By continuing to use our site, you are agreeing for us to set a small number of cookies. Cookie policy

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Cofnod y Trafodion.
The Record of Proceedings

Dydd Mercher, 18 Gorffennaf 2012
Wednesday, 18 July 2012

Cynnwys
Contents

Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Questions to the Minister for Environment and Sustainable Development

Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Questions to the Minister for Housing, Regeneration and Heritage

Pwynt o Drefn
Point of Order

Cynnig i Atal y Rheolau Sefydlog
Motion to Suspend Standing Orders

Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012
The Natural Resources Body for Wales (Establishment) Order 2012

Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus) 2012
The Public Bodies (Abolition of Her Majesty’s Inspectorate of Courts of Administration and the Public Guardian Board) Order 2012

Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012
The Tobacco Advertising and Promotion (Display of Prices) Regulations 2012

Adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y Rhagolygon ar Gyfer Dyfodol y Cyfryngau yng Nghymru
The Communities, Equality and Local Government Committee’s Report by the Task and Finish Group on the Future Outlook for the Media in Wales

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Dylanwadu ar y Broses o Foderneiddio Polisi Caffael Ewrop
The Enterprise and Business Committee’s Report: Influencing the Modernisation of EU Procurement Policy

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: Cynnig o Ddiffyg Hyder
Welsh Liberal Democrats Debate: Motion of No Confidence

Cyfnod Pleidleisio
Voting Time

Dadl Fer: Dyslecsia ac Ysgolion: Cydweithio i Wneud Gwahaniaeth
Short Debate: Dyslexia and Schools: Working Together to Make a Difference

Yn y golofn chwith, cofnodwyd y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi. Yn y golofn dde, cynhwysir trawsgrifiad o’r cyfieithu ar y pryd.
In the left-hand column, the proceedings are recorded in the language in which they were spoken. The right-hand column contains a transcription of the simultaneous interpretation.


Cyfarfu’r Cynulliad am 1.30 p.m.gyda’r Llywydd (Rosemary Butler) yn y Gadair.
The Assembly met at 1.30 p.m.with the Presiding Officer (Rosemary Butler) in the Chair.

The Record

The Presiding Officer: The National Assembly for Wales is now in session.

Y Llywydd: Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Questions to the Minister for Environment and Sustainable Development

The Record

Rheolaeth Rhostiroedd yr Ucheldir

Upland/Moorland Management

1. Aled Roberts: A fydd y Gweinidog yn cynnal adolygiad o reolaeth rhostiroedd yr ucheldir wrth symud ymlaen â chreu un corff amgylcheddol yng Nghymru. OAQ(4)0154(ESD)

1. Aled Roberts: Will the Minister hold a review of upland/moorland management as he moves forward and creates one single environmental body in Wales. OAQ(4)0154(ESD)

Y Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (John Griffiths): Rwy’n cydnabod bod ucheldir Cymru yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ecosystem i ni, gan gynnwys rheoli llif dŵr, storio carbon a diogelu tir pori amaethyddol, ac mae’n cynnal bioamrywiaeth gyfoethog hefyd. Bydd bwrdd yr un corff amgylcheddol, unwaith y bydd yn weithredol, yn ystyried y modd y rheolir y gwasanaethau hyn.

The Minister for Environment and Sustainable Development (John Griffiths): I recognise that the uplands of Wales provide a range of ecosystem services, including water regulation, carbon storage and safeguarding agricultural grazing land, while also supporting rich biodiversity. The board of the single body, once it is in operation, will consider how these services are managed.

Aled Roberts: Diolch am yr ateb. Tra bo’r corff yn cael ei ffurfio, a ydych yn fodlon â’r sefyllfa bresennol? Bûm ar Fynydd y Rhos ger Rhiwabon rhyw wythnos yn ôl, ac yr oedd y sefyllfa yno yn siomedig iawn. Mae polisïau tirfeddiannwyr ystâd Wynnstay wedi creu sefyllfa lle mae cyflwr y mynydd wedi dirywio yn sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae angen gwneud rhywbeth cyn i’r sefyllfa waethygu.

Aled Roberts: Thank you for that response. While the body is being created, are you content with the current situation? I was on Mynydd Rhos near Ruabon about a week ago and the situation there was very disappointing. The policies of the Wynnstay estate landholders have created a situation whereby the condition of the mountain has deteriorated significantly over the past two years. We have to do something before the situation deteriorates further.

John Griffiths: We have been very clear as a Government that important though the creation of a single body undoubtedly is—and I believe that there is a great deal of agreement on that—that is not to say that the effort to deal with all the current responsibilities of the three bodies waits for the creation of that single body. We have made it clear as a Government to the existing three bodies that we expect them to be clear about their priorities, the essential services that they have to deliver, and the work that they have to do. I expect that to continue to be the case up until the vesting date for the new single body.

John Griffiths: Rydym wedi dweud yn glir iawn fel Llywodraeth, er mor bwysig yn ddi-os yw creu un corff amgylcheddol—a chredaf fod llawer iawn o gytundeb ynghylch hynny—nid yw hynny’n golygu bod yr ymdrech i ymdrin â holl gyfrifoldebau cyfredol y tri chorff yn gorfod aros nes i’r un corff amgylcheddol hwnnw gael ei greu. Fel Llywodraeth rydym wedi egluro wrth y tri chorff presennol ein bod yn disgwyl iddynt fod yn glir ynghylch eu blaenoriaethau, y gwasanaethau hanfodol y mae’n rhaid iddynt eu darparu, a’r gwaith y mae’n rhaid iddynt ei wneud. Rwyf yn disgwyl i hynny barhau i fod yn wir hyd at ddyddiad breinio’r un corff amgylcheddol newydd.

Kenneth Skates: Last November, you confirmed the extension of the Clwydian range Area of Outstanding Natural Beauty to include Llangollen and the Dee valley. This move was universally welcomed by people in my constituency. What work are you doing with Denbighshire, Wrexham and Flintshire councils, as well as other bodies, to review the first few months of the extension, and look at the possibility of including the Ceiriog valley in the AONB?

Kenneth Skates: Fis Tachwedd diwethaf, bu ichi gadarnhau y byddai Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol bryniau Clwyd yn cael ei hymestyn i gynnwys Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy. Cafodd y cam hwn ei groesawu’n gyffredinol gan bobl yn fy etholaeth. Pa waith yr ydych yn ei wneud gyda chynghorau Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint, yn ogystal â chyrff eraill, i adolygu misoedd cyntaf yr estyniad, ac edrych ar y posibilrwydd o gynnwys Dyffryn Ceiriog yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol?

John Griffiths: I thank Kenneth Skates for that question. I fully understand his commitment to this area. It is probably a little too early to say much about the developments since the extension. However, the Countryside Council for Wales is working with the local authorities, and is working on an action plan that I think will be very significant. There have already been some important initiatives, including the appointment of a project co-ordinator for the Dee valley. A draft interim statement is also being prepared by the local authorities. Therefore, there has been some really important work done since the extension. I know that the CCW is also taking forward work with regard to the Ceiriog valley.

John Griffiths: Diolch i Kenneth Skates am y cwestiwn. Rwyf yn deall yn iawn ei ymrwymiad i’r ardal hon. Mae’n debyg ei bod braidd yn gynnar i ddweud llawer am y datblygiadau ers i’r ardal gael ei hymestyn. Fodd bynnag, mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol, ac mae’n gweithio ar gynllun gweithredu y credaf y bydd yn bwysig iawn. Mae rhai camau pwysig eisoes wedi’u cymryd, gan gynnwys penodi cydgysylltydd prosiect ar gyfer Dyffryn Dyfrdwy. Mae datganiad drafft dros dro hefyd yn cael ei baratoi gan yr awdurdodau lleol. Felly, mae gwaith pwysig iawn wedi’i wneud ers i’r ardal gael ei hymestyn. Gwn fod Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn bwrw ymlaen â gwaith o ran Dyffryn Ceiriog hefyd.

Antoinette Sandbach: Many of the farmers who manage the landscape and habitats of upland Wales will be concerned that your Government is removing upland support. Their counterparts in England now benefit from a dedicated upland farming support package, guaranteed access to environmental stewardship schemes, and a specific upland allocation from rural development funding. Given that upland Wales contains some of our richest natural resources, including millions of tonnes of stored carbon, can you confirm whether your Government recognises that farmers will be best placed to deliver natural resource management on the ground, as outlined in the 'Sustaining a Living Wales’ consultation document? Do you accept that the higher costs of managing this landscape, and its importance, deserve better recognition and Government support?

Antoinette Sandbach: Bydd llawer o’r ffermwyr sy’n rheoli tirwedd a chynefinoedd yr ucheldir yng Nghymru yn pryderu bod eich Llywodraeth yn cael gwared ar gymorth ar gyfer yr ucheldir. Mae eu cymheiriaid yn Lloegr bellach yn elwa o becyn cymorth arbennig ar gyfer ffermio’r ucheldir, mynediad sicr i gynlluniau stiwardiaeth amgylcheddol, a dyraniad penodol ar gyfer yr ucheldir o arian datblygu gwledig. O ystyried bod ucheldir Cymru yn cynnwys rhai o’n hadnoddau naturiol mwyaf cyfoethog, gan gynnwys miliynau o dunelli o garbon wedi’i storio, a allwch gadarnhau a yw eich Llywodraeth yn cydnabod mai ffermwyr fydd yn y sefyllfa orau i gyflawni gwaith rheoli adnoddau naturiol ar lawr gwlad, fel yr amlinellir yn y ddogfen ymgynghori 'Cynnal Cymru Fyw’? A ydych yn derbyn bod y costau uwch sydd ynghlwm wrth reoli’r dirwedd hon, a’i phwysigrwydd, yn haeddu gwell cydnabyddiaeth a chymorth gan y Llywodraeth?

The Record

John Griffiths: I assure the Member and Members in general that, of course, the Welsh Government is mindful of the importance of upland Wales and the role of farmers across Wales with regard to those uplands. We will publish a summary of the responses to the 'Sustaining a Living Wales’ consultation in the autumn. In taking forward 'Sustaining a Living Wales’ and, indeed, the single body, we will have a mind to ecosystem services and what the uplands of Wales can deliver.

John Griffiths: Gallaf sicrhau’r Aelod a’r Aelodau yn gyffredinol, bod Llywodraeth Cymru, wrth reswm, yn ymwybodol o bwysigrwydd ucheldir Cymru a rôl ffermwyr ledled Cymru o safbwynt yr ucheldiroedd hynny. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i ymgynghoriad 'Cynnal Cymru Fyw’ yn yr hydref. Wrth fwrw ymlaen â 'Cynnal Cymru Fyw’ ac, yn wir, â’r un corff amgylcheddol, byddwn yn ystyried gwasanaethau ecosystemau a’r hyn y gall ucheldiroedd Cymru ei gyflawni.

Rhodri Glyn Thomas: Gyda dyfodiad y corff sengl, beth yw eich bwriadau ar gyfer coedwigaeth? A ydych am weld coedwigaeth yn aros o fewn perchnogaeth gyhoeddus a beth yw eich cynlluniau a’ch gweledigaeth ar gyfer gwneud y gorau o’r cyfleoedd ar gyfer twristiaeth?

Rhodri Glyn Thomas: Minister, with the introduction of the single body, what are your intentions as regards forestry? Do you want to see forestry remaining in public ownership and what is your vision for making the best of the opportunities for tourism?

John Griffiths: Forestry in Wales has delivered a great deal since devolution. In rounded terms, it is about timber production and commercial aspects, but it is also about much else besides, including linking with Communities First, health aspects, leisure and energy. Forestry will continue to be very important as we move forward. We are very committed to the public ownership model. The single body will want to give very careful consideration to how we build on the progress already made.

John Griffiths: Mae coedwigaeth yng Nghymru wedi cyflawni llawer iawn ers datganoli. Yn gyffredinol, mae a wnelo â chynhyrchu pren ac agweddau masnachol, ond mae a wnelo â llawer mwy na hynny hefyd, gan gynnwys cysylltu â Chymunedau yn Gyntaf, agweddau iechyd, hamdden ac ynni. Bydd coedwigaeth yn parhau i fod yn bwysig iawn wrth inni symud ymlaen. Rydym wedi ymrwymo’n helaeth i’r model perchnogaeth gyhoeddus. Bydd yr un corff amgylcheddol am ystyried yn ofalus iawn sut y byddwn yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed eisoes.

The Presiding Officer: I ask Members to be a bit briefer in their questions, because we have spent six minutes on the first question.

Y Llywydd: Rwyf yn gofyn i’r Aelodau fod ychydig yn fwy cryno â’u cwestiynau, oherwydd rydym wedi treulio chwe munud ar y cwestiwn cyntaf.

The Record

Blaenoriaethau ar gyfer Llanelli

Priorities for Llanelli

2. Keith Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer Llanelli. OAQ(4)0158(ESD)

2. Keith Davies: Will the Minister make a statement on his priorities for Llanelli. OAQ(4)0158(ESD)

John Griffiths: Rwyf wedi ymrwymo i gyflawni, ar draws Cymru, yr ymrwymiadau sydd wedi’u hamlinellu ar gyfer fy mhortffolio yn y rhaglen lywodraethu.

John Griffiths: I am committed to fulfilling, across Wales, the commitments that are set out for my portfolio in the programme for government.

Keith Davies: Mae pori anrheoledig yn broblem enfawr yn fy etholaeth, ac mae consýrn penodol am iechyd y cyhoedd a lles yr anifeiliaid. Beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem hon?

Keith Davies: Fly-grazing is a huge problem in my constituency, and there is particular concern about public health and animal welfare. What is the Government doing to get to grips with this problem?

John Griffiths: I know that these matters rightly concern Members, the Welsh Government and partner organisations. I have been working closely with my colleague, Carl Sargeant, and with Alun Davies, because there is crossover in terms of these issues, and they involve local government and the police as well as equine identification issues. We will continue with that joined-up approach. I know that the cross-party group on the horse has done some work on this and I look forward to receiving that work, which I think is now with my department, but I have not yet had sight of it.

John Griffiths: Gwn fod y materion hyn, yn gywir ddigon, yn achosi pryder i’r Aelodau, i Lywodraeth Cymru ac i sefydliadau sy’n bartneriaid. Rwyf wedi bod yn gweithio’n agos gyda’m cydweithiwr, Carl Sargeant, a chydag Alun Davies, oherwydd ceir gorgyffwrdd o ran y materion hyn, ac maent yn cynnwys llywodraeth leol a’r heddlu yn ogystal â materion yn ymwneud ag adnabod ceffylau. Byddwn yn parhau â’r dull cydgysylltiedig hwnnw o weithredu. Gwn fod y grŵp trawsbleidiol ar geffylau wedi gwneud rhywfaint o waith ar hyn ac edrychaf ymlaen at gael y gwaith hwnnw. Rwyf yn credu ei fod gyda fy adran erbyn hyn, ond nid wyf wedi cael golwg arno eto.

There will be a meeting between the National Equine Welfare Council and the RSPCA with local authorities in the autumn to consider how we can move forward on these issues. That will be an important event.

Bydd y Cyngor Cenedlaethol Lles Ceffylau a’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid yn cyfarfod ag awdurdodau lleol yn yr hydref i ystyried sut y gallwn symud ymlaen ar y materion hyn. Bydd hwnnw’n ddigwyddiad pwysig.

Simon Thomas: Mae tlodi tanwydd yn effeithio ar nifer o gartrefi yn Llanelli, ac mae’n bosibl y bydd tlodi tanwydd yn cynyddu gyda chynigion Ofgem i godi prisoedd ynni dros y pum mlynedd nesaf. Pa drafodaethau a gawsoch â Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ynghylch ei chynlluniau, megis y rhwymedigaeth cwmnïau ynni a’r fargen werdd, er mwyn sicrhau bod pobl Llanelli a gweddill gorllewin a chanolbarth Cymru yn cael cynnig addasiadau i’w tai er mwyn cadw gwres?

Simon Thomas: Minister, fuel poverty affects many homes in Llanelli, and it is possible that fuel poverty will increase with Ofgem’s proposals to increase fuel prices over the next five years. What discussions have you had with the UK Government on its schemes, such as the energy company obligation and the green deal, to ensure that the people of Llanelli and the rest of Mid and West Wales are offered adaptions to their homes to retain heat?

John Griffiths: Fuel poverty is a major concern for all of us. We have important programmes in place, such as Arbed and Nest, to help to address fuel poverty. We work closely with the UK Government, energy companies and the regulator and we make the points in line with our strategies regarding our concerns around fuel poverty. We have said to the UK Government that we want the new energy company obligation and the green deal to be shaped in a way that very much works with our Nest and Arbed programmes. The detail has yet to emerge, but I hope very much that we will see that partnership and co-operation.

