By continuing to use our site, you are agreeing for us to set a small number of cookies. Cookie policy

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Back to list View this page without hyperlinks
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:31 gyda’r Llywydd (Y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair.
 
13:31
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Prynhawn da. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw’r eitem gyntaf y prynhawn yma, a daw cwestiwn 1 gan Jenny Rathbone.
 
1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Diwydiant Dur Cynaliadwy
 
13:31
Jenny RathboneBywgraffiad
1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi diwydiant dur cynaliadwy yng Nghymru? OAQ(4)2149(FM)
 
13:31
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni’n cydnabod pwysigrwydd y diwydiant dur i economi Cymru. Rydym ni wedi codi'n gyson gyda Llywodraeth y DU yr angen i sicrhau y gall busnesau Cymru weithredu ar sail deg, nid yn unig yn y DU, ond ym marchnad y DU a’r farchnad fyd-eang, ac mae hynny, wrth gwrs, hefyd yn cynnwys yr angen i wneud rhywbeth i fynd i'r afael â’r costau ynni y mae llawer o gynhyrchwyr dur yn eu hwynebu.
 
13:31
Jenny RathboneBywgraffiad
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae Celsa Steel wedi ysgrifennu ataf i ddweud bod llu o fewnforion yn dod i mewn i'r wlad nad ydynt hyd yn oed yn bodloni’r safonau dur cynaliadwy, BES 6001. Mae hyn yn rhoi’r nifer pwysig iawn o swyddi yng Nghaerdydd mewn perygl—3,000 o swyddi yn Celsa Steel yn unig. Nawr, mae arweinydd cyngor Caerdydd yn ysgrifennu at bob awdurdod lleol, er mwyn sicrhau bod yr holl ddogfennau caffael yn nodi BES 6001, sef y safon ofynnol am resymau diogelwch. A wnaiff Llywodraeth Cymru gefnogi'r siarter ar gyfer dur cynaliadwy Prydain, ac ystyried ymgorffori’r safon honno ar gyfer cyrchu cyfrifol yn ei pholisïau caffael ei hun?
 
13:32
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rydym ni wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar yr heriau y mae'r diwydiant dur yn eu hwynebu o ganlyniad i’r twf i fewnforion dur a phryderon am gyrchu cynaliadwy cyfrifol. Rydym yn croesawu siarter UK Steel ar gyfer dur cynaliadwy Prydain. Mae yn cynnig cyfle i ddiogelu llawer o swyddi gwerth uchel, yn ogystal â galluogi twf. Ond, ar yr un pryd, mae angen hefyd i ni ystyried yn llawn yr effaith y byddai siarter o'r fath yn ei chael ar sefydliadau preifat a chyhoeddus, ac rydym ni’n edrych ar hyn yn fwy manwl.
 
13:33
William GrahamBywgraffiad
Brif Weinidog, rwy'n siŵr y gwnewch chi groesawu, gyda mi, buddsoddiad Tata Steel yn y datdorchwr medrydd trwm newydd £11 miliwn—y mwyaf yn Ewrop—a fydd yn creu galw, neu yn hytrach yn ehangu galw am gynhyrchion, yn enwedig o waith Llanwern. Beth, Weinidog, ydych chi’n mynd i allu ei wneud i helpu Tata—mae ganddyn nhw 100 o gynhyrchion newydd yn y blynyddoedd diwethaf, gan arallgyfeirio gweithgynhyrchiad dur yng Nghymru yn gyfan gwbl—i ddod â’r cynhyrchion hyn i'r farchnad a’u gwneud yn gystadleuol yn y dyfodol?
 
13:33
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rydym ni’n gweithio'n agos iawn gyda Tata, wrth gwrs. Rwyf wedi cyfarfod â Tata ar ddau achlysur yn ystod fy ymweliadau ag India, ac rydym ni wedi gweld y buddsoddiad sydd wedi dod i Gymru o ganlyniad. Mae Tata yn ymwybodol o’r heriau y byddant yn eu hwynebu yn y farchnad yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac maen nhw’n sicr yn ymateb i’r heriau hynny. Rydym ni’n ffodus ei fod yn gwmni sy'n credu mewn buddsoddi eu ffordd tuag at elw, yn hytrach na gwneud toriadau, ac mae hynny'n rhywbeth i'w gydnabod a'i groesawu. Ond, byddwn yn parhau i weithio gyda Tata, wrth gwrs, i wneud yn siŵr bod cynhyrchu dur yn parhau i fod yn rhan bwysig o economi Cymru.
 
13:34
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
A ydy’r Prif Weinidog, tybed, yn gweld cymhariaeth yn fan hyn efo’n galwad ni am gryfhau y polisi ar gaffael yn y sector cyhoeddus, a bod ymrwymiad gan Lywodraeth, a bod y Llywodraeth yn cael eu gweld yn ymrwymo i gefnogi diwydiant, yn bwysig, a bod glynu at, neu fynnu cael y safon yma—safon BES 6001—yn fodd y gall y Llywodraeth ddangos eu hymrwymiad nhw i gefnogi’r diwydiant dur yng Nghymru?
 
