By continuing to use our site, you are agreeing for us to set a small number of cookies. Cookie policy

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Cofnod y Trafodion
The Record of Proceedings

Dydd Mawrth, 9 Hydref 2012
Tuesday, 9 October 2012

Cynnwys
Contents

Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Questions to the First Minister

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Business Statement and Announcement

Datganiad: Ymchwiliad Robert Powell—Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Argymhellion
Statement: The Robert Powell Investigation—Welsh Government Response to the Recommendations

Datganiad: Cynllun Arfaethedig ynghylch Parhad o Ofal i Fywyd fel Oedolyn
Statement: Proposed Scheme on Continuity from Care into Adult Life

Datganiad: Rheoli Perygl Llifogydd—Haf 2012
Statement: Flood Risk Management—Summer 2012

Datganiad: Blwyddyn ers Cyflwynor Tâl am Fagiau Siopa
Statement: First Anniversary of the Carrier Bag Levy

Yn y golofn chwith, cofnodwyd y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y Siambr. Yn y golofn dde, cynhwyswyd cyfieithiad.
In the left-hand column, the proceedings are recorded in the language in which they were spoken in the Chamber. In the right-hand column, a translation has been included.

Cyfarfu’r Cynulliad am 1.30 p.m. gyda’r Llywydd (Rosemary Butler) yn y Gadair.
The Assembly met at 1.30 p.m. with the Presiding Officer (Rosemary Butler) in the Chair.

The Record

The Presiding Officer: The National Assembly is now in session.

Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Questions to the First Minister

The Record

Effaith y Diwygiadau Lles

The Impact of Welfare Reforms

1. Mick Antoniw: Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i effaith Diwygiadau Lles Llywodraeth y DU ar bobl Cymru. OAQ(4)0699(FM)

1. Mick Antoniw: What consideration has the Welsh Government given to the impact of the UK Government’s Welfare Reforms on the people of Wales. OAQ(4)0699(FM)

The Record

The First Minister (Carwyn Jones): We have given a great deal of consideration to the impact of the reforms. That is why we have, for example, commissioned a programme of research to assess the cumulative impact of those reforms on the people of Wales.

Y Prif Weinidog (Carwyn Jones): Rydym wedi rhoi llawer o ystyriaeth i effaith y diwygiadau. Dyna pam ein bod, er enghraifft, wedi comisiynu rhaglen o ymchwil i asesu effaith gronnol y diwygiadau hynny ar bobl Cymru.

 

Mick Antoniw: There has been a massive cut in welfare spending, and more of what has already been decided is in the pipeline. Has any further consideration been given to what the impact will be if this UK Government decides to make the poorest pay for its increasing deficit by reducing a further £10 billion of welfare benefits, making the poorest and most vulnerable in our society suffer?

Mick Antoniw: Bu toriad enfawr mewn gwariant ar les, ac mae mwy o'r hyn sydd eisoes wedi'i benderfynu ar y gweill. A oes unrhyw ystyriaeth bellach wedi'i rhoi i beth fydd yr effaith os bydd Llywodraeth bresennol y DU yn penderfynu gwneud i’r bobl dlotaf dalu am ei diffyg cynyddol drwy leihau £10 biliwn arall oddi ar fudd-daliadau lles, gan wneud y bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ddioddef?

 

The First Minister: What the UK Government seems to have forgotten as well, of course, is that many of the people who claim benefit, particularly housing benefit, are in work. They are people who are working, and the state is, effectively, subsidising the low pay that they get paid by their employers. Those people work very hard, but it shows that the UK Government seems not to make any distinction between anyone on a low income. According to it, they are all scroungers. However, we know that there are plenty of working people out there who work hard but who need benefits. There are also many people out there who are unemployed and are looking for jobs, who need the support of the state at this time. They are the people who deserve the support of the state when times are difficult for them.

Y Prif Weinidog: Yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ymddangos o fod wedi’i anghofio hefyd, wrth gwrs, yw bod llawer o'r bobl sy'n hawlio budd-dal, yn enwedig budd-dal tai, yn gweithio. Maent yn bobl sy'n gweithio, ac mae’r wladwriaeth, i bob pwrpas, yn sybsideiddio'r cyflog isel a delir iddynt gan eu cyflogwyr. Mae'r bobl hynny’n  gweithio’n galed iawn, ond mae'n ymddangos nad yw Llywodraeth y DU yn gwahaniaethu o gwbl rhwng bobl ar incwm isel. Yn ôl y Llywodraeth, maent i gyd yn godro pwrs y wlad. Fodd bynnag, gwyddom fod llawer o bobl sy’n gweithio'n galed, ond sydd angen budd-daliadau hefyd. Mae  llawer o bobl hefyd sy'n ddi-waith ac yn chwilio am swyddi, ond sydd angen cefnogaeth y wladwriaeth ar hyn o bryd. Maent yn bobl sy'n haeddu cefnogaeth y wladwriaeth pan fo pethau'n anodd arnynt.

 

Janet Finch-Saunders: The UK Government is currently devolving the council tax benefit scheme to local authorities, enhancing the UK localism agenda, while at the same time saving £490 million. Your Government, however, has decided against this initiative on the grounds that it could bring about a postcode lottery. Yet, several Welsh Government initiatives, for example council tax aid to pensioners, follow the exact same localised principles. How do you, as First Minister, account for this blatant contradiction?

Janet Finch-Saunders: Mae Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn datganoli cynllun budd-dal y dreth gyngor i awdurdodau lleol, sy’n gwella agenda lleoliaeth y DU, ac ar yr un pryd yn arbed £490 miliwn. Mae eich Llywodraeth chi, fodd bynnag, wedi penderfynu yn erbyn y fenter hon ar y sail y gallai esgor ar loteri cod post. Eto i gyd, mae nifer o fentrau Llywodraeth Cymru, er enghraifft cymorth y dreth gyngor i bensiynwyr, yn dilyn yr un egwyddorion lleol yn union. Sut ydych chi, fel y Prif Weinidog, yn egluro’r gwrth-ddweud amlwg hwn?

 

The First Minister: Why did the UK Government not give us the full budget when it devolved council tax? It has left us £20 million short. That is the reality. Unlike the UK Government, we are not prepared to pass the responsibility along to local councillors so that they can be blamed instead of the UK Government. If council tax benefit is to be devolved, at least devolve the whole budget, rather than top-slice it by around 10 per cent.

Y Prif Weinidog: Pam na roddodd Llywodraeth y DU y gyllideb lawn i ni pan ddatganolwyd y dreth gyngor? Mae wedi ein gadael £20miliwn yn fyr. Dyna'r realiti. Yn wahanol i Lywodraeth y DU, nid ydym yn fodlon trosglwyddo'r cyfrifoldeb ymlaen i gynghorwyr lleol fel y gellir eu beio nhw yn hytrach na Llywodraeth y DU. Os yw budd-dal y dreth gyngor i gael ei ddatganoli, o leiaf datganolwch y gyllideb gyfan, yn hytrach na’i brigdorri  o tua 10 y cant.

The Record

Simon Thomas: Nid yw Plaid Cymru yn cefnogi cap rhanbarthol ar fudd-daliadau. A wnewch chi esbonio egwyddor eich plaid chi, a’ch Llywodraeth chi, tuag at gap ar fudd-daliadau?

Simon Thomas: Plaid Cymru does not support a regional cap on benefits. Will you explain what the principle of your party and your Government is in relation to a benefits cap?

Y Prif Weinidog: Nid ydym yn cytuno ag unrhyw gap ar fudd-daliadau o ran ble mae pobl yn byw.

The First Minister: We do not agree with any cap on benefits in relation to where people live.

The Record

Rebecca Evans: At the meeting of the cross-party group on disability this morning, I was horrified to hear a woman saying how she is having to scavenge supermarket bins in order to feed herself. Do you share my horror that this is how some people with disabilities are living, and do you share my fear that things will only get worse with the benefit reforms?

Rebecca Evans: Yn y cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar anabledd y bore yma, cefais fy arswydo o glywed menyw yn dweud ei bod hi'n gorfod chwilota am sbarion mewn biniau archfarchnad er mwyn bwydo ei hun. A ydych chi’n rhannu fy nychryn mai fel hyn y mae rhai pobl ag anableddau yn byw, ac a ydych yn rhannu fy mhryder mai gwaeth y bydd pethau'n mynd oherwydd y diwygiadau budd-dal?

 

The First Minister: Absolutely, because these people are being targeted by the UK Government, it seems. I was in Sainsbury’s in Bridgend on Saturday, where people were raising awareness of a food bank, and asking people to buy food for those people who could not afford to buy food themselves. Is this the Tory and Lib-Dem Britain that we live in? It clearly is. Where have we come? We are going backwards. When we see the economic figures now, which suggest that the UK’s budget deficit as a percentage of GDP is worse than that of Greece, I think that people are perfectly entitled to ask where on earth the direction of the UK Government is taking us.

Y Prif Weinidog: Yn bendant, oherwydd bod y bobl yma yn cael eu targedu gan Lywodraeth y DU, mae'n ymddangos. Roeddwn i yn Sainsbury’s ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Sadwrn, lle'r oedd pobl yn codi ymwybyddiaeth o fanc bwyd, ac yn gofyn i bobl brynu bwyd i'r bobl hynny nad oeddent yn gallu fforddio prynu bwyd eu hunain. Ai dyma Brydain y Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol yr ydym yn byw ynddi? Ie, mae'n amlwg. I ble rydym ni wedi dod? Rydym yn mynd tuag at yn ôl. Pan fyddwn yn gweld y ffigurau economaidd yn awr, sy'n awgrymu bod diffyg yng nghyllideb y DU fel canran o CMC yn waeth nag un Gwlad Groeg, rwyf yn meddwl bod gan bobl berffaith hawl i ofyn i ble ar y ddaear y mae cyfeiriad Llywodraeth y DU yn mynd â ni.

The Record

Mewnfuddsoddi a Masnach

Inward Investment and Trade

2. Ieuan Wyn Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar fewnfuddsoddi a masnach ryngwladol. OAQ(4)0700(FM)

2. Ieuan Wyn Jones: Will the First Minister make a statement on the Welsh Government’s policy on inward investment and international trade. OAQ(4)0700(FM)

Y Prif Weinidog: Yn fy nghynhadledd newyddion ar 24 Medi, yn dilyn cyfarfod o gyngor adnewyddu’r economi, amlinellais y camau gweithredu yr ydym yn eu cymryd i hybu allforion Cymru ymhellach, ac i ddenu mwy o fuddsoddiad i Gymru gan gwmnïau â pherchnogaeth dramor.

The First Minister: In my news conference on 24 September, following a meeting of the council for economic renewal, I outlined the action we are taking to boost Wales’s exports further and to attract more investment into Wales by overseas-owned companies.

Ieuan Wyn Jones: Mae’r Llywodraeth ar y trywydd iawn yn y ffordd y mae’n symud ymlaen ar fewnfuddsoddi a masnach. Fodd bynnag, a yw’r Prif Weinidog yn derbyn bod sialens yn India yn arbennig gan fod y farchnad yno o ran gwyddorau bywyd a fferyllol yn gystadleuol iawn? Yn fwy cyffredinol, a wnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym pa un o’r naw sector twf sy’n dangos y mwyaf o botensial o ran mewnfuddsoddi a masnach yn ei farn ef? A yw’n derbyn bod ynni carbon isel a gwasanaethau amgylcheddol ymhlith y pwysicaf?

Ieuan Wyn Jones: The Government is on the right track in respect of its direction of travel on inward investment and trade. However, does the First Minister accept that there is a challenge in respect of India particularly given how competitive the market in life sciences and pharmaceuticals is? More generally, will the First Minister tell us which one of the nine growth sectors he thinks shows the greatest potential for inward investment and trade? Does he accept that low-carbon energy and environmental services are among the most important?

Y Prif Weinidog: Mae’r naw yn bwysig. Wrth fynd i India ar ddechrau’r flwyddyn, roeddwn yn hapus dros ben gyda’r ymateb yn y cyfryngau a chan gwmnїau yn India, ac am y newyddion ynghylch £800 miliwn o fuddsoddiad gan Tata. Mae’n bwysig dros ben ein bod yn cario ymlaen i ymweld â gwledydd i gadw’r momentwm i fynd ac i gryfhau’r swyddfeydd sydd gyda ni dramor, a’n bod yn gweithio’n agos iawn gyda Masnach a Buddsoddi y DU.

The First Minister: All nine are important. In travelling to India at the start of the year, I was very pleased with the response in the media and from companies in India, as well as the news about the £800 million investment by Tata. It is extremely important that we continue to visit nations so that we keep up the momentum and strengthen our overseas offices, and that we work as closely as possible with UK Trade and Investment.

The Record

Julie Morgan: I know that the First Minister is well aware of GE Healthcare in Forest Farm in my constituency of Cardiff North. Does he welcome the new cell therapy and laboratories that are in the process of being developed, and does he not agree that this is an excellent example of inward investment?

Julie Morgan: Gwn fod y Prif Weinidog yn ymwybodol iawn o GE Healthcare yn Forest Farm yn fy etholaeth, Gogledd Caerdydd. A yw'n croesawu'r therapi celloedd newydd a’r labordai sydd yn y broses o gael eu datblygu, ac onid yw'n cytuno bod hyn yn enghraifft ardderchog o fewnfuddsoddi?

 

The First Minister: Very much so. We know that GE has built a new facility on site to accommodate its cell technologies business, which will provide capacity for future business growth. It is certainly very much a vote a confidence by GE Healthcare in its Cardiff operation.

Y Prif Weinidog: Yn bendant. Gwyddom fod GE wedi adeiladu cyfleuster newydd ar y safle i ddarparu ar gyfer eu busnes technolegau cell, a fydd yn darparu lle ar gyfer twf y busnes yn y dyfodol. Mae'n sicr yn dangos hyder GE Healthcare yn ei weithrediadau yng Nghaerdydd.

 

Mohammad Asghar: First Minister, according to UK Trade and Investment, the number of active foreign direct investment projects in Wales fell to only 23 last year, which is below the number of projects in any region or devolved nation of the United Kingdom. Indeed, the 23 projects in Wales represent only 1.6% of the United Kingdom total. What is the Welsh Government doing to attract more foreign direct investment in Wales, and does he regret the decision to abolish the Welsh Development Agency, which Professor Brian Morgan said would probably go down in history as the worst policy decision made in Wales in living memory? What do you say about that?

Mohammad Asghar: Brif Weinidog, yn ôl Masnach a Buddsoddi y DU, gostyngodd y nifer o brosiectau buddsoddi gweithredol uniongyrchol tramor yng Nghymru i ddim ond 23 y llynedd, sy'n is na'r nifer o brosiectau mewn unrhyw ranbarth neu genedl ddatganoledig yn y Deyrnas Unedig. Yn wir, mae’r 23 o brosiectau yng Nghymru yn cynrychioli dim ond 1.6% o gyfanswm y Deyrnas Unedig. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddenu mwy o fuddsoddiad uniongyrchol tramor yng Nghymru, ac a yw'n difaru’r penderfyniad i ddiddymu Awdurdod Datblygu Cymru, a fyddai yn ôl yr Athro Brian Morgan, mwy na thebyg yn cael ei gofnodi mewn hanes fel y penderfyniad polisi gwaethaf a wnaed yng Nghymru o fewn cof dyn byw? Beth ydych chi'n ei ddweud am hynny?

 

The First Minister: There is an interest there on behalf of Professor Morgan. You have to understand that. The figures produced by the UKTI do not tally with our own. There are reasons for that, because they cover different calendar years. The latest figures are far more optimistic than the UKTI figures and, in fairness, it has accepted that.

Y Prif Weinidog: Mae budd yn hyn ar ran yr Athro Morgan. Mae'n rhaid i chi ddeall hynny. Nid yw'r ffigurau a gynhyrchwyd gan Masnach a Buddsoddi y DU yn cyfateb i’n rhai ni. Mae rhesymau am hynny, oherwydd eu bod yn cwmpasu blynyddoedd calendr gwahanol. Mae'r ffigurau diweddaraf yn llawer mwy optimistaidd na ffigurau Masnach a Buddsoddi y DU ac, er tegwch,  mae Masnach a Buddsoddi y DU wedi derbyn hynny.

 

With regard to the WDA, what did it bring in? In the 1970s and 1980s, lots of jobs came to Wales on the basis that Wales was the cheapest place to go in terms of paying people. That was the WDAs policy. That would not last now, and it started to fall apart some 10 years ago. The twenty-first century deserves twenty-first-century solutions, not the tired solutions of the 1970s.

O ran Awdurdod Datblygu Cymru, beth a gyflawnwyd ganddo? Yn y 1970au a'r 1980au, daeth llawer o swyddi i Gymru ar y sail mai Cymru oedd y lle rhataf i fynd o ran talu pobl. Dyna oedd polisi Awdurdod Datblygu Cymru. Ni fyddai hynny wedi parhau hyd heddiw, a dechreuodd ddatgymalu 10 mlynedd yn ôl. Mae'r unfed ganrif ar hugain yn haeddu atebion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, nid hen atebion blinedig y 1970au.

The Record

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Questions Without Notice from the Party Leaders

The Record

The Leader of the Welsh Liberal Democrats (Kirsty Williams): Last year, Labour’s manifesto said that

Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (Kirsty Williams): Y llynedd, dywedodd maniffesto Llafur:

 

'The Communities First programme has made huge strides in regenerating deprived areas and tackling poverty through providing training and skills, developing affordable childcare, improving the health of local people, generating business and tourism and improving community safety.’

Mae'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi cymryd camau breision o ran adfywio ardaloedd difreintiedig a mynd i'r afael â thlodi trwy ddarparu hyfforddiant a sgiliau, datblygu gofal plant fforddiadwy, gwella iechyd y bobl leol, creu busnes a thwristiaeth a gwella diogelwch cymunedol.

 

If Communities First was such a success, why has your Government had to go back to the drawing board?

Os oedd Cymunedau yn Gyntaf yn gymaint o lwyddiant, pam mae eich Llywodraeth wedi gorfod dechrau o’r dechrau?

 

The First Minister: Not at all. We are seeking to improve Communities First even further.

Y Prif Weinidog: Ddim o gwbl. Rydym yn ceisio gwella Cymunedau yn Gyntaf hyd yn oed ymhellach.

 

Kirsty Williams: The reality, First Minister, is that you have spent 11 years and £300 million on Communities First, and now you have had to reduce the 150 projects to 50 cluster areas. In 2009, the Wales Audit Office said that Communities First was unlikely to deliver objectives without significant change, the Public Accounts Committee said that the programme had failed to deliver good value for money, and that the Government management of the programme was to blame, and the Joseph Rowntree Foundation said that your flagship policy had led to only marginal improvements in the poorest communities. In your own analysis, First Minister, why did Communities First fail to deliver?

Kirsty Williams: Y gwir amdani, Brif Weinidog, yw eich bod wedi treulio 11 mlynedd a gwario £300 miliwn ar Gymunedau yn Gyntaf, ac erbyn hyn rydych wedi gorfod lleihau'r 150 o brosiectau i 50 o ardaloedd clwstwr. Yn 2009, dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru fod Cymunedau yn Gyntaf yn annhebygol o gyflawni amcanion heb newid sylweddol, dywedodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod y rhaglen wedi methu â chyflawni gwerth da am arian, ac mai rheolaeth y Llywodraeth o’r rhaglen oedd ar fai, a dywedodd Sefydliad Joseph Rowntree fod eich polisi blaenllaw wedi arwain at ddim ond gwelliannau cymedrol yn y cymunedau tlotaf. O ran eich dadansoddiad eich hun, Brif Weinidog, pam y gwnaeth Cymunedau yn Gyntaf fethu â chyflawni?

 

The First Minister: It would help me if the leader of the Liberal Democrats would indicate whether or not she is against Communities First. For example, are the Communities First areas in her own constituency a failure? Does she criticise them for the jobs that they have done? We want to further strengthen Communities First. I have been around Wales and seen the difference that it makes to communities, and not just in my own constituency, but in many other parts of Wales as well. We will now move forward with Communities First to strengthen the partnerships further.

Y Prif Weinidog: Byddai o gymorth i mi os byddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn nodi a yw hi yn erbyn Cymunedau yn Gyntaf. Er enghraifft, a yw’r ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn ei hetholaeth hi ei hun yn fethiant? Ydy hi'n eu beirniadu am y gwaith y maent wedi ei wneud? Rydym yn awyddus i gryfhau Cymunedau yn Gyntaf ymhellach. Rwyf wedi bod o amgylch Cymru a gweld y gwahaniaeth y mae'n ei wneud i gymunedau, ac nid yn unig yn fy etholaeth fy hun, ond mewn sawl rhan arall o Gymru hefyd. Byddwn yn awr yn symud ymlaen â Chymunedau yn Gyntaf i gryfhau'r partneriaethau ymhellach.

 

Kirsty Williams: Eleven years and £300 million to make these poorest communities better off and, according to all independent analysis, you have failed to do so. In my constituency, Communities First has been characterised by an internecine warfare between the Communities First partnership and the Labour councillors who run the town council.

Kirsty Williams: Un mlynedd ar ddeg a £300 miliwn i wneud y cymunedau tlotaf hyn yn well eu byd ac, yn ôl pob dadansoddiad annibynnol, rydych wedi methu â gwneud hynny. Yn fy etholaeth i, mae Cymunedau yn Gyntaf wedi cael ei nodweddu gan ryfela dinistriol rhwng y bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf a'r cynghorwyr Llafur sy'n rhedeg cyngor y dref.

 

A decade ago, you said about Communities First that the goal was for better education and skills training, more job opportunities, improved health and wellbeing and to make communities safer, yet you have been unable to offer any statistics that prove any of those points. By 2010, you were telling me in this Chamber that Communities First was not necessarily an economic development programme, and that it was about capacity building. Why should the people of our poorest communities now believe that the new Communities First programme will do better than its failed predecessor?

Ddegawd yn ôl, dywedasoch am Cymunedau yn Gyntaf mai’r nod oedd gwell addysg a hyfforddiant sgiliau, mwy o gyfleoedd gwaith, gwell iechyd a lles a gwneud cymunedau yn fwy diogel, ond er hynny nid ydych wedi gallu cynnig unrhyw ystadegau sy'n profi unrhyw un o'r pwyntiau hynny. Erbyn 2010, roeddech yn dweud wrthyf yn y Siambr hon nad oedd Cymunedau yn Gyntaf o reidrwydd yn rhaglen ar gyfer datblygu economaidd, ond ei fod yn hytrach yn  ymwneud â meithrin gallu. Pam y dylai pobl o'n cymunedau tlotaf bellach gredu y bydd rhaglen newydd Cymunedau yn Gyntaf yn gwneud yn well na'i rhagflaenydd aflwyddiannus?

 

The First Minister: I have seen Communities First areas around Wales. I have seen what has been built by way of community facilities and I have seen hope given to those communities. I went to Caia Park in Wrexham, where older people were saying to me that they now felt safe to walk the streets, and they were happy to see their community being rejuvenated. That was the message that I got from many other parts of Wales. I know that the Lib Dems think that money spent on poorer communities is a waste of money, but we, in the Labour Party, will never believe that.

Y Prif Weinidog: Yr wyf wedi gweld ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru. Rwyf wedi gweld yr hyn sydd wedi ei adeiladu o ran cyfleusterau cymunedol ac rwyf wedi gweld gobaith yn cael ei roi i'r cymunedau hynny. Es i i Barc Caia yn Wrecsam, lle’r oedd pobl hŷn yn dweud wrthyf eu bod bellach yn teimlo'n ddiogel i gerdded y strydoedd, ac roeddent yn hapus i weld eu cymuned yn cael ei hadfywio. Dyna oedd y neges a gefais o rannau eraill o Gymru. Gwn fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn credu bod arian sy’n cael ei wario ar gymunedau tlotach yn wastraff arian, ond ni fyddwn ni, yn y Blaid Lafur, byth yn credu hynny.

 

The Leader of the Opposition (Andrew R.T. Davies): Last Wednesday, First Minister, we debated a motion in this Chamber about neonatal services—a very important debate that is going on around the whole of Wales. Many Members across the political divide here have been lobbied by health professionals and constituents about their concerns. Your Government and your group chose to abdicate responsibility for casting a view or opinion on that debate. Why was that?

Arweinydd yr Wrthblaid (Andrew RT Davies): Ddydd Mercher diwethaf, Brif Weinidog, trafodom ni gynnig yn y Siambr hon am y gwasanaethau newyddenedigol —dadl bwysig iawn sy'n digwydd ym mhob rhan o Gymru. Mae nifer o Aelodau ar draws y rhaniad gwleidyddol yn y Siambr wedi eu lobïo gan weithwyr iechyd proffesiynol ac etholwyr am eu pryderon. Dewisodd eich Llywodraeth a'ch grŵp wrthod bod yn gyfrifol am roi eich barn ar y ddadl honno. Pam oedd hynny?

 

The First Minister: Ministers were legally unable to vote.

Y Prif Weinidog: Nid oedd Gweinidogion yn cael pleidleisio dan y gyfraith.

 

Andrew R.T. Davies: That is complete rubbish, First Minister, on the basis that the Presiding Officer gave an indication that the motion was perfectly in order. You are perfectly entitled to table amendments to any motion for debate and so, if you felt that there was an issue around the legality of the motion or that it precluded your Ministers, you could have deleted that point and spoken only to the part of the motion that related to what many residents have raised with their Assembly Members. Again, your Minister for health chose to tweet during the debate—or her press officer did. That was the level of engagement from your Government with a very serious issue here in Wales. Is your Government so void of any ideas and is your group so disrespectful of this institution that you are not prepared to debate the issues?

Andrew RT Davies: Lol llwyr yw hynny, Brif Weinidog, ar y sail bod y Llywydd wedi nodi bod y cynnig yn gwbl dderbyniol. Mae gennych berffaith hawl i gyflwyno gwelliannau i unrhyw gynnig ar gyfer trafodaeth ac felly, os ydych yn teimlo bod problem ynghylch cyfreithlondeb y cynnig neu ei fod yn eithrio eich Gweinidogion, gallech fod wedi dileu’r pwynt hwnnw a siarad yn unig am y rhan o'r cynnig a oedd yn ymwneud â'r hyn y mae llawer o drigolion wedi ei godi gyda'u Haelodau Cynulliad. Unwaith eto, dewisodd eich Gweinidog dros iechyd drydar yn ystod y ddadl — neu fe wnaeth ei swyddog y wasg. Dyna oedd lefel yr ymgysylltu gan eich Llywodraeth ynglŷn â mater difrifol iawn yma yng Nghymru. A yw eich Llywodraeth mor brin o unrhyw syniadau ac a yw eich grŵp mor amharchus o’r sefydliad hwn fel nad ydych yn barod i drafod y materion hyn?

 

The First Minister: The reality is that his party deliberately misled the public into thinking that the debate was something that Welsh Ministers could vote on. That is not the case. It is a well-established principle of public law that, where there is an ongoing consultation, any opinion voiced by a Minister or Ministers prejudices that consultation and renders it void. I know that this is not understood by the Conservatives, because we saw the mess that they made over the consultation on photovoltaic cells, over solar panels. They took a decision while the consultation was ongoing, and the court said that they could not do that and had to wait for the consultation to finish. You cannot express a view until the consultation has finished. That is a long-established area of public law, and I am not prepared for myself or Ministers to act illegally, despite what the leader of the opposition might want.

Y Prif Weinidog: Y gwir amdani yw bod ei blaid yn fwriadol wedi camarwain y cyhoedd i feddwl bod y ddadl yn rhywbeth y gallai Gweinidogion Cymru bleidleisio arno. Nid yw hynny’n wir. Mae'n egwyddor sefydledig o gyfraith gyhoeddus, pan geir ymgynghoriad parhaus, bod unrhyw farn a fynegir gan Weinidog neu Weinidogion yn niweidio’r ymgynghoriad hwnnw ac yn ei ddirymu. Rwyf yn gwybod nad yw’r Ceidwadwyr yn deall hyn, oherwydd ein bod wedi gweld y llanast a wnaethpwyd ganddynt ynghylch yr ymgynghoriad ar gelloedd ffotofoltäig, dros baneli solar. Gwnaethant benderfyniad tra’r oedd yr ymgynghoriad yn mynd yn ei flaen, a dywedodd y llys na allent wneud hynny a bod yn rhaid iddynt aros tan fod yr ymgynghoriad  wedi gorffen. Ni allwch fynegi barn tan fydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben. Mae hwnnw'n faes hir-sefydledig o gyfraith gyhoeddus, ac nid wyf yn fodlon, nac yn fodlon i Weinidogion, weithredu’n anghyfreithlon, er gwaethaf dymuniad arweinydd yr wrthblaid.

 

Andrew R.T. Davies: What a load of rubbish, First Minister. Again, the default position: go to Westminster. Instead of dealing with the issues for which you and your Ministers have responsibility. More galling is the instruction that you would have given to your group not to vote on that. I have had health professional after health professional come to me to say how this place was brought into disrepute by your group. Are you really—[Interruption.] I can hear the deputy First Minister talking away there. I am sure he will move to the centre of the Chamber one day. First Minister, is your Government so void of ideas and so disrespectful of this institution and, above all, of democracy in Wales that you offer absolutely nothing?

Andrew RT Davies: Sothach llwyr, Brif Weinidog. Unwaith eto, yr hen gân: mynd i San Steffan, yn hytrach nag ymdrin â'r materion yr ydych chi a'ch Gweinidogion yn gyfrifol amdanynt. Yr hyn sy’n fwy dirmygus yw'r cyfarwyddyd y byddech wedi ei roi i'ch grŵp i beidio â phleidleisio ar hynny. Rwyf wedi cael gweithwyr iechyd proffesiynol, un  ar ôl y llall, yn dod ataf i ddweud bod eich grŵp wedi dwyn anfri ar y lle hwn. Ydych chi wir—[Torri ar draws.] gallaf glywed y Dirprwy Brif Weinidog yn clebran. Rwyf yn siŵr y bydd yn symud i ganol y Siambr rhyw ddydd. Brif Weinidog, a yw eich Llywodraeth mor brin o syniadau ac mor amharchus o'r sefydliad hwn ac, yn anad dim, o ddemocratiaeth yng Nghymru fel nad oes gennych ddim o gwbl i’w gynnig?

 

1.45 p.m.

 

The First Minister: He cannot go off-script, can he, Presiding Officer? When he gets an answer that he does not like, he has to stick to the script. He talks about democracy, yet his own Prime Minister suggested that his party should take part in an insurgency. That is an organised movement involving armed conflict. What has he said about that? There he is, the Che Guevara of Wales; there is Rosa Luxemburg and Fidel Castro, and there is Lenin is next to him. You can see these people apparently who talk about democracy but, at the same time, want to take part in armed conflict. We take no lessons from him at all. I listened very carefully to what David Jones, the Secretary of State, actually said and while we have our differences, I very much appreciated the way in which he put forward the case for Wales. The leader of the opposition talked Wales down. He had nothing to learn from the last Secretary of State, but he has a lot to learn from this one.

Y Prif Weinidog: Nid yw’n gallu mynd oddi wrth y sgript, nag yw e, Lywydd?  Pan mae'n cael ateb nad yw'n ei hoffi, mae'n rhaid iddo gadw at y sgript. Mae'n sôn am ddemocratiaeth, ac eto awgrymodd ei Brif Weinidog ei hun y dylai ei blaid gymryd rhan mewn gwrthryfel. Hynny yw, mudiad cyfundrefnol yn ymwneud â gwrthdaro arfog. Beth mae e wedi'i ddweud am hynny? Dacw fe, Che Guevara Cymru; dacw Rosa Luxemburg a Fidel Castro, dacw Lenin nesaf ato. Gallwch weld y bobl hyn, sydd yn ôl pob golwg yn siarad am ddemocratiaeth ond, ar yr un pryd, maent eisiau cymryd rhan mewn gwrthdaro arfog. Dydyn ni ddim yn derbyn unrhyw wersi ganddo fe o gwbl. Gwrandewais yn astud ar yr hyn a ddywedwyd mewn gwirionedd gan David Jones, yr Ysgrifennydd Gwladol, ac er nad ydym yn cytuno bob amser, gwerthfawrogais yn fawr y ffordd y cyflwynodd yr achos dros Gymru. Roedd arweinydd yr wrthblaid yn siarad yn nawddoglyd am Gymru. Doedd ganddo ddim i'w ddysgu gan yr Ysgrifennydd Gwladol diwethaf, ond mae ganddo lawer i'w ddysgu gan yr un presennol.

 

The Leader of Plaid Cymru (Leanne Wood): First Minister, we are now reaching the end of the bilateral talks between the Welsh and the UK Governments. When we discussed their progress back in June, you said that you wanted the Barnett floor to be set at 115%. Is that still an indicator of your success?

Arweinydd Plaid Cymru (Leanne Wood): Brif Weinidog, rydym yn awr yn cyrraedd diwedd y trafodaethau dwyochrog rhwng Llywodraethau Cymru a’r DU. Pan drafodom ni eu cynnydd yn ôl ym mis Mehefin, dywedasoch eich bod yn dymuno i derfyn Barnett gael ei osod ar 115%. A yw hynny'n dal i fod yn arwydd o’ch llwyddiant?

 

The First Minister: You can expect an announcement in the next two weeks.

Y Prif Weinidog: Gallwch ddisgwyl cyhoeddiad yn y pythefnos nesaf.

 

Leanne Wood: First Minister, I warned back in June that the calculations of the Holtham commission regarding Welsh needs required updating as several years have gone by. Did you ask your civil servants to investigate this and provide updated figures? Can you tell us which figures you used as the basis for your discussions with the UK Government?

Leanne Wood: Brif Weinidog, rhybuddiais yn ôl ym mis Mehefin bod angen diweddaru cyfrifiadau comisiwn Holtham ynghylch anghenion Cymru gan fod nifer o flynyddoedd wedi mynd heibio. A wnaethoch chi ofyn i'ch gweision sifil ymchwilio i hyn a darparu ffigurau wedi'u diweddaru? A allwch chi ddweud wrthym pa ffigurau a ddefnyddiwyd gennych fel sail ar gyfer eich trafodaethau â Llywodraeth y DU?

 

The First Minister: We started in the position that we are in at the moment, but there have been a number of detailed discussions over the last few months, and we expect there to be an announcement regarding the conclusion of those discussions in the next two weeks.

Y Prif Weinidog: Fe ddechreuon ni yn y sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd, ond bu nifer o drafodaethau manwl dros y misoedd diwethaf, ac rydym yn disgwyl y bydd cyhoeddiad ynglŷn â chasgliad y trafodaethau hynny yn ystod y bythefnos nesaf.

 

Leanne Wood: The Party of Wales estimated that the underinvestment in Wales as a result of the Barnett formula is now around £540 million per year, which is money that should be invested in hospitals and schools in Wales and in jobs as well. Labour’s Barnett formula has squeezed that money out of Wales and fair funding is only achievable on a needs basis. Did you make that argument in your discussions with the UK Government?

Leanne Wood: Mae Plaid Cymru yn amcangyfrif bod y tanfuddsoddi yng Nghymru o ganlyniad i fformiwla Barnett bellach oddeutu £540 miliwn y flwyddyn, sef arian y dylid ei fuddsoddi mewn ysbytai ac ysgolion yng Nghymru, ac mewn swyddi hefyd. Mae fformiwla Barnett Llafur wedi gwasgu’r arian hwnnw allan o Gymru ac ni ellir cyflawni ariannu teg heblaw am ar sail anghenion. A wnaethoch chi gyflwyno’r ddadl honno yn eich trafodaethau gyda Llywodraeth y DU?

 

The First Minister: Of course, it has been established for a while; we would like to see full Barnett reform and, in the absence of that, we want to see an adequate Barnett floor together with borrowing powers. As a Government, our position has been very clear. The Leader of Plaid Cymru talks about Labour’s Barnett formula, but, of course, if she had her way, there would be no Barnett formula because Wales would not be a part of the UK. Therefore, from our point of view, we are standing up for Wales while, at the same time, ensuring that Wales is very much a part of the UK. This is a message that I believe resonates with the people of Wales.

Y Prif Weinidog: Wrth gwrs, mae wedi’i  sefydlu ers tro; byddem yn hoffi gweld diwygiad llawn o fformiwla Barnett ac, os na chawn hynny, rydym am weld terfyn Barnett digonol ynghyd â phwerau benthyca. Fel Llywodraeth, mae ein safbwynt wedi bod yn glir iawn. Mae Arweinydd Plaid Cymru yn sôn am fformiwla Barnett y blaid Lafur, ond, wrth gwrs, pe byddai hi’n cael ei ffordd, ni fyddai unrhyw fformiwla Barnett oherwydd na fyddai Cymru’n rhan o'r DU. Felly, o'n safbwynt ni, rydym yn sefyll dros Gymru ac ar yr un pryd, yn sicrhau bod Cymru yn bendant yn rhan o'r DU. Rwyf yn credu bod hon yn neges y mae pobl Cymru yn cytuno â hi.

 

The Presiding Officer: Questions 3 and 4, OAQ(4)0695(FM) and OAQ(4)0693(FM), have been withdrawn.

Y Llywydd: Tynnwyd cwestiynau 3 a 4, OAQ (4) 0695 (FM) a OAQ (4) 0693 (FM), yn ôl.

The Record

Polisi 'Blas am Oes’

'Appetite for Life’ Policy

5. Peter Black: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi 'Blas am Oes’ Llywodraeth Cymru. OAQ(4)0689(FM)

5. Peter Black: Will the First Minister make a statement on the Welsh Government’s 'Appetite for Life’ policy. OAQ(4)0689(FM)

The Record

The First Minister: Our agenda for improving the food and drink provided throughout the school day is contained in 'Appetite for Life’. There are new standards that will become statutory in all school settings next year.

Y Prif Weinidog: Mae ein hagenda ar gyfer gwella bwyd a diod a ddarperir trwy gydol y diwrnod ysgol wedi'i gynnwys yn 'Blas am Oes'. Ceir safonau newydd a fydd yn dod yn statudol ym mhob lleoliad ysgol y flwyddyn nesaf.

 

Peter Black: Thank you for that answer, First Minister. For many children, the school breakfast and school dinner are the only meals that they may get in a day. The recommended calorie intake is 1,800 calories for children aged 5 to 10, but with your guidelines a child would, at best, get only 650 calories. I have had complaints that the guidelines are extremely restrictive and overly bureaucratic and that, in some schools, there has been a 20% drop in school meal take-up as a result of these guidelines. Will you have a look at those guidelines again in order to allow an element of flexibility for schools with regard to the way in which they meet the needs of their pupils?

Peter Black: Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. I lawer o blant,  brecwast ysgol a chinio ysgol yw'r unig brydau a gânt mewn diwrnod efallai. Nifer y calorïau a argymhellir yw 1,800 o galorïau ar gyfer plant rhwng 5 a 10 oed, ond gyda'ch canllawiau chi ni fyddai plentyn, ar y gorau, ond yn cael 650 o galorïau. Rwyf wedi cael cwynion bod y canllawiau yn hynod o gyfyngol ac yn rhy fiwrocrataidd ac, mewn rhai ysgolion, bu gostyngiad o 20% yn y rhai a oedd yn manteisio ar brydau bwyd ysgol o ganlyniad i'r canllawiau hyn. A wnewch chi edrych ar y canllawiau hynny eto er mwyn caniatáu elfen o hyblygrwydd i ysgolion o ran y ffordd y maent yn diwallu anghenion eu disgyblion?

 

The First Minister: As I mentioned to the Member, regulations are due to be introduced next year. We want to ensure that the food and drink provided in all our schools makes a positive contribution towards giving children and young people a healthy and balanced diet.

Y Prif Weinidog: Fel y soniais wrth yr Aelod, mae rheoliadau am gael eu cyflwyno y flwyddyn nesaf. Rydym eisiau sicrhau bod y bwyd a diod a ddarperir yn ein holl ysgolion yn gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at roi diet iach a chytbwys i blant a phobl ifanc.

 

Russell George: First Minister, before I ask my question, I thank you for the comments that you have made and I thank all Members who have come together in a united way over the tragic events that have occurred in Machynlleth. I know that others will join me in my praise for and admiration of the emergency services and the vast number of volunteers who have helped them. Our thoughts and prayers are very much with the parents, family and friends of April Jones.

Russell George: Brif Weinidog, cyn i mi ofyn fy nghwestiwn, diolchaf i chi am y sylwadau yr ydych wedi'u gwneud a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi dod at ei gilydd mewn ffordd unedig ynglŷn â’r digwyddiadau trasig sydd wedi digwydd ym Machynlleth. Rwy'n gwybod y bydd eraill yn ymuno â mi yn fy nghanmoliaeth a’m hedmygedd o’r gwasanaethau brys a’r nifer helaeth o wirfoddolwyr sydd wedi eu helpu. Mae ein meddyliau a'n gweddïau yn wir gyda rhieni, teulu a ffrindiau April Jones.

 

First Minister, how much progress has the Government made on the establishment of a national database to gather information on an individual school’s food and fitness programme?

Brif Weinidog, faint o gynnydd y mae’r Llywodraeth wedi ei wneud ar sefydlu cronfa ddata genedlaethol i gasglu gwybodaeth ar raglen fwyd a ffitrwydd ysgolion unigol?

 

The First Minister: I join the Member in what he has said. I know that all Members will share the views that he has expressed in relation to the tragedy that occurred in his constituency. That much, of course, we understand.

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn ymuno â'r Aelod yn yr hyn y mae wedi'i ddweud. Gwn y bydd pob Aelod yn rhannu'r farn y mae wedi’i mynegi ynglŷn â’r trychineb a ddigwyddodd yn ei etholaeth. Rydym yn ymwybodol o hynny, wrth gwrs,.

 

In terms of his question on the national database, I will write to him with further information.  

O ran ei gwestiwn ar y gronfa ddata genedlaethol, byddaf yn ysgrifennu ato i roi gwybodaeth ychwanegol. 

The Record

Simon Thomas: Hoffwn i gytuno â’r hyn a ddywedodd Russell George hefyd.

Simon Thomas: I also agree with Russell George’s comments.

Ar hyn o bryd, mae prydau ysgol am ddim yn gysylltiedig â nifer o fudd-daliadau penodol. Mae cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol, felly, yn dibynnu ar y budd-daliadau hynny. Bydd y budd-daliadau hynny yn cael eu hysgubo ymaith gan y Llywodraeth yn San Steffan yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf. Byddai Plaid Cymru yn gwneud yn siŵr bod ein plant sydd angen prydau ysgol am ddim yn dal i gael prydau ysgol. Pa gamau ydych chi, fel Llywodraeth, yn eu cymryd i sicrhau bod plant mwyaf amddifad Cymru’n dal i gael pryd maethlon ganol dydd?  

At the moment, free school meals are linked to a number of specific benefits. Qualification for free school meals is therefore dependant on those benefits. Those benefits are going to be swept away by the Westminster Government over the next year or two. Plaid Cymru would ensure that children who need free school meals would still receive them. What steps are you taking, as a Government, to ensure that the most deprived children in Wales still get a nutritious meal in the middle of the day?

Y Prif Weinidog: Rydym yn mynd i’w gwarchod. Mae hyn yn rhywbeth rydym wedi bod yn delio ag ef. Wrth gwrs, nid ydym wedi cael pob ateb eto gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond rydym am sicrhau bod y rheini sy’n cael prydau am ddim yn dal i gael prydau am ddim yn y dyfodol.

The First Minister: We are going to protect them. This is something that we are dealing with. Of course, we have not yet received every answer from the United Kingdom Government, but we wish to ensure that all those who are presently eligible will continue to receive free school meals in future.

