By continuing to use our site, you are agreeing for us to set a small number of cookies. Cookie policy

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Cofnod y Trafodion
The Record of Proceedings

Dydd Mawrth, 31 Ionawr 2012
Tuesday, 31 January 2012

Cynnwys
Contents

Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Questions to the First Minister

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Business Statement and Announcement

Datganiad: Ardaloedd Menter
Statement: Enterprise Zones

Datganiad: Adolygiad o Effeithiolrwydd Datblygu Cynaliadwy
Statement: Sustainable Development Effectiveness Review

Datganiad: Cyhoeddi’r Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd
Statement: Publication of the Climate Change Risk Assessment

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol a Fil y DU ynghylch Diogelu Rhyddidau
Legislative Consent Motion on the Protection of Freedoms Bill

Gorchymyn y Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol (Diddymu a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2012
The Local Better Regulation Office (Dissolution and Transfer of Functions) Order 2012

Y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol
The National Transport Plan

Y Strategaeth Microfusnesau
The Microbusiness Strategy

Cyfnod Pleidleisio
Voting Time

Yn y golofn chwith, cofnodwyd y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y Siambr. Yn y golofn dde, cynhwyswyd cyfieithiad.
In the left-hand column, the proceedings are recorded in the language in which they were spoken in the Chamber. In the right-hand column, a translation has been included.

The Record

Cyfarfu’r Cynulliad am 1.30 p.m.gyda’r Llywydd (Rosemary Butler) yn y Gadair.

The Assembly met at 1.30 p.m.with the Presiding Officer (Rosemary Butler) in the Chair.

Y Llywydd: Prynhawn da. Galwaf Gynulliad Cenedlaethol Cymru i drefn.

The Presiding Officer: Good afternoon. I call the National Assembly for Wales to order.

Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Questions to the First Minister

The Record

Adnoddau Ynni Ffosil

Fossil Energy Resources

1. William Graham: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am archwilio ar gyfer adnoddau ynni ffosil yng Nghymru. OAQ(4)0337(FM)

1. William Graham: Will the First Minister make a statement on the exploration for fossil energy resources in Wales. OAQ(4)0337(FM)

The First Minister (Carwyn Jones): As with all types of energy extraction, there is a need to ensure that consideration of the potential impact on communities and the environment is at the heart of the consents process.

Y Prif Weinidog (Carwyn Jones): Yn unol â phob math o ddulliau o echdynnu ynni, mae angen sicrhau bod ystyriaeth o’r effaith bosibl ar gymunedau a’r amgylchedd wrth wraidd y broses o roi caniatâd.

William Graham: Thank you very much for your reply, First Minister. You will know that Newport City Council has recently considered an application to test drill for oil or gas just off the Nash part of Newport. Bearing in mind what you have just said, do you think it is time now for a full statement to be issued by your Minister here, covering issues such as gas and oil, as well as fracking?

William Graham: Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Brif Weinidog. Gwyddoch fod Cyngor Dinas Casnewydd wedi ystyried cais yn ddiweddar i gynnal arbrawf ar gyfer drilio am olew neu nwy gerbron ardal Nash yng Nghasnewydd. Gan gadw mewn cof yr hyn rydych newydd ei ddweud, a ydych yn credu ei bod yn amser bellach i’ch Gweinidog wneud datganiad llawn yma, a hynny gan fynd i’r afael â materion fel nwy ac olew, yn ogystal â ffracio?

The First Minister: The licensing for onshore oil and gas is regulated by the Department for Energy and Climate Change, which has responsibility for that. In terms of other areas such as offshore oil, again, these are matters that are primarily within the purview of the UK Government. However, we take the view that it is important that where new sources of fuel are being examined and drilled for, a precautionary approach should be taken.

Y Prif Weinidog: Mae’r broses drwyddedu ar gyfer olew a nwy ar y tir yn cael ei rheoleiddio gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd, sy’n gyfrifol am y maes hwnnw. O ran meysydd eraill, fel olew ar y môr, unwaith eto, mae’r rhain yn faterion a ddaw o fewn cwmpas Llywodraeth y DU yn bennaf. Fodd bynnag, rydym o’r farn ei bod yn bwysig mabwysiadu dull gweithredu rhagofalus wrth archwilio neu ddrilio am ffynonellau newydd o danwydd.

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Onid yw’r ffaith bod adrannau o ddwy Lywodraeth yn ymwneud â phrosesau cynllunio ynni bron ymhob achos yn pwysleisio pwysigrwydd gwell cydweithrediad ynglŷn â fframwaith polisi? Onid yw hi’n bryd i ni gael rhywbeth tebyg i TAN 8 yn ymwneud ag agweddau eraill ar ynni, nid dim ond ynni adnewyddadwy?

Lord Elis-Thomas: Does the fact that departments from two Governments are involved in dealing with the energy planning process in almost every case not emphasise the importance of better collaboration on a policy framework? Is it not time that we had something similar to TAN 8 related to other aspects of energy, not just renewable energy?

Y Prif Weinidog: Heb i ni gael yr un pwerau â’r Alban, er enghraifft, ni fyddai llawer o bwynt gwneud hynny. Wedyn, wrth gwrs, byddai’n bosibl i Gymru edrych ar ddatblygu polisi cynhwysfawr. Nid yw’n bosibl gwneud hynny ar hyn o bryd gan fod y cyfrifoldeb wedi ei rannu.

The First Minister: There is very little point in doing that unless we get the same powers as Scotland, for example. Then, of course, it would be possible for Wales to look at developing a comprehensive policy. It is not possible to do that at the moment because the responsibility is shared.

William Powell: In the executive summary of its first annual report, the climate change commission says that, as a nation, Wales is living beyond its environmental limits, is over-reliant on fossil fuels and is emitting unsustainable levels of greenhouse gases. While accepting that the withdrawal of reliance on such fossil fuels is more of a process than an event, what concrete steps will the First Minister outline to advance this important agenda?

William Powell: Yng nghrynodeb gweithredol ei adroddiad blynyddol cyntaf, mae’r comisiwn newid hinsawdd yn dweud bod Cymru, fel cenedl, yn byw y tu hwnt i’w therfynau amgylcheddol, yn orddibynnol ar danwyddau ffosil ac yn gyfrifol am lefelau anghynaladwy o allyriadau nwyon tŷ gwydr. Gan dderbyn bod lleihau’r ddibyniaeth ar danwyddau ffosil o’r fath yn broses yn hytrach na digwyddiad, pa gamau pendant y bydd y Prif Weinidog yn eu hamlinellu i fwrw ymlaen â’r agenda pwysig hwn?

The First Minister: We have, of course, provided the framework for the development of onshore and offshore wind energy. We have helped to finance projects that look to develop further marine energy in Wales, and, in this way, we can reduce Wales’s carbon footprint in the future.

Y Prif Weinidog: Wrth gwrs, rydym wedi darparu fframwaith ar gyfer datblygu ynni gwynt ar y tir ac ar y môr. Rydym wedi helpu i ariannu prosiectau sy’n ceisio datblygu rhagor o ynni morol yng Nghymru. Yn y modd hwn, gallwn leihau ôl-troed carbon Cymru yn y dyfodol.

Blaenoriaethau

Priorities

2. Darren Millar: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer gogledd Cymru yn 2012. OAQ(4)0332(FM)

2. Darren Millar: Will the First Minister make a statement on his priorities for north Wales in 2012. OAQ(4)0332(FM)

The First Minister: They are outlined in our programme for government.

Y Prif Weinidog: Maent wedi’u hamlinellu yn ein rhaglen lywodraethu.

Darren Millar: Thank you very much for that answer, First Minister. A report produced by the Enterprise and Business Committee last week made it clear that many high streets across Wales are struggling in the current economic downturn, and that many town centres are in need of some quick support from the Welsh Government. Do you accept that our business rates policy to reduce business rates, and indeed scrap them for most small business in Wales, would be a huge benefit to those businesses that are struggling during the economic downturn, and particularly help to reverse the trend of shop closures in our town centres? In town centres in north Wales for example, one in five shops are closed at this time.

Darren Millar: Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Brif Weinidog. Mae adroddiad a luniwyd gan y Pwyllgor Menter a Busnes yr wythnos diwethaf yn ei gwneud yn glir bod nifer o strydoedd mawr Cymru yn dioddef yn sgîl y dirywiad economaidd presennol, a bod angen cymorth ar frys ar nifer o ganol trefi gan Lywodraeth Cymru. A ydych yn derbyn y byddai ein polisi ar gyfer lleihau ardrethi busnes—ac, yn wir, eu diddymu mewn perthynas â’r rhan fwyaf o fusnesau bach yng Nghymru—o fudd mawr i’r busnesau hynny sy’n dioddef anawsterau yn ystod y dirywiad economaidd, ac yn benodol yn helpu i wrthdroi’r tueddiad o weld siopau’n cau yng nghanol trefi? Yng nghanol trefi yng ngogledd Cymru, er enghraifft, mae un o bob pum siop ar gau ar hyn o bryd.

The First Minister: Of course, you would increase council tax in order to pay for that; that is the one thing that you omit. However, you are right to point out that we have seen a decline in town centres. What shops need are customers particularly; shops have lost a great deal of their customer base to online retailing. We have seen large retailers suffering as well. How do we deal with it? One way of doing that is to ensure that we look to regenerate our town centres, and we have done that in many parts of Wales. Rhyl is one example where money has helped to regenerate the town centre. Making town centres attractive places to shop will attract people in to shop and provide shops with the customers they need in order to be viable.

Y Prif Weinidog: Wrth gwrs, byddech yn cynyddu’r dreth gyngor er mwyn talu am hynny; dyna’r manylyn rydych yn ei hepgor. Fodd bynnag, rydych yn gywir i dynnu sylw at y ffaith ein bod wedi gweld dirywiad yng nghanol trefi yng Nghymru. Yn benodol, yr hyn y mae ar siopau eu hangen yw cwsmeriaid; maent wedi colli llawer o’u cwsmeriaid craidd o ganlyniad i weithgareddau manwerthu ar-lein. Rydym wedi gweld manwerthwyr mawr yn dioddef hefyd. Sut ydym yn ymdrin â’r sefyllfa hon? Un ffordd o wneud hynny yw sicrhau ein bod yn ceisio adfywio canol trefi, ac rydym wedi gwneud hynny mewn sawl rhan o Gymru. Mae’r Rhyl yn un enghraifft lle mae arian wedi helpu i adfywio canol y dref. Bydd sicrhau bod canol trefi yn lleoliadau deniadol i siopa yn denu pobl, ac yn sicrhau bod gan siopau y cwsmeriaid sydd eu hangen arnynt i fod yn hyfyw.

The Record

Kenneth Skates: First Minister, the Welsh Government’s aim is that all social housing in the country should achieve the Welsh housing quality standard by the end of 2012. However, a report by the Auditor General for Wales recently highlighted concerns over the progress that is being made in some areas, including Wrexham. This comes in a year when the local authority sought to uplift rents by around 5.5%, impacting on 11,500 households. What work are you doing with Wrexham County Borough Council to ensure that it puts in place an effective plan to meet the Welsh housing quality standard and bring local authority homes up to scratch?

Kenneth Skates: Brif Weinidog, nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod yr holl dai cymdeithasol sy’n bodoli yn y wlad yn cyrraedd y safon ansawdd tai yng Nghymru erbyn diwedd 2012. Fodd bynnag, yn ddiweddar, nododd adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru bryderon ynghylch y cynnydd a wneir mewn rhai ardaloedd, gan gynnwys Wrecsam. Daw hyn mewn blwyddyn pan geisiodd yr awdurdod lleol gynyddu costau rhent oddeutu 5.5%, gan effeithio ar 11,500 o gartrefi. Pa waith yr ydych yn ei wneud gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i sicrhau ei fod yn llunio cynllun effeithiol i gyrraedd y safon ansawdd tai yng Nghymru ac i adfer tai awdurdodau lleol i’r safon ddisgwyliedig?  

The First Minister: Where local authority tenants have voted to retain their housing stock, as is the case in Wrexham, officials are working closely with the local authority to help it maximise its use of resources, improve its properties and work towards the standard.

Y Prif Weinidog: Mewn achosion lle mae tenantiaid awdurdodau lleol wedi pleidleisio i gadw eu stoc dai, fel y maent wedi’i wneud yn Wrecsam, mae swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r awdurdod lleol er mwyn cynorthwyo’r awdurdod i gynyddu ei ddefnydd o adnoddau, gwella ei eiddo a gweithio tuag at y safon honno.

Alun Ffred Jones: Cyfeiriodd y Papur Gwyrdd ar yr amgylchedd a gyhoeddwyd ddoe—papur da iawn—at greu un corff amgylcheddol i Gymru. Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi’i leoli ym Mangor ar hyn o bryd. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i sicrhau y bydd polisi iaith blaengar Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn trosglwyddo i’r corff newydd, ac a wnaiff y Prif Weinidog hefyd ymrwymo i roi ystyriaeth lawn i’r posibilrwydd o leoli pencadlys y corff newydd yng ngogledd-orllewin Cymru?

   

Alun Ffred Jones: The Green Paper on the environment that was published yesterday—it was a very good paper—referred to the creation of a single environmental body for Wales. The Countryside Council for Wales is located in Bangor at the moment. Will the First Minister commit to ensuring that the Countryside Council for Wales’s innovative Welsh language policy will be transferred to the new body, and will the First Minister also commit to giving full consideration to the possibility of locating the headquarters of this new body in north-west Wales?

Y Prif Weinidog: Yr wyf, wrth gwrs, yn deall diddordeb yr Aelod yn y pencadlys ym Mangor. Pan fydd y corff newydd yn cael ei sefydlu, bydd yn rhaid ystyried y lleoliad gorau ar gyfer ei bencadlys.

The First Minister: I, of course, understand the Member’s interest in the headquarters in Bangor. When the new body is established, consideration must be given to the best location for its headquarters.

Antoinette Sandbach: First Minister, one organisation that is doing exceptional work to improve the quality of care of young patients in north Wales is the North Wales Chrysalis Trust. This is the only organisation in north Wales that specialises in support and professional counselling for children and parents who have suffered the death of a child or young adult in the family. Does the First Minister share my view that the best way to safeguard this invaluable service would be for the Betsi Cadwaladr University Local Health Board to provide a service level agreement and core funding, so that Chrysalis can plan its operations for more than a single year at a time?

Antoinette Sandbach: Brif Weinidog, un sefydliad sy’n gwneud gwaith eithriadol o ran gwella ansawdd y gofal a ddarperir i gleifion ifanc yng ngogledd Cymru yw Ymddiriedolaeth Chrysalis Gogledd Cymru. Dyma’r unig sefydliad yng ngogledd Cymru sy’n arbenigo mewn darparu cymorth a gwasanaethau cwnsela proffesiynol i blant a rhieni sydd wedi dioddef marwolaeth plentyn neu oedolyn ifanc yn y teulu. A yw’r Prif Weinidog yn cytuno mai’r ffordd orau o ddiogelu’r gwasanaeth amhrisiadwy hwn fyddai drwy sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn darparu cytundeb lefel gwasanaeth a chyllid craidd, fel y gall chrysalis gynllunio ei gweithrediadau am gyfnod o fwy na blwyddyn ar y tro?

The First Minister: These are issues between Chrysalis and the local health board. From what you say, Chrysalis provides a very important service—the kind of service that would be important in any part of Wales. In terms of how that service is provided, of course, it is ultimately a matter for the local health board.

Y Prif Weinidog: Materion i’w trafod gan chrysalis a’r bwrdd iechyd lleol yw’r rhain. O ystyried yr hyn a ddywedasoch, mae chrysalis yn darparu gwasanaeth pwysig iawn—y math o wasanaeth a fyddai’n bwysig yn unrhyw ran o Gymru. Mae’r mater o sut y dylid darparu’r gwasanaeth hwnnw, wrth gwrs, yn fater i’r bwrdd iechyd lleol yn y pen draw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Questions Without Notice from the Party Leaders

The Leader of Plaid Cymru (Ieuan Wyn Jones): First Minister, last week you published a document titled 'Delivering for Wales’. In the document, you have a five-point plan for jobs. You cannot deliver on any of them because the relevant powers are reserved to Westminster. Why are they in the document at all?

