By continuing to use our site, you are agreeing for us to set a small number of cookies. Cookie policy

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Cofnod y Trafodion
The Record of Proceedings

Dydd Mercher, 18 Ionawr 2012
Wednesday, 18 January 2012

Cynnwys
Contents

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Questions to the Minister for Finance and Leader of the House

Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Questions to the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science

Pwynt o Drefn
Point of Order

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rhaglenni Blynyddoedd Cynnar
Welsh Conservatives Debate: Early Years Programmes

Pwynt o Drefn
Point of Order

Dadl Plaid Cymru: Byrddau Iechyd Lleol
Plaid Cymru Debate: Local Health Boards

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: Band Eang
Welsh Liberal Democrats Debate: Broadband

Cyfnod Pleidleisio
Voting Time

Dadl Fer: Mae gan Bobl Hŷn Hawliau Hefyd
Short Debate: Older People Have Rights Too

Yn y golofn chwith, cofnodwyd y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y Siambr. Yn y golofn dde, cynhwyswyd cyfieithiad.
In the left-hand column, the proceedings are recorded in the language in which they were spoken in the Chamber. In the right-hand column, a translation has been included.

Cyfarfu’r Cynulliad am 1.30 p.m. gyda’r Llywydd (Rosemary Butler) yn y Gadair.
The Assembly met at 1.30 p.m. with the Presiding Officer (Rosemary Butler) in the Chair.

The Record

The Presiding Officer: Prynhawn da. The National Assembly for Wales is now in session.

Y Llywydd: Prynhawn da. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Questions to the Minister for Finance and Leader of the House

The Record

Gwariant ar Gemau Olympaidd Llundain

Spending on the London Olympics

1. Nick Ramsay: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae’n bwriadu defnyddio’r £8.9 miliwn ychwanegol a gafwyd gan Lywodraeth y DU i adlewyrchu’r gwariant ar Gemau Olympaidd Llundain. OAQ(4)0072(FIN)

1. Nick Ramsay: Will the Minister make a statement on how she intends to make use of the extra £8.9 million received from the UK Government to reflect the spending on the London Olympics. OAQ(4)0072(FIN)

Y Gemau Olympaidd

The Olympic Games

6. Leanne Wood: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y symiau ariannol canlyniadol i Gymru sy’n deillio o’r Gemau Olympaidd yn Llundain eleni. OAQ(4)0073(FIN)

6. Leanne Wood: Will the Minister make a statement on the financial consequentials for Wales resulting from the Olympic games in London this year. OAQ(4)0073(FIN)

The Minister for Finance and Leader of the House (Jane Hutt): This funding, which is available for use in the current year, has been added to reserves in the normal way and will be allocated in line with Welsh Government priorities at the next supplementary budget.

Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ (Jane Hutt): Mae’r cyllid hwn, sydd ar gael i’w ddefnyddio yn y flwyddyn gyfredol, wedi ei ychwanegu i’r cronfeydd wrth gefn yn y ffordd arferol, a bydd yn cael ei ddyrannu yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y gyllideb atodol nesaf.

Nick Ramsay: I thank the Finance Minister for that answer. I am sure that you will join me in welcoming the fact that the Barnettisation of money for the Olympics has, at long last, been resolved by the UK coalition Government. I am sure that we all welcome that fact. On this extra £8.9 million, I think that I am right in saying that, in London, there was confusion about that money because it was spending on infrastructure. That money was earmarked for regeneration infrastructure. As regards how the money will be spent in Wales, could you tell us if you intend for it to be spent on infrastructure also, bearing in mind that there are big issues with the M4 between the Severn bridge and Newport in particular, or do you intend to see that money being spent on other projects?

Nick Ramsay: Diolchaf i’r Gweinidog Cyllid am yr ateb hwnnw. Rwyf yn siŵr y byddwch yn ymuno â mi i groesawu’r ffaith bod Llywodraeth glymblaid y DU, o’r diwedd, wedi sicrhau y bydd fformiwla Barnett yn cael ei defnyddio mewn perthynas â’r arian ar gyfer y Gemau Olympaidd. Rwyf yn siŵr ein bod i gyd yn croesawu’r ffaith honno. O ran yr £8.9 miliwn ychwanegol hwn, tybiaf fy mod yn iawn wrth ddweud bod dryswch yn Llundain ynghylch yr arian hwnnw oherwydd mai gwariant ar seilwaith ydoedd. Roedd yr arian hwnnw wedi’i glustnodi ar gyfer seilwaith adfywio. O ran sut y bydd yr arian yn cael ei wario yng Nghymru, a allwch ddweud wrthym a ydych yn bwriadu iddo gael ei wario ar seilwaith hefyd, o gofio bod problemau mawr mewn perthynas â’r M4 rhwng pont Hafren a Chasnewydd yn arbennig, neu a fydd yr arian hwnnw’n cael ei wario ar brosiectau eraill?

Jane Hutt: In line with established practice, any consequentials from the UK Government’s announcements are added to our reserves and considered in the context of either our in-year financial management or the budget planning process. Indeed, I will publish the second supplementary budget for 2011-12 shortly, which will set out how the Welsh Government proposes to allocate its remaining reserves, which include this £8.9 million.

Jane Hutt: Yn unol â’r arfer sefydledig, caiff unrhyw symiau canlyniadol o gyhoeddiadau Llywodraeth y DU eu hychwanegu at ein cronfeydd wrth gefn a’u hystyried yng nghyd-destun naill ai rheolaeth ariannol yn ystod y flwyddyn ariannol neu broses cynllunio’r gyllideb. Yn wir, byddaf yn cyhoeddi’r ail gyllideb atodol ar gyfer 2011-12 yn fuan, a fydd yn nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyrannu ei chronfeydd wrth gefn sy’n weddill, sy’n cynnwys yr £8.9 miliwn hwn.

The Record

Leanne Wood: This money relates to money spent since the formation of the Conservative and Liberal Democrat coalition Government in London. What did Wales receive before May 2010 when Labour had the keys to No. 10? The answer to that question is 'nothing’. Just a month ago, you said that lessons needed to be learned. If we ignore the £100 million of lottery funding that was diverted from Wales and to the Olympic games, will you acknowledge that if Labour had stood up for Wales while in power in Westminster, we would have received an additional £320 million?

Leanne Wood: Mae’r arian hwn yn ymwneud â’r arian a wariwyd ers ffurfio Llywodraeth glymblaid y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn Llundain. Beth a gafodd Cymru cyn mis Mai 2010, pan oedd gan Lafur yr allweddi i Rif 10? Yr ateb i’r cwestiwn hwnnw yw 'dim’. Dim ond mis yn ôl, dywedasoch fod angen dysgu gwersi. Os ydym yn anwybyddu’r £100 miliwn o arian loteri a gafodd ei ddargyfeirio o Gymru i’r gemau Olympaidd, a ydych yn derbyn pe byddai Llafur wedi sefyll dros Gymru pan oedd mewn grym yn San Steffan, byddem wedi cael £320 miliwn yn ychwanegol?

Jane Hutt: I made a statement on 22 December, when the resolution was agreed, and our stance as Labour Welsh Ministers has been clear since October 2007. We were clear that we were due a consequential and we pressed the case for that. I accept that the resolution does not fully recompense the Welsh Government with the consequential that we should have received, but, since 2010, as Minister for finance, I have been working with my counterparts in the Scotland and Northern Ireland Governments to ensure that we get a resolution to this dispute. I am sure that you welcome this consequential.

Jane Hutt: Gwneuthum ddatganiad ar 22 Rhagfyr, pan gytunwyd ar y penderfyniad, a bu ein safbwynt fel Gweinidogion Llafur Cymru yn glir ers mis Hydref 2007. Roeddem yn glir bod swm canlyniadol yn ddyledus inni a phwysleisiwyd yr achos o blaid hynny gennym. Rwyf yn derbyn nad yw’r penderfyniad yn ad-dalu’r swm canlyniadol llawn y dylem fod wedi’i gael i Lywodraeth Cymru, ond, ers 2010, fel y Gweinidog cyllid, bûm yn gweithio gyda fy nghymheiriaid yn Llywodraethau’r Alban a Gogledd Iwerddon i sicrhau bod yr anghydfod hwn yn cael ei ddatrys. Rwyf yn siŵr eich bod yn croesawu’r swm canlyniadol hwn.

Ieuan Wyn Jones: Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, a ydych yn cydnabod bod yn rhaid newid y ffordd yr ydym yn delio â chwynion ynghylch symiau canlyniadol i sicrhau tegwch i’r gweinyddiaethau datganoledig? Onid yw’n hen bryd felly i’r Trysorlys, pwy bynnag sydd mewn grym yn Llundain, i dderbyn y dylid cael person neu gorff annibynol i ddyfarnu lle bo anghydfod yn codi a lle mae’r broses gymodi honno wedi methu?

Ieuan Wyn Jones: In looking to the future, do you recognise that we need to change the way in which we deal with disputes about consequentials in order to ensure fairness for the devolved administrations? Is it not therefore time that the Treasury, regardless of the party in power in London, accepted that there should be an independent person or body to make adjudications where a dispute arises and where conciliation has failed?

Jane Hutt: It was important that we had a dispute resolution procedure to enable us to get to the point that we have now reached in getting this consequential. This was agreed as a result of the joint ministerial committee that was pressing for a resolution procedure of this kind. It is important—and you make a very fair point as leader of Plaid Cymru—that we look at the ways in which we can ensure that we get consequentials when they are due, and this dispute resolution indicates that devolution does work in delivering that money.

Jane Hutt: Roedd yn bwysig bod gennym weithdrefn datrys anghydfod i’n galluogi i gyrraedd y pwynt rydym bellach wedi’i gyrraedd o ran cael y swm canlyniadol hwn. Cytunwyd ar hyn o ganlyniad i’r cydbwyllgor Gweinidogion a oedd yn pwyso am weithdrefn benderfynu o’r fath. Mae’n bwysig—ac rydych yn gwneud pwynt teg iawn fel arweinydd Plaid Cymru—ein bod yn edrych ar y ffyrdd y gallwn sicrhau ein bod yn cael symiau canlyniadol pan fyddant yn ddyledus, ac mae’r datrysiad i’r anghydfod yn dangos bod datganoli yn gweithio wrth ddarparu’r arian hwn.

Ieuan Wyn Jones: Ond y realiti, Weinidog, fel yr ydych yn cydnabod, yw bod y Trysorlys yn penderfynu ar y gŵyn a sut i ddelio â honno yn y pen draw. Yr ydym angen corff annibynnol; corff sy’n annibynnol ar y gweinyddiaethau datganoledig a’r Trysorlys i wneud penderfyniad ar gywirdeb, neu fel arall, y cais am yr arian. Felly, a yw’r Gweinidog yn derbyn bod angen i ni edrych ar eiriad datganiad polisi cyllid y Trysorlys, a pha gamau y mae’r Gweinidog a’r Prif Weinidog yn eu cymryd i godi’r mater ymhellach yng nghyd-bwyllgor y Gweinidogion i sicrhau bod Gweinidogion a Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cytuno y dylid gwneud cais arall i’r Trysorlys i sicrhau corff annibynnol i ddelio â chwynion?

Ieuan Wyn Jones: The reality, Minister, as you recognise, is that the Treasury determines any dispute and how it will be dealt with. We need an independent body; a body that is independent of the devolved administrations and the Treasury to make decisions on the correctness or otherwise of any bids for money. Therfore, does the Minister accept that we need to look at the wording of the Treasury’s finance policy, and what steps are the Minister and the First Minsiter taking to raise this matter further in the joint ministerial committee in order to ensure that the Ministers and First Ministers of Scotland and Northern Ireland agree that another bid should be made to the Treasury to establish an independent body to deal with disputes?

Jane Hutt: The statement of funding policy is an agreement that we have been working to improve in order to ensure that we have that independence, as you rightly say. This was also a recommendation made by Gerry Holtham in his independent review of funding in Wales, and he recommended that the Office for National Statistics could be such an independent body and vehicle. I am sure that we will pursue these questions when we have our next quadrilateral meeting, and at the JMC.

Jane Hutt: Mae’r datganiad o bolisi cyllid yn gytundeb y buom yn gweithio i’w wella er mwyn sicrhau bod gennym yr annibyniaeth honno, fel y dywedwch yn gywir. Roedd hyn hefyd yn argymhelliad a wnaed gan Gerry Holtham yn ei adolygiad annibynnol o ariannu yng Nghymru, ac argymhellodd y gallai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod yn gorff a chyfrwng annibynnol o’r fath. Rwyf yn siŵr y byddwn yn mynd ar drywydd y cwestiynau hyn pan fyddwn yn cynnal ein cyfarfod pedairochrog nesaf, ac yn y cyd-bwyllgor Gweinidogion.

Mohammad Asghar: Minister, now that we have fewer than 200 days until the Olympics and Paralympic Games in London, how will the residents and business people of South Wales East benefit from these consequentials, and what discussions have you had with your fellow Assembly Members to ensure that every region benefits from financial consequentials?