Gwasanaethau Band Eang

Broadband Services

6. Paul Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau band eang yng ngorllewin Cymru. OAQ(4)0696(FM)

6. Paul Davies: Will the First Minister make a statement on the provision of broadband services in west Wales. OAQ(4)0696(FM)

Y Prif Weinidog: Bydd prosiect band eang y genhedlaeth nesaf a’r cynllun cymorth band eang yn sicrhau bod 96% o bobl yng Nghymru yn gallu cael mynediad i fand eang erbyn 2015.

The First Minister: The next generation broadband Wales project and the broadband support scheme will ensure that 96% of people in Wales can access broadband services by 2015.

Paul Davies: Rwy’n ddiolchgar i’r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. Rwy’n sylweddoli, wrth gwrs, mai ei nod yw sicrhau bod 96% o gartrefi Cymru’n cael mynediad i fand eang erbyn 2015. Brif Weinidog, dywedoch wrthyf  yr wythnos diwethaf hefyd fod eich Llywodraeth yn ystyried yr hyn y gallai ei wneud i gynorthwyo’r 4% o gartrefi fydd yn methu â chael mynediad. A allwch chi ddweud wrthym sut yn union yr ydych chi, fel Llywodraeth, yn bwriadu cefnogi’r 4% o gartrefi hyn?

Paul Davies: I am grateful to the First Minister for that response. I realise, of course, that his aim is to ensure that 96% of homes in Wales will have access to broadband by 2015. First Minister, you told me last week that your Government is considering what it can do to assist the 4% of homes that will not be able to access broadband. Can you tell us exactly how you, as a Government, intend to support those 4% of homes?

Y Prif Weinidog: Rydym yn edrych ar hyn o bryd ar le yn gwmws y mae’r cartrefi hyn. Unwaith y bydd y dadansoddiad hwnnw wedi’i wneud, bydd datganiad pellach ynglŷn â’r ffordd i’w helpu nhw hefyd.

The First Minister: We are looking at present at exactly where these homes are. Once that analysis is complete, a further statement will be made on the way to assist those too.

Elin Jones: Brif Weinidog, dylid cyfeirio unrhyw arian cyhoeddus sy’n mynd i gryfhau isadeiledd band eang i’r ardaloedd hynny sydd â’r band eang gwannaf a hyn o bryd. Yn eich cytundeb newydd gyda BT a fyddwch chi, felly, yn rhoi arweiniad i’r cwmni i sicrhau bod y buddsoddiad cyntaf yn mynd i’r cymunedau hynny sydd ar hyn o bryd yn dioddef y gwasanaeth band eang gwannaf?

Elin Jones: First Minister, any public moneys used to strengthen broadband infrastructure should be directed at those areas where broadband is weakest at present. In your new contract with BT, will you therefore give guidance to the company in order to ensure that the first investment goes to those communities that are currently suffering the weakest broadband service?

Y Prif Weinidog:  Mae llawer o hyn yn dibynnu ar y dechnoleg sydd ar gael ar y pryd. Mewn rhai mannau, bydd y dechnoleg ar gael a dim ond angen ei chyflwyno a’i defnyddio fydd eisiau ei wneud. Mewn mannau eraill, nid yw’r dechnoleg yno. Yr hyn rydym wedi’i ffeindio yw bod rhai rhannau o drefi a dinasoedd Cymru heb fand eang oherwydd y cyfnewidfeydd ffôn sydd yn eu hardaloedd nhw. Rydym ni am sicrhau bod pawb yn cael y mynediad cyn gynted ag sy’n bosibl.

The First Minister: A great deal of this is dependent on the technology that is available at the time. In some areas, that technology will be available and we will only need to roll it out and use it. In other places, that technology will not exist. What we are finding is that some urban areas of Wales are without broadband because of the telephone exchanges in those areas. We wish to ensure that everyone has access as soon as possible.

Yr Economi yng Ngogledd Cymru

The Economy in North Wales

7. Kenneth Skates: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer tyfu’r economi yng ngogledd Cymru. OAQ(4)0697(FM)

7. Kenneth Skates: Will the First Minister outline the Welsh Government’s plans to grow the economy in north Wales. OAQ(4)0697(FM)

The Record

The First Minister: Yes, those plans are set out in the programme for government.

Y Prif Weinidog: Gwnaf, mae’r cynlluniau hynny wedi'u nodi yn y rhaglen ar gyfer llywodraethu.

Kenneth Skates: First Minister, as you are aware, this week we have had more devastating news about how fragile the UK economy is as a consequence of the UK Tory Government believing that we can somehow cut our way to economic growth. Of course, infrastructure is crucial to economic growth, and in this regard in north Wales, the airports in Manchester, Liverpool and Birmingham are crucial. First Minister, as the UK Government reviews airport capacity across the UK, will you ensure that the needs of the north Wales economy are taken into account and that new capacity is opened up in the midlands and the north-west?

Kenneth Skates: Brif Weinidog, fel y gwyddoch, yr wythnos hon rydym wedi cael mwy o newyddion ysgytwol am ba mor fregus yw economi'r DU o ganlyniad i’r ffaith bod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn credu y gallwn, rywsut dorri ein ffordd tuag at dwf economaidd. Wrth gwrs, mae seilwaith yn hollbwysig i dwf economaidd, ac yn hyn o beth yng ngogledd Cymru, mae’r meysydd awyr ym Manceinion, Lerpwl a Birmingham yn hanfodol. Brif Weinidog, wrth i Lywodraeth y DU adolygu capasiti meysydd awyr ar draws y DU, a wnewch chi sicrhau bod anghenion economi gogledd Cymru yn cael eu hystyried a bod capasiti newydd yn cael ei greu yng nghanolbarth a gogledd-orllewin Lloegr?

The First Minister: Yes, absolutely. I fully understand that, for many people in Wales, Birmingham, Manchester and Liverpool are more convenient airports than Cardiff or, indeed, Heathrow. Much of the future depends on the position taken on Heathrow. I am on record as saying that I think the idea of a new national airport hub somewhere in the Thames estuary is never going to work, because it is too far away from most people in the west of Britain. It is as simple as that. Also, I think we should consider the issue of Anglesey Airport. I want to see that developed as a gateway to the north-west of Wales, to Anglesey and Gwynedd. For example, it would be useful to have air passenger duty devolved so as to ensure the growth of not only Cardiff Airport, but Anglesey Airport. There is potential for the airport to act as a real focus of economic growth for the entire north-west and that is certainly something I hope that the UK Government will be considering in the aftermath of part 1 of the Silk commission.

Y Prif Weinidog: Gwnaf, yn sicr. Rwyf yn deall bod Birmingham, Manceinion a Lerpwl yn feysydd awyr mwy cyfleus, i lawer o bobl yng Nghymru, na Chaerdydd, neu, hyd yn oed, Heathrow. Mae llawer o'r dyfodol yn dibynnu ar y safbwynt a gymerir ynghylch Heathrow. Mae cofnod fy mod wedi dweud nad wyf yn credu bod y syniad o gael canolfan gwasanaeth maes awyr cenedlaethol newydd rhywle yn aber Afon Tafwys byth yn mynd i weithio, gan ei fod yn rhy bell oddi wrth y rhan fwyaf o bobl yng ngorllewin Prydain. Mae mor syml â hynny. Hefyd, rwyf yn credu y dylem ystyried y mater o Faes Awyr Môn. Rwyf eisiau gweld hwn yn cael ei ddatblygu fel porth i ogledd-orllewin Cymru, i Ynys Môn a Gwynedd. Er enghraifft, byddai'n ddefnyddiol cael toll teithwyr awyr datganoledig er mwyn sicrhau twf, nid yn unig Maes Awyr Caerdydd, ond Maes Awyr Môn. Mae potensial ar gyfer y maes awyr i weithredu fel canolbwynt gwirioneddol o dwf economaidd ar gyfer yr holl ogledd-orllewin ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr wyf yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ei ystyried yn dilyn rhan 1 comisiwn Silk.

 

Darren Millar: First Minister, tourism is a massive contributor to the north Wales economy as I am sure you are aware. Many thousands of visitors come to experience the natural beauty of the landscape in north Wales. However, there is an area of north-east Wales that is relatively undiscovered by people and that is the Clwydian range, partly because there is no duty to promote the Clwydian range because it is not a national park, although it is a protected landscape. Will you give consideration, First Minister, to working with the Minister for Environment and Sustainable Development to look at whether this issue can be addressed so that we can reap the maximum benefit for this area and our local economy?

Darren Millar: Brif Weinidog, mae twristiaeth yn cyfrannu’n enfawr i economi gogledd Cymru fel yr ydych yn gwybod rwy’n siŵr. Mae miloedd lawer o ymwelwyr yn dod i brofi harddwch naturiol y dirwedd yng ngogledd Cymru. Fodd bynnag, mae ardal o ogledd-ddwyrain Cymru sydd i raddau helaeth, heb ei darganfod gan bobl, sef Bryniau Clwyd, yn rhannol oherwydd nad oes dyletswydd i hyrwyddo ardal Bryniau Clwyd oherwydd nad yw'n barc cenedlaethol, er ei bod yn dirwedd warchodedig. A wnewch chi ystyried, Brif Weinidog, gweithio gyda'r Gweinidog dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ystyried a oes modd rhoi sylw i'r mater hwn fel y gallwn gael y budd mwyaf i’r ardal hon ac i’r economi leol?

The First Minister: If I remember correctly, the Clwydian range is an area of outstanding natural beauty. I answered a question on this last week or the week before. Steps are being taken to promote the area, particularly with regard to the potential of walking tourism.

Y Prif Weinidog: Os cofiaf yn iawn, mae Bryniau Clwyd yn ardal o harddwch naturiol eithriadol. Atebais gwestiwn ar hyn yr wythnos diwethaf neu'r wythnos cynt. Mae camau'n cael eu cymryd i hyrwyddo'r ardal, yn enwedig o ran potensial twristiaeth cerdded.

The Record

Llyr Huws Gruffydd: Pa achos mae’r Prif Weinidog a’i Lywodraeth wedi ei gyflwyno i Lywodraeth y Deyrnas Unedig dros drydaneiddio’r rheilffordd ar draws gogledd Cymru?

Llyr Huws Gruffydd: What case has the First Minister and his Government presented to the UK Government for the electrification of the north Wales rail line?

Y Prif Weinidog: Rydym yn croesawu’n fawr y penderfyniad sydd wedi’i wneud ynglŷn â thrydaneiddio rheilffordd y de, y Cymoedd a’r fro. Mae’n bwysig dros ben bod ystyriaeth yn cael ei roi i’r hyn sy’n digwydd yn y gogledd ac hefyd mewn rhannau eraill o Gymru. Rydym am weld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi cynlluniau hirdymor sy’n dangos ymhle y bydd trydaneiddio yn dod ar ôl i reilffyrdd y de a’r Cymoedd gael eu trydaneiddio.

The First Minister: We greatly welcome the decision that has been taken on the electrification of the rail lines of south Wales, the Valleys and the vale. It is very important that consideration is now given to north Wales and also other parts of Wales. We want to see the United Kingdom Government publishing long-term plans that will show where electrification will come after the electrification of south Wales and the Valleys.

Aled Roberts: Brif Weinidog, mae’r Llywodraeth wedi ychwanegu £25 miliwn o’i harian ei hun at arian Ewrop i greu cronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio. Bu adroddiadau yn ystod y mis diwethaf bod hynny’n cynnwys tua £20 miliwn a ddaeth o werthu tir ac adnoddau eraill i gwmni yn Ynysoedd y Sianel. Mae nifer o gyrff yn y gogledd yn cwyno nad yw arian ar gael o’r gronfa honno. Beth yn union mae’r gronfa wedi ei chyflawni, sawl grant a gafodd ei gynnig o’r gronfa, a faint o swyddi a gafodd eu creu yn uniongyrchol drwy’r gronfa?

Aled Roberts: First Minister, the Government has added £25 million of its own moneys to European funds to create a regeneration investment fund for Wales. There have been reports over the past month that that includes some £20 million from the sale of land and other resources to a company in the Channel Islands. A number of organisations in north Wales are complaining that moneys are not available from that fund. What exactly has the fund achieved, how many grants have been offered from that fund, and how many jobs have been created directly through that fund?

Y Prif Weinidog: Pe bai’r Aelod yn ysgrifennu ataf gydag enghreifftiau o le y bu pobl yn aflwyddiannus o ran sicrhau grantiau, buaswn yn hapus i’w ateb.

The First Minister: If the Member were to write to me with examples of where people have been unsuccessful in their grant applications, I would be very willing to reply.

Prisiau Ynni

Energy Prices

8. Sandy Mewies: A yw’r Prif Weinidog wedi cael unrhyw drafodaethau ynglŷn ag effaith y cynnydd mewn prisiau ynni ar gwmnïau a busnesau yng Nghymru. OAQ(4)0701(FM)

8. Sandy Mewies: Has the First Minister had any discussions about the impact of rising energy prices on companies and businesses in Wales. OAQ(4)0701(FM)

The Record

The First Minister: I have had many discussions on this. I met in London the week before last with high energy users once again, where they expressed their concerns to me. I have raised the issue several times with UK Government Ministers, including with the Prime Minister and the Deputy Prime Minister. I have recently written again to the Secretary of State for Business, Innovation and Skills to reiterate that priority must be given to reducing energy prices in the UK.

Y Prif Weinidog: Rwyf wedi cael llawer o drafodaethau am hyn. Fe wnes i gyfarfod unwaith eto yn Llundain yr wythnos cyn diwethaf gyda defnyddwyr trwm o ynni, ac fe fynegwyd eu pryderon wrthyf fi. Yr wyf wedi codi'r mater sawl gwaith gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU, gan gynnwys y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog. Rwyf wedi ysgrifennu yn ddiweddar unwaith eto at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesi a Sgiliau i ailadrodd bod yn rhaid rhoi blaenoriaeth i leihau prisiau ynni yn y DU.

 

Sandy Mewies: I am aware of the discussions that you have had with companies such as Tata Steel, but it is clear that the Welsh Government views this situation with concern and has fears about investment in the future should this situation continue. Therefore, I ask you to continue to discuss with the UK Government what it can do and to act with urgency on what is an urgent situation.

Sandy Mewies: Rwyf yn ymwybodol o'r trafodaethau yr ydych wedi'u cael gyda chwmnïau megis Tata Steel, ond mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru yn ystyried y sefyllfa hon gyda phryder ac yn bryderus am fuddsoddi yn y dyfodol pe byddai’r sefyllfa hon yn parhau. Felly, gofynnaf i chi barhau i drafod gyda Llywodraeth y DU am yr hyn y gall ei wneud ac i weithredu ar fyrder ar sefyllfa sy’n sefyllfa daer.

 

The First Minister: I have emphasised this point many times. We have seen in the news today that energy prices might go up again this year, and the difficulty is that members of the public and businesses cannot see what market exists in energy. No-one can see the competition, there is no transparency and there is no market information for a consumer to know which tariff to choose, because there is a plethora of tariffs out there. That is the problem: a market has been created where no such market exists for most people. There needs to be more transparency and more competition if it is to be a market, and a suite of measures need to be in place to ensure that energy prices become more competitive compared with our European competitors in the long term.

Y Prif Weinidog: Rwyf wedi pwysleisio’r pwynt hwn  lawer gwaith. Rydym wedi gweld yn y newyddion heddiw y gallai prisiau ynni godi unwaith eto eleni, a’r anhawster yw na all aelodau o'r cyhoedd a busnesau weld pa farchnad sy’n bodoli ym maes ynni. Ni all neb weld y gystadleuaeth, nid oes tryloywder ac nid oes gwybodaeth am y farchnad er mwyn i ddefnyddwyr wybod pa dariff i’w ddewis, oherwydd mae llu o dariffau ar gael. Dyna'r broblem: mae marchnad wedi ei chreu lle nad oes marchnad o'r fath yn bodoli i’r rhan fwyaf o bobl.  Mae angen mwy o dryloywder a mwy o gystadleuaeth os yw am fod yn farchnad, ac mae angen sefydlu cyfres o fesurau i sicrhau bod prisiau ynni yn dod yn fwy cystadleuol o'u cymharu â'n cystadleuwyr Ewropeaidd yn y tymor hir.

 

Russell George: First Minister, you state in 'Energy Wales: A Low Carbon Transition’ that business and industry in particular will play a key role in driving transition to a low carbon economy. You also state

Russell George: Brif Weinidog, rydych yn datgan yn 'Ynni Cymru: Newid Carbon Isel' y bydd busnes a diwydiant yn arbennig yn chwarae rôl allweddol wrth sbarduno newid i economi carbon isel. Rydych hefyd yn nodi

 

'We recognise that we must create a stable environment for long-term investment’.

Rydym yn cydnabod bod yn rhaid i ni greu amgylchedd sefydlog ar gyfer buddsoddiad tymor hir.

 

When will the Government deliver on this policy and look to harness a broad range of renewable technologies beyond wind that will truly achieve what Stephen Crabb said yesterday about increasing the home-grown energy sector, which would benefit business and individual consumers?

Pryd fydd y Llywodraeth yn cyflawni’r polisi hwn ac yn edrych i harneisio ystod eang o dechnolegau adnewyddadwy y tu hwnt i wynt a fydd yn wirioneddol gyflawni'r hyn a ddywedodd Stephen Crabb ddoe am gynyddu'r sector ynni cartref, a fyddai o fudd i ddefnyddwyr busnes ac i unigolion?

 

The First Minister: I would be more than happy to see the development of wave and tidal energy in Wales; we have tremendous resources to do so. The problem at the moment is that we cannot put money on the table, like the Scots can, through the renewables obligation certificates. The Scots are able to provide subsidies at a far higher level than those in Wales. As a result, wave and tidal technology is going to Scotland, despite it being less promising than it is in Wales.  The problem is that the ROCs are set on an England and Wales level. We have no control over them. Our view is that we should have control over ROCs in the future so that we can then properly develop wave and tidal energy in Wales, creating jobs in Wales at a level that is not being done at present because ROCs are not in the control of the Welsh Government.

Y Prif Weinidog: Byddwn yn fwy na hapus i weld y datblygiad o ynni'r tonnau a'r llanw yng Nghymru; mae gennym adnoddau aruthrol i wneud hynny. Y broblem ar hyn o bryd yw na allwn roi arian ar y bwrdd, fel y mae’r Albanwyr yn gallu, drwy tystysgrifau rhwymedigaeth ynni adnewyddadwy. Mae'r Albanwyr yn gallu darparu cymorthdaliadau ar lefel llawer uwch na'r rhai yng Nghymru. O ganlyniad, mae technoleg tonnau a llanw yn mynd i'r Alban, er ei fod yn llai addawol nag y mae yng Nghymru.  Y broblem yw bod y Tystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy yn cael eu gosod ar lefel Cymru a Lloegr. Nid oes gennym unrhyw reolaeth drostynt. Ein barn ni yw y dylem gael rheolaeth dros Dystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy yn y dyfodol fel y gallwn ddatblygu ynni'r tonnau a’r llanw yng Nghymru, gan greu swyddi yng Nghymru ar lefel nad yw'n cael ei wneud ar hyn o bryd oherwydd nad yw’r Tystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy dan reolaeth Llywodraeth Cymru.

2.00 p.m.

The Record

Alun Ffred Jones: Brif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod E.ON ddoe wedi gwneud datganiad y gallai godi prisiau i bobl yng Nghymru pe bai’n gorfod ymateb i ofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Chomisiynydd y Gymraeg. Mae hyn er waetha’r ffaith bod Scottish Power Cyf a Swalec—Manweb cyn hynny—wedi bod yn cynnig gwasanaeth dwyieithog ers blynyddoedd. A fyddech yn ymuno â mi i ddweud wrth y cwmnïau hyn ei bod yn hollol resymol inni gael gwasanaeth dwyieithog yma yng Nghymru, ac y dylai pob cwmni gael ei drin yr un fath?

Alun Ffred Jones: First Minister, you will be aware that E.ON made a statement yesterday that it could increase prices for people in Wales if it had to respond to the requirements of the Welsh Language Act 1993 and those of the Welsh Language Commissioner. This has happened despite the fact that Scottish Power Ltd and Swalec—previously Manweb—have been offering a bilingual service for many years. Would you join me in telling these companies that it is quite reasonable for the people of Wales to receive a bilingual service, and that every company should be treated in the same way?

Y Prif Weinidog: Wrth gwrs ei fod yn beth hollol resymol. Credaf mai rhyw fath o esgus yw hyn. Mae pob cwmni arall wedi delio â’r ffaith ein bod yn ddwyieithog yma yng Nghymru, ac nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam y dylai hyn effeithio ar brisiau. Pe bai E.ON yn codi ei brisiau oherwydd yr iaith Gymraeg, byddai ar anfantais yn gystadleuol ac yn ddiwylliannol a hefyd mewn perthynas â’r pris yng Nghymru. Felly, nid wyf yn derbyn hynny.

The First Minister: It is, of course, totally reasonable. I see this as some sort of an excuse. Every other company has dealt with the fact that we, in Wales, are a bilingual nation. I do not see any reason why this should have an impact on prices. If E.ON should increase prices because of the Welsh language, it would be at a disadvantage in terms of competition and culturally and also in respect of the price in Wales. Therefore, I do not accept that.

Mae’n bwysig iawn bod yr iaith gywir yn cael ei defnyddio. Darllenais y bore yma bod un o archfarchnadoedd Asda yng Nghymru wedi codi arwydd Gaeleg yn hytrach nag un Cymraeg. Mae’n bwysig bod y ffaith bod Cymru yn wlad ddwyieithog yn cael ei ystyried gan gwmnïau mawr.

It is important that the correct language is used. I read a story this morning that an Asda supermarket in Wales had erected a sign in Gaelic, rather than Welsh. It is extremely important that the fact that Wales is a bilingual country is considered by the big companies.

The Record

Joyce Watson: It is critical, First Minister, that we back our energy-intensive industries and jobs, but that we do not lose sight of the underlying cause. The energy companies continue to rake in huge and swelling profits from energy-intensive companies, from us as taxpayers if we subsidise those costs, and from us again as domestic consumers. Have you had discussions, First Minister, with the UK Government about strengthening the regulatory framework to force the gas and electric giants to pass on wholesale price cuts to their customers?

Joyce Watson: Mae'n hanfodol, Brif Weinidog, ein bod yn cefnogi ein diwydiannau a’n swyddi ynni-ddwys, ond heb golli golwg ar yr achos sylfaenol. Mae'r cwmnïau ynni yn parhau i wneud elw enfawr a chynyddol oddi ar gwmnïau  ynni-ddwys, oddi arnom ni fel trethdalwyr os ydym yn rhoi cymhorthdal at y ​​costau hynny, ac oddi arnom ninnau eto fel defnyddwyr domestig. A ydych chi wedi cael trafodaethau, Brif Weinidog, gyda Llywodraeth y DU ynghylch cryfhau'r fframwaith rheoleiddio i orfodi’r cewri nwy a thrydan i drosglwyddo toriadau mewn prisiau cyfanwerthu i'w cwsmeriaid?

 

The First Minister: The fact that there is a regulator shows that the market does not work. We see this in many areas. A market working properly sees proper competition and consumer choice. None of these things really apply when it comes to the energy market. That is why it, sadly, needs a regulator. The fact that energy prices are so high speaks for itself, as far as individuals are concerned, but as far as industry is concerned it is a serious issue. It will severely hamper our chances of bringing investment not just into Wales but into the rest of the UK in the future if the UK carries on being uncompetitive in terms of its energy costs.

Y Prif Weinidog: Mae'r ffaith bod gennym reoleiddiwr yn dangos nad yw'r farchnad yn gweithio. Rydym yn gweld hyn mewn nifer o feysydd. Mae marchnad sy’n gweithio’n briodol yn dangos cystadleuaeth briodol a dewis i ddefnyddwyr. Nid oes yr un o'r rhain yn wir  berthnasol i’r farchnad ynni. Dyna pam, yn anffodus, y mae angen rheoleiddiwr. Mae'r ffaith fod prisiau ynni mor uchel yn siarad drosto’i hunan, cyn belled ag y mae unigolion yn y cwestiwn, ond cyn belled ag y mae diwydiant yn y cwestiwn, mae’n fater difrifol. Bydd yn llesteirio'n ddifrifol ein siawns o ddod â buddsoddiad nid yn unig i Gymru ond i weddill y DU yn y dyfodol os bydd y DU yn parhau i fod yn anghystadleuol o ran ei chostau ynni.

The Record

Dinas-ranbarthau

City Regions

9. Mike Hedges: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae’n credu bod angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd nesaf er mwyn sefydlu Dinas-ranbarthau yng Nghymru. OAQ(4)0692(FM)

9. Mike Hedges: Will the First Minister outline what action he believes the Welsh Government needs to take next in order to establish City Regions in Wales. OAQ(4)0692(FM)

The Record

The First Minister: The first step, of course, is to inform Members of the detail. I understand that the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science has arranged a briefing session for Assembly Members tomorrow.

Y Prif Weinidog: Y cam cyntaf, wrth gwrs, yw rhoi gwybod i’r Aelodau am y manylion. Deallaf fod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth wedi trefnu sesiwn briffio ar gyfer Aelodau'r Cynulliad yfory.

Mike Hedges: What consideration has the Welsh Government given to the governance and accountability structure for any future city regions? Also, have we looked at how a place like Greater Manchester has been so successful in being a city region while sub-regions like Bolton have kept their own identity? Does the First Minister agree that it is very important that such areas are not subsumed into the larger city region?

Mike Hedges: Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i strwythur llywodraethu ac atebolrwydd ar gyfer unrhyw ranbarthau dinasol yn y dyfodol? Hefyd, a ydym ni wedi edrych ar sut mae lleoedd fel Manceinion Fwyaf wedi bod mor llwyddiannus wrth fod yn rhanbarth dinasol tra bod is-ranbarthau fel Bolton wedi cadw eu hunaniaeth eu hunain? A yw'r Prif Weinidog yn cytuno ei bod yn bwysig iawn nad yw ardaloedd o'r fath yn cael eu llyncu gan y rhanbarth dinasol mwy o faint?

The First Minister: It is necessary to ensure that there is proper and effective governance at all levels when it comes to service delivery. We will, of course, examine what needs to be done in order to ensure that city regions become a reality, and that they deliver effectively for the people who live within them.

Y Prif Weinidog: Mae'n angenrheidiol i sicrhau bod llywodraethu priodol ac effeithiol yn digwydd ar bob lefel wrth ddarparu gwasanaethau. Byddwn, wrth gwrs, yn edrych ar yr hyn y mae angen ei wneud er mwyn sicrhau bod rhanbarthau dinasol yn dod yn realiti, a'u bod yn cyflawni'n effeithiol ar gyfer y bobl sy'n byw ynddynt.

Byron Davies: In terms of the next steps for city regions, I am interested in the action that your Government has to take on the planned electrification of the south Wales railway lines. It is universally acknowledged—I am sure that you would share the view—that for the city regions to work in south Wales, people need to be able to travel across south Wales with ease and speed. Given the huge investment by the Conservative-led Government in south Wales, what are you doing to ensure a review of bus corridors and the bringing forward of strategic transport investment to ensure that, on day 1 of electrification in south Wales, we have an integrated transport network?

Byron Davies: O ran y camau nesaf ar gyfer rhanbarthau dinasol, mae gennyf ddiddordeb yn y camau gweithredu y mae’n rhaid i’ch Llywodraeth eu cymryd ynglŷn â’r trydaneiddio arfaethedig o reilffyrdd de Cymru. Cydnabyddir yn gyffredinol - rwyf yn siŵr eich bod yn rhannu'r farn honno - er mwyn i ranbarthau dinasol weithio yn ne Cymru, mae angen i bobl allu teithio ar draws de Cymru yn rhwydd ac yn gyflym. O ystyried y buddsoddiad enfawr gan y Llywodraeth dan arweiniad y Ceidwadwyr yn ne Cymru, beth yr ydych yn ei wneud i sicrhau adolygiad o goridorau bysiau a dwyn ymlaen buddsoddiad mewn trafnidiaeth strategol i sicrhau, ar ddiwrnod cyntaf trydaneiddio yn ne Cymru, bod gennym rwydwaith trafnidiaeth integredig?

 

The First Minister: We do not have a secured date yet of when this will start. We hope that it is pretty soon. When the electrified network is in place for the Valleys, the Vale and the Llynfi valley, in particular, further west, it is important that it is seen as a metro network for the whole of south Wales. In order for that to be run effectively, thought needs to be given to the kind of organisation that needs to be in place in order for the metro to be run effectively. The South East Wales Transport Alliance will have a view. There may be other models out there, but it is clear that it would have to be a collective organisation to run the metro effectively as a whole.

Y Prif Weinidog: Nid oes gennym ddyddiad pendant eto o bryd y bydd hyn yn dechrau. Rydym yn gobeithio y bydd yn eithaf buan. Pan fydd y rhwydwaith trydanol ar waith ar gyfer y Cymoedd, y Fro a dyffryn Llynfi, yn arbennig, ymhellach i'r gorllewin, mae'n bwysig ei fod yn cael ei weld fel rhwydwaith metro ar gyfer y cyfan o dde Cymru. Er mwyn i hynny gael ei redeg yn effeithiol, mae angen rhoi ystyriaeth i'r math o sefydliad y mae angen ei sefydlu er mwyn i'r metro gael ei redeg yn effeithiol. Bydd gan Gynghrair Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru farn. Efallai bod modelau eraill ar gael, ond mae'n amlwg y byddai'n rhaid iddo fod yn sefydliad ar y cyd i redeg y metro yn effeithiol yn ei gyfanrwydd.

 

Lindsay Whittle: First Minister, the Party of Wales is very committed to the idea of fulfilling Cardiff’s potential. However, we do not only want to see benefits for Cardiff; we want the benefits to be shared around the wider south Wales area. We also believe passionately in our smaller towns and communities and their potential. Do you agree that any plans put into action as a result of the recommendations in Dr Elizabeth Haywood’s report should always take into account and involve the local authorities and businesses in our smaller towns and cities in the area, particularly Newport, the Heads of the Valleys and those towns where proximity to Cardiff can sometimes be seen as a disadvantage for investment?

Lindsay Whittle: Brif Weinidog, mae Plaid Cymru yn ymrwymedig iawn i'r syniad o gyflawni potensial Caerdydd. Fodd bynnag, nid ydym am weld manteision ar gyfer Caerdydd yn unig, rydym am i'r manteision gael eu rhannu o amgylch ardal ehangach de Cymru. Rydym hefyd yn credu yn angerddol yn ein trefi llai a’n cymunedau a'u potensial hwy. Ydych chi'n cytuno y dylai unrhyw gynlluniau a gaiff eu rhoi ar waith o ganlyniad i'r argymhellion yn adroddiad Dr Elizabeth Haywood, ystyried a chynnwys bob amser yr awdurdodau lleol a busnesau yn ein trefi llai a dinasoedd yn yr ardal, yn arbennig Casnewydd, Blaenau'r Cymoedd a'r trefi hynny lle y gall agosrwydd at Gaerdydd gael ei weld weithiau fel anfantais ar gyfer buddsoddi?

The First Minister: I would hope that being close to Cardiff is not a disincentive to investment. However, it is certainly important that there is as much consultation and buy-in as possible to the concept of city regions, and that is what the Government will be seeking to achieve.

Y Prif Weinidog: Byddwn yn gobeithio nad yw bod yn agos i Gaerdydd yn wrthanogaeth i fuddsoddiad. Fodd bynnag, mae'n sicr yn bwysig fod cymaint â phosibl o ymgynghori a gwrando yn digwydd ynglŷn â’r cysyniad o ranbarthau dinasol, a dyna beth fydd y Llywodraeth yn ceisio ei gyflawni.

The Record

Blaenoriaethau

Priorities

10. Andrew R.T. Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru dros y chwe mis nesaf. OAQ(4)0687(FM)

10. Andrew R.T. Davies: Will the First Minister make a statement on his priorities for South Wales Central region for the coming six months. OAQ(4)0687(FM)

The Record

The First Minister: Yes; they are contained in the programme for government.

Y Prif Weinidog: Gwnaf, maent wedi  eu cynnwys yn y rhaglen ar gyfer llywodraethu.

 

Andrew R.T. Davies: Thank you for that answer, First Minister. Regrettably, last week, the AA announced that it will be relocating some of its jobs—400 in total—away from the city of Cardiff. That is very troubling news given that Cardiff has been identified as an enterprise zone and that the central business district initiative has been allocated some £30 million by the Welsh Government, in fairness to it. However, if you try to access information about what support there is for Cardiff with regard to the enterprise zone or the central business district, there is precious little out there to support businesses to stay in Cardiff. Indeed, the AA is relocating many of these jobs to the north-east of England, a region with similar economic indicators to Cardiff. Are you able to say what support you are providing to get businesses to relocate to Cardiff and support job creation measures?

Andrew RT Davies: Diolch i chi am ateb yna, Brif Weinidog. Yn anffodus, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd yr AA y bydd yn adleoli rhai o'i swyddi - 400 i gyd - i ffwrdd o ddinas Caerdydd. Mae hynny'n newyddion sy’n achosi pryder o gofio bod Caerdydd wedi ei nodi fel parth menter a bod menter Ardal Fusnes Canol Caerdydd wedi cael rhyw £30 miliwn gan Lywodraeth Cymru, er tegwch iddi. Fodd bynnag, os ydych yn ceisio cael gafael ar wybodaeth am ba gymorth sydd ar gael ar gyfer Caerdydd o ran y parth menter neu'r ardal fusnes, ychydig iawn sydd ar gael i gefnogi busnesau i aros yng Nghaerdydd. Yn wir, mae'r AA yn symud llawer o'r swyddi hyn i ogledd-ddwyrain Lloegr, rhanbarth gyda dangosyddion economaidd tebyg i Gaerdydd. Ydych chi'n gallu dweud pa gymorth rydych yn ei ddarparu i gael busnesau i symud i Gaerdydd ac i gefnogi mesurau creu swyddi?

The First Minister: We are doing that in a number of ways. I have often said in this Chamber that we have the small and medium-sized businesses growth fund, the Wales economic growth fund, the micro-business loan fund, the life science fund and Jobs Growth Wales. These are all schemes that will bear fruit for Wales in future. Unfortunately, we know what has happened with the AA announcement, and that is something that we deeply regret. The Minister for Business, Enterprise, Technology and Science wrote to Members with an update on this matter on 4 October. However, it is worth emphasising that, over the last two and a half years, employment in Wales has actually increased by more than 35,000. Indeed, 68.6% of all working-aged adults are now in employment, which is the same proportion as in 2008, and Wales now has the lowest level of economic inactivity since records began in 1992. I believe that that illustrates the fact that the Welsh Government’s economic policies are bearing fruit.

Y Prif Weinidog: Yr ydym yn gwneud hynny mewn nifer o ffyrdd. Rwyf wedi dweud yn aml yn y Siambr hon bod gennym y gronfa twf busnesau bach a chanolig eu maint, y gronfa twf economaidd Cymru, y gronfa benthyciadau i feicrofusnesau, y gronfa gwyddoniaeth bywyd a Thwf Swyddi Cymru. Mae'r rhain i gyd yn gynlluniau a fydd yn dwyn ffrwyth i Gymru yn y dyfodol. Yn anffodus, rydym yn gwybod beth sydd wedi digwydd gyda chyhoeddiad yr AA, ac mae hynny'n rhywbeth sy’n peri cryn ofid. Ysgrifennodd y Gweinidog Busnes, Menter Technoleg a Gwyddoniaeth at yr Aelodau ar 4 Hydref i i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y mater hwn. Fodd bynnag, mae'n werth pwysleisio bod cyflogaeth yng Nghymru mewn gwirionedd yn dangos cynnydd o fwy na 35,000 dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf. Yn wir, mae 68.6% o'r holl oedolion sydd mewn oed gweithio bellach mewn cyflogaeth, sef yr un gyfran ag yn 2008, ac mae’r sefyllfa bresennol yn cynrychioli’r lefel isaf o anweithgarwch economaidd ers i gofnodion ddechrau yn 1992. Credaf fod hynny'n dangos bod polisïau economaidd Llywodraeth Cymru yn dwyn ffrwyth.

 

Christine Chapman: First Minister, you will be aware that 45 jobs at AB Connectors in my constituency are under threat and that the statutory consultation period is now under way. Union representatives inform me that, as well as losing defence contracts, a number of other contracts have been lost. You will know that AB Connectors has a long-standing history as an employer here. I am sure that you will agree that the news is a huge blow to the workers involved and to the area as a whole. I have contacted the Minister for business about this, but will you ensure that the factory receives the appropriate support and advice from officials?

Christine Chapman: Brif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod 45 o swyddi yn AB Connectors yn fy etholaeth i dan fygythiad a bod y cyfnod ymgynghori statudol wedi cychwyn erbyn hyn. Mae cynrychiolwyr yr Undebau yn dweud wrthyf fod nifer o gontractau eraill wedi eu colli, yn ogystal â’r contractau amddiffyn. Byddwch yn gwybod bod gan AB Connectors hanes hir-sefydlog o fod yn gyflogwr yma. Yr wyf yn siŵr y byddwch yn cytuno bod y newyddion yn ergyd enfawr i'r gweithwyr dan sylw ac i'r ardal gyfan. Rwyf wedi cysylltu â'r Gweinidog Busnes am hyn, ond a wnewch chi sicrhau bod y ffatri yn derbyn y gefnogaeth a’r cyngor priodol gan swyddogion?

 

The First Minister: Yes. Officials have already spoken to the company; they spoke on Friday. The company has indicated that it is happy to talk to us to see whether we can provide any relevant support. A meeting will take place on 10 October to discuss the situation.

Y Prif Weinidog: Gwnaf. Mae swyddogion eisoes wedi siarad â'r cwmni; cawsant sgwrs  ddydd Gwener. Mae'r cwmni wedi nodi ei fod yn hapus i siarad â ni i weld a allwn ni roi unrhyw gymorth perthnasol. Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ar 10 Hydref i drafod y sefyllfa.

Leanne Wood: First Minister, I listened carefully to your answer about the AA job losses. Despite the spin, First Minister, the job situation is pretty grim and those 400 jobs in the call centre in Cardiff are jobs that we cannot afford to lose. The AA has created 200 jobs over the border in Newcastle at the same time as getting rid of 400 jobs in Cardiff. These private sector jobs are valuable not only to people in Cardiff, but to people who commute from the Valleys. What assessment has your Government made of the reasons behind the AA’s decision to invest in Newcastle as opposed to Cardiff?

Leanne Wood: Brif Weinidog, gwrandewais yn astud ar eich ateb ynghylch colli’r swyddi AA. Er gwaethaf y gogwydd yn eich geiriau, Brif Weinidog, mae’r sefyllfa o ran swyddi yn edrych yn ddu iawn ac mae'r 400 o swyddi y soniwyd amdanynt yn y ganolfan alwadau yng Nghaerdydd yn swyddi na allwn fforddio eu colli. Mae'r AA wedi creu 200 o swyddi dros y ffin yn Newcastle ar yr un pryd â chael gwared ar 400 o swyddi yng Nghaerdydd. Mae'r swyddi hyn yn y sector preifat yn werthfawr nid yn unig i bobl yng Nghaerdydd, ond i bobl sy'n cymudo o'r Cymoedd. Pa asesiad y mae eich Llywodraeth wedi'i wneud o’r rhesymau y tu ôl i benderfyniad yr AA i fuddsoddi yn Newcastle yn hytrach na Chaerdydd?

The First Minister: These issues are being discussed with the AA at the moment. The leader of Plaid Cymru talked about spin. It is reality that we have the different funds that I mentioned. It is reality that, on top of that, we have an economic stimulus package worth £38.9 million, bringing forward capital investment. It is reality that Jobs Growth Wales is creating jobs in Wales. Some 3,500 opportunities have now been created through Jobs Growth Wales. It is a reality that Skills Growth Wales will support the creation of 3,000 jobs over the next three years. Of course, it is regrettable that the jobs appear to be going at the AA, even though the 90-day consultation period is not yet up. We will do all that we can to help those workers who may be made redundant at the AA. I have to say to the leader of Plaid Cymru that we have put in place a detailed programme to help the economy; her party has nothing.

Y Prif Weinidog: Mae'r materion hyn yn cael eu trafod gyda'r AA ar hyn o bryd. Soniodd arweinydd Plaid Cymru am eiriau gogwyddol. Mae'n realiti bod gennym y gwahanol gronfeydd y soniais amdano. Mae'n realiti, ar ben hynny, bod gennym becyn ysgogiad economaidd gwerth £ 38.9 miliwn sy’n dod â buddsoddiad cyfalaf. Mae'n realiti bod Twf Swyddi Cymru yn creu swyddi yng Nghymru. Mae tua 3,500 o gyfleoedd bellach wedi eu creu drwy Twf Swyddi Cymru. Mae'n realiti y bydd Sgiliau Twf Cymru yn cefnogi creu 3,000 o swyddi dros y tair blynedd nesaf. Wrth gwrs, mae'n anffodus ei bod yn ymddangos ein bod am golli y swyddi AA, er nad yw’r cyfnod ymgynghori 90-diwrnod wedi dod i ben eto. Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i helpu'r gweithwyr hynny a allai gael eu diswyddo gan yr AA. Mae’n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd Plaid Cymru ein bod  wedi sefydlu rhaglen fanwl i helpu'r economi; nid oes gan ei phlaid hi ddim i’w gynnig.

Eluned Parrott: I am glad that the economy is a priority for you, First Minister. The Welsh European Funding Office recently awarded £6 million to a company called Taff Vale Ltd to develop a shopping precinct in Pontypridd, but the plans collapsed after the firm went into administration. However, we have discovered that the firm in question was issued with a striking-off order by Companies House earlier this year for failing to file accounts since 2010. Yet, it was still offered £6 million of public money. What steps will the First Minister take to ensure that EU money is awarded more rigorously in future?

Eluned Parrott: Yr wyf yn falch bod yr economi yn flaenoriaeth i chi, Brif Weinidog. Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a ddyfarnodd £6 miliwn yn ddiweddar i gwmni o'r enw Taff Vale Ltd i ddatblygu canolfan siopa ym Mhontypridd, ond mae'r cynlluniau wedi’u chwalu ar ôl i'r cwmni fynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Fodd bynnag, rydym wedi darganfod gorchymyn dileu o'r gofrestr, gan Dŷ'r Cwmnïau, wedi ei gyflwyno i’r cwmni dan sylw yn gynharach eleni am fethu â ffeilio cyfrifon ers 2010. Er hynny, fe gynigiwyd £6 miliwn o arian cyhoeddus iddo. Pa gamau y bydd y Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau bod arian yr UE yn cael ei ddyfarnu yn fwy gofalus yn y dyfodol?

 

The First Minister: If the Member writes to me with further details, I will investigate her allegations.

Y Prif Weinidog: Os bydd yr Aelod yn ysgrifennu ataf gyda mwy o fanylion, byddaf yn ymchwilio i'w honiadau.

The Record

Llwyddiannau’r Llywodraeth

Government Achievements

11. Byron Davies: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu beth yn ei farn ef yw llwyddiant mwyaf ei Lywodraeth hyd yma. OAQ(4)0694(FM)

11. Byron Davies: Will the First Minister outline what he considers his Government’s greatest achievement to date. OAQ(4)0694(FM)

The Record

The First Minister: Jobs Growth Wales.

Y Prif Weinidog: Twf Swyddi Cymru.

Byron Davies: I am surprised that you have omitted to concentrate on business in your answer. Indigenous Welsh businesses are so fed up with the Labour Government here for inaction that they are moving across the border to England. To my surprise, it is apparently much easier to access funding as an English company moving in to Wales than a Welsh firm looking to expand. Will you commit to reviewing your Government’s support arrangements for SMEs and reviewing the effectiveness of organisations such as the regeneration investment fund for Wales, which is, apparently, unwilling to invest in the private sector in Wales?

