By continuing to use our site, you are agreeing for us to set a small number of cookies. Cookie policy

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Cofnod y Trafodion
The Record of Proceedings

Dydd Mercher, 16 Mai 2012
Wednesday, 16 May 2012

Cynnwys
Contents

Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Questions to the Minister for Environment and Sustainable Development

Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Questions to the Minister for Housing, Regeneration and Heritage

Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad o dan Reol Sefydlog Rhif 22.9
The Standards of Conduct Committee’s Report under Standing Order No. 22.9

Cynnig i Gytuno ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)
Motion to Agree the General Principles of the National Assembly for Wales (Official Languages) Bill

Dadl yn Ceisio Cytundeb y Cynulliad i Gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Asbestos (Adennill Costau Meddygol) (Mick Antoniw)
Debate Seeking the Assembly’s Agreement to Introduce a Member-proposed Bill on Asbestos (Recovery of Medical Costs) (Mick Antoniw)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Amaethyddiaeth a Choedwigaeth
Welsh Conservatives Debate Agriculture and Forestry

Cyfnod Pleidleisio
Voting Time

Dadl Fer: Tîm Prydain Fawr: Cyfle Euraid
Short Debate: Team GB: A Golden Opportunity

Yn y golofn chwith, cofnodwyd y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y Siambr. Yn y golofn dde, cynhwyswyd cyfieithiad.
In the left-hand column, the proceedings are recorded in the language in which they were spoken in the Chamber. In the right-hand column, a translation has been included.

The Record

Cyfarfu’r Cynulliad am 1.30 p.m. gyda’r Llywydd (Rosemary Butler) yn y Gadair.

The Assembly met at 1.30 p.m. with the Presiding Officer (Rosemary Butler) in the Chair.

The Presiding Officer: Good afternoon. The National Assembly for Wales is now in session.

Y Llywydd: Prynhawn da. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Questions to the Minister for Environment and Sustainable Development

The Record

Prosiectau Microgynhyrchu

Microgeneration Projects

1. Nick Ramsay: Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gefnogi prosiectau microgynhyrchu ledled Cymru. OAQ(4)0117(ESD)

1. Nick Ramsay: What plans does the Minister have to support micro-generation projects throughout Wales. OAQ(4)0117(ESD)

The Minister for Environment and Sustainable Development (John Griffiths): Welsh Government energy policy includes support for microgeneration projects in Wales.

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (John Griffiths): Mae polisi ynni Llywodraeth Cymru yn cynnwys cymorth ar gyfer prosiectau microgynhyrchu yng Nghymru.

Nick Ramsay: That is clear, Minister; thank you. [Laughter.] Some things never change. The media has been full of stories about the Severn barrage over recent days for obvious reasons. However, I am sure that you will agree that microgeneration projects may not be in the public eye, but they are still there and, in many cases, are feasible. You may be aware that the Transition Chepstow group in my constituency is examining the feasibility of harnessing the power of the Wye river to produce power to supply the town. What support can the Welsh Government offer to help take this project forward?

Nick Ramsay: Mae hynny'n glir, Weinidog; diolch. [Chwerthin.] Nid yw rhai pethau byth yn newid. Mae'r cyfryngau wedi bod yn llawn straeon am forglawdd Hafren dros y dyddiau diwethaf am resymau amlwg. Fodd bynnag, rwyf yn siŵr y byddwch yn cytuno er nad yw prosiectau microgynhyrchu yn llygad y cyhoedd, maent yn dal yno ac, mewn llawer o achosion, maent yn ymarferol. Efallai eich bod yn ymwybodol bod grŵp Pontio Cas-gwent yn fy etholaeth yn edrych ar y posibilrwydd o harneisio grym afon Gwy i gynhyrchu pŵer i gyflenwi'r dref. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i helpu i ddatblygu'r prosiect hwn?

John Griffiths: Thank you for that supplementary question. It is very important that we support communities in Wales that wish to take forward micro-energy generation. It is very important for community development and if there can be a source of income from such projects, it can sustain community development and open up all sorts of new avenues over a long period of time. So, we are happy to offer that support. Ynni’r Fro is important as a scheme that was set up to provide advice and support and sometimes financial assistance. Additionally, Community Energy Wales is an important new player on this front. I hope that that initiative will be successfully launched at the forthcoming Hay Festival of Literature and the Arts. I hope that your constituents make contact with both organisations.

John Griffiths: Diolch am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cefnogi cymunedau yng Nghymru sy'n dymuno datblygu prosiectau microgynhyrchu ynni. Mae'n bwysig iawn ar gyfer datblygu cymuned ac os gall prosiectau o'r fath fod yn ffynhonnell incwm, gall gynnal datblygiad cymunedol ac agor pob math o lwybrau newydd dros gyfnod hir o amser. Felly, rydym yn hapus i gynnig y gefnogaeth honno. Mae Ynni'r Fro yn bwysig fel cynllun a sefydlwyd i roi cyngor a chefnogaeth, a chymorth ariannol weithiau. Yn ogystal, mae Ynni Cymunedol Cymru yn fenter newydd bwysig yn hyn o beth. Gobeithiaf y bydd y fenter honno'n cael ei lansio yn llwyddiannus yng Ngŵyl y Gelli cyn bo hir, sy’n ŵyl Lenyddiaeth a'r Celfyddydau. Rwyf yn gobeithio y bydd eich etholwyr yn cysylltu â'r ddau sefydliad.

Rhaglen ar gyfer Dileu TB Buchol

Bovine TB Eradication Programme

2. Antoinette Sandbach: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer dileu TB buchol. OAQ(4)0125(ESD)

2. Antoinette Sandbach: Will the Minister make a statement on the Welsh Government’s bovine TB eradication programme. OAQ(4)0125(ESD)

John Griffiths: Since my announcement on 20 March, the Office of the Chief Veterinary Officer has been working on implementation of the new strategic framework for bovine TB eradication in Wales.

John Griffiths: Ers fy nghyhoeddiad ar 20 Mawrth, mae Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol wedi bod yn gweithio ar weithredu'r fframwaith strategol newydd ar gyfer dileu TB buchol yng Nghymru.

Antoinette Sandbach: The First Minister has stated in the Chamber that the science and the law were the only considerations behind your TB eradication u-turn. However, Professor Pollock, your science adviser on the TB eradication board, has resigned over your decision to use wildlife vaccination. You have refused on several occasions to state whether or not this was the preferred option of either the Chief Scientific Adviser for Wales or the Chief Veterinary Officer for Wales. Are you still prepared to stand here and state that your decision was based on science? Do you believe that any farmer whose livelihood is slowly being destroyed by this disease will believe you?

Antoinette Sandbach: Mae'r Prif Weinidog wedi datgan yn y Siambr mai'r wyddoniaeth a'r gyfraith oedd yr unig ystyriaethau i'ch penderfyniad tro pedol ynghylch dileu TB. Fodd bynnag, mae'r Athro Pollock, eich cynghorydd gwyddoniaeth ar y bwrdd dileu TB, wedi ymddiswyddo yn sgîl eich penderfyniad i frechu bywyd gwyllt. Rydych wedi gwrthod dweud ar sawl achlysur ai’r dewis hwn a oedd orau gan naill ai Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru neu Brif Swyddog Milfeddygol Cymru. A ydych yn dal yn barod i sefyll yma a datgan bod eich penderfyniad wedi'i seilio ar wyddoniaeth? A ydych yn credu y bydd unrhyw ffermwr sydd â'i fywoliaeth yn araf gael ei dinistrio gan y clefyd hwn yn eich credu?

John Griffiths: We have had the science review, as we said that we would as a Government. In my statement to Plenary, I made clear what Welsh Government policy is and the vaccination programme that we will be taking forward in the intensive action area. I also made clear that our policy is based on science and that legal considerations were also a factor. I think that all of that is very clear and I have stated it a number of times. There are various views on the best way forward. I have thanked Professor Pollock for his work over a number of years, which we value. We will take forward policy and our comprehensive framework for the eradication of bovine TB in Wales, working with the industry and with vets through the eradication boards. In fact, I met with the eradication boards this morning.

John Griffiths: Rydym wedi cael yr adolygiad gwyddoniaeth, fel y dywedom y byddem fel Llywodraeth. Yn fy natganiad i'r Cyfarfod Llawn, nodais yn glir beth oedd polisi Llywodraeth Cymru ynghyd â'r rhaglen frechu y byddwn yn ei chyflwyno yn yr ardal triniaeth ddwys. Nodais yn glir hefyd fod ein polisi yn seiliedig ar wyddoniaeth a bod ystyriaethau cyfreithiol hefyd yn ffactor. Credaf fod hynny i gyd yn glir iawn ac rwyf wedi dweud hynny sawl gwaith. Mae gwahanol safbwyntiau ynghylch y ffordd orau ymlaen. Rwyf wedi diolch i'r Athro Pollock am ei waith dros nifer o flynyddoedd, ac rydym yn gwerthfawrogi hwnnw. Byddwn yn bwrw ymlaen â’r polisi a'n fframwaith cynhwysfawr ar gyfer dileu TB buchol yng Nghymru, gan weithio gyda'r diwydiant a chyda milfeddygon drwy'r byrddau dileu. Yn wir, cefais gyfarfod â'r byrddau dileu y bore yma.

Llyr Huws Gruffydd: Yn dilyn yr oedi cyson a fu o ran gwneud cyhoeddiad ar bolisi newydd y Llywodraeth ar gyfer taclo TB mewn gwartheg a chreu disgwyliadau bod cyhoeddiad i ddod yn yr hydref, yn Nhachwedd, cyn y Nadolig, yn y flwyddyn newydd ac yn y blaen, pa wersi y byddwch yn eu dysgu, Weinidog, ynglŷn â’r modd y deliodd eich Llywodraeth chi â’r holl sefyllfa?

Llyr Huws Gruffydd: Following the constant delays in terms of making an announcement on the Government’s new policy for the eradication of bovine TB and the raising of expectations that an announcement would be made in the autumn, in November, before Christmas, in the new year and so on, what lessons will you learn, Minister, about the way your Government dealt with the whole issue?

John Griffiths: I think that there was no delay. My Government dealt with this matter as it said that it would. We had the review in the time frame that we had indicated. We obviously then had to consider that review and formulate the comprehensive strategy. These things cannot be rushed; they are very important and significant matters and the process was appropriate and proper to that end.

John Griffiths: Nid wyf yn meddwl bod oedi wedi bod. Ymdriniodd fy Llywodraeth â'r mater hwn yn y modd y dywedodd y byddai’n gwneud. Cawsom yr adolygiad o fewn yr amser a nodwyd gennym. Yn amlwg roedd yn rhaid inni ystyried yr adolygiad hwnnw wedyn a llunio strategaeth gynhwysfawr. Ni ellir rhuthro'r pethau hyn; maent yn faterion pwysig a sylweddol iawn, ac roedd y broses yn briodol ac yn addas i'r perwyl hwnnw.

The Record

The Leader of the Welsh Liberal Democrats (Kirsty Williams): Minister, if you are so convinced that vaccination is the answer to the eradication of TB in Welsh cattle, why is your Government restricting the vaccination programme to only the intensive action area, and when will farmers outsider that intensive action area be included in a wider vaccination programme?

Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (Kirsty Williams): Weinidog, os ydych mor argyhoeddedig mai brechu yw'r ateb i ddileu TB buchol yng Nghymru, pam mae eich Llywodraeth yn cyfyngu ar y rhaglen frechu i'r ardal triniaeth ddwys yn unig, a phryd y bydd ffermwyr o'r tu allan i'r ardal triniaeth ddwys honno yn cael eu cynnwys mewn rhaglen frechu ehangach?

John Griffiths: It is a comprehensive strategy and vaccination is one part of that. I have asked my officials to look at other areas of Wales where we could take forward vaccination other than the intensive action area.

John Griffiths: Mae'n strategaeth gynhwysfawr ac mae brechu yn un rhan o hynny. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion edrych ar ardaloedd eraill o Gymru lle gallem fwrw ymlaen â brechu ar wahân i'r ardal triniaeth ddwys.

The Record

Gwella’r Amgylchedd

Improving the Environment

3. Christine Chapman: Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella’r amgylchedd yng Nghymru. OAQ(4)0126(ESD)

3. Christine Chapman: What are the Welsh Government’s priorities for improving the environment in Wales. OAQ(4)0126(ESD)

John Griffiths: Our priorities are set out in the 'Sustaining a Living Wales’ Green Paper, which is currently out for consultation. On Monday, I was pleased to host the Environment Matters conference, at which I outlined a new focus on our inner urban environment.

John Griffiths: Mae ein blaenoriaethau wedi'u nodi yn y Papur Gwyrdd 'Cynnal Cymru Fyw’, sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Ar ddydd Llun, roeddwn yn falch o gynnal y gynhadledd Mae'r Amgylchedd yn Cyfri, ac ynddi bûm yn amlinellu ffocws newydd ar ein hamgylchedd trefol mewnol.

Christine Chapman: During Plenary business last week, I mentioned the Covenant of Mayors, which is a European movement aimed at encouraging local and regional authorities to improve their energy efficiency and use of renewable energy sources. I welcomed your written statement on Monday on improving our urban environment, with its emphasis on the social justice aspects of doing so. Minister, do you agree that meeting the objectives of the Covenant of Mayors could play an important role in improving the quality of the environment for many of our Welsh communities, and will you look at working with Welsh local authorities to emphasise these benefits?

Christine Chapman: Yn ystod busnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf, soniais am Gyfamod y Meiri, sydd yn fudiad Ewropeaidd gyda'r nod o annog awdurdodau lleol a rhanbarthol i wella sut maent yn defnyddio ynni'n effeithlon a defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy. Roeddwn yn croesawu eich datganiad ysgrifenedig ddydd Llun ar wella ein hamgylchedd trefol, gyda'i bwyslais ar yr agweddau cyfiawnder cymdeithasol o wneud hynny. Weinidog, a ydych yn cytuno y gallai cyflawni amcanion Cyfamod y Meiri chwarae rhan bwysig o ran gwella ansawdd yr amgylchedd i lawer o'n cymunedau yng Nghymru, ac a wnewch chi edrych ar weithio gydag awdurdodau lleol Cymru i bwysleisio’r manteision hyn?

John Griffiths: I thank Christine Chapman for that supplementary question. I am very happy to work with local authorities in that way. We encourage these sorts of initiatives and they will help to deliver the outcomes that we seek from our sustainable development scheme and our climate change strategy. It is for organisations to decide the resource and level of commitment that is appropriate for them, but we very much look to work with them on these matters.

John Griffiths: Diolch i Christine Chapman am y cwestiwn atodol hwnnw. Rwyf yn hapus iawn i weithio gydag awdurdodau lleol yn y modd hwnnw. Rydym yn annog y mathau hyn o fentrau a byddant yn helpu i sicrhau'r canlyniadau a geisiwn o'n cynllun datblygu cynaliadwy a'n strategaeth ar y newid yn yr hinsawdd. Y sefydliadau a fydd yn penderfynu ar yr adnoddau a lefel yr ymrwymiad sy'n briodol ar eu cyfer, ond rydym yn awyddus iawn i weithio gyda hwy ar y materion hyn.

Russell George: The consultation on the 'Sustaining a Living Wales’ Green Paper, which was initially developed as the Government’s response to missing the 2010 biodiversity target, closes at the end of this month. Will you outline a timetable as to when we can expect an announcement on the next steps of the consultation, and will you also confirm that the announcement will be made in the Chamber to enable comment from Members?

Russell George: Mae'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd 'Cynnal Cymru Fyw’, a ddatblygwyd yn wreiddiol fel ymateb y Llywodraeth ar ôl methu targed bioamrywiaeth 2010, yn cau ddiwedd y mis hwn. A wnewch chi amlinellu amserlen o ran pryd y gallwn ddisgwyl cyhoeddiad ynghylch camau nesaf yr ymgynghoriad, ac a wnewch chi hefyd gadarnhau y bydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud yn y Siambr er mwyn i Aelodau roi sylwadau?

John Griffiths: This is a very important consultation and, as Russell George mentioned, it has not yet concluded. We will need to look at the responses and evaluate them. We take forward this work very much in conjunction with the work to establish the single environment body by spring of next year. There is a lot of work going on and a lot to do, and I would be very happy to come back to the Chamber and report on that in due course.

John Griffiths: Mae'r ymgynghoriad hwn yn bwysig iawn ac, fel y dywedodd Russell George, nid yw wedi dod i ben eto. Bydd angen inni edrych ar yr ymatebion a'u gwerthuso. Rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn ar y cyd â'r gwaith i sefydlu’r un corff amgylcheddol erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf. Mae llawer o waith yn mynd rhagddo ac mae llawer i'w wneud, a byddwn yn hapus iawn i ddod yn ôl i'r Siambr i adrodd ar hynny maes o law.

Rebecca Evans: Will you confirm that the Living Wales programme will embrace the protection of Wales’s wildlife that protected sites have currently delivered, and improve the conservation status of those sites that have not yet achieved a good condition? Will you also confirm that it will fill the gaps in the current network?

Rebecca Evans: A wnewch chi gadarnhau y bydd y rhaglen Cymru Fyw yn mynd ati i ddiogelu bywyd gwyllt Cymru fel y mae safleoedd gwarchodedig wedi’i wneud hyd yma, a gwella statws cadwraeth y safleoedd hynny nad ydynt mewn cyflwr da eto? A wnewch chi gadarnhau hefyd y bydd yn llenwi'r bylchau yn y rhwydwaith presennol?

John Griffiths: The responsibility for the designation of protected sites will transfer to the single body. As at present, appropriate management of the sites rests with the land manager, in partnership with, as it will be, the single environment body. There will be challenges to overcome, but removing organisational boundaries will allow us to share the enthusiasm, resource and expertise between the current three organisations, so that we can have a more joined-up natural resource management now and into the future. The new body will have a key role in protecting those sites and I would expect it to provide environmental advice and input into our planning processes and the development of new legislation. We should also get new regulatory arrangements that are simplified, whilst maintaining environmental standards.

John Griffiths: Bydd y cyfrifoldeb ar gyfer dynodi safleoedd gwarchodedig yn trosglwyddo i'r un corff. Yn union fel y mae pethau ar hyn o bryd, y rheolwyr tir fydd yn gyfrifol am reolaeth briodol y safleoedd, mewn partneriaeth â'r un corff amgylcheddol, fel y bydd. Bydd heriau i'w goresgyn, ond bydd cael gwared ar ffiniau sefydliadol yn ein galluogi i rannu'r brwdfrydedd, yr adnoddau a'r arbenigedd rhwng y tri sefydliad presennol, er mwyn inni allu rheoli adnoddau yn fwy naturiol a chydgysylltiedig yn awr ac yn y dyfodol. Bydd gan y corff newydd ran allweddol wrth ddiogelu'r safleoedd hynny a byddwn yn disgwyl iddo roi cyngor a chyfraniad amgylcheddol i'n prosesau cynllunio a datblygu deddfwriaeth newydd. Dylem hefyd gael trefniadau rheoleiddio newydd sy'n symlach, ond yn cynnal safonau amgylcheddol yr un pryd.

Llyr Huws Gruffydd: A fyddech yn barod i ystyried rhoi eglurhad pellach, efallai trwy ddatganiad, o’r gweithgareddau a fydd yn cael eu caniatáu o fewn y parthau cadwraeth morol? Mae potensial y gallai diffyg eglurder o’r cychwyn arwain at gamwybodaeth ynglŷn â’r goblygiadau economaidd ac yng nghyd-destun hamdden, ac yn y blaen.

Llyr Huws Gruffydd: Would you be willing to consider giving a further explanation, maybe in a statement, of the activities that will be permitted within the marine conservation zones? There is potential that a lack of clarity from the outset could lead to misinformation about the economic and leisure implications and so on.

The Record

John Griffiths: The consultation on marine conservation zones is in its very early stages. We will be going through three stages. I think that I can say that the description regarding no-take and no-deposit zones accurately sums up the approach that we envisage, but there is a lot of consultation to be done and there are a lot of meetings to be had before we come to any firm conclusions.

John Griffiths: Mae'r ymgynghoriad ar barthau cadwraeth morol yn ei ddyddiau cynnar iawn. Byddwn yn mynd drwy dri cham. Rwyf yn meddwl y gallaf ddweud bod y disgrifiad o barthau dim-cymryd a dim-dyddodi yn crynhoi'r dull gweithredu a ragwelwn yn gywir, ond mae llawer o ymgynghori i'w wneud o hyd ac mae llawer o gyfarfodydd i'w cynnal cyn inni ddod i unrhyw gasgliadau pendant.

Llyr Huws Gruffydd: Rwy’n derbyn ei bod yn gynnar iawn yn y broses, ond hyd yn oed ar y cychwyn yn deg rwy’n meddwl bod angen eglurder, oherwydd dyna pryd gall problemau gychwyn. Mae dryswch penodol wedi cael ei fynegi imi ynglŷn â’r ffaith y bydd traethau, pan fydd yr arfordir yn rhan o’r ardaloedd, yn cael eu cynnwys. Mae cwestiynau mawr yn cael eu gofyn ynglŷn â’r gweithgareddau y gellir eu cynnal ar y traethau hynny. Rwy’n pwyso arnoch i sicrhau bod eglurder, hyd yn oed ar y pwynt cychwynnol hwn.

Llyr Huws Gruffydd: I accept that it is very early in the process, but I think that we need clarity right from the beginning, because that is when problems can arise. A specific confusion has been expressed to me about the fact that beaches will be included when the coastline is a part of the zone. Many questions are being raised about the activities that will be permitted on those beaches. I urge you to ensure that there is clarity, even on this initial point.

John Griffiths: We will, of course, seek to provide clarity as we go through the process. However, at this stage, I think that it is very important that we allow for a feeding in of views without setting anything firmly in stone as far as the detail in concerned. So, I look forward to engagement with all interested parties—environmental, fishing, recreational and tourism.

John Griffiths: Byddwn, wrth gwrs, yn ceisio egluro wrth inni fynd drwy'r broses. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, rwyf yn credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn caniatáu i bobl roi eu barn heb gadarnhau unrhyw beth yn llwyr o ran y manylion. Felly, rwyf yn edrych ymlaen at ymgysylltu â'r holl bartïon sydd â diddordeb—amgylcheddol, pysgota, hamdden a thwristiaeth.

Kenneth Skates: Carbon emissions, obesity levels and the price of oil are all on the rise and there are serious implications for our future lifestyles unless we radically change our approach to transport. As part of the active travel White Paper that was launched last week, Welsh local authorities will need to provide greater opportunities for walking and cycling routes in their communities. What discussions are you having in concert with the excellent Minister for Local Government and Communities in preparation for the active travel Bill, particularly in relation to facilitating greater access to privately owned land for active travel and recreation?

Kenneth Skates: Mae allyriadau carbon, lefelau gordewdra a phris olew i gyd ar gynnydd, ac mae goblygiadau difrifol o ran ein ffyrdd o fyw yn y dyfodol oni bai ein bod newid ein ffordd o feddwl am drafnidiaeth. Fel rhan o'r Papur Gwyn ar deithio llesol a lansiwyd yr wythnos ddiwethaf, bydd yn rhaid i awdurdodau lleol Cymru roi mwy o gyfleoedd i gael llwybrau cerdded a beicio yn eu cymunedau. Pa drafodaethau rydych yn eu cael ar y cyd â'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau gwych i baratoi ar gyfer y Bil Teithio Llesol, yn enwedig o ran hwyluso mwy o fynediad i dir preifat ar gyfer teithio llesol a hamdden?

John Griffiths: I am pleased to reassure Ken Skates that I have regular meetings with my esteemed colleague Carl Sargeant, including meetings on the active travel Bill. Obviously, there are great health, recreational and quality-of-life benefits, as well as modal shift, to be derived from the policies that are being taken forward by Carl Sargeant and they very much fit with my environmental objectives. With regard to private land ownership, these are issues that we have had, and still have, with the Wales coast path, as well as in terms of the active travel Bill, so I think that we will need to look at these issues and find better and quicker ways of dealing with these barriers to necessary progress.  

John Griffiths: Rwyf yn falch o roi sicrwydd i Ken Skates fy mod yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda fy nghyd-Aelod sy'n uchel ei barch, Carl Sargeant, gan gynnwys cyfarfodydd ar y Bil Teithio Llesol. Yn amlwg, mae manteision mawr o ran iechyd, hamdden ac ansawdd bywyd, yn ogystal â newid dull teithio, yn deillio o'r polisïau sy'n cael eu datblygu gan Carl Sargeant ac maent yn cyd-fynd yn dda â’m hamcanion amgylcheddol. O ran perchnogaeth tir preifat, mae'r rhain yn faterion rydym wedi'u hwynebu, ac yn dal i'w wneud, gyda llwybr arfordir Cymru, yn ogystal ag o ran y Bil Teithio Llesol, felly rwyf yn meddwl y bydd angen inni edrych ar y materion hyn a dod o hyd i ffyrdd gwell a chyflymach o ddelio â'r pethau hyn sy’n rhwystro’r datblygiad angenrheidiol.  

The Record

Parthau Cadwraeth Morol

Marine Conservation Zones

4. Ieuan Wyn Jones: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Barthau Cadwraeth Morol. OAQ(4)0122(ESD)

4. Ieuan Wyn Jones: Will the Minister make a statement on Marine Conservation Zones. OAQ(4)0122(ESD)

John Griffiths: Rydym yn bwriadu dynodi tri neu bedwar parth cadwraeth morol yn 2014, yn amodol ar ymgynghoriad llawn ac ailadroddol. Dechreuodd y cyntaf o dri cham ymgynghori y mis diwethaf gan gyflwyno 10 safle potensial i’w hystyried.

John Griffiths: We are aiming to designate three or four marine conservation zones in 2014, subject to a comprehensive and iterative consultation exercise. The first of three consultation phases started last month presenting 10 potential sites as options for consideration.

Ieuan Wyn Jones: Diolch i’r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Mae’r Gweinidog yn ymwybodol bod dau barth yn cael eu hystyried ar gyfer eu dynodi yn Ynys Môn, sef gogledd-ddwyrain y Fenai ac Ynys Seiriol. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod gwrthwynebiad i’r cynlluniau yn barod, yn enwedig gan bysgotwyr, pobl sy’n rhedeg busnesau twristiaeth a phobl sy’n hwylio, ac yn y blaen. Y cwestiwn yw a fyddant yn gallu angori eu cychod neu eu llongau yn y parthau hyn. O ganlyniad i’r diffyg gwybodaeth eglur gan y Gweinidog ynglŷn â beth yn union fydd yn cael ei ganiatáu yn y parthau hyn, nid yw’n rhyfedd fod pobl yn bryderus ac eisiau eu gwrthwynebu. Pam na all y Gweinidog fod yn llawer iawn mwy agored gyda ni ynglŷn â’r hyn fydd yn cael ei ganiatáu er mwyn i bawb gael ymgynghoriad sydd mor drylwyr a thryloyw â phosibl?

Ieuan Wyn Jones: I thank the Minister for that response. The Minister is aware that there are two zones being considered for designation on Anglesey, namely the north-east of the Menai strait and Puffin island. The Minister will be aware that there is already opposition to the proposals, particularly from the fishing community, those running tourism businesses and those who sail and so on. The question is whether they will be able to continue to anchor their boats or ships in these zones. Given the lack of clear information from the Minister about what exactly will be permitted in these zones, it is not surprising that people are concerned and want to oppose them. Why can the Minister not be far more open with us about what will be permitted so that everyone can have a consultation that is as thorough and transparent as possible?

The Record

1.45 p.m.

John Griffiths: Inevitably, a wide range of interests is involved in striking the right balance in taking marine conservation zones forward, and we are mindful of the economic and social interests involved. I think that we have been clear all along that those interests will be at the forefront of our minds as we take these zones forward. We have to balance that with the environmental issues. Wherever we can provide clarity, we will. As I said, it is in the early stages. It is the first phase of a three-phase consultation. I can certainly say that sailing through these zones would not be an issue, but dropping anchor would be, because that is, in effect, a deposit.

John Griffiths: Yn anochel, mae ystod eang o fuddiannau yn berthnasol o ran cael y cydbwysedd cywir wrth fwrw ymlaen â'r parthau cadwraeth forol, ac rydym yn ymwybodol o'r buddiannau economaidd a chymdeithasol cysylltiedig. Credaf ein bod wedi bod yn glir bob tro y bydd y buddiannau hynny yn cael lle blaenllaw wrth inni feddwl am fwrw ymlaen â'r parthau hyn. Rhaid inni gydbwyso hynny â'r materion amgylcheddol. Lle bynnag y gallwn roi eglurhad, gwnawn hynny. Fel y dywedais, mae hyn yn ei ddyddiau cynnar. Dyma'r cam cyntaf mewn ymgynghoriad tri cham. Gallaf ddweud yn sicr na fyddai hwylio drwy'r parthau hyn yn broblem, ond byddai gollwng angor yn broblem, am ei fod, i bob pwrpas, yn dyddodi.

Rebecca Evans: Given that marine biodiversity has relatively low protection levels compared with land-based wildlife, the designations will be an important step towards closing that gap and enhancing our ecologically rich Welsh waters. Further to your response to the previous question, can you give us more detail on how the Welsh Government is actively communicating with the wider stakeholders to explain the importance of enhancing our marine biodiversity?