Mohammad Asghar: Weinidog, gan fod llai na 200 diwrnod hyd nes y cynhelir y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Llundain bellach, sut fydd trigolion a phobl busnes Dwyrain De Cymru yn elwa ar y symiau canlyniadol hyn, a pha drafodaethau a gawsoch â’ch cyd-Aelodau Cynulliad i sicrhau y bydd pob rhanbarth yn elwa ar y symiau canlyniadol?

Jane Hutt: This is clearly at the forefront of Huw Lewis’s role as Minister for Housing, Regeneration and Heritage, where responsibility for sport lies.

Jane Hutt: Mae hyn yn amlwg yn flaenoriaeth i Huw Lewis fel y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, sy’n gyfrifol am chwaraeon.

Cynlluniau Cyllideb

Budget Plans

2. Ken Skates: A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd cynlluniau cyllideb Llywodraeth Cymru yn helpu De Clwyd dros y deuddeg mis nesaf. OAQ(4)0065(FIN)

2. Ken Skates: Will the Minister outline how the Welsh Government’s budget plans will help Clwyd South over the next twelve months. OAQ(4)0065(FIN)

Jane Hutt: The budget plans that were approved last month underpin our ambitions for the whole of Wales as set out in the programme for government. They demonstrate our commitment to support the economy, improve front-line public services and protect the most vulnerable in our society.

Jane Hutt: Mae’r cynlluniau cyllidebol a gafodd eu cymeradwyo fis diwethaf yn sail i’n huchelgais ar gyfer Cymru gyfan fel y nodir yn y rhaglen lywodraethu. Maent yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi’r economi, yn gwella gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen ac yn amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Kenneth Skates: The results of the Wrexham Year of Culture 2011 highlighted that the festival pulled in an estimated £2 million for local businesses, more than double the original estimate. It is also estimated that about 0.5 million people visited the area over the course of 12 months, and the centrepiece of the year, of course, was the National Eisteddfod, which was visited by 211,000 people, and which helped to bring in a cash boost, in the third quarter alone, of over £1million. Would you agree that, in these difficult times, we need to be creative in how we boost economic growth, and will you ensure that the Welsh Government works closely with local councils and other partners to ensure that we maximise our distinct identities in a way that produces an economic pay-off?

Kenneth Skates: Amlygodd canlyniadau Blwyddyn Diwylliant Wrecsam 2011 y ffaith bod yr ŵyl yn dod â thua £2 filiwn i fusnesau lleol, sef mwy na dwbl yr amcangyfrif gwreiddiol. Amcangyfrifir hefyd bod tua 0.5 miliwn o bobl wedi ymweld â’r ardal dros gyfnod o 12 mis, a chanolbwynt y flwyddyn, wrth gwrs, oedd yr Eisteddfod Genedlaethol, a ddenodd 211,000 o bobl, ac a helpodd i ddod â hwb ariannol, yn y trydydd chwarter yn unig, o dros £1 filiwn. Yn y cyfnod anodd hwn, a fyddech yn cytuno bod angen inni fod yn greadigol yn y ffordd rydym yn hybu twf economaidd, ac a fyddwch yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda chynghorau lleol a phartneriaid eraill i sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar ein hunaniaeth arbennig mewn ffordd sy’n sicrhau budd economaidd?

Jane Hutt: I thank the Member for Clwyd South for that question. I agree that these difficult economic times make it vital that we use all the levers available to us to stimulate economic growth. That is why we used the £38.9 million economic stimulus package to support the skills and apprenticeship agenda, and the £55 million package to support business growth in Wales.

Jane Hutt: Rwyf yn diolch i’r Aelod dros Dde Clwyd am y cwestiwn hwnnw. Rwyf yn cytuno bod y cyfnod economaidd anodd hwn yn ei gwneud yn hanfodol ein bod yn defnyddio pob dull sydd ar gael inni i ysgogi twf economaidd. Dyna pam ein bod yn defnyddio’r £38.9 miliwn yn y pecyn ysgogi economaidd i gefnogi’r agenda sgiliau a phrentisiaeth, a’r pecyn gwerth £55 miliwn i gefnogi twf busnes yng Nghymru.

Mark Isherwood: Given the high levels of worklessness and the need for economic regeneration in areas such as the Dee valley, Ceiriog valley and the surrounding areas, what consideration have you given in your budget plans to projects such as the Llangollen rail extension to Corwen, the Dee valley tramway trust, the Cefn Mawr Plas Kynaston Canal Group and the Brymbo Heritage Group as a whole?

Mark Isherwood: O ystyried y lefelau uchel o ddiweithdra a’r angen am adfywio economaidd mewn ardaloedd fel dyffryn Dyfrdwy, dyffryn Ceiriog a’r ardaloedd cyfagos, pa ystyriaeth ydych wedi’i rhoi yn eich cynlluniau cyllidebol i brosiectau fel yr estyniad i’r rheilffordd rhwng Llangollen a Chorwen, ymddiriedolaeth dramffordd dyffryn Dyfrdwy, Grŵp Camlas Cefn Mawr Plas Kynaston a Grŵp Treftadaeth Brymbo yn gyffredinol?

Jane Hutt: I am sure that those are important schemes that will be progressed via the local authority and the national transport plan.

Jane Hutt: Rwyf yn siŵr bod y cynlluniau hyn yn rhai pwysig a fydd yn cael eu datblygu drwy gyfrwng yr awdurdod lleol a’r cynllun trafnidiaeth cenedlaethol.

Llyr Huws Gruffydd: Mae busnesau bach yn Ne Clwyd yn gyson yn codi gyda minnau y ffaith mai un o’r beichiau mwyaf ar hyfywedd eu busnes yw treth busnes. A fyddech yn cytuno ei bod hi’n resyn nad yw’ch Llywodraeth chi wedi gwneud mwy yn ei chyllideb i ddarparu cymorth, yn enwedig yng nghyd-destun estyn cymorth ardrethi busnes i’r busnesau hynny yn Ne Clwyd, ac yn wir yng Nghymru yn ehangach?

Llyr Huws Gruffydd: Small businesses in Clwyd South regularly raise the point with me that one of the greatest burdens on the viability of their business are business rates. Would you agree that it is regrettable that your Government did not do more in its budget to provide assistance, particularly in the context of extending business rate relief, to those businesses in Clwyd South and, indeed, in the rest of Wales?

Jane Hutt: We, as a Government, and the One Wales Government, were pleased to accept the extension of business rate support, and I am delighted that in the autumn statement we had a further extension of business rate support for businesses, including those in south Clwyd that will benefit from it, and I am sure that you would welcome that.

Jane Hutt: Roeddem ni, fel Llywodraeth, a Llywodraeth Cymru’n Un, yn falch o dderbyn yr estyniad i’r cymorth trethi busnes, ac rwyf wrth fy modd y cawsom estyniad pellach yn natganiad yr hydref i’r cymorth ardrethi busnes i fusnesau, gan gynnwys y busnesau yn ne Clwyd a fydd yn elwa arno, ac rwyf yn siŵr y byddech yn croesawu hynny.

Prosiectau Seilwaith

Infrastructure Projects

3. David Melding: Yn ystod y broses cynllunio’r gyllideb ddiweddar, a wnaeth y Gweinidog gyfarfod â Chynghrair Ffederasiwn Adeiladu Cymru i drafod sut i gyllido prosiectau seilwaith. OAQ(4)0064(FIN)

3. David Melding: During the recent budget planning process did the Minister meet with the Wales Construction Federation Alliance to discuss the financing of infrastructure projects. OAQ(4)0064(FIN)

Jane Hutt: I regularly meet with cross-sectoral organisations to take account of the views expressed when considering budget allocations. As I take forward the work on the Wales infrastructure investment plan, I will continue to consult with key stakeholders, including the newly formed alliance.

Jane Hutt: Rwyf yn cyfarfod yn rheolaidd â sefydliadau traws-sector i ystyried y sylwadau a wnaethpwyd wrth ystyried dyraniadau cyllideb. Wrth i mi fwrw ymlaen â’r gwaith ar y cynllun buddsoddi mewn seilwaith i Gymru, byddaf yn parhau i ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y gynghrair sydd newydd ei ffurfio.

David Melding: It is newly formed, although some of the units that form it have been there a long time. I hope that you will be meeting with the construction sector and the alliance that represents them. Do you agree with me that such interaction with the Government and the private sector—indeed, the whole civic sector—is essential if the Wales infrastructure investment plan is to succeed, because levering in as much capital as we can from public spend will be key in the next generation? I welcome the intention to establish an infrastructure plan because that is the sort of vision that we need in order to improve infrastructure so that we achieve profound economic regeneration.

David Melding: Mae’r gynghrair newydd ei ffurfio, er y bu rhai o’r unedau sy’n rhan ohoni yno am amser maith. Rwyf yn gobeithio y byddwch yn cyfarfod â’r sector adeiladu a’r gynghrair sy’n ei gynrychioli. A ydych yn cytuno bod y math hwn o ryngweithio rhwng y Llywodraeth a’r sector preifat—yn wir, y sector dinesig cyfan—yn hanfodol os yw’r cynllun buddsoddi mewn seilwaith i Gymru yn mynd i lwyddo, oherwydd bydd denu cymaint o gyfalaf ag y gallwn o wariant cyhoeddus yn allweddol yn y genhedlaeth nesaf? Rwyf yn croesawu’r bwriad i sefydlu cynllun seilwaith, oherwydd dyna’r fath o weledigaeth sydd ei hangen arnom i wella seilwaith er mwyn inni sicrhau adfywiad economaidd cryf.

Jane Hutt: I thank David Melding for that positive question. The newly established Wales construction federation alliance is represented on the construction strategy steering group, which I set up in December 2010. As regards the Wales infrastructure investment plan, we recognise the importance of developing a national-level, cross-sectoral view of infrastructure planning, which will take a long-term view of our investment priorities. The alliance will feed into the development of that plan.

Jane Hutt: Diolchaf i David Melding am y cwestiwn cadarnhaol hwnnw. Mae cynghrair ffederasiwn adeiladu Cymru, sydd newydd ei sefydlu, yn cael ei gynrychioli yn y grŵp llywio ar y strategaeth adeiladu a sefydlwyd gennyf ym mis Rhagfyr 2010. O ran y cynllun buddsoddi mewn seilwaith i Gymru, rydym yn cydnabod pwysigrwydd datblygu safbwynt ar gynllunio seilwaith ar lefel cenedlaethol a thraws-sector, a fydd yn edrych ar ein blaenoriaethau buddsoddi yn y tymor hir. Bydd y gynghrair yn cyfrannu at ddatblygiad y cynllun hwnnw.

Alun Ffred Jones: As a Minister in the One Wales Government, you sent a letter to the Westminster Government, and a meeting was set up between officials, to discuss means of bringing added finance for capital projects, along the lines of the Build for Wales model, suggested by Plaid Cymru. Can you give details of any further meetings or correspondence between the Welsh Government and the Westminster Government on that proposal?

Alun Ffred Jones: Fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru’n Un, gwnaethoch anfon llythyr at Lywodraeth San Steffan, a threfnwyd cyfarfod rhwng swyddogion i drafod ffyrdd o ddenu cyllid ychwanegol ar gyfer prosiectau cyfalaf, sy’n debyg i’r model Adeiladu dros Gymru a awgrymwyd gan Plaid Cymru. A allwch roi manylion am unrhyw gyfarfodydd neu ohebiaeth bellach rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ar y cynnig hwnnw?

Jane Hutt: I was pleased to meet with Lord Sassoon, the UK Government’s infrastructure Minister, last year, not only to ensure that we were well-featured and recognised in UK infrastructure programme priorities, but to begin discussions with them about our needs and developments in relation to innovative finance under the Wales infrastructure investment plan. I was also pleased to have a good, helpful meeting in Scotland with the Scottish infrastructure Minister before Christmas, where we learned more about the useful direction that the Scottish futures fund has taken.

Jane Hutt: Roeddwn yn falch o gyfarfod â’r Arglwydd Sassoon, Gweinidog Llywodraeth y DU dros seilwaith, y llynedd, nid yn unig er mwyn sicrhau ein bod wedi ein cynnwys a’n cydnabod yn glir ym mlaenoriaethau rhaglen seilwaith y DU, ond er mwyn dechrau trafodaethau â’r Llywodraeth ynghylch ein hanghenion a datblygiadau mewn perthynas â chyllid arloesol o dan y cynllun buddsoddi mewn seilwaith i Gymru. Roeddwn hefyd yn falch o gael cyfarfod da a defnyddiol yn yr Alban â’r Gweinidog dros seilwaith yno cyn y Nadolig, lle gwnaethom ddysgu mwy am gyfeiriad defnyddiol cronfa ddyfodol yr Alban.

Dyraniad y Gyllideb i’r Portffolio Llywodraeth Leol a Chymunedau

Budget Allocation to the Local Government and Communities Portfolio

4. Llyr Huws Gruffydd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniad cyffredinol y gyllideb i’r portffolio Llywodraeth Leol a Chymunedau. OAQ(4)0075(FIN) W

4. Llyr Huws Gruffydd: Will the Minister make a statement on the overall budget allocation to the Local Government and Communities portfolio. OAQ(4)0075(FIN) W

Jane Hutt: Cyfanswm y gyllideb ar gyfer portffolio llywodraeth leol a chymunedau yn 2012-13 yw ychydig dros £5.1 biliwn.