Byron Davies: Yr wyf yn synnu nad ydych wedi rhoi’r pwyslais ar fusnes yn eich ateb. Mae busnesau cynhenid Cymru wedi hen flino ar y diffyg gweithredu gan y Llywodraeth Lafur yma, cymaint felly fel eu bod yn symud ar draws y ffin i Loegr. Er syndod i mi, mae'n debyg ei bod yn llawer haws i gwmni o Loegr sy’n symud i Gymru  gael gafael ar gyllid nag yw hi i gwmni o Gymru sydd eisiau ehangu. A wnewch chi ymrwymo i adolygu trefniadau cymorth eich Llywodraeth i fusnesau bach a chanolig ac i adolygu effeithiolrwydd y sefydliadau fel y Gronfa Buddsoddi mewn Adfywio ar gyfer Cymru, sydd, mae'n debyg, yn amharod i fuddsoddi yn y sector preifat yng Nghymru?

 

The First Minister: As the Member will be aware, in the absence of any evidence to support what he has just said, I cannot accept that it is somehow easier to access funds in England than it is in Wales. I have already outlined the situation with regard to the funds that are in place. We have to bear in mind that his party opposed the £38.9 million economic stimulus package. It did not want it. Any talk from the party opposite that it is interested in creating jobs is a little hollow given that it opposed that very fund.

Y Prif Weinidog: Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, heb unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r hyn y mae newydd ei ddweud, ni allaf dderbyn ei bod rywsut yn haws i gael gafael ar arian yn Lloegr nag yw hi yng Nghymru. Yr wyf eisoes wedi amlinellu’r sefyllfa o ran y cyllid sydd wedi’i sefydlu. Mae'n rhaid i ni gadw mewn cof bod ei blaid wedi gwrthwynebu'r pecyn ysgogiad economaidd £38.9 miliwn. Nid oedd ei eisiau. Geiriau gwag braidd yw unrhyw siarad gan y blaid gyferbyn sy’n dweud bod ganddi ddiddordeb mewn creu swyddi, o ystyried ei bod wedi gwrthwynebu yr union gronfa honno.

Kenneth Skates: In addition to Jobs Growth Wales, this Welsh Labour Government has achieved many great results with regard to the environment. However, we are facing an isolated but immediate threat in the form of chalara fraxinea, otherwise known as ash dieback. It is an imported fungal disease affecting ash trees in the UK. Experts suggest that it has the potential to be as devastating as Dutch elm disease was in the past. First Minister, will you work with the UK Government to examine whether a ban on nursery imports of ash should be introduced in order to protect native trees?

Kenneth Skates: Yn ogystal â Twf Swyddi Cymru, Mae’r Llywodraeth Lafur Cymru hon wedi cyflawni llawer o ganlyniadau gwych o ran yr amgylchedd. Fodd bynnag, rydym yn wynebu bygythiad ynysig ond ar unwaith ar ffurf chalara fraxinea, a adnabyddir hefyd fel gwywiad yr onnen. Afiechyd ffwngaidd yw hwn sydd wedi ei fewnforio ac sy'n effeithio ar goed ynn yn y DU. Mae arbenigwyr yn awgrymu bod ganddo'r potensial i fod mor ddinistriol ag y bu clefyd llwyfen yr Isalmaen yn y gorffennol. Brif Weinidog, a wnewch chi weithio gyda Llywodraeth y DU i archwilio a ddylid cyflwyno gwaharddiad ar fewnforio coed ynn ifanc i’w plannu, er mwyn diogelu coed brodorol?

 

The First Minister: Government officials are currently working with the Forestry Commission to ensure that Wales is fully engaged with the UK’s response to the disease. I know that general plant health powers are being used to prevent the disease from spreading into ash trees. There is no evidence at the moment that the disease is present in Wales, but a survey is taking place of all the ash planted over the last five years in order to establish that. A consultation on the appropriate legislation to control the possible spread of the disease will close on 28 October and then legislation may be taken forward.

Y Prif Weinidog: Mae swyddogion y Llywodraeth ar hyn o bryd yn gweithio gyda'r Comisiwn Coedwigaeth i sicrhau bod Cymru yn ymgysylltu’n llawn ag ymateb y DU i'r clefyd. Gwn fod pwerau iechyd planhigion cyffredinol yn cael eu defnyddio i atal y clefyd rhag lledaenu i goed ynn. Nid oes unrhyw dystiolaeth ar hyn o bryd bod y clefyd yn bresennol yng Nghymru, ond y mae arolwg yn cael ei gynnal o'r holl goed a blannwyd yn ystod y pum mlynedd diwethaf er mwyn sefydlu hynny. Bydd ymgynghoriad ar y ddeddfwriaeth briodol i reoli lledaeniad posibl y clefyd yn cau ar 28 Hydref ac yna gellir symud ymlaen â’r ddeddfwriaeth.

 

Simon Thomas: Even the well-known Welsh Conservative candidate Boris Johnson thinks that the economy needs an investment vehicle such as the Olympics to really get the economy growing again. Would it not be a marvellous achievement for your Government to also have an investment vehicle for the economy? It would be great to see millions of pounds going into the Welsh economy week in, week out, year in, year out. What about an idea such as a Build for Wales?

Simon Thomas: Mae hyd yn oed yr ymgeisydd Ceidwadol Cymru adnabyddus Boris Johnson yn meddwl bod yr economi angen cyfrwng buddsoddi o fath y Gemau Olympaidd i gael yr economi i dyfu unwaith eto. Oni fyddai’n gyflawniad gwych pe byddai gan eich Llywodraeth chithau hefyd gyfrwng buddsoddi ar gyfer yr economi? Byddai'n wych gweld miliynau o bunnoedd yn mynd i mewn i economi Cymru bob wythnos o bob blwyddyn. Beth am syniad tebyg i Adeiladu dros Gymru?

The First Minister: I can assure the Member that we are not planning to bid for the Olympics. Plaid always puts forward only one solution with regard to the economy. There are never detailed solutions. The Conservatives have nothing at all. I have yet to hear the Welsh Conservatives come forward with any detailed plans to do anything to improve the economy; all they do is oppose things. As I said, they opposed the £39 million economic stimulus package. The fact is that they do not care whether people are in work. All they want is to demonise people.

Y Prif Weinidog: Gallaf sicrhau'r Aelod nad ydym yn cynllunio i wneud cais am y Gemau Olympaidd. Mae Plaid Cymru bob amser yn cyflwyno un ateb yn unig ar gyfer yr  economi. Nid oes byth atebion manwl. Nid oes gan y Ceidwadwyr unrhyw beth i’w gynnig. Yr wyf wedi eto i glywed y Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno unrhyw gynlluniau manwl i wneud unrhyw beth i wella'r economi; gwrthwynebu pethau yw’r cwbl a wnânt. Fel y dywedais, fe wnaethant wrthwynebu'r pecyn £39miliwn i ysgogi’r economi. Y ffaith yw nad ydynt yn poeni a yw pobl mewn gwaith ai peidio. Y cwbl y maent eisiau ei wneud yw pardduo pobl.

2.15 p.m.

 

Let me return to the question asked by Simon Thomas: an investment vehicle is being considered, as he will know. Whether Build for Wales, as it is, is the appropriate vehicle is another matter, but, as we have said many times, we are investigating—and we are coming close to a conclusion now—all suitable vehicles to ensure that we can maximise the amount of capital spend in Wales. On that, we are on the same page.

Gadewch i mi ddychwelyd at y cwestiwn a ofynnwyd gan Simon Thomas: mae cyfrwng buddsoddi yn cael ei ystyried, fel y gŵyr. Mae’r cwestiwn o ba un ai Adeiladu dros Gymru, ar ei ffurf bresennol, yw'r cyfrwng priodol yn fater arall, ond, fel yr ydym wedi dweud sawl gwaith, rydym yn ymchwilio - ac rydym yn agos at benderfyniad erbyn hyn - i bob cyfrwng addas i sicrhau y gallwn gael cymaint â phosib gorau o wariant cyfalaf yng Nghymru. Ar hynny, yr ydym yn cytuno.

The Record

Hybu Busnesau Cymru Dramor

Promoting Welsh Businesses Abroad

12. Janet Finch-Saunders: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith Llywodraeth Cymru i hybu busnesau Cymru dramor. OAQ(4)0698(FM)

12. Janet Finch-Saunders: Will the First Minister make a statement on the Welsh Government’s work to promote Welsh businesses abroad. OAQ(4)0698(FM)

The Record

The First Minister: Yes. In my first news conference, on 24 September, I outlined the action that we are taking to boost Wales’s exports further and to attract more investment into Wales by overseas companies.  

Y Prif Weinidog: Gwnaf, Yn fy nghynhadledd newyddion gyntaf, ar 24 Medi, amlinellais y camau yr ydym yn eu cymryd i roi hwb ychwanegol i allforion Cymru ac i ddenu mwy o fuddsoddiad i Gymru gan gwmnïau tramor. 

 

Janet Finch-Saunders: Between 2010 and 2011, there was a 53% decline in the level of foreign direct-investment coming into Wales, making us the poorest performing of the UK’s nations and regions. Do you agree with our new Secretary of State for Wales that the time has come for us to work together for the wider economic interests of Wales? Is it not time to put petty party politics to one side and embrace each other’s good ideas and policies in order to achieve this aim?

Janet Finch-Saunders: Rhwng 2010 a 2011, bu gostyngiad o 53% yn lefel buddsoddi uniongyrchol o dramor a ddaeth i mewn i Gymru, sy’n golygu mai ni sy’n perfformio waethaf o wledydd a rhanbarthau’r DU. Ydych chi'n cytuno gyda'n Hysgrifennydd Gwladol Cymru newydd fod yr amser wedi dod i ni weithio gyda'n gilydd dros fuddiannau economaidd ehangach Cymru? Onid yw'n bryd i roi gwleidyddiaeth bleidiol ddibwys o’r neilltu a gwerthfawrogi polisïau a syniadau da ein gilydd er mwyn cyflawni'r nod hwn?

 

The First Minister: A council tax freeze is the way to encourage economic growth, is it? As far as the Conservatives are concerned, that is apparently the be-all and the end-all of it. I listened carefully to the Secretary of State for Wales. He has his political differences with me, I accept that, and he has to be critical from time to time, as do I in return. That is the nature of politics. What he did not do, however, was to run Wales down at every single opportunity every time he opened his mouth, which is exactly what the leader of the opposition did—just look at the transcript of what he said. You would swear that he was saying to people 'Don’t invest in Wales at all; don’t even come here’. That was not the message of the Secretary of State, in fairness; that is not what he said. He criticised some of the things that we are doing here—I do not agree with that criticism—but the reality is that he did not run Wales down, unlike the Welsh Conservatives. We will continue to work with the UK Government: we had Lord Green and Lord Heseltine here at the council for economic renewal. We are more than happy to work with the UK Government—our relationship with UK Government is a good one—but it is a shame that the Welsh Conservatives take every single opportunity to do Wales down.

Y Prif Weinidog: Rhewi’r dreth gyngor yw'r ffordd i annog twf economaidd felly? Cyn belled ag y mae’r Ceidwadwyr yn y cwestiwn, mai’n ymddangos mai dyna’r ateb i bopeth. Gwrandewais yn ofalus ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae gwahaniaethau gwleidyddol rhyngddo fe a mi, rwyf yn derbyn hynny, ac mae'n rhaid iddo fod yn feirniadol o bryd i'w gilydd, fel yr wyf innau yn ôl. Dyna yw natur gwleidyddiaeth. Yr hyn na wnaeth, fodd bynnag, oedd difrïo Cymru ar bob un cyfle bob tro yr agorodd ei enau, sef yr union beth a wnaeth arweinydd yr wrthblaid - edrychwch ar y trawsgrifiad o’r hyn a ddywedodd. Byddech yn taeru ei fod yn dweud wrth bobl 'Peidiwch â buddsoddi yng Nghymru o gwbl; peidiwch â dod yma hyd yn oed'. Nid dyna oedd neges yr Ysgrifennydd Gwladol, i fod yn deg; nid dyna a ddywedodd. Beirniadodd rai o'r pethau yr ydym yn eu gwneud yma - nid wyf yn cytuno â’r feirniadaeth honno - ond y gwir yw nad oedd yn difrïo Gymru, yn wahanol i'r Ceidwadwyr Cymreig. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU: yr oedd yr Arglwydd Green a'r Arglwydd Heseltine yma  gyda ni yn y cyngor adnewyddu'r economi. Rydym yn fwy na pharod i weithio gyda Llywodraeth y DU - mae ein perthynas â Llywodraeth y DU yn un dda - ond mae'n drueni bod y Ceidwadwyr Cymreig yn manteisio ar bob cyfle posibl i ddifrïo Cymru.

The Record

Alun Ffred Jones: Dywedwyd wrthym sawl gwaith bod y Gemau Olympaidd yn gyfle ardderchog i hybu pob rhan o’r Deyrnas Unedig. A yw’r Llywodraeth wedi asesu pa fuddiannau sydd wedi dod i gwmnïau o Gymru yn sgîl y cysylltiadau a wnaed yn ystod y Gemau Olympaidd neu pa fanteision rydych yn eu rhagweld yn deillio o’r gemau hynny?

Alun Ffred Jones: We were told a number of times that the Olympic Games were an excellent opportunity to promote every part of the United Kingdom. Has the Government assessed what benefits have accrued to Welsh companies following the contacts made during the Olympic Games or what advantages you anticipate may arise from those games?

Y Prif Weinidog: Cafodd cwmnïau o Gymru gytundebau i sicrhau eu bod yn gallu cael pethau i mewn i’r Gemau Olympaidd ynglŷn ag adeiladu ar gyfer y Gemau Olympaidd, felly roedd lles ariannol i gwmnïau yng Nghymru. O ran y legacy, rydym yn gweld mwy o blant eisiau chwarae rhai o’r chwaraeon a oedd ar gael yn y Gemau Olympaidd, ac rydym ar hyn o bryd yn ystyried gyda Chwaraeon Cymru ym mha ffordd y gallwn adeiladu ar legacy y Gemau Olympaidd.

The First Minister: Welsh companies got contracts to ensure that they could contribute to the Olympic Games in terms of construction related to the Olympic Games, so there was a financial benefit to Welsh companies. In terms of the legacy, we are seeing more children wanting to participate in the sports that were played in the Olympic Games, and we are currently working with Sport Wales to see how we can build on the legacy of the Olympic Games.

The Record

William Powell: To turn to the green economy, as I am sure that you are aware, recent studies have shown that the UK green sector has grown by approximately 40% since 2007. Given the capacity that Wales has to develop in this area through supply-chain companies such as Mabey Bridge Ltd, Hopkins Steel Ltd and Jones Bros Ltd, will you please outline what specific steps you have taken to promote this sector beyond Wales? Will you also outline what steps you are willing to take to ensure that those companies are better able to compete with their European rivals on projects in Wales and further afield?

William Powell: I droi at yr economi werdd, yr wyf yn siŵr eich bod yn ymwybodol fod astudiaethau diweddar wedi dangos bod sector gwyrdd y DU wedi tyfu oddeutu 40% ers 2007. O ystyried y gallu sydd gan Gymru i ddatblygu yn y maes hwn drwy gwmnïau  cadwyn gyflenwi fel Mabey Bridge Ltd, Steel Hopkins Ltd a Jones Bros Ltd, a wnewch chi amlinellu pa gamau penodol yr ydych wedi'u cymryd i hyrwyddo'r sector hwn y tu hwnt i Gymru? A wnewch chi hefyd amlinellu pa gamau yr ydych yn barod i’w cymryd i sicrhau bod y cwmnïau hynny mewn gwell sefyllfa i gystadlu â'u cystadleuwyr Ewropeaidd ar brosiectau yng Nghymru a thu hwnt?

 

The First Minister: We have a sector panel that deals with renewable energy. I am surprised to hear what the Member is saying, as he is a member of an authority that has turned down almost every planning application for any kind of wind power. The two things do not go together. It is right to say that there has to be a balance and the Welsh Government’s view is absolutely clear about what we believe should happen in terms of the control of such applications and ensuring that the interests of the people of Montgomeryshire, Breconshire and Radnorshire are protected if there is to be new grid infrastructure. That has been made very clear in a letter that I have sent to Members, but the reality is that it is difficult to promote green energy when there are difficulties in obtaining planning permission. As I have already said, for wave and tidal power, things would be a great deal easier in terms of promoting the green economy of Wales if we were able to offer the same subsidies as Scotland and Northern Ireland, but we cannot do that. If were in the same position as them—and we have made representations any number of times to the UK Government on this matter—I have no doubt that we would be in a far better position as far as wind and tidal energy are concerned.

Y Prif Weinidog: Mae gennym banel sector sy'n ymdrin ag ynni adnewyddadwy. Yr wyf yn synnu clywed yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud, gan ei fod yn aelod o awdurdod sydd wedi gwrthod bron pob cais cynllunio ar gyfer unrhyw fath o bŵer gwynt. Nid yw'r ddau beth yn cyd-fynd â'i gilydd. Mae'n iawn i ddweud bod yn rhaid cael cydbwysedd ac mae barn Llywodraeth Cymru yn gwbl glir ynghylch yr hyn yr ydym yn credu ddylai ddigwydd o ran rheoli ceisiadau o'r fath a sicrhau bod buddiannau pobl Sir Drefaldwyn, Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed yn cael eu diogelu pe byddai seilwaith grid newydd. Mae hynny wedi ei wneud yn eglur iawn mewn llythyr yr wyf wedi’i anfon at Aelodau, ond y gwir amdani yw ei bod yn anodd hyrwyddo ynni gwyrdd pan fo anawsterau o ran cael caniatâd cynllunio. Fel yr wyf eisoes wedi dweud, ar gyfer ynni'r tonnau ac ynni'r llanw, byddai pethau'n llawer haws o ran hybu economi werdd  Cymru pe byddem yn gallu cynnig yr un cymorthdaliadau â'r Alban a Gogledd Iwerddon, ond ni allwn wneud hynny. Pe byddem ni yn yr un sefyllfa â nhw - ac rydym wedi cyflwyno sylwadau lawer gwaith i Lywodraeth y DU ar y mater hwn - nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddem mewn llawer gwell sefyllfa cyn belled ag y mae ynni gwynt ac ynni'r llanw yn y cwestiwn.

The Record

Rhagolygon ar gyfer Economi Cymru

Prospects for the Welsh Economy

13. Mohammad Asghar: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhagolygon ar gyfer economi Cymru dros y chwe mis nesaf. OAQ(4)0688(FM)

13. Mohammad Asghar: Will the First Minister make a statement on the prospects for the Welsh economy over the next six months. OAQ(4)0688(FM)

The Record

The First Minister: Given the figures that have recently been produced, we know that the prospects for the UK economy are uncertain. The UK is now in a position where the budget deficit as a percentage of GDP is higher than that of Greece. That was not the case before. It is therefore right to say that these are uncertain times for many European countries and, indeed, the world economy.

Y Prif Weinidog: O ystyried y ffigurau sydd wedi eu cynhyrchu'n ddiweddar, rydym yn gwybod bod y rhagolygon ar gyfer economi'r DU yn ansicr. Mae'r DU mewn sefyllfa erbyn hyn lle mae'r diffyg yn y gyllideb fel canran o CMC yn uwch na Gwlad Groeg. Nid dyma oedd yr achos yn flaenorol. Felly, mae'n iawn i ddweud bod y rhain yn amseroedd ansicr i lawer o wledydd Ewrop ac, yn wir, yr economi fyd-eang.

 

Mohammad Asghar: Thank you for that answer, First Minister. Research by the Federation of Small Businesses in Wales has revealed that six out of 10 businesses—that is, 60%—report barriers to accessing public sector procurement opportunities. The survey found that the time and cost to small businesses that are involved with the public sector tendering process remains a major barrier to accessing public sector contracts and, therefore, to economic growth in Wales. What is the Welsh Government doing to promote streamlined and simplified processes to help small businesses in tendering for public sector procurement opportunities?

Mohammad Asghar: Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Mae ymchwil gan Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru wedi dangos bod chwech o bob 10 busnes -hynny yw, 60% - yn adrodd bod rhwystrau o ran gallu manteisio ar gyfleoedd caffael yn y sector cyhoeddus. Canfu'r arolwg bod yr amser a'r gost i fusnesau bach o ran y broses tendro ar gyfer y sector cyhoeddus yn parhau i fod yn rhwystr mawr i geisio ennill contractau'r sector cyhoeddus ac, felly, i dwf economaidd yng Nghymru. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo prosesau symlach i helpu busnesau bach wrth dendro ar gyfer cyfleoedd caffael yn y sector cyhoeddus?

 

The First Minister: We always want to ensure that businesses in Wales are able to enter into the procurement process and become successful. Indeed, the level of our success for local procurement is higher than the European average. I would therefore argue that a great deal of work has been done in the past few years to ensure that procurement is better.

Y Prif Weinidog: Yr ydym bob amser yn awyddus i sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn gallu mynd i mewn i'r broses gaffael a bod yn llwyddiannus. Yn wir, mae lefel ein llwyddiant ar gyfer caffael lleol yn uwch na'r cyfartaledd Ewropeaidd. Byddwn felly yn dadlau bod llawer iawn o waith wedi ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf i sicrhau bod caffael yn well.

 

It is also important that businesses are able to satisfy the contractual terms of some contracts. One of the issues in the past has been that businesses have not been able to fulfil contracts day-in day-out, week-in week-out, month-in month-out. We have helped them through initiatives such as the procurement initiative, to enable them to overcome those issues, and we see examples of success such as Welsh beef being available in local health boards across Wales.

Mae hefyd yn bwysig bod busnesau yn gallu bodloni telerau cytundebol rhai contractau. Un o'r problemau a welwyd yn y gorffennol oedd busnesau yn methu cyflawni contractau ar sail bob dydd, bob wythnos, a phob mis. Rydym wedi eu helpu trwy fentrau megis y fenter caffael, er mwyn eu galluogi i oresgyn y problemau hynny, ac rydym yn gweld enghreifftiau o lwyddiant, fel y ffaith bod cig eidion Cymreig ar gael mewn byrddau iechyd lleol ledled Cymru.

 

David Rees: First Minister, we all know the important role that our manufacturing industries play in the economy today. Do you agree that, rather than helping those industries to be competitive in a growing market place, this UK coalition Government is adding unnecessary burdens on them, such as the carbon tax and high energy prices? In addition, the Office of Rail Regulation has proposed a plan to introduce a freight charge, which can only add more costs to our manufacturing industries at a time when they need to be more competitive in the marketplace, or it will force them onto the roads and increase traffic. What representations has the Welsh Government made in relation to these proposals?

David Rees: Brif Weinidog, rydym i gyd yn gwybod y rôl bwysig y mae ein diwydiannau gweithgynhyrchu yn ei chwarae yn economi heddiw. A ydych chi’n cytuno, yn hytrach na helpu'r diwydiannau hynny i fod yn gystadleuol mewn marchnad sy'n tyfu, mae Llywodraeth glymblaid bresennol y DU yn gosod beichiau ychwanegol diangen arnynt, megis y dreth carbon a phrisiau ynni uchel? Yn ogystal, mae'r Swyddfa Rheoleiddio Rheilffyrdd wedi cynnig cynllun i gyflwyno tâl cludo nwyddau, na all ond ychwanegu mwy o gostau i’n diwydiannau gweithgynhyrchu ar adeg pan y mae angen iddynt fod yn fwy cystadleuol yn y farchnad, neu a fydd yn eu gorfodi i ddefnyddio’r ffyrdd a chynyddu traffig. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud ynglŷn â'r cynigion hyn?

 

The First Minister: How much red tape and how many more costs can those in the UK Government impose on businesses? They do not understand business; we know that. Nonetheless, how many more costs can they impose? We know that the freight-specific charge is potentially exceptionally damaging to Welsh businesses. We made a robust response to the ORR’s consultation in which we highlighted the disproportionate impact of the proposals on freight in Wales, and we will continue to press this matter with the UK Government and ORR.

Y Prif Weinidog: Faint mwy o fân reolau a faint mwy o gostau a all Llywodraeth y DU ei gorfodi ar fusnesau? Nid ydynt yn deall busnes, fe wyddom hynny. Serch hynny, faint mwy o gostau allant hwy eu gorfodi? Rydym yn gwybod bod y tâl cludo penodol i  nwyddau o bosibl yn eithriadol o niweidiol i fusnesau Cymru. Rhoesom ymateb cadarn i ymgynghoriad Swyddfa Rheoleiddio'r Rheilffyrdd. Gan amlygu effaith anghymesur y cynigion ar gludo nwyddau yng Nghymru, a byddwn yn parhau i bwysleisio’r mater hwn gyda Llywodraeth y DU a Swyddfa Rheoleiddio'r Rheilffyrdd.

The Record

Llyr Huws Gruffydd: Os ydym am greu economi wirioneddol gynaliadwy yn y wlad hon, mae angen newidiadau reit sylfaenol yn y modd yr ydym yn creu cyfoeth yng Nghymru, ac mae goblygiadau yn hynny o beth i gynllunio, caffael, rheoleiddio, buddsoddi ac yn y blaen. I ba raddau y mae eich Llywodraeth yn ddigon penderfynol o gofleidio’r newidiadau y mae eu hangen i ddatblygu economi wir gynaliadwy?

Llyr Huws Gruffydd: If we are to create a truly sustainable economy in this country, we need some fundamental changes in the way that we generate wealth in Wales, and there are implications in that for planning, procurement, regulation, investment and so on. To what extent is your Government determined enough to embrace the necessary changes in order to develop a truly sustainable economy?

Y Prif Weinidog: Mae budd cymunedol yn bwysig dros ben. Rydym wedi dweud sawl gwaith na fyddwn yn cefnogi rhai datblygiadau heb fod buddiannau economaidd a chymdeithasol i’r cymunedau sy’n cael eu heffeithio ganddynt. Rhaid i ni gael y pwerau o ran caniatáu prosiectau ynni, a rwy’n gwybod bod ei blaid ef yn gefnogol o hynny. Wrth gael y pwerau hynny, rwy’n hyderus dros ben y bydd gennym gyfle da i greu economi werdd sy’n fwy yng Nghymru, ac hefyd economi werdd a fydd yn creu mwy o swyddi yng Nghymru.

The First Minister: Community benefit is exceptionally important. We have said a number of times that we will not support some developments unless there are economic and social benefits for the communities that are affected by these developments. We must have the powers to permit energy projects, and I know that his party is supportive of that. In securing those powers, I am very confident that we will have a good chance of creating a larger green economy in Wales that will create more jobs in Wales.

The Record

Joyce Watson: The economy is dependent on the skills of our workforce, and skills are the key to unlocking Wales’s potential. First Minister, will you join me in congratulating Gareth Jones, a student at Coleg Sir Gâr, on winning the gold medal for carpentry at the recent in EuroSkills 2012 competition in Belgium?

Joyce Watson: Mae'r economi yn ddibynnol ar sgiliau ein gweithlu, a sgiliau yw'r allwedd i ddatgloi potensial Cymru. Brif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Gareth Jones, myfyriwr yng Ngholeg Sir Gâr, ar ennill y fedal aur am waith coed yn ddiweddar yn y gystadleuaeth EuroSkills 2012 yng Ngwlad Belg?

 

The First Minister: Very much so. It is marvellous to hear that news. I am sure that all Members would join me in offering our heartiest congratulations to him on what is a wonderful success for him and for Wales.

Y Prif Weinidog: Yn sicr. Mae'n wych cael  clywed y newyddion. Yr wyf yn siŵr y bydd pob Aelod yn ymuno â mi i gynnig ein llongyfarchiadau twymgalon iddo am yr hyn sy’n llwyddiant gwych iddo fe ac i Gymru.

The Record

Uwchgynhadledd Economaidd Cymru Gyfan

All-Wales Economic Summit

14. Jocelyn Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ganlyniadau cyfarfod diwethaf Uwchgynhadledd Economaidd Cymru Gyfan. OAQ(4)0690(FM)

14. Jocelyn Davies: Will the First Minister make a statement on the outcomes of the last meeting of the All-Wales Economic Summit. OAQ(4)0690(FM)

The Record

The First Minister: The last of the economic summits took place in May 2010. All parties agreed that, going forward, the council for economic renewal should carry on the work of the summits and the most recent council meeting took place last month.

Y Prif Weinidog: Cynhaliwyd yr olaf o'r uwchgynadleddau economaidd ym mis Mai 2010. Cytunodd pob parti y dylai'r cyngor ar gyfer adnewyddu economaidd, wrth symud ymlaen, barhau â gwaith yr uwchgynadleddau, a chynhaliwyd cyfarfod diweddaraf  y cyngor fis diwethaf.

 

Jocelyn Davies: First Minister, I wonder if, at that meeting, representations were made to you by the private sector on the importance of public procurement policy to our economy. I heard what you said earlier in answer to another Member, but I wonder what your ambitions are to increase the percentage of contracts awarded to Welsh businesses. You mentioned Wales doing better than the European average, but I wonder if you can explain why the percentage of public sector contracts going to Welsh businesses compares badly to the other nations of Britain.

Jocelyn Davies: Brif Weinidog, tybed, yn y cyfarfod hwnnw, a wnaeth y sector preifat sylwadau i chi am bwysigrwydd cael polisi caffael cyhoeddus i’n heconomi. Clywais yr hyn a ddywedasoch yn gynharach mewn ateb i Aelod arall, ond tybed beth yw eich uchelgais o ran cynyddu canran y contractau a ddyfernir i fusnesau yng Nghymru. Crybwylloch fod Cymru yn gwneud yn well na'r cyfartaledd ar gyfer Ewrop, ond tybed a allwch chi esbonio pam y mae’r ganran o gontractau'r sector cyhoeddus sy’n mynd i fusnesau yng Nghymru yn cymharu'n wael â gwledydd eraill Prydain.

 

The First Minister: Wales-based companies have increased their share of the public sector spend in Wales from 34% to 52%. That represents an impressive stride forward. What we cannot do is set legal targets that stipulate that a certain percentage of contracts must be given to Wales-based companies—we know that that is illegal under EU law. What we can do is continue to encourage more Wales-based businesses to successfully bid for public sector contracts, as we have been doing, and as the figures show.

Y Prif Weinidog: Mae cwmnïau Cymru wedi cynyddu eu cyfran o wariant y sector cyhoeddus yng Nghymru o 34% i 52%. Mae hynny'n cynrychioli cam sylweddol ymlaen. Yr hyn na allwn ei wneud yw gosod targedau cyfreithiol sy'n nodi bod yn rhaid i ganran benodol o gontractau gael eu rhoi i gwmnïau Cymru - yr ydym yn gwybod bod hynny'n anghyfreithlon o dan gyfraith yr UE. Yr hyn y gallwn ei wneud yw parhau i annog mwy o fusnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru i wneud cais llwyddiannus am gontractau’r sector cyhoeddus, fel yr ydym wedi bod yn ei wneud, ac fel y dengys y ffigurau.

The Record

Paul Davies: Beth sy’n hollbwysig ar ôl cynnal y cyfarfodydd a’r uwchgynadleddau hyn yw ein bod yn gweld canlyniadau gwirioneddol a bod yr economi yn gwella yma yng Nghymru. Yr unig ffordd i wella’r economi yw drwy gefnogi ein busnesau, ac un ffordd o wneud hynny yw drwy leihau ardrethi busnes. A all y Prif Weinidog ddweud wrthym pryd fydd ei Lywodraeth yn ymateb i adroddiad yr Athro Brian Morgan, oherwydd mae busnesau yn awr wedi bod yn aros ers mis Mehefin am y datganiad hwn?

Paul Davies: Following the holding of all of these meetings and summits, it is crucial that we see real results and that the economy improves here in Wales. The only way for the economy to improve is by supporting our businesses, and one way of doing that is by reducing business rates. Can the First Minister tell us when his Government will respond to Professor Brian Morgan’s report, because businesses have now been waiting since June for this statement?

Y Prif Weinidog: Bydd ateb gan y Gweinidog o fewn pythefnos.

The First Minister: There will be a response from the Minister within a fortnight.

Pobl Hŷn yng Nghymru

Older People in Wales

15. Rebecca Evans: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i bobl hŷn yng Nghymru. OAQ(4)0691(FM)

15. Rebecca Evans: Will the First Minister make a statement on support for older people in Wales. OAQ(4)0691(FM)

The Record

The First Minister: We have a long history of supporting older people through our strategy for older people. The programme for government gives a commitment to a third phase, which will launch in 2013.

Y Prif Weinidog: Mae gennym hanes hir o gefnogi pobl hŷn drwy ein strategaeth ar gyfer pobl hŷn. Mae'r rhaglen ar gyfer llywodraethu yn rhoi ymrwymiad i drydydd cam, a fydd yn cael ei lansio yn 2013.

 

Rebecca Evans: First Minister, there are proposals by Pembrokeshire County Council to place a civic amenity site right next door to Brooklands nursing home in Tenby, with all of the noise and smell and traffic that that kind of development brings. Is that treating vulnerable older people with dignity and respect?

Rebecca Evans: Brif Weinidog, mae cynigion gan Gyngor Sir Penfro i osod safle amwynder dinesig y drws nesaf i gartref nyrsio Brooklands yn Ninbych y Pysgod, gyda’r holl sŵn, aroglau a thraffig sy’n dod gyda’r math yna o ddatblygiad. A yw hynny'n trin pobl hŷn sy'n agored i niwed gydag urddas a pharch?

 

The First Minister: The Member will know that this is a planning application that may be decided, in time, by Welsh Ministers, so Welsh Ministers are unable to comment.

Y Prif Weinidog: Bydd yr Aelod yn gwybod bod hwn yn gais cynllunio a allai gael ei benderfynu, ymhen amser, gan Weinidogion Cymru, ac felly ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw sylwadau.

 

Darren Millar: First Minister, I recently visited a WRVS luncheon club in my own constituency in Rhos-on-Sea, and many of the elderly folk who attend that weekly club were concerned about plans by Conwy County Borough Council to reduce the number of public lavatories across the county in response to the budget difficulties that it is facing. What assurances can you give me that you take the need for public conveniences for older people across Wales seriously? What guidance are you planning to issue, or have you issued, to local authorities to ensure that they have adequate facilities for older people?

Darren Millar: Brif Weinidog, ymwelais yn ddiweddar â chlwb cinio Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol y Merched yn fy etholaeth fy hun yn Llandrillo-yn-Rhos, ac mae llawer o'r bobl oedrannus sydd yn mynychu’r clwb wythnosol hwnnw yn pryderu ynghylch cynlluniau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i leihau nifer y toiledau cyhoeddus ar draws y sir mewn ymateb i'r anawsterau cyllidebol y mae'n eu hwynebu. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i mi eich bod yn cymryd yr angen am doiledau cyhoeddus ar gyfer pobl hŷn ar draws Cymru o ddifrif? Pa ganllawiau yr ydych yn bwriadu eu cyflwyno, neu yr ydych wedi eu cyflwyno,  i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod ganddynt gyfleusterau digonol ar gyfer pobl hŷn?

 

The First Minister: This is something that the Commissioner for Older People in Wales is taking an interest in. What I would like to see is any research that the commissioner might bring forward, and indeed any recommendations on that basis, so that we can then look to see what needs to be done to improve the situation with regard to public conveniences.

Y Prif Weinidog: Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Comisiynydd Pobl Hŷn yng Nghymru yn cymryd diddordeb ynddo, Yr hyn yr hoffwn i ei weld yw unrhyw waith ymchwil y gallai'r comisiynydd ei ddwyn ymlaen, ac yn wir unrhyw argymhellion ar sail hynny, fel y gallwn wedyn edrych i weld beth sydd angen ei wneud i wella'r sefyllfa o ran cyfleusterau cyhoeddus.

 

Lindsay Whittle: I want to return to the winter fuel allowance. You said in reply to Sandy Mewies earlier that you had written letters to my old friends the energy companies—or the gangsters in suits, as I call them—and you have placed pressure on them, but in what practical ways can the Welsh Government make efforts to prevent the possibility of older people this winter suffering from hypothermia and worse due to their inability to adequately heat their own homes?

Lindsay Whittle: Yr wyf am ddychwelyd at y lwfans tanwydd gaeaf. Dywedasoch wrth ateb Sandy Mewies yn gynharach eich bod wedi ysgrifennu llythyrau at fy hen gyfeillion y cwmnïau ynni - neu’r gangsters mewn siwtiau, fel yr wyf yn eu galw - ac yr ydych wedi rhoi pwysau arnyn nhw, ond ym mha ffyrdd ymarferol y gall Llywodraeth Cymru wneud ymdrechion i atal y posibilrwydd o bobl hŷn yn dioddef hypothermia a gwaeth y gaeaf hwn  oherwydd eu hanallu i wresogi eu cartrefi eu hunain?

 

The First Minister: We take fuel poverty seriously. We launched the 'Tackling Poverty Action Plan 2012-2016’ in June this year. We are looking to commission research, together with the commissioner for older people, on the impact on older people of poverty, particularly with regard to fuel. We know that if the cost of fuel increases again, particularly the cost of domestic fuel, more and more people will find it difficult to pay. That is why the winter fuel allowance, introduced by a Labour Government, is so important.

Y Prif Weinidog: Rydym yn cymryd tlodi tanwydd o ddifrif. Lansiwyd 'Cynllun Gweithredu Mynd i'r Afael â Thlodi 2012-2016’ gennym ym mis Mehefin eleni. Rydym yn bwriadu comisiynu ymchwil, ar y cyd â'r comisiynydd pobl hŷn, ar effaith tlodi ar bobl hŷn, yn enwedig o ran tanwydd. Rydym yn gwybod os bydd cost tanwydd yn codi eto, yn enwedig cost tanwydd domestig, bydd mwy a mwy o bobl yn ei chael hi’n anodd talu. Dyna pam mae’r lwfans tanwydd gaeaf, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur, mor bwysig.

2.30 p.m.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Business Statement and Announcement

The Record

The Minister for Finance and Leader of the House (Jane Hutt): I have one change to report to this week’s planned business. In addition to his statement on flood risk management, the Minister for Environment and Sustainable Development will also make a statement on the first anniversary of the carrier bag levy. Business for the next three weeks is as shown on the business statement and announcement, which can be found among the agenda papers that are available to Members electronically.

Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ (Jane Hutt): Mae gennyf un newid i'w adrodd i fusnes a fwriadwyd yr wythnos hon. Yn ychwanegol at ei datganiad ar reoli perygl llifogydd, bydd Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy hefyd yn gwneud datganiad ar ben-blwydd cyntaf yr ardoll ar fagiau siopa. Dangosir y busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael ymhlith papurau’r agenda sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

 

William Graham: I thank the Leader of the House for her statement this afternoon. Although I appreciate that the consultation concerning the M4 corridor enhancement measures from Magor to Castleton concluded only some three months ago, Monday’s crash between junctions 26 and 27 on the M4 around Newport highlighted once again the inadequacies of a single artery access across south Wales. The accident, which was on the westbound side of the M4, not only resulted in tailbacks beyond that junction, but traffic on the eastbound side of the M4, slowing to look at the accident—and I am sure that that the Minister will join me in deploring that action—caused further tailbacks of another 10 miles along the M4 and the A48(M). Would you encourage the Minister for Local Government and Communities to make an interim statement on the progress towards addressing the inadequacies of a single traffic artery, and on implementing the results of the consultation?

William Graham: Diolch i Arweinydd y Tŷ am ei datganiad y prynhawn yma. Er fy mod yn gwerthfawrogi mai dim ond rhyw dri mis yn ôl y daeth yr ymgynghoriad ynghylch mesurau gwella coridor yr M4 o Fagwyr i Gas-bach i ben, roedd y ddamwain ddydd Llun rhwng cyffyrdd 26 a 27 ar yr M4 o amgylch Casnewydd yn amlygu unwaith eto y diffygion mynediad ffordd brifwythiennol sengl ar draws de Cymru. Arweiniodd y ddamwain, a oedd ar y ffordd tua'r gorllewin ar y M4, nid yn unig at dagfeydd y tu hwnt i'r gyffordd, ond roedd traffig ar y ffordd tua'r dwyrain ar yr M4, yn arafu i edrych ar y ddamwain — ac rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymuno â mi i resynu’r weithred honno — wedi achosi tagfeydd pellach am 10 milltir ar hyd yr M4 a'r A48(M). A fyddech yn annog y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau i wneud datganiad interim ar y cynnydd tuag at fynd i'r afael â'r diffygion ffordd brifwythiennol traffig sengl, ac ar weithredu canlyniadau'r ymgynghoriad?

 

Jane Hutt: The Minister for transport is well aware of this recent situation, and the traffic chaos and concern that it caused. He is looking not only at the results of that consultation, but also at the causes and impact of that incident, and he will be making a statement in due course. However, you will know what a key priority it is for this Government to ensure the enhancement of the M4.

Jane Hutt: Mae'r Gweinidog dros drafnidiaeth yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa ddiweddar hon, a’r anhrefn traffig a phryder a achosodd. Mae'n edrych nid yn unig ar ganlyniadau’r ymgynghoriad hwnnw, ond hefyd ar achosion ac effaith y digwyddiad, a bydd yn gwneud datganiad maes o law. Fodd bynnag, byddwch yn gwybod cymaint o flaenoriaeth allweddol yw hi i'r Llywodraeth hon i sicrhau gwelliannau i'r M4.

The Record

Elin Jones: Diolch am dynnu yn ôl o’r flaenraglen fusnes y ddeddfwriaeth ysmygu a oedd i gael ei thrafod a’i rhoi i bleidlais yn y Cynulliad ddydd Mawrth nesaf. Deallaf y bydd yn awr yn cael ei chyfeirio at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Menter a Busnes, ac rwy’n ddiolchgar am hynny.

Elin Jones: Thank you for withdrawing from the forward work programme the smoking legislation that was due to be discussed and put to a vote in the Assembly next Tuesday. I understand that it is now to be referred to the Health and Social Care Committee and the Enterprise and Business Committee, and I am grateful for that.

Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am erthylu. Gwyddom fod y Gweinidog iechyd yn Lloegr wedi dweud ei fod o blaid gostwng y trothwy erthylu i 12 wythnos. Deallaf o’r adroddiadau yr wyf wedi’u gweld yn y cyfryngau fod Gweinidog iechyd y Cynulliad o blaid cadw’r amserlen bresennol o ran erthylu, sef 24 wythnos, a chytunaf â’r safbwynt hwnnw. Fodd bynnag, os yw’n fwriad gan Weinidog San Steffan newid y cyfnod erthylu yng Nghymru, yr Alban, a Lloegr, a allwch ofyn i’r Gweinidog iechyd wneud datganiad yn y Cynulliad am oblygiadau newid o’r fath i’n gwasanaeth iechyd gwladol a’n gwasanaethau meddygol? Os oes symudiad gan Lywodraeth San Steffan i wneud hyn, a fyddai eich Llywodraeth o blaid gofyn am y pwerau ar erthylu i ddod i’r Cynulliad maes o law?

I want to ask for a statement from the Minister for Health and Social Services on abortion. We know that the Minister for health in England has said that he is in favour of reducing the abortion threshold to 12 weeks. I understand from the reports that I have seen in the media that the Assembly Minister for health is in favour of retaining the current abortion limit, which is 24 weeks, and I agree with that stance. However, if the intention is for the Minister at Westminster to change the limit in Wales, Scotland and England, will you ask the Minister for health to make a statement in the Assembly on the implications of such a change for our national health service and our medical services? If there is a move by Westminster to do this, would your Government be in favour of requesting those powers over abortion to come to the Assembly in due course?

The Record

Jane Hutt: On your first point, as you said, Elin Jones, you will be well aware of the importance of our considering the evidence relating to the Smoke-free Premises etc. (Wales) (Amendment) Regulations 2012. We now expect and hope that the Enterprise and Business Committee and the Health and Social Care Committee will take that forward jointly.