Rebecca Evans: O ystyried bod gan fioamrywiaeth forol lefelau cymharol isel o amddiffyniad o'i chymharu â bywyd gwyllt ar y tir, bydd y dynodiadau yn gam pwysig at gau'r bwlch hwnnw a gwella dyfroedd Cymru sy'n ecolegol gyfoethog. Yn dilyn eich ymateb i'r cwestiwn blaenorol, a allwch roi rhagor o fanylion inni am sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gyfathrebu â rhanddeiliaid ehangach i egluro pwysigrwydd gwella ein bioamrywiaeth forol?

John Griffiths: The consultation in itself is an important aspect of that engagement and, again, I would emphasise that this is the first of three phases of consultation. We will hold meetings and events and seek to engage as widely as possible so that all interested parties can feed in effectively.

John Griffiths: Mae'r ymgynghoriad ynddo'i hun yn agwedd bwysig ar yr ymgysylltu hwnnw ac, unwaith eto, hoffwn bwysleisio mai dyma'r cam cyntaf o blith tri cham yr ymgynghoriad. Byddwn yn cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau ac yn ceisio ymgysylltu â chymaint ag y bo modd er mwyn i bawb sydd â diddordeb allu cyfrannu'n effeithiol.

Russell George: An indicative timetable exists for marine plans in Wales, inshore and offshore, but, with no plans yet prepared, and with the current resource levels in Government to deal with this issue being minimal, are you confident that you will be able to achieve the 2015 target date?

Russell George: Mae amserlen ddangosol yn bodoli ar gyfer cynlluniau morol yng Nghymru, ar y glannau ac ar y môr, ond, gan nad oes dim cynlluniau wedi'u paratoi eto, a'r lefelau presennol o adnoddau yn y Llywodraeth i ymdrin â'r mater hwn yn fach iawn, a ydych yn hyderus y byddwch yn gallu cyrraedd y dyddiad targed sef 2015?

John Griffiths: Yes, I am. We are very much working towards that, and officials are carrying out a lot of work at the moment. As with many demands on Government, it is an exacting time frame, but it is one to which we are committed.

John Griffiths: Ydw. Rydym yn gweithio'n galed iawn at hynny, ac mae swyddogion yn gwneud llawer o waith ar hyn o bryd. Fel gyda llawer o’r gofynion ar y Llywodraeth, mae'n amserlen fanwl, ond rydym wedi ymrwymo iddi.

William Powell: Minister, as you will be aware, MCZs have the potential to make a significant difference to the health and biodiversity of our surrounding seas. However, I have been contacted by a number of stakeholders, including members of the Wales Environment Link, who highlight the fact that the messages coming out of the Welsh Government have not always been consistent. To that end, will you please outline what discussions you have had with colleagues across the Cabinet to enhance consistency in terms of the communication strategy around the MCZs?

William Powell: Weinidog, fel y gwyddoch, mae gan y Parthau Cadwraeth Morol y potensial i wneud gwahaniaeth sylweddol i gyflwr a bioamrywiaeth y moroedd sydd o'n cwmpas. Fodd bynnag, mae nifer o randdeiliaid wedi cysylltu â mi, gan gynnwys aelodau Cyswllt Amgylchedd Cymru, sy’n tynnu sylw at y ffaith nad yw negeseuon Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyson bob amser. I'r perwyl hwnnw, a fyddech cystal ag amlinellu pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda chyd-Aelodau ar draws y Cabinet i wella cysondeb o ran y strategaeth gyfathrebu ynghylch Parthau Cadwraeth Morol?

John Griffiths: I regularly meet Cabinet colleagues, and my officials regularly meet their officials, and discuss a wide range of matters, including these. We will very much take forward a consistent Welsh Government message and approach, in line with our central organising principle of sustainable development.

John Griffiths: Rwyf yn cwrdd yn rheolaidd â chyd-Aelodau yn y Cabinet, ac mae fy swyddogion yn cwrdd yn rheolaidd â'u swyddogion, ac yn trafod ystod eang o faterion, gan gynnwys y rhain. Byddwn yn bendant yn cyflwyno neges a dull gweithredu cyson gan Lywodraeth Cymru, yn unol â'n prif egwyddor drefniadol o ddatblygu cynaliadwy.

William Powell: Thank you for that answer. Staying on the topic of stakeholders, the Petitions Committee will soon receive a petition in opposition to the creation of MCZs in north Wales due to the impact that they will have, which colleagues have already raised, on leisure activities and fishing. Will you please reassure the Chamber that you have also engaged with the Members of the European Parliament who represent Wales in the formulation of this process, particularly given the important stage at which discussions on common agricultural policy reform have reached?

William Powell: Diolch ichi am yr ateb. Gan aros gyda'r rhanddeiliaid, bydd y Pwyllgor Deisebau yn derbyn deiseb yn fuan yn gwrthwynebu creu'r Parthau Cadwraeth Morol yn y gogledd oherwydd yr effaith y byddant yn ei chael ar weithgareddau pysgota a hamdden, rhywbeth y mae cyd-Aelodau eisoes wedi’i godi. A wnewch chi roi sicrwydd i'r Siambr eich bod hefyd wedi ymgysylltu ag Aelodau o Senedd Ewrop sy'n cynrychioli Cymru wrth lunio'r broses hon, yn enwedig wrth ystyried y cam pwysig y mae trafodaethau ar ddiwygio polisi amaethyddol cyffredin wedi ei gyrraedd?

John Griffiths: The European Union has been and is a major driver of environmental improvement, and many valuable developments have come from the European Union, so that is a central sphere of influence with regard to these matters. I am very open to engagement with, and ideas from, any of our Members of the European Parliament.

John Griffiths: Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn ffactor pwysig o ran sbarduno gwelliannau amgylcheddol, ac mae'n dal i fod felly, ac mae llawer o ddatblygiadau gwerthfawr wedi dod o du'r Undeb Ewropeaidd, felly mae'n gylch dylanwad canolog o ran y materion hyn. Rwyf yn agored iawn i ymgysylltu ag unrhyw un o'n Haelodau yn Senedd Ewrop, ac i drafod eu syniadau.

The Record

Cynllunio

Planning

5. Peter Black: Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ei gyfrifoldebau dros gynllunio. OAQ(4)0116(ESD)

5. Peter Black: What discussions has the Minister had with the UK Government regarding extending his responsibilities for planning. OAQ(4)0116(ESD)

John Griffiths: Planning is a devolved function of the Welsh Government for which we already have full responsibility. The Welsh Government continues to strive for the devolution of major energy consents.

John Griffiths: Mae cynllunio yn swyddogaeth sydd wedi'i datganoli i Lywodraeth Cymru ac mae gennym gyfrifoldeb llawn dros hyn yn barod. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i geisio datganoli'r prif ganiatadau ynni.

Peter Black: Thank you for that answer, Minister. It is on major energy consents that I want to ask you a question. In the discussions that you have had with the UK Government about the devolution of major energy consents, what mechanisms have you suggested that the Welsh Government would put in place to deal with them if we were to acquire that power?

Peter Black: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Hoffwn ofyn cwestiwn ichi ar y prif ganiatadau ynni. Yn y trafodaethau rydych wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch datganoli prif ganiatadau ynni, pa ddulliau rydych wedi'u hawgrymu y gallai Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith i ymdrin â hwy pe byddem yn cael y pŵer hwnnw?

The Record

John Griffiths: I have had discussions with Chris Huhne and, briefly, with Ed Davey on these matters, and a number of exchanges beyond that. I have emphasised the fact that we have a great deal of work going on at the moment regarding planning, which I am sure Members will be familiar with. We will have a Bill in due course, we have the independent advisory group, and we have specific work looking at the history and experience of energy consents. It is too early to pre-empt that and state what new system might emerge. Nonetheless, I have made the case very strongly that we need to be able to offer a consistent, stable and predictable system in Wales, and it would be much easier to do that if we had those further energy consents so that it is within the remit of the Welsh Government.

John Griffiths: Rwyf wedi cael trafodaethau gyda Chris Huhne ac, yn gryno, gydag Ed Davey ar y materion hyn, ac wedi cael sawl sgwrs ar ôl hynny. Rwyf wedi pwysleisio'r ffaith bod gennym lawer iawn yn digwydd ar hyn o bryd o ran cynllunio, ac rwyf yn siŵr y bydd Aelodau yn gyfarwydd â hynny. Bydd gennym Fil maes o law, mae gennym y grŵp cynghori annibynnol, ac mae gennym waith penodol sy'n edrych ar hanes a phrofiad yn ymwneud â chaniatadau ynni. Mae'n rhy gynnar i ragdybio hynny a nodi pa system newydd a allai godi. Serch hynny, rwyf wedi pledio'r achos yn gryf iawn bod angen inni allu cynnig system gyson, sefydlog a rhagweladwy yng Nghymru, ac y byddai'n llawer haws gwneud hynny pe byddai gennym y caniatadau ynni eraill hynny fel ei fod yn rhan o gylch gwaith Llywodraeth Cymru.

Janet Finch-Saunders: Minister, the Localism Act 2011 has devolved many aspects of planning to a local level, with the introduction of neighbourhood plans, the community right-to-buy scheme and community consultation at the pre-planning application stage. Regrettably, many of these examples of devolution to communities have not been incorporated into Welsh law. What consideration would you give to giving a greater say in planning matters at a local level back to communities during the forthcoming planning review?

Janet Finch-Saunders: Weinidog, mae Deddf Lleoliaeth 2011 wedi datganoli sawl agwedd ar gynllunio i lefel leol, drwy gyflwyno cynlluniau cymdogaeth, cynllun hawl y gymuned i brynu ac ymgynghori â'r gymuned yn ystod y cyfnod cyn cyflwyno cais cynllunio. Yn anffodus, nid yw llawer o'r enghreifftiau hyn o ddatganoli i gymunedau wedi cael eu hymgorffori yng nghyfraith Cymru. Pa ystyriaeth y byddech yn ei rhoi i roi mwy o lais mewn materion cynllunio ar lefel leol yn ôl i'r cymunedau yn ystod yr adolygiad cynllunio arfaethedig?

John Griffiths: The first thing to say is that, as an outside observer of what has been happening in England, and following reports, it seems to me that there has been a swaying back and forth between localism on the one hand and a presumption for sustainable development on the other. It is far from clear what the position is. Local planning authorities and local development plans are the very bedrock of our planning system here in Wales. We have a very local approach. As I said in answer to Peter Black, I would not want to pre-empt any of the work that is currently going on, but the opportunities are there to feed in views and to help to shape what eventually emerges.

John Griffiths: Y peth cyntaf i'w ddweud, fel un sydd wedi bod yn edrych o'r tu allan ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn Lloegr, ac yn dilyn adroddiadau, yw ei bod yn ymddangos imi fod rhyw symud yn ôl ac ymlaen wedi bod rhwng lleoliaeth ar y naill law a rhagdybiaeth ar gyfer datblygu cynaliadwy ar y llall. Nid yw’r sefyllfa’n glir o bell ffordd. Mae awdurdodau cynllunio lleol a chynlluniau datblygu lleol yn sylfaen hanfodol ein system gynllunio yma yng Nghymru. Mae gennym ddull gweithio lleol iawn. Fel y dywedais wrth ateb Peter Black, ni fyddwn am ragdybio unrhyw ran o'r gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd, ond mae'r cyfleoedd yno i gyflwyno barn ac i helpu i lunio'r hyn a ddaw yn y pen draw.

Jocelyn Davies: Going back to your answer to Peter Black about responsibility over energy projects, you will know that my group supports your bid for the transfer of those responsibilities. What reason does the UK Government give for refusing the transfer?

Jocelyn Davies: Gan fynd yn ôl at eich ateb i Peter Black am gyfrifoldeb dros brosiectau ynni, byddwch yn gwybod bod fy ngrŵp yn cefnogi'ch cais i drosglwyddo'r cyfrifoldebau hynny. Pa reswm y mae Llywodraeth y DU yn ei roi dros wrthod trosglwyddo?

John Griffiths: In my experience, there is a view in the UK Government that, for major projects of over 50 MW, what it has on England-and-Wales basis offers what it describes as a simplified, certain, stable system. We have a very different view: we think that what we have in Wales is very fragmentary and that it would be much better if we had those further energy powers, so that we could make a consistent, stable, predictable offer. Clearly, there is a difference of opinion there. The UK Government is saying that these matters could be dealt with in part 2 of the Silk commission, but we want to get on with things now and to be able to take forward energy policy in a much more effective way.

John Griffiths: O'm profiad, mae Llywodraeth y DU yn credu, ar gyfer prosiectau mawr dros 50 MW, fod yr hyn sydd ganddi yng Nghymru a Lloegr yn cynnig yr hyn a ddisgrifia fel system sefydlog, benodol a symlach. Mae ein barn yn wahanol iawn: rydym yn credu bod yr hyn sydd gennym yng Nghymru yn ddarniog iawn ac y byddai'n llawer gwell pe byddai gennym y pwerau ynni eraill, er mwyn inni gynnig rhywbeth mwy cyson, sefydlog a rhagweladwy. Yn amlwg, mae gwahaniaeth barn yno. Mae Llywodraeth y DU yn dweud y gellid ymdrin â'r materion hyn yn rhan 2 comisiwn Silk, ond rydym am fwrw ymlaen â phethau yn awr ac am allu bwrw ymlaen â pholisi ynni mewn ffordd lawer mwy effeithiol.

The Record

Problemau Llygredd o Garthffosiaeth

Sewerage Pollution Problems

6. Aled Roberts: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am broblemau llygredd o garthffosiaeth yn dilyn y glaw trwm diweddar. OAQ(4)0128(ESD)

6. Aled Roberts: Will the Minister make a statement about the problems of sewerage pollution following the recent heavy rain. OAQ(4)0128(ESD)

John Griffiths: Cyfrifoldeb y cwmnïau dŵr a charthffosiaeth yn bennaf yw rheolaeth rhwydwaith carthffosydd cyhoeddus Cymru. Rwy’n ymwybodol bod y cwmnïau hyn yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i ymateb i achosion o lygredd carthffosiaeth yng Nghymru o ganlyniad i’r glaw trwm diweddar.

John Griffiths: The management of the public sewer network in Wales is primarily the responsibility of water and sewerage companies. I am aware that these companies are working with the Environment Agency to address sewerage pollution incidents in Wales as a result of the recent heavy rainfall.

Aled Roberts: Diolch, Weinidog, am eich ateb. Yn sgîl y digwyddiad diweddar yn y Rhyl, yn etholaeth Dyffryn Clwyd, sawl digwyddiad tebyg a gafwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac a ydych yn fodlon â’r mesurau y mae Asiantaeth yr Amgylchedd a’r cwmnïau dŵr yn eu rhoi ar waith i ddelio â’r problemau hyn?

Aled Roberts: Thank you, Minister, for your response. Following the recent incident in Rhyl, in the Vale of Clwyd constituency, how many similar incidents have there been over the last year, and you content with the measures that the Environment Agency and the water companies are implementing to deal with these problems?

John Griffiths: It is clear that we do need to see further work to deal with sewage overflows—they have been a problem for quite some time. A lot of investment has been made, and progress has been made, but there is clearly more to be done. With regard to the incident in Rhyl, having a beach closed for a few days is far from desirable. We will continue to remind the water companies of their responsibilities and to work with Environment Agency Wales for further improvement.

John Griffiths: Mae'n amlwg bod angen inni weld rhagor o waith i ymdrin â charthion yn gorlifo—mae hyn wedi bod yn broblem ers cryn amser. Mae llawer o fuddsoddi wedi bod, ac mae cynnydd wedi cael ei wneud, ond mae'n amlwg bod mwy i'w wneud. O ran y digwyddiad yn y Rhyl, mae cau traeth am rai dyddiau yn bell o fod yn ddymunol. Byddwn yn parhau i atgoffa'r cwmnïau dŵr o'u cyfrifoldebau ac i weithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru er mwyn gwella mwy.

The Record

Darren Millar: Minister, you will be aware that the sewage problem in the Vale of Clwyd also affected my constituency, because it was discharged directly into the River Clwyd, which forms a natural boundary between the Vale of Clwyd and Clwyd West. A big problem and a big challenge for Wales in going forward is that our sewerage infrastructure is not up to scratch in terms of being able to deal with the significant development proposed in some parts of north Wales and other areas of the country. What discussions have you had about the possible introduction of Dŵr Cymru, in particular, as a statutory consultee within the planning process? I think that that would help to minimise the risk in future.

Darren Millar: Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod y broblem carthion yn Nyffryn Clwyd hefyd wedi effeithio ar fy etholaeth, oherwydd i'r carthion gael eu gollwng yn uniongyrchol i Afon Clwyd, sy'n ffurfio ffin naturiol rhwng Dyffryn Clwyd a Gorllewin Clwyd. Un broblem fawr a her fawr i Gymru wrth iddi symud ymlaen yw nad yw ein seilwaith carthffosiaeth yn ddigon da i allu ymdrin â'r datblygiad sylweddol arfaethedig mewn rhai rhannau o'r gogledd ac ardaloedd eraill o'r wlad. Pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael am y posibilrwydd o gyflwyno Dŵr Cymru, yn benodol, fel ymgynghorai statudol yn y broses gynllunio? Rwyf yn meddwl y byddai hynny'n helpu i leihau'r risg yn y dyfodol.

John Griffiths: These are matters that should be considered in the planning process and in the development of local development plans. It is clear that the infrastructure is not wholly adequate to deal with surface water and sewage overflows. Therefore, further investment is needed. Then, of course, we come to the pricing mechanism, whereby the companies are allowed, to some extent, to raise their prices to allow for further investment. However, that has to be balanced against affordability, particularly at the current time.

John Griffiths: Mae'r rhain yn faterion y dylid eu hystyried yn y broses gynllunio ac wrth ddatblygu cynlluniau datblygu lleol. Mae'n amlwg nad yw'r seilwaith yn gwbl ddigonol i ymdrin â dŵr wyneb a charthion yn gorlifo. Felly, mae angen rhagor o fuddsoddiad. Yna, wrth gwrs, down at y mecanwaith prisio, lle caniateir i'r cwmnïau, i ryw raddau, godi eu prisiau er mwyn buddsoddi mwy. Fodd bynnag, mae'n rhaid cydbwyso hynny yn erbyn fforddiadwyedd, yn enwedig yn y dyddiau sydd ohoni.

The Record

Camlesi Cymru

Wales’s Canals

7. Nick Ramsay: A wnaiff y Gweinidog roi manylion unrhyw drafodaethau y mae wedi’u cael gyda Dyfrffyrdd Prydain am gynnal a chadw camlesi Cymru. OAQ(4)0118(ESD)

7. Nick Ramsay: Will the Minister detail any discussions he has had with British Waterways over the upkeep of Wales’ canals. OAQ(4)0118(ESD)

John Griffiths: I will be meeting British Waterways on 30 May and this is one of the issues to be discussed.

John Griffiths: Byddaf yn cael cyfarfod â Dyfrffyrdd Prydain ar 30 Mai ac mae hyn yn un o'r materion a gaiff ei drafod.

Nick Ramsay: As you are aware, I am the chair of the cross-party group on waterways, therefore, this is an issue close to my heart. We have the transition at the moment from British Waterways to the new Canal and River Trust, which is a matter of interest and concern to all of those who follow the protection of waterways in Wales. Given that it would be difficult to ever fully devolve waterways for budgetary reasons, given the huge cost involved in maintaining Wales’s four canals, and, indeed, canals across the UK, can you tell us how you intend to strengthen the relationship between your department, the Assembly and the new Canal and River Trust, to ensure that we have the best possible relationship, even though it is not a devolved function?

Nick Ramsay: Fel y gwyddoch, fi yw cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddyfrffyrdd, felly mae'r mater yn agos at fy nghalon. Ar hyn o bryd rydym yn y cyfnod pontio o Dyfrffyrdd Prydain i’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd newydd, sy'n fater o ddiddordeb a phryder i bawb sy'n dilyn y gwaith o ddiogelu dyfrffyrdd yng Nghymru. O ystyried y byddai'n anodd datganoli dyfrffyrdd yn llwyr unrhyw bryd oherwydd rhesymau cyllidebol, o ystyried cost enfawr cynnal pedwar camlas Cymru, ac, yn wir, camlesi ar draws y DU, a allwch ddweud wrthym sut rydych yn bwriadu cryfhau'r berthynas rhwng eich adran, y Cynulliad a'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd newydd, er mwyn sicrhau bod gennym y berthynas orau bosibl, er nad yw'n swyddogaeth ddatganoledig?

John Griffiths: I accept that that is the relationship that we need. We would want to see synergy between relevant Welsh Government strategy and policy and the activities of the new trust, and also the necessary investment in Wales. My officials are working on a memorandum of understanding with the new body, which will provide some structure and framework for that relationship. I think that that will be very valuable.

John Griffiths: Rwyf yn derbyn mai dyna'r berthynas sydd ei hangen arnom. Byddem am weld synergedd rhwng strategaeth a pholisïau perthnasol Llywodraeth Cymru a gweithgareddau'r ymddiriedolaeth newydd, a hefyd y buddsoddiad angenrheidiol yng Nghymru. Mae fy swyddogion yn gweithio ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda'r corff newydd, a fydd yn rhoi rhyw strwythur a fframwaith ar gyfer y berthynas honno. Rwyf yn meddwl y bydd hynny'n werthfawr iawn.

Lindsay Whittle: Minister, in view of the fact that you are meeting these people shortly, can you ask them what information they can give you on the extent to which British Waterways is developing as a form of social enterprise and whether they can provide employment opportunities for disabled and disadvantaged people in Wales?

Lindsay Whittle: Weinidog, yn wyneb y ffaith eich bod yn cwrdd â'r bobl hyn yn fuan, a allwch ofyn iddynt pa wybodaeth y gallant ei rhoi ichi ynghylch i ba raddau y mae Dyfrffyrdd Prydain yn datblygu fel math o fenter gymdeithasol, ac a allant roi cyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl a phobl dan anfantais yng Nghymru?

John Griffiths: I would be happy to raise those matters with the new body, and with British Waterways before the change is made. I know that the body has ambitious plans for development and work in Wales and for linking with other organisations and forming partnerships. I am sure that that will afford the kind of opportunities that the Member mentions.

John Griffiths: Byddwn yn hapus i godi'r materion hynny gyda'r corff newydd, a chyda Dyfrffyrdd Prydain cyn y newid. Gwn fod gan y corff gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer datblygu a gwaith yng Nghymru ac ar gyfer cysylltu â sefydliadau eraill a chreu partneriaethau. Rwyf yn siŵr y bydd hynny'n cynnig y math o gyfleoedd y mae'r Aelod yn sôn amdanynt.

The Record

Blaenoriaethau ar gyfer Canol De Cymru

Priorities for South Wales Central

8. Andrew R.T. Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer Canol De Cymru dros y chwe mis nesaf. OAQ(4)0121(ESD)

8. Andrew R.T. Davies: Will the Minister make a statement on his priorities for South Wales Central for the next six months. OAQ(4)0121(ESD)

John Griffiths: I am committed to fulfilling, across Wales, the commitments that are set out for my portfolio in the programme for government.

John Griffiths: Rwyf wedi ymrwymo i gyflawni, ar draws Cymru, yr ymrwymiadau a nodwyd ar gyfer fy mhortffolio yn y rhaglen lywodraethu.

The Leader of the Opposition (Andrew R.T. Davies): Thank you, Minister, for that answer. One of the responsibilities that you have is for planning and the delivery of local development plans. At the recent local government elections, certain councils in South Wales Central made a commitment that they would go back to the starting point of these LDPs and begin the process anew. Given that the Welsh Government set the targets, what discretion is there for new councils to restart the process of LDP consultation, because LDPs are important documents that councils need to be working to in developing planning policy in their areas?

Arweinydd yr Wrthblaid (Andrew R.T. Davies): Diolch, Weinidog, am yr ateb hwnnw. Un o'r cyfrifoldebau sydd gennych yw cynllunio a darparu cynlluniau datblygu lleol. Yn yr etholiadau llywodraeth leol diweddar, gwnaeth ambell gyngor yng Nghanol De Cymru ymrwymiad y byddent yn mynd yn ôl i fan cychwyn y Cynlluniau Datblygu Lleol hyn ac yn dechrau'r broses o'r newydd. O gofio mai Llywodraeth Cymru sy’n gosod y targedau, pa ddisgresiwn sydd i gynghorau newydd ailgychwyn y broses o ymgynghori ynghylch Cynlluniau Datblygu Lleol, gan eu bod yn ddogfennau pwysig y mae'n rhaid i gynghorau eu dilyn wrth ddatblygu polisi cynllunio yn eu hardaloedd?

John Griffiths: It is absolutely right that the local development plan is a basic responsibility of local authorities, because it guides development locally to a considerable and significant extent. If they do not have an up-to-date local development plan in place, they are not fulfilling their responsibilities. Only five are in place in the 25 local planning authorities in Wales at the moment, so there is considerable work to be done, and I urge every local authority in Wales—whether it has a new administration or not—to ensure that it has up-to-date LDPs in place as quickly as possible.

John Griffiths: Mae'n gwbl briodol mai cyfrifoldeb sylfaenol awdurdodau lleol yw’r cynllun datblygu lleol, gan ei fod yn llywio datblygiad yn lleol i raddau helaeth. Os nad oes ganddynt gynllun datblygu lleol cyfredol ar waith, nid ydynt yn cyflawni eu cyfrifoldebau. Dim ond pump sydd ar waith yn y 25 awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru ar hyn o bryd, felly mae cryn dipyn o waith i'w wneud. Rwyf yn annog pob awdurdod lleol yng Nghymru—pa un ai bod ganddo weinyddiaeth newydd neu beidio—i sicrhau bod ganddo'r Cynlluniau Datblygu Lleol diweddaraf ar waith cyn gynted â phosibl.

The Record

2.00 p.m.

The Record

'Cynnal Cymru Fyw’

'Sustaining a Living Wales’

9. Llyr Huws Gruffydd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y papur gwyrdd 'Cynnal Cymru Fyw’. OAQ(4)0127(ESD)

9. Llyr Huws Gruffydd: Will the Minister make a statement about the green paper 'Sustaining a Living Wales’. OAQ(4)0127(ESD)

John Griffiths: Cafodd ymgynghoriadau cyhoeddus eu lansio ar 30 Ionawr 2012 gan gau ar 31 Mai 2012. Mae’r cynigion a osodir yn y Papur Gwyrdd yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i sicrhau mai datblygu cynaliadwy yw prif egwyddor drefniadol Llywodraeth Cymru.

John Griffiths: Public consultations were launched on 30 January 2012 and they close on 31 May 2012. The proposals set out in the Green Paper reinforce our commitment to ensuring that sustainable development is the central organising principle of the Welsh Government.

Llyr Huws Gruffydd: Diolch yn fawr ichi am yr ateb hwnnw. Mae pwyslais yn y Papur Gwyrdd ar wneud pethau’n haws i ddatblygwyr a’r rhai sydd angen caniatâd a thrwyddedau ar gyfer eu gweithgareddau, ac rydym yn croesawu hynny. A wnewch chi roi sicrwydd y bydd unrhyw ymdrechion i symleiddio’r rheoliadau yn gwella safonau amgylcheddol ac nid yn eu herydu na’u tanseilio?

Llyr Huws Gruffydd: Thank you very much for that response. The Green Paper places an emphasis on expediting matters for developers and those who need consent or permits for their activities, and we welcome that. Will you give an assurance that any attempts to simplify the regulations will improve environmental standards rather than erode or undermine them?

The Record

John Griffiths: I am happy to confirm that, in seeking and achieving the appropriate balance, it will be important to ensure that, as well as simplifying the regulatory process and making it more user-friendly, we protect and improve environmental safeguards.

John Griffiths: O ran chwilio am y cydbwysedd priodol a sicrhau'r cydbwysedd hwnnw, rwyf yn barod i gadarnhau y bydd yn bwysig gwneud yn siŵr ein bod yn diogelu ac yn gwella mesurau diogelu amgylcheddol, yn ogystal â symleiddio’r broses reoleiddio a’i gwneud yn haws ei defnyddio.

The Presiding Officer: I call Antoinette Sandbach.

Y Llywydd: Galwaf ar Antoinette Sandbach.

Antoinette Sandbach: I think that I am down for the next question.

Antoinette Sandbach: Rwyf yn credu mai ar gyfer y cwestiwn nesaf y mae fy enw i i lawr.

The Presiding Officer: In that case, I call Simon Thomas to ask question 10—

Y Llywydd: Os felly, galwaf ar Simon Thomas i ofyn cwestiwn 10—

Antoinette Sandbach: Perhaps I can pick up on that, actually.

Antoinette Sandbach: A dweud y gwir, efallai y gallaf godi pwynt o hynny.

The Presiding Officer: Just move on to the question as soon as you can.

Y Llywydd: A fyddech cystal â gofyn y cwestiwn cyn gynted ag y gallwch.

Antoinette Sandbach: Minister, what targets will you be setting for the environmental safeguards and how will they be measured? Recently, an answer from the First Minister indicated that the delivery unit has not set targets in any department. How will you measure that?

Antoinette Sandbach: Weinidog, pa dargedau y byddwch yn eu gosod ar gyfer y mesurau diogelu amgylcheddol, a sut y byddant yn cael eu mesur? Yn ddiweddar, roedd ateb gan y Prif Weinidog yn dangos nad yw'r Uned Gyflawni wedi gosod targedau mewn unrhyw adran. Sut y byddwch yn mesur hynny?

