By continuing to use our site, you are agreeing for us to set a small number of cookies. Cookie policy

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Back to list View this page with hyperlinks
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:32 gyda’r Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair. The Assembly met at 13:32 with the Presiding Officer (Dame Rosemary Butler) in the Chair.
13:32 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Good afternoon. The National Assembly for Wales is now in session. Prynhawn Da. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog 1. Questions to the First Minister
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg. [R] signifies the Member has declared an interest. [W] signifies that the question was tabled in Welsh.
13:32 - Y Llywydd / The Presiding Officer
The first item this afternoon is questions to the First Minister. Question 1 is Jenny Rathbone. Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw’r eitem gyntaf y prynhawn yma. Daw cwestiwn 1 gan Jenny Rathbone.
Ymgyrch Cadw Dydd Sul yn Arbennig Keep Sunday Special Campaign
13:32 - Jenny Rathbone
1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r ymgyrch i gadw dydd Sul yn arbennig ('Keep Sunday Special')? OAQ(4)2712(FM) 1. What is the Welsh Government doing to support the Keep Sunday Special campaign? OAQ(4)2712(FM)
13:32 - Carwyn Jones
Sunday trading is not a devolved matter and we are currently awaiting further details on the UK Government’s proposals. But it’s hugely important, of course, that the interests of those who work on a Sunday are protected and that the privileges that they enjoy now continue in the future. Nid yw masnachu ar y Sul yn fater datganoledig ac rydym ni’n disgwyl am ragor o fanylion ar gynigion Llywodraeth y DU ar hyn o bryd. Ond mae'n hynod bwysig, wrth gwrs, bod buddiannau’r rhai sy'n gweithio ar y Sul yn cael eu diogelu a bod y breintiau y maen nhw’n eu mwynhau ar hyn o bryd yn parhau yn y dyfodol.
13:32 - Jenny Rathbone
It’s obviously very disappointing to those who’ve been campaigning to keep Sunday special, particularly in relation to the 130,000 or so shop workers in Wales, who had thought that the UK Government had pledged not to tamper with the Sunday trading laws, but they’re now doing it through the backdoor, through the enterprise Bill. What can the Welsh Government do to protect the family life of shop workers in Wales? Mae'n amlwg yn siomedig iawn i'r rhai sydd wedi bod yn ymgyrchu i gadw Dydd Sul yn arbennig, yn enwedig o ran yr oddeutu 130,000 o weithwyr siopau yng Nghymru, a oedd yn meddwl bod Llywodraeth y DU wedi addo peidio ag ymyrryd â'r deddfau masnachu ar y Sul, ond maen nhw’n gwneud hynny drwy'r drws cefn erbyn hyn, drwy'r Bil menter. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i amddiffyn bywyd teuluol gweithwyr siopau yng Nghymru?
13:33 - Carwyn Jones
We take the view that this is an issue that should be devolved. We have argued for this to be devolved. We look forward to a response from the UK Government with regard to that. I can say that, should these powers be devolved, we will consult with the Union of Shop, Distributive and Allied Workers, with local authorities, with businesses, with shop workers and the public, and we would listen to what they say and act accordingly. Rydym ni o'r farn bod hwn yn fater y dylid ei ddatganoli. Rydym ni wedi dadlau i hyn gael ei ddatganoli. Edrychwn ymlaen at ymateb gan Lywodraeth y DU yn hynny o beth. Gallaf ddweud, pe byddai’r pwerau hyn yn cael eu datganoli, y byddwn yn ymgynghori â'r Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol, gydag awdurdodau lleol, gyda busnesau, gyda gweithwyr siopau a'r cyhoedd, a byddem yn gwrando ar yr hyn y maen nhw’n ei ddweud ac yn gweithredu'n unol â hynny.
13:33 - William Graham
Noting what you said, First Minister, you’ll acknowledge that the majority of local authorities in the United Kingdom would rather like to have these powers so they could interpret them in the best way locally. Would you support such a move? Gan nodi’r hyn a ddywedasoch, Brif Weinidog, byddwch yn cydnabod y byddai mwyafrif yr awdurdodau lleol yn y Deyrnas Unedig yn sicr yn hoffi cael y pwerau hyn fel y gallent eu dehongli yn y ffordd orau yn lleol. A fyddech chi’n cefnogi cam o'r fath?
13:33 - Carwyn Jones
I believe that these powers should be devolved to the people of Wales. It’s a matter then for this institution to decide where those powers should go, in the same way as is true of Scotland and Northern Ireland. I fail to see why Wales should be treated differently. Rwy’n credu y dylai'r pwerau hyn gael eu datganoli i bobl Cymru. Mae'n fater wedyn i’r sefydliad hwn benderfynu i ble y dylai'r pwerau hynny fynd, yn yr un modd ag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ni allaf weld pam y dylai Cymru gael ei thrin yn wahanol.
Amseroedd Aros y GIG (Canol De Cymru) NHS Waiting Times (South Wales Central)
13:34 - Andrew R.T. Davies
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag amseroedd aros y GIG yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)2711(FM) 2. Will the First Minister make a statement on Welsh Government action to address NHS waiting times in South Wales Central? OAQ(4)2711(FM)
13:34 - Carwyn Jones
We have set up the planned care programme, led by clinicians, to help develop sustainable services in NHS Wales. To assist this, we have invested an additional £45 million in 2015-16, to assist local health boards to deliver the improvements in waiting times set out in their integrated medium-term plans. Rydym ni wedi sefydlu’r rhaglen gofal wedi'i gynllunio, a arweinir gan glinigwyr, i helpu i ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy yn GIG Cymru. I gynorthwyo hyn, rydym ni wedi buddsoddi £45 miliwn ychwanegol yn 2015-16, i gynorthwyo byrddau iechyd lleol i gyflawni'r gwelliannau i amseroedd a nodir yn eu cynlluniau tymor canolig integredig.
13:34 - Andrew R.T. Davies
Thank you, First Minister, for that answer. We know, under your First Minister’s tenure, that waiting times have doubled here in Wales. In South Wales Central, there is a particular issue around orthopaedic waiting times, and the BBC stats recently showed considerable waits for hips for example—a 197-day wait in Wales, as opposed to 75 days in England. What comfort can you give to my constituents in South Wales Central as to what action the Government will be taking to actually drive down waiting times so that when they do present at hospital the consultant is in the position to give them a time that they can count on to have the procedure? Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am yr ateb yna. Rydym ni’n gwybod, yn ystod eich cyfnod fel Prif Weinidog, bod amseroedd aros wedi dyblu yma yng Nghymru. Yng Nghanol De Cymru, ceir problem benodol ynghylch amseroedd aros orthopedig, a dangosodd ystadegau’r BBC yn ddiweddar amseroedd aros sylweddol ar gyfer cluniau, er enghraifft—arhosiad o 197 diwrnod yng Nghymru, o'i gymharu â 75 diwrnod yn Lloegr. Pa gysur allwch chi ei roi i’m hetholwyr yng Nghanol De Cymru o ran pa gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i fynd ati i leihau amseroedd aros fel bod y meddyg ymgynghorol yn gallu rhoi amser y gallant ddibynnu arno i gael y driniaeth pan fyddant yn mynd i’r ysbyty?
13:35 - Carwyn Jones
Well, let’s look at A&E, for example. The number of people spending more than 12 hours in A&E departments in Wales has fallen—a 23 per cent drop—in December 2015, compared with the previous month. We know, however, that the number of people waiting for the same amount of time in England in A&E has doubled to 124,000 people in two years. We know that delayed transfers of care are increasing in England. We know that diagnostic waiting times are dropping in Wales. We know that people are waiting less time for operations and we know that, unlike in England, we don’t have the chaos—the Cameron’s chaos of a junior doctors strike. Wel, gadewch i ni edrych ar adrannau damweiniau ac achosion brys, er enghraifft. Mae nifer y bobl sy’n treulio mwy na 12 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru wedi gostwng—gostyngiad o 23 y cant—ym mis Rhagfyr 2015, o'i gymharu â'r mis blaenorol. Rydym ni’n gwybod, fodd bynnag, bod nifer y bobl sy'n aros am yr un faint o amser mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn Lloegr wedi dyblu i 124,000 o bobl mewn dwy flynedd. Rydym ni’n gwybod bod oedi wrth drosglwyddo gofal yn cynyddu yn Lloegr. Rydym ni’n gwybod bod amseroedd aros diagnostig yn lleihau yng Nghymru. Rydym ni’n gwybod bod pobl yn aros llai o amser am lawdriniaethau ac rydym ni’n gwybod, yn wahanol i Loegr, nad oes gennym yr anhrefn—anhrefn Cameron o streic meddygon iau.
13:35 - Mick Antoniw
First Minister, we know that one of the contributors to waiting lists is the impact upon adult social care, which the Tories would separate from the NHS. In England, the example is that there’s been a 15 per cent cut in spending on adult social care, and a 100 per cent increase in bedblocking, increasing from 50,000 a month, to 100,000 a month. The Tories would decimate adult social care. Do you agree that the Welsh Government’s position of supporting adult social care as part and parcel of NHS treatment contributes to better treatment and better outcomes for all? Brif Weinidog, rydym ni’n gwybod mai un o'r cyfranwyr at restrau aros yw'r effaith ar ofal cymdeithasol i oedolion, y byddai'r Torïaid yn ei wahanu o’r GIG. Yn Lloegr, yr enghraifft yw y bu toriad o 15 y cant i wariant ar ofal cymdeithasol i oedolion, a chynnydd o 100 y cant o ran blocio gwelyau, yn cynyddu o 50,000 y mis, i 100,000 y mis. Byddai'r Torïaid yn dinistrio gofal cymdeithasol i oedolion. A ydych chi’n cytuno bod safbwynt Llywodraeth Cymru o gefnogi gofal cymdeithasol i oedolion yn rhan annatod o driniaeth y GIG yn cyfrannu at well triniaeth a gwell canlyniadau i bawb?
13:36 - Carwyn Jones
Well, it’s the tendency of the Tories in England to suggest that, somehow, there is no connection between health and social care. [Interruption.] Wel, tueddiad y Torïaid yn Lloegr yw awgrymu, rywsut, nad oes unrhyw gysylltiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. [Torri ar draws.]
13:36 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Excuse me; we’re only on question 2. Can you just calm down, please, and listen to the First Minister reply? And that’s you in particular, Darren Millar, so you needn’t cheer. First Minister. Esgusodwch fi; dim ond ar gwestiwn 2 ydym ni. A wnewch chi dawelu, os gwelwch yn dda, a gwrando ar ateb y Prif Weinidog? A chi’n benodol yw hwnnw, Darren Millar, felly ddylech chi ddim cymeradwyo. Brif Weinidog.
13:36 - Carwyn Jones
The Tories have a tendency to suggest that, somehow, there is no connection between health and social care, and so they have cut social care to the bone in England, they have offloaded the responsibility for providing social care to the local authorities, so the poorest authorities will have the greatest problem in providing social care. We in Wales spend more, per head, on health and social services than England does—seven per cent more—and we will continue to look after those who need care the most. Mae'n dueddiad gan y Torïaid i awgrymu, rywsut, nad oes unrhyw gysylltiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, ac felly maen nhw wedi torri gofal cymdeithasol i'r asgwrn yn Lloegr, maent wedi dadlwytho’r cyfrifoldeb am ddarparu gofal cymdeithasol i’r awdurdodau lleol, felly’r awdurdodau tlotaf fydd â’r broblem fwyaf o ran darparu gofal cymdeithasol. Rydym ni yng Nghymru yn gwario mwy, fesul pen, ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol nag y mae Lloegr—saith y cant yn fwy—a byddwn yn parhau i ofalu am y rhai sydd fwyaf angen gofal.
13:37 - Leanne Wood
That’s an interesting answer to that question, First Minister, because, when Plaid Cymru talks about integrating health and social care services, Labour accuses us of wanting to abolish the NHS, which is a blatant lie. Dyna ateb diddorol i'r cwestiwn yna, Brif Weinidog, oherwydd, pan fydd Plaid Cymru yn sôn am integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, mae Llafur yn ein cyhuddo o fod eisiau diddymu'r GIG, sy’n gelwydd noeth.
Now, First Minister, in some parts of South Wales Central, obtaining a GP appointment can be a long and drawn-out process. The issue is particularly acute in the northernmost parts of the Rhondda, where the Royal College of General Practitioners tell us that half of all GPs are nearing retirement. For Members who are not aware, the Rhondda is in South Wales Central. Now, access to a GP has not been helped by the removal of the out-of-hours service in the Rhondda and Cynon. Now, when primary care is weak, there is an inevitable knock-on effect on hospitals, by increasing the demand on waiting times and services. First Minister, you have previously admitted that you took your eye off the ball when it comes to education; do you now admit that you’ve taken your eye off the ball with health and doctor recruitment too? Nawr, Brif Weinidog, mewn rhai rhannau o Ganol De Cymru, gall cael apwyntiad gyda meddyg teulu fod yn broses hirfaith. Mae'r mater yn arbennig o ddifrifol yn rhannau mwyaf gogleddol y Rhondda, lle mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn dweud wrthym fod hanner yr holl feddygon teulu ar fin ymddeol. I Aelodau nad ydynt yn ymwybodol, mae'r Rhondda yng Nghanol De Cymru. Nawr, nid yw mynediad at feddyg teulu wedi cael ei helpu drwy gael gwared ar y gwasanaeth y tu allan i oriau yn y Rhondda a Chwm Cynon. Nawr, pan fo gofal sylfaenol yn wan, ceir sgil-effaith anochel ar ysbytai, trwy gynyddu'r galw o ran amseroedd aros a gwasanaethau. Brif Weinidog, rydych chi wedi cyfaddef yn y gorffennol eich bod wedi cymryd eich llygad oddi ar y bêl pan ddaw i addysg; a ydych chi’n cyfaddef nawr eich bod wedi cymryd eich llygad oddi ar y bêl o ran iechyd a recriwtio meddygon hefyd?
13:38 - Carwyn Jones
Well, the leader of Plaid Cymru seems to think we’re already into leaders’ questions. I’m sure that she’s aware we’re still on question 2. The overall GP numbers in Wales have increased by 10.5 per cent between 2004 and 2015. There are now over 2,000 GPs serving communities across Wales. We know, of course, that this is a global market when it comes to attracting doctors, and that’s why we launched the targeted campaign called Make your Future Part of our Future, explaining why Wales, for example, is a great place to be a junior doctor. Where there are retirements, local health boards have plans in place. Where practices have decided to close their doors, salaried GPs have been put in place instead, and we’ve seen that, for example, in Betsi Cadwaladr. In fairness, I don’t accuse Plaid Cymru of trying to dismantle the NHS—I know that they want to see an improved public health service, as we do. We don’t agree with them in terms of the structure they want to impose, but, nevertheless, we’re in the same position in that regard. But we have more and more—we have 2,000—more GPs since 2004 and they are serving our communities well. Wel, mae'n ymddangos bod arweinydd Plaid Cymru yn meddwl ein bod wedi dechrau cwestiynau’r arweinwyr yn barod. Rwy'n siŵr ei bod hi'n ymwybodol ein bod ni'n dal ar gwestiwn 2. Mae niferoedd cyffredinol meddygon teulu yng Nghymru wedi cynyddu 10.5 y cant rhwng 2004 a 2015. Erbyn hyn, mae dros 2,000 o feddygon teulu yn gwasanaethu cymunedau ledled Cymru. Rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, bod hon yn farchnad fyd-eang pan ddaw i ddenu meddygon, a dyna pam yr ydym ni’n lansio'r ymgyrch wedi'i thargedu o’r enw Dewch i Rannu Eich Dyfodol Chi Gyda’n Dyfodol Ni, yn esbonio pam mae Cymru, er enghraifft, yn lle gwych i fod yn feddyg iau. Lle ceir ymddeoliadau, mae gan fyrddau iechyd lleol gynlluniau ar waith. Lle mae meddygfeydd wedi penderfynu cau eu drysau, cyflwynwyd meddygon teulu cyflogedig yn eu lle, ac rydym ni wedi gweld hynny, er enghraifft, yn Betsi Cadwaladr. A bod yn deg, nid wyf yn cyhuddo Plaid Cymru o geisio chwalu’r GIG—rwy’n gwybod eu bod nhw eisiau gweld gwasanaeth iechyd cyhoeddus gwell, fel ninnau. Nid ydym yn cytuno â nhw o ran y strwythur y maen nhw eisiau ei gyflwyno, ond, serch hynny, mae gennym yr un safbwynt yn hynny o beth. Ond mae gennym ni fwy a mwy—mae gennym ni 2,000 yn fwy o feddygon teulu ers 2004 ac maen nhw’n gwasanaethu ein cymunedau yn dda.
13:39 - Eluned Parrott
First Minister, there is a big discrepancy between the referral-to-diagnostic-testing time for cancer patients on the urgent route and those on the non-urgent route. I wonder what additional support the Welsh Government could put in place for primary care to make sure that, when GPs are making this decision between urgent and non-urgent referrals, they are confident that they’re making both safe and appropriate decisions? Brif Weinidog, ceir gwahaniaeth mawr rhwng yr amser atgyfeirio i brawf diagnostig i gleifion canser ar y llwybr brys a'r rhai ar y llwybr nad yw'n frys. Tybed pa gymorth ychwanegol allai Llywodraeth Cymru ei roi ar waith ar gyfer gofal sylfaenol i wneud yn siŵr, pan fydd meddygon teulu yn gwneud y penderfyniad hwn rhwng atgyfeiriadau brys a heb fod yn frys, eu bod yn hyderus eu bod yn gwneud penderfyniadau diogel a phriodol?
13:40 - Carwyn Jones
I don’t see this as a particular issue in South Wales Central, but nevertheless it’s right to say that more GPs are referring people at an early stage, quite naturally, if they suspect that cancer might be present. For the vast majority of people, of course, that isn’t the case, but the referral is made anyway. That diagnosis then is made usually within 22 days, although for some cancers it can be more difficult to try and identify what the problem is. Pancreatic cancer is a particular issue, as we know, because the symptoms can be so general and can mimic the symptoms of other illnesses. But we know, of course, that we outperform England when it comes to the 31-day target, or the 31-day timetable, for urgent cancer, and the 62-day timetable for non-urgent cancers, and we intend to make sure that that continues to be the case in the future. Nid wyf i’n gweld hon fel problem benodol yng Nghanol De Cymru, ond serch hynny mae'n iawn i ddweud bod mwy o feddygon teulu yn atgyfeirio pobl yn gynnar, yn naturiol ddigon, os ydyn nhw’n amau ​​y gallai canser fod yn bresennol. I’r mwyafrif llethol o bobl, wrth gwrs, nid dyna’r achos, ond caiff yr atgyfeiriad ei wneud beth bynnag. Caiff y diagnosis hwn ei wneud o fewn 22 diwrnod wedyn fel rheol, er y gall fod yn fwy anodd ceisio nodi beth yw'r broblem ar gyfer rhai mathau o ganser. Mae canser pancreatig yn broblem arbennig, fel y gwyddom, oherwydd gall y symptomau fod mor gyffredinol a gallant ddynwared symptomau afiechydon eraill. Ond rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, ein bod yn perfformio'n well na Lloegr pan ddaw i’r targed 31 diwrnod, neu’r amserlen 31 diwrnod, ar gyfer canser brys, a'r amserlen 62 diwrnod ar gyfer canserau nad ydynt yn frys, ac rydym ni’n bwriadu gwneud yn siŵr bod hynny'n parhau i fod yn wir yn y dyfodol.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Questions Without Notice from the Party Leaders
13:41 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We now move to questions from the party leaders, and first this afternoon is the leader of the Welsh Liberal Democrats, Kirsty Williams. Symudwn at gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr, ac arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams, sydd gyntaf y prynhawn yma.
13:41 - Kirsty Williams
Thank you, Presiding Officer. First Minister, at the last National Assembly elections, my party said that we would provide more money for schools by targeting additional moneys at pupils who need it most. Today’s budget means that the pupil premium will be worth £1,150 per pupil in April, thanks to the Welsh Liberal Democrats. And the recent Estyn report said that that is making a material difference to those children. To quality for this support, First Minister, parents must register for free school meals. What work will your Government undertake to ensure that every child who needs this support will receive this help? Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, yn etholiadau diwethaf y Cynulliad Cenedlaethol, dywedodd fy mhlaid i y byddem yn darparu mwy o arian i ysgolion trwy dargedu arian ychwanegol at ddisgyblion sydd fwyaf ei angen. Mae cyllideb heddiw yn golygu y bydd y premiwm disgyblion werth £1,150 y disgybl ym mis Ebrill, diolch i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru. Ac roedd adroddiad diweddar Estyn yn dweud bod hynny’n gwneud gwahaniaeth pendant i'r plant hynny. I fod yn gymwys ar gyfer y cymorth hwn, Brif Weinidog, mae’n rhaid i rieni gofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim. Pa waith wnaiff eich Llywodraeth ymrwymo i’w wneud i sicrhau bod pob plentyn sydd angen y cymorth hwn yn derbyn y cymorth hwn?
13:41 - Carwyn Jones
I’m not aware of this being a particular issue. It’s important, of course, that schools are able to communicate with parents so that parents are aware of the support that is available to them, and local education authorities, of course, have a responsibility to do the same thing. Nid wyf yn ymwybodol bod hon yn broblem arbennig. Mae'n bwysig, wrth gwrs, bod ysgolion yn gallu cyfathrebu gyda rhieni fel bod rhieni’n ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw, ac mae gan awdurdodau addysg lleol, wrth gwrs, gyfrifoldeb i wneud yr un peth.
13:41 - Kirsty Williams
First Minister, it is an issue; some families believe that there is a stigma in making an application for free school meals, and they should be assured that it is not only in their interest but in the pupil’s school’s interest to make that application. It will make a material difference to their children’s school budget. But the budget this afternoon will also deliver additional funding for the health service, and as with schools funding, that will only be worth while if it makes a material difference to the outcome for people. What impact will you expect for patients in Wales, and what fresh and new ideas do you have to make sure that the additional resources going into the NHS make a genuine difference to patients’ experiences? Brif Weinidog, mae hyn yn broblem; mae rhai teuluoedd yn credu bod stigma mewn gwneud cais am brydau ysgol am ddim, a dylid eu sicrhau ei fod nid yn unig o fudd iddyn nhw ond o fudd i ysgol y disgybl i wneud y cais hwnnw. Bydd yn gwneud gwahaniaeth pendant i gyllideb ysgol eu plant. Ond bydd y gyllideb y prynhawn yma hefyd yn darparu cyllid ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd, ac yn yr un modd â chyllid ysgolion, ni fydd hynny ond yn werth chweil os yw'n gwneud gwahaniaeth pendant i’r canlyniad i bobl. Pa effaith fyddwch chi’n ei ddisgwyl i gleifion yng Nghymru, a pha syniadau ffres a newydd sydd gennych chi i wneud yn siŵr bod yr adnoddau ychwanegol sy’n mynd i mewn i'r GIG yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiadau cleifion?
13:42 - Carwyn Jones
First of all, can I recognise what she said about free school meals and suggest a way forward? I know there are some schools in Wales who have pioneered plastic cards that are pre-loaded with money for some pupils, but which, of course, can be used without money pre-loaded for those on free school meals. No-one knows the difference; that’s the important thing. When I was in school, those on free school meals had a different coloured dinner ticket, as we called them. Those days thankfully, hopefully, are largely gone, but that’s one way, of course, of removing that stigma, which the leader of the Liberal Democrats is quite right to say still exists. Yn gyntaf oll, a gaf i gydnabod yr hyn a ddywedodd am brydau ysgol am ddim ac awgrymu ffordd ymlaen? Gwn fod rhai ysgolion yng Nghymru sydd wedi arloesi cardiau plastig sy'n cael eu cyn-lwytho gydag arian ar gyfer rhai disgyblion, ond y gellir, wrth gwrs, eu defnyddio heb arian wedi’i gyn-lwytho i’r rhai ar brydau ysgol am ddim. Does neb yn gwybod y gwahaniaeth; dyna'r peth pwysig. Pan oeddwn i yn yr ysgol, roedd gan y rhai ar brydau ysgol am ddim docyn cinio, fel yr oeddem ni’n eu galw, o liw gwahanol. Mae'r dyddiau hynny diolch byth, gobeithio, wedi mynd i raddau helaeth, ond mae honno'n un ffordd, wrth gwrs, o gael gwared ar y stigma hwnnw, y ​​mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gwbl gywir i ddweud sy’n dal i fodoli.
When it comes to health, of course, we want to see delivery—we want to see diagnostic waiting times continuing to go down, A&E waits continuing to go down, waiting times for operations continuing to go down, to see the timetables that we’ve put in place for cancer treatments improving and to see ambulance response times continuing to improve as well. It is important, of course, that, as more money goes in, so people can see the outputs being delivered at the end. Pan ddaw i iechyd, wrth gwrs, rydym ni eisiau gweld darpariaeth—rydym ni eisiau gweld amseroedd aros diagnostig yn parhau i leihau, arosiadau damweiniau ac achosion brys yn parhau i leihau, amseroedd aros am lawdriniaethau yn parhau i leihau, i weld yr amserlenni yr ydym ni wedi’u cyflwyno ar gyfer triniaethau canser yn gwella ac i weld amseroedd ymateb ambiwlansys yn parhau i wella hefyd. Mae'n bwysig, wrth gwrs, wrth i fwy o arian gael ei gyfrannu, y gall pobl weld y canlyniadau yn cael eu cyflawni ar y diwedd.
13:43 - Kirsty Williams
One of the parts of the NHS that we know really does frustrate people, and a problem that you promised action on in this Government, is accessing their GP when they want it. For many people, a three-week wait for a GP appointment is not uncommon. Will you look at Welsh Liberal Democrat plans to invest in a properly funded access-to-GP scheme that would incentivise GPs to broaden the primary healthcare team so that they only see people who they need to see? And would you accept that spending money on expensive locum cover to provide support when a GP retires is not an efficient use of NHS money? Un o’r rhannau o'r GIG yr ydym ni’n gwybod sydd wir yn achosi rhwystredigaeth i bobl, a phroblem y gwnaethoch addo ei datrys yn ystod y Llywodraeth hon, yw cael gweld eu meddyg teulu pan eu bod angen hynny. I lawer o bobl, nid yw aros tair wythnos am apwyntiad meddyg teulu yn anghyffredin. A wnewch chi edrych ar yr hyn y mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn bwriadu ei fuddsoddi mewn cynllun ar gyfer cael gweld meddyg teulu wedi’i ariannu'n briodol a fyddai'n cymell meddygon teulu i ehangu'r tîm gofal iechyd sylfaenol fel eu bod ond yn gweld pobl y mae angen iddyn nhw eu gweld? Ac a fyddech chi’n derbyn nad yw gwario arian ar locwm drud i gynnig cymorth pan fydd meddyg teulu yn ymddeol yn ddefnydd effeithlon o arian y GIG?
13:44 - Carwyn Jones
First of all, there’s difference between a locum and a salaried GP. The reality is that most GPs now are looking at the salaried model more favourably than the contractor model. They want the flexibility, as they don’t want to be tied down to one practice for the rest of their working lives, and they’re not interested in buying into a practice. And more and more GPs want to have the flexibility of being salaried. That’s not the same as being a locum—you don’t have to buy in as a partner into a practice in order to be seen as a proper GP. So, in terms of access to GPs, it does vary, that’s true. There are some GP surgeries in Wales where appointments can be made and a doctor seen that day; I know it, because I see it in my own area. There are others who are not as efficient. There is a challenge there, and we have improved, of course, the situation with regard to people being able to access GPs at evenings and at weekends, but there is a challenge there for some GP practices to catch up with the best practice of others. There is no reason in the future why there should be that level of discrepancy. We are talking about independent contractors, but that discussion will continue to make sure that what has been delivered so far in terms of access at evenings and at weekends continues in the future. Yn gyntaf oll, mae gwahaniaeth rhwng locwm a meddyg teulu cyflogedig. Y gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o feddygon teulu yn edrych ar y model cyflogedig yn fwy ffafriol na'r model contractwr erbyn hyn. Maen nhw eisiau’r hyblygrwydd, gan nad ydynt eisiau cael eu clymu i un feddygfa am weddill eu hoes gweithio, ac nid oes ganddynt ddiddordeb mewn prynu i mewn i feddygfa. Ac mae mwy a mwy o feddygon teulu eisiau cael yr hyblygrwydd o fod yn gyflogedig. Nid yw hynny yr un fath â bod yn locwm—nid oes rhaid i chi brynu i mewn fel partner mewn meddygfa er mwyn cael eich ystyried yn feddyg teulu go iawn. Felly, o ran cael gweld meddygon teulu, mae yn amrywio, mae hynny'n wir. Ceir rhai meddygfeydd teulu yng Nghymru lle y gellir gwneud apwyntiadau a gweld meddyg y diwrnod hwnnw; rwy’n gwybod hynny, gan fy mod i’n ei weld yn fy ardal fy hun. Ceir eraill nad ydynt mor effeithlon. Ceir her yno, ac rydym ni wedi gwella, wrth gwrs, y sefyllfa o ran pobl yn gallu cael gweld meddygon teulu fin nos ac ar benwythnosau, ond ceir her yn y fan yna i rai meddygfeydd teulu ddal i fyny ag arfer gorau pobl eraill. Nid oes unrhyw reswm yn y dyfodol pam y dylai'r lefel honno o anghysondeb fodoli. Rydym ni’n sôn am gontractwyr annibynnol, ond bydd y drafodaeth honno yn parhau i sicrhau bod yr hyn sydd wedi cael ei gyflawni hyd yn hyn o ran cael gafael ar feddyg fin nos ac ar benwythnosau yn parhau yn y dyfodol.
13:45 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We now move to the leader of the opposition, Andrew R.T. Davies. Symudwn nawr at arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
13:45 - Andrew R.T. Davies
Thank you very much, Presiding Officer. First Minister, the budget is laid for debate this afternoon and, flowing from that budget, the draft local government settlement has been laid also for consideration. I see on the forward outlook that the date for that to come to the Assembly to be voted on is 8 March. Are you confident that that draft settlement that has been made available to local authorities the length and breadth of Wales will be the settlement we will be voting on here on 8 March, or do you see that there will be changes to mitigate the devastating impact of some of those cuts to rural authorities? Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Brif Weinidog, mae'r gyllideb wedi'i gosod ar gyfer y ddadl y prynhawn yma ac, yn llifo o'r gyllideb honno, mae’r setliad llywodraeth leol drafft wedi ei osod ar gyfer ystyriaeth hefyd. Rwy’n gweld ar y blaen-ragolygon mai’r dyddiad y bydd hynny’n dod i'r Cynulliad ar gyfer pleidlais yw 8 Mawrth. A ydych chi’n hyderus mai’r setliad drafft a roddwyd ar gael i awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru fydd y setliad y byddwn ni'n pleidleisio arno yma ar 8 Mawrth, neu a ydych chi’n gweld y bydd newidiadau i liniaru effaith ddinistriol rhai o'r toriadau hynny i awdurdodau gwledig?
13:45 - Carwyn Jones
Despite the Tory cuts that have been imposed on us over the last five years, we are confident that the local government settlement will be fair in that context. Er gwaethaf toriadau’r Torïaid a orfodwyd arnom ni dros y pum mlynedd diwethaf, rydym ni’n hyderus y bydd y setliad llywodraeth leol yn deg yn y cyd-destun hwnnw.
13:46 - Andrew R.T. Davies
So, I take it from that that it will be the settlement that we will be voting on on 8 March and that there will be no leveller or stabiliser put in for local authorities, such as Powys, such as Ceredigion, such as Pembrokeshire or Monmouthshire, which do face draconian cutbacks in their services—up to 4 per cent for Powys. Felly, rwy’n cymryd o hynny mai hwn fydd y setliad y byddwn yn pleidleisio arno ar 8 Mawrth ac na fydd unrhyw lefelwr neu sefydlogydd yn cael ei roi i mewn ar gyfer awdurdodau lleol, fel Powys, fel Ceredigion, fel Sir Benfro neu Sir Fynwy, sydd yn wynebu toriadau llym yn eu gwasanaethau—hyd at 4 y cant i Bowys.
Another thing you’ve got in your budget, First Minister, is higher education. A 32 per cent cut to higher education here in Wales is being made by your Government if this budget passes. That will put a dramatic amount of pressure on part-time courses, on access to higher education, and, above all, on research in universities. We know that there is less money around, but what will your Government be doing to assist universities, making sure that there is access to universities for students from deprived backgrounds, that there is support for university-based research, and that there is support for part-time courses, given that you have chosen to cut 32 per cent out of the support to higher education? Peth arall sydd gennych chi yn eich cyllideb, Brif Weinidog, yw addysg uwch. Mae toriad o 32 y cant i addysg uwch yma yng Nghymru yn cael ei wneud gan eich Llywodraeth os bydd y gyllideb hon yn cael ei phasio. Bydd hynny'n rhoi pwysau aruthrol ar gyrsiau rhan-amser, ar fynediad at addysg uwch, ac, yn anad dim, ar ymchwil mewn prifysgolion. Rydym ni’n gwybod bod llai o arian o gwmpas, ond beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud i gynorthwyo prifysgolion, gan wneud yn siŵr y ceir mynediad i brifysgolion ar gyfer myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig, bod cymorth ar gyfer ymchwil mewn prifysgolion, a bod cymorth ar gyfer cyrsiau rhan-amser, o gofio eich bod wedi dewis torri 32 y cant o'r cymorth i addysg uwch?
13:47 - Carwyn Jones
The leader of the opposition is trying to prejudge the budget statement, and I’m not going to be tempted into that. He’ll have to wait and see what’s announced in the draft final budget. I have to say to him that he has declared that he wishes to see local government cut by 12 per cent. He’s declared it. There’s no getting away from it; it’s there in writing in the document that his party produced as an alternative draft budget, and he has not changed his position since then. When he was asked this question on the radio, he said, ‘We haven’t crunched the numbers yet.’ Well, it’s up to him. It’s not his question session—I understand that—but there will come a time when the people of Wales will want to know what cuts his party proposes to make to local government. He can’t run from that question forever. At the moment, it’s 12 per cent. That’s the cut he wants. That’s an equivalent of a 38 per cent increase in council tax. Mae arweinydd yr wrthblaid yn ceisio rhagfarnu datganiad y gyllideb, ac nid wyf i’n mynd i gael fy nhemtio i mewn i hynny. Bydd yn rhaid iddo aros i weld beth sy’n cael ei gyhoeddi yn y gyllideb derfynol ddrafft. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho ei fod wedi datgan ei fod yn dymuno gweld toriad o 12 y cant i lywodraeth leol. Mae wedi ei ddatgan. Nid oes dianc rhag hynny; mae yno’n ysgrifenedig yn y ddogfen a luniwyd gan ei blaid fel cyllideb ddrafft amgen, ac nid yw wedi newid ei safbwynt ers hynny. Pan ofynnwyd y cwestiwn hwn iddo ar y radio, dywedodd, 'Nid ydym ni wedi dadansoddi’r rhifau eto.' Wel, mae i fyny iddo fe. Nid ei sesiwn gwestiynau ef yw hwn—rwy’n deall hynny—ond daw amser pan fydd pobl Cymru eisiau gwybod pa doriadau y mae ei blaid ef yn bwriadu eu gwneud i lywodraeth leol. Nid all ddianc rhag y cwestiwn hwnnw am byth. Ar hyn o bryd, mae'n 12 y cant. Dyna'r toriad y mae ef ei eisiau. Mae hynny'n cyfateb i gynnydd o 38 y cant i’r dreth gyngor.
The second thing he mentioned was higher education. He wants to triple tuition fees for students—to impose a tax on students along the same lines as in England. We’ve seen the cuts in higher education in England. We are not going to sell our students down the river, and we are not going to put our students in a position where they leave college with enormous levels of debt. That’s exactly what his party and he want to do. Yr ail beth y soniodd amdano oedd addysg uwch. Mae ef eisiau treblu ffioedd dysgu i fyfyrwyr—i osod treth ar fyfyrwyr yn yr un modd ag yn Lloegr. Rydym ni wedi gweld y toriadau ym maes addysg uwch yn Lloegr. Nid ydym ni’n mynd i fradychu ein myfyrwyr, ac nid ydym ni’n mynd i roi ein myfyrwyr mewn sefyllfa lle maen nhw’n gadael y coleg gyda lefelau enfawr o ddyled. Dyna’n union y mae ei blaid ef ac yntau eisiau ei wneud.
13:48 - Andrew R.T. Davies
You’ve offered no answers whatsoever, First Minister. You refer back to a budget that was offered before the electorate in 2011. I accept that you won that election; you formed the Government. We are now in 2016. If our budget had come forward, there would not have been £1 billion-worth of cuts to the Welsh NHS, which you are rapidly trying to back-pedal on. I welcome a sinner that repenteth and who’s coming over to us—coming over to our line on protecting the health budget. Well done to you, First Minister. But I’ve asked you legitimate questions today on the budget that will be before us later. In that budget you have also got an increase in your central services budget of £7.5 million, yet you’re taking £32 million out of HE. That is a fact; that is there in black and white. So, why do you need £7.5 million in the central services budget as an increase for you being a Government, yet you’re prepared to take 32 per cent out of HE, and not prepared to invest in local service delivery by rural authorities? Nid ydych chi wedi cynnig unrhyw atebion o gwbl, Brif Weinidog. Rydych chi’n cyfeirio yn ôl at gyllideb a gynigiwyd i’r etholwyr yn 2011. Rwy’n derbyn eich bod wedi ennill yr etholiad hwnnw; chi ffurfiodd y Llywodraeth. Mae hi’n 2016 nawr. Pe byddai ein cyllideb ni wedi cael ei chyflwyno, ni fyddai gwerth £1 biliwn o doriadau wedi eu gwneud i GIG Cymru, yr ydych chi’n ceisio gwneud tro pedol cyflym yn ei gylch. Rwy’n croesawu pechadur sy'n edifarhau ac yn dod drosodd atom ni—dod draw at ein meddylfryd ni o ran diogelu'r gyllideb iechyd. Da iawn chi, Brif Weinidog. Ond rwyf wedi gofyn cwestiynau dilys i chi heddiw am y gyllideb a fydd ger ein bron yn ddiweddarach. Yn y gyllideb honno, mae gennych chi gynnydd o £7.5 miliwn i’ch cyllideb gwasanaethau canolog hefyd, ac eto rydych chi’n cymryd £32 miliwn allan o AU. Mae honno'n ffaith; mae hynny i’w weld mewn du a gwyn. Felly, pam mae angen £7.5 miliwn arnoch yn y gyllideb gwasanaethau canolog fel cynnydd oherwydd eich bod chi’n Llywodraeth, ac eto rydych chi’n barod i gymryd 32 y cant allan o AU, ac nid ydych yn fodlon buddsoddi mewn darparu gwasanaethau lleol gan awdurdodau gwledig?
13:49 - Carwyn Jones
As I said to him, the budget statement will come later, and there’ll be an opportunity to ask questions at the appropriate time. It wouldn’t be right for the statement to be prejudged. I have to say to him that he keeps on saying that the figures I referred to are old. Fine. Where are the up-to-date figures? There aren’t any. There aren’t any. So, again, I remind people: a 12 per cent cut in local government, a 12 per cent cut in education, a 30 per cent cut in the economy and transport, huge cuts in housing, huge cuts in central services. Fel y dywedais wrtho, bydd datganiad y gyllideb yn dod yn ddiweddarach, a bydd cyfle i ofyn cwestiynau ar yr adeg briodol. Ni fyddai'n iawn i’r datganiad gael ei ragfarnu. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho ei fod yn parhau i ddweud bod y ffigurau y cyfeiriais i atynt yn hen. Iawn. Ble mae'r ffigurau cyfredol? Nid oes rhai. Nid oes rhai. Felly, unwaith eto, rwy’n atgoffa pobl: toriad o 12 y cant i lywodraeth leol, toriad o 12 y cant i addysg, toriad o 30 y cant i’r economi a thrafnidiaeth, toriadau enfawr ym maes tai, toriadau enfawr i wasanaethau canolog.
He talks about £1 billion cut from the health service. It’s not true, because we know, of course, that we spend more on health than England does per head. So, we know that’s clearly untrue, and he never says, if he had spent another £1 billion, where it would’ve come from, because in the cloud-cuckoo-land that exists over in that part of the Chamber, money grows on trees. There’s no question of making difficult decisions, there’s no question of having to make cuts in order to pay for priorities, money grows on trees—£1 billion could be found at the drop of a hat. The reality is that the people of Wales need to have a prudent and realistic Government and not one—as the opposition would be—that is away with the fairies. Mae'n sôn am doriad o £1 biliwn o’r gwasanaeth iechyd. Nid yw’n wir, gan ein bod ni’n gwybod, wrth gwrs, ein bod ni’n gwario mwy ar iechyd fesul pen nag y mae Lloegr. Felly, rydym ni’n gwybod bod hynny’n amlwg yn anwir, ac nid yw byth yn dweud, pe byddai wedi gwario £1 biliwn arall, o ble y byddai wedi dod, oherwydd yn y wlad cog a chwmwl sy'n bodoli draw yn y rhan yna o'r Siambr, mae arian yn tyfu ar goed. Nid oes cwestiwn o wneud penderfyniadau anodd, nid oes cwestiwn o orfod gwneud toriadau er mwyn talu am flaenoriaethau, mae arian yn tyfu ar goed—gellid dod o hyd i £1 biliwn heb unrhyw drafferth. Y gwir amdani yw bod angen i bobl Cymru gael Llywodraeth ddarbodus a realistig ac nid un—fel y byddai'r wrthblaid—sy’n byw gyda’r tylwyth teg.
13:50 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We now move to the leader of the Plaid Cymru, Leanne Wood. Symudwn nawr at arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
13:50 - Leanne Wood
Diolch, Lywydd. A fortnight ago, First Minister, I asked you to reverse your plans to make savage cuts to the funding of our universities. You declined and you essentially told universities to put up with those cuts. Now, you further rejected claims that there would be job losses as a result of those cuts to the university sector. Can you confirm now, this afternoon, that there won’t be a last-minute u-turn on university funding when your budget is presented later on? Diolch, Lywydd. Bythefnos yn ôl, Brif Weinidog, gofynnais i chi wrthdroi eich cynlluniau i wneud toriadau llym i’r cyllid ar gyfer ein prifysgolion. Fe wnaethoch wrthod gan ddweud fwy neu lai wrth brifysgolion i dderbyn y toriadau hynny. Nawr, gwrthodwyd gennych hefyd honiadau y byddai swyddi’n cael eu colli o ganlyniad i'r toriadau hynny i’r sector prifysgolion. A allwch chi gadarnhau yn awr, y prynhawn yma, na fydd tro pedol munud olaf ar gyllid prifysgolion pan gaiff eich cyllideb ei chyflwyno yn nes ymlaen?
13:51 - Carwyn Jones
That will become clear when the budget is presented. Bydd hynny'n dod yn eglur pan gaiff y gyllideb ei chyflwyno.
13:51 - Leanne Wood
Well, that’s an interesting answer, First Minister, and I’m not quite sure whether or not this means that you continue to be in denial about the impact of your proposals, so perhaps some evidence from Cardiff University might be helpful to you. They said, and I quote: Wel, dyna ateb diddorol, Brif Weinidog, ac nid wyf yn hollol siŵr pa un a yw hyn yn golygu eich bod yn parhau i wadu effaith eich cynigion, felly efallai y gallai rhywfaint o dystiolaeth gan Brifysgol Caerdydd fod o gymorth i chi. Dywedasant, ac rwy’n dyfynnu:
‘In 2015-16, HEFCW has prioritised direct funding to universities to help sustain undergraduate medicine and dentistry. 2015-16 already saw a 50% reduction in HEFCW funding to this provision; further erosion or loss of this funding will put at risk the education of doctors and dentists within Wales for Wales. These subjects cost more than £15,000 per student per year and clearly cannot be delivered from the Residual Fee of £6,230 alone. At a time when the Health budget is being increased, reducing investment in the next generation of doctors and dentists would be contradictory.’ Yn 2015-16, mae CCAUC wedi blaenoriaethu cyllid uniongyrchol i brifysgolion i helpu i gynnal meddygaeth a deintyddiaeth israddedig. Bu gostyngiad o 50% eisoes yn 2015-16 i gyllid CCAUC ar gyfer y ddarpariaeth hon; bydd erydu’r cyllid hwn ymhellach neu ei golli yn rhoi addysg meddygon a deintyddion yng Nghymru ar gyfer Cymru mewn perygl. Mae'r pynciau hyn yn costio mwy na £15,000 fesul myfyriwr bob blwyddyn ac mae'n amlwg na ellir eu darparu o Ffi Gweddilliol o £6,230 yn unig. Ar adeg pan fo’r gyllideb Iechyd yn cael ei chynyddu, byddai lleihau’r buddsoddiad yn y genhedlaeth nesaf o feddygon a deintyddion yn groesebol.
Cardiff University, therefore, believes that there will be far-reaching consequences of your cuts to the higher education sector. Do you accept that? Mae Prifysgol Caerdydd, felly, yn credu y bydd canlyniadau pellgyrhaeddol o’ch toriadau i'r sector addysg uwch. A ydych chi’n derbyn hynny?
13:52 - Carwyn Jones
No, and Cardiff University is not the only university in Wales. It also has £300 million of the reserves. Now, I don’t think it’s unreasonable, when a sector has £1.3 billion in reserves in total, that they have to manage what will be small decreases in their budgets. Cardiff alone has £300 million. So, yes, it is challenging. It was challenging for further education last year; it’s been challenging across Government. But it’s not asking too much for higher education, with their income having expanded significantly since 2012, to be able to manage what is, in the context of things, quite a small budget cut. Nac ydw, ac nid Prifysgol Caerdydd yw'r unig brifysgol yng Nghymru. Mae ganddi £300 miliwn o gronfeydd wrth gefn hefyd. Nawr, nid wyf yn credu ei bod yn afresymol, pan fo gan sector gyfanswm o £1.3 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn, bod yn rhaid iddo reoli’r hyn a fydd yn fân-ostyngiadau i’w gyllidebau. Mae gan Gaerdydd ar ei phen ei hun £300 miliwn. Felly, ydy, mae’n anodd. Roedd yn anodd i faes addysg bellach y llynedd; mae wedi bod yn anodd ar draws y Llywodraeth. Ond nid yw'n gofyn gormod i faes addysg uwch, ar ôl i’w incwm gynyddu’n sylweddol ers 2012, allu rheoli’r hyn sydd, yng nghyd-destun pethau, yn doriad cymharol fach i’r gyllideb.
13:53 - Leanne Wood
First Minister, Cardiff University is not the only university in Wales and not all universities have the same levels of reserves as Cardiff University might have. I reiterate to you today, First Minister: drop those planned cuts, support Welsh education, support a secure future for our NHS service. You are consistently refusing to give us a vision for higher education in this country. Why? Because you don’t have one, do you? The only thing that we have had confirmed is that you want to make a £41 million cut, which is a 32 per cent cut, to Welsh universities. Why are you meting out Tory cuts to a sector that this country relies upon for its future prosperity as well as its future health professionals? Brif Weinidog, nid Prifysgol Caerdydd yw'r unig brifysgol yng Nghymru ac nid oes gan bob prifysgol yr un lefel o gronfeydd wrth gefn y gallai fod gan Brifysgol Caerdydd. Rwy’n gofyn eto i chi heddiw, Brif Weinidog: diddymwch y toriadau arfaethedig hynny, cefnogwch addysg yng Nghymru, cefnogwch ddyfodol diogel i’n gwasanaeth GIG. Rydych chi’n gwrthod yn gyson rhoi gweledigaeth ni ar gyfer addysg uwch yn y wlad hon. Pam? Oherwydd nad oes gennych i un, nac oes? Yr unig beth a gadarnhawyd i ni gennych chi yw eich bod chi eisiau gwneud toriad o £41 miliwn, sy'n doriad o 32 y cant, i brifysgolion Cymru. Pam ydych chi’n trosglwyddo toriadau'r Torïaid i sector y mae'r wlad hon yn dibynnu arno ar gyfer ei ffyniant yn y dyfodol yn ogystal â'i gweithwyr iechyd proffesiynol yn y dyfodol?
13:54 - Carwyn Jones
Well, unless the leader of Plaid Cymru has a crystal ball, she has no way of knowing what’s going to be in the budget statement— Wel, oni bai bod fod gan arweinydd Plaid Cymru belen grisial, nid oes ganddi unrhyw ffordd o wybod beth sy'n mynd i fod yn natganiad y gyllideb datganiad—
13:54 - Leanne Wood
Well, you were meant to answer the question about it. Wel, roeddech chi i fod i ateb y cwestiwn am y peth.
13:54 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Order, order. [Interruption.] Order, order. First Minister. Trefn, trefn. [Torri ar draws.] Trefn, trefn. Brif Weinidog.
13:54 - Carwyn Jones
Well, the shouting in that regard gives it away, doesn’t it? The statement is later. That’s when you get the answers, okay. The statement is later, and there will be a debate and you’ll get the chance to ask those questions then. The reality is, from your point of view, I can tell you there are many in the university sector who disagree with the tuition fee grant and with your proposals, which is to make sure that people who stay in Wales get their fees paid, which is what you’ve always said in the past—[Interruption.]—Oh, it’s not. So, it’s not Plaid Cymru policy; well, we’ll wait and see what—. I am accused of not having a vision for universities. Now, we don’t know what on earth Plaid Cymru’s policy actually is. The budget statement will make it absolutely clear. If you had not ruled yourself out of the budget discussions at the very beginning, you might have had a say in things. Wel, mae’r gweiddi yn hynny o beth yn profi pethau, onid yw? Mae'r datganiad yn ddiweddarach. Dyna pryd y byddwch chi’n cael yr atebion, iawn. Mae'r datganiad yn ddiweddarach, a bydd dadl a byddwch yn cael y cyfle i ofyn y cwestiynau hynny bryd hynny. Y gwir amdani yw, o'ch safbwynt chi, gallaf ddweud wrthych chi bod llawer yn y sector prifysgolion sy'n anghytuno â'r grant ffioedd dysgu a chyda'ch cynigion chi, sef gwneud yn siŵr bod ffioedd pobl sy'n aros yng Nghymru yn cael eu talu, sef yr hyn yr ydych chi wedi ei ddweud bob amser yn y gorffennol—[Torri ar draws.] —O, nid dyna yr ydych chi wedi ei ddeud. Felly, nid dyna bolisi Plaid Cymru; wel, arhoswn i weld beth—. Rwy’n cael fy nghyhuddo o beidio â bod â gweledigaeth ar gyfer prifysgolion. Nawr, nid ydym ni’n gwybod beth ar y ddaear yw polisi Plaid Cymru mewn gwirionedd. Bydd datganiad y gyllideb yn ei gwneud yn gwbl eglur. Pe na byddech chi wedi gwrthod bod yn rhan o’r trafodaethau ar y gyllideb o’r cychwyn cyntaf, efallai y byddech chi wedi gallu cyfrannu at bethau.
13:55 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Thank you. Leaders’ questions are now finished, and we move back to questions on the paper. Question 3 is Lindsay Whittle. Diolch. Mae cwestiynau’r arweinwyr wedi dod i ben nawr, a symudwn yn ôl at gwestiynau ar y papur. Daw cwestiwn 3 gan Lindsay Whittle.
Cyllid ar gyfer Hosbisau Funding for Hospices
13:55 - Lindsay Whittle
3. Beth yw polisi presennol Llywodraeth Cymru ar gyllid ar gyfer hosbisau yng Nghymru? OAQ(4)2709(FM) 3. What is the current Welsh Government policy on funding for hospices in Wales? OAQ(4)2709(FM)
13:55 - Carwyn Jones
We continue to support the development of end-of-life and specialist palliative care services, including hospices in Wales. That includes £3 million-worth of funding to support the new St David’s hospice in Newport. Rydym ni’n parhau i gefnogi datblygiad gwasanaethau gofal diwedd oes a lliniarol arbenigol, gan gynnwys hosbisau yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys gwerth £3 miliwn o gyllid i gefnogi hosbis newydd Dewi Sant yng Nghasnewydd.
13:55 - Lindsay Whittle
Thank you for your answer, First Minister. Could you please explain why, over the past five years, Welsh Government funding for hospices in Wales has fallen from 24 per cent of their running costs to just 19 per cent? Now, surely, despite any stress on budgets, and I know it is tough, such a vital service as that provided by hospices must be safeguarded and not threatened, and I would urge you to reconsider that. It would be extremely costly for the NHS if any of the charities went into liquidation due to lack of funding, as most of the service delivery would need to be picked up through our core NHS services. Diolch i chi am eich ateb, Brif Weinidog. A allech chi esbonio pam, yn ystod y pum mlynedd diwethaf, y mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer hosbisau yng Nghymru wedi gostwng o 24 y cant o'u costau rhedeg i ddim ond 19 y cant? Nawr, yn sicr, er gwaethaf unrhyw straen ar gyllidebau, a gwn ei bod yn anodd, mae'n rhaid diogelu gwasanaeth mor hanfodol â’r un a ddarperir gan hosbisau, ac nid ei fygwth, a byddwn yn eich annog i ailystyried hynny. Byddai'n eithriadol o gostus i'r GIG pe byddai unrhyw un o'r elusennau yn mynd i’r wal oherwydd diffyg cyllid, gan y byddai’n rhaid i’n gwasanaethau GIG craidd gymryd cyfrifoldeb am y rhan fwyaf o ddarpariaeth y gwasanaeth.
13:56 - Carwyn Jones
The fact that we’re funding the hospice in Newport is a sign of our commitment. We are the only country in the UK to provide 24/7 support and advice to health professionals caring for people approaching the end of their lives. Since 2008, we’ve invested £6.4 million annually in end-of-life and specialist palliative care services in Wales. An additional £1 million was announced in 2015-16 to support the delivery of the end-of-life care plan in addition to that funding, and over £900,000 of that new money will be used to expand hospice-at-home provision across Wales. The remaining money will be used to fund end-of-life care initiatives, such as advanced care planning and public awareness-raising events. Mae'r ffaith ein bod yn ariannu'r hosbis yng Nghasnewydd yn arwydd o'n hymrwymiad. Ni yw'r unig wlad yn y DU i ddarparu cymorth a chyngor 24/7 i weithwyr iechyd proffesiynol sy'n gofalu am bobl sy’n agosáu at ddiwedd eu hoes. Ers 2008, rydym ni wedi buddsoddi £6.4 miliwn y flwyddyn mewn gwasanaethau gofal diwedd oes a lliniarol arbenigol yng Nghymru. Cyhoeddwyd £1 filiwn arall yn 2015-16 i gefnogi darpariaeth y cynllun gofal diwedd oes yn ychwanegol at y cyllid hwnnw, a bydd dros £900,000 o’r arian newydd hwnnw yn cael ei ddefnyddio i ehangu darpariaeth hosbis yn y cartref ledled Cymru. Bydd yr arian sy'n weddill yn cael ei ddefnyddio i ariannu mentrau gofal diwedd oes, fel cynllunio gofal uwch a digwyddiadau codi ymwybyddiaeth y cyhoedd.
