartïon eraill wrth fynd ar drywydd atebion?
Finally, the First Minister also said in that ‘Independent’ article that he wanted boldness from the UK Government, and we’ve heard the Member for Aberavon saying today that he has little confidence in the actions coming from UK Government. We also require boldness from Welsh Government. I’m not entirely sure that we have yet a clear strategy spelt out by Welsh Government. Our workforce, our communities, our steel industry, our entire economy needs it; what is that bold plan that we can now expect? Our steel industry deserves no less. Yn olaf, dywedodd y Prif Weinidog hefyd yn yr erthygl honno yn yr 'Independent' ei fod am i Lywodraeth y DU fod yn feiddgar, ac rydym wedi clywed yr Aelod dros Aberafan yn dweud mai ychydig iawn o hyder sydd ganddo yn y camau gweithredu sy’n dod gan Lywodraeth y DU. Rydym hefyd yn gofyn am feiddgarwch gan Lywodraeth Cymru. Nid wyf yn hollol siŵr bod gennym strategaeth glir wedi ei nodi’n fanwl gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn. Mae ar ein gweithlu, ein cymunedau, ein diwydiant dur, ein heconomi gyfan angen hynny; beth yw’r cynllun beiddgar hwnnw y gallwn ei ddisgwyl bellach? Nid yw ein diwydiant dur yn haeddu dim llai na hynny.
14:39 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Before I ask the First Minister to respond, can I remind Members to turn their mobile phones off? That’s also members of the public in the public gallery, please, because it does interfere with the broadcasting system. Thank you. Sorry, First Minister. Cyn imi ofyn i'r Prif Weinidog i ymateb, a gaf i atgoffa’r Aelodau i ddiffodd eu ffonau symudol? A hefyd aelodau o'r cyhoedd yn yr oriel gyhoeddus, os gwelwch yn dda, oherwydd eu bod yn amharu ar y system ddarlledu. Diolch. Mae'n ddrwg gennyf, Brif Weinidog.
14:39 - Carwyn Jones
Could I thank the Member for his comments? If I could seek to respond to his first question by saying that the discussions that we had with Tata before Christmas identified the difficulties that Tata were experiencing and, at that point, they wished to move forward with the McKinsey report. We worked with them and, indeed, corresponded with both the UK Government and the EU in order to facilitate that outcome. After Christmas, it’s clear that the situation changed—that the Tata board obviously did not want to proceed with the McKinsey report and, at that point, decided to offer the assets up for sale. Sale was not an option before Christmas; it was something, at that stage, that they were strongly against. But that did change as a result of the comments that the Community union made to them—I have no doubt about that—and the comments that we made to them that it was not a question of fix or close, as it was put to me, it was fix or, if not, give the opportunity to sell. That’s exactly where we find ourselves at the moment, although there are still challenges, as we know, in terms of that option. A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Os caf geisio ymateb i'w gwestiwn cyntaf drwy ddweud bod y trafodaethau a gawsom gyda Tata cyn y Nadolig wedi nodi’r anawsterau yr oedd Tata yn eu profi ac, ar y pwynt hwnnw, roeddynt yn dymuno symud ymlaen gydag adroddiad McKinsey. Fe wnaethom weithio gyda nhw ac, yn wir, gwnaethom ohebu gyda Llywodraeth y DU a'r UE er mwyn hwyluso’r canlyniad hwnnw. Ar ôl y Nadolig, mae'n amlwg bod y sefyllfa wedi newid—nad oedd bwrdd Tata, yn amlwg, yn awyddus i fwrw ymlaen ag adroddiad McKinsey ac, ar yr adeg honno, gwnaethant benderfynu rhoi yr asedau ar werth. Nid oedd gwerthu yn ddewis cyn y Nadolig; roedd yn rhywbeth, bryd hynny, yr oeddent yn gryf yn ei erbyn. Ond newidiodd hynny yn sgil y sylwadau a wnaed iddynt gan undeb Community—nid oes gennyf amheuaeth am hynny—a'r sylwadau y gwnaethom ni eu nodi wrthynt nad oedd yn fater o ddatrys neu gau, fel y dywedwyd wrthyf i, roedd yn ddatrys neu, os nad hynny, rhoi'r cyfle i werthu. Dyna'n union lle yr ydym yn canfod ein hunain ar hyn o bryd, er bod heriau o hyd, fel y gwyddom, o ran y dewis hwnnw.
I did tell the Chamber what the financial package was, so I’ll repeat it for the Member. It’s in excess of £60 million: a £30 million loan, £30 million for environmental improvements for various projects and up to €2 million for skills and training. That package remains on the table. We will of course revisit what might need to be done as part of a package in the future. Dywedais wrth y Siambr beth oedd y pecyn ariannol, felly gwnaf ei ailadrodd ar gyfer yr Aelod. Mae'n fwy na £60 miliwn: benthyciad o £30 miliwn, £30 miliwn ar gyfer gwelliannau amgylcheddol ar gyfer prosiectau amrywiol a hyd at €2 filiwn ar gyfer sgiliau a hyfforddiant. Mae’r pecyn hwnnw yn parhau i fod ar y bwrdd. Byddwn wrth gwrs yn ailedrych ar yr hyn y gallai fod angen ei wneud yn rhan o becyn yn y dyfodol.
He asked what is the estimate of how much money it would take in effect. We’re talking many hundreds of millions. If you take on board the liabilities as well then it goes beyond that. The pension issue is significant, the UK Government would need to deal with that, and, of course, the environmental situation is also significant. But I don’t really follow that Tata would hand over their assets in the UK to whichever level of Government and also give a cheque of £1 billion on top of that. I think that’s difficult to see, although I know it’s been advocated by some, and it is correct to say that there is a substantial environmental liability if steel making doesn’t continue. Of course, if it continues, then that liability doesn’t crystallise. Gofynnodd beth yw'r amcangyfrif o faint o arian y byddai ei angen mewn gwirionedd. Rydym yn siarad am lawer o gannoedd o filiynau. Os ydych yn ystyried y rhwymedigaethau yn ogystal, yna mae'n mynd y tu hwnt i hynny. Mae mater y pensiynau yn sylweddol, byddai angen i Lywodraeth y DU ymdrin â hynny, ac, wrth gwrs, mae'r sefyllfa amgylcheddol hefyd yn sylweddol. Ond nid wyf i wir yn credu y byddai Tata yn cyflwyno eu hasedau i’r DU i ba bynnag lefel o’r Llywodraeth a hefyd rhoi siec o £1 biliwn ar ben hynny. Rwy'n credu ei bod yn anodd gweld hynny, er fy mod yn gwybod ei fod wedi’i argymell gan rai, ac mae'n gywir i ddweud bod yna atebolrwydd amgylcheddol sylweddol os nad yw gwneud dur yn parhau. Wrth gwrs, os bydd yn parhau, yna nid yw’r atebolrwydd hwnnw yn codi.
In terms of what we are doing as a Government, we know that the kind of sums we’re talking about here are beyond our resources as a Government, especially as we can’t borrow money and we can’t raise money. As I’ve said before, this is a UK strategic industry: it needs a UK approach. There are some plants in England as well—we should remember that—that are involved in the current process. That’s not to say, of course, that we would not reconsider what kind of finances would need to be put on the table in the future. Clearly, that has to be kept under review, although I’ve already told the Chamber what we have in reserves. We could not spend all our reserves on one thing and then have nothing for the next financial year. Clearly, Members will understand that that is the case. O ran yr hyn yr ydym yn ei wneud fel Llywodraeth, rydym yn gwybod bod y math o symiau yr ydym yn sôn amdanynt yn y fan yma y tu hwnt i'n hadnoddau ni fel Llywodraeth, yn enwedig gan na chawn fenthyg arian ac na chawn godi arian. Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, mae hwn yn ddiwydiant strategol i’r DU: mae angen dull y DU. Mae rhai gweithfeydd yn Lloegr yn ogystal—dylem gofio hynny—sydd yn rhan o'r broses bresennol. Nid yw hynny'n golygu dweud, wrth gwrs, na fyddem yn ailystyried pa fath o gyllid y byddai angen ei roi ar y bwrdd yn y dyfodol. Yn amlwg, mae'n rhaid parhau i adolygu hynny, ond rwyf eisoes wedi dweud wrth y Siambr faint sydd gennym mewn cronfeydd wrth gefn. Ni allem wario ein holl gronfeydd wrth gefn ar un peth ac wedyn heb fod â dim ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Yn amlwg, bydd yr Aelodau'n deall mai dyna'r gwir amdani.
What then is the plan? I’ve already identified the way forward as far as I am concerned as First Minister: we need to deal with tariffs and we need to deal with energy prices. No matter what we do, we cannot influence energy prices; that is for the UK Government and it is the same for tariffs. And also, of course, a commitment—. He asked me about nationalisation. I was sure he was being mischievous when he said this. What I’ve said is the Welsh Government can’t nationalise, we haven’t got the powers or the money to do it. Well, the UK Government does. If it means taking the plants into public ownership, certainly for the time being, of course, I’d be supportive of that—I’ve said that already in the Chamber today—particularly to give the industry a chance to recover in the future. But the resources lie in the hands of the UK Government. Beth felly yw'r cynllun? Rwyf eisoes wedi nodi y ffordd ymlaen cyn belled ag yr wyf i fel Prif Weinidog yn y cwestiwn: mae angen i ni ymdrin â thariffau ac mae angen i ni ymdrin â phrisiau ynni. Beth bynnag yr ydym yn ei wneud, ni allwn ddylanwadu ar brisiau ynni; mater i Lywodraeth y DU yw hwnnw ac mae hynny’n wir am dariffau hefyd. A hefyd, wrth gwrs, ymrwymiad—. Gofynnodd imi am wladoli. Roeddwn yn siwr ei fod yn bod yn ddireidus pan ddywedodd hyn. Yr hyn yr wyf wedi ei ddweud yw na all Llywodraeth Cymru wladoli, nid oes gennym y pwerau na’r arian i wneud hynny. Wel, mae gan Lywodraeth y DU. Os yw’n golygu cymryd y gweithfeydd i berchnogaeth gyhoeddus, yn sicr am y tro, wrth gwrs, byddwn i'n cefnogi hynny—rwyf wedi dweud hynny eisoes yn y Siambr heddiw—yn arbennig i roi cyfle i’r diwydiant adfer yn y dyfodol. Ond mae'r adnoddau yn nwylo Llywodraeth y DU.
We are not a pressure group—he’s right—we are not bystanders here, we are part of the process, but it’s not realistic to think that we have the resources purely in Wales to take over the Tata assets in Wales, together with the liabilities that are attached to them. There needs to be work by us, true. There needs to be work by the UK Government in terms of lessening some of those liabilities and, of course, work in terms of finding a buyer in the future. Nid grŵp pwyso ydym ni—mae e’n iawn—nid ydym yn gallu sefyll o'r neilltu yma, rydym yn rhan o'r broses, ond nid yw'n realistig i feddwl bod gennym yr adnoddau yng Nghymru yn unig i gymryd drosodd asedau Tata yng Nghymru, ynghyd â'r rhwymedigaethau sydd ynghlwm wrthynt. Mae angen gwaith gennym ni, mae'n wir. Mae angen gwaith gan Lywodraeth y DU o ran lleihau rhai o'r rhwymedigaethau hynny ac, wrth gwrs, gwaith o ran dod o hyd i brynwr yn y dyfodol.
14:44 - Peter Black
Can I reflect the words of previous Members in saying that it’s inconceivable that the steel industry should disappear from the United Kingdom economy; in terms of the region I represent in South Wales West, that we need to keep the Port Talbot works as a going concern; and that if it involves the UK Government, working with the Welsh Government, taking a stake in that to make that happen or even taking over the entire plant so as to make that happen in the short term, then I think that is something that needs to be actively considered? I think that we need a far greater level of action from the UK Government, in particular, in terms of how they will be approaching this, because, so far, all we have seen are words and very little action, and I’m very concerned indeed by the way that UK Ministers appear to be approaching this particular issue. A gaf i adlewyrchu geiriau Aelodau blaenorol gan ddweud ei bod yn annirnadol y byddai'r diwydiant dur yn diflannu o economi'r Deyrnas Unedig; o ran y rhanbarth yr wyf i yn ei gynrychioli yng Ngorllewin De Cymru, mae angen i ni gadw gweithfeydd Port Talbot yn fusnes gweithredol; ac os yw hynny'n golygu bod Llywodraeth y DU, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, gan gymryd rhan yn hynny i wneud i hynny ddigwydd neu hyd yn oed yn cymryd drosodd y gwaith cyfan er mwyn gwneud i hynny ddigwydd yn y tymor byr, yna rwy’n meddwl bod hynny'n rhywbeth y mae angen ei ystyried yn weithredol? Credaf fod angen llawer mwy o weithredu gan Lywodraeth y DU, yn arbennig, o ran sut y byddai’n mynd i’r afael â hyn, oherwydd, hyd yn hyn, y cyfan yr ydym wedi ei weld yw geiriau ac ychydig iawn o weithredu, ac rwy'n hynod bryderus yn wir o ran y ffordd y mae'n ymddangos bod Gweinidogion y DU yn ymdrin â’r mater penodol hwn.
First Minister, just in terms of some questions in relation to the Welsh Government, but also in terms of what you know of what the UK Government is doing—because I think we are reduced here to actually asking questions of the UK Government through what you know of what they’re doing, which is not the ideal situation. But, first of all, in terms of business rates, you’ve told the Chamber that your own £60 million package is the preferred way forward for the UK Government. I accept that that is 10 times what you’d get from a business rates package concentrated on plant and machinery, but could you confirm whether you are also proceeding with the recommendations in terms of business rates on plant and machinery in addition to that package, and if so, what sort of timescale would apply to that? Because although the £60 million is a very important package, anything on top of that that makes this plant a better going concern for someone to take over, by reducing their costs, would of course make things much easier. Brif Weinidog, o ran rhai cwestiynau ynglŷn â Llywodraeth Cymru, ond hefyd o ran yr hyn yr ydych chi’n ei wybod am yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud—oherwydd rwy’n credu ein bod mewn sefyllfa yma, mewn gwirionedd, o ofyn cwestiynau i Lywodraeth y DU drwy'r hyn yr ydych chi’n ei wybod am yr hyn y maent yn ei wneud, ac nid yw honno’n sefyllfa ddelfrydol. Ond, yn gyntaf oll, o ran ardrethi busnes, rydych wedi dweud wrth y Siambr mai eich pecyn eich hun o £60 miliwn yw'r ffordd ymlaen a ffefrir gan Lywodraeth y DU. Rwy’n derbyn bod hynny 10 gwaith yr hyn y byddech yn ei gael o becyn ardrethi busnes wedi'i ganolbwyntio ar offer a pheiriannau, ond a allwch chi gadarnhau pa un a ydych chi hefyd yn bwrw ymlaen â’r argymhellion o ran ardrethi busnes ar offer a pheiriannau yn ychwanegol at y pecyn hwnnw, ac os felly, pa fath o amserlen fyddai’n berthnasol i hynny? Oherwydd er bod y £60 miliwn yn becyn pwysig iawn, byddai unrhyw beth ar ben hynny sy'n gwneud y gwaith hwn yn fusnes gweithredol gwell i rywun ei gymryd drosodd, drwy leihau eu costau, wrth gwrs, yn gwneud pethau'n llawer haws.
In terms of the pension fund, it has been suggested that the UK Government should take over the pension fund in the same way as it took over the Royal Mail pension fund, which made the Royal Mail sell-off a more viable one. Do you know, through your conversations with UK Ministers, whether they are actively considering this as a potential way forward? If so, is this something that the UK Government is prepared to commit to? O ran y gronfa bensiwn, awgrymwyd y dylai Llywodraeth y DU gymryd y cyfrifoldeb am y gronfa bensiwn yn yr un modd ag y cymerodd y cyfrifoldeb am gronfa bensiwn y Post Brenhinol, a wnaeth y broses o werthu’r Post Brenhinol yn un mwy hyfyw. A ydych chi’n gwybod, drwy eich sgyrsiau gyda Gweinidogion y DU, pa un a ydynt yn ystyried hyn yn ymarferol fel ffordd bosibl ymlaen? Os felly, a yw hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth y DU yn barod i ymrwymo iddo?
We’ve heard a lot of talk about the tariffs. Of course, the UK Ministers themselves have referred to this. However, the question about the abolition of the lesser duty rule is one that I think we are all concerned about. That is effectively keeping tariffs on steel at too low a level, compared to what is required to counter the cheap steel coming in from China and other countries. In your conversations with UK Ministers, do you get an impression that they now understand that their previous opposition to the abolition of the lesser duty rule has hurt Tata Steel, and particularly in terms of Port Talbot; and do you get an impression that they now understand that they may need to reverse that opposition in the future? Rydym wedi clywed llawer o sôn am y tariffau. Wrth gwrs, mae Gweinidogion y DU eu hunain wedi cyfeirio at hyn. Fodd bynnag, mae’r cwestiwn am ddiddymu'r rheol ardollau llai yn un yr wyf yn meddwl yr ydym i gyd yn pryderu amdano. Mae hynny'n cadw tariffau ar ddur ar lefel rhy isel, o'i gymharu â'r hyn sydd ei angen, i wrthsefyll y dur rhad sy’n dod i mewn o Tsieina a gwledydd eraill. Yn eich sgyrsiau gyda Gweinidogion y DU, a ydych chi’n cael yr argraff eu bod bellach yn deall bod eu gwrthwynebiad blaenorol i ddileu'r rheol ardollau llai wedi niweidio Tata Steel, ac yn arbennig o ran Port Talbot; ac a ydych chi yn cael yr argraff eu bod bellach yn deall y gallai fod angen iddynt wrthdroi'r gwrthwynebiad hwnnw yn y dyfodol?
Kirsty Williams referred, I think, to not wanting to bring someone in who would be asset stripping this plant. I certainly support that. We can’t have someone buying the Tata Steel operation and then asset stripping it. I’m also concerned as well, because we’ve heard talk of buyers who are more interested in the electric arc type of production, which would effectively downgrade the level of production that is available in the steel rolling mills in Port Talbot. Can I have your assurance that that is being discussed and whether any buyer taking over Port Talbot is looking at a downgrading of that production to effectively recycling steel rather than actually producing the high-quality steel that is currently being produced there? Cyfeiriodd Kirsty Williams, rwy’n meddwl, at beidio â bod eisiau dod â rhywun i mewn a fyddai'n stripio asedau’r gwaith hwn. Rwyf i yn sicr yn cefnogi hynny. Ni allwn gael rhywun yn prynu Tata Steel ac yna’n stripio ei asedau. Rwyf hefyd yn bryderus, oherwydd ein bod wedi clywed sôn am brynwyr sydd â mwy o ddiddordeb yn y math arc trydan o gynhyrchu, a fyddai, yn ymarferol, yn israddio lefel y cynhyrchu sydd ar gael yn y melinau rholio dur ym Mhort Talbot. A allaf i gael eich sicrwydd bod hynny’n cael ei drafod a pha un a oes unrhyw brynwr a fyddai’n cymryd drosodd Port Talbot yn ystyried israddio'r gwaith cynhyrchu i ailgylchu dur, mewn gwirionedd, yn hytrach na chynhyrchu'r dur o ansawdd uchel sy'n cael ei gynhyrchu yno ar hyn o bryd?
Finally, First Minister, in terms of the Welsh Government’s direct support for the Port Talbot area, I very much welcome the fact that the enterprise zone is being taken forward. I think that’s a very important initiative, and I think it’s absolutely crucial that we get that. We mustn’t forget that 750 jobs are effectively gone irrespective of what happens in terms of Tata Steel. It’s very important that support is going in there in terms of training et cetera to try to find new jobs and new sources of employment for the Port Talbot area. Will the Welsh Government be taking forward the suggestion I made a number of times in this Chamber—or the other Chamber—in terms of an urban development company for Port Talbot in the same way as the Welsh Government established in 2003 in Newport as a means of trying to attract investment into the area and as a means of providing incentives for companies to come in and provide additional employment in the Port Talbot and wider area? Yn olaf, Brif Weinidog, o ran cymorth uniongyrchol Llywodraeth Cymru ar gyfer ardal Port Talbot, rwyf yn croesawu'n fawr y ffaith bod y parth menter yn cael ei ddatblygu. Rwy'n credu bod honno'n fenter bwysig iawn, ac rwy’n credu ei fod yn gwbl hanfodol ein bod yn cael hynny. Mae'n rhaid i ni beidio ag anghofio bod 750 o swyddi wedi mynd mewn gwirionedd, beth bynnag sy'n digwydd o ran Tata Steel. Mae'n bwysig iawn bod cefnogaeth yn cael ei rhoi o ran hyfforddiant ac ati i geisio dod o hyd i swyddi newydd a ffynonellau newydd o gyflogaeth i ardal Port Talbot. A fydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r awgrym a wnaed gennym sawl gwaith yn y Siambr hon—neu'r Siambr arall—o ran cwmni datblygu trefol ar gyfer Port Talbot yn yr un modd ag y sefydlodd Llywodraeth Cymru yn 2003 yng Nghasnewydd fel ffordd o geisio denu buddsoddiad i'r ardal ac fel modd o ddarparu cymhellion i gwmnïau ddod i mewn a darparu cyflogaeth ychwanegol yn ardal Port Talbot a’r cyffiniau?
14:49 - Carwyn Jones
Can I thank the Member for his comments? He talked, of course, about Port Talbot. I need to emphasise—and I’m sure that this is his view as well—that we are talking about all the plants as a package. Port Talbot on its own—. The heavy end at Port Talbot is the end with the greatest difficulties at the moment, and it’s important, of course, that we look at this as a package. I understand that it’s in his region, and he has focused on Port Talbot. He will have heard what I said about business rates and the fact that we put in place a package that was far bigger than what we were able to offer in terms of business rates, and far swifter in terms of the situation with regard to plant and machinery. I can say, though, that we have asked the Valuation Office Agency about whether the state of the industry can be taken into account in steel sector valuations. They have advised that, although their preferred approach is not to apply an industry-wide allowance, they will be considering the state of the market and its impact on how each plant is operating for the 2017 valuation. Although the full impact of this won’t be clear until the revaluation process is complete, it does mean that, from 2017, rateable values will better reflect the current circumstances at steel plants in Wales. A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Siaradodd, wrth gwrs, am Bort Talbot. Mae angen i mi bwysleisio—ac rwy'n siŵr mai dyma ei farn ef hefyd—ein bod yn sôn am yr holl weithfeydd fel pecyn. Port Talbot ar ei ben ei hun—. Y pen trwm ym Mhort Talbot yw’r pen â’r anawsterau mwyaf ar hyn o bryd, ac mae'n bwysig, wrth gwrs, ein bod yn ystyried hwn fel pecyn. Rwy’n deall ei fod yn ei ranbarth ef, ac mae wedi canolbwyntio ar Bort Talbot. Bydd ef wedi clywed yr hyn a ddywedais am ardrethi busnes a'r ffaith i ni sefydlu pecyn a oedd yn llawer mwy na'r hyn yr oeddem yn gallu ei gynnig o ran ardrethi busnes, ac yn llawer cyflymach o ran y sefyllfa offer a pheiriannau. Gallaf ddweud, fodd bynnag, ein bod wedi gofyn i Asiantaeth y Swyddfa Brisio ynghylch pa un a all cyflwr y diwydiant gael ei ystyried mewn prisiadau yn y sector dur. Maent wedi dweud, er eu bod hwy yn ffafrio defnyddio lwfans ledled y diwydiant, y byddant yn ystyried cyflwr y farchnad a'i effaith ar sut y mae pob un o’r gweithfeydd yn gweithredu ar gyfer prisiad 2017. Er na fydd effaith lawn hyn yn glir hyd nes bod y broses ailbrisio wedi ei chwblhau, mae'n golygu y bydd gwerthoedd ardrethol, o 2017 ymlaen, yn adlewyrchu yn well yr amgylchiadau presennol mewn gweithfeydd dur yng Nghymru.
He asked me if I had a view on what the UK Government’s view was about pensions. I think it’s probably fair to say that they have not been persuaded until now of the need to intervene on the pension fund issue, but that situation may be changing today. I’m trying to be diplomatic and say that the situation is fluid with regard to the UK Government. It may well be that they are reconsidering what needs to be done in terms of the pension fund. He’s right in terms of what he says about the LDR rule. He is right that the UK Government opposed the abolition of LDR, and I will be making the point to the Prime Minister tomorrow that we need to—. Once again, we need to make sure that they do disappear to make sure that we can get the right tariffs in place, not as a baldly protectionist measure but to create a level playing field that the workers in our plants in Wales deserve. Gofynnodd i mi a oeddwn yn gwybod beth yw safbwynt Llywodraeth y DU ar bensiynau. Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud nad ydynt wedi cael eu hargyhoeddi hyd yn hyn am yr angen i ymyrryd ar fater y gronfa bensiwn, ond efallai bydd y sefyllfa honno yn newid heddiw. Rwy’n ceisio bod yn ddiplomatig drwy ddweud y gallai'r sefyllfa newid o ran Llywodraeth y DU. Mae'n ddigon posibl eu bod yn ailystyried yr hyn sydd angen ei wneud o ran y gronfa bensiwn. Mae'n iawn o ran yr hyn y mae'n ei ddweud am y rheol ardollau is. Mae'n iawn bod Llywodraeth y DU yn gwrthwynebu diddymu'r rheol ardollau is, a byddaf yn nodi’r pwynt hwnnw wrth y Prif Weinidog yfory bod angen i ni—. Unwaith eto, mae angen i ni wneud yn siwr nad ydynt yn diflannu i wneud yn siŵr ein bod yn gallu cael y tariffau cywir ar waith, nid fel mesur gwarchodol amlwg ond i sicrhau'r chwarae teg, y mae gweithwyr yn ein gweithfeydd yng Nghymru yn ei haeddu.
It is very early days yet, with regard to a buyer, and we have to wait to see whether other buyers come forward. But clearly, from our perspective, the objective is to ensure that the plants continue to employ people, obviously, and to continue to be in a position where they offer the jobs that they do now. But it’s difficult to give a guarantee on that because we don’t know, as yet, how many buyers might come forward and what the nature of their interest might be. We will take on board the issues of the urban development company—or something like it—that he has mentioned. We have the taskforce, of course. It may be that, in time, the taskforce starts to look at other options, depending, of course, on what news we get with regard to the future of the steel industry. Dyddiau cynnar iawn yw'r rhain, o ran cael prynwr, ac mae'n rhaid i ni aros i weld a fydd prynwyr eraill yn dod i'r amlwg. Ond yn sicr, o'n safbwynt ni, yr amcan yw sicrhau bod y gweithfeydd yn parhau i gyflogi pobl, yn amlwg, ac i barhau i fod mewn sefyllfa lle maent yn cynnig y swyddi y maent yn eu cynnig ar hyn o bryd. Ond mae'n anodd rhoi gwarant ar hynny oherwydd nid ydym yn gwybod, hyd yma, faint o brynwyr allai ddod i'r amlwg a beth allai natur eu diddordeb fod. Byddwn yn ystyried materion y cwmni datblygiad trefol—neu rywbeth tebyg iddo—y soniodd amdano. Mae gennym y tasglu, wrth gwrs. Mewn amser, gallai’r tasglu ddechrau edrych ar ddewisiadau eraill, yn dibynnu, wrth gwrs, ar ba newyddion a gawn ynglŷn â dyfodol y diwydiant dur.
14:51 - John Griffiths
First Minister, Port Talbot is at the eye of the storm as far as the fight for the life of the UK steel industry is concerned—unsurprisingly, given the scale and capacity of the operations there, the jobs involved, and the importance to the regional economy. Nonetheless, Llanwern, Trostre and Shotton are also vital to their local and regional economies, and I think we’ve heard that reflected in various contributions today and, indeed in your own statement, for which I am very grateful, along with all the work that the Welsh Government has done, and is doing, to deal with this crisis. Brif Weinidog, mae Port Talbot yn yng nghanol y storm o safbwynt y frwydr dros fodolaeth y diwydiant dur yn y DU—nid yw hynny'n syndod, o ystyried maint a gallu'r gweithrediadau yno, y swyddi dan sylw, a pha mor bwysig ydynt i economi’r rhanbarth. Serch hynny, mae Llanwern, Trostre a Shotton hefyd yn hanfodol i'w heconomïau lleol a rhanbarthol hwythau, ac rwy'n credu ein bod wedi clywed hynny’n cael ei adlewyrchu mewn gwahanol gyfraniadau heddiw ac, yn wir yn eich datganiad eich hun, ac rwyf yn ddiolchgar iawn am hynny, ynghyd â'r holl waith y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud, ac y mae yn ei wneud, i ymdrin â'r argyfwng hwn.
First Minister, Newport has gone through some tough times as far as steel is concerned. There has been a lot of restructuring. Local workforces have had to adapt, and they have shown tremendous resilience. They have achieved amazing change and shown unquestionable commitment. We have seen that resilience reflected in continuing operations at Llanwern and, indeed, the Orb steelworks; also, at Liberty and a variety of smaller players. So, I think it’s clear that steel, with its strong history in Newport, still has a great future because of that adaptability, resilience and strength. So, I very much want to see the Welsh Government working with partners—the UK Government and others—to recognise that potential. Indeed, parts of the operations—and this isn’t true just of Newport and just of Llanwern and the Orb works, but is also true, I know, of other parts of the steel industry in Wales—are profitable at the current time. We must, of course, avoid any cherry-picking, as you’ve been very strong in saying, First Minister, and we must see all of the operations in Wales in and the UK as a whole. They are integrated. They do rely on each other, again as you’ve outlined today. So, that, I think, is the spirit within which this debate and this statement today takes place, First Minister—looking at it all as an integrated whole. When we look to restructuring and investment for the future, I do think that we need to look at it as a whole, and that will include those profitable operations at the moment, which do have great potential, and skilled workforces that have shown that they can produce world-class products that can be exported and can take advantage of niche markets. They have shown that innovation and strength to deal with the challenges of the current day and the future. I’m sure that, in the restructuring, the investment, and the research and development, First Minister, operations such as Llanwern and the Orb works will be at the forefront of supporting that expertise, that experience and that strength. I would like to hear from you today that that very much is the way that the Welsh Government is thinking. Brif Weinidog, mae Casnewydd wedi bod trwy adegau anodd cyn belled ag y mae dur yn y cwestiwn. Bu llawer o ailstrwythuro. Mae gweithluoedd lleol wedi gorfod addasu, ac maent wedi dangos cydnerthedd aruthrol. Maent wedi cyflawni newid anhygoel ac wedi dangos ymroddiad diamheuol. Rydym wedi gweld y cydnerthedd hwnnw yn cael ei adlewyrchu yn y gweithrediadau sy'n parhau yn Llanwern ac, yn wir, yng nghwaith dur yr Orb; hefyd, yn Liberty ac amrywiaeth o safleoedd llai. Felly, rwy’n credu ei bod yn amlwg bod gan ddur, â’i hanes cryf yng Nghasnewydd, ddyfodol gwych o hyd oherwydd yr hyblygrwydd, y cydnerthedd a’r cryfder hynny. Felly, rwyf i yn sicr eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid—Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac eraill i gydnabod y potensial hwnnw. Yn wir, mae rhannau o'r gweithrediadau—ac mae hyn yn wir nid yn unig am Weithfeydd Casnewydd a Llanwern a'r Orb, ond yn wir hefyd, rwy’n gwybod, am rannau eraill o'r diwydiant dur yng Nghymru—yn broffidiol ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i ni, wrth gwrs, osgoi unrhyw ddewis a dethol, fel yr ydych wedi bod yn ei ddweud yn gryf iawn, Brif Weinidog, ac mae'n rhaid i ni ystyried yr holl weithrediadau yng Nghymru ac yn y DU yn ei chyfanrwydd. Maent yn integredig â’i gilydd. Maent yn dibynnu ar ei gilydd, unwaith eto fel yr ydych wedi ei amlinellu heddiw. Felly, dyna, rwy’n credu, yw ysbryd y ddadl hon a’r datganiad hwn heddiw, Brif Weinidog—ystyried y cyfan fel cyfanwaith integredig. Pan fyddwn yn ystyried ailstrwythuro a buddsoddi ar gyfer y dyfodol, rwy’n meddwl bod angen inni ei ystyried yn ei gyfanrwydd, a bydd hynny’n cynnwys y gweithrediadau hynny sy’n broffidiol ar hyn o bryd, sydd â photensial helaeth, a gweithluoedd medrus sydd wedi dangos eu bod yn gallu cynhyrchu cynhyrchion o'r radd flaenaf y gellir eu hallforio ac sy’n gallu manteisio ar farchnadoedd arbenigol. Maent wedi dangos yr arloesedd a’r nerth i ymdrin â heriau'r presennol a'r dyfodol. Rwy'n siŵr y bydd gweithrediadau fel Llanwern a'r gwaith Orb, yn y gwaith ailstrwythuro, buddsoddi, ymchwil a datblygu, Brif Weinidog, ar flaen y gad o ran cefnogi’r arbenigedd hwnnw, y profiad hwnnw a’r nerth hwnnw. Hoffwn glywed gennych chi heddiw mai dyna yn sicr yw barn Llywodraeth Cymru hefyd.
When it comes to tariffs, First Minister, again, as you have mentioned, we have seen a new development with the imposition of tariffs by China on steels that will include the electrical steel that the Orb works in Newport produces. I think that has introduced a new element into this debate about tariffs and the dumping of steel from China and how UK Government needs to respond, and, indeed, how the European Union needs to respond. So, do you agree that this is a new factor that has to be assessed now, and that, perhaps, there needs to be a new look at how the UK Government responds to these questions and these issues of dumping and the terrible effect that has on our steel industry? Pan ddaw i dariffau, Brif Weinidog, unwaith eto, fel yr ydych wedi ei grybwyll, rydym wedi gweld datblygiad newydd gyda gosod tariffau gan Tsieina ar ddur a fydd yn cynnwys y dur trydanol y mae'r gwaith Orb yng Nghasnewydd yn ei gynhyrchu. Credaf fod hynny wedi cyflwyno elfen newydd i’r ddadl hon am dariffau a dympio dur o Tsieina a sut y mae angen i Lywodraeth y DU ymateb, ac, yn wir, sut y mae angen i'r Undeb Ewropeaidd ymateb. Felly, a ydych chi’n cytuno bod hwn yn ffactor newydd y mae angen ei asesu nawr, ac, efallai, bod angen ystyried o’r newydd sut y mae Llywodraeth y DU yn ymateb i'r cwestiynau hyn a’r problemau dympio hyn a'r effaith ofnadwy y mae’n ei gael ar ein diwydiant dur?
Also, First Minister, I think we've heard from a number of people today that there is a very basic fundamental question here that needs to be answered by the UK Government. Is the UK Government really prepared to countenance a UK that doesn’t have a substantial steel-making capacity? We've heard of the importance of the defence industry for our partnerships with other nations in terms of the UK's defence. We know about the importance for manufacturing in general, you know, for the standing and status of the UK as the fourth or fifth biggest economy on the world stage. Is the UK Government really willing to countenance a future for the UK that doesn't have that steel-making capacity, or are they willing to do whatever it takes to retain that capacity, including public ownership? Hefyd, Brif Weinidog, rwy’n credu ein bod wedi clywed gan nifer o bobl heddiw fod cwestiwn sylfaenol hanfodol iawn yma y mae angen i Lywodraeth y DU ei ateb. A yw Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yn barod i ystyried y DU heb allu sylweddol i wneud dur? Rydym wedi clywed am bwysigrwydd y diwydiant amddiffyn ar gyfer ein partneriaethau â chenhedloedd eraill o ran amddiffyn y DU. Rydym yn gwybod am bwysigrwydd gweithgynhyrchu yn gyffredinol, wyddoch chi, ar gyfer y sefyllfa a statws y DU fel y pedwerydd neu bumed economi fwyaf ar lwyfan y byd. A yw Llywodraeth y DU yn barod mewn gwirionedd i ystyried dyfodol ar gyfer y DU heb y gallu hwnnw i wneud dur, neu a ydynt yn barod i wneud beth bynnag sydd ei angen i gadw'r capasiti hwnnw, gan gynnwys perchnogaeth gyhoeddus?