John Griffiths: We have existing targets in place, which will continue, and when the new single environment body is in place, in conjunction with the consultation on 'Sustaining a Living Wales’, it will then be timely to reconsider these matters.

John Griffiths: Mae gennym dargedau ar waith, a bydd y rheini’n parhau. Pan fydd yr un corff amgylcheddol newydd wedi’i sefydlu, ar y cyd â'r ymgynghoriad ar 'Cynnal Cymru Fyw’, bydd hynny'n adeg briodol i ailystyried y materion hyn.

The Record

Ynni Adnewyddadwy

Renewable Energy

10. Simon Thomas: A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae ei adran yn mynd ati i annog defnyddio rhagor o ynni adnewyddadwy. OAQ(4)0123(ESD)

10. Simon Thomas: Will the Minister outline how his department is actively encouraging more use of renewable energy. OAQ(4)0123(ESD)

John Griffiths: Mae 'Ynni Cymru: Newid Carbon Isel’ yn amlinellu ein meddylfryd tuag at garbon isel yn y dyfodol yng Nghymru, a hybu a datblygu ynni adnewyddadwy.

John Griffiths: 'Energy Wales: A Low Carbon Transition’ covers our approach to Wales’s low-carbon future and to promoting and developing renewable energy.

Simon Thomas: Diolch, Weinidog, am yr ateb. I mi, mae microgynhyrchu yn bwysig iawn gan ei fod yn creu cyswllt uniongyrchol rhwng y cwsmer a’r broses o gynhyrchu ynni, gan atgyfnerthu negeseuon am y newid yn yr hinsawdd. Pa gamau y byddwch chi’n eu cymryd, yn enwedig o fewn y gyfundrefn cynllunio, i’w gwneud yn haws i bobl osod dulliau microgynhyrchu yn eu cartrefi, gan gynnwys cartrefi yn ardaloedd y parciau cenedlaethol?

Simon Thomas: Thank you for that answer, Minister. To me, microgeneration is very important because it creates a direct link between the consumer and the process of energy generation, thereby reinforcing climate change messages. What steps will you be taking, particularly within the planning system, to make it easier for people to install microgeneration equipment in their homes, including homes within national park boundaries?

The Record

John Griffiths: I accept that we need to make it easier for householders and businesses to install equipment for energy microgeneration. This very month, we will be putting greater permitted development rights in place for householders and, this summer, we will have greater permitted development rights in place for non-domestic properties.

John Griffiths: Rwyf yn derbyn bod angen inni ei gwneud yn haws i ddeiliaid tai a busnesau osod offer ar gyfer microgynhyrchu ynni. Yn wir, yn ystod y mis, byddwn yn rhoi gwell hawliau datblygu a ganiateir ar waith ar gyfer deiliaid tai ac, yn ystod yr haf, bydd gennym well hawliau datblygu a ganiateir ar waith ar gyfer eiddo annomestig.

The Presiding Officer: I call the opposition spokesperson, Antoinette Sandbach.

Y Llywydd: Galwaf ar lefarydd yr wrthblaid, Antoinette Sandbach.

Antoinette Sandbach: Minister, I am relieved to hear that because, as you are aware, I have asked you questions on this issue on a number of occasions. You have clearly brought forward your plans, which I think you said initially would be introduced towards the end of 2012. It is clear that many rural businesses have had to fight tooth and nail with the planning system, at considerable additional cost, to install these micro or small-scale renewable energy projects. Why has it taken so long to give permitted development rights in Wales when, over the border in England, those rights have been long established and have been benefitting rural communities for some time?

Antoinette Sandbach: Weinidog, rwyf yn falch o glywed hynny oherwydd, fel y gwyddoch, rwyf wedi eich holi am y mater hwn ar sawl achlysur. Rydych yn amlwg wedi dwyn eich cynlluniau ymlaen, gan ichi ddweud ar y dechrau mai erbyn diwedd 2012 y byddent yn cael eu cyflwyno. Mae'n amlwg bod llawer o fusnesau gwledig wedi gorfod ymladd i'r eithaf â'r system gynllunio, a hynny am gryn dipyn o gost ychwanegol, er mwyn gosod prosiectau ynni adnewyddadwy micro neu fach. Pam mae wedi cymryd cymaint o amser i roi hawliau datblygu a ganiateir yng Nghymru, gan gofio bod yr hawliau hynny wedi eu hen sefydlu dros y ffin yn Lloegr, ac wedi bod yn dwyn budd i gymunedau gwledig ers tro?

John Griffiths: It has not taken 'so long’, as the Member describes it, to get these new rights in place. There was work that needed to be carried out, such as radar mapping, for example, which takes some time. I am pleased that we are now able to move quickly to get these further permitted development rights in place this summer, although I can assure the Member that that is no way attributable to her incisive questioning.

John Griffiths: Nid yw wedi cymryd 'cymaint o amser’, fel y dywed yr Aelod, i sefydlu'r hawliau newydd hyn. Roedd angen gwneud gwaith fel radarfapio, er enghraifft, sy'n cymryd dipyn o amser. Rwyf yn falch ein bod bellach yn gallu symud yn gyflym i sefydlu'r gwell hawliau datblygu a ganiateir ychwanegol yn ystod yr haf, er y gallaf sicrhau’r Aelod na ellir priodoli hynny o gwbl i'w holi treiddgar.

Antoinette Sandbach: Presumably, as projects generating below 50 MW have always been devolved to Wales, it in fact has taken since 1999 for these permitted development rights to be put in place. You might not call 11 years 'so long’, but others might disagree. You have indicated that you will bring forward permitted development rights, but will there be energy performance certificate requirements, and if so, what will they be for business premises?

Antoinette Sandbach: Gan fod prosiectau sy'n cynhyrchu llai na 50 MW wedi cael eu datganoli i Gymru erioed, mewn gwirionedd, gellir dweud ei bod wedi cymryd er 1999 i'r hawliau datblygu a ganiateir hyn gael eu rhoi ar waith. Efallai nad yw 11 mlynedd yn 'gymaint o amser’ â hynny yn eich barn chi, ond efallai y bydd pobl eraill yn anghytuno.  Rydych wedi dweud y byddwch yn cyflwyno hawliau datblygu a ganiateir, ond a fydd gofynion o ran tystysgrifau perfformiad ynni ac, os felly, beth fydd y gofynion ar gyfer eiddo busnes?

John Griffiths: I do not accept that time frame 'since 1999’, as the Member describes it, as being applicable to these matters. We will take forward these permitted development rights in the next month or two, as I said, and the Member will be interested to know that it will also address some of the issues that she has raised in the past with regard to agriculture and forestry. However, there may be environmental impact considerations to be taken into account.

John Griffiths: Nid wyf yn derbyn bod y ffrâm amser 'er 1999’, fel y dywed yr Aelod, yn berthnasol i'r materion hyn. Byddwn yn bwrw ymlaen â'r hawliau datblygu a ganiateir yn ystod y mis neu ddau nesaf, fel y dywedais, ac rwyf yn siŵr y bydd yr Aelod yn falch o wybod y bydd hyn hefyd yn mynd i'r afael â rhai o'r materion y mae hi wedi'u codi yn y gorffennol o ran amaethyddiaeth a choedwigaeth. Fodd bynnag, efallai y bydd angen rhoi sylw i ystyriaethau effaith ar yr amgylchedd.

The Record

Cymysgedd Ynni y DU

The UK’s Energy Mix

11. Eluned Parrott: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraniad posibl Cymru at gymysgedd ynni y DU. OAQ(4)0115(ESD)

11. Eluned Parrott: Will the Minister make a statement on Wales’ potential contribution to the UK’s energy mix. OAQ(4)0115(ESD)

John Griffiths: Wales is well placed to make a significant contribution to a low-carbon energy mix in the UK while enhancing the economic, social and environmental wellbeing of our communities.

John Griffiths: Mae Cymru mewn sefyllfa dda i wneud cyfraniad pwysig at gymysgedd ynni carbon isel yn y DU, gan wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ein cymunedau ar yr un pryd.

Eluned Parrott: Thank you for that answer, Minister. Tidal power from the Severn estuary clearly has the potential to make a significant contribution to our energy mix. However, it is my understanding that, if the sites of special scientific interest in the Severn estuary were to be destroyed by the construction of a large-scale barrage such as that proposed by Corlan Hafren, under EU environmental law, new sites of equivalent size and quality would have to be created. Is Peter Hain misguided, or have you identified an alternative site for 39,410 acres of estuarine reserves?

Eluned Parrott: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae'n amlwg bod gan ynni'r llanw yn Aber Afon Hafren y potensial i wneud cyfraniad sylweddol at ein cymysgedd ynni. Fodd bynnag, pe bai safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn Aber Afon Hafren yn cael eu dinistrio wrth adeiladu morglawdd ar raddfa fawr fel yr un a gynigir gan Corlan Hafren, o dan gyfraith amgylcheddol yr UE, caf ar ddeall y byddai'n rhaid creu safleoedd newydd o'r un maint ac ansawdd. A yw Peter Hain wedi cael ei gamarwain, ynteu a ydych wedi dod o hyd i safle arall ar gyfer 39,410 o erwau o warchodfeydd aberol?

John Griffiths: I am sure that the Member is aware that some considerable work has been carried out on the best way of harnessing the great potential energy in the Severn estuary, and that has sought to balance the generation potential with environmental factors. There are various proposals, and a Severn barrage is a serious one, which the Government is considering seriously. However, a number of other possibilities will also be given serious consideration.

John Griffiths: Rwyf yn siŵr bod yr Aelod yn gwybod bod llawer o waith wedi'i wneud i weld beth yw'r ffordd orau o fanteisio ar botensial ynni gwych Aber Afon Hafren. Mae'r gwaith hwnnw wedi ceisio cael y cydbwysedd rhwng y potensial i gynhyrchu a'r ffactorau amgylcheddol. Ceir cynigion amrywiol, ac mae morglawdd Hafren yn un difrifol sy’n cael ei ystyried o ddifrif gan y Llywodraeth. Fodd bynnag, bydd nifer o bosibiliadau eraill hefyd yn cael eu hystyried o ddifrif.

Angela Burns: Minister, in 2004, the then Labour Minister, Andrew Davies, opened Gamesa Energy UK’s headquarters in Newport and said:

Angela Burns: Weinidog, yn 2004, agorodd Andrew Davies, y Gweinidog Llafur ar y pryd, bencadlys Gamesa Energy UK yng Nghasnewydd, gan ddweud:

'The time is ripe to take up the challenge and opportunity we are offering in Wales through our strategy for a clean energy future.’

Mae'r amser wedi dod i ymgymryd â'r her a'r cyfle rydym yn ei gynnig yng Nghymru drwy ein strategaeth ar gyfer dyfodol o ynni glân.

I was astounded to learn recently, through written questions to the First Minister, that your Cabinet colleagues have had no communication whatsoever with Gamesa while it was deciding where to create more than 800 jobs and invest more than £125 million. As you know, that has now gone to Scotland. I simply ask you to put on record your regret that you and your Cabinet colleagues did not take a proactive approach to securing what is now a lost opportunity for Wales.

Cefais fy synnu'n ddiweddar pan glywais, drwy gwestiynau ysgrifenedig i'r Prif Weinidog, nad oedd eich cyd-Weinidogion yn y Cabinet wedi cyfathrebu o gwbl â Gamesa pan oedd yn ceisio penderfynu lle i greu mwy na 800 o swyddi a buddsoddi mwy na £125 miliwn. Fel y gwyddoch, mae hynny bellach wedi mynd i'r Alban. Rwyf yn gofyn ichi'n syml roi ar gofnod eich bod yn difaru na wnaethoch chi na'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet fynd ati'n rhagweithiol i sicrhau yr hyn sydd, erbyn hyn, yn gyfle wedi’i golli i Gymru.

John Griffiths: The Welsh Government is very proactive in attracting and retaining industry and jobs here in Wales, and a great deal of effort from Ministers and officials is directed to that end. If the Member wishes to raise a particular example—and I assume that she already has, from what she has said—I am sure that she will get a response, if she has not already had it. However, in general, we are very clear that 'Energy Wales’ sets out our ambitions to attract jobs and growth as well as to meet the challenges of climate change and energy production here in Wales.

John Griffiths: Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweithiol iawn wrth ddenu a chadw diwydiannau a swyddi yma yng Nghymru, ac mae Gweinidogion a swyddogion yn gwneud llawer iawn o ymdrech i’r perwyl hwnnw. Os yw'r Aelod yn dymuno codi enghraifft benodol—a thybiaf ei bod wedi gwneud hynny, o'r hyn y mae wedi'i ddweud—rwyf yn siŵr y caiff ymateb, os nad yw wedi cael ymateb yn barod. Fodd bynnag, yn gyffredinol, rydym yn glir iawn bod 'Ynni Cymru’ yn nodi ein dyheadau i ddenu swyddi a thwf yn ogystal â chwrdd â heriau newid hinsawdd a chynhyrchu ynni yma yng Nghymru.

Bethan Jenkins: Fel y gwyddoch, mae’n siŵr, nid yw pwerau dros brosiectau dŵr dros 1 MW wedi’u datganoli i Gymru. A fyddwch yn cael trafodaethau gyda Peter Hain, sydd bellach yn ymgyrchydd un-mater dros forglawdd Hafren, am wthio am ddatganoli’r pwerau hynny i Gymru, gan fod hwn yn fater o bwys mawr iddo fel person?

Bethan Jenkins: As you know, I am sure, powers for hydro projects over 1 MW have not been devolved to Wales. Will you be holding discussions with Peter Hain, who is now a single-issue campaigner for the Severn barrage, on pushing for the devolution of these powers to Wales, given that the issue is of such great importance to him personally?

The Record

John Griffiths: I look forward to discussing and meeting with a variety of players and individuals to further our absolutely correct ambitions to gain further energy consents for Wales.

John Griffiths: Edrychaf ymlaen at drafod a chael cyfarfod ag amrywiaeth o gyfranwyr ac unigolion i hyrwyddo ein dyheadau cwbl briodol i sicrhau rhagor o bwerau caniatâd ynni i Gymru.

The Record

Afonydd Cymru

Welsh Rivers

12. Elin Jones: Pa gynnydd sydd wedi’i wneud dros y 12 mis diwethaf ar gytundebau mynediad i afonydd Cymru. OAQ(4)0119(ESD)

12. Elin Jones: What progress has been made in the last 12 months on access agreements to Welsh rivers. OAQ(4)0119(ESD)

John Griffiths: Rydym yn parhau i annog hwyluso trefniadau mynediad gwirfoddol.

John Griffiths: We continue to encourage the facilitation of voluntary access arrangements.

Elin Jones: If there is insufficient progress on voluntary access agreements over the next months and years, will you at some point consider a licensing scheme for all river users, as proposed by the Sustainability Committee’s report in 2010?

Elin Jones: Os nad oes digon o gynnydd o ran cytundebau mynediad gwirfoddol dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, a wnewch chi, ar ryw adeg, ystyried cynllun trwyddedu ar gyfer pawb sy'n defnyddio afonydd, fel y cynigiwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd yn 2010?

John Griffiths: We are committed to the voluntary approach. It is a good exercise to bring together the various interested parties to see whether they can reach an agreement. We have seen progress in parts of Wales, such as the success seen as a result of the Splash funding that we provide to facilitate new arrangements. We keep these matters under review and, if necessary, we will consider different approaches.

John Griffiths: Rydym wedi ymrwymo i'r dull gweithredu gwirfoddol. Mae'n ymarfer da dwyn ynghyd y gwahanol bartïon â diddordeb i weld a allant ddod i gytundeb. Rydym wedi gweld cynnydd mewn rhannau o Gymru, fel y llwyddiant a welwyd yn sgîl cyllid Sblash, sy'n cael ei ddarparu gennym i hwyluso trefniadau newydd. Rydym yn adolygu'r materion hyn ac, os oes angen, byddwn yn ystyried gwahanol ddulliau gweithredu.

Andrew R.T. Davies: As a member of the Petitions Committee in the third Assembly, I know that it undertook a considerable piece of scrutiny work in this field, which was passed on to the Sustainability Committee in order for it to carry out a wider scoping exercise. Are you in a position to make a statement on what progress has been made to implement the recommendations that the then Government accepted and which you now, as Minister, are charged with implementing? When we looked into this, there was widespread confrontation over the issue in certain parts of Wales.

Andrew R.T. Davies: Fel aelod o'r Pwyllgor Deisebau yn y trydydd Cynulliad, rwyf yn gwybod ei fod wedi cynnal darn sylweddol o waith craffu yn y maes hwn, a gafodd ei roi i'r Pwyllgor Cynaliadwyedd er mwyn i'r pwyllgor hwnnw gynnal ymarfer cwmpasu ehangach. A ydych mewn sefyllfa i roi datganiad am y cynnydd a wnaed i weithredu'r argymhellion a dderbyniwyd gan y Llywodraeth ar y pryd—yr argymhellion rydych chi'n awr, fel Gweinidog, yn gyfrifol am eu gweithredu? Pan edrychom ar hyn, roedd cryn dipyn o wrthwynebiad i’r mater mewn rhannau penodol o Gymru.

John Griffiths: There are difficulties. I have had meetings with the various groups involved. It is not at all impossible to achieve agreement and progress, as I mentioned in reply to Elin Jones’s question. I would be happy to report to Plenary on the latest situation at an appropriate time.

John Griffiths: Mae anawsterau'n bodoli. Rwyf wedi cael cyfarfodydd â'r gwahanol grwpiau sy'n gysylltiedig. Nid yw'n amhosibl o gwbl sicrhau cytundeb a chynnydd, fel y soniais wrth ymateb i gwestiwn Elin Jones. Byddwn yn fwy na bodlon rhoi adroddiad am y sefyllfa ddiweddaraf i'r Cyfarfod Llawn ar adeg briodol.

Atal Llifogydd

Flood Prevention

13. Jocelyn Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am atal llifogydd. OAQ(4)0120(ESD)

13. Jocelyn Davies: Will the Minister make a statement on flood prevention. OAQ(4)0120(ESD)

John Griffiths: In November, I published our national strategy for flood and coastal erosion risk management, which sets out our policies on flood prevention.

John Griffiths: Ym mis Tachwedd, cyhoeddais ein strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, sy'n nodi ein polisïau ar atal llifogydd.

Jocelyn Davies: You will probably recall that I recently contacted you about the vulnerability of homes to flooding in Newbridge and Caerphilly. You told me that a funding bid was subject to discussions with the council. Could you update me on that?

Jocelyn Davies: Mae'n siŵr y byddwch yn cofio imi gysylltu â chi yn ddiweddar ynghylch cartrefi sy'n agored iawn i lifogydd yn Nhrecelyn a Chaerffili. Dywedoch wrthyf fod cais am gyllid yn cael ei drafod â'r cyngor. A allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf imi am hynny?

John Griffiths: I will write to the Member with the latest position.

John Griffiths: Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod i ddweud beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf.

Darren Millar: You will be aware that, of all the constituencies in Wales, mine is at the greatest risk of flooding given the number of homes and businesses that can be affected. Vital infrastructure in the area is also protected by flood defences, particularly in Colwyn Bay, where the sea defences afford protection to both the North Wales Coast Railway line and the A55 trunk road. There have been improvements in flood protection in Colwyn Bay, but not along the Old Colwyn part of the coast. What work is your Government doing to address the problems in Old Colwyn, particularly with the other agencies that might need to be involved to solve that ongoing problem?

Darren Millar: Byddwch yn ymwybodol, o'r holl etholaethau sydd yng Nghymru, fy etholaeth i sy'n wynebu'r risg fwyaf o lifogydd, o ystyried nifer y cartrefi a'r busnesau y gallai llifogydd effeithio arnynt. Mae seilwaith hollbwysig yn yr ardal hefyd yn cael ei ddiogelu gan amddiffynfeydd rhag llifogydd, yn enwedig ym Mae Colwyn, lle mae'r amddiffynfeydd môr yn amddiffyn lein Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru a chefnffordd yr A55. Mae amddiffynfeydd rhag llifogydd wedi cael eu gwella ym Mae Colwyn, ond nid ar hyd y rhan o’r arfordir sydd yn Hen Golwyn. Pa waith sy'n cael ei wneud gan eich Llywodraeth i fynd i'r afael â'r problemau yn Hen Golwyn, yn enwedig gyda'r asiantaethau eraill y byddai angen eu cynnwys efallai er mwyn datrys y broblem barhaus honno?

John Griffiths: I very much understand the points made by Darren Millar. It is indeed the case that, as well as protecting businesses and residences, our sea defences protect vital infrastructure—roads, railways and some of our sewage and water infrastructure as well. It is therefore vital that we maintain those defences and, when necessary, replace them and, beyond that, build new defences. That takes a great deal of resource, and, as Members know, there is not a great deal of capital available at the moment. We look to lever in moneys to help with the necessary work wherever possible. My officials are in contact with the local authority, the Environment Agency, and the owners of the infrastructure that the Member mentions.

John Griffiths: Rwyf yn deall yn iawn y pwyntiau a wnaed gan Darren Millar. Mae'n wir fod ein hamddiffynfeydd môr yn diogelu seilweithiau hollbwysig—ffyrdd, rheilffyrdd ac ambell ran o'n seilwaith carthffosiaeth a dŵr hefyd, yn ogystal â busnesau a chartrefi. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn cynnal a chadw'r amddiffynfeydd hynny a, phan fo angen, yn eu disodli, gan adeiladu amddiffynfeydd newydd pan fydd y sefyllfa wedi mynd y tu hwnt i hynny. Mae angen llawer iawn o adnoddau ar gyfer hynny ac, fel y gŵyr yr Aelodau, nid oes llawer iawn o gyfalaf ar gael ar hyn o bryd. Rydym yn ceisio denu arian i helpu gyda'r gwaith angenrheidiol lle bynnag y bo’n bosibl. Mae fy swyddogion mewn cysylltiad â'r awdurdod lleol, Asiantaeth yr Amgylchedd, a pherchnogion y seilwaith y mae'r Aelod yn sôn amdano.

Parthau Cadwraeth Morol

Marine Conservation Zones

14. Simon Thomas: Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynglŷn â chreu Parthau Cadwraeth Morol yng Nghymru. OAQ(4)0124(ESD)

14. Simon Thomas: What discussions has the Minister had regarding creating Marine Conservation Zones in Wales. OAQ(4)0124(ESD)

John Griffiths: Mae fy swyddogion wedi bod mewn trafodaethau gydag ystod o grwpiau parthed y dull gwarchodedig iawn o greu parthau cadwraeth morol. Rydym ar ganol cam cyntaf yr ymgynghoriad ar yr opsiynau ar gyfer safleoedd gwarchodedig iawn, gan drafod y camau nesaf mewn mwy o fanylder gyda chymunedau lleol.

John Griffiths: My officials have held discussions with a range of groups about the highly protected approach to creating marine conservation zones. We are now out to first-stage consultation on the options for highly protected sites, engaging in more detail with local communities to inform the next steps.

The Record

2.15 p.m.

Simon Thomas: A ydych yn cytuno bod pysgotwyr mewn lleoedd megis Pen Llŷn a Bae Ceredigion yn rhan o’r gwead i gynnal pysgodfeydd cynaliadwy ac y dylai fod yn bosibl i bobl barhau i wneud bywoliaeth, hyd yn oed o dan y gyfundrefn newydd? A fedrwch eu sicrhau y bydd modd iddynt gynnal bywoliaeth o’r môr fel rhan o’r gwead economaidd a thwristaidd mewn lleoedd megis Pen Llŷn?

Simon Thomas: Do you agree that fishermen in places such as the Llŷn peninsula and Cardigan bay are central to the creation of sustainable fisheries and that it should be possible for these people to continue to make a living, even under the new regime? Can you give an assurance that they will be able to make a living from the sea as part of the economic and tourism system in places such as the Llŷn peninsula?

The Record

John Griffiths: I assure the Member that the Welsh Government appreciates the interests in and the contribution to the fishing industry in Wales, both commercial and recreational. Those interests will be at the forefront of the development of the marine conservation zones.

John Griffiths: Rwyf yn sicrhau'r Aelod bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y buddiannau sydd yn y diwydiant pysgota yng Nghymru, boed fasnachol neu hamdden, a'r cyfraniadau at y diwydiant. Bydd y buddiannau hynny’n flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu’r parthau cadwraeth morol.

The Record

Taflu Sbwriel

Littering

15. Julie Morgan: Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i leihau taflu sbwriel. OAQ(4)0114(ESD)

15. Julie Morgan: What plans does the Minister have to reduce littering. OAQ(4)0114(ESD)

John Griffiths: The Welsh Government is committed to tackling littering, including fly-tipping, and to funding activities via Keep Wales Tidy, Environment Agency Wales and local authorities. At the Environment Matters conference on Monday, I announced our new place-based approach to environmental programmes, which will deliver integrated support to tackle environmental inequalities across Wales.

John Griffiths: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â sbwriel, gan gynnwys tipio anghyfreithlon, ac i ariannu gweithgareddau drwy Cadwch Gymru'n Daclus, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ac awdurdodau lleol. Yng nghynhadledd Environment Matters ddydd Llun, cyhoeddais ein hagwedd newydd at raglenni amgylcheddol—agwedd sy’n canolbwyntio ar leoliad—a fydd yn darparu cymorth integredig i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Julie Morgan: I thank the Minister for his response. I am sure that the Minister is aware that smoking-related litter makes up the biggest part of littering in Wales and that the most of that is cigarette stubs, which are a danger to children and animals. What plans does he have to address that type of litter?

Julie Morgan: Diolch i’r Gweinidog am ei ymateb. Rwyf yn siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol mai sbwriel sy'n gysylltiedig ag ysmygu sy’n cyfrif am y rhan fwyaf o sbwriel yng Nghymru. Bonion sigaréts yw'r rhan fwyaf o hynny, ac maent yn beryglus i blant ac anifeiliaid. Pa gynlluniau sydd ganddo i fynd i'r afael â'r math hwnnw o sbwriel?

John Griffiths: The matters that Julie Morgan mentioned are very important. Various approaches have been taken across Wales. Blaenau Gwent, for example, has a strict enforcement and fining system for dropping litter. Other areas have different approaches. We will look to see what works best across Wales. The idea of the new focus on inner-urban environmental issues is about dealing with the nitty-gritty of environmental matters that really count for people. Cigarette butts are part of the new approach that we will prioritise.

John Griffiths: Mae'r materion a grybwyllwyd gan Julie Morgan yn bwysig iawn. Mae dulliau amrywiol wedi cael eu defnyddio ledled Cymru. Mae gan Flaenau Gwent, er enghraifft, system gorfodi a dirwyo lem ar gyfer gollwng sbwriel. Mae gan ardaloedd eraill ddulliau gweithredu gwahanol. Byddwn yn ceisio gweld beth sy'n gweithio orau ar draws Cymru. Mae'r syniad o ffocws newydd ar faterion amgylcheddol yng nghanol trefi yn golygu mynd at wraidd materion amgylcheddol sydd wir yn bwysig i bobl. Mae bonion sigaréts yn rhan o'r dull gweithredu newydd y byddwn yn ei flaenoriaethu.

Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Questions to the Minister for Housing, Regeneration and Heritage

The Record

Digartrefedd

Homelessness

1. Sandy Mewies: A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â digartrefedd. OAQ(4)0128(HRH)

1. Sandy Mewies: Will the Minister give an update on Welsh Government measures to tackle homelessness. OAQ(4)0128(HRH)

The Minister for Housing, Regeneration and Heritage (Huw Lewis): I thank the Member for Delyn for that question. Our 10-year homelessness plan sets out our policy on tackling homelessness, which we are implementing through funding, guidance and other support. Our priority is prevention. My proposals for improving homelessness legislation and other measures will be set out in the White Paper that I will publish on Monday.

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (Huw Lewis): Diolch i'r Aelod dros Ddelyn am y cwestiwn hwnnw. Mae ein cynllun digartrefedd 10 mlynedd yn amlinellu ein polisi ar fynd i'r afael â digartrefedd. Rydym yn gweithredu’r cynllun drwy roi arian, cyfarwyddyd a mathau eraill o gymorth. Ein blaenoriaeth yw atal. Bydd fy nghynigion ar gyfer gwella deddfwriaeth digartrefedd a mesurau eraill yn cael eu nodi yn y Papur Gwyn y byddaf yn ei gyhoeddi ddydd Llun.

Sandy Mewies: Thank you for that answer. Latest figures have revealed a decrease in the number of households accepted as being homeless and a fall in the number of people approaching local authorities for help. However, levels of homelessness are still at some of the highest since 2004-05. Worryingly, there has been an increase in the number of households where families go into bed-and-breakfast accommodation. As you will know, local authorities have tried hard to combat that. What can our Government do, if anything can be done, to prevent families falling into this dreadful situation?

