By continuing to use our site, you are agreeing for us to set a small number of cookies. Cookie policy

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Back to list View this page without hyperlinks
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair.
 
13:30
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Prynhawn Da. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
13:30
Datganiad gan y Llywydd
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Nawr, yn ogystal â bod yn ddiwrnod i ddathlu ein nawddsant, heddiw hefyd yw dengmlwyddiant agoriad swyddogol yr adeilad, cartref y Cynulliad, y Senedd. Roedd llawer ohonoch chi yma 10 mlynedd yn ôl pan agorwyd y Senedd gyntaf, ac mae gan rai ohonoch chi’r fraint barhaus o gynrychioli pobl Cymru, a, gobeithio, bydd gennych chi’r fraint o’u gwasanaethu nhw 10 mlynedd o nawr.
 
Nawr, mae’r Senedd wedi sefydlu ei hun fel un o'r adeiladau mwyaf nodedig yn y wlad ac fel rhan annatod o fywyd cyhoeddus Cymru. Rydym ni wedi croesawu 1.3 miliwn o ymwelwyr o Gymru, y DU, a llawer ymhellach i ffwrdd drwy ein drysau, ac rydym ni wedi cynnal bron i 30,000 o deithiau. Mae'r adeilad wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau mawr, gan gynnwys dathliad camp lawn chwe gwlad tîm rygbi cenedlaethol Cymru, a’r digwyddiad i groesawu Olympiaid a Pharalympiaid Cymru adref.
 
Nawr, er bod hwn yn lle y mae pobl Cymru yn dod i ymweld ag ef ac i ddathlu llwyddiannau cenedlaethol, mae’n bennaf yn lle i'r Cynulliad drafod, ystyried a gwneud penderfyniadau am ddyfodol ein gwlad, penderfyniadau sydd wedi’u gwreiddio yn egwyddorion hygyrchedd a thryloywder, sydd hefyd yn cael eu cynrychioli gan union ffabrig yr adeilad ardderchog hwn.
 
1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
 
13:31
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
A symudwn at yr eitem gyntaf y prynhawn yma nawr, sef cwestiynau i'r Prif Weinidog, a Rhodri Glyn Thomas sydd gyntaf.
 
Amseroedd Aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth
 
13:31
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)2739(FM)
 
13:31
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rwy’n erfyn i bob claf gael ei weld yn ôl trefn blaenoriaeth glinigol ac o fewn targedau Llywodraeth Cymru ar amseroedd aros. I helpu gyda hyn, rydym ni wedi sefydlu’r rhaglen gofal wedi’i gynllunio, dan arweiniad clinigwyr, er mwyn datblygu systemau cynaliadwy.
 
13:32
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
Fe gysylltodd llawfeddyg o Loegr â fi, oherwydd roedd ei fam wedi cael mynediad i’r adran strôc yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, ac roedd e’n gresynu nad oedd gwasanaeth ffisiotherapi yno ar gyfer ei fam—ei fod e’n gwbl annigonol, yn ei eiriau fe. Wedi hynny, mae llawer iawn o staff a chleifion, a theuluoedd cleifion, wedi cysylltu â fi oherwydd ei bod hi’n amlwg, o ran triniaeth orthopedig, fod cleifion yn cael eu cyfeirio yn y lle cyntaf tuag at yr adran ffisiotherapi, yn lle cael eu cyfeirio at yr adran llawfeddyg, ac, oherwydd hynny, y mae adnoddau ffisiotherapi yn brin iawn yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda. A wnewch chi siarad â’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog sy’n gyfrifol am y materion yma er mwyn sicrhau bod yr arfer yma yn dod i be, a bod cleifion yn cael y driniaeth haeddiannol yn ysbyty Glangwili?
 
13:33
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Fel bydd yr Aelod yn gwybod, nid ydwyf yn ymwybodol o’r pwynt y mae e wedi ei godi, ond mae’n bwysig dros ben bod hyn yn cael ei ystyried. Fe fyddaf i’n gofyn i’r Gweinidog ysgrifennu at yr Aelod er mwyn ateb y cwestiynau y mae e wedi eu codi yn y Siambr y prynhawn yma.
 
13:33
Paul DaviesBywgraffiad
Brif Weinidog, un ffordd o fynd i’r afael ag amseroedd atgyfeirio a thriniaeth yng ngorllewin Cymru yw mynd i’r afael â phroblemau recriwtio a chadw staff yn yr ardal. Er mwyn mynd i’r afael â’r problemau recriwtio yma, mae’n bwysig sicrhau bod yna nifer priodol o leoedd hyfforddi ar gael i ddoctoriaid a nyrsys. Yn yr amgylchiadau, a allwch chi ddweud wrthym ni beth ydych chi fel Llywodraeth wedi ei wneud i sicrhau hyn, ac a allwch chi hefyd ddweud wrthym ni faint o leoedd hyfforddi ychwanegol sydd wedi eu creu yn y flwyddyn ddiwethaf, er enghraifft?
 
13:33
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, i’r ddeoniaeth, wrth gwrs, y mae hyn, ynglŷn â sicrhau bod yna lefydd hyfforddi ar gael. Wrth ddweud hynny, rydym ni wedi gweld y nifer sy’n cael eu hyfforddi yn Ysbyty Treforys dros y blynyddoedd yn codi, ac mae Treforys, wrth gwrs, yn ysbyty pwysig i ardal Hywel Dda o ystyried y gwasanaethau arbenigol sydd yn yr ysbyty hynny. Ac rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, ynglŷn â’r ffigurau yn Hywel Dda, fod yna fwy o gleifion yn cael eu gweld, bod amserau aros yn mynd lawr—86 y cant o leihad, er enghraifft, yn nifer y bobl sydd yn sefyll dros wyth wythnos am brawf diagnostig. Mae e wedi mynd i lawr dros y flwyddyn ddiwethaf. Ac, wrth gwrs, rydym ni wedi gweld, er enghraifft, leihad yn y nifer sydd yn aros mwy na 36 wythnos, mwy o gleifion yn cael triniaeth am ganser, a, hefyd, mwy o bobl yn cael triniaeth o fewn y targedau yr ydym wedi eu seto ynglŷn â chanser ei hunan. Felly, mae’r ffigurau ynglŷn â Hywel Dda wedi gwella, ac, wrth gwrs, rydym ni’n dal i weithio gyda’r proffesiwn, a hefyd gyda’r colegau brenhinol, er mwyn ystyried pa gyfleon eraill fyddai ar gael i greu llefydd hyfforddi ar draws Cymru.
 
Buddsoddiad ym Maes Biotechnoleg
 
13:35
William GrahamBywgraffiad
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i ddenu buddsoddiad ym maes biotechnoleg i Gymru? OAQ(4)2738(FM)
 
13:35
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym wedi ymrwymo i wneud Cymru yr amgylchedd gorau posibl ar gyfer arloesedd gwyddorau bywyd a thwf busnes. Mae ein strategaeth gwyddorau bywyd yn nodi ein blaenoriaethau i ddenu buddsoddiad biotechnoleg i Gymru, gan gynnwys cyllid, cryfhau’r cynnig a datblygu’r ecosystem.
 
13:35
William GrahamBywgraffiad
Rwy’n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb. Bydd yn ymwybodol o sylwadau beirniadol braidd yn ddiweddar, ond bydd hefyd yn gwybod bod ei ragflaenydd yn awyddus iawn y dylem fod yn wlad fach glyfar a pha mor bwysig yw denu’r buddsoddiad hwn i Gymru, ar gyfer dyfodol y genhedlaeth hon ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa strategaeth y mae'n bwriadu ei dilyn i wneud yn siŵr bod hyn yn llwyddiant arall?
 
13:35
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Hyd yn hyn, mae'r gronfa buddsoddi mewn gwyddorau bywyd wedi gwneud 11 buddsoddiad mewn naw cwmni. Mae wedi denu lefelau sylweddol o gyd-fuddsoddiad ac wedi codi proffil byd-eang y sector yng Nghymru yn sylweddol fel lleoliad ffyniannus ar gyfer cwmnïau gwyddorau bywyd. Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, datblygwyd y ganolfan gwyddorau bywyd. Mae honno wedi croesawu dros 5,000 o ymwelwyr ac wedi hwyluso mwy na 80 o ddigwyddiadau gwyddor bywyd ac 850 o gyfarfodydd, ac mae 81 o aelod-sefydliadau wedi ymuno â'r ganolfan.
 
13:36
Aled RobertsBywgraffiad
Mae William Graham eisoes wedi cyfeirio at adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yr wythnos diwethaf. Mae hwnnw'n cadarnhau y talwyd £207,600 i’r tendrwr llwyddiannus ar gyfer darparu’r gronfa ar gyfer cytundebau a oedd ar y gweill ym mis Hydref 2012 a £480,000 arall wedi hynny. Gofynnodd Cyllid Cymru am gadarnhad gan Lywodraeth Cymru o ran cadarnhad gan y Gweinidog y dylai dalu'r swm ychwanegol y gofynnwyd amdano, ond gwrthododd wneud hynny heb gadarnhad gan y Gweinidog. Aeth Llywodraeth Cymru yn ei blaen wedyn i dalu £370,800 yn uniongyrchol i'r tendrwr llwyddiannus ac nid oedd hynny ond tua £32,000 yn llai nag yr oedd y contract yn ei ganiatáu pe byddai wedi bod mewn sefyllfa i lofnodi'r contract ar yr adeg y bwriadwyd yn wreiddiol. A gaf i ofyn a yw Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i esbonio'r rhesymau am gyfanswm y taliadau i'r tendrwr llwyddiannus o dan y trefniadau dros dro a pham na wnaed unrhyw ddidyniadau i'r tendrwr, o gofio nad oedd yn gallu, yn ystod y cyfnod hwnnw, cyflawni un o’r swyddogaethau allweddol gan nad oedd cofrestriad gyda'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol?
 
13:37
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
O ran yr adroddiad ei hun, byddwn, wrth gwrs, yn ystyried yr adroddiad ac yn ymateb maes o law mewn modd cynhwysfawr.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
 
13:37
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn at gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr, ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, sydd gyntaf y prynhawn yma.
 
13:37
Leanne WoodBywgraffiadArweinydd Plaid Cymru
Diolch. Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb.
 
Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb. Brif Weinidog, rwy'n ymwybodol y bydd datganiad yn nes ymlaen ar Fil Cymru, ond ar ddiwrnod ein nawddsant cenedlaethol ac o ystyried datblygiadau yr wythnos hon, rwy’n credu ei bod yn bwysig canolbwyntio ar y mater yn llawn nawr. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi penderfynu pwyso’r botwm saib ac oedi’r Bil nawr tan yr haf. A ydych chi’n cytuno bod etholiadau nesaf y Cynulliad yn gyfle i geisio mandad gan bobl ar natur datganoli ac a ydych chi’n cytuno â Phlaid Cymru mai eu hewyllys nhw ddylai lunio dyfodol datganoli a’r Ddeddf honno, yn hytrach na mympwy San Steffan?
 
13:38
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae hi a minnau yn sicr o’r un meddylfryd pan ddaw i’n barn ar Fil Cymru. Byddaf yn mynd i fwy o fanylder pan fyddaf yn gwneud y datganiad, ond nid oes amheuaeth ei bod yn gwbl eglur bod y pwyntiau a wnaethpwyd gan Lywodraeth Cymru wedi dylanwadu ar y camau y mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi eu cymryd. Mae arweinydd Plaid Cymru yn llygad ei lle i ddweud bod y pethau hyn yn fater i bobl Cymru a chyfrifoldeb pobl Cymru yw penderfynu faint o bŵer yr hoffent ei weld yn cael ei ddatganoli.
 
13:39
Leanne WoodBywgraffiad
Byddwn yn cytuno â hynny, Brif Weinidog, ond mae natur a chyflymder datganoli yng Nghymru wedi bod yn bwynt eglur o raniad yn eich plaid. Mae ASau Llafur, gan gynnwys Ysgrifenyddion Gwladol Llafur dros Gymru, wedi rhwystro taith ddatganoli Cymru dros flynyddoedd lawer. A allwch chi roi sicrwydd i ni heddiw felly, Brif Weinidog, bod safbwynt presennol Llywodraeth Cymru yr un fath â safbwynt presennol y Blaid Lafur? Os yw'n un safbwynt, a allwch chi ddweud wrthym, os gwelwch yn dda, beth yn union yw eich gweledigaeth ar gyfer cam nesaf datganoli yng Nghymru?
 
13:39
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn gyntaf oll, byddwn yn atgoffa arweinydd Plaid Cymru mai Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur Cymru a ddarparodd y refferendwm yn 2011 yn y lle cyntaf. Fe wnaethom ymgyrchu, ochr yn ochr â phleidiau eraill, wrth gwrs, yn gryf iawn ac yn galed iawn i sicrhau ein bod yn cael pleidlais gadarnhaol enfawr yn 2011. Mae Plaid Lafur Cymru a Llywodraeth Cymru yr un fath. Roedd y Bil yn annigonol. Nid oedd byth yn mynd i fod yn gynaliadwy, ac rydym ni’n aros i weld beth mae'r Ysgrifennydd Gwladol eisiau ei wneud nesaf. Yn fy marn i, roedd cydsyniadau Gweinidog y Goron, fel y'u cynigiwyd yn y Bil, yn annerbyniol, ac roedd yr un peth yn wir am y prawf angenrheidrwydd a’r cymalau cadw. Ni ellir mynd i’r afael â’r mater o greu fframwaith cyfansoddiadol cynaliadwy i Gymru heb roi sylw i’r mater o awdurdodaeth.
 
13:40
Leanne WoodBywgraffiad
Brif Weinidog, rydych chi a minnau’n gwybod mai Plaid Cymru yn y Llywodraeth honno wnaeth sbarduno’r refferendwm hwnnw ymhellach. [Torri ar draws.] Cawsoch eich llusgo at y bwrdd hwnnw, mewn llawer o achosion, yn cicio ac yn sgrechian, Brif Weinidog. [Torri ar draws.] Brif Weinidog, mae datganoli yng Nghymru wedi bod yn arafu oherwydd rhaniadau yn y Blaid Lafur, yn union fel y mae lle’r DU yn yr Undeb Ewropeaidd o dan fygythiad oherwydd rhaniadau yn y Blaid Geidwadol. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad, ydy e, Brif Weinidog, mai’r genedl â’r setliad datganoli gwannaf, y trefniadau ariannu lleiaf hael, a'r lleiaf o ddylanwad yw'r unig wlad sydd yn dal i fod â Llywodraeth Lafur? Nawr, tybed a allwch chi ddweud wrthym: a oes unrhyw un consesiwn yr ydych chi wedi ei ennill ar gyfer datganoli yng Nghymru yn ystod eich degawd fel Prif Weinidog na fyddai wedi cael ei sicrhau beth bynnag? Yn syml, Brif Weinidog, beth ydych chi wedi ei ennill i bobl Cymru gan San Steffan?
 
13:41
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Y refferendwm ei hun, i ddechrau, a roddodd y pwerau i ni wneud yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud i basio 24 Deddf ers 2011—casgliad mawr o ddeddfwriaeth, a gynigiwyd gan y Llywodraeth; casgliad o ddeddfwriaeth yr oedd y Cynulliad ei hun yn gallu craffu arno’n iawn, gan ein bod yn gwybod mai deddfwriaeth gadarn fu'r canlyniad. Felly, rydym ni wedi cyflawni o ran y refferendwm. Rwy’n gresynu ei bod hi'n awgrymu rywsut ein bod ni’n amharod yn 2011. Does bosib ei bod hi’n meddwl fy mod i'n treulio bob diwrnod yn anfodlon yn ymgyrchu dros bleidlais gadarnhaol. Yn wir, Llafur Cymru—ac, yn wir, ei phlaid hithau hefyd—a ddarparodd y pleidleisiau a'r pleidleiswyr yr oedd eu hangen i sicrhau bod y lle hwn yn ddeddfwrfa wirioneddol. Byddwn yn parhau i ddadlau’r achos i Lywodraeth y DU bod angen i’r broses honno barhau. Nawr, gofynnodd i mi pa ddylanwad yr ydym ni wedi ei gael. Rydym ni wedi gwneud yn siŵr nad oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gallu bwrw ymlaen â Bil Cymru fel yr oedd yn ei gynnig. Ni oedd y rhai a nododd y gwendidau yn gyfansoddiadol. Ni oedd y rhai a nododd y problemau’n ymwneud â chydsyniadau Gweinidog y Goron, y problemau’n ymwneud â’r prawf angenrheidrwydd, y problemau’n ymwneud â’r cymalau cadw ac, yn wir, y problemau’n ymwneud â’r awdurdodaeth a'r angen am awdurdodaeth ar wahân. Felly, o'n safbwynt ni, fel Llywodraeth, rydym ni wedi gwneud yn siŵr ein bod wedi sefyll yn gadarn dros fuddiannau Cymru.
 
13:43
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn nawr at arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
 
13:43
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadArweinydd yr Wrthblaid
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf clywsom gan yr Aelod presennol dros y Rhondda iddo gael croeso bywiog yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Llandudno. [Torri ar draws.] Mae hefyd yn cael croeso da iawn yma; cyn iddo gael ei anfon ar ei ffordd, yn ddiau. Y pwynt yr hoffwn eich holi amdano, Brif Weinidog, yw eich bod wedi lansio eich cerdyn addewid yn y gynhadledd honno. Un peth am y Cynulliad hwn yw eich bod wedi treulio llawer o amser yn y pum mlynedd diwethaf yn siarad am ad-drefnu llywodraeth leol a, dro ar ôl tro, rydych chi wedi comisiynu adroddiadau, fel adroddiad Williams, a darnau o waith i ystyried beth fyddai'r map llywodraeth leol gorau i Gymru yn y dyfodol. Oherwydd mai dyna’r un peth na ddaeth allan o'ch cynhadledd, a allwch chi gadarnhau heddiw, os cewch eich ail-ethol ym mis Mai—a Duw a’n helpo os cewch chi—y bydd Bro Morgannwg, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Sir Fynwy, Sir Ddinbych a Chonwy yn diflannu oddi ar wyneb y map llywodraeth leol yma yng Nghymru?
 
13:44
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rwy’n meddwl ei fod yn arwydd o anobaith gan arweinydd yr wrthblaid ei fod eisoes wedi rhoi’r ffidil yn y to yn yr ymgyrch etholiadol. Dyna ni; roedd yn sylw diddorol a wnaeth. Byddem yn ceisio bwrw ymlaen ag uno llywodraeth leol er mwyn darparu sail gryfach ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Rydym ni wedi dweud hynny erioed.
 
13:44
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Rwy’n cymryd, o’ch ateb, eich bod yn golygu pe byddai pobl Cymru yn eich ail-ethol—ac rwy'n siŵr nad ydynt yn mynd i wneud hynny, ond pe bydden nhw’n eich ail-ethol—byddent yn colli Bro Morgannwg, Sir Fynwy, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych a Chonwy, ac, yn y pen draw, byddai’r enwau lleoedd gwych hynny’n diflannu oddi ar wyneb Cymru a bydd pobl yn colli’r gwasanaethau y maen nhw’n dibynnu arnynt gan yr awdurdodau lleol hynny. Yr un peth y gallwch chi a minnau gytuno arno, rwy’n gobeithio, yw bod y gwasanaeth iechyd angen ad-drefnu llwyr cymaint ag y mae angen twll yn y pen. O dan Lafur yn y 10 mlynedd diwethaf, ynghyd â Phlaid Cymru, rydym ni wedi cael dau ad-drefniad. A allwch chi gadarnhau, o’ch asesiad chi o sefyllfa’r GIG ar hyn o bryd, Brif Weinidog, nad oes angen ad-drefnu’r GIG yn llwyr yma yng Nghymru? Byddai hynny'n drychinebus i ysbryd ac yn gostus o safbwynt ariannol.
 
13:45
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, yn gyntaf oll: cafodd Sir Benfro, Sir Faesyfed, Sir Frycheiniog, Sir Ddinbych, Sir y Fflint i gyd eu dileu ym 1974 gan ei blaid ef. Felly, mewn gwirionedd, mae gan ei blaid ef hanes da iawn o ddileu siroedd hanesyddol yng Nghymru, ac yn awr mae'n ein cyhuddo ni o wneud yr un peth. Mae wedi anghofio hynny—mai Llywodraeth Heath a wnaeth hynny mewn gwirionedd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Felly, nid ydym yn mynd i dderbyn unrhyw wersi gan y Blaid Geidwadol ar ad-drefnu llywodraeth leol: cawsant wared ar y 13 sir yr adeg honno, gan gyflwyno 22 o awdurdodau nad oedd neb eu heisiau yng nghanol y 1990au. Ni fydd unrhyw ad-drefnu graddfa eang o’r gwasanaeth iechyd. Rydym ni eisiau gweld y gwasanaeth iechyd yn cyflawni, ac nid ydym ni eisiau ei weld fel cwango enfawr yn y pen draw. Nid ydym ni eisiau ei weld mewn sefyllfa lle mae gennym ni fyrddau iechyd sy’n edrych ar eu hardaloedd eu hunain yn unig. Rydym ni eisiau gwasanaeth iechyd lle mae byrddau iechyd yn cydweithio i ddarparu'r gorau ar gyfer pobl Cymru.
 
13:46
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Wel, fe gyrhaeddoch chi yn y pen draw, ac rwy’n meddwl eich bod wedi cadarnhau eich bod yn cytuno â mi bod ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd—ad-drefniad llwyr o'r gwasanaeth iechyd—yn rhywbeth sy'n hollol ddiangen ac nad oes ei angen yma yng Nghymru, er eich bod yn sôn yn rhyfedd iawn am Sir Faesyfed pan na wnes i hyd yn oed grybwyll Sir Faesyfed wrthych, Brif Weinidog. Ond, dyna ni, mae hynny’n rhywbeth y byddwch chi ei godi dro ar ôl tro. [Torri ar draws.]
 
13:46
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Trefn, trefn. Trefn.
 
13:46
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Brif Weinidog, un o’r addewidion eraill yr ydych chi wedi dweud y bydd yn deillio o'ch cynhadledd oedd y cynllun cymorth i brynu a gyflwynwyd gan eich Llywodraeth, 18 mis ar ôl i Lywodraeth y DU ei gyflwyno yn Lloegr, a soniasoch y byddai hwn yn rhoi hwb i brynwyr tai yng Nghymru. Wel, mewn gwirionedd, rydych chi’n sôn am gymryd dwy ran o dair o'r gyllideb o’r cynllun cymorth i brynu allan yn y flwyddyn ariannol hon. Sut y mae cymryd dwy ran o dair o'r gyllideb honno allan yn helpu pobl i gael y cartrefi sydd eu hangen arnynt ledled Cymru? Os edrychwch chi ar y ffigurau, yng Ngheredigion, dim ond chwech o bobl wnaeth elwa ar y cynllun. Yng Nghasnewydd, fe wnaeth 435 o bobl elwa arno. Felly, sut ydych chi'n rhoi hwb i brynwyr tai pan eich bod yn cymryd dwy ran o dair o'r gyllideb honno oddi wrth bobl yng Nghymru?
 