John Griffiths: Mae tlodi tanwydd yn bryder mawr i bob un ohonom. Mae gennym raglenni pwysig ar waith, megis Arbed a Nest, i helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU, cwmnïau ynni, a’r rheoleiddiwr ac rydym yn codi’r pwyntiau yn unol â’n strategaethau am ein pryderon ynghylch tlodi tanwydd. Rydym wedi dweud wrth Lywodraeth y DU ein bod am i’r rhwymedigaeth cwmnïau ynni newydd a’r fargen werdd gael eu llunio mewn modd sy’n gweithio i raddau helaeth iawn gyda’n rhaglenni Nest ac Arbed. Nid yw’r manylion wedi dod i’r amlwg hyd yma, ond rwyf yn gobeithio’n fawr iawn y byddwn yn gweld y bartneriaeth a’r cydweithredu hwnnw.

The Record

Joyce Watson: Have you had a chance yet to read the Petitions Committee’s report on pollution of the Burry inlet? I appreciate that you will respond to the recommendations that we have made in due course, but, as we are about to break for recess, you will appreciate that everyone connected with the cockle industry in Carmarthenshire will want reassurances that the Welsh Government is on top of this, particularly in light of the new single body for environmental management, and that it will treat the sewage system in the Llanelli area as a priority.

Joyce Watson: A ydych wedi cael cyfle eto i ddarllen adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar lygredd yng Nghilfach Porth Tywyn? Rwyf yn sylweddoli y byddwch yn ymateb i’r argymhellion yr ydym wedi’u gwneud maes o law, ond, gan ein bod ar fin cael toriad, byddwch yn sylweddoli bod pawb sy’n gysylltiedig â’r diwydiant cocos yn Sir Gaerfyrddin am gael sicrwydd bod Llywodraeth Cymru yn ymdrin â hyn, yn enwedig yng ngoleuni’r un corff newydd a fydd yn gyfrifol am reoli’r amgylchedd, ac y bydd yn rhoi blaenoriaeth i’r system garthffosiaeth yn ardal Llanelli.

John Griffiths: I welcome the final report from the committee and I will be formally responding in due course. We had a recent report on cockle mortality and it did not show a relationship with the sewage issues in that area. However, Dŵr Cymru has announced a considerable programme of work that will deal with many of the issues, building on what it has already done, and I think that will address some of those sewage problems. I visited the area recently and I am encouraged by the amount of work that will go ahead.

John Griffiths: Croesawaf yr adroddiad terfynol gan y pwyllgor a byddaf yn ymateb yn ffurfiol maes o law. Cawsom adroddiad yn ddiweddar ar farwolaethau cocos ac nid oedd yn dangos cysylltiad â’r problemau carthffosiaeth yn yr ardal honno. Fodd bynnag, mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi rhaglen sylweddol o waith a fydd yn ymdrin â llawer o’r materion, gan adeiladu ar yr hyn y mae wedi’i wneud eisoes, a chredaf y bydd hynny’n mynd i’r afael â rhai o’r problemau carthffosiaeth hynny. Bûm yn ymweld â’r ardal yn ddiweddar ac rwyf wedi fy nghalonogi gan swm y gwaith a fydd yn digwydd yno.

The Record

Parthau Cadwraeth Morol

Marine Conservation Zones

3. Elin Jones: A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i greu Parthau Cadwraeth Morol. OAQ(4)0149(EDS)

3. Elin Jones: Will the Minister give an update on the plans to create Marine Conservation Zones. OAQ(4)0149(EDS)

John Griffiths: Rydym yng nghamau cynnar y broses hon; nid ydym wedi gwneud unrhyw benderfyniadau ar leoliad y safleoedd hyn, nac ychwaith eu maint a’u ffiniau. Byddaf yn ystyried yn ofalus yr holl ymatebion a ddaw i law yn sgîl cam cyntaf yr ymgynghoriad cyn penderfynu ar y camau nesaf.

John Griffiths: We are at an early stage in this process; no decisions have been made on the location of the sites, or their size and boundaries. I will consider carefully all the responses received from the first phase of the consultation process before deciding on the next steps.

Elin Jones: Diolchaf i’r Gweinidog am yr ateb ac am gwrdd â chynrychiolwyr Cymdeithas Pysgotwyr Cymru amser cinio i glywed eu barn uniongyrchol fel pysgotwyr am y parthau cadwraeth morol, yr ymgynghorir arnynt ar hyn o bryd. A gytunwch bod y pysgotwyr i’w llongyfarch am gynnig cynllun amgen i daro’r balans cywir rhwng cynnal eu bywoliaeth a chynnal bioamrywiaeth ein moroedd?

Elin Jones: I thank the Minister for the response and for meeting representatives of the Welsh Fishermen’s Association this lunchtime to hear their opinions directly as fishermen about these marine conservation zones, which are out to consultation at present. Would you agree that the fishermen should be congratulated on proposing an alternative scheme to strike the right balance between maintaining their livelihoods and maintaining the biodiversity of our seas?

John Griffiths: I was very pleased to attend the Welsh fishermen’s event earlier. It was very interesting, and the presentation was very interesting. We are at the first stage of a three-stage consultation process. When this first stage concludes at the end of this month, we will carefully consider all the responses, including those from the Welsh Fishermen’s Association. I think that it is very positive that responses are talking about the balance between ecosystem and marine environment protection and the socioeconomic impacts. To put proposals on the table is very constructive and a welcome contribution to this process.

John Griffiths: Roeddwn yn falch iawn o fynychu digwyddiad pysgotwyr Cymru yn gynharach. Roedd yn ddiddorol iawn, ac roedd y cyflwyniad yn ddiddorol iawn. Rydym yng ngham cyntaf proses ymgynghori tri cham. Pan fydd y cam cyntaf hwn yn dod i ben ddiwedd y mis, byddwn yn ystyried yr holl ymatebion yn ofalus, gan gynnwys y rhai gan Gymdeithas Pysgotwyr Cymru. Credaf ei bod yn gadarnhaol iawn bod ymatebion yn sôn am y cydbwysedd rhwng diogelu ecosystemau a’r amgylchedd morol a’r effeithiau economaidd-gymdeithasol. Mae cyflwyno cynigion i’w hystyried yn adeiladol iawn ac mae’n gyfraniad a groesewir i’r broses hon.

Joyce Watson: We did, as Elin has mentioned, receive information from the fishermen of the Llŷn peninsula today, who are as concerned as anyone else about the protection of the marine environment. They have given us information that we will consider and they want assurances that that information will be considered as part of this consultation process. Are you prepared to give that assurance?

Joyce Watson: Fel y mae Elin wedi sôn, cawsom wybodaeth gan bysgotwyr Pen Llŷn heddiw, sydd mor bryderus ag unrhyw un arall am ddiogelu’r amgylchedd morol. Maent wedi rhoi gwybodaeth inni y byddwn yn ei hystyried ac maent am gael sicrwydd y bydd y wybodaeth honno’n cael ei hystyried yn rhan o’r broses ymgynghori hon. A ydych yn barod i roi’r sicrwydd hwnnw?

John Griffiths: Yes. All contributions to this first-stage consultation exercise will be very carefully considered before any next steps are announced.

John Griffiths: Ydw. Bydd pob cyfraniad i’r ymarfer ymgynghori hwn yng ngham cyntaf y broses yn cael ei ystyried yn ofalus iawn cyn i unrhyw gamau pellach gael eu cyhoeddi.

Antoinette Sandbach: After reflecting on the impact of your proposals for highly protected marine conservation zones in terms of the way in which they have been received, do you regret that, by not choosing to issue the consultation in Welsh, and also by making it a highly technical, 350-page document with no summary, your Government has made it incredibly difficult for the ordinary people who work and live in these coastal communities to respond to the consultation in any detailed way, and that, as a result, your consultation risks being quite an elitist exercise, which means that organisations need to have some sort of in-house or specialist support in order to be able to reply to it in full?

Antoinette Sandbach: Ar ôl myfyrio ynghylch effaith eich cynigion ar gyfer parthau cadwraeth morol gwarchodedig iawn o ran yr ymateb a gafwyd iddynt, a yw’n edifar gennych bod y ffaith ichi ddewis peidio â chyhoeddi’r ymgynghoriad yn Gymraeg, a’r ffaith ichi ei gwneud yn ddogfen dechnegol iawn, 350 tudalen, heb unrhyw grynodeb, yn golygu bod eich Llywodraeth wedi ei gwneud yn hynod o anodd i’r bobl gyffredin sy’n gweithio ac yn byw yn y cymunedau arfordirol hyn i ymateb yn fanwl i’r ymgynghoriad, ac o ganlyniad, bod perygl i’ch ymgynghoriad fod yn ymarfer eithaf elitaidd, sy’n golygu bod angen i sefydliadau fod â rhyw fath o gymorth mewnol neu arbenigol er mwyn gallu ymateb iddo yn llawn?

The Record

1.45 p.m.

 

John Griffiths: We have had a number of important events around Wales, including an important event here today, which have shown that local communities have understood the proposals and have responded in the way that we would have wanted, in addressing the ecological and socioeconomic impacts.

John Griffiths: Rydym wedi cael nifer o ddigwyddiadau pwysig ledled Cymru, gan gynnwys digwyddiad pwysig yma heddiw, sydd wedi dangos bod cymunedau lleol wedi deall y cynigion ac wedi ymateb yn y modd y byddem wedi dymuno, trwy fynd i’r afael â’r effeithiau ecolegol ac economaidd-gymdeithasol.

Antoinette Sandbach: I know that my office has been contacted, and so I have been asked for help in formulating responses, as have members of my staff, because of these complications. I know that similar contact has been made with the Member for Aberconwy. Would you make a commitment that, for any further steps that you may take, following on in phase 2, the documentation will be issued in Welsh and will contain a summary, so that people can easily and quickly understand what the proposals are? Will you also make this as accessible as possible? Some of the consultation documents have been published on the internet only and have not been posted in local public libraries for people to see.

Antoinette Sandbach: Gwn fod y cymhlethdodau hyn wedi peri i rywrai gysylltu â’m swyddfa, i ofyn am gymorth i lunio ymatebion, a chysylltwyd hefyd ag aelodau o’m staff. Gwn fod cyswllt tebyg wedi’i wneud â’r Aelod dros Aberconwy. A wnewch chi ymrwymo, yn achos unrhyw gamau pellach y gallech eu cymryd, yn dilyn ymlaen yng ngham 2, y bydd y dogfennau’n cael eu cyhoeddi yn Gymraeg ac y byddant yn cynnwys crynodeb, fel y gall pobl ddeall y cynigion yn hawdd ac yn gyflym? A wnewch chi hefyd wneud hyn mor hygyrch ag sy’n bosibl? Mae rhai o’r dogfennau ymgynghori wedi eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd yn unig ac nid ydynt wedi’u rhoi mewn llyfrgelloedd cyhoeddus lleol i bobl eu gweld.

John Griffiths: As a Government, we are always open to ideas on how we can improve processes, including those surrounding consultation exercises. We want to make sure that we exhibit best practice as far as Welsh language issues are concerned.

John Griffiths: Fel Llywodraeth, rydym bob amser yn agored i syniadau ynghylch sut y gallwn wella prosesau, gan gynnwys prosesau sy’n gysylltiedig ag ymarferion ymgynghori. Rydym am wneud yn siŵr ein bod yn dangos arfer gorau o ran materion yn ymwneud â’r Gymraeg.

William Powell: Minister, it was also my privilege this lunchtime to attend the launch event for 'Striking a Balance: Protecting our Seas and Fishermen’s Livelihoods’, hosted by our colleague, Elin Jones, at which you were also present. Just after you had to leave the launch to come to this place, a number of fishermen issued an invitation to spend some time with them and to become familiar with their situation, particular up off the Llŷn peninsula. Given the importance that you attributed in an earlier answer to seeing things for yourself on the ground, would you consider—diary commitments allowing—taking some time, without prejudice, to accept an invitation from Jim Evans and his colleagues to hear their concerns at first hand and in their comfort zone on one of their boats?  

William Powell: Weinidog, roedd yn fraint cael mynychu’r digwyddiad a gynhaliwyd amser cinio heddiw i lansio 'Striking a Balance: Protecting our Seas and Fishermen’s Livelihoods’, a gynhaliwyd gan ein cydweithiwr, Elin Jones, yr oeddech yn bresennol ynddo hefyd. Yn syth ar ôl ichi orfod gadael y lansiad i ddod i’r lle hwn, estynnodd nifer o bysgotwyr wahoddiad i dreulio rhywfaint o amser gyda hwy a dod yn gyfarwydd â’u sefyllfa, yn enwedig i fyny oddi ar Ben Llŷn. O ystyried y pwysigrwydd yr ydych wedi’i briodoli mewn ateb cynharach i weld pethau drosoch eich hun ar lawr gwlad, a fyddech yn ystyried—os bydd ymrwymiadau yn eich dyddiadur yn caniatáu—cymryd amser, heb ragfarnu dim, i dderbyn gwahoddiad gan Jim Evans a’i gydweithwyr i glywed eu pryderon o lygad y ffynnon, ac yn rhywle y maent yn teimlo’n gyfforddus, ar un o’u cychod?

John Griffiths: I can assure the Member that I am much committed to getting around Wales, meeting local communities and understanding issues. We would have to think carefully about how any invitations would fit in with due process and the consultation exercise.

John Griffiths: Gallaf sicrhau’r Aelod fy mod wedi ymrwymo’n bendant iawn i deithio o gwmpas Cymru, gan gyfarfod â chymunedau lleol a deall problemau. Byddai’n rhaid inni feddwl yn ofalus ynghylch sut y byddai unrhyw wahoddiadau yn cydfynd â’r drefn briodol a’r ymarfer ymgynghori.

William Powell: Thank you very much for that answer, Minister. One particular zone that has been a focus for opposition is that proposed around Bardsey island. As you are aware, Bardsey island has been a centre for pilgrimage for many centuries, with a Celtic monastery that reaches back to the fifth century. In respect of a place that the bards called the road to heaven and the gate to paradise, what specific steps would you be willing to take to ensure that any proposed marine conservation zone does not impact adversely on its potential for the growing area of faith-based tourism?

William Powell: Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw, Weinidog. Un parth penodol sydd wedi bod yn destun gwrthwynebiad yw’r un a gynigir o gwmpas Ynys Enlli. Fel y gwyddoch, mae Ynys Enlli wedi bod yn ganolfan ar gyfer pererindod ers canrifoedd lawer, gyda mynachlog Geltaidd sy’n dyddio’n ôl i’r bumed ganrif. O ran lle y cyfeiriai’r beirdd ato fel y ffordd i’r nefoedd a’r gât i baradwys, pa gamau penodol y byddech yn fodlon eu cymryd i sicrhau nad yw unrhyw barth cadwraeth morol arfaethedig yn cael effaith andwyol ar ei botensial ar gyfer twristiaeth sy’n seiliedig ar ffydd, sy’n faes sy’n tyfu?

John Griffiths: It would not be appropriate for me to comment on any particular site that may become a marine conservation zone. However, we want to understand the socioeconomic impacts, which very much include recreation and the tourism aspects, as well as fishing.

John Griffiths: Ni fyddai’n briodol imi wneud sylwadau ar unrhyw safle penodol a allai ddod yn barth cadwraeth morol. Fodd bynnag, rydym am ddeall yr effeithiau economaidd-gymdeithasol, sydd yn sicr yn cynnwys hamdden a’r agweddau ar dwristiaeth, yn ogystal â physgota.

The Record

Hybu Effeithlonrwydd Ynni

Promoting Energy Efficiency

4. Christine Chapman: Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer hybu effeithlonrwydd ynni dros y deuddeg mis nesaf. OAQ(4)0150(ESD)

4. Christine Chapman: What are the Minister’s priorities for promoting energy efficiency over the next twelve months. OAQ(4)0150(ESD)

The Record

John Griffiths: During the next 12 months, my priorities include promoting energy efficiency in the domestic and non-domestic sectors, reducing energy bills and consumption, and continuing work to tackle fuel poverty. Our Nest and Arbed programmes will contribute to this, and the Welsh Government has recently announced additional funding to both programmes.  

John Griffiths: Yn ystod y 12 mis nesaf, mae fy mlaenoriaethau’n cynnwys hyrwyddo effeithlonrwydd ynni yn y sector domestig a’r sector annomestig, lleihau biliau ynni a’r defnydd o ynni, a pharhau â gwaith i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Bydd ein rhaglenni Nest ac Arbed yn cyfrannu at hyn, ac yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol i’r ddwy raglen.

Christine Chapman: I very much welcome that, Minister. In fact, I was delighted to visit recently the new Cynon Taf housing development in Ger y Mynydd in my constituency, where all the homes have been built to ensure that they meet Welsh Government objectives regarding sustainability and energy efficiency. However, the technology is still relatively new and unfamiliar. Minister, what support could the Welsh Government give to housing associations, their residents and the wider public to ensure that there is a greater understanding of how energy can be used efficiently and effectively?

