By continuing to use our site, you are agreeing for us to set a small number of cookies. Cookie policy

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Back to list View this page with hyperlinks
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair. The Assembly met at 13:30 with the Presiding Officer (Dame Rosemary Butler) in the Chair.
13:30 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Good afternoon. The National Assembly for Wales is now in session. Prynhawn da. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cwestiynau i’r Prif Weinidog Questions to the First Minister
Gofal Iechyd Brys (y Canolbarth) Urgent Healthcare (Mid Wales)
13:30 - Russell George
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o ofal iechyd brys yng nghanolbarth Cymru? OAQ(4)1909(FM) 1. Will the First Minister make a statement on the provision of urgent healthcare in mid Wales? OAQ(4)1909(FM)
13:30 - Carwyn Jones
Yes. We are committed to ensuring that patients in Wales receive safe, sustainable and high-quality urgent healthcare in a timely manner and in the most appropriate setting. Gwnaf. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn derbyn gofal iechyd brys diogel, cynaliadwy ac o ansawdd uchel yn brydlon ac yn y lleoliad mwyaf priodol.
13:31 - Russell George
Thank you for your answer, First Minister. As you will know, services in Shropshire are being subjected to review, with initial proposals including the creation of an emergency centre for the treatment of serious injuries. The centre will be supported by between four and seven urgent care centres, but, unfortunately, despite cross-border agreements, none of these are in Montgomeryshire. Will you commit to exploring the feasibility of an urgent care centre to serve the 63,000 people living in my constituency? Diolch am eich ateb, Brif Weinidog. Fel y gwyddoch, mae gwasanaethau yn Swydd Amwythig yn destun adolygiad, ac mae’r cynigion cychwynnol yn cynnwys creu canolfan frys ar gyfer trin anafiadau difrifol. Bydd y ganolfan yn cael ei chefnogi gan rhwng pedair a saith canolfan gofal brys, ond, yn anffodus, er gwaethaf cytundebau trawsffiniol, nid yw'r un o'r rhain yn Sir Drefaldwyn. A wnewch chi ymrwymo i ymchwilio i ymarferoldeb canolfan gofal brys i wasanaethu’r 63,000 o bobl sy'n byw yn fy etholaeth i?
13:31 - Carwyn Jones
Well, we always give consideration to such things, but, of course, what is absolutely crucial is that your constituents are able to access health services in England as they always have done. They are not, to use the phrase of the moment, ‘refugees’; they are people who have always used the health service in England, as there are people who use the health service in Wales who come from England. I certainly hope that any changes, now that Shropshire has come out of the difficulties that it faced a short while ago, will be of benefit to the people of Montgomeryshire, and I am sure that the Minister for Health and Social Services will give consideration to what else needs to be done in the future in order to improve their medical care, such as, for example, what we are doing with the emergency medical retrieval and transfer service. Wel, rydym ni bob amser yn rhoi ystyriaeth i bethau o'r fath, ond, wrth gwrs, yr hyn sy'n gwbl hanfodol yw bod eich etholwyr yn gallu cael mynediad at wasanaethau iechyd yn Lloegr fel y maen nhw wedi ei wneud erioed. Nid 'ffoaduriaid’, i ddefnyddio’r ymadrodd ffasiynol, ydyn nhw, pobl sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth iechyd yn Lloegr erioed ydyn nhw, fel y ceir pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru sy'n dod o Loegr. Rwy’n sicr yn gobeithio y bydd unrhyw newidiadau, nawr fod Swydd Amwythig wedi goresgyn yr anawsterau a wynebwyd ganddi ychydig amser yn ôl, o fudd i bobl Sir Drefaldwyn, ac rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi ystyriaeth i beth bynnag arall sydd angen ei wneud yn y dyfodol er mwyn gwella eu gofal meddygol, fel, er enghraifft, yr hyn yr ydym ni’n ei wneud gyda'r gwasanaeth adalw a throsglwyddo meddygol brys.
13:32 - Simon Thomas
Fel rydych yn gwybod, Brif Weinidog, mae Plaid Cymru wedi galw yn gyson am fwy o feddygon yng Nghymru ac am recriwtio hyd at 1,000 yn ychwanegol. Dros dro yn Lloegr, mae’r Coleg Meddyginiaeth Brys wedi bod yn rhan o ymgyrch recriwtio penodol er mwyn gwneud yn siŵr bod digon o ofal brys ar gael yn y cyd-destun hwnnw. A ydy hynny yn rhan o’r ymgyrch recriwtio rydych chi yn ei wneud yn y fan hon yng Nghymru hefyd, ar y cyd â cholegau? As you know, First Minister, Plaid Cymru has consistently called for increased numbers of doctors in Wales and the recruitment of up to 1,000 additional doctors. Pro tem in England, the College of Emergency Medicine has been part of a specific recruitment drive to ensure that there is adequate emergency care available in that context. Is that part of the recruitment campaign that you are carrying out here in Wales too, along with the colleges?
13:32 - Carwyn Jones
Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r colegau er mwyn sicrhau bod digon o ddoctoriaid yng Nghymru, fel byddai’r Aelod yn erfyn i ni ei wneud. Wrth gwrs, rydym yn gwybod bod tua 96% o swyddi wedi cael eu llenwi. We have been working with the colleges in order to ensure that there are sufficient doctors in Wales, as the Member would expect us to do. Of course, we know that approximately 96% of jobs have already been filled.
Hyrwyddo Cynhwysiant Digidol Promoting Digital Inclusion
13:32 - Mohammad Asghar
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cynhwysiant digidol yng Nghymru? OAQ(4)1908(FM) 2. Will the First Minister provide an update on the Welsh Government's policies to promote digital inclusion in Wales? OAQ(4)1908(FM)
13:33 - Carwyn Jones
Yes. The digital inclusion delivery plan was updated in the summer. This reflected the good progress made in promoting digital inclusion and, of course, it remains a fundamental part of our programme for government. Gwnaf. Diweddarwyd y cynllun cyflawni ar gynhwysiant digidol yn yr haf. Roedd hwn yn adlewyrchu'r cynnydd da a wnaed o ran hyrwyddo cynhwysiant digidol ac, wrth gwrs, mae'n parhau i fod yn rhan annatod o’n rhaglen lywodraethu.
13:33 - Mohammad Asghar
Thank you for the reply, First Minister. According to Disability Wales, an estimated 40% of disabled people do not have access to the internet, compared to just 12% of non-disabled people in Wales. It is concerned that moving public services online means that many disabled people are prevented from accessing them. What action will his Government take to help disabled people get access to decent services here in Wales? Diolch i chi am yr ateb, Brif Weinidog. Yn ôl Anabledd Cymru, mae tua 40% o bobl anabl nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd, o'i gymharu â dim ond 12% o’r bobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru. Mae'n poeni bod symud gwasanaethau cyhoeddus ar-lein yn golygu bod llawer o bobl anabl yn cael eu hatal rhag cael mynediad atynt. Pa gamau wnaiff y Llywodraeth hon eu cymryd i helpu pobl anabl gael mynediad at wasanaethau gwerth chweil yma yng Nghymru?
13:33 - Carwyn Jones
Well, a lot of the services that are moving online are doing so as a result of his party’s policies; I just want to remind him of that. However, I can offer the Member some comfort. Communities 2.0 has helped 50,000 individuals since its inception. Disabled people and older people have been helped by it, and I can say that Communities 2.0 has worked in close partnership with key disabled people’s groups to help disabled people to benefit their lives through technology. For example, I was pleased to hear that the Royal National Institute of Blind People has bid successfully for the lottery’s basic online skills funding, and that was based on a Communities 2.0 project that was developed in Wales. Wel, mae llawer o'r gwasanaethau sy'n symud ar-lein yn gwneud hynny o ganlyniad i bolisïau ei blaid ef; hoffwn ei atgoffa o hynny. Fodd bynnag, gallaf gynnig rhywfaint o gysur i’r Aelod. Mae Cymunedau 2.0 wedi helpu 50,000 o unigolion ers ei sefydlu. Helpwyd pobl anabl a phobl hŷn ganddo, a gallaf ddweud bod Cymunedau 2.0 wedi gweithio mewn partneriaeth agos â grwpiau pobl anabl allweddol i helpu pobl anabl i ofalu bod technoleg o fudd i’w bywydau. Er enghraifft, roeddwn yn falch o glywed bod Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid sgiliau ar-lein sylfaenol y loteri, ac roedd hwnnw’n seiliedig ar brosiect Cymunedau 2.0 a ddatblygwyd yng Nghymru.
13:34 - Mike Hedges
Does the First Minister agree with me that the provision of broadband connections to the internet within libraries is a major contribution to digital inclusion? A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod darparu cysylltiadau band eang i'r rhyngrwyd mewn llyfrgelloedd yn gyfraniad pwysig at gynhwysiant digidol?
13:34 - Carwyn Jones
Yes, I do. We know that libraries play a vital role in tackling digital exclusion. They provide the free community access that so many people need, in a safe environment, and, of course, assistance for those who are not familiar with digital technology and, particularly, with the internet. One of the most pleasing developments over the past few years is the expansion of libraries into digital technology to enable people to use their services as fully as possible. Ydw, mi ydwyf. Rydym yn gwybod bod llyfrgelloedd yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael ag allgau digidol. Maen nhw’n cynnig mynediad cymunedol am ddim sydd ei angen ar gymaint o bobl, mewn amgylchedd diogel, ac, wrth gwrs, cymorth i’r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â thechnoleg ddigidol ac, yn arbennig, gyda'r rhyngrwyd. Un o'r datblygiadau mwyaf dymunol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yw ehangu llyfrgelloedd i dechnoleg ddigidol i alluogi pobl i ddefnyddio eu gwasanaethau mewn modd mor llawn â phosibl.
13:35 - Llyr Gruffydd
Mae ffermwyr, wrth gwrs, erbyn hyn yn gorfod defnyddio gwasanaethau ar-lein ar gyfer hawlio taliadau ac yn y blaen. Mae’r symudiad hwnnw’n un positif, wrth gwrs, ond y realiti yw mai rhai o’r ardaloedd hyn yw rhai o’r rhai diwethaf fydd yn cael mynediad i fand llydan. A ydych yn credu, felly, y byddai’n rhesymol i gadw elfen o geisiadau papur ar gyfer y rhai sydd wedi eu hallgáu fwyaf? Farmers, of course, now have to use online services to claim payments and so on. That shift is a positive one, of course, but the reality is that some of these areas will be the last to actually have access to broadband. Do you therefore believe that it would be reasonable to retain an element of paper applications for those who are most excluded?
13:35 - Carwyn Jones
Wel, rydym yn mo’yn symud at sefyllfa, wrth gwrs, lle mae popeth yn cael ei wneud ar-lein mewn amser, yn enwedig gyda ffermwyr. Mae’n rhaid cofio, wrth gwrs, y bydd pob cyfnewidfa yng Nghymru wedi cael ei thrawsnewid erbyn mis Medi y flwyddyn nesaf. Mae hynny’n golygu bod 96% o adeiladau yn cael mynediad at fand eang, ac, wrth gwrs, rydym yn ystyried yr hyn y gallwn ei wneud gyda’r 4% sydd ar ôl. Well, we want to move to a position, of course, where everything will be done online in time, and that is particularly true of farmers. We must remember, of course, that every exchange will be transformed by September of next year. That means that 96% of buildings will then have access to broadband, and we will then, of course, have to consider what to do with the remaining 4%.
13:35 - Jeff Cuthbert
First Minister, quite rightly, digital literacy and internet access are crucial to everyday life now—not just in terms of workplace skills, but in terms of access for everyday tasks, and, therefore, I fully support Communities 2.0. However, do you agree with me that it is crucial that we ensure that there is joined-up working between schemes like Communities 2.0 and our Superfast Cymru broadband roll-out to make sure that those in our most disadvantaged communities are not left out of the digital advances? Brif Weinidog, yn gwbl gywir, mae llythrennedd digidol a mynediad at y rhyngrwyd yn hanfodol i fywyd bob dydd bellach—nid yn unig o ran sgiliau yn y gweithle, ond o ran mynediad ar gyfer tasgau pob dydd, ac, felly, rwy’n llwyr gefnogi Cymunedau 2.0. Fodd bynnag, a ydych chi’n cytuno â mi ei bod yn hanfodol ein bod yn sicrhau bod gweithio cydgysylltiedig rhwng cynlluniau fel Cymunedau 2.0 a’n cyflwyniad o fand eang Cyflymu Cymru i sicrhau nad yw'r rhai hynny yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn cael eu gadael ar y tu allan i ddatblygiadau digidol?
13:36 - Carwyn Jones
Indeed so; I could not agree more. That is vital. We know, of course, that, for many people, once their interest is stimulated, they go on and take full advantage then of improved digital services, particularly those that superfast broadband can provide. For me, the two of them run very much together. Ydw wir; ni allwn gytuno mwy. Mae hynny'n hollbwysig. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, i lawer o bobl, ar ôl ennyn eu diddordeb, eu bod yn mynd ymlaen ac yn manteisio’n llawn wedyn ar wasanaethau digidol gwell, yn enwedig y rhai y gall band eang cyflym iawn eu cynnig. I mi, does dim dwywaith bod y ddau beth yn rhedeg ochr yn ochr â’i gilydd.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Questions Without Notice from the Party Leaders
13:36 - Y Llywydd / The Presiding Officer
First this afternoon is the leader of the Opposition, Andrew R.T. Davies. Arweinydd yr Wrthblaid, Andrew R.T. Davies, sydd gyntaf y prynhawn yma.
13:36 - Andrew R.T. Davies
Thank you, Presiding Officer. First Minister, your budget that was laid two weeks ago meted out special treatment for the rural affairs element of that budget. That particular budget had a cut of nearly 18%, and a 20% cut for animal health. Why was rural affairs singled out for such special treatment in that budget? Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, rhoddodd eich cyllideb a osodwyd bythefnos yn ôl driniaeth arbennig i elfen materion gwledig y gyllideb honno. Roedd y gyllideb benodol honno’n cynnwys toriad o bron i 18%, a thoriad o 20% ar gyfer iechyd anifeiliaid. Pam y cafodd materion gwledig eu neilltuo ar gyfer triniaeth mor arbennig yn y gyllideb honno?
13:37 - Carwyn Jones
It was not. Farmers, of course, continue to receive these subsidies—over £200 million a year from the European Union. These have been very difficult times, of course, for the Government here in Wales, and we have had to take difficult decisions in order to provide the extra money for health, which, I am sure, he will welcome. Chawson nhw ddim. Mae ffermwyr, wrth gwrs, yn parhau i dderbyn y cymorthdaliadau hyn—dros £200 miliwn y flwyddyn gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn, wrth gwrs, i’r Llywodraeth yma yng Nghymru, ac rydym ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd er mwyn darparu'r arian ychwanegol ar gyfer iechyd y bydd ef, rwy’n siŵr, yn ei groesawu.
13:37 - Andrew R.T. Davies
Of course, we welcome any additional money for health, and it is something that we have been telling you from the start of this Assembly, First Minister. However, only 12 weeks ago, your then Minister for rural affairs launched a food and drink strategy that aimed for a 30% growth in output, and a 10% growth in gross value added for the rural economy. Ultimately, 12 weeks later, your Government has signalled a near 20% cut in that particular budget. Can you not understand why people feel rather bemused in the rural economy, that such, in fairness, positive signals are given one week, and then such negative signals are given another week? Is your Government not all over the place on this? Wrth gwrs, rydym ni’n croesawu unrhyw arian ychwanegol ar gyfer iechyd, ac mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn ei ddweud wrthych ers dechrau’r Cynulliad hwn, Brif Weinidog. Fodd bynnag, dim ond 12 wythnos yn ôl, lansiodd eich Gweinidog materion gwledig ar y pryd strategaeth bwyd a diod a oedd â’r nod o sicrhau twf o 30% i allbwn, a thwf o 10% i werth ychwanegol gros ar gyfer yr economi wledig. Yn y pen draw, 12 wythnos yn ddiweddarach, mae eich Llywodraeth wedi nodi toriad o bron i 20% i’r gyllideb benodol honno. Oni allwch chi ddeall pam mae pobl yn teimlo braidd yn ddryslyd yn yr economi wledig, bod arwyddion mor gadarnhaol yn cael eu rhoi un wythnos, a bod yn deg, ac yna bod arwyddion mor negyddol yn cael eu rhoi mewn wythnos arall? Onid yw eich Llywodraeth yn hynod anghyson yn hyn o beth?
13:37 - Carwyn Jones
No. We have to take difficult decisions, as he will know. We have not taken the decision to cut education by 20%, as he wanted, or indeed local government by 12%, as he wanted, or indeed social services by 12%, as he wanted. I understand, of course, that cuts have to come somewhere. We have had cuts of 10% in our budget from his party over the last four years, and that has meant that difficult decisions have had to be made. We will continue to promote, of course, Welsh food and drink around the world, as we always have done, and as evidenced by the fact that the food hall at the Royal Welsh Show continues to grow, and new buildings are needed every year. Nac ydy. Mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd, fel y bydd ef yn gwybod. Nid ydym ni wedi gwneud y penderfyniad i dorri addysg o 20%, fel yr oedd ef yn dymuno, nac yn wir llywodraeth leol o 12%, fel yr oedd ef yn dymuno, nac mewn gwirionedd y gwasanaethau cymdeithasol o 12%, fel yr oedd ef yn dymuno. Rwy’n deall, wrth gwrs, bod yn rhaid i doriadau ddod o rywle. Rydym ni wedi cael toriadau o 10% i’n cyllideb gan ei blaid ef dros y pedair blynedd diwethaf, ac mae hynny wedi golygu y bu’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Byddwn yn parhau i hyrwyddo, wrth gwrs, bwyd a diod o Gymru ledled y byd, fel yr ydym ni wedi ei wneud erioed, ac fel y dangosir gan y ffaith bod y neuadd fwyd yn Sioe Frenhinol Cymru yn parhau i dyfu, a bod angen adeiladau newydd bob blwyddyn.
13:38 - Andrew R.T. Davies
First Minister, as someone who is very intricately related to the Royal Welsh Show, as my father was one of the directors there, I know full well that the success of the Royal Welsh Show is based on the volunteers, and the people who put their hands in their pockets to pay for it, rather than any initiatives that you might be trying to bandwagon on. The fact of the matter is, First Minister—[Interruption.] Brif Weinidog, fel rhywun sydd â chysylltiad annatod â Sioe Frenhinol Cymru, gan y bu fy nhad yn un o'r cyfarwyddwyr yno, rwy’n gwybod yn iawn fod llwyddiant Sioe Frenhinol Cymru yn seiliedig ar y gwirfoddolwyr, a'r bobl sy'n rhoi eu dwylo yn eu pocedi i dalu amdani, yn hytrach nag unrhyw fentrau y gallech chi fod yn ceisio cymryd y clod amdanynt. Y ffaith amdani, Brif Weinidog—[Torri ar draws.]
13:38 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Order. I want to hear what the Member is saying. Trefn. Rwyf eisiau clywed yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud.
13:38 - Andrew R.T. Davies
Your Government, for some unknown reason—. I am quite happy to say that the food and drink sector has been a notable success. It accounts for nearly 20% of manufacturing jobs here in Wales, and has an aim of £7 billion growth by 2020. These are all laudable aims, and, only 12 weeks ago, you were trying to encapsulate that in a plan, but then you are doing this to the budget. None of it seems to make sense—you seem to be chasing the press releases one minute, and actually ducking the difficult questions the next. Why are you turning your back on the rural economy, and, importantly, why are you turning your back on creating those jobs in the food and drink sector that the rural economy will desperately need to raise the GVA that we all want to see, and, above all, the overall output of the rural economy? Mae eich Llywodraeth, am ryw reswm na wyddom—. Rwy’n eithaf bodlon i ddweud bod y sector bwyd a diod wedi bod yn llwyddiant nodedig. Mae'n gyfrifol am bron i 20% o swyddi gweithgynhyrchu yma yng Nghymru, ac mae ganddo’r nod o dwf o £7 biliwn erbyn 2020. Mae'r rhain i gyd yn amcanion canmoladwy, a, dim ond 12 wythnos yn ôl, roeddech chi’n ceisio crynhoi hynny mewn cynllun, ond yna rydych chi’n gwneud hyn i'r gyllideb. Nid yw’n ymddangos bod dim o hyn yn gwneud synnwyr—mae’n ymddangos eich bod yn rhedeg ar ôl y datganiadau i'r wasg un funud, ac yn osgoi'r cwestiynau anodd y funud nesaf. Pam ydych chi’n troi eich cefn ar yr economi wledig, ac, yn bwysig, pam ydych chi’n troi eich cefn ar greu’r swyddi hynny yn y sector bwyd a diod y bydd gwir angen amdanynt ar yr economi wledig i godi'r gwerth ychwanegol gros yr ydym ni i gyd eisiau ei weld, ac, yn anad dim, allbwn cyffredinol yr economi wledig?
13:39 - Carwyn Jones
I think that he misunderstands the point that I was making. Over the last decade, I have seen the numbers of producers increase exponentially in Wales, to the extent that the Royal Welsh Show has difficulty accommodating them, which is a good thing, of course, for the industry itself. I expect that to continue in the future. Nevertheless, it is true to say that there have been cuts in budgets across Government—apart from, of course, in health—but we cannot create money where money does not exist. We have received a 10% cut over four years from his party and we have to prioritise in the way that we think the people of Wales would want us to prioritise. That has meant finding more money for the NHS, and shielding the people of Wales from the worst cuts, which he wanted to impose with his shadow budget three years ago. Rwy’n meddwl ei fod yn camddeall y pwynt yr oeddwn i’n ei wneud. Yn ystod y degawd diwethaf, rwyf wedi gweld nifer y cynhyrchwyr yn cynyddu’n gynt a chynt yng Nghymru, i'r graddau bod Sioe Frenhinol Cymru yn cael trafferth dod o hyd i le iddyn nhw, sy'n beth da, wrth gwrs, i’r diwydiant ei hun. Rwy’n disgwyl i hynny barhau yn y dyfodol. Serch hynny, mae'n wir dweud y bu toriadau i gyllidebau ar draws y Llywodraeth—ac eithrio, wrth gwrs, ym maes iechyd—ond ni allwn greu arian lle nad oes arian yn bodoli. Rydym wedi cael toriad o 10% dros bedair blynedd gan ei blaid ef ac mae'n rhaid i ni flaenoriaethu o ran y ffordd yr ydym ni’n credu y byddai pobl Cymru yn dymuno i ni flaenoriaethu. Mae hynny wedi golygu dod o hyd i fwy o arian i'r GIG, ac amddiffyn pobl Cymru rhag y toriadau gwaethaf, yr oedd ef eisiau eu gorfodi gyda’i gyllideb yr wrthblaid dair blynedd yn ôl.
13:40 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We now move to questions from the leader of the Welsh Liberal Democrats, Kirsty Williams. Symudwn nawr at gwestiynau gan arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams.
13:40 - Kirsty Williams
Thank you, Presiding Officer. First Minister, yesterday, the second report by the Social Mobility and Child Poverty Commission was published. On vocabulary standards, it states that, at the age of three, Scotland has the highest scores. It goes on to say that, by the age of five, children in England have closed that gap with Scotland, but children in Wales are falling behind. First Minister, when do you believe the actions taken by your Government will enable Welsh children to perform the same as children in Scotland and in England? Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, cyhoeddwyd yr ail adroddiad gan y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant ddoe. O ran safonau geirfa, mae'n nodi, yn dair oed, mai’r Alban sydd â'r sgoriau uchaf. Mae'n mynd ymlaen i ddweud, erbyn eu bod yn bump oed, mae plant yn Lloegr wedi cau’r bwlch hwnnw gyda'r Alban, ond mae plant yng Nghymru ar ei hôl hi. Brif Weinidog, pryd ydych chi'n credu y bydd y camau a gymerwyd gan eich Llywodraeth chi yn galluogi plant Cymru i berfformio yr un fath â phlant yn yr Alban ac yn Lloegr?
13:40 - Carwyn Jones
First of all, of course, the report praised Flying Start and the work that that has done in order to assist so many of our young people. I have no doubt that the pupil deprivation grant will assist, and that, of course, is a policy that, it is right to say, originated with her party, and one that we have been able to take forward, working with her. I can say that the revised child poverty strategy, which will be published for consultation next month, will seek to address those issues in order to ensure that we in Wales, certainly, are not left behind. Yn gyntaf oll, wrth gwrs, canmolwyd Dechrau'n Deg a'r gwaith y mae hynny wedi ei wneud er mwyn cynorthwyo cymaint o'n pobl ifanc yn yr adroddiad. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y grant amddifadedd disgyblion o gymorth, ac mae hwnnw, wrth gwrs, yn bolisi, mae’n wir dweud, sy’n deillio o’i phlaid hi, ac yn un yr ydym ni wedi gallu bwrw ymlaen ag ef, gan weithio gyda hi. Gallaf ddweud y bydd y strategaeth tlodi plant ddiwygiedig, a fydd yn cael ei chyhoeddi ar gyfer ymgynghori fis nesaf, yn ceisio mynd i'r afael â'r materion hynny er mwyn sicrhau nad ydym ni yng Nghymru, yn sicr, yn cael ein gadael ar ôl.
13:41 - Kirsty Williams
Minister, Flying Start has existed for a number of years now, but the evidence suggests that Wales’s children are not catching up. It is all very well having a programme, but, if the programme does not deliver improvements, then it is really not helping our children. Those poorest children will then go on to suffer poorer GCSE results. Just 26% of children eligible for free school meals achieve five good GCSEs, including English and maths, compared to 38% of similar children in England. Now, the report says that that situation is: Weinidog, mae Dechrau'n Deg wedi bodoli ers nifer o flynyddoedd bellach, ond mae'r dystiolaeth yn awgrymu nad yw plant Cymru yn dal i fyny. Mae'n iawn cael rhaglen, ond, os nad yw'r rhaglen yn cyflawni gwelliannau, yna’r gwir amdani yw nad yw’n helpu ein plant. Bydd y plant tlotaf hynny’n mynd yn eu blaenau wedyn i ddioddef canlyniadau TGAU gwaelach. Dim ond 26% o blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim sy’n cyflawni pum cymhwyster TGAU da, gan gynnwys Saesneg a mathemateg, o’i gymharu â 38% o blant tebyg yn Lloegr. Nawr, mae'r adroddiad yn dweud bod y sefyllfa honno’n:
‘unacceptable and means that too many poor children in Wales are being let down by the existing schools system. Change is urgently needed.’ annerbyniol ac yn golygu bod gormod o blant tlawd yng Nghymru yn cael eu siomi gan y system ysgolion bresennol. Mae angen newid ar frys.
Apart from agreeing, as you have stated, to implement the Welsh Liberal Democrat pupil deprivation grant, what are you going to do to ensure that Wales gets the change that Alan Milburn says is so urgently required? Ar wahân i gytuno, fel yr ydych chi wedi ei ddweud, i weithredu grant amddifadedd disgyblion Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, beth ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau bod Cymru'n cael y newid y mae Alan Milburn yn ei ddweud sydd ei angen ar gymaint o frys?
13:42 - Carwyn Jones
Through the pupil deprivation grant, of course, through the child poverty strategy, and through the foundation phase, which is yet to work through fully in terms of the beneficial effect it will have on our young people—. We know, of course, that it is important as well to support more young people into higher education. We know that the rate of young people going into higher education has increased. These things do take, of course, some time to work through, but nevertheless we are clear that we have a child poverty strategy and actions on the ground that will ensure that the young people of Wales are not left behind. Drwy'r grant amddifadedd disgyblion, wrth gwrs, drwy'r strategaeth tlodi plant, a thrwy’r cyfnod sylfaen, nad yw wedi ei ddatblygu’n llwyr eto o ran yr effaith fuddiol y bydd yn ei chael ar ein pobl ifanc. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, ei bod hefyd yn bwysig cefnogi mwy o bobl ifanc i mewn i addysg uwch. Rydym ni’n gwybod bod cyfradd y bobl ifanc sy’n mynd i addysg uwch wedi cynyddu. Mae'r pethau hyn yn cymryd cryn amser, wrth gwrs, i gael eu gweithredu, ond serch hynny, rydym ni’n eglur bod gennym strategaeth tlodi plant a chamau ar lawr gwlad a fydd yn sicrhau nad yw pobl ifanc Cymru yn cael eu gadael ar ôl.
13:42 - Kirsty Williams
Three weeks ago, I highlighted the abandonment of your long-cherished Programme for International Student Assessment target as another example of the poverty of ambition that characterises much of your approach. Yesterday, Alan Milburn agreed with that. He said: Tair wythnos yn ôl, tynnais sylw at ddiddymiad eich targed Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, a fu’n agos at eich calon am amser maith, fel enghraifft arall o'r diffyg uchelgais sy'n nodweddiadol o lawer o’ch dulliau. Ddoe, cytunodd Alan Milburn â hynny. Meddai:
‘We are concerned about the lack of ambition in the new international targets set for 2020, which we do not think are aspirational enough given the scale of the issue’ Rydym ni’n pryderu am y diffyg uchelgais yn y targedau rhyngwladol newydd a osodwyd ar gyfer 2020, nad ydym yn credu sy’n ddigon uchelgeisiol o ystyried maint y broblem
that faces Wales. I ask you again, First Minister: why cannot you and your administration strive for excellence, instead of aiming for mediocrity? sy'n wynebu Cymru. Gofynnaf ichi eto, Brif Weinidog: pam na allwch chi a'ch gweinyddiaeth ymdrechu y gyflawni rhagoriaeth, yn hytrach na chael y nod o gyffredinedd?
13:43 - Carwyn Jones
We never aim for mediocrity. Those of us who have been through the state system and are grateful for the opportunities that have been afforded to us will never lose sight of that. It is something that is very close to my heart, in terms of looked-after children, particularly, and we are moving forward with plans to help them. In terms of ensuring that our schools have the support and money they require, Schools Challenge Cymru is one of the most effective ways of making sure that those who come from the most deprived backgrounds are able to get the help that they need. We have invested in new facilities, and new schools across Wales, that are very far in excess of what is happening in England. We are seeing the gap in terms of performance closing, and closing, I believe, rapidly. We have the strategy, as I said, which is being announced next week, and we have, of course, the pupil deprivation grant. All of these things, I believe, will see a real and beneficial improvement for our young people over the next few years. Nid yw cyffredinedd byth yn nod gennym. Ni fydd y rhai hynny ohonom sydd wedi bod trwy system y wladwriaeth ac sy’n ddiolchgar am y cyfleoedd a roddwyd i fyth yn colli golwg ar hynny. Mae'n rhywbeth sy'n agos iawn at fy nghalon, o ran plant sy'n derbyn gofal, yn arbennig, ac rydym ni’n bwrw ymlaen â chynlluniau i'w helpu. O ran sicrhau bod y gefnogaeth a’r arian sydd eu hangen arnynt gan ein hysgolion, Her Ysgolion Cymru yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o sicrhau bod y rhai sy'n dod o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Rydym ni wedi buddsoddi mewn cyfleusterau newydd, ac ysgolion newydd ledled Cymru, sy’n llawer iawn mwy na'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Rydym ni’n gweld y bwlch o ran perfformiad yn cau, ac yn cau, rwy’n credu, yn gyflym. Mae gennym y strategaeth, fel y dywedais, sy'n cael ei chyhoeddi yr wythnos nesaf, ac mae gennym, wrth gwrs, y grant amddifadedd disgyblion. Bydd pob un o'r pethau hyn, rwy’n credu, yn arwain at welliant gwirioneddol a buddiol i’n pobl ifanc dros y blynyddoedd nesaf.
13:44 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Finally, I call the Leader of Plaid Cymru, Leanne Wood. Yn olaf, galwaf ar Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
13:44 - Leanne Wood
Diolch, Lywydd. First Minister, neither of us will take pleasure in the Tory press trying to turn our health service into a political football, but patients in Wales will be alarmed, and they have genuine concerns that deserve to be taken seriously and addressed in full. One question that is asked is: why do waiting times for diagnostic tests remain unacceptably long in Wales, compared to those in Scotland and England? Do you attribute this to funding alone, or do you accept that there are wider issues? Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, ni fydd y naill na’r llall ohonom ni’n cael pleser o weld y wasg Dorïaidd yn ceisio troi ein gwasanaeth iechyd yn bêl wleidyddol, ond bydd cleifion yng Nghymru yn cael eu dychryn, ac mae ganddynt bryderon gwirioneddol sy'n haeddu cael eu cymryd o ddifrif a chael sylw llawn. Un cwestiwn a ofynnir yw: pam mae amseroedd aros am brofion diagnostig yn dal i fod yn annerbyniol o hir yng Nghymru, o'u cymharu â'r rhai yn yr Alban ac yn Lloegr? A ydych chi’n credu bod hyn oherwydd ariannu’n unig, neu a ydych chi’n derbyn bod materion ehangach?
13:45 - Carwyn Jones
I think that there are issues of demand. We have provided £6.5 million-worth of diagnostics and £425 million extra to the NHS. Demand does increase at a huge rate. That is not just true of Wales, of course, but, nevertheless, it is something we face. We have a higher proportion of older people. We have a higher proportion of people who are not in good health, and of course we do not have the £300 million that funding reform would give us. Now, I do not pretend in any way that the Welsh NHS does not have its difficulties. It clearly does. We, as a Government, are committed to dealing with those difficulties, but what we will not do is play politics with the issue of people’s health. Rwy’n meddwl bod materion o alw. Rydym ni wedi darparu gwerth £6.5 miliwn o ddiagnosteg a £425 miliwn yn ychwanegol i'r GIG. Mae'r galw’n cynyddu ar gyfradd enfawr. Nid yw hynny'n wir am Gymru’n unig, wrth gwrs, ond, serch hynny, mae'n rhywbeth yr ydym ni’n ei wynebu. Mae gennym gyfran uwch o bobl hŷn. Mae gennym gyfran uwch o bobl nad yw eu hiechyd yn dda, ac wrth gwrs, nid yw’r £300 miliwn gennym y byddai diwygio cyllid yn ei roi i ni. Nawr, nid wyf yn honni mewn unrhyw ffordd nad oes gan y GIG yng Nghymru ei drafferthion. Mae ganddo’n amlwg. Rydym ni, fel Llywodraeth, wedi ymrwymo i ymdrin â’r anawsterau hynny, ond yr hyn na fyddwn yn ei wneud yw chwarae gwleidyddiaeth â'r mater o iechyd pobl.
13:45 - Leanne Wood
Surely, First Minister, if demand has increased, it will have increased everywhere. Surely you will not deny the facts: 1% waited more than six weeks for an MRI scan in England last August; just over 2% waited longer than six weeks in Scotland for an MRI scan; more than 40% waited longer than six weeks here in Wales. Are we not now at the point where, as well as patients having serious concerns, our health workers are increasingly demoralised, too? Yn sicr, Brif Weinidog, os yw galw wedi cynyddu, bydd wedi cynyddu ym mhobman. Does bosib y byddwch yn gwadu’r ffeithiau: bu 1% yn aros mwy na chwe wythnos am sgan MRI yn Lloegr fis Awst diwethaf; bu ychydig dros 2% yn aros mwy na chwe wythnos yn yr Alban am sgan MRI; bu mwy na 40% yn aros mwy na chwe wythnos yma yng Nghymru. A ydym ni wedi cyrraedd y pwynt nawr lle, yn ogystal â chleifion sydd â phryderon difrifol, mae ein gweithwyr iechyd yn gynyddol ddigalon, hefyd?
13:46 - Carwyn Jones
Well, I think that constant attacks from papers outside Wales will demoralise them. I will say that the Minister has written to them all today just to say to them that these are not the views of the Welsh Government. What I can say of course is this. Let us not minimise the difficulties that exist in some parts of the health service. They are there. I do not pretend in any way that the health service in Wales is perfect, but it is not perfect in England. We saw only last week the County Hospital in Hereford being described as inadequate and unsafe, and many Welsh patients go to Hereford county hospital from eastern Breconshire. However, let me give you some examples of a recent survey that was carried out: it was said that there were countless examples of outstanding practice; that nine times out of 10, the care that patients receive is exceptional; that the vast majority of the sample group was happy with the level of care it received; that 77% of people in Monmouthshire, for example, felt that their GP surgery offered convenient appointments, which was higher than in any other part of Wales; and that 74% of respondents reported high standards of cleanliness in the hospital environment. Those are some examples of the fact that, as I would say, the vast majority of people get the best care most of the time. What we must focus on is ensuring that, where people do not get the level of care that they should expect, those concerns are dealt with and that we ensure that the number of people in that category continues to drop. Wel, rwy’n meddwl y bydd ymosodiadau cyson gan bapurau newydd y tu allan i Gymru yn eu digalonni. Rwyf am ddweud bod y Gweinidog wedi ysgrifennu at bob un ohonynt heddiw dim ond i ddweud mai nad safbwyntiau Llywodraeth Cymru yw’r rhain. Yr hyn y gallaf ei ddweud, wrth gwrs, yw hyn. Gadewch i ni beidio â lleihau'r anawsterau sy'n bodoli mewn rhai rhannau o'r gwasanaeth iechyd. Maen nhw yno. Nid wyf yn cymryd arnaf mewn unrhyw ffordd bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn berffaith, ond nid yw'n berffaith yn Lloegr. Gwelsom, ddim ond yr wythnos diwethaf y County Hospital yn Henffordd yn cael ei ddisgrifio’n annigonol ac anniogel, ac mae llawer o gleifion o Gymru’n mynd i’r County Hospital yn Henffordd o ddwyrain Sir Frycheiniog. Fodd bynnag, gadewch i mi roi rhai enghreifftiau i chi o arolwg diweddar a gynhaliwyd: dywedwyd y ceir enghreifftiau dirifedi o arfer rhagorol; bod y gofal y mae cleifion yn ei dderbyn yn eithriadol naw gwaith allan o 10; bod mwyafrif llethol y grŵp sampl yn hapus gyda lefel y gofal a dderbyniwyd; bod 77% o bobl yn Sir Fynwy, er enghraifft, yn teimlo bod eu meddygfa deulu yn cynnig apwyntiadau cyfleus, a oedd yn uwch nag yn unrhyw ran arall o Gymru; a bod 74% o ymatebwyr yn nodi safonau uchel o lendid yn amgylchedd yr ysbyty. Dyna rai enghreifftiau o'r ffaith, fel y byddwn i’n ei ddweud, bod y mwyafrif helaeth o bobl yn cael y gofal gorau y rhan fwyaf o'r amser. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ganolbwyntio arno yw sicrhau, lle nad yw pobl yn cael y lefel o ofal y dylent ei ddisgwyl, bod y pryderon hynny’n cael sylw a’n bod yn sicrhau bod nifer y bobl yn y categori hwnnw’n parhau i ostwng.
13:47 - Leanne Wood
The First Minister should take very seriously his responsibilities both to patients and staff in the Welsh health service. He will be fully aware that a strike ballot produced a 4:1 vote in favour of strike action by Unison members in the Welsh health service. Does the First Minister agree with Unison that our health workers are worth more than the one-off £160 payment that is being offered to them by this Government? Dylai'r Prif Weinidog gymryd ei gyfrifoldebau o ran cleifion ac aelodau staff yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn wirioneddol o ddifrif. Bydd yn gwbl ymwybodol bod pleidlais streic wedi arwain at bleidlais 4:1 o blaid streic gan aelodau Unsain yng ngwasanaeth iechyd Cymru. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno ag Unsain bod ein gweithwyr iechyd werth mwy na'r taliad unigol o £160 sy'n cael ei gynnig iddynt gan y Llywodraeth hon?
13:48 - Carwyn Jones
Well, first of all, negotiations continue to take place, as the Member would expect. These are difficult times because we know that, even though more money has been allocated for health, we must make sure that a substantial amount of that money goes on services, and it is difficult, of course, in the financial circumstances we find ourselves to ensure that that happens. However, let us not prejudge things. There has already been a strike in England and in Northern Ireland. Discussions will continue in Wales, and I know that the Minister of health will continue to do that. Incidentally, the quotations that I gave you in terms of satisfaction were from the Conservative health survey. [Assembly Members: ‘Oh.’] So, even their own survey tends to undermine what they have been saying. However, I do accept—and I thank the leader of Plaid Cymru for the way she has raised these issues—that they are important issues, and from time to time we must deal with difficult questions in the NHS. However, she has done it in such a way that she has not turned this into a political football, unlike, of course, the Daily Mail and the Department of Health. [A Member: Inaudible.] Wel, yn gyntaf oll, mae trafodaethau yn parhau i gael eu cynnal, fel y byddai'r Aelod yn ei ddisgwyl. Mae hwn yn gyfnod anodd gan ein bod yn gwybod, er bod mwy o arian wedi ei ddyrannu ar gyfer iechyd, bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod swm sylweddol o'r arian hwnnw’n cael ei wario ar wasanaethau, ac mae'n anodd, wrth gwrs, sicrhau bod hynny'n digwydd dan yr amgylchiadau ariannol yr ydym ni’n canfod ein hunain ynddynt. Fodd bynnag, gadewch i ni beidio â rhagfarnu pethau. Bu streic yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon eisoes. Bydd trafodaethau yn parhau yng Nghymru, a gwn y bydd y Gweinidog iechyd yn parhau i wneud hynny. Gyda llaw, roedd y dyfyniadau a roddais i chi o ran bodlonrwydd yn dod o arolwg iechyd y Ceidwadwyr. [Aelodau'r Cynulliad: 'O'.] Felly, mae hyd yn oed yn eu harolwg eu hunain yn tueddu i danseilio'r hyn y maen nhw wedi bod yn ei ddweud. Fodd bynnag, rwyf yn derbyn—ac rwy’n diolch i arweinydd Plaid Cymru am y modd y mae hi wedi codi'r materion hyn—eu bod yn faterion pwysig, a bod yn rhaid i ni ymdrin â chwestiynau anodd yn y GIG o bryd i'w gilydd. Fodd bynnag, mae hi wedi ei wneud yn y fath fodd nad yw hi wedi troi hyn yn bêl wleidyddol, yn wahanol, wrth gwrs, i’r Daily Mail a'r Adran Iechyd. [Aelod: Anghlywadwy.]
13:49 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Order. May I just remind Members that some people have their names down to speak later on? So, if they cannot stop muttering, they will not be called. Trefn. A gaf i atgoffa’r Aelodau bod enwau rhai pobl i lawr i siarad yn nes ymlaen? Felly, os na allant roi’r gorau i fwmial, ni fyddant yn cael eu galw.
Y Diwydiant Amaethyddol (Incwm Ffermwyr) The Agricultural Industry (Farmers’ Income)
13:49 - Elin Jones
3. Pa fesurau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i amddiffyn y diwydiant amaethyddol yn wyneb y cwymp diweddar mewn incwm nifer o ffermwyr? OAQ(4)1910(FM) 3. What measures can the Welsh Government take to safeguard the agricultural industry in light of the recent fall in many farmers’ income? OAQ(4)1910(FM)
13:49 - Carwyn Jones
Wel, rydym yn gwybod, yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, yr oedd incwm ffermwyr wedi codi o 32%. Mae’n wir i ddweud ar hyn o bryd, wrth gwrs, fod cwymp wedi bod ym mhris cig oen. Gallaf ddweud, wrth gwrs, y bydd ‘summit’ yn cymryd lle ynglŷn â chig eidion a hefyd adolygiad o’r diwydiant llaeth i weld beth arall y gallwn ei wneud? Well, we know that, during the past financial year, farmers’ incomes have increased by 32%. It is true to say that, at the moment, of course, there has been a fall in the price of lamb. I can also say, of course, that a summit will take place relating to beef, together with a review of the dairy industry to consider what more we could do?
13:49 - Elin Jones
Brif Weinidog, byddwch chi’n gwybod bod nifer o’n ffermwyr llaeth ni yn wynebu prisiau anwadal iawn, a phrisiau sy’n cwympo ar hyn o bryd. Yn aml iawn, mae’r prisiau hynny’n cael eu heffeithio gan bris byd-eang llaeth. Er mwyn sefydlogi sefyllfa ein ffermwyr llaeth dros y tymor hir, a ydych chi’n credu ei fod yn awr yn amser i edrych tuag at gytundebau gorfodol rhwng ffermwyr a phroseswyr llaeth, er mwyn cynnal y sefydlogrwydd hwnnw? Erbyn hyn, mae 12 o aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd wedi symud i lawr y trywydd hwn, ac rwy’n gobeithio y byddwch chi, fel Llywodraeth, yn edrych ar hyn hefyd. First Minister, you will know that many of our dairy farmers are facing very unpredictable prices and prices that are currently falling. Those prices are often affected by the global price of milk. In order to stabilise the position of our dairy farmers over the long term, do you think that it is now time to look towards compulsory contracts between dairy farmers and milk processors, in order to maintain that stability? There are now 12 member states of the European Union that have gone down that particular route, and I hope that you, as a Government, will also look at this.
13:50 - Carwyn Jones
Un o’r gwendidau, wrth gwrs, yw’r hyn a ddigwyddodd gyda’r MMB—y ‘Milk Marketing Board’. Unwaith yr aeth hwnnw, roedd problemau mawr i ffermwyr llaeth. Byddwn i o blaid rhoi mwy o nerth i ffermwyr llaeth. Nid yw’n rhywbeth y gallwn ei wneud, ynghylch cytundebau gorfodol, achos rhywbeth masnachol ydyw, ond rwy’n deall yn dda dros ben ei fod yn anodd dros ben i unigolyn sy’n gwerthu i gwmni mawr. Dyna ble mae’r gwendid. Felly, byddwn i’n gefnogol o unrhyw beth sy’n rhoi nerth i ffermwyr. Os oes ffordd o sicrhau bod ffermwyr yn cael pris teg, trwy’r cytundebau y maent yn eu harwyddo, efallai y byddai hynny’n rhywbeth y byddem yn mo’yn ystyried fel Llywodraeth, wrth gofio’r rhwystrau ar y pwerau sydd gyda ni, ond mae hwnnw’n rhywbeth a ddylai, yn fy marn i, ddigwydd dros y Deyrnas Unedig yn gyfan gwbl. One of the weaknesses, of course, is what happened with the MMB, the Milk Marketing Board. Once that disappeared, there were huge problems for dairy farmers. I would be in favour of giving greater powers to dairy farmers. It is not something that we can do, in terms of compulsory contracts, because they are a commercial matter, but I understand very well that it is extremely difficult for an individual who is selling to a major company. That is where the weakness lies. Therefore, I would be very supportive of anything that empowers farmers. If there is a way to ensure that farmers get a fair price, through the contracts that they signed, perhaps that would be something we as a Government would want to consider, bearing in mind the limitations of the powers that we have, but that is something that should, in my opinion, happen across the United Kingdom as a whole.
13:51 - Russell George
First Minister, the red meat industry in Wales is losing around £1 million every year, as a result of the way in which the promotional levy works in practice. Do you agree that a north Wales abattoir and reform of the meat promotional levy are ways in which we can ensure that we keep money in Wales and reinvest to support our famers? Could I ask how the Welsh Government is working with the UK Government to bring this about? Brif Weinidog, mae'r diwydiant cig coch yng Nghymru yn colli tua £1 filiwn bob blwyddyn, o ganlyniad i'r ffordd y mae'r ardoll hyrwyddo yn gweithio yn ymarferol. A ydych chi'n cytuno y byddai lladd-dy yn y gogledd a diwygio'r ardoll hyrwyddo cig yn ffyrdd i ni allu sicrhau ein bod yn cadw arian yng Nghymru ac ail-fuddsoddi i gefnogi ein ffermwyr? A gaf i ofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni hyn?
13:51 - Carwyn Jones
The UK Government has indicated no interest in this area. It tends to support the bigger farmers, particularly those of arable land. We know that from experience over the last decade. In terms of red meat, of course, we know that the price of lamb has dropped recently, and that is because it has been a very good summer and so there has been a degree of oversupply in the market, together with the strength of the pound, which never helps in terms of exports. In terms of beef, we know that cattle prices have shown signs of improvement throughout last month and this month, but of course, what we will continue to do, as we have done successfully over the past decade or so, is promote Welsh red meat. That has led us to new markets ahead of other parts of the UK in years gone by. Nid yw Llywodraeth y DU wedi dangos unrhyw ddiddordeb yn y maes hwn. Mae'n tueddu i gefnogi'r ffermwyr mwy, yn enwedig ffermwyr tir âr. Gwyddom hynny o brofiad dros y degawd diwethaf. O ran cig coch, wrth gwrs, rydym ni’n gwybod bod pris cig oen wedi gostwng yn ddiweddar, ac mae hynny oherwydd i ni gael haf da iawn ac felly bu rhywfaint o orgyflenwad yn y farchnad, ynghyd â chryfder y bunt, sydd byth yn helpu o ran allforion. O ran cig eidion, gwyddom fod prisiau gwartheg wedi dangos arwyddion o wella trwy gydol y mis diwethaf a’r mis hwn, ond wrth gwrs, yr hyn y byddwn yn parhau i’w wneud, fel yr ydym ni wedi ei wneud yn llwyddiannus yn ystod y degawd diwethaf mwy neu lai, yw hyrwyddo cig coch Cymru. Mae hynny wedi ein harwain at farchnadoedd newydd o flaen rhannau eraill o'r DU yn y blynyddoedd a fu.
13:52 - William Powell
Returning, for a moment, to the issue of the dairy sector, First Minister, it has been the case that, in other areas, for example, free range eggs and the red tractor scheme, there has been great benefit derived to the industry, in terms of increasing loyalty from customers who are prepared to pay an additional amount for a reliable quality product. Do you think that there is, in fact, scope for this to be extended more in the dairy sector to provide greater resilience to the industry, which at this moment, is facing such difficult times? I ddychwelyd, am funud, at fater y sector llaeth, Brif Weinidog, mae wedi bod yn wir, mewn meysydd eraill, er enghraifft, wyau buarth a'r cynllun tractor coch, y cafwyd budd mawr i'r diwydiant, o ran cynyddu teyrngarwch gan gwsmeriaid sy'n barod i dalu swm ychwanegol am gynnyrch o ansawdd dibynadwy. A ydych chi'n meddwl, mewn gwirionedd, bod lle i hyn gael ei ehangu ymhellach yn y sector llaeth i gynnig mwy o wydnwch i'r diwydiant, sydd ar hyn o bryd, yn wynebu cyfnod mor anodd?
13:53 - Carwyn Jones
Yes, I do. Branding is the key for farming in Wales. If we competed purely in terms of commodities, as a commodity, we would be wiped out by producers who will always be able to compete at a level far below what our farmers are able to do. New Zealand is one example. The key for us is getting over that problem by having a high-quality product that is branded and marketed aggressively. It is happening now with milk. We see it on the shelves now, for example where we have Calon Wen as an organic producer and, of course, the non-organic Welsh branded milk that we see in our supermarkets. In an entirely non-scientific survey, I do notice that, in Bridgend’s supermarkets, the milk from Wales goes first and that I very much welcome. However, that is a small market. Ydw, mi ydwyf. Brandio yw'r allwedd i ffermio yng Nghymru. Pe byddem yn cystadlu ar sail nwyddau yn unig, fel nwydd, byddem yn cael ein difa gan gynhyrchwyr a fydd bob amser yn gallu cystadlu ar lefel lawer is na'r hyn y gall ein ffermwyr ni ei wneud. Mae Seland Newydd yn un enghraifft. Yr hyn sy'n allweddol i ni yw datrys y broblem honno trwy gael cynnyrch o ansawdd uchel sy'n cael ei frandio a'i farchnata’n frwdfrydig. Mae'n digwydd nawr gyda llaeth. Rydym ni’n ei weld ar y silffoedd nawr, er enghraifft, lle mae gennym Calon Wen sy’n gynhyrchydd organig ac, wrth gwrs, y llaeth nad yw’n organig o Gymru yr ydym ni’n ei weld yn ein harchfarchnadoedd. Mewn arolwg cwbl anwyddonol, rwyf yn sylwi, yn archfarchnadoedd Pen-y-bont ar Ogwr, bod y llaeth o Gymru yn cael ei werthu gyntaf ac rwy’n croesawu hynny'n fawr. Fodd bynnag, marchnad fechan yw honno.
What we need to do as well is promote Wales as an international brand to make sure that the market goes beyond the Welsh market. That is trickier with milk, because liquid milk does not travel in the same way as processed dairy products; nevertheless, it is heartening to see that Welsh milk is now being differentiated and branded. But, at the end of the day, there are still problems and they revolve around how an individual gets a fair price from a big buyer. Since the Milk Marketing Board was destroyed, that question remains unanswered by successive UK Governments. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud hefyd yw hyrwyddo Cymru fel brand rhyngwladol i sicrhau bod y farchnad yn mynd y tu hwnt i farchnad Cymru. Mae hynny'n fwy anodd gyda llaeth, gan nad yw llaeth hylif yn teithio yn yr un modd â chynhyrchion llaeth wedi eu prosesu; serch hynny, mae'n galonogol gweld bod llaeth Cymru yn cael ei wahaniaethu a’i frandio bellach. Ond, yn y pen draw, ceir problemau o hyd ac maen nhw’n ymwneud â sut mae unigolyn yn cael pris teg gan brynwr mawr. Ers chwalu’r Bwrdd Marchnata Llaeth, mae’r cwestiwn hwnnw’n parhau i fod heb ei ateb gan Lywodraethau olynol y DU.
Cam-drin yn Rhywiol Ar-lein Online Sexual Abuse
13:54 - Jenny Rathbone
4. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i amddiffyn pobl ifanc rhag cael eu cam-drin yn rhywiol ar-lein? OAQ(4)1914(FM) 4. What work is the Welsh Government doing to protect young people from online sexual abuse? OAQ(4)1914(FM)
13:54 - Carwyn Jones
We continue to work with the National Crime Agency and the police to target and arrest perpetrators of online sexual abuse, as part of national and international investigations. Here in Wales, we are educating parents and children to recognise and respond to inappropriate online behaviour. Rydym yn parhau i weithio gyda'r Asiantaeth Troseddau Genedlaethol a'r heddlu i dargedu ac arestio’r rhai sy'n cam-drin yn rhywiol ar-lein, yn rhan o ymchwiliadau cenedlaethol a rhyngwladol. Yma yng Nghymru, rydym ni’n addysgu rhieni a phlant i adnabod ac ymateb i ymddygiad amhriodol ar-lein.
13:54 - Jenny Rathbone
Recent Cardiff University research indicates that children and young people as young as 13 are being pressurised to have sex. In the most serious cases, young people are being groomed online to enter into prostitution. The Sexual Offences Act 2003 predates the widespread use of the internet, and the current offence of grooming requires an offender to set out on a journey to meet a child. In light of yesterday’s announcement that the National Crime Agency finds it unrealistic to chase the 50,000 people who have engaged in online child abuse, what work do you think our Government can do to respond to the NSPCC’s call for further legislation? It is calling, obviously, on the UK Government to take further action to protect young people, but if the UK Government does not take action, what could be done, for example by amending the violence against women Bill, to ensure that this is addressed? Mae gwaith ymchwil diweddar gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod plant a phobl ifanc mor ifanc â 13 yn cael eu rhoi dan bwysau i gael rhyw. Yn yr achosion mwyaf difrifol, mae pobl ifanc yn cael eu hudo ar-lein i faes puteindra. Mae Deddf Troseddau Rhywiol 2003 yn rhagflaenu’r defnydd eang o'r rhyngrwyd, ac mae’r drosedd bresennol o feithrin perthynas amhriodol yn ei gwneud yn ofynnol i droseddwr gychwyn allan ar daith i gwrdd â phlentyn. Yng ngoleuni'r cyhoeddiad ddoe fod yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol o’r farn ei bod yn afrealistig mynd ar ôl y 50,000 o bobl sydd wedi bod yn ymwneud â cham-drin plant ar-lein, pa waith ydych chi'n meddwl y gall ein Llywodraeth ei wneud i ymateb i alwad yr NSPCC am ddeddfwriaeth ychwanegol? Mae'n galw, yn amlwg, ar Lywodraeth y DU i gymryd camau pellach i amddiffyn pobl ifanc, ond os na fydd Llywodraeth y DU yn cymryd camau, beth y gellid ei wneud, er enghraifft, trwy ddiwygio'r Bil trais yn erbyn menywod, i sicrhau bod hyn yn cael sylw?
13:55 - Carwyn Jones
We have to bear in mind, of course, first of all, that there are limits on what we can do, given that there are limits on the maximum sentences that we can create under the criminal law. Inevitably, the UK Government will have stronger powers, unlike in Scotland and Northern Ireland, where it is different in this area. We welcome the UK Government’s proposed amendments to the Criminal Justice and Courts Bill. That will, for example, reduce the number of initial occasions when a perpetrator must meet or communicate with children from two to one in order for an offence to be created. That is, if I can put it in this way, the easiest way of making sure that this issue is dealt with through the criminal justice system. However, in terms of our own Gender-based Violence, Domestic Abuse and Sexual Violence (Wales) Bill, there is work under way in terms of ensuring that we can promote healthy relationships in the future, and to address violence against women, domestic abuse and sexual violence. When it comes to the criminal side, it is inevitable that the UK Government will have more powers than us, but we will work with it, of course, in order to make sure that our children are safe. Mae'n rhaid i ni gofio, wrth gwrs, yn gyntaf oll, bod cyfyngiadau ar yr hyn y gallwn ei wneud, o gofio bod cyfyngiadau ar y dedfrydau mwyaf y gallwn eu creu dan y gyfraith droseddol. Yn anochel, bydd gan Lywodraeth y DU bwerau cryfach, yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon, lle mae pethau'n wahanol yn y maes hwn. Rydym yn croesawu diwygiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i'r Bil Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd. Bydd hynny, er enghraifft, yn lleihau nifer yr achlysuron cychwynnol y mae’n rhaid i’r sawl sy’n cyflawni trosedd gwrdd neu gyfathrebu â phlant o ddwywaith i unwaith er mwyn i drosedd gael ei chreu. Dyna, os caf ei roi fel hyn, y ffordd rwyddaf o sicrhau yr ymdrinnir â'r mater hwn drwy'r system cyfiawnder troseddol. Fodd bynnag, o ran ein Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) ein hunain, mae gwaith ar y gweill o ran sicrhau y gallwn hybu perthnasoedd iach yn y dyfodol, ac i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Pan ddaw at yr ochr droseddol, mae'n anochel y bydd gan Lywodraeth y DU fwy o bwerau na ni, ond byddwn yn gweithio â hi, wrth gwrs, er mwyn gwneud yn siŵr bod ein plant yn ddiogel.
13:57 - Janet Finch-Saunders
There are two in three teenagers now in the UK, including Wales, reporting experiences of trolling, online bullying and sexual abuse. The UK Government Minister, the right honourable Chris Grayling MP, has actually now made announcements that he is going to impose higher fines and, indeed, take sentences up from six months to two years for very serious counts. Will the First Minister join me in welcoming this positive initiative, and will he pledge his support to working with the UK Government on this issue, which is affecting so many of our young people now here in Wales? Mae dau o bob tri o bobl yn eu harddegau yn y DU, gan gynnwys Cymru, bellach yn hysbysu am brofiadau o drolio, bwlio ar-lein a cham-drin rhywiol. Mae Gweinidog Llywodraeth y DU, y gwir anrhydeddus Chris Grayling AS, wedi gwneud cyhoeddiadau erbyn hyn ei fod yn mynd i orfodi dirwyon uwch ac, yn wir, cynyddu dedfrydau o chwe mis i ddwy flynedd ar gyfer achosion difrifol iawn. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i groesawu'r fenter gadarnhaol hon, ac a wnaiff addo ei gefnogaeth i weithio gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn, sy'n effeithio nawr ar gymaint o'n pobl ifanc yma yng Nghymru?
13:57 - Carwyn Jones
Yes, that is an important point that the Member raises, and I can say that we will work with the UK Government to ensure that our young people, particularly young teenagers who are perhaps at their most vulnerable time of life in many ways, certainly in terms of their development, receive the full protection that they are entitled to. Gwnaf, mae hwnna'n bwynt pwysig y mae’r Aelod yn ei godi, a gallaf ddweud y byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod ein pobl ifanc, yn enwedig y rhai yn eu harddegau ifanc sydd efallai yng nghyfnod mwyaf agored i niwed eu bywydau mewn sawl ffordd, yn sicr o ran eu datblygiad, yn derbyn yr amddiffyniad llawn y mae ganddynt hawl iddo.
13:58 - Bethan Jenkins
First Minister, you may have seen this morning that an online avatar called Sweetie, created by the Dutch charity Terre des Hommes to identify paedophiles who use online chatrooms, has secured its first conviction. That man was an Australian, but the charity involved has said that it has passed information about 110 British men that it has identified to the National Crime Agency. I am just wondering whether you as a Government are aware of whether any of those men are Welsh, and whether you have had any dealings with the police to see how we can progress this. I listened to BBC Radio 4 this morning, and the charity said that one arrest simply is not good enough. Brif Weinidog, efallai eich bod wedi gweld y bore yma fod rhithffurf ar-lein o'r enw Sweetie, a grëwyd gan elusen Terre des Hommes yn yr Iseldiroedd i ganfod pedoffiliaid sy'n defnyddio ystafelloedd sgwrsio ar-lein, wedi sicrhau ei heuogfarn gyntaf. Roedd y gŵr hwnnw o Awstralia, ond dywedodd yr elusen dan sylw ei bod wedi rhoi gwybodaeth am 110 o ddynion o Brydain y mae wedi eu nodi i'r Asiantaeth Troseddau Genedlaethol. Rwy’n meddwl tybed a ydych chi fel Llywodraeth yn ymwybodol o ba un a oes unrhyw rai o'r dynion hynny o Gymru, ac a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaeth â'r heddlu i weld sut y gallwn ni fwrw ymlaen â hyn. Gwrandewais ar BBC Radio 4 y bore yma, a dywedodd yr elusen nad yw un arestiad yn ddigon da o gwbl.
13:58 - Carwyn Jones
I am not aware of any convictions of anybody from Wales, but it is an important issue and there are issues of detail that the Member will need to know. If I write to the Member with further information, I think that that, hopefully, will provide her with answers to the question that she has asked. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw euogfarnau ar gyfer unrhyw un o Gymru, ond mae'n fater pwysig a cheir manylion y bydd angen i'r Aelod wybod amdanynt. Os byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda rhagor o wybodaeth, rwy’n meddwl y bydd hynny, gobeithio, yn rhoi atebion iddi i'r cwestiwn y mae hi wedi ei ofyn.
Cydweithredu Economaidd (Cymru a De-orllewin Lloegr) Economic Co-operation (Wales and South-west England)
13:59 - Mick Antoniw
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu asesiad o'r potensial ar gyfer cydweithredu economaidd rhwng Cymru a de-orllewin Lloegr? OAQ(4)1915(FM) 5. Will the First Minister give an assessment of the potential for economic co-operation between Wales and south-west England? OAQ(4)1915(FM)
13:59 - Carwyn Jones
Yes. I understand that the Cardiff capital region board is continuing to consider appropriate opportunities to build linkages beyond the Cardiff capital region, and that would inevitably mean not just looking west but looking east across the Severn, as well. Gwnaf. Rwy’n deall bod bwrdd rhanbarth prifddinas Caerdydd yn parhau i ystyried cyfleoedd priodol i feithrin cysylltiadau y tu hwnt i'r rhanbarth prifddinas Caerdydd, ac mae’n anochel y byddai hynny nid yn unig yn golygu edrych tua'r gorllewin ond tua'r dwyrain ar draws Afon Hafren hefyd.
13:59 - Mick Antoniw
Thank you for that answer, First Minister. There are already significant academic, economic, transport and energy links between Wales and the south-west. Do you agree with me that, should there be devolution to the regions of England, this would open the door to tremendous new opportunities for joint economic and social co-operation? Diolch ichi am yr ateb yna, Brif Weinidog.  Ceir cysylltiadau academaidd, economaidd, trafnidiaeth ac ynni sylweddol rhwng Cymru a de-orllewin Lloegr eisoes. A ydych chi’n cytuno â mi, pe byddai datganoli i ranbarthau Lloegr, y byddai hyn yn agor y drws i gyfleoedd newydd gwych ar gyfer cydweithrediad economaidd a chymdeithasol?
13:59 - Carwyn Jones
It might well do that. At the moment, it is difficult to do it, of course. The English authorities are smaller and have far fewer powers. There are some exceptions, with Manchester, of course, being one cluster of authorities where they have worked very well together. Therefore, it may well be that if there were to be, for example, regional devolution in England, those linkages could be strengthened. Nevertheless, there are examples of co-operation between Cardiff and Bristol. For example, Cardiff and Bristol airports have worked together in terms of working to develop plans for hosting big sporting events in the future with the understanding, of course, that both airports are well able to bring in the crowds. Efallai’n wir y byddai’n gwneud hynny. Ar hyn o bryd, mae'n anodd ei wneud, wrth gwrs. Mae awdurdodau Lloegr yn llai ac mae ganddynt lawer llai o bwerau. Ceir rhai eithriadau, gyda Manceinion, wrth gwrs, yn un clwstwr o awdurdodau lle maent wedi gweithio'n dda iawn gyda'i gilydd. Mae'n ddigon posibl felly, pe byddai, er enghraifft, datganoli rhanbarthol yn Lloegr, y gellid cryfhau’r cysylltiadau hynny. Serch hynny, ceir enghreifftiau o gydweithio rhwng Caerdydd a Bryste. Er enghraifft, mae meysydd awyr Caerdydd a Bryste wedi gweithio gyda'i gilydd o ran gweithio i ddatblygu cynlluniau ar gyfer cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yn y dyfodol gyda'r ddealltwriaeth, wrth gwrs, bod y ddau faes awyr yn gallu dod â’r torfeydd i mewn.
14:00 - Byron Davies
First Minister, leading on from that, I am sure that you have been briefed on, or perhaps read, the remarks of the Bristol mayor, George Ferguson, about Cardiff and the Bristol regions needing to work together. The mayor suggested the creation of a Severn region to provide a strong lobbying voice and critical mass to secure investment. Will you outline your Government’s position on cross-border co-operation and specifically whether you support the Severn region in principle? Brif Weinidog, yn arwain ymlaen o hynny, rwy’n siŵr eich bod wedi cael eich briffio ar, neu efallai wedi darllen, sylwadau maer Bryste, George Ferguson, am yr angen i ranbarthau Caerdydd a Bryste weithio gyda'i gilydd. Awgrymodd y maer y dylid creu rhanbarth Hafren i gynnig llais lobïo cryf a màs critigol i sicrhau buddsoddiad. A wnewch chi amlinellu safbwynt eich Llywodraeth ar gydweithrediad trawsffiniol ac, yn benodol, a ydych chi’n cefnogi rhanbarth Hafren mewn egwyddor?