13:47
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn gyntaf oll, mae'r cynllun yn cael ei arwain gan alw. Yn ail, yr hyn na fyddwn yn ei wneud yw gweld tai cyhoeddus yn parhau i gael eu gwerthu, a dyna pam yr ydym ni’n mynd i ddiddymu'r hawl i brynu. Pam? Oherwydd, fel arall, mae'n cyfateb i geisio llenwi bath gyda'r plwg allan, sef yr hyn y mae’r Blaid Geidwadol eisiau ei wneud. Rwy'n edrych eto ar y ffigurau y maen nhw wedi eu cyflwyno o ran tai. Roedden nhw eisiau torri 25 y cant ar gyllideb yr amgylchedd, cynaliadwyedd a thai—dyna ni—dim ond i’n hatgoffa ni i gyd o’u safbwynt gwirioneddol yn hyn o beth. Ac mae'n rhaid i mi ei atgoffa fy mod i’n fwy na hapus i siarad am ein haddewidion, ein chwe addewid i bobl Cymru. Rydym ni’n credu y byddant yn cyseinio gyda phobl Cymru. Maen nhw’n uchelgeisiol dros Gymru, ac maen nhw’n chwe addewid yr ydym ni’n credu y bydd pobl yn eu cefnogi. Rydym ni’n edrych ymlaen at weld beth fydd y Blaid Geidwadol yn ei gynhyrchu, ac yn edrych ymlaen yn arbennig at weld eu costau, oherwydd, y tro diwethaf y gofynnwyd hyn iddynt, dywedasant nad oeddent wedi dadansoddi’r rhifau.
 
13:48
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn nawr at arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams.
 
13:48
Kirsty WilliamsBywgraffiadArweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Diolch yn fawr iawn, Lywydd.
 
Brif Weinidog, yr wythnos hon, rydym ni wedi gweld adroddiadau ar y newyddion ar brinder meddygon ledled y DU, ac arolwg heddiw sy'n dweud mai’r GIG yw'r prif bryder i bobl yng Nghymru. Nawr, yr wythnos diwethaf, yn ystod cwestiynau, dywedasoch nad oeddech yn ymwybodol o unrhyw ddioddefaint cleifion oherwydd diffyg meddygon teulu yn y gogledd, ac, mewn ymateb, dywedodd cadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yn y gogledd, a dyfynnaf:
 
Nid yw nifer y meddygon teulu sy’n gweithio'n llawn amser wedi cynyddu ac mae darpariaeth meddygon teulu yn y gogledd yn gwaethygu. Cleifion sy’n dioddef oherwydd hyn trwy amseroedd aros hwy ac ymgynghoriadau dan bwysau.
 
Beth sy'n gwneud i chi feddwl eich bod yn gwybod yn well na meddygon teulu sy'n gweithio ar lawr gwlad yn y gogledd?
 
13:49
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, gallwn i ateb y cwestiwn yna mewn dwy ffordd—yn gyntaf oll, trwy amlinellu ein sefyllfa o ran niferoedd meddygon yng Nghymru, ac, yn ail, yr hyn yr ydym ni’n ei wneud i ymateb i heriau mewn rhai rhannau o Gymru, sydd, heb os, yn bodoli? Cynyddodd nifer y meddygon ymgynghorol mewn ysbytai sy'n gweithio yn y GIG yng Nghymru gan bron i 50 y cant rhwng 2004 a 2014. Mae nifer y staff meddygol a deintyddol wedi cynyddu 27.5 y cant. Bu cynnydd o 10.5 y cant i nifer y meddygon teulu—ac nid yw hyn yn cynnwys cofrestryddion, meddygon ar gadw a staff locwm—yn ystod y cyfnod hwnnw, pan yr oedd 2,006 o feddygon teulu ym mis Medi 2014. Rhwng 2013 a 2014, ymunodd 137 o feddygon teulu newydd â’r proffesiwn yng Nghymru, ac mae nifer y cleifion sydd wedi'u cofrestru fesul meddyg teulu wedi gostwng 5.5 y cant i 1,582. Wedi dweud hynny, mae rhannau o Gymru lle ceir heriau o ran denu meddygon teulu. Yr hyn yr ydym ni’n ei wneud yw gweithio gyda Chymdeithas Feddygol Prydain, gyda'r pwyllgor meddygon teulu a chyda’r coleg brenhinol i roi sylw i’r materion penodol hynny, ac wrth gwrs i annog mwy o bobl i weithio yn y rhannau hynny o Gymru sydd wedi cael anawsterau o ran recriwtio yn y gorffennol diweddar.
 
13:50
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Rwy'n falch eich bod wedi cydnabod mai 10 y cant yw’r ffigur ar gyfer y cynnydd yn nifer y meddygon teulu. Rwy’n meddwl efallai y gallai’r atebion a roesoch yr wythnos diwethaf fod wedi cael eu camddeall gan bobl, pan ddywedasoch y byddech yn recriwtio dros 2,000 o feddygon teulu. Hynny yw, mae gennym ni 2,006 o feddygon teulu yng Nghymru, ond nid ydym ni wedi recriwtio 2,000 o feddygon teulu ychwanegol yn y 10 mlynedd diwethaf, ac mae eich dogfennau yn datgan bod nifer o fyrddau iechyd wedi nodi anawsterau wrth recriwtio meddygon teulu. Adlewyrchwyd yr hyn y mae hynny'n ei olygu i gleifion yn eich arolwg iechyd eich hun, pan ddywedodd 40 y cant o'r rhai a ymatebodd i adroddiad iechyd Cymru eu bod wedi cael trafferth i gael apwyntiad gyda meddyg teulu. Nawr, a wnewch chi dderbyn bod problemau gyda recriwtio meddygon teulu a sgil-effaith i gleifion o ran cael apwyntiad, neu a ddylem ni ddod i'r casgliad mai’r meddyg teulu o’r gogledd, a’ch cyhuddodd, mewn ymateb i'ch cwestiynau yr wythnos diwethaf, o fod ar wahân i realiti—pwy oedd yn iawn?
 
13:51
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rwy’n defnyddio meddyg teulu, fel y mae pawb arall yng Nghymru, felly nid yw fel pe byddem 'ar wahân i realiti'. Rwy'n meddwl ei bod yn iawn i ddweud bod anghysondeb mewn gwahanol wasanaethau ledled Cymru; mae hynny'n wir. Ceir rhai meddygfeydd lle mae'n bosibl cael apwyntiad yfory; rwy’n gwybod hynny. Ceir eraill lle mae'n fwy anodd, a chan weithio gyda'r proffesiwn—contractwyr annibynnol ydyn nhw yn y pen draw—rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr anghysondebau hynny’n cael eu datrys. A bod yn deg, mae'r proffesiwn wedi ymateb i hynny. Rydym ni’n gweld mwy o feddygfeydd teulu ar agor yn ystod oriau craidd nawr, rydym ni’n gweld mwy ar agor fin nos, ac mae hynny'n rhywbeth yr hoffem ni weithio arno gyda'r proffesiwn i wneud yn siŵr bod y duedd honno’n parhau yn y dyfodol.
 
13:51
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Wrth gwrs, yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau ein bod yn hyfforddi mwy o bobl i fod yn feddygon teulu i weithio yn ein gwasanaeth iechyd, ond dim ond 85 y cant o'i lleoedd hyfforddi meddygon teulu y mae Cymru wedi eu llenwi. Mae hynny’n gyfanswm o 107 o hyfforddeion newydd, ond, yn seiliedig ar alw a ddisgwylir yn y dyfodol, mae angen i ni fod yn hyfforddi 190 o hyfforddeion newydd bob blwyddyn. Nawr, o ystyried yr anawsterau o recriwtio i leoedd hyfforddi presennol, a'r ffaith na fydd y lleoedd hyfforddi hynny’n bodloni galw’r dyfodol am wasanaethau meddyg teulu, a fyddech chi’n cytuno â mi bod y broblem, o bosibl, yn mynd i waethygu i gleifion yng Nghymru, yn hytrach na gwella?
 
13:52
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Na fyddwn. Rwy’n derbyn y pwynt ynghylch sicrhau y gallwn hyfforddi cynifer o bobl â phosibl, ond y gwir amdani yw ein bod ni wedi denu meddygon i Gymru o wledydd eraill ers mwy na 50 mlynedd. Bydd hynny’n wir bob amser. Mae wedi bod yn wir ers yr adeg honno. Yr allwedd i recriwtio mwy o feddygon teulu yw creu’r amgylchedd iddyn nhw lle gallant ffynnu, lle y gallant arloesi, lle y gallant wir deimlo'n rhan o gymuned a gweithio i gymuned. Nid yw'n ymwneud ag arian. Mae'n ymwneud â sicrhau bod y rhyddid i arloesi yno y byddai meddygon teulu eisiau ei weld, a'r rhyddid hwnnw y byddent eisiau ei ddefnyddio. Rydym ni’n ceisio recriwtio o dramor yn gyson, ac rydym ni’n dweud wrth feddygon mewn gwledydd eraill, 'Dewch i Gymru; mae'n amgylchedd gweithio da', ac, yn hanesyddol, dros y 50 mlynedd diwethaf neu fwy, rydym ni wedi recriwtio o wledydd eraill. Byddwn yn parhau, wrth gwrs, i weithio gyda'r proffesiwn i wneud yn siŵr ein bod yn gallu denu mwy o leoedd hyfforddi meddygon teulu. Ceir problem ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon o ran recriwtio meddygon, felly nid yw'n broblem sy'n unigryw i Gymru, ond serch hynny, mae'n fater y byddwn yn ceisio rhoi sylw iddo gyda'r proffesiwn.
 
13:53
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn ôl at gwestiynau ar y papur nawr, a daw cwestiwn 3 gan Julie Morgan.
 
Swyddi Gweithgynhyrchu
 
13:53
Julie MorganBywgraffiad
3. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn mwy o swyddi gweithgynhyrchu medrus yn ne Cymru? OAQ(4)2747(FM)
 
13:53
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'r cynllun gweithredu sgiliau yn nodi swyddogaeth allweddol i bartneriaethau sgiliau rhanbarthol i gynghori Llywodraeth Cymru ar flaenoriaethu cyllid sgiliau yn y dyfodol yn unol ag anghenion cyflogaeth a sgiliau rhanbarthol, a nodwyd deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch gan y ddwy bartneriaeth sgiliau rhanbarthol yn y de fel sector blaenoriaeth i’w rhanbarthau.
 
13:53
Julie MorganBywgraffiad
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. A oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i gefnogi gweithrediadau GE Healthcare yn Fferm y Fforest yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd—i arallgyfeirio efallai—o ystyried y ffaith bod 86 o swyddi’n cael eu colli? Mae gwaith gweithgynhyrchu cynhyrchion papur a ddefnyddir yn y diwydiant fferyllol yn mynd i Tsieina, ac mae rhai swyddi ymchwil yn cael eu colli, ac, wrth gwrs, nid yw mewn ardal a gynorthwyir, lle mae wedi ei leoli. Felly, a oes unrhyw beth y gall y Llywodraeth ei wneud i helpu?
 
13:54
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Oes, rydym ni’n gweithio gyda GE Healthcare i nodi cyfleoedd cyflogaeth eraill ar gyfer y staff sydd wedi’u heffeithio yn y nifer gynyddol o gwmnïau gwyddorau bywyd yng Nghymru. Rydym ni wedi cefnogi sefydliad pentref arloesi GE, sydd wedi denu wyth o fentrau gwyddorau bywyd bach a chanolig eu maint i sefydlu eu busnesau ar safle GE, ac mae swyddogion mewn trafodaethau gyda GE Healthcare i archwilio sut y gallai mwy o le yn GE gynnig lle i gartrefu BBaChau arloesol, er mwyn, wrth gwrs, cynnig cyfleoedd i’r rhai efallai y mae eu swyddi mewn perygl ar hyn o bryd.
 
13:55
Altaf HussainBywgraffiad
Brif Weinidog, yn ogystal ag unrhyw fuddsoddiad mewn dod â swyddi gweithgynhyrchu medrus i Gymru, mae angen buddsoddiad mewn datblygu’r sgiliau hynny. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gynnwys y sector gweithgynhyrchu yn y gwaith o gynllunio'r cwricwlwm cenedlaethol a chynyddu’r nifer sy’n astudio pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg?
 
13:55
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae’r nifer sy'n astudio pynciau STEM yn bwysig, ond mae sgiliau yn fwy cyffredinol yn bwysig i weithgynhyrchu, hefyd. Gwyddom fod Cymru'n wlad lle mae cynhyrchwyr eisiau dod—gwelsom hynny gydag Aston Martin yr wythnos diwethaf. Ar ôl dwy flynedd o waith caled, gan weithio gydag Aston Martin, trechwyd cystadleuaeth gan 19 o safleoedd eraill i gael y buddsoddiad hwnnw i Fro Morgannwg.
 
O ran datblygu sgiliau pellach, gallaf roi dwy enghraifft: Twf Swyddi Cymru—roedd Twf Swyddi Cymru yn gynllun a sefydlwyd yn sgil trafodaethau gyda BBaChau. Roedden nhw’n dweud wrthym ni eu bod angen hyfforddi pobl—roedd ganddyn nhw swyddi ar eu cyfer, ond nid oedd ganddyn nhw’r amser na'r arian i'w hyfforddi. A dyna pam yr oedd Twf Swyddi Cymru mor llwyddiannus. Ac, wrth gwrs, fel y bydd yr Aelod yn ymwybodol, mae gennym ni gynlluniau i greu 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oedran yn y Cynulliad nesaf.
 
13:56
Simon ThomasBywgraffiad
Ar y pwynt yna, rwy’n credu y byddem ni’n cytuno, Brif Weinidog, fod angen prentisiaethau o’r newydd er mwyn hybu’r agenda yma. Fedrwch chi, felly, fod yn glir? Rydych chi newydd sôn am 100,000 o brentisiaethau. Ai 100,000 fel cyfanswm erbyn diwedd y Cynulliad nesaf—sef, gyda llaw, yr un targed â Plaid Cymru—neu 100,000 ychwanegol ar ben yr 50,000 sydd eisoes gyda ni?
 
13:56
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Can mil yn ystod pum mlynedd nesaf y Cynulliad, a mwy na hynny, rŷm ni’n gobeithio. Beth sy’n bwysig yw ein bod ni’n sicrhau ein bod ni’n targedu'r rhai yna o bob oedran, o gofio’r faith ei bod hi’n anodd cael jobyn am oes rhagor, ac felly mae’n bwysig dros ben fod pobl yn cael y cyfle i gael hyfforddiant yn ystod eu bywydau gweithio.
 
13:57
Eluned ParrottBywgraffiad
Brif Weinidog, mae buddsoddiadau fel y ffatri Aston Martin yn Sain Tathan yn gyfle gwych i bobl leol, cyn belled ag y gallant gael mynediad at y cyfleoedd ar gyfer hyfforddi a datblygu. Ond mae prentisiaid hŷn wedi dweud wrthyf mai un rhwystr sy’n eu hatal rhag ymgymryd â phrentisiaeth yw cost ariannol gwneud hynny. Beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn ymarferol i wneud yn siŵr bod prentisiaethau yn wirioneddol agored i bobl o bob oedran?
 
13:57
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Dyna yr ydym ni’n bwriadu ei wneud ar ôl mis Mai. Caiff Aston Martin ei grybwyll fel enghraifft. Rydym ni wedi bod yn gweithio gydag Aston Martin, i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer y dyfodol. Maen nhw’n hyderus y gallant ddod o hyd i’r sgiliau hynny yn yr ardal beth bynnag, a byddwn yn parhau i weithio, nid yn unig gydag Aston Martin ond gyda chwmnïau eraill er mwyn sicrhau ein bod yn deall beth yw eu hanghenion sgiliau ac yna, wrth gwrs, eu diwallu.
 
13:57
Christine ChapmanBywgraffiad
Brif Weinidog, mae buddsoddiad mewn gweithgynhyrchu yn dod â’r cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau o ansawdd da gydag ef, ac rwy’n croesawu ymrwymiad Llafur Cymru i 100,000 o brentisiaethau ychwanegol yn y tymor Cynulliad nesaf. Mae prentisiaid gweithgynhyrchu yn tueddu i fod yn ddynion, felly mae angen gwneud mwy i annog menywod i mewn i’r swyddi hyn. Mae'r grŵp trawsbleidiol menywod yn yr economi wedi cynnig awgrymiadau o ran sut y gallwn wneud hyn, trwy, er enghraifft, ddatgrynhoi data yn ôl rhyw a chael mwy o diwtoriaid a mentoriaid benywaidd. A wnewch chi ystyried sut y gallwn ni fwrw ymlaen â’r awgrymiadau hyn i gael y prentisiaid gorau posibl a manteisio ar holl gronfa dalent Cymru?
 
13:58
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn sicr. Mae'n hynod bwysig mewn diwydiannau sy'n cael eu hystyried, yn anghywir, fel rhai i ddynion yn draddodiadol, ein bod yn annog mwy o fenywod a merched i fynd i mewn i’r diwydiannau hynny ac i brentisiaethau yn arbennig. Os caf i roi un enghraifft: os edrychwn ni ar Gadetiaid Diwydiannol Airbus, cymerodd hwn 70 o fyfyrwyr benywaidd o ysgolion ar draws y gogledd trwy raglen 10 wythnos gyda chefnogaeth mentoriaid ac esiamplau benywaidd o Airbus. Rwy'n credu bod honno'n un enghraifft ymhlith llawer y gellir eu cyflwyno ymhellach i sicrhau y rhoddir sylw i’r anghydbwysedd hwnnw rhwng y rhywiau, sy’n sicr yn bodoli mewn rhai sectorau, yn y dyfodol.
 
Cynllun Trafnidiaeth Leol De-ddwyrain Cymru
 
13:59
Lindsay WhittleBywgraffiad
4. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud tuag at weithredu cynllun trafnidiaeth leol de-ddwyrain Cymru? OAQ(4)2734(FM)
 
13:59
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mater i awdurdodau lleol yw gweithrediad y cynlluniau trafnidiaeth lleol.
 
13:59
Lindsay WhittleBywgraffiad
Brif Weinidog, rydym ni’n gwybod mai un o nodau pwysicaf y Cynulliad a Chynulliadau’r dyfodol yw adfywiad economaidd cymoedd y de, gan weithio'n agos gyda’r un awdurdodau lleol hynny, beth bynnag y byddant. Sut wnaiff y cynllun trafnidiaeth lleol hwn ysgogi twf economaidd yng nghymoedd y de-ddwyrain? Yn benodol, a ydych chi’n credu y dylem ni ystyried cludiant am ddim i bobl ifanc 16 i 25 mlwydd oed i'w cynorthwyo i gynyddu eu cyfleoedd am gyflogaeth?
 
13:59
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw gwneud yn siŵr bod cludiant yn fforddiadwy ac ar gael, a dyna pam, wrth gwrs, y mae’r metro mor bwysig i wneud yn siŵr fod gennym ni wasanaethau cyflymach, mwy cyfforddus ac amlach ar draws yr hyn a fydd y rhwydwaith metro. Rwy'n edrych ymlaen at gyfraniad Llywodraeth y DU at y cytundeb dinas yn arbennig, a fydd yn helpu i adfywio ac i gynorthwyo rhannau helaeth o’r de-ddwyrain.
 
14:00
Mohammad AsgharBywgraffiad
Brif Weinidog, mae cynllun trafnidiaeth leol de-ddwyrain Cymru yn rhagweld cynnydd o 20 y cant i nifer y trigolion sy’n cymudo i weithio ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd yn y 25 mlynedd nesaf. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i greu gorsaf parcio a theithio, yn debyg i Bristol Parkway, i wasanaethu fel y canolbwynt rheilffyrdd mawr i Gaerdydd, a allai hefyd wasanaethu Maes Awyr Caerdydd ar yr un pryd?
 
14:00
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae'r rhain i gyd yn faterion sy’n gysylltiedig â’r metro, gan ein bod wedi ei gwneud yn eglur ein bod yn uchelgeisiol i greu system drafnidiaeth gwbl integredig sy'n cwmpasu rheilffyrdd trwm, rheilffyrdd ysgafn, bysiau cludo gyflym, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei symud ymlaen yn gyflym erbyn hyn.
 
Gofal Iechyd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed
 
14:01
Kirsty WilliamsBywgraffiad
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau gofal iechyd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)2746(FM)
 
14:01
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni’n disgwyl i Fwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys i sicrhau bod pobl Brycheiniog a Sir Faesyfed yn cael mynediad at wasanaethau iechyd sy'n ddiogel, yn gynaliadwy ac yn cyflawni'r canlyniadau clinigol gorau posibl i gleifion.
 
14:01
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Brif Weinidog, mae'r gwaith ailwampio yn ysbyty Llandrindod wedi cychwyn ers cryn amser, a bydd yn ein galluogi i ddod â gwasanaethau newydd i'r gymuned honno. Un peth y byddai fy etholwyr wrth eu boddau’n ei gael yn ysbyty Llandrindod ac, yn wir, ysbytai cymuned eraill, yw mynediad at wasanaethau cemotherapi. Ar hyn o bryd, mae llawer o etholwyr yn teithio ymhell dros awr i gael mynediad at wasanaethau cemotherapi mewn ysbytai cyffredinol dosbarth eraill, ac eto nid oes unrhyw resymau clinigol pam na allai’r gwasanaethau hynny gael eu darparu mewn ysbytai cymuned ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, gan gael gwared ar yr angen i deithio mor bell. Beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio gyda bwrdd iechyd lleol Powys i ddarparu gwasanaethau cemotherapi yn ein hysbytai cymuned?
 
14:02
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn gyntaf oll, diolchaf i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol am y gydnabyddiaeth o'r buddsoddiad yn Llandrindod. Mae'n rhan o'r cam cyntaf o gynigion ailwampio ehangach, a fydd yn dod i gyfanswm o £5.3 miliwn, ar gyfer gwasanaethau ysbyty hanfodol ar y safle, yn rhan o'r strategaeth i wella amgylcheddau staff a chleifion ac, wrth gwrs, gwella hyfywedd hirdymor yr ysbyty. Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog iechyd ysgrifennu ar y mater penodol o gemotherapi. Nid wyf yn gwybod a oes rhesymau clinigol—mae hi wedi dweud wrthyf nad oes—neu a oes rhesymau eraill sy'n atal cemotherapi rhag cael ei ddarparu, yn sicr ar gyfer cyflyrau penodol, ar y safle. Ond, byddaf yn sicr yn ymchwilio i hynny ac yn gwneud yn siŵr ei bod hi’n cael llythyr yn ôl.
 