Jane Hutt: The total budget for the local government and communities portfolio in 2012-13 is just over £5.1 billion.

Llyr Huws Gruffydd: Thank you, Minister, for that answer. Given the number of high-profile missing persons cases that we have experienced in Wales in recent weeks, which saw the bringing together of police, fire and rescue authorities, local authorities and other agencies, what provision is there in the budget to support and strengthen the co-ordination of such multi-agency responses in the future?

Llyr Huws Gruffydd: Diolch, Weinidog, am yr ateb hwnnw. O ystyried nifer yr achosion uchel eu proffil o bobl sydd ar goll y clywsom amdanynt yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf, a arweiniodd at gydweithio rhwng awdurdodau’r heddlu a’r gwasanaeth tân ac achub, awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill, pa ddarpariaeth sydd yn y gyllideb i gefnogi a chryfhau’r broses o gydlynu ymatebion aml-asiantaeth o’r fath yn y dyfodol?

Jane Hutt: These are matters of grave concern to us. I know that the Minister for Local Government and Communities is concerned about that; multi-agency arrangements are vital. However, the final local government settlement approved by the Assembly shows our commitment to local government in helping local authorities to take on their responsibilities in that respect.

Jane Hutt: Mae’r materion hyn yn peri pryder difrifol inni. Gwn fod y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn pryderu amdanynt; mae trefniadau aml-asiantaeth yn hanfodol. Fodd bynnag, mae’r setliad llywodraeth leol terfynol a gymeradwywyd gan y Cynulliad yn dangos ein hymrwymiad i lywodraeth leol wrth helpu awdurdodau lleol i fynd i’r afael â’u cyfrifoldebau yn hynny o beth.

Janet Finch-Saunders: Minister, the structural changes to the local government and communities main expenditure group in the last budget saw four spending programme areas reduced to zero: local taxation policy; inspection, regulation and performance frameworks; local and regional collaboration; and efficiency and innovation. How are you working with the Minister for Local Government and Communities to monitor the outcomes of these structural changes?

Janet Finch-Saunders: Weinidog, arweiniodd y newidiadau strwythurol i’r prif grŵp gwariant llywodraeth leol a chymunedau yn y gyllideb ddiwethaf at ostwng y pedwar maes rhaglen wariant i sero: polisi trethiant lleol, fframweithiau arolygu, rheoleiddio a pherfformiad; cydweithio lleol a rhanbarthol; ac effeithlonrwydd ac arloesi. Sut ydych chi’n gweithio gyda’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i fonitro canlyniadau’r newidiadau strwythurol hyn?

1.45 p.m.

 

Jane Hutt: Financial support for the local government budget line increases from £4.209 billion to £4.24 billion in 2011-12, and rises again in 2014-15. I am working closely with the Minister for Local Government and Communities to ensure that needs are recognised and that any changes that need to take place are accepted.  

Jane Hutt: Mae cymorth ariannol ar gyfer y llinell llywodraeth leol yn y gyllideb yn cynyddu o £4.209 biliwn i £4.24 biliwn yn 2011-12, ac yn codi unwaith eto yn 2014-15. Rwyf yn cydweithio’n agos â'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i sicrhau bod anghenion yn cael eu cydnabod a bod unrhyw newidiadau sydd eu hangen yn cael eu derbyn.  

Mike Hedges: I am sure that you will remember that the three opposition parties here suggested before Christmas that budgets be increased in every area apart from that of local government and communities. Since the final budget was passed, has that resulted in any difference in the allocation to the local government and communities portfolio? If so, will you outline how the current allocation for local government in Wales compares with that in England?

Mike Hedges: Rwyf yn siŵr eich bod yn cofio bod y tair gwrthblaid yma wedi awgrymu cyn y Nadolig y dylid cynyddu cyllidebau ym mhob maes ar wahân i lywodraeth leol a chymunedau. Ers pasio’r gyllideb derfynol, a yw hynny wedi arwain at unrhyw wahaniaeth yn y dyraniad i’r portffolio llywodraeth leol a chymunedau? Os felly, a wnewch amlinellu sut y mae’r dyraniad presennol ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yn cymharu â hynny yn Lloegr?

Jane Hutt: There have been no changes to the allocation for the local government and communities portfolio since we passed the final budget. The settlement that we announced last year is significantly better than that in England, and council tax bills in Wales have been consistently much lower than those in England.

Jane Hutt: Ni fu dim newidiadau i’r dyraniad ar gyfer y portffolio llywodraeth leol a chymunedau ers inni basio’r  gyllideb derfynol. Mae’r setliad a gyhoeddwyd gennym y llynedd yn sylweddol well nag yn Lloegr, a bu biliau’r dreth gyngor yng Nghymru yn llawer is na’r rheini yn Lloegr yn gyson.

Dyrannu Grantiau

Allocation of Grants

5. Julie Morgan: Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella’r broses o ddyrannu grantiau. OAQ(4)0070(FIN)

5. Julie Morgan: What plans does the Minister have to improve the process of allocating grants. OAQ(4)0070(FIN)

Jane Hutt: The grants management project was set up to improve grant administration across the Welsh Government. Officials are currently benchmarking all grants against minimum standards. A centre of excellence has been set up to provide advice and support.

Jane Hutt: Sefydlwyd y prosiect rheoli grantiau i wella’r broses o weinyddu grantiau ar draws Llywodraeth Cymru. Mae swyddogion wrthi’n meincnodi’r holl grantiau yn erbyn safonau gofynnol. Mae canolfan ragoriaeth wedi cael ei sefydlu i roi cyngor a chefnogaeth.

Julie Morgan: Thank you, Minister, for that response. What support does the Welsh Government offer to applicants for Government grants from black and ethnic minority communities who may have English as a second language and may need help with understanding the criteria for the grants and with filling in the forms?

Julie Morgan: Diolch, Weinidog, am yr ymateb hwnnw. Pa gymorth a gynigir gan Lywodraeth Cymru i ymgeiswyr am grantiau’r Llywodraeth o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig a allai fod yn siarad Saesneg fel ail iaith ac sydd, o bosibl, angen cymorth i ddeall y meini prawf ar gyfer y grantiau ac i lenwi ffurflenni?

Jane Hutt: I thank the Member for Cardiff North for that important question, because it is vital that we ensure that our documentation for grant applications is clear. We ask all grant applicants whether they want further assistance or clarification from officials. However, I believe that we need to do more than that. I will be holding some well-resourced capacity-building workshops to assist organisations, particularly black and minority ethnic organisations, and those who have English as a second language, in making grant applications.

Jane Hutt: Rwyf yn diolch i’r Aelod dros Ogledd Caerdydd am y cwestiwn pwysig hwnnw, am ei bod yn hanfodol ein bod yn sicrhau bod ein dogfennau ar gyfer ceisiadau grant yn glir. Rydym yn gofyn i bob un sy’n ymgeisio am grant a ydynt eisiau rhagor o gymorth neu eglurhad gan swyddogion. Fodd bynnag, credaf fod angen inni wneud mwy na hynny. Byddaf yn cynnal gweithdai meithrin gallu gydag adnoddau da i gynorthwyo sefydliadau, yn enwedig sefydliadau sy’n cynrychioli cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig, a’r rheini y mae Saesneg yn ail iaith iddynt, wrth iddynt wneud ceisiadau am grantiau.

Darren Millar: Minister, the Welsh Government and the Welsh Local Government Association gave assurances that hypothecation within the local government funding formula would be cut down in future. However, the Wales Audit Office has found that only a relatively small number of grants had been cut out of hypothecation in the financial year 2009-10. What assurances can you give that, in order to axe some of this ridiculous bureaucracy, which costs Welsh taxpayers tens of millions of pounds every year and which ties the hands of local authorities, you will look again this year at reducing hypothecation in the funding of local government?

Darren Millar: Weinidog, rhoddodd Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sicrwydd y byddai’r arfer o neilltuo arian o fewn y fformiwla gyllido llywodraeth leol yn cael ei leihau yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi canfod mai nifer cymharol fach yn unig o grantiau a dynnwyd allan o’r broses neilltuo ym mlwyddyn ariannol 2009-10. Pa sicrwydd y gallwch ei roi y byddwch yn edrych eto eleni ar leihau’r arfer o neilltuo arian yn y broses o ariannu llywodraeth leol, er mwyn cael gwared ar beth o’r fiwrocratiaeth wirion hon, sy’n costio degau o filiynau o bunnoedd i drethdalwyr Cymru bob blwyddyn ac sy’n clymu dwylo’r awdurdodau lleol?

Jane Hutt: Local government has warmly welcomed the steps that the Minister for Local Government and Communities has taken to reducing ring-fenced grants. That is, of course, while also ensuring that Welsh Government priorities are at the forefront of local government spending.

Jane Hutt: Mae llywodraeth leol wedi rhoi croeso cynnes i’r camau y mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi’u cymryd i leihau nifer y grantiau sydd wedi’u neilltuo. Mae hynny, wrth gwrs, tra eu bod yn sicrhau bod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn rhan flaenllaw o wariant llywodraeth leol.

Rhodri Glyn Thomas: Weinidog, i ba raddau mae Llywodraeth Cymru yn gallu perswadio cyrff sydd yn derbyn arian ganddi, drwy gymhorthdal neu’n uniongyrchol, i ddilyn polisi dwyieithrwydd Llywodraeth Cymru? Yn ddiweddar, derbyniais ohebiaeth—yr wyf yn falch bod y Gweinidog iechyd yn bresennol—oddi wrth Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn uniaith Saesneg. Yr oedd nodyn ar ddiwedd y llythyr yn gofyn imi gysylltu â phrif swyddfa’r bwrdd iechyd lleol os oeddwn yn dymuno cael copi o’r llythyr yn y Gymraeg. Byddwn yn gobeithio y byddai Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn gwybod y byddwn yn dymuno cael yr ohebiaeth honno yn y Gymraeg yn y lle cyntaf. A ydych yn derbyn bod hynny’n ymddygiad cwbl annerbyniol gan gorff sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru?  

Rhodri Glyn Thomas: Minister, to what extent is the Welsh Government able to persuade the organisations that it funds, directly or by way of subsidy, to comply with the Welsh Government’s policy on bilingualism? I recently received correspondence—I am pleased that the Minister for health is present—from the Hywel Dda Local Health Board in English only. There was a note at the end of the letter asking me to contact the health board’s head office if I wanted a Welsh-medium version of the letter. I would have hoped that the Hywel Dda Local Health Board would have known that I wanted to receive correspondence in Welsh in the first place. Do you accept that such behaviour is completely unacceptable from a body that is funded by the Welsh Government?

Jane Hutt: It is not only unacceptable, but a matter that we would wish to be drawn to our attention. I would be grateful if you would write to me about that incident.

Jane Hutt: Nid yn unig fod hynny’n annerbyniol, ond byddwn yn dymuno i’r mater gael ei dynnu at ein sylw. Byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn ysgrifennu ataf ynghylch y digwyddiad.

Peter Black: Minister, what protocol and processes are in place for when a body that is in receipt of a substantial amount of grant from the Welsh Government is subject to accusations of dishonesty and misappropriation of those funds?

Peter Black: Weinidog, pa brotocol a phrosesau sydd ar waith ar gyfer achlysuron pan fydd corff sy’n cael grant sylweddol gan Lywodraeth Cymru yn destun cyhuddiadau o anonestrwydd ac o gamddefnyddio’r arian hwnnw?

Jane Hutt: That shows the key importance of having this review of grants management. We assist and guide organisations to ensure that applicants are properly supported not only in making applications for grants, but in relation to the governance and delivery of those grants. I will certainly want to come back to the Assembly with an update on developments in relation to our position on grant processes and procedures.

Jane Hutt: Mae hynny’n dangos pa mor bwysig yw cynnal yr adolygiad hwn o’r broses reoli grantiau. Rydym yn cynorthwyo sefydliadau ac yn rhoi canllawiau iddynt i sicrhau bod ymgeiswyr yn cael eu cefnogi’n briodol, nid yn unig wrth geisio am grantiau, ond mewn perthynas â llywodraethu a darparu’r grantiau hynny. Byddaf yn sicr am ddod yn ôl i’r Cynulliad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau mewn perthynas â’n safbwynt ar brosesau a gweithdrefnau’r grantiau.

Peter Black: Thank you for that answer, Minister. I have a more specific question in relation to the money that the All Wales Ethnic Minority Association receives from the Welsh Government. You know, of course, about the accusations that are being made about that organisation, and I understand that you are investigating them. However, in terms of the money that AWEMA is receiving from the Welsh Government, has any action been taken to secure those funds and to ensure that they are being used properly? What additional monitoring is being put in place to ensure that that money is spent correctly?