14:01 - Carwyn Jones
We have done it, of course, in the north-east, with the linkages with Merseyside. That is something that we accept. The economic region in any set of countries goes beyond mere political boundaries. That much is true. We look to work with our neighbours across the border whenever we can. It is quite difficult, of course, because there is no equivalent body, certainly in the south-west of England, that we can work with. There is a putative body in the north-west of England. That much is true. It would certainly be more useful, from our point of view, if we were able to work with a cluster of authorities but, of course, we will work with authorities such as Bristol, where we can, for the mutual benefit of both. Rydym ni wedi gwneud hynny, wrth gwrs, yn y gogledd-ddwyrain, gyda'r cysylltiadau â Glannau Merswy. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n ei dderbyn. Mae'r rhanbarth economaidd mewn unrhyw wledydd yn mynd y tu hwnt i ffiniau gwleidyddol yn unig. Mae cymaint â hynny'n wir. Ein nod yw gweithio gyda'n cymdogion dros y ffin pryd bynnag y gallwn. Mae'n eithaf anodd, wrth gwrs, oherwydd nad oes corff cyfatebol, yn sicr yn ne-orllewin Lloegr, y gallwn weithio ag ef. Ceir corff tybiedig yng ngogledd-orllewin Lloegr. Mae hynny'n wir. Byddai'n sicr yn fwy defnyddiol, o'n safbwynt ni, pe byddem yn gallu gweithio gyda chlwstwr o awdurdodau, ond, wrth gwrs, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau fel Bryste, pryd y gallwn, er budd y ddwy ochr.
14:01 - Rhun ap Iorwerth
Does the First Minister agree that the Severn bridge tolls is a tax on Welsh businesses, that it should be devolved to Welsh Government, and that Plaid Cymru’s proposal to cut the toll to £2 for cars, with a corresponding cut for commercial vehicles, would be an important step towards levelling the playing field between businesses in Wales and the south-west of England? A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod tollau afon Hafren yn dreth ar fusnesau yng Nghymru, y dylid eu datganoli i Lywodraeth Cymru, ac y byddai cynnig Plaid Cymru i ostwng y doll i £2 i geir, gyda thoriad cyfatebol ar gyfer cerbydau masnachol, yn gam pwysig tuag at sicrhau tegwch i fusnesau yng Nghymru a de-orllewin Lloegr?
14:02 - Carwyn Jones
Yes, I do, very much so. Indeed, the Member will know that, some months ago, we declared very publicly that we believed that the toll should be in the hands of the Welsh Government. We believe that we could reduce the tolls. At the same time, of course, it was important to raise enough money for the maintenance of the bridges—not just the one bridge, but the two bridges as they come together. Of course, at the time, the view of the Department for Transport was that it would control the tolls, the level of the tolls, and that all of the income from the tolls would be spent on roads in England. As the Member can imagine, this was not something that found favour with us as a Government. It is important that the money that those tolls raise is applied to the maintenance of the bridges and, of course, that we are able to look at reducing the tolls in order to reduce the burden on Welsh business. He is quite right that, when the tolls come back to public ownership, it is absolutely essential that it does not come back to the public ownership solely of Whitehall. Ydw, mi ydwyf, yn sicr felly. Yn wir, bydd yr Aelod yn gwybod, rai misoedd yn ôl, ein bod wedi datgan yn gyhoeddus iawn ein bod yn credu y dylai'r doll fod yn nwylo Llywodraeth Cymru. Rydym yn credu y gallem ni leihau'r tollau. Ar yr un pryd, wrth gwrs, roedd yn bwysig codi digon o arian i gynnal a chadw'r pontydd—nid dim ond yr un bont, ond y ddwy bont gan eu bod yn dod gyda’i gilydd. Wrth gwrs, ar y pryd, barn yr Adran Drafnidiaeth oedd y byddai'n rheoli'r tollau, lefel y tollau, ac y byddai’r holl incwm o'r tollau yn cael ei wario ar ffyrdd yn Lloegr. Fel y gall yr Aelod ddychmygu, nid oedd hyn yn rhywbeth a gefnogwyd gennym ni fel Llywodraeth. Mae'n bwysig bod yr arian y mae’r tollau hyn yn ei godi yn cael ei ddefnyddio i gynnal a chadw'r pontydd ac, wrth gwrs, ein bod yn gallu ystyried lleihau'r tollau er mwyn lleihau'r baich ar fusnesau Cymru. Mae'n hollol iawn, pan fydd y tollau yn dod yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus, ei bod yn gwbl hanfodol nad yw'n dod yn ôl i berchenogaeth gyhoeddus Whitehall yn unig.
14:02 - Eluned Parrott
I thank Rhun ap Iorwerth for raising the issue of the tolls, although I am disappointed that he wants to cut it to only four times the cost of maintenance. According to a Welsh Government report published in November 2012, scrapping the tolls altogether would boost the Welsh economy by £107 million a year, and the operating costs of the bridges are just £12 million a year, including the cost of collecting the tolls themselves. So, with the likely return on the investment of 9:1, would you not agree that scrapping the Severn bridge tolls altogether would be a cost-effective way to boost the Welsh economy if the control over the bridges were devolved? Hoffwn ddiolch i Rhun ap Iorwerth am godi mater y tollau, er fy mod wedi fy siomi ei fod eisiau eu torri i ddim ond pedair gwaith y gost o gynnal a chadw. Yn ôl adroddiad gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2012, byddai dileu'r tollau yn gyfan gwbl yn rhoi hwb o £107 miliwn y flwyddyn i economi Cymru, a dim ond £12 miliwn y flwyddyn yw costau gweithredu’r pontydd, gan gynnwys y gost o gasglu'r tollau eu hunain . Felly, gyda dychweliad tebygol ar y buddsoddiad o 9:1, oni fyddech yn cytuno y byddai cael gwared ar dollau afon Hafren yn gyfan gwbl yn ffordd gost-effeithiol o hybu economi Cymru pe byddai rheolaeth dros y pontydd yn cael ei datganoli?
14:03 - Carwyn Jones
I have to say to the Member that the Department for Transport has produced wildly varying estimates on the maintenance costs of the bridge—£12 million, I have seen £20 million, and I have seen higher than that. The first thing that we would have to do is establish what the true cost is of the maintenance of the two bridges, and then of course take a sensible decision as to what is affordable, what we can offer to Welsh businesses while, at the same time, not taking on board a significant liability, which, at this present time, would be difficult for us to afford. First, there needs to be an understanding of what the true cost of maintenance of the bridges actually is. They will need to be surveyed to make sure that, structurally, the bridges were sound and then, of course, an assessment can be made of what the level of the tolls should be. Mae’n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod bod yr Adran Drafnidiaeth wedi cynhyrchu amcangyfrifon a oedd yn amrywio’n enfawr o ran costau cynnal a chadw’r bont—£12 miliwn, rwyf wedi gweld £20 miliwn, ac rwyf wedi gweld mwy na hynny. Y peth cyntaf y byddai'n rhaid i ni ei wneud fyddai darganfod beth yw gwir gost cynnal a chadw’r ddwy bont, ac yna wrth gwrs gwneud penderfyniad synhwyrol ynghylch yr hyn sy'n fforddiadwy, yr hyn y gallwn ei gynnig i fusnesau Cymru gan, ar yr un pryd, beidio â chymryd cyfrifoldeb am rwymedigaeth sylweddol, a fyddai, ar hyn o bryd, yn anodd i ni ei fforddio. Yn gyntaf, mae angen dealltwriaeth o beth yw gwir gost cynnal a chadw'r pontydd mewn gwirionedd. Bydd angen iddynt gael eu harchwilio er mwyn gwneud yn siŵr, bod adeiledd y pontydd yn gadarn ac yna, wrth gwrs, gellir cynnal asesiad o ba lefel y dylai’r tollau fod.
Refferendwm yr Alban The Scottish Referendum
14:04 - John Griffiths
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau refferendwm yr Alban i Gymru? OAQ(4)1905(FM) 6. Will the First Minister make a statement on the implications for Wales of the Scottish referendum? OAQ(4)1905(FM)
14:04 - Carwyn Jones
‘Significant’ is the word that I would use to the Member. Of course, there is a motion before us at roughly 5 p.m. that deals with constitutional reform. It is absolutely crucial that the aspirations and views of all four nations within this union are met, with Wales playing its full part. 'Sylweddol' yw'r gair y byddwn yn ei ddefnyddio wrth yr Aelod. Wrth gwrs, ceir cynnig ger ein bron am tua 5 p.m. sy’n ymdrin â diwygio cyfansoddiadol. Mae'n gwbl hanfodol bod dyheadau a safbwyntiau pob un o’r pedair gwlad yn yr undeb hwn yn cael eu bodloni, gyda Chymru’n chwarae ei rhan yn llawn.
14:04 - John Griffiths
Will the First Minister also agree that an important part of the debate in Scotland was about fairness in terms of the distribution of political power, but also will in terms of socioeconomic factors and that, as the future of the UK is now to be determined, we need that fairness argument to be at the heart of the debate, and that is about new levers for the Welsh Government and new support from the UK Government to help build our economy. That also applies to Scotland, the north of England and other parts of England. If we do not have that fairness, the people of the UK are not going to value the UK and give it the support it needs in the future. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno hefyd mai rhan bwysig o'r ddadl yn yr Alban oedd tegwch o ran dosbarthiad grym gwleidyddol, ond hefyd ewyllys o ran ffactorau cymdeithasol-economaidd a, gan fod dyfodol y DU yn cael ei benderfynu nawr, bod arnom angen i’r ddadl degwch honno fod yn ganolog i’r ddadl, ac mae hynny'n ymwneud ag ysgogiadau newydd i Lywodraeth Cymru a chefnogaeth newydd gan Lywodraeth y DU i helpu i adeiladu ein heconomi. Mae hynny hefyd yn berthnasol i'r Alban, gogledd Lloegr a rhannau eraill o Loegr. Os nad ydym yn cael y tegwch hwnnw, nid yw pobl y DU yn mynd i werthfawrogi’r DU a rhoi’r gefnogaeth iddi y bydd ei hangen yn y dyfodol.
14:05 - Carwyn Jones
I entirely agree. The Member has raised before the issue of the UK Government needing to rebalance the UK economy. You will, of course, share my deep concern at the UK Government’s proposals to create redundancies in HMRC in the west of our nation, but what is absolutely crucial is that there is a new constitutional settlement, a new union for the UK, in order to make sure that it is sustained in the future. If that does not happen, then I have severe concerns about the future of the union. It must be understood in Whitehall that carrying on in the same old way is inadequate over the course of the next decade. We must have a constitutional settlement that is fair, settled and takes into account the views of all. Rwy’n cytuno’n llwyr. Mae'r Aelod wedi codi’r mater o’r blaen yr angen i Lywodraeth y DU ail-gydbwyso economi'r DU. Byddwch, wrth gwrs, yn rhannu fy mhryder dwfn am gynigion Llywodraeth y DU i ddileu swyddi yn CThEM yng ngorllewin ein gwlad, ond yr hyn sy'n gwbl hanfodol yw y ceir setliad cyfansoddiadol newydd, undeb newydd ar gyfer y DU, er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei gynnal yn y dyfodol. Os na fydd hynny'n digwydd, yna mae gennyf bryderon difrifol ynghylch dyfodol yr undeb. Mae’n rhaid i Whitehall ddeall na fydd parhau yn yr un hen ffordd yn ddigonol yn ystod y degawd nesaf. Mae’n rhaid i ni gael setliad cyfansoddiadol sy'n deg, yn sefydlog ac yn cymryd barn pawb i ystyriaeth.
14:06 - Nick Ramsay
First Minister, I wonder whether you could tell us what discussions you have had with the Office for Budget Responsibility about the enhanced role that it will be playing following the next Assembly election and in the wake of the Scottish referendum, with the tax powers that are going to come to Wales after that next election. In the case of stamp duty, for instance, it does not take a rocket scientist to work out that the forecast has to be exactly right or near enough, because that will then determine the amount by which the block grant is reduced. So, it is going to play an increasing role in Scotland. I wonder whether you could tell us what discussions you have had about its role here. Brif Weinidog, tybed a allech chi ddweud wrthym pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol am y swyddogaeth estynedig y bydd yn ei chyflawni yn dilyn etholiad nesaf y Cynulliad ac yn sgil refferendwm yr Alban, gyda'r pwerau trethi sy’n mynd i ddod i Gymru ar ôl yr etholiad nesaf hwnnw. Yn achos y dreth stamp, er enghraifft, nid oes angen gwyddonydd roced i sylweddoli bod yn rhaid i’r rhagolwg fod yn union gywir neu'n ddigon agos, gan y bydd hynny wedyn yn penderfynu ar y swm y mae'r grant bloc yn cael ei leihau. Felly, mae'n mynd i chwarae rhan gynyddol yn yr Alban. Tybed a allech chi ddweud wrthym pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael ynghylch ei swyddogaeth yma.
14:06 - Carwyn Jones
Yes. There have been discussions at official level with the OBR and, of course, we are looking to see what role the OBR could play as we accumulate tax-varying powers. It is absolutely crucial, as the Member says, that we are able to have a robust mechanism in place to assess and predict the tax take and a mechanism for ensuring that the methods that we use are robust. The OBR, of course, may well play a role in that regard. Gallaf. Bu trafodaethau ar lefel swyddogol gyda'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ac, wrth gwrs, rydym ni’n edrych i weld pa swyddogaeth y gallai'r Swyddfa ei chyflawni wrth i ni dderbyn pwerau amrywio trethi. Mae'n gwbl hanfodol, fel y dywed yr Aelod, ein bod yn gallu cael dull cadarn ar waith i asesu a rhagweld faint o dreth fydd yn cael ei chasglu a dull ar gyfer sicrhau bod y dulliau a ddefnyddiwn yn gadarn. Efallai’n wir y bydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, wrth gwrs, yn chwarae rhan yn hynny o beth.
14:07 - Alun Ffred Jones
Un canlyniad i’r refferendwm oedd addewid gan dri arweinydd y pleidiau Prydeinig na fyddai unrhyw newid i fformiwla Barnett, sy’n cloi Cymru i mewn i danariannu, fel yr ydych chi eich hun wedi dweud lawer gwaith. Dyna safbwynt UKIP hefyd, hyd y gwelaf. A fuoch chi’n rhan o unrhyw drafodaethau cyn i’r datganiad hwnnw gael ei wneud? One outcome of the referendum was the vow by three UK political leaders that there would be no change to the Barnett formula, which locks Wales into underfunding, as you have said many times. That is the position of UKIP also, as far as I can see. Were you part of any discussions before that declaration was made?
14:07 - Carwyn Jones
Na, nid oeddwn. Ni fu imi siarad â’r Prif Weinidog na’r Dirprwy Brif Weinidog. Fe wnes i siarad ag Ed Miliband; mae hynny’n wir. Roedd yn rhywbeth a gafodd ei wneud mewn rhyw fath o banig, wrth gofio beth roedd y polau barn yn dweud yn yr Alban ar y pryd. ’Nawr, wrth gwrs, nid oes neb yn gwybod cweit beth sy’n mynd i ddigwydd ar ddiwedd y mis, ond, yn fy marn i, yr hyn sy’n amlwg yw bod addewid wedi cael ei wneud i’r Alban, ac mae’n rhaid i’r addewid i’r Alban gael ei gadw. Nid yw hynny’n meddwl na ddylid cael setliad teg i Gymru. Dylai hynny symud ymlaen hefyd. Wrth gwrs, rydym wedi cael yr ymrwymiad hwnnw gan Ed Miliband er mwyn sicrhau hynny. No, I was not. I did not speak to the Prime Minister or the Deputy Prime Minister. I did speak to Ed Miliband; that much is true. It was something that was done in a slight panic, bearing in mind what the opinion polls were saying in Scotland at the time. Now, of course, no one knows quite what is going to happen at the end of the month, but, in my view, what is apparent is that that vow has been made to Scotland and, therefore, it has to be kept. That does not mean that there should not be a fair settlement for Wales. That should progress also. Of course, we have had that commitment by Ed Miliband in order to ensure that.
Absenoldeb o’r Ysgol School Absences
14:08 - Peter Black
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar absenoldeb o'r ysgol? OAQ(4)1906(FM) 7. Will the First Minister make a statement on Welsh Government policy on school absences? OAQ(4)1906(FM)
14:08 - Carwyn Jones
Of course, we all take absence from school seriously. There is strong evidence to show that it does affect adversely an individual learner’s attainment. For that reason, of course, attendance needs to remain a priority to ensure that children and young people are given the chance to achieve their potential. Wrth gwrs, rydym ni i gyd yn cymryd absenoldeb o'r ysgol o ddifrif. Ceir tystiolaeth gref sy’n dangos ei fod yn effeithio’n andwyol ar gyrhaeddiad dysgwyr unigol. Am y rheswm hwnnw, wrth gwrs, mae angen i bresenoldeb barhau i fod yn flaenoriaeth i sicrhau y rhoddir cyfle i blant a phobl ifanc gyflawni eu potensial.
14:08 - Peter Black
Thank you for that answer, First Minister. You will, of course, be aware of the advice of the Central South Consortium Joint Education Service, which covers part of my region and your constituency, that parents should be sending children to school when they are suffering from illnesses such as glandular fever and tonsillitis, as well as infectious conditions such as conjunctivitis, slapped cheek and hand, foot and mouth. Are you as concerned as I am, First Minister, at this advice being given out to parents, particularly when a parent contacted me today to say that, last week, when she kept her child home, the school truancy officer called around, but when she sent the child to school today, the school sent the child home because it was unable to administer antibiotics to them. How is this consortium accountable and how can it be scrutinised for these sorts of decisions, which seem to go against common sense for many parents? Diolch ichi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Byddwch, wrth gwrs, yn ymwybodol o gyngor Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canol De Cymru, sy’n cynnwys rhan o’m rhanbarth i a’ch etholaeth chi, y dylai rhieni fod yn anfon plant i'r ysgol pan eu bod yn dioddef o afiechydon fel twymyn y chwarennau a thonsilitis, yn ogystal â chyflyrau heintus fel llid pilen y llygad, clefyd y foch goch a chlefyd y dwylo, y traed a’r genau. A ydych chi mor bryderus â minnau, Brif Weinidog, am y cyngor hwn sy’n cael ei roi i rieni, yn enwedig pan gysylltodd rhiant â mi heddiw i ddweud, yr wythnos diwethaf, pan gadwodd ei phlentyn gartref, bod swyddog triwantiaeth yr ysgol wedi galw heibio, ond pan anfonodd y plentyn i'r ysgol heddiw, anfonodd yr ysgol y plentyn adref gan nad oedd yn gallu rhoi gwrthfiotigau iddo. Sut mae’r consortiwm hwn yn atebol a sut ellir craffu arno ar gyfer y mathau hyn o benderfyniadau, y mae’n ymddangos eu bod yn mynd yn groes i synnwyr cyffredin i lawer o rieni?
14:09 - Carwyn Jones
I am not aware of that, and I have two children, of course, who live within that consortium. I have not seen that advice myself. I am sure that I would have noticed it if I had. I will ensure that the Minister writes to the Member in order to provide clarification on this point. There does seem to be an element of confusion there in terms of what the advice is, and it is important that that advice is clarified. Nid wyf yn ymwybodol o hynny, ac mae gennyf ddau o blant, wrth gwrs, sy'n byw o fewn y consortiwm hwnnw. Nid wyf wedi gweld y cyngor hwnnw fy hun. Rwy’n siŵr y byddwn i wedi sylwi arno pe byddwn wedi ei weld. Byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog yn ysgrifennu at yr Aelod er mwyn rhoi eglurhad ar y pwynt hwn. Mae’n ymddangos bod elfen o ddryswch o ran beth yw’r cyngor, ac mae'n bwysig bod y cyngor hwnnw’n cael ei egluro.
14:09 - Mohammad Asghar
First Minister, absence from school remains persistently higher in our deprived communities, such as those in the south Wales Valleys and inner cities. What steps has his Government taken to discover and tackle the root causes of absenteeism in these particular communities in south Wales? Brif Weinidog, mae absenoldeb o'r ysgol yn parhau i fod yn gyson uwch yn ein cymunedau difreintiedig, fel y rhai yng nghymoedd a chanol dinasoedd y de. Pa gamau mae ei Lywodraeth wedi eu cymryd i ganfod a mynd i'r afael ag achosion sylfaenol absenoldeb yn y cymunedau penodol hyn yn ne Cymru?
14:10 - Carwyn Jones
The reasons for absenteeism can be many and varied. What is important is that we have provided money for many schools in our more deprived areas through Schools Challenge Cymru to help them address this and other issues. We expect that to have a beneficial effect in terms of seeing attendance rates increase. Gall y rhesymau am absenoldeb fod yn niferus ac yn amrywiol. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod wedi darparu arian ar gyfer nifer o ysgolion yn ein hardaloedd mwy difreintiedig drwy Her Ysgolion Cymru i'w helpu i fynd i'r afael â hyn a materion eraill. Rydym yn disgwyl i hynny gael effaith fuddiol o ran gweld cyfraddau presenoldeb yn cynyddu.
14:10 - Rhodri Glyn Thomas
Brif Weinidog, mae’r system fel ag y mae hi yn cynnig hyblygrwydd i brifathrawon i ganiatáu hyd at 10 diwrnod o absenoldeb. A ydych yn credu y dylai’r hawl a’r hyblygrwydd hwnnw aros gyda phrifathrawon? First Minister, the system as it stands offers flexibility to headteachers to grant up to 10 days of absence. Do you believe that that flexibility and right should remain with headteachers?
14:10 - Carwyn Jones
Nid oes dim rheswm, yn fy marn i, pam na ddylai hynny ddigwydd. Mae’n edrych fel petai prifathrawon yn defnyddio’r caniatâd hwn mewn ffordd synhwyrol. Felly, ar hyn o bryd, nid oes dim tystiolaeth, yn fy marn i, dros newid y system bresennol. I cannot see any reason why that should not be retained at the moment. It appears that headteachers are using that flexibility in a sensible way and, therefore, there is no evidence in my opinion, of a need to change the current system.
Yfed Alcohol Alcohol Consumption
14:10 - Sandy Mewies
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau faint o alcohol a gaiff ei yfed yng Nghymru? OAQ(4)1917(FM) 8. What action is the Welsh Government taking to reduce alcohol consumption in Wales? OAQ(4)1917(FM)
14:11 - Carwyn Jones
We have taken a wide range of measures and they are set out in ‘Working Together to Reduce Harm’, which is our strategy for reducing substance misuse. Rydym ni wedi cymryd amrywiaeth eang o fesurau ac fe’u nodir yn 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed', sef ein strategaeth ar gyfer lleihau achosion o gamddefnyddio sylweddau.
14:11 - Sandy Mewies
According to Public Health Wales, alcohol is responsible for around one in 20 of all deaths in Wales, which is 29 a week, and a higher proportion of children in Wales aged 11 to 16 are drinking alcohol than in England or Scotland. The public health White Paper has consulted on minimum unit pricing for alcohol. As you know, this has been widely supported. Given the consensus of many people agreeing with this action, when can we see such a move being introduced as a step towards tackling the problem? Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae alcohol yn gyfrifol am tua un o bob 20 o'r holl farwolaethau yng Nghymru, sy’n 29 yr wythnos, ac mae cyfran uwch o blant 11 i 16 oed yn yfed alcohol yng Nghymru nag sy’n gwneud hynny yn Lloegr na’r Alban. Mae’r Papur Gwyn iechyd y cyhoedd wedi ymgynghori ar isafswm pris uned ar gyfer alcohol. Fel y gwyddoch, mae hyn wedi cael cefnogaeth eang. O ystyried consensws llawer o bobl sy’n cytuno â'r cam hwn, pryd allwn ni weld cam o'r fath yn cael ei gyflwyno fel cam tuag at fynd i'r afael â'r broblem?
14:11 - Carwyn Jones
The Government’s view is that minimum unit pricing is something we should move forward with. However, it is now in the European Court of Justice, or the European Court of First Instance if I remember rightly, because of a challenge to the Scottish Government’s proposals from the Scotch Whisky Association and others. We now wait to see what the outcome of that judgment will be, because, obviously, it will have a direct effect on what we might want to do in Wales. The matter is now, dare I say it, in the hands of the lawyers. Barn y Llywodraeth yw bod isafswm pris uned yn rhywbeth y dylem fwrw ymlaen ag ef. Fodd bynnag, mae bellach yn Llys Cyfiawnder Ewrop, neu Lys Ewropeaidd y Gwrandawiad Cyntaf os cofiaf yn iawn, oherwydd her i gynigion Llywodraeth yr Alban gan y Gymdeithas Scotch Whisky ac eraill. Rydym yn disgwyl nawr i weld beth fydd canlyniad y dyfarniad hwnnw, oherwydd, yn amlwg, bydd yn cael effaith uniongyrchol ar yr hyn y gallem ni fod eisiau ei wneud yng Nghymru. Mae'r mater bellach, os meiddiaf ddweud hynny, yn nwylo’r cyfreithwyr.
14:12 - Mark Isherwood
Price, of course, is linked to supply, but it is the causes of demand that need to be addressed if we are to nip this in the bud and tackle the horrendous figures we have just heard referred to. In March, the European Court of Auditors, after expressing concerns about the Welsh Government’s audit of the substance misuse peer mentoring scheme in Wales, prematurely ended the scheme. Can you provide an update on the Welsh Government’s support, utilising the European money for peer mentoring, as we go forward? Mae pris, wrth gwrs, yn gysylltiedig â chyflenwad, ond yr achosion am y galw y mae angen rhoi sylw iddynt os ydym ni am ladd hyn yn yr egin, a mynd i'r afael â'r ffigurau erchyll yr ydym ni newydd glywed cyfeiriad atynt. Ym mis Mawrth, ar ôl mynegi pryderon am archwiliad Llywodraeth Cymru o'r cynllun mentora cymheiriaid camddefnyddio sylweddau yng Nghymru, daeth Llys Archwilwyr Ewrop â’r cynllun i ben yn gynnar. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio arian Ewropeaidd ar gyfer mentora cymheiriaid, wrth i ni symud ymlaen?
14:12 - Carwyn Jones
What I can say to the Member is that we have a number of schemes in place: the Change4Life alcohol programme; the Have A Word brief interventions programme; the delivery of the Strengthening Families programme; and, of course, our Healthy Working Wales programme. In addition, our all-Wales schools liaison core programme operates in 99% of primary and secondary schools in Wales, which includes advice for children and young people about alcohol misuse. We are working to develop a guide to provide parents with some top tips on how to discuss the dangers of alcohol with their children. In the meantime, Public Health Wales has also been asked to consider the processes in place to review alcohol-related deaths, with a view to improving prevention and response. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw bod gennym nifer o gynlluniau ar waith: y rhaglen alcohol Newid am Oes; y rhaglen ymyraethau byr Mynnwch Air; darpariaeth y rhaglen Cryfhau Teuluoedd; ac, wrth gwrs, ein rhaglen Cymru Iach ar Waith. Hefyd, mae ein rhaglen graidd cyswllt ysgolion Cymru gyfan ar waith mewn 99% o ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru, sy'n cynnwys cyngor i blant a phobl ifanc ar gamddefnyddio alcohol. Rydym ni’n gweithio i ddatblygu canllaw i roi rhywfaint o gyngor i rieni ar sut i drafod peryglon alcohol gyda'u plant. Yn y cyfamser, gofynnwyd hefyd i Iechyd Cyhoeddus Cymru ystyried y prosesau sydd ar waith i adolygu marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol, gyda'r nod o wella prosesau atal ac ymateb.
Diogelu’r Gymraeg (y Bil Cynllunio) Safeguarding the Welsh Language (the Planning Bil)
14:13 - Aled Roberts
9. Pa drafodaethau a gafodd y Prif Weinidog ynghylch camau i ddiogelu'r iaith Gymraeg yn y Bil Cynllunio? OAQ(4)1912(FM) 9. What discussions did the First Minister have regarding steps to safeguard the Welsh language in the Planning Bill? OAQ(4)1912(FM)
14:13 - Carwyn Jones
Rwyf wedi cynnal nifer o drafodaethau defnyddiol gydag amryw randdeiliaid ar y mater hwn. I have had a number of helpful discussions with a variety of stakeholders on this issue.
14:13 - Aled Roberts
Brif Weinidog, fe wnaethoch chi addo ystyried pob cam ymarferol ar gyfer atgyfnerthu’r Gymraeg yn y system gynllunio. Pa opsiynau gafodd eu hystyried? A ydych yn barod i gyhoeddi copi o’r opsiynau a ystyriwyd gan yr adran gynllunio? First Minister, you promised to consider every practical step in order to strengthen the position of the Welsh language within the planning system. Which options were therefore considered, and would you be willing to publish a copy of the options considered by the planning department?
14:14 - Carwyn Jones
Yr hyn rydym wedi’i ddweud yw ein bod yn barod i ystyried unrhyw syniadau sy’n dod oddi wrth gyrff eraill hefyd. Rwyf wedi bod yn siarad, er enghraifft, â Dyfodol i’r Iaith, ac roedd syniadau diddorol gan y mudiad. Mae’n rhaid inni ystyried beth sy’n ymarferol a beth ddylid ei roi mewn Bil ac nid mewn canllawiau, sy’n rhywbeth hynod o bwysig yn y system gynllunio. Mae’r gwahoddiad hwnnw yn dal i fod yno, ac rydym yn dal i siarad â Dyfodol i’r Iaith ynglŷn â rhai o’r pethau y mae wedi sôn amdanynt. What we have said is that we are willing to consider any ideas put forward by other organisations. I have been in discussions with, for example, Dyfodol i’r Iaith, and some interesting ideas emerged from those discussions. We have to consider what is practical and what should be placed within a Bill rather than within guidance, which is crucially important in the planning system. That invitation remains open, and we continue to discuss with Dyfodol i’r Iaith some of the issues that it put forward.
14:14 - Paul Davies
Brif Weinidog, allwch chi ddweud wrthym ba gymorth y mae Llywodraeth Cymru’n ei gynnig i awdurdodau lleol i’w helpu i ddadansoddi’r wybodaeth y maent yn ei chasglu ar yr iaith Gymraeg? I ba raddau y mae’r iaith Gymraeg yn cael ei hystyried yn y ffordd y mae tir yn cael ei ddefnyddio yn y system gynllunio? First Minister, can you tell us what assistance the Welsh Government is offering local authorities to assist them in analysing the data that they collect on the Welsh language? To what extent is the Welsh language considered in the way in which land is used within the planning system?
14:14 - Carwyn Jones
Ynglŷn â thir, mae’n bosibl, wrth gwrs, i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn gwneud asesiad ynglŷn â’r iaith wrth ystyried y cynllun datblygu lleol ei hunan, ac mae’n bwysig dros ben eu bod yn ystyried ym mha ffordd, y tu fas i’r system gynllunio, y maent yn hybu’r iaith. Rwy’n sôn am gomisiwn sir Gâr—comisiwn a oedd yn drawsbleidiol, nad yw, o gofio hanes sir Gâr, yn rhywbeth sydd wastad wedi bod yn rhwydd iawn. Mae’r comisiwn wedi rhoi argymhellion o flaen Cyngor Sir Gâr er mwyn cryfhau’r iaith mewn ardal sy’n hollbwysig i ddyfodol yr iaith. Mae canllawiau ar gael yn y system gynllunio, felly rydym yn barod i ystyried unrhyw beth a all gryfhau'r system er lles y Gymraeg ac rydym wedi helpu llywodraeth leol i ddeall pa mor bwysig yw’r Gymraeg; i fod yn deg ag awdurdodau lleol, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gwybod hynny. Rydym wedi sicrhau, er enghraifft, fod cynlluniau yn eu lle ynglŷn â’r ddarpariaeth yn y Gymraeg yn y system addysg ym mhob awdurdod lleol. In terms of land, it is possible, of course, for local authorities to ensure that they carry out a Welsh-language assessment when they consider the local development plan itself, and it is very important that they consider how, outwith the planning system, they promote the language. I am talking about the Carmarthenshire commission—it was cross-party, which, given the history of Carmarthenshire, is something that has not always been very easy. The commission has put recommendations before Carmarthenshire County Council to strengthen the language in an area that is crucial to the future of the language. There is guidance in the planning system, so we are prepared to consider anything that can strengthen the system for the benefit of the Welsh language and we have helped local authorities understand the importance of the Welsh language; to be fair to local authorities, most of them know it. We have ensured, for example, that schemes are in place concerning Welsh-language provision in the education system in all local authorities.
14:16 - Llyr Gruffydd
Mae ymgyrch gan Lywodraeth Cymru—ymgyrch glodwiw iawn—i wneud y pethau bychain dros y Gymraeg, ond, wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig bod y Llywodraeth yn cael y pethau mawr yn iawn. Mae cyfle yn y Bil Cynllunio (Cymru) i roi datganiad cwbl glir gan y Llywodraeth hon am le’r Gymraeg o fewn y drefn bresennol. Ni allwch edrych arnaf i a dweud, rwy’n siŵr, eich bod yn hapus gyda sefyllfa’r Gymraeg o fewn y drefn gynllunio fel ag y mae hi—os ydych chi, dywedwch hynny; os ddim, dywedwch wrthym beth yr ydych yn mynd i’w wneud. There is a Welsh Government campaign—a very laudable campaign—to do the little things for the Welsh language, but, of course, it is also important that the Government gets the big things right. There is an opportunity in the Planning (Wales) Bill for this Government to provide a clear statement about the Welsh language’s place in the current system. I am sure that you cannot look me in the eye and say that you are happy with the current position of the Welsh language in the planning system—if you can, say so; if not, tell us what you are going to do.
14:16 - Carwyn Jones
Ar hyn o bryd, mae’n anodd gweld ym mha ffordd y gall y Bil ei hun gryfhau’r Gymraeg. Nid yw hynny’n golygu bod y drws ar gau, felly, ond nid yw datganiad yn golygu dim byd. Mae’n rhaid sicrhau bod datganiad yn cael ei ystyried mewn ffordd ymarferol hefyd. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw un wedi dangos i mi bod ffordd o gael rôl i’r Gymraeg yn y Bil mewn ffordd sy’n ymarferol i’r iaith; dyna beth, felly, fydd yn rhaid inni ei ystyried yn y dyfodol. Wrth ddweud hynny, nid ydym yn meddwl bod y system gynllunio yn ffordd o achub yr iaith, os allai ddefnyddio’r geiriau hynny, ar ei phen ei hun. At the moment, it is difficult to see how the Bill itself can strengthen the Welsh language. That does not mean that the door is closed, therefore, but a statement would be meaningless. We have to ensure that a statement is meaningful in a practical sense, too. To date, no-one has shown me that there is any way of providing a role for the Welsh language in the Bill that is of practical benefit to the language; that is what, therefore, we will have to consider for the future. In saying that, we do not think that the planning system is a means of saving the language, if I can use those words, on its own.
Rydym yn gwybod—mae’n rhaid imi ddweud hyn—mai un o’r problemau yw bod pobl yn symud i mewn i dai sydd yn barod yno nad ydynt yn siarad Cymraeg. Sut, felly, mae sicrhau eu bod yn cael eu trochi yn yr iaith—yn enwedig eu plant? Rydym yn gwybod bod hynny wedi gweithio yng Ngwynedd, a gobeithio, wrth gwrs, y byddwn yn gweld canlyniadau da yng Ngheredigion. Mae’n bwysig dros ben bod awdurdodau eraill yng Nghymru yn ystyried yr un broses. Fodd bynnag, nid yw’r system gynllunio yn mynd i ddelio â’r broblem o Gymry Cymraeg yn marw neu’n symud mas a phobl ddi-Gymraeg yn symud mewn; mae’n rhaid ffeindio ffyrdd eraill i sicrhau bod y bobl hynny yn gallu chwarae rhan sylweddol ddwyieithog yn eu cymunedau newydd. We know—I have to say this—that one of the problems is that people who do not speak Welsh are moving into houses that already exist. How do you then ensure that they—and particularly their children—are immersed in the language? We know that that has worked in Gwynedd, and we hope, of course, to see good outcomes in Ceredigion. It is very important that other authorities in Wales consider the same process. However, the planning system cannot deal with the problem of Welsh speakers either dying or moving out and non-Welsh-speakers moving in; we must find other ways of ensuring that those people are able to play a significant bilingual part in their new communities.
14:17 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Thank you, First Minister. Diolch yn fawr, Brif Weinidog.
Business Statement and Announcement Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
I call on the Minister for Finance and Government Business, Jane Hutt. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt.
14:18 - Jane Hutt
I have one change to report to this week’s business: the debate on the legislative consent motion on the Small Business, Enterprise and Employment Bill has been postponed. Business for the next three weeks is as shown on the business statement and announcement, which can be found among the agenda papers available to Members electronically. Mae gennyf un newid i'w adrodd i fusnes yr wythnos hon: gohiriwyd y ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymhlith papurau'r agenda sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
14:18 - Andrew R.T. Davies
Leader of the house, is it possible to have two statements, please? The first is from the Minister for Economy, Science and Transport about the budget line that has £3 million in it for route development out of Cardiff Airport. Obviously, everyone will be familiar with the news that Citywing reduced its services last week when it cancelled the Glasgow flight. I would be very interested, as one of the local Members, to know exactly how this £3 million is going to be used to the best effect to attract new airlines to the airport, given the disappointing news that came last week in relation to Citywing’s operations from that airport. Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael dau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Mae’r cyntaf gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth am y llinell gyllideb sydd â £3 miliwn ynddi ar gyfer datblygu’r llwybr allan o Faes Awyr Caerdydd. Yn amlwg, bydd pawb yn gyfarwydd â'r newyddion bod Citywing wedi lleihau ei wasanaethau yr wythnos diwethaf pan ganslodd y llwybr i Glasgow. Byddai gennyf ddiddordeb mawr, fel un o'r Aelodau lleol, mewn cael gwybod yn union sut mae’r £3 miliwn hwn yn mynd i gael ei ddefnyddio yn y ffordd orau i ddenu cwmnïau hedfan newydd i'r maes awyr, o ystyried y newyddion siomedig a ddaeth yr wythnos diwethaf o ran gweithrediadau Citywing o'r maes awyr hwnnw.
The second statement is from the Minister for Health and Social Services in relation to community health councils. Time and again, I am surprised when constituents come to me about health, by how little they understand that community health councils are there to help them and advocate on their behalf. I would be grateful for a statement from the Minister for health as to what he expects them to be undertaking in the role of promoting themselves and making themselves accessible to patients, and people with an interest in health, as the local source of advocacy in a particular health board area. Mae’r ail ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o ran cynghorau iechyd cymuned. Dro ar ôl tro, rwy’n cael fy synnu pan fydd etholwyr yn dod ataf ynglŷn ag iechyd, gan gyn lleied y maen nhw’n ddeall bod cynghorau iechyd cymuned yno i'w helpu ac eirioli ar eu rhan. Byddwn yn ddiolchgar am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch yr hyn y mae'n disgwyl iddyn nhw ei wneud yn y swyddogaeth o hyrwyddo eu hunain a gwneud eu hunain yn hygyrch i gleifion, a phobl sydd â buddiant mewn iechyd, fel y ffynhonnell leol o eiriolaeth mewn ardal bwrdd iechyd penodol.
14:19 - Jane Hutt
I thank Andrew R.T. Davies for his questions. I am clear that the Member is supportive of the way in which the Welsh Government is responding to the need to ensure that connectivity, progress and prospects for our airport—Cardiff Airport—are progressing appropriately. Of course, this is a matter for the company now managing the airport, and I am sure that this will be taken forward appropriately in terms of route development. Diolchaf i Andrew R.T. Davies am ei gwestiynau. Rwy’n eglur bod yr Aelod yn gefnogol i'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r angen i sicrhau bod cysylltedd, cynnydd a rhagolygon ar gyfer ein maes awyr—Maes Awyr Caerdydd—yn dod yn eu blaenau yn briodol. Wrth gwrs, mater i’r cwmni sy’n rheoli’r maes awyr erbyn hyn yw hwn, ac rwy’n siŵr y bydd hyn yn cael ei ddwyn ymlaen yn briodol o ran datblygu llwybrau.
On your second point, on community health councils, this is the voice for patients, and the Minister for Health and Social Services is clear about their remit and responsibilities. I am sure that the Minister notes the points that have been made today. O ran eich ail bwynt, ar gynghorau iechyd cymuned, dyma'r llais i gleifion, ac mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn eglur am eu cylch gwaith a'u cyfrifoldebau. Rwy’n siŵr bod y Gweinidog yn nodi’r pwyntiau a wnaethpwyd heddiw.
14:20 - Mike Hedges
As someone who strongly supports Communities First, I highlighted its success in my constituency in an Institute of Welsh Affairs blog yesterday. I would like to ask for a statement highlighting the success of Communities First since its reorganisation into clusters. Fel rhywun sy'n cefnogi Cymunedau yn Gyntaf yn gryf, tynnais sylw at ei lwyddiant yn fy etholaeth mewn blog Sefydliad Materion Cymreig ddoe. Hoffwn ofyn am ddatganiad yn amlygu llwyddiant Cymunedau yn Gyntaf ers iddo gael ei ad-drefnu’n glystyrau.
14:20 - Jane Hutt
I thank Mike Hedges for that. Clearly, there was a purpose behind moving the Communities First areas into clusters. The results of those clusters are bearing out, in terms of a much more strategic role, particularly in relation to those areas of dedicated learning, healthy and prosperous communities, and, indeed, in terms of the outcomes for employment-related opportunities, particularly for young people and those people who are not in employment to enter into training and employment. Evaluation of the programme is taking place, and the Minister will report in due course. Diolch i Mike Hedges am hynna. Yn amlwg, roedd pwrpas y tu ôl i symud yr ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn glystyrau. Mae canlyniadau'r clystyrau hynny’n dod i’r amlwg, o ran swyddogaeth lawer mwy strategol, yn enwedig o ran y meysydd hynny o ddysgu pwrpasol, cymunedau iach a ffyniannus, ac, yn wir, o ran y canlyniadau ar gyfer cyfleoedd sy'n gysylltiedig â chyflogaeth, yn enwedig i bobl ifanc a'r bobl hynny nad ydynt mewn cyflogaeth i fynd i mewn i hyfforddiant a chyflogaeth. Mae gwerthusiad o'r rhaglen yn cael ei gynnal, a bydd y Gweinidog yn adrodd maes o law. 
14:21 - Kirsty Williams
Minister, could you ask the Minister for transport to provide an update on her work with regard to road safety? She has previously met with constituents of mine who expressed their concerns about road safety issues on the A40. She has sent officials to look at hotspots on the A40 and the A470. Unfortunately, on the weekend, we saw another accident at Crickhowell, which has left somebody in a critical condition. If she could provide an update to constituents about what steps she is taking to improve safety on the A40, we would be most grateful to receive it. Weinidog, a allech chi ofyn i'r Gweinidog trafnidiaeth ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ei gwaith o ran diogelwch ar y ffyrdd? Mae hi wedi cyfarfod gyda rhai o fy etholwyr i yn y gorffennol, a fynegodd eu pryderon am faterion diogelwch ar y ffyrdd ar yr A40. Mae hi wedi anfon swyddogion i edrych ar fannau sy’n peri problemau ar yr A40 a'r A470. Yn anffodus, ar y penwythnos, gwelsom ddamwain arall yng Nghrughywel, sydd wedi gadael rhywun mewn cyflwr difrifol. Pe gallai roi'r wybodaeth ddiweddaraf i etholwyr ynghylch pa gamau y mae'n eu cymryd i wella diogelwch ar yr A40, byddem yn ddiolchgar iawn o’i chael.
14:22 - Jane Hutt
I thank the Member for that question. It is a question of great concern to the Minister for transport, because, as a Government, we are committed to reducing casualties on our roads. The Minister for transport has asked officials to look at options to improve safety on a number of routes, and this latest very unfortunate accident that you mention will also be included in her review of those casualties and road safety. Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'n fater o bryder mawr i'r Gweinidog trafnidiaeth, oherwydd, fel Llywodraeth, rydym ni wedi ymrwymo i leihau nifer yr anafiadau ar ein ffyrdd. Mae’r Gweinidog trafnidiaeth wedi gofyn i swyddogion edrych ar ddewisiadau i wella diogelwch ar nifer o lwybrau, a bydd y ddamwain ddiweddaraf anffodus iawn hon yr ydych chi’n sôn amdani hefyd yn cael e chynnwys yn ei hadolygiad o’r anafiadau hynny a diogelwch ar y ffyrdd.
14:22 - Mark Isherwood
I call for two statements. The first is on the role and funding for Hospices Cymru, following the meeting of the cross-party group on hospices and palliative care, which I chaired in north Wales last Friday. It was attended by hospices from across the region and many others, including representatives of the health board and various care workers. We had a report on the impact of no-inflation-linked increase in funding from local health boards to Welsh hospices since 2010-11, through to 2014-15, which told us that the level of funding from health boards in Wales has remained static, with no inflationary increases added to the funding given to hospices. The data are showing that hospices throughout Wales are now £1.07 million worse off because of this over the last five years. A report was launched there by the north Wales hospices liaison group on the future of palliative care in north Wales, and it says that the lack of a coherent palliative care strategy for north Wales, based on a comprehensive needs assessment, is preventing service providers, including hospices, from planning effectively for the future. Hospices are part of the answer; they can enable our health service as a true design and delivery partner to deliver far better outcomes together. This demands a statement. Galwaf am ddau ddatganiad. Mae’r cyntaf ar swyddogaeth a chyllid ar gyfer Hosbisau Cymru, yn dilyn cyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol, a gadeiriwyd gennyf i yn y gogledd ddydd Gwener diwethaf. Roedd hosbisau o bob cwr o'r rhanbarth a llawer o bobl eraill, gan gynnwys cynrychiolwyr o’r bwrdd iechyd a gweithwyr gofal amrywiol yn bresennol. Cawsom adroddiad ar effaith cynnydd nad yw’n gysylltiedig â chwyddiant i gyllid gan fyrddau iechyd lleol i hosbisau Cymru ers 2010-11, hyd at 2014-15, a oedd yn dweud wrthym fod lefel y cyllid gan fyrddau iechyd yng Nghymru wedi aros yr un fath, heb unrhyw gynnydd yn unol â chwyddiant yn cael ei ychwanegu at y cyllid a roddir i hosbisau. Mae'r data’n dangos bod hosbisau ledled Cymru yn cael £1.07 miliwn yn llai o gyllid bellach oherwydd hyn dros y pum mlynedd diwethaf. Lansiwyd adroddiad yno gan grŵp cyswllt hosbisau gogledd Cymru ar ddyfodol gofal lliniarol yn y gogledd, ac mae'n dweud bod diffyg strategaeth gofal lliniarol gydlynol ar gyfer y gogledd, yn seiliedig ar asesiad cynhwysfawr o anghenion, yn atal darparwyr gwasanaeth, gan gynnwys hosbisau, rhag cynllunio’n effeithiol ar gyfer y dyfodol. Mae hosbisau’n rhan o'r ateb; gallant alluogi ein gwasanaeth iechyd fel partner cynllunio a darparu gwirioneddol i gyflawni canlyniadau llawer gwell gyda’i gilydd. Mae hyn yn mynnu datganiad. 
Finally, I ask for a statement subsequent to my request two weeks ago for a statement following the referendum in Flint in favour of reinstatement of NHS in-patient beds. You stated in response: Yn olaf, gofynnaf am ddatganiad yn dilyn fy nghais bythefnos yn ôl am ddatganiad yn dilyn y refferendwm yn y Fflint o blaid ailgyflwyno gwelyau cleifion mewnol y GIG. Dywedasoch fel ymateb:
‘That proposal on future services was not referred to any Welsh Minister by the community health council, which you acknowledge is the important patients’ voice in terms of health matters.’ 'Ni atgyfeiriwyd y cynnig hwnnw ar wasanaethau yn y dyfodol at unrhyw un o Weinidogion Cymru gan y cyngor iechyd cymuned, yr ydych chi’n ei gydnabod yw'r llais pwysig dros gleifion o ran materion iechyd.'
I, therefore, wrote to the community health council, which thanked me for passing on your response. It said that it congratulates the Flint campaigners on using a democratic referendum to so clearly articulate the views of many local people on this vital issue. It said that, since the hospital closure, progress in delivering the promises and changes have slipped considerably. It believes that the best answer to the concerns expressed by people in Flint is to deliver a primary healthcare resource centre that meets their needs and aspirations, and concluded that it has been increasingly concerned about the Minister’s letters in relation to its role in the Healthcare in North Wales is Changing consultation, and particularly— Ysgrifennais, felly, at y cyngor iechyd cymuned, a ddiolchodd i mi am rannu eich ymateb. Mae'n dweud ei fod yn llongyfarch ymgyrchwyr y Fflint ar ddefnyddio refferendwm democrataidd i fynegi mewn modd mor eglur barn llawer o bobl leol ar y mater hollbwysig hwn. Dywedodd, ers cau’r ysbyty, bod cynnydd o ran cyflawni'r addewidion a'r newidiadau wedi dirywio’n sylweddol. Mae o’r farn mai’r ateb gorau i'r pryderon a fynegwyd gan bobl yn y Fflint yw darparu canolfan adnoddau gofal iechyd sylfaenol sy'n diwallu eu hanghenion a'u dyheadau, a daeth i'r casgliad ei fod wedi bod yn gynyddol bryderus am lythyrau’r Gweinidog o ran ei swyddogaeth yn ymgynghoriad Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid, ac yn enwedig—
14:25 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Are you coming to the point? A ydych chi’n dod at y pwynt?
14:25 - Mark Isherwood
I will conclude with a half-sentence. Byddaf yn cloi gyda hanner brawddeg.
14:25 - Y Llywydd / The Presiding Officer
A half-sentence; okay, thank you. Hanner brawddeg; iawn, diolch.
14:25 - Mark Isherwood
[Continues.]—particularly the Minister’s own role and responsibility in setting out the policy and financial frameworks within which the health council and the health board have to operate. This is, therefore, a ministerial responsibility that debands a ministerial response. [Yn parhau.]—yn enwedig swyddogaeth a chyfrifoldeb y Gweinidog ei hun o ran cyflwyno’r polisi a’r fframweithiau ariannol y mae’n rhaid i’r cyngor iechyd a’r bwrdd iechyd weithredu’n unol â nhw. Mae hwn, felly, yn gyfrifoldeb gweinidogol sy'n gofyn am ymateb gweinidogol.
14:25 - Jane Hutt
I think that, on your first point, of course hospices play an important role in the delivery of end-of-life services and, of course, we recognise the valuable contribution that they provide. We would encourage hospices—I am sure that you, Mark Isherwood, would also encourage them to do so in north Wales particularly—to work constructively with the health boards to develop effective plans for end-of-life services. It is very important that this point is made: the funding of hospices in Wales cannot be compared with that of those in England. Hospices have access to a range of clinical and other support services provided by our health boards’ 24/7 specialist palliative care advice services. The value of the support is greater, much greater, than the grant figures alone. They are playing their part as part of the national health service here in Wales, and our funding formula is based on the needs assessment for the whole of Wales, ensuring access to medical and nursing staff, wherever an individual may live. I think that Mark Isherwood is well aware of that and I hope that he would also respect that in terms of his work and support for hospices in his constituency. I have nothing further to add to the points that I made in response to his questions on Flint, except to say that we look forward to the primary healthcare facilities that are going to be developed in that area. Rwy’n credu, o ran eich pwynt cyntaf, wrth gwrs bod hosbisau yn chwarae rhan bwysig yn y ddarpariaeth o wasanaethau diwedd oes ac, wrth gwrs, rydym yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr maen nhw’n ei wneud. Byddem yn annog hosbisau—rwy’n siŵr y byddech chi, Mark Isherwood, yn eu hannog i wneud hynny hefyd, yn enwedig yn y gogledd—i weithio'n adeiladol gyda'r byrddau iechyd i ddatblygu cynlluniau effeithiol ar gyfer gwasanaethau diwedd oes. Mae'n bwysig iawn bod y pwynt hwn yn cael ei wneud: ni ellir cymharu ariannu hosbisau yng Nghymru gydag ariannu’r rhai yn Lloegr. Mae gan hosbisau fynediad at amrywiaeth o wasanaethau clinigol a chymorth eraill a ddarperir gan wasanaethau cyngor gofal lliniarol arbenigol 24/7 ein byrddau iechyd. Mae gwerth y cymorth yn fwy, llawer mwy, na'r ffigurau grant ar eu pennau eu hunain. Maen nhw’n chwarae eu rhan yn rhan o'r gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru, ac mae ein fformiwla ariannu yn seiliedig ar yr asesiad o anghenion ar gyfer Cymru gyfan, gan sicrhau mynediad at staff meddygol a nyrsio, lle bynnag y bydd unigolyn yn byw. Rwy’n credu bod Mark Isherwood yn gwbl ymwybodol o hynny ac rwy’n gobeithio y byddai hefyd yn parchu hynny o ran ei waith a'i gefnogaeth i hosbisau yn ei etholaeth. Nid oes gennyf unrhyw beth arall i'w ychwanegu at y pwyntiau a wneuthum mewn ymateb i'w gwestiynau ar y Fflint, ac eithrio dweud ein bod yn edrych ymlaen at y cyfleusterau gofal iechyd sylfaenol sy’n mynd i gael eu datblygu yn yr ardal honno.
14:27 - Julie Morgan
Yesterday, I was very pleased to attend the Gypsy Roma Traveller symposium in the Pierhead, organised by Isaac Blake, where the speech by the Minister, Lesley Griffiths, was very well received. However, one of the points made in the discussion afterwards was that, although we have an excellent framework for Gypsies and Travellers, ‘Travelling to a Better Future’, it does not include Roma. Would it be possible for the Minister for Government business to arrange for a statement about policies for Roma in Wales? Ddoe, roeddwn i’n falch iawn o fod yn bresennol yn y symposiwm Sipsiwn Roma a Theithwyr yn y Pierhead, a drefnwyd gan Isaac Blake, lle cafodd yr araith gan y Gweinidog, Lesley Griffiths, dderbyniad da iawn. Fodd bynnag, un o'r pwyntiau a wnaed yn y drafodaeth wedyn oedd, er bod gennym fframwaith ardderchog ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, 'Teithio at Ddyfodol Gwell', nid yw'n cynnwys Roma. A fyddai'n bosibl i'r Gweinidog busnes y Llywodraeth drefnu datganiad ar bolisïau ar gyfer Roma yng Nghymru?
14:27 - Jane Hutt
I thank Julie Morgan for her question and also recognise her work and support for the cross-party group, which she set up and developed when she became the Assembly Member for Cardiff North, for Gypsies and Travellers. I know, of course, that the Minister is well aware of this issue and is looking at ways in which she can recognise more fully the Roma community—working, for example, with my officials in the Welsh European Funding Office, in terms of working with local authorities to explore the potential of utilising European funding to support Roma inclusion, and also looking at ways in which we can see a dedicated Roma strategy. The Minister is looking at that and is talking to officials about that, and I am sure that she will report back in due course. Diolchaf i Julie Morgan am ei chwestiwn ac rwyf hefyd yn cydnabod ei gwaith a’i chefnogaeth i’r grŵp trawsbleidiol, a sefydlwyd ac a ddatblygwyd ganddi hi pan ddaeth yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd, ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Rwy’n gwybod, wrth gwrs, bod y Gweinidog yn gwbl ymwybodol o'r mater hwn ac yn edrych ar ffyrdd y gall hi gydnabod y gymuned Roma yn llawnach—gan weithio, er enghraifft, gyda fy swyddogion yn Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, o ran gweithio gydag awdurdodau lleol i ymchwilio i'r potensial o ddefnyddio arian Ewropeaidd i gefnogi cynhwysiant Roma, ac i edrych hefyd ar ffyrdd y gallwn weld strategaeth Roma bwrpasol. Mae'r Gweinidog yn ystyried hynny ac yn siarad â swyddogion am hynny, ac rwy’n siŵr y bydd hi’n adrodd yn ôl maes o law.
14:28 - Antoinette Sandbach
Minister, I call for two statements. I know, just last week, we had a debate in the Chamber about the M4 that raised issues surrounding the A55. I have heard repeated assurances from Welsh Government that roadworks taking place on the A55 are scheduled to take place in the evening. That is clearly not happening at the moment. There are roadworks that are running for 24 hours—and it says so on the notice published in the ‘Daily Post’—from 19 October to 3 November. I have no doubt, Minister, that you are aware, as is the Minister for transport, that that is the half-term holiday in England and it covers the half-term holiday in Wales. At an important time for the tourism industry in north Wales, 24-hour roadworks have been scheduled for the A55. I would be grateful if the Minister for transport would consider making sure that, when she schedules roadworks on the A55, she does, as she has said in the past, prioritise them for evening-only use and that she avoids important holidays, which are important for the tourism industry in north Wales. Weinidog, galwaf am ddau ddatganiad. Rwy'n gwybod, dim ond yr wythnos diwethaf, ein bod wedi cael dadl yn y Siambr ynglŷn â'r M4 a gododd faterion yn ymwneud â'r A55. Rwyf wedi clywed sicrwydd dro ar ôl tro gan Lywodraeth Cymru y trefnwyd i waith ffordd sy’n cael ei wneud ar yr A55 gael ei wneud gyda’r nos. Mae’n amlwg nad yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Ceir gwaith ffordd sy'n para 24 awr—ac mae'n dweud hynny ar yr hysbysiad a gyhoeddwyd yn y 'Daily Post'—o 19 Hydref tan 3 Tachwedd. Nid oes gennyf amheuaeth, Weinidog, eich bod yn ymwybodol, fel y mae'r Gweinidog trafnidiaeth, mai dyna'r gwyliau hanner tymor yn Lloegr ac mae'n cynnwys y gwyliau hanner tymor yng Nghymru. Ar adeg bwysig i'r diwydiant twristiaeth yn y gogledd, mae gwaith ffordd 24 awr wedi eu trefnu ar gyfer yr A55. Byddwn yn ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog trafnidiaeth yn ystyried gwneud yn siŵr, pan fydd yn trefnu gwaith ffordd ar yr A55, ei bod, fel y mae wedi ei ddweud yn y gorffennol, yn eu blaenoriaethu ar gyfer gyda’r nos yn unig a’i bod yn osgoi gwyliau pwysig, sy'n bwysig i’r diwydiant twristiaeth yn y gogledd.
I would also like a statement from the Minister for Health and Social Services in relation to the Tawel Fan medical unit at Ysbyty Glan Clwyd. I am aware that Betsi Cadwaladr University Local Health Board has commissioned an independent report that is not currently in the public domain. Now, clearly, if there are police inquiries ongoing that may or may not lead to criminal charges in relation to the Tawel Fan mental health unit at Ysbyty Glan Clwyd, then I appreciate why that independent report is not being published at this stage. However, I think that it is important to have a commitment from the Minister to publish that report as soon as he is able to do so, or to ask the health board to publish that report as soon as it is able to do so, not least because whistleblowers in north Wales have written to Labour Ministers for health, and indeed to north Wales Assembly Members, regarding their concerns about mental health treatment in north Wales, and I am personally aware of letters relating to that going back a number of years. It is deeply concerning that it has taken so long for the health board to act. Hoffwn gael datganiad hefyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar uned feddygol Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd. Rwy’n ymwybodol bod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi comisiynu adroddiad annibynnol nad yw ar gael i'r cyhoedd ar hyn o bryd. Nawr, yn amlwg, os oes ymchwiliadau heddlu yn parhau a allai arwain at gyhuddiadau troseddol o ran uned iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd, yna rwy’n gwerthfawrogi pam nad yw’r adroddiad annibynnol yn cael ei gyhoeddi ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig cael ymrwymiad gan y Gweinidog i gyhoeddi’r adroddiad hwnnw cyn gynted ag y gall wneud hynny, neu i ofyn i'r bwrdd iechyd i gyhoeddi’r adroddiad hwnnw cyn gynted ag y gall wneud hynny, yn enwedig oherwydd bod chwythwyr chwiban yn y gogledd wedi ysgrifennu at Weinidogion iechyd Llafur, ac yn wir at Aelodau Cynulliad y gogledd, ynghylch eu pryderon am driniaeth iechyd meddwl yn y gogledd, ac rwyf i’n bersonol yn ymwybodol o lythyrau yn ymwneud â hynny yn mynd yn ôl nifer o flynyddoedd. Mae'n destun pryder dwys ei bod wedi cymryd cyhyd i'r bwrdd iechyd weithredu.
14:31 - Jane Hutt
As far as the roadworks on the A55 go, I am sure that Antoinette Sandbach fully backs the work and investment that we are undertaking in terms of improving safety on the A55, and I can assure her that the contractors are making every effort to complete the work ahead of schedule. There is additional work that has been identified between junctions 24 and 26; that is taking place. Members from north Wales will also be aware of the work that is being undertaken westbound between junctions 11 and 12. Adverse weather conditions, as you would recognise, do not help and there are updates on the Traffic Wales website. Phase 2 of the resilience work is due to begin as planned on 19 October. O ran y gwaith ffordd ar yr A55, rwy’n siŵr bod Antoinette Sandbach yn cefnogi’n llwyr y gwaith a'r buddsoddiad yr ydym ni’n eu gwneud o ran gwella diogelwch ar yr A55, a gallaf ei sicrhau bod y contractwyr yn gwneud pob ymdrech i gwblhau'r gwaith yn gynt na'r disgwyl. Ceir gwaith ychwanegol a nodwyd rhwng cyffyrdd 24 a 26; mae hwnnw’n cael ei wneud. Bydd aelodau o'r gogledd hefyd yn ymwybodol o'r gwaith sy'n cael ei wneud tua'r gorllewin rhwng cyffyrdd 11 a 12. Nid yw tywydd garw, fel y byddech yn cydnabod, yn helpu a cheir diweddariadau ar wefan Traffig Cymru. Disgwylir i gam 2 y gwaith atgyfnerthu ddechrau fel y bwriadwyd ar 19 Hydref.
In response to your second question—I am not sure whether it was a question or a statement, Llywydd—I will say, in fairness to the Member, that this report is subject to an ongoing police investigation. It would not be helpful to discuss it at this time as it might prejudice the police decision-making process. Betsi Cadwaladr health board has commissioned an independent review of Tawel Fan and it will be for the health board to publish the report and to take any subsequent action. Mewn ymateb i'ch ail gwestiwn—nid wyf yn siŵr ai cwestiwn neu ddatganiad oedd e, Lywydd—byddaf yn dweud, er tegwch i'r Aelod, bod yr adroddiad hwn yn destun ymchwiliad heddlu parhaus. Ni fyddai'n fuddiol ei drafod ar hyn o bryd gan y gallai ragfarnu proses yr heddlu o wneud penderfyniadau. Mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi comisiynu adolygiad annibynnol o Dawel Fan a mater i'r bwrdd iechyd yw cyhoeddi'r adroddiad a chymryd unrhyw gamau dilynol.
14:32 - William Powell
Minister, in a debate earlier this month, I referred to the threats that are currently being suffered by Tidal Energy Ltd’s DeltaStream device off the Pembrokeshire coast. It is threatened by the end of Welsh European Funding Office funding, which has been so critical in delivering that project. As the Minister for Natural Resources chose not to take up that point in his response to that debate, will you consider bringing forward a statement in Government time on this matter because of the importance of safeguarding renewable energy projects and their funding, particularly when a significant amount of public investment has already gone in to developing this cutting-edge technology? Weinidog, mewn dadl yn gynharach y mis hwn, cyfeiriais at y bygythiadau sy'n cael eu dioddef ar hyn o bryd gan ddyfais DeltaStream Tidal Energy Cyf oddi ar arfordir Sir Benfro. Mae'n cael ei fygwth gan ddiwedd cyllid gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, sydd wedi bod mor hanfodol o ran darparu’r prosiect hwnnw. Gan fod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol wedi dewis peidio â chyfeirio at y pwynt hwnnw yn ei ymateb i'r ddadl honno, a wnewch chi ystyried cyflwyno datganiad yn amser y Llywodraeth ar y mater hwn oherwydd pwysigrwydd diogelu prosiectau ynni adnewyddadwy a’u cyllido, yn enwedig pan fo swm sylweddol o fuddsoddiad cyhoeddus eisoes wedi ei gyfrannu at ddatblygu'r dechnoleg arloesol hon?
14:33 - Jane Hutt
I think that there is an important point here, which is certainly being handled not only by the Minister and his officials, but by my officials in WEFO, in terms of the important development in Ramsey sound. I would also say that we are now very close to the point when, I hope, that we are going to be able to publish our operational programmes in terms of the next phase of European funding, which will include increased investment in and profile of renewable energy sources. Rwy’n meddwl bod pwynt pwysig yma, sy’n sicr yn cael sylw, nid yn unig gan y Gweinidog a'i swyddogion, ond gan fy swyddogion i yn Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, o ran y datblygiad pwysig yn swnt Dewi. Byddwn hefyd yn dweud ein bod yn agos iawn erbyn hyn at y pwynt pan, rwy’n gobeithio, y byddwn yn gallu cyhoeddi ein rhaglenni gweithredol o ran y cam nesaf o gyllid Ewropeaidd, a fydd yn cynnwys mwy o fuddsoddiad mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy a chodi eu proffil.
14:34 - Ann Jones
May I ask for a debate in Government time on the impacts of the welfare cuts that are being imposed upon many in our disadvantaged communities, and in our communities, by the UK Tory Government? Not a Plenary session goes by without somebody mentioning the impact of those cuts on communities, but it seems to be very piecemeal. I wonder whether the Government would consider having a debate on the impact of the welfare cuts on those communities that are reliant on public services. A gaf i ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ar effeithiau'r toriadau lles sy'n cael eu gorfodi ar lawer yn ein cymunedau difreintiedig, ac yn ein cymunedau, gan Lywodraeth Dorïaidd y DU? Nid oes Cyfarfod Llawn yn mynd heibio heb i rywun sôn am effaith y toriadau hynny ar gymunedau, ond mae'n ymddangos bod hyn yn dameidiog iawn. Tybed a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried cynnal dadl ar effaith y toriadau lles ar y cymunedau hynny sy'n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus.
14:34 - Jane Hutt
I thank Ann Jones for that question. I did respond to a call from Lynne Neagle only a couple of weeks ago for a debate on the impact of welfare reform cuts on our communities. The Minister for Communities and Tackling Poverty has agreed to that and it will be tabled in due course. Diolch i Ann Jones am y cwestiwn yna. Fe wnes i ymateb i alwad gan Lynne Neagle dim ond wythnos neu ddwy yn ôl am ddadl ar effaith toriadau diwygio lles ar ein cymunedau. Mae’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi wedi cytuno i hynny a bydd yn cael ei chyflwyno maes o law.