Christine Chapman: Rwyf yn croesawu hynny’n fawr iawn, Weinidog. Yn wir, roeddwn wrth fy modd o ymweld yn ddiweddar â datblygiad tai newydd Cynon Taf yn Ger y Mynydd yn fy etholaeth i, lle y mae’r cartrefi i gyd wedi’u hadeiladu gan sicrhau eu bod yn bodloni amcanion Llywodraeth Cymru o ran cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni. Fodd bynnag, mae’r dechnoleg yn dal i fod yn gymharol newydd ac anghyfarwydd. Weinidog, pa gymorth y gallai Llywodraeth Cymru ei roi i gymdeithasau tai, eu preswylwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol er mwyn sicrhau bod gwell dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio ynni yn effeithlon ac yn effeithiol?

John Griffiths: I very much thank Christine Chapman for that supplementary question, which I think is important and significant. When I have visited Arbed schemes, I have heard at first hand from residents that there are difficulties with pre-setting heating systems and so on. It can sometimes be quite complicated, and you hear about windows being opened when houses are too warm rather than the heating being turned down, and that is not exactly the effect that we want.

John Griffiths: Rwyf yn diolch yn fawr iawn i Christine Chapman am y cwestiwn atodol hwnnw, sy’n bwysig ac yn arwyddocaol yn fy marn i. Wrth ymweld â chynlluniau Arbed, rwyf wedi clywed yn uniongyrchol gan breswylwyr bod anawsterau â gosod amseryddion ar systemau gwresogi ymlaen llaw ac yn y blaen. Weithiau gall fod yn eithaf cymhleth, a byddwch yn clywed am ffenestri yn cael eu hagor pan fydd tai yn rhy gynnes yn hytrach na bod y gwres yn cael ei droi i lawr, ac nid dyna’r effaith yr ydym am ei chael mewn gwirionedd.

Some housing associations have told me that it is their clear view that it is their residents who are best able to advise other residents, and they have in fact 'trained’, if that is the right word, or informed their residents so that they can provide that assistance to others. I think that it would be useful for us to look at what practice is taking place and perhaps to spread best practice throughout Wales.

Mae rhai cymdeithasau tai wedi dweud wrthyf eu bod o’r farn bendant mai eu preswylwyr sydd yn y sefyllfa orau i gynghori preswylwyr eraill, a’u bod mewn gwirionedd wedi 'hyfforddi’, os dyna’r gair cywir, neu roi gwybodaeth i’w preswylwyr fel y gallant ddarparu’r cymorth hwnnw i eraill. Credaf y byddai’n ddefnyddiol inni edrych ar yr arferion sy’n bodoli a lledaenu arfer gorau ledled Cymru, efallai.

The Record

Llyr Huws Gruffydd: Mae nifer o gyrff, o Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd i Gyfeillion y Ddaear, wedi galw am gynnydd sylweddol yn y rhaglen Arbed o ran ei maint, ond mae’r targed o 7,500 o dai yn y cam cyntaf bellach yn 4,800 o dai yn yr ail gam. Oni ddylai’r Llywodraeth felly roi mwy o flaenoriaeth i ariannu’r rhaglen oherwydd nifer fawr y manteision sy’n dod yn ei sgîl, ac nid arbed ynni yn unig?

Llyr Huws Gruffydd: Several organisations, from the Climate Change Commission for Wales to Friends of the Earth, have called for a substantial increase to the scale of the Arbed programme, but the target of 7,500 houses in the first phase is now 4,800 houses in the second. Should the Government not therefore give more priority to funding the scheme given the many benefits that come in its wake, and not just energy conservation?

The Record

John Griffiths: Arbed is a real priority for the Welsh Government, which is why we recently announced additional funding. With the first phase of Arbed, we were quite successful in levering in money from outwith the Welsh Government, and we hope to do that with Arbed 2 also. Whenever I have met with the energy companies, for example, I have made it clear that we expect to see that happening, and we will continue working to that end.

John Griffiths: Mae Arbed yn flaenoriaeth go iawn i Lywodraeth Cymru, a dyna pam yr ydym wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol yn ddiweddar. Gyda cham cyntaf Arbed, roeddem yn eithaf llwyddiannus wrth ddenu arian o’r tu allan i Lywodraeth Cymru, ac rydym yn gobeithio gwneud hynny gydag Arbed 2 hefyd. Pryd bynnag yr wyf wedi cyfarfod â’r cwmnïau ynni, er enghraifft, rwyf wedi egluro ein bod yn disgwyl gweld hynny’n digwydd, a byddwn yn parhau i weithio i’r perwyl hwnnw.

Llyr Huws Gruffydd: Diolch am yr ateb, ond rwy’n siomedig yn y diffyg uchelgais. Rydym yn gwybod am y cyllid a neilltuwyd yng Nghymru, wrth gwrs, ac rydym newydd glywed bod Llywodraeth yr Alban yn sôn am wario £2 biliwn ar wella effeithlonrwydd ynni tai yno. Felly, os yw arbed ynni a thlodi tanwydd yn gymaint o flaenoriaeth ag y dywedwch eu bod, pam mae rhaglen Arbed yn crebachu?

Llyr Huws Gruffydd: Thank you for that answer, but I am disappointed by the lack of ambition. We know of the budget allocated in Wales, of course, and we have just heard that the Scottish Government is talking of spending £2 billion on home energy efficiency there, Therefore, if conserving energy and fuel poverty are as much of a priority as you say they are, why is the Arbed programme shrinking?

John Griffiths: I do not accept that the programme is shrinking. There are issues about the work that has already been done and the work yet to be embarked upon. We realise that we need to scale up substantially, and we are making a lot of effort in that direction. I think that comparisons with Scotland are difficult for all sorts of reasons, including population and the respective funding arrangements.

John Griffiths: Nid wyf yn derbyn bod y rhaglen yn crebachu. Ceir materion sy’n ymwneud â’r gwaith sydd eisoes wedi’i wneud a’r gwaith sydd eto i’w wneud. Rydym yn sylweddoli bod angen inni gynyddu’r gwaith yn sylweddol, ac rydym yn gwneud llawer o ymdrech i’r cyfeiriad hwnnw. Credaf fod cymariaethau â’r Alban yn anodd am bob math o resymau, gan gynnwys poblogaeth a’r trefniadau ariannu yn y ddwy wlad.

The Record

Ynni Adnewyddadwy

Renewable Energy

5. Jenny Rathbone: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Cymru fel canolfan ragoriaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy. OAQ(4)0153(ESD)

5. Jenny Rathbone: How is the Welsh Government promoting Wales as a centre of excellence for renewable energy. OAQ(4)0153(ESD)

John Griffiths: 'Energy Wales: A Low Carbon Transition’ sets out the Government’s approach to harnessing our energy potential to create a sustainable, low-carbon economy for Wales.

John Griffiths: Mae 'Ynni Cymru: Newid Carbon Isel’ yn egluro dull y Llywodraeth o fanteisio ar ein potensial o ran ynni i greu economi gynaliadwy, carbon isel i Gymru.

Jenny Rathbone: Well, that is very reassuring. I am concerned, however, that the experts are predicting that the electricity supply will be insufficient to meet demand in less than six years, and the UK Government has a really muddled policy on promoting renewable energy. If you were to ask somebody on the No. 57 bus, they would definitely not be able to tell you. Having talked to one of the largest manufacturing companies based in Wales, I am concerned that it is reporting that the planning regime in Scotland is more attractive than that in Wales. How can we change that so that we do indeed make Wales a centre of excellence for renewable energy?

Jenny Rathbone: Wel, mae hynny’n galonogol iawn. Rwyf yn pryderu, fodd bynnag, bod yr arbenigwyr yn rhagweld na fydd y cyflenwad trydan yn ddigon i ateb y galw mewn llai na chwe mlynedd, ac mae gan Lywodraeth y DU bolisi dryslyd iawn ynghylch hyrwyddo ynni adnewyddadwy. Pe baech yn gofyn i rywun ar fws rhif 57, mae’n siŵr gennyf na fyddent yn gallu dweud wrthych beth yw’r polisi. Ar ôl siarad ag un o’r cwmnïau gweithgynhyrchu mwyaf yng Nghymru, rwyf yn pryderu am ei fod yn adrodd bod y gyfundrefn gynllunio yn yr Alban yn fwy deniadol na’r gyfundrefn yng Nghymru. Sut y gallwn newid hynny i sicrhau bod Cymru yn wir yn dod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy?

John Griffiths: I thank Jenny Rathbone for the supplementary question. It is important that we create the environment in Wales that will allow us to maximise our renewable energy potential, and 'Energy Wales’ is very much about that and the strategic approach.

John Griffiths: Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn atodol. Mae’n bwysig inni greu’r amgylchedd yng Nghymru a fydd yn ein galluogi i fanteisio i’r eithaf ar ein potensial o ran ynni adnewyddadwy, ac mae a wnelo 'Ynni Cymru’ â hynny ac â sicrhau’r dull gweithredu strategol i raddau helaeth iawn.

When it comes to planning and consent issues, we are taking forward a lot of work to understand the issues, and in due course, we will have a planning Bill. There is also much that we can do outwith legislation to take forward further improvement. Therefore, we are very much in the process of working through these issues and taking forward improvements.

Rydym yn gwneud llawer o waith i ddeall y problemau o ran cynllunio a chaniatâd, a maes o law bydd gennym Fil cynllunio. Mae llawer y gallwn ei wneud hefyd y tu hwnt i ddeddfwriaeth i fwrw ymlaen â gwelliannau pellach. Felly, rydym yn sicr wrthi’n gweithio trwy’r materion hyn ac yn bwrw ymlaen â gwelliannau.

One thing that is very relevant to this debate is the further consenting powers that we need the UK Government to devolve to Wales so that we can make a better offer to the industry and communities in Wales.

Un peth sy’n berthnasol iawn i’r ddadl hon yw’r pwerau cydsynio pellach y mae angen i Lywodraeth y DU eu datganoli i Gymru fel y gallwn gyflwyno cynnig gwell i’r diwydiant ac i gymunedau yng Nghymru.

Angela Burns: Minister, it is not just the planning issues that we need to look at. A key Welsh Government pledge for its fourth term was that it would gear up training providers to ensure that capacity exists to deliver a future workforce with the skills that are needed to support marine energy investments. While those are still in their infancy, what seems to be happening at the moment, especially on renewables, is that we are bringing in people from elsewhere to help to set up the companies that we have. What plans do you have and what discussions have you had with the Minister for education to ensure that we are skilled up appropriately in this sector?

Angela Burns: Weinidog, nid dim ond ar y materion cynllunio y mae angen inni edrych. Un addewid allweddol a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ei phedwerydd tymor oedd y byddai’n paratoi darparwyr hyfforddiant i sicrhau bod capasiti’n bodoli i ddarparu gweithlu yn y dyfodol sydd â’r sgiliau y mae eu hangen i gefnogi buddsoddiadau mewn ynni morol. Gan mai newydd ddechrau y mae’r gwaith hwnnw, ymddengys mai’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd, yn enwedig mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy, yw ein bod yn dod â phobl o fannau eraill i helpu i sefydlu’r cwmnïau sydd gennym. Pa gynlluniau sydd gennych a pha drafodaethau yr ydych wedi’u cael â’r Gweinidog addysg i sicrhau bod gennym y sgiliau priodol yn y sector hwn?

John Griffiths: I thank Angela Burns for the question. We work across Government to address the issues surrounding renewable energy, including those relating to having the necessary skills. ConstructionSkills Wales does some important work in this regard. Marine energy offers great potential for Wales because of the resource that we have. We have done a lot of work with business and academia to take forward our understanding of what is necessary to realise that potential properly, and we will continue with that collaborative effort.

John Griffiths: Diolch i Angela Burns am y cwestiwn. Rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r materion sy’n gysylltiedig ag ynni adnewyddadwy, gan gynnwys materion yn ymwneud â chael y sgiliau angenrheidiol. Mae Sgiliau Adeiladu Cymru yn gwneud gwaith pwysig yn y cyswllt hwn. Ceir potensial mawr ar gyfer ynni morol yng Nghymru oherwydd yr adnoddau sydd gennym. Rydym wedi gwneud llawer o waith gyda busnesau a’r byd academaidd i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n angenrheidiol er mwyn gwireddu’r potensial hwnnw’n iawn, a byddwn yn parhau â’r ymdrech gydweithredol honno.

The Record

Bethan Jenkins: Weinidog, pan gyhoeddodd eich rhagflaenydd gynllun i drawsnewid yr M4 yn briffordd hydrogen rai blynyddoedd yn ôl, roeddwn yn meddwl ei fod yn briodol iawn o ystyried y ganed dyfeisiwr y gell hydrogen, William Robert Grove, yn Abertawe. A allwch roi diweddariad inni ynghylch sut y mae’r datblygiadau hynny yn mynd yn eu blaen?

Bethan Jenkins: Minister, when your predecessor announced the scheme to transform the M4 into a hydrogen highway some years ago, I thought that it was appropriate bearing in mind that the inventor of the hydrogen cell, William Robert Grove, was born in Swansea. Can you give us an update on how those developments are progressing?

John Griffiths: We remain committed to placing Wales at the forefront of technological, scientific and energy development. We have a science policy and a scientific adviser to the Government, which are important steps forward. As regards technologies such as hydrogen cells, there is much development yet to take place, and we want to understand how that potential can be realised in commercial and other ways in Wales. Perhaps I could write to the Member with further details.

John Griffiths: Rydym wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o safbwynt datblygiadau technolegol a gwyddonol a datblygiadau’n ymwneud ag ynni. Mae gan y Llywodraeth bolisi gwyddoniaeth a chynghorydd gwyddonol, ac mae’r rhain yn gamau pwysig ymlaen. O ran technolegau megis celloedd hydrogen, mae llawer o waith datblygu i’w wneud eto, ac rydym am ddeall sut y gellir gwireddu’r potensial hwnnw mewn ffyrdd masnachol a ffyrdd eraill yng Nghymru. Efallai y gallwn ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion pellach.

The Record

Ynni Dŵr

Hydro Energy

6. Alun Ffred Jones: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i ddatblygu ynni dwr a’i gyswllt â’r grid yng Nghymru. OAQ(4)0160(ESD)

6. Alun Ffred Jones: Will the Minister make a statement on plans to develop hydro energy and its link to the grid in Wales. OAQ(4)0160(ESD)

John Griffiths: Mae ynni dŵr yn bwysig i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag Asiantaeth yr Amgylchedd i wella’r broses gydsynio ar gyfer cynlluniau ynni dŵr yn y dyfodol ac mae’n gwneud hyn drwy ddiweddaru 'Canllaw Arfer Da Ynni Dŵr’.  Ar hyn o bryd, mae gweithredwyr y rhwydwaith dosbarthu’n gweithio gydag Ofgem a’r rhanddeiliaid er mwyn gwella’r broses o gysylltu â’r grid.

John Griffiths: Hydro power is important to renewable energy generation. The Welsh Government is working with the Environment Agency to improve the planning consent process for future hydro applications, and it is doing so by updating the 'Hydropower Good Practice Guidelines’. Distribution network operators are currently working with Ofgem and stakeholders to improve the grid connection process.

Alun Ffred Jones: Diolch am yr ateb. Mae’n dda gennyf glywed hynny. Mae potensial mawr i ddatblygu cynlluniau ynni dŵr ar hyd a lled ucheldir Cymru, ond mae problem ddifrifol o ran diffyg llinellau addas a chostau uchel cysylltu rhai o’r cynlluniau hynny â’r rhwydwaith yn lleol. Os ydych o ddifrif am ddatblygu’r adnodd gwerthfawr hwn, beth rydych wedi’i wneud i ddwyn pwysau ar y cwmnïau sy’n rheoli’r grid yn lleol i ddatrys y broblem ddifrifol hon?

Alun Ffred Jones: Thank you for that response. It is good to hear. There is huge potential to develop hydropower schemes throughout the Welsh uplands, but there is a significant problem in the lack of appropriate lines and the high cost of connecting some of those schemes with the local network. If you are serious about developing this valuable resource, what have you done to bring pressure to bear on the companies that manage the grid locally to solve this serious problem?

The Record

2.00 p.m.

 

John Griffiths: We make appropriate points to the grid, distribution companies and the UK Government, because many of these issues are within their province rather than that of the Welsh Government. However, we have some really important recent developments like the establishment of the organisation Community Energy Wales, and Ynni’r Fro is significant in terms of the advice and support it can give. There are also grants of up to £30,000 in terms of preparatory work, and capital grants of up to £300,000. There are many issues around these matters that need to be addressed, and we need to see improvement. We will continue to make the relevant points to those with the ability to address these issues, as well as doing what we can as a Welsh Government.