Arweinydd Plaid Cymru (Ieuan Wyn Jones): Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf cyhoeddasoch y ddogfen 'Cyflawni dros Gymru’. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys cynllun pum pwynt ar gyfer creu swyddi. Ni allwch gyflawni’r un ohonynt gan fod y pwerau perthnasol yn rhai a gadwyd yn ôl yn San Steffan. Pam y cafodd y pwyntiau hyn eu cynnwys yn y ddogfen o gwbl?

The First Minister: I notice that the party opposite’s plan for jobs is nothing whatsoever. We have seen nothing from that party. I note, of course, that the unemployment figures for Wales have come down compared with those for the rest of the UK, which have risen, and compared with the figures for Scotland, which have also risen. I know that that is only one figure and that there are many more in the months to come. However, this shows that the policies of this Government, in terms of creating jobs in Wales, are having an effect.

Y Prif Weinidog: Sylwaf nad oes gan y blaid gyferbyn unrhyw gynllun o gwbl ar gyfer creu swyddi. Ni welsom unrhyw beth gan y blaid honno. Nodaf, wrth gwrs, fod ffigurau diweithdra Cymru wedi  gostwng o’u cymharu â gweddill y DU, lle maent wedi cynyddu, ac o’u cymharu â’r Alban, lle maent wedi cynyddu hefyd. Gwyddwn mai un ffigur yn unig yw hwn, a bod llawer o ffigurau eraill i ddod yn y misoedd nesaf. Fodd bynnag, mae’r sefyllfa hon yn dangos bod polisïau’r Llywodraeth hon, o ran creu swyddi yng Nghymru, yn cael effaith.

Ieuan Wyn Jones: I find it strange that you have a document whose title is 'Delivering for Wales’, yet you cannot deliver on your five points. It says that you want to cut value added tax; you cannot do it. It says that you want to have a one-year national insurance tax break; you cannot do it. What is the point of having a document where you cannot deliver on most of the key issues?

Ieuan Wyn Jones: Teimlaf ei bod yn rhyfedd fod gennych ddogfen sydd â’r teitl 'Cyflawni dros Gymru’, ond ni allwch gyflawni eich pum pwynt. Dywed y ddogfen eich bod am leihau treth ar werth; ni allwch wneud hynny. Dywed y ddogfen eich bod am gael seibiant o flwyddyn mewn taliadau treth yswiriant gwladol; ni allwch wneud hynny. Beth yw diben cael dogfen o’r fath os na allwch fynd i’r afael â mwyafrif o’r materion allweddol sydd wedi’u cynnwys ynddi?

Today, First Minister, we also heard the announcement that 20% of 11-year-olds in Wales are functionally illiterate. Is that not a damning indictment of your Government?

Heddiw, Brif Weinidog, clywsom gyhoeddiad bod 20% o ddisgyblion 11 oed yng Nghymru yn anllythrennog yn ymarferol. Onid yw hyn yn gyhuddiad damniol o’ch Llywodraeth?

The First Minister: You should bear in mind that you were in Government at the time when the report was dealing with this situation. Memories are short on the benches opposite. The reality is that the Government is putting in place national literacy and numeracy programmes, and we are confident that the figures that we saw up to July 2011 will be improved on in years to come.

Y Prif Weinidog: Dylech gadw mewn cof y ffaith ichi fod yn rhan o’r Llywodraeth ar yr adeg pan oedd yr adroddiad yn ymdrin â’r sefyllfa hon. Cof byr sydd gan yr Aelodau ar y meinciau gyferbyn. Y gwirionedd yw bod y Llywodraeth yn rhoi rhaglenni cenedlaethol llythrennedd a rhifedd ar waith, ac rydym yn hyderus y bydd y ffigurau a welsom hyd at fis Gorffennaf 2011 yn gwella yn y blynyddoedd i ddod.

Ieuan Wyn Jones: I find this all very interesting, First Minister. First of all, you have a document that includes things that you cannot deliver. You acknowledge that point. Secondly, you take no responsibility whatsoever for having a Labour Minister for education for the past 12 years: every single Minister for education has been a Labour Minister. However, rather than being a complacent, do-nothing Government, is it not time that you invested properly in education and skills, to bring forward—as Gerry Holtham has said—a substantial capital programme to stimulate the economy, and to assist small businesses through more help with business rates? Is that not what a credible Welsh Government would do in the current economic circumstances?

Ieuan Wyn Jones: Mae hyn yn ddiddorol iawn imi, Brif Weinidog. Yn gyntaf oll, mae gennych ddogfen sy’n cynnwys pethau na allwch eu cyflawni. Rydych yn cydnabod y pwynt hwnnw. Yn ail, nid ydych yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am gael Gweinidog Llafur dros addysg yn ystod y 12 mlynedd diwethaf: bu pob Gweinidog dros addysg yn Weinidog Llafur. Fodd bynnag, yn hytrach na bod yn Llywodraeth hunanfodlon sy’n gwneud dim, onid yw’n bryd ichi fuddsoddi mewn modd priodol mewn addysg a sgiliau, i gyflwyno—fel y dywedodd Gerry Holtham—rhaglen gyfalaf sylweddol i ysgogi’r economi, ac i gynorthwyo busnesau bach drwy ddarparu rhagor o gymorth mewn perthynas ag ardrethi busnes? Onid dyma’r hyn y byddai Llywodraeth Cymru gredadwy yn ei wneud o dan yr amgylchiadau economaidd presennol?

The First Minister: I congratulate the Leader of Plaid Cymru on the sudden recovery of his memory. I point out the £55 million spent on supporting business growth in Wales; the £38.9 million economic stimulus package; the £90 million of centrally retained capital funding to be spent on infrastructure; the £75 million in the Jobs Growth Wales scheme that will create 4,000 jobs a year for three years—his party wanted 1,000—and £30 million in the Skills Growth Wales scheme to support the creation of 3,000 jobs over the next three years. We are a Government of dynamism, as opposed to the do-nothing party opposite. [Laughter.] I look at the Members opposite and wonder whether all of Wales would have gone to sleep had we exhibited their dynamism.

Y Prif Weinidog: Rwyf yn llongyfarch Arweinydd Plaid Cymru ar adfer ei gof yn sydyn. Nodaf y £55 miliwn a wariwyd ar gefnogi twf busnesau yng Nghymru; y pecyn £38.9 miliwn ar gyfer ysgogi’r economi; y £90 miliwn o gyllid cyfalaf a gedwir yn ganolog ac a gaiff ei wario ar seilwaith; y £75 miliwn sydd yn y cynllun Twf Swyddi Nghymru a fydd yn creu 4,000 o swyddi y flwyddyn am dair blynedd—roedd ei blaid am weld 1,000 o swyddi—a’r £30 miliwn sydd yn y cynllun Twf Sgiliau Cymru i gefnogi ymdrechion i greu 3,000 o swyddi dros y tair blynedd nesaf. Rydym yn Llywodraeth ddeinamig, yn hytrach na’n blaid sy’n gwneud dim, fel y blaid gyferbyn. [Chwerthin.] Rwyf yn edrych ar yr Aelodau gyferbyn ac yn pendroni a fyddai Cymru gyfan wedi mynd i gysgu pe byddem wedi bod mor ddeinameg â hwythau.

The Leader of the Welsh Liberal Democrats (Kirsty Williams): First Minister, would you agree that what is so depressing about the contents of Estyn’s report today is not only the fact that 40% of our children entering secondary schools with a reading age below that of their chronological age, but that, a year ago, Estyn said exactly the same? When do you expect your Government to make progress on this figure?

Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (Kirsty Williams): Brif Weinidog, a fyddech yn cytuno mai’r hyn sydd mor siomedig am gynnwys adroddiad Estyn heddiw yw nid yn unig y ffaith bod gan 40% o’n plant sy’n mynd i ysgolion uwchradd oedran darllen sy’n is na’u hoedran cronolegol, ond y ffaith bod Estyn wedi dweud yn union yr un peth flwyddyn yn ôl? Pa bryd rydych yn disgwyl i’ch Llywodraeth sicrhau cynnydd o ran y ffigur hwn?

The First Minister: As I have already mentioned, national numeracy and literacy programmes are being produced. You have sold yourselves somewhat short, if I may put it that way; the pupil deprivation grant will, in my view, assist in helping many of those pupils who have difficulty with reading to ensure that they reach the required standard.

Y Prif Weinidog: Fel y dywedais eisoes, mae rhaglenni rhifedd a llythrennedd cenedlaethol yn cael eu llunio. Nid ydych yn dangos digon o hyder, os caf ddweud hynny; bydd y grant amddifadedd disgyblion, yn fy marn i, yn cynorthwyo nifer o’r disgyblion hynny sy’n cael anhawster darllen er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon ofynnol.

Kirsty Williams: The grant will do that, and that is why the Welsh Liberal Democrats were so determined to achieve it in the budget. Turning to another aspect of the report, you and your Minister for education have made great play of this particular intervention, but the report says that senior managers in local authorities do not generally monitor the work of school improvement officers rigorously enough to ensure that they challenge all schools in a consistent way. Your Minister for education has made great play of the role of regional consortia in tackling these problems. However, is it not the case that these consortia will be made up of the same services that Estyn has today identified as not currently providing the improvement that we need? What makes you think that this rebadging exercise will attack the existing problem and be good enough?

Kirsty Williams: Bydd y grant yn gwneud hynny, a dyna pam roedd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru mor benderfynol o’i gynnwys yn y gyllideb. Gan droi at agwedd arall ar yr adroddiad, rydych chi a’ch Gweinidog dros addysg wedi rhoi pwyslais mawr ar yr ymyriad penodol hwn, ond mae’r adroddiad yn dweud nad yw uwch reolwyr awdurdodau lleol, yn gyffredinol, yn monitro gwaith swyddogion gwella ysgolion yn ddigon trylwyr i sicrhau eu bod yn herio pob ysgol mewn ffordd gyson. Mae eich Gweinidog addysg wedi rhoi pwyslais mawr ar rôl y consortia rhanbarthol wrth fynd i’r afael â’r problemau hyn. Fodd bynnag, onid yw hi’n wir y bydd y consortia yn cynnwys yr un gwasanaethau y mae Estyn wedi’u nodi heddiw nad ydynt ar hyn o bryd yn arwain at welliant sydd ei angen arnom? Beth sy’n gwneud i chi feddwl y bydd yr ymarfer ailenwi hwn yn ddigon da ac yn mynd i’r afael â’r broblem bresennol?

The First Minister: It is a reorganisation of the approach that is being taken. The reality is that the leader of the Welsh Liberal Democrats is guilty of failing to give the full picture regarding education in Wales, because the report also confirms that the foundation phase is a strength in the majority of schools, with boys and girls responding positively to stimulating activities and demonstrating that they are more independent, confident and creative. The Conservative Party opposed all of this, if you remember. Performance in four out of five primary schools and two out of three secondary schools inspected is mainly good. We have also seen encouraging developments in wellbeing, with nearly all saying that they feel safe in school. There needs to be improvement in some areas, but let us not suggest that somehow everything is difficult in terms of education in Wales.

Y Prif Weinidog: Rydym yn ymgymryd â’r dasg o ad-drefnu’r dull gweithredu. Y gwirionedd yw bod arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn euog o fethu â rhoi darlun llawn o’r sefyllfa addysg yng Nghymru. Mae’r adroddiad hefyd yn cadarnhau bod y cyfnod sylfaen yn gryfder yn y mwyafrif o ysgolion, gyda bechgyn a merched yn ymateb yn gadarnhaol i weithgareddau ysgogol, gan ddangos eu bod yn fwy annibynnol, hyderus a chreadigol. Byddwch yn cofio bod y Blaid Geidwadol wedi gwrthwynebu hyn i gyd. Roedd perfformiad mewn pedwar allan o bob pum ysgol gynradd a dwy allan o bob tair ysgol uwchradd a arolygwyd yn dda ar y cyfan. Rydym hefyd wedi gweld datblygiadau calonogol o ran lles, gyda bron pawb yn dweud eu bod yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol. Mae angen gweld gwelliant mewn rhai meysydd, ond ni ddylem awgrymu bod popeth yn anodd o ran addysg yng Nghymru.

Kirsty Williams: First Minister, this is serious. One in five children leaving primary school to enter secondary school cannot read and write properly; they have no hope of succeeding in secondary school because they cannot access the curriculum as they are unable to read and write. When I asked this question last year, you told me that everything was going to be okay because your Minister for education was about to make a speech. He made that speech, but where is the improvement? When hospitals fail, you tell the Chamber that it is the fault of the local health boards. When our schools fail, you try to blame it on the local authorities, the schools and the headteachers. You even tried to blame Ieuan Wyn Jones. You blame everybody but your Government. Another year has passed, and our children are still not succeeding. Will we be asking these questions the same time next year, or will we see an improvement?

Kirsty Williams: Brif Weinidog, mae hwn yn fater difrifol. Ni all un allan o bob pum plentyn sy’n gadael yr ysgol gynradd i fynd i’r ysgol uwchradd ddarllen nac ysgrifennu’n gywir; nid oes ganddynt unrhyw obaith o lwyddo yn yr ysgol uwchradd oherwydd ni allant fanteisio ar y cwricwlwm, gan nad ydynt yn gallu darllen nac ysgrifennu. Pan ofynnais y cwestiwn hwn y llynedd, dywedasoch wrthyf fod popeth yn mynd i fod yn iawn gan fod eich Gweinidog addysg ar fin gwneud araith. Gwnaeth y Gweinidog yr araith honno, ond ble mae’r gwelliant? Pan fydd ysbytai yn methu, rydych yn dweud wrth y Siambr mai bai’r byrddau iechyd lleol yw. Pan fydd ein hysgolion yn methu, byddwch yn ceisio beio awdurdodau lleol, ysgolion a phenaethiaid. Rydych hyd yn oed wedi ceisio rhoi’r bai ar Ieuan Wyn Jones. Rydych yn rhoi’r bai ar bawb ond eich Llywodraeth eich hun. Mae blwyddyn arall wedi mynd heibio, ac nid yw ein plant yn llwyddo. A fyddwn yn gofyn y cwestiynau hyn ar yr un adeg y flwyddyn nesaf, neu a fyddwn yn gweld gwelliant?

The First Minister: The difficulty with that argument is that if the leader of the Welsh Liberal Democrats is saying that it is too late by the time that children go to secondary schools, what is the point of the pupil deprivation grant? On that basis, she is arguing against her own policy. Bear in mind that the Minister has been proactive in identifying a 20-point plan. The national literacy programme will set out actions, and will explain how we intend to drive up standards and measure progress. Next year, I expect to see improvement.  

Y Prif Weinidog: Yr anhawster gyda’r ddadl honno yw, os yw arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn dweud ei bod yn rhy hwyr i ymyrryd pan fydd plant yn mynd i’r ysgol uwchradd, beth yw diben y grant amddifadedd disgyblion? Ar y sail honno, mae’n dadlau yn erbyn ei pholisi ei hun. Cofiwch fod y Gweinidog wedi bod yn rhagweithiol o ran nodi cynllun 20 pwynt. Bydd y rhaglen llythrennedd genedlaethol yn nodi camau gweithredu, a bydd yn egluro sut rydym yn bwriadu codi safonau a mesur cynnydd. Y flwyddyn nesaf, rwyf yn disgwyl gweld gwelliant.  

1.45 p.m.

The Leader of the Opposition (Andrew R.T. Davies): David Stevens, the co-founder of Admiral, said that the right strategy for economic development was to try to find 25 Admirals. Regrettably, we have been waiting and waiting just for one strategy on enterprise zones, on which we will have a statement this afternoon. Do you not think that the Welsh Government has been slow to act in attracting businesses to Wales?