13:57 - Altaf Hussain
First Minister, on the same day that Marie Curie launched its daffodil appeal, we are debating a draft budget that will see £0.3 million removed from hospice support. Hospices are essential, as you said—part of Wales’s end-of-life-care. The focus of modern hospice care is on helping people to live well until they die. We need to ensure that, regardless of where you live in Wales, you’ll be able to access hospice care. Therefore, First Minister, will you ensure that hospices receive sustainable funding? Brif Weinidog, ar yr un diwrnod ag y lansiodd Marie Curie ei apêl daffodil, rydym ni’n trafod cyllideb ddrafft a fydd yn gweld £0.3 miliwn yn cael ei dynnu o gymorth hosbis. Mae hosbisau’n hanfodol, fel y dywedasoch—rhan o ofal diwedd oes Cymru. Mae pwyslais gofal hosbis modern ar helpu pobl i fyw’n dda tan iddyn nhw farw. Mae angen i ni sicrhau, waeth ble yr ydych chi’n byw yng Nghymru, y byddwch chi’n gallu cael mynediad at ofal hosbis. Felly, Brif Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod hosbisau’n derbyn cyllid cynaliadwy?
13:57 - Carwyn Jones
Yes, which is why I referred to the point I made earlier on—that we have ensured that funding remains, we have put extra money into care, and we haven’t cut funding for social care as the Member’s party has done in England. Social care has been absolutely hammered in England. We know that the responsibility has been passed on to local authorities, which are ill placed to fund that social care. We will not do that in Wales and we will continue to fund social care at the level people expect. Gwnaf, a dyna pam y cyfeiriais at y pwynt a wneuthum yn gynharach—ein bod ni wedi sicrhau bod cyllid yn parhau, rydym ni wedi cyfrannu arian ychwanegol at ofal, ac nid ydym wedi torri cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol fel y mae plaid yr Aelod wedi ei wneud yn Lloegr. Mae gofal cymdeithasol wedi ei daro'n galed iawn yn Lloegr. Rydym ni’n gwybod bod y cyfrifoldeb wedi ei drosglwyddo i awdurdodau lleol, sydd mewn sefyllfa wael i ariannu’r gofal cymdeithasol hwnnw. Ni fyddwn yn gwneud hynny yng Nghymru a byddwn yn parhau i ariannu gofal cymdeithasol ar y lefel y mae pobl yn ei ddisgwyl.
Busnesau sy’n Allforio Businesses that Export
13:58 - Gwenda Thomas
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu busnesau sy'n allforio? OAQ(4)2702(FM) 4. Will the First Minister make a statement on the development of businesses that export? OAQ(4)2702(FM)
13:58 - Carwyn Jones
Yes. Increasing exports from Wales is a key priority for the Welsh Government. We offer a range of measures to support Welsh exporters at each stage of their export journey, including free one-to-one advice, help to find new customers, and help to access overseas markets. Gwnaf. Mae cynyddu allforion o Gymru yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Rydym ni’n cynnig amrywiaeth o fesurau i gynorthwyo allforwyr Cymru yn ystod pob cam o'u taith allforio, gan gynnwys cyngor unigol am ddim, a help i ddod o hyd i gwsmeriaid newydd, a help i gael mynediad at farchnadoedd tramor.
13:58 - Gwenda Thomas
Thank you for that, First Minister. I note that the Exporting is GREAT tool comes to Wales this month and will assist companies in developing their exports to Europe and the rest of the world. Do you agree with me, First Minister, that, if we leave the European Union, trading with this economic bloc will be made far more difficult? Diolch am hynna, Brif Weinidog. Nodaf fod yr offeryn Exporting is GREAT yn dod i Gymru y mis hwn a bydd yn cynorthwyo cwmnïau i ddatblygu eu hallforion i Ewrop a gweddill y byd. A ydych chi’n cytuno â mi, Brif Weinidog, os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, y bydd masnachu gyda’r bloc economaidd hwn yn cael ei wneud yn llawer mwy anodd?
13:59 - Carwyn Jones
There is no question about it. We’ve all seen the difficulties that the Prime Minister has had in negotiating a new settlement thus far. I support his position, that he wants us to stay in the EU. No-one else in his party seems to, or they’re not being very vocal about it, but I support his position. The reality is that, if we don’t get access to the European market that is tariff-free and open, Welsh business will suffer. The idea that if the UK left the EU the EU would fall over itself to put forward a favourable deal for the UK is madness, frankly. It just isn’t going to happen. Why on earth would the European Union want to do that for a UK that had just left the European Union? So, from my point of view, certainty is important for business. The Prime Minister made the point that the Scottish referendum created uncertainty in Scotland; it did. The same thing is happening with this referendum. The fact there is going to be a referendum is creating uncertainty in the UK. It needs to be resolved, although June is not, clearly, my preferred date, nor of others in the Chamber, either, but the reality is that if you have access to a market of 500 million, if you can sell to those people, anything you do to interfere with that access is bound to be bad for manufacturers, for tourism and for farmers. Nid oes unrhyw amheuaeth am y peth. Rydym ni wedi gweld yr holl anawsterau y mae Prif Weinidog y DU wedi eu cael yn sicrhau setliad newydd hyd yn hyn. Rwy’n cefnogi ei safbwynt, ei fod eisiau i ni aros yn yr UE. Nid yw’n ymddangos bod neb arall yn ei blaid yn ei gefnogi, neu nid ydyn nhw’n llafar iawn am y peth, ond rwyf i’n cefnogi ei safbwynt. Y gwir amdani yw, os na fyddwn ni’n cael mynediad at y farchnad Ewropeaidd sy’n ddi-dariff ac yn agored, bydd busnesau yng Nghymru yn dioddef. Mae'r syniad o pe byddai'r DU yn gadael yr UE y byddai’r UE yn gwneud ei gorau glas i gynnig cytundeb ffafriol i’r DU yn wallgofrwydd, a dweud y gwir. Nid yw’n mynd i ddigwydd. Pam ar y ddaear y byddai'r Undeb Ewropeaidd eisiau gwneud hynny i’r DU a fyddai newydd adael yr Undeb Ewropeaidd? Felly, yn fy marn i, mae sicrwydd yn bwysig i fusnes. Gwnaeth Prif Weinidog y DU y pwynt bod refferendwm yr Alban wedi creu ansicrwydd yn yr Alban; fe wnaeth. Mae'r un peth yn digwydd gyda’r refferendwm hwn. Mae'r ffaith y bydd refferendwm yn creu ansicrwydd yn y DU. Mae angen ei ddatrys, er nad Mehefin, yn amlwg, yw’r dyddiad yr wyf i, nac eraill yn y Siambr ychwaith, yn ei ffafrio, ond y gwir amdani yw, os oes gennych chi fynediad at farchnad o 500 miliwn, os gallwch chi werthu i'r bobl hynny, mae unrhyw beth y byddwch yn ei wneud i ymyrryd â’r mynediad hwnnw yn sicr o fod yn ddrwg i weithgynhyrchwyr, i dwristiaeth ac i ffermwyr.
14:00 - Y Llywydd / The Presiding Officer
I had occasion to have a chat with you last week, Andrew R.T. Davies. Please, don’t keep muttering. If you want to speak, I will call you. Mark Isherwood. Bu’n rhaid i mi gael sgwrs gyda chi yr wythnos diwethaf, Andrew R.T. Davies. Peidiwch â dal ati i barablu. Os ydych chi eisiau siarad, byddaf yn eich galw. Mark Isherwood.
14:00 - Mark Isherwood
The latest Welsh Government published figures for exports to the third quarter of 2015 show that, in the year to the third quarter of 2015, six of the 12 UK nations and regions saw an increase in exports, but Wales had the second largest fall at 8.6 per cent, rising to 16.8 per cent for trade and exports to other EU countries. How, therefore, do you respond to the statement in the CBI business manifesto for the 2016 Assembly election that the Welsh Government should develop enhanced export support for medium-sized businesses? Mae ffigurau cyhoeddedig diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer allforion hyd at drydydd chwarter 2015 yn dangos, yn y flwyddyn hyd at drydydd chwarter 2015, y bu cynnydd i allforion yn chwech o 12 gwlad a rhanbarth y DU, ond cafwyd yr ail ostyngiad mwyaf yng Nghymru, sef 8.6 y cant, yn codi i 16.8 y cant ar gyfer masnach ac allforion i wledydd eraill yr UE. Sut, felly, ydych chi’n ymateb i'r datganiad ym maniffesto busnes y CBI ar gyfer etholiad Cynulliad 2016 y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cymorth allforio gwell ar gyfer busnesau canolig eu maint?
14:01 - Carwyn Jones
Well, the reduction is down to petroleum, which is a significant amount of exports for us. Whenever there is a slowdown in the refineries, or the loss of a refinery, it does affect our export figures. We’ve seen that in the past. But the UK is not performing particularly well. We’ve already seen George Osborne get his excuses in already, saying, ‘Well, if things go badly, it’s all the fault of China, and all the fault of the world economy’. Well, the reality is this: we export nearly half of what we manufacture and produce to the European Union. To lose access to that market is a disaster for business and for our economy. The converse is that the European Union only exports 10 per cent of what it produces to the UK. We are far more reliant on our export market in the EU than the other way around. It’s important that we remember, as we look to the referendum that will take place now this year, that what is at stake here is hundreds and thousands of jobs in Wales. The decision should be taken based on a dose of economic reality and not on some of kind of wild-eyed nationalism. Wel, petroliwm sy’n gyfrifol am y gostyngiad, sy'n swm sylweddol o allforion i ni. Pryd bynnag y bydd arafu yn y purfeydd, neu bod purfa’n cael ei cholli, mae'n effeithio ar ein ffigurau allforio. Rydym ni wedi gweld hynny yn y gorffennol. Ond nid yw’r DU yn perfformio'n arbennig o dda. Rydym ni eisoes wedi gweld George Osborne yn paratoi ei esgusodion, gan ddweud, 'Wel, os yw pethau'n mynd yn wael, bai Tsieina ac economi’r byd yw’r cwbl'. Wel, y gwir amdani yw hyn: rydym ni’n allforio bron i hanner yr hyn yr ydym ni’n ei weithgynhyrchu a’i gynhyrchu i'r Undeb Ewropeaidd. Mae colli mynediad at y farchnad honno yn drychineb i fusnes ac i’n heconomi. Ar y llaw arall, dim ond 10 y cant o'r hyn y mae'r UE yn ei gynhyrchu y mae’n ei allforio i’r DU. Rydym ni’n llawer mwy dibynnol ar ein marchnad allforio yn yr UE na'r ffordd arall. Mae'n bwysig ein bod yn cofio, wrth i ni edrych at y refferendwm a fydd yn cael ei gynnal eleni, mae’r hyn sydd yn y fantol yma yw cannoedd a miloedd o swyddi yng Nghymru. Dylid gwneud y penderfyniad ar sail dos o realiti economaidd ac nid ar ryw fath o genedlaetholdeb gwyllt.
14:02 - Rhun ap Iorwerth
Buaswn i’n licio tynnu sylw at y berthynas rhwng polisi caffael ac allforion. Mi fydd y Prif Weinidog yn ymwybodol fy mod i wedi bod yn galw am gymryd camau i gynyddu’r gyfran o gytundebau cyhoeddus yng Nghymru sy’n mynd i gwmnïau Cymreig, ac y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn deddfu i symud i’r cyfeiriad yma. A yw’r Prif Weinidog yn cytuno bod hybu cwmnïau Cymreig drwy help sicrhau rhagor o gytundebau cyhoeddus yn fodd i sicrhau bod y cwmnïau yna wedyn yn cryfhau, ac yn datblygu yn eu gallu nhw i allforio, ac y byddai’r economi Gymreig, yn y ffordd honno, yn ennill ddwywaith? I’d like to highlight the relationship between procurement policy and exports. The First Minister will be aware that I have been calling for steps to be taken to increase the percentage of public contracts in Wales awarded to Welsh companies, and that a Plaid Cymru government would legislate to move in that direction. Does the First Minister agree that promoting Welsh companies by ensuring that more public contracts are awarded is a means of ensuring that those companies can then grow stronger and can develop in their ability to export, and that the Welsh economy, in that way, would have double the benefit?
14:02 - Carwyn Jones
Wel, mae hynny wedi digwydd, wrth gwrs. Mae yna lot fawr o gwmnïau nawr yn cael y cyfle i fidio am gytundebau. Mae llawer mwy o gwmnïau o Gymru nawr yn gallu cael cytundebau, o gymharu â beth oedd ar gael o’r blaen. Beth na allaf gytuno ag e arno yw deddfu ar hyn. Nid yw’n gyfreithlon i roi targedau cyfreithiol ynglŷn â faint o fusnes ddylai gael ei roi i gwmnïau lleol. Mae hynny’n hollol yn erbyn cyfraith Ewropeaidd. Beth sy’n bwysig yw sicrhau ein bod ni’n cario ymlaen i hybu cwmnïau, er mwyn eu bod nhw mewn sefyllfa i gymryd mantais o’r cytundebau pan maen nhw’n dod. Well, that has happened, of course. A great number of companies now have the opportunity to bid for contracts. Many more Welsh companies are able to win those contracts, compared to what was available in the past. What I can’t agree on is legislating on this. It’s not lawful to set legal targets with regard to how much business should be given to local companies. That’s completely against European law. What’s important is ensuring that we continue to encourage companies, so that they are in a situation to take advantage of the contracts when they arise.
14:03 - Peter Black
First Minister, my region faces potential economic devastation with the loss of many hundreds of jobs at Tata Steel. Of course, membership of the European Community is actually absolutely crucial in terms of trying to regenerate that particular area. Can you confirm what work your Government is doing with Europe to try to mitigate those losses and to try to develop new export-led industries in the Port Talbot area? Brif Weinidog, mae fy rhanbarth i’n wynebu dinistr economaidd posibl ar ôl colli cannoedd o swyddi yn Tata Steel. Wrth gwrs, mae aelodaeth o'r Gymuned Ewropeaidd yn gwbl hanfodol o ran ceisio adfywio’r ardal benodol honno. A allwch chi gadarnhau pa waith y mae eich Llywodraeth yn ei wneud gydag Ewrop i geisio lliniaru’r colledion hynny a cheisio datblygu diwydiannau newydd a arweinir gan allforion yn ardal Port Talbot?
14:03 - Carwyn Jones
We’ve been in correspondence with the European Commission, putting forward our view, very strongly, that there need to be stronger tariff barriers against imports from outside. We are in the process of putting together a financial package, which of itself will not be enough. It will need to be supported by a bigger financial package from the UK Government, and that process is ongoing. Rydym ni wedi bod yn gohebu â'r Comisiwn Ewropeaidd, gan gyflwyno ein barn, yn gryf iawn, bod angen cael rhwystrau tariff cryfach yn erbyn mewnforion o'r tu allan. Rydym ni wrthi’n llunio pecyn ariannol, na fydd yn ddigon ar ei ben ei hun. Bydd angen iddo gael ei ategu gan becyn ariannol mwy gan Lywodraeth y DU, ac mae’r broses honno yn parhau.
Canser y Pancreas Pancreatic Cancer
14:04 - Mohammad Asghar
5. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i helpu cleifion canser pancreatig yng Nghymru? OAQ(4)2707(FM) 5. What support is the Welsh Government giving to help pancreatic cancer patients in Wales? OAQ(4)2707(FM)
14:04 - Carwyn Jones
As part of the cancer delivery plan, the cancer implementation group is taking forward a number of pieces of work, which will improve the recognition of symptoms for cancers such as pancreatic cancer and, once symptoms are identified, enable rapid access to testing, diagnosis and treatment. Yn rhan o'r cynllun cyflawni ar ganser, mae'r grŵp gweithredu ar ganser yn bwrw ymlaen â nifer o ddarnau o waith, a fydd yn gwella’r broses o adnabod symptomau canserau fel canser pancreatig ac, ar ôl i symptomau gael eu nodi, yn galluogi mynediad cyflym at brofion, diagnosis a thriniaeth.
14:04 - Mohammad Asghar
Thank you for that reply, First Minister. Pancreatic cancer has the worst survival rate of the 21 most common cancers in Wales. The National Institute for Health and Care Excellence has said that the cancer drug Abraxane should not be funded by the NHS in England due to the cost. Will the First Minister assure pancreatic cancer sufferers in Wales that this life-extending drug will continue to be available on the NHS in Wales? Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Canser pancreatig sydd â’r gyfradd oroesi waethaf o'r 21 canser mwyaf cyffredin yng Nghymru. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal wedi dweud na ddylai'r GIG yn Lloegr ariannu’r cyffur canser Abraxane oherwydd y gost. A wnaiff y Prif Weinidog sicrhau’r rhai sy’n dioddef o ganser pancreatig yng Nghymru y bydd y cyffur ymestyn bywyd hwn yn parhau i fod ar gael yn y GIG yng Nghymru?
14:05 - Carwyn Jones
Yes. It was recently agreed, for example, that we will continue discussions with the manufacturer to explore the options for continued access to Abraxane within NHS Wales. Abraxane will continue to be available in Wales in the interim. Gwnaf. Cytunwyd yn ddiweddar, er enghraifft, y byddwn yn parhau trafodaethau gyda'r gweithgynhyrchydd i ystyried y dewisiadau ar gyfer mynediad parhaus at Abraxane yn GIG Cymru. Bydd Abraxane yn parhau i fod ar gael yng Nghymru yn y cyfamser.
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Mental Health Services
14:05 - Janet Finch-Saunders
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2714(FM) 6. Will the First Minister make a statement on mental health services in north Wales? OAQ(4)2714(FM)
14:05 - Carwyn Jones
Yes. On 29 January, the Deputy Minister published the improvement framework for Betsi Cadwaladr. That sets out our expectations for improvement in each of the areas identified under special measures, including mental health. Gwnaf. Ar 29 Ionawr, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog y fframwaith gwella ar gyfer Betsi Cadwaladr. Mae hwnnw'n nodi ein disgwyliadau ar gyfer gwelliant ym mhob un o'r meysydd a nodwyd o dan fesurau arbennig, gan gynnwys iechyd meddwl.
14:05 - Janet Finch-Saunders
Thank you. Support and access to services for under 18-year-olds experiencing severe mental health problems is seen as almost inaccessible in my own constituency of Aberconwy, with young sufferers having to wait for up to two years to access CAMHS. Such a delay at such a very vulnerable time in the life of our youngsters is quite unacceptable, First Minister, and although there has been a recent review into CAMHS, it has certainly not made a ha’penny worth of difference to my sufferers in Aberconwy, or made any change. Indeed, Conwy County Borough Council cannot even access figures for those requiring treatment and intervention by CAMHS. Minister, this is a huge failing on the part of your Government, and you are letting our most vulnerable youngsters down at a time when they are really troubled. What are you doing to address this, please? Diolch. Ystyrir bod cymorth a mynediad at wasanaethau i blant dan 18 oed sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol bron yn anhygyrch yn fy etholaeth i yn Aberconwy, wrth i ddioddefwyr ifanc orfod aros hyd at ddwy flynedd i gael mynediad at CAMHS. Mae oedi o'r fath ar adeg mor hynod o fregus ym mywydau ein pobl ifanc yn gwbl annerbyniol, Brif Weinidog, ac er y bu adolygiad diweddar o CAMHS, mae’n sicr nad yw wedi gwneud gwerth dimai o wahaniaeth i fy nioddefwyr i yn Aberconwy, nac wedi cyflawni unrhyw newid. Yn wir, ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hyd yn oed gael mynediad at ffigurau ar gyfer y rhai sydd angen triniaeth ac ymyrraeth gan CAMHS. Weinidog, mae hwn yn fethiant enfawr ar ran eich Llywodraeth, ac rydych chi’n siomi ein pobl ifanc mwyaf agored i niwed ar adeg pan eu bod nhw’n drwblus iawn. Beth ydych chi’n mynd i’w wneud i roi sylw i hyn, os gwelwch yn dda?
14:06 - Carwyn Jones
Well, we’ve provided CAMHS with an 18 per cent increase in funding, as the Member will know—£7.6 million. The service change and development programme is being developed by Professor Dame Sue Bailey, and there will be the recruitment of an additional 130 members of staff, who will improve services and reduce waiting times over time. Wel, rydym ni wedi darparu cynnydd o 18 y cant i gyllid CAMHS, fel y bydd yr Aelod yn gwybod—£7.6 miliwn. Mae'r rhaglen newid a datblygu’r gwasanaeth yn cael ei datblygu gan yr Athro Fonesig Sue Bailey, a bydd 130 o aelodau staff ychwanegol yn cael eu recriwtio, a fydd yn gwella gwasanaethau ac yn lleihau amseroedd aros dros amser.
14:07 - Bethan Jenkins
Brif Weinidog, roedd rhywun o’r tu allan i’m hetholaeth i wedi cysylltu â mi i’w helpu nhw gydag achos, oherwydd ei bod yn gwybod fy mod i wedi gwneud lot ar iechyd meddwl. Roedd y fenyw yma wedi bod yn aros am bedair blynedd ac wedi dweud wrth ei GP ei bod hi eisiau cyflawni hunanladdiad. Dim ond pan wnes i, fel Aelod Cynulliad, godi’r mater hwn gyda’r GP yn lleol y gwnaeth unrhyw beth symud o ran ei helpu hi. Gallai’r sefyllfa honno fod wedi arwain at stori yn y wasg, lle ei bod hi wedi cyflawni’r hyn nad oedd neb yn yr ystafell hon am iddi ei wneud. Pa fath o waith yr ydych chi’n ei wneud gyda GPs, nid i ofyn iddyn nhw i gael hyfforddiant, ond i’w gorfodi i gael hyfforddiant yn hynny o beth, fel na fydd yna fwy o drasiedïau yn digwydd yng Nghymru, lle nad yw pobl yn cael y driniaeth y maent ei hangen mewn da bryd? First Minister, someone from outside my constituency approached me to help them with a case because they knew that I’d done a lot of work on mental health. This woman had been waiting four years and had told her GP that she had considered committing suicide. It was only when I as an Assembly Member raised this with the GP locally that anything actually happened in terms of providing assistance to her. That could have led to a media story, where she could have done what no-one in this room would have wanted her to have done. What sort of work are you doing with GPs, not to ask them to undertake training, but to require them to take training, so that there won’t be further tragedies in Wales when people don’t actually get the treatment that they need in good time?
14:07 - Carwyn Jones
Ynglŷn â’r gogledd, bydd yr arian ychwanegol yn y gogledd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod triniaeth seicolegol ar gael yn glouach, a hefyd ynghylch ymyrraeth gynnar ynglŷn â sicrhau bod seicosis yn cael ei ddelio ag ef, a hefyd, wrth gwrs, i gyllido gwasanaeth argyfwng i blant a phobl ifanc, yn enwedig yn yr adrannau argyfwng yn yr ysbytai. Felly, bydd yr arian hwnnw—ac rwy’n sôn am yr arian i Betsi Cadwaladr, ond rwy’n erfyn i hyn i gael ei wneud ledled Cymru—yn sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn gyflymach nag efallai oedd yn wir o’r blaen. Wrth gwrs, bydd mwy o bobl ar gael i roi’r cyngor hwnnw a’r help hwnnw pan fydd eisiau. In relation to the north, additional funding in the north will be used to ensure that psychological treatment is available more quickly, and also early intervention with regard to ensuring that psychosis is dealt with, and, of course, to fund an emergency service for children and young people, especially in the emergency departments in the hospitals. So that funding—I’m talking about Betsi Cadwaladr, but I would expect this to be available across Wales—will ensure that services are available more quickly than perhaps was the case in the past. Of course, there will be more staff available to give that advice and assistance when it’s required.
14:08 - Aled Roberts
Brif Weinidog, rydych wedi cyfeirio at ymyrraeth gynnar. Mae eich Gweinidog addysg wedi cydnabod pwysigrwydd seicolegwyr addysg wrth sicrhau bod y cwrs hyfforddi yng Nghaerdydd yn parhau. Hefyd, rydym yn symud at gyfnod o Ddeddf newydd o ran addysg arbennig. A gaf i ofyn i chi felly—? Mae yna broblemau yn codi yn y gogledd ynglŷn ag anghysondeb rhwng awdurdodau ynglŷn â’r ffaith bod cwota yn cael ei roi i ysgolion o ran faint o oriau y mae seicolegwyr addysg yn cael defnyddio ym mhob ysgol. Rwyf wedi edrych i mewn i hyn ac nid oes adolygiad wedi bod i mewn i’r sefyllfa yng Nghymru ers 2004, pan roddwyd cyfrifoldeb i’r awdurdodau addysg. A fyddech yn barod i ailedrych, a chreu adolygiad o’r newydd, fel ein bod yn gallu ystyried hwn fel rhan o’r ddeddfwriaeth newydd? First Minister, you’ve referred to early intervention. Your education Minister has acknowledged the importance of educational psychologists in ensuring that the training course in Cardiff will remain in place. We’re also moving towards the implementation of new legislation in terms of SEN. Can I ask you therefore—? There are problems in north Wales in terms of inconsistencies between local authorities in terms of the fact that a quota is provided to schools in terms of the amount of hours that educational psychologists can work in every school. I’ve looked into that, and there’s been no review since 2004 into this situation in Wales, when responsibility was passed to the local education authorities. Would you be willing to look at this, and review it anew, so that we can consider this as part of the new legislation?
14:09 - Carwyn Jones
Fe wnaf i ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â hynny. Mae’n bwysig dros ben, wrth gwrs, fod yna gysondeb, yn enwedig yn y system addysg. Byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn ysgrifennu at yr Aelod gan nodi safbwynt y Llywodraeth ar hyn o bryd. I will write to the Member with regard to that issue. It is a very important point that there should be consistency, especially in the education system. I will ensure that I write to the Member to set out the Government’s current stance.
Cynllun Cyflawni ar gyfer Strôc Stroke Delivery Plan
14:09 - Gwyn R. Price
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd y mae'r GIG wedi'i wneud tuag at gynllun cyflawni ar gyfer strôc Llywodraeth Cymru ? OAQ(4)2708(FM) 7. Will the First Minister make a statement on the progress the NHS has made towards the Welsh Government's stroke delivery plan? OAQ(4)2708(FM)
14:10 - Carwyn Jones
The stroke annual report published last month demonstrates the progress made in delivering the plan. That does includes increased awareness raising, appropriate interventions, improved hospital care and improved discharge and rehabilitation services. These actions have helped to improve survival rates following a stroke and to reduce longer term disabilities. Mae'r adroddiad strôc blynyddol a gyhoeddwyd fis diwethaf yn dangos y cynnydd a wnaed o ran darparu’r cynllun. Mae hynny yn cynnwys mwy o godi ymwybyddiaeth, ymyriadau priodol, gwell gofal yn yr ysbyty a gwell gwasanaethau rhyddhau ac adsefydlu. Mae'r camau hyn wedi helpu i wella cyfraddau goroesi yn dilyn strôc ac i leihau anableddau tymor hwy.
14:10 - Gwyn R. Price
Thank you for that answer, First Minister. The recent publication of the third all-Wales annual report on stroke shows that 1,000 fewer people are dying from stroke every year than 10 years ago. What does this tell us about the continued dedication of NHS staff and the role they play in delivering this service? Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Mae cyhoeddiad diweddar y trydydd adroddiad Cymru gyfan blynyddol ar strôc yn dangos bod 1,000 yn llai o bobl yn marw o strôc bob blwyddyn na 10 mlynedd yn ôl. Beth mae hyn yn ei ddweud wrthym am ymroddiad parhaus staff y GIG a'r rhan maen nhw’n ei chwarae wrth ddarparu’r gwasanaeth hwn?
14:10 - Carwyn Jones
It tells us a huge amount, and I thank the Member for the question. We have an excellent track record of participating in the national stroke audits run by the Royal College of Physicians. We have a system of intelligent targets, so that data are readily accessible to clinicians, who can then make improvements to stroke services at a local level. Our paramedics, of course, are highly skilled in the rapid identification of stroke patients, and of course our nursing staff have been working very hard to make sure that those who present at hospital who’ve had strokes are offered treatment as rapidly as possible, because we know that that has a huge impact on their ability not just to survive, but to avoid long-term disability. Mae'n dweud llawer iawn wrthym, a diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae gennym hanes ardderchog o gymryd rhan yn yr archwiliadau strôc cenedlaethol a gynhelir gan Goleg Brenhinol y Meddygon. Mae gennym system o dargedau deallus, fel bod data ar gael yn hawdd i glinigwyr, a all wneud gwelliannau wedyn i wasanaethau strôc ar lefel leol. Mae ein parafeddygon, wrth gwrs, yn hynod fedrus o ran nodi cleifion strôc yn gyflym, ac wrth gwrs mae ein staff nyrsio wedi bod yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr y cynigir triniaeth cyn gynted â phosibl i’r rhai sy'n cyrraedd yr ysbyty ar ôl cael strôc, gan ein bod yn gwybod bod hynny’n cael effaith enfawr ar eu gallu nid yn unig i oroesi, ond i osgoi anabledd hirdymor.
14:11 - Darren Millar
It is indeed very welcome that there have been improvements in stroke outcomes in Wales, but unfortunately we’re still at the bottom of the UK league table, even though we’ve made that progress. What additional support are you going to be able to provide to Welsh health boards so that they can get up to at least the UK average, if not beyond that, over the next few years? Mae i’w groesawu’n fawr yn wir y bu gwelliannau i ganlyniadau strôc yng Nghymru, ond yn anffodus rydym ni’n dal ar waelod tabl cynghrair y DU, er ein bod ni wedi gwneud y cynnydd hwnnw. Pa gymorth ychwanegol ydych chi'n mynd i allu ei ddarparu i fyrddau iechyd Cymru fel y gallant gyrraedd cyfartaledd y DU o leiaf, os nad mynd y tu hwnt i hynny, yn ystod y blynyddoedd nesaf?
14:11 - Carwyn Jones
Well, we’re working with the voluntary sector particularly, that’s important, to help those who have been victims of stroke, but also, of course, to help to improve early diagnosis. We have, for example, what’s called the FAST process—the face, arms, speech test—which enables call takers in ambulance control to identify people who may have had a stroke early so that paramedics can get to them early, and then of course to ensure that they get to clinicians—clinicians having used, of course, the information that they’ve received through the audit process. It’s also true to say that our multidisciplinary teams of stroke clinicians and stroke service managers have led the way in planning improvements to services, and that’s why we see, of course, outcomes improving. Wel, rydym ni’n gweithio gyda'r sector gwirfoddol yn arbennig, mae hynny'n bwysig, i helpu'r rhai sydd wedi dioddef strôc, ond hefyd, wrth gwrs, er mwyn helpu i wella diagnosis cynnar. Mae gennym ni, er enghraifft, yr hyn a elwir yn broses FAST—y prawf wyneb, breichiau, lleferydd—sy’n galluogi’r rhai sy'n ateb galwadau yn y ganolfan rheoli ambiwlansys i nodi pobl a allai fod wedi cael strôc yn gynnar fel y gall parafeddygon eu cyrraedd yn gynnar, a sicrhau wedyn, wrth gwrs, eu bod yn cyrraedd clinigwyr—a bydd y clinigwyr wedi defnyddio, wrth gwrs, y wybodaeth y maen nhw wedi ei derbyn drwy'r broses archwilio. Mae hefyd yn wir i ddweud bod ein timau amlddisgyblaeth o glinigwyr strôc a rheolwyr gwasanaeth strôc wedi arwain y ffordd o ran cynllunio gwelliannau i wasanaethau, a dyna pam yr ydym ni’n gweld, wrth gwrs, canlyniadau’n gwella.
14:12 - Simon Thomas
Rwy’n croesawu’r ffaith bod yna gynnydd wedi bod yng Nghymru yn gyffredinol ar y mater yma, er bod yna gamu yn ôl dros y 12 mis diwethaf, fel mae’n digwydd, ym mwrdd iechyd Hywel Dda. Rŷm ni i gyd eisiau gweld gwelliant o ran pobl yn goresgyn strôc, ond, drwy wneud hynny, wrth gwrs, mae gan bobl fwy o anghenion gofal yn ystod y misoedd sy’n dilyn strôc, ac mae lot o’r baich yna yn cwympo ar wasanaethau cymdeithasol, gymaint ag y mae’n cwympo ar y gwasanaeth iechyd. Felly, beth ydych chi’n ei wneud i sicrhau bod gyda ni well adroddiadau ar ôl chwe mis na sydd gennym ar hyn o bryd ynglŷn â’r ffordd y mae pobl yn delio gyda sgil-effeithiau strôc? I welcome the fact that progress has been made in Wales generally speaking on this issue, although there has been some retrograde steps over the past 12 months in the Hywel Dda health board. We would all want to see people surviving and overcoming stroke, but in doing that, of course, people have greater care needs in the months following a stroke and much of that burden falls on social services, as much, perhaps, as it does on the health service. So, what are you doing to ensure that we have better reports after six months than we currently have in terms of the way in which people deal with the impacts of a stroke?
14:13 - Carwyn Jones
Y peth cyntaf, wrth gwrs, yw sicrhau bod y diagnosis yn gyflym, bod y ‘paramedics’ yn gallu mynd at y person yn gyflym iawn, a mynd i uned arbennig ynglŷn â strôc i sicrhau eu bod nhw’n cael triniaeth mor gyflym â phosibl drwy ddefnyddio cyffuriau, a drwy’r gofal y maen nhw’n gallu ei gael. Well, the first things is to ensure that the diagnosis happens quickly, that paramedics can go to the person very quickly, and that they are taken to specialist unit in relation to stroke, to ensure that they receive the appropriate treatment as quickly as possible.
Ond, wrth gwrs, un o’r pethau sy’n effeithio pobl, weithiau, gyda strôc yw ei fod yn effeithio ar eu meddwl ac yn effeithio ar y ffordd y maen nhw’n ystyried bywyd—mae ysbryd rhywun yn gallu cwympo. Felly mae’n bwysig dros ben eu bod nhw’n cael yr help seicolegol a chymdeithasol yna er mwyn eu helpu nhw ar y daith i ddod yn well unwaith eto. Felly, gweithio gyda’r teuluoedd, gweithio gyda’r trydydd sector—rwyf wedi sôn am hynny yn barod—er mwyn sicrhau bod yna system gynhwysfawr o’u cwmpas nhw i’w helpu nhw i ddod yn well. But, of course, one of the things that affects people following stroke is that it affects the way that they look at their own lives—somebody’s sprits can be affected. It’s very important that having that psychological and social help will help them on that pathway to recover. So, working with families, working with the third sector—I’ve talked about that already—to ensure that there is a comprehensive, holistic system around the person, to allow them to get better.
Mae triniaeth feddygol yn bwysig, ond wrth gwrs dyna’r cam cyntaf. Mae’n bwysig wedyn ein bod ni’n gweithio gyda’r trydydd sector a hefyd gyda theuluoedd er mwyn sicrhau bod y gwellhad yn gallu parhau yn y pen draw. The medical treatment is important, but that’s the first step. What’s important is that we work with the third sector and with families to ensure that that improvement continues.
Ffermydd Solar Solar Farms
14:14 - Nick Ramsay
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael i gymunedau yr effeithir arnynt gan ddatblygu ffermydd solar? OAQ(4)2705(FM) 8. Will the First Minister provide an update on the support available to communities affected by the development of solar farms? OAQ(4)2705(FM)
14:14 - Carwyn Jones
These are matters, of course, for the local planning authority, but of course we would encourage any developer to consider best practice around community involvement, around supply chain opportunities and benefit arrangements, so that communities can benefit most. Materion i'r awdurdod cynllunio lleol yw’r rhain, wrth gwrs, ond wrth gwrs byddem yn annog unrhyw ddatblygwr i ystyried arfer gorau o ran cyfranogiad cymunedol, o ran cyfleoedd cadwyn gyflenwi a threfniadau buddion, fel y gall cymunedau elwa fwyaf.
14:14 - Nick Ramsay
Thank you, First Minister. Construction work on a 38,000-panel solar farm has started just outside the village of Llanvapley in my constituency. The developer, Conergy, has had minimal discussions with the community to date to discuss community benefits, and have proven extremely difficult to contact and communicate with. What support is the Welsh Government able to offer communities across Wales during the negotiation period for community benefits, to ensure that they are not short changed and receive the full entitlement of benefit they are owed under the register of community and economic benefits? Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae gwaith adeiladu ar fferm solar 38,000 panel wedi dechrau ar gyrion pentref Llanfable yn fy etholaeth i. Prin yw’r trafodaethau y mae'r datblygwr, Conergy, wedi eu cael gyda'r gymuned hyd yn hyn i drafod buddion cymunedol, ac mae wedi bod yn anodd iawn cysylltu a chyfathrebu â nhw. Pa gymorth all Llywodraeth Cymru ei gynnig i gymunedau ledled Cymru yn ystod y cyfnod trafod ar gyfer buddion cymunedol, er mwyn sicrhau eu bod yn cael popeth sy’n ddyledus iddynt ac yn derbyn yr hawl llawn o fuddion sy'n ddyledus iddynt o dan y gofrestr o fuddiannau cymunedol ac economaidd?
14:15 - Carwyn Jones
It would be much easier for us as a Government to be able to facilitate this if the community infrastructure levy was devolved. It’s not. The difficulty, as the Member will be aware, is that section 106 is the current procedure for ensuring community benefits, but it bumps up against the CILT. As a result of that, it puts limits on what we can do to encourage community benefit. My view is, and the Government’s view is, that CILT is a planning levy and should be devolved. That’s not the view of the UK Government. It’s unfortunate, because it means we can’t have a comprehensive approach to developing a policy on community benefits through section 106 and through a CILT replacement, which we would like. Byddai'n llawer haws i ni fel Llywodraeth allu hwyluso hyn pe byddai’r ardoll seilwaith cymunedol wedi ei datganoli. Nid yw hynny wedi digwydd. Yr anhawster, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, yw mai adran 106 yw’r weithdrefn bresennol ar gyfer sicrhau buddion cymunedol, ond mae'n gwrthdaro â’r CILT. O ganlyniad i hynny, mae'n cyfyngu ar yr hyn y gallwn ei wneud i annog buddion cymunedol. Fy marn i, a barn y Llywodraeth, yw bod CILT yn ardoll cynllunio ac y dylid ei ddatganoli. Nid dyna farn Llywodraeth y DU. Mae'n anffodus, gan ei bod yn golygu na allwn ni gael dull cynhwysfawr o ddatblygu polisi ar fuddion cymunedol drwy adran 106 a thrwy ddull yn hytrach na CILT, y byddem yn dymuno ei gael.
14:15 - William Powell
First Minister, last summer saw the opening of the first Welsh local authority owned and run solar farm in Wrexham. Much of the groundwork was done under the leadership of my friend and colleague Aled Roberts. The farm has nearly 9,000 solar panels—over 43 acres—and has the effect of reducing Wrexham’s carbon footprint by 1,300 tonnes of carbon dioxide per year. As with the not-for-profit Robin Hood energy company, which has been rolled out in Nottinghamshire, I would argue that both facilities show the opportunity that renewable energy offers communities and local authorities, working in partnership. First Minister, do you agree with me that we should work towards a greater roll-out of such partnerships between local communities and principal local authorities? What can the Welsh Government do, concretely, to facility this? Brif Weinidog, agorwyd y fferm solar gyntaf a redir ac sy’n eiddo i awdurdod lleol yng Nghymru yn Wrecsam. Gwnaed llawer o'r gwaith sylfaen o dan arweiniad fy ffrind a’m cydweithiwr Aled Roberts. Ceir bron i 9,000 o baneli solar ar y fferm—dros 43 erw—ac mae’n cael yr effaith o leihau ôl-troed carbon Wrecsam o 1,300 tunnell o garbon deuocsid y flwyddyn. Yn yr un modd â chwmni ynni dielw Robin Hood, sydd wedi ei gyflwyno yn Swydd Nottingham, byddwn yn dadlau bod y ddau gyfleuster yn dangos y cyfle y mae ynni adnewyddadwy yn ei gynnig i gymunedau ac awdurdodau lleol, yn gweithio mewn partneriaeth. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â mi y dylem ni weithio tuag at gyflwyno mwy o bartneriaethau o'r fath rhwng cymunedau lleol a phrif awdurdodau lleol? Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud, mewn modd pendant, i hwyluso hyn?
14:16 - Carwyn Jones
Yes, I do. The Member makes it sound as if his colleague Aled Roberts was physically digging the holes for the new facility. [Laughter.] That would be something that would go beyond the normal duties of an Assembly Member, and would be something I’d commend to other Members if that was to be the case. Ydw, mi ydwyf. Mae’r Aelod yn gwneud iddi swnio fel pe byddai ei gydweithiwr Aled Roberts yn cloddio tyllau’n gorfforol ar gyfer y cyfleuster newydd. [Chwerthin.] Byddai hynny'n rhywbeth a fyddai'n mynd y tu hwnt i ddyletswyddau arferol Aelod Cynulliad, ac yn rhywbeth y byddwn yn ei gymeradwyo i Aelodau eraill pe byddai hynny’n wir.
But, the Member’s right. We have Ynni’r Fro, which is important in terms of helping community energy schemes, because we know that they have great potential, not just to contribute to renewable energy, not just to contribute to a reduction in our carbon footprint, but to put money into local economies as well. So, through schemes such as Ynni’r Fro, and if we were to get the CILT devolved as well, we would then have a full range of options to promote those kinds of schemes further. Ond, mae’r Aelod yn iawn. Mae gennym ni Ynni'r Fro, sy'n bwysig o ran helpu cynlluniau ynni cymunedol, gan ein bod yn gwybod bod ganddynt botensial mawr, nid yn unig i gyfrannu at ynni adnewyddadwy, nid yn unig i gyfrannu at leihau ein hôl troed carbon, ond i roi arian mewn economïau lleol hefyd. Felly, trwy gynlluniau fel Ynni'r Fro, a phe byddai’r CILT yn cael ei ddatganoli hefyd, byddai gennym ystod lawn o ddewisiadau wedyn i hyrwyddo’r mathau hynny o gynlluniau ymhellach.
14:17 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Thank you, First Minister. Diolch yn fawr, Brif Weinidog.
Cwestiwn Brys: Y Bil Undebau Llafur Urgent Question: The Trade Union Bill
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg. [R] signifies the Member has declared an interest. [W] signifies that the question was tabled in Welsh.
14:17 - Y Llywydd / The Presiding Officer
I have agreed an urgent question under Standing Order 12.66. I call on Mick Antoniw to ask the question. Rwyf wedi cytuno i dderbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66. Galwaf ar Mick Antoniw i ofyn y cwestiwn.
14:17 - Mick Antoniw
Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU am y Bil Undebau Llafur, yn sgil y llythyr gan Weinidog Gwladol y DU dros sgiliau ynghylch symud y Bil ymlaen yng Nghymru? EAQ(4)2717(FM)[R] What discussions has the First Minister had with the UK Government regarding the Trade Union Bill, in light of the letter from the UK Minister of State for Skills on progressing the Bill in Wales? EAQ(4)2717(FM)[R]
14:17 - Carwyn Jones
This is a Bill that is a direct political attack on trade unions and those who are represented in the workplace by them. It will come as no surprise to Members that we are opposed to the Trade Union Bill. When it comes to the devolved areas, we have made it clear to the UK Government that we take the view that, in devolved public services, matters to do with trade union membership are a matter for this Government and not the UK Government. Mae hwn yn Fil sy’n ymosodiad gwleidyddol uniongyrchol ar undebau llafur a'r rhai a gynrychiolir ganddynt yn y gweithle. Ni fydd yn syndod i’r Aelodau ein bod yn gwrthwynebu'r Bil Undebau Llafur. Pan ddaw i'r meysydd datganoledig, rydym ni wedi ei gwneud yn eglur i Lywodraeth y DU ein bod ni o’r farn, mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, bod materion sy'n ymwneud ag aelodaeth o undeb llafur yn fater i'r Llywodraeth hon ac nid Llywodraeth y DU.
14:18 - Mick Antoniw
Thank you, First Minister. The letter raises very serious, important, constitutional issues that I believe you need to give serious consideration to. If I might read the relevant piece of the letter that has been disclosed, it says: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae'r llythyr yn codi materion cyfansoddiadol difrifol a phwysig iawn yr wyf yn credu y mae angen i chi roi ystyriaeth ddifrifol iddynt. Hoffwn ddarllen y darn perthnasol o'r llythyr a ddatgelwyd, mae'n dweud:
‘We have sought legal advice from First Treasury Counsel who has confirmed that we have a strong case that these provisions are reserved in relation to Scotland, but a very weak case in relation to Wales.’ Rydym ni wedi ceisio cyngor cyfreithiol gan Brif Gwnsler y Trysorlys sydd wedi cadarnhau bod gennym achos cryf bod y darpariaethau hyn wedi’u cadw o ran yr Alban, ond achos gwan iawn o ran Cymru.
They are confirming the Welsh advice, the legal advice from the Wales TUC and just about every other body, and totally contradict the position adopted even by the leader of the Welsh Conservatives. My concern, First Minister, is this: for any Government Minister to proceed with this legislation in Westminster—on the basis that they seek to apply it to Wales in the knowledge of that legal advice and opinion—would be an abuse of ministerial office. It would be a matter, if disclosed, that would be a resignation issue for any Minister to raise. And, it is also a devastating blow to the protocols agreed between the Welsh Government and the UK Government in respect of the devolution settlement. It blows it out of the water. Can I ask, First Minister, because of the seriousness of these issues, that you will raise this matter directly with the Prime Minister, because the danger is that the constitutional settlement between us is not only off the road, it is at serious risk of meltdown and has serious consequences for the future relationship of Wales and the United Kingdom? Maen nhw’n cadarnhau’r cyngor ar Gymru, y cyngor cyfreithiol gan TUC Cymru a bron pob corff arall, ac yn mynd yn hollol groes i'r safbwynt a fabwysiadwyd gan arweinydd Ceidwadwyr Cymru hyd yn oed. Fy mhryder, Brif Weinidog, yw hyn: byddai i unrhyw Weinidog Llywodraeth fwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth hon yn San Steffan—ar y sail y maen nhw’n ceisio ei chymhwyso i Gymru gan wybod y cyngor hwnnw a’r farn gyfreithiol honno—yn gamddefnydd o swyddogaeth weinidogol. Byddai'n fater, o'i ddatgelu, a fyddai'n fater ymddiswyddo i unrhyw Weinidog ei godi. Ac, mae hefyd yn ergyd drom i'r protocolau y cytunwyd arnynt rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran y setliad datganoli. Mae'n eu chwalu’n llwyr. A gaf i ofyn, Brif Weinidog, oherwydd difrifoldeb y materion hyn, i chi godi'r mater hwn yn uniongyrchol gyda Phrif Weinidog y DU, oherwydd y perygl yw nid yn unig bod y setliad cyfansoddiadol rhyngom ar y trywydd anghywir, mae mewn perygl difrifol o chwalu gyda goblygiadau difrifol i'r berthynas rhwng Cymru a'r Deyrnas Unedig yn y dyfodol?
14:19 - Carwyn Jones
I’d agree with much of what the Member has said. What is absolutely clear, and it’s worth quoting this again that, when it comes to the Trade Union Bill, the UK Government sought advice from the First Treasury Counsel, who has, and I quote, confirmed that the UK Government Byddwn i'n cytuno â llawer o'r hyn y mae’r Aelod wedi ei ddweud. Yr hyn sy'n gwbl eglur, ac mae'n werth dyfynnu hyn eto, pan ddaw i’r Bil Undebau Llafur, ceisiodd Llywodraeth y DU gyngor gan Brif Gwnsler y Trysorlys, sydd wedi, ac rwy'n dyfynnu, cadarnhau bod gan Lywodraeth y DU
‘have a strong case that these provisions are reserved in relation to Scotland, but a very weak case in relation to Wales.’ achos cryf bod y darpariaethau hyn wedi’u cadw o ran yr Alban, ond achos gwan iawn o ran Cymru.
That undermines the position they’ve taken constantly. I had a letter on 2 October from the Prime Minister. It does pre-date this leaked letter, but that letter says, ‘In regard to devolved responsibilities, as the Minister of State for Skills set out in his correspondence to you on 15 July, the Bill relates to employment rights, duties and industrial relations, all of which are clearly reserved matters.’ There are two questions here: had the Prime Minister seen this advice before he sent this letter, in which case, the letter is misleading; or, had he not seen the advice, in which case, why was he reckless enough to put forward a position that is clearly shaky? I think the people of Wales deserve answers in that regard. But, ultimately, of course, we should remember that this is a piece of legislation that directly affects the position of working people in Wales. It is a direct political attack on the trade unions and it’s quite clear, once again, that what we see in Whitehall is Cameron’s chaos. Mae hynny'n tanseilio’r safbwynt y maen nhw wedi ei ddatgan yn gyson. Cefais lythyr ar 2 Hydref gan Brif Weinidog y DU. Roedd hynny cyn y llythyr hwn a ddatgelwyd, ond mae’r llythyr hwnnw’n dweud, 'O ran cyfrifoldebau datganoledig, fel y nododd y Gweinidog Gwladol dros Sgiliau a nodir yn ei ohebiaeth i chi ar 15 Gorffennaf, mae'r Bil yn ymwneud â hawliau cyflogaeth, dyletswyddau a chysylltiadau diwydiannol, y mae pob un ohonynt yn amlwg yn faterion a gadwyd. Ceir dau gwestiwn yma: a oedd y Prif Weinidog wedi gweld y cyngor hwn cyn iddo anfon y llythyr hwn, ac os felly, mae’r llythyr yn gamarweiniol; neu, nad oedd wedi gweld y cyngor, ac os felly, pam oedd ef yn ddigon di-hid i gyflwyno safbwynt sy'n amlwg yn sigledig? Rwy'n meddwl bod pobl Cymru yn haeddu atebion yn hynny o beth. Ond, yn y pen draw, wrth gwrs, dylem ni gofio bod hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth sy'n effeithio'n uniongyrchol ar sefyllfa pobl sy'n gweithio yng Nghymru. Mae'n ymosodiad gwleidyddol uniongyrchol ar yr undebau llafur ac mae'n gwbl eglur, unwaith eto, mai’r hyn a welwn yn Whitehall yw anhrefn Cameron.
14:21 - Andrew R.T. Davies
Obviously, the new strapline from the Labour front bench is ‘Cameron’s chaos’, because we’ve heard that in First Minister’s questions. [Interruption.] Yn amlwg, yr is-bennawd newydd o fainc flaen Llafur yw 'anhrefn Cameron', gan ein bod ni wedi clywed hynny yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog. [Torri ar draws.]
14:21 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Order. Order. Trefn. Trefn.
14:21 - Andrew R.T. Davies
You can quickly turn that into ‘Carwyn’s chaos’. When we look week in, week out, we can see that straight away. Gallwch droi hynny’n 'anhrefn Carwyn' yn ddigon cyflym. Pan edrychwn ni wythnos ar ôl wythnos, gallwn weld hynny’n syth.
14:21 - Carwyn Jones
Too late. Rhy hwyr.
14:21 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Can we stick to the urgent question? A allwn ni gadw at y cwestiwn brys?
14:21 - Andrew R.T. Davies
The issue for the First Minister is that there is a difference of opinion here. There was a manifesto commitment—a clear manifesto commitment—on behalf of the Conservatives, which was voted on, and the Government in Westminster is a majority Conservative Government. There are strongly held views within this Chamber and within the Government, and I think those views need to be respected and understood, and the dialogue needs to be had. How is the First Minister going to take forward those views and those discussions with the Westminster Government, who do have a manifesto commitment to legislate in this area, and clearly mapped out how they would effect that legislation when they brought it forward? It’s not the case that there was one line in the manifesto; it clearly mapped out how the Government, if elected, would legislate in this area. So, what we need to do is make sure that we can get that communication working at both ends of the M4 to get a clear understanding of how this can progress. Y broblem i'r Prif Weinidog yw bod anghytuno yma. Roedd ymrwymiad maniffesto—ymrwymiad maniffesto eglur—ar ran y Ceidwadwyr, y pleidleisiwyd arno, ac mae'r Llywodraeth yn San Steffan yn Llywodraeth Geidwadol â mwyafrif. Ceir safbwynt cryf yn y Siambr hon ac yn y Llywodraeth, ac rwy’n meddwl bod angen parchu a deall y safbwyntiau hynny, ac mae angen cynnal y ddeialog. Sut mae'r Prif Weinidog yn mynd i fwrw ymlaen â’r safbwyntiau hynny a’r trafodaethau hynny gyda Llywodraeth San Steffan, sydd ag ymrwymiad maniffesto i ddeddfu yn y maes hwn, ac wedi mapio'n eglur sut y byddent yn effeithio ar y ddeddfwriaeth honno wrth ei chyflwyno? Nid yw’n wir mai dim ond un llinell oedd yn y maniffesto; roedd yn mapio'n eglur sut y byddai’r Llywodraeth, pe byddai’n cael ei hethol, yn deddfu yn y maes hwn. Felly, yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod yn gallu cael y cyfathrebiad yna i weithio ar ddau ben yr M4 i gael dealltwriaeth eglur o sut y gall hyn symud ymlaen.