As you’ve said, First Minister, it's a cyclical industry, and we had that experience in Newport. Not so many years ago, the heavy end was shut down in Newport. In short order, Corus were very much regretting that decision and saying, because the market had picked up again, because there was then a lot more demand for steel, they very much wished they'd retain that heavy end at Newport, and they were suffering financially as a result of not having retained that heavy end. So, it is a cyclical industry and, as you say, we need to find a way through to those better times, and public ownership might be the means of achieving that. Fel yr ydych chi wedi ei ddweud, Brif Weinidog, mae'n ddiwydiant cylchol, a chawsom y profiad hwnnw yng Nghasnewydd. Ychydig o flynyddoedd yn ôl, cafodd y pen trwm ei gau i lawr yng Nghasnewydd. Yn gyflym iawn, roedd Corus yn difaru’r penderfyniad hwnnw yn fawr ac yn dweud, oherwydd bod y farchnad wedi codi eto, oherwydd bod llawer mwy o alw am ddur, eu bod yn difaru na wnaethant gadw'r pen trwm yng Nghasnewydd, ac roeddent yn dioddef yn ariannol o ganlyniad i beidio â chadw'r pen trwm hwnnw. Felly, mae'n ddiwydiant cylchol ac, fel y dywedwch, mae angen i ni ddod o hyd i ffordd drwodd i’r amserau gwell hynny, ac efallai mai perchenogaeth gyhoeddus yw’r ffordd o gyflawni hynny.
Finally, First Minister, will you agree with me that, as I said, we must consider Tata’s operations in Wales as a whole—Port Talbot, Llanwern, Trostre and Shotton—and we must recognise the top-quality products and performance being produced and achieved in those various sites, and our planning, our investment for the future, research and development, must reflect that? There must be a sustainable future for all these plants, and it must be communities, trade unions and workforce, Welsh Government, UK Government, and the European Union, all working together for the outcome that I believe we all want to see, and that is: retaining that steel-making capacity, saving our steel for all our communities, First Minister, right across Wales. As with many other people here today, I’ve been out knocking doors and campaigning, and what I've heard from people is that they will not accept an end to steel making in the UK; they demand that it continues, and they want to see all levels of government working with the workforce and our trade unions to make sure that that is achieved. First Minister, we must not let our people down in Wales or across the UK. Yn olaf, Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â mi, fel y dywedais, bod yn rhaid inni ystyried gweithrediadau Tata yng Nghymru yn ei gyfanrwydd—Port Talbot, Llanwern, Trostre a Shotton—a bod yn rhaid i ni gydnabod y perfformiad a’r cynhyrchion o’r ansawdd uchaf sy’n cael eu cyflawni a’u cynhyrchu yn y gwahanol safleoedd hynny, a bod yn rhaid i’n gwaith cynllunio, ein buddsoddiad ar gyfer y dyfodol, ymchwil a datblygu, adlewyrchu hynny? Mae'n rhaid bod dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr holl weithfeydd hyn, ac mae'n rhaid i gymunedau, undebau llafur a'r gweithlu, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, a'r Undeb Ewropeaidd, i gyd weithio gyda'i gilydd i gyflawni’r canlyniad hwnnw yr wyf i o’r farn yr ydym i gyd yn dymuno ei weld, sef: cadw’r gallu hwnnw i gynhyrchu dur, achub ein dur ar gyfer ein holl gymunedau, Brif Weinidog, ar hyd a lled Cymru. Fel llawer o bobl eraill yma heddiw, rwyf wedi bod allan yn cnocio ar ddrysau ac yn ymgyrchu, a’r hyn yr wyf i wedi ei glywed gan bobl yw na fyddant yn derbyn dod â’r gwaith o gynhyrchu dur i ben yn y DU; maent yn mynnu bod hynny yn parhau, ac maent yn awyddus i weld pob lefel o lywodraeth yn gweithio gyda'r gweithlu a'n undebau llafur i wneud yn siŵr bod hynny'n cael ei gyflawni. Brif Weinidog, mae’n rhaid i ni beidio â siomi pobl yng Nghymru na ledled y DU.
14:58 - Carwyn Jones
I thank my old friend, the Member for Newport East, for the passion that he has displayed. I know he is somebody who cares very deeply about the steel industry as somebody who has lived his life in the shadow of what was Llanwern steelworks, and he understands, of course, the importance still to his constituents of the industry. Diolchaf i fy hen gyfaill, yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd, am yr angerdd y mae wedi ei ddangos. Rwyf yn gwybod bod y diwydiant dur yn agos iawn at ei galon gan ei fod wedi byw ei fywyd yng nghysgod yr hyn a oedd yn weithfeydd dur Llanwern, ac mae'n deall, wrth gwrs, bwysigrwydd y diwydiant o hyd i'w etholwyr.
There are some who argue that free trade is all-important, but there is no point arguing that where countries and economic blocs impose tariffs, and we've seen the tariff that's been imposed only in the course of the last weekend on steel made in his constituency. The point is this: there is no point trying to play by a self-imposed set of rules when nobody else is doing it, and it means that the UK has to put itself in a position where it is supportive of the tariffs that are needed at this stage, doing what everyone else is doing. This is not something unusual that would only happen within the EU; every big economic bloc or country is taking these steps in order to protect what they see as a strategic industry, and it's important that the UK does the same. Mae rhai yn dadlau bod masnach rydd yn holl bwysig, ond nid oes pwynt dadlau pan fo gwledydd a blociau economaidd yn gosod tariffau, ac rydym wedi gweld y tariff sydd wedi ei osod dros y penwythnos diwethaf ar ddur a gynhyrchir yn ei etholaeth ef. Y pwynt yw hwn: nid oes pwynt ceisio defnyddio cyfres o reolau hunanosodedig pan nad oes neb arall yn gwneud hynny, ac mae'n golygu bod yn rhaid i’r DU roi ei hun mewn sefyllfa lle y mae'n gefnogol i'r tariffau sydd eu hangen ar hyn o bryd, gan wneud yr hyn y mae pawb arall yn ei wneud. Nid yw hyn yn rhywbeth anarferol a fyddai ond yn digwydd yn yr UE; mae pob bloc economaidd mawr neu wlad yn cymryd y camau hyn er mwyn gwarchod yr hyn maent yn ei ystyried yn ddiwydiant strategol, ac mae'n bwysig bod y DU yn gwneud hynny hefyd.
The UK Government has given its commitment to the steel industry. It needs to deliver on that. That much is true, but we've been making this case to them for months, if not years. It's important now, of course, that we are able to work together to make sure that steel making continues in Wales and, indeed, the rest of the UK, because, as he rightly says, steel-making capacity is fundamental to a major industrial economy. It’s difficult to imagine, as I said before, how the UK could prosper without the ability to make its own steel—a fundamental basic, I’d argue, of any economy. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi ei hymrwymiad i'r diwydiant dur. Mae angen iddi gyflawni hynny. Mae cymaint â hynny'n wir, ond rydym wedi bod yn gofyn iddynt wneud hynny ers misoedd, os nad blynyddoedd. Mae'n bwysig nawr, wrth gwrs, ein bod yn gallu gweithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr bod y gwaith cynhyrchu dur yn parhau yng Nghymru ac, yn wir, yng ngweddill y DU, oherwydd, fel y dywed yn gywir, mae’r capasiti i gynhyrchu dur yn sylfaenol i economi ddiwydiannol fawr. Mae'n anodd dychmygu, fel y dywedais o'r blaen, sut y gallai'r DU ffynnu heb y gallu i gynhyrchu ei dur ei hun—elfen gwbl sylfaenol, byddwn i'n dadlau, o unrhyw economi.
He’s mentioned research and development. I did say earlier on, of course, that £2 million was available for skills and training as part of the package that we’ve put on the table. We’ve worked on R&D with Tata in the past and I know that, for example, Swansea University, with their new campus, have been very keen to work with Tata to provide the expertise that’s required for the future. What’s needed, of course, now is bridging the difficult gap that exists at the moment to get to that position where R&D can be developed further, where new product lines can be looked at in the future, in Port Talbot and the other plants, and bridging that gap now is all important. This is a strategic industry, as strategic as banking, and should be treated in the same way. Crybwyllodd ymchwil a datblygu. Dywedais yn gynharach, wrth gwrs, bod £2 filiwn ar gael ar gyfer sgiliau a hyfforddiant yn rhan o'r pecyn yr ydym wedi ei gynnig. Rydym wedi gweithio ar ymchwil a datblygu gyda Tata yn y gorffennol ac rwy’n gwybod, er enghraifft, bod Prifysgol Abertawe, gyda'i champws newydd, wedi bod yn awyddus iawn i weithio gyda Tata i ddarparu'r arbenigedd sydd ei angen ar gyfer y dyfodol. Yr hyn sydd ei angen nawr, wrth gwrs, yw pontio'r bwlch anodd sy'n bodoli ar hyn o bryd i gyrraedd y sefyllfa honno lle y gall ymchwil a datblygu gael ei ddatblygu ymhellach, lle gellid ystyried cynhyrchion newydd yn y dyfodol, ym Mhort Talbot a’r gweithfeydd eraill, ac mae pontio'r bwlch hwnnw nawr yn holl bwysig. Mae hwn yn ddiwydiant strategol, mor strategol â bancio, a dylid ei drin yn yr un modd.
15:00 - Suzy Davies
Thank you for your statement, First Minister, and can I also thank other people who’ve raised questions with you today—it certainly makes my list of questions a lot shorter—and also for your answers to those questions as well? I would like, however, to associate myself with those comments that have been expressed against asset stripping, those that are in favour of ensuring a long-term future for Port Talbot, and, of course, the—I think that ‘congratulations’ is the right word—congratulations for the workforce at all our plants, but particularly Port Talbot, obviously, as that’s in my region. Both my grandfather and my mother worked at Trostre, and I need no telling about how steel can make a metaphorical framework for a family’s finances, let alone the finances and the economy of a community. I think it’s incumbent on both Governments to do everything that they can to ensure that that framework does not collapse and that any shortfall in that ambition is avoided as best it can be by both those Governments. Diolch i chi am eich datganiad, Brif Weinidog, ac a gaf i ddiolch hefyd i bobl eraill sydd wedi codi cwestiynau gyda chi heddiw—mae'n sicr yn gwneud fy rhestr i o gwestiynau yn llawer byrrach a'ch atebion chi i'r cwestiynau hynny hefyd? Hoffwn, fodd bynnag, gysylltu fy hun â'r sylwadau hynny a fynegwyd yn erbyn stripio asedau, y rhai hynny sydd o blaid sicrhau dyfodol hirdymor ar gyfer Port Talbot, ac, wrth gwrs, y—credaf mai 'llongyfarchiadau' yw’r gair cywir—llongyfarchiadau i'r gweithlu ym mhob un o'n gweithfeydd, ond yn enwedig ym Mhort Talbot, yn amlwg, gan ei fod yn fy rhanbarth i. Gweithiodd fy nhad-cu a fy mam yn Nhrostre, ac nid oes angen dweud wrthyf i sut y gall dur wneud fframwaith trosiadol ar gyfer cyllid teulu, heb sôn am gyllid ac economi cymuned. Rwy'n credu bod dyletswydd ar y ddwy Lywodraeth i wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau na fydd y fframwaith hwnnw’n chwalu, a bod unrhyw ddiffyg yn yr uchelgais hwnnw yn cael ei osgoi cymaint â phosibl gan y ddwy Lywodraeth hynny.
While I recognise that the future of the works in Port Talbot is tied up with Welsh steel and UK steel as a whole, I think the concept of a strategic national industry is a meaningless concept unless it includes Port Talbot, and so I’ve been grateful to you for your comments today, and those of other Members, and, of course, for the Secretary of State yesterday, who said that he is intent on securing a future for Port Talbot. We all want the same thing on this, I think. Er fy mod yn cydnabod bod dyfodol y gweithfeydd ym Mhort Talbot ynghlwm â dur Cymru a dur y DU yn gyffredinol, rwy’n meddwl bod y cysyniad o ddiwydiant cenedlaethol strategol yn gysyniad diystyr oni bai ei fod yn cynnwys Port Talbot, ac felly rwyf wedi bod yn ddiolchgar ichi am eich sylwadau heddiw, a sylwadau Aelodau eraill, ac, wrth gwrs, yr Ysgrifennydd Gwladol ddoe, a ddywedodd ei fod yn benderfynol o sicrhau dyfodol ar gyfer Port Talbot. Rydym i gyd yn dymuno cael yr un peth o ran hyn, rwy’n credu.
I understand that specific Government interventions will depend on the nature of the applications to buy at some point in the future, but I would like to come back, if I may, First Minister, to the conversations you already have had with Tata about being sale ready, if I can put it like that. I appreciate that you said that, in your conversations at Christmas, you weren’t really considering a sale—I think the words you used were that Tata were strongly against a sale—but bearing in mind the world conditions at that time and the existing fragility within Tata, which had already divested itself of over 1,000 jobs in the Port Talbot area, I would be keen to know what it was that you asked of them specifically at the time. Deallaf y bydd ymyriadau penodol gan y Llywodraeth yn dibynnu ar natur y ceisiadau i brynu ar ryw adeg yn y dyfodol, ond hoffwn ddod yn ôl, os caf, Brif Weinidog, at y sgyrsiau yr ydych eisoes wedi eu cael gyda Tata ynglŷn â bod yn barod i werthu, os gallaf ei roi felly. Rwy’n sylweddoli eich bod wedi dweud, yn eich sgyrsiau ar adeg y Nadolig, nad oeddech wir yn ystyried gwerthu—credaf mai’r geiriau a ddefnyddiwyd gennych oedd bod Tata yn gryf yn erbyn gwerthu—ond o gofio yr amodau yn y byd ar y pryd a'r breuder presennol o fewn Tata, a oedd eisoes wedi gwaredu dros 1,000 o swyddi yn ardal Port Talbot, byddwn yn awyddus i wybod beth y gwnaethoch ofyn iddynt yn benodol amdano ar y pryd.
When MG Jaguar was in negotiations—and this is going back some time, obviously, now—certain requirements were made of that company before state help was offered to create the space, to tide it over, to be bought out, ironically, of course, by Tata, as it turned out. You have a support package on the table; I’m assuming you’ll have wanted some sort of reassurances for that. So, bearing in mind at Christmas you were saying that you were assured that a sale was not on the table—I do share the views of some people to my left here that that, perhaps, was a little bit naive—what were you asking of Tata at that stage to prove that it was still viable across all of its estate in Wales, and what did you ask them about the dreaded question—if there is going to be a sale, even though nobody wants it, what did you demand of them in terms of keeping it sale ready? I appreciate that you say that Tata’s a responsible employer and that they want to maintain their assets in order to make them attractive for sale, but what did you ask them for at that time? What did you think made them an attractive option, in anticipation of any sale? Pan oedd MG Jaguar mewn trafodaethau—ac mae hyn yn mynd yn ôl beth amser, yn amlwg, erbyn hyn—nodwyd gofynion penodol gan y cwmni hwnnw cyn cynnig cymorth y wladwriaeth i roi cyfle, i’w gadw i fynd, tan y gallai gael ei brynu, yn eironig, wrth gwrs, gan Tata, fel y digwyddodd. Rydych chi wedi cynnig pecyn cymorth; rwy'n tybio y byddwch wedi bod eisiau rhyw fath o sicrwydd am hynny. Felly, o gofio ar adeg y Nadolig eich bod yn dweud eich bod yn siŵr nad oedd gwerthu yn ddewis—rwyf yn rhannu barn rhai o’r bobl ar fy ochr chwith yma bod hynny, efallai, ychydig yn naïf—beth oeddech chi'n gofyn amdano i Tata bryd hynny i brofi ei fod yn dal yn hyfyw ar draws ei holl ystad yng Nghymru, a beth wnaethoch chi ofyn iddynt am y cwestiwn anodd—os oes gwerthu i fod, er nad oes neb yn dymuno i hynny ddigwydd, beth wnaethoch chi ei fynnu ganddynt o ran ei gadw’n barod i’w werthu? Rwy’n gwerthfawrogi eich bod yn dweud bod Tata yn gyflogwr cyfrifol a'i fod yn awyddus i gadw ei asedau er mwyn ei wneud yn ddeniadol i’w werthu, ond beth wnaethoch chi ofyn amdano ar y pryd? Beth oedd yn ei wneud yn ddewis deniadol yn eich barn chi, wrth ragweld unrhyw werthu?
We’ve also heard a little bit, in the media, primarily, of likely reorganisation—and, bearing in mind what I’ve already said about my antipathy to asset stripping, I think it’s also worth bearing in mind that Tata’s already done an awful lot of reorganisation, particularly at Port Talbot, so the word ‘reorganisation’, to me, just flags up more job-loss potential. I appreciate what you said about the Welsh Government’s creation of an enterprise zone and the announcements that have come through the taskforce. We also know what infrastructure projects aren’t immediately available to us. Can you tell us what the next Welsh Government would be able to confirm within days of becoming a Welsh Government in terms of infrastructure that can be acted upon immediately? What construction firms have told us in the past is that they need to be able to plan to procure, and what they don’t have at the moment is certainty about the infrastructure projects within Wales that they can immediately get to work on. Thank you. Rydym hefyd wedi clywed ychydig bach, yn y cyfryngau, yn bennaf, bod gwaith ad-drefnu yn debygol—ac, o gofio yr hyn yr wyf eisoes wedi’i ddweud fy mod yn erbyn stripio asedau, rwy’n credu ei bod hefyd yn werth cadw mewn cof bod Tata eisoes wedi gwneud llawer iawn o ad-drefnu, yn enwedig ym Mhort Talbot, felly mae'r gair 'ad-drefnu', i mi, ddim ond yn nodi mwy o botensial i golli swyddi. Rwy’n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedasoch am Lywodraeth Cymru yn creu parth menter a'r cyhoeddiadau sydd wedi dod trwy'r tasglu. Rydym hefyd yn gwybod pa brosiectau seilwaith nad ydynt ar gael ar unwaith i ni. A allwch chi ddweud wrthym beth y byddai Llywodraeth nesaf Cymru yn gallu ei gadarnhau o fewn dyddiau o ddod yn Llywodraeth Cymru o ran seilwaith y gellir gweithredu arno ar unwaith? Yr hyn y mae cwmnïau adeiladu wedi ei ddweud wrthym yn y gorffennol yw bod angen iddynt allu cynllunio i gaffael, a'r hyn nad oes ganddynt ar hyn o bryd yw sicrwydd am y prosiectau seilwaith yng Nghymru y gallant weithio arnynt ar unwaith. Diolch.
15:05 - Carwyn Jones
Just to clarify the situation for the Member, my discussions with Tata before Christmas, where at that point the choice was to move forward with the McKinsey report, which was the preferred option, and therefore put in place a turnaround plan—at that point, it was suggested that a sale wouldn’t be something that would be considered, because it would create competition. And so a sale was very much off the table at that point. We then worked with Tata and informed the UK Government of the situation, but it’s clear that at some point they decided that a sale was going to be an option. They were lobbied hard by the union, Community, I know, and by the other unions, and, indeed, I made the point to them that any decision to close would be very unwelcome—that they would need to move forward with the McKinsey plan, or, if that wasn’t possible, to look for sale, which is what they’ve decided to do at the moment. They were aware of the package of support that could be put on the table, but they needed more, and there was nothing else on the table at that moment in time from the UK Government. Dim ond i egluro'r sefyllfa i'r Aelod, roedd fy nhrafodaethau i gyda Tata cyn y Nadolig ar y pwynt pan y dewis oedd symud ymlaen gydag adroddiad McKinsey, sef y dewis a ffafriwyd, ac felly rhoi ar waith cynllun gwrthdroi—ar yr adeg honno, awgrymwyd na fyddai gwerthu yn rhywbeth a fyddai'n cael ei ystyried, oherwydd y byddai'n creu cystadleuaeth. Ac felly nid oedd gwerthu yn sicr yn ddewis a oedd ar gael ar y pryd. Yna, buom yn gweithio gyda Tata gan hysbysu Llywodraeth y DU am y sefyllfa, ond mae'n amlwg eu bod ar ryw adeg wedi penderfynu bod gwerthu yn mynd i fod yn ddewis. Cawsant eu lobïo'n galed gan yr undeb, Community, mi wn, a chan yr undebau eraill, ac, yn wir, gwnes i’r pwynt wrthynt y byddai unrhyw benderfyniad i gau yn annymunol iawn—ac y byddai angen iddynt symud ymlaen â chynllun McKinsey, neu, os nad oedd hynny'n bosibl, i chwilio am gyfle i werthu, sef yr hyn y maent wedi penderfynu ei wneud ar hyn o bryd. Roeddent yn ymwybodol o'r pecyn cymorth y gellid ei roi ar y bwrdd, ond roedd angen mwy arnynt, ac nid oedd unrhyw gynnig arall ar gael ar y pryd gan Lywodraeth y DU.
I think it’s fair to say that the UK Government didn’t see the seriousness of the situation; they do now, and I do believe the Prime Minister is keen to make sure that they do deal with the issue of tariffs and that they do deal with the issue of energy costs that we’ve been lobbying on for a long, long time. And, whatever happened in the past, the important point now is to move forward to secure the industry in the future. Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud nad oedd Llywodraeth y DU yn gweld pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa; maent yn gweld hynny erbyn hyn, ac rwyf yn credu bod Prif Weinidog y DU yn awyddus i wneud yn siwr eu bod yn ymdrin â'r mater o dariffau a'u bod yn ymdrin â'r mater o gostau ynni yr ydym wedi bod yn eu lobïo amdanynt ers amser maith iawn. A, beth bynnag ddigwyddodd yn y gorffennol, y pwynt pwysig nawr yw symud ymlaen i ddiogelu’r diwydiant yn y dyfodol.
In terms of being sale ready, that conversation occurred last week. When I asked Tata about what their plans were, they said to me that they understood that the asset needed to be sale ready, and I clarified with them that that would mean that the blast furnaces would remain lit in Port Talbot. That does not mean necessarily, of course, that it would continue to produce steel. As far as they were willing to go was to say that we will make sure that, if somebody wishes to buy, the blast furnaces would be in a condition where they can be sold; so, the blast furnaces would continue to be lit. O ran bod yn barod i werthu, cafwyd y sgwrs honno yr wythnos diwethaf. Pan ofynnais i Tata beth oedd eu cynlluniau, dywedwyd wrthyf eu bod yn deall bod angen i'r ased fod yn barod i’w werthu, ac eglurais iddynt y byddai hynny'n golygu y byddai'r ffwrneisi chwyth yn parhau i fod ynghynn ym Mhort Talbot. Nid yw hynny'n golygu o reidrwydd, wrth gwrs, y byddai'n parhau i gynhyrchu dur. Y pellaf yr oeddynt yn barod i fynd oedd dweud y byddent yn sicrhau, os bydd rhywun yn dymuno prynu, y byddai'r ffwrneisi chwyth mewn cyflwr lle y gellir eu gwerthu; felly, byddai'r ffwrneisi chwyth yn parhau i fod wedi eu cynnau.
In terms of infrastructure projects, the M4 relief road is one such project; I know there are different views in the Chamber on that, but that’s certainly the biggest potential infrastructure project that we have that we control, and, of course, things like the tidal lagoon and other UK projects. So, we can certainly move forward, depending on the result of the election, with the M4 relief road. There are other projects across Wales. Members will know that one of the issues being considered is another crossing over the Menai. That, of course, is a potential project. And, of course, Members will be aware of the metro and the opportunities that that offers. But, of themselves, they won’t be enough. We do need the tidal lagoon; we do need to make sure that there are opportunities for Welsh steel and British steel to be used in infrastructure projects that are taken forward across the whole of the UK. O ran prosiectau seilwaith, mae ffordd liniaru'r M4 yn un prosiect o'r fath; rwy'n gwybod bod gwahanol safbwyntiau yn y Siambr ynglŷn â hynny, ond hwnnw yn sicr yw’r prosiect seilwaith posibl mwyaf sydd gennym yr ydym ni yn ei reoli, ac, wrth gwrs, pethau fel y morlyn llanw a phrosiectau eraill y DU. Felly, gallwn yn sicr symud ymlaen, yn dibynnu ar ganlyniad yr etholiad, gyda ffordd liniaru'r M4. Mae prosiectau eraill ledled Cymru. Bydd yr Aelodau'n gwybod mai un o'r materion sy'n cael ei ystyried yw croesfan arall dros y Fenai. Mae hynny, wrth gwrs, yn brosiect posibl. Ac, wrth gwrs, bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r metro a'r cyfleoedd mae hwnnw'n eu cynnig. Ond, ar eu pennau eu hunain, ni fyddant yn ddigon. Mae angen y morlyn llanw arnom; mae angen i ni wneud yn siŵr bod cyfleoedd i ddur Cymru a dur Prydain gael ei ddefnyddio mewn prosiectau seilwaith sy'n cael eu datblygu ledled y DU gyfan.
15:08 - Bethan Jenkins
Thank you, Presiding Officer, for agreeing to the recall here today. I hear that some people are saying that it’s not worth having this recall, but I think that, as a nation, we have to show leadership, and, if this debate here today means anything, I think that showing leadership is key. Diolch i chi, Lywydd, am gytuno i alw'r Aelodau yn ôl yma heddiw. Rwyf yn clywed bod rhai pobl yn dweud nad yw'n werth i ni ailymgynnull, ond credaf fod yn rhaid i ni fel cenedl, ddangos arweinyddiaeth, ac, os yw'r ddadl hon yma heddiw yn golygu unrhyw beth, credaf fod dangos arweinyddiaeth yn allweddol.
I think, in all of what has happened in the past week, two things are absolutely certain, and others have said it too—that closure is not an option at Port Talbot, and we are just weeks away from running out of time. We all know by now—or, at least, we should all know by now—what the consequences would be for Port Talbot, and I speak of Port Talbot and I don’t apologise for doing that, because it’s an area that I represent. It’s all anyone is talking about on the doorstep, and rightly so. So, it’s right that we cut straight to it and thrash out what exactly this Assembly can do to fight for the future of this vital Welsh industry. Wales has to show leadership, and if, First Minister, we are not a pressure group, as you agreed with Rhun ap Iorwerth here on my right, then why were you not at the Tata talks in Mumbai as a Welsh Government, alongside the UK Government? Yn fy marn i, o blith popeth sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf, y mae dau beth yn gwbl sicr, ac mae eraill wedi ei ddweud hefyd— nad yw cau gwaith dur Port Talbot yn ddewis, ac mai wythnosau yn unig sydd ar ôl cyn ei bod yn rhy hwyr. Rydym i gyd yn gwybod erbyn hyn—neu, o leiaf, dylem i gyd fod yn gwybod erbyn hyn—beth fyddai'r canlyniadau i Bort Talbot, ac rwyf yn sôn am Bort Talbot ac nid wyf yn ymddiheuro am wneud hynny, gan ei bod yn ardal yr wyf yn ei chynrychioli. Dyma'r cwbl y mae pobl yn siarad amdano ar garreg eu drws, ac mae hynny'n gwbl briodol. Felly, mae'n iawn ein bod yn mynd rhagddi yn syth a gweld yn union beth all y Cynulliad hwn ei wneud i ymladd dros ddyfodol y diwydiant hwn sy'n hanfodol i Gymru. Mae'n rhaid i Gymru ddangos arweinyddiaeth, ac os, Brif Weinidog, nad grŵp pwyso ydym, fel y cytunasoch â Rhun ap Iorwerth yma i'r dde i mi, yna pam nad oeddech chi yn y trafodaethau Tata ym Mumbai fel Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â Llywodraeth y DU?
Let’s start with Tata itself. What intentions does the Welsh Government believe Tata has for its Welsh operations? The language coming from the company is worrying steelworkers. Its announcement was hardly a sales pitch. The company has restated its desire to sell, but has also highlighted the pension deficit, and Port Talbot’s supposed losses have risen from £1 million to £2.5 million a day. A sold and rejuvenated Port Talbot would directly compete with Tata’s European flagship plant in the Netherlands, so I want to know if you’ve discussed this with Tata and whether they, therefore, are serious about finding a buyer. Gadewch i ni ddechrau gyda Tata ei hun. Pa fwriadau y mae Llywodraeth Cymru yn credu sydd gan Tata ar gyfer ei weithrediadau yng Nghymru? Mae'r iaith a ddefnyddir gan y cwmni yn peri pryder i'r gweithwyr dur. Nid oedd ei gyhoeddiad yn fawr o hysbysebiad ar gyfer gwerthiant. Mae'r cwmni wedi ailddatgan ei ddymuniad i werthu, ond mae hefyd wedi tynnu sylw at y diffyg pensiwn, a bod colledion tybiedig Port Talbot wedi codi o £1 filiwn i £2.5 miliwn y dydd. Byddai gwerthu ac adfywio Port Talbot yn ei alluogi i gystadlu yn uniongyrchol â gwaith dur blaenllaw Ewropeaidd Tata yn yr Iseldiroedd, felly yr wyf yn awyddus i wybod os ydych wedi trafod hyn gyda Tata ac a ydynt, felly, o ddifrif am ddod o hyd i brynwr.
Has the Welsh Government asked Tata whether the current round of redundancies needs to or should go ahead if it is selling the site? A yw Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Tata a oes angen neu a ddylai'r rownd bresennol o ddiswyddiadau barhau os ydynt yn gwerthu'r safle?
Forgive me for not, potentially, understanding barrister-speak here today, but I want to know—earlier on, you said that you didn’t know whether they intended to close, but you must have known that there was a threat of this happening. I need to find clarity for the people in my area as to when exactly you or other Ministers knew, so that you could have put action in place as early as January or as late as December last year to make sure that we were on the ball with regard to this particular issue. Maddeuwch i mi am beidio, o bosibl, â deall y siarad bargyfreithiwr yma heddiw, ond yr wyf eisiau gwybod—yn gynharach, dywedasoch nad oeddech yn gwybod a oeddent yn bwriadu cau, ond mae'n rhaid eich bod yn gwybod bod bygythiad y gallai hyn ddigwydd. Mae angen i mi gael eglurder ar gyfer y bobl yn fy ardal ynglŷn â phryd yn union yr oeddech chi neu Weinidogion eraill yn gwybod, fel y gallech fod wedi gweithredu mor gynnar â mis Ionawr neu mor hwyr â mis Rhagfyr y llynedd i sicrhau ein bod o gwmpas ein pethau ynglŷn â'r mater penodol hwn.
On the reported daily losses, steelworkers tell me those figures are not real losses, but how far short of Tata’s projections the site is—what Tata had hoped to make, rather than what it lost. Have you queried those figures specifically, and, if so, what has Tata told you, because the media is reporting that as fact? You said earlier to us that you are not convinced of those figures. How do you say that? On what basis do you say that here today? Ynglŷn â'r colledion dyddiol a adroddir, mae'r gweithwyr dur yn dweud wrthyf nad yw'r ffigurau hynny yn golledion gwirioneddol, ond pa mor brin o amcanestyniadau Tata yw'r safle—yr hyn yr oedd Tata wedi gobeithio ei wneud, yn hytrach na'r hyn y mae wedi ei golli. A ydych chi wedi cwestiynu'r ffigurau hynny yn benodol, ac, os felly, beth y mae Tata wedi ei ddweud wrthych chi, oherwydd mae'r cyfryngau yn adrodd hynny fel ffaith? Dywedasoch wrthym yn gynharach nad ydych yn argyhoeddedig ynglŷn â'r ffigurau hynny. Sut ydych chi'n dweud hynny? Ar ba sail ydych chi'n dweud hynny yma heddiw?
With regard to a buyer, what kind of buyer would the Welsh Government think is best suited to turning the plant around, rather than a rush sell as many have talked about here today in terms of asset stripping the site, because we need to look carefully at proposals like those from Liberty? If the heavy end is shut down, as much as two thirds of the existing workforce could go. Has the Welsh Government considered that as part of its plans? O ran prynwr, pa fath o brynwr y byddai Llywodraeth Cymru yn meddwl fyddai fwyaf addas i weddnewid y gwaith dur, yn hytrach na gwerthu ar frys y mae llawer ohonoch wedi sôn amdano yma heddiw o ran tynnu popeth o werth oddi yno, oherwydd mae angen i ni edrych yn ofalus ar gynigion fel y rhai hynny gan Liberty? Os bydd y pen trwm yn cael ei gau i lawr, gallai cymaint â dwy ran o dair o'r gweithlu presennol fynd. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried hynny yn rhan o'i chynlluniau?
Has the Welsh Government worked with Tata to secure funding from the European fund for structural development and Horizon 2020, specifically for the Welsh steel industry now? Because I am aware of the finance Minister’s recent statements on both. I read them and I was trying to look for steel, but I couldn’t find anything within those two statements specifically on steel making. If this is the most important issue at the moment, then surely, if that Minister went to Brussels to have those conversations with Commission staff, steel making should have been at the heart of those discussions. I can’t see that from the Welsh Government statements. A yw Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Tata i sicrhau cyllid o'r gronfa Ewropeaidd ar gyfer datblygiad strwythurol a Horizon 2020, yn benodol ar gyfer diwydiant dur Cymru yn awr? Oherwydd, rwyf yn ymwybodol o ddatganiadau diweddar y Gweinidog Cyllid ar y ddau. Darllenais nhw ac roeddwn yn ceisio edrych am ddur, ond nid oeddwn yn gallu dod o hyd i unrhyw beth o fewn y ddau ddatganiad hynny yn benodol am ddur. Os mai hwn yw’r mater pwysicaf ar hyn o bryd, yna does bosib, pe byddai’r Gweinidog hwnnw’n mynd i Frwsel i gael y sgyrsiau hynny ag aelodau staff y Comisiwn, dylai gwneud dur fod wedi bod wrth wraidd y trafodaethau hynny. Ni allaf weld hynny yn natganiadau Llywodraeth Cymru.
Now matters are far more serious, it’s good to see that you’ve finally come around to the Plaid Cymru ideas of public ownership, as has David Rees. Has the Welsh Government reconsidered Plaid Cymru’s proposals for using its capital budget to support the building of the new power plant in Port Talbot? Our argument is that this can be viewed as an environmental improvement, which should mitigate any potential European concerns about state aids. Gan fod materion bellach yn llawer mwy difrifol, mae'n dda gweld eich bod chi’n cyd-weld â syniadau Plaid Cymru ynglŷn â pherchnogaeth gyhoeddus, fel y mae David Rees hefyd. A yw Llywodraeth Cymru wedi ailystyried cynigion Plaid Cymru ar gyfer defnyddio ei chyllideb gyfalaf i gefnogi adeiladu'r gwaith pŵer newydd ym Mhort Talbot? Ein dadl ni yw y gellir ystyried hyn yn welliant amgylcheddol, a ddylai liniaru unrhyw bryderon Ewropeaidd posibl am gymorth gwladwriaethol.
With regard to manufacturing, what discussions specific to Tata have you had with the EEF or other trade bodies? What are they saying to you about the future of our steel industry and how are their views being incorporated into your thinking? O ran gweithgynhyrchu, pa drafodaethau sy’n benodol i Tata ydych chi wedi'u cael gyda'r EEF neu gyrff masnach eraill? Beth maen nhw'n ei ddweud wrthych chi am ddyfodol ein diwydiant dur a sut y mae eu safbwyntiau nhw yn cael eu cynnwys yn eich ffordd o feddwl?