13:34
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
O ran y ffordd y byddai hyn yn gweithio dros y Deyrnas Unedig yn gyfan gwbl, nid oes ffordd gyfreithiol o fynnu bod pobl yn prynu dur o Gymru neu o Brydain. Ond, wrth gwrs, mae hi’n bosibl sicrhau bod yna safon y dylai pob cynnyrch ei chyrraedd er mwyn cael bod yn rhan o’r system gaffael yma yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig.
 
13:35
David ReesBywgraffiad
Brif Weinidog, yn eich ateb i'r Aelod dros Ganol Caerdydd, tynnwyd sylw gennych at y cwestiwn o gostau ynni uchel. Cefais gyfarfod â’r cyfarwyddwr canolbwynt newydd o gynhyrchion stribed yng Nghymru yr wythnos diwethaf a chyfeiriodd yntau hefyd at y costau ynni uchel, sef un o’r prif elfennau sy’n ychwanegu cost at y tunelli maen nhw’n eu gwerthu yn y farchnad. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ac, efallai, gyda'r UE, yn enwedig yng ngoleuni ystyriaeth undeb ynni'r UE a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf?
 
13:35
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni wedi codi pryderon gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr heriau sy'n effeithio ar ddiwydiannau ynni-ddwys yng Nghymru yn gyson. Yn fwyaf diweddar—y mis diwethaf, yn wir—ysgrifennais at Vince Cable, yn amlinellu'r angen i gyflwyno cymorth ar y cyfle cyntaf yn ogystal â rhoi’r hyder i'r diwydiant barhau i fuddsoddi yn ei ddyfodol hirdymor a bod pob llwybr cymorth arall yn cael ei archwilio'n llawn. Mae'n hanfodol bod camau'n cael eu cymryd cyn gynted â phosibl er mwyn gwneud yn siŵr y gall ein diwydiannau ynni-ddwys gystadlu ar sail deg.
 
Gofal Newyddenedigol yn Ysbyty Glan Clwyd
 
13:36
Ann JonesBywgraffiad
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran sefydlu canolfan isranbarthol ar gyfer gofal newyddenedigol dwys yn Ysbyty Glan Clwyd? OAQ(4)2137(FM)
 
13:36
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Cefais gyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd iechyd lleol ddoe. Roedd hwn yn fater a drafodwyd gennym. Rwy’n disgwyl i'r bwrdd fod mewn sefyllfa i gyflwyno'r achos busnes amlinellol ar gyfer datblygiad y Ganolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Dwys i'r Newydd-anedig erbyn yr hydref. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ysgrifennu at yr Aelodau yn fuan—heddiw, rwy’n credu—yn nodi'r cynnydd da a wnaed eisoes gan y bwrdd iechyd.
 
13:36
Ann JonesBywgraffiad
Diolch yn fawr iawn am hynna, Brif Weinidog. Rwy’n croesawu eich ymrwymiad llwyr i sicrhau bod y ganolfan babanod newydd-anedig, mewn gwirionedd, yn unol â'r adolygiad annibynnol, yn cael ei lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd. Amser cinio, ymunais ag Aelodau eraill o’r gogledd i dderbyn deiseb gan bobl y gogledd ar gael gwared ar y gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol. Mae bron i 16,000 o bobl wedi llofnodi’r ddeiseb honno. Hoffwn ddiolch i'r 'Daily Post' ac i Marsha am drefnu hynny; maen nhw’n eistedd yn yr oriel i wrando. A gaf i ddweud, Brif Weinidog, pan gawsom gyfarfod gyda'r bwrdd, fe’n hysbyswyd gan y bwrdd bod rhywfaint o oedi o ran y fframwaith a oedd yn cael ei ddefnyddio i greu’r ganolfan babanod newydd-anedig hon yng Nglan Clwyd? A allwch chi roi eich sicrhad i mi na fyddwch chi’n goddef unrhyw oediadau a fydd yn atal cynnydd mamau a babanod mewn canolfan babanod newydd-anedig yng Nglan Clwyd?      
 
13:37
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Na fyddaf wir. Gallaf gadarnhau i'r Aelod, ar ben yr hyn yr wyf newydd ei ddweud am y Ganolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Dwys i'r Newydd-anedig, i mi ei gwneud yn eglur, yn rhan o'r cyfarfod ddoe, fy mod i eisiau gweld gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn ôl yn Ysbyty Glan Clwyd o fewn 12 mis, fel y bwriadwyd yn wreiddiol. Mae'n gywir i ddweud bod yn rhaid ail-adeiladu’r adran. Ni ellir ei hailagor yn sydyn dros nos, ond, serch hynny, mae'n hanfodol bod y bwrdd yn gweithio cyn gynted â phosibl i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau hynny’n cael eu hailgyflwyno yn yr amser byrraf posibl.
 
13:38
Darren MillarBywgraffiad
Brif Weinidog, hoffwn innau hefyd gofnodi fy niolch i Marsha Davies o Little Miracles ac, yn wir, y 'Daily Post' am gefnogi’r ymgyrch yn y gogledd. Mae'n amlwg iawn bod degau o filoedd o bobl yn anfodlon â phenderfyniad y bwrdd iechyd. Mae'r ddeiseb yn galw heddiw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd yn y broses i sicrhau bod gwasanaeth a arweinir gan feddygon yn parhau yn Ysbyty Glan Clwyd yn yr uned famolaeth honno. A wnewch chi roi eich ymateb i'r ddeiseb honno nawr? 
 