14:22 - Carwyn Jones
There is communication, and the line of the UK Government is, ‘We’re going to ignore everything and move ahead anyway.’ That’s their idea of dialogue. If you want an example of negotiation with the UK Government, it’s, ‘This is what we’re doing, tough luck.’ That’s what negotiation means to the UK Government. Look, the reality is that the UK Government was not elected on the basis that it would change terms and conditions in devolved public services. If you can show me that in your manifesto, I’d be interested to see it. And that was put in the manifesto despite the fact that it was known that the Agricultural Sector (Wales) Act 2014 had extended the powers of this Assembly. If it’s bad drafting by your party, you have to explain that. Your party did not win the support of the people of Wales in May, in Wales. It’s true to say that you have the support across the UK, but the reality is that you do not have support to change terms and conditions in devolved public services in Wales. People have not supported that, we will not support that, the advice given to your own party doesn’t support that, and yet your Ministers keep on peddling this myth that, somehow, they are on good ground when they claim that this isn’t devolved. The legal advice, through this leaked letter, makes it crystal clear that the advice given to the UK Government is that they have a very weak case in suggesting that this is not devolved, and we will continue to do all that we can to make sure that this Bill is defeated and that the clauses that refer to devolved public services are removed in time by this institution, elected by the people of Wales. But, isn’t it incredible that we have—I think there’s a word for it—chutzpah that is displayed by the UK Government, where they claim that this is a clearly reserved matter, when the legal advice they themselves have received is exactly the opposite? What more have they been hiding from us? Mae cyfathrebu yn digwydd, a safbwynt Llywodraeth y DU yw, 'Rydym ni’n mynd i anwybyddu popeth a bwrw ymlaen beth bynnag.' Dyna eu syniad nhw o ddeialog. Os ydych chi eisiau enghraifft o drafod gyda Llywodraeth y DU, dyma hi, 'Dyma beth rydym ni’n ei wneud, dyna’i diwedd hi.' Dyna’r hyn y mae trafod yn ei olygu i Lywodraeth y DU. Edrychwch, y gwir amdani yw na etholwyd Llywodraeth y DU ar y sail y byddai'n newid telerau ac amodau mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig. Os gallwch chi ddangos hynny i mi yn eich maniffesto, byddai gen i ddiddordeb mewn ei weld. A rhoddwyd hynny yn y maniffesto er gwaethaf y ffaith ei bod yn hysbys bod Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 wedi ymestyn pwerau'r Cynulliad hwn. Os mai drafftio gwael gan eich plaid yw hyn, mae'n rhaid i chi esbonio hynny. Ni enillodd eich plaid gefnogaeth pobl Cymru ym mis Mai, yng Nghymru. Mae'n wir i ddweud bod y gefnogaeth gennych chi ar draws y DU, ond y gwir amdani yw nad oes gennych chi gefnogaeth i newid telerau ac amodau mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Nid yw pobl wedi cefnogi hynny, ni fyddwn ni’n cefnogi hynny, nid yw’r cyngor a roddwyd i’ch plaid eich hun yn cefnogi hynny, ac eto mae eich Gweinidogion yn parhau i wthio’r myth yma, rywsut, eu bod ar dir cadarn pan eu bod yn honni nad yw hyn wedi’i ddatganoli. Mae'r cyngor cyfreithiol, drwy'r llythyr hwn a ddatgelwyd, yn ei gwneud hi'n hollol eglur mai’r cyngor a roddwyd i Lywodraeth y DU yw bod ganddi achos gwan iawn wrth awgrymu nad yw hyn wedi ei ddatganoli, a byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i wneud yn siŵr bod y Bil hwn yn cael ei drechu, a bod y cymalau sy'n cyfeirio at wasanaethau cyhoeddus datganoledig yn cael eu dileu mewn amser gan y sefydliad hwn, a etholir gan bobl Cymru. Ond, onid yw hi'n anhygoel bod gennym ni—rwy’n credu bod gair ar ei gyfer—chutzpah sy'n cael ei arddangos gan Lywodraeth y DU, lle mae’n honni bod hwn yn amlwg yn fater wedi’i gadw, pan fo’r cyngor cyfreithiol y maen nhw eu hunain wedi ei dderbyn i’r gwrthwyneb yn llwyr? Beth arall maen nhw wedi bod yn ei guddio oddi wrthym ni?
14:24 - Bethan Jenkins
I look forward to all the Conservative Party Members rushing to buy their first copy of the ‘Socialist Worker’, where this letter was leaked to. [Laughter.] But, on a serious level, obviously, following on from what Mick Antoniw has said, this being implemented in Wales would rely on Wales not adopting a reserved-powers model. However, the UK Government admits it cannot politically offer something to Wales that it doesn’t offer to Scotland. What is your assessment of the concession being talked about in the leaked letter, and how do you intend to take reserved powers forward in light of this letter and in light of the Supreme Court judgment? Rwy'n edrych ymlaen at holl Aelodau’r Blaid Geidwadol yn rhuthro i brynu eu copi cyntaf o 'Socialist Worker', y datgelwyd y llythyr hwn iddo. [Chwerthin.] Ond, ar lefel difrifol, yn amlwg, yn dilyn ymlaen o'r hyn y mae Mick Antoniw wedi ei ddweud, byddai rhoi hyn ar waith yng Nghymru yn dibynnu ar Gymru ddim yn mabwysiadu model pwerau wedi’u cadw. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU yn cyfaddef na all gynnig rhywbeth i Gymru yn wleidyddol nad yw'n ei gynnig i'r Alban. Beth yw eich asesiad o’r consesiwn sy’n cael ei drafod yn y llythyr a ddatgelwyd, a sut ydych chi’n bwriadu bwrw ymlaen â phwerau wedi’u cadw yng ngoleuni'r llythyr hwn ac yng ngoleuni'r dyfarniad gan y Goruchaf Lys?
14:25 - Carwyn Jones
Well, it’s right to say that the current Wales Bill would remove the ability of this Assembly to legislate on the Trade Union Bill. That’s why, of course, in that respect and in many, many other respects it rolls back devolution; that’s something, of course, that all parties, in fairness, in this Chamber have been reluctant to accept. It is concerning that they can only see Wales through the prism of Scotland—that, somehow, you can’t give something to Wales unless it’s also on offer to Scotland; it doesn’t play the other way round. It does show you how anti-Wales this UK Government is. They can’t actually do something for Wales without looking through the prism of Scotland, and this letter lays bare what their position is with regard to Wales. The devolution settlement—[Interruption.] I’m sorry? The devolution settlement in Wales happens, as a result of the Agricultural Sector (Wales) Act 2014, to be broader than the devolution settlement in Scotland in this regard, and that is one of the reasons why we have the Wales Bill as it is, because they are desperate to roll back the powers of this Assembly elected by the people of Wales. If it was only the case, just for once—just for once—that the Conservatives in this Chamber took the side of Wales rather than their colleagues, then that would be a step forward. Wel, mae'n iawn i ddweud y byddai’r Bil Cymru presennol yn cael gwared ar allu'r Cynulliad hwn i ddeddfu ar y Bil Undebau Llafur. Dyna pam, wrth gwrs, yn hynny o beth ac mewn llawer iawn o agweddau eraill, y mae’n gwrthdroi datganoli; mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, y mae pob plaid, a bod yn deg, yn y Siambr hon wedi bod yn amharod i’w dderbyn. Mae'n peri pryder eu bod nhw’n gallu gweld Cymru drwy brism yr Alban yn unig—na allwch chi, rywsut, roi rhywbeth i Gymru oni bai ei fod hefyd ar gael i'r Alban; nid yw'n gweithio y ffordd arall. Mae’n dangos i chi ba mor wrth-Gymru yw Llywodraeth y DU. Ni all wneud rhywbeth dros Gymru heb edrych drwy brism yr Alban, ac mae’r llythyr hwn yn dangos yn blaen beth yw ei safbwynt o ran Cymru. Mae’r setliad datganoli—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i? Mae'r setliad datganoli yng Nghymru yn digwydd bod, o ganlyniad i Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, yn ehangach na'r setliad datganoli yn yr Alban yn hyn o beth, a dyna un o'r rhesymau pam y mae gennym ni Fil Cymru fel y mae hi, gan eu bod yn torri eu boliau i wrthdroi pwerau'r Cynulliad hwn a etholir gan bobl Cymru. Pe byddai ond yn wir, dim ond am unwaith—dim ond am unwaith—bod y Ceidwadwyr yn y Siambr hon yn cymryd ochr Cymru yn hytrach na'u cydweithwyr, yna byddai hynny’n gam ymlaen.
14:26 - Peter Black
First Minister, I agree with most of what Mick Antoniw said as well, and I think it’s quite clear in the letter and the legal advice that the Government is talking about introducing a statutory obligation for UK Ministers to consult with Welsh Ministers in terms of certain clauses of this Bill, but it doesn’t actually say whether or not you would have a veto on those particular clauses. It’s actually on the bottom of the page headed ‘E-balloting’, if you’re looking for that particular clause. First Minister, can I ask whether it is your intention now, in the light of this legal advice, to go back to the UK Government and say to them that if they are proceeding with this Bill as it is currently drafted—and I personally don’t think it would get through the House of Lords as it currently is—that a statutory obligation to consult is not sufficient, and that there should be a statutory right for the Welsh Assembly and the Welsh Government to veto particular clauses in respect of Wales? Brif Weinidog, rwyf innau hefyd yn cytuno â'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywedodd Mick Antoniw, ac rwy’n credu ei bod yn gwbl eglur yn y llythyr a'r cyngor cyfreithiol bod y Llywodraeth yn sôn am gyflwyno rhwymedigaeth statudol i Weinidogion y DU ymgynghori â Gweinidogion Cymru o ran rhai cymalau o'r Bil hwn, ond nid yw'n dweud mewn gwirionedd pa un a fyddai gennych chi feto ar y cymalau penodol hynny. Mae ar waelod y dudalen o dan y pennawd 'E-balloting', os ydych chi’n chwilio am y cymal penodol hwnnw. Brif Weinidog, a gaf i ofyn a ydych chi’n bwriadu nawr, yng ngoleuni'r cyngor cyfreithiol hwn, mynd yn ôl at Lywodraeth y DU a dweud wrthynt, os ydynt yn bwrw ymlaen gyda'r Bil hwn fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd—ac nid wyf i’n credu’n bersonol y byddai'n mynd trwy Dŷ'r Arglwyddi fel y mae ar hyn o bryd—nad yw rhwymedigaeth statudol i ymgynghori yn ddigonol, ac y dylai fod hawl statudol i Gynulliad Cymru a Llywodraeth Cymru i gyflwyno feto ar gymalau penodol ar gyfer Cymru?
14:27 - Carwyn Jones
Look, our position as a Government is: we don’t want to see the Trade Union Bill at all, but given the fact—. You know, it’s right to say that the UK Government has a mandate to take it forward through the UK Parliament; what it does not have is a mandate to change the terms and conditions of those working in devolved public services in Wales that are within the remit of the Welsh Government. There is no mandate for that. Consultation is not enough. We take the view that devolved public services are just that—that they fall within the remit of the Welsh Government—and that the UK Government has no role in that regard. That’s what the people of Wales have voted for twice, in 1997 and in 2011. And so, once again, we know their position is weak. The Minister will be liaising with the UK Government using this letter, obviously, as supporting evidence to say, ‘Look, your own legal advice shows that you’re in a very weak position; our view is this is devolved; respect devolution in Wales.’ Edrychwch, dyma ein safbwynt ni fel Llywodraeth: nid ydym ni eisiau gweld y Bil Undebau Llafur o gwbl, ond o gofio’r ffaith—. Wyddoch chi, mae'n iawn i ddweud bod gan Lywodraeth y DU fandad i'w symud ymlaen drwy Senedd y DU; yr hyn nad oes ganddi yw mandad i newid telerau ac amodau y rhai sy'n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru sydd o fewn cylch gwaith Llywodraeth Cymru. Nid oes mandad ar gyfer hynny. Nid yw ymgynghori’n ddigon. Rydym ni o'r farn bod gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn union hynny—eu bod nhw o fewn cylch gwaith Llywodraeth Cymru—ac nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw swyddogaeth yn hynny o beth. Dyna’r hyn y mae pobl Cymru wedi pleidleisio drosto ddwywaith, ym 1997 ac yn 2011. Ac felly, unwaith eto, rydym ni’n gwybod bod eu sefyllfa yn wan. Bydd y Gweinidog yn trafod â Llywodraeth y DU gan ddefnyddio'r llythyr hwn, yn amlwg, fel tystiolaeth gefnogol i ddweud, 'Edrychwch, mae eich cyngor cyfreithiol eich hun yn dangos eich bod mewn sefyllfa wan iawn; ein barn ni yw bod hyn wedi’i ddatganoli; parchwch ddatganoli yng Nghymru.'
14:28 - Yr Arglwydd / Lord Elis-Thomas
Mae’n debyg y dylwn i ddatgan diddordeb oherwydd fy mod i wedi pleidleisio yn erbyn rhannau allweddol o’r Bil yma yn ail dŷ Senedd San Steffan, a gobeithio y bydd yna gyfle i wneud hynny eto. Ond dyma beth roeddwn i am ofyn i’r Prif Weinidog, ac anghytuno gydag arweinydd yr wrthblaid: nid mater o wahaniaeth barn yw hwn; mater yw o gyfreithwyr yn Llywodraeth San Steffan ac, o bosibl, yn Senedd y Deyrnas Unedig, nad ydyn nhw’n deall datganoli, yn wahanol i’r lle hwn lle mae cyfreithwyr Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol a chyfreithwyr Llywodraeth Cymru yn un ynglŷn â’n dealltwriaeth ni o’r sefyllfa. A phan mae arweinydd yr wrthblaid yn dweud bod hwn yn addewid mewn maniffesto, pa hawl sydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i geisio gweithredu cyfraith nad yw’n gyfreithlon, gan esgus bod hwnnw mewn maniffesto? Ac felly, Brif Weinidog, rwy’n eich annog chi i beidio â thrafod gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig. Awn i etholiad yn y Cynulliad hwn. Down yn ôl â mandad i ddatblygu setliad cyfansoddiadol a fydd yn ein cadw ni mas o drafferthion fel hyn. I’m sure I should declare an interest as I voted against key sections of this Bill in the second house in the Parliament at Westminster, and I hope I’ll have an opportunity to do that again. This is what I wanted to ask the First Minister, and I wanted to disagree with the leader of the opposition: this isn’t a matter of a difference of opinion; this is a matter of lawyers within the Government in Westminster and possibly the UK Parliament who don’t understand devolution, unlike this place where the lawyers of the National Assembly Commission and the lawyers of the Welsh Government are as one in terms of our understanding of the situation. When the leader of the opposition states that this is a manifesto pledge, what right does the UK Government have to try and implement law that is not in itself within the law, with the pretence that it’s contained within a manifesto? First Minister, I would encourage you not to discuss the issue with the Prime Minister. Let’s go to an election in this place and let’s come back with a mandate to develop a constitutional settlement that will keep us out of difficulties such as this.
14:29 - Carwyn Jones
Wel, rwy’n siŵr bydd pobl Cymru yn clywed y neges ynglŷn â beth yw safbwynt y Torïaid yn Lloegr tuag at Gymru a gwneud y penderfyniad y maen nhw eisiau, er rwy’n siŵr fy mod i a fe mewn sefyllfa wahanol ynglŷn ag ym mha ffordd y dylen nhw benderfynu. Ond mae’r pwynt y mae e’n ei wneud yn bwynt difrifol ac yn bwynt teg, sef nad mater yw hwn o beth yw’ch barn chi ar y Bil ei hunan, ond beth yw’ch barn chi ar y setliad cyfansoddiadol ar ôl y Bil amaethyddol. Gallai’r mater hwn fod am unrhyw beth; nid yw’r pwnc yn bwysig. Rŷm ni’n cymryd y safbwynt fan hyn taw rhywbeth i bobl Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yw hwn, ac nid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Barn y Torïaid yma yn y Siambr yw taw nid rhywbeth i bobl Cymru yw e, ond rhywbeth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig—eu cymdogion nhw yn Llundain. Nid felly, rwy’n siŵr, yw barn y pleidiau eraill yn y Siambr hon. I’m sure that the people of Wales will hear that message in terms of the stance of the Conservatives in England, and will come to their own conclusion, although I’m sure that we’re of a different mind in terms of that conclusion. But the point that the Member makes is a serious one, and a fair one, which is that this isn’t a matter of your opinion on the Bill itself, but of your opinion on the constitutional settlement following the agricultural wages Bill. This matter could have been about anything; the subject isn’t important. We’re taking the stance here that this is something for the people of Wales and for the National Assembly for Wales to decide upon, and it’s not for decision by the UK Government. It’s the opinion of the Conservatives here that it is something not for the people of Wales to decide upon but for the UK Government to decide—their counterparts in London. I’m sure that that isn’t the opinion of the other parties in this Chamber.
2. Business Statement and Announcement 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
14:31 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We now move to the business statement and I call on the Minister for Finance and Government Business, Jane Hutt. Symudwn yn awr at y datganiad busnes a galwaf ar Jane Hutt y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth,.
14:31 - Jane Hutt
Llywydd, there have been no changes to the business statement for this week’s business. Business for the next three weeks is as shown on the business statement and announcement found among the agenda papers available to Members electronically. Lywydd, ni fu unrhyw newidiadau i'r datganiad busnes ar gyfer busnes yr wythnos hon. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, a welir ymhlith papurau'r agenda sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
14:31 - Andrew R.T. Davies
Leader of the house, could we have a statement from the education Minister about the new rules governing term-time absence? I understand the Welsh Government recently upgraded their advice to local authorities and to schools on this particular matter, but I do have a constituent, Heather Wards, who sends her children to Birchgrove Primary School, who’s found herself falling foul of the rules and is facing a £60 fine for taking her children out of school in term time. I do believe that a greater understanding of the rules and flexibility within the system would greatly enhance relations at all schools across Wales, because this has been an area that has caused deep concerns amongst teachers and parents, and, in particular, the ability of parents to allow their children to have family experiences during term time that I think are an important part of the family environment. So, if we could have a statement alluding to what the new updated guidance is that the Welsh Government have given to local authorities and to schools, I think that would greatly enhance parents’ and teachers’ understanding of what schools are working to. Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog addysg am y rheolau newydd sy'n llywodraethu absenoldeb yn ystod y tymor? Deallaf fod Llywodraeth Cymru wedi uwchraddio ei chyngor i awdurdodau lleol ac ysgolion yn ddiweddar ar y mater penodol hwn, ond mae gen i etholwr, Heather Wards, sy'n anfon ei phlant i Ysgol Gynradd Birchgrove, a ganfu ei hun yn torri'r rheolau ac yn wynebu dirwy o £60 am fynd â'i phlant allan o'r ysgol yn ystod y tymor. Rwyf yn credu y byddai gwell dealltwriaeth o'r rheolau a hyblygrwydd o fewn y system yn gwella perthynas yn helaeth ym mhob ysgol ledled Cymru, oherwydd mae hwn wedi bod yn faes sydd wedi achosi pryderon dwfn ymhlith athrawon a rhieni, ac, yn arbennig, gallu rhieni i ganiatáu i'w plant gael profiadau teuluol yn ystod y tymor sydd yn fy marn i yn rhan bwysig o'r amgylchedd teuluol. Felly, pe gallem gael datganiad yn cyfeirio at beth yw’r canllawiau newydd diweddaraf y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi i awdurdodau lleol ac ysgolion, rwyf yn credu y byddai hynny’n gwella yn fawr iawn y ddealltwriaeth sydd gan rieni ac athrawon o’r hyn y mae ysgolion yn gweithio tuag ato.
14:32 - Jane Hutt
Andrew R.T. Davies is aware, as he said, of the new guidance by the Minister for Education and Skills, and, of course, he will take every opportunity to clarify the substance of that new guidance. Mae Andrew R.T. Davies yn ymwybodol, fel y dywedodd, o’r canllawiau newydd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, ac, wrth gwrs, bydd yn achub ar bob cyfle i egluro sylwedd y canllawiau newydd hynny.
14:32 - Bethan Jenkins
A fedrwn ni gael datganiad gan y Llywodraeth a’r Gweinidog addysg ynglŷn â’r grŵp gorchwyl ar gerddoriaeth a ddaeth mas yn ddiweddar? Cawsom ddatganiad trwy e-bost ond dim datganiad ar lafar gan y Gweinidog, ac mae hyn yn yr un wythnos ag y mae cyngor Abertawe wedi penderfynu i beidio â rhoi addysg gerddoriaeth, neu diwtora cerddorol, am ddim, ar y cyd â Chastell-nedd Port Talbot. Rwy’n credu, os oes cyngor newydd wedi dod o Lywodraeth Cymru, fod angen i gynghorau lleol edrych ar hynny, ac, os oes toriadau’n digwydd heb edrych ar y cyngor hynny, fod angen i ni gael datganiad llafar gan y Gweinidog yma yn y Senedd. Could we have a statement from the Government and the education Minister on the task and finish on music that was announced recently? We received a statement via e-mail but no oral statement from the Minister, and this is in the same week that Swansea council has decided not to provide music education, or music tutoring, free of charge, along with Neath Port Talbot. I do think that, if new advice has been issued from the Welsh Government, councils need to look at that, and, if cuts are made without consideration given to that advice, then we need an oral statement from the Minister here in the Senedd.
14:33 - Jane Hutt
Well, these are matters for local authorities and local education authorities, and, of course, the Minister will, again, make clear any advice that he has delivered in terms of music education in schools. Wel, materion i awdurdodau lleol ac awdurdodau addysg lleol yw'r rhain, ac, wrth gwrs, bydd y Gweinidog , unwaith eto, yn gwneud yn glir unrhyw gyngor y mae wedi’i roi o ran addysg gerddoriaeth mewn ysgolion.
14:33 - Kirsty Williams
Minister, I wonder if you could arrange for a written statement to be made by the responsible Minister with regard to guidance to local authorities around road closures for specific events. There seems to be a myriad of policies employed by local authorities across Wales, with most of them making sure that if an event is a charitable event, no costs are associated with road closures. That would be very helpful to the Bracken Trust in my constituency—a place that I know you know well—who hold fundraising events around the lake in Llandrindod Wells, and who have been told that they will now have to pay £660 for a road closure licence. Is it not the case, Minister, that under the terms of the Town Police Clauses Act 1847, councils don’t have to pay expensive advertising for road closure; they can use the provisions of that legislation, even after all those years, to close roads for such events without incurring a charge to the charitable organisation? Weinidog, tybed a allech chi drefnu i gael datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog cyfrifol o ran y canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch cau ffyrdd ar gyfer digwyddiadau penodol. Mae'n ymddangos bod polisïau dirifedi a ddefnyddir gan awdurdodau lleol ledled Cymru, a'r rhan fwyaf ohonynt yn gwneud yn siŵr na fydd unrhyw gostau yn gysylltiedig â chau ffyrdd pan fo digwyddiad yn ddigwyddiad elusennol. Byddai hynny'n ddefnyddiol iawn i Ymddiriedolaeth Bracken yn fy etholaeth i— sy'n lle y gwn eich bod yn ei adnabod yn dda—sy'n cynnal digwyddiadau codi arian o amgylch y llyn yn Llandrindod, ac sydd wedi cael gwybod y bydd yn rhaid iddi bellach dalu £660 am drwydded i gau’r ffordd. Onid yw'n wir, Weinidog, o dan delerau'r Ddeddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847, nad yw cynghorau yn gorfod talu am hysbysebu drud ar gyfer cau ffyrdd; gallant ddefnyddio darpariaethau'r ddeddfwriaeth honno, hyd yn oed ar ôl yr holl flynyddoedd hynny, i gau ffyrdd ar gyfer digwyddiadau o'r fath heb fod unrhyw gost ar y sefydliad elusennol?
14:34 - Jane Hutt
Of course, as Kirsty Williams is well aware, road closures, as she says, are very challenging for these one-off events and, indeed, for some of the major events that we support and fund in Wales, as well as those local events, which, of course, can be charitable events. This is something, in terms of local authority and, indeed, Welsh Government in terms of trunk roads, where I’m sure the Minister will want to clarify powers and responsibilities accordingly. Wrth gwrs, fel y mae Kirsty Williams yn ymwybodol iawn, mae cau ffyrdd, fel y mae'n dweud, yn heriol iawn ar gyfer y digwyddiadau untro hyn ac, yn wir, i rai o'r prif ddigwyddiadau yr ydym yn eu cefnogi a’u hariannu yng Nghymru, yn ogystal â’r digwyddiadau lleol hynny , a allai, wrth gwrs, fod yn ddigwyddiadau elusennol. Mae hyn yn rhywbeth, o ran awdurdodau lleol ac, yn wir, Llywodraeth Cymru o ran cefnffyrdd, yr wyf yn siŵr y bydd y Gweinidog yn awyddus i egluro pwerau a chyfrifoldebau ynglŷn ag ef.
14:35 - William Graham
Business Minister, I wonder whether I might ask you to ask your colleague Lesley Griffiths for a statement regarding the reduction in support for the Wales Council for Voluntary Action, in terms of their grant. At the moment, all those organisations affiliated with them are able to obtain a Disclosure and Barring Service check service free of charge. In future, these will have to be paid for by those individual organisations. I’m sure the Minister will join with me in praising those organisations that do so much with children, young people, and vulnerable adults, but where the DBS check is absolutely vital. Weinidog Busnes, tybed a gaf i ofyn i chi a wnewch chi ofyn i'ch cydweithiwr Lesley Griffiths am ddatganiad ynghylch y gostyngiad yn y gefnogaeth i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, o ran ei grant. Ar hyn o bryd, mae’r holl sefydliadau hynny sy'n gysylltiedig â hwy, yn gallu cael gwasanaeth archwiliad Datgelu a Gwahardd yn rhad ac am ddim. Yn y dyfodol, bydd y sefydliadau unigol hynny yn gorfod talu amdanynt. Rwyf yn siŵr y bydd y Gweinidog yn ymuno â mi i ganmol y sefydliadau hynny sy'n gwneud cymaint gyda phlant, pobl ifanc, ac oedolion sy'n agored i niwed, ond lle y mae archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn gwbl hanfodol.
14:35 - Jane Hutt
Yes, DBS checks are vital, and the WCVA has played a long and important role in terms of the third sector. I’m aware that the Minister is considering these issues. Ie, mae archwiliadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn hanfodol, ac mae'r CGGC wedi chwarae rhan hir a phwysig o ran y trydydd sector. Gwn fod y Gweinidog yn ystyried y materion hyn.
14:36 - Eluned Parrott
Minister, I wonder whether, further to Aled Roberts’s question on the subject of accessibility of educational psychologists’ reports, I could request a slightly broader statement from the Minister for education. I’ve been told that schools in the Vale of Glamorgan operate a quota system for educational psychologists’ reports, and one school reported to me that, with 450 pupils, they have two such slots per year. That means that there are children with suspected autistic spectrum disorders not being assessed in any given year. I find this very concerning, and I wondered whether I could request a statement on how the numbers of places per school are decided and how the Welsh Government ensures that the provision is adequate in all schools and all communities. And, also, there are some concerns among parents who have chosen to pay for private educational psychologists’ reports that the local authority will then not put in place appropriate measures to ensure that that child is able to embed themselves properly in the learning place, and I wonder whether you could provide a statement in that regard. Weinidog, rwyf yn meddwl tybed, i ychwanegu at gwestiwn Aled Roberts ar y pwnc o hygyrchedd adroddiadau seicolegwyr addysg, a gaf i ofyn am ddatganiad ychydig yn ehangach gan y Gweinidog addysg. Dywedwyd wrthyf fod ysgolion ym Mro Morgannwg yn gweithredu system gwota ar gyfer adroddiadau seicolegwyr addysgol, ac adroddodd un ysgol imi, sydd â 450 o ddisgyblion, bod ganddi ddau gyfle o'r fath bob blwyddyn. Mae hynny'n golygu bod plant yr amheuir bod ganddynt anhwylder ar y sbectrwm awtistig na fyddant yn cael eu hasesu mewn unrhyw flwyddyn benodol. Mae hyn yn achosi pryder mawr iawn i mi, ac rwy’n meddwl tybed a gaf i ofyn am ddatganiad am sut y penderfynir ar nifer y lleoedd fesul ysgol a sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn ddigonol ym mhob ysgol a phob cymuned. A, hefyd, ceir rhai pryderon ymhlith rhieni sydd wedi dewis talu am adroddiadau seicolegwyr addysg preifat na fydd yr awdurdod lleol wedyn yn rhoi mesurau priodol ar waith i sicrhau bod y plentyn yn gallu sefydlu ei hun yn iawn yn y man dysgu, ac rwy’n meddwl tybed a allech chi ddarparu datganiad ar hynny.
14:37 - Jane Hutt
The Minister, I’m sure, will want to clarify that point. I think it is worth just looking at the Education Act 1996, which places a duty on local authorities to provide suitable education for all pupils, including those who have special educational needs. And, indeed, until legislation changes, all local authorities must adhere to existing statutory responsibilities regarding SEN, and, of course, that also includes access to educational psychologists, which is crucial in terms of assessing needs. But, clearly, this is a point that will be considered. Mae’r Gweinidog, rwyf yn siŵr, yn awyddus i egluro'r pwynt yna. Credaf ei fod yn werth edrych ar Ddeddf Addysg 1996, sy'n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu addysg addas i bob disgybl, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion addysgol arbennig. Ac, yn wir, hyd y bydd y ddeddfwriaeth yn newid, mae pob awdurdod lleol yn gorfod cadw at gyfrifoldebau statudol presennol mewn cyswllt ag AAA, ac, wrth gwrs, mae hyn hefyd yn cynnwys cael gweld seicolegwyr addysg, sy'n hanfodol o ran asesu anghenion. Ond, yn amlwg, mae hwn yn bwynt a fydd yn cael ei ystyried.
14:38 - Darren Millar
Can I ask, Minister, for a statement from the Minister for Education and Skills? I’m a bit concerned about news from my constituency in relation to restrictions now on work placements in Conwy county. Apparently, this is a result of cuts to the Careers Wales budget, which have resulted in the removal of their health and safety checks and vetting on work experience placements. Now, clearly, work experience is a very valuable resource for our young people as it gives them a taste of life outside of school. Can we have a statement on this as soon as possible in order that we can get this system moving again, so that our young people can get the work experience they deserve? A gaf i ofyn, Weinidog, am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau? Rwyf braidd yn bryderus am newyddion o fy etholaeth yn ymwneud â chyfyngiadau pellach ar leoliadau gwaith yn Sir Conwy. Yn ôl pob sôn, mae hyn o ganlyniad i doriadau yng nghyllideb Gyrfa Cymru, sydd wedi arwain at gael gwared ar ei gwiriadau iechyd a diogelwch ac archwilio cefndir ar leoliadau profiad gwaith. Nawr, yn amlwg, mae profiad gwaith yn adnodd gwerthfawr iawn ar gyfer ein pobl ifanc gan ei fod yn rhoi blas o fywyd y tu allan i'r ysgol iddynt. A allwn ni gael datganiad ar hyn cyn gynted ag y bo modd er mwyn i ni gael y system hon i symud eto, fel y gall ein pobl ifanc gael y profiad gwaith y maent yn ei haeddu?
14:38 - Jane Hutt
Well, clearly, this is information that you’ve gleaned presumably from constituents. But it does relate to policies and decisions, I understand, from Conwy council. I think it’s important to start with that authority, in terms of any changes, before we see this as a matter that could affect others across Wales. Because, of course, as you say, work placements are very important. Wel, yn amlwg, mae hyn yn wybodaeth a gawsoch yn ôl pob tebyg gan etholwyr. Ond mae'n ymwneud â pholisïau a phenderfyniadau, yn ôl yr hyn a ddeallaf, gan Gyngor Conwy. Credaf ei fod yn bwysig i ddechrau gyda'r awdurdod hwnnw, o ran unrhyw newidiadau, cyn i ni ystyried hwn fel mater a allai effeithio ar eraill ledled Cymru. Oherwydd, wrth gwrs, fel y dywedwch, mae lleoliadau gwaith yn bwysig iawn.
14:39 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Thank you, Minister. We now move to items 3 and 4, and that’s the Welsh Language (Wales) Measure 2011 (Amendment of Schedule 6) Order 2016, and the Welsh Language Standards (No. 2) Regulations 2016. In accordance with Standing Order 12.24, I propose the following two items are discussed together. Does anyone object? No objections. Diolch yn fawr, Weinidog. Symudwn yn awr at eitemau 3 a 4, sef Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) Gorchymyn 2016, a Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) 2016. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, rwyf yn cynnig bod y ddwy eitem ganlynol yn cael eu trafod gyda'i gilydd. A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? Dim gwrthwynebiad.
3. & 4. The Welsh Language (Wales) Measure 2011 (Amendment of Schedule 6) Order 2016 and the Welsh Language Standards (No. 2) Regulations 2016 3. & 4. Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016 a Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016
I call on the First Minister to move the motions—Carwyn Jones. Galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y cynigion—Carwyn Jones.
Cynnig NDM5950 Jane Hutt Motion NDM5950 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2015. Approves that the draft The Welsh Language (Wales) Measure 2011 (Amendment of Schedule 6) Order 2016 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 18 December 2015.
Cynnig NDM5949 Jane Hutt Motion NDM5949 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2015. Approves that the draft The Welsh Language Standards (No. 2) Regulations 2016 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 18 December 2015.
Cynigiwyd y cynigion. Motions moved.
14:39 - Carwyn Jones
Diolch, Lywydd. A gaf fi, felly, symud hwn? Mae’n bleser mawr i agor y ddadl hon ar Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016 ac ar y Gorchymyn i ddiwygio atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. A gaf fi droi yn gyntaf at y Gorchymyn i ddiwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg? Mae Atodlen 6 i’r Mesur yn enwi’r cyrff sy’n agored i orfod cydymffurfio â safonau. Thank you, Presiding Officer. I move the motions. It’s a great pleasure to open this debate on the Welsh Language Standards (No. 2) Regulations 2016 and the Order to amend Schedule 6 to the Welsh Language (Wales) Measure 2011. First of all, I turn to the Order to amend Schedule 6 to the Welsh language Measure. Schedule 6 to the Measure names those bodies that will be required to adhere to standards.
Ond mae Atodlen 6 wedi dyddio ers i’r Mesur gael ei basio yn 2011—nid yw rhai cyrff sydd wedi’u henwi yn bodoli mwyach, mae rhai wedi newid eu henw neu wedi uno, ac mae cyrff newydd wedi cael eu creu. Hefyd, yn dilyn cynnal ymchwiliadau safonau, mae’r comisiynydd wedi gofyn inni baratoi safonau ar gyfer rhai cyrff nad oedd wedi’u henwi yn yr Atodlen 6 wreiddiol. Yr hyn y mae’r Gorchymyn o’ch blaen chi heddiw yn ei wneud yw diweddaru Atodlen 6. Mae’n sicrhau bod y comisiynydd yn medru gosod safonau ar bob corff sydd wedi’i enwi yn rheoliadau rhif 2. However, Schedule 6 has become dated since the Measure was passed in 2011 as some bodies that were named no longer exist, some have changed their names or have merged, and new bodies have been formed. Also, after holding standards inquiries, the commissioner has requested that we prepare standards for some bodies that were not named in the original Schedule 6. What the Order before you today seeks to do is to update Schedule 6. It ensures that the commissioner can impose standards on all bodies that are named in the regulations No. 2.
A gaf i droi at Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016? Mae’r rheoliadau yn caniatáu i’r comisiynydd osod safonau ar 32 o gyrff. Mae’r rhain yn gyrff cenedlaethol sy’n darparu gwasanaethau pwysig i’r cyhoedd ac yn cyflogi nifer fawr o weithwyr yng Nghymru. Rŷm ni’n sôn fan hyn am gyrff fel S4C, Amgueddfa Cymru, Adnoddau Naturiol Cymru, Estyn, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru. Mae gan y mwyafrif helaeth o’r cyrff yn y rheoliadau hyn gynlluniau iaith, felly maent yn brofiadol o ran darparu gwasanaethau Cymraeg a bod yn atebol am hynny. Bydd y safonau hyn yn adeiladu ar yr hyn y mae nhw eisoes, felly, yn ei wneud. Turning to the Welsh Language Standards (No. 2) Regulations 2016, the regulations allow the commissioner to impose standards on 32 bodies. These are national bodies that provide important services to the public and employ a great many people in Wales. We’re talking here about bodies such as S4C, National Museum Wales, Natural Resources Wales, Estyn, the National Library of Wales and the Wales Millennium Centre. The vast majority of the bodies named in these regulations have language schemes already and are, therefore, experienced in providing Welsh-language services and being accountable for that. These standards build on what they already do.
Un rhan yn unig o’r jig-so, wrth gwrs, yw gosod safonau ar gyrff. Mae’n rhaid inni weithio gyda’n gilydd i annog mwy o siaradwyr Cymraeg i fod yn ddigon hyderus i ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg, gan sicrhau eu bod hefyd yn derbyn gwasanaethau o’r un safon â’r rhai Saesneg. Felly, byddaf yn dod â mwy o reoliadau at eich sylw cyn diwedd tymor y Cynulliad yma ym mis Mawrth, sef y mis nesaf, wrth gwrs. Bydd y rheoliadau hynny yn cyflwyno safonau i’r sector addysg, yr heddluoedd a’r gwasanaethau brys, a thribiwnlysoedd. Imposing standards on bodies is but one piece of the jigsaw, of course. We must work together to encourage more Welsh speakers to be confident enough to use Welsh-language services, ensuring that they too receive services of the same quality as those provided in English. So, I will bring more regulations to your attention before the end of this Assembly term in March—next month, of course. Those regulations will introduce standards to the education sector, to the police, emergency services and tribunals.
Fy mwriad yw cyflwyno safonau i’r sector iechyd gerbron y Cynulliad nesaf, i wireddu dymuniad y comisiynydd i ddod â’r sector gofal sylfaenol o dan yr un fframwaith safonau â’r cyrff iechyd eraill. Mae angen gwaith polisi manwl, felly, cyn cyflwyno’r rheoliadau hyn. Fy mwriad, felly, yw ymgynghori ar y rheoliadau hyn yn y Cynulliad nesaf. Felly, Lywydd, rwy’n symud. My intention is to table standards for the health sector during the next Assembly to achieve the commissioner’s vision of bringing the primary care sector under the same standards framework as the other health bodies. Detailed policy work will be required before the relevant regulations are tabled. My intention, therefore, is to consult on these regulations in the next Assembly. So, I move.
14:42 - Y Llywydd / The Presiding Officer
I call the Chair of the Constitutional and Legislative Affairs Committee, David Melding. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, David Melding.
14:42 - David Melding
Thank you, Presiding Officer. I intend to confine my remarks to the Order before us, which we considered at our meeting on 11 January. Just for the record, the regulations had a clear report. The Order seeks to amend Schedule 6 to the Welsh Language (Wales) Measure 2011. Schedule 6 sets out the categories of organisations that are liable to comply with Welsh language standards. We reported on the merits of the instrument because of a lack of clarity about why organisations are being added to Schedule 6. In order to be added to Schedule 6, the organisations must come within a category specified in Schedule 5 to the Measure. Neither the Order itself nor the original explanatory memorandum explained which of the categories in Schedule 5 applies to each of the organisations that the Order intends to add to Schedule 6. The absence of this information makes it harder to determine whether the relevant powers have been properly exercised. We also believe it is important to consult organisations that are to be included in legislation. This is an important area of public policy where transparency is paramount. We note that the Welsh Government’s response, which provided the information I have just referred to, committed to adding it to a revised explanatory memorandum. I welcome the Welsh Government’s decision and its actions in laying an amended explanatory memorandum so quickly after our meeting. Thank you. Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n bwriadu cyfyngu fy sylwadau i'r Gorchymyn sydd ger ein bron, a ystyriwyd gennym yn ein cyfarfod ar 11 Ionawr. Ar gyfer y cofnod, cafodd y rheoliadau adroddiad clir. Mae'r Gorchymyn yn ceisio diwygio Atodlen 6 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae Atodlen 6 yn nodi’r categorïau o sefydliadau y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â safonau'r Gymraeg. Adroddasom ar rinweddau yr offeryn oherwydd y diffyg eglurder ynghylch pam y mae sefydliadau yn cael eu hychwanegu at Atodlen 6. Er mwyn cael eu hychwanegu at Atodlen 6, mae’n rhaid i'r sefydliadau fod mewn categori a bennir yn Atodlen 5 y Mesur. Nid oedd y Gorchymyn ei hun na'r memorandwm esboniadol gwreiddiol yn esbonio pa un o'r categorïau yn Atodlen 5 sy’n berthnasol i bob un o'r sefydliadau y mae'r Gorchymyn yn bwriadu eu hychwanegu at Atodlen 6. Heb yr wybodaeth hon mae’n fwy anodd penderfynu a yw'r pwerau perthnasol wedi'u harfer yn briodol. Rydym ni hefyd yn credu ei bod yn bwysig ymgynghori â sefydliadau sydd i'w cynnwys yn y ddeddfwriaeth. Mae hwn yn faes pwysig o bolisi cyhoeddus lle mae tryloywder yn hollbwysig. Nodwn fod ymateb Llywodraeth Cymru, a ddarparodd yr wybodaeth yr wyf newydd gyfeirio ati, wedi ymrwymo i’w hychwanegu at femorandwm esboniadol diwygiedig. Croesawaf benderfyniad Llywodraeth Cymru a'i chamau gweithredu wrth lunio memorandwm esboniadol diwygiedig mor fuan ar ôl ein cyfarfod. Diolch.
14:44 - Suzy Davies
We are minded to support the Order today, but I would like the First Minister to further clarify the position on the issue raised by CLAC before we do. Some of the organisations to be included on the Schedule 6 list under the Order are new inclusions rather than replacements for organisations that have been merged or subject to name change. Those new organisations have not been consulted on their inclusion in this Order. In response to the Constitutional and Legislative Affairs Committee report, the Government responded by saying that, on this occasion, there was no need for consultation, as there was a process of requiring an organisation to comply with standards, that process provided a number of opportunities for an organisation to engage in the process and raise any concerns that it may have, and supplemented that by saying that the Measure itself also states that no organisation shall be required to comply with standards until certain requirements have been met. Rydym yn tueddu tuag at gefnogi'r Gorchymyn heddiw, ond hoffwn i'r Prif Weinidog egluro'r sefyllfa o ran y mater a godwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol cyn i ni wneud hynny. Mae rhai o'r sefydliadau sydd i’w cynnwys ar restr Atodlen 6 o dan y Gorchymyn yn ychwanegiadau newydd yn hytrach na'u bod yn cymryd lle sefydliadau sydd wedi uno neu wedi newid eu henw. Ni ymgynghorwyd â’r sefydliadau newydd hynny ynglŷn â'u cynnwys yn y Gorchymyn hwn. Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ymatebodd y Llywodraeth drwy ddweud nad oedd angen ymgynghoriad ar yr achlysur hwn, oherwydd bod proses ar gyfer ei gwneud yn ofynnol i sefydliad gydymffurfio â safonau, a bod y broses honno yn darparu nifer o gyfleoedd i sefydliad gymryd rhan yn y broses a nodi unrhyw bryderon sydd ganddo, ac ategodd hynny gan ddweud bod y Mesur ei hun hefyd yn nodi na fydd yn ofynnol i unrhyw sefydliad gydymffurfio â’r safonau hyd nes y bodlonwyd gofynion penodol.
That response, however, does presume that the organisation should be on the Schedule 6 list and therefore subject to standards in the first place. Now, after the CLAC report on these draft regulations, Government has provided the evidence, as we’ve heard, but I wonder if you would confirm, First Minister, that the new organisations included in the Order did have an opportunity to make a case that they shouldn’t be in the new Schedule 6 list at any point, although I would say that the information that was provided to CLAC in the end was pretty compelling. Mae’r ymateb hwnnw, fodd bynnag, yn tybio y dylai'r sefydliad fod ar y rhestr Atodlen 6 ac felly'n ddarostyngedig i safonau yn y lle cyntaf. Mae’r Llywodraeth erbyn hyn, yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y rheoliadau drafft hyn, wedi darparu tystiolaeth, fel yr ydym wedi clywed, ond tybed a wnewch chi gadarnhau, Brif Weinidog, na chafodd y sefydliadau newydd sy’n gynwysedig yn y Gorchymyn gyfle i gyflwyno achos dros beidio â bod ar restr newydd Atodlen 6, er y byddwn i’n dweud bod yr wybodaeth a roddwyd i'r Pwyllgor yn y pen draw yn eithaf cymhellol.
I also notice, turning to the regulations now, that the list of organisations in the Order includes some of those that replace existing names, and some of those are organisations that were established for the whole of the UK. There are now more of them within Schedule 6 than there were before, although they don’t seem to be included in Schedule 6 for the purposes of the regulations before us today. Now, of course, those UK bodies that are mentioned operate within Wales and we should expect standards to apply to their operations within Wales, where they are reasonable and proportionate. But it does get more difficult to assess what is reasonable and proportionate when standards are applied to an organisation that doesn’t operate solely in Wales than to one that does. Rwyf hefyd yn sylwi, gan droi at y rheoliadau yn awr, bod y rhestr o sefydliadau yn y Gorchymyn yn cynnwys rhai sy'n cymryd lle enwau presennol, a bod rhai o'r sefydliadau hynny ar gyfer y DU gyfan. Erbyn hyn mae rhagor ohonynt yn Atodlen 6 nag yr oedd o'r blaen, er nad ydynt i’w gweld wedi eu cynnwys yn Atodlen 6 at ddibenion y rheoliadau sydd ger ein bron heddiw. Wrth gwrs, mae’r cyrff hynny o’r DU sy'n cael eu crybwyll yn gweithredu o fewn Cymru a dylem ddisgwyl i’r safonau fod yn gymwys i'w gweithrediadau yng Nghymru, pan fo hynny’n rhesymol ac yn gymesur. Fodd bynnag mae'n fwy anodd asesu beth sy'n rhesymol ac yn gymesur pan gaiff y safonau eu cymhwyso i sefydliad nad yw'n gweithredu yng Nghymru yn unig nag i sefydliad sydd yn gweithredu yng Nghymru yn unig.
For all the organisations listed in the draft regulations, bar two, all the standards listed in the regulations will apply. I have to say, I found it really quite difficult to conclude that the application of all the standards in regulation 2 to the whole of such an organisation is reasonable and proportionate. I simply can’t come to the conclusion. Bydd yr holl safonau a restrir yn y rheoliadau, ac eithrio dau, yn berthnasol i’r holl sefydliadau a restrir yn y rheoliadau drafft. Mae’n rhaid i mi ddweud, mae braidd yn anodd i mi ddod i'r casgliad bod cymhwyso’r holl safonau yn rheoliad 2 i sefydliad o'r fath yn ei gyfanrwydd yn rhesymol ac yn gymesur. Ni allaf ddod i'r casgliad hwnnw.
In terms of the rights exercisable by the public, all the front-facing provisions, I think probably the case for reasonableness and proportionality are made. Regardless of whether an organisation functions primarily elsewhere, if potentially 3 million members of the public have the right to communicate in Welsh, then I think, as an organisation, you really need to be ready for that. If your staff numbers in Wales are high, as, for example, with the BBC, then, regardless of the numbers in the organisation as a whole, I suspect it is appropriate for all the standards in these regulations to apply. Rwy’n credu bod pob darpariaeth amlwg ynglŷn â'r hawliau y caiff y cyhoedd eu harfer, a chredaf yn ôl pob tebyg yr achos dros resymoldeb a chymesuredd, wedi ei gwneud. Ni waeth a yw prif swyddogaethau sefydliad yn bennaf yn rhywle arall, os oes gan 3 miliwn aelod posibl o'r cyhoedd yr hawl i gyfathrebu yn y Gymraeg, yna credaf fod angen i chi fod yn barod am hynny fel sefydliad. Os oes gennych nifer uchel o staff yng Nghymru, fel sydd yn y BBC, er enghraifft, yna ni waeth beth yw'r niferoedd yn y sefydliad yn ei gyfanrwydd, rwyf yn amau ​​ei bod yn briodol i'r holl safonau yn y rheoliadau hyn fod yn gymwys.
However, there are a couple of named organisations, which are the Equality and Human Rights Commission and Ofcom—being the two I spotted in particular—their staff in Wales is actually pretty small, and, in those circumstances, I wonder what happens if a particular role happens to be, at the moment, the specialism of one individual who has no or limited Welsh language skills. I also ask: is it reasonable and proportionate for some policy team in London to consider everything envisaged in this Order? Is it reasonable and proportionate for certain information to be uploaded bilingually to the internal communications system of a UK-wide system? The reason I’m raising these is not because we’re going to be voting against these regulations, it’s just to raise a question about whether we might be looking at a distinct jurisdiction question here that wasn’t actually covered off in the Measure. Fodd bynnag, ceir dau sefydliad sydd wedi eu henwi, sef y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac Ofcom—sef y ddau y sylwais arnyn nhw’n benodol—sydd â nifer eithaf bach o staff yng Nghymru mewn gwirionedd, ac, yn yr amgylchiadau hynny, tybed beth sy'n digwydd os yw swydd benodol yn digwydd bod, ar hyn o bryd, yn arbenigedd unigolyn sydd â sgiliau cyfyng yn y Gymraeg neu nad oes ganddo sgiliau o gwbl ynddi. Rwyf hefyd yn gofyn: a yw'n rhesymol ac yn gymesur i dîm polisi yn Llundain ystyried popeth a ragwelir yn y Gorchymyn hwn? A yw'n rhesymol ac yn gymesur i wybodaeth benodol gael ei llwytho yn ddwyieithog i system gyfathrebu fewnol system sy'n gweithredu ledled y DU? Nid wyf yn gofyn hyn oherwydd ein bod yn mynd i bleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn, ond dim ond i ofyn cwestiwn am ba un a ydym ni'n edrych ar gwestiwn o awdurdodaeth ar wahân yma nad oedd wedi ei gynnwys yn y Mesur mewn gwirionedd.
While the investigation reports may be available online, I don’t think that the explanatory memorandum has really helped us assess the reasonableness and proportionality all the standards referred to for all the bodies. There’s no policy committee that’s looked at this. As I say, I’m not confident I can come to a conclusion. It’s just one reason why I’m firm in my view that an independent Welsh language commissioner should be accountable to this Assembly rather than the Government. Er efallai fod adroddiadau yr ymchwiliad ar gael ar-lein, nid wyf yn credu bod y memorandwm esboniadol wedi ein helpu rhyw lawer i asesu rhesymoldeb a chymesuredd yr holl safonau y cyfeirir atynt ar gyfer yr holl gyrff. Nid oes pwyllgor polisi sydd wedi edrych ar hyn. Fel yr wyf yn ei ddweud, nid wyf i’n hyderus y gallaf ddod i gasgliad. Mae’n un o blith sawl rheswm pam yr wyf i’n gadarn yn fy marn y dylai Comisiynydd y Gymraeg annibynnol fod yn atebol i'r Cynulliad hwn yn hytrach nag i'r Llywodraeth.
14:48 - Yr Arglwydd / Lord Elis-Thomas
Hear, hear. Clywch, clywch.
14:49 - Suzy Davies
I thank you for that. Nevertheless, these organisations listed in these regulations are already listed in Schedule 6 and have been used to much of what’s required by these regulations already. So, to be able to support these regulations, I’ve come to the conclusion that a right of appeal should be sufficient to protect them against overenthusiastic use of compliance notices, and, for these organisations, we will support the regulations today. It might be a different situation if those organisations included, via the Order, in any future Schedule 6, are subject to compliance notices, and I’m sure that’ll come back before us in the fifth Assembly. Thank you. Diolchaf i chi am hynna. Serch hynny, mae'r sefydliadau hyn a restrwyd yn y rheoliadau hyn eisoes wedi'u rhestru yn Atodlen 6 ac wedi arfer â llawer o'r hyn sy'n ofynnol gan y rheoliadau hyn eisoes. Felly, er mwyn gallu cefnogi'r rheoliadau hyn, rwyf wedi dod i'r casgliad y dylai hawl i apelio fod yn ddigonol i'w diogelu rhag defnydd gorfrwdfrydig o hysbysiadau cydymffurfio, ac ar gyfer y sefydliadau hyn, byddwn yn cefnogi'r rheoliadau heddiw. Gallai fod yn sefyllfa wahanol pe byddai’r sefydliadau hynny sydd wedi eu cynnwys, drwy'r Gorchymyn, mewn unrhyw Atodlen 6 yn y dyfodol, yn destun hysbysiadau cydymffurfio, ac rwy'n siŵr y bydd hynny yn dod yn ôl ger ein bron yn y pumed Cynulliad. Diolch.
14:49 - Keith Davies
Hoffwn i hefyd groesawu rheoliadau safonau’r Cymraeg a osodir o’n blaenau heddiw. Fel siaradwr Cymraeg a chadeirydd y grŵp trawsbleidiol, mae’n bwysig bod pobl Cymru’n cael cymaint o gyfleoedd i siarad Cymraeg ag sy’n bosib. Mae’r system o safonau’n sicrhau ein bod yn gallu cysylltu â’r sefydliadau cyhoeddus a restrir drwy gyfrwng y Gymraeg. Er bod newyddion drwg wedi dod allan o’r cyfrifiad olaf am nifer y siaradwyr Cymraeg, rwy’n gweld ymrwymiad cadarn gan rai sefydliadau yn y sector cyhoeddus. Hoffwn enwi Cyngor Sir Gâr yn arbennig, a wnaeth ymrwymo drwy fesur trawsbleidiol i’r nod o weinyddu’n bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg gydag amser. I’d also like to welcome these regulations before us today. As a Welsh speaker and chair of the cross-party group on the Welsh language, it’s important that the people of Wales have as many opportunities as possible to use the Welsh language. The system of standards does ensure that we can communicate with the public bodies listed through the medium of Welsh. Although there’s been some bad news from the last census in terms of the number of Welsh speakers, I see a clear commitment from some institutions within the public sector. I’d like to particularly name Carmarthenshire County Council, which has committed through a cross-party agreement to administer mainly through the medium of Welsh in time.
Fodd bynnag, nid yw’r rheoliadau heddiw yn sôn am lywodraeth leol. Maent yn cyfeirio at nifer o gyrff gwahanol sy’n gwneud rhwydwaith y sector cyhoeddus yng Nghymru. Ond mae pryderon gyda fi—yr un pethau ag yr oedd Suzy Davies yn sôn amdanyn nhw’n gynharach. Mae rhai o’r cyrff yn gweithredu ar draws Cymru a Lloegr, neu ar draws y Deyrnas Unedig. Mae ond yn deg bod dyletswydd ar sefydliad sy’n gweithredu’n rhannol yng Nghymru i ddarparu lefel sylfaenol o wasanaeth i siaradwyr Cymraeg. Hoffwn ofyn i’r Prif Weinidog faint o drafodaethau y mae Comisiynydd y Gymraeg wedi eu cael gyda’r sefydliadau y mae’r safonau newydd yma yn effeithio arnyn nhw. However, these regulations today don’t cover local government. They refer to a number of different bodies that make up a network of public sector organisations in Wales. But I do have concerns—the same as expressed by Suzy Davies earlier. Some of these organisations work across England and Wales, or across the UK. It’s only fair that there is a responsibility on those organisations that work in Wales to provide a basic level of service for Welsh speakers. I’d like to ask the First Minister what discussions the Welsh Language Commissioner’s had with the organisations that these standards will impinge upon.
Rwyf hefyd yn pryderu nad oes mwy o ddyletswydd ar gyrff Cymru’n unig i gynnal mwy o’u gweinyddiaeth fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r rheoliadau’n cyfeirio at nifer o sefydliadau a all wneud mwy i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg. Dylai’r comisiynydd edrych ar addasu effaith y safonau ar y sefydliadau a restrir yn y dyfodol. Dylai staff yn y sector cyhoeddus yng Nghymru gael cyfleoedd rhesymol i ddefnyddio eu Cymraeg yn y gweithle. I orffen, hoffwn gymeradwyo’r rheoliadau yma fel cam yn y cyfeiriad cywir tuag at Gymru lle mae yna ddewis gwirioneddol i siaradwyr Cymraeg yn eu trafodion â’r sector cyhoeddus. I’m also concerned that there isn’t a greater duty placed on Wales-only organisations to administer internally more through the medium of Welsh. The regulations make reference to a number of bodies that could do more to promote the use of the Welsh language. The commissioner should look to adapt the impact of the standards on the bodies listed in the future. Staff in the public sector in Wales should have reasonable opportunities to use their Welsh-language skills in the workplace. To conclude, I’d like to applaud these regulations as a step in the right direction towards a Wales where one has a real choice to use the Welsh language in relationships with the public sector.
14:51 - Simon Thomas
Bydd Plaid Cymru’n cefnogi’r Gorchymyn a’r rheoliadau heddiw, ac yn diolch i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am y gwaith craffu, yn arbennig ar y Gorchymyn, sydd wedi dod â mwy o wybodaeth gan y Llywodraeth sy’n esbonio’r broses. Mae yna wers, rwy’n meddwl, ar gyfer y dyfodol ar sut mae’r cyrff newydd yn cael eu cymhwyso yn y broses honno. Plaid Cymru will support the Order and the regulations today, and thanks the Constitutional and Legislative Affairs Committee for the scrutiny work that they put in, particularly on the Order, which has provided more information from Government that explains the process. I think there is a lesson to be learned for the future here in terms of how new bodies are included in that process.