How does last week’s news change the work of the taskforce? I understand that they met today, but they didn’t meet last week, when this was all over the news. Why did they not have an emergency meeting, as we have been recalled here today? Surely the time for action is now. Sut y mae newyddion yr wythnos diwethaf yn newid gwaith y tasglu? Rwyf yn deall eu bod wedi cwrdd heddiw, ond ni wnaethant hynny yr wythnos diwethaf, pan oedd hyn i gyd yn y newyddion. Pam na chawsant gyfarfod brys, fel yr ydym ni wedi ein galw yn ôl yma heddiw? Onid nawr yw'r amser i weithredu.
To echo Leanne Wood’s calls earlier, can we now set up a separate work stream on the public ownership possibilities? At the moment, that’s not something that the taskforce has been told that they need to look into—if I’m wrong, I stand to be corrected. I ategu galwadau Leanne Wood yn gynharach, a allwn ni yn awr sefydlu ffrwd waith ar wahân ynglŷn â’r posibiliadau o ran perchnogaeth gyhoeddus? Ar hyn o bryd, nid yw hynny'n rhywbeth y mae'r tasglu wedi cael gwybod bod angen iddynt edrych arno—os ydw i'n anghywir, gallwch fy nghywiro.
With regard to pensions, schemes run comparable deficits to Tata’s and recover them in better economic times. I was alarmed to hear yesterday that Tata wants to shift its scheme to the pension protection fund, given the hugely unsatisfactorily position that the ASW workers are still in and Visteon pensioners previously had to deal with. We all know what happened there. Have you held any discussions with the DWP and the pensions regulator, specifically, on this, and would you as a Government make representations to seek to avoid it going into the PPF and ensure Tata honours any pensions obligations it has made? O ran pensiynau, mae cynlluniau yn rhedeg diffygion tebyg i rai Tata ac yn eu hadennill mewn cyfnodau economaidd gwell. Roeddwn wedi dychryn o glywed ddoe fod Tata eisiau trosglwyddo ei gynllun i’r gronfa diogelu pensiynau, o ystyried y sefyllfa hynod anfoddhaol y mae gweithwyr ASW yn dal i fod ynddi ac y bu'n rhaid i bensiynwyr Visteon ymdrin â hi yn flaenorol. Rydym i gyd yn gwybod beth ddigwyddodd bryd hynny. A ydych chi wedi cynnal unrhyw drafodaethau gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r rheoleiddiwr pensiynau, yn benodol ar hyn? Ac a fyddech chi fel Llywodraeth yn gwneud sylwadau i geisio osgoi y cynllun yn cael ei drosglwyddo i’r Gronfa Diogelu Pensiynau, a sicrhau bod Tata yn anrhydeddu unrhyw rwymedigaethau pensiwn y mae wedi eu gwneud?
Finally, has the Welsh Government made any estimate of how many jobs would be lost in the town and surrounding area that are not directly connected to but are reliant upon the works? I was in Port Talbot on Saturday, speaking to hairdressers, estate agents, butchers—they’re all concerned about the fact that, if jobs go at the plant, that will have, surely, a detrimental impact upon their work there. This is the biggest issue for Welsh politics now. The fire of our furnaces is the breath of our Welsh dragon. If it goes out, a part of Wales will die, and we cannot let this happen. Yn olaf, a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw amcangyfrifiad o faint o swyddi a fyddai’n cael eu colli yn y dref a'r cylch nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â'r gwaith dur, ond yn dibynnu arno? Roeddwn i ym Mhort Talbot ddydd Sadwrn, yn siarad â thrinwyr gwallt, gwerthwyr tai, cigyddion—maent i gyd yn pryderu am y ffaith, os bydd swyddi’n diflannu yn y gwaith dur, y bydd hynny, yn sicr, yn cael, effaith andwyol ar eu gwaith nhw yno. Dyma’r mater pwysicaf yng ngwleidyddiaeth Cymru ar hyn o bryd. Tân ein ffwrneisi yw anadl ein draig Gymreig. Os bydd yn diffodd, bydd rhan o Gymru yn marw, ac ni allwn adael i hyn ddigwydd.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Melding) i’r Gadair am 15:14. The Deputy Presiding Officer (David Melding) took the Chair at 15:14.
15:14 - Carwyn Jones
They’re serious. We have conversations on a regular basis with Tata and have done for many, many months and years. With regard to the pensions deficit, the last thing we would want to see is a situation arise where Tata pensioners did not have full access to their pension rights. That is not something that we would support. As far as the UK Government are concerned, they have not, up until now, suggested that they would be willing to take over the pension liability. Whether that changes in the next day or so, we will have to wait and see. Maent o ddifrif. Rydym yn cynnal sgyrsiau rheolaidd gyda Tata ac wedi gwneud hynny ers llawer iawn o fisoedd a blynyddoedd. O ran y diffyg pensiynau, y peth olaf y byddem am ei weld yw sefyllfa’n codi lle nad yw pensiynwyr Tata yn gallu cael gafael ar eu hawliau pensiwn cyfan. Nid yw hynny'n rhywbeth y byddem yn ei gefnogi. Cyn belled ag y mae Llywodraeth y DU yn y cwestiwn, nid ydynt, hyd yn hyn, wedi awgrymu y byddent yn barod i gymryd drosodd y rhwymedigaeth bensiwn. Pa un a fydd hynny yn newid yn y diwrnod neu ddau nesaf, bydd yn rhaid inni aros i weld.
As far as the situation with Tata was concerned, at no time did they ever indicate to us that they intended to close down their Welsh operations, or indeed Port Talbot. They indicated that they had the McKinsey report, and that’s what Tata Europe will be putting forward to the Tata board. We knew from the statement that they made. The first time that we knew, from the statement that they made from Mumbai, was that they wanted to sell. On that basis, of course, we have then moved forward rapidly in order to look to resolve the issues in the industry, working with the UK Government. O ran y sefyllfa gyda Tata, ni chafwyd arwydd ganddynt erioed eu bod yn bwriadu cau eu gweithrediadau yng Nghymru, nac yn wir ym Mhort Talbot. Dywedasant fod adroddiad McKinsey ganddynt, a dyna beth fydd Tata Ewrop yn ei gyflwyno i fwrdd Tata. Roeddem yn gwybod hyn o’r datganiad a wnaethant. Y tro cyntaf yr oeddem yn gwybod eu bod am werthu, oedd o’r datganiad a wnaethant o Mumbai.  Ar y sail honno, wrth gwrs, yr ydym wedyn wedi symud ymlaen yn gyflym er mwyn ceisio datrys y problemau yn y diwydiant, gan weithio gyda Llywodraeth y DU.
She is right to say—and I said this earlier on—that the £1 million a day lost is a figure that I’m sceptical about, mainly because I’ve had different figures from Tata themselves as to what the true figure is. I have no doubt that the heavy end, at the moment, in Port Talbot is losing money, but I’m not convinced that it is £1 million a day. Certainly, before Christmas, that was not the situation. I’ve had different figures since then. What exactly the situation is would require, of course, looking at the books in more detail. Absolutely no difficulty in making sure that there is a committed buyer. The last thing that we would want to see is a buyer who comes forward and then, of course, looks to reduce the size of the workforce, or indeed to asset strip the plants that are there already. Mae hi yn llygaid ei lle i ddweud—a dywedais hyn yn gynharach—fod yr £1 miliwn y dydd o golled yn ffigur yr wyf yn amheus yn ei gylch, yn bennaf oherwydd fy mod wedi cael ffigurau gwahanol gan Tata eu hunain o ran beth yw’r gwir ffigur. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod y pen trwm ym Mhort Talbot, ar hyn o bryd, yn colli arian, ond nid wyf yn argyhoeddedig ei fod yn £1 miliwn y dydd. Yn sicr, cyn y Nadolig, nid dyna oedd y sefyllfa. Rwyf wedi derbyn ffigurau gwahanol ers hynny. Byddai angen, wrth gwrs, edrych ar y llyfrau mewn mwy o fanylder er mwyn gweld beth yn union yw'r sefyllfa. Nid oes unrhyw anhawster o gwbl o ran sicrhau bod prynwr ymrwymedig. Y peth olaf y byddem eisiau ei weld yw prynwr yn dod ymlaen ac yna, wrth gwrs, yn mynd ati i leihau maint y gweithlu, neu yn wir tynnu pethau o werth o'r gwaith sydd yno eisoes.
She mentions the European globalisation fund. It’s for the UK Government, of course, to make applications under that. They have not done so so far. We will continue to press them to access all sources of European funding in order that they might be of benefit to the plant themselves. Mae hi'n sôn am y gronfa globaleiddio Ewropeaidd. Penderfyniad Llywodraeth y DU, wrth gwrs, yw gwneud ceisiadau o dan honno. Nid ydynt wedi gwneud hynny hyd yn hyn. Byddwn yn parhau i bwyso arnynt i gael gafael ar bob ffynhonnell o gyllid Ewropeaidd rhag ofn y gallent eu hunain fod o fudd i'r gwaith dur.
In terms of the power plant, it is something that we have been in discussions with Tata about. She will know about the package of support that I’ve already mentioned. That’s been on the table for some months; but, of course, what’s not happened so far is an equivalent-by-size package from the UK Government, and that is absolutely crucial for the future in order for the industry to continue. O ran y gwaith pŵer, y mae'n rhywbeth yr ydym wedi bod mewn trafodaethau gyda Tata yn ei gylch. Bydd hi'n gwybod am y pecyn cymorth yr wyf wedi ei grybwyll eisoes. Mae hynny wedi cael ei gyflwyno ers rhai misoedd; ond, wrth gwrs, yr hyn nad yw wedi digwydd hyd yn hyn yw pecyn cyfatebol o ran maint gan Lywodraeth y DU, ac mae hynny'n gwbl hanfodol ar gyfer y dyfodol, er mwyn i'r diwydiant allu parhau.
In terms of public ownership, I agree that public ownership must be on the table, but it’s a UK strategic industry. The UK Government has the resources to take the steel industry both in Wales and in England, because there are English plants here, into public ownership, at the very least to ensure that there’s time to find a committed buyer for the future. That is something that I very much support. O ran perchnogaeth gyhoeddus, yr wyf yn cytuno bod yn rhaid ystyried perchnogaeth gyhoeddus, ond mae'n ddiwydiant strategol y DU. Mae gan Lywodraeth y DU yr adnoddau i drosglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus y diwydiant dur yng Nghymru ac yn Lloegr, oherwydd mae gweithfeydd dur yn Lloegr hefyd, o leiaf i sicrhau bod amser i ddod o hyd i brynwr ymrwymedig ar gyfer y dyfodol. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ei gefnogi’n fawr iawn.
So, in terms of the issue of the pension fund, which I think I have dealt with, yes, it is a liability. Again, the pension fund and the environmental liabilities are substantial. They are potentially well beyond what we could afford to take on as a Government in Wales alone. That’s why, of course, it’s for the UK Government. We accept that there is a financial call on us; we don’t say that this has nothing to do with us, clearly, but it is for the UK Government then to make sure—as it did with the Royal Mail, as Peter Black has already said—that it is easier for a responsible buyer to come forward and to save the jobs that are there. Felly, o ran mater y gronfa bensiwn, yr wyf yn meddwl fy mod wedi ymdrin ag ef, ac ydy, mae'n rhwymedigaeth. Unwaith eto, mae'r gronfa bensiwn a'r rhwymedigaethau amgylcheddol yn rhai sylweddol. Maent, o bosibl, ymhell y tu hwnt i’r hyn y gallem fforddio cymryd rheolaeth ohonynt fel Llywodraeth yng Nghymru ar ein pennau ein hunain. Dyna pam, wrth gwrs, y mae hyn yn dibynnu ar Lywodraeth y DU. Rydym yn derbyn bod galw ariannol arnom ni; nid ydym yn dweud nad oes gan hyn unrhyw beth i’w wneud â ni, yn amlwg, ond cyfrifoldeb Llywodraeth y DU wedyn yw sichrau—fel y gwnaeth gyda'r Post Brenhinol, fel y mae Peter Black eisoes wedi ei ddweud—ei bod hi’n haws i brynwr cyfrifol ddod ymlaen ac achub y swyddi sydd yno.
Finally, she asked me about the multiplier. It’s 1 to 1.22. For every one job sustained in Tata, it sustains the equivalent of 1.22 jobs elsewhere. So, she is correct to say that the impact more widely in the economy is substantial and not just, of course, limited to those working for Tata. Yn olaf, gofynnodd hi i mi am y lluosydd. Mae'n 1 i 1.22. Am bob un swydd barhaus gyda Tata, mae'n cynnal cyfwerth â 1.22 o swyddi mewn mannau eraill. Felly, mae hi yn llygad ei lle pan ei bod hi’n dweud bod yr effaith o fewn yr economi ehangach yn sylweddol ac nid, wrth gwrs, yn gyfyngedig i'r rhai sy'n gweithio i Tata yn unig.
15:18 - Sandy Mewies
I come from the small village of Brymbo, which had a pretty large steelworks, actually, compared with the small village, and a very successful steelworks, which produced high-quality steel. It helped us, not just in the Brymbo area, of course; it supported a large workforce. It closed in 1990, with the loss of 1,100 jobs. The bar and billet mill that, at the time, was state of the art and had only been installed a few years earlier was sold to steel companies in China. Now, of course, what we’re seeing here, in Wales, in the UK and in Europe—and I understand what the First Minister says, that we have a good relationship with China—it doesn’t alter the fact that the steel industry is under threat because of surplus steel coming into us from China; it is on the world market and it is affecting us. Brymbo has recovered, but it’s been a long way back, and it’s a different community today to the community it was. That’s what I fear. We cannot afford to strip the steel industry out of Port Talbot, Llanwern, Trostre or Shotton. We can’t afford to do it. Wales needs steel, and steel needs Wales. Rwyf i'n dod o bentref bach Brymbo, a oedd â gwaith dur eithaf sylweddol, mewn gwirionedd, o'i gymharu â'r pentref bychan ei hun. Roedd y gwaith dur yno yn llwyddiannus iawn, ac yn cynhyrchu dur o ansawdd uchel. Yr oedd yn ein helpu, nid dim ond yn ardal Brymbo, wrth gwrs; yr oedd yn cefnogi gweithlu mawr. Fe'i caewyd ym 1990, gyda cholled o 1,100 o swyddi. Gwerthwyd y felin bar a biled a oedd, ar y pryd, yn arloesol ac a oedd wedi ei gosod dim ond ychydig flynyddoedd ynghynt, i gwmnïau dur yn Tsieina. Nawr, wrth gwrs, nid yw’r hyn yr ydym yn ei weld yma, yng Nghymru, yn y DU ac yn Ewrop—ac yr wyf yn deall yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud, fod gennym berthynas dda gyda Tsieina—nid yw'n newid y ffaith fod y diwydiant dur dan fygythiad oherwydd y dur dros ben sy'n dod atom ni o Tsieina; dur sydd ar farchnad y byd ac sy’n effeithio arnom ni. Y mae Brymbo wedi ei adfer, ond mae wedi bod yn gyfnod hir ac anodd, ac mae cymuned wahanol yno heddiw i'r gymuned a oedd yno o'r blaen. Dyna beth yr wyf yn ei ofni. Ni allwn fforddio tynnu’r diwydiant dur o Bort Talbot, Llanwern, Trostre na Shotton. Ni allwn fforddio gwneud hynny. Mae Cymru angen dur, ac mae dur angen Cymru.
We have dedicated workers here. We have unions who will co-operate with management, and we’ve got innovation. We cannot afford to lose that. What we need though now—. People have been talking about it, and I do hope—. I’m retiring tomorrow, but I do hope that people here will remember this, as they knock on doors: when you talk about political co-operation, it has to be with UK Government, with the Welsh Government, with local authorities, and between politicians of every stripe. Mae gennym weithwyr ymroddedig yma. Mae gennym undebau a fydd yn cydweithredu â'r rheolwyr, ac mae gennym arloesedd. Ni allwn fforddio colli hynny. Yr hyn yr ydym ei angen ar hyn o bryd fodd bynnag—. Mae pobl wedi bod yn siarad am y peth, ac yr wyf yn gobeithio—. Rwy’n ymddeol yfory, ond yr wyf yn gobeithio y bydd pobl yma yn cofio hyn, wrth iddynt gnocio ar ddrysau: pan fyddwch yn siarad am gydweithrediad gwleidyddol, mae'n rhaid iddo fod rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, a rhwng gwleidyddion o bob plaid.
My constituency now runs alongside Shotton, which closed in 1980, with the loss of 6,500 jobs, with a terrible, terrible impact on the area. But there has been a real fight-back in the area. Now, we know that there are several hundred workers employed on the Alyn and Deeside, or Shotton, site and the coating business is profitable. It doesn’t produce steel, but it reportedly made £20 million last year. Every one of these plants is integral to the steel industry. We can’t afford to lose any of them. That’s what we should be keeping in mind. I do realise, by the way, that Port Talbot, is the biggest, and it will have an enormous impact. You said yourself: it’s not just the jobs that are in the plants themselves; it’s the people who depend on those jobs. But, I refer back to Brymbo, because Kirsty Williams was actually absolutely right: we can’t afford asset stripping. It doesn’t work. It’s not successful—not for the communities and places that are asset stripped. Mae fy etholaeth bellach yn rhedeg ochr yn ochr â Shotton, a gaeodd ym 1980, gyda cholled o 6,500 o swyddi, gydag effaith ofnadwy iawn, iawn ar yr ardal. Ond mae’r ardal wedi ymladd o ddifrif i wella pethau. Bellach, rydym yn gwybod bod rhai cannoedd o weithwyr wedi'u cyflogi ar safle Alun a Glannau Dyfrdwy, neu Shotton, ac mae’r busnes caenu yn un proffidiol. Nid yw'n cynhyrchu dur, ond adroddwyd ei fod wedi gwneud £20 miliwn y llynedd. Mae pob un o'r gweithfeydd hyn yn rhan annatod o'r diwydiant dur. Ni allwn fforddio colli unrhyw un ohonynt. Dyna beth y dylem ei gadw mewn cof. Rwyf yn sylweddoli, gyda llaw, mai Port Talbot yw'r mwyaf, ac y bydd yn cael effaith enfawr. Dywedasoch eich hun: nid dim ond y swyddi sydd yn y gweithfeydd eu hunain sydd dan fygythiad; ond y bobl sy’n dibynnu ar y swyddi hynny. Ond, cyfeiriaf yn ôl at Frymbo, oherwydd roedd Kirsty Williams yn llygad ei lle mewn gwirionedd: ni allwn fforddio tynnu’r asedau gwerthfawr oddi yno. Nid yw'n gweithio. Nid yw'n llwyddiannus—nid ar gyfer y cymunedau a’r lleoedd y mae’r asedau gwrthfawr yn cael eu tynnu oddi yno.
I am so pleased to hear you say that this is an industry not doomed to die. It is cyclical. John Griffiths made that point himself about Corus, which now has some regrets about letting some things go. But, what we have for the future has to be strong and sustainable, and it has to be long term. First Minister, you talked about the support we are prepared to give here from Welsh Government, and the things that you have agreed with people. Tariffs will have to be looked at. Energy prices need to be looked at. There’s a whole package of things that need to be put together, and I’m very glad to hear that the Welsh Government have given their commitment to what they can do for the turnaround. We do need the UK Government to co-operate with you. A lot of questions that I was going to ask have been answered, but what I would like to know—. On the one hand, we are saying that we haven’t got a lot of time because, who knows who is going to come in, or not come in, and what will disappear? At the same time, we have also got David here telling us—quite rightly—that these plants and managements need to have time to develop what they’ve got to offer and to show how good it is. So, it’s the timeline. The other thing that I am particularly concerned about, perhaps because I am retiring tomorrow, is the pension situation. You’ve answered it to an extent, but is there anything at all that we can do to safeguard and to support people who not only face losing their jobs, but face losing a lot of their future? Those are my questions. Rwyf mor falch o'ch clywed yn dweud nad yw’r diwydiant hwn yn un sydd yn siŵr o farw. Mae'n gylchol. Gwnaeth John Griffiths y pwynt ei hun am Corus, sydd bellach yn difaru gollwng gafael ar rai pethau. Ond, mae'n rhaid i beth bynnag sydd gennym ar gyfer y dyfodol fod yn gryf ac yn gynaliadwy, ac mae'n rhaid iddo fod yn y hirdymor. Brif Weinidog, soniasoch am y gefnogaeth yr ydym yn barod i’w rhoi yma gan Lywodraeth Cymru, a'r pethau yr ydych wedi cytuno gyda phobl arnynt. Bydd yn rhaid edrych ar dariffau. Mae angen edrych ar brisiau ynni. Mae pecyn cyfan o bethau y mae angen ei roi at ei gilydd, ac rwy'n falch iawn o glywed bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r hyn y gallant ei wneud ar gyfer y newid sydd ei angen. Rydym angen i Lywodraeth y DU gydweithio gyda chi. Mae llawer o gwestiynau yr oeddwn am eu gofyn, wedi eu hateb, ond yr hyn yr hoffwn i wybod—. Ar y naill law, yr ydym yn dweud nad oes gennym lawer o amser oherwydd, pwy a ŵyr pwy sydd am ddod i mewn, neu ddim am ddod i mewn, a beth fydd yn diflannu? Ar yr un pryd, mae gennym hefyd David yma yn dweud wrthym—yn gwbl briodol—fod angen amser i’r gweithfeydd a’r rheolwyr hyn ddatblygu’r hyn sydd ganddynt i'w gynnig ac i ddangos pa mor dda ydyw. Felly, yr amserlen ydyw. Y peth arall yr wyf yn arbennig o bryderus amdano, efallai oherwydd fy mod yn ymddeol yfory, yw'r sefyllfa o ran pensiynau. Rydych chi wedi ei ateb i raddau, ond a oes unrhyw beth o gwbl y gallwn ei wneud i ddiogelu a chefnogi pobl sydd, nid yn unig yn wynebu colli eu swyddi, ond sydd mewn perygl o golli llawer o'u dyfodol hefyd? Dyna fy nghwestiynau.
15:23 - Carwyn Jones
Can I thank the Member for her questions? She has said very passionately that Brymbo steelworks, and the effect of the closure of Brymbo, had an enormous effect on the community. The reality of the situation is this: you cannot make up this number of well-paid jobs in a short space of time. That is why it’s so important that jobs such as these in the steel industry are maintained, because there is no way that they can be replaced very quickly or, indeed, replaced with the same levels of pay—certainly not in a fairly short space of time. A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau? Mae hi wedi datgan yn angerddol iawn fod y gwaith dur ym Mrymbo, ac effaith cau gwaith dur Brymbo, wedi cael effaith enfawr ar y gymuned. Realiti'r sefyllfa yw hyn: ni allwch greu y nifer hyn o swyddi sy’n talu’n dda mewn cyfnod byr o amser. Dyna pam y mae hi mor bwysig bod swyddi fel y rhain yn y diwydiant dur yn cael eu cynnal, oherwydd nad oes modd cael swyddi eraill yn eu lle yn gyflym iawn neu, yn wir, swyddi sydd â’r un lefelau cyflog—yn sicr nid o fewn cyfnod cymharol fyr o amser.
Tata, as I mentioned earlier on, are a company who value their global reputation. There are some companies who would think nothing of just collapsing their division in the UK, going bankrupt, walking away from the environmental liabilities of many hundreds of millions of pounds, walking away from the pensions liability of, again, probably many hundreds of millions of pounds, and then leaving the local authority, actually, in terms of the environmental liabilities, to pick up the tab and the UK Government to pick up the tab in terms of pensions. Tata, as a company, have always prided themselves on their corporate social responsibility, and I have reminded them of that. If they are to leave the UK, it needs to be amicable, and it needs to be in a situation where people feel that Tata have played fairly. To lose that reputation, for them, would be a major change from the situations that they have found themselves in in the past. That is why I have said to them that there is a need for sufficient time to allow a buyer to come forward. The assets have to be sale ready. There can be no question of walking away from liabilities, and, of course, what we need to see now—and, as we accept this, the UK Government will accept this—is progress towards finding a buyer, and if there is insufficient progress in a short space of time, then UK Government running the assets in England and Wales in order for a buyer to be found. Mae Tata, fel y soniais yn gynharach, yn gwmni sy'n gwerthfawrogi ei enw da byd-eang. Mae rhai cwmnïau na fyddent yn meddwl ddwywaith am gael gwared ar eu gweithfeydd yn y DU, mynd yn fethdalwyr, cerdded i ffwrdd oddi wrth y rhwymedigaethau amgylcheddol gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd, anwybyddu atebolrwydd pensiynau, unwaith eto, yn ôl pob tebyg, werth cannoedd o filiynau o bunnoedd, ac yna gadael yr awdurdodau lleol, mewn gwirionedd, o ran y rhwymedigaethau amgylcheddol, i gymryd y cyfrifoldeb a Llywodraeth y DU i gymryd y cyfrifoldeb o ran pensiynau. Mae Tata, fel cwmni, bob amser wedi ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn gorfforaeth sy’n cymryd cyfrifoldeb cymdeithasol, ac rwyf wedi eu hatgoffa o hynny. Os ydynt am adael y DU, mae angen iddo fod ar delerau da, ac mae angen iddi fod yn sefyllfa lle mae pobl yn teimlo bod Tata wedi bod yn deg. Byddai colli’r enw da hwnnw, iddyn nhw, yn newid mawr o’r sefyllfaoedd y meant wedi bod ynddynt yn y gorffennol. Dyna pam yr wyf wedi dweud wrthynt fod angen digon o amser er mwyn caniatáu i brynwr ddod ymlaen. Mae’n rhaid i'r asedau fod yn barod i gael eu gwerthu. Nid yw troi cefn ar rwymedigaethau yn ddewis, ac, wrth gwrs, yr hyn y mae angen i ni ei weld yn awr—ac, fel yr ydym ni yn derbyn hyn, bydd Llywodraeth y DU yn ei dderbyn—yw cynnydd tuag at ddod o hyd i brynwr, ac os nad oes digon o gynnydd mewn cyfnod byr o amser, yna dylai Llywodraeth y DU gymryd cyfrifoldeb dros yr asedau yng Nghymru a Lloegr er mwyn dod o hyd i brynwr.
15:25 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
I still have 17 Members who wish to be called. This is such an important matter, I'm certainly not going to apply any time limit, but can I just remind Members that precision and a lack of repetition will in no way reduce the power of your scrutiny and argument this afternoon? Eluned Parrott. Mae gennyf 17 o Aelodau sy'n dymuno cael eu galw o hyd. Mae’r mater hwn yn un hynod bwysig, nid wyf am osod unrhyw derfyn amser yn sicr, ond a gaf i atgoffa Aelodau na fydd trachywiredd a diffyg ailadrodd yn lleihau grym eich craffu a’ch dadl y prynhawn yma, mewn unrhyw ffordd? Eluned Parrott.
15:25 - Eluned Parrott
Diolch, Ddirprwy Lywydd. First Minister, today, it’s right that the focus is on the future, but there are questions on the past and the present that I would like some clarity on. Port Talbot is the UK’s biggest steelworks now, so the future of Welsh steel is actually the future of Britain’s ability to be a manufacturing nation in the future. It’s not only a strategic business for us because of the tens of thousands of people here who work in the industry, and the impact that any closures would have on our communities; if you like, it is an existentialist question for the future of Britain as a modern industrial economy. Is that what we will be in the future, or is it not? If we can’t make steel, we frankly can’t build so much as a garden shed without being reliant on imports in the future, and at the mercy of a subsidised Chinese steel industry that seems set, by its actions, to be halfway to getting a monopoly. But, as I say, I have questions on the past, before we move to the future, that I would like some clarity on. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Brif Weinidog, mae’n briodol heddiw ein body yn canolbwyntio ar y dyfodol, ond mae cwestiynau ynglŷn â’r gorffennol a’r presennol yr hoffwn rywfaint o eglurdeb yn eu cylch. Port Talbot yw gwaith dur mwyaf y DU erbyn hyn, felly dyfodol dur Cymru mewn gwirionedd yw dyfodol gallu Prydain i fod yn genedl weithgynhyrchu yn y dyfodol. Nid yn unig y mae’n fusnes strategol i ni oherwydd y degau o filoedd o bobl sydd yma sy'n gweithio yn y diwydiant, a'r effaith y byddai unrhyw gau yn ei chael ar ein cymunedau; y mae hefyd yn gwestiwn dirfodol, os mynnwch chi, ynglŷn â dyfodol Prydain fel economi ddiwydiannol fodern. Ai dyna beth fyddwn ni yn y dyfodol, ai peidio? Os na allwn gynhyrchu dur, ni allwn adeiladu cymaint â sied gardd heb fod yn ddibynnol ar fewnforion yn y dyfodol. A hynny ar drugaredd diwydiant dur â chymhorthdal Tsieina, ​​yr ymddengys, yn ôl ei weithredoedd, ei fod hanner ffordd at fod yn fonopoli. Ond, fel y dywedais, mae gennyf gwestiynau am y gorffennol, yr hoffwn eglurder yn eu cylch, cyn inni symud at y dyfodol.
I have been told that, on Friday, when Sajid Javid met with steelworkers at Port Talbot, he admitted that he knew that the sale of UK assets was a likely outcome three weeks previously. Despite that, he didn't go to Mumbai, and in doing so, I believe, he has lost the confidence of steelworkers here in Britain by his actions. You’ve said that the report in the ‘Financial Times’ that you knew about this at Christmas is wrong, but you haven't been entirely clear about when you did know that a sell-off was a likely or possible outcome here. If you knew that they were commissioning management consultants to look at the future of the business, you must have anticipated that this was possible, and so, I ask you again, because you did not answer when Bethan Jenkins posed this question: why was there no Welsh Government representative at that meeting in Mumbai? Cefais wybod bod Sajid Javid wedi cyfaddef, pan gyfarfu ef â gweithwyr dur ym Mhort Talbot, ddydd Gwener, ei fod yn gwybod bod gwerthu asedau yn y DU yn ganlyniad tebygol dair wythnos ynghynt. Er gwaethaf hynny, nid aeth i Mumbai, ac wrth beidio â mynd, y mae wedi colli ffydd gweithwyr dur yma ym Mhrydain oherwydd ei weithredoedd. Rydych chi wedi dweud bod yr adroddiad yn y 'Financial Times', yr oeddech yn gwybod amdano ar adeg y Nadolig, yn anghywir. Ond nid ydych wedi bod yn gwbl glir ynghylch pa bryd yr oeddech yn gwybod bod gwerthu yn ganlyniad tebygol neu bosibl yma. Os oeddech yn gwybod eu bod yn comisiynu ymgynghorwyr rheoli i edrych ar ddyfodol y busnes, mae'n rhaid eich bod wedi rhagweld bod hyn yn bosibl, ac felly, gofynnaf ichi eto, oherwydd ni wnaethoch ateb pan ofynnodd Bethan Jenkins y cwestiwn hwn: pam nad oedd yr un cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru yn y cyfarfod hwnnw ym Mumbai?
The Welsh Government’s future relationship with Tata over the next few months is crucial in keeping these plants going through this immediate crisis. As we've heard, if the furnaces go off, we face an even bigger task getting a buyer. But, given the commercial sensitivities, how confident are you that Tata are actively pursuing this positive sale that we would all wish to see? I am deeply concerned by the negative rhetoric about the Welsh sites that we've heard coming from the company, and from others, and if we do not set the record straight, then finding a buyer will be even harder. You have wanted to set the record straight, I know, about this question about whether or not the losses are of the scale that we know, but let's be clear here: we have to be on the front foot. We have to be telling the world that this is a business, this is an industry, with a positive future, with skilled and talented people, with opportunities for new businesses in the future, with an innovative outlook. This is a business with a future, and we need to be all singing from the same hymn sheet when we’re talking about the future for Port Talbot. Mae perthynas Llywodraeth Cymru gyda Tata dros y misoedd nesaf yn hanfodol i gadw’r gweithfeydd dur hyn ar agor drwy'r argyfwng dybryd hwn. Fel yr ydym wedi clywed, os bydd y ffwrneisi yn diffodd, byddwn yn wynebu tasg hyd yn oed yn fwy, o ran dod o hyd i brynwr. Ond, o ystyried y sensitifrwydd masnachol, pa mor hyderus ydych chi fod Tata yn ceisio’n ddyfal i fynd ar ôl y gwerthiant cadarnhaol hwn y byddem i gyd yn dymuno ei weld? Rwyf yn bryderus iawn am y rhethreg negyddol yr ydym wedi ei glywed gan y cwmni, a chan eraill am y safleoedd yng Nghymru, ac os na fyddwn yn gwneud pethau'n glir, yna bydd dod o hyd i brynwr hyd yn oed yn anoddach. Yr ydych wedi bod eisiau gwneud pethau'n glir, mi wn, am y cwestiwn hwn ynghylch pa un a yw'r colledion ar y raddfa yr ydym yn gwybod amdani, ond gadewch i ni fod yn glir yma: mae'n rhaid i ni fod yn barod. Mae’n rhaid i ni ddweud wrth y byd fod hwn yn fusnes, fod hwn yn ddiwydiant, gyda dyfodol cadarnhaol, gyda phobl fedrus a thalentog, gyda chyfleoedd ar gyfer busnesau newydd yn y dyfodol, gyda rhagolygon arloesol. Mae hwn yn fusnes a chanddo ddyfodol, ac mae angen inni i gyd fod yn gytûn pan ydym yn sôn am ddyfodol Port Talbot.
You're absolutely right, First Minister, that asset stripping is something that would be a disaster, not only for Wales, but for Britain as an industrial nation. Do you agree with me that, actually, we should be even cautious of some of the piecemeal approaches that people are talking about? Because, the plants that Tata own across the UK are interdependent, absolutely. If we lose Port Talbot, Shotton and Trostre lose their supplier. If we lose Shotton and Trostre, Port Talbot loses something like a third of its business. These plants entirely depend upon each other, and when we look to a future that is safe, secure and sustainable, we have to understand that that business really does work as a partnership. Do you really believe that the UK Government understands how closely related those businesses are, and can you give us any insight into what they’re thinking is in terms of talking to potential buyers, and whether or not they will accept any piecemeal proposal? Rydych yn hollol gywir, Brif Weinidog, y byddai tynnu asedau o'r gwaith dur yn drychineb, nid yn unig i Gymru, ond i Brydain fel gwlad ddiwydiannol. A ydych chi'n cytuno â mi y dylem ni hyd yn oed, mewn gwirionedd, fod yn wyliadwrus o rai o'r dulliau tameidiog y mae pobl yn siarad amdanynt? Oherwydd, mae'r gweithfeydd dur y mae Tata yn berchen arnynt ar draws y DU yn gyd-ddibynnol, yn ddiau. Os byddwn yn colli Port Talbot, bydd Shotton a Throstre yn colli eu cyflenwr. Os byddwn yn colli Shotton a Trostre, bydd Port Talbot yn colli rhywbeth fel traean o'i fusnes. Mae'r gweithfeydd hyn yn dibynnu ar ei gilydd yn gyfan gwbl, ac wrth inni edrych tuag at ddyfodol sy'n ddiogel, yn sicr ac yn gynaliadwy, mae'n rhaid i ni ddeall bod y busnes mewn gwirionedd yn gweithio fel partneriaeth. A ydych chi wir yn credu bod Llywodraeth y DU yn deall pa mor agos y mae’r busnesau hynny’n perthyn i'w gilydd? Ac a allwch chi roi unrhyw syniad i ni o’r hyn y maent yn ei feddwl o ran siarad â darpar brynwyr, a pha un a fyddant yn derbyn unrhyw gynnig tameidiog neu beidio?