Peter Black: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae gennyf gwestiwn mwy penodol mewn perthynas â’r arian y mae Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan yn ei gael gan Lywodraeth Cymru. Gwyddoch, wrth gwrs, am y cyhuddiadau sy’n cael eu gwneud am y sefydliad hwnnw, a deallaf eich bod yn ymchwilio iddynt. Fodd bynnag, o ran yr arian y mae AWEMA yn ei gael gan Lywodraeth Cymru, a oes camau wedi’u cymryd i ddiogelu’r arian hwnnw ac i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio’n briodol? Pa gamau monitro ychwanegol sy’n cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod yr arian hwnnw’n cael ei wario’n gywir?

Jane Hutt: Monitoring is key in relation to the allocation and granting of funds, and not just those from the Welsh Government. As you know, with regard to the body that you speak of, there is rigorous monitoring by the Welsh European Funding Office.

Jane Hutt: Mae monitro yn hanfodol o ran dyrannu a rhoi arian, ac nid o ran yr arian a ddaw gan Lywodraeth Cymru yn unig. Fel y gwyddoch, o ran y corff rydych yn sôn amdano, mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn gwneud gwaith monitro trylwyr.

Polisi Ffioedd Myfyrwyr

Student Fees Policy

7. Aled Roberts: Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i’r polisi ffioedd myfyrwyr wrth ddyrannu cyllid i’r portffolio Addysg a Sgiliau. OAQ(4)0066(FIN)

7. Aled Roberts: What consideration did the Minister give to the student fees policy when allocating funding to the Education and Skills portfolio. OAQ(4)0066(FIN)

Jane Hutt: Cwrddais â’r Gweinidog Addysg a Sgiliau yn ystod proses y gyllideb er mwyn trafod y polisi hwn.

Jane Hutt: I have met the Minister for Education and Skills during the budget process to discuss this policy.

Aled Roberts: You will have noted that, quite rightly, the Minister for Education and Skills has indicated, in determining that some £173 million a year is required for current policy, that

Aled Roberts: Byddwch wedi sylwi bod y Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi nodi, yn gwbl briodol, wrth benderfynu bod angen tua £173 miliwn y flwyddyn ar gyfer polisïau presennol, mai:

'the one thing I’m certain about our forecasts is that they’ll be wrong’

yr un peth rwyf yn sicr amdano o ran ein rhagolygon yw y byddant yn anghywir.

and that he has said:

Dywedodd hefyd:

'We’ve put money in the budget…but our budget only covers the next three years’.

Rydym wedi rhoi arian yn y gyllideb...ond mae ein cyllideb yn cwmpasu’r tair blynedd nesaf yn unig.

What contingencies have you applied in order to cover any inaccuracies in the forecast that you have been given in relation to this policy?

Pa gynlluniau wrth gefn sydd gennych i dalu am unrhyw wallau yn y rhagolwg a roddwyd ichi mewn perthynas â’r polisi hwn?

Jane Hutt: The Minister for Education and Skills and I have repeatedly assured Assembly Members that funding for these policies has been included and taken into account in the budget, and that they are fully funded until 2014-15.

Jane Hutt: Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau a minnau wedi rhoi sicrwydd i Aelodau’r Cynulliad dro ar ôl tro fod cyllid ar gyfer y polisïau hyn wedi cael ei gynnwys a’i ystyried yn y gyllideb, a’u bod wedi’u hariannu’n llawn tan 2014-15.

William Graham: I note that the Universities and Colleges Admissions Service deadline for applications was only last week, but it appears that the basis is 24,000 English students studying in Wales and 16,000 Welsh students studying over the border. The Minister has promised that this policy will be fair, equitable and sustainable. I ask again: will you have to commit extra funds to ensure that your policy can be implemented correctly?

William Graham: Nodaf mai’r wythnos ddiwethaf oedd dyddiad cau Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau  ar gyfer ceisiadau, ond mae’n ymddangos, yn ôl y ffigurau sylfaenol, y bydd 24,000 o fyfyrwyr o Loegr yn astudio yng Nghymru ac y bydd 16,000 o fyfyrwyr o Gymru yn astudio dros y ffin. Mae’r Gweinidog wedi addo y bydd y polisi hwn yn deg, yn gyfiawn ac yn gynaliadwy. Rwy’n gofyn eto: a fydd angen ichi roi arian ychwanegol i sicrhau y gallwch weithredu eich polisi’n gywir?

Jane Hutt: It is important to recognise that we are at an early stage in terms of figures for UCAS applications. Early stage data can be a poor indicator of the final number of applicants. We expect these figures to fluctuate, but the key point is that we have pledged to ensure that Welsh students do not pay higher fees, wherever they study, and we are confident that we can achieve that.

Jane Hutt: Mae’n bwysig cydnabod ein bod yn gynnar yn y broses o ran ffigurau ceisiadau UCAS. Gall data cynnar fod yn ddangosydd gwael o’r nifer terfynol o ymgeiswyr. Rydym yn disgwyl y bydd y ffigurau hyn yn amrywio, ond y prif bwynt yw ein bod wedi ymrwymo i sicrhau nad yw myfyrwyr o Gymru yn talu ffioedd uwch, lle bynnag y maent yn astudio, ac rydym yn hyderus y gallwn gyflawni hynny.

Simon Thomas: Serch hynny, mae’n amlwg bod nifer y myfyrwyr sy’n fodlon dod o Loegr a thalu’r ffioedd llawn yng Nghymru yn llai na’r disgwyl gan y Llywodraeth. Mae hefyd yn wir fod Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi gorfod rhoi cynllun newydd ar waith yn benodol ar gyfer prifysgolion yng Nghymru sy’n codi ffioedd is, er mwyn gwneud yn siŵr bod digon o le ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru. A yw’r Gweinidog yn wir wedi ei pherswadio bod digon o strwythur yng nghyllideb y Gweinidog Addysg a Sgiliau i sicrhau bod y polisi hwn yn parhau drwy gydol tymor y Llywodraeth bresennol?

Simon Thomas: However, it is clear that the number of students from England willing to come to Wales and pay the full fees is lower than the Government anticipated. It is also true that the Higher Education Funding Council for Wales has had to implement a new scheme specifically for Welsh universities that charge lower fees, in order to ensure an adequate supply of places for students in Wales. Is the Minister truly convinced that the Minister for Education and Skills’s budget is sufficiently structured to ensure that this policy can continue for the whole term of the current Government?

Jane Hutt: I have given assurances already on two points, in being clear about the funding arrangements for our policy, which I know that you have said that you support as the Plaid Cymru education spokesperson, and also in saying that it is early days in relation to assuming that the numbers of students coming to Wales to study will be reduced. I am sure that you recognise that the Minister for Education and Skills and I are working closely with Higher Education Funding Council for Wales to ensure that we can allocate this grant on behalf of students.

Jane Hutt: Rwyf wedi rhoi sicrwydd eisoes ynghylch dau bwynt. Rwyf wedi bod yn glir ynghylch y trefniadau cyllido ar gyfer ein polisi, a gwn ichi ddweud eich bod yn cefnogi’r polisi hwnnw fel llefarydd addysg Plaid Cymru. Rwyf hefyd wedi dweud ei bod yn rhy gynnar i gymryd yn ganiataol y bydd nifer y myfyrwyr sy’n dod i Gymru i astudio yn lleihau. Rwyf yn siŵr eich bod yn cydnabod bod y Gweinidog Addysg a Sgiliau a minnau yn gweithio’n agos gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i sicrhau y gallwn ddosbarthu’r grant hwn ar ran y myfyrwyr.

Cyfle Cyfartal

Equality of Opportunity

8. Mohammad Asghar: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu hybu cyfle cyfartal ledled Cymru.  OAQ(4)0067(FIN)

8. Mohammad Asghar: Will the Minister make a statement on how the Welsh Government intends to promote equality of opportunity across Wales.  OAQ(4)0067(FIN)

Jane Hutt: Our outcome-focused equality objectives and strategic equality plan, to be published in April 2012, will make a positive difference to the lives of people in Wales.

Jane Hutt: Mae ein hamcanion cydraddoldeb sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau a’n cynllun cydraddoldeb strategol, a gyhoeddir ym mis Ebrill 2012, yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yng Nghymru.

Mohammad Asghar: Thank you, Minister, for that reply. Constituents have raised with me the issue that the new service centre, next to Newport railway station, has not provided access for deaf people to use the multi-service option. Given the fact that there are vulnerable members of our community, what facilities will members of the disabled community receive to access the building and the service inside and to use the centre for advice and any other assistance, just like everyone else? Will you do something to improve that service, please?

Mohammad Asghar: Diolch, Weinidog, am yr ateb hwnnw. Mae etholwyr wedi dwyn i’m sylw y ffaith nad yw’r ganolfan gwasanaeth newydd, ger gorsaf drenau Casnewydd, wedi darparu mynediad ar gyfer pobl fyddar i ddefnyddio’r opsiwn aml-wasanaeth. O ystyried bod pobl sy’n agored i niwed yn ein cymuned, pa gyfleusterau fydd aelodau o’r gymuned anabl yn eu cael er mwyn cael mynediad i’r adeilad a’r gwasanaeth y tu mewn iddo ac i ddefnyddio’r ganolfan i gael cyngor ac unrhyw gymorth arall, yn union fel pawb arall? A wnewch rywbeth i wella’r gwasanaeth hwnnw, os gwelwch yn dda?

Jane Hutt: I am sure that you have raised this issue directly with the centre. It is, of course, important in terms of access and our commitment to equality of opportunity and, in particular, to disabled people. I hope that it will be progressed accordingly.

Jane Hutt: Rwyf yn siŵr eich bod wedi dod â’r mater hwn i sylw’r ganolfan. Wrth gwrs, mae’n bwysig o ran mynediad ac o ran ein hymrwymiad i gyfle cyfartal ac, yn arbennig, i bobl anabl. Felly, rwyf yn gobeithio y bydd y mater hwn yn symud yn ei flaen.

Rebecca Evans: The Equality and Human Rights Commission has shown that, while the gap between the poor and the rich is smaller in Wales than it is in the UK as a whole, there are some entrenched economic inequalities in relation to gender, ethnicity, age and disability. How are you working with colleagues across Government to ensure that everyone has an equal opportunity to succeed and to fulfil their potential?

Rebecca Evans: Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi dangos, er bod y bwlch rhwng y tlawd a’r cyfoethog yn llai yng Nghymru nag yn y DU yn gyffredinol, fod rhai anghydraddoldebau economaidd yn parhau o ran rhyw, ethnigrwydd, oedran ac anabledd. Sut ydych yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Llywodraeth gyfan i sicrhau bod gan bawb gyfle cyfartal i lwyddo ac i gyflawni eu potensial?

Jane Hutt: I thank Rebecca Evans for that question, because it links to the equality objectives that we will be publishing for consultation shortly. You will be able to see from those objectives that the Welsh Government will do everything that it can to help eliminate discrimination, promote equality and foster good relations. However, the key point in relation to economic inequalities is the link between our equality plan and our anti-poverty action plan and, of course, that is working across Government to deliver a positive difference to the lives of people in Wales.

Jane Hutt: Rwyf yn diolch i Rebecca Evans am y cwestiwn hwnnw, gan ei fod yn cysylltu â’r amcanion cydraddoldeb y byddwn yn eu cyhoeddi er mwyn ymgynghori arnynt maes o law. Byddwch yn gallu gweld o ddarllen yr amcanion hynny y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu i ddileu achosion o wahaniaethu, i hyrwyddo cydraddoldeb ac i feithrin cysylltiadau da. Fodd bynnag, y prif bwynt mewn perthynas ag anghydraddoldebau economaidd yw’r cyswllt rhwng ein cynllun cydraddoldeb a’n cynllun gweithredu gwrthdlodi ac, wrth gwrs, mae hynny’n gweithio ar draws y Llywodraeth i gyflawni gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yng Nghymru.

Lindsay Whittle: Can you tell us what efforts are being made by public sector bodies, such as local authorities and health boards, to enable young people with disabilities to gain work experience?

Lindsay Whittle: A allwch ddweud wrthym pa ymdrechion sy’n cael eu gwneud gan gyrff y sector cyhoeddus, fel awdurdodau lleol a byrddau iechyd, i alluogi pobl ifanc ag anableddau i gael profiad gwaith?

Jane Hutt: We are looking at that in relation to the emerging equality objectives, particularly recognising that we have to provide objectives that can accord with the responsibilities of local authorities and of health and other public bodies. I believe that this will result in specific equality objectives and action on that point.

Jane Hutt: Rydym yn ystyried hynny mewn perthynas â’r amcanion cydraddoldeb sy’n dod i’r amlwg, yn enwedig gan gydnabod bod yn rhaid inni ddarparu amcanion a all gyd-fynd â chyfrifoldebau awdurdodau lleol,  gwasanaethau iechyd a chyrff cyhoeddus eraill. Rwyf yn credu y bydd hyn yn arwain at amcanion cydraddoldeb penodol a chamau gweithredu ar y pwynt hwnnw.