Wrth groesawu’r safonau heddiw, hoffwn i ategu nifer o’r pethau sydd wedi cael eu dweud eisoes, yn enwedig gan Keith Davies. Mae eisiau gweld y safonau yna yn weithredol i hybu defnydd o’r Gymraeg gan y cyrff hyn, ond hefyd yn fewnol yn rhai o’r cyrff hyn. Mae hefyd yn bwysig i nodi bod y rhan fwyaf o’r cyrff yn rhai sydd eisoes yn dod o dan y Ddeddf iaith bresennol ac yn hen gyfarwydd â gweithredu cynlluniau iaith erbyn hyn. In welcoming these standards today, I would like to echo many of the things that have already been said, particularly by Keith Davies. We do need to see those standards implemented now to promote the use of the Welsh language by these bodies, but also internally within some of these organisations. It’s important also to note that most of these bodies were already captured under the current Welsh language Act and are well used to implementing language schemes by now.
Yr hyn sydd yn werth ei nodi, efallai, yw ei bod yn bum mlynedd ers pasio’r Mesur iaith gwreiddiol gan y lle hwn. Rwy’n meddwl ei fod yn bum mlynedd bron i heddiw, hyd yn oed, ac rydym ni’n gweld dim ond yr ail set o reoliadau yn cael eu cyflwyno. Rwy’n credu bod y broses yna angen cael ei chyflymu rhywsut neu’i gilydd. Rwy’n derbyn y pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud ynglŷn ag ymgynghori ac ynglŷn â chynnwys pobl, ond rwy’n credu bod hefyd broses fan hyn y mae siaradwyr Cymraeg hefyd yn disgwyl gweld yn cael ei chyflawni er mwyn rhoi iddyn nhw’r hawliau a oedd y tu ôl i’r Mesur iaith yn y lle cyntaf—i ddarparu hawliau drwy osod dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus a chyrff sylweddol sy’n derbyn arian cyhoeddus. What is worth noting, perhaps, is that’s been five years since the original Welsh language Measure was passed by this place. I think it’s almost five years to the day, even, and we’re only now seeing the second set of regulations being introduced. I think we do need to speed up that process one way or another. I accept the points that have been made in terms of consultation and including people in that process, but I think that there is a process here that Welsh speakers also expect to see being implemented in order to give them the rights that underpinned the Welsh language Measure in the first place—to provide rights by placing specific duties on public bodies and substantial bodies in receipt of public funds.
Mae yna gwpl o gwestiynau yr hoffwn i eu gofyn i’r Prif Weinidog sy’n deillio o gymeradwyo’r rheoliadau heddiw. Yn gyntaf oll, gan fod yna doriadau sylweddol eto yn y gyllideb i gyllideb Comisiynydd y Gymraeg, a fedr y Prif Weinidog esbonio sut mae’n ffyddiog bod gan y comisiynydd ddigon o adnoddau bellach i gyflawni ei dyletswyddau hi, yn benodol wrth weithredu’r safonau hyn a phlismona’r safonau hyn? A all y Prif Weinidog hefyd esbonio pam mae safonau ynghylch cynnal cyfarfodydd yn ymwneud â llesiant unigolion, a oedd yn rhan o gylch cyntaf y safonau, wedi cael eu hepgor yn yr ail gylch yma? Rwy’n deall bod y cyrff yma yn gyrff gwahanol—nid ydyn nhw’n awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus felly—ond mae yna gyrff fan hyn—y comisiynydd plant, comisiynydd pobl hŷn, ac ambell un arall—y byddech chi’n disgwyl i fod yn cynnal cyfarfodydd yn ymwneud â llesiant unigolion, ac felly byddech chi’n disgwyl gweld safon yn ymwneud â defnydd o’r Gymraeg yn y cyd-destun yma. There are some questions I would like to ask the First Minister that emerge from the passing of these regulations today. First of all, as there are significant cuts again in the budget to the budget of the Welsh Language Commissioner, could the First Minister explain how he can have confidence that the commissioner will have sufficient resources now to achieve her duties, particularly in implementing these standards and in policing these standards? Can the First Minister also explain why standards in relation to holding meetings related to the wellbeing of individuals, which were part of the first cycle of standards, have been omitted from this second round? I understand that these are different bodies—they are not local authorities and public bodies of that kind—but there are organisations here—the children’s commissioner, the older people’s commissioner, and a few others—that you would expect to be holding meetings related to the wellbeing of individuals, and so you would expect to see a standard on the use of the Welsh language in that context.
Mae’r Prif Weinidog, wrth gynnig y ddeddfwriaeth heddiw, wedi sôn am y dyfodol ac wedi sôn am yr hyn y mae’n dymuno ei wneud yn y Cynulliad nesaf. A fedr y Prif Weinidog felly gadarnhau beth yw’r amserlen ar gyfer y sector telegyfathrebu yn benodol, gan fod hwn yn cael ei weld yn hollbwysig bellach i ddefnydd y Gymraeg gan siaradwyr Cymraeg yn yr oes fodern? The First Minister, in moving the legislation today, has talked of the future and what he hopes to do in the next Assembly. Can the First Minister therefore confirm what the timetable is for the telecommunications sector specifically, as this is seen as being crucially important now in terms of the use of the Welsh language by Welsh-speakers in this modern age?
Nid oedd ymgynghoriad ar y rheoliadau hyn; mae Cadeirydd y pwyllgor wedi gwneud y pwynt yna. Rwy’n credu beth sydd yn bwysicach, a dweud y gwir, wrth fynd ymlaen, yw codi ymwybyddiaeth nawr o’r safonau. Mi ddylai’r cyrff yma fod yn ymwybodol o ddeddfwriaeth yng Nghymru, i fod yn onest, ond mae sut yn union y mae hyn yn gweithredu yn fater o godi ymwybyddiaeth, ac nid wyf yn dal yn siŵr, gan fod yr hawliau hyn, a’r dyletswyddau hyn, yn dod i rym ddiwedd mis Mawrth eleni, ym mha ffordd y mae’r Llywodraeth am godi’r ymwybyddiaeth yna—ar y cyd, wrth gwrs, â’r comisiynydd iaith. There was no consultation on these regulations; the committee Chair has already made that point. To be honest, I think what’s more important as we move forward is to raise awareness now of the standards. These bodies should be aware of legislation in Wales, if truth be told, but how exactly this is to be implemented is a matter for awareness raising, and I’m still not sure, as these rights and duties are to come into force at the end of March this year, how the Welsh Government is going to raise that awareness—jointly, of course, with the Welsh Language Commissioner.
Y cwestiwn olaf rwyf eisiau ei ofyn, cyn, efallai, tewi ar y mater yma yn y Cynulliad hwn—a byddwn ni’n siŵr o ddychweled at rai o’r materion hyn yn y Cynulliad nesaf, pan fydd, gobeithio, gyfle i ddeddfu’n fwy ffres ar y mater. Ond mae’r hyn sydd gyda ni ar hyn o bryd o ran Mesur iaith, a safonau iaith, yn seiliedig ar LCO a’r broses hirwyntog hynny a wnaeth gyflwyno i ni rai cyfyngderau, yn benodol—ac mae’n berthnasol i’r rheoliadau sydd gyda ni gerbron ar hyn o bryd—ynglŷn â faint o arian cyhoeddus y flwyddyn roedd corff yn ei dderbyn cyn penderfynu a oedd yn dod o dan cylch y Mesur iaith ac a oedd yna safonau felly yn gymwys i’r corff hwnnw. The final question that I want to ask, before, perhaps, concluding on this issue in this Assembly—and we are bound to return to some of these issues in the next Assembly, when there will, hopefully, be an opportunity to legislate anew on the issue. But what we do have at present in terms of a Welsh language Measure and Welsh language standards are based on a legislative competence Order and that long-winded process, which introduced some limitations to us, specifically—and it is relevant to the regulations that we have before us—in terms of how much public money per year an organisation receives before deciding whether it was within the remit of the Welsh language Measure and whether standards would therefore apply to that body.
Mae’r grŵp gorchwyl a gorffen ar yr iaith Gymraeg a datblygu economaidd a oedd wedi’i gomisiynu gan y Llywodraeth wedi argymell yn benodol y dylid cael gwared ar y trothwy ffug yma, mewn ffordd, ac y dylai fod yn llawer mwy clir i fusnesau a chyrff sydd yn cael grantiau gan Lywodraeth Cymru i ddangos eu bod nhw’n gallu darparu gwasanaeth yn ddwyieithog ac i ddangos felly eu gweithgaredd dwyieithog yng Nghymru. I fi, mae yna wers hefyd i ni, fel Cynulliad, wrth basio’r rheoliadau heddiw. Y wers honno yw bod yn rhaid i ni yn y Cynulliad nesaf fod yn llawer mwy ymwybodol o’r ffaith bod gan gyrff sy’n derbyn arian cyhoeddus ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau dwyieithog yng Nghymru. The Welsh language and economic development task and finish group, commissioned by the Government, has recommended specifically that this false threshold, in a way, should be removed, and that it should be much clearer to businesses and bodies in receipt of grants from the Welsh Government in demonstrating that they can provide bilingual services and therefore demonstrating that they are working bilingually in Wales. For me, there is also a lesson here for us, as an Assembly, in passing these regulations today. That lesson is that we in the next Assembly must be far more aware of the fact that bodies in receipt of public funding have a duty to provide bilingual services in Wales.
14:57 - Aled Roberts
Mae’n siŵr bod y rhan fwyaf o’r cwestiynau wedi cael eu codi gan y siaradwyr blaenorol, ond a gaf i hefyd ategu beth ddywedodd Simon Thomas? Rydw i’n meddwl ein bod ni’n siomedig braidd. Er y byddwn ni yn cefnogi’r Gorchymyn a’r rheoliadau, rydym ni’n siomedig bod cymaint o oedi wedi bod ynglŷn â’r holl reoliadau yma’n cael eu cyhoeddi. Rydw i’n dallt beth ddywedodd y Prif Weinidog erbyn hyn: bod yna sectorau a fydd rŵan yn cael cyfnod pellach o ymgynghori o dan y Cynulliad nesaf. Er hynny, rydw i’n meddwl bod yna ddiddordeb yn y sector telegyfathrebu yn benodol ac yn y ffaith bod yna lawer iawn o ddistawrwydd ynglŷn â’r sefyllfa yna. I’m sure that the majority of questions have already been asked by the previous speakers, but may I also endorse what Simon Thomas said? I think that we are slightly disappointed. Although we will be supporting the Order and the regulations, we are disappointed that there has been so much delay in relation to all of these regulations being published. I now understand what the Minister has said: that there are now sectors that will have a further period of consultation in the next Assembly. However, I think that there is an interest in the telecommunications sector specifically and the fact that there is a great deal of silence with regard to that situation.
Hefyd, wrth ystyried bod y safonau newydd yma’n dod i rym ar 30 Mawrth, ac wrth gofio bod cyllideb y comisiynydd wedi’i thorri, a fydd yna gyllideb benodol, un ai gan Lywodraeth Cymru neu gan y comisiynydd, i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â hawliau Cymry Cymraeg yn benodol o dan y safonau newydd yma? Also, considering that these new standards will be implemented on 30 March, and bearing in mind that the commissioner’s funding has been cut, will there be a specific budget, either by the Welsh Government or by the commissioner, to raise awareness of the rights of Welsh speakers specifically under these new standards?
Hefyd, hoffwn i jest ategu beth ddywedodd Suzy Davies ac eraill, gan gynnwys Keith Davies, ynglŷn â’r ffaith bod nifer o fudiadau wedi cysylltu, mae’n debyg, â ni fel unigolion. Hwyrach mai pedwar corff sy’n cael eu rhestru yn y rheoliadau yma sydd yn bennaf â phencadlys yn Lloegr ond sydd yn gweithredu ar lefel Gymreig. Rydw i’n meddwl eu bod nhw’n pryderu ynglŷn â pha mor gymesur fydd y ffordd y mae’r rheoliadau yma’n cael eu hystyried. Rydw i’n dallt y bydd yna broses lle mae yna gynllun yn cael ei gyhoeddi a lle bydd cyfnod o ymgynghori, a bod rhai prosesau ynglŷn ag apêl, ac, yn y pen draw, wrth gwrs, bydd y comisiynydd yn dirwyo’r cyrff hynny sydd ddim yn cwrdd â’r rheoliadau. Ond rydw i’n meddwl bod angen i ni wybod yn union pa fath o ystyriaeth o ran cymesuredd fydd yn cymryd lle. Also, I would just endorse what Suzy Davies and others have said, including Keith Davies, about the fact that a number of groups, apparently, have contacted us as individuals. I think that there are four bodies listed in these regulations that have their headquarters in England but do operate on a Welsh level. I think that they are concerned about how proportionate the consideration of these regulations will be. I understand that there will be a process where a plan is published, where there will be a period of consultation, that there are some processes for appeal and, ultimately, of course, the commissioner will issue fines to those bodies that don’t meet the standards. However, I do think that we need to know exactly what kind of consideration is being given in terms of proportionality.
Yn olaf, fe godais y tro diwethaf y ffaith bod nifer cynyddol o wasanaethau yng Nghymru erbyn hyn yn cael eu hallanoli oddi wrth lywodraeth leol yn benodol, a jest i sicrhau dealltwriaeth y Prif Weinidog bod yr holl fudiadau yna, a’r cyrff newydd yna, yn dod o dan y rheoliadau newydd hyn, wrth ystyried, wrth gwrs, fod llawer iawn o’r rheini wedi cael, neu wedi derbyn, cytundebau allanoli gan lywodraeth leol, lle, am wn i, nid oes sôn am eu cyfrifoldebau o ran safonau iaith. Finally, I did raise on the last occasion the fact that an increasing number of services in Wales are now being outsourced from local government in particular, and just to ensure that the First Minister is aware that all of those bodies, and those new bodies, come under these new regulations, in considering the fact, of course, that a great number of those have accepted outsourcing contracts from local government, where, as far as I’m aware, there’s no mention of their responsibilities in terms of language standards.
15:00 - Y Llywydd / The Presiding Officer
The First Minister to reply. Y Prif Weinidog i ateb.
15:00 - Carwyn Jones
A gaf i ddelio yn gyntaf gyda sylwadau Suzy Davies? Fy marn i yw: os yw corff yn gweithredu yng Nghymru, mae dyletswydd arno i sicrhau bod gwasanaeth ar gael yn Gymraeg. Nid oes ots lle mae ei bencadlys. Mae’n bwysig dros ben eu bod nhw yn darparu gwasanaeth Cymraeg i bobl Cymru. Mae hynny’n rhywbeth sy’n hollol resymol a rhywbeth y maent yn gyfarwydd ag ef o gofio Deddf 1993. May I first of all deal with the comments made by Suzy Davies? My opinion is: if a body operates in Wales, there is a duty on it to ensure that services are available in the Welsh language. It doesn’t matter where its headquarters are. It’s important that it does provide a Welsh language service for the people of Wales. I think that’s entirely reasonable and it’s something that they are familiar with, bearing in mind the 1993 Act.
Roedd sawl cwestiwn gan Simon Thomas. Gobeithio y gallaf ateb pob un ohonynt. O ran y gyllideb, mae’r comisiynydd wedi cael mwy o arian er mwyn helpu’r broses o sefydlu’r rheoliadau. Mae hynny’n rhywbeth yr ydym wedi ei ystyried er mwyn sicrhau bod yr adnoddau hynny ar gael yn y cyfnod hwn. Y comisiynydd, wrth gwrs, sy’n gyfrifol am benderfynu pa gyrff sy’n dod o dan ei hymchwiliad hi. Felly, mater i’r comisiynydd yw penderfynu pwy sy’n dod o dan yr ymchwiliad hwnnw. Jobyn y Llywodraeth, wrth gwrs, yw paratoi’r rheoliadau eu hunain. There were several questions from Simon Thomas, and I hope to answer all of them. In terms of the budget, the commissioner has received additional funding to help with the process of establishing these standards. That’s something that we have considered to ensure that those resources are available over this period. The commissioner, of course, is responsible for deciding which bodies come under the auspices of her inquiry. So, it’s a matter for the commissioner to decide who is included in those investigations. The Government’s role is to prepare the regulations themselves.
Ynglŷn â thelegyfathrebu, mae hynny’n rhywbeth sy’n mynd i gael ei ystyried o dan y set nesaf a’r setiau ar ôl hynny. Bydd y drydedd set gyflawn yn dod o flaen y Cynulliad yn ystod y Cynulliad nesaf. Mae gwaith paratoi yn cael ei wneud ynglŷn â hynny yn barod. Ynglŷn ag ym mha ffordd y dylai’r cyhoedd wybod pa wasanaethau sydd ar gael, byddwn ni’n parhau i hyrwyddo cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg er mwyn sicrhau bod pobl yn gwybod bod gwasanaethau ar gael yn y Gymraeg iddyn nhw. Un peth, wrth gwrs, yw sicrhau bod y gwasanaeth ar gael. Rhywbeth arall, mwy eang, yw sicrhau, wrth gwrs, bod gan bobl yr hyder i ddefnyddio’r gwasanaeth yn y lle cyntaf. Mae hynny’n dod o dan bopeth arall yr ydym yn ei wneud fel Llywodraeth drwy gynlluniau fel Bwrw Mlaen a chynllunio sy’n hybu pobl i ddefnyddio’r iaith mewn modd y byddent yn ystyried fel ffordd ffurfiol. Hefyd, mae dyletswydd ar y cyrff eu hunain i sicrhau bod pobl yn deall bod gwasanaeth ar gael yn Gymraeg. In terms of telecommunications, of course, this is something that is going to be considered under the next set and the sets after that. The third full set will come before the Assembly during the next Assembly term. The preparatory work is being done with regard to that already. In terms of the way in which the public should know which services are available, we will continue to promote opportunities to use the Welsh language to ensure that people do know that there are services are available through the medium of Welsh for them. It’s one thing, of course, to ensure that the service is available. It’s something else, with wider implications, to ensure that people have the confidence to use that service in the first place. That’s part of everything else that we do through schemes such as Bwrw Mlaen and planning that encourages people to use the language in a way that they would consider to be a formal manner. But also, there is a duty on the bodies themselves to ensure that people know that the service is available through the medium of Welsh.
Ynglŷn â’r pwynt wnaeth Aled Roberts godi ynglŷn â beth sy’n digwydd pan fydd gwasanaethau’n cael eu darparu gan drydydd parti, efallai drwy gontract, a gaf i ddweud—? Os yw corff yn darparu gwasanaeth sy’n dod o dan safonau, mae’n rhaid i’r corff hwnnw gydymffurfio â’r safonau sydd wedi’u gosod arnynt. Mae hynny’n wir os taw nhw sy’n darparu’r gwasanaeth neu os yw’r gwasanaeth hwnnw’n cael ei ddarparu ar eu rhan nhw gan drydydd parti drwy gontract neu drefniant arall. Felly, nid oes dianc o’r dyletswyddau sydd yno o dan y rheoliadau eu hunain, os bydd awdurdod lleol neu unrhyw gorff cyhoeddus arall yn penderfynu taw trydydd parti sy’n gweithredu unrhyw wasanaeth yn y gymuned. With regard to the point that Aled Roberts made in terms of what happens if services are provided by a third party, perhaps through a contract, may I say—? If a body provides services that come under the standards, that body will have to comply with the standards that have been placed on it, and that is true if it is the one providing the service, or if that service is provided on its behalf by a third party through a contract or other arrangements. So, there is no escape from the duties that are placed on them under the regulations themselves, if a local authority or any other public body decides that a third party is to offer any service in the community.
Rwy’n credu taw hynny oedd popeth. Mae sawl un wedi sôn am yr amser y mae wedi’i hala i ddod i’r sefyllfa hon. Wrth gwrs, rydym wedi gorfod sefydlu’r comisiynydd a sefydlu’r tribiwnlys. Mae’n wir i ddweud y bydd gwaith i’w wneud yn y dyfodol er mwyn gwella’r Mesur ei hun, o gofio’r ffaith bod y Mesur wedi cael ei greu mewn cyfnod cyfreithiol gwahanol o gymharu â nawr. Mae’n bwysig dros ben hefyd, wrth gwrs, bod ymgynghori yn digwydd gyda chyrff. Y pwynt arall a gafodd ei godi gan Suzy Davies oedd ynghylch pa gyfle oedd gan y cyrff hyn—y 32—i roi sylwadau ynglŷn â’u sefyllfa nhw, o gofio’r ffaith nad oes unrhyw ymgynghori ffurfiol wedi digwydd. Wel, fe wnaeth y 32 corff ymateb i ymchwiliad safonau’r comisiynydd. Bydd cyfle arall iddynt i ddatgan eu barn pan fydd y comisiynydd yn ymgynghori ar yr hysbysiad cydymffurfio cyn gosod safonau arnynt. Wrth gwrs, mae proses, fel mae sawl Aelod wedi sôn, o apêl. Wrth gwrs, nid yw’r rheoliadau eu hunain yn anghyfarwydd, o gofio’r ffaith eu bod wedi’u hadeiladu ar sail y set gyntaf o reoliadau. Felly, byddant yn gyfarwydd iawn i’r cyrff hyn o ran pa fath o ddyletswyddau y byddant yn gorfod eu gweithredu, o weld beth sydd wedi digwydd nid dim ond yn Neddf 1993, ond hefyd yn y rheoliadau cyntaf a gafodd eu gwneud sawl mis yn ôl. Felly, rwy’n symud unwaith eto y rheoliadau hyn, a’r newidiadau i Atodlen 6 i’r Mesur, o flaen y Cynulliad. I believe that I’ve covered everything there. Several people have spoken about the time that it has taken for us to reach this point. Of course, we’ve had to establish the office the commissioner, and we’ve had to establish the tribunal. It’s true to say that there will be work to do in future in terms of improving the Measure itself, bearing in mind that the Measure was created in a different legislative period as compared to now. It’s important that there is consultation with bodies. Another point that was made by Suzy Davies was around the opportunity for these bodies—the 32—to make comments with regard to their situations, remembering the fact, of course, that there was no formal consultation. Well, those 32 bodies did respond to the commissioner’s standards inquiry. There will be another opportunity for them to state their opinions when the commissioner will consult on the compliance notice before imposing standards on them. And of course, there is a process, as Members have already spoken about, of appeal. Of course, the regulations themselves aren’t unfamiliar to them, bearing in mind that they have been built on the basis of the first set of regulations. So, they will be familiar with the duties that they will have to implement, having seen what’s happened not just in the 1993 Act, but also in the first regulations that were made a few months ago. So, I move the regulations Schedule 6 to the Measure, before the Assembly.
15:05 - Y Llywydd / The Presiding Officer
The proposal is to agree the motion under item 3. Does anyone object? There are no objections, therefore the motion under item 3 is agreed. Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 3. A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? Dim gwrthwynebiad, felly mae'r cynnig o dan eitem 3 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
15:05 - Y Llywydd / The Presiding Officer
The next proposal is to agree the motion under item 4. Does any Member object? No objections, therefore the motion under item 4 has been agreed. Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 4. A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? Dim gwrthwynebiad, felly mae'r cynnig o dan eitem 4 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
5. The Housing Act 1985 (Amendment of Schedule 2A) (Serious Offences) (Wales) Order 2016 5. Gorchymyn Deddf Tai 1985 (Diwygio Atodlen 2A) (Troseddau Difrifol) (Cymru) 2016
15:05 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We now move to item 5, which is the Housing Act 1985 (Amendment of Schedule 2A) (Serious Offences) (Wales) Order, and I call on the Minister for Communities and Tackling Poverty to move the motion—Lesley Griffiths. Symudwn yn awr at eitem 5, sef Gorchymyn Deddf Tai 1985 (Diwygio Atodlen 2A) (Troseddau Difrifol) (Cymru), a galwaf ar y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM5948 Jane Hutt Motion NDM5948 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Deddf Tai 1985 (Diwygio Atodlen 2A) (Troseddau Difrifol) (Cymru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Tachwedd 2015. Approves that the draft The Housing Act 1985 (Amendment of Schedule 2A) (Serious Offences) (Wales) Order 2016 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 17 November 2015.
Cynigiwyd y cynnig. Motion moved.
15:05 - Lesley Griffiths
Thank you, Presiding Officer. I’m pleased to bring forward this motion on the Housing Act 1985 (Amendment of Schedule 2A) (Serious Offences) (Wales) Order 2016. Section 84A of the Housing Act 1985 provides for the possession of a dwelling that is the subject of a secure tenancy on the grounds of serious anti-social behaviour. Ground 7(a) of Part I of Schedule 2 to the Housing Act 1988 provides an equivalent ground for possession in respect of assured tenancies. Both grounds for possession on the basis of serious anti-social behaviour refer to a conviction for a serious offence. The serious offences are listed in Schedule 2A to the 1985 Act. Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o gyflwyno’r cynnig hwn ar Orchymyn Deddf Tai 1985 (Diwygio Atodlen 2A) (Troseddau Difrifol) (Cymru) 2016. Mae adran 84A Deddf Tai 1985 yn darparu ar gyfer meddiant annedd sy'n destun tenantiaeth ddiogel ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol. Mae Sail 7(a) yn Rhan I Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988 yn darparu sail gyfatebol am feddiant ar gyfer tenantiaethau sicr. Mae'r ddwy sail dros feddiannu ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol yn cyfeirio at euogfarn am drosedd ddifrifol. Mae'r troseddau difrifol wedi’u rhestru yn Atodlen 2A o Ddeddf 1985.
The amendments made by this Order are important. They would allow a landlord to seek possession on the basis a tenant had committed the offence of slavery, servitude, forced or compulsory labour or the offence of human trafficking, providing the other criteria for seeking possession under this ground have been met. The Modern Slavery Act 2015 consolidates and simplifies existing slavery and trafficking offences into one piece of legislation to provide clarity and focus when prosecuting those involved in slavery and trafficking. The Act contains a package of legal reforms that are designed to improve the response of law enforcement, and to ensure survivors receive the best protection and support available. Part 1 of the Modern Slavery Act consolidates and clarifies the existing offences of slavery and human trafficking whilst increasing the maximum penalty for such offences. In light of the introduction of these offences, an update is required to the list of serious offences that constitute grounds for possession of a dwelling house on the basis of serious anti-social behaviour. I would welcome Members’ support to give effect to this Order. Thank you. Mae'r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn yn bwysig. Byddent yn caniatáu i landlord geisio meddiant ar y sail bod tenant wedi cyflawni trosedd caethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur dan orfod neu orfodol neu drosedd masnachu mewn pobl, cyn belled â bod meini prawf eraill ar gyfer ceisio meddiant o dan y sail hon wedi’u bodloni. Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 yn cydgrynhoi ac yn symleiddio troseddau presennol caethwasiaeth a masnachu pobl mewn un darn o ddeddfwriaeth i ddarparu eglurder a phwyslais wrth erlyn pobl sy'n ymwneud â chaethwasiaeth a masnachu. Mae'r Ddeddf yn cynnwys pecyn o ddiwygiadau cyfreithiol sydd wedi'u cynllunio i wella ymatebion i orfodi'r gyfraith, ac i sicrhau bod goroeswyr yn cael eu diogelu a’u cynorthwyo yn y modd gorau posibl. Mae Rhan 1 y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern yn atgyfnerthu ac yn egluro troseddau presennol caethwasiaeth a masnachu pobl a hefyd yn cynyddu'r gosb uchaf am droseddau o'r fath. Yng ngoleuni cyflwyno’r troseddau hyn, mae angen diweddaru’r rhestr o droseddau difrifol sy'n sail i feddiannu tŷ annedd ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol. Byddwn yn croesawu cefnogaeth yr Aelodau i roi’r Gorchymyn hwn ar waith. Diolch.
15:07 - Y Llywydd / The Presiding Officer
I have no speakers, so we move straight to the vote. The proposal is to agree the motion. Does any Member object? There are no objections. Therefore, it is agreed in accordance with Standing Order 12.36. Nid oes gennyf siaradwyr, felly awn yn syth at y bleidlais. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid oes gwrthwynebiadau. Felly, mae wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Minister’s Statement regarding Her Majesty the Queen’s and the Duke of Cornwall’s Consent Datganiad y Gweinidog ynghylch Cydsyniad y Frenhines Ei Mawrhydi a Dug Cernyw
15:07 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Now I’m going to ask the Deputy Minister to make a statement on the Queen’s and the Duke of Cornwall’s consent. Ken Skates. Nawr rwy'n mynd i ofyn i'r Dirprwy Weinidog wneud datganiad am gydsyniad y Frenhines a Dug Cernyw. Ken Skates.
15:08 - Kenneth Skates
Thank you. I have it in command from Her Majesty the Queen and the Duke of Cornwall to acquaint the Assembly that, having been informed of the purport of the Historic Environment (Wales) Bill, both have given their consent to this Bill. Diolch. Mae gen i orchymyn gan Ei Mawrhydi y Frenhines a Dug Cernyw i roi gwybod i'r Cynulliad, ar ôl cael gwybod am berwyl Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), eu bod ill dau wedi rhoi eu cydsyniad i’r Bil hwn.
6. Stage 4 Debate on the Historic Environment (Wales) Bill 6. Dadl Cyfnod 4 ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
15:08 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We now move to item 6, which is Stage 4 of the historic environment Bill. I call on the Deputy Minister for Culture, Sport and Tourism to move the motion—Ken Skates. Symudwn yn awr at eitem 6, sef Cyfnod 4 Bil yr amgylchedd hanesyddol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i gynnig y cynnig—Ken Skates.
Cynnig NDM5955 Kenneth Skates Motion NDM5955 Kenneth Skates
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: To propose that the National Assembly for Wales in accordance with Standing Order 26.47:
Yn cymeradwyo Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Approves the Historic Environment (Wales) Bill.
Cynigiwyd y cynnig. Motion moved.
15:08 - Kenneth Skates
Thank you, Presiding Officer. I am today seeking your approval for the Historic Environment (Wales) Bill. A number of its measures will put Wales ahead of the other UK nations in caring for the historic environment. I’m grateful for the active support of stakeholders and the wider public. In particular, the Bill has benefitted from the expertise of members of the external reference group. Diolch, Lywydd. Heddiw, rwy'n gofyn am eich cymeradwyaeth i'r Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Bydd nifer o’i fesurau’n rhoi Cymru ar y blaen i wledydd eraill y DU o ran gofalu am yr amgylchedd hanesyddol. Rwy'n ddiolchgar am gymorth gweithredol rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn gyffredinol. Yn arbennig, mae'r Bil wedi elwa ar arbenigedd aelodau o'r grŵp cyfeirio allanol.
As a result, the Bill that I introduced in May last year was based on solid evidence and a clear understanding of the sector’s needs and the challenges it faces. It has also been refined and strengthened during its passage through the Assembly, and for this I am grateful to the Chairs and Members of the Communities, Equality and Local Government Committee and the Constitutional and Legislative Affairs Committee, and also the Finance Committee, for their thorough consideration. I’d also like to thank the Assembly Commission officials and, of course, my officials for their hard work on the development and passage of the Bill. The heritage spokespeople of the opposition parties have also willingly participated, often in frank discussions about the Bill and its provisions. I have listened carefully to the arguments during scrutiny and have introduced Government amendments, or supported amendments tabled by other Members, where I’ve felt that they will bring improvements. As a result, Wales will be the first nation in the United Kingdom to have a statutory national list of historic place names, which will raise public awareness of the value and the importance of this unique part of our heritage. O ganlyniad, roedd y Bil a gyflwynais ym mis Mai y llynedd yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn a dealltwriaeth glir o anghenion y sector a'r heriau y mae'n eu hwynebu. Mae hefyd wedi cael ei fireinio a'i gryfhau yn ystod ei daith drwy'r Cynulliad, ac am hyn rwy’n ddiolchgar i Gadeiryddion ac Aelodau'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a hefyd y Pwyllgor Cyllid, am eu hystyriaeth drylwyr. Hoffwn hefyd ddiolch i swyddogion Comisiwn y Cynulliad ac, wrth gwrs, i fy swyddogion i am eu gwaith caled ar ddatblygu a phasio’r Bil. Mae llefarwyr treftadaeth y gwrthbleidiau hefyd wedi bod yn barod iawn i gymryd rhan, yn aml mewn trafodaethau agored am y Bil a'i ddarpariaethau. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar y dadleuon yn ystod craffu ac wedi cyflwyno gwelliannau gan y Llywodraeth, neu wedi cefnogi gwelliannau a gyflwynwyd gan Aelodau eraill, lle’r wyf wedi teimlo y byddant yn dod â gwelliannau. O ganlyniad, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i fod â rhestr genedlaethol statudol o enwau lleoedd hanesyddol, a fydd yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o werth a phwysigrwydd y rhan unigryw hon o'n treftadaeth.
Another first for Wales will be statutory historic environment records. All good management decisions need to be based on authoritative and detailed information. These records and the list of historic place names will help our key public bodies in making informed decisions about change that will affect our historic environment. Cymru hefyd fydd y cyntaf i gadw cofnodion statudol o’r amgylchedd hanesyddol. Mae angen i bob penderfyniad rheoli da fod yn seiliedig ar wybodaeth awdurdodol a manwl. Bydd y cofnodion hyn a’r rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yn helpu ein cyrff cyhoeddus allweddol i wneud penderfyniadau doeth am newidiadau a fydd yn effeithio ar ein hamgylchedd hanesyddol.
The Bill also provides new powers for authorities to take urgent action when buildings fall into disrepair. I know that many Members share my concern about the loss of landmark historic buildings. When I recognised that the Assembly wanted the Bill to go even further, I was pleased to support Peter Black’s amendment to allow the development of a system of preservation notices. This will provide an important opportunity to establish a legal framework for action following consultation. Mae'r Bil hefyd yn rhoi pwerau newydd i awdurdodau i gymryd camau brys pan fo adeiladau’n dadfeilio. Gwn fod llawer o Aelodau yn rhannu fy mhryder ynghylch colli adeiladau hanesyddol nodedig. Pan wnes i gydnabod yr hoffai’r Cynulliad i’r Bil fynd hyd yn oed ymhellach, roeddwn yn falch o gefnogi gwelliant Peter Black i ganiatáu datblygu system o hysbysiadau cadwraeth. Bydd hyn yn rhoi cyfle pwysig i sefydlu fframwaith cyfreithiol i weithredu yn dilyn ymgynghoriad.
I appreciate that the Bill will not resolve all of the complex challenges facing the historic environment. Much of what is required also involves resources and partnership, which cannot be dealt with directly through legislation. However, my objective throughout has been to provide greater accountability and more effective and proportionate protection, where necessary and when based on sound evidence. Rwy’n sylweddoli na fydd y Bil yn datrys pob un o'r heriau cymhleth sy'n wynebu'r amgylchedd hanesyddol. Mae llawer o'r hyn sydd ei angen hefyd yn ymwneud ag adnoddau a phartneriaeth, na ellir ymdrin â hwy’n uniongyrchol drwy ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, fy amcan drwy gydol y broses oedd darparu mwy o atebolrwydd a gwarchodaeth fwy effeithiol a chymesur, pan fo angen hynny a phan ei fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.
During the debate, we also heard passionate expressions about the need for us to find new uses for buildings such as, of course, chapels that might not be of national importance but form a much-loved part of our local communities. More protection is not always the answer, and might have unwelcome consequences. So, instead, we need to develop new ways for public bodies to work with communities and the private and third sectors to find viable futures for these buildings—buildings that continue to be a vital part of Wales’s economy and society. Yn ystod y ddadl, clywsom hefyd fynegiadau angerddol am yr angen inni ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddefnyddio adeiladau fel, wrth gwrs, capeli nad ydynt o reidrwydd o bwysigrwydd cenedlaethol ond sy’n annwyl gan lawer o bobl yn ein cymunedau lleol. Nid mwy o gamau diogelu yw’r ateb bob amser; yn wir, gall hynny arwain at ganlyniadau annymunol. Felly, yn lle hynny, mae angen inni ddatblygu ffyrdd newydd i gyrff cyhoeddus weithio gyda chymunedau a'r sector preifat a'r trydydd sector i ddod o hyd i ddyfodol hyfyw i’r adeiladau hyn—adeiladau sy'n parhau i fod yn rhan hanfodol o economi a chymdeithas Cymru.
An example is a new forum to take forward the strategic action plan for historic places of worship in Wales. Legislation can provide a basis for such unified action and I look forward to this legislation enabling and encouraging a concerted effort to enhance the value we place on our heritage in Wales. Un enghraifft yw fforwm newydd i fwrw ymlaen â'r cynllun gweithredu strategol ar gyfer mannau addoli hanesyddol yng Nghymru. Gall deddfwriaeth ddarparu sail i weithredu unedig o'r fath ac rwy'n edrych ymlaen at weld y ddeddfwriaeth hon yn galluogi ac yn annog ymdrech ar y cyd i gynyddu’r gwerth a roddwn ar ein treftadaeth yng Nghymru.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Melding) i’r Gadair. The Deputy Presiding Officer (David Melding) took the Chair.
15:12 - Suzy Davies
Deputy Minister, I hope you won’t mind me beginning by offering my thanks to the policy and legislation Commission staff who’ve helped opposition Members work with this Bill. It’s been a difficult Bill to try and amend, as I think we mentioned at Stage 3. But, I did want to place that on the record. Ddirprwy Weinidog, rwy’n gobeithio na fydd ots gennych os dechreuaf drwy gynnig fy niolch i staff y Comisiwn polisi a deddfwriaeth sydd wedi helpu Aelodau'r wrthblaid i weithio gyda’r Bil hwn. Mae wedi bod yn Fil anodd i geisio ei ddiwygio, fel y credaf ein bod wedi’i ddweud yng Nghyfnod 3. Ond, roeddwn eisiau rhoi hynny ar y cofnod.
I also thank you, of course, Deputy Minister, again for the open-door approach that you’ve taken to the development of this Bill. It didn’t work quite as well for us as Conservatives between Stages 2 and 3, and I’m certain even now that differences around the issue of the extent, for example, of local land charges could actually have been ironed out if we’d had a chance to speak together on that. Rwyf hefyd yn diolch i chi, wrth gwrs, Ddirprwy Weinidog, unwaith eto am gadw eich drws ar agor wrth ddatblygu'r Bil hwn. Ni weithiodd cystal i ni fel Ceidwadwyr rhwng Cyfnodau 2 a 3, ac rwy'n sicr hyd yn oed nawr y gallem fod wedi datrys gwahaniaethau ynglŷn â maint pridiannau tir lleol, er enghraifft, pe byddem wedi cael cyfle i siarad â’n gilydd am hynny.
I appreciate, of course, that part of your motivation on the open-door policy is because you need the numbers. But, it is nevertheless to be commended to other Ministers as best practice and I hope that will continue in the next Assembly. Rwy’n sylweddoli, wrth gwrs, mai rhan o'ch cymhelliant ar y polisi drws agored yw bod angen y niferoedd arnoch. Ond, serch hynny mae i'w ganmol i Weinidogion eraill fel arfer gorau ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n parhau yn y Cynulliad nesaf.
As for the numbers, I suspect you will have achieved that. But, I regret that it will not be with the support of the Welsh Conservatives, I’m afraid. As you know, we’ve offered our support throughout the development of this legislation, even though we have rightly held you to account on the format of this Bill. It remains virtually impenetrable to the general public and is a source of frustration to those of us who are perhaps are a bit more familiar with working with statutes. We also had reservations about the advisory group, for example. But, I think we could have gone with all that. O ran y niferoedd, rwy’n amau ​​y byddwch wedi cyflawni hynny. Ond, rwy’n gresynu na fydd gennych gefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig, mae arnaf ofn. Fel y gwyddoch, rydym wedi cynnig ein cefnogaeth drwy gydol datblygiad y ddeddfwriaeth hon, er ein bod wedi eich dwyn i gyfrif yn briodol ar fformat y Bil hwn. Mae'n parhau i fod bron yn anhreiddiadwy i'r cyhoedd yn gyffredinol ac mae'n ffynhonnell o rwystredigaeth i'r rhai hynny ohonom sydd efallai ychydig yn fwy cyfarwydd â gweithio gyda statudau. Roedd gennym hefyd amheuon ynghylch y grŵp cynghori, er enghraifft. Ond, rwy'n meddwl y gallem fod wedi cytuno â hynny i gyd.
But, you did lose us on the burden of proof issue. You know how close the vote was and you knew it was a red line issue for us. I don’t want to revisit it today, but I still think you got it wrong on the balance of protection for our precious heritage and the protection for the principle of innocent until proven guilty. In my view, there’s no polishing out this spot to see the good intentions beneath. It’s tarnished the Bill and I think it will tarnish the law. Ond, gwnaethoch ein colli ar fater y baich profi. Rydych yn gwybod pa mor agos oedd y bleidlais ac roeddech yn gwybod bod hwn yn fater llinell goch inni. Nid wyf am sôn am hynny eto heddiw, ond rwy’n dal i feddwl eich bod yn anghywir o ran cydbwyso gwarchod ein treftadaeth werthfawr ac amddiffyn yr egwyddor o ddieuog hyd nes y profir yn euog. Yn fy marn i, does dim modd caboli’r smotyn hwn allan i weld y bwriadau da oddi tano. Mae wedi difwyno’r Bil, ac rwy'n credu y bydd yn difwyno’r gyfraith.
15:14 - Bethan Jenkins
First of all, I’d like to continue in the vein that Suzy started with regard to thanking the Commission team, especially the legislative team who helped me draft amendments. It was a very tricky Bill in that sense, because we were having to look at different pieces of legislation. I think therein lies my point. In this regard, the Welsh Government has had five years for a consolidation Bill. We had expert advice from planning people coming to the Assembly, to committee, saying that it will need to be consolidated down the line anyway, and I’ve also had e-mails requesting meetings on some of the ideas I put forward in amendments with regard to potential grants for people to be able to update their buildings, because they’ve already acknowledged to me that that was not addressed fully in this Bill. So, is it not tragic, therefore, that we’re here discussing putting some sort of stamp on this Bill when there are still many, many issues that haven’t been addressed? A list, yes, of Welsh names is to be welcomed, but we could have enhanced that. How can we give that protection, when it is but a list? We need to put things in place that will make sure that it’s monitored effectively. Yn gyntaf oll, hoffwn barhau yn yr un modd ag y dechreuodd Suzy drwy ddiolch i dîm y Comisiwn, yn enwedig y tîm deddfwriaethol a helpodd fi i ddrafftio gwelliannau. Roedd yn Fil anodd iawn yn yr ystyr hwnnw, oherwydd roedd yn rhaid inni edrych ar wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth. Rwy’n credu mai dyna yw fy mhwynt. Yn hyn o beth, mae Llywodraeth Cymru wedi cael pum mlynedd ar gyfer Bil atgyfnerthu. Cawsom gyngor arbenigol gan bobl cynllunio a ddaeth i'r Cynulliad, i'r pwyllgor, gan ddweud y bydd angen ei gyfuno’n nes ymlaen beth bynnag, ac yr wyf hefyd wedi cael negeseuon e-bost yn gofyn am gyfarfodydd ynglŷn â rhai o'r syniadau y gwnes eu cyflwyno mewn gwelliannau yn ymwneud â grantiau posibl i bobl i allu diweddaru eu hadeiladau, oherwydd maent eisoes wedi cydnabod wrthyf na chafodd hynny sylw llawn yn y Bil hwn. Felly, onid yw'n drasig, felly, ein bod ni yma'n trafod rhoi rhyw fath o stamp ar y Bil hwn pan fo llawer iawn o faterion heb gael sylw o hyd? Iawn, mae croeso i restr o enwau Cymraeg, ond gallem fod wedi gwella hynny. Sut y gallwn roi’r warchodaeth honno, â dim ond rhestr? Mae angen inni roi pethau ar waith a fydd yn sicrhau y caiff ei monitro'n effeithiol.
Suzy is kinder than me, I think. She says that the Minister had an open-door policy, but I think I probably wasn’t the right shape for the door, because my amendments didn’t seem to hold any weight with the Minister, even though much of what we were doing was about greater accountability—[Interruption.] It was about greater accountability, it was about trying to make sure that this place saw much of what was happening within the sector. Other AMs may not have looked into it as much as I have, but the exemptions are something very important to me. I found out that there are many denominations that are simply not part of the current Cadw structures, and therefore I wanted to put that review forward so that we can at least hold them to account for the review processes that they have in place, which other people have to carry forward. The same goes for other amendments that I put forward—just basically trying to call for reviews and monitoring in this place. I don’t think that they were radical; I don’t think that they were contentious. So, I think that, while we will not be opposing this Bill, Plaid Cymru will be abstaining. I think it is a missed opportunity for a radical change in the sector. If you want to put a press release out saying, ‘We’ve completed all our laws this term’; well, I’d rather have effective and well-developed laws as opposed to just having a piece of paper. I will tell you that we will be back here—even if it’s not me, there will be Assembly Members back here looking at this issue again because it was not prioritised within Welsh Government as it should have been, and you should have fought for that, Minister. Mae Suzy yn fwy caredig na mi, rwy’n meddwl. Mae hi'n dweud y bu gan y Gweinidog bolisi drws agored, ond mae’n rhaid nad oeddwn y siâp cywir i’r drws hwnnw, oherwydd nid oedd yn ymddangos bod fy ngwelliannau i’n cael rhyw lawer o ddylanwad ar y Gweinidog, er bod llawer o'r hyn yr oeddem yn ei wneud yn ymwneud â mwy o atebolrwydd—[Torri ar draws.] Roedd yn ymwneud â mwy o atebolrwydd, roedd yn ymwneud â cheisio sicrhau bod y lle hwn yn gweld llawer o'r hyn a oedd yn digwydd o fewn y sector. Efallai na fydd ACau eraill wedi edrych ar hyn gymaint â mi, ond mae'r eithriadau’n rhywbeth pwysig iawn imi. Cefais wybod bod llawer o enwadau nad ydynt, yn syml, yn rhan o'r strwythurau Cadw presennol, ac felly roeddwn am gynnig yr adolygiad hwnnw fel y gallwn o leiaf eu dwyn i gyfrif am y prosesau adolygu sydd ganddynt ar waith, y mae’n rhaid i bobl eraill eu dwyn ymlaen. Mae'r un peth yn wir am welliannau eraill y gwnes eu cyflwyno—yn y bôn, dim ond i geisio galw am adolygiadau a monitro yn y lle hwn. Nid wyf yn meddwl eu bod yn radical; nid wyf yn meddwl eu bod yn gynhennus. Felly, rwy’n meddwl, er na fyddwn yn gwrthwynebu'r Bil hwn, y bydd Plaid Cymru yn ymatal. Rwy'n meddwl ei fod yn colli cyfle i wneud newid radical yn y sector. Os ydych am ryddhau datganiad i'r wasg i ddweud, 'Rydym wedi cwblhau ein holl gyfreithiau yn y tymor hwn'; wel, byddai'n well gen i gael cyfreithiau effeithiol sydd wedi'u datblygu'n dda yn hytrach na dim ond darn o bapur. Gwnaf ddweud wrthych y byddwn yn ôl yma—hyd yn oed os nad fi, bydd Aelodau'r Cynulliad yn ôl yma yn edrych ar y mater hwn eto gan na chafodd flaenoriaeth o fewn Llywodraeth Cymru fel y dylai fod wedi’i chael, a dylech fod wedi ymladd am hynny, Weinidog.
15:17 - Peter Black
Clearly, our historical heritage is full of doors of very different shapes. I was pleased to have the co-operation of the Minister in terms of not just some of the amendments I put forward, but also, like other Members, I’d like to thank him and his Bill team, and of course the Commission team, for working so hard on this Bill, which, I think, was a difficult Bill simply because it didn’t seek to consolidate the law—I think that Suzy Davies and others have made that point. Because of that, working with the various clauses was particularly difficult. I think there were clauses within sub-clauses within sub-clauses in many instances, and it is very difficult, I think, to actually get a picture, looking at the Bill, of what exactly we have done. Yn amlwg, mae ein treftadaeth hanesyddol yn llawn o ddrysau â siapiau gwahanol iawn. Roeddwn yn falch o gael cydweithrediad y Gweinidog, nid yn unig o ran rhai o'r gwelliannau y gwnes i eu cyflwyno, ond hefyd, fel Aelodau eraill, hoffwn ddiolch iddo ef a'i dîm Bil, ac wrth gwrs tîm y Comisiwn, am weithio mor galed ar y Bil hwn, a oedd, rwy’n credu, yn Fil anodd am y rheswm syml nad oedd yn ceisio atgyfnerthu'r gyfraith—credaf fod Suzy Davies ac eraill wedi gwneud y pwynt hwnnw. Oherwydd hynny, roedd gweithio gyda'r gwahanol gymalau yn arbennig o anodd. Rwy'n meddwl bod cymalau o fewn is-gymalau o fewn is-gymalau mewn llawer o achosion, ac mae'n anodd iawn, rwy’n meddwl, cael darlun clir, wrth edrych ar y Bil, o’r hyn yn union yr ydym wedi'i wneud.
However, I am very pleased that we have got at least one concession from the Minister in terms of the neglect of empty buildings. The Minister helped me to redraft some amendments of my own in terms of taking owners to task if empty buildings are deliberately neglected. I think that we now have a regulation-making power, and I just urge the Minister to give some assurance that he’ll be looking—and hopefully his successors will be looking—at using that regulation power to the maximum effect, to ensure that not only are local authorities issuing preservation notices, but they do have powers to fine owners when they don’t comply with those notices and there is a clear case of deliberate neglect. I think that’s absolutely crucial, because I think one of the biggest problems we have—and all over Wales there are examples of this—is of buildings that are listed as being of historic interest that have been allowed to fall into disrepair—deliberately so in many cases—until eventually they burn down and end up as a ruin and, in some cases, just a cleared piece of ground. I think that we need to do a lot more to try to help local authorities and owners to find uses for those properties, and I think that may well be something that needs to be visited again in the next Assembly. But, certainly, I believe that that power is there, which the Minister could use if necessary. Fodd bynnag, rwy’n falch iawn ein bod wedi cael o leiaf un consesiwn gan y Gweinidog o ran esgeuluso adeiladau gwag. Helpodd y Gweinidog fi i ailddrafftio rhai o fy ngwelliannau fy hun o ran galw perchnogion i gyfrif os caiff adeiladau gwag eu hesgeuluso’n fwriadol. Credaf fod gennym nawr bŵer i wneud rheoliadau, a byddwn yn annog y Gweinidog i roi rhywfaint o sicrwydd y bydd yn edrych—a gobeithio y bydd ei olynwyr yn edrych—ar ddefnyddio’r pŵer rheoleiddio hwnnw i'r effaith fwyaf, i sicrhau nid yn unig bod awdurdodau lleol yn cyhoeddi hysbysiadau cadw, ond bod ganddynt bwerau i ddirwyo perchnogion pan nad ydynt yn cydymffurfio â’r hysbysiadau hynny ac y ceir achos clir o esgeulustod bwriadol. Rwy'n meddwl bod hynny'n gwbl hanfodol, oherwydd rwy’n meddwl mai un o'r problemau mwyaf sydd gennym—a cheir enghreifftiau o hyn ledled Cymru—yw adeiladau sydd wedi'u rhestru fel rhai o ddiddordeb hanesyddol sydd wedi cael eu gadael i ddadfeilio—yn fwriadol mewn llawer o achosion—nes eu bod yn y diwedd yn llosgi i lawr ac yn troi’n adfail ac, mewn rhai achosion, yn ddim ond darn o dir wedi’i glirio. Rwy’n meddwl bod angen inni wneud llawer mwy i geisio helpu awdurdodau lleol a pherchnogion i ganfod ffyrdd o ddefnyddio’r eiddo hwnnw, ac rwy’n meddwl ei bod yn bosibl iawn bod hynny’n rhywbeth y bydd angen edrych arno eto yn y Cynulliad nesaf. Ond, yn sicr, rwy’n credu bod y pŵer hwnnw yno, ac y gallai'r Gweinidog ei ddefnyddio pe byddai angen.
Minister, I’m very pleased that the advisory panel—although I’m still not entirely convinced of the need for an advisory panel—will now report annually, which I think is another good amendment as part of this, and also, of course, that there is a duty to consult on heritage partnerships as well. Weinidog, rwy'n falch iawn y bydd y panel cynghori—er nad wyf o hyd yn gwbl argyhoeddedig bod angen panel cynghori—nawr yn adrodd yn flynyddol; rwy’n meddwl bod hynny’n welliant da arall yn rhan o hyn, a hefyd, wrth gwrs, bod dyletswydd i ymgynghori ar bartneriaethau treftadaeth hefyd.
The one regret I have—and this is something that I want to revisit in a future Assembly—is in terms of buildings of special local interest. I think we had quite an interesting discussion around those amendments at Stage 3, particularly buildings like the Vulcan and other buildings like that which didn’t merit a historic listing, but clearly form part of the social fabric of a community. I think we do need to look at how we can do more to preserve those sorts of buildings. I think as the Minister himself said, there isn’t enough land in St Fagans to rebuild all those buildings there, as the Vulcan is being, but I think we do need to ensure that something is done to try to preserve those, and I hope that we can revisit that. But on balance, I think this is a better Bill now at Stage 4 than it was when it was first introduced, and for that reason, Deputy Presiding Officer, we will be supporting it. Yr un gofid sydd gennyf—ac mae hyn yn rhywbeth y hoffwn ailedrych arno mewn Cynulliad yn y dyfodol—yw adeiladau o ddiddordeb lleol arbennig. Rwy’n credu ein bod wedi cael trafodaeth eithaf diddorol am y gwelliannau hynny yng Nghyfnod 3, yn enwedig adeiladau fel y Vulcan ac adeiladau eraill o'r fath nad oedd yn haeddu eu rhestru'n hanesyddol, ond sy’n amlwg yn ffurfio rhan o wead cymdeithasol cymuned. Rwy’n meddwl bod angen inni edrych ar sut y gallwn wneud mwy i warchod y mathau hynny o adeiladau. Rwy’n meddwl, fel y dywedodd y Gweinidog ei hun, nad oes digon o dir yn Sain Ffagan i ailadeiladu’r holl adeiladau hynny yno, fel sy’n digwydd â’r Vulcan, ond rwy’n meddwl bod angen inni sicrhau bod rhywbeth yn cael ei wneud i geisio eu diogelu, ac rwy’n gobeithio y gallwn ailystyried hynny. Ond ar y cyfan, rwy’n meddwl bod hwn yn well Bil nawr yng Nghyfnod 4 nag yr oedd pan gafodd ei gyflwyno gyntaf, ac am y rheswm hwnnw, Ddirprwy Lywydd, byddwn yn ei gefnogi.
15:20 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
And the Minister to reply. A’r Gweinidog i ateb.