Jane Hutt: Ynglŷn â'ch pwynt cyntaf, fel y dywedasoch, Elin Jones, byddwch yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd i ni ystyried y dystiolaeth yn ymwneud â'r Rheoliadau Mangreoedd etc Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012. Rydym bellach yn disgwyl ac yn gobeithio y bydd y Pwyllgor Menter a Busnes a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn bwrw ymlaen â hynny ar y cyd.

 

Your second point is pertinent given the great concerns that have been caused by the messages coming through from the UK Government’s Secretary of State for Health, as well as the comments made by the Minister for women, Maria Miller, over the weekend. The UK Government is clearly targeting women, and is taking the clock back in respect of their rights and entitlements. This is not a devolved issue, but our responsibilities are quite clear, and I certainly agree with David Steel on this matter, who wrote about it powerfully at the weekend. The legislation that he introduced in 1967 has worked, and I hope that we will abide by it. However, this is not a devolved issue.

Mae eich ail bwynt yn berthnasol o ystyried y pryderon mawr sydd wedi cael eu hachosi gan y negeseuon sy'n dod drwodd gan Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd Llywodraeth y DU, yn ogystal â'r sylwadau a wnaed gan y Gweinidog dros fenywod, Maria Miller, dros y penwythnos. Mae Llywodraeth y DU yn amlwg yn targedu menywod, ac yn troi’r cloc yn ôl yng nghyswllt eu hawliau a'u hawliadau. Nid yw hyn yn fater datganoledig, ond mae ein cyfrifoldebau yn eithaf clir, ac rwyf yn sicr yn cytuno â David Steel ar y mater hwn, a ysgrifennodd am y peth yn rymus ar y penwythnos. Mae'r ddeddfwriaeth a gyflwynwyd ganddo yn 1967 wedi gweithio, ac rwyf yn gobeithio y byddwn yn cadw ato. Fodd bynnag, nid yw hwn yn fater sydd wedi'i ddatganoli.

 

Kirsty Williams: I thank the Minister for her comments regarding the views of David Steel, which I would also support and echo, on this difficult issue.

Kirsty Williams: Diolchaf i'r Gweinidog am ei sylwadau ynglŷn â barn David Steel, a byddwn hefyd yn eu cefnogi ac yn eu hadleisio, ar y mater anodd hwn.

 

I ask the Minister to make time for a debate on the ministerial code and the desirability of establishing an independent person to oversee it. The Minister will be aware that we are unique as an institution in that there is no independent person to adjudicate on the ministerial code. Does she agree that injecting some transparency and confidence into this process at a time when there is not an issue being discussed, or there is no issue of controversy, would be right as a way forward rather than doing it after the event or after a problem has arisen? Would she give some time to the consideration of that matter on the floor of the Chamber?

Gofynnaf i'r Gweinidog sicrhau amser ar gyfer dadl ar y cod gweinidogol a dymunoldeb sefydlu person annibynnol i oruchwylio hynny. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol ein bod yn unigryw fel sefydliad gan nad oes person annibynnol i ddyfarnu ar y cod gweinidogol. A yw'n cytuno y byddai chwistrellu rhywfaint o dryloywder a hyder i’r broses hon ar adeg pan nad oes mater yn cael ei drafod, neu nad oes unrhyw fater o ddadlau, yn iawn fel ffordd ymlaen yn hytrach na'i wneud ar ôl y digwyddiad neu ar ôl i broblem godi? Byddai'n rhoi rhywfaint o amser i ystyried y mater hwnnw ar lawr y Siambr?

 

Jane Hutt: I thank the leader of the Welsh Liberal Democrats for her first statement in support of my response to what David Steel set out, not only in respect of his bringing forward legislation on a very sensitive matter but also his comments over the weekend. I am also glad that the leader of the Welsh Liberal Democrats said that there is not a specific issue at the moment with regard to the ministerial code and to having independent oversight. This is an issue for the First Minister, and I know that he will take account of and look at the views expressed.

Jane Hutt: Diolchaf i arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru am ei datganiad cyntaf i gefnogi fy ymateb i'r hyn a nododd David Steel, nid yn unig mewn perthynas â chyflwyno deddfwriaeth ganddo ar fater sensitif iawn, ond hefyd ei sylwadau dros y penwythnos. Yr wyf hefyd yn falch bod arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi dweud nad oes mater penodol ar hyn o bryd o ran y cod gweinidogol a chael goruchwyliaeth annibynnol. Mae hwn yn fater i'r Prif Weinidog, a gwn y bydd yn ystyried ac yn edrych ar y farn a fynegwyd.

 

Andrew R.T. Davies: Leader of the House, the agenda before me today sets out two hours’ worth of Government business, including the very important statement, which many Members will welcome, on the Robert Powell investigation. However, we are in week 3 after a nine-week recess, and we have just two hours’ worth of Government business on the order paper this afternoon. Given the issues that need to be discussed and debated, and given that you as a Government are still in your early years and should be laying out your programme and policies, do you think that that is a satisfactory way for a Government to use its time to engage with Assembly Members? Are you going to bring out a birthday cake for the last statement on the 12-month anniversary of the carrier bag levy?

Andrew RT Davies: Arweinydd y Tŷ, mae’r agenda o fy mlaen i heddiw yn nodi gwerth dwy awr o fusnes y Llywodraeth, gan gynnwys y datganiad pwysig iawn y bydd llawer o Aelodau'n ei groesawu, ar ymchwiliad Robert Powell. Fodd bynnag, rydym yn wythnos 3 ar ôl toriad o naw wythnos, a dim ond gwerth dwy awr o fusnes y Llywodraeth sydd gennym ar y papur trefn y prynhawn yma. O ystyried y materion y mae angen eu trafod a'u dadlau, ac o ystyried eich bod chi fel Llywodraeth yn dal i fod yn eich blynyddoedd cynnar ac y dylech fod yn cyflwyno’ch rhaglen a’ch polisïau, a ydych yn credu bod hynny'n ffordd foddhaol i Lywodraeth ddefnyddio’i hamser i ymgysylltu ag Aelodau'r Cynulliad? A ydych yn mynd i ddod â chacen pen-blwydd ar gyfer y datganiad olaf ar ben-blwydd 12 mis yr ardoll ar fagiau siopa?

 

Jane Hutt: The citizens of Wales and those engaged in business, local government, the NHS and the third sector are pleased that, after recess, the Welsh Government is coming back to make statements on important policy issues and developments. Indeed, in our first week back, we had a debate on planning, and there are debates planned for the forthcoming weeks. It is important that Ministers make the statements today for your scrutiny. If you do not wish to be here to scrutinise them, we will not miss you if you leave the Chamber. However, I have to say that this is an important opportunity that you and your Members should take to scrutinise Ministers on their achievements and on developments.

Jane Hutt: Mae dinasyddion Cymru a'r rhai sy'n ymwneud â busnes, llywodraeth leol, y GIG a'r trydydd sector yn falch bod Llywodraeth Cymru, ar ôl toriad, yn dod yn ôl i wneud datganiadau ar faterion polisi pwysig a datblygiadau. Yn wir, yn ein hwythnos gyntaf yn ôl, cawsom ddadl ar gynllunio, ac mae dadleuon wedi’u cynllunio ar gyfer yr wythnosau sydd i ddod. Mae'n bwysig bod Gweinidogion yn gwneud y datganiadau heddiw er mwyn i chi graffu arnynt. Os nad ydych yn dymuno bod yma i graffu arnynt, ni fyddwn yn eich colli os byddwch yn gadael y Siambr. Fodd bynnag, rhaid i mi ddweud bod hwn yn gyfle pwysig y dylech chi a'ch Aelodau ei gymryd i graffu ar Weinidogion ar eu cyflawniadau ac ar ddatblygiadau.

The Record

Alun Ffred Jones: Mae’r argymhellion ar greu parthau gwarchod morol llym wedi codi pryderon ar hyd yr arfordir, a chryn ddadlau am fanteision ac anfanteision gwneud hynny. Mae’r ymgynghoriad sydd wedi’i sefydlu wedi dod i ben. Galwaf felly am ddatganiad buan am fwriadau’r Llywodraeth er mwyn dod ag eglurder i’r sefyllfa, ac er mwyn hefyd, gobeithio, alluogi’r bobl hynny sy’n dibynnu ar y môr am eu bywoliaeth i gael gwybod beth yn union y bydd y Llywodraeth yn ei wneud. Os nad oes datganiad o’r fath, galwaf ar y Llywodraeth i ganiatáu amser yn ystod amser y Llywodraeth i gynnal dadl am y pwnc.

Alun Ffred Jones: The recommendations on the creation of highly protected marine conservation zones have raised concerns along the coastline, and there has been some debate on the benefits and disadvantages of such an approach. The consultation that was set up has now closed. I therefore ask for an early statement on the Government’s intentions so that we can bring clarity to the situation, and also, hopefully, to enable those people who are dependent on the sea for their livelihoods to know exactly what the Government’s intentions are. If there is not such a statement, I call on the Government to make time available for a debate on the issue in Government time.

The Record

Jane Hutt: I thank Alun Ffred Jones for that question. There has been extensive debate, discussion and consultation on marine conservation zones. In fact, the consultation closed at the end of July, and we received over 7,000 responses, which are being analysed. We are taking into account all the key themes and responses, and I can assure the Member that the Minister will decide on the next steps as soon as possible.

Jane Hutt: Diolchaf i Alun Ffred Jones am y cwestiwn hwnnw. Bu dadl, trafodaeth ac ymgynghori helaeth ar barthau cadwraeth morol. Yn wir, daeth yr ymgynghoriad i ben ar ddiwedd mis Gorffennaf, a chawsom dros 7,000 o ymatebion, sy'n cael eu dadansoddi. Rydym yn ystyried yr holl themâu allweddol ac ymatebion, a gallaf sicrhau'r Aelod y bydd y Gweinidog yn penderfynu ar y camau nesaf cyn gynted ag y bo modd.

 

Eluned Parrott: Minister, with your equalities hat on, you will know that my region is home to the most established Somali community in Britain. However, I am concerned by the nature of some of the casework regarding housing that I have received from that community recently. I met a succession living in intolerably overcrowded conditions. There were 10, 11 or even 12 people living in two-bedroomed flats with no outside space, some of which included children with disabilities. These families were on the waiting list for years, in some cases, because there simply are no larger homes available in our social housing portfolio. Could you request a statement from the Minister for Housing, Regeneration and Heritage to address this issue and to look at ensuring that Wales’s social housing reflects the democratic profile of all of Wales’s communities?

Eluned Parrott: Weinidog, o ran cydraddoldeb, byddwch yn gwybod bod fy rhanbarth yn gartref i’r gymuned Somali fwyaf sefydledig ym Mhrydain. Fodd bynnag, rwyf yn bryderus oherwydd natur rhywfaint o'r gwaith achos ynghylch tai yr wyf wedi eu derbyn gan y gymuned yn ddiweddar. Cwrddais i â nifer oedd yn byw dan amodau annioddefol o orlawn. Roedd 10, 11 neu hyd yn oed 12 o bobl yn byw mewn fflat dwy ystafell wely heb unrhyw le y tu allan, rhai ohonynt yn cynnwys plant ag anableddau. Roedd y teuluoedd hyn ar y rhestr aros ers blynyddoedd, mewn rhai achosion, oherwydd nad oes unrhyw gartrefi mwy ar gael yn ein portffolio tai cymdeithasol. Allech chi ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog dros Dai, Adfywio a Threftadaeth i fynd i'r afael â'r mater hwn ac i edrych ar sicrhau bod tai cymdeithasol Cymru yn adlewyrchu proffil democrataidd pob cymuned yng Nghymru?

 

Jane Hutt: The needs of the Somali community are important, as is clear in the commitment to our strategic equality plans, delivered locally by local authorities. I am sure that you will have raised with the local authority the matters concerning those families in the Somali community. In the expansion of affordable social housing, we must certainly be aware of the need to have the most appropriate housing available for a family’s size, as you say. I am concerned about the restrictions that are coming forth not only in relation to our capital programme, which we are trying to address, but also the housing benefit regime, and I am grateful to Eluned Parrott for raising this issue.

Jane Hutt: Mae anghenion y gymuned Somali yn bwysig, fel sy'n glir yn yr ymrwymiad i'n cynlluniau cydraddoldeb strategol, a gyflwynir yn lleol gan awdurdodau lleol. Yr wyf yn siŵr y byddwch wedi codi gyda'r awdurdod lleol y materion sy'n ymwneud â rhai teuluoedd yn y gymuned Somali. O ran ehangu tai cymdeithasol fforddiadwy, yn sicr rhaid inni fod yn ymwybodol o'r angen i gael y tai mwyaf priodol sydd ar gael ar gyfer maint  teulu, fel y dywedwch. Yr wyf yn pryderu ynghylch y cyfyngiadau sy'n dod i’r golwg, nid yn unig o ran ein rhaglen gyfalaf yr ydym yn ceisio mynd i'r afael â hi, ond hefyd y gyfundrefn budd-daliadau tai, ac rwy'n ddiolchgar i Eluned Parrott am godi'r mater hwn.

 

Darren Millar: Could we have a statement on the oversight and governance of local drainage boards in Wales? You will be aware that the Wales Audit Office has published its report into the Caldicot and Wentlooge Levels Internal Drainage Board, which identified some serious shortcomings in governance and the inappropriate use of public funds at that organisation. I am interested to know what oversight the Government has of these bodies and where the responsibilities lie.

Darren Millar: A allem ni gael datganiad ar oruchwylio a llywodraethu byrddau draenio lleol yng Nghymru? Byddwch yn ymwybodol bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi ei hadroddiad ar Fwrdd Draenio Mewnol Lefelau Cil-y-coed a Gwynllwg, sy'n nodi rhai diffygion difrifol o ran llywodraethu a defnydd amhriodol o arian cyhoeddus yn y sefydliad hwnnw. Mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod pa oruchwyliaeth sydd gan y Llywodraeth ar y cyrff hyn, a gyda phwy y mae’r  cyfrifoldebau hynny.

 

Jane Hutt: As you recognise, I know, the internal drainage boards are autonomous public bodies that are funded through a series of rates, levies and charges. Therefore, as a Welsh Government, we do not provide any core or ongoing funding to the Caldicot and Wentlooge Levels Internal Drainage Board, or indeed to any internal drainage board. We are carefully consulting on the future arrangements regarding responsibilities, and we will fully consider this, and the recommendations of the Wales Audit Office report will be valuable in that.

Jane Hutt: Fel yr ydych yn cydnabod, rwy’n gwybod, mae byrddau draenio mewnol yn gyrff cyhoeddus annibynnol sy'n cael eu hariannu trwy gyfres o gyfraddau, ardollau a thaliadau. Felly, fel Llywodraeth Cymru, nid ydym yn darparu unrhyw gyllid craidd neu barhaus i Fwrdd Draenio Mewnol Lefelau Cil-y-coed a Gwynllwg, neu yn wir i unrhyw fwrdd draenio mewnol. Rydym yn ymgynghori’n ofalus ar y trefniadau yn y dyfodol o ran cyfrifoldebau, a byddwn yn ystyried hyn yn llawn, a bydd argymhellion adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn werthfawr yn hynny.

 

Angela Burns: Could I ask the Leader of the House to request that the First Minister provide us with a statement on the activities of his delivery unit? We all have a broad understanding of its remit, but I want to understand more clearly how it monitors the effectiveness of the actions that Government undertakes, which benchmarks are used, how it implements its conclusions, and what effect it has had on positively improving the performance and delivery of Government policy. We are all somewhat in the dark as to what it does on a day-to-day, month-by-month basis. Therefore, a statement that would update us on all this, or even a debate on it, would be more than useful.

Angela Burns: A gaf i ofyn i Arweinydd y Tŷ i ofyn i'r Prif Weinidog roi datganiad i ni ar weithgareddau ei uned cyflenwi? Mae gan bob un ohonom ddealltwriaeth eang o'i gylch gwaith, ond yr wyf eisiau deall yn gliriach sut y mae'n monitro effeithiolrwydd y camau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd, pa feincnodau a ddefnyddir, sut y mae'n gweithredu ei gasgliadau, a pha effaith a gafodd ar wella perfformiad a chyflwyno polisi Llywodraeth yn gadarnhaol. Rydym i gyd braidd yn y niwl o ran yr hyn y mae'n ei wneud o ddydd-i-ddydd, o fis i fis. Felly, byddai datganiad fyddai'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar hyn i gyd, neu hyd yn oed ddadl ar hyn, yn fwy na defnyddiol.

 

Jane Hutt: I have to say that I am intrigued with that request, Angela Burns, because the leader of the Welsh Conservatives was criticising us for making statements about the delivery of our policies in the oral statements that Ministers have made during the previous two weeks and which they will be making this afternoon. Those statements are about delivery. Look to the programme for government and the debate that we had earlier this year to see how we account for our delivery. It is for our officials to guide us, as they do, and the delivery unit plays a key part in that.

Jane Hutt: Rhaid i mi ddweud fy mod yn chwilfrydig ynglŷn â'r cais hwnnw, Angela Burns, am fod arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ein beirniadu am wneud datganiadau am gyflawni ein polisïau yn y datganiadau llafar y mae Gweinidogion wedi eu gwneud yn ystod y bythefnos flaenorol ac y byddant yn eu gwneud y prynhawn yma. Mae’r datganiadau hynny yn ymwneud â chyflawni. Edrychwch ar y rhaglen ar gyfer llywodraethu a'r ddadl a gawsom yn gynharach eleni i weld sut rydym yn atebol am gyflawni. Mater i’n swyddogion yw ein harwain ni, fel y maent yn ei wneud, ac mae'r uned gyflawni yn chwarae rhan allweddol yn hynny.

Datganiad: Ymchwiliad Robert Powell—Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Argymhellion
Statement: The Robert Powell Investigation—Welsh Government Response to the Recommendations

The Record

The Minister for Health and Social Services (Lesley Griffiths): Today, I am publishing the Welsh Government’s response to the recommendations following the independent investigation into the lessons to be learned from the death of 10-year-old Robert Powell, known to family and friends as Robbie. Assembly Members will recall the statement made by the First Minister in July. I know that we were all saddened to hear of the catalogue of failures and missed opportunities surrounding Robbie’s tragic death. This pain has been made all the worse for his family by the subsequent events and investigations, none of which has brought satisfactory answers for them. Today, our thoughts and sympathies are again with Robbie’s family and friends.

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Lesley Griffiths): Heddiw, rwy'n cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion yn dilyn yr ymchwiliad annibynnol i'r gwersi i'w dysgu o farwolaeth  Robert Powell 10 oed, yr oedd ei deulu a’i ffrindiau’n ei alw’n Robbie. Bydd Aelodau'r Cynulliad yn cofio'r datganiad a wnaed gan y Prif Weinidog ym mis Gorffennaf. Gwn ein bod i gyd yn drist i glywed am y rhestr o fethiannau a cholli cyfleoedd ynghylch marwolaeth drasig Robbie. Mae’r boen wedi cael ei gwneud yn waeth byth i’w deulu gan y digwyddiadau a’r ymchwiliadau dilynol, nid oes yr un o’r rhain wedi rhoi atebion boddhaol iddynt. Heddiw, mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad dwysaf unwaith eto gyda theulu a ffrindiau Robbie.

 

2.45 p.m.

 

Sadly, we cannot turn back the clock. However, I am determined to ensure that we do all that we possibly can to make further improvements in our systems to improve patient safety and care. The purpose of this investigation was to identify learning for the NHS. Today, therefore, I want us to look forward and ensure that we build on the report’s recommendations. This also provides an opportunity to focus on the needs of children in accessing healthcare, ensuring that their voice is heard and that they are fully engaged in decisions about their health and healthcare.

Yn anffodus, ni allwn droi'r cloc yn ôl. Fodd bynnag, rwyf yn benderfynol o sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud gwelliannau pellach yn ein systemau i wella diogelwch a gofal cleifion. Diben yr ymchwiliad hwn oedd nodi dysgu ar gyfer y GIG. Heddiw, felly, rwyf am i ni  edrych ymlaen a sicrhau ein bod yn adeiladu ar argymhellion yr adroddiad. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i ganolbwyntio ar anghenion plant mewn cael gofal iechyd, gan sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed a’u bod yn ymwneud yn llawn mewn penderfyniadau am eu hiechyd a'u gofal iechyd.

 

Clearly, a great deal has changed in the NHS over the past 20 years. The advances in healthcare to enable better diagnosis and treatment through technology, drugs and treatments are unrecognisable from the 1990s. The introduction of clinical governance towards the end of that decade has ensured that we have systems and processes in place to identify areas for improvement and to take action when things go wrong. This includes clinical audit, incident reporting systems and better complaints procedures. However, we can never be complacent. There is, and always will be, room to improve. Healthcare never stands still.

Yn amlwg, mae llawer wedi newid yn y GIG dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae'r datblygiadau ym maes gofal iechyd er mwyn galluogi gwell diagnosis a thriniaeth trwy dechnoleg, cyffuriau a thriniaethau yn amhosibl eu hadnabod o'r 1990au. Mae cyflwyno rheolaeth glinigol tuag at ddiwedd y ddegawd honno wedi sicrhau bod gennym systemau a phrosesau ar waith i nodi meysydd ar gyfer gwella ac i gymryd camau pan fydd pethau'n mynd o chwith. Mae hyn yn cynnwys archwilio clinigol, systemau adrodd am ddigwyddiadau a gweithdrefnau cwynion gwell. Fodd bynnag, ni allwn fod yn hunanfodlon. Mae, ac fe fydd bob amser, le i wella. Nid yw Gofal Iechyd byth yn sefyll yn llonydd.

 

The report makes 12 recommendations and many of these are overlapping. Therefore, I am proposing to take forward learning in the following key areas: better communication and involvement with patients and their families; accessing and managing medical records; improving communication to ensure continuity of care; and dealing with concerns and complaints following the death of a patient. I have taken into account the work already under way in these areas to ensure that we build on existing developments, particularly with ongoing and rapid advances in the use of information technology to improve communication and facilitate continuity of care through the NHS Wales informatics strategy. I have also identified some specific areas for attention.

Mae'r adroddiad yn gwneud 12 o argymhellion ac mae llawer o'r rhain yn gorgyffwrdd. Felly, rwyf yn bwriadu datblygu dysgu yn y meysydd allweddol canlynol: gwell cyfathrebu ac ymwneud â chleifion a'u teuluoedd; gweld a rheoli cofnodion meddygol, gwella cyfathrebu er mwyn sicrhau parhad gofal; ac ymdrin â phryderon a chwynion yn dilyn marwolaeth claf. Rwyf wedi ystyried y gwaith sydd eisoes ar y gweill yn y meysydd hyn er mwyn sicrhau ein bod yn adeiladu ar ddatblygiadau presennol, yn enwedig gyda datblygiadau parhaus a chyflym yn y defnydd o dechnoleg gwybodaeth i wella cyfathrebu a hwyluso parhad gofal drwy strategaeth gwybodeg GIG Cymru. Rwyf hefyd wedi nodi rhai meysydd penodol ar gyfer sylw.

 

The current guidance on copying letters to patients, originally issued in 2006, will be subject to a full review. That will include looking at the range of options for better communication with patients, and not just through letters. Sadly, poor communication remains a common theme running through the complaints and concerns that we hear about health services. The review will especially focus on looking at the needs of children and how best to involve them, and their families and carers, in decisions about their care. Therefore, it is crucial that we involve children directly in this review, to ensure that we get it right.

Mae'r canllawiau presennol ar gopïo llythyrau i gleifion, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2006, yn amodol ar adolygiad llawn. Bydd hynny'n cynnwys edrych ar yr amrywiaeth o opsiynau ar gyfer gwell cyfathrebu gyda chleifion, ac nid yn unig drwy lythyrau. Yn anffodus, mae cyfathrebu gwael yn parhau i fod yn thema gyffredin sy’n rhedeg drwy’r cwynion a’r pryderon yr ydym yn eu clywed am wasanaethau iechyd. Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio’n arbennig  ar edrych ar anghenion plant a’r ffordd orau i'w cynnwys, a'u teuluoedd a'u gofalwyr, mewn penderfyniadau am eu gofal. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn cynnwys plant yn uniongyrchol yn yr adolygiad hwn, er mwyn sicrhau ein bod yn ei gael yn iawn.

 

We also need to ensure that our governance systems are robust. Therefore, I expect all health boards to conduct a thorough review of the processes that they have in place for assuring the quality of primary care and the interface with hospital care to promote continuous improvement. This assessment will be shared with Healthcare Inspectorate Wales, which will undertake a rolling programme of reviews and spot checks to both test these processes and facilitate the sharing of good practice across Wales.

Mae hefyd angen i ni sicrhau bod ein systemau llywodraethu yn gadarn. Felly, rwyf yn disgwyl i bob bwrdd iechyd  gynnal adolygiad trylwyr o'r prosesau sydd ganddynt ar waith ar gyfer sicrhau ansawdd y gofal sylfaenol a'r rhyngwyneb gyda gofal ysbyty i hyrwyddo gwelliant parhaus. Bydd yr asesiad hwn yn cael ei rannu ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a fydd yn ymgymryd â rhaglen dreigl o adolygiadau a hapwiriadau i brofi’r prosesau hyn a hwyluso rhannu arfer da ledled Cymru.

 

I am commissioning a review of the arrangements in place for accessing and storing medical records in general practices following the death of a patient. This is with a view to updating the existing regulations that govern this area, taking into account the developments in information technology and the now routine use of electronic records in primary care.

Yr wyf yn comisiynu adolygiad o'r trefniadau sydd ar waith ar gyfer cael mynediad a storio cofnodion meddygol mewn practisiau cyffredinol yn dilyn marwolaeth claf. Gwneir hyn gyda'r bwriad o ddiweddaru'r rheoliadau presennol sy'n rheoli’r maes hwn, gan ystyried y datblygiadau mewn technoleg gwybodaeth a'r defnydd sydd bellach yn arferol o gofnodion electronig mewn gofal sylfaenol.

 

It goes without saying that doctors are pivotal to delivering high-quality healthcare services and it is essential that everyone can continue to have confidence in all of our doctors.  I am pleased that a lot of work has been done in Wales to prepare for the new process of revalidation for doctors, which has been designed to ensure that licensed doctors are up to date and fit to practise. The detailed plan I am publishing today sets out the full range of improvement actions that I expect to be taken by health boards. I have tasked the national quality and safety forum to track and report progress to me at regular intervals.

Nid oes raid dweud bod meddygon yn ganolog i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd uchel ac mae'n hanfodol y gall pawb barhau i fod yn hyderus yn ein holl feddygon.  Rwyf yn falch bod llawer o waith wedi ei wneud yng Nghymru i baratoi ar gyfer y broses newydd o ail-ddilysu ar gyfer meddygon, sydd wedi ei chynllunio i sicrhau bod meddygon trwyddedig yn gyfredol ac yn addas i ymarfer. Mae'r cynllun manwl yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn nodi’r ystod lawn o gamau gwella yr wyf  yn disgwyl fydd yn cael eu cymryd gan fyrddau iechyd. Rwyf wedi gofyn i’r fforwm ansawdd a diogelwch cenedlaethol   olrhain ac adrodd ar gynnydd i mi yn rheolaidd.

 

There is much we can do to make our existing systems more robust. However, we must also remember that, each and every day, thousands of people receive excellent healthcare. The national survey, published just last week, shows that more than 90% of people were satisfied with the care that they received from their general practitioner at their last appointment or at their last appointment at an NHS hospital. Our clinicians and healthcare staff work tirelessly to do their very best for the people of Wales. A service as complex as healthcare can never be perfect. Sadly, mistakes will occasionally happen. However, when they do, we must ensure that we take every opportunity to learn from them.

Mae llawer y gallwn ei wneud i sicrhau bod ein systemau presennol yn fwy cadarn. Fodd bynnag, rhaid inni hefyd gofio, bob dydd, bod miloedd o bobl yn derbyn gofal iechyd rhagorol. Mae'r arolwg cenedlaethol, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn dangos bod mwy na 90% o bobl yn fodlon ar y gofal a gawsant gan eu meddyg teulu yn eu hapwyntiad diwethaf neu yn eu hapwyntiad diwethaf mewn ysbyty’r GIG. Mae ein clinigwyr a staff gofal iechyd yn gweithio'n ddiflino i wneud eu gorau glas dros bobl Cymru. Ni all gwasanaeth mor gymhleth â gofal iechyd fod yn berffaith byth. Yn anffodus, bydd camgymeriadau yn digwydd o bryd i'w gilydd. Fodd bynnag, pan fyddant yn digwydd, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle i ddysgu oddi wrthynt.

 

I sincerely hope that the actions I have outlined today provide some comfort to Mr and Mrs Powell and their family. I, too, want to say sorry for what they have had to endure. Sadly, however, I realise that no amount of effort by the Government will ever be able to make good their loss. We can only realistically hope to learn from this tragedy and remain vigilant for our patients in future.

Rwy'n mawr obeithio y bydd y camau yr wyf wedi’u hamlinellu heddiw yn rhoi rhywfaint o gysur i Mr a Mrs Powell a'u teulu. Rwyf innau, hefyd, yn awyddus i ddweud ei bod yn ddrwg gennyf am yr hyn y maent wedi gorfod ei ddioddef. Yn anffodus, fodd bynnag, rwy’n sylweddoli na fydd unrhyw ymdrech gan y Llywodraeth byth yn gallu  gwneud iawn am eu colled. Yn realistig, ni allwn ond gobeithio dysgu o'r drasiedi hon ac aros yn wyliadwrus ar gyfer ein cleifion yn y dyfodol.

 

Darren Millar: Thank you, Minister, for your statement. I welcome the opportunity to look at this issue again in the Chamber. I also welcome the work that you are doing to implement the recommendations in the Nicholas Jones report, and the follow-up work that you are intending to do to ensure that the implementation of those recommendations is properly policed. It is crucial that we learn lessons from this dreadful tragedy.

Darren Millar: Diolch ichi, Weinidog, am eich datganiad. Yr wyf yn croesawu'r cyfle i edrych ar y mater hwn eto yn y Siambr. Rwyf hefyd yn croesawu'r gwaith yr ydych yn ei wneud i weithredu'r argymhellion yn adroddiad Nicholas Jones, a'r gwaith dilynol yr ydych yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod gweithredu'r argymhellion hynny yn cael ei oruchwylio’n briodol. Mae'n hanfodol ein bod yn dysgu gwersi o'r drasiedi ofnadwy hon.

 

Robbie Powell was just 10 years old when he died, some 22 years ago. It really hits home when you have a son who is approaching that sort of age, as I have. This was a young life needlessly snuffed out and badly let down, with failures at every level to diagnose a rare but perfectly treatable health condition. This catalogue of errors resulted in Robbie’s premature and untimely death. I know that the wounds that this causes for parents are those that never truly heal. Having spoken to Mr Powell today, and having met him personally, I know how sore those wounds still are.

Dim ond 10 oed oedd Robbie Powell pan fu farw, tua 22 mlynedd yn ôl. Mae'n cael effaith wirioneddol arnoch pan fydd gennych fab sy'n agosáu at y math yna o oedran, fel sydd gennyf i. Roedd hwn yn fywyd ifanc a gollwyd yn ddiangen ac a siomwyd yn fawr, gyda methiannau ar bob lefel i wneud diagnosis o gyflwr iechyd prin, ond un y gellid ei drin. Arweiniodd y rhestr o gamgymeriadau hyn at farwolaeth gynamserol ac annhymig Robbie. Gwn fod y clwyfau y mae hyn yn achosi i rieni yn rhai nad ydynt byth yn gwella mewn gwirionedd. Ar ôl siarad â Mr Powell heddiw, ac wedi cwrdd ag ef yn bersonol, rwy'n gwybod pa mor boenus y mae’r clwyfau hynny’n dal i fod.

 

To make matters even worse, the Powell family has struggled to secure the co-operation of authorities to obtain answers to their questions around Robbie’s death. While public apologies from the First Minister and you, as Minister for health, have been welcomed by the family, there are still many questions that, I believe, remain unanswered. For the benefit of the family—for them to be able to draw a line under this matter and get some sort of closure on it—there is no doubt in my mind that we need to ensure that there is a full and independent public inquiry into what happened. Notwithstanding the work that has already been done, there are still many questions that remain unanswered. Why, for example, were unqualified assurances given in 1996 to doctors involved in this case that they would not be prosecuted? That seems to me to be outrageous. Why was an allegation that medical records were altered by clinicians not fully addressed by Mr Jones in his report? I have to say that the fact that it was not addressed in the report calls into question the integrity of Robbie’s father, Mr Powell, and the late Reverend Thomas, who made a sworn statement to the effect that he had seen documents that clearly suggested that a test for Addison’s disease ought to have been carried out on Robbie a long time before he passed away.

I wneud pethau hyd yn oed yn waeth, mae’r teulu Powell wedi cael trafferth i sicrhau cydweithrediad awdurdodau i gael atebion i'w cwestiynau am farwolaeth Robbie. Er bod ymddiheuriadau cyhoeddus gan y Prif Weinidog a chi, fel Gweinidog dros iechyd, wedi cael eu croesawu gan y teulu, mae yna lawer o gwestiynau o hyd sydd, fe gredaf, yn dal heb eu hateb. Er budd y teulu — er mwyn iddynt allu tynnu llinell o dan y mater hwn a chael rhyw fath o ddiwedd iddo — nid oes amheuaeth yn fy meddwl fod angen i ni sicrhau bod ymchwiliad cyhoeddus llawn ac annibynnol i’r hyn a ddigwyddodd. Er gwaethaf y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud, mae yna lawer o gwestiynau sy'n dal heb eu hateb. Pam, er enghraifft, y rhoddwyd sicrwydd diamod yn 1996 i feddygon oedd yn ymwneud â’r achos na fyddent yn cael eu herlyn? Mae hynny'n ymddangos i mi i fod yn warthus. Pam nad oedd Mr Jones yn mynd i’r afael yn llawn yn ei adroddiad â honiad bod cofnodion meddygol yn cael eu newid gan glinigwyr? Rhaid i mi ddweud bod y ffaith na roddwyd sylw i hyn yn yr adroddiad yn bwrw amheuaeth ar onestrwydd tad Robbie, Mr Powell, a'r diweddar Barchedig Thomas, a wnaeth ddatganiad ar lw i'r perwyl ei fod wedi gweld dogfennau oedd yn amlwg yn awgrymu y dylid bod wedi cynnal prawf ar gyfer clefyd Addison ar Robbie amser maith cyn iddo farw.

 

I cannot understand why there is still this reluctance—given the effort that has been made, to be fair to the Welsh Government, to bring some closure to this issue—to seek the nuggets of truth that the family is still seeking and that can only ever be made available through a full and independent public inquiry. This would allow all of the evidence to be brought into the cold light of day, so that everybody could take stock of it and so that we can ensure that these sorts of situations do not happen again. Minister, will you give consideration to establishing a full independent public inquiry? What work might you be able to do with the UK Government—I recognise that some of the failings that have been alluded to are failings of the Crown Prosecution Service and the police service at the time—to revisit the prospect of an independent public inquiry on this matter?

Ni allaf ddeall pam fod yr amharodrwydd hwn o hyd — o ystyried yr ymdrech sydd wedi ei gwneud, i fod yn deg â Llywodraeth Cymru, i ddod â rhyw fath o ddiwedd i’r mater hwn — i geisio’r  briwsion o wirionedd y mae’r teulu yn dal i chwilio amdanynt na fyddant byth ar gael ond drwy gael ymchwiliad cyhoeddus llawn ac annibynnol. Byddai hyn yn caniatáu i’r holl dystiolaeth gael ei gwneud yn agored fel y gall pawb ei phwyso a’i mesur ac fel y gallwn sicrhau na fydd y mathau hyn o sefyllfaoedd yn digwydd eto. Weinidog, a wnewch chi ystyried sefydlu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol llawn? Pa waith allech chi ei wneud gyda Llywodraeth y DU — rwy’n cydnabod bod rhai o'r diffygion sydd wedi eu crybwyll yn fethiannau Gwasanaeth Erlyn y Goron a gwasanaeth yr heddlu ar y pryd — i ailedrych ar y posibilrwydd o ymchwiliad cyhoeddus annibynnol ar y mater hwn?

 

We must not forget that a public inquiry was recently concluded into another tragedy on our shores—that of the Hillsborough disaster. It took 23 years for the truth to come out about Hillsborough—23 years of needless pain for families. It exposed a terrible cover-up. I am not saying that there has been a cover-up in this particular case, but at least a public inquiry would allow the evidence to come to light, and I do not think that Robbie’s family ought to wait a day longer for one of those inquiries to be commissioned.

Rhaid i ni beidio ag anghofio y cwblhawyd ymchwiliad cyhoeddus yn ddiweddar i drasiedi arall ar ein glannau — trychineb Hillsborough. Cymerodd 23 o flynyddoedd i’r gwirionedd ddod yn hysbys am Hillsborough — 23 mlynedd o boen ddiangen i deuluoedd. Datgelwyd ymgeision difrifol i guddio ffeithiau. Nid wyf yn dweud y bu cuddio ffeithiau yn yr achos penodol hwn, ond o leiaf byddai ymchwiliad cyhoeddus yn caniatáu i'r dystiolaeth  ddod i'r amlwg, ac nid wyf yn credu y dylai teulu Robbie aros diwrnod yn hwy i un o’r ymholiadau hynny gael eu comisiynu.

 

Lesley Griffiths: I thank Darren Millar for his questions. I am sure that Members will appreciate that my role and statement today are about taking forward the lessons we can learn for the NHS from the recommendations of the independent investigation report. You asked questions about reserved issues in relation to the police and the CPS. I know that the First Minister is still appalled at what has happened, and he is still pursuing the matters vigorously with the police and the CPS. He is also meeting the General Medical Council in the not too distant future, and he will be keeping Mr Powell fully informed as those matters go forward.

Lesley Griffiths: Diolch i Darren Millar am ei gwestiynau. Rwyf yn siŵr y bydd yr Aelodau'n gwerthfawrogi bod fy rôl a fy natganiad heddiw yn ymwneud â bwrw ymlaen â'r gwersi y gallwn eu dysgu ar gyfer y GIG o argymhellion adroddiad yr ymchwiliad annibynnol. Gofynasoch gwestiynau am faterion a gadwyd mewn perthynas â'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Gwn fod y Prif Weinidog wedi dychryn o hyd â’r  hyn sydd wedi digwydd, ac mae'n dal i fynd ar drywydd y materion yn egnïol gyda'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae hefyd yn cwrdd â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn y dyfodol agos a bydd yn hysbysu Mr Powell yn llawn wrth i’r materion hynny fynd yn eu blaenau.

 

Jocelyn Davies: When the report was issued in July, there were a number of redactions in it; that is always very unhelpful from the point of view of openness. I remind you that, on that day, the First Minister’s words in presenting the report were that the approach that he took was to be as open as possible. Therefore, will you give us an assurance today that every redaction was legally absolutely necessary?

Jocelyn Davies: Pan gyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Gorffennaf, roedd nifer o olygiadau ynddo; mae hynny bob amser yn ddi-fudd o safbwynt bod yn agored. Hoffwn eich atgoffa mai geiriau’r Prif Weinidog, ar y diwrnod hwnnw, wrth gyflwyno'r adroddiad oedd bod y dull yr oedd yn ei gymryd i fod mor agored ag y bo modd. Felly, a wnewch chi roi sicrwydd inni heddiw bod pob golygiad yn gwbl angenrheidiol yn gyfreithiol?

 

I am sure that you would agree that, wherever the Powells turned to for justice, their efforts were thwarted by a barrage of organisations—too many, in fact, to list here this afternoon. All those organisations failed them, and this report outlines the systemic failure that the Powell family has fought against for more than 20 years. I doubt that the family will feel that this report brings complete closure. Minister, do you agree with the report that there was clear evidence of forgery and an attempt to pervert the course of justice by doctors, and do you accept that there needs to be the minimum opportunity for that to happen? Therefore, will you consider the introduction of IT systems that cannot be post-dated to alter patients’ records and insist on their use in GPs’ surgeries, together with an adequate electronic trail of anyone that accesses anybody’s records?

Rwyf yn siŵr y byddech yn cytuno, lle bynnag yr oedd y teulu Powell yn troi am gyfiawnder, roedd eu hymdrechion yn cael eu rhwystro gan fur o sefydliadau — gormod, mewn gwirionedd, i'w rhestru yma'r prynhawn yma. Mae'r holl sefydliadau hynny wedi eu siomi, ac mae'r adroddiad hwn yn amlinellu'r diffyg sylfaenol y mae’r teulu Powell wedi bod yn ymladd yn ei erbyn am fwy na 20 mlynedd. Rwy'n amau y bydd y teulu yn teimlo bod yr adroddiad hwn rhoi diwedd ar y cwbl. Weinidog, a ydych chi'n cytuno â'r adroddiad bod tystiolaeth glir o ffugio ac ymgais i wyrdroi cwrs cyfiawnder gan feddygon, ac a ydych yn derbyn y dylid sicrhau bod y cyfle i hynny ddigwydd yn fach iawn? Felly, a wnewch chi ystyried cyflwyno systemau TG na ellir eu hôl-ddyddio i newid cofnodion a mynnu ar eu defnydd mewn meddygfeydd meddygon teulu, ynghyd â llwybr electronig digonol o unrhyw un sy'n edrych ar gofnodion unrhyw un?

 

What is your view on the successful defence that GPs ran during proceedings brought by the family that they had no legal duty to tell parents the truth about a child’s death or to refrain from deliberately falsifying records to cover up their negligence? How do you intend to ensure that no doctor can run such a defence in the future? Would you agree to look at the concept of creating a statutory duty of honesty and disclosure to parents and next of kin? Will you tell us why the Welsh Government decided not to disclose all the information held on this matter to its own investigator—I am referring specifically here to the operation Radiance files—and can you tell us whether Dyfed-Powys Police co-operated fully with this investigation?

Beth yw eich barn ar yr amddiffyniad llwyddiannus yr oedd meddygon teulu yn ei gyflwyno yn ystod achos a ddygwyd gan y teulu nad oedd ganddynt unrhyw ddyletswydd gyfreithiol i ddweud wrth rieni y gwir am farwolaeth plentyn neu i ymatal rhag ffugio cofnodion yn fwriadol i guddio eu hesgeulustod? Sut ydych chi'n bwriadu sicrhau na all unrhyw feddyg gyflwyno amddiffyniad o’r fath yn y dyfodol? A fyddech yn cytuno i edrych ar y cysyniad o greu dyletswydd statudol o onestrwydd a datgeliad i rieni a pherthnasau agosaf? A wnewch chi ddweud wrthym pam y penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â datgelu'r holl wybodaeth a gedwir ar y mater hwn i’w hymchwilydd ei hun — rwy’n cyfeirio’n benodol yma at y ffeiliau gweithrediad Radiance — a allwch chi ddweud wrthym a wnaeth Heddlu Dyfed-Powys gydweithredu'n llawn â’r ymchwiliad hwn?

 

Lesley Griffiths: Thank you, Jocelyn Davies, for your questions. I will start with the redactions. The First Minister has already made it clear that the redactions do not detract from the overall findings of the report. The redactions were made upon advice received; it was important that innocent parties remained anonymous, and there was a potential for libellous comments. I have just said that we must remember that the terms of reference were to identify lessons to be learned for the NHS. That really needs to be our focus. I cannot make any comments regarding Dyfed-Powys Police.