13:38
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Ceir proses ffurfiol yma, lle gall y cyngor iechyd cymuned, er enghraifft, ysgrifennu'n ffurfiol i ofyn am sylw ac ymyrraeth bosibl Gweinidog. Nid yw wedi gwneud hynny eto. Maen nhw wedi anfon llythyr ond nid ydyn nhw wedi gwneud y cais ffurfiol hwnnw, ac rydym ni’n aros i weld a fydd y cais hwnnw’n cael ei wneud. Ond, rwy'n credu ei bod yn werth rhybuddio a dweud yn syml nad yw’n bosibl ailagor yr adran fel y mae pethau ar hyn o bryd, ar ôl ystyried y mater yn ofalus iawn, iawn, neu, yn hytrach, i barhau â’r gwasanaeth—mae’r Aelod yn iawn; i barhau gyda'r gwasanaeth—yn y dyfodol. Y rheswm yw hyn: nid oes unrhyw hyfforddeion yno. Cafwyd gwared ar hyfforddeion oherwydd eu bod nhw’n cwyno am ansawdd yr hyfforddiant yr oedden nhw’n ei gael yno. Nid yw meddygon canolradd yn ymgeisio i fynd yno. Dyna pam mae cymaint o feddygon locwm ac asiantaeth yno. Nid wyf yn credu ei bod yn mynd i fod yn bosibl i'r adran fod yn y sefyllfa y byddem yn dymuno iddi fod ynddi heb fynd i’r afael â’r materion hynny, ac rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, am yr anawsterau y rhoddwyd sylw iddynt yn adroddiad Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynecolegwyr ac adroddiad Steel. Mae’n rhaid ailadeiladu’r adran er mwyn iddi fod yn gynaliadwy yn y dyfodol. Rydym ni’n gweld, wrth gwrs, yr hyn sydd wedi digwydd ym mae Morecambe. Byddem yn awyddus i osgoi unrhyw awgrym o unrhyw beth fel yna’n digwydd yn y dyfodol yng Nghymru, a dyna pam y bu’n rhaid i’r bwrdd iechyd lleol gymryd camau nawr. 
 
13:39
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Fe wnaethoch chi eich cyhoeddiad ynglŷn â’r ganolfan gofal dwys i fabanod—y SuRNICC yma—fis Mai y llynedd. Ers hynny, mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod yn disgwyl cadarnhad gan y Llywodraeth am y penderfyniad yna. Fe gyrhaeddodd y llythyr gan y Llywodraeth bythefnos yn ôl, naw mis ar ôl i chi wneud y cyhoeddiad, ac, yn ddiddorol iawn, fe gyrhaeddodd jest ychydig ddyddiau ar ôl y cyhoeddiad bod y gwasanaeth sy’n cael ei arwain gan ddoctoriaid yn cael ei dynnu o Glan Clwyd. Pam mae wedi cymryd naw mis i’r Llywodraeth gadarnhau’r penderfyniad yna, a beth yw’r amserlen yr ydych chi wedi’i gosod i Betsi Cadwaladr ar gyfer sefydlu’r ganolfan?
 
13:40
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae’r Aelod yn rhoi’r argraff nad oes dim byd wedi digwydd yn y cyfamser. Fel y dywedais i, bydd y Gweinidog yn ysgrifennu y prynhawn yma at Aelodau i ddangos beth sydd wedi digwydd yn y cyfamser, er mwyn dweud wrth bobl fod pethau wedi digwydd, ac i sicrhau bod y SuRNICC yn cael ei sefydlu yn yr amser y gwnaethom ni ei ddweud y llynedd.
 
13:40
Aled RobertsBywgraffiad
Brif Weinidog, yn ystod y cyfarfod efo Aelodau o’r gogledd, fe ddywedodd y bwrdd iechyd nad yw hi’n bosib i gynnal tair uned ar draws y gogledd. Rwy’n derbyn eich cadarnhad chi ynglŷn â’r sefyllfa yng Nglan Clwyd, er rwy’n meddwl bod y cyngor iechyd cymuned wedi gwneud y pwynt ei fod yn disgwyl i’r Gweinidog ddod i mewn i’r sefyllfa. Ond, a ydych chi’n gallu gwarantu i ni y prynhawn yma y bydd tair uned yn y gogledd ar ôl blwyddyn, yn hytrach na gadael i’r bwrdd iechyd, hwyrach, benderfynu ar yr adeg hynny i gau uned naill ai yn Wrecsam neu ym Mangor?
 
13:41
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, nid felly yw’r bwriad. A gaf i ddweud nad oes dim byd ffurfiol wedi dod o’r cyngor iechyd cymuned yn gofyn i’r Gweinidog ymyrryd? Os bydd hynny’n dod—os bydd y llythyr yn dod—bydd hynny, wrth gwrs, yn cael ei ystyried. Maen nhw wedi hala llythyr, ond nid llythyr ffurfiol yn y ffordd hynny. Os ydynt yn moyn gwneud hynny, mae yna wahoddiad iddyn nhw wneud hynny, wrth gwrs. Fel rwyf wedi’i ddweud o’r blaen, pan fydd y SuRNICC ei hunan yn cael ei sefydlu, bydd yna newidiadau yn yr adrannau eraill. Mae hynnny’n mynd i ddigwydd; mae pawb yn erfyn i hynny ddigwydd. Felly, bydd yna beth newidiadau ta beth yn yr adrannau eraill, wrth gofio beth fydd y SuRNICC yn ei wneud yn y dyfodol. Ond, beth sy’n bwysig yw bod gyda ni adran fel y SuRNICC yng Nglan Clwyd er mwyn sicrhau, fel roedd Aelodau’n moyn gweld, fod mwy o fabis yn cael eu geni yng Nghymru, ac nid, wrth gwrs, yn Arrowe Park.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
 
13:42
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn at gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies, sydd gyntaf y prynhawn yma.
 
