Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Slate Homepage GDSD.png

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi a rhai o dalentau cerddorol newydd gorau Cymru.

 


Yn cynnwys:

Adwaith

Hannah Grace

Mellt

Reuel Elijah and Mace

Roughion (DJ Set)


 
 

Dewch i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn y Senedd, un o adeiladau mwyaf eiconig y genedl gyda gig arbennig. Mae'r artistiaid sy’n perfformio yn dod o brosiect Horizons (BBC Cymru/Cyngor Celfyddydau Cymru) ac artistiaid a wobrwywyd yng Ngwobrau'r Selar 2017

Mae Horizons yn gynllun a ddarperir gan BBC Cymru Wales mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes newydd, annibynnol yng Nghymru.

Mae Gwobrau'r Selar yn dathlu'r byd cerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn gwobrwyo'r goreuon yn dilyn pleidlais gyhoeddus. 


 
 

Dewch i nabod rhai o'r artistiaid sy'n berfformio:

Adwaith.png

Hannah Grace.png

MELLT(1).png

Reuel Elijah.png


 
 


Tocynnau am ddim - cofrestrwch yma.

Noddir y digwyddiad gan Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 

Polisi Preifatrwydd: Rydym yn bwriadu tynnu lluniau a gwneud ffilmiau yn y digwyddiad a fydd yn cael eu defnyddio i hyrwyddo gwaith y Cynulliad ac ymgysylltu â phobl Cymru.  Gallwn wneud hyn drwy ein platfformau cyfryngau cymdeithasol, ein gwefan neu mewn deunydd printiedig a digidol.

Os nad ydych eisiau ymddangos mewn cyfryngau o'r fath, cysylltwch ag aelod o staff. Bydd ardal ar gael lle na fydd lluniau'n cael eu tynnu. Dylech ddarllen ein polisi preifatrwydd llawn ar ein gwefan i gael manylion am sut rydym yn defnyddio'ch manylion cofrestru.




Partners & Help