Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

​​​​​

Website Header 2 - cy.png
Ymunwch â ni am ein rhaglen Cofio mis Tachwedd yma. Wrth gofio’r Rhyfel Mawr eleni, byddwn yn canolbwyntio ar gyfraniad menywod i’r Rhyfel hwnnw.  Bydd hyn yn clymu â'n rhaglen o weithgareddau eleni sy’n nodi canmlwyddiant yr ymgyrch i roi’r bleidlais i ferched. 

Digwyddiadau

Lecture Header En - Website Version.png

Darlith Dydd y Cofio 2018 - 'Ymateb Menywod Cymru i'r Rhyfel Byd Cyntaf'

Lleoliad: Neuadd y Senedd, Bae Caerdydd 

Dyddiad:  Dydd Mawrth 6 Tachwedd  

Amser: 18.00 – 20.00 

Cofrestrwch yma i gael tocynnau


Eleni, bydd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn croesawu Dr Dinah Evans a fydd yn traddodi’r Ddarlith Goffa ar Ymateb Menywod Cymru i'r Rhyfel Byd Cyntaf'.Yn dilyn y ddarlith, bydd sesiwn Holi ac Ateb dan gadeiryddiaeth Dr Elin Royles ac yna derbyniad byr a chyfle i weld arddangosfeydd yn yr Oriel (mae’r manylion isod).  

Dr Dinah Evans
Dinah Evans.jpg
Roedd Dr Dinah Evans yn dysgu Hanes Modern a Chyfoes ym Mhrifysgol Bangor tan 2016. Hyd at yr haf hwn, hi fyddai’n trefnu rhaglen Cyfres Seminarau Ymchwil Ysgol Hanes y Brifysgol ac mae'n parhau i weithio i’r Brifysgol fel Ymchwilydd Cyswllt Anrhydeddus. Mae hi hefyd yn aelod o bwyllgor Archif Menywod Cymru. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn effaith y ddau ryfel byd ar Gymru a chymdeithas Cymru. Cyhoeddwyd ei gwaith ymchwil i effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar fenywod Cymru mewn pennod yn Creithiau yn 2016 ac, ar hyn o bryd, mae'n ymchwilio i’r gwaith o ailadeiladu Abertawe ar ôl y rhyfel, ac yn paratoi i gyhoeddi’r ymchwil hwn yn gynnar yn 2019.   

Dr Elin Royles
Dr Elin Royles.jpg
Mae Dr Elin Royles yn Uwch Ddarlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Bydd yr adran yn dathlu ei chanmlwyddiant ym 2019 gan iddi gael ei sefydlu yn fuan ar ôl diwrnod y Cadoediad fel ymateb i drais eithafol y Rhyfel Byd Cyntaf. 
  
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â mi drwy’r e-bost (cysylltu@cynulliad.cymru) neu ffoniwch 0300 200 6565


Cynhadledd Cymru dros Heddwch  

Ddydd Mawrth 6 Tachwedd, bydd Cymru Dros Heddwch yn cynnal y 5ed cynhadledd flynyddol, mewn partneriaeth â Chynulliad Cenedlaethol Cymru Chymru. Teitl y gynhadledd yw 'Llywio’r dyfodol rydym am ei weld - rôl pobl ifanc yn y gwaith o greu Cymru a byd mwy heddychlon.'  Ei nod yw rhoi mwy o lais i bobl ifanc. Bydd cyfle i’r bobl ifanc sy'n bresennol drafod tair thema'n ymwneud â heddwch a holi panel o Aelodau'r Cynulliad yn Siambr Hywel. Yna, byddant yn ymweld â’r Deml Heddwch i ddathlu’r chwe ysgol gyntaf sydd wedi’u dynodi’n Ysgolion Heddwch. 




Arddangosfeydd

Women's Suffrage in Wales.png

Bu mudiad pleidlais i fenywod trefnus yn gweithredu'n barhaus ym Mhrydain ers dros drigain mlynedd. Enillodd etholfraint rhannol ym 1918, a sicrhaodd hawliau pleidleisio cyfartal â dynion, o'r diwedd, ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Nod yr arddangosfa hon yw rhoi cipolwg ar ran Cymru yn yr ymgyrch hir ac amlweddog hon, lle y ceisia'r ffotograffau, y delweddau a'r arteffactau ddangos rhai o'i brif elfennau.

Defnyddir llun o Is-Iarlles y Rhondda fel canolbwynt yr arddangosfa, er i'r ymgyrch ddechrau beth amser cyn iddi hi ymwneud ynddo. Yn y blynyddoedd cyn i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau ym mis Awst 1914, roedd tri phrif sefydliad a fu'n arwain llu o strategaethau pwyso a phropaganda, a ddyrchafodd yr ymgyrch 'Pleidleisiau i Fenywod' yn fater pwysig ym maes gwleidyddiaeth Prydain.

Y Symudiad Pleidlais i Fenywod yng Nghymru yn nechrau'r 1900au

Roedd yr aelodau o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol Menywod Emmeline Pankhurst (WSPU, a sefydlwyd ym 1903), y 'suffragettes' enwog, yn dilyn strategaeth filwrol, gan gynnwys ymosodiadau cynyddol ar eiddo cyhoeddus a phreifat, a oedd yn aml yn arwain at arestio a charcharu gweithredwyr. Arweiniodd eu polisi o 'heclo' gwleidyddion (ac yn cynnwys David Lloyd George, yn benodol yng Nghymru) at brotestio ac anhrefn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith ac at rai o'r ymosodiadau corfforol mwyaf difrifol ar ymgyrchwyr.

