Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

100 Mlynedd Ers Rhoi'r Bleidlais i Fenywod

Mae 2018 yn nodi 100 mlynedd ers i Senedd y DU basio deddf a roddodd y bleidlais i fenywod, a phob dyn, am y tro cyntaf mewn etholiadau seneddol.

Yn y Cynulliad, rydym yn dathlu'r garreg filltir bwysig hon gydag arddangosfa'n edrych ar yr amrywiaeth o fudiadau a fu'n ymgyrchu i ennill y bleidlais i fenywod yng Nghymru ddechrau'r ugeinfed ganrif. Ar 6 ac 8 Mawrth, byddwn hefyd yn cynnal dau weithdy am ddim yn y Senedd, ar y cyd ag Amgueddfa Sain Ffagan a Phrifysgol Caerdydd, yn cynnwys baneri gwreiddiol a ddefnyddiwyd gan Gymdeithas Swffragetiaid Menywod Caerdydd a'r Cylch yn ystod gorymdeithiau a gwrthdystiadau yn y 1900au cynnar.


Digwyddiadau

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2018


Dyddiad: 8 Mawrth 2018

Amser: 18.30 – 21.00

Lleoliad: Senedd

Er mwyn nodi bod 2018 yn ganmlwyddiant rhoi'r bleidlais yn rhannol i fenywod, bydd y Senedd yn cynnal degfed Ddarlith Goffa flynyddol Ursula Masson mewn partneriaeth â'r Ganolfan Astudiaethau Rhywedd ym Mhrifysgol De Cymru ac Archif Menywod Cymru/Women's Archive of Wales. Caiff y ddarlith eleni ei chyflwyno gan Dr Ryland Wallace, awdur The Women's Suffrage Movement in Wales 1866 - 1928, a bydd yn trafod hanes yr ymgyrch dros roi'r bleidlais i fenywod yng Nghymru.

Rydym hefyd yn dathlu lansiad Rhondda Rips it Up!, opera newydd Opera Cenedlaethol Cymru, sy'n nodi bywyd Margaret Haig Thomas, Arglwyddes y Rhondda, sef un o swffragetiaid enwocaf Cymru.

Dyddiad: 8 Mawrth 2018

Amser: 12.00 – 13.30

Lleoliad: Oriel y Senedd

Lansiad llyfr: Rocking the Boat. Welsh Women Who Championed Equality 1840 – 1990 gan Angela V. John

Casgliad o draethodau yw Rocking the Boat. Welsh Women who Championed Equality, 1840-1990 sy'n canolbwyntio ar saith menyw o Gymru a lwyddodd i wrthsefyll y status quo yng Nghymru, Lloegr a thu hwnt yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Mae'r traethodau'n herio disgwyliadau o ran y ffordd yr oedd menywod yn byw eu bywydau yn y cyfnod. Maent hefyd yn trafod gwahanol ddulliau o ysgrifennu'n fywgraffiadol ac yn gofyn cwestiynau ynghylch rhywedd a chenedligrwydd.

Arddangosfeydd

Tarddiad y Symudiad Pleidlais i Fenywod yng Nghymru

Dyddiad: 5 - 16 Mawrth

Bu mudiad pleidlais i fenywod trefnus yn gweithredu'n barhaus ym Mhrydain ers dros drigain mlynedd. Enillodd etholfraint rhannol ym 1918, a sicrhaodd hawliau pleidleisio cyfartal â dynion, o'r diwedd, ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Nod yr arddangosfa hon yw rhoi cipolwg ar ran Cymru yn yr ymgyrch hir ac amlweddog hon, lle y ceisia'r ffotograffau, y delweddau a'r arteffactau ddangos rhai o'i brif elfennau.

Defnyddir llun o Is-Iarlles y Rhondda fel canolbwynt yr arddangosfa, er i'r ymgyrch ddechrau beth amser cyn iddi hi ymwneud ynddo. Yn y blynyddoedd cyn i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau ym mis Awst 1914, roedd tri phrif sefydliad a fu'n arwain llu o strategaethau pwyso a phropaganda, a ddyrchafodd yr ymgyrch 'Pleidleisiau i Fenywod' yn fater pwysig ym maes gwleidyddiaeth Prydain.

