By continuing to use our site, you are agreeing for us to set a small number of cookies. Cookie policy

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Cofnod y Trafodion
The Record of Proceedings

Dydd Mawrth, 8 Mai 2012
Tuesday, 8 May 2012.

Cynnwys
Contents.

Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Questions to the First Minister

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Business Statement and Announcement

Datganiad: Cyflog Rhanbarthol
Statement: Regional Pay

Datganiad: Tai Gwag
Statement: Empty Homes

Datganiad: Blaenoriaethau Cyllido’r UE ar gyfer y Dyfodol
Statement: Future EU Funding Priorities

Gorchymyn Personau Cydnabyddedig (Cosbau Ariannol) (Penderfynu Trosiant) (Cymru) 2012
The Recognised Persons (Monetary Penalties) (Determination of Turnover) (Wales) Order 2012

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Darpariaeth Ranbarthol) (Cymru) 2012
The Mental Health (Regional Provision) (Wales) Regulations 2012

Cynnig Cydsyniad ar Orchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012
Consent Motion on the British Waterways Board (Transfer of Functions) Order 2012

Cynnig i Atal y Rheolau Sefydlog
Motion to Suspend Standing Orders

Cynnig i Ddiwygio Rheol Sefydlog Rhif 12 mewn perthynas â Chwestiynau Llafar
Motion to Revise Standing Order No. 12 in relation to Oral Questions

Yn y golofn chwith, cofnodwyd y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y Siambr. Yn y golofn dde, cynhwyswyd cyfieithiad.
In the left-hand column, the proceedings are recorded in the language in which they were spoken in the Chamber. In the right-hand column, a translation has been included.

Cyfarfu’r Cynulliad am 1.30 p.m. gyda’r Llywydd (Rosemary Butler) yn y Gadair.
The Assembly met at 1.30 p.m. with the Presiding Officer (Rosemary Butler) in the Chair.

The Record

Y Llywydd: Galwaf Gynulliad Cenedlaethol Cymru i drefn.

The Presiding Officer: I call the National Assembly for Wales to order.

Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Questions to the First Minister

The Record

Gwasanaethau Cyhoeddus

Public Services

1. Jenny Rathbone: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei gynlluniau i wella ansawdd gwasanaethau cyhoeddus a pha mor ymatebol ydynt. OAQ(4)0500(FM)

1. Jenny Rathbone: Will the First Minister outline his plans for improving the quality and responsiveness of public services. OAQ(4)0500(FM)

The First Minister (Carwyn Jones): As set out in the programme for government, we are committed to supporting the delivery of effective and efficient public services that meet the needs of people in Wales.

Y Prif Weinidog (Carwyn Jones): Fel y nodir yn y rhaglen lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac effeithlon sy’n diwallu anghenion pobl yng Nghymru.

Jenny Rathbone: With at least 10 local authorities now Labour-controlled, what plans does the First Minister have to ensure that local authorities work closely with the Welsh Government to ensure that services really do see that step change and improvement that we have all been waiting for?

Jenny Rathbone: Gydag o leiaf 10 o awdurdodau lleol bellach o dan reolaeth Llafur, pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau’n gweld y newid sylweddol a’r gwelliant hwnnw y bûm i gyd yn aros amdano yn amlwg iawn?

The First Minister: Collaboration is a critical part of our reform agenda, and we need to ensure that local authorities continue to look to work together to deliver services more regionally and services that are better for their communities.

Y Prif Weinidog: Mae cydweithio yn rhan hanfodol o’n hagenda diwygio, ac mae angen sicrhau bod awdurdodau lleol yn parhau i gydweithio i ddarparu gwasanaethau mwy rhanbarthol a gwasanaethau sy’n well i’w cymunedau.

Nick Ramsay: The First Minister will be aware that ambulance response times continue to be an ongoing worry for people across Wales, in areas where Labour is in control and where it is not. There have been some instances recently of ambulances being unavailable in Wales but available across the border, including a notable example in my constituency when ambulances were available in Herefordshire in England. How does your Government propose to encourage greater cross-border co-operation between the Welsh and English ambulance services, particularly when your Government is making a 6% cut to the ambulance budget?

Nick Ramsay: Gŵyr y Prif Weinidog fod amseroedd ymateb ambiwlansys yn dal i beri pryder parhaus i bobl ledled Cymru, mewn ardaloedd lle mae Llafur mewn rheolaeth ac mewn ardaloedd lle nad ydyw. Cafwyd rhai achosion yn ddiweddar lle nad oedd ambiwlansys ar gael yng Nghymru ond roeddynt ar gael ar draws y ffin, gan gynnwys enghraifft nodedig yn fy etholaeth pan roedd ambiwlansys ar gael yn Swydd Henffordd yn Lloegr. Sut mae eich Llywodraeth yn bwriadu annog mwy o gydweithio trawsffiniol rhwng gwasanaethau ambiwlans Cymru a Lloegr, yn enwedig pan fo eich Llywodraeth yn gwneud toriad o 6% yn y gyllideb ambiwlans?

The First Minister: All that I can say is that our performance is certainly better than the target that we put in place. We know full well that people in Wales are generally very happy with how the health service in Wales is being protected, as we saw last week.

Y Prif Weinidog: Y cyfan y gallaf ei ddweud yw bod ein perfformiad yn sicr yn well na’r targed a bennwyd gennym. Gwyddom yn dda fod pobl yng Nghymru yn dra bodlon yn gyffredinol gyda’r ffordd y mae’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cael ei warchod, fel y gwelsom yr wythnos diwethaf.

Simon Thomas: Un ardal lle nad yw pobl yn hapus yw ardal Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, gyda’r cynlluniau am wasanaethau brys yno. Byddwch wedi gweld cynlluniau amgen yr ymgyrch Sospan yn Llanelli, sy’n chwilio am gefnogaeth i gadw gwasanaeth brys ym mhob un o ysbytai ardal bwrdd Hywel Dda. A wnewch chi annog y bwrdd i ystyried yn llawn y cynlluniau amgen hyn gan ymgyrch Sospan cyn gweithredu?

Simon Thomas: One area where people are not happy is the Hywel Dda Local Health Board Area, given the proposals for emergency services there. You will have seen the alternative proposals made by the SOSPPAN campaign in Llanelli, which is seeking support to keep emergency services at every one of the hospitals in the Hywel Dda board area. Will you encourage the board to consider fully the SOSPPAN campaign’s alternative proposals before acting?

Y Prif Weinidog: Byddwn yn erfyn ar y bwrdd i ystyried unrhyw gynlluniau ymarferol cyn dod i gasgliadau am ddyfodol y gwasanaeth.

The First Minister: I would urge the board to consider any practical proposals before coming to any conclusions about the future of the service.

The Record

Blaenoriaethau Deddfwriaethol

Legislative Priorities

2. Andrew R.T. Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau deddfwriaethol ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru dros y misoedd nesaf. OAQ(4)0495(FM)

2. Andrew R.T. Davies: Will the First Minister make a statement on his legislative priorities for the South Wales Central region in the coming months. OAQ(4)0495(FM)

The First Minister: I set out my Government’s legislative priorities for the whole of Wales in the Welsh Government’s five-year legislative statement last July.

Y Prif Weinidog: Rwyf wedi nodi blaenoriaethau deddfwriaethol fy Llywodraeth ar gyfer Cymru gyfan yn natganiad deddfwriaethol pum mlynedd Llywodraeth Cymru fis Gorffennaf diwethaf.

Andrew R.T. Davies: Thank you, First Minister, for that answer. You are shortly to publish a piece of legislation on food hygiene, I believe. You commissioned the Food Standards Agency to undertake a report into food hygiene services here in Wales, and that report has been with you since December last year. To inform that piece of legislation, will you publish the findings of that report so that Members and the general public can see the Food Standard Agency’s findings?

Andrew R.T. Davies: Diolch, Brif Weinidog, am yr ateb hwnnw. Credaf y byddwch yn cyhoeddi darn o ddeddfwriaeth ar hylendid bwyd cyn bo hir. Gwnaethoch gomisiynu’r Asiantaeth Safonau Bwyd i lunio adroddiad ar wasanaethau hylendid bwyd yma yng Nghymru, ac mae’r adroddiad hwnnw yn eich meddiant ers mis Rhagfyr y llynedd. Er mwyn llywio’r darn hwnnw o ddeddfwriaeth, a wnewch chi gyhoeddi canfyddiadau’r adroddiad hwnnw fel y gall Aelodau a’r cyhoedd yn gyffredinol weld canfyddiadau’r Asiantaeth Safonau Bwyd?

The First Minister: Yes. It is the FSA’s report, and it wanted to look much more widely at the issue of food standards. I expect its work to inform the Bill itself when it is introduced in a few months.

Y Prif Weinidog: Gwnaf. Adroddiad yr asiantaeth ydyw, ac roedd am edrych yn llawer ehangach ar safonau bwyd.  Rwyf yn disgwyl i’w waith lywio’r Bil ei hun pan gaiff ei gyflwyno mewn ychydig fisoedd.

Christine Chapman: I welcome the priority given by the Welsh Government to improving school standards and performance in education here in Wales. A pioneering programme by Save the Children to support parents in partnering with schools in their communities to ensure that children thrive has been a great success in my own constituency. Perthcelyn Community Primary School is one of the first schools in Wales to benefit from FAST, the Families and Schools Together programme. Do you agree that programmes such as that are important, not only to improve children’s academic performance, but also to support children and parents to learn together, providing parents with the skills, the confidence and the resources to help with their child’s learning?

Christine Chapman: Croesawaf y flaenoriaeth a roddir gan Lywodraeth Cymru i wella safonau ysgol a pherfformiad mewn addysg yma yng Nghymru. Bu rhaglen arloesol gan Achub y Plant i gefnogi rhieni i lunio partneriaethau ag ysgolion yn eu cymunedau i sicrhau bod plant yn ffynnu yn llwyddiant mawr yn fy etholaeth i. Ysgol Gynradd Gymunedol Perthcelyn yw un o’r ysgolion cyntaf yng Nghymru i elwa ar FAST, sef y rhaglen Teuluoedd ac Ysgolion Gyda’n Gilydd. A ydych yn cytuno bod rhaglenni fel hyn yn bwysig, nid yn unig i wella perfformiad academaidd plant, ond hefyd i gefnogi plant a rhieni i ddysgu gyda’i gilydd, gan roi’r sgiliau, yr hyder a’r adnoddau i rieni helpu eu plentyn i ddysgu?

The First Minister: We understand that several local authorities are engaging with the programme, and we look forward to seeing evidence of its effectiveness in improving outcomes. Once that evidence is available, we will give it our fullest consideration.

Y Prif Weinidog: Gwyddom fod nifer o awdurdodau lleol yn ymwneud â’r rhaglen, ac edrychwn ymlaen at weld tystiolaeth o’i heffeithiolrwydd o ran gwella canlyniadau. Unwaith y bydd y dystiolaeth honno ar gael, byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn iddi.

The Record

Eluned Parrott: First Minister, I understand that a heritage and historic environment Bill is to be one of your legislative priorities for this term, which I hope will have a positive impact on communities in South Wales Central, and particularly the campaign to preserve Llanishen reservoir in Cardiff. I have proposed a Member-proposed Bill on the subject, as you may be aware, but will you agree to include protection for such historic reservoirs in your Bill?   

Eluned Parrott: Brif Weinidog, gwn y bydd Bil ynghylch treftadaeth a’r amgylchedd hanesyddol yn un o’ch blaenoriaethau deddfwriaethol ar gyfer y tymor hwn, ac rwyf yn gobeithio y bydd yn effeithio’n gadarnhaol ar gymunedau yng Nghanol De Cymru, yn enwedig ar yr ymgyrch i ddiogelu cronfa ddŵr Llanisien yng Nghaerdydd. Rwyf wedi cynnig Bil arfaethedig Aelod ar y pwnc, fel y gwyddoch efallai, ond a fyddwch yn cytuno i gynnwys gwarchodaeth ar gyfer cronfeydd dŵr hanesyddol o’r fath yn eich Bil?

The First Minister: Extending the level of protection is very much at the heart of the Bill, and we will look at any practical proposals to ensure that it delivers what is intended.  

Y Prif Weinidog: Mae ymestyn lefel y warchodaeth yn bendant wrth wraidd y Bil, a byddwn yn ystyried unrhyw gynigion ymarferol i sicrhau ei fod yn cyflawni’r hyn a fwriedir.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Questions Without Notice from the Party Leaders

The Leader of the Opposition (Andrew R.T. Davies): First Minister, will local health boards enjoy the same flexibility in their budgets in this financial year as they did in the last financial year?

Arweinydd yr Wrthblaid (Andrew R.T. Davies): Brif Weinidog, a fydd byrddau iechyd lleol yn mwynhau’r un hyblygrwydd yn eu cyllidebau yn y flwyddyn ariannol hon ag y gwnaethant yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf?

The First Minister: Local health boards have more or less met their targets, and we very much welcome and praise the work that they have done to meet those targets. That contrasts with the situation in England, where the appropriate authorities are a long way from reaching their targets.

Y Prif Weinidog: Mae byrddau iechyd lleol fwy neu lai wedi cyrraedd eu targedau, ac rydym yn croesawu’n gynnes ac yn canmol y gwaith y maent wedi ei wneud i gyrraedd y targedau hynny. Mae hynny’n groes i’r sefyllfa yn Lloegr, lle mae’r awdurdodau priodol yn bell o gyrraedd eu targedau.

Andrew R.T. Davies: It was a relatively simple question, First Minister: will local health boards have the same flexibility in their budgets this year as they enjoyed last year? I am not quite sure why we have to look at England. You are not responsible for the health service in England. This is questions to the First Minister. Ultimately, I am just seeking an answer from you on whether the same budgetary responsibility will be placed on local health boards, and whether they will enjoy the same flexibility in this financial year as they enjoyed in the last financial year.

Andrew R.T. Davies: Roedd yn gwestiwn cymharol syml, Brif Weinidog: a fydd byrddau iechyd lleol yn cael yr un hyblygrwydd yn eu cyllidebau eleni ag y gwnaethant eu mwynhau y llynedd? Nid wyf yn siŵr pam y mae’n rhaid i ni edrych ar Loegr. Nid ydych yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd yn Lloegr. Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw’r rhain. Yn y pen draw, rwyf yn ceisio cael ateb gennych ynghylch a fydd yr un cyfrifoldeb cyllidebol yn cael ei osod ar fyrddau iechyd lleol, ac a fyddant yn mwynhau’r un hyblygrwydd yn y flwyddyn ariannol hon ag y gwnaethant ei fwynhau yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

The First Minister: We expect local health boards to meet their targets. Where a situation arises in which a small amount of money—when compared with their entire budget—has to be found, we will see what we can do to help them. However, the message is that we expect local health boards to be within their targets.

Y Prif Weinidog: Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd lleol gwrdd â’u targedau. Pan fydd sefyllfa’n codi lle y mae’n rhaid dod o hyd i swm bach o arian—o’i gymharu â’u holl gyllideb—byddwn yn ystyried beth y gallwn ei wneud i’w helpu. Fodd bynnag, y neges yw ein bod yn disgwyl i fyrddau iechyd lleol fod o fewn eu targedau.

Andrew R.T. Davies: I take from your answer that there will be end-of-year flexibility for local health boards, because that is what three health boards have had this year, despite the Minister for health’s assurance to us that there would be no additional money and that health boards would come in on budget. We have pointed out to you for the past 18 months that the health service in Wales has been starved of cash by your Government, and what we have been warning you about has come true. However, health boards, patients and clinicians need to know. With the budget allocations that they have, will they be able to bring forward money from next year’s financial settlement to balance the books, or will your Minister for health’s writ run this time so that they have to come within the budget that they have been given for this financial year?

Andrew R.T. Davies: Rwyf yn cymryd o’ch ateb y bydd hyblygrwydd diwedd blwyddyn i fyrddau iechyd lleol, oherwydd dyna gafodd tri bwrdd iechyd eleni, er gwaethaf addewid y Gweinidog dros iechyd i ni na fyddai unrhyw arian ychwanegol ac y byddai byrddau iechyd yn aros o fewn eu cyllidebau. Rydym wedi dweud wrthych dros y 18 mis diwethaf bod eich Llywodraeth wedi amddifadu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru o arian, a daeth y rhybudd hwnnw yn wir. Fodd bynnag, mae angen i fyrddau iechyd, cleifion a chlinigwyr gael wybod. Gyda’r dyraniadau cyllideb sydd ganddynt, a fyddant yn gallu cymryd arian o setliad y flwyddyn ariannol nesaf i fantoli’r cyfrifon, neu a fydd eich Gweinidog dros iechyd yn cadw at ei gair y tro hwn fel eu bod yn gorfod aros o fewn y gyllideb a roddwyd iddynt ar gyfer y flwyddyn ariannol hon?

The First Minister: Given the financial settlement that we have received from Whitehall, times have been tough. I very much welcome what the local health boards have done to meet their targets, but the leader of the opposition cannot have it both ways. On the one hand, he comes into the Chamber and demands more money for health, but when money is found he complains about that as well. The reality is that he is interested only in politics and not in health. He was found out last week.

Y Prif Weinidog: O ystyried y setliad ariannol a gawsom gan Whitehall, bu amseroedd yn anodd. Rwyf yn croesawu’n fawr yr hyn a wnaeth byrddau iechyd lleol i gyrraedd eu targedau, ond ni all arweinydd yr wrthblaid ei chael hi bob ffordd. Ar y naill law, daw i’r Siambr a mynnu mwy o arian ar gyfer iechyd, ond pan geir hyd i arian, mae’n cwyno am hynny hefyd. Y gwir amdani yw mai dim ond mewn gwleidyddiaeth y mae ganddo ddiddordeb, ac nid iechyd. Canfuwyd y gwir amdano yr wythnos diwethaf.

The Leader of Plaid Cymru (Leanne Wood): First Minister, your colleague, Michael Meacher, made a good point when he said that

Arweinydd Plaid Cymru (Leanne Wood): Brif Weinidog, gwnaeth eich cydweithiwr, Michael Meacher, bwynt da pan ddywedodd:

'Duncan Smith’s welfare conundrum is that wages and incentives at the bottom are too low, not benefits too high’.

Penbleth Duncan Smith am les yw bod cyflogau a chymhellion ar y gwaelod yn rhy isel, nid bod budd-daliadau yn rhy uchel.

Do you agree with him?

A ydych yn cytuno ag ef?

The First Minister: Yes. The reality of the situation is that we should seek to improve people’s pay and conditions, not to destroy them or ensure that people are in a worse position, as per the UK Government’s proposals for regional pay.

Y Prif Weinidog: Ydw. Y gwir amdani yw y dylem geisio gwella cyflog ac amodau pobl, nid eu dinistrio neu sicrhau bod pobl mewn sefyllfa waeth, fel y mae cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer cyflogau rhanbarthol yn ei wneud.

Leanne Wood: Thank you, First Minister, and I agree with that. You stated in your 2011 manifesto that you would

Leanne Wood: Diolch i chi, Brif Weinidog, ac rwyf yn cytuno â hynny. Dywedasoch yn yn eich maniffesto 2011 y byddech yn

'Work with trade unions, employers and other stakeholders to explore ways of ensuring a living wage for every worker in Wales, given that low pay is a significant problem for many families and the challenges of in-work poverty remain.’

'Gweithio gydag undebau llafur, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill i archwilio ffyrdd o sicrhau cyflog byw i bob gweithiwr yng Nghymru, o ystyried bod cyflog isel yn broblem sylweddol i lawer o deuluoedd a bod heriau tlodi mewn gwaith yn parhau.’

Given that that was a pledge in your Assembly election manifesto, why has Save the Children had to launch a petition today calling for you to apply for accreditation as a living wage employer and to campaign for a living wage throughout Wales?

O ystyried bod hynny’n addewid yn eich maniffesto etholiad Cynulliad, pam y bu’n rhaid i Achub y Plant lansio deiseb heddiw yn galw arnoch i wneud cais am achrediad fel cyflogwr cyflog byw ac i ymgyrchu dros gyflog byw ledled Cymru?

The First Minister: We will continue to look at the living wage pledge over the course of our term in Government. We certainly want to see a living wage being introduced in Wales, and we are examining ways of how that might be done.

Y Prif Weinidog: Byddwn yn parhau i edrych ar yr addewid cyflog byw yn ystod ein cyfnod fel Llywodraeth. Rydym yn sicr am weld cyflog byw yn cael ei gyflwyno yng Nghymru, ac rydym yn edrych ar ffyrdd y gellid gwneud hynny.

Leanne Wood: You are 'continuing to look at it’ or 'examining ways’. First Minister, last week’s indicators show that the gap between the rich and poor continues to grow. The Scottish Government, under Alex Salmond’s leadership, has announced a living wage of £7.20 per hour for every Government employee as well as every SNP-run council in Scotland. The economic and social benefits of a living wage are obvious and it need not cost.  What is this Government doing to ensure that every worker in Wales gets a living wage? A living wage could help with the growing problem of child poverty, so why is it not a greater priority for you, First Minister?

Leanne Wood: Rydych yn 'parhau i edrych arno’ neu’n 'archwilio ffyrdd’. Brif Weinidog, roedd dangosyddion yr wythnos diwethaf yn tynnu sylw at y ffaith bod y bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd yn parhau i dyfu. Mae Llywodraeth yr Alban, o dan arweinyddiaeth Alex Salmond, wedi cyhoeddi cyflog byw o £7.20 yr awr i bawb sy’n gweithio i’r Llywodraeth yn ogystal â phob cyngor a gaiff ei redeg gan yr SNP yn yr Alban. Mae manteision economaidd a chymdeithasol cyflog byw yn amlwg ac nid oes angen iddynt gostio unrhyw beth.  Beth y mae’r Llywodraeth hon yn ei wneud i sicrhau bod pob gweithiwr yng Nghymru yn cael cyflog byw? Gallai cyflog byw helpu gyda’r broblem gynyddol o dlodi plant, felly pam nad yw’n fwy o flaenoriaeth i chi, Brif Weinidog?

The First Minister: Our priority is to ensure that people in Wales are paid properly for the job that they do. That means opposing regional pay, which Plaid Cymru supports wholeheartedly—and that without the support of any trade union. We will continue to stand up for those people who work hard in our public sector in Wales and who deserve to be paid as much as people elsewhere in the UK for doing the same job. It is a shame that Plaid Cymru has sought to undermine that principle.

Y Prif Weinidog: Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael cyflog priodol am y gwaith y maent yn ei wneud. Mae hynny’n golygu gwrthwynebu cyflogau rhanbarthol, sy’n rhywbeth y mae Plaid Cymru yn ei gefnogi’n llwyr—a hynny heb gefnogaeth unrhyw undeb llafur. Byddwn yn parhau i sefyll dros y bobl hynny sy’n gweithio’n galed yn ein sector cyhoeddus yng Nghymru ac sy’n haeddu cael eu talu cymaint â phobl mewn mannau eraill yn y DU am wneud yr un swydd. Mae’n drueni bod Plaid Cymru wedi ceisio tanseilio’r egwyddor honno.

The Leader of the Welsh Liberal Democrats (Kirsty Williams): First Minister, three of the seven health boards have not met their statutory obligation to break even at the end of the financial year. Last year, the Minister for Health and Social Services said that,

Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (Kirsty Williams): Brif Weinidog, nid yw tri o’r saith bwrdd iechyd wedi cyflawni eu rhwymedigaeth statudol i fantoli’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Y llynedd, dywedodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol,

'Year on year, at the end of the year, they have always had to be bailed out…I have had to spell out very clearly that they must come in on financial target this year…they have to hit their financial targets.’

'O flwyddyn i flwyddyn, ar ddiwedd y flwyddyn, maent bob amser wedi cael eu hachub...Rwyf wedi gorfod sillafu allan yn glir iawn fod yn rhaid iddynt ddod i mewn ar darged ariannol eleni...mae’n rhaid iddynt gyrraedd eu targedau ariannol.’

Why, then, has the Minister for health authorised what everyone knows to be a bail-out, which she said she would not allow?

Pam, felly, fod y Gweinidog dros iechyd wedi awdurdodi’r hyn y mae pawb yn ei wybod sy’n becyn cymorth, y dywedodd na fyddai’n ei ganiatáu?

The First Minister: You have to look at the total budget for health, which, for 2011-12, was £5,500 million. This is £12 million, which is a very small percentage of the health budget. Given that so much work has been done by the local health boards to meet those targets, it is a small amount of money to put to one side considering the size of the health budget. Would she prefer that we did not provide this money and that people suffer?

Y Prif Weinidog: Mae’n rhaid i chi edrych ar gyfanswm y gyllideb ar gyfer iechyd, sef tua £5,500 miliwn ar gyfer 2011-12.  Mae hyn yn £12 miliwn, sy’n ganran fach iawn o’r gyllideb iechyd. O gofio bod cymaint o waith wedi ei wneud gan y byrddau iechyd lleol i gyrraedd y targedau hynny, mae’n swm bach o arian i’w roi i un ochr o ystyried maint y gyllideb iechyd. A fyddai’n well ganddi i ni beidio’r rhoi’r arian hwn a bod pobl yn dioddef?

Kirsty Williams: I would prefer, First Minister, for your Minister for health to do what she said she would do. The word 'small’ was not mentioned in any of her statements last year. However, when talking to the Welsh NHS Confederation, she did say that managers must meet their targets.

Kirsty Williams: Byddai’n well gennyf, Brif Weinidog, i’ch Gweinidog dros iechyd wneud yr hyn a ddywedodd y byddai’n ei wneud. Ni soniodd am y gair 'bach’ yn unrhyw un o’i datganiadau y llynedd. Fodd bynnag, wrth siarad â Chydffederasiwn GIG Cymru, dywedodd y byddai’n rhaid i reolwyr gyrraedd eu targedau.

'You must achieve the targets which have been set…This delivery challenge is an area to which I personally attach great importance…poor performance here will have consequences.’

Rhaid i chi gyrraedd y targedau sydd wedi eu gosod...Mae’r her cyflenwi hwn yn faes rwyf yn bersonol yn rhoi pwys mawr iddo...Bydd canlyniadau i berfformiad gwael yma.

Will you outline to the Chamber today what the consequences will be for the health boards that did not meet those targets?

A wnewch chi amlinellu i’r Siambr heddiw beth fydd y canlyniadau i fyrddau iechyd na chyrhaeddodd y targedau hynny?

The First Minister: The local health boards have, more or less, met the targets. We are talking about a very small amount of money here when compared with the entire health budget. When compared with the situation in England, which is behind on meeting its targets by a substantial amount, I believe that our local health boards have done well. Would the leader of the Liberal Democrats have us penalise the people who live in the areas of those local health boards that have come up just slightly short?

Y Prif Weinidog: Mae’r byrddau iechyd lleol, fwy neu lai, wedi cyrraedd y targedau. Rydym yn sôn am swm bach iawn o arian yma o’i gymharu â’r gyllideb iechyd gyfan. O’i gymharu â’r sefyllfa yn Lloegr, sydd ar ei hôl hi’n sylweddol o ran cyrraedd ei thargedau, credaf fod ein byrddau iechyd lleol wedi gwneud yn dda. A fyddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol am i ni gosbi’r bobl sy’n byw yn ardaloedd y byrddau iechyd lleol hynny sydd ond ychydig yn brin?

Kirsty Williams: First Minister, they were not the targets set down by the leader of the Liberal Democrats; they were targets set down by your Minister for health and your Government. However, it is obvious that the First Minister has a handle on these matters and has studied them in great detail. That being the case, he will be able to tell me what percentage of the savings in those boards that have broken even are down to real changes to the way in which they operate—recurrent savings that will put the NHS in Wales on a sustainable financial footing—and what proportion has been achieved through one-off emergency measures, such as cancelling clinics, closing minor injuries units, not appointing staff, and deferring doctors’ payments until the new financial year.

Kirsty Williams: Brif Weinidog, nid arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol a osododd y targedau; roeddynt yn dargedau a osodwyd gan eich Gweinidog dros iechyd a’ch Llywodraeth. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod y Prif Weinidog yn gwybod am y materion hyn ac wedi eu hastudio’n fanwl iawn. Os felly, gall ddweud wrthyf ba ganran o’r arbedion yn y byrddau hynny sydd wedi mantoli eu cyllidebau sy’n ganlyniad i newidiadau go iawn i’r ffordd y maent yn gweithredu—bydd arbedion rheolaidd yn rhoi’r GIG yng Nghymru ar sail ariannol gynaliadwy—a pha gyfran sydd wedi’i gyflawni drwy fesurau brys un-tro, fel canslo clinigau, cau unedau mân anafiadau, peidio â phenodi staff, a gohirio taliadau i feddygon tan y flwyddyn ariannol newydd.

The First Minister: Local health boards have met the challenge exceptionally well. They have done it by looking at their services to make them sustainable in the longer term, when remembering the amount of money that is now available to us, as given to us by the Government that her party represents. After hearing the leader of the Liberal Democrats, we now know that, if she were in our position and £12 million was required for the NHS to break even, she would deny the NHS that money. That is how petty the Lib Dems have become.

Y Prif Weinidog: Mae’r byrddau iechyd lleol wedi ymateb i’r her yn eithriadol o dda. Maent wedi gwneud hynny drwy edrych ar eu gwasanaethau i’w gwneud yn gynaliadwy yn y tymor hwy, o gofio faint o arian sydd bellach ar gael i ni, a roddwyd i ni gan y Llywodraeth y mae ei phlaid yn ei chynrychioli. Ar ôl clywed arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, gwyddom bellach, pe bai hi yn ein sefyllfa ni a bod angen £12 miliwn ar y GIG i fantoli’r gyllideb, ni fyddai’n rhoi’r arian hwnnw i’r GIG. Dyna pa mor bitw eu meddyliau yw’r Democratiaid Rhyddfrydol erbyn hyn.

Gemau Paralympaidd 2012

The 2012 Paralympics

3. William Graham: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i symbyliad Gemau Paralympaidd 2012 i hybu cyfranogiad ehangach mewn chwaraeon.  OAQ(4)0496(FM)

3. William Graham: Will the First Minister outline how the Welsh Government will respond to the impetus of the 2012 Paralympics to encourage wider participation in sport. OAQ(4)0496(FM)

The First Minister: The Paralympics will provide a first-class opportunity to raise the profile of disability sport. We know that more than 1 million sporting opportunities were provided in 2011-12 by Disability Sport Wales, which is being supported this year with funding of more than £1 million by Sport Wales to support coaching, elite athletes and grass-roots activities.

Y Prif Weinidog: Bydd y Gemau Paralympaidd yn gyfle o’r radd flaenaf i godi proffil chwaraeon anabledd. Gwyddom fod mwy na miliwn o gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon yn cael eu darparu yn 2011-12 gan Chwaraeon Anabledd Cymru, sy’n cael ei gefnogi eleni gyda chyllid o fwy na £1 filiwn gan Chwaraeon Cymru i gefnogi hyfforddiant, athletwyr elitaidd a gweithgareddau ar lawr gwlad.

1.45 p.m.

William Graham: I am grateful to the First Minister for his reply. Clearly, we all hope that the 2012 Paralympics will be a great success. However, we need to note many recent research findings, particularly those by Scope, which indicate that, even in 2012, getting involved in sport can be an uphill struggle for many disabled people. Will the First Minister outline how initiatives to increase wider participation in sport are being monitored? Perhaps, later in the year, his colleague could report to Plenary on those initiatives and whether they have been successful.

William Graham: Rwyf yn ddiolchgar i’r Prif Weinidog am ei ateb. Yn amlwg, rydym i gyd yn gobeithio y bydd gemau Paralympaidd 2012 yn llwyddiant mawr. Fodd bynnag, mae angen inni gymryd sylw o nifer o ganfyddiadau ymchwil diweddar, yn enwedig y rhai gan Scope, sy’n dangos, hyd yn oed yn 2012, y gall cymryd rhan mewn chwaraeon fod yn dasg anodd i nifer o bobl anabl. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y caiff mentrau i gynyddu cyfranogiad ehangach mewn chwaraeon eu monitro? Efallai, yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gallai ei gydweithiwr adrodd i’r Cyfarfod Llawn am y mentrau a pha un a oeddent yn llwyddiannus a’i peidio.

The First Minister: Sport Wales will be working with Disability Sport Wales and the British Paralympic Association on promoting the benefits of disability sport by arranging a series of media opportunities in the lead-up to the 2012 games. On top of that, we will have a large number of Paralympic athletes training in Wales in the run-up to the games. They will provide role models for those who wish to take up disability sports.

Y Prif Weinidog: Bydd Chwaraeon Cymru yn gweithio gyda Chwaraeon Anabledd Cymru a Chymdeithas Baralympaidd Prydain i hyrwyddo buddion chwaraeon anabledd drwy drefnu cyfres o gyfleoedd yn y cyfryngau yn y cyfnod sy’n arwain at gemau 2012. Ar ben hynny, bydd nifer fawr o athletwyr Paralympaidd yn hyfforddi yng Nghymru yn y cyfnod sy’n arwain at y gemau. Byddant yn gosod esiampl i’r rheiny sy’n awyddus i gymryd rhan mewn chwaraeon anabledd.

Bethan Jenkins: First Minister, a gentleman recently wrote to me forwarding a letter from Sebastian Coe, the chair of the London 2012 organising committee, regarding the flags that may be flown at Olympic events. He was informed that Welsh flags will not be permitted at Olympic sites—even at the Millennium Stadium. Surely Welsh flags should be permitted at Olympic and Paralympic events as, for now, we are still part of the UK. What, if any, discussions have you had with Sebastian Coe and the organising committee with regard to ensuring that Welsh flags will be flown at these events?

Bethan Jenkins: Brif Weinidog, ysgrifennodd gŵr ataf yn ddiweddar gan anfon llythyr a gafodd gan Sebastian Coe, cadeirydd pwyllgor trefnu gemau Llundain 2012, ynghylch y baneri y gellir eu chwifio mewn digwyddiadau Olympaidd. Cafodd ei hysbysu na chaniateir baneri Cymru ar safleoedd Olympaidd—hyd yn oed yn Stadiwm y Mileniwm. Siawns y dylid caniatáu baneri Cymru mewn digwyddiadau Olympaidd a Pharalympaidd gan ein bod, ar hyn o bryd, yn dal i fod yn rhan o’r DU. Pa drafodaethau, os o gwbl, yr ydych wedi’u cael â Sebastian Coe a’r pwyllgor trefnu ynghylch sicrhau y caiff baneri Cymru eu chwifio yn y digwyddiadau hyn?

The First Minister: If the Member wishes to forward the letter to me, I will of course investigate while we remain part of the UK.

Y Prif Weinidog: Os hoffai’r  Aelod anfon y llythyr ataf, byddaf yn sicr o ymchwilio i hyn tra byddwn yn rhan o’r DU.

Mohammad Asghar: First Minister, in June 2010, the Assembly’s Communities and Culture Committee produced a report called 'Making the Most of Major Sporting Events’. It concluded that the evidence received suggested that, although a sporting event can increase participation, it will not automatically do so and that increased participation is made more likely by having a strategically targeted and managed approach to achieving this objective. In view of this, will the First Minister outline his Government’s plan to encourage wider participation in sports in Wales?

Mohammad Asghar: Brif Weinidog, ym mis Mehefin 2010, cyhoeddodd Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant y Cynulliad adroddiad o’r enw 'Gwneud y Gorau o Ddigwyddiadau Chwaraeon Mawr’. Daeth i’r casgliad bod y dystiolaeth a gafwyd yn awgrymu, er y gall digwyddiad chwaraeon gynyddu cyfranogiad, ni fydd yn gwneud hynny’n awtomatig a’i bod yn fwy tebygol o gynyddu cyfranogiad drwy gael dull wedi’i dargedu a’i reoli’n strategol er mwyn cyflawni’r amcan hwn. Yn sgîl hyn, a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynllun ei Lywodraeth i annog cyfranogiad ehangach mewn chwaraeon yng Nghymru?

The First Minister: Disability Sport Wales is working with the commercial sector linked to the 2012 games. It recently won a commercial sector award, which will help support the delivery of a new programme that focuses on inclusive sport for all.

Y Prif Weinidog: Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn gweithio gyda’r sector masnachol sy’n gysylltiedig â gemau 2012. Enillodd wobr y sector masnachol yn ddiweddar, a fydd yn helpu i gyflwyno rhaglen newydd sy’n canolbwyntio ar chwaraeon cynhwysol i bawb.

Diogelwch Cymunedol

Community Safety

4. Ann Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch cymunedol yn Nyffryn Clwyd. OAQ(4)0502(FM)

4. Ann Jones: What action is the Welsh Government taking to enhance community safety in the Vale of Clwyd. OAQ(4)0502(FM)

The First Minister: The priorities for community safety are to be found in the programme for government.  

Y Prif Weinidog: Mae’r blaenoriaethau ar gyfer diogelwch cymunedol i’w cael yn y rhaglen lywodraethu.

Ann Jones: Thank you for that, First Minister. In light of the Tory-led UK Government’s insistence on making cuts to police budgets—guaranteeing front-line losses, particularly in north Wales, which is going to lose more than 120 warranted police officers and 120 other staff—it is reassuring that your Welsh Government here is training and deploying 18 community support officers in the Vale of Clwyd constituency alone as part of the 500 PCSOs Labour pledged at the last election. Can you outline what discussions your Government has had with North Wales Police and other police forces about the role of these police community support officers?

Ann Jones: Diolch am hynny, Brif Weinidog. Yn sgîl  penderfyniad Llywodraeth y DU a arweinir gan y Torïaid i wneud toriadau i gyllidebau’r heddlu—gan sicrhau y bydd swyddi rheng flaen yn cael eu colli, yn enwedig yn y gogledd, lle y bydd mwy na 120 o swyddi swyddogion yr heddlu â gwarant a 120 o swyddi aelodau eraill o staff yn cael eu colli—mae’n galonogol bod eich Llywodraeth chi yma yng Nghymru yn hyfforddi a lleoli 18 o swyddogion cymorth cymunedol yn etholaeth Dyffryn Clwyd yn unig fel rhan o addewid Llafur i greu 500 o swyddi i swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn yr etholiad diwethaf. A allwch amlinellu pa drafodaethau y mae’ch Llywodraeth wedi’u cael gyda Heddlu Gogledd Cymru a heddluoedd eraill ynghylch rôl y swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu hyn?

The First Minister: In total, 101 police community support officers will be deployed in north Wales. Across Wales, 165 officers, or 30% of the total, are either deployed or in training. I saw with my own eyes the effectiveness of PCSOs in Rhyl when I visited not so long ago. I know that the Minister for Local Government and Communities carried out a visit with a PCSO in Rhyl in March. We have seen for ourselves the effectiveness of the PCSOs and we have seen the trust that local communities place in these officers.

Y Prif Weinidog: Bydd cyfanswm o 101 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn cael eu lleoli yn y gogledd. Ledled Cymru, mae 165 o swyddogion, neu 30% o’r cyfanswm, wedi eu lleoli neu mewn hyfforddiant. Gwelais â’m llygaid fy hun pa mor effeithiol yw swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn y Rhyl pan ymwelais â’r dref yn gymharol ddiweddar. Gwn fod y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi ymweld â swyddogion yn y Rhyl ym mis Mawrth. Rydym wedi gweld dros ein hunain pa mor effeithiol yw’r swyddogion hyn ac rydym wedi gweld cymunedau lleol yn ymddiried ynddynt.

Antoinette Sandbach: First Minister, one organisation doing excellent work on improving community safety in the Vale of Clwyd and across north Wales is DangerPoint, which educates thousands of children each year about potential life-threatening risks. In recent months, it has worked in partnership with the North Wales Fire and Rescue Service arson reduction team to tackle the dangers of deliberate fire setting. What work will your Government be undertaking to secure the future of this and other charities in north Wales delivering public services?

Antoinette Sandbach: Brif Weinidog, un sefydliad sy’n gwneud gwaith ardderchog yn gwella diogelwch cymunedol yn Nyffryn Clwyd a ledled y gogledd yw PentrePeryglon, sy’n addysgu miloedd o blant bob blwyddyn am risgiau a allai beryglu bywyd. Yn y misoedd diwethaf, mae wedi gweithio mewn partneriaeth â thîm lleihau llosgi bwriadol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i fynd i’r afael â pheryglon cynnau tanau’n fwriadol. Pa waith fydd eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau dyfodol y sefydliad hwn ac elusennau eraill yn y gogledd sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus?

The First Minister: We will always look to work with charities that are delivering additional services in their communities. That is true the length and breadth of Wales.

Y Prif Weinidog: Byddwn bob amser yn ceisio gweithio gydag elusennau sy’n darparu gwasanaethau ychwanegol yn eu cymunedau. Mae hynny’n wir ledled Cymru.

Llyr Huws Gruffydd: O glywed am ladradau diweddar ar ffermydd yn Nyffryn Clwyd ac ardaloedd eraill, i ba raddau rydych chi’n disgwyl i rai o’r swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yr ydych newydd sôn amdanynt gael eu lleoli mewn ardaloedd gwledig? Pa gefnogaeth ymarferol y gall eich Llywodraeth ei rhoi i gryfhau prosiectau megis Farmwatch?

Llyr Huws Gruffydd: Given recent cases of theft from farms in the Vale of Clwyd and other areas, to what extent do you believe some of the PCSOs you have just mentioned will be located in rural areas? What practical support can your Government offer in order to strengthen projects such as Farmwatch?

Y Prif Weinidog: Nid yw cyfrifoldeb am iechyd a diogelwch wedi’i ddatganoli; mae hynny’n fater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Rydym yn erfyn i swyddogion cymorth cymunedol weithio ym mhob rhan o Gymru, mewn ardaloedd trefol a gwledig.  

The First Minister: Responsibility for health and safety is not a devolved matter; it is a matter for the United Kingdom Government. We expect community support officers to work in all parts of Wales, in urban and rural areas.

The Record

Llyn Padarn

Llyn Padarn

5. Alun Ffred Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol statws Llyn Padarn fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. OAQ(4)0499(FM)

5. Alun Ffred Jones: Will the First Minister make a statement on the future of Llyn Padarn’s status as a Site of Special Scientific Interest. OAQ(4)0499(FM)

Y Prif Weinidog: Cafodd Llyn Padarn y statws hwn ym 1992 er mwyn gwarchod pysgodyn y torgoch, ynghyd â phlanhigyn dŵr arnofiol, a nodweddion daearegol eraill. Polisi Cyngor Cefn Gwlad Cymru yw ceisio cynnal neu adfer nodweddion yr SSSI hwn i ddod â nhw’n ôl i statws cadwraeth ffafriol.

The First Minister: Llyn Padarn was given this status in 1992 to protect the fish arctic char, a floating water plant and geological features. The policy of the Countryside Council for Wales is to seek to maintain or restore the features of this SSSI to favourable conservation status.

Alun Ffred Jones: Rydych chi yn llygad eich lle wrth ichi ddweud pam mae’r dynodiad arbennig yno. Fodd bynnag, yn ôl adroddiad diweddar, mae nifer y torgoch wedi gostwng i 1,000, er gwaethaf rhybuddion gan bysgotwyr lleol ers degawdau. Cyfrifoldeb statudol Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac, yn y pen draw, y Gweinidog yma, yw gwarchod y safle arbennig hwn a nifer y torgoch sydd efallai mewn perygl o ddiflannu mewn dwy flynedd, yn ôl yr adroddiad rwyf newydd gyfeirio ato. A ydych yn derbyn bod y Llywodraeth a’r asiantaethau hyn wedi bod yn esgeulus yn eu gwaith o warchod y torgoch? A ydych yn ymrwymo’ch Llywodraeth i sicrhau bod adnoddau yn cael eu rhoi, os oes angen, i sicrhau dyfodol y torgoch ac felly sicrhau’r dynodiad arbennig hwn i’r llyn?

Alun Ffred Jones: You are entirely correct in giving the reason this particular designation was made. However, according to a recent report, the numbers of the arctic char have dropped to below 1,000, despite the warnings of local fishermen for decades. It is the statutory responsibility of the Environment Agency, the Countryside Council of Wales and, eventually, the Minister here, to protect this special site and the numbers of the arctic char that might be at threat of extinction over the next two years, according to the report to which I have just referred. Do you accept that the Government and these agencies have been negligent in their work in protecting the arctic char? Do you commit your Government to ensuring that resources will be made available, if required, to secure the future of the arctic char and therefore the designation of the lake?

Y Prif Weinidog: Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi bod yn rhedeg rhaglen magu torgochiaid yn Llyn Padarn ac yn Llyn Crafnant, nad yw’n rhy bell o Lyn Padarn. Cafodd 5,000 o dorgochiaid eu rhoi yn Llyn Crafnant ym mis Gorffennaf y llynedd a rhoddwyd 1,000 yn Llyn Padarn ym mis Medi y llynedd. Bydd rhagor yn mynd i mewn i’r llynnoedd yn ystod y flwyddyn hon. Gobeithio, wedyn, y bydd poblogaeth y torgoch yn dechrau tyfu yn llynnoedd Crafnant a Phadarn yn y dyfodol.