14:02
Simon ThomasBywgraffiad
Mae Brycheiniog a Maesyfed, a chanolbarth Cymru yn gyffredinol, yn un o’r ardaloedd lle ceir problemau o ran cael mynediad at feddygon teulu, yn enwedig gyda’r nos, ac yn enwedig ar y penwythnos. Rydych chi’n hoff iawn o ddweud, Brif Weinidog, eich bod chi wedi cynyddu nifer y meddygon teulu 10 y cant yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ond cafwyd cynnydd yn Lloegr dros yr un cyfnod o 20 y cant. Felly, bob tro rydych yn ei gynyddu, rydym yn cwympo ar ei hôl hi. Beth sydd gennych yn benodol i ddenu meddygon teulu i rywle fel canolbarth Cymru, a’r gorllewin hefyd, lle nad oes, ar hyn o bryd, y fath o arlwy sy’n debyg o ddenu’r rhai sydd eisiau bod yn bartneriaid, a lle mae hi hyd yn oed yn anodd cael rhai sydd ar gyflog?
 
14:03
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn gyntaf, wrth gwrs, mae hwn yn rhywbeth y mae’r ‘collaborative’ wedi bod yn rhan ohono ac wedi bod yn gweithio arno, sef edrych ar ffyrdd o ddenu pobl i mewn i’r canolbarth a sicrhau, wrth gwrs, eu bod nhw’n sefyll yn y canolbarth. Mae hynny’n rhywbeth y maen nhw wedi bod yn gweithio arno. Mae’n bwysig dros ben, os ydym yn ystyried Powys, er enghraifft, bod gwaith wedi cael ei wneud ym Machynlleth ac yn y Drenewydd er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i’r boblogaeth a’r trigolion yn y fan yna. Felly, lle mae materion yn codi ynglŷn â rhai meddygfeydd, wedyn, wrth gwrs, mae’r bwrdd yn dod i mewn i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gadw i bobl.
 
Mae’r system yn gweithio fel hyn: mae’r meddygon teulu yn gontractwyr. Mae hi lan iddyn nhw i sicrhau eu bod nhw’n cadw at y contract. Lle maen nhw’n ffaelu, wedyn, wrth gwrs, mae’r bwrdd iechyd yn gallu ystyried dodi meddygon ar gyflog i mewn er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau. Dyna, wrth gwrs, sydd wedi digwydd yn y gogledd, yn ardal Prestatyn.
 
Lleihau’r Perygl o Lifogydd
 
14:04
Janet HaworthBywgraffiad
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i leihau'r perygl o lifogydd yn y dyfodol? OAQ(4)2741(FM)
 
14:04
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Yn ystod oes y Llywodraeth hon, byddwn wedi buddsoddi dros £285 miliwn ledled Cymru i leihau perygl llifogydd a chryfhau ein gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd.
 
14:05
Janet HaworthBywgraffiad
Diolch i chi am eich ateb, Weinidog. A allech chi egluro’r meysydd hyn sy'n peri pryder i mi? Y bydd eich Llywodraeth yn rhoi ystyriaeth lawn i'r gwaith sy'n cael ei wneud gan adran dynameg afonydd a hydroleg Prifysgol Aberystwyth, sy'n herio syniadau presennol am lifogydd yng Nghymru; ac y bydd y gwaith i ailystyried ac ail-fapio’r systemau draenio yn y goedwig ucheldir o gwmpas Llanrwst yn digwydd ar frys—dywedwyd wrthyf fod y systemau draenio hyn yn dyddio'n ôl i'r 1940au. A byddwch yn ymwybodol bod un orsaf ynni dŵr eisoes yn gallu rhyddhau 8 miliwn tunnell o ddŵr i mewn i afon Conwy. Bwriedir cael un arall. A fydd eich Llywodraeth yn galw’r cynllun ar gyfer rhaeadrau Conwy ar ben yr afon hon i mewn?
 
14:05
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn gyntaf, ni allwn, yn amlwg, gymryd barn un person ac un adran a dweud mai honno o reidrwydd yw'r unig dystiolaeth mewn ardal benodol. Yr hyn y mae angen ei ystyried yw pwysau'r dystiolaeth; mater i Gyfoeth Naturiol Cymru yw archwilio hynny. Pan ddaw i lifogydd, yn enwedig o gwmpas Llanrwst, gwn fod y bobl sy'n byw yn Llanrwst wedi bod yn hapus i weld y gwaith sydd wedi ei wneud. Ymwelais â Llanrwst Nos Galan—Nos Galan oedd hi’n sicr, neu ychydig ddiwrnodau cyn hynny—gwelais y gwaith drosof fy hun, siaradais â chynghorwyr lleol, ac roedden nhw’n gallu dangos i mi sut yr oedd y cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd ar Afon Conwy o gwmpas Llanrwst wedi helpu i wneud yn siŵr nad oedd Llanrwst yn dioddef llifogydd, yn enwedig i'r lefelau iddo ei ddioddef yn y gorffennol, yn enwedig pan roedd dŵr daear yn dod i fyny trwy dai pobl, ac nid oes unrhyw amddiffyniad yn erbyn hynny, wrth gwrs. Mae gan awdurdodau lleol y cyfrifoldeb, wrth gwrs, o ymdrin â llifogydd. Maen nhw, wrth gwrs, yn gallu gwneud cais am gyllid grant ar gyfer cynlluniau llifogydd; maen nhw wedi gwneud hynny’n llwyddiannus ledled Cymru, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth gwrs, hefyd yno i roi cyngor ynghylch sut y dylid bwrw ymlaen â’r cynlluniau rhag llifogydd.
 
14:06
Alun Ffred JonesBywgraffiad
A gaf i fynd yn ôl at ddatganiad yr Athro Mark Macklin ddoe bod Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ei ôl o, ddim yn cymryd i ystyriaeth llifogydd hanesyddol ar afonydd Cymru? Mi ddioddefodd etholwyr yn fy ardal i yn waeth nag unrhyw ran arall o Gymru o lifogydd ar Ddiwrnod San Steffan, ac un o’r pethau amlwg iawn oedd profiadau pobl ar y ddaear a’u hatgofion nhw o lifogydd cynt. A’r hyn sydd yn nodweddiadol yn y cyfarfodydd cyhoeddus rwyf wedi eu cael ydy nad ydy’r swyddogion proffesiynol yn aml iawn yn ymwybodol o hynny o gwbl. Felly, rwy’n credu bod gan yr Athro Mark Macklin bwynt yn hyn. A ydych chi’n ystyried bod anwybyddu tystiolaeth hanesyddol fel hyn yn dderbyniol ac yn arfer da?
 
14:07
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Nid wyf am honni fy mod yn arbenigwr yn yr ardal hon, ond beth rwy’n gwybod yw—rwy’n deall bod y gwaith ymchwil wedi cael ei wneud; rwy’n siŵr bod y gwaith ymchwil yn bwysig, ac nid wyf yn beirniadu’r gwaith hwnnw o gwbl—ond un person yw hwn ac un grŵp o ymchwilwyr sydd wedi gwneud y gwaith hwn. Mae’n bwysig ystyried, wrth gwrs, y gwaith maen nhw wedi ei wneud, ac ystyried y dystiolaeth honno, ond fyddai neb yn erfyn i’r cyfeiriad newid o achos un darn o waith. Felly, beth sy’n bwysig nawr yw bod y gwaith yn cael ei ystyried a bod y gwaith yn ychwanegu at y corff o dystiolaeth sydd yna nawr.
 
14:08
William PowellBywgraffiad
Brif Weinidog, rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i gymeradwyo newid meddwl munud olaf Llywodraeth y DU wrth benderfynu, wedi'r cyfan, i wneud cais i'r gronfa undod yr UE ar gyfer rhoi cymorth i ddioddefwyr llifogydd. Rwyf wedi bod yn ymgyrchu ar y mater hwn ers ychydig ar ôl llifogydd Gŵyl San Steffan, fel yn wir y mae arweinydd fy mhlaid yn y DU, ac ysgrifennais at David Lidington a Liz Truss ar y mater hwn, y ddau ohonynt yn Weinidogion sydd o blaid yr UE. Mae'n ymddangos bod y rhyfel cartref o fewn y Llywodraeth ar hyn o bryd wedi caniatáu i’r penderfyniad doeth hwn gael ei wneud o leiaf. Brif Weinidog, beth allwn ni ei wneud nawr i sicrhau bod yr arian hwn y mae wir ei angen o’r gronfa undod Ewropeaidd, pan fydd yn cael ei roi ar gael, yn cael ei gyfeirio at y rhai sydd ei angen fwyaf, a bod cyn lleied â phosibl yn cael ei ddal yng nghors gweinyddiaeth y DU yn hyn o beth?
 
14:09
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni’n cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar hyn. Y ffordd orau o sicrhau'r cyllid arian yw aros yn yr UE, yn amlwg. Mae ei farn ef a fy marn i yn debyg, wrth gwrs, ar y mater hwn. Pe byddai arweinydd Ceidwadwyr Cymru yn cael ei ffordd, ni fyddai’r arian yno o gwbl, ac ni fyddai’r bobl hynny’n cael eu helpu. Ond yn sicr, mae aros yn yr— [Torri ar draws.] Mae'n dweud 'Trafodwch e'; dyma’r dyn sy'n dweud nad yw’n mynd i drafod unrhyw beth ar yr UE, ond dyna ni. Rydym ni’n dal i aros am yr erthygl yr oedd yn mynd i’w hysgrifennu yn cyfiawnhau pam mae’n bradychu ffermwyr, ond rwy’n derbyn nad dyna'r pwynt ar yr achlysur hwn. Mae'n bwysig ein bod yn aros yn yr UE i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cael gafael ar yr arian hwnnw i helpu ein pobl.
 
14:10
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Chwarae teg i chi am ateb cwestiynau, Brif Weinidog, ond pan ei fod yn eistedd i lawr nid yw’n gofyn cwestiwn i chi mewn gwirionedd, felly nid oes rhaid i chi ymateb.
 
Busnesau Bach yn Ardal Taf Elái
 
14:10
Mick AntoniwBywgraffiad
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau bach yn ardal Taf Elái? OAQ(4)2745(FM)
 
14:10
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Mae cymorth eang ar gael trwy ein gwasanaeth Busnes Cymru, a thrwy amrywiaeth o fentrau ardrethi busnes, ar gyfer busnesau yn ardal Taf Elái a ledled Cymru.
 
14:10
Mick AntoniwBywgraffiad
Brif Weinidog, mae eich addewidion Llafur Cymru o ran adnewyddu ac ymestyn lwfans busnesau bach wedi cael croeso da iawn ar stryd fawr Pontypridd a chan fusnesau bach. Mae'n debyg mai fy mhryder i, mewn gwirionedd, wrth gwrs, yw bod gennym ni lawer o drefi bach eraill—Pontyclun, Tonyrefail, Tonysguboriau—sydd â chymunedau manwerthu bywiog yno. Tybed a allech chi amlinellu efallai i ba raddau y byddai'r polisi hwnnw o fudd i’r busnesau bach hynny a beth allai'r manteision hynny fod i'r stryd fawr yn ein trefi bychain yn y de.
 
14:11
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gallaf, yn wir. Bydd o fudd i bawb sy'n gymwys i dderbyn y rhyddhad. Rydym ni’n disgwyl i dri chwarter busnesau bach gael eu heffeithio’n gadarnhaol. Rydym ni’n disgwyl i tua hanner beidio â thalu ardrethi busnes o gwbl. Mae hwn yn gyfnod anodd, yn enwedig yn y sector manwerthu, i BBaChau. Rydym ni wedi ymrwymo i gynorthwyo ein stryd fawr; dyna pam, wrth gwrs, rydym ni’n mynd i leihau ardrethi i fusnesau bach.
 
14:11
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Brif Weinidog, mae'n amlwg bod gan Geidwadwyr Cymru bolisi hir-sefydlog ar ardrethi busnes i eithrio pob busnes sydd â gwerth ardrethol hyd at £12,000 ac yn meinhau hynny hyd at £15,000. Ers naw mlynedd bellach, rwy’n credu, rydym ni wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth Llafur Cymru i geisio cyflwyno polisi rhyddhad ardrethi busnes o'r fath. Soniodd eich Aelod dros Bontypridd am eich polisi a gyhoeddwyd gennych yn eich cynhadledd. A allwch chi esbonio pa un a fydd yr un mor hael â pholisi Ceidwadwyr Cymru, neu ai dim ond estyniad o’r hyn sydd ar waith ar hyn o bryd yw hyn, sef hyd at £6,000 o ryddhad ar ardrethi busnes?
 
14:12
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, nid wyf yn gwybod beth yw ei bolisi.
 
14:12
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Rwyf newydd ddweud wrthych chi.
 
14:12
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'n dweud drosodd a throsodd bod gan ei blaid bolisïau. Yr hyn sy’n rhyfedd yw ei fod yn dweud drosodd a throsodd, 'Mae gennym ni bolisïau; rwyf newydd ddweud wrthych chi', ac eto pan fyddaf yn amlygu'r ddogfen y mae ei blaid ei hun wedi ei chynhyrchu sy'n dangos y toriadau y maen nhw’n bwriadu eu gwneud, nid dyna ei bolisi. Hen bolisi yw hwnnw, nid dyna ei bolisi. Y gwir amdani yw, rydym ni wedi cynhyrchu polisi a fydd o fudd i fusnesau bach ledled Cymru, rydym ni wedi ei esbonio, ac rydym ni wedi ei gostio. Mae perchnogion busnesau bach Cymru yn aros i weld beth y bydd e’n ei ddweud ar ôl iddo ddadansoddi ei rifau.
 
Amseroedd Aros Cleifion Canser (Canol De Cymru)
 
14:12
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r amseroedd aros a brofir ar hyn o bryd gan gleifion canser yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)2733(FM)
 
14:12
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rwyf am geisio ateb ei bumed gwestiwn. Mae canser yn un o brif flaenoriaethau’r GIG a’n Llywodraeth ni. Rydym ni’n parhau i wneud cynnydd o ran gwneud diagnosis o ganser a chynnig triniaeth. Mae mwy o bobl yn cael diagnosis o ganser yng Nghymru, ond mae mwy o bobl nag erioed yn cael triniaeth ac mae cyfraddau goroesi yn uwch nag erioed.
 
14:13
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Mae'n ddrwg gen i ei fod yn eich poeni fy mod i wedi cael pum cwestiwn y prynhawn yma. Rwy'n credu mai democratiaeth y gelwir hynny, Brif Weinidog, ond rwy’n sylweddoli nad oes llawer o hynny yn y blaid Lafur. [Aelodau'r Cynulliad: 'O.'].
 
Mae Caerdydd a’r Fro—
 
14:13
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Trefn.
 
14:13
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
[Yn parhau.] —gostyngodd amseroedd aros canser i 65 y cant o gleifion a gafodd ddiagnosis o dan y llwybr amheuaeth o ganser brys. Yn y pen draw, dim ond 83 y cant yw’r cyfartaledd cenedlaethol. Eich targed eich hun yma yng Nghymru yw i 95 y cant o gleifion gael eu hatgyfeirio yn unol â’r amserlen. Ni fodlonwyd y targed hwnnw o gwbl ers 2008, Brif Weinidog. Gan mai Caerdydd a'r Fro sydd â’r amseroedd atgyfeirio gwaethaf, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud yn siŵr bod yr amseroedd hynny yn cael eu symud yn nes at darged Llywodraeth Cymru ei hun, fel y gellir sicrhau rhywun sy’n cael y diagnosis ofnadwy o ganser, y gall fod yn sicr y bydd yn cael ei roi ar y llwybr triniaeth cywir yn y cyfnod amser y mae’n disgwyl cael ei drin oddi mewn iddo?
 
14:14
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Nid oes gennyf i unrhyw broblem ag ef yn gofyn nifer o gwestiynau. Y rhai ar y meinciau cefn a fydd yn teimlo nad ydynt yn cael gofyn cwestiynau, ond mae hynny ar gyfer rhyw dro arall.
 
Gofynnodd y cwestiwn am Gaerdydd a'r Fro. Mae Caerdydd yn chwarae rhan bwysig o ran gwasanaethau arbenigol ochr yn ochr â gwasanaethau mwy arferol ar gyfer ei boblogaeth leol. Mae'n cynnig y gwasanaeth hwnnw, felly mae mwy o bwysau ar Gaerdydd a'r Fro. Er enghraifft, mae atgyfeiriadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod 17 y cant yn uwch na'r flwyddyn cynt, felly bu angen i Gaerdydd weld a thrin mwy o gleifion. Serch hynny, bu gwelliant i berfformiad ar gyfer mis Rhagfyr y llynedd—gwelliant o 10 y cant, a dweud y gwir, sef 71 y cant—a dyna'r perfformiad gorau ers mis Mai.
 
Mae'n siarad am ffigurau ar gyfer amseroedd aros canser yng Nghymru. Maen nhw wedi bod yn well na Lloegr yn gyson. Ydy, mae’n wir i ddweud nad ydym wedi cyrraedd targedau, gan fod ein targedau’n fwy uchelgeisiol—mae cymaint â hynny’n wir. Serch hynny, pan ddaw i ganser, rydym ni wedi dangos yn gyson os bydd pobl eisiau cael diagnosis a thriniaeth, yna mae’r ffigurau yng Nghymru yn well.
 
Ad-drefnu Etholiadol
 
14:14
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
9. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn ag ad-drefnu etholiadol? OAQ(4)2748(FM)[W]
 
14:15
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Nid wyf i cweit yn gwybod beth mae’r Aelod yn ei feddwl gan adrefnu etholiadol, ond gallaf ddweud nad oes trafodaethau wedi cymryd lle ar y pwnc yna.
 
14:15
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
Cyfeirio rwyf i at y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf fod yna fwriad i leihau nifer yr Aelodau Seneddol o 40 i 29 yng Nghymru. Nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad mewn egwyddor i leihau nifer yr Aelodau Seneddol, ond, wrth gwrs, mae Cymru yn cymryd mwy na’i siâr o’r toriadau sy’n cael eu cynnig. Mae yna eithriadau i’r newidiadau, wrth gwrs, sef rhai o ynysoedd yr Alban ac Ynys Wyth, efo’u statws nhw fel ynysoedd yn golygu bod hawl ganddyn nhw i barhau fel etholaethau eu hunain. Nid ydy’r un peth yn wir yma yng Nghymru efo Ynys Môn. Y perig, rwy’n meddwl, o uno Ynys Môn, lle byddai’r rhan fwyaf o boblogaeth unrhyw etholaeth yn byw, efo rhan fach o’r tir mawr ydy y byddai hynny’n gwneud cam gwag ag Ynys Môn a’r rhan fach yna o’r tir mawr. Felly, a fyddai’r Prif Weinidog yn ymuno â fi i alw i eithrio Ynys Môn hefyd?
 
14:16
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn clyfar iawn ar gyfer ei etholwyr yn Ynys Môn, ac yn Ynys Gybi, wrth gwrs. Mater, ar ddiwedd y dydd, i’r comisiwn ffiniau yw hyn. Nid wyf o blaid torri nifer yr Aelodau sydd gennym yn San Steffan, achos torri lawr ar lais Cymru byddai hynny’n ei wneud. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelod yn gwneud ei bwynt yn gryf iawn i’r comisiynydd ffiniau, unwaith, wrth gwrs, bydd y broses yna wedi digwydd.
 
14:16
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Brif Weinidog, nododd Bil Llywodraeth Leol (Cymru) cyntaf eich Llywodraeth gostau o fwy na £4 miliwn i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru i gynnal adolygiadau o ffiniau, er nad yw cyfarwyddiadau terfynol wedi eu cyhoeddi hyd yn hyn o ran cyflawni’r rhain. A allech chi ein hysbysu am y costau llawn sy'n gysylltiedig â'r adolygiadau hyn, o ystyried nad oes yr un ohonom yn gwybod eto beth fydd y cyfarwyddiadau terfynol hynny? A yw’r ffigur hwn yn cynnwys cost y cyfarwyddiadau terfynol arfaethedig ac a ydych chi wedi dyrannu unrhyw arian ar gyfer hyn?
 
14:17
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, o ystyried y ffaith bod y cwestiwn yn ymwneud â thrafodaethau gyda Llywodraeth y DU, nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar y pwynt hwn.
 
14:17
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch yn fawr, Brif Weinidog.
 
14:17
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at yr eitem fusnes nesaf, sef y datganiad busnes, ac rwyf—[Torri ar draws.] Diolch. Galwaf ar y Gweinidog busnes, Jane Hutt.
 
14:17
Jane HuttBywgraffiadY Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Lywydd, mae un newid i'r datganiad busnes ar gyfer busnes yr wythnos hon. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar y Bil Cymru drafft. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymhlith papurau'r agenda sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
 
14:17
William GrahamBywgraffiad
Weinidog Busnes, a gaf i ofyn i'ch cydweithiwr, Gweinidog yr amgylchedd, i wneud datganiad ynghylch y gweithgaredd anghyfreithlon sy’n digwydd yn Llanbedr Gwynllŵg? Mae nifer fawr o drigolion wedi dioddef anghyfleustra difrifol o ganlyniad i rai pobl, gawn ni ddweud, a oedd yn ymddangos fel nad oeddent yn talu dim sylw i’r gyfraith gyfredol ynglŷn â dinistrio gwrychoedd ac ymyrraeth ddifrifol â rhyddid pobl ar lwybrau troed ac ar lwybrau troed sydd wedi’u dynodi gan y Cynulliad hwn. Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ceisio gwneud yr hyn a allant. Mae Heddlu Gwent hefyd wedi gwneud eu gorau, ond mae angen mwy o weithredu gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r Gweinidog wedi bod yn ddigon caredig i ganiatáu i mi drafod â'i swyddogion yn y gorffennol, ond mae datganiad bellach yn angenrheidiol i wneud yn siŵr y bydd y gweithgareddau anghyfreithlon yn dod i ben nawr.
 
14:18
Jane HuttBywgraffiad
Gwn y bydd y Gweinidog wedi clywed y diweddariad, William Graham, ar y camau a gymerwyd ganddo yn y gorffennol i hwyluso mynediad at swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru—. Ac, yn wir, mae gan yr holl asiantaethau eraill ran i'w chwarae. Ond, ar y cofnod eto, wrth gwrs, heddiw, rydym yn clywed bod hwn yn dal yn fater parhaus y mae angen mynd i’r afael ag ef.
 
14:18
Julie MorganBywgraffiad
Heddiw, rydym yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi, ac rwyf yn siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol mai dydd Iau yw Diwrnod y Llyfr. Mae llawer o lyfrgelloedd ac ysgolion yn cynnal digwyddiadau i glodfori’r pleser o ddarllen ac i annog plant i ddarllen. Yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd, byddaf yn cefnogi grŵp o'r enw AWEN@TheLibrary, sydd â'r nod o ddatblygu'r defnydd o adeiladau llyfrgelloedd ar gyfer y celfyddydau a gweithgareddau hamdden eraill. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a fyddai'n bosibl cael datganiad a fyddai’n cynnwys asesiad o’r hyn sydd wedi digwydd i'r llyfrgelloedd yn ystod y cyfnod o newid ledled Cymru. Mae'r ansicrwydd o ran cyllid wedi achosi llawer o lyfrgelloedd i orfod ystyried eu swyddogaeth. A fyddai'n bosibl cael datganiad ar beth sy'n digwydd?
 