14:34 - Darren Millar
Minister, may I too add to the calls for a statement from the Welsh Government’s Minister for health on the situation at Tawel Fan in Glan Clwyd? People across Wales, no doubt, were horrified to read the reports that appeared in the media over the weekend, which alleged serious and significant abuse of patients on that mental health ward. I have been contacted in the wake of those reports by very concerned families of people who were cared for on that ward—and, no doubt, other north Wales Assembly Members have as well. Weinidog, a gaf innau hefyd ychwanegu at y galwadau am ddatganiad gan Weinidog iechyd Llywodraeth Cymru ar y sefyllfa yn Nhawel Fan yng Nglan Clwyd? Nid oes amheuaeth bod pobl ledled Cymru wedi dychryn o ddarllen yr adroddiadau a ymddangosodd yn y cyfryngau dros y penwythnos, a oedd yn honni cam-drin difrifol a sylweddol o gleifion ar y ward iechyd meddwl honno. Cysylltwyd â mi yn sgil yr adroddiadau hynny gan deuluoedd pryderus iawn pobl a dderbyniodd ofal ar y ward honno—ac, yn ddiau, cysylltwyd ag Aelodau Cynulliad eraill y gogledd hefyd.
I think that, while the report is clearly not going to be published in the short term, I do think that we could have a statement from the Welsh Government on whether it was aware of the concerns at the ward; if it was, when did it become aware; and what actions did it take to support the health board in addressing those concerns, and putting them right. I think that we also need assurances, Minister, as to whether the Welsh Government is able to confirm whether any of these abuses are not taking place, as it were, on other wards in that health board area. Rwy’n credu, er ​​ei bod yn amlwg nad yw’r adroddiad yn mynd i gael ei gyhoeddi yn y tymor byr, rwyf yn meddwl y gallem ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar ba un a oedd yn ymwybodol o’r pryderon ar y ward; os oedd, pryd y daeth yn ymwybodol; a pha gamau a gymerwyd ganddi i gefnogi'r bwrdd iechyd i fynd i'r afael â'r pryderon hynny, a’u hunioni. Rwy’n credu bod angen sicrwydd arnom hefyd, Weinidog, ynghylch pa un a all Llywodraeth Cymru gadarnhau nad oes unrhyw un o'r achosion hyn o gam-drin yn digwydd, fel petai, ar wardiau eraill yn ardal y bwrdd iechyd hwnnw.
I was first contacted about concerns in respect of this ward back in March of 2013. It seems that the problems on this particular ward continued right up until December of that year, and it took an undercover camera to see that ward eventually closed and some serious action taken by the board. I am concerned about that, and I think that it is incumbent on the Welsh Government to tell us whether it knew about the problems on that ward, and what work it took to address them. I think that we should have a statement, at the earliest opportunity, so that these matters can be discussed by the Senedd. Cysylltwyd â mi gyntaf am bryderon am y ward hon yn ôl ym mis Mawrth 2013. Mae'n ymddangos bod y problemau ar y ward benodol hon wedi para tan fis Rhagfyr y flwyddyn honno, a bu’n rhaid defnyddio camera cudd i sicrhau bod y ward honno’n cael ei chau yn y pen draw a bod camau difrifol yn cael eu cymryd gan y bwrdd. Rwy’n pryderu am hynny, ac rwy’n meddwl ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddweud wrthym pa un a oedd yn gwybod am y problemau ar y ward honno, a pha waith a wnaethpwyd ganddi i fynd i'r afael â nhw. Rwy’n meddwl y dylem ni gael datganiad, cyn gynted â phosibl, fel y gall y Senedd drafod y materion hyn.
14:36 - Jane Hutt
I think, Llywydd, again, that I have responded to a question on this point, and I have made it very clear that we must not prejudice an ongoing police investigation. However, I will draw attention, of course, to the written statement that was issued on 16 October, together with results, for example, of the spot-check programme that is important in terms of the Minister’s action in terms of identifying any areas of concern in care for elderly patients in Wales. I would also draw attention to the information from Betsi Cadwaladr that is in the public domain. Rwy’n meddwl, Lywydd, unwaith eto, fy mod i wedi ymateb i gwestiwn ar y pwynt hwn, ac rwyf wedi ei gwneud yn eglur iawn bod yn rhaid i ni beidio â rhagfarnu ymchwiliad parhaus yr heddlu. Fodd bynnag, rwyf am dynnu sylw, wrth gwrs, at y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 16 Hydref, ynghyd â chanlyniadau, er enghraifft, y rhaglen hap-archwiliadau sy'n bwysig o ran camau’r Gweinidog ar gyfer nodi unrhyw feysydd o bryder mewn gofal i gleifion oedrannus yng Nghymru. Byddwn hefyd yn tynnu sylw at y wybodaeth gan Betsi Cadwaladr sydd ar gael i’r cyhoedd..
Statement: Public Services Staff Commission Datganiad: Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus
14:37 - Y Llywydd / The Presiding Officer
I call the Minister for Public Services, Leighton Andrews. Galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews.
14:37 - Leighton Andrews
In the ‘Reforming Local Government’ White Paper in July, we set out the Welsh Government’s intention to establish a public services staff commission as part of our public service reforms. Responses to this proposal have been positive. I am therefore pleased today to launch a further, more detailed consultation on our proposals for a public services staff commission. Yn y Papur Gwyn 'Diwygio Llywodraeth Leol' ym mis Gorffennaf, gwnaethom nodi bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn staff gwasanaethau cyhoeddus yn rhan o'n diwygiadau gwasanaeth cyhoeddus. Mae ymatebion i'r cynnig hwn wedi bod yn gadarnhaol. Felly, rwyf yn falch heddiw i lansio ymgynghoriad pellach, manylach ar ein cynigion ar gyfer comisiwn staff gwasanaethau cyhoeddus.
In the programme for government, we made a clear commitment to the delivery of efficient, effective, and accessible public services across the whole of Wales. We recognise that our ambition for world-class public services can only be realised through a world-class public service workforce, with the right skills and support to deliver them. We need to ensure that our distinct public service values are embedded in our approach to workforce matters, removing barriers that prevent flexibility and collaboration across and between organisations. Yn y rhaglen lywodraethu, gwnaethom ymrwymiad clir i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon, effeithiol, a hygyrch ledled Cymru. Rydym yn cydnabod mai’r unig ffordd o wireddu ein huchelgais ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus o'r radd flaenaf yw drwy gael gweithlu gwasanaeth cyhoeddus o'r radd flaenaf, sydd â'r sgiliau a'r gefnogaeth gywir i'w cyflawni. Mae angen inni sicrhau bod ein gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus neilltuol wedi’u hymgorffori yn ein hymagwedd at faterion yn ymwneud â’r gweithlu, gan ddileu rhwystrau sy'n atal hyblygrwydd a chydweithio ar draws sefydliadau a rhyngddynt.
Daeth Sandy Mewies i’r Gadair am 14:38. Sandy Mewies took the Chair at 14:38.
Leighton Andrews
Our Welsh model of social partnership is embodied in the workforce partnership council, which brings together trade unions and public service employers to address shared challenges and opportunities for public services and the public service workforce. The workforce partnership council has been at the heart of a number of public service summits, in which partners have sought to reach consensus on the issues to be tackled. Given the continuing challenges faced by our public services—dealing with the competing pressures of reducing resources, increasing demand, and rising expectation—it is right to put workforce matters at the centre of the public service reform agenda. We want to engage the workforce in discussing how improvement can best be delivered. We know that the workforce wants to be more closely involved in designing solutions to the delivery challenges that are faced every day. Mae ein model Cymreig o bartneriaeth gymdeithasol wedi’i ymgorffori yng nghyngor partneriaeth y gweithlu, sy'n dod ag undebau llafur a chyflogwyr gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd i ymdrin â heriau a chyfleoedd a rennir i’r gwasanaethau cyhoeddus a'r gweithlu gwasanaeth cyhoeddus. Mae cyngor partneriaeth y gweithlu wedi bod wrth wraidd nifer o uwchgynadleddau gwasanaethau cyhoeddus, lle mae partneriaid wedi ceisio dod i gytundeb ar y materion y mae angen rhoi sylw iddynt. O ystyried yr heriau parhaus sy’n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus—ymdrin â gwahanol bwysau sy’n cystadlu â’i gilydd megis lleihau adnoddau, galw cynyddol, a disgwyliadau cynyddol—mae'n briodol rhoi materion y gweithlu wrth wraidd yr agenda diwygio gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn awyddus i gynnwys y gweithlu wrth drafod y ffordd orau o sicrhau’r canlyniadau gorau. Rydym yn gwybod bod y gweithlu’n awyddus i gymryd mwy o ran yn y broses o lunio atebion i'r heriau cyflenwi sy’n eu hwynebu bob dydd.
We therefore believe that the case for a public services staff commission is strong, with an effective commission having a key role in setting a benchmark for the consideration of staffing issues at this moment of transformative change, and contributing to the vision for the public sector workforce we have described. Felly, rydym yn credu bod yr achos o blaid comisiwn staff gwasanaethau cyhoeddus yn un cryf; byddai gan gomisiwn effeithiol swyddogaeth allweddol o bennu meincnod i ystyried materion staffio yn ystod y newid gweddnewidiol hwn, a byddai’n cyfrannu at y weledigaeth ar gyfer gweithlu'r sector cyhoeddus yr ydym wedi’i ddisgrifio.
We intend to establish a non-statutory staff commission by April 2015, in particular to support any local authority voluntary mergers. Members of the commission will be appointed by the Welsh Ministers. We will appoint individuals with relevant skills and experience in workforce matters and organisational development, including from the private sector. Rydym yn bwriadu sefydlu comisiwn staff anstatudol erbyn mis Ebrill 2015, yn benodol i gefnogi unrhyw uniadau gwirfoddol rhwng awdurdodau lleol. Penodir aelodau'r comisiwn gan Weinidogion Cymru. Byddwn yn penodi unigolion sydd â sgiliau a phrofiad perthnasol mewn materion gweithlu a datblygu sefydliadol, gan gynnwys o’r sector preifat.
In developing its advice, the non-statutory staff commission will be required to consult with relevant parties, consider the views of staff, recognised trade unions and employers. It will also need to develop links with the Independent Remuneration Panel for Wales in respect of its role relating to senior salaries in local government. It will be required to bring together a range of different viewpoints to inform its advice. It will have a remit to seek out best practice in Wales and internationally in the public and private sectors, to inform its judgments and to support any advice provided to the Welsh Ministers. Wrth ddatblygu ei gyngor, bydd gofyn i'r comisiwn staff anstatudol ymgynghori â phartïon perthnasol ac ystyried barn staff, undebau llafur cydnabyddedig a chyflogwyr. Bydd hefyd angen iddo ddatblygu cysylltiadau â Phanel Taliadau Annibynnol Cymru o ran ei swyddogaeth yn ymwneud â chyflogau uwch-swyddogion mewn llywodraeth leol. Bydd yn ofynnol iddo ddwyn ynghyd ystod o wahanol safbwyntiau i seilio ei gyngor arnynt. Bydd ganddo gylch gwaith i chwilio am arfer gorau yng Nghymru ac yn rhyngwladol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, er mwyn llywio ei ddyfarniadau a chefnogi unrhyw gyngor a roddir i Weinidogion Cymru.
The non-statutory staff commission will not be an arbiter in local or national disputes, it will not offer definitive legal advice on such matters, and it will not supplant existing bargaining and negotiating mechanisms or employment tribunals. The non-statutory staff commission will be at its most useful when it is examining and advising on matters of principle. Ni fydd y comisiwn staff anstatudol yn ganolwr mewn anghydfodau lleol na chenedlaethol, ni fydd yn cynnig cyngor cyfreithiol diffiniol ar faterion o'r fath, ac ni fydd yn disodli mecanweithiau bargeinio a negodi presennol na thribiwnlysoedd cyflogaeth. Bydd y comisiwn staff anstatudol ar ei fwyaf defnyddiol wrth archwilio a chyngori ar faterion o egwyddor.
However, the immediate priority for the staff commission will be to support voluntary local authority mergers and to effectively support staff and provide advice on how best to achieve consistent and fair treatment through the reform process. I will be consulting key stakeholders further on the detailed work remit and the staff commission itself, once established, will be able to advise me on issues that require its consideration. Fodd bynnag, blaenoriaeth gyntaf y comisiwn staff fydd cefnogi uno gwirfoddol rhwng awdurdodau lleol a chefnogi staff yn effeithiol a rhoi cyngor ynglŷn â’r ffordd orau o sicrhau triniaeth gyson a theg drwy'r broses ddiwygio. Byddaf yn ymgynghori ymhellach â rhanddeiliaid allweddol ynglŷn â’r cylch gwaith manwl a bydd y comisiwn staff ei hun, ar ôl ei sefydlu, yn gallu rhoi cyngor imi ynglŷn â materion y mae angen iddo eu hystyried.
We expect the existing social partnership forums established between public service bodies and their workforces to continue to work together to develop local solutions to local issues, alongside the non-statutory staff commission as we make a transition to a statutory staff commission. Rydym yn disgwyl y bydd y fforymau partneriaethau cymdeithasol presennol sydd wedi’u sefydlu rhwng cyrff gwasanaethau cyhoeddus a'u gweithluoedd yn parhau i gydweithio i ddatblygu atebion lleol i faterion lleol, ochr yn ochr â'r comisiwn staff anstatudol wrth inni weithredu’r newid i gomisiwn staff statudol.
The White Paper also signals our intention to legislate to place the staff commission on a statutory footing following the next Assembly elections in 2016. The proposed statutory staff commission will build on the role and work of the proposed non-statutory commission. We believe that creating a statutory basis for the staff commission at this point in the reform programme will build upon the lessons learnt and reputation of the non-statutory staff commission by giving the commission its own legal status, and therefore further enhancing its authority and independence; it will enhance openness and transparency by having clear functions set out in legislation, which have been developed as a result of wide engagement with stakeholders, including through the work of the non-statutory staff commission itself; and at the right point in the reform programme, provide the commission with enhanced powers to issue guidance and request information. Mae'r Papur Gwyn hefyd yn nodi ein bwriad i ddeddfu i roi sail statudol i’r comisiwn staff ar ôl etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2016. Bydd y comisiwn staff statudol arfaethedig yn adeiladu ar swyddogaeth a gwaith y comisiwn anstatudol arfaethedig. Rydym yn credu y bydd creu sail statudol i’r comisiwn staff ar yr adeg hon yn y rhaglen ddiwygio yn adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd ac enw da'r comisiwn staff anstatudol drwy roi ei statws cyfreithiol ei hun i’r comisiwn, ac felly cynyddu ymhellach ei awdurdod a’i annibyniaeth; bydd yn gwella didwylledd a thryloywder drwy fod â swyddogaethau clir wedi’u nodi mewn deddfwriaeth, a ddatblygwyd o ganlyniad i ymgysylltu eang â rhanddeiliaid, gan gynnwys drwy waith y comisiwn staff anstatudol ei hun; ac ar yr adeg gywir yn y rhaglen ddiwygio, bydd yn darparu pwerau estynedig i’r comisiwn i gyhoeddi canllawiau a gofyn am wybodaeth.
The statutory staff commission will be time limited and phased out after completing an evaluation of its contribution to the current reform programme in 2021. We believe that this is sufficient time to ensure a mature culture of working in social partnership is embedded across the Welsh public service. Bydd y comisiwn staff statudol yn gyfyngedig o ran amser ac yn cael ei ddileu'n raddol ar ôl cwblhau gwerthusiad o'i gyfraniad i’r rhaglen ddiwygio bresennol yn 2021. Rydym yn credu bod hyn yn ddigon o amser i sicrhau y caiff diwylliant aeddfed o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ei ymsefydlu ar draws y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.
I am clear the staff commission can play a key role in ensuring that the public service workforce is developed and supported during the reform programme to ensure public services in Wales emerge stronger, better and transformed. I am pleased that the proposal for a staff commission was broadly welcomed at the public service summit last month and in the responses to the consultation on ‘Reforming Local Government’. I look forward to continuing engagement with our social partners and other key stakeholders as the details are further developed. Rwyf yn glir o ran y gall y comisiwn staff chwarae rhan allweddol i sicrhau bod y gweithlu gwasanaeth cyhoeddus yn cael ei ddatblygu a'i gefnogi yn ystod y rhaglen ddiwygio er mwyn sicrhau y bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru’n gryfach, yn well ac wedi’u gweddnewid. Rwyf yn falch bod y cynnig am gomisiwn staff wedi’i groesawu’n gyffredinol yn yr uwchgynhadledd gwasanaethau cyhoeddus y mis diwethaf ac yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad 'Diwygio Llywodraeth Leol'. Rwyf yn edrych ymlaen at barhau i ymgysylltu â'n partneriaid cymdeithasol a’n rhanddeiliaid allweddol eraill wrth i'r manylion gael eu datblygu ymhellach.
14:43 - Mike Hedges
I welcome the Minister’s statement on the public services commission. I recognise, and I am sure that the Minister recognises, the hard work and commitment to public service of the vast majority of local government employees. I have two questions. The first one is: will the staff commission be providing advice when local authorities voluntarily merge, having had different results, and therefore pay, following a job evaluation recently carried out to fulfil their equal pay legislation? Secondly, one of the concerns that I have, which is obviously not shared by the Williams commission, is that the senior salaries of the merged authorities will be higher than the highest in the predecessor authorities. Does the Minister believe that the independent staff commission and the independent remuneration panel will stop this from happening? Rwyf yn croesawu datganiad y Gweinidog am y comisiwn gwasanaethau cyhoeddus. Rwyf yn cydnabod, ac rwyf yn siŵr bod y Gweinidog yn cydnabod, y gwaith caled a'r ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus gan y mwyafrif llethol o weithwyr llywodraeth leol. Mae gennyf ddau gwestiwn. Y cyntaf yw: a fydd y comisiwn staff yn rhoi cyngor pan fydd awdurdodau lleol yn uno’n wirfoddol, ar ôl cael gwahanol ganlyniadau, a thâl felly, ar ôl gwerthusiad swyddi diweddar i fodloni eu deddfwriaeth cyflog cyfartal? Yn ail, un o'r pryderon sydd gennyf, y mae’n amlwg nad yw comisiwn Williams yn ei rannu, yw y bydd cyflogau uwch swyddogion awdurdodau unedig yn uwch na'r uchaf yn yr awdurdodau blaenorol. A yw'r Gweinidog yn credu y bydd y comisiwn staff annibynnol a'r panel tâl annibynnol yn atal hyn rhag digwydd?
14:44 - Leighton Andrews
I thank my colleague, the Member for Swansea East, for those questions. I certainly think that there will be a role for the non-statutory staff commission in relation to voluntary mergers, and it will have to take account of the issues that he has mentioned. Whether that is going to be the kind of significant issue that concerns him, I am not certain. In respect of the issue of senior salaries in merged authorities, I hear very much what he has said on that. I am certainly of the view that the proposals that we are bringing forward will mean fewer local authorities, therefore fewer chief executives across the whole of Wales, and therefore a reduction in the cost of administration of local government in Wales. Diolch i fy nghydweithiwr, yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe, am y cwestiynau hynny. Rwyf yn sicr yn credu y bydd gan y comisiwn staff anstatudol ran i’w chwarae o ran uno gwirfoddol, a bydd yn rhaid iddynt ystyried y materion y mae ef wedi'u crybwyll. Nid wyf yn siŵr, fodd bynnag, pa un a fydd hynny’r math o broblem sylweddol a fydd yn peri pryder iddo. O ran mater cyflogau uwch-swyddogion mewn awdurdodau cyfunedig, rwyf yn bendant yn clywed yr hyn y mae wedi'i ddweud am hynny. Rwyf yn sicr o'r farn y bydd y cynigion yr ydym yn eu cyflwyno yn golygu llai o awdurdodau lleol, felly llai o brif weithredwyr ledled Cymru gyfan, ac felly lleihad yng nghost gweinyddu llywodraeth leol yng Nghymru.
14:44 - Sandy Mewies
I call the Conservative spokesperson, Janet Finch-Saunders. Galwaf ar lefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
14:45 - Janet Finch-Saunders
Minister, I welcome your statement today. I have a few observations and, indeed, some questions. In your programme for government, you did make a clear commitment to the delivery of efficient, effective and accessible public services across the whole of Wales. I would like to see some emphasis, actually, on transparency, financial probity and democratic accountability, where appropriate, running as a main thread through our public services in Wales. Weinidog, rwyf yn croesawu eich datganiad heddiw. Mae gennyf rai arsylwadau ac, yn wir, rhai cwestiynau. Yn eich rhaglen lywodraethu, gwnaethoch ymrwymiad clir i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon, effeithiol a hygyrch ledled Cymru gyfan. Hoffwn weld rhywfaint o bwyslais, mewn gwirionedd, ar dryloywder, cywirdeb ariannol ac atebolrwydd democrataidd, pan fo'n briodol, yn rhedeg fel thema bwysig drwy ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
The previous speaker asked about job evaluation, and it is fair to say that I have had some mixed messages from the Welsh Government as to how the current job evaluation programme is working its way across, mainly, local authorities, and on the equal-pay reforms. It would be interesting to hear whether the Minister is yet up to speed with how many local authorities have actually completed their job evaluation process, how many have yet to do so, and, indeed, how that process is going to dovetail along with any future reforms of local government. Gofynnodd y siaradwr blaenorol gwestiwn ynglŷn â gwerthuso swyddi, ac mae'n deg dweud fy mod wedi cael rhai negeseuon cymysg gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut y mae'r rhaglen gwerthuso swyddi ar hyn o bryd yn gweithio ei ffordd ar draws, yn bennaf, yr awdurdodau lleol, ac ynghylch y diwygiadau cyflog cyfartal. Byddai'n ddiddorol clywed pa un a yw'r Gweinidog yn gwybod eto faint o awdurdodau lleol sydd mewn gwirionedd wedi cwblhau eu proses gwerthuso swyddi, faint nad ydynt wedi gwneud hynny eto, ac, yn wir, sut y mae’r broses honno’n mynd i asio ynghyd ag unrhyw ddiwygiadau llywodraeth leol yn y dyfodol.
I note your mention of social partnership as embodied in the workforce partnership council, and that that apparently does bring together trade unions of public service employers, and it says that it has been at the heart of a number of public service summits. I would like to ask how many of those have taken place, how transparent a process that has been, and where the reporting mechanism is on that. Nodaf eich bod yn sôn am bartneriaeth gymdeithasol fel y’i hymgorfforir yng nghyngor partneriaeth y gweithlu, a bod hynny yn ôl pob golwg yn dwyn ​​ynghyd undebau llafur cyflogwyr gwasanaethau cyhoeddus, ac mae'n dweud ei fod wedi bod wrth wraidd nifer o uwchgynadleddau gwasanaethau cyhoeddus. Hoffwn ofyn faint o'r rheini sydd wedi eu cynnal, pa mor dryloyw fu’r broses honno, a ble mae’r mecanwaith adrodd ar hynny.
I think it is fair to say also that, since the tabling of the Williams report, there has been a huge focus on local authorities, and, of course, this was a public services reform. How can you, as the Minister, now ensure that all public bodies will be represented and engaged in this process, in particular through the staff commission? What will be the remit of the staff commission? Who will be invited to join? Again, will there be transparency of process and will you guarantee political neutrality? Credaf ei bod yn deg dweud hefyd, ers inni gyflwyno adroddiad Williams, y bu pwyslais enfawr ar awdurdodau lleol, ac, wrth gwrs, diwygiad gwasanaethau cyhoeddus oedd hwn. Sut y gallwch chi, fel y Gweinidog, sicrhau nawr y bydd pob corff cyhoeddus yn cael ei gynrychioli ac yn cymryd rhan yn y broses hon, yn arbennig drwy'r comisiwn staff? Beth fydd cylch gorchwyl y comisiwn staff? Pwy fydd yn cael gwahoddiad i ymuno? Unwaith eto, a fydd proses dryloyw ac a wnewch chi warantu niwtraliaeth wleidyddol?
Talking about the roles of senior salaries, it was the Welsh Conservatives who believed that senior salaries in Wales—not just among chief executives, but, indeed, some of the senior management teams—were eye watering, and we wanted actually to include senior management in the independent remuneration process. Wrth sôn am swyddogaethau cyflogau uwch-swyddogion, roedd Ceidwadwyr Cymru’n credu bod cyflogau uwch-swyddogion yng Nghymru—nid yn unig ymhlith prif weithredwyr, ond, yn wir, rhai o'r uwch dimau rheoli—yn afresymol, ac roeddem yn awyddus mewn gwirionedd i gynnwys uwch reolwyr yn y broses tâl annibynnol.
14:47 - Sandy Mewies
Can you get on to the questions? A allwch chi ddod at y cwestiynau?
14:47 - Janet Finch-Saunders
Yes, I am asking the questions as I am going along. Gwnaf, rwyf yn gofyn y cwestiynau wrth imi fynd ymlaen.
14:47 - Sandy Mewies
Yes, many of them. Ydych, llawer ohonynt.
14:47 - Janet Finch-Saunders
I would like to know whether you could guarantee that there will be no undermining of the independent appraisal of senior management pay scales, and that it is not just related to chief executives. Have you thought about the resource implications of setting up such a commission and what sort of costs are likely to be involved in this? Also, this talks greatly, to a large degree, about the non-voluntary mergers. What about those mergers that, if not voluntary, may be forced by yourself? How will the staff commission actually be implemented? How will it impact on those? Thank you, Minister. There are a few questions there, I am afraid. Hoffwn wybod a allech chi warantu na chaiff y gwerthusiad annibynnol o raddfeydd tâl uwch reolwyr ei danseilio, ac nad yw'n ymwneud â phrif weithredwyr yn unig. A ydych chi wedi ystyried goblygiadau sefydlu comisiwn o'r fath o ran adnoddau a pha fath o gostau sy'n debygol o fod yn rhan o hyn? Hefyd, mae hyn yn sôn yn bennaf, i raddau helaeth, am uno anwirfoddol. Beth am yr uniadau hynny, os nad ydynt yn wirfoddol, a all fod wedi’u gorfodi gennych chi? Sut y caiff y comisiwn staff ei weithredu mewn gwirionedd? Sut y bydd yn effeithio ar y rheini? Diolch, Weinidog. Mae sawl cwestiwn yna, mae arnaf ofn.
14:48 - Leighton Andrews
Thank you. Well, I think if the Member were to consult the White Paper that we are issuing today, she would find answers to many of the questions that she has raised. For example, in paragraph 66, she will see, I think fairly precisely, the kinds of issues on which the non-statutory staff commission would be able to advise, including recruitment and retention of staff, transfer of staff from current to new local authorities, harmonisation of terms and conditions of service, job evaluation and grading, senior post recruitment and remuneration, pensions and impact of transferring staff to different public service pension schemes, impact on staff recently transferred to private sector contractors, and issues affecting the wider public service workforce. Diolch. Wel, rwyf yn meddwl pe byddai’r Aelod yn edrych ar y Papur Gwyn yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw, y byddai'n dod o hyd i atebion i lawer o'r cwestiynau a ofynnodd. Er enghraifft, ym mharagraff 66, bydd yn gweld, yn weddol fanwl rwyf yn credu, y mathau o faterion y gallai’r comisiwn staff anstatudol gynghori arnynt, gan gynnwys recriwtio a chadw staff, trosglwyddo staff o’r awdurdodau lleol presennol i’r rhai newydd, cysoni telerau ac amodau gwasanaeth, gwerthuso a graddio swyddi, recriwtio a thâl swyddi uwch, pensiynau ac effaith trosglwyddo staff i wahanol gynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus, yr effaith ar staff a drosglwyddwyd yn ddiweddar i gontractwyr y sector preifat, a materion sy'n effeithio ar weithlu ehangach y gwasanaeth cyhoeddus.
In paragraph 49, she will find the range of public service bodies that could be covered by the remit of the non-statutory staff commission, including county borough councils or county councils in Wales, town or community councils, fire and rescue authorities, national park authorities, the Local Democracy and Boundary Commission for Wales, the local health boards and NHS trusts, the Care Council for Wales, the governing body of a maintained school or federation, the Higher Education Funding Council for Wales, the Arts Council of Wales, the National Library of Wales, the National Museum of Wales, the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales, the Sports Council for Wales and the natural resources body for Wales. So, I would suggest that the Member does read and study the White Paper, which gives a considerable number of answers to the questions that she has raised. In respect to the costing of the non-statutory staff commission, we have estimated overall a cost of around £0.5 million for the establishment and running costs. Ym mharagraff 49, bydd yn gweld yr ystod o gyrff gwasanaeth cyhoeddus y gallai cylch gorchwyl y comisiwn staff anstatudol eu cynnwys, gan gynnwys cynghorau bwrdeistref sirol neu gynghorau sir yng Nghymru, cynghorau tref a chymuned, awdurdodau tân ac achub, awdurdodau parciau cenedlaethol, Comisiwn Democratiaeth Leol a Ffiniau Cymru, y byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG, Cyngor Gofal Cymru, corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ffederasiwn, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Cyngor Chwaraeon Cymru a chorff adnoddau naturiol Cymru. Felly, byddwn yn awgrymu bod yr Aelod yn darllen ac yn astudio’r Papur Gwyn, sy'n rhoi nifer sylweddol o atebion i'r cwestiynau a ofynnwyd ganddi. O ran costio’r comisiwn staff anstatudol, rydym wedi amcangyfrif cyfanswm cost o tua £0.5 miliwn ar gyfer y costau sefydlu a chynnal.
She will, of course, recall that there have been previous staff commissions during previous local government reorganisations, not least, of course, the local government reorganisation carried out by the Conservative administration in the mid-1990s. So, I am surprised that there should be any ideological objection on her part to the creation of a staff commission. In respect of the Williams proposals, we produced a further document on that in July, which I think she will have seen. In respect of transparency, given the range of organisations represented at the public service summit—which included, of course, trade unions representing the public sector workforce and employer representatives—I do not think there was any danger of any secrecy with regard to the kind of discussions that were being held there. In respect of what she has to say about senior salaries, clearly we have the independent remuneration panel, and that work will continue. Bydd hi, wrth gwrs, yn cofio y bu comisiynau staff blaenorol yn ystod ad-drefniadau llywodraeth leol blaenorol, gan gynnwys, wrth gwrs, yr ad-drefnu llywodraeth leol a gynhaliwyd gan y weinyddiaeth Geidwadol yng nghanol yr 1990au. Felly, rwyf yn synnu bod unrhyw wrthwynebiad ideolegol ar ei rhan i greu comisiwn staff. O ran cynigion Williams, cynhyrchwyd dogfen ychwanegol gennym ynglŷn â hynny ym mis Gorffennaf, a chredaf y bydd hi wedi gweld honno. O ran tryloywder, ac ystyried yr amrywiaeth o sefydliadau a gynrychiolwyd yn yr uwchgynhadledd gwasanaeth cyhoeddus—a oedd yn cynnwys, wrth gwrs, undebau llafur yn cynrychioli gweithlu'r sector cyhoeddus a chynrychiolwyr cyflogwyr—nid wyf yn credu bod unrhyw berygl o unrhyw gyfrinachedd o ran y math o drafodaethau a gafwyd yno. O ran yr hyn sydd ganddi i'w ddweud am gyflogau uwch-swyddogion, yn amlwg mae gennym y panel taliadau annibynnol, a bydd y gwaith hwnnw'n parhau.
14:50 - Sandy Mewies
I call the Plaid Cymru spokesperson, Rhodri Glyn Thomas. Galwaf ar lefarydd Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas.
14:50 - Rhodri Glyn Thomas
Weinidog, a gaf i, ar ran grŵp Plaid Cymru, groesawu’r datganiad hwn y prynhawn yma, a chroesawu hefyd yr ymgynghoriad ynglŷn â sefydlu comisiwn staff, ond a gaf i ofyn nifer o gwestiynau ynglŷn â’r manylion? Fe wnaeth Mike Hedges ofyn cwestiwn ichi ynglŷn â’r comisiwn staff anstatudol a fydd yn bodoli rhwng 2015 a 2016 ac a fydd comisiwn anstatudol felly yn gallu, mewn gwirionedd, delio â sefyllfaoedd cymhleth lle y mae rhai cynghorau yn cyfuno’n wirfoddol ac fe fydd cwestiynau’n codi ynglŷn â gwerthusiadau swyddi a fydd wedi digwydd o fewn yr awdurdodau blaenorol? A ydych chi’n gwbl hyderus bod comisiwn anstatudol, ar yr adeg dyngedfennol honno, yn mynd i fod yn ddigonol i ddelio â rhai o’r cwestiynau a fydd yn codi? Fe wnaeth y Prif Weinidog, rai wythnosau yn ôl, ddatganiad yma yn dweud nad oedd yn rhagweld y byddai diswyddiadau, ac yn sicr, o ran y gwasanaethau uniongyrchol i’r cyhoedd, bod angen yr un math o weithlu. A ydych chi yr un mor hyderus, os bydd cyfuniadau gwirfoddol a chyfuniadau gorfodol o awdurdodau lleol yn digwydd, y bydd angen yr un math o weithlu? Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi bod yn sôn am ddegau o filoedd o swyddi yn diflannu. Beth yn union fydd rôl y comisiwn yn y sefyllfa honno? A fydd yna rôl iddo gynnig cyngor i awdurdodau lleol? A fydd ganddo awdurdod i geisio sicrhau canlyniadau yn y sefyllfa honno? Minister, may I, on behalf of the Plaid Cymru group, welcome this statement this afternoon, and also welcome the consultation on the establishment of a staff commission, but may I ask a number of questions on the detail? Mike Hedges asked you a question about the non-statutory staff comission that will exist between 2015 and 2016 and whether such a non-statutory commission can, in reality, deal with complex situations where some councils merge voluntarily and questions will arise as regards job evaluations that will have taken place in the previous authorities? Are you completely confident that a non-statutory commission, at that crucial point, will be adequate to deal with some of the questions that will arise? The First Minister, some weeks ago, made a statement here stating that he did not anticipate that there would be redundancies, and certainly, in terms of the direct services to the public, that the same kind of workforce would be required. Are you just as confident that, if voluntary mergers and compulsory mergers of local authorities take place, that the same kind of workforce will be required? The Welsh Local Government Association has been talking about tens of thousands of jobs disappearing. What exactly will the commission’s role be in that situation? Will there be a role for it to advise the local authorities? Will the commission have the authority to seek outcomes in that situation?
A gaf fi ddychwelyd hefyd at y cwestiwn a gododd Janet Finch-Saunders ynglŷn â thaliadau i uwch-swyddogion? Wrth gwrs, y ffaith amdani yw bod tâl uwch-swyddogion yn dibynnu ar dâl prif weithredwyr awdurdodau lleol. Felly, os yw’r bwrdd taliadau annibynnol yn sicrhau bod rhesymoli’n digwydd o ran tâl i brif weithredwyr, bydd hynny’n cael effaith hefyd ar uwch-swyddogion. Roeddech yn sôn bod y bwrdd taliadau annibynnol hwn eisoes yn bodoli. A allwch chi fy nghyfeirio at unrhyw benderfyniad sydd wedi cael ei gymryd gan y bwrdd hwnnw sydd wedi effeithio ar dâl unrhyw brif weithredwr neu brif weithredwraig yng Nghymru, neu ar dâl unrhyw uwch-swyddogion yng Nghymru? Os nad yw hynny wedi digwydd yn barod, sut allwch chi ein hargyhoeddi ni y bydd yn digwydd yn ystod y cyfnod pan fydd cyfuno’n digwydd yn wirfoddol ac yn orfodol? Os ydy’r tirlun yn cynyddu o ran cyfrifoldebau’r swyddogion hyn, a fydd yna duedd i godi cyflogau, neu a ydych yn hyderus y bydd y comisiwn hwn, ynghyd â’r bwrdd taliadau annibynnol, yn gallu rhesymoli’r sefyllfa honno a sicrhau, er enghraifft, nad yw prif weithredwr awdurdod lleol yn ne-orllewin Cymru yn gallu cael tâl sy’n cyfateb i brif weithredwr Essex yn Lloegr? May I return to the question that Janet Finch-Saunders raised about payments to senior officers? Of course, the fact of the matter is that the pay of senior officers is dependent upon the pay of local authority chief executives. So, if the independent remuneration board ensures that there is rationalisation of pay for chief executives, that will also have an impact on senior officers. You said that this independent remuneration board already exists. Can you refer me to any decision that has been taken by that board that has affected the salaries of any chief executive in Wales, or the pay of any senior officers in Wales? If that has not occurred to date, how can you convince us that that will happen during the period when mergers will be taking place, whether they are voluntary or mandatory? If the landscape is augmented as regards the responsibilities of these officers, will there be a trend of increasing salaries, or are you confident that this commission, together with the independent remuneration board, can rationalise that situation and ensure, for example, that the chief executive of a local authority in south-west Wales cannot receive pay that corresponds to that of the chief executive of Essex in England?
14:54 - Leighton Andrews
Perhaps I could start with the issue of senior salaries, the issue which the Member finished on. I certainly think that he raises some very valid questions about the salaries of certain long-serving chief executives who may have been in post before the work of the independent remuneration panel commenced. I think that some of the comments he made there may have a certain degree of validity, and I think that many eyebrows have been raised over some of the payments of senior salaries to chief executives in certain authorities in recent years. I think that nobody objects to paying for the highest quality when it comes to serious and senior jobs, and we would certainly be looking to local authorities that emerge out of our process of local government reform to recruit people of a high calibre to those positions. I think that that will be an important statement for the future. However, overall, as I have said, fewer local authorities will mean fewer local authority chief executives and fewer senior salaries of that kind, if reorganisation is carried through properly. Efallai y gallwn ddechrau â mater cyflogau uwch-swyddogion, y mater y gwnaeth yr Aelod orffen arno. Rwyf yn sicr yn credu ei fod yn gofyn rhai cwestiynau dilys iawn am gyflogau rhai prif weithredwyr hirsefydlog a allai fod wedi bod yn eu swyddi cyn i waith y panel annibynnol ar gydnabyddiaeth ariannol gychwyn. Rwyf yn meddwl bod rhywfaint o ddilysrwydd i rai o'r sylwadau a wnaethpwyd ganddo, a chredaf fod llawer o aeliau wedi’u codi oherwydd rhai o daliadau cyflogau uwch-swyddogion i brif weithredwyr rhai awdurdodau yn y blynyddoedd diwethaf. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un yn gwrthwynebu talu am yr ansawdd uchaf ar gyfer swyddi pwysig ac uwch, a byddem yn sicr yn dymuno i’r awdurdodau lleol a fydd yn dod i’r amlwg o'n proses o ddiwygio llywodraeth leol recriwtio pobl o safon uchel i'r swyddi hynny. Rwyf yn credu y bydd hynny'n ddatganiad pwysig ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, at ei gilydd, fel y dywedais, mae llai o awdurdodau lleol yn golygu llai o brif weithredwyr awdurdodau lleol a llai o gyflogau o’r fath i uwch-swyddogion, os caiff yr ad-drefnu ei wneud yn gywir.
May I welcome what he said in terms of his support for the consultation on the staff commission? He asked whether we thought it could deal with complex issues, and I think that, yes, it will. It will be down to the calibre of the people we recruit to the commission. However, clearly, there is a consultation now on the role and functions of the non-statutory and statutory staff commission in this White Paper. We look forward to his representations on that and representations from others. In respect of the issue of redundancies, certainly, I would expect the non-statutory staff commission and the subsequent statutory staff commission to look at the issue of best practice. I think that we need to be very clear, as the First Minister was the other day, in respect of our preference to see best practice pursued in respect of front-line services. I think that there are going to be issues about the merger of services overall and particularly of senior posts within the new authorities as a result of that. I think that what we have to be clear about, however, is that there are opportunity costs to not going through a process of local government reorganisation, and people, I think, are too often prepared to talk about the difficulties of any merger process without considering whether we have an optimum system of local government in Wales currently. I think that the Plaid Cymru spokesperson, like me, probably feels that the current system is not the optimum system for local government post-devolution. A gaf fi groesawu'r hyn a ddywedodd o ran ei gefnogaeth i'r ymgynghoriad ar y comisiwn staff? Gofynnodd a oeddem yn credu y gallai ymdrin â materion cymhleth, ac rwyf yn meddwl y bydd yn gallu gwneud hynny. Bydd yn dibynnu ar safon y bobl yr ydym yn eu recriwtio i'r comisiwn. Fodd bynnag, yn amlwg, mae ymgynghoriad nawr ynglŷn â gwaith a swyddogaethau'r comisiwn staff anstatudol a statudol yn y Papur Gwyn. Rydym yn edrych ymlaen at ei sylwadau am hynny ac at sylwadau gan bobl eraill. O ran diswyddiadau, yn sicr, byddwn yn disgwyl i'r comisiwn staff anstatudol a’r comisiwn staff statudol dilynol edrych ar fater arfer gorau. Credaf fod angen inni fod yn glir iawn, fel yr oedd y Prif Weinidog y diwrnod o'r blaen, y byddem yn hoffi gweld arfer gorau’n cael ei ddilyn mewn gwasanaethau rheng flaen. Credaf y bydd problemau yn ymwneud ag uno gwasanaethau’n gyffredinol ac yn enwedig uno uwch swyddi o fewn yr awdurdodau newydd yn sgil hynny. Credaf mai'r hyn y mae’n rhaid inni fod yn glir yn ei gylch, fodd bynnag, yw bod costau cyfle yn gysylltiedig â pheidio â mynd drwy broses o ad-drefnu llywodraeth leol, ac mae pobl, rwyf yn meddwl, yn rhy aml yn barod i siarad am anawsterau unrhyw broses uno heb ystyried pa un a oes gennym y system lywodraeth leol orau bosibl yng Nghymru ar hyn o bryd. Credaf fod llefarydd Plaid Cymru, fel finnau, yn ôl pob tebyg yn teimlo nad y system bresennol yw’r system orau bosibl ar gyfer llywodraeth leol ar ôl datganoli.
14:57 - Sandy Mewies
I call the Liberal Democrat spokesperson, Peter Black. Galwaf ar lefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black.
14:57 - Peter Black
Thank you, Chair. May I also welcome the statement and also the White Paper, which I have scan-read in the half hour or so that I have had a chance to look at it? I just have three issues I want to raise with you, Minister. In paragraph 78 of the White Paper, the author of the paper says with regard to the 1995 reorganisation that Diolch, Gadeirydd. A gaf finnau groesawu'r datganiad a hefyd y Papur Gwyn, yr wyf wedi’i ddarllen yn fras yn yr oddeutu hanner awr yr wyf wedi’i gael i edrych arno? Dim ond tri mater sydd gennyf yr hoffwn eu codi gyda chi, Weinidog. Ym mharagraff 78 y Papur Gwyn, mae awdur y papur yn dweud o ran yr ad-drefnu yn 1995
‘culture change did not take place overnight in previous structural change in Local Government. It took time to harmonise terms and conditions and to bring together different approaches and philosophies to providing public services in the new Local Authorities. We want to ensure this does not happen again’. ni ddigwyddodd newid mewn diwylliant dros nos mewn newidiadau strwythurol blaenorol i Lywodraeth Leol. Cymerodd amser i gysoni telerau ac amodau ac i ddwyn ynghyd gwahanol ymagweddau ac athroniaethau ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus yn yr Awdurdodau Lleol newydd. Rydym yn awyddus i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.
Given that intention, may I ask how the commission that is being set up today, or via this consultation, is going to be different to the 1994 commission in terms of ensuring that things are different with the forthcoming reorganisation? O ystyried y bwriad hwnnw, a gaf fi ofyn sut y bydd y comisiwn sy’n cael ei sefydlu heddiw, neu drwy'r ymgynghoriad hwn, yn wahanol i gomisiwn 1994 o ran sicrhau bod pethau’n wahanol gyda'r ad-drefnu sydd ar y gweill?
Secondly, in terms of the 1994 commission, having served as a councillor through that reorganisation, I have to say that I considered that commission to be fairly anonymous. How will the new commission be more proactive in making its presence felt with local councils and with the other bodies that will, of course, be impacted by this reorganisation? Finally, in terms of the work of the commission, you are very clear in saying that it will not encroach upon the independence of councils or the other work councils are doing. How is the commission going to do its work without—. What is the balance going to be in terms of how it does its work in terms of getting its remit right while, at the same time, allowing councils to act in an independent way and to make their own decisions? Yn ail, o ran comisiwn 1994, a minnau wedi gwasanaethu fel cynghorydd drwy’r ad-drefnu hwnnw, mae’n rhaid imi ddweud fy mod yn ystyried y comisiwn hwnnw i fod yn weddol anhysbys. Sut y bydd y comisiwn newydd yn fwy rhagweithiol o ran sicrhau bod cynghorau lleol a chyrff eraill y bydd yr ad-drefnu hwn, wrth gwrs, yn effeithio arnynt, yn teimlo ei bresenoldeb? Yn olaf, o ran gwaith y comisiwn, rydych yn dweud yn glir iawn na fydd yn ymyrryd ag annibyniaeth cynghorau na’r gwaith arall y mae cynghorau’n ei wneud. Sut y mae'r comisiwn yn mynd i wneud ei waith heb—. Beth fydd y cydbwysedd o ran sut y mae'n gwneud ei waith o ran cael ei gylch gorchwyl yn gywir ac, ar yr un pryd, caniatáu i gynghorau weithredu mewn modd annibynnol a gwneud eu penderfyniadau eu hunain?
14:59 - Leighton Andrews
Okay. May I thank the Liberal Democrat spokesperson for his support for the consultation and for the proposal? I welcome the questions that he has asked. If I may start with the first issue of culture change, I think that what we have here is an approach to public service reform that has now been underpinned first by the Williams commission and secondly by our reforming local government White Paper and public services White Paper in the summer. We will, of course, be producing a further White Paper in the new year that will look at, among other things, the vision for local government and address some questions around functions and responsibilities. So, I do not think that there is a wider cultural context, but I hope that there has been wider buy-in about the need for change to happen. Iawn. Hoffwn ddiolch i lefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol am ei gefnogaeth i'r ymgynghoriad ac i’r cynnig. Croesawaf y cwestiynau y mae wedi’u gofyn. Os caf ddechrau â’r mater cyntaf o newid diwylliant, rwyf yn meddwl mai’r hyn sydd gennym yma yw agwedd tuag at ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi’i ategu nawr yn gyntaf gan gomisiwn Williams ac yn ail gan ein Papur Gwyn diwygio llywodraeth leol a’n Papur Gwyn gwasanaethau cyhoeddus yn yr haf. Byddwn, wrth gwrs, yn cynhyrchu Papur Gwyn arall yn y flwyddyn newydd a fydd yn edrych ar, ymhlith pethau eraill, y weledigaeth ar gyfer llywodraeth leol ac yn ateb rhai cwestiynau ynghylch swyddogaethau a chyfrifoldebau. Felly, nid wyf yn credu bod cyd-destun diwylliannol ehangach, ond rwyf yn gobeithio y bu mwy o gytundeb bod angen i newid ddigwydd.
I cannot compete with his expertise on being around at the time of the last local government reorganisation. There are other Members in this Chamber who have much closer communion, shall I say, with those issues than I could ever pretend to have, and I would welcome input, at this stage, on any observations or lessons to be learned from those previous reorganisations from those who were in local government at the time. However, what we do know that we have here is recognition across pretty much the whole of this Chamber that change needs to happen, and it is within that context that we are taking these proposals forward. Ni allaf gystadlu â’i arbenigedd o fod o gwmpas ar adeg yr ad-drefnu llywodraeth leol diwethaf. Mae Aelodau eraill yn y Siambr hon sy’n llawer mwy cyfarwydd, os caf ei roi felly, â'r materion hynny nag y gallwn i byth esgus fy mod, a byddwn yn croesawu cyfraniadau, ar y cam hwn, am unrhyw sylwadau neu wersi i'w dysgu o’r ad-drefniadau blaenorol hynny gan bobl a oedd mewn llywodraeth leol ar y pryd. Fodd bynnag, yr hyn yr ydym yn gwybod ei fod gennym yma yw cydnabyddiaeth ar draws y Siambr hon i gyd mwy neu lai bod angen i newid ddigwydd, ac o fewn y cyd-destun hwnnw yr ydym ni’n bwrw ymlaen â’r cynigion hyn.
The Liberal Democrats’ spokesperson also suggested that the previous commission was rather more anonymous, and that may have been its role, but, clearly, in this particular regard, it will have a role. We are commencing with the launching of this White Paper, there will be a consultation on that, and there will be, I hope, a more transparent and public process around this commission. We will then be obviously legislating for the statutory staff commission and we are very clear, in advance of the timescale through which it will function. So, there is clarity and transparency around that, and that would be different from the past. Awgrymodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd fod y comisiwn blaenorol ychydig yn fwy anhysbys, ac efallai mai dyna oedd ei swyddogaeth, ond, yn amlwg, yn hyn o beth, bydd ganddo swyddogaeth. Rydym yn dechrau drwy lansio’r Papur Gwyn hwn, bydd ymgynghoriad ar hynny, a bydd, gobeithio, proses fwy tryloyw a chyhoeddus o amgylch y comisiwn hwn. Yna, yn amlwg, byddwn yn deddfu ar gyfer y comisiwn staff statudol ac rydym yn glir iawn, ymlaen llaw o’r amserlen y bydd yn gweithio oddi mewn iddi. Felly, ceir eglurder a thryloywder ynghylch hynny, a byddai hynny'n wahanol i'r gorffennol.
Finally, in respect of the power and influence, if you like, of the commission, the Member is well aware of my view that, sometimes, it takes fines, bribes or legislation to ensure that certain things happen in respect of certain aspects of local government, such as collaboration. What we will be creating here is a situation where the commission will have the power to advise Ministers, and Ministers themselves will be able to support the commission in its work—shall I put it like that? Yn olaf, o ran pŵer a dylanwad, os mynnwch, y comisiwn, mae’r Aelod yn ymwybodol iawn o fy marn i ei bod, weithiau, yn cymryd dirwyon, llwgrwobrwyon neu ddeddfwriaeth i sicrhau bod rhai pethau'n digwydd mewn rhai agweddau ar lywodraeth leol, megis cydweithio. Yr hyn y byddwn yn ei greu yma yw sefyllfa lle bydd gan y comisiwn y pŵer i gynghori Gweinidogion, a bydd y Gweinidogion eu hunain yn gallu cefnogi gwaith y comisiwn—a gaf fi ei roi felly?
15:02 - Simon Thomas
Hoffwn ofyn tri pheth yn glou i’r Gweinidog am y datganiad heddiw. Yn gyntaf oll, a fedrwch chi esbonio, Weinidog, pam y gwahaniaeth rhwng anstatudol ac wedyn symud i’r pwrpas statudol? Beth sy’n elwa? Pa werth sy’n cael ei ychwanegu at y broses drwy wneud hynny? I would like to ask three things briefly to the Minister on the statement today. First of all, can you explain, Minister, why this difference between the non-statutory and then the shift to the statutory purpose? What benefits does that bring? What value is being added to the process by doing that?
Mae’n bosibl bod hwn yn y Papur Gwyn, ond nid wyf wedi cael cyfle i’w ddarllen yn drwyadl eto. Fodd bynnag, rwyf wedi sylwi yn y Papur Gwyn ar y rhestr o gyrff cyhoeddus sy’n dod o dan gylch gorchwyl y comisiwn hwn. Mae un peth amlwg ar goll, wrth gwrs, sef y gwasanaeth sifil. Wrth inni symud at ragor o ddatganoli yng Nghymru ac ‘ymreolaeth’ yng ngeiriau’r Prif Weinidog, pryd y byddwn yn cael cyfle i drafod a meddwl am gael crafangau San Steffan oddi ar ein gwasanaeth sifil ni, a dod â’r gwasanaeth sifil i fod yn graidd i wasanaeth cyrff cyhoeddus go iawn i Gymru, sy’n cwmpasu pob agwedd ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? A yw hynny, felly, yn fwriad tymor hir y Llywodraeth a’r Gweinidog y tu fewn i gyd-destun y datganoli sy’n digwydd yn awr? It is possible that this is in the White Paper, but I have not had an opportunity to read that in detail as of yet. However, I have noticed in the White Paper the schedule of public bodies that will be included within the remit of this commission. One thing is prominently missing, of course, namely the civil service. As we move towards further devolution in Wales and ‘home rule’ to use the First Minister’s own words, when we will have an opportunity to discuss and think about getting Westminster’s claws off our civil service, and bring the civil service into the heart of real public service in Wales, which encompasses all aspects of public services in Wales? Is that, therefore, a long-term intention of this Government and this Minister within the context of devolution currently as it stands?
Yn olaf ac yn benodol iawn, gan ein bod yn nes ymlaen y prynhawn yma, am wn i, yn mynd i bleidleisio o blaid y cynnig sy’n sôn am y datganoli sy’n dod yn sgil adroddiad Silk rhan 2, rydym yn gwybod bod tâl ac amodau gwaith athrawon yn llifo o hynny. Ai dyma’r comisiwn a fydd yn trafod sut mae datganoli tâl ac amodau athrawon yn cael eu darparu a’u gweithredu yng Nghymru hefyd? Finally, and very specifically, as we will be voting later this afternoon, I presume, in favour of the motion that talks about the devolution to come in light of the Silk report part 2, we know that teachers ' pay and conditions will flow from that. Is this the commission that will discuss how the devolution of teachers’ pay and conditions will be provided for and implemented in Wales?
15:04 - Leighton Andrews
On the last point, the answer to that is probably ‘no’. On the second question, I think it is a little unfair to the civil service in Wales to suggest that it is operating under some kind of Whitehall stranglehold. If you contrasted the civil service that supports the Welsh Government with the civil service as it used to be constituted under the old Welsh Office, I think you would note a remarkable degree of independence, creativity and imagination that maybe was not there in the past. O ran y pwynt olaf, yr ateb i hynny, mae'n debyg, yw 'na'. O ran yr ail gwestiwn, rwyf yn meddwl ei bod ychydig yn annheg i'r gwasanaeth sifil yng Nghymru i awgrymu ei fod yn gweithredu mewn rhyw fath o afael haearnaidd gan Whitehall. Os byddwch yn cymharu’r gwasanaeth sifil sy'n cefnogi Llywodraeth Cymru â’r gwasanaeth sifil fel yr arferai fod wedi’i gyfansoddi dan yr hen Swyddfa Gymreig, rwyf yn meddwl y byddech yn gweld llawer iawn o annibyniaeth, creadigrwydd a dychymyg nad oeddent, efallai, yno yn y gorffennol.
In respect of the difference between a non-statutory and statutory staff commission, as we move forward, our expectation, as we say in the White Paper, is principally that a non-statutory staff commission will be likely to focus on, or certainly will have as its first-priority task, local authority voluntary mergers, as we say in paragraph 35: O ran y gwahaniaeth rhwng comisiwn staff anstatudol a statudol, wrth inni symud ymlaen, ein disgwyliad pennaf, fel y dywedwn yn y Papur Gwyn, yw y bydd comisiwn staff anstatudol yn debygol o ganolbwyntio ar uno gwirfoddol awdurdodau lleol, neu yn sicr dyna fydd ei dasg blaenoriaeth gyntaf, fel yr ydym yn ei ddweud ym mharagraff 35:
‘working with employers and unions to develop solutions for the workforce issues which will require action and resolution.’ ‘gan gydweithio â chyflogwyr ac undebau er mwyn datblygu atebion ar gyfer materion y gweithlu y bydd angen mynd i’r afael â nhw a’u datrys.’
Clearly, we will move forward to the statutory staff commission subsequently. Yn amlwg, byddwn yn symud ymlaen at y comisiwn staff statudol wedi hynny.
15:05 - Sandy Mewies
Thank you, Minister. Diolch, Weinidog.
Statement: Climate Change Policy Refresh Datganiad: Adnewyddu'r Polisi Newid yn yr Hinsawdd
I call the Minister for Natural Resources, Carl Sargeant. Galwaf ar y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant.
15:05 - Carl Sargeant
Thank you, acting Deputy Presiding Officer. The priorities of our refreshed approach to climate change are driving out climate risk, driving down emissions, driving up energy efficiency, and driving forward low-carbon energy, focusing on green growth, tackling social vulnerability and strengthening governance to support engagement and involvement. Our last annual report acknowledged that, although we have made significant progress, there are serious implications, highlighted by the international panel on climate change, and progress on our 40% target underlined a need to do more. We therefore undertook to refresh our approach, and, today, I am setting out our commitment, going forward. Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Blaenoriaethau ein hymagwedd newydd at newid yn yr hinsawdd yw dileu risg yn yr hinsawdd, lleihau allyriadau, gwella effeithlonrwydd ynni, a sbarduno ynni carbon-isel, gan ganolbwyntio ar dwf gwyrdd, ymdrin â bregusrwydd cymdeithasol a chryfhau ein trefn lywodraethu i gefnogi ymgysylltiad a chyfranogiad. Roedd ein hadroddiad blynyddol diwethaf yn cydnabod, er ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol, y ceir goblygiadau difrifol, a amlygwyd gan y panel rhyngwladol ar newid yn yr hinsawdd, ac roedd y cynnydd ar ein targed o 40% yn tanlinellu'r angen i wneud mwy. Felly, gwnaethom ymrwymo i adnewyddu ein dull gweithredu, a, heddiw, rwyf yn amlinellu ein hymrwymiad, wrth symud ymlaen.
The risks of irreversible impacts and the message that the longer we wait, the more it will cost mean that it is vital that we rise to the challenge. Our ambition is not just to tackle climate change, but to build a more prosperous and secure Wales, and we will do this by laying the foundations that support all sectors to take action. Mae'r risgiau o effeithiau diwrthdro a'r neges mai’r hiraf y byddwn yn aros, y mwyaf y bydd yn ei gostio, yn golygu ei bod yn hanfodol ein bod yn ymateb i'r her. Ein huchelgais yw nid yn unig ymdrin â newid yn yr hinsawdd, ond adeiladu Cymru fwy ffyniannus a diogel, a byddwn yn gwneud hyn drwy osod y sylfeini sy'n cefnogi pob sector i weithredu.
First, we will do this by tackling climate risks. Last winter, in places like Aberystwyth, we saw our vulnerability to severe weather. Climate change carries a cost, and the damage to publicly owned assets alone was estimated at around £8.1 million. Going forward, we must also build resilience to this. Yn gyntaf, byddwn yn gwneud hyn drwy ymdrin â risgiau hinsawdd. Y gaeaf diwethaf, mewn lleoedd fel Aberystwyth, gwelsom ein bregusrwydd i dywydd garw. Mae cost ynghlwm â newid yn yr hinsawdd, ac amcangyfrifwyd bod y difrod i asedau mewn perchnogaeth gyhoeddus yn unig oddeutu £8.1 miliwn. Wrth symud ymlaen, mae’n rhaid inni hefyd adeiladu gallu i wrthsefyll hyn.
We have already provided financial assistance to support the recovery from the storms, and almost £300 million is being spent on flood risk management in Wales over the life of this Government. In the face of a changing climate, we must also ensure that our hospitals can continue to treat patients, and so we have undertaken a climate impact assessment of our NHS buildings. In our schools, we will be implementing school standards to improve school design and refurbishment. Greater efficiency of our public buildings also means less expenditure on running costs and more for front-line services. This is why we have committed an additional £3 million for energy efficiency projects in the public sector. Rydym eisoes wedi darparu cymorth ariannol i gefnogi'r adferiad o'r stormydd, ac mae bron i £300 miliwn yn cael ei wario ar reoli perygl llifogydd yng Nghymru yn ystod oes y Llywodraeth hon. Yn wyneb newid yn yr hinsawdd, mae’n rhaid inni hefyd sicrhau y gall ein hysbytai barhau i drin cleifion, ac felly rydym wedi cynnal asesiad o effaith yr hinsawdd ar ein hadeiladau GIG. Yn ein hysgolion, byddwn yn rhoi safonau ysgolion ar waith i wella dyluniad ysgolion a’u hailwampio. Mae mwy o effeithlonrwydd yn ein hadeiladau cyhoeddus hefyd yn golygu llai o wariant ar gostau cynnal a mwy ar gyfer gwasanaethau rheng flaen. Dyma pam yr ydym wedi neilltuo £3 miliwn ychwanegol ar gyfer prosiectau effeithlonrwydd ynni yn y sector cyhoeddus.
Climate adaptation is not just about technology and buildings, but also about the better use of our natural resources. Sustainable urban drainage and green infrastructure provide opportunities to improve our environment and water management, and provide improved health and wellbeing for all our communities. The long-term context of climate change and decreasing public subsidy means that the next rural development programme must support increased resilience in the agricultural industry. Today, I am publishing the review of land use climate change, which will inform the interventions of the RDP and the new agriculture strategy. Our aim is to build a confident, resilient, profitable and climate-ready agricultural industry that drives sustainable growth and supports prosperous rural communities. Nid yw addasu i'r hinsawdd yn ymwneud â thechnoleg ac adeiladau’n unig; mae hefyd yn ymwneud â defnyddio ein hadnoddau naturiol yn well. Mae draenio trefol cynaliadwy a seilwaith gwyrdd yn darparu cyfleoedd i wella ein hamgylchedd a’n dulliau rheoli dŵr, ac yn darparu gwell iechyd a lles i’n holl gymunedau. Mae’r cyd-destun newid yn yr hinsawdd yn y tymor hir a’r gostyngiad mewn cymhorthdal ​​cyhoeddus yn golygu y bydd yn rhaid i'r rhaglen datblygu gwledig nesaf gefnogi mwy o wytnwch yn y diwydiant amaethyddol. Heddiw, rwyf yn cyhoeddi adolygiad o newid yn yr hinsawdd defnydd tir, a fydd yn llywio ymyraethau’r Cynllun Datblygu Gwledig a'r strategaeth amaethyddol newydd. Ein nod yw adeiladu diwydiant amaethyddol hyderus, gwydn, proffidiol a hinsawdd-barod sy'n sbarduno twf cynaliadwy ac yn cefnogi cymunedau gwledig ffyniannus.
Tackling climate change by driving out all avoidable emissions and increasing efficiency can bring significant benefits and new opportunities for farm businesses. We will therefore drive forward practical action like covering farm slurry pits, which will reduce methane emissions, provide cleaner fuel, replace expensive fertiliser, reduce water pollution, and increase efficiency. Markets in energy, carbon and water are also emerging, and offer the potential for the diversification of income. Simple actions like planting hedgerows, shelter belts and woodlands can improve water management, too, locking away carbon and delivering wider benefits. Mae ymdrin â newid yn yr hinsawdd drwy ddileu pob allyriad y gellir ei osgoi a chynyddu effeithlonrwydd yn gallu creu manteision sylweddol a chyfleoedd newydd i fusnesau fferm. Byddwn felly’n sbarduno camau ymarferol ymlaen megis gorchuddio pyllau slyri ffermydd, a fydd yn lleihau allyriadau methan, yn darparu tanwydd glanach, yn cymryd lle gwrtaith drud, yn lleihau llygredd dŵr, ac yn cynyddu effeithlonrwydd. Mae marchnadoedd ynni, carbon a dŵr hefyd yn dod i'r amlwg, ac yn cynnig y potensial i arallgyfeirio incwm. Gall camau syml fel plannu gwrychoedd, lleiniau cysgodi a choetiroedd wella dulliau rheoli dŵr, hefyd, gan gloi carbon a darparu manteision ehangach.
Offsetting is not a substitute for reducing emissions, but by supporting an increase in timber for construction, it can deliver on climate change targets and encourage our construction industry to look at low-carbon alternatives. This is why we will be prioritising the work to take this forward through the example of the woodland carbon code. Ni ellir gwrthbwyso yn lle lleihau allyriadau, ond drwy gefnogi cynnydd mewn coed ar gyfer adeiladu, gall gyflawni targedau newid yn yr hinsawdd ac annog ein diwydiant adeiladu i edrych ar ddewisiadau eraill carbon-isel. Dyma pam y byddwn yn defnyddio enghraifft y cod carbon coetiroedd i flaenoriaethu'r gwaith i ddatblygu hyn.
Our work on energy efficiency has demonstrated that action on climate change can drive economic growth and tackle vulnerability and inequality—win-wins that are at the heart of our Government priorities. In refreshing our approach, we will go further. By developing a new strategy for energy efficiency, we will build on the track record of Government programmes like Arbed and the £108 million that we invest annually to achieve the Welsh housing quality standard. We will also work with the Joseph Rowntree Foundation and others to fully understand climate change’s disproportionate impact on the most vulnerable in our communities. Mae ein gwaith ar effeithlonrwydd ynni wedi dangos bod gweithredu ar newid yn yr hinsawdd yn gallu sbarduno twf economaidd ac ymdrin â bregusrwydd ac anghydraddoldeb—mae hyn yn golygu bod pawb ar eu hennill a dyna sydd wrth wraidd blaenoriaethau ein Llywodraeth. Wrth adnewyddu ein dull gweithredu, byddwn yn mynd ymhellach. Drwy ddatblygu strategaeth newydd ar gyfer effeithlonrwydd ynni, byddwn yn adeiladu ar hanes rhaglenni Llywodraeth megis Arbed a’r £108 miliwn yr ydym yn ei fuddsoddi yn flynyddol i gyrraedd safon ansawdd tai Cymru. Byddwn hefyd yn gweithio gyda Sefydliad Joseph Rowntree ac eraill i ddeall yn llawn effaith anghymesur newid yn yr hinsawdd ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
However, the right policies take us only so far. As a Government, this is why we are working to put in place the finance, support, innovation, skills and legislation to drive green growth. I have already announced that we have committed £5 million to the development of ‘Green Growth Wales’. To drive resource efficiency, I am also launching a national service, Resource Efficient Wales, to give people accurate and reliable advice and technical support to take practical action. Fodd bynnag, dim ond rhan o’r ffordd yr aiff y polisïau cywir â ni. Fel Llywodraeth, dyma pam yr ydym yn gweithio i sicrhau’r cyllid, y gefnogaeth, yr arloesedd, y sgiliau a’r ddeddfwriaeth i sbarduno twf gwyrdd. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi ein bod wedi ymrwymo £5 miliwn i ddatblygu ‘Twf Gwyrdd Cymru'. I sbarduno effeithlonrwydd adnoddau, rwyf hefyd yn lansio gwasanaeth cenedlaethol, Adnoddau Effeithlon Cymru, i roi cyngor a chymorth technegol cywir a dibynadwy i bobl i gymryd camau ymarferol.
Building on our support of innovation, our Sêr Cymru programme has committed £50 million to enhance the research capability in Wales, which complements our £85 million capital investment in the energy industry, and the 15 projects under the climate change framework, worth almost £164 million in EU funds. Our work implementing the skills strategy will also prioritise low-carbon energy and energy efficiency. I adeiladu ar ein cefnogaeth i arloesi, mae ein rhaglen Sêr Cymru wedi ymrwymo £50 miliwn i wella'r gallu ymchwil yng Nghymru, sy'n ategu ein buddsoddiad cyfalaf o £85 miliwn yn y diwydiant ynni, a’r 15 o brosiectau dan y fframwaith newid yn yr hinsawdd, sy'n werth bron i £164 miliwn mewn cronfeydd UE. Bydd ein gwaith o weithredu'r strategaeth sgiliau hefyd yn blaenoriaethu ynni carbon-isel ac effeithlonrwydd ynni.