Blaenoriaethau

Priorities

9. Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer Tor-faen yn 2012. OAQ(4)0076(FIN)

9. Lynne Neagle: Will the Minister outline her priorities for Torfaen in 2012. OAQ(4)0076(FIN)

Jane Hutt: In the final budget, we set out our priorities for the people of Wales. We have announced investment in the fabric of Welsh society and the Welsh economy to provide the basis for growing the economy and delivering jobs.

Jane Hutt: Yn y gyllideb derfynol, rydym yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer pobl Cymru. Rydym wedi cyhoeddi buddsoddiad yng nghymdeithas ac economi Cymru i ddarparu’r sail ar gyfer tyfu’r economi a darparu swyddi.

Lynne Neagle: I recently met a local police constable who was trying to launch a project that uses sport—in particular, football—to promote better relations between the Gypsy/Traveller community and local residents in the Cwmynyscoy area of Pontypool. The scheme hopes to recruit young people from both communities and encourage them to become team players through excursions, exercises and training. It is working with Cardiff City Football Club on that aim. Minister, would you agree that more needs to be done to promote better relations and understanding between the Gypsy/Traveller community and settled communities in Wales, that projects such as this can make a difference in building those links, and will you look at what more can be done, at a Government level, to support such projects?

Lynne Neagle: Yn ddiweddar, cefais gyfarfod â chwnstabl heddlu lleol a oedd yn ceisio lansio prosiect sy’n defnyddio chwaraeon, a phêl-droed yn benodol, i hyrwyddo gwell cysylltiadau rhwng y gymuned Sipsiwn/Teithwyr a thrigolion lleol yn ardal Cwmynyscoi ym Mhont-y-pŵl. Mae’r cynllun yn gobeithio recriwtio pobl ifanc o’r ddwy gymuned a’u hannog i fod yn chwaraewyr tîm drwy gymryd rhan mewn gwibdeithiau, ymarferion a hyfforddiant. Mae’r cynllun yn gweithio gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ar y nod hwnnw. Weinidog, a fyddech yn cytuno bod angen gwneud mwy i hyrwyddo gwell cysylltiadau a dealltwriaeth rhwng y gymuned Sipsiwn/Teithwyr a chymunedau sefydlog yng Nghymru, ac y gall prosiectau fel hyn wneud gwahaniaeth wrth feithrin y cysylltiadau hynny? A fyddwch yn ystyried beth arall y gellir ei wneud, ar lefel y Llywodraeth, i gefnogi prosiectau o’r fath?

Jane Hutt: I thank the Member for Torfaen for that very good example. That is a project that I might like to visit, if an invitation is forthcoming. It fits clearly with 'Travelling to a Better Future’, a Gypsy and Traveller framework for action and delivery plan, which I launched in 2011.

Jane Hutt: Rwyf yn diolch i’r Aelod dros Dor-faen am yr enghraifft dda iawn honno. Hoffwn ymweld â’r prosiect hwnnw, efallai, os caf wahoddiad. Mae’n cyd-fynd yn glir â’r ddogfen 'Teithio at Ddyfodol Gwell’, sef fframwaith gweithredu a chynllun cyflenwi ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, a lansiwyd gennyf yn 2011.

Nick Ramsay: Minister, may I ask you to change gear from that question and talk about health priorities and health spending in Torfaen? I recently had a meeting with the Aneurin Bevan Local Health Board and we discussed the planned new critical care centre in Llanfrechfa in Torfaen. There is a lot of support for the development in Cwmbran and the wider south-east Wales area, as the Member for Torfaen will know. However, there are still concerns about the availability of funding. Can you update us on discussions that you have had with the Minister for Health and Social Services on the scale of the funding that is available, when it will be available and when it is expected that that project will be complete and up and running?

Nick Ramsay: Weinidog, gofynnaf ichi newid gêr o’r cwestiwn hwnnw ac i siarad am flaenoriaethau iechyd a gwariant ar iechyd yn Nhor-faen. Yn ddiweddar, cefais gyfarfod gyda Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan a thrafodwyd y ganolfan gofal critigol newydd arfaethedig yn Llanfrechfa yn Nhor-faen. Mae llawer o gefnogaeth ar gyfer y datblygiad yng Nghwmbrân ac yn ardal ehangach y de-ddwyrain, fel y gŵyr yr Aelod dros Dor-faen. Fodd bynnag, mae pryderon o hyd ynglŷn ag argaeledd cyllid. A wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am y trafodaethau rydych wedi’u cael â’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch faint o gyllid sydd ar gael, pryd fydd ar gael, a phryd y disgwylir y bydd y prosiect yn cael ei gwblhau ac y bydd yn weithredol?

2.00 p.m.

 

Jane Hutt: The additional funding of £288 million over the next three years, which we have put in, demonstrates our commitment to the NHS and, in particular, to putting it on a sustainable financial footing. Clearly, we are working with the health boards on proposals and important developments of the capital schemes that are needed to deliver that.

Jane Hutt: Mae’r cyllid ychwanegol o £288 miliwn dros y tair blynedd nesaf yr ydym wedi’i roi yn dangos ein hymrwymiad i’r GIG ac, yn benodol, i roi sylfaen ariannol gynaliadwy iddo. Yn amlwg, rydym yn gweithio gyda’r byrddau iechyd ar gynigion a datblygiadau pwysig ar y cynlluniau cyfalaf sydd eu hangen i gyflawni hynny.

Jocelyn Davies: Minister, there is a great deal of support locally for the electrification of the Valleys lines, including in Torfaen, which, I am sure, is a local authority area that would benefit hugely from that. What are the financial implications for the Assembly Government if the UK Government gives this scheme the go-ahead?

Jocelyn Davies: Weinidog, mae llawer iawn o gefnogaeth yn lleol ar gyfer trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd, gan gynnwys yn Nhor-faen, sydd, rwy’n siŵr, yn ardal awdurdod lleol a fyddai’n elwa’n fawr o wneud hynny. Beth yw’r goblygiadau ariannol i Lywodraeth y Cynulliad os bydd Llywodraeth y DU yn caniatáu i’r cynllun hwn fynd yn ei flaen?

Jane Hutt: Clearly, the Minister for Local Government and Communities is progressing this scheme. Of course, it is a scheme for the Department for Transport. Indeed, he met Ministers earlier this week to progress this important project.

Jane Hutt: Yn amlwg, mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn mynd â’r cynllun hwn yn ei flaen. Wrth gwrs, cynllun ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth ydyw. Yn wir, cafodd gyfarfod â Gweinidogion yn gynharach yr wythnos hon i symud y prosiect pwysig hwn ymlaen.

The Record

Blaenoriaethau

Priorities

10. Jocelyn Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf. OAQ(4)0068(FIN)

10. Jocelyn Davies: Will the Minister make a statement on her priorities for the coming year. OAQ(4)0068(FIN)

Jane Hutt: We set out our spending priorities in the final budget for 2012-13. We are committed to supporting the economic recovery and to delivering the high-quality public services that people across Wales deserve.

Jane Hutt: Nodwyd ein blaenoriaethau gwario yn y gyllideb derfynol ar gyfer 2012-13. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi adferiad economaidd ac i ddarparu’r gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel y mae pobl ledled Cymru yn eu haeddu.

Jocelyn Davies: Your budget has also allocated extra resources to our NHS. What is your response to the view of the 23 Welsh Labour MPs who favour bringing in the private sector? Will you reaffirm the 'One Wales’ commitment to resist the privatisation of our health service?

Jocelyn Davies: Mae eich cyllideb hefyd wedi dyrannu adnoddau ychwanegol i’n GIG. Beth yw eich ymateb i farn y 23 Aelod Seneddol Llafur Cymru sydd o blaid cynnwys y sector preifat? A wnewch ailddatgan ymrwymiad 'Cymru’n Un’ i wrthsefyll preifateiddio ein gwasanaeth iechyd?

Jane Hutt: The First Minister answered this question yesterday, and very clearly reaffirmed our commitment to delivering the NHS as the publicly provided national health service of Wales.

Jane Hutt: Atebodd y Prif Weinidog y cwestiwn hwn ddoe, gan ailadrodd ein hymrwymiad i gyflenwi’r GIG fel gwasanaeth iechyd cenedlaethol Cymru a ddarperir yn gyhoeddus.

Mick Antoniw: Minister, I have in front of me a letter from George Osborne addressed to Jeremy Cope, chair of the pay review body, dated 7 December 2011. He is making clear that he wants research carried out with a view to introducing that body’s conclusions to the NHS pay review. He wants the findings by 17 July 2012. He has copied in the Chief Secretary to the Treasury, the Secretary of State for Health and a Minister of the Cabinet Office only. Has the Welsh Government received any communication from George Osborne about the attempt to introduce regional pay to the NHS pay negotiations at that time? Have there been any consultations whatsoever? What are the implications? Will you be making representations to the Chancellor, submitting our view of the disastrous consequences of regional pay in the Welsh NHS and the institutionalised nature of poverty—

Mick Antoniw: Weinidog, mae gen i o’m blaen lythyr gan George Osborne at Jeremy Cope, cadeirydd y corff adolygu cyflogau, dyddiedig 7 Rhagfyr 2011. Mae’n gwneud yn glir ei fod am weld gwaith ymchwil yn cael ei wneud gyda’r bwriad o gyflwyno casgliadau’r corff hwnnw i adolygiad tâl y GIG. Mae am weld y canfyddiadau erbyn 17 Gorffennaf 2012. Mae wedi anfon copïau o’r llythyr at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ac un o Weinidogion Swyddfa’r Cabinet yn unig. A yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw ohebiaeth gan George Osborne am yr ymgais i gyflwyno cyflogau rhanbarthol i drafodaethau ar gyflogau’r GIG ar y pryd? A fu unrhyw ymgynghoriadau o gwbl? Beth yw’r goblygiadau? A fyddwch yn gwneud sylwadau i’r Canghellor sy’n mynegi ein barn ar ganlyniadau trychinebus cyflogau rhanbarthol i’r GIG yng Nghymru a natur sefydliadol tlodi—

The Presiding Officer: Order. I think that you made your point early on. You need answer only one question, Minister.

Y Llywydd: Trefn. Rwy’n credu eich bod eisoes wedi gwneud eich pwynt. Dim ond un cwestiwn sydd angen i chi ei ateb, Weinidog.

Jane Hutt: I am certainly glad to respond to Mick Antoniw’s question. Indeed, the First Minister responded very robustly yesterday. More than 300,000 public sector workers could be affected by this. Following the First Minister’s response in Plenary, we should be clear that we are not supporting a race to the bottom on pay. In answer to your specific question, we are seeking to engage with the UK Government to ensure that we exert maximum influence on the UK Government and the pay review bodies, because we see the dangers of regional pay distorting or fracturing long-established pay-bargaining arrangements and relativities.

Jane Hutt: Rwyf yn sicr yn falch o ymateb i gwestiwn Mick Antoniw. Yn wir, ymatebodd y Prif Weinidog yn gadarn iawn ddoe. Gallai hyn effeithio ar fwy na 300,000 o weithwyr yn y sector cyhoeddus . Yn dilyn ymateb y Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn, dylem fod yn glir nad ydym yn cefnogi ras i’r gwaelod mewn perthynas â chyflogau. Mewn ymateb i’ch cwestiwn penodol, rydym yn ceisio ymgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod yn cael y dylanwad mwyaf posibl ar Lywodraeth y DU a’r cyrff adolygu cyflogau, oherwydd ein bod yn gweld peryglon cyflogau rhanbarthol o ran newid neu ddryllio’r trefniadau sydd wedi hen sefydledu ynghylch trafodaethau ar gyflog a pherthynoledd y rheini.

Paul Davies: With regard to the health service, you have made it clear in the past few months that you expect local health boards to manage within their budgets and meet the standards that have been set. However, it is widely believed that only one local health board will break even. You have told us that there are no contingency plans in place should local health boards not break even. However, what discussions has the Minister had with the Minister for Health and Social Services should there be LHBs that do not break even, and what action will the Welsh Government take?

Paul Davies: O ran y gwasanaeth iechyd, rydych wedi gwneud yn glir yn y misoedd diwethaf eich bod yn disgwyl i fyrddau iechyd lleol ymdopi o fewn eu cyllidebau a chyrraedd y safonau sydd wedi’u pennu. Fodd bynnag, credir yn eang mai dim ond un bwrdd iechyd lleol fydd yn adennill ei gostau. Rydych wedi dweud wrthym nad oes cynlluniau wrth gefn os na fydd byrddau iechyd lleol yn adennill eu costau. Fodd bynnag, pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi eu cael gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar fyrddau iechyd lleol nad ydynt yn adennill eu costau, a pha gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd?

Jane Hutt: I would say to the opposition spokesperson on finance that, as Minister for Finance, I do not take account of issues that are 'widely believed to be the case’. Something being widely believed is not the basis on which the Minister for health and I monitor spend in month nine or 10 of this financial year with regard to the outcome. Yes, of course, as I said, we are working to ensure that we put the NHS on a sustainable financial footing, and the extra £288 million was a key addition to my budget.