14:19
Jane HuttBywgraffiad
Rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle da iawn o ran Diwrnod y Llyfr a'r gweithgareddau a fydd yn cael eu cynnal yn eich etholaeth chi yng Ngogledd Caerdydd, Julie Morgan. Gwn fod y Dirprwy Weinidog, wrth gwrs, â chryn ddiddordeb yn y ffordd y mae'r ddarpariaeth lyfrgell yn mynd yn ei blaen. Bydd yn lansio, mewn gwirionedd, llyfrgell ddigidol genedlaethol ar Ddiwrnod y Llyfr, a byddai'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf, yn unol â'ch cais.
 
14:20
Bethan JenkinsBywgraffiad
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch penodi cadeirydd newydd i Gyngor Celfyddydau Cymru? Ceir pryder cynyddol yn y sector celfyddydau ynghylch yr amser y mae'n ei gymryd i gwblhau hynny, a deallaf y cafodd y rhestr fer ddiweddaraf o ymgeiswyr eu cyfweld dair wythnos yn ôl ar ddechrau mis Chwefror, ond mai Llywodraeth Cymru sydd yn llusgo ei thraed o ran y penderfyniad. Rwyf hefyd yn deall bod eich Llywodraeth yn disgwyl gwneud cyhoeddiad yng nghanol mis Mawrth. Mae hynny ar gyfer swydd sy'n dechrau ym mis Ebrill, a gafodd ei hysbysebu fis Gorffennaf diwethaf yn wreiddiol, a’i hysbysebu eto ym mis Tachwedd. Yn amlwg, mae’n rhaid bod rhywbeth o'i le yn y fan yma, felly a allech chi roi rhywfaint o eglurhad i ni, naill ai gan y Gweinidog neu'r Prif Weinidog?
 
14:20
Jane HuttBywgraffiad
Wel, wrth gwrs, mae hwn yn fater a weithredir yn gwbl unol ag egwyddorion a phrosesau Nolan.
 
14:20
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Weinidog, mae llawer o bobl, rwyf yn siŵr, sydd wedi gweld y neges Dydd Gŵyl Dewi gan Tim Peake o'r orsaf ofod y bore yma. A wnaiff y Gweinidog, efallai, ysgrifennu at wirfoddolwyr Cymdeithas Radio Amatur Brycheiniog a Maesyfed sydd wedi trefnu cyfle i bobl ifanc Brycheiniog a Sir Faesyfed siarad â Tim Peake fore dydd Sadwrn, a gynhelir gan Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt? Bydd myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Crughywel ac Ysgol Uwchradd Gwernyfed yn bresennol hefyd. Byddant yn defnyddio'r cyfle i dynnu sylw at yrfaoedd mewn peirianneg radio a thechnoleg radio. Hyd yn oed ar y cam hwyr hwn, ni fyddai'n rhy hwyr, rwyf yn siŵr, i Lywodraeth Cymru anfon cynrychiolydd i Lanfair-ym-Muallt fore dydd Sadwrn i weld drosto ei hunan y cysylltiad â'r orsaf ofod a Tim Peake ac, rwyf yn siŵr, y mwynhad sylweddol y bydd y disgyblion ysgol hyn o Frycheiniog a Sir Faesyfed yn ei gael o ganlyniad i’r cyfle a gynigir iddynt gan wirfoddolwyr y gymdeithas radio amatur.
 
14:22
Jane HuttBywgraffiad
Hoffwn longyfarch Aelod Brycheiniog a Sir Faesyfed am ei hymgysylltiad llawn â'r bobl ifanc a gymerodd ran, ac a fydd yn cymryd rhan ddydd Sadwrn o ran y neges gyswllt â Tim Peake, ac wrth gwrs, unwaith eto, am roi’r cyfle i ni ddiolch i Tim Peake am gydnabod pwysigrwydd Dydd Gŵyl Dewi. Ond, yn wir, mae’r ffyrdd yr ydych yn ymgysylltu â phobl ifanc ledled Brycheiniog a Sir Faesyfed yn ddilys ac yn glodwiw iawn o ran eu sgiliau a'u cyfleoedd gwaith a gyrfa posibl yn y dyfodol.
 
14:22
Eluned ParrottBywgraffiad
Weinidog, heddiw yw Dydd Gŵyl Dewi, ac mae’n amlwg y bydd llawer o'n hysgolion yn cynnal eisteddfodau i glodfori’r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru, ond rydym yn dal i fod mewn sefyllfa lle y mae addysg cerddoriaeth yng Nghymru, yn anffodus, yn dirywio mewn rhai mannau. Tybed a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar gynnydd a gweithrediad ei adolygiad diweddar. Yn arbennig, hoffwn ddeall sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i fonitro nifer y bobl ifanc yn ein hysgolion sydd yn cael dysgu offerynnau cerdd, gan nad oedd pob un o'r awdurdodau lleol yng Nghymru yn gallu rhoi'r wybodaeth i mi pan ofynnais amdani o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
 
Yn ail, o ystyried y dyfalu yn y wasg dros y penwythnos ynglŷn â’r trefniadau llywodraethu ar gyfer rheilffyrdd y Cymoedd a masnachfraint Cymru a'r gororau, deallaf fod Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth o blaid cyflwyno datganiad ar y trefniadau llywodraethu wrth symud ymlaen. Tybed a allem ni gael amserlen ar gyfer y datganiad hwnnw, os gwelwch yn dda.
 
14:23
Jane HuttBywgraffiad
Mae'n bwysig iawn eich bod yn cydnabod diddordeb y Gweinidog addysg mewn addysg cerddoriaeth a'r ffaith fod adolygiad wedi'i gynnal. Mewn gwirionedd, mae hyn yn rhywbeth pan, wrth gwrs, ein bod yn aros am ganlyniad yr adolygiad hwnnw, oherwydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod addysg cerddoriaeth yn gallu datblygu, er gwaethaf y toriadau gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru, sydd, wrth gwrs, wedi cael effaith negyddol o ran ein gallu. Mae galluogi’r adolygiad i gynnal yr asesiad hwn yn bwysig iawn rwy'n credu.
 
O ran eich ail bwynt, mater i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yw hwn wrth gwrs, a bydd hi, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni maes o law.
 
14:24
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog.
 
14:24
3. Datganiad: Bil Cymru Drafft
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at eitem 3, sef datganiad gan y Prif Weinidog ar y Bil Cymru drafft. Galwaf ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
 
14:24
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Diolch, Lywydd. Hoffwn wneud datganiad i ymateb i gyhoeddiad yr Ysgrifennydd Gwladol ddoe bod Bil Cymru am gael ei oedi. Mae gennym nawr gyfle, os yw'r ewyllys yn wirioneddol yno, i drwsio'r difrod a wnaethpwyd gan broses ddiffygiol, ac i gynhyrchu darn gwirioneddol ystyrlon o ddeddfwriaeth. Dylwn yn gyntaf ei gwneud yn glir i'r Cynulliad nad wyf yn gwybod dim mwy am fwriadau’r Ysgrifennydd Gwladol na'r hyn sydd wedi ymddangos yn y wasg. Ni chafodd Llywodraeth Cymru wybod ymlaen llaw am gynnwys cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Gwladol, ac ni fu unrhyw gyfathrebu dilynol ynghylch yr hyn a allai ddigwydd nesaf. Os ydym am wneud unrhyw gynnydd gwirioneddol gyda'r Bil hwn, mae'n rhaid iddo fod yn Fil a wnaethpwyd gyda Chymru, nid ar gyfer Cymru, fel y cydnabu pwyllgor y Cynulliad ar faterion cyfansoddiadol a chyfreithiol ac, yn fwy diweddar, y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig.
 
Mae datganiad i'r wasg Llywodraeth y DU ynghylch y cyhoeddiad yn gwneud nifer o bwyntiau, a rhoddaf sylw i’r rhain yn eu tro. Yn gyntaf, ar y model datganoli cyffredinol, mae'r hyn a elwir yn 'brawf rheidrwydd' am gael ei ddileu. Ar yr wyneb, mae hyn i'w groesawu, ac, wrth gwrs, mae’n adlewyrchu barn y Cynulliad hwn a llawer o bobl eraill sydd wedi gwneud sylwadau am y Bil. Ond mae'n dal yn aneglur beth yn union y mae'r cyhoeddiad yn ei awgrymu. Nawr, yn anffodus, ni allaf ragweld sefyllfa lle na fydd unrhyw gyfyngiadau o gwbl ar bwerau'r Cynulliad i addasu'r gyfraith breifat a throseddol. Ond yn anffodus, mae’n amhosibl imi wneud sylwadau pellach heb weld mwy o fanylion.
 
Mae hynny hefyd yn wir am ail elfen cyhoeddiad ddoe, ar bwerau gweinidogol a chydsyniadau. Mae safbwynt Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir ers misoedd lawer ac mae ar y cofnod, a chyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol y bydd yn edrych ar bob un o'r rhain gyda golwg ar ddatganoli cynifer â phosibl. Mae hynny'n dda, ond ni all hynny fod yn fater i'r Ysgrifennydd Gwladol yn unig. Os bydd eithriadau i'r egwyddor gyffredinol, mae'n rhaid i'r ddwy Lywodraeth gytuno arnynt, a bydd angen deialog i wneud hynny. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cynnal dau gyfarfod gyda swyddogion Swyddfa Cymru lle’r oedd hyn ar yr agenda ac ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol yn benodol ar y mater hwn ar 23 Tachwedd y llynedd. Ond ar wahân i’w awgrym cyhoeddus ddoe nad oedd erioed wedi bwriadu rhoi feto i Loegr ar gyfreithiau Cymru, nid ydym wedi cael ymateb eto.
 
Mae angen gwneud yr un pwynt ynglŷn â phwerau a gedwir. Yma, dywedir wrthym y bydd Swyddfa Cymru’n adolygu'r rhestr bresennol mewn trafodaeth ag adrannau Whitehall ac y bydd yn rhaid cyfiawnhau pob pŵer a gedwir. Cynhaliodd fy swyddogion 15 o gyfarfodydd gyda swyddogion Llywodraeth y DU rhwng mis Hydref a mis Ionawr ac maent wedi darparu darlun llawn a chynhwysfawr o bob un o'r pwerau a gedwir iddynt. Ond, unwaith eto, dim ymateb. Os yw'r broses hon yn parhau i fod yn gwbl fewnol i Lywodraeth y DU, ni allaf fod yn hyderus iawn na fydd hwn yn Fil arall wedi’i wneud ar gyfer Cymru, nid gyda Chymru.
 
Yn olaf, a gaf i droi at fater awdurdodaeth gyfreithiol? Yma, mae'n amlwg bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi gwrthod barn unfrydol y Cynulliad hwn, a barn y Pwyllgor Materion Cymreig: bod hwn yn fater sy'n haeddu archwiliad pellach. Yn lle hynny, byddwn yn cael gweithgor
 
'i ystyried pa drefniadau ar wahân sydd eu hangen i gydnabod anghenion Cymru'
 
o fewn yr awdurdodaeth bresennol. O’r cyhoeddiad i’r wasg, mae'n ymddangos y caiff Llywodraeth Cymru ei chynrychioli ar y grŵp hwn, ond nid ydynt wedi cysylltu â ni eto.
 
Hoffwn, fodd bynnag, wneud pwynt mwy cyffredinol. Credaf fod creu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru yn ddatblygiad cyfansoddiadol anochel o fewn y Deyrnas Unedig. Rwyf wedi annog yr Ysgrifennydd Gwladol i gymryd golwg fwy pellgyrhaeddol a hoffwn weld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn symud tuag at hyn yn awr, yn hytrach nag o dan bwysau digwyddiadau yn nes ymlaen.
 
Lywydd, fis Hydref diwethaf, mewn datganiad i'r Cynulliad am gyhoeddi'r Bil drafft, dywedais hyn, ac rwy’n dyfynnu:
 
'Dylai Bil Cymru ddarparu cyfle i wella'r ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu. Ond oni wneir newidiadau sylweddol i wneud'
 
y Bil
 
'yn addas i'w ddiben, caiff y cyfle hwnnw ei golli. Byddwn yn parhau â'n trafodaethau adeiladol i helpu i gyflawni hynny, ac rydym yn gobeithio y gwnaiff Llywodraeth y DU ymateb yn briodol, yn unol ag anghenion pobl Cymru.'
 
Mae'r geiriau hynny yr un mor wir heddiw ag yr oeddent chwe mis yn ôl. Mae angen gwneud llawer mwy i sicrhau sylfaen gyfansoddiadol i lywodraethu Cymru yn y Deyrnas Unedig sy'n bodloni profion yr Ysgrifennydd Gwladol ei hun ar eglurder, cydlyniad, sefydlogrwydd, ymarferoldeb a chynaliadwyedd. Diolch.
 
14:29
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad heddiw, ac rwy’n croesawu'r cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol ddoe am y sylwadau y mae wedi’u cael gan y sefydliad hwn, gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig a gan gynrychiolwyr ledled Cymru ac, yn wir, ledled y Deyrnas Unedig, sydd â diddordeb mewn datganoli yng Nghymru a setliad cyfansoddiadol cadarn a fydd yn cyflawni’r hyn yr hoffem i gyd ei weld—setliad i Gymru a fydd, yn y pen draw, yn ein symud ymlaen o'r dadleuon a thrafodaethau cyfansoddiadol cyson sydd, dros y 17 mlynedd diwethaf, wedi bod yn nodweddiadol o fywyd gwleidyddol Cymru. Rwy’n meddwl ei bod braidd yn anffodus bod y Prif Weinidog yn dewis defnyddio'r dôn eto ynglŷn â’r feto i Loegr ar gyfreithiau Cymru. Nid wyf yn cydnabod bod Senedd San Steffan yn Senedd i Loegr yn unig, ac nid wyf yn cydnabod bod Llywodraeth y DU yn Llywodraeth i Loegr yn unig. Mae'n Llywodraeth ar gyfer y Deyrnas Unedig. Ac os yw’r Prif Weinidog a'r Llywodraeth yn mynd i barhau i ddefnyddio’r dôn honno, nid yw hynny’n argoeli'n dda ar gyfer y broses sydd o'n blaenau.
 
Mae hwn yn gyfle i adeiladu ar y gwaith cadarn, a'r sylwadau cadarn, sydd wedi eu gwneud. Hoffwn dalu teyrnged arbennig i'r Llywydd sydd wedi gwneud llawer o sylwadau ar farn y Cynulliad fel y ddeddfwrfa, ar sut yr ydym yn credu y gallai'r Bil edrych gyda'r gwelliannau a wneir. Oherwydd, yn y pen draw, roedd hwn yn Fil drafft a gafodd ei roi gerbron pobl Cymru, gerbron y sefydliad hwn, gerbron y Pwyllgor Dethol, i gynnig y drafodaeth honno, cynnig y ddadl honno, ac yn y pen draw, i gyflwyno’r gwelliannau hynny. Siawns mai dyna beth yr hoffem ei weld, ac mae hynny'n dangos proses ddeddfwriaethol da, fel yr hoffwn ei gweld.
 
Byddwn hefyd yn gobeithio y gallai’r Prif Weinidog—. Dewisodd beidio â gwneud sylwadau yn ei ddatganiad ynglŷn â datganoli treth incwm, oherwydd hefyd ddoe cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Gwladol at y trafodaethau i sicrhau nad oedd Cymru dan anfantais oherwydd trosglwyddo datganoli treth incwm. Ac roedd hynny’n amlwg iawn yr wythnos diwethaf, yn y trafodaethau ynglŷn â’r Alban a'r setliad ariannol y mae’r Alban wedi ei sicrhau yn eu trafodaethau gyda'r Trysorlys. Rwy’n ei gweld hi braidd yn rhyfedd bod y Prif Weinidog, yn y datganiad cyfan hwn, wedi dewis peidio â chyfeirio at hynny o gwbl, oherwydd mae hwn yn ddarn mawr o drosglwyddo cyfrifoldebau y bydd y Bil yn ei roi i Gymru, ac yn rhywbeth yr wyf yn ei groesawu’n gynnes iawn, iawn.
 
Rwy’n cynnig i’r Prif Weinidog unrhyw gymorth, yn yr amser byr sydd ar ôl, i annog cyfathrebu, i annog deialog, i wneud yn siŵr nad dim ond Llywodraeth Cymru, ond pob plaid yn y sefydliad hwn, ac, yn wir, y ddeddfwrfa gyfan, i gael trafodaeth lawn ac agored iawn am hyn. Rwy’n meddwl bod y Cynulliad ei hun yn ddisglair iawn pan gawsom y ddadl hollbleidiol honno yma, fis neu ddau yn ôl, o ran ansawdd y ddadl ac ansawdd y safbwyntiau a fynegwyd.
 
Ac rwy’n gwybod yn iawn bod y safbwyntiau hynny wedi cael eu hystyried, a’u bod yn y pen draw wedi ein rhoi yn y sefyllfa lle byddwn nawr mewn sefyllfa i lunio darn o ddeddfwriaeth sydd yr unig gyfle yn y ffenestr ddeddfwriaethol hon—pum mlynedd y Senedd San Steffan hon—i geisio trosglwyddo cyfrifoldebau i'r sefydliad hwn dros lu o bwerau a allai, yn y pen draw, wneud democratiaeth yn llawer mwy cadarn yma yng Nghymru, ac yn llawer mwy rhyngweithiol â’r cyhoedd yng Nghymru, gan y byddwn wir yn gallu llunio cymaint o economi Cymru, bywyd Cymru, ac, yn y pen draw, yr agenda weddnewid yr hoffem i gyd ei chofleidio, drwy'r pwerau a allai fod wedi’u cynnwys yn y Bil Cymru yn y dyfodol. Ar ôl dweud hynny, hoffwn ofyn i’r Prif Weinidog ymateb i'r pwyntiau yr wyf wedi eu gwneud.
 
14:33
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am ei sylwadau? A gaf i egluro beth yr wyf yn ei olygu wrth 'pleidleisiau yn Lloegr am gyfreithiau Lloegr'? Mae'n gwneud y pwynt—ac mae'n bwynt teg—mai Gweinidogion y DU a Senedd y DU ydynt, ond ar y sail honno, ni ddylem gael pleidleisiau yn Lloegr am gyfreithiau Lloegr. Mae'r un egwyddor yn berthnasol.
 
Byddai cydsyniadau Gweinidog y Goron, fel y maent wedi’u drafftio ar hyn o bryd, yn golygu y byddai Gweinidogion nad oes ganddynt gyfrifoldeb y tu allan i Loegr, fel Gweinidogion, yn cael feto dros gyfreithiau yng Nghymru. Ydynt, maent yn Weinidogion y DU, ond, yn ymarferol, nid oes ganddynt unrhyw swyddogaeth yng Nghymru, ac ni fyddai gan Senedd y DU y gallu i gymryd safbwynt gwahanol i Weinidog fyddai'n gwrthod, er enghraifft, roi caniatâd. Dyna'r mater dan sylw. Felly, i bob diben, mae gennych Weinidogion sy'n gweithredu fel Gweinidogion Lloegr, yn y swyddogaeth honno, sydd i bob diben yn y sefyllfa o allu atal deddfau Cymru. Felly, mae'n feto i Loegr ar gyfreithiau Cymru, yn yr un modd ag y ceir pleidleisiau i Loegr ar gyfreithiau Lloegr yn Senedd y DU—mater nad wyf i, yn bersonol, yn cytuno ag ef.
 
O ran y Bil drafft, ceir tri diffyg, yn arbennig, yr wyf wedi’u nodi yn y broses hon. Ac mae'r rhain yn faterion yr wyf wedi'u codi gyda'r Ysgrifennydd Gwladol, ac wedi dweud wrtho amdanynt, yn ddidwyll, fisoedd lawer yn ôl. Yn gyntaf, y methiant i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y dechrau. Cafodd Bil ei gyflwyno inni a oedd mor bell o fod yn rhywbeth y gallem gytuno arno, nid dim ond yn y Llywodraeth, ond yn y pleidiau ar draws y Siambr hon, sy'n golygu y byddai wedi arbed amser pe byddai ymgysylltiad cynnar wedi digwydd er mwyn drafftio'r ddeddfwriaeth ar y cyd. Ac mae hynny’n rhywbeth yr wyf yn ei resynu.
 
Yr ail bwynt, rwy’n meddwl, y byddai angen i'r Ysgrifennydd Gwladol fyfyrio arno yw mai’r hyn a wnaeth, i bob pwrpas, oedd dweud wrth adrannau Whitehall, 'Beth ydych chi'n feddwl y dylai fod, neu sydd wedi'i ddatganoli?', yn hytrach na dweud, 'dyma’r hyn yr hoffwn i ei weld wedi’i ddatganoli.' A'r canlyniad, wedyn, wrth gwrs, oedd dau beth. Yn gyntaf oll, sefyllfa lle'r oedd adrannau Whitehall yn rhoi eu dehongliad eu hunain o'r hyn a oedd wedi ei ddatganoli a'r hyn nad oedd, a hefyd gwahoddiad i rai ohonynt i awgrymu na ddylai’r hyn sydd wedi'i ddatganoli ar hyn o bryd fod wedi’i ddatganoli mwyach. Rwyf wedi gwneud y pwynt yn y Siambr hon o'r blaen am ystyried cwryglau fel llongau. Roedd hynny’n rhywbeth a gyflwynwyd inni fel rhywbeth yr oeddent am ei weld yn cael ei gymryd oddi ar y Cynulliad hwn oherwydd nad oeddent wedi cael fframwaith i weithredu oddi mewn iddo. Nawr, mae yno, ond y trydydd pwynt yw hyn: bu misoedd o oedi dieisiau a diangen. Gallem fod wedi gwneud llawer mwy o gynnydd na hyn, a gallai fod gennym Fil cadarn, a fyddai'n cael cefnogaeth eang—nid cefnogaeth lawn pob plaid yn y Siambr hon, ond cefnogaeth eang ar draws y Siambr hon—i ddarparu setliad cyfansoddiadol cadarn i Gymru.
 
Nid wyf yn credu ei bod yn bosibl cael y setliad hwnnw heb ymdrin â sefyllfa’r awdurdodaeth; fel arall, byddwn yn y pen draw yn y sefyllfa o fod yn eithriad o ran systemau cyfreithiol ledled y byd lle mae gennych, unwaith eto, ddwy ddeddfwrfa yn pasio deddfau yn yr un meysydd polisi o fewn yr un awdurdodaeth. Nid yw'n digwydd o gwbl. O safbwynt cyfreithiol, mae’n hurt. Ond mae'r rhain yn drafodaethau ynglŷn â’r awdurdodaeth ar wahân, yn arbennig, y bydd angen eu cael, ond oni bai eu bod yn cael sylw—os caiff y drws hwnnw ei gau—ni all hwn byth fod yn setliad cynaliadwy. Rwy’n gobeithio na wnaiff hynny ddigwydd.
 