John Griffiths: Rydym yn cyflwyno pwyntiau priodol i’r grid, y cwmnïau dosbarthu a Llywodraeth y DU, gan fod llawer o’r materion hyn yn rhan o’u meysydd gwaith hwy yn hytrach na meysydd gwaith Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rydym wedi gweld rhai datblygiadau pwysig iawn yn ddiweddar, megis sefydlu Ynni Cymunedol Cymru, ac mae Ynni’r Fro yn bwysig o ran y cyngor a’r cymorth y gall eu rhoi. Ceir grantiau hefyd o hyd at £30,000 i wneud gwaith paratoi, a grantiau cyfalaf o hyd at £300,000. Mae angen mynd i’r afael â llawer o broblemau’n gysylltiedig â’r materion hyn, ac mae angen inni weld gwelliant. Byddwn yn parhau i gyflwyno’r pwyntiau perthnasol i’r sawl sydd â’r gallu i fynd i’r afael â’r materion hyn, yn ogystal â gwneud popeth yn ein gallu fel Llywodraeth Cymru.

Russell George: Minister, the Penarth hydro scheme near Newtown is a great example of a community-led renewable energy generation project, and funding for such projects is always important. I am pleased that Powys County Council has offered loan support to get this project off the ground. The other component that is needed is sector expertise. In 'Energy Wales: A Low Carbon Transition’ the Government has made a clear commitment to ensure that Wales’s communities have access to advice, expertise and funding, to co-operatively harness appropriate and proven renewable technologies such as hydro. How do you envisage the Government delivering this commitment over the next four years?

Russell George: Weinidog, mae cynllun ynni dŵr Penarth ger y Drenewydd yn enghraifft wych o brosiect cynhyrchu ynni adnewyddadwy a arweinir gan y gymuned, ac mae cyllid ar gyfer prosiectau o’r fath bob amser yn bwysig. Rwyf yn falch bod Cyngor Sir Powys wedi cynnig cymorth ar ffurf benthyciad i sefydlu’r prosiect hwn. Yr elfen arall y mae ei hangen yw arbenigedd yn y sector. Yn 'Ynni Cymru: Newid Carbon Isel’, mae’r Llywodraeth wedi gwneud ymrwymiad clir i sicrhau bod gan gymunedau Cymru fynediad i gyngor, arbenigedd a chyllid, i fanteisio ar y cyd ar dechnolegau adnewyddadwy priodol sydd wedi’u profi megis ynni dŵr. Sut yr ydych yn rhagweld y bydd y Llywodraeth yn gwireddu’r ymrwymiad hwn yn ystod y pedair blynedd nesaf?

John Griffiths: As I said, Ynni’r Fro is a very important organisation and provides just that technical advice and assistance, including grants for preparatory work and capital costs. Community Energy Wales, as a new organisation on the scene, can also contribute a great deal.

John Griffiths: Fel y dywedais, mae Ynni’r Fro yn gorff pwysig iawn ac mae’n darparu’r union gyngor a chymorth technegol hwnnw, gan gynnwys grantiau ar gyfer gwaith paratoi a chostau cyfalaf. Gall Ynni Cymunedol Cymru, fel corff newydd yn y maes, gyfrannu cryn dipyn hefyd.

The Record

Lles Anifeiliaid

Animal Welfare

7. Rebecca Evans: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella lles anifeiliaid yng Nghymru. OAQ(4)0155(ESD)

7. Rebecca Evans: Will the Minister make a statement on how the Welsh Government is improving animal welfare in Wales. OAQ(4)0155(ESD)

John Griffiths: I am committed to raising the standards of animal welfare for all animals kept in Wales through the animal health and welfare strategy.

John Griffiths: Rwyf wedi ymrwymo i godi safonau lles anifeiliaid ar gyfer yr holl anifeiliaid a gaiff eu cadw yng Nghymru trwy’r strategaeth iechyd a lles anifeiliaid.

Rebecca Evans: Although most animal sanctuaries in Wales are invaluable resources in terms of animal welfare, resources in these places can be overwhelmed and capability can be surpassed. There is certainly no framework to protect vulnerable animals, and their carers might find that they are in over their heads. Will you consider investigating this issue with a view to introducing a framework, including registration and minimum standards for sanctuaries?

Rebecca Evans: Er bod y rhan fwyaf o lochesi anifeiliaid yng Nghymru yn adnoddau amhrisiadwy o ran sicrhau lles anifeiliaid, gall y mannau hyn gael eu llethu gan waith a gall y galw fod yn fwy na’r gallu i’w fodloni. Yn sicr nid oes fframwaith i warchod anifeiliaid sy’n agored i niwed, a gall y sawl sy’n gofalu amdanynt weld eu bod yn wynebu problemau na allant ymdopi â hwy. A wnewch chi ystyried ymchwilio i’r mater hwn gyda’r bwriad o gyflwyno fframwaith, gan gynnwys proses gofrestru a safonau gofynnol ar gyfer llochesi?

John Griffiths: I know that the Animal Welfare Network Wales report will be very significant in this respect. The Welsh Government did, in fact, send an observer to each working group meeting, so we will continue to work closely with the animal welfare network once that report has been published.

John Griffiths: Gwn y bydd adroddiad Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru yn bwysig iawn yn y cyswllt hwn. Yn wir, anfonodd Llywodraeth Cymru sylwedydd i bob un o gyfarfodydd y gweithgor, felly byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r rhwydwaith lles anifeiliaid pan fydd yr adroddiad hwnnw wedi’i gyhoeddi.

Janet Finch-Saunders: Minister, fly-grazing in Wales has now been described as being at crisis point, with many horses being left at sites ranging from private and public agricultural land to places such as Cardiff Airport. Last year, the Royal Society for the Prevention of Cruelty to Animals received 2,000 animal welfare complaints in relation to stray horses. There is a theory that many of the perpetrators of this illegal activity feel themselves to be above the law. I note the comments that you made to the Member for Llanelli about the three departments here being joined up, but how are you getting that message across to local authorities? Are you providing additional resources to help them to deal effectively with this action in the immediate term, and are you looking at providing resources to deal with this and ensure that this horrendous illegal activity comes to a halt immediately?

Janet Finch-Saunders: Weinidog, mae’r sefyllfa o ran pori anghyfreithlon yng Nghymru bellach wedi’i disgrifio fel sefyllfa argyfyngus, gyda llawer o geffylau’n cael eu gadael ar safleoedd yn amrywio o dir amaethyddol preifat a chyhoeddus i leoedd megis Maes Awyr Caerdydd. Y llynedd, daeth 2,000 o gwynion yn ymwneud â lles anifeiliaid i law’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid mewn perthynas â cheffylau strae. Un theori yw bod llawer o’r troseddwyr sy’n cyflawni’r gweithgarwch anghyfreithlon hwn yn teimlo eu bod uwchlaw’r gyfraith. Nodaf y sylwadau a wnaed gennych i’r Aelod dros Lanelli am gydgysylltu’r tair adran yn y fan hon, ond sut yr ydych yn cyfleu’r neges honno i awdurdodau lleol? A ydych yn darparu adnoddau ychwanegol i’w helpu i ymdrin yn effeithiol â’r gwaith hwn yn y tymor byr, ac a ydych yn ceisio darparu adnoddau i ymdrin â hyn a sicrhau bod y gweithgarwch anghyfreithlon erchyll hwn yn dod i ben ar unwaith?

John Griffiths: What we have to do is understand the reality of the situation in terms of the need to join up on this. That is why I said earlier that, along with my colleagues Carl Sargeant and Alun Davies, I am looking at all of the issues involved. I know that Carl Sargeant has written to all local authorities in Wales and liaised with the police, so we do have that joined-up response. The RSPCA and the National Equine Welfare Council will be part of the meeting that I mentioned earlier, which will take place in the autumn. So, there is a concentration of minds and a focus on these issues, and I am sure that we will see further progress.

John Griffiths: Yr hyn y mae’n rhaid inni ei wneud yw deall realiti’r sefyllfa o ran yr angen i weithio mewn modd cydgysylltiedig ar y mater hwn. Dyna pam y dywedais yn gynharach fy mod i, ynghyd â’m cydweithwyr Carl Sargeant ac Alun Davies, yn edrych ar bob un o’r materion dan sylw. Gwn fod Carl Sargeant wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol yng Nghymru ac wedi trafod â’r heddlu, felly rydym wedi sicrhau’r ymateb cydgysylltiedig hwnnw. Bydd y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid a’r Cyngor Cenedlaethol Lles Ceffylau yn rhan o’r cyfarfod y soniais amdano’n gynharach, a gynhelir yn yr hydref. Felly, mae llawer o bobl yn dod at ei gilydd ac yn canolbwyntio ar y materion hyn, ac rwyf yn siŵr y byddwn yn gweld cynnydd pellach.

Jocelyn Davies: Minister, are you aware that, in its report last year, the RSPCA found that young people who were prosecuted for animal cruelty cases were mainly boys between the ages of 15 and 17. Sadly, very few expressed any remorse, and half already have a history of serious crime. What action is your Government taking to identify animals at risk and how do you intend to raise awareness of animal welfare issues among young people?

Jocelyn Davies: Weinidog, a ydych yn gwybod i’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid, yn ei hadroddiad y llynedd, ddarganfod mai bechgyn rhwng 15 a 17 oed yn bennaf oedd y bobl ifanc a oedd yn cael eu herlyn am achosion o greulondeb yn erbyn anifeiliaid. Yn anffodus, ychydig iawn ohonynt oedd yn mynegi unrhyw edifeirwch, ac roedd gan hanner ohonynt hanes o gyflawni troseddau difrifol eisoes. Pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i adnabod anifeiliaid sydd mewn perygl, a sut yr ydych yn bwriadu codi ymwybyddiaeth am faterion yn ymwneud â lles anifeiliaid ymhlith pobl ifanc?

The Record

John Griffiths: We work closely with a range of key partner organisations, including those that I have mentioned, such as the RSPCA and our animal welfare networks in Wales. Therefore, we want to continue to work closely with them, and if they prioritise that particular aspect of animal welfare, then we will be pleased to see what further progress might be made.

John Griffiths: Rydym yn gweithio’n agos gydag ystod o sefydliadau partner allweddol, gan gynnwys y rhai yr wyf wedi sôn amdanynt, megis y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid a’n rhwydweithiau lles anifeiliaid yng Nghymru. Felly, rydym am barhau i weithio’n agos gyda hwy, ac os byddant yn blaenoriaethu’r agwedd benodol honno ar les anifeiliaid, byddwn yn falch o weld pa gynnydd pellach y gellid ei wneud.

The Record

Statws Baner Las

Blue Flag Status

8. David Rees: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i gefnogi ein traethau lleol i ennill a chadw’r statws baner las. OAQ(4)0159(ESD)

8. David Rees: What action has the Welsh Government taken to support our local beaches to gain and maintain blue flag status. OAQ(4)0159(ESD)

John Griffiths: I am committed to achieving a good-quality water environment in Wales. Keep Wales Tidy, which administers the blue flag scheme, has received £320,000 core funding from the Welsh Government for 2012-13. We work closely with a wide range of stakeholders to deliver water quality improvements for Wales.

John Griffiths: Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau amgylchedd dŵr o ansawdd da yng Nghymru. Mae Cadwch Gymru’n Daclus, sy’n gweinyddu’r cynllun baner las, wedi cael £320,000 o gyllid craidd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13. Rydym yn gweithio’n agos gydag ystod eang o randdeiliaid i sicrhau gwelliannau i ansawdd dŵr yng Nghymru.

David Rees: Thank you for that answer, Minister. The introduction of the new EU bathing water directive will make it difficult for many of our beaches to gain blue flag status, as the criteria used becomes more stringent. The recent poor weather conditions will have a major impact upon that process and upon the ability of our fabulous beaches, including Aberafan, to be declared as having blue flag status. In fact, Aberafan lost its flag last year, given that it failed the last test, which followed heavy rain and increased river flows. Will you make representations to the EU to consider making concessions on this process and to take into consideration the impact of the heavy rain that we have seen this summer and the consequent flow of surplus water and all that that brings with it?

David Rees: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Bydd cyflwyno cyfarwyddeb dŵr ymdrochi newydd yr UE yn ei gwneud yn anodd i lawer o’n traethau ennill statws baner las, wrth i’r meini prawf a ddefnyddir fynd yn fwy llym. Bydd y tywydd gwael a gafwyd yn ddiweddar yn cael effaith sylweddol ar y broses honno ac ar allu ein traethau gwych, gan gynnwys Aberafan, i ennill statws baner las. Yn wir, bu i draeth Aberafan golli ei faner y llynedd, gan ei fod wedi methu’r prawf diwethaf a gynhaliwyd ar ôl glaw trwm a chynnydd yn y llif o afonydd. A wnewch chi gyflwyno sylwadau i’r UE gan ofyn iddo ystyried gwneud rhai consesiynau mewn perthynas â’r broses hon ac ystyried effaith y glaw trwm a welwyd yn ystod yr haf eleni a’r cynnydd dilynol yn llif y dŵr a phopeth arall a ddaw yn sgîl hynny?

John Griffiths: We are pleased with the quality of bathing water in Wales. In 2011, 98% of designated waters satisfied the requirements of the directive and 93% satisfied the more stringent guideline standards, which was the best ever performance. Therefore, we are very pleased with that. However, I understand what David Rees says about the recent heavy rainfall. We want to work with the Environment Agency and Keep Wales Tidy to understand fully the implications of these weather events. The higher requirements of the directive come at the end of the 2015 season, therefore we want to ensure that we have the highest possible standards and the best picture to present to the world for those new requirements.

John Griffiths: Rydym yn fodlon ag ansawdd y dŵr ymdrochi yng Nghymru. Yn 2011, bu i 98% o’r dyfroedd a ddynodwyd fodloni gofynion y gyfarwyddeb, a bu i 93% ohonynt fodloni safonau’r canllawiau mwy llym, sef y perfformiad gorau a gafwyd erioed. Felly, rydym yn hapus iawn â hynny. Fodd bynnag, rwyf yn deall yr hyn y mae David Rees yn ei ddweud am y glaw trwm a gafwyd yn ddiweddar. Rydym am weithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a Cadw Cymru’n Daclus i ddeall yn llawn goblygiadau’r digwyddiadau hyn o ran y tywydd. Cyflwynir gofynion uwch y gyfarwyddeb ddiwedd tymor 2015, felly rydym am sicrhau bod gennym y safonau uchaf posibl a’r darlun gorau i’w gyflwyno i’r byd yng nghyswllt y gofynion newydd hynny.

Darren Millar: There are some fantastic blue flag beaches in my constituency, such as Abergele, Pensarn and Colwyn Bay, and there are other beaches that have been working towards blue flag status. However, we have had some very heavy rainfall this summer, which can cause problems for people in being able to maintain that status. We also had an incident with raw sewage being flushed into the River Clwyd, which caused some problems on Rhyl beach. What assessment have you made of the weather-related issues and the impact of heavy rainfall on blue flag status across Wales?

Darren Millar: Ceir rhai traethau baner las gwych yn fy etholaeth i, megis Abergele, Pensarn a Bae Colwyn, a cheir traethau eraill sydd wedi bod yn gweithio tuag at ennill statws baner las. Fodd bynnag, rydym wedi cael glaw trwm iawn yn ystod yr haf eleni, a gall hynny achosi problemau i bobl o ran gallu cynnal y statws hwnnw. Cafwyd digwyddiad hefyd wrth i garthion heb eu trin gael eu gollwng i Afon Clwyd, a achosodd rai problemau ar draeth y Rhyl. Pa asesiad yr ydych wedi’i wneud o’r problemau sy’n gysylltiedig â’r tywydd a’r effaith y mae glaw trwm wedi’i chael ar y statws baner las ar draws Cymru?

John Griffiths: We will work with the Environment Agency and Keep Wales Tidy to understand the impact of recent weather events and how they impact on blue flag status and to determine what measures we can take to address those issues.

John Griffiths: Byddwn yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a Cadw Cymru’n Daclus er mwyn deall yr effaith y mae’r tywydd diweddar wedi’i chael a’r modd y mae’n effeithio ar y statws baner las, er mwyn penderfynu pa gamau y gallwn eu cymryd i fynd i’r afael â’r materion hynny.

Amddifynfeydd Llifogydd

Flood Defences

9. Mohammad Asghar: Beth y mae’r Gweinidog yn ei wneud i wella amddiffynfeydd llifogydd yng Nghymru. OAQ(4)0148(ESD)

9. Mohammad Asghar: What is the Minister doing to improve flood defences in Wales. OAQ(4)0148(ESD)

John Griffiths: The Welsh Government is investing over £140 million in flood and coastal erosion risk management over the life of this Assembly, which includes over £100 million in directly improving protection for at-risk communities across Wales.