Jane Hutt: Byddwn yn dweud wrth lefarydd yr wrthblaid ar gyllid nad wyf, fel Gweinidog Cyllid, yn ystyried materion a 'gredir yn eang’. Nid yw rhywbeth sy’n cael ei gredu’n eang yn sylfaen i waith y Gweinidog iechyd a minnau wrth inni fonitro gwariant yn ystod mis naw neu fis 10 y flwyddyn ariannol hon o ran y canlyniadau. Wrth gwrs, fel y dywedais, rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn rhoi sylfaen ariannol gynaliadwy i’r GIG, ac roedd y £288 miliwn ychwanegol yn ychwanegiad allweddol at fy nghyllideb.

The Record

Paul Davies: Clearly, the Minister is much more confident than everyone else that the NHS is on a sustainable financial footing. You expect LHBs to manage within their budgets over the full year and to meet the standards that have been set, and we were told by the Minister for Health and Social Services that failure to do so would result in serious consequences. Will the Minister tell us what those consequences are? What action will the Minister take, alongside the Minister for health, to ensure that local health boards are held to account for the financial management of their organisations?

Paul Davies: Yn amlwg, mae’r Gweinidog yn llawer mwy hyderus na phawb arall fod gan y GIG sylfaen ariannol gynaliadwy. Rydych yn disgwyl i fyrddau iechyd lleol reoli o fewn eu cyllidebau dros y flwyddyn lawn a chyrraedd y safonau a bennwyd, a dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wrthym y byddai methu â gwneud hyn yn arwain at ganlyniadau difrifol. A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym beth yw’r canlyniadau hyn? Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd, ochr yn ochr â’r Gweinidog iechyd, er mwyn sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn cael eu dwyn i gyfrif am reolaeth ariannol eu sefydliadau?

Jane Hutt: You, your constituents and all Assembly Members need to be reassured that we are working closely with the NHS, as we have done over a number of years, to deliver efficiencies. We are confident that that work will ensure that the increased budget settlement that I have made will place the NHS on a sustainable footing. We are monitoring it carefully over the financial year.

Jane Hutt: Dylech chi, eich etholwyr a’r holl Aelodau Cynulliad fod yn dawel eich meddwl ein bod yn gweithio’n agos gyda’r GIG, fel yr ydym wedi gwneud dros nifer o flynyddoedd, i sicrhau effeithlonrwydd. Rydym yn hyderus y bydd y gwaith hwn yn sicrhau y bydd y setliad cyllidebol uwch yr wyf wedi’i wneud yn rhoi sylfaen gynaliadwy i’r GIG. Rydym yn monitro hyn yn ofalus dros y flwyddyn ariannol.

The Leader of the Welsh Liberal Democrats (Kirsty Williams): Minister, could you outline where, in your list of priorities, help for first-time buyers may feature in your deliberations? In the budget that has already been announced, some considerable resources have gone into providing additional low-cost and affordable housing. Would you agree that there is also a need to help those who can afford a monthly mortgage repayment but need a little additional help with purchasing to secure a foot on the housing ladder? That would also take pressure off social housing, for which there are long waiting lists at the moment.

Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (Kirsty Williams): Weinidog, a allwch amlinellu ble, yn eich rhestr o flaenoriaethau, y mae cymorth i brynwyr am y tro cyntaf yn codi yn eich trafodaethau? Yn y gyllideb sydd eisoes wedi ei chyhoeddi, mae rhai adnoddau sylweddol wedi mynd tuag at ddarparu tai cost isel a fforddiadwy ychwanegol. A fyddech hefyd yn cytuno bod angen helpu’r rhai sy’n gallu fforddio ad-daliad morgais misol ond sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol i brynu er mwyn iddynt gael eu tŷ cyntaf? Byddai hynny hefyd yn mynd â phwysau oddi ar dai cymdeithasol, sydd â rhestrau aros hir ar hyn o bryd.

Jane Hutt: I certainly agree with the leader of the Welsh Liberal Democrats that we need to look at every avenue to ensure that we can deal with pressing housing need. Investment in social housing has been a priority with regard to the economic stimulus and the centrally retained capital fund announcements. Help for first-time buyers is important, and I congratulate Conwy County Borough Council for its initiative, which I welcome; I am sure that other local authorities are following that initiative.

Jane Hutt: Rwyf yn sicr yn cytuno ag Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru fod angen inni edrych ar bob trywydd i sicrhau ein bod yn gallu delio â’r angen enbyd am dai. Mae buddsoddi mewn tai cymdeithasol wedi bod yn flaenoriaeth o ran yr ysgogiad economaidd a’r cyhoeddiadau ynghylch y gronfa gyfalaf a gedwir yn ganolog. Mae cymorth i brynwyr am y tro cyntaf yn bwysig, ac rwy’n llongyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar ei fenter, sydd i’w chroesawu; rwy’n siŵr bod awdurdodau lleol eraill yn dilyn y fenter honno.

The Record

Cyllideb y Portffolio Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Business, Enterprise, Technology and Science Portfolio Budget

11. Alun Ffred Jones: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb gyffredinol a ddyrannwyd i’r portffolio Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth. OAQ(4)0074(FIN)

11. Alun Ffred Jones: Will the Minister make a statement on the overall budget allocation to the Business, Enterprise, Technology and Science portfolio. OAQ(4)0074(FIN)

Jane Hutt: Mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13 yn cynnwys dyraniad o dros £272 miliwn ar gyfer y portffolio busnes, menter, technoleg a gwyddoniaeth.

Jane Hutt: Included in the Welsh Government’s budget for 2012-13 is an allocation of over £272 million for the business, enterprise, technology and science portfolio.  

Alun Ffred Jones: Mae’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth wedi sefydlu panel i edrych ar ryddhad ardrethi busnes i fusnesau bach. Pe bai’r panel hwnnw, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Brian Morgan, yn argymell ehangu’r cynllun, a fyddech, fel y Gweinidog cyllid, mewn sefyllfa i ymateb yn gadarnhaol? Fel arall, mae’n ymddangos i mi fod gwaith y panel yn ddibwrpas.

Alun Ffred Jones: The Minister for Business, Enterprise, Technology and Science has established a panel to look at business rate relief for small businesses. Were that panel, chaired by Professor Brian Morgan, to recommend extending the scheme, would you, as the Minister for Finance, be in a position to respond positively? Otherwise, it appears to me that the work of the panel is without purpose.

The Record

Jane Hutt: The panel was set up before we had the welcome announcement in the autumn statement that funding would be available to extend the business rate relief scheme. We await the outcome of the panel for further consideration.

Jane Hutt: Cafodd y panel ei sefydlu cyn inni glywed y cyhoeddiad a oedd i’w groesawu yn natganiad yr hydref y byddai arian ar gael i ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi busnes. Rydym yn aros am ganlyniad trafodaethau’r panel i’w ystyried ymhellach.

William Graham: Minister, I am sure that you, like me and many other Members, receive many queries by people asking what grants are available to start up or expand their businesses. The United Kingdom Government is introducing a national loans guarantee scheme. Does this feature at all in your plans?

William Graham: Weinidog, yr wyf yn siŵr eich bod, fel fi ac Aelodau eraill, yn cael llawer o ymholiadau gan bobl yn gofyn pa grantiau sydd ar gael i sefydlu neu ehangu eu busnesau. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyflwyno cynllun gwarantu benthyciadau cenedlaethol. A yw hyn yn codi o gwbl yn eich cynlluniau?

Jane Hutt: This is a question for the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science.

Jane Hutt: Cwestiwn ar gyfer y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yw hwn.

Eluned Parrott: I want to ask about the allocation of funding to enterprise zones. The amount that will be spent will depend on the needs of the zones, as the First Minister said yesterday. However, at the moment, as we do not know where the second tranche of enterprise zones will be, we cannot know what their needs will be. Will you tell us what assumptions have been made in allocating funds to this particular budget line?

Eluned Parrott: Rwyf am ofyn am ddyrannu cyllid i ardaloedd menter. Bydd y swm a fydd yn cael ei wario yn dibynnu ar anghenion yr ardaloedd, fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, gan nad ydym yn gwybod ble y bydd ail gyfran yr ardaloedd menter yn cael ei lleoli, ni allwn wybod beth fydd eu hanghenion. A wnewch ddweud wrthym pa ragdybiaethau sydd wedi cael eu gwneud wrth ddyrannu cyllid i’r llinell gyllidebol arbennig hon?

Jane Hutt: You will be aware that we made an allocation in the economic stimulus package for infrastructure needs within one of the enterprise zones already announced. The Minister will come forward with an update on this before the end of the month.

Jane Hutt: Byddwch yn ymwybodol ein bod wedi gwneud dyraniad yn y pecyn ysgogiad economaidd ar gyfer anghenion seilwaith o fewn un o’r ardaloedd menter sydd eisoes wedi’u cyhoeddi. Bydd y Gweinidog yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am hyn cyn diwedd y mis.

The Record

Blaenoriaethau Portffolio

Portfolio Priorities

12. Russell George: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau portffolio ar gyfer y chwe mis nesaf. OAQ(4)0069(FIN)

12. Russell George: Will the Minister make a statement on her portfolio priorities for the next six months. OAQ(4)0069(FIN)

The Record

Jane Hutt: We are committed to delivering better outcomes for people and communities across Wales and protect the most vulnerable in our society. We laid out our priorities in the final budget for 2012-13.

Jane Hutt: Rydym wedi ymrwymo i sicrhau canlyniadau gwell i bobl a chymunedau ledled Cymru ac amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Nodwyd ein blaenoriaethau yn y gyllideb derfynol ar gyfer 2012-13.

Russell George: I would like some clarity on the support funding for organisations in Wales that provide advice to the Welsh public, such as the Bro Ddyfi Advice Centre in Montgomeryshire. As you know, the UK Government has allocated £20 million to support free advice centres across the UK in this financial year. I understand that the Welsh consequential is just under £1 million. I also understand that the Welsh Government’s decision on the distribution of this money does not always follow the UK Government policy on allocation—it will be added to reserves in the normal way, where it will remain pending any further decision. Can you confirm that you have discussed this with your colleague the Minister for Local Government and Communities? Has any decision been made to earmark this additional UK Government money for help and advice services in Wales?

Russell George: Hoffwn gael rhywfaint o eglurder ar y cyllid i gynorthwyo sefydliadau yng Nghymru sy’n darparu cyngor i’r cyhoedd yng Nghymru, fel Canolfan Cynghori Bro Ddyfi yn sir Drefaldwyn. Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu £20 miliwn i gefnogi canolfannau cyngor am ddim ledled y DU yn y flwyddyn ariannol hon. Rwy’n cael ar ddeall mai ychydig o dan £1 miliwn yw’r swm canlyniadol i Gymru. Rwyf hefyd yn deall nad yw penderfyniad Llywodraeth Cymru ar ddosbarthu’r arian hwn bob amser yn dilyn polisi Llywodraeth y DU ar ddyraniadau— caiff yr arian ei ychwanegu at gronfeydd wrth gefn yn y ffordd arferol, lle y bydd yn aros hyd nes y bydd unrhyw benderfyniad pellach yn cael ei wneud. A allwch gadarnhau eich bod wedi trafod hyn gyda’ch cyd-Weinidog, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau? A oes unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud i glustnodi’r arian ychwanegol hwn gan Lywodraeth y DU ar gyfer gwasanaethau cymorth a chynghori yng Nghymru?

Jane Hutt: I thank Russell George for that important question. The cuts in support, particularly financial support, for legal aid are having a major negative impact with regard to access to advice services. The Minister for Local Government and Communities and I have met to discuss this issue, in the context of Welsh needs and circumstances and the best way to progress. I am also consulting with the independent federations and fora of advice givers.

Jane Hutt: Diolch i Russell George am y cwestiwn pwysig hwnnw. Mae’r toriadau i gymorth, yn enwedig cymorth ariannol, ar gyfer cymorth cyfreithiol yn cael effaith negyddol fawr o ran mynediad at wasanaethau cynghori. Rwyf wedi cyfarfod â’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i drafod y mater hwn, yng nghyd-destun anghenion ac amgylchiadau Cymru a’r ffordd orau i symud ymlaen. Rwyf hefyd yn ymgynghori â’r ffederasiynau annibynnol a fforymau’r rhai sy’n rhoi cyngor.

The Record

Portffolio Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Environment and Sustainable Development Portfolio

13. Antoinette Sandbach: Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch y cyllid a ddyrannwyd i’r portffolio Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy. OAQ(4)0071(FIN)

13. Antoinette Sandbach: What discussions has the Minister had concerning the funding allocation to the Environment and Sustainable Development portfolio. OAQ(4)0071(FIN)

Jane Hutt: I have regular discussions with the Minister for Environment and Sustainable Development, in which we discuss a range of financial issues relating to the portfolio.

Jane Hutt: Rwyf yn cael trafodaethau rheolaidd â Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, ac rydym yn trafod ystod o faterion ariannol mewn perthynas â’r portffolio yn ystod y trafodaethau hyn.