This demonstrates our cross-cutting Government approach to climate change and shows that climate change is about our economy, our society and our environment. In other words, tackling climate change requires sustainable development. For that, we must do three things: we must know what we are aiming for and the key principles to apply; we must have a clear evidence base of the key risks and opportunities; and we must have an efficient process to ensure that the right development is located in the right place. This is what we are putting in place through the wellbeing of future generations, environment and planning Bills. I recognise, however, the need to strengthen governance even further along this process. Mae hyn yn dangos agwedd drawsbynciol ein Llywodraeth at newid yn yr hinsawdd ac yn dangos bod newid yn yr hinsawdd yn ymwneud â’n heconomi, ein cymdeithas a'n hamgylchedd. Mewn geiriau eraill, mae angen datblygu cynaliadwy er mwyn ymdrin â newid yn yr hinsawdd. I gyflawni hynny, mae’n rhaid inni wneud tri pheth: mae’n rhaid inni wybod beth yw ein nod a pha egwyddorion allweddol i’w defnyddio; mae’n rhaid inni gael sylfaen dystiolaeth glir o'r risgiau a'r cyfleoedd allweddol; ac mae’n rhaid inni gael proses effeithlon i sicrhau bod y datblygiad cywir wedi’i leoli yn y lle cywir. Dyma’r hyn yr ydym yn ei roi ar waith drwy gyfrwng y Biliau lles cenedlaethau'r dyfodol, yr amgylchedd a chynllunio. Rwyf yn cydnabod, fodd bynnag, bod angen cryfhau’r drefn lywodraethu hyd yn oed ymhellach ar hyd y broses hon.
In implementing the Well-being of Future Generations (Wales) Bill, we will be emphasising engagement and involvement in climate change, linked to the creation of a commissioner for future generations. Through the environment Bill, I intend to set out a legal framework to identify climate risks and provide an evidence base for action. In our annual report on climate change, we will go further, setting out progress on delivery in each area of Wales and strengthening our internal governance to ensure that we deliver on our own estate. Wrth roi’r Bil Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) ar waith, byddwn yn pwysleisio ymgysylltiad a chyfranogiad ym maes newid yn yr hinsawdd, sy'n gysylltiedig â chreu comisiynydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Drwy'r Bil amgylchedd, rwyf yn bwriadu gosod fframwaith cyfreithiol i nodi risgiau o ran yr hinsawdd a darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer gweithredu. Yn ein hadroddiad blynyddol ar newid yn yr hinsawdd, byddwn yn mynd ymhellach, gan nodi'r cynnydd ar gyflawni ym mhob ardal o Gymru a chryfhau ein trefn lywodraethu fewnol i sicrhau ein bod yn cyflawni ar ein hystâd ein hunain.
Ultimately, no government can tackle climate change alone, and I ask all sectors to support us to take action. In Wales, we have shown that we can dramatically reduce waste; we must now show that we can do the same with our emissions. Yn y pen draw, ni all unrhyw lywodraeth ymdrin â newid yn yr hinsawdd ar ei phen ei hun, ac rwyf yn gofyn i bob sector ein cefnogi i weithredu. Yng Nghymru, rydym wedi dangos y gallwn leihau gwastraff yn sylweddol; mae’n rhaid inni nawr ddangos y gallwn wneud yr un peth gyda’n hallyriadau.
15:12 - Sandy Mewies
Thank you, Minister. There are six Members hoping to speak in this debate, so I ask that, after their preamble, Members come to their questions in a timely manner, so that everyone can ask their questions and hear the answers. Diolch, Weinidog. Mae chwe Aelod yn gobeithio siarad yn y ddadl hon, felly gofynnaf i’r Aelodau, ar ôl eu rhagymadrodd, ddod at eu cwestiynau mewn modd prydlon, er mwyn i bawb gael gofyn eu cwestiynau a chlywed yr atebion.
15:12 - Mick Antoniw
In the statement, Minister, I very much welcome the two points that you make about driving down emissions and driving forward low-carbon energy. Of course, there still remains the issue of shale gas and fracking as a potential energy issue in the future. Of course, you have made statements in the past on the issue of safety and community impact, but of course there does need to be a consideration of the fact that it is a fossil fuel, of the impact that this might have on our renewable energy targets, and of where we, as an Assembly and as a Welsh Government stand in respect of this. It seems to me that there are two things: one is, really, your view on the need for the whole issue of underground resources to actually be devolved to Wales; and the second one is the issue of having, I suppose, a debate or a more detailed consideration of policy around the whole issue of shale gas exploitation. Yn y datganiad, Weinidog, rwyf yn croesawu'n fawr y ddau bwynt yr ydych yn eu gwneud am leihau allyriadau a hybu ynni carbon-isel. Wrth gwrs, mae mater nwy siâl a ffracio’n dal i fodoli fel mater egni posibl yn y dyfodol. Wrth gwrs, rydych wedi gwneud datganiadau yn y gorffennol ynglŷn â diogelwch ac effaith ar y gymuned, ond wrth gwrs mae angen ystyried y ffaith ei fod yn danwydd ffosil, yr effaith y gallai hyn ei chael ar ein targedau ynni adnewyddadwy, a ble yr ydym ni, fel Cynulliad ac fel Llywodraeth Cymru, yn sefyll yn hyn o beth. Mae'n ymddangos i mi bod dau beth: un yw, mewn gwirionedd, eich barn ar yr angen i ddatganoli adnoddau tanddaearol i Gymru mewn gwirionedd; a'r ail yw’r mater o gynnal, mae'n debyg, dadl neu ystyriaeth fanylach o bolisi ynghylch yr holl fater o elwa ar nwy siâl.
15:13 - Carl Sargeant
I thank the Member for his precise question, and recognise his concern, as do many others in this Chamber, regarding the technology around fracking and shale gas exploitation. I believe that, as a Government, we operate a very precautionary approach to planning processes. It is complex on the basis that part of the licensing regime still rests with the UK Government and, therefore, it is something that I share with the Member in terms of understanding properly the science behind the technology and the impact on communities. This is something that I believe we do take into consideration through the planning principle. Notwithstanding that, what we have to do is make sure that we have energy security in the long term, understanding the impacts that it has on climate change. It is something that I am very aware of during this process. Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn manwl, ac rwyf yn cydnabod ei bryder, fel y mae llawer eraill yn y Siambr hon, ynglŷn â’r dechnoleg o gwmpas ffracio ac elwa ar nwy siâl. Rwyf yn credu ein bod ni, fel Llywodraeth, yn gweithredu dull rhagofalus iawn i brosesau cynllunio. Mae'n gymhleth ar y sail bod rhan o'r system drwyddedu’n dal i fod yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU ac, felly, mae'n rhywbeth yr wyf yn ei rannu gyda'r Aelod o ran deall yn iawn y wyddoniaeth y tu ôl i'r dechnoleg a'r effaith ar gymunedau. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn credu ein bod yn ei ystyried drwy'r egwyddor gynllunio. Er gwaethaf hynny, yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yw gwneud yn siŵr bod gennym ddiogelwch ynni hirdymor, gan ddeall effeithiau hynny ar newid yn yr hinsawdd. Mae'n rhywbeth yr wyf yn ymwybodol iawn ohono yn ystod y broses hon.
15:14 - Sandy Mewies
I call the Conservative spokesperson, Antoinette Sandbach. Galwaf ar lefarydd y Ceidwadwyr, Antoinette Sandbach.
15:14 - Antoinette Sandbach
Minister, you have a lot of goodwill across this Chamber surrounding Welsh Government efforts to tackle climate change, but to maintain this support you actually have to deliver on your pledges. Despite these good words, Wales is still lagging behind Scotland and England on cutting emissions from source emissions. As you know, they have risen by 5%. Weinidog, mae gennych lawer o ewyllys da ar draws y Siambr hon o amgylch ymdrechion Llywodraeth Cymru i ymdrin â newid yn yr hinsawdd, ond i gadw’r gefnogaeth hon mae’n rhaid ichi wireddu eich addewidion. Er gwaethaf y geiriau da hyn, mae Cymru’n dal i fod yn llusgo y tu ôl i’r Alban a Lloegr o ran lleihau allyriadau o allyriadau ffynhonnell. Fel y gwyddoch, maent wedi codi 5%.
Your statement does not explain why that has happened. It does not look at the targets and where we are falling down on our climate change emissions targets and your strategy for dealing with that. Stop Climate Chaos Cymru said that this is far from the trajectory needed to reach the 40% target by 2020. Now, Minister, will you be considering steps like an action plan every five years to achieve emissions reductions targets? Will you look at emission impact assessments for large-scale infrastructure projects and Welsh Government decisions on those projects? Will you be measuring the carbon emissions impact of annual budgets? Nid yw eich datganiad yn esbonio pam mae hynny wedi digwydd. Nid yw'n edrych ar y targedau a ble'r ydym yn methu o ran ein targedau allyriadau newid yn yr hinsawdd a’ch strategaeth i ymdrin â hynny. Dywedodd Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru fod hyn yn bell o fod ar y llwybr sydd ei angen i gyrraedd y targed o 40% erbyn 2020. Nawr, Weinidog, a fyddwch chi’n ystyried camau fel cynllun gweithredu bob pum mlynedd i gyrraedd targedau lleihau allyriadau? A wnewch chi edrych ar asesiadau o effaith allyriadau prosiectau seilwaith mawr a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru am y prosiectau hynny? A fyddwch chi’n mesur effaith cyllidebau blynyddol ar allyriadau carbon?
In relation to overall policy, there is criticism of the approach that has been taken by looking at decarbonisation through the concentration on renewable energy resources. I do not know, Minister, whether you have had an opportunity to read the ‘2020 Hindsight’ report prepared by the Policy Exchange. It has made it clear that renewable energy targets damage the long-term decarbonisation efforts, both in the UK and abroad, and, in effect, it looks at what may be more effective measures. I was very pleased to see in your statement that you are going to be looking again at Arbed and Nest, because they describe actions such as the retrospective insulation of external walls, particularly in solid-wall housing, where you cannot do the other measures. Those might actually be more effective in cutting carbon and achieving our carbon targets. O ran polisi cyffredinol, ceir beirniadaeth o'r ymagwedd a gymerwyd o edrych ar ddatgarboneiddio drwy ganolbwyntio ar adnoddau ynni adnewyddadwy. Nid wyf yn gwybod, Weinidog, pa un a ydych chi wedi cael cyfle i ddarllen yr adroddiad ‘Ôl-olwg 2020’ a baratowyd gan y Gyfnewidfa Bolisi. Mae wedi ei gwneud yn glir bod targedau ynni adnewyddadwy’n niweidio ymdrechion datgarboneiddio hirdymor, yn y DU a thramor, ac, i bob pwrpas, mae'n edrych ar fesurau a all fod yn fwy effeithiol. Roeddwn yn falch iawn o weld yn eich datganiad eich bod yn mynd i edrych eto ar Arbed a Nest, oherwydd eu bod yn disgrifio camau gweithredu megis inswleiddio waliau allanol yn ôl-weithredol, yn enwedig mewn tai â waliau solet, lle na allwch wneud y mesurau eraill. Gallai’r rheini mewn gwirionedd fod yn fwy effeithiol o ran lleihau carbon a chyflawni ein targedau carbon.
I notice also from your statement, Minister, that you have concentrated quite a lot on the private sector in terms of land use and management, but, of course, one of the biggest factors indicated as being responsible for that 5% increase in emissions was the age of the trees that we have in our forestry estate and, of course, the Welsh Government is responsible for 37% of the forestry. I appreciate that there are issues around Phytophthora, but it seems to me that if you can get two wins by dealing with Phytophthora and replanting, you will address those concerns around the age of the forest sink. To that extent, Minister, I also very much welcome that part of your statement that deals with using Welsh woodland in construction. I think that is a useful way forward and it is a very positive example of how you can lock up carbon. It can be locked up for a longer period and then, of course, be used for recycling or biomass later in the chain. Sylwaf hefyd o’ch datganiad, Weinidog, eich bod wedi canolbwyntio cryn dipyn ar y sector preifat o ran defnydd a rheoli tir, ond, wrth gwrs, un o'r ffactorau mwyaf y nodwyd eu bod yn gyfrifol am y cynnydd o 5% hwnnw mewn allyriadau oedd oedran y coed sydd gennym yn ein hystâd coedwigaeth ac, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am 37% o’r goedwigaeth. Rwyf yn gwerthfawrogi bod materion yn ymwneud â Phytophthora, ond mae'n ymddangos i mi, os gallwch gael dwy fuddugoliaeth drwy ymdrin â Phytophthora ac ailblannu, y byddwch yn ymdrin â'r pryderon hynny ynghylch oed y ddalfa goedwig. At hynny, Weinidog, rwyf hefyd yn croesawu'n fawr y rhan o'ch datganiad sy'n ymdrin â defnyddio coetiroedd Cymru yn y diwydiant adeiladu. Credaf fod hynny’n ffordd ddefnyddiol ymlaen ac mae'n enghraifft gadarnhaol iawn o sut y gallwch gloi carbon. Gellir ei gloi am gyfnod hwy ac yna, wrth gwrs, ei ddefnyddio ar gyfer ailgylchu neu fiomas yn ddiweddarach yn y gadwyn.
So, I would ask you, Minister, to please look at that Policy Exchange report, because it contains some interesting ideas, and ones that you might find offer you some solutions, because we are clearly not on track to hit our 2020 target. We are way off it and you need to take the measures that I have suggested, in terms of the emissions considerations to your budget and the five-yearly reviews of your plans, because we are off target. You have not explained to us today how you are going to get on target, and, clearly, we need to improve if you are going to retain goodwill around the Chamber. Felly, byddwn yn gofyn ichi, Weinidog, i edrych ar yr adroddiad hwnnw gan y Gyfnewidfa Bolisi, oherwydd mae’n cynnwys rhai syniadau diddorol, a rhai a allai gynnig rhai atebion ichi, oherwydd mae’n amlwg nad ydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed ar gyfer 2020. Rydym yn bell oddi wrtho ac mae angen ichi gymryd y camau yr wyf wedi'u hawgrymu, o ran ystyried allyriadau yn eich cyllideb a'r adolygiadau bob pum mlynedd o’ch cynlluniau, gan nad ydym yn cyrraedd y targed. Nid ydych wedi esbonio inni heddiw sut yr ydych yn mynd i gyrraedd y trywydd iawn, ac, yn amlwg, mae angen inni wella os ydych yn mynd i gadw’r ewyllys da o gwmpas y Siambr.
15:18 - Carl Sargeant
I thank the Member for her contribution. I recognise that the targets that are set are challenging, but I also recognise that we have to have ambition to deliver on them, and this Government does not lack ambition or the opportunity to deliver on them. This is something that my department will continue to push very hard. Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Rwyf yn cydnabod bod y targedau a osodwyd yn heriol, ond rwyf hefyd yn cydnabod bod rhaid inni ddangos uchelgais i’w cyflawni, ac nid yw'r Llywodraeth hon yn brin o uchelgais na’r cyfle i’w cyflawni. Mae hyn yn rhywbeth y bydd fy adran yn parhau i’w wthio’n galed iawn.
I do not recognise the point that the Member raises in terms of what we are doing. I will just refer the Member to the statement. There are lots of issues within the statement that refers to things that the Welsh Government is proactively doing and will continue to deliver on. One example that the Member did not pick up on, although I am sure she saw reference to it, was the issue of slurry pit capping in the agriculture sector. That plays a major, significant part in terms of climate change, and we are committed to looking at that very clearly. The Member shakes her head, but it is a fact that the agriculture industry as a sector is having a dramatic effect on climate change, and it is something that we must address. However, we should not been negative about this. Actually, what we should be doing is proactively working together to ensure that something-for-something action is always taking place. What actions should we take to achieve compliance or success? Nid wyf yn cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei godi o ran yr hyn yr ydym yn ei wneud. Rwyf am gyfeirio’r Aelod at y datganiad. Mae llawer o faterion yn y datganiad sy'n cyfeirio at bethau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati’n rhagweithiol i’w gwneud ac y byddant yn parhau i’w cyflawni. Un enghraifft na wnaeth yr Aelod gyfeirio ati, er fy mod yn siŵr ei bod wedi gweld cyfeiriad ati, oedd mater gorchuddio pyllau slyri yn y sector amaeth. Mae hynny’n chwarae rhan bwysig, sylweddol o ran newid yn yr hinsawdd, ac rydym wedi ymrwymo i edrych ar hynny’n glir iawn. Mae’r Aelod yn ysgwyd ei phen, ond mae'n ffaith bod y diwydiant amaethyddol fel sector yn cael effaith sylweddol iawn ar newid yn yr hinsawdd, ac mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni roi sylw iddo. Fodd bynnag, ni ddylem fod wedi bod yn negyddol am hyn. A dweud y gwir, yr hyn y dylem fod yn ei wneud yw gweithio gyda'n gilydd yn rhagweithiol i sicrhau bod camau gweithredu rhywbeth am rywbeth yn digwydd drwy’r amser. Pa gamau y dylem ni eu cymryd i sicrhau cydymffurfiad neu lwyddiant?
On the issue of renewables, which the Member focused on specifically, what I have learnt very quickly in this portfolio is that we need to look at the whole issue of energy more holistically, rather than pinpoint individual aspects. There is absolutely a place for renewables, and that is something that we have to do in terms of driving that forward. But, it has to be taken into consideration when balancing decarbonisation, renewables and other methods of energy production and conservation in terms of what we do in the longer term. O ran ynni adnewyddadwy, sef yr hyn y canolbwyntiodd yr Aelod arno’n benodol, yr hyn yr wyf wedi'i ddysgu’n gyflym iawn yn y portffolio hwn yw bod angen inni edrych ar holl fater ynni yn fwy cyfannol, yn hytrach na chanolbwyntio’n benodol ar agweddau unigol. Yn bendant, mae lle i ynni adnewyddadwy, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ei wneud o ran bwrw ymlaen â hynny. Ond, mae’n rhaid ei ystyried wrth gydbwyso datgarboneiddio, ynni adnewyddadwy a dulliau eraill o gynhyrchu a chadw ynni o ran yr hyn yr ydym yn ei wneud yn y tymor hirach.
I regularly hear Members being critical—and I am not suggesting that the Member is critical of this—of the general principle of large-scale companies having a major impact on the environment. Yes, they have an impact on the environment, but what you can be assured of is that while they are in Wales, the UK and the European Union, this ensures that they are compliant with what we expect them to do. The last thing we want is companies like Tata Steel or others closing, because of inadvertently placing conditions on these companies, and moving to countries abroad where there are no controls on emissions. Let us not be under the illusion that the effect on the environment is not global; Wales plays a small but very important part. That is why control of industry is something we consider very carefully. Rwyf yn clywed Aelodau’n bod yn feirniadol yn rheolaidd —ac nid wyf yn awgrymu bod yr Aelod yn feirniadol o hyn—o egwyddor gyffredinol cwmnïau mawr yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd. Ydynt, maent yn cael effaith ar yr amgylchedd, ond yr hyn y gallwch fod yn sicr ohono yw, tra eu bod yng Nghymru, y DU a'r Undeb Ewropeaidd, mae hyn yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r hyn yr ydym yn disgwyl iddynt ei wneud. Y peth olaf sydd ei eisiau arnom yw cwmnïau fel Tata Steel neu eraill yn cau, oherwydd bod amodau wedi’u gosod yn anfwriadol ar y cwmnïau hyn, a’u bod yn symud i wledydd tramor lle nad oes rheolaethau ar allyriadau. Dewch inni beidio â bod dan yr argraff nad yw’r effaith ar yr amgylchedd yn fyd-eang; mae Cymru’n chwarae rhan fach ond pwysig iawn. Dyna pam mae rheoli diwydiant yn rhywbeth yr ydym yn ei ystyried yn ofalus iawn.
My final point, if I may, is that I made reference to the release today of the land use climate change report. In there, it makes reference to issues around forestry growth. What I will ask my department to do is look very carefully at the targets we have set for replanting. There is much more in it about planting the right things in the right places. We should be looking at variety issues as opposed to land mass. We can get much more benefit from planting the right things in the right places, which will deliver better on the environment. It is early days, and therefore I look forward and will inform the Chamber of any changes that may take place in future. Fy mhwynt olaf, os caf, yw fy mod wedi cyfeirio at ryddhau’r adroddiad defnydd tir a newid hinsawdd heddiw. Yn hwnnw, cyfeirir at faterion yn ymwneud â thwf coedwigaeth. Byddaf yn gofyn i fy adran edrych yn ofalus iawn ar y targedau yr ydym wedi’u pennu ar gyfer ailblannu. Mae llawer mwy ynddo am blannu’r pethau iawn yn y lleoedd iawn. Dylem fod yn edrych ar faterion amrywiaeth yn hytrach na chyfanswm y tir. Gallwn gael llawer mwy o fudd o blannu’r pethau iawn yn y lleoedd iawn, a fydd yn cyflawni’n well ar gyfer yr amgylchedd. Dyddiau cynnar yw’r rhain, ac felly rwyf yn edrych ymlaen a byddaf yn rhoi gwybod i'r Siambr am unrhyw newidiadau a allai ddigwydd yn y dyfodol.
15:22 - Alun Davies
I would like to thank and congratulate the Minister on the statement this afternoon, which included a very rich list of actions and commitments. The refresh process was put in train as part of the Welsh Government’s response to the United Nation’s process and specifically to the IPCC report on climate change, outlining the nature of the threat facing human society and the planet, and also the opportunities that Governments have to work together and to work collaboratively within Governments and across borders to address the issues that climate change create for us. Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog a’i longyfarch ar y datganiad y prynhawn yma, a oedd yn cynnwys rhestr gyfoethog iawn o gamau gweithredu ac ymrwymiadau. Cafodd y broses adnewyddu ei rhoi ar waith yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i broses y Cenhedloedd Unedig ac yn benodol i’r adroddiad Atal a Rheoli Llygredd mewn ffordd Integredig ar newid yn yr hinsawdd, i amlinellu natur y bygythiad sy'n wynebu'r gymdeithas ddynol a'r blaned, a hefyd y cyfleoedd sydd gan Lywodraethau i weithio gyda'i gilydd ac i gydweithio o fewn Llywodraethau ac ar draws ffiniau i ymdrin â'r materion y mae newid yn yr hinsawdd yn eu creu i ni.
I hope that the Minister can assure the Chamber that the refresh he has announced this afternoon is something that unites the whole of the Welsh Government. One of the criticisms that has been made in the past, not only of this Government but Governments in all parts and corners of the world, is that issues around climate change are all too often compartmentalised to the Minister for the environment or natural resources, or whatever the designation may be, and that other Ministers then wash their hands of any responsibility and do not take seriously the issues that climate change raises for whole societies and whole governments. I hope that the Minster can reassure us that this is a programme that has firm commitments from all departments and all parts of the Government. Rwyf yn gobeithio y gall y Gweinidog sicrhau'r Siambr bod yr adnewyddu y mae wedi'i gyhoeddi y prynhawn yma’n rhywbeth sy'n uno Llywodraeth Cymru i gyd. Un o'r beirniadaethau a wnaed yn y gorffennol, nid yn unig o’r Llywodraeth hon ond o Lywodraethau ym mhob rhan a chwr o'r byd, yw bod materion sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd yn rhy aml yn cael eu hadrannu i Weinidog yr amgylchedd neu gyfoeth naturiol, neu beth bynnag yw’r dynodiad, a bod Gweinidogion eraill yna’n golchi eu dwylo o unrhyw gyfrifoldeb ac nad ydynt yn cymryd o ddifrif y materion y mae newid yn yr hinsawdd yn eu codi i gymdeithasau cyfan a llywodraethau cyfan. Rwyf yn gobeithio y gall y Gweinidog ein sicrhau bod hon yn rhaglen sydd ag ymrwymiadau cadarn o bob adran a phob rhan o'r Llywodraeth.
In terms of the point he made in his last answer on the land use climate change group report, I have not had an opportunity to read that yet, but I look forward to doing so. The group has done some very important, exciting and groundbreaking work. I hope that he will enable that group to continue that work in whatever way he is able to do so, but also to recognise the importance of the RDP. The leader of the opposition again got hold of the wrong end of the stick in questions earlier when he described the budget changes to the rural affairs department. The RDP is the biggest in our history and has a significant opportunity to contribute positively towards achieving our ambitions on climate change. O ran y pwynt a wnaeth yn ei ateb olaf am adroddiad y grŵp newid yn yr hinsawdd defnydd tir, nid wyf wedi cael cyfle i ddarllen hwnnw eto, ond rwyf yn edrych ymlaen at wneud hynny. Mae'r grŵp wedi gwneud gwaith pwysig, cyffrous ac arloesol iawn. Rwyf yn gobeithio y bydd yn galluogi'r grŵp hwnnw i barhau â'r gwaith hwnnw ym mha bynnag ffordd y gall wneud hynny, ond hefyd i gydnabod pwysigrwydd y Cynllun Datblygu Gwledig. Mae arweinydd yr wrthblaid wedi camddeall yn llwyr unwaith eto yn y cwestiynau yn gynharach pan ddisgrifiodd y newidiadau i gyllideb yr adran materion gwledig. Y Cynllun Datblygu Gwledig yw'r mwyaf yn ein hanes ac mae ganddo gyfle sylweddol i gyfrannu'n gadarnhaol tuag at gyflawni ein huchelgeisiau ar newid yn yr hinsawdd.
Perhaps the most radical part of our ambitions on climate change, in terms of the rural economy, is that of payment for ecosystem services. I would be grateful if the Minister could give us an update on how he expects to take that forward. Efallai mai'r rhan fwyaf radical o’n huchelgeisiau ar newid yn yr hinsawdd, o ran yr economi wledig, yw talu am wasanaethau ecosystem. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am sut y mae'n disgwyl bwrw ymlaen â hynny.
My final point is on the economy and the statutory framework for emission targets. It is essential that we have a statutory framework, of whatever description, to enable us to control emissions in Wales and from Wales. I recognise what the Government says about the limits of devolution and what the settlement provides and enables us to do. However, we cannot be the only administration in these islands that does not have a statutory framework in place, and we need to find a way of doing that. In doing so, we need to ensure that we do not fall into the trap that has been set for us time and again, particularly from the right wing, where we can choose between jobs or addressing the issues of climate change. Mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â'r economi a'r fframwaith statudol ar gyfer targedau allyriadau. Mae'n hanfodol bod gennym fframwaith statudol, o ba bynnag ddisgrifiad, er mwyn ein galluogi i reoli allyriadau yng Nghymru ac o Gymru. Rwyf yn cydnabod yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei ddweud am gyfyngiadau datganoli a'r hyn y mae'r setliad yn ei ddarparu ac yn ein galluogi i’w wneud. Fodd bynnag, ni allwn fod yr unig weinyddiaeth yn yr ynysoedd hyn sydd heb fframwaith statudol ar waith, ac mae angen inni ddod o hyd i ffordd o wneud hynny. Wrth wneud hynny, mae angen inni sicrhau nad ydym yn syrthio i'r fagl a osodwyd inni dro ar ôl tro, yn enwedig gan yr asgell dde, lle y gallwn ddewis naill ai swyddi neu ymdrin â materion newid yn yr hinsawdd.
The issues that the Minister referred to in terms of resource-efficient Wales, investment in a circular economy and investment in green growth are absolutely fundamental if we are to address the challenges of the future—creating a sustainable economy, creating work and creating a better society in Wales. I do not believe that we can do any one of those things without addressing the issues around climate change. I very much welcome the statement that the Minister has made this afternoon. Mae'r materion y cyfeiriodd y Gweinidog atynt o ran Cymru sy’n effeithlon o ran adnoddau, buddsoddi mewn economi gylchol a buddsoddi mewn twf gwyrdd yn gwbl hanfodol os ydym am ateb heriau’r dyfodol—creu economi gynaliadwy, creu gwaith a chreu gwell cymdeithas yng Nghymru. Nid wyf yn credu y gallwn wneud unrhyw un o'r pethau hynny heb roi sylw i'r materion sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd. Croesawaf yn fawr iawn y datganiad y mae'r Gweinidog wedi’i wneud y prynhawn yma.
15:26 - Carl Sargeant
I am very grateful to the Member. Again, I remember the Member waxing lyrical about the United Nations IPCC report. He was very articulate about the real threats and opportunities that this poses to governments and communities across the globe. Rwyf yn ddiolchgar iawn i'r Aelod. Hefyd, rwyf yn cofio’r Aelod yn siarad yn frwdfrydig iawn am adroddiad Atal a Rheoli Llygredd mewn ffordd Integredig y Cenhedloedd Unedig. Roedd yn huawdl iawn am y bygythiadau a'r cyfleoedd gwirioneddol y mae hyn yn eu peri i lywodraethau a chymunedau ledled y byd.
I reassure the Member that the refresh is meaningful and that the Government, as a collective, wants to see a massive change in the way in which we do business together. I will give the Member some examples: I have met with a host of Ministers, and, on the national health service, the concepts under discussion were vehicle procurement and ensuring transformational vehicles in terms of emissions in the ambulance service, and the fabric of buildings on the NHS estate. Housing and education are also providing opportunities, with new developments in terms of building design. An interesting discussion was had with the Minister for Education and Skills about not just looking at the consequences of climate change but at the opportunities that it presents with regard to training for green growth and the opportunities for a growing industry in Wales, which we could lead on in the UK. I know that that is something that the Member was very keen to do in his previous position. Rwyf yn sicrhau'r Aelodau bod yr adnewyddu’n ystyrlon, a bod y Llywodraeth, ar y cyd, am weld newid enfawr yn y ffordd yr ydym yn cynnal busnes gyda'n gilydd. Rhof rai enghreifftiau i’r Aelod: rwyf wedi cyfarfod â llu o Weinidogion, ac, o ran y gwasanaeth iechyd gwladol, y cysyniadau a drafodwyd oedd caffael cerbydau a sicrhau cerbydau gweddnewidiol o ran allyriadau yn y gwasanaeth ambiwlans, a ffabrig adeiladau ar ystâd y GIG. Mae tai ac addysg hefyd yn darparu cyfleoedd, a cheir datblygiadau newydd o ran dyluniad adeiladau. Cafwyd trafodaeth ddiddorol gyda'r Gweinidog Addysg a Sgiliau ynghylch nid yn unig edrych ar ganlyniadau newid yn yr hinsawdd, ond ar y cyfleoedd y mae'n eu cynnig o ran hyfforddiant ar gyfer twf gwyrdd a'r cyfleoedd ar gyfer diwydiant sy'n tyfu yng Nghymru, ac y gallem arwain arno yn y DU. Gwn fod hynny'n rhywbeth yr oedd yr Aelod yn awyddus iawn i’w wneud yn ei swydd flaenorol.
I recently met my Deputy Minister—I have regular conversations with her—to discuss the RDP. I think that it is fundamentally important in terms of the way that we change our business model with a large sector in terms of that something-for-something discussion that we can have, whether that be by energy production or conservation of the landscape. I think that that is something we can do more on, and I look forward to the principle that we are introducing with the Well-being of Future Generations (Wales) Bill, which is based on governance, collaboration and working with each other to ensure that the problems that, as I said in my statement, we as a Government cannot fix on our own; we need all parties to be involved in this, including Government, private sector bodies and public sector bodies. How do we get them engaged in making that change for Wales, for the UK, for Europe and for the globe? Cyfarfûm yn ddiweddar â fy Nirprwy Weinidog—rwyf yn cael sgyrsiau rheolaidd gyda hi—i drafod y Cynllun Datblygu Gwledig. Credaf ei bod yn sylfaenol bwysig o ran y ffordd yr ydym yn newid ein model busnes gyda sector mawr o ran y drafodaeth rhywbeth am rywbeth honno y gallwn ei chael, boed hynny drwy gynhyrchu ynni neu drwy gadwraeth y tirlun. Credaf fod hynny’n rhywbeth y gallwn wneud mwy ynglŷn ag ef, ac edrychaf ymlaen at yr egwyddor yr ydym yn ei chyflwyno gyda'r Bil Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), sy'n seiliedig ar lywodraethu, cydweithredu a chydweithio i sicrhau bod y problemau hynny, fel y dywedais yn fy natganiad, na allwn fel Llywodraeth eu cywiro ar ein pennau ein hunain; mae arnom angen i bob plaid fod yn rhan o hyn, gan gynnwys y Llywodraeth, cyrff y sector preifat a chyrff y sector cyhoeddus. Sut yr ydym am eu perswadio i gymryd rhan yn y newid hwnnw i Gymru, i’r DU, i Ewrop ac i’r byd?
The Member raised one issue to which I would have to give some further consideration. He mentioned the statutory framework and what that means for Wales. I assume that the Member means targeting and what our targets need to be. As the Member will be aware, we already have headline statutory climate change targets—80% by 2050. For me, I think that what is really important for my department, for Government and for the public and private sectors in Wales is that we get on with this job. We know what the target needs to be and we know where we want to be; exactly how we are going to get there is part of this climate change refresh. Bringing new concepts to the table, as we have done in this plan, is something that I am very keen to drive forward, including the concepts of green growth and the circular economy that the Member raised with me this afternoon. Cododd yr Aelod un mater y byddai'n rhaid imi roi rhywfaint o ystyriaeth bellach iddo. Soniodd am y fframwaith statudol a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i Gymru. Rwyf yn tybio bod yr Aelod yn golygu targedu a pha dargedau sydd eu hangen arnom. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae gennym eisoes brif dargedau statudol newid yn yr hinsawdd—80% erbyn 2050. Rwyf yn credu mai’r hyn sy'n wirioneddol bwysig i fy adran i, i'r Llywodraeth ac i’r sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru yw ein bod yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Rydym yn gwybod beth yw’r targed sydd ei angen ac rydym yn gwybod ble yr hoffem fod; mae sut yn union yr ydym yn mynd i gyrraedd yno’n rhan o'r gwaith adnewyddu newid yn yr hinsawdd hwn. Mae cyflwyno cysyniadau newydd, fel y gwnaethom yn y cynllun hwn, yn rhywbeth yr wyf yn awyddus iawn i fwrw ymlaen ag ef, gan gynnwys cysyniadau twf gwyrdd a'r economi gylchol a gododd yr Aelod gyda mi y prynhawn yma.
15:29 - Sandy Mewies
I call on the Plaid Cymru spokesperson, Llyr Gruffydd. Galwaf ar lefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
15:29 - Llyr Gruffydd
Diolch. A gaf innau, hefyd, ddiolch i chi am eich datganiad? Mae llawer ynddo yr wyf yn cytuno ag ef. Rwy’n croesawu, yn sicr, y cyfeiriadau at y buddsoddiadau yr ydych eisoes wedi ymrwymo iddynt. Ar gefndir o doriadau yn eich adran, mae hynny, am wn i, yn beth positif. Mae sawl cynllun a menter glodwiw iawn yma. Fodd bynnag, beth sydd ddim yma, wrth gwrs, yw ‘game changer’ go iawn o safbwynt y modd y mae’r Llywodraeth hon yn ymateb i her newid hinsawdd. Thank you. May I, too, thank you for your statement? There is a great deal in it with which I agree. I certainly welcome the references to the investments that you are already committed to. Against a background of cuts in your department, that, I suppose, is positive. There are several laudable ambitions and innovations here. However, what is not here, of course, is a real game changer in terms of the way in which this Government responds to the challenge of climate change.
Rydym wedi clywed yn barod fod y ‘trajectory’ presennol ddim yn ddigonol i gwrdd â’n hymrwymiadau o safbwynt toriadau mewn allyriadau, ac nid wyf yn gweld unrhyw beth yma sy’n wirioneddol yn mynd i drawsnewid yr ‘approach’ hynny. Codwyd y pwyntiau hyn yn flaenorol, ond nid ydych wedi ymateb iddynt, felly gofynnaf ichi eto: a ydych yn bwriadu dod ag ymrwymiad i gynllun gweithredu hirdymor yn benodol ar gyfer newid yn yr hinsawdd? A fydd ymrwymiad gan y Llywodraeth hon i gyflwyno asesiad impact allyriadau ar gynlluniau seilwaith mawr, a hefyd i ystyried impact allyriadau carbon ar gyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol? Rydych yn dweud yn eich datganiad: We have already heard that the current trajectory is not adequate to meet our commitments on cutting emissions, and I do not see anything here that will truly transform that approach. These points were raised previously, but you have not responded to them, so I will ask you again: do you intend to bring a commitment to a long-term action plan specifically for climate change? Will there be a commitment from this Government to introduce emission impact assessments on major infrastructure schemes, and also to consider the impact of carbon emissions on Welsh Government budgets in the future? You say in your statement:
‘The risks of irreversible impacts and the message that the longer we wait, the more it will cost mean that it is vital that we rise to the challenge.’ Mae'r risgiau o effeithiau diwrthdro a'r neges mai po hiraf yr arhoswn, y mwyaf y bydd yn ei gostio, yn golygu ei bod yn hanfodol ein bod yn ymateb i'r her.'
Ni allaf gytuno mwy â hynny. Beth sy’n anffodus yw bod record y Llywodraeth, fel ag y mae’n sefyll yn awr, yn awgrymu i mi nad yw’r Llywodraeth yn wirioneddol wedi codi i’r her honno. A ydych yn difaru peidio â bod yn fwy uchelgeisiol gyda’r lefelau o allyriadau mewn tai newydd a osodoch chi fel Gweinidog tai yn y rheoliadau? Buoch yn ymgynghori ar doriad o 40% a 25%, a chyflwyno toriad o 8%. O gofio hirhoedledd tai—mae’r tai hynny’n mynd i fod gyda ni am flynyddoedd mawr—mae hynny’n cloi’r diffyg uchelgais hwnnw i mewn am ddegawdau i ddod. Felly, a gaf ofyn i chi, yn yr ysbryd rydych yn cyflwyno’r datganiad hwn i ni heddiw, adolygu’r 8% yna er mwyn bod yn llawer, llawer mwy uchelgeisiol? I cannot agree more with that. What is unfortunate is that the Government's record, as it currently stands, suggests to me that the Government has not truly risen to that challenge. Do you regret not being more ambitious with emission levels for new housing that you as Minister for housing put in the regulations? You consulted on a cut of 40% and 25%, and then introduced an 8% cut. Given the longevity of housing—those houses will be in place for many years—that locks that lack of ambition in for decades to come. So, may I ask you, in the spirit in which you are making this statement today, to review that 8% so as to be far more ambitious?
Rwyf wedi gofyn o’r blaen ynglŷn â’r cynlluniau addasu sectorol—y ‘sectoral adaptation plans’. A wnewch chi gyhoeddi amserlen sydd yn datgan yn gwbl glir pryd y byddwch yn disgwyl i’r rhain i gyd fod yn eu lle ac yn weithredol? Rydych yn datgan strategaeth newydd ar effeithlonrwydd ynni. Rwy’n croesawu hynny, wrth gwrs, ond rydym wedi aros blwyddyn am y datganiad hwn heddiw, a byddwn wedi disgwyl mwy na datganiad yn dweud eich bod yn mynd i ddatblygu strategaeth newydd efallai. Efallai y gallwch roi mwy o wybodaeth inni ynglŷn â phryd rydych yn disgwyl y bydd y strategaeth hon yn cael ei mabwysiadu, a rhoi syniad o ‘scale’ y strategaeth i ni? Mae canmol—yn iawn hefyd—wedi bod i gynlluniau fel Arbed, ond mae llawer o leisiau wedi bod yn galw am wneud y cynllun hwnnw yn fwy. Mae sôn am yr angen i ‘retroffitio’ traean o dai Cymru er mwyn cwrdd â’r hyn rydym wedi ymrwymo iddo o ran allyriadau carbon. Felly, rhowch syniad inni o beth yw eich uchelgais chi yn y cyd-destun hwn. I have asked before about the sectoral adaptation plans. Will you publish a timetable to clearly state when you expect all of these to be in place and operational? You are announcing a new strategy on energy efficiency. I welcome that, of course, but we have waited a year for this statement today, and I would have expected more than a statement saying that you are going to develop a new strategy, perhaps. Perhaps you can give us more information about when you expect this strategy to be adopted, and give us an idea of the scale of the strategy? There has been praise—and rightly so—for schemes such as Arbed, but many voices have been calling for upscaling that scheme. There is talk of the need to retrofit a third of Wales's housing in order to achieve what we have committed to in terms of carbon emissions. So, please give us an idea of what your ambitions are in this context.
Rydych yn cyfeirio at Fil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Rydych yn gwybod cystal â neb mai un cerydd mawr o hwnnw yw nad yw, mewn gwirionedd, yn mynd i’r afael yn ddigonol â newid yn yr hinsawdd. Nid yw’r nodau yn sôn am newid yn yr hinsawdd, nac ychwaith am fyw o fewn ein terfynau amgylcheddol. A ydych chi, felly, Weinidog, yn cytuno bod angen i’r nodau, yr egwyddorion, yr amcanion llesiant a’r mesurau cynnydd i gyd osod fframwaith cryf i daclo newid yn yr hinsawdd ar draws y sector cyhoeddus, ac os na wneir hynny, y byddwch chi fel Llywodraeth yn colli cyfle? You refer to the Well-being of Future Generations (Wales) Bill. You know as well as anyone that one major criticism is that it does not, in fact, adequately address climate change. The aims do not mention climate change, nor living within our environmental limits. Do you therefore agree, Minister, that there is a need for the aims, principles, wellbeing objectives and measures of progress to set a strong framework for tackling climate change across the public sector, and if that is not done, you as a Government will have missed an opportunity?
I gloi, rydych yn dweud yn y frawddeg olaf: To conclude, you say in the final sentence:
‘In Wales, we have shown that we can dramatically reduce waste; we must now show that we can do the same with our emissions.’ 'Yng Nghymru, rydym wedi dangos y gallwn leihau gwastraff yn sylweddol; mae’n rhaid inni nawr ddangos y gallwn wneud yr un peth gyda’n hallyriadau.'
Rydych yn iawn, ond y rheswm ein bod wedi cyflawni hynny o safbwynt gwastraff yw bod targedau statudol yn eu lle ar ailgylchu gwastraff. Pam, felly, na allwch chi roi datganiad clir inni y bydd y Llywodraeth hon yn cyflwyno targedau statudol ar leihau allyriadau carbon? Rydym eisoes wedi clywed gan y cyn Weinidog mai Cymru yw’r unig ran o’r Deyrnas Unedig heb dargedau o’r fath, neu’r unig ran nad yw’n rhoi ystyriaeth o ddifrif i hynny. Mae deddfwriaeth yn gallu gyrru gweithredu amgylcheddol, nid yn unig o safbwynt targedau ailgylchu, ond hefyd o ran pethau fel bagiau plastig; rydym wedi gweld ei fod yn gallu newid y ffordd y mae pobl yn gweithredu ac yn byw eu bywydau. Cewch gefnogaeth drawsbleidiol i hynny, rwy’n siŵr. Mae ‘Y Gymru a Garem’, yr ymgynghoriad diweddar, wedi dweud mai dyna yw prif flaenoriaeth pobl Cymru pan mae’n dod i lesiant cenedlaethau’r dyfodol. Felly, a wnewch chi roi ymrwymiad naill ai i ystyried gwneud hynny oddi fewn i Fil llesiant cenedlaethau’r dyfodol, neu’n sicr oddi fewn i’r Bil amgylchedd? Os na wnewch chi, rwy’n siŵr y bydd nifer ohonom yn teimlo bod yr uchelgais rydych yn cyfeirio ato yn y datganiad mewn gwirionedd yn un gwag. You are right, but the reason that we have achieved that in terms of waste is that statutory targets are in place for waste recycling. Why, then, can you not give us a clear statement that this Government will introduce statutory targets on reducing carbon emissions? We have already heard from the former Minister that Wales is the only part of the United Kingdom without such targets, or the only part not giving serious consideration to that. Legislation can drive environmental action, not only in terms of recycling targets, but also in terms of things such as plastic bags; we have seen that it can change the way people act and live their lives. You will get cross-party support for that, I am sure. ‘The Wales We Want’ consultation recently said that that is the main priority for the people of Wales when it comes to the wellbeing of future generations. Therefore, will you commit to considering that as part of the wellbeing of future generations Bill, or certainly within the environment Bill? If you do not, I am sure that many of us will feel that the ambition to which you refer in the statement is nothing but empty rhetoric.
15:34 - Carl Sargeant
I am glad that the Member is in a good mood this afternoon. I am surprised at his wholeheartedly negative comments regarding the principle of change. I do not mind scrutiny, but the Member’s party was in Government when the targets that he says we are not delivering on were set. One of his fellow Members was around the Cabinet table when we were creating some of the policy objectives for this term of Government. Rwyf yn falch bod yr Aelod mewn hwyliau da y prynhawn yma. Rwyf yn synnu at ei sylwadau cwbl negyddol ynglŷn â’r egwyddor o newid. Mae craffu’n iawn, ond roedd plaid yr Aelod yn y Llywodraeth pan osodwyd y targedau y mae'n dweud nad ydym yn eu cyrraedd. Roedd un o'i gyd-Aelodau o gwmpas bwrdd y Cabinet pan oeddem yn creu rhai o'r amcanion polisi ar gyfer tymor hwn y Llywodraeth.
May I point out to the Member that he is absolutely right on the issue of balancing the economy and the environment? May I also point out the issue around the housing development? What the Member failed to mention is that the fact is that, yes, we did reduce the issue around targets on housing developments, because there was an economic pressure, which we think we can manage within the whole process of the economy and environment. However, he did not mention that we did increase significantly the rate for non-domestic premises, in terms of the environment. The Member failed to recognise that today, and he has failed to recognise that on many occasions. That has a massive impact too. A gaf fi dynnu sylw’r Aelod at y ffaith ei fod yn llygad ei le ynglŷn â sicrhau cydbwysedd rhwng yr economi a'r amgylchedd? A gaf fi hefyd sôn am y mater sy’n ymwneud â’r datblygiad tai? Yr hyn na wnaeth yr Aelod sôn amdano yw’r ffaith ein bod, do, wedi lleihau'r broblem o amgylch targedau ar ddatblygiadau tai, oherwydd bod pwysau economaidd, yr ydym yn meddwl y gallwn ymdopi ag ef o fewn proses gyfan yr economi a'r amgylchedd. Fodd bynnag, ni soniodd am y ffaith ein bod wedi cynyddu'n sylweddol y gyfradd ar gyfer eiddo annomestig, o ran yr amgylchedd. Methodd yr Aelod â chydnabod hynny heddiw, ac mae wedi methu â chydnabod hynny ar sawl achlysur. Mae hynny'n cael effaith enfawr hefyd.
May I look at the issues that the Member raises specifically? What we have to do, across Government, is make sure that our impact—the conditions and the decisions that we make, financially—has consideration across the whole of Government, and what we do in Wales. Part of that, again, is about the legislation process: the environment Bill, the Well-being of Future Generations (Wales) Bill, and the Planning (Wales) Bill, which are all interlinked, in terms of the determination. The Well-being of Future Generations (Wales) Bill is key to that, and I know that the Member has a great interest in that, as he has questioned me in committee in the past, and will continue to do so. I hope that I can gain support from the Member, knowing full well that the questions that relate to today’s statement are directly linked to the Well-being of Future Generations (Wales) Bill. A gaf fi edrych ar y materion y mae'r Aelod yn eu codi’n benodol? Yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud, ar draws y Llywodraeth, yw gwneud yn siŵr bod yr effaith yr ydym yn ei chael—yr amodau a'r penderfyniadau a wnawn, yn ariannol—yn cael eu hystyried ar draws y Llywodraeth gyfan, a'r hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghymru. Mae rhan o hynny, unwaith eto, yn ymwneud â'r broses ddeddfwriaeth: y Bil amgylchedd, y Bil Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), a’r Bil Cynllunio (Cymru), sydd i gyd yn gydgysylltiedig, o ran y penderfyniad. Mae Bil Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn allweddol i hynny, a gwn fod gan yr Aelod ddiddordeb mawr yn hwnnw, gan ei fod wedi fy holi yn y pwyllgor yn y gorffennol, a bydd yn parhau i wneud hynny. Rwyf yn gobeithio y caf gymorth gan yr Aelod, gan wybod yn iawn bod y cwestiynau sy'n ymwneud â datganiad heddiw yn uniongyrchol gysylltiedig â Bil Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).
Carbon emission targets, and Welsh Government budgets around decarbonisation, are all things that we need to consider in terms of our decision-making processes around finances, moving forward. On the issue that the Member raised regarding sectoral adaptation plans, there is nothing stopping the sector from bringing forward those plans—the Welsh Government is not stopping it. Indeed, we would encourage it to come forward. I have had a briefing from my team, and I am seriously now considering what levers we have, to ensure that it does bring them forward, but we are not being prohibitive in that. If it wishes to bring them forward, then it should do so, and I would encourage it to do so. Mae targedau allyriadau carbon, a chyllidebau Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â datgarboneiddio, i gyd yn bethau y mae angen inni eu hystyried o ran ein prosesau gwneud penderfyniadau ynghylch cyllid, wrth symud ymlaen. O ran y mater a gododd yr Aelod ynghylch cynlluniau addasu sectoraidd, nid oes unrhyw beth yn atal y sector rhag cyflwyno’r cynlluniau hynny—nid yw Llywodraeth Cymru’n ei atal. Mewn gwirionedd, byddem yn annog hynny i ddod ymlaen. Rwyf wedi cael briff gan fy nhîm, ac rwyf o ddifrif bellach yn ystyried pa ysgogiadau sydd gennym, i sicrhau eu bod yn eu cyflwyno, ond nid ydym yn bod yn waharddol yn hynny o beth. Os hoffent eu cyflwyno, dylent wneud hynny, a byddwn yn eu hannog i wneud hynny.
I know that Antoinette Sandbach, and you, Llyr, have raised issues about the targets that are in place. As I said, we already have the headline statutory climate change target of 80% by 2050, which is a very challenging target. Again, I do not think that this Government lacks ambition, or that the programme for government cannot deliver on this, working together across sector and across department. Gwn fod Antoinette Sandbach, a chithau, Llyr, wedi codi materion sy’n ymwneud â’r targedau sydd wedi eu sefydlu. Fel y dywedais, mae gennym eisoes y prif darged newid yn yr hinsawdd statudol o 80% erbyn 2050, sy’n darged heriol iawn. Unwaith eto, nid wyf yn meddwl bod y Llywodraeth hon yn brin o uchelgais, nac na all y rhaglen lywodraethu gyflawni ar hyn, gan gydweithio ar draws y sector ac ar draws adrannau.
Ensuring that we work with people across the sector—non-governmental organisations and the private and public sectors—and across party, we have to collectively bring together our ideas and concepts, bringing forward the opportunity to do more with less. As the Member quite rightly recognises, the very successful process that we have had in waste reduction is something that we should be incredibly proud of, but that is being delivered by external people, on the policy agenda of this Government. Gan sicrhau ein bod yn gweithio gyda phobl ar draws y sector—cyrff anllywodraethol a'r sectorau preifat a chyhoeddus—ac ar draws y pleidiau, mae’n rhaid inni gyflwyno ein syniadau a’n cysyniadau ar y cyd, gan gyflwyno’r cyfle i wneud mwy gyda llai. Fel y mae’r Aelod yn gwbl briodol yn ei gydnabod, mae'r broses lwyddiannus iawn yr ydym wedi'i chael ym maes lleihau gwastraff yn rhywbeth y dylem fod yn hynod falch ohono, ond mae hynny’n cael ei gyflawni gan bobl allanol, ar agenda polisi’r Llywodraeth hon.
I think that we should work, and continue to work, in a process that delivers a reduction in greenhouse gas emissions, making sure that we build in other energy opportunities that will enhance our objectives, moving towards the statutory targets that are already in place. Rwyf yn meddwl y dylem weithio, a pharhau i weithio, mewn proses sy'n cyflawni gostyngiad mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr, gan sicrhau ein bod yn cynnwys cyfleoedd ynni eraill a fydd yn gwella ein hamcanion, wrth symud tuag at y targedau statudol sydd eisoes wedi’u sefydlu.
15:38 - Julie Morgan
I welcome the Minister’s statement today. It is absolutely right that, in the consultation with the public, ‘The Wales We Want’, climate change was the biggest issue that was raised by the public. I am pleased that, towards the end of his statement, the Minister did strongly link climate change with the Well-being of Future Generations (Wales) Bill, and the environment Bill. Rwyf yn croesawu datganiad y Gweinidog heddiw. Mae'n hollol gywir i ddweud, yn yr ymgynghoriad â'r cyhoedd, 'Y Gymru a Garem’, mai newid yn yr hinsawdd oedd y mater mwyaf a godwyd gan y cyhoedd. Rwyf yn falch bod y Gweinidog, tua diwedd ei ddatganiad, wedi nodi’r cysylltiad cryf rhwng newid yn yr hinsawdd a’r Bil Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), a'r Bil amgylchedd.
I wonder whether he could expand on what he meant by: Tybed a allai ymhelaethu ar yr hyn y yr oedd yn ei olygu wrth:
‘emphasising engagement and involvement on climate change linked to the creation of the Commissioner for Future Generations’ pwysleisio ymgysylltiad ac ymlyniad ar newid yn yr hinsawdd yn gysylltiedig â chreu Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
and that: a:
‘Through the Environment Bill I intend to set out a legal framework to identify climate risks and provide the evidence base for action.’ Drwy'r Bil Amgylchedd rwyf yn bwriadu gosod fframwaith cyfreithiol i nodi risgiau yn yr hinsawdd a darparu'r sail dystiolaeth ar gyfer gweithredu.
I wonder what he meant by this ‘legal framework’, and what exactly those statements meant, because it sounded very promising for promoting climate change. Tybed beth oedd yn ei olygu gyda’r 'fframwaith cyfreithiol' hwn, a beth yn union oedd y datganiadau hynny’n ei olygu, oherwydd roedd yn swnio'n addawol iawn i hyrwyddo newid yn yr hinsawdd.
My second question is: what use is the Government making of ecological footprinting? I wondered whether the Government has an updated version of Wales’s ecological footprint. I think that that is very important, because it does, of course, calculate how the lifestyles that we are using in one country affect people in the rest of the planet and it does bring in the international development of these Bills that many people have been asking for. Fy ail gwestiwn yw: sut mae’r Llywodraeth yn defnyddio olion troed ecolegol? Roeddwn yn meddwl tybed a oes gan y Llywodraeth fersiwn diweddarach o ôl troed ecolegol Cymru. Rwyf yn meddwl bod hynny'n bwysig iawn, oherwydd mae, wrth gwrs, yn cyfrifo sut mae'r ffyrdd o fyw yr ydym yn eu defnyddio mewn un wlad yn effeithio ar bobl yng ngweddill y blaned ac mae'n cynnwys datblygiad rhyngwladol y Biliau hyn y mae llawer o bobl wedi bod gofyn amdanynt.
15:40 - Carl Sargeant
I thank the Member for her questions. It is really important, as I mentioned to Llyr in the previous questions and answers, that there is a clear link between the three pieces of legislation, in terms of changing the environment that we live in. The environment Bill will look at how Natural Resources Wales performs its duties through a framework. One of the issues that the Member will be interested in will be around sectoral plans, locally and nationally, in terms of how the activity is identified, what the impacts are on the community and how NRW will deal with that as an arm’s-length body of Government. Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Mae'n bwysig iawn, fel y dywedais wrth Llyr yn y cwestiynau ac atebion blaenorol, bod cysylltiad clir rhwng y tri darn o ddeddfwriaeth, o ran newid yr amgylchedd yr ydym yn byw ynddo. Bydd y Bil amgylchedd yn edrych ar sut y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflawni ei gyfrifoldebau drwy fframwaith. Un o'r materion y bydd gan yr Aelod ddiddordeb ynddo fydd cynlluniau sectorol, yn lleol ac yn genedlaethol, o ran sut y caiff y gweithgaredd ei nodi, beth yw'r effeithiau ar y gymuned a sut y bydd CNC yn ymdrin â hynny fel corff hyd braich y Llywodraeth.
Fundamental to all of this is the future generations Bill, and the Member is very knowledgeable on this. I think that she is absolutely right to think about the impacts; while a devolved Government makes recommendations and legislation around future generations, the impact of that is much more wide-ranging on a UK, European and global level. If we reduce our impact on communities and society, that has a knock-on effect and benefits to other countries as well. Therefore, I share the aspirations of the Member, in terms of how the Bill, while not not directly, but indirectly, will have an effect on international activity through the actions that we take, being a responsible Government here in Wales. Un peth sy’n sylfaenol i hyn i gyd yw'r Bil cenedlaethau'r dyfodol, ac mae'r Aelod yn wybodus iawn ynglŷn â hyn. Rwyf yn meddwl ei bod yn llygad ei lle i feddwl am yr effeithiau; er bod Llywodraeth ddatganoledig yn gwneud argymhellion a deddfwriaeth ym maes cenedlaethau'r dyfodol, mae effaith hynny’n llawer mwy eang ar lefel y DU, lefel Ewrop a lefel byd-eang. Os ydym ni’n lleihau ein heffaith ar gymunedau a chymdeithas, caiff hynny effaith gynyddol a manteision i wledydd eraill hefyd. Felly, rwyf yn rhannu dyheadau’r Aelod, o ran sut y bydd y Bil, er nad yn uniongyrchol, ond yn anuniongyrchol, yn effeithio ar weithgarwch rhyngwladol drwy'r camau yr ydym yn eu cymryd, fel Llywodraeth gyfrifol yma yng Nghymru.
15:41 - William Powell
Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Thank you, Minister, for today’s statement.
There is much to welcome in the content and in the tone that the Minister has adopted today. The Liberal Democrats have recognised over decades that climate change is the greatest challenge that we face, and it is important that we in Wales, as part of the UK, develop on the strong record that we have to date in playing a leadership role within Europe, and, indeed, more widely, internationally, in efforts to combat climate change. Mae llawer i'w groesawu yn y cynnwys ac yn y naws y mae’r Gweinidog wedi eu mabwysiadu heddiw. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cydnabod dros y degawdau mai newid yn yr hinsawdd yw'r her fwyaf sy'n ein hwynebu, ac mae'n bwysig ein bod ni yng Nghymru, fel rhan o'r DU, yn datblygu ar yr hanes cryf sydd gennym hyd yma wrth chwarae rhan arweiniol yn Ewrop, ac, yn wir, yn ehangach, yn rhyngwladol, mewn ymdrechion i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd.
We know from ‘The Wales We Want’ report that climate change is at the very top of public concerns for the wellbeing of future generations. We also believe, as do the majority of people in this Chamber, that we cannot mortgage our children’s future by ignoring that very threat of climate change. In this context, Minister, are you fully equipped for the challenge that will face this country in a couple of decades’ time with the radical shortfall that is already predictable in terms of our energy production? Also, Minister, do you agree that there is scope for this shortfall to be addressed, principally, through renewable and low-carbon energy projects? I am talking here about a combination, such as marine and tidal energy, as I flagged up in my question following the business statement today, onshore and offshore wind, hydro-power and solar power. Both wind and marine energy schemes have huge potential, and we should be taking full advantage of these. Rydym yn gwybod o adroddiad 'Y Gymru a Garem’ fod newid yn yr hinsawdd ar frig pryderon y cyhoedd am les cenedlaethau'r dyfodol. Rydym hefyd yn credu, ynghyd â’r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr hon, na allwn forgeisio dyfodol ein plant drwy anwybyddu’r bygythiad real iawn hwnnw o newid yn yr hinsawdd. Yn y cyd-destun hwn, Weinidog, a ydych chi’n gwbl barod am yr her a fydd yn wynebu'r wlad hon ymhen degawd neu ddau gyda'r diffyg sylweddol sydd eisoes yn rhagweladwy o ran yr ynni yr ydym yn ei gynhyrchu? Hefyd, Weinidog, a ydych chi’n cytuno bod lle i roi sylw i’r diffyg hwn, yn bennaf, drwy gyfrwng prosiectau adnewyddadwy ac ynni carbon-isel? Rwyf yn sôn yma am gyfuniad, megis ynni'r môr a llanw, fel y nodais yn fy nghwestiwn i ddilyn y datganiad busnes heddiw, gwynt ar y tir ac ar y môr, pŵer dŵr a phŵer solar. Mae potensial enfawr i'r cynllun gwynt a’r cynllun ynni morol, a dylem fod yn manteisio i’r eithaf ar y rhain.
While I welcome the Minister’s affirmed commitment to working towards meeting our climate change targets, I echo the concerns expressed by Stop Climate Chaos Cymru and its calls for the Welsh Government to follow its rhetoric with decisive action. The Climate Change Consortium of Wales, or CW3, stated in July that the Welsh Government’s climate change policy refresh should focus on a much clearer structure for accountability and reporting on addressing climate change across the public sector. In this context, and given the concerns expressed by your predecessor regarding the fact that we need to have a cross-cutting approach here, are you sympathetic to the voices expressed on your own back benches with regard to the need to strengthen the provisions within the future generations Bill to focus more on issues around climate change and climate change mitigation, and, crucially, to put a greater emphasis on achievable enforcement? Minister, would that not be better achieved by a more independent future generations commissioner, chosen by this whole Assembly to reflect the fact that we need buy-in from every political strand in this Chamber to make sure that these changes are embedded in our future policy formulation? Er fy mod yn croesawu ymrwymiad pendant y Gweinidog i weithio tuag at gyrraedd ein targedau newid yn yr hinsawdd, hoffwn adleisio’r pryderon a fynegwyd gan Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru a'i alwadau ar Lywodraeth Cymru i ddilyn ei rhethreg â chamau pendant. Dywedodd Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru, neu CW3, ym mis Gorffennaf y dylai polisi newydd newid yn yr hinsawdd Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar strwythur llawer cliriach ar gyfer atebolrwydd ac adrodd ar ymdrin â newid yn yr hinsawdd ar draws y sector cyhoeddus. Yn y cyd-destun hwn, ac o ystyried y pryderon a fynegodd eich rhagflaenydd ynghylch y ffaith bod angen dull trawsbynciol arnom yma, a ydych chi’n cydymdeimlo â'r lleisiau a fynegir ar eich meinciau cefn eich hun o ran yr angen i gryfhau’r darpariaethau o fewn y Bil cenedlaethau'r dyfodol i ganolbwyntio mwy ar faterion yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd a lliniaru newid yn yr hinsawdd, ac, yn hollbwysig, i roi mwy o bwyslais ar orfodi cyraeddadwy? Weinidog, oni fyddai’n well cael comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol mwy annibynnol i wneud hynny, a ddewiswyd gan y Cynulliad cyfan hwn i adlewyrchu'r ffaith bod arnom angen cytundeb gan bob elfen wleidyddol yn y Siambr hon i wneud yn siŵr bod y newidiadau hyn yn cael eu hymgorffori wrth inni lunio polisi yn y dyfodol?
15:44 - Carl Sargeant
I thank the Member for his questions and for the broadly supportive statement that he made earlier. Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac am y datganiad cyffredinol gefnogol a wnaeth yn gynharach.
The Member is right to raise the issue around energy production and energy security for the future, which is something that we are very mindful of. I would ask the Member to reflect on his comments regarding the low-carbon economy in terms of his ask today, because I am aware that, only two weeks ago, the Member voted against the principle of a low-carbon economy, along with his colleagues to the left of him, in terms of nuclear energy provision in north Wales, and I made reference to that on that very occasion. Mae'r Aelod yn iawn i godi'r mater ynghylch cynhyrchu ynni a diogelwch ynni ar gyfer y dyfodol, sy'n rhywbeth yr ydym yn ymwybodol iawn ohono. Gofynnaf i'r Aelod fyfyrio ar ei sylwadau ynglŷn â'r economi carbon-isel o ran yr hyn y mae’n gofyn amdano heddiw, oherwydd rwyf yn ymwybodol, dim ond pythefnos yn ôl, bod yr Aelod wedi pleidleisio yn erbyn egwyddor economi carbon-isel, ynghyd â'i gydweithwyr ar y chwith iddo, o ran darpariaeth ynni niwclear yn y gogledd, a chyfeiriais at hynny ar yr union achlysur hwnnw.
I think that the Member is right, though, to raise the issue of marine technology and wind technology. There is a true mixture of opportunity for Wales and the landscape that lends itself to energy production; that is something that we have to balance out in terms of the effects on the economy of that process. Rwyf yn credu bod yr Aelod yn iawn, fodd bynnag, i godi mater technoleg forol a thechnoleg gwynt. Ceir cymysgedd gwirioneddol o gyfle i Gymru a'r dirwedd sy'n cynnig ei hun i gynhyrchu ynni; mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ei gydbwyso o ran effaith y broses honno ar yr economi.
Daeth Peter Black i’r Gadair am 15:45. Peter Black took the Chair at 15:45.
Carl Sargeant
I believe that this statement does set out a very clear commitment from this Government to making change and making a positive impact on climate change. We have clear structures in the legislation profile that we have and are engaging in, moving forward. I am not sure that I agree wholeheartedly with the Member when he suggests that there should be a strong environmental focus to the Well-being of Future Generations (Wales) Bill. I think that the future generations Bill has cross-cutting themes. There are important environmental, social and economic aspects throughout the Bill, which all have an impact, together, on climate change. That is something, when we are considering future generations and the ability to deliver better in the way that we make decisions, which is the core principle of governance of the future generations Bill, on which I welcome and look forward to the support that the Member can give us in terms of developing a strong future generations Bill, which will have an impact on climate change, which is a cross-cutting theme, as I have mentioned in my response to him today. I will, of course, listen carefully throughout the scrutiny process with regard to the membership process and the delegation of how a commissioner may or may not be appointed, as we move through the scrutiny of the Bill in committee. Credaf fod y datganiad hwn yn nodi ymrwymiad clir iawn gan y Llywodraeth hon i wneud newid a chael effaith gadarnhaol ar newid yn yr hinsawdd. Mae gennym strwythurau clir yn y proffil deddfwriaeth sydd gennym ac yr ydym yn cymryd rhan ynddo, wrth symud ymlaen. Nid wyf yn siŵr fy mod yn cytuno'n llwyr â'r Aelod pan ei fod yn awgrymu y dylai fod pwyslais amgylcheddol cryf i'r Bil Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Credaf fod y Bil cenedlaethau’r dyfodol yn cynnwys themâu trawsbynciol. Mae agweddau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd pwysig ym mhob rhan o’r Bil, ac maent i gyd yn cael effaith, gyda'i gilydd, ar newid yn yr hinsawdd. Yn hynny o beth, pan fyddwn yn ystyried cenedlaethau'r dyfodol a'r gallu i gyflawni’n well yn y ffordd yr ydym yn gwneud penderfyniadau, sef egwyddor graidd llywodraethu’r Bil cenedlaethau'r dyfodol, rwyf yn croesawu ac yn edrych ymlaen at y gefnogaeth y gall yr Aelod ei rhoi inni o ran datblygu Bil cenedlaethau’r dyfodol cryf, a gaiff effaith ar newid yn yr hinsawdd, sy’n thema drawsbynciol, fel yr wyf wedi’i grybwyll yn fy ymateb iddo heddiw. Byddaf, wrth gwrs, yn gwrando'n ofalus drwy gydol y broses graffu o ran y broses aelodaeth ac o ran dirprwyo sut y gellir penodi comisiynydd neu beidio, wrth inni symud drwy'r broses o graffu ar y Bil yn y pwyllgor.