Arweinydd yr Wrthblaid (Andrew R.T. Davies): Dywedodd David Stevens, cyd-sylfaenydd Admiral, mai’r strategaeth gywir ar gyfer datblygu economaidd oedd ceisio dod o hyd i 25 Admiral arall. Yn anffodus, rydym wedi bod yn aros ac yn aros am un strategaeth yn unig ar ardaloedd menter, a byddwn yn clywed datganiad amdanynt y prynhawn yma. Onid ydych yn meddwl y bu Llywodraeth Cymru yn araf wrth weithredu i ddenu busnesau i Gymru?

The First Minister: No, I do not. I have just given you examples of what has been done in order to stimulate the economy through the various projects that we have introduced.

Y Prif Weinidog: Nac ydw. Rwyf newydd roi enghreifftiau ichi o’r hyn sydd wedi cael ei wneud i ysgogi’r economi drwy’r gwahanol brosiectau rydym wedi’u cyflwyno.

Andrew R.T. Davies: It is a fact, First Minister, that statistics from StatsWales show that we have the second lowest business start-up rate in the entire United Kingdom. Regrettably, there has been year-on-year decline in start-ups in Wales. Is it not a fact that your Government has failed to engage with businesses to allow new businesses to start and flourish in Wales in order to create the employment opportunities that our young people desperately need?

Andrew R.T. Davies: Brif Weinidog, mae’n ffaith bod ystadegau o StatsCymru yn dangos bod gennym y gyfradd dechrau busnes ail isaf yn y DU gyfan. Yn anffodus, bu cwymp flwyddyn ar ôl blwyddyn yn nifer y busnesau a ddechreuwyd yng Nghymru. Onid yw’n ffaith bod eich Llywodraeth wedi methu ag ymgysylltu â busnesau i alluogi busnesau newydd i ddechrau ac i ffynnu yng Nghymru er mwyn creu cyfleoedd cyflogaeth y mae eu hangen yn ddirfawr ar ein pobl ifanc?

The First Minister: Not at all; we are fighting against the tide of indifference from the UK Government. We have put in place the youth engagement and employment action plan and Jobs Growth Wales, as well as schemes such as Skills Growth Wales and the small and medium-sized enterprise economic growth fund. All of these projects have been put in place to counteract the inaction that we see from London.

Y Prif Weinidog: Dim o gwbl; rydym yn ymladd yn erbyn y llanw o ddifaterwch a ddaw o Lywodraeth y DU. Rydym wedi rhoi cynllun gweithredu ymgysylltiad a chyflogaeth pobl ifanc ar waith a Twf Swyddi Cymru, yn ogystal â chynlluniau megis Sgiliau Twf Cymru a chronfa twf economaidd busnesau bach a chanolig. Mae pob un o’r prosiectau hyn wedi cael eu rhoi ar waith i weithio yn erbyn y diffyg gweithredu a welwn o Lundain.

Andrew R.T. Davies: You say inaction, First Minister, but over 0.5 million jobs have been created in the private sector. It is a fact that, in five of the last six years, start-up rates in Wales have gone backwards—figures up to 2010, not 2011. Start-up rates are now below what they were in 2002. I put it to you again, First Minister: is it not the case that your Government and Welsh Labour are unable to grasp the nettle of growing the private sector in Wales in order to increase the job opportunities that the country desperately needs to lift prosperity and attainment levels across our communities?

Andrew R.T. Davies: Rydych yn sôn am ddiffyg gweithredu, Brif Weinidog, ond mae dros 0.5 miliwn o swyddi wedi cael eu creu yn y sector preifat. Mae’n ffaith bod cyfraddau dechrau busnes wedi gostwng mewn pump o’r chwe blynedd diwethaf—ffigurau hyd at 2010 yw’r rheini, nid 2011. Mae’r cyfraddau hynny yn is nag yr oeddent yn 2002. Gofynnaf ichi eto, Brif Weinidog: onid yw’n wir nad yw eich Llywodraeth a Llafur Cymru yn gallu mynd i’r afael â thyfu’r sector preifat yng Nghymru, er mwyn cynyddu’r cyfleoedd am swyddi y mae eu hangen yn ddirfawr ar Gymru i godi lefelau ffyniant a chyrhaeddiad ar draws ein cymunedau?

The First Minister: If the Member could point to examples that his party is taking forward in London, I would love to see them. I have not seen a Government so intent on destroying jobs in the public and private sector in 20 years. You would swear, from listening to the party opposite, that jobs were being created by the thousand in the private sector; they are not. The party opposite wants to put people into poverty, introduce regional pay in order to entrench that poverty and ensure that people in Wales are denied the opportunity to get well-paid jobs. We will stand up for the people of Wales against the party opposite’s attempt to reduce the pay of nurses, doctors, teachers and police officers in Wales. We will stand against that and ensure that people in Wales have well-paid jobs, as opposed to the kinds of jobs that the Tories want them to have—low-paid jobs that will ensure that our economy stays in the position that they want to see it stay in. We will provide optimism; they will provide decline.

Y Prif Weinidog: Pe gallai’r Aelod gyfeirio at enghreifftiau y mae ei blaid yn bwrw ymlaen â hwy yn Llundain, byddwn yn falch iawn o’u gweld. Nid wyf wedi gweld Llywodraeth sydd mor benderfynol o ddinistrio swyddi yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat mewn 20 mlynedd. Byddech yn tyngu, o wrando ar y blaid gyferbyn, fod swyddi’n cael eu creu fesul mil yn y sector preifat; nid ydynt. Mae’r blaid gyferbyn eisiau rhoi pobl mewn tlodi, cyflwyno tâl rhanbarthol er mwyn gwreiddio’r tlodi hwnnw, a sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael eu hamddifadu o’r cyfle i gael swyddi sy’n talu’n dda. Byddwn yn sefyll cornel pobl Cymru yn erbyn ymgais y blaid gyferbyn i leihau cyflogau nyrsys, meddygon, athrawon a swyddogion yr heddlu yng Nghymru. Byddwn yn gwrthwynebu hynny ac yn sicrhau bod gan bobl yng Nghymru swyddi sy’n talu’n dda, yn hytrach na’r mathau o swyddi y mae’r Torïaid am iddynt eu cael—swyddi â chyflog isel a fydd yn sicrhau bod ein heconomi yn aros yn y sefyllfa y maent am i’r economi aros ynddi. Byddwn ni’n dod ag optimistiaeth; byddant hwy’n dod â dirywiad.

Blaenoriaethau

Priorities

3. Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer de ddwyrain Cymru yn 2012. OAQ(4)0334(FM)

3. Lynne Neagle: Will the First Minister outline the Welsh Government’s priorities for south-east Wales for 2012. OAQ(4)0334(FM)

The First Minister: They are to be found in the programme for government.

Y Prif Weinidog: Maent i’w cael yn y rhaglen lywodraethu.

Lynne Neagle: Were any reminder needed, the row over Stephen Hester’s bonus is a real demonstration of just how out of touch bankers are with the real world. Therefore, we should not, perhaps, be surprised that HSBC—the self-proclaimed world local bank—has decided to close its last branch in Blaenavon. It is a decision that has caused immense worry and anger among local people, and we know that it is part of a wider trend of bank closures in small towns and villages across Wales. Would you agree, First Minister, that it is disgraceful for banks to cut and run from communities in this way and that they should, instead, be looking at all options that could see services retained, including shared banking facilities and mobile services?

Lynne Neagle: Er nad oes angen eich atgoffa, mae’r ffrae ynghylch bonws Stephen Hester yn arwydd gwirioneddol o ba mor ddieithr yw’r byd go iawn i’r bancwyr. Felly, ni ddylem synnu efallai o weld bod banc HSBC—sy’n datgan mai banc lleol y byd yw—wedi penderfynu cau ei gangen olaf ym Mlaenafon. Mae’n benderfyniad sydd wedi peri pryder a dicter mawr ymhlith pobl leol, ac rydym yn gwybod bod hynny’n rhan o duedd ehangach o gau banciau mewn trefi a phentrefi bychain ledled Cymru. A fyddech yn cytuno, Brif Weinidog, ei bod yn warthus bod banciau yn troi eu cefnau ar gymunedau yn y ffordd hon ac y dylent, yn lle hynny, fod yn ystyried yr holl opsiynau a allai olygu bod gwasanaethau’n cael eu cadw, gan gynnwys cyfleusterau bancio a rennir a gwasanaethau symudol?

First Minister: Yes; there are serious questions to be asked about the provision of financial services in communities that lose their banks. We have seen this in other parts of Wales. I regret the decision by HSBC to close its branch in Blaenavon. You raise an important point: at a time when bankers are receiving bonuses in the millions of pounds, financial services are being denied to so many people across Wales and the UK. That is why, as a party, we have always said that it was wrong that a bonus of £1 million was going to be paid to Stephen Hester, while the party opposite wanted to give it to him. It is alright for the Tories: they think that it is right to give £1 million to those who already have money while cutting benefits for those who do not.

Y Prif Weinidog: Byddwn; mae angen gofyn cwestiynau pwysig am sut y darperir gwasanaethau ariannol mewn cymunedau sy’n colli eu banciau. Rydym wedi gweld hyn mewn rhannau eraill o Gymru. Rwyf yn gresynu wrth benderfyniad HSBC i gau ei gangen ym Mlaenafon. Rydych yn codi pwynt pwysig: ar adeg pan fo bancwyr yn cael bonysau gwerth miliynau o bunnoedd, gwrthodir gwasanaethau ariannol i gymaint o bobl ledled Cymru a’r DU. Dyna pam rydym ni fel plaid bob amser wedi dweud nad oedd yn iawn i fonws o £1 filiwn gael ei dalu i Stephen Hester, tra bo’r blaid gyferbyn yn dymuno ei roi iddo. Mae’n iawn i’r Torïaid: maent yn credu ei bod yn iawn rhoi £1 filiwn i’r rheini sydd eisoes ag arian, tra eu bod yn torri budd-daliadau ar gyfer y rhai nad oes ganddynt arian.

Mohammad Asghar: I asked the Minister for Finance and Leader of the House how the consequential for the Olympics would be spent across Wales and how the people of South Wales East would benefit. Her written reply was that the £8.9 million consequential has been added to reserves in the current year, as is normal practice, and that the Welsh Government would determine its views in line with its strategic priorities. First Minister, could you kindly clarify how these consequentials will directly benefit the residents of South Wales East during the upcoming 2012 Olympics, rather than just sitting in the Welsh Government reserves gathering dust?

Mohammad Asghar: Gofynnais i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ sut y byddai’r swm canlyniadol ar gyfer y Gemau Olympaidd yn cael ei wario ledled Cymru a sut y byddai pobl Dwyrain De Cymru yn elwa. Ei hateb ysgrifenedig oedd bod y swm canlyniadol, sef £8.9 miliwn, wedi ei ychwanegu at y cronfeydd wrth gefn yn y flwyddyn gyfredol, fel sy’n arferol, ac y byddai Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar ei barn yn unol â’i blaenoriaethau strategol. Brif Weinidog, a fyddech mor garedig ag egluro sut y bydd y symiau canlyniadol hyn o fudd uniongyrchol i drigolion Dwyrain De Cymru yn ystod Gemau Olympaidd 2012 sydd ar ddod, yn hytrach na bod y symiau hynny’n eistedd yng nghronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru yn casglu llwch?

The First Minister: I find it astonishing that, at a time when the Conservatives have cut funding to the Welsh Government by 7.5%, he says that this is money gathering dust. This money will be used for the benefit of the people of Wales in order to fill, in a small way, the gap that his party created.

Y Prif Weinidog: Ar adeg pan fo’r Ceidwadwyr wedi torri cyllid i Lywodraeth Cymru 7.5%, rwyf yn ei chael yn rhyfeddol ei fod ef yn dweud bod yr arian hwn yn casglu llwch. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio er budd pobl Cymru i wneud cyfraniad bach tuag at lenwi’r bwlch a greodd ei blaid ef.

Cynghorau Iechyd Cymuned

Community Health Councils

4. Lindsay Whittle: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith y cynghorau iechyd cymuned o ran monitro ansawdd gofal i gleifion mewn ysbytai yng Nghymru. OAQ(4)0329(FM)

4. Lindsay Whittle: Will the First Minister make a statement on the work of community health councils in monitoring the quality of patient care in hospitals in Wales. OAQ(4)0329(FM)

The First Minister: They have an important role. We recognise the valuable and important contribution that they make in the development of local health services.

Y Prif Weinidog: Mae ganddynt rôl bwysig. Rydym yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a phwysig y maent yn ei wneud at ddatblygu gwasanaethau iechyd lleol.

Lindsay Whittle: Thank you for your reply, First Minister. Since community health councils are expected to play this vital role in acting as advocates for patients and other service users, can we be assured that their budgets will be favourably reviewed, in view of the fact that their budgets were reduced at the time of the NHS reorganisation?

Lindsay Whittle: Diolch am eich ateb, Brif Weinidog. Gan y disgwylir i gynghorau iechyd cymuned chwarae’r rôl hanfodol hon o ran gweithredu fel eiriolwyr ar gyfer cleifion a defnyddwyr gwasanaeth eraill, a allwn fod yn sicr y bydd eu cyllidebau yn cael eu hadolygu yn ffafriol, yn wyneb y ffaith y gostyngwyd eu cyllidebau pan ad-drefnwyd y GIG?

The First Minister: We will look to provide community health councils with the appropriate budget, bearing in mind the financial cuts that we are seeing over the next three years.

Y Prif Weinidog: Byddwn yn ceisio darparu cynghorau iechyd cymuned gyda’r gyllideb briodol, gan gadw mewn cof y toriadau ariannol y byddwn yn eu gweld dros y tair blynedd nesaf.

Jenny Rathbone: Community health councils do excellent reports of visits to general practitioner surgeries. In what ways can community health councils enable patients to get appointments—whether they are out of hours, early in the morning or last thing at night—in line with our manifesto commitment?

Jenny Rathbone: Mae cynghorau iechyd cymuned yn llunio adroddiadau ardderchog ar ymweliadau â meddygfeydd. Ym mha ffyrdd y gall cynghorau iechyd cymuned alluogi cleifion i gael apwyntiadau—pa un ai a ydynt y tu allan i’r oriau arferol, yn gynnar yn y bore neu’n hwyr iawn yn y nos—yn unol â’n hymrwymiad maniffesto?

The First Minister: Community health councils now have the authority to include establishments such as GP practices as places where they can visit, and they are certainly able to represent the interests of patients by doing so. CHC members have undertaken visits, through what are called 'mystery shopper exercises’, GP access surveys and GP contract verification visits, which can help to improve the services that GPs provide to the general public.

Y Prif Weinidog: Mae gan gynghorau iechyd cymuned yr hawl erbyn hyn i ymweld â sefydliadau megis meddygfeydd, ac maent yn sicr yn gallu cynrychioli buddiannau cleifion drwy wneud hynny. Mae aelodau cynghorau iechyd cymuned wedi cynnal ymweliadau drwy gyfrwng yr hyn a elwir yn 'ymarferiadau’r cwsmer cudd’, arolygon ynghylch mynediad at feddygon, ac ymweliadau i wirio contractau meddygon, a all helpu i wella’r gwasanaethau y mae meddygon yn eu darparu i’r cyhoedd yn gyffredinol.

Darren Millar: My party has warmly welcomed the dignity spot checks that will be undertaken by Healthcare Inspectorate Wales in Welsh hospitals. What role do you see for community health councils in undertaking unannounced visits and checks in our hospitals, particularly with regard to the dignity in care issue and hospital cleanliness, which is, of course, at the forefront of people’s minds?

Darren Millar: Mae fy mhlaid wedi rhoi croeso cynnes i’r gwiriadau dirybudd ynghylch urddas a fydd yn cael eu cynnal gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ysbytai Cymru. Pa rôl a fydd gan gynghorau iechyd cymuned yn eich tyb chi o ran cynnal ymweliadau a gwiriadau dirybudd yn ein hysbytai, yn enwedig mewn perthynas ag urddas mewn gofal a glendid mewn ysbytai, sydd, wrth gwrs, yn flaenllaw ym meddyliau pobl?