Antoinette Sandbach: I am grateful for that answer, Minister. Your Government’s proposal to merge the three environmental bodies will have a long-lasting impact on the environment portfolio. Given that achieving better value for money has been one of the key arguments in favour of the merger, can you confirm that both you and the Minister for environment are fully confident of the economic case for including the Forestry Commission in the merger? What discussions have you had over the way in which projected staff savings will occur if the merger goes ahead?

Antoinette Sandbach: Rwyf yn ddiolchgar am yr ateb hwnnw, Weinidog. Bydd cynnig eich Llywodraeth i uno’r tri chorff amgylcheddol yn cael effaith hirdymor ar bortffolio’r amgylchedd. O ystyried bod sicrhau gwell gwerth am arian wedi bod yn un o’r dadleuon allweddol o blaid yr uno, a allwch gadarnhau eich bod chi a Gweinidog yr amgylchedd yn gwbl hyderus ynghylch yr achos economaidd o blaid cynnwys y Comisiwn Coedwigaeth yn yr uno? Pa drafodaethau yr ydych wedi’u cael ar y ffordd y rhagwelir y bydd arbedion staff yn digwydd os bydd yr uno’n mynd yn ei flaen?

Jane Hutt: On the way forward with regard to the single environmental body, we hope that the vesting of the new body will take place next year, in 2013. The consultation starts next month, which will be an opportunity for everyone to bring forward their needs and their concerns and issues about the new body. A single body will provide a more integrated approach to how we manage our environment and its natural resources. We are clearly engaged in this with regard to the financial benefits, and I recently announced an invest-to-save allocation to assist in the planning development for this single environmental body.

Jane Hutt: O ran y ffordd ymlaen ar gyfer un corff amgylcheddol, gobeithiwn y bydd breinio’r corff newydd yn digwydd y flwyddyn nesaf, sef 2013. Mae’r ymgynghoriad yn dechrau fis nesaf, a bydd yn gyfle i bawb gyflwyno eu hanghenion a’u pryderon a materion yn ymwneud â’r corff newydd. Bydd un corff yn cynnig dull mwy integredig o ran sut yr ydym yn rheoli ein hamgylchedd a’i adnoddau naturiol. Rydym yn cymryd rhan amlwg yn hyn o ran y buddion ariannol, ac yn ddiweddar cyhoeddais ddyraniad buddsoddi i arbed er mwyn cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu cynlluniau ar gyfer yr un corff amgylcheddol hwn.

Simon Thomas: If the merger goes ahead to create a single environmental body, which I think will bring potential benefits for the environment in Wales, there may be savings within the portfolio, as a result of cutting down on bureaucracy and red tape—things that the party opposite might like to welcome. If such savings happen, will you be sympathetic to the Minister for environment to allow him to keep some of these savings within his portfolio so that he can direct them into improving Wales’s environment for the benefit of our tourists and farmers?

Simon Thomas: Os bydd yr uno’n mynd yn ei flaen i greu un corff amgylcheddol, ac rwy’n credu y byddai hynny’n dod â manteision posibl i’r amgylchedd yng Nghymru, efallai y bydd arbedion o fewn y portffolio, o ganlyniad i gwtogi biwrocratiaeth—pethau y byddai’r blaid gyferbyn o bosibl am eu croesawu. Os bydd arbedion o’r fath yn digwydd, a fyddwch yn caniatáu i Weinidog yr amgylchedd gadw rhai o’r arbedion hyn o fewn ei bortffolio fel y gall eu cyfeirio at wella amgylchedd Cymru er budd ein twristiaid a’n ffermwyr?

Jane Hutt: I am grateful for your support, in principle, for a single environmental body. It is important that we see that this will become a major public institution created in Wales. Indeed, the work of thinking this through started with predecessors in the One Wales Government. It is important that we look at the priorities of the Minister for Environment and Sustainable Development’s budget, but, of course, I must look at the priorities of all Ministers in this Welsh Government.

Jane Hutt: Rwyf yn ddiolchgar am eich cefnogaeth, mewn egwyddor, i un corff amgylcheddol. Mae’n bwysig ein bod yn gweld y corff hwn yn dod yn sefydliad cyhoeddus mawr a grëwyd yng Nghymru. Yn wir, dechreuodd y gwaith o feddwl am hyn gyda’n rhagflaenwyr yn Llywodraeth Cymru’n Un. Mae’n bwysig ein bod yn edrych ar flaenoriaethau cyllideb Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, ond, wrth gwrs, rhaid i mi edrych ar flaenoriaethau holl Weinidogion Llywodraeth Cymru.

Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Questions to the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science

The Record

Ffatrïoedd Cymru

Welsh Factories

1. Mick Antoniw: A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a allai helpu ffatrïoedd yng Nghymru i ennill contractau gydag awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru. OAQ(4)0082(BET)

1. Mick Antoniw: Will the Minister outline the assistance available from the Welsh Government which may help Welsh factories secure contracts with Welsh local authorities and other public bodies in Wales. OAQ(4)0082(BET)

The Minister for Business, Enterprise, Technology and Science (Edwina Hart): We are assisting Welsh businesses to secure public sector contracts through our supplier development service, which offers a range of support for small and medium-sized businesses, including a programme of events, such as how-to-tender and meet-the-buyer workshops. Our Sell2Wales website is also used to advertise procurement opportunities.

Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (Edwina Hart): Rydym yn helpu busnesau Cymru i sicrhau contractau sector cyhoeddus drwy ein gwasanaeth datblygu cyflenwyr, sy’n cynnig ystod o gymorth i fusnesau bach a chanolig, gan gynnwys rhaglen o ddigwyddiadau, fel gweithdai sut i dendro a chyfarfod â’r prynwr. Mae ein gwefan GwerthwchiGymru hefyd yn cael ei defnyddio i hysbysebu cyfleoedd caffael.

Mick Antoniw: I know that Remploy is a particular company that is close to your heart and that you have been very much engaged with over the past years. Could you give further consideration to ways in which particular public sector procurement can be used and perhaps encouraged by the Welsh Government, to secure that additional support and growth for the Remploy factories in Wales?

Mick Antoniw: Rwy’n gwybod bod Remploy yn gwmni sy’n agos at eich calon a’ch bod wedi bod yn ymwneud yn fawr iawn â’r cwmni hwnnw dros y blynyddoedd diwethaf. A allech roi ystyriaeth bellach i’r ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ac annog caffael sector cyhoeddus, i sicrhau’r cymorth a’r twf ychwanegol hynny ar gyfer ffatrïoedd Remploy yng Nghymru?

2.15 p.m.

 

Edwina Hart: We very much welcome the passionate commitment of Remploy workers and the role that they want to take, because Remploy provides essential services in Wales in terms of employment. As a Welsh Government, we have set up a contract for recycling, and Remploy is one of the two supported businesses on that contract. We are also considering suitable measures to support Remploy factories in Wales, including working on a new engagement strategy to better match up public sector demand with what the supported business sector, including Remploy, has to offer.

Edwina Hart: Rydym yn croesawu ymrwymiad angerddol gweithwyr Remploy a’r rôl y maent am ei chwarae, gan fod Remploy yn darparu gwasanaethau hanfodol yng Nghymru o ran cyflogaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu contract ar gyfer ailgylchu, ac mae Remploy yn un o’r ddau fusnes a gefnogir ar y contract hwnnw. Rydym hefyd yn ystyried mesurau addas i gefnogi ffatrïoedd Remploy yng Nghymru, gan gynnwys gweithio ar strategaeth ymgysylltu newydd i sicrhau bod galw yn y sector cyhoeddus yn cyd-fynd yn well â’r hyn sydd gan y sector busnes a gefnogir, gan gynnwys Remploy, i’w gynnig.

Darren Millar: It is not only factories that are making bids for local authority and public body contracts. A number of excellent small and specialist companies in Wales can do an excellent job when it comes to providing the public sector with a service, including Waterco Ltd, a business in my constituency of Clwyd West that provides water consultancy. One of the problems that they encounter are the framework contracts, which are often large, and they are often only able to provide a service for part of those contracts, which is a barrier to their being able to access business from the public sector. What are you doing to make it easier for those sorts of smaller, specialist companies to be able to access public sector work?

Darren Millar: Nid ffatrïoedd yn unig sy’n gwneud ceisiadau ar gyfer contractau awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus. Gall nifer o gwmnïau bach ac arbenigol rhagorol yng Nghymru wneud gwaith ardderchog o ran darparu gwasanaeth i’r sector cyhoeddus, gan gynnwys Waterco Ltd, busnes yn fy etholaeth yng Ngorllewin Clwyd sy’n darparu gwasanaeth ymgynghori  dŵr. Un o’r problemau y maent yn eu hwynebu yw’r contractau fframwaith, sydd yn aml yn fawr. Yn aml, dim ond rhan o’r contractau y gallant ddarparu gwasanaeth ar ei gyfer, sy’n rhwystr i’w gallu i gael busnes gan y sector cyhoeddus. Beth rydych yn ei wneud er mwyn ei gwneud yn haws i’r mathau hynny o gwmnïau arbenigol llai o faint gael gafael ar waith sector cyhoeddus?

Edwina Hart: I have been discussing with my colleague the Minister for finance various issues concerning framework contracts. She is undertaking a review in her department of their operation. Julie James and her group are also looking at these issues. In the microbusiness strategy that was published this morning, public sector procurement was a main issue for microbusinesses, and they are talking about simplifying public sector procurement processes. They are also looking at the potential for having a procurement commission or a commissioner for Wales who could look at things and at specifying local sourcing as part of public sector procurement. As a Government, we will take those recommendations forward.

Edwina Hart: Rwyf wedi bod yn trafod nifer o faterion yn ymwneud â chontractau fframwaith gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyllid. Mae ei hadran yn cynnal adolygiad o’r modd y cânt eu gweithredu. Mae Julie James a’i grŵp hefyd yn edrych ar y materion hyn. Yn y strategaeth microfusnesau a gyhoeddwyd y bore yma, caffael sector cyhoeddus oedd y prif fater ar gyfer microfusnesau, ac maent yn siarad am symleiddio prosesau caffael y sector cyhoeddus. Maent hefyd yn edrych ar y potensial o gael comisiwn caffael neu gomisiynydd i Gymru a allai edrych ar bethau ac ar nodi ffynonellau lleol fel rhan o’r broses gaffael yn y sector cyhoeddus. Fel Llywodraeth, byddwn yn bwrw ymlaen â’r argymhellion.

Alun Ffred Jones: A pharhau gyda’r drafodaeth hon ar y cytundebau fframwaith, nid oes dwywaith bod y cytundebau fframwaith hyn yn cau allan cwmnïau rhag tendro neu gymryd rhan yn y broses dendro am gyfnodau hir. Hoffwn sefydlu, i ddechrau, a yw’r Llywodraeth o blaid y cytundebau fframwaith hyn, neu a yw’n amcanu eu newid neu eu dileu.

Alun Ffred Jones: To continue this discussion on the framework agreements, there is no doubt that these agreements exclude companies from tendering or participating in the tendering process for long periods of time. I would like to establish, in the first place, whether the Government is in favour of these framework agreements or whether it is aiming to change or abolish them.

Edwina Hart: Framework agreements are agreements that we have worked through and have been discussing with Jane Hutt. Jane is obviously open to any suggestions on the future operation of framework contracts, because they can produce economies of scale in terms of public procurement. We are also well aware of some of the problems that companies are experiencing, therefore, we are looking constructively at this issue.

Edwina Hart: Rydym wedi gweithio ar gytundebau fframwaith ac rydym wedi’u  trafod gyda Jane Hutt. Mae Jane yn amlwg yn agored i unrhyw awgrymiadau am y modd y caiff contractau fframwaith eu gweithredu yn y dyfodol, oherwydd gallant greu arbedion maint o ran caffael cyhoeddus. Rydym hefyd yn ymwybodol iawn o rai o’r problemau y mae cwmnïau’n eu cael, felly rydym yn edrych yn adeiladol ar y mater hwn.

Alun Ffred Jones: Rwyf dal yn ansicr a yw’r Llywodraeth o blaid cytundebau fframwaith ai peidio. Mae’r Llywodraeth wedi annog cynghorau lleol ac eraill i greu’r cytundebau fframwaith hyn gyda’r bwriad, fel roeddech yn dweud, o arbed arian. Yr hyn sydd yn digwydd, yn anffodus, yw, gan eu bod yn cau cwmnïau allan, fod y cwmnïau yn darganfod eu bod mewn sefyllfa lle maent yn colli trosiant ac yn methu mynd am gytundebau mwy. Felly, a gaf i ddatganiad clir a yw’r Llywodraeth bellach yn ailystyried ac yn bwriadu dileu’r cytundebau fframwaith hyn o’r system dendro gyhoeddus?

Alun Ffred Jones: I am still not certain as to whether the Government is in favour of framework agreements or not. The Government has encouraged local councils and others to draw up these framework agreements with the intention, as you said, of saving money. Unfortunately, because they exclude companies, those companies find themselves in a situation in which they are losing turnover and, as a result, cannot tender for the larger contracts. Therefore, may I have a clear statement as to whether the Government is now reconsidering and intends to abolish these framework agreements from the public tendering process?