Lesley Griffiths: Diolch, Jocelyn Davies, am eich cwestiynau. Rwyf am ddechrau gyda'r golygiadau. Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi gwneud yn glir nad yw'r golygiadau yn amharu ar ganfyddiadau cyffredinol yr adroddiad. Gwnaed y golygiadau yn seiliedig ar gyngor a gafwyd; roedd yn bwysig bod unigolion diniwed yn aros yn ddienw, ac roedd potensial ar gyfer sylwadau enllibus. Rwyf newydd ddweud bod yn rhaid i ni gofio bod y cylch gorchwyl i fod i nodi gwersi i'w dysgu ar gyfer y GIG. Dyna ddylai ein ffocws fod. Ni allaf wneud unrhyw sylwadau ynglŷn â Heddlu Dyfed-Powys.

 

In relation to IT systems, all GPs now have electronic records, and the point that you raise is pertinent and something that I can take forward. We have the IT system in place—you have heard me say many times since I became Minister that NHS informatics are so important—and it is something that I can look at. There have been many policy developments over the past 22 years. One of the policies that was brought forward in October 2010 was the procedural response to unexpected deaths in childhood. That means that any unexpected deaths in children are subject to an immediate multidisciplinary procedural response. This begins at the point of death and ends with a completed report to the national child death review panel following the results of a post-mortem examination or the inquest or trial has taken place. This will ensure that there is uniformity across Wales in the multi-agency response to unexpected child deaths.

Mewn perthynas â systemau TG, mae gan bob meddyg teulu gofnodion electronig erbyn hyn, ac mae'r pwynt a godwch yn berthnasol ac yn rhywbeth y gallaf fynd ag ef yn ei flaen. Mae gennym y system TG ar waith —yr ydych wedi fy nghlywed yn dweud droeon ers i mi ddod yn Weinidog bod gwybodeg y GIG mor bwysig — ac mae'n rhywbeth y gallaf edrych arno. Bu llawer o ddatblygiadau polisi dros y 22 mlynedd diwethaf. Un o'r polisïau a ddygwyd ymlaen ym mis Hydref 2010 oedd yr ymateb gweithdrefnol i farwolaethau annisgwyl yn ystod plentyndod. Mae hynny'n golygu bod unrhyw farwolaethau annisgwyl mewn plant yn ddarostyngedig i ymateb gweithdrefnol amlddisgyblaethol ar unwaith. Mae hyn yn dechrau ar y pwynt marwolaeth ac yn gorffen gydag adroddiad wedi’i gwblhau i'r panel adolygu marwolaethau plant cenedlaethol yn dilyn y canlyniadau archwiliad post-mortem neu ar ôl i’r cwest neu dreial ddigwydd. Bydd hyn yn sicrhau bod unffurfiaeth ar draws Cymru yn yr ymateb aml-asiantaeth i farwolaethau annisgwyl plant.

 

3.00 p.m.

 

Kirsty Williams: I thank the Minister for her statement this afternoon, which follows that made by the First Minister earlier in the year. She will be aware, I am sure, that the family has not found the report to be fully satisfactory, and the issue of redactions has only caused more upset and turmoil for the family.

Kirsty Williams: Diolchaf i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma, sydd yn dilyn yr un a wnaed gan y Prif Weinidog yn gynharach yn y flwyddyn. Bydd yn ymwybodol, rwy’n siwr, nad oedd y teulu wedi ystyried bod yr adroddiad yn gwbl foddhaol, ac nid yw’r mater o olygiadau ond wedi achosi mwy o ofid a helbul i’r teulu.

 

I have some specific questions to ask regarding the actions that she outlined in the statement. It is of concern to me that the report shows that there are continuing shortfalls with regard to communication between hospitals and general practice, and that good communication is still not routinely happening, despite this being a crucial element of what went wrong in the care of Robbie Powell. You said that you are carrying out a review of the 2006 guidance; will you tell us who will carry out that review of the 2006 guidance, copying letters to patients; how long that review will take to carry out; and whether you will be making further statements to the Chamber about the outcomes of that review?

Mae gennyf rai cwestiynau penodol i'w gofyn ynghylch y camau yr amlinellodd hi yn y datganiad. Mae'n destun pryder i mi bod yr adroddiad yn dangos bod diffygion parhaus o ran cyfathrebu rhwng ysbytai ac ymarfer cyffredinol, ac nad yw cyfathrebu da yn digwydd yn rheolaidd o hyd, er bod hyn yn elfen hanfodol o’r hyn a aeth o'i le yng ngofal Robbie Powell. Dywedasoch eich bod yn cynnal adolygiad o'r canllawiau 2006; fyddwch chi’n dweud wrthym pwy fydd yn cynnal yr adolygiad hwnnw o ganllawiau 2006, copïo llythyrau i gleifion; pa mor hir y bydd yr adolygiad yn cymryd i’w gyflawni; ac a fyddwch yn gwneud datganiadau pellach i'r Siambr am ganlyniadau'r adolygiad hwnnw?

 

You are also setting in place a review of the current governance systems in local health boards. Will that review be carried out by a separate individual, or will it form part of the review into the revised guidance? What consequences will there be for local health boards if, following a spot-check by Healthcare Inspectorate Wales, their governance arrangements are seen to be lacking? What powers do you have and what steps could you take as the Minister to intervene in those circumstances?

Rydych hefyd yn sefydlu adolygiad o'r systemau llywodraethu presennol mewn byrddau iechyd lleol. A fydd yr adolygiad hwnnw yn cael ei wneud gan unigolyn ar wahân, neu a fydd yn ffurfio rhan o'r adolygiad i’r canllawiau diwygiedig? Pa ganlyniadau fydd yna i fyrddau iechyd lleol os, yn dilyn hapwiriad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, gwelir bod eu trefniadau llywodraethu yn ddiffygiol? Pa bwerau sydd gennych a pha gamau a gymerwch fel y Gweinidog i ymyrryd yn yr amgylchiadau hynny?

 

You have also said that you are carrying out a third review into the arrangements for assessing and storing medical records. The Powell case is not the only case where constituents of mine who have had a bereavement in the family have found it incredibly difficult to get access to medical records following the death of a relative. Of course, there need to be safeguards regarding who has access to those records, but the records are often important to family members. Any suggestion that they are not readily made available by local health boards can only make that sense of bereavement worse and leave relatives with more questions. Will you look at new guidance relating to the issuing of medical records of deceased patients to the next of kin?

Rydych hefyd wedi dweud eich bod yn cynnal trydydd adolygiad i'r trefniadau ar gyfer asesu a storio cofnodion meddygol. Nid achos Powell yw'r unig achos lle mae etholwyr i mi sydd wedi cael profedigaeth yn y teulu wedi ei chael yn hynod anodd i gael mynediad at gofnodion meddygol ar ôl marwolaeth perthynas. Wrth gwrs, mae angen mesurau diogelwch o ran pwy sydd â mynediad at y cofnodion hynny, ond mae'r cofnodion yn aml yn bwysig i aelodau'r teulu. Gall unrhyw awgrym nad yw byrddau iechyd lleol yn gofalu eu bod ar gael yn rhwydd ond gwneud y synnwyr o brofedigaeth yn waeth a gadael perthnasau gyda mwy o gwestiynau. A wnewch chi edrych ar ganllawiau newydd yn ymwneud â chyflenwi cofnodion meddygol cleifion ymadawedig i'r perthynas agosaf?

 

It goes without saying that doctors are pivotal in the delivery of high-quality outcomes, but we all know that, sometimes, some doctors are not up to par; therefore, the introduction of ongoing revalidation is something that I welcome. However, will you outline what steps the Government is taking to put in place systems so that, where a doctor is found to be lacking in his or her professional practice, there are adequate steps in place to allow for the retraining of that doctor and, if retraining is not suitable or if the doctor is not willing to undergo such retraining, that there are robust mechanisms in place to ensure that that doctor does not carry on in practice?

Nid oes raid dweud bod meddygon yn ganolog wrth gyflwyno canlyniadau o ansawdd uchel, ond rydym i gyd yn gwybod, weithiau, nad yw rhai meddygon yn cyrraedd y nod; felly, mae cyflwyno ail-ddilysu parhaus yn rhywbeth yr wyf yn ei groesawu. Fodd bynnag, a wnewch chi amlinellu pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sefydlu systemau fel bod, lle canfyddir fod meddyg yn ddiffygiol yn ei arfer proffesiynol, camau digonol wedi’u sefydlu i ganiatáu ar gyfer ailhyfforddi’r meddyg hwnnw ac, os nad yw ailhyfforddi yn addas neu os nad yw'r meddyg yn barod i ddilyn ailhyfforddiant o'r fath, bod mecanweithiau cadarn yn eu lle i sicrhau nad yw'r meddyg yn parhau i ymarfer?

 

At the heart of the Powell family’s campaign is not only the establishment of a fully independent review into what happened to their son, but a lasting legacy that there is a legal requirement upon doctors to tell the truth to a bereaved family about what has happened to their relative. Is there anything in the powers that we have now in the National Assembly that would prevent the Government from bringing forward a piece of legislation that would place that specific duty and requirement upon medical professionals? Will the Minister give an undertaking that she will actively consider the appropriateness of bringing forward a piece of legislation? If she does not feel that that is appropriate, how does she feel that the current arrangements would cover such eventualities? I appreciate that the matter of a full public inquiry  is one for the First Minister, but does the Minister for health have a view?

Wrth wraidd ymgyrch y teulu Powell mae nid yn unig sefydlu adolygiad cwbl annibynnol i'r hyn a ddigwyddodd i'w mab, ond etifeddiaeth barhaol fod yna ofyniad cyfreithiol ar feddygon i ddweud y gwir wrth deulu sydd mewn profedigaeth am yr hyn sydd wedi digwydd i’w perthynas. A oes unrhyw beth yn y pwerau sydd gennym bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol a fyddai'n atal y Llywodraeth rhag cyflwyno darn o ddeddfwriaeth a fyddai'n gosod y ddyletswydd a’r gofyniad penodol yma ar weithwyr proffesiynol meddygol? A wnaiff y Gweinidog roi ymrwymiad y bydd yn mynd ati i ystyried priodoldeb cyflwyno darn o ddeddfwriaeth? Os nad yw'n teimlo bod hynny'n briodol, sut mae hi'n teimlo y byddai'r trefniadau presennol yn ymdrin â digwyddiadau o'r fath? Yr wyf yn gwerthfawrogi mai mater i’r  Prif Weinidog yw ymchwiliad cyhoeddus llawn,   ond a oes barn gan  y Gweinidog dros iechyd?

 

Lesley Griffiths: I thank Kirsty Williams for those questions. In relation to the communications review that I am currently setting up, what I would like to see is a short, sharp review. I think that it is extremely important that it is not a long, protracted review, so that is my intention; and, yes, I will make a further statement.

Lesley Griffiths: Rwy’n diolch i Kirsty Williams am y cwestiynau hynny. Mewn perthynas â'r adolygiad cyfathrebu yr wyf wrthi'n ei sefydlu, beth hoffwn i ei weld yw adolygiad byr, sydyn. Rwy'n credu ei bod yn eithriadol o bwysig nad yw'n adolygiad hir, maith, ac felly dyna fy mwriad, a, byddaf, mi fyddaf yn gwneud datganiad pellach.

 

In relation to governance, you mentioned Health Inspectorate Wales. I am discussing with HIW looking at the guidance surrounding governance.

Mewn perthynas â llywodraethu, soniasoch am Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Yr wyf yn trafod ag AGIC gan edrych ar y canllawiau ynghylch llywodraethu.

 

It is much easier now to access medical records, because of the progress that we have made with information technology. However, I always believe in openness and transparency in relation to these issues. When a relative or a guardian of a deceased patient wants to consider the contents of the notes, it is recommended that it should be done in the GP surgery with a practice manager and an independent advocate present, if that is what the relative wants. Also, we have the Access to Health Records Act 1990, which governs access to the health records of a deceased patient and all health boards must have policies in place to deal with any such requests.

Mae'n llawer haws yn awr i weld cofnodion meddygol, oherwydd y cynnydd yr ydym wedi'i wneud gyda thechnoleg gwybodaeth. Fodd bynnag, yr wyf bob amser yn credu mewn gonestrwydd a thryloywder mewn perthynas â'r materion hyn. Pan fydd perthynas neu warcheidwad claf ymadawedig yn dymuno ystyried cynnwys y nodiadau, argymhellir y dylai gael ei wneud ym meddygfa’r meddyg teulu gyda rheolwr y feddygfa ac eiriolwr annibynnol yn bresennol, os mai dyna beth mae'r berthynas eisiau. Hefyd, mae gennym y Ddeddf Mynediad at Gofnodion Iechyd 1990, sy'n rheoli mynediad at gofnodion iechyd claf ymadawedig a rhaid i’r holl fyrddau iechyd gael polisïau ar waith i ddelio ag unrhyw geisiadau o'r fath.

 

I think that revalidation is a very important issue. We have done a great deal of work in Wales to ensure that we are ready for that. Later this year, we will see the introduction of medical revalidation. Clearly, its purpose is to ensure that doctors are up to date and that they continue to be fit to practice. It also aims to support doctors in their professional development. If they want to contribute to quality improvement and if they want to sustain and improve public confidence in them, it is something that they have to do. Obviously, training will come into that, if required.

Credaf fod ail-ddilysu yn fater pwysig iawn. Rydym wedi gwneud llawer iawn o waith yng Nghymru i sicrhau ein bod yn barod am hynny. Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn gweld cyflwyno ail-ddilysu meddygol. Yn amlwg, ei ddiben yw sicrhau bod meddygon yn gyfredol a’u bod yn parhau i fod yn addas i ymarfer. Mae hefyd yn anelu at gefnogi meddygon yn eu datblygiad proffesiynol. Os ydynt am gyfrannu at wella ansawdd ac os ydynt yn dymuno cynnal a gwella hyder y cyhoedd ynddynt, mae'n rhywbeth y mae'n rhaid iddynt ei wneud. Yn amlwg, bydd hyfforddiant yn dod i mewn i hynny, os oes angen.

 

I mentioned in my answer to Darren Millar that the First Minister is still actively pursuing many of the concerns in relation to the police and the Crown Prosecution Service. He is meeting with the General Medical Council to take those issues forward. If I thought that Government legislation was appropriate, you have my commitment that I would look at it. It is a matter for the First Minister as to whether we have a public inquiry.

Soniais yn fy ateb i Darren Millar bod y Prif Weinidog yn dal i fynd ar ôl llawer o'r pryderon mewn perthynas â'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae'n cwrdd â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol i fwrw ymlaen â'r materion hynny. Pe bawn yn credu bod deddfwriaeth y Llywodraeth yn briodol, rwy’n ymrwymo i chi y byddwn yn edrych arni. Mae'n fater i'r Prif Weinidog ynghylch a ydym yn cael ymchwiliad cyhoeddus.

 

Vaughan Gething: Minister, I am interested in the comments that have been made about legal duties for doctors to tell the truth. I find this troubling, simply because, in my past life, I represented people before professional conduct bodies and I would have expected, with some of the individuals that I represented, that being dishonest in the course of their professional conduct would impair their professional practice. I would expect their professional bodies to take action on that basis. I welcome the commitment given that, if matters are not resolved with the relevant professional body, legislation is an option, but I would urge you, Minister, with colleagues in Government, to try to ensure that the GMC does its job properly, because these matters should be dealt with by the professional body. Part of its duty and obligation, as well as the obligation of each individual professional, is to take action.

Vaughan Gething: Weinidog, Mae gennyf ddiddordeb yn y sylwadau sydd wedi'u gwneud am ddyletswyddau cyfreithiol i feddygon ddweud y gwir. Mae hyn yn fy mhoeni, oherwydd, yn fy mywyd yn y gorffennol, bûm yn cynrychioli pobl o flaen cyrff ymddygiad proffesiynol a byddwn wedi disgwyl, gyda rhai o'r unigolion a gynrychiolais, y byddai bod yn anonest yn ystod eu busnes proffesiynol yn amharu ar eu hymarfer proffesiynol . Byddwn yn disgwyl i’w cyrff proffesiynol i weithredu ar y sail honno. Croesawaf yr ymrwymiad a roddwyd, sef, os nad yw materion yn cael eu datrys gyda'r corff proffesiynol perthnasol, mae deddfwriaeth yn opsiwn, ond hoffwn eich annog, Weinidog, gyda chydweithwyr yn y Llywodraeth, i geisio sicrhau bod y GMC yn gwneud ei waith yn iawn, oherwydd bod y rhain faterion y dylai’r corff proffesiynol ymdrin â hwy. Rhan o'i ddyletswydd a’i rwymedigaeth, yn ogystal â rhwymedigaeth pob gweithiwr proffesiynol unigol, yw gweithredu.

 

Lesley Griffiths: Clearly, you are right that the GMC has a role in this. This is one of the issues that the First Minister will be taking up with the GMC. It is important that we have the regulations to ensure that we have safety for our patients, but I think that it is also important that we strike the right balance.   

Lesley Griffiths: Yn amlwg, yr ydych yn iawn fod gan y GMC rôl yn hyn. Mae hwn yn un o'r materion y bydd y Prif Weinidog yn ei drafod gyda'r GMC. Mae'n bwysig bod gennym y rheoliadau i sicrhau bod gennym ddiogelwch ar gyfer ein cleifion, ond rwy’n meddwl ei bod yn bwysig hefyd ein bod yn taro'r cydbwysedd cywir.

Datganiad: Cynllun Arfaethedig ynghylch Parhad o Ofal i Fywyd fel Oedolyn
Statement: Proposed Scheme on Continuity from Care into Adult Life

The Record

The Deputy Minister for Children and Social Services (Gwenda Thomas): In January, I committed to report back to the Assembly on work that I have undertaken with the Member for Clwyd South, Ken Skates, in developing a scheme to enable looked-after children to have the opportunity to remain living with their foster family beyond the age of 18. As Members of the Assembly and elected local councillors, our first priority as responsible corporate parents is to improve the life chances and opportunities of children in our care. It has been my great privilege, as Deputy Minister for Children and Social Services, to lead on the Welsh Government’s policies in this area and to have received the support of all Members in shaping our policies to ensure that looked-after children’s experience in care and their transition to adulthood is a positive one.

Y Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol (Gwenda Thomas): Ym mis Ionawr, ymrwymais i adrodd yn ôl i'r Cynulliad ar waith yr wyf wedi ei wneud gyda'r Aelod dros Dde Clwyd, Ken Skates, wrth ddatblygu cynllun i alluogi plant sy'n derbyn gofal i gael y cyfle i barhau i fyw gyda'u teulu maeth ar ôl iddynt gyrraedd 18 oed. Fel Aelodau o'r Cynulliad a chynghorwyr lleol etholedig, ein blaenoriaeth gyntaf fel rhieni corfforaethol cyfrifol yw gwella cyfleoedd bywyd a chyfleoedd i blant dan ein gofal. Mae wedi bod yn fraint fawr i mi, fel y Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol, i arwain ar bolisïau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn a derbyn cefnogaeth yr holl Aelodau wrth lunio ein polisïau er mwyn sicrhau bod profiad plant sy'n derbyn gofal, a’u profiad o drosglwyddo i fod yn oedolion yn gadarnhaol.

 

Some 400 looked-after children between the ages of 16 and 17 leave care each year. Although these young people have choices, sadly many feel that they are asked to leave care and make the transition to independent living before they are ready. The transition to adulthood and fear of the unknown is a daunting prospect for any youngster, but for a young person leaving care, it can be catastrophic: 'falling off the edge of a cliff into a black hole’ is how one young person described it.

Mae tua 400 o blant sydd rhwng 16 a 17 gofal yn gadael gofal bob blwyddyn. Er bod y bobl ifanc hyn yn cael gwneud dewisiadau, yn anffodus mae llawer ohonynt yn teimlo y gofynnir iddynt adael gofal a throsglwyddo  i fyw'n annibynnol cyn eu bod yn barod. Mae'r trosglwyddo i fod yn oedolyn ac ofni’r hyn sy’n anhysbys yn hynod anodd i unrhyw berson ifanc, ond i berson ifanc sy'n gadael gofal, gall fod yn drychinebus: disgyn dros ymyl clogwyn i mewn i dwll du: dyna sut y disgrifiwyd y profiad gan un person ifanc.

 

The Bill proposed by Ken Skates was a wake-up call to all corporate parents and further reinforced my belief that we should be able to offer better stability to young people leaving care at the age of 18. As I have previously stated, legislation is not necessarily the answer, as local authorities already have broad duties to these children. I believe that more can be achieved in providing a clear framework for local authorities, outlining our expectations of them as responsible parents to promote a stable environment for looked-after children, where they so wish, to continue to live with their foster families.

Redd y Mesur a gynigiwyd gan Ken Skates yn galw ar bob rhiant corfforaethol i weithredu ac yn atgyfnerthu ymhellach fy nghred y dylem fod yn gallu cynnig gwell sefydlogrwydd i bobl ifanc sy'n gadael gofal yn 18 oed. Fel yr wyf wedi datgan o'r blaen, nid deddfwriaeth o reidrwydd yw’r ateb, gan fod awdurdodau lleol eisoes â dyletswyddau eang o ran y plant hyn. Credaf y gellir cyflawni mwy drwy ddarparu fframwaith clir ar gyfer awdurdodau lleol, sy'n amlinellu ein disgwyliadau ohonynt fel rhieni cyfrifol i hybu amgylchedd sefydlog ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, a’u galluogi i barhau i fyw gyda'u teuluoedd maeth, os mai dyna yw eu dymuniad.

 

Therefore, I am delighted to have had the opportunity to work with the Member for Clwyd South in designing a scheme that will, we believe, place greater corporate accountability on local authorities to ensure that looked-after children experience a seamless transition from care to adulthood. I know that we will also reflect on the exploratory work that was done by Karen Sinclair, former Assembly Member for Clwyd South.

Felly, yr wyf yn falch o fod wedi cael y cyfle i weithio gyda'r Aelod dros Dde Clwyd wrth lunio cynllun a fydd, yn ein barn ni, yn gosod mwy o atebolrwydd corfforaethol ar awdurdodau lleol i sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn profi trosglwyddiad di-dor o dderbyn gofal i fod yn oedolyn. Rwy'n gwybod y byddwn hefyd yn ystyried y gwaith archwilio a wnaed gan Karen Sinclair, cyn Aelod De Clwyd o’r Cynulliad.

 

The scheme, provisionally called When I am Ready, recognises that not all young adults, especially those who may be particularly vulnerable, or have complex health, learning and other needs, are ready for the move to independent living at the age of 18. It seeks to help remove the anxiety that these young people—many of whom have formed lasting bonds and found stability with their foster families—experience at the prospect and upheaval of moving to an independent living environment. It can only be imagined.

Mae'r cynllun, a elwir dros dro yn Pan fydda i'n Barod, yn cydnabod nad yw pob oedolyn ifanc, yn enwedig y rhai a allai fod yn arbennig o agored i niwed, neu sydd â phroblemau cymhleth o ran iechyd, dysgu neu anghenion eraill, yn barod ar gyfer symud i fyw'n annibynnol yn 18 oed. Mae'n ceisio helpu i ddileu'r pryder y mae’r bobl ifanc hyn - llawer ohonynt wedi ffurfio perthynas glòs barhaol a dod o hyd i sefydlogrwydd gyda'u teuluoedd maeth - yn ei brofi wrth wynebu symud i amgylchedd byw'n annibynnol, a’r chwyldroad o wneud hynny. Gellir ond ei ddychmygu.

 

The scheme, which we are issuing for consultation today, will provide a clear framework for local authorities to secure When I am Ready placements. It will include duties for local authorities to publish details of their When I am Ready policies and to inform all looked-after children and foster carers, well in advance of their transitional planning, what the scheme offers and to explore whether it is suited to them.

Bydd y cynllun, yr ydym yn ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad heddiw, yn darparu fframwaith clir ar gyfer awdurdodau lleol i sicrhau lleoliadau Pan fydda i’n Barod. Bydd yn cynnwys dyletswyddau ar awdurdodau lleol i gyhoeddi manylion eu polisïau Pan fydda i’n Barod ac i hysbysu pob plentyn sy'n derbyn gofal a gofalwyr maeth, ymhell cyn y cyfnod cynllunio i drosglwyddo, am yr hyn y mae'r cynllun yn ei gynnig ac i archwilio a yw'n addas ar eu cyfer hwy .

 

It will require greater innovation and diversity in local authorities’ commissioning of placements for young people of 18 years or over. It will also place duties on key professionals, such as the independent reviewing officer and the personal adviser, to promote When I am Ready placements in the early transitional planning stage, and to ensure that the wishes of the young person and foster carer on these matters are firmly recorded and discharged in a pathway plan.

Bydd yn gofyn am fwy o arloesi ac amrywiaeth wrth i awdurdodau lleol gomisiynu lleoliadau ar gyfer pobl ifanc sy’n 18 oed neu’n hŷn. Bydd hefyd yn gosod dyletswyddau ar weithwyr proffesiynol allweddol, megis y swyddog adolygu annibynnol a'r ymgynghorydd personol, i hyrwyddo lleoliadau Pan fydda i’n Barod yn ystod y cyfnod cynllunio cynnar ar gyfer trosglwyddo, ac i sicrhau bod dymuniadau'r person ifanc a gofalwyr maeth ar y materion hyn yn cael eu cofnodi’n gadarn a’u cyflawni ar ffurf cynllun llwybr.

 

It will work closely with the Department for Work and Pensions and Her Majesty’s Revenue and Customs to ensure that young people and foster carers are fully appraised of the tax and benefits systems that apply to the When I am Ready placements.

Bydd yn gweithio'n agos gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau, a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i sicrhau bod pobl ifanc a gofalwyr maeth yn cael gwybodaeth lawn am y systemau treth a budd-daliadau sy'n berthnasol i leoliadau Pan fydda i’n Barod.

 

I know that some areas are currently operating dual systems of foster care and 'Shared Lives’ placements to enable young people to experience continuity of care with their former foster families. The When I am Ready scheme, which we propose to be operational from next April, will promote better support for 18 to 21-year-olds with their transition to adulthood, by offering them the opportunity to remain with their foster carers. It will also provide a consistent approach across Wales to ensure that all young people are provided with the same choices and are supported to have some level of control over their placements and to decide, when they are ready, to make the transition to independent living.

Gwn fod rhai ardaloedd ar hyn o bryd yn gweithredu systemau deuol o ofal maeth a lleoliadau 'Rhannu Bywydau' i alluogi pobl ifanc i brofi parhad mewn gofal gyda'u teuluoedd maeth blaenorol. Mae'r cynllun Pan fydda i’n Barod, yr ydym yn bwriadu ei weithredu o fis Ebrill nesaf ymlaen, yn hyrwyddo gwell cefnogaeth i rai sydd rhwng 18 a 21 mlwydd oed wrth iddynt drosglwyddo i fod yn oedolion, trwy gynnig y cyfle iddynt i aros gyda'u gofalwyr maeth. Bydd hefyd yn darparu dull cyson ar draws Cymru er mwyn sicrhau bod pob person ifanc yn cael yr un dewisiadau ac yn cael eu cefnogi i gael rhywfaint o reolaeth dros eu lleoliadau ac i benderfynu, pan fyddant yn barod, i drosglwyddo i symud i fyw'n annibynnol.

 

3.15 p.m.

 

I thank Ken Skates for raising the profile of corporate parenting responsibilities and for working with me and officials to come to an agreed solution. The Member’s work on consulting with a wide range of organisations and young people on what they want from a scheme has been invaluable. I also wish to acknowledge the support provided by the Department for Work and Pensions and Her Majesty’s Revenue and Customs in ensuring that the Welsh When I Am Ready scheme will not seek to penalise young people and foster carers through a disproportionate application of the tax and benefits system.

Diolch i Ken Skates am godi proffil cyfrifoldebau rhianta corfforaethol ac am weithio gyda mi a swyddogion i ddod i ateb y cytunwyd arno. Mae gwaith yr Aelod ar ymgynghori gydag ystod eang o sefydliadau a phobl ifanc ar yr hyn y maent eisiau i’r cynllun ei wneud, wedi bod yn amhrisiadwy. Hoffwn hefyd gydnabod y cymorth a ddarparwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi  i sicrhau na fydd cynllun Pan fydda i’n Barod Cymru yn ceisio cosbi pobl ifanc a gofalwyr maeth drwy ddefnydd anghymesur o’r system dreth a budd-daliadau.

 

The annex to the consultation guide provides practical financial and other advice so that all parties, when considering or agreeing to enter into a When I Am Ready placement, can make informed decisions. As mentioned earlier, too many young people leave care prematurely and have no or limited prospect of education or employment. I believe that the passport to independence is through education. To ensure that we can provide people with the right skills, I have commenced duties in the Children and Young Persons Act 2008 to enable young people who were previously in care to reconnect in order to continue a programme of education or to gain employable skills, through training, up to the age of 25.

Mae'r atodiad i'r canllaw ymgynghori yn rhoi cyngor ariannol ymarferol a chyngor arall fel y gall pob parti, wrth ystyried neu gytuno i leoliad Pan fydda i’n Barod, wneud penderfyniadau gwybodus. Fel y soniwyd yn gynharach, mae gormod o bobl ifanc yn gadael gofal yn rhy fuan, gyda dim neu ychydig o obaith o gael addysg neu gyflogaeth. Rwyf yn credu mai drwy addysg y ceir pasbort i annibyniaeth. Er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu’r sgiliau cywir i bobl, rwyf wedi dechrau ar y dyletswyddau yn Neddf Plant a Phobl Ifanc 2008 i alluogi pobl ifanc a oedd gynt mewn gofal i ailgysylltu er mwyn parhau â rhaglen o addysg neu i feithrin sgiliau cyflogadwy, drwy hyfforddiant, hyd eu bod yn 25 oed.

 

Over the coming weeks, local authorities will be contacting young adults who left care to advise them of their new entitlement to reconnect to care. These changes will complement the When I Am Ready scheme and ensure that young people have choice and more control over their future. It will also place clear duties on local corporate parents to nurture the talent and confidence of their looked-after children to achieve a successful transition to adulthood and independent living.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd awdurdodau lleol yn cysylltu ag oedolion ifanc a adawodd ofal i roi gwybod iddynt am eu hawl newydd i ailgysylltu â gofal. Bydd y newidiadau hyn yn ategu'r cynllun Pan fydda i’n Barod a sicrhau bod pobl ifanc yn cael dewis a mwy o reolaeth dros eu dyfodol. Bydd hefyd yn gosod dyletswyddau clir ar rieni corfforaethol lleol i feithrin talent a hyder eu plant sy'n derbyn gofal er mwyn sicrhau trosglwyddo llwyddiannus i fod yn oedolion a byw'n annibynnol.

 

To conclude, I again pay tribute again to Ken Skates and his team for their tireless work in devising a scheme that will provide a lasting legacy for young people with better stability and continuity of care. The measures that I announce today will improve young people’s transition to adulthood, and they reinforce our corporate parenting commitment to mark the forthcoming celebrations of Care Leavers Week from 24 to 31 October.

I gloi, hoffwn unwaith eto dalu teyrnged i Ken Skates a'i dîm am eu gwaith diflino wrth ddyfeisio cynllun a fydd yn darparu etifeddiaeth barhaol ar gyfer pobl ifanc, gan ddarparu gwell sefydlogrwydd a pharhad mewn gofal. Bydd y camau yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw yn gwella trosglwyddiad  pobl ifanc i fod yn oedolion, ac maent yn atgyfnerthu ein hymrwymiad rhianta corfforaethol i nodi dathliadau Wythnos y Rhai sy’n Gadael Gofal rhwng 24 a 31 Hydref.

 

Kenneth Skates: I offer my warmest thanks to the Deputy Minister, Gwenda Thomas, for the personal commitment that she has shown to this scheme and for the work of her excellent team of officials, and to my staff. In particular, I express my thanks for the immense gratitude that you have shown me, as a backbencher. I also thank you for remembering Karen Sinclair, my predecessor as Assembly Member for Clwyd South, who sowed the seeds of this ground-breaking scheme. When I proposed the continuity from care Bill in January, it won cross-party support, and you have harnessed that in taking forward a Government-led scheme. I believe that that sends out a very positive message to all Members, that we can effect change from these humble backbenches. That is a sentiment that I am sure that the Presiding Officer and the Deputy Presiding Officer will agree with, and hopefully will be proud of.

Kenneth Skates: Yr wyf yn cynnig fy niolch cynhesaf i’r Dirprwy Weinidog, Gwenda Thomas, am yr ymrwymiad personol y mae wedi'i ddangos i'r cynllun hwn ac am waith ei thîm ardderchog o swyddogion, ac i fy staff innau. Yn enwedig, carwn fynegi fy niolch am y diolchgarwch enfawr yr ydych wedi’i ddangos i mi, fel aelod o'r meinciau cefn. Rwyf hefyd yn diolch i chi am gofio Karen Sinclair, fy rhagflaenydd fel yr Aelod Cynulliad dros Dde Clwyd, a heuodd hadau’r cynllun hwn sy'n torri tir newydd. Pan gyflwynais y Mesur parhad mewn gofal ym mis Ionawr, enillodd gefnogaeth drawsbleidiol, ac yr ydych wedi harneisio hynny drwy fwrw ymlaen â chynllun a arweinir gan y Llywodraeth. Credaf fod hynny'n anfon neges gadarnhaol iawn i'r holl Aelodau, sef y gallwn sicrhau newid o'r meinciau cefn gostyngedig hyn. Mae hynny'n farn yr wyf yn siŵr y bydd y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd yn cytuno â hi, a gobeithio yn falch ohoni.

 

I will make three quick points. First, this is a contemporaneous issue, given that the latest figures show that the number of children taken into care has risen by 6% in the past year, and by 24% in the last five years. Of course, it is part of a wider scheme of help for vulnerable people in the form of the social services Bill, placing at the very heart of Government a social justice agenda. Secondly, I thank all those who took part in devising and developing the scheme: the many third-sector organisations that contributed and, in particular, Voices from Care, which has helped to put together this excellent consultation document for looked-after children themselves to participate in. Finally, I thank all Members for their support. I also urge you to engage with your local authorities in responding to the consultation.

Gwnaf dri phwynt yn gyflym. Yn gyntaf, mae hwn yn fater cyfoes, o gofio bod y ffigurau diweddaraf yn dangos bod nifer y plant mewn gofal wedi codi 6% yn y flwyddyn ddiwethaf, a 24% yn y pum mlynedd diwethaf. Wrth gwrs, rhan yw hyn o gynllun ehangach o gymorth ar gyfer pobl agored i niwed ar ffurf y Mesur gwasanaethau cymdeithasol, gan osod agenda cyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd  Llywodraethu. Yn ail, hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran mewn dyfeisio a datblygu'r cynllun: y nifer o sefydliadau trydydd sector a gyfrannodd ac, yn enwedig, Voices from Care, sydd wedi helpu i roi at ei gilydd y ddogfen ymgynghori ardderchog hon er mwyn i blant sy'n derbyn gofal eu hunain  allu cymryd rhan. Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cefnogaeth. Rwyf hefyd yn eich annog i ymgysylltu â'ch awdurdodau lleol wrth ymateb i'r ymgynghoriad.

 

This is no silver bullet in terms of facing the challenges of being in care, but I do believe that the campaign for achieving true social justice for our most vulnerable, and often disadvantaged, young people has gathered pace today. I am confident that, as a result of this scheme, the aspirations, hopes and ambitions of looked-after children will be achievable in a way that they have not been to date.

Nid yw hyn yn ateb i bopeth o ran wynebu'r heriau o fod mewn gofal, ond yr wyf yn credu bod yr ymgyrch dros sicrhau gwir gyfiawnder cymdeithasol ar gyfer ein pobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed, ac yn aml o dan anfantais, wedi cymryd cam bras heddiw. Yr wyf yn hyderus, o ganlyniad i'r cynllun hwn, y bydd posib cyflawni dyheadau, gobeithion ac uchelgeisiau plant sy'n derbyn gofal mewn ffordd nad oedd yn bosibl o’r blaen.

 

Gwenda Thomas: I thank Ken Skates again for his kind words. It has been a pleasure to work with him, and, more than anything, it is a pleasure to stand here today having achieved what I believe is a positive step for our young people in care. It shows that backbenchers have an extremely important role to play, and I look forward to more motions of this kind being put forward by backbenchers and across Cabinet responsibilities.

Gwenda Thomas: Diolch i Ken Skates unwaith eto am ei eiriau caredig. Mae wedi bod yn bleser gweithio gydag ef, ac, yn fwy na dim, mae'n bleser sefyll yma heddiw ar ôl cyflawni'r hyn yr wyf yn ei ystyried yn gam cadarnhaol ar gyfer ein pobl ifanc sy’n derbyn gofal. Mae'n dangos bod gan aelodau’r meinciau cefn rôl bwysig iawn i'w chwarae, ac edrychaf ymlaen at fwy o gynigion o'r math hwn yn cael eu cyflwyno gan aelodau’r meinciau cefn a hynny ar draws holl gyfrifoldebau'r Cabinet.

 

The reference to the social services Bill is very real. I see the intention to develop a national outcomes framework, which the Bill will allow us to do, as being very exciting with regard to how we help young people in care.

Mae'r cyfeiriad at y Mesur gwasanaethau cymdeithasol yn real iawn. Rwy'n gweld y bwriad i ddatblygu fframwaith canlyniadau cenedlaethol, y bydd y Mesur yn caniatáu i ni ei wneud, yn gyffrous iawn o ran sut rydym yn helpu pobl ifanc mewn gofal.

 

I also would like to add my voice to what has been said about Voices from Care. I look forward to the involvement of other organisations, and each of us, to raise awareness of this scheme, and to ensure that as many young people as possible who can benefit from it get to know about it.

Byddwn hefyd yn hoffi ychwanegu fy llais at yr hyn a ddywedwyd am Voices from Care. Yr wyf yn edrych ymlaen at gyfraniad sefydliadau eraill, a phob un ohonom, at godi ymwybyddiaeth o'r cynllun hwn, ac i sicrhau bod cynifer o bobl ifanc â phosibl a fyddai’n gallu  elwa ohono yn dod i wybod amdano.

 

William Graham: I thank the Deputy Minister for her statement today, and join with her in congratulating Ken Skates and his predecessor for bringing this to the Assembly’s attention with a wide measure of public support, which we hope to give a voice to today.

William Graham: Diolchaf i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad heddiw, ac  ymunaf gyda hi i longyfarch Ken Skates a'i ragflaenydd am ddod â hyn i sylw'r Cynulliad gyda chryn gefnogaeth gan y cyhoedd, y gobeithiwn roi llais iddo heddiw.

 

Most people struggle with change to some extent, and we all like familiar places and routines. For many children, particularly those in foster care, any change can be hard and careful preparation is vital. We are all aware of stories of children in foster care who move numerous times, which should clearly be avoided and is something that I know the Deputy Minister intends to take forward as best as she can in the future.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei chael hi’n anodd i ymdopi â newid i ryw raddau, ac rydym i gyd yn hoffi lleoedd ac arferion cyfarwydd. I lawer o blant, yn enwedig y rhai sydd mewn gofal maeth, gall unrhyw newid fod yn anodd ac mae paratoi gofalus yn hanfodol. Rydym i gyd yn ymwybodol o straeon am blant mewn gofal maeth sy'n symud nifer o weithiau. Dylid yn amlwg osgoi hynny, ac rwyf yn gwybod bod y Dirprwy Weinidog yn bwriadu symud hyn ymlaen cystal ag y gall hi yn y dyfodol.

 

The views of the young people are essential to an effective change of this kind. A person-centred plan should be created showing the views of the child, and they should be able to make choices that will be included in the plan. Not only should they be able to make informed choices, but there should also be interpretation of their actions, what they have enjoyed and what they can hopefully enjoy in the future. It builds slightly on some of the recommendations made by the education committee during the second Assembly. Some particularly powerful statements had been given in evidence by children who had experienced what we are talking about today.

Mae barn y bobl ifanc yn hanfodol ar gyfer newid effeithiol o'r math hwn. Dylid creu cynllun sy’n canolbwyntio ar y person, gan  ddangos barn y plentyn, a dylent fod yn gallu gwneud dewisiadau a fydd yn cael eu cynnwys yn y cynllun. Nid yn unig y dylent fod yn gallu gwneud dewisiadau gwybodus, ond dylid hefyd ddehongli eu gweithredoedd, yr hyn y maent wedi'i fwynhau a'r hyn y gallant ei fwynhau yn y dyfodol gobeithio. Mae'n adeiladu rhywfaint bach ar rai o'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor addysg yn ystod yr ail Gynulliad. Roedd rhai datganiadau arbennig o bwerus wedi eu rhoi mewn tystiolaeth gan blant a oedd wedi profi yr hyn yr ydym yn sôn amdano heddiw.

 

We also need to be careful. The Deputy Minister is right to highlight the When I Am Ready scheme. Clearly, a great deal of written information is given to foster cares and to those in care. I would just make the point that, very often, these vulnerable people have literacy problems, and reading and comprehension are a real challenge. Therefore, there must be adequate advice at all stages within this process, if it is to be truly successful. I know that the Deputy Minister is aware of inter-agency disputes, which unfortunately can often become a feature of this type of action.

Mae angen i ni fod yn ofalus hefyd. Mae’r Dirprwy Weinidog yn iawn i dynnu sylw at y cynllun Pan fydda i’n Barod. Yn amlwg, rhoddir llawer iawn o wybodaeth ysgrifenedig i ofalwyr maeth ac i'r rhai sy’n derbyn gofal. Hoffwn wneud y pwynt, fodd bynnag, fod gan bobl sy'n agored i niwed hefyd broblemau llythrennedd yn aml iawn, ac mae darllen a deall yn her wirioneddol iddynt. Felly, mae’n rhaid sicrhau bod cyngor digonol ar gael ar bob cam yn y broses hon, os yw am fod yn wirioneddol llwyddiannus. Gwn fod y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol o'r anghydfodau rhyng-asiantaethol, a all yn aml fod yn nodweddiadol o'r math hwn o weithredu, yn anffodus.

 

I encourage the Deputy Minister in what she proposes today, for which we offer unqualified support, and we look forward to hearing interim reports as it progresses.  

Yr wyf yn annog y Dirprwy Weinidog yn yr hyn mae'n ei gynnig heddiw, ac yr ydym yn cynnig cefnogaeth ddiamod iddo, ac edrychwn ymlaen at glywed adroddiadau interim wrth iddo fynd rhagddo. 

 

Gwenda Thomas: I thank William Graham for his comments and for offering that unqualified support. I am sure that that will send a very strong message to young people who have left care, who are about to leave care or who are in care now. I would like to take this opportunity to say that foster carers do an amazing job. In Wales, we know that 77% of children and young people in care are accommodated by foster carers.

Gwenda Thomas: Diolch i William Graham am ei sylwadau ac am gynnig ei gefnogaeth ddiamod. Yr wyf yn siŵr y bydd hynny'n anfon neges gref iawn i bobl ifanc sydd wedi gadael gofal, sydd ar fin gadael gofal neu sy’n derbyn gofal ar hyn o bryd. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddweud bod gofalwyr maeth yn gwneud gwaith anhygoel. Yng Nghymru, rydym yn gwybod bod 77% o’r plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal yn cael llety gan ofalwyr maeth.

 

I fully support the point that you made about the need to hear the voices of young people, and I take on board your point about the literacy problems. I wish to pay tribute to the Children’s Commissioner for Wales and his report on advocacy. I look forward to working with him to develop that advocacy, so that it is more coherent and consistent, which is important. Thank you for your positive remarks.

Cefnogaf yn llwyr y pwynt a wnaethoch am yr angen i glywed lleisiau pobl ifanc, ac yr wyf yn derbyn eich pwynt am y problemau llythrennedd. Hoffwn dalu teyrnged i Gomisiynydd Plant Cymru a’i adroddiad ar eiriolaeth. Edrychaf ymlaen at weithio gydag ef i ddatblygu'r eiriolaeth honno, fel ei bod yn fwy cydlynol a chyson, sy'n bwysig. Diolch i chi am eich sylwadau cadarnhaol.