John Griffiths: Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £140 miliwn mewn rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn ystod cyfnod y Cynulliad hwn, sy’n cynnwys dros £100 miliwn ar waith uniongyrchol i wella diogelwch cymunedau sydd mewn perygl ledled Cymru.

Mohammad Asghar: Thank you very much for that reply. The 2012 'A Climate Change Risk Assessment for Wales’ states that one of the greatest risks to Wales from climate change come from the increases in coastal and inland flooding, increases in wave heights and storm surges, which present a threat to many low-lying areas of Wales, including the Severn estuary. What is the Welsh Government doing to ensure that our sea defences are adequately maintained and strengthened to meet the challenge presented by climate change and to protect these areas from the threat of unexpected flooding?

Mohammad Asghar: Diolch yn fawr iawn ichi am yr ymateb hwnnw. Mae asesiad risg Cymru ar y newid yn yr hinsawdd a gyhoeddwyd yn 2012 yn nodi mai rhai o’r pethau sy’n peri’r risg fwyaf i Gymru o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd yw’r cynnydd mewn llifogydd arfordirol a llifogydd mewndirol, a’r cynnydd yn uchder y tonnau ac ymchwyddiadau storm, sy’n fygythiad i lawer o ardaloedd isel yng Nghymru, gan gynnwys aber afon Hafren. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod ein hamddiffynfeydd môr yn cael eu cynnal a’u cadw a’u cryfhau’n ddigonol i ymateb i’r her a gyflwynir gan y newid yn yr hinsawdd a gwarchod yr ardaloedd hyn rhag bygythiad llifogydd annisgwyl?

John Griffiths: The projections in relation to climate change are very much built into our strategies, including our national strategy on flood risk management, and that also applies to our partner organisations, such as the Environment Agency and local authorities. I launched the completion of a stage of the important sea defence project at Borth in north Wales a few months ago, for example. A lot of work is taking place around Wales and we will continue to invest in our flood defences and continue to implement our national strategy.

John Griffiths: Rydym yn sicr yn cynnwys y rhagamcanion mewn perthynas â’r newid yn yr hinsawdd yn ein strategaethau, gan gynnwys ein strategaeth genedlaethol ar reoli perygl llifogydd, ac mae hynny hefyd yn berthnasol i’n sefydliadau partner, megis Asiantaeth yr Amgylchedd ac awdurdodau lleol. Bûm mewn digwyddiad i ddathlu cwblhau rhan o’r prosiect amddiffynfeydd môr pwysig yn y Borth yn y gogledd ychydig fisoedd yn ôl, er enghraifft. Mae llawer o waith yn cael ei wneud o amgylch Cymru, a byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein hamddiffynfeydd llifogydd ac yn parhau i weithredu ein strategaeth genedlaethol.

The Record

Elin Jones: For the record, Minister, Borth is not in north Wales.

Elin Jones: Er gwybodaeth, Weinidog, nid yw Borth yn y gogledd.

Mae nifer o agweddau o’r llifogydd yn ardal Aberystwyth wedi cael sylw dros yr wythnosau diwethaf, ac fe wnaethoch chi ymweld â rhai o’r cartrefi yn yr ardal honno a gafodd eu heffeithio. A wnewch chi gymryd y cyfle i ymuno â fi i longyfarch Meddygfa Ystwyth? Ar y dydd Sadwrn, bu llifogydd trwy holl adeilad y feddygfa. Erbyn y dydd Llun, roedd y feddygfa wedi adleoli ac wedi ailgychwyn y gwasanaeth i gleifion yn ddi-dor. Gweithiodd y staff yn ddiflino i sicrhau nad oedd eu cleifion yn cael eu heffeithio gan y llifogydd. A wnewch chi ymuno â mi yn eu llongyfarch ar y gwaith hwnnw?

There are a number of aspects of the recent flooding in the Aberystwyth area that have been covered over the past few weeks, and you visited some of the homes in the area that were affected. Will you take this opportunity to join me in congratulating the Ystwyth surgery? On the Saturday, the surgery saw flood waters come through the entire building. By the Monday, the surgery had relocated and seamlessly restarted its services to patients. The staff worked tirelessly to ensure that their patients were not affected by the floods. Will you join me in congratulating them on that work?

John Griffiths: I would very much like to join Elin Jones in congratulating the surgery. We talk about the consequences of flooding, which can be severe. We hope that—to the extent that flooding is not totally preventable—when it does occur, the response is everything that communities would expect and want from service providers. That is a clear example of the sort of reaction that we would all like to see.

John Griffiths: Rwyf yn awyddus iawn i ymuno ag Elin Jones wrth longyfarch y feddygfa. Rydym yn sôn am ganlyniadau llifogydd, sy’n gallu bod yn ddifrifol. Rydym yn gobeithio—i’r graddau nad oes modd atal llifogydd yn gyfan gwbl—pan fydd llifogydd yn digwydd y bydd yr ymateb gan ddarparwyr gwasanaeth gystal ag y byddai cymunedau’n ei ddisgwyl ac yn ei ddymuno. Mae hon yn enghraifft amlwg o’r math o ymateb y byddem i gyd yn hoffi ei weld.

The Record

Lles Anifeiliaid

Animal Welfare

10. Arweinydd yr Wrthblaid (Andrew R.T. Davies): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd er mis Mai 2011 i roi sylw i faterion lles anifeiliaid yng Nghanol De Cymru. OAQ(4)0156(ESD)

10. The Leader of the Opposition (Andrew R.T. Davies): What steps has the Welsh Government taken since May 2011 to address issues of animal welfare in South Wales Central. OAQ(4)0156(ESD)

The Record

John Griffiths: I am committed to raising the standards of animal welfare for all animals kept in Wales through the animal health and welfare strategy.

John Griffiths: Rwyf wedi ymrwymo i wella safonau lles anifeiliaid ar gyfer yr holl anifeiliaid a gaiff eu cadw yng Nghymru trwy’r strategaeth iechyd a lles anifeiliaid.

Andrew R.T. Davies: Minister, thank you for that answer. One of the key things that improves animal welfare in South Wales Central is the livestock market in the town of Cowbridge. The future of that market is under consideration at the moment. You have the field of planning within your portfolio as well as animal health. What view does your department, and you as Minister in particular, take on the facilities created by livestock markets, especially modern livestock markets, and supporting their retention for rural communities?

Andrew R.T. Davies: Weinidog, diolch ichi am yr ateb hwnnw. Un o’r prif bethau sy’n gwella lles anifeiliaid yng Nghanol De Cymru yw’r farchnad da byw yn nhref y Bont-faen. Mae dyfodol y farchnad honno’n cael ei ystyried ar hyn o bryd. Mae maes cynllunio yn rhan o’ch portffolio yn ogystal ag iechyd anifeiliaid. Beth yw barn eich adran, a’ch barn chi fel Gweinidog yn arbennig, am y cyfleusterau a grëwyd gan farchnadoedd da byw, yn enwedig marchnadoedd da byw modern, a beth yw eich barn am gefnogi eu cadw ar agor er lles cymunedau gwledig?

John Griffiths: As a Government, we understand the issues around livestock markets and their importance to the industry in Wales and local communities. However, with regard to any planning matter, given my responsibilities, it would not be proper for me to make a statement on those issues, here or elsewhere.

John Griffiths: Fel Llywodraeth, rydym yn deall y materion sy’n ymwneud â marchnadoedd da byw a’u pwysigrwydd i’r diwydiant yng Nghymru ac i gymunedau lleol. Fodd bynnag, o ran unrhyw fater ynghylch cynllunio, o gofio fy nghyfrifoldebau, ni fyddai’n briodol imi wneud datganiad ynghylch y materion hynny, yn y fan hon neu yn rhywle arall.

Julie Morgan: I welcome yesterday’s announcement on the new control of dogs Bill, which is important for the South Wales Central area. I congratulate the Minister on having it included in the legislative programme. Is the Minister aware that Royal Mail and the Communications Workers Union are launching today, at the start of the summer holiday—which is always a difficult time when there is less regularity in what people are doing in their homes—an appeal for dog owners to help keep dogs under control when postmen or women call in the school holidays. There were 217 attacks in the last 12 months in Wales and a considerable number of those were in the South Wales Central area.

Julie Morgan: Rwyf yn croesawu’r cyhoeddiad a gafwyd ddoe ar y Bil newydd ynghylch rheoli cŵn, sy’n bwysig i ardal Canol De Cymru. Rwyf yn llongyfarch y Gweinidog ar y ffaith i’r Bil gael ei gynnwys yn y rhaglen ddeddfwriaethol. A yw’r Gweinidog yn ymwybodol bod y Post Brenhinol ac Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu heddiw, ar ddechrau gwyliau’r haf—sydd bob amser yn gyfnod anodd pan fydd llai o gysondeb o ran yr hyn y mae pobl yn ei wneud yn eu cartrefi—yn lansio apêl i berchnogion cŵn helpu i gadw cŵn dan reolaeth pan fydd y sawl sy’n dosbarthu’r post yn galw yn ystod gwyliau’r ysgol. Cafwyd 217 o ymosodiadau yn ystod y 12 mis diwethaf yng Nghymru, ac roedd nifer sylweddol o’r rheini yn ardal Canol De Cymru.

John Griffiths: I thank Julie Morgan for that important supplementary question. I am pleased that we are taking forward dog control legislation, as announced by the First Minister yesterday. It will be important and beneficial to Wales. I am aware of the Communications Workers Union’s campaign. I met with the Communications Workers Union on this issue and I hope that householders will take account of that campaign and behave accordingly. Far too many postmen and women have been attacked, along with other visitors to private property. It must stop.

John Griffiths: Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn atodol pwysig hwnnw. Rwyf yn falch ein bod yn cyflwyno deddfwriaeth ynghylch rheoli cŵn, fel y cyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ddoe. Bydd yn bwysig ac yn fuddiol i Gymru. Rwyf yn ymwybodol o ymgyrch Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu. Cyfarfûm ag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu ynghylch y mater hwn, a gobeithiaf y bydd deiliaid tai yn ystyried yr ymgyrch honno ac yn ymddwyn yn unol â hynny. Mae llawer gormod o bobl sy’n dosbarthu’r post, ynghyd ag ymwelwyr eraill ag eiddo preifat, wedi dioddef ymosodiadau. Rhaid rhoi stop ar hynny.

Un Corff Amgylcheddol

Single Environment Body

11. William Powell: A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am greu’r Un Corff Amgylcheddol newydd. OAQ(4)0157(ESD)

11. William Powell: Will the Minister provide an update on the creation of the new Single Environment Body. OAQ(4)0157(ESD)

John Griffiths: The first Order to establish the new body will be debated later today in this Plenary session.

John Griffiths: Caiff y Gorchymyn cyntaf i sefydlu’r corff newydd ei drafod yn ddiweddarach heddiw yn y Cyfarfod Llawn.

William Powell: Thank you, Minister, for that answer. In my role as Chair of the Petitions Committee, I recently received a letter from the chief executive of the Countryside Council for Wales, stating that the organisation was at this time unable to consider any further the proposal to extend the Gower area of outstanding natural beauty because of the focus placed currently on transitional arrangements to move to the new body.

William Powell: Diolch, Weinidog, am yr ateb hwnnw. Yn fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, cefais lythyr yn ddiweddar gan brif weithredwr Cyngor Cefn Gwlad Cymru, yn dweud nad oedd y sefydliad ar hyn o bryd yn gallu ystyried ymhellach y cynnig i ymestyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr oherwydd y pwyslais a roddir ar hyn o bryd ar drefniadau pontio i symud i’r corff newydd.

The Record

2.15 p.m.

 

I was, as were other members of the committee, somewhat alarmed by the underlying message that that conveyed. Will you please reassure us that the work of CCW and, indeed, the other bodies, will not be in some form of paralysis during the coming months in the lead-up to the creation of a single body?

Roeddwn i, fel aelodau eraill y pwyllgor, wedi dychryn braidd gan y neges sylfaenol yr oedd hynny’n ei chyfleu. A wnewch chi ein sicrhau na fydd y Cyngor Cefn Gwlad ac, yn wir, y cyrff eraill, yn anweithredol yn ystod y misoedd nesaf yn y cyfnod sy’n arwain at greu’r un corff amgylcheddol?

John Griffiths: I am very pleased to give Members that assurance. I have been very clear with the current three bodies that it must be business as usual, as much as possible, as we make the transition to the new single body. However, we all have to understand that a great deal of time and effort of the staff of the current organisations is involved in moving towards the single body. Therefore, what I, as the Minister, have said clearly to them is that they must prioritise and make sure that, in terms of essential work, there is absolutely no slippage, and that remains the case.

John Griffiths: Rwyf yn falch iawn o roi’r sicrwydd hwnnw i’r Aelodau. Rwyf wedi dweud yn glir iawn wrth y tri chorff presennol bod yn rhaid iddynt barhau i weithio fel arfer, cymaint ag sy’n bosibl, wrth inni bontio i’r un corff amgylcheddol newydd. Fodd bynnag, rhaid i bob un ohonom ddeall bod llawer iawn o amser ac ymdrech staff y sefydliadau presennol yn ymwneud â symud tuag at yr un corff amgylcheddol. Felly, yr hyn yr wyf i, fel y Gweinidog, wedi’i ddweud yn glir wrthynt yw bod yn rhaid iddynt flaenoriaethu a sicrhau, o ran gwaith hanfodol, nad yw eu perfformiad yn gostwng dim, ac mae hynny’n dal yn wir.

Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Questions to the Minister for Housing, Regeneration and Heritage

The Record

Sain Ffagan

St Fagans

1. Mark Drakeford: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan. OAQ(4)0147(HRH)

1. Mark Drakeford: Will the Minister make a statement on the future of the Museum of Welsh Life at St Fagans. OAQ(4)0147(HRH)

The Minister for Housing, Regeneration and Heritage (Huw Lewis): I thank the Member for Cardiff West for his question. The St Fagans: National History Museum redevelopment will boost the Welsh economy and ensure that the museum maintains its place at the heart of Wales’s cultural life. It will offer much-improved visitor facilities and tell many more stories about Wales. A decision on the redevelopment’s heritage lottery funding application is expected imminently.

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (Huw Lewis): Diolch i’r Aelod dros Orllewin Caerdydd am ei gwestiwn. Bydd y gwaith o ailddatblygu Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn hwb i economi Cymru ac yn sicrhau bod yr amgueddfa yn parhau’n ganolog i fywyd diwylliannol Cymru. Bydd yn cynnig cyfleusterau llawer gwell i ymwelwyr ac yn adrodd llawer mwy o straeon am Gymru. Disgwylir penderfyniad yn fuan ynghylch cais y prosiect ailddatblygu am gyllid gan gronfa dreftadaeth y loteri.

Mark Drakeford: Thank you, Minister, for that answer. Last year was an excellent year for National Museum Wales, with 1.69 million visitors—a record-breaking number. However, we can do even more than that, as you have said. If the Making History project goes ahead in the way that we want it to, as you have said, it will bring enormous economic as well as cultural benefits. Do you agree that we need to work hard to make sure that the local community benefits from that economic impetus, and that the development in St Fagans needs to be managed in a way that brings those benefits while managing the impact that those extra visitors, who we want to see, will have on local facilities?

Mark Drakeford: Diolch, Weinidog, am yr ateb hwnnw. Roedd y llynedd yn flwyddyn ardderchog i Amgueddfa Cymru, wrth iddi groesawu 1.69 miliwn o ymwelwyr—y nifer fwyaf erioed. Fodd bynnag, gallwn wneud hyd yn oed mwy na hynny, fel yr oeddech yn dweud. Os bydd y prosiect Creu Hanes yn mynd rhagddo fel yr ydym am iddo wneud, fel yr oeddech yn sôn, bydd yn sicrhau manteision sylweddol o safbwynt yr economi yn ogystal â diwylliant. A ydych yn cytuno bod angen inni weithio’n galed i wneud yn siŵr bod y gymuned leol yn elwa o’r hwb economaidd hwnnw, ac yn cytuno bod angen rheoli’r datblygiad yn Sain Ffagan mewn modd sy’n sicrhau’r manteision hynny, gan reoli hefyd yr effaith y bydd yr ymwelwyr ychwanegol, y byddwn am eu gweld, yn ei chael ar gyfleusterau lleol?

Huw Lewis: Quite so. The Member for Cardiff West is quite right to point out that last year was indeed a bumper year for National Museum Wales. There were over 1.69 million visits. It was the best-ever year, which I believe is a result of both the museum’s professionalism and a ringing endorsement of the Welsh Government’s free admissions policy. The changes to St Fagans: National History Museum are planned to be considerable, in terms of scale and scope. I take on board your points. It is very important that the local community—the community of St Fagans—is consulted properly and that we investigate every possible way in which local people as well as the institution itself can benefit from this considerable step change in terms of the provision at St Fagans.