There has been talk of a workers-and-management buy-out as a possible way to create a sustainable future for the business as a portfolio, and I wonder, First Minister, if you can give us an idea of whether you’ve had discussions with any of those individuals. If so, in addition to the support package that you’ve previously outlined, what additional support and advice can the Welsh Government offer to a worker and management buy-out team to help them to bring a viable proposal to the table? Because, clearly, in the timescale available, that is going to be a challenge. Bu sôn am weithwyr a rheolwyr yn prynu'r cwmni fel ffordd bosibl o greu dyfodol cynaliadwy ar gyfer y busnes fel portffolio, a tybed, Brif Weinidog, a allwch chi roi syniad i ni o ba un a ydych chi wedi cael trafodaethau gydag unrhyw un o'r unigolion hynny. Os ydych, yn ychwanegol at y pecyn cymorth yr ydych wedi’i amlinellu yn flaenorol, pa gefnogaeth a chyngor ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru eu cynnig i dîm o weithiwr a rheolwyr sydd eisiau prynu’r cwmni er mwyn eu helpu i ddod â chynnig hyfyw gerbron? Oherwydd, yn amlwg, o fewn yr amserlen sydd ar gael, mae hynny’n mynd i fod yn her.
Now, looking to the immediate actions, clearly, we need immediate action from the UK Government to get us through this current immediate crisis, but if steel in Wales is going to be a strong, sustainable industry for the future, something in the long term has to change. If that wasn’t the case, Tata wouldn’t have been commissioning management consultants to look at the business. We can’t compete, in the long term, in a commodity market, with Chinese steel on price. We can’t do it and we shouldn’t. But, I really do believe we can secure a sustainable long-term business if we’re looking at competing with the very best in the world on the quality of what we offer and on being able to specialise and differentiate ourselves, between one product and another. But, the problem is, of course, specialist products change very fast, and we do need a long-term plan of investment to put us ahead of the curve in the first place and then keep us there in the long term. Nawr, gan edrych ar y camau gweithredu y mae'n rhaid eu cymryd ar unwaith, yn amlwg, mae angen gweithredu ar unwaith gan Lywodraeth y DU i fynd â ni drwy'r argyfwng brys presennol hwn. Ond os yw dur yng Nghymru am fod yn ddiwydiant cryf a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol, mae’n rhaid i rywbeth newid yn y tymor hir. Pe na byddai hynny’n wir, ni fyddai Tata wedi bod yn comisiynu ymgynghorwyr rheoli i edrych ar y busnes. Ni allwn gystadlu o ran pris mewn marchnad nwyddau, yn y tymor hir, â dur o Tsieina. Ni allwn wneud hynny, ac ni ddylem. Ond, rwyf wir yn credu y gallwn sicrhau busnes hirdymor cynaliadwy os ydym yn edrych ar gystadlu â'r gorau yn y byd ar ansawdd yr hyn yr ydym yn ei gynnig ac ar fod yn gallu arbenigo a gwahaniaethu ein hunain, rhwng un cynnyrch a’r llall. Ond, y broblem yw, wrth gwrs, bod cynnyrch arbenigol yn newid yn gyflym iawn, ac rydym angen cynllun buddsoddiad hirdymor i’n rhoi ar flaen y gad yn y lle cyntaf a’n cadw ni yno yn y tymor hir.
Now, as you’ve rightly said, Port Talbot was breaking even last year, now it is not. This is a market that moves very fast. Frankly, the workers I’ve spoken to are heartily fed up of living from crisis to crisis. Does German steel live from crisis to crisis? No, it does not. Why does it not? Because they have planned for the future. They have invested for the future. They have kept themselves at the forefront, and we need to make sure that, when we are looking at the recovery of British steel here in Wales, we are doing the same. We cannot be complacent. We cannot assume that, if we can just get through the next few months, the future will always be rosy. We have to do better than that. Would you agree, First Minister, that the backbone of any future strategy must be the five-point plan that the industry and its unions brought to the steel summit in October? If so, two of those five points sit in your hands. Nawr, fel yr ydych wedi dweud yn gywir, roedd Port Talbot wedi mantoli’r gyllideb y llynedd, ond bellach nid ydyw. Mae hon yn farchnad sy'n symud yn gyflym iawn. A bod yn onest, mae'r gweithwyr yr ydwyf i wedi siarad â nhw wedi cael llond bol o fyw o argyfwng i argyfwng. A yw dur yr Almaen yn byw o argyfwng i argyfwng? Na, nid ydyw. Pam nad ydyw? Oherwydd eu bod wedi cynllunio ar gyfer y dyfodol. Maent wedi buddsoddi ar gyfer y dyfodol. Maent wedi cadw eu hunain ar flaen y gad, ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ninnau, pan fyddwn yn edrych ar adferiad gwaith dur Prydain yma yng Nghymru, yn gwneud yr un peth. Ni allwn fod yn hunanfodlon. Ni allwn gymryd yn ganiataol, os gallwn ni oroesi’r misoedd nesaf, y bydd y dyfodol bob amser yn llewyrchus. Mae'n rhaid i ni wneud yn well na hynny. A fyddech chi'n cytuno, Brif Weinidog, fod yn rhaid i’r cynllun pum pwynt a gyflwynodd y diwydiant a'i hundebau yn yr uwchgynhadledd ym mis Hydref, fod yn asgwrn cefn i unrhyw strategaeth yn y dyfodol? Os felly, mae dau o'r pum pwynt hynny yn eich dwylo chi.
We’ve heard about business rates, and I’m grateful for your comments on that, but your response in terms of procurement is completely absent from your statement today. Yes, we know that some of the products are in the hands of other steel producers, but we have to ask you: have you done the audit of Welsh procurement to see what your steel use, as a buyer, looks like? Have you made an assessment of how much of the Welsh Government’s steel purchasing has been Welsh steel in the recent past? What steps have you taken to ensure that Welsh public bodies in the future will be sourcing steel in a way that gives Welsh steel the best possible chance whilst remaining within the rules? First Minister, not all of the cards are in your hands, we all know that, but that’s no reason not to play the cards that you do have. When can we expect to see a timetable from you outlining when the actions the industry have been begging for for six months will finally come to fruition? Rydym wedi clywed am ardrethi busnes, ac rwy'n ddiolchgar am eich sylwadau ar hynny, ond mae eich ymateb o ran caffael yn gwbl absennol o'ch datganiad heddiw. Ydym, rydym yn gwybod bod rhai o'r cynhyrchion yn nwylo cynhyrchwyr dur eraill, ond mae'n rhaid i ni ofyn i chi: a ydych chi wedi gwneud archwiliad o gaffael Cymru i weld beth yw eich sefyllfa, fel prynwr, o ran y defnydd o ddur? A ydych chi wedi gwneud asesiad i weld faint o’r dur sy’n cael ei brynu gan Lywodraeth Cymru sy’n ddur o Gymru, yn y gorffennol agos? Pa gamau ydych chi wedi'u cymryd i sicrhau y bydd cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol yn cael gafael ar ddur mewn ffordd sy'n rhoi'r cyfle gorau posibl i ddur Cymru, ond ar yr un pryd yn cadw at y rheolau? Brif Weinidog, ni allwch reoli bob dim, rydym i gyd yn gwybod hynny, ond nid yw hynny’n rheswm i beidio â gwneud yr hyn sydd o fewn eich gallu. Pryd y gallwn ddisgwyl gweld amserlen gennych yn amlinellu pryd y bydd y camau gweithredu y mae’r diwydiant wedi bod yn erfyn amdanynt ers chwe mis, o'r diwedd yn cael eu gwireddu?
15:33 - Carwyn Jones
Well, I thought, over the last few hours, I’d actually explained what our position is and what we want to see in taking a way forward. It’s correct to say that we didn’t have Government representation in Mumbai; that’s because there had been substantial discussion, both by phone and through correspondence previously. Our view was made well known to Tata, and that was that that the McKinsey report, which was a turnaround plan, not a plan to look at whether to close the plants or not, but a turnaround plan, should be taken forward, that Tata Europe were advocating that to the Tata board in Mumbai, and that that should be the way forward. So, the first time we heard there was going to be a sale was when a statement was made, because that’s when the situation was confirmed. Neither did we know what the timescale might be until, again, the statement was confirmed. Wel, roeddwn yn meddwl, yn ystod yr ychydig oriau diwethaf, fy mod mewn gwirionedd wedi esbonio ein sefyllfa a'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld wrth inni gamu ymlaen. Mae'n gywir i ddweud nad oedd gennym gynrychiolaeth y Llywodraeth ym Mumbai; a hynny oherwydd y bu trafodaeth sylweddol, dros y ffôn a thrwy ohebiaeth flaenorol. Gwnaed ein barn yn amlwg iawn i Tata, a’r farn honno oedd y dylid dilyn cynllun adroddiad McKinsey, a oedd yn gynllun gwrthdroad, nid cynllun i edrych ar ba un a ddylid cau'r gwaith dur ai peidio, ond cynllun gwrthdroad yr oedd Tata Ewrop yn dadlau o’i blaid fel y ffordd ymlaen, wrth fwrdd Tata ym Mumbai. Felly, y tro cyntaf i ni glywed bod gwerthiant am fod, oedd pan wnaed datganiad, oherwydd dyna pryd y cadarnhawyd y sefyllfa. Nid oeddem yn gwybod ychwaith beth oedd yr amserlen, hyd nes, unwaith eto, y cadarnhawyd y datganiad.
It’s right to say that the last thing we’d want to see is a piecemeal sell-off of the different plants, but I don’t think that’s possible anyway. Shotton, for example, sources its steel from Port Talbot. If Shotton didn’t have that steel, it would have six months where it would have to look for steel from somewhere else and, in that time, it wouldn’t be producing anything. It’s obvious to Members what that would mean in terms of loss of customers and in terms of temporary lay-offs in that plant. So, even though Shotton is a profitable undertaking, it still needs the steel from Port Talbot, certainly in the short term, in order to be able to prosper, and the same applies to the other plants as well. Mae'n gywir i ddweud mai’r peth olaf yr hoffem ei weld yw gwerthiant tameidiog y gwahanol weithfeydd. Ond nid wyf yn credu bod hynny'n bosibl beth bynnag. Mae Shotton, er enghraifft, yn cael ei ddur o Bort Talbot. Pe na byddai gan Shotton y dur hwnnw, byddai gan y safle chwe mis lle y byddai'n rhaid iddo chwilio am ddur o rywle arall, ac yn y cyfnod hwnnw, ni fyddai'n cynhyrchu unrhyw beth. Mae'n amlwg i Aelodau beth fyddai hynny'n ei olygu o ran colli cwsmeriaid ac o ran colli gwaith dros dro yn y gwaith dur hwnnw. Felly, er bod Shotton yn waith dur sy’n gwneud elw, y mae'n dal i fod angen y dur o Bort Talbot, yn sicr yn y tymor byr, er mwyn gallu ffynnu, ac mae'r un peth yn wir am y gweithfeydd dur eraill hefyd.
We’ve not seen any details yet of the management buy-out proposals; although I’ve read of it, nothing’s come forward to us yet. We’d study that, of course, in detail and would look to support any viable plan that preserves and enhances the steel industry in Wales. I’ve seen the five-point plan. I mentioned procurement—the M4 relief road is the biggest project that we have. I know her party’s view on that, but it is the biggest project that we have, and, of course, as I’ve already mentioned, the tidal lagoon, which is outwith the control of the Welsh Government. Nid ydym wedi gweld unrhyw fanylion eto am y cynigion i’r rheolwyr brynu'r cwmni; er fy mod wedi darllen amdanynt, nid oes dim wedi ei gyflwyno i ni eto. Byddem yn astudio hynny, wrth gwrs, yn fanwl ac yn edrych ar gefnogi unrhyw gynllun hyfyw sy'n cadw ac yn gwella’r diwydiant dur yng Nghymru. Rwyf wedi gweld y cynllun pum pwynt. Soniais am gaffael—ffordd liniaru'r M4 yw'r prosiect mwyaf sydd gennym. Rwy'n ymwybodol o farn ei phlaid ar hynny, ond dyma'r prosiect mwyaf sydd gennym, ac, wrth gwrs, fel yr wyf wedi crybwyll eisoes, mae'r morlyn llanw y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru.
In terms of procurement, we’ve seen an increase in the amount of Welsh product that is being used by the public sector in Wales, but we shouldn’t lose sight of the fact that procurement at a UK level and dealing with energy prices and the issue of tariffs are the main issues here. Yes, procurement in Wales can help—I don’t deny that—but there are major issues that would remain if the UK Government does not deal with them now. So, whoever runs the steel industry in Wales—whether it’s public or private or a joint venture—the issue of energy prices and tariffs still has to be resolved, otherwise the problem will still remain whoever runs the industry. And these are issues, of course, that I will be discussing with the Prime Minister tomorrow. O ran caffael, rydym wedi gweld cynnydd mewn faint o gynnyrch o Gymru sy'n cael ei ddefnyddio gan y sector cyhoeddus yng Nghymru, ond ni ddylem anghofio'r ffaith mai caffael ar lefel y DU ac ymdrin â phrisiau ynni a’r mater o dariffau, yw'r prif faterion yma. Gall, fe all caffael yng Nghymru helpu—nid wyf yn gwadu hynny—ond mae problemau pwysig a fyddai'n parhau os na fydd Llywodraeth y DU yn ymdrin â hwy yn awr. Felly, pwy bynnag sy'n rhedeg y diwydiant dur yng Nghymru—boed yn gyhoeddus neu'n breifat neu'n fenter ar y cyd—mae’n rhaid datrys y mater o brisiau ynni a thariffau o hyd, fel arall bydd y broblem yn parhau o hyd, pwy bynnag sy'n rhedeg y diwydiant. Ac mae'r rhain yn faterion, wrth gwrs, y byddaf yn eu trafod gyda'r Prif Weinidog yfory.
15:35 - Keith Davies
Many of the questions I was going to ask have already been asked, but there are quite a few important points I think that, perhaps, haven’t been considered. For example, I’m thinking of the 1980s and what happened to the coal industry in Wales. And one of the major reasons for that was that we didn’t get any support from the British Government. So, I was very pleased to hear you say earlier that they see now that this is a serious problem, because up until last week I was really flummoxed by the lack of effort by the British Government to support the UK steel industry. And even when I listened to ‘The Andrew Marr Show’ yesterday morning, even then, the Minister there didn’t know really what was going on as far as I was concerned, because they were talking about buyers, and one of my concerns with buyers—. I listened to somebody from Liberty who said that in Port Talbot, it’s the blast furnaces. He wouldn’t buy Port Talbot because he wants to convert steel products from rubbishy products and convert into steel, and doesn’t want to convert iron ore into steel. And I thought, ‘How are you going to know what these buyers are going to do?’ So, my question on that to you, First Minister, is: what involvement will the Welsh Government have with Tata when they talk about the kind of buyers that they’re proposing to sell to? Mae llawer o'r cwestiynau yr oeddwn yn mynd i’w holi wedi eu holi eisoes, ond rwy’n meddwl bod cryn dipyn o bwyntiau pwysig nad ydynt wedi eu hystyried o bosibl. Er enghraifft, rwyf yn meddwl am y 1980au a'r hyn a ddigwyddodd i'r diwydiant glo yng Nghymru. Ac un o'r prif resymau dros hynny oedd na chawsom unrhyw gefnogaeth gan Lywodraeth Prydain. Felly, roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn dweud yn gynharach eu bod yn gweld yn awr bod hon yn broblem ddifrifol, oherwydd hyd at yr wythnos diwethaf, roeddwn i wedi fy ngwir syfrdanu gan ddiffyg ymdrech Llywodraeth Prydain i gefnogi'r diwydiant dur yn y DU. A hyd yn oed pan wrandewais ar 'The Andrew Marr Show' fore ddoe, hyd yn oed wedyn, nid oedd y Gweinidog hwnnw’n gwybod yn iawn beth oedd yn digwydd yn fy marn i, oherwydd roedd yn siarad am brynwyr, ac un o’m pryderon i ynghylch prynwyr—. Gwrandewais ar rywun o Liberty a ddywedodd mai ffwrneisi chwyth sydd ym Mhort Talbot. Ni fyddai'n prynu Port Talbot gan fod arno eisiau creu cynhyrchion dur o gynhyrchion sbwriel, eu troi yn ddur, ac nid oes arno eisiau troi mwyn haearn yn ddur. A meddyliais, 'Sut ydych chi'n mynd i wybod beth mae’r prynwyr hyn yn mynd i’w wneud?' Felly, fy nghwestiwn i chi ar hynny, Brif Weinidog, yw hyn: pa ran y bydd Llywodraeth Cymru yn ei chwarae gyda Tata pan fyddant yn siarad am y math o brynwyr y maent yn cynnig gwerthu iddynt?
As far as the major concerns—and you mentioned them earlier; the energy and the tariffs—well, really, that is with the British Government, and if they can’t see that the UK is dependent on a good steel industry—because if we don’t have a good steel industry, we won’t have manufacturing companies in this country—so the number of jobs we’re talking about losing probably triples, not only the ones involved with steel production, but also the other jobs aligned with it. Cyn belled ag y mae’r prif bryderon yn y cwestiwn—ac fe soniasoch chi amdanynt yn gynharach; yr ynni a'r tariffau—wel, mater i Lywodraeth Prydain yw hynny mewn gwirionedd, ac os na allan nhw weld bod y DU yn dibynnu ar ddiwydiant dur da—oherwydd os nad oes gennym ddiwydiant dur da, ni fydd gennym ni unrhyw gwmnïau gweithgynhyrchu yn y wlad hon—felly mae nifer y swyddi yr ydym yn sôn am eu colli yn treblu yn ôl pob tebyg, nid yn unig y rhai sy'n ymwneud â chynhyrchu dur, ond y swyddi eraill sy’n ddibynnol ar hynny hefyd.
I can’t remember who said it earlier—it was Bethan Jenkins talking about Port Talbot; well, if she had her hair done in Llanelli, she’d have the same questions asked there—what’s going to happen to the jobs in Llanelli? So, it’s not only Port Talbot that worries about what’s happening. This afternoon, First Minister, you’ve said on many occasions and supported what John Griffiths said earlier—it’s not only Port Talbot; it’s Shotton, it’s Llanwern, it’s Trostre. The question that I was going to ask you there was: if we’re going to have enterprise zones in Port Talbot—and I think that’s a good idea—what about the three other regions, then? Are we considering enterprise zones in those areas? Because, in the end, it’s jobs we’re talking about, and you mentioned earlier that for every job in the steel industry, there’s 1.22 jobs aligned to it. And I read somewhere that Tata actually spends £200 million on wages in Wales. How many jobs that is I don’t know, but if you double that and add another fifth to it, we’re really talking about a significant number of jobs—probably 10,000 plus. So, it’s quite important that, if that’s occurring in Wales, the British Government realises what will happen in England as well, because if they are going to produce cars in England, where are they going to get their steel from? Are they going to pay those low prices from China, and get the low-quality steel that somebody was talking about earlier? So, your debate tomorrow with the Prime Minister in whatever takes place is quite an important one, and I was very pleased to hear you say earlier that they’re seeing this as a serious problem, because up to now, they haven’t seen it as a serious problem. So, hopefully, you’ll have a good, positive discussion with him tomorrow. Diolch yn fawr. Ni allaf gofio pwy a ddywedodd yn gynharach—Bethan Jenkins oedd hi yn siarad am Bort Talbot; wel, pe byddai hi wedi cael trin ei gwallt yn Llanelli, byddai pobl yn gofyn yr un cwestiynau iddi yno—beth sy'n mynd i ddigwydd i'r swyddi yn Llanelli? Felly, nid Port Talbot yn unig sy'n poeni am yr hyn sy'n digwydd. Y prynhawn yma, Brif Weinidog, yr ydych chi wedi dweud ar sawl achlysur ac wedi cefnogi’r hyn a ddywedodd John Griffiths yn gynharach—nid ydym yn sôn am Bort Talbot yn unig; ond am Shotton, am Lanwern, am Drostre. Y cwestiwn yr oeddwn yn mynd i’w ofyn i chi oedd hyn: os ydym ni’n mynd i gael ardaloedd menter ym Mhort Talbot—ac rwy’n meddwl bod hynny’n syniad da—beth am y tri rhanbarth arall, felly? A ydym ni’n ystyried ardaloedd menter yn yr ardaloedd hynny? Oherwydd, yn y pen draw, rydym ni’n siarad am swyddi, ac fe soniasoch chi yn gynharach bod 1.22 o swyddi yn cyfateb i bob swydd yn y diwydiant dur. Ac fe ddarllenais i yn rhywle fod Tata yn gwario £200 miliwn ar gyflogau yng Nghymru. Nid wyf yn gwybod faint o swyddi yw hynny, ond os ydych chi’n dyblu hynny ac yn ychwanegu pumed arall ato, rydym ni’n siarad am nifer sylweddol o swyddi—dros 10,000 yn ôl pob tebyg. Felly, os yw hynny'n digwydd yng Nghymru, mae'n eithaf pwysig bod Llywodraeth Prydain yn sylweddoli beth fydd yn digwydd yn Lloegr hefyd, oherwydd os ydynt yn mynd i gynhyrchu ceir yn Lloegr, o ble y byddant yn cael y dur? A ydynt yn mynd i dalu’r prisiau isel hynny o Tsieina, a chael y dur safon isel yr oedd rhywun yn sôn amdano yn gynharach? Felly, mae eich dadl yfory gyda Phrif Weinidog y DU ynghylch yr hyn a fydd yn digwydd yn un eithaf pwysig, ac roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn dweud yn gynharach eu bod yn ystyried hon yn broblem ddifrifol, oherwydd hyd yn hyn, nid ydynt wedi ei hystyried yn broblem ddifrifol. Felly, gobeithio y byddwch yn cael trafodaeth dda a chadarnhaol gydag ef yfory. Diolch yn fawr.
15:39 - Carwyn Jones
Could I thank the Member for his comments? Much of the ground has already been covered, and he makes the point, of course, about the concerns that people feel about Trostre, obviously, in his constituency. We will, of course, continue to talk to Tata and be involved in any process that involves a buyer coming forward with a view to maximising the jobs that are preserved as a result of that process. A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Mae llawer o hyn eisoes wedi’i drafod, ac mae'n tynnu sylw, wrth gwrs, at y pryderon sydd gan bobl am Drostre, yn amlwg, sydd yn ei etholaeth ef. Wrth gwrs, byddwn yn parhau i siarad â Tata a bod yn rhan o unrhyw broses os bydd prynwr yn dod ymlaen, gyda’r bwriad o sicrhau bod y nifer mwyaf posibl o swyddi yn cael eu diogelu o ganlyniad i’r broses honno.
15:40 - Altaf Hussain
Thank you, First Minister, for your statement. It is pleasing to note that the Welsh Government and the UK Government are working together on solutions to support our steel industry. The steel industry is vital to the UK, and securing a long-term, viable future for the industry is essential for the people of my region. We must all work together to tackle the problems facing the steel sector. Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am eich datganiad. Mae'n braf nodi bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'i gilydd ar atebion i gefnogi ein diwydiant dur. Mae'r diwydiant dur yn hanfodol i'r DU, ac mae sicrhau dyfodol tymor hir, hyfyw i'r diwydiant yn hanfodol i’r bobl yn fy rhanbarth i. Mae'n rhaid i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu'r sector dur.
On energy prices, we welcome the action taken by the UK Government to mitigate the impact of climate change policies, which has seen over £50 million returned to Tata in compensations. However, we also have to ensure that the actions to embrace renewable technology do not drive up energy prices. First Minister, do you agree with me that we should not be subsidising the industrialisation of renewable energy and that future subsidy should be both affordable and sustainable? We welcome moves to build an efficient energy plant at the steelworks in Port Talbot. What can Welsh Government do to support the steelworks becoming more energy efficient? O ran prisiau ynni, rydym yn croesawu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i liniaru effaith polisïau newid yn yr hinsawdd, sydd wedi arwain at roi £50 miliwn yn ôl i Tata ar ffurf iawndaliadau. Fodd bynnag, mae’n rhaid inni hefyd sicrhau nad yw’r camau a gymerir i gefnogi technoleg adnewyddadwy yn gwthio prisiau ynni i fyny. Brif Weinidog, a ydych yn cytuno â mi na ddylem fod yn rhoi cymhorthdal ​​i'r broses o ddiwydiannu ynni adnewyddadwy, ac y dylai cymhorthdal ​​y dyfodol fod yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy? Rydym yn croesawu camau i adeiladu gwaith ynni effeithlon yn y gweithfeydd dur ym Mhort Talbot. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu’r gweithfeydd dur i ddod yn fwy effeithlon o ran ynni?
Next door to the Port Talbot plant, we have the Baglan energy park. Is the Welsh Government working with any companies looking to develop energy storage solutions? In the rush to exploit feed-in tariffs, a glut of solar farms has come on stream in the last few weeks. However, we had days in the height of summer last year when the existing solar generations exceeded demands and the energy was wasted, a situation that will be much worse this year with the new capacity that has come on stream. Unless we can store this energy, we can’t provide cleaner, cheaper energy to high energy users like the steelworks. First Minister, will you work with the UK Government to secure greater R&D into energy storage solutions? Drws nesaf i waith dur Port Talbot, mae parc ynni Baglan. A yw Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag unrhyw gwmnïau sydd â’r bwriad o ddatblygu atebion ar gyfer storio ynni? Yn y rhuthr i fanteisio ar dariffau cyflenwi trydan, mae toreth o ffermydd solar wedi dod yn weithredol yn ystod yr wythnosau diwethaf. Fodd bynnag, bu diwrnodau yng nghanol haf y llynedd pan oedd yr ynni solar a gynhyrchwyd yn uwch na'r galw amdano a chafodd yr ynni ei wastraffu, sefyllfa a fydd yn waeth o lawer eleni gyda'r capasiti newydd sydd bellach yn weithredol. Oni bai bod modd i ni storio’r ynni hwn, ni allwn ddarparu ynni glanach, rhatach i ddefnyddwyr ynni uchel fel y gweithfeydd dur. Brif Weinidog, a fyddwch chi’n gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau mwy o ymchwil a datblygu i atebion o ran storio ynni?
One of the most essential ingredients in making steel is coal. What consideration has the Welsh Government given to allowing the steelworks at Port Talbot access to vast amounts of coal sitting beneath the South Wales West region? Un o'r cynhwysion mwyaf hanfodol wrth wneud dur yw glo. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ganiatáu i'r gwaith dur ym Mhort Talbot gael gafael ar symiau enfawr o lo sy’n gorwedd o dan ranbarth Gorllewin De Cymru?
We welcome the work the United Kingdom and Welsh Governments have undertaken to secure an enterprise zone at Port Talbot. Can I ask that this covers not only the immediate area around the plant, but also Aberavon and Neath, as both towns are dependent on the steelworks? Rydym yn croesawu’r gwaith y mae Llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig wedi ymgymryd ag ef i sicrhau ardal fenter ym Mhort Talbot. A gaf i ofyn bod hyn yn cynnwys nid yn unig yr ardal gyfagos sydd o amgylch y gwaith, ond hefyd Aberafan a Chastell-nedd, gan fod y ddwy dref yn dibynnu ar y gwaith dur?
Finally, First Minister, can I ask that you work closely with the UK Government to secure concessions from the EU? EU rules effectively tie one hand behind our backs—[Interruption.] Well, we’re limited in the support we can give to the industry, and we can’t insist that public procurement contracts require Welsh steel. While the UK Government have introduced new procurement guidelines that make conditions more favourable for British steel, we can’t specify British steel, as it breaks EU procurement rules. For those of us who have yet to make up their minds on the EU referendum, this is crunch time for the European Union. They have to show short-term flexibility in state aid and procurement rules in order to safeguard the long-term future of the Welsh steel industry. Thank you. Yn olaf, Brif Weinidog, a gaf fi ofyn i chi weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau consesiynau gan yr UE? Mae rheolau'r UE yn clymu un llaw y tu ôl i'n cefnau [Torri ar draws.] Wel, rydym wedi'n cyfyngu o ran y gefnogaeth y gallwn ei rhoi i'r diwydiant, ac ni allwn fynnu bod dur Cymru yn ofynnol mewn contractau caffael cyhoeddus. Er bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno canllawiau caffael newydd sy'n gwneud yr amodau yn fwy ffafriol i ddur Prydeinig, ni allwn bennu dur Prydeinig, gan ei fod yn torri rheolau caffael yr UE. I'r rhai hynny ohonom nad ydym wedi penderfynu ar refferendwm yr UE eto, mae hon yn adeg hollbwysig ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n rhaid iddynt ddangos hyblygrwydd tymor byr mewn cymorth gwladwriaethol a rheolau caffael er mwyn diogelu dyfodol tymor hir y diwydiant dur yng Nghymru. Diolch.
15:44 - Carwyn Jones
Well, let me first of all deal with the issue of energy prices. I’ve seen figures from other steel producers that suggest that Germany has prices that are 20 per cent lower than the UK and Spain is 37 per cent lower. They have substantial renewables as part of their energy provision. It’s nothing to do with renewables, and if the Member thinks carefully about what he’s just said—he was asking me to oppose subsidies to renewables—that means he’s against the tidal lagoon, because the tidal lagoon is a renewables project, and has therefore directly contradicted what his own leader said at the beginning of this debate. When it comes to solar, the whole point of the national grid—. I don’t believe that solar energy is wasted. The whole point of the national grid is that energy is sourced at a time when there’s the demand for it. So, some energy will come from bigger plants, some from smaller plants, such as those who use solar energy. So, energy isn’t wasted from solar. Every single source of power feeds into the national grid, and it’s for the National Grid to decide how energy is brought on tap. Wel, gadewch i mi yn gyntaf oll ymdrin â'r mater o brisiau ynni. Rwyf wedi gweld y ffigurau gan gynhyrchwyr dur eraill sy'n awgrymu bod prisiau yn yr Almaen 20 y cant yn is na’r DU ac mae Sbaen yn 37 y cant yn is. Mae ynni adnewyddadwy yn ffurfio rhan sylweddol o'u darpariaeth ynni. Nid yw’n ymwneud ag ynni adnewyddadwy o gwbl, ac os bydd yr Aelod yn meddwl yn ofalus am yr hyn y mae newydd ei ddweud—roedd yn gofyn i mi wrthwynebu cymorthdaliadau i ynni adnewyddadwy—mae hynny'n golygu ei fod yn erbyn y morlyn llanw, oherwydd prosiect ynni adnewyddadwy yw’r morlyn llanw, ac mae felly wedi mynd yn gwbl groes i’r hyn a ddywedodd ei arweinydd ei hun ar ddechrau'r ddadl hon. Pan ddaw i solar, holl bwynt y grid cenedlaethol—. Nid wyf yn credu bod ynni solar yn cael ei wastraffu. Holl bwynt y grid cenedlaethol yw bod ynni yn cael ei gyflenwi ar adeg pan fydd galw amdano. Felly, bydd rhywfaint o ynni yn dod o weithfeydd mwy, a rhywfaint o weithfeydd llai, megis y rhai sy'n defnyddio ynni solar. Felly, ni chaiff ynni solar ei wastraffu. Mae pob un ffynhonnell pŵer yn bwydo i mewn i'r grid cenedlaethol, a mater i’r Grid Cenedlaethol yw penderfynu ar sut y cyflenwir ynni.
He talks about coal. Now, I’m sure he means that what he wants is for consideration to be given to a deep mine supporting the steelworks. We’ve given support to that. That clearly isn’t a factor at the moment. I hope he isn’t suggesting that there should be more opencasting, particularly for many of us in whose constituencies opencasting has left a very serious legacy. I hope he isn’t suggesting that that is something that he would want to pursue, but he makes the point about the deep mine—if that’s what he meant, well, yes, it is something that we’ve worked with Tata on in years gone by in terms of developing that deep mine. Mae’n siarad am lo. Nawr, rwy'n siŵr ei fod yn golygu mai’r hyn y mae’n ei ddymuno yw y rhoddir ystyriaeth i bwll glo dwfn sy’n cefnogi'r gwaith dur. Rydym wedi rhoi cefnogaeth i hynny. Mae’n amlwg nad yw hynny’n ffactor ar hyn o bryd. Gobeithiaf nad yw'n awgrymu y dylai fod mwy o gloddio glo brig, yn enwedig i'r nifer helaeth ohonom y mae cloddio glo brig wedi gadael etifeddiaeth ddifrifol iawn yn ein hetholaethau. Rwyf yn gobeithio nad yw'n awgrymu bod hynny'n rhywbeth y byddai'n dymuno ei ddilyn, ond mae'n gwneud y pwynt am y pwll dwfn—os mai dyna yr oedd yn ei olygu, wel, ydy, mae'n rhywbeth yr ydym wedi gweithio â Tata arno yn y gorffennol o ran datblygu'r pwll glo dwfn hwnnw.
I have to say to him that the issue of tariffs is an issue for the UK Government. It was the UK Government who opposed the imposition of tariffs at a sufficient level in order to protect the steel industry. It wasn’t the EU that did that. It was not just the UK Government, in fairness, but the Dutch Government as well, if I remember rightly. They said that they didn’t want to see those tariffs increase because of a fear of a trade war with China. We’ve now seen, of course, China impose tariffs anyway. So, I’m afraid that it’s not the EU that has to cop the blame in this regard. The UK Government has to look at what it has done. It has to take steps now to resolve that issue—we are where we are—and to make sure that the tariffs are in place to create a level playing field for Welsh and British steel, and to make sure that we have energy prices that are competitive. It’s nothing to do with renewables because we know that other countries have substantial renewables sectors, yet their energy is cheaper than the UK’s. These things have to be dealt with. So, yes, there needs to be a short-term solution, that much is true, but, long term, those issues need to be resolved. Otherwise, whoever takes the plant over or plants over is going to find it difficult to actually run them at a profit in the medium term. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho mai mater i Lywodraeth y DU yw'r tariffau. Llywodraeth y DU a wrthwynebodd gosod tariffau ar lefel briodol i amddiffyn y diwydiant dur. Nid yr UE a wnaeth hynny. Nid Llywodraeth y DU yn unig, a bod yn deg, ond Llywodraeth yr Iseldiroedd hefyd, os cofiaf yn iawn. Maent yn dweud nad oeddent am weld y tariffau hynny'n cynyddu oherwydd eu bod ofn rhyfel masnach gyda Tsieina. Rydym bellach wedi gweld, wrth gwrs, Tsieina yn gosod tariffau beth bynnag. Felly, rwyf yn ofni nad yr UE a ddylai gymryd y bai yn hyn o beth. Mae’n rhaid i Lywodraeth y DU edrych ar yr hyn y mae wedi'i wneud. Mae'n rhaid iddi gymryd camau yn awr i ddatrys y mater hwnnw—dyna’r sefyllfa yr ydym ynddi—a gwneud yn siŵr bod y tariffau ar waith i roi cyfle teg i ddur Cymru a Phrydain, ac i wneud yn siŵr bod gennym brisiau ynni sy'n gystadleuol. Nid yw’n ymwneud ag ynni adnewyddadwy o gwbl oherwydd gwyddom fod sectorau ynni adnewyddadwy sylweddol gan wledydd eraill, ac eto mae eu hynni yn rhatach nag yn y DU. Mae’n rhaid ymdrin â’r pethau hyn. Felly, oes, mae angen ateb tymor byr, mae hynny’n wir, ond, yn y tymor hir, mae angen datrys y materion hynny. Fel arall, bydd pwy bynnag fydd yn cymryd drosodd y gwaith neu weithfeydd yn y dyfodol yn ei chael hi’n anodd eu rhedeg gan wneud elw mewn gwirionedd yn y tymor canolig.