Sandy Mewies: Diolch am yr ateb hwnnw. Mae'r ffigurau diweddaraf wedi dangos gostyngiad yn nifer yr aelwydydd sy'n cael eu derbyn fel aelwydydd digartref, yn ogystal â gostyngiad yn nifer y bobl sy'n mynd at awdurdodau lleol am gymorth. Fodd bynnag, mae lefelau digartrefedd yn dal ar eu huchaf er 2004-05. Bu cynnydd yn nifer yr aelwydydd lle mae teuluoedd yn mynd i lety gwely a brecwast, ac mae hynny'n destun pryder. Fel y gwyddoch, mae awdurdodau lleol wedi gweithio’n galed i fynd i'r afael â hynny. Beth y gall ein Llywodraeth ei wneud, os gellir gwneud unrhyw beth, i atal teuluoedd rhag canfod eu hunain yn y sefyllfa ddifrifol hon?

Huw Lewis: I thank the Member again for raising that very important point. We are in challenging economic times, which, combined with the inimical policies of the Westminster UK coalition Government when it comes to the fight against homelessness, means that one can only worry about the overall general trend of homelessness figures. It is true that there was a reduction at the end of 2011. However, I strongly suspect, and would be prepared to bet, that that is not a signal of change in the general trend, but quite the opposite.

Huw Lewis: Diolch eto i’r Aelod am godi'r pwynt hollbwysig hwnnw. Rydym mewn cyfnod economaidd anodd. Rhwng hynny a pholisïau anffafriol Llywodraeth glymblaid y DU yn San Steffan yn y frwydr yn erbyn digartrefedd, ni allwn wneud dim ond poeni am duedd gyffredinol y ffigurau digartrefedd. Mae'n wir y bu gostyngiad ddiwedd 2011, ond rwyf yn amau'n fawr, a byddwn yn barod i fentro arian, nad oes unrhyw arwydd o newid yn y duedd gyffredinol, ond i'r gwrthwyneb.

Next week, I will launch our housing White Paper, which will clearly set out our intention to tackle homelessness and strengthen the prevention work that has had such a positive impact on helping people to remain in their homes. Much work has already been carried out, as all Members will know, by local authorities and the voluntary sector in this area. However, the White Paper will show that there is a great deal more that can be done. Within that, I am particularly concerned about the admittedly small number of families who have to use bed-and-breakfast accommodation. No child should have to live in bed-and-breakfast accommodation, however temporarily. The White Paper will set out how this Government intends to deal with family homelessness.

Yr wythnos nesaf, byddaf yn lansio ein Papur Gwyn ar Dai, a fydd yn nodi’n glir ein bwriad i fynd i'r afael â digartrefedd a chryfhau’r gwaith ataliol sydd wedi cael effaith mor gadarnhaol ar helpu pobl i aros yn eu cartrefi. Fel y bydd yr Aelodau i gyd yn gwybod, mae llawer o waith eisoes wedi cael ei wneud yn y maes hwn gan awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol. Fodd bynnag, bydd y Papur Gwyn yn dangos y gellir gwneud llawer iawn mwy. O fewn hynny, rwyf yn arbennig o bryderus am nifer y teuluoedd sy’n gorfod defnyddio llety gwely a brecwast, er mai bach yw’r nifer hwnnw. Ni ddylai unrhyw blentyn orfod byw mewn llety gwely a brecwast, ni waeth beth yw hyd y cyfnod dros dro. Bydd y Papur Gwyn yn nodi sut y mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu ymdrin â theuluoedd sy’n cael eu gwneud yn ddigartref.

The Record

Mohammad Asghar: Minister, one way to reduce homelessness in Wales is to make use of good-quality private rented sector housing. According to the Welsh Local Government Association, local authorities can use suitable accommodation in the private rented sector to discharge the homelessness duty only by agreement. It has proposed that current legislation be amended to give local authorities the power to use the private rented sector to discharge their homelessness duty, with safeguards in place in relation to affordability, quality, management and initial security. What plans does the Minister have to use the private rented sector to reduce homelessness in Wales?

Mohammad Asghar: Weinidog, un ffordd o leihau lefelau digartrefedd yng Nghymru yw defnyddio tai o safon yn y sector rhentu preifat. Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, dim ond drwy gytundeb y gall awdurdodau lleol ddefnyddio llety addas yn y sector rhentu preifat i ymgymryd â’u dyletswydd o ran digartrefedd. Mae wedi cynnig y dylai'r ddeddfwriaeth bresennol gael ei diwygio er mwyn rhoi’r grym i awdurdodau lleol ddefnyddio'r sector rhentu preifat i ymgymryd â’u dyletswydd o ran digartrefedd, gyda mesurau diogelwch ar waith yng nghyswllt fforddiadwyedd, ansawdd, rheoli a sicrwydd cychwynnol. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ddefnyddio'r sector rhentu preifat i leihau lefelau digartrefedd yng Nghymru?

Huw Lewis: I hope that Mohammad Asghar will forgive me if I do not give, line by line, the detail of the White Paper’s coverage of this point. As I have said, it will be published on Monday. However, I can assure the Member that this very point will be covered as part of an overall radical reformation of the relationship between Government and the private rented sector.

Huw Lewis: Gobeithio y bydd Mohammad Asghar yn maddau imi os na fyddaf yn nodi’r manylion a geir yn y Papur Gwyn fesul llinell yn awr. Fel y dywedais, bydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun. Fodd bynnag, gallaf sicrhau'r Aelod y bydd yr union bwynt hwn yn cael sylw fel rhan o’r gwaith o ddiwygio'r berthynas rhwng y Llywodraeth a'r sector rhentu preifat yn radical drwyddi draw.

Llyr Huws Gruffydd: Mae gennyf deimlad y bydd 'Papur Gwyn’ yn yr ateb y byddaf yn ei gael. Rydym yn gwybod bod y newidiadau i fudd-daliadau tai yn mynd i arwain, fel rydych wedi awgrymu, at fwy o bobl yn cael eu gwneud yn ddigartref neu yn wynebu’r bygythiad o ddigartrefedd. A allwch chi ddweud wrthym sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo awdurdodau lleol i ysgwyddo’r baich ychwanegol, yn enwedig o gofio eu  bod o dan bwysau aruthrol o safbwynt eu hadnoddau yn barod?

Llyr Huws Gruffydd: I have a feeling that 'White Paper’ will be in the answer I receive. We know that the changes to housing benefit will lead, as you have suggested, to more people being made homeless or being under threat of becoming homeless. Can you tell us how the Welsh Government will assist local authorities to bear the additional burden, especially given that they are already under enormous pressure in terms of their resources?

Huw Lewis: I thank the Plaid Cymru spokesperson for that point. He is right to be concerned about the changes to housing benefit and the impact that they might have on the homelessness situation and, in general, upon people’s ability to afford a decent place to live. That impact has yet to be fully realised. What we do know is that, at least in the case of London, housing benefit-related evictions have already begun and they have begun on a large scale. One can only speculate at this stage as to the effect that this might have on us in Wales.

Huw Lewis: Diolch i lefarydd Plaid Cymru am y pwynt hwnnw. Mae'n briodol iawn ei fod yn pryderu am y newidiadau i'r budd-dal tai a'r effaith y gallent ei chael ar y sefyllfa ddigartrefedd ac, yn gyffredinol, ar allu pobl i fforddio lle addas i fyw. Nid yw'r effaith honno wedi'i gweld yn llawn eto. Yr hyn rydym yn ei wybod yw bod achosion o droi allan oherwydd materion yn ymwneud â budd-dal tai eisoes wedi dechrau, yn Llundain o leiaf, ac maent wedi dechrau ar raddfa fawr. Ni ellir ond dyfalu ar hyn o bryd pa effaith y gallai hyn ei chael arnom ni yng Nghymru.

The specific answers to the points that you have raised will not be included in the White Paper to be published on Monday, but I can assure the Plaid Cymru spokesperson that this will be a central matter of debate as regards the White Paper conversation that will follow.

Ni fydd yr atebion penodol i'r pwyntiau a godwyd gennych yn cael eu cynnwys yn y Papur Gwyn a gyhoeddir ddydd Llun, ond gallaf sicrhau llefarydd Plaid Cymru y bydd hyn yn destun dadl ganolog o safbwynt y sgwrs ar y Papur Gwyn a fydd yn dilyn.

Peter Black: Minister, in terms of prevention, which I agree is absolutely crucial, what additional resources will accompany your White Paper for local authorities to deal with this issue? Will you be working more closely with registered social landlords to ask them to take their duties in terms of homelessness more seriously?

Peter Black: Weinidog, o ran atal, sy'n hollol hanfodol yn fy marn innau hefyd, pa adnoddau ychwanegol fydd yn cyd-fynd â’ch Papur Gwyn er mwyn i awdurdodau lleol allu ymdrin â’r mater hwn? A fyddwch yn gweithio'n agosach gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ofyn iddynt edrych yn fwy difrifol ar eu dyletswyddau o ran digartrefedd?

Huw Lewis: I thank Peter Black for those points. It is a little early to talk about extra resources, although, as I have previously mentioned in the Chamber, extra resources to the tune of £1.4 million have been allocated in order to assist partner organisations in helping people through the difficulties that housing benefit changes will present them with in particular. However, it is true to say that that will not be sufficient in future.

Huw Lewis: Diolch i Peter Black am y pwyntiau hynny. Mae braidd yn gynnar sôn am adnoddau ychwanegol, er, fel rwyf wedi sôn o'r blaen yn y Siambr, mae gwerth £1.4 miliwn o adnoddau ychwanegol wedi eu dyrannu er mwyn cynorthwyo sefydliadau partner yn benodol i helpu pobl drwy'r anawsterau a fydd yn codi yn sgîl y newidiadau i fudd-dal tai. Fodd bynnag, mae'n wir dweud na fydd hynny'n ddigonol yn y dyfodol.

Peter Black answers his own question in the text of what he has given us this afternoon. This will be a question of partnership working between the Government, registered social landlords, local authorities, the private rented sector and advice and support organisations across the country. We have to rework our relationship and we must all expect more of each other within that relationship. Housing and the threat of homelessness must be moved up the agenda of local authorities in particular.

Mae Peter Black yn ateb ei gwestiwn ei hun yn y testun y mae wedi ei roi inni y prynhawn yma. Bydd hyn yn fater o weithio mewn partneriaeth rhwng y Llywodraeth, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, awdurdodau lleol, y sector rhentu preifat a mudiadau sy'n cynghori ac yn cefnogi ar hyd a lled y wlad. Rhaid inni ail-edrych ar ein perthynas a rhaid i bob un ohonom ddisgwyl mwy gan ein gilydd o fewn y berthynas honno. Rhaid rhoi tai a'r bygythiad o ddigartrefedd ar frig agendâu awdurdodau lleol yn arbennig.

Peter Black: I welcome your target of 7,500 new affordable homes, which will be key in terms of helping to tackle homelessness. In terms of that target, will you be publishing a clear definition of what you mean by an affordable home so that we can be clear how that target is being met? Will you give an undertaking to publish regular statistics so that we can also monitor that target, maybe on a quarterly or six-monthly basis?

Peter Black: Rwyf yn croesawu eich targed o 7,500 o gartrefi fforddiadwy newydd, a fydd yn allweddol i helpu i fynd i'r afael â digartrefedd. O ran y targed hwnnw, a fyddwch yn cyhoeddi diffiniad clir o'r hyn rydych yn ei olygu wrth gartref fforddiadwy, er mwyn inni allu bod yn glir ynghylch y modd y mae'r targed hwnnw'n cael ei gyrraedd? A wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi ystadegau rheolaidd er mwyn inni hefyd allu monitro'r targed hwnnw, bob chwarter neu bob chwe mis efallai?

Huw Lewis: I thank the Liberal Democrat spokesperson for that welcome. I will set that alongside the press release that he issued yesterday, which, let us say, had a slightly more critical tone with regard to the 7,500 affordable homes target. Affordable homes are clearly defined—and have been for quite a long time as far as we are concerned in Wales—as homes for social rent, homes for intermediate rent or assisted purchase part-rental deals, of which there are several different versions.

Huw Lewis: Diolch i lefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol am y croeso hwnnw. Byddaf yn gosod hynny ochr yn ochr â'r datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd ganddo ddoe, a oedd, gadewch inni ddweud, ychydig yn fwy beirniadol o'r targed ar gyfer 7,500 o dai fforddiadwy. Mae tai fforddiadwy'n cael eu diffinio'n glir—ac maent wedi cael eu diffinio'n glir ers tro yng Nghymru—fel cartrefi cymdeithasol ar rent, cartrefi rhent canolradd, neu gynlluniau prynu’n rhannol, rhentu’n rhannol gyda chymorth, lle ceir nifer o wahanol fersiynau.

I have forgotten the second part of your question, Peter.

Rwyf wedi anghofio ail ran eich cwestiwn, Peter.

The Presiding Officer: Order. He is not repeating it.

Y Llywydd: Trefn. Nid yw'n ei ailadrodd.

Peter Black: It was about regular statistics.

Peter Black: Roedd yn ymwneud ag ystadegau rheolaidd.

Huw Lewis: The statistics, as you know, are produced annually. Thank you for that, Peter; I will call on you again when I need you. [Laughter.]

Huw Lewis: Mae'r ystadegau, fel y gwyddoch, yn cael eu cynhyrchu bob blwyddyn. Diolch am hynny, Peter; byddaf yn galw arnoch eto pan fydd arnaf eich angen. [Chwerthin.]

The Presiding Officer: Order. Can we move on, because we are already running out of time, Minister?

Y Llywydd: Trefn. A allwn ni symud ymlaen, gan fod amser eisoes yn brin, Weinidog?

Huw Lewis: Statistics are produced annually, and there are no plans to change that.

Huw Lewis: Mae'r ystadegau'n cael eu cynhyrchu bob blwyddyn, ac nid oes unrhyw gynlluniau i newid hynny.

The Record

Treftadaeth Grefyddol

Religious Heritage

2. Alun Ffred Jones: Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu cyfoeth treftadaeth grefyddol Cymru. OAQ(4)0130(HRH)

2. Alun Ffred Jones: What are the Welsh Government’s plans for securing the wealth of Wales’ religious heritage. OAQ(4)0130(HRH)

Huw Lewis: I thank Alun Ffred Jones for that question. Places of worship are an important part of our heritage, although, strictly speaking, not all have historical or architectural significance. When such buildings close, it is important that new uses are found that will protect the building and secure its special interest. Some could be used for affordable housing or as other community resources.

Huw Lewis: Diolch i Alun Ffred Jones am y cwestiwn hwnnw. Mae mannau addoli yn rhan bwysig o'n treftadaeth, er nad oes gan y mannau hyn i gyd, a bod yn fanwl gywir, arwyddocâd hanesyddol neu bensaernïol. Pan fydd adeiladau o'r fath yn cau, mae'n bwysig dod o hyd i ffyrdd newydd o'u defnyddio er mwyn diogelu'r adeilad a'r diddordeb arbennig sydd ynddo. Byddai modd defnyddio rhai adeiladau at ddibenion tai fforddiadwy neu fel adnoddau eraill ar gyfer y gymuned.

The Record

Alun Ffred Jones: Un o amcanion y Llywodraeth yw diogelu ein treftadaeth grefyddol, fel rydych wedi ei nodi. Mae cannoedd o gapeli yng Nghymru wedi eu rhestru ond ychydig iawn o adnoddau sydd ar gael i’w diogelu, ac, yn aml iawn, mae ymddiriedolwyr yn prinhau. Mae cymdeithas Capel yn gwneud gwaith da iawn o ran adnewyddu a phrynu rhai o’r adeiladau hyn. Pa gymorth pellach y gallwch ei gynnig i Capel a chyrff eraill er mwyn diogelu’r dreftadaeth hon a gwireddu amcanion y Llywodraeth?

Alun Ffred Jones: One of the Government’s objectives is to safeguard our religious heritage, as you have noted. Hundreds of chapels in Wales are listed, but very few resources are available to safeguard them, and, of course, trustees are becoming few and far between. The Capel society is doing good work in renovating and purchasing some of these buildings. What further assistance can you offer Capel and other associations in order to safeguard this heritage and to achieve the Government’s objectives?

Huw Lewis: Meetings and discussions surrounding this issue have been under way for some time, with regard to churches and chapels. I had a very constructive meeting with the Archbishop of Wales just a few weeks ago, and I have attempted to set up a meeting with the Union of Welsh Independents for some time in order to have some initial discussions. As you said, many of these buildings are listed; around 12 chapels are Grade I listed, and there are hundreds of Grade II and Grade II* listed buildings. This is an issue for us all. The scale of this problem is somewhat awe-inspiring, but we must seek solutions such as the fantastic shared end use of the Hanbury chapel in Bargoed, where a new library facility is running in parallel with a continued place of worship. The congregation is still using that fantastic building as a place of worship as the community uses the library facility. That is an outstanding example, and it will inform the conversation that we must have about this. I also hope that the Member for Arfon will be a part of that conversation.

Huw Lewis: Mae cyfarfodydd a thrafodaethau ynghylch y mater hwn wedi bod ar droed ers tro, o ran eglwysi a chapeli. Cefais gyfarfod adeiladol iawn ag Archesgob Cymru dim ond ychydig wythnosau'n ôl, ac rwyf wedi ceisio trefnu cyfarfod ag Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ers tro er mwyn cynnal trafodaethau cychwynnol. Fel y dywedoch, mae llawer o'r adeiladau hyn wedi'u rhestru; mae oddeutu 12 o gapeli yn adeiladau rhestredig Gradd I, a cheir cannoedd o adeiladau rhestredig Gradd II a Gradd II*. Mae hyn yn broblem i bob un ohonom. Mae graddfa'r broblem hon yn bur syfrdanol, ond rhaid inni chwilio am atebion, drwy edrych ar gapel Hanbury ym Margoed, er enghraifft, sy'n cael ei ddefnyddio fel llyfrgell newydd ond yn dal yn fan addoliad. Mae'r gynulleidfa'n dal i ddefnyddio'r adeilad gwych fel man addoli tra mae'r gymuned yn defnyddio’r llyfrgell sydd ynddo. Mae honno'n enghraifft ragorol, a bydd yn sail i'r sgwrs y mae'n rhaid inni ei chael am hyn. Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd yr Aelod dros Arfon yn gallu bod yn rhan o'r sgwrs honno.

Mike Hedges: First, I congratulate the Minister on the substantial support that he has given for chapel buildings, not least in my constituency. However, many chapels have less than 10 years of viability left if we look at their membership figures, and even more have less than 20 years. What work is being done with the different denominations to work towards preserving many of these iconic nineteenth century buildings?

Mike Hedges: Yn gyntaf, hoffwn longyfarch y Gweinidog am y cymorth sylweddol y mae wedi'i roi i adeiladau capeli, yn fy etholaeth i yn enwedig. Fodd bynnag, mae oes llawer o gapeli yn llai na 10 mlynedd os edrychwn ar eu ffigurau aelodaeth, ac mae oes hyd yn oed mwy ohonynt yn llai na 20 mlynedd. Pa waith sy'n cael ei wneud gyda'r gwahanol enwadau i weithio tuag at gadw llawer o'r adeiladau nodedig hyn o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg?

Huw Lewis: To sum up Mike Hedges’ point, the clock is ticking, and many of the buildings that we are talking about here are reaching a natural crisis point in terms of their age and maturity, taken alongside the age and maturity of some of the congregations involved. It is time to get down to urgent discussions. Although it was simple and straightforward to start a conversation with the Church in Wales, it has proven more difficult to sit down and begin face-to-face talks with the nonconformist denominations. I would encourage those church leaders to whom I have written to respond as soon as possible if they have not done so already.

Huw Lewis: I grynhoi pwynt Mike Hedges, mae amser yn prysur ddiflannu, ac mae llawer o'r adeiladau rydym yn sôn amdanynt yn cyrraedd sefyllfa o argyfwng naturiol o ran eu hoedran a'u haeddfedrwydd, gan gofio oedran ac aeddfedrwydd rhai o'r cynulleidfaoedd sy'n gysylltiedig hefyd. Mae'n bryd inni gael trafodaethau brys. Er ei bod yn syml ac yn rhwydd dechrau siarad â’r Eglwys yng Nghymru, bu'n anos eistedd i lawr a dechrau trafod wyneb yn wyneb â'r enwadau anghydffurfiol. Byddwn yn annog arweinwyr yr eglwysi hynny rwyf wedi ysgrifennu atynt i ymateb cyn gynted â phosibl os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes.

Nick Ramsay: Minister, I welcome your commitment to protecting Wales’s religious heritage. Indeed, Wales boasts a large number of religious buildings from the nineteenth century and before, both chapels and churches, which need protection, although it is costly.

Nick Ramsay: Weinidog, rwyf yn croesawu eich ymrwymiad i ddiogelu treftadaeth grefyddol Cymru. Yn wir, mae gan Gymru nifer fawr o adeiladau crefyddol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a chyn hynny, yn gapeli ac yn eglwysi. Mae angen gwarchod yr adeiladau hynny, er bod hynny'n gostus.

2.30 p.m.

What discussions have you had with organisations such as the Friends of Friendless Churches? In my constituency, near Llanfair Cilgedin, there is a church that has a fantastic example of scraffiti. That church will not necessarily be protected by any other organisation; it has long since fallen out of use. Without organisations such as Friends of Friendless Churches these buildings would not be protected, and our children and our children’s children would not be able to benefit from what we are able to benefit from today.

Pa drafodaethau rydych wedi'u cael â mudiadau fel Cyfeillion Eglwysi Digyfaill? Yn fy etholaeth i, ger Llanfair Cilgedin, ceir eglwys sy’n cynnwys enghraifft wych o sgraffiti. Ni fydd yr eglwys honno o reidrwydd yn cael ei diogelu gan unrhyw fudiad arall; mae pobl wedi hen roi'r gorau i'w defnyddio. Heb fudiadau fel Cyfeillion Eglwysi Digyfaill, ni fyddai'r adeiladau hyn yn cael eu diogelu, ac ni fyddai ein plant na phlant ein plant yn gallu elwa o'r hyn rydym ni'n gallu elwa ohono heddiw.

Huw Lewis: I am aware of the work of Friends of Friendless Churches. It does important work, particularly regarding churches in rural communities, which present a whole new menu of problems in terms of future use and so on. I very much want it to be part of a summit that I am planning some time during this calendar year for Government, Cadw and other agencies as well as the various denominations of churches to get together to begin to talk about this in an all-Wales sense.

Huw Lewis: Rwyf yn ymwybodol o waith Cyfeillion Eglwysi Digyfaill. Mae'n gwneud gwaith pwysig, yn enwedig o ran eglwysi mewn cymunedau gwledig, sy'n cyflwyno ystod newydd o broblemau o ran defnydd yn y dyfodol ac yn y blaen. Rwyf yn awyddus iawn iddo fod yn rhan o uwchgynhadledd rwyf yn ei threfnu rywbryd yn ystod y flwyddyn galendr hon er mwyn i’r Llywodraeth, Cadw ac asiantaethau eraill, yn ogystal â’r gwahanol enwadau, ddod at ei gilydd i ddechrau siarad am hyn yng nghyd-destun Cymru gyfan.

However, I will also say to Nick Ramsay that it would help considerably, in terms of looking at the future health of the built religious heritage of Wales, if the UK Government were to revisit its hasty decision to put VAT on the refurbishment costs of such buildings, thereby torpedoing dozens of potential rescue packages.

Fodd bynnag, byddaf hefyd yn dweud wrth Nick Ramsay y byddai'n helpu'n sylweddol, o ran edrych ar iechyd treftadaeth grefyddol adeiledig Cymru yn y dyfodol, pe bai Llywodraeth y DU yn ailystyried ei phenderfyniad byrbwyll i godi TAW ar gostau adnewyddu adeiladau o'r fath, a thrwy hynny chwalu dwsinau o becynnau achub posibl.

The Record

Cefnogi Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Support for the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales

3. Elin Jones: Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn y dyfodol. OAQ(4)0121(HRH)

3. Elin Jones: How will the Welsh Government support the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales in future. OAQ(4)0121(HRH)

Huw Lewis: I well understand the Assembly Member for Ceredigion’s concern about this. I recently wrote to the chair of the royal commission setting out the commission’s remit for 2012-13, confirming a budget of almost £2.2 million for its core work and special projects. I also asked the commission to work with my officials to consider measures for long-term resilience.

Huw Lewis: Rwyf yn deall pryder yr Aelod Cynulliad dros Geredigion ynglŷn â hyn. Yn ddiweddar, bu imi ysgrifennu at gadeirydd y comisiwn brenhinol yn amlinellu cylch gwaith y comisiwn ar gyfer 2012-13, gan gadarnhau cyllideb o bron i £2.2 miliwn ar gyfer ei waith craidd a’i brosiectau arbennig. Gofynnais hefyd i'r comisiwn weithio gyda fy swyddogion i ystyried mesurau ar gyfer cydnerthedd hirdymor.

Elin Jones: The Council for British Archaeology produced an independent report on 23 April last year for Welsh Government on historic environment bodies, and concluded that provision for the historic environment is admirable, even given current economic realities, and that there is a value for users in retaining separation of those bodies. Despite the clear view of that independent assessment exercise, what persuaded you to consider that the merger of historic environment bodies was an option that you wanted to pursue?

Elin Jones: Ar 23 Ebrill y llynedd, gwnaeth Cyngor Archaeoleg Prydain lunio adroddiad annibynnol ar gyrff amgylchedd hanesyddol ar gyfer Llywodraeth Cymru. Daeth i'r casgliad bod y ddarpariaeth ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yn glodwiw, hyd yn oed o ystyried y sefyllfa economaidd presennol, a bod cadw'r cyrff hynny ar wahân o werth i ddefnyddwyr. Er gwaethaf safbwynt clir yr asesiad annibynnol hwnnw, beth wnaeth eich perswadio i ystyried bod cyfuno cyrff amgylchedd hanesyddol yn opsiwn roeddech am ei ddilyn?

Huw Lewis: I reassure the AM for Ceredigion that I have not yet been convinced of the necessity of a merger as such, although that is an item on the agenda. However, I am convinced that, if we are to maintain a resilient heritage sector in the round over what will be two, three or four extremely difficult years when it comes to Government funding and how budgets are put together, some remaking of how we do this work will be a necessity. Otherwise the sector will become unnecessarily weakened, in my view, and that will lead to a worse consequence. I reassure you that I will have an eye on the fact that the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales is based in Aberystwyth and that it is a good thing in terms of jobs and careers, which will be at the top of my list when it comes to any kind of consideration of the future. In other words, I am not in the business of looking for redundancies or lay-offs.

Huw Lewis: Rwyf am sicrhau'r AC dros Geredigion nad wyf eto wedi fy argyhoeddi bod angen y fath gyfuno, er ei fod yn eitem ar yr agenda. Fodd bynnag, os ydym am gynnal sector treftadaeth cadarn yn gyffredinol dros yr hyn a fydd yn ddwy, tair neu bedair blynedd anodd iawn o ran arian y Llywodraeth a sut y caiff cyllidebau eu pennu, rwyf wedi fy argyhoeddi y bydd angen ailfeddwl ychydig ynglŷn â sut rydym yn gwneud y gwaith hwn. Fel arall, bydd y sector yn gwanhau heb fod angen, yn fy marn i, a bydd hynny'n arwain at ganlyniadau gwaeth. Rwyf yn eich sicrhau y byddaf yn cadw mewn cof y ffaith bod Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi ei leoli yn Aberystwyth a bod hynny'n beth da o ran swyddi a gyrfaoedd, a fydd ar frig fy rhestr wrth ystyried y dyfodol mewn unrhyw ffordd. Hynny yw, nid wyf yn chwilio am swyddi i'w dileu nac am bobl i'w diswyddo.

Suzy Davies: Did you have a particular reason for publishing a written statement on historic and environmental services on the day of the local elections rather than making an oral statement, which would have allowed Members to question you on those proposals?

Suzy Davies: A oedd gennych reswm arbennig dros gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar wasanaethau hanesyddol ac amgylcheddol ar ddiwrnod yr etholiadau lleol yn hytrach na gwneud datganiad llafar, a fyddai wedi caniatáu i Aelodau eich holi ynglŷn â'r cynigion hynny?

Huw Lewis: Given that you have just questioned me on the proposals, the conspiracy theory is somewhat thin.

Huw Lewis: O ystyried eich bod newydd fy holi ynglŷn â'r cynigion, nid yw'r theori cynllwynio'n dal dŵr.

Suzy Davies: Something tells me that you did not intend to make an oral statement in the Chamber until October, by which time I think that I would have started to feel like an ancient monument myself. [Laughter.] In the recent past, we have seen independently exercised functions of the Welsh Development Agency and the Wales Tourist Board taken over by Welsh Government, and you will be aware of how the effect of that has been perceived. Conversely, we have a Children’s Commissioner for Wales, an Older People’s Commissioner for Wales and a Welsh Language Commissioner, and their independence is highly valued. Will you confirm whether a commission established by royal warrant can constitutionally be merged, and secondly, do you understand Members’ concerns that the guaranteed independence of the royal commission could be compromised by these proposals?

Suzy Davies: Mae rhywbeth yn dweud wrthyf nad oeddech yn bwriadu gwneud datganiad llafar yn y Siambr tan fis Hydref, ac erbyn hynny rwyf yn credu y byddwn wedi dechrau teimlo fel heneb fy hun. [Chwerthin.] Yn ddiweddar, rydym wedi gweld Llywodraeth Cymru’n cymryd yr awenau o ran swyddogaethau annibynnol Awdurdod Datblygu Cymru a Bwrdd Croeso Cymru, a byddwch yn gwybod beth y mae pobl yn ei feddwl am effaith hynny. I'r gwrthwyneb, mae gennym Gomisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg, ac mae’r ffaith eu bod yn annibynnol yn cael ei ystyried yn bwysig. A wnewch gadarnhau a oes modd i gomisiwn sy'n cael ei sefydlu yn ôl gwarant brenhinol gael ei uno'n gyfansoddiadol, ac yn ail, a ydych yn deall pryderon yr Aelodau y gallai’r cynigion hyn beryglu annibyniaeth sicr y comisiwn brenhinol?