13:42
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadArweinydd yr Wrthblaid
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, ai trwy Faes Awyr Caerdydd yw'r ffordd ddoeth o gael mynediad at Ogledd America?
 
13:42
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'n dibynnu faint o amser sydd gennych chi.
 
13:42
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Mae'n ddrwg gen i eich bod wedi rhoi ateb mor fyr, gan fod ymgyrch hysbysebu fawr ar hyn o bryd yn dweud mai'r ffordd ddoeth i gael mynediad at Ogledd America, fel y gwelwn yn yr hysbysebion y bore yma, yw trwy Faes Awyr Caerdydd ac Aer Lingus. Rydych chi wedi buddsoddi £80 miliwn fel Llywodraeth yn y maes awyr hwnnw. Does bosib, os ydych chi’n mynd ar daith fasnach i un o'n marchnadoedd pwysicaf, y dylech chi fod yn hysbysebu'r cysylltedd sydd gennym ni ac yr ydym yn ei fwynhau trwy lwybr Aer Lingus i Ogledd America. Pam ar y ddaear na wnaethoch chi wneud defnydd o hynny fel y gallech chi hyrwyddo'r maes awyr a chefnogi rheolwyr y maes awyr i ddatblygu'r llwybr hwn?
 
13:43
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, byddai wedi golygu fy mod yn gadael diwrnod yn gynharach ac yn aros diwrnod arall. Roedd hynny’n rhan o'r broblem. Rydym ni bob amser yn ystyried nid yn unig y cysylltiad Aer Lingus ond hefyd y cysylltiad KLM trwy Schiphol i weld a yw hynny'n ymarferol, ond y gwir amdani yw bod yr amserlen mor dynn fel nad oedd yn bosibl gwneud hynny. Er enghraifft, pan gyrhaeddais yn Washington brynhawn ddydd Mercher am 3.00 p.m., roeddwn i’n cynnal digwyddiad wedyn am 5.30 p.m. ar Capitol Hill. Felly, roedd yr amserlen yn dynn iawn, iawn, ond pan ei bod yn bosibl ac yn ymarferol i wneud hynny, wrth gwrs, Maes Awyr Caerdydd fyddai’r dewis cyntaf.
 
13:43
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Rwy’n meddwl bod yr ateb yna’n hynod siomedig, Brif Weinidog, gan mai taith fasnach oedd hon, roeddech chi’n hyrwyddo Dydd Gŵyl Dewi ac un o ofynion allweddol busnes, fel yr ydych chi a'ch Gweinidogion yn ei nodi, yw cysylltedd a'r gallu i fynd o A i B mor gyflym â phosibl. Rydych chi'n dweud mewn gwirionedd nad yw’r hyn y mae Maes Awyr Caerdydd yn ei wneud yn ddigon da os ydych chi ar fusnes neu os oes gennych chi amserlen dynn. A wnewch chi ymrwymo heddiw i gefnogi’r buddsoddiad o £80 miliwn, yr ydych chi, a bod yn deg, wedi ei wneud yn y maes awyr, a gwneud yn siŵr bod cynifer â phosibl o’r teithiau yr ydych chi’n mynd arnynt ar fusnes yn mynd o Faes Awyr Caerdydd, gan fod cysylltedd gwych trwy KLM i Schiphol—a Schiphol yw un o'r prif byrth yn Ewrop—neu drwy'r dewis Aer Lingus, y cynhaliodd y maes awyr, ynghyd ag Aer Lingus, ddigwyddiad hyrwyddo mawr ar ei gyfer yma yng Nghaerdydd ddim ond 10 diwrnod yn ôl, gan ei hyrwyddo ar gyfer busnes a hamdden? Eto i gyd, tanseiliwyd yr ymgyrch honno gennych chi gyda'ch ymweliad â Gogledd America dim ond y penwythnos diwethaf.
 
13:44
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Nid oedd yn bosibl mynd i Ogledd America yn yr amser a oedd ar gael ac yn ôl eto heb dreulio mwy o amser yno ar draul y trethdalwyr. Dyna oedd y gwir amdani. Byddaf bob amser yn ceisio defnyddio Caerdydd. Byddaf yn defnyddio Caerdydd ymhen pythefnos pan fyddaf yn teithio unwaith eto. Rwyf bob amser yn defnyddio Caerdydd pan fo’n bosibl gwneud hynny, ond, o ystyried y ffaith ei bod yn dynn o ran yr amser yr oedd gen i yng Ngogledd America, nid oedd yn bosibl ystyried y dewis hwnnw y tro hwnnw, ond dyna’r dewis cyntaf bob amser a byddwn yn annog mwy o bobl i ddefnyddio ein maes awyr. Mae'n hael iawn—mae’n dweud ein bod ni wedi buddsoddi £80 miliwn yn y maes awyr; nid wyf yn credu ei fod gymaint â hynny, ond serch hynny, rwy'n falch ei fod yn cydnabod y ffaith bod y maes awyr wedi derbyn buddsoddiad sylweddol, a’i fod yn cydnabod y ffaith bod y maes awyr wedi denu mwy o fusnes. Mae'n fwy eironig fyth o ystyried y ffaith y byddai ei blaid ef wedi bod yn fodlon gweld y maes awyr yn cau.
 