The First Minister: The Environment Agency has been running an arctic char breeding programme in Llyn Padarn and Llyn Crafnant, which is not too far from Llyn Padarn. Some 5,000 arctic char were put into Llyn Crafnant in July last year and a 1,000 were put into Llyn Padarn in September last year. More will be put into these lakes during this year. We then hope that the arctic char population will begin to grow in both Crafnant and Padarn lakes for the future.

Mark Isherwood: The Environment Agency has said that

Mark Isherwood: Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd

'This is not simply about the possible extinction of an iconic fish from this lake…its decline could be a sign that the whole lake’s ecosystem is under threat.’

'Nid y pysgodyn eiconig hwn yn unig sydd mewn perygl o ddiflannu o’r llyn...gallai ei ddiflaniad fod yn arwydd fod ecosystem gyfan y llyn yn cael ei bygwth.’

What dialogue is the Welsh Government having with Dŵr Cymru Welsh Water with regard to its plans to improve water quality in Llyn Padarn and to prevent further ingress of sewage from the local sewage treatment plant, which the Environment Agency says will be essential?

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael â Dŵr Cymru ynghylch ei gynlluniau i wella ansawdd y dŵr yn Llyn Padarn ac i atal rhagor o garthion rhag cael eu treiddio o’r gwaith trin carthion lleol, y mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn dweud y bydd yn hanfodol?

The First Minister: I am aware of the existence of the Llyn Padarn forum, of which the Member for Arfon is chair, and which was set up following the closure of the lake to recreational users in 2009. I know that the forum is doing useful work and I understand that Gwynedd Council has applied to us as a Government for Llyn Padarn to be designated as a bathing water. We know that much work still needs to be done and CCW and the EA will continue to monitor the lake.

Y Prif Weinidog: Rwyf yn ymwybodol o fodolaeth fforwm Llyn Padarn, y mae’r Aelod dros Arfon yn gadeirydd arno, ac a gafodd ei sefydlu ar ôl i’r llyn gau i ddefnyddwyr hamdden yn 2009. Gwn fod y fforwm yn gwneud gwaith defnyddiol a deallaf fod Cyngor Gwynedd wedi gwneud cais i ni fel Llywodraeth i ddynodi Llyn Padarn yn ddŵr ymdrochi. Rydym yn gwybod bod llawer o waith i’w wneud o hyd a bydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn parhau i fonitro’r llyn.

Datblygu Cynaliadwy

Sustainable Development

6. Rebecca Evans: Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ym maes datblygu cynaliadwy. OAQ(4)0491(FM)

6. Rebecca Evans: What are the Welsh Government’s priorities in the field of sustainable development. OAQ(4)0491(FM)

The First Minister: The Government’s priorities are to promote the economic, social and environmental wellbeing of people and communities in Wales through our programme for government. In the autumn of next year, we propose to introduce a sustainable development Bill on the floor of the Assembly.

Y Prif Weinidog: Blaenoriaethau’r Llywodraeth yw hyrwyddo lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl a chymunedau yng Nghymru drwy ein rhaglen lywodraethu. Yn yr hydref y flwyddyn nesaf, rydym yn cynnig cyflwyno Bil datblygu cynaliadwy ar lawr y Cynulliad.

Rebecca Evans: Thank you for that answer, First Minister. The carrier bag levy has been a resounding success in terms of reducing the number of carrier bags that we use in Wales. Reports from supermarkets of reductions of up to 90% are certainly to be celebrated. What assessment has the Welsh Government made of how well smaller retailers are doing in terms of understanding and complying with the levy? Are they in need of any extra support or information?

Rebecca Evans: Diolch am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Bu’r tâl am fagiau siopa yn llwyddiant ysgubol o ran lleihau nifer y bagiau siopa a ddefnyddiwn yng Nghymru. Yn sicr, dylid dathlu adroddiadau gan archfarchnadoedd ynghylch gostyngiadau o hyd at 90%. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o ba mor dda y mae siopau bach yn deall y tâl ac yn cydymffurfio ag ef? A oes angen unrhyw gymorth neu wybodaeth ychwanegol arnynt?

The First Minister: I think that the carrier bag charge is well known throughout Wales. We developed a voluntary code with businesses in Wales in terms of the use of the net proceeds from charging for carrier bags. In terms of civil penalties, trading standards officers in local authorities are responsible for enforcing the regulations. Ultimately, if businesses are found to be in breach of the regulations, a penalty can be applied.

Y Prif Weinidog: Credaf fod pawb ledled Cymru yn ymwybodol o’r tâl am fagiau siopa. Rydym wedi datblygu cod gwirfoddol gyda busnesau yng Nghymru o ran defnyddio’r enillion net o godi tâl am fagiau siopa. O ran cosbau sifil, swyddogion safonau masnach mewn awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau. Yn y pen draw, os bydd busnesau yn torri’r rheoliadau, gellir eu cosbi.

The Record

Mohammad Asghar: The Crown Estate has decided to grant at least agreement to allow Tidal Energy Ltd. to begin to develop a tidal energy scheme off St David’s head, which I welcome. Do you agree that tidal wave presents a more reliable way of generating renewable energy than wind power and will you commit your Government to encouraging the development of further schemes around our coastal areas in Wales?

Mohammad Asghar: Mae Ystâd y Goron wedi penderfynu rhoi o leiaf gytundeb i ganiatáu i Tidal Energy Cyf ddechrau datblygu cynllun ynni’r llanw oddi ar Benmaendewi, a chroesawaf hynny. A ydych yn cytuno bod tonnau’r llanw yn ffordd fwy dibynadwy o gynhyrchu ynni adnewyddadwy nag ynni’r gwynt ac a wnewch chi ymrwymo eich Llywodraeth i annog datblygu cynlluniau pellach o amgylch ein hardaloedd arfordirol yng Nghymru?

The First Minister: We would like to develop more marine energy, and we have provided funding for projects in the past, but our difficulty is that the UK Government has refused to give us the power over consents and, particularly, over the subsidy payments given to marine energy projects. The reality is that Scotland, through its subsidy system, can offer far more money than Wales and, until we get a level playing field, it will be difficult for us to compete with what the Scots are doing. However, Wales has tremendous potential when it comes to marine energy, if only the UK Government would give the people of Wales control over their own resources.

Y Prif Weinidog: Rydym yn awyddus i ddatblygu mwy o ynni morol, ac rydym wedi darparu cyllid ar gyfer prosiectau yn y gorffennol, ond yr anhawster sydd gennym yw bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod rhoi’r pŵer dros roi caniatâd ac, yn arbennig, dros y taliadau cymhorthdal ​​a roddir i brosiectau ynni morol. Y gwir amdani yw y gall yr Alban, drwy ei system gymhorthdal, gynnig llawer mwy o arian na Chymru a, hyd nes y cawn chwarae teg, bydd yn anodd inni gystadlu â’r hyn y mae’r Albanwyr yn ei wneud. Fodd bynnag, mae gan Gymru botensial aruthrol o ran ynni morol, pe byddai Llywodraeth y DU ond yn rhoi rheolaeth i bobl Cymru dros eu hadnoddau eu hunain.

Jocelyn Davies: First Minister, there was huge publicity last week for the opening of the coastal path, which I was delighted to hear about. Your website describes Wales as

Jocelyn Davies: Brif Weinidog, cafwyd cyhoeddusrwydd enfawr yr wythnos diwethaf i agoriad y llwybr arfordirol, ac yr oeddwn yn falch iawn o glywed hynny. Mae eich gwefan yn disgrifio Cymru fel y

'the first country in the world to have a continuous path running along its coastline’

'wlad gyntaf yn y byd i fod â llwybr di-dor sy’n rhedeg ar hyd ei harfordir’

—an 870-mile route. Believing that the path was open, I went to Gwbert, along with many other people, on Sunday, to walk to Mwnt. Did you know that that stretch was still most definitely not open when you made the announcement and when can we expect to see an end to the legal disputes and the realisation of a truly continuous path?

—sef llwybr 870 milltir. Gan gredu bod y llwybr ar agor, es i Wbert, gyda nifer o bobl eraill, ddydd Sul, i gerdded i Fwnt. Wyddech chi nad oedd y darn hwnnw yn sicr ar agor pan wnaethoch y cyhoeddiad? Pryd y gallwn ddisgwyl gweld diwedd ar yr anghydfodau cyfreithiol a sicrhau bod llwybr gwirioneddol ddi-dor gennym?

The First Minister: I am familiar with the dispute that is taking place about that section of the path, which was a part of the Ceredigion coastal path and which has been integrated into the Wales coastal path. We hope that any disputes might be resolved quickly in the near future so that we can ensure that we have a proper coastal path in Wales that people can walk on freely.

Y Prif Weinidog: Rwyf yn gyfarwydd â’r anghydfod ynghylch y rhan honno o’r llwybr, a oedd yn rhan o lwybr arfordirol Ceredigion ac sydd wedi’i gynnwys yn llwybr arfordirol Cymru. Rydym yn gobeithio y gellir datrys unrhyw anghydfodau yn gyflym yn y dyfodol agos fel y gallwn sicrhau bod gennym lwybr arfordirol priodol yng Nghymru y gall pobl gerdded yn rhydd arno.

Kenneth Skates: My Clwyd South constituency is home to many ancient trees, particularly in the areas around Overton, Pontfadog and Chirk, many of which are over 1,000 years old. They are a hugely important part of Wales’s natural heritage and, tomorrow, I will help to launch a campaign, led by Coed Cadw and the Tree Council to ensure that there is better protection for our oldest ancient, veteran and heritage trees. First Minister, will you look at ways in which the Welsh Government is able to use new powers to ensure that this wonderful part of our natural environment and history is preserved?

Kenneth Skates: Mae fy etholaeth yn Ne Clwyd yn gartref i nifer o goed hynafol, yn enwedig yn yr ardaloedd o amgylch Owrtyn, Pontfadog a’r Waun, ac mae nifer ohonynt dros 1,000 o flynyddoedd oed. Maent yn rhan hynod o bwysig o dreftadaeth naturiol Cymru ac, yfory, byddaf yn helpu i lansio ymgyrch, a arweinir gan Goed Cadw a’r Cyngor Coed, i sicrhau bod gwell diogelwch ar gyfer ein coed hynafol a threftadaeth hynaf. Brif Weinidog, a wnewch chi edrych ar ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio pwerau newydd i sicrhau bod y rhan hyfryd hon o’n hamgylchedd a hanes naturiol yn cael ei chadw?

The First Minister: The first thing to do is ensure that the ancient woodland inventory is up to date, and work is proceeding in that regard by the Forestry Commission in Wales, so that we can understand more about our ancient woodland and veteran trees in Wales. Once that has been done, consideration can be given as to whether there is a need to introduce legislation in order to protect trees even further. However, that inventory work is ongoing.

Y Prif Weinidog: Y peth cyntaf i’w wneud yw sicrhau bod y rhestr coetir hynafol yn gyfredol, ac mae gwaith yn mynd rhagddo yn y cyswllt hwnnw gan y Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru, fel y gallwn ddeall mwy am ein coetiroedd a choed hynafol yng Nghymru. Unwaith y bydd hynny wedi cael ei wneud, gellir ystyried a oes angen cyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn y coed hyd yn oed ymhellach. Fodd bynnag, mae’r gwaith o lunio’r rhestr honno yn mynd rhagddo.

Blaenoriaethau ar gyfer Gogledd Cymru

Priorities for North Wales

7. Darren Millar: Pa gamau y mae’r Prif Weinidog yn eu cymryd i fynd i’r afael â blaenoriaethau pobl yng ngogledd Cymru. OAQ(4)0490(FM)

7. Darren Millar: What action is the First Minister taking to address the priorities of people in North Wales. OAQ(4)0490(FM)

The First Minister: Those actions are to be found in the programme for government.

Y Prif Weinidog: Gellir gweld y camau hynny yn y rhaglen lywodraethu.

Darren Millar: One of the priorities of people in north Wales is to ensure that there is timely access to emergency services. You will be aware that total attendances at all three accident and emergency departments across north Wales have consistently risen in each of the last three years. The Cabinet paper 'Together for Health—Why Change is Needed’ says:

Darren Millar: Un o flaenoriaethau pobl yn y gogledd yw sicrhau y ceir mynediad amserol i wasanaethau brys. Byddwch yn ymwybodol bod cyfanswm y bobl sy’n mynd i’r tair adran damweiniau ac achosion brys yn y gogledd wedi codi’n gyson ym mhob un o’r tair blynedd diwethaf. Mae papur y Cabinet 'Law yn Llaw at Iechyd - Pam Fod Angen Newid’ yn dweud:

'The number of sites providing 24/7 consultant-led accident and emergency services will need to be reduced’.

bydd angen gostwng nifer y safleoedd sy’n darparu gwasanaethau damweiniau ac achosion brys o dan arweiniad ymgynghorwyr 24/7.

What assurances can you give people in my constituency that A&E services at Ysbyty Glan Clwyd will still be 24/7 consultant-led services?

Sut y gallwch roi sicrwydd i bobl yn fy etholaeth y bydd gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd yn dal i fod yn wasanaethau o dan arweiniad ymgynghorwyr 24/7?

The First Minister: There is certainly no intention on the part of the Government to see a reduction in A&E access for people around Wales. It is right to say that obtaining A&E consultants is difficult not just in Wales, but across the whole of the UK. We remain committed to ensuring that A&E services are, first, available within a reasonable distance and, secondly, excellent in terms of their service provision to all the people of Wales.

Y Prif Weinidog: Yn sicr, nid oes unrhyw fwriad ar ran y Llywodraeth i weld lleihad mewn mynediad i adrannau damweiniau ac achosion brys i bobl ledled Cymru. Mae’n wir dweud bod cael meddygon ymgynghorol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn anodd, nid dim ond yng Nghymru, ond ledled y DU. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys, yn gyntaf, ar gael o fewn pellter rhesymol ac, yn ail, eu bod yn ardderchog o ran y gwasanaeth a ddarparant i holl bobl Cymru.

Ieuan Wyn Jones: Fel y byddwch yn gwybod, Brif Weinidog, mae diweithdra ymhlith yr ifanc wedi codi yn sylweddol yn y gogledd, fel mewn rhannau eraill o Gymru, ers 2008. Bydd cohort arall o bobl ifanc yn gadael yr ysgol mewn rhai wythnosau a bydd un o bob pump ohonynt heb sgiliau sylfaenol. Beth rydych yn awgrymu felly y dylid ei wneud i rwystro diweithdra ymhlith yr ifanc rhag mynd yn anweithgarwch economaidd parhaol, fel digwyddodd yn y 1980au?

Ieuan Wyn Jones: As you will be aware, First Minister, youth unemployment has increased substantially in north Wales, as in other parts of Wales, since 2008. There will be another cohort of young people leaving school in a few weeks’ time and one out of every five will be without basic skills. What do you therefore suggest should be done to prevent youth unemployment from becoming permanent economic inactivity, as happened in the 1980s?

2.00 p.m.

Y Prif Weinidog: Un o’r cynlluniau mawr yr ydym wedi eu dechrau yw cynllun Twf Swyddi Cymru, sy’n rhoi cyfle i 4,000 o bobl ifanc gael hyfforddiant neu brentisiaeth bob blwyddyn, er mwyn sicrhau bod ganddynt y sgiliau sydd eu hangen i gael swyddi yn y dyfodol. Nod y cynllun yw sicrhau bod hyfforddiant yn arwain at swydd gadarn ar ôl i’r rhaglen—sy’n para am gyfnod o chwe misr—ddod i ben. Felly, dyna un enghraifft o raglen sydd wedi’i thargedu at bobl ifanc, er mwyn rhoi cymorth iddynt yn y dyfodol.

The First Minister: One of the major schemes that we have established is Jobs Growth Wales, giving 4,000 young people the opportunity to secure training or apprenticeships every year, so that they have the skills required to find work in the future. The aim of the scheme is to ensure that the training is turned into a real job after the six-month programme is over. So, that is one example of a targeted scheme by which we are seeking to address problems faced by young people.

Aled Roberts: Brif Weinidog, er mwyn cyrraedd ei dargedau ariannol, caeodd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr nifer o unedau yn ystod y gaeaf, ac arbedwyd tua £3.5 miliwn yn ystod mis Mawrth er mwyn galluogi’r bwrdd i osgoi gofyn i’r Llywodraeth am arian ychwanegol. A ydych yn fodlon bod y fath fesurau’n cael eu defnyddio er mwyn cyrraedd targedau ariannol, a hynny heb ymgynghori’n ddigonol â phobl leol yr effeithir arnynt gan y gwasanaethau dan sylw?

Aled Roberts: First Minister, in order to reach its financial targets, the Betsi Cadwaladr University Local Health Board closed a number of units over the winter, and £3.5 million was saved in March so that it would not have to come to ask the Government for additional funding. Are you happy that such measures are being used in order to reach financial targets, without sufficient consultation with the local people affected by the services?

Y Prif Weinidog: Rydym yn disgwyl bod gwasanaeth cyson yn cael ei ddarparu i bobl yn ystod y flwyddyn ariannol. Ond, rwy’n falch iawn bod yr awdurdodau iechyd lleol wedi cyrraedd eu targedau.

The First Minister: We want to see the level of service maintained over the financial year. However, I am pleased that the local health boards have achieved their targets.

The Record

Newid yn yr Hinsawdd

Climate Change

8. Russell George: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i liniaru’r newid yn yr hinsawdd. OAQ(4)0497(FM)

8. Russell George: Will the Minister make a statement on the Welsh Government’s policy to mitigate climate change. OAQ(4)0497(FM)

The First Minister: Yes. The policy is to be found in the climate change strategy.

Y Prif Weinidog: Gwnaf. Gellir ei weld yn y strategaeth ar y newid yn yr hinsawdd.

Russell George: First Minister, the House of Commons Energy and Climate Change Committee published a report a few weeks ago that showed that there is a clear divergence between the UK’s territorial emissions and its consumption-based emissions. Do you agree that, if it wants to lead the way on climate policy in the UK, the Welsh Government must demonstrate that it can live within its own resources by adopting a consumption-based measure for emissions in Wales?

Russell George: Brif Weinidog, cyhoeddodd Pwyllgor Ynni a Newid yn yr Hinsawdd Tŷ’r Cyffredin adroddiad ychydig wythnosau’n ôl a oedd yn dangos gwahaniaeth clir rhwng allyriadau tiriogaethol y DU a’r allyriadau sy’n seiliedig ar ddefnydd. A ydych yn cytuno, os yw Llywodraeth Cymru am arwain y ffordd ar bolisïau newid hinsawdd yn y DU, fod rhaid iddi ddangos ei bod yn gallu byw o fewn ei hadnoddau ei hun drwy fabwysiadu dull o fesur allyriadau yng Nghymru sy’n seiliedig ar ddefnydd?

The First Minister: The two go together, in my view. There is no doubt, for example, that there are some industries, and some methods of generating power, that emit more emissions than others. We want to ensure that we reduce people’s energy use, which would mean that they reduced their own carbon footprint. We have done that by expanding the Arbed scheme, which has not only helped many more people to see a reduction in their fuel bills, but has also led to situations where they use less energy in the first place.

Y Prif Weinidog: Mae’r ddau yn mynd gyda’i gilydd, yn fy marn i. Nid oes amheuaeth, er enghraifft, nad oes rhai diwydiannau, a rhai dulliau o gynhyrchu pŵer, sy’n gollwng mwy o allyriadau nag eraill. Rydym am sicrhau ein bod yn lleihau defnydd pobl o ynni, a fyddai’n golygu eu bod yn lleihau eu hôl-troed carbon eu hunain. Rydym wedi gwneud hynny drwy ehangu cynllun Arbed, sydd wedi helpu llawer mwy o bobl i gael gostyngiad yn eu biliau tanwydd, ac sydd hefyd wedi arwain at sefyllfaoedd lle y maent yn defnyddio llai o ynni yn y lle cyntaf.

David Rees: First Minister, as part of the climate change agenda, we are looking at renewable energies. Today, the UK Department of Energy and Climate Change has announced the approval of the Pen-y-Cymoedd windfarm at the top end of the Afan valley. While I welcome the multi-million pound benefits that will come to the area as a consequence of this project over its lifetime, do you agree that it is about time that Welsh Ministers made this kind of decision here in Wales, rather than it being left up in London, and that it is time that the UK Government devolved these powers to Welsh Ministers?

David Rees: Brif Weinidog, fel rhan o’r agenda newid yn yr hinsawdd, rydym yn edrych ar ynni adnewyddadwy. Heddiw, mae Adran Ynni a Newid Hinsawdd y DU wedi cyhoeddi ei bod yn cymeradwyo fferm wynt Penycymoedd ym mhen uchaf cwm Afan. Er fy mod yn croesawu’r buddion gwerth miliynau o bunnau a fydd yn dod i’r ardal yn sgîl y prosiect hwn yn ystod ei oes, a ydych yn cytuno ei bod yn hen bryd i Weinidogion Cymru wneud y math hwn o benderfyniad yma yng Nghymru, yn hytrach na’i fod yn cael ei gadw yn Llundain, a’i bod yn hen bryd i Lywodraeth y DU ddatganoli’r pwerau hyn i Weinidogion Cymru?

The First Minister: I do. I do not see why, in England, Scotland and Northern Ireland, decisions on energy projects such as the one in Pen-y-Cymoedd are made in those countries, but that decisions relating to Wales are made outside Wales. I do not think that that situation is sustainable in the longer term. As a Government—and this, indeed, is a view shared by other parties in the Chamber—we have taken the view that these decisions should be taken by those who are elected by the people of Wales, which is not the case with regard to Pen-y-Cymoedd.

Y Prif Weinidog: Ydw. Nid wyf yn gweld pam, yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, y gwneir penderfyniadau ar brosiectau ynni fel yr un ym Mhenycymoedd yn y gwledydd hynny, ond bod penderfyniadau sy’n ymwneud â Chymru yn cael eu gwneud y tu allan i Gymru. Nid wyf yn credu bod y sefyllfa honno’n gynaliadwy yn y tymor hwy. Fel Llywodraeth—ac mae pleidiau eraill yn y Siambr yn cyd-fynd â hyn—rydym o’r farn y dylai’r penderfyniadau hyn gael eu gwneud gan y rhai sy’n cael eu hethol gan bobl Cymru, ond nid felly y mae o ran Penycymoedd.

Llyr Huws Gruffydd: Felly, a ydych yn gresynu’r ffaith na wnaeth y Llywodraeth Lafur flaenorol yn San Steffan y penderfyniad hwnnw, yn hytrach na’i adael i’r Ceidwadwyr?

Llyr Huws Gruffydd: Do you, therefore, regret that the Labour Government at Westminster did not make that decision, rather than leave it to the Conservatives?

Y Prif Weinidog: Nid wyf yn credu bod y penderfyniad yn barod i gael ei wneud gan y Llywodraeth flaenorol. Serch hynny, mae’n wir dweud ein bod wedi gofyn i’r Llywodraeth honno am yr un pwerau ond ni ddaeth y pwerau hynny yma; rydym yn siomedig am hynny. Ar hyn o bryd, mae  gennym Lywodraeth arall yn San Steffan, ac rydym wedi gofyn i’r Llywodraeth honno ddatganoli’r pwerau dan sylw,  a hynny gyda phleidiau eraill yn y Siambr hon. Rydym yn disgwyl gweld y pwerau hyn yn cael eu datganoli ar ôl i gomisiwn Silk ystyried dyfodol datganoli yng Nghymru.

The First Minister: I do not believe that the decision was ready to be made by the last Government. However, it is true that we requested the same powers from the last Labour Government but that they were not forthcoming; we are disappointed by that. However, there is now another Government in Westminster and we have asked for these powers to be devolved, along with other parties here. We expect to see these powers devolved to us after the Silk commission considers the future of devolution in Wales.

William Powell: First Minister, RenewableUK Cymru held its annual conference here in Cardiff last week. In light of that event, it remains clear that renewable energy forms, such as offshore and onshore wind energy, as well as tidal energy, will continue to play a significant part in our attempts to tackle climate change. It is evident, however, that if such schemes are to be a success, they need to bring with them significant community benefit and support. Given that that is evidently not the case at present in parts of mid and west Wales, could you give an assurance that you are engaging actively with developers to communicate the need to have a clearer protocol on community benefit, going forward?

William Powell: Brif Weinidog, cynhaliodd RenewableUK Cymru ei chynhadledd flynyddol yma yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf. Yng ngoleuni’r digwyddiad hwnnw, mae’n parhau’n glir y bydd ynni adnewyddadwy, megis ynni gwynt ar y môr ac ar y tir, yn ogystal ag ynni’r llanw, yn parhau i chwarae rhan sylweddol yn ein hymdrechion i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae’n amlwg, fodd bynnag, os yw cynlluniau o’r fath yn mynd i fod yn llwyddiant, fod angen iddynt ddod â budd a chefnogaeth sylweddol i’r gymuned. O ystyried ei bod yn amlwg nad yw hynny’n wir ar hyn o bryd mewn rhannau o ganolbarth a gorllewin Cymru, a allwch roi sicrwydd eich bod yn gweithio’n agos â datblygwyr i gyfleu’r angen i gael protocol cliriach ar fudd cymunedol wrth symud ymlaen?

The First Minister: I agree entirely with what the Member has said. It is exceptionally important that there is a community benefit package that is appropriate to the nature and the size of the development. Given that some estimates state that a quarter of the UK’s power stations will close in the near future, we have to accept that, unless we want to see power cuts, the only alternative to renewable energy is to have more coal and gas stations, which means importing more coal and gas, and I do not think that that is in the interests of the UK and its energy security. Nonetheless, bearing in mind that we expect local communities to benefit from developments that take place in their localities, I would certainly want to see a substantial community benefits package attached to the development of any windfarm and for it to be appropriate to the size that development.

Y Prif Weinidog: Cytunaf yn llwyr â’r hyn y mae’r Aelod wedi ei ddweud. Mae’n eithriadol o bwysig bod pecyn o fuddion cymunedol sy’n briodol i natur a maint y datblygiad. O ystyried bod rhai amcangyfrifon yn datgan y bydd chwarter gorsafoedd ynni’r DU yn cau yn y dyfodol agos, mae’n rhaid inni dderbyn, oni bai ein bod am weld toriadau pŵer, mai’r unig ddewis arall heblaw ynni adnewyddadwy yw cael rhagor o orsafoedd glo a nwy, sy’n golygu mewnforio rhagor o lo a nwy, ac nid wyf yn credu bod hynny yn fuddiol i’r DU a’i diogelwch ynni. Serch hynny, o gofio ein bod yn disgwyl i gymunedau lleol elwa o ddatblygiadau sy’n digwydd yn eu hardaloedd, byddwn yn sicr am weld pecyn sylweddol o fuddion cymunedol ynghlwm wrth ddatblygiad pob fferm wynt ac am iddo fod yn briodol i faint y datblygiad hwnnw.

Esgeuluso Plant

Child Neglect

9. Lindsay Whittle: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau’r achosion o esgeuluso plant yng Nghymru. OAQ(4)0492(FM)

9. Lindsay Whittle: Will the First Minister make a statement on the Welsh Government’s strategy for reducing child neglect in Wales. OAQ(4)0492(FM)

The First Minister: Key statutory agencies have legal duties to protect children from neglect. We have put in place a consolidated programme of work to strengthen arrangements that safeguard children, such as Families First and Flying Start.  

Y Prif Weinidog: Mae gan asiantaethau statudol allweddol ddyletswyddau cyfreithiol i amddiffyn plant rhag esgeulustod. Rydym wedi sefydlu rhaglen waith gyfunol i gryfhau’r trefniadau sy’n diogelu plant, megis Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg.  

Lindsay Whittle: Thank you, First Minister, for your reply. Would you agree that parents who are complicit in, or indifferent to, their children becoming clinically obese are in effect guilty of child neglect? What can the Welsh Government do to address this particular and ever-increasing problem?

Lindsay Whittle: Diolch yn fawr am eich ateb, Brif Weinidog. A fyddech yn cytuno bod rhieni sy’n gadael i’w plant fynd yn ordew yn glinigol, neu sy’n ddi-hid ynghylch hyn, yn euog o esgeuluso’u plant? Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem benodol a chynyddol hon?

The First Minister: I think that education is the key to this. I would be reluctant to introduce criminal penalties along the lines that you suggest. However, it is important that people realise that simply allowing their child to become obese, particularly morbidly obese, is a threat to that child’s health in childhood and in adulthood.

Y Prif Weinidog: Rwy’n meddwl mai addysg yw’r allwedd i hyn. Byddwn yn amharod i gyflwyno cosbau troseddol tebyg i’r hyn yr ydych chi’n ei awgrymu. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod pobl yn sylweddoli bod caniatáu i’w plentyn fynd yn ordew, yn enwedig yn afiach o ordew, yn fygythiad i iechyd y plentyn hwnnw yn ystod plentyndod a phan fyddant yn oedolion.

Angela Burns: Action for Children’s recent research shows that we do not have enough information in Wales about the figures for neglected children. What is the Welsh Government doing to work with these organisations and with local government to collect these data? Is this something that your delivery unit could be doing, as it would involve pulling information from various strands of Government? Without accurate figures for child neglect, it will be very hard for us to have cohesive policies with good outcomes.

Angela Burns: Mae gwaith ymchwil diweddar Gweithredu dros Blant yn dangos nad oes gennym ddigon o wybodaeth yng Nghymru am y ffigurau ar gyfer plant sy’n cael eu hesgeuluso. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio gyda’r sefydliadau hyn a llywodraeth leol i gasglu’r data hyn? A yw hyn yn rhywbeth y gallai eich uned gyflawni ei wneud, gan y byddai’n golygu casglu gwybodaeth gan wahanol rannau o’r Llywodraeth? Heb ffigurau cywir ar gyfer esgeuluso plant, bydd yn anodd iawn inni gael polisïau cydlynol gyda chanlyniadau da.

The First Minister: The Deputy Minister helped to launch the Action for Children report in March so, as you might expect, the recommendations found favour with us as a Government. Key recommendations included placing a legal duty on local authorities, on health services and on other statutory partners to work together to ensure sufficient provision on early intervention services and to ensure that local service boards identify and analyse data on child neglect and use them to plan effective early intervention services to address neglect at the local level. Working with Action for Children, we as a Government will want to ensure that as much information as possible is available to deal with child neglect.

Y Prif Weinidog: Helpodd y Dirprwy Weinidog i lansio adroddiad Gweithredu dros Blant ym mis Mawrth; felly, fel y byddech yn disgwyl, roedd y Llywodraeth o blaid yr argymhellion. Roedd y prif argymhellion yn cynnwys gosod dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd a phartneriaid statudol eraill i weithio gyda’i gilydd i sicrhau darpariaeth ddigonol ar wasanaethau ymyrraeth gynnar ac i sicrhau bod byrddau gwasanaeth lleol yn nodi a dadansoddi data ar esgeuluso plant ac yn eu defnyddio i gynllunio gwasanaethau ymyrraeth gynnar effeithiol i fynd i’r afael ag esgeulustod yn lleol. Drwy weithio gyda Gweithredu dros Blant, byddwn fel Llywodraeth am sicrhau bod cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl ar gael i ymdrin ag esgeuluso plant.

Blaenoriaethau ar gyfer Pontypridd

Priorities for Pontypridd

10. Mick Antoniw: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn egluro ei flaenoriaethau ar gyfer Pontypridd yn ystod y flwyddyn ariannol hon. OAQ(4)0498(FM)

10. Mick Antoniw: Will the First Minister make a statement clarifying his priorities for Pontypridd over the course of the current financial year. OAQ(4)0498(FM)

The First Minister: Those priorities are to be found in the programme for government.

Y Prif Weinidog: Mae’r blaenoriaethau i’w cael yn y rhaglen lywodraethu.

Mick Antoniw: Since the devastating pit closure programme of 1985 under the Thatcher Government, not only have we ended up with considerable imports of coal, which was formerly produced here, we have also been left with a whole series of colliery sites awaiting economic development. [Interruption.] One of them is in my constituency, at the Coedely site. Can the First Minister outline what steps the Welsh Government is taking to attract businesses and, consequently, jobs to sites such as Coedely?

Mick Antoniw: Fyth ers rhaglen ddinistriol Llywodraeth Thatcher i gau pyllau glo yn 1985, yr ydym nid yn unig yn mewnforio glo ar raddfa sylweddol, a gynhyrchid gynt yma, mae gennym hefyd sefyllfa lle y mae amryw byd o safleoedd pyllau glo sy’n aros am ddatblygu economaidd. [Torri ar draws.] Mae un ohonynt yn fy etholaeth i, ar safle Coed-elái. A all y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddenu busnesau ac, o ganlyniad, swyddi i safleoedd fel Coed-elái?

The First Minister: I listened carefully to the Members on the benches opposite when the Member for Pontypridd mentioned the issue of pit closures: they seemed amazed that such a programme of closures had ever taken place. I am one for ensuring that people own up to their mistakes, so I am surprised that amnesia of the sort that we witnessed on the Conservative benches opposite should take place in the Chamber.

Y Prif Weinidog: Roeddwn yn gwrando’n astud ar Aelodau ar y meinciau gyferbyn pan soniodd yr Aelod dros Bontypridd am gau pyllau glo: roedd yn ymddangos fel petaent yn synnu bod rhaglen o’r fath erioed wedi digwydd. Rwyf fi o blaid sicrhau bod pobl yn cyfaddef eu camgymeriadau, felly rwy’n synnu o weld amnesia o’r math hwn ar feinciau’r Ceidwadwyr yn y Siambr.

I can tell the Member that the master plan exercise for the Coedely site was completed in January 2011. It identifies the potential for commercial office accommodation and industrial development on the 40 acre site. Currently, the marketing of this development opportunity is focused through the Wales property database—there have been several enquiries regarding the site and officials in the Department for Business, Enterprise, Technology and Science are examining them at the moment.

Gallaf ddweud wrth yr Aelod i’r prif gynllun ar gyfer safle Coed-elái gael ei gwblhau ym mis Ionawr 2011. Mae’n nodi’r potensial ar gyfer swyddfeydd masnachol a datblygiad diwydiannol ar y safle 40 erw. Ar hyn o bryd, mae marchnata’r cyfle datblygu hwn yn digwydd drwy gronfa ddata eiddo Cymru—cafwyd nifer o ymholiadau ynghylch y safle, ac mae swyddogion yn yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn eu hastudio ar hyn o bryd.

Andrew R.T. Davies: As you would know, First Minister, Harold Wilson shut more coal mines than any other Prime Minister. So, do not try to obliterate history entirely. [Interruption.] The question was about Pontypridd and regeneration. Under the convergence funding that has been made available to the town Pontypridd, in particular for the development of the High Street, and with the new round of convergence funding—or Objective 1 funding, depending on what name it is given for the next seven years—can you, First Minister, confirm that strong representations have been made to allow flexibility in that funding to allow similar projects around South Wales Central for urban regeneration?

Andrew R.T. Davies: Fel y byddech yn gwybod, Brif Weinidog, caeodd Harold Wilson fwy o byllau glo nag unrhyw Brif Weinidog arall. Felly, peidiwch â cheisio dileu hanes yn llwyr. [Torri ar draws.] Mae’r cwestiwn yn ymwneud â Phontypridd ac adfywio. O dan y cyllid cydgyfeirio sydd ar gael i dref Pontypridd, yn enwedig ar gyfer datblygu’r Stryd Fawr, a chyda’r cylch newydd o gyllid cydgyfeirio—neu gyllid Amcan 1, yn dibynnu ar yr hyn y bydd yn cael ei alw am y saith mlynedd nesaf—a allwch chi, Brif Weinidog, gadarnhau bod sylwadau cryf wedi cael eu gwneud i ganiatáu hyblygrwydd yn y cyllid hwnnw i ganiatáu prosiectau tebyg ledled Canol De Cymru ar gyfer adfywio trefol?

The Record

The First Minister: Yes, there have been discussions regarding flexibility. It is also an issue that I have raised with Commissioner Hahn in my numerous meetings with him. We need to ensure that as much flexibility as possible is attached to the new programme of structural funds.

Y Prif Weinidog: Oes, mae trafodaethau wedi’u cynnal ynghylch hyblygrwydd. Mae hefyd yn fater yr wyf wedi’i godi gyda’r Comisiynydd Hahn yn y nifer dda o gyfarfodydd yr wyf wedi’u cael gydag ef. Mae angen inni sicrhau bod cymaint o hyblygrwydd ag y bo modd ynghlwm wrth y rhaglen newydd o gronfeydd strwythurol.

The Member mentioned Harold Wilson. The difference between his party and the Labour Party is that when mines closed in the 1960s, it was done in consultation with the National Union of Mineworkers. In the 1980s, you had a Prime Minister in the UK who had the nerve to call the miners 'the enemy within’, although some of them had fought in the war. That is the sort of reaction that we expect from the Conservative Party. Once again, it is trying to airbrush history. We will stand up for the people of Wales and their economic future despite the destruction that his party wrought upon our people.

Soniodd yr Aelod am Harold Wilson. Y gwahaniaeth rhwng plaid yr Aelod a’r Blaid Lafur yw pan gaewyd y pyllau yn y 1960au, i hynny gael ei wneud mewn ymgynghoriad ag Undeb Cenedlaethol y Glowyr. Yn y 1980au, yr oedd gennych Brif Weinidog yn y DU a oedd â’r wyneb i alw’r glöwyr 'y gelyn oddi mewn’, er bod rhai ohonynt wedi ymladd yn y rhyfel. Dyna’r math o adwaith yr ydym yn ei ddisgwyl gan y Blaid Geidwadol. Unwaith eto, mae’n ceisio ailysgrifennu hanes. Byddwn ni’n sefyll dros bobl Cymru a’u dyfodol economaidd er gwaethaf y dinistr a achosodd ei blaid ef ar ein pobl.

Addysg y Blynyddoedd Cynnar

Early-years Education

11. Vaughan Gething: A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi rhieni sydd â phlant ar ddechrau addysg y blynyddoedd cynnar yn Ne Caerdydd a Phenarth. OAQ(4)0501(FM)

11. Vaughan Gething: Will the First Minister confirm what action the Welsh Government is taking to support parents with children at the start of early years education in Cardiff South and Penarth. OAQ(4)0501(FM)

The First Minister: Local authorities have a statutory duty to ensure that all three and four-year-olds have access to a free foundation phase place for a minimum of 10 hours a week. In Cardiff South and Penarth, around 94% of children access these places.

Y Prif Weinidog: Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i sicrhau bod pob plentyn tair a phedair blwydd oed yn cael mynediad at le yn y cyfnod sylfaen am ddim am o leiaf 10 awr yr wythnos. Yn Ne Caerdydd a Phenarth, mae tua 94% yn defnyddio’r lleoedd hynny.

Vaughan Gething: Thank you for that response, First Minister. I welcome the action that the Welsh Government is taking to support parents with children, especially in our most disadvantaged communities. An obvious example of this is Flying Start. However, there are, as we have heard today, third sector groups working with families with young children, including Save the Children, which has a programme in Tremorfa in my constituency. We know that there is a disproportionate benefit in providing more resources and support in early years, as well as a disproportionate problem if those resources and support are withdrawn. Will you confirm, First Minister, what assessment you have made of the impact of UK Government cuts on the work being done by the Welsh Government and the third sector to support parents and children in our most disadvantaged communities?

Vaughan Gething: Diolch ichi am yr ymateb hwnnw, Brif Weinidog. Rwy’n croesawu’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi rhieni â phlant, yn enwedig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Enghraifft amlwg o hyn yw Dechrau’n Deg. Fodd bynnag, fel yr ydym wedi clywed heddiw, mae grwpiau trydydd sector yn gweithio gyda theuluoedd â phlant ifanc, gan gynnwys Achub y Plant, sydd â rhaglen yn Nhremorfa yn fy etholaeth i. Rydym yn gwybod bod budd anghymesur o ran darparu mwy o adnoddau a chymorth yn y blynyddoedd cynnar, yn ogystal â phroblemau anghymesur os yw’r adnoddau hynny a’r gefnogaeth honno’n cael eu tynnu’n ôl. A wnewch gadarnhau, Brif Weinidog, pa asesiad yr ydych wedi ei wneud o effaith toriadau Llywodraeth y DU ar y gwaith a wneir gan Lywodraeth Cymru a’r trydydd sector i gefnogi rhieni â phlant yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig?

The First Minister: There is no doubt that, as a result of the benefit cuts that are being imposed, further pressure will be put on Welsh Government budgets when it comes to funding the programmes that we know will help young children get a good start—indeed a flying start—in life. Therefore, it is right to say that there will be a direct transfer of financial liability from the UK Government to the Welsh Government.

Y Prif Weinidog: Nid oes amheuaeth, o ganlyniad i’r toriadau mewn budd-daliadau sy’n cael eu cyflwyno, na fydd pwysau pellach yn cael ei roi ar gyllidebau Llywodraeth Cymru o ran ariannu’r rhaglenni yr ydym yn gwybod y byddant yn helpu plant ifanc i gael dechrau da—yn wir, decrhau teg—mewn bywyd. Felly, mae’n iawn dweud y bydd baich ariannol yn cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol oddi wrth Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru.

Andrew R.T. Davies: A perennial issue in Cardiff, in particular, is that of surplus places. If we are to get resources to the front line, particularly to early years education, it is vital that we tackle this. What action is your Government taking to work with Estyn and local education authorities to ensure that the issue of surplus places is finally tackled and that resources can be freed up?

Andrew R.T. Davies: Mater sy’n codi’n gyson yng Nghaerdydd, yn arbennig, yw lleoedd gwag. Os ydym am gael adnoddau i’r rheng flaen, yn enwedig i addysg y blynyddoedd cynnar, mae’n hanfodol inni fynd i’r afael â hyn. Pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i weithio gydag Estyn ac awdurdodau addysg lleol i sicrhau bod mater lleoedd gwag yn cael ei drin o’r diwedd ac y gall adnoddau gael eu rhyddhau?

     

The First Minister: It is a matter for local authorities, of course, to deal with surplus places in their areas. However, it is right to say that it cannot be right in principle for places that are empty to continue, in effect, to be funded. In order to improve the education of pupils, we expect local authorities to ensure that they target their resources at those pupils who are in school and that they do not spend money on buildings or portions of buildings that are, in effect, empty.

Y Prif Weinidog: Mater i awdurdodau lleol, wrth gwrs, yw mynd i’r afael â lleoedd gwag yn eu hardaloedd. Fodd bynnag, mae’n iawn dweud na all fod yn iawn mewn egwyddor parhau i ariannu lleoedd sy’n wag. Er mwyn gwella addysg disgyblion, rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn canolbwyntio eu hadnoddau ar y disgyblion hynny sydd yn yr ysgol ac nad ydynt yn gwario arian ar adeiladau neu rannau o adeiladau sydd, mewn difrif, yn wag.

Diweithdra

Unemployment

12. Mark Isherwood: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i leihau nifer y bobl nad ydynt mewn cyflogaeth. OAQ(4)0494(FM)

12. Mark Isherwood: What is the Welsh Government doing to help reduce the number of people not in employment. OAQ(4)0494(FM)

The First Minister: We provide a range of employability and skills provision to help people enter and remain connected to the labour market. We also work with the DWP to ensure that UK-wide programmes are delivered.

Y Prif Weinidog: Rydym yn darparu ystod o ddarpariaeth cyflogadwyedd a sgiliau i helpu pobl i fynd i’r farchnad lafur ac i barhau mewn cysylltiad â’r farchnad lafur. Rydym hefyd yn gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau bod rhaglenni’r DU gyfan yn cael eu darparu.

Mark Isherwood: Given that, even prior to the credit crunch, one in three working-age people in Wales were not in work—the numbers of working-age people not in work in Wales peaked in May 2010 at 627,000—why do you think that the reduction in the number of adults aged 16 to 64 not in work started after May 2010, that it has been falling ever since and that it is currently 17,000 fewer than at the time of change of UK Government?

Mark Isherwood: O gofio, hyd yn oed cyn y wasgfa gredyd, nad oedd un o bob tri o bobl o oedran gwaith yng Nghymru mewn gwaith—cyrhaeddodd nifer y bobl o oedran gwaith nad oeddent mewn gwaith yng Nghymru ei bwynt uchaf ym mis Mai 2010, sef 627,000—pam yn eich barn chi y dechreuodd y gostyngiad yn nifer yr oedolion rhwng 16 a 64 oed nad ydynt mewn gwaith ar ôl mis Mai 2010, pam y mae wedi bod yn gostwng ers hynny a pham y mae ar hyn o bryd 17,000 yn llai nag a oedd pan newidiodd Llywodraeth y DU?

The First Minister: It is because of the policies put in place by this Welsh Government and—let us be generous—the previous Welsh Government. We all see the difference that devolution makes. We have seen the programmes that have been put in place to help people who are unemployed, to help young people get work and to help people get the skills that they need. The people of Wales passed their judgment on what the Welsh Government is doing last week.