15:21 - Kenneth Skates
Thank you, Deputy Presiding Officer. I’m very grateful indeed to the Members for their comments. To Suzy Davies, I’m very grateful for your constructive advice throughout the process. We have not always agreed, but I’ve always respected your views and I am sorry that the Welsh Conservatives will not be able to support the Bill. Full consideration was given to the right to a fair trial during the development of the Bill’s provisions, and I am confident that the provisions will have a legitimate aim and provide a justified and proportionate means of achieving that aim, whilst not preventing a fair trial. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn wir i'r Aelodau am eu sylwadau. I Suzy Davies, rwy'n ddiolchgar iawn am eich cyngor adeiladol drwy gydol y broses. Nid ydym wedi cytuno bob amser, ond rwyf bob amser wedi parchu eich barn ac mae'n ddrwg gennyf na fydd Ceidwadwyr Cymru’n gallu cefnogi'r Bil. Rhoddwyd ystyriaeth lawn i'r hawl i gael prawf teg wrth ddatblygu darpariaethau’r Bil, ac rwy'n hyderus y bydd gan y darpariaethau nod dilys ac y byddant yn darparu modd cyfiawn a chymesur o gyflawni'r nod hwnnw, heb atal prawf teg.
Bethan Jenkins, I can assure you that the door was the right size, and my door, like my mind, was always open to you. [Interruption.] Shape; sorry. I apologise. My mind was always open to your views and suggestions, but some suggestions, such as the tax on property owners of listed buildings, I’m afraid would not have been fair or appropriate, and I am sorry that Plaid Cymru will be abstaining, as there are provisions that will undoubtedly lead to better protection of our heritage in Wales, and I’m very sad that your party will not be able to support those provisions. Bethan Jenkins, gallaf eich sicrhau bod y drws o’r maint iawn, a bod fy nrws i, fel fy meddwl, yn agored i chi bob amser. [Torri ar draws.] Siâp; mae'n ddrwg gennyf. Rwy'n ymddiheuro. Roedd fy meddwl bob amser ar agor i’ch barn a’ch awgrymiadau, ond yn anffodus ni fyddai rhai awgrymiadau, fel y dreth ar berchnogion eiddo sy’n adeiladau rhestredig, wedi bod yn deg nac yn briodol, ac mae'n ddrwg gennyf y bydd Plaid Cymru yn ymatal, oherwydd ceir darpariaethau a fydd yn ddiau yn arwain at ddiogelu ein treftadaeth yng Nghymru yn well, ac rwy'n drist iawn na fydd eich plaid yn gallu cefnogi'r darpariaethau hynny.
Peter Black, I’m very grateful indeed for the support and the invaluable advice that you’ve been able to offer throughout the process of designing this legislation. You probably won’t wish to hear this, but I think that your contributions have been as helpful as many of the Members’ contributions on my own benches, and it’s been a great honour to work with you in many cases on this Bill. I hope that we will indeed be able to ensure that buildings of local interest are protected, not just by me and my officials and the work that takes place in my portfolio, but also across Government and by other Ministers. Peter Black, rwy'n ddiolchgar iawn wir am y gefnogaeth a'r cyngor amhrisiadwy yr ydych wedi gallu eu cynnig drwy gydol y broses o ddylunio’r ddeddfwriaeth hon. Mae'n debyg na fyddwch yn dymuno clywed hyn, ond rwy’n meddwl bod eich cyfraniadau wedi bod mor ddefnyddiol â llawer o gyfraniadau’r Aelodau ar fy meinciau fy hun, ac mae wedi bod yn fraint fawr gweithio gyda chi mewn llawer o achosion ar y Bil hwn. Rwy’n gobeithio y gallwn yn wir sicrhau bod adeiladau o ddiddordeb lleol yn cael eu diogelu, nid dim ond gennyf i a fy swyddogion a'r gwaith sy'n digwydd yn fy mhortffolio, ond hefyd ar draws y Llywodraeth a gan Weinidogion eraill.
Deputy Presiding Officer, the Assembly must now decide whether it will give Wales its first dedicated legislation for the historic environment. The Bill represents, I believe, the culmination of a long process of development, informed by sound evidence and ongoing engagement with the public, with stakeholders and Members of this Assembly. Our historic environment has shaped our identity as a nation, and it remains a matter of vital importance to our citizens and communities. The often passionate debates about our neglected listed buildings, our historic place names and our religious buildings have shown how much we care. The Bill will help protect our most treasured historic sites. It will allow decisions to be made on the basis of sound information and will allow our decisions to be more accountable and transparent. In short, it will allow the Welsh historic environment to continue to deliver economic, social and cultural benefits and make an enduring contribution to the wellbeing of Wales and its people. I therefore urge the Assembly to pass the Historic Environment (Wales) Bill. Ddirprwy Lywydd, mae'n rhaid i’r Cynulliad nawr benderfynu a gaiff Cymru ei deddfwriaeth bwrpasol gyntaf ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol. Mae'r Bil yn cynrychioli, yn fy marn i, penllanw proses hir o ddatblygiad, yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac ymgysylltu parhaus â’r cyhoedd, â rhanddeiliaid ac ag Aelodau’r Cynulliad hwn. Mae ein hamgylchedd hanesyddol wedi siapio ein hunaniaeth fel cenedl, ac mae'n parhau i fod yn fater hollbwysig i'n dinasyddion a'n cymunedau. Mae'r dadleuon, a fu’n aml yn angerddol, am esgeuluso ein hadeiladau rhestredig, ein henwau lleoedd hanesyddol a’n hadeiladau crefyddol wedi dangos pa mor bwysig yw hyn inni. Bydd y Bil yn helpu i ddiogelu ein safleoedd hanesyddol a drysorir fwyaf. Bydd yn caniatáu inni wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth gadarn a bydd yn caniatáu i’n penderfyniadau fod yn fwy atebol a thryloyw. Yn fyr, bydd yn caniatáu i amgylchedd hanesyddol Cymru barhau i gynnig manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ac yn gwneud cyfraniad parhaol i les Cymru a'i phobl. Felly, rwy’n annog y Cynulliad i basio'r Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).
15:24 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting until voting time. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio Voting deferred until voting time.
7. Dadl ar Gyllideb Ddrafft 2016-17 7. Debate on the Draft Budget 2016-17
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Elin Jones. The following amendments have been selected: amendment 1 in the name of Paul Davies, and amendments 2, 3 and 4 in the name of Elin Jones.
15:24 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Item 7 is the debate on the draft budget for 2016-17. I call on the Minister for Finance and Government Business to move the motion. Jane Hutt. Eitem 7 yw’r ddadl ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-17. Galwaf ar Weinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth i gynnig y cynnig. Jane Hutt.
Cynnig NDM5947 Jane Hutt Motion NDM5947 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12: To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-2017 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar 8 Rhagfyr 2015. Notes the Draft Budget for the financial year 2016-2017 laid in the Table Office by the Minister for Finance and Government Business on 8 December 2015.
Cynigiwyd y cynnig. Motion moved.
15:24 - Jane Hutt
Dirprwy Lywydd, I welcome the opportunity today to debate our draft budget, ‘Fairer, Better Wales—Investing for the Future’. The focus in this debate is on our future spending plans, but I’m also publishing later today the second supplementary budget for 2015-16, which sets out the latest budget figures and allocations for this financial year to debate in early March. Ddirprwy Lywydd, croesawaf y cyfle heddiw i drafod ein cyllideb ddrafft, 'Cymru Decach, Cymru Well—Buddsoddi at y Dyfodol'. Mae’r ddadl hon yn canolbwyntio ar ein cynlluniau gwario yn y dyfodol, ond rwyf hefyd yn cyhoeddi’n nes ymlaen heddiw yr ail gyllideb atodol ar gyfer 2015-16, sy'n nodi'r ffigurau cyllideb diweddaraf a’r dyraniadau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ar gyfer dadl ddechrau mis Mawrth.
Our draft budget sets out a clear way forward for Wales. We’re abiding by our principles as a Welsh Labour Government by putting our public services first and putting them on a sustainable footing to protect and enhance the services that mean the most to the people of Wales. Mae ein cyllideb ddrafft yn nodi ffordd glir ymlaen i Gymru. Rydym yn cadw at ein hegwyddorion fel Llywodraeth Lafur Cymru drwy roi ein gwasanaethau cyhoeddus yn gyntaf a’u rhoi ar sail gynaliadwy i ddiogelu a gwella'r gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl Cymru.
This draft budget has a number of distinguishing features. We’ve allocated nearly £300 million extra to the Welsh NHS, which has increased funding also for the intermediate care fund by £30 million to deliver more integrated health and social care services, and an additional £10 million capital for the intermediate care fund was announced today for step-down and re-ablement facilities. We’re putting £30 million into older people’s and mental health services, and an extra £21 million into local government for social services. This investment sets us clearly apart in the UK public finances context, as latest figures show that our combined spending on health and social services is 7 per cent higher per person than in England. Mae gan y gyllideb ddrafft hon nifer o nodweddion gwahaniaethol. Rydym wedi dyrannu bron i £300 miliwn yn ychwanegol i GIG Cymru, sydd hefyd wedi darparu £30 miliwn ychwanegol o gyllid i’r gronfa gofal canolraddol i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mwy integredig, a heddiw cyhoeddwyd cyfalaf ychwanegol o £10 miliwn i’r gronfa gofal canolraddol ar gyfer cyfleusterau llai dwys ac ailalluogi. Rydym yn rhoi £30 miliwn i mewn i wasanaethau i bobl hŷn a gwasanaethau iechyd meddwl, a £21 miliwn ychwanegol i lywodraeth leol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r buddsoddiad hwn yn ein gosod ar wahân yn glir yng nghyd-destun cyllid cyhoeddus y DU; mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod ein gwariant cyfunol ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol 7 y cant yn uwch y pen nag yn Lloegr.
I’d like to thank the Finance Committee, and indeed all Assembly committees, for their work, which has been compressed into a short timetable due to the lateness of the UK Government spending review. I will, of course, respond to the Finance Committee’s report in due course. But, Dirprwy Lywydd, it’s clear that being decisive about our priorities for this budget has had an impact on other budget areas. The strategic integrated impact assessment sets out key impacts and how we will seek to mitigate them. Let me remind Members that we all faced uncertainty waiting for the settlement. Despite the challenging timescale, we published a draft budget within two weeks of the spending review, providing clarity and early certainty for our partners. But our budget has had a 3.6 per cent real-terms reduction over the next four years and our budget will be 11 per cent lower by the end of the decade than it was in 2010. The Chancellor’s spending review failed to signal an end to austerity. In fact, it is far from over, and budget cuts for Wales are as much a reality for the future as they have been in the past. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid, ac yn wir i holl bwyllgorau'r Cynulliad, am eu gwaith, sydd wedi’i gywasgu i amserlen fer oherwydd bod yr adolygiad o wariant Llywodraeth y DU yn hwyr. Byddaf, wrth gwrs, yn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid maes o law. Ond, Ddirprwy Lywydd, mae'n glir bod bod yn bendant am ein blaenoriaethau ar gyfer y gyllideb hon wedi effeithio ar feysydd eraill yn y gyllideb. Mae'r asesiad o’r effaith integredig strategol yn amlinellu effeithiau allweddol a sut y byddwn yn ceisio eu lliniaru. Gadewch imi atgoffa’r Aelodau ein bod i gyd wedi wynebu ansicrwydd wrth aros am y setliad. Er gwaethaf yr amserlen heriol, cyhoeddwyd cyllideb ddrafft gennym o fewn pythefnos i'r adolygiad o wariant, gan ddarparu eglurder a sicrwydd cynnar i’n partneriaid. Ond mae ein cyllideb wedi cael gostyngiad o 3.6 y cant mewn termau real dros y pedair blynedd nesaf a bydd ein cyllideb 11 y cant yn is erbyn diwedd y degawd nag yr oedd yn 2010. Mae adolygiad gwariant y Canghellor wedi methu â nodi diwedd i gyni. Yn wir, mae'n bell o fod drosodd, ac mae toriadau i gyllideb Cymru yr un mor debygol ar gyfer y dyfodol ag y buont yn y gorffennol.
Once we published our plans, our partners responded immediately and positively. The Welsh NHS Confederation, said: Ar ôl i ni gyhoeddi ein cynlluniau, ymatebodd ein partneriaid yn gadarnhaol ar unwaith. Dywedodd Conffederasiwn GIG Cymru:
‘We welcome the increase in health spending proposed in today’s draft budget…. In a period of austerity, combined with increases in demand, rising costs of providing services and an understandable expectation to continuously improve quality and safety, NHS Wales faces a significant financial challenge.’ 'Rydym yn croesawu'r cynnydd yn y gwariant ar iechyd a gynigiwyd yn y gyllideb ddrafft heddiw.... Mewn cyfnod o gyni, ynghyd â mwy o alw, cynnydd yng nghostau darparu gwasanaethau a disgwyliad dealladwy i barhau i wella ansawdd a diogelwch, mae GIG Cymru yn wynebu her ariannol sylweddol.'
In responding to our draft budget, Councillor Aaron Shotton said: Wrth ymateb i'n cyllideb ddrafft, dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton:
‘We also welcome the Welsh Government’s commitment to protect services like education and social care. This recognises the strong call made by the WLGA for recognition of the important contribution council-run services make to reducing costly pressures in other public services such as the NHS.’ Rydym hefyd yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau fel addysg a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cydnabod yr alwad gref a wnaed gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am gydnabyddiaeth i gyfraniad pwysig y gwasanaethau a redir gan gynghorau tuag at leihau pwysau costus mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill fel y GIG.
We are investing in our public services because the evidence tells us that the number of people over 65 and the number of young people are projected to increase, identifying pressures that will impact on our schools and on our health and on our social services. We have a responsibility and a duty to respond. Rydym yn buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus oherwydd mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym y rhagamcanir y bydd nifer y bobl dros 65 a nifer y bobl ifanc yn cynyddu, gan nodi pwysau a fydd yn effeithio ar ein hysgolion ac ar ein hiechyd ac ar ein gwasanaethau cymdeithasol. Mae gennym gyfrifoldeb a dyletswydd i ymateb.
Maintaining our commitment to tackling inequalities in educational attainment, nearly £35 million of the £40 million of extra funding provided to schools will also be funded through the revenue support grant. We’ve also increased the investment in the pupil deprivation grant, in line with the budget agreement with the Welsh Liberal Democrats. We are protecting further education, with £5 million more to create 2,500 apprenticeships. Just over two weeks ago, the principal of Bridgend College, said: I gynnal ein hymrwymiad i unioni anghydraddoldebau mewn cyrhaeddiad addysgol, bydd bron i £35 miliwn o'r £40 miliwn o gyllid ychwanegol a ddarperir i ysgolion hefyd yn cael ei ariannu drwy'r grant cynnal refeniw. Rydym hefyd wedi cynyddu’r buddsoddiad yn y grant amddifadedd disgyblion, yn unol â'r cytundeb cyllideb gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Rydym yn diogelu addysg bellach, gyda £5 miliwn yn fwy i greu 2,500 o brentisiaethau. Ychydig dros bythefnos yn ôl, dywedodd pennaeth Coleg Pen-y-bont ar Ogwr:
‘It is very encouraging that during such austere times, Welsh Government has announced an additional 5million investment into the apprenticeship budget.’ 'Mae'n galonogol iawn, yn ystod cyfnod anodd fel hwn, bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad 5 miliwn ychwanegol yn y gyllideb prentisiaethau.'
We remain committed to spending on services and programmes that can either prevent problems happening or stop problems from getting worse, and this is why we’ve protected our universal benefits, keeping budgets for Flying Start, Communities First and Supporting People at the same level as last year. Rydym yn dal i fod yn ymrwymedig i wario ar wasanaethau a rhaglenni a all naill ai atal problemau rhag digwydd neu atal problemau rhag gwaethygu, a dyna pam yr ydym wedi diogelu ein buddion cyffredinol, gan gadw cyllidebau Dechrau'n Deg, Cymunedau yn Gyntaf a Chefnogi Pobl ar yr un lefel â’r flwyddyn ddiwethaf.
Although we received a small rise in our capital budget for next year, it fails to mitigate the cuts we’ve had in previous years. However, our record of achievement across a wide-ranging set of economic indicators shows that we are right to invest in jobs and economic growth, and I’m announcing today a further £120 million capital boost for 2016-17 to support our investment priorities set out in our Wales infrastructure investment plan. This builds on the additional £230 million already reflected in the draft budget, but the new money I’m announcing today supports investment across a number of sectors, including £50 million for priority transport projects, £20 million to support housing supply and regeneration, the £10 million I have mentioned for the intermediate care fund to support independent living, £20 million to support capital investment in the health service, specifically £10 million for new ambulances and £10 million for neonatal services. This extra funding has the potential to create around 2,000 jobs associated with the construction phases, supporting economic growth both in the short and long term. With the funding announced today, we’ve allocated an additional £1.6 billion of funding over and above core departmental budgets to support priority projects through the Wales infrastructure investment plan, and also, of course, using a range of innovative finance approaches to boost our resources. Er ein bod wedi cael cynnydd bach yn ein cyllideb cyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae'n methu â lliniaru'r toriadau yr ydym wedi’u cael yn y blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, mae ein hanes o gyflawni ar draws cyfres eang o ddangosyddion economaidd yn dangos ein bod yn iawn i fuddsoddi mewn swyddi a thwf economaidd, ac rwy'n cyhoeddi heddiw hwb cyfalaf pellach o £120 miliwn ar gyfer 2016-17 i gefnogi ein blaenoriaethau buddsoddi a nodir yn ein cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru. Mae hyn yn adeiladu ar y £230 miliwn ychwanegol a nodwyd eisoes yn y gyllideb ddrafft, ond mae'r arian newydd yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn cefnogi buddsoddiad ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys £50 miliwn ar gyfer prosiectau trafnidiaeth blaenoriaeth, £20 miliwn i gefnogi cyflenwad tai ac adfywio, y £10 miliwn yr wyf wedi sôn amdano i’r gronfa gofal canolraddol i gefnogi byw'n annibynnol, £20 miliwn i gefnogi buddsoddiad cyfalaf yn y gwasanaeth iechyd, yn benodol £10 miliwn ar gyfer ambiwlansys newydd a £10 miliwn ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol. Mae gan yr arian ychwanegol hwn y potensial i greu tua 2,000 o swyddi yn gysylltiedig â'r camau adeiladu, gan gynnal twf economaidd yn y tymor byr a'r tymor hir. Gyda'r cyllid a gyhoeddwyd heddiw, rydym wedi dyrannu £1.6 biliwn ychwanegol o arian ar ben cyllidebau adrannol craidd i gefnogi prosiectau blaenoriaeth drwy'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, a hefyd, wrth gwrs, wedi defnyddio ystod o ddulliau cyllid arloesol i roi hwb i'n hadnoddau.
Dirprwy Lywydd, we’ve listened carefully to the representations that have been made about the evidence of the impacts of some budget decisions, and, as a result, today I am announcing the following adjustments to our plans. The provisional revenue support grant settlement clearly signalled the strength of our commitment to the delivery of local services. At an average of 1.4 per cent, the reduction was significantly lower than anticipated. Reviewing the evidence from local authorities on the pressures they’re facing, I am making an additional allocation of £2.5 million from reserves to support the councils of Powys, Ceredigion and Monmouthshire, and this specific allocation will only be applied to these three authorities. Ddirprwy Lywydd, rydym wedi gwrando'n ofalus ar y sylwadau a wnaethpwyd am y dystiolaeth o effeithiau rhai penderfyniadau cyllidebol, ac, o ganlyniad, heddiw rwy’n cyhoeddi’r addasiadau canlynol i'n cynlluniau. Roedd y setliad grant cynnal refeniw dros dro yn arwydd clir o gryfder ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau lleol. Ar gyfartaledd o 1.4 y cant, roedd y gostyngiad yn llawer is na'r hyn a ragwelwyd. Ar ôl adolygu'r dystiolaeth gan awdurdodau lleol am y pwysau sy’n eu hwynebu, rwy’n gwneud dyraniad ychwanegol o £2.5 miliwn o'r cronfeydd wrth gefn i gefnogi cynghorau Powys, Ceredigion a Sir Fynwy, a dim ond i’r tri awdurdod hyn y bydd y dyraniad penodol hwn ar gael.
The proposed change to Higher Education Funding Council for Wales’s budget has also been raised during the scrutiny period, and we’ve been clear that this has been made up of two elements: firstly, £21.1 million is the final element of the tuition fee grant transfer from HEFCW to Welsh Government, in line with previously agreed plans. But, following further discussions with the sector, we’ve decided not to proceed with this transfer for 2016-17, and this adjustment will be reflected in our final budget. As far as HEFCW’s programme budgets are concerned, our priority has always been to the student, ensuring that everyone with the potential to benefit is able to access higher education, regardless of their circumstances or mode of study. It is in line with our objectives that I’m earmarking £10 million of additional funding to be carried forward to 2016-17, £5 million of which will be used to support part-time provision. And £5 million also so that we can continue to build our capacity and excellence in Wales, including world-class scientific research—also a key priority for this Welsh Government. Mae'r newid arfaethedig i gyllideb Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru hefyd wedi ei godi yn ystod y cyfnod craffu, ac rydym wedi bod yn glir bod hyn yn cynnwys dwy elfen: yn gyntaf, £21.1 miliwn yw elfen olaf trosglwyddo’r grant ffioedd dysgu o CCAUC i Lywodraeth Cymru, yn unol â chynlluniau y cytunwyd arnynt yn flaenorol. Ond, yn dilyn trafodaethau pellach gyda'r sector, rydym wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r trosglwyddiad hwn ar gyfer 2016-17, ac adlewyrchir yr addasiad hwn yn ein cyllideb derfynol. Cyn belled ag y mae cyllidebau rhaglenni CCAUC dan sylw, y myfyrwyr fu ein blaenoriaeth bob amser, i sicrhau bod pawb sydd â'r potensial i gael budd yn gallu cael mynediad i addysg uwch, waeth beth fo'u hamgylchiadau na’u dull astudio. Yn unol â'n hamcanion, rwy’n clustnodi £10 miliwn o arian ychwanegol i’w gario ymlaen i 2016-17, a defnyddir £5 miliwn o hwnnw i gefnogi darpariaeth ran-amser. A £5 miliwn hefyd fel y gallwn barhau i adeiladu ein gallu a’n rhagoriaeth yng Nghymru, gan gynnwys ymchwil gwyddonol o safon fyd-eang—un arall o flaenoriaethau allweddol y Llywodraeth Cymru hon.
Ken Skates has already announced plans to reverse the planned cut to the Welsh Books Council, but, Dirprwy Lywydd, scrutiny of our draft budget this year again has served to highlight the challenges of delivering priorities for a fairer, better Wales when budgets are falling. Where we’ve considered that evidence is compelling, we have made some adjustments to our spending plans to support our priorities. Dirprwy Lywydd, we’ll not be supporting the amendments; we are confident that our plans are the right plans to invest in the future of Wales: a clear way forward, supporting jobs growth and the services that mean the most to the people of Wales. I move the draft budget motion. Mae Ken Skates eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i newid y toriad a gynlluniwyd i Gyngor Llyfrau Cymru, ond, Ddirprwy Lywydd, mae craffu ar ein cyllideb ddrafft eleni eto wedi tynnu sylw at yr her o gyflawni blaenoriaethau ar gyfer Cymru decach, a gwell pan fo cyllidebau’n gostwng. Pan oeddem o’r farn bod y dystiolaeth honno’n rymus, rydym wedi gwneud rhai addasiadau i'n cynlluniau gwariant i gefnogi ein blaenoriaethau. Ddirprwy Lywydd, ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliannau; rydym yn hyderus mai ein cynlluniau ni yw'r cynlluniau cywir i fuddsoddi yn nyfodol Cymru: ffordd glir ymlaen, cefnogi twf swyddi a'r gwasanaethau sy'n golygu fwyaf i bobl Cymru. Cynigiaf y cynnig cyllideb ddrafft.
15:33 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
I call the Chair of the Finance Committee, Jocelyn Davies. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Jocelyn Davies.
15:33 - Jocelyn Davies
Thank you, Deputy Presiding Officer. This year, the scrutiny of the draft budget was later than usual, and, of course, this allowed the Finance Committee to run a consultation on the actual figures in the draft budget, which proved a successful approach, resulting in the most responses received for any budget consultation during this Assembly. So, it was very helpful for our consideration of the draft budget to have so many informed responses. Now, the committee was mindful, while considering the draft budget, that we are scrutinising spending that will take place in the fifth Assembly, and it will be for the next Government to implement. The committee’s report contains a number of conclusions and recommendations, and I’m sure you’ll be delighted to hear that I won’t be covering them all in my contribution this afternoon, but I strongly recommend the Welsh Government accept each of them. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Eleni, roedd craffu ar y gyllideb ddrafft yn hwyrach nag arfer, ac, wrth gwrs, caniataodd hyn i’r Pwyllgor Cyllid gynnal ymgynghoriad ar y ffigurau gwirioneddol yn y gyllideb ddrafft, a fu’n ddull llwyddiannus, gan arwain at y nifer fwyaf o ymatebion a gafwyd i unrhyw ymgynghoriad cyllideb yn ystod y Cynulliad hwn. Felly, roedd yn ddefnyddiol iawn i’n hystyriaeth o'r gyllideb ddrafft ein bod wedi cael cynifer o ymatebion gwybodus. Nawr, roedd y pwyllgor yn ymwybodol, wrth ystyried y gyllideb ddrafft, ein bod yn craffu ar wariant a fydd yn digwydd yn y pumed Cynulliad, ac mai’r Llywodraeth nesaf fydd yn ei gyflawni. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys nifer o gasgliadau ac argymhellion, ac rwy'n siŵr y byddwch yn falch o glywed na fyddaf yn sôn amdanynt i gyd yn fy nghyfraniad y prynhawn yma, ond rwy’n argymell yn gryf bod Llywodraeth Cymru yn derbyn pob un ohonynt.
Now, last year, one of the main topics of the committee’s budget scrutiny was the increasing funding allocation to the health service, and we saw that continue this year. The Minister told us that the Welsh Government had collectively decided that health was to be the priority, and, of course, it’s not the committee’s role to question the Government’s priorities, but we do question the increase in allocation to health, with seemingly little accompanying evidence of service transformation. We heard some localised examples of the initiatives taking place in some areas of health, but we heard no evidence of the broader strategic long-term service reform. The committee urges the Government to identify how additional spending will be used towards service transformation. Nawr, y llynedd, un o brif bynciau gwaith craffu’r pwyllgor ar y gyllideb oedd y cynnydd yn y dyraniad cyllid i'r gwasanaeth iechyd, a gwelsom hynny’n parhau eleni. Dywedodd y Gweinidog wrthym fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ar y cyd mai iechyd fyddai’r flaenoriaeth, ac, wrth gwrs, nid lle’r pwyllgor yw cwestiynu blaenoriaethau'r Llywodraeth, ond rydym yn cwestiynu’r cynnydd yn y dyraniad i iechyd, gan nad yw’n ymddangos bod llawer o dystiolaeth o weddnewid gwasanaethau. Clywsom rai enghreifftiau lleol o'r mentrau sy'n digwydd mewn rhai meysydd iechyd, ond ni chlywsom unrhyw dystiolaeth o ddiwygio gwasanaethau yn ehangach ac yn strategol ar gyfer y tymor hir. Mae'r pwyllgor yn annog y Llywodraeth i nodi sut y caiff gwariant ychwanegol ei ddefnyddio tuag at weddnewid y gwasanaeth.
The evidence from local government witnesses shows that, compared to the cuts they had been expecting, they were relatively happy with the settlement they received. However, the committee remains concerned about how the cuts to local government could affect the delivery of services, which then impacts on the health sector. The preventative services offered by local government clearly have a role in supporting the work of the health service, and this must be considered an important factor when making funding decisions. Mae'r dystiolaeth gan dystion llywodraeth leol yn dangos, o gymharu â'r toriadau y buont yn eu disgwyl, eu bod yn gymharol fodlon â’r setliad a gawsant. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn parhau i fod yn bryderus ynghylch sut y gallai'r toriadau i lywodraeth leol effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau, sydd yna’n effeithio ar y sector iechyd. Yn amlwg, mae lle i'r gwasanaethau ataliol a gynigir gan lywodraeth leol wrth gefnogi gwaith y gwasanaeth iechyd, ac mae'n rhaid ystyried hyn fel ffactor pwysig wrth wneud penderfyniadau am ariannu.
Furthermore, we are concerned that continuing budget cuts will impact significantly on non-statutory services, such as libraries and leisure centres—services that also contribute to the health and wellbeing of the people of Wales. We have recommended that the Welsh Government look at alternative delivery mechanisms that can support the ongoing provision of non-statutory services. I’m sure that Ceredigion, Powys and Monmouthshire will be delighted with the announcement that we heard today, but we also recommend that the formula for the local government settlement be fundamentally reviewed, along with the introduction of a funded floor to limit the cuts to individual authorities in order to protect service delivery. Hefyd, rydym yn pryderu y bydd parhau â thoriadau i’r gyllideb yn effeithio'n sylweddol ar wasanaethau anstatudol, fel llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden—gwasanaethau sydd hefyd yn cyfrannu at iechyd a lles pobl Cymru. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar fecanweithiau darparu amgen a all gefnogi darpariaeth barhaus gwasanaethau anstatudol. Rwy'n siŵr y bydd Ceredigion, Powys a Sir Fynwy wrth eu boddau â’r cyhoeddiad a glywsom heddiw, ond rydym hefyd yn argymell y dylid adolygu'r fformiwla ar gyfer setliadau llywodraeth leol yn sylfaenol, ynghyd â chyflwyno terfyn isaf ariannu i gyfyngu ar y toriadau i awdurdodau unigol er mwyn diogelu darpariaeth gwasanaethau.
Now, cuts to higher education were a topic the committee received the most written evidence on. The evidence showed that the proposed cuts will negatively impact on services being offered by Welsh universities. It is clear that the reduction in funding would have an impact on the universities’ ability to deliver on the Welsh Government’s priorities, for example, widening access, studying through Welsh, part-time, and research, amongst other things. Therefore, the committee recommends that this be reviewed. Obviously, I’ve heard what the Minister’s had to say this afternoon, and we were pleased that, during evidence, the Minister assured us that she took our concerns seriously. Nawr, toriadau i addysg uwch oedd y pwnc y cafodd y pwyllgor y mwyaf o dystiolaeth ysgrifenedig amdano. Dangosodd y dystiolaeth y bydd y toriadau arfaethedig yn cael effaith anffafriol ar wasanaethau a gynigir gan brifysgolion Cymru. Mae'n amlwg y byddai'r gostyngiad yn y cyllid yn effeithio ar allu'r prifysgolion i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, er enghraifft, ehangu mynediad, astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, astudio rhan-amser, ac ymchwil, ymysg pethau eraill. Felly, mae'r pwyllgor yn argymell adolygu hyn. Yn amlwg, rwyf wedi clywed yr hyn a oedd gan y Gweinidog i'w ddweud y prynhawn yma, ac roeddem yn falch bod y Gweinidog, yn ystod tystiolaeth, wedi ein sicrhau ei bod yn cymryd ein pryderon o ddifrif.
We also looked at the Government’s approach to tackling poverty, and we accept that the Welsh Government does not have some of the key levers that can be used to reduce poverty. But we believe that the Government is too focused on alleviating poverty, rather than addressing its root causes. Therefore, the committee recommends that the Government promotes a more joined-up approach to poverty reduction when formulating policies, across all departments. Buom hefyd yn edrych ar ddulliau’r Llywodraeth o drechu tlodi, ac rydym yn derbyn nad oes gan Lywodraeth Cymru rai o'r ysgogiadau allweddol y gellir eu defnyddio i leihau tlodi. Ond credwn fod y Llywodraeth yn canolbwyntio gormod ar liniaru tlodi, yn hytrach nag ymdrin â'i achosion gwreiddiol. Felly, mae'r pwyllgor yn argymell bod y Llywodraeth yn hyrwyddo dull mwy cydgysylltiedig o leihau tlodi wrth lunio polisïau, ar draws pob adran.
We also make the plea that domestic abuse services be maintained, in line with the protection given to Supporting People in the budget. We were gravely concerned that protection of the Supporting People budget may not preserve services, as providers are expecting a very significant cut, which is at odds with what this draft budget purports to indicate. Rydym hefyd yn gwneud ple i gynnal gwasanaethau cam-drin domestig, yn unol â'r warchodaeth a roddir i Cefnogi Pobl yn y gyllideb. Roeddem yn ddifrifol bryderus na fyddai diogelu cyllideb Cefnogi Pobl yn cadw gwasanaethau, gan fod darparwyr yn disgwyl toriad sylweddol iawn, sy’n groes i'r hyn y mae’r gyllideb ddrafft hon yn honni ei ddangos.
Finally, I’d like to address the way the budget is presented by the Government. Through this Assembly term, we’ve worked with the Minister to make positive changes to budget presentation. However, this year, we are disappointed to see how year-on-year comparisons have been presented, and we believe this reduces transparency and makes the process of scrutinising the Welsh Government spending more difficult. We would recommend that future Welsh Governments consult with the Finance Committee when making significant changes to budget presentation, to ensure that effective scrutiny is possible. Yn olaf, hoffwn roi sylw i'r ffordd y mae'r Llywodraeth yn cyflwyno’r gyllideb. Drwy gydol tymor y Cynulliad hwn, rydym wedi gweithio gyda'r Gweinidog i wneud newidiadau cadarnhaol i'r ffordd y cyflwynir cyllidebau. Fodd bynnag, eleni, rydym yn siomedig o weld sut y mae cymariaethau blwyddyn ar ôl blwyddyn wedi eu cyflwyno, ac rydym yn credu bod hyn yn lleihau tryloywder ac yn gwneud y broses o graffu ar wariant Llywodraeth Cymru yn fwy anodd. Byddem yn argymell bod Llywodraethau Cymru yn y dyfodol yn ymgynghori gyda'r Pwyllgor Cyllid wrth wneud newidiadau sylweddol i gyflwyno cyllidebau, er mwyn sicrhau bod craffu effeithiol yn bosibl.
As always, I’d also like to thank everyone who responded to the consultation, despite it being run over the Christmas period. The committee is grateful to all the individuals and organisations who took the time to respond. I’d like to thank everyone who provided oral evidence to the committee, and I’d particularly like to thank the Minister for her consistent co-operation and collaboration with Finance Committee work, and, of course, the Commission staff for their efforts in supporting us. Fel bob amser, hoffwn hefyd ddiolch i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad, er iddo gael ei gynnal dros gyfnod y Nadolig. Mae'r pwyllgor yn ddiolchgar i'r holl unigolion a sefydliadau a roddodd o'u hamser i ymateb. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth lafar i'r pwyllgor, a hoffwn ddiolch yn arbennig i'r Gweinidog am ei chydweithrediad a’i chydweithio cyson â gwaith y Pwyllgor Cyllid, ac, wrth gwrs, i staff y Comisiwn am eu hymdrechion i’n cefnogi ni.
This is both the last draft budget of this Assembly, and the final budget that will come before the Finance Committee with me as Chair. Therefore, I’d like this to be a time, I think, to reflect on how effective our scrutiny of the Welsh Government spending has been, and, really, I have to say, has it resulted in the budget changes? And I think, sometimes, that that is a great shame. Because this must not simply be a process that we routinely undertake, and the next Assembly, I think, must strive to find a way of this scrutiny being meaningful and productive, or there will be no confidence in its being worthwhile. Thank you, Deputy Presiding Officer. Hon yw cyllideb ddrafft olaf y Cynulliad hwn, a’r gyllideb olaf a ddaw gerbron y Pwyllgor Cyllid gyda mi fel Cadeirydd. Felly, hoffwn i hon fod yn adeg, rwy’n meddwl, i fyfyrio ar ba mor effeithiol y bu ein craffu ar wariant Llywodraeth Cymru, ac, yn wir, mae'n rhaid imi ddweud, a yw wedi arwain at y newidiadau i’r gyllideb? Ac rwy’n meddwl, weithiau, bod hynny'n drueni mawr. Oherwydd mae'n rhaid i hyn fod yn fwy na dim ond proses yr ydym yn ymgymryd â hi’n rheolaidd, ac mae'n rhaid i’r Cynulliad nesaf, rwy’n meddwl, ymdrechu i ddod o hyd i ffordd o sicrhau bod y craffu hwn yn ystyrlon ac yn gynhyrchiol, neu ni fydd unrhyw un yn credu ei fod yn werth chweil. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
15:39 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
I have selected the four amendments to the motion, and I call on Nick Ramsay to move amendment 1, tabled in the name of Paul Davies. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Nick Ramsay i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 1—Paul Davies Gwelliant 1—Paul Davies
Dileu pob dim a rhoi yn ei le: Delete all and replace with:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: To propose that the National Assembly for Wales:
Yn credu nad yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 yn diwallu anghenion pobl Cymru. Does not believe the Welsh Government's Draft Budget 2016-17 meets the needs of the Welsh people.
Cynigiwyd gwelliant 1. Amendment 1 moved.
15:39 - Nick Ramsay
Thank you, Deputy Presiding Officer. And, as our amendment indicates, the Welsh Conservatives will not be supporting the Welsh Government’s draft budget for 2016-17, the sequel to last year’s part 1 Welsh Government-Lib Dem budget. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac, fel y mae ein gwelliant yn ei nodi, ni fydd Ceidwadwyr Cymru yn cefnogi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17, y dilyniant i gyllideb rhan 1 Llywodraeth Cymru—Dem Rhydd y llynedd.
As with so many sequels over the years, it doesn’t quite hit the mark, Minister. With piecemeal rises in health and education, this budget is more an attempt to make up for past underfunding than a genuine investment in our vital services. I’d like to focus on health, education and local government as three principal areas of concern. The draft budget shows a £245 million increase in resource spending on health and social services, thanks to an additional £260 million in funding for the delivery of core NHS services. Fel cynifer o ddilyniannau dros y blynyddoedd, nid yw'n taro’r marc yn llwyr, Weinidog. Gyda chynyddiadau tameidiog mewn iechyd ac addysg, mae'r gyllideb hon yn fwy o ymgais i wneud iawn am danariannu yn y gorffennol na buddsoddiad gwirioneddol yn ein gwasanaethau hanfodol. Hoffwn ganolbwyntio ar iechyd, addysg a llywodraeth leol fel tri phrif faes pryder. Mae'r gyllideb ddrafft yn dangos cynnydd o £245 miliwn mewn gwariant adnoddau ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, diolch i £260 miliwn yn ychwanegol mewn cyllid ar gyfer darparu gwasanaethau craidd y GIG.
However, this is, of course, against the backdrop of five years of Welsh Labour Government cuts. In fact, spending on the Welsh NHS has fallen by 2.4 per cent since 2010-11. Adjusted for age, health spending per capita in Wales remains £50 lower than in England. The Nuffield Trust has shown that, in terms of spend per capita for NHS services, Wales spends £1,875 per head, compared to £1,925 across the border in England. Welsh Conservatives have consistently warned the Welsh Labour Government about the failure to adequately invest in the Welsh NHS. And it’s not just us saying this. Cardiff and the Vale University Local Health Board have stated, ‘When we received news of our allocation, we were then able to set that against all of these costs, and for us, were left with around £26 million of efficiency still to find.’ Fodd bynnag, mae hyn, wrth gwrs, yng nghyd-destun cefndir o bum mlynedd o doriadau gan Lywodraeth Lafur Cymru. Mewn gwirionedd, mae gwariant ar y GIG yng Nghymru wedi gostwng 2.4 y cant ers 2010-11. Wedi'i addasu ar gyfer oedran, mae gwariant ar iechyd fesul pen yng Nghymru yn parhau i fod £50 yn is nag yn Lloegr. Mae Ymddiriedolaeth Nuffield wedi dangos, o ran gwariant y pen am wasanaethau’r GIG, bod Cymru yn gwario £1,875 fesul pen, o'i gymharu â £1,925 dros y ffin yn Lloegr. Mae Ceidwadwyr Cymru wedi rhybuddio Llywodraeth Lafur Cymru yn gyson am y methiant i fuddsoddi’n ddigonol yn y GIG yng Nghymru. Ac nid dim ond ni sy’n dweud hyn. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi dweud, 'Pan gawsom y newyddion am ein dyraniad, roeddem yna’n gallu gosod hynny yn erbyn yr holl gostau hyn, ac i ni, cawsom ein gadael ag angen dod o hyd i oddeutu £26 miliwn o arbedion o hyd.'
Minister, with one in seven people in Wales on a waiting list, the number waiting over 26 weeks for treatment up by 70 per cent since 2011, and Wales’s critical care bed capacity being the lowest in Europe, the consequences of the cuts to the health budget over the last five years have been vast. Weinidog, mae un o bob saith o bobl yng Nghymru ar restr aros, mae'r nifer sy'n aros dros 26 wythnos am driniaeth i fyny 70 y cant ers 2011, ac mae nifer y gwelyau gofal critigol yng Nghymru yr isaf yn Ewrop—mae canlyniadau’r toriadau i’r gyllideb iechyd dros y pum mlynedd diwethaf wedi bod yn enfawr.
And it gets worse. As conclusion 3 of the Finance Committee’s report makes clear, the committee did not receive sufficient evidence that this year’s additional funding will lead to significant reform and service improvements, rather than simply compensating for overspends. So, there is a question mark, a real question mark, over whether this money is going to achieve its aim. Minister, isn’t it the case that the piecemeal funding of the Welsh NHS, which we have come to expect from this Welsh Government, is no substitute for a properly funded, properly protected NHS budget? This is what they got in England, this is what people should be able to expect living here—[Interruption.] You don’t like hearing the facts, but they got it there; they didn’t get it here. Five years of underspending and you think now— Ac mae pethau'n mynd yn waeth. Fel y mae casgliad 3 adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn ei gwneud yn glir, ni chafodd y pwyllgor ddigon o dystiolaeth y bydd cyllid ychwanegol eleni yn arwain at welliannau i wasanaethau a diwygio sylweddol, yn hytrach na dim ond gwneud iawn am orwario. Felly, ceir marc cwestiwn, marc cwestiwn gwirioneddol, ynghylch a yw’r arian hwn yn mynd i gyflawni ei nod. Weinidog, onid yw'n wir nad yw cyllid tameidiog i’r GIG yng Nghymru, fel yr ydym wedi dod i'w ddisgwyl gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, cystal â chyllideb GIG wedi’i chyllido'n briodol, a’i hamddiffyn yn briodol? Dyma beth a gawsant yn Lloegr, dyma beth y dylai pobl allu ei ddisgwyl o fyw yma—[Torri ar draws.] Dydych chi ddim yn hoffi clywed y ffeithiau, ond cawsant hynny yno; ni chawsant hynny yma. Pum mlynedd o danwario ac rydych yn meddwl nawr—
15:42 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Order, order. We’re debating the draft budget. I do want to hear what the Member says and you ought to listen as well. It is part of the process. Nick Ramsay. Trefn, trefn. Rydym yn dadlau am y gyllideb ddrafft. Rwyf am glywed yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud a dylech chithau wrando. Mae'n rhan o'r broses. Nick Ramsay.
15:42 - Nick Ramsay
So, whilst we welcome more investment in the NHS, these sums amount to an admission of previous failures. Year on year, five years of previous failures, of underfunding this health service. These sums will not make up for previous cuts. Quite simply, Minister, it’s too little, too late. Felly, er ein bod yn croesawu mwy o fuddsoddi yn y GIG, mae’r symiau hyn yn gyfystyr â chyfaddefiad o fethiannau blaenorol. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, pum mlynedd o fethiannau blaenorol, o danariannu’r gwasanaeth iechyd hwn. Ni fydd y symiau hyn yn gwneud iawn am doriadau blaenorol. Yn syml, Weinidog, mae'n rhy ychydig, yn rhy hwyr.
Turning to education and skills, the Welsh Government has announced an additional £10 million to higher education student support. Sounds great. However, as we all know, and at least some of us acknowledge, the cost of the tuition fee subsidy in its current form is unsustainable. As Cardiff University told the Finance Committee, the Welsh Government underestimated the amount of funds required by the tuition fee grant, which has seen over £20 million transferred from HEFCW’s budget to post-16 learner support. I droi at addysg a sgiliau, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £10 miliwn ychwanegol i gefnogi myfyrwyr addysg uwch. Mae'n swnio'n wych. Fodd bynnag, fel yr ydym i gyd yn ei wybod, ac mae o leiaf rhai ohonom yn ei gydnabod, mae cost y cymhorthdal ​​ffioedd dysgu ar ei ffurf bresennol yn anghynaladwy. Fel y dywedodd Prifysgol Caerdydd wrth y Pwyllgor Cyllid, tanamcangyfrifodd Llywodraeth Cymru y swm o arian yr oedd ei angen ar gyfer y grant ffioedd dysgu, sydd wedi arwain at drosglwyddo dros £20 miliwn o gyllideb CCAUC i gefnogi dysgwyr ôl-16.
I was very pleased to hear the Minister’s announcement earlier regarding the postponement—and from what I could gather from your comments, Minister, it did sound more like a postponement than a cancellation—of that removal of money from HEFCW’s budget. I’m pleased you’ve listened to the Finance Committee, I’m pleased you’ve listened to the higher education sector on this issue, because you did need to. But you’re still left with a gulf, an unsustainable gap, in funding for higher education, which will need to be addressed, and you may not want to address it this side of the election, but addressed sooner or later it will have to be. So, you’ve made a start, we welcome that, but we look for further recognition of the need for you to make different spending commitments. Roeddwn yn falch iawn o glywed cyhoeddiad y Gweinidog yn gynharach ynghylch gohirio—ac o'r hyn y gallwn ei gasglu oddi wrth eich sylwadau, Weinidog, roedd yn swnio’n debycach i ohirio na chanslo—tynnu’r arian hwnnw o gyllideb CCAUC. Rwy'n falch eich bod wedi gwrando ar y Pwyllgor Cyllid, rwy'n falch eich bod wedi gwrando ar y sector addysg uwch ar y mater hwn, oherwydd roedd angen ichi wneud hynny. Ond mae gennych agendor o hyd, bwlch anghynaliadwy, yn y cyllid i addysg uwch, a bydd rhaid rhoi sylw iddo, ac efallai nad ydych am roi sylw iddo yr ochr hon i'r etholiad, ond bydd angen rhoi sylw iddo’n hwyr neu'n hwyrach. Felly, rydych wedi dechrau arni, rydym yn croesawu hynny, ond rydym yn chwilio am gydnabyddiaeth bellach o'r ffaith bod angen ichi wneud ymrwymiadau gwario gwahanol.
The higher education budget cuts will impact most heavily on those seeking to access part-time courses or those seeking to undertake courses in Welsh. This flies in the face of the Welsh Government’s so-called priorities. What is the point of having priorities if you are not then going to put your money where your mouth is and adequately fund the higher education sector in Wales? But I recognise that there has been that announcement today, Minister, and any move in the right direction is good. Bydd y toriadau i’r gyllideb addysg uwch yn cael yr effaith drymaf ar y rheini sy'n ceisio cael mynediad at gyrsiau rhan-amser neu'r rheini sydd yn dymuno dilyn cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn mynd yn groes i flaenoriaethau honedig Llywodraeth Cymru. Beth yw pwynt blaenoriaethau os nad ydych yna’n mynd i roi eich arian ar eich gair ac ariannu’r sector addysg uwch yn ddigonol yng Nghymru? Ond rwy’n cydnabod bod y cyhoeddiad hwnnw wedi’i wneud heddiw, Weinidog, a bod unrhyw symudiad i’r cyfeiriad cywir yn dda.
There are many long-term negatives for a failure in effectively funding higher education. Cutting research funding can have an adverse effect on science, technology, engineering and maths subjects, which will have repercussions for the future Welsh economy, as we’re weakening the ability to build the quality of our skills base. The committee has recommended the Minister look again at these allocations. Of course, once again, the big loser of this draft budget has been local government. I was, again, very pleased to hear the Minister’s comments about at least three of the rural authorities earlier. The proposed 4.1 per cent cut to Powys’s authority budget was clearly completely unacceptable. The cuts to Ceredigion and to Monmouthshire’s budgets were also unacceptable, and I think the Minister had to recognise that. Mae llawer o bethau negyddol tymor hir am fethu ag ariannu addysg uwch yn effeithiol. Gall torri cyllid ymchwil gael effaith andwyol ar bynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, a fydd yn effeithio ar economi Cymru yn y dyfodol, gan ein bod yn gwanhau’r gallu i adeiladu ansawdd ein sylfaen sgiliau. Mae'r pwyllgor wedi argymell bod y Gweinidog yn edrych eto ar y dyraniadau hyn. Wrth gwrs, unwaith eto, collwr mawr y gyllideb ddrafft hon oedd llywodraeth leol. Roeddwn, unwaith eto, yn falch iawn o glywed sylwadau'r Gweinidog am o leiaf dri o'r awdurdodau gwledig yn gynharach. Roedd y toriad arfaethedig o 4.1 y cant i gyllideb awdurdod Powys yn amlwg yn gwbl annerbyniol. Roedd y toriadau i gyllidebau Ceredigion a Sir Fynwy hefyd yn annerbyniol, ac rwy’n meddwl bod y Gweinidog wedi gorfod cydnabod hynny.
15:45 - Alun Davies
Will you take an intervention on that? A dderbyniwch chi ymyriad ar hynny?
15:45 - Nick Ramsay
Yes, I will. Gwnaf, mi wnaf.
15:45 - Alun Davies
Thank you very much, I’m very grateful to you. You described a 4 per cent cut as ‘completely unacceptable’, so I assume you’d use the same words to describe the 6.7 per cent cut that your Government has imposed on local government across the border. Diolch yn fawr iawn, rwy’n ddiolchgar iawn ichi. Gwnaethoch ddisgrifio toriad o 4 y cant fel bod yn ‘gwbl annerbyniol’, felly rwy’n cymryd y byddech yn defnyddio'r un geiriau i ddisgrifio'r toriad 6.7 y cant y mae eich Llywodraeth chi wedi’i roi ar lywodraeth leol dros y ffin.
15:45 - Nick Ramsay
The 4.1 per cent, clearly, was unacceptable, because the Minister has reneged on that today by putting extra money in. It’s a shame that the frontbench didn’t keep you in the loop with Cabinet discussions, isn’t it? But I suppose they learnt that lesson a long time ago, Alun. Roedd y 4.1 y cant, yn amlwg, yn annerbyniol, oherwydd mae'r Gweinidog wedi mynd yn ôl ar ei air ar hynny heddiw drwy roi arian ychwanegol i mewn. Mae'n drueni na wnaeth y fainc flaen roi gwybod ichi am drafodaethau’r Cabinet, onid yw? Ond mae'n debyg eu bod wedi dysgu’r wers honno amser maith yn ôl, Alun.
So, I’m pleased that there is going to be some additional funding for local authorities, but we have called, across this Chamber, for a rural stabilisation grant. In some ways, I hope—I haven’t seen the detail yet, but I hope that this additional funding will work like that. But it is still not the commitment to a rural stabilisation fund that we were looking for. Felly, rwy'n falch y bydd rhywfaint o arian ychwanegol i awdurdodau lleol, ond rydym wedi galw, ar draws y Siambr hon, am grant sefydlogi gwledig. Mewn rhai ffyrdd, rwy’n gobeithio—nid wyf wedi gweld y manylion eto, ond rwy’n gobeithio mai dyna sut y bydd y cyllid ychwanegol hwn yn gweithio. Ond mae’n dal i fod yn brin o’r ymrwymiad i gronfa sefydlogi wledig yr oeddem yn chwilio amdano.
In her comments, the Chair of the Finance Committee said that this is just the tip of the iceberg. We also have the problem of the local government formula, and there have been discussions on that committee about the need to somehow move to a better formula. I stand by those comments. I think that this is a start in the right direction today, Minister, but, overall, we need certainty of funding for local authorities across Wales. We need to see a rural stabilisation grant in place in the short term, and we need to see a reformed local government formula that will recognise the stresses that local authority budgets, particularly in rural areas, are under. Yn ei sylwadau, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid mai dim ond brig y rhewfryn yw hyn. Mae gennym hefyd broblem fformiwla llywodraeth leol, a chafwyd trafodaethau ar y pwyllgor hwnnw am yr angen i symud rywsut at fformiwla well. Rwy’n glynu at y sylwadau hynny. Rwy’n meddwl bod hyn yn gychwyn i’r cyfeiriad cywir heddiw, Weinidog, ond, ar y cyfan, mae arnom angen sicrwydd o arian i awdurdodau lleol ledled Cymru. Mae arnom angen gweld grant sefydlogi gwledig ar waith yn y tymor byr, ac mae arnom angen gweld fformiwla llywodraeth leol wedi’i diwygio a fydd yn cydnabod y straen sydd ar gyllidebau awdurdodau lleol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Of course, whilst we talk about the cuts to local government budgets, and the Minister emeritus Alun Davies talks about a 6 per cent cut to Wales—the frontbench weren’t listening to you, Minister—[Interruption.] Well, to England. The frontbench might not have been listening to you, but I was. At the same time, the Welsh Government is increasing their allocation for administration, one of the few uplifts in this budget. Welsh local authorities are put under further pressure, and yet there will be an increase to the Welsh local government administration budget. It’s not surprising, is it, that there’s cynicism about politics today when you see cuts across the board, but the Welsh Government itself does not seem to be able or in a position to make similar savings to those that they are expecting local government to do. Councils have had to make difficult decisions to cut funding elsewhere, often in preventative services, creating even more problems for the future, and what does that all mean in practice? Well, probably higher council tax rates, with Welsh households facing the double whammy of further increases to their council tax bills at the same time as losing vital local services. Wrth gwrs, tra ein bod yn siarad am y toriadau i gyllidebau llywodraeth leol, ac mae'r Gweinidog emeritws Alun Davies yn sôn am doriad o 6 y cant i Gymru—nid oedd y fainc flaen yn gwrando arnoch, Weinidog—[Torri ar draws.] Wel, i Loegr. Efallai nad oedd y fainc flaen yn gwrando arnoch, ond roeddwn i. Ar yr un pryd, mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu eu dyraniad ar gyfer gweinyddu, un o'r ychydig godiadau yn y gyllideb hon. Mae awdurdodau lleol Cymru yn cael eu rhoi o dan bwysau ychwanegol, ac eto bydd cyllideb weinyddu llywodraeth leol Cymru yn cynyddu. Nid yw’n syndod, nad yw, bod yna sinigiaeth am wleidyddiaeth heddiw pan fyddwch yn gweld toriadau ym mhob maes, ond nid yw’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru ei hun yn gallu, neu mewn sefyllfa i wneud arbedion tebyg i'r rhai y maent yn disgwyl i lywodraeth leol eu gwneud. Mae cynghorau wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd i dorri cyllid mewn mannau eraill, yn aml mewn gwasanaethau ataliol, gan greu mwy fyth o broblemau ar gyfer y dyfodol, a beth mae hynny i gyd yn ei olygu yn ymarferol? Wel, cyfraddau treth gyngor uwch yn ôl pob tebyg, a chartrefi Cymru’n wynebu'r ergyd ddwbl o gynnydd pellach i’w biliau treth gyngor ar yr un pryd â cholli gwasanaethau lleol hanfodol.