Y Symudiad Pleidlais i Fenywod yng Nghymru yn nechrau'r 1900au

Roedd yr aelodau o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol Menywod Emmeline Pankhurst (WSPU, a sefydlwyd ym 1903), y 'suffragettes' enwog, yn dilyn strategaeth filwrol, gan gynnwys ymosodiadau cynyddol ar eiddo cyhoeddus a phreifat, a oedd yn aml yn arwain at arestio a charcharu gweithredwyr. Arweiniodd eu polisi o 'heclo' gwleidyddion (ac yn cynnwys David Lloyd George, yn benodol yng Nghymru) at brotestio ac anhrefn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith ac at rai o'r ymosodiadau corfforol mwyaf difrifol ar ymgyrchwyr.

Ymwahanodd y Gynghrair Rhyddid i Fenywod (WFL) oddi wrth y WSPU ym 1907 a sefydlodd hunaniaeth benodol o wrthwynebiad sifil 'milwrol ond di-drais', drwy wneud pethau fel gwrthod talu trethi, a pheidio â chymryd rhan yng nghyfrifiad 1911.

O bell ffordd, roedd nifer fwyaf yr ymgyrchwyr, y 'suffragists', yn cefnogi'r Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau Pleidleisiau i Fenywod (NUWSS) nad oeddent yn ymladd ond a oedd yn protestio'n ddi-drais a chyfreithlon, a ffurfiwyd o sefydliadau presennol ym 1897 ac a arweiniwyd gan Millicent Fawcett.

Ymgymerodd y tair cymdeithas, a nifer o sefydliadau llai eraill, gan gynnwys Undeb Pleidleisiau i Fenywod Cymric, â swm helaeth o waith propaganda, gan gynnal miloedd o gyfarfodydd cyhoeddus ym mhob cwr o'r wlad, gan rannu eu papurau newydd a llenyddiaeth arall (gan gynnwys rhai yn y Gymraeg), a chynnal ralïau enfawr yn Llundain, gan lobïo ASau.

Ni ddylid anghofio chwaith bod gwrthwynebiad pwerus a phenderfynol i'r bleidlais i fenywod – gan yr 'Antis', a ddaeth yn amlwg wrth i'r ymgyrch fynd yn ei blaen.


Y Symudiad Pleidlais i Fenywod yng Nghymru yn yr 1920au

 Ar ôl i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau ym mis Awst 1914, roedd ymgyrch y bleidlais i fenywod yn llai amlwg, gan fod y mwyafrif o suffragetiaid wedi troi eu golygon at gefnogi ymdrech y rhyfel. Er bod Emmeline Pankhurst ac arweinyddiaeth y WSPU wedi disodli eu cred o ran dim ymladd gyda militariaeth, bu grwpiau a sefydliadau llai yn chwarae rhan bwysig i  barhau i 'chwifio'r faner dros y bleidlais i fenywod' a, ddeng mis cyn diwedd y gwrthdaro (ym mis Chwefror 1918) rhoddwyd y bleidlais seneddol i fenywod am y tro cyntaf. Fodd bynnag, roedd y fuddugoliaeth yn un rhannol yn unig, gan fod y ddeddfwriaeth yn cyfyngu'r bleidlais i fenywod dros ddeg ar hugain oed a oedd yn gymwys o ran eu heiddo yn unig (tra bod pob dyn dros un ar hugain, neu hyd yn oed bedair ar bymtheg oed, os oeddent wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn gymwys). Parhaodd y frwydr felly am ddegawd arall, nes y cafwyd etholfraint gyfartal, ar yr un telerau â dynion, sef, 21 oed a heb amodau o ran eiddo, ym mis Gorffennaf 1928.

Mae rhan olaf yr arddangosfa yn rhoi rhywfaint o sylw i fenywod fel Aelodau Seneddol yn San Steffan (ers iddynt ddod yn gymwys i gael eu seddau yno, ym mis Hydref 1918) ac yn y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd (ers ei greu ym 1999).

Ryland Wallace

(Awdur Y Mudiad Pleidlais i Fenywod yng Nghymru, 1866-1928  )



Partners & Help