Y Prif Weinidog: Mae hynny oherwydd polisïau’r Llywodraeth hon yng Nghymru a—gadewch inni fod yn hael—Llywodraeth flaenorol Cymru. Mae pob un ohonom yn gweld y gwahaniaeth y mae datganoli yn ei wneud. Rydym wedi gweld y rhaglenni sydd wedi eu rhoi ar waith i helpu pobl sy’n ddi-waith, i helpu pobl ifanc i gael gwaith ac i helpu pobl i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt. Lleisiodd pobl Cymru eu barn ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yr wythnos diwethaf.

Peter Black: First Minister, Swansea has a very good record in tackling people not in employment, education or training—it has reduced the number of NEETs from 371 in 2005 to 79 this year. Have you taken any time to study the partnership working that has led to that reduction? How would you spread that best practice around Wales?

Peter Black: Brif Weinidog, mae gan Abertawe record dda o fynd i’r afael â phobl nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant—mae wedi lleihau nifer y bobl ifanc NEET o 371 yn 2005 i 79 eleni. A ydych wedi astudio’r gwaith partneriaeth sydd wedi arwain at y gostyngiad hwnnw? Sut y byddech yn lledaenu’r arfer gorau hwnnw ledled Cymru?  

2.15 p.m.

The First Minister: I think that the Member needed to ask that question last week, but I will offer him an answer. We will look at programmes that work in any part of Wales to see what can be learned and whether any such best practice can be spread across Wales.

Y Prif Weinidog: Rwyf yn meddwl y dylai’r Aelod fod wedi gofyn y cwestiwn hwnnw yr wythnos diwethaf, ond cynigiaf ateb iddo. Byddwn yn edrych ar raglenni sy'n gweithio yn unrhyw ran o Gymru i weld beth y gellir ei ddysgu ac a ellir lledaenu arfer gorau o’r fath ledled Cymru.

Diwygio Cyfansoddiadol

Constitutional Reform

13. Julie Morgan: Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael yn ddiweddar gyda Phrif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog y DU ynglŷn â diwygio cyfansoddiadol. OAQ(4)0493(FM)

13. Julie Morgan: What recent discussions has the First Minister had with the Prime Minister and Deputy Prime Minister about constitutional reform. OAQ(4)0493(FM)

The First Minister: I had an exchange of correspondence with the Prime Minister about that recently.

Y Prif Weinidog: Rwyf wedi cyfnewid gohebiaeth gyda'r Prif Weinidog am hynny yn ddiweddar.

Julie Morgan: Would the First Minister agree that a debate on the future of the UK, involving Wales, Northern Ireland, Scotland and England, along the lines of a constitutional convention, as he has suggested, would be a much more positive alternative than the rather sterile debate of 'yes’ or 'no’ to Scottish independence that is going on?

Julie Morgan: A fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno y byddai dadl ar ddyfodol y DU, yn cynnwys Cymru, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr, rhywbeth tebyg i gonfensiwn cyfansoddiadol, fel yr awgrymodd, yn ddewis amgen llawer mwy cadarnhaol na’r drafodaeth braidd yn ddi-fflach, 'ie' neu 'na' i annibyniaeth yr Alban, sy'n digwydd ar y funud?

The First Minister: Yes, I would. Members will have heard me call for a constitutional convention. I have written to the Prime Minister about that. He was not in agreement with that. He takes the view that the issue of Scottish independence should be settled first. I disagree with that: I think that it is important that these issues are dealt with before any referendum in Scotland, and the Prime Minister’s position is different to mine. Nevertheless, I do not think that it is right to approach constitutional change in the UK by looking at bits of change; I would prefer a holistic approach, undertaken by a convention.

Y Prif Weinidog: Byddwn yn cytuno. Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn galw am gonfensiwn cyfansoddiadol. Rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog am hynny. Nid oedd yn cytuno â hynny. Roedd o'r farn y dylai mater annibyniaeth yr Alban gael ei setlo gyntaf. Anghytunaf â hynny: rwyf yn meddwl ei bod yn bwysig bod y materion hyn yn cael eu trin cyn unrhyw refferendwm yn yr Alban, ond mae’r Prif Weinidog yn credu’n wahanol. Serch hynny, nid wyf yn credu ei bod yn iawn edrych ar newid cyfansoddiadol yn y DU drwy edrych ar newid tameidiog; byddai'n well gennyf ddull cyfannol o weithredu, a gynhelir gan gonfensiwn.

William Graham: The First Minister will know that, in opposition, David Cameron, as the then leader of the opposition, made it clear that he felt that major constitutional change could only come about in the third or fourth term of a Conservative Government. Clearly, at present, there have to be certain compromises. Would the First Minister not agree that any major constitutional change should only be brought about with the agreement of all?

William Graham: Bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod David Cameron, pan oedd yn arweinydd yr wrthblaid, wedi dweud yn glir ei fod yn teimlo na allai newid cyfansoddiadol o bwys ddigwydd tan drydydd neu bedwerydd tymor Llywodraeth Geidwadol. Yn amlwg, ar hyn o bryd, byddai’n rhaid cyfaddawdu rhywfaint. Oni fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno y dylai unrhyw newid cyfansoddiadol o bwys gael ei gyflwyno gyda chytundeb pawb?

The First Minister: I think that the Member is inviting me to welcome the possibility of a third or fourth Conservative term in Westminster. He will not be surprised that that is not a prospect to which I look forward. The reality is that there is going to be a referendum on independence in Scotland in 2014. We cannot afford to wait until some unspecified point in the future to ensure that we have a United Kingdom that is fit for the twenty-first century.

Y Prif Weinidog: Rwyf yn meddwl bod yr Aelod yn fy ngwahodd i groesawu’r posibilrwydd o drydydd neu bedwerydd tymor Ceidwadol yn San Steffan. Ni fydd yn synnu clywed nad yw hynny'n rhywbeth yr edrychaf ymlaen ato. Y gwir amdani yw y bydd refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban yn 2014. Ni allwn fforddio aros tan ryw adeg amhenodol yn y dyfodol i sicrhau bod gennym Deyrnas Unedig sy'n addas i’r unfed ganrif ar hugain.

Ieuan Wyn Jones: Pa mor debygol ydyw y byddwch wedi sicrhau pwerau benthyg sylweddol a diwygiad i’r fformiwla ariannu yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol?

Ieuan Wyn Jones: How likely is it that you will have secured significant borrowing powers and a reform of the funding formula during the current financial year?

Y Prif Weinidog: Mae’n bwysig dros ben. Byddai’n anodd dros ben i gomisiwn Silk gyhoeddi adroddiad ar ran 1 o waith y comisiwn heb ddelio â’r cwestiynau hyn ymlaen  llaw.

The First Minister: It is extremely important. It would be very difficult for the Silk commission to publish a report on part 1 of the commission’s work without dealing with these questions beforehand.

Confensiwn ar Ddyfodol y DU

Convention on the Future of the UK

14. Yr Arglwydd Elis-Thomas: Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Gweinidogion y DU ynglŷn â’i gynnig i sefydlu confensiwn ar ddyfodol y DU. OAQ(4)0504(FM)

14. Lord Elis-Thomas: What discussions has the First Minister had with UK Ministers regarding his proposal to establish a convention on the future of the UK. OAQ(4)0504(FM)

Y Prif Weinidog: Mae’n rhaid i mi roi’r un ateb ag a roddais i’r cwestiwn diwethaf. Rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog ar y mater hwn ac rwyf wedi cael ateb. Fodd bynnag, bydd y pwnc yn cael ei drafod dros yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod, rwy’n siŵr.

The First Minister: I have to give the same answer as I gave to the last question. I have written to the Prime Minister on this matter and I have had a response. However, I am sure that the matter will be discussed over the coming weeks and months.

Yr Arglwydd Elis-Thomas: A gaf i, yn gyntaf, ddiolch i’r Prif Weinidog am ei neges o longyfarchiadau i’r Arlywydd etholedig, Hollande, a chytuno ag ef bod etholiad sosialydd yn Arlywydd Ffrainc yn neges newydd i Ewrop gyfan? A fydd hynny’n effeithio ar agweddau pobl o fewn y Deyrnas Unedig? A yw’n gweld cyfle yn awr i berswadio pobl yn y Deyrnas Unedig, ac o fewn gwladwriaeth Ffrainc, mai datganoli i gyfeiriad y chwith yw dyfodol cenhedloedd drwy Ewrop?

Lord Elis-Thomas: May I, first of all, thank the First Minister for his message of congratulations to President-elect Hollande, and agree with him that the election of a socialist to the French presidency is a new message to the whole of Europe? Will that have an impact on the attitudes of people in the United Kingdom? Does he now see an opportunity to persuade people in the United Kingdom, and within the French state, that devolution to the left is the future for nations throughout Europe?

Y Prif Weinidog: Mae’n wir mai datganoli yw’r dyfodol, yn enwedig yn y Deyrnas Unedig. Mae’n bwysig dros ben, o gofio’r hyn sydd wedi digwydd yn Ffrainc ac yng Ngwlad Groeg dros y penwythnos, fod yn rhaid ystyried ffordd arall ymlaen i economi Ewrop—gan gofio nad yw’r polisïau sydd wedi’u cyflwyno hyd yn hyn wedi gweithio. Mae honno’n neges i Lywodraeth y Deyrnas Unedig: mae wedi cael dwy flynedd ac mae pethau wedi mynd yn waeth.

The First Minister: It is true that devolution is the future, especially for the United Kingdom. It is very important, bearing in mind what has happened in France and Greece over the weekend, that we consider another way forward for the European economy—bearing in mind that the policies that have been put forward to date have not worked. That is a message for the United Kingdom Government: it has had two years and things have just got worse.

Paul Davies: I fynd yn ôl at y setliad cyfansoddiadol, a yw’r Prif Weinidog yn cytuno â mi y byddai sefydlu system ffederal go iawn yn y Deyrnas Unedig yn ateb y cwestiwn West Lothian, ac yn sicrhau cydbwysedd ar draws sefydliadau democrataidd Prydain?

Paul Davies: To return to the constitutional settlement, does the First Minister agree that the establishment of a real federal system in the United Kingdom would answer the West Lothian question and ensure balance across the democratic institutions of Britain?

Y Prif Weinidog: Mae honno’n un ffordd i’w hystyried er mwyn datrys y sefyllfa hon at y dyfodol. Fodd bynnag, dyna pam mae’n rhaid cael rhyw fath o gonfensiwn—er mwyn gweld beth fyddai’r effaith ar bob rhan o’r Deyrnas Unedig ac wrth gwrs i sicrhau dyfodol y Cynulliad hwn a phobl Cymru.

The First Minister: That is one way to consider in terms of resolving this situation for the future. However, that is why we need some sort of convention—to see what the impact would be on every part of the United Kingdom, and of course to ensure the future of this Assembly and the people of Wales.

The Record

Dirwasgiad

Recession

15. Simon Thomas: Pa gamau y mae’r Llywodraeth yn mynd i’w cymryd i leddfu effaith y dirwasgiad ar Gymru. OAQ(4)0505(FM)

15. Simon Thomas: What steps are the Welsh Government going to take to ease the effect of the recession in Wales. OAQ(4)0505(FM)

Y Prif Weinidog: Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi’r gorau i’r rhaglen llywodraethu mae’n ei dilyn ar hyn o bryd. Wrth gwrs, byddwn yn sicrhau ein bod yn cario ymlaen gyda’r rhaglenni yr ydym wedi eu dodi mewn lle er mwyn helpu economi Cymru.

The First Minister: We will continue to press the UK Government to abandon the programme of government that it is following at present. Of course, we will ensure that we will continue to pursue the programmes that we have put in place to assist the economy of Wales.

Simon Thomas: Mae gwariant cyfalaf yn hollbwysig wrth daclo’r dirwasgiad, yn fy marn i, achos ei fod yn creu swyddi ac isadeiledd sy’n barod ar gyfer y dyfodol. A ydych yn rhannu fy siom bod y Llywodraeth yn San Steffan wedi methu gwario £8 biliwn o arian cyfalaf y flwyddyn ddiwethaf? A fedrwch gadarnhau bod eich Llywodraeth chi wedi gwario pob ceiniog o’r arian cyfalaf a oedd ar gael iddi llynedd?

Simon Thomas: Capital expenditure is crucial in tackling the recession, in my opinion, because it creates jobs and infrastructure that is ready for the future. Do you share my disappointment that the Westminster Government has failed to spend £8 billion of capital funding last year? Can you confirm that your Government has spent every penny of the capital funds that were available last year?

Y Prif Weinidog: Rydym yn ceisio gwario pob ceiniog o arian cyfalaf sydd ar gael i ni er mwyn sicrhau bod yr arian hwnnw yn mynd mewn i economi Cymru. Mae’n siom fawr i glywed nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwario’r arian hwn a fyddai wedi rhoi swyddi i bobl ac wedi helpu economïau lleol ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig.

The First Minister: We endeavour to spend every penny of capital funding available in order to ensure that that money goes into the economy of Wales. It is very disappointing to hear that the United Kingdom Government has not spent that money, which would have given people jobs and supported local economies throughout Wales and the United Kingdom.

Janet Finch-Saunders: What steps is the Welsh Government going to take to ease the effects of the recession in Wales?

Janet Finch-Saunders: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’w cymryd i leddfu effaith y dirwasgiad ar Gymru?

The Presiding Officer: Order. I am sorry, but that question has just been asked by Simon Thomas. Do you have a supplementary question that you wish to ask?

Y Llywydd: Trefn. Mae'n ddrwg gennyf, ond mae’r cwestiwn hwnnw newydd gael ei ofyn gan Simon Thomas. A oes gennych gwestiwn atodol yr ydych am ei ofyn?

Janet Finch-Saunders: First Minister, I have to hand figures showing that, since 2008-09, the Welsh Government has spent over £2 million on excess transport fares for staff as a result of the relocation of offices. This was for a period that came three years after the initial relocation. Will you look into such frequent overspends so that these funds can go into more worthwhile sc00hemes, such as the Young Recruits programme, through which this spend could have funded some 803 apprenticeships?

Janet Finch-Saunders: Brif Weinidog, mae gennyf ffigurau sy'n dangos bod Llywodraeth Cymru, ers 2008-09, wedi gwario dros £2 filiwn ar gostau trafnidiaeth ychwanegol ar gyfer staff o ganlyniad i ail-leoli swyddfeydd. Roedd hyn ar gyfer cyfnod a ddaeth dair blynedd ar ôl yr ail-leoli cychwynnol. A wnewch ymchwilio i orwariant rheolaidd o'r fath fel y gall yr arian hwn fynd at gynlluniau mwy buddiol, megis y rhaglen Recriwtiaid Newydd, lle y gallai’r gwariant fod wedi ariannu 803 o brentisiaethau?

The First Minister: The Member refers to an issue that seems to have taken place under a previous Government, not this one. I would also remind her that the Young Recruits programme is being funded, if I remember rightly, with money that was made available to us as a result of the council tax freeze in England, which is a spend that she wholeheartedly opposed.

Y Prif Weinidog: Mae’r Aelod yn cyfeirio at fater y tybiaf iddo ddigwydd o dan Lywodraeth flaenorol, nid hon. Byddwn hefyd yn ei hatgoffa bod y rhaglen Recriwtiaid Newydd yn cael ei hariannu, os cofiaf yn iawn, ag arian a gawsom o ganlyniad i rewi'r dreth gyngor yn Lloegr, sef gwariant yr oedd hi’n ei wrthwynebu'n llwyr.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Business Statement and Announcement

The Record

The Minister for Finance and Leader of the House (Jane Hutt): There are two changes to report to this week’s planned business. The time allocated to this afternoon’s statement on regional pay has been extended to 45 minutes to allow Members additional time for questions on this important issue. Secondly, the Business Committee has scheduled a motion to annul the Controlled Waste (England and Wales) Regulations 2012 as the first item of Assembly business tomorrow. Business for the next three weeks is as set out on the business statement and announcement, which can be found among the agenda papers that are available to Members electronically.

Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ (Jane Hutt): Mae dau newid ym musnes arfaethedig yr wythnos hon. Mae'r amser a ddyrennir i’r datganiad y prynhawn yma ar gyflog rhanbarthol wedi cael ei ymestyn i 45 munud i ganiatáu amser ychwanegol i'r Aelodau ofyn cwestiynau ar y mater pwysig hwn. Yn ail, mae'r Pwyllgor Busnes wedi trefnu cynnig i ddirymu'r Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012 fel eitem gyntaf busnes y Cynulliad yfory. Mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y mae wedi’i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, a welir ymhlith papurau’r agenda sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Mark Isherwood: I call for a Welsh Government statement on cardiac screening in young people. The Minister may be aware that, last week, Cardiac Risk in the Young, or CRY, held an event in the Assembly at which I had the privilege of speaking. We heard that at least 12 fit and healthy young people aged between 14 and 35 die every week across the UK from previously undiagnosed heart defects, and 80 per cent of them will have had no prior symptoms. I was able to welcome bereaved families from across Wales who have been affected by this, and referred to the recent sudden collapse of Bolton Wanderers’ midfielder Fabrice Muamba, highlighting the need to screen young people against sudden cardiac death. Will the Welsh Government therefore give consideration to this, noting that sport does not cause the problem, but it can exacerbate an existing, undiagnosed condition, and the high-risk group is the young?

Mark Isherwood: Rwyf yn galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sgrinio’r galon ymysg pobl ifanc. Efallai y gŵyr y Gweinidog fod CRY, sy’n ymwneud â’r perygl i bobl ifanc gael afiechyd ar y galon, wedi cynnal digwyddiad yn y Cynulliad yr wythnos diwethaf, lle y cefais y fraint o siarad. Clywsom fod o leiaf 12 o bobl ifanc heini ac iach rhwng 14 a 35 yn marw bob wythnos ar draws y DU o namau ar y galon na chawsant ddiagnosis eu bod arnynt yn flaenorol, ac na fydd 80 y cant ohonynt wedi cael symptomau blaenorol. Roeddwn yn gallu croesawu teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth o bob rhan o Gymru y mae hyn wedi effeithio arnynt, a chyfeiriais at gwymp sydyn chwaraewr canol cae Bolton Wanderers, Fabrice Muamba, yn ddiweddar, sy’n amlygu'r angen i sgrinio pobl ifanc rhag marwolaeth sydyn y galon. A fydd Llywodraeth Cymru, felly, yn rhoi ystyriaeth i hyn, gan nodi nad chwaraeon sy’n achosi’r broblem, ond y gall waethygu cyflwr nad oes diagnosis wedi’i wneud arno sy'n bodoli eisoes, ac mai’r grŵp risg uchel yw'r ifanc?

Jane Hutt: I was also at that important event last week, at which I joined you and other colleagues from across the Chamber. I know that the Minister for Health and Social Services is aware of the implications and the opportunities to address this issue.

Jane Hutt: Roeddwn innau yn y digwyddiad pwysig hwnnw yr wythnos diwethaf, lle yr ymunais â chi a chyd-Aelodau eraill o bob rhan o'r Siambr. Gwn fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymwybodol o'r goblygiadau a'r cyfleoedd i fynd i'r afael â'r mater hwn.

Paul Davies: Will the Leader of the House ask the Minister for health to make a statement on the provision of a permanent renal facility at Withybush General Hospital in my constituency? On 6 March this year, I asked the Minister for health whether she could reassure my constituents that the much-needed permanent renal unit would go ahead at Withybush hospital. She answered that she could reassure them of that. However, since then—last week, in fact—I received a letter from the Minister for health that states that a decision on the location of the planned new renal unit for the Withybush site has yet to be made. Given that I understand that £600,000 has already been spent on securing the facility at Withybush hospital, and given that there is now some doubt about the provision of a permanent renal unit at this site, could the Leader of the House ask the Minister for health for a statement on this to reassure my constituents and to clarify the position?

Paul Davies: A wnaiff Arweinydd y Tŷ ofyn i'r Gweinidog iechyd wneud datganiad am ddarparu cyfleuster arennol parhaol yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn fy etholaeth? Ar 6 Mawrth eleni, gofynnais i'r Gweinidog iechyd a allai sicrhau fy etholwyr y byddai uned arennol barhaol, y mae taer angen amdani, yn cael ei sefydlu yn ysbyty Llwynhelyg. Atebodd y gallai eu sicrhau o hynny. Fodd bynnag, ers hynny—yr wythnos diwethaf, a dweud y gwir—cefais lythyr gan y Gweinidog iechyd yn dweud nad yw penderfyniad ar leoliad yr uned arennol newydd arfaethedig ar gyfer safle Llwynhelyg wedi ei wneud eto. O ystyried fy mod yn deall bod £600,000 eisoes wedi ei wario ar sicrhau’r cyfleuster yn ysbyty Llwynhelyg, ac o ystyried bod peth amheuaeth bellach ynghylch darparu uned arennol barhaol ar y safle hwn, a wnaiff Arweinydd y Tŷ ofyn i'r Gweinidog iechyd am ddatganiad am hyn i dawelu meddyliau fy etholwyr ac i egluro'r sefyllfa?

Jane Hutt: Paul Davies, the Minister made it clear in correspondence that a decision is awaited on the planned renal unit, and I suggest that we wait for that decision.

Jane Hutt: Paul Davies, dywedodd y Gweinidog yn glir mewn gohebiaeth fod disgwyl am benderfyniad ar yr uned arennol arfaethedig, ac awgrymaf ein bod yn aros am y penderfyniad hwnnw.

Antoinette Sandbach: Minister, I wrote to you last week calling for a statement from the Deputy Minister for Agriculture, Food, Fisheries and European Programmes in relation to the Glastir woodland management scheme. There has been considerable correspondence from concerned people working in the woodland industry, given the reversed position following a stakeholder meeting that may put 9,000 private jobs at threat. It is important that this matter is considered and debated in this Assembly. This decision effectively removes the role of woodland management advisers in drawing up plans. There are also plans to end the restocking grant for woodlands across Wales, as I understand it from correspondence, bringing it into the Glastir management scheme only. It would be helpful if that position could be clarified in a statement from the Deputy Minister.

Antoinette Sandbach: Weinidog, ysgrifennais atoch yr wythnos diwethaf yn galw am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd mewn perthynas â chynllun rheoli coetiroedd Glastir. Cafwyd llawer iawn o ohebiaeth oddi wrth bobl bryderus sy’n gweithio yn y diwydiant coetir, gan y gallai’r sefyllfa sydd wedi’i gwrthdroi yn dilyn cyfarfod rhanddeiliaid fygwth 9,000 o swyddi preifat. Mae'n bwysig i’r mater hwn gael ei ystyried a'i drafod yn y Cynulliad hwn. Mae'r penderfyniad hwn i bob pwrpas yn cael gwared ar rôl y cynghorwyr rheoli coetiroedd wrth lunio cynlluniau. Mae cynlluniau hefyd i roi terfyn ar y grant ailstocio ar gyfer coetiroedd ar draws Cymru, yn ôl yr hyn yr wyf yn ei ddeall o ohebiaeth, gan ei gyflwyno i'r cynllun rheoli Glastir yn unig. Byddai'n ddefnyddiol pe gallai’r sefyllfa honno gael ei hegluro mewn datganiad gan y Dirprwy Weinidog.

Jane Hutt: I thank Antoinette Sandbach for raising this issue with me prior to the business statement this afternoon. As you know, in February, the Deputy Minister for Agriculture, Food, Fisheries and European Programmes announced his intention to have a stocktake of Glastir, particularly focusing on this issue. He will report back on the findings and give his response to this issue at the end of June.

Jane Hutt: Diolch i Antoinette Sandbach am godi'r mater hwn gyda mi cyn y datganiad busnes y prynhawn yma. Fel y gwyddoch, ym mis Chwefror, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd ei fwriad i adolygu Glastir, gan ganolbwyntio'n arbennig ar y mater hwn. Bydd yn adrodd yn ôl ar y canfyddiadau ac yn rhoi ei ymateb i'r mater hwn ddiwedd mis Mehefin.

Datganiad: Cyflog Rhanbarthol
Statement: Regional Pay

The Record

The Minister for Finance and Leader of the House (Jane Hutt): I am today publishing a paper on regional and local market pay that the Welsh Government will be submitting to the UK Treasury and for consideration by the pay review bodies. This evidence, drawn together by the Welsh Government’s chief economist, demonstrates that the material previously submitted by HM Treasury is far from the full picture and that the case for introducing public sector pay that varies on a regional basis is deeply flawed. It complements evidence particularly relevant to the health and education sectors in Wales that has already been submitted by the Minister for Health and Social Services and the Minister for Education and Skills. In the joint response from the Ministers for health in Wales and Scotland, they confirmed that they saw no merit in pursuing a policy on local market-facing pay.

Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ (Jane Hutt): Rwyf heddiw yn cyhoeddi papur ar gyflog rhanbarthol a chyflog y farchnad leol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno i Drysorlys y DU ac a fydd yn cael ei ystyried gan y cyrff adolygu cyflogau. Mae’r dystiolaeth hon, a dynnwyd at ei gilydd gan brif economegydd Llywodraeth Cymru, yn dangos nad yw’r deunydd a gyflwynwyd yn flaenorol gan Drysorlys EM yn rhoi’r darlun llawn o bellffordd a bod yr achos dros gyflwyno cyflogau yn y sector cyhoeddus sy'n amrywio ar sail ranbarthol yn wallus tu hwnt. Mae'n cyd-fynd â thystiolaeth sy’n arbennig o berthnasol i'r sectorau iechyd ac addysg yng Nghymru sydd eisoes wedi ei chyflwyno gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg a Sgiliau. Yn yr ymateb ar y cyd gan Weinidogion iechyd Cymru a'r Alban, roeddent yn cadarnhau nad oeddent yn gweld dim rhinwedd mewn polisi sy’n seiliedig ar y farchnad leol.

I am pleased that all parties in this Chamber have expressed their opposition to the imposition of regional public sector pay in Wales. Working together, where we can, to protect Wales from the impact of this misguided policy strengthens the case that we are making.

Rwyf yn falch bod pob plaid yn y Siambr hon wedi dweud eu bod yn gwrthwynebu gorfodi cyflogau rhanbarthol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae cydweithio, lle y gallwn, i amddiffyn Cymru rhag effaith y polisi cyfeiliornus hwn yn cryfhau'r achos yr ydym yn ei gyflwyno.

The evidence that I am publishing confirms that this widespread opposition to regional public sector pay is very well founded. The Welsh Government’s evidence shows that the Treasury’s submission is stronger on assertions then evidence. The widely quoted claim of a public sector pay premium of 18% in Wales is contradicted by the latest and best evidence, as is the suggestion that Wales is a clear outlier, different from any other UK country or region in respect of public sector pay.

Mae'r dystiolaeth yr wyf yn ei chyhoeddi yn cadarnhau bod sail dda iawn i’r gwrthwynebiad helaeth i gyflogau rhanbarthol yn y sector cyhoeddus. Dengys tystiolaeth Llywodraeth Cymru fod cyflwyniad y Trysorlys yn gryfach o ran haeriadau na thystiolaeth. Mae'r honiad bod premiwn cyflog sector cyhoeddus o 18% yng Nghymru a ddyfynnwyd yn helaeth yn cael ei wrthbrofi gan y dystiolaeth ddiweddaraf a gorau, a’r un modd yr awgrym bod Cymru yn ystadegol wahanol i unrhyw wlad neu ranbarth arall yn y DU o ran cyflog sector cyhoeddus.

If the analysis that the Treasury endorses is recalculated with a larger and more recent data source, and with exceptionally high earners excluded, the apparent premium for Wales is reduced considerably. It also shows that the situation in Wales does not differ in a statistically significant way from a number of other UK countries and regions. However, that is not the end of the story. I referred deliberately to the apparent premium. It is also clear that a number of important factors have simply been ignored in the Treasury’s case, and that once these are factored in, there is no clear evidence that a persistent pay premium exists across the public sector as whole.

Os bydd y dadansoddiad y mae’r Trysorlys yn ei gymeradwyo yn cael ei ailgyfrifo gyda ffynhonnell data mwy o faint a mwy diweddar, gan eithrio enillwyr eithriadol o uchel, mae’r premiwm tybiedig ar gyfer Cymru yn gostwng yn sylweddol. Mae hefyd yn dangos nad yw'r sefyllfa yng Nghymru yn wahanol mewn ffordd arwyddocaol yn ystadegol i nifer o wledydd a rhanbarthau eraill y DU. Fodd bynnag, nid dyna ddiwedd y stori. Cyfeiriais yn fwriadol at y premiwm tybiedig. Mae hefyd yn amlwg bod nifer o ffactorau pwysig wedi eu hanwybyddu yn achos y Trysorlys, ac wedi i’r rhain gael eu cynnwys, nid oes tystiolaeth glir bod premiwm cyflog cyson yn bodoli ar draws y sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd.  

2.30 p.m.

These factors, which also apply to all other UK regions and countries, include an estimate of the value of private sector bonuses, differences in pay that exist between occupations, whether in public or private sectors, and the need to assess pay over a period, rather than by taking a snapshot at a point in time when differences between public and private pay are likely to be at their greatest. Insofar as there are differences in pay between the public and private sectors in Wales, these are largely driven by the fact that the low paid, and low-paid women in particular, may be paid even less in the private sector. So these are the groups—the low paid and women—that would have to be targeted by a policy that aimed to reduce any apparent differential. That would be completely contrary to Welsh Government policy, which seeks to protect the most vulnerable, including the low paid, and to promote equality by reducing, not increasing, the gender pay gap. Indeed, reducing already low pay would even appear to be contrary to claims by the UK Government that in taking forward its austerity programme it wants to take steps to protect this group of workers.

Mae’r ffactorau hyn, sydd hefyd yn berthnasol i bob rhanbarth a gwlad arall yn y DU, yn cynnwys amcangyfrif o werth taliadau bonws y sector preifat, gwahaniaethau mewn cyflogau sy’n bodoli rhwng galwedigaethau, boed yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat, a’r angen i asesu cyflog dros gyfnod, yn hytrach na thrwy gymryd cipolwg ar adeg pan fo gwahaniaethau rhwng cyflog cyhoeddus a phreifat yn debygol o fod ar eu mwyaf. Caiff y gwahaniaethau mewn cyflog rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat yng Nghymru eu gyrru, i raddau helaeth, gan y ffaith y gallai pobl ar gyflog isel, a menywod ar gyflog isel yn arbennig, gael eu talu hyd yn oed yn llai yn y sector preifat. Felly, dyma’r grwpiau—y rhai ar gyflog isel a menywod—y byddai’n rhaid eu targedu gan bolisi sy’n ceisio lleihau unrhyw wahaniaeth amlwg. Byddai hynny’n gwbl groes i bolisi Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, gan gynnwys y rhai ar gyflogau isel, ac i hyrwyddo cydraddoldeb drwy leihau, nid cynyddu, y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Yn wir, byddai lleihau cyflog sydd eisoes yn isel yn ymddangos hyd yn oed fel pe bai’n groes i honiadau gan Lywodraeth y DU ei bod, wrth fwrw ymlaen â’i rhaglen galedi, am gymryd camau i amddiffyn y grŵp hwn o weithwyr.

 

Another factor behind the relatively low average pay in the private sector in Wales, and something which could give rise to the appearance of a public sector pay advantage, is the fact that Wales lacks its share of top-end private sector jobs—the kind that are found in company headquarters and regional head offices in very large cities. It would clearly be invidious to punish low-paid public sector workers because of the relative lack of top-end private sector jobs in Wales. The UK Government makes much of the need to be market-facing. Yet the evidence shows that large, multi-site private sector companies do not operate with complex systems of regionally-varying pay. They recognise that the disadvantages of such systems—the administrative costs, the obstacles they place in the way of staff movement and so on—are just too great. Yes, they take account of the higher living costs in and around London, and perhaps a few other hotspots, but that is very similar to what already happens in the public sector in Wales and across the UK.

Ffactor arall y tu ôl i’r cyflog cyfartalog cymharol isel yn y sector preifat yng Nghymru, sy’n rhywbeth a allai arwain at  y syniad bod cyflog y rheini yn y sector cyhoeddus yn uwch, yw’r ffaith nad oes gan Gymru ei chyfran o’r swyddi uchaf yn y sector preifat—y math a welir mewn pencadlysoedd cwmnïau a phrif swyddfeydd rhanbarthol mewn dinasoedd mawr iawn. Mae’n amlwg y byddai’n annheg cosbi gweithwyr ar gyflog isel yn y sector cyhoeddus oherwydd y diffyg cymharol o swyddi uchel yn y sector preifat yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU yn sôn yn aml am yr angen i wynebu’r farchnad. Serch hynny, mae’r dystiolaeth yn dangos nad yw cwmnïau mawr y sector preifat sydd ar sawl safle yn gweithredu gyda systemau cymhleth lle y mae cyflog yn amrywio’n rhanbarthol. Mae’n cydnabod bod anfanteision systemau o’r fath—y costau gweinyddol, y rhwystrau y maent yn eu gosod i atal staff rhag symud ac ati—yn ormod. Mae’n wir ei bod yn ystyried y costau byw uwch yn Llundain a’r cyffiniau, a rhai ardaloedd eraill sydd â chostau byw uchel o bosibl, ond mae hynny’n debyg iawn i’r hyn sydd eisoes yn digwydd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a ledled y DU.

 

Some have argued that excessive public sector pay crowds out private sector employment. There is no clear evidence of that happening in Wales. In fact, as I just said, there is no good evidence that pay is systematically higher in the public sector. However, beyond this, if we look to the record of job creation in Wales, we see absolutely no evidence that the private sector has been crowded out. Since the start of devolution in 1999, until the recent recession, Wales has seen proportionately more jobs created in the private sector than in the public sector. Across the UK as a whole, the reverse has happened. So, Wales has been outperforming the UK on private sector job creation, which is completely at odds with the theories of crowding out. However, given the allegation of crowding out, I am commissioning some further work on this point. Attempts by the UK Government to engineer reductions in public sector pay in Wales would be particularly harmful in present circumstances. Even if crowding out were a theoretical possibility, it is least likely to happen at times when, and in places where, unemployment is high. These are also the circumstances in which reductions in pay, leading to lower levels of spending, are most likely to result in knock-on effects and an associated loss of jobs.

Mae rhai wedi dadlau bod cyflog gormodol y sector cyhoeddus wedi gwthio cyflogaeth yn y sector preifat allan. Nid oes unrhyw dystiolaeth glir bod hynny’n digwydd yng Nghymru. Yn wir, fel yr wyf newydd ei ddweud, nid oes tystiolaeth dda bod cyflog yn uwch yn systematig yn y sector cyhoeddus. Fodd bynnag, y tu hwnt i hyn, os edrychwn ar hanes creu swyddi yng Nghymru, ni welwn unrhyw dystiolaeth o gwbl bod y sector preifat wedi’i gwthio allan. Ers dechrau datganoli ym 1999, hyd nes y dirwasgiad diweddar, mae mwy o swyddi wedi’u creu yng Nghymru yn y sector preifat na’r sector cyhoeddus. Ledled y DU i gyd, mae’r gwrthwyneb wedi digwydd. Felly, mae Cymru wedi bod yn gwneud yn well na’r DU o ran creu swyddi yn y sector preifat, sy’n gwbl groes i’r damcaniaethau o wthio allan. Fodd bynnag, o ystyried yr honiad o wthio’r sector preifat allan, rwy’n comisiynu gwaith pellach ar y mater hwn. Byddai ymdrechion gan Lywodraeth y DU i gynllunio i leihau cyflogau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn arbennig o niweidiol o dan yr amgylchiadau presennol. Hyd yn oed pe byddai gwthio allan yn bosibilrwydd damcaniaethol, mae’n sicr yn llai tebygol o ddigwydd ar adegau pan fo diweithdra yn uchel ac mewn mannau lle mae’n uchel. Dyma’r amgylchiadau hefyd lle mae lleihau cyflogau, a fydd yn arwain at lefelau is o wariant, yn fwyaf tebygol o arwain at sgîl-effeithiau a cholli swyddi cysylltiedig.

 

Despite the fact that no decision has yet been taken by the independent pay review bodies, it is unfortunate that the UK Government appears intent on pushing forward with plans for local market-facing pay for the civil service. All departments in England have been told that they must consider this issue as part of their ongoing pay strategies, with some able to introduce localised pay from this year. This will affect around 28,000 civil servants working in non-devolved occupations in Wales. As with the wider public sector, lower pay for these staff will inevitably mean that they have less to spend in the Welsh marketplace, and that can only be bad news for the Welsh economy, both private and public sectors. A policy of regional public sector pay would therefore be economically damaging and socially divisive. Driving down pay in our most disadvantaged communities at a time of economic stress, and exacerbating pay gaps between men and women, would be bad for Wales and harmful to the UK as a whole. We have come together in the Assembly on this issue. Now that we have published material from our chief economist showing that our common position is very soundly grounded in the data and other evidence, I hope we can continue to work in a united way to persuade the UK Government not to proceed further down this disastrous path.

Er gwaetha’r ffaith nad oes penderfyniad wedi’i wneud eto gan y cyrff adolygu cyflogau annibynnol, mae’n anffodus bod Llywodraeth y DU yn ymddangos yn awyddus i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer cyflog sy’n wynebu’r farchnad ar gyfer y gwasanaeth sifil. Mae pob adran yn Lloegr wedi cael gwybod bod yn rhaid iddi ystyried y mater hwn fel rhan o’i strategaethau cyflog parhaus, gyda rhai adrannau’n gallu cyflwyno cyflog lleol eleni. Bydd hyn yn effeithio ar tua 28,000 o weision sifil mewn galwedigaethau sydd heb eu datganoli yng Nghymru. Fel gyda’r sector cyhoeddus ehangach, bydd cyflog is i’r staff hyn yn anochel yn golygu bod yn rhaid iddynt wario llai yn y farchnad yng Nghymru, a gall hynny ond bod yn newyddion drwg i economi Cymru, yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Byddai polisi cyflog sector cyhoeddus rhanbarthol felly yn niweidiol yn economaidd ac yn peri rhwyg yn gymdeithasol. Byddai lleihau cyflog yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig ar adeg o straen economaidd, a chynyddu’r bylchau cyflog mawr rhwng dynion a menywod, yn ddrwg i Gymru ac yn niweidiol i’r DU yn gyffredinol. Mae’n rhaid inni ddod at ein gilydd yn y Cynulliad ar y mater hwn. Gan fod gennym bellach ddeunydd wedi’i gyhoeddi gan ein prif economegydd sy’n dangos bod ein safbwynt cyffredin wedi’i seilio’n gadarn iawn yn y data ac mewn tystiolaeth arall, rwy’n gobeithio y gallwn barhau i weithio mewn ffordd unedig i ddarbwyllo Llywodraeth y DU i beidio â mynd ymlaen ymhellach ar hyd y llwybr trychinebus hwn.

 

Paul Davies: I thank the Minister for her statement and for the telephone briefing earlier today. I welcome the report, commissioned by the Welsh Government, which has been published this afternoon. For the record, let me once again make it clear that the Welsh Conservative group has not seen any evidence of the benefits of introducing a regional pay system in the UK. That is why we have made it absolutely clear that we are not in favour of a regional pay system in the UK. However, it is important to note that, at this stage, the UK Government has not yet proposed to introduce a regional pay system. The situation as it stands is that the Chancellor has asked independent pay review bodies to look at the issue and report back.

Paul Davies: Diolch i’r Gweinidog am ei datganiad ac am y briff dros y ffôn yn gynharach heddiw. Croesawaf yr adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd y prynhawn yma. Er gwybodaeth, hoffwn ei gwneud yn glir unwaith eto nad yw grŵp y Ceidwadwyr Cymreig wedi gweld unrhyw dystiolaeth o fanteision cyflwyno system cyflogau rhanbarthol yn y DU. Dyna pam yr ydym wedi ei gwneud yn gwbl glir nad ydym o blaid system cyflogau rhanbarthol yn y DU. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi, ar hyn o bryd, nad yw Llywodraeth y DU wedi cynnig cyflwyno system cyflogau rhanbarthol eto. Y sefyllfa ar hyn o bryd yw bod y Canghellor wedi gofyn i gyrff adolygu cyflogau annibynnol edrych ar y mater ac adrodd yn ôl.

 

As we all know, the previous UK Labour Government introduced regional pay for the court service in 2007. When it did so, Labour’s then Secretary of State for Wales, who oversaw the introduction, said:

Fel y gwyddom, cyflwynodd Llywodraeth Lafur flaenorol y DU gyflog rhanbarthol ar gyfer y gwasanaeth llysoedd yn 2007. Pan wnaeth hynny, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol Cymru Llafur ar y pryd, a oruchwyliodd y gwaith o gyflwyno’r system:

 

'Regional pay is not a new development—it is a reality in the economy as a whole, and HMCS is reacting to regional pay, rather than creating it. The Government’s policy is that pay should reflect local labour market conditions.’

Nid yw cyflog rhanbarthol yn ddatblygiad newydd—mae’n realiti drwyddi draw yn yr economi cyfan, ac mae Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi yn ymateb i gyflog rhanbarthol, yn hytrach na’i greu. Polisi’r Llywodraeth yw y dylai cyflog adlewyrchu amodau’r farchnad lafur leol.

 

Clearly, Labour Party policy has changed on this issue, given the Welsh Labour Government’s position today. Could the Minister tell us exactly when the Labour Party changed its policy on this matter? It seems to me that the Welsh Government did not make official representations expressing its opposition to the then UK Labour Government when it introduced regional pay to the court system in 2007, which implies that it agreed with the policy. However, if that was not the case, and the Welsh Government did make representations at the time, will the Minister confirm whether the Welsh Government will put forward the same arguments and evidence, in addition to sending today’s report by Jonathan Price to the Treasury? It is clear that the Welsh Government agrees that the introduction of a regional pay system would be detrimental to public sector employees. Will the Minister tell us, in addition to sending today’s report, what specific representations she has already made to the UK Government on this matter? Will she also be kind enough to tell us what specific discussions, to date, she has had with individual departments in Whitehall on moving towards regional pay and what the outcomes of those discussions are?

Yn amlwg, mae polisi’r Blaid Lafur wedi newid ar y mater hwn, o ystyried safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru heddiw. A allai’r Gweinidog ddweud wrthym pryd yn union y gwnaeth y Blaid Lafur newid ei pholisi ar y mater hwn? Mae’n ymddangos i mi na wnaeth Llywodraeth Cymru unrhyw sylwadau swyddogol yn mynegi ei gwrthwynebiad i Lywodraeth Lafur y DU ar y pryd pan wnaeth gyflwyno cyflog rhanbarthol i’r system llysoedd yn 2007, sy’n awgrymu ei bod yn cytuno â’r polisi. Fodd bynnag, os nad dyna’r achos, a bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno sylwadau ar y pryd, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau a fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r un dadleuon a thystiolaeth, yn ogystal ag anfon yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Jonathan Price heddiw i’r Trysorlys? Mae’n amlwg bod Llywodraeth Cymru yn cytuno y byddai cyflwyno system cyflogau rhanbarthol yn niweidiol i weithwyr y sector cyhoeddus. A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym, yn ogystal ag anfon adroddiad heddiw, pa sylwadau penodol y mae eisoes wedi’u cyflwyno i Lywodraeth y DU ar y mater hwn? A fydd hi hefyd yn ddigon caredig i ddweud wrthym ba drafodaethau penodol y mae wedi’u cael hyd yma gydag adrannau unigol yn Whitehall ynglŷn â symud tuag at gael cyflog rhanbarthol a beth yw canlyniadau’r trafodaethau hynny?

 

It is all well and good opposing the introduction of a regional pay system in Wales, but the argument needs to be supported by real evidence. I am pleased that this report provides some of that evidence. I note from the Minister’s statement that she will commission further work on the argument that public sector pay crowds out private sector employment. Can the Minister give us an indication of what type of work she is looking at? When will the findings be available?

Mae’n ddigon hawdd gwrthwynebu cyflwyno system cyflogau rhanbarthol yng Nghymru, ond rhaid i’r ddadl gael ei hategu gan dystiolaeth go iawn. Rwy’n falch bod yr adroddiad hwn yn darparu rhywfaint o’r dystiolaeth honno. Sylwaf o ddatganiad y Gweinidog y bydd yn comisiynu gwaith pellach ar y ddadl bod y sector cyhoeddus yn gwthio cyflogaeth yn y sector preifat allan. A all y Gweinidog roi syniad inni ba fath o waith y mae hi’n ei ystyried? Pryd fydd y canlyniadau ar gael?

 

We recently heard the First Minister state that the Welsh Government may look at taking over public sector pay and conditions in Wales. In November last year he said:

Gwnaethom glywed y Prif Weinidog yn nodi’n ddiweddar y gallai Llywodraeth Cymru ystyried cymryd drosodd y cyfrifoldeb dros gyflogau ac amodau’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Ym mis Tachwedd y llynedd dywedodd:

 

'Ultimately we may have to look at taking over pay and conditions here in Wales.’

Yn y pen draw, efallai y bydd yn rhaid inni ystyried cymryd drosodd y cyfrifoldeb dros gyflogau ac amodau yma yng Nghymru.