Huw Lewis: Yn sicr. Mae’r Aelod dros Orllewin Caerdydd yn iawn i nodi bod y llynedd wedi bod yn flwyddyn ragorol yn wir i Amgueddfa Cymru. Cafwyd dros 1.69 miliwn o ymweliadau. Y llynedd oedd y flwyddyn orau erioed, a chredaf fod hynny wedi digwydd o ganlyniad i broffesiynoldeb yr amgueddfa a chymeradwyaeth bendant iawn o bolisi mynediad am ddim Llywodraeth Cymru. Mae disgwyl i’r newidiadau a wneir i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru fod yn sylweddol, o ran eu maint a’u cwmpas. Rwyf yn derbyn eich pwyntiau. Mae’n bwysig iawn ymgynghori’n briodol â’r gymuned leol—cymuned Sain Ffagan—ac mae’n bwysig iawn ein bod yn ymchwilio i bob ffordd bosibl o sicrhau y gall pobl leol yn ogystal â’r sefydliad ei hun elwa o’r newid sylweddol hwn o ran y ddarpariaeth yn Sain Ffagan.

Suzy Davies: Minister, I know that you support the idea of maximum access to cultural experiences, and David Anderson’s comments in the Western Mail today remind us of the role of culture in social justice. How can you ensure that there is greater collaboration between the well-supported national museums and the more vulnerable local museums across Wales, to ensure that that maximum access is not the preserve of our seven flagship institutions?

Suzy Davies: Weinidog, gwn eich bod yn cefnogi’r syniad o sicrhau’r lefel uchaf posibl o fynediad i brofiadau diwylliannol, ac mae sylwadau David Anderson yn y Western Mail heddiw yn ein hatgoffa o’r rôl y mae diwylliant yn ei chwarae yng nghyswllt cyfiawnder cymdeithasol. Sut y gallwch sicrhau mwy o gydweithredu rhwng yr amgueddfeydd cenedlaethol sy’n cael cefnogaeth dda a’r amgueddfeydd lleol mwy bregus a geir ar draws Cymru, er mwyn sicrhau na chaiff y lefel uchaf honno o fynediad ei chyfyngu i’n saith sefydliad mwyaf blaenllaw?

Huw Lewis: I endorse David Anderson’s comments wholeheartedly. There is a leadership role here, in terms of the Welsh Government’s activity within the broader community of Wales, and the museums and galleries nationally, and the way in which we all interact with local museums, which may be local-authority supported or may be entirely voluntary in their nature—some of which hold extremely interesting and valuable collections up and down Wales. That level of dialogue is one that I am encouraging. I would like to think that that interaction between the national and the local is better than it has ever been. We must have a mind, of course, to support through tough times some very dedicated bands, quite often, of volunteers as they struggle to keep facilities open and look after their collections. I am alive to this agenda, and I know that there is expectation upon my officials and National Museum Wales to open out in terms of spreading expertise, sharing leadership, sharing collections and sharing advice.

Huw Lewis: Hoffwn ategu sylwadau David Anderson yn llwyr. Mae gan Lywodraeth Cymru rôl arweiniol i’w chwarae yn y fan hon o safbwynt ei gweithgarwch yn y gymuned ehangach yng Nghymru, o safbwynt amgueddfeydd ac orielau yn genedlaethol, ac o safbwynt y modd yr ydym i gyd yn rhyngweithio ag amgueddfeydd lleol, a allai fod yn cael cefnogaeth gan awdurdodau lleol neu a allai fod yn gwbl wirfoddol eu natur—mae gan rai ohonynt gasgliadau hynod o ddiddorol a gwerthfawr ar hyd a lled Cymru. Rwyf yn annog trafodaethau ar y lefel honno. Hoffwn feddwl bod y rhyngweithio hwnnw rhwng sefydliadau cenedlaethol a sefydliadau lleol yn well nag a fu erioed. Rhaid inni fod yn awyddus, wrth gwrs, i gefnogi rhai grwpiau ymroddedig iawn o wirfoddolwyr, yn eithaf aml, wrth iddynt ymdrechu i gadw cyfleusterau ar agor a gofalu am eu casgliadau mewn cyfnod anodd. Rwyf yn effro i’r agenda honno, a gwn fod disgwyl i’m swyddogion ac i Amgueddfa Cymru fod yn fwy agored o ran lledaenu arbenigedd a rhannu arweinyddiaeth, casgliadau a chyngor.

The Record

The Leader of Plaid Cymru (Leanne Wood): Minister, St Fagans: National History Museum is the second most popular visitor attraction in Wales, behind the Wales Millennium Centre, and deservedly so. With the Olympics due to start next week with the first women’s football match, what steps has your Government taken to ensure that London and the surrounding area are not the only winners in the anticipated tourist boost? Furthermore, what help is being provided to Welsh tourist attractions to ensure that they can benefit from the thousands of foreign visitors expected to be in the United Kingdom over the next month and a half?

Arweinydd Plaid Cymru (Leanne Wood): Weinidog, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yw’r atyniad mwyaf poblogaidd ond un i ymwelwyr yng Nghymru, ar ôl Canolfan Mileniwm Cymru, a hynny’n haeddiannol. Gan y bydd y Gemau Olympaidd yn dechrau yr wythnos nesaf â’r gêm gyntaf yn y gystadleuaeth pêl-droed i ferched, pa gamau y mae eich Llywodraeth wedi’u cymryd i sicrhau nad Llundain a’r cyffiniau yw’r unig ardaloedd a fydd yn elwa o’r cynnydd a ragwelir yn nifer y twristiaid? At hynny, pa gymorth a ddarperir i atyniadau i dwristiaid yng Nghymru er mwyn sicrhau y gallant elwa o’r miloedd o ymwelwyr o dramor y disgwylir iddynt fod yn y Deyrnas Unedig yn ystod y mis a hanner nesaf?

Huw Lewis: I thank the Member for that question. The answer to the question is partly contained within the question itself. The opening salvoes of the Olympics—the men’s and women’s football, the opening athletic events of the games—will not be taking place in London; they will be taking place here in Cardiff. Just this week, I saw a small cross-section of the nigh on 1,000 athletes and support staff who are being hosted up and down Wales as a result of the activities of the Welsh Government and its partners in supporting teams of athletes, particularly from across the Commonwealth, to make their pre-Olympic preparations in Wales. I was also exposed to the extraordinarily enthusiastic reception that some of those Olympic stars were treated to from schoolchildren from Cardiff and the Vale of Glamorgan. We expect Wales to benefit from the London Olympics.

Huw Lewis: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae rhan o’r ateb i’r cwestiwn yn y cwestiwn ei hun. Ni fydd digwyddiadau agoriadol y Gemau Olympaidd—y cystadlaethau pêl-droed i ddynion a merched a digwyddiadau athletau agoriadol y gemau—yn cael eu cynnal yn Llundain; byddant yn cael eu cynnal yma yng Nghaerdydd. Yr wythnos hon, gwelais drawstoriad bach o’r bron i 1,000 o athletwyr a staff cynorthwyol sy’n cael eu lletya ar hyd a lled Cymru o ganlyniad i weithgarwch Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid i gynorthwyo timau o athletwyr, o bob rhan o’r Gymanwlad yn enwedig, i baratoi ar gyfer y Gemau Olympaidd yng Nghymru. Gwelais hefyd y croeso hynod o frwdfrydig a gafodd rhai o’r sêr Olympaidd hynny gan blant ysgol o Gaerdydd a Bro Morgannwg. Rydym yn disgwyl i Gymru elwa o Gemau Olympaidd Llundain.

  

Eluned Parrott: Minister, I am sure that you welcomed the announcement in the spring that the Vulcan Hotel will soon move to a new and permanent home at St Fagans: National History Museum. However, the process may take considerable time, due, in part, to the high costs of those kinds of developments. What support can the Welsh Government give to the museum to ensure that this quintessential piece of Cardiff’s history is ready to welcome visitors and—dare I say it?—drinkers as soon as possible?

Eluned Parrott: Weinidog, rwyf yn siŵr ichi groesawu’r cyhoeddiad yn y gwanwyn y bydd Gwesty’r Vulcan yn symud yn fuan i gartref newydd a pharhaol yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Fodd bynnag, gallai’r broses gymryd cryn dipyn o amser, a hynny’n rhannol o ganlyniad i’r costau uchel sy’n gysylltiedig â’r mathau hynny o ddatblygiadau. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i’r amgueddfa i sicrhau bod y darn hanfodol hwn o hanes Caerdydd yn barod i groesawu ymwelwyr ac—os meiddiaf ddweud—yn barod i groesawu yfwyr cyn gynted ag sy’n bosibl?

Huw Lewis: I think that we all welcome a resolution to the very sticky situation that was developing around the future of the much-loved Vulcan. It seems now as if we have a resolution that will satisfy almost everyone. This kind of development takes time—it is labour intensive and capital intensive. People who understand what St Fagans does will also understand that this kind of thing is done extraordinarily carefully. I look forward, in the not too distant future, to a time when we can all enjoy a pint once again in the Vulcan, if at a different location.

Huw Lewis: Credaf ein bod i gyd yn croesawu ateb i’r sefyllfa anodd iawn a oedd yn datblygu ynghylch dyfodol Gwesty’r Vulcan a oedd yn boblogaidd iawn. Ymddengys fod gennym ateb erbyn hyn a fydd yn bodloni bron pawb. Mae’r math hwn o ddatblygiad yn cymryd amser—mae’n ddwys o ran llafur ac yn ddwys o ran cyfalaf. Bydd y sawl sy’n deall yr hyn y mae Sain Ffagan yn ei wneud hefyd yn deall y caiff y math hwn o waith ei wneud mewn modd hynod o ofalus. Edrychaf ymlaen, yn y dyfodol agos, at adeg pan fydd pob un ohonom yn gallu mwynhau peint unwaith yn rhagor yn y Vulcan, hyd yn oed os bydd mewn lleoliad gwahanol.

The Record

Papur Gwyn ar Fywyd Gwell a Chymunedau Gwell

White Paper for Better Lives and Communities

2. Jocelyn Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Papur Gwyn ar Fywyd Gwell a Chymunedau Gwell. OAQ(4)0158(HRH)

2. Jocelyn Davies: Will the Minister make a statement on the White Paper for Better Lives and Communities. OAQ(4)0158(HRH)

Huw Lewis: I published my housing White Paper on 21 May and the consultation closes on 17 August. It sets out a bold and ambitious programme of legislative and non-legislative actions that will do even more to help people meet their housing needs, and it responds to the considerable challenges that we face.

Huw Lewis: Cyhoeddais fy Mhapur Gwyn ar dai ar 21 Mai, a daw’r ymgynghoriad i ben ar 17 Awst. Mae’n nodi rhaglen feiddgar ac uchelgeisiol o gamau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol a fydd yn gwneud mwy fyth i helpu pobl i ddiwallu eu hanghenion o ran tai, ac mae’n ymateb i’r heriau sylweddol yr ydym yn eu hwynebu.

Jocelyn Davies: Will you give an assurance that your legislation on homelessness will, on the face of the Bill, have a clear, concise obligation that all services will be user focused?

Jocelyn Davies: A wnewch chi roi sicrwydd y bydd eich deddfwriaeth ynghylch digartrefedd, ar wyneb y Bil, yn cynnwys rhwymedigaeth glir a chryno y bydd pob gwasanaeth yn canolbwyntio ar y defnyddiwr?

Huw Lewis: Yes, I can see that that would be part of the ethos with which this Welsh Government and its predecessors would approach this. I hope that that would be taken as read.

Huw Lewis: Gwnaf, a gallaf weld y byddai hynny’n rhan o ethos Llywodraeth Cymru a’i rhagflaenwyr wrth ymdrin â’r mater. Gobeithiaf y bydd hynny’n cael ei dderbyn yn ganiataol.

Mike Hedges: May I talk to you again, Minister, about co-operative housing? I would be grateful if you could outline the role that you hope co-operative housing will play in addressing our housing needs. What consideration have you given to creating a new legal tenancy status for co-operative housing under any future tenancy Bill?

Mike Hedges: A gaf siarad â chi eto, Weinidog, ynghylch tai cydweithredol? Byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu’r rôl yr ydych yn gobeithio y bydd tai cydweithredol yn ei chwarae wrth fynd i’r afael â’n hanghenion o ran tai. Pa ystyriaeth yr ydych wedi’i rhoi i greu statws newydd o ran tenantiaeth gyfreithiol ar gyfer tai cydweithredol dan unrhyw Fil yn y dyfodol ynghylch tenantiaeth?

The Record

Huw Lewis: I thank the Member for that point. As far as I am concerned, the issue of co-operative housing cannot be mentioned enough with regard to ensuring that everyone understands that this is a priority for me and the Welsh Government. The Member is quite right to point out that barriers between where we are now and where we would like to be in terms of developing co-operative housing are not just about bricks, mortar, capital and land; they are also about legal issues. My officials are working closely with the co-operative housing sector to identify any legal barriers preventing the development of co-operative housing as a distinct form of tenure. I believe that those barriers exist, and we will seek to resolve them through the first housing Bill.

Huw Lewis: Diolch i’r Aelod am y pwynt hwnnw. O’m rhan i, ni ellir sôn ddigon am dai cydweithredol o safbwynt sicrhau bod pawb yn deall bod y mater hwn yn flaenoriaeth i mi ac i Lywodraeth Cymru. Mae’r Aelod yn hollol iawn wrth dynnu sylw at y ffaith nad yw’r hyn sy’n ein rhwystro rhag symud o’r sefyllfa yr ydym ynddi’n awr i’r sefyllfa yr hoffem fod ynddi o ran datblygu tai cydweithredol yn ymwneud â brics, morter, cyfalaf a thir yn unig; mae’n ymwneud hefyd â materion cyfreithiol. Mae fy swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r sector tai cydweithredol i adnabod unrhyw rwystrau cyfreithiol sy’n atal datblygu tai cydweithredol fel math penodol o ddaliadaeth. Credaf fod y rhwystrau hynny’n bodoli, a byddwn yn ceisio eu datrys drwy’r Bil tai cyntaf.

Mark Isherwood: Yesterday’s statement by the First Minister on the Welsh Government’s legislative programme referred to a number of proposed Welsh Government Bills and White Papers. Given that the European Commission has identified the UK, and therefore Wales, as one of the member states required to amend their housing policies within the period 2012-13, recommending that we address the destabilising impact of high and volatile house prices and high household debt by implementing a comprehensive housing reform programme to increase housing supply, why was there no reference to either the White Paper that you referred to or the proposed Bill in yesterday’s legislative programme statement by the First Minister?

Mark Isherwood: Roedd y datganiad a wnaed ddoe gan y Prif Weinidog ynghylch rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at nifer o Filiau a Phapurau Gwyn arfaethedig Llywodraeth Cymru. O gofio bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi nodi bod y DU, a Chymru, felly, yn un o’r aelod-wladwriaethau y mae’n ofynnol iddynt ddiwygio eu polisïau tai yn ystod 2012-13, gan argymell y dylem ymdrin â’r modd y mae prisiau tai uchel ac anwadal yn ansefydlogi’r sefyllfa ac ymdrin â dyledion uchel aelwydydd, trwy weithredu rhaglen gynhwysfawr o ddiwygio ym maes tai er mwyn cynyddu’r cyflenwad o dai, pam na chyfeiriwyd at y Papur Gwyn, y bu i chi gyfeirio ato, neu’r Bil arfaethedig yn y datganiad a wnaed ddoe gan y Prif Weinidog ynghylch y rhaglen ddeddfwriaethol?

Huw Lewis: I can reassure the Member that the outline timetable that I have repeatedly described to Members in the Chamber and in committee with regard to the development of the housing White Paper and the coming housing Bill remains as first publicised.

Huw Lewis: Gallaf sicrhau’r Aelod bod yr amserlen fras yr wyf wedi’i disgrifio dro ar ôl tro i Aelodau yn y Siambr ac yn y pwyllgor ynghylch datblygu’r Papur Gwyn ar dai, a’r Bil tai sydd ar ddod, yn parhau yr un fath â’r amserlen a gyhoeddwyd gennyf yn wreiddiol.

Peter Black: Minister, in your White Paper, you express the ambition to remove Welsh local councils from the housing revenue account subsidy system. Negotiations on that have been going on for some years. Can you give us an update on where we are with that, please?

Peter Black: Weinidog, yn eich Papur Gwyn, bu ichi fynegi’r uchelgais i dynnu cynghorau lleol yng Nghymru allan o system cymhorthdal ​​y cyfrif refeniw tai. Mae trafodaethau ynghylch hynny wedi bod yn mynd rhagddynt ers rhai blynyddoedd. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am y sefyllfa ynghylch hynny, os gwelwch yn dda?