The First Minister: It is important that community health councils are able to visit hospitals as often as possible to ensure that dignity is maintained, particularly, but not exclusively, for elderly patients, and to provide the public with the assurances that they need that hospitals are delivering the services that they expect.

Y Prif Weinidog: Mae’n bwysig bod cynghorau iechyd cymuned yn gallu ymweld ag ysbytai mor aml ag y bo modd er mwyn sicrhau bod urddas yn cael ei gynnal, yn enwedig ar gyfer cleifion oedrannus, ac i roi i’r cyhoedd y sicrwydd sydd ei angen arnynt fod ysbytai’n darparu’r gwasanaethau y maent yn disgwyl eu cael.

Camddefnyddio Sylweddau

Substance Misuse

5. Mark Isherwood: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru. OAQ(4)0339(FM)

5. Mark Isherwood: What action is the Welsh Government taking to tackle substance misuse in Wales. OAQ(4)0339(FM)

The First Minister: We continue to invest over £50 million to implement the actions within the 10-year substance misuse strategy for Wales.

Y Prif Weinidog: Rydym yn parhau i fuddsoddi dros £50 miliwn i weithredu’r camau yn y strategaeth camddefnyddio sylweddau 10 mlynedd i Gymru.

Mark Isherwood: A GP in north Wales running a substance misuse clinic told me that, if medication is taken as prescribed, the benefits of harm reduction can be huge, if it stops someone from dying or committing a crime, but added that we need a model with tight rules, provided on the basis of abstinence. How do you respond to the call by the Welsh Council on Alcohol and Other Drugs to move from a medical model to a recovery model? Instead of the state enabling substance misusers in their sickness, the goal is to provide ongoing psychosocial support and peer-based recovery with abstinence.

Mark Isherwood: Dywedodd meddyg teulu yng ngogledd Cymru sy’n rhedeg clinig camddefnyddio sylweddau wrthyf y gallai’r manteision o ran lleihau niwed fod yn enfawr os cymerir y feddyginiaeth fel y’i rhagnodwyd, os yw’n atal rhywun rhag marw neu gyflawni trosedd, ond ychwanegodd fod arnom angen model sydd â rheolau llym, wedi’i ddarparu ar sail ymatal. Sut rydych chi’n ymateb i alwad Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill i symud o gael model meddygol i gael model sy’n ymwneud ag adferiad? Yn hytrach na bod y wladwriaeth yn galluogi camddefnyddwyr sylweddau yn ystod eu salwch, y nod yw darparu cefnogaeth seicogymdeithasol barhaus ac adferiad sy’n seiliedig ar gyfoedion ac ymatal.

The First Minister: We are always keen to examine new methods of assisting people who are addicts of alcohol or other drugs. This is a matter that the Minister for Health and Social Services will keep under active consideration in order to examine the effectiveness of such an approach.

Y Prif Weinidog: Rydym bob amser yn awyddus i archwilio dulliau newydd o gynorthwyo pobl sy’n gaeth i alcohol neu gyffuriau eraill. Mae hwn yn fater y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i’w ystyried er mwyn archwilio effeithiolrwydd ymagwedd o’r fath.

Rebecca Evans: On the whole, alcohol consumption is declining, but these welcome figures might conceal serious and often overlooked problems in older people. How is the Welsh Government ensuring that people working with older people are able to identify alcohol dependency and offer appropriate help?

Rebecca Evans: Ar y cyfan, mae lefelau yfed alcohol wedi gostwng, ond er ein bod yn croesawu’r ffigurau hyn, gallant guddio problemau difrifol ymysg pobl hŷn, ac maent yn broblemau a anwybyddir yn aml. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pobl sy’n gweithio gyda phobl hŷn yn gallu adnabod achosion o ddibyniaeth ar alcohol a chynnig cymorth priodol?

The First Minister: Our 10-year substance misuse strategy commits to a clear national agenda for tackling and reducing the harm associated with alcohol misuse for the people of Wales, including older people.

Y Prif Weinidog: Mae ein strategaeth 10-mlynedd yn ymrwymo i agenda cenedlaethol ar gyfer mynd i’r afael â chamddefnyddio alcohol a lleihau’r niwed sy’n gysylltiedig â hynny, ar gyfer pobl Cymru, gan gynnwys pobl hŷn.

Dirwasgiad

Recession

6. Simon Thomas: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau na fydd Cymru yn dioddef dirwasgiad arall. OAQ(4)0327(FM)

6. Simon Thomas: What steps is the Welsh Government taking to ensure that Wales will not suffer another recession. OAQ(4)0327(FM)

Y Prif Weinidog: Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar helpu’r sector preifat i dyfu a chreu swyddi a ffyniant.

The First Minister: We continue our focus on helping the private sector to grow and create jobs and prosperity.

Simon Thomas: A fydd glynu wrth raglenni cyfalaf Llywodraeth San Steffan a’r toriadau o dan y Llywodraeth honno yn helpu Cymru i ddod allan o’r dirwasgiad ynteu’n ei chadw mewn dirwasgiad?

Simon Thomas: Will sticking to the Westminster Government’s capital programmes and cuts help Wales to come out of recession or keep Wales in recession?

Y Prif Weinidog: Byddant yn cadw Cymru mewn dirwasgiad. Dyna pam mae’n bwysig ein bod yn edrych ar ffynonellau eraill o arian cyfalaf—sef drwy gael pwerau benthyca yn y pen draw. Mae’r Llywodraeth yng Nghaerdydd a’r Llywodraeth yn Llundain yn ystyried hynny ar hyn o bryd.

The First Minister: It will keep Wales in recession. That is why it is important that we look at alternative sources of capital funding—by ultimately giving us borrowing powers. The Governments in Cardiff and London are currently considering this issue.

Julie Morgan: Would the First Minister agree that a successful sale of Peacocks would be a boost to us here in Wales? Would he also agree that a successful sale means keeping the head office, the three distribution centres and shops across Wales, including in the district shopping centres, such as Whitchurch in my constituency of Cardiff North?

Julie Morgan: A fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno y byddai gwerthu Peacocks yn llwyddiannus yn hwb i ni yma yng Nghymru? A fyddai hefyd yn cytuno y byddai gwerthu’r cwmni yn llwyddiannus yn golygu y gellid cadw’r pencadlys, y tri chanolfan ddosbarthu a’r siopau ledled Cymru, gan gynnwys y rheini yn y canolfannau siopa ardal, fel yr Eglwys Newydd yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd?

The First Minister: We very much regret the job losses seen in Peacocks, but we would like to see a resolution whereby the head office remains in Cardiff, the distribution centres are kept open and as many shops as possible are retained. Given the trading situation of Peacocks, I believe that that is realistic, but more work needs to be done in order for that to happen.

Y Prif Weinidog: Rydym yn gresynu’n fawr wrth y colli swyddi a welwyd yn Peacocks, ond byddem yn hoffi gweld datrysiad a fyddai’n golygu bod y pencadlys yn aros yng Nghaerdydd, bod y canolfannau dosbarthu yn cael eu cadw ar agor, a bod cynifer o siopau â phosibl yn cael eu cadw. O ystyried sefyllfa fasnachu Peacocks, credaf fod hynny’n realistig, ond mae angen gwneud mwy o waith fel bod hynny’n digwydd.

Paul Davies: Rwy’n falch bod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn gwneud datganiad ar ardaloedd menter yn ddiweddarach y prynhawn yma. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod astudiaeth a gyhoeddwyd ddoe yn dangos bod busnesau yn y gorllewin a’r gogledd yn ei chael yn fwy anodd i barhau. A all y Prif Weinidog gadarnhau bod ei Lywodraeth, a’r Gweinidog busnes yn benodol, wedi ystyried yr ardaloedd gwanaf o ran yr economi wrth benderfynu lle i sefydlu ardaloedd menter? Pa gamau penodol eraill mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi busnesau yn fy etholaeth i, ac, yn wir, yn y gorllewin?

Paul Davies: I am pleased that the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science is to make a statement on enterprise zones later on this afternoon. The First Minister will be aware that a study published yesterday shows that businesses in west and north Wales are finding it more difficult to survive. Can the First Minister confirm that his Government, and the Minister for business specifically, considered the weakest economic areas when deciding on where to locate enterprise zones? What other specific steps is the Government taking to support businesses in my constituency and, indeed, in west Wales?

Y Prif Weinidog: Rydym wedi ystyried hynny, ac rwy’n siŵr y bydd gan yr Aelod ddiddordeb yn y datganiad sydd i ddod.

The First Minister: We did consider that, and I am sure that the Member will be interested in hearing the upcoming statement.

Mick Antoniw: First Minister, in periods of recession, those on benefits spend most of their money in their local communities, which contributes to supporting local shops and so on. Therefore, recent talk about not only regional pay, but also regional caps and regional benefits, is of concern. Has there been any consultation with you from the UK Government regarding these proposals?

Mick Antoniw: Brif Weinidog, mewn cyfnodau o ddirwasgiad, mae’r rheini sydd ar fudd-daliadau yn gwario’r rhan fwyaf o’u harian yn eu cymunedau lleol, sy’n cyfrannu at gefnogi siopau lleol ac yn y blaen. Felly, mae trafodaethau diweddar ynghylch tâl rhanbarthol, a chapio rhanbarthol a budd-daliadau rhanbarthol, yn peri pryder. A yw Llywodraeth y DU wedi ymgynghori o gwbl â chi ynghylch y cynigion hyn?

The First Minister: No. We oppose regional pay, regional caps on benefits and regional benefits. That is clear.

Y Prif Weinidog: Nac ydyw. Rydym yn gwrthwynebu tâl rhanbarthol, capiau rhanbarthol ar fudd-daliadau a budd-daliadau rhanbarthol. Mae hynny’n glir.

Safonau Addysgol

Educational Standards

7. Nick Ramsay: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer codi safonau addysgol. OAQ(4)0330(FM)

7. Nick Ramsay: Will the First Minister make a statement on the Welsh Government’s policies for raising educational standards. OAQ(4)0330(FM)

The First Minister: These can be found in the Minister for Education and Skills’s statement of 2 February 2011, in which he set out a 20-point action plan to improve educational standards.

Y Prif Weinidog: Mae’r rhain i’w cael yn y datganiad a wnaeth y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar 2 Chwefror 2011, a nododd gynllun gweithredu 20 pwynt i wella safonau addysgol.

Nick Ramsay: We have heard already comments regarding today’s annual report by Estyn, which has highlighted the worrying statistic that 20% of pupils entering secondary schools have a reading level below that classed as functional literacy. In answer to previous questions, I heard little in the way of what your Government intends to do about that. I know that you have tried to blame other parties that might have been involved in coalition Governments in the past, but the fact is that it is the Labour Party that forms the minority Government in Wales, First Minister. What are you proposing to do to alter the course from the last 13 years of failure? [Interruption.]

Nick Ramsay: Rydym eisoes wedi clywed sylwadau am adroddiad blynyddol Estyn, a gyhoeddwyd heddiw, sydd wedi tynnu sylw at ystadegyn sy’n peri pryder, sef bod gan 20% o’r disgyblion sy’n mynd i ysgolion uwchradd lefel ddarllen is na’r lefel sy’n dynodi llythrennedd ymarferol. Yn yr atebion i gwestiynau blaenorol, ni chlywais lawer am yr hyn y mae eich Llywodraeth yn bwriadu ei wneud am hynny. Gwn eich bod wedi ceisio rhoi’r bai ar bleidiau eraill a allai fod wedi bod mewn llywodraethau clymblaid yn y gorffennol, ond y ffaith yw mai’r Blaid Lafur sy’n ffurfio’r Llywodraeth leiafrifol yng Nghymru, Brif Weinidog. Beth rydych yn bwriadu ei wneud i newid cyfeiriad o’r methiant a welwyd dros y 13 mlynedd diwethaf? [Torri ar draws.]

The First Minister: Clearly, the Member did not listen, and neither did the leader of the Welsh Liberal Democrats, judging by her off-mic comments. We have plans to deal with this issue. The national literacy programme is being developed. It is important that Estyn should produce reports such as this, in order for us to identify where there needs to be improvement. The Government accepts that, and that is what we plan to do. However, it is rich for the party opposite to start talking about improving education, when, by its own admission, it would have cut spending on education by 20%. With the greatest respect, you do not improve standards by removing money from those who need it the most.

Y Prif Weinidog: Yn amlwg, nid oedd yr Aelod yn gwrando, ac nid oedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ychwaith, a barnu yn ôl ei sylwadau pan oedd y meicroffon wedi’i ddiffodd. Mae gennym gynlluniau i ymdrin â’r mater hwn. Mae’r rhaglen lythrennedd genedlaethol yn cael ei datblygu. Mae’n bwysig bod Estyn yn llunio adroddiadau fel hyn, er mwyn inni nodi lle y mae angen gwella. Mae’r Llywodraeth yn derbyn hynny, a dyna rydym yn bwriadu ei wneud. Fodd bynnag, mae gan y blaid gyferbyn dipyn o wyneb i ddechrau siarad am wella addysg, o ystyried y byddai, yn ôl ei chyfaddefiad ei hun, wedi torri gwariant ar addysg 20%. Gyda’r parch mwyaf, ni fyddwch yn gwella safonau drwy dynnu arian oddi ar y rheini sydd ei angen fwyaf.

Christine Chapman:  First Minister, the September 2011 report of the task and finish group on equalities, presented to the Minister for education, linked, among other things, poor educational outcomes with disengagement from learning; there were other aspects as well. What action is the Welsh Government taking to address that?

Christine Chapman: Brif Weinidog, roedd adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar gydraddoldeb ym mis Medi 2011, a gyflwynwyd i’r Gweinidog dros addysg, yn cysylltu canlyniadau addysgol gwael—ymysg pethau eraill—ag ymddieithrio o ddysgu; roedd agweddau eraill hefyd. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â hynny?

The First Minister: Through the youth engagement and employment plan, we are looking at ways to ensure that young people are able to gain employment. We are looking at pupil tracking, to ensure that pupils have an accurate view of what they could achieve within a local authority. There is excellent practice in some areas. In Mountain Ash, for example, schools are working with parents and local communities to participate in their young people’s learning, which is strengthening the desire of young people to learn further.

Y Prif Weinidog: Drwy’r cynllun ymgysylltiad a chyflogaeth pobl ifanc rydym yn ystyried ffyrdd o sicrhau bod pobl ifanc yn gallu dod o hyd i waith. Rydym yn edrych ar ddilyn trywydd disgyblion, i sicrhau eu bod yn cael darlun cywir o’r hyn y gallent ei gyflawni o fewn awdurdod lleol. Ceir arfer rhagorol mewn rhai ardaloedd. Yn Aberpennar, er enghraifft, mae ysgolion yn gweithio gyda rhieni a chymunedau lleol er mwyn cyfranogi yn y broses o addysgu eu pobl ifanc, ac mae hynny’n cryfhau awydd pobl ifanc i ddysgu mwy.

2.00 p.m.

Alun Ffred Jones: Yn y drafodaeth y bore yma am adroddiad anghyfforddus Estyn ynghylch safonau darllen disgyblion, dywedodd un prifathro ysgol gynradd bod addewid wedi’i wneud flwyddyn yn ôl i gael prawf darllen cenedlaethol ond eu bod yn dal i aros amdano. Pam fod prifathrawon yn dal i aros, wedi blwyddyn, i gael prawf safonol cenedlaethol?

Alun Ffred Jones: In the discussion this morning of the uncomfortable Estyn report about reading levels among pupils, one primary school headteacher said that a pledge had been made a year ago to have a national reading test but that they were still waiting for it. Why are headteachers still waiting, after a year, to have a standard national test?