Statement: TB Compensation—The Next Steps Datganiad: Iawndal TB—Y Camau Nesaf
15:47 - Peter Black
I call the Deputy Minister for Farming and Food, Rebecca Evans. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans.
15:47 - Rebecca Evans
Earlier this year, the Welsh Government asked for views on the introduction of a table valuation system for TB compensation payments to replace the current system of individual on-farm valuations. This is in keeping with our strategic framework for bovine TB eradication in Wales, which includes an action to refresh the compensation regime to promote best practice and optimise herd management to minimise the risks of disease spread. Yn gynharach eleni, gofynnodd Llywodraeth Cymru am safbwyntiau am gyflwyno system tabl prisio ar gyfer taliadau iawndal TB i ddisodli'r system bresennol o brisiadau unigol ar y fferm. Mae hyn yn unol â'n fframwaith strategol ar gyfer dileu TB buchol yng Nghymru, sy'n cynnwys cam gweithredu i adfywio'r gyfundrefn iawndal i hyrwyddo arfer gorau a rheoli buchesi yn y modd gorau er mwyn lleihau cymaint â phosib y risg o ledaenu clefyd.
One of the primary reasons we reviewed our current compensation system in Wales was because of criticism from the European Commission. The Commission is correct in observing that our current compensation system results in valuations significantly higher for animals in Wales compared to England. The Commission is also of the opinion that our current system offers little incentive to farmers to make additional effort to prevent infection. I believe that it is our duty to address this criticism as best we can and so it is clear to me that we cannot continue with our existing system as it currently stands. Un o'r prif resymau y gwnaethom adolygu ein system iawndal bresennol yng Nghymru oedd oherwydd beirniadaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae'r Comisiwn yn gywir wrth arsylwi bod ein system iawndal bresennol yn arwain at brisiadau llawer uwch ar gyfer anifeiliaid yng Nghymru o’u cymharu â Lloegr. Mae'r Comisiwn hefyd o'r farn nad yw ein system bresennol yn cynnig llawer o gymhelliant i ffermwyr i wneud ymdrech ychwanegol i atal heintiau. Rwyf yn credu ei bod yn ddyletswydd arnom i roi sylw i’r feirniadaeth hon yn y modd gorau y gallwn ac felly mae'n amlwg imi na allwn barhau â'n system bresennol fel ag y mae hi.
Therefore, I asked my officials to provide me with new options for a TB compensation system in Wales. These included a table valuation system, as currently used by the Department for Environment, Food and Rural Affairs in England, a hybrid system whereby commercial cattle are valued using a table valuation system, but with individual on-farm valuations retained for pedigree cattle, and an enhancement to the current valuation system. In considering these options I was seeking to find the system that would best meets our objectives to compensate farmers fairly for the loss of their cattle; to avoid TB compensation being paid at rates of above 100% of the animal’s value; to ensure that the valuation mechanism is cost-effective and financially sustainable for the Welsh Government; and to ensure that compensation payments incentivise farmers to engage effectively in TB prevention measures. Felly, gofynnais i fy swyddogion roi dewisiadau newydd imi ar gyfer system iawndal TB yng Nghymru. Roedd y rhain yn cynnwys system tabl prisio, fel a ddefnyddir ar hyn o bryd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn Lloegr, system hybrid lle caiff gwartheg masnachol eu prisio gan ddefnyddio system tabl prisio, ond gan gadw prisiadau unigol ar y fferm ar gyfer gwartheg pedigri, a gwelliant i'r system brisio bresennol. Wrth ystyried y dewisiadau hyn roeddwn yn ceisio dod o hyd i'r system orau o ran cyflawni ein hamcanion i ddigolledu ffermwyr yn deg am golli eu gwartheg; osgoi talu iawndal TB ar gyfraddau uwch na 100% o werth yr anifail; sicrhau bod y mecanwaith prisio’n gost-effeithiol ac yn gynaliadwy yn ariannol i Lywodraeth Cymru; a sicrhau bod taliadau iawndal yn cymell ffermwyr i gymryd rhan yn effeithiol mewn mesurau atal TB.
Although the table valuation system and hybrid system both have some potential benefits that may have strengthened our eradication programme, I have decided not to pursue these options at this time. Both systems would have a restricted number of cattle categories, which I believe would not reflect the variation found among cattle in Wales. A table valuation system, which by its nature is based on average value, would over-value poorer animals and under-value better quality animals. A hybrid approach could be difficult to implement and cause confusion, as well as treat farmers differently depending on the type of cattle they keep. That is why I have decided to keep the current system of individual on-farm valuations, but with some additional enhancements. Er bod gan y system tabl prisio a’r system hybrid rai manteision posibl a allai fod wedi cryfhau ein rhaglen ddileu, rwyf wedi penderfynu peidio â mynd ar drywydd y dewisiadau hyn ar hyn o bryd. Byddai'r ddwy system yn cyfyngu ar nifer y categorïau gwartheg, ac yn fy marn i, ni fyddai hynny'n adlewyrchu'r amrywiaeth a geir ymysg gwartheg yng Nghymru. Byddai system tabl prisio, sydd yn ei hanfod yn seiliedig ar werth cyfartalog, yn gorbrisio anifeiliaid salach ac yn tanbrisio anifeiliaid o ansawdd gwell. Gallai dull hybrid fod yn anodd ei weithredu a pheri dryswch, a gallai hefyd drin ffermwyr yn wahanol gan ddibynnu ar y math o wartheg y maent yn eu cadw. Dyna pam yr wyf wedi penderfynu cadw'r system bresennol o brisiadau unigol ar y fferm, ond gyda rhai gwelliannau ychwanegol.
While I believe that the current system is the most appropriate way of compensating farmers, I have instructed my officials to introduce measures to further scrutinise valuations and valuers to prevent overcompensation, and to ensure that valuations are consistent. This will include lowering the justification threshold for pedigree animals to £3,000, which will require the warranted valuers to provide extra evidence for cattle valued above the threshold. While we already have thresholds in place for both pedigree and commercial cattle, lowering the threshold for pedigree animals will allow our monitor valuers to scrutinise a greater number of these higher value valuations. The warranted valuers will also be formally procured by the Welsh Government under a new framework contract. This will mean that we will be able to monitor the warranted valuers and scrutinise their valuations more rigorously than we are able to do under the current arrangements. Er fy mod yn credu mai’r system bresennol yw’r ffordd fwyaf priodol o ddigolledu ffermwyr, rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i gyflwyno mesurau i graffu ymhellach ar brisiadau a phriswyr i atal gordaliadau, ac i sicrhau bod prisiadau’n gyson. Bydd hyn yn cynnwys gostwng y trothwy cyfiawnhad ar gyfer anifeiliaid pedigri i £3,000, gan fynnu bod y priswyr gwarantedig yn darparu tystiolaeth ychwanegol ar gyfer gwartheg â gwerth uwch na’r trothwy. Er bod gennym eisoes drothwyon ar waith ar gyfer gwartheg pedigri a gwartheg masnachol, bydd gostwng y trothwy ar gyfer anifeiliaid pedigri’n galluogi ein priswyr monitro i graffu ar nifer fwy o’r prisiadau gwerth uwch hyn. Bydd y priswyr gwarantedig hefyd yn cael eu caffael yn ffurfiol gan Lywodraeth Cymru o dan gontract fframwaith newydd. Bydd hyn yn golygu y gallwn fonitro priswyr gwarantedig a chraffu ar eu prisiadau’n fwy trylwyr nag y gallwn ei wneud o dan y trefniadau presennol.
Alongside this, I have also decided to introduce a cap per animal on all compensation payments. It was clear from the consultation responses that a number of industry experts favoured this approach as it would improve the financial stability of the TB compensation system. I have therefore decided to cap payments for pedigree cattle at £15,000. I believe that this is a fair cap that takes into account the vast majority of the quality stock that we have in Wales. Ochr yn ochr â hyn, rwyf hefyd wedi penderfynu cyflwyno cap fesul anifail ar bob taliad iawndal. Roedd yn amlwg o'r ymatebion i'r ymgynghoriad bod nifer o arbenigwyr yn y diwydiant yn ffafrio’r dull hwn gan y byddai'n gwella sefydlogrwydd ariannol y system iawndal TB. Felly, rwyf wedi penderfynu capio taliadau am wartheg pedigri ar £15,000. Rwyf yn credu bod hwn yn gap teg sy'n ystyried y mwyafrif helaeth o'r stoc o ansawdd da sydd gennym yng Nghymru.
I have also asked my officials to introduce measures that will penalise those who are undertaking risky practices, as well as to better incentivise farmers to keep disease out of their herds. In Wales we have already introduced veterinary improvement notices that give the Animal and Plant Health Agency in Wales, formerly known as the Animal Health and Veterinary Laboratories Agency, the legal authority to enforce improvements on farms that are seen as high risk. We will work with the APHA to undertake a review of the use of veterinary improvement notices to ensure that they are used appropriately. We will also explore if they can be used more widely to improve the standards of husbandry and biosecurity on farms. Rwyf hefyd wedi gofyn i fy swyddogion gyflwyno mesurau a fydd yn cosbi’r rhai sy'n ymgymryd ag arferion peryglus, yn ogystal â rhoi gwell cymhelliad i ffermwyr i gadw’r clefyd allan o'u buchesi. Yng Nghymru rydym eisoes wedi cyflwyno hysbysiadau gwella milfeddygol sy'n rhoi i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yng Nghymru, a elwid gynt yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol, yr awdurdod cyfreithiol i orfodi gwelliannau ar ffermydd yr ystyrir eu bod yn rhai risg uchel. Byddwn yn gweithio gyda'r APHA i gynnal adolygiad o ddefnyddio hysbysiadau gwella milfeddygol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n briodol. Byddwn hefyd yn ystyried a ellir eu defnyddio’n fwy eang i wella safonau hwsmonaeth a bioddiogelwch ar ffermydd.
I have listened to the farming community’s concerns about our previous proposals. All of the measures that I have announced today are based on the feedback that I have received in the responses to the consultation, and I will commit the Welsh Government to reviewing the impact of these changes within two years, to ensure that they strike the right balance between fairness to individual farmers and taxpayers more widely. I am very grateful for the industry’s co-operation to date and I ask the farming community to continue to work with us as we move towards TB eradication in Wales. Rwyf wedi gwrando ar bryderon y gymuned ffermio am ein cynigion blaenorol. Mae pob un o'r mesurau yr wyf wedi'u cyhoeddi heddiw yn seiliedig ar yr adborth a gefais yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ac rwyf yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i adolygu effaith y newidiadau hyn o fewn dwy flynedd, er mwyn sicrhau eu bod yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng tegwch i ffermwyr unigol ac i drethdalwyr yn gyffredinol. Rwyf yn ddiolchgar iawn am gydweithrediad y diwydiant hyd yn hyn ac rwyf yn gofyn i'r gymuned ffermio barhau i weithio gyda ni wrth inni symud tuag at ddileu TB yng Nghymru.
15:52 - Peter Black
I call the Welsh Conservatives’ spokesperson, Russell George. Galwaf ar lefarydd Ceidwadwyr Cymru, Russell George.
15:52 - Russell George
I thank the Deputy Minister for her statement this afternoon. Given the near-unanimous view in the consultation response from stakeholders that a tabular system should not be introduced, my first question has to be: why such a significant delay in coming forward with this official response? It has only served to compound uncertainty for those in the Welsh cattle industry who are already facing significant financial challenges. That said, I welcome this change of heart today by the Deputy Minister. That is welcome indeed. Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad y prynhawn yma. Ac ystyried y farn unfrydol bron yn yr ymateb i'r ymgynghoriad gan randdeiliaid na ddylid cyflwyno system tablau, mae’n rhaid i fy nghwestiwn cyntaf fod: pam y bu cymaint o oedi cyn cyflwyno’r ymateb swyddogol hwn? Mae wedi cynyddu’r ansicrwydd i’r rheini yn niwydiant gwartheg Cymru sydd eisoes yn wynebu heriau ariannol sylweddol. Wedi dweud hynny, rwyf yn croesawu'r newid meddwl hwn heddiw gan y Dirprwy Weinidog. Mae hynny i'w groesawu’n wir.
During the consultation process, I urged farmers across Wales to challenge the tabular valuation option with strong and coherent arguments for the retention of the current TB compensation system, albeit a refined system where necessary. I am therefore pleased that the option 2 proposals have been dismissed by the Deputy Minister as not being the best option for the Welsh cattle industry. Yn ystod y broses ymgynghori, fe wnes i annog ffermwyr ledled Cymru i herio'r dewis tabl prisio gyda dadleuon cryf a chydlynol dros gadw'r system iawndal TB bresennol, er y byddai’r system wedi’i mireinio pan fyddai angen. Rwyf, felly, yn falch bod y Dirprwy Weinidog wedi diystyru cynigion dewis 2 gan nad oeddent y dewis gorau ar gyfer y diwydiant gwartheg yng Nghymru.
I have a number of questions for you, Deputy Minister. At what time and why did the Welsh Government reverse its view that there were ‘distinct advantages’ to adopting a tabular system? You have referred to criticism by the EU audit taskforce, and I would strongly refute any suggestion that the present system does not provide an incentive for farmers to keep disease out of their herds. I think that it is wrong to suggest that farmers need an incentive when farming families suffer the significant financial and emotional turmoil of TB. What further discussions have you had with the European Commission on the effect of that decision that has been announced today, particularly in relation to EU co-financing? Mae gennyf nifer o gwestiynau ichi, Ddirprwy Weinidog. Pryd a pham y gwnaeth Llywodraeth Cymru newid ei meddwl i ystyried bod 'manteision clir' i fabwysiadu system tabl? Rydych wedi cyfeirio at feirniadaeth gan dasglu archwilio’r UE, a byddwn yn gwrthod yn bendant unrhyw awgrym nad yw'r system bresennol yn darparu cymhelliant i ffermwyr gadw clefyd allan o'u buchesi. Rwyf yn meddwl ei bod yn anghywir awgrymu bod angen cymhelliant ar ffermwyr pan fo teuluoedd ffermio yn dioddef cythrwfl ariannol ac emosiynol sylweddol oherwydd TB. Pa drafodaethau pellach yr ydych chi wedi'u cael gyda'r Comisiwn Ewropeaidd am effaith y penderfyniad a gyhoeddwyd heddiw, yn enwedig o ran cydariannu’r UE?
The compensation for pedigree animals is very important. Given that 60% of compensation payments are paid out on such animals, I want to ensure that a cap is not going to damage that part of the industry, or disproportionately penalise those breeders. So, can you set out what the rationale is for setting a £15,000 cap, and have you properly taken into account the pedigree beef sector in setting that cap? Mae’r iawndal ar gyfer anifeiliaid pedigri’n bwysig iawn. Ac ystyried bod 60% o daliadau iawndal yn cael eu talu ar anifeiliaid o'r fath, hoffwn sicrhau na fydd cap yn niweidio’r rhan honno o'r diwydiant, nac yn cosbi’r bridwyr hynny’n anghymesur. Felly, a allwch chi nodi beth yw'r sail resymegol ar gyfer gosod cap o £15,000, ac a ydych chi wedi ystyried y sector cig eidion pedigri yn briodol wrth bennu’r cap hwnnw?
As you continue to look for ways to improve the current system, what considerations have you given to the National Farmers Union’s proposals to initiate a limited list of approved expert valuers—a senior valuation panel—to ensure consistency and equality in terms of valuations being carried out? Deputy Minister, the future cost of this system is important and needs to be addressed, as the value-for-money principle underpinned your review. It is clear from your draft budget proposals that there is going to be a £7.4 million cut next year to the TB management budget. How is that cut going to impact the delivery of the system going forward, particularly when £1 million plus a year is being spent on a pilot vaccination programme that has no strategic outcomes? In introducing a cap on payments, what is the estimated saving for the Welsh Government, and what do you intend to do with those savings? Will they remain in your budget? Wrth ichi barhau i chwilio am ffyrdd o wella'r system bresennol, pa ystyriaethau yr ydych chi wedi'u rhoi i gynigion yr Undeb Amaethwyr Cenedlaethol i gychwyn rhestr gyfyngedig o briswyr arbenigol cymeradwy—uwch banel prisio—i sicrhau cysondeb a chydraddoldeb o ran y prisiadau a gynhelir? Ddirprwy Weinidog, mae cost y system hon yn y dyfodol yn bwysig ac mae angen rhoi sylw iddi, gan mai’r egwyddor gwerth am arian oedd sail eich adolygiad. Mae'n amlwg o’ch cynigion cyllideb ddrafft y bydd toriad o £7.4 miliwn y flwyddyn nesaf i'r gyllideb rheoli TB. Sut y bydd y toriad hwnnw’n effeithio ar ddarparu’r system yn y dyfodol, yn enwedig pan fo £1 miliwn a mwy y flwyddyn yn cael ei wario ar raglen frechu arbrofol nad oes ganddi ganlyniadau strategol? Wrth gyflwyno cap ar daliadau, beth yw'r arbediad a amcangyfrifir i Lywodraeth Cymru, a beth yr ydych chi’n bwriadu ei wneud gyda'r arbedion hynny? A fyddant yn aros yn eich cyllideb?
Finally, we all hope to be in a position, of course, where no compensation is being paid out at all. We want to see healthy cattle living alongside healthy wildlife, but unfortunately, in many parts of Wales, neither is the case. The continued presence of bovine TB is costing farming families millions of pounds each year. I am pleased that the Welsh Government has listened to experts and the industry. Now, we must work together to continue to eradicate TB from Wales for good. We may have different approaches to achieving that, but we share the end goal to eradicate TB completely from Wales. I believe that, one day, we will achieve that and, for that, you have my support. Yn olaf, rydym i gyd yn gobeithio bod mewn sefyllfa, wrth gwrs, lle nad oes dim iawndal o gwbl yn cael ei dalu. Rydym am weld gwartheg iach yn byw ochr yn ochr â bywyd gwyllt iach, ond yn anffodus, mewn llawer rhan o Gymru, nid yw’r naill na’r llall yn digwydd. Mae presenoldeb parhaus TB buchol yn costio miliynau o bunnoedd bob blwyddyn i deuluoedd ffermio. Rwyf yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar arbenigwyr ac ar y diwydiant. Bellach, mae’n rhaid inni gydweithio i barhau i ddileu TB o Gymru am byth. Efallai fod gennym ddulliau gwahanol o gyflawni hynny, ond rydym yn rhannu'r nod terfynol o ddileu TB yn gyfan gwbl o Gymru. Credaf, un diwrnod, y byddwn yn cyflawni hynny ac, am hynny, rhoddaf fy nghefnogaeth i chi.
15:57 - Rebecca Evans
I thank the Member for his welcome to the statement and the decision today. I would argue that there has not been a delay or a change of heart; this is just due process with a new Minister coming in. I published the responses to the consultation in August, and I make my statement today having considered those responses in great detail, and having discussed them in great detail also. So, I do not think that I would agree with the Member that there has been a delay. Diolch i'r Aelod am ei groeso i'r datganiad a'r penderfyniad heddiw. Byddwn yn dadlau na fu oedi na newid meddwl; dyma’r drefn briodol pan fo Gweinidog newydd yn dod i mewn. Cyhoeddais yr ymatebion i'r ymgynghoriad ym mis Awst, ac rwyf yn gwneud fy natganiad heddiw ar ôl ystyried yr ymatebion hynny’n fanwl iawn, ac ar ôl eu trafod yn fanwl iawn hefyd. Felly, nid wyf yn meddwl y byddwn yn cytuno gyda'r Aelod y bu oedi.
Turning to his particular questions, regarding the £15,000 cap, that will help to ensure the sustainability of our TB compensation system here in Wales, and this figure was recommended by some of the respondents to the consultation. To put it into perspective, less than 0.1% of the 6,352 cattle slaughtered during the 2013-14 financial year were valued at above £15,000. What that means, in practice, is that only six animals were valued at above £15,000. The potential saving in compensation paid for those animals, had there been a cap, would have been £63,500. The effect of the cap will be monitored by our monitor valuers and I think that it is important that we remember that the maximum value that any animal can currently attain in DEFRA’s table valuation system is £3,595 for a beef bull. So, it is clear that the high-value pedigree animals would be significantly undervalued in a table valuation system, and I think that our £15,000 cap compares fairly. Those farmers who believe that they may be adversely affected by the £15,000 cap have the option to insure their animals for a value above it. I droi at ei gwestiynau penodol, ynghylch y cap £15,000, bydd hwnnw’n helpu i sicrhau cynaliadwyedd ein system iawndal TB yma yng Nghymru, a chafodd y ffigur hwn ei argymell gan rai o atebwyr yr ymgynghoriad. I'w roi mewn persbectif, roedd llai na 0.1% o'r 6,352 o wartheg a laddwyd yn ystod y flwyddyn ariannol 2013-14 yn werth dros £15,000. Yr hyn y mae hynny'n ei olygu, yn ymarferol, yw mai dim ond chwech o anifeiliaid a gafodd eu prisio’n uwch na £15,000. Yr arbediad posibl yn yr iawndal a dalwyd am yr anifeiliaid hynny, pe byddai’r cap ar waith, fyddai £63,500. Caiff effaith y cap ei fonitro gan ein priswyr monitro ac rwyf yn meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn cofio mai’r gwerth mwyaf posibl y gall unrhyw anifail ei gyrraedd ar hyn o bryd yn system tabl prisio DEFRA yw £3,595 am darw cig eidion. Felly, mae'n amlwg y byddai'r anifeiliaid pedigri gwerth uchel yn cael eu tanbrisio’n sylweddol mewn system tabl prisio, ac rwyf yn meddwl bod ein cap o £15,000 yn cymharu’n deg. Os oes ffermwyr sy'n credu y gallai’r cap £15,000 effeithio'n andwyol arnynt, gallant ddewis yswirio eu hanifeiliaid am werth uwch na hynny.
With regard to your comments on the European Commission’s criticism of our current approach, following the Commission’s audit of the UK financial claim for the bovine TB eradication programme in 2010, the Commission concluded that the compensation amount declared by Wales needed to be adjusted to be in line with the real market values. The Commission said that valuations per animal in England were the best reference for Wales. In 2011, a report by the Commission’s Food and Veterinary Office on the TB eradication programme concluded that valuations in Wales were significantly higher than in England and, this July, following the submission of the UK TB eradication plan for 2015, the Commission commented that compensation to farmers in Wales remains high. So, it is my belief that we need to take these views and criticisms seriously because the Commission co-finances some of our TB control measures. The Commission is also of the view that the current system offers little incentive to farmers, as I mentioned in my statement. Most recently, this opinion was reiterated by the Food and Veterinary Office when it visited in September, when it stated that the compensation culture in Wales offers farmers little incentive to make additional efforts to prevent infection. So, that was the view of the Commission. O ran eich sylwadau am feirniadaeth y Comisiwn Ewropeaidd o’n dull gweithredu presennol, yn dilyn archwiliad y Comisiwn o hawliad ariannol y DU ar gyfer y rhaglen i ddileu TB gwartheg yn 2010, daeth y Comisiwn i'r casgliad bod angen addasu’r swm iawndal a ddatganwyd gan Gymru i fod yn unol â gwerthoedd y farchnad wirioneddol. Dywedodd y Comisiwn mai prisiadau fesul anifail yn Lloegr oedd y cyfeirnod gorau i Gymru. Yn 2011, daeth adroddiad gan Swyddfa Bwyd a Milfeddygaeth y Comisiwn ar y rhaglen i ddileu TB i'r casgliad bod prisiadau yng Nghymru’n sylweddol uwch nag yn Lloegr ac, ym mis Gorffennaf eleni, ar ôl i gynllun dileu TB y DU gael ei gyflwyno ar gyfer 2015, dywedodd y Comisiwn fod iawndal i ffermwyr yng Nghymru’n parhau i fod yn uchel. Felly, credaf fod angen inni gymryd y safbwyntiau a’r beirniadaethau hyn o ddifrif gan fod y Comisiwn yn cydariannu rhai o'n mesurau rheoli TB. Mae'r Comisiwn hefyd o'r farn nad yw’r system bresennol yn cynnig llawer o gymhelliant i ffermwyr, fel y dywedais yn fy natganiad. Yn fwyaf diweddar, ategwyd y farn hon gan y Swyddfa Bwyd a Milfeddygaeth pan ymwelodd ym mis Medi, pryd y datganodd nad yw’r diwylliant iawndal yng Nghymru’n cynnig llawer o gymhelliant i ffermwyr i wneud ymdrech ychwanegol i atal heintiau. Felly, dyna oedd barn y Comisiwn.
With regard to the cost of the programme, as the Member will be aware, the TB compensation programme is demand-led. I am confident that the budget for next year is enough to meet the potential commitments of this, based on the TB picture we have in Wales at the moment. I also believe that the TB eradication portfolio budget, at £8 million, is also sufficient to meet those commitments within that budget line as well. Finally, you mentioned the monitor valuers and the warranted valuers. It is our intention to procure those valuers under a new contract with Welsh Government. I think that that will help us to monitor their work much more closely and to monitor their valuations much more rigorously than we are able to do at the moment. That will, in turn, increase the powers of the monitor valuers we have in Wales who oversee the work of the warranted valuers, and that will help them to further scrutinise their role as well. O ran cost y rhaglen, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae'r rhaglen iawndal TB yn seiliedig ar alw. Rwyf yn hyderus bod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf yn ddigon i dalu ymrwymiadau posibl hyn, yn seiliedig ar y darlun TB sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd. Rwyf hefyd yn credu bod cyllideb y portffolio dileu TB, sef £8 miliwn, yn ddigonol i fodloni'r ymrwymiadau hynny o fewn y llinell gyllideb honno hefyd. Yn olaf, soniasoch am y priswyr monitro a'r priswyr gwarantedig. Ein bwriad yw caffael y priswyr hynny dan gontract newydd gyda Llywodraeth Cymru. Rwyf yn meddwl y bydd hynny'n ein helpu i fonitro eu gwaith yn llawer agosach ac i fonitro eu prisiadau’n llawer mwy trylwyr nag y gallwn ei wneud ar hyn o bryd. Bydd hynny, yn ei dro, yn cynyddu pwerau ein priswyr monitro yng Nghymru sy'n goruchwylio gwaith y priswyr gwarantedig, a bydd hynny’n eu helpu i graffu ymhellach ar eu swyddogaeth hefyd.
16:01 - Peter Black
I call the Plaid Cymru spokesperson, Llyr Gruffydd. Galwaf ar lefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
16:01 - Llyr Gruffydd
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd dros dro. A gaf ddiolch i chi, Ddirprwy Weinidog, am eich datganiad? Mae’n un yr ydym yn ei groesawu’n gynnes iawn. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi gwrthwynebu o’r cychwyn symud at fodel o ‘table valuation’. Mi wrthwynebon ni hynny yn ôl yn 2006, ac rydym yn falch iawn heddiw, wrth gwrs, yn eich datganiad yn y fan hon, eich bod chi wedi dweud eich bod yn hapus i newid cyfeiriad. Mae un nodyn chwerwfelys, serch hynny, yn y datganiad, sef, unwaith eto, ac rydym wedi clywed un cyfeiriad ato yn barod, yr ensyniad hwn nad yw ffermwyr rywsut yn gwneud digon i gadw TB allan o’u ffermydd ac nad yw’r digolledi presennol yn rhoi digon o ‘incentive’ i ffermwyr wneud hynny. Rwy’n meddwl—wel, rwy’n gwybod—fod ffermwyr Cymru yn teimlo bod hynny yn ddim byd llai na sarhad. Rydych yn dweud yn eich datganiad mai dyna yw barn y Comisiwn, ac rwy’n eich gwahodd, Ddirprwy Weinidog, i ddefnyddio’r cyfle wrth ymateb i ddatgan yn gwbl glir nad ydych yn cytuno â’r farn honno ac nad dyna yw eich barn chi, ac, yn wir, eich bod yn gwrthod yr ensyniad hwnnw fel un gwbl annheg ac un gwbl anghywir. Thank you, temporary Deputy Presiding Officer. May I thank you, Deputy Minister, for your statement? It is one that we warmly welcome. Plaid Cymru, of course, has opposed from the outset the move towards table valuation. We opposed that in 2006 and we are very pleased that, this afternoon, you have stated that you are happy to change direction. There is one bittersweet note, nevertheless, in the statement, and we have heard one reference to this already, namely this idea that farmers somehow are not doing enough to keep TB off their farms and that the current compensation does not provide adequate incentive to farmers to do so. I think, and in fact I know, that Welsh farmers see that as nothing less than an insult. You say in your statement that that is the view of the Commission, and I invite you, Deputy Minister, to take this opportunity in responding to state clearly that you disagree with that view and that that is not your view as Deputy Minister and, in fact, that you reject that accusation as being entirely unfair and entirely wrong.
Rydym yn gwybod bod impact TB ar ffarm yn mynd tu hwnt i dâl digolledi. Mae’r cyfyngiadau yn golygu nad oes modd gwerthu gwartheg stôr ac y mae gostyngiad mewn cynhyrchiant llaeth pan fyddwch yn colli anifeiliaid. Rydych hefyd yn gorfod prynu mewn mwy o borthiant, mwy o ‘bedding’ ac yn y blaen. Felly, mae’r math hwnnw o ensyniad, yn fy marn i, yn gwbl sarhaus, heb sôn, wrth gwrs, am yr impact emosiynol yr ydym yn fwy nag ymwybodol ohono mewn nifer o’n cymunedau gwledig. Felly, a wnewch chi gytuno â mi fod y golled, mewn gwirionedd, y tu hwnt, fel y dywedais, i werth yr anifail a lefel y tâl digolledi? We know that the impact of TB on-farm goes beyond compensation. The restrictions mean that you cannot sell store cattle and that there is a reduction in terms of milk production—you have to buy in more bedding, more feed and so on and so forth. Therefore, that kind of insinuation, in my view, is entirely insulting, never mind, of course, the emotional impact that we are more than aware of in a number of our rural communities. Therefore, will you agree with me that the losses are over and above level of compensation and the value of the animals themselves?
Rwyf innau hefyd am bigo i fyny ar y ffaith eich bod chi am osod cap o £15,000 ar anifail. Mae’n teimlo i fi eich bod yn gwneud hynny, a thrwy wneud hynny, yn gosod rhyw fath o gap ar ansawdd anifail. Os yw gwerth anifail yn fwy na £15,000, yna mae gwerth anifail yn fwy na £15,000. Ni allwch ddechrau chwarae o gwmpas gyda hynny. Naill ai yr ydych chi’n derbyn bod gwerth i anifail, neu dydych chi ddim. Nid wyf yn gweld mewn gwirionedd sut y gallwch chi fod yn gosod y lefel o £15,000. Rwy’n clywed beth yr ydych yn ei ddweud, mai nifer fach iawn o anifeiliaid yr ydym yn sôn amdanyn nhw, ond i fi mae hynny’n rheswm i beidio â gwrthwynebu, felly, ac i dderbyn y ffaith bod rhai anifeiliaid, yn iawn hefyd, yn cael eu cydnabod i fod yn werth mwy na hynny. Nid wyf yn gwybod a fyddech chi’n barod i ystyried cyflwyno rhyw fath o apêl mewn amgylchiadau eithriadol, os nad ydych am symud ar hyn. Ond, yn sicr, fe fyddwn i yn pwyso arnoch chi i ailystyried hynny. I also want to pick up on the fact that you want to set a cap of £15,000 on livestock. It feels to me that, in doing so, you are placing some sort of cap on the quality of an animal. If an animal’s value is higher than £15,000, then that is simply the case. You cannot start to play around with that. Either you accept that there is a value to an animal or you do not. I simply do not see how you can set a cap of £15,000. I hear what you say in that we are talking about very few animals here, but, to me, that is a reason not to oppose, therefore, and to accept the fact that there are some animals that are quite rightly judged to be worth more than that cap. I do not know whether you would be willing to consider introducing some sort of appeal in exceptional circumstances, if you are not going to shift on this. However, I would certainly urge you to reconsider that point.
Yr ydych yn cyfeirio hefyd at fynd ati i gaffael y gwasanaeth prisio newydd. Yn amlwg, roedd gofidiau, os gofiwch chi, ynglŷn â’r modd yr aeth y Llywodraeth ati i wneud hynny gyda phrofi TB a chyflwyno cytundebau mawr, a drwy hynny'r peryg eich bod chi’n allgau milfeddygon lleol. You also referred to procuring the new valuation service. Clearly, there were concerns, if you recall, about the way in which the Government did that with TB testing and the introduction of large contracts, and with that the risk that you exclude local vets.
Byddwn yn awyddus ichi sicrhau, yn y broses yr ydych yn mynd i ymgymryd â hi, fod llwyfan teg, gwastad i briswyr lleol fedru bod yn rhan o’r broses honno. Byddwn yn falch iawn petaech yn rhoi ymrwymiad o’r fath i ni y prynhawn yma. Fel mae eraill wedi’i wneud, rwy’n siŵr y byddech yn barod i ymuno â mi wrth gydnabod mai’r nod yn y pen draw yw y dylem wneud popeth posibl i ddileu TB, oherwydd heb TB, wrth gwrs, ni fydd angen y taliadau hyn yn y lle cyntaf. I would urge you to ensure, in the process that you are undertaking, that there is a level playing field for local valuers to be part of that process. I would be very grateful if you could give us a commitment of that kind this afternoon. As others have already done, I am sure that you would be willing to join me in recognising that the aim at the end of the day is that we should do everything possible to eradicate TB, because without TB there would be no need for these payments in the first place.
16:05 - Rebecca Evans
I thank the Member for his warm welcome to this statement today and I am pleased that there is good cross-party support for it, so far. I absolutely understand the Member’s frustrations with regard to the comments of the European Commission and I know that many farmers will feel very concerned about those comments as well. I am under no illusion that the absolute vast majority of farmers are doing everything that they possibly can to keep TB off their farms. You will be aware that I visited many farms over the course of the summer and now into the autumn and some have been affected by TB. So, I am under no illusion as to the effect that it has on the farming business and on the personal and family lives of those farmers affected. Diolch i'r Aelod am ei groeso cynnes i'r datganiad hwn heddiw ac rwyf yn falch y cafwyd cefnogaeth drawsbleidiol dda iddo, hyd yn hyn. Rwyf yn deall yn llwyr rhwystredigaeth yr Aelodau ynglŷn â sylwadau'r Comisiwn Ewropeaidd, ac rwyf yn gwybod y bydd llawer o ffermwyr yn teimlo'n bryderus iawn am y sylwadau hynny hefyd. Nid wyf dan unrhyw gamargraff bod y mwyafrif mawr iawn o ffermwyr yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw TB oddi ar eu ffermydd. Byddwch yn ymwybodol fy mod wedi ymweld â llawer o ffermydd yn ystod yr haf, ac erbyn hyn i mewn i'r hydref, ac mae TB wedi effeithio ar rai ohonynt. Felly, nid wyf dan unrhyw gamargraff ynglŷn â'r effaith y mae'n ei chael ar y busnes ffermio ac ar fywydau personol a theuluol y ffermwyr hynny yr effeithiwyd arnynt.
It might be useful if I were to say something about the veterinary improvement notices, which were used by what was the AHVLA—the Animal Health and Veterinary Laboratories Agency—to advise farmers in Wales of actions that they would need to take to help prevent the spread of bovine TB on their farms. That can include anything from preventing contact with neighbouring stock to preventing badger access to feed stores. Failure to adhere to those requirements would affect the compensation that a keeper is paid for any cattle that have been slaughtered as a result of bovine TB. Efallai y byddai'n ddefnyddiol pe byddwn yn dweud rhywbeth am yr hysbysiadau gwella milfeddygol, a ddefnyddiwyd gan yr hen AHVLA—yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol—i gynghori ffermwyr yng Nghymru am gamau y byddai angen iddynt eu cymryd er mwyn helpu i atal lledaeniad TB buchol ar eu ffermydd. Gall hynny gynnwys unrhyw beth o atal cysylltiad â stoc cyfagos i atal moch daear rhag mynd at storau bwyd. Byddai methiant i gadw at y gofynion hynny'n effeithio ar yr iawndal a delir i geidwad am unrhyw wartheg sydd wedi cael eu lladd o ganlyniad i TB buchol.
This year, there have been 57 of these notices issued, but, since they were introduced in 2010, no compensation has been reduced as a result of failure to adhere to the requirements of one of these notices. So, that does suggest that farmers are very keen to take on expert advice and comply with it when it is offered. Eleni, cyhoeddwyd 57 o’r hysbysiadau hyn, ond, ers iddynt gael eu cyflwyno yn 2010, nid oes unrhyw iawndal wedi ei leihau o ganlyniad i fethiant i gadw at ofynion un o'r hysbysiadau hyn. Felly, mae hynny'n awgrymu bod ffermwyr yn awyddus iawn i gael cyngor arbenigol a chydymffurfio ag ef pan gaiff ei gynnig.
My officials will undertake a review of those notices to see how they can be best used in future and, obviously, I would be keen to have the Member’s input and the input of other spokespeople on that piece of work as well. I also think that there might be a role for those notices in our enhanced management of persistent herd breakdowns, for example. With regard to the £15,000 cap, I will be reviewing, or the Welsh Government will review, the system after two years, and so I will be keeping a close eye on how many cattle are affected and the types of cattle. This is something that I will keep a very close watch on. Bydd fy swyddogion yn cynnal adolygiad o’r hysbysiadau hynny i weld sut y gellir eu defnyddio orau yn y dyfodol ac, yn amlwg, byddwn yn awyddus i gael cyfraniad yr Aelod a chyfraniad llefarwyr eraill ar y darn hwnnw o waith hefyd. Rwyf hefyd yn credu y gallai fod lle i’r hysbysiadau hynny yn ein gwell rheolaeth o heintiadau parhaus mewn buchesi, er enghraifft. O ran y cap £15,000, byddaf yn adolygu, neu bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu, y system ar ôl dwy flynedd, felly byddaf yn cadw llygad barcud ar faint o wartheg mae hyn yn effeithio arnynt a'r mathau o wartheg. Mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn cadw golwg ofalus iawn arno.
With regard to the new framework contract, this will be a new piece of work and, again, I am open to listening to views from the industry and spokespeople or individual farmers with an interest as well. O ran y contract fframwaith newydd, bydd hwn yn ddarn newydd o waith ac, unwaith eto, rwyf yn agored i wrando ar farn gan y diwydiant a llefarwyr neu ffermwyr unigol sydd â budd hefyd.
16:08 - Peter Black
I call the Welsh Liberal Democrats’ spokesperson, William Powell. Galwaf ar lefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, William Powell.
16:08 - William Powell
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd dros dro. Thank you very much, temporary Deputy Presiding Officer.
I am delighted that the Welsh Government has seen sense on this occasion and that the Minister has put on the ‘listening wellies’ that were sometimes referred to in the context of her predecessor. It is extremely pleasing to see that the commonsense arguments have prevailed on this occasion. They were arguments that were loudly marshalled in this place and elsewhere also by members of my own party. So, that is gratifying. That is extremely good to hear. Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi gweld synnwyr ar yr achlysur hwn, a bod y Gweinidog wedi gwisgo’r 'esgidiau glaw gwrando' y cyfeiriwyd atynt weithiau yng nghyd-destun ei rhagflaenydd. Mae'n hynod o braf gweld bod y dadleuon synnwyr cyffredin wedi ennill y dydd ar yr achlysur hwn. Roeddent yn ddadleuon a glywyd yn uchel yn y lle hwn ac mewn mannau eraill hefyd gan aelodau o fy mhlaid fy hun. Felly, mae hynny'n dda. Mae’n eithriadol o braf clywed hynny.
However, there are, nevertheless, some concerns that I think need to be raised. First, the Deputy Minister referred earlier to the issue of insurance. Does the Deputy Minister accept that, in practice, insurance against TB occurrence is prohibitively expensive and, in practice, not available or a practicable option for farmers across this country? Also, Minister, will you make a commitment that any savings that are achieved through the modified system that you are proposing are reinvested to incentivise biosecurity and a risk-based approach? I think that is really, really important. Fodd bynnag, er hynny, rwyf yn meddwl bod angen codi rhai pryderon. Yn gyntaf, cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog yn gynharach at yswiriant. A yw'r Dirprwy Weinidog yn derbyn, yn ymarferol, bod yswiriant yn erbyn achosion TB yn afresymol o ddrud ac, yn ymarferol, nad yw’n ddewis sydd ar gael nac yn ymarferol i ffermwyr ledled y wlad hon? Hefyd, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo y bydd unrhyw arbedion a gyflawnir drwy'r system wedi’i haddasu yr ydych yn ei chynnig yn cael eu hail-fuddsoddi i gymell bioddiogelwch ac ymagwedd seiliedig ar risg? Credaf fod hynny yn bwysig iawn, iawn.
I would also ask you to reflect again on the central role of small-scale veterinary practices in playing a part in driving down the risk of TB and contributing to the eradication programme. Byddwn hefyd yn gofyn ichi fyfyrio eto ar swyddogaeth ganolog practisau milfeddygol bach wrth chwarae rhan yn y gwaith o leihau’r risg o TB a chyfrannu at y rhaglen ddileu.
16:10 - Rebecca Evans
I thank the Member for his warm welcome. Those were big listening wellies to fill, I have to say. With regard to the insurance and whether or not it is available on a practical basis, that does not necessarily reflect the discussions that I have had, but I will certainly commit to going back and looking at this again to see whether I have been advised in the manner that the Member is suggesting on that issue. Diolch i'r Aelod am ei groeso cynnes. Roedd y rheini'n esgidiau glaw gwrando mawr i'w llenwi, mae’n rhaid imi ddweud. O ran yr yswiriant a pha un a yw ar gael yn ymarferol ai peidio, nid yw hynny o reidrwydd yn adlewyrchu'r trafodaethau yr wyf wedi'u cael, ond rwyf yn sicr yn ymrwymo i fynd yn ôl ac edrych ar hyn eto i weld pa un a wyf wedi cael fy nghynghori yn y modd y mae'r Aelod yn ei awgrymu ar y mater hwnnw.
With regard to small-scale veterinary practices, yes, I absolutely will commit to looking at the role that they can play in the way forward here as well. O ran practisau milfeddygol bach, gwnaf, fe ymrwymaf yn bendant i edrych ar y rhan y gallant ei chwarae yn y ffordd ymlaen yn hyn o beth hefyd.
It might be useful for me to take this opportunity to reflect on the very latest figures for TB, which were published just last week. While disease figures can fluctuate from month to month, the latest statistics continue to show the downward trend that we have been seeing, and that is very encouraging news. The latest statistics, for the year ending July 2014, show a 24% decrease in the number of cattle slaughtered in Wales as a result of bovine TB compared with the previous year, and the number of new TB incidences is reduced by 15% compared with the previous year. Month on month and year on year statistics are interesting; we also need to look at longer trends. The number of herds under restrictions due to bovine TB has reduced by a third in the last two years and 344 fewer herds are under restrictions because of bovine TB compared with two years ago. So, I think that we continue to see positive progress being made, and I look forward to working further with the industry to achieve further positive changes. Efallai y byddai'n ddefnyddiol imi gymryd y cyfle hwn i fyfyrio ar y ffigurau diweddaraf un ar gyfer TB, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Er y gall ffigurau clefyd amrywio o fis i fis, mae'r ystadegau diweddaraf yn parhau i ddangos y duedd ar i lawr yr ydym wedi bod yn ei gweld, ac mae hynny'n newyddion calonogol iawn. Mae'r ystadegau diweddaraf, ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Gorffennaf 2014, yn dangos 24% o ostyngiad yn nifer y gwartheg a laddwyd yng Nghymru o ganlyniad i TB buchol o’i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ac mae nifer yr achosion newydd o TB wedi lleihau 15% o'i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae ystadegau o fis i fis ac o flwyddyn i flwyddyn yn ddiddorol; mae angen inni hefyd edrych ar dueddiadau hirach. Mae nifer y buchesi dan gyfyngiadau oherwydd TB buchol wedi gostwng o draean yn ystod y ddwy flynedd diwethaf ac mae 344 yn llai o fuchesi dan gyfyngiadau oherwydd TB buchol o’i gymharu â dwy flynedd yn ôl. Felly, rwyf yn meddwl ein bod yn parhau i weld cynnydd cadarnhaol yn cael ei wneud, ac edrychaf ymlaen at gydweithio ymhellach â’r diwydiant i gyflawni newidiadau cadarnhaol pellach.
16:11 - Antoinette Sandbach
Deputy Minister, I would like to echo the concerns raised by other Assembly Members about the ability to insure, particularly, pedigree or high-value animals from a TB breakdown and the prohibitive costs of that, potentially, to a farm business in doing so. Ddirprwy Weinidog, hoffwn adleisio pryderon a godwyd gan Aelodau eraill y Cynulliad am y gallu i yswirio, yn arbennig, anifeiliaid pedigri neu werthfawr yn erbyn achos o TB a’r costau gwaharddol, o bosibl, i fusnes fferm o wneud hynny.
Daeth y Llywydd i’r Gadair am 16:12. The Presiding Officer took the Chair at 16:12.
Antoinette Sandbach
Many of the respondents called for a more transparent and stringent appointment system, so I welcome the fact that you are looking at that. They also suggested that there should be a call to employ private vets to undertake some of the assessments and, given that speed is often of the essence in terms of valuing a particular herd, because animals can decline rapidly if they have TB, are you looking at the timeliness of valuers attending on-farm to value the animals and what action are you taking to address that? Galwodd llawer o'r atebwyr am system apwyntiadau fwy tryloyw a llym, felly croesawaf y ffaith eich bod yn edrych ar hynny. Awgrymwyd hefyd y dylid bod galwad i gyflogi milfeddygon preifat i ymgymryd â rhai o'r asesiadau ac, o gofio bod cyflymder yn aml yn hanfodol o ran prisio buches benodol, oherwydd gall anifeiliaid ddirywio’n gyflym os oes ganddynt TB, a ydych chi’n edrych ar brydlondeb priswyr sy'n mynychu ffermydd i brisio’r anifeiliaid a pha gamau yr ydych chi’n eu cymryd i ymdrin â hynny?
In relation to TB breakdowns, many respondents called for the Welsh Government to give some sort of notification of a nearby TB herd breakdown to neighbouring farms so that they could take biosecurity measures to minimise the risk. O ran achosion o TB, galwodd llawer o atebwyr ar Lywodraeth Cymru i roi rhyw fath o hysbysiad ynghylch achos o TB mewn buches gyfagos i ffermydd fel y gallent gymryd mesurau bioddiogelwch er mwyn lleihau'r risg.
I welcome the reduction in the bovine TB figures that you have cited this afternoon in the Chamber, but, of course, you are not distinguishing between the intensive action area and the non-intensive action area. Clearly, pre-movement testing is having some impact, but what are you doing to ensure that the regimes in England and Wales are concurrent so that there are not risks of cattle coming into Wales and bringing TB with them and bringing with that the possibility of herd breakdowns on neighbouring farms? Rwyf yn croesawu'r gostyngiad yn y ffigurau TB buchol yr ydych wedi'u nodi y prynhawn yma yn y Siambr, ond, wrth gwrs, nid ydych yn gwahaniaethu rhwng yr ardal triniaeth ddwys a'r ardal lle nad oes triniaeth ddwys. Yn amlwg, mae profion cyn symud yn cael rhywfaint o effaith, ond beth ydych chi’n ei wneud i sicrhau bod y trefniadau yng Nghymru a Lloegr yn gydamserol fel nad oes risgiau o wartheg yn dod i mewn i Gymru a dod â TB gyda hwy, yn ogystal â’r posibilrwydd o heintio buchesi ar ffermydd cyfagos?
I echo the concerns that other Assembly Members have raised about the reservoir of bovine TB in wildlife. It is clear that there is a reservoir there. Pre-movement testing is having an impact, but it is not eliminating the disease. Ategaf y pryderon y mae Aelodau eraill y Cynulliad wedi’u codi am y gronfa o TB buchol mewn bywyd gwyllt. Mae'n amlwg bod yna gronfa. Mae profion cyn symud yn cael effaith, ond nid yw hynny’n dileu'r clefyd.
16:14 - Rebecca Evans
I thank the Member for her welcome for the statement as well today. With regard to the cross-border issues, this is something that I am taking a particularly keen interest in. The Member will be aware of the recent case in Cumbria, where 114 cattle were sold at a dispersal sale, 28 were traced to 13 holdings in Wales and 17 of those, subsequently, were identified as TB reactors. I visited one of those farms myself. The cattle in Wales were individually valued in line with the purchase price paid a few weeks previously, and the new owners were compensated accordingly. The values of the reactor cattle in England were determined by the table valuation system, and farms received, on average, £400 a head less. I think that that demonstrates the difference between the table valuation system and what I am announcing here today for Wales. I have written to Liz Truss expressing my concern about the lack of pre-movement testing for cattle, subject to the four-yearly testing system in England, which could potentially mean that cattle are coming onto Welsh farms having never been tested for TB. I have not had a positive response to that request for pre-movement testing into Wales, but it is certainly something that I will continue to pursue in my next meetings with her. Diolch i'r Aelod hefyd am ei chroeso i'r datganiad heddiw. Gyda golwg ar y materion traws-ffiniol, mae hyn yn rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddo. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r achos diweddar yn Cumbria, lle cafodd 114 o wartheg eu gwerthu mewn arwerthiant gwasgaru, cafodd 28 eu holrhain i 13 o ddaliadau yng Nghymru a nodwyd bod 17 o'r rheini, ar ôl hynny, wedi adweithio i’r prawf TB. Ymwelais ag un o'r ffermydd hynny fy hun. Cafodd y gwartheg yng Nghymru eu prisio’n unigol yn unol â'r pris prynu a dalwyd ychydig wythnosau ynghynt, a chafodd y perchnogion newydd eu digolledu'n unol â hynny. Cafodd gwerthoedd y gwartheg a adweithiodd i’r prawf TB yn Lloegr eu pennu gan y system tabl prisio, a chafodd y ffermydd, ar gyfartaledd, £400 y pen yn llai. Credaf fod hynny'n dangos y gwahaniaeth rhwng y system tabl prisio a'r hyn yr wyf yn ei gyhoeddi yma heddiw ar gyfer Cymru. Rwyf wedi ysgrifennu at Liz Truss i fynegi fy mhryder am y diffyg profion cyn symud ar gyfer gwartheg, yn amodol ar y system brofi pob pedair blynedd yn Lloegr, a allai olygu bod gwartheg yn cyrraedd ffermydd Cymru heb gael eu profi am TB erioed. Nid wyf wedi cael ymateb cadarnhaol i'r cais hwnnw ar gyfer profion cyn symud i mewn i Gymru, ond mae'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn parhau i fynd ar ei drywydd yn fy nghyfarfodydd nesaf gyda hi.
I have committed already to exploring the role that private vets and small community vets’ practices can take in taking this work forward, and I will be happy to update Members in due course on that. Rwyf eisoes wedi ymrwymo i archwilio’r rhan y gall milfeddygon preifat a phractisau milfeddygon cymunedol bach ei chwarae i ddatblygu'r gwaith hwn, a byddaf yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau maes o law am hynny.
With regard to notifying nearby farms, that is a piece of work that I am actively looking at at the moment. Again, I would be happy to update Members in due course. O ran hysbysu ffermydd cyfagos, mae hwnnw’n ddarn o waith yr wyf yn edrych yn weithredol arno ar hyn o bryd. Eto, byddaf yn fodlon rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau maes o law.
Legislative Consent Memorandum on the Small Business, Enterprise and Employment Bill Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth
16:15 - Y Llywydd / The Presiding Officer
This item has been postponed, so we now move to the debate on the future of devolution for Wales. Mae'r eitem hon wedi ei gohirio, felly symudwn yn awr at y ddadl ar ddyfodol datganoli i Gymru.
Future of Devolution for Wales Dyfodol Datganoli i Gymru
I call on the First Minister, Carwyn Jones, to move the motion. Galwaf ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones, i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM5605 Jane Hutt, Paul Davies, Elin Jones, Aled Roberts Motion NDM5605 Jane Hutt, Paul Davies, Elin Jones, Aled Roberts
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: To propose that the National Assembly for Wales:
1. Yn croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog y bydd Cymru yn rhan ganolog o’r ddadl ar ddyfodol y Deyrnas Unedig. 1. Welcomes the Prime Minister’s commitment that Wales will be at the heart of the debate on the future of the United Kingdom.
2. Yn galw am gyd-drafodaethau sydd wedi’u llywio gan ganfyddiadau Comisiynau Holtham a Silk 1, gan gynnwys asesiad diweddar o lefel bresennol cyllid cymharol Cymru ac i ba gyfeiriad y mae’n debygol o fynd yn y dyfodol. 2. Calls for bilateral talks that are informed by the Holtham and Silk 1 Commissions’ findings, including an updated assessment of the current level and likely future direction of Welsh relative funding.
3. Yn galw ar y trafodaethau hynny, a ddylai ddechrau ar unwaith a dod i ben erbyn mis Ionawr 2015, i ganolbwyntio’n benodol ar ariannu teg, gyda’r nod o sicrhau bod cyllid gwaelodol yn cael ei weithredu ar frys sy’n rhoi sylw i danariannu mewn modd sy’n gyson ag anghenion Cymru ac sy’n atal cydgyfeirio yn y dyfodol. 3. Calls for those talks, which should begin immediately and be completed by January 2015, to have a particular focus on fair funding, with the goal of securing rapid implementation of a funding floor which both addresses underfunding in a way that is consistent with Welsh needs and halts future convergence.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i: 4. Calls for the UK Government to:
a) sicrhau bod yr un pwerau’n cael eu rhoi i Gymru o ran datganoli Treth Gorfforaeth os yw’r pwerau hynny’n cael eu rhoi i Ogledd Iwerddon a’r Alban; a) ensure that the same powers are given to Wales regarding the devolution of Corporation Tax if they are provided to Northern Ireland and Scotland;
b) datganoli Toll Teithwyr Awyr ar gyfer hediadau pellter hir uniongyrchol; b) devolve Air Passenger Duty for direct long-haul flights;
c) adolygu lefel y pwerau benthyca a roddir i Gymru ym Mil Cymru; a c) review the level of the borrowing powers afforded to Wales in the Wales Bill; and
d) cydweithio â Llywodraeth Cymru i’w galluogi i gyhoeddi ei bondiau ei hun. d) work with the Welsh Government to enable it to issue its own bonds.
5. Yn ceisio cydnabyddiaeth os yw penderfyniad yn cael ei gymryd i gynnal Refferendwm ar bwerau amrywio trethi, y dylai hyn adlewyrchu barn pobl Cymru. 5. Seeks recognition that if a decision is taken to hold a Referendum on tax varying powers, this should reflect the view of the people of Wales.
6. Yn ceisio cadarnhad y bydd y model Cadw Pwerau yn cael ei sefydlu ar gyfer Cymru. 6. Seeks confirmation that the Reserved Powers model will be instituted for Wales.
7. Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi’r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bennu ei drefniadau etholiadol. 7. Calls on the UK Government to give the National Assembly for Wales the power to determine its electoral arrangements.
8. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud cynnydd o ran Silk 2. 8. Calls on the UK Government to make progress on Silk 2.
9. Yn cadarnhau y dylid datblygu’r materion hyn ymhellach mewn cynigion deddfwriaethol, a gyhoeddir cyn diwedd sesiwn seneddol bresennol San Steffan. 9. Affirms that these matters should be taken forward in legislative proposals, published before the end of the current Westminster parliamentary session.
16:16 - Carwyn Jones
Cynigiaf y cynnig. I move the motion.
Unwaith eto, mae gennym ddadl ar y cyfansoddiad. Mae’n bwysig dros ben, wrth gwrs, fod ffordd ymlaen wedi cael ei chytuno y prynhawn yma rhwng y pedair plaid yn y lle hwn. Once again, we have a debate on the constitution. It is very important, of course, that the way ahead has been agreed this afternoon by the four parties in this place.
I welcome the debate that we are having this afternoon. It is another debate on the constitution, but it is an important step forward that is being proposed as a result of this motion today. I thank the leaders and business managers of the other parties for enabling all four parties to put forward an agreed form of words for this motion this afternoon. We know, of course, that where there is agreement across parties there is greater force to the arguments that are being put by this Assembly. Croesawaf y ddadl yr ydym yn ei chael y prynhawn yma. Dadl arall ar y cyfansoddiad ydyw, ond mae'n gam pwysig ymlaen sy'n cael ei gynnig o ganlyniad i’r cynnig hwn heddiw. Diolch i arweinwyr a rheolwyr busnes y pleidiau eraill am alluogi pob un o'r pedair plaid i gyflwyno ffurf ar eiriau y cytunwyd arni ar gyfer y cynnig hwn y prynhawn yma. Gwyddom, wrth gwrs, lle ceir cytundeb ar draws y pleidiau, fod mwy o rym i'r dadleuon sy'n cael eu cyflwyno gan y Cynulliad hwn.
Much of what is in the motion is familiar ground, of course: calling for bilateral talks informed by the Holtham and Silk commissions, welcoming the Prime Minister’s commitment that Wales will be at the heart of the debate on the future of the UK, and of course making reference to certain financial powers, corporation tax, air passenger duty, an increase in borrowing powers, and bond-issuing powers that are specific in terms of the request that is being made this afternoon. Mae llawer o'r hyn sydd yn y cynnig yn dir cyfarwydd, wrth gwrs: galw am gyd-drafodaethau wedi’u llywio gan gomisiynau Holtham a Silk, croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog y bydd Cymru’n rhan ganolog o’r ddadl ar ddyfodol y Deyrnas Unedig, ac wrth gwrs cyfeirio at bwerau ariannol penodol, treth gorfforaeth, toll teithwyr awyr, mwy o bwerau benthyca, a phwerau i gyhoeddi bondiau sy'n benodol o ran y cais sy'n cael ei wneud y prynhawn yma.
What has changed, of course, is the timing. There can be no doubt that the Scottish referendum, regardless of the result, has had an enormous impact on the way that people perceive the UK. As I have said before, I never thought that I would see the day when I would hear a Conservative leader, or indeed a Conservative Prime Minister, saying that the UK is not one nation but four—something that I welcome—and understanding that we are four nations, looking at a common goal within a common union. Yr hyn sydd wedi newid, wrth gwrs, yw'r amseru. Nid oes amheuaeth nad yw refferendwm yr Alban, waeth beth oedd y canlyniad, wedi cael effaith aruthrol ar y ffordd y mae pobl yn gweld y DU. Fel yr wyf wedi’i ddweud o'r blaen, feddyliais i erioed y byddwn yn gweld y dydd pan fyddwn yn clywed arweinydd y Ceidwadwyr, neu’n wir Brif Weinidog Ceidwadol, yn dweud nad un genedl yw'r DU, ond pedair—ac mae hynny’n rhywbeth yr wyf yn ei groesawu—ac yn deall ein bod yn bedair cenedl, yn edrych ar nod cyffredin o fewn undeb cyffredin.
However, I think it is fair to say that, sometimes, Wales’s voice has struggled to be heard. It is important now that there is a timetable put in place in order to deal with the legitimate interests of the people of Wales. We see it, of course, in the motion itself, in terms of talks, which are required to begin immediately and completed by January of 2015. Let us be honest, Llywydd: we in Wales have not caused difficulties in terms of the structure of the UK. We have not had 25 years of war, thankfully, nor have we had a referendum on independence. That does not mean that we should be ignored. That is a recognition that all parties share in this Chamber, regardless of whoever is in Government. There is a strong understanding that we must see agreed progress on Wales’s position by January of 2015. Fodd bynnag, credaf ei bod yn deg dweud ei bod wedi bod yn anodd, weithiau, i lais Cymru gael ei glywed. Mae'n bwysig yn awr fod amserlen yn cael ei rhoi ar waith er mwyn ymdrin â buddiannau dilys pobl Cymru. Rydym yn gweld hynny, wrth gwrs, yn y cynnig ei hun, o ran y trafodaethau, y mae'n rhaid iddynt ddechrau ar unwaith a bod ar ben erbyn mis Ionawr 2015. Gadewch inni fod yn onest, Lywydd: nid ydym ni yng Nghymru wedi peri anawsterau o ran strwythur y DU. Nid ydym wedi cael 25 mlynedd o ryfel, diolch byth, ac nid ydym wedi cynnal refferendwm ar annibyniaeth. Nid yw hynny'n golygu y dylem gael ein hanwybyddu. Mae hynny'n gydnabyddiaeth y mae pob plaid yn ei rhannu yn y Siambr hon, waeth pwy sy’n llywodraethu. Mae dealltwriaeth gref fod yn rhaid inni weld cynnydd cytûn o ran sefyllfa Cymru erbyn mis Ionawr 2015.
Is that unreasonable? No. We know of the promise that was given to the people of Scotland via the ‘Daily Record’ by three party leaders. That promise must be kept. There were specific points in the timetable that were identified as part of that promise, for example that there should be agreement by 31 October. We await that agreement in terms of the funding of Scotland. If it is reasonable that Scotland should have a set timetable, it is more than reasonable that we in Wales should have a set timetable, as well. A yw hynny'n afresymol? Nac ydyw. Gwyddom am yr addewid a roddwyd i bobl yr Alban drwy'r 'Daily Record' gan dri arweinydd plaid. Rhaid iddynt gadw’r addewid hwnnw. Roedd pwyntiau penodol yn yr amserlen a nodwyd fel rhan o’r addewid hwnnw, er enghraifft, y dylid cael cytundeb erbyn 31 Hydref. Rydym yn aros am y cytundeb hwnnw, o ran cyllid yr Alban. Os yw'n rhesymol i’r Alban gael amserlen benodol, mae'n fwy na rhesymol y dylem ni yng Nghymru gael amserlen benodol hefyd.
However, there is recognition now, of course, that the Welsh people hold power of themselves. It is for them to decide what powers they wish to have, and what powers they wish to see dealt with at a UK level. There are many good reasons as to why there are powers that should be dealt with at a UK level, defence and border control being two, and—although there will not be general agreement across the Chamber on these issues—in terms of areas such as welfare benefits and general taxation. There will be different views on that, of course, as there will be different views in terms of the future of the UK as an entity that has changed—or indeed at all. What is important today, of course, is that we have a recognition that it is for the people of Wales to decide which powers they wish to see rest in this place, and which powers they wish to see rest in London and indeed the European Union more widely. Fodd bynnag, cydnabyddir erbyn hyn, wrth gwrs, fod pobl Cymru’n dal grym eu hunain. Mater iddynt hwy yw penderfynu pa bwerau y maent am eu cael, a pha bwerau y maent am eu gweld yn cael eu trin ar lefel y DU. Mae llawer o resymau da pam y mae pwerau y dylid ymdrin â hwy ar lefel y DU, amddiffyn a rheoli ffiniau yn eu plith ac—er na fydd cytundeb cyffredinol ar draws y Siambr ar y materion hyn—meysydd fel budd-daliadau lles a threthiant cyffredinol. Bydd gwahanol safbwyntiau ar hynny, wrth gwrs, fel y bydd gwahanol safbwyntiau o ran dyfodol y DU fel endid sydd wedi newid—neu, yn wir, o gwbl. Yr hyn sy'n bwysig heddiw, wrth gwrs, yw bod cydnabyddiaeth mai mater i bobl Cymru yw penderfynu pa bwerau y maent am eu gweld yn y lle hwn, a pha bwerau y maent am eu gweld yn Llundain ac yn wir yn yr Undeb Ewropeaidd yn ehangach.
Members will have heard me talk last week of the need for a new union. I am not going to go over that ground; it is fairly well-known ground. The major difference that we have before us this afternoon is that there is a timetable to be put in place. It is important, of course, that these matters are resolved. It cannot be in the interests of any party within the Chamber to go into the election in 2016 not quite knowing what the position of Wales is, either in terms of finance or, I suspect, more broadly in terms of the constitutional issues. Certainty is important to all political parties when drawing up manifestos and certainty is important to the people of Wales with regard to understanding what their position is within the UK. Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn siarad yr wythnos diwethaf am yr angen am undeb newydd. Nid wyf am fynd dros y tir hwnnw; mae'n dir gweddol gyfarwydd. Y gwahaniaeth mawr sydd ger ein bron y prynhawn yma yw bod amserlen i'w rhoi ar waith. Mae'n bwysig, wrth gwrs, fod y materion hyn yn cael eu datrys. Ni all fod o fudd i’r un o’r pleidiau yn y Siambr fynd i mewn i'r etholiad yn 2016 heb wybod yn union beth yw sefyllfa Cymru naill ai o ran cyllid neu, rwyf yn amau, yn ehangach o ran y materion cyfansoddiadol. Mae sicrwydd yn bwysig i bob plaid wleidyddol wrth lunio maniffesto ac mae sicrwydd yn bwysig i bobl Cymru o ran deall beth yw eu sefyllfa o fewn y DU.
I do not propose to talk for very long at this stage, Llywydd, because Members in the Chamber will be very familiar with the issues that we see before us in this motion, other than to, again, thank the other parties for discussing this issue. We all discussed it among each other in coming to a consensus. These things are never easy, of course, but, in that sense, I think we are the envy of Westminster. Certainly, from talking to UK Government Ministers, I think they remain amazed that we are able, even in the heat of political battle, to come to agreement where we feel that that is in the interests of the people of Wales. I thank Members of all parties in the Chamber for enabling this motion to go ahead. I now look forward, of course, to any contributions that Members might have to make. Nid wyf yn bwriadu siarad yn hir iawn ar hyn o bryd, Lywydd, oherwydd bydd Aelodau yn y Siambr yn gyfarwydd iawn â'r materion sydd ger ein bron yn y cynnig hwn, heblaw fy mod, unwaith eto, am ddiolch i'r pleidiau eraill am drafod y mater hwn. Rydym i gyd wedi ei drafod ymhlith ein gilydd wrth lunio consensws. Nid yw’r pethau hyn byth yn hawdd, wrth gwrs, ond, yn hyn o beth, credaf ein bod yn destun eiddigedd San Steffan. Yn sicr, o siarad â Gweinidogion Llywodraeth y DU, rwyf yn meddwl eu bod yn parhau i ryfeddu ein bod, hyd yn oed yng ngwres y frwydr wleidyddol, yn gallu dod i gytundeb pan fyddwn o’r farn bod hynny er budd pobl Cymru. Diolch i Aelodau o bob plaid yn y Siambr am alluogi’r cynnig hwn i fynd yn ei flaen. Edrychaf ymlaen yn awr, wrth gwrs, at unrhyw gyfraniadau y gallai fod gan Aelodau i’w gwneud.