 

Can the Minister for Finance today, for the record, rule out devolving the pay and conditions of public sector employees in Wales to the Welsh Government? The devolution of pay and conditions would surely create a regional pay system in the United Kingdom. We all accept that we must grow the private sector in Wales, but it should not be done by squeezing wages in the public sector. Given the gap between public and private sector pay rates, could the Minister tell us what role the Welsh Government will play in closing that gap? What solutions is the Welsh Government offering for this problem? It is essential that everything possible is done to support the private sector to make it more competitive. We need to raise the private sector’s contribution to the Welsh economy. That is the challenge for the Welsh Government. The Minister must tell us, in her response, what specific role the Welsh Government will play in growing the private sector.

A all y Gweinidog Cyllid gadarnhau heddiw ei bod yn diystyru datganoli cyflogau ac amodau gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru i Lywodraeth Cymru? Byddai datganoli cyflogau ac amodau yn sicr o greu system cyflogau rhanbarthol yn y Deyrnas Unedig. Rydym i gyd yn derbyn bod yn rhaid inni dyfu’r sector preifat yng Nghymru, ond ni ddylid gwneud hynny drwy wasgu cyflogau yn y sector cyhoeddus. O ystyried y bwlch rhwng cyfraddau cyflogau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, a all y Gweinidog ddweud wrthym ba rôl y bydd Llywodraeth Cymru yn ei chwarae i gau’r bwlch hwnnw? Pa atebion y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig ar gyfer y broblem hon? Mae’n hanfodol bod popeth posibl yn cael ei wneud i gefnogi’r sector preifat er mwyn ei wneud yn fwy cystadleuol. Mae angen inni gynyddu cyfraniad y sector preifat yn economi Cymru. Dyna’r her i Lywodraeth Cymru. Mae’n rhaid i’r Gweinidog ddweud wrthym, yn ei hymateb, pa rôl benodol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei chwarae i ddatblygu’r sector preifat.

 

Again, I thank the Minister for her statement. It is essential that the Welsh Government continues to engage with the UK Government during the course of the independent review established by the Chancellor of the Exchequer.

Unwaith eto, hoffwn ddiolch i’r Gweinidog am ei datganiad. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU yn ystod yr adolygiad annibynnol a sefydlwyd gan Ganghellor y Trysorlys.

 

Jane Hutt: I am grateful to Paul Davies for his informed and constructive response in welcoming the analysis and the evidence presented by our chief economist, Jonathan Price, which we are publishing today. I am glad that we have the opportunity once again to make a united case, which I am sure we will do as a result of this statement. I welcome the scrutiny. It is important that we look at the previous circumstances in relation to the previous UK Government, and I am happy to do that. I acknowledge that the previous UK Government introduced a form of regional pay at the Ministry of Justice. However, in relation to those particular circumstances, that system was based on a national pay rate with allowances for a small number of areas where recruitment proved difficult, such as London. It was a one-off. It was not the race to the bottom that is now envisaged by the current UK Government as a short-term cost-cutting exercise.

Jane Hutt: Rwyf yn ddiolchgar i Paul Davies am ei ymateb gwybodus ac adeiladol wrth groesawu’r dadansoddiad a’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan ein prif economegydd, Jonathan Price, a gyhoeddir heddiw. Rwy’n falch ein bod yn cael cyfle unwaith eto i wneud achos unedig, ac rwy’n siŵr y byddwn yn gwneud hynny o ganlyniad i’r datganiad hwn. Rwy’n croesawu’r gwaith craffu. Mae’n bwysig ein bod yn edrych ar yr amgylchiadau blaenorol mewn cysylltiad â Llywodraeth flaenorol y DU, ac rwy’n fodlon gwneud hynny. Rwy’n cydnabod bod Llywodraeth flaenorol y DU wedi cyflwyno ffurf ar gyflog rhanbarthol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Fodd bynnag, mewn perthynas â’r amgylchiadau penodol hynny, roedd y system honno’n seiliedig ar gyfradd cyflog cenedlaethol gyda lwfansau ar gyfer nifer fechan o ardaloedd lle’r oedd yn anodd recriwtio, fel Llundain. Roedd yn sefyllfa unigryw. Nid ras i’r gwaelod ydoedd megis yr un a ragwelir bellach gan Lywodraeth bresennol y DU fel ymarfer byr dymor i leihau costau.

The First Minister and I have made representations since an announcement was first made in the autumn review last year regarding the prospect of the UK Government acquiring evidence from the pay review bodies about regional pay. In fact, the First Minister’s representations to the Prime Minister and my representations to the Chief Secretary to the Treasury have been ongoing over the past few months. We held a quadrilateral meeting in March with the Chief Secretary to the Treasury and, at that quadrilateral meeting, regional pay was on the agenda. Therefore, it formed part of our discussions and all of the other Ministers of finance at the meeting—from Scotland and Northern Ireland—joined me in raising concerns about regional pay.

Mae’r Prif Weinidog a minnau wedi cyflwyno sylwadau ers i’r cyhoeddiad gael ei wneud gyntaf yn adolygiad yr hydref y llynedd ynghylch y posibilrwydd y bydd Llywodraeth y DU yn cael tystiolaeth gan y cyrff adolygu cyflogau ynghylch cyflogau rhanbarthol. Yn wir, bu’r Prif Weinidog yn anfon sylwadau at Brif Weinidog y DU a bûm innau yn anfon sylwadau at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn gyson dros y misoedd diwethaf. Cynhaliwyd cyfarfod pedairochrog ym mis Mawrth gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ac, yn y cyfarfod hwnnw, roedd cyflog rhanbarthol ar yr agenda. Felly, roedd yn rhan o’n trafodaethau, a gwnaeth pob un o’r Gweinidogion cyllid eraill yn y cyfarfod—o’r Alban a Gogledd Iwerddon—ymuno â mi i fynegi pryderon ynghylch cyflogau rhanbarthol.

As a result of that, we also raised, and, in fact, this was raised in the debate that we had before Easter, the impact of regional pay on the Barnett formula. If we believe that the introduction of regional pay in England will lead to lower resources being allocated to services such as health and education, which are devolved to Wales, then the Welsh Government will also see a reduction in its budget via the Barnett formula. I have had correspondence from the Chief Secretary to the Treasury in which he says that this would not be the case. As in the quadrilateral meeting on 5 March, he says that this policy is not about reducing overall public spending, but about ensuring that pay is set at the right level for each local labour market, and that the Treasury will not be cutting departmental budgets in association with this policy in the current spending review period, and so there will be no impact on the block grant through the Barnett formula. However, this has to be contested in terms of the likely impact of lower resources being allocated in England as a result of the comparators, particularly in the areas of health and education. I would be very happy to share that letter with Members.

O ganlyniad i hynny, gwnaethom hefyd godi effaith cyflog rhanbarthol ar fformiwla Barnett, ac, yn wir, codwyd hyn yn y ddadl a gawsom cyn y Pasg. Os ydym yn credu y bydd cyflwyno cyflog rhanbarthol yn Lloegr yn arwain at lai o adnoddau yn cael eu dyrannu i wasanaethau fel iechyd ac addysg, a ddatganolwyd i Gymru, yna bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gweld gostyngiad yn ei chyllideb drwy fformiwla Barnett. Rwyf wedi cael gohebiaeth gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys lle mae’n dweud na fyddai hynny’n digwydd. Yn yr un modd ag y dywedodd yn y cyfarfod pedairochrog ar 5 Mawrth, dywed nad yw’r polisi hwn yn ymwneud â lleihau gwariant cyhoeddus cyffredinol, ond â sicrhau bod y cyflog wedi’i bennu ar y lefel gywir ar gyfer pob marchnad lafur leol, ac na fydd y Trysorlys yn torri cyllidebau adrannol mewn cysylltiad â’r polisi hwn yn y cyfnod adolygu gwariant presennol, ac felly ni fydd unrhyw effaith ar y grant bloc drwy’r fformiwla Barnett. Fodd bynnag, rhaid i hyn gael ei herio o ran effaith debygol llai o adnoddau’n cael eu dyrannu yn Lloegr o ganlyniad i’r cymaryddion, yn enwedig ym meysydd iechyd ac addysg. Byddwn yn barod iawn i rannu’r llythyr hwnnw gydag Aelodau.

It is important that we build upon the very important analysis that has been undertaken by Jonathan Price. You touched on the importance of the evidence and the views of the private sector, which is an area in which we would like to drill down. This issue has not been raised with us by the private sector, and, particularly in relation to the so-called crowding out prospect, we seek to add to the evidence that we have where it would be appropriate and helpful to do so.

Mae’n bwysig ein bod yn adeiladu ar y dadansoddiad pwysig iawn a wnaed gan Jonathan Price. Rydych wedi cyfeirio at bwysigrwydd y dystiolaeth a barn y sector preifat, sy’n faes yr hoffem fynd i’r afael ag ef. Nid yw’r sector preifat wedi codi’r mater hwn gyda ni ac, yn arbennig mewn perthynas â’r rhagolwg honedig hwn o wthio cyflogaeth y sector preifat allan, rydym yn ceisio ychwanegu at y dystiolaeth sydd gennym pan fydd yn briodol ac o gymorth gwneud hynny.

Finally, with regard to what we are doing to oppose regional pay, we believe that regional pay would be harmful both to Welsh public services and to the Welsh economy. Regional pay would also be unfair and would undermine an important element of the economic case for the union. We believe that this is a reckless policy for the UK Government to pursue at this time. That is quite clearly the statement in terms of the Welsh Government’s position on regional pay.

Yn olaf, o ran yr hyn yr ydym yn ei wneud i wrthwynebu cyflog rhanbarthol, credwn y byddai cyflog rhanbarthol yn niweidiol i wasanaethau cyhoeddus ac economi Cymru . Byddai cyflog rhanbarthol hefyd yn annheg ac yn tanseilio elfen bwysig o’r achos economaidd dros yr undeb. Rydym o’r farn bod hwn yn bolisi byrbwyll i Lywodraeth y DU fynd ar ei drywydd ar hyn o bryd. Mae hynny’n eithaf amlwg yn y datganiad o ran safbwynt Llywodraeth Cymru ar gyflog rhanbarthol.

Ieuan Wyn Jones: Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog am ei datganiad ac am gyhoeddi’r adroddiad gan brif economegydd y Llywodraeth, Jonathan Price. Rwy’n parchu ei farn yn fawr iawn, wedi imi gael cyfle i gydweithio gydag ef am rai blynyddoedd. Hoffwn hefyd ddiolch i’r Gweinidog am ddau baragraff y mae hi wedi cyfeirio atynt yn y datganiad lle mae’r Gweinidog yn dweud ei bod yn llongyfarch y pleidiau am ddod at ei gilydd i wrthwynebu cyflog rhanbarthol.

Ieuan Wyn Jones: I thank the Minister for her statement and for publishing the report by Jonathan Price, the Government’s chief economist. I respect his opinion very much, having had an opportunity to work closely with him for some years. I also thank the Minister for the two paragraphs that she has referred to in the statement in which the Minister congratulates the parties on coming together to oppose regional pay.

2.45 p.m.

Ar y diwedd, mae’n dweud ein bod wedi dod at ein gilydd yn y Cynulliad ar y mater hwn ac y dylem felly gydweithio. Rwy’n falch ei bod wedi gwneud y pwynt hwnnw, ond wrth gwrs nid dyna ddywedodd y Prif Weinidog heddiw. Dywedodd ei fod yn credu bod Plaid Cymru yn erbyn cadw’r sefyllfa fel y mae hi, a’n bod o blaid cyflog rhanbarthol, ond nid yw hynny’n wir. Rwy’n falch bod y Gweinidog wedi cydnabod hynny ac wedi gwneud hynny ddwywaith yn ei datganiad ysgrifenedig. Er mwyn Cofnod y Trafodion, byddwn yn falch iawn pe bai’n cydnabod hynny unwaith eto wrth ymateb i fy nghwestiynau. Tybed a fyddai’n medru perswadio’r Prif Weinidog i ddilyn yr un llinell ag y mae hi wedi’i dilyn yn y Siambr y prynhawn yma.

In her conclusion, she said that we have come together in the Assembly on this issue and that we should therefore work together. I am pleased that she has made that point, because, of course, that is not what the First Minister said today. He said that he believes that Plaid Cymru is against retaining the status quo and that we are in favour of regional pay, but that is not true. I am pleased that the Minister has acknowledged that and has made the point twice in her written statement. For the Record of Proceedings, I would be very pleased if she would acknowledge that once again in her response to my questions. I wonder whether she will be able to persuade the First Minister to follow the same line as she has taken in the Chamber this afternoon.

Hoffwn gyfeirio at nifer o bethau penodol sydd yn yr adroddiad. Yn y lle cyntaf, rwy’n derbyn y pwynt sylfaenol y mae Jonathan Price yn ei wneud yn ei adroddiad, sef nad yw defnyddio data o arolwg y gweithlu, fel y mae’r Trysorlys wedi’i wneud, yn ddigonol. Yn y samplu sy’n digwydd ar gyfer yr arolwg hwnnw—ac rwyf yn ymwybodol iawn o hyn o’r adeg pan oeddwn yn cael y ffigurau hyn fy hun, rai blynyddoedd yn ôl—mae’r sampl yn fach iawn, ac felly nid oes modd dibynnu arno. O ganlyniad, gwelech y ffigurau yn newid o fis i fis, ac yn mynd i fyny ac i lawr yn sylweddol, a hynny oherwydd y samplau mor fach. Rhaid edrych ar y tueddiadau mwy hirdymor i weld beth sy’n digwydd mewn gwirionedd. Felly, byddai’n llawer iawn mwy derbyniol yn ein barn ni edrych yn fwy manwl ar yr arolwg poblogaeth flynyddol.

I want to refer to a number of specific points made in the report. First of all, I accept the fundamental point that Jonathan Price makes in his report, namely that using data from the labour market survey, as the Treasury has done, is not good enough. In the sampling that is done for that survey—and I am very aware of this from the time when I used to receive these figures myself, some years ago now—the sample taken is often very small, and so cannot be relied upon. As a result, you could see the figures fluctuating from month to month, going up and down quite significantly—and all because the samples are so small. You have to look at the trends in the longer term in order to see what is happening in reality. Therefore, it would be far more acceptable in our view to look in greater detail at the annual population survey.

Pwynt arall a wneir yn yr adroddiad yw bod y Trysorlys yn defnyddio ffigurau o’r amser gwaethaf yn y cylch economaidd, sef pan oedd y sector preifat wedi dioddef llawer iawn mwy na’r sector cyhoeddus—yn y tymor byr, o leiaf—o ran nifer y swyddi a gollwyd. Felly, nid yw’r cymariaethau’n gywir. O ganlyniad, gan fod y Trysorlys yn defnyddio samplau bach ac yn eu defnyddio ar adeg pan oedd y cylch economaidd ar ei waethaf o ran y sector preifat, nid ydynt yn dangos y darlun yn gywir. Mae hynny’n dangos y gallwch wneud fel y mynnoch gyda ffigurau.

Another point made in the report is that the Treasury has used figures from the very worst point of the economic cycle, namely when the private sector had suffered a great deal more—in the short term, at least—than the public sector with regard to the number of jobs lost. Therefore, the comparators are not correct. As a result, given that the Treasury is using small samples and using them at a time when the economic cycle was at its worst from the point of view of the private sector, that does not give us an accurate picture. That shows that you can do whatever you like with statistics.

Rhaid ystyried yn ofalus y pwynt am sut y mae cyflog yn cael ei ddosbarthu, ac yn arbennig effaith hynny ar gyflogaeth menywod a phobl ifanc. Pe bai cyflog rhanbarthol yn cael ei gyflwyno yng Nghymru, menywod a phobl ifanc fyddai’n dioddef fwyaf, ac yn enwedig felly bobl ifanc sy’n dechrau ar eu gwaith. Felly, mae hynny’n ofnadwy o bwysig.

The point about how salaries are distributed and the impact of that on women’s employment and on young people’s employment needs careful consideration. If regional pay were to be introduced in Wales, the people who would suffer the most would be women and young people, and particularly young people just starting out on their careers. So, that is exceptionally important.

Pwynt arall a wneir yn yr adroddiad yw bod yr amrywiaethau o fewn gwledydd a rhanbarthau gymaint â’r gwahaniaethau sydd rhyngddynt. Nid yw hynny’n cael ei gydnabod yn ddigonol yn nhystiolaeth y Trysorlys ychwaith. Rydych yn dweud eich bod am gynnal mwy o archwiliad o’r syniad bod cyflogau uchel, fel a honnir gan y Trysorlys, yn gwthio’r sector preifat allan, ac nid wyf yn gallu derbyn hynny ychwaith. Derbyniwn oll—a Paul Davies yn llygad ei le o ran y pwynt hwn—fod angen inni gryfhau’r sector preifat yng Nghymru. Fodd bynnag, fel mae’r adroddiad yn dweud, mae prinder cwmnïau sydd â chanolfannau rhanbarthol a phencadlysoedd yng Nghymru. Nid oes nifer fawr ohonynt, ac felly rydym yn brin iawn o swyddi ar y lefelau uchaf o gyflog yng Nghymru. Ar wahân i’r ddadl am y polisi am gyflog rhanbarthol, rhaid i ni fel cenedl gryfhau’r rhan honno o’r sector preifat, ac mae gan y brifddinas yma, Abertawe a Chasnewydd rôl i’w chwarae i sicrhau hynny.

Another point the report makes is that the variations within countries and regions are as great as the distinctions between them. That is not adequately acknowledged in the Treasury’s evidence either. You state that you will undertake a more in-depth review of the assertion that high salaries push out the private sector, as the Treasury alleges, and I cannot accept that either. We all agree—and Paul Davies hit the nail on the head on this point—that there is a need to strengthen the private sector in Wales. However, as the report states, there is a shortage of companies that have regional centres or headquarters in Wales. There are not many of them, and so we are very short of jobs that pay the higher tier of salaries in Wales. Aside from this debate on the policy of regional pay, we, as a nation, must strengthen that part of the private sector, and the capital city here has a role to play in ensuring that that happens, as do Swansea and Newport.

Felly, ar ran Plaid Cymru, rydym yn derbyn y dystiolaeth yr ydych chi a Jonathan Price wedi’i chyflwyno. Rydym yn unol fel plaid y tu ôl i’r syniad o wrthwynebu cyflog rhanbarthol. Rwy’n hapus iawn eich bod wedi cydnabod hynny, ond byddai’n dda pe gallem gael y Prif Weinidog i wneud yr un datganiad.

Therefore, on behalf of Plaid Cymru, we accept the evidence that you and Jonathan Price have presented. We are united as a party behind the notion of opposing regional pay. I am very pleased that you have acknowledged that, but it would be good if we could get the First Minister to make the same statement.

Jane Hutt: Thank you for your response. I am glad that we have the opportunity, through my statement today and through the response to my statement, to show that united front and to make that united case against the regional pay proposals coming from the UK Government. I can see that that is already forthcoming this afternoon. It is very important that we look at the analysis that the chief economist has presented us with, which is fundamental in recognising that there is a flaw in the small sample size that has been drawn using the labour force survey, which results in a very high margin of error, as Ieuan Wyn Jones has laid out. Had we used the alternative larger source of relevant data, the annual population survey, that would have shown that there is not a uniform pay gap that applies across the public sector as a whole. On your point about where Wales sits compared with other regions and parts of the UK, the annual population survey shows that the average pay gap in Wales is smaller than suggested and is no larger than that in many other parts of the UK, such as Scotland and the north-east. In addition, the evidence submitted by the Treasury provides a snapshot of the economic cycle at a time when the pay gap is likely to be at its cyclical peak. The data were drawn from a very narrow snapshot, in which wages in the private sector are likely to be lower owing to the recession. In good economic times, the private sector wage level outstrips the public sector’s and, as the UK economy recovers, that level will automatically rise. Therefore, the latest data do not reflect the longer-term position.

Jane Hutt: Diolch am eich ymateb. Rwyf yn falch bod gennym y cyfle, drwy fy natganiad heddiw a thrwy’r ymateb i fy natganiad, i siarad â llais unedig ac i wneud achos unedig yn erbyn cynigion am gyflog rhanbarthol Llywodraeth y DU. Gallaf weld hynny’n amlwg eisoes y prynhawn yma. Mae’n bwysig iawn ein bod yn edrych ar y dadansoddiad a gyflwynodd y prif economegydd i ni, sy’n allweddol o ran cydnabod bod gwendid o ran maint bychan y sampl a ddefnyddiwyd o’r arolwg gweithlu, sy’n arwain at gyfle sylweddol i wneud camgymeriad, fel y dywedodd Ieuan Wyn Jones. Pe byddem wedi defnyddio’r  ffynhonnell amgen sydd â mwy o ddata perthnasol, sef yr arolwg blynyddol o’r boblogaeth, byddai hynny wedi dangos nad oes bwlch cyflog unffurf sy’n berthnasol ar draws y sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd. O ran eich pwynt ynglŷn â sefyllfa Cymru o’i chymharu â rhanbarthau a rhannau eraill o’r DU, dengys yr arolwg blynyddol o’r boblogaeth fod y bwlch cyflog ar gyfartaledd yng Nghymru yn llai na’r hyn a awgrymwyd ac nad yw’n ddim mwy nag ydyw mewn sawl rhan arall o’r DU, fel yr Alban a’r gogledd-ddwyrain. Yn ogystal, mae’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan y Trysorlys yn rhoi cipolwg ar y cylch economaidd ar adeg pan fo’r bwlch cyflog yn debyg o fod ar ei uchafbwynt cylchol. Daeth y data o gipolwg cul iawn, lle mae cyflogau yn y sector preifat yn debygol o fod yn is oherwydd y dirwasgiad. Mewn cyfnod economaidd llewyrchus, mae lefel cyflog y sector preifat yn fwy nag un y sector cyhoeddus ac, wrth i economi’r DU ddod at ei hun, bydd y lefel honno’n codi yn awtomatig. Felly, nid yw’r data diweddaraf yn adlewyrchu'r sefyllfa yn y tymor hwy.

I have responded clearly to the issues relating to crowding out. It is least likely, of course, when labour markets are not tight as they are in Wales, with current unemployment levels. In addition, the practicalities of moving to more localised pay would be hugely divisive and costly, as the private sector already recognises.

Rwyf wedi ymateb yn glir i’r materion sy’n ymwneud â gwthio cyflogaeth y sector preifat allan. Mae’n lleiaf tebygol, wrth gwrs, pan nad yw marchnadoedd llafur mor dynn ag ydynt yng Nghymru, gyda lefelau diweithdra fel y maent ar hyn o bryd. Yn ogystal, byddai ymarferoldeb symud i gyflog mwy lleol yn hynod o gynhennus a chostus, fel y mae’r sector preifat eisoes wedi ei gydnabod.

It is also important to recognise the role of our economic geography at the moment. As Ieuan Wyn Jones has said, Wales lacks a large city on the scale of Birmingham or Manchester. We have relatively few of the very well-paying private sector jobs that are often found in those regional headquarters, such as legal and financial services firms, and that reflects the gap between public and private pay rates. The impact of that is that Wales has relatively few well-paid people in the private sector rather than many relatively well-paid people in the public sector. It is important that we look to the task and finish group on city regions, which has been established by the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science, because we need to move forward to look at how we respond to these issues. She is looking at the responses to the consultation on whether a city region should be identified in Wales, and I am sure that the results of that consultation will be welcomed.

Mae hefyd yn bwysig cydnabod rôl ein daearyddiaeth economaidd ar hyn o bryd. Fel y dywedodd Ieuan Wyn Jones, nid oes gan Gymru ddinas fawr ar raddfa Birmingham neu Fanceinion. Mae gennym nifer gymharol fach o swyddi sector preifat sy’n talu’n dda iawn sy’n aml i’w canfod yn y pencadlysoedd rhanbarthol hynny, fel rhai cwmnïau gwasanaethau cyfreithiol ac ariannol, ac mae hynny’n adlewyrchu’r bwlch rhwng cyfraddau cyflog cyhoeddus a phreifat. Effaith hynny yw bod gan Gymru nifer gymharol fach o bobl ar gyflog da yn y sector preifat yn hytrach na nifer o bobl ar gyflog cymharol dda yn y sector cyhoeddus. Mae’n bwysig ein bod yn edrych ar waith y grŵp gorchwyl a gorffen ar ranbarthau dinasoedd, a sefydlwyd gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, oherwydd mae angen inni symud ymlaen i edrych ar sut rydym yn ymateb i’r materion hyn. Mae’n edrych ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar ba un a ddylid nodi rhanbarth dinas yng Nghymru, ac rwyf yn siŵr y bydd croeso i ganlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw.

It is also important, as Ieuan said, that we look at the impact on low-paid young people and low-paid women. As I said in my statement, the pay gap between the public and private sector is deeper and wider for low-paid women, because we have taken action to tackle the gender pay gap in the public sector. In fact, Wales has the second lowest gender gap in full-time earnings among UK countries and regions. Therefore, I believe that the implications of so-called 'local market-facing pay’, or regional pay, would set us back in closing the gender gap and reducing low pay. In answer to the questions put by the finance spokesperson for Plaid Cymru, I believe that we are clearly united in respect of the analysis and our understanding of the issues that we are presenting to the UK Government.

Mae hefyd yn bwysig, fel y dywedodd Ieuan, ein bod yn edrych ar yr effaith ar bobl ifanc ar gyflog isel a merched ar gyflog isel. Fel y dywedais yn fy natganiad, mae’r bwlch cyflog rhwng y sector cyhoeddus a phreifat yn ddyfnach ac ehangach i ferched ar gyflog isel, gan ein bod wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y sector cyhoeddus. Yn wir, Cymru sydd â’r bwlch ail isaf rhwng y rhywiau o ran enillion llawn amser ymhlith gwledydd a rhanbarthau’r DU. Felly, rwyf yn credu bod goblygiadau’r hyn a elwir yn 'gyflog sy’n wynebu’r farchnad leol’, neu gyflog rhanbarthol, yn mynd â ni gam yn ôl o ran cau’r bwlch rhwng y rhywiau a sicrhau bod llai o bobl ar gyflogau isel. Mewn ateb i’r cwestiynau a ofynnwyd gan lefarydd cyllid Plaid Cymru, credaf ein bod yn glir ein bod yn unedig o ran y dadansoddiad a’n dealltwriaeth o’r materion yr ydym yn eu cyflwyno i Lywodraeth y DU.

Peter Black: First, I welcome this statement and the study by the chief economist, which is a valuable and important piece of evidence that will reinforce the views of all the parties in the Chamber that regional pay is a non-starter, not just for Wales, but for the UK as a whole. I think it demonstrates how little benefit would gravitate towards the private sector as a result of bringing in regional pay.

Peter Black: Yn gyntaf, rwyf yn croesawu’r datganiad hwn a’r astudiaeth gan y prif economegydd, sy’n ddarn gwerthfawr a phwysig o dystiolaeth a fydd yn atgyfnerthu barn yr holl bleidiau yn y Siambr fod cyflogau rhanbarthol yn anymarferol, nid yn unig ar gyfer Nghymru, ond ar gyfer y DU gyfan. Credaf ei fod yn dangos cyn lleied o fudd fyddai i’r sector preifat o ganlyniad i gyflwyno cyflog rhanbarthol.

In addition to our common understanding of the reasons why we should oppose regional pay, we need to have a common understanding of what exactly we are facing. Clearly, there is a consultation. The Government has not, as yet, taken a stance or made a commitment towards regional pay and, from listening to UK Ministers and their views on what exactly the consultation is about, I really cannot see the difference between what they and you are saying about when the courts service went towards a regional pay structure. Given that we accept that this is an inappropriate way forward, Minister, I wonder whether you can confirm that you will also use this document to argue with the Government that the courts service should revert to its previous position and that the regional pay structure that was put in place there is no longer used. This evidence underlines that case as much as the case for why we should not have regional pay here also.

Yn ychwanegol i’n dealltwriaeth gyffredin o’r rhesymau pam y dylem wrthwynebu cyflogau rhanbarthol, mae angen inni gael dealltwriaeth gyffredin o beth yn union yr ydym yn ei wynebu. Yn amlwg, mae ymgynghoriad ar y gweill. Nid yw’r Llywodraeth, hyd yma, wedi gwneud safiad nac wedi gwneud ymrwymiad ar gyflog rhanbarthol ac, o wrando ar Weinidogion y DU a’u barn am beth yn union yw testun yr ymgynghoriad, ni allaf wir weld y gwahaniaeth rhwng yr hyn y maent hwy a chithau yn ei ddweud ynghylch pam y symudodd y gwasanaeth llysoedd tuag at strwythur cyflogau rhanbarthol. O ystyried ein bod yn derbyn bod hwn yn ffordd amhriodol ymlaen, Weinidog, tybed a allwch gadarnhau y byddwch hefyd yn defnyddio’r ddogfen hon i ddadlau â’r Llywodraeth y dylai’r gwasanaeth llysoedd ddychwelyd i’w sefyllfa flaenorol ac na ddylai’r strwythur cyflogau rhanbarthol a oedd ar waith yno gael ei ddefnyddio bellach. Mae’r dystiolaeth hon yn tanlinellu’r achos hwnnw cymaint â’r achos dros pam na ddylem gael cyflogau rhanbarthol yma hefyd.

Some good points have been made in this document and by other speakers, particularly about the impact of regional pay on women and on low-paid workers. That has to be underlined in our response to the UK Government. The only other question that I have left on this issue is about how this document is to be used. Clearly, it will be submitted to the consultation as part of the Welsh Government response and, hopefully, you will also say that this is the agreed line of all the political parties in the National Assembly. Will you also take it up on a ministerial level in your meetings with the Chief Secretary to the Treasury, and will the First Minister also do so in his meetings with the Prime Minister? This sort of evidence needs to be driven home at a ministerial and political level, rather than letting it be buried in what could well turn out to be the mountains of evidence that the review and consultation will consider. We need to say to the Prime Minister, the chief secretary and other Government Ministers, at a ministerial level, that this evidence shows how important it is that we do not have regional pay for Wales, given the impact on the Welsh economy.

Gwnaed rhai pwyntiau da yn y ddogfen hon a chan siaradwyr eraill, yn enwedig am effaith cyflogau rhanbarthol ar ferched a gweithwyr ar gyflog isel. Mae’n rhaid tanlinellu hynny yn ein hymateb i Lywodraeth y DU. Mae’r unig gwestiwn arall sydd gennyf ar hyn yn ymwneud â sut y caiff y ddogfen hon ei defnyddio. Yn amlwg, bydd yn cael ei chyflwyno i’r ymgynghoriad fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru a, gobeithio, byddwch hefyd yn dweud mai hwn yw’r safbwynt y mae pob plaid wleidyddol yn y Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno arno. A wnewch chi hefyd godi’r mater ar lefel weinidogol yn eich cyfarfodydd gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, ac a wnaiff y Prif Weinidog hynny hefyd yn ei gyfarfodydd gyda Phrif Weinidog y DU? Mae angen cyfleu’r math hwn o dystiolaeth ar lefel weinidogol a gwleidyddol, yn hytrach na gadael iddo gael ei gladdu yn yr hyn a allai fod yn fynydd o dystiolaeth y bydd yr adolygiad a’r ymgynghoriad yn ei hystyried. Mae angen inni ddweud wrth y Prif Weinidog, y prif ysgrifennydd a Gweinidogion eraill y Llywodraeth, ar lefel weinidogol, fod y dystiolaeth hon yn dangos pa mor bwysig ydyw nad ydym yn cael cyflogau rhanbarthol i Gymru, o ystyried yr effaith ar economi Cymru.

Jane Hutt: I thank the finance spokesperson for the Welsh Liberal Democrats, and I recognise that we need a common understanding of the status of the current consultations that are going before the pay review bodies and before the Treasury for consideration. He will be aware that the UK Treasury submitted its own evidence, which was published as part of the budget earlier this year. Although I detected a perhaps more muted statement about regional pay from the Chancellor in the budget statement, I have to say that there are concerns. Meetings are going on, and I made this point in my statement, about how they can implement this in this financial year, with some departments introducing localised pay from this year in the devolved civil service. I also mentioned the fact that that could affect 28,000 civil servants in non-devolved occupations in Wales. We know that those meetings are taking place. Therefore, the strength of our united message from the Chamber is all the more important, backed by this analysis by our chief economist. I have to repeat that I think that it was the right decision, and you—Paul Davies, Ieuan Wyn Jones and Peter Black, from the opposition parties in the Chamber—clearly respect the analysis of the chief economist, Jonathan Price. That is the most powerful evidence that we can present to the UK Government.

Jane Hutt: Diolch i lefarydd cyllid Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac rwyf yn cydnabod bod angen dealltwriaeth gyffredin o statws yr ymgynghoriadau cyfredol sy’n mynd gerbron y cyrff adolygu cyflogau a gerbron y Trysorlys i’w hystyried. Bydd yn gwybod bod Trysorlys y DU wedi cyflwyno ei dystiolaeth ei hun, a gyhoeddwyd fel rhan o’r gyllideb yn gynharach eleni. Er fy mod yn credu bod datganiad y Canghellor am gyflog rhanbarthol yn y datganiad ar y gyllideb yn fwy cymedrol efallai, rhaid imi ddweud bod pryderon. Mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal, a gwneuthum y pwynt hwn yn fy natganiad, am sut y gallant roi hyn ar waith yn y flwyddyn ariannol hon, gyda rhai adrannau yn cyflwyno tâl lleol o eleni ymlaen yn y gwasanaeth sifil wedi’i ddatganoli. Soniais hefyd am y ffaith y gallai hynny effeithio ar swyddi 28,000 o weision sifil mewn meysydd heb eu datganoli yng Nghymru. Gwyddom fod y cyfarfodydd hynny’n cael eu cynnal. Felly, mae cryfder ein neges unedig o’r Siambr hyd yn oed yn bwysicach, ac fe’i cefnogir gan y dadansoddiad hwn gan ein prif economegydd.  Rhaid imi ailddatgan fy mod yn credu mai hwn oedd y penderfyniad cywir, ac rydych chi—Paul Davies, Ieuan Wyn Jones a Peter Black, o’r gwrthbleidiau yn y Siambr—yn amlwg yn parchu dadansoddiad y prif economegydd, Jonathan Price. Dyna’r dystiolaeth fwyaf pwerus y gallwn ei chyflwyno i Lywodraeth y DU.

Fortunately, I am not responsible for the courts system or for its future prospects and the impact on it. I already explained how that came about, in terms of the national platforms and hotspots, in relation to the court system. I am not apologising for that. I am just saying that that is the explanation. We will have to see how powerful our response will be in relation to the regional pay impacts that we know will have a detrimental effect on Wales.

Yn ffodus, nid wyf yn gyfrifol am y system llysoedd nag am ei ragolygon yn y dyfodol a’r effaith arno. Esboniais eisoes sut y digwyddodd hynny, o ran y llwyfannau cenedlaethol a’r ardaloedd costau byw uchel, mewn perthynas â system y llysoedd. Nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Dweud yr wyf fi mai dyna’r esboniad. Bydd yn rhaid aros i weld pa mor bwerus fydd ein hymateb o ran effeithiau cyflogau rhanbarthol rydym yn gwybod fydd yn cael effaith andwyol ar Gymru.

3.00 p.m.

In terms of how we take this forward, I have already outlined the representations that have been made at First Minister and Prime Minister level, and by me to the Chancellor and the Chief Secretary to the Treasury at quadrilateral level. This statement, as well as the evidence, is going to the UK Government this afternoon, as we conclude this debate. It will go to the pay review bodies, alongside evidence from the Minister for Health and Social Services and the Minister for Education and Skills. I will be seeking to meet with Ministers too, not only to endorse the evidence but to discuss it. I think that the evidence will be made even more powerful by the contributions made in the Chamber this afternoon.

O ran sut rydym yn bwrw ymlaen â hyn, rwyf eisoes wedi amlinellu’r sylwadau a wnaed ar lefel Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog y DU, a gennyf fi i’r Canghellor a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y lefel bedairochrog. Bydd y datganiad hwn, yn ogystal â’r dystiolaeth, yn mynd i Lywodraeth y DU y prynhawn yma, ar ôl inni orffen y ddadl hon. Bydd yn mynd i’r cyrff adolygu cyflogau, ochr yn ochr â thystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Addysg a Sgiliau. Byddaf yn ceisio cyfarfod â Gweinidogion hefyd, nid yn unig i gefnogi’r dystiolaeth ond i’w thrafod. Rwy’n meddwl y bydd y dystiolaeth yn cael ei chryfhau ymhellach gan y cyfraniadau a wnaed yn y Siambr y prynhawn yma.

Vaughan Gething: I welcome the statement on regional pay made today by the Minister. It is hardly surprising that I believe that the statement will be welcomed by members of the trade union movement, who certainly do not clamour for a voluntary breaking up of current pay and bargaining arrangements across the rest of the UK. There are two points that I wanted to ask the Minister to consider, in particular. The first is the position that the Government takes, or would consider taking, on regional pensions. Pension entitlements flow directly from pay entitlements within the public sector. Will the Government make a comment on that issue in its final submission? We certainly do not want to have a generation of poorer pensioners being created here in Wales.

Vaughan Gething: Croesawaf y datganiad ar gyflogau rhanbarthol y mae’r Gweinidog wedi’i wneud heddiw. Nid yw’n syndod fy mod yn credu y bydd y datganiad yn cael ei groesawu gan aelodau o’r mudiad undebau llafur, sy’n sicr ddim yn galw am gael gwared yn wirfoddol ar y trefniadau cyflogau a negodi presennol yng ngweddill y DU. Mae dau bwynt yr oeddwn am eu gofyn i’r Gweinidog eu hystyried yn benodol. Y cyntaf yw’r safbwynt y mae’r Llywodraeth yn ei gymryd, neu yn ystyried ei gymryd, ar bensiynau rhanbarthol. Mae hawliau pensiwn yn deillio’n uniongyrchol o hawliau cyflogau yn y sector cyhoeddus. A wnaiff y Llywodraeth sylw ar y mater hwnnw yn ei chyflwyniad terfynol? Yn sicr, nid ydym am weld cenhedlaeth o bensiynwyr tlotach yn cael ei chreu yma yng Nghymru.

Secondly, has the Government taken account of the prospect that, if regional pay is imposed across the United Kingdom, trade unions and others will be understandably concerned about the potential for regional terms and conditions to be transferred out to alternative bargaining and organising arrangements? I do not think that that would be a good deal for workers in any part of the UK, and certainly not here in Wales.

Yn ail, a yw’r Llywodraeth wedi ystyried y posibilrwydd, os bydd cyflogau rhanbarthol yn cael eu cyflwyno ledled y Deyrnas Unedig, y bydd undebau llafur ac eraill yn pryderu ynglŷn â’r posibilrwydd o drosglwyddo telerau ac amodau rhanbarthol i drefniadau negodi a threfniadol amgen? Nid wyf yn credu y byddai honno’n fargen dda i weithwyr mewn unrhyw ran o’r DU, ac yn sicr nid yma yng Nghymru.

Jane Hutt: I thank the Member for Cardiff South and Penarth. We have looked at the issue of impacts on pensions, both private and public. We understand that they are not included in the Treasury’s submission or in the evidence that the Welsh Government has released. It is important to check our understanding of their exclusion from the Treasury’s submission and consideration. Also, other pay and non-pay elements of wider remuneration have not been included in their submission or in our evidence. Earlier in my statement, I mentioned bonuses and private health care, for example, which have an impact on private sector pay. Bonuses are prevalent, of course, in the private sector. It would be difficult to include pensions in the analysis because arrangements are in a state of flux anyway, given that public sector pensions are also under threat at present. However, this is an important point. Certainly, this evidence is being shared widely and extensively with the TUC, at Wales and UK level, to ensure that the points made in the evidence are taken forward. I know that the trade union movement has welcomed the statements that have already been made by the Welsh Government.

Jane Hutt: Diolch i’r Aelod dros Dde Caerdydd a Phenarth. Rydym wedi edrych ar yr effaith ar bensiynau, rhai preifat a chyhoeddus. Rydym yn deall nad ydynt yn cael eu cynnwys yng nghyflwyniad y Trysorlys nag yn y dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyhoeddi. Mae’n bwysig edrych ar ein dealltwriaeth o pam nad yw’n rhan o gyflwyniad ac ystyriaeth y Trysorlys. Hefyd, nid yw elfennau cyflog na digyflog eraill o gydnabyddiaeth ehangach wedi eu cynnwys yn ei gyflwyniad nac yn ein tystiolaeth. Yn gynharach yn fy natganiad, soniais am daliadau bonws a gofal iechyd preifat, er enghraifft, sy’n cael effaith ar gyflogau yn y sector preifat. Mae taliadau bonws yn gyffredin, wrth gwrs, yn y sector preifat. Byddai’n anodd cynnwys pensiynau yn y dadansoddiad oherwydd bod y trefniadau mewn cyflwr o newid beth bynnag, o gofio bod pensiynau’r sector cyhoeddus hefyd o dan fygythiad ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae hwn yn bwynt pwysig. Yn sicr, bydd y dystiolaeth hon yn cael ei rhannu yn eang ac yn helaeth â’r TUC, ar lefel Cymru a’r DU, er mwyn sicrhau bod y pwyntiau a wnaed yn y dystiolaeth yn cael eu gweithredu. Rwy’n gwybod bod y mudiad undebau llafur wedi croesawu’r datganiadau a wnaed eisoes gan Lywodraeth Cymru.

Mick Antoniw: Minister, I welcome the growing consensus that is emerging. As the old Abercrave NUM banner used to say: 'Mewn undeb mae nerth’ or 'through union, there is strength.’ That unity is important. I see regional pay as the greatest imminent threat to the economic wellbeing of the people of Wales. There were three points that emerged out of the paper. The first is that regional pay would impact disproportionately on the low-paid; the second is that regional pay would increase the pay gap between men and women, which may in itself create legal challenges under equal pay legislation; and the third is the adverse economic consequences for the private sector. Minister, would you consider leading an all-party delegation for discussions with the UK Government to discuss the content of this report and the impact regional pay would have on the wellbeing of Wales?  

Mick Antoniw: Weinidog, rwy’n croesawu’r consensws cynyddol sy’n dod i’r amlwg. Fel yr arferai hen faner NUM Abercraf ddweud: 'Mewn undeb mae nerth’. Mae’r undod hwnnw yn bwysig. Rwy’n gweld cyflogau rhanbarthol fel y bygythiad mwyaf yn y dyfodol agos i les economaidd pobl Cymru. Roedd tri phwynt a ddaeth i’r amlwg o’r papur. Y cyntaf yw y byddai cyflogau rhanbarthol yn effeithio’n anghymesur ar y rhai sydd ar gyflogau isel; yr ail yw y byddai cyflogau rhanbarthol yn cynyddu’r bwlch cyflog rhwng dynion a menywod, a allai ynddo’i hun greu heriau cyfreithiol o dan ddeddfwriaeth cyflog cyfartal; a’r trydydd yw’r goblygiadau economaidd andwyol i’r sector preifat. Weinidog, a fyddech yn ystyried arwain dirprwyaeth drawsbleidiol yn y trafodaethau â Llywodraeth y DU i drafod cynnwys yr adroddiad hwn a’r effaith y byddai cyflogau rhanbarthol yn ei chael ar les Cymru?  

Jane Hutt: I pay tribute to Mick Antoniw, the Member for Pontypridd, for making a significant contribution in making the case against regional pay and I am prepared to consider any such delegation and other forms of representation on this matter to back our evidence.

Jane Hutt: Rwy’n talu teyrnged i Mick Antoniw, yr Aelod dros Bontypridd, am wneud cyfraniad sylweddol wrth gyflwyno’r achos yn erbyn cyflogau rhanbarthol ac rwy’n barod i ystyried unrhyw ddirprwyaeth o’r fath a mathau eraill o sylwadau ar y mater hwn i gefnogi ein tystiolaeth.  

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Melding) i’r Gadair am 3.05 p.m.
The Deputy Presiding Officer (David Melding) took the Chair at 3.05 p.m.

Datganiad: Tai Gwag
Statement: Empty Homes

The Record

The Minister for Housing, Regeneration and Heritage (Huw Lewis): Action to deal with the problem that empty properties pose is a priority for this Government and a priority for me. This is why we have invested £5 million thus far in a new national programme of action, the first in the UK, to tackle the waste of homes that empty properties represent. Our new recyclable loan fund, Houses into Homes, has been set up to maximise the number of empty properties in the private sector that are brought back into use by local authorities. It will complement and enhance local authority day-to-day action on empty homes.

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (Huw Lewis): Mae gweithredu i fynd i’r afael â’r broblem o eiddo gwag yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon ac yn flaenoriaeth i mi. Dyma pam rydym wedi buddsoddi £5 miliwn hyd yn hyn mewn rhaglen weithredu genedlaethol newydd, y gyntaf yn y DU, i fynd i’r afael â’r gwastraff o gartrefi y mae eiddo gwag yn ei gynrychioli. Mae ein cronfa fenthyciadau ailgylchadwy newydd, Troi Tai’n Gartrefi, wedi cael ei sefydlu i gynyddu nifer yr eiddo gwag yn y sector preifat sy’n cael eu defnyddio unwaith eto gan awdurdodau lleol. Bydd yn ategu ac yn gwella’r modd y mae awdurdodau lleol yn gweithredu ar gartrefi gwag o ddydd i ddydd.