Y Prif Weinidog: Nid yw hynny’n golygu nad yw ysgolion yn gorfod canolbwyntio ar ddarllen. Nid wyf yn gweld bod hynny’n effeithio ar y gwaith y mae ysgolion yn gorfod ei wneud gyda phlant. Fel y dywedais, mae rhaglen yn cael ei datblygu ac fe fydd ar gael yn y dyfodol agos.

The First Minister: That does not mean that schools do not have to focus on reading. I do not see that that affects the work that schools have to do with children. As I said, a programme is being developed and it will be available in the near future.

The Record

Cyflogau Sector Cyhoeddus

Public Sector Pay

8. Leanne Wood: Pa drafodaethau diweddar y mae’r Prif Weinidog wedi’u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch lefelau cyflog y sector cyhoeddus yng Nghymru. OAQ(4)0333(FM)

8. Leanne Wood: What recent discussions has the First Minister had with the UK Government about public sector pay levels in Wales. OAQ(4)0333(FM)

The First Minister: I have written to the Prime Minister and the Chief Secretary to the Treasury regarding the UK Government’s proposal to introduce, as it put it, local market-facing pay in the public sector.

Y Prif Weinidog: Rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ynghylch cynnig Llywodraeth y DU i gyflwyno system tâl leol sy’n adlewyrchu’r farchnad, fel y’i hadwaenir, yn y sector cyhoeddus.

Leanne Wood: First Minister, we have seen a lot in the news over recent days about obscene levels of wages and bonus payments in the banking sector. There have also been some eyebrow-raising salaries and packages in the public sector. Sky-high salaries for chief executives and vice chancellors seem to rise year on year regardless of the recession. That has caused a lot of anger among many rank-and-file public workers whose pay and conditions are being squeezed. Will you agree to look at the upper level of wages within the public sector and consider supporting the introduction of a maximum wage so that the person at the top of an organisation would not be able to earn more than a certain ratio above that of the lowest paid worker in that organisation?

Leanne Wood: Brif Weinidog, rydym wedi gweld llawer yn y newyddion yn ystod y dyddiau diwethaf am y lefelau anllad o gyflogau a thaliadau bonws yn y sector bancio. Bu rhai cyflogau a phecynnau syfrdanol yn y sector cyhoeddus hefyd. Mae’n ymddangos bod cyflogau uchel dros ben ar gyfer prif weithredwyr ac is-gangellorion yn codi o flwyddyn i flwyddyn, er gwaethaf y dirwasgiad. Mae’r sefyllfa hon wedi achosi llawer o ddicter ymhlith llawer o weithwyr cyhoeddus cyffredin sydd wedi gweld eu cyflogau a’u hamodau’n dirywio. A wnewch gytuno i edrych ar y lefel uchaf o gyflogau sy’n bodoli yn y sector cyhoeddus ac i ystyried cefnogi cyflwyno uchafswm cyflog, a hynny er mwyn sicrhau nad yw’r person sydd ar frig y sefydliad yn gallu ennill mwy na chymhareb benodol yn uwch na’r hyn y mae’r gweithiwr sydd ar y cyflog isaf yn y sefydliad hwnnw yn ei ennill?

The First Minister: It is important that chief executives and those who are in positions of leadership in the public sector set a good example. It is not sustainable for those at the top to accept large pay increases while those who are more poorly paid have to accept a pay freeze or even a reduction. That is something that no public sector chief executive or head should be doing.

Y Prif Weinidog: Mae’n bwysig bod prif weithredwyr ac arweinwyr yn y sector cyhoeddus yn gosod esiampl dda. Nid yw’n sefyllfa gynaliadwy os yw’r rhai ar y brig yn derbyn codiadau cyflog mawr tra bod y rhai sy’n cael cyflogau is yn gorfod dioddef gweld eu cyflogau’n cael eu rhewi neu hyd yn oed yn cael eu gostwng. Ni ddylai unrhyw brif weithredwr neu bennaeth yn y sector cyhoeddus wneud hynny.

Mick Antoniw: First Minister, last week I asked a question about consultation on NHS pay reviews with regard to UK Government proposals for introducing regional pay in the NHS. Have there been any consultations in respect of the teaching sector, or any other public sector, with regard to similar policies for those sectors?

Mick Antoniw: Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf gofynnais gwestiwn am ymgynghori ar adolygu cyflogau’r GIG, mewn perthynas â chynigion Llywodraeth y DU i gyflwyno tâl rhanbarthol yn y GIG. A gafwyd unrhyw ymgynghori mewn perthynas â’r sector addysgu, neu unrhyw sector cyhoeddus arall, mewn perthynas â pholisïau tebyg ar gyfer y sectorau hynny?

The First Minister: No, there have not. There has been no consultation. This was something that was announced by the UK Government. We have very clearly expressed our view that we stand against any introduction of regional pay.

Y Prif Weinidog: Na, ni fu unrhyw ymgynghori. Mae’r cynnig hwn yn rhywbeth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU. Rydym wedi mynegi ein barn yn glir, sef ein bod yn gwrthwynebu cyflwyno unrhyw fath o gyflog rhanbarthol.

Paul Davies: Mae’r Prif Weinidog yn gwybod yn iawn nad oes penderfyniad wedi’i wneud eto o ran cyflogau rhanbarthol. Rwy’n gwybod beth yw barn y Prif Weinidog ar y mater hwn, ond mae’n eironig mai Llywodraeth Lafur blaenorol y Deyrnas Unedig a gyflwynodd cyflog rhanbarthol i mewn i’r gwasanaeth llys yn y lle cyntaf.

Paul Davies: The First Minister knows full well that no decision has been made yet as regards regional pay. I know what the First Minister’s view is on this matter, but, ironically, it was the previous UK Labour Government that introduced regional pay into the courts service in the first place.

Ta waeth am hynny, yn sgil yr adolygiad hwn, a fydd y Prif Weinidog yn ail-ystyried ei safbwynt o gofio bod y Blaid Lafur ym Mhrydain o blaid cyflogau rhanbarthol? A fydd y Prif Weinidog yn gwneud yn siŵr ei fod yn cymryd y cyfle i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fwydo i mewn i’r adolygiad hwn?

Notwithstanding that, following this review, will the First Minister reconsider his stance bearing in mind that the Labour Party in Britain is in favour of regional pay? Will the First Minister ensure that he takes the opportunity to work with the UK Government to feed into this review?

Y Prif Weinidog: Yn gyntaf, Llywodraeth Dorïaidd a Rhyddfrydol sydd yn rhedeg y Deyrnas Unedig yn awr, nid Llywodraeth Lafur. Roedd beirniadaeth o’r blaen bod rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb ar yr ochr hon, ac yr ydym yn gwneud hynny. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r Torïaid wneud yr un peth. Mae’n rhaid cofio hefyd ein bod yn erbyn unrhyw gyflogau rhanbarthol. Nid ydym erioed wedi cefnogi cyflogau rhanbarthol. Fel Llywodraeth, rydym hefyd yn erbyn taliadau rhanbarthol. Dywedaf yn blwmp ac yn blaen nid ydym yn credu y dylai pobl yng Nghymru gael eu talu llai na phobl yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Ai hynny yw barn y blaid Dorïaidd?

The First Minister: First, it is the Conservative and Liberal Democrat Government that is now running the UK, not a Labour Government. There was criticism previously that we have to take responsibility on this side, and we are doing that. However, the Tories have to do the same. It must also be borne in mind that we against any regional pay. We have never supported regional pay. As a Government, we are also against regional payments. I state clearly that we do not think that people in Wales should be paid less than people in the rest of the UK. Is that the view of the Conservative party?

Simon Thomas: First Minister, you were present at the Choose Life project in Llanelli when the leader of Carmarthenshire County Council, Meryl Gravell, made her now well-known comments that she would not have a problem with her 9,000 workers if only they worked hard. What did you do on that day to stand up for the public sector workers in Carmarthenshire? What is your party doing in coalition with a leader that has so little respect for public sector workers in west Wales?

Simon Thomas: Brif Weinidog, roeddech yn bresennol ym mhrosiect Dewiswch Fyw yn Llanelli pan wnaeth Meryl Gravell, arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, sylwadau—sydd bellach yn wybyddus—am y ffaith na fyddai ganddi broblem gyda’r 9,000 o weithwyr sydd ganddi pe byddent yn gweithio’n galed. Beth wnaethoch chi ar y diwrnod hwnnw i sefyll i fyny ar ran gweithwyr sector cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin? Beth mae eich plaid yn ei wneud mewn clymblaid gydag arweinydd sydd â chyn lleied o barch tuag at weithwyr sector cyhoeddus yng ngorllewin Cymru?

The First Minister: Our position is absolutely clear—I cannot speak for local authorities—and that is that we do not accept regional pay, regional benefits or a regional cap on benefits. I make that absolutely clear.

Y Prif Weinidog: Mae ein safbwynt yn hollol glir—ni allaf siarad ar ran awdurdodau lleol—sef, nad ydym yn derbyn cyflogau rhanbarthol, budd-daliadau rhanbarthol na rhoi cap rhanbarthol ar fudd-daliadau. Gwnaf y pwynt hwnnw’n hollol glir.

Rebecca Evans: The Royal College of Nursing has warned that a move that could see two nurses doing the same job, but with a wide disparity in their pay, could seriously short-change patients in some areas. No nurse enters the profession for the money, but all nurses are feeling the effects of the spiralling costs of living. First Minister, do you agree that the UK Government’s proposals would have a serious effect on nurse morale and affect our ability to recruit nurses with the right skills and experience to serve people in Wales?

Rebecca Evans: Mae Coleg Brenhinol y Nyrsys wedi rhybuddio y gallai newid i sefyllfa lle mae dwy nyrs yn gwneud yr un swydd, ond lle mae gwahaniaeth sylweddol yn eu cyflog, beri i gleifion mewn rhai ardaloedd gael cam difrifol. Nid yw unrhyw nyrs yn ymuno â’r proffesiwn oherwydd yr arian, ond mae pob nyrs yn teimlo effaith costau byw sy’n cynyddu. Brif Weinidog, a ydych yn cytuno y byddai cynigion Llywodraeth y DU yn cael effaith ddifrifol ar forâl nyrsys ac yn effeithio ar ein gallu i recriwtio nyrsys gyda’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i wasanaethu pobl yng Nghymru?

The First Minister: The proposals would lead to a situation in which a nurse in the university hospital in Cardiff would be paid less than a nurse in Frenchay in Bristol. The proposals would mean that a nurse working in Prince Charles Hospital in Merthyr would be paid less than a nurse working in the university hospital in Cardiff. That is madness. Under no circumstances would we as a Government accept such a situation. We believe that where people work hard, they deserve to be rewarded fairly. It is a shame that UK Government takes an alternative view.

Y Prif Weinidog: Byddai’r cynigion hynny yn arwain at sefyllfa lle byddai nyrs yn ysbyty’r brifysgol yng Nghaerdydd yn cael llai o gyflog na nyrs yn Frenchay ym Mryste. Byddai’r cynigion yn golygu y byddai nyrs sy’n gweithio yn Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr yn cael llai o gyflog na nyrs sy’n gweithio yn ysbyty’r brifysgol yng Nghaerdydd.  Mae hynny’n wallgof. Ni fyddwn, fel Llywodraeth, yn derbyn sefyllfa o’r fath o dan unrhyw amgylchiadau. Os yw pobl yn gweithio’n galed, credwn eu bod yn haeddu cael eu gwobrwyo’n deg. Mae’n drueni bod gan Lywodraeth y DU farn wahanol.

Safle Melin Bapur Trelái

Ely Paper Mill Site

9. Mark Drakeford: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu hen safle Melin Bapur Trelái yn etholaeth Gorllewin Caerdydd yn y dyfodol. OAQ(4)0341(FM)

9. Mark Drakeford: Will the First Minister make a statement on the future development of the former Ely Paper Mill site in the Cardiff West constituency. OAQ(4)0341(FM)

The First Minister: As I announced under the economic stimulus package in November, we will invest £6 million to facilitate remediation works to develop a housing scheme on the site.

Y Prif Weinidog: Fel y cyhoeddais ym mis Tachwedd, o dan y pecyn ysgogi economaidd, byddwn yn buddsoddi £6 miliwn i hwyluso gwaith adfer er mwyn datblygu cynllun tai ar y safle.

Mark Drakeford: I was grateful for a letter earlier this week from the Minister for enterprise confirming that dedicated pensioner accommodation was being actively considered for the Ely paper mill site. The nearby estates of Ely and Caerau in Cardiff West have well over 100 family houses currently occupied by single pensioners. They find it difficult to heat and maintain those properties. Do you agree that if we were to work carefully with that local community, there would be an opportunity both to provide more suitable accommodation for those pensioner households and to release substantial numbers of family houses back into the supply of affordable public rented accommodation in that part of Cardiff?

Mark Drakeford: Rwyf yn ddiolchgar am lythyr a gefais yn gynharach yr wythnos hon gan y Gweinidog menter, sy’n cadarnhau bod cynllun llety penodedig ar gyfer pensiynwyr yn cael ei ystyried o ddifrif ar gyfer safle melin bapur Trelái. Mae gan ystadau cyfagos Trelái a Chaerau yng Ngorllewin Caerdydd ymhell dros 100 o dai teuluol sydd â phensiynwyr sengl yn byw ynddynt ar hyn o bryd. Maent yn ei chael hi’n anodd gwresogi a chynnal yr eiddo hynny. Pe byddem yn gweithio’n ofalus gyda’r gymuned leol, a ydych yn cytuno y byddai gennym gyfle i ddarparu llety mwy addas ar gyfer y pensiynwyr hynny, ac i ryddhau nifer sylweddol o dai teuluol fel y gellir eu cynnwys yn y cyflenwad o lety rhent fforddiadwy cyhoeddus sydd ar gael yn y rhan honno o Gaerdydd?

The First Minister: Yes, I agree with the Member. It is important that there is an appropriate mix of housing on the site, and, in providing that mix, it will be important to look at the need for different provision for families of different sizes.

Y Prif Weinidog: Ydw, rwyf yn cytuno â’r Aelod. Mae’n bwysig bod cymysgedd briodol o dai ar y safle, ac, wrth ddarparu’r cymysgedd hwnnw, bydd yn bwysig ystyried yr angen am ddarpariaeth wahanol ar gyfer teuluoedd o wahanol feintiau.

Andrew R.T. Davies: First Minister, I have listened to you answer various questions today and, when sites such as the Ely paper mill become redundant, there is a displacement of workers who rely on the support of the state, in some instances, via the benefits system until they find jobs. Your party in London clearly wants a benefits cap, yet you are saying today that you do not want one. Are you impotent in the face of Labour in London and doing its bidding down here, leading to a disjointed message coming from you as First Minister of Wales?

Andrew R.T. Davies: Brif Weinidog, rwyf wedi gwrando ar eich atebion i gwestiynau amrywiol heddiw. Wrth i safleoedd fel safle melin bapur Elái beidio â chael eu defnyddio bellach, mae gweithwyr yn cael eu dadleoli ac yn dibynnu ar gefnogaeth y wladwriaeth, mewn rhai achosion, drwy’r system budd-daliadau hyd nes iddynt ddod o hyd i swyddi. Mae eich plaid yn Llundain yn amlwg am gael cap ar fudd-daliadau, ond rydych yn dweud heddiw nad ydych o blaid hyn. A ydych yn ddiymadferth wrth ymdrin â’r Blaid Lafur yn Llundain, ac a ydych yn gwneud gwaith y Blaid Lafur yn Llundain yma, ac felly’n cyfleu neges aneglur fel Prif Weinidog Cymru?

The First Minister: First of all, I do not see who has been displaced by the Ely paper mill; the place has been empty for a few years. I am not so sure that anyone is living on the old Wiggins Teape site. I listened with astonishment to what the leader of the opposition said. We have no problem at all with expressing a Welsh Labour view, and if that is a different view from that of UK Labour, so be it. That is the nature of devolution. When will the leader of the opposition say anything different from what he is told by David Cameron? We have waited for months and months, and all he does is sit there and parrot the same lines as the UK Government. When will he stand up for people in Wales when it comes to regional pay? When will he ensure that the people of Wales get a fair deal financially? Never. All he does is read out whatever he has been given by his masters in London.