16:21 - Y Llywydd / The Presiding Officer
I call the leader of the opposition, Andrew R.T. Davies. Galwaf ar arweinydd yr wrthblaid, Andrew R. T. Davies.
16:21 - Andrew R.T. Davies
Thank you, Presiding Officer. I thank the First Minister for his comments in opening this debate and in pointing out how the four parties have come together to have a joint motion. It is not something that is common in this institution, and in the political world it is particularly uncommon, but where we can find that agreement, especially with the constitutional debate that is going on at the moment around the rest of the United Kingdom, can be advanced, where we can gather around certain issues and advance issues to improve people's lives here in Wales, then we will not shirk our responsibilities on this side of the House. Diolch ichi, Lywydd. Diolch i'r Prif Weinidog am ei sylwadau wrth agor y ddadl ac am dynnu sylw at y ffordd y mae'r pedair plaid wedi dod at ei gilydd i lunio cynnig ar y cyd. Nid yw'n rhywbeth sy’n arferol yn y sefydliad hwn, ac yn y byd gwleidyddol mae'n hynod anarferol, ond lle y gwelwn y gellir hyrwyddo’r cytundeb hwnnw, yn enwedig o ran y ddadl gyfansoddiadol sy'n digwydd ar hyn o bryd yng ngweddill y Deyrnas Unedig, a lle y gallwn ymgasglu o ran rhai materion a symud materion yn eu blaenau i wella bywydau pobl yma yng Nghymru, yna nid ydym am esgeuluso ein cyfrifoldebau ar yr ochr hon i'r Tŷ.
The First Minister is quite right to say that there are issues that do divide us, especially in Silk 2, for example, where there are issues on which we will not find common agreement. However, I do think that our voice will be louder, more robust and strengthened where we can speak with one voice when we are engaging with the Westminster Government and maybe even in discussions with other devolved administrations, whether they be in Edinburgh or Stormont. Mae'r Prif Weinidog yn llygad ei le pan ddywed fod rhai materion sy’n ein rhannu, yn enwedig yn Silk 2, er enghraifft, lle mae materion na fyddwn yn gallu cytuno arnynt. Fodd bynnag, credaf y bydd ein llais yn uwch, yn fwy cadarn ac yn gryfach lle gallwn siarad ag un llais wrth ymgysylltu â Llywodraeth San Steffan ac efallai hyd yn oed mewn trafodaethau â gweinyddiaethau datganoledig eraill, boed yng Nghaeredin neu yn Stormont.
There is no doubt that, over the next couple of months, and years even, there is going to be dramatic change on these islands. I think the strength of the United Kingdom is that it has always changed. In the 300 years that it has been in existence as we know it today, it has constantly changed. I appreciate what the First Minister says about a new union, but, ultimately, surely the success of that union is in the fact that it has always changed and responded to the events and circumstances that have presented themselves. There has been no greater change, really, than that in the last 15 years within these islands, with the advent of devolution here in Wales, Scotland and home rule back in Northern Ireland, and the re-engagement of the political parties in Northern Ireland. Nid oes amheuaeth, yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf hyd yn oed, na fydd newid dramatig ar yr ynysoedd hyn. Credaf mai cryfder y Deyrnas Unedig yw ei bod bob amser wedi newid. Yn y 300 mlynedd ers ei ffurfio fel y mae heddiw, mae wedi newid o hyd. Rwyf yn gwerthfawrogi'r hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud am undeb newydd, ond, yn y pen draw, onid yw’r undeb wedi llwyddo oherwydd ei bod bob amser wedi newid ac wedi ymateb i'r digwyddiadau a’r amgylchiadau sydd wedi codi. Ni fu mwy o newid, mewn gwirionedd, nag yn y 15 mlynedd diwethaf o fewn yr ynysoedd hyn, gyda dyfodiad datganoli yma yng Nghymru a’r Alban ac ymreolaeth yn ôl yng Ngogledd Iwerddon, ac ymgysylltu o’r newydd ymhlith y pleidiau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon .
The one missing piece of the jigsaw, as I think we all acknowledge, is what will happen in England and what type of model of government going forward in the future England wants. Despite the many days and weeks of debates that I have listened to with my anorak on watching the politics channel on the BBC, I still do not feel any clearer over what England exactly is asking for in the discussions and negotiations. I do think that is a real issue for the devolved institutions. I do think that, until that quandary can be resolved, it is going to cause a huge amount of difficulty. I do not think it is insurmountable, and I think that that is the welcome part of the William Hague committee that has been set up by the Prime Minister—and, indeed, the Prime Minister's own commitment that they are definitely going to finally get to grips with this issue, especially with the general election just around the corner in May of next year. Then, parties will put their manifestos before the people to vote on, and it will be for whichever Government that emerges—and, obviously, I very much hope that it is a majority Conservative Government—after May 2015 to deliver on those commitments. I think that would be a wasted opportunity if clear manifesto commitments cannot be given. Yr un darn o'r jig-so sydd ar goll, a chredaf ein bod i gyd yn cydnabod hynny, yw’r hyn a fydd yn digwydd yn Lloegr a pha fath o fodel o lywodraeth y mae ar Loegr ei eisiau wrth symud tua’r dyfodol. Er gwaethaf y dyddiau a'r wythnosau lawer o ddadleuon yr wyf wedi gwrando arnynt yn fy anorac yn gwylio'r sianel wleidyddiaeth ar y BBC, nid wyf fymryn callach ynglŷn â’r hyn yn union y mae Lloegr yn gofyn amdano yn y trafodaethau a’r negodiadau. Rwyf yn credu bod hynny’n bwnc trafod gwirioneddol i’r sefydliadau datganoledig. Hyd nes y gellir datrys y cyfyng gyngor hwnnw, credaf ei fod yn mynd i achosi anawsterau aruthrol. Nid wyf yn credu nad oes modd goresgyn hynny, a chredaf mai dyna'r rhan sydd i’w chroesawu o bwyllgor William Hague sydd wedi ei sefydlu gan y Prif Weinidog—ac, yn wir, ymrwymiad y Prif Weinidog ei hun eu bod yn bendant o'r diwedd yn bwriadu mynd i’r afael â'r mater hwn, yn enwedig â'r etholiad cyffredinol ar y gorwel ym mis Mai y flwyddyn nesaf. Yna, bydd y pleidiau’n rhoi eu maniffestos gerbron y bobl er mwyn iddynt bleidleisio arnynt, a mater i ba bynnag Lywodraeth a ddaw—ac, wrth gwrs, rwyf yn gobeithio’n fawr mai Llywodraeth Geidwadol â mwyafrif fydd honno—ar ôl Mai 2015 i wireddu’r ymrwymiadau hynny. Credaf y byddai cyfle’n cael ei wastraffu oni ellir rhoi ymrwymiadau clir yn y maniffestos.
The motion that has been put forward today encapsulates much of what is in Silk 1. For me, as leader of the Conservatives here, this has been a key issue. I do believe passionately in the slogan of Silk 1—responsibility and accountability—and, in particular, in making sure that there is an element of tax-raising ability here in the Assembly to drive forward better decisions, so that, actually, whatever Government forms here after 2016, it has the ability to stop, pause and think how money is going to be raised, as well as how that money is going to be spent. I make no apology for putting so much effort into securing some of the deals around Silk 1, and I will continue to make sure that I put as much effort as I can into making sure that as many of those responsibilities as possible can be transferred to this institution. Mae'r cynnig sydd wedi'i gyflwyno heddiw’n crisialu llawer o'r hyn sydd yn Silk 1. I mi, fel arweinydd y Ceidwadwyr yma, mae hyn wedi bod yn fater allweddol. Credaf yn gryf yn slogan Silk 1—cyfrifoldeb ac atebolrwydd—ac, yn arbennig, mewn gwneud yn siŵr bod elfen o allu i godi trethi yma yn y Cynulliad i sbarduno penderfyniadau’n well, fel bod pa bynnag Lywodraeth sy’n ymffurfio yma ar ôl 2016 yn gallu stopio, oedi a meddwl sut y caiff arian ei godi, yn ogystal â sut y caiff yr arian hwnnw ei wario. Nid wyf yn ymddiheuro am wneud cymaint o ymdrech i sicrhau rhai o'r cytundebau o ran Silk 1, a byddaf yn parhau i wneud yn siŵr fy mod yn ymdrechu hyd eithaf fy ngallu i wneud yn siŵr y gellir trosglwyddo cynifer o'r cyfrifoldebau hynny ag y bo modd i’r sefydliad hwn.
I support the devolution of the air passenger duty, albeit that I have heard the original arguments that were put forward as to why the devolution of air passenger duty was withdrawn from the original package of Silk 1. Given the new constitutional situation we find ourselves in, and given the commitments that have been given to Scotland, I do think that now is the time to actually look at this as a complete package and bring those powers here to Cardiff bay so that they can be used, and hopefully imaginatively so, to assist our one and only international airport. Rwyf yn cefnogi datganoli’r doll teithwyr awyr, er fy mod wedi clywed y dadleuon gwreiddiol a gyflwynwyd ynghylch pam y cafodd datganoli’r doll teithwyr awyr ei dynnu allan o becyn gwreiddiol Silk 1. O ystyried y sefyllfa gyfansoddiadol newydd yr ydym ynddi, ac o ystyried yr ymrwymiadau a wnaethpwyd i'r Alban, credaf mai nawr yw'r amser i edrych ar hyn mewn gwirionedd fel pecyn cyflawn a dod â’r pwerau hynny yma i fae Caerdydd er mwyn gallu eu defnyddio, a hynny, rwyf yn gobeithio, mewn modd llawn dychymyg, er mwyn cynorthwyo ein hunig faes awyr rhyngwladol.
I do believe that there is a huge piece of work to be done—and when I say ‘huge’, I do not mean that it will take a lot of time, but that there is a piece of work to be done on updating the Holtham commission’s findings. For me, it was vitally important to get that in this motion this afternoon. When the First Minister replies, I would be grateful to know what his thinking is on that work being undertaken, because, in our discussions, a time frame was talked about but it seemed as if that piece of work on updating the Holtham findings would not take a length of time that was unduly unacceptable. That would greatly inform the discussions and assist in meeting the second deadline that is in there of January 2015. Not having updated information on Holtham will jeopardise the other deadline that is in this motion. Credaf fod darn enfawr o waith i'w wneud—a phan ddywedaf 'enfawr', nid wyf yn golygu y bydd yn cymryd llawer o amser, ond bod darn o waith i'w wneud ar ddiweddaru canfyddiadau comisiwn Holtham. I mi, roedd yn hanfodol bwysig cynnwys hynny yn y cynnig hwn y prynhawn yma. Pan fydd y Prif Weinidog yn ateb, byddai’n dda gennyf gael gwybod beth yw ei farn am y gwaith sy’n cael ei wneud, oherwydd, yn ein trafodaethau, soniwyd am ffrâm amser, ond roedd yn ymddangos na fyddai’r gwaith ar ddiweddaru canfyddiadau Holtham yn para am gyfnod a oedd yn rhy annerbyniol. Byddai hynny'n llywio’r trafodaethau’n fawr ac yn helpu i fodloni’r ail derfyn amser, sef mis Ionawr 2015. Bydd peidio â chael gwybodaeth wedi’i diweddaru ar Holtham yn peryglu'r terfyn amser arall sydd yn y cynnig hwn.
If I may just finally, with the indulgence of the Presiding Officer, I will make another point about electoral arrangements for this institution. I find it bizarre that we have an institution that has primary legislative competence and that Ministers are appointed by the Crown, but, ultimately, the electoral arrangements for this institution do not reside in this institution. I do believe that that would be a relatively simple Act to undertake. I think I have heard all party leaders in this institution say that they believe the same thing, with the two-thirds safeguard. I believe, again, that I have heard the First Minster say that in previous debates. So, I would implore the Westminster Government to actually get on and do that in a timely manner, because, as I said, we are a primary legislature that will have tax-raising powers and Ministers appointed by the Crown, yet we are not responsible for our own electoral arrangements. That is just such a simple deficit. If we cannot rectify that deficit, we really are going to struggle on other constitutional issues. Thank you for your indulgence, Presiding Officer. Os caf fi, yn olaf, gyda charedigrwydd y Llywydd, rwyf am wneud pwynt arall ynghylch trefniadau etholiadol a’r sefydliad hwn. Rwyf yn ei chael yn rhyfedd fod gennym sefydliad sydd â chymhwysedd o ran deddfwriaeth sylfaenol, a Gweinidogion sy’n cael eu penodi gan y Goron, ond nad yw’r trefniadau etholiadol ar gyfer y sefydliad hwn, yn y pen draw, yn gorwedd yn y sefydliad hwn. Credaf y byddai honno’n Ddeddf gymharol syml i’w gwneud. Credaf fy mod wedi clywed arweinyddion pob un o’r pleidiau yn y sefydliad hwn yn dweud eu bod o’r un farn, gyda'r dull diogelu dwy ran o dair. Credaf, unwaith eto, fy mod wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud hynny mewn dadleuon blaenorol. Felly, byddwn yn erfyn ar Lywodraeth San Steffan i fynd ati i wneud hynny mewn modd amserol, oherwydd, fel y dywedais, rydym yn ddeddfwrfa sylfaenol a fydd â phwerau codi trethi a Gweinidogion a benodir gan y Goron, ac eto nid ydym yn gyfrifol am ein trefniadau etholiadol ein hunain. Mae hwnnw’n ddiffyg mor syml. Os na allwn gywiro'r diffyg hwnnw, rydym yn mynd i gael trafferth gwirioneddol ar faterion cyfansoddiadol eraill. Diolch ichi am eich goddefgarwch, Lywydd.
16:27 - Y Llywydd / The Presiding Officer
We now move to the leader of Plaid Cymru, Leanne Wood. Trown yn awr at arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
16:27 - Leanne Wood
Today’s cross-party motion is welcomed by Plaid Cymru. I would like to thank the party business managers and the Minister for government business for their work in helping us as leaders to come to an agreement. I hope now that we will see delivery. Mae Plaid Cymru’n croesawu’r cynnig trawsbleidiol hwn heddiw. Hoffwn ddiolch i reolwyr busnes y pleidiau ac i Weinidog busnes y llywodraeth am eu gwaith i’n helpu ni’r arweinwyr i ddod i gytundeb. Rwyf yn gobeithio yn awr y caiff y maen ei ddwyn i’r wal yn hyn o beth.
Following the referendum in Scotland, it became clear that there would be an opportunity for Wales to gain further powers and further responsibilities. The UK Prime Minister’s commitment was that Wales would be at the heart of the debate. That commitment is welcomed and noted in the agreed motion. However, it remains apparent that we in Wales need to be as clear as possible on what we want. If we do not assert ourselves or if we are not clear, it is likely that Wales will get nothing. Yn dilyn y refferendwm yn yr Alban, daeth yn amlwg y byddai cyfle i Gymru i ennill mwy o bwerau a chyfrifoldebau pellach. Ymrwymiad Prif Weinidog y DU oedd y byddai Cymru’n rhan ganolog o’r ddadl. Mae'r ymrwymiad hwnnw'n cael ei groesawu a'i nodi yn y cynnig y cytunwyd arno. Fodd bynnag, mae'n dal i fod yn amlwg fod angen i ni yng Nghymru fod mor glir â phosibl am yr hyn y mae arnom ei eisiau. Os na fyddwn yn mynnu cydnabyddiaeth, neu os na fyddwn yn glir, mae'n debygol na fydd Cymru’n cael dim.
Plaid Cymru published its vision on the next steps for Wales in the aftermath of the Scottish referendum result. We also tabled amendments to the Wales Bill in the second chamber at Westminster, and I know that there was significant interest from others in Plaid Cymru’s amendments. Owing to Wales’s lack of leverage at the UK level, it is essential that we have as much consensus as possible on the next steps, even while we maintain our differences of opinion on the longer-term future of these nations. Cyhoeddodd Plaid Cymru ei gweledigaeth ynghylch y camau nesaf i Gymru yn dilyn canlyniad refferendwm yr Alban. Rydym hefyd wedi cyflwyno gwelliannau i Fil Cymru yn yr ail siambr yn San Steffan, a gwn fod cryn dipyn o ddiddordeb gan eraill yng ngwelliannau Plaid Cymru. Oherwydd diffyg trosoledd Cymru ar lefel y DU, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau cymaint o gonsensws â phosibl ar y camau nesaf, er bod gwahaniaeth barn o hyd ar ddyfodol tymor hwy y cenhedloedd hyn.
Welsh democracy can be strengthened only if we bring together as many strands of our different political traditions as possible. There are areas where we share a common goal in terms of increasing both the legislative ability and accountability of our Assembly and of future Welsh Governments. I therefore welcome the timetable within the motion for talks on funding to be completed by January 2015 and for legislative proposals before the next Westminster Parliament. This is the first time that we have had a road map for powers that was agreed by all four party leaders in this Assembly. We must all, now, do what we can to ensure that the timetable is adhered to by the current UK Government and that the momentum is acknowledged and continued by any parties that form or support the next UK Government. Dim ond drwy ddwyn ynghyd cynifer ag y bo modd o linynnau ein gwahanol draddodiadau gwleidyddol y gellir cryfhau democratiaeth yng Nghymru. Mae meysydd lle rydym yn rhannu nod cyffredin o ran cynyddu gallu deddfwriaethol ac atebolrwydd ein Cynulliad a Llywodraethau Cymru yn y dyfodol. Felly, rwyf yn croesawu'r amserlen sydd yn y cynnig ar gyfer cwblhau’r trafodaethau ynglŷn â chyllid erbyn mis Ionawr 2015 ac ar gyfer cynigion deddfwriaethol cyn y Senedd nesaf yn San Steffan. Dyma'r tro cyntaf inni gael map ffordd ar gyfer pwerau y mae arweinwyr y pedair plaid yn y Cynulliad hwn wedi cytuno arno. Rhaid inni i gyd, erbyn hyn, wneud ein gorau glas i sicrhau bod Llywodraeth bresennol y DU yn cadw at yr amserlen a bod unrhyw bleidiau sy'n ffurfio neu'n cefnogi Llywodraeth nesaf y DU yn cydnabod ac yn parhau â’r momentwm.
There is a tendency to argue that issues of power and responsibility are abstract and not related to the delivery of public services. However, it is the constitution that determines whether policies can be delivered for our constituents. These constitutional debates determine whether we can effectively influence our own rail services, our police services and our energy policy. The devolution of tax powers creates a fundamental link, in terms of accountability, between citizens of Wales, their Assembly and their Government. Plaid Cymru does not consider these issues to be abstract but fundamental to building a better nation and being what we all know that we can become. We do not believe that the transfer of responsibilities should be contingent on how they are exercised. Mae tuedd i ddadlau bod materion ynghylch grym a chyfrifoldeb yn rhai haniaethol ac nad ydynt yn gysylltiedig â chyflwyno gwasanaethau cyhoeddus. Fodd bynnag, y cyfansoddiad sy'n pennu a ellir cyflawni polisïau ar gyfer ein hetholwyr. Mae'r dadleuon cyfansoddiadol hyn yn pennu a allwn ddylanwadu’n effeithiol ar ein gwasanaethau rheilffordd ein hunain, ein gwasanaethau heddlu a’n polisi ynni.  Mae datganoli pwerau treth yn creu cyswllt sylfaenol, o ran atebolrwydd, rhwng dinasyddion Cymru, eu Cynulliad a'u Llywodraeth. Nid yw Plaid Cymru o’r farn mai materion haniaethol yw’r rhain; maent yn hanfodol i adeiladu cenedl well a bod yr hyn yr ydym i gyd yn gwybod y gallwn fod. Nid ydym yn credu y dylai trosglwyddo cyfrifoldebau fod yn amodol ar y ffordd y caiff y cyfrifoldebau hynny eu harfer.
We have seen substantial progress in the Chamber in terms of fellow Members calling for self-government, home rule and additional responsibilities, and I very much welcome that. We know that this is broadly reflected by Welsh public opinion, and I hope that this motion will be well received. Let us now all look forward to action ahead of the next UK general election. Diolch yn fawr. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y Siambr o ran galwadau gan gyd-Aelodau am hunanlywodraeth, ymreolaeth a chyfrifoldebau ychwanegol, a chroesawaf hynny’n fawr. Gwyddom fod y farn gyhoeddus yng Nghymru’n adlewyrchu hynny at ei gilydd, ac rwyf yn gobeithio y caiff y cynnig hwn dderbyniad da. Gadewch inni yn awr i gyd edrych ymlaen at weithredu cyn etholiad cyffredinol nesaf y DU. Diolch yn fawr.
16:31 - Y Llywydd / The Presiding Officer
Thank you. I now call on the leader of the Welsh Liberal Democrats, Kirsty Williams. Diolch. Galwaf yn awr ar arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams.
16:32 - Kirsty Williams
Thank you very much, Presiding Officer. I also welcome the opportunity to speak in this debate this afternoon—or vaguely speak in this debate [Laughter.]—and for the ability to do so on a motion that has been agreed across the political divide. Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf finnau hefyd yn croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma—neu ryw siarad yn fras yn y ddadl hon [Chwerthin.]—ac am y gallu i wneud hynny ar gynnig y cytunwyd arno ar draws y rhaniad gwleidyddol.
I think that it is one of the strengths of Welsh politics that, when it comes to the crunch on important issues like this, we can put what divides us to one side and focus on what unites us. I have always argued—before the results in Scotland and subsequently—that we had a better chance of wrestling power out of the hands of people in Whitehall and Westminster if we could do it with a united voice. Anybody who thinks that there are people in Whitehall today waiting to hand over powers to us in Wales is deluding themselves; they are going to hang on as tightly as they can, because that is the nature of these types of institutions, to those powers. Credaf mai un o gryfderau gwleidyddiaeth Cymru, pan ddaw hi i’r pen ar faterion pwysig fel hyn, yw y gallwn roi'r hyn sy'n ein rhannu i’r naill ochr a chanolbwyntio ar yr hyn sy'n ein huno. Rwyf wedi dadlau bob amser—cyn y canlyniadau yn yr Alban ac wedi hynny—y byddai gennym well siawns o dynnu grym o ddwylo'r bobl yn Whitehall a San Steffan pe gallem wneud hynny ag un llais. Mae unrhyw un sy'n meddwl bod pobl yn Whitehall heddiw sy’n aros i drosglwyddo pwerau i ni yng Nghymru’n ei dwyllo ei hun; maent yn mynd i ddal eu gafael mor dynn ag y gallant, oherwydd dyna natur y mathau hyn o sefydliadau, ar y pwerau hynny.
I believe that the motion today gives us the best opportunity to persuade them of the need to heed these calls. Those parties in Westminster, including my own, that fail to listen to these calls are, I think, posing the greatest danger that there is to the survival of the union that they say they support; they almost did it in Scotland and, if they fail to heed these calls in Wales, I would say to all of them, ‘Be careful what kind of situation you will create here’. There is a clear demand from the Welsh public for additional powers to be handed to the Welsh Government, and we should not ignore that. Credaf fod y cynnig hwn heddiw’n rhoi'r cyfle gorau i'w darbwyllo o'r angen i wrando ar y galwadau hyn. Y pleidiau hynny yn San Steffan, gan gynnwys fy mhlaid fy hun, sy'n methu â gwrando ar y galwadau hyn, yn fy marn i, sy’n peri'r perygl mwyaf i barhad yr undeb y maent yn dweud eu bod yn ei gefnogi; bu bron i hyn ddigwydd yn yr Alban ac, os na wrandawant ar y galwadau hyn yng Nghymru, byddwn yn dweud wrth bob un ohonynt, 'Byddwch yn ofalus pa fath o sefyllfa y byddwch yn ei chreu yma'. Mae galw clir ymhlith y cyhoedd yng Nghymru am drosglwyddo pwerau ychwanegol i Lywodraeth Cymru, ac ni ddylem anwybyddu hynny.
I welcome the very strong focus in the motion on addressing issues of fair funding for Wales. A funding floor is absolutely crucial to protect us from further convergence when public expenditure begins to grow again; I believe that we will get to a point where it will grow again, and the position of Wales cannot be further jeopardised. However, I believe that we need to go further than that in addressing the historic underfunding that Wales has had, and we need to reflect, in monies that come from Westminster, the relative needs of the population of Wales—a country that has higher levels of deprivation and higher levels of ill health—that we need to address. Rwyf yn croesawu'r pwyslais cryf iawn yn y cynnig ar fynd i'r afael â materion ariannu teg i Gymru. Mae ariannu gwaelodol yn gwbl hanfodol er mwyn ein diogelu rhag cydgyfeirio pellach pan fydd gwariant cyhoeddus yn dechrau tyfu eto; credaf y daw adeg pan fydd yn tyfu eto, ac ni ellir peryglu sefyllfa Cymru ymhellach. Fodd bynnag, credaf fod angen inni fynd ymhellach na hynny wrth fynd i'r afael â'r tanariannu hanesyddol a welwyd yng Nghymru, ac mae angen inni adlewyrchu, yn yr arian a ddaw o San Steffan, anghenion cymharol poblogaeth Cymru—gwlad sydd â lefelau uwch o amddifadedd a lefelau uwch o salwch—y mae angen inni ymdrin â hwy.
Point 4 of the motion will, hopefully, lead to a full implementation of part 1 of the Silk commission rather than the piecemeal approach that we have seen to date. Andrew R.T. Davies is right with regard to point 7 and electoral arrangements; it is simply laughable to be in a legislature that has no control over its own arrangements. I would argue, with appropriate safeguards, that those issues about how those changes could come about in this Chamber can be written into our legislation and our Standing Orders. Bydd Pwynt 4 y cynnig, rwyf yn gobeithio, yn arwain at weithredu rhan 1 comisiwn Silk yn llawn yn hytrach na'r ymagwedd dameidiog yr ydym wedi'i gweld hyd yma. Mae Andrew R. T. Davies yn iawn o ran pwynt 7 a threfniadau etholiadol; mae’n gwbl chwerthinllyd bod mewn deddfwrfa sydd heb ddim rheolaeth dros ei threfniadau ei hun. Byddwn i’n dadlau y gellid, gyda mesurau diogelwch priodol, cynnwys y materion hynny ynglŷn â sut y gallai'r newidiadau hynny ddigwydd yn y Siambr hon yn ein deddfwriaeth ac yn ein Rheolau Sefydlog.
On Silk 2, I appreciate that not all parties want to see the full implementation of Silk 2, like my party does. I think that Silk 2 takes us ever closer to the long held Liberal goal of home rule for our country. However, let us be clear, like the leader of Plaid Cymru has been, this is not powers for powers’ sake; this is about the ability of Welsh politicians to have the powers that they need to fulfil the obligations that I believe we have as an institution to the Welsh public. It is only by devolving those powers to us that I think we will achieve that. That is why I am pleased that we believe that those matters should come forward in legislative proposals before the next election. If it is possible to do that for Scotland, why would we, as Welsh politicians, want anything less for our nation? O ran Silk 2, rwyf yn deall nad yw pob plaid am weld gweithredu Silk 2 yn llawn, fel y mae fy mhlaid i. Credaf fod Silk 2 yn mynd â ni hyd yn oed yn nes at nod hirsefydlog y Rhyddfrydwyr o ymreolaeth i’n gwlad. Fodd bynnag, gadewch inni fod yn glir, fel y mae arweinydd Plaid Cymru wedi bod, nid pwerau er mwyn pwerau mo hyn; mae hyn yn ymwneud â gallu gwleidyddion Cymru i gael y pwerau y mae eu hangen arnynt i gyflawni'r rhwymedigaethau yr wyf fi’n credu sydd gennym fel sefydliad tuag at y cyhoedd yng Nghymru. Dim ond drwy ddatganoli’r pwerau hynny inni y byddwn, yn fy marn i, yn cyflawni hynny. Dyna pam yr wyf yn falch ein bod yn credu y dylid cyflwyno’r materion hynny yn y cynigion deddfwriaethol cyn yr etholiad nesaf. Os yw'n bosibl gwneud hynny ar gyfer yr Alban, pam y byddem ni, fel gwleidyddion Cymreig, am weld rhywbeth llai ar gyfer ein cenedl ni?
I welcome very much the ability to speak as one voice, and I look forward to seeing how the Westminster Government responds to the motion today. Rwyf yn croesawu'n fawr y gallu i siarad ag un llais, ac edrychaf ymlaen at weld sut y bydd Llywodraeth San Steffan yn ymateb i'r cynnig heddiw.
16:36 - Julie Morgan
It is really good to speak in this debate today, with all-party support. I think that we are stronger together. Therefore, it is very welcome in this debate this afternoon. Mae'n wirioneddol dda cael siarad yn y ddadl hon heddiw, gyda chefnogaeth yr holl bleidiau. Credaf ein bod yn gryfach gyda'n gilydd. Felly, mae i'w groesawu'n fawr yn y ddadl y prynhawn yma. 
In 1998, I was very proud to be present in the House of Commons when the first Government of Wales Act was passed, along with the Scottish Act. I can remember going through that legislative process, and I would welcome any and all moves to simplify the Government of Wales Act, particularly by rewriting it along the Scottish reserved powers lines. I do not know whether Members heard Dominic Grieve recently, since leaving the Government, when he made the point that you could not ever justify denying Welsh MPs the right to vote on so-called English legislation unless you rewrote the Government of Wales Act on Scottish lines. That is because you could never show that there were no Welsh implications in apparently England-only pieces of legislation. I think that it is very important that we move to a reserved powers model. I think that it would make it much clearer and simpler, and I welcome the commitment of all parties to move towards that model. Yn 1998, roeddwn yn falch iawn o fod yn bresennol yn Nhŷ'r Cyffredin pan gafodd Deddf Llywodraeth Cymru ei phasio gyntaf, ynghyd â Deddf yr Alban. Gallaf gofio mynd drwy'r broses ddeddfwriaethol, a byddwn yn croesawu unrhyw symudiad a phob symudiad i symleiddio Deddf Llywodraeth Cymru, yn enwedig trwy ei hailysgrifennu ar batrwm pwerau a gedwir yr Alban. Nid wyf yn gwybod a glywodd yr Aelodau Dominic Grieve yn ddiweddar, ers iddo adael y Llywodraeth, pan wnaeth y pwynt na allech byth gyfiawnhau gwrthod i ASau Cymru yr hawl i bleidleisio ar yr hyn a elwir yn ddeddfwriaeth Lloegr oni bai eich bod yn ailysgrifennu Deddf Llywodraeth Cymru ar batrwm yr Alban. Mae hynny oherwydd na allech fyth ddangos nad oedd dim goblygiadau i Gymru mewn darnau o ddeddfwriaeth sy’n ymddangos fel petaent yn ymwneud â Lloegr yn unig. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn symud tuag at fodel cadw pwerau. Credaf y byddai'n ei gwneud yn fwy eglur ac yn symlach o lawer, ac rwyf yn croesawu ymrwymiad yr holl bleidiau i symud tuag at y model hwnnw.
I also support item 7 of the resolution, calling on the UK Government to give the National Assembly for Wales the power to determine its electoral arrangements. Other speakers have said how absolutely natural and right that should be. However, I also believe that that would be an opportunity that should be taken to increase the number of Members in this Assembly, which was recommended in the Silk commission. Increasing powers, and even more powers to come, means that the Assembly needs to be fit for purpose, and, at the moment, we are smaller than some councils in Wales, and I think that the Electoral Commission has made the point that nine out of 22 councils in Wales have more members than we have, and the small number of backbenchers here means that we have a very strong executive but a very weak legislature. There is an absolute case for there being more Members, and I would like to see cross-party consensus on that. Rwyf hefyd yn cefnogi eitem 7 o'r penderfyniad, yn galw ar Lywodraeth y DU i roi grym i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bennu ei drefniadau etholiadol. Mae siaradwyr eraill wedi dweud pa mor gwbl naturiol a phriodol y dylai hynny fod. Fodd bynnag, credaf hefyd y byddai hwnnw'n gyfle y dylid ei gymryd i gynyddu nifer yr Aelodau yn y Cynulliad hwn, sy’n rhywbeth a argymhellwyd yng nghomisiwn Silk. Mae pwerau cynyddol, a hyd yn oed mwy o bwerau i ddod, yn golygu bod angen i'r Cynulliad fod yn addas at y diben, ac, ar hyn o bryd, rydym yn llai na rhai cynghorau yng Nghymru, a chredaf fod y Comisiwn Etholiadol wedi dweud bod gan naw o’r 22 o gynghorau yng Nghymru fwy o aelodau nag sydd gennym ni, ac mae nifer fach yr aelodau meinciau cefn yma’n golygu bod gennym weithrediaeth gref iawn, ond deddfwrfa wan iawn. Mae achos absoliwt dros gael mwy o Aelodau, a byddwn yn hoffi gweld consensws trawsbleidiol ar hynny.
I also believe—I know that not all parties share this belief—that votes at 16 should be brought in for all elections and referenda, and I believe that 16 and 17-year-olds should have the vote in any referendum that should happen in Wales. We saw the excitement that young people had in voting in the referendum in Scotland, and I think that we should now move on and, if there is a referendum in Wales, we should ensure that 16 and 17-year-olds vote in that referendum. Rwyf hefyd yn credu—gwn nad yw pob plaid yn rhannu’r farn hon—y dylai pleidleisio’n 16 mlwydd oed gael ei gyflwyno ar gyfer pob etholiad a refferendwm, a chredaf y dylai pobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed gael y bleidlais ym mhob refferendwm sy’n digwydd yng Nghymru. Gwelsom y cyffro ymhlith pobl ifanc ynghylch pleidleisio yn y refferendwm yn yr Alban, a chredaf y dylem yn awr symud ymlaen, ac os bydd refferendwm yng Nghymru, dylem sicrhau bod pobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed yn pleidleisio yn y refferendwm hwnnw . 
I note that the motion does not refer to the Severn bridge tolls. There was some debate this afternoon in First Minister’s questions about the Severn bridge tolls, and I wondered whether this could have been included in the resolution. It would be good to have some reassurance that agreement might be near so that the revenue stream remaining after a cut to the tolls can be used for capital schemes in transport, for roads and for the metro. Sylwaf nad yw'r cynnig yn cyfeirio at dollau pont Hafren. Roedd rhywfaint o drafod y prynhawn yma yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog am dollau pont Hafren, a tybed a allai hyn fod wedi ei gynnwys yn y penderfyniad? Byddai'n dda cael rhywfaint o sicrwydd y gallai cytundeb fod yn agos fel y gellir defnyddio’r llif refeniw sy'n weddill ar ôl torri’r tollau ar gyfer cynlluniau cyfalaf trafnidiaeth, ar gyfer ffyrdd ac ar gyfer y metro.
Finally, item 3 calls for a focus on fair funding to address the chronic underfunding of Wales through the Barnett formula. I cannot see that we could ever get support for a ‘yes’ vote in a referendum for income tax varying powers unless fair funding had been sorted out first, because we need Scottish levels of funding to go with Scottish levels of fiscal responsibility. We would certainly need a clear message of that kind if we were to go to the Welsh electorate to ask for support for tax-varying powers. At the moment, without that being sorted out, I do not think that we would ever get there. Yn olaf, mae eitem 3 yn galw am bwyslais ar ariannu teg i fynd i'r afael â thangyllido difrifol i Gymru drwy fformiwla Barnett. Ni allaf weld y cawn byth gefnogaeth i bleidlais 'ie' mewn refferendwm ar amrywio pwerau treth incwm oni bai bod ariannu teg yn cael ei ddatrys yn gyntaf, oherwydd mae angen lefelau’r Alban o gyllid i gyd-fynd â lefelau’r Alban o gyfrifoldeb ariannol. Byddai’n sicr angen neges glir o’r fath pe baem yn mynd at etholwyr Cymru i ofyn am gymorth ar gyfer pwerau i amrywio trethi. Ar hyn o bryd, oni chaiff hynny ei ddatrys, nid wyf yn credu y byddem byth yn cyrraedd yno.
I also support the timetable. I think it is very encouraging. We have the four parties here working together, proposing a clear timetable to the Westminster Government, and I know that the leaders of the parties will use all of their influence to try to influence the Westminster Government to respond to the proposals in this resolution. So, I hope that this debate today is a step towards getting all of the things that are listed here, which will, I think, be a huge step forward for Wales. Rwyf hefyd yn cefnogi'r amserlen. Credaf ei bod yn galonogol iawn. Mae’r pedair plaid yma’n gweithio gyda'i gilydd, yn cynnig amserlen glir i Lywodraeth San Steffan, a gwn y bydd arweinwyr y pleidiau’n defnyddio eu holl ddylanwad i geisio dylanwadu ar Lywodraeth San Steffan i ymateb i'r cynigion yn y cynnig hwn. Felly, rwyf yn gobeithio y bydd y ddadl hon heddiw yn gam tuag at gael pob un o'r pethau sydd wedi’u rhestru yma, a fydd, yn fy marn i, yn gam mawr ymlaen i Gymru.
16:40 - Yr Arglwydd / Lord Elis-Thomas
Mae hwn yn ddiwrnod mawr i mi oherwydd fy mod yn cael siarad yn y Cynulliad Cenedlaethol am ddyfodol datganoli. Rwyf wedi bod yn gwneud hynny, wrth reswm, mewn lle arall, a byddaf yn parhau i wneud hynny. This is a great day for me because I can speak in the National Assembly on the future of devolution. I have been doing that, of course, in another place, and I will continue to do so.
Mae heddiw yn f’atgoffa o 4 Chwefror 2002, pan basiodd y lle hwn y penderfyniad ein bod yn unfrydol fel Cynulliad yn chwilio am y gwahaniad cliriaf posibl rhwng y Llywodraeth a’r Cynulliad y gellid ei gyrraedd o dan y ddeddfwriaeth ar y pryd. Y rheswm fy mod yn mynd yn ôl i’r fan honno ydy fod y penderfyniad unfrydol hwnnw yn debyg iawn i’r penderfyniad unfrydol sydd ger ein bron ac y byddwn yn ei basio, yn sicr, heddiw. Arweiniodd y penderfyniad hwnnw ni drwy’r trywydd cymhleth o’r cyfansoddiad cyntaf a gawsom, a oedd yn gyfansoddiad gweithredol ac yn defnyddio rhai pwerau deddfu eilaidd a oedd yn perthyn i Weinidogion Cymru o dan hen drefn y Swyddfa Gymreig, ymlaen i—wel, nid wyf yn siŵr pa un ai’r anialwch neu hanner ffordd i Ganaan oedd y Gorchmynion, neu’r ceisiadau yr oeddem yn eu gwneud am Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol, pan oeddem yn cynhyrchu Mesurau. Fodd bynnag, dyna’r cyfnod yn yr ail gyfansoddiad a’n harweiniodd ni i ddechrau cael blas ar ddeddfu cynradd llawn. Drwy’r refferendwm, fe ddaethom i sefyllfa o bwerau cyfreithiol cyflawn cyflwynedig i’r Cynulliad hwn. Today reminds me of 4 February 2002, when this place passed a motion that we unanimously as an Assembly should seek the clearest possible separation between the Government and the Assembly that could be reached under the legislation as it then stood. The reason I go back to that particular point is that that unanimous decision for me was very similar to the unanimity that we see here today in this motion, which is sure to be passed this afternoon. That decision led us through the complex journey that we then took from that first constitution, which was an executive constitution that used some secondary legislative powers that were in the hands of the Welsh Ministers under the old Welsh Office system on to—well, I am not sure whether it was a desert of half way to Canaan in terms of those Orders or the bids that we had to make for legislative competence Orders when we produced Measures. However, that was the period during our second constitution that gave a taste for full primary legislative powers. Through the referendum, we found ourselves in a situation where we had those full legal powers in this National Assembly.
Dadl ddiddorol iawn yw’r ddadl rhwng pwerau cadwedig yn y canol a phwerau cyflwynedig o’r canol. Yr unig beth a ddywedaf yw hyn: mae’n bwysig nad ydym yn colli dim os ydym yn edrych am fodel cadwedig yn y canol yn hytrach na model cyflwynedig, oherwydd, fel y ceisiais ddadlau yn yr ail dŷ y noson o’r blaen, pe byddech yn cael gwared ar yr holl eithriadau, gallem fod yn gyfrifol am bopeth. Fodd bynnag, awn ni ddim i’r fan honno, ond fe ddown ni yn sicr i bwerau mwy sylweddol os byddwn yn parhau yn unedig. Mae hynny’n cynnwys, fel y clywsom, bwerau cyllidol a threfniadau etholiadol. Mae hynny’n cynnwys—a chytunaf yn llwyr â Julie Morgan—niferoedd yn ogystal, fel y gallwn ofalu am ein democratiaeth ein hunain. The debate between reserved powers and conferred powers from the centre is an interesting debate. All I will say is that it is important that we do not lose out if we are seeking a reserved powers rather than a conferred powers model, because, as I tried to argue in the second house the other night, if you were to actually omit all exemptions, then we could be responsible for everything, but we will not go there. However, we will certainly address the issue of more substantial powers if we remain united. That includes, as we have heard, fiscal powers and electoral arrangements. I agree entirely with Julie Morgan that that includes the numbers in this place, so that we can be responsible for our own democracy.
Mae un peth arall y carwn ei ddweud. Rwyf yn gwerthfawrogi’r ffaith fod ymroddiad o’r newydd gan gyn-Aelodau o’r lle hwn sydd bellach yn Weinidogion neu yn chwipiaid o fewn trefniadau’r Llywodraeth yn San Steffan. Roeddwn yn teimlo’r noson o’r blaen fod y ffaith fod y drafodaeth am ddatganoli bellach yn cael ei chynnal gan Aelodau Cynulliad mewn lle arall yn golygu bod cyfeiriad y ddadl wedi dod yn ôl atom ni yn fan hyn. Gobeithiaf, yn enwedig ar ôl areithiau arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma ac arweinydd y Rhyddfrydwyr Cymreig, y bydd y ddwy blaid honno yn y Llywodraeth yn ymateb i’r hyn yr ydym yn ei ddweud. Dyma ein cyfle i ddatblygu cyfundrefn weithredol sy’n effeithiol i Gymru. There is one other thing that I would like to say. I appreciate the fact that there is renewed commitment from former members of this place who are now Ministers or whips within the Government system in Westminster. Feeling as I did the other night that the debate on devolution is now being held by Assembly Members in another place means that the direction of the debate has been repatriated to this place. I hope, particularly after the speech made by the leader of the Welsh Conservatives this afternoon and by the leader of the Welsh Liberal Democrats, that the two parties in the Government will respond to what we are saying. This is our opportunity to develop a regime that can work effectively for Wales.
Rwyf yn mynd i wrthod y demtasiwn i sôn am Loegr, oherwydd, fel un sy’n credu mewn hawliau pobloedd a chenhedloedd i ymreolaeth ac i benderfynu eu hunain am eu dyfodol, credaf ei bod yn bwysig i bobl Lloegr gynnal y drafodaeth hon eu hunain heb i’r Cymry na’r Albanwyr nac yn sicr y Gwyddelod, geisio dylanwadu arnynt beth ddylent ei feddwl. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod egwyddor bwysig yn y fan hon fod yn rhaid inni gael trefniadau ar gyfer Lloegr sydd hefyd yn ddatganoledig o’r hen Deyrnas Unedig. Yn yr ysbryd hwnnw, rwy’n gwerthfawrogi’n fawr sylwadau Prif Weinidog Cymru ynglŷn ag undeb newydd a gwahanol. Y gwir amdani yw bod perthynas pobloedd a chenhedloedd yr ynysoedd hyn wedi newid ar hyd y canrifoedd. Rwy’n rhagweld sefyllfa pan y bydd Cymru yn goroesi’r Deyrnas Unedig, ond byddech yn disgwyl i mi ddweud hynny, efallai. Fodd bynnag, mae trefniadau gwahanol o gydweithrediad y bydd yn rhaid i ni wastad eu cael yn yr ynysoedd hyn, neu fel y byddai’r Mabinogi ers talwm yn ei galw, ‘Ynys y Cedyrn’. I am going to resist the temptation to speak of England, because, as one who believes in the rights of peoples and nations to home rule and self-determination in relation to their future, I believe that it is important that the people of England have that debate themselves without the Welsh, the Scots and certainly not the Irish trying to bring influence to bear in terms of how and what they should think. However, there is clearly an important principle here that we must have arrangements for England that are also devolved from the old United Kingdom. In that spirit, I greatly welcome the comments made by the First Minister about a new and different union. The truth is that the relations between the peoples and nations of these islands have changed over the centuries. I anticipate a situation where Wales will outlive the UK, but you would expect me to say that, perhaps. However, there are different arrangements of collaboration that we will always need in these islands, or as the Mabinogi used to call it, 'the island of the mighty’.
16:45 - Mike Hedges
I very much welcome the debate and the cross-party consensus on taking devolution forward. While there is a small group of people that wants to close down the Assembly and an even smaller group of people that wants independence, there is a growing consensus in Wales, shown in opinion polls, which I see very much echoed when talking to my constituents, for a working sphere of Government with the tools to do the job. Rwyf yn croesawu'n fawr y ddadl a'r consensws trawsbleidiol ar fwrw ymlaen â datganoli. Er bod grŵp bach o bobl sy'n awyddus i gau’r Cynulliad a grŵp hyd yn oed yn llai o bobl sydd am gael annibyniaeth, mae consensws sy'n tyfu yng Nghymru, a ddangosir mewn arolygon barn, ac rwyf yn ei weld yn cael ei adleisio i raddau helaeth iawn wrth siarad â'm hetholwyr, o blaid cylch o Lywodraeth â’r arfau i wneud y gwaith.
I wish to concentrate on two areas; first, the reserved-powers model and then tax devolution. As someone who has been a strong supporter of the reserved-powers model for a very long time, I am pleased to see that this has now become the consensus view. Early last year, I wrote a series of articles published by the Institute of Welsh Affairs describing the devolution settlement within the rest of the UK and within Europe, all based upon the reserved-powers model. In the individual Members’ debate held in June of last year, the reserved-powers model was supported with 43 in favour, six against and two abstentions. I hope today that we will see unanimity on that. Rwyf am ganolbwyntio ar ddau faes; yn gyntaf, y model cadw pwerau ac yna datganoli trethi. A minnau wedi bod yn gefnogwr cryf i'r model cadw pwerau am yn hir iawn, rwyf yn falch o weld bod hyn bellach wedi dod yn farn gonsensws. Yn gynnar y llynedd, ysgrifennais gyfres o erthyglau a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig yn disgrifio'r setliad datganoli yng ngweddill y DU ac yn Ewrop, i gyd yn seiliedig ar y model cadw pwerau. Mewn dadl gan Aelod unigol a gynhaliwyd ym mis Mehefin y llynedd, cafodd y model cadw pwerau gefnogaeth â 43 o blaid, chwech yn erbyn a dau’n ymatal. Rwyf yn gobeithio heddiw y gwelwn unfrydedd ar hynny. 
As I said then, and reiterate now, the reserved-powers model is not about more powers, it is about clarity on what is and what is not devolved and, perhaps, the end of continual visits to court. Fel y dywedais bryd hynny, ac rwyf yn ailadrodd hynny’n awr, nid yw'r model cadw pwerau yn fater o gael mwy o bwerau, mae'n fater o gael eglurder ynghylch yr hyn sydd wedi ac nad yw wedi'i ddatganoli ac, o bosibl, diwedd ar ymweliadau dro ar ôl tro â’r llys.
Turning to the financial proposals, I do not believe that taxation is primarily an economic driver. I believe that its primary aim is to raise money for public services. If Northern Ireland and Scotland have corporation tax devolved to them, Wales should as well. However, to quote the Holtham report: A throi at y cynigion ariannol, nid wyf yn credu mai sbardun economaidd yw trethiant yn anad dim. Credaf mai ei brif nod yw codi arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Os yw’r dreth gorfforaeth wedi’i datganoli i Ogledd Iwerddon a'r Alban, dylai Cymru gael hynny yn ogystal. Fodd bynnag, a dyfynnu adroddiad Holtham:
‘It is evident that varying corporation tax in different parts of the UK raises issues at both the UK national and the European level and these may be in conflict. The UK Government would presumably wish to ensure that any variation was implemented in a way that was regionally equitable and not costly to HM Treasury. Yet devolution would also have to be consistent with European law, which precludes tax systems that could be interpreted as State aid to some businesses at the expense of others.’ Mae'n amlwg bod amrywio'r dreth gorfforaeth mewn gwahanol rannau o'r DU yn codi materion ar lefel y DU ac ar lefel Ewrop a gallai fod gwrthdaro rhwng y rhain. Byddai Llywodraeth y DU yn ôl pob tebyg yn dymuno sicrhau bod unrhyw amrywiad yn cael ei roi ar waith mewn ffordd sy’n rhanbarthol gyfiawn ac nad yw’n gostus i Drysorlys EM. Eto byddai’n rhaid i ddatganoli hefyd fod yn gyson â chyfraith Ewrop, sy'n atal systemau treth y gellid eu dehongli fel cymorth Gwladwriaethol i rai busnesau ar draul eraill.
We have had the Azores judgment. Some people believe that low corporation tax in Ireland, including the now-closed double Irish arrangement, helped the Irish economy. However, the Organisation for Economic Co-operation and Development has said that Ireland’s appeal has been based on the quality, price and availability of its labour, the welcoming attitude of foreign investors, the use of English language and exploitation of first-mover advantage. Once one producer in a sector established a production facility in Ireland, it was generally easier to attract its competitors. However, there is no question that the robust and prolonged expansion of the US economy, the source of most of the direct investment flows, and the attractive policy and institutional setting in Ireland were the major driving forces. A generally conducive and transparent regulatory framework, the open trade regime and competitive labour costs have generated the outcome. Cawsom ddyfarniad Azores. Mae rhai pobl yn credu bod treth gorfforaeth isel yn Iwerddon, gan gynnwys y trefniant Gwyddelig dwbl sydd bellach wedi cau, wedi helpu economi Iwerddon. Fodd bynnag, mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi dweud bod apêl Iwerddon wedi ei seilio ar ansawdd, pris ac argaeledd ei llafur, agwedd groesawgar buddsoddwyr tramor, defnydd o Saesneg ac ymelwa ar fantais y symudwr cyntaf. Unwaith yr oedd un cynhyrchydd mewn sector wedi sefydlu cyfleuster cynhyrchu yn Iwerddon, roedd yn haws at ei gilydd denu ei gystadleuwyr. Fodd bynnag, nid oes amheuaeth nad ehangu cadarn a hirdymor ar economi’r Unol Daleithiau, ffynhonnell y rhan fwyaf o lif y buddsoddiad uniongyrchol, a'r cyd-destun polisi a sefydliadol deniadol yn Iwerddon oedd y prif sbardun. Mae fframwaith rheoleiddio sy’n gyffredinol ffafriol a thryloyw, y drefn fasnachu agored a chostau llafur cystadleuol wedi rhoi’r canlyniad hwn.
If air passenger duty for direct long-haul flights is devolved to Scotland, it should obviously be devolved to Wales. There should be a review of the level of borrowing powers afforded in the Wales Bill. I do not believe that the Welsh Government should be treated less favourably than Scotland or Welsh local authorities. Welsh local authorities can engage in borrowing to a locally set prudential limit. I do not see that, if it is good enough for Welsh local councils, Welsh Government should be treated any less favourably. It should certainly not be disadvantaged compared with local authorities that come under its remit. Os datganolir y doll teithwyr awyr i’r Alban ar gyfer teithiau hir uniongyrchol, yn amlwg dylid ei datganoli i Gymru. Dylid cynnal adolygiad o lefel y pwerau benthyca a roddir ym Mil Cymru. Nid wyf yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Alban nac awdurdodau lleol Cymru. Gall awdurdodau lleol yng Nghymru fenthyca hyd at derfyn darbodus a osodir yn lleol. Ni allaf weld pam, os yw'n ddigon da i gynghorau lleol yng Nghymru, y dylai Llywodraeth Cymru gael ei thrin yn llai ffafriol. Yn sicr ni ddylai fod dan anfantais o’i chymharu ag awdurdodau lleol y mae’n gyfrifol amdanynt. 
Welsh Government should also be allowed to issue bonds, just like local authorities. Borrowing from the Public Works Loans Board is traditionally substantially cheaper—Transport for London, for example, used bonds to part-fund its Crossrail railway. If local authorities can do it, so should the Welsh Government. We have come a long way since two years ago, when we were having first discussions with the Deputy Presiding Officer at that time regarding the reserved-powers model. Hopefully, with cross-party agreement, we can take Wales forward and make the devolution settlement work for the people of Wales. Dylai Llywodraeth Cymru hefyd gael hawl i gyhoeddi bondiau, yn union fel awdurdodau lleol. Mae benthyca gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus yn draddodiadol gryn dipyn yn rhatach—defnyddiodd Transport-for London, er enghraifft, fondiau i ran-ariannu ei reilffordd Crossrail. Os gall yr awdurdodau lleol wneud hynny, dylai Llywodraeth Cymru allu gwneud hynny hefyd. Rydym wedi dod yn bell mewn dwy flynedd, oherwydd dwy flynedd yn ôl yr oeddem yn cynnal trafodaethau cyntaf â'r Dirprwy Lywydd ar y pryd ynghylch y model cadw pwerau. Rwyf yn gobeithio, gyda chytundeb trawsbleidiol, y gallwn symud Cymru ymlaen a gwneud i’r setliad datganoli weithio i bobl Cymru.
16:49 - Alun Davies
Like others in the Chamber this afternoon, I also welcome the timetable and the structures that have been set out, but perhaps more so the agreement that exists across the Chamber as to what we want to achieve for our country. I was very taken by some of the remarks made by Dafydd Elis-Thomas in terms of the relationships between the different peoples of these islands and how they will change but retain an essence of continuity over time. My fear is that, while those relations between people might change, and might develop that level of continuity, the structures within that relationship are broken. Julie mentioned the excitement seen in Scotland in September on both sides of the debate. If one compares the debate that took place in Scotland with the political debate that is taking place elsewhere in the United Kingdom, which was perhaps crystallised in the recent by-election in Clacton, what you see is a population that feels out of touch with political structures and the political processes; a population that does not feel that those structures and those processes and those institutions represent them today, or can represent them in the future. So, if we are going to use the opportunity that we have to redesign and recreate, if you like, the devolution settlement in Wales and elsewhere in the United Kingdom, we have to do that with the engagement of people across and throughout our different communities: north, south, east, west, rural, urban. We need to ensure that people are not excluded from that debate, and we need to create institutions and processes that seek to include and not exclude. It takes us to the heart of the debate. Fel eraill yn y Siambr y prynhawn yma, rwyf finnau hefyd yn croesawu’r amserlen a'r strwythurau sydd wedi eu nodi, ond efallai hyd yn oed yn fwy felly’r cytundeb ar draws y Siambr o ran yr hyn yr ydym am ei gyflawni dros ein gwlad. Fe’m trawyd yn fawr gan rai o'r sylwadau a wnaethpwyd gan Dafydd Elis-Thomas o ran y berthynas rhwng gwahanol bobloedd yr ynysoedd hyn a sut y byddant yn newid ond yn cadw elfen o barhad dros amser. Fy ofn i yw hyn: er y gallai rhai o’r perthnasau rhwng pobl newid, a datblygu’r lefel honno o barhad, y bydd y strwythurau o fewn y berthynas honno wedi torri. Soniodd Julie am y cyffro a welwyd yn yr Alban ym mis Medi ar ddwy ochr y ddadl. Os cymharwn y ddadl a ddigwyddodd yn yr Alban â'r ddadl wleidyddol sy'n digwydd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, a grisialwyd efallai yn yr is-etholiad diweddar yn Clacton, yr hyn a welwn yw poblogaeth sy'n teimlo’i bod wedi colli cysylltiad â strwythurau gwleidyddol a'r prosesau gwleidyddol; poblogaeth nad yw'n teimlo bod y strwythurau hynny a'r prosesau hynny a'r sefydliadau hynny'n eu cynrychioli heddiw, neu na allant eu cynrychioli yn y dyfodol. Felly, os ydym am ddefnyddio'r cyfle sydd gennym i ailddylunio ac i ail-greu, os mynnwch, y setliad datganoli yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, mae'n rhaid inni wneud hynny gydag ymgysylltiad pobl ledled ein gwahanol gymunedau: gogledd, de, dwyrain, gorllewin, gwledig, trefol. Mae angen inni sicrhau nad yw pobl yn cael eu heithrio o’r ddadl honno, ac mae angen creu sefydliadau a phrosesau sy'n ceisio cynnwys yn hytrach na chau allan. Mae'n mynd â ni at galon y ddadl.
Power is a word that we tend to shy away from using in today’s society, but power is at the heart of this debate: who exercises power, how is that power exercised, on whose behalf is that power exercised, and who holds that power to account? It is important that we look at the structures of the United Kingdom, and that we also consider the issue of power, not only between us here in this Chamber, in relation to other chambers elsewhere in the United Kingdom, but also in our relationship with the communities that we represent and our relationship with the structures of government within Wales. So, let us not only have a debate about devolution that is about Wales and the rest of the United Kingdom; let us also ensure that devolution within Wales is a part of that debate. Let us also win the trust and confidence of people to ensure that we have not only a solution that has broad and wide and deep support today, but a lasting and durable solution for the future. Mae grym yn air yr ydym yn tueddu i osgoi ei ddefnyddio yn y gymdeithas heddiw, ond grym sydd wrth wraidd y ddadl hon: pwy sy'n arfer grym, sut y caiff y grym hwnnw ei arfer, ar ran pwy y caiff y grym hwnnw ei arfer, a phwy sy’n dal y grym hwnnw i gyfrif? Mae'n bwysig ein bod yn edrych ar strwythurau’r Deyrnas Unedig, a’n bod hefyd yn ystyried mater grym, nid yn unig rhyngom ni yma yn y Siambr hon, mewn perthynas â siambrau eraill mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, ond hefyd yn ein perthynas â’r cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli ac yn ein perthynas â strwythurau llywodraethu yng Nghymru. Felly, gadewch inni nid yn unig gael dadl am ddatganoli ynglŷn â Chymru a gweddill y Deyrnas Unedig; gadewch inni hefyd sicrhau bod datganoli yng Nghymru’n rhan o'r ddadl honno. Gadewch inni hefyd ennill ymddiriedaeth a hyder pobl er mwyn sicrhau bod gennym nid yn unig ateb y mae cefnogaeth eang a helaeth a dwfn iddo heddiw, ond ateb parhaol a gwydn at y dyfodol.
I was taken, again, with the comments that Julie made, about voting for the 1998 Act in the House of Commons. I thought a lot about the current legislative framework over the last year when I was facing a hearing in the Supreme Court over the agricultural wages issue. [Interruption.] It was. What struck me, throughout that debate, was the inherent over-complexity of the solution and the structures that we have today—a complexity that actively excludes people from understanding where power lies, and who is accountable for exercising that power on their behalf. We need clarity, we need accountability, we need simplicity in any new devolution settlement, but we also need to ensure that that settlement is founded on a sense of fairness, so that devolution does not simply exist for the benefit of those of us in the Chamber today, or for those people who wish to be a part of the current political system, but fairness in society and fairness in our communities. We need to ensure that we are able to— Fe’m trawyd, unwaith eto, gan sylwadau Julie, ynglŷn â phleidleisio ar gyfer Deddf 1998 yn Nhŷ'r Cyffredin. Meddyliais lawer am y fframwaith deddfwriaethol cyfredol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf pan oeddwn yn wynebu gwrandawiad yn y Goruchaf Lys ynglŷn â chyflogau amaethyddol. [Torri ar draws.] Oedd. Yr hyn a’m trawodd, drwy gydol y ddadl honno, oedd ​​gorgymhlethdod cynhenid y datrysiad a'r strwythurau sydd gennym heddiw—cymhlethdod sy'n eithrio pobl yn weithredol rhag deall lle y mae pŵer yn gorwedd, a phwy sy'n atebol am arfer y pŵer hwnnw ar eu rhan. Mae arnom angen eglurder, mae arnom angen atebolrwydd, mae arnom angen symlrwydd mewn unrhyw setliad datganoli newydd, ond mae angen hefyd sicrhau bod y setliad wedi'i seilio ar ymdeimlad o degwch, fel nad yw datganoli’n bodoli er budd y rhai ohonom sydd yn y Siambr heddiw yn unig, neu ar gyfer y bobl hynny sydd am fod yn rhan o'r system wleidyddol bresennol, ond tegwch yn y gymdeithas a thegwch yn ein cymunedau. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gallu—
16:53 - Yr Arglwydd / Lord Elis-Thomas
Just a point on your reference earlier to the Bill for which you had responsibility. Is it not the fact that the Supreme Court ruling is a clear warning to the United Kingdom Government not to mess around, and that with anything that is a subject in relation to devolution—not specifically mentioned as an exception in Schedule 7—we should be able to legislate on it? Dim ond pwynt ar eich cyfeiriad yn gynharach at y Bil yr oeddech yn gyfrifol amdano. Onid yw'n ffaith bod dyfarniad y Goruchaf Lys yn rhybudd clir i Lywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio â chwarae o gwmpas, ac y dylem, o safbwynt unrhyw beth sy’n bwnc o ran datganoli—nad yw wedi’i grybwyll yn benodol fel eithriad yn Atodlen 7—allu deddfu yn ei gylch?
16:54 - Alun Davies
We should and, in this case, we did. It was good to read that ruling, and also what those judges said. What it did was to recognise where power lies in the United Kingdom, and it lies in different places. Dylem ac, yn yr achos hwn, fe wnaethom. Roedd yn dda darllen y dyfarniad, a hefyd yr hyn a ddywedodd y barnwyr hynny. Yr hyn a wnaeth oedd cydnabod lle y mae grym yn gorwedd yn y Deyrnas Unedig, ac mae'n gorwedd mewn gwahanol leoedd.
I will finish with this short remark. We spend a lot of time talking about devolution in the context of Wales and this place, but we also need a clear vision of what we want the United Kingdom state to be. I want the United Kingdom state to be powerful enough to hold giant corporations to account, and also to redistribute wealth across the different parts of the United Kingdom. So, yes, we need to have a debate about the structures here in Cardiff, and yes, we need to have a debate about the structures that exist across Wales, but we also need to have a debate about the sort of United Kingdom that we want to be a part of in the future—a United Kingdom that is not simply a diminished state in Cardiff, but a United Kingdom that is an active part of our communities, redistributing wealth and holding corporations to account. Hoffwn orffen â’r sylw byr hwn. Rydym yn treulio llawer o amser yn siarad am ddatganoli yng nghyd-destun Cymru a’r lle hwn, ond mae arnom angen gweledigaeth glir hefyd o'r hyn yr ydym am i wladwriaeth y Deyrnas Unedig fod. Rwyf am i wladwriaeth y Deyrnas Unedig fod yn ddigon grymus i ddal corfforaethau mawr i gyfrif, a hefyd i ailddosbarthu cyfoeth ar draws gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig. Felly, oes, mae angen inni gael dadl am y strwythurau yma yng Nghaerdydd, ac oes, mae angen inni gael dadl am y strwythurau sy'n bodoli ar draws Cymru, ond mae angen hefyd inni gael dadl am y math o Deyrnas Unedig yr ydym am fod yn rhan ohoni yn y dyfodol—Teyrnas Unedig nad yw’n wladwriaeth ar raddfa lai yng Nghaerdydd yn unig, ond Teyrnas Unedig sy’n rhan weithredol o'n cymunedau, yn ailddosbarthu cyfoeth ac yn dal corfforaethau i gyfrif.
16:55 - John Griffiths
As others have, I very much welcome this debate today and particularly the agreement across the parties, which I think shows a commendable degree of responsible attitudes to these very important matters. I think that we are all aware that we currently exist in a window of opportunity, as it is often termed, that will set this very important agenda for many years to come. Of course, this is in the context of the referendum in Scotland that gave so much impetus to this debate. As I have said before, I think that that debate in Scotland was very much about a rebalancing of the UK being very badly needed in terms of powers, yes, but also in socioeconomic terms. I think that what applies to Scotland applies right across the UK and very much here in Wales. So, I believe that the people of Wales, the history of Wales and the way that Wales has voted in election after election show that, here, people expect equality of opportunity and outcome and social justice, and they will expect the increased powers for the Assembly to deliver on that agenda and on those principles and values. Fel y mae eraill wedi’i wneud, rwyf finnau’n croesawu'r ddadl hon heddiw yn fawr iawn ac yn arbennig y cytundeb ar draws y pleidiau, sydd, yn fy marn i, yn dangos agweddau cyfrifol clodwiw at y materion pwysig iawn hyn. Credaf ein bod i gyd yn ymwybodol ein bod ar hyn o bryd mewn ffenestr cyfle, fel y dywedir yn aml, a fydd yn gosod yr agenda bwysig iawn hon am flynyddoedd lawer i ddod. Wrth gwrs, mae hyn yng nghyd-destun y refferendwm yn yr Alban a roddodd gymaint o hwb i'r ddadl hon. Fel yr wyf wedi’i ddweud o'r blaen, credaf fod y ddadl yn yr Alban yn ymwneud i raddau helaeth iawn â’r ffaith bod angen ailgloriannu’r DU yn ddirfawr o ran pwerau, ydy, ond hefyd mewn termau economaidd-gymdeithasol. Credaf fod yr hyn sy’n berthnasol i'r Alban yn berthnasol ar draws y DU ac i raddau helaeth iawn yma yng Nghymru. Felly, credaf y bydd pobl Cymru, hanes Cymru a'r ffordd y mae Cymru wedi pleidleisio mewn etholiad ar ôl etholiad yn dangos bod pobl, yma, yn disgwyl cyfle a chanlyniad cyfartal a chyfiawnder cymdeithasol, ac maent yn disgwyl i'r pwerau cynyddol i’r Cynulliad gyflawni o ran yr agenda honno ac o ran yr egwyddorion a’r gwerthoedd hynny.