The Record

Huw Lewis: I understand the Member’s concerns, but I would urge her to look at the situation across the border in England and in Scotland, where these things have already occurred. What is driving this agenda here in Wales is not an ideological commitment on my part to do down any part of the heritage sector, least of all the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales; it is the Liberal Democrat-Tory coalition Government in Westminster that is, in effect, driving us to face the reality of what budget cuts we might face in the next few years and to be in a position where we have to be ready for that.

Huw Lewis: Rwyf yn deall pryderon yr Aelod, ond byddwn yn ei hannog i edrych ar y sefyllfa ar draws y ffin yn Lloegr ac yn yr Alban, lle mae'r pethau hyn eisoes wedi digwydd. Nid ymrwymiad ideolegol ar fy rhan i er mwyn bychanu unrhyw ran o'r sector treftadaeth, yn arbennig Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yw'r hyn sy'n gwthio'r agenda hon yma yng Nghymru. Llywodraeth glymblaid y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Torïaid yn San Steffan sydd, i bob pwrpas, yn ein gwthio i wynebu'r realiti o ran y toriadau cyllideb y byddwn yn eu hwynebu, o bosibl, dros y blynyddoedd nesaf, ac i fod mewn sefyllfa lle mae'n rhaid inni fod yn barod am hynny.

Aled Roberts: I am aware of the commission’s work in support of the designation of Pontcysyllte as a world heritage site. There is some concern with regard to the independent report in respect of the specialist services that are provided by the commission, particularly with regard to its archives. Will the working group that you set up bear those services in mind and be required by you to give us great detail with regard to the protection of those services?

Aled Roberts: Rwyf yn ymwybodol o waith y comisiwn i gefnogi dynodi Pontcysyllte fel safle treftadaeth y byd. Ceir peth pryder ynghylch yr adroddiad annibynnol o ran y gwasanaethau arbenigol a ddarperir gan y comisiwn, yn enwedig yng nghyswllt ei archifau. A wnaiff y gweithgor y gwnaethoch ei sefydlu gadw'r gwasanaethau hynny mewn cof, ac a fyddwch yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithgor roi'r holl fanylion inni ynglŷn â’r camau i ddiogelu'r gwasanaethau hynny?

Huw Lewis: Absolutely. I can assure you that CyMAL is intimately involved with these discussions as we go forward. I recognise the value of the archive service that is provided. I also recognise that there is an accommodation problem for the archive in its current location, which will also have to be addressed.

Huw Lewis: Wrth gwrs. Gallaf eich sicrhau bod CyMAL yn ymwneud yn agos â'r trafodaethau hyn wrth inni symud ymlaen. Rwyf yn cydnabod gwerth y gwasanaeth archifau a ddarperir. Rwyf hefyd yn cydnabod bod problem yn ymwneud â lle ar gyfer yr archif yn ei lleoliad presennol, a bydd yn rhaid mynd i'r afael â'r broblem hon hefyd.

The Record

The Presiding Officer: Question 4, OAQ(4)0119(HRH), is withdrawn.

Y Llywydd: Tynnwyd Cwestiwn 4, OAQ(4)0119(HRH), yn ôl.

Cefnogi Safleoedd o Ddiddordeb

Support for Sites of Historic Interest

5. Paul Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi safleoedd o ddiddordeb hanesyddol yng Nghymru. OAQ(4)0115(HRH)

5. Paul Davies: Will the Minister make a statement on what the Welsh Government is doing to support sites of historic interest in Wales. OAQ(4)0115(HRH)

Huw Lewis: I thank the Member for Preseli Pembrokeshire for that question. Wales has a rich heritage, of which we as a nation are justly proud. The Welsh Government, through Cadw, offers grants and advice to sustain the future of historic sites in Wales. Cadw also has statutory responsibilities for the 127 sites in its care and prepares annual work programmes for that purpose.  

Huw Lewis: Diolch i’r Aelod dros Breseli Sir Benfro am y cwestiwn hwnnw. Mae gan Gymru dreftadaeth gyfoethog, ac rydym yn haeddiannol falch o’r dreftadaeth honno fel cenedl. Mae Llywodraeth Cymru, drwy Cadw, yn cynnig grantiau a chyngor er mwyn cynnal dyfodol safleoedd hanesyddol yng Nghymru. Mae gan Cadw hefyd gyfrifoldebau statudol ar gyfer y 127 o safleoedd sydd o dan ei ofal, ac mae'n paratoi rhaglenni gwaith blynyddol at y diben hwnnw.  

Paul Davies: I am grateful to the Minister for that answer. One of the sites of historical interests in my constituency is the castle in Haverfordwest. There is concern about its future, because there is a possibility that part of the site could be developed, thereby affecting public access to it. I know that the Minister has received correspondence on this, but does he agree that it is imperative that public access to sites of this nature is not restricted? Also, what is the Welsh Government doing to protect and promote public access to sites of historic interest in Wales?

Paul Davies: Diolch i’r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Un o'r safleoedd o ddiddordeb hanesyddol yn fy etholaeth i yw'r castell yn Hwlffordd. Ceir pryder ynglŷn â dyfodol y castell, oherwydd mae posibilrwydd y gellid datblygu rhan o'r safle, gan effeithio ar fynediad cyhoeddus iddo. Rwyf yn gwybod bod y Gweinidog wedi derbyn gohebiaeth ynghylch hyn, ond a yw'n cytuno ei bod yn hollbwysig nad yw mynediad cyhoeddus i safleoedd o'r fath yn cael ei gyfyngu? Hefyd, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu a hyrwyddo mynediad cyhoeddus i safleoedd o ddiddordeb hanesyddol yng Nghymru?

Huw Lewis: I thank the Member for that question—the specific and general parts of it. We are both aware of the correspondence that has been shared between us on the future of the castle at Haverfordwest. I can confirm that I have a personal commitment to ensuring that public access remains high on all our agendas. There are aspects of the future of Haverfordwest castle that are not directly under my control, but I hope that a sensible conversation between all partners will reassure the citizens of Haverfordwest and visitors to the area.

Huw Lewis: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw—y rhannau penodol a chyffredinol ohono. Mae'r ddau ohonom yn ymwybodol o'r ohebiaeth rhyngom ynghylch dyfodol y castell yn Hwlffordd. Gallaf gadarnhau fy mod yn ymrwymo'n bersonol i sicrhau bod mynediad cyhoeddus yn parhau'n uchel ar agenda pob un ohonom. Mae agweddau ar ddyfodol castell Hwlffordd nad ydynt yn uniongyrchol o dan fy rheolaeth i, ond rwyf yn gobeithio y bydd sgwrs synhwyrol rhwng yr holl bartneriaid yn tawelu meddwl dinasyddion Hwlffordd ac ymwelwyr â'r ardal.

In terms of the general question on access, there is an exciting conversation to be had here in the run-up to the heritage Bill. I can assure the Member for Preseli Pembrokeshire that this agenda, as far as I am concerned, will be absolutely central to the development of that legislation.

O ran y cwestiwn cyffredinol ar fynediad, mae sgwrs gyffrous i'w chynnal yma yn y cyfnod sy'n arwain at y Bil treftadaeth. Gallaf sicrhau'r Aelod dros Breseli Sir Benfro y bydd yr agenda hon, o’m safbwynt i, yn gwbl ganolog i ddatblygu'r ddeddfwriaeth honno.

Bethan Jenkins: According to 'A review of fiscal measures to benefit heritage conservation’, a report commissioned in 2007 by Dublin Institute of Technology and Northumbria University, there are numerous fiscal and financial measures that could be implemented to benefit heritage buildings so that they remain utilised. Has the Minister given any thought to such options in the interim period before the heritage protection Bill is introduced?

Bethan Jenkins: Yn ôl 'A review of fiscal measures to benefit heritage conservation', sef adroddiad a gomisiynwyd yn 2007 gan Sefydliad Technoleg Dulyn a Phrifysgol Northumbria, mae nifer o fesurau cyllidol ac ariannol y gellid eu rhoi ar waith er budd i adeiladau treftadaeth fel eu bod yn parhau i gael eu defnyddio. A yw'r Gweinidog wedi ystyried opsiynau o'r fath o gwbl yn y cyfnod interim cyn i'r Bil gwarchod treftadaeth gael ei gyflwyno?

Huw Lewis: I am not familiar with that particular piece of research, but I would agree in general terms that the utility of our ancient and historic monuments—our other built heritage, if you like—is extremely important. In fact, it is the single most critical factor. Today, I was at Caerphilly castle for the launch of the Cauldrons and Furnaces Cultural Olympiad. This event was just kicking off that work. There are eight historic buildings involved in this across Wales, and Caerphilly castle is just one of those. What strikes you immediately is the ability, with a bit of imagination on our part and that of our partners, to bring to life those pieces of built heritage so that the utility of these buildings for whatever purpose is absolutely central.

Huw Lewis: Nid wyf yn gyfarwydd â'r gwaith ymchwil penodol hwnnw, ond byddwn yn cytuno yn gyffredinol bod sicrhau bod ein henebion hynafol a hanesyddol—ein treftadaeth adeiledig arall, fel petai—yn cael eu defnyddio yn hynod o bwysig. Yn wir, dyma'r un ffactor pwysicaf. Heddiw, roeddwn yng nghastell Caerffili ar gyfer lansio’r Olympiad Diwylliannol Crochanau a Ffwrneisi. Roedd y digwyddiad hwn yn nodi dechrau'r gwaith hwnnw. Mae wyth o adeiladau hanesyddol yn rhan o hyn ar draws Cymru, a dim ond un o'r rheini yw castell Caerffili. Yr hyn sy'n eich taro ar unwaith yw'r gallu, gydag ychydig o ddychymyg ar ein rhan ni ac ar ran ein partneriaid, i ddod â'r darnau hynny o dreftadaeth adeiledig yn fyw, fel bod y ffordd y caiff yr adeiladau hyn eu defnyddio, am ba ddiben bynnag, yn gwbl ganolog.

The Record

Bethan Jenkins: Thank you for that response. As you will appreciate, many sites and buildings are threatened as we are speaking here today. You said earlier that the clock is ticking with regards to nineteenth century buildings, but I wonder whether we could wind you up a little bit and try to encourage you to quicken the process by which we could save some of these buildings. As I have said here previously, Customs House in Port Talbot is not a designated site or listed building. How quickly can we ensure that these buildings are not lost in the interim period between now and when the heritage protection Bill is consulted upon or introduced?

Bethan Jenkins: Diolch am yr ymateb hwnnw. Fel y byddwch yn sylweddoli, mae llawer o safleoedd ac adeiladau o dan fygythiad tra rydym ninnau'n siarad yma heddiw. Gwnaethoch ddweud yn gynharach bod y cloc yn tician o ran adeiladau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond tybed a allem eich cynhyrfu ychydig a cheisio eich annog i gyflymu'r broses lle gallem achub rhai o'r adeiladau hyn. Fel yr wyf wedi ei ddweud yma o'r blaen, nid yw adeilad Customs House ym Mhort Talbot yn safle dynodedig nac yn adeilad rhestredig. Pa mor gyflym y gallwn sicrhau nad yw'r adeiladau hyn yn cael eu colli yn y cyfnod interim rhwng nawr a phan yr ymgynghorir ar y Bil gwarchod treftadaeth neu pan gaiff ei gyflwyno?

Huw Lewis: I thank Bethan Jenkins for that question, although I have to say that I get wound up less easily as I get older—not that I am slowing down, Presiding Officer. [Laughter.] It is not quite that bad yet. I have to say to the Member that I understand her concern about this intervening time between the place we are now and the passing of legislation that might protect our built heritage. This is causing enormous concern in various communities across Wales with regard to all sorts of buildings that people know and love. However, I have to say that there is ample power, particularly in the hands of local government at the moment, to step in now without extra legislation being passed. The process of local listing is available and, at the bottom of all of this, there is the question of political will at the local level if such things are to be preserved. There are some local authorities that take a very positive stance in this regard and others that seem to regard the whole subject area with a great deal of concern or even fear. In the intervening period between now and the passage of new legislation, I will continue to work as best I can with partners, including local government, to reassure people of my view that these buildings should be seen as community assets and not liabilities.

Huw Lewis: Diolch i Bethan Jenkins am y cwestiwn hwnnw, er, rhaid imi ddweud nad yw mor hawdd fy nghynhyrfu wrth imi fynd yn hŷn—er nad wyf yn arafu, Lywydd. [Chwerthin.] Nid yw cynddrwg â hynny eto. Rhaid imi ddweud wrth yr Aelod fy mod yn deall ei phryder ynglŷn â'r amser hwn rhwng ein sefyllfa ar hyn o bryd a phasio'r ddeddfwriaeth a allai warchod ein treftadaeth adeiledig. Mae hyn yn achosi pryder mawr mewn gwahanol gymunedau ledled Cymru, mewn perthynas â phob math o adeiladau y mae pobl yn eu hadnabod ac yn eu caru. Fodd bynnag, rhaid imi ddweud bod digon o bŵer, yn enwedig yn nwylo llywodraeth leol ar hyn o bryd, i gamu i mewn yn awr heb orfod pasio deddfwriaeth ychwanegol. Mae'r broses o restru lleol ar gael, ac yn gefndir i hyn oll, mae’n dibynnu a oes ewyllys wleidyddol ar y lefel leol i gadw pethau o’r fath ai peidio. Mae rhai awdurdodau lleol yn sefyll yn gadarnhaol iawn dros hyn, ac mae eraill sydd i’w gweld yn bryderus ynghylch y maes pwnc cyfan, neu’n ei ofni hyd yn oed. Yn y cyfnod rhwng nawr a phasio'r ddeddfwriaeth newydd, byddaf yn parhau i weithio gorau gallaf gyda phartneriaid, gan gynnwys llywodraeth leol, i sicrhau pobl fy mod o'r farn y dylai'r adeiladau hyn gael eu hystyried yn asedau cymunedol ac nid yn faich.

Eluned Parrott: Minister, how tempting you make it to try to wind you up. You will be aware that, on 8 May, the Deputy Minister for Agriculture, Fisheries, Food and European Programmes made a statement suggesting that, in future, there would be a presumption against using EU structural funds to support access to heritage projects. Given that Visit Wales’s statistics show that more than 80% of visitors to Wales visit a heritage attraction and the positive contribution they make to the economy, what assessment have you made of the challenges this will present to the development of heritage tourism in Wales?

Eluned Parrott: Weinidog, mae'n demtasiwn fawr ceisio eich cynhyrfu. Byddwch yn ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd wedi gwneud datganiad ar 8 Mai yn awgrymu y byddai rhagdybiaeth yn y dyfodol yn erbyn defnyddio cronfeydd strwythurol yr UE i gefnogi mynediad i brosiectau treftadaeth. O gofio bod ystadegau Croeso Cymru yn dangos bod mwy nag 80 y cant o ymwelwyr â Chymru yn ymweld ag atyniad treftadaeth, a'r cyfraniad cadarnhaol y maent yn ei wneud i'r economi, sut rydych chi wedi asesu’r heriau i ddatblygu twristiaeth treftadaeth yng Nghymru a fydd yn codi yn sgîl hyn?

Huw Lewis: We need to get to grips with all sorts of new ways in which European money will flow as regards all sorts of projects. I cannot say that I am entirely clear yet exactly what impact this will have in a technical sense. However, what I do know is that the continued flow of European money into heritage tourism will be an essential element of achieving our goals over the next few years.

Huw Lewis: Mae angen inni fynd i'r afael â phob math o ffyrdd newydd y bydd arian Ewropeaidd yn llifo yng nghyswllt pob math o brosiectau. Ni allaf ddweud fy mod yn gwbl glir eto pa effaith yn union y bydd hyn yn ei chael mewn ystyr dechnegol. Fodd bynnag, yr hyn yr wyf yn ei wybod yw y bydd y llif parhaus o arian Ewropeaidd i dwristiaeth treftadaeth yn elfen hanfodol o gyflawni ein nodau dros y blynyddoedd nesaf.

The Record

Parch o ran Digartrefedd

Respect in relation to Homelessness

6. Llyr Huws Gruffydd: A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae wedi’u cymryd i sicrhau bod pobl sy’n gofyn am gymorth gan awdurdodau lleol ar dai a digartrefedd yn cael eu trin â pharch. OAQ(4)0129(HRH)

6. Llyr Huws Gruffydd: Will the Minister outline what actions he has taken to ensure that people approaching local authorities for help with housing and homelessness are treated with respect. OAQ(4)0129(HRH)

Huw Lewis: I thank the Member for North Wales for that question. The Welsh Government expects everyone seeking housing assistance to be treated with respect, as set out in our 10-year homelessness plan and the statutory guidance that goes with it. Local authorities and their partners are responsible for the delivery of housing services, and we will continue to encourage and support their continual improvement.

Huw Lewis: Diolch i’r Aelod dros Ogledd Cymru am y cwestiwn hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bawb sy'n ceisio cymorth tai gael eu trin â pharch, fel y nodwyd yn ein cynllun digartrefedd 10 mlynedd a'r canllawiau statudol sy'n cyd-fynd â'r cynllun. Mae awdurdodau lleol a'u partneriaid yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau tai, a byddwn yn parhau i’w hannog a’u cefnogi i wella’n barhaus.

Llyr Huws Gruffydd: Diolch am yr ateb hwnnw. Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol hefyd o ymchwil diweddar gan Shelter Cymru sy’n dangos y diffyg parch gan rai staff mewn awdurdodau lleol wrth ddelio â phobl sy’n ddigartref, yn enwedig gan ichi gymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwnnw.

Llyr Huws Gruffydd: Thank you for that response. I am sure that you are aware of recent research by Shelter Cymru that demonstrates the lack of respect shown by certain staff in local authorities who have been dealing with homeless people, particularly as you participated in that research yourself.

The Record

2.45 p.m.

Fodd bynnag, mae’r ymchwil hefyd yn cadarnhau diffyg llwyr o ran cydweithio neu joined-up thinking mewn awdurdodau lleol, gydag adrannau budd-dal tai, er enghraifft, ddim yn sylweddoli bod eu penderfyniadau yn cael impact ar waith yr adran dai yn yr un awdurdod. Beth fyddwch yn ei wneud i fynd i’r afael â hyn ac a wnewch ystyried gwneud atal digartrefedd yn ddyletswydd gorfforaethol?

However, the research also confirms a complete lack of joined-up thinking within local authorities, with housing benefit departments, for example, not realising that their decisions will have an impact on the work of the housing department within the same authority. What will you do to get to grips with this and will you consider making preventing homelessness a corporate responsibility?

Huw Lewis: I thank Llyr Huws Gruffydd for that point. With the risk of sounding like a cracked record, I assure the Member for North Wales that a great deal of detail will be available come Monday and the launch of the White Paper in relation to the questions that he has asked. I am very much alive to the criticisms and observations that have been made in the report by Shelter Cymru and Cymorth Cymru that was released at the beginning of the month. It is very worrying, particularly because this evidence is coming from the horse’s mouth. It is coming from the front line and the people who have accessed, or are accessing, homelessness services. Several lessons keep coming through to us: one is that there is a huge degree of inconsistency across Wales in the way that people are treated and supported and the second is that, in some instances, although this is not the case always and everywhere, there has been this feeling that people are being treated with a lack of respect. The White Paper will suggest a whole-scale reworking—a reform, if you like—of homelessness advice services throughout Wales. I can say that there will also be a demand for consistency when it comes to advice services across the country.

Huw Lewis: Diolch i Llyr Huws Gruffydd am wneud y pwynt hwnnw. Er fy mod mewn perygl o swnio fel tiwn gron, gallaf dawelu meddwl yr Aelod dros Ogledd Cymru y bydd llawer iawn o fanylion ar gael o ddydd Llun ymlaen yn sgîl lansio'r Papur Gwyn mewn perthynas â'r cwestiynau y mae wedi eu gofyn. Rwyf yn effro iawn i'r feirniadaeth a'r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud yn yr adroddiad gan Shelter Cymru a Cymorth Cymru a gafodd ei ryddhau ddechrau'r mis. Mae'n destun pryder go iawn, yn enwedig gan fod y dystiolaeth hon yn dod o lygad y ffynnon. Mae'n dod o'r rheng flaen a chan y bobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau digartrefedd o'r blaen, neu sy'n eu defnyddio ar hyn o bryd. Mae nifer o wersi'n parhau i ddod i'r amlwg: un yw bod llawer o anghysondeb ar draws Cymru yn y ffordd y caiff pobl eu trin a'u cefnogi, a'r ail yw y teimlir bod pobl yn cael eu trin â diffyg parch mewn rhai achosion, er nad yw hyn yn wir bob amser nac ym mhob man. Bydd y Papur Gwyn yn awgrymu ad-drefnu—neu ddiwygio, fel petai—yr holl wasanaethau cyngor ar ddigartrefedd ledled Cymru. Gallaf ddweud y bydd galw hefyd am gysondeb o ran gwasanaethau cyngor ar draws y wlad.

Mark Isherwood: Last week, we saw figures from the Council of Mortgage Lenders, reporting slightly more encouragingly, that UK repossessions were stable, arrears were falling and that it may be levelling down its forecast for repossessions in 2012. However, it cautioned that there are always factors that can disrupt the current stable picture. Therefore, what dialogue have you had with lenders and local authorities in Wales to ensure that mortgage borrowers in difficulty, who approach either body, receive joined-up support and signposting, hopefully to avoid, wherever possible, the repossession of their homes?

Mark Isherwood: Yr wythnos diwethaf, gwelsom ffigurau gan y Cyngor Benthycwyr Morgeisi, yn adrodd, ychydig yn fwy calonogol, bod achosion o adfeddiannu yn y DU yn sefydlog, bod ôl-ddyledion yn gostwng ac efallai eu bod yn rhagweld lefel isel o achosion o adfeddiannu yn 2012. Fodd bynnag, roedd yn rhybuddio bod ffactorau bob amser sy'n gallu amharu ar y darlun sefydlog presennol. Felly, pa drafodaeth rydych wedi'i chael gyda benthycwyr ac awdurdodau lleol yng Nghymru i sicrhau bod benthycwyr morgeisi sydd mewn trafferth, sy'n cysylltu â'r naill gorff neu'r llall, yn derbyn gwasanaeth cyfeirio a chefnogaeth cydgysylltiedig yn y gobaith o osgoi gweld eu cartrefi'n cael eu hadfeddiannu, lle bynnag y bo hynny’n bosibl?

Huw Lewis: I thank Mark Isherwood for that question. It is true that repossessions are fairly stable. Indeed, some sets of statistics tell us that they are falling. However, I am worried that that could be the calm before the storm, in that some mortgage lenders might feel that it is hardly worth the bother of repossessing now in such a deep economic downturn, because the sale of the property, the asset, would be at a depressed price and would be slow in coming. I might be overly cynical, but if the economy picks up a little, we could see a surge in repossessions as lenders realise that they can cash in the asset to which the loan is secured. I say to Mark Isherwood that what the White Paper will have to say about advice and support services will cover the whole housing system. This is not just a question of people in rented accommodation facing problems; the services will also be for homeowners and people with mortgages. People having difficulty making their repayments would be every bit as much a part of the reformed advisory services as anybody else.

Huw Lewis: Diolch i Mark Isherwood am y cwestiwn hwnnw. Mae'n wir bod achosion o adfeddiannu yn weddol sefydlog. Yn wir, mae rhai ystadegau'n dweud wrthym eu bod yn gostwng. Fodd bynnag, rwyf yn pryderu mai gosteg cyn y storm yw hynny, o bosibl, oherwydd gallai rhai benthycwyr morgeisi deimlo nad yw prin yn werth y drafferth o adfeddiannu yn awr yn y fath ddirywiad economaidd difrifol, oherwydd byddai'r eiddo, yr ased, yn cael ei werthu am bris isel, a byddai adennill yr arian yn cymryd amser. Efallai fy mod yn rhy sinigaidd, ond pe bai'r economi'n gwella rhyw fymryn, mae'n bosibl y byddwn yn gweld cynnydd yn yr achosion o adfeddiannu wrth i fenthycwyr sylweddoli y gallant gyfnewid yr ased y mae'r benthyciad wedi'i warantu iddo am arian parod. Rwyf am ddweud wrth Mark Isherwood y bydd yr hyn sydd gan y Papur Gwyn i'w ddweud am wasanaethau cynghori a chymorth yn berthnasol i'r system dai gyfan. Nid dim ond pobl mewn llety rhent sy'n wynebu problemau sy'n bwysig yma; bydd y gwasanaethau hefyd ar gael i berchnogion tai a phobl gyda morgeisi. Byddai pobl sy'n wynebu anhawster wrth dalu eu had-daliadau yn gymaint o ran o'r gwasanaethau cynghori diwygiedig â phawb arall.

Kirsty Williams: Many people with a learning disability aspire to live independently and to maintain a tenancy in their own right. However, their housing aspirations are often ignored or, if they are not ignored, there is a lack of suitable housing for them. What discussions will you have with local authorities and registered social landlords to look at the provision of suitable housing for those with learning disabilities? What discussions have you had with Gwenda Thomas, the Deputy Minister for Children and Social Services, to ensure that those people with a learning disability who aspire to live independently and to maintain a tenancy have the right to do so?

Kirsty Williams: Mae llawer o bobl sydd ag anabledd dysgu yn dyheu am fyw'n annibynnol ac am gynnal tenantiaeth eu hunain. Fodd bynnag, mae eu dyheadau o ran tai yn cael eu hanwybyddu'n aml, neu os nad ydynt yn cael eu hanwybyddu, ceir diffyg tai addas ar eu cyfer. Pa drafodaethau fyddwch chi'n eu cynnal gydag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ystyried darparu tai addas ar gyfer y rheini sydd ag anableddau dysgu? Pa drafodaethau rydych wedi eu cynnal gyda Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod gan y rheini sydd ag anableddau dysgu ac sy'n dyheu am fyw'n annibynnol ac am gynnal tenantiaeth yr hawl i wneud hynny?

Huw Lewis: These discussions are an ongoing part of the generality of work, particularly between myself and my colleague Gwenda Thomas. This will also form part of the evolution of the Supporting People programme, which is currently undergoing change as a result of the Aylward review, and there are many other aspects to this that will impact upon regulatory change, which, again, means that I must refer to the publication of the White Paper on Monday. I would also set this in the context of the disability living allowance being slashed by the UK Lib Dem-Tory Government, with anything up to a third of disabled children, for instance, about to lose their disability payments, with the consequent impact that that will have on family income and the inevitability of some families of disabled people being pushed into financial instability, because of the actions of the UK Government.

Huw Lewis: Mae'r trafodaethau hyn yn rhan barhaus o'r gwaith cyffredinol, yn enwedig rhwng fy nghyd-Weinidog, Gwenda Thomas, a minnau. Bydd hyn hefyd yn rhan o ddatblygu'r rhaglen Cefnogi Pobl, sy'n cael ei newid ar hyn o bryd o ganlyniad i adolygiad Aylward, ac mae llawer o agweddau eraill ar hyn a fydd yn effeithio ar newidiadau rheoliadol, sydd, unwaith eto, yn golygu bod yn rhaid imi gyfeirio at gyhoeddi'r Papur Gwyn ddydd Llun. Byddwn hefyd yn rhoi hyn yng nghyd-destun y ffaith bod Llywodraeth y DU, sef Llywodraeth y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Torïaid, yn torri'r lwfans byw i'r anabl. Gallai hyd at draean o blant anabl, er enghraifft, fod ar fin colli eu taliadau anabledd. Rhan o’r cyd-destun hefyd yw’r effaith y bydd hynny'n ei chael ar incwm y teulu, a bydd yn anochel y bydd teuluoedd rhai pobl anabl yn cael eu gwthio i ansefydlogrwydd ariannol oherwydd gweithredoedd Llywodraeth y DU.

The Record

Corau a Bandiau Pres

Choirs and Brass Bands

7. Mick Antoniw: A wnaiff y Gweinidog roi datganiad yn egluro polisi Llywodraeth Cymru ar gefnogi corau a bandiau pres o Gymru. OAQ(4)0118(HRH)

7. Mick Antoniw: Will the Minister provide a statement clarifying the Welsh Government’s policy on supporting Welsh choirs and Welsh brass bands. OAQ(4)0118(HRH)

Huw Lewis: I thank the Member for Pontypridd for that question. As I mentioned in March, funding is channelled, under the arm’s-length funding principle in this regard, through the Arts Council of Wales. Organisations may also apply to the lottery. The Arts Council of Wales also funds Tŷ Cerdd to run a separate grant regime, which is open to brass bands and choirs.

Huw Lewis: Diolch i’r Aelod dros Bontypridd am y cwestiwn hwnnw. Fel y bu imi sôn ym mis Mawrth, mae'r arian yn cael ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru o dan yr egwyddor arian hyd braich yn yr achos hwn. Gall sefydliadau hefyd wneud cais i'r loteri. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn ariannu Tŷ Cerdd i gynnal trefn grantiau ar wahân, sy’n agored i fandiau pres a chorau.