Gwnaeth bwynt am y pwerau treth incwm. Wel, rydym yn bwrw ymlaen â’r rheini. Yn nes ymlaen y prynhawn yma mae gennym Fil a fydd yn symud ymlaen—hyderaf—drwy'r Cynulliad ynghylch y sefydliad a gaiff ei sefydlu i gasglu’r trethi hynny. Hoffem weld yr un fframwaith cyllidol ag sydd gan yr Albanwyr, a dweud y gwir. Nid oes unrhyw reswm pam y dylai Cymru gael ei thrin yn wahanol, ac rydym yn edrych ymlaen, yn y trafodaethau y bydd y Gweinidog yn eu cael â’r Trysorlys, at gydnabyddiaeth y caiff Cymru ei thrin yn yr un modd yn union â’r Alban, ac ar yr un sail ffafriol â'r Alban.
 
14:37
Mick AntoniwBywgraffiad
Brif Weinidog, rydych chi wedi rhoi llawer o sylw i’r mater o ran awdurdodaethau ar wahân, ac rydych hefyd wedi codi’r gwahanol faterion am yr angen i gydweithio mewn gwirionedd â Llywodraeth y DU er mwyn cyflawni darn ymarferol o ddeddfwriaeth, ond wrth gwrs mae’r nodiadau cyfarwyddyd datganoli wedi darparu ar gyfer hyn ers amser maith, yn enwedig nodyn cyfarwyddyd Rhif 9, sy'n darparu’n gynhwysfawr iawn ar gyfer yr angen i’r ddwy Lywodraeth allu dod at ei gilydd, i gydweithio, i ddatrys yr anghysondebau cyfansoddiadol hyn, ac i allu cerdded ymlaen gyda'i gilydd. Mae'n ymddangos i mi mai un o'r problemau yw bod nodyn cyfarwyddyd Rhif 9 bron wedi cael ei wthio’n llwyr i un ochr. A ydych chi'n cytuno â mi mai un o'r pethau pwysig nawr yw ein bod mewn gwirionedd yn atgyfodi'r nodiadau cyfarwyddyd hynny a’n bod mewn gwirionedd yn eu rhoi ar waith i wneud iddynt weithio? Oherwydd oni bai eu bod yn gweithio, ni cheir digon o gydweithrediad a threfn i ddatrys, nid dim ond mater o bwerau a gedwir, a materion y profion ac yn y blaen, ond hefyd byddai'r pwynt sylfaenol yn mynd i galon darn ymarferol o ddeddfwriaeth, sef mater awdurdodaeth a chreu, sy'n ymddangos ei fod wedi’i dderbyn erbyn hyn gan bron bawb sy'n gweithio yn y maes hwn, awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru.
 
14:38
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Cododd yr Aelod ddau bwynt yn y fan yna. Yn gyntaf oll, mae'r canllawiau datganoli yn ddigon da ar bapur, ond mae angen, yn eu calon, cytundeb ar yr hyn sydd a’r hyn nad yw o fewn cymhwysedd y Cynulliad hwn. Os nad yw hynny yno, nid oes gan y gweddill ohono unrhyw effaith o gwbl. Nid anwybyddu DG9 yw’r mater yr ydym wedi bod yn ei wynebu, ond y ffaith na allwn hyd yn oed gyrraedd y pwynt hwnnw oherwydd anghydfod ynghylch cymhwysedd. Felly, mae sicrhau bod cymhwysedd yn gliriach, fel y mae yn yr Alban, yn gam mawr ymlaen o ran gallu gweld DG9—neu beth bynnag fydd ei ​​olynydd—yn cael ei ddefnyddio’n briodol i reoli'r berthynas rhwng y ddau sefydliad hyn.
 
Mae hefyd yn bwysig, wrth gwrs, deall, o safbwynt y Cynulliad, na allem gytuno, rwy'n siŵr, ag unrhyw sefyllfa lle byddai cymhwysedd y Cynulliad hwn yn cael ei gulhau neu ei wneud yn fwy arwynebol. Y rheswm pam yr ydym wedi gweld yr ymagwedd honno yn y Bil yw yn union oherwydd yr obsesiwn â chadw'r awdurdodaeth sengl fel ag y mae. Yng nghalon y Bil mae’r athroniaeth, gan ei bod yn awdurdodaeth sengl, y byddai gwahaniaeth yn y gyfraith rhwng Cymru a Lloegr i bob diben yn eithriad, a dyna pam yr oedd y prawf angenrheidrwydd yno, sy'n mynd yn gwbl groes, wrth gwrs, i’r hyn a ddywedodd refferendwm 2011. Mae cynnydd wedi'i wneud ar y prawf anghenraid. Rwy’n croesawu hynny, wrth gwrs, ond ni allwch osgoi’r ffaith bod angen archwilio’r awdurdodaeth. Rydym wedi cyflwyno’r hyn sydd yn safbwynt cyfaddawd yn ein barn ni, sef y dylid bod awdurdodaeth ar wahân, ac felly y byddai’r awdurdodaethau’n cael eu gwahanu’n ffurfiol, ni fyddai problem o ran y proffesiynau’n gweithio yn y ddwy awdurdodaeth, ni fyddai anhawster i achredu barnwyr i eistedd yn y ddwy awdurdodaeth, a byddai'r system llysoedd yn aros yr un fath. Mae hynny, yn fy marn i, yn gyfaddawd cwbl synhwyrol a rhesymegol a fyddai'n arwain at lawer mwy o eglurder yn y setliad.
 
14:40
Leanne WoodBywgraffiad
Diwrnod arall ac oediad arall eto fyth yn y broses ddatganoli yng Nghymru. Pam mae mor anodd cael setliad gweddus, ymarferol, clir, addas i'w ddiben? Mae'n anodd meddwl am genedl arall yn unrhyw le sydd wedi cael ei gwasanaethu mor wael gan ei dwy Lywodraeth: mae’r Llywodraeth Lafur bresennol wedi cael bron i bum mlynedd i sicrhau fframwaith datganoli teg i’n gwlad ac mae wedi methu. Hon yw’r unig Lywodraeth ddatganoledig sydd wedi methu yn ei hamcanion ar gyfer mwy o ddatganoli. Nid ydym hyd yn oed yn gwybod beth yw amcanion y Llywodraeth. Cymharwch hynny â Llywodraeth ddiwethaf Cymru a wnaeth, er gwaethaf ymdrechion gorau Llywodraeth Lafur y DU, sicrhau’r Senedd ddeddfu gyntaf i Gymru ers 600 mlynedd. Ni fyddai hynny erioed wedi digwydd oni bai bod Plaid Cymru yn rhan o'r Llywodraeth honno, ac mae'r Prif Weinidog yn gwybod hynny’n iawn. Dim ond mater o wythnosau sydd gennym cyn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae pob plaid—[Torri ar draws.]
 
14:41
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Trefn. Diolch.
 
14:41
Leanne WoodBywgraffiad
Diolch. Bydd yr holl bleidiau’n cael cyfle i gyflwyno eu cynlluniau ar gyfer cam nesaf taith ddatganoli Cymru. Gydag arweinwyr y pleidiau eraill yma roeddwn yn bresennol yn ystod proses Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth y DU, a arweiniodd at y Bil Cymru presennol. Roedd yn ras i'r gwaelod—dull cyfenwadur-lleiaf i Gymru a oedd yn addas i bleidiau Llundain, ond a oedd yn gwrthdaro’n uniongyrchol ag anghenion Cymru. Mae'n rhaid imi ddweud, i blaid sydd yn ôl pob golwg yn gwrthwynebu biwrocratiaeth ddiangen o’r fath, bod Llywodraeth y DU wedi cynhyrchu toreth o fiwrocratiaeth ddiangen a gynlluniwyd yn benodol i ddal Cymru'n ôl. Felly, rwy’n betrus wrth groesawu ymrwymiad yr Ysgrifennydd Gwladol i dynnu'r profion anghenraid o'r Bil ac i gwtogi ar y rhestr hir o bwerau i’w cadw yn San Steffan. Mae'n annerbyniol bod hyd yn oed y Pwyllgor Materion Cymreig â mwyafrif Torïaidd yn cefnogi awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru, ond mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn parhau i roi feto ar gynigion o'r fath.
 
Er fy mod yn croesawu'r oedi fel bod gennym gyfle o leiaf i achub rhywbeth i Gymru o’r Bil hwn, mae goblygiadau pwysig i'w hystyried o hyn. Felly, hoffwn ofyn hyn ichi, Brif Weinidog: beth yn union yr ydych yn ei weld yn digwydd i'r Bil? Mae angen yr oedi, ond mae'n golygu na chaiff y Cynulliad nesaf nawr y pwerau i newid ei enw a’i system etholiadol, er enghraifft. Hoffwn hefyd dynnu eich sylw at fater treth incwm a'r fframwaith cyllidol. Rwy’n ailadrodd fy nghred ei bod yn fyrbwyll i bleidiau wneud ymrwymiadau treth cynamserol cyn inni sicrhau fframwaith cyllidol. Cefnogir y safbwynt hwn mewn adroddiad diweddar gan Ganolfan Llywodraethu Cymru. A yw'r Prif Weinidog yn rhannu ein pryderon? Bydd Plaid Cymru mewn Llywodraeth ar ôl yr etholiad yn galw trafodaethau brys â Llywodraeth y DU, yn seiliedig nid ar gynlluniau Whitehall, ond ar Fil Cymru drafft wedi’i fandadu gan bobl Cymru. Felly, gofynnaf i'r Prif Weinidog presennol pam nad yw wedi mabwysiadu'r dull hwn o'r cychwyn cyntaf.
 
14:44
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, yn gyntaf oll, nid oedd hyn yn fater yn etholiad 2011—mae'n fater sydd wedi datblygu ers hynny—felly, nid oedd gan unrhyw blaid fandad mewn gwirionedd yn 2011, yn yr ystyr hwnnw, i fwrw ymlaen â hyn. Ond, serch hynny, fy marn i, a’ch barn chithau rwy'n siŵr, yw bod pobl Cymru am weld symud datganoli yn ei flaen a setlo fframwaith cyfansoddiadol ar gyfer Cymru. Mae'n drueni bod gan arweinydd Plaid Cymru ymagwedd mor bleidiol tuag at yr hyn sydd wedi bod yn drawsbleidiol—. Er tegwch i arweinydd yr wrthblaid, bu ychydig o ymryson rhyngom ni, ond roedd yn cydnabod bod ei safbwynt yn debyg o ran sicrhau sylfaen gyfansoddiadol deg a chynaliadwy ar gyfer dyfodol Cymru. Ond mater i’w phlaid hi yw hwnnw. Mae hi’n camliwio’r hyn a ddigwyddodd yn y trafodaethau hynny. Roedd pobl eraill yn y trafodaethau hynny yn Llundain. Mae hi'n rhoi’r argraff fy mod i rywsut wedi eistedd yno heb ddweud dim. Siaradais, rwy’n credu, fwy na neb arall yn yr ystafell honno. Nid wyf erioed wedi cael fy rhwymo gan unrhyw gyfenwadur lleiaf. Rwyf wedi bod o'r farn erioed, er enghraifft, y dylid datganoli cyflogau ac amodau athrawon nawr. Mae hwnnw'n fater y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn edrych arno. Rwyf wedi cymryd y safbwynt erioed bod cydsyniadau Gweinidog y Goron mewn meysydd sydd wedi'u datganoli yn amhriodol. Rwyf wedi cymryd y safbwynt erioed bod y prawf anghenraid yn anghywir, ac rwyf wedi cymryd y safbwynt, ar ôl edrych ar y Bil, y dylid bod awdurdodaeth ar wahân. Y gwirionedd yw ei bod hi wedi dilyn popeth yr ydym wedi'i ddweud. Cyn i ni wneud y pwyntiau hyn, nid oedd Plaid yn gwneud y pwyntiau hyn. Ond rwy’n croesawu’r ffaith bod ganddi’r un safbwynt â ni erbyn hyn.
 
O ran y Bil ei hun, nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cynhyrchu Bil ymarferol. Addewid gan Lywodraeth bresennol y DU oedd hynny. Nid ydynt wedi cyflawni’r addewid hwnnw eto. Mae angen iddynt egluro sut y byddent yn cynhyrchu Bil a fyddai'n bodloni eu hymrwymiad maniffesto eu hunain, a wnaethpwyd yn yr etholiad cyffredinol diwethaf, ac a fydd yn ateb pryderon yr holl bleidiau yn y Siambr hon, a bod yn deg, ac yn symud Cymru ymlaen i dir cliriach nag yr ydym arno ar hyn o bryd. Un o'r pethau yr ydym wedi eu harchwilio yw sut y gallwn geisio gwella’r Bil, ond y broblem oedd bod y Bil ynddo’i hun mor wallus nes ei bod yn anodd iawn ei wella i bwynt lle y daeth yn ymarferol. Dyna pam, wrth gwrs, mae angen dechrau o'r newydd.
 
O ran addewidion treth incwm, nid oes gennyf ddim problem o gwbl derbyn y bydd pwerau treth incwm yn dod i'r Cynulliad hwn. Nid oes gennyf ddim problem o gwbl wrth ddatgan na fyddem yn ceisio cynyddu trethi incwm yng Nghymru. Mi adawaf iddi hi esbonio beth yw ei safbwynt ar dreth. Bydd angen iddi wneud hynny'n glir cyn yr etholiad, oherwydd mae’n ddigon posibl y daw’r pwerau hynny inni yn ystod y Cynulliad nesaf. Mater iddi hi yw hynny. Serch hynny, yr hyn sy'n bwysig nawr yw bod Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â Bil Cymru ymarferol, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, yn gweithio, yn wir, gyda'r Cynulliad hwn, i wneud yn siŵr bod gennym Fil sy'n ddealladwy, sy'n glir, sy’n ymestyn cymhwysedd y Cynulliad hwn, sy'n cadw’r darnau da sydd yn y Bil, ac yn fwy na dim byd arall sy'n ymdrin â materion yr awdurdodaeth er mwyn sicrhau bod gennym Fil a fydd yn gwasanaethu Cymru’n dda am flynyddoedd lawer i ddod. Nid wyf yn credu y bydd y dulliau y mae arweinydd Plaid Cymru wedi’u hamlinellu y prynhawn yma yn cyflawni hynny. Rwy'n meddwl mai’r ffordd orau o gyflawni hynny yw drwy gadw at y dulliau a ddefnyddiwyd yn ystod y misoedd diwethaf, lle mae pob plaid wedi cyflwyno ei barn yn glir iawn i'r Ysgrifennydd Gwladol.
 
14:47
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Nid wyf yn gwybod, ond efallai fod cyfle o hyd, hyd yn oed mor hwyr â hyn, i awgrymu un ychwanegiad at y Bil Cymru drafft, sef y dylai pob cyfarfod yn y dyfodol ynghylch y setliad datganoli gael ei gynnal yn gyhoeddus, fel nad oes rhaid inni eistedd yma’n gwrando ar sgyrsiau fel 'Dywedodd ef', 'Dywedodd hi', 'Dywedais i fwy', 'Dywedodd hi lai', ac 'roeddwn i wastad o blaid cyflog ac amodau athrawon, ond fyddai Owen ddim yn gadael imi wneud hynny' sydd wedi dominyddu’r Siambr hon. Ond gadewch imi ddweud ar y dechrau fy mod yn croesawu'n fawr y penderfyniad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i oedi’r broses hon, a fy mod yn croesawu'n fawr iawn wir y ffaith bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi bod cystal â’i air. Dywedodd y byddai'n gwrando ar sylwadau a wnaethpwyd, ac mae wedi gwneud hynny. Rwy'n meddwl y dylai bawb yma yn y Siambr hon gydnabod hynny. Rwy’n arbennig o falch ei fod wedi cydnabod nad oedd y prawf anghenraid yn dderbyniol ac na allai byth fod wedi bod yn dderbyniol. Rwy'n meddwl ei fod wedi mynd gryn ffordd i gydnabod y mater cydsyniadau gweinidogol. Ni ddylai un o Weinidogion San Steffan byth fod wedi cael hawl i roi feto ar ddeddfwriaeth i Gymru a oedd mewn maes datganoledig; byth, ac rwy’n falch iawn ei fod wedi nodi ei barodrwydd i dderbyn y pwynt hwnnw.
 
Mae hynny'n ein gadael â mater beth yr ydym am ei wneud am gydsyniadau gweinidogol os yw’r Cynulliad hwn yn deddfu mewn ffordd sy'n cyffwrdd ar faterion sydd heb eu datganoli. Nawr, bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r trafodaethau anodd a maith iawn yn ystod hynt y Bil gofal cymdeithasol a llesiant, lle’r oedd y ddeddfwriaeth honno’n ceisio pennu dyletswyddau ar swyddogaethau nad ydynt wedi'u datganoli, yn bennaf y system gyfiawnder a system yr heddlu, ac roedd hynny’n eithaf cymhleth. Cafodd ei ddatrys yn y diwedd, ond roedd yn broses eithaf cymhleth. Felly, byddwn yn ddiolchgar o glywed gan y Prif Weinidog sut y mae'n teimlo y dylid rheoli’r materion hynny—am bryd y gallai’r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu mewn modd sy'n effeithio ar faterion heb eu datganoli—rhwng y ddau sefydliad.
 
A gaf i droi at y rhestr o bwerau a gedwir? Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi nodi ei fod yn barod i’w hadolygu, ac rwy’n gobeithio, pan ei fod yn dweud ‘adolygu’, bod hynny'n golygu y bydd yn edrych ar leihau'r nifer. Ond rwy’n bryderus y byddwn yn dal i fod mewn sefyllfa lle byddwn yn ymdrin â rhestr fer o bwerau a gedwir. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai dyletswydd Llywodraeth San Steffan ydyw mewn gwirionedd i egluro pam na chaiff meysydd eu datganoli? Mae wir angen yr eglurder hwnnw yn y broses ynghylch pam mae angen cadw pwerau mewn rhai meysydd.
 
A gaf i wedyn droi at fater awdurdodaeth? Rwy'n meddwl bod y Prif Weinidog yn gywir yn ei asesiad. Mewn amser i ddod, bydd arnom angen, wrth i lyfr statud Cymru dyfu, ein hawdurdodaeth ar wahân ein hunain, ond rwy’n meddwl ein bod ar y llwybr i gyflawni hynny. A wnaiff ef amlinellu i mi y gallem symud at awdurdodaeth wahanol, ond nid yn gyfan gwbl ar wahân yn y cyfamser, wrth i lyfr statud Cymru dyfu? A fydd yn cyflwyno’r achos o blaid hynny yn y gweithgor y mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi'i sefydlu, neu wedi cynnig ei sefydlu?
 
Yn olaf, Brif Weinidog, roedd yn ymddangos ddoe bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn awgrymu mai ei farn bersonol ef oedd y dylid cael refferendwm am y mater awdurdodaeth. Nawr, ar ôl gwneud y penderfyniad synhwyrol iawn i beidio â gofyn am refferendwm ar gyfer pwerau trethu, a fyddech chi'n cytuno â mi nad yw'r posibilrwydd o geisio ennill refferendwm ar y cysyniad y dylai Cymru gael awdurdodaeth ar wahân yn un y dylem ei groesawu ac y dylem symud ymlaen ar y sail honno, gan ddiystyru unrhyw syniad o refferendwm ar y pwnc hwn ar unwaith?
 
14:51
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae gen i ar fy ochr chwith y Gweinidog llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus, a’i brofiad helaeth o gynnal refferenda. Y sylw a wnaeth yn y fan yna oedd y byddai'n amharod i gynnal refferendwm o'r fath, hyd yn oed i rywun fel ef ei hun, â’r holl brofiad hwnnw. Mae'n wallgof; pam ar y ddaear y byddai angen refferendwm ar awdurdodaeth? Er enghraifft, cafodd awdurdodaeth Gogledd Iwerddon ei sefydlu heb refferendwm. Pam ar y ddaear y byddai ar Gymru, â’i hawdurdodaeth ar wahân, angen refferendwm ar hynny? Mae'n fy nharo i’n gwbl ddi-gyfiawnhad, os caf ei roi’n ddiplomatig.
 
Yr anhawster, wrth gwrs, yw nad oedd y Bil drafft a oedd gennym byth yn mynd i gael cefnogaeth y pleidiau ar draws y Siambr hon. Gwnes y pwynt hwn i'r Ysgrifennydd Gwladol. Dywedais, 'Yn llythrennol, does dim pwynt cyhoeddi’r Bil hwn; nid yw'n mynd i gael cefnogaeth'. Un o'r pethau a oedd yn arfer bod yn ddirgelwch llwyr imi oedd bod yr Ysgrifennydd Gwladol, wrth roi tystiolaeth i bwyllgorau, yn arfer siarad am y Bil fel pe nad ei Fil ef ydoedd, gan fynegi syndod, er enghraifft, bod rhai pethau yn y Bil, fel bod hofranlongau’n fater a gadwyd—nid wyf yn mynd i farw mewn ffos dros hynny, o ran a ddylent gael eu cadw ai peidio—gan roi'r argraff, rywsut, nad oedd ef yn rheoli’r broses. Mae'n hynod o bwysig, gyda'r ailosod, y dylem fod yn hyderus bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn rheoli'r broses.
 
Yr anhawster nawr, wrth gwrs, yw y bydd pob plaid yn mynd i mewn i etholiad ym mis Mai, ac yn cynhyrchu maniffestos, heb fod yn hollol siŵr pa bwerau y gellid eu rhoi i’r lle hwn yn ystod y pum mlynedd nesaf. Felly, mae'n anodd iawn cyflwyno, yn fy marn i, maniffesto cynhwysfawr a chithau’n ceisio dyfalu pa bwerau a allai fod gennych neu beidio yn y dyfodol. Gallem fod wedi gwneud llawer mwy o gynnydd erbyn hyn i ddeall pa bwerau fyddai ac na fyddai’n dod. Nid ydym yn gwybod sut y bydd y rhestr derfynol o bwerau a gedwir yn edrych, ac mae'n debyg, yn hynny o beth, mai'r manylion fydd yn bwysig.
 
Gwnaeth hi'r pwynt ynglŷn â chydsyniadau Gweinidog y Goron mewn meysydd nad ydynt wedi’u datganoli. Yn yr Alban, wrth gwrs, mae'r sefyllfa’n wahanol. I bob pwrpas, yn yr Alban, mae cydsyniadau Gweinidog y Goron wedi'u datganoli, ac mae yna bwerau penodol a gedwir. Mae’n ymddangos bod hynny’n gweithio’n eithaf da. Pam y dylai Cymru fod mewn sefyllfa wahanol o gwbl i’r Alban, nid wyf yn gallu esbonio. Felly, yr hyn sy'n bwysig yw y dylai'r ymagwedd at gydsyniadau Gweinidog y Goron fod yr un fath yng Nghymru ag yn yr Alban. Nid oes unrhyw gyfiawnhad iddo fod yn wahanol.
 