Y Prif Weinidog: Yn gyntaf oll, ni wyddwn pwy sydd wedi cael ei ddadleoli gan felin bapur Trelái; bu’r lle yn wag am rai blynyddoedd. Nid wyf yn sicr bod unrhyw un yn byw ar hen safle Wiggins Teape. Gwrandawais â syndod i’r hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid. Nid oes gennym broblem o gwbl o ran mynegi barn Llafur Cymru, ac os yw’r farn honno’n wahanol i farn Llafur y DU, boed felly. Dyna natur datganoli. Pryd fydd arweinydd yr wrthblaid yn dweud unrhyw beth sy’n wahanol i’r hyn a ddywed wrtho gan David Cameron? Rydym wedi aros am fisoedd, a dyna’r oll y mae’n ei wneud yw eistedd yno ac ailadrodd geiriau Llywodraeth y DU. Pa bryd fydd arweinydd yr wrthblaid yn sefyll i fyny ar ran pobl Cymru ar y mater o dâl rhanbarthol? Pa bryd y bydd yn sicrhau bod pobl Cymru yn cael bargen deg yn ariannol? Byth. Dyna’r oll y mae’n ei wneud yw darllen beth bynnag y mae ei feistri yn Llundain yn ei roi iddo.

The Presiding Officer: Order. I remind Members that this is a question on the Ely paper mill site.

Y Llywydd: Trefn. Atgoffaf Aelodau mai cwestiwn ar safle melin bapur Trelái yw’r cwestiwn hwn.

Leanne Wood: I welcome the plans to renovate the site in question, which has, after all, been left derelict for more than 10 years. I also welcome the jobs and affordable housing that they will provide. What I take issue with is the limit of this Welsh Government’s ambition and scope with regards to capital projects. The economy of Wales is crying out for large-scale capital programmes to be brought forward in order to boost the struggling construction industry, which is an argument that Plaid Cymru put forward forcefully during the budget negotiations last year. First Minister, what is stopping your Government from offering this lifeline to small businesses?

Leanne Wood: Croesawaf y cynlluniau i adnewyddu’r safle o dan sylw. Wedi’r cyfan, mae’r safle hwn wedi’i adael i adfeilio am fwy na 10 mlynedd. Rwyf hefyd yn croesawu’r swyddi a’r tai fforddiadwy y bydd y cynlluniau hyn yn eu darparu. Serch hynny, anghytunaf â therfyn uchelgais a chwmpas Llywodraeth Cymru, o ran prosiectau cyfalaf. Mae gan economi Cymru angen dybryd am raglenni cyfalaf ar raddfa fawr er mwyn hybu’r diwydiant adeiladu, sy’n dioddef. Dyma’r ddadl a gyflwynwyd yn gadarn gan Blaid Cymru yn ystod trafodaethau’r gyllideb y llynedd. Brif Weinidog, beth sy’n atal eich Llywodraeth rhag cynnig yr achubiaeth hon i fusnesau bach?

The First Minister: Do I need to read out once again all the things that we have done in terms of boosting the economy in Wales, all the millions of pounds that have been invested and the different schemes that have been put in place? They were all designed to ensure that we create jobs in Wales. Where is Plaid Cymru? It has gone nowhere in terms of this debate. I have read some of the proposals coming from the party, and all they are is a half-hearted attempt to imitate us. One thing that we will not do is allow Wales to be dragged down to the level of the complete lack of ambition that Plaid Cymru displays.

Y Prif Weinidog: A oes angen imi ddarllen yn uchel unwaith eto yr holl bethau rydym wedi’u gwneud o ran hybu’r economi yng Nghymru, y miliynau o bunnoedd sydd wedi’u buddsoddi a’r cynlluniau gwahanol sydd wedi’u rhoi ar waith? Cafodd y cynlluniau hyn eu llunio er mwyn sicrhau ein bod yn creu swyddi yng Nghymru. Ble mae Plaid Cymru? Nid yw’r blaid wedi mynd i unman o ran y ddadl hon. Rwyf wedi darllen rhai o gynigion y blaid, a dyna’r oll yr ydynt yw ymgais gwan i’n dynwared. Un peth na fyddwn yn ei wneud yw caniatáu i Gymru gael ei llusgo i lawr i lefel y diffyg uchelgais llwyr sy’n cael ei ddangos gan Blaid Cymru.

The Record

Eluned Parrott: I welcome the development of the Ely paper mill site. It is a very exciting opportunity. It seems to me that it offers an opportunity not only with regard to your commitment to sustainability as a Government, but also in terms of tackling fuel poverty for those people on lower incomes who may live there. What will you do to ensure that developments on this scale can be exemplar projects in terms of sustainable development?

Eluned Parrott: Rwyf yn croesawu datblygiad safle melin bapur Trelái. Mae’n gyfle cyffrous iawn. Mae’n ymddangos imi fod y sefyllfa hon yn cynnig cyfle nid yn unig o ran ymrwymiad y Llywodraeth i gynaliadwyedd, ond hefyd o ran mynd i’r afael â phroblemau tlodi tanwydd y bobl hynny sy’n byw yno ac sydd ag incwm is. Beth fyddwch chi’n ei wneud i sicrhau y gall datblygiadau ar y raddfa hon fod yn brosiectau enghreifftiol o ran datblygu cynaliadwy?

The First Minister: That is something that we want to do. The homes on the site will be a mixture of different types, with some for sale and some for rent, and with different categories therein. Also, as part of the project, the missing link in the Ely trail cycle path, linking St Fagans with Cardiff bay, will be provided. The project will also provide high-quality public and private spaces.

Y Prif Weinidog: Mae hynny’n rhywbeth rydym am ei wneud. Bydd cymysgedd o wahanol fathau o gartrefi ar y safle: bydd rhai ar werth a rhai i’w rhentu, a bydd categorïau gwahanol o fewn y gyfundrefn hon. Hefyd, fel rhan o’r prosiect, bydd y ddolen goll yn llwybr beicio Elai, sef dolen a fydd yn cysylltu Sain Ffagan â Bae Caerdydd, yn cael ei darparu. Bydd y prosiect hefyd yn darparu mannau cyhoeddus a phreifat o safon uchel.

The Presiding Officer: Question 10, OAQ(4)0335(FM), has been withdrawn.

Y Llywydd: Tynnwyd cwestiwn 10, OAQ(4)0335(FM), yn ôl.

Blaenoriaethau Economaidd

Economic Priorities

11. Andrew R.T. Davies: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau economaidd ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru. OAQ(4)0338(FM)

11. Andrew R.T. Davies: Will the First Minister outline his economic priorities for the South Wales Central region. OAQ(4)0338(FM)

The First Minister: Yes, they are to be found in the programme for government.

Y Prif Weinidog: Gwnaf. Maent i’w gweld yn y rhaglen lywodraethu.

Andrew R.T. Davies: Thank you, First Minister; I have heard that answer before. I have asked you on several occasions about one of the key economic assets that we have in South Wales Central, namely Cardiff Airport, and the participation—or not, as the case may be—by your Government in trying to stimulate the use of that airport. Do you envisage the partnership that the Government would have as being a normal, collaborative one, such as you would have with other companies, or do you envisage taking a stake in the airport from an ownership point of view?

Andrew R.T. Davies: Diolch ichi, Brif Weinidog; rwyf wedi clywed yr ateb hwnnw o’r blaen. Rwyf wedi gofyn ichi ar sawl achlysur am un o’r asedau economaidd allweddol sydd gennym yng Nghanol De Cymru, sef Maes Awyr Caerdydd, ac am gyfranogiad—neu ddiffyg cyfranogiad—eich Llywodraeth o ran ceisio ysgogi defnydd o’r maes awyr. A ydych yn gweld y bartneriaeth a fyddai gan y Llywodraeth fel un arferol, cydweithredol, fel yr un y byddai gennych gyda chwmnïau eraill, neu a ydych yn rhagweld y byddwch yn cymryd siâr o berchnogaeth y maes awyr?

The First Minister: We want to ensure that the airport has owners that are dedicated to its future. We need to see demonstrations of that. The airport is important, and there will be further news regarding the airport in the course of this afternoon in the Chamber. There is a need for capital investment, and there are difficulties in providing that on occasion because of state aid rules, which might be circumvented under another model of ownership. However, I would also say that the devolution of the air passenger duty would help greatly in ensuring the future of the airport. We are in discussions with the UK Government with a view to looking to get that devolved in future.

Y Prif Weinidog: Rydym am sicrhau bod gan y maes awyr berchnogion sydd wedi ymrwymo i’w ddyfodol. Mae angen inni weld tystiolaeth o hynny. Mae’r maes awyr yn bwysig, a bydd rhagor o newyddion am y maes awyr yn cael ei gyhoeddi yn y Siambr y prynhawn yma. Mae angen buddsoddi cyfalaf, a cheir anawsterau o ran darparu hynny ar adegau oherwydd rheolau cymorth gwladwriaethol. Mae’n bosibl y gellir osgoi’r sefyllfa hon o dan fodel arall o berchnogaeth. Fodd bynnag, byddwn hefyd yn dweud y byddai datganoli’r doll teithwyr awyr yn gymorth mawr o ran sicrhau dyfodol y maes awyr. Rydym wrthi’n trafod y mater â Llywodraeth y DU, gyda’r bwriad o ddatganoli’r pŵer hwnnw yn y dyfodol.

Leanne Wood: First Minister, today marks the deadline for final bids to be submitted for potential buyers for Peacocks. For those lucky enough still to have employment with the company, it seems that the period of uncertainty that has hung over Peacocks employees for some time now is set to continue until reassurances are given about their future and the future of the business. You said earlier that you favour keeping the distribution centre in Wales and keeping open as many of the shops as possible. What representations have been made to the UK Government with regard to safeguarding these important jobs and with regard to keeping the headquarters in Wales? Also, can you let us know whether any representations have been made to the lenders, which have pulled the plug on this company?

Leanne Wood: Brif Weinidog, heddiw yw’r dyddiad cau i brynwyr posibl gyflwyno eu ceisiadau terfynol ar gyfer prynu Peacocks. O ran y rhai sy’n ddigon lwcus i barhau i fod mewn cyflogaeth gyda’r cwmni, mae’n ymddangos bod y cyfnod hwn o ansicrwydd sydd wedi bod yn gwmwl dros weithwyr Peacocks ers peth amser bellach yn debygol o barhau, hyd nes y rhoddir sicrwydd iddynt am eu dyfodol ac am ddyfodol y busnes. Dywedasoch eisoes eich bod yn ffafrio cadw’r ganolfan ddosbarthu yng Nghymru ar agor, yn ogystal â chymaint o siopau ag y bo modd. Pa sylwadau a wnaed gan Lywodraeth y DU o ran diogelu’r swyddi pwysig hyn, ac mewn perthynas â chadw’r pencadlys yng Nghymru? Hefyd, a allwch roi gwybod inni a wnaed unrhyw sylwadau i’r benthycwyr, sydd wedi rhoi terfyn ar y cwmni?

 

The First Minister: Representations have been made to the lenders. The UK Government has no more of a role than we do in this regard. Support for retail is very limited because of state aid rules, and it can be very difficult to provide the same level of support that is provided for other areas of the economy. Nevertheless, officials have been in constant contact with lenders and those at Peacocks to ensure a future for the company in Wales.

Y Prif Weinidog: Gwnaed sylwadau eisoes i’r benthycwyr. Nid oes gan Lywodraeth y DU fwy o rôl na Llywodraeth Cymru yn hynny o beth. Mae cymorth ar gyfer y sector manwerthu yn gyfyngedig iawn oherwydd rheolau cymorth gwladwriaethol, a gall fod yn anodd iawn darparu’r un lefel o gefnogaeth â honno a ddarperir ar gyfer rhannau eraill o’r economi. Serch hynny, bu swyddogion yn cysylltu’n rheolaidd â benthycwyr a chynrychiolwyr Peacocks er mwyn sicrhau dyfodol i’r cwmni yng Nghymru.

Polisi Cynllunio Mwynau

Mineral Planning Policy

12. Bethan Jenkins: A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i adolygu a diwygio ei chanllawiau ar y Polisi Cynllunio Mwynau. OAQ(4)0328(FM)

12. Bethan Jenkins: Does the Welsh Government have any plans to review and revise its Mineral Planning Policy guidance. OAQ(4)0328(FM)

Y Prif Weinidog: Mae polisi cynllunio’n cael ei adolygu’n gyson. Ar hyn o bryd, nid oes cynlluniau i adolygu’r canllawiau ar y polisi cynllunio mwynau.

The First Minister: Planning policy is consistently kept under review. At present, there are no plans to revise minerals planning policy guidance.

Bethan Jenkins: Nodais eich ateb yr wythnos diwethaf i fy nghyd-Aelod Simon Thomas. Roedd yr hyn a ddywedwch yn canolbwyntio ar y ffaith bod y Llywodraeth wedi ysgrifennu canllawiau o ran y nodyn cyngor technegol mwynau ar glo, ac mai penderfyniad yr awdurdodau lleol yw cynllunio i roi’r MTAN ar waith neu beidio, sef y parth clustogi o 500m. O feddwl bod cyfreithwyr yn fy ardal i yn edrych i ehangu ar lo brig yng Nghwmllynfell, Margam a Mynyddcynffig, ac ad-drefnu’r system gynllunio, pa arweinyddiaeth y gallwch ei rhoi fel Prif Weinidog i sicrhau na fydd hyn yn digwydd?

Bethan Jenkins: I noted your response last week to my fellow Assembly Member Simon Thomas. What you said concentrated on the fact that the Government has written guidance in relation to the mineral technical advice note on coal, and that it is a decision for local authorities to plan to implement or not, that MTAN, that is, the 500m buffer zone. Bearing in mind that solicitors in my area are looking to expand open-cast mining in Cwmllynfell, Margam and Kenfig Hill, and to reorganise the planning system, what guidance can you give as First Minister to ensure that this does not happen?

Y Prif Weinidog: Ni allaf roi barn ynghylch cais unigol. Fodd bynnag, rwyf wedi bod yn rhan o’r ymgyrch ynghylch Mynyddcynffig a Pharc Slip am flynyddoedd mawr. Mae’n bwysig dros ben bod gennym bolisi yn ei le sy’n gwarchod cymunedau, ac mae’r parth clustogi’n rhywbeth a gefnogwyd gan eich plaid chi hefyd ar y pryd. Mae’n bolisi sy’n bwysig dros ben i sicrhau bod balans yn cael ei sicrhau rhwng gweithio glo a chymunedau.

The First Minister: I cannot give an opinion on an individual application. However, I have been part of the campaign in relation to Kenfig Hill and Parc Slip for many years. It is very important that we have a policy in place that protects communities, and the buffer zone is something that was supported by your party, too, at the time. It is an exceptionally important policy to ensure that a balance is struck between coal working and communities.

2.15 p.m.

Gwasanaeth Fferi rhwng Abertawe a Cork

Swansea to Cork Ferry Service

13. Mike Hedges: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau y mae wedi’u cael ynghylch y gwasanaeth fferi rhwng Abertawe a Cork. OAQ(4)0331(FM)

13. Mike Hedges: Will the First Minister make a statement on any discussions he has had regarding the Swansea to Cork ferry service. OAQ(4)0331(FM)

The First Minister: Officials have been working with the business since last September, and they have been in discussion with Irish Government officials to find a way to secure the future of the service.

Y Prif Weinidog: Mae swyddogion wedi bod yn gweithio gyda’r busnes ers mis Medi diwethaf, ac maent wedi bod yn trafod â swyddogion Llywodraeth Iwerddon er mwyn dod o hyd i ffordd o sicrhau dyfodol y gwasanaeth.