Ymwahanodd y Gynghrair Rhyddid i Fenywod (WFL) oddi wrth y WSPU ym 1907 a sefydlodd hunaniaeth benodol o wrthwynebiad sifil 'milwrol ond di-drais', drwy wneud pethau fel gwrthod talu trethi, a pheidio â chymryd rhan yng nghyfrifiad 1911.

O bell ffordd, roedd nifer fwyaf yr ymgyrchwyr, y 'suffragists', yn cefnogi'r Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau Pleidleisiau i Fenywod (NUWSS) nad oeddent yn ymladd ond a oedd yn protestio'n ddi-drais a chyfreithlon, a ffurfiwyd o sefydliadau presennol ym 1897 ac a arweiniwyd gan Millicent Fawcett.

Ymgymerodd y tair cymdeithas, a nifer o sefydliadau llai eraill, gan gynnwys Undeb Pleidleisiau i Fenywod Cymric, â swm helaeth o waith propaganda, gan gynnal miloedd o gyfarfodydd cyhoeddus ym mhob cwr o'r wlad, gan rannu eu papurau newydd a llenyddiaeth arall (gan gynnwys rhai yn y Gymraeg), a chynnal ralïau enfawr yn Llundain, gan lobïo ASau.

Ni ddylid anghofio chwaith bod gwrthwynebiad pwerus a phenderfynol i'r bleidlais i fenywod – gan yr 'Antis', a ddaeth yn amlwg wrth i'r ymgyrch fynd yn ei blaen.


Y Symudiad Pleidlais i Fenywod yng Nghymru yn yr 1920au


Ar ôl i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau ym mis Awst 1914, roedd ymgyrch y bleidlais i fenywod yn llai amlwg, gan fod y mwyafrif o suffragetiaid wedi troi eu golygon at gefnogi ymdrech y rhyfel. Er bod Emmeline Pankhurst ac arweinyddiaeth y WSPU wedi disodli eu cred o ran dim ymladd gyda militariaeth, bu grwpiau a sefydliadau llai yn chwarae rhan bwysig i  barhau i 'chwifio'r faner dros y bleidlais i fenywod' a, ddeng mis cyn diwedd y gwrthdaro (ym mis Chwefror 1918) rhoddwyd y bleidlais seneddol i fenywod am y tro cyntaf. Fodd bynnag, roedd y fuddugoliaeth yn un rhannol yn unig, gan fod y ddeddfwriaeth yn cyfyngu'r bleidlais i fenywod dros ddeg ar hugain oed a oedd yn gymwys o ran eu heiddo yn unig (tra bod pob dyn dros un ar hugain, neu hyd yn oed bedair ar bymtheg oed, os oeddent wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn gymwys). Parhaodd y frwydr felly am ddegawd arall, nes y cafwyd etholfraint gyfartal, ar yr un telerau â dynion, sef, 21 oed a heb amodau o ran eiddo, ym mis Gorffennaf 1928.

Mae rhan olaf yr arddangosfa yn rhoi rhywfaint o sylw i fenywod fel Aelodau Seneddol yn San Steffan (ers iddynt ddod yn gymwys i gael eu seddau yno, ym mis Hydref 1918) ac yn y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd (ers ei greu ym 1999).

Ryland Wallace (Awdur Y Mudiad Pleidlais i Fenywod yng Nghymru, 1866-1928  )





Soldier's Own Diary Website - EN.png
Mae'r artistiaid Scarlett Raven a Marc Marot yn galw eu hunain yn “The Augmentists”.  

Maent yn cyfuno eu sgiliau i greu celf sy'n dangos stori ingol y Rhyfel Mawr trwy gerddi, animeiddio a cherddoriaeth.  

 Mae ‘The Soldier’s Own Diary’ yn adrodd hanes Milwr Robert Phillips o Gymru, a wnaeth ddianc o wersyll carcharorion rhyfel gan gerdded yr holl ffordd adref i'r cymoedd.  

Mae Castle Fine Art Cardiff, sy'n cynrychioli'r artistiaid, yn garedig iawn wedi benthyg y darn i ni yn barod ar gyfer Dydd y Cofio i'w weld gan bobl Cymru, y gall llawer ohonynt uniaethu â stori Milwr Phillips.  

Mae Scarlett yn angerddol ynglŷn â lliw, ac mae ei dull dynamig yn aml yn golygu ei bod yn defnyddio ei dwylo yn hytrach na brwsh i baentio paent olew. Mae ei llinellau ysgubol yn creu symudiad a chyfeiriad, gyda'r artist yn cael ei chymharu ag Anselm Kiefer a Jackson Pollock. 

Dywed Scarlett: "Mae'r paent yn cael ei daflu, ei dasgu a'i fflicio. Pan mae'n glanio, mae'n dal y blodau sy'n chwythu yn y gwynt. Rhaid i'r symudiad fod ym mhob haen, fel pan fyddwch chi'n camu'n ôl, rydych chi'n teimlo bod y tirlun yn fyw. Mae'n creu byd o hud a lledrith.” 

Dywed Marc Marot, a gafodd yrfa lwyddiannus fel rheolwr label cyn ymuno â'r peintiwr olew Scarlett: “Mae ein gwaith yn cael ei yrru'n fawr gan emosiwn, a'r pŵer yw galluogi ein cynulleidfa i ymdrochi eu hunain mewn teimladau pwerus iawn. Mae'n eu cymryd nhw allan o'r presennol. Nid arddangosfa sydd gennym, ond profiad gweledol.” 

Er mwyn datgloi'r haenau lluosog yn eu gwaith, gallwch lawrlwytho ap Blippar neu ofyn wrth y dderbynfa am un o'n dyfeisiau a sganio'r darn ar-lein i ddechrau.

 






Partners & Help