13:45
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn nawr at arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
 
13:45
Leanne WoodBywgraffiadArweinydd Plaid Cymru
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, ni all fod unrhyw gyfrifoldeb pwysicach i gyrff cyhoeddus nag amddiffyn plant rhag camdriniaeth a cham-fanteisio rhywiol. Yn Stryd Downing heddiw, mae’r Prif Weinidog yn cynnal uwchgynhadledd ar fynd i'r afael â cham-fanteisio yn rhywiol ar blant. Bydd y cynigion a wneir yn arwain at oblygiadau i Gymru, gan yr arweinir llawer o'r materion gan y Swyddfa Gartref ar ran Cymru a Lloegr. A oes cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, gwasanaethau cyhoeddus Cymru, ac, yn bwysicaf oll, eiriolwyr ar ran dioddefwyr a goroeswyr o Gymru yn yr uwchgynhadledd honno heddiw?
 
13:46
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae arweinydd Plaid Cymru’n cymryd yn ganiataol nad yw’r materion hyn wedi'u datganoli; nid yw mor eglur â hynny. Ceir rhai meysydd lle mae'n ymddangos i ni fod materion wedi’u datganoli. Nid oes unrhyw wahaniaeth o ran yr amcan wrth gwrs. Pan ddaw i amddiffyn plant, ni ddylem ni dybio’n awtomatig nad yw wedi’i ddatganoli oherwydd bod y Swyddfa Gartref yn ymdrin ag ef. Dyna pam rydym ni’n cyflwyno cynigion cydsyniad deddfwriaethol fel yr un heddiw er mwyn sicrhau bod safbwynt y Cynulliad yn cael ei glywed. Nawr, ar y sail honno, rydym ni wedi dweud, a byddwn ni bob amser yn dweud, pan fo rhywbeth yn cael ei ddatblygu ar sail Cymru a Lloegr, mae angen cynrychiolaeth o Gymru. Rydym ni wedi gwneud hynny, wrth gwrs, yn eithaf diweddar, ac mae'n hanfodol bod y Swyddfa Gartref yn gwrando ar hynny.
 
13:46
Leanne WoodBywgraffiad
Diolch i chi, Brif Weinidog, a gwn eich bod wedi galw ar y Swyddfa Gartref i gynnwys lleisiau o Gymru yn y broses hon, gan gynnwys yr ymchwiliad i gam-fanteisio’n rhywiol ar blant, sy'n fater nad yw wedi’i ddatganoli, er fy mod i’n derbyn y pwyntiau yr ydych chi’n eu gwneud o ran y ffaith fod agweddau eraill ar hyn wedi’u datganoli. Nawr, ymhlith cynigion y Prif Weinidog heddiw, mae gwneud esgeulustod bwriadol yn drosedd yng Nghymru a Lloegr, a gallai hyn effeithio ar athrawon, cynghorwyr a gweithwyr cymdeithasol. Pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o effaith y cynigion hyn ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac a ymgynghorwyd â chi arnynt?
 
13:47
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni o'r farn bod hwn yn fater sydd wedi'i ddatganoli. Mae Llywodraeth y DU o’r farn nad ydyw, sy'n dod â ni, mae’n debyg, ymlaen at broses Dydd Gŵyl Dewi a beth sy'n digwydd y tu hwnt i hynny gyda'r model pwerau neilltuedig. Ond dyna’r safbwynt yr ydym ni wedi ei gymryd. Dyna pam yr ydym ni’n cyflwyno cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn y maes hwn, fel y gall Llywodraeth y DU ddeddfu. Byddem yn disgwyl, ar ôl iddynt ddeddfu, neu yn ystod y cyfnod o ddeddfu, y bydd ymgynghori llawn, nid yn unig gyda Llywodraeth Cymru, ond, pan fo hynny'n briodol, gyda'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun, ac wrth gwrs, gyda'r cyrff hynny yng Nghymru y gallai fod yn ofynnol iddynt gyflawni dyletswyddau penodol o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth honno.
 
13:47
Leanne WoodBywgraffiad
Diolch yn fawr. Mae'n siomedig o’m safbwynt i nad yw lleisiau o Gymru’n cael eu clywed yn ddigonol yn y broses hon. Rydym ni’n sôn am drosedd, ac nid yw cyfiawnder troseddol wedi'i ddatganoli. Rwy'n deall bod yr ymchwiliad i gamfanteisio'n rhywiol ar blant wedi cynnal cyfarfod gwrando yng Nghymru yn ddiweddar, ac mae un arall i’w gynnal yr wythnos hon. Gan fod yr elfen o lais uniongyrchol o Gymru yn brin yn yr ymchwiliad ei hun, a ydych chi’n fodlon, os codir pryderon ynghylch cyrff cyhoeddus Cymru, y bydd Llywodraeth Cymru’n cael ei hysbysu’n briodol, ac y byddwch chi mewn sefyllfa i ymyrryd os bydd angen i chi wneud hynny? A ydych chi o'r farn bod y broses yn gwneud digon i amddiffyn dioddefwyr y gorffennol a goroeswyr camdriniaeth yng Nghymru heddiw?
 