Huw Lewis: On my watch, negotiations have been going on for just a short while. My officials have met with Treasury officials, and the results of those initial conversations are interesting and really quite encouraging. I hope that we can reach a fairly rapid resolution of this problem. The ball is now in the Treasury’s court. If it is willing to move with a sense of urgency to understand Wales’s need and desire to get out from under the system as soon as humanly possible, we could see rapid progress, I hope within this financial year.

Huw Lewis: Yn ystod fy nghyfnod i yn y swydd, mae trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt am gyfnod byr yn unig. Mae fy swyddogion wedi cyfarfod â swyddogion y Trysorlys, ac mae canlyniadau’r sgyrsiau cychwynnol hynny’n ddiddorol ac yn eithaf calonogol, a dweud y gwir. Rwyf yn gobeithio y gallwn ddod o hyd i ateb i’r broblem hon yn weddol fuan. Y Trysorlys sydd biau’r symudiad nesaf. Os yw’n barod i fynd ati ar rywfaint o frys i ddeall angen Cymru a’r awydd i adael y system cyn gynted ag sy’n bosibl, gallem weld cynnydd buan, cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, gobeithio.

Peter Black: Thank you for that answer, Minister. I calculated that it is just over a year that you have been talking to the Treasury about this. If the ball is in the Treasury’s court, can you confirm that you have made it a firm offer for buying out that subsidy? Are you expecting an answer within a fairly short time?

Peter Black: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Cyfrifais eich bod yn siarad â’r Trysorlys am y mater hwn ers ychydig dros flwyddyn. Os y Trysorlys sydd biau’r symudiad nesaf, a allwch gadarnhau eich bod wedi cyflwyno cynnig cadarn iddo ynghylch prynu cyfran o’r cymhorthdal hwnnw? A ydych yn disgwyl ateb yn weddol fuan?

Huw Lewis: Yes, and I hope so.

Huw Lewis: Gallaf, ac ydw, rwyf yn gobeithio cael ateb yn weddol fuan.

The Record

Blaenoriaethau’r Gweinidog

The Minister’s Priorities

3. Elin Jones: Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer y chwe mis nesaf. OAQ(4)0145(HRH)

3. Elin Jones: What are the Minister’s priorities for the next six months. OAQ(4)0145(HRH)

Huw Lewis: I am committed to fulfilling, across Wales, the commitments that are set out for my portfolio in the programme for government.

Huw Lewis: Rwyf wedi ymrwymo i gyflawni, ar draws Cymru, yr ymrwymiadau sydd wedi’u nodi ar gyfer fy mhortffolio yn y rhaglen lywodraethu.

The Record

Elin Jones: Weinidog, mae bwriad i ddymchwel eglwys Gatholig Gwenfrewi yn Aberystwyth—eglwys ag iddi bwysigrwydd i hanes crefyddol a diwylliannol Cymru, yn enwedig hanes Catholigiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Catholigion a haneswyr o fri yn awyddus iawn i weld Cadw yn rhestru’r eglwys hon. A wnewch gadarnhau i mi bod hanes crefyddol Cymru yn bwysig iawn i’ch Llywodraeth chi?

Elin Jones: Minister, there is an intention to demolish the Gwenfrewi Catholic church in Aberystwyth—a church of historic importance with regard to the history of Catholicism through the medium of Welsh. Catholics and eminent historians are very keen for Cadw to list this church. Will you confirm to me that the religious history of Wales is very important to your Government?

Huw Lewis: Of course it is. However, I have to say that I am unaware of the particular issue with the church that you mention in Aberystwyth. I am more than happy to investigate and to ask officials to assist with advice on the circumstances of this particular building.

Huw Lewis: Wrth gwrs ei fod yn bwysig. Fodd bynnag, rhaid imi ddweud nad wyf yn ymwybodol o’r broblem benodol ynghylch yr eglwys yr ydych yn sôn amdani yn Aberystwyth. Rwyf yn fwy na bodlon ymchwilio, a gofyn i’m swyddogion gynorthwyo trwy roi cyngor ynghylch amgylchiadau’r adeilad penodol hwn.

Lynne Neagle: Minister, friends and supporters of Pontypool Rugby Football Club and many from the wider rugby community were shocked and dismayed to read in the South Wales Argus that the Welsh Rugby Union is seeking to impose massive legal costs on the club following its recent High Court challenge. Leaving aside the obvious questions of fairness, memories of the Pontypool front row and the fact that Pontypool was one of the founding members of the union, the survival and success of clubs such as Pontypool are critical to the very future of Welsh rugby. Will you do everything in your power to make the Welsh Rugby Union think again, see sense, and recognise that this move will not only hurt Pontypool, but will do tremendous damage to Welsh rugby more widely?

Lynne Neagle: Weinidog, cafodd ffrindiau a chefnogwyr Clwb Rygbi Pont-y-pŵl, a llawer o bobl o’r gymuned rygbi ehangach, sioc a siom o ddarllen yn y South Wales Argus bod Undeb Rygbi Cymru yn ceisio gorfodi costau cyfreithiol enfawr ar y clwb yn dilyn ei her gyfreithiol yn yr Uchel Lys yn ddiweddar. Gan anwybyddu’r cwestiynau amlwg ynghylch tegwch, yr atgofion am reng flaen Pont-y-pŵl a’r ffaith bod Pont-y-pŵl yn un o sylfaenwyr yr Undeb, mae sicrhau bod clybiau megis Pont-y-pŵl yn goroesi ac yn llwyddo yn hanfodol i ddyfodol rygbi Cymru. A wnewch chi bopeth o fewn eich gallu i wneud i Undeb Rygbi Cymru ailfeddwl, ymbwyllo a chydnabod nad Pont-y-pŵl yn unig fydd yn dioddef oherwydd hyn, ond y bydd yn gwneud niwed enfawr i rygbi Cymru yn fwy cyffredinol?

2.30 p.m.

Huw Lewis: I thank the Member for Torfaen. This is a matter for the Welsh Rugby Union, as the governing body of Welsh rugby, to take on board. However, given the court judgment, I would expect there to be due consideration of the enormously proud history of that fantastic rugby club—Pontypool. Respect must be given to that. I would also expect the interests of the players and supporters of Pontypool RFC to be taken into consideration during any further discussions between partners about the future outcomes that might impinge on the club’s health and future.

Huw Lewis: Diolch i’r Aelod dros Dorfaen. Mae hwn yn fater i’w ystyried gan Undeb Rygbi Cymru, fel y corff sy’n llywodraethu rygbi yng Nghymru. Fodd bynnag, o gofio dyfarniad y llys, byddwn yn disgwyl i ystyriaeth briodol gael ei rhoi i hanes hynod o falch y clwb rygbi gwych hwnnw—Pont-y-pŵl. Rhaid parchu’r hanes hwnnw. Byddwn hefyd yn disgwyl i fuddiannau chwaraewyr a chefnogwyr Clwb Rygbi Pont-y-pŵl gael eu hystyried yn ystod unrhyw drafodaethau pellach rhwng partneriaid am y canlyniadau a ddaw a allai amharu ar les a dyfodol y clwb.

Suzy Davies: I accept that housing is a crucial part of your portfolio, Minister. However, can you explain why the Government’s supplementary budget transfers £1 million from the foster usage and lifelong learning through museum services budget to the increase the supply and choice of housing budget, especially coming in the same week as the excellent new advertising campaign for National Museum Wales, as well as David Anderson’s comments today? In making that decision, did you consider that it might give the impression that you might be pre-empting the consultation on the merger of Cadw, CyMAL—Museums, Archives and Libraries Wales, and the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales?

Suzy Davies: Rwyf yn derbyn bod tai yn rhan hollbwysig o’ch portffolio, Weinidog. Fodd bynnag, a allwch esbonio pam y mae cyllideb atodol y Llywodraeth yn trosglwyddo £1 filiwn o’r gyllideb ar gyfer meithrin defnydd o wasanaethau amgueddfeydd a dysgu gydol oes drwy wasanaethau amgueddfeydd, i’r gyllideb ar gyfer cynyddu’r cyflenwad a’r dewis o dai, yn enwedig yn ystod yr wythnos pan welwyd yr ymgyrch hysbysebu newydd wych ar gyfer Amgueddfa Cymru, yn ogystal â’r sylwadau a wnaed gan David Anderson heddiw? Wrth wneud y penderfyniad hwnnw, a fu ichi ystyried y gallai roi’r argraff eich bod efallai’n achub y blaen ar yr ymgynghoriad ynghylch uno Cadw, CyMAL—Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru, a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru?

Huw Lewis: There was no policy-driven decision connected with what I hope will be seen as good accounting. I can write to the Member with details of exactly what was behind the decision. In essence, this was about ensuring that a projected underspend in the museums budget, because of timings around the St Fagan’s development, was not left hanging in mid-air, and that that parcel of public money was utilised. That money will, in due course, be returned to the museums budget, probably in the next financial year, so that we ensure a smooth delivery of the St Fagan’s development.

Huw Lewis: Nid oedd unrhyw benderfyniad a yrrwyd gan bolisi’n gysylltiedig â’r cam a fydd, gobeithio, yn cael ei ystyried yn arfer cyfrifyddu da. Gallaf ysgrifennu at yr Aelod i nodi manylion yr hyn a oedd y tu ôl i’r penderfyniad. Yn ei hanfod, roedd yn ymwneud â sicrhau bod camau’n cael eu cymryd i ymdrin â thanwariant a ragwelid yn y gyllideb ar gyfer amgueddfeydd, oherwydd amseru datblygiad Sain Ffagan, a sicrhau bod y swm hwnnw o arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio. Bydd yr arian hwnnw’n cael ei ddychwelyd maes o law i’r gyllideb ar gyfer amgueddfeydd, yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf yn ôl pob tebyg, er mwyn inni sicrhau bod datblygiad Sain Ffagan yn cael ei gyflawni’n ddidrafferth.

Suzy Davies: Thank you for that answer; that is helpful. When you talk about bringing the money back into the museums pot, are you planning to add to that? In view of the endorsement that you gave to our big boys helping out our little boys a few moments ago, how can you expect money that is moving out of the museums pot to contribute to privileged providers helping the smaller museums?

Suzy Davies: Diolch am yr ateb hwnnw; mae o gymorth. Pan fyddwch yn sôn am roi’r arian yn ôl yn y gyllideb ar gyfer amgueddfeydd, a ydych yn bwriadu ychwanegu ato? O gofio ichi gymeradwyo’r ffaith bod ein sefydliadau mawr yn helpu ein sefydliadau bach, rai eiliadau’n ôl, sut y gallwch ddisgwyl i arian sy’n mynd allan o’r gyllideb ar gyfer amgueddfeydd gyfrannu at sicrhau bod darparwyr breintiedig yn helpu’r amgueddfeydd llai?

Huw Lewis: The sum total of the investment in the museums services, from the perspective of the Welsh Government, will remain as we have said it would be through the budgeting process. As we wait just a few more days for the Heritage Lottery Fund’s final decision on its commitment to the National History Museum at St Fagans, it is difficult to say precisely what the future holds for museums funding. The HLF has not made its final decision public yet; we all hope that it will be positive, in which case investment in museums services in Wales will be in a different and better place next week as compared with today.

Huw Lewis: Bydd cyfanswm y buddsoddiad mewn gwasanaethau amgueddfeydd, o safbwynt Llywodraeth Cymru, yn aros fel y nodwyd gennym trwy’r broses gyllidebu. Wrth inni aros ychydig yn rhagor o ddiwrnodau am benderfyniad terfynol Cronfa Dreftadaeth y Loteri ynghylch ei hymrwymiad i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, mae’n anodd dweud yn union beth fydd yn digwydd yn y dyfodol o ran cyllid i amgueddfeydd. Nid yw Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cyhoeddi ei phenderfyniad terfynol eto; rydym i gyd yn gobeithio y bydd yn benderfyniad cadarnhaol, ac os felly, bydd gwaith buddsoddi mewn gwasanaethau amgueddfeydd yng Nghymru mewn sefyllfa wahanol a gwell yr wythnos nesaf o’i chymharu â heddiw.

Jocelyn Davies: Are you aware of the growing concern that some local authorities are routinely ignoring the Suffolk judgment, and how will you ensure that the 16 and 17-year-olds affected are adequately protected?

Jocelyn Davies: A ydych yn ymwybodol o’r pryder cynyddol ynghylch y ffaith bod rhai awdurdodau lleol yn anwybyddu dyfarniad Suffolk yn rheolaidd, a sut y byddwch yn sicrhau bod y bobl ifanc 16 a 17 oed yr effeithir arnynt yn cael eu hamddiffyn yn ddigonol?

Huw Lewis: I am afraid that the Member will have to enlighten me on the Suffolk judgment.

Huw Lewis: Rwyf yn ofni y bydd yn rhaid i’r Aelod fy ngoleuo ynghylch dyfarniad Suffolk.

The Presiding Officer: Order. You cannot ask the Member to do that.

Y Llywydd: Trefn. Ni allwch ofyn i’r Aelod wneud hynny.

Huw Lewis: I am sorry. I will have to write to the Member with a fuller answer.

Huw Lewis: Mae’n ddrwg gennyf. Bydd yn rhaid imi ysgrifennu at yr Aelod gydag ateb llawnach.

William Powell: Minister, as you may be aware from the 2012 joint housing land availability study, the current land supply that is available to the Brecon Beacons National Park Authority is limited to just 2.8 years. This appears to be deeply disappointing, considering that the minimum requirement is routinely five years, and is in stark contrast to Snowdonia National Park, which currently has 7.6 years of supply available to it. In a written response to my colleague Kirsty Williams on 10 July, the Minister for environment highlighted that the Brecon Beacons National Park Authority will need to address this matter in its local development plan. What assurances can you give that you are liaising with the Minister for environment on this matter, to ensure that all local authorities in Wales pay due regard to this important housing supply issue?

William Powell: Weinidog, fel yr ydych efallai’n ymwybodol o ganlyniad i gyd-astudiaeth argaeledd tir ar gyfer tai 2012, mae’r cyflenwad presennol o dir sydd ar gael i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi’i gyfyngu i 2.8 o flynyddoedd yn unig. Ymddengys fod hynny’n hynod o siomedig, o ystyried mai’r gofyniad sylfaenol fel rheol yw pum mlynedd, ac mae’n dra gwahanol i Barc Cenedlaethol Eryri, y mae 7.6 mlynedd o gyflenwad ar gael iddo ar hyn o bryd. Mewn ymateb ysgrifenedig i’m cydweithiwr, Kirsty Williams, ar 10 Gorffennaf, tynnodd y Gweinidog amgylchedd sylw at y ffaith y bydd angen i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fynd i’r afael â’r mater hwn yn ei gynllun datblygu lleol. Pa sicrwydd y gallwch ei roi eich bod yn trafod y mater hwn â’r Gweinidog amgylchedd er mwyn gwneud yn siŵr bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn rhoi sylw dyledus i’r broblem bwysig hon ynghylch cyflenwad tai?

Huw Lewis: I am aware of the issue that seems specific to the Brecon Beacons National Park Authority. It is a matter of concern for me and for my colleague John Griffiths. I know that our rural housing enablers, working within the park area, are exercised and concerned about this. I have asked my officials to contact the national park authority in an attempt to seek a resolution to it. It appears to be anomalous. The authority does have a duty to current and future residents who want to make a home and make a living within the park area.

Huw Lewis: Rwyf yn ymwybodol o’r broblem sy’n ymddangos yn broblem benodol i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’n peri pryder i mi ac i’m cydweithiwr, John Griffiths. Gwn fod ein swyddogion galluogi tai gwledig sy’n gweithio yn ardal y parc yn poeni ac yn pryderu am hyn. Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion gysylltu â’r awdurdod parc cenedlaethol i geisio datrys y broblem. Ymddengys ei bod yn anarferol. Mae gan yr awdurdod ddyletswydd tuag at drigolion presennol a thrigolion y dyfodol sydd am sefydlu cartref a gwneud bywoliaeth yn ardal y parc.

The Record

Tai yn Nhor-faen

Housing in Torfaen

4. Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer tai yn Nhor-faen. OAQ(4)0159(HRH)

4. Lynne Neagle: Will the Minister outline his priorities for housing in Torfaen. OAQ(4)0159(HRH)

Huw Lewis: My priorities for legislation and policy at a national level are set out in my housing White Paper. Torfaen County Borough Council, working with its partner housing organisations, will determine how to deliver on those priorities in a way that reflects local needs.

Huw Lewis: Mae fy mlaenoriaethau ar gyfer deddfwriaeth a pholisi ar lefel genedlaethol wedi’u nodi yn fy Mhapur Gwyn ar dai. Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen, gan weithio gyda’i sefydliadau partner ym maes tai, fydd yn penderfynu sut i gyflawni’r blaenoriaethau hynny mewn modd sy’n adlewyrchu anghenion lleol.