So, I would like to see the debate that now follows and the developments that take place providing new levers for Welsh Government and a new level of UK Government support to deliver greater infrastructure development here in Wales, to distribute further UK Government and UK Government agency jobs to Wales, to support inward investment to Wales from elsewhere in the UK and further afield more than is currently the case, and to provide greater support for indigenous business development here. There is much that can be done and much that needs to be done to build the economy here in Wales that matters so much for all of our communities. As well as that, I would like to see greater ability for Welsh Government to deliver on equality within Wales. As well as greater equality within the UK, we could have a much more equal Wales, which I believe would deliver a much fairer society here, something that books like ‘The Spirit Level’ have shown benefits everyone, whether they are comparatively wealthy or comparatively poor. It is about quality of life and it is about wellbeing, which feeds directly into health. It is about the sort of Wales that we want to see into the future. Felly, hoffwn weld y drafodaeth sydd yn awr yn dilyn a'r datblygiadau sy'n digwydd yn darparu ysgogiadau newydd i Lywodraeth Cymru a lefel newydd o gefnogaeth gan Lywodraeth y DU i sicrhau mwy o ddatblygu seilwaith yma yng Nghymru, dosbarthu mwy o swyddi Llywodraeth y DU ac asiantaethau Llywodraeth y DU i Gymru, cefnogi mwy o fewnfuddsoddi yng Nghymru o rannau eraill o’r DU a thu hwnt nag sy’n digwydd ar hyn o bryd, a rhoi mwy o gymorth i ddatblygu busnesau cynhenid ​​yma. Mae llawer y gellir ei wneud a llawer y mae angen ei wneud i adeiladu’r economi yma yng Nghymru sydd mor bwysig i’n holl gymunedau. Yn ogystal â hynny, hoffwn weld mwy o allu i Lywodraeth Cymru i gyflawni o ran cydraddoldeb yng Nghymru. Yn ogystal â mwy o gydraddoldeb o fewn y DU, gallem gael Cymru fwy cyfartal o lawer, a chredaf y byddai hynny'n creu cymdeithas decach o lawer yma, rhywbeth y mae llyfrau fel 'The Spirit Level' wedi dangos sydd o fudd i bawb, p'un a ydynt yn gymharol gyfoethog neu'n gymharol dlawd. Mae'n ymwneud ag ansawdd bywyd ac mae'n ymwneud â lles, sy'n bwydo’n uniongyrchol i iechyd. Mae'n ymwneud hefyd â’r math o Gymru yr ydym am ei gweld yn y dyfodol.
So, I would like to see greater tax and, indeed, benefit powers for the Welsh Government so that we could deliver on that intra-Wales agenda. I know that, just the other week, the child poverty report showed, on the basis of wards within Wales, great disparities in every constituency in Wales in terms of child poverty levels. So, that is further reinforcement of the need to press on with that agenda. There is no room for complacency regarding the future of the UK, and people in Wales, Scotland, northern England and other areas of England want to see an economic rebalancing. They want to see greater fairness. If that is not delivered, we are not going to see the UK having the stability and continuity that I think most Members here want to see and most people in the UK want to see into the future. Felly, hoffwn weld mwy o bwerau trethu ac, yn wir, bwerau budd-daliadau i Lywodraeth Cymru er mwyn inni allu cyflawni ar yr agenda honno yng Nghymru. Gwn fod yr adroddiad ar dlodi plant, dim ond yr wythnos o'r blaen, ar sail wardiau yng Nghymru, wedi dangos gwahaniaethau mawr ym mhob etholaeth yng Nghymru o ran lefelau tlodi plant. Felly, mae hynny'n atgyfnerthu ymhellach yr angen i fwrw ymlaen â'r agenda honno. Nid oes lle i fod yn hunanfodlon ynglŷn â dyfodol y Deyrnas Unedig, ac mae pobl yng Nghymru, yr Alban, gogledd Lloegr ac ardaloedd eraill o Loegr am weld ailgloriannu economaidd. Maent am weld mwy o degwch. Os na chyflawnir hynny, nid yw’r DU am gael y sefydlogrwydd a’r parhad yr wyf yn meddwl y mae’r rhan fwyaf o’r Aelodau yma am eu gweld ac y mae'r rhan fwyaf o bobl yn y DU am eu gweld yn y dyfodol.
In short, I think that what we have to deliver is greater powers for Wales, but powers for a purpose, as many people have said, and that purpose must be greater social justice and equality of opportunity and outcome for our communities here in Wales. Yn fyr, credaf mai’r hyn y mae'n rhaid inni ei gyflwyno yw mwy o bwerau i Gymru, ond pwerau at ddiben, fel y mae llawer o bobl wedi dweud, a’r diben hwnnw fydd mwy o gyfiawnder cymdeithasol a chyfleoedd a chanlyniadau cyfartal i'n cymunedau yma yng Nghymru.
16:59 - Y Llywydd / The Presiding Officer
I call the First Minister to reply to the debate. Galwaf ar y Prif Weinidog i ymateb i'r ddadl.
16:59 - Carwyn Jones
I thank all Members for their contributions, some of which, of course, have gone beyond the motion immediately before us but will form an important part of the debate that is to come in future. Diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau, rhai ohonynt, wrth gwrs, yn mynd y tu hwnt i'r cynnig sydd ger ein bron heddiw, ond byddant yn rhan bwysig o'r ddadl sydd i ddod yn y dyfodol.
It is remarkable to think that we have seen over the past 15 years significant constitutional development in Wales. In fact, if I remember rightly, the original Bill that was to set up this place contained provisions at one time that meant that there would be no Ministers but simply committee Chairs, where in effect the Executive would scrutinise itself. That, fortunately, was changed before the referendum, and we have moved towards a more conventional form of Government where there is an Executive and a legislature through the time of legislative competence Orders, through the successful referendum in 2011 and, now, to what will be a significant step forward in terms of greater financial autonomy for the people of Wales. I can assure the leader of the opposition that there is already agreement between the UK Government and the Welsh Government in terms of a timescale for updating the Holtham commission’s work. Mae'n rhyfeddol meddwl ein bod wedi gweld yn ystod y 15 mlynedd diwethaf ddatblygiad cyfansoddiadol sylweddol yng Nghymru. Yn wir, os cofiaf yn iawn, roedd y Bil gwreiddiol a sefydlwyd yn y lle hwn yn cynnwys darpariaethau ar un adeg a oedd yn golygu na fyddai yma ddim Gweinidogion ond yn hytrach Gadeiryddion pwyllgorau, lle mewn gwirionedd y byddai'r Weithrediaeth yn craffu arni hi ei hun. Cafodd hynny, yn ffodus, ei newid cyn y refferendwm, ac rydym wedi symud tuag at ffurf fwy confensiynol ar Lywodraeth lle mae Gweithrediaeth a deddfwrfa drwy gyfnod Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol, drwy’r refferendwm llwyddiannus yn 2011 ac, yn awr, at yr hyn a fydd yn gam pwysig ymlaen o ran mwy o ymreolaeth ariannol i bobl Cymru. Gallaf sicrhau arweinydd yr wrthblaid fod cytundeb eisoes rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru o ran yr amserlen ar gyfer diweddaru gwaith comisiwn Holtham.
We think, sometimes, that the UK is a very durable body that has existed in its present form for many years. Of course, it has not; it is not even 100 years old. The current UK goes back only to 1921 when most of Ireland left. Actually, the lesson that history teaches us is that the UK is not always as flexible as it should be. We know, for example, if we go back to 1776, that the American colonies, as they were then, left because of the lack of flexibility in the system. We know that an offer of home rule to the people of Ireland, which would have kept them within the UK, was constantly delayed and they ended up as the Irish Free State and, subsequently, the Republic of Ireland in 1936. We know, of course, that many Commonwealth dominions, as they were then, pressured the UK Government to sign the statute of Westminster in 1931, so that there would be no interference from Westminster in their own internal affairs, and, of course, we had the referendum in the late 1990s here. Rydym yn meddwl, weithiau, fod y DU yn gorff gwydn iawn sy’n bodoli yn ei ffurf bresennol ers blynyddoedd lawer. Wrth gwrs, nid felly y mae; nid yw hyd yn oed yn 100 mlwydd oed. Mae'r DU ar ei ffurf bresennol yn mynd yn ôl i 1921 pan adawodd y rhan fwyaf o Iwerddon. Mewn gwirionedd, y wers y mae hanes yn ei dysgu inni yw nad yw'r DU bob amser mor hyblyg ag y dylai fod. Gwyddom, er enghraifft, os awn yn ôl i 1776, fod y trefedigaethau Americanaidd, fel yr oeddent bryd hynny, wedi gadael oherwydd diffyg hyblygrwydd yn y system. Gwyddom y bu oedi cyson â’r cynnig o ymreolaeth i bobl Iwerddon, a fyddai wedi eu cadw o fewn y DU, a daethant yn Wladwriaeth Iwerddon Rydd ac wedi hynny’n Weriniaeth Iwerddon ym 1936. Gwyddom, wrth gwrs, fod llawer o diriogaethau’r Gymanwlad, fel yr oeddent bryd hynny, wedi rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i lofnodi statud San Steffan ym 1931, fel na fyddai dim ymyrraeth gan San Steffan yn eu materion mewnol hwy eu hunain, ac, wrth gwrs, cawsom y refferendwm ar ddiwedd y 1990au yma.
Therefore, I think that it is right to say that Whitehall does not give up its power that easily and the one thing that we must learn from the Scottish referendum is that that attitude has to change. We have a situation where, in one part of the UK, in Northern Ireland, 40% plus of the population would want to leave and we have a situation in another part of the UK, in Scotland, where 45% voted to leave. We are not in a situation now where things can simply carry on as before with a little bit of flexibility here and there. We are in a situation where there needs to be fundamental change in the way that the UK is structured, in order to make it strong for the future—a recognition that there are four nations within the UK, working together towards a common goal. Simply continuing as before would, I fear, lead eventually to the break-up of the UK. That, for most of us in this Chamber—not all, of course—would be something that we would not want to see. Felly, credaf ei bod yn iawn dweud nad yw Whitehall yn ildio’i rym yn rhwydd a’r un peth y mae'n rhaid inni ei ddysgu o refferendwm yr Alban yw bod yn rhaid i’r agwedd honno newid. Mae gennym sefyllfa lle y byddai 40% a mwy o'r boblogaeth, mewn un rhan o'r DU, yng Ngogledd Iwerddon, am adael ac mae gennym sefyllfa mewn rhan arall o'r DU, yn yr Alban, lle y pleidleisiodd 45% i adael. Nid ydym mewn sefyllfa yn awr lle y gall pethau barhau fel o'r blaen gydag ychydig o hyblygrwydd yma ac acw. Rydym mewn sefyllfa lle y mae angen newid sylfaenol yn y ffordd y mae'r DU wedi’i strwythuro, er mwyn ei gwneud yn gryf at y dyfodol—cydnabyddiaeth bod pedair cenedl o fewn y DU, yn gweithio gyda'i gilydd tuag at nod cyffredin. Byddai parhau fel yr oedd pethau, rwyf yn ofni, yn arwain yn y pen draw at chwalu’r DU. Mae hynny, i'r rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon—nid pob un, wrth gwrs—yn rhywbeth na fyddem am ei weld.
However, there is one important point that this motion brings forward and that is that this place is the property of the people of Wales. What the Welsh people established, only the Welsh people can disestablish. Sometimes I think that there is an attitude in Whitehall that this Assembly is somehow an institution on loan to the people of Wales. Of course, the very name—the National Assembly ‘for’ Wales—suggests that somehow it is a gift to the people of Wales, not ‘of’ the people of Wales. That is reflected in the devolution settlement: the fact that our powers are graciously conferred to us, whereas, in fact, those powers— Fodd bynnag, mae un pwynt pwysig y mae’r cynnig hwn yn ei godi sef bod y lle hwn yn eiddo i bobl Cymru. Yr hyn a sefydlwyd gan bobl Cymru, dim ond pobl Cymru all ei ddatgysylltu. Weithiau, credaf fod agwedd yn Whitehall fod y Cynulliad hwn rywsut yn sefydliad ar fenthyg i bobl Cymru. Wrth gwrs, mae’r enw Saesneg—the National Assembly ‘for’ Wales—yn awgrymu rywsut ei fod yn rhodd i bobl Cymru, nid yn eiddo i bobl Cymru. Mae hynny wedi’i adlewyrchu yn y setliad datganoli: y ffaith bod ein pwerau’n cael eu rhoi’n raslon inni, ond, mewn gwirionedd, mae’r pwerau hynny—
Yr Arglwydd Elis-Thomas a gododd— Lord Elis-Thomas rose—
17:02 - Carwyn Jones
In a moment. Mewn munud.
[Continues.]—those powers are, to my mind, inherent powers that the people of Wales have anyway. [Yn parhau.] —mae’r pwerau hynny, yn fy marn i, yn bwerau cynhenid ​​sydd gan bobl Cymru beth bynnag.
17:02 - Yr Arglwydd / Lord Elis-Thomas
I am afraid that the responsibility for the proposition, actually, is nearer home. I moved an amendment to the Third Reading of the referendum Bill, which described this body, because ‘for Wales’ means for the future of Wales and ‘of Wales’ is there for the past. [Laughter.] Mae arnaf ofn fod y cyfrifoldeb am yr arddodiad, mewn gwirionedd, yn nes at adref. Cynigiais welliant i Drydydd Darlleniad Bil y refferendwm, a oedd yn disgrifio’r corff hwn, gan fod 'for Wales' yn golygu ar gyfer dyfodol Cymru ac 'of Wales' yno ar gyfer y gorffennol. [Chwerthin.]
17:02 - Carwyn Jones
We will have to disagree on that point, I am afraid. Nevertheless, I am sure that the Member takes the point that this is an institution that is the property of the people of Wales. The rights that it holds are rights that the people of Wales hold through the establishment of this institution. That is why we have to move away from a conferred-powers model to a reserved-powers model that recognises that power, indeed, lies with the people of Wales. It is for them to decide how powers are to be shared. Bydd yn rhaid inni anghytuno ar y pwynt hwnnw, mae arnaf ofn. Er hynny, rwyf yn siŵr bod yr Aelod yn derbyn y pwynt fod hwn yn sefydliad sy’n eiddo i bobl Cymru. Mae’r hawliau sydd ganddo’n hawliau sydd gan bobl Cymru yn rhinwedd sefydlu’r sefydliad hwn. Dyna pam y mae'n rhaid inni symud oddi wrth fodel rhoi pwerau i fodel cadw pwerau sy'n cydnabod bod grym, yn wir, yn gorwedd gyda phobl Cymru. Mater iddynt hwy yw penderfynu sut y caiff y pwerau eu rhannu.
That is specifically expressed in the part of the motion that deals with the electoral system. It cannot be right in a modern democracy that the Welsh people have no power over the electoral system of the very institution that they elect. That cannot be right, to my mind. That is why—and all parties have said this—it is right that those powers should reside in this Assembly. It is important, to my mind, that those powers cannot be exercised on a whim. Therefore, it would not be right, to my mind, that the electoral system could be changed on the basis, possibly, of one vote. There needs to be at least a consensus of more than one party if the electoral system were to change in the future. That is important in terms of ensuring that we have consistency in the electoral system itself. Mae hynny'n cael ei fynegi’n benodol yn y rhan o'r cynnig sy'n ymdrin â'r system etholiadol. Ni all fod yn iawn mewn democratiaeth fodern nad oes gan bobl Cymru ddim grym dros system etholiadol yr union sefydliad y maent yn ei ethol. Ni all hynny fod yn iawn, yn fy marn i. Dyna pam—ac mae pob plaid wedi dweud hyn—y mae'n iawn y dylai'r pwerau hynny fod yn y Cynulliad hwn. Mae'n bwysig, yn fy marn i, na ddylai’r pwerau hynny gael eu harfer ar fympwy. Felly, ni fyddai'n iawn, yn fy marn i, gallu newid y system etholiadol ar sail, o bosibl, un bleidlais. Mae angen o leiaf consensws mwy nag un blaid pe byddai’r system etholiadol yn newid yn y dyfodol. Mae hynny'n bwysig o ran sicrhau bod gennym gysondeb yn y system etholiadol ei hun.
17:04 - Andrew R.T. Davies
I think I have heard you say before that you think a vote would have to carry at least a two-thirds majority. Do you think that a two-thirds majority would be a sensible threshold? Credaf fy mod wedi'ch clywed yn dweud o'r blaen eich bod yn credu y byddai’n rhaid i bleidlais gael mwyafrif o ddwy ran o dair o leiaf. A ydych yn credu y byddai mwyafrif o ddwy ran o dair yn drothwy synhwyrol?
17:04 - Carwyn Jones
I think that it would. When it comes to fundamental change, such as the electoral system, bearing in mind that we are a small institution—I have perfect sympathy for what the Member for Cardiff North has said in terms of the difficulties that exist in scrutinising the Government—I think that is a reasonable threshold. Given our size, that threshold, to my mind, would need to be built in, because the changing of the electoral system, however small, would have a profound effect on the make-up of this place. Therefore, these things cannot be entered into lightly, even though it might be of advantage to my own party—I am generous enough to say that. It is important that these things are agreed by at least one other party, as well as the Government, in order to gain the credibility of the people of Wales. Bearing in mind that the current electoral system was established via the referendum, to change that, I believe, would take a higher threshold than a simple majority within this place. Credaf y byddai. O safbwynt newid sylfaenol, megis y system etholiadol, a chofio ein bod yn sefydliad bach—mae gennyf gydymdeimlad llwyr â’r hyn y mae'r Aelod dros Ogledd Caerdydd wedi’i ddweud o ran yr anawsterau sy'n bodoli wrth graffu ar y Llywodraeth—credaf fod hynny’n drothwy rhesymol. O ystyried ein maint, byddai angen adeiladu’r trothwy hwnnw i mewn, yn fy marn i, oherwydd byddai newid i’r system etholiadol, waeth pa mor fach, yn cael effaith aruthrol ar gyfansoddiad y lle hwn. Felly, ni ellir gwneud y pethau hyn ar chwarae bach, er y gallai fod o fantais i’m plaid fy hun—rwyf yn ddigon hael i ddweud hynny. Mae'n bwysig bod o leiaf un blaid arall yn cytuno ar y pethau hyn, yn ogystal â'r Llywodraeth, er mwyn ennyn hygrededd pobl Cymru. A chofio i’r system etholiadol bresennol gael ei sefydlu drwy'r refferendwm, byddai newid hynny, yn fy marn i, yn gofyn am drothwy uwch na dim ond mwyafrif yn y lle hwn.
It is difficult to spark a debate once again on an issue that we are all very familiar with and where there is consensus, but, nevertheless, for me, today is an exceptionally important day in the politics and history of Wales. I think that it is worth noting that, despite the intense war of words that is raging outside this Chamber with regard to one particular issue, it is still possible for us, as four parties, to come together where there is agreement and where we feel that it is in the interests of Wales to move forward with an agreement and to a constitutional future that is more sound. Therefore, despite what is happening outside the Chamber today, it is very much welcome as far as the Government is concerned and, clearly, it is very much welcome as far as the other three parties in this Chamber are concerned as well. We look now, of course, to see the UK Government move forward with the kind of haste it has demonstrated on Scotland and to show that, if Wales is to be at the heart of the debate, it will need to have a timetable that the people of Wales can respect, and a timetable that will deliver the powers that the people of Wales expect. Mae'n anodd sbarduno dadl unwaith eto ar fater yr ydym i gyd yn gyfarwydd iawn ag ef a lle mae consensws, ond, serch hynny, i mi, mae heddiw’n ddiwrnod eithriadol o bwysig yng ngwleidyddiaeth a hanes Cymru. Credaf ei bod yn werth nodi, er gwaethaf y rhyfel geiriau dwys sy’n rhuo y tu allan i'r Siambr o ran un mater penodol, ei bod yn dal yn bosibl i ni, fel pedair plaid, i ddod at ein gilydd lle ceir cytundeb a lle teimlwn ei bod er budd Cymru ein bod yn symud ymlaen â chytundeb a thuag at ddyfodol cyfansoddiadol sy'n fwy cadarn. Felly, er gwaethaf yr hyn sy'n digwydd y tu allan i'r Siambr heddiw, mae i’w groesawu'n fawr iawn o safbwynt y Llywodraeth ac, wrth gwrs, mae i’w groesawu'n fawr iawn o safbwynt y tair plaid arall yn y Siambr hon hefyd. Rydym yn disgwyl yn awr, wrth gwrs, gweld Llywodraeth y DU yn symud ymlaen â'r math o frys y mae wedi ei ddangos ynghylch yr Alban ac yn dangos, os yw Cymru i fod yn rhan ganolog o’r ddadl, y bydd angen iddi gael amserlen y gall pobl Cymru ei pharchu, ac amserlen a fydd yn cyflwyno’r pwerau y mae pobl Cymru’n eu disgwyl.
17:06 - Y Llywydd / The Presiding Officer
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? There are no objections, therefore, the motion is agreed in accordance with Standing Order 12.36. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid oes gwrthwynebiad, felly, mae’r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36 Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36
Statement by the Presiding Officer Datganiad gan y Llywydd
17:06 - Y Llywydd / The Presiding Officer
The Assembly has spoken with one voice today, setting out its priorities for the future of devolution in Wales. This cross-party motion sets out our clear priorities. I and, in fact, all of us now expect the UK Government to deliver on its promise to put Wales at the heart of the UK’s devolution debate. It is time for the Assembly to be recognised as a permanent legislature, with rights, and with the right powers, capacity and status to deliver what the people of Wales now expect. Thank you very much. Mae'r Cynulliad wedi siarad ag un llais heddiw, ac wedi nodi ei flaenoriaethau ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru. Mae'r cynnig trawsbleidiol hwn yn nodi ein blaenoriaethau clir. Rwyf fi ac, yn wir, bob un ohonom erbyn hyn yn disgwyl i Lywodraeth y DU gadw ei haddewid i wneud Cymru’n rhan ganolog o’r drafodaeth ar ddatganoli yn y DU. Mae'n bryd i'r Cynulliad gael ei gydnabod fel deddfwrfa barhaol, â hawliau, ac â'r pwerau, y gallu a’r statws iawn i gyflawni'r hyn y mae pobl Cymru bellach yn ei ddisgwyl. Diolch yn fawr iawn.
Daeth Rhodri Glyn Thomas i’r Gadair am 17:07. Rhodri Glyn Thomas took the Chair at 17:07.
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus The Public Accounts Committee Annual Report
17:07 - Rhodri Glyn Thomas
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Darren Millar, i gynnig y cynnig. I call on the Chair of the Public Accounts Committee, Darren Millar, to move the motion.
Cynnig NDM5599 Darren Millar Motion NDM5599 Darren Millar
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: The National Assembly for Wales:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus 2013-14, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Awst 2014. Notes the Annual Report of the Public Accounts Committee for 2013-14, which was laid in the Table Office on 21 August 2014.
17:07 - Darren Millar
I move the motion. Cynigiaf y cynnig.
Thank you, chair—I believe that that is how we are supposed to address you these days. It is a pleasure for me to be able to move the motion on the order paper on behalf of the Public Accounts Committee and to introduce the committee’s annual report for 2013-14, which, of course, is the first annual report produced by the committee. We did not decide to start producing an annual report because of anything particularly controversial or difficult in 2013-14. The committee undertook a substantial review of how we operated in the year and how we could improve our working practices. These changes included a decision to produce an annual report for debate in the Senedd, and also an undertaking for more committee-initiated inquiries, which I will return to later. Diolch i chi, gadeirydd—credaf mai dyna sut yr ydym i fod i’ch cyfarch chi y dyddiau hyn. Mae'n bleser i mi allu cynnig y cynnig ar y papur trefn ar ran y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac i gyflwyno adroddiad blynyddol y pwyllgor ar gyfer 2013-14, sef, wrth gwrs, yr adroddiad blynyddol cyntaf a gynhyrchwyd gan y pwyllgor . Ni wnaethom benderfynu dechrau llunio adroddiad blynyddol oherwydd unrhyw beth arbennig o ddadleuol neu anodd yn 2013-14. Cynhaliodd y pwyllgor adolygiad sylweddol o'r ffordd y buom yn gweithredu yn y flwyddyn a sut y gallem wella ein harferion gweithio. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys penderfyniad i gynhyrchu adroddiad blynyddol ar gyfer dadl yn y Senedd, a hefyd ymrwymiad i gael mwy o ymholiadau wedi’u cychwyn gan bwyllgor, a dychwelaf at hynny yn nes ymlaen.
Before discussing the content of the report, I would like to thank my seven colleagues on the committee, and also the other five Members who sat on the committee as it undertook the inquiries reported on during the year—Mohammad Asghar, Jocelyn Davies, Gwyn Price, Lindsay Whittle and Leanne Wood. I have been pleased that we have worked so closely as a committee in seeking to ensure that public money is being used effectively, efficiently and economically. I should also set out at this point the committee's appreciation of the work of the Auditor General for Wales, his staff at the Wales Audit Office, and, of course, our excellent committee clerking team. They are always extremely helpful in supporting the work of the committee and in developing our work programme. Cyn trafod cynnwys yr adroddiad, hoffwn ddiolch i fy saith cydweithiwr ar y pwyllgor, a hefyd y pum Aelod arall a eisteddodd ar y pwyllgor wrth iddo ymgymryd â'r ymholiadau yr adroddwyd arnynt yn ystod y flwyddyn—Mohammad Asghar, Jocelyn Davies, Gwyn Price , Lindsay Whittle a Leanne Wood. Rwyf wedi bod yn falch ein bod wedi gweithio mor agos fel pwyllgor wrth geisio sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol, yn effeithlon ac yn economaidd. Dylwn hefyd nodi yn y fan hon werthfawrogiad y pwyllgor o waith Archwilydd Cyffredinol Cymru, a'i staff yn Swyddfa Archwilio Cymru, ac, wrth gwrs, tîm clercio rhagorol ein pwyllgor. Maent bob amser yn eithriadol o barod i helpu wrth gefnogi gwaith y pwyllgor ac wrth ddatblygu ein rhaglen waith.
The report sets out the nine reports that the committee produced in 2013-14. These covered, as usual, a broad range of topics, from the handling of civil emergencies and the use of consultancy services in the Welsh public sector, right through to NHS finances and the Welsh Government’s management of grants. I do not plan to talk Members through each of those reports and the 130 recommendations that they contain this afternoon, but I will set out just a few examples of the committee’s work, and draw out some conclusions on the contribution that the committee is making to the achievement of value for money for taxpayers. Mae'r adroddiad yn nodi’r naw adroddiad a gynhyrchwyd gan y pwyllgor yn 2013-14. Roedd y rhain yn cynnwys, fel arfer, ystod eang o bynciau, o ymdrin ag argyfyngau sifil a'r defnydd o wasanaethau ymgynghori yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, i bynciau fel cyllid y GIG a rheolaeth Llywodraeth Cymru o grantiau. Nid wyf yn bwriadu egluro pob un o'r adroddiadau hynny a’r 130 o argymhellion y maent yn eu cynnwys , wrth yr Aelodau prynhawn yma, ond byddaf yn nodi ambell enghraifft o waith y pwyllgor, ac yn tynnu sylw at rai casgliadau ynghylch y cyfraniad y mae'r pwyllgor yn ei wneud i gyflawni gwerth am arian i drethdalwyr.
The first report discussed in the annual report is that of our inquiry into grants management. This is a topic that the committee has returned to, following an inquiry back in 2012. It is a good example of where the committee’s work has helped to secure noticeable improvements in the practices within the Welsh Government. The committee’s concerns were, effectively, that there was a lack of co-ordination within the Welsh Government in relation to the grant funds awarded to different organisations. This meant that there were possibilities of duplication in terms of grant awards, best practice not being captured, and even funding of the same recipients to achieve different or conflicting outcomes. Yr adroddiad cyntaf a drafodwyd yn yr adroddiad blynyddol yw’r un sy’n ymwneud ein hymchwiliad i reoli grantiau. Mae hwn yn bwnc y mae'r pwyllgor wedi dychwelyd ato, yn dilyn ymchwiliad yn ôl yn 2012. Mae'n enghraifft dda o syt y mae gwaith y pwyllgor wedi helpu i sicrhau gwelliannau amlwg yn yr arferion o fewn Llywodraeth Cymru. Pryderon y pwyllgor, i bob pwrpas, oedd bod diffyg cydlyniant o fewn Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r cronfeydd grant a ddyfarnwyd i wahanol sefydliadau. Roedd hyn yn golygu bod posibilrwydd o ddyblygu o ran y dyfarniadau grant, peidio â gwerthfawrogi arfer gorau, a hyd yn oed ariannu’r un derbynwyr i gyflawni canlyniadau gwahanol neu ganlyniadau sy'n gwrthdaro.
The Welsh Government responded well to our report, and the auditor general noted that the committee’s sustained focus on the topic had served to raise awareness of the importance of good grants management within senior levels of the Welsh Government, and had helped to ensure that significant improvements were being made. In response to our work in this area, an annual report on grants management is now produced by the Welsh Government, which allows the committee, along with others, to monitor progress. Ymatebodd Llywodraeth Cymru yn dda i'n hadroddiad, a nododd yr archwilydd cyffredinol fod pwyslais parhaus y pwyllgor ar y pwnc wedi gweithredu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd rheolaeth dda o grantiau o fewn lefelau uwch Llywodraeth Cymru, ac wedi helpu i sicrhau bod gwelliannau sylweddol yn cael eu gwneud. Mewn ymateb i'n gwaith yn y maes hwn, mae adroddiad blynyddol ar reoli grantiau erbyn hyn yn cael ei gynhyrchu gan Lywodraeth Cymru, sy'n caniatáu i'r pwyllgor, ynghyd ag eraill, fonitro cynnydd.
The committee often uses reports that are produced by the auditor general as a springboard for a more broad examination of how the issues raised by the Wales Audit Office apply across the wider Welsh public sector. To give an example of this, the audit office highlighted a number of concerns in its audit of the annual accounts of the Caldicot and Wentlooge Levels Internal Drainage Board. The PAC would not usually consider such a report, but we decided that the issues that it identified, in what might sound quite an archaic and arcane topic, merited further consideration. Mae'r pwyllgor yn aml yn defnyddio adroddiadau sy'n cael eu cynhyrchu gan yr archwilydd cyffredinol fel man cychwyn ar gyfer archwiliad mwy eang o sut mae'r materion a godwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru yn berthnasol ar draws y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru. I roi enghraifft o hyn, amlygodd y swyddfa archwilio nifer o bryderon yn ei harchwiliad o gyfrifon blynyddol Bwrdd Draenio Mewnol Morfa Gwent a Gwynllŵg. Ni fyddai'r PCC fel arfer yn ystyried adroddiad o'r fath, ond penderfynasom fod y materion a nodwyd, yn yr hyn a allai swnio'n bwnc braidd yn hynafol a dirgel, yn haeddu ystyriaeth bellach.
Our inquiry took a wider scope. We broadened out from the Caldicot and Wentlooge board to consider the Welsh Government’s internal arrangements for escalating concerns about internal drainage boards and its relationship with them more generally. Our work found that there were serious weaknesses in the accountability and governance arrangements that had allowed bad practice to fester in the board that we were considering. We encouraged the Welsh Government to re-visit its guidance on governance and to take a more proactive role in promoting joint working between organisations involved in flood-risk management. These issues remain relevant despite the transfer of the functions of internal drainage boards to Natural Resources Wales. Roedd cwmpas ehangach i’n hymchwiliad. Gwnaethom ymestyn allan oddi wrth fwrdd Caldicot a Gwynllŵg i ystyried trefniadau mewnol Llywodraeth Cymru ar gyfer pryderon cynyddol am fyrddau draenio mewnol a'i pherthynas gyda hwy yn fwy cyffredinol. Canfu ein gwaith bod gwendidau difrifol yn y trefniadau atebolrwydd a llywodraethu a oedd wedi caniatáu i arfer gwael grynhoi yn y bwrdd yr oeddem yn ei ystyried. Anogwyd Llywodraeth Cymru gennym i ailedrych ar ei chanllawiau ar lywodraethu ac i gymryd swyddogaeth fwy rhagweithiol wrth hyrwyddo gweithio ar y cyd rhwng sefydliadau sy'n ymwneud â rheoli risg llifogydd. Mae'r materion hyn yn parhau i fod yn berthnasol er gwaethaf trosglwyddo swyddogaethau'r byrddau draenio mewnol i Gyfoeth Naturiol Cymru.
In a similar way, the committee considered the audit office’s report on the Welsh Government’s acquisition and action to dispose of the former River Lodge Hotel in Llangollen. This was a particularly long-running and difficult affair, and the committee’s priority was to ensure that lessons be identified and learned. In short, we suggested that the way in which the Welsh Government first purchased and later disposed of this property demonstrated clear shortcomings in the relationship between officials and Ministers, in the handling of funds at year end, and in ensuring that possible conflicts of interest were identified and managed appropriately. The Welsh Government fully accepted the recommendations that we made in the report—a helpful indication of the value attached to learning lessons from cases, despite some years having passed. Yn yr un modd, ystyriodd y pwyllgor adroddiad y swyddfa archwilio ar gaffael Llywodraeth Cymru a’i chamau gweithredu i waredu hen Westy River Lodge yn Llangollen. Roedd hwn yn fater a fu’n mynd ymlaen am gyfnod hir ac a oedd yn anodd, a blaenoriaeth y pwyllgor oedd sicrhau bod gwersi yn cael eu nodi a’u dysgu. Yn gryno, gwnaethom awgrymu bod y ffordd y gwnaeth Llywodraeth Cymru brynu yn y lle cyntaf a gwaredu’r eiddo hwn yn ddiweddarach yn dangos diffygion amlwg yn y berthynas rhwng swyddogion a Gweinidogion, wrth ymdrin â chronfeydd ar ddiwedd y flwyddyn, ac o ran sicrhau bod achosion o wrthdaro buddiannau posibl yn cael eu nodi a'u rheoli'n briodol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yn llwyr yr argymhellion a wnaethom yn yr adroddiad—arwydd defnyddiol o’r gwerth sydd ynghlwm wrth ddysgu gwersi o achosion, er gwaethaf y ffaith fod rhai blynyddoedd wedi mynd heibio.
Four of the nine reports covered in this period related to the health service in Wales, which happens to be pretty much spot on to the proportion of the Welsh block grant that is consumed by the NHS. To discuss one of those examples, the committee received the WAO’s report on the Betsi Cadwaladr University Local Health Board’s governance arrangements. There is a very high level of representation from north Wales on the PAC, with currently half of our members being from north Wales. That means that we were particularly close to the problems faced by the Betsi Cadwaladr board in recent years. These were first identified by the Wales Audit Office and Healthcare Inspectorate Wales in a joint report—the very first of its kind in Wales. When we read the report, the committee was deeply concerned by the failures of governance that it had identified, and the implications that these had, both for the safety and health of patients, and also staff— many of whom were our constituents. Mae pedwar o'r naw adroddiad a gafodd sylw yn y cyfnod hwn yn ymwneud â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, sy’n digwydd bod yn hollol gywir o ran cyfran y grant bloc Cymru sy'n cael ei ddefnyddio gan y GIG. I drafod un o'r enghreifftiau hynny, derbyniodd y pwyllgor adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar drefniadau llywodraethu Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae lefel uchel iawn o gynrychiolaeth o ogledd Cymru ar y PCC, gyda hanner ein haelodau ar hyn o bryd yn dod o ogledd Cymru. Mae hynny'n golygu ein bod yn arbennig o agos at y problemau a wynebwyd gan fwrdd Betsi Cadwaladr yn y blynyddoedd diweddar. Cafodd y rhain eu nodi yn gyntaf gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru mewn cydadroddiad —y cyntaf un o'i fath yng Nghymru. Ar ôl darllen yr adroddiad, roedd y pwyllgor yn yn dra phryderus am y methiannau llywodraethu a nodwyd ganddo, a'r goblygiadau oedd gan y rhain, ar gyfer diogelwch ac iechyd y cleifion, a hefyd aelodau o staff— llawer ohonynt yn etholwyr i ni.
While there had already been resignations from the board following the publication of the joint report, we felt that other health boards had lessons to learn from Betsi’s mistakes and that it was in the public interest to consider the matter further. We reported last December and made recommendations to ensure that board members across Wales are of the right calibre and have sufficient capacity to fulfil their important roles, as well as recommendations on how to minimise the disruption for patients when financial pressures affect the capacity of the NHS to deliver services. We continue to monitor developments at Betsi, now that its period of turbulence is drawing to an end, and also the governance arrangements across all health boards. Er y bu eisoes ymddiswyddiadau oddi ar y bwrdd yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad ar y cyd, roedddem yn teimlo bod gan fyrddau iechyd eraill wersi i'w dysgu oddi wrth gamgymeriadau Betsi Cadwaladr a'i fod er lles y cyhoedd i ystyried y mater ymhellach. Adroddasom fis Rhagfyr diwethaf a gwneud argymhellion i sicrhau bod aelodau byrddau ar draws Cymru o’r safon briodol a bod ganddynt ddigon o allu i gyflawni eu swyddogaethau pwysig, yn ogystal ag argymhellion ar sut i leihau tarfu ar gleifion cymaint â phosibl pan fydd pwysau ariannol yn effeithio ar allu'r GIG i ddarparu gwasanaethau. Rydym yn parhau i fonitro datblygiadau yn Betsi, gan fod ei gyfnod cythryblus yn dirwyn i ben erbyn hyn, a hefyd y trefniadau llywodraethu ar draws yr holl fyrddau iechyd.
A number of other pieces of work were undertaken in the year that are not captured in the report, and the reports that emerge will be covered in our next annual report. Two of these were inquiries that the committee itself initiated. One was on the intra-Wales air service, on which we produced an interim report at the beginning of the summer. The purpose of undertaking a short, sharp inquiry was to allow the Welsh Government to take account of the committee’s views and suggestions on how the air service should be improved and operated as the Welsh Government engaged in a re-tendering exercise to award a new contract for the service. Cynhaliwyd nifer o ddarnau eraill o waith yn ystod y flwyddyn nad ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, a bydd yr adroddiadau a daw i'r amlwg yn cael eu cynnwys yn ein hadroddiad blynyddol nesaf. Roedd dau o'r rhain yn ymchwiliadau a ddechreuwyd gan y pwyllgor ei hun. Roedd un ar y gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru, y cynhyrchwyd adroddiad dros dro arno ddechrau'r haf. Pwrpas cynnal ymchwiliad byr, cyflym oedd caniatáu i Lywodraeth Cymru ystyried barn ac awgrymiadau’r pwyllgor ar sut y dylai'r gwasanaeth awyr gael ei wella a'i weithredu wrth i Lywodraeth Cymru gymryd rhan mewn ymarfer ail-dendro i ddyfarnu contract newydd ar gyfer y gwasanaeth.
As I indicated earlier, the committee is keen to contribute to the Welsh Government's achievement of better value for money. When we return to the air service in the new year, we hope to see that our input has been taken into account and proven to be helpful. Fel y dywedais yn gynharach, mae'r pwyllgor yn awyddus i gyfrannu at weld Llywodraeth Cymru’n cyflawni gwell gwerth am arian. Pan fyddwn yn dychwelyd i'r gwasanaeth awyr yn y flwyddyn newydd, rydym yn gobeithio gweld bod ein mewnbwn wedi cael ystyriaeth ac wedi profi i fod yn ddefnyddiol.
Finally, I was pleased to note that Professor Laura McAllister mentioned to a conference last week on the development of this institution the commitment we have had as committees to improving our own performance as scrutineers. We should all be proud of that, whichever committee we sit on. I believe that the Public Accounts Committee has played its part in ensuring that we undertake our role effectively, and we continue to look for opportunities to improve our own practice. Working with external advisers, we recently undertook a series of work on the scrutiny of the financial accounts of the Welsh Government, the Assembly Commission and Wales’s independent commissioners. We will soon be meeting our counterparts in the Republic of Ireland and looking at what we can learn from each other in improving our work. We are sure that their experience of ensuring value for money in times of dramatic reductions in public expenditure in the Republic will help the Public Accounts Committee as we look to the future. I commend the report to the Assembly. Yn olaf, rwy’n falch o nodi bod yr Athro Laura McAllister wedi crybwyll i gynhadledd ar ddatblygu'r sefydliad hwn yr wythnos diwethaf yr ymrwymiad fu gennym fel pwyllgorau i wella ein perfformiad ein hunain fel archwilwyr. Dylai pob un ohonom fod yn falch o hynny, pa bynnag bwyllgor yr ydym yn eistedd arno. Credaf fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi chwarae ei ran i sicrhau ein bod yn cyflawni ein swyddogaeth yn effeithiol, ac rydym yn parhau i chwilio am gyfleoedd i wella ein harfer ein hunain. Gan weithio gydag ymgynghorwyr allanol, yn ddiweddar cynhaliwyd cyfres o waith gennym ar graffu ar gyfrifon ariannol Llywodraeth Cymru, Comisiwn y Cynulliad a chomisiynwyr annibynnol Cymru. Byddwn yn fuan yn cwrdd â'n cymheiriaid yng Ngweriniaeth Iwerddon ac yn edrych ar yr hyn y gallwn ei ddysgu oddi wrth ein gilydd i wella ein gwaith. Rydym yn sicr y bydd eu profiad hwy o sicrhau gwerth am arian ar adegau o ostyngiadau tra sylweddol mewn gwariant cyhoeddus yn y Weriniaeth yn helpu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wrth i ni edrych tua'r dyfodol. Cymeradwyaf yr adroddiad i'r Cynulliad.
17:16 - Jenny Rathbone
Darren Millar has already outlined to you some of the detail of the work that we have been carrying out that has been included in the report for 2013-14. It is absolutely right that the Public Accounts Committee should be looking very carefully at how Wales is spending its budgets at a time of financial constraints and shrinking budgets. It is essential that we endeavour to ensure that money is being well spent. Mae Darren Millar eisoes wedi amlinellu i chi rywfaint o fanylion y gwaith yr ydym wedi bod yn ei gynnal sydd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad ar gyfer 2013-14. Mae'n hollol iawn y dylai'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod yn edrych yn ofalus iawn ar sut mae Cymru yn gwario ei chyllidebau ar adeg o gyfyngiadau ariannol a chyllidebau yn crebachu. Mae'n hanfodol ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod arian yn cael ei wario'n dda.
Unlike some of the Members on my own benches, I do not think that we in the Public Accounts Committee have become the second health committee. I think it is entirely appropriate that, as Darren Millar said, four of the nine reports that we have done have been on health. I would like to say that those of us who are not representing north Wales constituencies were just as concerned about the failures of governance at Betsi Cadwaladr, because it says a great deal about the processes that need to be in place to ensure that non-executives of boards are doing the job that they are appointed to do. Yn wahanol i rai o'r Aelodau ar fy meinciau fy hun, nid wyf yn credu ein bod ni yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi dod yn ail bwyllgor iechyd. Rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol, fel y dywedodd Darren Millar, bod pedwar o'r naw adroddiad yr ydym wedi'u gwneud wedi bod ar iechyd. Hoffwn ddweud bod y rhai ohonom nad ydym yn cynrychioli etholaethau’r gogledd yr un mor bryderus am y methiannau llywodraethu yn Betsi Cadwaladr, oherwydd ei fod dweud llawer am y prosesau y mae angen iddynt fod ar waith i sicrhau bod swyddogion anweithredol o fyrddau yn gwneud y gwaith y maent wedi eu penodi i’w wneud.
I just want to use the rest of my time to discuss something else that we also looked at. Darren Millar made mention of the fact that we had been looking at our own initiated reports and that we were not just dependent on what the auditor general’s office was doing. One of these that we will be discussing in future is on senior officers’ pay. I absolutely do not wish to breach any embargoes or speak about reports that have yet to be finalised, so I will confine my remarks to three reports already produced by the Auditor General for Wales. These are reports on Caerphilly, Carmarthenshire and Pembrokeshire councils. In all three councils, chief executives were inappropriately involved in setting their own pay and benefits, and councillors failed to take independent advice on what was fair and in the public interest. Rwyf eisiau defnyddio gweddill fy amser i drafod rhywbeth arall yr edrychwyd arno hefyd. Soniodd Darren Millar am y ffaith ein bod wedi bod yn edrych ar ein hadroddiadau a gychwynnwyd gennym ni ein hunain ac nad oeddem yn dibynnu dim ond ar yr hyn yr oedd swyddfa'r archwilydd cyffredinol yn ei wneud. Mae un o'r rhain y byddwn yn ei drafod yn y dyfodol yn ymwneud â chyflog uwch swyddogion. Nid wyf ar unrhyw gyfrif yn dymuno torri unrhyw embargo na siarad am adroddiadau nad ydynt wedi eu cwblhau eto, felly cyfyngaf fy sylwadau i dri adroddiad a gynhyrchwyd eisoes gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Adroddiadau ar gynghorau Caerffili, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yw’r rhain. Ym mhob un o’r tri chyngor, roedd prif weithredwyr yn amhriodol wedi cymryd rhan mewn gosod eu cyflogau a’u budd-daliadau eu hunain, a methodd cynghorwyr â chymryd cyngor annibynnol ar yr hyn a oedd yn deg ac er lles y cyhoedd.
Of course, in the case of Pembrokeshire, there has been an extremely controversial turn of events. Until the end of this week, Bryn Parry-Jones remains the highest-paid chief executive of any local authority in Wales, receiving almost £195,000, plus benefits in kind. Many people will be utterly dismayed that, when he steps down on 31 October, he will be taking with him a severance package of a third of £1 million. This was after Pembrokeshire councillors passed a vote of no confidence in him on 12 September by 46 votes to three. Yet the vote taken in private last week to award him this very large sum of money was only won by 29 votes to 23—with eight councillors being absent when the largess was voted on. Had the absent councillors been there to be involved in that decision, it could have been overturned. It would even appear that one member of the ruling independent Pembrokeshire party group was so apoplectic at the determination of the council leader to vote on this pay-off in private that he had to be taken to hospital. Wrth gwrs, yn achos Sir Benfro, bu digwyddiad hynod ddadleuol. Hyd at ddiwedd yr wythnos hon, mae Bryn Parry-Jones yn parhau i fod y prif weithredwr sy’n cael y cyflog uchaf o unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru, gan dderbyn bron i £195,000, yn ogystal â buddion mewn nwyddau. Bydd llawer o bobl yn hollol siomedig, pan fydd yn rhoi’r gorau iddi ar 31 Hydref, y bydd yn mynd â phecyn diswyddo gydag ef o draean o £1 filiwn. Roedd hyn ar ôl i gynghorwyr Sir Benfro basio pleidlais o ddiffyg hyder ynddo ar 12 Medi o 46 pleidlais i dair. Er hynny cafodd y bleidlais a gymerwyd yn breifat yr wythnos diwethaf i ddyfarnu’r swm mawr iawn hwn o arian iddo ei hennill o 29 pleidlais i 23 yn unig—gydag wyth cynghorydd yn absennol pan gynhaliwyd pleidlais ar yr haelioni. Pe byddai’r cynghorwyr absennol wedi bod yno i gymryd rhan yn y penderfyniad hwnnw, gellid bod wedi ei wrthdroi. Mae’n ymddangos hyd yn oed bod un aelod o grŵp y blaid Sir Benfro annibynnol sy’n rheoli wedi cynhyrfu cymaint am benderfyniad arweinydd y cyngor i bleidleisio ar dalu’r arian hwn yn breifat, fel y bu’n rhaid ei gludo i'r ysbyty.
I would like to remind Members that the WAO investigation and conclusion was that cash payments made to the chief executive and other senior officers instead of to the local government pension contributions was a way of dodging taxes and was unlawful, because the council does not have the power to remunerate staff to mitigate the effect of pensions legislation, and senior officers who had a disqualifying personal and pecuniary interest in the decision participated in the decision-making process. These are very serious issues. Hoffwn atgoffa'r Aelodau bod ymchwiliad Swyddfa Archwilio Cymru wedi dod i’r casgliad bod taliadau arian parod a wnaed i gweithredol brif uwch swyddogion ac eraill yn hytrach nag i’r cyfraniadau pensiwn llywodraeth leol yn ffordd o osgoi trethi ac yn anghyfreithlon, gan nad oes gan y cyngor y pŵer i dalu staff i liniaru effaith deddfwriaeth pensiynau, ac fe wnaeth uwch swyddogion a oedd â buddiant personol ac ariannol anghymwyso yn y penderfyniad gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae'r rhain yn faterion difrifol iawn.
Perhaps most worryingly, the severance payment brings to a premature halt the independent investigation into the chief executive’s conduct following allegations of bullying and misconduct. This included offering to set a private investigator on to the independent auditor of grants and payments into Pembroke Dock. In addition, it brings to a halt the council’s own independent investigation of its disciplinary committee, which will now not run its full course. That would perhaps have been the last opportunity to hold this whole sorry saga to account. I am sure that the residents of Pembrokeshire are extremely displeased. We await further reports from the auditor general, who has referred this report to the assistant auditor general. Efallai mai’r hyn sy’n codi’r pryder mwyaf yw bod y taliad diswyddo yn golygu diwedd cynnar i ymchwiliad annibynnol i i ymddygiad y prif weithredwr yn dilyn honiadau o fwlio a chamymddwyn. Roedd hyn yn cynnwys cynnig gosod ymchwilydd preifat ar yr archwilydd annibynnol ar grantiau a thaliadau yn Noc Penfro. Hefyd, mae'n dod ag ymchwiliad annibynnol y Cyngor ei hun o'i bwyllgor disgyblu i ben, ac na fydd bellach yn parhau i’w ddiwedd naturiol. Byddai hynny o bosibl wedi bod y cyfle olaf i ddal yr holl saga druenus i gyfrif. Rwy’n siŵr bod trigolion Sir Benfro yn hynod anfodlon. Rydym yn aros am adroddiadau pellach gan yr archwilydd cyffredinol, sydd wedi atgyfeirio’r adroddiad hwn i’r archwilydd cyffredinol cynorthwyol.
17:21 - Alun Ffred Jones
Mi fyddaf yn fyr ac mi wnaf jest gyfeirio at yr adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi, yn hytrach na rhywbeth a allai ddod yn y dyfodol. I will be brief and I will simply refer to the published report, rather than something that may emerge in the future.
Nid oeddwn yn rhan o’r pwyllgor tan yn gymharol ddiweddar, felly mae nifer o’r ymchwiliadau hyn sy’n cael eu cynnwys yn yr adroddiad wedi digwydd cyn imi ddod yno, ac felly nid wyf eisiau manylu’n ormodol ar gynnwys yr adroddiad, sy’n un cynhwysfawr iawn, wrth gwrs. Y perygl i’r pwyllgor hwn yw ei fod yn ceisio gwneud gormod, gan fethu rhoi amser digonol i’r ymchwiliadau mae’n ymgymryd â nhw. Mae adroddiadau’r archwilydd cyffredinol, sy’n aml yn sail i waith y pwyllgor, yn drwyadl ac yn werthfawr iawn. Felly, mae’n rhaid i’r pwyllgor geisio ychwanegu gwerth at waith yr archwilydd cyffredinol, nid ei ddyblygu. Mae yna ddywediad, ‘gormod o bwdin dagith gi’, ac mae perygl i hynny ddigwydd i’r pwyllgor hwn, er gwaethaf y gefnogaeth gref gan y staff ac arweiniad yr archwilydd cyffredinol y mae’r Cadeirydd wedi cyfeirio ato. I was not a member of the committee until relatively recently, therefore many of these inquiries included in the report happened before my time, and so I do not want to go into too much detail on the content of the report, which is very comprehensive, of course. The risk for this committee is that it attempts to do too much, failing to give adequate time to the inquiries that it undertakes. The auditor general’s reports, which often are the basis of the committee’s work, are very thorough and very valuable indeed. Therefore, the committee must try to add value to the auditor general’s work, rather than duplicating it. There is a saying that you can have too much of a good thing, and that is a risk for this committee, despite the strong support provided by the staff and the leadership and guidance provided by the auditor general, which the Chair has already mentioned.
Fodd bynnag, nid is-bwyllgor i’r archwilydd cyffredinol yw’r pwyllgor arbennig hwn, wrth gwrs. Felly, rwy’n gefnogol iawn o’r bwriad i gael patrwm newydd o waith i’r pwyllgor yn y dyfodol lle bydd yn torri ei gwys ei hun i ryw raddau. Bydd hynny, rwy’n gobeithio, yn arwain at ychwanegu gwerth ac at ymchwiliadau a fydd o ddiddordeb i’r pwyllgor, ac, wrth wneud hynny, yn sicrhau bod perfformiad ein gwasanaethau cyhoeddus yn gwella a bod pobl Cymru yn cael gwell gwerth am arian. However, this committee is not a sub-committee for the auditor general, of course. Therefore, I am very supportive of the intention to have a new pattern of work for the committee in the future where it will plough its own furrow to an extent. That will, I hope, add value and lead to inquiries that will be of interest to the committee, and, in doing so, will ensure that the performance of public services improves and that the people of Wales get better value for money.
Felly, tra fy mod yn gefnogol iawn i’r gwaith mae’r pwyllgor wedi’i wneud yn y gorffennol, rwy’n edrych ymlaen hefyd at y dull newydd o weithio lle bydd mwy o fewnbwn, mae’n debyg, o ran y pynciau, gan aelodau’r pwyllgor, gan gydnabod y gefnogaeth gref sy’n dod gan yr archwilydd cyffredinol ac sy’n sail i lawer iawn o’r ymchwiliadau, yn anochel. Gyda hynny o eiriau, rwy’n gefnogol iawn, wrth gwrs, i’r adroddiad fel y mae wedi’i gyflwyno. So, while I am very supportive of the work that the committee has done in the past, I also look forward to this new approach where there will be greater input from committee members in terms of the issues addressed, while acknowledging the strong support provided by the auditor general, which is the foundation of many of the inquiries, inevitably. With those few words, I am very supportive, of course, of the report as tabled.
17:24 - Aled Roberts
Yn wahanol i Alun Ffred Jones, rwyf wedi bod ar y pwyllgor hwn ers imi ddod lawr i’r Cynulliad. I ddweud y gwir, nid oeddwn yn siŵr beth i’w ddisgwyl ac roeddwn yn meddwl efallai nad oedd y pwyllgor hwn yn ymwneud â’r hyn sydd o ddiddordeb i mi o ran llywodraeth leol. Fodd bynnag, a dweud y gwir, rwyf wedi mwynhau pob munud o’r pwyllgor, er, fel roedd Alun Ffred wedi ei gyfeirio ato, rwy’n meddwl bod cyfnod mwy cyffrous yn ein hwynebu rŵan, lle nad ydym jest yn derbyn adroddiadau gan yr archwilydd cyffredinol ac yn rhannu ein rhaglen o achos hynny—bydd modd i ni, fel pwyllgor, bennu materion yr ydym yn ymddiddori ynddynt. In contrast to Alun Ffred Jones, I have been on this committee since I came to the Assembly. To tell the truth, I was not really sure what to expect and thought perhaps this committee was not involved in what was of interest to me in terms of local government. However, to tell the truth, I have enjoyed every minute of the committee, although, as Alun Ffred has mentioned, I think that there is a more exciting period facing us now, where we are not just accepting reports from the auditor general and sharing that programme—there will be an opportunity for us, as a committee, to explore issues that we are interested in.
Fodd bynnag, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig hefyd fod yr adroddiad blynyddol hwn yn cael ei gyflwyno i’r Cynulliad, achos, i ryw raddau, hwyrach fod Aelodau eraill yn gallu gweld maint y gwaith sy’n cael ei gyflwyno, a’r ffaith bod y Cadeirydd wedi dweud bod dros 130 o argymhellion wedi cael eu rhoi ger bron y Llywodraeth iddi eu hystyried. However, I think that it is important that this annual report is presented to the Assembly, because, to a certain extent, then maybe other Members can see the magnitude of the work that is done, and the fact the Chair has said that there are more than 130 recommendations that have been put before the Government for it to consider.
Ar adegau, nid yw’r cyfnod hwn wedi bod yn un cyfforddus iawn i rywun o’r gogledd; mae dau o’r prif adroddiadau yn ymwneud â River Lodge yn Llangollen a Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr. O ran River Lodge, rwy’n meddwl bod ymchwiliad y pwyllgor wedi mynd llawer iawn ymhellach na’r hyn a oedd o fewn adroddiad yr archwilydd cyffredinol, achos roedd materion yn dod i’r amlwg o ran y ffordd y mae’r sefydliad hwn, neu’r Llywodraeth, yn adlewyrchu profiadau San Steffan yn hytrach na realiti gwleidyddol y lle hwn, lle’r oedd arferion wedi codi ynglŷn â pheidio â rhannu gwybodaeth rhwng Gweinidogion o un Llywodraeth a’r llall. Mae’n rhaid inni, hwyrach, ailystyried y ffordd y mae’r gwasanaeth sifil yn ymwneud â phethau wrth inni symud ymlaen. At times, this has not been a very comfortable period for someone from north Wales; two of the main reports relate to River Lodge in Llangollen and Betsi Cadwaladr University Local Health Board. In terms of River Lodge, I think that the committee’s inquiry went a lot further than what was in the auditor general’s report, because there were issues that emerged in terms of the way in which this institution, or the Government, reflects the experiences of Westminster rather than the political reality of this place, where practices had arisen in terms of not sharing information between Ministers from one Government to another. Perhaps we need to reconsider the way in which the civil service is involved as we move forward.
Nid wyf yn siŵr iawn a ydym wedi cyrraedd pwynt efo’r adroddiad arbennig hwnnw lle bod ein canfyddiadau, fel pwyllgor, yn bodloni rhai o’r bobl yn y gogledd. Roeddent yn teimlo nad oedd rhai o’r materion wedi dod i’r amlwg fel yr oeddent yn credu y dylent, ac mae hynny wedi creu sefyllfa braidd yn anodd i rai ohonom. I am not sure that we have reached a point with that particular report where our findings as a committee satisfy some of the people in north Wales. They felt that some of the issues had not been highlight as they would wish, and that has created quite a difficult situation for some of us.
Fodd bynnag, rwy’n teimlo mai’r prif adroddiad yr ydym wedi’i ystyried yn ystod y flwyddyn, yn amlwg, yw’r un ar y bwrdd iechyd. Nid wyf yn meddwl bod hyd yn oed yr aelodau hynny o’r pwyllgor sy’n dod o’r gogledd yn sylweddoli yn llawn pa mor ddiffygiol oedd y ffordd yr oedd y bwrdd ei hun yn gweithio. Mae’n debyg, hefyd, fod rhai ohonom wedi cwestiynu pam y cymerodd cymaint o amser i’r Llywodraeth ymateb cyn i rai o’r diffygion hynny gael eu hwynebu. However, I feel that the main report that we have considered over the year, evidently, is that on the health board. I do not think that even those members of the committee who come from north Wales realised fully how deficient the way in the board worked was. It appears that some of us are also questioning why it took so long for the Government to respond before some of those deficiencies were faced.
Rwy’n meddwl, wrth symud ymlaen, mai’r her i ni, fel pwyllgor, yw sicrhau bod rhai o’r argymhellion a oedd yn cael eu cyflwyno ar ran pob bwrdd iechyd ar draws Cymru yn cael eu gweithredu. Mae nifer ohonom yn pryderu bod y sefyllfa wedi gwella ond nad yw’n dal i fod yn dderbyniol o ran y ffordd y mae’r bwrdd yn gweithredu ar hyn o bryd. Rwy’n meddwl, felly, o’n rhan ni, fel pwyllgor, mai’r her sydd o’n blaenau, wrth symud i gyfundrefn lle mae gennym yr adroddiadau blynyddol hyn, yw sicrhau nad yw’r adroddiadau hynny yn cael eu rhoi ar ryw fath o silff yn y llyfrgell, a’n bod yn mynd yn ôl at yr adroddiad blynyddol ac yn sicrhau bod y Llywodraeth wedi gweithredu ar ein hargymhellion, a hynny er budd y bobl sy’n dod atom ac yn ymddiddori yn ein gwaith gan eu bod yn anfodlon â’r gyfundrefn sydd ohoni. Rwy’n croesawu, felly, y ffaith bod yr adroddiad blynyddol hwn gennym, ac rwy’n diolch i fy nghyd-Aelodau am eu cydweithrediad yn ystod y flwyddyn. I think, in moving forward, the challenge for us as a committee is to ensure that some of the recommendations that we presented on behalf of all health boards across Wales are implemented. A number of us are concerned that the situation has improved but is still not acceptable in terms of how the board operates at present. I think, therefore, in terms of the committee, the challenge facing us, in moving to a system where we have these annual reports, is to ensure that those reports are not put on some kind of shelf in the library, and that we go back to the annual reports and ensure that the Government has acted upon our recommendations for the benefit of the people who come to us and take an interest in our work because they are dissatisfied with the current system. So, I welcome the fact that we have this annual report, and I thank my fellow Members for their collaboration over the year.
17:29 - Rhodri Glyn Thomas
Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth i siarad—Jane Hutt. I call on the Minister for Finance and Government Business to speak—Jane Hutt.
17:29 - Jane Hutt
Diolch yn fawr. I am very pleased to have the opportunity to take part in this debate and to respond on behalf of the Government. Since the Public Accounts Committee was established in 2011, it has reviewed many aspects of Government expenditure and has, undoubtedly, helped to shape the way in which the Welsh Government thinks on a wide range of subject areas, from hospital catering to the management of grants. I think that the role of the committee, in parallel with that of the Auditor General for Wales and the Wales Audit Office, ensures that the Welsh Government has an independent view of how we are spending taxpayers’ money, and that is, of course, critical. Diolch yn fawr. Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon ac i ymateb ar ran y Llywodraeth. Ers i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gael ei sefydlu yn 2011, mae wedi adolygu sawl agwedd ar wariant y Llywodraeth ac mae, heb amheuaeth, wedi helpu i lunio'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn meddwl ar ystod eang o feysydd pwnc, o arlwyo mewn ysbytai i reoli grantiau. Credaf fod swyddogaeth y pwyllgor, ochr yn ochr â swyddogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael golwg annibynnol ar sut yr ydym yn gwario arian y trethdalwyr, ac mae hynny, wrth gwrs, yn hanfodol.
In any democracy, the elected Government must be accountable to the people it serves and should also be willing to stand up to fair and balanced scrutiny. The cross-party membership of the committee ensures that the consensus view on each of the reviews undertaken is balanced and representative of all of the areas of Wales and all of the communities that we serve. The publication of an annual report is now an important step forward, I believe, in demonstrating this accountability to the people of Wales in an informed and proportionate way, and this report demonstrates that, behind headlines, there is genuine accountability and a genuine willingness on behalf of Government to accept constructive criticism, to act on it, and to continually improve the way in which we undertake our business on behalf of the people of Wales. Mewn unrhyw ddemocratiaeth, mae’n rhaid i Lywodraeth etholedig fod yn atebol i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu, a dylai hefyd fod yn barod i wrthsefyll craffu teg a chytbwys. Mae aelodaeth drawsbleidiol y pwyllgor yn sicrhau bod consensws barn ar bob un o'r adolygiadau a gynhelir yn gytbwys ac yn gynrychiadol o holl ardaloedd Cymru a phob un o'r cymunedau a wasanaethir gennym. Mae cyhoeddi adroddiad blynyddol erbyn hyn yn gam pwysig ymlaen, rwy’n credu, wrth ddangos yr atebolrwydd hwn i bobl Cymru mewn ffordd ddeallus a chymesur, ac mae'r adroddiad hwn yn dangos, y tu ôl i’r penawdau, bod atebolrwydd gwirioneddol a pharodrwydd gwirioneddol ar ran y Llywodraeth i dderbyn beirniadaeth adeiladol, i weithredu arni, ac i wella'n barhaus y modd yr ydym yn ymgymryd â'n busnes ar ran pobl Cymru.
The annual report before us today contains a record of the nine reviews undertaken by the committee. Members have commented on some of those reviews during this debate, but those are the record of this year’s work of the committee. The Government participated fully in all of these reviews and provided written and oral evidence to allow the committee to reach its conclusions. In total, these reviews resulted in 129 recommendations for the Government, all of which were accepted in full, partially or in principle. The fact that 91% of these recommendations were accepted in full demonstrates, I hope, the maturity of a Government that is committed to achieving real change and value for money in these challenging times. Mae'r adroddiad blynyddol sydd ger ein bron heddiw yn cynnwys cofnod o'r naw adolygiad a gynhaliwyd gan y pwyllgor. Mae aelodau wedi sôn am rai o'r adolygiadau hynny yn ystod y ddadl hon, ond dyna'r cofnod o waith y pwyllgor eleni. Mae'r Llywodraeth yn cymryd rhan lawn ym mhob un o'r adolygiadau hyn ac wedi rhoi tystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar i ganiatáu i'r pwyllgor gyrraedd ei gasgliadau. Arweiniodd yr adolygiadau hyn at gyfanswm o 129 o argymhellion ar gyfer y Llywodraeth, pob un ohonynt wedi eu derbyn yn llwyr, yn rhannol neu mewn egwyddor. Mae'r ffaith bod 91% o'r argymhellion hyn wedi eu derbyn yn llwyr yn dangos, rwy’n gobeithio, aeddfedrwydd Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i gyflawni newid gwirioneddol a gwerth am arian yn y cyfnod heriol hwn.
Perhaps I will just comment on the report into grants management in Wales, which is an excellent example—and Darren Millar, the Chair of the Public Accounts Committee, has commented on this—of the constructive and critically important impact of the Public Accounts Committee. It does ensure that we are regularly scrutinised, and, as your Minister for finance, I am regularly scrutinised, on how we are implementing the recommendations of the grants management report and review. Also, the commitment to having an annual report ensures that this is not a one-off event and that this is an annual review of progress. Efallai y byddaf yn gwneud sylw ar yr adroddiad ar reoli grantiau yng Nghymru yn unig, sy'n enghraifft ragorol —ac mae Darren Millar, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, wedi gwneud sylw ar hyn—ar effaith adeiladol a hollbwysig y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mae'n sicrhau bod craffu rheolaidd arnom, ac, fel eich Gweinidog cyllid, mae craffu rheolaidd arnaf innau, ar y modd yr ydym yn gweithredu argymhellion yr adroddiad a’r adolygiad rheoli grantiau. Hefyd, mae'r ymrwymiad i gael adroddiad blynyddol yn sicrhau nad yw hyn yn ddigwyddiad unwaith ac am byth a bod hyn yn adolygiad blynyddol o gynnydd.
I will not revisit all of the reviews now, but I think that the fact that we respond to each review is documented, and the fact that we stand by the commitments that we have made is important—and clearly that includes lessons learned, which will change the way we act and deliver in Government. In some cases, the issues covered by the reviews have moved on, and there will be individual points that Members would like to address and will still have the opportunity to raise, and, indeed, some have done so today, in terms of ongoing concerns and issues. However, the importance of this debate is to reflect on the work of the committee. Nid wyf am sôn am yr holl adolygiadau yn awr, ond credaf fod y ffaith ein bod yn ymateb i bob adolygiad yn cael ei ddogfennu, ac mae'r ffaith ein bod yn sefyll wrth yr ymrwymiadau yr ydym wedi'u gwneud yn bwysig—ac yn amlwg mae hynny’n cynnwys gwersi a ddysgwyd, a fydd yn newid y ffordd yr ydym yn gweithredu a chyflawni yn y Llywodraeth. Mewn rhai achosion, mae'r materion a gwmpesir gan yr adolygiadau wedi symud ymlaen, a bydd pwyntiau unigol y bydd Aelodau'n dymuno mynd i'r afael â nhw ac y bydd ganddynt y cyfle i’w codi o hyd, ac, yn wir, mae rhai wedi gwneud hynny heddiw, o ran y pryderon a materion parhaus. Fodd bynnag, pwysigrwydd y ddadl hon yw myfyrio ar waith y pwyllgor.