Official figures for 2010-11 on empty properties, based on returns from each local authority, put the number of empty private sector properties at 21,970. In the same year, 954 properties were brought back into use through direct action on the part of local authorities. While the official figures show some improvement on the past, more needs to be done. It is my intention to take action to reduce the number of empty properties in the private sector to provide housing for people in need. The Houses into Homes initiative will target owners of empty properties, who will be encouraged to bring them back into use for sale or rent, thereby contributing to an increase in housing supply. The initiative will help overcome one of the barriers to bringing an empty property back into use, that being, in this instance, a lack of money. Access to a loan will enable owners to renovate their properties in order to rent them out.

Mae’r ffigurau swyddogol ar eiddo gwag ar gyfer 2010-11, yn seiliedig ar ddychweliadau o bob awdurdod lleol, yn nodi bod 21,970 o gartrefi gwag yn y sector. Yn yr un flwyddyn, cafodd 954 eiddo eu defnyddio unwaith eto drwy gamau uniongyrchol ar ran awdurdodau lleol. Er bod y ffigurau swyddogol yn dangos rhywfaint o welliant ar y gorffennol, mae mwy eto i’w wneud. Mae’n fwriad gennyf gymryd camau i leihau nifer yr eiddo gwag yn y sector preifat er mwyn darparu eiddo i bobl mewn angen. Bydd y fenter Troi Tai’n Gartrefi yn targedu perchnogion eiddo gwag, a fydd yn cael eu hannog i’w defnyddio unwaith eto drwy eu gwerthu neu eu rhentu a, thrwy hynny, gyfrannu at gynnydd yn y cyflenwad tai. Bydd y fenter yn helpu i oresgyn un o’r rhwystrau i ddefnyddio eiddo gwag unwaith eto, sef, yn yr achos hwn, diffyg arian. Bydd mynediad at fenthyciad yn galluogi perchnogion i adnewyddu eu tai er mwyn eu gosod ar rent.

Long-term, empty properties cause a social and environmental blight on communities.  Bringing empty properties back into use will significantly reduce the opportunities for vandalism, fly-tipping and other forms of anti-social behaviour. Unsightly homes can have an adverse effect on neighbouring house prices and can reduce confidence and pride in communities, as well as having a direct impact on adjoining homes through dampness and structural problems. This is why our election manifesto and, subsequently, our programme for government contained a commitment to introduce an initiative to increase the number of empty homes in the private sector brought back into use. The demand for social housing is increasing, and this is why we are making every effort to increase housing supply. This is not an easy task against the cuts in capital funding that have been imposed on us from Westminster.

Yn y tymor hir, mae eiddo gwag yn achosi malltod cymdeithasol ac amgylcheddol mewn cymunedau. Bydd defnyddio eiddo gwag unwaith eto yn lleihau’n sylweddol y cyfleoedd ar gyfer fandaliaeth, tipio anghyfreithlon ac elfennau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gall cartrefi diolwg gael effaith andwyol ar brisiau tai cyfagos a gallant leihau hyder a balchder mewn cymunedau, yn ogystal â chael effaith uniongyrchol ar gartrefi cyfagos oherwydd tamprwydd a phroblemau strwythurol. Dyma pam mae ein maniffesto etholiadol ac, wedi hynny, ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i gyflwyno menter i gynyddu nifer y cartrefi gwag yn y sector preifat sy’n cael eu defnyddio unwaith eto. Mae’r galw am dai cymdeithasol yn cynyddu, a dyna pam rydym yn gwneud pob ymdrech i gynyddu’r cyflenwad tai. Nid yw hon yn dasg hawdd yn wyneb y toriadau mewn cyllid cyfalaf sydd wedi cael eu gorfodi arnom gan San Steffan.  

As I said, the Houses into Homes initiative will provide an additional £5 million of capital funding that will be used specifically to target empty properties across Wales. The intention is to enable local authorities to offer loans to owners of empty properties to bring them back into use for sale or rent. The fund will be recyclable and it should contribute to an increase in housing supply by making better use of the existing housing stock. The additional injection of funding will also provide an added injection of capital to local building industries and help to restore confidence in areas that suffer from the presence of too many problem empty homes.  I am sure that all will agree with me that this is good news and represents a significant achievement against our programme for government proposals.

Fel y dywedais, bydd y fenter Troi Tai’n Gartrefi yn darparu £5 miliwn ychwanegol o arian cyfalaf a fydd yn cael ei ddefnyddio’n benodol i dargedu eiddo gwag ledled Cymru. Y bwriad yw galluogi awdurdodau lleol i gynnig benthyciadau i berchnogion eiddo gwag er mwyn eu defnyddio unwaith eto ar gyfer eu gwerthu neu eu rhentu. Bydd y gronfa yn ailgylchadwy a dylai gyfrannu at gynnydd yn y cyflenwad tai drwy wneud defnydd gwell o’r stoc tai presennol. Bydd y chwistrelliad ychwanegol o arian hefyd yn rhoi chwistrelliad ychwanegol o gyfalaf i ddiwydiannau adeiladu lleol ac yn helpu i adfer hyder mewn ardaloedd sydd â gormod o gartrefi gwag problemus. Rwy’n siŵr y bydd pawb yn cytuno â mi bod hyn yn newyddion da ac yn gyflawniad sylweddol ar sail ein cynigion yn y rhaglen lywodraethu.

However, the new initiative is not a panacea, and we expect local authorities to continue to use their existing powers to the full alongside the programme to maximise the number of empty properties brought back into use. There will still be properties where simply having a dialogue with owners can bring them back into use, effectively, but there will still be a need for local authorities to consider using the enforced sale procedure, empty dwelling management orders, compulsory purchase orders and the other powers that they have to bring problem empty properties back into use.

Fodd bynnag, nid yw’r fenter newydd yn ateb i bob problem, ac rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol barhau i ddefnyddio eu pwerau presennol i’r eithaf ochr yn ochr â’r rhaglen i gynyddu cymaint â phosibl nifer y tai gwag sy’n cael eu defnyddio unwaith eto. Bydd rhai eiddo lle gallai cynnal deialog â pherchnogion yn unig olygu bod eiddo yn cael ei ddefnyddio unwaith eto, mewn difrif, ond bydd angen o hyd i awdurdodau lleol ystyried defnyddio’r weithdrefn gwerthu gorfodol, gorchmynion rheoli anheddau gwag, gorchmynion prynu gorfodol a’r pwerau eraill sydd ganddynt i ddefnyddio eiddo gwag unwaith eto.

Some Members have suggested that we need a Wales-wide empty property strategy. I am not yet convinced that another strategy is really necessary. Most local authorities across Wales have their own empty homes strategies and these are supported by the revised guidance that we introduced back in September 2010. I do not think that we want to bombard local authorities with a plethora of strategies, especially when our national housing strategy 'Improving Lives and Communities: Homes in Wales’ already covers the issue of empty homes and has been discussed extensively by the housing strategy implementation programme board. We now have a co-ordinated programme of action, delivered by local authorities working in collaboration with each other in order to share resources and expertise.

Mae rhai Aelodau wedi awgrymu bod arnom angen strategaeth Cymru gyfan ar gyfer eiddo gwag. Nid wyf yn argyhoeddedig eto bod strategaeth arall yn angenrheidiol. Mae gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru eu strategaethau cartrefi gwag eu hunain, ac mae’r rhain yn cael eu cefnogi gan y canllawiau diwygiedig a gyflwynwyd gennym yn ôl ym mis Medi 2010. Nid wyf yn credu ein bod eisiau gorlwytho awdurdodau lleol â llu o strategaethau, yn enwedig pan fo ein strategaeth dai genedlaethol, 'Gwella Bywydau a Chymunedau: Cartrefi yng Nghymru’, eisoes yn rhoi sylw i fater cartrefi gwag ac wedi cael ei thrafod yn helaeth gan fwrdd gweithredu rhaglen y strategaeth dai. Erbyn hyn, mae gennym raglen weithredu gydlynol, a gaiff ei darparu gan awdurdodau lleol yn gweithio ar y cyd er mwyn rhannu adnoddau ac arbenigedd.

I also see an important role for the Houses into Homes national steering group in this respect.  The group is made up of the six chairs of each collaborative working area along with Welsh Government officials and representatives from the Welsh Local Government Association.  The group will monitor the initiative’s progress and also advise on target setting and co-ordinating enforcement activity and, as such, will fulfil a strategic all-Wales function.

Rwyf hefyd yn gweld rôl bwysig i grŵp llywio cenedlaethol Troi Tai’n Gartrefi yn hyn o beth. Mae’r grŵp yn cynnwys chwe chadeirydd pob ardal gydweithio ynghyd â swyddogion Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Bydd y grŵp yn monitro cynnydd y fenter ac yn cynghori ar osod targedau a chydlynu gweithgarwch gorfodi ac, o’r herwydd, bydd yn cyflawni swyddogaeth strategol Cymru gyfan.

We are also keen to explore the possibility of using empty homes as social housing. There is already work going on in relation to this, with some local authorities working in partnership with housing associations on empty home issues. Examples of this would be the work being undertaken by Caerphilly County Borough Council and United Welsh Housing Association, and by Wrexham County Borough Council with Clwyd Alyn Housing Association.

Rydym hefyd yn awyddus i edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio cartrefi gwag fel tai cymdeithasol. Mae gwaith eisoes yn digwydd  mewn perthynas â hyn, gyda rhai awdurdodau lleol yn gweithio mewn partneriaeth â chymdeithasau tai ar faterion cartref gwag. Er enghraifft, mae gwaith yn cael ei wneud gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chymdeithas Tai Unedig Cymru, a chan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chymdeithas Tai Clwyd Alyn.

I have raised the possibility of varying rates of council tax in relation to second homes and empty properties with the Minister for Local Government and Communities. During my visit to Scotland last year, I discussed the proposals that Scottish Government Ministers are working towards. Further to that visit, I understand that the Scottish Government has announced plans for the introduction of its own empty homes loan scheme. More generally, what I would say is that I have an open mind on this issue and am willing to consider legislative and non-legislative, financial and non-financial solutions, including both incentives and sanctions to the problems relating to empty homes.

Rwyf wedi trafod y posibilrwydd o amrywio cyfraddau’r dreth gyngor mewn perthynas ag ail gartrefi ac eiddo gwag â’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. Yn ystod fy ymweliad â’r Alban y llynedd, bûm yn trafod y cynigion y mae Gweinidogion Llywodraeth yr Alban yn gweithio arnynt. Ymhellach i’r ymweliad hwnnw, rwy’n deall bod Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer cyflwyno ei chynllun benthyciadau cartrefi gwag ei hunan. Yn fwy cyffredinol, byddwn yn dweud bod gennyf feddwl agored ar y mater hwn ac fy mod yn fodlon ystyried atebion deddfwriaethol ac anneddfwriaethol, ariannol ac anariannol, gan gynnwys cymhellion a sancsiynau o ran y problemau sy’n ymwneud â chartrefi gwag.

The Welsh Government is committed to increased action on the empty property problem and is pleased to have secured that additional funding to cover the new loans initiative. I regard maximising the number of empty private sector properties that are brought back into use as a personal priority, and I will be keeping a close eye on Houses into Homes scheme and more general activity on the part of local authorities on this important issue.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu cynyddol ar y broblem eiddo gwag ac yn falch o fod wedi sicrhau’r arian ychwanegol hwnnw i dalu am y fenter benthyciadau newydd. Rwy’n ystyried cynyddu nifer yr eiddo gwag yn y sector preifat sy’n cael eu defnyddio unwaith eto gymaint â phosibl fel blaenoriaeth bersonol, a byddaf yn cadw llygad barcud ar y cynllun Troi Tai’n Gartrefi a’r gweithgarwch mwy cyffredinol ar ran awdurdodau lleol ar y mater pwysig hwn.

Mark Isherwood: Thank you, Minister, for that statement. It is clear that, together, we need to maximise the number of households housed and turn as many empty houses into full homes as part of the solution to tackling the housing supply crisis. You state that the Houses into Homes scheme is the first national programme in the UK. I think that you previously have acknowledged schemes in places like Kent and London. Will you acknowledge that the UK Government also launched a £100 million of equivalent targeted investment in empty homes, which became available in April 2012, with a temporary empty home fund available prior to April? Therefore, it is nice to see equivalent funding being put in on both sides of the border. Have you any figures to indicate how many properties you anticipate becoming available from the Houses into Homes strategy? Presumably, there will be a degree of recycling of funds as loans are repaid. What work have you done to forecast the likely impact?

Mark Isherwood: Diolch am y datganiad hwnnw, Weinidog. Mae’n amlwg, gyda’n gilydd, fod angen inni gynyddu gymaint â phosibl nifer yr aelwydydd sy’n cael eu cartrefu a throi cymaint o gartrefi gwag â phosibl yn gartrefi llawn fel rhan o’r atebion i fynd i’r afael â’r argyfwng cyflenwad tai. Rydych yn dweud mai’r cynllun Troi Tai’n Gartrefi yw’r rhaglen genedlaethol gyntaf yn y DU. Rwy’n credu i chi gydnabod yn flaenorol gynlluniau mewn lleoedd fel Caint a Llundain. A wnewch chi gydnabod bod Llywodraeth y DU hefyd wedi lansio buddsoddiad cyfatebol o £100 miliwn mewn cartrefi gwag, a ddaeth ar gael ym mis Ebrill 2012, a bod cronfa cartrefi gwag dros dro ar gael cyn mis Ebrill? Felly, mae’n braf gweld cyllid cyfatebol yn cael ei gynnig ar naill ochr y ffin a’r llall. A oes gennych ffigurau i ddangos faint o eiddo rydych yn rhagweld fydd yn dod ar gael o ganlyniad i’r strategaeth Troi Tai’n Gartrefi? Yn ôl pob tebyg, bydd rhywfaint o ailgylchu arian wrth i fenthyciadau gael eu had-dalu. Pa waith yr ydych wedi’i wneud i ragweld yr effaith debygol?

You refer to the 954 properties brought back into use in 2010-11. This is an encouraging figure. However, some local authorities have taken a lead, while some have fallen behind. For example, Denbighshire alone produced 154 of those 954 properties. Therefore, how do you propose to ensure that, beyond the aspirations detailed here, good practice is shared not just at regional partnership meetings, but when people go back to deliver work programmes in their own county halls?

Rydych yn cyfeirio at y 954 eiddo a gafodd eu defnyddio unwaith eto yn 2010-11. Mae hwn yn ffigur calonogol. Fodd bynnag, mae rhai awdurdodau lleol wedi cymryd yr awenau, tra nad yw eraill yn gwneud cystal. Er enghraifft, sir Ddinbych yn unig oedd yn gyfrifol am 154 o’r 954 eiddo hynny. Felly, sut ydych chi’n bwriadu sicrhau, y tu hwnt i’r dyheadau a nodir yma, y rhennir arfer da, nid yn unig mewn cyfarfodydd partneriaeth rhanbarthol, ond pan fydd pobl yn mynd yn ôl i gyflwyno rhaglenni gwaith yn eu neuaddau sir eu hunain?

3.15 p.m.

You refer to targeting owners of empty properties and encouraging them to bring back homes into use for sale or for rent, and therefore contributing to the housing supply. You also refer in your statement to exploring the use of empty homes as social housing. I welcome the fact that you consider all different tenures to be applicable here. How do you respond to the fact that a number of local authorities have made their empty homes grant conditional on the houses going onto the social housing list, and to a suggestion by PricewaterhouseCoopers that allowing associations to use empty properties to generate additional capital by making them available for intermediate rent, among other things, might be a way forward to maximise that supply?

Rydych yn cyfeirio at dargedu perchnogion eiddo gwag a’u hannog i ddefnyddio cartrefi unwaith eto er mwyn eu gwerthu neu eu rhentu, gan felly gyfrannu at y cyflenwad tai. Rydych hefyd yn cyfeirio yn eich datganiad at archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio cartrefi gwag fel tai cymdeithasol. Croesawaf y ffaith eich bod yn ystyried bod yr holl ddeiliadaethau gwahanol yn berthnasol yma. Sut rydych yn ymateb i’r ffaith bod nifer o awdurdodau lleol wedi gwneud eu grant cartrefi gwag yn amodol ar y tai sy’n mynd ar y rhestr tai cymdeithasol, ac i’r awgrym gan PricewaterhouseCoopers y gallai caniatáu i gymdeithasau ddefnyddio eiddo gwag i greu cyfalaf ychwanegol drwy eu darparu am rent canolradd, ymhlith pethau eraill, fod yn ffordd ymlaen i fanteisio i’r eithaf ar y cyflenwad hwnnw?

You refer to an injection of capital to local building industries. I am sure that that is something that everyone would welcome, as there is a lot of debate about procurement and local procurement. How will you work with the sector? I know that you have recently received a letter from the north Wales construction group, as has your colleague the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science, highlighting concerns about local procurement for building companies when there is investment in their regions.

Rydych yn cyfeirio at chwistrelliad o gyfalaf i gwmnïau adeiladu lleol. Rwyf yn siŵr fod hynny’n rhywbeth y byddai pawb yn ei groesawu, gan fod cryn drafod am gaffael a chaffael lleol. Sut y byddwch yn gweithio gyda’r sector? Gwn eich bod wedi cael llythyr yn ddiweddar gan grŵp adeiladu gogledd Cymru, fel y gwnaeth eich cydweithiwr, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, yn tynnu sylw at bryderon am gaffael lleol i gwmnïau adeiladu pan fo buddsoddi yn eu rhanbarthau.

You refer to properties on which there is a dialogue with owners about bringing them back into use but on which local authorities still need to consider using the enforced sale procedure. I am sure that you will agree with the Denbighshire empty homes officer, who said that every empty home has a story and that the key is to understand why it is empty and to work closely with the owner to bring it back into use. Will you, therefore, confirm your belief that enforcement action should be a last resort when the other options have failed?

Rydych yn cyfeirio at eiddo y mae deialog yn ei gylch gyda pherchnogion ynghylch dod ag ef yn ôl i ddefnydd, ond lle y mae awdurdodau lleol yn parhau i fod angen ystyried defnyddio’r weithdrefn gwerthu gorfodol. Rwyf yn siŵr y byddwch yn cytuno gyda swyddog tai gwag sir Ddinbych, a ddywedodd fod stori gan bob cartref gwag ac mai’r allwedd yw deall pam ei fod yn wag a chydweithio’n agos â’r perchennog i ddod ag ef yn ôl i ddefnydd. A wnewch chi, felly, gadarnhau eich barn y dylai camau gorfodi fod yn ddewis olaf pan fydd yr opsiynau eraill wedi methu?

You referred to the strategy—I am sympathetic and sensitive to the concerns that you raised about not needing another strategy—but you then moved on to talk about co-ordinated action, delivered by local authorities working in collaboration with each other, and a group made up of the chairs of each of the six collaborative working areas. In north Wales, work has been done to set up a network of north Wales empty homes officers. How has that developed across Wales? To what extent does that comprise empty homes officers, rather than others who have been seconded to it who may not have the appropriate expertise?

Cyfeiriasoch at y strategaeth—rwyf yn cydymdeimlo â’r pryderon a fynegwyd gennych am y ffaith nad oes angen strategaeth arall ac yn ymwybodol ohonynt—ond aethoch ymlaen wedyn i sôn am gamau cydlynol gan awdurdodau lleol sy’n gweithio ar y cyd, a grŵp sy’n cynnwys cadeiryddion o bob un o’r chwe ardal sy’n cydweithio. Yng ngogledd Cymru, gwnaed gwaith i sefydlu rhwydwaith o swyddogion tai gwag. Sut mae hynny wedi datblygu ledled Cymru? I ba raddau mae hynny’n cynnwys swyddogion tai gwag, yn hytrach nag eraill sydd wedi cael eu secondio iddo nad oes ganddynt, o bosibl, yr arbenigedd priodol?

Finally, in relation to your comments about varying rates of council tax on second homes and empty properties, you confirm that local authorities, if implementing such powers in the future, should be sensitive to individual circumstances. For instance, a bereaved person or a person with issues that, with support, could be addressed in order to allow properties to be accessed, should be exempted from such action; they should only be used when people are simply refusing to co-operate.

Yn olaf, o ran eich sylwadau am amrywio cyfraddau’r dreth cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag, rydych yn cadarnhau y dylai awdurdodau lleol, os ydynt yn gweithredu pwerau o’r fath yn y dyfodol, fod yn sensitif i amgylchiadau unigol. Er enghraifft, dylai person mewn galar, neu berson â phroblemau y gellid eu datrys gyda chymorth er mwyn caniatáu mynediad i eiddo, gael eu heithrio rhag camau gweithredu o’r fath; dylid ond eu defnyddio pan fydd pobl yn gwrthod cydweithredu.

Huw Lewis: I thank Mark Isherwood for those pertinent points and relevant questions. I welcome your agreement, Mark, that this issue is a priority. As far as I am aware, this is the first national scheme—the first out of the starting gate, if you like. The Scots are now following behind us, with a scheme that will not be up and running quite as quickly as ours, and will not be as well resourced, proportionally speaking. Therefore, I am proud that this is up and running in Wales.

Huw Lewis: Diolch i Mark Isherwood am y pwyntiau a’r cwestiynau perthnasol hynny. Rwyf yn croesawu eich cytundeb, Mark, fod y mater hwn yn flaenoriaeth. Hyd y gwn i, dyma’r cynllun cenedlaethol cyntaf—y cyntaf i fynd drwy’r glwyd, os mynnwch. Mae’r Albanwyr bellach yn ein dilyn, gyda chynllun na fydd yn ei le mor gyflym â’n un ni, ac na fydd â chystal adnoddau mewn cymhariaeth. Felly, rwyf yn falch ei fod wedi ei sefydlu ac ar waith yng Nghymru.

There will be numbers and targets associated with this scheme—they are being worked up as I speak. As I have mentioned several times in the Chamber, the target will be announced as part of a number of targets on housing provision later this month.

Bydd niferoedd a thargedau yn gysylltiedig â’r cynllun hwn—maent yn cael eu paratoi wrth imi siarad. Fel y dywedais droeon yn y Siambr, bydd y targed yn cael ei gyhoeddi fel rhan o nifer o dargedau ar ddarpariaeth tai yn ddiweddarach y mis hwn.

You are right to say that the 940 houses brought back into use in 2010-11 accounted for something of a glimmer of hope. That is almost double the number of houses brought back into use the previous year. That is good news. You are also right to say that it was only a small number of local authorities working very well to a form of best practice in their area that boosted that number. That gives me good heart, in the sense that I feel that, once we have a scheme that reflects good practice across Wales, we will see these numbers boosted considerably. It is not just a question of the extra money in the system; it is also a question of that good practice being shared, as you rightly emphasised.

Rydych yn iawn i ddweud bod y 940 o dai a ddaethpwyd yn ôl i ddefnydd yn 2010-11 yn cynnig llygedyn o obaith. Mae hynny bron ddwywaith y nifer o dai a ddaethpwyd yn ôl i ddefnydd yn y flwyddyn flaenorol. Mae hynny’n newyddion da. Rydych hefyd yn iawn i ddweud mai dim ond nifer fach o awdurdodau lleol a oedd yn gweithio’n dda iawn ar sail rhyw fath o arfer gorau yn eu hardal a roddodd hwb i’r nifer hwnnw. Mae hynny’n fy nghalonogi, yn yr ystyr fy mod yn teimlo, unwaith y cawn gynllun sy’n adlewyrchu arfer da ledled Cymru, y byddwn yn gweld y niferoedd hyn yn cynyddu’n sylweddol. Nid dim ond mater ydyw o roi arian ychwanegol yn y system; mae hefyd yn fater o rannu’r arfer da hwnnw, fel yr oeddech yn iawn i’w bwysleisio.

Of course, the regionalisation of this work, with a lead local authority in each of the six regions, is intended to spread that good practice. It would be no surprise to anyone familiar with the sector that the lead authorities have something of a good track record when it comes to empty property work. The hope is that that good practice and expertise will spread throughout the regional cluster as the scheme unfolds.

Wrth gwrs, y bwriad o ran rhanbartholi’r gwaith hwn, gydag awdurdod lleol arweiniol ym mhob un o’r chwe rhanbarth, yw lledaenu’r arfer da hwnnw. Ni fydd yn syndod i unrhyw un sy’n gyfarwydd â’r sector bod gan yr awdurdodau arweiniol gryn hanes da o ran gwaith ar eiddo gwag. Y gobaith yw y bydd yr arfer da a’r arbenigedd hwnnw yn lledaenu drwy’r clwstwr rhanbarthol wrth i’r cynllun fynd rhagddo.

I thank you for your point about empty homes grants in some areas being conditional upon owners looking at the option of social rent. This national scheme and the money attached to it is not conditional upon a social rent option, but that is obviously something that I would encourage a conversation about. However, it is a strategic duty for a local authority to decide where its priorities lie in terms of housing. This national scheme, Houses into Homes, is there without condition as long as we get these houses back into use. That is the main purpose of the scheme. However, the option of social rent, or at least a conversation around that option, is something that I would encourage everywhere.

Diolch am eich pwynt fod grantiau cartrefi gwag yn amodol mewn rhai ardaloedd ar berchnogion yn edrych ar yr opsiwn o rent cymdeithasol. Nid yw’r cynllun cenedlaethol a’r arian sydd ynghlwm ag ef yn amodol ar opsiwn rhent cymdeithasol, ond mae hynny’n amlwg yn rhywbeth y byddwn yn annog trafodaeth amdano. Fodd bynnag, mae’n ddyletswydd strategol ar awdurdod lleol i benderfynu beth yw ei flaenoriaethau o ran tai. Mae’r cynllun cenedlaethol hwn, Troi Tai’n Gartrefi, yn bodoli heb amod cyn belled ag y cawn y tai hyn yn ôl i ddefnydd. Dyna yw prif bwrpas y cynllun. Fodd bynnag, mae’r opsiwn o rent cymdeithasol, neu o leiaf drafodaeth am yr opsiwn hwnnw, yn rhywbeth y byddwn yn ei annog ym mhob man.

You are quite right that the building sector needs to be spoken to continually as this scheme unfolds. My great hope—in fact my expectation—is that, because we are generally dealing with properties scattered in small numbers, usually single units, throughout a community, this scheme would be tailor-made to suit smaller, more local building contractors that are almost entirely Wales-based. If that is not the case, and we find that there are problems in that regard, that is something that we can talk about at a national level and address as time goes on.

Rydych yn llygad eich lle bod angen siarad â’r sector adeiladu yn barhaus wrth i’r cynllun hwn fynd yn ei flaen. Fy ngobaith mawr—yn wir, fy nisgwyliad—yw, oherwydd ein bod, ar y cyfan, yn delio ag eiddo sydd wedi’i wasgaru mewn niferoedd bach, ar ffurf unedau sengl fel arfer, drwy gymunedau, byddai’r cynllun hwn yn hollol addas i gontractwyr adeiladu llai, mwy lleol sydd wedi eu lleoli yng Nghymru bron yn llwyr. Os nad yw hynny’n wir, a’n bod yn canfod problemau yn hynny o beth, mae hynny’n rhywbeth y gallwn ei drafod a’i ddatrys ar lefel genedlaethol wrth i amser fynd heibio.

On compulsion, I am very much of the view that we need both incentives and sanctions built into the system here—that is essential, if we are to signal the seriousness of the Government with regard to empty properties. I agree, however, that there are many different routes by which a property becomes empty; in some cases, the story behind that property falling out of use can be distressing, because of a personal or family issue that we need to be sensitive about. In that sense it is quite right that we regard compulsion or draconian action of any kind as being very much the last resort. It is my feeling, having talked to many people up and down Wales about this policy initiative, that the single most important element of this is a constructive dialogue in the first place between the owner and the local strategic authority that is co-ordinating the scheme.

Ar orfodaeth, rwyf yn llwyr o’r farn bod angen ymgorffori cymhellion a sancsiynau yn y system yma—mae hynny’n hanfodol, os ydym i ddangos pa mor ddifrifol yw’r Llywodraeth ynghylch eiddo gwag. Rwyf yn cytuno, fodd bynnag, fod nifer o ffyrdd gwahanol y gall eiddo fynd yn wag; mewn rhai achosion, gall yr hanes sy’n egluro pam nad yw’r eiddo’n cael ei ddefnyddio bellach fod yn boenus, oherwydd problem bersonol neu deuluol y mae angen inni fod yn sensitif yn ei chylch. Yn yr ystyr hwnnw, mae’n hollol gywir ein bod yn ystyried gorfodaeth neu gamau llym o unrhyw fath fel y dewis olaf. Fy nheimlad i, ar ôl siarad â nifer o bobl ledled Cymru am y polisi hwn, yw mai’r elfen bwysicaf o hyn yw cael deialog adeiladol yn y lle cyntaf rhwng y perchennog a’r awdurdod strategol lleol sy’n cydlynu’r cynllun.

That leads on to your final point, Mark, concerning council tax regimes and the sanctions that might be built into them. Yes, once again, as we talk through the development of policy in that area—and we still have the opportunity to spend some time discussing that and thinking about it—sensitivity within the system does matter. We do not want to develop a sledgehammer to crack nuts. We want to realise that there are human beings behind each and every one of these stories, but we also want to be very clear that having nigh-on 22,000 empty properties up and down Wales does social harm to all our communities, and we urgently need to address that problem.

Mae hynny’n arwain at eich pwynt olaf, Mark, am gyfundrefnau’r dreth gyngor a’r sancsiynau allai gael eu cynnwys ynddynt. Ie, unwaith eto, wrth inni drafod datblygu polisi yn y maes hwnnw—ac mae cyfle gennym o hyd i dreulio rhywfaint o amser yn trafod hynny a meddwl amdano—mae sensitifrwydd o fewn y system yn bwysig. Nid ydym am ddatblygu ateb sy’n rhy lawdrwm. Rydym am sylweddoli bod bodau dynol y tu ôl i bob un o’r straeon hyn, ond rydym hefyd am fod yn glir iawn fod cael bron i 22,000 o eiddo gwag ledled Cymru yn gwneud niwed cymdeithasol i bob un o’n cymunedau, ac rydym angen mynd i’r afael â’r broblem honno rhag blaen.

Llyr Huws Gruffydd: Thank you, Minister, for your statement. Having nearly 22,000 empty private sector properties is a travesty, and I welcome any initiatives to tackle the situation. However, I have to say once again that I feel that this statement is rather a damp squib, because other than saying that you are not convinced that a Wales-wide empty properties strategy is really necessary, it does not say anything that we did not already know. I am not clear why the statement was necessary, other than to perhaps remind us of previous commitments, which is fair enough. You say that more needs to be done on empty homes, but it is not clear from the statement what more you are going to do, over and above what has previously been announced.

Llyr Huws Gruffydd: Diolch, Weinidog, am eich datganiad. Mae’r ffaith bod bron i 22,000 o eiddo gwag yn y sector preifat yn warth, ac rwyf yn croesawu unrhyw fentrau i fynd i’r afael â’r sefyllfa. Fodd bynnag, rhaid i mi ddweud unwaith eto fy mod yn teimlo bod y datganiad hwn ychydig yn siomedig, oherwydd, ar wahân i’r ffaith eich bod yn dweud nad ydych yn argyhoeddedig bod gwir angen strategaeth eiddo gwag i Gymru gyfan, nid yw’n dweud unrhyw beth na wyddom eisoes. Nid wyf yn glir pam mae angen y datganiad, ar wahân i’r ffaith ei fod efallai’n ein hatgoffa o ymrwymiadau blaenorol, sy’n ddigon teg. Rydych yn dweud bod angen gwneud mwy am gartrefi gwag, ond nid yw’n glir o’r datganiad beth arall y byddwch yn ei wneud, ar wahân i’r hyn yr ydych wedi ei gyhoeddi eisoes.

I am glad that you have confirmed that you will be announcing targets later this month. I look forward to hearing what those will be, because we already know that the performance of local authorities varies hugely across Wales for a variety of reasons. What help and support will you be giving to those local authorities where performance has perhaps been poor and what will happen to local authorities that miss their targets?

Rwyf yn falch eich bod wedi cadarnhau y byddwch yn cyhoeddi targedau yn ddiweddarach y mis hwn. Edrychaf ymlaen at glywed beth fydd y rheini, oherwydd gwyddom eisoes fod perfformiad awdurdodau lleol yn amrywio’n fawr ledled Cymru am amryw o resymau. Pa gymorth a chefnogaeth y byddwch yn ei roi i’r awdurdodau lleol hynny sy’n perfformio yn wael efallai a beth fydd yn digwydd i awdurdodau lleol sy’n methu â chyrraedd eu targedau?

It is probably too soon to tell what effect the Houses into Homes fund is having on empty homes. It will be a while before we see results for that, but I am interested to know, first, how you are ensuring that local authorities are making landlords aware of this scheme and, secondly, what efforts you are making to ensure that these loans will achieve the maximum impact on the local economy by, for example, ensuring that local firms carry out the repair work and that that repair work includes the use of insulation technology to make homes as energy efficient as possible.

Mae’n debyg ei bod yn rhy fuan dweud pa effaith y mae’r gronfa Troi Tai’n Gartrefi yn ei chael ar gartrefi gwag. Bydd yn sbel cyn y gwelwn ganlyniadau hynny, ond byddai’n dda gennyf wybod, yn gyntaf, sut rydych yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn rhoi gwybod i landlordiaid am y cynllun hwn ac, yn ail, pa ymdrechion yr ydych yn eu gwneud i sicrhau bod y benthyciadau hyn yn cael yr effaith fwyaf ar yr economi leol drwy, er enghraifft, sicrhau bod cwmnïau lleol yn gwneud y gwaith atgyweirio a bod y gwaith atgyweirio yn cynnwys defnyddio technoleg inswleiddio i wneud cartrefi mor effeithlon o ran ynni ag y bo modd.

You say that you have an open mind and that you are willing to consider options on varying rates of council tax. I therefore urge you to act in that respect. I would be interested to know when you think you will be in a position to come to some conclusion on that key issue.

Rydych yn dweud bod gennych feddwl agored a’ch bod yn barod i ystyried opsiynau o ran amrywio cyfraddau’r dreth gyngor. Rwyf felly yn eich annog i weithredu yn hynny o beth. Byddai’n dda gennyf wybod pryd y tybiwch y byddwch mewn sefyllfa i ddod i ryw gasgliad ar y mater allweddol hwnnw.

Finally, what are you doing to persuade the UK Government to reduce VAT on building repairs? We know that VAT on home repairs keeps the cost of upgrading homes high, which is a disincentive to bringing many empty homes back into use. It also damages efforts to improve the Welsh housing stock. Cutting VAT for home repairs could also help with fuel poverty and installing insulation.

Yn olaf, beth rydych yn ei wneud i berswadio Llywodraeth y DU i leihau TAW ar atgyweirio adeiladau? Gwyddom fod TAW ar atgyweiriadau cartrefi yn cadw’r gost o uwchraddio cartrefi yn uchel, sy’n rhwystr i ddod â nifer o gartrefi gwag yn ôl i ddefnydd. Mae hefyd yn amharu ar ymdrechion i wella stoc tai Cymru. Gallai lleihau TAW ar gyfer atgyweiriadau cartref hefyd helpu gyda thlodi tanwydd a gosod deunydd inswleiddio.

Therefore, in essence, I look forward to hearing the targets when they are ready, but, other than that, I am really not sure what this statement is saying.

Felly, yn ei hanfod, edrychaf ymlaen at glywed y targedau pan fyddant yn barod, ond, ar wahân i hynny, nid wyf yn sicr beth y mae’r datganiad hwn yn ei ddweud.

Huw Lewis: I wish that it were in my gift to instil more enthusiasm in the Plaid Cymru spokesperson. I find that keeping colleagues up to date within the Chamber on the central priorities of this Government is not just essential and exciting, but is also a duty; it is incumbent upon me as Minister to do so. Included within the announcement, if Llyr Huws Gruffydd had been paying close attention, was an announcement about the considerations relating to the Government getting serious about how the council tax regime—our sanctions regime—feeds into bringing empty properties back into use. That is certainly not something that I have brought to the Chamber before.

Huw Lewis: Hoffwn pe bai gennyf y ddawn i feithrin mwy o frwdfrydedd yn llefarydd Plaid Cymru. Rwyf yn ystyried bod rhoi’r newyddion diweddaraf i gydweithwyr yn y Siambr am brif flaenoriaethau’r Llywodraeth hon nid yn unig yn hanfodol a chyffrous, ond mae hefyd yn ddyletswydd; mae’n ddyletswydd arnaf fel y Gweinidog i wneud hynny. Yn y cyhoeddiad, pe bai Llyr Huws Gruffydd wedi talu sylw manwl, roedd cyhoeddiad am sut y mae’r Llywodraeth yn ystyried o ddifrif sut y mae trefn y dreth gyngor—ein cyfundrefn sancsiynau—yn bwydo i mewn i’r gwaith o ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Nid yw hynny’n rhywbeth imi ei gyflwyno yn y Siambr o’r blaen.

In relation to when we will see targets, I ask Plaid Cymru to keep with it on this one and to keep its enthusiasm levels high. I say once again that the White Paper will be published before the end of this month and that the numerical targets regarding empty homes and other aspects of housing development, which will be ambitious but realistic, will follow before the end of this calendar month.

O ran pryd y gwelwn dargedau, gofynnaf i Blaid Cymru fod yn amyneddgar am hyn ac i barhau i fod yn frwdfrydig. Dywedaf eto y bydd y Papur Gwyn yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd y mis hwn ac y bydd targedau rhifiadol o ran tai gwag ac agweddau eraill ar ddatblygu tai, a fydd yn uchelgeisiol ond yn realistig, yn dilyn cyn diwedd y mis calendr.

I think that you answered your own question in relation to local authorities that might fail, Llyr, before going on to say that we need to let this roll out to see what happens. There is a powerful incentive built into that regional working system for every local authority to pull its weight. It would rapidly become apparent within a cluster of local authorities if one or two authorities were simply not getting the numbers of empty properties in their area back into use. That would be an embarrassment for the local authorities concerned.

Rwyf yn meddwl eich bod wedi ateb eich cwestiwn eich hun am awdurdodau lleol a allai fethu, Llyr, cyn mynd ymlaen i ddweud bod angen i ni gyflwyno hyn i weld beth fydd yn digwydd. Mae cymhelliant pwerus yn y system ranbarthol honno i bob awdurdod lleol dynnu ei bwysau. Byddai’n dod yn amlwg yn fuan o fewn clwstwr o awdurdodau lleol pe na fyddai un neu ddau o awdurdodau yn cael y nifer o eiddo gwag yn eu hardal yn ôl i ddefnydd. Byddai hynny’n peri embaras i’r awdurdodau lleol o dan sylw.

3.30 p.m.

If systematic structural failures become apparent in one or more local authorities as the recyclable loans scheme unfolds—and let us remember that this is a rolling programme in terms of the flow of money through the housing system—we will obviously have to consider intervention at a national level. It would not be fair for people in a particular locality of Wales to lose out on what is intended to be an all-Wales initiative. I take on board entirely your points on local firms and the imperative behind ensuring that procurement here is done correctly. There is a welter of best practice for local authorities to take a look at in terms of procurement and how this conversation is conducted locally. We would expect them to emulate best practice in that regard. Again, if that is not happening, that would be a matter of concern at national level to my office, and intervention or persuasion, or whatever is necessary, would be appropriate in that regard.

Os bydd methiannau strwythurol systematig yn dod i’r amlwg mewn un neu fwy o awdurdodau lleol wrth i’r cynllun benthyciadau ailgylchadwy fynd yn ei flaen—a gadewch inni gofio fod hon yn rhaglen dreigl o ran llif yr arian drwy’r system tai—yn amlwg, byddai’n rhaid inni ystyried ymyrraeth ar lefel genedlaethol. Ni fyddai’n deg i bobl mewn ardal benodol yng Nghymru gael cam o ran yr hyn y bwriedir iddo fod yn fenter drwy Gymru gyfan. Rwy’n llwyr dderbyn eich pwyntiau ynghylch cwmnïau lleol a’r rheidrwydd i sicrhau bod caffael yn cael ei wneud yn iawn yma. Ceir peth wmbredd o arferion gorau i awdurdodau lleol edrych arnynt o ran caffael a sut y cynhelir y drafodaeth hon yn lleol. Byddem yn disgwyl iddynt efelychu’r arferion gorau yn y cyswllt hwnnw. Unwaith eto, os nad yw hynny’n digwydd, byddai hynny’n peri pryder yn genedlaethol i’m swyddfa, a byddai ymyrraeth neu ddwyn perswâd, neu beth bynnag sydd ei angen, yn briodol yn hynny o beth.

 

I do not think there is any party within the Chamber that has not gone on record with its concerns about UK Government policy towards VAT and home repairs. It has compounded its wrongheadedness in that regard by causing further problems for historic buildings. Custodians of historic buildings—the churches in particular—are very concerned about UK Government announcements on VAT regimes around repairs. I cannot see—and we have transmitted this message to Westminster many times—the logic behind what the UK Government is trying to do when it comes to this particular corner of the VAT regime.

Nid wyf yn credu bod dim un blaid yn y Siambr nad yw wedi mynegi ei phryderon am bolisi Llywodraeth y DU tuag at TAW a thrwsio cartrefi. Mae wedi cynyddu ei ffolineb yn hynny o beth drwy achosi problemau pellach ar gyfer adeiladau hanesyddol. Mae ceidwaid adeiladau hanesyddol—yr eglwysi yn benodol—yn poeni’n fawr am gyhoeddiadau Llywodraeth y DU ar y gyfundrefn TAW o ran gwaith atgyweirio. Ni allaf weld—ac rydym wedi cyfleu’r neges hon i San Steffan droeon—y rhesymeg wrth wraidd yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ceisio ei wneud ynglŷn â’r elfen benodol hon o’r gyfundrefn TAW.

 

Peter Black: I know that Ministers are often accused of re-announcing money to make it sound like it is new, and if we had had £5 million every time you had announced it, we would have had at least £30 million by now towards this empty homes initiative. You have managed to announce it twice within the same statement, so you are clearly making good progress in that regard, and one hopes that the multiplier effect will work and that we will have greater resources to deal with the empty homes across Wales.

Peter Black: Gwn fod Gweinidogion yn aml yn cael eu cyhuddo o ailgyhoeddi arian er mwyn gwneud iddo ymddangos fel petai’n newydd, a phetaem wedi cael £5 miliwn bob tro y gwnaethoch ei gyhoeddi, byddem wedi cael o leiaf £30 miliwn erbyn hyn tuag at y fenter tai gwag. Rydych wedi llwyddo i’w gyhoeddi ddwywaith o fewn yr un datganiad, felly rydych yn amlwg yn gwneud cynnydd da yn y cyswllt hwnnw, a byddai rhywun yn gobeithio y bydd effaith y lluosydd yn gweithio ac y bydd gennym fwy o adnoddau i fynd i’r afael â’r tai gwag ledled Cymru.

 

I am disappointed by your reluctance to have a strategy. You have an initiative, which is a sort of halfway house towards a strategy, and you have a strategy group, but you do not have a strategy. You will have national targets, which will hopefully encompass empty homes, but still you do not have a strategy. It seems that you have all the elements, but perhaps you need a good cook to mix them up a bit and come up with a strategy, which you can actually call a strategy, at the end of it. A strategy would start to bring together the disparate elements around Wales in terms of empty homes and ensure that not only are we spreading best practice, but that those local authorities that are not doing enough in terms of empty homes are given a prod to make sure that they get off their backsides and start to deliver.

Mae eich amharodrwydd i gael strategaeth yn fy siomi. Mae gennych fenter, sy’n rhyw hanner ffordd tuag at strategaeth, ac mae gennych grŵp strategaeth, ond nid oes gennych strategaeth. Bydd gennych dargedau cenedlaethol, a fydd, gobeithio, yn cynnwys cartrefi gwag, ond, serch hynny, nid oes gennych strategaeth. Mae’n ymddangos bod yr holl elfennau gennych, ond efallai fod angen cogydd da arnoch i’w cymysgu ychydig a dod o hyd i strategaeth, y gallwch ei galw’n strategaeth, ar y diwedd. Byddai strategaeth yn dechrau dwyn ynghyd y gwahanol elfennau o amgylch Cymru mewn cysylltiad â chartrefi gwag ac yn sicrhau ein bod nid yn unig yn lledaenu’r arferion gorau, ond bod yr awdurdodau lleol hynny nad ydynt yn gwneud digon o ran cartrefi gwag yn cael eu procio i wneud yn siŵr eu bod yn codi oddi ar eu penolau a dechrau cyflawni.

 

Bringing back into use 954 homes, from a total of just under 22,000 empty homes, is slow progress. At that rate, it will take 20 years before we make any real progress in terms of eradicating empty homes, yet you made it clear in your statement, as you have done on many previous occasions, that tackling empty homes is a priority for you. The question I have to ask therefore is: if tackling empty homes is a priority, why is it that you cannot have a strategy—an effective one—when you have a strategy for so many other things that are not such a high priority? I do not understand the logic behind that.