In conclusion, Deputy Presiding Officer, it’s not just rural councils that are being penalised. This is another deeply worrying draft budget for Welsh agriculture; a £3.7 million cash-terms cut to the agriculture and food budget is more bad news for the nation’s farmers and our rural communities. This cut includes £0.5 million less to support marketing Welsh food and drink produce and less funding for the delivery of the rural development plan. There are cuts to animal welfare of £0.75 million—again, this will disproportionately impact upon rural areas and Welsh farmers, to say nothing of the reductions in funding to manage TB eradication and other endemic diseases. I gloi, Ddirprwy Lywydd, nid dim ond cynghorau gwledig sy'n cael eu cosbi. Mae hon yn gyllideb ddrafft arall sy’n achosi pryder mawr i amaethyddiaeth yng Nghymru; mae toriad o £3.7 miliwn mewn termau arian i'r gyllideb amaethyddiaeth a bwyd yn fwy o newyddion drwg i ffermwyr y genedl ac i'n cymunedau gwledig. Mae'r toriad hwn yn cynnwys £0.5 miliwn yn llai i gefnogi marchnata cynnyrch bwyd a diod o Gymru a llai o gyllid i gyflwyno'r cynllun datblygu gwledig. Ceir toriadau i les anifeiliaid o £0.75 miliwn—unwaith eto, bydd hyn yn effeithio’n anghymesur ar ardaloedd gwledig a ffermwyr Cymru, heb sôn am y gostyngiadau mewn cyllid i reoli dileu TB a chlefydau endemig eraill.
In conclusion, Deputy Presiding Officer, I’m pleased that the Welsh Government seems to be admitting its folly of the last few years and realising that there is a need to put greater funding into public services in Wales. It is long overdue, but it is too little and it is definitely too late. I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn cyfaddef ei ffolineb dros y blynyddoedd diwethaf ac yn sylweddoli bod angen rhoi mwy o arian i mewn i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n hen bryd, ond mae'n rhy ychydig ac mae'n bendant yn rhy hwyr.
15:49 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
I call on Alun Ffred Jones to move amendments 2, 3 and 4 tabled in the name of Elin Jones. Galwaf ar Alun Ffred Jones i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4 a gyflwynwyd yn enw Elin Jones.
Gwelliant 2—Elin Jones Gwelliant 2—Elin Jones
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Add as a new point at end of motion:
Yn gresynu at y ffaith nad yw'r gyllideb ddrafft yn ymgymryd â dull gweithredu Cymru gyfan mewn perthynas â buddsoddi cyfalaf yn y dyfodol; Regrets that the draft budget fails to take an all-Wales approach to future capital investment.
Gwelliant 3—Elin Jones Gwelliant 3—Elin Jones
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Add as a new point at end of motion:
Yn gresynu at y ffaith bod y gyllideb ddrafft yn cynnig toriad niweidiol a difrifol i gymorth ariannol ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Regrets that the draft budget proposes a damaging and severe cut to funding support for Welsh higher education institutions.
Gwelliant 4—Elin Jones Gwelliant 4—Elin Jones
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Add as a new point at end of motion:
Yn gresynu at y ffaith nad yw cynnig drafft y gyllideb ar gyfer pwysau ariannu parhaus ar lywodraeth leol wedi cael ei baru â chynnig ar gyfer grant sefydlogi gwledig. Regrets that the draft budget’s proposal for continued funding pressure on local government has not been matched with a proposal for a rural stabilisation grant.
Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4. Amendments 2, 3 and 4 moved.
15:49 - Alun Ffred Jones
Diolch yn fawr. Rwy’n falch iawn o gael cynnig y gwelliannau yma a gyflwynwyd yn enw Elin Jones. Thank you very much. I’m very pleased to move these amendments tabled in the name of Elin Jones.
Mae cefndir y gyllideb yma yn rhy gyfarwydd erbyn hyn, ac mae cynlluniau George Osborne i gael cyllideb gyfartal dros y chwe blynedd diwethaf yma wedi methu dro ar ôl tro. Er gwaethaf yr holl boen, mae gwerth cyflogau gweithwyr yn gyffredinol yn dal i fod 9 y cant yn is nag yr oedd cyn chwalfa 2008. Eto, ar yr un pryd, rydym ni’n gweld sector ariannol wedi adennill ei hyder ac yn dal i ymddwyn mor anghyfrifol ag erioed. Mi fyddwn i’n eich annog chi i gyd i fynd i weld y ffilm newydd ‘The Big Short’, i sylweddoli sut y cafodd pobl gyffredin ar draws y gorllewin eu twyllo a’u tlodi yn 2008, ac, ers hynny, maent yn dal i dalu am y twyll hwnnw, wrth gwrs. The background to this budget is too well known by now and George Osborne’s plans for having a balanced budget over the past six years have failed time and time again. Despite all the pain, the value of the salaries of workers, generally speaking, is still 9 per cent lower than it was before the crash of 2008. Yet, simultaneously, we see a financial sector that has regained its confidence and is still acting as irresponsibly as ever. I would encourage you all to go and see the new film, ‘The Big Short’, to understand how ordinary people across the west were conned and impoverished in 2008, and continue to pay for that deception, of course.
O ran y gyllideb bresennol, a derbyn y cefndir yna, rydym ni’n croesawu, wrth gwrs, y cynnydd yn y gwario ar iechyd. Mae yna gwestiynau sy’n codi o hynny. Os ydy’r gwario yng Nghymru gymaint yn uwch y pen, fel mae’r Llywodraeth yn honni, yna pam mae’r rhestrau aros mor annerbyniol o hir? Wrth gwrs, efallai bod hynny’n ymwneud â phwynt y mae fy nghyfaill Mike Hedges yn ei godi’n bur aml yn y Pwyllgor Cyllid, sef ‘productivity’, sydd, mae’n debyg, yn ôl un o adroddiadau Nuffield, sy’n cael ei ddyfynnu’n bur aml yn y Siambr yma, wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf yma. Rydw i’n credu bod hwnnw’n fater ddaru i Jocelyn Davies hefyd gyfeirio ato o ran y gwerth am arian rydym ni’n ei gael o’r gyllideb fawr honno. In terms of the current budget, and given that background, we obviously welcome the increase in expenditure on health. There are questions that arise from that. If the expenditure in Wales is so much higher per capita, as the Government claims, why are the waiting lists so unacceptably long? Of course, that may have something to do with the point that my colleague Mike Hedges raises relatively often in the Finance Committee, namely productivity, which, according to one of the Nuffield reports, which is often quoted in this Chamber, has reduced significantly over the past few years. I think that that is an issue that Jocelyn Davies also referred to in terms of the value for money that we achieve from that substantial budget.
O ran y gyllideb yma, a derbyn yr anawsterau sydd yn wynebu’r Llywodraeth o ran gwario, mae yna dri maes rydym ni’n teimlo y dylai’r Llywodraeth ailfeddwl amdanynt, ac rydym ni’n falch iawn eich bod chi, fel Llywodraeth, wedi gwrando nid yn unig arnom ni, ond ar y sectorau arbennig a’r achos a gafodd ei gyflwyno. Mae pob cyngor sir o dan warchae y dyddiau yma. Hyd yn oed gyda chyhoeddiad y prynhawn yma, y gwir amdani ydy bod pob cyngor yn chwilio am doriadau i’w gwasanaethau sylfaenol. Yn fy achos i, yng Nghyngor Gwynedd, mae yna doriadau o £5 miliwn yn mynd i ddigwydd yn y flwyddyn neu ddwy nesaf ar wasanaethau. Mae hynny’n mynd i olygu hefyd ddiswyddo pobl a chrebachu ar wasanaethau sydd, yng nghefn gwlad ac yn y trefi, yn rhoi cysur a chefnogaeth i bobl. Wrth gwrs, roeddem ni’n poeni’n benodol am y cynghorau hynny a oedd yn cael yr ergyd drymaf, ac mi fydd y swm cymharol fychan yma o £2.5 miliwn yn cael ei werthfawrogi gan y cynghorau hynny. Ond, mae’r heriau yn dal i aros. In terms of this budget, and in accepting the difficulties facing the Government in terms of expenditure, there are three areas that we believe that the Government should reconsider, and we are very pleased that you as a Government have listened not only to us, but to the particular sectors and the case presented by them. Each county council is under siege these days. Even with this afternoon’s announcement, the truth is that each council is looking to make cuts to their basic services. In my case, in the case of Gwynedd Council, there are cuts of £5 million to take place over the next year or two on services. That will also mean job losses and a reduction in services that provide support and comfort in rural and urban areas. We were specifically concerned about those councils that were being hit the hardest, and this relatively small amount of money pledged at £2.5 million will be appreciated by those councils. However, the challenges remain.
Nid oes gennyf i lawer o amynedd siarad am y cynghorau trefol yn erbyn y rhai gwledig—mae hynny’n amherthnasol—ond roedd y toriadau i Bowys, Penfro a Cheredigion yn sefyll allan ac yn creu sefyllfa amhosib yno. Felly, rydym ni’n ddiolchgar i’r Gweinidog am y symud yno. I don’t have much patience in terms of setting the urban councils versus the rural councils—that is irrelevant—but the cuts to Powys, Pembrokeshire and Ceredigion did stand out and created an impossible situation there. Therefore, we are grateful to the Minister for the changes that she made there.
Roedd hi’n amlwg, hefyd, fod yr ergyd i addysg uwch yn rhy llym ac yn profi bod polisi presennol Llywodraeth Cymru ar ffioedd dysgu, er enghraifft, yn anghynaladwy yn y tymor hir. Roedd o’n dangos hefyd ddiffyg dealltwriaeth o’r sector addysg uwch, ac rwy’n credu bod hynny’n fwy o ddychryn i ni i gyd. Mae’r toriadau real hyn i gyllideb HEFCW yn mynd i danseilio hygrededd y sector. Er enghraifft, efo Prifysgol Bangor, mi fyddai’r toriadau gwreiddiol wedi golygu colled, efallai, rhwng £3 miliwn a £5 miliwn mewn blwyddyn. Mi fyddai hynny wedi effeithio ar holl gynlluniau’r brifysgol dros y 10 i 15 mlynedd nesaf i fenthyca er mwyn creu adeiladau ac adnoddau gwell i’w myfyrwyr, ac, wrth greu adnoddau gwell, godi safonau’r ymchwil a’r profiad dysgu, ac, wrth wneud hynny, sicrhau dyfodol y brifysgol. Felly, dyna oedd y realiti a oedd yn wynebu’r brifysgol. Mae’r sôn bod gan brifysgolion Cymru ‘reserfau’ o £1.3 biliwn yn nonsens anwybodus. Nid yw’n wir, ac nid wyf yn gwybod pam mae’r Prif Weinidog yn dal i bedlera’r ffigwr yna. Fel rydw i’n dweud, prin mae prifysgol fel Bangor, er enghraifft, yn talu ei ffordd, mewn gwirionedd, ac mae angen gwarged fechan arni bob blwyddyn er mwyn sicrhau ei benthyciadau a’i chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Ond, rydym ni’n ddiolchgar am y newid meddwl hwn gan y Llywodraeth, sydd wedi dangos eu bod nhw wedi gwrando ac wedi deall effaith a chanlyniadau eu cynlluniau gwreiddiol. It was also clear that the cut in higher education was far too grave, and it showed that the present Welsh Government policy on tuition fees, for example, was unsustainable in the long term. It also showed a lack of understanding of the higher education sector, and I think that that’s even more shocking to us all. These real-term cuts to the HEFCW budget are going to undermine the credibility of the sector. For example, in terms of Bangor University, the original cuts would have meant a loss of perhaps between £3 million and £5 million within a year. That would have impacted on all of the university’s plans over the next 10 to 15 years in terms of borrowing in order to create better facilities and resources for its students, and in doing so, raising the standard of research and the learning experience, and in so doing, securing the future of the university. So, that was the reality facing the university. The rumour that the universities of Wales have reserves of £1.3 billion is just ignorant nonsense. It is not true, and I do not know why the First Minister is still peddling that figure. As I say, a university like Bangor, for example, is only just paying its way, if truth be told, and it does need a small amount of surplus annually in order to guarantee its loans and to fund its plans for the future. However, we are grateful for this change of mind within the Government, which has shown that they have listened and have understood the impact and the consequences of their original proposals.
15:54 - Joyce Watson
Will the Member give way? A wnaiff yr Aelod ildio?
15:54 - Alun Ffred Jones
Ar bob cyfrif. Gwnaf. By all means. Yes.
15:54 - Joyce Watson
Thank you very much for taking an intervention. We’re talking about education, and we’re talking about cuts in Gwynedd. Would you speak to your Members in Gwynedd and ask them to change their minds about the proposed increase to travel to Coleg Meirion-Dwyfor, and the proposed two-thirds increase in the bus ticket from £60 to £100 a term? That’s what you do when you’re in charge. Diolch yn fawr i chi am dderbyn ymyriad. Rydym yn sôn am addysg, ac rydym yn sôn am doriadau yng Ngwynedd. A wnewch chi siarad â’ch Aelodau yng Ngwynedd a gofyn iddynt newid eu meddwl ynghylch y cynnydd arfaethedig i deithio i Goleg Meirion-Dwyfor, a’r cynnydd arfaethedig o ddwy ran o dair yn y tocyn bws o £60 i £100 y tymor? Dyna beth yr ydych yn ei wneud pan eich bod wrth y llyw.
15:55 - Alun Ffred Jones
Wel, mae enghreifftiau fel yna’n mynd i amlhau, ac maent yn digwydd ym mhob sir yng Nghymru, oherwydd y sefyllfa. Nid wyf yn credu ei fod yn berthnasol i’r drafodaeth yma heddiw. Well, examples such as that are going to become more and more apparent, and they happen across Wales because of the situation that we’re facing. I don’t think it’s relevant to the debate that we are having today.
O ran y cynlluniau cyfalaf, mae’r Llywodraeth wedi rhoi cannoedd o filiynau o bunnoedd yn yr arian wrth gefn heb ei glustnodi, er ein bod ni wedi clywed cyhoeddiad byr heddiw am beth o’r arian hwnnw. Ni allwn gefnogi cyllideb sy’n gwrthod datgan ble yn union y mae’r cynlluniau cyfalaf hynny’n mynd i ddigwydd, ac rydym yn dal yn bryderus am hynny. Rwyf eisiau gwneud un cyfeiriad arall at y gyllideb ym maes yr amgylchedd. Mae gennym ni bryder mawr ynglŷn â gallu Cyfoeth Naturiol Cymru i ymateb i’w ddyletswyddau ac i gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Deddfau a’r Biliau sydd wedi cael eu pasio yn ddiweddar yn y maes hwnnw. Rwy’n gwybod bod pryder mawr o fewn y sector na fyddan nhw’n gallu cyflawni’r hyn sy’n ofynnol o dan y Deddfau hynny. In terms of capital projects, the Government has provided hundreds of millions of pounds in unallocated reserves, although we did hear a brief announcement today on some of that funding. We can’t support a budget that refuses to declare exactly where those capital projects are to take place, and we are still concerned about that. I do want to make one further reference to the budget in the area of the environment. We have huge concerns about the ability of NRW to respond to its duties and to actually deliver against its duties under the legislation and Bills that have been recently passed in that area. I know that there is grave concern within the sector that it will not be able to deliver what it is required to deliver under that legislation.
I see that the Labour Government remains committed to spending its entire borrowing capacity on the M4 black route scheme around Newport. We see this as a failure to take an all-Wales approach to future capital investment. This is a clear dividing line between the Government and Plaid Cymru. We need to see all future capital investment reassessed and reprioritised so that it embraces the whole of the nation. We will not support a budget or a Government that we see as failing to meet the needs of all of the regions of our country. Gwelaf fod y Llywodraeth Lafur yn parhau i ymrwymo i wario ei gallu benthyca cyfan ar gynllun llwybr du yr M4 o amgylch Casnewydd. Rydym yn gweld hyn fel methiant i gymryd ymagwedd Cymru gyfan at fuddsoddi cyfalaf yn y dyfodol. Mae hon yn ffin glir o wahaniaeth rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru. Mae angen i ni weld pob buddsoddiad cyfalaf yn y dyfodol yn cael ei ailasesu a’i ailflaenoriaethu fel ei fod yn cofleidio’r genedl gyfan. Ni fyddwn yn cefnogi cyllideb na Llywodraeth yr ydym o'r farn nad yw'n gallu diwallu anghenion pob un o ranbarthau ein gwlad.
15:57 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
I call the Liberal Democrat spokesperson, Peter Black. Galwaf ar lefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black.
15:57 - Peter Black
Thank you, Deputy Presiding Officer. Could I start by declaring my interest as a member of the City and County of Swansea in relation to amendment 4, and also put on record that my wife works for Swansea University, because we will be talking about HE as well? Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddatgan fy niddordeb fel aelod o Gyngor Dinas a Sir Abertawe o ran gwelliant 4, a hefyd cofnodi bod fy ngwraig yn gweithio i Brifysgol Abertawe, oherwydd byddwn yn siarad am AU hefyd?
Deputy Presiding Officer, the Welsh Liberal Democrats welcome the announcement that the finance Minister has just made in relation to local government and to higher education. Nick Ramsay just said a few minutes earlier that a 4.1 per cent cut in Powys’s budget was unacceptable, and I agree with him. The Assembly, of course, is facing a much bigger cut to its own budget, and presumably Nick would also agree that that is unacceptable too. But clearly, there are difficult decisions to be made as a result of that. The Welsh Liberal Democrats recognise that, and we are doing our best to work with the Government to try to get a budget that is balanced and that delivers priorities that we think are important, as well as the priorities of the Welsh Government themselves. That doesn’t mean to say that we agree with everything in the budget—we don’t. Clearly, I have concerns about a number of issues in the budget, but I am fairly pleased to see that the Welsh Liberal Democrat priorities that are set out in that two-year budget deal are there. And, for that reason, we will allow the budget to go through, though we will not vote for it, because, of course, it is not our budget, and nor have we been consulted on the entire budget. But certainly, we will abstain so that the budget can be passed. Ddirprwy Lywydd, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn croesawu’r cyhoeddiad y mae’r Gweinidog Cyllid newydd ei wneud ynglŷn â llywodraeth leol ac addysg uwch. Dywedodd Nick Ramsay ychydig funudau yn gynharach fod toriad o 4.1 y cant i gyllideb Powys yn annerbyniol, ac rwy’n cytuno ag ef. Mae’r Cynulliad, wrth gwrs, yn wynebu toriad llawer mwy i’w gyllideb ei hun, ac yn ôl pob tebyg byddai Nick hefyd yn cytuno bod hynny’n annerbyniol hefyd. Ond yn amlwg, mae penderfyniadau anodd i’w gwneud o ganlyniad i hynny. Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cydnabod hynny, ac rydym yn gwneud ein gorau i weithio gyda’r Llywodraeth i geisio cael cyllideb sy’n gytbwys ac sy’n darparu blaenoriaethau yr ydym yn meddwl sy’n bwysig, yn ogystal â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ei hunan. Nid yw hynny’n golygu ein bod yn cytuno â phopeth yn y gyllideb—nid ydym. Yn amlwg, mae gennyf bryderon ynghylch nifer o faterion yn y gyllideb, ond rwy’n eithaf balch o weld bod blaenoriaethau Democratiaid Rhyddfrydol Cymru sydd wedi’u nodi yn y fargen gyllideb honno ddwy flynedd wedi'u cynnwys. Ac, am y rheswm hwnnw, byddwn yn caniatáu i’r gyllideb fynd drwyddo, er na fyddwn yn pleidleisio o’i phlaid, oherwydd, wrth gwrs, nid ein cyllideb ni yw hi, ac ni ymgynghorwyd â ni ar y gyllideb gyfan. Ond yn sicr, byddwn yn ymatal fel y gall y gyllideb gael ei phasio.
We’ve worked with the finance Minister, with local government and the higher education sector to try and put right the issues that arose from the draft budget. We feel that that is a much more constructive approach than shouting from the sidelines, which is the approach taken by both Plaid Cymru and the Conservatives. And, of course, Plaid Cymru did have an opportunity to take part in discussions with the Welsh Government, but it decided to abdicate that right and allow us to do all the dirty work for them. So, that is the situation that we find ourselves in now, where the Welsh Liberal Democrats have effectively secured £223 million of investment in a number of key policies secured during our negotiations with the Welsh Government. Even split over two years, this is the largest funding package secured in budget negotiations over this Assembly term. I think that it compares favourably with the £30 million that Plaid Cymru secured in 2012. This is a £223 million budget deal. It is a clear investment in children and young people, helping to ensure they have the best opportunities and a fair start in life. Rydym wedi gweithio gyda’r Gweinidog cyllid, gyda llywodraeth leol a’r sector addysg uwch i geisio unioni’r materion a gododd o’r gyllideb ddrafft. Rydym yn teimlo bod hwnnw’n ddull llawer mwy adeiladol na gweiddi o’r cyrion, sef y dull a ddefnyddir gan Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr. Ac, wrth gwrs, cafodd Plaid Cymru gyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau â Llywodraeth Cymru, ond penderfynodd ildio’r hawl hwnnw a gadael i ni wneud yr holl waith budr ar ei rhan. Felly, dyna’r sefyllfa yr ydym yn canfod ein hunain ynddi nawr, lle mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru mewn gwirionedd wedi sicrhau £223 miliwn o fuddsoddiad mewn nifer o bolisïau allweddol a sicrhawyd yn ystod ein trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru. Hyd yn oed wedi’i rannu dros ddwy flynedd, dyma’r pecyn ariannu mwyaf a sicrhawyd mewn trafodaethau ar y gyllideb yn ystod tymor hwn y Cynulliad. Credaf ei fod yn cymharu’n ffafriol â’r £30 miliwn a sicrhawyd gan Blaid Cymru yn 2012. Mae hon yn fargen gyllideb o £223 miliwn. Mae’n fuddsoddiad clir mewn plant a phobl ifanc, gan helpu i sicrhau eu bod yn cael y cyfleoedd gorau a dechrau teg mewn bywyd.
As part that two-year deal, we have secured an increase in the pupil deprivation grant to £1,150 per pupil, helping to boost funding for schools to invest in children from the very poorest backgrounds. We welcomed the recent second evaluation report on the pupil deprivation grant, which confirmed that the additional funding is making a difference to educational outcomes for pupils who are eligible for free school meals. Thanks to the funding that we initially secured for this policy in 2011, there have been significant improvements in literacy, numeracy, behaviour, confidence and self-esteem for disadvantaged pupils. The rate of improvement in GCSE attainment of pupils eligible for free school meals has almost doubled since the introduction of the pupil deprivation grant. The two-year funding deal has also given schools more certainty over future funding of the PDG, enabling them to plan ahead to ensure funding is spent most effectively. Yn rhan o’r fargen dwy flynedd honno, rydym wedi sicrhau cynnydd yn y grant amddifadedd disgyblion i £1,150 fesul disgybl, gan helpu i roi hwb i gyllid ysgolion i fuddsoddi mewn plant o’r cefndiroedd tlotaf un. Roeddem yn croesawu’r adroddiad ail werthusiad diweddar ar y grant amddifadedd disgyblion, a oedd yn cadarnhau bod yr arian ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth i ganlyniadau addysgol ar gyfer disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Diolch i’r cyllid a sicrhawyd gennym ar gyfer y polisi hwn yn 2011 i ddechrau, bu gwelliannau sylweddol mewn llythrennedd, rhifedd, ymddygiad, hyder a hunan-barch disgyblion dan anfantais. Mae cyfradd y gwelliant mewn cyrhaeddiad TGAU y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim bron wedi dyblu ers cyflwyno’r grant amddifadedd disgyblion. Mae’r cytundeb ariannu dwy flynedd hefyd wedi rhoi mwy o sicrwydd i ysgolion dros gyllid y Grant Amddifadedd Disgyblion yn y dyfodol, gan eu galluogi i gynllunio ymlaen i sicrhau bod cyllid yn cael ei wario yn y modd mwyaf effeithiol.
We also secured £7.5 million to extend the pupil deprivation grant to the under-fives, benefiting over 12,500 nursery pupils across Wales. The Sutton Trust found that the poorest children are 19 months behind on school readiness at the age of five. That is why early intervention is key, and we need to make sure that every child gets the care and attention they deserve when they are very young. Rydym hefyd wedi sicrhau £7.5 miliwn i ymestyn y grant amddifadedd disgyblion i blant dan bump oed, sydd o fudd i dros 12,500 o ddisgyblion meithrin ar draws Cymru. Canfu Ymddiriedolaeth Sutton fod y plant tlotaf 19 mis ar ei hôl hi o ran bod yn barod ar gyfer mynd i'r ysgol yn bump oed. Dyna pam y mae ymyrraeth gynnar yn allweddol, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael y gofal a’r sylw y mae'n ei haeddu pan ei fod yn ifanc iawn.
We also secured protection against the planned cuts to apprenticeships with funding for around 5,000 new apprenticeships over two years. In England, under the coalition Government, we saw an increase in apprenticeships of an unparalleled scale, with almost 2.5 million apprenticeship starts over the last five years. In contrast, in Wales we saw decline in apprenticeships, with figures only recently returning to the level of 2006. In almost a decade, we have just managed to break even. We are pleased that, through the budget, we secured funding for apprenticeships to help build the highly skilled workforce in Wales that we need. Rydym hefyd wedi sicrhau diogelwch yn erbyn y toriadau arfaethedig i brentisiaethau gyda chyllid ar gyfer tua 5,000 o brentisiaethau newydd dros ddwy flynedd. Yn Lloegr, o dan y Llywodraeth glymblaid, gwelsom gynnydd mewn prentisiaethau ar raddfa ddigynsail, gyda bron i 2.5 miliwn o brentisiaethau yn dechrau dros y pum mlynedd diwethaf. Ar y llaw arall, yng Nghymru gwelsom ostyngiad mewn prentisiaethau, gyda ffigurau dim ond yn ddiweddar yn dychwelyd i lefel 2006. Mewn bron i ddegawd, dim ond wedi llwyddo i fod yn ôl i lle yr oeddem yr ydym. Rydym yn falch, drwy’r gyllideb, ein bod wedi sicrhau cyllid ar gyfer prentisiaethau i helpu i adeiladu’r gweithlu tra medrus yng Nghymru y mae ei angen arnom.
We secured £14.75 million for our young travellers youth concessionary fare scheme, which is giving discounted bus travel to 16 to 18-year-olds across Wales. So far, over £1.9 million has been allocated to local authorities in south-east Wales, £801,960 to south-west Wales, over £1 million to north Wales, £97,440 to Ceredigion and £148,360 to Powys. This scheme is open to 112,500 young people in Wales, helping them to access work, education, training and apprenticeships. Rydym wedi sicrhau £14.75 miliwn ar gyfer ein cynllun teithio rhatach i ieuenctid ar gyfer teithwyr ifanc, sy’n rhoi teithio ar fysiau am bris gostyngol i rai 16 i 18 oed ar draws Cymru. Hyd yn hyn, mae dros £1.9 miliwn wedi ei ddyrannu i awdurdodau lleol yn y de-ddwyrain, £801,960 i'r de-orllewin, dros £1 filiwn i'r gogledd, £97,440 i Geredigion a £148,360 i Bowys. Mae’r cynllun hwn yn agored i 112,500 o bobl ifanc yng Nghymru, gan eu helpu i gael mynediad at waith, addysg, hyfforddiant a phrentisiaethau.
Following our recent debate, we also welcome that the Supporting People grant has been protected, which delivers such vital support to some of the most vulnerable people in Wales. Every £1 invested in the Supporting People programme saves £2.30 across health, social care and housing, demonstrating that this is a truly worthwhile investment. We welcome the increased spending on health of £245 million, or 3.5 per cent. Two hundred million pounds is being given to support core NHS delivery and we hope that this will help ensure that we have safe staffing levels on our hospital wards, so that staff have the time to give patients the care that they need. The £30 million extra for mental health and older people is also welcome, but we need to see much greater investment in mental health to a level equal to its disease burden. Given the fact that 23 per cent of the disease burden of the UK comes from mental illness, whilst only 11.4 per cent of the NHS Wales budget is spent on mental illness, clearly, more needs to be done. Spending more money on mental health care is an investment. Mental ill health costs Wales £7.2 billion a year; spending more on mental health care would avoid more costly spending on physical illness and the number of working days lost from mental ill health, saving money in the long run. Yn dilyn ein dadl ddiweddar, rydym hefyd yn croesawu bod y grant Cefnogi Pobl wedi ei ddiogelu, sy’n darparu cefnogaeth mor hanfodol i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Mae pob £1 a fuddsoddwyd yn y rhaglen Cefnogi Pobl yn arbed £2.30 ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a thai, gan ddangos bod hwn yn fuddsoddiad gwirioneddol werth chweil. Rydym yn croesawu’r gwariant uwch ar iechyd o £245 miliwn, neu 3.5 y cant. Mae dau gan miliwn o bunnoedd yn cael ei roi i gefnogi cyflwyno craidd y GIG, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gennym lefelau staffio diogel ar ein wardiau ysbytai, fel bod staff yn cael yr amser i roi’r gofal sydd ei angen ar gleifion. Mae’r £30 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl a phobl hŷn hefyd i’w groesawu, ond mae angen inni weld llawer mwy o fuddsoddiad mewn iechyd meddwl i lefel sy'n gyfartal â'i faich clefyd. O gofio'r ffaith bod 23 y cant o faich clefyd y DU yn dod o salwch meddwl, er mai dim ond 11.4 y cant o gyllideb GIG Cymru sy'n cael ei wario ar salwch meddwl, yn amlwg, mae angen gwneud mwy. Mae gwario mwy o arian ar ofal iechyd meddwl yn fuddsoddiad. Mae salwch meddwl yn costio £7.2 biliwn y flwyddyn i Gymru; byddai gwario mwy ar ofal iechyd meddwl yn osgoi gwario mwy costus ar salwch corfforol a nifer y diwrnodau gwaith a gollir oherwydd salwch meddwl, gan arbed arian yn y tymor hir.
The Local Government Settlement has caused considerable concern, despite the overall cuts in the draft budget being less than feared. Bob Wellington, the WLGA leader, said that the Mae’r Setliad Llywodraeth Leol wedi achosi cryn bryder, er bod y toriadau cyffredinol yn y gyllideb ddrafft yn llai nag a ofnwyd. Dywedodd Bob Wellington, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fod y
‘settlement offers a welcome slow-down in the daunting level of budget cuts local government has experienced over recent years.’ setliad yn cynnig arafu derbyniol yn y lefel frawychus o doriadau cyllideb y mae llywodraeth leol wedi’i brofi dros y blynyddoedd diwethaf.
And it did do that. However, clearly there was an issue in relation to rural authorities, which have been referred to already. Of course, that manifested itself particularly in terms of Powys and Ceredigion, which saw a 4.1 per cent and a 3.4 per cent cut respectively. While the vote on the local government settlement is separate from this vote today, and of course separate from the budget deal that we did with the Welsh Government, the Welsh Liberal Democrats made it clear that we would not have supported a settlement that hit rural areas so badly. That is why we had those constructive discussions with the finance Minister and we are very pleased with the announcement today of additional funding for Powys, Ceredigion and Monmouthshire. We’ve worked with them, and we’ve worked with local government and the HE sector to put right those issues from the draft budget, and I think we have succeeded. This is not about shouting from the sidelines; this is getting real results. Ac fe wnaeth hynny. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod problem ynglŷn ag awdurdodau gwledig, a chyfeiriwyd at y rheini eisoes. Wrth gwrs, mae hynny’n amlygu ei hun yn enwedig o ran Powys a Cheredigion, a welodd doriad o 4.1 y cant a 3.4 y cant yn y drefn honno. Er bod y bleidlais ar y setliad llywodraeth leol ar wahân i’r bleidlais hon heddiw, ac wrth gwrs ar wahân i’r cytundeb cyllideb a wnaethom gyda Llywodraeth Cymru, gwnaeth Democratiaid Rhyddfrydol Cymru fynegi'n glir na fyddem wedi cefnogi setliad sy’n taro ardaloedd gwledig mor wael. Dyna pam y cawsom y trafodaethau adeiladol hynny gyda’r Gweinidog cyllid ac rydym yn falch iawn â’r cyhoeddiad heddiw o gyllid ychwanegol ar gyfer Powys, Ceredigion a Sir Fynwy. Rydym wedi gweithio gyda nhw, ac rydym wedi gweithio gyda llywodraeth leol a’r sector AU i unioni’r problemau hynny o’r gyllideb ddrafft, ac rwy’n meddwl ein bod wedi llwyddo. Nid yw hyn yn ymwneud â gweiddi o’r cyrion; mae hyn yn cyflawni canlyniadau gwirioneddol.
Of course, this arrangement is not sustainable. It’s a one-off deal. We cannot continue to have this problem year on year, and that is why we need to have that full review of the funding formula that the Welsh Local Government Association brought before the Finance Committee when they gave evidence on the budget. However, I have to say, as a note of caution, nobody can predict what the outcome of that will be. Of course, when you have a declining population in rural areas then, inevitably, there is going to be a problem with a population-based formula. But, I’m pleased that we’ve sorted this out for now. I think that is work that needs to be taken up in the next Assembly. Certainly, we need to make sure that the data that are used in the formula are brought up to date, so that we can be certain that the formula is working properly. Wrth gwrs, nid yw’r trefniant hwn yn gynaliadwy. Bargen unwaith ac am byth ydyw. Ni allwn barhau i gael y broblem hon flwyddyn ar ôl blwyddyn, a dyna pam y mae angen i ni gael yr adolygiad llawn o’r fformiwla ariannu a ddygwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gerbron y Pwyllgor Cyllid wrth roi tystiolaeth ar y gyllideb. Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi ddweud, fel nodyn o rybudd, na all neb ragweld beth fydd canlyniad hynny. Wrth gwrs, pan fod gennych boblogaeth sy’n lleihau mewn ardaloedd gwledig, yna, yn anochel, fe fydd problem gyda fformiwla sy’n seiliedig ar boblogaeth. Ond, rwy’n falch ein bod wedi datrys hyn am y tro. Credaf fod hwn yn waith sydd angen ei wneud yn y Cynulliad nesaf. Yn sicr, mae angen i ni wneud yn siŵr bod y data sy’n cael eu defnyddio yn y fformiwla yn cael ei ddiweddaru, fel y gallwn fod yn sicr bod y fformiwla yn gweithio’n iawn.
We welcome the increase of £64.6 million of capital funding for the social housing grant. But, we must be more ambitious if we are to deliver the level of housing we need in the next Assembly. The Holmans report identified that we need 12,000 homes a year, of which 5,200 were social housing. That is a significant step over the 10,000 a term, which this Assembly Government has strived to deliver. The Welsh Liberal Democrats are committed to 20,000 over the next Assembly term, which I believe brings us much closer to the aspiration in the Holmans report. Croesawn y cynnydd o £64.6 miliwn o arian cyfalaf ar gyfer y grant tai cymdeithasol. Ond, mae’n rhaid i ni fod yn fwy uchelgeisiol os ydym i ddarparu lefel y tai y bydd ei angen arnom yn y Cynulliad nesaf. Nododd adroddiad Holmans fod arnom angen 12,000 o gartrefi y flwyddyn, a bod 5,200 o’r rhain yn dai cymdeithasol. Mae hwnnw’n sylweddol fwy na'r 10,000 y tymor y mae'r Llywodraeth y Cynulliad hon wedi ymdrechu ei gyflawni. Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi ymrwymo i 20,000 dros dymor nesaf y Cynulliad, y credaf sy’n dod â ni yn nes at y dyhead yn adroddiad Holmans.
Deputy Presiding Officer, as I said at the start of this debate, the budget is one that has been significantly improved, I believe, as a result of the Welsh Liberal Democrats’ intervention. It is not our budget. There are things in it that I think can be better and can be delivered better. But, I think that the extra money that we put in for poorer pupils in education, the money that we’ve brought in for cheaper transport for 16 to 18-year-olds, the extra apprenticeships, and the additional capital funding we’ve had delivered around Wales make it a budget that we believe should be passed today. Thank you. Ddirprwy Lywydd, fel y dywedais ar ddechrau’r ddadl hon, mae’r gyllideb yn un sydd wedi ei gwella’n sylweddol, rwy’n credu, o ganlyniad i ymyrraeth Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Nid ein cyllideb ni yw hi. Mae pethau ynddi rwy’n credu y gallent fod yn well ac y gellid eu darparu’n well. Ond, credaf fod yr arian ychwanegol yr ydym yn ei roi ar gyfer disgyblion tlotach ym myd addysg, yr arian yr ydym ei gyflwyno ar gyfer cludiant rhatach i rai 16 i 18 mlwydd oed, y prentisiaethau ychwanegol, a’r cyllid cyfalaf ychwanegol yr ydym wedi trefnu iddo gael ei gyflwyno ledled Cymru yn ei gwneud yn gyllideb y dylai ei phasio heddiw yn ein barn ni. Diolch.
16:06 - Lynne Neagle
I’m very pleased to speak today on a positive budget settlement from the Welsh Government and the fairer and better Wales it lays the foundations for. Our steadfast and sustainable approach to public services means higher per-head spend on health and social services, continued investment in education, and greater protection for councils than in England. That’s not to say there aren’t tough choices after six years of Westminster austerity. We are the first administration since the start of devolution with only cuts to deal with—11 per cent in real terms by 2020. So, it’s depressing that today’s Tory amendment seeks to undermine this budget’s delivery when, in fact, we’re responding to the hand dealt from a Westminster Government intent on cuts and austerity no matter the cost to communities. Rwy’n falch iawn o gael siarad heddiw ar setliad cyllideb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru a’r Gymru decach a gwell y mae’n gosod y seiliau ar ei chyfer. Mae ein dull cadarn a chynaliadwy i wasanaethau cyhoeddus yn golygu gwariant uwch fesul pen ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol, buddsoddiad parhaus mewn addysg, a mwy o ddiogelwch i gynghorau nag yn Lloegr. Nid yw hynny'n golygu nad oes dewisiadau anodd ar ôl chwe blynedd o gyni gan San Steffan. Ni yw’r weinyddiaeth gyntaf ers dechrau datganoli sydd wedi cael dim ond toriadau i ymdrin â nhw—11 y cant mewn termau real erbyn 2020. Felly, mae’n ddigalondid bod gwelliant y Torïaid heddiw yn ceisio tanseilio darparu’r gyllideb hon pan, mewn gwirionedd, ein bod yn ymateb i’r hyn a roddwyd i ni gan Lywodraeth yn San Steffan sydd â’i bryd ar doriadau a chyni pa beth bynnag fo’r gost i gymunedau.
Before us today is a budget that delivers on Labour priorities. I want to talk first and foremost about some of the spending commitments I’m pleased to see included. The biggest local headline announcement for my constituents is the capital funding allocation for the Cwmbran based specialist critical care centre. The business case is still with Welsh Government but, as a sign of commitment, they’ve allocated £36 million, the largest single allocation in this year’s capital budget. Having campaigned for this development, I’m delighted at its inclusion and will continue to work with Aneurin Bevan Local Health Board and the Welsh Government to ensure that it is delivered on time. This £500 million hospital will deliver twenty-first century healthcare for the Valleys and flies in the face of opposition rhetoric about underfunding in local hospital services. This is a Welsh Labour Government that protects the NHS. Thanks to the £300 million extra this year and the £1.1 billion already invested over the past two years, we spend more per head on health than England. Ger ein bron heddiw y mae cyllideb sy’n cyflawni ar flaenoriaethau Llafur. Rwyf eisiau siarad yn gyntaf ac yn bennaf am rai o’r ymrwymiadau gwario yr wyf yn falch o'u gweld wedi eu cynnwys. Y cyhoeddiad lleol pwysicaf ar gyfer fy etholwyr i yw’r dyraniad cyllid cyfalaf ar gyfer y ganolfan gofal critigol arbenigol sydd wedi’i lleoli yng Nghwmbrân. Mae’r achos busnes yn dal i fod gyda Llywodraeth Cymru ond, fel arwydd o ymrwymiad, mae hi wedi dyrannu £36 miliwn, y dyraniad unigol mwyaf yng nghyllideb cyfalaf eleni. Gan fy mod wedi ymgyrchu dros y datblygiad hwn, rwyf wrth fy modd ei fod wedi ei gynnwys a byddaf yn parhau i weithio gyda Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan a Llywodraeth Cymru i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni ar amser. Bydd yr ysbyty £500 miliwn hwn yn darparu gofal iechyd yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer y Cymoedd ac mae’n mynd yn groes i rethreg y gwrthbleidiau ynghylch tanariannu mewn gwasanaethau ysbytai lleol. Mae hon yn Llywodraeth Lafur Cymru sy’n amddiffyn y GIG. Diolch i'r £300 miliwn ychwanegol eleni a’r £1.1 biliwn a fuddsoddwyd eisoes dros y ddwy flynedd diwethaf, rydym yn gwario mwy fesul pen ar iechyd nag y mae Lloegr.
Social services is, of course, fundamental to the delivery of first-class healthcare. I am proud that we in Wales recognise that link through protecting funding. I’ve always made the case for more investment in social care and I’m delighted to see an additional £21 million for social services in the draft budget. This is in sharp contrast to England where huge cuts are causing chaos. We’ve even seen proposals from one council in England to charge £26 for each older vulnerable resident who falls in the night. It shows the pressure on local councils to cope as the Chancellor promises more cash for the NHS while cutting other parts of health and social care to fund it. Mae’r gwasanaethau cymdeithasol, wrth gwrs, yn hanfodol ar gyfer darparu gofal iechyd o’r radd flaenaf. Rwy’n falch ein bod ni yng Nghymru yn cydnabod y cysylltiad hwnnw drwy ddiogelu cyllid. Rwyf bob amser wedi rhoi'r achos dros fwy o fuddsoddiad ym maes gofal cymdeithasol ac rwyf wrth fy modd o weld £21 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn y gyllideb ddrafft. Mae hyn mewn gwrthgyferbyniad llwyr â Lloegr lle mae toriadau enfawr yn achosi anhrefn. Rydym hyd yn oed wedi gweld cynigion gan un cyngor yn Lloegr i godi £26 ar gyfer pob preswylydd hŷn sy’n agored i niwed sy’n cael codwm yn y nos. Mae’n dangos y pwysau ar gynghorau lleol i ymdopi wrth i’r Canghellor addo mwy o arian ar gyfer y GIG gan dorri rhannau eraill o iechyd a gofal cymdeithasol i’w ariannu.
Today, we learn that even David Cameron’s mother is joining the campaign against Tory cuts, having signed a petition against cuts to children’s centres in the Prime Minister’s constituency. We welcome her to our cause. Heddiw, rydym yn dysgu bod mam David Cameron hyd yn oed yn ymuno â’r ymgyrch yn erbyn toriadau’r Torïaid, gan iddi lofnodi deiseb yn erbyn toriadau i ganolfannau plant yn etholaeth y Prif Weinidog. Rydym yn ei chroesawu hi i’n hachos.
For my constituents in Torfaen, however, there’s positive work ongoing. I was really pleased to visit Nevill Hall Hospital recently and meet the teams who—funded by the intermediate care fund, which has been increased in this budget—are making huge strides in supporting patients and reducing lengths of stay. Ar gyfer fy etholwyr i yn Nhorfaen, fodd bynnag, mae gwaith cadarnhaol yn parhau. Roeddwn yn falch iawn o ymweld ag Ysbyty Nevill Hall yn ddiweddar a chwrdd â’r timau sydd—wedi’u hariannu gan y gronfa gofal canolraddol, sydd wedi ei chynyddu yn y gyllideb hon—yn gwneud camau enfawr o ran cefnogi cleifion a lleihau hyd arosiadau.
Of course, social services face challenges, but we approach those in the spirit of consultation and co-operation reflected in this budget. I hope this spirit of co-operation with local authorities continues on a local government settlement that is tough, but ultimately much better than anticipated. Wrth gwrs, mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn wynebu heriau, ond rydym yn ymdrin â’r rheini yn yr ysbryd o ymgynghori a chydweithredu sy’n cael ei adlewyrchu yn y gyllideb hon. Rwy’n gobeithio y bydd yr ysbryd hwn o gydweithio ag awdurdodau lleol yn parhau ar setliad llywodraeth leol sy’n anodd, ond yn y pen draw sy’n llawer gwell na’r hyn a ragwelwyd.
Torfaen, which originally planned for a 4 per cent reduction, is now in a much better position and able to row back from the harshest savings, continue to invest in social care and protect education. A reduction of 1.7 per cent is still significant, though, and there are some difficult choices pending for an authority that faces many challenges and serves communities with high levels of deprivation. I cannot let this opportunity pass without stressing the need for greater weight on deprivation for deprived Valleys authorities like Torfaen. Comments have been plentiful from colleagues pushing for funding floors and stabilisation grants for rural authorities, but that extra funding cannot be at the expense of Valleys communities that already lose out because of the weightings given in the local government formula for sparsity. Mae Torfaen, a gynlluniodd yn wreiddiol ar gyfer gostyngiad o 4 y cant, yn awr mewn sefyllfa lawer gwell ac yn gallu tynnu'n ôl oddi wrth yr arbedion mwyaf llym, parhau i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol a diogelu addysg. Mae gostyngiad o 1.7 y cant yn dal yn sylweddol, fodd bynnag, ac mae rhai dewisiadau anodd i ddod ar gyfer awdurdod sy’n wynebu llawer o heriau ac sy’n gwasanaethu cymunedau sydd â lefelau uchel o amddifadedd. Ni allaf adael i'r cyfle hwn fynd heibio heb bwysleisio’r angen am fwy o bwys ar amddifadedd ar gyfer awdurdodau o amddifadedd y Cymoedd fel Torfaen. Cafwyd digonedd o sylwadau gan gydweithwyr yn gwthio am derfynau isaf cyllid a grantiau sefydlogi ar gyfer awdurdodau gwledig, ond ni all yr arian ychwanegol hwnnw fod ar draul cymunedau’r Cymoedd sydd eisoes yn dioddef oherwydd y pwysoliadau a roddir yn y fformiwla llywodraeth leol ar gyfer teneurwydd poblogaeth.
I’m also delighted that we in Wales continue to spend more per head on education than in England and that the protection for schools spending continues in this budget. This is on top of very welcome protection for FE budgets in Wales. Rwyf wrth fy modd hefyd ein bod ni yng Nghymru yn parhau i wario mwy fesul pen ar addysg nag yn Lloegr a bod y diogelwch ar gyfer gwariant ysgolion yn parhau yn y gyllideb hon hefyd. Mae hyn ar ben y diogelu derbyniol iawn ar gyfer cyllidebau addysg bellach yng Nghymru.
In conclusion, this is a draft budget that, despite the harshest of Tory cuts from Westminster, delivers our manifesto commitments and protects vital public services, and I’m very proud to vote for this budget today. I gloi, mae hon yn gyllideb ddrafft sydd, er gwaethaf y toriadau llymaf gan y Torïaidd o San Steffan, yn darparu ein hymrwymiadau maniffesto ac yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, ac rwy’n falch iawn o bleidleisio dros y gyllideb hon heddiw.
16:11 - Mark Isherwood
Questioning the finance Minister over her draft budget last December, I asked how much the Welsh Government received as a consequence of the UK Government’s announcement of the biggest house building programme by any Government since the 1970s in England, and how much of that additional money she would be allocating to new housing supply in Wales during 2016-17, after the devastating cuts imposed on housing here since 1999. No answers were provided. This weekend’s last-minute, pre-election announcement of some extra funding for social housing—but only during this current financial year—must be judged in this context. Wrth holi’r Gweinidog cyllid am ei chyllideb ddrafft fis Rhagfyr diwethaf, gofynnais faint y mae Llywodraeth Cymru wedi’i dderbyn o ganlyniad i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ar y rhaglen adeiladu tai mwyaf gan unrhyw Lywodraeth ers y 1970au yn Lloegr, a faint o’r arian ychwanegol hwnnw fyddai hi’n ei ddyrannu i gyflenwi tai newydd yng Nghymru yn ystod 2016-17, ar ôl y toriadau dinistriol a osodwyd ar dai yma ers 1999. Ni chafwyd unrhyw atebion. Mae'n rhaid barnu’r cyhoeddiad munud olaf, cyn etholiad hwn y penwythnos yma, am rywfaint o arian ychwanegol ar gyfer tai cymdeithasol—ond dim ond yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol—yn y cyd-destun hwn.
Wales has had by far the lowest proportion of housing expenditure of any of the four UK countries. New home registrations in Wales have lagged behind the rest of Britain for years, and last year Wales was again the only UK nation to see a fall in the number of new homes registered. Twelve years ago, I warned that stripping money out of housing to fund Labour’s top-down anti-poverty programmes was akin to throwing mud at the wall while digging up the wall’s foundations. It is also 12 years since the housing sector warned of an impending housing crisis in Wales unless urgent action was taken. Although housing is key to sustainable community regeneration and the Homes for Wales campaign is calling on the next Welsh Government to end the housing crisis in Wales, capital funding to increase the supply and choice of affordable quality housing in this Labour budget is barely two thirds of that provided by the last Conservative Government in 1997 in Wales, despite average house prices in Wales being almost 250 per cent higher. Mae Cymru wedi cael y gyfran isaf o bell ffordd o wariant tai o unrhyw un o bedair gwlad y DU. Mae cofrestriadau cartrefi newydd yng Nghymru wedi llusgo y tu ôl i weddill Prydain ers blynyddoedd, a’r llynedd Cymru eto oedd yr unig wlad yn y DU i weld gostyngiad yn nifer y cartrefi newydd a gofrestrwyd. Ddeuddeg mlynedd yn ôl, rhybuddiais fod stripio arian allan o dai i ariannu rhaglenni gwrthdlodi brig i lawr y blaid Lafur yn debyg i daflu mwd ar y wal wrth balu sylfeini’r wal. Mae hefyd yn 12 mlynedd ers i’r sector tai rybuddio bod argyfwng tai ar ddod yng Nghymru oni bai bod camau brys yn cael eu cymryd. Er bod tai yn allweddol i adfywio cymunedol cynaliadwy a bod ymgyrch Cartrefi Cymru yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i roi terfyn ar yr argyfwng tai yng Nghymru, prin fod cyllid cyfalaf i gynyddu’r cyflenwad a’r dewis o dai fforddiadwy o ansawdd yn y gyllideb Lafur yn ddwy ran o dair o'r hyn a ddarparwyd gan y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf ym 1997 yng Nghymru, er gwaethaf y ffaith fod prisiau tai cyfartalog yng Nghymru bron yn 250 y cant yn uwch.
Wales needs the whole housing sector working together to tackle the housing crisis by delivering a comprehensive housing reform programme. I welcome the Welsh Government’s u-turn on proposed cuts to the Supporting People programme, but regret it took an all-Wales campaign to achieve this. [Interruption.] Did somebody speak? No. As I said in the 2014-15 draft budget debate, Labour’s proposed cuts to this preventative programme represented a false economy that would lead to greater cost. Further, as Cymorth Cymru, which represents over 100 housing-related support organisations, has stated, the programme now needs a large-scale evaluation and focus on better prevention, partnership and procurement—spending to save. Rural housing enablers are key to delivering affordable rural housing, tackling the strategic barriers identified in their 2014 evaluation. So, why does this draft budget appear to scrap their funding? Mae Cymru angen y sector tai cyfan i gydweithio i fynd i’r afael â’r argyfwng tai drwy ddarparu rhaglen ddiwygio tai gynhwysfawr. Rwy’n croesawu tro pedol Llywodraeth Cymru ar doriadau arfaethedig i’r rhaglen Cefnogi Pobl, ond yn gresynu ei bod wedi cymryd ymgyrch Cymru gyfan i gyflawni hyn. [Torri ar draws.] A wnaeth rhywun siarad? Na. Fel y dywedais yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft 2014-15, roedd toriadau arfaethedig Llafur i’r rhaglen ataliol hon yn cynrychioli camau arbed ffug a fyddai’n arwain at fwy o gost. Ymhellach, fel y mae Cymorth Cymru, sy’n cynrychioli dros 100 o sefydliadau cymorth sy’n gysylltiedig â thai, wedi datgan, mae’r rhaglen bellach angen gwerthusiad ar raddfa fawr a phwyslais ar well atal, partneriaeth a chaffael—gwario i arbed. Mae hwyluswyr tai gwledig yn allweddol i ddarparu tai gwledig fforddiadwy, gan fynd i’r afael â’r rhwystrau strategol a nodwyd yn eu gwerthusiad yn 2014. Felly, pam mae’n ymddangos bod y gyllideb ddrafft hon yn cael gwared ar eu cyllid?
The Williams commission report on public sector governance and delivery found that the only viable way to meet the needs and aspirations of people is to shift the emphasis of public service towards co-production and prevention, working with third sector and independent organisations, communities and individuals. The auditor general has stated that councils need to consider alternative models of delivery, but found that although some councils are managing to provide key services with less money accordingly, many councils are too slow in reviewing alternative methods of delivery and missing out on opportunities to reduce expenditure. Only last week, the Wales Audit Office told the Communities, Equality and Local Government Committee that the auditor general has talked about the need for local authorities to innovate and do things differently. Canfu adroddiad comisiwn Williams ar lywodraethu a darpariaeth y sector cyhoeddus mai’r unig ffordd ymarferol i ddiwallu anghenion a dyheadau pobl yw symud y pwyslais o wasanaeth cyhoeddus tuag at gyd-gynhyrchu ac atal, gweithio gyda sefydliadau, cymunedau ac unigolion trydydd sector ac annibynnol. Mae’r archwilydd cyffredinol wedi datgan bod angen i gynghorau ystyried dulliau amgen o ddarparu, ond gwelwyd er bod rhai cynghorau yn llwyddo i ddarparu gwasanaethau allweddol gyda llai o arian yn unol â hynny, mae llawer o gynghorau yn rhy araf wrth adolygu dulliau amgen o ddarparu ac yn methu â chael cyfleoedd i leihau gwariant. Dim ond yr wythnos diwethaf, dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru wrth y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol bod yr archwilydd cyffredinol wedi siarad am yr angen i awdurdodau lleol arloesi a gwneud pethau mewn modd gwahanol.
However, although the Welsh Government is facing a real-terms reduction in the block grant, averaging just 1.1 per cent annually over four years, serious concern has been expressed to me by homelessness charities that a proposed 8.1 per cent cut to homelessness prevention is going to have worrying consequences. As they state, ‘If we can’t keep people in their homes, the knock-on effects will be felt by local government, Supporting People providers, education and NHS Wales.’ They tell me that all third sector organisations funded by this have had a 5 per cent cut this year, and that cutting this further whilst reinforcing local authorities appears to be a false economy, and doesn’t make sense. Fodd bynnag, er bod Llywodraeth Cymru yn wynebu gostyngiad mewn termau real yn y grant bloc, gyda chyfartaledd o ddim ond 1.1 y cant y flwyddyn dros bedair blynedd, mae pryder difrifol wedi ei fynegi i mi gan elusennau digartrefedd fod toriad arfaethedig o 8.1 cant i atal digartrefedd yn mynd i gael canlyniadau sy’n peri gofid. Fel y dywedant, ‘Os na allwn gadw pobl yn eu cartrefi, bydd y sgîl-effeithiau yn cael eu teimlo gan lywodraeth leol, darparwyr Cefnogi Pobl, addysg a GIG Cymru.’ Maent yn dweud wrthyf fod yr holl sefydliadau trydydd sector a ariennir gan hyn wedi cael toriad o 5 y cant eleni, a bod torri hyn ymhellach gan atgyfnerthu awdurdodau lleol yn ymddangos i fod yn arbed ffug, ac nid yw’n gwneud synnwyr.