13:48
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Ydw, rwy’n meddwl bod hynny’n sicr yn wir. Wel, dau beth: yn gyntaf oll, mae'n gwbl hanfodol, pan ddatblygir deddfwriaeth ar sail Cymru a Lloegr, bod Cymru’n cymryd rhan lawn; yn ail, a ydw i'n credu bod cymaint o amddiffyniad ar waith ag y gallai fod? Mae lle i fwy bob amser, a dyna pam y cynigir y dylid creu’r drosedd hon. Byddwn yn dweud un peth, fodd bynnag. Nid yw cyfiawnder troseddol wedi'i ddatganoli, ond mae cyfraith droseddol wedi’i datganoli o bosibl. Os yw'n wir na allwn ni greu troseddau, yna mae gwelliant 66 heddiw y tu allan i gymhwysedd, ac nid wyf yn credu hynny, o reidrwydd, ac rwy'n siŵr nad yw hi'n credu hynny ychwaith; fel arall, ni fyddem ni’n pleidleisio arno.
 
Rwyf wedi bod o'r farn erioed, ac yn wir, roedd y Goruchaf Lys yn y dyfarniad ar Fil Sector Amaethyddol (Cymru) o’r farn, bod y gallu i ddeddfu gennym lle gallwn ddangos bod rhywbeth yn rhannol o fewn cymhwysedd. Byddwn yn dadlau, er enghraifft, pan ddaw i amddiffyn plant, ei fod o fewn maes datganoledig ac yn agored i ni greu troseddau yn y maes datganoledig hwnnw, os ystyriwn fod hynny’n briodol. Mae'n bwysig nodi’r gwahaniaeth hwnnw rhwng y gyfraith droseddol ar y naill law, lle mae’r setliad presennol yn dawel, a chyfiawnder troseddol ar y llaw arall, lle mae’r setliad yn dweud yn eglur nad yw wedi’i ddatganoli. Nid oes unrhyw beth i atal y Cynulliad, yn fy marn i, rhag pasio cyfraith droseddol, neu greu troseddau mewn meysydd lle gallwn ddangos bod y maes hwnnw wedi’i ddatganoli’n rhannol o leiaf.
 
13:50
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn nawr at Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, a gofynnir y cwestiynau gan Aled Roberts y prynhawn yma.
 
13:50
Aled RobertsBywgraffiad
Brif Weinidog, yn 2012, fe wnaeth clinigwyr o fewn Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr godi pryderon ynghylch y gwasanaeth offthalmoleg. Roedden nhw’n cyfeirio at nifer o achosion a oedd wedi arwain at niwed diangen i gleifion. Pa bryd y daeth Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o natur y pryderon hynny?
 
13:50
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, yn gyntaf i gyd, rydym ni’n erfyn wrth gwrs i bob claf gael ei weld yn unol â’i flaenoriaeth glinigol. Rwy’n gwybod bod y bwrdd iechyd wedi bod yn ceisio rheoli rhai o’r problemau sydd wedi bod gyda nhw dros y ddwy flynedd diwethaf, ac mae yna gynllun gweithredu yn ei le er mwyn delio â hwn. Mae yna beilot, rwy’n deall, y tu fewn i’r bwrdd ei hunan i wella pethau, ac wrth gwrs mae’n bosibl y bydd y peilot yn llwyddiannus ac felly bydd yna gyfle i wella pethau ynglŷn â rhai o’r problemau sydd wedi bod yna dros flwyddyn neu ddwy.
 
13:51
Aled RobertsBywgraffiad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn ôl adroddiad ombwdsmon yn mynd yn ôl i fis Mai y llynedd, yn rhoi golwg miloedd o gleifion mewn perygl oherwydd methiant i sicrhau bod pobl yn cael eu gweld yn brydlon. Rwy’n derbyn bod cynllun arbrofol, ond mae'r cynllun hwnnw yn cynnwys 300 o gleifion, ac mae'r ffigurau’n awgrymu bod 7,000 o gleifion yn aros mwy na 50% y tu hwnt i'r amser aros diogel yn glinigol mewn offthalmoleg ar hyn o bryd. Mae 33,000 o gleifion yn aros mwy na 50% y tu hwnt i'r amseroedd aros mewn gwasanaethau’n gyffredinol. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod apwyntiadau dilynol prydlon ar gael i bobl, ledled Cymru, i sicrhau bod eu golwg yn cael ei ddiogelu, yn sicr ym maes offthalmoleg?
 
13:51
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae cynllun gweithredu ar waith i leihau nifer y cleifion sy'n aros yn hwy na’u hamser targed. Byddech yn disgwyl, wrth gwrs, i gleifion gael eu gweld yn nhrefn blaenoriaeth glinigol ac, yn wir, yn unol â’r targedau amser aros. Yn fwy cyffredinol ledled Cymru, offthalmoleg yw un o brif flaenoriaethau’r bwrdd gofal wedi'i gynllunio cenedlaethol GIG Cymru, a daethom â’r holl offthalmolegwyr yng Nghymru at ei gilydd ym mis Ionawr i rannu arfer gorau ac i lansio cynllun gwella penodol dan arweiniad clinigol ar gyfer offthalmoleg.
 