Mae defnyddio 954 o gartrefi unwaith eto, o gyfanswm o ychydig llai na 22,000 o gartrefi gwag, yn gynnydd araf. Ar y raddfa honno, bydd yn cymryd 20 mlynedd cyn inni wneud unrhyw gynnydd gwirioneddol o ran cael gwared â chartrefi gwag, ond eto rydych wedi gwneud yn glir yn eich datganiad, fel yr ydych wedi gwneud droeon o’r blaen, fod mynd i’r afael â chartrefi gwag yn flaenoriaeth ichi. Y cwestiwn y mae’n rhaid imi ei ofyn felly yw: os yw mynd i’r afael â chartrefi gwag yn flaenoriaeth, pam na allwch gael strategaeth—un effeithiol—pan fo gennych strategaeth ar gyfer cynifer o bethau eraill nad ydynt yn gymaint o flaenoriaeth? Nid wyf yn deall y rhesymeg sy’n sail i hynny.

 

Empty dwelling management orders and compulsory purchase orders have their place, but there are also huge amounts of problems around them. Hopefully, when you come to legislate, and as a result of the consultation on your White Paper, we will be able to make some points about how we can reform both of those mechanisms to improve them and make them easier for local authorities to use. I can count the number of empty dwelling management orders on one hand and most of those were in Swansea—I think that there were two in Swansea, and one or two elsewhere around Wales. CPOs require resources and they can mean lengthy legal processes that can take time to see through. Again, that needs to be streamlined. They are flawed tools that need reform. Are you considering reforming them as part of your non-strategy that will deliver following consultation on your White Paper and in the Bill that you will bring forward?

Mae gan orchmynion rheoli anheddau gwag a gorchmynion prynu gorfodol eu priod le, ond ceir hefyd nifer fawr o broblemau yn eu sgîl. Gobeithio, pan fyddwch yn mynd ati i ddeddfu, ac o ganlyniad i’r ymgynghoriad ar eich Papur Gwyn, y byddwn yn gallu gwneud rhai pwyntiau am sut y gallwn ddiwygio’r ddau fecanwaith er mwyn eu gwella a’u gwneud yn haws i awdurdodau lleol eu defnyddio. Gallaf gyfrif nifer y gorchmynion rheoli anheddau gwag ar un llaw ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn Abertawe—credaf fod dau yn Abertawe, ac un neu ddau mewn mannau eraill yng Nghymru. Mae gorchmynion prynu gorfodol yn gofyn am adnoddau a gallant olygu prosesau cyfreithiol maith a all gymryd amser i’w cwblhau. Unwaith eto, mae angen symleiddio hynny. Maent yn arfau diffygiol y mae angen eu diwygio. A ydych yn ystyried eu diwygio fel rhan o’ch diffyg strategaeth a fydd yn cyflawni yn dilyn ymgynghoriad ar eich Papur Gwyn ac yn y Bil y byddwch yn ei gyflwyno?

There are tools and methods that not all local councils are making use of. Many local councils have empty property officers, for example, who do a very good job of bringing together landlords, owners, the community and the various other elements to try to bring houses back into use. However, many councils do not have empty property officers and a strategy would underline how important they are to local authorities. If you took the lead on that as Minister, the situation might improve across Wales.

Mae’r rhain yn arfau ac yn ddulliau nad yw pob cyngor lleol yn eu defnyddio. Mae gan nifer o gynghorau lleol swyddogion eiddo gwag, er enghraifft, sydd yn gwneud gwaith da iawn yn dwyn ynghyd landlordiaid, perchnogion, y gymuned a’r amrywiol elfennau eraill i geisio defnyddio tai unwaith eto. Fodd bynnag, nid oes gan lawer o gynghorau swyddogion eiddo gwag a byddai strategaeth yn pwysleisio mor bwysig ydynt i awdurdodau lleol. Pe baech yn rhoi arweiniad ar hynny fel Gweinidog, gallai’r sefyllfa wella ledled Cymru.

I support the need for changes to the council tax regime so that people who own properties that blight the community contribute more to that community to compensate it. That is a stick-and-carrot approach. I hope that, when you draw the housing Bill together, that will also be included. I do not expect you to know what will be in the housing Bill at this stage, but can you confirm that that will be part of the consultation on the White Paper?

Rwy’n cefnogi’r angen am newidiadau yn y drefn treth gyngor er mwyn i bobl sy’n berchen ar eiddo sy’n difetha’r gymuned gyfrannu mwy i’r gymuned honno er mwyn gwneud yn iawn am hynny. Dull ffon ac abwyd ydyw. Rwy’n gobeithio, pan fyddwch yn dod â’r Bil tai at ei gilydd, y bydd hynny hefyd yn cael ei gynnwys. Nid wyf yn disgwyl ichi wybod beth fydd yn y Bil tai ar hyn o bryd, ond a allwch gadarnhau y bydd hynny’n rhan o’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn?

Huw Lewis: I thank the spokesperson for the Liberal Democrats for his intervention. Being charitable, much of what Peter Black has mentioned this afternoon could be boiled down to one word, as his questions are about prioritisation. That is perfectly legitimate; it is far more important than a semantic argument about what constitutes a 'strategy’ and a 'programme for national action’. My concern is more with the prioritisation shift that we need to instil in the minds and working practices of local authorities and starting to bring together the new regime of new money—and it is new money—alongside the consideration of a new regime on sanctions and expectations, in terms of targets. That is the way in which we will construct a new atmosphere around the prioritisation of empty properties.

Huw Lewis: Diolch i’r llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol am ei ymyriad. Gan fod yn garedig, gallai llawer o’r hyn y soniodd Peter Black amdano y prynhawn yma gael ei grynhoi mewn un gair, gan fod ei gwestiynau yn ymwneud â blaenoriaethu. Mae hynny’n hollol deg; mae’n llawer mwy pwysig na dadl semantig am yr hyn sy’n gwneud 'strategaeth’ a 'rhaglen ar gyfer gweithredu cenedlaethol’. Mae fy mhryder i’n ymwneud mwy â’r broses o newid blaenoriaethau y mae’n rhaid inni ei meithrin ym meddyliau ac arferion gwaith awdurdodau lleol a dechrau dwyn ynghyd y drefn newydd o arian newydd—ac arian newydd yw hwn—ynghyd ag ystyried trefn newydd o sancsiynau a disgwyliadau, mewn cysylltiad â thargedau. Dyna’r ffordd y byddwn yn creu awyrgylch newydd ynghylch blaenoriaethu eiddo gwag.

 

Peter Black is quite right to say that there are problems with EDMOs and CPOs and that there are local authorities that avoid them like the plague—probably most of them do. That is a problem in itself, because they are powerful tools for change and reform that are routinely sidestepped by local authorities. In doing so, their strategic duties as regards these sorts of housing problems are also sidestepped, to be frank. If we can do anything in terms of introducing powers or duties on local authorities to overcome some of the perceived difficulties around EDMOs and CPOs then I would absolutely like to see that a part of the White Paper discussion. I would also like to see a conversation across Wales over the summer on a possible legal reform or policy change arising from that debate.

Mae Peter Black yn llygad ei le’n dweud bod problemau gyda gorchmynion rheoli anheddau gwag a gorchmynion prynu gorfodol a bod rhai awdurdodau lleol yn ceisio eu hosgoi’n gyfan gwbl—mae’n siŵr bod y rhan fwyaf ohonynt yn ceisio gwneud hynny. Mae honno’n broblem ynddi’i hun, oherwydd maent yn arfau pwerus ar gyfer newid a diwygio a gaiff eu hosgoi’n rheolaidd gan awdurdodau lleol. Wrth wneud hynny, caiff eu dyletswyddau strategol o ran problemau tai fel y rhain eu hosgoi hefyd, a dweud y gwir. Os gallwn wneud unrhyw beth o ran cyflwyno pwerau neu ddyletswyddau i awdurdodau lleol i oresgyn rhai o’r anawsterau amlwg ynghylch gorchmynion rheoli anheddau gwag a gorchmynion prynu gorfodol, yna byddwn yn sicr yn hoffi gweld hynny’n rhan o’r drafodaeth ar y Papur Gwyn. Byddwn hefyd yn hoffi gweld trafodaeth ledled Cymru dros yr haf ar ddiwygio’r gyfraith neu newid polisi o bosibl yn deillio o’r drafodaeth honno.

 

Peter Black is quite right to say that empty property officers exist in some places and not in others. The regionalisation and clustering of local authorities around the areas of best practice is intended, in part, to evidence to local authorities the usefulness of having people with expertise in this area. Everyone in a cluster has access, in some way or another, to the expertise of an empty property officer. I am confident that each of the six clusters has at least one full-time empty property officer. I hope that that will persuade local authorities to push empty properties up their lists of priorities.

Mae Peter Black yn iawn wrth ddweud bod swyddogion eiddo gwag i’w cael mewn rhai mannau ac nid mewn mannau eraill. Bwriad rhanbartholi a chlystyru awdurdodau lleol o amgylch ardaloedd arferion gorau, yn rhannol, yw dangos i awdurdodau lleol mor ddefnyddiol yw cael pobl sydd ag arbenigedd yn y maes hwn. Mae gan bawb mewn clwstwr fynediad, mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, at arbenigedd swyddog eiddo gwag. Rwy’n hyderus y bydd gan bob un o’r chwe chlwstwr o leiaf un swyddog eiddo gwag llawn amser. Rwy’n gobeithio y bydd hynny’n darbwyllo awdurdodau lleol i symud eiddo gwag i ben eu rhestrau o flaenoriaethau.

 

With regard to whether we might demand that level of commitment from local authorities, again, I would like to see how the Houses into Homes scheme pans out in order to make a decision on whether that kind of requirement is necessary. Finally, on support for council tax changes and whether we will have that conversation as a result of the White Paper, the answer is 'yes’.

O ran a ddylem fynnu’r ymrwymiad hwnnw gan awdurdodau lleol, unwaith eto, hoffwn weld beth fydd canlyniadau’r cynllun Troi Tai’n Gartrefi er mwyn gwneud penderfyniad ynghylch a yw’r math hwnnw o ofyniad yn angenrheidiol. Yn olaf, o ran cymorth i newidiadau yn y dreth gyngor ac a fyddwn yn cael y drafodaeth honno yn sgîl y Papur Gwyn, yr ateb yw 'byddwn’.

 

Mike Hedges: I welcome the Minister’s statement. I am very pleased with the recyclable loan fund as I was involved in a recyclable loan fund for leisure in Swansea that worked incredibly well and an awful lot of sports organisations benefited from it.

Mike Hedges: Rwy’n croesawu datganiad y Gweinidog. Rwy’n fodlon iawn ar y gronfa benthyciadau ailgylchadwy gan fy mod yn ymwneud  â chronfa benthyciadau ailgylchadwy ar gyfer hamdden yn Abertawe a oedd yn gweithio’n eithriadol o dda ac mae llawer iawn o sefydliadau chwaraeon wedi cael budd ohoni.

 

We need to distinguish between the 'can’t sell, can’t rent’ and the 'won’t sell, won’t rent’ as they are two distinct groups. Empty properties cause huge problems for neighbourhoods. Will the Minister, in the forthcoming housing Bill, either make it easier for local authorities to take action regarding long-term empty properties, or produce an advice note for local authorities on taking action in relation to long-term empty properties? I also urge the Minister to consider seriously a council tax multiplier on empty homes where no attempt is being made to bring them back into use. There are some people who cannot sell, and I think it would be wrong to punish them, but where people are not trying to bring properties back into use, the council tax multiplier might give them a financial incentive to do so. Will the Minister pay credit to some of the housing associations that have brought a large number of empty properties back into use, if only in Swansea?

Mae angen gwahaniaethu rhwng 'methu gwerthu, methu rhentu’ a 'ddim am werthu, ddim am rentu’ gan eu bod yn ddau grŵp gwahanol. Mae eiddo gwag yn achosi problemau enfawr i gymdogaethau. A wnaiff y Gweinidog, yn y Bil tai sydd ar ddod, naill ai ei gwneud yn haws i awdurdodau lleol weithredu ynghylch eiddo gwag yn yr hirdymor, neu lunio nodyn cyngor i awdurdodau lleol ar weithredu mewn cysylltiad ag eiddo gwag yn yr hirdymor? Rwyf hefyd yn annog y Gweinidog i ystyried o ddifrif luosydd treth gyngor ar gartrefi gwag lle na wneir dim ymdrech i’w defnyddio unwaith eto. Nid yw rhai pobl yn gallu gwerthu, ac rwy’n credu y byddai’n anghywir eu cosbi, ond pan nad yw pobl yn ceisio dod ag eiddo yn ôl i gael ei ddefnyddio, efallai y gall y lluosydd treth gyngor roi cymhelliad ariannol iddynt i wneud hynny. A wnaiff y Gweinidog gydnabod rhai o’r cymdeithasau tai sydd wedi defnyddio nifer fawr o eiddo gwag unwaith eto, hyd yn oed os mai dim ond yn Abertawe y mae hynny?

 

Huw Lewis: I thank Mike Hedges for those important points. I, too, am very enthusiastic and optimistic about the usefulness of the home recyclable loan idea. There could be lessons for us in Wales if Houses into Homes turns out to be the success that I confidently predict it will be; there could be lessons for us in other areas of Government activity in terms of the model of the recyclable loan. Let us not forget that the Welsh Government has not claimed credit for inventing this; this particular scheme is based, in large part, upon a Kent County Council scheme, which we know has been robust and has worked very well. I am quite content to pinch such an idea when we know that it is effective. There is no embarrassment around that at all.

Huw Lewis: Diolch i Mike Hedges am y pwyntiau pwysig hynny. Rwyf fi nnau’n frwd ac optimistaidd iawn ynghylch defnyddioldeb y syniad o fenthyciad ailgylchadwy ar gyfer cartrefi. Gallai fod gwersi i ni i’w dysgu yng Nghymru os bydd Troi Tai’n Gartrefi yn llwyddiannus fel y rhagwelaf yn hyderus; gallai fod gwersi i ni mewn meysydd eraill o weithgarwch y Llywodraeth o ran model y benthyciad ailgylchadwy. Cofiwch nad yw Llywodraeth Cymru wedi hawlio’r clod am ddyfeisio hyn; mae’r cynllun penodol hwn yn seiliedig, i raddau helaeth, ar gynllun Cyngor Sir Caint, a gwyddom fod hwnnw wedi bod yn gadarn ac wedi gweithio’n dda iawn. Rwy’n eithaf bodlon dwyn syniad o’r fath pan ydym yn gwybod ei fod yn effeithiol. Nid oes dim embaras o gwbl yn hynny o beth.

 

To address Mike’s second point, anyone who has spent some time looking at the issue of empty properties will know that some worries remain. I said in my statement that the recyclable loan is not a panacea for all ills. We know that there are recalcitrant owners out there who, for reasons best known to themselves, sometimes have unrealistic expectations about the money tied up in a particular property and think that, if they just wait for a different point in the property cycle, they will suddenly become millionaires as a result of holding on to the property, and so on. We have to make it clear within this regime of incentive and sanction that that kind speculation in relation to long-term empty properties—and this does not outlaw property speculation, of course—is not acceptable to Wales as a community and it is not acceptable to local authorities in terms of their local communities either. An advice note for local authorities regarding best practice in this area was last issued in September last year, I believe. I will have to check on that, but I think that such a thing has happened on more than one occasion, and I think that the last one was issued in September last year.

I ymdrin ag ail bwynt Mike, bydd unrhyw un sydd wedi treulio amser yn edrych ar fater eiddo gwag yn gwybod bod rhai pryderon o hyd. Dywedais yn fy natganiad nad yw’r benthyciad ailgylchadwy yn eli at bob clwyf. Gwyddom fod perchnogion ystyfnig yn bod sydd weithiau, am resymau nad ydynt ond yn hysbys iddynt hwy, â disgwyliadau afrealistig am yr arian sydd ynghlwm mewn eiddo penodol ac sy’n credu, os byddant yn aros am bwynt gwahanol yn y cylch eiddo, y byddant yn sydyn yn dod yn filiwnyddion yn sgîl dal eu gafael ar yr eiddo, ac yn y blaen. Mae’n rhaid inni wneud yn glir o fewn y drefn o gymhelliant a chosbau nad yw’r math hwn o hapfasnachu o ran eiddo tymor hir—ac nid yw hyn yn gwahardd hapfasnachu eiddo, wrth gwrs—yn dderbyniol i Gymru fel cymuned, ac nid yw’n dderbyniol i awdurdodau lleol o ran eu cymunedau lleol ychwaith. Rwy’n cael ar ddeall bod nodyn cyngor wedi cael ei anfon at awdurdodau lleol ynghylch arferion gorau yn y maes hwn fis Medi y llynedd. Bydd yn rhaid imi gadarnhau hynny, ond rwy’n credu bod rhywbeth o’r fath wedi digwydd fwy nag unwaith, a chredaf fod yr un diwethaf wedi’i anfon ym mis Medi y llynedd.

 

In terms of a council tax multiplier, that is on the table for consideration as part of the White Paper deliberations.

Mae lluosydd y dreth gyngor yn bwnc a gaiff ei ystyried fel rhan o drafodaethau’r Papur Gwyn.

 

The Deputy Presiding Officer: I still want to get the remaining three speakers in, but please help me by being as succinct as possible with questions and replies. I realise how important this subject is.

Y Dirprwy Lywydd: Rwy’n dal yn awyddus i gynnwys y tri siaradwr arall, ond byddwn yn gwerthfawrogi petaech yn fy helpu drwy fod mor gryno â phosibl gyda’ch cwestiynau a’ch atebion. Rwy’n sylweddoli mor bwysig yw’r pwnc hwn.

 

Sandy Mewies: Thank you, Minister, for your statement and for your very personal commitment to this initiative to bring empty homes back into use. As you know, I am the chair of the Assembly’s cross-party group on housing, and this is something that the group has discussed on several occasions. However, I am not speaking on behalf of that group today. I think that this move will, in general, be welcomed by the housing sector. There is limited capital available for new buildings and this scheme will make the most of existing housing stock.

Sandy Mewies: Diolch, Weinidog, am eich datganiad ac am eich ymrwymiad personol iawn i’r fenter hon i ddefnyddio cartrefi gwag unwaith eto. Fel y gwyddoch, rwy’n gadeirydd grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar dai, ac mae hyn yn rhywbeth y mae’r grŵp wedi’i drafod droeon. Fodd bynnag, nid wyf yn siarad ar ran y grŵp hwnnw heddiw. Credaf y bydd y symudiad hwn, yn gyffredinol, yn cael ei groesawu gan y sector tai. Cyfalaf cyfyngedig sydd ar gael ar gyfer adeiladau newydd a bydd y cynllun hwn yn gwneud y gorau o’r stoc tai bresennol.

 

You have made it very clear indeed that there is no universal panacea. I believe strongly that, to make the housing market work in Wales today, we have to look at various aspects of a strategy and get them right. However, if this scheme, with the £5 million that has been pledged to it, is successful—and I am sure that it will be—and if the money is available, will you consider extending it to bring more empty homes into use? I have heard figures today that suggest that the number in Wales has increased from 22,000 to 28,000. If we succeed with only 25% of them, it will equate to the success that we had with the 6,500 affordable homes target that was previously met. Therefore, perhaps you will give that some thought in the future.

Rydych wedi gwneud yn glir iawn nad oes ateb i bob problem. Rwy’n gryf o’r farn, er mwyn gwneud i’r farchnad dai weithio yng Nghymru heddiw, fod yn rhaid inni edrych ar amryw agweddau ar strategaeth a  sicrhau eu bod yn iawn. Fodd bynnag, os bydd y cynllun hwn, gyda’r £5 miliwn sydd wedi cael ei addo iddo, yn llwyddiannus—ac rwy’n siŵr y bydd yn llwyddiannus—ac os yw’r arian ar gael, a wnewch ystyried ei ehangu i ddefnyddio mwy o gartrefi gwag unwaith eto? Rwyf wedi clywed ffigurau heddiw sy’n awgrymu bod y nifer yng Nghymru wedi cynyddu o 22,000 i 28,000. Os byddwn yn llwyddo gyda dim ond 25% ohonynt, bydd yn gyfystyr â’r llwyddiant a gawsom gyda’r targed o 6,500 o dai y gwnaethom ei gyrraedd yn y gorffennol. Felly, efallai y gwnewch ystyried hynny y dyfodol.

 

3.45 p.m.

Huw Lewis: I thank Sandy Mewies for those points. As chair of the cross-party group, I know that Sandy has played a key role in terms of developing the kind of continuing cross-party consensus that is very important here with regard to the way in which this work pans out within the Assembly in terms of our work through committees and the Welsh Government as well as through local government. That consensus is very important. A consensus on this being a priority is absolutely central. Sandy is right to say that the number of empty properties in our communities makes this, numerically speaking, every bit as important an issue as the straight new build of social housing. The numbers are equivalent and, in my mind, the urgent need to bring as many of these properties back into use as possible is right up there in terms of Welsh Government priorities with new build through social housing grant, for example. It is just as important in terms of the numbers.

Huw Lewis: Diolch i Sandy Mewies am y pwyntiau hynny. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, gwn fod Sandy wedi chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu’r math o gonsensws trawsbleidiol parhaus sy’n bwysig iawn yma o ran y ffordd yr aiff pethau mewn perthynas â’r gwaith hwn yn y Cynulliad drwy ein gwaith yn y pwyllgorau ac yn Llywodraeth Cymru yn ogystal â thrwy llywodraeth leol. Mae hwnnw’n gonsensws pwysig iawn. Mae sicrhau consensws i sicrhau blaenoriaeth i hyn yn gwbl ganolog. Mae Sandy yn iawn wrth ddweud bod nifer yr eiddo gwag yn ein cymunedau yn gwneud hyn, o ran y niferoedd, yn fater sydd yr un mor bwysig â nifer y cartrefi cymdeithasol newydd sy’n cael eu hadeiladu. Mae’r niferoedd yn cyfateb ac, yn fy marn i, mae’r angen brys i ddefnyddio cymaint â phosibl o’r eiddo unwaith eto yr un mor uchel ar restr blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ag adeiladu o’r newydd drwy’r grant tai cymdeithasol, er enghraifft. Mae yr un mor bwysig o ran y niferoedd.

 

We will have to play the numbers game before we consider an expansion of the scheme. I am very pleased that, at the moment, in terms of money committed, the Welsh scheme is, proportionally speaking, 10 times better resourced than the Scottish Government scheme. That is very pleasing, but I accept that this is a first attempt at tackling this important issue. If new resource becomes available, it is certainly something at the forefront of my mind.

Bydd yn rhaid inni chwarae gêm y niferoedd cyn y byddwn yn ystyried ehangu’r cynllun. Rwy’n falch iawn, ar hyn o bryd, o ran yr arian a neilltuwyd, fod gan gynllun Cymru, yn gyfrannol, 10 gwaith cymaint o adnoddau â chynllun Llywodraeth yr Alban. Mae hynny’n plesio rhywun, ond rwy’n derbyn mai’r cynnig cyntaf yw hwn i fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn. Os daw adnoddau newydd, mae’n sicr yn rhywbeth a fydd yn flaenllaw yn fy meddwl.

Joyce Watson: I welcome the Minister’s statement this afternoon. I am chair of the cross-party group on construction, and I am enthusiastic about it, Minister, so you do not need to challenge me on that. This is an instructive update following the 'Meeting the Housing Challenge’ consultation; it has come from that. We definitely need to do more about bringing back into use the estimated 22,000 empty properties. There are 90,000 people in this country on the social housing register, and the average age of a first-time buyer is 37, so I think that the Houses into Homes initiative will go a long way towards achieving the goal that the Minister described today.

Joyce Watson: Rwy’n croesawu datganiad y Gweinidog y prynhawn yma. Fi yw cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar adeiladu, ac rwy’n frwdfrydig am y peth, Weinidog, felly nid oes angen i chi fy herio ar hynny. Mae hwn yn ddiweddariad defnyddiol yn dilyn yr ymgynghoriad 'Cwrdd â’r Her Tai’; mae wedi deillio o hynny. Yn bendant, mae angen inni wneud mwy i sicrhau bod y 22,000 o eiddo gwag, yn ôl yr hyn a amcangyfrifir,yn cael eu defnyddio unwaith eto. Mae 90,000 o bobl yn y wlad hon ar y gofrestr tai cymdeithasol, ac mae cyfartaledd oedran prynwr am y tro cyntaf yn 37, felly rwy’n meddwl y bydd y fenter Troi Tai’n Gartrefi yn mynd ymhell at gyrraedd y nod y mae’r Gweinidog wedi’i ddisgrifio heddiw.

The Deputy Presiding Officer: Order. Could you come to the question, please?

Y Dirprwy Lywydd: Trefn. A allech chi ddod at y cwestiwn, os gwelwch yn dda?

Joyce Watson: Under the loan scheme, local authorities will be able to offer free loans, so my question, Minister is this: we all know that we have just had local government elections, so how soon will you engage with the new intake in local authorities to really drive this agenda forward? This is critical to us all.

Joyce Watson: O dan y cynllun benthyciadau, bydd awdurdodau lleol yn gallu cynnig benthyciadau am ddim, felly dyma fy nghwestiwn, Weinidog: rydym i gyd yn gwybod ein bod newydd gael etholiadau llywodraeth leol, felly pa mor fuan y byddwch yn ymgysylltu â’r rhai sydd newydd eu hethol yn yr awdurdodau lleol i yrru’r agenda hon yn ei blaen? Mae hyn yn hanfodol i bob un ohonom.

Huw Lewis: I thank Joyce Watson for those points. We certainly need to do more, and you are also right to point to the particular difficulties that younger people are having getting access to decent affordable homes, whether to purchase or rent. The numbers here are of such a degree that it will make a difference to individuals in that situation. Peter Black might make jibes about the number of times I mention the Houses into Homes scheme. If time permitted, I would be happy to go up and down Wales and announce it in every single local community because I want people to realise that this is available to their community and that they should expect their local authority in particular to become a part of it. With regard to the new council intake, there are a number of new council leaders, who I understand are a great deal more handsome and better looking, on average, than the last tranche of council leaders. That is just a law of nature when it comes to this type of election. I have been e-mailing my office from the Chamber today about arrangements for getting together with as many council leaders as possible over the next few weeks to talk about this, the White Paper, development more generally and housing as a priority in the round.

Huw Lewis: Diolch i Joyce Watson am y pwyntiau hynny. Yn sicr, mae angen inni wneud mwy, ac rydych hefyd yn iawn wrth dynnu sylw at yr anawsterau penodol y mae pobl ifanc yn eu cael o ran cael mynediad at dai fforddiadwy addas, boed hynny i'w prynu neu i’w rhentu. Mae cynifer dan sylw fel y bydd yn gwneud gwahaniaeth i unigolion yn y sefyllfa honno. Gall Peter Black fy ngwawdio am y nifer o weithiau yr wyf yn sôn am y cynllun Troi Tai’n Gartrefi. Petai amser yn caniatáu, byddwn yn fodlon mynd i bob cwr o Gymru i sôn am y cynllun ym mhob cymuned leol oherwydd fy mod am i bobl sylweddoli bod hyn ar gael yn eu cymuned ac y dylent ddisgwyl i’w hawdurdod lleol yn benodol fod yn rhan ohono. O ran aelodau newydd o’n cynghorau, rwyf yn cael ar ddeall bod nifer o arweinwyr newydd ein cynghorau yn llawer mwy golygus, ar gyfartaledd, na’r arweinwyr blaenorol. Mae hynny’n un o ddeddfau natur o ran y math hwn o etholiad. Rwyf wedi bod yn anfon negeseuon e-bost at fy swyddfa o’r Siambr heddiw ynghylch trefnu i ddod â chynifer o arweinwyr cynghorau â phosibl at ei gilydd yn ystod yr wythnosau nesaf i siarad am hyn, y Papur Gwyn, datblygu yn fwy cyffredinol a thai fel blaenoriaeth gyffredinol.

 

Jenny Rathbone: I am very glad that my local authority in Cardiff is gripping this issue, probably not unrelated to the fact that we have perhaps 10,000 people on the housing waiting list. This is obviously a useful alternative to the existing stock of council housing, which is sadly an ever shrinking supply. Therefore, a flier has been put through the door of every single known empty property and every owner who is trying to sell or rent their property has been written to personally. I believe that there is a meeting next week to take further your initiative, which I regard as very important. One aspect of this that needs to be recognised is that the people who love empty homes are drug dealers and, when they move in, it causes misery for everyone in that neighbourhood and puts children at risk. Also, properties that have been used for drug dealing cannot be rented for a time, as it would put the new tenant at risk. So, I would like to see much greater attention given, particularly in relation to flats, to ensuring that homes are occupied by the people who are supposed to be living in them. I also think that this empty homes initiative is essential to give us some measure of flexibility with regard to the number of homes that are available for people who are already in desperate housing need.

Jenny Rathbone: Rwy’n falch bod fy awdurdod lleol i yng Nghaerdydd yn cymryd y mater hwn o ddifrif; mae’n debyg bod hynny’n gysylltiedig â’r ffaith bod gennym efallai 10,000 o bobl ar y rhestr aros am dai. Mae hyn yn amlwg yn ddewis amgen defnyddiol i’r stoc bresennol o dai cyngor, sydd yn anffodus yn gyflenwad sy’n parhau i grebachu. Felly, mae taflen wedi cael ei rhoi drwy ddrws pob eiddo gwag hysbys ac mae pob perchennog sy’n ceisio gwerthu neu rentu eu heiddo wedi cael llythyr personol. Credaf fod cyfarfod yr wythnos nesaf i fynd â’ch menter ymhellach, sy’n rhwybeth yr wyf yn ei ystyried yn bwysig iawn. Un agwedd ar hyn y mae angen ei chydnabod yw mai’r rhai sy’n caru cartrefi gwag yw gwerthwyr cyffuriau, a phan fyddant yn symud i mewn, mae’n achosi gofid i bawb yn y gymdogaeth ac yn peryglu plant. Hefyd, ni all eiddo sydd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer masnachu mewn cyffuriau gael ei rentu am gyfnod, gan y byddai’n peryglu’r tenant newydd. Felly, hoffwn weld llawer mwy o sylw’n cael ei roi, yn enwedig mewn perthynas â fflatiau, i sicrhau mai’r bobl sydd i fod i fyw ynddynt sy’n preswylio mewn cartrefi. Rwyf hefyd yn credu bod y fenter cartrefi gwag hon yn hanfodol i roi rhywfaint o hyblygrwydd o ran nifer y cartrefi sydd ar gael i bobl sydd eisoes mewn angen dybryd am dai.

Huw Lewis: I thank Jenny Rathbone for those important points. It is really good to have that feedback from what is happening on the ground in Cardiff. It sounds tremendously heartening. Jenny is quite right to point out that the social harm done by properties lying empty long term is not just a question of the simple numerical effect that it has on the supply of housing in an area; it is far worse than that. She brings to our attention the wider issues surrounding anti-social behaviour, and worse, that can colonise neighbourhoods that have a particularly high concentration of empty properties. That is why it is so critical, as this scheme unfolds, that all local authorities, including Cardiff, are strategic in their thinking around how they prioritise the roll-out of this scheme and that they keep in touch with my office about the opportunities and the problems that they are encountering as they try to tackle this problem. I recognise that it is not simply about bricks and mortar. It is not simply about getting the builders in; there are wider social questions here about community regeneration, which I feel, if used well, this scheme can complement.

Huw Lewis: Diolch i Jenny Rathbone am y pwyntiau pwysig hynny. Mae’n dda cael adborth o’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad yng Nghaerdydd. Mae’n swnio’n hynod o galonogol. Mae Jenny yn llygad ei lle’n nodi nad cwestiwn yn ymwneud yn unig â’r effaith o ran niferoedd y mae’n ei chael ar y cyflenwad o dai mewn ardal yw’r niwed cymdeithasol y mae eiddo gwag hirdymor yn ei achosi; mae’n waeth o lawer na hynny. Mae Jenny’n tynnu ein sylw at y materion ehangach sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac ymddygiad gwaeth na hynny, a all goloneiddio cymdogaethau sydd â chyfran arbennig o uchel o eiddo gwag. Dyna pam y mae mor hanfodol, wrth i’r cynllun hwn fynd yn ei flaen, fod pob awdurdod lleol, gan gynnwys Caerdydd, yn meddwl yn strategol o ran sut y mae blaenoriaethu’r broses o gyflwyno’r cynllun hwn a’u bod yn cadw mewn cysylltiad â’m swyddfa ynglŷn â’r cyfleoedd a’r problemau y maent yn eu hwynebu wrth geisio mynd i’r afael â’r broblem. Rwy’n cydnabod nad mater syml o frics a morter yw hwn. Nid mater syml o gael yr adeiladwyr i mewn yw hwn; mae cwestiynau cymdeithasol ehangach yma ynlgŷn ag adfywio cymunedol, y gall y cynllun hwn, o’i ddefnyddio’n dda, eu hategu.

Datganiad: Blaenoriaethau Cyllido’r UE ar gyfer y Dyfodol
Statement: Future EU Funding Priorities

The Record

The Deputy Minister for Agriculture, Food, Fisheries and European Programmes (Alun Davies): This statement follows commitments that I have given to the Chamber to keep Members informed of the progress of planning for any potential future EU programmes. The 2014 to 2020 European programmes in Wales are being prepared in very different and far more volatile economic circumstances than previous programmes. We will need to be flexible and adaptable, but still maintain a single-mindedness in our focus on delivering sustainable growth and jobs for businesses and people across Wales.

Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd (Alun Davies): Mae’r datganiad hwn yn dilyn ymrwymiadau yr wyf wedi’u rhoi yn y Siambr i hysbysu Aelodau am y cynnydd yn y gwaith o gynllunio ar gyfer unrhyw ddarpar raglenni UE yn y dyfodol. Mae’r rhaglenni Ewropeaidd yng Nghymru rhwng 2014 a 2020 yn cael eu paratoi mewn amgylchiadau economaidd gwahanol iawn, a rhai llawer mwy bregus, na’r rhaglenni blaenorol. Bydd angen inni fod yn hyblyg ac yn barod i addasu, ond gan barhau i fod yn benderfynol yn ein pwyslais ar sicrhau twf a swyddi cynaliadwy i fusnesau a phobl ledled Cymru.  

We must face up to the challenge of making tough choices about how and where we should invest resources. Resources cannot be spread thinly across a broad range of interventions. We need to invest in areas that have genuine potential to transform our economic prospects. Regulatory proposals for the new European programmes require a strong emphasis on delivering the Europe 2020 strategy goals of smart, sustainable and inclusive growth. They provide a menu from which we must select our investment priorities. They demand concentration of resources and they set out several compulsory requirements. Although these regulations are still subject to negotiation, we have already began discussions with partners across Wales on the strategic direction for the new programmes, including through a reflection exercise, a ministerial advisory group and the European programmes partnership forum, which is being chaired by my very good friend, Mark Drakeford. In all of these, I have placed a particular emphasis on engaging with business. To enable detailed programme development to take place, so that we can promptly start our programmes in 2014, I am setting out today principles to guide the Welsh European programmes, the core priority areas and some areas where we anticipate less funding will be directed in the future.

Mae’n rhaid inni wynebu’r her o wneud dewisiadau anodd ynghylch sut a ble y dylem fuddsoddi adnoddau. Ni ellir taenu adnoddau’n denau ar draws ystod eang o ymyriadau. Mae angen inni fuddsoddi mewn meysydd sydd â photensial gwirioneddol i weddnewid ein rhagolygon economaidd. Mae’r cynigion rheoleiddio ar gyfer y rhaglenni Ewropeaidd newydd yn gofyn am bwyslais cryf ar gyflawni nodau strategol Ewrop 2020, sef twf call, cynaliadwy a chynhwysol. Maent yn darparu rhestr inni ddewis ein blaenoriaethau buddsoddi. Maent yn gofyn am grynhoi adnoddau ac maent yn amlinellu nifer o ofynion gorfodol. Er bod y rheoliadau hyn yn dal i fod yn destun trafod, rydym eisoes wedi dechrau trafodaethau gyda phartneriaid ledled Cymru ar gyfeiriad strategol y rhaglenni newydd, gan gynnwys drwy gyfrwng cyfle i fynegi barn, grŵp cynghori’r Gweinidog a’r fforwm partneriaeth rhaglenni Ewropeaidd, sy’n cael ei gadeirio gan fy nghyfaill da, Mark Drakeford. Ym mhob un o’r rhain, rwyf wedi rhoi pwyslais arbennig ar ymgysylltu â byd busnes. Er mwyn galluogi datblygu’r rhaglen yn fanwl, fel y gallwn ddechrau ein rhaglenni yn brydlon yn 2014, rwyf heddiw yn nodi’r egwyddorion i arwain rhaglenni Ewropeaidd Cymru, y meysydd blaenoriaeth craidd a rhai meysydd lle yr ydym yn rhagweld y bydd llai o arian yn cael ei gyfeirio yn y dyfodol.

I expect future programmes to reflect the following six guiding principles. They will focus on the creation of sustainable jobs and growth and facilitate the role of business. They will achieve a balance between greater thematic concentration and more effective spatial targeting—essentially, better concentration in fewer geographical areas—to maximise the impact of funding. They will align with relevant Welsh Government policies and strategies. They will contribute to a transformational impact on the Welsh economy, particularly for west Wales and the Valleys, and the prosperity and wellbeing of its citizens. They will ensure the sustainability of future investments. This means having clear exit strategies that will fully consider the role of the private sector, building social resilience and tackling poverty within communities, promoting equality and achieving legacy effects. Finally, they will demonstrate clear added value when compared with other forms of supporting and delivering policy and will have a sound evidence base for contributing to sustainable growth and jobs.

Rwy’n disgwyl i raglenni yn y dyfodol adlewyrchu chwe egwyddor arweiniol. Byddant yn canolbwyntio ar greu swyddi a thwf cynaliadwy a hwyluso rôl busnes. Byddant yn sicrhau cydbwysedd rhwng gwell canolbwyntio thematig a thargedu gofodol mwy effeithiol—yn ei hanfod, gwell canolbwyntio mewn llai o ardaloedd daearyddol—er mwyn gwneud y gorau o’r cyllid. Byddant yn cyd-daro â pholisïau a strategaethau perthnasol Llywodraeth Cymru. Byddant yn cyfrannu at effaith drawsnewidiol ar economi Cymru, yn enwedig yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, a ffyniant a lles ei dinasyddion. Byddant yn sicrhau cynaliadwyedd buddsoddiadau yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu cael strategaethau ymadael clir a fydd yn ystyried yn llawn rôl y sector preifat, gan feithrin gwytnwch cymdeithasol a mynd i’r afael â thlodi mewn cymunedau, hyrwyddo cydraddoldeb a sicrhau effeithiau o ran gwaddol. Yn olaf, byddant yn dangos gwerth ychwanegol clir o’i gymharu â mathau eraill o gefnogi a chyflawni polisi a bydd ganddynt sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer cyfrannu at dwf a swyddi cynaliadwy.

I am also setting out this afternoon a list of core priorities to act as the main drivers for EU programmes in Wales. The detail will be developed over the next six months and will, of course, be subject to a full public consultation.

Rwyf hefyd yn amlinellu y prynhawn yma restr o flaenoriaethau craidd a fydd yn brif sbardunau i raglenni’r UE yng Nghymru. Bydd y manylion yn cael eu datblygu dros y chwe mis nesaf a byddant, wrth gwrs, yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn.

For the structural funds elements, the future investment priorities are: education, skills and lifelong learning, including those actions aimed at early years; research and innovation; helping people into work; a sustainable transport and network infrastructure; enterprise and small and medium-sized enterprises competitiveness; sustainable energy and energy efficiency; and access to and exploitation of the digital economy.

O ran elfennau’r cronfeydd strwythurol, y blaenoriaethau buddsoddi yn y dyfodol yw: addysg, sgiliau a dysgu gydol oes, gan gynnwys y camau hynny sydd wedi’u hanelu at y blynyddoedd cynnar; ymchwil ac arloesedd; helpu pobl i fyd gwaith; seilwaith trafnidiaeth a rhwydwaith sy’n gynaliadwy; mentergarwch a chystadleurwydd busnesau bach a chanolig, ynni cynaliadwy ac effeithlonrwydd ynni; a mynediad at yr economi ddigidol a manteisio i’r eithaf arni.

The rural development programme currently has a near 80% focus on agri-environmental measures. Continuing in this vein would restrict opportunities to invest in other priorities, such as rural employment, SMEs and community renewal. I am, therefore, looking to reduce that focus to 60%, recognising the effect on farming incomes and environmental goals. The RDP will prioritise the following thematic objectives, while also offering targeted support to other objectives driven primarily by structural funds. The priority areas will be: protecting the environment and resource efficiency; climate change adaptation; community-led local development; and the renewal of rural communities.

Mae bron 80% o’r rhaglen datblygu gwledig ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar fesurau amaeth-amgylcheddol. Byddai parhau yn yr un modd yn cyfyngu ar gyfleoedd i fuddsoddi mewn blaenoriaethau eraill, megis cyflogaeth yng nghefn gwlad, busnesau bach a chanolig ac adnewyddu cymunedol. Yr wyf, felly, yn ystyried leihau’r pwyslais i 60%, gan gydnabod yr effaith ar incwm ffermio a nodau amgylcheddol. Bydd y cynllun datblygu gwledig yn blaenoriaethu’r amcanion thematig canlynol, a bydd hefyd yn cynnig cymorth wedi’i dargedu i amcanion eraill a gaiff eu harwain yn bennaf gan gronfeydd strwythurol. Y meysydd â blaenoriaeth fydd: gwarchod yr amgylchedd ac effeithlonrwydd adnoddau; addasu i’r newid yn yr hinsawdd; datblygu lleol a arweinir gan y gymuned; ac adnewyddu cymunedau gwledig.

Our Government’s commitment to sustainable development, social inclusion, promoting equality and tackling poverty will be reflected across all priorities and projects. A whole-Government approach is needed to integrate interventions to deliver realistically on our ambitions. Strategic economic regeneration of communities will need to integrate physical, social and environmental elements.

Bydd ymrwymiad ein Llywodraeth i ddatblygu cynaliadwy, cynhwysiant cymdeithasol, hyrwyddo cydraddoldeb a mynd i’r afael â thlodi yn cael ei adlewyrchu ar draws yr holl flaenoriaethau a phrosiectau. Mae angen dull Llywodraeth gyfan i integreiddio ymyriadau er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau yn realistig. Bydd angen i’r broses o adfywio economi ein cymunedau yn strategol gynnwys elfennau ffisegol, cymdeithasol ac amgylcheddol.

To illustrate some of these difficult choices, we have already begun to identify investment areas where it is proposed that there would be a presumption against using EU funds to support them. These include: general business support and grant-based business support, other than for research and development or targeted interventions; primary or 'blue skies’ research; engagement and inclusion measures where support could restrict the ability for private and third sector organisations to operate; labour market interventions that are more social in nature, with little prospect of outcomes that enhance employability; managed access to countryside and coast and initiatives developing the natural, historic and cultural environment; extensive climate change mitigation and adaptation measures, including flood relief investments, that do not support jobs and growth; large-scale investment in renewable energy where there is no real opportunity for gaining advantage or market share; and, finally, building more integrated and effective public services. Clearly, those examples are not exhaustive. They do, however, help set out the strategic direction for the detailed development of EU programmes in Wales.

I esbonio rhai o’r dewisiadau anodd hyn, rydym eisoes wedi dechrau nodi meysydd buddsoddi lle y cynigir y byddai rhagdybiaeth yn erbyn defnyddio arian yr UE i’w cefnogi. Bydd y rhain yn cynnwys: cymorth i fusnesau yn cyffredinol a chymorth i fusnesau yn seiliedig ar grantiau, ac eithrio ar gyfer ymchwil a datblygu neu ymyriadau wedi’u targedu; gwaith ymchwil sylfaenol neu 'awyr las’; mesurau ymgysylltu a cynhwysiant lle y gallai cymorth gyfyngu ar allu sefydliadau yn y sector preifat a’r trydydd sector i weithredu; ymyriadau yn y farchnad lafur sy’n fwy cymdeithasol eu natur, lle nad oes fawr o obaith am ganlyniadau sy’n gwella cyflogadwyedd; mynediad wedi’i reoli i gefn gwlad a’r arfordir a mentrau sy’n datblygu’r amgylchedd naturiol, hanesyddol a diwylliannol; mesurau helaeth i liniaru ac ymaddasu i newid hinsawdd, gan gynnwys buddsoddi i liniaru llifogydd, nad ydynt yn cefnogi swyddi a thwf; buddsoddi ar raddfa fawr mewn ynni adnewyddadwy lle nad oes cyfle gwirioneddol i ennill mantais neu gyfran o’r farchnad; ac, yn olaf, adeiladu gwasanaethau cyhoeddus mwy integredig ac effeithiol. Yn amlwg, nid yw’r enghreifftiau hyn yn cynnwys popeth. Fodd bynnag, maent yn helpu i osod cyfeiriad strategol ar gyfer datblygiad manwl rhaglenni’r UE yng Nghymru.