Mick Antoniw: May I say, with the greatest of respect, that that answer was not good enough, because we have world champion choirs and brass bands going all over the world, promoting Wales? We have Cory Band, which has constituents of mine in it, and which has won the world championship several times—it beat the stuffing out of Grimethorpe Colliery Band—and it gets no support whatsoever. May I ask you to go away and re-examine exactly why we can provide support for all sorts of other forms of arts, but when it comes to working-class culture, we seem to give no financial support of any relevance?

Mick Antoniw: A phob parch, a gaf fi ddweud nad oedd yr ateb hwnnw yn ddigon da, gan fod gennym gorau a bandiau pres sy'n bencampwyr byd, yn teithio i bedwar ban y byd yn hyrwyddo Cymru? Mae Band Cory, y mae rhai o'm hetholwyr yn aelodau ohono, wedi ennill pencampwriaeth y byd sawl gwaith—mae'n sicr wedi curo Band Grimethorpe Colliery—ac nid yw'n cael dim cymorth o gwbl. A gaf fi ofyn ichi fynd ymaith ac ailystyried yn union pam y gallwn roi cymorth i bob math o gelfyddyd arall, ond pan ddaw at ddiwylliant y dosbarth gweithiol, mae'n ymddangos nad ydym yn rhoi prin ddim cymorth ariannol o bwys?

Huw Lewis: I understand Mick Antoniw’s passion when it comes to the achievements of Cory Band and choirs up and down Wales. These are a very proud part of our heritage. On the other hand, I would fall out with him a little if he were to regard me as a Minister who cared not for working-class culture. As I said, funding is channelled through an arm’s-length organisation, the Arts Council of Wales. That is a fundamental political principle on which we operate. If the Member can evidence to me that we are facing a systematic problem when it comes to this kind of artistic expression, I would gladly join with a chorus of concern—if you will forgive the pun—around this. My understanding is that Cory Band is fairly blessed when it comes to private funding. I would also distinguish between that day-to-day support and the costs over and above that that might come from touring or travelling abroad. There would be all sorts of questions opened up here about all sorts of organisations that might wish to travel around the world, all of which I would love to support, of a sporting, artistic or cultural nature more generally.

Huw Lewis: Rwyf yn deall angerdd Mick Antoniw yng nghyswllt cyflawniadau Band Cory a chorau ar hyd a lled Cymru. Mae'r rhain yn rhan o'n treftadaeth y gallwn ymfalchïo ynddi. Ar y llaw arall, byddwn yn cweryla rhywfaint ag ef pe bai'n fy ystyried innau'n Weinidog nad yw'n malio dim am ddiwylliant y dosbarth gweithiol. Fel y dywedais, caiff arian ei sianelu drwy sefydliad hyd braich, Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae hynny'n egwyddor wleidyddol sylfaenol rydym yn gweithredu arni. Pe bai'r Aelod yn gallu dangos tystiolaeth imi ein bod yn wynebu problem systematig o ran y math hwn o fynegiant artistig, byddwn yn falch o ymuno â chôr o bryder—maddeuwch y chwarae ar eiriau—ynglŷn â hyn. Roeddwn ar ddeall bod Band Cory yn weddol lwcus o ran arian preifat. Byddwn hefyd yn gwahaniaethu rhwng y cymorth o ddydd i ddydd a'r costau ychwanegol a allai ddeillio o deithio'r wlad neu deithio dramor. Byddai pob math o gwestiynau’n dod i'r amlwg yma ynglŷn â phob math o sefydliadau a fyddai’n dymuno teithio o amgylch y byd, o bosibl. Byddwn wrth fy modd yn cefnogi pob un ohonynt, boed hwy o natur chwaraeon, artistig neu o natur ddiwylliannol yn fwy cyffredinol.

Suzy Davies: I do not know how many of us will have watched Britain’s Got Talent, but I am sure that everyone in the Chamber knows about it and would like to congratulate Only Boys Aloud for coming third on Saturday. Some of the boys involved came from poorer economic backgrounds across the south Wales Valleys, including my region. Being able to take part in this choir not only reconnected them with their heritage, but showed that, sometimes, it just takes one opportunity to change aspirations. Minister, how do you plan to capitalise on the regeneration potential of musical traditions, including their promotion to the wider world as Mick Antoniw said?

Suzy Davies: Nid wyf yn gwybod faint ohonom fyddai wedi gwylio Britain's Got Talent, ond rwyf yn siŵr bod pawb yn y Siambr yn gwybod am y rhaglen ac yn dymuno llongyfarch Only Boys Aloud am ddod yn drydydd ddydd Sadwrn. Roedd rhai o'r bechgyn a oedd yn aelodau yn dod o gefndiroedd economaidd tlotach ar draws Cymoedd y de, gan gynnwys fy rhanbarth innau. Roedd gallu cymryd rhan yn y côr nid yn unig yn eu hailgysylltu â'u treftadaeth, ond yn dangos mai dim ond un cyfle sydd ei angen, weithiau, i newid dyheadau. Weinidog, sut rydych yn bwriadu manteisio ar botensial traddodiadau cerddorol o ran adfywio, gan gynnwys eu potensial wrth eu hyrwyddo i weddill y byd, fel y dywedodd Mick Antoniw?

Huw Lewis: I thank Suzy Davies for that question. It is for all of us to offer our congratulations to Only Boys Aloud. That national stage that those individuals stepped out on and seized has done them a power of good in terms of their life chances and their perceptions of where they might travel in life, but it has also done a power of good for the promotion of Welsh culture. It is particularly welcome because it has come through the hard work and dedication of such young people. When it comes to detailed conversations around where Only Boys Aloud might go from here and how we might best support that, I have to say that such detailed conversations have not been had. However, like any other organisation, if it were to approach me or the Arts Council of Wales, I know that, at the very least, it would be taken notice of—although I am beginning to think that its success is such that it may not need the support of a mere Government Minister in the very near future.

Huw Lewis: Diolch i Suzy Davies am y cwestiwn hwnnw. Dylai pob un ohonom longyfarch Only Boys Aloud. Mae'r llwyfan cenedlaethol y bu i'r unigolion hynny gamu arni a manteisio arni wneud byd o les iddynt o ran eu cyfleoedd bywyd a'u canfyddiadau o ble y gallai eu bywydau fynd â hwy, ond mae hefyd wedi gwneud byd o les o ran hyrwyddo diwylliant Cymru. Mae wir i'w groesawu gan ei fod wedi deillio o waith caled ac ymroddiad pobl mor ifanc. Pan ddaw at sgyrsiau manwl am y cyfeiriad y gallai Only Boys Aloud deithio iddo nawr a'r ffordd orau inni gefnogi hynny, rhaid imi gyfaddef nad oes sgyrsiau manwl o'r fath wedi digwydd. Fodd bynnag, fel unrhyw sefydliad arall, pe bai'n dod ataf innau neu at Gyngor Celfyddydau Cymru, rwyf yn gwybod y byddai sylw'n cael ei roi iddo, o leiaf—er fy mod yn dechrau meddwl ei fod wedi cael cymaint o lwyddiant fel na fydd arno angen cefnogaeth un o Weinidogion y Llywodraeth yn y dyfodol agos.

The Record

Rhodri Glyn Thomas: Weinidog, rwy’n siŵr y byddech hefyd am longyfarch Nu Sxool o ardal Port Talbot a gymerodd ran yn yr un rhaglen nos Sadwrn ac a oedd hefyd yn cynrychioli Cymru.

Rhodri Glyn Thomas: Minister, I am sure that you would also want to congratulate Nu Sxool from Port Talbot that took part in the same programme on Saturday, also representing Wales.

Mae’r cwestiynau yr ydych wedi eu hwynebu yn ymwneud â’r traddodiad o berfformio’n gyhoeddus gan gorau, bandiau pres ac artistiaid o wahanol fathau. Byddwch yn cydnabod bod gwledydd eraill, gan gynnwys Llydaw, er enghraifft, yn hyrwyddo perfformiadau cyhoeddus o’r fath am eu bod yn adlewyrchiad o’u diwylliannau a’u traddodiadau. A oes gennych gynlluniau fel Gweinidog i sicrhau bod Cymru’n gwneud y gorau o’r traddodiad cyfoethog sydd gennym ac yn rhannu hwnnw yn ein cymunedau ni ac ar deithiau tramor?

The questions that you have answered concern the tradition of public performance by choirs, brass bands and artists of all sorts. You will acknowledge, Minister, that other countries, including Brittany, for example, promote such public performances because they reflect their traditions and culture. Do you have any plans as Minister to ensure that Wales makes the most of our rich traditions and shares those in our communities and on trips abroad?

Huw Lewis: I would welcome any suggestions that might come forward, but I think that we have a very proud record in Wales of doing just that, not least through the eisteddfodau that are held throughout the country and that are tremendously well supported, from the National Eisteddfod on down, and including the Llangollen International Eisteddfod.

Huw Lewis: Byddwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau a ddaw i law, ond credaf ein bod eisoes yn gwneud hynny'n foddhaol iawn yng Nghymru, er enghraifft drwy eisteddfodau sy'n cael eu cynnal ledled y wlad ac sy'n cael eu cefnogi'n arbennig o dda, o'r Eisteddfod Genedlaethol i eisteddfodau cylch, gan gynnwys Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, wrth gwrs.

The Record

Rheolyddion Rhent

Rent Controls

8. Jenny Rathbone: A yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw asesiad o rôl bosibl rheolyddion rhent yng Nghymru. OAQ(4)0125(HRH)

8. Jenny Rathbone: Has the Welsh Government made any assessment of the potential role for rent controls in Wales. OAQ(4)0125(HRH)

Huw Lewis: I thank Jenny Rathbone for that point. Rent controls were a feature of the housing landscape up until the late 1980s, I believe, when they were abolished by the Thatcher Government. [Interruption.] I will try saying that again sometime; it seems to wake everyone up. [Interruption.] I did not catch that.

Huw Lewis: Diolch i Jenny Rathbone am wneud y pwynt hwnnw. Roedd rheolyddion rhent yn un o nodweddion y cyd-destun tai hyd at y 1980au hwyr, rwyf yn credu, pan gawsant eu diddymu gan Lywodraeth Thatcher. [Torri ar draws.] Rwyf yn mynd i geisio dweud hynny eto rywbryd; mae'n deffro pawb, i bob golwg. [Torri ar draws.] Chlywais i mo hynny.

The Presiding Officer: I think that you walked into that, Minister. Can you move on, please?

Y Llywydd: Rwyf yn meddwl eich bod wedi syrthio i'r fagl y tro hwnnw, Weinidog. A fyddech cystal â symud ymlaen, os gwelwch yn dda?

Huw Lewis: Yes. What I would say to the Member is this: we are in a period of flux when it comes to the radical changes to the benefits system and an economy that is pushing up living costs in general. Although there has been no studied look at rent controls in a Welsh context up until this point, and Jenny Rathbone may be disappointed to find no direct reference to it in the White Paper when it comes out on Monday, it does not mean that the debate around rent control in Wales is necessarily a closed one.

Huw Lewis: Iawn. Dyma beth sydd gennyf i'w ddweud wrth yr Aelod: rydym mewn cyfnod o ansicrwydd o ran y newidiadau radical i'r system fudd-daliadau ac o ran economi sy'n cynyddu costau byw yn gyffredinol. Er na fu unrhyw astudiaeth yn ystyried rheolyddion rhent yng nghyd-destun Cymru cyn hyn, ac efallai y bydd Jenny Rathbone yn siomedig na fydd yn gweld unrhyw gyfeiriad uniongyrchol ato yn y Papur Gwyn pan gaiff ei gyhoeddi ddydd Llun, nid yw'n golygu bod y ddadl ynghylch rheoli rhent yng Nghymru yn un gaeedig, o reidrwydd.

Jenny Rathbone: Thank you, Minister, for that honest answer. I have listened carefully to the responses that you have given to other Members who are concerned about the rising tide of homelessness. I am particularly concerned about constituents who will be considered to be under-occupying properties and who are likely be minded to use their low wages to top up the reduced rent subsidy in order to avoid having to move home and all the upheavals that that would cause for their children in having to change schools and so on. Could the Welsh Government consider this as a possibility, given that we are about to enter uncharted waters?

Jenny Rathbone: Diolch, Weinidog, am yr ateb gonest hwnnw. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar yr ymatebion rydych wedi'u rhoi i Aelodau eraill sy'n bryderus am lefel gynyddol digartrefedd. Rwyf yn arbennig o bryderus am etholwyr y mae pobl yn ystyried eu bod yn tan-feddiannu eiddo, ac sy'n debygol o orfod defnyddio eu cyflogau isel i ychwanegu at y cymhorthdal ​​rhent gostyngol er mwyn osgoi gorfod symud cartref ac osgoi’r holl newidiadau mawr y byddai hynny'n ei olygu i'w plant wrth iddynt orfod newid ysgol ac ati. A allai Llywodraeth Cymru ystyried hyn fel posibilrwydd, o gofio ein bod ar fin troedio tir newydd?

Huw Lewis: I think that we will need to consider this as part of a suite of possible responses to a situation in which people are receiving and will receive multiple blows when it comes to their ability to hold on to their homes. Under-occupation is one issue, and the mere fact that you may be under 35 years old will be another. You may lose your disability living allowance, and you may see your housing benefit cut. You will certainly see your fuel and food bills multiplied. The extent to which this will push people into precarious situations with regard to keeping up with their rent or mortgage payments is something that we are yet to completely ascertain, but this picture is not going to be a very attractive one, and I think that rent controls have to remain at least in our back pocket as something that we may need to bring out and take a look at later on.

Huw Lewis: Rwyf yn credu y bydd angen inni ystyried hyn fel rhan o gyfres o ymatebion posibl i sefyllfa lle mae pobl yn dioddef, a lle bydd pobl yn dioddef, sawl ergyd o ran eu gallu i ddal gafael ar eu cartrefi. Mae tan-feddiannu yn un broblem, ac mae’r ffaith y gallech fod o dan 35 mlwydd oed yn broblem arall. Mae’n bosibl y byddwch yn colli eich lwfans byw i'r anabl, ac efallai y bydd eich budd-dal tai yn cael ei leihau. Yn sicr, bydd eich biliau tanwydd a bwyd yn cynyddu. Mae'r graddau y bydd hyn yn gwthio pobl i sefyllfaoedd ansicr o ran talu eu rhent neu eu taliadau morgais yn rhywbeth nad ydym yn gwbl sicr ohono eto, ond ni fydd y darlun yn un deniadol iawn. Rwyf yn credu bod yn rhaid inni gadw rheolyddion rhent yng nghefn ein meddwl fel rhywbeth y gallai fod angen inni eu hystyried yn nes ymlaen.

The Record

3.00 p.m.  

Jocelyn Davies: As affordable homes within the private rented sector have now fallen from 50% to 30%, because of those housing benefit changes, are private sector landlords now lowering their rents, as predicted by the UK Government?

Jocelyn Davies: Gan fod cartrefi fforddiadwy yn y sector rhentu preifat bellach wedi gostwng o 50 y cant i 30 y cant, o ganlyniad i'r newidiadau hynny yn y budd-dal tai, a yw landlordiaid sector preifat bellach yn gostwng eu rhenti, fel y rhagwelwyd gan Lywodraeth y DU?

Huw Lewis: I would love to be able to say 'yes’ and to point to rents coming down to more reasonable levels across Wales, or anywhere else in the UK, but I have not seen a single reported instance, either in the media or through any kind of academic study, that points to that happening. In fact, it is quite the reverse. All the reports that we are receiving, particularly from London, are that landlords are now taking the opportunity to undertake a wave of housing benefit-related evictions to clear people in receipt of benefit out of whole swathes of property across London. London will feel this first, because of the nature of the property market in the city. However, this effect will ripple across the UK, and I worry very much that, for instance, areas such as the north-west of England or Bristol might become net exporters of people who are having to leave their homes because of housing benefit cuts.

Huw Lewis: Byddwn wrth fy modd yn gallu dweud 'ydyn' a chyfeirio at renti'n gostwng i lefelau mwy rhesymol ledled Cymru, neu unrhyw le arall yn y DU, ond nid wyf wedi gweld un enghraifft yn cael ei hadrodd, naill ai yn y cyfryngau neu drwy unrhyw fath o astudiaeth academaidd, sy'n dangos bod hynny'n digwydd. I'r gwrthwyneb, yn wir. Mae'r holl adroddiadau rydym yn eu derbyn, yn enwedig o Lundain, yn dangos bod landlordiaid bellach yn manteisio ar y cyfle i droi pobl sy'n cael budd-dal tai allan o'u cartrefi mewn amrywiol eiddo ar draws Llundain. Llundain fydd yn dioddef hyn yn gyntaf oherwydd natur marchnad eiddo'r ddinas. Fodd bynnag, bydd yr effaith hon i'w theimlo ar draws y DU, ac rwyf yn poeni'n arw y gallai ardaloedd fel gogledd-orllewin Lloegr neu Fryste, er enghraifft, allforio pobl sy’n gorfod gadael eu cartrefi oherwydd y toriadau yn y budd-dal tai.

Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad o dan Reol Sefydlog Rhif 22.9
The Standards of Conduct Committee’s Report under Standing Order No. 22.9

The Record

Cynnig NDM4985 Mick Antoniw

Motion NDM4985 Mick Antoniw

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

To propose that the National Assembly for Wales:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Adroddiad 01-12—a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Mai 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; a

1. Considers the Report of the Standards of Conduct Committee—Report 01-12—laid before the Assembly on 9 May 2012 in accordance with Standing Order 22.9; and

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad y canfuwyd methiant i gydymffurfio ac y dylid ceryddu Keith Davies AC.

2. Endorses the recommendation in the report that a breach has been found and that Keith Davies AM should be censured.

Mick Antoniw: I move the motion.

Mick Antoniw: Cynigiaf y cynnig.

Having received the report of the independent National Assembly for Wales Commissioner for Standards, Gerard Elias QC, into a complaint relating to the conduct of Mr Keith Davies, the Standards of Conduct Committee moved swiftly to meet and give consideration to his findings. We gave the commissioner’s report our careful consideration, and our report clearly sets out the committee’s considered judgment as to the sanction that is appropriate in this case. The motion invites the Assembly to endorse the committee’s recommendation in this case.

Ar ôl cael adroddiad Gerard Elias CF, Comisiynydd Safonau Annibynnol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar gŵyn yn ymwneud ag ymddygiad Mr Keith Davies, aeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ati'n ddi-oed i gwrdd ac i ystyried ei ganfyddiadau. Gwnaethom ystyried adroddiad y comisiynydd yn ofalus, ac mae ein hadroddiad yn amlinellu'n glir farn y pwyllgor ar ôl ystyried y gosb sy'n briodol yn yr achos hwn. Mae'r cynnig yn gwahodd y Cynulliad i gymeradwyo argymhelliad y pwyllgor yn yr achos hwn.

Keith Davies: Fel y gwelsoch yn adroddiad y comisiynydd safonau, rwy’n derbyn yr adroddiad yn ei gyfanrwydd ac wedi gwneud datganiad personol ysgrifenedig. Fy mhwrpas yn awr yw ymddiheuro i chi, fy nghyd-Aelodau, i’m hetholwyr, i staff y Cynulliad ac i staff y gwesty am fy ymddygiad, ac, yn bennaf, i’m teulu am y cywilydd cyhoeddus sydd wedi dilyn yn genedlaethol ac yn lleol.

Keith Davies: As you will have seen in the report of the commissioner for standards, I accept the report in its entirety and have made a written personal statement. My purpose now is to apologise to you, my fellow Members, my constituents, the Assembly’s staff and the staff of the hotel for my conduct and, in particular, to my family for the public shame that has followed nationally and locally.

As you have seen in the commissioner for standards’ report, I accept the report in its entirety and have made a written personal statement. My purpose now is to apologise to you, my Assembly Member colleagues, my constituents, Assembly staff and the hotel staff for my behaviour and, in particular, to my family for the public shame that has followed nationally and locally.

Fel y gwelsoch yn adroddiad y comisiynydd safonau, rwy’n derbyn yr adroddiad yn ei gyfanrwydd ac wedi gwneud datganiad personol ysgrifenedig. Fy mhwrpas yn awr yw ymddiheuro i chi, fy nghyd-Aelodau, i’m hetholwyr, i staff y Cynulliad ac i staff y gwesty am fy ymddygiad, ac, yn bennaf, i’m teulu am y cywilydd cyhoeddus sydd wedi dilyn yn genedlaethol ac yn lleol.

Angela Burns: On behalf of the Welsh Conservatives, I would like to thank the Chair and members of the Standards of Conduct Committee for their report to the Assembly under Standing Order No. 22.9. We note the recommendation to censure the Member under Standing Order No. 22.10, and endorse this action. We also note the Member for Llanelli’s acknowledgement of, and apology for, the matters raised in the complaint. Looking to the future, Llywydd, the Welsh Conservatives would fully support the Standards of Conduct Committee in its ongoing consideration of the matter of sanctions. We look forward to any recommendations to revise Standing Orders, as may be deemed appropriate, in due course.

Angela Burns: Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd ac i aelodau'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad am eu hadroddiad i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog Rhif 22.9. Rydym yn nodi'r argymhelliad i geryddu'r Aelod o dan Reol Sefydlog Rhif 22.10, ac yn cymeradwyo hynny. Rydym hefyd yn nodi bod yr Aelod dros Lanelli yn cydnabod y materion a godwyd yn y gŵyn, ac yn ymddiheuro am y materion hynny. Gan edrych i'r dyfodol, Lywydd, byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr gefnogi'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wrth iddo fynd ati i ystyried cosbau. Rydym yn edrych ymlaen at unrhyw argymhellion i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog maes o law, fel yr ystyrir yn briodol.

Simon Thomas: Hoffwn hefyd ddiolch i Mick Antoniw a’r pwyllgor am eu gwaith clou a chymen ar y mater hwn. Bûm, am ddwy flynedd, yn gwasanaethu ar bwyllgor tebyg yn Nhŷ’r Cyffredin—y Pwyllgor Breintiau a Safonau—a gwn nad gwaith pleserus yw hwn, ond gwaith hanfodol yw er mwyn cynnal enw da sefydliad a senedd ddemocrataidd. Diolchaf i’r Aelod dros Lanelli am ei ddatganiad ar lafar heddiw. Rwy’n meddwl bod hwnnw’n briodol ac yn gosod cynsail, gobeithio, ar gyfer unrhyw achosion tebyg sy’n codi yn y dyfodol.

Simon Thomas: I would also like to thank Mick Antoniw and the committee for their swift and excellent work on this matter. For two years, I served on a similar committee in the House of Commons—the Standards and Privileges Committee—and I know that this is not pleasant work, but it is crucial to maintain the reputation of a democratically elected institution. I thank the Member for Llanelli for his oral statement today. I think that it was appropriate and it sets a precedent, hopefully, for any similar cases that arise in future.

I believe, Presiding Officer, that one outstanding matter remains. It is referred to in the report under paragraphs 12 and 15, and was also referred to by Angela Burns. That is the ongoing investigation and consideration by the Standards of Conduct Committee as to whether the sanctions regime is sufficient and cast sufficiently wide. The constituents of Llanelli who have contacted me over the last few days have been bemused that we limit the sanctions depending on the kind of transgression. They do not understand why one kind of transgression, for example, financial transgression, leads to some sanctions and others lead to others. They are very much of the view that if conduct such as this happens in a workplace, it can lead to the docking of pay or suspension from a place of work, and they wanted me to convey those views for further consideration by the Standards of Conduct Committee as it looks to the future. I hope that this concludes this matter. It is now for the Labour Party to use its own disciplinary measures, as it has announced.

Rwyf yn credu, Lywydd, bod un mater ar ôl i’w drafod. Cyfeirir ato yn yr adroddiad o dan baragraffau 12 a 15, a chyfeiriodd Angela Burns ato hefyd, sef ystyriaeth ac ymchwiliad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ynghylch a yw'r system gosbau yn ddigonol ac yn ddigon eang. Mae etholwyr Llanelli sydd wedi cysylltu â mi yn ystod y dyddiau diwethaf wedi synnu ein bod yn cyfyngu ein cosbau, gan ddibynnu ar y math o gamymddygiad. Nid ydynt yn deall pam mae un math o gamymddygiad, er enghraifft, camymddygiad ariannol, yn arwain at rai cosbau, a mathau eraill o gamymddygiad yn arwain at gosbau eraill. Maent yn bendant o'r farn y gall ymddygiad o’r fath yn y gweithle arwain at docio cyflog neu atal o'r gwaith dros dro, ac roeddent eisiau imi gyfleu'r farn honno i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ei hystyried ymhellach wrth iddo edrych tua'r dyfodol. Gobeithio y bydd hyn yn dod â'r mater hwn i ben. Mae'n awr yn bryd i'r Blaid Lafur ddefnyddio ei mesurau disgyblu ei hun, fel y mae wedi cyhoeddi.

Mick Antoniw: The Assembly is being asked to endorse the committee’s judgment of the sanctions appropriate in this particular case. In considering this case, it would have been inappropriate for the committee to introduce issues relating to sanctions that might be imposed in other cases. We have applied the rules, as they exist, on the basis of the facts as presented to us. The Standards of Conduct Committee is undertaking an ongoing review, which is considering the totality of conduct issues and sanctions and a report will be presented to the Assembly in due course.

Mick Antoniw: Gofynnir i'r Cynulliad gymeradwyo barn y pwyllgor ynghylch y cosbau sy’n briodol yn yr achos penodol hwn. Wrth ystyried yr achos hwn, byddai wedi bod yn amhriodol i'r pwyllgor gyflwyno materion sy'n ymwneud â chosbau a allai gael eu rhoi mewn achosion eraill. Rydym wedi gweithredu'r rheolau, fel y maent yn bodoli, ar sail y ffeithiau a gyflwynwyd inni. Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cynnal adolygiad ar hyn o bryd, sy'n ystyried yr holl faterion sy’n ymwneud ag ymddygiad a chosbau, a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cynulliad maes o law.

The Presiding Officer: The proposal is to agree the motion. Is there any objection? I see that there is not. In accordance with Standing Order No. 12.36, I therefore declare the motion agreed.

Y Llywydd: Y cynnig yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw wrthwynebiad? Gwelaf nad oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 12.36, rwyf yn datgan bod gwelliant 2 wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig.

Motion agreed.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Melding) i’r Gadair am 3.06 p.m.
The Deputy Presiding Officer (David Melding) took the Chair at 3.06 p.m.

Cynnig i Gytuno ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)
Motion to Agree the General Principles of the National Assembly for Wales (Official Languages) Bill

The Record

Cynnig NDM4984 Rhodri Glyn Thomas

Motion NDM4984 Rhodri Glyn Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 26.11:

Yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol).

Agrees to the general principles of the National Assembly for Wales (Official Languages) Bill.

Comisiynydd y Cynulliad (Rhodri Glyn Thomas): Cynigiaf y cynnig.

Assembly Commissioner (Rhodri Glyn Thomas): I move the motion.

Mae’n bleser cael agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), a gyflwynais i’r Cynulliad ar 30 Ionawr eleni. Mae’n bwysig inni nodi ar y cychwyn ein bod yn sôn am egwyddorion cyffredinol y Bil hwn ar yr adeg arbennig hon yn y broses ac y bydd cyfle yn ddiweddarach i edrych ar y manylion.

It is a pleasure to open this debate on the general principles of the National Assembly for Wales (Official Languages) Bill, which I introduced to the Assembly on 30 January of this year. It is important to note at the outset that we are talking about the general principles of the Bill at this particular stage in the process and there will be an opportunity to look at the details later on.

Pwrpas y Bil yw diweddaru’r fframwaith cyfreithiol sy’n llywio’r ffordd y mae’r Cynulliad Cenedlaethol a Chomisiwn y Cynulliad yn gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’r Bil yn nodi’n glir mai Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Cynulliad ac y dylid eu trin yn gyfartal. Mae hefyd yn darparu peirianwaith a fydd yn sicrhau bod y Comisiwn yn gweithredu’r egwyddor honno’n effeithiol. Yn ganolog i’r peirianwaith hwnnw bydd y cynllun ieithoedd swyddogol, a fydd yn nodi’r camau manwl y bydd yn rhaid i’r Comisiwn eu cymryd. Rhaid i’r cynllun gael cymeradwyaeth y Cynulliad mewn Cyfarfod Llawn ac ni fydd yn bosibl ei newid mewn unrhyw fodd heb ganiatâd pellach y Cynulliad.

The purpose of the Bill is to update the legal framework that directs the way in which the National Assembly and the Assembly Commission operate through the media of Welsh and English. The Bill clearly notes that Welsh and English are the official languages of the Assembly and should be treated equally. It also provides a mechanism to ensure that the Commission implements that principle effectively. Central to that mechanism is the official languages scheme, which will set out the detailed steps that the Commission will have to take. The scheme will have to be approved by the Assembly in Plenary and it will not be possible to change the scheme in any way without the further approval of the Assembly.