 

Lindsay Whittle: Oh dear, I hope that I am not going to sound negative. I assure you that I want to try to remain positive, because I was one of the first to get to my feet to congratulate Ken Skates when he brought this before us some months ago.

Lindsay Whittle: O diar, gobeithio nad wyf yn mynd i swnio’n negyddol. Yr wyf yn eich sicrhau fy mod eisiau ceisio aros yn gadarnhaol, oherwydd fy mod yn un o'r rhai cyntaf i godi ar fy nhraed i longyfarch Ken Skates pan ddaeth â hyn ger ein bron rai misoedd yn ôl.

 

Deputy Minister, how effective is a scheme that simply provides a framework for local authorities to work to, in comparison with a Bill that, in my opinion, may have more power to ensure this much-needed improvement in the quality of life of those young people who, by and large, have not had the best start in life? What message does that send to those young people? Can you give us assurances that those in care between the ages of 18 and 24 have adequate support to enable them to improve their life chances by entering further and higher education, which, to me, is the most important aspect of this statement today? It was so good this morning to hear young people leaving care on Radio Wales—it was good to hear you as well of course, Ken Skates—telling the nation that they wanted to go on to further and higher education. How many times have we as Assembly Members heard bad things about young people in care? In fact, the reverse is the truth, as we know.

Ddirprwy Weinidog, pa mor effeithiol yw cynllun sydd ddim ond yn darparu fframwaith i awdurdodau lleol i weithio iddo, o'i gymharu â Mesur, a fyddai yn fy marn i, â mwy o bŵer i sicrhau’r gwelliant sydd wir ei angen i ansawdd bywyd y bobl ifanc hynny sydd, ar y cyfan, heb gael y dechrau gorau mewn bywyd? Pa neges y mae hynny'n ei anfon i'r bobl ifanc hyn? Allwch chi roi sicrwydd i ni bod y rhai rhwng 18 a 24 oed sy’n derbyn gofal yn cael cefnogaeth ddigonol i'w galluogi i wella eu cyfleoedd mewn bywyd drwy gael addysg bellach ac uwch, a dyma, i mi, yw’r agwedd bwysicaf ar y datganiad hwn heddiw? Roedd hi mor braf y bore yma i glywed pobl ifanc sy'n gadael gofal ar Radio Wales - yr oedd wrth gwrs yn braf eich clywed chithau hefyd, Ken Skates -yn dweud wrth y genedl eu bod eisiau mynd ymlaen i addysg bellach ac uwch. Sawl gwaith rydym ni fel Aelodau'r Cynulliad wedi clywed pethau gwael am bobl ifanc sy’n derbyn gofal? Mewn gwirionedd, y gwrthwyneb sy’n wir, fel y gwyddom.

 

Deputy Minister, how ready are Welsh local authorities in terms of resources to provide adequate support to those continuing in care up to the age of 24? By adequate support, I do mean financial support by and large. Any parent who has guided a young person through college or university will know how financially onerous that task is.

Ddirprwy Weinidog, pa mor barod yw awdurdodau lleol Cymru o ran adnoddau i ddarparu cymorth digonol i'r rhai sy'n parhau i dderbyn gofal hyd eu bod yn 24 oed? Wrth ddweud cefnogaeth ddigonol, yr wyf yn golygu cefnogaeth ariannol ar y cyfan. Bydd unrhyw riant sydd wedi cefnogi person ifanc drwy goleg neu brifysgol yn gwybod cymaint o faich ariannol yw gwneud hynny.

 

Gwenda Thomas: Thank you, Lindsay Whittle, for those comments. I have tried to make it absolutely clear that these are duties. They are duties on local authorities to embrace this scheme, and, of course, we will be developing monitoring programmes for this. As I said, I have also commenced duties in the Children and Young Persons Act. This is an England and Wales piece of legislation that will complement the scheme, allowing young people who have already left care to reconnect. I will not go into the intricacies and technicalities of the papers that have been circulated to you, and the explanations of the different concessions from the DWP and HMRC, but the tax considerations are broader than the DWP’s are. Therefore, the foster carers of young people who are not in care three months before next April, but who subsequently reconnect, will be able to benefit from provision of the HMRC procedures that we have been able to agree. So, this is wide-ranging, which is important, so that other young people who are in care three months before next April will also benefit from the DWP arrangements.

Gwenda Thomas: Diolch i chi, Lindsay Whittle, am y sylwadau yna. Yr wyf wedi ceisio ei gwneud yn gwbl glir mai dyletswyddau yw’r rhain. Maent yn ddyletswyddau ar awdurdodau lleol i groesawu’r cynllun hwn, ac, wrth gwrs, byddwn yn datblygu rhaglenni monitro ar gyfer hyn. Fel y dywedais, yr wyf hefyd wedi dechrau ar y dyletswyddau yn y Ddeddf Plant a Phobl Ifanc. Mae hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth ar gyfer Cymru a Lloegr a fydd yn cyd-fynd â'r cynllun, gan ganiatáu i bobl ifanc sydd eisoes wedi gadael gofal i ailgysylltu. Nid wyf am fynd i mewn i gymhlethdodau a manylion technegol y papurau sydd wedi eu dosbarthu i chi, na’r esboniadau o'r gwahanol gonsesiynau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, a Chyllid a Thollau EM, ond mae'r ystyriaethau treth yn ehangach na rhai’r Adran Gwaith a Phensiynau. Felly, bydd gofalwyr maeth  pobl ifanc nad ydynt yn derbyn gofal dri mis cyn mis Ebrill nesaf, ond sydd wedyn yn ailgysylltu, yn gallu elwa o ddarpariaeth  gweithdrefnau Cyllid a Thollau EM yr ydym wedi gallu cytuno arni. Felly, mae hyn yn eang ei gwmpas, sy'n bwysig, fel y bydd pobl ifanc eraill sy’n derbyn gofal dri mis cyn mis Ebrill nesaf hefyd yn elwa o drefniadau’r Adran Gwaith a Phensiynau.

 

I recognise that there are technicalities to understand, but we need to realise that every case will be negotiated in accordance with the needs of that particular young person and the foster carer, who will be part of the arrangement. I am convinced that young people will be able to benefit from this; they will be able to stay within a loving family with whom they have developed closeness during their time in care and they will get that extra encouragement to either stay in education or reconnect with it.

Rwyf yn cydnabod bod yna fanylion technegol i'w deall, ond mae angen i ni sylweddoli y bydd pob achos yn cael ei drafod yn unol ag anghenion y person ifanc penodol a'r gofalwr maeth, a fydd yn rhan o'r trefniant. Yr wyf yn argyhoeddedig y bydd pobl ifanc yn gallu elwa o hyn; byddant yn gallu aros mewn teulu cariadus y maent wedi datblygu agosatrwydd â hwy yn ystod eu hamser yn derbyn gofal a byddant yn cael  anogaeth ychwanegol naill ai i aros mewn addysg neu ailgysylltu â hynny.

The Record

Aled Roberts: Rwy’n croesawu’r datganiad hwn heddiw hefyd. Nid oes un frawddeg o fewn y datganiad nad wyf yn cytuno â hi, ond rwy’n meddwl bod problemau ymarferol yn codi o’r datganiad. Mae’r ffaith bod yn rhaid gwneud y datganiad hwn heddiw yn dystiolaeth bod anghysondeb o fewn cynghorau o ran y ddarpariaeth sy’n cael ei gwneud ar hyn o bryd ar gyfer plant sy’n gadael gofal. A ydych wedi gwneud dadansoddiad o’r anghysondeb hwnnw o fewn y cynghorau er mwyn ichi gael patrwm clir o ran y fframwaith yr ydych yn sôn am ei ddatblygu yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod? Hefyd, rydym yn sôn am adael i blant aros o fewn eu teuluoedd maethu rhwng 18 ac 21 oed. A fydd cyfrifoldeb ar y cynghorau lleol i dalu lwfansau maethu yn ystod yr adeg honno? A oes unrhyw arian ychwanegol ar gael, neu a ydych yn ystyried gofyn i’r Gweinidog cyllid am arian ychwanegol i’r gyllideb?

Aled Roberts: I also welcome this statement today. There is not one sentence within it that I do not agree with, but I think that practical problems arise from the statement. The fact that we needed this statement today is proof that there is inconsistency within councils in terms of the provision made at present for young people leaving care. Have you made an analysis of that inconsistency within councils so that you get a clear picture in terms of the framework that you are talking of developing over the next few years? Also, we are talking about allowing children to stay within their foster families between the ages of 18 and 21. Will local councils have a responsibility to pay fostering allowances during those periods? Is any additional funding available, or are you considering asking the Minister for finance for additional funds for the budget?

3.30 p.m.

 

Gan ystyried y bydd y rhaglen newydd yn weithredol o fis Ebrill, pwy fydd yn gyfrifol am fonitro perfformiad yr awdurdodau lleol o ystyried y bu nifer o gŵynion am y trefniadau presennol a’r anghysondeb y soniais amdano yn gynharach? A ydych chi’n ffyddiog y bydd arfer da mewn rhai cynghorau yn cael ei ledaenu ar draws y cynghorau eraill?

Bearing in mind that the new programme will become operational from April, who will be responsible for monitoring the performance of local authorities, given that there have been a number of complaints about the current arrangements and the about the inconsistency that I mentioned earlier? Are you confident that good practice in some councils will be rolled out to others?

Yn olaf, yr wythnos diwethaf, dechreuodd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc grybwyll y ffaith bod diffyg diddordeb mewn rhai cynghorau ymysg y swyddogion uwch, y gwleidyddion, aelodau’r cabinet, ac arweinyddion o ran beth yn union sy’n cael ei drafod o fewn y panelau rhieni corfforaethol. A fyddwch yn ystyried unrhyw fesur sy’n rhoi dyletswydd ar aelodau arweiniol o fewn cynghorau i gymryd mwy o ddiddoreb ym mherfformiad yr adrannau hyn yn y dyfodol?

To conclude, last week, the Children and Young People Committee started to mention the fact that there is not enough interest in some councils among the senior officers, the politicians, cabinet members, and leaders in what exactly is discussed at the corporate parenting panels. Will you consider any steps that would place a duty on the lead members within councils to take more of an interest in the performance of those departments in the future?

Gwenda Thomas: Diolch i Aled Roberts am y pwyntiau a gododd. O ran anghysondeb, rwyf wedi bod yn eglur iawn, ac rwyf wedi dweud bod anghysondeb ond nad yw hynny’n golygu nad oes rhai esiamplau o waith gwych o fewn llywodraeth leol hefyd, ac rwyf wedi sôn am y rheini yn fy sylwadau agoriadol. Rydych chi wedi dod gyda fi ar daith y Bil gwasanaethau cymdeithasol, ac felly rydych yn gwybod y bydd fframwaith cenedlaethol ar ganlyniadau yn hybu safonau a chysondeb o fewn gwasanaethau. Cyflwynir y Bil ddechrau’r flwyddyn nesaf.

Gwenda Thomas: I thank Aled Roberts for the points that he raised. On the inconsistency, I have been perfectly clear, and I have said that there is inconsistency, but that that does not mean that there are not examples of excellent work within local authorities, too, and I talked about those in my opening remarks. You have come along with me on the journey of the social services Bill, and so you will know that the national outcomes framework will promote standards and consistency within the services. The Bill will be introduced at the start of next year.

O ran teuluoedd maeth, bydd rhai plant y mae angen gofal arnynt yn deilwng i gael budd-daliadau yn eu henwau eu hunain, a gallai hynny fod yn rhan o’r swm sy’n cael ei dalu i deuluoedd maeth, fel rhent. Gall y lwfansau barhau, a gall yr awdurdodau lleol wneud cyfraniad hefyd. Dyna’r hyn y mae’r cynllun yn sôn amdano o ran yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi, pan ddywedant na fyddant yn cyfri’r rheini fel incwm mewn unrhyw brawf moddion ar allu pobl i dalu.

In respect of foster families, some children who need care will be eligible for benefits in their own name, and that could be included in the amount paid to the foster families, as rent. The allowances could continue, and the local authorities could make a contribution, too. That is what the scheme is talking about in respect of the Department for Work and Pensions and Her Majesty’s Revenue and Customs, when they say that they will not count the allowances as income in any means test of people’s ability to pay.

Felly, gwn fod yn rhaid inni gymryd amser i ddod i ddeall y trefniadau, ond byddant yn unigol, a bydd monitro hefyd o’r perfformiad. Mae perfformiad awdurdodau lleol yn cael ei fonitro yn awr, ac ni fydd hynny’n wahanol yn y cynllun hwn. Fodd bynnag, mae hyn yn rhywbeth i’w groesawu’n fawr ac mae’n anfon neges bositif at bobl ifanc sydd mewn gofal. Mae dylestswydd arnom ni, ac ar y sawl sydd eisoes yn aelodau o lywodraeth leol, i fod yn rhieni corfforaethol da. Gwyddoch fy mod yn ysgrifennu’n gyson i godi ymwybyddiaeth o’r ddyletswydd hon, ac rwy’n credu y bydd aelodau cynghorau eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn gwneud cymaint ag y gallant yn eu wardiau, ac felly hefyd ni yn ein hetholaethau, i godi ymwybyddiaeth a gwneud yn siŵr bod plant sydd wedi gadael gofal, neu’r rhai sydd mewn gofal yn awr, yn gwybod am y cynllun positif hwn.

Therefore, I know that we need to take some time to understand the arrangements, but they will be tailored, and there will be performance monitoring. Local authorities’ performance is monitored currently, and that will not be any different for this scheme. However, this is to be welcomed greatly, and it sends a positive message to young people in care. We have a duty, as do those who are already members of local government, to be good corporate parents. You will know that I write regularly to raise awareness of this duty, and I think that council members will want to make sure that they do as much as they can in their wards, as will we in our constituencies, to raise awareness and make sure that children who have left care, or those who are currently in care, are informed of this positive scheme.

The Record

Julie Morgan: I want to say how much I welcome these proposals by the Deputy Minister and Ken Skates. I have known and worked with many young people and children who have left care, as has the Deputy Presiding Officer, I know, and this is really welcome.

Julie Morgan: Hoffwn ddweud cymaint yr wyf yn croesawu'r cynigion hyn gan y Dirprwy Brif Weinidog a Ken Skates. Rwyf wedi adnabod a gweithio gyda nifer o bobl ifanc a phlant sydd wedi gadael gofal, fel y mae’r Dirprwy Lywydd, mi wn, ac mae croeso mawr i hyn.

 

I will make two quick points. The success of this scheme will depend on careful planning, and, with some of the scheme’s provisions, it will be necessary to have a pathway plan. There is a problem with young people not having a continuous social worker. In the children’s commissioner’s report, 'Lost After Care’, there was one example of a child who had had six different social workers in three years. That is one issue that we have to take into account when we look at this: how will the planning be done so that this well-thought-out scheme can work?

Rwyf am wneud dau bwynt cyflym. Bydd llwyddiant y cynllun hwn yn dibynnu ar gynllunio gofalus, a, gyda rhai o ddarpariaethau'r cynllun, bydd angen cael cynllun llwybr. Mae problem i bobl ifanc o ran nad ydynt yn cael yr un gweithiwr cymdeithasol yn barhaus. Yn adroddiad y comisiynydd plant, 'Ar Goll ar ôl Gofal', roedd un enghraifft o blentyn a oedd wedi cael chwe gwahanol weithiwr cymdeithasol mewn tair blynedd. Dyna un mater y mae'n rhaid inni ei gymryd i ystyriaeth pan fyddwn yn edrych ar hyn: sut bydd y cynllunio yn cael ei wneud fel y gall y cynllun hwn sydd wedi ei lunio’n dda, weithio?

 

My other point is that many children, including our own, leave home and come back again. Children go away to college or university or try to have a go by themselves, and they then want to come back. How can we deal with that sort of issue with children who have been brought up in care? They obviously need emotional support and the feeling that they can go back somewhere, and so I wonder how this scheme fits with that.

Fy mhwynt arall yw bod llawer o blant, gan gynnwys rhai ein hunain, yn gadael cartref a dod yn ôl eto. Mae plant yn mynd i ffwrdd i'r coleg neu brifysgol neu’n ceisio rhoi cynnig arni eu hunain, ac yna maent yn awyddus i ddod yn ôl. Sut y gallwn ni ymdrin â’r fath yna o sefyllfa gyda phlant sydd wedi eu dwyn i fyny mewn gofal? Maent yn amlwg angen cefnogaeth emosiynol a'r teimlad y gallant fynd yn ôl i rywle, ac felly yr wyf yn meddwl tybed sut mae'r cynllun hwn yn cyd-fynd â hynny.

 

Gwenda Thomas: I thank Julie Morgan for her comments and questions. The pathway plan is a part of this scheme, and the independent reviewing officer will have an important role to play in ensuring that the pathway plan is developed in accordance with the scheme’s requirements and, perhaps more importantly, with the wishes of the young person in care and the foster carers.

Gwenda Thomas: Diolch i Julie Morgan am ei sylwadau a’i chwestiynau. Mae'r cynllun llwybr yn rhan o'r cynllun hwn, a bydd gan y swyddog adolygu annibynnol rôl bwysig i'w chwarae wrth sicrhau bod y cynllun llwybr yn cael ei ddatblygu yn unol â gofynion y cynllun ac, yn bwysicach efallai, yn unol â dymuniad y person ifanc sy’n derbyn gofal a'r gofalwyr maeth.

 

Yes, young people do leave home and come back. I am pleased to have commenced the duty under the Children and Young Persons Act 2008, which I have mentioned. That allows young people to reconnect with care, if that is their wish, whether they want to continue in education or not. It also allows local authorities not to have to apply the exceptional circumstances clause under section 17 of the Act to make cash payments to support the children who reconnect. The scheme is about children who are in care before their eighteenth birthday, and the DWP part of the scheme concentrates on that. However, the HMRC scheme, as I have mentioned, is broader and can take into account the needs of a foster carer where a young person chooses to reconnect having left care. I do not know of any limit on the time since a young person has left care.

Ydynt, mae pobl ifanc yn gadael cartref a dod yn ôl. Yr wyf yn falch o fod wedi dechrau ar y ddyletswydd o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008, yr wyf wedi sôn amdani. Mae hynny’n caniatáu i bobl ifanc allu ailgysylltu â gofal, os mai dyna yw eu dymuniad, pa un  a ydynt am barhau mewn addysg ai peidio. Mae hefyd yn caniatáu i awdurdodau lleol i beidio â gorfod gweithredu’r cymal amgylchiadau eithriadol o dan adran 17 o'r Ddeddf i wneud taliadau arian parod i gefnogi'r plant sy'n ailgysylltu. Mae'r cynllun yn ymwneud â phlant sydd mewn gofal cyn eu pen-blwydd yn ddeunaw oed, ac mae rhan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn y cynllun yn canolbwyntio ar hynny. Fodd bynnag, mae cynllun Cyllid a Thollau EM, fel yr wyf wedi ei grybwyll, yn ehangach a gall gymryd i ystyriaeth anghenion y gofalwr maeth pan fo person ifanc yn dewis ailgysylltu ar ôl gadael gofal. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw derfyn o ran yr amser sydd wed mynd heibio ers i berson ifanc  adael gofal.

Datganiad: Rheoli Perygl Llifogydd—Haf 2012
Statement: Flood Risk Management—Summer 2012

The Record

The Minister for Environment and Sustainable Development (John Griffiths): Over the past few months, we have seen significant levels of rainfall across Wales. Over the summer as a whole, 485 mm of rainfall was recorded, which is 170% of the normal amount, making summer 2012 the third wettest Welsh summer on record. It has been over 80 years since we have experienced this much rain during the summer. The heavy and persistent rainfall experienced throughout June and July led to significant flooding in parts of Wales, and it is the lessons learned from those incidents that I will address here today.

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (John Griffiths): Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld llawer iawn o law ar draws Cymru. Dros yr haf yn ei gyfanrwydd, cofnodwyd 485 mm o law, sef 170% o'r swm arferol, gan olygu mai haf 2012 oedd y trydydd haf gwlypaf a gofnodwyd erioed yng Nghymru. Mae wedi bod dros 80 mlynedd ers i ni gael cymaint o law â hyn yn ystod yr haf. Arweiniodd y glaw trwm a chyson a gafwyd yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf at lifogydd sylweddol mewn rhannau o Gymru, a’r gwersi a ddysgwyd o'r digwyddiadau hynny y byddaf yn mynd i'r afael â hwy yma heddiw.

 

At the beginning of June, Wales experienced the worst flood event we have seen for a number of years, with Ceredigion bearing the brunt of that weather. In total, 127 properties and 248 caravans were affected by river and surface water flooding. Problems were also experienced with reservoirs, leading to a precautionary evacuation of the village of Pennal in Gwynedd.

Ar ddechrau mis Mehefin, gwelodd Cymru y digwyddiad llifogydd gwaethaf inni ei weld ers nifer o flynyddoedd, gyda Cheredigion yn dioddef y tywydd gwaethaf. Cafodd cyfanswm o 127 eiddo a 248 o garafannau eu heffeithio gan lifogydd yr afon a dŵr wyneb. Cafwyd problemau hefyd gyda chronfeydd, gan arwain at symud y trigolion o bentref Pennal yng Ngwynedd rhag i’r gwaethaf digwydd.

 

I commend the emergency services and other responder agencies for the effective multi-agency response provided during the event and the swift action, which may well have saved lives. The value of planning and exercises was evident during the response, notably the airlift rescue operation, the activity having been rehearsed at Bala lake during exercise Watermark in March 2011.

Cymeradwyaf y gwasanaethau brys a’r ymatebwyr eraill, am yr ymateb amlasiantaethol effeithiol yn ystod y digwyddiad ac am weithredu’n gyflym, gan achub bywydau o bosibl. Roedd gwerth cynllunio ac ymarfer yn amlwg yn ystod yr ymateb, yn enwedig yr awyrgludiad. Rhoddwyd prawf ar y gweithgaredd hwn ar lyn Tegid yn ystod ymarfer Watermark ym mis Mawrth 2011.

I am sure that many Assembly Members will have seen the media coverage of the event, which provided devastating pictures of the areas that were flooded and of the rescue operations that took place over the course of that weekend. I visited Tal-y-bont and Dol-y-bont and witnessed not only the devastation that flooding can cause, but also the spirit of residents and businesspeople in the areas affected. I pay tribute to the way in which those communities pulled together and helped each other and, indeed, to the help and support that was forthcoming from across Wales at such a difficult time for the affected areas.

Rwyf yn siŵr y bydd llawer o Aelodau'r Cynulliad wedi gweld y sylw a roddwyd yn y cyfryngau i’r digwyddiad, gan gynnwys lluniau torcalonnus o'r ardaloedd a oedd wedi gorlifo ac o'r ymgyrchoedd achub a gynhaliwyd yn ystod y penwythnos hwnnw. Ymwelais â Thal-y-bont a Dol-y-bont a gwelais y dinistr y gall llifogydd ei achosi, ond hefyd ysbryd y trigolion a’r bobl fusnes yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt. Talaf deyrnged i'r modd y gweithiodd y cymunedau hynny gyda’i gilydd a’u helpu ei gilydd ac, yn wir, i’r cymorth a'r gefnogaeth a ddaeth o bob rhan o Gymru ar adeg mor anodd i'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt.

 

There are, of course, always lessons to be learned when our planning, response and recovery arrangements are tested, and a number of post-incident reports have been produced. I was particularly pleased to see that the reports showed a well-managed response, with the gold and silver command well established, and evidence of increased awareness and support in the communities themselves. I am also encouraged by the dedication to improving the response that we provide in Wales.

Mae yna bob amser wersi i'w dysgu, wrth gwrs, pan fydd ein trefniadau cynllunio, ymateb ac adfer yn cael eu profi, ac mae nifer o adroddiadau wedi cael eu paratoi ar ôl y digwyddiad. Roeddwn yn arbennig o falch o weld bod yr adroddiadau yn dangos ymateb a reolwyd yn dda, gyda'r unedau rheoli aur ac arian wedi eu sefydlu’n dda, a thystiolaeth o fwy o ymwybyddiaeth a chefnogaeth yn y cymunedau eu hunain. Mae’r ymroddiad i wella’r ymateb a ddarparwn yng Nghymru hefyd yn galonogol.

 

The Environment Agency report contains 11 recommendations on actions to ensure better flood awareness at the local level, and particularly in hard-to-reach and more vulnerable communities. The recommendations also emphasise the need to employ technical developments to extend and improve warning capabilities and ensure continued effective engagement between the Environment Agency and the communities and partner organisations. The Welsh Government will work with responders and other organisations to implement the recommendations contained in all the reports.

Mae adroddiad Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnwys 11 o argymhellion ar gamau gweithredu i sicrhau gwell ymwybyddiaeth o lifogydd ar lefel leol, ac yn arbennig mewn cymunedau anodd eu cyrraedd a mwy agored i niwed. Mae'r argymhellion hefyd yn pwysleisio'r angen i ddefnyddio datblygiadau technegol i ymestyn a gwella galluoedd rhybuddio a sicrhau ymgysylltiad effeithiol parhaus rhwng Asiantaeth yr Amgylchedd a'r cymunedau a’r sefydliadau partner. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ymatebwyr a sefydliadau eraill i weithredu'r argymhellion a gynhwysir yn yr holl adroddiadau.

 

As we go in to the winter, we know that relatively small increases in rainfall can have a significant impact given the amount of water already in the system, and it is important that we be well prepared. We are already investing over £140 million in flood and coastal erosion risk management over the life of this fourth Assembly, reducing the risks for over 7,000 properties across Wales, and we continue to seek ways to maximise our investment. Last week, in spite of severe reductions in its capital budget allocation, the Welsh Government announced an additional £10 million for flood and coastal erosion risk management over 2013-14 to 2014-15, taking our investment to over £150 million. This will pay for eight additional schemes in vulnerable communities, and it reinforces our ongoing commitment to invest in this vital infrastructure.

Wrth i’r gaeaf nesáu, rydym yn gwybod y gall cynnydd cymharol fach yn lefel y glaw gael effaith sylweddol o ystyried faint o ddŵr sydd eisoes yn y system, ac mae'n bwysig ein bod yn paratoi'n drylwyr. Rydym eisoes yn buddsoddi dros £140 miliwn mewn mesurau rheoli risg rhag llifogydd ac erydiad arfordirol yn ystod cyfnod y pedwerydd Cynulliad hwn, gan leihau'r risgiau ar gyfer dros 7,000 eiddo ledled Cymru, ac rydym yn parhau i chwilio am ffyrdd i sicrhau’r budd mwyaf o’n buddsoddiad. Yr wythnos diwethaf, er ​gwaethaf gostyngiadau difrifol yn ei chyllideb gyfalaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £10 miliwn ychwanegol ar gyfer rheoli risg rhag llifogydd ac erydiad arfordirol rhwng 2013-14 a 2014-15, gan gynyddu ein buddsoddiad i dros £150 miliwn. Bydd hyn yn talu am wyth cynllun ychwanegol mewn cymunedau sy'n agored i niwed, ac mae'n atgyfnerthu ein hymrwymiad parhaus i fuddsoddi yn y seilwaith hanfodol hwn.

 

Rapid responding rivers such as the Leri, which accounted for most of the flooding around Aberystwyth, do not allow for conventional flood warnings. The Environment Agency has identified its automated flood-warning process as a key tool in reducing the impact of flooding in such catchments, and a national group has been established to consider how the service can be implemented.

Nid yw afonydd sy’n ymateb yn gyflym fel y Leri, a oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r llifogydd yn ardal Aberystwyth, yn caniatáu ar gyfer rhybuddion llifogydd confensiynol. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi nodi bod ei phroses awtomataidd i rybuddio rhag llifogydd yn allweddol o ran lleihau effaith llifogydd mewn dalgylchoedd o'r fath, a sefydlwyd grŵp cenedlaethol i ystyried sut gellir rhoi’r gwasanaeth ar waith.

 

Access to adequate insurance cover forms an essential part of the recovery process. I am keen to ensure that a suitable alternative is put in place of the statement of principles, which expires next year. A number of options are still being discussed, and I met with representatives from the Association of British Insurers just last week to discuss these matters.

Un rhan hanfodol o’r broses adfer yw sicrhau bod yswiriant digonol ar gael. Rwyf yn awyddus i sicrhau bod dewis amgen addas yn cael ei sefydlu yn lle'r datganiad o egwyddorion, sy'n dod i ben y flwyddyn nesaf. Mae nifer o opsiynau yn dal i gael eu trafod, a chyfarfûm â chynrychiolwyr o Gymdeithas Yswirwyr Prydain yr wythnos ddiwethaf i drafod y materion hyn.

 

I am also conscious that people affected by flooding often need longer-term support. Earlier this year, I commissioned research to inform the development of support services for communities affected by flooding in Wales. The final report, addressing how we can better support affected communities, is scheduled for publication at the end of this month.

Rwyf hefyd yn ymwybodol bod ar bobl yr effeithir arnynt gan lifogydd angen cymorth yn y tymor hwy yn aml. Yn gynharach eleni, comisiynais ymchwil i lywio'r broses o ddatblygu gwasanaethau cymorth i gymunedau yr effeithir arnynt gan lifogydd yng Nghymru. Bwriedir cyhoeddi’r adroddiad terfynol, a fydd yn mynd i'r afael â sut y gallwn roi gwell cefnogaeth i gymunedau yr effeithir arnynt, ddiwedd y mis hwn.

 

We cannot completely prevent flooding, but we can do our utmost to understand risks, raise awareness, adapt and mitigate, and continue to put in place improved flood defences the length and breadth of Wales.

Ni allwn atal llifogydd yn llwyr, ond gallwn wneud ein gorau glas i ddeall y risgiau, codi ymwybyddiaeth, addasu a lliniaru, a pharhau i sefydlu gwell amddiffynfeydd rhag llifogydd ar hyd a lled Cymru.

 

3.45 p.m.

 

Flood risk is a top priority for Welsh Government involving, as it does, risk to life and limb as well as to property. We must continue to raise awareness of risks and action that can be taken by our communities, and continue our work with partners to invest in our defences, protecting homes, businesses and infrastructure. I would very much like to assure Members, all key partners, and people and businesses across Wales that flood risk, and dealing with it in an increasingly effective way, is a top priority for the Welsh Government, and it will continue to be so.

Mae perygl llifogydd yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru gan ei fod yn peryglu bywydau yn ogystal ag eiddo. Mae'n rhaid i ni barhau i godi ymwybyddiaeth o'r risgiau a'r camau y gall ein cymunedau eu cymryd, a pharhau â’n gwaith gyda phartneriaid i fuddsoddi yn ein hamddiffynfeydd, gan amddiffyn cartrefi, busnesau a seilwaith. Hoffwn yn fawr iawn sicrhau Aelodau, yr holl bartneriaid allweddol, a phobl a busnesau ledled Cymru, bod Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth uchel i berygl llifogydd a’r angen i ymdrin â hynny mewn ffordd fwyfwy effeithiol, ac y bydd yn parhau i wneud hynny.

 

Russell George: As was the case back in June, the exceptional level of rainfall that caused severe flooding in many communities in mid and north Wales will have had a profound effect and have made a long-lasting impact on the lives of thousands of our citizens. Like the Minister, I pay tribute to the great work of the emergency services. There will be a lot of trauma for those coming to terms with what happened, and it is incumbent on us as national politicians to show leadership not only to help people to get back to normality as quickly as possible, but to mitigate potential flood risks in future. While I believe the publication of the report by Environment Agency Wales on the lessons learned from the June floods will be helpful to make improvements in some areas, I believe that Government cuts to flood defences will mean that they will not be able to keep up with environmental change.

Russell George: Fel yn ôl ym mis Mehefin, bydd lefel eithriadol y glaw a achosodd lifogydd difrifol mewn nifer o gymunedau yng nghanolbarth a gogledd Cymru wedi cael effaith ddirfawr a hirhoedlog ar fywydau miloedd o'n dinasyddion. Fel y Gweinidog, rwyf yn talu teyrnged i waith gwych y gwasanaethau brys. Bydd llawer o drawma i'r bobl sy'n dod i delerau â'r hyn a ddigwyddodd, ac mae'n ddyletswydd arnom ni fel gwleidyddion cenedlaethol i ddangos arweiniad nid yn unig i gynorthwyo pobl i ddod ôl i sefyllfa arferol cyn gynted ag y bo modd, ond hefyd i liniaru peryglon llifogydd posibl yn y dyfodol. Rwyf yn credu y bydd adroddiad Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ar y gwersi a ddysgwyd yn sgil llifogydd mis Mehefin yn ddefnyddiol er mwyn gwneud gwelliannau mewn rhai meysydd. Er hynny, rwyf yn credu y bydd toriadau’r Llywodraeth i amddiffynfeydd rhag llifogydd yn golygu na fyddant yn gallu ymdopi â newid amgylcheddol.

 

The transfer of functions from Environment Agency Wales to the new natural resource body will be crucial in ensuring that Wales has a comprehensive flood risk management system in the years ahead. What potential risk factors has the Minister identified regarding cross-border services and shared information between the new body and the Environment Agency in relation to flood management? Is Wales in danger of losing important intelligence or expertise that we rely on from England?

Bydd trosglwyddo swyddogaethau o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru i'r corff adnoddau naturiol newydd yn hollbwysig o ran sicrhau bod gan Gymru system gynhwysfawr ar gyfer rheoli’r perygl o lifogydd yn y blynyddoedd i ddod. Pa ffactorau risg posibl y mae'r Gweinidog wedi eu nodi o ran gwasanaethau traws-ffiniol a rhannu gwybodaeth rhwng y corff newydd ac Asiantaeth yr Amgylchedd o safbwynt rheoli llifogydd? A yw Cymru mewn perygl o golli arbenigedd neu wybodaeth bwysig o Loegr yr ydym yn dibynnu arnynt?

 

Information on forecasting, and how it is given out, is also crucial. I had discussions with the NFU and local farmers about this issue at this summer’s Royal Welsh Show. It is clear from those discussions that specific climate weather patterns and the topography of an area can have an impact on a flooding incident greater than what has been forecast by scientists or professionals 50 or 60 miles away. So, local information is important. How does the Minister envisage building that adequate level of nowcasting coupled with local knowledge not only into the forecasting process, but into the flow of communication between key organisations?

Mae gwybodaeth am ragolygon, a sut y caiff ei lledaenu, hefyd yn hanfodol. Cefais drafodaethau gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a ffermwyr lleol am y mater hwn yn Sioe Frenhinol Cymru eleni. Mae'n amlwg o'r trafodaethau hynny y gall patrymau tywydd penodol yn yr hinsawdd a thopograffeg ardal gael mwy o effaith ar achos o lifogydd na'r hyn a ragwelwyd gan wyddonwyr neu weithwyr proffesiynol 50 neu 60 milltir i ffwrdd. Felly, mae gwybodaeth leol yn bwysig. Sut y mae'r Gweinidog yn rhagweld y gellir cynnwys rhagolygon digonol yn y tymor byr iawn ynghyd â gwybodaeth leol, nid yn unig yn y broses o lunio rhagolygon, ond hefyd yn y trefniadau cyfathrebu rhwng sefydliadau allweddol?

 

Finally, with regard to ongoing investment in flood defences, is he going to reconsider the level of resources identified for flood risk management in his budget lines for the next two financial years?

Yn olaf, o ran buddsoddiad parhaus mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd, a yw’n bwriadu ailystyried lefel yr adnoddau a nodwyd ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn ei linellau cyllideb ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf?

 

John Griffiths: I thank Russell George for those points and questions. We must clearly put on record as the Welsh Government that investment in flood defences is not being cut. In fact, we have £150 million in place up to the end of this Assembly, and we continue to look at how we can lever in further investment with regard to those defences, working with key partner organisations and accessing European structural funds. So, there are various sources that we draw upon to put improvements to flood defences in place, and we will continue with that effort. As I mentioned in my opening remarks, as an example of those efforts, we have recently been successful in obtaining £10 million from the infrastructure funding of the Welsh Government to aid that effort.

John Griffiths: Diolch i Russell George am y pwyntiau hynny a’r cwestiynau. Mae'n rhaid i ni, fel Llywodraeth Cymru, sicrhau y cofnodir yn eglur nad yw'r buddsoddiad mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd yn cael ei dorri. Yn wir, mae £150 miliwn ar gael hyd at ddiwedd y Cynulliad hwn, ac rydym yn parhau i ystyried sut y gallwn ddenu rhagor o fuddsoddiad ar gyfer yr amddiffynfeydd hynny, gan weithio gyda sefydliadau partner allweddol a manteisio ar gronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Felly, rydym yn defnyddio arian o ffynonellau amrywiol i wneud gwelliannau i amddiffynfeydd rhag llifogydd, a byddwn yn parhau â'r ymdrech honno. Fel y soniais yn fy sylwadau agoriadol, fel enghraifft o’r ymdrechion hynny, rydym wedi llwyddo’n ddiweddar i sicrhau £10 miliwn o arian seilwaith Llywodraeth Cymru i gynorthwyo yn yr ymdrech honno.

 

It is important that we work with local communities to understand local circumstances and to disseminate information effectively. The Environment Agency has done a great deal of work on these matters, and I think that it has been effective in engaging with local communities and in raising awareness of risk, as well as in accessing that local intelligence. It continues to work on its flood forecasting and dissemination of information, because obviously there is no room for complacency or relaxation. It is an ongoing effort, but I believe that much progress has been made.

Mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda chymunedau lleol i ddeall amgylchiadau lleol ac i ledaenu gwybodaeth yn effeithiol. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi gwneud llawer iawn o waith ar y materion hyn, ac rwyf o’r farn iddi fod yn effeithiol wrth ymgysylltu â chymunedau lleol a chodi ymwybyddiaeth o risg, yn ogystal ag wrth fanteisio ar yr wybodaeth leol honno. Mae'n parhau i weithio ar ei ddulliau o ragweld llifogydd a lledaenu gwybodaeth, oherwydd nad oes lle i laesu dwylo nac ymlacio, yn amlwg. Mae'n ymdrech barhaus, ond rwyf yn credu bod llawer o gynnydd wedi'i wneud.

 

With the single body, obviously it is very important, as the Member states, that we continue to have effective cross-border working, that there are service-level agreements in place as part of the arrangements for the single body, and that there is no loss of intelligence or expertise from across the border. So, we have been in discussion with the Department for Environment, Food and Rural Affairs, and with Environment Agency UK, to look at these issues, and we continue to have those discussions. We will put in place effective arrangements, because I do understand the importance of those matters.

O ran yr un corff, mae'n amlwg ei bod yn bwysig iawn, fel y dywed yr Aelod, ein bod yn parhau i allu gweithio’n effeithiol ar draws y ffin, bod cytundebau lefel gwasanaeth ar waith fel rhan o'r trefniadau ar gyfer yr un corff, ac nad ydym yn colli gwybodaeth nac arbenigedd o’r ochr arall i’r ffin. Felly, rydym wedi bod yn trafod gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a chydag Asiantaeth yr Amgylchedd y DU, i edrych ar y materion hyn, ac mae’r trafodaethau hynny’n parhau. Byddwn yn rhoi trefniadau effeithiol ar waith, oherwydd fy mod yn deall pwysigrwydd y materion hynny.

The Record

Llyr Huws Gruffydd: Croesawaf y datganiad. Rwy’n credu ei fod yn amserol ac, yn wir, mae’n bwysig ein bod ni’n cofio bod pobl a busnesau yn dal i ddioddef heddiw yn sgîl y llifogydd a ddigwyddodd dros yr haf. Hoffwn ategu’r deyrnged i’r gwasanaethau brys a’r awdurdodau gwahanol a ymatebodd i’r argyfwng yn glodwiw iawn.

Llyr Huws Gruffydd: I welcome the statement. It is timely and important that we should remember that people and businesses are still suffering today as a result of the flooding over the summer. I would like to endorse the tribute to the emergency services and the various authorities that responded to the crisis so effectively.

Os oes rhywbeth positif yn dod allan o ddigwyddiadau o’r fath, maent yn tanlinellu’r angen i weithredu, codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl a sicrhau bod y boblogaeth ehangach yn prynu i fewn i’r angen i weithredu i fynd i’r afael â’r risg hwn. Rwyf yn sôn nid yn unig am y boblogaeth, wrth gwrs, ond am swyddogion cynllunio a gwleidyddion—mae’n rhaid i ni dderbyn bod angen gweithredu.

If there is anything positive to emerge from such an event, it is the emphasis on the need to take action and raise awareness among people, and to ensure that the wider population buys into the need for action in order to tackle flood risk. I am thinking not just about the population, of course, but about planning officials and politicians—we must accept that there is a need for action here.

Nid yw’n hawdd ar lefel ymarferol, oherwydd wrth feddwl am orwelion cynllunio hirdymor rheoli risg llifogydd, rydym yn sôn am y llifogydd gwaethaf am hanner canrif, neu 80 neu 100 mlynedd—dyna’r cyd-destun cynllunio, tra bod gennym bobl yn delio gyda chynlluniau datblygu lleol sy’n edrych ar gyfnodau o 10 i 15 mlynedd. Mae’r cylch gwleidyddol etholiadol o bum mlynedd hefyd yn ffactor sy’n aml yn milwrio yn erbyn cynlluniau a gweithredu hirdymor. Ond mae’r ffaith bod ymwybyddiaeth wedi cynyddu yn rhywbeth allweddol, er nad yw hynny wastad yn arwain at newid ar y ddaear, gan fod pobl weithiau’n disgwyl i eraill weithredu.

It is not easy at a practical level, because in looking at the long-term planning horizons in terms of flood risk management, we are talking about the worst floods in half a century or for 80 or 100 years—that is the planning context, while we have people dealing with local development plans that look at periods of 10 to 15 years. Then, of course, there is the five-year electoral cycle, which is a political factor and often militates against longer term action and plans. However, that higher level of awareness is crucial, although it does not always lead to change at grass-roots level, because people sometimes wait for others to take action.

Hoffwn glywed eich ymateb, Weinidog, i sylw a wnaed gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrth sôn am intergenerational equity. Mae hwn yn rhywbeth a ddaw yn broblem os caiff penderfyniadau anodd sydd angen eu gwneud heddiw eu hosgoi, gan arwain at broblemau yn y dyfodol. Rwyf am weld Llywodraeth Cymru yn dangos arweiniad cryf yn y mater hwn. Rwyf am weld y Llywodraeth yn bod yn flaengar ac yn ddewr. Fe gewch chi fy nghefnogaeth i os gwelwn ni hynny’n dod o gyfeiriad y Llywodraeth.

I would like to hear your response, Minister, to a comment made by the National Trust, which talks about intergenerational equity. That is something that will become an issue when difficult decisions that need to be taken today are delayed or avoided, leading to future problems. I want to see the Welsh Government showing strong leadership in this area. I want to see the Government in the vanguard, showing some courage. You will get my support if we see that sort of action from the Government.

Mae cyllid yn her. Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi dweud bod cyllid yn gyfyngiad sylweddol, ac mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi dweud bod angen cynyddu buddsoddiad yn sylweddol.  Rydych chi’n sôn am y £140 miliwn y bydd y Llywodraeth hon wedi’i wario dros bum mlynedd y Cynulliad hwn, ond mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn dweud bod angen gwario £135 miliwn y flwyddyn erbyn 2035 i gynnal lefelau’r amddiffynfeydd presennol. Rwy’n croesawu’r ffaith bod y datganiad yn dweud bod 7,000 o eiddo yn fwy diogel yn sgîl y buddsoddiad hwn, ond mae 357,000 o eiddo yn wynebu risg llifogydd. Yr hyn rwyf am ei ofyn o safbwynt adnoddau yw pa un a ydych chi’n gweld unrhyw obaith y bydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i wario’r hyn sydd wir ei angen i fynd i’r afael o ddifrif â’r risg o ran llifogydd yr ydym yn ei wynebu yn yr hirdymor.