The Welsh Government’s clear aim is for west Wales and the Valleys not to be eligible for the highest level of structural funds support post 2020, and for sustainable and diversified agriculture and fisheries industries. I recognise that EU funding, as valuable it is, cannot achieve this on its own, and I will work with all Ministers across Government and with all of our partners too so that EU programmes help drive our collective goals for sustainable jobs and economic growth.

Nod clir Llywodraeth Cymru yw sicrhau na fydd gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn gymwys ar gyfer y lefel uchaf o gefnogaeth gan y cronfeydd strwythurol ar ôl 2020, yn ogystal â sicrhau diwydiannau amaethyddiaeth a physgodfeydd cynaliadwy ac amrywiol. Rwy’n cydnabod na all cyllid yr UE, er mor werthfawr yw, gyflawni hyn ar ei ben ei hun, a byddaf yn gweithio gyda phob Gweinidog ar draws y Llywodraeth a phob un o’n partneriaid fel bod rhaglenni’r UE yn sbardun i wireddu ein cyd-amcanion o sicrhau swyddi cynaliadwy a thwf economaidd.

Byron Davies: I thank the Deputy Minister for that statement and I am grateful for the opportunity to respond and raise a few points on it. You said in your statement, Deputy Minister, that:

Byron Davies: Diolch i’r Dirprwy Weinidog am y datganiad hwnnw ac rwy’n ddiolchgar am y cyfle i ymateb ac i godi ychydig o bwyntiau yn ei gylch. Dywedasoch yn eich datganiad, Ddirprwy Weinidog:

'Resources cannot be spread thinly across a broad range of interventions. We need to invest in areas that have genuine potential to transform our economic prospects.’

'Ni ellir taenu adnoddau’n denau ar draws ystod eang o ymyriadau. Mae angen inni fuddsoddi mewn meysydd sydd â photensial gwirioneddol i weddnewid ein rhagolygon economaidd.’

The question that inevitably arises is: what has the Welsh Government achieved to date that gives confidence in how it will invest resources in future? Deputy Minister, can you enlighten us on that?

Y cwestiwn anochel sy’n codi yw: beth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyflawni hyd yn hyn sy’n ennyn hyder yn y modd y bydd yn buddsoddi adnoddau yn y dyfodol? Ddirprwy Weinidog, a allwch ein goleuo ar hynny?

4.00 p.m.

You also said in your statement that regulatory proposals for the new European programmes require a strong emphasis on delivering the Europe 2020 strategy goal of generating smart, sustainable and inclusive growth. I do not think that I am too far off the mark in saying that delivery to date has been quite poor. I am sure that you will not want me to remind you of Derek Vaughan’s statement, when he said

Dywedasoch hefyd yn eich datganiad fod cynigion rheoleiddio ar gyfer y rhaglenni Ewropeaidd newydd yn gofyn am bwyslais cryf ar gyflawni nod strategaeth Ewrop 2020, sef cynhyrchu twf call, cynaliadwy a chynhwysol. Ni chredaf fy mod ymhell ohoni drwy ddweud bod yr hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yma wedi bod yn eithaf gwael. Rwyf yn siŵr na fyddech am i mi eich atgoffa o ddatganiad Derek Vaughan, pan ddywedodd

'I think there’s a recognition that the first round of European funding we had perhaps wasn’t spent wisely.’

Rwy'n meddwl bod cydnabyddiaeth na chafodd y rownd gyntaf o gyllid Ewropeaidd a gawsom ei gwario'n ddoeth efallai.

What lessons have been learned? Do you accept that there has been poor delivery, and what do you intend to do to change that and instil confidence?

Pa wersi a ddysgwyd? A ydych yn derbyn mai gwael yw’r hyn sydd wedi’i gyflawni, a beth yr ydych yn bwriadu ei wneud i newid hynny a meithrin hyder?

I also want to bring your attention to something else in your statement. You said that you expect future programmes to reflect certain guiding principles. I welcome the first one: focusing on the creation of sustainable jobs and growth and on facilitating the role of business. We on this side of the Chamber are obviously very pleased about that. You also said that there is a need to demonstrate clear added value in comparison with other ways of supporting and delivering policy. Again, we on this side have always called for that, with the voluntary sector running alongside that process. Therefore, we very much welcome that statement.

Rwyf hefyd am dynnu eich sylw at rywbeth arall yn eich datganiad. Roeddech yn dweud eich bod yn disgwyl i raglenni yn y dyfodol adlewyrchu egwyddorion arweiniol penodol. Croesawaf yr un cyntaf: canolbwyntio ar greu swyddi a thwf cynaliadwy ac ar hwyluso rôl byd busnes. Rydym yn amlwg yn falch iawn o hynny ar yr ochr hon i'r Siambr. Roeddech hefyd yn dweud bod angen dangos gwerth ychwanegol clir o'i gymharu â ffyrdd eraill o gefnogi a chyflawni polisi. Unwaith eto, rydym ni ar yr ochr hon wastad wedi galw am hynny, gyda'r sector gwirfoddol yn rhedeg ochr yn ochr â’r broses honno. Felly, rydym yn croesawu'r datganiad hwnnw’n fawr.

I turn now to the issue that you raised of the presumption against using EU funds, saying that you had begun to identify investment areas where it is proposed that there would be such a presumption. That does not mean that it cannot happen, but that the Welsh Government should make a good case to make it happen. There are many examples of this in the European Union, and it is really about fighting our corner and extracting the best for Wales—something that I would say has not been evident to date.

Trof yn awr at y mater a godwyd gennych am y rhagdybiaeth yn erbyn defnyddio arian yr UE, gan ddweud eich bod wedi dechrau nodi meysydd buddsoddi lle y cynigir y byddai rhagdybiaeth o’r fath. Nid yw hynny'n golygu na allai ddigwydd, ond y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno dadl dda dros wneud iddo ddigwydd. Mae sawl enghraifft o hyn yn yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n ymwneud mewn gwirionedd ag ymladd ein cornel a chael y gorau i Gymru—rhywbeth y byddwn yn dweud na fu’n amlwg hyd yma.

In addition, Deputy Minister, you said that the Welsh Government’s clear aim is for west Wales and the Valleys not to be eligible for the highest level of structural funds post 2020. Would you not agree that, while you always comment that that is your aim, it appears that delivering on that aim has always been a failure to date? Could you provide some words that will give us confidence in the fact that you will deliver?

Yn ogystal, Ddirprwy Weinidog, dywedasoch mai nod clir Llywodraeth Cymru yw na fydd gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn gymwys i gael y lefel fwyaf o gronfeydd strwythurol ar ôl 2020. Oni fyddech yn cytuno, er eich bod wastad yn dweud mai dyna yw eich nod, ei bod yn ymddangos bod cyflawni'r nod hwnnw wastad wedi methu hyd yma? A allech ddweud rhywbeth a fydd yn rhoi hyder i ni y byddwch yn ei gyflawni?

I suggest that it is important to involve the third and private sectors; otherwise, this will not work. On this side, we very much look forward to a successful outcome for west Wales and the Valleys, and we hope that the Welsh Government will demonstrate a strong will to deliver.

Awgrymaf ei bod yn bwysig cynnwys y trydydd sector a'r sector preifat; fel arall, ni fydd hyn yn gweithio. Ar yr ochr hon, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ganlyniad llwyddiannus i orllewin Cymru a'r Cymoedd, ac rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dangos ewyllys gref i gyflawni.

Alun Davies: In responding to those questions, let me make it absolutely clear to the Conservative spokesperson that, throughout the time that I have been responsible for this portfolio, we have made it clear that delivery is the key objective and the thing that we will measure ourselves against. Some weeks ago, the regional policy commissioner, Johannes Hahn, visited Wales and was very complimentary about the way in which we have managed and delivered European programmes. A lot of coverage was given to his statement that he wanted to see European programmes measured on their outcomes for the people, communities and populations where they are active. He made that comment on a pan-European basis, so it was not simply about Wales. When you look at what we have been able to achieve in Wales, you will see that we have achieved a great deal, improving life opportunities and life chances for people in west Wales and the Valleys.

Alun Davies: Wrth ymateb i'r cwestiynau hynny, gadewch i mi ei gwneud yn gwbl glir i lefarydd y Ceidwadwyr ein bod, ar hyd yr amser y bûm yn gyfrifol am y portffolio hwn, wedi gwneud yn glir mai cyflawni yw’r nod allweddol a'r peth y byddwn yn mesur ein hunain yn ei erbyn. Rai wythnosau’n ôl, ymwelodd Johannes Hahn, y comisiynydd polisi rhanbarthol, â Chymru, ac roedd yn canmol y ffordd yr ydym wedi rheoli a chyflwyno rhaglenni Ewropeaidd. Rhoddwyd llawer o sylw i’w ddatganiad ei fod am weld rhaglenni Ewropeaidd yn cael eu mesur o ran eu canlyniadau i bobl, cymunedau a phoblogaethau lle y maent ar waith. Roedd y sylw hwnnw ganddo’n cyfeirio at Ewrop gyfan, felly nid am Gymru yn unig yr oedd. Pan fyddwch yn edrych ar yr hyn yr ydym wedi gallu ei gyflawni yng Nghymru, fe welwch ein bod wedi cyflawni llawer iawn, gan wella cyfleoedd bywyd i bobl yn y gorllewin a'r Cymoedd.

It is our objective to ensure that no part of Wales qualifies for the highest levels of European support post 2020. That means that we are learning lessons as we go along. The report that I published last term on the Objective 1 programmes that ended in 2006 demonstrates, through a number of different indicators, how that investment has borne fruit in many communities up and down west Wales and the Valleys. In many ways, the delivery of programmes during the current period, and looking towards a third period, will build on the work that was done then and will learn lessons from it. The thematic focus and the spatial concentration are the result of lessons learned.  

Ein nod yw sicrhau nad oes dim un rhan o Gymru yn gymwys i gael y lefel fwyaf o gymorth Ewropeaidd ar ôl 2020. Mae hynny'n golygu ein bod yn dysgu gwersi wrth fynd ymlaen. Mae'r adroddiad a gyhoeddais y tymor diwethaf ar y rhaglenni Amcan 1 a ddaeth i ben yn 2006 yn dangos, drwy nifer o ddangosyddion gwahanol, sut y mae'r buddsoddiad hwnnw wedi dwyn ffrwyth mewn nifer o gymunedau ar hyd a lled y gorllewin a'r Cymoedd. Mewn sawl ffordd, bydd cyflawni rhaglenni yn ystod y cyfnod presennol, gan edrych tuag at drydydd cyfnod, yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yr adeg honno a bydd yn dysgu gwersi oddi wrtho. Y ffocws thematig a’r canolbwyntio gofodol yw canlyniad y gwersi a ddysgwyd.  

Let me say this. Members here quite often tend to look at Wales but not think of the wider context. These are lessons that have been learned not only in west Wales and the Valleys, but also in regions and territories throughout the whole of the European Union. The proposals made by the European Commission back in October were a consequence of those lessons being learned in Wales and the whole of the European Union.

Gadewch i mi ddweud hyn. Mae Aelodau yma yn aml yn tueddu i edrych ar Gymru ond nid ar y cyd-destun ehangach. Mae'r rhain yn wersi a ddysgwyd nid yn unig yn y gorllewin a'r Cymoedd, ond hefyd mewn rhanbarthau a thiriogaethau ledled yr Undeb Ewropeaidd. Roedd y cynigion a wnaed gan y Comisiwn Ewropeaidd ym mis Hydref yn ganlyniad i'r gwersi a ddysgwyd yng Nghymru a’r cyfan o'r Undeb Ewropeaidd.

I have tried to outline very clearly in the statement what the guiding principles and our focus over the coming years will be. Part of the debate has to be about what we do not do. All too often, people will say that they want more funding for different areas, and all of a sudden, a particular cake will be divided up 1,000 times. All too often, people come here to say that they want more funding for every single area of policy, which potentially means that we have no real focus and no real concentration. We need to take very hard and tough decisions and focus on what we want to achieve. I say to Byron Davies that this is perhaps the key message to come from this afternoon’s statement: there will be a key focus on sustainable growth, sustainable development and sustainable jobs, leading to greater prosperity and greater life chances for people throughout Wales, but focusing on west Wales and the Valleys. That is a political decision that this Government has taken, which I hope the National Assembly will support and endorse.

Rwyf wedi ceisio amlinellu’n glir iawn yn y datganiad beth fydd yr egwyddorion arweiniol a’n ffocws dros y blynyddoedd nesaf. Mae’n rhaid i ran o'r ddadl fod am yr hyn nad ydym yn ei wneud. Yn rhy aml, bydd pobl yn dweud eu bod eisiau mwy o gyllid i feysydd gwahanol, ac yn sydyn, bydd cacen arbennig yn cael ei rhannu 1,000 o weithiau. Yn rhy aml, mae pobl yn dod yma i ddweud eu bod eisiau mwy o gyllid i bob maes polisi dan haul, a allai olygu nad oes gennym wir ffocws a dim gwir ganolbwyntio. Mae angen inni wneud penderfyniadau anodd iawn a chanolbwyntio ar yr hyn yr ydym am ei gyflawni. Dywedaf wrth Byron Davies mai dyma efallai yw neges allweddol y datganiad y prynhawn yma: sef y bydd ffocws allweddol ar dwf cynaliadwy, datblygu cynaliadwy a swyddi cynaliadwy, gan arwain at fwy o ffyniant a chyfleoedd bywyd gwell i bobl ledled Cymru, ond gan ganolbwyntio ar y gorllewin a'r Cymoedd. Mae hwnnw'n benderfyniad gwleidyddol a wnaeth y Llywodraeth hon, ac rwyf yn gobeithio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gefnogi a’i gymeradwyo.

 

Alun Ffred Jones: Diolch i’r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad—mae’n ddefnyddiol iawn gwybod sut mae’r gwynt yn chwythu.

Alun Ffred Jones: I thank the Deputy Minister for his statement—it is useful to know which way the wind is blowing.

Mae’n werth inni atgoffa ein hunain o’r sefyllfa, gan eich bod wedi cyfeirio at y deilliannau. Hyd yn hyn, wrth ddynesu at ddiwedd ail gyfnod y cronfeydd Ewropeaidd, nid yw’r stori yng Nghymru yn un o lwyddiant. Y GDP ar gyfer 2000 yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, fel canran o’r ffigurau yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd, oedd 75%, ond yn 2009, roedd yn 68%. Mae hynny’n adlewyrchu cwymp cyffredinol yng Nghymru gyfan o 89% yn 2000 i lawr i 82% yn 2009. Mae ffigurau unigol o fewn y rheini sydd, mewn gwirionedd, yn ddigon i ddychryn. Mae Abertawe, er enghraifft, wedi mynd o 96% i 83%, er gwaethaf y gwario sylweddol a welwyd yn yr ardal honno. Gallwn gyfeirio wedyn at Gonwy, Dinbych a chymoedd Gwent, lle gwelwyd cwymp sylweddol iawn. Felly, os ydym yn sôn am ddeilliannau, rhaid wynebu’r ffeithiau am yr hyn sydd wedi digwydd.

It is worth reminding ourselves of the situation, given that you have referred to the outcomes. Until now, as we approach the end of the second phase of European funding, the story in Wales has not been one of success. The GDP in west Wales and the Valleys in 2000, as a percentage of the figure in European Union countries, was 75%, but in 2009 it was 68%. That reflects a general decline throughout Wales from 89% in 2000 down to 82% in 2009. There are individual figures within those that are, to be honest, quite frightening. Swansea, for instance, has gone from 96% to 83%, and that despite the significant amount that has been spent in that area. We could also refer to Conwy, Denbigh and the Gwent valleys, which have experienced a very steep decline. Therefore, if we are talking about outcomes, we have to face the facts about what has already happened.

Y broblem gyda datganiad cyffredinol fel hwn yw ei bod yn anodd os nad amhosibl gwybod canlyniadau ymarferol unrhyw gyfeiriad newydd. Un maes o ddiddordeb mawr i gefn gwlad yw’r datganiad am y cynllun datblygu gwledig. Mae 80% o’r arian ar hyn o bryd yn mynd i fesurau amaethyddol, ac mae’n debyg bod hynny’n cynnwys Tir Mynydd, Glastir a Tir Gofal—ac arian cynlluniau amaeth amgylcheddol yw hwnnw yn bennaf, wrth gwrs. Mae’r rhain yn creu swyddi uniongyrchol. Hyd y deallaf, bwriad y datganiad yw lleihau’r ganran hon i 60%, sef cwymp o 20%, ac eto, mae gwarchod yr amgylchedd yn dod yn un o’ch blaenoriaethau. Pa drafodaethau sydd wedi bod gyda’r sector am hyn, gan eich bod yn dweud bod llawer o drafod wedi bod cyn paratoi’r datganiad hwn?

The problem with a general statement such as this one is that it is difficult if not impossible to know the practical consequences of any new direction. One area of great interest to rural areas is the statement about the rural development plan. At the moment, 80% of the funding goes to agricultural measures, and I suppose that that includes Tir Mynydd, Glastir and Tir Gofal—and that is funding for agri-environment schemes in the main, of course. They generate jobs directly. As I understand it, the aim of the statement is to reduce that percentage to 60%, which is a reduction of 20%, and yet protecting the environment is now one of your priorities. What discussions have there been with the sector about this, given that you said that there had been a great deal of negotiations before preparing this statement?

Hefyd, o ganlyniad i hynny, dywedwch y bydd pwyslais ar adnewyddu cymunedau gwledig. A allwch roi enghreifftiau o’r hyn a olygir gennych o dan y pennawd hwnnw, gan eich bod yn sôn am dystiolaeth gadarn fel sail i’ch penderfyniadau?

In addition, as a result of that, you state that there will be an emphasis on the renewal of rural communities. Could you give us examples of what you mean under that heading, given that you talk about having a sound evidence base for your decisions?

I also ask the Deputy Minister to elaborate on the statement that there will be more effective spatial targeting. I suppose that what I am interested in here is what criterion will be used to choose these areas. Obviously, any criterion must be objective, so will it be the much-maligned local GDP/GVA figures—that is, much maligned by Welsh Ministers—or will it be the preferred measure of many Welsh Ministers of disposable income per head? What is your thinking, or are there other criteria that you will use to choose these particular spatial areas for your attention?

Gofynnaf hefyd i'r Dirprwy Weinidog ymhelaethu ar y datganiad y bydd targedu gofodol mwy effeithiol. Mae'n debyg mai'r hyn y mae gennyf ddiddordeb ynddo yma yw pa faen prawf a gaiff ei ddefnyddio i ddewis yr ardaloedd hyn. Yn amlwg, rhaid i unrhyw faen prawf fod yn wrthrychol, felly ai’r ffigurau CMC/GYC lleol bondigrybwyll a ddefnyddir, a ddaeth dan lach Gweinidogion Cymru—neu incwm gwario y pen, mesur sydd yn well gan lawer ohonynt? Beth yw eich barn, neu a oes meini prawf eraill y byddwch yn eu defnyddio i ddewis yr ardaloedd gofodol penodol hyn i ganolbwyntio arnynt?

I also ask you to comment on some of the areas where there will be a presumption against using European money. That will include grant-based business support, but many such schemes have been invaluable for smaller businesses, because they are the only avenue open to most of them to get involved in the programme and to get a leg-up.

Rwyf hefyd yn gofyn i chi wneud sylwadau ar rai o'r meysydd lle y bydd rhagdybiaeth yn erbyn defnyddio arian Ewropeaidd. Bydd hynny'n cynnwys cymorth i fusnesau yn seiliedig ar grantiau, ond mae llawer o gynlluniau o'r fath wedi bod yn amhrisiadwy i fusnesau llai, gan mai'r rhain yw'r unig lwybr sydd ar agor i'r rhan fwyaf ohonynt gymryd rhan yn y rhaglen a chael hwb.

I ask you to reconsider the presumption against initiatives developing the natural, historic and cultural environment. In the past, these have been co-ordinated with renewal and regeneration schemes and improvements to tourism destinations. I certainly think that this is an area in which you should tread carefully. In view of the First Minister’s high hopes for renewable energy, which he re-stated today, and the fact that sustainable energy is an investment priority, according to your own statement today, banishing renewable energy from European support seems to be misguided. Therefore, perhaps you could elaborate on why your thinking, at the moment, at least, is that you will not be using European money to support such schemes?

Gofynnaf i chi ailystyried y rhagdybiaeth yn erbyn cynlluniau i ddatblygu'r amgylchedd naturiol, hanesyddol a diwylliannol. Yn y gorffennol, cydlynwyd y rhain â chynlluniau adnewyddu ac adfywio a gwelliannau i gyrchfannau twristiaeth. Rwyf yn sicr o’r farn bod hwn yn faes lle y dylech droedio'n ofalus. O ystyried bod y Prif Weinidog yn obeithiol iawn am ynni adnewyddadwy, ac yntau wedi ailddatgan hynny heddiw, a'r ffaith bod ynni cynaliadwy yn flaenoriaeth buddsoddi, yn ôl eich datganiad heddiw, ymddengys fod eithrio ynni adnewyddadwy o gymorth Ewropeaidd yn gyfeiliornus. Felly, efallai y gallech ymhelaethu ar pam yr ydych yn credu, ar hyn o bryd, o leiaf, na fyddwch yn defnyddio arian Ewropeaidd i gefnogi cynlluniau o'r fath?

Alun Davies: I suppose that I could summarise that contribution by saying, 'Your previous programmes did not work, but we do not want you to change anything; we want you to carry on doing what you have done in the past.’ We have had a debate on GDP and other such issues in the past few months, and we could repeat that debate this afternoon, but my feeling is that that is not necessary. However, when Members quote selectively from different figures and analyses, I suggest that it may be useful for them to consider the whole context. I invite the Plaid Cymru spokesperson on these matters to read the totality of the report that we published some months ago on the results of the Objective 1 programmes. It demonstrates how they established a number of different building blocks and enabled us to move forward from the situation that we were facing at the turn of this century. Therefore, I invite the Member to look again at some of those matters.

Alun Davies: Mae'n debyg y gallwn grynhoi’r cyfraniad hwnnw drwy ddweud, 'Ni weithiodd eich rhaglenni blaenorol, ond nid ydym eisiau i chi newid dim; rydym am i chi barhau i wneud yr hyn a wnaethoch yn y gorffennol.’ Rydym wedi cael dadl ar CMC a materion eraill tebyg yn y misoedd diwethaf, a gallem ailadrodd y ddadl honno y prynhawn yma, ond teimlaf nad oes angen hynny. Fodd bynnag, pan fydd Aelodau yn dewis a dethol wrth ddyfynnu gwahanol ffigurau a dadansoddiadau, awgrymaf y gallai fod yn ddefnyddiol iddynt ystyried y cyd-destun cyfan. Rwyf yn gwahodd llefarydd Plaid Cymru ar y materion hyn i ddarllen y cyfan o'r adroddiad a gyhoeddwyd gennym rai misoedd yn ôl ar ganlyniadau rhaglenni Amcan 1. Mae'n dangos sut y maent wedi sefydlu nifer o sylfeini gwahanol ac wedi ein galluogi i symud ymlaen o'r sefyllfa yr oeddem yn ei hwynebu ar droad y ganrif hon. Felly, rwyf yn gwahodd yr Aelod i edrych eto ar rai o'r materion hynny.

Members will be aware from the business statement earlier this afternoon that I will be making a further statement in two weeks’ time on the common agricultural policy and the rural development plan. I will give Members further information and detail at that time on the proposals that have been foreshadowed in this statement this afternoon. Members will be able to question me in more detail when the statement on CAP is made. As I said, it was in the business statement earlier today, and that statement will be made on 17 May.

Bydd yr Aelodau'n gwybod ar sail y datganiad busnes yn gynharach y prynhawn yma y byddaf yn gwneud datganiad arall ymhen pythefnos am y polisi amaethyddol cyffredin a’r cynllun datblygu gwledig. Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth a manylion i’r Aelodau yr adeg honno am y cynigion a ragfynegwyd yn y datganiad hwn y prynhawn yma. Bydd yr Aelodau yn gallu fy holi’n fwy manwl pan fydd y datganiad am PAC yn cael ei wneud. Fel y dywedais, roedd yn y datganiad busnes yn gynharach heddiw, a bydd y datganiad yn cael ei wneud ar 17 Mai.

To respond to the Member’s precise questions, the spatial targeting criteria will be developed as part of a consultation that we will be launching, probably in the summer. If you listened to the statement, you will have heard me say that today we are setting out the broad principles on which we hope to progress, and that further work on developing them into hard, practical actions will be the consequence and will be the subject of further public consultation this summer and autumn. Therefore, we will be in a position to make further statements on that when the Assembly returns from the summer recess. You will have an opportunity, of course, to play a role in the development of that policy and in how we take it forward.

I ymateb i gwestiynau manwl yr Aelod, bydd meini prawf y targedu gofodol yn cael eu datblygu fel rhan o ymgynghoriad y byddwn yn ei lansio, yn yr haf mae’n debyg. Pe baech wedi gwrando ar y datganiad, byddech wedi fy nghlywed yn dweud ein bod yn amlinellu’r egwyddorion cyffredinol yr ydym yn gobeithio symud ymlaen arnynt heddiw, ac y bydd gwaith pellach ar eu datblygu’n gamau pendant ac ymarferol yn ganlyniad i hynny ac yn destun ymgynghori cyhoeddus pellach yn yr haf a'r hydref. Felly, byddwn mewn sefyllfa i wneud datganiadau pellach am hynny pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd wedi egwyl yr haf. Byddwch yn cael cyfle, wrth gwrs, i chwarae rhan yn natblygiad y polisi hwnnw a sut yr ydym yn ei ddatblygu.

On business support and the questions that you asked about the presumption-against list, we are saying clearly that, where there is a clear case that investment will lead to sustainable jobs and sustainable growth, European funding will be available to support those activities. However, there needs to be a clear case based on growth and jobs and the sustainability of that growth and those jobs. That is the key message from this afternoon’s statement.

O ran cymorth i fusnesau a'r cwestiynau a ofynnwyd gennych am restr yr hyn y bydd rhagdybiaeth yn ei erbyn, rydym yn dweud yn glir, lle y ceir achos amlwg y bydd buddsoddiad yn arwain at swyddi cynaliadwy a thwf cynaliadwy, y bydd arian Ewropeaidd ar gael i gefnogi’r gweithgareddau hynny. Fodd bynnag, bydd gofyn bod dadl glir yn seiliedig ar dwf a swyddi a chynaliadwyedd y twf a’r swyddi hynny. Dyna neges allweddol y datganiad y prynhawn yma.  

4.15 p.m.

There will be a presumption against projects that do not fulfil those criteria. That is the debate that this place needs to have. Too often in the past, we have had statements and debates whereby people have criticised the Government for not focusing on particular aspects but have never themselves accepted the discipline that is required to focus and that prioritisation means choosing and saying that some things are a priority and some things are not. All opposition parties need to join with us this afternoon in recognising that that is not a way in which we can develop these programmes in the future.

Bydd rhagdybiaeth yn erbyn prosiectau nad ydynt yn cwrdd â’r meini prawf hynny. Dyna yw’r ddadl y mae angen i’r lle hwn ei chael. Yn rhy aml yn y gorffennol, rydym wedi cael datganiadau a dadleuon lle mae pobl wedi beirniadu’r Llywodraeth am beidio â chanolbwyntio ar agweddau penodol heb eu bod erioed wedi derbyn y ddisgyblaeth sydd ei hangen i ganolbwyntio a bod blaenoriaethu yn golygu dewis a dweud bod rhai pethau yn cael blaenoriaeth ac nad yw rhai pethau eraill. Mae angen i bob gwrthblaid ymuno â ni y prynhawn yma i gydnabod nad yw hynny’n ffordd y gallwn ddatblygu’r rhaglenni hyn yn y dyfodol.

Eluned Parrott: Thank you, Deputy Minister, for your statement today. As you say, economic conditions have become very different and far more volatile since the first round of funding. It is probably fair to say that they have become very different and far more volatile since you put the last full stop on this statement, given the news over the weekend. Therefore, it is important that our approach is flexible enough to survive. As a general point, you talk about reflecting the Government’s social commitments across all priorities and projects. While that is laudable, I am concerned that these kinds of cross-cutting aims can add an element of complexity that can be difficult to manage. I would like to understand a little more about how you plan to tackle that.

Eluned Parrott: Diolch, Ddirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw. Fel y dywedwch, mae’r amodau economaidd wedi newid yn fawr ac maent yn llawer mwy cyfnewidiol ers y cylch cyllid cyntaf. Tybiaf ei bod yn deg dweud eu bod wedi newid yn fawr a’u bod yn llawer mwy cyfnewidiol ers ichi orffen ysgrifennu’r datganiad hwn, o ystyried y newyddion a gafwyd dros y penwythnos. Felly, mae’n bwysig bod ein hymagwedd yn ddigon hyblyg i oroesi. Fel pwynt cyffredinol, rydych yn sôn am adlewyrchu ymrwymiadau cymdeithasol y Llywodraeth ar draws pob blaenoriaeth a phrosiect. Er bod hynny i’w ganmol, rwyf yn bryderus y gall y mathau hyn o amcanion trawsbynciol ychwanegu elfen o gymhlethdod a allai fod yn anodd ei reoli. Hoffwn wybod mwy am sut rydych yn bwriadu mynd i’r afael â hynny.

I welcome the recognition that resources should not be spread too thinly. I am pleased that you have been willing to take on board criticisms of previous rounds of funding and change directions as a result. That newly focused approach brings up two key issues. First, how can we ensure that these concentrated loci for investment are located so as to ensure that there are hubs of activity across west Wales and the Valleys? Secondly, how can we ensure that these focused interventions have the best possible chance of success? With fewer interventions, effective selection and control of those that we choose will be critical.

Rwyf yn croesawu’r gydnabyddiaeth na ddylid dosbarthu adnoddau yn rhy denau. Rwyf yn falch o’ch parodrwydd i dderbyn beirniadaeth am gylchoedd cyllid blaenorol a’r newid cyfeiriad o ganlyniad i hynny. Mae’r ymagwedd newydd hwnnw yn codi dau fater allweddol. Yn gyntaf, sut y gallwn sicrhau bod y loci dwys hyn ar gyfer buddsoddi yn cael eu lleoli fel eich bod yn sicrhau bod canolfannau gweithgarwch ledled gorllewin Cymru a’r Cymoedd? Yn ail, sut y gallwn sicrhau bod yr ymyriadau hyn sydd wedi’u ffocysu yn cael y cyfle gorau posibl i lwyddo? Gyda llai o ymyriadau, bydd dewis a rheoli y rhai a ddewiswn mewn modd effeithiol yn hanfodol.

I also welcome the iteration of the guiding principles to which you will be will be working. I hope that they will help to focus Welsh Government activity in areas where they have the biggest chance of having an impact. Aligned to this is the subject of the investment priorities, which, by and large, I agree with, although there are some contradictions between the priorities and the list of presumptions against investment, which I hope you will be able to clarify for me this afternoon. First, there is the prioritisation of sustainable energy, given the presumption against large-scale investment in renewable energy. Will you talk me through that? Secondly, there is the prioritisation of enterprise and small and medium-sized enterprise competitiveness, given the presumption against general business support. I note that you have excluded research and development from that, but it is not necessarily a critical component of competitiveness for many small businesses. Can you give me an idea of what kind of interventions you would anticipate supporting through these means?

Croesawaf hefyd y ffaith eich bod wedi ailddatgan yr egwyddorion arweiniol a fydd yn sail i’ch gwaith. Gobeithio y byddant yn helpu i ganolbwyntio gweithgarwch Llywodraeth Cymru mewn ardaloedd lle y mae ganddynt y cyfle mwyaf i gael effaith. Pwnc sy’n cyd-fynd â hyn yw blaenoriaethau buddsoddi, yr wyf yn cytuno â hwy ar y cyfan, er bod rhai anghysondebau rhwng y blaenoriaethau a’r rhestr o ragdybiaethau yn erbyn buddsoddi, ac rwyf yn gobeithio y gallwch egluro’r rhain imi y prynhawn yma. Yn gyntaf, ceir blaenoriaethu ynni cynaliadwy, o ystyried y rhagdybiaeth yn erbyn buddsoddi ar raddfa fawr mewn ynni adnewyddadwy. A wnewch chi egluro hynny wrthyf? Yn ail, ceir blaenoriaethu menter a chystadleurwydd mentrau bach a chanolig, o ystyried y rhagdybiaeth yn erbyn cymorth busnes cyffredinol. Sylwaf eich bod wedi eithrio gwaith ymchwil a datblygu o hynny, ond nid yw o reidrwydd yn elfen hanfodol o gystadleurwydd i nifer o fusnesau bach. Allwch chi roi syniad imi ynghylch pa fath o ymyriadau y byddech yn rhagweld y byddwch yn eu cefnogi drwy’r dulliau hyn?

Finally, having got this far in such a positive vein, there is only one point on which I disagree with you, but on which I agree with the Plaid Cymru spokesperson, which is the presumption against funding access to natural, historic and cultural environment facilities. I have serious concerns about this, given the significant positive impact such interventions can have on local tourism. Yesterday, as I mentioned earlier, I took my family for a day out in Blaenavon world heritage site, which is covered in little blue ERDF plaques. It is an area where tourism has been driven substantially by European investment. Given that 80% of visitors to Wales say that they intend to visit a heritage attraction while they are here, there is an opportunity for us to develop our tourism offering even further in this direction—if not through European funding, then how? I hope that that is one point that you will reconsider.

Yn olaf, ar ôl cyrraedd mor bell mewn ysbryd mor gadarnhaol, dim ond ar un pwynt rwyf yn anghytuno â chi ond yn cytuno â llefarydd Plaid Cymru, sef y rhagdybiaeth yn erbyn mynediad i gyllid ar gyfer cyfleusterau yr amgylchedd naturiol, hanesyddol a diwylliannol. Mae gennyf gryn bryderon am hyn, o ystyried yr effaith gadarnhaol sylweddol y gall ymyriadau o’r fath eu cael ar dwristiaeth leol. Ddoe, fel y soniais yn gynharach, euthum â’m teulu am ddiwrnod allan i safle treftadaeth y byd Blaenafon, sy’n llawn o blaciau bach glas Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae’n ardal lle cafodd twristiaeth hwb sylweddol gan fuddsoddiad Ewropeaidd. O ystyried bod 80% o ymwelwyr i Gymru yn dweud eu bod yn bwriadu ymweld ag atyniad treftadaeth pan fyddant yma, mae cyfle inni ddatblygu ein darpariaeth i dwristiaid hyd yn oed ymhellach i’r cyfeiriad hwn—os nad drwy ddefnyddio arian Ewropeaidd, yna sut? Gobeithiaf fod hwnnw’n bwynt y byddwch yn ei ailystyried.

Alun Davies: Thank you for those positive comments. I agree with you on the points that you made about the potential for over-complexity. One of the key approaches that we are taking as a Government, both as regards our priorities in Wales and the arguments that we have put forward to the UK Government, the European Commission and other EU institutions, is based on the need for simplification and to reduce complexity where possible. To achieve this, you tend to adopt a one-size-fits-all approach, which we also want to avoid. I accept that there are some areas that we need to look at in some detail. I hope that I can reassure the Liberal Democrat spokesperson on these matters—we are seeking to reduce complexity not simply in the administration of European programmes, but in the way that those programmes are managed. We will be seeking to reduce complexity throughout all elements of the design, implementation and management of these programmes, and in the way in which they are brought together and designed in the first place. What we are seeking to do is ensure that the outcomes, which were illustrated by the Conservative spokesperson earlier, are there in a number of different areas, and impact on sustainable growth and jobs. We are also seeking to address our other guiding principles of promoting equality and combatting poverty so that the outcomes of programmes are more holistic and do not take a single way.

Alun Davies: Diolch am y sylwadau cadarnhaol hynny. Rwyf yn cytuno â chi ar y pwyntiau a wnaethoch ynghylch y potensial i or-gymhlethu’r sefyllfa. Mae un o’r dulliau allweddol yr ydym yn ei ddefnyddio fel Llywodraeth, o ran ein blaenoriaethau yng Nghymru a’r dadleuon y gwnaethom eu cyflwyno i Lywodraeth y DU, y Comisiwn Ewropeaidd a sefydliadau eraill yr UE, yn seiliedig ar yr angen i symleiddio a lleihau cymhlethdod lle bo modd. I wneud hyn, byddwch yn tueddu i fabwysiadu meddylfryd un-ateb-i-bopeth, ac rydym hefyd am osgoi hyn. Rwyf yn derbyn bod rhai meysydd y mae angen i ni edrych arnynt yn eithaf manwl. Gobeithio y gallaf sicrhau llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar y materion hyn—rydym yn ceisio lleihau cymhlethdod nid yn unig o ran gweinyddu rhaglenni Ewropeaidd, ond hefyd o ran rheoli’r rhaglenni hynny. Byddwn yn ceisio lleihau cymhlethdod ym mhob agwedd ar gynllunio, gweithredu a rheoli’r rhaglenni hyn, a’r modd y maent yn cael eu dwyn at ei gilydd a’u cynllunio yn y lle cyntaf. Yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yw sicrhau bod y canlyniadau, a gyflëwyd gan lefarydd y Ceidwadwyr yn gynharach, yno mewn nifer o feysydd gwahanol, ac yn effeithio ar swyddi a thwf cynaliadwy. Rydym hefyd yn ceisio mynd i’r afael â’n hegwyddorion arweiniol eraill o ran hyrwyddo cydraddoldeb a brwydro yn erbyn tlodi fel bod canlyniadau’r rhaglenni yn fwy cyfannol ac nad ydynt yn dibynnu ar weithredu mewn un ffordd yn unig.

I very much welcome your support for a more focused approach, and you are right in what you say about the development, creation and maintenance of hubs of activity across west Wales and the Valleys. These are exactly the matters upon which we will conducting further consultation and discussion with our partners in the coming months. It is one thing to say that these are the principles that will guide us, but another to populate the programmes and projects that we will seek to deliver in coming years with those principles. We will be continuing the conversation, the discussions and the consultation over the choice of projects and programmes, and how those decisions are taken, over the coming months. I welcome your input into that conversation, and I am sure that you will make your contribution at that time.

Rwyf yn croesawu eich cefnogaeth i gael ymagwedd gyda mwy o ffocws iddi, ac rydych yn iawn yn yr hyn a ddywedwch am ddatblygu, creu a chynnal canolfannau gweithgarwch ledled gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Dyma’r union faterion y byddwn yn cynnal ymgynghoriad pellach a thrafodaeth gyda’n partneriaid arnynt yn y misoedd i ddod. Un peth yw dweud mai’r rhain yw’r egwyddorion a fydd yn ein harwain, ond peth arall yw mabwysiadu’r egwyddorion hynny ar gyfer y rhaglenni a’r prosiectau y byddwn yn ceisio eu cyflawni mewn blynyddoedd i ddod. Byddwn yn parhau â’r sgwrs, y trafodaethau a’r ymgynghori ynghylch y prosiectau a’r rhaglenni a ddewiswn, a sut y gwneir y penderfyniadau hynny, dros y misoedd nesaf. Rwyf yn croesawu eich cyfraniad at y sgwrs honno, ac rwyf yn siŵr y byddwch yn gwneud eich cyfraniad bryd hynny.

You mentioned energy, and I should apologise to the Plaid Cymru spokesperson, because I did not answer his point on this. Energy remains a key part and a thematic element of the structural funds. What we will be doing is investing in that in a different way, so we will be supporting investment in the development of, for example, renewable schemes. What we will not be doing is supporting some of the major schemes, unless they deliver a significant increase in market share or employment. We are seeking to invest in energy in a different way, but it remains a priority for this Government and investment in that field will continue to be a priority in coming years.

Gwnaethoch sôn am ynni, a dylwn ymddiheuro i lefarydd Plaid Cymru, gan na wneuthum ateb ei bwynt ar hyn. Mae ynni yn parhau i fod yn rhan allweddol ac yn elfen thematig o’r cronfeydd strwythurol. Byddwn yn buddsoddi ynddo mewn ffordd wahanol, felly byddwn yn cefnogi buddsoddiad mewn datblygu cynlluniau adnewyddadwy, er enghraifft. Yr hyn na fyddwn yn ei wneud yw cefnogi rhai o’r cynlluniau mawr, oni bai eu bod yn sicrhau cynnydd sylweddol yng nghyfran y farchnad neu gyflogaeth. Rydym yn awyddus i fuddsoddi mewn ynni mewn ffordd wahanol, ond mae’n parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon a bydd buddsoddiad yn y maes hwnnw yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn y blynyddoedd i ddod.

We will be looking at ensuring that regeneration takes place as part of a holistic approach. You gave the example of Blaenavon, which is a very good example of how regeneration has been able to reinvigorate a community. We are looking at taking a holistic approach whereby we do not simply look at regeneration in terms of street furniture and paint, but in terms of the development and sustainability of jobs and businesses. Those might well be tourism businesses—this is not confined to any individual sector—and we want to ensure that the success of those enterprises leads to the generation of wealth in the community and drives its regeneration. The projects of the future may well be different in scope, tone and feel to some of the projects we have become used to, but the regeneration focus for these programmes will be more holistic than in the past. That is what I hope we will be able to achieve through the spatial and thematic focus that we are announcing this afternoon.

Byddwn yn ceisio sicrhau bod adfywio yn digwydd fel rhan o ymagwedd gyfannol. Rydych wedi sôn am enghraifft Blaenafon, sy’n enghraifft dda iawn o sut mae adfywio wedi llwyddo i roi bywyd newydd i gymuned. Rydym yn edrych ar gymryd ymagwedd gyfannol lle nad ydym yn edrych yn unig ar adfywio o ran dodrefn stryd a phaent, ond hefyd o ran datblygiad a chynaliadwyedd swyddi a busnesau. Efallai’n wir mai busnesau twristiaeth fydd y rheini—nid yw hyn yn gyfyngedig i unrhyw sector unigol—ac rydym am sicrhau bod llwyddiant y mentrau hynny yn arwain at greu cyfoeth yn y gymuned ac yn sbarduno ei hadfywiad. Efallai y bydd prosiectau yn y dyfodol yn wahanol o ran cwmpas, tôn a theimlad i rai o’r prosiectau yr ydym wedi dod i arfer â hwy, ond bydd y ffocws adfywio i’r rhaglenni hyn yn fwy cyfannol nag oedd yn y gorffennol. Dyna’r hyn yr wyf yn gobeithio y byddwn yn gallu ei gyflawni drwy’r ffocws gofodol a thematig yr ydym yn ei gyhoeddi y prynhawn yma.

The Deputy Presiding Officer: Finally, I call Antoinette Sandbach; all question, please, and no preamble.

Y Dirprwy Lywydd: Yn olaf, galwaf ar Antoinette Sandbach; cwestiynau i gyd, os gwelwch yn dda, a dim rhagymadrodd.

Antoinette Sandbach: Can you explain to farmers across Wales, who have just seen a 20% cut in their rural development plan funding for agri-environment schemes, which will devastate small family farms that deliver environmental goods and services in Wales, how that tallies with your so-called protection of the environment strategy on climate change adaption? There are 1.7 million ha of farm land in Wales, and it seems that that cut will not only impact on the environmental benefits that land brings, but will lead to a reduction in the sustainable jobs and growth that the farming community provides in Wales. Alun Ffred Jones asked you—and I would like you to answer that question—what went wrong in relation to the falling GVA figures, and what factors accounted for that? Can you tell this Assembly what factors influenced that fall in GVA? Is there going to be a transfer, in effect, from all the rural areas of north Wales into west Wales and the Valleys? Is what you are doing in concentrating your resources into west Wales and the Valleys at the expense of other rural areas in north Wales?

Antoinette Sandbach: Allwch chi esbonio i ffermwyr ledled Cymru, sydd newydd weld gostyngiad o 20% yn eu cyllid o’r cynllun datblygu gwledig ar gyfer cynlluniau amaeth-amgylcheddol, a fydd yn dinistrio ffermydd teuluol bach sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol yng Nghymru, sut y mae hynny’n cyd-fynd â’ch strategaeth diogelu’r amgylchedd honedig ar addasu i newid yn yr hinsawdd? Mae 1.7 miliwn ha o dir fferm yng Nghymru, ac mae’n ymddangos y bydd y toriad hwnnw nid yn unig yn effeithio ar y manteision amgylcheddol a ddaw yn sgîl y tir, ond y bydd hefyd yn arwain at leihau’r hyn y mae’r gymuned ffermio yn ei ddarparu yng Nghymru. Gofynnodd Alun Ffred Jones i chi—a hoffwn i chi ateb y cwestiwn hwnnw—beth aeth o’i le mewn perthynas â’r cwymp yn y ffigurau GYC, a pha ffactorau sy’n gyfrifol am hynny? Allwch chi ddweud wrth y Cynulliad hwn pa ffactorau sy’n dylanwadu ar y gostyngiad hwnnw mewn GYC? A fydd trosglwyddo, i bob pwrpas, o bob ardal wledig o ogledd Cymru i orllewin Cymru a’r Cymoedd? Ai’r hyn yr ydych yn ei wneud yw canolbwyntio eich adnoddau ar orllewin Cymru a’r Cymoedd ar draul ardaloedd gwledig eraill yng ngogledd Cymru?

