Mae croeso cynnes i chi eistedd yn yr oriel gyhoeddus i wylio'r Cyfarfod Llawn yn y Siambr. Mae cyfleusterau ar gael i bobl ag anableddau.
Mae'r 60 Aelod Cynulliad yn cyfarfod mewn Cyfarfod Llawn yn y Siambr ar brynhawn dydd Mawrth a ddydd Mercher rhwng 1.30pm a 6pm. Fel rheol mae 120 o seddi ar gael yn yr oriel gyhoeddus, ynghyd â lle i 12 cadair olwyn a gellir eu harchebu hyd at dair wythnos ymlaen llaw. Er ein bod yn eich cynghori i archebu sedd ymlaen llaw rhag cael eich siomi, nid oes raid i chi wneud hynny. Mae'n bosibl y bydd seddi ar gael ar ddiwrnod y cyfarfod. Gofynnwch i'r staff wrth y ddesg wybodaeth yn nerbynfa’r Senedd.
Gan fod galw mawr am seddi yn y Siambr, ni all grwpiau archebu mwy na 15 sedd ar gyfer Cyfarfod Llawn, a hynny er mwyn rhoi cyfle i gymaint o bobl â phosibl ddod i'r cyfarfodydd. Cedwir y seddi am 15 munud ar ôl i’r cyfarfod ddechrau, ac yna fe'u rhoddir i bobl ar y rhestr aros. Os ydych yn gwybod y byddwch yn cyrraedd yn hwyr, rhowch wybod pan fyddwch yn archebu sedd er mwyn i ni ei chadw tan i chi gyrraedd.
I weld beth sy'n cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn,
ewch i Agenda’r Cyfarfod Llawn. Bydd copïau ar gael ar y ddesg wybodaeth. Ceir gwybodaeth hefyd ar y sgriniau plasma a'r sgriniau gwybodaeth yn y Senedd. Cewch ragor o wybodaeth drwy
gysylltu a ni dros y ffôn.
Ceir cofnod o drafodion y Cyfarfodydd Llawn blaenorol yng
Nghofnod y Trafodion.
Gall y cyhoedd archebu seddi hyd at dair wythnos ymlaen llaw. Awgrymwn eich bod yn gwneud hynny i sicrhau bod lle ar eich cyfer: I archebu sedd dylech:
Mae’n rhaid diffodd pob dyfais electronig fel ffonau symudol, gliniaduron a galwr oherwydd y gallai’r dyfeisiauhyn amharu ar yr offer sain sydd yn y Siambr.
Mae’n bosibl y cewch eich gwahardd o drafodion y cynulliad os byddwch yn ymddwyn mewn modd afreolus neu aflonyddgar neu, fel arall, os byddwch yn tarfu ar y Cynulliad.