Finance is a challenge. The Countryside Council for Wales has stated that it is a significant restriction, and Environment Agency Wales has said there is a significant need for investment. You talk of the £140 million that this Government will have spent over the five years of this Assembly, but, according to the Environment Agency, we will need to spend £135 million per annum by 2035 in order to maintain current flood defence levels. I welcome the fact that the statement claims that 7,000 properties will be safer as a result of this investment, but 357,000 properties are at risk of flooding. What I want to ask in terms of resources is whether you anticipate any hope that the Welsh Government will be in a position to spend what is truly needed in order to properly get to grips with the flood-risk that we are facing in the long term.

Ym mis Mehefin, yn ystod un o gyfarfodydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, fe wnaethoch chi sôn am ddenu cyllid o bartneriaid eraill—ac yr ydych wedi cyfeirio at hyn y prynhawn yma eisoes—gan gyfeirio’n benodol at y sector breifat a sefyllfa lle mae llifogydd yn peri risg i isadeiledd. A oes unrhyw ddatblygiadau wedi bod yn y trafodaethau hynny? A oes unrhyw gynnydd wedi’i wneud o safbwynt ceisio sicrhau buddsoddiad o’r cyfeiriad hwnnw? A oes gan Lywodraeth Cymru, y corff adnoddau naturiol newydd ac awdurdodau lleol yr adnoddau staffio a’r capasiti angenrheidiol i ddelifro’r hyn sydd ei angen i fynd i’r afael â’r risg?

Back in June, at a meeting of the Environment and Sustainability Committee, you mentioned attracting funding from other partners—something that you have already referred to this afternoon—and made specific reference to the private sector and a situation where perhaps flooding puts infrastructure at risk. Have there been any developments in those discussions? Has any progress been made in terms of securing investment from that direction? Do the staffing resources and the necessary capacity exist within the Welsh Government, the new natural resource body and local authorities to deliver what is required in order to get to grips with this risk?

Wrth gwrs, rwyf ond wedi delio hyd yn hyn â lle rydym yn awr. Bydd newid hinsawdd yn cyflwyno mwy o risg a bydd datblygu a gorddatblygu yn peri problemau hefyd. Bydd proses y cynlluniau datblygu lleol hefyd yn arwain at godi degau os nad cannoedd o filoedd o dai newydd yng Nghymru. Mae sôn am 45,000 o dai yng Nghaerdydd erbyn 2026. Sut all unrhyw un ddweud na fydd goblygiadau llifogydd yn sgîl hynny? Mae’n gwbl hanfodol bod systemau draenio trefol cynaliadwy yn cael eu hystyried yn gynnar iawn yn y broses os yw hynny am ddigwydd. Beth yw eich barn chi am impact y datblygu aruthrol hwn ar draws Cymru ar lifogydd, a beth ydych chi’n tybio y bydd y Bil cynllunio yn ei gynnig i warchod rhag creu mwy o broblemau llifogydd yn y dyfodol?

Of course, I have only dealt with where we currently stand. Climate change will increase the risk, and development and overdevelopment will also cause further problems. The local development plan process will lead to the building of tens if not hundreds of thousands of new homes in Wales. There is talk of 45,000 new homes in Cardiff by 2026. How can anyone say that that will not have implications in terms of flooding? It is crucial that sustainable urban drainage systems are considered early on in the process if that sort of development is to happen. What is your opinion of the impact that this huge development across Wales will have on flooding, and what do you anticipate the planning Bill will propose in order to protect from generating more flood problems in the future?

John Griffiths: Diolch yn fawr i Llyr Huws Gruffydd am ei gyfraniad.

John Griffiths: I thank Llyr Huws Gruffydd for his contribution.

The Record

The Member raises quite a number of matters and questions. First, I would like to join the Member in recognising, as I did in my opening remarks, the impressive service provided by the responders—the emergency services—and also recognise another real positive that we can take from the flooding in June, which was the wonderful community spirit. That spirit is evident right across Wales in responding to many different events and challenges; it was certainly evident as far as that flooding was concerned, locally and nationally across Wales, in terms of the help and support that was freely given. We are lucky in being able to benefit from that community spirit.

Mae’r Aelod yn codi cryn nifer o faterion a chwestiynau. Yn gyntaf, hoffwn ymuno â'r Aelod i gydnabod, fel y gwneuthum yn fy sylwadau agoriadol, y gwasanaeth trawiadol a ddarparwyd gan yr ymatebwyr—y gwasanaethau brys—a chydnabod pwynt cadarnhaol arall hefyd yn sgil y llifogydd ym mis Mehefin, sef yr ysbryd cymunedol gwych. Mae'r ysbryd hwnnw'n amlwg ledled Cymru wrth ymateb i nifer o wahanol ddigwyddiadau a heriau; roedd yn bendant yn amlwg yn achos y llifogydd, yn lleol ac yn genedlaethol ledled Cymru, o ran y cymorth a'r gefnogaeth a roddwyd yn hael. Rydym yn lwcus ein bod yn gallu manteisio ar yr ysbryd cymunedol hwnnw.

 

Planning matters are significant. Technical advice note 15 is effective in addressing flooding issues, but we are always looking at the revision of our technical advice notes and 'Planning Policy Wales’ in general. As the Member mentioned, we are taking forward legislation, and we will look carefully at what is best included in that planning Bill. We are working on a new notification direction in relation to the planning applications that local authorities refer to Welsh Ministers. In working up that new notification direction, we will look at TAN 15 and flood issues, so that there can be a greater role for Welsh Ministers in ensuring that only appropriate development is allowed to proceed. Sustainable urban drainage schemes are an important part of the picture and we see important developments, for example in the Llanelli area, through the work that Welsh Water is doing in looking at surface flooding, with a big investment programme over quite a number of years. Therefore, we will be looking to work with Welsh Water and others—in relation to new development in particular—to make sure that those systems are in place.

Mae materion cynllunio yn arwyddocaol. Mae nodyn cyngor technegol 15 yn mynd i’r afael yn effeithiol â materion llifogydd, ond rydym bob amser yn cadw mewn cof yr angen i ddiwygio ein nodiadau cyngor technegol a 'Pholisi Cynllunio Cymru' yn gyffredinol. Rydym wrthi’n datblygu deddfwriaeth fel y crybwyllodd yr Aelod, a byddwn yn edrych yn ofalus ar yr hyn sydd orau i’w gynnwys yn y Bil cynllunio hwnnw. Rydym yn gweithio ar gyfarwyddyd hysbysu newydd ar gyfer y ceisiadau cynllunio y mae awdurdodau lleol yn eu cyfeirio at Weinidogion Cymru. Byddwn yn edrych ar TAN 15 a materion llifogydd wrth baratoi'r cyfarwyddyd hysbysu newydd hwnnw, er mwyn rhoi swyddogaeth ehangach i Weinidogion Cymru o ran sicrhau mai dim ond datblygiadau priodol y caniateir iddynt fynd yn eu blaenau. Mae cynlluniau draenio trefol cynaliadwy yn rhan bwysig o'r darlun ac rydym yn gweld datblygiadau pwysig, er enghraifft yn ardal Llanelli, trwy’r gwaith y mae Dŵr Cymru yn ei wneud i edrych ar lifogydd wyneb, gyda rhaglen fuddsoddi fawr dros gryn nifer o flynyddoedd. Felly, ein nod fydd gweithio gyda Dŵr Cymru ac eraill—mewn cysylltiad â datblygiadau newydd yn arbennig—i wneud yn siŵr bod y systemau hynny wedi’u sefydlu.

 

It is a challenge to have adequate investment, given the importance of flood defence and the scale of the challenge. We understand the climate change projections, which introduce new factors. We have to futureproof our effort, and our sustainable development Bill will very much be about taking that long-term view, which factors in the needs of future generations. Those factors and that thinking will be centre stage as we move forward, but, nonetheless, we must recognise that we cannot completely prevent flooding. Indeed, it would not be appropriate to build a massive wall around the entire coast of Wales, for example; I think we would all agree on that. It is about understanding where risk is greatest, prioritising schemes and working with our local partners, the Environment Agency and others. We all have a responsibility to work up flood risk schemes, and we have to join them all up with our national scheme that we launched at the end of 2011 and make sure that it is all properly integrated. Together, we will work out where the risk is greatest and where we need to prioritise our schemes. That is the spirit with which we will move forward. It is important that we lever in extra investment, and that is where infrastructure—whether rail, road or Welsh water infrastructure—needs to be a part of the equation. Therefore, we continue our discussions with those responsible for that infrastructure to see how we can move forward together.

Mae'n her i gael buddsoddiad digonol, o ystyried pwysigrwydd amddiffyn rhag llifogydd a maint yr her. Rydym yn deall y rhagamcanion o ran newid yn yr hinsawdd, sy'n cyflwyno ffactorau newydd. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein hymdrech yn ystyried datblygiadau’r dyfodol, a bydd ein Bil datblygu cynaliadwy yn bendant yn ymwneud ag edrych ar bethau yn yr hir dymor, gan ystyried anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Bydd y ffactorau hynny a’r dull hwnnw o feddwl yn cael sylw blaenllaw wrth i ni symud ymlaen, ond, serch hynny, rhaid inni gydnabod na allwn atal llifogydd yn llwyr. Yn wir, ni fyddai'n briodol i adeiladu wal enfawr o amgylch arfordir Cymru gyfan, er enghraifft; credaf y byddem i gyd yn cytuno ar hynny. Mae'n ymwneud â deall ymhle mae'r perygl mwyaf, blaenoriaethu cynlluniau a gweithio gyda'n partneriaid lleol, Asiantaeth yr Amgylchedd ac eraill. Mae gennym i gyd gyfrifoldeb i weithio ar gynlluniau perygl llifogydd, ac mae'n rhaid inni eu cysylltu i gyd â’n cynllun cenedlaethol a lansiwyd ar ddiwedd 2011 a gwneud yn siŵr bod y cyfan wedi eu cyfuno'n briodol. Gyda'n gilydd, byddwn yn darganfod lle mae'r risg ar ei uchaf a lle mae angen i ni flaenoriaethu ein cynlluniau. Byddwn yn symud ymlaen yn yr ysbryd hwnnw. Mae'n bwysig ein bod yn denu buddsoddiad ychwanegol, a dyna lle mae angen i seilwaith—boed yn seilwaith rheilffyrdd, ffyrdd neu ddŵr Cymru—fod yn rhan o'r cynlluniau. Felly, rydym yn parhau â'n trafodaethau gyda'r rhai sy'n gyfrifol am y seilwaith hwnnw i weld sut y gallwn symud ymlaen gyda'n gilydd.

 

4.00 p.m.

 

Joyce Watson: This summer, in mid Wales, we saw the devastating impact that flood can have on a community. At that time, I went to see a new flood protection scheme in Cardigan. The Environment Agency, with Welsh Government funding, has delivered temporary flood barriers for at-risk properties to protect them from flooding from the Teifi and the sea. That is an excellent example of what can be achieved with committed investment. Over the period 2008-09 to 2014-15, Wales will benefit from over £100 million invested in flood and coastal erosion risk management infrastructure, supported by almost £50 million from the European regional development fund. Does the Minister agree that future budget provision must ensure Wales’s ability to match fund and access European funding for flood protection? We cannot control the weather and we cannot command the tide, but we can invest in infrastructure to protect families, businesses and communities and prepare for when flood does happen.

Joyce Watson: Yr haf hwn, yng nghanolbarth Cymru, gwelsom yr effaith ddinistriol y gall llifogydd ei chael ar y gymuned. Ar yr adeg honno, euthum i weld cynllun amddiffyn rhag llifogydd newydd yn Aberteifi. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, wedi cyflwyno rhwystrau dros dro rhag llifogydd ar gyfer eiddo sydd mewn perygl, i'w hamddiffyn rhag llifogydd o Afon Teifi a'r môr. Dyma enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni trwy ymrwymo buddsoddiad. Dros y cyfnod 2008-09 i 2014-15, bydd Cymru yn elwa ar fuddsoddiad o dros £100 miliwn mewn isadeiledd rheoli perygl llifogydd ac erydiad arfordirol, a gefnogwyd gan bron i £50 miliwn o gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod yn rhaid i’r ddarpariaeth yn y gyllideb yn y dyfodol sicrhau y bydd Cymru'n gallu darparu arian cyfatebol er mwyn manteisio ar gyllid Ewropeaidd ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd? Ni allwn reoli'r tywydd, ac ni allwn orchymyn y llanw, ond gallwn fuddsoddi mewn seilwaith i amddiffyn teuluoedd, busnesau a chymunedau a pharatoi ar gyfer adegau pan fydd llifogydd yn digwydd.

 

John Griffiths: I thank Joyce Watson for that example of investment being made and the effectiveness of the work. There are examples of it right across Wales. I have visited many of them and have been privileged to launch a number of new schemes. That investment continues and is an important part of the picture in terms of how we properly guard against the challenges and the risks involved. The £50 million from the European regional development fund is an important part of that picture and a necessary investment. A case will be made for future European funding for continued investment, recognising the protection that schemes provide for businesses and infrastructure as well as the generation of economic activity and job creation involved in carrying out the actual work.

John Griffiths: Diolch i Joyce Watson am yr enghraifft honno o fuddsoddiad sy’n cael ei wneud ac effeithiolrwydd y gwaith. Ceir enghreifftiau o’r fath ledled Cymru. Rwyf wedi ymweld â llawer ohonynt ac wedi cael y fraint o lansio nifer o gynlluniau newydd. Mae'r buddsoddiad hwnnw yn parhau ac mae'n rhan bwysig o'r darlun o ran sut yr ydym yn gwarchod yn briodol rhag yr heriau a'r peryglon dan sylw. Mae'r £50 miliwn o gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop yn rhan bwysig o'r darlun hwnnw, ac yn fuddsoddiad angenrheidiol. Bydd achos yn cael ei gyflwyno dros sicrhau cyllid Ewropeaidd yn y dyfodol ar gyfer buddsoddiad parhaus, gan gydnabod yr amddiffyniad y mae cynlluniau yn ei ddarparu ar gyfer busnesau a seilwaith yn ogystal â’r gweithgarwch economaidd a’r swyddi a grëir yn sgil gwneud y gwaith.

 

William Powell: I thank the Minister for his statement and welcome the Environment Agency Wales’s document on flood protection, which was published today. I also join the Minister and others in paying tribute to the lifesaving work undertaken by emergency services during the summer’s floods. Without their dedication, we can be sure that the cost of those floods would have been far greater than property damage alone. Minister, like you and other Members, I was also able to visit some of the sites of devastation at first hand last June—villages such as Dôl-y-bont, Tal-y-bont, Llanbadarn Fawr and Capel Bangor. However, several months have passed since those traumatic events, and it is clear that many of these communities have a long way to go to recover. Many residents are still trying to rebuild their lives and there are some who are still to receive compensation from their insurance companies. I am pleased to hear of the engagement that you have had with the insurance sector on this matter.

William Powell: Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac rwyf yn croesawu’r ddogfen a gyhoeddwyd heddiw gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ar amddiffyn rhag llifogydd. Rwyf hefyd yn ymuno â'r Gweinidog ac eraill i dalu teyrnged i'r gwaith a wnaed gan y gwasanaethau brys yn ystod llifogydd yr haf i achub bywydau. Heb eu hymroddiad, gallwn fod yn sicr y byddai cost y llifogydd hynny wedi bod yn uwch o lawer na difrod i eiddo yn unig. Weinidog, fel chithau ac Aelodau eraill, cefais innau gyfle hefyd i ymweld â rhai o'r safleoedd a ddinistriwyd fis Mehefin diwethaf—-pentrefi fel Dôl-y-bont, Tal-y-bont, Llanbadarn Fawr a Chapel Bangor. Fodd bynnag, mae misoedd lawer wedi mynd heibio ers y digwyddiadau trawmatig hynny, ac mae'n amlwg bod gan lawer o'r cymunedau hyn lawer o ffordd i fynd cyn dod atynt eu hunain. Mae llawer o drigolion yn dal i geisio ailadeiladu eu bywydau ac mae rhai sydd dal heb dderbyn iawndal gan eu cwmnïau yswiriant. Rwyf yn falch o glywed am yr ymgysylltiad yr ydych wedi ei gael gyda'r sector yswiriant ar y mater hwn.

 

Given the number of issues that have already been raised by colleagues, I will confine myself to a few brief questions. At the time of the summer 2012 floods, there was a lot of concern raised around the potential role of the controlled release of water from reservoirs. I read in the report today that the Cwm Ebol reservoir incident has been ruled as not having played a role in aggravating the flooding conditions. However, linked to that issue, given the number of ageing reservoirs that we have across Wales’s rivers and their ability to significantly contribute to short-term flow rates, if their structural integrity were to be compromised, what assessment have you and your officials made of their potential influence on increasing the severity of extreme flood events?

O ystyried nifer y materion y mae fy nghydweithwyr eisoes wedi eu codi, byddaf yn fy nghyfyngu fy hun i ychydig o gwestiynau byr. Ar adeg y llifogydd yn haf 2012, mynegwyd llawer o bryder ynghylch cyfraniad posibl y dŵr a ryddhawyd dan reolaeth o gronfeydd. Darllenais yn yr adroddiad heddiw y penderfynwyd nad oedd digwyddiad cronfa Cwm Ebol wedi cyfrannu at waethygu'r llifogydd. Fodd bynnag, yn gysylltiedig â'r mater hwnnw, o ystyried nifer y cronfeydd sy'n heneiddio ar draws afonydd Cymru a'u gallu i gyfrannu'n sylweddol at gyfraddau’r llif yn y tymor byr, pa asesiad yr ydych chi a'ch swyddogion wedi'i gynnal o'u dylanwad posibl ar gynyddu difrifoldeb digwyddiadau llifogydd eithafol pe byddai eu cadernid eu hadeiladwaith yn cael ei beryglu?

 

In recent months, we have also heard an increasing amount about the importance of dredging. While admitting that dredging is far from the be-all-and-end-all in solving the problem, to what extent have dredging plans been changed as a result of recent events? Last week, your colleague Carl Sargeant confirmed the Government’s willingness to collaborate with relevant local authorities to review the structural integrity of trunk-road bridges across affected watercourses. As you will be aware, a number of the key bridges that contributed to aspects of the floods this past summer were not on the main trunk roads—Dôl-y-bont is a good example. Given this, what steps are you willing to take to ensure that all such bridges are subject to regular review?

Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym hefyd wedi clywed mwy a mwy am bwysigrwydd carthu. Er fy mod yn cyfaddef na fydd carthu, yn sicr, yn datrys y broblem ar ei ben ei hun, i ba raddau y newidiwyd cynlluniau carthu o ganlyniad i ddigwyddiadau diweddar? Yr wythnos ddiwethaf, cadarnhaodd eich cydweithiwr Carl Sargeant barodrwydd y Llywodraeth i gydweithio ag awdurdodau lleol perthnasol i adolygu cadernid adeiladwaith pontydd cefnffyrdd ar draws cyrsiau dŵr yr effeithir arnynt. Fel y gwyddoch, nid oedd nifer o'r pontydd allweddol a gyfrannodd at agweddau ar y llifogydd yr haf diwethaf ar y prif gefnffyrdd—mae Dôl-y-bont yn enghraifft dda. O ystyried hyn, pa gamau yr ydych chi'n fodlon eu cymryd i sicrhau bod yr holl bontydd o’r fath yn cael eu hadolygu’n rheolaidd?

 

John Griffiths: I thank William Powell for those comments and questions. First of all, it is vitally important to go to affected areas to see at first hand what the consequence of flooding is and to hear from communities affected, not just in terms of the impact on them—important though that is—but for their views on how the flooding developed and what might best be done to prevent it in future. It comes back to an earlier question, and the answer that I gave regarding that local intelligence and circumstances being so important to our understanding, which should be factored in to plans and assessments. I heard at first hand from residents who were over 80 years of age that they had never seen flooding of that nature in their areas during their lifetimes, and they had lived in the areas concerned all of their lives. It starkly illustrates the challenges that we face.

John Griffiths: Diolch i William Powell am y sylwadau a’r cwestiynau. Yn gyntaf oll, mae'n hanfodol bwysig mynd i’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt i weld canlyniad y llifogydd yn uniongyrchol ac i glywed gan gymunedau yr effeithir arnynt, nid yn unig o ran yr effaith arnynt hwy—er mor bwysig yw hynny—ond hefyd i gael eu barn am sut y datblygodd y llifogydd a'r ffordd orau i’w hatal yn y dyfodol. Mae'n dod â ni’n ôl at gwestiwn cynharach, a'r ateb a roddais ynghylch y ffaith fod gwybodaeth ac amgylchiadau lleol mor bwysig i'n dealltwriaeth, ac y dylid ystyried hynny yn ein cynlluniau a’n hasesiadau. Clywais yn uniongyrchol gan drigolion a oedd dros 80 mlwydd oed nad oeddent erioed wedi gweld llifogydd o'r natur honno yn eu hardaloedd yn ystod eu hoes, a'u bod wedi byw yn yr ardaloedd dan sylw ar hyd eu hoes. Mae'n dangos yn glir yr heriau sy'n ein hwynebu.

 

It is important that there is ongoing support for communities. I mentioned in my opening remarks that we commissioned research to look at how we develop support services for communities on that longer-term basis. The final report coming out of that research will be published at the end of this month.

Mae'n bwysig sicrhau bod cefnogaeth barhaus ar gael i gymunedau. Soniais yn fy sylwadau agoriadol ein bod wedi comisiynu gwaith ymchwil i ystyried sut y dylem ddatblygu gwasanaethau cymorth i gymunedau yn y tymor hwy. Cyhoeddir yr adroddiad terfynol yn deillio o'r ymchwil hwnnw ddiwedd y mis hwn.

 

Reservoirs are a significant part of concerns and planning around flood risk. We work with the UK Government and DEFRA to understand the factors involved in reservoirs in Wales. We have been in discussion with DEFRA so that we can have a consistent approach across the border, where possible. I know that officials have also been working closely with the Environment Agency as it looks to develop a methodology to identify and classify reservoirs that pose a high risk. That is in the context of the Flood and Water Management Act 2010 and the enactment of further parts of that legislation. From April of next year, we will be into phase 1 of that work, and I think that that will be a significant development as far as reservoirs are concerned.

Mae cronfeydd dŵr yn rhan sylweddol o’r pryderon a’r gwaith cynllunio ym maes perygl llifogydd. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a DEFRA i ddeall y ffactorau sy'n ymwneud â chronfeydd dŵr yng Nghymru. Rydym wedi bod mewn trafodaethau gyda DEFRA er mwyn sefydlu dull gwaith cyson ar draws y ffin, lle bo modd. Gwn fod swyddogion hefyd wedi bod yn gweithio'n agos ag Asiantaeth yr Amgylchedd wrth iddi geisio datblygu methodoleg i nodi a dosbarthu cronfeydd sy'n peri risg uchel. Gwneir hynny yng nghyd-destun Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a deddfiad rhannau ychwanegol o'r ddeddfwriaeth honno. Byddwn yng ngham 1 o'r gwaith hwnnw o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, a chredaf y bydd hynny'n ddatblygiad sylweddol o safbwynt cronfeydd.

 

Finally, I will work with Carl Sargeant, the Minister with responsibility for local government and transport, to look at some of the issues around roads and bridges.

Yn olaf, byddaf yn gweithio gyda Carl Sargeant, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros lywodraeth leol a thrafnidiaeth, i edrych ar rai o'r materion sy'n ymwneud â ffyrdd a phontydd.

The Record

Elin Jones: Diolch, Weinidog, am y datganiad, ac am y gydnabyddiaeth o’r effaith gwbl ddinistriol y mae llifogydd yn gallu eu cael ar gartrefi a busnesau. Mae nifer o’m hetholwyr dal heb ddychwelyd i’w cartrefi hyn yn oed yn awr, a hithau’n fis Hydref, ac yn dal at y gobaith y byddant yn gallu dychwelyd yr ochr hon i’r Nadolig.

Elin Jones: Thank you, Minister, for the statement, and for recognising how wholly destructive floods can be in homes and businesses. A number of my constituents are still to return to their homes, even though it is now October, and they cling to the hope that they will be able to return this side of Christmas.

Yr wythnos hon, mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnal cyfarfodydd mewn pentrefi o gwmpas Aberystwyth yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd ym mis Mehefin, i drafod sut y maent yn bwriadu gwarchod cartrefi a busnesau yn y dyfodol. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd a’r cyngor sir i’w canmol am eu trafodaethau â’r bobl leol i ddysgu’r gwersi o’r llifogydd ym mis Mai. Fodd bynnag, mae wedi dod yn amlwg i mi fod Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn fwy cyndyn i gydweithio ac i gymeradwyo rhai o’r mesurau diogelwch mae Asiantaeth yr Amgylchedd neu’r cyngor sir, neu’r bobl leol, am eu gweld er mwyn diogelu cartrefi ac eiddo i’r dyfodol. A wnewch chi, felly, Weinidog, sicrhau bod y cyngor cefn gwlad yn cydweithio ag Asiantaeth yr Amgylchedd a’r cyngor sir i sicrhau bod cymunedau yn fy etholaeth i ac mewn etholaethau eraill yn cael eu gwarchod a’u diogelu rhag llifogydd yn y dyfodol, gan gofio y bydd y cyngor cefn gwlad yn uno ag Asiantaeth yr Amgylchedd yn y misoedd nesaf? Rydym eisiau gweld cydweithio yn hytrach na chodi rhwystrau.

This week, the Environment Agency is holding meetings in villages around Aberystwyth that were affected by the floods in June, to discuss how they intend to safeguard their homes and businesses in the future. The Environment Agency and the county council are to be praised for their discussions with local people to learn the lessons of May’s flooding. However, it has become clear to me that the Countryside Council for Wales is more unwilling to co-operate and to approve some of the safety measures that the Environment Agency or the county council, or local people, want to see in order to protect homes and property for the future. Will you, therefore, Minister, ensure that the countryside council works with the Environment Agency and the county council to ensure that communities in my constituency and in other constituencies are protected against flooding in the future, bearing in mind that the countryside council will soon merge with the Environment Agency? We want co-operation rather than obstructions being raised.

The Record

John Griffiths: It is important that we understand the impact, and when we hear from Members that constituents of theirs are still not back in their homes, several months after the flooding incidents, it starkly illustrates the impact on those people and communities. I hope very much that they will be in their homes by Christmas, if not well before.

John Griffiths: Mae'n bwysig ein bod yn deall yr effaith, a phan fyddwn yn clywed gan Aelodau nad yw rhai o’u hetholwyr yn ôl yn eu cartrefi o hyd, sawl mis ar ôl y llifogydd, mae'n dangos yn glir yr effaith ar y bobl hynny a'r cymunedau. Gobeithiaf yn fawr iawn y byddant yn eu cartrefi erbyn y Nadolig, os nad ymhell cyn hynny.

 

As I said earlier, the Environment Agency has done much good work in terms of community engagement, with local authorities also playing a part. That is absolutely right, and it is encouraging for all of us that there is that degree of engagement and working together. If there is any perception that the Countryside Council for Wales or any other organisation might do more to understand flood risk or to help meet the challenges involved, I would be keen to make sure that that happens. We have the single body coming into being in April next year, and I have been clear that dealing with flood risk is a top priority for me as Minister. I would also expect it to be a top priority for the single body. There must not be any diminution in quality of service in the transitional period as we move towards April next year. I have been clear about that, and I would like to hear from any Assembly Member if they think that there is any lack of priority within any organisation with a key role to play in these matters.

Fel y dywedais yn gynharach, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi gwneud llawer o waith da o ran ymgysylltu â chymunedau, gydag awdurdodau lleol hefyd yn chwarae rhan. Dyma fel y dylai fod, ac mae'n galonogol i bob un ohonom y ceir y raddfa honno o ymgysylltu a chydweithio. Os oes unrhyw ganfyddiad y gallai Cyngor Cefn Gwlad Cymru neu unrhyw sefydliad arall wneud mwy i ddeall y perygl o lifogydd neu i gynorthwyo i ymateb i'r heriau yr ydym yn eu hwynebu, byddwn yn awyddus i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd. Mae’r un corff yn dod i fodolaeth ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, ac rwyf wedi nodi’n eglur bod ymdrin â’r perygl o lifogydd yn flaenoriaeth uchel i mi fel Gweinidog. Byddwn hefyd yn disgwyl iddo fod yn flaenoriaeth uchel i’r corff newydd. Rhaid i ni beidio â gweld ansawdd y gwasanaeth yn gostwng yn ystod y cyfnod trosiannol wrth i ni symud tuag at fis Ebrill y flwyddyn nesaf. Rwyf wedi nodi hynny’n eglur, a hoffwn glywed oddi wrth unrhyw Aelod o'r Cynulliad os ydynt yn credu y ceir unrhyw ddiffyg blaenoriaeth o fewn unrhyw sefydliad sydd â rhan allweddol i'w chwarae yn y materion hyn.

 

Darren Millar: Thank you for your statement, Minister. I appreciated the opportunity to have a look at the Environment Agency Wales report into the floods of earlier this year. I thought that the recommendations in it were excellent. I recognise the effort that is being made by the Welsh Government, including in my own constituency, where we recently attended the unveiling of a plaque to commemorate the new flood defences on the River Gele in Abergele. I welcome any investment that is going to reduce flood risk for my constituents. However, I am a little concerned that some of the issues have not been fully addressed by the Environment Agency report, particularly in terms of caravan parks and mobile homes. You will know, Minister, that I have raised concerns about this situation in my constituency, whereby a number of caravan parks are seeking to change their status to park homes, which would make them permanent residential sites in a prime flood-risk area in Towyn, which was devastated by floods in 1990. It is a growing trend, and there needs to be clear planning and licensing guidance for local authorities to follow.

Darren Millar: Diolch am eich datganiad, Weinidog. Gwerthfawrogais y cyfle i gael golwg ar adroddiad Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru am y llifogydd yn gynharach eleni. Roedd yr argymhellion ynddo yn ardderchog, yn fy marn i. Rwyf yn cydnabod yr ymdrech sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys yn fy etholaeth i, lle buom i weld dadorchuddio plac yn ddiweddar i goffáu'r amddiffynfeydd newydd rhag llifogydd ar yr Afon Gele yn Abergele. Rwyf yn croesawu unrhyw fuddsoddiad a fydd yn lleihau'r perygl o lifogydd ar gyfer fy etholwyr. Fodd bynnag, rwyf braidd yn bryderus nad yw rhai o'r materion wedi cael sylw llawn yn adroddiad Asiantaeth yr Amgylchedd, yn enwedig o ran meysydd carafannau a chartrefi symudol. Byddwch yn gwybod, Weinidog, fy mod wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r sefyllfa yn fy etholaeth, lle y mae nifer o feysydd carafannau yn ceisio newid eu statws i gartrefi mewn parciau, a fyddai'n eu gwneud yn safleoedd preswyl parhaol mewn ardal yn Nhywyn sydd â pherygl uchel o lifogydd—ardal a gafodd ei dinistrio gan lifogydd ym 1990. Mae'n duedd gynyddol, ac mae angen canllawiau cynllunio a thrwyddedu clir i awdurdodau lleol eu dilyn.

 

On the subject of flood alerts for local communities, I live in an area that is at risk of flooding. The River Gele was subject to a red alert earlier this year. I have registered for the Environment Agency’s flood alert, but did not receive one. What is the process for triggering a more widespread communication with individual households when there is a flood risk situation?

O ran rhybuddion llifogydd ar gyfer cymunedau lleol, rwyf yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd. Roedd yr Afon Gele yn destun rhybudd coch yn gynharach eleni. Rwyf wedi cofrestru ar gyfer rhybudd llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd, ond ni dderbyniais un. Beth yw'r broses ar gyfer sbarduno cyfathrebu mwy eang ag aelwydydd unigol pan fo perygl o lifogydd?

 

Finally, I know that this is relatively new news, but there has been a Wales Audit Office report into the Caldicot and Wentlooge Levels Internal Drainage Board. Do you have anything to say about that, particularly in terms of the governance of that organisation in the future and whether there may be an opportunity with some of the changes that you are embarking upon with other environmental bodies to include them, somehow, within the scope of those changes.

Yn olaf, rwyf yn gwybod bod hyn yn newyddion cymharol newydd, ond mae adroddiad wedi ei gyhoeddi gan Swyddfa Archwilio Cymru am Fwrdd Draenio Mewnol Morfa Gwent a Gwynllwg. A oes gennych unrhyw beth i'w ddweud ynglŷn â hynny, yn enwedig o ran llywodraethu’r sefydliad hwnnw yn y dyfodol a pha un a all fod cyfle i’w gynnwys, rywsut neu'i gilydd, o fewn cwmpas rhai o'r newidiadau yr ydych yn eu cyflwyno gyda chyrff amgylcheddol eraill?

 

4.15 p.m.

 

John Griffiths: In terms of the Environment Agency report on the lessons that have been learned and the recommendations, the Welsh Government will want to work with it to take that work forward and understand how we can work together and with other partners to ensure that we address the lessons to be learned for the future.

John Griffiths: O ran adroddiad Asiantaeth yr Amgylchedd am y gwersi a ddysgwyd a’r argymhellion, bydd Llywodraeth Cymru yn awyddus i weithio â’r sefydliad i ddatblygu'r gwaith hwnnw ac i ddeall sut y gallwn weithio gyda'n gilydd a chyda phartneriaid eraill er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r gwersi i'w dysgu ar gyfer y dyfodol.

 

I was very pleased to join you in Abergele and look at the new flood defences, which will provide badly needed protection for the local community and businesses and infrastructure. As I said earlier, it is very good to get around Wales and see the results of the ongoing investment.

Roeddwn yn falch iawn i ymuno â chi yn Abergele i edrych ar yr amddiffynfeydd rhag llifogydd newydd, a fydd yn darparu amddiffyniad y mae gwir ei angen ar gyfer busnesau a’r gymuned leol a seilwaith. Fel y dywedais yn gynharach, mae'n beth da iawn i deithio o gwmpas Cymru a gweld canlyniadau'r buddsoddiad parhaus.

 

On caravan parks, yes, there are major issues here and that was a significant part of the June flooding. Having seen caravans being lifted and moved around, and to think of children and elderly people holidaying there, it is pretty obvious that we need to give a great deal of attention to those parks. As with development in Wales in general, there are many caravan parks in place and, as they say, we are where we are with that. However, that is not to say that we cannot work with those who have responsibility for those parks to look at how we can best guard against flood risk and take steps to deal with the challenges involved. We also have to ensure that, for future developments, we have the appropriate planning policies in place. There are also licensing issues that would involve Ministers other than me.

O ran meysydd carafannau, oes, mae materion o bwys yma ac roedd hynny’n rhan sylweddol o'r llifogydd ym mis Mehefin. Ar ôl gweld carafannau’n cael eu codi a'u symud o gwmpas, ac wrth feddwl bod plant a phobl oedrannus ar eu gwyliau yno, mae'n eithaf amlwg bod angen i ni roi llawer o sylw i’r meysydd carafannau hynny. Fel yn achos datblygiad yng Nghymru yn gyffredinol, mae gennym lawer o feysydd carafannau, ac, fel maen nhw'n dweud, dyna’r sefyllfa sydd ohoni. Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu na allwn weithio gyda'r rhai sy’n gyfrifol am y parciau i ystyried y ffordd orau o warchod rhag y perygl o lifogydd a chymryd camau i ymdrin â'r heriau sydd ynghlwm â hynny. Mae’n rhaid i ni sicrhau hefyd, ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol, bod y polisïau cynllunio priodol wedi’u sefydlu. Ceir materion trwyddedu hefyd a fyddai'n ymwneud â Gweinidogion eraill ar wahân i mi.

 

I am sorry that you did not receive the flood alert that you should have received; I am sure that it was not done deliberately by the Environment Agency. I will ask the Environment Agency to get in touch with you to address how that happened and ways of making sure that it does not happen again in future.

Mae'n ddrwg gennyf na wnaethoch dderbyn y rhybudd llifogydd y dylech fod wedi ei dderbyn; rwyf yn siŵr na wnaed hyn yn fwriadol gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Byddaf yn gofyn i Asiantaeth yr Amgylchedd gysylltu â chi i drafod sut y digwyddodd hynny a sut i wneud yn siŵr nad yw'n digwydd eto yn y dyfodol.

 

On the Caldicot and Wentlooge Levels Internal Drainage Board, obviously, I know that at least some Members will have read the Wales Audit Office report. The Welsh Government is not a core funder of the board, which is an autonomous public body, of course. However, it is clear from the report that what we have seen is an unacceptable use of public funds and the report raises very considerable concerns. Therefore, I will be looking into this and I will make a further statement shortly.

O ran Bwrdd Draenio Mewnol Morfa Gwent a Gwynllwg, yn amlwg, rwyf yn gwybod y bydd o leiaf rai Aelodau wedi darllen adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Nid yw Llywodraeth Cymru yn un o gyllidwyr craidd y bwrdd, sy'n gorff cyhoeddus annibynnol, wrth gwrs. Fodd bynnag, mae'n amlwg o'r adroddiad bod yr hyn yr ydym wedi ei weld yn ddefnydd annerbyniol o arian cyhoeddus ac mae'r adroddiad yn codi pryderon sylweddol iawn. Felly, byddaf yn ymchwilio i hyn a byddaf yn gwneud datganiad pellach yn fuan.

 

Rebecca Evans: Thank you, Minister, for your statement today. I echo all of the praise that you have given to the emergency and rescue services and also the spirit of the community affected. I do not want to repeat things that other Members have said, but I will join Elin Jones in asking you and the local agencies to do everything that you can to ensure that the remaining families are back home as soon as possible. I think that 15 households are waiting to return home.

Rebecca Evans: Diolch ichi, Weinidog, am eich datganiad heddiw. Ategaf yr holl ganmoliaeth yr ydych wedi'i roi i'r gwasanaethau brys ac achub, ac i ysbryd y gymuned yr effeithiwyd arni. Nid wyf am ailadrodd pethau y mae Aelodau eraill wedi'i ddweud, ond rwyf am ymuno ag Elin Jones i ofyn i chi a'r asiantaethau lleol wneud popeth a allwch i sicrhau bod y teuluoedd sy'n weddill yn ôl yn eu cartrefi cyn gynted ag y bo modd. Credaf fod 15 o gartrefi yn aros i ddychwelyd gartref.

 

I particularly welcome your recent engagement, Minister, with the Association of British Insurers. I ask you to provide us with an update on that in due course. I was pleased to learn this week that a £3.5 million refurbishment of Cambrian Printers has just been completed, and the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science visited this important local employer to see how it has recovered from the floods and to praise its resilience. What discussions have you had with your Government colleagues regarding the impact of flooding on local businesses and the local economy in Ceredigion? What kind of support has the Welsh Government been able to give?

Croesawaf yn arbennig eich cysylltiad diweddar, Weinidog, gyda Chymdeithas Yswirwyr Prydain. Gofynnaf i chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am hynny maes o law. Roeddwn yn falch o glywed yr wythnos hon bod y gwaith adnewyddu gwerth £3.5 miliwn ar safle Argraffwyr Cambrian newydd ei gwblhau,  a bod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth wedi ymweld â’r cyflogwr lleol pwysig hwn i weld sut y mae wedi dod ato’i hun ar ôl y llifogydd ac i ganmol ei ddyfalbarhad. Pa drafodaethau yr ydych wedi'u cael gyda'ch cydweithwyr yn y Llywodraeth am effaith y llifogydd ar fusnesau lleol a'r economi leol yng Ngheredigion? Pa fath o gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ei rhoi?

 

Finally, Minister, over £100,000 has been donated to the fund set up to help the people affected by the flooding in Ceredigion. Will you join me in recognising the generosity of people who have contributed to help those who were affected by the floods?

Yn olaf, Weinidog, mae dros £100,000 wedi cael ei roi i'r gronfa a sefydlwyd i gynorthwyo’r bobl yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd yng Ngheredigion. A wnewch chi ymuno â mi i gydnabod haelioni’r bobl sydd wedi cyfrannu at gynorthwyo'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd?

 

John Griffiths: I thank Rebecca Evans for that contribution. Everything that can be done to get families home as quickly as possible will be done. After this statement, I will follow up the issues raised by Members today, just to reinforce what is an obvious need to ensure that that happens as quickly as possible. In due course, I look forward to giving Members an update on discussions with the Association of British Insurers. It is important that we get a successor to the statement of principles with regard to the provision of cover at an affordable rate for those in high-risk flood areas. We are working with the UK Government and other devolved administrations on those matters. I had a meeting with the ABI last week, and I emphasised the Welsh Government’s expectation that affordable cover will remain available to communities in high-risk areas following the expiry of the current statement of principles. However, there will be a need to update Members as we move forward with those discussions.

John Griffiths: Diolch i Rebecca Evans am y cyfraniad hwnnw. Bydd popeth y gellir ei wneud i gael teuluoedd gartref cyn gynted ag y bo modd yn cael ei wneud. Ar ôl y datganiad hwn, byddaf yn mynd ar drywydd y materion a godwyd gan Aelodau heddiw, dim ond i bwysleisio’r hyn y mae yn amlwg ei angen, sef sicrhau bod hynny'n digwydd cyn gynted ag y bo modd. Maes o law, rwy'n edrych ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am fy nhrafodaethau gyda Chymdeithas Yswirwyr Prydain. Mae'n bwysig ein bod yn cael olynydd i'r datganiad o egwyddorion mewn cysylltiad â darparu yswiriant fforddiadwy i bobl mewn ardaloedd â pherygl uchel o lifogydd. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ar y materion hynny. Cefais gyfarfod â Chymdeithas Yswirwyr Prydain yr wythnos ddiwethaf, a phwysleisiais fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd yswiriant fforddiadwy yn parhau i fod ar gael i gymunedau mewn ardaloedd risg uchel ar ôl i’r datganiad cyfredol o egwyddorion ddirwyn i ben. Fodd bynnag, bydd angen rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau wrth inni symud ymlaen â'r trafodaethau hynny.

 

I think that I have been clear in saying that, as a Welsh Government, we prioritise the need to protect businesses and infrastructure, as well as homes and communities, with regard to flood risk. Flooding has a major impact on the economy because it puts businesses out of operation and it damages the infrastructure that businesses rely upon. So, we do understand that. I work with colleagues, such as the Minister for business and Alun Davies, as the Deputy Minister with responsibility for European funding, to look at those economic issues and the need to ensure that flood protection is at the top of our agendas as we go forward. Carl Sargeant, as the Minister for local government, is responsible for a fund that is available when flooding in an area gets to a certain level of severity in terms of its impact and consequences. That is available to deal with flooding of that magnitude.

Rwyf yn meddwl imi nodi’n eglur ein bod ni, fel Llywodraeth Cymru, yn blaenoriaethu'r angen i ddiogelu busnesau a seilwaith, yn ogystal â chartrefi a chymunedau, o safbwynt peryglon llifogydd. Mae llifogydd yn cael effaith fawr ar yr economi oherwydd eu bod yn rhwystro busnesau rhag gweithredu ac yn difrodi’r seilwaith y mae busnesau yn dibynnu arno. Felly, rydym yn deall hynny. Rwyf yn gweithio gyda chydweithwyr, fel y Gweinidog Busnes ac Alun Davies, y Dirprwy Weinidog sydd â chyfrifoldeb am gyllid Ewropeaidd, i edrych ar y materion economaidd hynny a'r angen i sicrhau bod amddiffyn rhag llifogydd ar frig ein hagendâu wrth inni symud ymlaen. Mae Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol, yn gyfrifol am gronfa sydd ar gael pan fo effaith a chanlyniadau llifogydd mewn ardal yn cyrraedd lefel benodol o ddifrifoldeb. Mae’r gronfa honno ar gael i ymdrin â llifogydd o'r maint hwn.