Rwy’n credu bod hwnnw’n bwynt nad yw pawb wedi ei ddeall yn llawn: mae unrhyw beth yn y cynllun yn gorfod cael cymeradwyaeth y Cynulliad yn ei gyfanrwydd, a bydd unrhyw newid iddo yn gorfod dod gerbron y Cynulliad. Felly, bydd y Bil yn sicrhau bod y rheolaeth dros ddarpariaeth ddwyieithog yng ngwaith y Cynulliad a’r Comisiwn yn gorwedd, fel sy’n briodol, yn nwylo’r Cynulliad ei hun. O ran y cynllun, gallaf eich sicrhau y rhoddir ystyriaeth ofalus ac adeiladol i’r argymhellion gan y Comisiwn.

I think that that is a point that perhaps not everyone has fully understood: anything in the scheme has to have the approval of the Assembly as a whole and any change to it will have to come before the Assembly. Therefore, the Bill will ensure that the regulation of bilingual provision in the work of the Assembly and the Commission lies, as is appropriate, in the hands of the Assembly itself. In relation to the scheme, I can assure you that the recommendations will be given careful and constructive consideration by the Commission.

Ymhlith pethau eraill, mae swyddogion eisoes wedi trefnu i gyfarfodydd gael eu cynnal gyda staff a’r undebau dros y misoedd nesaf i sicrhau bod staff yn ymwybodol o’u dyletswyddau arfaethedig newydd yn sgîl y Bil a’r cynllun, ac i’w cynorthwyo i’w gweithredu. Bwriad y Comisiwn yw ailystyried y cynllun diwygiedig yn yr hydref a’i gyflwyno i’r Cynulliad cyn gynted ag y bo modd wedi i’r Bil, os caiff ei basio gan y Cynulliad, ddod yn Ddeddf. Mae hyn yn newid o’r bwriad gwreiddiol o wneud cais am gymeradwyaeth y Cynulliad i’r Bil a’r cynllun ym mis Gorffennaf. Bydd hyn yn caniatáu inni adolygu’r cynllun yn sgîl unrhyw newidiadau a gytunir i’r Bil a’r drafodaeth bellach gyda staff a’u cynrychiolwyr.

Among other things, officials have already arranged for meetings to be held with staff and unions over the coming months to ensure that they are aware of their proposed new duties in the wake of the Bill and scheme, and to support them in their implementation. The Commission’s intention is to reconsider the revised scheme in the autumn and to present it to the Assembly as soon as possible after the Bill, if passed by the Assembly, becomes an Act. This is a change from the original intention of asking the Assembly to approve the Bill and the scheme in July. This will allow us to revise the scheme following any changes agreed to the Bill and the further discussions with staff and their representatives.

Mae’r pwyllgor hefyd wedi gwneud nifer o argymhellion sy’n eithriadol o bwysig, ac mae’r Comisiwn yn cyd-fynd â’r pwyllgor eu bod yn elfennau pwysig o strategaeth a fydd yn gwneud y Cynulliad yn gorff gwirioneddol ddwyieithog. Fodd bynnag, rydym yn dal i gredu mai materion i’w trin gan y cynllun ydynt ac felly nid oes gofyn iddynt ymddangos ar wyneb y Bil.

The committee has also made a number of very important recommendations, and the Commission agrees with the committee that these are important elements of a strategy that will make the Assembly a truly bilingual institution. However, we continue to believe that these are matters to be dealt with by the scheme and, therefore, that there is no need for them to appear on the face of the Bill.

Mae’r ail argymhelliad yn cyfeirio at fater pwysig iawn, gan argymell gosod dyletswydd statudol ar y Comisiwn i ddarparu cofnod cwbl ddwyieithog o holl drafodion y Cynulliad. Hynny yw, byddai cofnod ysgrifenedig wedi’i gyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg, yn ogystal ag o’r Gymraeg i’r Saesneg, nid yn unig ar gyfer Cyfarfodydd Llawn, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, ond hefyd ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau ac is-bwyllgorau. Credaf fod angen rhywfaint o dystiolaeth am hyn, a byddai diddordeb gennyf wybod a yw’r pwyllgor wedi casglu tystiolaeth am yr union gost. Mae’r amcangyfrif o’r gost yr wyf fi wedi ei glywed yn uchel iawn. Credaf mai’r cwestiwn o ran hyn yw ai dyna’r flaenoriaeth o ran hyrwyddo’r Gymraeg yn holl weithgareddau’r Cynulliad a hwyluso defnydd y Gymraeg, oherwydd yr hyn sy’n greiddiol i’r Bil hwn yw sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn gwbl naturiol yma, ochr yn ochr â’r Saesneg. Rhaid sylweddoli y byddai’r cam hwn yn mynd â ni gryn dipyn ymhellach na’r sefyllfa bresennol. Byddai diddordeb gennyf glywed am gefndir yr argymhelliad hwn, a pham mae’r pwyllgor yn credu ei fod mor bwysig.

The second recommendation refers to a very important matter, as it recommends placing a statutory duty on the Commission to provide a fully bilingual record of all Assembly proceedings. That is, there would be a written record translated from English into Welsh, as well as from Welsh into English, not only for Plenary meetings, as is currently the case, but also for meetings of committees and sub-committees. I believe that we need some evidence on this, and I would be interested to know whether the committee has gathered any evidence on the exact cost. The cost estimate that I have heard is very high. I believe that the question here is whether this is the priority in terms of promoting the Welsh language in all the activities of the Assembly and facilitating the use of the Welsh language, because what is at the core of this Bill is ensuring that the Welsh language is used entirely naturally in this place, side by side with English. We must realise that this step would take us a good deal further than the current situation. I would be interested to hear the background to this recommendation, and why the committee believes it to be so important.

Byddai blaenoriaethu’r ddarpariaeth ychwanegol honno uwchlaw gwasanaethau dwyieithog eraill yn cyfyngu ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau amgen, er enghraifft, cyhoeddi tystiolaeth rhanddeiliaid yn y ddwy iaith. Teimlwn fod sicrhau adnoddau ar gyfer rhai o’r mentrau hynny yr un mor bwysig er mwyn datblygu sefydliad dwyieithog gwirioneddol effeithiol. Yn y tymor hwy, pwy a ŵyr pa ddatblygiadau pellach a ddaw a fyddai’n caniatáu ehangu ar ein gwasanaethau dwyieithog, gan gynnwys cofnod dwyieithog o gyfarfodydd pwyllgorau ac is-bwyllgorau?

Prioritising that additional provision above other bilingual services would limit our ability to provide other services, such as publishing the evidence of stakeholders in both languages. We feel that safeguarding resources to pay for some of those initiatives is just as important if we are to develop a truly effective bilingual institution. In the longer term, who knows what further developments will take place that will allow us to expand our provision of bilingual services, including bilingual records of committee and sub-committee meetings?

Cymerwch, er enghraifft, y newid diweddar i ailsefydlu cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion y Cyfarfod Llawn. Drwy’r gwaith arloesol a wneir yn barod yn y maes cyfieithu, gyda chymorth technoleg gwybodaeth, llwyddwyd i ddod o hyd i ffordd o gysoni’r angen am gofnod hollol ddwyieithog o Gyfarfodydd Llawn gyda’r angen i ddefnyddio arian cyhoeddus yn y ffordd ddoethaf posibl. Mae’r gwaith hwnnw’n dal i fod yn arloesol a rhaid gwneud llawer mwy o waith datblygu cyn y byddwn mewn sefyllfa i ddefnyddio’r dechnoleg honno i’w llawn botensial.

Take, for example, the recent change to re-establish a fully bilingual record of Plenary proceedings. Through the innovative work that is already being done in the field of translation, with the aid of information technology, we have successfully reconciled the need for a fully bilingual record of Plenary proceedings with the need to use public money in the wisest possible way. That work continues to be innovative and a great deal more development work will need to be done before we will be in a position to use that technology to its full potential.

Fe gofiwch i’r Comisiwn amcangyfrif ymlaen llaw y byddai’r gost ychwanegol o ddarparu cofnod hollol ddwyieithog o Gyfarfodydd Llawn gan ddefnyddio’r dulliau newydd hyn o gwmpas £100,000 y flwyddyn. Mae dal yn rhy gynnar i asesu’r union gost, ond os ystyriwch fod cofnodion o drafodion pwyllgorau ac is-bwyllgorau tua dwywaith neu deirgwaith hyd cofnod y Cyfarfodydd Llawn, cewch ryw syniad o oblygiadau’r argymhelliad hwn. Cred y Comisiwn, felly, mai’r ffordd synhwyrol o drin gwasanaethau penodol, gan gynnwys trefniadau cyfieithu Cofnod y Trafodion, yw eu cynnwys o fewn y cynllun ieithoedd swyddogol ac nid ar wyneb y Bil. Dyna’r ffordd o sicrhau bod y trefniadau hynny yn medru esblygu’n naturiol dros amser mewn modd blaengar ond ymarferol.

You will recall that the Commission estimated beforehand that the additional cost of providing a fully bilingual record of Plenary meetings using these new methods would be around £100,000 a year. It is still too early to assess the exact cost, but, when you consider that records of committee and sub-committee meetings would be two or three times the length of those of Plenary meetings, you get some idea of the implications of this recommendation. The Commission believes, therefore, that the sensible way of dealing with specific services, including arrangements for the translation of the Record of Proceedings, is by including them in the official languages scheme, not by putting them on the face of the Bill. That is how to ensure that those arrangements can naturally evolve over time in an innovative but practical way.

Hoffwn bwysleisio unwaith eto fod darpariaeth newydd eisoes yn y Bil sy’n gofyn i unrhyw newid i’r cynllun gael ei gytuno gan y Cynulliad cyfan. Ni fyddai’n bosibl i’r Comisiwn ddileu gwasanaeth sydd wedi’i gynnwys yn y cynllun, gan gynnwys y ddyletswydd i ddarparu cofnod hollol ddwyieithog o Gyfarfodydd Llawn, heb gydsyniad y Cynulliad mewn Cyfarfod Llawn. Wedi ystyried yr holl faterion perthnasol, felly, nid yw’n fwriad gan y Comisiwn gyflwyno gwelliant i weithredu’r ail argymhelliad.

I emphasise yet again that there is already new provision within the Bill requiring any change to the scheme to be agreed by the Assembly as a whole. It would not be possible for the Commission to remove a service included in the scheme, including the duty to provide a fully bilingual record of Plenary meetings, without the consent of the Assembly in Plenary. Having considered all the relevant issues, therefore, it is not the Commission’s intention to table an amendment to implement the second recommendation.

Mae’r trydydd argymhelliad yn gofyn am welliant i’r is-baragraff 2(2)(6) newydd sydd i’w fewnosod, a hynny er mwyn gwella eglurdeb ei effaith. Ein teimlad yw bod y ddarpariaeth hon yn glir o ran ei heffaith, ond rydym, wrth gwrs, yn fodlon ystyried yn ofalus y ffordd y caiff yr is-baragraff ei eirio ac i gyflwyno gwelliant gerbron y pwyllgor er mwyn cael gwared ar unrhyw amheuaeth ar y mater.

The third recommendation requests an amendment to the new sub-paragraph 2(2)(6) that is to be inserted, in order to improve the clarity of its effects. Our feeling is that this provision is clear in its effect, but we are of course willing to consider carefully the way in which the sub-paragraph is worded and to table an amendment for the committee’s consideration to get rid of any doubts on the matter.

3.15 p.m.

Yn olaf, mae’r pedwerydd argymhelliad yn gofyn am welliant a fydd yn ei gwneud hi’n orfodol i’r Cynulliad adolygu’r cynllun ieithoedd swyddogol yn ffurfiol yn ystod pob Cynulliad. Mae hyn yn hollol gyson â bwriad y Comisiwn, ond derbyniwn fod yr ansicrwydd presennol o ran hyd tymor Cynulliadau’r dyfodol wedi arwain at ddiffyg eglurder yn y Bil ar hyn. Bydd y Comisiwn, felly, yn cyflwyno gwelliant gerbron er mwyn gwireddu dymuniad y pwyllgor.

Finally, the fourth recommendation asks for an amendment that would compel the Assembly to review the official languages scheme formally during every Assembly. That is entirely consistent with the Commission’s intention, but we accept that the current uncertainty regarding the length of future Assemblies has led to a lack of clarity in the Bill in relation to this. The Commission will, therefore, table an amendment to fulfil the committee’s wishes.

I gloi, diolchaf unwaith eto i’r pwyllgor am ei ystyriaeth ofalus ac adeiladol o gynnwys y Bil. Rwyf wedi fy nghalonogi’n fawr gan y gefnogaeth a ddangoswyd gan Aelodau a rhanddeiliaid yn ystod trafodion y pwyllgor. Derbyniaf, yn sgîl adroddiad y pwyllgor, fod gwaith pwysig i’w wneud er mwyn gwella’r Bil ymhellach—a’r cynllun maes o law—ac anogaf Aelodau i gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil heddiw, er mwyn galluogi’r gwaith pellach hwnnw i fynd rhagddo.

In conclusion, I thank the committee again for its careful and constructive consideration of the contents of the Bill. I have been greatly encouraged by the support shown by Members and stakeholders during the committee’s proceedings. I accept, in the wake of the committee’s report, that there is important work to be done to improve the Bill further—and the scheme in due course—and I urge Members to support the general principles of the Bill today to allow that further work to progress.

Ann Jones: I am pleased to contribute to this debate as Chair of the Communities, Equality and Local Government Committee that scrutinised the Bill at Stage 1. I thank all those who contributed to the work that has resulted in this report. As well as considering the Bill, as the Commissioner has said, we have also considered the draft official languages scheme that accompanied the Bill. Although our views on the scheme are not appropriate for this debate, I want to take this opportunity to say that we believe that substantial improvements need to be made to the scheme. I hope that the Commissioner will carefully consider our conclusions and recommendations—in fact, I believe that he said that he would—in relation to the scheme.

Ann Jones: Rwyf yn falch o gyfrannu at y ddadl hon, a minnau'n Gadeirydd ar y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol a fu'n craffu ar y Bil yng Nghyfnod 1. Diolch i bawb a gyfrannodd at y gwaith sydd wedi arwain at yr adroddiad hwn. Yn ogystal ag ystyried y Bil, fel y mae'r Comisiynydd wedi dweud, rydym hefyd wedi ystyried y cynllun ieithoedd swyddogol drafft a ddaeth gydag ef. Er nad yw'n briodol trafod ein barn am y cynllun yn y ddadl hon, yr wyf am achub ar y cyfle hwn i ddweud ein bod yn credu bod angen ei wella'n sylweddol. Rwyf yn gobeithio y gwnaiff y Comisiynydd ystyried ein casgliadau a'n hargymhellion yn ofalus—a dweud y gwir, credaf iddo ddweud y byddai—o ran y cynllun.

I now turn to the general principles of the Bill. There was widespread agreement that the Bill is needed, and the committee shared that view. We recognised that the legislative framework governing the bilingual services that the National Assembly and Assembly Commission are required to provide needs updating, particularly as the Welsh Language (Wales) Measure 2011 does not apply to either of these bodies. Therefore, having considered the evidence that we received, we are not convinced that the right balance has been struck between the specific requirements contained on the face of the Bill and the provisions to be included in the scheme. It is to those issues and the specific provisions of the Bill that I now turn, so that you can see where the committee is coming from.

Trof yn awr ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Roedd cytundeb cyffredinol bod angen y Bil, ac roedd y pwyllgor yn cytuno â'r farn honno. Roeddem yn sylweddoli bod angen diweddaru'r fframwaith deddfwriaethol sy'n llywodraethu'r gwasanaethau dwyieithog y mae gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol a Chomisiwn y Cynulliad eu darparu, yn enwedig gan nad yw Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 yn berthnasol i'r naill gorff na'r llall. Felly, ar ôl ystyried y dystiolaeth a gawsom, nid ydym wedi'n hargyhoeddi bod y cydbwysedd yn iawn rhwng y gofynion penodol sydd ar wyneb y Bil a'r darpariaethau sydd i'w cynnwys yn y cynllun. At y materion hynny a darpariaethau penodol y Bil y trof yn awr, er mwyn ichi weld beth yw safbwynt y pwyllgor.

We are pleased to see a provision in the Bill stating that English and Welsh are the official languages of the Assembly. We also welcome the inclusion of a right to use either language when participating in Assembly proceedings. However, we were concerned that the drafting of the new sub-sections 35(1A) and 35(1B) of the Government of Wales Act 2006 potentially limits the extent to which citizens can engage with the Assembly in the language of their choice. For example, it does not guarantee that citizens can read the transcripts of committee meetings in both English and Welsh after they have taken place. We therefore recommend that the Commissioner explore the feasibility of tabling amendments to widen the scope of these provisions, so that citizens can engage more fully with the Assembly in the language of their choice. In our view, this position should be clearly highlighted in the legislation.

Rydym yn falch o weld darpariaeth yn y Bil sy'n dweud mai'r Gymraeg a'r Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Cynulliad. Rydym yn croesawu hefyd ei fod yn cynnwys hawl i ddefnyddio'r naill iaith neu'r llall wrth gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad. Serch hynny, roeddem yn poeni y gallai drafftio isadrannau newydd 35(1A) a 35(1B) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gyfyngu ar i ba raddau y gall dinasyddion ymwneud â'r Cynulliad yn eu dewis iaith. Er enghraifft, nid yw'n gwarantu y gall dinasyddion ddarllen trawsgrifau cyfarfodydd pwyllgorau yn y Gymraeg a'r Saesneg ar ôl eu cynnal. Rydym felly'n argymell y dylai'r Comisiynydd archwilio dichonoldeb cyflwyno gwelliannau i ehangu cwmpas y darpariaethau hyn, er mwyn i ddinasyddion allu ymwneud yn llawnach â'r Cynulliad yn eu dewis iaith. Yn ein barn ni, dylid gwneud hyn yn glir yn y ddeddfwriaeth.

Section 2 of the Bill states that the Assembly Commission must adopt and publish an official languages scheme. It also defines specific Assembly Commission duties in relation to such a scheme. While we agreed with the Commission’s decision to use a language scheme to deliver its bilingual duties, the committee made three recommendations that, in our view, would strengthen section 2 and, in so doing, would place additional duties on the face of the Bill.

Dywed Adran 2 o'r Bil ei bod yn rhaid i Gomisiwn y Cynulliad fabwysiadu a chyhoeddi cynllun ieithoedd swyddogol. Mae'n diffinio hefyd ddyletswyddau penodol Comisiwn y Cynulliad yng nghyswllt cynllun o'r fath. Er ein bod yn cytuno â phenderfyniad y Comisiwn i ddefnyddio cynllun iaith i gyflawni ei ddyletswyddau o ran dwyieithrwydd, gwnaeth y pwyllgor dri argymhelliad a fyddai, yn ein barn ni, yn cryfhau adran 2 ac a fyddai, wrth wneud hynny, yn cynnwys dyletswyddau ychwanegol ar wyneb y Bil.

We recommend that the Commissioner table appropriate amendments to ensure that the scheme must include provision relating to a fully bilingual record of all Assembly proceedings, that is the Record of Proceedings of Plenary and all committees. There should be a system for categorising which other documents should be published in both official languages. There should also be a corporate action plan with targets, a set of key performance indicators, and a bilingual skills strategy. Our decision to request that a provision on having a fully bilingual Record of Proceedings appear on the face of the Bill reflects the overwhelming evidence that we received in favour of such an approach.

Rydym yn argymell y dylai'r Comisiynydd gyflwyno gwelliannau priodol i sicrhau bod y cynllun yn gorfod cynnwys darpariaeth ynglŷn â chofnod cwbl ddwyieithog o holl drafodion y Cynulliad, hynny yw Cofnod Trafodion y Cyfarfodydd Llawn a'r holl bwyllgorau. Dylai fod system ar gyfer categoreiddio pa ddogfennau eraill y dylid eu cyhoeddi yn y ddwy iaith swyddogol. Dylai fod cynllun gweithredu corfforaethol gyda thargedau hefyd, set o ddangosyddion perfformiad allweddol, a strategaeth sgiliau dwyieithog. Mae ein penderfyniad i ofyn am gynnwys darpariaeth ar wyneb y Bil ynglŷn â chael Cofnod cwbl ddwyieithog o'r Trafodion yn adlewyrchu'r dystiolaeth lethol a gawsom o blaid hyn.

In reaching that view, we agreed with witnesses who highlighted the symbolic importance of the Record of Proceedings to the Welsh language, particularly given its status as the official report of the National Assembly, which, as our national democratic institution, makes decisions that affects all our daily lives. Given the importance that we attach to the Record, we consider that any decision by a future Assembly Commission not to produce the Record bilingually should require another Bill to make that change, rather than an amendment to a scheme.

Wrth lunio'r farn honno, roeddem yn cytuno â'r tystion a gyfeiriodd hefyd at bwysigrwydd symbolaidd Cofnod y Trafodion i'r Gymraeg, yn enwedig a chofio'i statws fel adroddiad swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol, sef, ein sefydliad democrataidd cenedlaethol sy'n penderfynu ynglŷn â materion sy'n effeithio ar ein bywydau beunyddiol ni i gyd. Gan ein bod yn rhoi cymaint o bwys ar y Cofnod, credwn, petai unrhyw Gomisiwn yn y Cynulliad yn y dyfodol yn penderfynu peidio â chyhoeddi'r Cofnod yn ddwyieithog, y dylai fod gofyn cael Bil arall i gyflwyno'r newid hwnnw, yn hytrach na diwygio cynllun.

As I have already mentioned in relation to the new sub-sections (1A) and (1B), we felt it important for citizens to be able to read all proceedings of the Assembly, after they have taken place, in the language of their choice. That is why we recommend that all transcripts of committee proceedings should be bilingual.

Fel yr wyf eisoes wedi crybwyll yng nghyswllt isadrannau newydd (1A) ac (1B), teimlem ei bod yn bwysig i ddinasyddion allu darllen holl drafodion y Cynulliad, ar ôl iddynt gael eu cynnal, yn eu dewis iaith. Dyna pam yr ydym yn argymell y dylai trawsgrifau holl drafodion y pwyllgorau fod yn ddwyieithog.

Overall, the approach that we are suggesting aims to bring much greater clarity and certainty to the citizen about the type of services that the Assembly Commission would be obliged to provide bilingually. It is for that reason that we believe that new sub-paragraph 8(6) of Schedule 2 to the Government of Wales Act 2006 should be amended to provide greater clarity about its intended purpose. Without that clarification, we have reservations about the implications of the provision for the delivery of bilingual services by the Assembly Commission. Our only other suggestion for an amendment to section 2 is that the scheme be formally reviewed at least once every Assembly, rather than every five years, as is currently provided for in the Bill. I am grateful to the Commissioner for saying that he will look at that.

Drwyddi draw, nod ein hawgrymiadau yw  ceisio rhoi mwy o eglurder a sicrwydd i'r dinesydd ynglŷn â'r math o wasanaethau y byddai gofyn i Gomisiwn y Cynulliad eu darparu'n ddwyieithog. Dyna pam yr ydym yn credu y dylid diwygio is-baragraff newydd 8(6) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i gynnig mwy o eglurder ynglŷn â'i fwriad. Heb yr eglurhad hwnnw, rydym yn amheus ynglŷn â goblygiadau'r ddarpariaeth ar gyfer sicrhau gwasanaethau dwyieithog gan Gomisiwn y Cynulliad. Ein hunig awgrym arall ar gyfer diwygio adran 2 yw y dylid adolygu'r cynllun yn ffurfiol o leiaf unwaith ym mhob Cynulliad, yn hytrach na phob pum mlynedd, fel y dywed y Bil ar hyn o bryd. Rwyf yn ddiolchgar i'r Comisiynydd am ddweud y gwnaiff edrych ar hynny.

Turning to the financial implications of the Bill, we did not believe that they were explained as clearly as they could have been. In addition, we recognised that our recommendations could potentially add to the costs. We have no indication of what those costs would be. It is not for the committee to put those forward. As a consequence, we strongly recommend that, whatever approach the Assembly Commission decides to pursue with the Bill and the accompanying scheme, it should ensure that adequate funds are identified and committed to deliver the objectives and commitments that they contain. If we are to be a truly bilingual service, costs—while they are important—should not prohibit us or anybody else from achieving our aim. I hope that the Commissioner will accept the conclusions and recommendations contained in our report and will consider tabling appropriate amendments at Stage 2.  

A throi at oblygiadau ariannol y Bil, nid oeddem yn credu iddynt gael eu hesbonio mor glir ag y gallasid eu hesbonio. At hynny, roeddem yn sylweddoli y gallai ein hargymhellion ni ychwanegu at y costau. Nid wyddom  beth fyddai'r costau hynny. Nid gwaith y pwyllgor yw cyflwyno'r rheini. Felly, rydym yn argymell yn gryf, sut bynnag y bydd Comisiwn y Cynulliad yn penderfynu bwrw ymlaen â'r Bil a'r cynllun cysylltiedig, y dylai sicrhau bod digon o arian ar gael a'i fod yn cael ei neilltuo i wireddu eu hamcanion a'u hymrwymiadau. Er mwyn inni fod yn wasanaeth gwirioneddol ddwyieithog, ni ddylai costau—er eu bod yn bwysig—ein rhwystro ni na neb arall rhag cyrraedd ein nod. Yr wyf yn gobeithio y gwnaiff y Comisiynydd dderbyn y casgliadau a'r argymhellion sydd yn ein hadroddiad ac y gwnaiff ystyried cyflwyno gwelliannau priodol yng Nghyfnod 2.

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau (Leighton Andrews): Rwy’n falch o gael y cyfle i gyfrannu at y ddadl am y Bil pwysig hwn. Fel y Gweinidog yn y Llywodraeth sy’n gyfrifol am y Gymraeg, gwn fod yr iaith yn chwarae rhan bwysig ym mywydau cynifer o bobl ar draws Cymru. Mae’r ffaith ein bod yn trafod sut y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn mynd ati i ddelio â’r iaith yn tanlinellu’r pwysigrwydd hwnnw. Mae hefyd yn adlewyrchu pa mor benderfynol y mae nifer o bobl, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i weld y Gymraeg yn ffynnu.

The Minister for Education and Skills (Leighton Andrews): I am pleased to have the opportunity to contribute to today’s debate about this important Bill. As the Government Minister with responsibility for the Welsh language, I know how important a part it plays in the lives of so many people across Wales. The fact that we are today discussing the National Assembly’s approach to the language serves only to underline its importance. It also reflects the determination shared by so many, including the Welsh Government, to see the language thrive.  

Gwelsom, yn ystod y drafodaeth a’r dadleuon am gyfieithu Cofnod y Cyfarfod Llawn a chyfarfodydd pwyllgor, fod penderfyniadau’r Cynulliad a Chomisiwn y Cynulliad o ran yr iaith o ddiddordeb i nifer fawr o bobl. Maent yn rhoi arwydd clir i’r bobl hynny am y graddau y mae’r Cynulliad yn edrych ar ôl eu buddiannau ac yn cynrychioli’n briodol y bobl a wnaeth ein hethol i fod yn Aelodau Cynulliad.

As we have seen during the discussion and debate about translating the Record of Plenary and committee meetings, the decisions taken by the Assembly and the Assembly Commission with regard to the language are of interest to many. They give a clear signal to those people about the degree to which the Assembly cares for their interests, and properly represents the people who elected us to be Assembly Members.

Felly, rwy’n falch o weld y Bil hwn ger ein bron ac am y cyfle y mae’n ei roi inni ystyried y mater pwysig hwn. Rwyf hefyd o’r farn bod y Bil yn cynnig dull cadarn, rhesymol ac ymarferol o esbonio sut y dylai’r Cynulliad a Chomisiwn y Cynulliad ymgymryd â’r dasg o ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Mae’r cynllun ieithoedd swyddogol drafft, sy’n atodiad i femorandwm esboniadol y Bil, wedi darparu ychydig o gig ar yr asgwrn, i helpu i esbonio beth yn union y mae Comisiynydd y Cynulliad yn cynnig y dylid ei gynnig fel gwasanaeth dwyieithog.

I am pleased, therefore, to see this Bill before us, and for the opportunity that it gives us to consider this important issue. I also believe that the Bill offers a robust, reasonable and workable approach to setting out how the Assembly and the Assembly Commission should approach the task of providing a bilingual service. The draft official language scheme annexed to the Bill’s explanatory memorandum has put some of the meat on the bone to help to set out what exactly the Assembly Commissioner proposes to offer by way of a bilingual service.

Mae opsiwn arall, wrth gwrs, sef bod Gweinidogion Cymru yn cynnwys y Cynulliad a Chomisiwn y Cynulliad yn y system safonau a fydd yn cael ei sefydlu o dan Fesur y Gymraeg. Er nad yw’r Cynulliad a Chomisiwn y Cynulliad wedi’u cynnwys yn y grŵp a allai fod yn gymwys i orfod cydymffurfio â’r safonau, mae’r Mesur yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru, drwy Orchymyn, ddiwygio’r grŵp hwnnw. Byddai gwneud hynny yn rhoi’r cyfrifoldeb am fonitro cydymffurfiaeth ag unrhyw safonau a osodir i Gomisiynydd y Gymraeg. Byddai gan y comisiynydd, yn ogystal, y cyfrifoldeb o weithredu, pe bai angen, y pwerau gorfodi sydd gan y comisiynydd o dan y Mesur.