The Deputy Presiding Officer: That is all you have time for. I call the Deputy Minister to reply.

Y Dirprwy Lywydd: Dyna’r cyfan y mae gennych amser ar ei gyfer. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog i ymateb.

Alun Davies: Deputy Presiding Officer, I think that you might have saved the Conservative spokesperson from creating even more difficulties for herself. I am sure that she is grateful to you for stopping her when you did. [Interruption.]

Alun Davies: Ddirprwy Lywydd,   tybiaf eich bod wedi achub llefarydd y Ceidwadwyr rhag creu hyd yn oed mwy o anawsterau iddi hi ei hun. Rwyf yn siŵr ei bod yn ddiolchgar ichi am ei hatal pan y gwnaethoch chi. [Torri ar draws.]

I will provide the Member with a handbook and a guide to the RDP; she clearly does not fully understand it. In relation to where we are and what we are doing now, she will be aware—[Interruption.]—it is not my fault that she takes such a stance on this. The Member will be aware that the design and development of the RDP for the next round is being simplified. There is to be an end to the axes that created the current RDP and which structured it in a very complex way. Therefore, there will be more flexibility in the next RDP and we will be seeking to maximise the use of this flexibility across different parts of Wales. There will be no movement from north Wales to west Wales and the Valleys. The RDP is not affected by the regionalisation that is used to define ERDF and ESF funds. Therefore, the RDP will not be affected by that. It stands as part of pillar 2 of the common agricultural policy and we will be making a full statement on that in two weeks’ time. The Member will be at liberty to repeat her questions at that time.

Byddaf yn rhoi llawlyfr a chanllaw ar y cynllun i’r Aelod; mae’n amlwg nad yw yn ei ddeall yn llwyr. Mewn perthynas â lle rydym ni a beth rydym yn ei wneud ar y funud, bydd yn gwybod—[Torri ar draws.]—nid fy mai i yw ei bod yn cymryd safiad o’r fath ar hyn. Bydd yr Aelod yn gwybod bod dyluniad a datblygiad y cynllun ar gyfer y cylch nesaf yn cael ei symleiddio. Bydd yr echelinau a greodd y cynllun cyfredol ac a oedd yn gyfrifol am ei strwythuro mewn ffordd gymhleth iawn yn dod i ben. Felly, bydd mwy o hyblygrwydd yn y cynllun nesaf a byddwn yn ceisio gwneud y defnydd gorau o’r hyblygrwydd hwn ar draws gwahanol rannau o Gymru. Ni fydd unrhyw symud o ogledd Cymru i orllewin Cymru a’r Cymoedd. Nid yw’r rhanbartholi a ddefnyddir i ddiffinio cronfeydd rhanbarthol a chymdeithasol Ewrop yn effeithio ar y cynllun. Felly, ni fydd hynny’n effeithio ar y cynllun. Mae’n aros fel rhan o golofn 2 y polisi amaethyddol cyffredin a byddwn yn gwneud datganiad llawn ar hynny ymhen bythefnos. Bydd yr Aelod yn rhydd i ail-ofyn ei chwestiynau yr adeg honno.

I will say to the Member that what we are seeking to do—certainly what I am seeking to do over the coming years—is to establish a rural development programme that does what I announced earlier, in that it protects the environment and resource efficiency, provides means and funds for climate change adaptions, and enables us to renew rural communities and focus on other priorities such as wider rural employment and small and medium-sized enterprises. These are the sorts of issues that people across rural Wales want to see addressed. We must find a balance between our investments in different aspects of the RDP and, in a few weeks’ time, when I come back to this place, I will make a full announcement on how we intend to take these matters forward. I have to say to the Member and to others who may agree with her that that stance is a very poor reading of the RDP and my statement this afternoon and does not adequately reflect what we are achieving today through the RDP or our ambitions for the future.

Rwyf yn dweud wrth yr Aelod mai’r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud—yn sicr yr hyn y byddaf i yn ceisio ei wneud dros y blynyddoedd i ddod—yw sefydlu rhaglen datblygu gwledig sy’n gwneud yr hyn a gyhoeddais yn gynharach, sef gwarchod yr amgylchedd ac effeithlonrwydd adnoddau, darparu modd a chronfeydd i wneud addasiadau ar sail newid yn yr hinsawdd, a’n galluogi i adnewyddu cymunedau gwledig a chanolbwyntio ar flaenoriaethau eraill fel cyflogaeth ehangach yng nghefn gwlad a busnesau bach a chanolig. Dyma’r mathau o faterion y mae pobl ledled cefn gwlad Cymru eisiau eu gweld yn cael sylw. Mae’n rhaid inni ganfod cydbwysedd rhwng ein buddsoddiadau mewn gwahanol agweddau ar y cynllun ac, ymhen ychydig wythnosau, pan ddof yn ôl i’r lle hwn, byddaf yn gwneud cyhoeddiad llawn ar sut rydym yn bwriadu datblygu’r materion hyn. Rhaid imi ddweud wrth yr Aelod ac eraill a allai fod yn cytuno â hi bod y safiad hwnnw’n ddarlleniad gwael iawn o’r cynllun a’m datganiad y prynhawn yma, ac nid yw’n adlewyrchu’n ddigonol yr hyn yr ydym yn ei gyflawni heddiw drwy’r cynllun na’n huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.

Gorchymyn Personau Cydnabyddedig (Cosbau Ariannol) (Penderfynu Trosiant) (Cymru) 2012
The Recognised Persons (Monetary Penalties) (Determination of Turnover) (Wales) Order 2012

The Record

Cynnig NDM4975 Jane Hutt

Motion NDM4975 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

To propose that the National Assembly for Wales in accordance with Standing Order 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Personau Cydnabyddedig (Cosbau Ariannol) (Penderfynu Trosiant) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2012.

Approves that the draft The Recognised Persons (Monetary Penalties) (Determination of Turnover) (Wales) Order 2012 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 27 March 2012.

The Minister for Education and Skills (Leighton Andrews): I move the motion.

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau (Leighton Andrews): Cynigiaf y cynnig.

I am pleased to move the Recognised Persons (Monetary Penalties) (Determination of Turnover) (Wales) Order 2012. The Education Act 2011, which received Royal Assent in November of last year, contains new provision on the regulation of qualifications in Wales. In particular, the Act introduced a new power to impose fines on organisations that award qualifications in Wales. In order to exercise these new powers, Welsh Ministers are required to make an Order that sets out how we will determine the turnover of an awarding organisation for fining purposes. Section 32A(b) of the Education Act 1997 provides that a fine imposed by Welsh Ministers under Part V of the 1997 Act must not exceed 10% of an awarding organisation’s turnover. This Order sets out how Welsh Ministers will determine turnover for the purposes of this 10% cap. The cap will ensure that the imposition of monetary penalties by Welsh Ministers will apply fairly across the entire spectrum of awarding organisations, regardless of their nature or size. The 10% limit applies to each breach for which a penalty is imposed. It is not a cumulative limit for a financial year.

Rwyf yn falch o gynnig y Gorchymyn Personau sy’n Cael eu Cydnabod (Cosbau Ariannol) (Penderfynu Trosiant) (Cymru). Mae Deddf Addysg 2011, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Tachwedd y llynedd, yn cynnwys darpariaeth newydd ar reoleiddio cymwysterau yng Nghymru. Yn benodol, mae’r Ddeddf yn cyflwyno hawl newydd i osod dirwyon ar sefydliadau sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru. Er mwyn arfer y pwerau newydd hyn, bydd gofyn i Weinidogion Cymru wneud Gorchymyn sy’n nodi sut y byddwn yn pennu trosiant y corff dyfarnu at ddibenion dirwyo. Mae adran 32A(b) o Ddeddf Addysg 1997 yn darparu na chaiff dirwy a osodir gan Weinidogion Cymru o dan Ran V o Ddeddf 1997 fod yn fwy na 10% o drosiant sefydliad dyfarnu. Mae’r Gorchymyn hwn yn nodi sut y bydd Gweinidogion Cymru yn pennu trosiant at ddibenion y terfyn hwn o 10%. Bydd y terfyn yn sicrhau y bydd y weithred o osod cosbau ariannol gan Weinidogion Cymru yn cael ei chymhwyso’n deg ar draws y sbectrwm cyfan o gyrff dyfarnu, waeth beth fo’u natur na’u maint. Mae’r cyfyngiad o 10% yn gymwys i bob tor-rheol y gosodir cosb amdano. Nid yw’n derfyn cronnus ar gyfer blwyddyn ariannol.

4.30 p.m.

The new power to fine, which is related to this Order, is not targeted at a specific group of awarding organisations in particular. It allows Welsh Ministers to fine any organisation—irrespective of size or status—that has chosen to seek recognition as an awarding organisation in Wales and has breached a condition of that recognition. The Order is due to come into force on 9 May, and I recommend it to you.

Nid yw’r pŵer newydd i ddirwyo, sy’n gysylltiedig â’r Gorchymyn hwn, wedi’i dargedu at grŵp penodol o gyrff dyfarnu. Mae’n caniatáu i Weinidogion Cymru ddirwyo unrhyw sefydliad—waeth beth yw ei faint neu ei statws—sydd wedi dewis ceisio am gydnabyddiaeth fel sefydliad dyfarnu yng Nghymru ac sydd wedi torri un  o amodau’r gydnabyddiaeth honno. Mae’r Gorchymyn yn dod i rym ar 9 Mai, ac rwy’n ei argymell i chi.

The Deputy Presiding Officer: I have no speakers. Minister, I take it that you do not want to reply.

Y Dirprwy Lywydd: Nid oes gennyf siaradwyr. Weinidog, rwy’n cymryd nad ydych am ymateb.

The proposal is that the motion be agreed. Are there any objections? I see that there are none. In accordance with Standing Order No. 12.36, I therefore declare the motion agreed.

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes gwrthwynebiad? Gwelaf nad oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig.
Motion agreed.

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Darpariaeth Ranbarthol) (Cymru) 2012
The Mental Health (Regional Provision) (Wales) Regulations 2012

The Record

Cynnig NDM4976 Jane Hutt

Motion NDM4976 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

To propose that the National Assembly for Wales in accordance with Standing Order 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Iechyd Meddwl (Darpariaeth Ranbarthol) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2012.

Approves that the draft The Mental Health (Regional Provision) (Wales) Regulations 2012 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 27 March 2012.

The Minister for Health and Social Services (Lesley Griffiths): I move the motion.

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Lesley Griffiths): Cynigiaf y cynnig.

Daeth y Llywydd i’r Gadair am 4.31 p.m.
The Presiding Officer took the Chair at 4.31 p.m.

The Record

The regulations laid before the Assembly for Members’ consideration are introduced under the Mental Health (Wales) Measure 2010, which was agreed by the National Assembly for Wales in November 2010 and received Royal Approval in December 2010. I am pleased to confirm today’s launch of our new strategic approach to mental health and mental wellbeing, 'Together for Mental Health’. The document, which will be finalised following a formal 12-week public consultation, will sustain the momentum of recent years and help realise the wider ambitions outlined in our programme for government and 'Together for Health’. The strategy embeds the Mental Health (Wales) Measure 2010 at its heart.

Mae’r rheoliadau sydd wedi’u gosod gerbron y Cynulliad i’r Aelodau eu hystyried yn cael eu cyflwyno o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a dderbyniwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Tachwedd 2010 ac a gafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ym mis Rhagfyr 2010. Mae’n bleser gennyf gadarnhau ein bod heddiw yn lansio ein dull gweithredu strategol newydd ym maes iechyd meddwl a lles meddwl, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’. Bydd y ddogfen, a fydd yn cael ei chwblhau yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol 12 wythnos, yn cynnal momentwm y blynyddoedd diwethaf ac yn helpu i wireddu’r uchelgeisiau ehangach a amlinellwyd yn ein rhaglen lywodraethu a 'Law yn Llaw at Iechyd’. Yr hyn sydd wrth wraidd y strategaeth yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

I will now return to the subject of the regulations relating to the Measure. The regulations are being made in relation to Parts 1 and 3 of the Measure, which deal with local primary mental health support services and assessment of former users of secondary mental health services. Part 1 of the Measure places statutory duties on all local health boards and local authorities in Wales to come together to agree joint written schemes setting out how they will deliver local primary mental health support services in each local authority area.

Trof yn awr yn ôl at y rheoliadau sy’n ymwneud â’r Mesur. Mae’r rheoliadau’n cael eu gwneud mewn perthynas â Rhannau 1 a 3 o’r Mesur, sy’n ymdrin â gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol ac asesu cyn ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Mae Rhan 1 o’r Mesur yn gosod dyletswyddau statudol ar bob bwrdd iechyd lleol ac awdurdod lleol yng Nghymru i ddod at ei gilydd i gytuno ar gynlluniau ysgrifenedig ar y cyd sy’n nodi sut y byddant yn darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol ym mhob ardal awdurdod lleol.

The regulations modify Part 1 of the Measure, so that instead of having a separate scheme for each local authority area, the LHB and all local authorities within its geographical footprint can agree a single scheme between them for the area. The regulations also modify the operation of Part 3 of the Measure. Part 3 enables eligible adults who have been discharged from secondary mental health services within the last three years, but who subsequently believe that their mental health is deteriorating to such a point as to require care and treatment again, to refer themselves back to secondary care services directly, without necessarily needing to go to their general practitioner or elsewhere for a referral.

Mae’r rheoliadau’n addasu Rhan 1 o’r Mesur, fel y gall y bwrdd iechyd lleol a phob awdurdod lleol o fewn ei ardal ddaearyddol gytuno ar gynllun unigol rhyngddynt yn hytrach na chael cynllun ar wahân i bob ardal awdurdod lleol. Mae’r rheoliadau hefyd yn addasu’r modd y gweithredir Rhan 3 o’r Mesur. Mae Rhan 3 yn galluogi oedolion cymwys sydd wedi cael eu rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn y tair blynedd diwethaf, ond sy’n credu bod eu hiechyd meddwl yn gwaethygu i’r fath raddau nes bod angen gofal a thriniaeth arnynt unwaith eto, i’w hatgyfeirio eu hunain yn uniongyrchol yn ôl i ofal gwasanaethau eilaidd, heb yr angen i fynd at eu meddyg teulu neu rywle arall er mwyn cael eu hatgyfeirio.

 

If agreed by the National Assembly today, the arrangements will be binding, with LHBs and local authorities obliged to agree Part 1 schemes and Part 3 arrangements on a regional, LHB-wide, basis. We have introduced these regulations because we believe that they will lead to greater economies of scale and better treatment. My officials consulted on these regulations during the autumn and found that there was wide-ranging support for this proposed approach. A majority of respondents agreed that such arrangements would help to ensure a more coherent approach to provision and a wider range of services. Crucially, all LHBs responded positively to the draft regulations, indicating their support for regional provision, and, in many cases, the support of their local authority partners, also in joint responses. I commend these regulations to the National Assembly for Wales.

Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno ar y trefniadau heddiw, byddant yn orfodol, a bydd rheidrwydd ar fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i gytuno ar gynlluniau Rhan 1 a threfniadau Rhan 3 ar sail ranbarthol, ac ar sail bwrdd iechyd lleol cyfan. Rydym wedi cyflwyno’r rheoliadau hyn oherwydd y credwn y byddant yn arwain at fwy o arbedion maint a gwell triniaeth. Ymgynghorodd fy swyddogion ar y rheoliadau hyn yn ystod yr hydref a chanfuwyd bod cefnogaeth eang i’r dull arfaethedig hwn. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno y byddai trefniadau o’r fath yn helpu i sicrhau dull mwy cydlynol o gyflwyno darpariaeth ac ystod ehangach o wasanaethau. Elfen allweddol yw bod pob bwrdd iechyd lleol wedi ymateb yn gadarnhaol i’r rheoliadau drafft, gan nodi eu cefnogaeth i ddarpariaeth ranbarthol, ac, mewn llawer o achosion, cefnogaeth yr awdurdodau lleol sy’n bartneriaid iddynt hefyd, mewn ymatebion ar y cyd. Cymeradwyaf y rheoliadau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

The Presiding Officer: I have no speakers. Minister, I take it that you do not want to reply to the debate.

Y Llywydd: Nid oes gennyf siaradwyr. Weinidog, rwy’n cymryd nad ydych am ymateb i’r ddadl.

The proposal is that the motion be agreed. Are there any objections? I see that there are none. In accordance with Standing Order No. 12.36, I therefore declare the motion agreed.

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig.A oes gwrthwynebiad? Gwelaf nad oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 12.36.

Derbyniwyd y cynnig.
Motion agreed.

Cynnig Cydsyniad ar Orchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012
Consent Motion on the British Waterways Board (Transfer of Functions) Order 2012

The Record

Cynnig NDM4932 John Grittihs

Motion NDM4932 John Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012, yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2012.

To propose that the National Assembly for Wales agrees, in accordance with section 9(6) of the Public Bodies Act 2011, that the Secretary of State make the British Waterways Board (Transfer of Functions) Order 2012, in accordance with the draft laid in Table Office on 1 March 2012.

The Minister for Environment and Sustainable Development (John Griffiths): I move the motion.

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (John Griffiths): Cynigiaf y cynnig.

I am pleased to seek the consent of the National Assembly for Wales, in accordance with section 9(6) of the Public Bodies Act 2011, for the British Waterways Board (Transfer of Functions) Order 2012, which would transfer the functions of British Waterways in England and Wales to a charitable trust.

Rwy’n falch o geisio cydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 9 (6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, i Orchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012, a fyddai’n trosglwyddo swyddogaethau Dyfrffyrdd Prydain yng Nghymru a Lloegr i ymddiriedolaeth elusennol.

I thank all the committees that considered the draft Order. I note that the Constitutional and Legislative Affairs Committee identified omissions in the consent memorandum but advised that it could see no specific objection to the making of the Order. I agree that the consent motion could have listed more areas of competence that the Order for transferring functions to the new trust touched upon, and the Welsh Government will consider these comments for future consent memoranda.

Diolch i’r holl bwyllgorau sydd wedi ystyried y Gorchymyn drafft. Sylwaf fod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi nodi bylchau yn y memorandwm cydsyniad ond dywedodd na allai weld gwrthwynebiad penodol i wneud y Gorchymyn. Rwy’n cytuno y gallai’r cynnig cydsyniad fod wedi rhestru rhagor o feysydd cymhwysedd y mae’r Gorchymyn i drosglwyddo swyddogaethau yn effeithio arnynt, a bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y sylwadau hyn ar gyfer memoranda cydsyniad yn y dyfodol.

The Chair of the Environment and Sustainability Committee has written to me questioning why the Welsh Government wishes to see a transfer of the functions of the British Waterways board to an England and Wales charitable trust rather than achieving a Wales-only solution. I was consulted on the UK Government’s proposals, but British Waterways is not a devolved body, so Welsh Ministers were not formally a party to the decision to change the status of British Waterways. However, we are content with the transfer. I have also written to the Chair of the Enterprise and Business Committee about these matters.

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi ysgrifennu ataf yn cwestiynu pam mae Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld swyddogaethau bwrdd Dyfrffyrdd Prydain yn cael eu trosglwyddo i ymddiriedolaeth elusennol Cymru a Lloegr yn hytrach nag edrych am ateb i Gymru yn unig. Ymgynghorwyd â mi ar gynigion Llywodraeth y DU, ond nid yw Dyfrffyrdd Prydain yn gorff datganoledig, felly nid oedd Gweinidogion Cymru yn rhan ffurfiol o’r  penderfyniad i newid statws Dyfrffyrdd Prydain. Fodd bynnag, rydym yn fodlon ar y trosglwyddo. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes ynglŷn â’r materion hyn.

I will now turn to the consent memorandum that was issued with the draft Order and explanatory memorandum from the Department for Environment, Food and Rural Affairs. It identified two provisions that, if contained in an Act of the Assembly, would be within the Assembly’s legislative competence; these are amendments to the Local Government, Planning and Land Act 1980 and the Welsh Language Act 1993. Accordingly, and as a result of those provisions, the National Assembly for Wales is asked to consent to the Order in accordance with section 9(6) of the Public Bodies Act 2011.

Trof yn awr at y memorandwm cydsyniad a gyhoeddwyd gyda’r Gorchymyn drafft a’r memorandwm esboniadol gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Nododd ddwy ddarpariaeth a fyddai, pe baent yn cael eu cynnwys mewn Deddf Cynulliad, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad; y rhain yw diwygiadau i Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 a Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Yn unol â hynny, ac o ganlyniad i’r darpariaethau hynny, gofynnir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gydsynio â’r Gorchymyn yn unol ag adran 9 (6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011.

Under the process for dealing with a Public Bodies Act Order agreed at the Business Committee, the Assembly has had an opportunity to consider and consent to the Order. This Order transfers the functions of British Waterways to the Canal and River Trust, which in Wales will be known as Glandwr Cymru. I have met British Waterways on a number of occasions since I became a Minister and I can tell you that it is looking forward to becoming a charity and is very enthusiastic for the future in Wales. The new charity will be able to access new commercial and private income streams and will give stakeholders greater involvement in the running of the waterways network, offering waterway users the opportunity to play a role in governance and allowing communities a greater say in how their local canal or river is run. There will be a greater opportunity to recruit volunteers to support heritage, environmental and amenity waterways assets.

O dan y broses y cytunwyd arni yn y Pwyllgor Busnes ar gyfer ymdrin â Gorchymyn o dan y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus, mae’r Cynulliad wedi cael cyfle i ystyried a chydsynio â’r Gorchymyn. Mae’r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo swyddogaethau Dyfrffyrdd Prydain i’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, a gaiff ei hadnabod yng Nghymru fel Glandwr Cymru. Rwyf wedi cyfarfod â Dyfrffyrdd Prydain droeon ers imi ddod yn Weinidog a gallaf ddweud wrthych ei fod yn edrych ymlaen at ddod yn elusen ac mae’n frwdfrydig iawn ynglŷn â’r dyfodol yng Nghymru. Bydd yr elusen newydd yn gallu cael mynediad at ffrydiau incwm newydd, rhai masnachol a phreifat, a bydd yn rhoi mwy o bwyslais ar gyfranogiad rhanddeiliaid yn y gwaith o redeg y rhwydwaith dyfrffyrdd, gan gynnig i ddefnyddwyr ddyfrffyrdd y cyfle i chwarae rhan mewn llywodraethu a chaniatáu mwy o lais i gymunedau yn y ffordd y caiff eu camlas neu afon leol ei rhedeg. Bydd mwy o gyfle i recriwtio gwirfoddolwyr i gefnogi asedau treftadaeth, amgylcheddol a dyfrffyrdd amwynder.  

I fully support promoting sustainable communities, so I support British Waterways’ aspirations, which are consistent with this Government’s aims as set out in our programme for government.

Rwy’n llwyr gefnogi hyrwyddo cymunedau cynaliadwy, felly rwy’n cefnogi dyheadau Dyfrffyrdd Prydain, sy’n gyson ag amcanion y Llywodraeth hon fel y’u gwelir yn ein rhaglen lywodraethu.

The Presiding Officer: I call on the Chair of the Constitutional and Legislative Affairs Committee, David Melding.

Y Llywydd: Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, David Melding.

David Melding: This Order is one of a number of Orders arising from the Public Bodies Act 2011, as the Minister has just mentioned. I understand that the Assembly will be asked to approve a number of such Orders over the coming 12 months. The Act contains power for the abolition and merger of public bodies, together with the transfer of their functions, as we have heard. These powers are exercised by UK Government Ministers, but require the consent of the National Assembly. Therefore, although this is not a legislative consent memorandum within the meaning defined in Standing Order No. 30, as it does not relate to provisions contained in a Bill before the UK Parliament, it is similar in that it amends primary legislation applicable to Wales on matters within the legislative competence of the National Assembly.

David Melding: Mae’r Gorchymyn hwn yn un o nifer o Orchmynion sy’n deillio o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, fel y mae’r Gweinidog newydd grybwyll. Rwyf yn cael ar ddeall y bydd gofyn i’r Cynulliad gymeradwyo nifer o Orchmynion o’r fath dros y 12 mis nesaf. Mae’r Ddeddf yn cynnwys pŵer i ddiddymu ac uno cyrff cyhoeddus, ynghyd â throsglwyddo eu swyddogaethau, fel y clywsom. Caiff y pwerau hyn eu harfer gan Weinidogion Llywodraeth y DU, ond mae angen cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol arnynt. Felly, er nad yw hwn yn femorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn yr ystyr a ddiffinnir yn Rheol Sefydlog 30, gan nad yw’n ymwneud â darpariaethau a gynhwysir mewn Bil gerbron Senedd y DU, mae’n debyg i hwnnw gan ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol sy’n berthnasol i Gymru ar faterion sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

The Business Committee has agreed a temporary procedure to allow committees to scrutinise these Orders before they are debated in Plenary, and I commend it on that work and the co-operation that has been received from the Government. Under this procedure, all Orders are referred as a matter of course to the Constitutional and Legislative Affairs Committee. On this occasion, we also invited the Environment and Sustainability Committee and the Enterprise and Business Committee to consider whether the Order raised any issues of concern from a policy perspective.

Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno ar weithdrefn dros dro i ganiatáu i bwyllgorau graffu ar y Gorchmynion hyn cyn iddynt gael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn, ac fe’i cymeradwyaf am y gwaith hwnnw a’r cydweithrediad a gafwyd gan y Llywodraeth. O dan y weithdrefn hon, caiff pob Gorchymyn ei gyfeirio fel mater o drefn at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Y tro hwn, gwnaethom hefyd wahodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd a’r Pwyllgor Menter a Busnes i ystyried a yw’r Gorchymyn yn codi unrhyw faterion sy’n peri pryder o safbwynt polisi.

I will move on to the findings of the Constitutional and Legislative Affairs Committee. We reported on 29 March, and that report is available as one of the documents for this afternoon’s debate, so I will not rehearse what it says in detail. However, there was one substantial issue, which the Minister has referred to, namely our concern about the information provided in the legislative consent memorandum, in that it was inadequate and has hindered or could hinder the scrutiny of the Order. Specifically, we were concerned that, while the memorandum identified functions that it considers to come within the Assembly’s legislative competence relating to the Welsh language and land management, it does not refer to broader functions of the British Waterways board that relate to the Assembly’s legislative competence. In our view, these are quite significant. For example, the board appears to have functions in relation to transport, ancient monuments and land drainage. Above all, the Assembly has legislative competence in relation to tourism, yet tourism and the encouragement of tourism appear to be a primary role of the board. Therefore, although the consent memorandum refers to two specific aspects of the Assembly’s legislative competence, it appears to ignore other very relevant areas. I am pleased that the Minister has recognised this probable shortcoming and that he has said that he will ensure that this matter is looked at in any future Orders. That was a constructive response, and I thank him for it.

Rwyf am symud ymlaen at ganfyddiadau’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Gwnaethom adrodd ar 29 Mawrth, ac mae’r adroddiad hwnnw ar gael yn un o’r dogfennau ar gyfer y ddadl y prynhawn yma, felly nid wyf am ailadrodd yr hyn y mae’n ei ddweud yn fanwl. Fodd bynnag, roedd un mater o bwys, y cyfeiriodd y Gweinidog ato, sef ein pryder ynghylch y wybodaeth a ddarparwyd yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, o ran ei bod yn annigonol a’i bod wedi llesteirio, neu y gallai lesteirio, y gwaith o graffu ar y Gorchymyn. Yn benodol, roeddem yn pryderu, er bod y memorandwm wedi nodi swyddogaethau yr oedd yn ystyried eu bod yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn ymwneud â’r iaith Gymraeg a rheoli tir, nid yw’n cyfeirio at swyddogaethau ehangach bwrdd Dyfrffyrdd Prydain sy’n ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Yn ein barn ni, mae’r rhain yn eithaf arwyddocaol. Er enghraifft, ymddengys fod gan y bwrdd swyddogaethau mewn perthynas â thrafnidiaeth, henebion a draenio tir. Yn anad dim, mae gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â thwristiaeth, ond ymddengys fel petai twristiaeth ac annog twristiaeth yn rhan o brif rôl y bwrdd. Felly, er bod y memorandwm cydsyniad yn cyfeirio at ddwy agwedd benodol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, mae’n ymddangos fel petai’n anwybyddu meysydd eraill perthnasol iawn. Rwy’n falch bod y Gweinidog wedi cydnabod y diffyg tebygol hwn a’i fod wedi dweud y bydd yn sicrhau bod y mater hwn yn cael ei ystyried mewn unrhyw Orchmynion yn y dyfodol. Roedd hwnnw’n ymateb adeiladol, a diolch iddo am hynny.

I understand that the Environment and Sustainability Committee and the Enterprise and Business Committee have written to the Minister to express concerns that the memorandum is insufficient to allow them to scrutinise the matter properly. However, in conclusion, I would say that, despite our concerns, the committee’s overall view is that there is no specific reason to object to the making of this Order.

Deallaf fod y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd a’r Pwyllgor Menter a Busnes wedi ysgrifennu at y Gweinidog i fynegi pryderon bod y memorandwm yn annigonol i’w galluogi i graffu ar y mater yn briodol. Fodd bynnag, i gloi, byddwn yn dweud, er gwaethaf ein pryderon, mai barn gyffredinol y pwyllgor yw nad oes rheswm penodol dros wrthwynebu gwneud y Gorchymyn hwn.  

The Presiding Officer: I call the Chair of the Environment and Sustainability Committee.

Y Llywydd: Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Rwyf am fynegi fy nghytundeb â’r hyn a ddywedodd y Gweinidog a’r hyn a ddywedodd David Melding, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Fel Pwyllgor, roeddem yn awyddus i gymryd golwg ar y Gorchymyn ac i gytuno â’r sylwadau a wnaed ynglŷn â’r diffyg gwybodaeth. Fodd bynnag, rwy’n cytuno â’r farn a fynegwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol nad yw hyn yn rheswm dros wrthwynebu’r Gorchymyn. Felly, nid wyf am siarad yn hir ar y pwynt hwn, ac eithrio i ddweud fy mod wedi cael pleser mawr o fy mherthynas dros y blynyddoedd â bwrdd Dyfrffyrdd Prydain. Er nad yw’r pwerau dros ddyfrffyrdd wedi’u datganoli, mae gennym ymddiriedolaeth ar gyfer Cymru a Lloegr. Er nad yw hon yn drefn gwbl dderbyniol i lawer o bobl, rwy’n sicr y bydd Glandwr Cymru, fel corff gwirfoddol ac elusennol a fydd yn tyfu o’r drefn newydd hon, yn gallu gweithredu yn fasnachol ac yn gallu gweithredu fel partner ardderchog i sicrhau mynediad i ddyfrffyrdd Cymru ac i wella ein glannau dŵr, gan fuddsoddi yn ein cymunedau a’u hadnewyddu mewn llawer o ffyrdd. Rwy’n dymuno’n dda i’r corff newydd.

Lord Elis-Thomas: I wish to express my agreement with what the Minister and David Melding, Chair of the Constitutional and Legislative Affairs, have said. As a committee, we were eager to consider the Order and to agree with the comments made about the lack of information. However, I agree with the view expressed by the Chair of the Constitutional and Legislative Affairs Committee that this is not a reason for rejecting the Order. Therefore, I will say little more on this issue, other than that I have taken great pleasure over the years from my relationship with the British Waterways board. Although powers for waterways have not been devolved, we have a trust for England and Wales. Although this is not an entirely acceptable system to many people, I am sure that Glandwr Cymru, as a voluntary and charitable body that will grow out of these new arrangements, will be able to work commercially and operate as an excellent partner in ensuring access to Welsh waterways, improving our waterways and investing in and regenerating our communities in many ways. I wish the new body well.

The Presiding Officer: I call on the Chair of the Enterprise and Business Committee.

Y Llywydd: Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes.

Nick Ramsay: I wish to agree with the positive comments that have already been made by the Chairs of the Environment and Sustainability Committee and the Constitutional and Legislative Affairs Committee. As Chair of the Enterprise and Business Committee, I can say that we felt unable to comment meaningfully on the Order given the lack of information in the explanatory memorandum, specifically information relating to the interests of our committee—as the Chair of the Constitutional and Legislative Affairs Committee said—namely those related to economic development and transport. In view of this, the committee felt that it would be helpful if the Government ensured that future explanatory memoranda explained more clearly what their respective Orders are seeking to achieve in all areas relating to the committees in order that they can undertake their scrutiny more effectively.

Nick Ramsay: Rwy’n cytuno â’r sylwadau cadarnhaol sydd eisoes wedi’u gwneud gan Gadeiryddion y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes, gallaf ddweud ein bod yn teimlo na allem roi sylwadau ystyrlon ar y Gorchymyn o ystyried y diffyg gwybodaeth yn y memorandwm esboniadol, yn benodol gwybodaeth yn ymwneud â diddordebau ein pwyllgor—fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—sef diddordebau sy’n ymwneud â datblygu economaidd a thrafnidiaeth. O ystyried hyn, mae’r pwyllgor yn teimlo y byddai o gymorth pe bai’r Llywodraeth yn sicrhau bod memoranda esboniadol yn y dyfodol yn egluro yn gliriach yr hyn y mae eu Gorchmynion yn ceisio ei gyflawni ym mhob maes sy’n ymwneud â’r pwyllgorau er mwyn iddynt allu cyflawni eu gwaith craffu yn fwy effeithiol.

Aled Roberts: Briefly, to reiterate what the Chairs of the committees have said, we will support the Order today, but, as the Minister recognised, the cross-party group on waterways will be going to Scotland at the end of the month to see the achievements of the new arrangements in Scotland and the regeneration that has been achieved there. The greatest thing that we could achieve in some areas would be regeneration of the waterways through tourism. I am grateful to the Minister for indicating that he will need to look at the memorandum.

Aled Roberts: Yn fyr, ac ailadrodd yr hyn y mae Cadeiryddion y pwyllgorau wedi’i ddweud, byddwn yn cefnogi’r Gorchymyn heddiw, ond, fel y gwnaeth y Gweinidog gydnabod, bydd y grŵp trawsbleidiol ar ddyfrffyrdd yn mynd i’r Alban ddiwedd y mis i weld llwyddiannau’r trefniadau newydd yn yr Alban a’r adfywio sydd wedi digwydd yno. Y peth mwyaf y gallem ei gyflawni mewn rhai ardaloedd fyddai adfywio’r dyfrffyrdd drwy dwristiaeth. Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am ddweud y bydd angen iddo edrych ar y memorandwm.

4.45 p.m.

Russell George: As someone who has taken a keen interest in Montgomery canal in my constituency in recent years, I welcome this consent motion and the creation of Glandwr Cymru. I believe that it is vital that our canals and waterways are protected in the future as they are important for the economy and tourism and they harbour hundreds of protected wildlife sites. These charitable bodies will undoubtedly attract new investment, secure and create more jobs and give the public a greater say in the running of its local canal or river. I also believe that this change offers an opportunity to attract the attention of, and to appeal to, the wider public to visit and enjoy our beautiful waterways. Therefore, we will be supporting this motion that has been brought forward by the Government today.

Russell George: Fel rhywun sydd wedi ymddiddori’n frwd yng nghamlas Trefaldwyn yn fy etholaeth yn y blynyddoedd diwethaf, rwy’n croesawu’r cynnig cydsyniad hwn a chreu Glandwr Cymru. Credaf ei bod yn hanfodol bod ein camlesi a’n dyfrffyrdd yn cael eu diogelu yn y dyfodol gan eu bod yn bwysig i’r economi ac i dwristiaeth a’u bod yn noddfa i gannoedd o safleoedd bywyd gwyllt a warchodir. Bydd y cyrff elusennol hyn yn siŵr o ddenu buddsoddiad newydd, sicrhau a chreu mwy o swyddi a rhoi mwy o lais i’r cyhoedd yn y ffordd y caiff eu camlas neu afon leol eu rhedeg. Rwyf hefyd yn credu bod y newid hwn yn rhoi cyfle i ddenu sylw’r cyhoedd yn ehangach—ac apelio at y cyhoedd—i ymweld â’n dyfrffyrdd hardd a’u mwynhau. Felly, byddwn yn cefnogi’r cynnig hwn a gaiff ei gyflwyno gan y Llywodraeth heddiw.

 

The Minister for Environment and Sustainable Development (John Griffiths): I thank Members for their contributions. First, I thank the three committee chairs for pointing out that there have been shortcomings with the consent memorandum, but nonetheless supporting this motion today. I think that it is entirely fair to say that we will look at this experience and learn from it in the future.

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (John Griffiths): Diolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r tri chadeirydd pwyllgor am dynnu sylw at y diffygion yn y memorandwm cydsyniad, ond gan gefnogi’r cynnig hwn serch hynny. Credaf ei bod yn gwbl deg dweud y byddwn yn edrych ar y profiad hwn ac yn dysgu oddi wrtho yn y dyfodol.

 

In creating the new body, this transfer of functions will ensure a sustainable future for our waterways in Wales. I very much agree with Dafydd Elis-Thomas that there has been considerable good work to date, which we would obviously want to build on and not diminish in any way. I will be meeting with the new body very soon to discuss how we move forward together in Wales so that there is true alignment between Welsh Government strategy and what the new charitable trust proposes in terms of its aims and objectives. I know that ministerial colleagues have met representatives of British Waterways to discuss the new body. In fact, in terms of Aled Roberts’s remarks about Scotland, I believe my colleague Huw Lewis will be visiting Scotland to look at the work that they have done there with their waterways. Obviously, if there are lessons that we can learn for regeneration, we would be very keen to do so. I also very much agree with Russell George about of the importance of waterways in terms of wildlife habitats and widening access. There are many benefits to our waterways in Wales and I hope very much that the Welsh Government can work effectively with the new body in building on the experience and progress to date as we move forward.

Wrth greu’r corff newydd, bydd trosglwyddo’r swyddogaethau yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n dyfrffyrdd yng Nghymru. Cytunaf yn llwyr â Dafydd Elis-Thomas fod cryn dipyn o waith da wedi’i wneud hyd yma, y byddem yn amlwg yn awyddus i adeiladu arno yn hytrach na lleihau dim o gwbl arno. Byddaf yn cyfarfod â’r corff newydd yn fuan iawn i drafod sut y gallwn symud ymlaen gyda’n gilydd yng Nghymru fel bod strategaeth Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae’r ymddiriedolaeth elusennol newydd yn ei gynnig o ran ei nodau a’i amcanion yn cyd-fynd yn union. Gwn fod cyd-Weinidogion wedi cwrdd â chynrychiolwyr Dyfrffyrdd Prydain i drafod y corff newydd. Yn wir, o ran sylwadau Aled Roberts am yr Alban, credaf y bydd fy nghyd-Aelod Huw Lewis yn ymweld â’r Alban i edrych ar y gwaith y maent wedi’i wneud yno gyda’u dyfrffyrdd. Yn amlwg, os oes gwersi y gallwn eu dysgu o ran adfywio, byddem yn awyddus iawn i wneud hynny. Yr wyf hefyd yn cytuno’n llwyr â Russell George ynghylch pwysigrwydd dyfrffyrdd o ran cynefinoedd bywyd gwyllt ac ehangu mynediad. Mae nifer o fanteision i’n dyfrffyrdd yng Nghymru a gobeithio’n fawr y gall Llywodraeth Cymru weithio’n effeithiol gyda’r corff newydd i adeiladu ar y profiad a’r cynnydd hyd yma wrth inni symud ymlaen.

 

The Presiding Officer: The proposal is to agree the motion. Does any Member object? I see that there are no objections. Therefore, the motion is agreed in accordance with Standing Order No. 12.36.

Y Llywydd: Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gwelaf nad oes gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 12.36.

 

Derbyniwyd y cynnig.
Motion agreed.

Cynnig i Atal y Rheolau Sefydlog
Motion to Suspend Standing Orders

The Record

Cynnig NNDM4980 Rosemary Butler

Motion NNDM4980 Rosemary Butler

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Orders 33.6 and 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) er mwyn caniatáu i’r cynnig o dan yr eitem olaf o fusnes (NDM4979) i gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth, 8 Mai 2012.

Suspends Standing Order 12.20(i) to allow the motion under the final item of business (NDM4979) to be considered in Plenary on Tuesday 8 May 2012.

Peter Black: I move the motion.

Peter Black: Cynigiaf y cynnig.

 

The Presiding Officer: The proposal is to suspend Standing Order No. 12.20(i). Does any Member object? I see that there are no objections. Therefore, the motion is agreed under Standing Order No. 12.36.

Y Llywydd: Y cynnig yw atal Rheol Sefydlog Rhif 12.20 (i). A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gwelaf nad oes gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 12.36.

 

Derbyniwyd y cynnig.
Motion agreed.

Cynnig i Ddiwygio Rheol Sefydlog Rhif 12 mewn perthynas â Chwestiynau Llafar
Motion to Revise Standing Order No. 12 in relation to Oral Questions

The Record

Cynnig NDM4979 Rosemary Butler

Motion NDM4979 Rosemary Butler

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

To propose that the National Assembly, in accordance with Standing Order 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 12 mewn perthynas â Chwestiynau Llafar’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mai 2012; a

1. Considers the Report of the Business Committee 'Proposed amendments to Standing Order 12 in relation to Oral Questions’ laid in the Table Office on 1 May 2012; and

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 12, fel y nodir yn Atodiad A o Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

2. Approves the proposal to revise Standing Order 12, as set out in Annex A of the Report of the Business Committee.

Peter Black: I move the motion.

Peter Black: Cynigiaf y cynnig.

 

The Presiding Officer: The proposal is to agree the motion. Does any Member object? I see that there are no objections. Therefore, the motion is agreed in accordance with Standing Order No. 12.36.

Y Llywydd: Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gwelaf nad oes gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 12.36.

 

Derbyniwyd y cynnig.
Motion agreed.

The Presiding Officer: That brings today’s business to a close.

Y Llywydd: Daw hynny â chyfarfod heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 4.49 p.m.
The meeting ended at 4.49 p.m.

Aelodau a’u Pleidiau
Members and their Parties

Andrews, Leighton (Llafur - Labour)
Antoniw, Mick (Llafur - Labour)
Asghar, Mohammad (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Black, Peter (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Welsh Liberal Democrats)
Burns, Angela (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Butler, Rosemary (Llafur - Labour)
Chapman, Christine (Llafur - Labour)
Cuthbert, Jeff (Llafur - Labour)
Davies, Alun (Llafur - Labour)
Davies, Andrew R.T. (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Davies, Byron (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Davies, Jocelyn (Plaid Cymru - The Party of Wales)
Davies, Keith (Llafur - Labour)
Davies, Paul (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Davies, Suzy (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Drakeford, Mark (Llafur - Labour)
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord (Plaid Cymru - The Party of Wales)
Evans, Rebecca (Llafur - Labour)
Finch-Saunders, Janet (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
George, Russell (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Gething, Vaughan (Llafur - Labour)
Graham, William (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Gregory, Janice (Llafur - Labour)
Griffiths, John (Llafur - Labour)
Griffiths, Lesley (Llafur - Labour)
Gruffydd, Llyr Huws (Plaid Cymru - The Party of Wales)
Hart, Edwina (Llafur - Labour)
Hedges, Mike (Llafur - Labour)
Hutt, Jane (Llafur - Labour)
Isherwood, Mark (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
James, Julie (Llafur - Labour)
Jenkins, Bethan (Plaid Cymru - The Party of Wales)
Jones, Alun Ffred (Plaid Cymru - The Party of Wales)
Jones, Ann (Llafur - Labour)
Jones, Carwyn (Llafur - Labour)
Jones, Elin (Plaid Cymru - The Party of Wales)
Jones, Ieuan Wyn (Plaid Cymru - The Party of Wales)
Lewis, Huw (Llafur - Labour)
Melding, David (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Mewies, Sandy (Llafur - Labour)
Millar, Darren (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Morgan, Julie (Llafur - Labour)
Neagle, Lynne (Llafur - Labour)
Parrott, Eluned (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Welsh Liberal Democrats)
Powell, William (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Welsh Liberal Democrats)
Price, Gwyn R. (Llafur - Labour)
Ramsay, Nick (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Rathbone, Jenny (Llafur - Labour)
Rees, David (Llafur - Labour)
Roberts, Aled (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Welsh Liberal Democrats)
Sandbach, Antoinette (Ceidwadwyr Cymreig - Welsh Conservatives)
Sargeant, Carl (Llafur - Labour)
Skates, Kenneth (Llafur - Labour)
Thomas, Gwenda (Llafur - Labour)
Thomas, Rhodri Glyn (Plaid Cymru - The Party of Wales)
Thomas, Simon (Plaid Cymru - The Party of Wales)
Watson, Joyce (Llafur - Labour)
Whittle, Lindsay (Plaid Cymru - The Party of Wales)
Williams, Kirsty (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Welsh Liberal Democrats)
Wood, Leanne (Plaid Cymru - The Party of Wales)

Partners & Help