 

I would join the Member in paying tribute to the generosity of people and organisations across Wales in contributing to the fund that was made available for the consequences of the June flooding. It is another example of that great community spirit that we have in Wales, that spirit of collectivism and looking after each other. Long may it continue.

Byddwn yn ymuno â'r Aelod i dalu teyrnged i haelioni pobl a sefydliadau ledled Cymru a gyfrannodd at y gronfa a sefydlwyd tuag at ganlyniadau llifogydd mis Mehefin. Dyma enghraifft arall o'r ysbryd cymunedol gwych sydd gennym yng Nghymru, yr ysbryd hwnnw o gyfunoliaeth ac o ofalu amdanom ei gilydd. Hir y parhaed.

 

Janet Finch-Saunders: I would like to endorse the sentiments expressed in welcoming this statement and in relation to the first responders and emergency services that had to work so hard during the devastating floods in west Wales earlier this year. I welcome the Environment Agency’s report and the 11 recommendations. I note, on page 2, that you mention that you are investing £140 million in reducing flood and coastal erosion, reducing the risk for over 7,000 properties across Wales. I wonder what the geographical distribution of that fund will be and what help will it provide. Previously, I have raised concerns about the £30 million cut to expenditure on flood and coastal erosion, but I would now like to welcome the additional £10 million to support vital flood and coastal defence improvements across Wales that has been allocated in the draft budget.

Janet Finch-Saunders: Hoffwn gefnogi'r sylwadau a wnaed i groesawu'r datganiad hwn ac ynglŷn â'r ymatebwyr cyntaf a’r gwasanaethau brys y bu raid iddynt weithio mor galed yn ystod y llifogydd dinistriol yng ngorllewin Cymru yn gynharach eleni. Rwyf yn croesawu adroddiad Asiantaeth yr Amgylchedd a'r 11 o argymhellion. Sylwaf, ar dudalen 2, y nodir eich bod yn buddsoddi £140 miliwn er mwyn lleihau llifogydd ac erydiad arfordirol, gan leihau'r perygl ar gyfer dros 7,000 eiddo ledled Cymru. Tybed beth fydd dosbarthiad daearyddol y cyllid hwnnw a pha gymorth y bydd yn ei ddarparu. Yn flaenorol, rwyf wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r £30 miliwn a dorrwyd oddi ar wariant ar lifogydd ac erydiad yr arfordir, ond byddwn yn awr yn hoffi croesawu'r swm ychwanegol o £10 miliwn a ddyrannwyd yn y gyllideb ddrafft i gefnogi gwelliannau hanfodol i amddiffyn rhag llifogydd ac amddiffyn yr arfordir ledled Cymru.

 

With regard to flood defences in my constituency, I was shocked to learn recently, as were the residents, that I now have some properties that are facing a one in 10-year flood risk status. I would like to welcome you, Minister, if the opportunity should arise, to Aberconwy, because I think that it would be an interesting visit for you and it would certainly be of benefit to our residents.

O ran amddiffynfeydd rhag llifogydd yn fy etholaeth i, roeddwn yn synnu o glywed yn ddiweddar, fel yr oedd y trigolion, bod gennyf bellach rywfaint o eiddo sydd â statws perygl llifogydd un ym mhob 10 mlynedd. Hoffwn eich croesawu i Aberconwy, Weinidog, pe bai'r cyfle'n codi, oherwydd y credaf y byddai'n ymweliad diddorol i chi. Byddai'n sicr o fudd i'n trigolion.

 

What assessment has been made of the preparedness of local authorities in meeting the challenges of flood defences across Wales? How confident are you that the areas that are most at risk of flooding are being prioritised? I ask that question because I know that, when it comes to light that a particular area is of concern, it goes on a list of priorities. Who determines at what point on that list an area will be placed? How do you aim to achieve a completely joined-up approach between the Welsh Government, local authorities and the Environment Agency for Wales, especially with regard to the work of the local resilience forum?

Pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o barodrwydd awdurdodau lleol i wynebu heriau amddiffyn rhag llifogydd ledled Cymru? Pa mor hyderus ydych chi y rhoddir blaenoriaeth i’r ardaloedd hynny sydd yn y perygl mwyaf o ddioddef llifogydd? Gofynnaf y cwestiwn hwnnw oherwydd fy mod yn gwybod y rhoddir ardal ar restr o flaenoriaethau, pan fydd yn dod i'r amlwg ei bod yn destun pryder. Pwy sy'n penderfynu ar ba bwynt ar y rhestr y bydd ardal yn cael ei rhoi? Sut yr ydych chi'n ceisio cyflawni dull gwaith cwbl gydgysylltiedig rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, yn enwedig o safbwynt gwaith y fforwm lleol Cymru gydnerth?

 

John Griffiths: I think it is important that we address flood risk across the length and breadth of Wales and, obviously, that is what we seek to do. There has been investment across the length and breadth of Wales and that will continue. It is about prioritising, and that is why we work with local authorities, the Environment Agency and other key partners so that we can jointly work up an understanding of the risks that are faced and where investment needs to be prioritised. So, it is about joining up those local flood risk strategies with the Environment Agency’s plans, the catchment plans and our national strategy, which is the overarching framework within which it all fits. In moving forward jointly, we can prioritise areas for investment and look to lever in further investment, as discussed earlier. That must be the right way ahead.

John Griffiths: Credaf ei bod yn bwysig inni fynd i'r afael â pherygl llifogydd ar hyd a lled Cymru ac, yn amlwg, dyna'r hyn yr ydym yn ceisio'i wneud. Cafwyd buddsoddiad ar hyd a lled Cymru a bydd hynny'n parhau. Mae'n fater o flaenoriaethu, a dyna pam rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, Asiantaeth yr Amgylchedd a phartneriaid allweddol eraill fel y gallwn weithio ar y cyd i ddatblygu dealltwriaeth o'r peryglon a wynebir a lle mae angen blaenoriaethu buddsoddiad. Felly, mae'n fater o gydgysylltu’r strategaethau lleol hynny ar gyfer y perygl o lifogydd gyda chynlluniau Asiantaeth yr Amgylchedd, y cynlluniau dalgylch, a’n strategaeth genedlaethol ni, sef y fframwaith cyffredinol sy’n cwmpasu’r cyfan i gyd. Wrth symud ymlaen ar y cyd, gallwn flaenoriaethu meysydd ar gyfer buddsoddi a cheisio denu rhagor o fuddsoddiad, fel y trafodwyd yn gynharach. Rhaid mai dyna’r ffordd gywir o symud ymlaen.

 

As for visiting Aberconwy, I would be pleased to do so to discuss these issues, and possibly others. We will look to programme that into future visits across Wales.

O ran ymweld ag Aberconwy, byddwn yn falch o wneud hynny i drafod y materion hyn, a materion eraill o bosibl. Byddwn yn ceisio cynnwys hynny yn y rhaglen o ymweliadau yn y dyfodol ar draws Cymru.

Datganiad: Blwyddyn ers Cyflwyno’r Tâl am Fagiau Siopa
Statement: First Anniversary of the Carrier Bag Levy

The Record

The Minister for Environment and Sustainable Development (John Griffiths): It has now been one year since the introduction of our 5p single-use carrier bag charge, and it has made a real difference to the shopping habits of people in Wales.

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (John Griffiths): Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers cyflwyno ein tâl o 5c am fagiau siopa untro, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i arferion siopa pobl Cymru.

 

Single-use carrier bags represent a symbol of our throwaway society and are an environmental problem the world over. Our 5p charge addresses the problem of countless bags littering our streets, countryside and coast and the waste of resources in producing many thousands of bags, used only once, before being thrown away. It also encourages people to act in a more environmentally friendly and sustainable way in general.  

Mae bagiau siopa untro yn symbol o'n cymdeithas wastraffus ac maent yn broblem amgylcheddol ledled y byd. Mae ein tâl o 5c yn mynd i'r afael â phroblem y bagiau di-rif sy’n creu sbwriel ar hyd ein strydoedd a’r arfodir ac yng nghefn gwlad, a’r adnoddau sy’n cael eu gwastraffu yn sgil cynhyrchu miloedd o fagiau a ddefnyddir unwaith yn unig cyn eu taflu. Mae hefyd yn annog pobl i weithredu mewn ffordd fwy amgylcheddol gyfeillgar a chynaliadwy yn gyffredinol. 

 

Before the introduction of the charge, we took home an estimated 350 million carrier bags from the major supermarkets alone, equivalent to 273 bags per household in Wales.  However, this figure under-represented the full picture, since it did not include the millions of bags given out on the high street, at corner shops and all other retail outlets. Since the charge, carrier bag use in Wales has reduced by as much as 96% in some retail sectors. Figures released by WRAP showed significant reductions in Wales during 2011, while the rest of the UK saw numbers stay the same or rise.

Cyn cyflwyno'r tâl, roeddem yn mynd ag oddeutu 350 miliwn o fagiau plastig gartref o’r prif archfarchnadoedd yn unig, sy'n cyfateb i 273 o fagiau i bob aelwyd yng Nghymru.  Fodd bynnag, nid oedd y ffigur hwn yn cyfleu’r darlun cyflawn, gan nad oedd yn cynnwys y miliynau o fagiau a ddosberthid ar y stryd fawr, mewn siopau cornel a phob safle manwerthu arall. Ers y tâl, mae’r defnydd o fagiau siopa yng Nghymru wedi gostwng gymaint â 96% mewn rhai sectorau manwerthu. Mae ffigurau a ryddhawyd gan WRAP yn dangos gostyngiadau sylweddol yng Nghymru yn ystod 2011, tra bod y niferoedd yng ngweddill y DU wedi aros yr un fath neu wedi cynyddu.

 

We want people to get into the habit of reusing their bags whenever they go shopping, and the reductions in numbers suggest that this is happening. However, it is important to understand how the general public is adapting to this change. That is why we commissioned research to gather data on the public’s behaviour and attitudes. The findings are encouraging and suggest that the charge is effective and popular, with more than 70% of people in Wales in support.

Rydym am i bobl fynd i'r arfer o ailddefnyddio eu bagiau pryd bynnag y maent yn mynd i siopa, ac mae'r gostyngiadau yn y niferoedd yn awgrymu bod hyn yn digwydd. Fodd bynnag, mae'n bwysig deall sut mae'r cyhoedd yn gyffredinol yn addasu i'r newid hwn. Dyna pam rydym wedi comisiynu ymchwil i gasglu data ar ymddygiad ac agweddau’r cyhoedd. Mae'r canfyddiadau hyn yn galonogol ac yn awgrymu bod y tâl yn effeithiol ac yn boblogaidd, gyda mwy na 70% o bobl Cymru yn ei gefnogi.

 

There is also a lot of widespread support for the use of the net proceeds of the charge for good causes. I have stated my aim for environmental good causes in Wales to benefit, so I have developed a voluntary agreement for retailers to sign up to and to specify their nominated good causes. This has resulted in more money for charities and not-for-profit organisations as retailers pass on proceeds from the charge to their chosen charities.

Ceir hefyd gefnogaeth eang i’r defnydd o enillion net y tâl at achosion da. Rwyf wedi datgan fy nod y dylai achosion da amgylcheddol yng Nghymru elwa, felly rwyf wedi datblygu cytundeb gwirfoddol i fanwerthwyr ei lofnodi gan enwebu achosion da penodol. Mae hyn wedi arwain at roi mwy o arian i elusennau a sefydliadau di-elw wrth i fanwerthwyr drosglwyddo enillion o'r tâl i'r elusennau y maent wedi eu dewis.

 

The latest figures from the Royal Society for the Protection of Birds and Keep Wales Tidy show that, collectively, they have already received more than £800,000 in donations as a direct result of the charge. This money has come from the proceeds of bag sales at major retailers including Tesco, McDonald’s, Argos, Asda and Wilkinson. RSPB and Keep Wales Tidy are just two of the many good causes to benefit.

Mae'r ffigurau diweddaraf gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar a Cadwch Gymru'n Daclus yn dangos eu bod, gyda'i gilydd, eisoes wedi derbyn dros £800,000 mewn rhoddion o ganlyniad uniongyrchol i'r tâl. Mae'r arian hwn wedi dod o'r elw o werthu bagiau mewn siopau mawr gan gynnwys Tesco, McDonalds, Argos, Asda a Wilkinson. Dim ond dau o'r nifer o achosion da i elwa yw RSPB a Cadwch Gymru'n Daclus.

 

The Co-operative Group is donating proceeds from the charge to environmental causes across Wales, and in April it pledged £75,000 to the Vincent Wildlife Trust to support a three-year project to protect pine martens, a rare species living in south-west Wales and Snowdonia.

Mae'r Grŵp Co-operative yn rhoi elw o'r tâl i achosion amgylcheddol ledled Cymru, ac ym mis Ebrill addawodd £75,000 i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent i gefnogi prosiect tair blynedd i ddiogelu bele'r coed, sef rhywogaeth brin sy’n byw yn ne-orllewin Cymru ac Eryri.

 

4.30 p.m.

 

I am grateful to the public and to all retailers for helping to make this policy such a success, but of course we must not be complacent. It is heartening to see the people of Wales developing sustainable shopping habits and being much less wasteful with our natural resources. However, more needs to be done to achieve our aim of becoming a zero-waste nation.

Rwyf yn ddiolchgar i'r cyhoedd ac i bob manwerthwr am gynorthwyo i sicrhau bod y polisi hwn yn gymaint o lwyddiant, ond wrth gwrs rhaid i ni beidio â llaesu dwylo. Mae'n galonogol gweld pobl Cymru yn datblygu arferion siopa cynaliadwy a bod yn llawer llai gwastraffus gyda'n hadnoddau naturiol. Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy i gyflawni ein nod o ddod yn genedl dim gwastraff.

 

We will continue to work with the retailers and the public to reinforce the policy wherever we can. We will continue to monitor the supply of single-use carrier bags by retailers across Wales, and we will look to gather further evidence on the effects of the charge on the public and retail sector.

Byddwn yn parhau i weithio gyda'r manwerthwyr a'r cyhoedd i atgyfnerthu'r polisi pryd bynnag y gallwn. Byddwn yn parhau i fonitro’r cyflenwad o fagiau siopa untro gan fanwerthwyr ledled Cymru, a’n bwriad yw casglu rhagor o dystiolaeth ar effaith y tâl ar y sector cyhoeddus a manwerthu.

 

Wales is leading the way on this in the UK, and I see no reason why the charge would not work just as well in other parts of the UK. The efficient use of our resources, reducing litter, and improving the quality of our local environments for our communities across Wales are a high priority for me. The 5p charge has been a small change that demonstrates this with long-term benefits for our local environment, landscape and global environment.

Mae Cymru'n arwain y ffordd yn hyn o beth yn y DU, ac ni welaf unrhyw reswm pam na fyddai'r tâl yn gweithio yr un mor dda mewn rhannau eraill o'r DU. Mae defnyddio ein hadnoddau’n effeithiol, lleihau sbwriel, a gwella ansawdd ein hamgylchedd lleol ar gyfer ein cymunedau ledled Cymru yn flaenoriaeth uchel i mi. Mae'r tâl o 5c wedi bod yn newid bach sy'n dangos hyn, gyda buddiannau tymor hir ar gyfer ein hamgylchedd lleol, ein tirwedd a'r amgylchedd byd-eang.

 

Russell George: I thank the Minister for bringing forward this statement today. The Welsh Conservatives welcome the positive impact that the levy has had on the overall reduction of single-use carrier bags, which are a blight on our communities and the wider environment. I think that the Minister would have to admit that the implementation of the levy did not get off to the best of starts, as the guidance from Government to small businesses especially on how they were supposed to operate on the policy on the ground was not as clear as it could have been and certainly was not distributed as widely as it should have been. It was a shame that the Government did not use the delay in the original start date as time to target retailers in a more effective, efficient and comprehensive way. Having said that, the policy seems to be succeeding in delivering the stated goal.

Russell George: Diolchaf i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r effaith gadarnhaol y mae'r ardoll wedi'i chael ar y gostyngiad cyffredinol yn nifer y bagiau siopa untro, sy’n falltod ar ein cymunedau a'r amgylchedd ehangach. Credaf y byddai'n rhaid i’r Gweinidog gyfaddef na chafwyd y cychwyn gorau i weithrediad yr ardoll, gan nad oedd canllawiau’r Llywodraeth i fusnesau bach, yn enwedig ynglŷn â sut yr oeddent i fod i weithredu’r polisi yn ymarferol, mor eglur ag y gallent fod, ac yn sicr nid oeddent wedi eu dosbarthu mor eang ag y dylent. Roedd yn drueni na ddefnyddiodd y Llywodraeth yr oedi yn y dyddiad cychwyn gwreiddiol er mwyn targedu manwerthwyr mewn ffordd fwy effeithiol, effeithlon a chynhwysfawr. Wedi dweud hynny, mae'n ymddangos bod y polisi yn llwyddo i gyflawni'r amcan a nodwyd.

 

Having conducted a freedom of information request, exercised during the summer, by which I attempted to capture data and a snapshot of how the regulations were being enforced, I have some concerns that there may be some underlying problems of resourcing enforcement action and prioritising compliance, which leads me to raise a number of questions. From the information that I gathered, I saw that just over 20 complaints were received and registered by local authorities by the middle of August, and only a handful had confirmed regulation breaches. Therefore, are you satisfied that local authorities are doing as much as they can to monitor compliance and to collect the information required to investigate possible breaches?

Cynhaliais gais rhyddid gwybodaeth yn ystod yr haf, er mwyn ceisio casglu data a chael darlun o sut y caiff y rheoliadau eu gorfodi. O ganlyniad i hynny, mae gennyf rai pryderon y gall fod rhai problemau sylfaenol o ran sicrhau’r adnoddau ar gyfer camau gorfodi a blaenoriaethu gwaith ym maes cydymffurfio. Mae hyn yn fy arwain i godi nifer o gwestiynau. O'r wybodaeth yr wyf wedi ei chasglu, gwelais mai dim ond ychydig dros 20 o gwynion yr oedd awdurdodau lleol wedi eu derbyn a'u cofrestru erbyn canol mis Awst, a dim ond mewn llond llaw ohonynt y cadarnhawyd achosion o dorri rheoliadau. Felly, a ydych yn fodlon bod awdurdodau lleol yn gwneud cymaint ag y gallant i fonitro cydymffurfiaeth ac i gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen i ymchwilio i achosion posibl o dorri rheoliadau?

 

From the information that I gathered, I saw that local authorities had not issued any non-discretionary requirements or any fixed monetary penalties, so what are your expectations for enforcement, going forward? Do you expect local authorities to be more rigorous in enforcing compliance and, more importantly, will there be any central Government funding to assist authorities to do that?

O'r wybodaeth a gesglais, gwelais nad oedd awdurdodau lleol wedi cyhoeddi unrhyw ofynion heb fod yn ariannol yn ôl disgresiwn nac unrhyw gosbau ariannol penodedig, felly beth yw eich disgwyliadau ar gyfer gorfodi, wrth symud ymlaen? A ydych chi'n disgwyl i awdurdodau lleol fod yn fwy trylwyr wrth orfodi cydymffurfiad ac, yn bwysicach, a fydd unrhyw gyllid canolog ar gael gan y Llywodraeth i gynorthwyo awdurdodau i wneud hynny?

 

Finally, when do you intend to do the next review of the regulations and particularly the current levy charge? Is there any expectation on your part that that will have to rise in the next few years to prevent any form of cultural regeneration, as has happened in the Republic of Ireland?

Yn olaf, pryd yr ydych yn bwriadu cynnal yr adolygiad nesaf o’r rheoliadau ac yn enwedig tâl presennol yr ardoll? A oes unrhyw ddisgwyliad ar eich rhan y bydd yn rhaid ei gynyddu yn y blynyddoedd nesaf er mwyn atal unrhyw fath o adfywiad diwylliannol, fel sydd wedi digwydd yng Ngweriniaeth Iwerddon?

 

John Griffiths: I thank Russell George for that contribution, and for the general welcome. I do not agree that it did not get off to a good start. In actual fact, the research work that we have done shows that the introduction of the charge was very smooth, and it was quickly accepted and, indeed, valued in Wales by the general public and retailers. The support for it and the valuing of it as an initiative are important, and it delivers real benefits as a positive story. That is also reflected in the enforcement issues that the Member mentioned. There has been little in the way of enforcement issues because it has been so well accepted and has operated quite smoothly. The reduction of more than 90% in the issuing of single-use carrier bags, which I mentioned in my opening remarks, shows the effectiveness of this policy. As with all policies, this will be kept under constant review, but there will be a comprehensive review after three years from the introduction of the charge, which is what we initially set out. Finally, there are no current plans to increase the charge.

John Griffiths: Diolch i Russell George am y cyfraniad hwnnw, ac am y croeso cyffredinol. Nid wyf yn cytuno na chafwyd dechrau da i’r polisi. Mewn gwirionedd, mae’r gwaith ymchwil a gynhaliwyd gennym yn dangos bod y tâl wedi ei gyflwyno’n llyfn iawn, a’i fod wedi ei dderbyn, ac yn wir ei werthfawrogi, yn gyflym yng Nghymru gan y cyhoedd a manwerthwyr. Mae'r ffaith fod pobl yn cefnogi ac yn gwerthfawrogi’r fenter yn bwysig, ac mae'n dod â buddion gwirioneddol fel stori gadarnhaol. Caiff hynny ei adlewyrchu hefyd yn y materion sy’n ymwneud â gorfodi a grybwyllwyd gan yr Aelod. Ni welwyd fawr o broblemau o ran gorfodaeth oherwydd i’r polisi gael ei dderbyn cystal a gweithredu’n eithaf llyfn. Mae'r gostyngiad o fwy na 90% yn nifer y bagiau siopa untro a ddosbarthwyd, fel y crybwyllais yn fy sylwadau agoriadol, yn dangos pa mor effeithiol fu’r polisi hwn. Fel pob polisi, bydd yn cael ei adolygu’n gyson, ond cynhelir adolygiad cynhwysfawr dair blynedd ar ôl cyflwyno'r taliad, sef yr hyn a nodwyd gennym ar y cychwyn. Yn olaf, nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gynyddu'r tâl.

The Record

Llyr Huws Gruffydd: Rwy’n diolch i’r Gweinidog am ei ddatganiad, ac rwyf innau hefyd yn ymuno ag ef i groesawu llwyddiant y cynllun hwn o safbwynt gwella defnydd adnoddau, lleihau gwastraff a gwella’r amgylchedd. Rydym yn ymwybodol o’r ymchwil yr oeddech yn cyfeirio ato o safbwynt poblogrwydd cynyddol y cynllun, sy’n galonogol. Yn fwy na dim, eich datganiad heddiw na fyddwch yn llaesu dwylo yw’r peth pwysig, oherwydd rwy’n teimlo bod proses addysgu yn dal i orfod digwydd yn y cyd-destun hwn. Nid am addysgu sy’n deillio’n uniongyrchol o oblygiadau’r gofyniad newydd yn unig yr wy’n sôn—ac mae dryswch yn parhau, rwy’n meddwl, ynghylch y rheolau am becynnu bwyd ffres ac ati—ond addysgu hefyd am y math o fagiau amgen y mae pobl yn eu defnyddio o ganlyniad i weithredu’r rheoliadau hyn. Y llynedd, gwnaeth Asiantaeth yr Amgylchedd asesiad, a ddangosodd bod rhaid ailddefnyddio bagiau hir oes nifer o weithiau os ydynt i fod yr un mor amgylcheddol gyfeillgar â bagiau sy’n cael eu defnyddio dim ond unwaith. Dywedodd fod rhaid defnyddio bagiau papur deirgwaith iddynt fod yr un mor effeithiol, y 'bagiau am fywyd’ plastig bedair gwaith, a bagiau cotwm—a Duw a ŵyr, mae dwsinau o’r rheini yn ein tŷ ni erbyn hyn—131 o weithiau, sy’n reit syfrdanol, a dweud y gwir. Fodd bynnag, mae pwynt pwysig yno am yr angen i addysgu pobl os ydym i barhau i fwynhau’r buddiannau ac i adeiladu ar yr elfennau positif sydd wedi dod yn sgîl y cynllun hwn. Felly, hoffwn glywed beth yw eich cynlluniau o safbwynt parhau i addysgu pobl a monitro pa ddefnydd a wneir o fagiau amgen gan y boblogaeth a chan fusnesau.

Llyr Huws Gruffydd: I thank the Minister for his statement, and I, too, join him in welcoming the success of this scheme in improving the use of resources, reducing waste and improving the environment. We are aware of the research that you mentioned on the increasing popularity of the scheme, and that is very encouraging. However, more than anything, your statement today that you will not rest on your laurels is the important point, because there is an educational process that still needs to happen in this context. I am not talking just about educating people as a direct consequence of the new requirement—and some confusion remains, I think, about the rules on the packaging of fresh foods and so on—but also educating people about the kinds of alternative bags that people use as a result of the implementation of these regulations. Last year, the Environment Agency carried out an assessment that showed that long-life bags need to be reused many times if they are to be as environmental friendly as single-use carrier bags. It stated that paper bags need to be used three times to be as efficient, a plastic 'bag for life’ would need to be used four times, and cotton bags—and Lord only knows, there are dozens of those in our house—need to be used 131 times, which is quite astonishing, to be honest. However, there is an important point there about the need to continue to educate people if we want to continue to enjoy the benefits and build on the positives that have emerged from the introduction of the scheme. Therefore, I would like to hear what your plans are with regard to continuing to educate people and monitoring what use is made of alternative types of bags by the general public and businesses.

Mae cyfeiriad eisoes wedi bod at yr hyn ddigwyddodd yn yr Iwerddon o safbwynt codi’r pris, ac rwy’n derbyn eich ateb nad yw hynny’n fwriad ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae’n ddiddorol bod Gogledd Iwerddon eisoes wedi rhoi trefniant yn ei le fel y caiff 5c ei godi o fis Ebrill 2013 a bydd hwnnw’n codi i 10c yn 2014.

Already, there has been mention of what has happened in Ireland with regard to a price increase, and I accept your response that there is no intention to do so at the moment. However, it is interesting that Northern Ireland has already put in place an arrangement whereby 5p will be charged from April 2013, increasing to 10p in 2014.

Yn olaf, yn syml iawn, pa adborth a gawsoch gan fusnesau am y modd y cyflwynwyd ac y gweithredwyd y newidiadau hyn? Pa adborth ydych chi wedi’i roi i fusnesau am y ffordd rydych yn meddwl y gweithiodd yr holl system o gyflwyno’r trefniadau hyn, fel bod pawb yn dysgu’r gwersi at y dyfodol?

Finally, very simply, what feedback have you received from businesses on the implementation and introduction of these changes? What feedback have you given to businesses on how you believe the implementation of the whole system worked, so that we can all learn lessons for the future?

The Record

John Griffiths: The popularity of the charge that the Member referred to has been very heartening, and that includes retailers and businesses in Wales. That shows how this scheme is valued and, as I said earlier, it demonstrates the smooth introduction of the scheme and its acceptance. It is a very positive story indeed. However, no, we cannot rest on our laurels, and we will monitor the scheme and keep it under review, as I mentioned earlier. A big part of that is about the education process, as the Member mentioned. We have always couched this policy in terms of behaviour change. However, the significance and importance of the scheme go beyond the very direct benefits of no longer having single-use carrier bags caught up in our trees and bushes and littering our streets and coast, and the waste of resource in producing them, to general behaviour change.

John Griffiths: Mae poblogrwydd y tâl, y cyfeiriwyd ato gan yr Aelod, wedi bod yn galonogol iawn, ac mae hynny'n cynnwys manwerthwyr a busnesau yng Nghymru. Mae hynny'n dangos i ba raddau y mae'r cynllun hwn yn cael ei werthfawrogi ac, fel y dywedais yn gynharach, mae'n dangos bod y cynllun wedi ei gyflwyno’n llyfn ac wedi ei dderbyn. Mae'n stori gadarnhaol iawn yn wir. Fodd bynnag, na, ni allwn orffwys ar ein rhwyfau, a byddwn yn monitro'r cynllun ac yn parhau i’w adolygu, fel y soniais yn gynharach. Mae rhan fawr o hynny yn ymwneud â'r broses addysgu, fel y crybwyllodd yr Aelod. Rydym bob amser wedi cyflwyno’r polisi hwn o safbwynt newid ymddygiad. Fodd bynnag, mae arwyddocâd a phwysigrwydd y cynllun yn mynd y tu hwnt i'r manteision uniongyrchol iawn o beidio â chael bagiau siopa untro yn ein coed a’n llwyni ac ar hyd ein strydoedd a’n harfordir, ac o beidio â gwastraffu adnoddau wrth eu cynhyrchu, i newid cyffredinol mewn ymddygiad.

 

It is also about encouraging people to think more about environmental issues: not dropping litter, valuing and protecting our environment, taking part in household waste recycling schemes and so on, as well as thinking about bigger issues such as engaging with climate change. It is very valuable to have initiatives and schemes in Wales that get our communities, people and businesses thinking about these matters and changing the way in which they behave. That is an important part of this scheme.

Mae hefyd yn ymwneud ag annog pobl i feddwl mwy am faterion amgylcheddol: peidio â gollwng sbwriel, gwerthfawrogi a gwarchod ein hamgylchedd, cymryd rhan mewn cynlluniau ailgylchu gwastraff cartref ac yn y blaen, yn ogystal â meddwl am faterion mwy megis ymgysylltu â newid yn yr hinsawdd. Mae'n werthfawr iawn cael mentrau a chynlluniau yng Nghymru sy'n annog ein cymunedau, pobl a busnesau i feddwl am y materion hyn a newid y ffordd y maent yn ymddwyn. Mae hynny'n rhan bwysig o'r cynllun hwn.

 

The education process extends to reusable bags. There are issues there, and I am aware of the work to which the Member refers. We will keep those issues in mind as we move forward. I set a good example of the value of cotton bags, as the Member mentioned, because we bought a large cotton bag on holiday in Crete some 20 years ago, and I still use it weekly when shopping for fruit and veg in Newport market. That is one example of the value of those reusable bags.

Mae'r broses addysgu yn ymestyn i'r bagiau amldro. Mae yno faterion i’w hystyried, ac rwyf yn ymwybodol o'r gwaith y mae'r Aelod yn cyfeirio ato. Byddwn yn cadw'r materion hynny mewn cof wrth i ni symud ymlaen. Rwy'n gosod esiampl dda o werth bagiau cotwm, fel y soniodd yr Aelod, oherwydd inni brynu bag cotwm mawr ar wyliau yn Creta tua 20 mlynedd yn ôl, ac rwyf yn dal i’w ddefnyddio bob wythnos wrth siopa am ffrwythau a llysiau ym marchnad Casnewydd. Dyna un enghraifft o werth bagiau y gellir eu hailddefnyddio.

 

Other parts of the UK are looking closely at our experience in Wales and the positive picture one year on from the introduction of the charge. I encourage other administrations in the UK to engage with us so that we can inform them of the benefits and, hopefully, they will follow suit.

Mae rhannau eraill o'r DU yn edrych yn ofalus ar ein profiad yng Nghymru a'r darlun cadarnhaol flwyddyn ar ôl cyflwyno'r tâl. Rwyf yn annog gweinyddiaethau eraill yn y DU i gysylltu â ni fel y gallwn roi gwybod iddynt am y buddiannau, a gobeithio y byddant yn dilyn ein hesiampl.

 

William Powell: I thank the Minister for marking this first anniversary of the levy with a statement today. On behalf of the Welsh Liberal Democrat groups, I congratulate him on what has broadly been a successful first year. I also note, as the current Chair of the Petitions Committee, that this whole initiative had its origins in a petition in the third Assembly, and I pay tribute to the Members, some of whom are present in the Chamber and some of whom are not, who took part in the consideration of that initial petition, which has borne fruit as we have heard described.

William Powell: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am nodi pen-blwydd cyntaf yr ardoll â datganiad heddiw. Ar ran grŵp Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, rwyf yn ei longyfarch ar flwyddyn gyntaf sydd wedi bod yn llwyddiannus ar y cyfan. Nodaf hefyd, fel Cadeirydd presennol y Pwyllgor Deisebau, mai deiseb yn y trydydd Cynulliad oedd gwreiddiau’r fenter hon, a hoffwn dalu teyrnged i'r Aelodau, y mae rhai ond nid y cyfan ohonynt yn bresennol yn y Siambr, a gymerodd ran yn y broses o ystyried y ddeiseb gychwynnol honno, sydd wedi dwyn ffrwyth fel y clywsom.

 

Although it was initially controversial and baffling for certain small businesses, one cannot help but feel that this levy has gained substantial support among the Welsh public. Indeed, according to Cardiff University, more than 70% of the population supports it. It has had the desired effect of reducing our use substantially, by up to 96% in some retail sectors, as was revealed by the same study. It has been encouraging to hear the specific examples of the good causes across Wales that have benefited from the successful roll-out of the scheme.

Er ei bod yn ddadleuol ar y dechrau ac yn ddryslyd ar gyfer rhai busnesau bach, ni all rhywun ond teimlo bod yr ardoll hon wedi magu cefnogaeth sylweddol ymysg y cyhoedd yng Nghymru. Yn wir, yn ôl Prifysgol Caerdydd, mae mwy na 70% o'r boblogaeth yn ei chefnogi. Mae wedi cael yr effaith a ddymunir, sef lleihau ein defnydd yn sylweddol, gan hyd at 96% mewn rhai sectorau manwerthu, fel y datgelwyd gan yr un astudiaeth. Mae wedi bod yn galonogol clywed yr enghreifftiau penodol o achosion da ledled Cymru sydd wedi elwa o gyflwyno'r cynllun.

 

However, when it was first introduced, a certain number of loopholes existed, which appeared to allow certain larger retailers to circumvent the levy and to charge substantially more than 5p to their customers. Without wishing to name and shame those involved, this enabled the removal of all single-use bags from circulation and their replacement by a rather weaker reusable bag for which it was possible to charge more. Although it was not explicitly illegal under the regulation, it is clear that such actions were not in the spirit in which the levy was introduced, and it has become an ingenious way for certain operators of covering the cost of bag production while only giving a very limited amount to charity. I would be grateful if the Minister would take time to address that issue in his answer, although he has already touched on it in answer to a previous question. I also ask him to outline any steps that he thinks would be helpful to address that particular issue.

Fodd bynnag, pan gafodd ei gyflwyno gyntaf, roedd nifer penodol o fylchau’n bodoli, ac roedd yn ymddangos eu bod yn caniatáu i rai manwerthwyr mwy osgoi'r ardoll a chodi llawer mwy na 5c ar eu cwsmeriaid. Heb ddymuno enwi a chodi cywilydd ar y cwmnïau dan sylw, roedd hyn yn eu galluogi i gael gwared ar yr holl fagiau untro o gylchrediad a chael bag amldro braidd yn wannach yn eu lle yr oedd modd codi mwy o arian amdano. Er nad oedd y rheoliad yn nodi’n benodol bod hyn yn anghyfreithlon, mae'n amlwg nad yw gweithredoedd o'r fath yn cyd-fynd â’r ysbryd y cyflwynwyd yr ardoll ynddo, ac mae wedi dod yn ffordd ddyfeisgar i rai gweithredwyr dalu am gostau cynhyrchu bagiau gan roi swm cyfyngedig iawn i elusennau. Byddwn yn ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog yn cymryd amser i fynd i'r afael â'r mater hwnnw yn ei ateb, er ei fod eisoes wedi cyffwrdd arno wrth ateb un o’r cwestiynau blaenorol. Rwyf hefyd yn gofyn iddo amlinellu unrhyw gamau y mae'n credu a fyddai o gymorth i fynd i'r afael â'r mater penodol hwnnw.

 

Given the apparent support for the introduction of a similar levy in England, a UK Government spokesman recently claimed that it was currently studying the Welsh system. I would be grateful if the Minister could confirm that he is prepared to engage actively with any UK Government officials or the Scottish Government, which is also undergoing ongoing consultation in this area to consider the potential benefits in Scotland.

O ystyried yr ymddengys bod cefnogaeth i’r syniad o gyflwyno ardoll debyg yn Lloegr, honnodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU yn ddiweddar ei bod ar hyn o bryd yn astudio’r system Gymreig. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog gadarnhau ei fod yn barod i ymgysylltu'n weithredol ag unrhyw swyddogion o Lywodraeth y DU neu Lywodraeth yr Alban, sydd hefyd yn cynnal ymgynghoriad yn y maes hwn i ystyried y manteision posibl yn yr Alban.

 

4.45 p.m.

 

John Griffiths: I thank William Powell for reinforcing the positive story of the success of the charge and reiterating some of the facts and research unearthed by Cardiff University that demonstrate that success. I also join the Member in paying tribute to those who brought the petition to the Assembly: previous and current Assembly Members and others who have played an important part in taking this policy forward and making the case for its introduction.

John Griffiths: Diolch i William Powell am ategu'r stori gadarnhaol o ran llwyddiant yr ardoll ac ailadrodd rhai o'r ffeithiau a’r ymchwil a ganfuwyd gan Brifysgol Caerdydd sy'n dangos y llwyddiant hwnnw. Rwyf hefyd yn ymuno â'r Aelod i dalu teyrnged i'r rhai a gyflwynodd y ddeiseb i'r Cynulliad: Aelodau blaenorol a phresennol y Cynulliad ac eraill sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig at symud y polisi hwn yn ei flaen a dadlau’r achos dros ei gyflwyno.

 

It is important that we recognise the good causes, as I mentioned in my opening remarks, which have benefitted from the charge, because that is another important aspect of its value and another clear benefit. When it comes to retailers charging a lot more than 5p for reusable bags, then, as William Powell rightly stated, that is a matter for them if they wish to do that as part of their businesses. It is also a matter for customers to decide whether they wish to pay those charges and whether they wish to continue using those retailers and businesses. So, I think the normal conditions of supply and demand and customer power and leverage will play a part there, and that is what we would expect to happen.

Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod yr achosion da sydd wedi elwa o'r tâl, fel y soniais yn fy sylwadau agoriadol, oherwydd bod hynny'n agwedd bwysig arall ar ei werth ac yn fantais eglur arall. O ran manwerthwyr sy’n codi llawer mwy na 5c am fagiau y gellir eu hailddefnyddio, yna, fel y dywed William Powell yn gywir, mae hynny'n fater iddynt hwy os ydynt yn dymuno gwneud hynny fel rhan o'u busnesau. Mater i gwsmeriaid hefyd yw penderfynu a ydynt am dalu hynny ac a ydynt am barhau i ddefnyddio’r manwerthwyr a’r busnesau hynny. Felly, credaf y bydd amgylchiadau arferol cyflenwad a galw a phŵer a dylanwad cwsmeriaid yn cyfrannu yn hynny o beth, a dyna'r hyn y byddem yn disgwyl iddo ddigwydd.

 

We have been engaging with the UK Government, the Scottish Executive, the Northern Ireland Executive and others in terms of our experience one year on and we will continue to do so. There is a great deal of interest and we are very keen to share the lessons that we have learnt and the great benefits of this charge. I am sure that that process will continue. I know that there are many people in other parts of the UK who understand the value of what we have done in Wales and many organisations. Many Welsh people have said to me since visiting or holidaying in England this summer that it comes as a great shock to them now when they shop in England and free single-use bags are pushed towards them. Their usual reaction has been, 'No thanks, I do not want those bags, even if they are free; I have my own reusable bags here, which will benefit the environment and they are the ones I am going to use.’

Rydym wedi bod yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU, Gweithrediaeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ac eraill o ran ein profiad ar ôl blwyddyn, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Ceir llawer iawn o ddiddordeb, ac rydym yn awyddus iawn i rannu'r gwersi yr ydym wedi eu dysgu yn ogystal â manteision mawr y tâl hwn. Rwyf yn siŵr y bydd y broses honno'n parhau. Gwn fod llawer o bobl mewn rhannau eraill o'r DU a llawer o sefydliadau sy'n deall gwerth yr hyn yr ydym wedi'i wneud yng Nghymru. Mae llawer o Gymry wedi dweud wrthyf, ers iddynt ymweld â Lloegr neu fynd ar wyliau yno yr haf hwn, eu bod yn synnu’n fawr erbyn hyn pan maent yn siopa yn Lloegr ac yn cael siopwyr yn gwthio bagiau untro rhad ac am ddim tuag atynt. Eu hymateb arferol yw, 'Dim diolch, dydw i ddim eisiau’r bagiau, hyd yn oed os ydynt yn rhad ac am ddim; mae gennyf fy magiau amldro fy hun a fydd o fudd i'r amgylchedd a dyma’r rhai rwyf yn mynd i'w defnyddio.'

The Record

Y Dirprwy Lywydd: Diolch yn fawr, Weinidog. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

The Deputy Presiding Officer: Thank you, Minister. That brings today’s proceedings to a close.

Daeth y cyfarfod i ben am 4.47 p.m.
The meeting ended at 4.47 p.m.

Aelodau a’u Pleidiau
Members and their Parties

Andrews, Leighton (Llafur - Labour)
Antoniw, Mick (Llafur - Labour)
Asghar, Mohammad (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Black, Peter (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Welsh Liberal Democrats)
Burns, Angela (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Butler, Rosemary (Llafur - Labour)
Chapman, Christine (Llafur - Labour)
Cuthbert, Jeff (Llafur - Labour)
Davies, Alun (Llafur - Labour)
Davies, Andrew R.T. (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Davies, Byron (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Davies, Jocelyn (Plaid Cymru - The Party of Wales)
Davies, Keith (Llafur - Labour)
Davies, Paul (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Davies, Suzy (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Drakeford, Mark (Llafur - Labour)
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord (Plaid Cymru - The Party of Wales)
Evans, Rebecca (Llafur - Labour)
Finch-Saunders, Janet (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
George, Russell (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Gething, Vaughan (Llafur - Labour)
Graham, William (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Gregory, Janice (Llafur - Labour)
Griffiths, John (Llafur - Labour)
Griffiths, Lesley (Llafur - Labour)
Gruffydd, Llyr Huws (Plaid Cymru - The Party of Wales)
Hart, Edwina (Llafur - Labour)
Hedges, Mike (Llafur - Labour)
Hutt, Jane (Llafur - Labour)
Isherwood, Mark (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
James, Julie (Llafur - Labour)
Jenkins, Bethan (Plaid Cymru - The Party of Wales)
Jones, Alun Ffred (Plaid Cymru - The Party of Wales)
Jones, Ann (Llafur - Labour)
Jones, Carwyn (Llafur - Labour)
Jones, Elin (Plaid Cymru - The Party of Wales)
Jones, Ieuan Wyn (Plaid Cymru - The Party of Wales)
Lewis, Huw (Llafur - Labour)
Melding, David (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Mewies, Sandy (Llafur - Labour)
Millar, Darren (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Morgan, Julie (Llafur - Labour)
Neagle, Lynne (Llafur - Labour)
Parrott, Eluned (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Welsh Liberal Democrats)
Powell, William (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Welsh Liberal Democrats)
Price, Gwyn R. (Llafur - Labour)
Ramsay, Nick (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Rathbone, Jenny (Llafur - Labour)
Rees, David (Llafur - Labour)
Roberts, Aled (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Welsh Liberal Democrats)
Sandbach, Antoinette (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Sargeant, Carl (Llafur - Labour)
Skates, Kenneth (Llafur - Labour)
Thomas, Gwenda (Llafur - Labour)
Thomas, Rhodri Glyn (Plaid Cymru - The Party of Wales)
Thomas, Simon (Plaid Cymru - The Party of Wales)
Watson, Joyce (Llafur - Labour)
Whittle, Lindsay (Plaid Cymru - The Party of Wales)
Williams, Kirsty (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Welsh Liberal Democrats)
Wood, Leanne (Plaid Cymru - The Party of Wales)

Partners & Help