Although the Welsh Government states that £4.9 million of the £5.4 million, or a 48 per cent cut, in the homelessness action, represents a non-recurrent allocation in 2015-16, I’m advised that even your officials are confused by this. It’s a 48 per cent cut. Er bod Llywodraeth Cymru yn nodi bod £4.9 miliwn o’r £5.4 miliwn, neu doriad o 48 y cant, yn y camau gweithredu digartrefedd, yn cynrychioli dyraniad afreolaidd yn 2015-16, ac rwy’n cael fy nghynghori bod hyd yn oed eich swyddogion yn cael eu drysu gan hyn. Mae’n doriad o 48 y cant.
Equally, concern has been expressed to me about the proposed 9 per cent cut to core county voluntary council funding, where this will devastate their ability to support more user-led preventative and cost-effective services. In the words of Flintshire Local Voluntary Council, and I conclude, ‘As the Welsh Government is requesting commitment from the third sector to explore alternative delivery models for crucial public services, the foundations that exist to develop quality third sector services are being decimated.’ Yn yr un modd, mae pryder wedi ei fynegi i mi am y toriad arfaethedig o 9 y cant i gyllid cyngor gwirfoddol sirol craidd, lle bydd hyn yn dinistrio eu gallu i gefnogi mwy o wasanaethau ataliol a chost-effeithiol a arweinir gan ddefnyddwyr. Yng ngeiriau Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, ac rwy’n terfynu, ‘Gan fod Llywodraeth Cymru yn gofyn am ymrwymiad gan y trydydd sector i archwilio modelau cyflenwi amgen ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, mae’r sylfeini sy’n bodoli i ddatblygu gwasanaethau o ansawdd yn y trydydd sector yn cael eu dinistrio.’
16:16 - Keith Davies
Hoffwn groesawu’r ddadl yma heddiw ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, ac rwyf yn ei chefnogi ond ni fyddaf yn cefnogi’r gwelliannau. I’d like to welcome this debate today on the draft budget of the Welsh Government, and I do support it but I won’t be supporting the amendments.
Er gwaethaf toriadau eithafol gan Lywodraeth Dorïaidd San Steffan, sydd yn gweld cyllideb ein Llywodraeth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real ers y flwyddyn ariannol 2010-11, mae’r gyllideb ddrafft yma yn enghraifft o sut mae Llywodraeth Llafur Cymru yn amddiffyn gwasanaethau yng Nghymru. Mae agwedd gyfan Llywodraeth Llafur Cymru yn gwbl wahanol i’r dinistr a achosir gan y Torïaid yn Lloegr. Er enghraifft, mae Cymru yn gwario mwy y pen ar iechyd na Lloegr, a 7 y cant y pen yn fwy ar iechyd a gofal cymdeithasol yn gyfunol. Despite extreme cuts by the Conservative Government in Westminster, which see the budget of our Government reduced by £1.3 billion in real terms since the 2010-11 financial year, this draft budget is an example of how the Welsh Labour Government is safeguarding services in Wales. The attitude of the Welsh Labour Government is entirely different to the destruction caused by the Conservatives in England. For example, Wales spends more per head on health than England, and 7 per cent more per head on health and social care combined.
16:17 - Andrew R.T. Davies
I’m most grateful to the Member for taking an intervention. I’d be grateful if you could point to what health figures show that this Government spends more on health than in England, because the Treasury’s own figures, the age-adjusted figure, means that there’s £50 more spent on English patients than there is on Welsh patients. Please point me to another figure that contradicts that. Please point me to the figure. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r Aelod am dderbyn ymyriad. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech nodi pa ffigurau iechyd sy’n dangos bod y Llywodraeth hon yn gwario mwy ar iechyd nag yn Lloegr, gan fod ffigurau’r Trysorlys ei hun, y ffigur a addaswyd yn ôl oedran, yn golygu fod £50 yn fwy yn cael ei wario ar gleifion yn Lloegr nag sydd ar gleifion Cymru. Dangoswch ffigur arall sy’n gwrthddweud hynny i mi os gwelwch yn dda. Dangoswch y ffigur hwnnw i mi os gwelwch yn dda.
16:18 - Keith Davies
I’ll send you an answer on that one; I haven’t got it here in front of me. Mi wnaf anfon ateb i chi ar hwnna; nid yw gennyf yma o fy mlaen.
Ac wrth fynd heibio, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn peidio â rhyfela gyda’i meddygon iau, yn wahanol i’r Torïaid yn Lloegr sy’n achosi aflonyddwch sylweddol i’r gwasanaeth iechyd yno. Mae gan y Torïaid a Phlaid Cymru bolisïau i gyflwyno cronfa cyffuriau cancr. Fodd bynnag, mae eu polisïau yn gorwedd yn rhacs ar ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd y Deyrnas Unedig wythnos diwethaf yn beirniadu rheolaeth y gronfa gan yr Adran Iechyd. Fe wnaeth y gronfa redeg dros gyllideb yn gyson, ac nid yw’r Llywodraeth yn gwybod a ydy cleifion wedi elwa o’r gronfa. Hefyd, roedd mwyafrif y cyffuriau wedi cael eu cymeradwyo gan NICE. And in passing, the Welsh Government also isn’t fighting with its junior doctors, unlike the Conservatives in England who are causing a great deal of disruption to the health service in that place. The Conservatives and Plaid Cymru have policies to introduce a cancer drugs fund. However, their policies lie in ruins after a report was published by the Public Accounts Committee of the UK Parliament last week that was critical of the management of the fund by the Department of Health. The fund exceeded its budget consistently, and the Government doesn’t know whether patients have benefited from the fund. Also, the majority of the drugs had been approved by NICE.
Dylem ganmol Llywodraeth Cymru am roi 1 y cant yn ychwanegol i ysgolion yn y gyllideb ddrafft, ond mae’n debyg bod gweinyddiaeth Plaid Cymru sir Gaerfyrddin heb dalu sylw. Yng nghyllideb ddrafft y cyngor sir, maent yn cynnig torri cyllideb ysgolion gan £3.6 miliwn mewn termau real. Eto, rydym yn gweld Plaid Cymru, fel y Torïaid, yn dweud eu dweud drwy’r diwygiadau i’r cynnig heddiw, ond pan fydd dylanwad ganddynt i wario’r cyllid ychwanegol yma ar ysgolion, mae’n well ganddyn nhw wario’r arian ar ‘vanity projects’ fel llwybrau beicio yng Nghaerfyrddin. We should applaud the Welsh Government for giving an extra 1 per cent to schools in the draft budget, but it appears that the Plaid Cymru administration in Carmarthenshire hasn’t paid attention to that. In the draft budget of the county council, they’ve cut the schools budget by £3.6 million in real terms. Again, we’re seeing Plaid Cymru, like the Conservatives, having their say in their amendments to the motion today, but when they have influence and could spend this additional funding on schools, they prefer to spend the money on vanity projects such as the cycle routes in Carmarthen.
Wrth gymharu holl gyllideb llywodraeth leol Cymru â Lloegr, mae wedi bod codiad o 2.5 y cant i lywodraeth leol yng Nghymru o’i gymharu â thoriad o 10 y cant yn Lloegr ers 2011. In comparing the entire budget for local government in Wales with that for England, there’s been an increase of 2.5 per cent for local government in Wales as compared to a cut of 10 per cent in England since 2011.
Mae’n dda gweld bod y Llywodraeth wedi rhoi £10 miliwn yn ychwanegol i wneud yn siŵr na fydd unrhyw fyfyrwyr Cymreig yn talu mwy am addysg uwch na myfyrwyr a fu’n astudio yn ystod 2010, ac yn hollol wahanol i beth sy’n digwydd yn Lloegr. Rwy’n falch o glywed wedyn am yr arian ychwanegol i addysg uwch rydym ni wedi clywed amdano gan y Gweinidog y prynhawn yma. Mae gwelliannau’r Torïaid a Phlaid Cymru yn beirniadu cynnig y Llywodraeth, ond nid ydyn nhw’n cynnig unrhyw ddewisiadau eraill. O ble mae’r arian yn dod i ariannu eu polisïau? Hoffwn gymeradwyo cyllideb Llywodraeth Lafur Cymru. Er gwaethaf yr hinsawdd anodd, mae’r gyllideb o’n blaenau heddiw yn gyfrifol, yn rhesymol, ac yn bodloni anghenion pobl Cymru. It’s good to see that the Government has given an additional £10 million to make sure that no Welsh student will pay more for higher education than students who were studying in 2010, and it’s entirely different to what is happening in England. I’m pleased to hear about the additional funding for higher education, which we’ve heard about from the Minister this afternoon. In their amendments, the Conservatives and Plaid Cymru are critical of the Government’s motion, but they don’t offer any other alternatives. Where’s the funding coming from to fund their policies? I would like to laud the Welsh Labour Government budget. Despite the difficult climate, the budget before us today is responsible, is reasonable and achieves the aims of the people of Wales.
16:20 - Simon Thomas
It was interesting to hear Keith Davies just say that we had nothing to offer in our amendments because, of the three amendments, two have been accepted by the Government and have been fully funded by the Government. So, I think it’s fair to say that our amendments did have an effect and, in particular, the campaigning we’ve been doing on these issues before the final determination of this draft budget. Yr oedd yn ddiddorol clywed Keith Davies yn dweud nad oedd gennym ddim i’w gynnig yn ein gwelliannau oherwydd, o’r tri gwelliant, mae dau wedi eu derbyn gan y Llywodraeth ac wedi eu hariannu’n llawn gan y Llywodraeth. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud bod ein gwelliannau wedi cael effaith ac, yn arbennig, yr ymgyrchu yr ydym wedi bod yn ei wneud ar y materion hyn cyn penderfyniad terfynol y gyllideb ddrafft hon.
Now, of course, the context for this, I accept, is one in which spending is being cut in public services by a Conservative Government in London—a Government that is seeking to balance the budget and has been seeking to do so for five years now and failing in each and every one of those five years, including when it was so ably supported by the Liberal Democrats, to achieve that balanced budget and which has been noted today by the Institute for Fiscal Studies as being £3 billion a year off its balanced budget, even as we speak. So, there are not only hard times in this budget that the Welsh Government is imposing but further hard times to come from a Conservative Government in London as well. And that’s the context in which we have to examine a budget like this, and it’s not easy, I accept that, but it is something that the Welsh Government should have made a better fist of. Nawr, wrth gwrs, mae’r cyd-destun ar gyfer hyn, rwy’n derbyn, yn un lle mae gwariant yn cael ei dorri mewn gwasanaethau cyhoeddus gan Lywodraeth Geidwadol yn Llundain—Llywodraeth sy’n ceisio mantoli’r gyllideb ac sydd wedi bod yn ceisio gwneud hynny am bum mlynedd bellach ac wedi methu ym mhob un o’r pum mlynedd hynny, gan gynnwys yr adeg pan gafodd ei chefnogi mor fedrus gan y Democratiaid Rhyddfrydol, i gyflawni’r gyllideb wedi'i mantoli honno ac sydd wedi cael ei nodi heddiw gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid fel £3 biliwn y flwyddyn i ffwrdd o’i chyllideb wedi'i mantoli, hyd yn oed wrth i ni siarad. Felly, nid yn unig y mae amseroedd caled yn y gyllideb hon y mae Llywodraeth Cymru yn ei gosod ond mae amseroedd caled pellach i ddod o Lywodraeth Geidwadol yn Llundain hefyd. Ac mewn cyd-destun felly y mae’n rhaid i ni edrych ar gyllideb fel hon, ac nid yw’n hawdd, rwy’n derbyn hynny, ond mae’n rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud yn well ynglŷn ag ef.
I was particularly struck by Jane Hutt, when she opened the debate today, saying that this budget was about Welsh Government priorities and then giving a list of all the things that the Welsh Government’s been doing for the last 15 years and has never changed or prioritised. The striking thing is that it’s taken the Finance Committee time and time again to point out that we must have a better assessment of strategic priorities by any Government of any political colour, including that of preventative spend and putting that at the heart of the budget-making process. We’ve never really achieved that. Every budget we’ve had in this Assembly—and we’re looking at the final one of this Assembly now—has been a mishmash of the previous budget, improved or changed or somehow amended to cope with the pressures of the time that we’re facing. That isn’t good enough, and the next Assembly will have to consider better budgets by the Government, whatever party is in charge. Cefais fy nharo yn arbennig gan Jane Hutt, pan agorodd hi'r ddadl heddiw, yn dweud bod y gyllideb hon yn ymwneud â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac yna’n rhoi rhestr o’r holl bethau y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu gwneud dros y 15 mlynedd diwethaf a heb eu newid na'u blaenoriaethu erioed. Y peth trawiadol yw ei fod wedi cymryd y Pwyllgor Cyllid i nodi dro ar ôl tro bod yn rhaid i ni gael gwell asesiad o flaenoriaethau strategol gan unrhyw Lywodraeth o unrhyw liw gwleidyddol, gan gynnwys gwariant ataliol a rhoi hynny wrth wraidd y broses gwneud cyllideb. Nid ydym erioed wedi cyflawni hynny mewn gwirionedd. Mae pob cyllideb a gawsom yn y Cynulliad—ac rydym yn edrych ar un olaf y Cynulliad hwn yn awr—wedi bod yn gymysgedd o’r gyllideb flaenorol, wedi’i gwella neu ei newid neu rywsut ei diwygio i ymdopi â phwysau’r cyfnod yr ydym yn eu hwynebu. Nid yw hynny’n ddigon da, a bydd yn rhaid i’r Cynulliad nesaf ystyried gwell cyllidebau gan y Llywodraeth, pa bynnag blaid fydd wrth y llyw.
There are things, not to welcome in the budget itself—because we haven’t had the details of them—but things that were said by the Finance Minister that I think Plaid Cymru will welcome, although it doesn’t change our fundamental disagreement with the direction, as I just set out, of the budget and the strategic priorities of the Government, so we will be, of course, voting against it. But there was shift on support for rural public authorities. The Minister, Leighton Andrews, having talked so clearly—[Interruption.] I’ll talk about Ceredigion in a second. The Minister having talked so clearly against the need for a rural stabilisation grant of 2.5 per cent came up with one of 3 per cent, which he’s happy with. I don’t know what the difference between 2.5 and 3 is in principle, but, clearly, it does make a huge difference to Leighton Andrews to have 2 or 3 per cent. I know what it is for the Liberal Democrats: it means that the Liberal Democrats in Ceredigion have not defended Ceredigion’s budget to the same extent as they’ve defended it in Brecon and Radnor. I can’t imagine why. [Interruption.] I can’t imagine why. But, in the same way as we have the Barnett formula as part of our established way of funding devolved Government, no doubt we’ll have the Kirsty Williams stabilisation grant as a long-time future for local government funding in Wales. Mae pethau, nad ydynt i’w croesawu yn y gyllideb ei hun—oherwydd nad ydym wedi cael y manylion amdanynt—ond pethau a ddywedwyd gan y Gweinidog Cyllid y credaf y bydd Plaid Cymru yn eu croesawu, er nad yw’n newid ein hanghytundeb sylfaenol gyda chyfeiriad, fel yr wyf newydd ei nodi, y gyllideb a blaenoriaethau strategol y Llywodraeth, felly byddwn, wrth gwrs, yn pleidleisio yn ei herbyn. Ond roedd symudiad ar gymorth ar gyfer awdurdodau cyhoeddus gwledig. Wedi i’r Gweinidog, Leighton Andrews, siarad mor glir— [Torri ar draws.] Fe siaradaf am Geredigion mewn eiliad. Wedi i’r Gweinidog siarad mor glir yn erbyn yr angen am grant sefydlogi gwledig o 2.5 y cant soniodd am un o 3 y cant, y mae ef yn hapus ag ef. Nid wyf yn gwybod beth yw’r gwahaniaeth rhwng 2.5 a 3 mewn egwyddor, ond, yn amlwg, mae’n gwneud gwahaniaeth aruthrol i Leighton Andrews i gael 2 neu 3 y cant. Rwy’n gwybod beth y mae'n ei olygu i’r Democratiaid Rhyddfrydol: mae’n golygu nad yw’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion wedi amddiffyn cyllideb Ceredigion i’r un graddau ag y maent wedi ei hamddiffyn ym Mrycheiniog a Maesyfed. Ni allaf ddychmygu pam. [Torri ar draws.] Ni allaf ddychmygu pam. Ond, yn yr un modd ag y mae gennym y fformiwla Barnett yn rhan o’n ffordd sefydledig o ariannu Llywodraeth ddatganoledig, yn ddiau byddwn yn cael grant sefydlogi Kirsty Williams fel dyfodol cyfnod hir ar gyfer ariannu llywodraeth leol yng Nghymru.
But there is an address to look at public authorities here and local authorities, but it does not solve that underlying problem with funding. Lynne Neagle talked about it, and she was right to talk about and reference deprivation—she’s absolutely right—but until we get a better balance and understanding of the real costs of providing services and meeting deprivation in the Valleys and also sparsity in rural areas, we will have this problem year in, year out. It’s been going on for 15 years now; it’s time to stop these interventions by grants and solve a proper funding formula for local authorities, and reform of local government gives us that opportunity. Ond mae cyfeiriad i edrych ar awdurdodau cyhoeddus yn y fan yma ac awdurdodau lleol, ond nid yw’n datrys y broblem sylfaenol gyda chyllid. Siaradodd Lynne Neagle am y peth, ac roedd hi'n iawn i sôn am amddifadedd a chyfeirio ato —mae hi’n hollol iawn—ond tan i ni gael gwell cydbwysedd a dealltwriaeth o’r costau gwirioneddol o ddarparu gwasanaethau a diwallu amddifadedd yn y Cymoedd a hefyd teneurwydd y boblogaeth mewn ardaloedd gwledig, bydd gennym y broblem hon flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae wedi bod yn mynd ymlaen am 15 mlynedd bellach; mae’n amser i roi’r gorau i’r ymyriadau hyn drwy grantiau a chreu fformiwla cyllid briodol ar gyfer awdurdodau lleol, ac mae diwygio llywodraeth leol yn rhoi’r cyfle hwnnw inni.
The other major concern and change in this draft budget, of course, is that the Government has given way on the powerful arguments advanced by Plaid Cymru on the need to fund our universities properly. It’s a recognition that the current tuition fee system funds £90 million-plus to English universities and robs out that money—from FE in the past, as the First Minister has said, and from HE this year. I can only assume that some other Ministers more awake to the situation in universities and the economic impact of universities in Wales have retreated from the previous position taken by Huw Lewis, and have saved, for the time being at least, Welsh universities from the worst of the cuts and the implications of the current fee arrangements. That still means a cut of £10 million. That’s to be regretted, but there is at least a bridge, now, to Diamond and the next Assembly Government and the next set of policies that I think will have to be introduced by a new Government. Y pryder a’r newid mawr arall yn y gyllideb ddrafft hon, wrth gwrs, yw bod y Llywodraeth wedi ildio ar y dadleuon grymus a gyflwynwyd gan Blaid Cymru ar yr angen i ariannu ein prifysgolion yn iawn. Mae’n gydnabyddiaeth bod y system ffioedd dysgu bresennol yn ariannu £90 miliwn a mwy i brifysgolion yn Lloegr ac yn lladrata’r arian hwnnw—oddi wrth AB yn y gorffennol, fel y mae’r Prif Weinidog wedi'i ddweud, ac oddi wrth AU eleni. Ni allaf ond tybio bod rhai Gweinidogion eraill sy’n fwy effro i’r sefyllfa mewn prifysgolion ac effaith economaidd prifysgolion yng Nghymru wedi encilio o’r safbwynt blaenorol a gymerwyd gan Huw Lewis, ac wedi arbed, am y tro o leiaf, prifysgolion Cymru rhag y gwaethaf o’r toriadau a goblygiadau’r trefniadau ffioedd presennol. Mae hynny’n dal i olygu toriad o £10 miliwn. Mae hynny i’w resynu, ond o leiaf mae pont, yn awr, i Diamond a Llywodraeth nesaf y Cynulliad a’r gyfres nesaf o bolisïau y credaf y bydd yn rhaid iddynt gael eu cyflwyno gan Lywodraeth newydd.
There is still a lack of infrastructure investment throughout Wales, as Alun Ffred pointed out, and while we are still obsessed with a new motorway around Newport— Mae diffyg buddsoddi mewn seilwaith yn parhau ledled Cymru, fel y nododd Alun Ffred, a thra ein bod yn dal i fod ag obsesiwn gyda thraffordd newydd o amgylch Casnewydd—
16:25 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Finish with this, please. Gorffennwch gyda hyn, os gwelwch yn dda.
16:25 - Simon Thomas
[Continues.]—it will be very, very difficult indeed for Plaid Cymru to support such an infrastructure budget. [Yn parhau.]—bydd yn anodd iawn, iawn yn wir i Blaid Cymru gefnogi cyllideb seilwaith o’r fath.
16:25 - Julie Morgan
I’d like to congratulate the Minister and the Government on its efforts to protect Wales in view of the huge budget cuts from Westminster, which have been referred to already today. I think we’d have to say that the Government is doing a good job in very difficult circumstances. Hoffwn longyfarch y Gweinidog a’r Llywodraeth ar eu hymdrechion i amddiffyn Cymru o ystyried y toriadau enfawr yn y gyllideb o San Steffan, y cyfeiriwyd atynt eisoes heddiw. Rwy’n credu y byddai’n rhaid i ni ddweud bod y Llywodraeth yn gwneud gwaith da mewn amgylchiadau anodd iawn.
I’m a member of the Finance Committee, so I’ve had the opportunity of scrutinising the budget through the committee, and Jocelyn Davies and other members of the committee have already covered many of the points that came up during our discussions. However, I didn’t want to let pass the very upbeat outlook from local government, which was very pleasantly surprising, really, because it’s the most positive evidence I think we’ve had from the Welsh Local Government Association ever. It was so filled with hope for the future, I would’ve said, and I thought it was worth mentioning today that Welsh local government is very positive about the future, and much less pessimistic about the settlement than they had expected. It was very good indeed to hear of the innovative ways that local authorities were thinking of in trying to think of ways— Rwy’n aelod o’r Pwyllgor Cyllid, felly rwyf wedi cael y cyfle i graffu ar y gyllideb drwy’r pwyllgor, ac mae Jocelyn Davies ac aelodau eraill y pwyllgor eisoes wedi ymdrin â llawer o’r pwyntiau a gododd yn ystod ein trafodaethau. Fodd bynnag, doeddwn i ddim eisiau anwybyddu’r rhagolygon calonogol iawn gan lywodraeth leol, a oedd yn siom o’r ochr orau, mewn gwirionedd, oherwydd dyma’r dystiolaeth fwyaf cadarnhaol rwy’n credu yr ydym wedi’i chael gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru erioed. Roedd mor llawn o obaith ar gyfer y dyfodol, byddwn i wedi dweud, ac rwy’n meddwl ei bod yn werth sôn heddiw bod llywodraeth leol Cymru yn gadarnhaol iawn am y dyfodol, ac yn llawer llai pesimistaidd am y setliad nag yr oedd wedi'i ddisgwyl. Roedd yn dda iawn yn wir clywed am y ffyrdd arloesol yr oedd awdurdodau lleol yn meddwl amdanynt wrth geisio meddwl am ffyrdd—
16:27 - Nick Ramsay
Will you give way, Julie? A wnewch chi ildio, Julie?
16:27 - Julie Morgan
[Continues.]—that were more impressive, really, in tackling difficult situations, but which were also cheaper. [Yn parhau.]—a oedd yn fwy trawiadol, mewn gwirionedd, wrth fynd i’r afael â sefyllfaoedd anodd, ond a oedd hefyd yn rhatach.
16:27 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Nick Ramsay. Nick Ramsay.
16:27 - Nick Ramsay
Thank you. I’m also a member of that Finance Committee, obviously, with you, Julie Morgan. You do recognise, I’m sure, that the deal that the WLGA had before them was not as bad as the one that they were anticipating. Those were their words. It wasn’t overwhelming optimism for the future. It was not as bad as it could’ve been. Diolch. Rwyf innau hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid hwnnw, yn amlwg, gyda chi, Julie Morgan. Rydych yn cydnabod, rwy’n siŵr, nad oedd y fargen oedd gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ger ei bron mor wael â’r un yr oeddent yn ei rhagweld. Dyna oedd eu geiriau nhw. Nid oedd yn optimistiaeth ysgubol ar gyfer y dyfodol. Nid oedd mor wael ag y gallai fod wedi bod.
16:27 - Julie Morgan
Well, I think it was a good deal better than they did expect, and they were very optimistic. I don’t think you can deny that, Nick Ramsay, that it was a very upbeat performance. I think, particularly, we were very interested and impressed by the use of the intermediate care fund to try to stop older people, in particular, going into hospitals and trying to keep them in their own homes. Wel, rwy’n meddwl ei bod gryn dipyn yn well nag yr oeddent yn ei ddisgwyl, ac roeddent yn optimistaidd iawn. Nid wyf yn credu y gallwch chi wadu hynny, Nick Ramsay, ei fod yn berfformiad gobeithiol iawn. Rwy’n meddwl, yn arbennig, bod gennym ddiddordeb mawr ac y gwnaed argraff fawr arnom gan y defnydd o’r gronfa gofal canolraddol i geisio atal pobl hŷn, yn enwedig, rhag mynd i mewn i ysbytai a cheisio eu cadw nhw yn eu cartrefi eu hunain.
I’d like to support the Government in its prioritisation of the health budget, but also to make the point that Jocelyn Davies made that housing, leisure services and all the provision provided by local authorities are also crucial to the health and wellbeing of people. And the investment in the health service by the Welsh Government, you’ve only got to look in my constituency to see the huge impact that it has had. You’ve only got to look at the fact of the really high rating and success of cardiac surgery in the Heath, which hit the headlines over the last few months, because it is so absolutely successful. Then you’ve only got to look at the Cardiff dental school—top in the UK. The chief executive of Cardiff LHB, when he gave evidence to the committee, told us about the fact that the bedblocking in the Cardiff and Vale LHB is consistently dropping. So, there is very good news in the health service in Wales, and this is reflected by the very good feedback from the public about their rates of satisfaction in the health service. Hoffwn gefnogi’r Llywodraeth yn ei blaenoriaethu ar y gyllideb iechyd, ond hefyd i wneud y pwynt a wnaeth Jocelyn Davies bod tai, gwasanaethau hamdden a’r holl ddarpariaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol hefyd yn hanfodol i iechyd a lles pobl. A’r buddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd gan Lywodraeth Cymru, nid oes ond rhaid i chi edrych yn fy etholaeth i i weld yr effaith aruthrol y mae wedi ei chael. Nid oes ond rhaid i chi edrych ar ffaith y sgôr uchel iawn a llwyddiant llawdriniaeth y galon yn y Mynydd Bychan, a fu yn y penawdau dros y misoedd diwethaf, gan ei fod mor wirioneddol llwyddiannus. Yna nid oes ond rhaid i chi edrych ar ysgol ddeintyddol Caerdydd—yr uchaf yn y DU. Dywedodd prif weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd, pan roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor, wrthym am y ffaith bod blocio gwelyau ym Mwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a’r Fro yn gostwng yn gyson. Felly, mae newyddion da iawn yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu gan yr adborth da iawn gan y cyhoedd am eu cyfraddau bodlonrwydd â'r gwasanaeth iechyd.
I particularly want to welcome the new money for capital investment that the Minister has announced, and I want to welcome the investment in long-term projects in Wales, such as the Velindre Cancer Centre, of £210 million in my constituency of Cardiff North. I’ve already had meetings with the local community to discuss the model of cancer care being developed and I think this is a very exciting long-term model that would transform cancer care across south-west Wales. Rwy’n arbennig o awyddus i groesawu’r arian newydd ar gyfer buddsoddiad cyfalaf y mae’r Gweinidog wedi’i gyhoeddi, ac rwyf am groesawu’r buddsoddiad mewn prosiectau tymor hir yng Nghymru, megis Canolfan Ganser Felindre, o £210 miliwn yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd. Rwyf eisoes wedi cael cyfarfodydd gyda’r gymuned leol i drafod y model gofal canser sy’n cael ei ddatblygu ac rwy’n credu bod hwn yn fodel hirdymor cyffrous iawn a fyddai’n gweddnewid gofal canser ar draws y de-orllewin.
But, of course, another issue that does affect the health budget is the funding for drugs, and, during this financial year, I was absolutely delighted that the Minister was able to find the £14 million to fund the new drugs to tackle hepatitis C, which I’ve campaigned for as the chair of the cross-party group on haemophilia and contaminated blood. I think it is so thrilling to see such drugs being used, which actually transform the lives of people. But, obviously, this is an ongoing commitment, and I know that this will be something that we have to build in to future health budgets, but, probably, in the long term—well, it is true—in the long term it will cost less because of the health that will be restored to people suffering from hepatitis C. Ond, wrth gwrs, mater arall sy’n effeithio ar y gyllideb iechyd yw’r cyllid ar gyfer cyffuriau, ac, yn ystod y flwyddyn ariannol hon, roeddwn yn hynod o falch bod y Gweinidog wedi gallu dod o hyd i’r £14 miliwn i ariannu’r cyffuriau newydd i fynd i’r afael â hepatitis C, yr wyf wedi ymgyrchu amdano fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar haemoffilia a gwaed halogedig. Rwy’n credu ei fod mor wefreiddiol gweld cyffuriau o’r fath yn cael eu defnyddio, sydd mewn gwirionedd yn gweddnewid bywydau pobl. Ond, yn amlwg, mae hwn yn ymrwymiad parhaus, ac rwy’n gwybod y bydd hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei adeiladu i mewn i gyllidebau iechyd yn y dyfodol, ond, yn ôl pob tebyg, yn y tymor hir—wel, mae yn wir—yn y tymor hir bydd yn costio llai oherwydd yr iechyd fydd yn cael ei adfer i bobl sy’n dioddef o hepatitis C.
I finally wanted to end on the HEFCW budget. The Finance Committee did express concern about this. I’m very pleased that the finance Minister has found some extra money for HEFCW. In Cardiff, we’ve obviously got three universities: Cardiff University, Cardiff Met and the University of South Wales. They are hugely important to the economy of Cardiff, and I have been approached by many people about this, so I’m very pleased that the Government listened and is able to change the amount of money. Yn olaf rwy’n awyddus i orffen ar y gyllideb CCAUC. Mynegodd y Pwyllgor Cyllid bryder am hyn. Rwy’n falch iawn bod y Gweinidog Cyllid wedi dod o hyd i rywfaint o arian ychwanegol ar gyfer CCAUC. Yng Nghaerdydd, mae gennym dair prifysgol: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Maent yn hynod o bwysig i economi Caerdydd, ac mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi am hyn, felly rwy’n falch iawn bod y Llywodraeth yn gwrando ac yn gallu newid y swm o arian.
16:31 - Angela Burns
Minister, the essential watchwords that are missing from the Government’s draft budget are ‘transparency’, ‘proportionality’ and ‘value for money’. No matter what size budget you are dealing with, there needs to be absolute clarity over why you are spending the money and what it is you hope to achieve. I would like to understand how you challenged your Cabinet colleagues to assess the strengths and weaknesses of current programmes of spending and how you ensured that their individual portfolio priorities were aligned to ensure a coherent spend and value for money for the Welsh taxpayer. Weinidog, y geiriau allweddol hanfodol sydd ar goll o gyllideb ddrafft y Llywodraeth yw ‘tryloywder’, ‘cymesuredd’ a ‘gwerth am arian’. Ni waeth beth yw maint y gyllideb yr ydych yn ymdrin â hi, mae angen eglurder cwbl bendant ynglŷn â pham yr ydych yn gwario’r arian a’r hyn yr ydych yn gobeithio ei gyflawni. Hoffwn ddeall sut y gwnaethoch herio eich cydweithwyr yn y Cabinet i asesu cryfderau a gwendidau rhaglenni cyfredol o wariant a sut y gwnaethoch sicrhau bod eu blaenoriaethau portffolio unigol wedi’u cyfochri i sicrhau gwariant cydlynol a gwerth am arian i drethdalwyr Cymru.
In the evidence sessions that I have heard, transparency, or the ability to follow the money from spend to measurable result, has been demonstrably lacking in key areas. There are a great many areas where we are unable to make comparisons, whether they are year on year, programme on programme or even outcome to objective, because of either changes to comparators, or monitoring systems that are not followed through. Yn y sesiynau tystiolaeth a glywais, mae tryloywder, neu’r gallu i ddilyn yr arian o wariant i ganlyniad mesuradwy, wedi bod yn amlwg ddiffygiol mewn meysydd allweddol. Mae nifer fawr o feysydd lle nad oeddem yn gallu gwneud cymariaethau, pa un a ydynt yn flwyddyn ar ôl blwyddyn, rhaglen ar ôl rhaglen neu hyd yn oed o ganlyniad i amcan, oherwydd naill ai newidiadau i gymaryddion, neu systemau monitro nad ydynt yn cael eu dilyn drwodd.
It is also not easy to monitor fairness and proportionality, and I would like to understand how Welsh Government ensured proportionality was a cross-cutting theme in their budget planning. Last year, it was further and adult education that took a hammering. This year, it is higher education and part-time provision. Proportionality and fairness shouldn’t just run across portfolios; they should also run through all Government thinking. Yet this Government seems to predicate decisions based on an urban model of working, rather than accepting that a significant percentage of the population live in more rural areas and are beset by challenges an urban population does not have. Nid yw ychwaith yn hawdd monitro tegwch a chymesuredd, a hoffwn ddeall sut y gwnaeth Llywodraeth Cymru sicrhau bod cymesuredd yn thema drawsbynciol wrth gynllunio'r gyllideb. Y llynedd, addysg bellach ac addysg oedolion a gafodd eu taro’n galed. Eleni, darpariaethau addysg uwch a rhan-amser sy’n ei chael hi. Ni ddylai cymesuredd a thegwch redeg yn unig ar draws portffolios; dylent hefyd redeg drwy holl feddwl y Llywodraeth. Eto i gyd mae’r Llywodraeth hon yn ymddangos i briodoli penderfyniadau yn seiliedig ar fodel trefol o weithio, yn hytrach na derbyn bod canran sylweddol o’r boblogaeth yn byw mewn ardaloedd mwy gwledig ac yn cael eu boddi gan heriau nad oes gan boblogaeth drefol.
Minister, what recognition has been made by your Cabinet colleague the Minister for health with regard to difficulties faced by rural populations in accessing timely health services? With a poorer road infrastructure and very little by way of public transport, Minister, what recognition have the Minister for business or the Minister for Public Services made of the tensions in delivering public services in a rural area? And this runs true of all public funding, of business support and of inward investment. The difficulties faced by rural communities should be recognised by Welsh Government, and I would like you to demonstrate how you and your Cabinet colleagues have worked to mitigate this. Weinidog, pa gydnabyddiaeth sydd wedi ei gwneud gan eich cydweithiwr yn y Cabinet y Gweinidog iechyd ynglŷn ag anawsterau a wynebir gan boblogaethau gwledig wrth geisio cael gafael ar wasanaethau iechyd prydlon? Gyda seilwaith ffyrdd salach ac ychydig iawn o ran cludiant cyhoeddus, Weinidog, pa gydnabyddiaeth y mae’r Gweinidog busnes neu’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus wedi’u gwneud o’r tensiynau o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ardal wledig? Ac mae hyn yn wir am holl gyllid cyhoeddus, cefnogaeth i fusnes a mewnfuddsoddiad. Dylai’r anawsterau a wynebir gan gymunedau gwledig gael eu cydnabod gan Lywodraeth Cymru, a hoffwn i chi ddangos sut yr ydych chi a’ch cydweithwyr yn y Cabinet wedi gweithio i liniaru hyn.
I do note the additional £2.5 million to Powys, Ceredigion and Monmouthshire. However, I note the absence of Pembrokeshire from the roll-call of rural authorities, and I would like to point out that Pembrokeshire faces just as much rural hardship as other counties, is almost as sparse as Ceredigion, and is arguably less wealthy than some of the others. Pembrokeshire County Council has a tough job providing social services across an extremely rural area, and education is undergoing massive changes. The health board is also undergoing huge challenges that impact on the county council. So, Minister, could you answer me and tell me why you have decided not to support one of the big four rural authorities? Rwyf yn nodi’r £2.5 miliwn ychwanegol i Bowys, Ceredigion a Sir Fynwy. Fodd bynnag, nodaf absenoldeb Sir Benfro o’r rhestr o awdurdodau gwledig, a hoffwn nodi bod Sir Benfro yn wynebu llawn cymaint o galedi gwledig â siroedd eraill, mae bron mor denau ei phoblogaeth â Cheredigion, a gellid dadlau ei bod yn llai cyfoethog na rhai o’r lleill. Mae gan Gyngor Sir Penfro waith anodd yn darparu gwasanaethau cymdeithasol ar draws ardal hynod wledig, ac mae addysg yn mynd drwy newidiadau enfawr. Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn mynd trwy heriau enfawr sy’n effeithio ar y cyngor sir. Felly, Weinidog, a allech chi fy ateb i a dweud wrthyf pam yr ydych wedi penderfynu peidio â chefnogi un o’r pedwar awdurdod gwledig mawr?
A proportional and fair budget that is transparent is easy to monitor, to benchmark and to scrutinise, and will lead to a better assessment of value for money. Value for money should be a key promise to the people of Wales. In this regard, I remain unconvinced that Ministers are altogether clear in understanding what areas of expenditure provide the best value for money. I am certainly not clear that, in education, there is a firm grip on value for money. I see very little in the draft budget that is going to pump prime the structural changes that are intended for education over the next decade. If schools and teachers do not get the funds, the resources, the training and the support to implement policies such as the curriculum changes, then the policies will fail. Mae cyllideb gymesur a theg sy’n dryloyw yn hawdd ei monitro, ei meincnodi ac i graffu arni, a bydd yn arwain at well asesiad o werth am arian. Dylai gwerth am arian fod yn addewid allweddol i bobl Cymru. Yn hyn o beth, rwy’n dal i fod heb fy argyhoeddi bod Gweinidogion yn gyfan gwbl eglur o ran deall pa feysydd gwariant sy’n darparu’r gwerth gorau am arian.  Yn sicr, nid wyf yn glir, mewn addysg, bod gafael cadarn ar werth am arian. Ychydig iawn a welaf yn y gyllideb ddrafft sy’n mynd i ysgogi’r newidiadau strwythurol sydd wedi’u bwriadu ar gyfer addysg dros y degawd nesaf. Os na fydd ysgolion ac athrawon yn cael y cyllid, yr adnoddau, yr hyfforddiant a’r gefnogaeth i weithredu polisïau megis y newidiadau i’r cwricwlwm, yna bydd y polisïau yn methu.
This Government has a history of ambitious projects that failed because of poor planning and lack of funding. Minister, where is the development fund for these policies? Where is the additional funding for schools, to prepare them for what will be a seismic change in the delivery of teaching in schools? Mae gan y Llywodraeth hanes o brosiectau uchelgeisiol a fethodd oherwydd cynllunio gwael a diffyg cyllid. Weinidog, ble mae’r gronfa ddatblygu ar gyfer y polisïau hyn? Ble mae’r arian ychwanegol ar gyfer ysgolion, er mwyn eu paratoi ar gyfer yr hyn a fydd yn newid aruthrol mewn darparu addysgu mewn ysgolion?
Cuts to higher education in Wales will also hamper opportunities for students in our education system. As a driver of both economic growth and social mobility, the higher education sector is vital to us all, and future generations to come. These cuts come in a large part because they’re helping to fund the fatally flawed tuition fee grant policy. Last year, further education suffered eye-watering cuts because the Welsh Government had to fund this policy. This year, it’s the turn of universities themselves. We must also be aware that many smaller areas are taking enormous cuts because of the disproportionate amounts of money being sucked up by the tuition fee policy. Bydd toriadau i addysg uwch yng Nghymru hefyd yn llesteirio cyfleoedd i fyfyrwyr yn ein system addysg. Fel gyrrwr twf economaidd a symudedd cymdeithasol, mae’r sector addysg uwch yn hanfodol i bob un ohonom, ac i genedlaethau’r dyfodol sydd i ddod. Mae’r toriadau hyn yn dod i raddau helaeth oherwydd eu bod yn helpu i ariannu’r polisi grant ffioedd dysgu difrifol ddiffygiol. Y llynedd, dioddefodd addysg bellach doriadau difrifol oherwydd bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ariannu’r polisi hwn. Eleni, tro’r prifysgolion eu hunain yw hi. Mae’n rhaid i ni hefyd fod yn ymwybodol bod llawer o ardaloedd llai yn derbyn toriadau enfawr oherwydd y symiau anghymesur o arian sy’n cael eu sugno gan y polisi ffioedd dysgu.
Whether it’s the Coleg Cymraeg, adult education courses, the Welsh language, part-time funding, postgraduate support or research, they’re all struggling with funding, whilst over £1 billion has gone towards supporting the tuition fees policy. Whilst £5 million to support part-time is very welcome, it is just rowing back on many of the enormous cuts that you have made. Minister, transparency is missing, proportionality is missing and value for money is missing from your budget. Pa un a yw y Coleg Cymraeg, cyrsiau addysg i oedolion, yr iaith Gymraeg, ariannu rhan-amser, cefnogaeth ôl-raddedig neu ymchwil, maen nhw i gyd yn cael trafferth gydag arian, tra bod dros £1 biliwn wedi mynd tuag at gefnogi polisi ffioedd dysgu. Tra bod £5 miliwn i gefnogi rhan-amser yn dderbyniol iawn, nid yw ond yn tynnu yn ôl ar lawer o’r toriadau enfawr yr ydych wedi’u gwneud. Weinidog, mae tryloywder ar goll, mae cymesuredd ar goll ac mae gwerth am arian ar goll o’ch cyllideb.
16:36 - Alun Davies
I think one of the curious aspects of this debate this afternoon is that we’ve been listening to Conservative speakers, and I’m left with the impression that they believe that the Welsh Government is dealing with the difficulties of an abundance of benevolence coming down the M4 from London, with overflowing budgets, all of which can be plundered easily for any one of the pet projects that are supported by various members of the Conservative frontbench. The reality is—and this is one thing that the Conservative benches have to accept—it ill becomes a party of Government to attend these proceedings this afternoon and bemoan the consequences of the policies that they themselves have sought public support for in election after election after election. You lectured us last year, after the general election in May, that you had won the confidence of the British people to govern. The consequences of that decision are being borne by very many people across Wales and elsewhere, and some of the consequences we’re dealing with this afternoon. Rwy’n credu mai un o agweddau hynod y ddadl hon y prynhawn yma yw ein bod wedi bod yn gwrando ar siaradwyr Ceidwadol, a dwi’n cael fy ngadael gyda’r argraff eu bod yn credu bod Llywodraeth Cymru yn ymdrin ag anawsterau gormodedd o garedigrwydd yn dod i lawr yr M4 o Lundain, gyda chyllidebau yn gorlifo, y gellir ysbeilio pob un ohonynt yn rhwydd ar gyfer unrhyw un o’r hoff brosiectau a gefnogir gan wahanol aelodau o fainc flaen y Ceidwadwyr. Y gwirionedd yw—ac mae hyn yn un peth y mae’n rhaid i feinciau’r Ceidwadwyr ei dderbyn—nid yw’n weddus i blaid y Llywodraeth fod yn bresennol y prynhawn yma yn y trafodion hyn a chwyno am ganlyniadau’r polisïau y maent hwy eu hunain wedi ceisio cefnogaeth y cyhoedd iddynt mewn etholiad ar ôl etholiad ar ôl etholiad. Roeddech yn traethu wrthym ni y llynedd, ar ôl yr etholiad cyffredinol ym mis Mai, eich bod wedi ennill hyder pobl Prydain i lywodraethu. Mae canlyniadau’r penderfyniad hwnnw yn cael eu cario gan lawer iawn o bobl ar draws Cymru ac mewn mannau eraill, ac rydym yn ymdrin â rhai o’r canlyniadau hynny y prynhawn yma.
I see that the leader of the opposition wishes to intervene. If he’d taken the interest to attend the beginning of this debate and listened to the Minister, then I’d be quite happy to take his intervention, but he didn’t have the time to listen to the arguments; so I haven’t got the time to take you this afternoon. [Assembly Members: ‘Oh.’] If you want to intervene, you pay attention to what goes on in this place. [Interruption.] Gwelaf fod arweinydd yr wrthblaid yn dymuno ymyrryd. Pe byddai ganddo ddigon o ddiddordeb i fod yma ar ddechrau’r ddadl hon a gwrando ar y Gweinidog, yna byddwn i’n ddigon hapus i gymryd ei ymyriad, ond nid oedd ganddo’r amser i wrando ar y dadleuon; felly nid yw’r amser gen innau i’ch cymryd y prynhawn yma. [Aelodau’r Cynulliad: ‘O.’]. Os ydych yn dymuno ymyrryd, talwch sylw i’r hyn sy’n digwydd yn y lle hwn.[Torri ar draws.]
The people of Blaenau Gwent—[Interruption.] The people of Blaenau Gwent want to see a government with principles and values; principles that defend public services and that value the people of this country. I very much welcome, Minister, the decisions that you’ve taken to protect further education. I welcome the decisions that you have been taking on higher education, and I hope you’ll be able to say something on the impact of those decisions on the Coleg Cymraeg and all the good work that that’s done over recent years. Mae pobl Blaenau Gwent—[Torri ar draws.] Mae pobl Blaenau Gwent eisiau gweld llywodraeth ag egwyddorion a gwerthoedd; egwyddorion sy’n amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus ac sy’n gwerthfawrogi pobl y wlad hon. Rwy’n croesawu’n fawr iawn, Weinidog, y penderfyniadau yr ydych wedi eu gwneud i ddiogelu addysg bellach. Rwy’n croesawu’r penderfyniadau yr ydych wedi bod yn eu gwneud ar addysg uwch, ac rwy’n gobeithio y byddwch yn gallu dweud rhywbeth am effaith y penderfyniadau hynny ar y Coleg Cymraeg a’r holl waith da y mae hwnnw wedi ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf.
I welcome the decisions that are being taken here to protect the interests of people who want to acquire new skills, to look for work, to be able to invest in themselves and their families and their futures; all of that investment in education, Schools Challenge Cymru, the pupil deprivation grant and reducing the difference between educational attainment between those who are very, very poor and those that are very, very rich. Again, the values of a Labour Government investing in some of the poorest people in this country; a budget that we would not have seen from any other party in this Chamber. And then investing in public services, protecting public services. As somebody who represents the home of the national health service, I’m very proud that we have a Government here that is nurturing the national health service, investing in the national health service and creating new services. Like my colleague Lynne Neagle, I very much welcome the decisions taken today on the new hospital in Llanfrechfa Grange. Rwy’n croesawu’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yma i warchod buddiannau pobl sydd eisiau dysgu sgiliau newydd, i chwilio am waith, i allu buddsoddi ynddynt eu hunain a’u teuluoedd a’u dyfodol; yr holl fuddsoddi hwnnw mewn addysg, Her Ysgolion Cymru, y grant amddifadedd disgyblion a lleihau’r gwahaniaeth rhwng cyrhaeddiad addysgol rhwng y rhai sydd yn dlawd iawn, iawn a’r rhai sydd yn gyfoethog iawn, iawn. Unwaith eto, gwerthoedd Llywodraeth Lafur yn buddsoddi yn rhai o’r bobl dlotaf yn y wlad hon; cyllideb na fyddem wedi’i gweld gan unrhyw blaid arall yn y Siambr hon. Ac yna buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, diogelu gwasanaethau cyhoeddus. Fel rhywun sy’n cynrychioli cartref y gwasanaeth iechyd gwladol, rwy’n falch iawn bod gennym Lywodraeth yma sy’n meithrin y gwasanaeth iechyd gwladol, gan fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd gwladol a chreu gwasanaethau newydd. Fel fy nghyd-Aelod, Lynne Neagle, rwy’n croesawu’n fawr y penderfyniadau a wnaed heddiw ar yr ysbyty newydd yn Llanfrechfa Grange.
I also welcome the decisions that are being taken to protect the national health service from the chaos that we’re seeing across the border, where you’ve got doctors and nurses standing on picket lines and not caring for patients. That is a consequence, again, of a Conservative Government. I welcome the protection given to local government in this budget, and in previous budgets. When I listened to Conservative speakers here, I was reminded of a debate that took place in the House of Commons a couple of weeks ago, where Conservative Members of Parliament stood up, week after week, attacking their own Government for attacks on rural local authorities. That’s something we’ve heard a lot of here, haven’t we? What they’re dealing with there, Nick Ramsay, isn’t a cut of 4.5 per cent, but a cut of 6.7 per cent, on top of five years of successive cuts, which in real terms have deprived local authorities of 40 per cent of their budgets. Croesawaf hefyd y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud i amddiffyn y gwasanaeth iechyd gwladol rhag yr anhrefn yr ydym yn ei weld ar draws y ffin, lle mae gennych feddygon a nyrsys yn sefyll ar linellau piced yn hytrach na gofalu am gleifion. Mae hynny’n ganlyniad, unwaith eto, i Lywodraeth Geidwadol. Rwy’n croesawu’r amddiffyniad a roddir i lywodraeth leol yn y gyllideb hon, ac mewn cyllidebau blaenorol. Pan wrandawais ar siaradwyr Ceidwadol yma, cefais fy atgoffa o ddadl a gynhaliwyd yn Nhŷ’r Cyffredin wythnos neu ddwy yn ôl, pryd y safodd Aelodau Seneddol Ceidwadol ar eu traed, wythnos ar ôl wythnos, yn ymosod ar eu Llywodraeth eu hunain am ymosodiadau ar awdurdodau lleol gwledig. Mae hynny’n rhywbeth yr ydym wedi clywed llawer amdano yma, onid ydym? Yr hyn y maent yn ymdrin ag ef yno, Nick Ramsay, yw nid toriad o 4.5 y cant, ond toriad o 6.7 y cant, ar ben pum mlynedd o doriadau olynol, sydd mewn termau real wedi amddifadu awdurdodau lleol o 40 y cant o’u cyllidebau.
What local authority leader in Wales would want to swap places with a local authority in England that has seen such savagery and such cuts in local services and local jobs over such a period of time? That is why this budget is about more than simply the allocation of funding. It is about nurturing our people, it’s about protecting our services and it’s about investing in the future. I’m proud to support a Government that has invested in flood defences, so that we don’t see the chaos and the mess and the destruction of people’s lives that we’ve seen across the border. I’m proud to be supporting a Government that’s going to continue investing in projects that will have the impact of creating sustainable jobs in some of the most poor communities in Wales. I welcome the investment in infrastructure improvement on the Ebbw Valley line, and I welcome the continued investment in the dualling of the A465: real investments that will create real economic growth in some of the poorest communities in Wales. That, Deputy Presiding Officer, is the difference between a Government with values and an opposition with none. Pa arweinydd awdurdod lleol yng Nghymru fyddai’n dymuno newid lle gydag awdurdod lleol yn Lloegr sydd wedi gweld ffyrnigrwydd o’r fath a thoriadau o’r fath mewn gwasanaethau lleol a swyddi lleol dros y fath gyfnod o amser? Dyna pam y mae’r gyllideb hon yn ymwneud â mwy na dim ond dyrannu cyllid. Mae’n ymwneud â meithrin ein pobl, mae’n ymwneud â diogelu ein gwasanaethau ac mae’n ymwneud â buddsoddi yn y dyfodol. Rwy’n falch o gefnogi Llywodraeth sydd wedi buddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd, fel na fyddwn yn gweld yr anhrefn a’r llanast a'r dinistrio bywydau pobl yr ydym wedi’i weld dros y ffin. Rwy’n falch o fod yn cefnogi Llywodraeth sy’n mynd i barhau i fuddsoddi mewn prosiectau a fydd yn cael yr effaith o greu swyddi cynaliadwy yn rhai o’r cymunedau tlotaf yng Nghymru. Rwy’n croesawu’r buddsoddiad mewn gwella seilwaith rheilffordd Cwm Ebwy, ac rwy’n croesawu’r buddsoddiad parhaus yn y gwaith deuoli ar yr A465: buddsoddiadau gwirioneddol a fydd yn creu twf economaidd gwirioneddol yn rhai o’r cymunedau tlotaf yng Nghymru. Dyna, Ddirprwy Lywydd, yw’r gwahaniaeth rhwng Llywodraeth â gwerthoedd a gwrthblaid sydd hebddynt.
16:41 - Aled Roberts
Mae Peter Black eisoes wedi cyfeirio at rai o’r rhaglenni yr ydym ni yn eu cefnogi. Dyna pam rydym ni’n ymatal ein pleidlais. Rwyf am ganolbwyntio ar rai o’r buddsoddiadau ar gyfer plant a phobl ifanc. Rydym, wrth gwrs, yn croesawu’r cynnydd yn y grant amddifadedd, ond rwyf hefyd eisiau tynnu sylw at y £50,000 ar gyfer astudiaeth a’r £350,000 ar gyfer cynllun peilot ar gyfer gofal plant i fyfyrwyr. Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn dangos yn ei hastudiaeth ddiweddar fod y myfyrwyr hynny sy’n rhieni—sy’n dioddef fwyaf o ran eu sefyllfa ariannol—yn gwario, ar hyn o bryd, 44 y cant o’r gronfa ariannol wrth gefn ar ofal plant. Felly, mae’n rhaid inni fynd i’r afael â materion felly. Peter Black has already referred to some of the programmes that we’ll be supporting. That is why we will abstain on this vote. I want to concentrate on a few of the investments in children and young people. Of course, we welcome the increase in the pupil deprivation grant, but I also want to highlight the £50,000 provided for study and the £350,000 for a pilot scheme student childcare. The National Union of Students in its recent study has demonstrated that those students who are parents—who suffer most in terms of their financial situation—are currently spending 44 per cent of the support available to them on childcare. Therefore, we have to tackle those issues.