Mike Hedges: You will know, as someone who also represents a part of south-west Wales, of the importance of tourism to the area, and the importance of getting people back and forth to Ireland, and the Cork to Swansea ferry plays a major part in that. It is important for our economic recovery that it continues to run. Will you do everything in your power to ensure that the Swansea to Cork ferry continues?

Mike Hedges: Fel rhywun sydd hefyd yn cynrychioli rhan o dde-orllewin Cymru, byddwch chithau’n gwybod am bwysigrwydd twristiaeth i’r ardal, a phwysigrwydd cludo pobl yn ôl ac ymlaen i Iwerddon. Mae’r fferi rhwng Cork ac Abertawe yn chwarae rhan bwysig iawn yn hynny. Mae’n bwysig i’n hadferiad economaidd ei bod yn parhau. A fyddwch yn gwneud popeth yn eich gallu i sicrhau bod y fferi rhwng Abertawe a Cork yn parhau?

The First Minister: Yes, we will look to see what we can do. It is important, of course, that the ferry service is viable commercially, and the fact that it lasted for two years and then ended is not good news in that regard. Nevertheless, we will continue to work with authorities in Ireland to see whether a future can be secured for the service.

Y Prif Weinidog: Byddwn yn ystyried yr hyn y gallwn ei wneud. Mae’n bwysig, wrth gwrs, fod y gwasanaeth fferi yn hyfyw yn fasnachol, ac nid yw’r ffaith ei fod wedi para am ddwy flynedd ac yna wedi dod i ben yn newyddion da yn hynny o beth. Serch hynny, byddwn yn parhau i weithio gyda’r awdurdodau yn Iwerddon i weld a ellir sicrhau dyfodol i’r gwasanaeth.

Byron Davies: Following on from your answer to Mike Hedges, given the support that the air link from north to south Wales receives from your Government, does this important service from South Wales West to Ireland not deserve similar investment?

Byron Davies: Yn dilyn eich ateb i Mike Hedges, o ystyried y cymorth y mae’r cyswllt awyr rhwng y gogledd a’r de yn ei gael gan eich Llywodraeth, onid yw’r gwasanaeth pwysig hwn o Orllewin De Cymru i Iwerddon hefyd yn haeddu buddsoddiad tebyg?

The First Minister: If you are talking about revenue funding, we cannot do that, clearly. I suspect that your colleague in front of you would throw something at you if you suggested that the Swansea-Cork service should be funded and the Fishguard-Rosslare service should not. From our point of view, we need to see whether there are ways of investing in the service in order to make it commercially viable, but we cannot subsidise the service on a revenue basis.

Y Prif Weinidog: Os ydych yn sôn am arian refeniw, ni allwn wneud hynny, yn amlwg. Rwy’n amau y byddai eich cyd-Aelod sydd o’ch blaen yn taflu rhywbeth atoch pe baech yn awgrymu y dylai’r gwasanaeth o Abertawe i Cork gael ei ariannu ac nid y gwasanaeth o Abergwaun i Rosslare. O’n safbwynt ni, mae angen inni weld a oes ffyrdd o fuddsoddi yn y gwasanaeth er mwyn ei wneud yn ymarferol yn fasnachol, ond ni allwn noddi’r gwasanaeth ar sail refeniw.

Bethan Jenkins: I am sure that you are aware that representatives of Fastnet Line made presentations yesterday to Cork County Council and Cork City Council to attempt to secure some of the €500,000 it is believed to require to continue running the Swansea-Cork route. Noel Murphy, the chairman of the West Cork Tourism Co-operative Society Ltd, which owns Fastnet, has claimed that an end to the service could mean the loss of some 60,000 tourists to the Munster region as well as €30 million to the local economy. Have you done any sort of scoping exercise as to how much the Welsh economy could lose if this particular service no longer goes ahead?

Bethan Jenkins: Rwy’n siŵr eich bod yn gwybod bod cynrychiolwyr Fastnet Line wedi gwneud cyflwyniadau ddoe i gyngor sir Cork a chyngor dinas Cork i geisio sicrhau rhywfaint o’r €500,000 y credir bod ei angen arno i barhau i redeg y llwybr rhwng Abertawe a Cork. Mae Noel Murphy, cadeirydd West Cork Tourism Co-operative Society Cyf, sy’n berchen ar Fastnet, wedi honni y gallai rhoi terfyn ar y gwasanaeth olygu y byddai rhanbarth Munster yn colli oddeutu 60,000 o dwristiaid , yn ogystal â cholli €30 miliwn o’r economi leol. A ydych wedi cynnal unrhyw fath o ymarfer cwmpasu i ganfod faint y gallai economi Cymru ei golli os na fydd y gwasanaeth penodol hwn yn mynd yn ei flaen?

The First Minister: I have to say that our understanding is that more than €500,000 would now be required to secure the service. The figure has increased over the last few days, which again gives us cause for concern, because it is important that we understand that the service is viable and that the figures are robust. We continue to work with the company and with the authorities in Ireland to ensure that that is the case.

Y Prif Weinidog: Mae’n rhaid imi ddweud, yn ôl a ddeallwn, y byddai angen mwy na €500,000 erbyn hyn i sicrhau’r gwasanaeth. Mae’r ffigur wedi cynyddu dros y dyddiau diwethaf, aac mae hynny’n peri pryder inni eto, gan ei bod yn bwysig ein bod yn deall bod y gwasanaeth yn hyfyw a bod y ffigurau’n gadarn. Rydym yn parhau i weithio gyda’r cwmni a chyda’r awdurdodau yn Iwerddon er mwyn sicrhau bod hynny’n digwydd.

Peter Black: I accept that your Government wants to do everything possible to maintain this ferry service, which brings millions of pounds into the Swansea area and to west Wales as a result of tourists and other people disembarking from it. What sort of detailed engagement have the Government and your officials had with the company itself, and with the relevant courts and authorities in Ireland, in terms of finding a solution not only in terms of establishing the viability of this company, but also re-establishing this service in the near future?

Peter Black: Rwy’n derbyn bod eich Llywodraeth yn awyddus i wneud popeth o fewn ei gallu i gynnal y gwasanaeth fferi hwn, sy’n dod â miliynau o bunnau i ardal Abertawe ac i’r gorllewin, o ganlyniad i’r twristiaid a’r bobl eraill sy’n dod oddi arni. Pa fath o gyswllt manwl y mae’r Llywodraeth a’ch swyddogion wedi ei gynnal â’r cwmni, y llysoedd a’r awdurdodau perthnasol yn Iwerddon i ddod o hyd i ateb, nid yn unig o ran sefydlu hyfywedd y cwmni hwn, ond hefyd ailsefydlu’r gwasanaeth hwn yn y dyfodol agos?

The First Minister: There have been substantial discussions between officials on both sides of the Irish sea. There have been communications with the examiner, as the administrator is known in the Republic of Ireland, and indeed there have been discussions between representatives of the company and the Welsh Government. These are all issues that are being looked at in some detail.

Y Prif Weinidog: Mae trafodaethau sylweddol wedi cael eu cynnal rhwng swyddogion ar y ddwy ochr i fôr Iwerddon. Bu cyfathrebu â’r archwiliwr, fel yr adwaenir y gweinyddwr yng Ngweriniaeth Iwerddon, ac yn wir cafwyd trafodaethau rhwng cynrychiolwyr y cwmni a Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain i gyd yn faterion sy’n cael eu hystyried yn fanwl.

Targedau Ailgylchu

Recycling Targets

14. Vaughan Gething: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch a yw targedau ailgylchu a bennwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cyrraedd ai peidio. OAQ(4)0336(FM)

14. Vaughan Gething: Will the First Minister make a statement on whether recycling targets set by the Welsh Government are being met. OAQ(4)0336(FM)

The First Minister: Most local authorities in Wales are on course to meet the first statutory recovery target of 52% in 2012-13.

Y Prif Weinidog: Mae’r mwyafrif o awdurdodau lleol yng Nghymru ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed adennill statudol cyntaf, sef ailgylchu 52% yn 2012-13.

Vaughan Gething: Thank you for that response, First Minister. Recently I have been contacted by a range of constituents about a visible mountain of green recycling bags left outside the Lamby Way site in Rumney in my constituency. Apart from those visible on the site, there are several hundred other tonnes that have been collected over the Christmas period and have been outside for over three weeks, and have spoiled, and are no longer fit to be processed properly. A number of those will actually be returned to landfill. Could you confirm how those recycling targets are currently met? Is it just a matter of collection, and if so, would you consider a secondary target for the amount of recycling that is processed, so that this sort of incompetence is not missed by the general public in the future?

Vaughan Gething: Diolch am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Yn ddiweddar, mae amryw o etholwyr wedi cysylltu â mi ynghylch mynydd o fagiau ailgylchu gwyrdd sydd wedi cael eu gadael y tu allan i safle Lamby Way yn Nhredelerch, yn fy etholaeth. Ar wahân i’r rhai a welir ar y safle, mae cannoedd o dunelli eraill o fagiau sydd wedi cael eu casglu dros y Nadolig ac sydd wedi bod y tu allan am dros dair wythnos, ac wedi difetha, ac nid ydynt bellach yn addas i gael eu prosesu’n iawn. Yn wir, bydd nifer o’r rheini yn cael eu dychwelyd i safleoedd tirlenwi. A allech gadarnhau sut y mae’r targedau ailgylchu hynny’n cael eu cyrraedd ar hyn o bryd? A yw’n ymwneud â chasglu yn unig, ac os felly, a fyddech yn ystyried pennu targed eilaidd ar gyfer faint o wastraff ailgylchu sy’n cael ei brosesu, fel na fydd y cyhoedd yn methu â gweld blerwch fel hyn y dyfodol?

The First Minister: Any material that is deposited in the Lamby Way landfill site rather than being separated and sent on for recycling will not count towards Cardiff Council’s recycling target.

Y Prif Weinidog: Ni fydd unrhyw wastraff sy’n cael ei adael yn safle tirlenwi Lamby Way yn hytrach na chael ei wahanu a’i anfon ymlaen i’w ailgylchu yn cyfrif tuag at darged ailgylchu Cyngor Caerdydd.

Russell George: First Minister, I note your answer that most local authorities are on target and are moving in the right direction with regard to their recycling targets. However, Powys County Council, for example, is one authority that has not progressed and whose performance has stalled. As sustainable development is supposed to be the central organising principle of your Government, how does the Welsh Government plan to further enable local authorities like Powys County Council to push beyond their current ceilings to achieve the Government’s target of 70% by 2025?

Russell George: Brif Weinidog, rwy’n nodi eich ateb bod y mwyafrif o awdurdodau lleol ar y trywydd iawn ac yn symud i’r cyfeiriad iawn o ran eu targedau ailgylchu. Fodd bynnag, mae Cyngor Sir Powys, er enghraifft, yn un o’r awdurdodau nad ydynt wedi symud ymlaen, ac mae ei berfformiad wedi arafu. Gan mai datblygu cynaliadwy a ddylai fod yn brif egwyddor drefniadol eich Llywodraeth, sut y mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu galluogi awdurdodau lleol fel Cyngor Sir Powys i fynd y tu hwnt i’w lefelau uchaf ar hyn o bryd a chyrraedd targed y Llywodraeth, sef ailgylchu 70% erbyn 2025?

The First Minister: We are working with these authorities through the collaborative change programme to help them to improve.

Y Prif Weinidog: Rydym yn gweithio gyda’r awdurdodau hyn drwy’r rhaglen newid gydweithredol er mwyn eu helpu i wella.

Rhwydwaith y Grid Cenedlaethol

National Grid Network

15. Aled Roberts: Pa argymhellion a wnaethpwyd gan Lywodraeth Cymru i’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd ynglŷn â gwella Rhwydwaith y Grid Cenedlaethol ledled gogledd Cymru. OAQ(4)0340(FM)

15. Aled Roberts: What recommendations did the Welsh Government make to the Energy and Climate Change Department regarding improving the National Grid Network throughout north Wales. OAQ(4)0340(FM)

Y Prif Weinidog: Mae’r Llywodraeth yn cynnal trafodaethau rheolaidd gyda’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd ar faterion sy’n ymwneud ag ynni a chysylltiadau grid.

The First Minister: The Government has regular discussions with the Department of Energy and Climate Change on matters relating to energy and grid connections.

Aled Roberts: Fel rhan o’r trafodaethau rhwng Llywodraeth yr Alban a’r adran, darparwyd adroddiad i’r Llywodraeth ynglŷn â’r gwahanol dechnolegau sydd ar gael. A yw’r gwaith hwnnw wedi cael ei wneud yng Nghymru, o ystyried yr holl drafferth a gafwyd yn sir Drefaldwyn haf diwethaf?

Aled Roberts: As part of the discussions between the Scottish Government and the department, a report was provided to the Government detailing the different technologies available. Has that work been done in Wales, bearing in mind the difficulties experienced in Montgomeryshire last summer?

Y Prif Weinidog: Wrth sôn am dechnoleg newydd, credaf eich bod yn sôn am y pyst siâp T, sef y pyst newydd fydd yn cael eu defnyddio yn y dyfodol i gludo trydan. Rydym am sicrhau bydd y pyst hynny’n cael eu defnyddio yng Nghymru, lle mae hynny’n berthnasol, yn lle’r peilonau mawr.

The First Minister: I assume that, when you refer to new technology, you are talking about T-pylons, namely the new posts that will be used in future to transport electricity. We are keen to ensure that those posts are used in Wales, where possible, instead of the large pylons.

Antoinette Sandbach: First Minister, many people in rural communities are understandably concerned at the ability of the Welsh Labour Government to protect their interests during the planned upgrades to the electricity grid, particularly given that there is no record of Wales advocating the need to place underground new high-voltage cables either in the minutes of the energy network strategy group meetings or the previous One Wales Government’s submission to Ofgem’s Project Transmit consultation, which was sent more than two weeks after the consultation had closed. Will you outline what steps you and your Government will take to support the placement of these cables underground and offshore during the National Grid’s forthcoming consultation on additional capacity in north Wales?

Antoinette Sandbach: Brif Weinidog, mae llawer o bobl mewn cymunedau gwledig yn pryderu am allu Llywodraeth Llafur Cymru i ddiogelu eu buddiannau yn ystod y gwaith arfaethedig o uwchraddio’r grid trydan, yn enwedig o ystyried nad oes dim cofnod bod Cymru wedi argymell bod angen gosod ceblau foltedd uchel newydd o dan y ddaear naill ai yng nghofnodion cyfarfodydd grŵp strategaeth y rhwydwaith ynni nac yn y ddogfen a gyflwynodd Llywodraeth flaenorol Cymru’n Un i ymgynghoriad Ofgem ar brosiect Transmit, a anfonwyd fwy na phythefnos ar ôl i’r ymgynghoriad gau. A wnewch amlinellu pa gamau y byddwch chi a’ch Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi lleoli’r ceblau hynny o dan y ddaear ac oddi ar yr arfordir yn yr ymgynghoriad sydd ar y gweill gan y Grid Cenedlaethol ynghylch capasiti ychwanegol yng ngogledd Cymru?

The First Minister: The new generation capability in nuclear and offshore wind energy will mean that an upgrade of the network is necessary. It is important that National Grid looks to carry the electricity in a way that is as environmentally friendly as possible, but also cost-effective.

Y Prif Weinidog: Bydd y genhedlaeth newydd o allu o ran ynni niwclear ac ynni gwynt ar y môr yn golygu y bydd angen uwchraddio’r rhwydwaith. Mae’n bwysig bod y Grid Cenedlaethol yn ceisio cludo’r trydan mewn modd sydd mor eco-gyfeillgar â phosibl, ond sydd hefyd yn gosteffeithiol.

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Un o’r opsiynau mwyaf cynhyrfus sy’n cael ei ystyried yw cysylltu gogledd Cymru—yn arbennig yr Wylfa yr ydym yn gobeithio bydd yn safle i’r datblygiad niwclear newydd gan Horizon—â de-orllewin Cymru a Phenfro. Rwy’n sicr bod buddsoddiad ymchwil wedi ei wneud yn y prosiect hwn, ond a fyddai’r Prif Weinidog yn datgan yma heddiw ei gefnogaeth i’r hyn a fyddai, mewn gwirionedd, yn creu grid cenedlaethol i Gymru?