Ond, y siom fawr yw ein bod wedi gwastraffu, nawr, misoedd lawer ac rydym yn ôl lle y gwnaethom ddechrau. Gallem fod wedi gwneud llawer mwy o gynnydd a gallai fod gennym lawer gwell dealltwriaeth o'r meddylfryd, o ran setliad i Gymru a fyddai'n sefyll prawf amser, ond, yn anffodus, nid ydym nawr wedi gwneud dim mwy o gynnydd. Mae'n gwbl hanfodol bod Llywodraeth y DU, yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf, yn ei gwneud yn hollol glir beth yn union y maent yn bwriadu ei wneud.
 
O ran mater yr awdurdodaeth a’r gweithgor, mae’r gweithgor yn ddibwynt os yw'r drws wedi'i gau i fater yr awdurdodaeth. Os, ar gychwyn cyntaf y broses, y ceir rhag-amod na fydd y gweithgor yn edrych mewn unrhyw ffordd ar fater yr awdurdodaeth, nid wyf yn gweld pwynt y gweithgor. Felly, mae'n gwbl hanfodol bod y gweithgor yn gallu archwilio mater yr awdurdodaeth yn rhan o'i drafodaethau ehangach.
 
14:54
Alun DaviesBywgraffiad
Rwy’n croesawu’r ateb olaf yn fawr iawn, Brif Weinidog—rwy’n meddwl y caiff ei groesawu ar bob ochr i’r Siambr, neu yn sicr y rhan fwyaf ohonynt. Rwy’n meddwl, ddoe, ein bod wedi gweld cwymp polisi, yn fwy na symudiad polisi. Mae'n anodd meddwl am Ysgrifennydd Gwladol yn y blynyddoedd diwethaf sydd wedi gorfod ymdrin â sefyllfa wleidyddol mor anodd, wedi’i chreu’n gyfan gwbl ganddo ef ei hun.
 
O ran ble'r ydym ni heddiw, dywedodd ei fod yn mynd i fwrw ymlaen â chadw pwerau ar sail egwyddor, sydd i'w groesawu, rwy’n meddwl, i bobl ar bob ochr i’r Siambr hon. A yw wedi dweud wrthych, Brif Weinidog, pa egwyddorion allai’r rheini fod? A ydych ar unrhyw adeg wedi gallu trafod gydag ef y papur a roddodd Llywodraeth Cymru i Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi, a oedd, rwy’n meddwl, yn amlinellu cyfres dda iawn o egwyddorion ar gyfer datganoli cyfres o bwerau i'r lle hwn? Ar yr un pryd, a ydych chi wedi cael unrhyw sgyrsiau â’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch cychwyn unrhyw bwerau ychwanegol? Gwnaeth, yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrthyf, ateb cwestiynau gan newyddiadurwyr ddoe a dweud nad oedd yn rhagweld y byddai unrhyw un o'r pwerau newydd hyn yn dod i rym mewn gwirionedd cyn etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2021, a fyddai'n sicr yn golygu na fyddai unrhyw drefniadau etholiadol newydd y gellid eu rhoi ar waith yn dod i rym am o leiaf ddegawd arall. Byddwn i yn bendant yn ystyried hynny fel bod yn gwbl annerbyniol.
 
Ar yr un pryd â’r materion hyn, mae mater refferendwm ar gyfer awdurdodaeth ar wahân, neu ynglŷn â dyfodol yr awdurdodaeth, yn un o'r sylwadau mwyaf difeddwl yr wyf wedi’u clywed gan unrhyw Ysgrifennydd Gwladol ar unrhyw adeg. Rwy’n cymryd yn ganiataol bod hyn yn rhywbeth nad yw erioed wedi ei drafod â Llywodraeth Cymru. Rwyf hefyd yn cymryd yn ganiataol y byddwch yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol i gynnig gwaith cyfryngu Llywodraeth Cymru, yn yr ystyr ehangach, i weithio gyda'r Ysgrifennydd Gwladol mewn menter ar y cyd i gynhyrchu Bil sydd wedi'i wneud yng Nghymru ar gyfer Cymru, ac nid Bil sydd wedi’i wneud yn Whitehall ar gyfer Whitehall, sef o bosibl un o fethiannau sylfaenol y Bil drafft.
 
Ar yr un pryd, fy nghwestiwn olaf yw: a fu unrhyw drafodaethau ynghylch mecanweithiau i’r DU gyfan a fydd yn galluogi gwladwriaeth ffederal i weithredu? Rwy'n meddwl mai un o ddiffygion gwirioneddol ymagwedd Llywodraeth y DU at ddatganoli yw ei bod wedi ei wneud mewn ffordd mor dameidiog a difater. Yn rhy aml, mae ymdeimlad o ffafr bleidiol wedi bod, yn hytrach na phwynt o egwyddor am yr hyn mae Llywodraeth y DU yn ceisio ei gyflawni. Mae diffyg unrhyw fecanwaith i’r DU gyfan i ddatrys anghydfodau ac i wneud penderfyniadau y tu allan i Lywodraeth y DU yn un o fethiannau sylfaenol y polisi hwn, a byddai'n ddefnyddiol iawn, efallai, pe byddai Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw’r Ysgrifennydd Gwladol at hyn.
 
14:57
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rwy’n diolch i fy nghydweithiwr, Aelod Blaenau Gwent, am ei gwestiwn. Nid ydym yn gwybod beth fydd yr egwyddorion, oherwydd nid ydym wedi cael unrhyw gyfathrebiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn â’r pwynt hwn. Rydym yn gwybod beth yr ydym yn ei wybod—bod newyddiadurwyr wedi cael gwybod. Rwy’n edrych ymlaen at drafod y materion hyn gydag ef, fel yr wyf wedi’i wneud droeon yn y gorffennol. Ni fu unrhyw arwydd ynghylch pryd y gallai’r pwerau hyn gychwyn, sy'n rhywbeth yr wyf yn ei resynu. Nid oedd erioed yn ddelfrydol y byddai’r pwerau hyn, yn wreiddiol, wedi cychwyn yng nghanol y Cynulliad nesaf, ond mae hynny’n well na pheidio â chychwyn o gwbl. Rwy'n edrych ymlaen at y diwrnod pan elwir y lle hwn yn senedd, a gallem ddechrau galw ein hunain yn senedd ar ôl mis Mai pe hoffem wneud hynny, yn anffurfiol, yn yr un modd ag y mae Llywodraeth Cymru yn Llywodraeth Cymru, ond yn ôl y gyfraith, 'Llywodraeth Cynulliad Cymru' ydyw. Cafodd y term hwnnw ei ollwng gennym ni yn ôl yn 2011. Serch hynny, mae'n bwysig, wrth gwrs, bod y sefyllfa nawr yn cael ei gwneud yn glir o ran y cyfeiriad yn y dyfodol.
 
Wrth gwrs byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gynhyrchu deddfwriaeth sydd, cyn belled â phosibl, yn fenter ar y cyd. Rwy'n meddwl mai dyna’r dull mwyaf synhwyrol o bell ffordd, yn hytrach na’u bod yn cyflwyno rhywbeth inni, fait accompli, a’i bod yn amlwg nad yw’n mynd i weithio. Credaf fod hynny’n ffordd gwbl synhwyrol ymlaen. Gofynnodd hefyd y cwestiwn am fecanwaith y DU ar gyfer creu gwladwriaeth ffederal. Rwy'n meddwl ei fod yn gwybod yr ateb: nid oes un ar hyn o bryd. Yn sicr, nid yw hynny ar agenda Llywodraeth bresennol y DU, ond mae hynny'n anochel mewn amser, ein bod yn symud tuag at sefyllfa, os nad yn ffederal, yn sicr sy’n wahanol i'r sefyllfa bresennol sydd gennym, lle, i bob pwrpas, mae’r holl sofraniaeth wedi’i chynnal yn San Steffan, a San Steffan sy’n penderfynu faint o'i sofraniaeth y mae’n dymuno ei rhoi ar ymddiriedaeth, os caf ei roi felly, i sefydliadau ledled y DU. Bydd yn rhaid i hynny newid yn y dyfodol. Mae gan wledydd eraill, fel Canada, system ymarferol iawn o sofraniaeth gyfun, ac maent yn ffyniannus ac yn sefydlog.
 
14:59
Jenny RathboneBywgraffiad
Un o nodweddion economi fywiog yw cystadleuaeth gadarn, ac nid yw hynny’n bwysicach yn unman nag ym mater cynhyrchu a chyflenwi ynni. Roeddwn yn meddwl tybed, ymhlith y tudalennau ar dudalennau o eithriadau sydd yn y Bil Cymru drafft sydd nawr yn cael ei oedi, a allem ymdrin â mater eithrio dosbarthiad, trosglwyddo a chyflenwi ynni o’n pwerau, yn ogystal â rheoleiddio effeithlonrwydd ynni, gan fod hyn yn wir yn rhwystr i gystadleuaeth a datblygiad marchnadoedd ynni lleol.
 
15:00
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'n bwynt pwysig y mae’r Aelod yn ei godi. Rydym yn croesawu, wrth gwrs, y datganoli pellach ar wyneb y Bil presennol—nid ydym wedi ein hargyhoeddi o'r cyfyngiad 350 MW, ond serch hynny mae'n gam ymlaen o lle'r ydym ni ar hyn o bryd. Yr anhawster yw, os yw'n wir, yn wahanol i'r Alban, nad yw pwerau gweithredol dros drosglwyddo yn cael eu datganoli, wrth gwrs, y gallai Llywodraeth y DU, yn sydyn, atal prosiect rhag mynd yn ei flaen. Gallem ni fel Llywodraeth roi caniatâd i brosiect i fwrw ymlaen, a gallai Llywodraeth y DU droi a dweud, 'Wel nid ydym yn mynd i roi caniatâd i’r Grid Cenedlaethol neu drosglwyddydd arall i drosglwyddo'r trydan'. Nid yw'n gwneud synnwyr. Mae’n llawer gwell, yn fy marn i, bod yn sefyllfa’r Alban a chael rheolaeth dros y caniatáu a hefyd dros y trosglwyddo.
 
15:00
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch, Brif Weinidog.
 
15:00
4. Gorchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at eitem 4, sef Gorchymyn Panel Cynghori Amaethyddol Cymru (Sefydlu) 2016, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.
 
Cynnig NDM5980 Jane Hutt
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
 
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Orchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2016.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:01
Rebecca EvansBywgraffiadY Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Diolch, Lywydd. Cyflwynais y Gorchymyn Panel Cynghori Amaethyddol Cymru (Sefydlu) 2016 ar 2 Chwefror, ac rwy'n cyflwyno'r Gorchymyn heddiw ar gyfer dadl yn y Cynulliad Cenedlaethol.
 
Gwneir y Gorchymyn o dan Ddeddf y Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, a bydd yn rhoi i’r panel y swyddogaeth o adolygu'r isafswm cyfraddau cyflog amaethyddol yng Nghymru, a arferwyd yn flaenorol gan Fwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr, sydd nawr wedi'i ddiddymu.
 
Bydd y panel yn sicrhau adolygiadau rheolaidd, nid yn unig o gyflogau amaethyddol, ond hefyd o delerau ac amodau cyflogaeth i’w cymeradwyo gan Weinidogion Cymru. Bydd y panel yn ystyried natur unigryw gwaith amaethyddol, gan gynnwys yr oriau gwaith anghonfensiynol a’r risg uwch o anafiadau yn y gweithle.
 
Yn wahanol i'w ragflaenydd, ni fydd y panel yn gyfyngedig i ddrafftio gorchmynion cyflogau amaethyddol, ond bydd yn cael y cylchoedd gwaith ychwanegol o hyrwyddo gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth ac annog datblygiad a hyfforddiant sgiliau o fewn y diwydiant. Mae cynnal gweithlu medrus, llawn cymhelliant yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac yn rhan hanfodol o sicrhau dyfodol llewyrchus i amaethyddiaeth yng Nghymru.
 
Bydd aelodau’r panel yn cynnwys cynrychiolaeth gytbwys o gyflogwyr a chyflogeion amaethyddol i sicrhau bod penderfyniadau’r panel yn adlewyrchu anghenion y diwydiant. Bydd hefyd yn cynnwys arbenigwr addysg annibynnol ac arbenigwr amaethyddiaeth annibynnol i roi cyngor a chyfarwyddyd ynghylch cylch gwaith ehangach y panel. Caiff y panel ei arwain gan gadeirydd annibynnol sy'n meddu ar y sgiliau, y profiad a’r wybodaeth ofynnol i ddarparu arweinyddiaeth arloesol i’r corff hanesyddol hwn.
 
Bydd y panel yn cael ei gynorthwyo yn ei waith gan is-bwyllgor parhaol ar ddatblygiad a hyfforddiant sgiliau, wedi’i staffio gan aelodau'r panel craidd, ynghyd â chynrychiolwyr o Lantra a CFfI Cymru. Bydd y panel hefyd yn gallu ymgynghori ag arbenigwyr allanol i sicrhau bod ei argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn rhoi sylw i heriau presennol yn ogystal â heriau posibl yn y dyfodol.
 
Ni fydd y panel yn gweithredu mewn gwagle; bydd yn gallu ymgysylltu â chyrff cynghori eraill, yr undebau ffermio, arbenigwyr ar y diwydiant a phartïon eraill â budd i ddatblygu polisïau cydgysylltiedig i sicrhau gweledigaeth gyffredin ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru, gan adeiladu ar ymrwymiad y Llywodraeth hon i drechu tlodi drwy gyfrwng twf cynaliadwy.
 
Bydd ymgysylltiad rhagweithiol yn caniatáu i'r panel gymryd ei le fel corff sy'n arwain y diwydiant o fewn amaethyddiaeth Cymru. Rwy’n falch o gyhoeddi bod llythyrau gwahoddiad wedi eu hanfon heddiw i'r bobl hynny a ddewiswyd i wasanaethu ar banel cynghori amaethyddol Cymru.
 
15:03
Llyr GruffyddBywgraffiad
A gaf innau hefyd groesawu’r ffaith bod y panel yma yn cael ei greu, ac yn enwedig y cylch gorchwyl ehangach fydd gan y panel o’i gymharu â’r corff blaenorol, lle bydd yna fwy o gyfle nawr i hyrwyddo datblygu gyrfaol o fewn y sector, a’r cyfleoedd ehangach sydd yna i bobl fod yn rhan o’r sector? Ond mi fyddwch chi, Weinidog, yn ymwybodol iawn ein bod wedi bod yn siomedig iawn gydag arafwch y Llywodraeth i gyrraedd y pwynt yma. Yn amlwg, mi gyflwynwyd Bil brys ac mi gytunwyd bod angen deddfwriaeth frys i fynd i’r afael â rhai o’r problemau a oedd yn codi yn sgîl penderfyniad Llywodraeth San Steffan, a beth bynnag rydych chi’n feddwl o’r broses, rwy’n siŵr y byddem ni i gyd yn cytuno bod tair blynedd, fwy neu lai, ers hynny tan nawr yn lawer gormod o amser. Ac felly nid wyf ond eisiau cofrestru ein siom ni ei bod wedi cymryd cyhyd, ond y byddwn ni, wrth gwrs, yn cefnogi y Gorchymyn yma oherwydd mae’n gam positif, er yn un a gymerodd lawer gormod o amser i’w gymryd.
 
15:04
Mick AntoniwBywgraffiad
Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad a'r datganiad heddiw yn fawr iawn, oherwydd mae hwn yn gam hanesyddol i amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae'n rhaid imi wneud sylw am y sylw olaf a wnaethpwyd. Mae’n ddigon hawdd i Blaid Cymru gwyno am yr amser a'r oedi. Pan oedd gan Plaid y gweinidog â chyfrifoldeb am amaethyddiaeth yn y Cynulliad hwn, gwnaethant gytuno i ddiddymu'r bwrdd cyflogau amaethyddol—[Torri ar draws.] Gwnaethant gytuno â hynny. Felly, mae wedi dod yn ei flaen yn llawer cyflymach nag y byddai wedi fel arall. A gaf i ddweud bod hyn hefyd yn enghraifft o Lafur Cymru yn sefyll dros ein cymunedau gwledig a’n gweithwyr amaethyddol gwledig, a bod y panel newydd—[Torri ar draws.] Bod y panel newydd—[Torri ar draws.] Mae gen i'r llythyr y gwnaethoch ei ysgrifennu i Unite i gadarnhau diddymu'r bwrdd cyflogau amaethyddol. Os hoffech chi ei weld, gwnaf ei ddangos i chi.
 
15:05
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Ni allaf gael sgyrsiau rhwng dau Aelod—
 
15:05
Mick AntoniwBywgraffiad
A gaf i hefyd ddweud—
 
15:05
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
[Yn parhau.]—os ydych am siarad, sefwch ar eich traed.
 
15:05
Mick AntoniwBywgraffiad
[Yn parhau.]—mai un arall o oblygiadau’r darn hwn o ddeddfwriaeth yw bod arolwg y 'Farmers Guardian' a gynhaliwyd yn ddiweddar yn dangos pa mor wahanol y gall pethau fod yng Nghymru a Lloegr, lle mae 70 y cant o'r rhai a holwyd nawr yn gresynu am y diddymu, 30 y cant o bobl mewn amaethyddiaeth yn ystyried gadael y diwydiant, a thraean wedi cael gostyngiad cyflog neu ddim cynnydd cyflog ers diddymu'r bwrdd cyflogau amaethyddol? Felly, a gaf i ddweud, mewn gwirionedd, bod hwn yn gam sylweddol, hanesyddol ymlaen, ar wahân i oblygiadau cyfansoddiadol hynny, a’i fod mewn gwirionedd yn arwydd mai dim ond Llafur Cymru yn y fan yma sydd wir yn sefyll dros weithwyr amaethyddol Cymru? Rydym yn cofio’n iawn beth oedd safbwynt Ceidwadwyr Cymru, sydd wedi cefnogi diddymu’r ddeddfwriaeth bwysig hon drwy gydol y broses, a hefyd y Democratiaid Rhyddfrydol, a oedd yn eistedd ar y gamfa pan gafodd ei gyflwyno. Diolch.
 
15:06
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd i ymateb i'r ddadl.
 
15:06
Rebecca EvansBywgraffiadY Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Rwy’n diolch i'r siaradwyr yn y ddadl ac yn croesawu’n galonnog y sylwadau hynny bod Llywodraeth Cymru yn llywodraeth ar gyfer pobl sy'n gweithio, ni waeth ym mha sector nac ym mhle y gallech fod yn gweithio yng Nghymru.
 
Mae gweithredu'r Ddeddf yn dal i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac rwy’n credu bod gweithlu llawn cymhelliant, sydd wedi'i hyfforddi'n dda ac yn cael ei dalu'n briodol yn hollbwysig i lwyddiant amaethyddiaeth Cymru. Bydd y panel, ynghyd â'r is-ddeddfwriaeth a wnaethpwyd o dan y Ddeddf, yn elfen hanfodol ar gyfer y llwyddiant hwnnw. Ar ôl dadl heddiw ac yn amodol ar gymeradwyaeth—ac rwy’n croesawu'r gefnogaeth y mae’r Aelodau wedi’i dangos heddiw—bydd panel cynghori amaethyddol Cymru yn dod i rym ar 1 Ebrill eleni. Diolch.
 
15:07
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid oes gwrthwynebiadau, felly mae'r cynnig wedi ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
15:07
5. Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2016
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Rydym nawr yn symud ymlaen i Eitem 5, sef Rheoliadau Datblygiadau o Bwys Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2016, a galwaf ar y Gweinidog Adnoddau Naturiol i gynnig y cynnig—Carl Sargeant.
 
Cynnig NDM5979 Jane Hutt
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
 
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2016.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:07
Carl SargeantBywgraffiadY Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Diolch, Lywydd. Mae'r rheoliadau hyn yn sicrhau bod y prosiectau seilwaith sydd fwyaf arwyddocaol i Gymru oherwydd eu cymhlethdod a’u heffaith yn cael eu cynnwys yn y broses DNS. Mae prosiectau ynni gwynt ar y tir dros 50 MW, sydd wedi’u cynnwys yn y gwelliant hwn, yn hanfodol i gyflawni gostyngiadau pellach mewn allyriadau carbon ac amcanion datblygu cynaliadwy, gan roi hwb i economi Cymru. Rwy’n cynnig yn ffurfiol.
 
15:08
Russell GeorgeBywgraffiad
Madam Lywydd, mae hwn yn rheoliad ofnadwy sydd wedi cael ei gyflwyno ger ein bron heddiw, ac rwy’n gobeithio y caiff ei wrthod. Yn sicr, bydd fy nghyd-Aelodau yng Ngheidwadwyr Cymru yn pleidleisio yn ei erbyn, ac rydym eisoes wedi gweld Llywodraeth Cymru yn cipio pŵer oddi ar awdurdodau lleol—o dan 50 MW—i roi caniatâd i ffermydd gwynt ar y tir.
 
Mae gennym Lywodraeth y DU sy'n credu mewn lleoliaeth wirioneddol ac sydd wedi gosod rheoliadau eleni, a fydd yn dod i rym heddiw, i symud y broses gydsynio ar gyfer ynni ffermydd gwynt ar y tir dros 50 MW i gael eu prosesu gan awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr—a hwy fydd yn penderfynu ar ganlyniad pob cais am fferm wynt ar y tir. Mae hyn, wrth gwrs, i’w groesawu.
 
Ond yr hyn y mae'r rheoliad hwn yn ei wneud, os caiff ei basio heddiw, yw cipio’r pŵer hwnnw oddi ar awdurdodau lleol a’i roi i Weinidogion Cymru. Rydym nawr mewn sefyllfa lle bydd ceisiadau am ffermydd gwynt bach a mawr yn cael eu penderfynu gan Weinidogion yma yng Nghaerdydd, mewn gwrthgyferbyniad llwyr ag awdurdodau lleol a thrigolion Lloegr, a fydd nid yn unig yn cael pwerau cydsynio ar gyfer ceisiadau gwynt bach, ond ar bob cais gwynt ar raddfa fawr.
 
Dywedaf wrth y Gweinidog mai’r Llywodraeth Cymru hon yw'r Llywodraeth fwyaf canolog yn holl wareiddiad y gorllewin. [Torri ar draws.] Mae'n ymddangos y bydd Llafur Cymru yn gwneud unrhyw beth sy’n bosibl—unrhyw beth sy’n bosibl, unrhyw beth y maent yn ei weld yn briodol—i sathru ar safbwyntiau cymunedau lleol a democratiaeth leol. Mae Llafur Cymru wedi alltudio lleoliaeth. Dim ond ychydig wythnosau ar ôl dechrau’r pedwerydd Cynulliad yn 2011, roedd miloedd o drigolion y tu allan i'r Senedd yn protestio wrth Lywodraeth Cymru bryd hynny bod eu dulliau ar gyfer caniatâd i ffermydd gwynt ar y tir yn gwbl anghywir, ac rydym ni yma heddiw, wythnosau'n unig cyn diwedd y Cynulliad hwn a'r hyn yr ydym wedi ei weld yw Gweinidog Cymru yn y fan yma yn llwyr anwybyddu barn miloedd o drigolion y canolbarth. Felly, rwy’n gobeithio heddiw y gwnaiff yr Aelodau wrthod y darn echrydus hwn o reoleiddio gan y Llywodraeth fwyaf canolog yng ngwareiddiad y Gorllewin.
 