13:52
Aled RobertsBywgraffiad
Pan adroddodd yr RNIB y llynedd bod hon yn broblem gynyddol, diystyrwyd yr adroddiad gan Weinidogion y Llywodraeth oherwydd problemau methodoleg, ond rwy'n credu bod y datgeliadau heddiw cyn belled ag y mae Betsi Cadwaladr yn y cwestiwn yn ei gwneud yn eglur iawn bod yr RNIB yn llygad ei le. Gadewch i ni fod yn eglur: mae’r adroddiadau heddiw yn y gogledd yn cadarnhau, mewn rhai achosion, bod pobl wedi mynd yn ddall yn ddiangen, a bod canserau wedi aros heb eu trin, nid oherwydd na ellir eu trin, ond oherwydd bod y GIG yng Nghymru yn gyfrifol am system sy'n gwneud iddyn nhw aros yn rhy hir ar hyn o bryd. Pryd byddwch chi, fel Llywodraeth, yn gallu rhoi sicrwydd cwbl bendant i ni na fydd unrhyw glaf yng Nghymru yn mynd yn ddall dim ond oherwydd amseroedd aros?
 
13:53
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, byddai hynny'n annerbyniol. Nid oes unrhyw reswm ceisio amddiffyn y sefyllfa os yw hynny'n wir. Gallaf ddweud bod y prif swyddog meddygol wedi ymweld â'r RNIB yn ddiweddar i gyfarfod â chleifion ac i wrando ar eu pryderon, ac rydym ni’n disgwyl y dylai'r cynllun gofal offthalmig wedi'i gynllunio, ddarparu'r gwasanaethau offthalmig cynaliadwy y byddai pobl yn ei ddisgwyl, yn y dyfodol.
 
13:53
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn ôl at gwestiynau ar y papur nawr. Daw cwestiwn 3 gan David Rees.
 
Twf Economaidd
 
13:53
David ReesBywgraffiad
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau ar gyfer twf economaidd yn rhanbarth Gorllewin De Cymru am weddill tymor y Cynulliad? OAQ(4)2151(FM)
 
13:53
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf, mae ein cynlluniau ar gyfer twf economaidd a swyddi cynaliadwy wedi'u nodi yn y rhaglen lywodraethu. 
 
13:53
David ReesBywgraffiad
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Fel y gwyddoch, mae trafnidiaeth yn elfen hanfodol o dwf economaidd. O'r hyn rwy’n ei ddeall, un o'r rhesymau dros gynnal y prawf o gau cyffordd 41 yn rhan-amser oedd y man cyfyng yn llif y traffig yn teithio tua'r gorllewin o’r fan honno, ond canlyniad hynny yw tagfeydd trwm ar y ffyrdd. Mae trigolion lleol wedi cael trafferth i gyrraedd eu gwaith, ac, yn wir mae rhai wedi eu bygwth gyda diswyddiad gan gyflogwyr digydymdeimlad o ganlyniad i'r oedi maen nhw wedi ei ddioddef, ac mae tref Port Talbot wedi dioddef o ran yr elfen manwerthu economaidd. Rwy’n derbyn eich bod wedi dynodi y bydd y prawf yn parhau tan ddiwedd fis Mawrth ac y bydd y data’n cael ei gasglu ar ôl yr adeg honno, ond, ar ôl yr adeg honno, a wnewch chi edrych ar y cyfle i ohirio’r prawf i weld a all twf economaidd y dref ddychwelyd i’r sefyllfa yr oedd ynddi gynt?
 
13:54
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gallaf ddweud wrth yr Aelod bod y cyfnod prawf cyfredol, fel y dywedodd, yn para tan ddiwedd y mis hwn. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud cyn diwedd y prawf o ran a ddylid parhau â'r cau dros dro, yn seiliedig ar y dystiolaeth hyd hynny. Yna bydd penderfyniad yn cael ei wneud ym mis Mai, yn dilyn dadansoddiad o ddata llawn y prawf, gan gynnwys trafodaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn amlwg, yn ogystal â pha un a ddylid bwrw ymlaen ag ymgynghoriad cyhoeddus—ac rwy’n golygu ‘pa un a ddylid’—ar gyfer gorchymyn cau parhaol llawn. Felly, y cam nesaf yw gwneud y penderfyniad a ddylai’r cau barhau ai peidio tra bod y dystiolaeth yn cael ei hasesu.
 
13:55
Byron DaviesBywgraffiad
Brif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi mai cynta’n byd y byddwn ni’n gwneud trefniadau llywodraethu a chyllidebol eglur ar gyfer y dinas-ranbarthau, cynta’n byd y gallwn ni gefnogi twf economaidd, yn union fel yr ydym ni’n ei weld ar draws y DU mewn dinas-ranbarthau eraill. Gyda hynny mewn golwg, a allwch chi amlinellu amserlen o ran pryd y byddwn ni’n gweld y trefniadau llywodraethu a chyllidebol ar gyfer y dinas-ranbarthau yn ogystal â safbwynt eglur ar eu hamcanion?
 