Edwina Hart: I think that I have already given a clear statement. The Minister for finance is reviewing all these issues. The jury is out on framework contracts in certain regards, but, on the other hand, framework contracts have also proved useful. We are looking at the evidence that we are accumulating from various sources before the Minister for finance takes any further decisions in this area.

Edwina Hart: Credaf fy mod eisoes wedi gwneud datganiad clir. Mae’r Gweinidog Cyllid yn adolygu’r holl faterion hyn. Amser a ddengys beth fydd dyfodol contractau fframwaith, ond maent wedi bod yn ddefnyddiol. Rydym yn edrych ar y dystiolaeth rydym yn ei chasglu o wahanol ffynonellau cyn i’r Gweinidog Cyllid wneud rhagor o benderfyniadau yn y maes hwn.

Creu Swyddi

Job Creation

2. Jocelyn Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am greu swyddi yn y De Ddwyrain. OAQ(4)0076(BET)

2. Jocelyn Davies: Will the Minister make a statement on job creation in South East Wales. OAQ(4)0076(BET)

Edwina Hart: The programme for government sets out our priorities for growth and sustainable jobs throughout Wales.

Edwina Hart: Mae’r rhaglen lywodraethu yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer twf a swyddi cynaliadwy ledled Cymru.

Jocelyn Davies: Recent figures show that, in Blaenau Gwent, there are 17 jobseekers for every single vacancy, and, across Wales, there are 76,000 for just 16,000 vacancies. This is a time for serious action to stimulate the economy. Will you adopt the Build for Wales programme, which could significantly improve these depressing statistics?

Jocelyn Davies: Mae ffigurau diweddar yn dangos bod 17 o geiswyr gwaith ar gyfer pob swydd wag ym Mlaenau Gwent. Drwy Gymru, mae 76,000 o bobl yn ceisio am  16,000 o swyddi. Mae angen gweithredu o ddifrif nawr i ysgogi’r economi. A fyddwch yn mabwysiadu’r rhaglen Adeiladu i Gymru, a allai wella’r ystadegau digalon hyn yn sylweddol?

Edwina Hart: I will certainly look at the Build for Wales programme, have discussions with my officials and other interested parties, and report back to the Assembly on the outcome of those deliberations.

Edwina Hart: Byddaf yn sicr yn edrych ar y rhaglen Adeiladu i Gymru, yn cynnal trafodaethau gyda’m swyddogion a phartïon eraill sydd â diddordeb, ac yn adrodd yn ôl i’r Cynulliad ar ganlyniad y trafodaethau hynny.

Nick Ramsay: Minister, will you join me in welcoming the valuable job creation work done by Working Links, which is contracted under the work programme in Wales, which has been a very successful policy? I am sure that you are aware that Working Links has seen some 23,000 people in Wales get back into work, and in relation to the question asked by Jocelyn Davies about south-east Wales, there is a real focus on helping job centres and other providers. How are you working with that company, and what are you doing to get unemployment down?

Nick Ramsay: Weinidog, a wnewch ymuno â mi i groesawu’r gwaith creu swyddi gwerthfawr a wneir gan Working Links, sy’n cael ei gontractio o dan y rhaglen waith yng Nghymru, a fu’n bolisi llwyddiannus iawn? Rwyf yn siŵr eich bod yn gwybod bod Working Links wedi helpu tua 23,000 o bobl yng Nghymru i fynd yn ôl i’r gwaith, ac mewn perthynas â’r cwestiwn a ofynnwyd gan Jocelyn Davies am y de-ddwyrain, mae ffocws gwirioneddol ar helpu canolfannau gwaith a darparwyr eraill. Sut rydych yn gweithio gyda’r cwmni hwnnw, a beth rydych yn ei wneud i leihau diweithdra?

The Record

Edwina Hart: We have a series of measures to look at the issues of unemployment and job retention, which is also important at this time. We have a number of financial schemes that allow companies to borrow money to ensure that they can expand if they so wish, and to get help with that. However, I welcome all the work being undertaken by organisations that help to get people into employment.

Edwina Hart: Mae gennym gyfres o fesurau i ystyried materion yn ymwneud â diweithdra a chadw swyddi, sydd hefyd yn bwysig ar hyn o bryd. Mae gennym nifer o gynlluniau ariannol sy’n caniatáu i gwmnïau gael benthyg arian er mwyn sicrhau y gallant ehangu os dymunant wneud hynny, ac i gael cymorth yn hynny o beth. Fodd bynnag, rwyf yn croesawu’r holl waith sy’n cael ei wneud gan sefydliadau sy’n helpu pobl i gael gwaith.

Nick Ramsay: I am pleased that the Minister has mentioned job retention, because it is clearly important. If at the same time as jobs are being created, others are being lost, we are not making progress.

Nick Ramsay: Rwyf yn falch bod y Gweinidog wedi crybwyll cadw swyddi, oherwydd ei fod yn amlwg yn bwysig. Os bydd swyddi yn cael eu colli ar yr un pryd ag y mae swyddi’n cael eu creu, nid fyddwn yn gwneud cynnydd.

I know that you will be aware of today’s figures, which are actually quite good, as they show a drop in unemployment in Wales. However, Minister, set against the background of job losses over the past year, it is clear that more jobs have been lost than have been gained in that time. How are you working with the UK Government—we cannot work alone on this issue—to ensure that jobs are created in Wales and that more private sector jobs are created? I think that you would agree with me that the balance between the public sector and the private sector has not always been as good as it should be.

Gwn y byddwch yn ymwybodol o’r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw, sydd mewn gwirionedd yn eithaf da, gan eu bod yn dangos gostyngiad mewn diweithdra yng Nghymru. Fodd bynnag, Weinidog, o ystyried hynny yn erbyn cefndir o golli swyddi dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’n amlwg bod mwy o swyddi wedi eu colli nag a grëwyd yn y cyfnod hwnnw. Sut ydych yn gweithio gyda Llywodraeth y DU—ni allwn weithio ar y mater hwn ar ein pen ein hunain—er mwyn sicrhau bod swyddi’n cael eu creu yng Nghymru a bod mwy o swyddi’n cael eu creu yn y sector preifat? Credaf y byddech yn cytuno â mi nad yw’r cydbwysedd rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat bob amser wedi bod cystal ag y dylai fod.

Edwina Hart: It is essential that we work well with the private sector to encourage it to invest in Wales and create more jobs. My report on microbusinesses, which indicates that I have taken advice from the sector on what we can do to attract more microbusinesses, is also important, because it is not just about having large-scale investment, but about encouraging entrepreneurs who may only employ four or five people. However, those are valuable jobs.

Edwina Hart: Mae’n hanfodol ein bod yn gweithio’n dda gyda’r sector preifat er mwyn ei annog i fuddsoddi yng Nghymru ac i greu mwy o swyddi. Mae fy adroddiad ar ficrofusnesau, sy’n dangos fy mod wedi cymryd cyngor gan y sector ynghylch yr hyn y gallwn ei wneud i ddenu mwy o ficrofusnesau, hefyd yn bwysig, oherwydd nid buddsoddiad ar raddfa fawr yn unig sy’n bwysig, ond hefyd annog entrepreneuriaid sydd ond yn cyflogi pedwar neu bump o bobl. Fodd bynnag, mae’r rheini yn swyddi gwerthfawr.

On the unemployment statistics, I agree with you—they are still disappointing, but we have to be clear that growth in the UK economy is flat-lining, we have problems in the eurozone and there is speculation about a double-dip recession, which does not help with businesses’ confidence if they want to make any investments.

O ran yr ystadegau diweithdra, rwyf yn cytuno â chi—maent yn dal i fod yn siomedig, ond rhaid inni fod yn glir bod twf yn economi’r DU yn pylu, bod problemau yn ardal yr ewro a bod damcaniaethu ynghylch ail ddirwasgiad. Nid yw hyn yn helpu hyder busnesau os ydynt am fuddsoddi.

Twristiaeth

Tourism

3. William Graham: A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gydgysylltu cynlluniau i hybu twristiaeth. OAQ(4)0086(BET)

3. William Graham: Will the Minister outline Welsh Government plans to co-ordinate initiatives to promote tourism. OAQ(4)0086(BET)

Edwina Hart: Visit Wales works with a range of delivery partners to co-ordinate tourism promotion. These include local authorities, regional tourism partnerships and work with VisitBritain for international marketing. Specifically for 2012, we are co-ordinating our activity to take maximum advantage of UK Government campaigns designed to promote Britain around the Olympics. Of course, we must not forget Her Majesty’s diamond jubilee, either.

Edwina Hart: Mae Croeso Cymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid cyflenwi i gydlynu’r gwaith o hyrwyddo twristiaeth. Mae’r rhain yn cynnwys awdurdodau lleol, partneriaethau twristiaeth rhanbarthol a gwaith gyda VisitBritain ar farchnata rhyngwladol. Yn benodol ar gyfer 2012, rydym yn cydlynu ein gweithgareddau i fanteisio i’r eithaf ar ymgyrchoedd Llywodraeth y DU sydd wedi’u cynllunio i hyrwyddo Prydain o amgylch y Gemau Olympaidd. Wrth gwrs, rhaid inni beidio ag anghofio jiwbilî diemwnt Ei Mawrhydi ychwaith.

William Graham: Thank you very much for your answer, Minister. I pay tribute to the work being done by the Welsh Government team, particularly in respect of the Ryder Cup. Are there plans to enhance that team, to take advantage of the schemes that you have mentioned and the Olympic Games in particular?

William Graham: Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Rwyf yn talu teyrnged i’r gwaith a wneir gan dîm Llywodraeth Cymru, yn enwedig o ran Cwpan Ryder. A oes cynlluniau i wella’r tîm hwnnw, er mwyn manteisio ar y cynlluniau rydych wedi sôn amdanynt a’r Gemau Olympaidd yn benodol?

Edwina Hart: We are doing substantial work around the Olympic Games, clearly co-ordinated with the UK Government, because we welcome any available resources to encourage tourists into the UK. Not everybody necessarily wants to see Olympic events, but they may want to see the beautiful countryside of Wales during an opportunity to visit.

Edwina Hart: Rydym yn gwneud gwaith sylweddol o amgylch y Gemau Olympaidd, sydd wedi’i gydlynu’n glir gyda Llywodraeth y DU, gan ein bod yn croesawu unrhyw adnoddau sydd ar gael i annog twristiaid i ddod i’r DU. Nid yw pawb o reidrwydd am weld digwyddiadau’r Gemau Olympaidd, ond efallai y byddant am weld cefn gwlad hyfryd Cymru yn ystod eu hymweliad.

As for the team, we are content that it is doing an excellent job on major events, and we want it to carry on with the profile of major events coming to Wales.

O ran y tîm, rydym yn fodlon ei fod yn gwneud gwaith ardderchog ar ddigwyddiadau mawr, ac rydym am iddo barhau i ymdrin â  phroffil digwyddiadau mawr sy’n dod i Gymru.

Christine Chapman: Minister, it seems that one of the challenges facing the tourism industry is to ensure that the people who work in it have the right skills and opportunities for professional development. This is a matter that has been raised by People 1st Cymru, the sector skills council for tourism. What discussions have you had with the Deputy Minister for Skills to address these needs?

Christine Chapman: Weinidog, mae’n ymddangos mai un o’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant twristiaeth yw sicrhau bod gan y bobl sy’n gweithio ynddo y sgiliau cywir a chyfleoedd ar gyfer datblygu proffesiynol. Mae hwn yn fater sydd wedi’i godi gan People 1st Cymru, y cyngor sgiliau sector ar gyfer twristiaeth. Pa drafodaethau ydych wedi’u cael gyda’r Dirprwy Weinidog Sgiliau i fynd i'r afael â’r anghenion hyn?

Edwina Hart: The Deputy Minister for Skills is aware of the training requirement plans for all sectors. The tourism sector is, of course, a new sector, and it will be looking at its requirements and have the necessary discussions with the Deputy Minister.

Edwina Hart: Mae’r Dirprwy Weinidog Sgiliau yn ymwybodol o’r cynlluniau gofynion hyfforddi ar gyfer pob sector. Mae’r sector twristiaeth, wrth gwrs, yn sector newydd, a bydd yn edrych ar ei ofynion ac yn cael y trafodaethau angenrheidiol gyda’r Dirprwy Weinidog.

Tourism is absolutely vital to economic prosperity and job creation. We have to realise that, in parts of Wales, it is significant in terms of employment opportunities, and it is also important that we look at the other issues that will help tourism, particularly with regard to the planning system.

Mae twristiaeth yn gwbl hanfodol i ffyniant economaidd a chreu swyddi. Rhaid inni sylweddoli ei bod yn arwyddocaol iawn o ran cyfleoedd cyflogaeth mewn rhannau o Gymru, ac mae hefyd yn bwysig ein bod yn edrych ar y materion eraill a fydd yn helpu twristiaeth, yn enwedig o ran y system gynllunio.

Economi Dwyrain De Cymru

The Economy of South Wales East

4. William Graham: A wnaif