15:10
Llyr GruffyddBywgraffiad
Dilynwch hynny, ie. [Chwerthin.] Byddai rhywfaint o gysondeb yn braf am newid oherwydd, yn amlwg, sut mae lleoliaeth yn dod i mewn i'r hafaliad ffracio, tybed? Lleoliaeth pan fo’n gyfleus i chi, ac nid pan nad yw. Felly, dewch inni fyfyrio ar hynny efallai cyn inni godi ar ein traed a dechrau curo’r bwrdd.
 
Weinidog, yr unig bwynt byddem ni’n awyddus i’w wneud yw mai hwn yn ddatblygiad arwyddocaol iawn, un rwyf yn ei gefnogi, wrth gwrs, ond mi fyddwn ni nawr yng Nghymru, am y tro cyntaf, â phwerau cyflawn, heb unrhyw drothwy neu lefel uchafswm o fegawatiau dros elfen, beth bynnag, o bolisi ynni, sef ynni gwynt ar y tir. Yr unig gwestiwn sydd gyda fi i ofyn i chi yw: a fyddech chi felly yn cytuno â mi, os ydy’r egwyddor yma yn dderbyniol ar gyfer ynni gwynt ar y tir, onid yw’n dderbyniol ar gyfer pob math o ynni?
 
15:11
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
 
15:11
Carl SargeantBywgraffiadY Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Diolch am y cyfle i ymateb i'r Aelodau. Mi atebaf Llyr Gruffydd yn gyntaf. Rwy'n ddiolchgar iddo am groesawu'r broses benderfynu hon. Ydy, mae’n ddatblygiad hapus, ar ddiwrnod o arwyddocad cenedlaethol hefyd. Y ffaith yw bod y rheoliadau’n cyrraedd pwynt heddiw, ond yn amlwg mae'r Aelodau gyferbyn yn pryderu am ymdrechion Llywodraeth y DU i ildio eu cyfrifoldeb. Y ffaith yw y byddwn yn awyddus iawn i ymgysylltu â phob cymuned, fel y gwnawn gyda phob cais, ond bydd yr ymagwedd wedi’i symleiddio’n fawr. Gwrandewais ar gyfraniad yr Aelod o ran agweddau eraill ar bolisi ynni, a byddwn yn croesawu'r cyfle i ddatganoli rhagor o bwerau i Lywodraeth Cymru ac i’r Cynulliad hwn i gael trafodaethau manylach amdanynt.
 
A gaf i ateb Russell George? Mae'r Aelod yn gyson yn ei agwedd tuag at ynni adnewyddadwy. Yn amlwg, hyrwyddwyr ffracio yw ei blaid gyferbyn, yn hytrach na hyrwyddwyr ynni adnewyddadwy. Y ffaith yw y byddwn wrth fy modd pe byddai Russell George yn mynd i'r etholaeth yn Wrecsam neu i'r etholaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot neu yn Nelyn a dweud wrth y bobl hynny eich bod yn gefnogol, fel plaid, i ffracio yn hytrach nag ynni adnewyddadwy. Mae'n wrthgyferbyniad llwyr; mae'n anffodus. Ond y ffaith yw bod eisiau ynni adnewyddadwy arnom yma yng Nghymru. Rydym ar agor ar gyfer busnes a bydd y rheoliadau hyn heddiw yn ein helpu i allu datblygu dull di-garbon o ddefnyddio ynni yng Nghymru. Rwy’n cynnig yn ffurfiol.
 
15:13
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf yr holl bleidleisio ar hyn tan y cyfnod pleidleisio.
 
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
 
15:13
6. Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2016
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at eitem 6, sef Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2016, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog i gynnig y cynnig—Vaughan Gething.
 
Cynnig NDM5977 Jane Hutt
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
 
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Reoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2016 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2016.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:13
Vaughan GethingBywgraffiadY Dirprwy Weinidog Iechyd
Diolch, Lywydd. Rwy’n cynnig y cynnig ar y papur. Mae'r rheoliadau ger eich bron yn diwygio’r Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru), a basiwyd gan y Cynulliad ar 1 Rhagfyr 2015. Y grŵp o bobl y mae hyn yn effeithio arnynt yn bennaf yw pobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed. Mae’r angen am y diwygiadau hyn yn codi’n rhannol o newid i Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, a ddaeth i rym ym mis Hydref, a hefyd o gyfraith achosion sy'n dod i'r amlwg. Mae'r newid i Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol yn golygu bod yn rhaid i bobl ifanc 17 oed sy'n cael eu cyhuddo o drosedd ond yn cael gwrthod mechnïaeth gael eu trin fel plant a'u trosglwyddo i lety awdurdod lleol yn hytrach nag aros yn y ddalfa dros nos. Mae'r rheoliadau llety diogel a wnaethom ym mis Rhagfyr yn caniatáu i awdurdodau lleol ddefnyddio prawf a addaswyd dan yr amgylchiadau hyn, sy'n golygu nad oes rhaid iddynt brofi bod gan y plentyn hanes o ddianc. Ar hyn o bryd, dim ond i blant 12 i 16 oed y mae’r prawf a addaswyd yn berthnasol, felly bydd y gwelliant yn sicrhau bod y prawf a addaswyd yn berthnasol i rai 17 oed hefyd, yn unol â Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol sydd wedi newid.
 
Mae'r ail welliant yn ymwneud â phobl ifanc 16 a 17 oed sy'n derbyn gofal ac sy'n cael eu lletya gan yr awdurdod lleol, ond nad ydynt yn destun gorchymyn gofal statudol. Fel y'i drafftiwyd, ni fyddai'r Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) newydd yn caniatáu i awdurdod lleol sy'n dymuno gosod unigolyn 16 mlwydd oed o’r fath mewn llety diogel heb geisio Gorchymyn gofal gan y llysoedd yn gyntaf. Felly, nid yw'r gyfraith ar hyn o bryd yn caniatáu gwneud unrhyw gais am Orchymyn gofal ar gyfer unigolyn 17 mlwydd oed.
 
Drwy'r gwelliant, rydym yn sicrhau bod pobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed sy’n cael eu lletya yn gallu bod yn destun ceisiadau am Orchmynion llety diogel, ac mae hyn yn gyson â'r gyfraith bresennol, fel y mae cyfraith achosion ddiweddar wedi’i egluro. Felly, mae hyn yn ei gwneud yn symlach i awdurdodau lleol osod plentyn sy'n agored i niwed a oedd yn lletya yn wirfoddol, ac yn y grŵp oedran hwn, mewn llety diogel awdurdod lleol, os yw er pennaf les y plentyn i wneud hynny.
 
Rydym hefyd wedi cymryd y cyfle hwn i wneud rhai newidiadau eraill i sicrhau bod y rheoliadau’n gweithredu yn unol â’r bwriad. Mae’r pwysicaf o'r pryderon hyn yn ymwneud â chwmpas tiriogaethol, a sicrhau bod yr un mesurau diogelu yn berthnasol i blant a leolwyd gan awdurdodau lleol Cymru mewn cartrefi plant diogel yn Lloegr ag sydd eisoes yn berthnasol pan gânt eu lleoli felly yng Nghymru.
 
Yn olaf, bydd y diwygiadau hefyd yn sicrhau nad yw plant sydd wedi’u remandio i lety diogel yn cael eu cadw am fwy nag 28 diwrnod ar y tro. Mae'r rhain yn dechnegol eu natur ac yn sicrhau bod y darpariaethau’n gweithio lle ceir trefniadau trawsffiniol. Lywydd, mae'r rheoliadau gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn peri newidiadau sydd, yn y bôn, yn dechnegol eu natur, ond sy’n rheoleiddio cyflwr y gyfraith ac yn atgyfnerthu rhai mesurau diogelu pwysig ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 oed yn benodol, a gofynnaf i’r Aelodau eu cefnogi.
 
15:16
Gwenda ThomasBywgraffiad
Yn wyneb y pryderon diweddaraf ynghylch cadw pobl ifanc yng nghelloedd yr heddlu—ac rŷch chi wedi sôn am hyn—a yw'r Gweinidog yn teimlo y bydd rheoliad diwygiedig 15 yn helpu i atal y sefyllfa hon rhag codi, drwy ganiatáu i bobl 17 oed sydd wedi eu harestio gael eu trosglwyddo i lety diogel yn fwy cyflym na'r hyn sy'n bosibl ar hyn o bryd? Yn ogystal, pa system bydd y Gweinidog yn ei rhoi ar waith i fonitro effeithiolrwydd y rheoliad diwygiedig hwn?
 
15:17
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Y Gweinidog i ymateb.
 
15:17
Vaughan GethingBywgraffiadY Dirprwy Weinidog Iechyd
Diolch, Lywydd. Diolch i Gwenda Thomas am ei chyfraniad, sy’n tynnu sylw at ran o bwynt a phwrpas cynnig y rheoliadau diwygio hyn. Hoffem allu gweld pobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed sy’n agored i niwed yn cael eu symud yn gyflymach i lety diogel yn hytrach na chael eu gadael yn y ddalfa dros nos. Byddwn, wrth gwrs, fel gyda phob darn o reoleiddio, yn ceisio adolygu effaith hynny ar adeg benodol i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cael yr effaith a fwriadwyd. Rwy'n meddwl bod hon yn gyfres bwysig a chadarnhaol o reoliadau ar gyfer grŵp cymharol fach ond pwysig o bobl ifanc sy'n agored i niwed a gofynnaf i'r Cynulliad gefnogi'r rheoliadau.
 
15:17
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid oes gwrthwynebiad, felly caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â’r Rheolau Sefydlog.
 
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
15:18
7. Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2016
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at eitem 7, sef Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2016 ac rwy’n galw ar y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i gynnig y cynnig—Carl Sargeant.
 
Cynnig NDM5978 Jane Hutt
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
 
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Reoliadau Caniatau Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2016.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:18
Carl SargeantBywgraffiadY Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Diolch i chi, Lywydd. Rwyf yma heddiw i gyflwyno i chi reoliad cyfansawdd ynglŷn â thrwyddedu amgylcheddol. Yn benodol, mae'r rheoliadau hyn yn ceisio integreiddio pob gweithgaredd caniatâd a gorfodi ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd ar brif afonydd ac yn agos atynt, i'r fframwaith trwyddedu amgylcheddol ehangach. Ein cymhelliant ar gyfer gwneud hyn yw symleiddio'r costau ar gyfer rheoleiddwyr ac ymgeiswyr. Cynigiaf yn ffurfiol.
 
15:18
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr eraill. Weinidog, a ydych chi'n dymuno ychwanegu unrhyw beth arall?
 
15:18
Carl SargeantBywgraffiad
Na. Yn ffurfiol.
 
15:18
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Na. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid oes unrhyw wrthwynebiadau, felly caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
15:18
8. Cyfnod Pleidleisio
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Rydym bellach wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Cynigiaf symud at y bleidlais.
 
15:19
Janice GregoryBywgraffiad
A wnewch chi ganu'r gloch, os gwelwch yn dda?
 
15:19
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Canwch y gloch. Iawn. A oes unrhyw un arall yn dymuno i'r gloch gael ei chanu? Mae tri o bobl, diolch yn fawr iawn i chi.
 
15:19
Janice GregoryBywgraffiad
Wel, mae pob un ohonom ar y meinciau hyn, gallaf ddweud wrthych.
 
15:19
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Esgusodwch fi.
 
15:19
Aelod Cynulliad / An Assembly Member
Nid oes llawer ar eich meinciau.
 
15:19
Janice GregoryBywgraffiad
Ie, mae’n ddrwg iawn gennyf, ond roeddwn i'n yfed te.
 
15:19
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
A gawn ni ganu'r gloch?
 
Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.
 
15:24
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Mae'r pum munud wedi mynd heibio, felly symudwn yn syth at y bleidlais. Mae'r bleidlais ar Reoliadau Datblygiadau o Bwys Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chaniatadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2016. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn.
 
Derbyniwyd y cynnig: O blaid 36, Yn erbyn 12, Ymatal 0.
 
15:24
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Byddwn yn awr yn cael seibiant am 10 munud cyn i ni symud at yr eitem nesaf ar yr agenda—10 munud a 10 munud yn unig. Diolch yn fawr iawn.
 
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:25.
 
Ailymgynullodd y Cynulliad am 15:35, gyda’r Dirprwy Lywydd (David Melding) yn y Gadair.
 
15:35
9. Dadl Cyfnod 3 ar Fil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru)
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Trefn, trefn. Yr eitem nesaf yw ein dadl Cyfnod 3 ar Fil Casglu a Rheoli’r Dreth (Cymru).
 
Grŵp 1: Awdurdod Cyllid Cymru (Gwelliannau 30, 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 47, 48, 49, 50, 51, 52, 53, 54, 55, 56, 57, 58, 59, 60, 61, 62, 63, 64, 65, 66, 67, 68, 69, 70, 71, 72, 73, 74, 75, 76, 77, 78, 79, 80, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 89, 90, 91, 92, 93, 94, 95, 96, 97, 98, 99, 100, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 112, 113, 114, 115, 116, 117, 118, 119, 120, 121, 122, 123, 124, 125, 126, 127, 128, 129, 130, 131, 132, 133, 134, 135, 136, 137, 138, 139, 140, 141, 142, 143, 144, 145, 146, 147, 148, 149, 150, 151, 152, 153, 154, 155, 156, 157, 158, 159, 160, 161, 162, 163, 164, 165, 166, 167, 168, 169, 170, 171, 172, 173, 174, 175, 176, 177, 178, 179, 180, 181, 182, 183, 184, 185, 186, 187, 188, 189, 190, 191, 192, 193, 194, 195, 196, 197, 198, 199, 200, 201, 202, 206, 207, 208, 209, 210, 211, 212, 213, 214, 215, 216, 217, 218, 219, 220, 221, 222, 223, 224, 225, 226, 227, 228, 229, 230, 231, 232, 233, 234, 235, 236, 237, 238, 239, 240, 241, 242, 243, 244, 245, 246, 247, 248, 249, 250, 251, 252, 253, 254, 255, 256, 257, 258, 259, 260, 261, 262, 263, 264, 265, 267, 268, 269, 270, 271, 272, 273, 274, 275, 276, 277, 278, 279, 280, 281, 282, 283, 284, 285, 286, 287, 288, 289, 290, 291, 292, 293, 294, 295, 296, 297, 203, 204, 205, 300, 301, 302, 303, 304, 305, 306, 307, 308, 309, 310, 311, 312, 313, 314, 315, 316, 317, 318, 319, 320, 321, 322, 323, 324, 325, 326, 327, 328, 329, 330, 331, 332, 333, 334, 335, 336, 337, 338, 339, 340, 341, 342, 343, 344, 345, 346, 347, 348, 349, 350, 351, 352, 353, 354, 355, 356, 357, 358, 359, 360, 361, 362, 363, 364, 365, 366, 367, 368, 369, 370, 371, 372, 373, 374, 375, 376, 377, 378, 379, 380, 381, 382, 383, 384, 385, 386, 387, 388, 389, 390, 391, 392, 393, 394, 395, 396, 397, 398, 399, 400, 401, 402, 403, 298, 299, 404, 405, 406, 407, 408, 409, 410, 411, 412, 413, 414, 415, 416, 417, 418, 419, 420, 421, 422, 423, 424, 425, 426, 427, 428, 429, 430, 431, 432, 433, 434, 435, 436, 437, 438, 439, 440, 441, 442, 443, 444, 445, 446, 447, 448, 449, 450, 451, 452, 453, 454, 455, 456, 457, 458, 459, 460, 461, 462, 463, 464, 465, 466, 467, 468, 469, 470, 471, 472, 473, 474, 475, 476, 477, 478, 479, 480, 481, 482, 483, 484, 485, 489, 490, 491, 492, 493, 494, 495, 496, 497, 498, 499, 500, 501, 502, 503, 504, 505, 506, 507, 508, 509, 510, 511, 512, 513, 514, 515, 516, 517, 518, 519, 520, 521, 522, 523, 524, 525, 526, 527, 528, 529, 530, 531, 532, 533, 534, 535, 486, 487, 488, 536, 537, 538, 539, 540, 541, 542, 543, 544, 545, 546, 547, 548, 549, 550, 551, 552, 553, 554, 555, 556, 557, 558, 559, 560, 561, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 23)
 
15:35
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud ag awdurdod cyllid Cymru. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 30. Galwaf ar Nick Ramsay i gynnig a siarad am y prif welliant, a'r gwelliannau eraill yn y grŵp.
 
Cynigiwyd gwelliant 30 (Nick Ramsay).
 
15:35
Nick RamsayBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch i gynnig gwelliant 30, y prif welliant, fel y dywedwch, ar gyfer grŵp 1, yn nadl heddiw—gwelliannau sy'n ceisio symleiddio'r enw a fwriedir ar gyfer awdurdod refeniw newydd Cymru. Ddirprwy Lywydd, mae sefydlu’r corff newydd hwn yn cynrychioli newid allweddol i'r ffordd y bydd casglu'r dreth yng Nghymru yn gweithredu, yn dilyn datganoli nifer o drethi i Lywodraeth Cymru.
 
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r newidiadau hyn gyda'r cyhoedd. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio symleiddio enw'r awdurdod newydd. Mae'r acronym WRA yn debyg i sefydliadau eraill—WRU, NRA, i enwi ond ychydig—a allai beri dryswch i drethdalwyr. Rydym yn credu y bydd newid yr enw, neu yn hytrach lansio'r awdurdod newydd fel ‘Revenue Wales—Cyllid Cymru' yn cadarnhau ei ddiben a'i swyddogaeth yn yr enw, yn debyg i Revenue Scotland.
 
Nawr, rydym i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw brandio yn y byd modern. Mae sefydlu'r corff newydd hwn yn achlysur hanesyddol i Gymru, ac mae ei enw yn allweddol, trwy ei dderbyn a’i ddatblygu, fel nodwedd o dirwedd Cymru ddatganoledig. Mae'n bwysig bod y corff newydd yn hygyrch, ond nid dim ond hynny—mae'n bwysig ei fod yn cael ei ystyried yn hygyrch gan y cyhoedd. Mae ‘Cyllid Cymru' yn uniongyrchol, yn osgoi acronymau dryslyd, ac yn gwneud yr hyn mae'n ei ddweud ar y tun.
 
15:36
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Weinidog.
 
15:36
Jane HuttBywgraffiadY Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
A gaf i ddechrau, Ddirprwy Lywydd, drwy gofnodi fy niolch i holl Aelodau'r Cynulliad, yn enwedig y rhai ar y Pwyllgor Cyllid, am eu gwaith craffu ar y Bil? Mae hyn wedi bod yn werthfawr iawn wrth helpu i lunio deddfwriaeth dreth gyntaf Cymru. Bydd yr Aelodau yn gwybod fy mod wedi darparu ymateb manwl a sylweddol i argymhellion Cyfnod 1 y pwyllgor ychydig cyn y Nadolig, ac fe wnes i ddwyn amryw o welliannau ymlaen mewn ymateb i argymhellion y pwyllgor yng Ngyfnod 2, ym mis Ionawr.
 
Mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud ag ailenwi awdurdod cyllid Cymru yn ‘Cyllid Cymru'.  Gwnaeth Nick Ramsay gyflwyno gwelliannau i un adran at yr un diben yng Ngyfnod 2, na chytunwyd arnynt, ac mae bellach wedi cyflwyno dros 500 o newidiadau i wneud yr un peth drwy bob rhan o'r Bil. I ailadrodd yr hyn a ddywedais yn ystod Cyfnod 2, fel mater, nid oedd hyn yn ymddangos yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid, nac, mewn gwirionedd, yn unrhyw un o'r ymatebion i'r ymgynghoriad helaeth a gynhaliwyd yn arwain at gyhoeddi'r Bil.
 
Nid wyf yn bwriadu cefnogi gwelliannau Nick Ramsay. Buom yn ystyried 'Cyllid Cymru’ fel dewis posibl pan edrychasom yn gyntaf ar enw addas, ond roeddem yn teimlo nad oedd yn adlewyrchu'n briodol y ffaith bod Cymru yn datblygu ei dull ei hun o ran datganoli treth. Ac ers i ni benderfynu ar 'Awdurdod Cyllid Cymru’, rydym wedi buddsoddi cryn amser ac ymdrech i’w hyrwyddo. Er enghraifft, ddydd Iau diwethaf, lansiais ymgynghoriad ar drethi Cymru, gyda'n pedwerydd papur Trysorlys. Mae eisoes wedi ei gydnabod ymhlith ein rhanddeiliaid allweddol, ac ni wnaeth yr un ohonynt godi hyn fel pryder yn ystod craffu. A byddai cyflwyno enw newydd yn awr, ar y cam hwyr hwn, yn debygol o achosi cryn ddryswch, ac ni fyddai'n gynhyrchiol. Felly, nid wyf yn bwriadu cefnogi'r gwelliannau hyn.
 
15:38
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Nick Ramsay i ateb.
 
15:38
Nick RamsayBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i hefyd ddiolch i'r Gweinidog am ei chydweithrediad hi, a’i swyddogion, dros y broses braidd yn gymhleth hon, ar adegau, o ddatblygu'r ddeddfwriaeth hon?
 
Rwy’n cyfaddef, Weinidog, fy mod wedi bod braidd yn rhy barod i fwrw ymlaen â gwelliannau heddiw, fel y dywedwch. Rwyf wedi cyflwyno dros 500, er y bydd llawer o'r rheini, wrth gwrs, yn methu os bydd y gwelliant cyntaf yn methu. Fe wnes i, fel y dywedwch, gyflwyno’r gwelliant hwn yn y pwyllgor, yng Nghyfnod 2, ac mae'n ddrwg gennyf eich bod wedi penderfynu gwrthod y gwelliant. Clywais eto yr hyn a ddywedasoch; fe wnaethoch ailadrodd y sylwadau a wnaethoch yng Nghyfnod 2, ac nid wyf yn gweld sail gadarn o hyd ar gyfer gwrthod y gwelliant hwn. Fel y dywedais wrth agor y ddadl hon, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn teimlo y dylai enw'r sefydliad fod mor glir â phosibl i'r cyhoedd, a dylai fod yn wahanol i sefydliadau a byrfoddau eraill.
 
Soniasoch am yr Alban. Mae'r Alban eisoes wedi bod trwy'r broses, ac mae ar y blaen arni mewn sawl ffordd, ar rai o'r newidiadau ariannol hyn, ac rydym ni'n credu y dylem fod yn cymryd sylw o'u profiad nhw i'r gogledd o'r ffin. Roeddent wedi setlo ar yr enw ‘Revenue Scotland' am resymau da, ac, am resymau tebyg, rwy’n credu bod 'Cyllid Cymru' yn rhagori ar yr enw 'Awdurdod Cyllid Cymru’—ACC—a byddai hynny o fwy o fudd i’r corff, yn awr ac yn y dyfodol. Os ydych yn credu bod gan Gymru gyfres wahanol o amgylchiadau y byddai ACC yn ymateb gwell iddynt, yna yr wyf yn gofyn i chi ddweud wrthym beth ydynt. Rydych chi wedi bod yn llai na chlir ar hynny hyd yn hyn.
 