There is another option available, of course, namely for the Welsh Ministers to bring the Assembly and the Assembly Commission within the standards system that is to be established under the Welsh language Measure. Although the Assembly and Assembly Commission are not currently included in the group potentially subject to standards, the Measure gives the Welsh Ministers the power, by Order, to amend that group. Doing so would give the Welsh Language Commissioner responsibility for monitoring compliance with any standards imposed. The commissioner would also have responsibility for exercising, if necessary, the relevant enforcement powers conferred upon the commissioner by the Measure.

Ar ôl pwyso a mesur, fodd bynnag, fy marn i yw mai’r dull mwyaf priodol fydd i’r Cynulliad benderfynu sut y dylai ymgymryd â’r dasg o ddarparu gwasanaeth dwyieithog. Byddai gwneud hynny yn adlewyrchu sefyllfa gyfansoddiadol y Cynulliad fel deddfwrfa a gaiff ei hethol yn ddemocrataidd. Mae dewis y dull hwn, fodd bynnag, yn gosod her i’r Cynulliad ac i Gomisiwn y Cynulliad i wneud hyn yn iawn, ac i fabwysiadu arfer da o ran y defnydd o’r Gymraeg.

On balance, however, I am of the view that the most appropriate approach would be for the Assembly to decide how it should approach the task of providing a bilingual service. To do so would reflect the constitutional position of the Assembly as a democratically elected legislature. Adopting this approach does, however, present the Assembly and the Assembly Commission with the challenge of getting this right and of adopting best practice with regard to the use of the Welsh language.

Mae angen i’r Cynulliad a Chomisiwn y Cynulliad osod esiampl i eraill i’w dilyn, nid dim ond fel sefydliadau, ond fel unigolion sy’n gweithio o fewn y sefydliadau hynny. Mae angen inni ddangos y gall ac y dylai y Gymraeg gael ei defnyddio fel rhan o fywyd bob dydd, ac mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom, gan gynnwys Aelodau’r Cynulliad, i wneud y gorau o’r cyfleoedd y mae’r Cynulliad yn eu rhoi i ni i ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg.

Both the Assembly and the Assembly Commission need to set an example for others to follow, and not just as organisations, but as individuals working within those organisations. We need to show that Welsh can and should be used as part of day-to-day life, and there is a responsibility on us all, including Assembly Members, to make the most of the opportunities that the Assembly gives us to use both Welsh and English.

Mae’r iaith yn rhywbeth i’w thrysori, i fod yn falch ohoni, i’w hamddiffyn ac i’w meithrin, ond, yn anad dim, mae’n rhywbeth i’w defnyddio. Gwn fod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ei adroddiad gwerthfawr a manwl wedi cytuno i’r angen am y Bil hwn, a bod y farn honno yn cael ei rhannu gan y rhan fwyaf o’r rhai a ddarparodd dystiolaeth i’r pwyllgor, gan gynnwys Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Rwyf wedi gweld a nodi argymhellion y pwyllgor ynghylch y Bil, sydd, wrth gwrs, yn faterion i Gomisiwn y Cynulliad eu hystyried. Ni fyddaf, felly, yn rhoi sylwadau arnynt yma, heblaw i ddweud y byddwn yn annog y Comisiwn i gadw mewn cof fy sylwadau cynharach ynghylch yr angen i osod esiampl i eraill i’w dilyn mewn perthynas â defnyddio’r Gymraeg.

The language is something to treasure, to be proud of, to protect and to nurture, but above all, it is something to use. I know that the Communities, Equality and Local Government Committee in its valuable and comprehensive report has agreed on the need for this Bill and that that view was shared by the majority of witnesses who provided evidence to the committee, including the Welsh Language Board. I have seen and noted the committee’s recommendations with regard to the Bill, which are, of course, matters for the Assembly Commission to consider. I do not propose, therefore, to comment on them here, except to say that I urge the Commission to bear in mind my earlier comments about the need to set an example for others to follow with regard to the use of the Welsh language.

Fel y bydd Aelodau yn gwybod, un o brif ddarpariaethau Mesur y Gymraeg yw honno ynghylch statws swyddogol y Gymraeg a amlinellir yn Rhan 1 y Mesur hwnnw. Mae’r ddarpariaeth honno o bwysigrwydd mawr i’r iaith, ac mae’r datganiad yn y Bil ieithoedd swyddogol fod y Gymraeg yn iaith swyddogol i’r Cynulliad yn gwneud llawer i wneud y statws hwnnw yn realiti, gan danlinellu ei arwyddocâd a dangos eto sut y mae’r iaith yn helpu i siapio cymeriad a gwerthoedd Cymru cynyddol ddatganoledig. Bydd y statws hwnnw, ynghyd â’r ddarpariaeth yn y Bil a fydd yn rhoi’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg wrth gyfrannu at drafodion y Cynulliad, yn ei gwneud hi’n hollol glir bod y Cynulliad hwn a’r Llywodraeth hon eisiau gweld y Gymraeg yn rhan o galon ac enaid Cymru. Gyda’r Bil hwn, strategaeth iaith newydd y Llywodraeth, Mesur y Gymraeg, a’r strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg, rydym yn rhoi arwydd clir i bobl Cymru o’n cefnogaeth am yr iaith.

As Members will know, one of the key provisions of the Welsh language Measure is that about the official status of the language, set out in Part 1 of that Measure. That provision is of huge importance to the language, and the declaration in the official languages Bill that Welsh is an official language of the Assembly will do much to make that status a reality, while underlining its significance and further demonstrating how the language helps to shape the character and values of an increasingly devolved Wales. That status, coupled in the Bill with the right to use either Welsh or English when participating in Assembly proceedings, will make it abundantly clear that the Assembly and this Government want to see the Welsh language as part of the heart and soul of Wales. With this Bill, the Government’s new Welsh language strategy, the Welsh language Measure and the Welsh-medium education strategy, we are giving the people of Wales a clear signal of our support for the language.

Rwyf hefyd wedi gweld sylwadau’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ei adroddiad ynghylch y cynllun ieithoedd swyddogol drafft a gafodd ei gyhoeddi, yn ddefnyddiol iawn, ochr yn ochr â’r Bil fel atodiad i’r memorandwm esboniadol. Fel y mae adroddiad y pwyllgor yn ei nodi, roedd consensws y byddai’n briodol i ddyletswyddau Comisiwn y Cynulliad gael eu hamlinellu drwy gynllun. Nodaf, fodd bynnag, fod y pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion mewn perthynas â’r cynllun drafft. Mae’r rhain, unwaith eto, yn fater i’r Comisiynydd i’w ystyried. Fodd bynnag, o ystyried y berthynas weithio agos rhwng y Cynulliad, Comisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru, buaswn yn annog y Comisiwn i drafod gyda’r Llywodraeth sut y mae’n bwriadu ymateb i’r argymhellion hynny sy’n delio gyda’i berthynas gyda thrydydd partïon, a sut y bydd y cynllun yn trin ei berthynas gyda thrydydd partïon fel y Llywodraeth.

I have also seen the Communities, Equality and Local Government Committee report’s comments on the draft official languages scheme, which was very usefully published alongside the Bill as an annex to the explanatory memorandum. As the committee report states, there was a general consensus that it would be appropriate to set out the Assembly Commission’s duties by means of a scheme. I note, however, that the committee has made several recommendations with regard to the draft scheme. These, once again, are matters for the Commissioner to consider. However, given the close working relationship between the Assembly, the Assembly Commission and the Welsh Government, I would urge the Commission to discuss with the Government its intended response to those recommendations that deal with its relationship with third parties, and how the scheme will govern its relationship with third parties such as the Government.

3.30 p.m.

Felly, gan fod adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn dangos fod cefnogaeth i’r Bil, a chan fod y Bil yn cynnig dull rhesymol ac ymarferol o amlinellu sut y dylai’r Cynulliad  a Chomisiwn y Cynulliad ymgymryd â’r dasg o ddarparu gwasanaeth dwyieithog, gallaf gadarnhau bod y Llywodraeth yn cefnogi’r angen am y ddeddfwriaeth hon ac yn fodlon gydag egwyddorion cyffredinol y Bil.

Given, therefore, the support for the Bill evidenced by the Communities, Equality and Local Government Committee’s report, and given the fact that the Bill offers a reasonable and workable approach to setting out how the Assembly, and the Assembly Commission, should approach the task of providing a bilingual service, I am able to confirm that the Government supports the need for this legislation and is content with the Bill’s general principles.

Edrychaf ymlaen, fodd bynnag, at weld sut bydd Comisiwn y Cynulliad yn ymateb i’r argymhellion a amlinellir yn adroddiad y pwyllgor ac at ddadl bellach yn y cyfarfod llawn ynghylch y Bil pwysig hwn.

I look forward, however, to seeing how the Assembly Commission will respond to the recommendations set out in the Communities, Equality and Local Government Committee’s report and look forward to a further debate in Plenary about this important Bill.

Suzy Davies: Diolchaf i Rhodri Glyn Thomas a’r pwyllgor am eu gwaith. Yn gyntaf, fel Ceidwadwyr Cymreig, rydym yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Mae’n annioddefol meddwl y gallai deddfwrfa osod dyletswyddau cydraddoldeb a dianc rhag dyletswyddau o’r fath ei hun.

Suzy Davies:  I thank Rhodri Glyn Thomas and the committee for their work. First, as Welsh Conservatives, we support the general principles of this Bill. It is unthinkable that a legislature could set equality duties for others and avoid such duties itself.

Mae adran 1 y Bil hwn yn gwneud newid pwysig i adran 35 yn Neddf 2006. Rydym wedi colli cyfeiriadau at driniaeth gyfartal wrth gynnal trafodion y Cynulliad dim ond pan fydd yn briodol ac yn ymarferol. Mae hynny wedi cael ei ddisodli gan ofyniad absoliwt ar gyfer y ddwy iaith i gael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal, gan effeithio ar unrhyw un sy’n cymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad.

Section 1 of the Bill would make important changes to section 35 of the 2006 Act. The reference to treating the languages on the basis of equality in Assembly proceedings, so far as is appropriate and reasonably practicable, is not in the Bill. This has been replaced by an absolute requirement for both languages to be treated on the basis of equality, affecting anyone participating in Assembly proceedings.

Fodd bynnag, mae’r rhwymedigaeth gadarnach yn berthnasol i drafodion y Cynulliad yn unig, fel y’i diffinnir gan adran 1(5) Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Nid yw’n ymddangos ei fod yn gymwys i weithgareddau eraill yr Aelodau a staff y Comisiwn. Bu dadleuon y dylai’r rheolau sy’n ymwneud â Chofnod y Trafodion yn y Cyfarfod Llawn ymddangos ar wyneb y Bil, ond fy marn i yw nad oes angen gwneud hynny. Mae’r cofnod o drafodion y Cyfarfod Llawn yn cael ei gynnwys yn y diffiniad o 'drafodion y Cynulliad’, ac felly mae’n cael ei gynnwys yn awtomatig yn adran 1(2). Drwy gyfeirio ato ar wahân, gellid codi amheuaeth am statws cymharol y pwyllgorau ac is-bwyllgorau, oni bai bod y diffiniad o 'drafodion y Cynulliad’ yn cael ei newid a bod gofyniad absoliwt i drin y ddwy iaith ar y sail eu bod yn gyfartal yn cael ei wneud yn berthnasol i bob un o’r tair elfen, gan gynnwys y pwyllgorau a’r is-bwyllgorau.

However, the stronger commitment relates only to Assembly proceedings, as defined in section 1(5) of the Government of Wales Act 2006. It does not appear to apply to other activities undertaken by Members and Commission staff. There have been debates that rules relating to the Record of Proceedings of Plenary meetings should appear on the face of the Bill, but I do not believe that this is required. The record of Plenary proceedings is included in the definition of 'Assembly proceedings’ and, therefore, it is included automatically in section 1(2). Referring to it separately could cast doubts as to the comparative status of committees and sub-committees, unless the definition of 'Assembly proceedings’ is changed and that an absolute requirement for both languages to be treated on the basis of equality is applied to all three elements, including committees and sub-committees.

Os bydd y diffiniad o 'drafodion y Cynulliad’ yn cael ei gadw, gellid hyd yn oed hepgor yr is-baragraff (6) newydd yn Atodlen 2. Mae’n is-baragraff problematig a allai arwain at awgrym y gall fod eithriadau mympwyol i reol a osodir gan adran 1(2). Mae hwn wedi bod yn destun dadl sylweddol.

If the definition of 'Assembly proceedings’ is retained, the new sub-paragraph (6) in Schedule 2 could be deleted. This is a problematic sub-paragraph that could lead to a suggestion of exceptions being made on a whim to a rule set out in section 1(2). This has been the subject of some considerable debate.

Os yw adran 1(2) mewn gwirionedd yn gosod dyletswydd o driniaeth gyfartal yn nhrafodion y Cynulliad fel y’i diffinnir, mae’n ddyletswydd gyfyngedig. Mae’n rhaid gofyn pam y byddai eithriadau yn angenrheidiol. Mae llawer o weithgareddau yn y lle hwn y tu allan i’r diffiniad ac, felly, ni fyddent yn ddarostyngedig i’r rheol newydd.

If section 1(2) truly places a duty to treat the languages on the basis of quality in Assembly proceedings as defined, then it is a limited duty. We must, therefore, ask why exceptions would be necessary. Many of the activities of this place are outwith the definition and would not be subject to the new rule.

Os bydd y Comisiynydd yn ceisio darparu ar gyfer eithriadau, a derbyniaf y gallai fod rhesymeg dros eithriadau, efallai yr hoffai ystyried ailddrafftio is-baragraff (6) i adlewyrchu’r teimlad ei fod yn berthnasol i eithriadau yn hytrach na’i adael mor agored.

If the Commissioner tries to provide for exceptions, and I accept that there could be reasons for such exceptions, perhaps he would like to consider redrafting sub-paragraph (6) in order to reflect the feeling that it is relevant to exceptions, rather than leaving it so openly worded.

Efallai bydd y Comisiwn hefyd am ystyried cynnwys diffiniad am gymryd rhan yn adran 1(2), oherwydd goblygiadau cost, gyda diffiniad yn ymddangos ar wyneb y Bil yn y ffordd arferol.

Perhaps the Commission would also wish to consider defining 'participating’ in section 1(2), due to cost implications, with the definition appearing on the face of the Bill in the usual manner.

Sut mae hyn yn effeithio ar y mater o gydbwysedd rhwng y Bil a’r cynllun? Ar y naill law, os bydd y Bil yn gosod dyletswydd absoliwt, efallai y dylai fod mwy o fanylion ar wyneb y Bil ynghylch y gofyniad lleiaf i gydymffurfio â dyletswydd o’r fath. Ar y llaw arall, gallech ddadlau bod dyletswydd yn absoliwt ac yn glir, ac nad oes angen amodau pellach yn y Bil neu’r cynllun. Yn anffodus, ni all y Bil fel ag y mae benderfynu. Mae adran 2(2)(5) y Bil yn dyfynnu dwy esiampl y mae’n rhaid i’r cynllun roi sylw iddynt. Nid yw’r geiriad a awgrymir ar gyfer adran 2(2)(5) yn datrys dim. Mae’n dweud bod yn rhaid i’r cynllun wneud darpariaeth; mae’n rhaid iddo ystyried a dweud rhywbeth. Nid yw’n pennu gofyniad sylfaenol i ddangos triniaeth gyfartal. Nid yw’n dweud y dylai cyfieithu cydamserol, dwyffordd fod yn orfodol er enghraifft. Nid wyf yn dadlau bod yn rhaid iddo ddweud hynny, ond mae’n dal yn agored i’r cynllun wneud darpariaeth ar gyfer rhywbeth yn nhair elfen trafodion y Cynulliad. Mae hyn yn siomedig, ond mae’n dangos cydraddoldeb o leiaf.

How does this impact upon the issue of balance between the Bill and the scheme. On the one hand, if the Bill places an absolute duty, then perhaps there should be more details on the face of the Bill regarding the minimum requirements in terms of compliance with such a duty. On the other hand, you could argue that a duty is absolute and clearly set out and that further conditions, therefore, are not required in the Bill or the scheme. Unfortunately, the Bill, as currently worded, cannot decide. Section 2(2)(5) of the Bill quotes two examples that the scheme would have to cover. The wording suggested for section 2(2)(5) solves nothing. It states that the scheme must include provision; it must consider matters and make a statement. It does not set out a fundamental requirement to ensure equality of treatment. It does not say that simultaneous translation of both languages should be mandatory, for example. I am not arguing that this should be included, but it is still open for the scheme to make provision in relation to the three elements of Assembly proceedings. This is disappointing, but it at least reflects equality.

Efallai mai hyn oedd y bwriad wrth gwrs, ond nid yw hynny’n ddigon clir. Os yw’n golygu gosod gofynion lleiaf ar gyfer cydymffurfio â dyletswydd absoliwt o ran trafodion y Cynulliad, nid yw’n cyflawni hynny. Fodd bynnag, os taw’r bwriad yn syml yw sicrhau bod y cynllun yn ystyried elfennau penodol sy’n berthnasol i gyfrifoldeb dwyieithog ehangach y Comisiwn, heb fod yn argymhellol, pam dewis dim ond y ddau? Gellid dadlau bod rhai o’r awgrymiadau eraill a ystyriwyd gan y pwyllgor yn haeddu lle ar wyneb y Bil. Beth bynnag yw bwriadau’r Bil, mae’n rhaid i’r Comisiynydd fod yn ymatebol i ystyriaethau ymarferol amseru, rheoli disgwyliadau a dod o hyd i arian i weithredu’r amcanion. Ni, ac nid y Comisiwn, all wneud y gwahaniaeth.

This may well have been the intention of course, but that is not set out clearly enough. If it means placing minimum requirements for compliance with an absolute duty in terms of Assembly proceedings, then it does not achieve its aim. However, if the aim is simply to ensure that the scheme considers specific elements that are relevant to the Commission’s wider responsibilities in terms of bilingualism, without being recommendatory, why choose only two? One could argue that some of the other suggestions considered by the committee deserve their place on the face of the Bill. Whatever the intentions of the Bill, the Commissioner must be responsive to the practical requirements in terms of timings, managing expectations and finding the money to implement the objectives. It is us, and not the Commission, that can make a difference.

Mike Hedges: First, I echo most of Leighton Andrews’s comments. As a member of the Communities, Equality and Local Government Committee, which has been scrutinising the Bill, I speak in favour of it, but I would like to highlight some of the recommendations. First, the Bill supports the principle of one country and two official languages. The Bill’s general principles had almost unanimous support both from witnesses and members of the wider public with whom I have discussed it. There is a need for the Bill to make provision for the use of the Welsh and English languages in the proceedings of the National Assembly, and by the Assembly Commission, but the committee felt that we did not want to turn the National Assembly into a free translation service for the rest of Wales—when an organisation who wished to send something in English would do so because the National Assembly for Wales would translate it. The committee did not see that as a role, and I do not think that this body would see that as a role either.

Mike Hedges: Yn gyntaf, ategaf y rhan fwyaf o sylwadau Leighton Andrews. A minnau'n aelod o'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, sydd wedi bod yn craffu ar y Bil, yr wyf yn siarad o'i blaid, ond hoffwn dynnu sylw at rai o'r argymhellion. Yn gyntaf, mae'r Bil yn cefnogi'r egwyddor bod gennym un wlad a dwy iaith swyddogol. Cafodd egwyddorion cyffredinol y Bil gefnogaeth unfrydol, fwy neu lai, gan y tystion a chan aelodau'r cyhoedd ehangach yr wyf wedi'i drafod â hwy. Mae angen i'r Bil ddarparu ar gyfer defnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol, a chan Gomisiwn y Cynulliad, ond teimlai'r pwyllgor nad oeddem am droi'r Cynulliad Cenedlaethol yn wasanaeth cyfieithu di-dâl i weddill Cymru—lle byddai corff a ddymunai anfon rhywbeth yn Saesneg yn gwneud hynny oherwydd y byddai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei gyfieithu. Ni welai'r pwyllgor mai gwaith Cynulliad oedd hynny, ac ni chredaf y byddai'r corff hwn yn meddwl hynny ychwaith.

Recommendation 2 states that the Commission should bring forward suitably worded amendments to ensure that the scheme must include, but not limit itself, to provision relating to the following: simultaneous translation from one language to another and a fully bilingual Record of Proceedings. An assumption appears to exist that people choose to speak Welsh or English and that most people are fluent in both, so they are making a choice. That is not my experience and I will give you two short anecdotes that reflect that. First, a retired headteacher of a Welsh-medium school who was conducting a bilingual service in a chapel I attended recently needed to ask a member of the diaconate for the English translation of a word. This person is highly educated, having made his way right through the education system. Secondly, a constituent of mine wished to make a complaint in Welsh because that was the only way in which they could fully express themselves and describe their problem. There are people for whom Welsh is not a language of choice; it is the language that they have to use because it is the language in which they feel most able to express themselves. If this is true in Swansea East, it is true of other constituencies throughout Wales. It is important that the translation is there for those people who find it easier to read and understand things in Welsh. I do not drift into the Commissioner’s constituency too much, but there are a number of people I know in the Amman valley who find it easier when things are written and spoken in Welsh than when people talk and write to them in English.

Dywed Argymhelliad 2 y dylai'r Comisiwn gyflwyno gwelliannau sydd wedi'u geirio'n briodol i sicrhau ei bod yn rhaid i'r cynllun gynnwys, heb gyfyngu ei hun i hynny, darpariaeth sy'n ymwneud â'r canlynol: cyfieithu ar y pryd o'r naill iaith i'r llall a Chofnod y Trafodion sy'n gwbl ddwyieithog. I bob golwg, mae rhai'n rhyw dybio bod pobl yn dewis siarad Cymraeg neu Saesneg a bod y rhan fwyaf o bobl yn rhugl yn y ddwy iaith, ac mai mater o ddewis yw hi. Nid dyna fy mhrofiad i ac adroddaf ddwy stori fach ichi sy'n dangos hynny. Yn gyntaf, roedd pennaeth ysgol cyfrwng Cymraeg a oedd wedi ymddeol yn cynnal gwasanaeth dwyieithog mewn capel y bûm ynddo'n ddiweddar a bu'n rhaid iddo ofyn i un o'r diaconiaid gyfieithu gair i'r Saesneg. Mae'r unigolyn hwn wedi cael addysg dda, wedi dilyn y system addysg i'w phen draw. Yn ail, roedd rhywun yn fy etholaeth am gwyno yn Gymraeg oherwydd mai dyna'r unig ffordd yr oedd yn gallu mynegi ei hun a disgrifio'i broblem. Nid dewis iaith yw'r Gymraeg i rai pobl ond yr iaith y mae'n rhaid iddynt ei defnyddio oherwydd mai dyna'r iaith sy'n dod hawsaf iddynt wrth fynegi eu hunain. Os yw hyn yn wir yn Nwyrain Abertawe, mae'n wir am etholaethau eraill ledled Cymru. Mae'n bwysig bod y cyfieithiad yno i bobl sy'n ei chael hi'n haws darllen a deall pethau yn Gymraeg. Anaml y byddaf yn crwydro i etholaeth y Comisiynydd, ond mae nifer o bobl yr wyf yn eu hadnabod yn nyffryn Aman sy'n ei chael yn haws pan fydd pethau'n cael eu hysgrifennu a'u dweud yn Gymraeg na phan fydd pobl yn siarad Saesneg â hwy ac yn ysgrifennu atynt yn Saesneg.

Recommendation 2 goes on to call for a system of categorising which other documents should be published in both languages. Again, this is intended to protect the Assembly from becoming the all-Wales translation service with huge costs involved. Recommendation 2 also calls for a corporate action plan, noting specific targets, timescales and responsibilities, a set of key performance indicators and a bilingual skills strategy. Recommendation 7 says that, if you cannot do that

Mae argymhelliad 2 yn mynd rhagddo i alw am drefn sy'n categoreiddio pa ddogfennau eraill y dylid eu cyhoeddi yn y ddwy iaith. Unwaith eto, bwriad hyn yw gwarchod y Cynulliad rhag dod yn wasanaeth cyfieithu i Gymru gyfan a'r costau enfawr a fyddai ynghlwm wrth hynny. Mae argymhelliad 2 yn galw hefyd am gynllun gweithredu corfforaethol, sy'n nodi targedau penodol, amserlenni a chyfrifoldebau, set o ddangosyddion perfformiad allweddol a strategaeth sgiliau dwyieithog. Dywed argymhelliad 7, oni allwch wneud hynny

'For the avoidance of doubt, we strongly recommend that, if the Commission is not minded to amend the Bill as suggested in Recommendation 2, the Scheme should be amended to incorporate an action plan and targets that will allow the scheme to be effectively monitored and scrutinised’.

'Fel nad oes unrhyw amheuaeth, rydym yn argymell yn gryf y dylid diwygio'r Cynllun i gynnwys cynllun gweithredu a thargedau a fydd yn galluogi i'r Cynllun gael ei fonitro’n effeithiol a bod gwaith craffu effeithiol arno, os nad yw'r Comisiynydd yn bwriadu diwygio'r Bil fel yr awgrymir yn Argymhelliad 2'.

I am one of those people that believes that unless you have targets or something with which to check against, it is impossible to monitor and say whether or not it is working effectively. Without that, people will say that it is, and it is difficult to argue against that.

Rwyf fi'n un o'r bobl hynny'n sy'n credu, oni fydd gennych dargedau neu rywbeth i'w cymharu â hwy, ei bod yn amhosibl monitro a dweud a yw'r drefn yn gweithio'n effeithiol neu beidio. Heb hynny, bydd pobl yn dweud ei fod, ac mae'n anodd dadlau yn erbyn hynny.

Finally, I wish to highlight recommendation 20, which says

Yn olaf, rwyf am dynnu sylw at argymhelliad 20, sy'n dweud

'We therefore strongly recommend that, whatever approach the Assembly Commission decides to pursue with the Bill and Scheme, it should ensure that adequate funds are identified and committed to deliver the objectives and commitments they contain.’

'Felly, rydym yn argymell yn gryf y dylai Comisiwn y Cynulliad, pa ddull bynnag y mae'n penderfynu ei ddefnyddio ar gyfer y Bil a'r Cynllun, sicrhau bod digon o arian ar gael ac wedi'i ymrwymo i fodloni'r amcanion a'r ymrwymiadau sydd ynddynt.'

I have spent a long time in local government, where you are first told that you do not want to do it; when you say that you want to do it, you are told 'You haven’t got the money for it’; and when you say that you will find the money for it, you are told that there may be some legal difficulties in carrying it out. I do not want to hear that we cannot do this because of a lack of money. I fully support the aim of the Bill, and I believe that addressing the issues that I have raised here will improve it. It is important that the people of Wales feel that we believe that both languages are equal.

Rwyf wedi treulio cryn amser mewn llywodraeth leol. Yno, dywedir wrthych yn gyntaf nad ydych am wneud rhywbeth; a phan ddywedwch eich bod, dywedir wrthych 'Does gennych chi mo'r arian i wneud hynny'; a phan ddywedwch y dewch o hyd i'r arian ar ei gyfer, dywedir wrthych y gall fod rhywfaint o anawsterau cyfreithiol i'ch rhwystro. Nid wyf am glywed na allwn wneud hyn oherwydd prinder arian. Rwy'n llwyr gefnogi nod y Bil, ac rwy'n credu y bydd mynd i'r afael â'r materion yr wyf wedi'u codi yma yn ei wella. Mae'n bwysig bod pobl Cymru yn teimlo ein bod yn credu bod y ddwy iaith yn gydradd.

Bethan Jenkins: Diolch i Ann Jones am gyflwyno’r hyn roedd y pwyllgor wedi ei gymeradwyo, a diolch hefyd i’r staff sydd wedi helpu i ysgrifennu’r ddogfen gynhwysfawr hon ar ein rhan.

Bethan Jenkins: I thank Ann Jones for presenting what the committee has endorsed and I also thank those staff who have assisted in drafting this comprehensive document on our behalf.

I ddechrau, mae’n bwysig iawn inni ddangos esiampl fel Cynulliad Cenedlaethol o’r hyn y buasem yn disgwyl i gyrff eraill ei weithredu yng Nghymru. Ddoe ddiwethaf, er enghraifft, dywedodd BMA Cymru nad nawr yw’r amser i osod mwy o amodau arno o ran yr iaith Gymraeg, gan ein bod ni mewn cyfnod o doriadau economaidd. Os yw cyrff fel y BMA yng Nghymru yn mynd i gwestiynu'r hyn sydd angen ei wneud o ran yr iaith Gymraeg ac yn gweld wedyn ein bod ni’n glastwreiddio’r hyn sy’n digwydd yn y Comisiwn, pa fath o esiampl rydym ni fel Cynulliad yn ei gosod iddynt? Felly, rwyf yn credu y dylem gael y drafodaeth hon yng nghyd-destun y ffaith y bydd pobl yn disgwyl i’r Comisiwn a’r Senedd hon fod yn gryf iawn ar y mater hwn.

First, it is very important that we as a National Assembly set an example for other organisations in Wales of how we would expect them to act. Only yesterday, for example, BMA Wales said that now is not the time to place more conditions on it in respect of the Welsh language, given that we are in a period of economic cuts. If bodies such as the BMA here in Wales are questioning what needs to be done in relation to the Welsh language and they then see that we are diluting what is happening in the Commission, what kind of an example are we setting as an Assembly? Therefore, I think that we should hold this discussion in the context of the fact that people will expect the Commission and this Senedd to take a robust stance on this issue.

Dyna pam rwyf y