15:47 - Joyce Watson
First Minister, the first thing I want to do is thank you: first of all for standing there for two and a half hours and taking all the questions and dealing with them expertly, like you always do, but, more crucially, for reconvening this Assembly, because we really do understand here that this is a really critical time that might define the future of Wales as we currently know it. Brif Weinidog, y peth cyntaf yr wyf eisiau ei wneud yw diolch i chi: yn gyntaf am sefyll yn y fan yna am ddwy awr a hanner ac ateb yr holl gwestiynau gan ymdrin â hwy yn fedrus, fel yr ydych chi’n ei wneud bob amser, ond, yn bwysicach, am ailymgynnull y Cynulliad hwn, oherwydd ein bod ni yn deall yn iawn bod hwn yn gyfnod cwbl hanfodol a allai ddiffinio dyfodol Cymru fel yr ydym yn ei weld ar hyn o bryd.
I’m speaking in this debate because, clearly, Trostre is in my area and the impact will be felt loud and clear in that area in that region. I think, like others, I want to pay tribute here today to the workers who have always given of their very, very best, backed by their families, who have given of their very best, to make sure that they can produce the goods that we can be so very proud of, which in turn produces the very best British goods coming from Wales. Rwyf yn siarad yn y ddadl hon oherwydd, yn amlwg, bod Trostre yn fy ardal i ac y bydd yr effaith yn fawr ac yn glir ar yr ardal honno yn y rhanbarth hwnnw. Credaf, fel eraill, yr hoffwn i dalu teyrnged yma heddiw i'r gweithwyr sydd bob amser wedi rhoi o'u gorau glas, gyda chefnogaeth eu teuluoedd, sydd wedi rhoi o'u gorau glas, i sicrhau eu bod yn gallu cynhyrchu'r nwyddau y gallwn fod mor falch ohonynt, sydd yn ei dro yn cynhyrchu’r nwyddau Prydeinig gorau glas sy’n dod o Gymru.
I have to say that I am disappointed so far with the response that the UK Government has shown. It is notable that everybody in Wales was here when we were needed and we weren’t actually on holiday elsewhere, and that we did recognise the urgency that was required to take this issue forward. It is also notable that the banks were bailed out, and quite rightly so at that time, and that maybe some of the same bailing out should be available to the steel industry. I hope that that will happen, and I know that you have called for that. But if we are talking about steel as being a strategic industry—and it is—then we need a strategy that will underpin delivery of that. If you look at the growth in the economy—the projected growth as it stands—it’s just above 2 per cent in the private sector, but if you have public investment just in those projects in Wales alone, that shoots up to over 6 per cent growth in the public sector. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig hyd yn hyn gyda'r ymateb gan Lywodraeth y DU. Mae'n werth nodi bod pawb yng Nghymru yma pan oedd ein hangen, ac nad oeddem ni, mewn gwirionedd, ar wyliau yn rhywle arall, a'n bod wedi cydnabod y brys a oedd yn ofynnol i symud y mater hwn yn ei flaen. Mae’n werth nodi hefyd bod y banciau wedi eu hachub, a hynny'n gwbl briodol ar y pryd, ac efallai y dylai yr un math o achub fod ar gael i'r diwydiant dur. Rwyf yn gobeithio y bydd hynny'n digwydd, ac rwyf yn gwybod eich bod wedi galw am hynny. Ond os ydym yn sôn am ddur fel diwydiant strategol—ac y mae—yna mae angen strategaeth arnom a fydd yn sail i gyflawni hynny. Os edrychwch chi ar y twf yn yr economi—y twf a ragwelir fel ag y mae—mae ychydig yn uwch na 2 y cant yn y sector preifat, ond os oes gennych chi fuddsoddiad cyhoeddus dim ond yn y prosiectau hynny yng Nghymru yn unig, mae’n saethu i fyny i dros 6 y cant o dwf yn y sector cyhoeddus.
That gives some sort of idea what we could be doing if we stopped and thought about a different ideology that might actually grow the manufacturing industry in this country, because it is ideology, at the moment, that is preventing that from happening. If we had a clear manufacturing plan that was allied to all of the constituent parts that go with that, and if we had some investment in steel—because we are talking about steel—and if we had some investment in the growing of that economy and in bringing major projects forward, we might actually see a real turnaround in a very short time about the possibilities of keeping the steel industry alive and well in Wales. It is the case, in my opinion, that we have to keep steel here in Wales. Because if we lose that, we lose all the other possibilities that everybody has talked about here today. We have done an excellent job in Wales in bringing industry into Wales. The types of industry that we have brought into Wales also need a good steel industry to support them. Mae hynny'n rhoi rhyw fath o syniad am yr hyn y gallem fod yn ei wneud pe byddem yn oedi a meddwl am ideoleg wahanol a allai, mewn gwirionedd, ddatblygu’r diwydiant gweithgynhyrchu yn y wlad hon, gan mai ideoleg, ar hyn o bryd, sy’n atal hynny rhag digwydd. Pe byddai gennym gynllun gweithgynhyrchu clir a oedd yn gysylltiedig â phob un o'r rhannau cyfansoddol sy'n mynd law yn llaw â hynny, a phe byddem yn cael rhywfaint o fuddsoddiad mewn dur—oherwydd am ddur yr ydym yn sôn—a phe byddem yn cael rhywfaint o fuddsoddiad mewn datblygu’r economi honno ac mewn dwyn prosiectau mawr ymlaen, efallai y byddem yn gweld gwyrdroad gwirioneddol mewn cyfnod byr iawn o ran y posibiliadau o gadw'r diwydiant dur yn fyw ac yn iach yng Nghymru. Mae'n wir, yn fy marn i, bod yn rhaid i ni gadw dur yma yng Nghymru. Oherwydd os ydym yn colli hynny, rydym yn colli'r holl bosibiliadau eraill y mae pawb wedi siarad amdanynt yma heddiw. Rydym wedi gwneud gwaith rhagorol yng Nghymru wrth ddod â diwydiant i Gymru. Mae angen diwydiant dur da hefyd i gefnogi'r mathau o ddiwydiant yr ydym wedi dod â hwy i mewn i Gymru.
15:51 - Carwyn Jones
Can I thank the Member for her comments and join with her, of course, in emphasising, once again, the need to have a viable and vibrant steel industry in Britain, and, of course, in Wales? I think much of what she said I’ve already answered, but I know, as somebody who has Trostre within her region, it is a matter on which she feels very passionately, and rightly so. A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau ac ymuno â hi, wrth gwrs, i bwysleisio, unwaith eto, yr angen am ddiwydiant dur hyfyw a bywiog ym Mhrydain, ac, wrth gwrs, yng Nghymru? Credaf fy mod wedi ateb llawer o'r hyn a ddywedodd eisoes, ond gwn, fel rhywun sydd â Throstre yn ei rhanbarth, ei fod yn fater y mae'n teimlo angerddol iawn amdano, a hynny'n gwbl briodol.
15:51 - Simon Thomas
Fel un sydd hefyd yn cynrychioli Trostre, a gaf i ddweud yn y lle cyntaf fy mod i—ac, rwy’n siŵr, pawb yn y Cynulliad hwn—yn sefyll yn gadarn gyda’r gweithwyr yn Nhrostre a gweithwyr ehangach Tata ar gyfer eu dyfodol nhw, ac rwy’n gweld pa mor bwysig yw’r gwaith yna i dref Llanelli, nid jest fel gwaith, ond o ran y ffordd y mae’n ymwneud â gweithgynhyrchu yn Llanelli, y ffordd y mae’n ymwneud â’r diwydiant ceir yn Llanelli, a’r ffordd y mae’n creu sgiliau anhepgor y byddai eu colli yn Llanelli yn ergyd drom iawn i’r gorllewin cyfan? Felly, mae’n bwysig ein bod wedi ymgynnull fel Cynulliad i drafod y mater yma. Ond mae hi yr un mor bwysig nad ydym yn troi’n siop siarad. O bryd i’w gilydd, mae’r trafodion y prynhawn yma wedi ymddangos mwy fel gwylnos dros y diwydiant dur yn hytrach na Senedd gyda thân yn ei bol ar gyfer ymladd dros gorff, enaid a gwaed economi Cymru. As one who also represents Trostre, may I say first of all that I—and, I’m sure, everyone in this Assembly—do stand shoulder to shoulder with the workers in Trostre and the wider Tata workforce for their future, and we do understand how important those works are for the town of Llanelli, not only as works, but in the way they are actually involved with production in Llanelli, the way that they relate to the car industry in Llanelli, and the way that they generate crucial skills, the loss of which to Llanelli would be a huge blow to the whole of west Wales? It’s important that we as an Assembly have gathered to discuss this issue, but it is just as important that we don’t turn into a talking shop. At times, the debate this afternoon has seemed like a vigil for the steel industry rather than a Parliament with fire in its belly fighting for the soul of the Welsh economy.
Beth nad yw pobl yn ei ddeall yn y gorllewin yw sut yr oedd yn bosibl achub y banciau gyda dros £100 biliwn, ond nid yw’n bosibl achub y diwydiant ‘steel’, sy’n costio rhywbeth fel £1.5 biliwn. Nid yw pobl yn deall hynny. Er mwyn inni beidio â bod yn siop siarad, ac er mwyn gwneud a mynnu gweithredu, mae’n rhaid inni gael yr atebion i’r cwestiynau hynny. Rydych yn cwrdd, Brif Weinidog, â David Cameron yfory, rwy’n deall. A wnewch chi ddweud wrtho fod y Senedd hon yn disgwyl, o leiaf—o leiaf—i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol gyfateb ei chynnig â’r hyn yr ydych chi wedi’i gynnig fel Llywodraeth Cymru eisoes? Rydych wedi sôn heddiw bod £60 miliwn ar gael gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu bod angen o leiaf £1 biliwn gan Lywodraeth San Steffan yfory, ar y ford, i ddangos yn glir eu bod nhw’n mynd i gefnogi ein diwydiant dur. What people in west Wales don’t understand is how it was possible to save the banks with over £100 billion, but it isn’t possible to save the steel industry, which would cost something in the region of £1.5 billion. People simply don’t understand that. For us not to be a talking shop, and to insist on action, then we do have to have answers to those questions. You will be meeting David Cameron, First Minister, tomorrow. Will you tell him that this Senedd expects at least for the UK Government to match what you have done as the Welsh Government as your proposal? You have mentioned today £60 million from the Welsh Government. That means that we need at least £1 billion from the Westminster Government tomorrow, on the table, to show clearly that they are going to support the steel industry.
If we don’t see the colour of David Cameron’s money tomorrow, we’ll know that the UK Government is walking away from steel, walking away from Wales, and walking away from the Welsh economy. We need to see that £1 billion up front tomorrow from David Cameron. Take that message to him please, First Minister. It’s a pity this is a statement, not a resolution, and that we can’t resolve as an Assembly today that that is the united, unanimous view of this Assembly—that the UK Government must at least match what the Welsh Government has already done. Os na welwn ni arlliw o arian David Cameron yfory, byddwn yn gwybod bod Llywodraeth y DU yn troi ei chefn ar ddur, yn troi ei chefn ar Gymru, ac yn troi ei chefn ar economi Cymru. Mae angen i ni weld yr £1 biliwn hwnnw gan David Cameron yfory. A fyddech chi cystal â rhoi’r neges honno iddo, Brif Weinidog? Mae'n drueni mai datganiad yw hwn, nid penderfyniad, ac na allwn benderfynu fel Cynulliad heddiw mai dyna farn unedig, unfrydol y Cynulliad hwn—bod yn rhaid i Lywodraeth y DU o leiaf gyfateb yr hyn y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i wneud.
But, turning to what you have already done, or not done, don’t you also agree that you, now, must also up your game considerably? You have talked about £60 million available, £30 million of which is actually a loan. That’s probably less than you’ve given Aston Martin. Now, we don’t know the true figures. Certainly, in kind, it’s less than you’ve given Aston Martin. What are you going to do now for this crucial industry? You need to increase the amount of support that you can give, and shame the UK Government into giving extra support. I was disappointed with what you said today about potential nationalisation. Nobody expects the Welsh Government to become a long-term owner of Welsh steel. Nobody expects that. But you took over an airport because it was failing. You took over an airport in order to pass it on to better owners in time. The Scottish Government took over Scottish steel plants temporarily, for a short period of time, so that Liberty Steel could then step in. Ond, gan droi at yr hyn yr ydych wedi ei wneud eisoes, neu heb ei wneud, onid ydych chi hefyd yn cytuno bod yn rhaid i chi, yn awr, wneud llawer iawn mwy? Rydych wedi sôn bod £60 miliwn ar gael, a £30 miliwn o hwnnw yn fenthyciad mewn gwirionedd. Mae hynny, fwy na thebyg, yn llai nag yr ydych chi wedi ei roi i Aston Martin. Nawr, nid ydym yn gwybod y ffigurau cywir. Yn sicr, mewn ffyrdd eraill, mae'n llai nag yr ydych wedi ei roi Aston Martin. Beth yr ydych chi’n mynd i'w wneud yn awr ar gyfer y diwydiant hollbwysig hwn? Mae angen i chi gynyddu faint o gymorth y gallwch ei roi, a chywilyddio Llywodraeth y DU i roi cymorth ychwanegol. Cefais fy siomi gan yr hyn a ddywedasoch heddiw am wladoli posibl. Nid oes neb yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ddod yn berchennog hirdymor dur Cymru. Nid oes neb yn disgwyl hynny. Ond fe wnaethoch gymryd y maes awyr trosodd oherwydd ei fod yn methu. Fe wnaethoch gymryd y maes awyr trosodd er mwyn ei drosglwyddo i berchnogion gwell maes o law. Cymerodd Llywodraeth yr Alban weithfeydd dur yr Alban trosodd dros dro, am gyfnod byr o amser, er mwyn i Liberty Steel allu camu i mewn wedyn.
A fo ben bid bont. Os ydych chi eisiau bod yn Brif Weinidog Cymru, mae’n rhaid ichi ddangos arweiniad yn y mater yma. Mae’n rhaid ichi fod yn barod i roi o’r neilltu eich pryderon—bod yn garcus, bod yn ofalus—a bod yn bowld, bod yn falch dros Gymru, a bod yn barod, os oes rhaid, i godi cywilydd ar y Deyrnas Gyfunol drwy gamu i mewn i achub y diwydiant hwn. He who would be a leader, let him be a bridge. If you want to be First Minister of Wales, then you do have to show leadership in this area. You have to be ready to put aside your concerns and your caution and you have to be bold. You have to be proud on behalf of Wales and be willing, if needs be, to shame the UK Government by stepping in to save this industry.
Un cwestiwn sydd heb gael ei ateb hyd yma yw: beth oedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud pan oedd yr uwchgynhadledd yn Mumbai? Mae wedi cael ei ofyn i chi sawl gwaith, ac rwyf eisiau ei ofyn eto: ble oeddech chi neu aelod o’ch Llywodraeth pan oedd y gynhadledd yn digwydd? Pam nad oeddech chi wedi dilyn Stephen Kinnock? A bod yn deg iddo fe, Aelod Seneddol mainc cefn, wedi mynd yno i ddadlau dros ei gymuned. Rwy’n parchu’n fawr yr hyn y mae wedi’i wneud. Pam nad oeddech chi wedi gwneud hynny? Rwy’n gwybod beth oeddech chi’n ei wneud y penwythnos cyn hynny; rwy’n gwybod ble’r oeddech chi. So, dywedwch wrth y Cynulliad hwn pam nad ydych chi wedi penderfynu mynd o’r lle’r oeddech chi’r penwythnos cynt yn syth i Mumbai. Beth yw’r rheswm dros hynny? One question that hasn’t been answered to date is what the Welsh Government was doing when the summit was taking place in Mumbai. It’s been asked of you a number of times, and I’m going to ask it again: where were you or a member of your Government when this summit was happening? Why didn’t you follow Stephen Kinnock? To be fair to him, he is a backbench MP who had gone there to make the case for his community, and I respect what he did. Why didn’t you do the same? Now, I know what you were doing the weekend before then, I know where you were, so tell this Assembly why you didn’t decide to go from where you were on that weekend straight to Mumbai. What was the reason for that?
A’r cwestiwn olaf oll yw: beth ydych chi’n ei wneud nawr ynglŷn â’r tasglu a’r gwaith sgiliau yn yr ardal hyn? Mae’n rhaid newid y tasglu a chylch gwaith y tasglu. Nid ydych chi wedi dweud dim am hynny heddiw, er iddo gael ei ofyn sawl gwaith. A hyd yn oed os ydym ni’n llwyddo cael prynwr newydd, neu hyd yn oed os yw’r gwaith wedi’i wladoli, fe fydd angen sgiliau newydd, bydd angen i rai pobl adael swyddi a chael sgiliau newydd, a bydd rhai pobl angen sgiliau newydd yn y swyddi presennol. Nid yw £2 filiwn, rwy’n awgrymu, yn ddigon da ar gyfer hynny. A ydych chi’n edifar erbyn hyn eich bod chi wedi torri’r gyllideb sgiliau dair blynedd o’r bron, gan chwalu’r arian sydd ar gael ar gyfer ailhyfforddi oedolion? A fyddwch chi felly yn ailedrych ar y mater yma? Nid yw £2 filiwn yn ddigon. Mae’n rhaid cael mwy o arian ar gyfer sgiliau, nid jest yn Nhrostre a Phort Talbot a thu hwnt, ond ar gyfer yr economi yn gyffredinol. Mae’r amser wedi dod i weithredu. Rŷch chi mewn sefyllfa berffaith i weithredu, fel arweinydd y wlad sydd gyda ni am y tro. A wnewch chi ddangos mwy o dân dros y diwydiant yma, os gwelwch yn dda? The very last question is: what are you now doing about the taskforce and skills in this area? We have to change the taskforce and its remit. You’ve said nothing about that today, although it has been asked of you a number of times. Even if we do succeed in finding a buyer. or even if it is nationalised, then we will need new skills. Some people will have to leave jobs and gain additional skills, and some will need additional skills in their current employment, and €2 million, I would suggest, is not sufficient for that. Do you regret now that you cut the skills budget three years on the trot, destroying the funding available for the retraining of adults? So, will you now review this issue, as €2 million isn’t enough? We must have more funding for skills, not only in Trostre, Port Talbot and beyond, but also for the wider economy. The time has come to take action. You are in a perfect position to do that as the leader of our nation, for the time being. Now, will you show more fire for this industry, please?
15:57 - Carwyn Jones
Well, can I remind the Member that I need no lectures on Port Talbot? I live almost within sight of it. I've lived near that plant for many, many—much of my life, in reality, and I know how important the industry is to Wales and, indeed—[Interruption.] Well, I'm sorry if you don’t accept that, as it happens to be true. Wel, a gaf i atgoffa'r Aelod nad oes angen pregethu wrthyf i am Bort Talbot? Rwyf yn byw bron o fewn golwg ohono. Rwyf wedi byw ger y gwaith dur hwnnw am lawer, lawer—rhan helaeth o fy mywyd, mewn gwirionedd, a gwn pa mor bwysig yw'r diwydiant i Gymru ac, yn wir—[Torri ar draws.] Wel, mae'n ddrwg gennyf os nad ydych yn derbyn hynny, gan ei fod yn digwydd bod yn wir.
Now, in terms of the issues that he has raised, I have seen his party suggest that we should set up a steel company with a Welsh Government stake in it at some unknown cost and unknown liability. Now, I'm all for suggestions; I don't run these things down, but there are clear liability issues there in terms of how much money this would cost, where the money would come from, and any kind of steel company would need an unlimited guarantee to operate, or it would be trading whilst insolvent and the directors would be personally liable. So, there's the issue: there would have to be an unlimited guarantee on the part of the Welsh Government. Now, clearly, that is an issue that is of concern, and the money doesn't exist. The money doesn't exist. I've explained to him how much money exists in all our reserves. He is correct to say that we need to consider what kind of package we can put on the table to add to what we already have, and we'll do that. That's part of the discussions that will be having with the UK Government and any potential buyer. Nawr, o ran y materion y mae ef wedi eu codi, yr wyf wedi gweld ei blaid yn awgrymu y dylem sefydlu cwmni dur â rhanddaliad gan Lywodraeth Cymru ynddo am ryw gost anhysbys a rhwymedigaeth anhysbys. Nawr, rwyf i’n croesawu awgrymiadau; nid wyf i’n eu bychanu, ond mae materion rhwymedigaeth amlwg o ran beth fyddai cost ariannol hyn, o ble byddai'r arian yn dod, a byddai angen gwarant ddigyfyngiad ar unrhyw fath o gwmni dur i allu gweithredu, neu byddai'n masnachu tra ei fod yn fethdalwr a byddai'r cyfarwyddwyr yn atebol yn bersonol. Felly, dyna’r broblem: byddai’n rhaid cael gwarant ddigyfyngiad gan Lywodraeth Cymru. Nawr, yn amlwg, mae hynny'n peri pryder, ac nid yw'r arian yn bodoli. Nid yw'r arian yn bodoli. Rwyf wedi esbonio iddo faint o arian sydd yn ein holl gronfeydd wrth gefn. Mae'n gywir i ddweud bod angen i ni ystyried pa fath o becyn y gallwn ni ei gyflwyno i ychwanegu at yr hyn sydd gennym eisoes, ac fe wnawn hynny. Mae hynny’n rhan o'r trafodaethau y byddwn yn eu cael gyda Llywodraeth y DU ac unrhyw brynwr posibl.
He mentioned the airport. The airport was £52 million. It's much, much smaller than the kind of liability we’re talking about now. And, of course, there are issues—[Interruption.] Well, I didn't interrupt him when he was speaking. And, of course, there are issues regarding energy prices and the world market, and, of course, issues with regard to tariffs that don't exist with regard to the airport. So, the amount of liability, the amount of exposure, is substantially less than it would be for the steel industry. Soniodd am y maes awyr. Roedd y maes awyr yn £52 miliwn. Mae'n llawer, llawer llai na'r math o rwymedigaeth yr ydym yn sôn amdano nawr. Ac, wrth gwrs, mae materion—[Torri ar draws.] Wel, wnes i ddim torri ar ei draws ef pan oedd ef yn siarad. Ac, wrth gwrs, mae materion o ran prisiau ynni a marchnad y byd, ac, wrth gwrs, materion o ran tariffau nad ydynt yn bodoli o ran y maes awyr. Felly, mae maint y rwymedigaeth, maint yr amlygiad, yn sylweddol llai nag y byddai ar gyfer y diwydiant dur.
With regard to what Scotland did, the Scottish Government had no liability at all for what it had to do. It simply took with one hand and gave with the other. That's all it did. There was no liability. There was no risk to the Scottish Government in that regard. It simply acted as an intermediary, in effect, for one buyer and one seller. And nor do I think, I have to say, that it is correct that the UK Government should not be made to recognise its liabilities and its duties to the Welsh people. Simply to say that this would all be a matter for the Welsh Government clearly wouldn't be correct. He wasn't saying that, in fairness, but others in his party have said that before now. It's a UK strategic asset; there are plants in England. We're not proposing, I'm sure, taking those plants over in England. O ran yr hyn a wnaeth yr Alban, nid oedd gan Lywodraeth yr Alban unrhyw rwymedigaeth o gwbl am yr hyn yr oedd yn rhaid iddi ei wneud. Cymerodd gydag un llaw a rhoddodd â'r llall. Dyna’r cyfan a wnaeth. Nid oedd unrhyw rwymedigaeth. Nid oedd unrhyw risg i Lywodraeth yr Alban yn hynny o beth. Gweithredodd fel cyfryngwr, i bob pwrpas, ar gyfer un prynwr ac un gwerthwr. Ac nid wyf yn credu ychwaith, mae’n rhaid i mi ddweud, ei bod yn gywir na ddylid gorfodi Llywodraeth y DU i gydnabod ei rhwymedigaethau a'i dyletswyddau i bobl Cymru. Byddai dweud bod hyn i gyd yn fater i Lywodraeth Cymru yn amlwg yn anghywir. Nid oedd yn dweud hynny, a bod yn deg, ond mae eraill yn ei blaid wedi dweud hynny o'r blaen. Mae'n ased strategol y DU; mae gweithfeydd yn Lloegr. Nid ydym ni yn cynnig, rwy'n siŵr, cymryd drosodd y gweithfeydd hynny yn Lloegr.
He has mentioned the £60 million. I will be making the point very strongly, on his behalf and other Members, that we need to see a plan and money in place as quickly as possible from the UK Government. Soniodd am y £60 miliwn. Byddaf yn gwneud y pwynt yn gryf iawn, ar ei ran ef ac ar ran Aelodau eraill, bod angen i ni weld cynllun ac arian ar waith cyn gynted â phosibl gan Lywodraeth y DU.
Now, of course, we have to see what the nature of any potential buyer’s offer might be, but if there is insufficient time according to Tata’s timetable for a buyer to come forward, there will be a need for the UK Government to run the industry in the meantime. I will make that point absolutely clearly. Nawr, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni weld beth y gallai natur unrhyw gynnig gan brynwr posibl fod, ond os nad oes digon o amser yn ôl amserlen Tata i brynwr ddod i’r amlwg, bydd angen i Lywodraeth y DU gynnal y diwydiant yn y cyfamser. Byddaf yn gwneud y pwynt hwnnw yn gwbl glir.
He talks about Mumbai; the delegation that went to Mumbai didn’t talk to the board in the board meeting. We had constant contact with Tata in terms of correspondence, both in terms of official level and ministerial level, so there was no question that they didn’t know our view or they didn’t know what support was available. Then, of course, we saw the decision that they took, and it was the first time we were aware that they were looking to sell. Mae'n sôn am Mumbai; ni wnaeth y ddirprwyaeth a aeth i Mumbai siarad â’r bwrdd yng nghyfarfod y bwrdd. Roeddem mewn cysylltiad cyson â Tata o ran gohebiaeth, ar lefel swyddogol a gweinidogol, felly nid oedd unrhyw amheuaeth nad oeddent yn gwybod ein barn neu nad oeddent yn gwybod pa gymorth oedd ar gael. Yna, wrth gwrs, gwelsom eu penderfyniad, a hwnnw oedd y tro cyntaf i ni fod yn ymwybodol eu bod yn bwriadu gwerthu.
In terms of skills, well, skills are important, but when compared to issues such as energy costs, when compared to issues such as the tariff, and when compared to issues such as the steel market, they are the major issues that need to be resolved. Whoever runs the steel industry will have to have assistance with regard to pensions, will have to have assistance with regard to energy prices, and the issue of tariffs will need to be resolved. Without action in those three areas, then no matter what the business model is that runs the steel industry, it’s not going to succeed, certainly in the medium term. So, those issues do need to be resolved. Yes, there are issues that we will take forward. We’ve already mentioned the package we’ve already put on the table; we’ll be considering what else will need to be done, and we will discuss with the UK Government, or rather we have been discussing with the UK Government, and we’ll continue to do so, what the UK Government will need to do in order to save our steel industry. O ran sgiliau, wel, mae sgiliau yn bwysig, ond o'u cymharu â materion fel costau ynni, o'u cymharu â materion fel y tariff, ac o'u cymharu â materion fel y farchnad ddur, dyna’r prif faterion y mae angen eu datrys. Bydd angen cymorth ar bwy bynnag a fydd yn cynnal y diwydiant dur o ran pensiynau, bydd angen cymorth o ran prisiau ynni, a bydd angen datrys y mater o dariffau. Heb weithredu yn y tri maes hynny, ni waeth beth yw'r model busnes sy’n cynnal y diwydiant dur, ni fydd yn llwyddo, yn sicr yn y tymor canolig. Felly, mae angen datrys y materion hynny. Oes, mae yna faterion y byddwn yn eu dwyn ymlaen. Rydym eisoes wedi crybwyll y pecyn yr ydym eisoes wedi ei roi ar y bwrdd; byddwn yn ystyried beth arall y bydd angen ei wneud, a byddwn yn trafod â Llywodraeth y DU yr hyn y bydd angen iddi ei wneud er mwyn achub ein diwydiant dur; neu yn hytrach, rydym eisoes wedi bod yn trafod hyn â Llywodraeth y DU, a byddwn yn parhau i wneud hynny.
16:01 - Carl Sargeant
May I thank the First Minister for allowing me to speak in this debate as the Member for Alyn and Deeside too? First Minister, last week brought back many memories—36 years ago to the day when a cloud descended upon Alyn and Deeside and Flintshire, when Shotton steel, then under Corus, received a redundancy notice. Six and a half thousand people, in one day, received redundancy notices in my constituency, and that changed the shape of my community and we still, today, bear the scars of that. Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am ganiatáu i mi siarad yn y ddadl hon fel yr Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy hefyd. Brif Weinidog, daeth yr wythnos diwethaf â llawer o atgofion yn ôl i mi—36 o flynyddoedd i’r diwrnod pan ddisgynnodd cwmwl ar Alun a Glannau Dyfrdwy a Sir y Fflint, pan gafodd dur Shotton, o dan Corus bryd hynny, hysbysiad diswyddo. Cafodd chwe mil a hanner o bobl yn fy etholaeth i, rybuddion diswyddo mewn un diwrnod, a newidiodd hynny ffurf fy nghymuned ac mae'r creithiau yn parhau hyd heddiw.
You mentioned earlier, First Minister, that this is a strategic industry for the UK, and you’re absolutely right. This also, First Minister, is a national economic emergency, in my view. The fact is that the last time this happened, when the banking industry came under this pressure, the Government stepped in. I call today for the Government of the UK to step in also. We must make sure that our communities don’t see what we saw 36 years ago in my community, and also in communities like Sandy Mewies’s in Brymbo, not so long ago in Wrexham. Soniasoch yn gynharach, Brif Weinidog, fod hwn yn ddiwydiant strategol ar gyfer y DU, ac rydych yn hollol gywir. Mae hwn hefyd, Brif Weinidog, yn argyfwng economaidd cenedlaethol, yn fy marn i. Y ffaith yw, y tro diwethaf i hyn ddigwydd, pan ddaeth y diwydiant bancio dan y pwysau hwn, camodd y Llywodraeth i mewn. Rwy'n galw heddiw am i Lywodraeth y DU gamu i mewn hefyd. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad yw ein cymunedau yn gweld yr hyn a welsom ni 36 mlynedd yn ôl yn fy nghymuned i, a hefyd mewn cymunedau fel un Sandy Mewies ym Mrymbo, heb fod cymaint â hynny yn ôl yn Wrecsam.
Now, the First Minister is right in terms of the success of Port Talbot, and we must stand here in solidarity with colleagues across the length and breadth of Wales in terms of the business of steel making in our communities. It’s our industrial heritage. These are the things that we are good at. In fact, First Minister, you’ll be aware that Port Talbot as a heavy manufacturing industry is one of the world leaders in terms of green steel, and we should make sure that we promote that at every opportunity. My constituency, in Shotton, has world-class panels being created and world-class technology and skills being delivered for many businesses the length and breadth of Wales and Europe, and long may it continue, working with my colleages in Unite and Community unions, important as they are, representing the very people we support. Nawr, mae'r Prif Weinidog yn iawn o ran llwyddiant Port Talbot, ac mae'n rhaid i ni sefyll yma mewn undod â chydweithwyr ar hyd a lled Cymru o ran y busnes o wneud dur yn ein cymunedau. Dyma ein treftadaeth ddiwydiannol. Dyma'r pethau yr ydym yn dda am eu gwneud. Yn wir, Brif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod Port Talbot fel diwydiant gweithgynhyrchu trwm yn un o arweinwyr y byd o ran dur gwyrdd, a dylem wneud yn siŵr ein bod yn hyrwyddo hynny ar bob cyfle. Yn fy etholaeth i, yn Shotton, mae paneli o safon fyd-eang yn cael eu creu a thechnoleg a sgiliau o'r radd flaenaf yn cael eu cyflawni ar gyfer nifer o fusnesau ar hyd a lled Cymru ac Ewrop, a hir y pery hynny, gan weithio gyda fy nghydweithwyr yn undebau Unite a Chymuned, sydd mor bwysig, i gynrychioli yr union bobl yr ydym yn eu cefnogi.
I have two questions, First Minister, that you may be able to help with. First of all, you do recognise, as I do, the issue of mass unemployment and the fear of that. I would ask you when you meet Mr Cameron tomorrow that you ask them to do a review, very quickly, of the impact of unemployment. The fact is that 6,500 in Port Talbot, or 900 people in Shotton or elsewhere, in Newport, across our communities, have a long-term effect, and the fact is that protecting the workforce now may be cheaper, actually, than the long-term effects of community destruction longer term. We must make sure we look at the wellbeing of communities for the future. Mae gennyf ddau gwestiwn, Brif Weinidog, y gallech fy helpu eu hateb. Yn gyntaf oll, yr ydych yn cydnabod, fel yr wyf innau, y mater o ddiweithdra torfol a'r ofn o hynny. Rwy'n gofyn i chi, pan fyddwch yn cyfarfod â Mr Cameron yfory, eich bod chi’n gofyn iddynt gynnal adolygiad, yn gyflym iawn, o effaith diweithdra. Y ffaith yw bod 6,500 o bobl ym Mhort Talbot, neu 900 o bobl yn Shotton neu yn rhywle arall, yng Nghasnewydd, ar draws ein cymunedau, yn dioddef effaith hirdymor, a'r ffaith yw y gallai amddiffyn y gweithlu yn awr fod yn rhatach, mewn gwirionedd, nag effeithiau hirdymor dinistrio cymunedau yn y tymor hwy. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn edrych ar les cymunedau ar gyfer y dyfodol.
My second point, First Minister, is I also recognise that you recognise the importance of the workforce right across Wales, and across the UK, and I want to just ask that you continue to lead in the way you have done over the last week, and give my community reassurance, and all the others too, that you will make representation on behalf of my Shotton team members and of colleagues across the steel sector here in Wales. Fy ail bwynt, Brif Weinidog, yw fy mod innau hefyd yn cydnabod eich bod yn cydnabod pwysigrwydd y gweithlu ar draws Cymru, ac ar draws y DU, ac rwyf am ofyn i chi barhau i arwain yn y modd yr ydych wedi ei wneud yn ystod yr wythnos ddiwethaf, a rhoi sicrwydd i fy nghymuned i, a'r holl rai eraill hefyd, y byddwch yn gwneud sylwadau ar ran aelodau fy nhîm yn Shotton a chydweithwyr ar draws y sector dur yma yng Nghymru.
First Minister, you have been, for this week and before, the statesman of this organisation and of this institution in leading the way across Wales, and I’m very proud to have been part of that. Can I say, it is also important, and it’s very difficult for me and people like Dai Rees and John Griffiths—people who represent communities across the length and breadth of Wales—to be so statesman-like? I just think back to the days of the 1980s when Mrs Thatcher rained down upon my community, and many in this community. Let us hope that this is not about Mr Cameron just finishing the job that Thatcher started. I and many in this room are relying on you, First Minister, to take the message to Westminster, and now it’s time for Mr Cameron to step up to the table. Thank you. [Applause.] Brif Weinidog, yr ydych wedi bod, yn ystod yr wythnos hon a chyn hynny, yn wladweinydd y gyfundrefn hon a'r sefydliad hwn wrth arwain y ffordd ar draws Cymru, ac rwy'n falch iawn o fod wedi bod yn rhan o hynny. A gaf i ddweud, mae hefyd yn bwysig, ac mae'n anodd iawn i mi a phobl fel Dai Rees a John Griffiths—pobl sy'n cynrychioli cymunedau ar hyd a lled Cymru—i fod yn gymaint o wladweinyddion? Rwyf ond yn meddwl yn ôl i ddyddiau y 1980au pan ddaeth Mrs Thatcher â dyddiau duon i fy nghymuned, ac i lawer yn y gymuned hon. Gadewch i ni obeithio nad yw hyn yn ymwneud â Mr Cameron yn gorffen y gwaith a ddechreuodd Thatcher. Rwyf i a llawer yn yr ystafell hon yn dibynnu arnoch chi, Brif Weinidog, i fynd â'r neges i San Steffan, ac nawr mae'n amser i Mr Cameron weithredu. Diolch. [Cymeradwyaeth.]