Rwy’n credu, i gloi, Ddirprwy Lywydd, y dylai'r corff newydd fod mor hygyrch â phosibl, ac mae angen i’r enw adlewyrchu hynny. Rwy’n annog y Siambr i dderbyn y gwelliant hwn ac i enwi'r corff newydd yn ‘Cyllid Cymru’.
 
15:40
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Os na chaiff gwelliant 30 ei dderbyn, bydd gwelliannau 23 i 29 a 31 i 561 yn methu. [Chwerthin.] Y cwestiwn yw bod gwelliant 30 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Cawn bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 11 o blaid, pleidleisiodd 39 yn erbyn. Felly, ni chaiff gwelliant 30 ei dderbyn, ac mae gwelliannau 23 i 29 a 31 i 561 yn methu felly.
 
Gwrthodwyd gwelliant 30: O blaid 11, Yn erbyn 39, Ymatal 0.
 
Methodd gwelliannau 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 47, 48, 49, 50, 51, 52, 53, 54, 55, 56, 57, 58, 59, 60, 61, 62, 63, 64, 65, 66, 67, 68, 69, 70, 71, 72, 73, 74, 75, 76, 77, 78, 79, 80, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 89, 90, 91, 92, 93, 94, 95, 96, 97, 98, 99, 100, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 112, 113, 114, 115, 116, 117, 118, 119, 120, 121, 122, 123, 124, 125, 126, 127, 128, 129, 130, 131, 132, 133, 134, 135, 136, 137, 138, 139, 140, 141, 142, 143, 144, 145, 146, 147, 148, 149, 150, 151, 152, 153, 154, 155, 156, 157, 158, 159, 160, 161, 162, 163, 164, 165, 166, 167, 168, 169, 170, 171, 172, 173, 174, 175, 176, 177, 178, 179, 180, 181, 182, 183, 184, 185, 186, 187, 188, 189, 190, 191, 192, 193, 194, 195, 196, 197, 198, 199, 200, 201, 202, 203, 204, 205, 206, 207, 208, 209, 210, 211, 212, 213, 214, 215, 216, 217, 218, 219, 220, 221, 222, 223, 224, 225, 226, 227, 228, 229, 230, 231, 232, 233, 234, 235, 236, 237, 238, 239, 240, 241, 242, 243, 244, 245, 246, 247, 248, 249, 250, 251, 252, 253, 254, 255, 256, 257, 258, 259, 260, 261, 262, 263, 264, 265, 267, 268, 269, 270, 271, 272, 273, 274, 275, 276, 277, 278, 279, 280, 281, 282, 283, 284, 285, 286, 287, 288, 289, 290, 291, 292, 293, 294, 295, 296, 297, 298, 299, 300, 301, 302, 303, 304, 305, 306, 307, 308, 309, 310, 311, 312, 313, 314, 315, 316, 317, 318, 319, 320, 321, 322, 323, 324, 325, 326, 327, 328, 329, 330, 331, 332, 333, 334, 335, 336, 337, 338, 339, 340, 341, 342, 343, 344, 345, 346, 347, 348, 349, 350, 351, 352, 353, 354, 355, 356, 357, 358, 359, 360, 361, 362, 363, 364, 365, 366, 367, 368, 369, 370, 371, 372, 373, 374, 375, 376, 377, 378, 379, 380, 381, 382, 383, 384, 385, 386, 387, 388, 389, 390, 391, 392, 393, 394, 395, 396, 397, 398, 399, 400, 401, 402, 403, 404, 405, 406, 407, 408, 409, 410, 411, 412, 413, 414, 415, 416, 417, 418, 419, 420, 421, 422, 423, 424, 425, 426, 427, 428, 429, 430, 431, 432, 433, 434, 435, 436, 437, 438, 439, 440, 441, 442, 443, 444, 445, 446, 447, 448, 449, 450, 451, 452, 453, 454, 455, 456, 457, 458, 459, 460, 461, 462, 463, 464, 465, 466, 467, 468, 469, 470, 471, 472, 473, 474, 475, 476, 477, 478, 479, 480, 481, 482, 483, 484, 485, 486, 487, 488, 489, 490, 491, 492, 493, 494, 495, 496, 497, 498, 499, 500, 501, 502, 503, 504, 505, 506, 507, 508, 509, 510, 511, 512, 513, 514, 515, 516, 517, 518, 519, 520, 521, 522, 523, 524, 525, 526, 527, 528, 529, 530, 531, 532, 533, 534, 535, 536, 537, 538, 539, 540, 541, 542, 543, 544, 545, 546, 547, 548, 549, 550, 551, 552, 553, 554, 555, 556, 557, 558, 559, 560, 561.
 
Grŵp 2: Penodiadau i Fwrdd ACC (Gwelliannau 7, 8, 9, 10, 11, 12, 1, 13, 14)
 
15:41
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Mae'r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud â phenodiadau i fwrdd ACC. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 7. Galwaf ar Nick Ramsay i gynnig ac i siarad am y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp.
 
Cynigiwyd gwelliant 7 (Nick Ramsay).
 
15:41
Nick RamsayBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wel, 500 o welliannau yn ddiweddarach, rwy'n falch o gynnig y prif welliant yn grŵp 2. Mae'r gwelliant hwn yn rhan o strategaeth gyffredinol i sicrhau bod y corff a sefydlwyd yn atebol i’r holl Gynulliad Cenedlaethol, gan sicrhau ei fod mor annibynnol ag y bo’n bosibl ar Lywodraeth Cymru, fel yr amlinellir yn argymhellion 3 a 21 o adroddiad craffu y Pwyllgor Cyllid. Felly, rydym yn credu mai agwedd hanfodol ar hyn yw penodiad y cadeirydd. Hefyd, rydym yn credu os yw'r cadeirydd yn cael ei ethol gan y Cynulliad Cenedlaethol, y bydd yn broses ddemocrataidd fwy agored a mwy tryloyw, a bydd yn atgyfnerthu'r syniad ei fod yn endid hyd braich, annibynnol.
 
Mae gwelliant 9 yn ymwneud â'r broses benodi ac yn ceisio sicrhau’r egwyddor o gystadleuaeth deg ac agored yn ystod y broses honno.
 
Weinidog, rwy’n llwyr werthfawrogi rhai o'r anawsterau o ran cael y cydbwysedd cywir rhwng cyfeiriad gweinidogol a'r annibyniaeth hyd braich yr ydym yn ceisio ei gyflawni. Rwy’n credu bod cael Cadeirydd wedi’i ethol gan y Cynulliad Cenedlaethol yn gam tuag at gael y cydbwysedd hwnnw'n iawn, a dyna pam yr ydym wedi cyflwyno’r gwelliant hwn heddiw.
 
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn hapus i gefnogi gwelliant 1, gwelliant y Llywodraeth, sy'n ceisio sicrhau mai aelodau anweithredol yn hytrach na holl fwrdd ACC—fel y'i gelwir bellach—fydd yn penodi pob prif weithredwr wedi hynny, yn dilyn y penodiad cychwynnol gan Weinidogion Cymru.
 
15:43
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Wedi ystyried y mater yn ofalus, a thra bod gwelliant Nick Ramsay yn sicr â rhai dadleuon o’i blaid, roedd y dystiolaeth yn gadarn y dylai’r corff newydd fod yn adran o’r Llywodraeth ond heb fod o dan reolaeth uniongyrchol unrhyw Weinidog. Dyna’r drefn fwyaf synhwyrol i sicrhau annibyniaeth awdurdod refeniw Cymru, ac mae’n cyd-fynd â statws Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, y Comisiwn Elusennau, Gwasanaeth Erlyn y Goron ac enghreifftiau eraill. Dyna statws Revenue Scotland hefyd. Gan fod yr awdurdod o dan reolaeth bwrdd annibynnol, mae’n sicrhau nad ydy’r awdurdod o dan reolaeth uniongyrchol y Llywodraeth ac na all unrhyw Lywodraeth ymyrryd ym materion trethiannol o ddydd i ddydd pobl Cymru.
 
Bydd yn rhaid, wrth gwrs, i’r Cynulliad gael trefn gadarn i oruchwylio a sgrwtineiddio’r corff newydd, ac rwy’n hyderus y bydd hynny’n digwydd yn y Cynulliad newydd. Felly, rydym yn gwrthwynebu’r gwelliant yma, a’r rhai canlynol am yr un rheswm, ond yn cefnogi gwelliant y Gweinidog i sicrhau y bydd prif weithredwr awdurdod refeniw Cymru yn y dyfodol yn cael ei benodi gan aelodau anweithredol y bwrdd. Diolch.
 
15:44
Jane HuttBywgraffiad
Siaradaf yn gyntaf am y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. Mae gwelliant 1 yn sicrhau mai aelodau anweithredol, yn hytrach na holl fwrdd ACC, fydd yn penodi pob prif weithredwr dilynol ACC, yn dilyn y penodiad cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru. Mae hyn hefyd yn ymdrin ag argymhelliad 7 yn adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Cyllid. Felly, rwy'n ddiolchgar i Nick Ramsay ac i Alun Ffred Jones am eu cefnogaeth i welliant 1.
 
Nid wyf yn bwriadu cefnogi gwelliannau Nick Ramsay, a fyddai'n darparu mai’r Cynulliad, yn hytrach na’r Llywodraeth, fyddai'n gwneud penodiadau i fwrdd ACC, yn penderfynu neu gymeradwyo telerau ac amodau’r penodiadau hynny, a gwella telerau aelodau'r pwyllgor a staff. Mae'r Bil yn sefydlu ACC fel adran anweinidogol ac, fel y mae Alun Ffred Jones wedi'i ddweud, ac fel yr wyf i wedi ei amlinellu i'r pwyllgor yn flaenorol, mae'r dull hwn yn gyson â CThEM a Revenue Scotland a sefydlwyd yn ddiweddar. Bydd y WRA ar wahân, ond yn atebol, i Weinidogion Cymru. Mae'n sylfaenol wahanol i gyrff megis Swyddfa Archwilio Cymru, sydd â swyddogaeth wahanol iawn o ran dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif, ac am y rheswm hwnnw, dylai fod yn fater i Weinidogion Cymru i gael y swyddogaeth y mae'r Bil yn ei gosod arnynt o ran apwyntiadau a chymeradwyo telerau.
 
Ni fyddaf ychwaith yn cefnogi gwelliant 9, nad yw'n angenrheidiol. Bydd egwyddorion Nolan ar gyfer penodiadau cyhoeddus yn berthnasol i aelodau anweithredol y bwrdd, ac mae'r rhain eisoes yn gwneud cystadleuaeth deg ac agored yn ofynnol, ac yn achos penodiadau staff gweithredol, byddant, yn gyffredin â holl weision sifil, eisoes yn cael eu recriwtio drwy gystadleuaeth deg ac agored.
 
15:46
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Nick Ramsay i ateb.
 
15:46
Nick RamsayBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf glywed na fydd naill ai'r Gweinidog na Phlaid Cymru yn cefnogi’r gwelliant hwn heddiw. Fel y dywedais wrth agor, mae'r gwelliant hwn yn rhan o strategaeth gyffredinol i sicrhau bod y corff newydd yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac rydym yn credu bod sicrhau’r annibyniaeth honno yn gwbl allweddol ar gyfer y corff hwn i weithio ac i gael ei dderbyn gan y cyhoedd. Rydym hefyd yn credu y dylai'r cadeirydd gael ei ethol gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae hyn yn y pen draw yn ymwneud a chyflawni tryloywder a bod yn agored.
 
Fel y dywedais o'r blaen, rwy’n gwerthfawrogi anawsterau’r Gweinidog yn y maes hwn, gan fod cydbwysedd anodd ei gyflawni rhwng, ar y naill law, cyfeiriad gweinidogol priodol ac, ar y llaw arall, annibyniaeth hyd braich—nid yw hynny byth yn gydbwysedd hawdd ei gyflawni. Felly, mae anawsterau yma. Fodd bynnag, credaf fod y gwelliant y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ei gyflwyno yn rhoi ar wyneb y Bil yr angen i annibyniaeth gael ei gyflawni, ac mae yn cynnig ffordd y gellir ei egluro. Anogaf y Cynulliad i gefnogi ein gwelliant.
 
15:47
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y cwestiwn yw bod gwelliant 7 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Cawn bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 14 o blaid, pleidleisiodd 35 yn erbyn. Felly, ni chaiff gwelliant 7 ei dderbyn.
 
Gwrthodwyd gwelliant 7: O blaid 14, Yn erbyn 35, Ymatal 0.
 
15:47
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Nick Ramsay, gwelliant 8.
 
Cynigiwyd gwelliant 8 (Nick Ramsay).
 
15:47
Nick RamsayBywgraffiad
Cynnig.
 
15:47
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y cwestiwn yw bod gwelliant 8 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Cawn bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 15 o blaid, pleidleisiodd 35 yn erbyn. Felly, ni chaiff gwelliant 8 ei dderbyn.
 
Gwrthodwyd gwelliant 8: O blaid 15, Yn erbyn 35, Ymatal 0.
 
15:48
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Nick Ramsay, gwelliant 9.
 
Cynigiwyd gwelliant 9 (Nick Ramsay).
 
15:48
Nick RamsayBywgraffiad
Cynnig.
 
15:48
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y cwestiwn yw bod gwelliant 9 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Cawn bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 15 o blaid, pleidleisiodd 35 yn erbyn. Felly, ni chaiff gwelliant 9 ei dderbyn.
 
Gwrthodwyd gwelliant 9: O blaid 15, Yn erbyn 35, Ymatal 0.
 
15:48
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Nick Ramsay, eich gwelliant 10.
 
Cynigiwyd gwelliant 10 (Nick Ramsay).
 
15:48
Nick RamsayBywgraffiad
Cynnig.
 
15:48
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y cwestiwn yw bod gwelliant 10 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Cawn bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 15 o blaid, pleidleisiodd 35 yn erbyn. Felly, ni chaiff gwelliant 10 ei dderbyn.
 
Gwrthodwyd gwelliant 10: O blaid 15, Yn erbyn 35, Ymatal 0.
 
15:48
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Nick Ramsay, gwelliant 11.
 
Cynigiwyd gwelliant 11 (Nick Ramsay).
 
15:48
Nick RamsayBywgraffiad
Cynnig.
 
15:48
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y cwestiwn yw bod gwelliant 11 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Cawn bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 15 o blaid, pleidleisiodd 35 yn erbyn. Felly, ni chaiff gwelliant 11 ei dderbyn.
 
Gwrthodwyd gwelliant 11: O blaid 15, Yn erbyn 35, Ymatal 0.
 
15:49
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Nick Ramsay, gwelliant 12.
 
Cynigiwyd gwelliant 12 (Nick Ramsay).
 
15:49
Nick RamsayBywgraffiad
Cynnig.
 
15:49
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y cwestiwn yw bod gwelliant 12 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Cawn bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 15 o blaid, pleidleisiodd 35 yn erbyn. Felly, ni chaiff gwelliant 12 ei dderbyn.
 
Gwrthodwyd gwelliant 12: O blaid 15, Yn erbyn 35, Ymatal 0.
 
15:49
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Weinidog, gwelliant 1.
 
Cynigiwyd gwelliant 1 (Jane Hutt, gyda chefnogaeth Nick Ramsay).
 
15:49
Jane HuttBywgraffiad
Cynnig.
 
15:49
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y cwestiwn yw bod gwelliant 1 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly caiff gwelliant 1 ei dderbyn.
 
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
15:49
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Nick Ramsay, gwelliant 13.
 
Cynigiwyd gwelliant 13 (Nick Ramsay).
 
15:49
Nick RamsayBywgraffiad
Cynnig.
 
15:49
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y cwestiwn yw bod gwelliant 13 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Cawn bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 15 o blaid, pleidleisiodd 35 yn erbyn. Felly, ni chaiff gwelliant 13 ei dderbyn.
 
Gwrthodwyd gwelliant 13: O blaid 15, Yn erbyn 35, Ymatal 0.
 
15:50
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Nick Ramsay, gwelliant 14.
 
Cynigiwyd gwelliant 14 (Nick Ramsay).
 
15:50
Nick RamsayBywgraffiad
Rwy’n cynnig.
 
15:50
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y cwestiwn yw bod gwelliant 14 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Cawn bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 15 o blaid, pleidleisiodd 35 yn erbyn. Felly, ni chaiff gwelliant 14 ei dderbyn.
 
Gwrthodwyd gwelliant 14: O blaid 15, Yn erbyn 35, Ymatal 0.
 
Grŵp 3: Gweithdrefnau (Gwelliannau 15, 16)
 
15:50
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Mae'r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud â gweithdrefnau. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 15, a galwaf ar Nick Ramsay i gynnig a siarad am y prif welliannau a'r gwelliant arall yn y grŵp.
 
Cynigiwyd gwelliant 15 (Nick Ramsay).
 
15:50
Nick RamsayBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch i gynnig gwelliant 15, y prif welliant yn grŵp 3. Mae'r gwelliant hwn yn seiliedig ar argymhelliad 10 adroddiad y Pwyllgor Cyllid y dylai awdurdod cyllid Cymru lunio cynllun cyhoeddi ac y dylid sicrhau bod yr holl benderfyniadau a wneir gan bwyllgorau ac is-bwyllgorau'r awdurdod ar gael i'r cyhoedd. Os oes rheswm dilys dros beidio â chyhoeddi penderfyniad, dylai'r rhesymau am hyn eu rhoi ar gael i'r cyhoedd, yn unol â'r cynllun cyhoeddi. Yn y pen draw, yn unol ag argymhelliad 10 adroddiad y Pwyllgor Cyllid, mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau sicrhau bod tryloywder yn cael ei ddeddfu i bob agwedd ar y corff newydd.
 
15:51
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Weinidog.
 
15:51
Jane HuttBywgraffiad
Mae gwelliant 15 yn ddiangen gan fod adran 10 eisoes yn darparu disgresiwn digon eang i awdurdod cyllid Cymru o ran ei reolau gweithdrefnol i wneud yr hyn y mae’r gwelliant yn ei ragweld. Nid oes angen i'r Bil gynnwys geiriad penodol ar y llinellau a nodir yn y gwelliant.
 
Mae gwelliant 16 hefyd yn ddiangen gan fod Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyllid Cymru fod â chynllun cyhoeddi.
 
15:51
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Nick Ramsay i ateb.
 
15:51
Nick RamsayBywgraffiad
Diolch. Mae'n ddrwg gennyf fod y Gweinidog yn teimlo na all dderbyn y gwelliant hwn, sydd â'r nod o gynyddu tryloywder a bod yn agored wrth weithredu'r awdurdod newydd. Rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno ei bod yn hanfodol bod y corff newydd nid yn unig yn agored ac yn dryloyw, ond ei fod yn cael ei weld i fod yn hynny. Rwyf yn clywed yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei ddweud am Ddeddfau eraill a'u gwrthdrawiad â’r Ddeddf hon. Fodd bynnag, credaf ei bod mor bwysig ein bod yn cael y broses hon yn iawn ar y dechrau, ac rwyf yn credu bod y gwelliant hwn yn gwella natur agored y Bil, felly hoffwn ofyn am iddo gael ei gefnogi.
 
15:52
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y cwestiwn yw bod gwelliant 15 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Cawn bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 15 o blaid, pleidleisiodd 35 yn erbyn. Felly, ni chaiff gwelliant 15 ei dderbyn.
 
Gwrthodwyd gwelliant 15: O blaid 15, Yn erbyn 35, Ymatal 0.
 
15:52
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Nick Ramsay, gwelliant 16.
 
Cynigiwyd gwelliant 16 (Nick Ramsay).
 
15:52
Nick RamsayBywgraffiad
Rwy’n cynnig.
 
15:52
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y cwestiwn yw bod gwelliant 16 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Cawn bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 15 o blaid, pleidleisiodd 35 yn erbyn. Felly, ni chaiff gwelliant 16 ei dderbyn.
 
Gwrthodwyd gwelliant 16: O blaid 15, Yn erbyn 35, Ymatal 0.
 
Grŵp 4: Annibyniaeth ACC (Gwelliannau 17, 18)
 
15:53
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Mae'r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud ag annibyniaeth awdurdod cyllid Cymru. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 17. Galwaf ar Nick Ramsay i gynnig a siarad am y prif welliant a'r gwelliant arall yn y grŵp.
 
Cynigiwyd gwelliant 17 (Nick Ramsay).
 
15:53
Nick RamsayBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae grŵp 4 yn ymwneud yn benodol â'r angen am annibyniaeth wrth sefydlu a gweithredu awdurdod cyllid newydd Cymru. Mae gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig, fy ngwelliant i, yn ceisio cyfyngu ar lefel y rheolaeth y gall Llywodraeth Cymru ei harfer dros y corff newydd—reolaeth yr ydym yn teimlo y gallai fel arall ddatblygu yn ymyrraeth ac ymyriad.
 
Mae angen i annibyniaeth y corff fod yn eglur ar wyneb y Bil. Unwaith eto, mae hwn yn gwestiwn o gyflawni'r cydbwysedd cywir rhwng rhoi arweiniad i'r awdurdod newydd a chaniatáu'r rhyddid iddo hefyd i weithredu mewn modd diragfarn. Nid yw hwn, rwy’n derbyn, yn gydbwysedd hawdd ei gael yn iawn, ond, fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, mae'n un y mae'n rhaid ei gyflawni, ac rydym yn credu bod y gwelliant hwn a'r gwelliannau dilynol yn cyflawni hyn. Rwy’n annog y Siambr i'w gefnogi.
 
15:54
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Eluned Parrott.
 
15:54
Eluned ParrottBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd fy ngrŵp i yn cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Rydym yn credu bod corffori annibyniaeth awdurdod cyllid Cymru ar wyneb y Bil yn gyfle i ddatgan yn glir iawn sut y disgwyliwn i’r awdurdod hwnnw gael ei weithredu yn y dyfodol, ac mae'n hanfodol i'w allu i weithredu fel y bwriedir, heb ymyrraeth wleidyddol. Er ein bod yn sicr na fyddai unrhyw un yn awgrymu y byddai’r Llywodraeth bresennol yn ymddwyn mewn ffordd mor annemocrataidd, mae’n rhaid i ni ddeddfu ar gyfer pob dyfodol posibl. Nid ydym yn gwybod cymeriad Llywodraethau'r dyfodol, ac felly mae hon yn rhwyd ​​ddiogelwch sy'n ein galluogi i ddatgan yn glir iawn mai dyma'r egwyddor yr ydym yn disgwyl i bwerau trethu presennol a dyfodol y lle hwn gael eu cynnal arni.
 
15:55
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Weinidog.