13:55
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Byddwn yn dadlau bod hynny’n digwydd nawr. Mae Syr Terry Matthews yn ninas-ranbarth Abertawe yn bod yn ddeinamig ac yn adeiladol iawn wrth ddatblygu gweledigaeth sy'n feiddgar ac yn gyraeddadwy er budd y ddinas, ac yn wir er budd Cymru gyfan. Rwy’n croesawu'n fawr iawn y cynnydd a wnaed gan y bwrdd, a'r weledigaeth y mae wedi ei chyflwyno ar gyfer Abertawe. 
 
13:55
Bethan JenkinsBywgraffiad
Brif Weinidog, yn amlwg, mae yna lot o ddicter ym Mhort Talbot ynglŷn â chau ‘junction’ 41. Hefyd, tybed a fyddech chi’n gallu dweud wrthym ni beth sydd yn digwydd gyda marchnata y tir llwyd o gwmpas yr ardal lle mae’r PDR—y ‘peripheral distributor road’—sydd nawr yn Harbour Way, achos rwy’n credu bod lot o bobl yn meddwl nad yw’r ffordd hynny yn arwain at fawr o ddatblygiad. Rwy’n credu y byddai pobl leol yn gallu deall mwy am beth sydd yn digwydd gan eich Llywodraeth chi yng nghyd-destun ‘junction’ 41 petasen nhw’n gwybod beth yn gymwys sydd ar y gweill gyda datblygu busnesau ar hyd y ffordd yna.
 
13:56
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae’r heol ei hunan yn rhywbeth sydd wedi bod o les mawr i’r dref drwy roi ffordd osgoi i’r dref i’r de, a hefyd drwy agor lan llawer iawn o dir. Rydym ni’n gweld datblygiadau yn cymryd lle ar hyn o bryd, ac rydym ni’n erfyn, wrth weithio gyda rhai o berchnogion y tir, fel yr ABP ac yn y blaen, weld datblygiad yn cynyddu yn y pen draw.
 
Rhwymedigaethau Hawliau Dynol Rhyngwladol
 
13:56
Jocelyn DaviesBywgraffiad
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei rhwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol? OAQ(4)2139(FM)
 
13:57
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni wedi ymrwymo’n llwyr i fodloni’r rhwymedigaethau hynny, ac rydym ni’n gweithio'n agos gyda chyrff fel y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac yn hysbysu am ein cynnydd trwy sianelau adrodd ffurfiol. 
 
13:57
Jocelyn DaviesBywgraffiad
Rwy'n falch iawn o glywed eich bod wedi ymrwymo i fodloni’r rhwymedigaethau hynny, oherwydd fel y gwyddoch, mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wedi bod yn ddiamwys wrth ddweud bod yn rhaid gwahardd cosbi plant yn gorfforol er mwyn i wledydd fodloni’r rhwymedigaethau hawliau dynol hynny. Felly, Brif Weinidog, pryd fydd Cymru'n rhoi’r gorau i beidio â chydymffurfio?
 
13:57
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Nid wyf yn derbyn nad yw Cymru’n cydymffurfio, ond mae’r pwynt y mae hi'n ceisio ei wneud, wrth gwrs, yn ymwneud â’r bleidlais yn ddiweddarach y prynhawn yma. Nid oes ganddi hi a minnau wahanol safbwyntiau ar yr egwyddor hon o reidrwydd, ond mae gennym wahanol safbwyntiau o ran y gweithredu posibl. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, yn gyntaf oll, i bleidiau ddatgan yn eu maniffestos yr hyn y maen nhw’n bwriadu ei wneud o ran amddiffyn cosbi rhesymol, ac yn ail i gael ymgynghoriad llawn gyda'r cyhoedd ar hyn o ran sut y byddai hynny'n gweithio. Rwy’n credu bod honno’n ffordd fwy synhwyrol ymlaen. Gellir ei wneud mewn cyfnod byr o amser—nid oes amheuaeth am hynny—sef bwrw ymlaen ag egwyddor yr wyf yn gwybod bod llawer o Aelodau’n awyddus i fwrw ymlaen â hi.
 
13:58
Gwenda ThomasBywgraffiad
Brif Weinidog, a wnewch chi gytuno â mi bod y model llunio polisïau cynhwysol a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol bod pob polisi a deddfwriaeth yn cael ei ddatblygu fel ei fod yn diwallu anghenion a nodwyd unigolion a chymunedau, gan sicrhau bod canolbwyntio ar y dinesydd yn seiliedig ar egwyddorion hawliau dynol—tegwch, parch, cydraddoldeb ac urddas—yn ganolog i’n holl gamau gweithredu polisi? A wnewch chi gytuno â mi hefyd bod gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ymagwedd at wasanaethau cymdeithasol sy’n cynnwys, yn ei hanfod, yr holl ffactorau hyn?
 
13:58
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn wir, byddwn yn cytuno â'r Aelod ar y ddau gyfrif, ac rwy'n ddiolchgar iddi am y gwaith y mae hi wedi ei wneud o ran symud y Mesur yn ei flaen pan ddaeth yn Ddeddf. Mae llunio polisïau mewn modd cynhwysol yn hanfodol i lunio polisïau yn llwyddiannus. Mae wrth wraidd y Ddeddf, fel y mae’r Aelod wedi ei ddweud, ac mae wedi bod yn sail i ddatblygiad y rheoliadau sy'n adeiladu ar fframwaith y Ddeddf. Dyna'r hyn y byddwn yn parhau i’w wneud wrth i’r broses honno ddatblygu.