16:05 - Carwyn Jones
Can I thank my colleague for his comments? He is quite right about the banks, as was Simon Thomas. The reality is that the banks were nationalised; this is a strategic industry, as the banks were and are, and therefore public ownership must be an option. There is no doubt about that. I remember—. Not every party supported the banks being taken over as they were, but it was important to keep the financial sector going; it is equally important to keep a strategic industry like steel going, because he’s right to point out that the cost of unemployment and the cost to communities is substantial. And we know that without those well-paid jobs, we will see an effect—not just in Port Talbot, or in Llanelli, or in Newport, or in Shotton—but more widely across the whole of Wales. He has made the points that he has on behalf of his constituents, of course, in Shotton. I’ve heard the Prime Minister in what he has said that he wishes to make sure there is a future for steel in Wales and in Britain. I’ve heard the promises that have been made by the business Secretary, and I expect him to deliver on those promises. And again, tomorrow, I will be making the point that we cannot afford, in the UK, to lose our steel industry; we cannot be an industrial economy without the capacity to make our own steel. We will step up to the plate; the UK Government has said they will; we do now need to see action over the next few days. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod am ei sylwadau. Mae'n hollol iawn am y banciau, fel yr oedd Simon Thomas. Y gwir amdani yw bod y banciau wedi eu gwladoli; mae hwn yn ddiwydiant strategol, fel yr oedd ac y mae y banciau, ac felly mae'n rhaid i berchnogaeth gyhoeddus fod yn ddewis. Nid oes amheuaeth am hynny. Rwy'n cofio—. Nid oedd pob plaid yn gefnogol i gymryd y banciau drosodd fel y gwnaethpwyd, ond yr oedd yn bwysig cadw'r sector ariannol i fynd; mae'r un mor bwysig i gadw diwydiant strategol fel dur i fynd, oherwydd ei fod yn iawn wrth nodi bod y gost o ddiweithdra a'r gost i gymunedau yn sylweddol. Ac rydym yn gwybod, heb y swyddi hynny sy'n talu'n dda, byddwn yn gweld effaith—nid yn unig ym Mhort Talbot, neu yn Llanelli, neu yng Nghasnewydd, neu yn Shotton—ond yn fwy eang ar draws Cymru gyfan. Mae wedi gwneud y pwyntiau y mae wedi eu gwneud ar ran ei etholwyr, wrth gwrs, yn Shotton. Rwyf wedi clywed y Prif Weinidog yn yr hyn y mae wedi ei ddweud yn sôn ei fod yn dymuno gwneud yn siŵr bod dyfodol i ddur yng Nghymru ac ym Mhrydain. Rwyf wedi clywed yr addewidion a wnaed gan yr Ysgrifennydd busnes, ac yr wyf yn disgwyl iddo gyflawni'r addewidion hynny. Ac eto, yfory, byddaf yn gwneud y pwynt na allwn fforddio, yn y DU, colli ein diwydiant dur; ni allwn fod yn economi ddiwydiannol heb y gallu i wneud ein dur ein hunain. Byddwn yn chwarae ein rhan; mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd hithau hefyd; mae angen i ni bellach weld camau gweithredu dros y dyddiau nesaf.
16:07 - Mark Isherwood
Thirty five years ago, the building society I previously worked for merged with the Shotton steel building society—the John Summers Building Society—beginning my own long association with the wonderful people in that community. And there are still over 800 jobs at the steel plant in Shotton. And after Tata Steel Colors in Shotton told me early last year that they were critically dependent upon the supply chain for sustainable British steel, and that they were directly affected by substandard imports of carbon steel rebar because of their reliance on feedstock from the heavy end in south Wales, as they described it, I added my support alongside Members across the Chamber in March 2015 to the call for the Welsh Government to adopt a charter for sustainable steel, pledging only to purchase carbon steel reinforcement for concrete from suppliers adhering to the framework standard for responsible sourcing. Pymtheng mlynedd ar hugain yn ôl, ymunodd y gymdeithas adeiladu yr oeddwn yn gweithio iddi yn flaenorol â chymdeithas adeiladu dur Shotton—Cymdeithas Adeiladu John Summers —gan ddechrau fy nghysylltiad hir fy hun â phobl wych y gymuned honno. Ac mae dros 800 o swyddi o hyd yn y gwaith dur yn Shotton. Ac ar ôl i Tata Steel Colors yn Shotton ddweud wrthyf yn gynnar y llynedd eu bod yn gwbl ddibynnol ar y gadwyn gyflenwi ar gyfer dur Prydeinig cynaliadwy, a'u bod wedi eu heffeithio yn uniongyrchol gan fewnforion is-safonol o fariau dur atgyfnerthu carbon oherwydd eu dibyniaeth ar borthiant o'r pen trwm yn ne Cymru, fel y'i disgrifiwyd ganddynt, ychwanegais fy nghefnogaeth ochr yn ochr ag Aelodau ar draws y Siambr ym mis Mawrth 2015 i'r galw am i Lywodraeth Cymru fabwysiadu siarter ar gyfer dur cynaliadwy, gan addo prynu bariau dur atgyfnerthu carbon ar gyfer concrit gan gyflenwyr sy'n cydymffurfio â'r fframwaith safonau ar gyfer cyrchu cyfrifol.
In January of this year, 10 months later, I asked your Minister for Economy, Science and Transport what action the Welsh Government was taking to adopt that charter, or whether she could share with us any legal or other barriers that might prevent full adoption at a devolved level. And she replied, Ym mis Ionawr eleni, 10 mis yn ddiweddarach, gofynnais i'ch Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ba gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fabwysiadu'r siarter, neu a allai hi rannu gyda ni unrhyw rwystrau cyfreithiol neu eraill a allai atal mabwysiadu llawn ar lefel ddatganoledig. Ac fe atebodd:
‘there was an issue that Jane Hutt looked at.…I will have to check what reason was given why we couldn’t do it, because I recall there was something.’ roedd yna fater yr edrychodd Jane Hutt arno.... bydd yn rhaid i mi wirio pa reswm a roddwyd pam na allem ei wneud, oherwydd yr wyf yn cofio bod rhywbeth.
Could you tell us what that something was, First Minister, and whether there is still opportunity to revisit this within the context of the legal framework and the international framework applying? A allech chi ddweud wrthym beth oedd y rhywbeth hwnnw, Brif Weinidog, ac a oes cyfle o hyd i ailedrych ar hyn o fewn y cyd-destun bod y fframwaith cyfreithiol a'r fframwaith rhyngwladol yn berthnasol?
My second and final point relates to the EU aspect that so many Members have referred to, because EU membership means we are dependent upon the European Commission to speed up work on unfair trade practices, and ensure the effectiveness of state aid rules. I also understand that when the Chancellor announced he was cutting costs for energy-intensive industries, recognising that UK steel had said that the cost of green levies was around £4 million a month, putting annual compensation close to £50 million a year across the sector, that that also first had to be approved in Brussels under state aid rules. So, after the steel industry crisis talks at EU level last November, which the UK business Secretary had called for, which led to commitments to speed up the European Commission’s work in these areas, and after the UK Government lodged a formal anti-dumping complaint with the European Commission, again I asked the Minister in January what direct communication the Welsh Government had had with the European Commission regarding protection for steel producers from the dumping of cheap steel, and she replied, Mae fy ail bwynt a'r olaf yn ymwneud ag agwedd yr UE y mae cymaint o Aelodau wedi cyfeirio ati, oherwydd bod aelodaeth o'r UE yn golygu ein bod yn dibynnu ar y Comisiwn Ewropeaidd i gyflymu'r gwaith ar arferion masnachu annheg, a sicrhau effeithiolrwydd rheolau cymorth gwladwriaethol. Rwyf hefyd ar ddeall pan gyhoeddodd y Canghellor ei fod yn torri costau ar gyfer diwydiannau ynni-ddwys, gan gydnabod bod dur y DU wedi dweud bod y gost o ardollau gwyrdd oddeutu £4 miliwn y mis, gan olygu bod yr iawndal blynyddol yn agos i £50 miliwn y flwyddyn ar draws y sector, bod yn rhaid i hynny hefyd gael ei gymeradwyo ym Mrwsel yn gyntaf o dan reolau cymorth gwladwriaethol. Felly, ar ôl y trafodaethau ynglŷn ag argyfwng y diwydiant dur fis Tachwedd diwethaf ar lefel yr UE, yr oedd Ysgrifennydd busnes y DU wedi galw amdanynt, a arweiniodd at ymrwymiadau i gyflymu gwaith y Comisiwn Ewropeaidd yn y meysydd hyn, ac ar ôl i Lywodraeth y DU gyflwyno cwyn gwrth-ddympio ffurfiol gyda'r Comisiwn Ewropeaidd, gofynnais eto i'r Gweinidog ym mis Ionawr ba gyfathrebu uniongyrchol a fu rhwng Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch amddiffyn cynhyrchwyr dur rhag dympio dur rhad, ac atebodd hi:
‘I think we need to redouble our efforts by using our Brussels office, et cetera, within Europe, to start having more…discussions out there.’ 'Rwy'n credu bod angen i ni ymdrechu'n galetach drwy ddefnyddio ein swyddfa ym Mrwsel, ac ati, o fewn Ewrop, i ddechrau cael rhagor ... o drafodaethau allan yna.
Well, you’ve referred a few times to correspondence with Europe, but what direct discussions, either directly or through the Brussels office, have occurred before January and since the Minister replied to me on that basis in January? Thank you. Wel, rydych chi wedi cyfeirio sawl gwaith at ohebiaeth gydag Ewrop, ond pa drafodaethau uniongyrchol, naill ai'n uniongyrchol neu drwy'r swyddfa ym Mrwsel, sydd wedi digwydd cyn mis Ionawr ac ers i'r Gweinidog fy ateb i ar y sail honno ym mis Ionawr? Diolch.
16:10 - Carwyn Jones
Well, in terms of the charter, there are issues, of course, that will relate to state aid, but there are ways around it, as Members will know. What can’t be done is to baldly state that only steel from Wales can be used, but then that is not what Members would expect such a charter to do, or would expect us to do rather. So, it’s important, of course, we examine every way to ensure, as we have been doing, that steel from Wales is used. But, as I’ve said, the major market is outside Wales—it’s in the UK and, indeed, Europe. People talk about the EU, the kind of tariffs that would be imposed on UK steel if we weren’t members of the EU don’t bear thinking about. We would lose the export market for steel, and it is a significant export market for Port Talbot. So, we have to be very, very clear about that as well. Wel, o ran y siarter, mae materion, wrth gwrs, a fydd yn berthnasol i gymorth gwladwriaethol, ond mae ffyrdd o amgylch hynny, fel y gŵyr yr Aelodau. Yr hyn na ellir ei wneud yw datgan yn blaen mai dim ond dur o Gymru a gaiff ei ddefnyddio, ond nid dyna fyddai Aelodau yn disgwyl i siarter o'r fath ei wneud, neu y byddent yn disgwyl i ni ei wneud yn hytrach. Felly, mae'n bwysig, wrth gwrs, i ni archwilio pob ffordd o sicrhau, fel yr ydym wedi bod yn ei wneud, bod dur o Gymru yn cael ei ddefnyddio. Ond, fel yr wyf wedi ei ddweud, mae'r brif farchnad y tu allan i Gymru—mae yn y DU ac, yn wir, yn Ewrop. Mae pobl yn siarad am yr UE, mae'r math o dariffau a fyddai'n cael eu gosod ar ddur y DU pe na byddem yn aelodau o'r UE yn codi ofn. Byddem yn colli'r farchnad allforion dur, ac mae'n farchnad allforion sylweddol ar gyfer Port Talbot. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn glir iawn, iawn am hynny hefyd.
In terms of the situation in Europe, we have been in correspondence with the Commission and made the point about tariffs, but the UK have the seat at the table, and the UK have not—I have to say; I’ve said it before—been vociferous enough. In fact, they’ve opposed the imposition of a fair level of tariffs for British steel. I hope now that’s changed as a result of the situation that we sadly see. I’ll be making this point again to the Prime Minister tomorrow because it is important that we don’t sit there and play by some self-imposed set of rules, that we understand the world as it is, and that means protecting our steel industry. O ran y sefyllfa yn Ewrop, rydym wedi bod yn gohebu â'r Comisiwn gan wneud y pwynt ynghylch tariffau, ond gan y DU y mae'r sedd wrth y bwrdd, ac nid yw'r DU— mae'n rhaid i mi ddweud; rwyf wedi ei ddweud o'r blaen—wedi bod yn ddigon uchel eu cloch. Yn wir, maen nhw wedi gwrthwynebu gosod lefel deg o dariffau ar gyfer dur Prydain. Rwyf yn gobeithio bod hynny wedi newid erbyn hyn o ganlyniad i'r sefyllfa yr ydym yn anffodus yn ei gweld. Byddaf yn gwneud y pwynt hwn unwaith eto i'r Prif Weinidog yfory oherwydd ei bod yn bwysig nad ydym yn eistedd yno a chwarae gan ddilyn rhyw gyfres hunanosodedig o reolau, ein bod yn deall y byd fel ag y mae, ac mae hynny'n golygu amddiffyn ein diwydiant dur.
16:11 - Mick Antoniw
First Minister, there’s not a single constituency in Wales that is not affected by what is happening within the steel industry. I met last week with constituents of mine who work in Port Talbot steelworks and those who also work in related industries. Some of them have young families, some will have mortgages, they have homes and the anxiety and the concern over their future and their wellbeing is of considerable consequence. So, there are two succinct points I’d like to ask. The first one, which, again, was raised by a constituent of mine and was a matter that was raised in the business committee when evidence was received, was with regard to the Ministry of Defence where I think the steel industries said it would be good if the MOD were at the table as one of the biggest procurers of steel—purchasers of Swedish steel in place of UK steel. It would be good if they were at least there at the table in discussion over the future of the steel industry, and I would ask you if that is an issue that will be raised with the Prime Minister. Brif Weinidog, nid oes unrhyw etholaeth yng Nghymru nad yw'r hyn sy'n digwydd yn y diwydiant dur yn effeithio arni. Cyfarfûm yr wythnos diwethaf ag etholwyr i mi sy'n gweithio yng ngwaith dur Port Talbot a'r rhai sydd hefyd yn gweithio mewn diwydiannau cysylltiedig. Mae gan rai ohonynt deuluoedd ifanc, bydd gan rai forgeisi, mae ganddynt gartrefi ac mae'r pryder am eu dyfodol a'u lles yn achosi canlyniadau sylweddol. Felly, mae dau bwynt cryno yr hoffwn eu gofyn. Mae'r un cyntaf, a godwyd, unwaith eto, gan un o fy etholwyr ac a oedd yn fater a godwyd yn y pwyllgor busnes pan dderbyniwyd tystiolaeth, yn ymwneud â'r Weinyddiaeth Amddiffyn ac rwyf yn meddwl bod y diwydiannau dur wedi dweud y byddai'n dda pe byddai'r Weinyddiaeth Amddiffyn wrth y bwrdd fel un o'r caffaelwyr dur mwyaf—yn prynu dur Sweden yn hytrach na dur y DU. Byddai'n dda pe byddent o leiaf yno wrth y bwrdd i drafod dyfodol y diwydiant dur, ac rwyf am ofyn i chi a yw hynny'n fater a fydd yn cael ei godi gyda'r Prif Weinidog.
But can I raise, in addition, another point, and that is with regard to the issue of public ownership? Can I firstly congratulate yourself and the Minister for the economy, because it seems clear that the impact you’ve had has actually moved the UK Government from a position where it was saying, ‘Well, we’ll do our best. We’ll do what we can, we’ll help as best we can, et cetera, but we won’t nationalise’, to a position of, ‘Well, we don’t like nationalisation, but we’re prepared to consider it.’ That is a significant movement. Can I say, now that we have the UK Government accepting the possibility of that level of state intervention, if there is one thing that could be done that would put at ease the anxieties and the concerns of all those working in the industry and related businesses with mortgages, with families and with children to think about and with their futures to be concerned about, it would be if the UK Government said, ‘We will do our best, we will do everything we can to find a buyer or whatever for the steel industry, but at the end of the day, if all else fails, we will step in and this industry will come into public ownership’? That would give them the assurance of a future. It would also send a tremendous international message out that we have a UK Government that is absolutely committed to preserving steel, and what better way to actually market it and to sell the industry if that is what the intention of the UK Government is? [Assembly Members: ‘Hear, hear.’] Ond a gaf i godi, yn ogystal, bwynt arall, a hwnnw yn ymwneud â'r mater o berchnogaeth gyhoeddus? A gaf i'n gyntaf eich llongyfarch chi a Gweinidog yr economi, oherwydd ymddengys yn glir bod yr effaith yr ydych chi wedi ei chael mewn gwirionedd wedi symud Llywodraeth y DU o sefyllfa lle'r oedd yn dweud, 'Wel, fe wnawn ein gorau. Byddwn yn gwneud yr hyn a allwn, byddwn yn eich helpu orau y gallwn, ac ati, ond ni fyddwn yn gwladoli ', i sefyllfa o, 'Wel, nid ydym yn hoffi gwladoli, ond rydym yn barod i'w ystyried.' Mae hynny'n symudiad sylweddol. A gaf i ddweud, gan fod Llywodraeth y DU bellach yn derbyn y posibilrwydd o’r lefel honno o ymyrraeth gan y wladwriaeth, un peth y gellid ei wneud a fyddai'n tawelu ofnau a phryderon pawb sy'n gweithio yn y diwydiant a busnesau cysylltiedig sydd â morgeisi, teuluoedd a phlant i feddwl amdanynt a phryder am eu dyfodol, byddai cael y Llywodraeth y DU yn dweud, ‘Byddwn yn gwneud ein gorau, byddwn yn gwneud popeth y gallwn i ddod o hyd i brynwr neu beth bynnag ar gyfer y diwydiant dur, ond yn y pen draw, os bydd popeth arall yn methu, byddwn yn camu i mewn a bydd y diwydiant hwn yn dod i berchnogaeth gyhoeddus’. Byddai hynny’n rhoi sicrwydd o ddyfodol iddynt. Byddai hefyd yn anfon neges ryngwladol aruthrol bod gennym Lywodraeth y DU sy'n gwbl ymrwymedig i ddiogelu dur, a pha well ffordd o’i farchnata mewn gwirionedd ac i werthu'r diwydiant os mai dyna yw bwriad Llywodraeth y DU? [Aelodau'r Cynulliad: ‘Clywch, clywch.’]
16:14 - Carwyn Jones
Could I thank my colleague the Member for Pontypridd for his comments? Firstly, with regard to the MOD, he is right: one of the concerns that were raised, following the announcement, was that the UK would not be able to manufacture its own armaments without sourcing steel from abroad and as, still, a major military power in the world, not having the ability to actually equip your armed forces without worrying about where the raw material is going to come from is a serious issue. He’s right to point out that the MOD is a major procurer, and that is something, I think, that is worth taking up with the UK Government. A gaf i ddiolch i fy nghydweithiwr yr Aelod dros Bontypridd am ei sylwadau? Yn gyntaf, o ran y Weinyddiaeth Amddiffyn, mae e'n iawn: un o'r pryderon a godwyd, yn dilyn y cyhoeddiad, oedd na fyddai'r DU yn gallu cynhyrchu ei harfau ei hun heb gyrchu dur o dramor ac fel pŵer milwrol mawr yn y byd o hyd, mae bod heb y gallu mewn gwirionedd i arfogi eich lluoedd arfog heb boeni am o ble mae'r deunydd crai yn mynd i ddod yn fater difrifol. Mae'n iawn i nodi bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gaffaelwr mawr, ac mae hynny'n rhywbeth, yn fy marn i, sy'n werth ei drafod gyda Llywodraeth y DU.
In terms of public ownership, the situation is acute. I’ve observed the UK Government move from, ‘No nationalisation, but everything’s on the table anyway’, to considering some quite radical proposals, potentially. From the perspective of the Welsh Government, if it isn’t the case that a suitable buyer can be found within the short timescale that has been proposed, then it is for Government—primarily the UK Government—to take over the running of the steel industry. In response to the question, ‘How long should that be for?’, my answer is: ‘For as long as it takes’, because we want to make sure that the steel industry continues, that it gets to a point where it’s profitable again, and those jobs can be preserved. As other Members have mentioned, it happened with the banks. There was no time limit put on public ownership of the banks; the same applies for steel. O ran perchnogaeth gyhoeddus, mae'r sefyllfa yn ddifrifol. Rwyf wedi gweld Llywodraeth y DU yn symud o, ‘Dim gwladoli, ond mae popeth ar y bwrdd beth bynnag’, i ystyried rhai cynigion eithaf radical, o bosibl. O safbwynt Llywodraeth Cymru, os na ellir canfod prynwr addas o fewn yr amserlen fer a gynigiwyd, yna cyfrifoldeb y Llywodraeth—Llywodraeth y DU yn bennaf— yw cymryd drosodd y gwaith o redeg y diwydiant dur. Mewn ymateb i'r cwestiwn, ‘Am ba hyd y dylid gwneud hynny?’, fy ateb yw: ‘Cyhyd ag y mae angen gwneud’, oherwydd ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod y diwydiant dur yn parhau, ei fod yn cyrraedd pwynt lle mae'n broffidiol eto, ac y gellir cadw'r swyddi hynny. Fel y mae Aelodau eraill wedi sôn, digwyddodd hyn gyda'r banciau. Ni roddwyd cyfyngiad amser ar berchenogaeth gyhoeddus o'r banciau; mae'r un peth yn berthnasol ar gyfer dur.
16:16 - Lindsay Whittle
I’m not very well, so forgive the voice. I had a lovely speech prepared, but we’ve said all the ‘oohs’ and ‘aahs’ in all the right places now and we’ve heard it all before. It’s fabulous, I’m sure, but it’s not what the steelworkers really want. What they want is action. I’ll never forget, in 1981, the seven months I spent unemployed. It was the worst period of my life, I can assure you. If somebody should meet David Cameron tomorrow it’s perhaps people like me, to tell him what it’s like to actually be struggling on low or, actually, no income at all. It’s very difficult. Nid wyf yn dda iawn, felly maddeuwch y llais. Roedd gennyf araith hyfryd wedi ei pharatoi, ond rydym wedi dweud yr holl 'wwhs' ac 'aahs' yn yr holl fannau cywir erbyn hyn ac rydym wedi clywed y cyfan o'r blaen. Mae'n wych, rwy'n siŵr, ond nid dyna mae'r gweithwyr dur ei angen mewn gwirionedd. Yr hyn y maent ei eisiau yw gweithredu. Wna i fyth anghofio, yn 1981, y saith mis a dreuliais yn ddi-waith. Dyna gyfnod gwaethaf fy mywyd, gallaf eich sicrhau. Pe dylai rhywun gwrdd â David Cameron yfory efallai mai pobl fel fi ddylai wneud hynny, i ddweud wrtho sut beth mewn gwirionedd yw ymlafnio ar incwm isel neu, mewn gwirionedd, dim incwm o gwbl. Mae'n anodd iawn.
I know you want to cut the debate short, so I will go straight into my questions. First Minister, what will happen to the steel coil operations at Llanwern? As certain aspects of the facilities there are currently mothballed, can you confirm that closure or a serious mothballing at Port Talbot—heaven forbid—would mean the end of realistically seeing any operations restarted at Llanwern? What impacts have you made as a Government regarding loss of jobs in non-steel-related sectors due to the wider impact on communities? Are we advising people to diversify now? How will we reskill any workforce? We have already heard—I can’t remember who said it—that 750 jobs have gone anyway; so, we need to re-educate those people. Are all educational establishments being contacted, and are they being brought on board? Gwn eich bod eisiau cadw'r ddadl yn fyr, felly af yn syth at fy nghwestiynau. Brif Weinidog, beth fydd yn digwydd i weithrediadau coil dur yn Llanwern? Gan fod rhai agweddau ar y cyfleusterau yno wedi eu rhoi o'r neilltu ar hyn o bryd, a allwch chi gadarnhau y byddai cau neu roi'r safle o'r neilltu ym Mhort Talbot—Duw a'n gwaredo—yn golygu diwedd realistig i weld unrhyw weithrediadau yn ailgychwyn yn Llanwern? Pa effeithiau yr ydych wedi'u cael fel Llywodraeth ynghylch colli swyddi mewn sectorau nad ydynt yn gysylltiedig â dur oherwydd yr effaith ehangach ar gymunedau? A ydym ni'n cynghori pobl i arallgyfeirio nawr? Sut y byddwn ni'n ailsgilio unrhyw weithlu? Yr ydym eisoes wedi clywed—ni allaf gofio pwy ddywedodd hynny—bod 750 o swyddi wedi mynd beth bynnag; felly, mae angen i ni ailaddysgu y bobl hynny. A ydym ni'n cysylltu â phob sefydliad addysgol, ac a ydynt yn cael eu cynnwys yn hyn?
Would you agree, First Minister, that, since Labour was elected on a promise to stand up for Wales, and since the whole existence of the Labour Party is based on your apparent efforts to protect working people from the excess of right-wing economics, surely now is the time for you to actually put words into action? Given the almost complete economic destruction that occurred when we lost a major strategic industry the last time the Tories were in power, do you agree that this time we cannot afford to let it happen, and we must learn from the mistakes of the past? A fyddech chi'n cytuno, Brif Weinidog, ers i Lafur gael ei hethol ar addewid i sefyll dros Gymru, a gan fod bodolaeth gyfan y Blaid Lafur yn seiliedig ar eich ymdrechion ymddangosiadol i amddiffyn pobl sy'n gweithio rhag eithafion economeg yr adain dde, mai nawr yn sicr yw'r amser i chi mewn gwirionedd droi gair yn weithred? O gofio'r dinistr economaidd llwyr bron a ddigwyddodd pan gollwyd diwydiant strategol mawr y tro diwethaf yr oedd y Torïaid mewn grym, a ydych chi'n cytuno, na allwn y tro hwn, fforddio gadael i hynny ddigwydd, a bod yn rhaid i ni ddysgu oddi wrth gamgymeriadau'r gorffennol?
Finally, First Minister, will you please have the courage to ask David Cameron to stop—if you’ll pardon the pun—pandering to the Chinese? We all know he wants them to build his power stations. You must tell him that he needs to take action. We want action; otherwise we’ll take it ourselves. Yn olaf, Brif Weinidog, a fyddwch chi'n ddigon dewr i ofyn i David Cameron i roi'r gorau—os gwnewch chi faddau'r gair mwys—boddio'r Tsieineaid? Rydym ni i gyd yn gwybod ei fod eisiau iddynt adeiladu ei orsafoedd ynni. Mae'n rhaid i chi ddweud wrtho bod angen iddo weithredu. Rydym eisiau gweld gweithredu; fel arall byddwn yn gweithredu ein hunain.
Labour has spent virtually all of your existence and all of my life promising to stand up for working people. Well, it’s time for you to fulfil those promises. You’re a bigger party than my party, but hey, we will join you. We will join you; and all of us should stand up for the industry and the hard work of the people that we promised to represent when we took the oath, can you believe it, five years ago. So, let us all come together to save this industry. If either Government—London or Cardiff—fails now, well, just as I have never forgotten my period of unemployment, the people of Wales will never forget either. Thank you. Mae Llafur wedi treulio eich holl fodolaeth bron a fy mywyd cyfan i yn addo sefyll dros bobl sy'n gweithio. Wel, mae'n amser i chi gyflawni yr addewidion hynny. Rydych chi'n blaid fwy na fy mhlaid i, ond hei, byddwn yn ymuno â chi. Byddwn yn ymuno â chi; a dylai pob un ohonom sefyll dros y diwydiant a gwaith caled y bobl y gwnaethom addo eu cynrychioli wrth gymryd y llw, a allwch chi gredu'r peth, bum mlynedd yn ôl. Felly, gadewch i ni i gyd ddod ynghyd i achub y diwydiant hwn. Os bydd y naill Lywodraeth neu'r llall—Llundain neu Gaerdydd—yn methu nawr, wel, yn union fel nad wyf i erioed wedi anghofio fy nghyfnod o ddiweithdra, ni fydd pobl Cymru fyth yn anghofio chwaith. Diolch.
16:19 - Carwyn Jones
The one thing that cannot happen is that Port Talbot and the other plants should be sacrificed in order to see Hinkley built with its current financial model. [Assembly Members: ‘Hear, hear.’] That worries me. I don’t spend my time having a go at China. China is an important trading partner, but there are bound to be suspicions that the need to obtain finance from China to build Hinkley has been a factor in opposing the tariffs. Now, I’ll put this position to the Prime Minister tomorrow. That can no longer be the case; the Chinese have imposed their own tariffs. So, it can’t be a cause of complaint from China if tariffs are increased at EU level. You cannot build Hinkley and sacrifice other parts of our industry in order to do that. Yr un peth na chaiff ddigwydd yw bod Port Talbot a gweithfeydd eraill yn cael eu haberthu er mwyn gweld Hinkley yn cael ei adeiladu drwy ei fodel ariannol bresennol. [Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.'] Mae hynny'n fy mhoeni. Nid wyf yn treulio fy amser yn gweld bai ar Tsieina. Mae Tsieina yn bartner masnachu pwysig, ond mae'n sicr y bydd amheuon bod yr angen i gael cyllid o Tsieina i adeiladu Hinkley wedi bod yn ffactor wrth wrthwynebu'r tariffau. Nawr, byddaf yn cyflwyno’r safbwynt hwn i'r Prif Weinidog yfory. Ni all hynny fod yn wir mwyach; mae'r Tsieineaid wedi gosod eu tariffau eu hunain. Felly, ni all Tsieina gwyno os bydd tariffau yn cael eu cynyddu ar lefel yr UE. Ni allwch adeiladu Hinkley ac aberthu rhannau eraill o'n diwydiant er mwyn gwneud hynny.
With regard to steel coil, it just creates uncertainty at the very least, because we know—and Shotton has already been mentioned—that Shotton relies on Port Talbot to be supplied. Even though Shotton is a profit-making plant, it’s got no feed stock without Port Talbot being there, certainly in the short term, which is why, of course, all the plants are so interlinked that they come as a package, not as individual plants. O ran coiliau dur, mae’n creu ansicrwydd, oherwydd gwyddom—ac mae Shotton eisoes wedi cael ei grybwyll—bod Shotton yn dibynnu ar Bort Talbot i gael ei gyflenwi. Er bod Shotton yn waith sy’n gwneud elw, nid oes ganddo unrhyw stoc i’w gyflenwi heb fod Port Talbot yno, yn sicr yn y tymor byr, a dyna pam, wrth gwrs, y mae’r holl weithfeydd mor gydgysylltiedig â’i gilydd fel eu bod yn dod fel pecyn, nid fel gweithfeydd unigol.
We’re not at this moment in time looking to put in place measures to deal with closure, because our objective is not to see that; it is to find a buyer, and for Government to take over the plant if a buyer cannot be found in the timetable that’s been set down. As I mentioned earlier on, there are 1.22 jobs for every job that is provided in the steel industry itself. I recognise the passion that the Member brought to the Chamber. He and I will have experiences of the 1980s; it was an experience that brought me into my party and to where I am now, seeing what happened to the coal industry, but we have to make sure that the same thing doesn’t happen to steel. We've heard the right noises from the UK Government now, but we now need to see some action. Nid ydym ar hyn o bryd yn bwriadu rhoi mesurau ar waith i ymdrin â chau gweithfeydd, oherwydd nid ein nod yw gweld hynny; rydym yn dymuno dod o hyd i brynwr, ac i'r Llywodraeth gymryd y gwaith dur drosodd os na ellir cael prynwr yn yr amserlen sydd wedi'i phennu. Fel y soniais yn gynharach, mae 1.22 o swyddi ar gyfer pob swydd sy'n cael ei darparu yn y diwydiant dur ei hun. Yr wyf yn cydnabod yr angerdd y daeth yr Aelod gydag ef i'r Siambr. Mae ganddo ef a minnau brofiadau o'r 1980au; roedd yn brofiad a ddaeth â mi i fy mhlaid ac i ble yr wyf erbyn hyn, gweld yr hyn a ddigwyddodd i'r diwydiant glo, ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad yw'r un peth yn digwydd i’r diwydiant dur. Rydym wedi clywed y synau cywir gan Lywodraeth y DU nawr, ond mae angen i ni weld rhywfaint o weithredu bellach.
16:21 - Alun Davies
Can I place a declaration on the record, in that my brother is a steelworker? A gaf roi datganiad ar y cofnod, sef bod fy mrawd yn weithiwr dur?
I think many of us across the Chamber will welcome the statement that’s been made by the First Minister this afternoon, but we also welcome the approach that the Welsh Government has taken over recent weeks and recent months, playing an active and proactive role, seeking to intervene to ensure that steel has the future that we all want to see in Wales. You’ve been asked, First Minister, to remind David Cameron of a number of things tomorrow, but perhaps you could remind him of when the Conservatives took the view that they would intervene before breakfast, intervene before lunch, and intervene before dinner to save British industry. That was a Conservative Minister speaking to his conference. Perhaps Conservative Ministers today, who need to be dragged in front of television cameras to make only the most mealy-mouthed statements, need to be reminded that they’re not only selling Welsh steelworkers short, but they’re forgetting their own history in doing so. Rwy'n credu y bydd llawer ohonom ar draws y Siambr yn croesawu'r datganiad sydd wedi ei wneud gan y Prif Weinidog y prynhawn yma, ond rydym hefyd yn croesawu'r dull gweithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i arfer dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf, drwy chwarae rhan weithredol a rhagweithiol, gan geisio ymyrryd er mwyn sicrhau bod gan ddur y dyfodol yr ydym i gyd yn dymuno ei weld yng Nghymru. Gofynnwyd i chi, Brif Weinidog, i atgoffa David Cameron am nifer o bethau yfory, ond efallai y gallech ei atgoffa o bryd yr oedd y Ceidwadwyr y farn y byddent yn ymyrryd cyn brecwast, yn ymyrryd cyn cinio, ac yn ymyrryd cyn swper i arbed diwydiant Prydain. Gweinidog Ceidwadol oedd hwnnw yn siarad yn ei gynhadledd. Efallai bod angen atgoffa Gweinidogion Ceidwadol heddiw, y mae angen eu llusgo o flaen camerâu teledu i wneud dim ond y datganiadau mwyaf gwenieithus, eu bod, nid yn unig yn siomi gweithwyr dur Cymru, ond eu bod yn anghofio eu hanes eu hunain wrth wneud hynny.
Can I also say this to you, First Minister? Steel is an emblematic industry in Wales, nowhere more so than places like Ebbw Vale, where we have been defined and described as a community and as a nation by the history of steel and the place of steel, but also the place of steel in the future of our communities. The Circuit of Wales, in my own constituency, wants to use steel—Welsh steel, British Steel—in order to construct that new facility, but we also need steel to be a part of an industrial policy and an economic policy that’s going to drive forward manufacturing in Wales. A gaf i hefyd ddweud hyn wrthych chi, Brif Weinidog? Mae dur yn ddiwydiant sy’n symbolaidd o Gymru, ac unman yn fwy felly na lleoedd fel Glyn Ebwy, lle'r ydym wedi ein diffinio a'n disgrifio fel cymuned ac fel cenedl gan hanes dur ac fel lleoliad dur, ond hefyd sefyllfa dur yn nyfodol ein cymunedau.  Mae Cylchffordd Cymru, yn fy etholaeth fy hun, yn dymuno defnyddio dur—dur Cymru, Dur Prydain—er mwyn adeiladu’r cyfleuster newydd hwnnw, ond mae angen hefyd i ddur fod yn rhan o bolisi diwydiannol a pholisi economaidd sy'n mynd i sbarduno gweithgynhyrchu yng Nghymru.