It is also important for me to say again, as the Minister responding on behalf of the whole of the Welsh Government, that the work of the committee is, I believe, a critical part of the process of government, and I think we welcome the fact that the Chair and committee members have commented on ways they can strengthen the role of the committee in the future. Alun Ffred Jones refers to a new approach and Aled Roberts to perhaps a more exciting phase. The work that has been done is very important, but you can build on your experience over and above the vital work of the auditor general and the Wales Audit Office, which you are fully engaged with, in terms of advice and briefing and in reviewing those important reports. Mae hefyd yn bwysig i mi ddweud eto, fel y Gweinidog sy’n ymateb ar ran Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd, bod gwaith y pwyllgor, rwy’n credu, yn rhan hanfodol o'r broses o lywodraethu, ac rwy’n credu ein bod yn croesawu'r ffaith bod y Cadeirydd ac aelodau’r pwyllgor wedi gwneud sylwadau ar y ffyrdd y gallant gryfhau swyddogaeth y pwyllgor yn y dyfodol.  Mae Alun Ffred Jones yn cyfeirio at ymagwedd newydd ac Aled Roberts at gyfnod mwy cyffrous efallai. Mae'r gwaith sydd wedi'i wneud yn bwysig iawn, ond gallwch adeiladu ar eich profiad yn ychwanegol at waith hanfodol yr archwilydd cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru, yr ydych yn ymgysylltu’n llawn â nhw, o ran cyngor a briffio ac wrth adolygu’r adroddiadau pwysig hynny.
Finally, on behalf of the Government, I would like to thank Darren Millar, the Chair of the Public Accounts Committee, and all the committee members for the work that they have done and continue to do. Yn olaf, ar ran y Llywodraeth, hoffwn ddiolch i Darren Millar, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a holl aelodau'r pwyllgor am y gwaith y maent wedi'i wneud ac yn parhau i’w wneud.
17:34 - Rhodri Glyn Thomas
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ymateb i’r ddadl. I call on the Chair of the Public Accounts Committee to reply to the debate.
17:34 - Darren Millar
I thank Members for their contribution to this afternoon’s debate. As I said, it was a broad-ranging report that we were presenting to the Assembly, so it does not surprise me that we have covered a great deal of territory. It is appropriate that we talk about the work that is in the pipeline in the current year, because there are matters of concern that the committee takes the time to look at and investigate, and senior management pay has been a big theme of our work in the run-up to the production of our report, which is in the process of being finalised. I think that it is fair to say that in terms of our senior management pay inquiry, we are not just looking at local government: we have been looking at the national health service, at the Welsh Government’s pay processes, and at further education, higher education and other parts of the public sector. It is quite right that we should do that and leave no stone unturned. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniad i'r ddadl y prynhawn yma. Fel y dywedais, roedd yn adroddiad eang ei gwmpas yr oeddem yn ei gyflwyno i'r Cynulliad, felly nid yw'n syndod i mi ein bod wedi cynnwys llawer iawn o feysydd. Mae'n briodol ein bod yn sôn am y gwaith sydd ar y gweill yn y flwyddyn gyfredol, gan fod materion o bryder y mae’r pwyllgor yn cymryd yr amser i edrych arnynt a’u hymchwilio, ac mae cyflog uwch reolwyr wedi bod yn thema fawr o’n gwaith yn y cyfnod yn arwain at gynhyrchu ein hadroddiad, sydd yn y broses o gael ei gwblhau. Rwy’n credu ei bod yn deg i ddweud o ran ein hymchwiliad i gyflogau uwch reolwyr, ein bod nid yn unig yn edrych ar lywodraeth leol: rydym wedi bod yn edrych ar y gwasanaeth iechyd gwladol, ar brosesau cyflog Llywodraeth Cymru, ac ar addysg bellach, addysg uwch a rhannau eraill o'r sector cyhoeddus. Mae'n hollol iawn y dylem wneud hynny a sicrhau nad ydym yn gadael unrhyw garreg heb ei throi.
May I thank the Minister for her contribution to today’s debate? It is always appreciated, I know, not just by me as Chair of the committee, but by committee members, when we hear the Government say how useful our work has been in helping to focus the attention of Government on making improvements and in the way in which it is a responsible steward of taxpayers’ money. You touched on one of the reports that is mentioned in terms of hospital food, and of course there is a great deal of work still to do in driving up the quality of hospital food, dealing with the waste that is out there in the system as well. However, I think it is fair to say that, not just in the last financial year, on which the report is based, but also in previous financial years, we have had a very good relationship with the Welsh Government. That is why we saw the Public Audit (Wales) Act 2013 come forward in Wales and, of course, we also helped to initiate the National Health Service Finance (Wales) Act 2014, which is now in place in Wales. All of these things have come as a result of recommendations that have been made in our reports and then taken forward by Government. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei chyfraniad i ddadl heddiw. Mae'n cael ei werthfawrogi bob amser, rwy’n gwybod, nid yn unig gennyf i fel Cadeirydd y pwyllgor, ond gan aelodau'r pwyllgor, pan fyddwn yn clywed y Llywodraeth yn dweud pa mor ddefnyddiol y mae ein gwaith wedi bod o ran helpu i ganolbwyntio sylw'r Llywodraeth ar wneud gwelliannau ac yn y ffordd y mae'n stiward cyfrifol o arian trethdalwyr. Roeddech yn sôn am un o'r adroddiadau sy'n cael ei grybwyll o ran bwyd mewn ysbytai, ac wrth gwrs mae llawer iawn o waith i'w wneud o hyd o ran gwella ansawdd y bwyd mewn ysbytai, ymdrin â'r gwastraff sydd allan yna yn y system hefyd. Fodd bynnag, credaf ei bod yn deg i ddweud, nid yn unig yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, y mae'r adroddiad hwn yn seiliedig arni, ond hefyd yn y blynyddoedd ariannol blaenorol, ein bod wedi cael perthynas dda iawn gyda Llywodraeth Cymru. Dyna pam y gwelsom Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 yn cael ei chyflwyno yng Nghymru ac, wrth gwrs, rydym hefyd wedi helpu i gychwyn Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014, sydd bellach ar waith yng Nghymru. Mae pob un o'r pethau hyn wedi dod o ganlyniad i'r argymhellion a wnaed yn ein hadroddiadau ac a ddatblygwyd gan y Llywodraeth.
I was very pleased to hear the members of the committee who spoke make reference to our new working practices and the opportunity that they present to the committee to improve the quality of the work that we do—to do a better job, really, of holding not just the Government to account, but other accounting officers who are responsible for looking after taxpayers’ money, including the independent commissioners that are given money. It was a surprise, really, I think, for committee members to hear the Children’s Commissioner for Wales, who came before the committee just a few weeks ago, say that it was the first time he had ever been held to account for the money that he had spent in any financial year. It is quite astonishing, really, when you hear comments like that coming forward from commissioners. So, we are going to be ploughing our own furrow a lot more in the future, setting up our own inquiries, and not just waiting for a report to hit our desks from the Wales Audit Office and the auditor general, as important as the reports that they produce actually are. Roeddwn yn falch iawn o glywed aelodau'r pwyllgor a siaradodd yn cyfeirio at ein harferion gwaith newydd a'r cyfle y maent yn eu cyflwyno i'r pwyllgor i wella ansawdd y gwaith yr ydym yn ei wneud—i wneud y gwaith yn well, mewn gwirionedd, o ddwyn nid yn unig y Llywodraeth i gyfrif, ond swyddogion cyfrifyddu eraill sy'n gyfrifol am ofalu am arian y trethdalwyr, gan gynnwys y comisiynwyr annibynnol y rhoddir arian iddyn nhw. Roedd yn syndod, mewn gwirionedd, rwy’n meddwl, i aelodau'r pwyllgor glywed Comisiynydd Plant Cymru, a ddaeth gerbron y pwyllgor dim ond ychydig wythnosau yn ôl, yn dweud mai hwn oedd y tro cyntaf erioed iddo gael ei ddwyn i gyfrif am yr arian yr oedd wedi’i wario mewn unrhyw flwyddyn ariannol. Mae'n dra rhyfeddol, mewn gwirionedd, pan fyddwch yn clywed sylwadau felly yn dod gan gomisiynwyr. Felly, rydym yn mynd i fod yn torri ein cwys ein hunain lawer mwy yn y dyfodol, sefydlu ein hymholiadau eu hunain, ac nid dim ond aros i adroddiad gyrraedd ar ein desgiau o Swyddfa Archwilio Cymru a'r archwilydd cyffredinol, er mor bwysig yw’r adroddiadau y maent yn eu cynhyrchu mewn gwirionedd.
Just turning very briefly to the issues of governance within the health service, of course, we did do a major piece of work in the wake of the breakdown in arrangements in north Wales, in Betsi Cadwaladr University Local Health Board. We are continuing to revisit not only that health board, but actually we are going to be taking evidence as a committee in the near future from Abertawe Bro Morgannwg University Local Health Board about the governance arrangements there. Of course, this theme of governance, and the need for good governance, is something that has run through the whole work stream of the committee, really, over the past few years, and I have no doubt whatsoever that it will be a much more important feature of our work as well, going forward. Gan droi yn fyr iawn at y materion llywodraethu o fewn y gwasanaeth iechyd, wrth gwrs, fe wnaethom ddarn sylweddol o waith yn sgil y chwalfa mewn trefniadau yn y gogledd, ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rydym yn parhau i ailedrych nid yn unig ar y bwrdd iechyd hwnnw, ond mewn gwirionedd rydym yn mynd i fod yn cymryd tystiolaeth fel pwyllgor yn y dyfodol agos gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg am y trefniadau llywodraethu yno. Wrth gwrs, mae’r thema hon o lywodraethu, a'r angen am lywodraethu da, yn rhywbeth sydd wedi rhedeg drwy holl ffrwd waith y pwyllgor, mewn gwirionedd, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac nid oes gennyf amheuaeth o gwbl y bydd yn rhan lawer pwysicach o'n gwaith ninnau hefyd, yn y dyfodol.
Aled Roberts was quite right to say that not all of our reports please everybody, once they are published. Indeed, there are people who still contact me about some of the recommendations we have made in reports that we have published in the past year. However, they are, of course, reports on which there is cross-party agreement and reports for which we have collectively, based on the evidence that we have received, drawn our findings and made our recommendations. I do think that we can be very proud of what we have achieved over the past 12 months in terms of the work that we have done. Roedd Aled Roberts yn llygad ei le i ddweud nad yw pob un o'n hadroddiadau yn plesio pawb, ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi. Yn wir, mae yna bobl sy'n dal i gysylltu â mi ynglŷn â rhai o'r argymhellion a wnaed gennym mewn adroddiadau yr ydym wedi'u cyhoeddi yn y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, maent, wrth gwrs, yn adroddiadau lle y ceir cytundeb trawsbleidiol arnynt ac yn adroddiadau lle’r ydym ar y cyd, ar sail y dystiolaeth a gawsom, wedi dod i’n casgliadau a gwneud ein hargymhellion. Credaf y gallwn fod yn falch iawn o'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni dros y 12 mis diwethaf o ran y gwaith yr ydym wedi'i wneud.
I very much look forward to bringing our next annual report, this time next year, before the Assembly for debate. I look forward to hearing Members’ contributions and I hope that, in the meantime, we will be able to see further progress on the implementation of the recommendations that we have made in the current financial year. I commend the report to the Assembly. Diolch. Edrychaf ymlaen yn fawr iawn at ddod â’n hadroddiad blynyddol nesaf, yr adeg yma'r flwyddyn nesaf, gerbron y Cynulliad i'w drafod. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau ac rwy’n gobeithio, yn y cyfamser, y byddwn yn gallu gweld cynnydd pellach ar weithredu'r argymhellion a wnaed gennym yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Cymeradwyaf yr adroddiad i'r Cynulliad. Diolch.
17:39 - Rhodri Glyn Thomas
Y cynnig yw nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. A oes unrhyw wrthwynebiad? Na, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. The proposal is to note the report of the Public Accounts Committee. Are there any objections? No, so the motion is agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Dadl Fer: Anodd ei Stumogi: Clefyd Seliag a'r Angen I Wella'r Ddarpariaeth o Fwyd heb Glwten yng Nghymru Short Debate: Hard to Stomach: Coeliac Disease and the Need for Improved Provision of Gluten-free Foods in Wales
17:39 - Rhodri Glyn Thomas
Symudwn at y ddadl fer, a galwaf ar Aled Roberts i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. Os ydych yn gadael y Siambr, a allwch wneud hynny yn gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda? We now move to the short debate, and I call on Aled Roberts to speak on the topic he has chosen. If you are leaving the Chamber, can you do so quickly and quietly, please?
17:39 - Aled Roberts
Rwy’n falch iawn o’r cyfle i gyflwyno’r ddadl heddiw. Rwyf wedi cytuno bod Jeff Cuthbert, Rhun ap Iorwerth a Mike Hedges yn cael cyfrannu at y ddadl. I am very pleased to have the opportunity to introduce this debate today. I have agreed that Jeff Cuthbert, Rhun ap Iorwerth and Mike Hedges may contribute to the debate.
Coeliac disease is a chronic autoimmune disease where the body’s immune system attacks its own tissues when someone consumes food containing gluten. It is not an allergy or food intolerance, as I and many others have assumed. It is relatively common, with one in 100 people having the disease, although it is known that many people are not diagnosed. In fact, less than a quarter of those with coeliac disease in the UK have received a medical diagnosis at any time. It is estimated that around 0.5 million people with coeliac disease in the UK are as yet undiagnosed. It is amazing that the average time from the onset of symptoms to diagnosis, even today, is 13 years. Mae clefyd seliag yn glefyd awto-imiwn cronig lle mae system imiwnedd y corff yn ymosod ar ei feinweoedd ei hun pan fydd rhywun yn bwyta bwyd sy'n cynnwys glwten. Nid alergedd nac anoddefiad bwyd mohono, fel yr wyf i a llawer o bobl eraill wedi tybio. Mae'n gymharol gyffredin, ac mae’r clefyd gan un o bob 100 o bobl, er ei bod yn hysbys bod llawer o bobl heb gael diagnosis. Mewn gwirionedd, mae llai na chwarter y rhai sydd â chlefyd seliag yn y DU wedi cael diagnosis meddygol ar unrhyw adeg. Amcangyfrifir bod tua 0.5 miliwn o bobl â chlefyd seliag yn y DU heb dderbyn diagnosis hyd yn hyn. Mae'n anhygoel bod 13 mlynedd ar gyfartaledd yn mynd heibio rhwng dechrau'r symptomau a diagnosis, hyd yn oed heddiw.
People who suffer from coeliac disease are more likely to have other autoimmune conditions, such as type 1 diabetes and thyroid disease. If undiagnosed or a gluten-free diet is not strictly adopted, there is a higher risk among patients of having complications, such as osteoporosis, lymphoma and bowel cancer. The only treatment for coeliac disease is a lifelong strict gluten-free diet, and this is reflected in National Institute for Health and Care Excellence guidance. The existing guidance, however, provides information that relates to the testing and diagnosis of coeliac disease only, with no guidance on the treatment or management of the disease, aftercare, or support for adhering to the gluten-free diet. However, NICE is currently updating its guidance, which should be published in September 2015. Mae pobl sy'n dioddef o glefyd seliag yn fwy tebygol o fod â chyflyrau awto-imiwn eraill, fel diabetes math 1 a chlefyd thyroid. Os nac yw’r cleifion yn cael diagnosis neu os nad ydynt yn mabwysiadu deiet heb unrhyw glwten o gwbl, mae ganddynt risg uwch o gael cymhlethdodau, megis osteoporosis, lymffoma a chanser y coluddyn. Yr unig driniaeth ar gyfer clefyd seliag yw deiet heb ddim glwten am weddill eich oes, a chaiff hyn ei adlewyrchu yng nghanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Mae'r canllawiau presennol, fodd bynnag, yn rhoi gwybodaeth sy'n ymwneud â phrofi am glefyd seliag a diagnosis yn unig, heb unrhyw arweiniad ar y triniaethau na’r broses o reoli’r clefyd, ôl-ofal, neu gefnogaeth i gadw at y diet heb glwten. Fodd bynnag, mae NICE ar hyn o bryd yn diweddaru ei ganllawiau, a dylent gael eu cyhoeddi ym mis Medi 2015.
Coeliac UK has been doing some work on diagnosis and on the anecdotal evidence on long waiting times. It is thought that among the reasons for such long waits on diagnosis are the diversity of clinical presentations and misdiagnosis of irritable bowel syndrome. Significant inequalities in diagnosis among children have also been identified, with children from the most affluent socioeconomic groups having a diagnosis rate that is 80% higher than children from the most deprived socioeconomic backgrounds. Mae Coeliac UK wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith ar ddiagnosis ac ar y dystiolaeth anecdotaidd ar amseroedd aros hir. Credir mai un o'r rhesymau pam mae pobl yn aros yn hir am ddiagnosis yw amrywiaeth y cyflwyniadau clinigol a diagnosis anghywir o syndrom coluddyn llidus. Mae anghydraddoldebau sylweddol hefyd wedi cael eu nodi o ran diagnosis ymhlith plant, gyda’r gyfradd diagnosis ymhlith plant o’r grwpiau economaidd-gymdeithasol mwyaf cefnog 80% yn uwch nag ymhlith plant o’r cefndiroedd economaidd-gymdeithasol mwyaf difreintiedig.
There is a clear need to improve the diagnosis of coeliac disease. A lack of diagnosis generally means a lack of treatment and a lack of support, making the impact of the disease on people’s lives all the more significant and difficult to manage. The symptoms of undiagnosed coeliac disease are associated with prolonged and substantial detriment to their quality of life. Aside from the obvious benefits to the individual, the benefits of improving diagnosis rates for individuals include reduced risks of future health complications and increased general practitioner capacity, as visits for ongoing symptoms are avoided. Research conducted by Coeliac UK has suggested that patients visit their GP an average of 13 times to discuss their ongoing symptoms before a diagnosis is finally made. There is also the potential to reduce the average time to diagnosis through increased awareness among healthcare professionals and patient advocacy. The more medical professionals and members of the public are aware of coeliac disease and its symptoms, the more chance there is of its being quickly identified and properly treated. Mae angen clir i wella diagnosis o glefyd seliag. Mae diffyg diagnosis yn gyffredinol yn golygu diffyg triniaeth a diffyg cefnogaeth, gan wneud effaith y clefyd ar fywydau pobl yn fwy sylweddol ac anodd ei rheoli. Mae symptomau clefyd seliag heb ddiagnosis yn gysylltiedig â niwed hir a sylweddol i ansawdd bywyd. Ar wahân i'r manteision amlwg i'r unigolyn, mae’r manteision yn sgil gwella cyfraddau diagnosis ar gyfer unigolion yn cynnwys llai o risg o gymhlethdodau iechyd yn y dyfodol a rhyddhau amser meddygon teulu, gan fod ymweliadau ar gyfer symptomau parhaus yn cael eu hosgoi. Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Coeliac UK wedi awgrymu bod cleifion yn ymweld â'u meddyg teulu ar gyfartaledd 13 o weithiau i drafod eu symptomau parhaus cyn y bydd diagnosis yn cael ei wneud o'r diwedd. Ceir potensial hefyd i leihau'r amser cyfartalog tan y ceir diagnosis trwy godi ymwybyddiaeth ymysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwella eiriolaeth i gleifion. Po fwyaf y mae gweithwyr proffesiynol meddygol ac aelodau o'r cyhoedd yn ymwybodol o glefyd seliag a'i symptomau, y mwyaf o siawns sydd iddo gael ei ganfod yn gyflym a’i drin yn briodol.
Cross-contamination is a big problem when it comes to ensuring that food is prepared in a genuinely gluten-free way. Even a tiny amount of gluten can be enough to cause a reaction in those with coeliac disease. Again, there is an abundance of anecdotal evidence to demonstrate that people with coeliac disease frequently find that schools, hospitals and other public services are unable to cater for their requirements. Mae croeshalogi yn broblem fawr o safbwynt sicrhau bod bwyd yn cael ei baratoi mewn ffordd wirioneddol heb glwten. Gall hyd yn oed ychydig bach o glwten fod yn ddigon i achosi adwaith mewn rhai sydd â chlefyd seliag. Unwaith eto, mae digonedd o dystiolaeth anecdotaidd i ddangos bod pobl â chlefyd seliag yn aml yn canfod nad yw ysgolion, ysbytai a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn gallu darparu ar gyfer eu gofynion.
These shortcomings in the current provisions for coeliac sufferers are echoed in some of the personal experiences I have heard about from members of the public. For example, one lady contacted me saying that she had had two operations as a result of coeliac disease at the University Hospital of Wales in Cardiff. During her stay in hospital, her family had to bring in cooked meals as, each meal time, there was little or no provision for gluten-free food, and very little awareness of coeliac requirements. Another gentleman from Wrexham found that the hospital’s response to his coeliac condition was to remove items containing gluten from his meals, but to provide nothing by way of substitution. Mae'r diffygion yn y darpariaethau presennol ar gyfer dioddefwyr seliag yn cael eu hadleisio yn rhai o'r profiadau personol yr wyf wedi clywed amdanynt gan aelodau o'r cyhoedd. Er enghraifft, cysylltodd un fenyw â mi gan ddweud ei bod wedi cael dwy lawdriniaeth o ganlyniad i glefyd seliag yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Tra’r oedd yn yr ysbyty, roedd yn rhaid i’w theulu ddod â phrydau wedi'u coginio iddi oherwydd, bob amser bwyd, nad oedd fawr ddim darpariaeth os o gwbl ar gyfer bwyd heb glwten, ac ychydig iawn o ymwybyddiaeth o ofynion seliag. Canfu gŵr arall o Wrecsam mai ymateb yr ysbyty i’w gyflwr seliag oedd cael gwared ar eitemau oedd yn cynnwys glwten o’i brydau bwyd, ond heb ddarparu dim yn eu lle. 
I have been made aware of several children who have continuing problems with gluten-free meal options at their schools. On moving to junior school, one child was told that the only gluten-free food that would be made available would be jacket potatoes and jelly. On one occasion, there were no potatoes left and the child was offered jelly. Other children have been offered dry mince, or pasta with no sauce. At one school, a child’s parents were told that staff were not paid enough to be responsible for a child’s health. The school’s budget would not allow the school to purchase gluten-free food for just one pupil as it was too expensive, and they were unable to make gluten-free food on site. Similarly, I have had messages from a number of individuals and organisations since confirming the topic of this debate who have welcomed the efforts to raise awareness of the disease and expressed gratitude that this matter is being discussed by AMs. Many of them expressed frustration at the lack of knowledge about the disease, and the lack of specific training among catering staff on the importance of correct food handling and the specific requirements of coeliac sufferers. Rwyf wedi cael gwybod am nifer o blant sy’n cael problemau parhaus gydag opsiynau prydau heb glwten yn eu hysgolion. Ar ôl symud i ysgol iau, dywedwyd wrth un plentyn mai'r unig fwyd heb glwten a fyddai ar gael fyddai tatws trwy'u crwyn a jeli. Ar un achlysur, nid oedd tatws ar ôl a chynigiwyd jeli i’r plentyn. Mae plant eraill wedi cael cynnig briwgig sych, neu basta heb unrhyw saws. Mewn un ysgol, dywedwyd wrth rieni i blentyn nad oedd staff yn cael digon o dâl i fod yn gyfrifol am iechyd plentyn. Ni fyddai cyllideb yr ysgol yn caniatáu i'r ysgol brynu bwyd heb glwten ar gyfer dim ond un disgybl gan ei fod yn rhy ddrud, ac nid oeddent yn gallu gwneud bwyd heb glwten ar y safle. Yn yr un modd, rwyf wedi cael negeseuon gan nifer o unigolion a sefydliadau ers cadarnhau pwnc y ddadl hon, yn croesawu'r ymdrechion i godi ymwybyddiaeth am y clefyd ac yn diolch bod Aelodau Cynulliad yn trafod y mater hwn. Mynegodd llawer ohonynt rwystredigaeth ynglŷn â’r diffyg gwybodaeth am y clefyd, a'r diffyg hyfforddiant penodol ymhlith staff arlwyo ar bwysigrwydd trin bwyd yn gywir a gofynion penodol dioddefwyr seliag.
The Children’s and Families Act 2014 recently came into force in England, and section 100 of this Act imposes a duty on schools to make arrangements for supporting pupils at the school with medical conditions. As a result of the process, Coeliac UK was commissioned to produce a school pack for use in England that outlines the different ways in which a school can support pupils with coeliac disease. It includes a template individual healthcare plan, including details of a child’s symptoms and triggers, daily care requirements and any specific support for the pupil’s educational, social and emotional needs, and any training that staff should undertake, for example catering training. They have also ensured that the information about the gluten-free diet includes tips for caterers and kitchen staff. Information about how to ensure that children with coeliac disease are not excluded from school trips, cookery classes and other activities is also included. This is a significant step forward in the provision of appropriate levels of care and support for children with coeliac disease, and I would like to see similar steps being taken in Wales. Daeth Deddf Plant a Theuluoedd 2014 i rym yn ddiweddar yn Lloegr, ac mae adran 100 o'r Ddeddf hon yn rhoi dyletswydd ar ysgolion i wneud trefniadau ar gyfer cefnogi disgyblion yn yr ysgol sydd â chyflyrau meddygol. O ganlyniad i'r broses, cafodd Coeliac UK ei gomisiynu i baratoi pecyn ar gyfer ysgolion i'w ddefnyddio yn Lloegr, yn amlinellu'r gwahanol ffyrdd y gall ysgol gefnogi disgyblion sydd â chlefyd seliag. Mae'n cynnwys templed ar gyfer cynllun gofal iechyd unigol, gan gynnwys manylion am symptomau a sbardunau plentyn, gofynion gofal dyddiol ac unrhyw gymorth penodol ar gyfer anghenion addysgol, cymdeithasol ac emosiynol y disgybl, ac unrhyw hyfforddiant y dylai staff ei ddilyn, er enghraifft hyfforddiant arlwyo. Maent hefyd wedi sicrhau bod y wybodaeth am ddeiet heb glwten yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer arlwywyr a staff y gegin. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut i sicrhau bod plant sy'n dioddef o glefyd seliag yn cael eu cynnwys mewn tripiau ysgol, dosbarthiadau coginio a gweithgareddau eraill. Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen o ran darparu gofal a chymorth ar y lefelau priodol i blant sy'n dioddef o glefyd seliag, a hoffwn weld camau tebyg yn cael eu cymryd yng Nghymru.
When I carried out a brief survey of the information available on provision within Welsh schools, it was clear that the majority only made provision following diagnosis by a medical professional or by prior arrangement. Not all councils currently specifically mention the provision of gluten-free food in their guidance. To their credit, only the Vale of Glamorgan school meals website provides details of specific gluten-free meals for children, their parents and school staff. Pan gynhaliais arolwg byr o'r wybodaeth sydd ar gael am y ddarpariaeth yn ysgolion Cymru, roedd yn amlwg bod y rhan fwyaf ddim ond yn gwneud darpariaeth yn dilyn diagnosis gan weithiwr proffesiynol meddygol neu drwy drefniant ymlaen llaw. Nid yw pob cyngor ar hyn o bryd yn sôn yn benodol yn eu canllawiau am ddarparu bwyd heb glwten. Er clod iddynt, dim ond gwefan prydau ysgol Bro Morgannwg sy’n darparu manylion ynglŷn â phrydau bwyd penodol heb glwten i blant, eu rhieni a staff yr ysgol.
There is some existing guidance for the provision of gluten-free meal options for patients staying in hospital provided by the ‘All Wales Nutrition and Catering Standards for Food and Fluid Provision for Hospital Inpatients’. This is however only voluntary guidance and there is no formal requirement for this to be adopted. Similarly, there are at present no standards for the provision of gluten-free food for those with coeliac disease in care homes in Wales. I would suggest that the Welsh Government may want to consider extending hospital guidance to formal social care settings, particularly as we strive towards integrated health and social care systems. Mae safonau maeth ac arlwyo Cymru gyfan ar gyfer bwyd a hylif i gleifion preswyl mewn ysbytai yn darparu rhywfaint o arweiniad ar hyn o bryd ar gyfer darparu opsiynau prydau heb glwten i gleifion sy'n aros yn yr ysbyty. Canllawiau gwirfoddol yn unig yw’r rhain, fodd bynnag ac nid oes unrhyw ofyniad ffurfiol iddynt gael eu mabwysiadu. Yn yr un modd, ar hyn o bryd nid oes safonau ar gyfer darparu bwyd heb glwten i bobl sydd â chlefyd seliag mewn cartrefi gofal yng Nghymru.  Byddwn yn awgrymu y gall Llywodraeth Cymru fod am ystyried ymestyn canllawiau ysbytai i leoliadau gofal cymdeithasol ffurfiol, yn enwedig wrth inni ymdrechu i greu systemau iechyd a gofal cymdeithasol integredig.
Local authorities have a statutory duty to enforce food and feed law in the majority of premises in Wales. However, research has again shown that there is an increasing move to merge food hygiene and food standards activities into the other duties undertaken by local authority public protection departments, such as occupational health and safety, infectious disease control and other environmental health services. The Food Standards Agency’s review of the system of food and feed law enforcement by local authorities in Wales recommended that responsibility should be transferred from local authorities to the FSA. This would enable the integration of end-to-end policy, regulatory and front-line enforcement processes according to the FSA. This shift would also hope to encourage a consistent and focused approach to food safety standards in Wales and this would be a welcome improvement. Mae dyletswydd statudol gan awdurdodau lleol i orfodi cyfraith bwyd a phorthiant yn y mwyafrif o safleoedd yng Nghymru. Fodd bynnag, mae ymchwil wedi dangos unwaith eto bod camau cynyddol yn cael eu cymryd i uno gweithgareddau hylendid bwyd a safonau bwyd â dyletswyddau eraill adrannau diogelu cyhoedd yr awdurdodau lleol, megis iechyd a diogelwch galwedigaethol, rheoli clefydau heintus a gwasanaethau iechyd yr amgylchedd eraill. Roedd adolygiad yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar system awdurdodau lleol o orfodi cyfraith bwyd a phorthiant yng Nghymru yn argymell y dylai'r cyfrifoldeb gael ei drosglwyddo o awdurdodau lleol i'r Asiantaeth. Byddai hyn yn golygu y gellid integreiddio prosesau llunio polisi, rheoleiddio a gorfodi rheng flaen, o’r dechrau i’r diwedd, yn ôl yr Asiantaeth. Y gobaith yw y byddai’r newid hwn hefyd yn annog dull cyson â phwyslais penodol o ymdrin â safonau diogelwch bwyd yng Nghymru a byddai hwn yn welliant i'w groesawu.
Many who are involved with the issue of coeliac disease look forward to the introduction of the EU food information to consumers regulation, which will come into effect on 13 December 2014. This will hopefully change the way that allergen information appears on labels and on food that is pre-packed, sold loose or served when eating out. Nutritional labelling will become mandatory in 2016. The Food Standards Agency continues to lead on general food labelling policy and food labelling law enforcement in Wales, but responsibility for nutritional labelling policy is with the Welsh Government. I therefore hope that the Welsh Government will embrace food labelling regulation as widely across Wales as possible and ensures that all the regulations are implemented swiftly. Mae llawer sy'n ymwneud â mater clefyd seliag yn edrych ymlaen at gyflwyno rheoliadau’r UE ar wybodaeth i ddefnyddwyr am fwyd, a fydd yn dod i rym ar 13 Rhagfyr 2014. Y gobaith yw y bydd y rhain yn newid y ffordd y mae gwybodaeth am alergenau yn ymddangos ar labeli ac ar fwyd sydd wedi’i becynnu ymlaen llaw, bwyd a werthir yn rhydd neu fwyd a weinir wrth fwyta allan. Bydd labelu maeth yn dod yn orfodol yn 2016. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn parhau i arwain ym maes polisi labelu bwyd cyffredinol a gorfodi'r gyfraith o ran labelu bwyd yng Nghymru, ond Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bolisi labelu maeth. Felly, rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn croesawu’r syniad o reoleiddio ym maes labelu bwyd mor eang ledled Cymru â phosibl, ac yn sicrhau bod yr holl reoliadau’n cael eu rhoi ar waith yn gyflym.
We would like to see some requirements in place to ensure that staff involved in preparing food are trained to understand coeliac disease and the specific issues surrounding cross-contamination. The coeliac association offers training that looks at the challenges faced by people with coeliac disease, the legal requirements associated with gluten-free labelling and how to cater for this growing need. As I hope you have seen, coeliac disease is a common but serious and potentially very debilitating illness. Despite this, it is not widely diagnosed and more than three quarters of those suffering from it have not yet been diagnosed. I hope that, in tabling this debate, I am able to raise awareness of the disease and highlight the need to do more to provide for those who live with it, particularly within the settings of schools, hospitals and care homes for which we assume responsibility. Byddem yn hoffi gweld rhai gofynion ar waith i sicrhau bod staff sy'n ymwneud â pharatoi bwyd yn cael eu hyfforddi i ddeall clefyd seliag a'r materion penodol yn ymwneud â chroeshalogi. Mae'r gymdeithas seliag yn cynnig hyfforddiant sy'n edrych ar yr heriau a wynebir gan bobl â chlefyd seliag, y gofynion cyfreithiol sy'n gysylltiedig â labelu bwyd heb glwten a sut i ddarparu ar gyfer yr angen cynyddol hwn. Fel rydych wedi gweld, rwy’n gobeithio, mae clefyd seliag yn salwch cyffredin ond difrifol sy’n gallu cael effaith fawr ar bobl. Er gwaethaf hyn, mae llawer o bobl nad ydynt yn cael diagnosis ac mae mwy na thri chwarter y rhai sy'n dioddef ohono heb gael diagnosis eto. Gobeithiaf, wrth gyflwyno'r ddadl hon, fy mod yn gallu codi ymwybyddiaeth amdano a thynnu sylw at yr angen i wneud mwy i ddarparu ar gyfer y rhai sy'n byw gyda’r clefyd, yn enwedig mewn ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal yr ydym yn cymryd cyfrifoldeb drostynt.
17:51 - Rhodri Glyn Thomas
Gallaf gynnig munud yr un yn awr i dri Aelod arall, ac, yn gyntaf, i Jeff Cuthbert. I can now offer a minute each to three other Members. First of all is Jeff Cuthbert.
17:51 - Jeff Cuthbert
Thank you, acting Presiding Officer. I am very grateful to Aled for allowing me the opportunity to speak in his debate today. I was diagnosed with coeliac disease earlier this year and, already being a type 2 diabetic, this has led me to make further dietary and lifestyle changes. I have had to get used to enquiring whether certain foods are gluten-free and to avoiding things that ordinarily I once would have enjoyed eating or drinking. I have found many caterers and producers have been very accommodating of my gluten-free requirements. Our in-house caterers, for example, ensure that I am able to eat a gluten-free meal. May I say that, having joined Coeliac UK, I find its app extremely helpful in helping to identify what is safe and what is not safe? Diolch i chi, Lywydd dros dro. Rwy’n ddiolchgar iawn i Aled am ganiatáu'r cyfle imi siarad yn ei ddadl heddiw. Cefais ddiagnosis o glefyd seliag yn gynharach eleni a, gan fy mod eisoes yn ddiabetig math 2, mae hyn wedi peri imi wneud mwy o newidiadau o ran diet a ffordd o fyw. Rwyf wedi gorfod dod i arfer â holi a oes glwten mewn bwydydd penodol ac osgoi pethau y byddwn fel arfer unwaith wedi mwynhau eu bwyta neu eu hyfed. Rwyf wedi gweld bod nifer o arlwywyr a chynhyrchwyr wedi bod yn hyblyg iawn i fodloni fy ngofynion. Mae ein harlwywyr mewnol, er enghraifft, yn sicrhau fy mod yn gallu bwyta pryd o fwyd heb glwten. A gaf fi ddweud, ar ôl ymuno â Coeliac UK, rwy’n gweld ei ap yn hynod ddefnyddiol wrth helpu i adnabod beth sy'n ddiogel a beth sydd ddim yn ddiogel?
As a former Campaign for Real Ale member and inaugural chair of the cross-party group on beer and the pub, many of you will know that I do enjoy a pint of real ale. I was fearful that this would also have to stop, until I enquired with a number of Welsh brewers about the possibility of producing gluten-free beer. It turns out that this is actually quite a simple process, and I am now able to enjoy a gluten-free pint of Welsh ale in my own home but not as yet, alas, in my local pub. I think that this is a tribute to the flexibility and innovation of our brewing industry. While the availability of gluten-free foods and awareness among food and drink producers is clearly improving, my initial experiences suggest to me that there is some way to go. So, Deputy Minister, as you are responsible for public health and food safety here in Wales, do you think there is some way we could encourage producers to label more clearly whether or not something is gluten-free? Perhaps the FSA could look at ways in which this could be done. I am sure this would go a long way towards ensuring that coeliacs like me know that they are purchasing a product that is safe for consumption and that they will not have to suffer any health consequences due to confusion or lack of clarity. Fel cyn aelod o'r Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn a chadeirydd cyntaf y grŵp trawsbleidiol ar gwrw a'r dafarn, bydd nifer ohonoch yn gwybod fy mod yn mwynhau peint o gwrw go iawn. Roeddwn yn ofni y byddai hyn hefyd yn gorfod dod i ben, hyd nes i mi holi gyda nifer o fragwyr yng Nghymru ynghylch y posibilrwydd o gynhyrchu cwrw heb glwten. Mae'n ymddangos bod hon mewn gwirionedd yn broses eithaf syml, ac rwy’n awr yn gallu mwynhau peint heb glwten o gwrw Cymreig yn fy nghartref fy hun, ond nid hyd yn hyn, gwaetha'r modd, yn fy nhafarn leol. Rwy'n credu bod hyn yn deyrnged i hyblygrwydd ac agwedd arloesol ein diwydiant bragu.  Er bod bwydydd heb glwten ar gael yn fwy eang a chynhyrchwyr bwyd a diod yn amlwg yn fwy ymwybodol o’r mater, mae fy mhrofiadau cychwynnol yn awgrymu i mi bod dipyn o ffordd i fynd. Felly, Ddirprwy Weinidog, gan eich bod yn gyfrifol am iechyd y cyhoedd a diogelwch bwyd yma yng Nghymru, a ydych yn credu bod rhyw ffordd y gallwn ni annog cynhyrchwyr i labelu’n fwy eglur a yw rhywbeth yn cynnwys glwten? Efallai y gallai'r Asiantaeth Safonau Bwyd edrych ar ffyrdd posibl o wneud hyn. Rwy’n siŵr y byddai hyn yn mynd gryn ffordd tuag at sicrhau bod dioddefwyr seliag fel fi yn gwybod eu bod yn prynu cynnyrch sy'n ddiogel i’w fwyta ac na fydd yn rhaid iddynt ddioddef unrhyw ganlyniadau iechyd oherwydd dryswch neu ddiffyg eglurder.
17:54 - Rhodri Glyn Thomas
Mae gan Rhun ap Iowerth a Mike Hedges funud yr un. Galwaf ar Rhun. Rhun ap Iorwerth and Mike Hedges have one minute each. I call Rhun.
17:54 - Rhun ap Iorwerth
Diolch yn fawr i Aled Roberts am gyflwyno’r cynnig hwn. Rydym wedi byw efo clefyd seliag yn ein teulu ni ers rhyw wyth mlynedd erbyn hyn. Fe gafodd fy merch ddiagnosis pan oedd hi’n chwech oed a fy ngwraig ddiagnosis ychydig fisoedd yn ôl, ar ôl amau am flynyddoedd ei bod hithau’n dioddef o’r cyflwr. Rwy’n gwybod pa mor anodd y mae bywyd yn gallu bod i rywun â chlefyd seliag, ond rwyf hefyd yn gwybod pa mor hawdd y gellid gwneud bywyd i rywun o gael y cymorth meddygol iawn a’r anogaeth i gael y diagnosis iawn. Hefyd, wrth fwyta allan a phrynu cynnyrch, dylai fod canllawiau gan y gwerthwr neu'r cogydd sy’n ei gwneud hi’n berffaith glir beth sydd yn y bwyd. Mae yna wledydd lle mae’n hi’n grêt i fod yn seliag ynddyn nhw gan fod yno gymorth a dealltwriaeth o’r cyflwr. Mae gwledydd eraill lle nad yw hi’n hawdd iawn a phrin ddim dealltwriaeth o gwbl. Thank you very much to Aled Roberts for presenting this short debate. We have lived in our family with coeliac disease for some eight years now. My daughter was diagnosed at six years of age and my wife was diagnosed a few months ago, having suspected over many years that she too suffered from this condition. I know how difficult life can be for someone with coeliac disease, but I also know how easy life can be made for someone with this condition when they the right medical support and the encouragement to get the correct diagnosis. Also, when eating out and buying produce, there should be guidelines from the producer or the chef that make it entirely clear what the food contains. There are countries where it is great to be a coeliac and where there is a widespread understanding of the condition. There are other countries where it is not that easy and where there is hardly any understanding.
Felly, fy apêl i yw hyn: gadewch i ni, os gallwn ni, wneud Cymru’n wlad lle gall pobl sydd â’r cyflwr hwn deimlo’n gyfforddus, lle maent yn gwybod bod y cymorth, y bwydydd a’r ddealltwriaeth ar gael iddynt. Fel y gair olaf, gadewch i ni ddathlu cynhyrchwyr seidr Cymru heddiw, hefyd, Jeff Cuthbert, gan fod hwnnw’n ddi-glwten yn gwbl naturiol. So, my appeal would be this: let us, if at all possible, make Wales a country where people who have this condition can feel comfortable, where they will know that the support and foods are available to them and where there is an understanding of their condition. As a final word, let us celebrate the cider producers of Wales, too, Jeff Cuthbert, as that is a naturally gluten-free product.
17:55 - Mike Hedges
May I thank Aled Roberts for giving me a minute of this debate? I want to concentrate on labelling. One of the biggest problems is that because it affects so few people, labelling items either ‘gluten-free’ or ‘suitable for a coeliac’ is not seen by some eating establishments as a commercial priority. Hoffwn ddiolch i Aled Roberts am roi munud o'r ddadl hon i mi. Rwyf am ganolbwyntio ar labelu. Un o'r problemau mwyaf yw nad yw rhai sefydliadau bwyta’n ei gweld yn flaenoriaeth fasnachol i labelu eitemau naill ai 'heb glwten' neu’n 'addas ar gyfer seliag' oherwydd ei fod yn effeithio ar gyn lleied o bobl.
I am told by constituents that things are better since the latest European Union directive. One good thing is that some suppliers are now highlighting the allergy information in bold type. The biggest problem, however, is that the information is so small it is difficult for a person, even one with normal vision, to read. I am told that older people have to use either strong glasses or a magnifying glass in order to read it. How does Wales make its views known in Brussels? There is a UK representative on the labelling committee, but how do we get the views of Welsh coeliacs across? Dywedodd etholwyr wrthyf fod pethau'n well ers cyfarwyddeb ddiweddaraf yr Undeb Ewropeaidd. Un peth da yw bod rhai cyflenwyr yn awr yn tynnu sylw at y wybodaeth am alergedd mewn teip trwm. Y broblem fwyaf, fodd bynnag, yw bod y wybodaeth mor fach fel ei bod yn anodd, hyd yn oed i rywun â golwg normal, ei darllen. Dywedir wrthyf fod rhaid i bobl hŷn ddefnyddio naill ai sbectol gref neu chwyddwydr er mwyn ei darllen. Sut mae Cymru'n gwneud ei safbwynt yn glir ym Mrwsel? Mae gan y DU gynrychiolydd ar y pwyllgor labelu, ond sut mae cyflwyno safbwyntiau dioddefwyr seliag Cymru?
17:56 - Rhodri Glyn Thomas
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd i ymateb i’r ddadl; Vaughan Gething. I call on the Deputy Minister for Health to respond to the debate; Vaughan Gething.
17:56 - Vaughan Gething
Thank you, acting Deputy Presiding Officer. I would like to begin by thanking Aled Roberts and the cross-party group that has worked on this issue for tabling today’s debate on coeliac disease. As Aled Roberts set out in opening this debate, it is a disease that is often misunderstood as an allergy or intolerance. We have heard already that it affects one in 100 people. There is an acknowledged lack of awareness and understanding of such a common condition. I hope that today’s short debate will play a part in helping to raise awareness among Members, health professionals and the wider public. Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd dros dro. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Aled Roberts a'r grŵp trawsbleidiol sydd wedi gweithio ar y mater hwn am gyflwyno'r ddadl heddiw ar glefyd seliag. Fel y nododd Aled Roberts wrth agor y ddadl hon, mae'n glefyd sy'n aml yn cael ei gamgymryd am alergedd neu anoddefiad. Rydym wedi clywed eisoes ei fod yn effeithio ar un o bob 100 o bobl. Cydnabyddir bod prinder ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyflwr mor gyffredin. Gobeithiaf y bydd y ddadl fer heddiw yn cyfrannu at helpu i godi ymwybyddiaeth ymysg Aelodau, gweithwyr iechyd proffesiynol a'r cyhoedd yn gyffredinol.
I have been aware of coeliac disease, but not fully aware of the scale of the problem: the number of people affected, the difficulties in diagnosis, the importance of ongoing support and the potentially significant health consequences for undiagnosed sufferers in the longer term. I would like to recognise, at this point, the work of Coeliac UK, the largest and longest running charity of its type in the world, for its hard work and advocacy since it was founded in 1968. Rwyf wedi bod yn ymwybodol o glefyd seliag, ond nid yn gwbl ymwybodol o faint y broblem: nifer y bobl yr effeithir arnynt, yr anawsterau o ran cael diagnosis, pwysigrwydd cymorth parhaus a'r canlyniadau a allai fod yn sylweddol yn y tymor hwy i iechyd dioddefwyr sydd heb gael diagnosis. Ar yr adeg hon, hoffwn gydnabod gwaith Coeliac UK, yr elusen fwyaf a hynaf o'i math yn y byd, am ei gwaith caled a’i heiriolaeth ers ei sefydlu ym 1968.
There is a continuing need to focus on raising awareness, as Aled Roberts recognised. If we do not, it does not matter how well our services are provided if patients do not see their doctors when they develop symptoms. I recognise a point made about different access to available testing and diagnosis of the disease. Mae angen parhaus i ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth, fel yr oedd Aled Roberts yn ei gydnabod. Os nad ydym yn gwneud hynny, nid oes ots pa mor dda yw’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu os nad yw cleifion yn gweld eu meddyg pan fyddant yn datblygu symptomau. Rwy’n cydnabod pwynt a wnaed am fynediad gwahanol at brofion a diagnosis o'r clefyd.
We have worked and will continue to work with the voluntary sector groups, like Coeliac UK, and wider health services. We recognise that we need to help the public to recognise that mild and common symptoms such as stomach pain or general tiredness, and the more distinctive ones, such as weight loss and swelling, may be related to coeliac disease. Rydym wedi gweithio a byddwn yn parhau i weithio gyda grwpiau'r sector gwirfoddol, fel Coeliac UK, a gwasanaethau iechyd ehangach. Rydym yn cydnabod bod angen inni helpu'r cyhoedd i adnabod y gall symptomau ysgafn a chyffredin fel poen yn y stumog neu flinder cyffredinol, a’r rhai mwy nodweddiadol, megis colli pwysau a chwyddo, fod yn gysylltiedig â chlefyd seliag.
Awareness raising, of course, must be directed at health professionals. Again, Aled Roberts recognised this in opening the debate. The list of related symptoms under the NICE guidelines include long-term diarrhoea, persistently feeling sick and being sick, recurring abdominal pain, cramping or bloating, sudden unexplained weight loss, unexplained anaemia, fatigue and failure to thrive in infants and toddlers could signify coeliac disease, but might also be caused by a range of other conditions. Rhaid i’r gwaith o godi ymwybyddiaeth, wrth gwrs, gael ei gyfeirio at weithwyr iechyd proffesiynol. Unwaith eto, gwnaeth Aled Roberts gydnabod hyn wrth agor y ddadl. Mae'r rhestr o symptomau cysylltiedig o dan ganllawiau NICE yn cynnwys dolur rhydd tymor hir, teimlo'n sâl a chwydu yn gyson, poen mynych yn yr abdomen, cramp neu chwyddo yn y bol, colli pwysau sydyn anesboniadwy, anemia anesboniadwy, blinder a methiant i ffynnu mewn babanod a phlant bach a allai fod yn arwydd o glefyd seliag, ond gallent hefyd gael eu hachosi gan nifer o gyflyrau eraill.
Professionals need to ensure that coeliac disease is considered in each of these cases. This particularly applies in primary care where a very wide range of symptoms can present. We need to ensure that they can work with their patients to identify the symptoms that may be pointing to coeliac disease. Health professionals should, of course, follow the NICE guidelines in ensuring that first-degree relatives and those with type 1 diabetes, IBS, underactive or overactive thyroid glands and those presenting with dermatitis herpetiformis—I will say that correctly—are offered testing. The expectation of the Welsh Government is that these guidelines will be followed. Mae angen i weithwyr proffesiynol sicrhau bod clefyd seliag yn cael ei ystyried ym mhob un o'r achosion hyn. Mae hyn yn arbennig o berthnasol ym maes gofal sylfaenol lle gall ystod eang iawn o symptomau ymddangos. Mae angen inni sicrhau eu bod yn gallu gweithio gyda'u cleifion i adnabod y symptomau a allai fod yn pwyntio at glefyd seliag. Dylai gweithwyr iechyd proffesiynol, wrth gwrs, ddilyn canllawiau NICE o ran sicrhau bod perthnasau gradd gyntaf a'r rhai sydd â diabetes math 1, IBS, chwarennau thyroid tanweithgar neu orweithgar a'r rhai sy'n cyflwyno gyda dermatitis herpetiformis—byddaf yn ei ddweud yn iawn—yn cael cynnig prawf. Disgwyliad Llywodraeth Cymru yw y bydd y canllawiau hyn yn cael eu dilyn.
Those suspected of suffering with the disease should be offered testing. We expect patients to be equal partners in managing their health alongside professionals. Therefore, before seeking consent for blood tests, it is important that health professionals explain what coeliac disease is; that the blood tests themselves do not diagnose coeliac disease, but indicate whether further testing is needed, and the implications of a positive test, including referral for an intestinal biopsy and implications for other family members, but also the implications of a negative test; that while coeliac disease is unlikely, it could be present in the future. If the disease is confirmed or still suspected, despite a negative test, then the patient should be referred to a gastrointestinal expert or specialist for an intestinal biopsy. Dylai pobl y mae amheuaeth y gallent fod yn dioddef â'r clefyd gael cynnig profion. Rydym yn disgwyl i gleifion fod yn bartneriaid cyfartal wrth reoli eu hiechyd ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol. Felly, cyn ceisio caniatâd ar gyfer profion gwaed, mae'n bwysig bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn esbonio beth yw clefyd seliag; nad rhoi diagnosis o glefyd seliag y mae’r profion gwaed eu hunain, ond yn hytrach nodi bod angen rhagor o brofion; a goblygiadau prawf cadarnhaol, gan gynnwys atgyfeirio i gael biopsi o’r coluddyn, a goblygiadau i aelodau eraill o'r teulu, ond hefyd goblygiadau prawf negyddol; er bod clefyd seliag yn annhebygol, y gallai fod yn bresennol yn y dyfodol. Os yw'r clefyd yn cael ei gadarnhau neu'n dal i gael ei amau, er gwaethaf prawf negyddol, yna dylai’r claf gael ei gyfeirio at arbenigwr gastroberfeddol neu arbenigwr i gael biopsi o’r coluddyn.
I am heartened by a 2014 study by the University of Nottingham that showed a fourfold increase in diagnoses over a 22-year period, which was attributed to better diagnosis and understanding of the disease, rather than an increased prevalence. This shows that, across the UK, we are getting better at recognising symptoms, considering coeliac disease as a cause and then following through on a definitive testing process. Rwyf wedi fy nghalonogi gan astudiaeth 2014 gan Brifysgol Nottingham a oedd yn dangos cynnydd bedair gwaith drosodd mewn diagnosis dros gyfnod o 22 mlynedd, wedi’i briodoli i well diagnosis a dealltwriaeth o'r clefyd, yn hytrach na chynnydd yn nifer yr achosion. Mae hyn yn dangos, ar draws y DU, ein bod yn gwneud yn well o ran adnabod symptomau, ystyried clefyd seliag fel achos ac yna dilyn hynny â phroses brofi ddiffiniol.
Once diagnosed, the follow-on support should ensure that patients are referred to an appropriate specialist, such as a dietician, to help manage their gluten-free diet. That support should be ongoing to ensure that the patient fully understands their condition, is self-managing it properly and does not end up developing complications and, perhaps, like Jeff, can still enjoy a pint of beer. Ar ôl diagnosis, dylai'r gefnogaeth ddilynol sicrhau bod cleifion yn cael eu cyfeirio at arbenigwr priodol, fel dietegydd, er mwyn helpu i reoli eu deiet heb glwten. Dylai honno fod yn gefnogaeth barhaus i sicrhau bod y claf yn deall ei gyflwr ac yn hunan-reoli’n iawn, ac nad yw’n datblygu cymhlethdodau yn y pen draw ac, efallai, fel Jeff, yn gallu parhau i fwynhau peint o gwrw.
Making substantial and long-lasting changes to what could be heavily ingrained dietary habit and behaviour can, of course, be difficult for patients. The sheer number of foods that must be avoided or substituted is a real issue. The inconvenience and cost can be even greater when those people try to lead a normal life outside of their home, such as, as has been mentioned, eating out socially, where inadequate compliance with nutritional labelling, unnecessary use of gluten foodstuffs and the potentially greater cost can place an unacceptable and unfair burden on sufferers; I recognise points made by a number of Members here today. However, it should be recognised that the condition can be effectively self-managed by good dietary behaviour once diagnosed. That is why I welcome Coeliac UK’s Freed From campaign, as it seeks to address this and many other issues that sufferers experience. Gall fod yn anodd i gleifion wneud newidiadau sylweddol a pharhaol i arferion ac ymddygiad dietegol a allai fod wedi’u gwreiddio'n ddwfn, wrth gwrs. Mae’r nifer fawr o fwydydd y mae'n rhaid eu hosgoi neu eu newid yn broblem wirioneddol. Gall yr anhwylustod a'r gost fod yn fwy fyth pan fydd y bobl hynny’n ceisio byw bywyd normal y tu allan i'w cartref, megis, fel y crybwyllwyd, bwyta allan yn gymdeithasol, lle mae cydymffurfiad annigonol o ran labelu maeth, defnydd diangen o fwydydd glwten a’r gost uwch yn gallu rhoi baich annerbyniol ac annheg ar ddioddefwyr; rwy’n cydnabod pwyntiau a wnaed gan nifer o Aelodau yma heddiw. Fodd bynnag, dylid cydnabod y gellir hunan-reoli'r cyflwr yn effeithiol ag ymddygiad dietegol da ar ôl cael diagnosis. Dyna pam rwy’n croesawu ymgyrch Freed From Coeliac UK, wrth iddi geisio mynd i'r afael â hyn a llawer o faterion eraill y mae dioddefwyr yn ei brofi.
As has been recognised today and by Coeliac UK, regulation plays an important part in driving manufacturers and food outlets to label their products correctly so that people can lead gluten-free lifestyles effectively. As has been mentioned, the European Commission has developed labelling standards and maximum thresholds for gluten content in gluten-free or low-gluten products. Those standards have been transposed into UK law and the Food Standards Agency provides guidance to manufacturers and enforces the regulations. However, considering the comments made today, I am sure that we can look again at how that applies here in Wales. Fel sydd wedi cael ei gydnabod heddiw a chan Coeliac UK, mae rheoleiddio yn chwarae rhan bwysig mewn sbarduno gweithgynhyrchwyr a mannau gwerthu bwyd i labelu eu cynnyrch yn gywir fel y gall pobl fyw bywydau heb glwten yn effeithiol. Fel y crybwyllwyd, mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi datblygu safonau labelu a throthwyon uchaf ar gyfer cynnwys glwten mewn cynnyrch heb glwten neu isel mewn glwten. Mae’r safonau hynny wedi cael eu trosi i gyfraith y DU ac mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn rhoi canllawiau i weithgynhyrchwyr ac yn gorfodi’r rheoliadau. Fodd bynnag, o ystyried y sylwadau a wnaed heddiw, rwy’n siŵr y gallwn edrych eto ar sut y mae hynny'n berthnasol yma yng Nghymru.
As a Government, we have a key role to play in ensuring that public services and commissioned independent services are ensuring that the people they serve are able to live their gluten-free lifestyle. The big three issues here are schools, hospitals and care homes. We are working to ensure that our public sector settings become an exemplar of best food practice in reality. Last year, we introduced the Healthy Eating in Schools (Nutritional Standards and Requirements) (Wales) Regulations 2013. They set out the types of food and drink that can and cannot be served throughout the school day and define the nutritional content of school lunches. Fel Llywodraeth, mae gennym ran allweddol i'w chwarae er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau annibynnol a gomisiynir yn sicrhau bod y bobl y maent yn eu gwasanaethu’n gallu byw eu bywyd heb glwten. Y tri mater mawr yma yw ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal. Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein lleoliadau sector cyhoeddus yn dod yn batrwm o arfer gorau ym maes bwyd mewn gwirionedd. Y llynedd, cyflwynwyd Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013. Maent yn nodi'r mathau o fwyd a diod y gellir ac na ellir eu gweini drwy gydol y diwrnod ysgol ac yn diffinio cynnwys cinio ysgol o ran maeth.
The statutory guidance that Aled Roberts said accompanies the regulations is available for local authorities and governing bodies. The guidance places a duty on local authorities and governing bodies of maintained schools to promote healthy eating in schools. It advises that pupils who require a specialist diet should be provided with food that is healthy and nutritionally balanced. However, specialist food provided as part of a medically prescribed diet would not need to be included within nutritional analysis calculations. Parents should notify their children’s school of their special dietary requirements. Local authorities and governing bodies are advised to seek advice from specialists for pupils with complex dietary needs like coeliac disease, but I think that it would be helpful if more local authorities looked at the example of the Vale of Glamorgan mentioned by Aled Roberts in opening this debate. Mae'r canllawiau statudol y dywedodd Aled Roberts eu bod yn cyd-fynd â'r rheoliadau ar gael ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu. Mae'r canllawiau’n rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir i hyrwyddo arferion bwyta'n iach mewn ysgolion. Maent yn cynghori y dylid darparu bwyd sy'n iach ac yn gytbwys o ran maeth i ddisgyblion sydd ag angen diet arbenigol. Fodd bynnag, ni fyddai angen cynnwys bwyd arbenigol a ddarperir fel rhan o ddeiet a ragnodwyd yn feddygol yng nghyfrifiadau’r dadansoddiad o faeth. Dylai rhieni roi gwybod i ysgol eu plant am eu gofynion dietegol arbennig. Mae awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu yn cael eu cynghori i geisio cyngor gan arbenigwyr ar gyfer disgyblion ag anghenion deietegol cymhleth fel clefyd seliag, ond credaf y byddai o gymorth pe bai mwy o awdurdodau lleol yn edrych ar enghraifft Bro Morgannwg a grybwyllwyd gan Aled Roberts wrth agor y ddadl.
The all-Wales hospital nutrition care pathway is in place in all NHS hospitals across Wales. It aids and supports nurses in the nutritional screening of patients on admission and helps to ensure that patients’ specific nutritional needs are identified and met. The pathway includes nutrition and catering standards for food and drinks served to patients. These include the provision of therapeutic diets for conditions like coeliac disease. The all-Wales menu framework caters for all patients, including those with special requirements, such as gluten-free diets, and a number of dishes have been developed for such diets. To support this work, training is provided to hospital chefs and caterers, and the national lead procurement dietician for NHS shared services oversees the tenders for food products. This includes ensuring that clear nutrition specifications are adhered to, developing an all-Wales à la carte menu for coeliac patients, and increasing the provision of standard gluten-free products in food tenders, such as swapping to gluten-free substitutes as a base for meals. Many health boards have systems in place to safeguard in-house production of gluten-free meals and ensure legislative compliance, such as isolated production. Other health boards avoid in-house production of gluten-free products and choose, instead, to purchase sealed gluten-free meals and food products that already meet legislative requirements. Mae llwybr gofal maeth ysbytai Cymru gyfan ar waith ym mhob ysbyty GIG ledled Cymru. Mae'n cynorthwyo ac yn cefnogi nyrsys i sgrinio cleifion o ran maeth ar adeg eu derbyn ac yn helpu i sicrhau bod anghenion penodol cleifion o ran maeth yn cael eu nodi a'u diwallu. Mae'r llwybr yn cynnwys safonau maeth ac arlwyo ar gyfer bwyd a diodydd a weinir i gleifion. Mae'r rhain yn cynnwys darparu deietau therapiwtig ar gyfer cyflyrau fel clefyd seliag. Mae fframwaith bwydlenni Cymru gyfan yn darparu ar gyfer pob claf, gan gynnwys y rhai ag anghenion arbennig, megis deiet heb glwten, ac mae nifer o brydau bwyd wedi'u datblygu ar gyfer deietau o'r fath. I gefnogi'r gwaith hwn, darperir hyfforddiant i gogyddion ac arlwywyr ysbytai, ac mae'r dietegydd caffael arweiniol cenedlaethol ar gyfer cydwasanaethau’r GIG yn goruchwylio'r tendrau ar gyfer cynhyrchion bwyd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod manylebau maeth clir yn cael eu dilyn, datblygu dewislen à la carte trwy Gymru gyfan ar gyfer cleifion seliag, a chynyddu darpariaeth cynnyrch heb glwten safonol mewn tendrau bwyd, megis newid i ddewisiadau eraill heb glwten fel sylfaen ar gyfer prydau bwyd. Mae gan lawer o fyrddau iechyd systemau ar waith i sicrhau y caiff prydau bwyd heb glwten eu cynhyrchu’n fewnol a sicrhau y cydymffurfir â’r deddfwriaeth, megis cynhyrchu wedi’i ynysu. Mae byrddau iechyd eraill yn osgoi cynhyrchu cynhyrchion heb glwten yn fewnol ac yn dewis, yn lle hynny, prynu prydau bwyd a chynnyrch bwyd heb glwten wedi’u selio sydd eisoes yn bodloni gofynion deddfwriaethol.
Although there are no specific nutrition standards in place for care homes, there is a national minimum standard that stipulates that provision must be made for therapeutic diets, such as a gluten-free diet. As part of the public health Bill, a proposal is being taken forward to introduce mandatory nutritional standards for food served in care homes. This work would aim to ensure that some of our most vulnerable people have access to appropriate dietary support. Er nad oes safonau maeth penodol ar waith ar gyfer cartrefi gofal, ceir safon ofynnol genedlaethol sy'n nodi bod yn rhaid darparu ar gyfer deietau therapiwtig, megis deiet heb glwten. Fel rhan o'r Bil iechyd cyhoeddus, mae cynnig yn cael ei roi gerbron i gyflwyno safonau maeth gorfodol ar gyfer bwyd a weinir mewn cartrefi gofal. Byddai'r gwaith hwn yn ceisio sicrhau bod rhai cefnogaeth ddeietegol briodol ar gael i'n pobl fwyaf agored i niwed.
There has, of course, been controversy related to the prescription of gluten-free food on the NHS. Some of that has been as a result of misunderstanding over the cost, for instance, and the argument has largely been won. Others point to the long-term decreasing costs and increasing availability of gluten-free food, which is a much stronger argument and the logical outcome of Coeliac UK’s work, and its work on the Freed From campaign that is currently ongoing. Eventually, prices and availability should be much more comparable to non-gluten-free food. At the moment, a number of surveys recognise that gluten-free foods can be four to six times more expensive than the alternative. Wrth gwrs, fe fu ddadl yn ymwneud â rhoi bwyd heb glwten ar bresgripsiwn ar y GIG. Mae rhywfaint o hynny wedi bod o ganlyniad i gamddealltwriaeth ynglŷn â’r gost, er enghraifft, ac mae'r ddadl wedi ei hennill i raddau helaeth. Mae eraill yn cyfeirio at y ffaith bod costau’n gostwng a bwyd heb glwten yn dod ar gael yn rhwyddach yn y tymor hir, sydd yn ddadl lawer cryfach ac yn ganlyniad rhesymegol i waith Coeliac UK, a’i gwaith ar yr ymgyrch Freed From sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Yn y pen draw, dylai prisiau a’r hyn sydd ar gael fod yn llawer mwy tebyg i fwyd sy’n cynnwys glwten. Ar hyn o bryd, mae nifer o arolygon yn cydnabod y gall bwydydd heb glwten fod bedair i chwe gwaith yn fwy drud na'r dewis arall.
We have worked with, and will continue to work with, Coeliac UK, primary care providers and patients to develop and introduce prescribing guidance. That guidance was adopted by all health boards in 2011 to make prescribing clearer and more consistent across Wales. It includes a simple traffic light format and, importantly, gives advice on the quantities to be prescribed. Rydym wedi gweithio, a byddwn yn parhau i weithio, gyda Coeliac UK, darparwyr gofal sylfaenol a chleifion i ddatblygu a chyflwyno canllawiau ar gyfer rhoi bwydydd ar bresgripsiwn. Cafodd y canllawiau hynny eu mabwysiadu gan bob bwrdd iechyd yn 2011 i wneud y broses yn gliriach ac yn fwy cyson ledled Cymru. Maent yn cynnwys fformat goleuadau traffig syml ac, yn bwysig, yn rhoi cyngor ar feintiau i'w rhoi ar bresgripsiwn.
I look forward to NICE’s revised guidelines, which will cover both diagnosis and, for the first time, management of coeliac disease. That guidance is due within the next year. It will provide us with an important opportunity to review how the disease is managed in Wales. Edrychaf ymlaen at ganllawiau diwygiedig NICE, a fydd yn cwmpasu diagnosis ac, am y tro cyntaf, dulliau o reoli clefyd seliag. Dylai’r canllawiau hynny fod yn barod o fewn y flwyddyn nesaf. Bydd yn rhoi cyfle pwysig inni adolygu sut y mae'r clefyd yn cael ei reoli yng Nghymru.
Finally, I want to recognise the importance of research into this disease in order that the causes can be uncovered and better treatments developed. I thank Aled Roberts, once again, for tabling the debate, and I hope that we can continue to work together across parties, including through the cross-party group, to address some of these issues. Yn olaf, rwyf am gydnabod pwysigrwydd ymchwil i'r clefyd hwn er mwyn gallu datgelu’r hyn sy’n ei achosi a datblygu gwell triniaethau. Hoffwn ddiolch i Aled Roberts, unwaith eto, am gyflwyno'r ddadl, ac rwy’n gobeithio y gallwn barhau i weithio gyda'n gilydd ar draws y pleidiau, gan gynnwys trwy'r grŵp trawsbleidiol, i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn.
18:07 - Rhodri Glyn Thomas
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. That brings today’s proceedings to a close.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:07. The meeting ended at 18:07.
Back to List View this page with hyperlinks

Partners & Help