Lord Elis-Thomas: One of the most exciting options being considered is to connect north Wales—particularly Wylfa, which we hope will be the site of a new nuclear development by Horizon—to south-west Wales and Pembrokeshire. I am certain that there has been research investment in this project, but would the First Minister declare his support here today for something that would, in effect, create a national grid for Wales?

Y Prif Weinidog: Mae cryfhau’r grid yn bwysig dros ben. Mae sawl rhan o Gymru lle mae’r grid yn wan ac mae’n rhaid ei gryfhau o achos hynny. Mae 600 o swyddi yn Wylfa B ac nid wyf yn derbyn felly ei fod yn dderbyniol i beidio â chael y swyddi ar Ynys Môn oherwydd y grid. Mae’n bwysig dros ben ei bod yn bosibl i’r grid gludo’r trydan o Ynys Môn er mwyn sicrhau bod 600 o bobl yn cael bywoliaeth yn y dyfodol.

The First Minister: Strengthening the grid is extremely important. There are many parts of Wales where the grid is weak and needs to be strengthened because of that. There are 600 jobs at Wylfa B and I do not therefore accept that it is acceptable not to have the jobs on Anglesey because of the grid. It is extremely important for it to be possible for the grid to transport electricity from Anglesey to ensure that 600 people can earn a living in the future.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Business Statement and Announcement

The Record

The Minister for Finance and Leader of the House (Jane Hutt):  There are no changes to report to this week’s planned business. Business for the next three weeks is as shown on the business statement and announcement, which can be found among the agenda papers that are available to Members electronically.

Y Gweinidog Cyllid a Arweinydd y Ty (Jane Hutt): Nid oes newidiadau i’w cyhoeddi ym musnes arfaethedig y Llywodraeth yr wythnos hon. Mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y mae wedi’i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i’w weld ymhlith papurau’r agenda sydd ar gael ar ffurf electronig i’r Aelodau.

William Graham: I thank the Leader of the House for her statement today. Could we have a reasoned statement from the Minister with responsibility for transport on the substantial cut in the bus service operators grant? The Minister will know that this grant has existed since 1965 and has contributed 30% of the cost of the fuel used by buses. A substantial reduction in this grant will have enormous consequences in increased fares, a reduction in service levels, reduced investment in green energy and increased pressure on local authorities, as the reduction in support makes it more expensive for local authorities to support socially necessary bus services and school services. We appreciate that local authorities are facing cuts, but this will make things more difficult for them in terms of the reduction in employment following a reduction in the number of bus services, but more particularly in terms of the impact on local communities. This is an important statement, Leader of the House, and I ask you to ask your colleague to make it as soon as possible.

William Graham: Diolch i Arweinydd y Tŷ am ei datganiad heddiw. A allem gael datganiad rhesymegol gan y Gweinidog sy’n gyfrifol am drafnidiaeth am y toriad sylweddol yn y grant gweithredwyr gwasanaethau bysiau? Bydd y Gweinidog yn gwybod bod y grant hwn wedi bodoli ers 1965 a’i fod wedi cyfrannu 30% o gost y tanwydd a ddefnyddir gan fysiau. Bydd goblygiadau mawr i ostyngiad sylweddol yn y grant hwn, gan gynnwys prisiau uwch, gostyngiad mewn lefelau gwasanaeth, llai o fuddsoddi mewn ynni gwyrdd a mwy o bwysau ar awdurdodau lleol, gan fod y gostyngiad yn y cymorth yn ei gwneud yn fwy costus i awdurdodau lleol gefnogi bysiau sy’n angenrheidiol yn gymdeithasol, a gwasanaethau ysgol. Rydym yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn wynebu toriadau, ond bydd hyn yn gwneud pethau’n anos iddynt o ran y gostyngiad mewn cyflogaeth a fydd yn dilyn gostyngiad yn nifer y gwasanaethau bysiau, ond, yn fwy penodol, o ran yr effaith ar gymunedau lleol. Mae hwn yn ddatganiad pwysig, Arweinydd y Tŷ, a gofynnaf ichi ofyn i’ch cyd-Aelod wneud y datganiad hwn mor fuan ag y bo modd.

Jane Hutt: I thank William Graham for that question. To put this in context, since 2009, operators in Wales have enjoyed more generous bus service operators grant rates for standard diesel than they have in England, for example. The current rate is higher compared with the English rate per litre. Next year, the rates for standard diesel in Wales will be set at 35.28p per litre, which is still above the equivalent rate per litre in England. Of course, we expect local authorities and operators to work together closely, but following the cuts made by your Government, we have sought to protect this grant. We are also making £213 million available for the bus industry for our mandatory concessionary fare scheme.

Jane Hutt: Diolch i William Graham am y cwestiwn hwnnw. O roi hyn yn ei gyd-destun, ers 2009, mae gweithredwyr bysiau yng Nghymru wedi elwa o gyfraddau ar gyfer disel safonol yn y grant gweithredwyr bysiau sy’n fwy hael nag ydynt yn Lloegr, er enghraifft. Mae’r gyfradd bresennol yn uwch o’i chymharu â’r gyfradd y litr yn Lloegr . Y flwyddyn nesaf, bydd y cyfraddau a bennir ar gyfer disel safonol yng Nghymru yn 35.28c y litr, sydd yn dal yn uwch na’r gyfradd gyfatebol y litr yn Lloegr. Wrth gwrs, rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol a gweithredwyr gydweithio’n agos, ond yn dilyn y toriadau a wnaed gan eich Llywodraeth, rydym wedi ceisio amddiffyn y grant hwn. Rydym hefyd yn sicrhau bod £213 miliwn ar gael i’r diwydiant bysiau ar gyfer ein cynllun teithio rhatach gorfodol.

Bethan Jenkins: Minister, could we have an update on the investigation into the situation at the All Wales Ethnic Minority Association, and when will you be able to shed some light on what your Government is doing in this regard? Dame Gillian Morgan provided evidence to the Public Accounts Committee this week where she said that it was clear that we have not necessarily been robust in making sure that organisations have all the standards that we would expect in Wales; I think that that is quite a damning indictment of this situation. Due to the fact that AWEMA is based in Swansea, many people in Swansea have contacted me with clear concerns regarding this issue. So, I urge you to make a statement on it sooner rather than later.

Bethan Jenkins: Weinidog, a allem gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad i’r sefyllfa yng Nghymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan, neu AWEMA, a phryd y byddwch yn gallu bwrw goleuni ar yr hyn y mae eich Llywodraeth yn ei wneud yn hyn o beth? Cyflwynodd y Fonesig Gillian Morgan dystiolaeth i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr wythnos hon, lle y dywedodd ei bod yn amlwg nad ydym o reidrwydd wedi bod yn gadarn wrth sicrhau bod sefydliadau â’r holl safonau y byddem yn eu disgwyl yng Nghymru; mae hynny’n feirniadaeth go ddamniol o’r sefyllfa, yn fy marn i. Gan fod AWEMA wedi’i lleoli yn Abertawe, mae llawer o bobl yn Abertawe wedi cysylltu â mi i fynegi pryderon amlwg ynghylch y mater hwn. Felly, rwy’n eich annog i wneud datganiad amdano yn fuan.

Jane Hutt: As I have said previously in response to questions in the Chamber as Leader of the House, this case raises issues of propriety and the proper stewardship of public funds, which are the responsibility of the Permanent Secretary as the principal accounting officer. However, I assure Bethan Jenkins that the fieldwork has been completed and that an analysis and assessment are being made of the investigation at the moment. Officials are aiming to finalise a report in agreement with the Big Lottery Fund, which is also engaged in the investigation, during the week commencing 6 February.  

Jane Hutt: Fel yr wyf wedi dweud o’r blaen mewn ymateb i gwestiynau yn y Siambr fel Arweinydd y Tŷ, mae’r achos hwn yn codi materion ynghylch priodoldeb ac ynghylch stiwardiaeth briodol ar arian cyhoeddus, y mae’r Ysgrifennydd Parhaol, fel y prif swyddog cyfrifyddu, yn gyfrifol amdanynt. Fodd bynnag, hoffwn sicrhau Bethan Jenkins fod y gwaith maes wedi’i gwblhau a bod dadansoddiad ac asesiad o’r ymchwiliad yn cael eu cynnal ar hyn o bryd. Mae swyddogion yn anelu at gwblhau adroddiad gyda chytundeb y Gronfa Loteri Fawr, sydd hefyd yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad, yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 6 Chwefror.

Rebecca Evans: The Welsh Government’s integrated family support service offers a multi-agency model to support families with particularly complex needs, such as where there is an increased likelihood that the child will suffer from emotional, physical or social development problems. The first phase has concentrated on families where there is substance misuse. Could we have a statement on the progress of that initiative and an analysis of the outcomes for the children and parents? I would also welcome an update on when we can expect the programme to be rolled out to include families where the parent has a learning disability, or to families where there are mental health problems.

Rebecca Evans: Mae gwasanaeth cymorth integredig Llywodraeth Cymru i deuluoedd yn cynnig model amlasiantaethol i gefnogi teuluoedd sydd ag anghenion arbennig o gymhleth, megis pan fydd tebygolrwydd uwch y bydd y plentyn yn dioddef problemau emosiynol, corfforol neu broblemau o ran datblygiad cymdeithasol. Canolbwyntiodd y cam cyntaf ar deuluoedd lle y caiff sylweddau eu camddefnyddio. A allem gael datganiad am gynnydd y fenter honno ynghyd â dadansoddiad o’r canlyniadau ar gyfer y plant a’r rhieni? Byddwn hefyd yn croesawu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd y gallwn ddisgwyl i’r rhaglen gynnwys teuluoedd lle y mae gan riant anabledd dysgu, neu deuluoedd lle y mae problemau iechyd meddwl.

Jane Hutt: I thank Rebecca Evans for that important question, as it gives me an opportunity to give an provide an update on the Welsh Government’s integrated family support services, which is a key priority in the programme for government and 'Sustainable Social Services for Wales: A Framework for Action’. We heard from the Deputy Minister for Social Services last week about the social services Bill, which will address the way in which we can take forward all these important matters. We have a clear expansion plan for IFSS: by the end of March, it will be available to families across 10 local authority areas, working in partnership with their local health boards. The aim is to ensure that every area in Wales has an integrated family support service by 2014 in the area of substance misuse. I will look at the issue with the Deputy Minister in terms of children with a learning disability.

Jane Hutt: Diolch i Rebecca Evans am y cwestiwn pwysig hwnnw, gan ei fod yn rhoi cyfle imi roi’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau cymorth integredig Llywodraeth Cymru i deuluoedd, sy’n flaenoriaeth allweddol yn y rhaglen lywodraethu ac yn 'Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu’. Clywsom gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yr wythnos diwethaf am y Bil gwasanaethau cymdeithasol, a fydd yn ymdrin â’r ffordd y gallwn fwrw ymlaen â’r holl faterion pwysig hyn. Mae gennym gynllun clir ar gyfer ehangu’r gwasanaethau cymorth integredig i deuluoedd: erbyn diwedd mis Mawrth, bydd ar gael i deuluoedd ar draws 10 ardal awdurdod lleol, gan weithio mewn partneriaeth â’u byrddau iechyd lleol. Y nod yw sicrhau bod gan bob ardal yng Nghymru wasanaeth integredig cymorth i deuluoedd erbyn 2014 ym maes camddefnyddio sylweddau. Byddaf yn ystyried y mater ynghylch plant ag anabledd dysgu gyda’r Dirprwy Weinidog.

Kirsty Williams: Leader of the House, community mediation can be a useful and effective intervention in order to sort out local disputes that could potentially lead to anti-social behaviour. Is it possible for the Minister for Local Government and Communities to make a statement on the value that the Welsh Government places on community mediation services and the support that the Welsh Government may be in a position to provide for such services across Wales?

Kirsty Williams: Arweinydd y Tŷ, gall cyfryngu cymunedol fod yn ymyriad defnyddiol ac effeithiol er mwyn datrys anghydfodau lleol a allai arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol. A all y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau wneud datganiad am y gwerth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar wasanaethau cyfryngu cymunedol, a’r cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i wasanaethau o’r fath ledled Cymru?

Jane Hutt: I will certainly ask the Minister for Local Government and Communities for advice on that matter in terms of providing an update on funding streams and support. I am aware that community mediation schemes have been very valuable, particularly in relation to issues such as tenant and community disputes.

Jane Hutt: Byddaf yn sicr yn gofyn i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau gael cyngor ar y mater o ran rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ffrydiau ariannu a chymorth. Rwy’n gwybod bod cynlluniau cyfryngu cymunedol wedi bod yn werthfawr iawn, yn enwedig mewn perthynas â materion fel anghydfod tenantiaid ac anghydfod yn y gymuned.

2.30 p.m.

Andrew R.T. Davies: Leader of the House, is it possible to have a statement from the Minister for Health and Social Services in relation to organ donation? I understand that the consultation closes today, but the regulatory body that oversees organ donation across the United Kingdom yesterday published a serious report that highlighted inconsistencies in the service provided in many hospitals and in the supply of information that allows many organs that people have already volunteered to donate to go to waste, for want of a better word. It would be very unfortunate, after someone had made the decision to offer the opportunity of life to another individual and possibly enhance that person’s life expectancy, that organs were then not taken.

Andrew R.T. Davies: Arweinydd y Tŷ, a fydd yn bosibl cael datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â rhoi organau? Rwy’n deall bod yr ymgynghoriad yn cau heddiw, ond ddoe, cyhoeddodd y corff rheoleiddio sy’n arolygu’r broses o roi organau ledled y Deyrnas Unedig adroddiad difrifol sy’n nodi anghysondebau yn y gwasanaeth a ddarperir mewn nifer o ysbytai ac yn y modd y caiff gwybodaeth ei ddarparu, sy’n golygu bod llawer o organau y mae pobl eisoes wedi’u rhoi yn cael eu gwastraffu, fel petai. Byddai’n anffodus iawn pe na bai organau’n cael eu defnyddio ar ôl i rywun benderfynu cynnig bywyd i unigolyn arall a gwella disgwyliad oes y person hwnnw, o bosibl.

Jane Hutt: This is clearly a matter of great concern to the Minister for Health and Social Services. As you say, our consultation on the forthcoming important legislation is now closed, but, in terms of the operation of the current system, I know that the Minister is looking at that report very carefully.

Jane Hutt: Mae hyn yn amlwg yn peri cryn bryder i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Fel y dywedwch, mae ein hymgynghoriad ar y ddeddfwriaeth arfaethedig bellach wedi cau, ond, o ran y modd y caiff y system bresennol ei gweithredu, gwn fod y Gweinidog yn edrych ar yr adroddiad hwnnw yn ofalus iawn.

Simon Thomas: Leader of the House, we have had a very interesting day today with the publication of the Estyn report, and we have heard a lot about national reading tests and the 20-point plan for improving literacy. When we have had a chance to read the Estyn report in the next week or so, would it not be appropriate for the Government to table a debate, in Government time, so that we can all have an opportunity to ask the Minister about the actions he has taken in response to that report, and examine the First Minister’s promise that there will be improvements in a year’s time?

Simon Thomas: Arweinydd y Tŷ, rydym wedi cael diwrnod diddorol iawn heddiw o ganlyniad i gyhoeddi adroddiad Estyn, ac rydym wedi clywed llawer am brofion darllen cenedlaethol a’r cynllun 20 pwynt ar gyfer gwella llythrennedd. Pan fyddwn wedi cael cyfle i ddarllen adroddiad Estyn o fewn yr wythnos neu ddwy nesaf, oni fyddai’n briodol i’r Llywodraeth gyflwyno dadl, yn amser y Llywodraeth, fel y gallwn i gyd gael c