I hope, First Minister, that in responding to this, you'll be able to look beyond the crisis that we are experiencing today, to an industrial policy where steel is at the heart of that policy, and steel is at the foundation of that policy, able to drive forward manufacturing in Wales, able to drive forward sustainable economic growth in communities such as Blaenau Gwent, and also ensuring that steel remains at the heart of what we see as a future Welsh economy. And in doing so, I recognise what you’ve said about the need to create a level playing field for Tata and for Port Talbot and the other facilities affected. It’s important that we ensure that UK Ministers, when they are attending the Council of Ministers, are also represented by a Welsh Minister. Because I hear what UK Ministers say that they’re arguing for when they go to Brussels, to European meetings, but I share the concerns raised by David Rees. I'm not sure that I trust them, quite frankly. I'm not sure that I trust them. We have the right, through the memorandum of understanding with the Foreign Office, to be represented at the Council of Ministers, and it is important that Welsh Ministers represent the Welsh steel industry and that we don't simply rely on the promises that we hear from Conservative politicians, who I have seen work day in, day out to protect the interests of their friends in the financial industry in the City of London, but don't raise a pen or a finger or a voice to speak up for manufacturing, to speak up for steel, and to speak up for the interests of the economy of Wales. So, let's ensure that whenever steel is debated or discussed in any Council of Ministers meeting in the future, there is a Welsh Minister there, standing up and speaking up for Welsh steelworkers. Yr wyf yn gobeithio, Brif Weinidog, wrth ymateb i hyn, y byddwch yn gallu edrych y tu hwnt i'r argyfwng yr ydym yn ei brofi heddiw, at bolisi diwydiannol lle y mae dur wrth wraidd y polisi hwnnw, a dur yn sylfaen i’r polisi hwnnw, yn gallu sbarduno gweithgynhyrchu yng Nghymru, yn gallu sbarduno twf economaidd cynaliadwy mewn cymunedau fel Blaenau Gwent, a hefyd sicrhau bod dur yn parhau i fod wrth wraidd yr hyn a welwn fel economi Cymru yn y dyfodol. Ac wrth wneud hynny, rwy’n cydnabod yr hyn yr ydych wedi'i ddweud am yr angen i sicrhau chwarae teg i Tata ac i Bort Talbot a chyfleusterau eraill yr effeithir arnynt. Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod Gweinidogion y DU, pan fyddant yn mynychu Cyngor y Gweinidogion, hefyd yn cael eu cynrychioli gan un o Weinidogion Cymru. Oherwydd rwy’n clywed yr hyn y mae Gweinidogion y DU yn ei ddweud eu bod yn dadlau o blaid pan fyddant yn mynd i Frwsel, i gyfarfodydd Ewropeaidd, ond yr wyf yn rhannu'r pryderon a godwyd gan David Rees. Nid wyf yn siŵr bod gennym ffydd ynddynt, a dweud y gwir. Nid wyf yn siŵr bod gennyf ffydd ynddynt. Mae gennym yr hawl, trwy’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda'r Swyddfa Dramor, i gael ein cynrychioli yng Nghyngor y Gweinidogion, ac mae'n bwysig bod Gweinidogion Cymru yn cynrychioli diwydiant dur Cymru ac nad ydym ond yn dibynnu ar yr addewidion yr ydym yn eu clywed gan wleidyddion Ceidwadol, yr wyf wedi eu gweld ddydd ar ôl dydd yn diogelu buddiannau eu ffrindiau yn niwydiant ariannol y Ddinas yn Llundain, ond nid ydynt yn codi pin na bys na llais i siarad o blaid gweithgynhyrchu, i siarad o blaid dur, ac i siarad o blaid buddiannau economi Cymru. Felly, gadewch i ni sicrhau, pryd bynnag y bydd dadl am ddur neu drafodaeth am ddur mewn unrhyw gyfarfod Cyngor y Gweinidogion yn y dyfodol, bod un o Weinidogion Cymru yno, yn sefyll ar ei draed ac yn siarad ar ran gweithwyr dur yng Nghymru.
16:24 - Carwyn Jones
Can I thank the Member? His constituency, of course, has a historic—sadly, now—tradition of steel making. We know that steel is very much a part of our history, but it doesn’t belong in our past—that’s the point. Steel has a future; I’ve said this many times before. This is not a dying industry that is doomed to taper off and to lose money forever—something that, somehow, belongs to a chapter of our history and doesn’t belong to our future. It does belong to our future. A gaf i ddiolch i'r Aelod? Mae gan ei etholaeth, wrth gwrs, draddodiad—yn drist erbyn hyn— hanesyddol o wneud dur. Rydym yn gwybod bod dur yn sicr yn rhan o'n hanes, ond nid yw'n perthyn yn ein gorffennol—dyna'r pwynt. Mae gan ddur ddyfodol; rwyf wedi dweud hyn lawer gwaith o'r blaen. Nid yw hwn yn ddiwydiant sy'n marw sy'n sicr o ddiflannu’n araf a cholli arian am byth—rhywbeth sydd, rywsut, yn perthyn i bennod yn ein hanes ac nad yw'n perthyn i'n dyfodol. Mae yn perthyn i'n dyfodol.
We know that the situation at the moment is temporary. We know that it can improve in the future, in the right hands and with the right support. As I’ve said many times this afternoon, to imagine us without the capacity to make steel is to imagine an economy that’s no longer properly a manufacturing or industrial economy. He’s right to say we need to look beyond the current situation. We need to get through the current situation—that much is true—but also absolutely to look to a time when steel—the heavy end of steel making—is profitable again. Rydym yn gwybod mai sefyllfa dros dro sydd gennym ar hyn o bryd yn. Rydym yn gwybod y gall wella yn y dyfodol, yn y dwylo iawn a chyda'r gefnogaeth gywir. Fel yr wyf wedi dweud sawl gwaith y prynhawn yma, mae meddwl amdanom ni heb y gallu i wneud dur yn golygu dychmygu economi nad yw mwyach yn economi weithgynhyrchu neu’n economi ddiwydiannol wirioneddol. Mae e’n iawn i ddweud bod angen i ni edrych y tu hwnt i'r sefyllfa bresennol. Mae angen i ni oroesi'r sefyllfa bresennol—mae cymaint â hynny’n wir—ond hefyd yn bendant edrych tuag at amser pan fydd dur—y pen trwm o gynhyrchu dur—yn broffidiol eto.
He’s right to point out the situation with regard to the Council of Ministers. I hope now, though, that the UK Government understands that it does need to press the case for a proper tariff to be in place, rather than what we have at the moment. It will find support, I’m sure; I know it’ll find support from other countries for such a proposal, and we do need that in place, along with the other measures, in order to make sure that our steel industry can get through the current crisis and prosper in future. Mae e'n iawn i dynnu sylw at y sefyllfa o ran Cyngor y Gweinidogion. Rwy’n gobeithio erbyn hyn, fodd bynnag, bod Llywodraeth y DU wir yn deall bod angen iddi bwyso i gael tariff priodol ar waith, yn hytrach na'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd. Bydd hyn yn cael cefnogaeth, rwy'n siwr; rwy'n gwybod y bydd yn cael cefnogaeth gan wledydd eraill ar gyfer cynnig o'r fath, ac mae angen i hynny fod ar waith gennym, ynghyd â'r mesurau eraill, er mwyn gwneud yn siŵr y gall ein diwydiant dur oroesi’r argyfwng presennol a ffynnu yn y dyfodol.
16:26 - Mohammad Asghar
Thank you very much, First Minister, for spending so long and giving us such a good statement, but I disagree with the last line of the first page where you say that Diolch yn fawr iawn, Brif Weinidog, am dreulio cymaint o amser ac am roi datganiad mor dda i ni, ond rwy’n anghytuno â llinell olaf y dudalen gyntaf lle yr ydych yn dweud bod
‘The UK Government has been holding back the European Union.’ Llywodraeth y DU wedi bod yn dal yr Undeb Ewropeaidd yn ôl.
I don’t agree with that wholeheartedly. Nid wyf yn cytuno â hynny yn llwyr.
I come from Newport. In 1970, when I walked into Newport as a very young man, as a student, Llanwern steel mill had more than 14,000 full-time employees. It was a bustling city. Now, still today, because Llanwern is gone, the city hasn’t fully recovered. So, you must learn lessons from losing steel of that magnitude. Port Talbot is exactly the same. We should not ever, at any cost, lose our steel industry in Wales. Steel is not Wales—Wales is steel. So, First Minister, my one or two points are—. You bought Cardiff Airport. You got the adviser there to advise you how Cardiff Airport is running; you’ve got the adviser there. You also know that when Port Talbot steel was taken over by Tata, £800 million of public money was given to them. I agree that Tata is one of the most reputable companies in the world, but in the last 10 years, did you have any advisers there to advise you how they are trading within that company? What was the steel position in that company? How about import, export and development in the company? The skilled workforce was leaving and there were some going, for the last few years, we know—1,700 jobs—and no notice was taken. This is not your fault, London’s fault or anyone else’s. We know that the Chinese are there, but the fact is—. Rwyf yn dod o Gasnewydd. Yn 1970, pan gerddais i mewn i Gasnewydd yn ddyn ifanc iawn, fel myfyriwr, roedd gan felin ddur Llanwern mwy na 14,000 o weithwyr llawn amser. Roedd yn ddinas brysur. Nawr, hyd heddiw, gan fod Llanwern wedi mynd, nid yw’r ddinas wedi gwella'n llwyr. Felly, mae'n rhaid i chi ddysgu gwersi o golli gwaith dur o’r maint hwnnw. Mae Port Talbot yn union yr un fath. Ni ddylem fyth, ar unrhyw gyfrif, golli ein diwydiant dur yng Nghymru. Nid Cymru yw dur—dur yw Cymru. Felly, Brif Weinidog, un neu ddau o fy mhwyntiau yw—. Fe brynasoch chi Faes Awyr Caerdydd. Gwnaethoch ofyn i’r cynghorydd yno i'ch cynghori ynghylch sut y mae Maes Awyr Caerdydd yn rhedeg; mae'r cynghorydd gennych chi yno. Rydych chi hefyd yn gwybod pan feddiannwyd dur Port Talbot gan Tata, y rhoddwyd £800 miliwn o arian cyhoeddus iddynt. Rwy'n cytuno bod Tata yn un o'r cwmnïau mwyaf cyfrifol yn y byd, ond yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, a oedd gennych chi unrhyw gynghorwyr yno i'ch cynghori ar sut y maent yn masnachu o fewn y cwmni hwnnw? Beth oedd y sefyllfa o ran dur yn y cwmni hwnnw? Beth am fewnforio, allforio a datblygiad yn y cwmni? Roedd y gweithlu medrus yn gadael ac mae rhai ohonynt wedi bod yn gadael, dros y blynyddoedd diwethaf, fe wyddom—1,700 o swyddi—ac ni chymerwyd unrhyw sylw. Nid chi sydd ar fai, na Llundain nac unrhyw un arall. Rydym yn gwybod bod y Tsieineaid yno, ond y ffaith yw—.
You also said in your initial speech that it’s only short term. So, we’ve got to be prepared for short-term problems. You’re putting your good money for the short term to safeguard our workers there, and we should protect them; there’s no reason why not, because Port Talbot is also our lifeline for steel not for Wales, but the United Kingdom and the world. When the world was not even making nails, we were actually producing the industrial revolution in the world through Wales. It is a criminality if, actually, we try to close this down. So, I would be recommending from this side—I’m sure the Prime Minister and Sajid Javid are also on the same line—not to destroy our steel. Our steel will always live, I assure you. Dywedasoch hefyd yn eich araith gychwynnol mai dim ond rhywbeth byrdymor fydd hyn. Felly, mae’n rhaid inni fod yn barod ar gyfer problemau tymor byr. Rydych yn rhoi eich arian da ar gyfer y tymor byr i ddiogelu ein gweithwyr yno, a dylem eu diogelu; does dim rheswm i beidio, oherwydd Port Talbot hefyd yw ein hanadl einioes ar gyfer dur nid dim ond ar gyfer Cymru, ond ar gyfer y Deyrnas Unedig a'r byd. Pan nad oedd y byd hyd yn oed yn gwneud hoelion, roeddem ni mewn gwirionedd yn cynhyrchu chwyldro diwydiannol yn y byd trwy Gymru. Mae'n cyflawni trosedd os ydym, mewn gwirionedd, yn ceisio cau hyn i lawr. Felly, byddwn yn argymell o’r ochr hon—rwyf yn siŵr bod y Prif Weinidog a Sajid Javid o’r un farn hefyd—peidio â difetha ein dur. Bydd ein dur yn parhau i fyw, rwyf yn eich sicrhau.
As I said, steel is not Wales—Wales is steel. So, my point here is: First Minister, when Mr Kinnock went to Bombay, I was watching television—live television—on an Indian channel. Well before the meeting, they were saying there was no hope for anything. Any good reason? Why did they go there when they knew very well about this—that there was no prospect for success? So, why did our Government—I mean this Chamber—never have some sort of input in their handbags, and said, ‘Look, this is an offer for you; please stay and trade, and we need to find the right buyer and then we can deal with you’—? How much money? You’re just saying £30 million. You’ve got £350 million in reserves. Use the maximum you can in this institution. Make sure our steel survives with that sort of funding—some sort of funding to maintain it. The only point we can talk about is how much money you’re going to put aside for the new buyer or management buy-out. I personally think the best route is, whenever you sell this company to another company, make sure our Government and we are involved with it. Thank you. Fel y dywedais, nid Cymru yw dur—dur yw Cymru. Felly, fy mhwynt i yma yw: Brif Weinidog, pan aeth Mr Kinnock i Bombay, roeddwn i’n gwylio’r teledu—teledu byw—ar sianel Indiaidd. Ymhell cyn y cyfarfod, roeddent yn dweud nad oedd unrhyw obaith am unrhyw beth. A oedd unrhyw reswm da am hynny? Pam aethon nhw yno pan eu bod yn gwybod yn iawn am hyn—nad oedd unrhyw obaith o lwyddo? Felly, pam nad oedd ein Llywodraeth ni—rwyf yn golygu y Siambr hon—erioed wedi cynnig unrhyw beth iddynt, a dweud, 'Edrychwch, dyma gynnig i chi; os gwelwch yn dda, arhoswch a masnachwch, ac mae angen i ni ddod o hyd i'r prynwr cywir ac wedyn gallwn ymdrin â chi'—? Faint o arian? Rydych chi ond yn dweud £30 miliwn. Mae gennych chi £350 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn. Defnyddiwch cyn gymaint ag sydd gennych yn y sefydliad hwn. Gwnewch yn siŵr bod ein dur yn goroesi gyda'r math hwnnw o gyllid—rhyw fath o gyllid i’w gynnal. Yr unig bwynt y gallwn ni siarad amdano yw faint o arian y byddwch yn ei neilltuo ar gyfer y prynwr newydd neu gyfanbrynu gan reolwyr. Yn bersonol, credaf mai’r llwybr gorau yw, pryd bynnag yr ydych yn gwerthu'r cwmni hwn i gwmni arall, gwnewch yn siŵr bod ein Llywodraeth yn rhan o hynny. Diolch.
16:30 - Carwyn Jones
Can I thank the Member for his comments? I will ensure the Prime Minister knows that he regards it as a criminality if the industry closes down. He mentioned the airport; that was, of course, something he supported—for a short space of time, until such time as we were told that his comments in support were ironic—but the airport is of a much smaller scale. It’s a much smaller scale than what we’re talking about with the steel industry. A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Byddaf yn sicrhau bod y Prif Weinidog yn gwybod ei fod yn ystyried y byddai cau’r diwydiant i lawr yn cynrychioli trosedd. Soniodd am y maes awyr; a oedd, wrth gwrs, yn rhywbeth yr oedd yn ei gefnogi—am gyfnod byr o amser, hyd nes y dywedwyd wrthym mai rhai eironig oedd ei sylwadau o blaid—ond mae’r maes awyr ar raddfa sy’n llai o lawer. Mae'n raddfa llawer llai na'r hyn yr ydym yn sôn amdano o ran y diwydiant dur.
Tata, in fairness, have put investment into Port Talbot. This is not a plant that’s been starved of investment over the last few years. It has put in over £400 million-worth of investment into the plant itself. It’s right to say that, this time last year, the prospects were nothing like as bad as they are now. But the world steel market has taken a dip. That is not to say, of course, that it will always be depressed. As I’ve said before, taking it through the current crisis—because that’s what it is—is the objective. Mae Tata, a bod yn deg, wedi buddsoddi ym Mhort Talbot. Nid yw hwn yn waith sydd wedi ei amddifadu o fuddsoddiad dros y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi rhoi buddsoddiad gwerth dros £400 miliwn yn y gwaith ei hun. Mae'n iawn i ddweud, ar yr adeg hon y llynedd, nad oedd y rhagolygon cyn waethed o bell ffordd ag y maent erbyn hyn. Ond mae marchnad ddur y byd wedi dirywio. Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, y bydd yn aros felly am byth. Fel y dywedais o'r blaen, cynorthwyo'r diwydiant i fynd drwy’r argyfwng presennol—oherwydd dyna yw hyn—dyna yw'r nod.
He asked whether we made an offer. We did put the offer on the table. Tata were aware that we could put a package worth £60 million on the table. At that point, there was nothing from the UK Government; that was the issue. We knew it wouldn’t be enough of itself, but the UK Government didn’t come forward with an equivalent package by size, tariffs weren’t dealt with, energy costs weren’t dealt with. I think some alarm bells have been ringing in Whitehall in the past few days, and I hope that means that we can get to a position where we need to be. Gofynnodd a wnaethom ni gynnig. Fe wnaethom roi cynnig ar y bwrdd. Roedd Tata yn ymwybodol y gallem roi pecyn gwerth £60 miliwn ar y bwrdd. Ar yr adeg honno, nid oedd unrhyw beth gan Lywodraeth y DU; a dyna oedd y broblem. Gwyddem na fyddai'n ddigon ynddo'i hun, ond ni ddaeth Llywodraeth y DU ymlaen gan gyflwyno pecyn cyfatebol, ni ymdriniwyd â thariffau, ni ymdriniwyd â chostau ynni. Rwyf yn credu bod rhai clychau larwm wedi bod yn canu yn Whitehall yn y dyddiau diwethaf hyn, a gobeithiaf fod hynny’n golygu y gallwn gyrraedd y sefyllfa lle mae angen i ni fod.
I’m surprised he’s suggesting we should spend every single penny of our reserves now. I certainly wouldn’t advise that. That leaves us with absolutely nothing to deal with any kind of crisis over the course of the year. I don’t think there’s any financial institution or public institution anywhere that would run without any reserves at all, especially when it has no means of raising money or borrowing money. So, clearly, that isn’t, surely, sensible for the future. That said, we understand that there may well be a call on public finances as far as the Welsh Government is concerned in the future. We’re aware of that. But we’re also aware—and Simon Thomas makes the point for me—that it is in the hands of the UK Government, with its greater resources, to help to ensure that the steel industry continues in Wales. Rwyf yn synnu ei fod yn awgrymu y dylem wario pob ceiniog o'n cronfeydd nawr. Yn bendant, ni fyddwn i’n argymell hynny. Mae hynny'n ein gadael gyda dim byd o gwbl i ymdrin ag unrhyw fath o argyfwng yn ystod y flwyddyn. Nid wyf yn credu bod unrhyw sefydliad ariannol neu sefydliad cyhoeddus yn unrhyw le a fyddai'n gweithredu heb unrhyw gronfeydd wrth gefn o gwbl, yn enwedig pan nad oes ganddo unrhyw fodd o godi neu fenthyg arian. Felly, yn amlwg, nid yw hynny, yn sicr, yn ddoeth ar gyfer y dyfodol. Wedi dweud hynny, rydym yn deall y gallai fod galw ar gyllid cyhoeddus cyn belled ag y mae Llywodraeth Cymru yn y cwestiwn yn y dyfodol. Rydym yn ymwybodol o hynny. Ond rydym hefyd yn ymwybodol—ac mae Simon Thomas yn gwneud y pwynt ar fy rhan—bod cyfrifoldeb ar Lywodraeth y DU, sydd a mwy o adnoddau, i helpu i sicrhau bod y diwydiant dur yn parhau yng Nghymru.
16:32 - Mike Hedges
First of all, can I thank the First Minister for his statement and the answers he’s given so far to a huge number of questions? I speak as somebody who used to work in Orb Electrical Steelworks and then worked in Port Talbot, and left Port Talbot at a time of slimlining in the 1980s. I still have many friends and family working in both Trostre and Port Talbot, and I think it needs to be remembered that Trostre and Port Talbot take people from a very wide area, which includes a large part of Swansea. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad a’r atebion a roddwyd ganddo hyd yma i nifer fawr o gwestiynau? Siaradaf fel rhywun a oedd yn arfer gweithio yng Ngweithfeydd Dur Orb Electrical ac yna ym Mhort Talbot, ac a adawodd Port Talbot yn ystod cyfnod o ddiswyddo yn yr 1980au. Mae gennyf lawer o ffrindiau a theulu o hyd sy'n gweithio yn Nhrostre a Phort Talbot, a chredaf na ddylid anghofio bod Trostre a Phort Talbot yn cymryd pobl o ardal eang iawn, sy'n cynnwys rhan fawr o Abertawe.
The problems of steel are many and varied. We’ve got overvalued currency, we’ve got a very porous economy in Britain, we’ve got very high energy costs, we’ve got a position where the price of sheet steel has dropped by between €200 and £200 per tonne in a very short period of time. That’s obviously causing problems. What I think is needing to be done is we need tariffs to stop this dumping of Chinese steel, otherwise we won’t have a steel industry—not just in Britain, but in Europe. I’d like to see an energy deal similar to the one that Anglesey Aluminium had with Wylfa during the time that Wylfa was going, where they had guaranteed low-price energy provided to Anglesey Aluminium for a long period of time. The question I’ve got for you, First Minister, though, is: we’ve talked about the steel industry almost in isolation; is there anything you’d like to say about the importance of the steel industry to things such as car making, can making, white goods, and the food industry, which puts the food in those cans? It’s part of an integrated economy and, without the steel industry, each and every one of those industries, in my opinion, would be in serious danger. Mae’r problemau sy’n ymwneud â dur yn niferus ac yn amrywiol. Mae gennym arian cyfred sy’n rhy gryf, mae gennym economi fân-dyllog iawn ym Mhrydain, mae gennym gostau ynni uchel iawn, mae gennym sefyllfa lle y mae pris dur dalennog wedi gostwng rhwng €200 a £200 y dunnell o fewn cyfnod byr iawn. Mae’n amlwg bod hynny’n achosi problemau. Yr hyn yr wyf yn meddwl y mae angen ei wneud yw creu tariffau er mwyn atal y dympio dur hwn o Tsieina, fel arall ni fydd gennym ddiwydiant dur—nid yn unig ym Mhrydain, ond yn Ewrop. Hoffwn weld bargen ynni tebyg i'r un a oedd yn bodoli rhwng Alwminiwm Môn a’r Wylfa yn ystod y cyfnod pan oedd yr Wylfa yn gweithredu, pan oedd ynni rhad wedi’i warantu i Alwminiwm Môn dros gyfnod maith. Y cwestiwn sydd gennyf i chi, Brif Weinidog, fodd bynnag, yw: rydym wedi siarad am y diwydiant dur fel rhywbeth ar wahân; a oes unrhyw beth yr hoffech ei ddweud am bwysigrwydd y diwydiant dur i bethau megis gwneud ceir, gwneud caniau, nwyddau gwyn, a'r diwydiant bwyd, sy'n rhoi'r bwyd yn y caniau hynny? Mae'n rhan o economi integredig a, heb y diwydiant dur, byddai pob un o'r diwydiannau hynny, yn fy marn i, mewn perygl difrifol.
16:34 - Carwyn Jones
Well, the Member’s right, those are all products that are produced at Port Talbot, and Trostre, of course, particularly, the ones that he’s mentioned, as well as what happens at Shotton and Llanwern. There are serious issues in terms of supply. We know there are issues within other plants, where there would be problems with supply if Port Talbot, for example, wasn’t there manufacturing steel, and it creates a problem for our British industry. When we look at this, we have to ask ourselves this question. We saw what happened in the 1980s and 1990s, when it was assumed that mass privatisation and a free market was a good thing. And there was a price to pay. What we cannot do—and it’s not something that was unique to one party, I think that’s true, but the price that was paid was the loss of jobs in important strategic industries. That has to stop. That stops today. And the message I’ll be taking to the UK Government and the Prime Minister is: no more of this. This is a strategic industry, it needs Government help, it needs to be run for the future, for the good of Britain and for the good of our communities in Wales. Wel, mae’r Aelod yn iawn, mae'r rheiny i gyd yn cael eu cynhyrchu ym Mhort Talbot, ac yn Nhrostre, wrth gwrs, yn arbennig, y rhai y mae wedi ei grybwyll , yn ogystal â'r hyn sy'n digwydd yn Shotton a Llanwern. Ceir materion difrifol o ran cyflenwad. Rydym yn gwybod bod materion o fewn gweithfeydd eraill, lle y byddai problemau cyflenwi pe na byddai Port Talbot, er enghraifft, yno yn gweithgynhyrchu dur, ac mae'n creu problem i’n diwydiant ym Mhrydain. Pan edrychwn ar hyn, mae'n rhaid i ni ofyn i ni'n hunain y cwestiwn hwn. Gwelsom yr hyn a ddigwyddodd yn yr 1980au a'r 1990au, pan dybiwyd bod preifateiddio cyffredinol a’r farchnad rydd yn cynrychioli rhywbeth da. Ac yr oedd pris i'w dalu am hynny. Yr hyn na allwn ei wneud—ac nid yw'n rhywbeth a oedd yn unigryw i un parti yn unig, rwyf yn credu bod hynny'n wir, ond y pris a dalwyd oedd colli swyddi mewn diwydiannau strategol pwysig. Mae’n rhaid i hynny ddod i ben. Mae hynny’n dod i ben heddiw. A'r neges y byddaf yn ei chyflwyno i Lywodraeth y DU a'r Prif Weinidog yw: dim mwy o hyn. Mae hwn yn ddiwydiant strategol, y mae angen cymorth y Llywodraeth arno, y mae angen ei gynnal ar gyfer y dyfodol, er lles Prydain ac er lles ein cymunedau yng Nghymru.
16:35 - Llyr Gruffydd
Fel rydym ni wedi ei glywed, 36 mlynedd yn ôl, wrth gwrs, mi gollwyd 6,500 o swyddi yn Shotton, y diswyddiad unigol mwyaf mewn diwrnod yng ngorllewin Ewrop—ar y pryd, yn sicr, os nad yw hynny yn wir erbyn heddiw. Ac, fel rydym ni wedi ei glywed, mae’r effeithiau yn dal i gael eu teimlo; felly hefyd ym Mrymbo wedyn 10 mlynedd yn ddiweddarach yn 1990—1,100 o swyddi yn cael eu colli yn y fanna hefyd. Ond er gwaethaf yr hanes yna o golli swyddi, beth sydd gennym ni nawr yn Shotton, wrth gwrs, yw busnes sydd yn cynhyrchu elw a hefyd sydd yn fusnes hyfyw. Mae’n bwysig i ni gofio, rwy’n meddwl, yng nghanol trafferthion ehangach y sector, mai dyna yw’r sefyllfa yn Shotton. Maen nhw’n cynhyrchu rhwng £20 miliwn a £30 miliwn o elw y flwyddyn ar ddwy ran o’r busnes—mae Colors yn cynhyrchu rhyw £13 miliwn o elw, mae’n debyg, yn y flwyddyn ariannol sy’n dod i ben nawr, a Panels and Profiles yn cynhyrchu rhyw £18 miliwn. Ond, wrth gwrs, fel rŷch chi wedi cyfeirio ato, mae’r dur yn dod o Bort Talbot. Felly, mae hwn, mewn gwirionedd, yn gwmni dur integredig Cymreig gwirioneddol, er, wrth gwrs, nad yw mewn perchnogaeth Gymreig. As we’ve heard, 36 years ago, of course, 6,500 jobs were lost in Shotton, the largest individual redundancy in western Europe—at the time, certainly, if that’s not still the case. And, as we’ve heard, the effects are still being felt; the same is true in Brymbo. Ten years later in 1990, 1,100 jobs were lost there too. But despite that history of job losses, what we have now in Shotton, of course, is a business that is profit-making and also that is a viable business. It’s important that we bear in mind, I think, given the wider difficulties in the sector, that that is the position in Shotton. They produce some £20 million to £30 million of profit in the two parts of the business—Colors producing some £13 million in profit in this financial year, and Panels and Profiles producing some £18 million of profit. But, as you have referred to, the steel comes from Port Talbot. So, this is an integrated Welsh steel company in a very real sense, although it’s not in Welsh ownership, of course.
It’s an innovative and modern plant, which—. In fact, Shotton provided the steel for the Millennium Stadium and for the Cardiff City Stadium as well—you know, the spiritual homes of Welsh rugby and Welsh international football. [Laughter.] Well, that’s my view, anyway. But, clearly, they are iconic buildings that we can proudly say are truly made in Wales. Now, the case for keeping Port Talbot open is therefore important for other communities as well, and I’m sure we all recognise that. Mae'n waith arloesol a modern, sydd—. Mewn gwirionedd, Shotton ddarparodd y dur ar gyfer Stadiwm y Mileniwm ac ar gyfer Stadiwm Dinas Caerdydd hefyd—wyddoch chi, cartrefi ysbrydol rygbi Cymru a phêl-droed rhyngwladol Cymru. [Chwerthin.] Wel, dyna fy marn i, beth bynnag. Ond, yn amlwg, maent yn adeiladau eiconig y gallwn ddweud â balchder eu bod wir wedi eu creu yng Nghymru. Nawr, mae’r achos dros gadw Port Talbot ar agor felly yn bwysig i gymunedau eraill yn ogystal, ac rwyf yn siŵr bod pob un ohonom yn cydnabod hynny.
At present, of course, steel is supplied into Shotton from Port Talbot by rail. If, heaven forbid, that does change in the future, then steel could potentially be brought along the Dee to Shotton, although that would require new investment in a jetty. And I’d like to ask you, First Minister, if we do find ourselves in that particular situation, whether the Welsh Government would be willing to provide that funding in order to safeguard Shotton’s steel supply. Because Shotton isn’t, as we’ve recognised, just about the hundreds of workers directly employed there by Tata; we can double or treble that with those employed indirectly—Gwynedd Shipping Ltd, for example, have an operation centre on site, with hundreds of wagons going in and out every month, employing many, many drivers. There are laundry contracts, scaffolders, agency workers, et cetera, all of whom depend on Shotton for their livelihoods. But, of course, we have to remember that those workers wouldn’t necessarily be entitled to any form of redundancy package if the directly employed jobs are lost, as, of course, is regrettably possible at the moment. So, the work done to overcome the devastating economic blows that Deeside and Wrexham have suffered in previous years due to steel closures would be undone if the Welsh Government and the UK Government don’t get their acts together on this one. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae dur yn cael ei gyflenwi i Shotton o Bort Talbot ar y rheilffordd. Os, Duw a'n gwaredo, bydd hynny’n newid yn y dyfodol, efallai y byddai’n bosibl danfon dur ar hyd yr Afon Dyfrdwy i Shotton, er y byddai angen buddsoddi mewn glanfa newydd i wneud hynny. A hoffwn ofyn i chi, Brif Weinidog, os ydym yn canfod ein hunain yn y sefyllfa benodol honno, a fyddai Llywodraeth Cymru yn fodlon darparu’r cyllid hwnnw er mwyn diogelu cyflenwad dur Shotton. Oherwydd nid yw Shotton, fel yr ydym wedi ei gydnabod, yn ymwneud yn unig â’r cannoedd o weithwyr a gyflogir yn uniongyrchol yno gan Tata; gallwn ddyblu neu dreblu hynny gyda’r rhai a gyflogir yn anuniongyrchol—mae canolfan gweithrediadau ar y safle, er enghraifft, gan Gwynedd Shipping Ltd, gyda channoedd o wagenni yn mynd i mewn ac allan bob mis, gan gyflogi nifer fawr iawn o yrwyr. Mae contractau golchi dillad, sgaffaldwyr, gweithwyr asiantaeth, ac ati, a phob un ohonynt yn dibynnu ar Shotton ar gyfer eu bywoliaeth. Ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni gofio na fyddai hawl gan y gweithwyr hynny o reidrwydd i gael unrhyw fath o becyn diswyddo pe byddai’r swyddi a gyflogir yn uniongyrchol yn cael eu colli, sydd, wrth gwrs, gwaetha’r modd yn bosibl ar hyn o bryd. Felly, byddai'r gwaith a wnaed i oresgyn yr ergydion economaidd dinistriol y mae Glannau Dyfrdwy a Wrecsam wedi’u dioddef yn y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i gau gweithfeydd dur yn cael ei ddadwneud os na fydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhoi trefn ar bethau yn yr achos hwn.
Now, you tell us, First Minister, that you will do everything possible to protect the interests of our jobs, but that didn’t extend to going to Mumbai. It may be true that your officers and officials were in contact with the company, but do you not agree with me that it would have sent the strongest possible signal that the First Minister of Wales was there at the table speaking to the company directly, and do you not feel that in not being there that you have actually let people down? Nawr, rydych yn dweud wrthym, Brif Weinidog, y byddwch yn gwneud popeth posibl i ddiogelu buddiannau ein swyddi, ond nid oedd hynny’n cynnwys mynd i Mumbai. Gallai fod yn wir bod eich swyddogion mewn cysylltiad â'r cwmni, ond onid ydych chi'n cytuno â mi y byddai wedi anfon yr arwydd cryfaf posibl pe byddai Prif Weinidog Cymru yno wrth y bwrdd yn siarad â'r cwmni yn uniongyrchol, ac onid ydych yn teimlo drwy beidio â bod yno eich bod mewn gwirionedd wedi siomi pobl?
16:38 - Carwyn Jones
The Member talks as if I’ve never met Tata, or had no contact with them, or not spoken to them, or had any correspondence with them. There was regular contact with Tata, both through officials and with Ministers. Tata could not have been in any other position other than to know our view, and strongly know that our view was that there had to be a future for the Welsh steel industry. To suggest that somehow they wouldn’t have known that, it just doesn’t ring true, because everything that we said to them both in conversations and, indeed, through correspondence, made it absolutely clear that we wanted to see the Welsh steel industry prosper. Mae’r aelod yn siarad fel pe na byddwn i erioed wedi cwrdd â Tata, neu erioed wedi cael cysylltiad â nhw, neu erioed wedi siarad â nhw, neu erioed wedi cael unrhyw ohebiaeth â nhw. Cafwyd cysylltiad rheolaidd â Tata, trwy swyddogion yn ogystal â Gweinidogion. Ni allai Tata fod wedi bod mewn unrhyw sefyllfa arall heblaw gwybod ein barn ni, a gwybod yn dda iawn mai ein barn oedd bod yn rhaid cael dyfodol i'r diwydiant dur yng Nghymru. Mae awgrymu rhywsut na fyddent wedi bod yn gwybod hynny, nid yw’n dal dŵr rhywsut, gan fod popeth a ddywedasom mewn sgyrsiau â hwy, ac, yn wir, drwy ohebiaeth, yn eu gwneud yn gwbl glir ein bod yn awyddus i weld diwydiant dur Cymru yn ffynnu.