Lynne Neagle: As you are aware, I have written to you on a number of occasions to raise specific concerns on behalf of constituents about mistakes and handling by a social housing provider in Torfaen. While stock transfer has delivered some benefits, I have serious concerns about transparency, accountability and the system of self-assessment. Minister, while I recognise that the current regulatory scheme is still bedding in, will you commit to looking closely at these issues with a view to ensuring that tenants and elected representatives are able to hold housing associations properly to account when things go wrong?

Lynne Neagle: Fel y gwyddoch, rwyf wedi ysgrifennu atoch droeon i fynegi pryderon penodol ar ran etholwyr am gamgymeriadau ac ymdriniaeth darparwr tai cymdeithasol yn Nhor-faen. Er bod trosglwyddo stoc wedi esgor ar rai manteision, rwyf yn pryderu’n ddifrifol am dryloywder, atebolrwydd a’r system hunanasesu. Weinidog, er fy mod yn cydnabod mai megis dechrau y mae’r cynllun rheoleiddio presennol, a wnewch chi ymrwymo i edrych yn fanwl ar y materion hyn gyda’r bwriad o sicrhau bod tenantiaid a chynrychiolwyr etholedig yn gallu dwyn cymdeithasau tai i gyfrif yn iawn pan fydd pethau’n mynd o chwith?

Huw Lewis: I can reassure the Member that these things are always under review in my mind. She is quite right to say that the regulatory regime, which I inherited from my predecessor, is just bedding in and that, as far as I am aware, no housing association within the Torfaen area has yet been subject to a review. That will resolve itself over the next 12 months, if I am correct, and I would be content to wait at least until we have seen the local housing providers in the Torfaen area go through round one of the regulatory regime, before I take a look at whether that is regarded as an adequate process. Everyone has to take part in it and then, of course, we will step back and examine whether that is delivering the best for tenants and for the wider community.

Huw Lewis: Gallaf sicrhau’r Aelod bod y pethau hyn bob amser yn cael eu hadolygu o’m rhan i. Mae’n hollol gywir wrth ddweud mai megis dechrau y mae’r drefn reoleiddio a etifeddais gan fy rhagflaenydd, ac nad oes yr un gymdeithas dai yn ardal Tor-faen, hyd y gwn i, wedi bod yn destun adolygiad hyd yn hyn. Bydd y sefyllfa yn ei datrys ei hun yn ystod y 12 mis nesaf, os wyf yn iawn, a byddwn yn fodlon aros o leiaf nes bydd y darparwyr tai lleol yn ardal Tor-faen wedi mynd trwy rownd gyntaf y drefn reoleiddio, cyn imi edrych a gaiff y broses ei hystyried yn broses ddigonol. Rhaid i bawb gymryd rhan ynddi, ac yna, wrth gwrs, byddwn yn camu’n ôl ac yn archwilio a yw’n cyflawni’r canlyniadau gorau i denantiaid a’r gymuned ehangach.

William Graham: You will know that, at the beginning of this year, there were over 3,500 applicants on the homeseekers register in Torfaen. Sadly, in the period between January 2010 and March 2012, only 361 houses were built in Torfaen, 120 of which were provided by registered social landlords. Will the Minister give an idea of how he intends to increase the number of houses provided, particularly by RSLs, in Torfaen?

William Graham: Gwyddoch fod dros 3,500 o ymgeiswyr ar gofrestr tai Tor-faen ddechrau’r flwyddyn. Yn anffodus, yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2010 a mis Mawrth 2012, dim ond 361 o dai a adeiladwyd yn Nhor-faen, a chafodd 120 ohonynt eu darparu gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. A wnaiff y Gweinidog roi syniad o sut y mae’n bwriadu cynyddu nifer y tai a ddarperir yn Nhor-faen, yn enwedig gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig?

Huw Lewis: Increasing the supply of houses is not done through any kind of mysterious means and essentially relies on two critical ingredients: first, land, which must be made available, and, secondly, the capital that we need to proceed and to build those homes. My officials are proactively seeking out parcels of land, particularly publicly owned land, throughout Wales. We are approaching the point where we will have a national register of publicly owned land across Wales and, as you are no doubt aware, we are engaged in proactive partnerships with housing providers, registered social landlords and potential funders in terms of seeking innovative funding mechanisms to get us through this very difficult period in public funding.

Huw Lewis: Nid oes unrhyw ffordd ddirgel o gynyddu’r cyflenwad o dai, ac yn ei hanfod mae’n dibynnu ar ddau gynhwysyn allweddol: yn gyntaf, rhaid sicrhau bod tir ar gael, ac yn ail, rhaid cael y cyfalaf y mae arnom ei angen i symud ymlaen ac adeiladu’r cartrefi hynny. Mae fy swyddogion yn cymryd camau rhagweithiol i chwilio am barseli o dir, yn enwedig tir cyhoeddus, ledled Cymru. Rydym yn nesu at sefyllfa lle y bydd gennym gofrestr genedlaethol o dir cyhoeddus ar draws Cymru, ac fel y gwyddoch, mae’n siŵr, rydym yn rhan o bartneriaethau rhagweithiol â darparwyr tai, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chyllidwyr posibl er mwyn ceisio dod o hyd i ddulliau ariannu arloesol i’n galluogi i fynd drwy’r cyfnod anodd iawn hwn o ran cyllid cyhoeddus.

Lindsay Whittle: Minister, 11,400 households in Torfaen are in receipt of council tax benefit. What assurance can you give to those households, often containing the most vulnerable in our communities, that the Welsh Government will step up and protect them fully from the hardships that will result from the London Government’s actions?

Lindsay Whittle: Weinidog, mae 11,400 o aelwydydd yn Nhor-faen yn cael budd-dal y dreth gyngor. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i’r aelwydydd hynny, sy’n aml yn gartrefi i’r unigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, y bydd Llywodraeth Cymru yn camu ymlaen ac yn eu hamddiffyn yn llwyr rhag y caledi a fydd yn deillio o gamau gweithredu’r Llywodraeth yn Llundain?

Huw Lewis: Changes to council tax benefit and, alongside those, potential changes to the social fund and changes to—the big one—housing benefit itself, fill me with trepidation, when it comes to the effect that they may have on households that are only just managing to get by, but which may be very close to the edge when it comes to being able to afford day-to-day bills. We are currently urgently trying to assess exactly what the scale of these changes will be here in Wales; we know it will not be good, but what we need to establish is exactly how bad it will be. The Member will be aware of initiatives that we are involved in, such as the funding boost to some of our advisory partners, such as Shelter and Citizens Advice, in preparation for having advisory services available on the doorstep within communities for people who may find it increasingly difficult to pay their normal everyday household bills as these benefit changes start to bite.

Huw Lewis: Rwyf yn anniddig iawn ynghylch y newidiadau i fudd-dal y dreth gyngor ac, ochr yn ochr â’r rheini, y newidiadau posibl i’r gronfa gymdeithasol a newidiadau i’r budd-dal tai ei hun—sef y prif fudd-dal—o ystyried yr effaith y gallent ei chael ar aelwydydd sy’n llwyddo o drwch blewyn i gael deupen llinyn ynghyd ond a allai fod yn agos iawn at y dibyn o safbwynt eu gallu i dalu eu biliau o ddydd i ddydd. Ar hyn o bryd, rydym yn cymryd camau brys i geisio asesu union faint y newidiadau hyn yma yng Nghymru; gwyddom na fydd y sefyllfa’n un dda, ond mae angen inni gadarnhau’n union pa mor wael y bydd hi. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o fentrau yr ydym yn rhan ohonynt, megis yr hwb ariannol a roddwyd i rai o’n partneriaid cynghori, megis Shelter a Chyngor ar Bopeth, er mwyn paratoi i ddarparu gwasanaethau cynghori ar garreg y drws mewn cymunedau ar gyfer pobl a allai fod yn ei chael yn fwyfwy anodd talu biliau pob dydd arferol eu haelwydydd wrth i’r newidiadau i fudd-daliadau ddechrau cael effaith.

Sector Tai Rhent Preifat

Private Rented Housing Sector

5. David Rees: A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector tai rhent preifat yng Nghymru. OAQ(4)0155(HRH)

5. David Rees: Will the Minister outline the Welsh Government’s priorities for the private rented housing sector in Wales. OAQ(4)0155(HRH)

Huw Lewis: I thank the Member for Aberavon. The Welsh Government recognises that it is vital to have a good-quality private rented sector to meet the expectations of people in housing need. That is why we propose to license landlords and letting agents to ensure that standards of property condition and management are improved.

Huw Lewis: Diolch i’r Aelod dros Aberafan. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod cael sector rhentu preifat o ansawdd da yn hanfodol i fodloni disgwyliadau pobl y mae angen tai arnynt. Dyna pam yr ydym yn bwriadu trwyddedu landlordiaid ac asiantaethau gosod tai er mwyn sicrhau bod safonau o ran cyflwr eiddo a dulliau o reoli eiddo yn cael eu gwella.

David Rees: Thank you for that answer, Minister. Since my submission of the question, you have published a consultation paper on proposals for a better private rented sector. I, like many other Members in the Chamber, will welcome the opportunity when that consultation ends to look at the proposals that come forward. I am sure that you agree that the role, obligations, responsibilities and accountabilities of private landlords and letting agents need clarity in this situation, and, in particular, that landlords need to look at what they do with the managing agents. Can you update Members on the progress of that consultation and, in particular, the responses from the private sector?

David Rees: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ers imi gyflwyno fy nghwestiwn, rydych wedi cyhoeddi papur ymgynghori ynghylch cynigion ar gyfer gwell sector rhentu preifat. Byddaf fi, fel llawer o Aelodau eraill yn y Siambr, yn croesawu’r cyfle i edrych ar y cynigion a gyflwynir pan ddaw’r ymgynghoriad hwnnw i ben. Rwyf yn siŵr eich bod yn cytuno bod angen eglurder ynghylch rôl, rhwymedigaethau, cyfrifoldebau ac atebolrwydd landlordiaid preifat ac asiantaethau gosod tai yn y sefyllfa hon, ac yn benodol, bod angen i landlordiaid edrych ar yr hyn y maent yn ei wneud gyda’r asiantaethau rheoli tai. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am gynnydd yr ymgynghoriad hwnnw, ac yn benodol, am yr ymatebion a gafwyd gan y sector preifat?

Huw Lewis: Yes. The consultation is ongoing. So far, we have had, from within Wales at least, very positive feedback from the private rented sector. I can tell the Member that representative organisations of Welsh landlords, for example, have been very co-operative and positive in terms of the potential benefits that they can see of driving poor landlords out of the market through our licensing and accreditation regime. Some letting and management agents—some bad apples—have been ripping off landlords as well as tenants up and down the UK, and they can at least see that, here in Wales, we will be tackling these issues alongside them.

Huw Lewis: Gallaf. Mae’r ymgynghoriad yn mynd rhagddo. Hyd yn hyn, rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan y sector rhentu preifat, yng Nghymru o leiaf. Gallaf ddweud wrth yr Aelod bod sefydliadau sy’n cynrychioli landlordiaid yng Nghymru, er enghraifft, wedi bod yn fodlon iawn i gydweithredu ac wedi ymateb yn gadarnhaol ynghylch y manteision posibl y gallant eu gweld o yrru landlordiaid gwael allan o’r farchnad trwy ein trefn drwyddedu ac achredu. Mae rhai asiantaethau gosod a rheoli tai—rhai asiantaethau gwael—wedi bod yn twyllo landlordiaid yn ogystal â thenantiaid ar hyd a lled y DU, a gallant o leiaf weld y byddwn, yma yng Nghymru, yn mynd i’r afael â’r materion hyn ochr yn ochr â hwy.

Angela Burns: I am aware of the consultation that you have out at present. However, one of the concerns that I have is the severe shortage of housing for disabled people, whether it is in the private sector or social housing. Will you please tell us what influence or consultations you have had with the Minister with responsibility for planning to ensure that planning barriers for disabled homes are lifted in the future?

Angela Burns: Rwyf yn ymwybodol o’r ymgynghoriad yr ydych yn ei gynnal ar hyn o bryd. Fodd bynnag, un o’r pryderon sydd gennyf yw’r prinder difrifol o dai ar gyfer pobl anabl, boed yn y sector preifat neu’r sector tai cymdeithasol. A wnewch chi ddweud wrthym pa ddylanwad yr ydych wedi’i gael ar y Gweinidog sy’n gyfrifol am gynllunio, neu ba waith ymgynghori yr ydych wedi’i wneud gydag ef, i sicrhau y ceir gwared ar rwystrau cynllunio o safbwynt cartrefi i bobl anabl yn y dyfodol?

Huw Lewis: All these issues are hot topics at the moment, in terms of the development of our new housing Bill, as well as the planning Bill, and my colleague the Minister for Health and Social Services works very closely with me on these issues. We prioritise as much as we possibly can our delivery of new housing units. We build into our existing housing design the 'Designed for Life’ ethos, to ensure that people can remain active within their homes as long as is humanly possible. We do all this, of course, within the context of the UK Government having removed £1.7 billion from the Welsh Government’s budget, and with the consequences of that being very significant in terms of what is deliverable within the next few years.

Huw Lewis: Mae’r holl faterion hyn yn bynciau sy’n cael llawer o sylw ar hyn o bryd, o ran datblygu ein Bil tai newydd yn ogystal â’r Bil cynllunio, ac mae fy nghydweithiwr, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cydweithio’n agos iawn â mi yng nghyswllt y materion hyn. Rydym yn rhoi cymaint o flaenoriaeth ag sy’n bosibl i’r gwaith o ddarparu unedau tai newydd. Rydym yn ymgorffori ethos 'Cynllun Oes’ yn y modd yr ydym yn dylunio tai yn awr, er mwyn sicrhau y gall pobl barhau’n weithgar yn eu cartrefi gyhyd ag sy’n bosibl. Rydym yn gwneud y cyfan, wrth gwrs, yng nghyd-destun y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi tynnu £1.7 biliwn allan o gyllideb Llywodraeth Cymru, a’r ffaith y bydd canlyniadau hynny’n sylweddol iawn o ran yr hyn y gellir ei gyflawni yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Llyr Huws Gruffydd: We know about the fit-and-proper-person test that is proposed in relation to landlords and letting agents. Although we are a few years away from seeing this being introduced, I am sure we all know of examples of certain landlords who probably would not pass a test at the moment, and who do not fulfil their existing responsibilities towards tenants. What steps will you take to ensure that both landlords and tenants are aware of their existing rights and responsibilities and how these will change as we move closer to a registration or licensing system?

Llyr Huws Gruffydd: Gwyddom am y prawf person addas a phriodol sy’n cael ei gynnig yng nghyswllt landlordiaid ac asiantaethau gosod tai. Er bod ychydig o flynyddoedd eto cyn y byddwn yn gweld hynny’n cael ei gyflwyno, rwyf yn siŵr bod pob un ohonom yn gwybod am enghreifftiau o rai landlordiaid na fyddent, fwy na thebyg, yn pasio prawf ar hyn o bryd, ac nad ydynt yn cyflawni eu cyfrifoldebau presennol o safbwynt tenantiaid. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod landlordiaid a thenantiaid yn ymwybodol o’u hawliau a’u cyfrifoldebau presennol a’r modd y bydd y rhain yn newid wrth inni nesu at system gofrestru neu drwyddedu?

The Record

2.45 p.m.

 

Huw Lewis: These will change considerably and there has already been a considerable amount of consultation work up and down Wales as well as the usual methods of advertising and promoting the message of the White Paper and encouraging responses to it. You are quite right to say that a fit-and-proper-person test would be connected with an accreditation regime, not just for landlords but also for letting and management agencies. This sort of test is reasonably established within law, but there is a job of work to do in raising awareness. As part of that, I would continually stress that good landlords and good letting and management agents have nothing to fear and everything to welcome when it comes to the establishment of this new licensing regime.

Huw Lewis: Bydd yr hawliau a’r cyfrifoldebau hynny’n newid yn sylweddol, ac mae cryn dipyn o waith ymgynghori wedi mynd rhagddo eisoes ar hyd a lled Cymru, yn ogystal â’r dulliau arferol o hysbysebu a hyrwyddo neges y Papur Gwyn ac annog ymatebion iddo. Rydych yn llygad eich lle wrth ddweud y byddai prawf person addas a phriodol yn gysylltiedig â threfn achredu, nid yn unig ar gyfer landlordiaid ond hefyd ar gyfer asiantaethau gosod a rheoli tai. Mae’r math hwn o brawf wedi’i sefydlu’n rhesymol yn y gyfraith, ond mae gwaith i’w wneud o ran codi ymwybyddiaeth ohono. Yn rhan o hynny, byddwn yn parhau i bwysleisio nad oes gan landlordiaid da ac asiantaethau da ym maes gosod a rheoli tai ddim i’w ofni pan sefydlir y drefn drwyddedu newydd hon, ac y dylent ei chroesawu.

The Record

The Presiding Officer: Question 6, OAQ(4)01