Rwyf hefyd, wrth gwrs, yn croesawu’r cynnydd yn y gwariant cyfalaf—£95 miliwn o leiaf. Wrth gwrs, bydd £23 miliwn ar gyfer pont dros y Ddyfi. Rwy’n meddwl bod pawb sy’n defnyddio’r bont honno yn gwybod yn union am y problemau o ran llifogydd a damweiniau, a’r ffaith bod yna nifer o achosion lle mae’r bont ar gau, gan achosi anghyfleustra i bobl leol. Felly, mae hyn yn newyddion da i bobl yn ne Gwynedd, Ceredigion a Maldwyn. Hefyd, rydym yn falch, fel plaid, bod £5.3 miliwn wedi’i ddynodi ar gyfer adnewyddu Ysbyty Llandrindod, a £57 miliwn ar gyfer ffordd gyswllt ddwyreiniol Bae Caerdydd. Er hynny, rwy’n cytuno â nifer o siaradwyr—rŷm ni, wrth gwrs, yn gwrthwynebu’r cynllun ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd. Byddwn ni yn dal sylw ar gyfer y cytundeb na fydd gwaith adeiladu yn dechrau cyn etholiadau’r Cynulliad. I also welcome the increase in capital expenditure—£95 million at least. Of course, there will be £23 million for the Dyfi bridge. I think that everyone who uses that bridge will know exactly what the problems are in terms of flooding and accidents, and the fact that there are a number of occasions where the bridge is closed, causing great problems for local people. So, this is good news for people in south Gwynedd, Ceredigion and Montgomeryshire. We’re also pleased as a party that £5.3 million has been allocated for work on Llandrindod hospital, and £57 million on the Cardiff Bay link. But I do agree with a number of speakers—we do oppose the proposals for the M4 around Newport. We will maintain our position that no work should commence on that before the Assembly elections.
Cyn imi droi at y prifysgolion, rwyf eisiau ymateb i beth ddywedodd Simon Thomas. Rwy’n meddwl mai’r rheswm bod y setliad ar gyfer Ceredigion, sir Fynwy a Phowys wedi cael ei fframio yn y modd y gwnaeth o oedd mai dyna’r cais a gafwyd gan y WLGA a’r cynghorau hynny. Roeddent yn gofyn am setliad a oedd yn gweld toriadau i’r cynghorau hynny o 2.5 y cant neu 3 y cant. Felly, ymateb i’r cais y mae’r Gweinidog wedi’i wneud drwy weld bod y toriad yr un fath i’r tri ohonynt. Before I turn to universities, I do want to respond to what Simon Thomas said. I think the reason why the settlement for Ceredigion, Monmouthshire and Powys has been framed in the way it has was that that was the request made by the WLGA and those councils. They were asking for a settlement that brought about cuts of 2.5 per cent or 3 per cent. So, the Minister has responded to their request in order to ensure that the cut is the same for all three councils.
Rydym hefyd yn derbyn bod yn rhaid ariannu ein prifysgolion yn ddigonol. Mae’n rhaid inni wneud yn sicr bod yna addysgu o ansawdd a bod yr ymchwil o safon ryngwladol. Rydym yn gresynu bod y bwlch yn y gwariant ar brifysgolion yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu ers 1999. Felly, roeddwn yn pryderu am y toriad gwreiddiol o £41.4 miliwn, sef 32 y cant o gyllideb HEFCW. Rwy’n teimlo bod y cyhoeddiad hwn heddiw yn ymateb i’r pryderon yn y sector. Rydym yn croesawu, wrth gwrs, y ffaith bod £21.1 miliwn yn cael ei roi yn ôl yng nghoffrau HEFCW, a bod y Gweinidog wedi cyhoeddi £5 miliwn ar gyfer cyrsiau rhan-amser a £5 miliwn ar gyfer ymchwil yn y sector hwnnw. Ond, rwy’n meddwl mai rhoi amser inni ddelio â’r sefyllfa y mae hyn. Rydym yn credu, fel plaid, bod y sefyllfa yn anghynaladwy. Rwy’n meddwl bod yn rhaid i’r Llywodraeth wynebu’r ffaith yna, ac rwy’n gobeithio y bydd adolygiad Diamond yn y pen draw yn dod efo rhyw fath o ymateb i’r sefyllfa. Felly, mae’n rhaid inni gael deialog mwy effeithiol, i ryw raddau, gyda’r sector ac rwy’n meddwl bod yr holl broblemau a’r holl ddadleuon yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi tanlinellu hynny. We also accept that our universities need to be adequately funded. We have to ensure that there is quality teaching and that research is of an international standard. We do regret the fact that the gap between England and Wales in terms of expenditure has grown since 1999. Therefore, I was concerned about the proposed cut of £41.4 million, which is 32 per cent of the HEFCW budget. I do think that this announcement today will respond to concerns in the sector. We welcome the fact that an additional £21.1 million is provided for HEFCW and that the Minister has announced £5 million for part-time study courses and £5 million for research in that sector. But, I do think that this is simply giving us some breathing space in order to deal with the situation. We believe, as a party, that the situation is unsustainable at present. I do think that the Government has to face that fact, and I do hope that the Diamond review will ultimately bring forward some sort of solution for this situation. So, we do have to have a more effective dialogue with the sector, and I do think that all of the problems and all of the debates over the past few weeks have actually highlighted that fact.
Rwyf am ddiweddu trwy sôn am deithio llesol. Mi roedd Keith Davies yn cwestiynu’r gwariant ar lwybrau seiclo yn sir Gaerfyrddin. Rwy’n meddwl bod angen inni edrych ar hyn. Mae’r Athro Stuart Cole wedi dweud mai dim ond rhyw £5 y pen sy’n cael ei wario ar y cynlluniau yma yng Nghymru. I’r gwrthwyneb, mae tua dwbl y swm yna yn cael ei wario yn Lloegr. Rwy’n meddwl, wrth inni symud ymlaen, fod yn rhaid inni edrych ar y ffordd rŷm ni yn gwario o ran ein seiclwyr a’n cerddwyr. I do want to conclude by mentioning active travel. Keith Davies questioned expenditure on cycle paths in Carmarthenshire. Now, I think that we need to look at this. Professor Stuart Cole has stated that only around £5 per capita is spent on these schemes in Wales. Around double that sum is spent in England, and as we proceed, I think we do have to look at expenditure in terms of pedestrians and cyclists.
Hefyd, mi roedd y polisïau rŷm ni wedi eu trafod yma ynglŷn ag adnewyddu’r strydoedd mawr yn sôn am y problemau o ran mynediad i’r canolfannau yma gan seiclwyr a cherddwyr. Felly, rwyf yn croesawu’r ffaith bod y Llywodraeth wedi ymateb i bryderon ymysg y cynghorau gwledig, a hefyd y sector addysg uwch, ac yn sgil hynny, mi fyddwn ni yn atal ein pleidlais y prynhawn yma. Also, the policies that we discussed here on regenerating our high streets did actually concentrate on issues of access to these centres for pedestrians and cyclists. So, I do welcome the fact that the Government has responded to concerns among rural councils and the HE sector, and in light of that we will abstain this afternoon.
16:46 - Mike Hedges
The budget needs to be put into the context of the policies being pursued at Westminster. As almost all the Welsh Government budget comes as a block grant, cuts in expenditure in England generate, via the Barnett formula, cuts in the Welsh block grant. What we have seen since the Conservatives came into office is a substantial real-terms cut in the Welsh budget. The Tories are committed to austerity, not as an economic policy but as an ideology. They want to reduce the public sector and what they cannot cut they seek to privatise. Mae angen rhoi’r gyllideb yng nghyd-destun y polisïau sy’n cael eu dilyn yn San Steffan. Gan fod holl gyllideb Llywodraeth Cymru bron yn dod fel grant bloc, mae toriadau mewn gwariant yn Lloegr yn creu, drwy fformiwla Barnett, toriadau i grant bloc Cymru. Yr hyn yr ydym ni wedi’i weld ers i’r Ceidwadwyr ddod i rym yw torri sylweddol yng nghyllideb Cymru mewn termau real. Mae’r Torïaid wedi ymrwymo i gyni, nid fel polisi economaidd, ond fel ideoleg. Maent eisiau lleihau’r sector cyhoeddus a’r hyn na allant ei dorri maent yn ceisio ei breifateiddio.
I intend to discuss the two largest lines in the Welsh Government budget: health and local government. To quote from the Finance Committee report, Rwy’n bwriadu trafod y ddwy linell fwyaf yng nghyllideb Llywodraeth Cymru: iechyd a llywodraeth leol. A dyfynnu o adroddiad y Pwyllgor Cyllid,
‘If the trend of health service spending continues to be an increasing proportion of Welsh Government spend...the Committee is concerned that many non-statutory services will become unsustainable’. Os bydd y duedd o wariant ar y gwasanaeth iechyd yn parhau i fod yn gyfran gynyddol o wariant Llywodraeth Cymru... mae’r Pwyllgor yn pryderu y bydd llawer o wasanaethau anstatudol yn dod yn anghynaliadwy.
If current trends continue, health will exceed 50 per cent of the budget well within the next Assembly term. I am now going to quote from page 16 of the Nuffield report in 2014, ‘The four health systems of the United Kingdom: how do they compare?’ That’s the Nuffield report that we don’t normally talk about. Across the four countries, there have been reductions in total patient admissions per hospital doctor and dentist between 1999-2000 and 2011-12. This is the inevitable outcome of the rates of increase in the number of hospital doctors exceeding the rates of increase in hospital admissions. Wales fell from just under 140 to approximately 90— a reduction of about a third. What the current figures are I do not know, but I would be amazed if they were anywhere near the 1999-2000 figures. Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, bydd iechyd yn fwy na 50 y cant o’r gyllideb ymhell cyn diwedd tymor nesaf y Cynulliad. Rwyf nawr yn mynd i ddyfynnu o dudalen 16 o adroddiad Nuffield yn 2014, ‘Pedair system iechyd y Deyrnas Unedig: sut y maent yn cymharu?’ Dyna’r adroddiad Nuffield nad ydym fel arfer yn siarad amdano. Ar draws y pedair gwlad, bu gostyngiadau i gyfanswm derbyniadau cleifion fesul meddygon a deintyddion ysbyty rhwng 1999-2000 a 2011-12. Mae hwn yn ganlyniad anochel i'r ffaith bod cyfraddau cynnydd yn nifer y meddygon ysbyty yn uwch na’r cyfraddau cynnydd mewn derbyniadau i’r ysbyty. Aeth Cymru i lawr o ychydig dan 140 i oddeutu 90—gostyngiad o tua thraean. Beth yw’r ffigurau cyfredol nid wyf yn gwybod, ond byddwn yn synnu'n arw pe byddent yn agos o gwbl at ffigurau 1999-2000.
Health is of course about more than hospitals. There is primary care and lifestyle choices. Since health boards were created, the proportion of the health budget spent on primary care has reduced. Far too often in here—and I’m probably equally as guilty—‘For health, see hospitals’ seems to be the mantra. One of the biggest boosts to health has been the reduction in the number of people smoking. I remember a former Conservative health spokesperson saying, on the importance of getting people to stop smoking, that it would be the best thing that could possibly be done to improve health in Wales. I don’t know whether you remember that, Deputy Presiding Officer. Some of the biggest boosts for health: getting people to stop smoking; getting people to have a more active lifestyle; reducing obesity; improving diet; increasing physical activity—these will all improve health. Am I the only one who believes that reducing the number of sports facilities such as leisure centres will impact on health? Mae iechyd, wrth gwrs, yn ymwneud â mwy nag ysbytai. Ceir gofal sylfaenol a dewisiadau ffordd o fyw. Ers i’r byrddau iechyd gael eu creu, mae cyfran o’r gyllideb iechyd a warir ar ofal sylfaenol wedi gostwng. Yn llawer rhy aml i fewn yn y fan yma—ac rwyf i ôl pob tebyg yr un mor euog—ymddengys mai’r mantra yw ‘Ar gyfer iechyd, gweler ysbytai.’ Un hwb mawr i iechyd fu’r gostyngiad yn nifer y bobl sy’n ysmygu. Rwy’n cofio cyn lefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn dweud, ar bwysigrwydd cael pobl i roi’r gorau i ysmygu, y byddai’r peth gorau y gellid ei wneud i wella iechyd yng Nghymru. Wn i ddim a ydych chi'n cofio hynny, Ddirprwy Lywydd. Mae rhai o’r cymhorthion mwyaf i iechyd: cael pobl i roi’r gorau i ysmygu; cael pobl i gael ffordd o fyw fwy egnïol; lleihau gordewdra; gwella deiet; cynyddu gweithgarwch corfforol—bydd y rhain i gyd yn gwella iechyd. Ai fi yw’r unig un sy’n credu y bydd lleihau nifer y cyfleusterau chwaraeon megis canolfannau hamdden yn effeithio ar iechyd?
Turning to local government, I believe that social care within social services is under greater pressure than health. If discharge packages are not available, then patients remain in hospitals and we know how many people are blocking beds in English hospitals. In fact, in one area, one hospital has more than the total number for Wales. Disproportionate cuts have affected local government, but the Tories want to cut it further. What I find amazing here is that each Tory spokesperson has their own pet area, and they want to spend more money on it. So, you’ve got more money for housing, more money for education, a lot more money for health, and I’m not quite sure how you’re going to balance the books if you keep giving more money to everything. You want students to pay three times as much as they’re paying now, but apart from that, there seem to be no other areas of cuts. Apart from local government, because the Tories have always been very keen that the local government settlement should be cut and that additional money should be given to health; council tax should be frozen; local government should concentrate solely on statutory services; and, central expenditure by local education authorities should end. What this would mean is the closure of all parks, the closure of most libraries, the closure of all leisure centres, and an end to the school building programme. Gan droi at lywodraeth leol, rwy’n credu bod gofal cymdeithasol yn y gwasanaethau cymdeithasol o dan fwy o bwysau nag iechyd. Os nad yw pecynnau rhyddhau ar gael, yna mae cleifion yn aros mewn ysbytai ac rydym yn gwybod faint o bobl sy’n blocio gwelyau mewn ysbytai yn Lloegr. Yn wir, mewn un ardal, mae gan un ysbyty fwy na chyfanswm y nifer ar gyfer Cymru.  Mae toriadau anghymesur wedi effeithio ar lywodraeth leol, ond mae’r Torïaid eisiau torri ymhellach. Yr hyn yr wyf yn ei ystyried yn anhygoel yma yw bod gan bob llefarydd y Torïaid eu hoff faes eu hunain, ac maent yn awyddus i wario mwy o arian arno. Felly, mae gennych chi fwy o arian ar gyfer tai, mwy o arian ar gyfer addysg, llawer mwy o arian ar gyfer iechyd, ac nid wyf yn hollol siŵr sut yr ydych chi’n mynd i fantoli’r llyfrau os ydych chi'n parhau i roi mwy o arian i bopeth. Rydych eisiau i fyfyrwyr dalu tair gwaith gymaint ag y maent yn ei dalu nawr, ond ar wahân i hynny, nid yw’n ymddangos bod unrhyw feysydd eraill o doriadau. Ar wahân i lywodraeth leol, oherwydd mae’r Torïaid bob amser wedi bod yn awyddus iawn y dylai’r setliad llywodraeth leol gael ei dorri ac y dylai arian ychwanegol gael ei roi i iechyd; dylai’r dreth gyngor gael ei rhewi; dylai llywodraeth leol ganolbwyntio ar y gwasanaethau statudol yn unig; a, dylai gwariant canolog gan awdurdodau addysg lleol ddod i ben. Yr hyn y byddai hynny yn ei olygu yw cau bob parc, cau’r rhan fwyaf o lyfrgelloedd, cau’r holl ganolfannau hamdden, a diwedd ar y rhaglen adeiladu ysgolion.
Can I say that one of the best things that has been done by this Welsh Labour Government is getting schools being built again? I used to joke when I was a West Glamorgan county councillor that, at the rate we were replacing schools, we were expecting the average school to last about 700 years. That was the rate at which they were being replaced. There’s been substantial progress made now. I’ve seen it in my own constituency, the number of new schools that have been built, and it really has made a huge difference. I look across at Peter Black, who lives near Manselton school. The change from Manselton and Cwmbwrla schools to the new Burlais school has been a huge benefit to the whole of that community. A gaf i ddweud mai un o’r pethau gorau sydd wedi cael ei wneud gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yw sicrhau bod ysgolion yn cael eu hadeiladu eto? Roeddwn i’n arfer cellwair pan oeddwn yn gynghorydd sir yn Gorllewin Morgannwg, am y raddfa yr oeddem yn adeiladu ysgolion, roeddem yn disgwyl i ysgol bara tua 700 mlynedd ar gyfartaledd. Dyna oedd y raddfa ar gyfer cael rhai newydd. Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud erbyn hyn. Rwyf wedi ei weld yn fy etholaeth i, nifer yr ysgolion newydd sydd wedi eu hadeiladu, ac mae wir wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Rwy’n edrych draw ar Peter Black, sy’n byw ger ysgol Manselton. Mae’r newid o ysgolion Manselton a Chwmbwrla i’r ysgol Burlais newydd wedi bod o fudd mawr i’r holl gymuned honno.
The thing that worries me most about the Conservative policy is the fact they want to end free home-to-school transport. They’ve said they’re going to take all the money off the local education authorities, which provide the free home-to-school transport. I think you need to think through what you’re going to do. Also, I’m very concerned that they’re going to end education in that school. Again, I’m not quite sure how they’re going to deal with children who are not in school. But, I’m sure they have a way—probably send them home and lock the door. Y peth sy’n fy mhoeni fwyaf am bolisi’r Ceidwadwyr yw’r ffaith eu bod eisiau rhoi diwedd ar gludiant rhad ac am ddim o’r cartref i’r ysgol. Maen nhw wedi dweud eu bod yn mynd i gymryd yr holl arian oddi ar yr awdurdodau addysg lleol, sy’n darparu’r cludiant rhad ac am ddim o’r cartref i’r ysgol. Rwy’n meddwl bod angen i chi ystyried yr hyn yr ydych yn mynd i’w wneud. Hefyd, rwy’n bryderus iawn eu bod yn mynd i roi diwedd ar addysg yn yr ysgol honno. Unwaith eto, nid wyf yn hollol siŵr sut y maent yn mynd i ymdrin â phlant nad ydynt yn yr ysgol. Ond, rwy’n siŵr bod ganddynt ffordd—yn ôl pob tebyg eu hanfon adref a chloi’r drws.
Can I talk about the local government budget? One of the things we need—. Instead of talking about giving more money to different authorities at this time of the year, what we should decide is a local government floor. We talk about a Barnett floor; we should decide on a local government floor. Then, when the calculation comes out, we know which local authorities need support. A gaf i siarad am y gyllideb llywodraeth leol? Un o’r pethau yr ydym ei angen—. Yn hytrach na siarad am roi mwy o arian i awdurdodau gwahanol ar yr adeg hon o’r flwyddyn, yr hyn y dylem benderfynu yw terfyn isaf llywodraeth leol. Rydym yn siarad am derfyn isaf Barnett; dylem benderfynu ar derfyn isaf llywodraeth leol. Wedyn, pan ddaw’r cyfrifiad allan, byddwn yn gwybod pa awdurdodau lleol sydd angen cymorth.
16:51 - Janet Haworth
Minister, I will endeavour to keep my observations to the financial challenges facing Wales, as opposed to England. We seem to have spent a lot of time today looking at the financial challenges facing England. Weinidog, byddaf yn ymdrechu i gadw fy sylwadau i’r heriau ariannol sy’n wynebu Cymru, yn hytrach na Lloegr. Mae’n ymddangos ein bod wedi treulio llawer o amser heddiw yn edrych ar yr heriau ariannol sy’n wynebu Lloegr.
At a time when parts of rural Wales have been suffering from flooding, the resources budget for natural resources has taken a hammer blow with a cut of £16.23 million. Local authorities need NRW reports on flooding to be completed so that they can continue to make plans for flood prevention. Linked to this, the Welsh Government proposes to cut flood protection by a further £6.45 million. Minister, is this foolish and counter-productive? Ar adeg pan fo rhannau o Gymru wledig wedi bod yn dioddef o lifogydd, mae’r gyllideb adnoddau ar gyfer adnoddau naturiol wedi derbyn ergyd fawr gyda thoriad o £16.23 miliwn. Mae awdurdodau lleol angen i adroddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd gael eu cwblhau fel y gallant barhau i wneud cynlluniau ar gyfer atal llifogydd. Yn gysylltiedig â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu torri amddiffyn rhag llifogydd gan £6.45 miliwn pellach. Weinidog, a yw hyn yn ffôl ac yn wrthgynhyrchiol?
A few weeks ago in this Chamber, we heard of the issue of reserves held by this Welsh Government. Minister, will you look at why these reserves continue to be so high? Will you have a conversation with your Cabinet colleagues to establish why more can’t be used now to address the damage caused by the floods and protect against future events by funding shortfalls in flood protection? Ychydig wythnosau yn ôl yn y Siambr hon, clywsom am y mater o gronfeydd wrth gefn sy’n cael eu dal gan Lywodraeth Cymru. Weinidog, a wnewch chi edrych ar pam mae'r cronfeydd wrth gefn hyn yn parhau i fod mor uchel? A wnewch chi gael sgwrs gyda’ch cydweithwyr yn y Cabinet i sefydlu pam na ellir defnyddio mwy yn awr i fynd i’r afael â’r difrod a achoswyd gan y llifogydd a diogelu yn erbyn digwyddiadau yn y dyfodol drwy ariannu diffygion mewn amddiffyn rhag llifogydd?
Welsh agriculture and food has also faced a significant cut. This will hit our famers hardest, with farmers in Wales— Mae amaethyddiaeth a bwyd Cymru hefyd wedi wynebu toriad sylweddol. Bydd hyn yn taro ein ffermwyr galetaf, gyda ffermwyr yng Nghymru—
16:53 - Llyr Gruffydd
Will the Minister—. Will the Member take an intervention? [Laughter.] A wnaiff y Gweinidog—. A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad? [Chwerthin.]
16:53 - Janet Haworth
Well, Llyr, as you’ve suddenly promoted me, I can hardly refuse your intervention. Wel, Llyr, gan eich bod wedi rhoi dyrchafiad i mi yn sydyn, prin y gallaf wrthod eich ymyriad.
16:53 - Llyr Gruffydd
Would the Member join with me in also criticising DEFRA for its cuts—the biggest hit of all departments in the UK Government—and the implications of those cuts on the environment and farmers in Wales also? A wnaiff yr Aelod ymuno â mi i feirniadu DEFRA hefyd am ei thoriadau—yr ergyd fwyaf o’r holl adrannau yn Llywodraeth y DU—a goblygiadau’r toriadau hynny ar yr amgylchedd a ffermwyr yng Nghymru hefyd?
16:53 - Janet Haworth
Well, no, because—. We’re back on budgets for England again, aren’t we? You know, the English budget is dealing with very significant international challenges and budgets can only be financed—. This is Ladybird economics, folks, but I think you probably need to hear it: budgets can only be financed by taxes. Loans, which you appear to be very keen on as a way of financing Government, can only be serviced from the income from taxes. It really is that simple. Wel, na, oherwydd—. Rydym yn ôl ar gyllidebau ar gyfer Lloegr eto, onid ydym ni? Wyddoch chi, mae cyllideb Lloegr yn ymdrin â heriau rhyngwladol sylweddol iawn ac ni ellir ond ariannu cyllidebau—. Economeg Ladybird yw hyn, bobl, ond rwy’n meddwl yn ôl pob tebyg bod angen i chi ei glywed: ni ellir ariannu cyllidebau ond drwy drethi. Ni ellir ond talu benthyciadau, yr ymddengys eich bod chi’n frwd iawn drostynt fel ffordd o ariannu Llywodraeth, o incwm o drethi. Mae mor syml â hynny
So, back to our farmers here in Wales. With farmers in Wales already exposed to market changes, Labour Ministers should be working to extend greater support to them. The cut includes £500,000 less to support the marketing of Welsh food and drink—something we really should be absolutely majoring on because it is so good. Felly, yn ôl at ein ffermwyr yma yng Nghymru. Gyda ffermwyr yng Nghymru eisoes yn agored i newidiadau yn y farchnad, dylai Gweinidogion Llafur fod yn gweithio i roi mwy o gymorth iddynt. Mae’r toriad yn cynnwys £500,000 yn llai i gefnogi marchnata bwyd a diod o Gymru—rhywbeth y dylem wir fod yn canolbwyntio’n llwyr arno oherwydd ei fod mor dda.
The cuts to animal welfare are also disproportionate, with less money now being allocated to manage TB eradication and other endemic diseases. At a time when uncertainty remains over the best way to eradicate bovine TB, surely we should be ensuring that money remains available in case of another change of direction by you and your Cabinet colleagues. Mae’r toriadau i les anifeiliaid hefyd yn anghymesur, gyda llai o arian yn cael ei ddyrannu yn awr i reoli dileu TB a chlefydau endemig eraill. Ar adeg pan fo ansicrwydd o hyd ynghylch y ffordd orau i ddileu TB mewn gwartheg, oni ddylem ni fod yn sicrhau bod arian yn parhau i fod ar gael rhag ofn newid arall mewn cyfarwyddyd gennych chi a’ch cydweithwyr yn y Cabinet.
Eighty five per cent of Wales is rural, so these cuts will disproportionately affect those living in our rural communities. This budget is yet another example of how this worn-out Labour Government fails to understand rural Wales. Minister, this draft budget fails on a number of counts, but most importantly, it is failing the majority of people in Wales who live in our rural communities. Mae wyth deg pump y cant o Gymru yn wledig, felly bydd y toriadau hyn yn effeithio’n anghymesur ar y rhai sy’n byw yn ein cymunedau gwledig. Mae’r gyllideb hon yn enghraifft arall eto o sut y mae’r Llywodraeth Lafur flinedig hon yn methu â deall cefn gwlad Cymru. Weinidog, mae’r gyllideb ddrafft hon yn methu ar sawl cyfrif, ond yn bwysicaf oll, mae’n siomi’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru sy’n byw yn ein cymunedau gwledig.
16:56 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
And the Minister to reply to the debate. A’r Gweinidog i ymateb i’r ddadl.
16:56 - Jane Hutt
Thank you, Dirprwy Lywydd. As I said in opening this debate, I have welcomed the constructive comments and representations that have been made during consultation and, indeed, the scrutiny of our draft budget. I also welcome the debate we’ve had today, but our priorities for Wales—health and health services, growth and jobs, raising educational attainment, supporting children and families in deprived communities—have continued to be at the heart of our budget preparations and our plans, and I’m proud that this is the case. Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Fel y dywedais wrth agor y ddadl hon, rwyf wedi croesawu’r sylwadau adeiladol a’r sylwadau sydd wedi’u gwneud yn ystod yr ymgynghoriad ac, yn wir, y craffu ar ein cyllideb ddrafft. Rwyf hefyd yn croesawu’r ddadl a gawsom heddiw, ond mae ein blaenoriaethau ar gyfer Cymru—iechyd a gwasanaethau iechyd, twf a swyddi, codi cyrhaeddiad addysgol, cefnogi plant a theuluoedd mewn cymunedau o amddifadedd wedi parhau i fod wrth wraidd ein paratoadau cyllideb a’n cynlluniau, ac rwy’n falch bod hynny'n wir.
That is why we are investing nearly £300 million extra in the NHS next year, with £200 million of this available to support not only hospitals, but GPs—£30 million more for older people’s services and mental health services, because we recognise that the range of services that affect health services and influence the wellbeing outcomes for vulnerable people are complementary, and that’s why, of course, we’re boosting the intermediate care fund by an extra £30 million to £50 million next year, and I’m sure Members will welcome the further £10 million capital boost today. Of course, this will help to deliver the kind of service transformation that is taking place. Indeed, both Jocelyn Davies, regarding the recommendations of the Finance Committee, and, indeed, Mike Hedges made this point. Dyna pam yr ydym yn buddsoddi bron i £300 miliwn yn ychwanegol yn y GIG y flwyddyn nesaf, gyda £200 miliwn o hyn ar gael i gefnogi nid yn unig ysbytai, ond meddygon teulu—£30 miliwn yn fwy ar gyfer gwasanaethau pobl hŷn a gwasanaethau iechyd meddwl, gan ein bod yn cydnabod bod yr ystod o wasanaethau sy’n effeithio ar wasanaethau iechyd ac yn dylanwadu ar y canlyniadau lles ar gyfer pobl sy’n agored i niwed yn gyflenwol, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym yn rhoi hwb i’r gronfa gofal canolraddol gan £30 miliwn ychwanegol i £50 miliwn y flwyddyn nesaf, ac rwy’n siŵr y bydd Aelodau’n croesawu’r hwb hwn o £10 miliwn pellach i gyfalaf heddiw. Wrth gwrs, bydd hyn yn helpu i ddarparu’r math o weddnewid gwasanaethau sy’n digwydd. Yn wir, gwnaeth Jocelyn Davies, ynglŷn ag argymelliadau'r Pwyllgor Cyllid, ac, yn wir, Mike Hedges y pwynt hwn.
I think it’s very good to recognise and acknowledge that the intermediate care fund is not only operating at the interface between health and social services, it’s helping more people to live at home independently, it’s preventing avoidable hospital admissions and delayed discharge from hospital. It’s also good to reflect on the fact that this was developed, this intermediate care fund, as a result of tripartite budget negotiations, where we together, certainly on this side of the Chamber, recognised that there were policy areas that we could agree on, where we knew we could drive change. If we look at that investment that we’re making—and we’ve increased the investment in intermediate care—it is improving standards of services and significant reforms. But, we’re also protecting funding for public health services in Wales next year, unlike in England, where the budget has been cut. Rwy’n credu ei bod yn dda iawn i nodi a chydnabod bod y gronfa gofal canolraddol nid yn unig yn gweithredu ar y rhyngwyneb rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, mae’n helpu mwy o bobl i fyw gartref yn annibynnol, mae’n atal derbyniadau i’r ysbyty y gellir eu hosgoi ac oedi wrth ryddhau o’r ysbyty. Mae hefyd yn dda i fyfyrio ar y ffaith bod hon wedi ei datblygu, y gronfa gofal canolraddol hon, o ganlyniad i drafodaethau cyllideb tridarn, lle’r oeddem ni gyda’n gilydd, yn sicr ar yr ochr hon i’r Siambr, yn cydnabod bod meysydd polisi y gallem gytuno arnynt, lle'r ydym yn gwybod y gallwn sbarduno newid. Os edrychwn ni ar y buddsoddiad yr ydym yn ei wneud—ac rydym wedi cynyddu’r buddsoddiad mewn gofal canolraddol—mae’n gwella safonau gwasanaethau a diwygiadau sylweddol. Ond, rydym hefyd yn diogelu arian ar gyfer gwasanaethau iechyd y cyhoedd yng Nghymru y flwyddyn nesaf, yn wahanol i Loegr, lle y mae’r gyllideb wedi ei thorri.
We recognise there is still a sustained and increased pressure on social services, and that’s why we’re providing this additional £21 million to local authorities to help them respond to these pressures, allocated through the revenue support grant. This investment has been widely welcomed. It’s a totally different picture from England, of course. Many of you will have heard the responses this week to Lord Carter’s report in terms of looking at the NHS in England, and what Unison was saying about the 25 per cent cuts to social care. Professor Martin Green, chief executive of Care England said—and this is what he said—that we must understand there is a crisis in social care and the NHS and social care are totally interdependent, and you cannot support one bit of the system without putting money into social care. That’s what the chief executive of Care England said about the English NHS and a lack of funding into social care. Rydym yn cydnabod bod pwysau parhaus a chynyddol ar wasanaethau cymdeithasol, a dyna pam yr ydym yn darparu’r £21 miliwn ychwanegol hwn i awdurdodau lleol i’w helpu i ymateb i’r pwysau hwn, wedi’i ddyrannu drwy’r grant cynnal refeniw. Mae’r buddsoddiad hwn wedi cael croeso mawr. Mae’n ddarlun hollol wahanol i Loegr, wrth gwrs. Bydd llawer ohonoch chi wedi clywed yr ymatebion yr wythnos hon i adroddiad yr Arglwydd Carter o ran edrych ar y GIG yn Lloegr, a beth yr oedd Unsain yn ei ddweud am y toriadau 25 y cant i ofal cymdeithasol. Meddai’r Athro Martin Green, prif weithredwr Care England—a dyma’r hyn a ddywedodd—bod yn rhaid i ni ddeall bod argyfwng mewn gofal cymdeithasol a bod y GIG a gofal cymdeithasol yn gwbl ddibynnol ar ei gilydd, ac nad ydych yn gallu cefnogi un rhan o’r system heb roi arian i ofal cymdeithasol. Dyna'r hyn ddywedodd prif weithredwr Care England am y GIG yn Lloegr a diffyg cyllid i ofal cymdeithasol.
I do want to just say, in terms of some of those significant investments across Wales to develop services closer to patients’ homes, let’s put on record today in this important debate, for every Member in this Chamber, the examples of that reform: opening modern primary care resource centres in Llangollen, Flint and Blaenau Ffestiniog; three new purpose-built midwife-led maternity units in west Wales; specialist neonatal services; more money announced today for capital for neonatal, with neonatal national standards and, of course the capital investment I’ve made; a new front-of-house development at Prince Philip Hospital in Llanelli to allow the implementation of the new model of unscheduled care services at the hospital, due to be completed in May 2016. Cwm Taf Local Health Board also recently opened an acute medical centre at the Royal Glamorgan Hospital to improve the quality of care that’s delivered locally to help ease pressures on the A&E departments. Changes have been made to stroke services in Aneurin Bevan Local Health Board and Cwm Taf, enabling more patients to return home more quickly and be supported through their rehabilitation in their own home. No-one across this Chamber would dispute that that is reform, that that is service transformation, and that that is the will of this Welsh Labour Government, and it’s backed by £300 million more investment. Rwyf i eisiau dweud, o ran rhai o’r buddsoddiadau sylweddol hynny ledled Cymru i ddatblygu gwasanaethau yn nes at gartrefi cleifion, gadewch i ni roi ar y cofnod heddiw yn y ddadl bwysig hon, i bob Aelod yn y Siambr hon, enghreifftiau o'r diwygio hwnnw: agor canolfannau adnoddau gofal sylfaenol modern yn Llangollen, Y Fflint a Blaenau Ffestiniog; tair uned famolaeth dan arweiniad bydwragedd newydd pwrpasol yng ngorllewin Cymru; gwasanaethau newyddenedigol arbenigol; mwy o arian wedi’i gyhoeddi heddiw ar gyfer cyfalaf ar gyfer newyddenedigol, gyda safonau cenedlaethol newyddenedigol ac, wrth gwrs y buddsoddiad cyfalaf yr wyf i wedi’i wneud; datblygiad blaen tŷ newydd yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli i ganiatáu gweithredu’r model newydd o wasanaethau gofal heb ei drefnu yn yr ysbyty, sydd i fod i gael ei gwblhau ym mis Mai 2016. Hefyd yn ddiweddar agorodd Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf ganolfan feddygol acíwt yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg i wella ansawdd y gofal sy’n cael ei gyflwyno’n lleol i helpu i leddfu’r pwysau ar adrannau Damweiniau ac Achosion Brys. Mae newidiadau wedi eu gwneud i wasanaethau strôc ym Mwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan a Chwm Taf, gan alluogi mwy o gleifion i ddychwelyd adref ynghynt a chael eu cefnogi drwy eu hadsefydlu yn eu cartref eu hunain. Ni fyddai unrhyw un ar draws y Siambr hon yn dadlau nad yw hynny'n ddiwygio, nad yw hynny'n weddnewid gwasanaethau, ac nad dyna ewyllys y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, ac mae’n cael ei gefnogi gan £300 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol.
And, in terms of our approach to capital investment, set out, of course, in the Wales infrastructure investment plan, despite falling budgets—a 30 per cent cut in our capital budget—we have invested in our infrastructure. And a couple of weeks ago, I launched for the Construction Industry Training Board their report and their forecast. They asked me to launch it—their forecast of skilled construction skills growth in the coming years. They said there would be a 7.5 per cent growth in construction jobs and skills in Wales, compared with 2.5 per cent in England. That was their forecast as a result of our investment in infrastructure; 27,000 more jobs from infrastructure investment. Ac, o ran ein hagwedd at fuddsoddi cyfalaf, a nodwyd, wrth gwrs, yn y cynllun buddsoddi mewn seilwaith i Gymru, er gwaethaf cyllidebau yn lleihau—lleihad o 30 y cant yn ein cyllideb cyfalaf—rydym wedi buddsoddi yn ein seilwaith. Ac wythnos neu ddwy yn ôl, lansiais ar gyfer Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu eu hadroddiad a’u rhagolwg. Fe wnaethant ofyn i mi ei lansio—eu rhagolygon o dwf sgiliau adeiladu medrus yn y blynyddoedd i ddod. Dywedasant y byddai twf o 7.5 y cant mewn swyddi adeiladu a sgiliau yng Nghymru, o’i gymharu â 2.5 y cant yn Lloegr. Dyna oedd eu rhagolygon o ganlyniad i’n buddsoddiad mewn seilwaith; 27,000 yn fwy o swyddi o fuddsoddiad mewn seilwaith.
Now, I think Nick Ramsay found it very difficult and very hard to make an argument this afternoon against our draft budget. He, of course, welcomed the fact that, of course, there was some support in his constituency in terms of his local authority, and he did make some welcome noises. In fact, I think you’ll find it quite hard to find something that you could criticise, I would say, in terms of our draft budget. And in terms of the points that you made, I do want to clarify one point because I think it’s important and it came up earlier on this afternoon: as far as the central services and administration MEG is concerned, there’s been no increase in central services funding. We did actually discuss this in the Finance Committee, Nick Ramsay, but the figures for the CS and A MEG are driven by a technicality that means that the invest-to-save fund sits within the MEG for administrative purposes. This is the reason, indeed, so I have put the record straight this afternoon. But I just feel that I would rather hear from— Nawr, rwy’n meddwl bod Nick Ramsay wedi ei chael hi'n anodd iawn ac yn galed iawn i wneud dadl y prynhawn yma yn erbyn ein cyllideb ddrafft. Roedd ef, wrth gwrs, yn croesawu’r ffaith, wrth gwrs, bod rhywfaint o gefnogaeth yn ei etholaeth o ran ei awdurdod lleol, ac fe wnaeth wneud rhai synau croesawu. Mewn gwirionedd, rwy’n credu y byddwch yn ei chael hi'n eithaf anodd dod o hyd i rywbeth y gallech ei feirniadu, byddwn i'n dweud, o ran ein cyllideb ddrafft.  Ac o ran y pwyntiau a wnaethoch, rwyf am egluro un pwynt am fy mod yn credu ei fod yn bwysig ac fe'i codwyd yn gynharach y prynhawn yma: cyn belled ag y mae MEG gwasanaethau canolog a gweinyddu yn y cwestiwn, ni fu unrhyw gynnydd yn y cyllid gwasanaethau canolog. Trafodwyd hyn gennym mewn gwirionedd yn y Pwyllgor Cyllid, Nick Ramsay, ond mae’r ffigurau ar gyfer gwasanaethau canolog ac A MEG yn cael eu gyrru gan bwynt technegol sy’n golygu bod y gronfa buddsoddi i arbed yn eistedd o fewn y MEG at ddibenion gweinyddol. Dyma’r rheswm, mewn gwirionedd, felly rwyf wedi egluro’r sefyllfa y prynhawn yma. Ond rwy’n teimlo y byddai’n well gennyf glywed gan—
17:02 - Nick Ramsay
Can I chip in? A gaf i ddweud rhywbeth?
17:02 - Jane Hutt
[Continues.]—Conservative colleagues who wish to—I’m being very consensual this afternoon—or Conservative Members, to whom, actually, I would say, Janet Haworth, ‘Did you not realise that in your draft budget—the Welsh Conservative alternative draft budget—would see a 15 per cent cut in rural affairs? Did you realise that in terms of your plans? [Yn parhau.]—Mae cydweithwyr Ceidwadol sydd yn dymuno—rwy’n gydsyniol iawn y prynhawn yma—neu Aelodau Ceidwadol, y byddwn yn dweud wrthynt mewn gwirionedd, Janet Haworth, Onid oeddech chi’n sylweddoli y byddai eich cyllideb ddrafft—cyllideb ddrafft amgen y Ceidwadwyr Cymreig—yn gweld toriad o 15 y cant mewn materion gwledig? Oeddech chi’n sylweddoli hynny o ran eich cynlluniau?
But I would also say that I would rather look at the comments that have been made by ‘Public Finance’ as regards my budget. ‘Public Finance’ is the magazine for the Chartered Institute of Public Finance and Accountancy, and they said that my budget represented a clear way forward, despite austerity. It said that the Labour-led Welsh Government was quick to set out its spending plans, aiming to provide clarity and protect services despite financial austerity. Ond byddwn hefyd yn dweud y byddai’n well i mi edrych ar y sylwadau a wnaethpwyd gan ‘Public Finance’ o ran fy nghyllideb. ‘Public Finance’ yw’r cylchgrawn ar gyfer y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth, ac mae'n dweud bod fy nghyllideb yn cynrychioli ffordd glir ymlaen, er gwaethaf cyni. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur yn gyflym i nodi ei chynlluniau gwariant, gyda’r nod o ddarparu eglurder a diogelu gwasanaethau er gwaethaf cyni ariannol.
So, Dirprwy Lywydd, this is a budget that puts the needs of the people of Wales first and invests to meet their needs. Our plans are based on evidence about pressures now and projections for the future. We’re allocating additional resources in our key public services—extra money for health, social services, schools and further education. And it is a budget that’s allocating extra money to local government in recognition of their pressures, protecting our preventative programmes. And despite the austerity budgets that have been imposed on us by the UK Government, I will repeat again—this is important: the Welsh Government is spending 1 per cent more per head on health than in England, 7 per cent more per head on health and social services combined, and 4 per cent more per head on education, as Lynne Neagle—. [Interruption.] No, I won’t take an intervention. Identifiable expenditure on services in Wales in 2014-15 was 11 per cent higher per head than the UK average. Felly, Ddirprwy Lywydd, mae hon yn gyllideb sy’n rhoi anghenion pobl Cymru yn gyntaf ac yn buddsoddi i ddiwallu eu hanghenion. Mae ein cynlluniau yn seiliedig ar dystiolaeth am bwysau ar hyn o bryd ac amcanestyniadau ar gyfer y dyfodol. Rydym yn dyrannu adnoddau ychwanegol yn ein harian gwasanaethau cyhoeddus allweddol—arian ychwanegol ar gyfer iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion ac addysg bellach. Ac mae’n gyllideb sy’n dyrannu arian ychwanegol i lywodraeth leol i gydnabod y pwysau sydd arnynt, yn diogelu ein rhaglenni ataliol. Ac er gwaethaf y cyllidebau cyni sydd wedi eu gorfodi arnom gan Lywodraeth y DU, ailadroddaf eto—mae hyn yn bwysig: mae Llywodraeth Cymru yn gwario 1 y cant yn fwy fesul pen ar iechyd nag yn Lloegr, 7 y cant yn fwy fesul pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi’u cyfuno, a 4 y cant yn fwy fesul pen ar addysg, fel y mae Lynne Neagle—. [Torri ar draws.] Na, nid wyf am dderbyn ymyriad.  Roedd gwariant adnabyddadwy ar wasanaethau yng Nghymru yn 2014-15 yn 11 y cant yn uwch fesul pen na chyfartaledd y DU.
Nick Ramsay a gododd— Nick Ramsay rose—
Jane Hutt
And our plans also reflect the value that we place on these services, as well as supporting the reforms needed to drive up standards and improve outcomes for people. Nick Ramsay. Ac mae ein cynlluniau hefyd yn adlewyrchu’r gwerth yr ydym yn ei roi ar y gwasanaethau hyn, yn ogystal â chefnogi’r diwygiadau sydd eu hangen i godi safonau a gwella canlyniadau i bobl. Nick Ramsay.
17:04 - Nick Ramsay
Thank you for finally giving way, Minister. I’m more than happy to welcome additional funding for Monmouthshire County Council and other rural authorities, and, indeed, any additional sums for the health service. It’s just a shame that you didn’t listen to the Welsh Conservatives years ago and make these changes when it would have had a real effect on Welsh society. Diolch i chi am ildio o’r diwedd, Weinidog. Dwi’n fwy na hapus i groesawu cyllid ychwanegol ar gyfer Cyngor Sir Fynwy ac awdurdodau gwledig eraill, ac, yn wir, unrhyw symiau ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Ond mae’n drueni na wnaethoch chi wrando ar y Ceidwadwyr Cymreig flynyddoedd yn ôl a gwneud y newidiadau hyn pan fyddai wedi cael effaith wirioneddol ar gymdeithas Cymru.
17:05 - Jane Hutt
Well, of course, if we had listened to the Welsh Conservatives, what would it have meant? A 12.5 per cent cut to social justice and local government; a 12 per cent cut to education, children and lifelong learning; a 30 per cent cut to economy and transport; a 25 per cent cut to environment, sustainability and housing; and I’ve mentioned the 15 per cent cut to rural affairs; a 20 per cent cut to heritage; and a 30 per cent to public services—if we’d have listened to the Welsh Conservatives. Wel, wrth gwrs, pe byddem wedi gwrando ar y Ceidwadwyr Cymreig, beth fyddai hynny wedi ei olygu? Toriad o 12.5 y cant i gyfiawnder cymdeithasol a llywodraeth leol; toriad o 12 y cant i addysg, plant a dysgu gydol oes; toriad o 30 y cant i'r economi a thrafnidiaeth; toriad o 25 y cant i amgylchedd, cynaliadwyedd a thai; ac rwyf wedi sôn am y toriad o 15 y cant i faterion gwledig; toriad o 20 y cant i dreftadaeth; a thoriad o 30 y cant i wasanaethau cyhoeddus—pe byddem ni wedi gwrando ar y Ceidwadwyr Cymreig.
I think it’s very important, Dirprwy Lywydd, that we do listen to the people who tell us what they think about our draft plans. That’s hard to reconcile with some of the things that Mark Isherwood said—some of the points that he made. I mean, I was surprised when Auriol Miller from Cymorth said, in response to our draft budget, ‘Delighted. Supporting People is protected. A vital programme to prevent homelessness.’ ‘Absolutely delighted’, said Gofal, ‘that Supporting People Wales has been protected in the Welsh budget. Vital funds for the most vulnerable people in Wales.’ Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn, Ddirprwy Lywydd, ein bod yn gwrando ar y bobl sy’n dweud eu barn wrthym am ein cynlluniau drafft. Mae hynny’n anodd ei gysoni â rhai o’r pethau a ddywedodd Mark Isherwood—rhai o’r pwyntiau a wnaeth. A dweud y gwir, cefais fy synnu pan ddywedodd Auriol Miller o Cymorth, mewn ymateb i’n cyllideb ddrafft, 'Wrth fy modd. Mae Cefnogi Pobl yn cael ei ddiogelu. Rhaglen hanfodol i atal digartrefedd.’  ‘Wrth ein boddau’, meddai Gofal, ‘bod Cefnogi Pobl Cymru wedi cael ei ddiogelu yng nghyllideb Cymru. Arian hanfodol ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.’
Mark Isherwood a gododd— Mark Isherwood rose—
Jane Hutt
Don’t you recognise, Mark Isherwood, that that is what people who actually care about vulnerable people in the—? [Interruption.] I’m not taking an intervention, because, Mark Isherwood, I prefer to listen to Julie Morgan, when she raises the point about our record on social housing. The Welsh Government is investing over £400 million through the social housing grant over the time of this—. Would Mark Isherwood like to—. I’m sure if he’d have been there with Lesley Griffiths and me in Wrexham meeting the tenants of that new social housing scheme, which, of course, has brought them new opportunities from poor private sector housing, where they had previously lived—. That’s where we have to recognise—. Also, the chief executive of Community Housing Cymru, who I know you will engage with, Mark Isherwood, said: Onid ydych chi’n cydnabod, Mark Isherwood, mai dyna y mae pobl sydd mewn gwirionedd yn poeni am bobl sy’n agored i niwed yn y—? [Torri ar draws.] Nid wyf yn derbyn ymyriad, oherwydd, Mark Isherwood, mae’n well gen i wrando ar Julie Morgan, pan fydd yn codi pwynt ynghylch ein hanes o ran tai cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £400 miliwn drwy’r grant tai cymdeithasol dros gyfnod yr—. A fyddai Mark Isherwood yn hoffi—. Rwy’n siŵr pe byddai wedi bod yno gyda Lesley Griffiths a minnau yn Wrecsam yn cyfarfod tenantiaid y cynllun tai cymdeithasol newydd, sydd, wrth gwrs, wedi dod â chyfleoedd newydd iddynt yn hytrach na tai sector preifat gwael, lle’r oeddent wedi bod yn byw yn flaenorol—- . Dyna lle mae’n rhaid i ni gydnabod—. Hefyd, dywedodd, prif weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru, yr wyf yn gwybod y byddwch yn ymgysylltu ag ef, Mark Isherwood:
‘This is a good budget for affordable housing…We welcome the increase of £5m to the Social Housing Grant…compared to last year’s budget, which amounts to a total of £68.8m.’ Mae hon yn gyllideb dda ar gyfer tai fforddiadwy ... Rydym yn croesawu’r cynnydd o £5m at y Grant Tai Cymdeithasol ... o’i gymharu â chyllideb y llynedd, sy’n gyfystyr â chyfanswm o £68.8m.’
I also want to say today: has no-one heard that wonderful point that was made this morning about recognising 50 years of Shelter? Professor Susan Fitzpatrick from Heriot Watt University, said: Rwyf hefyd eisiau dweud heddiw: onid oes neb wedi clywed y pwynt gwych a wnaed y bore yma am gydnabod 50 mlynedd o Shelter? Dywedodd yr Athro Susan Fitzpatrick o Brifysgol Heriot Watt:
‘Wales is really at the forefront of homelessness policy development. [It] does look to be leading the way.’ Mae Cymru wirioneddol ar flaen y gad o ddatblygu polisi digartrefedd. [Mae’n] ymddangos i fod yn arwain y ffordd.
Aren’t you proud of that, Mark Isherwood? You certainly should be. In conclusion, Dirprwy Lywydd, I believe this budget does deliver for Wales. That’s what it’s intended to do. In England: 15 per cent cuts to social care. In Wales: a £21 million boost to social care. In England: junior doctors on strike. In Wales: a £300 million boost to the NHS, and paying a living wage to our NHS workers. In Wales: 7.5 per cent forecast growth in the construction sector. In England: only 2.5 per cent. It is a Welsh Labour Government that’s delivered this draft budget, which has been welcomed across Wales. You should welcome it too. I urge you to support my draft budget. Onid ydych chi’n falch o hynny, Mark Isherwood? Yn sicr fe ddylech fod. I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy’n credu bod y gyllideb hon yn cyflawni dros Gymru. Dyna'r hyn y bwriadwyd iddi ei wneud. Yn Lloegr: toriadau 15 y cant i ofal cymdeithasol. Yng Nghymru: hwb o £21 miliwn i ofal cymdeithasol. Yn Lloegr: meddygon iau ar streic. Yng Nghymru: hwb o £300 miliwn i’r GIG, a thalu cyflog byw i’n gweithwyr GIG. Yng Nghymru: rhagolwg twf 7.5 y cant yn y sector adeiladu. Yn Lloegr: dim ond 2.5 y cant.  Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi cyflwyno’r gyllideb ddrafft hon, sydd wedi ei chroesawu ledled Cymru. Dylech chithau ei chroesawu hefyd. Rwy'n eich annog i gefnogi fy nghyllideb ddrafft.
17:08 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
The proposal is to agree amendment 1. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting to voting time. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Voting deferred until voting time.
8. Voting Time 8. Cyfnod Pleidleisio
17:08 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
Voting time now follows. Before I conduct the first vote, are there three Members who wish for the bell to be rung? There are not. So, we’ll vote first on the Stage 4 of the Historic Environment (Wales) Bill. I call for a vote on the motion tabled in the name of Ken Skates. Open the vote. Close the vote. There voted in favour 34, there were no votes against, there were 22 abstentions. Therefore, the motion is agreed. Mae amser pleidleisio yn dilyn yn awr. Cyn i mi gynnal y bleidlais gyntaf, a oes tri Aelod sy’n dymuno i’r gloch gael ei chanu? Nid oes. Felly, byddwn yn pleidleisio gyntaf ar Gyfnod 4 Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Ken Skates. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 34 o blaid, nid oedd unrhyw bleidleisiau yn erbyn, fe wnaeth 22 ymatal Felly, caiff y cynnig ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig: O blaid 34, Yn erbyn 0, Ymatal 22. Motion agreed: For 34, Against 0, Abstain 22.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM5955. Result of the vote on motion NDM5955.
17:09 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
We’ll now vote on the draft budget. I call for a vote on amendment 1, tabled in the name of Paul Davies. Open the vote. Close the vote. Voted in favour 23, there voted against 28, and there were five abstentions. Therefore, amendment 1 is not agreed. Byddwn yn awr yn pleidleisio ar y gyllideb ddrafft. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 23 o blaid, pleidleisiodd 28 yn erbyn, ac fe wnaeth pump ymatal. Felly, ni chaiff gwelliant 1 ei dderbyn.
Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 23, Yn erbyn 28, Ymatal 5. Amendment not agreed: For 23, Against 28, Abstain 5.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM5947. Result of the vote on amendment 1 to motion NDM5947.
17:09 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
I call for a vote on amendment 2, tabled in the name of Elin Jones. Open the vote. Close the vote. Voted in favour 23, voted against 28, and there were five abstentions. Therefore, amendment 2 is not agreed. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Elin Jones. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 23 o blaid, pleidleisiodd 28 yn erbyn, ac fe wnaeth pump ymatal. Felly, ni chaiff gwelliant 2 ei dderbyn.
Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 23, Yn erbyn 28, Ymatal 5. Amendment not agreed: For 23, Against 28, Abstain 5.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM5947. Result of the vote on amendment 2 to motion NDM5947.
17:10 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
I call for a vote on amendment 3, tabled in the name of Elin Jones. Open the vote. Close the vote. Voted in favour 23, voted against 28, and there were five abstentions. Therefore, amendment 3 is not agreed. Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Elin Jones. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais.  Pleidleisiodd 23 o blaid, pleidleisiodd 28 yn erbyn, ac fe wnaeth pump ymatal. Felly, ni chaiff gwelliant 3 ei dderbyn.
Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 23, Yn erbyn 28, Ymatal 5. Amendment not agreed: For 23, Against 28, Abstain 5.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM5947. Result of the vote on amendment 3 to motion NDM5947.
17:10 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
I call for a vote on amendment 4, tabled in the name of Elin Jones. Open the vote. Close the vote. Voted in favour 23, voted against 28, and there were five abstentions. Therefore, amendment 4 is not agreed. Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Elin Jones. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 23 o blaid, pleidleisiodd 28 yn erbyn, ac fe wnaeth pump ymatal. Felly, ni chaiff gwelliant 4 ei dderbyn.
Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 23, Yn erbyn 28, Ymatal 5. Amendment not agreed: For 23, Against 28, Abstain 5.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM5947. Result of the vote on amendment 4 to motion NDM5947.
17:10 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
I now call for a vote on the motion tabled in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. Voted in favour 28, voted against 23, and there were five abstentions. Therefore, the motion is agreed. Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais.  Pleidleisiodd 28 o blaid, pleidleisiodd 23 yn erbyn, ac fe wnaeth pump ymatal. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig: O blaid 28, Yn erbyn 23, Ymatal 5. Motion agreed: For 28, Against 23, Abstain 5.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM5947. Result of the vote on motion NDM5947.
17:10 - Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer
That concludes today’s business. Thank you very much. Dyna ddiwedd busnes heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:11. The meeting ended at 17:11.
Back to List View this page with hyperlinks

Partners & Help