Now, in terms of Shotton, I’d ask the Member not to give the impression at this stage that what we need to look at is piecemeal sale of some of the asset. He’s mentioned the issue of a jetty to supply Shotton. I have to say, at this stage, my objective is to keep all the plants open rather than looking at each individual one at this moment in time. I’ve spoken to the management in Shotton, and they made the point clearly to me that Shotton relies on Port Talbot for its feedstock, and that it would be six months before they could get another source—that’s six months without production, potentially, unless there are reserves on site. It also means, of course, a potential loss of customers. So, even though, on the face of it, yes, Shotton is a profitable plant, it needs Port Talbot to supply it in order for it to continue going. So, at this stage, certainly, I wouldn’t be prepared to look at help to individual sites. I want all our sites to remain open, whether it’s Port Talbot, Trostre, Shotton or Llanwern or the Orb. They are all important to the communities that they serve. Nawr, o ran Shotton, byddwn yn gofyn i'r Aelod i beidio â rhoi'r argraff ar hyn o bryd mai’r hyn y mae angen i ni ei ystyried yw’r gwerthiant tameidiog o ran o’r ased. Mae wedi crybwyll y mater o gael glanfa i gyflenwi Shotton. Mae’n rhaid i mi ddweud, ar y cam hwn, mai fy nod yw cadw'r holl weithfeydd ar agor yn hytrach nag edrych ar bob un yn unigol ar hyn o bryd. Rwyf wedi siarad â’r rheolwyr yn Shotton, a gwnaethant y pwynt yn glir i mi fod Shotton yn dibynnu ar Bort Talbot am ei borthiant, ac y byddai'n chwe mis cyn y gallent ddod o hyd i ffynhonnell arall—mae hynny’n chwe mis heb gynhyrchu, o bosibl, oni bai bod cronfeydd wrth gefn ar y safle. Mae hefyd yn golygu, wrth gwrs, y gellid colli cwsmeriaid. Felly, er, ar yr olwg gyntaf, ydy, mae Shotton yn waith sy’n gwneud elw, mae angen i Bort Talbot ei gyflenwi er mwyn iddo barhau i weithredu. Felly, ar hyn o bryd, yn sicr, ni fyddwn yn fodlon edrych ar gymorth i safleoedd unigol. Rwyf am i bob un o’n safleoedd barhau i fod ar agor, pa un a yw’n Port Talbot, Trostre, Shotton neu Lanwern neu'r Orb. Mae pob un ohonynt yn bwysig i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
16:40 - Julie Morgan
My thoughts are with the steelworkers, their families and their communities at this very difficult time. Most of my constituents who work in the steelworks work in Celsa in Cardiff, which, obviously, produces a different type of steel, not the flat products, but the issues are the same: the Chinese steel dumping, energy prices and the business rates. I think those have all been well covered in this debate, and I thank the First Minister for his very detailed responses. Rwyf yn meddwl am y gweithwyr dur, eu teuluoedd a'u cymunedau ar yr adeg anodd iawn hon. Mae'r rhan fwyaf o fy etholwyr sy'n gweithio yn y gwaith dur yn Celsa yng Nghaerdydd, sydd, yn amlwg, yn cynhyrchu math gwahanol o ddur, nid cynnyrch gwastad, ond mae’r problemau yr un fath: Tsieina yn dympio dur, prisiau ynni a'r ardrethi busnes. Rwyf yn credu bod y rhain wedi eu trafod yn fanwl iawn yn y ddadl hon, a diolchaf i'r Prif Weinidog am ei atebion manwl iawn.
However, I must tell the First Minister that on the streets in Cardiff North there is huge concern about the fate of Tata and for the communities in Port Talbot and in the other areas, because I think this is an issue that is an all-Wales issue and that, wherever we are in Wales, we feel deeply about these issues. I also have to tell the First Minister that when I was going around on Saturday in the streets in Cardiff North that the constituents in Cardiff North felt that the Westminster Government has not responded quickly enough. I am pleased to hear that the First Minister is telling us now that the Prime Minister is there, ready and wanting to move forward, but, certainly, that was the view of my constituents: that there has not been a quick enough response. Fodd bynnag, mae’n rhaid i mi ddweud wrth y Prif Weinidog, ceir pryder mawr ar y strydoedd yng Ngogledd Caerdydd ynghylch tynged Tata ac ynghylch y cymunedau ym Mhort Talbot ac yn yr ardaloedd eraill, gan fy mod yn credu bod hwn yn fater sy'n ymwneud â Chymru gyfan, a, ble bynnag yr ydym yng Nghymru, rydym yn teimlo’n gryf am y materion hyn. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Prif Weinidog hefyd pan oeddwn i’n mynd o gwmpas y strydoedd yng Ngogledd Caerdydd ddydd Sadwrn fod yr etholwyr yng Ngogledd Caerdydd o’r farn nad yw Llywodraeth San Steffan wedi ymateb yn ddigon cyflym. Rwyf yn falch o glywed bod Prif Weinidog Cymru yn dweud wrthym nawr fod Prif Weinidog y DU yno, yn barod ac yn awyddus i symud ymlaen, ond, yn sicr, dyna oedd barn fy etholwyr: na chafwyd ymateb digon cyflym.
Most of the issues I wanted to raise in questions have been raised, but just a few issues I’d like to reiterate and ask him about—. Alun Davies talked about how important it is to have a Welsh Minister at the Council of Ministers. Will Welsh Ministers and officials be directly involved in all the different teams that will negotiate with potential buyers and be there for future plans? I think this is absolutely essential, because I do believe that we do have here in Wales the expertise and the knowledge that are needed to take those plans forward, and that it’ll be a huge loss if we’re not there at every stage. I don’t know how much control he feels he has over that process. Mae'r rhan fwyaf o'r materion yr oeddwn i’n dymuno eu codi yn ystod cwestiynau wedi eu codi, ond mae rhai materion yr hoffwn eu hailadrodd a gofyn amdanynt iddo—. Soniodd Alun Davies am ba mor bwysig yw hi i gael un o Weinidogion Cymru yng Nghyngor y Gweinidogion. A fydd Gweinidogion a swyddogion Cymru yn chwarae rhan uniongyrchol yn yr holl wahanol dimau a fydd yn trafod gyda darpar brynwyr ac a fyddant yno ar gyfer cynlluniau ar gyfer y dyfodol? Rwyf yn credu bod hyn yn gwbl hanfodol, gan fy mod yn credu bod angen yr arbenigedd a'r wybodaeth sydd gennym ni yma yng Nghymru i symud ymlaen â’r cynlluniau hynny, ac y bydd yn golled enfawr os fyddwn yno ar bob cam . Nid wyf yn gwybod faint o reolaeth y mae'n teimlo sydd ganddo dros y broses honno.
The second point is: how will we ensure that the trade unions will continue to be totally involved in the process, because I think we all want to pay tribute to the forceful and the dignified way that they have put their case? I think every time I’ve seen one of them speak or appear on the television, I’ve thought how grateful we are that they are here acting in this way in this country. Yr ail bwynt yw: sut y byddwn yn sicrhau y bydd yr undebau llafur yn parhau i fod yn llwyr gysylltiedig â'r broses, oherwydd credaf ein bod i gyd yn dymuno talu teyrnged i'r ffordd rymus ac urddasol y maent wedi cyflwyno eu hachos? Rwy'n credu bob tro y gwelais un ohonynt yn siarad neu'n ymddangos ar y teledu, fy mod wedi meddwl pa mor ddiolchgar yr ydym eu bod yn gweithredu yn y modd hwn yn y wlad hon.
Finally, the last point I wanted to make was that—lots of Members have mentioned the banks—the banks were saved. They were nationalised, the banks. Our constituents’ money was saved. The money in our pockets was saved, and can I remind the Chamber that it was a Labour Government that saved the banks, that it was Gordon Brown who saved the banks, that he stepped forward? They stepped up to the plate and now we have to see what this Government now, this Westminster Government, will do now. Yn olaf, y pwynt olaf yr oeddwn i’n dymuno ei wneud oedd—mae llawer o Aelodau wedi crybwyll y banciau—fe achubwyd y banciau. Cawsant eu gwladoli, y banciau. Achubwyd arian ein hetholwyr. Achubwyd yr arian yn ein pocedi, ac a gaf i atgoffa'r Siambr mai Llywodraeth Lafur a achubodd y banciau, mai Gordon Brown a achubodd y banciau, ei fod wedi cymryd y camau? Gwnaethant gymryd cyfrifoldeb a nawr mae'n rhaid i ni weld beth fydd y Llywodraeth bresennol, y Llywodraeth hon yn San Steffan, yn ei wneud nawr.
16:43 - Carwyn Jones
Can I thank the Member for her comments? We have been receiving briefings from BIS, who’ve wanted to work with us. It would make no sense for it to be any other way, because the solution to the problem that faces the steel industry lies in the hands of UK Government, yes, and Welsh Government. The two of us have to work together on this. If we are not having information shared with us, then the response becomes weakened. Now, there’s no suggestion that that is the case at the moment, but that cannot be the case in the future. People expect us to work together as Governments in order to save the steel industry. I don’t think that they would respond particularly well if they thought that one Government wasn’t telling the other Government what was going on. That’s not what people want to see at the moment. A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Rydym wedi bod yn cael sesiynau briffio gan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau sydd wedi bod yn awyddus i weithio â ni. Ni fyddai'n gwneud unrhyw synnwyr iddi fod fel arall, gan fod ateb y broblem sy'n wynebu'r diwydiant dur yn nwylo Llywodraeth y DU, ie, a Llywodraeth Cymru. Mae’n rhaid i'r ddau ohonom ni weithio gyda'n gilydd ar hyn. Os nad ydym ni'n rhannu gwybodaeth, caiff yr ateb ei wanhau o ganlyniad. Nawr, nid oes awgrym mai dyna yw’r sefyllfa ar hyn o bryd, ond ni all hynny fod yn wir yn y dyfodol. Mae pobl yn disgwyl i ni weithio gyda'n gilydd fel Llywodraethau er mwyn achub y diwydiant dur. Nid wyf yn credu y byddent yn ymateb yn arbennig o dda pe byddent yn credu nad oedd un Llywodraeth yn dweud beth oedd yn digwydd wrth y Llywodraeth arall. Nid dyma yw'r hyn y mae pobl yn dymuno ei weld ar hyn o bryd.
I have spent a lot of time speaking to Community and with Unite. I’ve spent much time talking to Roy Rickhuss. We spoke before they went to Mumbai; we spoke afterwards. We’ve been in touch with each other. I know that the unions are certainly appreciative of the support they’ve received from Welsh Government and the Welsh Government’s stats. Treuliais lawer o amser yn siarad â Community ac Unite. Rwyf wedi treulio llawer o amser yn siarad â Roy Rickhuss. Buom yn siarad cyn iddynt fynd i Mumbai; buom yn siarad wedyn. Rydym wedi bod mewn cysylltiad â’n gilydd. Gwn fod yr undebau yn sicr yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth y maent wedi'i derbyn gan Lywodraeth Cymru ac ystadegau Llywodraeth Cymru.
The point’s been made about the banks. What is strategic? Steel is strategic, banking is strategic; the two need to be treated in the same way. Mae'r pwynt wedi ei wneud am y banciau. Beth yw strategol? Mae dur yn strategol, mae bancio yn strategol; mae angen trin y ddau yn yr un ffordd.
16:44 - William Powell
I’d like to thank the First Minister very much for his statement today and for responding to our questions. Like Alun Davies’s brother, my late uncle Jim was also a steelworker, and that was in Alun’s constituency of Blaenau Gwent. He told me, years ago, of the pain of redundancy that he had in a previous decade and that echoes what we’ve heard earlier from Lindsay Whittle. But it’s very important that we don’t have the sense of a vigil for an industry that’s lost. That point’s been made earlier today. Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog yn fawr iawn am ei ddatganiad heddiw ac am ymateb i'n cwestiynau. Fel brawd Alun Davies, roedd fy niweddar ewythr Jim hefyd yn weithiwr dur, ac roedd hynny yn etholaeth Alun ym Mlaenau Gwent. Fe soniodd wrthyf, flynyddoedd yn ôl, am y boen o gael ei swydd wedi ei dileu mewn degawd blaenorol, ac mae hynny'n adleisio’r hyn a glywsom yn gynharach gan Lindsay Whittle. Ond mae'n bwysig iawn nad oes gennym ymdeimlad o gadw gwylnos am ddiwydiant sydd wedi ei golli. Gwnaed y pwynt hwnnw yn gynharach heddiw.
It was my privilege this lunch time, together with my fellow Petitions Committee members, Bethan Jenkins and Joyce Watson, to receive a petition from some residents of Port Talbot, and also people associated with the Community union. They’ve spent much of this afternoon watching our deliberations from the public gallery. What they were calling for—. It’s one of the briefest petitions we’ve had, as it has two sentences, I think. With the indulgence of the Deputy Presiding Officer, I’ll just read out what their ask is. It is simply: Roedd yn fraint imi amser cinio, ynghyd â'm cyd-aelodau yn y Pwyllgor Deisebau, Bethan Jenkins a Joyce Watson, dderbyn deiseb gan rai o drigolion Port Talbot, a hefyd pobl sy'n gysylltiedig â'r undeb Community. Maen nhw wedi treulio llawer o'r prynhawn yn gwylio ein trafodaethau o'r oriel gyhoeddus. Yr hyn yr oeddent yn galw amdano—Mae'n un o'r deisebau byrraf a gafwyd gennym, ac mae dwy frawddeg ynddo, rwy'n credu. Gyda goddefgarwch y Dirprwy Lywydd, darllenaf yr hyn y maent yn ofyn amdano. Mae'n dweud yn syml:
‘We the undersigned call upon the Welsh Government to use all levers at its disposal, including financial levers, to support the completion of a new power plant planned for Port Talbot steels works. The construction of this plant will create jobs and when it is operational it will reduce emissions, reduce Tata’s running costs and help to safeguard vital jobs in the area.’ Rydym ni y tanysgrifiedig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio pob dull sydd ar gael iddi, gan gynnwys dulliau ariannol, i gefnogi'r gwaith o gwblhau’r gwaith pŵer newydd a gynlluniwyd ar gyfer gwaith dur Port Talbot. Bydd adeiladu’r gwaith hwn yn creu swyddi a phan fydd yn weithredol, bydd yn lleihau allyriadau, yn lleihau costau rhedeg Tata, ac yn helpu i ddiogelu swyddi hanfodol yn yr ardal.
That was brought forward by retired steelworker Peter Bamsey and his colleagues. We’ve had an initial positive response from your Minister for business and enterprise, and it’s also going to be on the table in a forthcoming session of that committee, I understand. And I’m very grateful for that, but I think it’s time that we ramp up our support for this critical development—a critical development in terms of the sustainability of steel making here in Wales. I would ask you, when you have your session with David Cameron tomorrow, to ask him whether he would promote a joint bid, potentially to the European Investment Bank, to actually bankroll this kind of modernisation at Port Talbot, and in other settings, that would increase the sustainability, both economic and environmental, of the industry in the time to come. It would also be very much a line in the sand in terms of showing our commitment to the future of the industry. Cyflwynwyd hwnna gan y gweithiwr dur sydd wedi ymddeol Peter Bamsey a'i gydweithwyr. Rydym wedi cael ymateb cadarnhaol cychwynnol gan eich Gweinidog busnes a menter, ac mae hefyd yn mynd i fod ar y bwrdd mewn sesiwn o’r pwyllgor hwnnw sydd ar ddod, rwyf ar ddeall. Ac rwyf yn ddiolchgar iawn am hynny, ond rwyf yn meddwl ei bod yn bryd i ni gynyddu ein cefnogaeth i’r datblygiad hollbwysig hwn—datblygiad hollbwysig o ran cynaliadwyedd gwneud dur yma yng Nghymru. A gaf i ofyn ichi, pan fyddwch yn cael eich sesiwn gyda David Cameron yfory, i ofyn iddo a fyddai ef yn hyrwyddo cais ar y cyd, o bosibl i Fanc Buddsoddi Ewrop, i ariannu mewn gwirionedd y math hwn o foderneiddio ym Mhort Talbot, ac mewn lleoliadau eraill, a fyddai’n cynyddu cynaliadwyedd, yn economaidd ac yn amgylcheddol, y diwydiant yn y dyfodol. Byddai hefyd yn gosod llinell amlwg yn y tywod o ran dangos ein hymrwymiad i ddyfodol y diwydiant.
I’d also have one further ask in that connection—and reference has been made earlier to procurement policies, and we’ve heard about the Ministry of Defence and its procurement policies. Just as rural Wales has got real concerns about their sourcing policies in terms of meat and supplies, also the heartland industries of steel have real cause for concern in that regard. The Prime Minister clearly has his hands on levers to do something about that. Will you, First Minister, please raise that issue again when you have talks with David Cameron tomorrow? Diolch yn fawr. Mae gennyf un cwestiwn arall mewn cysylltiad â hynny—a chyfeiriwyd yn gynharach at bolisïau caffael, ac rydym wedi clywed am y Weinyddiaeth Amddiffyn a'i pholisïau caffael. Yn union fel y mae gan Gymru wledig bryderon gwirioneddol am ei bolisïau cyrchu o ran cig a chyflenwadau, mae diwydiannau’r ardaloedd dur, yn destun pryder gwirioneddol yn hynny o beth. Mae’n amlwg bod y dulliau o wneud rhywbeth am hynny yn nwylo Prif Weinidog y DU. A wnewch chi, Brif Weinidog, godi'r mater hwnnw eto pan fyddwch yn trafod gyda David Cameron yfory? Diolch yn fawr.
16:47 - Carwyn Jones
Yes, I will. I can assure the Member of that. With regard to the power plant, again this is an issue that we can look at as part of an overall package. As I’ve said several times this afternoon, we have something that was on the table and is on the table; we know that there’ll be more that will need to be done within the resources that we have and as part of an overall package offered by the UK Government. That, and many other issues, will form part of the discussions with the Prime Minister tomorrow. Gwnaf, mi wnaf. Gallaf sicrhau'r Aelod o hynny. O ran y gwaith pŵer, unwaith eto mae hwn yn fater y gallwn ei ystyried yn rhan o becyn cyffredinol. Fel y dywedais sawl gwaith y prynhawn yma, mae gennym rywbeth a oedd ar y bwrdd ac sydd ar y bwrdd; rydym yn gwybod y bydd yna fwy y bydd angen ei wneud o fewn yr adnoddau sydd gennym ac fel rhan o becyn cyffredinol a gynigir gan Lywodraeth y DU. Bydd hynny, a llawer o faterion eraill, yn ffurfio rhan o'r trafodaethau â'r Prif Weinidog yfory.
16:48 - Jenny Rathbone
Many speakers have already said how important the steel industry is strategically to the future of advanced manufacturing. It isn’t just about the defence industry; it isn’t just about the food canning industry. It is about whether or not we are going to have an advanced manufacturing industry in this country or not. Because we cannot do it without the operations that are currently centred at Port Talbot. What nobody has mentioned so far is the strategic work that Tata has been involved in with our universities in the SPECIFIC scheme, which is about the Sustainable Product Engineering Centre for Innovative Functional Industrial Coatings, which, in plain language, is the panels on the SOLCER house that produce the energy that enable new buildings to become power stations. We simply cannot meet our climate change obligations unless we have the Tata Steels of this world, or those who will take over the work currently done by Tata Steel, to meet our climate obligations. Mae nifer o siaradwyr eisoes wedi dweud pa mor bwysig yw’r diwydiant dur yn strategol i ddyfodol gweithgynhyrchu uwch. Nid yw’n ymwneud â’r diwydiant amddiffyn yn unig; nid yw’n ymwneud â’r diwydiant canio bwyd yn unig. Mae'n ymwneud â pha un a ydym yn mynd i gael diwydiant gweithgynhyrchu uwch yn y wlad hon neu beidio. Oherwydd ni allwn wneud hynny heb y gweithrediadau sydd wedi'u canoli ar hyn o bryd ym Mhort Talbot. Un peth nad oes neb wedi ei grybwyll hyd yn hyn yw'r gwaith strategol y mae Tata wedi bod yn ymwneud ag ef gyda’n prifysgolion yn y cynllun SPECIFIC, sy’n ymwneud â’r Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol, sef, mewn iaith syml, y paneli ar y tŷ SOLCER sy'n cynhyrchu'r ynni sy'n galluogi adeiladau newydd i ddod yn orsafoedd pŵer. Ni allwn fodloni ein rhwymedigaethau newid yn yr hinsawdd oni bai fod gennym Tata Steels y byd hwn, neu’r rhai a fydd yn cymryd drosodd y gwaith a wneir ar hyn o bryd gan Tata Steel, er mwyn bodloni ein rhwymedigaethau newid yn yr hinsawdd.
Of course, I welcome entirely the suggestion by the First Minister that we should be pushing ahead with the Swansea lagoon and the south Wales metro, but were we to do it with foreign steel, we would be using imported steel, which uses up two or three times more carbon emissions to bring it over from China. So, like Julie Morgan, I can echo the remarks that she has made: that it is not just those communities that have the steel industry as the heart of their community; it is the whole of Wales that realises that steel is absolutely integral to our future, our industrial future, our advanced manufacturing future. So, I think there is widespread interest in and support for what the Welsh Government is doing, and trepidation that the UK Government will be found wanting. Wrth gwrs, rwyf yn croesawu yn llwyr yr awgrym gan y Prif Weinidog y dylem ni fod yn bwrw ymlaen gyda morlyn Abertawe a metro de Cymru, ond pe byddem yn gwneud hynny gyda dur tramor, byddem yn defnyddio dur a fewnforir, sy'n creu hyd at ddwy neu dair gwaith yn fwy o allyriadau carbon wrth ddod ag ef yma o Tsieina. Felly, fel Julie Morgan, gallaf adleisio'r sylwadau y mae wedi'u gwneud: sef nad yn unig y cymunedau hynny sydd â'r diwydiant dur wrth wraidd eu cymuned ond mae Cymru gyfan hefyd yn sylweddoli bod dur yn hollbwysig i'n dyfodol;, ein dyfodol diwydiannol, ein dyfodol gweithgynhyrchu uwch. Felly, rwyf yn credu bod diddordeb eang a chefnogaeth i’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, a phryder na fydd Llywodraeth y DU yn gweithredu.
In the light of the context of the strategic importance of the steel industry, and the public support that is available, I would like to explore the possibility of adding the £60 million that the Welsh Government is putting on the table to explain the possibility of some form of public subscription if the transitional plan, the McKinsey plan—which, I appreciate, you have yet to see—adds up. What thought has the Welsh Government given to enabling the whole of the community of Wales to buy into saving the Port Talbot operations, which also obviously are crucial to the survival of all the other steel operations in Wales? Because this is a way—. If the UK Government will not act, or refuses to act, or simply won’t put the money that they do have at their disposal forward, can we in Wales galvanise the people of Wales, led by the Welsh Government, to save our steel industry until we can find an alternative buyer? Yng ngoleuni cyd-destun pwysigrwydd strategol y diwydiant dur, a'r gefnogaeth gyhoeddus sydd ar gael, hoffwn archwilio'r posibilrwydd o ychwanegu'r £60 miliwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar y bwrdd i esbonio'r posibilrwydd o ryw fath o danysgrifiad cyhoeddus os yw'r cynllun pontio, cynllun McKinsey—ac, rwyf yn gwerthfawrogi, nad ydych chi wedi ei weld hyd yma—yn gwneud rheswm. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i alluogi'r gymuned gyfan yng Nghymru i gymryd rhan mewn achub y gweithrediadau ym Mhort Talbot, sydd hefyd yn amlwg yn hanfodol i oroesiad yr holl weithrediadau dur eraill yng Nghymru? Gan fod hwn yn fodd—. Os na fydd Llywodraeth y DU yn gweithredu, neu'n gwrthod gweithredu, neu’n gwrthod rhoi'r arian sydd ar gael iddynt, a allwn ni yng Nghymru symbylu pobl Cymru, wedi'u harwain gan Lywodraeth Cymru, i achub ein diwydiant dur hyd nes y gallwn ddod o hyd i brynwr arall?
16:51 - Carwyn Jones
It’s an interesting suggestion. First of all, trying to work out how that would work, there would have to be a public limited company set-up listed in order to be able to issue shares. The directors of the company would have to satisfy themselves that they weren’t trading whilst insolvent—which, without a guarantee from Government, would be the case—and they’d then become personally liable for the debts of that company. So, again, coming back to this point of there being an unlimited guarantee, potentially, on the table from Welsh Government with regard to the steel industry in Wales, which is a substantial risk to be exposed to. Mae'n awgrym diddorol. Yn gyntaf oll, wrth geisio meddwl sut y byddai hynny'n gweithio, byddai'n rhaid sefydlu cwmni cyhoeddus cyfyngedig wedi'i restru er mwyn gallu cyhoeddi cyfranddaliadau. Byddai’n rhaid i gyfarwyddwyr y cwmni fodloni eu hunain nad oeddent yn masnachu tra eu bod yn fethdalwyr—a dyna, heb warant gan y Llywodraeth, fyddai’r sefyllfa—a bydden nhw wedyn yn atebol yn bersonol am ddyledion y cwmni hwnnw. Felly, unwaith eto, i ddod yn ôl at y pwynt hwn o warant ddigyfyngiad, o bosibl, ar y bwrdd gan Lywodraeth Cymru o ran y diwydiant dur yng Nghymru, sydd yn risg sylweddol i fod yn agored iddi.
My view is, and always has been, that this is a UK industry and it needs UK support. We can put some support on the table, that much is true, but we can’t do it all given the numbers that are there. Of course, there are issues that will need to be resolved, such as energy costs, such as tariffs, which we can’t influence, and they are long-term problems for the industry that can be influenced at a UK level. That said, we’ll look to see what needs to be done over the course of the next few days and weeks to secure the industry, but we have to be wary of creating a situation where all the liability’s on the Welsh Government and that liability’s unlimited. That would be the situation if a company was set up. Otherwise, how can the directors satisfy themselves that they’re not trading whilst insolvent? The only way to resolve that is to have a guarantee in place that there is a funding stream in order for the company to be able to demonstrate that it is solvent. So, there are issues that would need to be resolved there that are not easy to resolve. Fy marn i yw, a dyma a fu erioed, mai diwydiant y DU yw hwn sydd angen cefnogaeth y DU. Gallwn roi rhywfaint o gefnogaeth ar y bwrdd, mae hynny’n wir, ond ni allwn wneud y cyfan o ystyried y rhifau yr ydym yn sôn amdanynt. Wrth gwrs, ceir materion y bydd angen eu datrys, megis costau ynni, megis tariffau, na allwn ddylanwadu arnynt, ac maent yn broblemau tymor hir ar gyfer y diwydiant y gellir dylanwadu arnynt ar lefel y DU. Wedi dweud hynny, byddwn yn edrych i weld beth sydd angen ei wneud yn ystod y dyddiau ac wythnosau nesaf i ddiogelu'r diwydiant, ond mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus nad ydym yn creu sefyllfa lle mae'r atebolrwydd i gyd ar Lywodraeth Cymru a bod yr atebolrwydd pe byddai cwmni'n cael ei sefydlu. Fel arall, sut gall y cyfarwyddwyr fodloni eu hunain nad ydynt yn masnachu tra eu bod yn fethdalwyr? Yr unig ffordd i ddatrys hynny yw cael gwarant ar waith bod ffrwd ariannu ar gael a fydd yn galluogi’r cwmni i ddangos ei fod yn ddiddyled. Felly, ceir materion y byddai angen eu datrys nad ydynt yn hawdd eu datrys.
16:53 - Nick Ramsay
First Minister, you’ll be pleased to know that I’m going to be very brief, since many points have already been covered, and you have now been standing at that lectern for getting on for three and a half hours, which probably breaches no end of health and safety regulations, so we’ll let you sit down soon. Can I ask you, first of all, on the issue of procurement? It has been mentioned already that the Welsh Government doesn’t have all the levers at its disposal, but you do have some procurement powers. The UK Government and the Royal Navy did procure British steel when they were producing the first UK aircraft carrier, and I believe the second one as well, which is coming online, also contains UK steel, or British steel. You obviously don’t have that sort of production within Welsh Government control, but there are some procurement powers, which I’ve discussed at length over the last five years with the Minister, Jane Hutt, so could you look at that? Brif Weinidog, byddwch yn falch o wybod y byddaf yn gryno iawn, gan fod llawer o bwyntiau eisoes wedi eu cwmpasu, ac rydych chi bellach wedi bod yn sefyll yn y fan yna ers bron i dair awr a hanner, sydd yn ôl pob tebyg yn torri nifer helaeth o reoliadau iechyd a diogelwch, felly byddwn yn gadael ichi eistedd cyn bo hir. A gaf i ofyn â chi, yn gyntaf oll, am y mater caffael? Mae wedi ei grybwyll eisoes nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl ysgogiadau ar gael iddi, ond mae gennych rywfaint o bwerau caffael. Fe wnaeth Llywodraeth y DU a'r Llynges Frenhinol gaffael dur Prydeinig pan oeddent yn adeiladu llong awyrennau gyntaf y DU, ac mae'r ail un hefyd rwy'n credu, sydd i'w chyflwyno, yn cynnwys dur y DU, neu ddur Prydain. Mae’n amlwg nad oes gennych y math hwnnw o gynhyrchu o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru, ond ceir rhai pwerau caffael, yr wyf wedi'u trafod yn helaeth dros y pum mlynedd diwethaf gyda’r Gweinidog, Jane Hutt, felly a allech chi edrych ar hynny?
Secondly, the issue of business rates has been raised by a number of Members. Again, it is not the whole solution, I recognise that, but it could be part of the solution. Will you undertake to look at the business rate regime, which is within the control of the Welsh Government, to see what can be done to try and make that as attractive as possible to the steel industry and to any possible buyers of the plants across Wales? We’ve spoken about all the plants across Wales today, and I know that John Griffiths and Lindsay Whittle mentioned Llanwern. In my neck of the woods, Llanwern is one of the key employers, so I’d like to know specifically what discussions you’ve had with Tata and with the UK Government about the operations at Llanwern. I’m very pleased to hear, and welcome the fact, that you’re looking at putting money into equipment as part of a package that can try and attract a future buyer to that. Yn ail, codwyd mater o ardrethi busnes gan nifer o Aelodau. Unwaith eto, nid hwn yw’r ateb cyfan, rwyf yn cydnabod hynny, ond gallai fod yn rhan o'r ateb. A wnewch chi addo edrych ar y drefn ardrethi busnes, sydd o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru, i weld beth y gellir ei wneud i geisio gwneud hynny mor ddeniadol â phosibl i'r diwydiant dur ac i unrhyw brynwyr posibl y gweithfeydd ledled Cymru? Rydym wedi siarad am yr holl weithfeydd ledled Cymru heddiw, a gwn fod John Griffiths a Lindsay Whittle wedi crybwyll Llanwern. Mae Llanwern yn un o'r cyflogwyr allweddol yn fy ardal leol i, felly hoffwn wybod yn benodol pa drafodaethau a gawsoch â Tata ac â Llywodraeth y DU ynghylch y gweithrediadau yn Llanwern. Rwyf yn falch iawn o glywed, ac yn croesawu'r ffaith, eich bod yn ystyried buddsoddi arian mewn offer yn rhan o becyn a fydd yn ceisio denu prynwr yn y dyfodol.
Finally, I would say, Deputy Presiding Officer, that this has been a very interesting discussion today. I know that there have been some voices off, but you certainly have the support of the Welsh Conservatives in doing what you can to safeguard the future of the steel industry. I know that all speakers here today are coming from slightly different angles, I know, in different parties, but all of us really do want to send our very best wishes out to the steelworkers in Wales and to their families. Be under no illusion that you do have the support of this Chamber when you go into those discussions. We all of us want to see the best possible future for the Welsh steel industry. [Assembly Members: ‘Hear, hear.’] Yn olaf, byddwn yn dweud, Ddirprwy Lywydd, ein bod wedi cael trafodaeth ddiddorol iawn heddiw. Gwn y bu rhai lleisiau nad oeddent yn gefnogol, ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn sicr yn eich cefnogi i wneud yr hyn a allwch i ddiogelu dyfodol y diwydiant dur. Gwn fod pob siaradwr yma heddiw yn cyfleu safbwyntiau ychydig yn wahanol, mi wn, mewn gwahanol bleidiau, ond mae pob un ohonom mewn gwirionedd yn dymuno anfon ein dymuniadau gorau at y gweithwyr dur yng Nghymru a’u teuluoedd. Ni ddylech amau o gwbl bod cefnogaeth y Siambr hon gennych pan fyddwch yn cynnal y trafodaethau hynny. Mae pob un ohonom yn dymuno gweld y dyfodol gorau posibl i ddiwydiant dur Cymru. [Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.']
16:55 - Carwyn Jones
Can I thank the Member for his comments? He will have heard me talk at length about procurement in previous answers. With business rates, as I’ve said before, the maximum is €200,000 over the three-year period that we can offer, but, as I’ve already mentioned, the rateable values from next year on will better reflect the current circumstances of the steel plants in Wales following the discussions that we’ve had with the Valuation Office Agency. There haven’t been specific discussions about Llanwern, but there’ve been discussions, obviously, about the whole of the Tata operation in Wales. I suppose it’s inevitable that the focus has been heavily on Port Talbot, given the size of the plant and given the fact that it has the greatest challenges at the moment, particularly at the heavy end. A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Bydd wedi fy nghlywed yn siarad yn helaeth am gaffael mewn atebion blaenorol. Gydag ardrethi busnes, fel y dywedais o’r blaen, yr uchafswm y gallwn ei gynnig yw €200,000 dros gyfnod o dair blynedd, ond, fel y crybwyllais eisoes, bydd y gwerthoedd ardrethol o'r flwyddyn nesaf ymlaen yn cynrychioli amgylchiadau presennol y gweithfeydd dur yng Nghymru yn well yn dilyn y trafodaethau a gawsom gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Ni fu trafodaethau penodol am Lanwern, ond cafwyd trafodaethau, yn amlwg, am holl weithrediad Tata yng Nghymru. Mae'n debyg ei bod yn anochel bod y pwyslais mwyaf wedi bod ar Bort Talbot, o ystyried maint y gwaith ac o ystyried y ffaith mai yno y mae'r heriau mwyaf ar hyn o bryd, yn enwedig ar y pen trwm.
I’m grateful to him for his indication of the support that he has given. This is an issue, as well, where we can show that the UK is able to support industry in Wales. A point I’ll be making to the Prime Minister is that Wales benefits from its membership of the UK, and this must be shown to be a benefit—that the UK is able to use its greater resources in order to ensure that steel in Wales continues. We’ll work with the UK Government in order to look to deliver that, because we know that our people the length and breadth of Wales expect nothing less, and I’m grateful to Members for their contributions during the course of the afternoon. [Applause.] Rwyf yn ddiolchgar iddo am yr arwydd o gefnogaeth a roddwyd ganddo. Mae hwn yn fater, yn ogystal, lle y gallwn ddangos bod y DU yn gallu cefnogi diwydiant yng Nghymru. Y pwynt y byddaf yn ei wneud i’r Prif Weinidog yw bod Cymru'n elwa ar ei haelodaeth o’r DU, ac mae'n rhaid dangos bod hyn yn o fudd—bod y DU yn gallu defnyddio ei hadnoddau ehangach i sicrhau bod dur yn parhau yng Nghymru. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn ceisio cyflawni hynny, gan ein bod yn gwybod nad yw ein pobl ar hyd a lled Cymru yn disgwyl dim llai, ac rwyf yn ddiolchgar i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn ystod y prynhawn. [Cymeradwyaeth.]
16:57 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Thank you, First Minister, and we’re grateful to you for standing at the podium for the whole afternoon to answer these questions and the points put to you on this vital matter for the whole of Wales. Diolch yn fawr, Brif Weinidog, ac rydym yn ddiolchgar i chi am sefyll wrth y podiwm drwy gydol y prynhawn i ateb y cwestiynau hyn a'r pwyntiau a gyflwynwyd ichi ar y mater hollbwysig hwn i Gymru gyfan.
That concludes today’s proceedings. Dyna ddiwedd trafodion heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 16:57. The meeting ended at 16:57.
Back to List View this page with hyperlinks

Partners & Help