Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Hanes y Pierhead

Wedi'i godi ym 1897, yr adeilad rhestredig Gradd Un hwn oedd pencadlys Cwmni Rheilffordd Caerdydd gynt. Ac mae sôn mai yn y Pierhead y cafodd y siec gyntaf erioed am filiwn o bunnoedd ei chadw ar ôl iddi gael ei llofnodi yn y Gyfnewidfa Lo gerllaw.

Mae'n adeilad hanesyddol rhestredig Gradd Un o dan ein Big Ben ni yma yng Nghymru, ac ar un adeg, roedd yn ganolbwynt i'r byd masnach Cymreig. At hynny, mae'n adeilad ysblennydd sydd wedi sefyll yn falch am 113 o flynyddoedd, yn dyst i hanes unigryw ac amrywiol Bae Caerdydd. Fel lle sy'n adlewyrchu ein diwylliant ac yn ganolfan i gynnal trafodaethau a dadleuon byw, bydd y Pierhead yn parhau'n ganolog wrth i ni feithrin Cymru'r dyfodol.

Mae'r Pierhead yn fan cyfarfod unigryw i bobl Cymru ac yn darparu ar gyfer ymwelwyr, digwyddiadau a chynadleddau. Mae'n lle i fynegi barn a rhoi llais i faterion sydd o bwys i chi fel unigolion, cymunedau neu sefydliadau.

Stori’r Pierhead

Ym 1800, tref fechan oedd Caerdydd, gyda llai na 2,000 o bobl yn byw ynddi. Erbyn adeiladu’r Pierhead ym 1897, hi oedd tref fwyaf Cymru a chanolbwynt y farchnad lo ryngwladol, yn allforio mwy o dunelli o’i phorthladd nag unman yn y byd. Rhoddwyd statws dinas i Gaerdydd ym 1905.

Cysylltwyd Caerdydd â meysydd glo Merthyr am y tro cyntaf drwy gamlas ym 1794. Adeiladwyd doc cyntaf Bute ym 1839, a Rheilffordd Dyffryn Taf ym 1841. O gymharu â’r gamlas, gellid cludo gwerth mis o lo mewn awr ar y rheilffordd, a thyfodd y diwydiant – a Chaerdydd – yn gyflym tu hwnt dros y 60 mlynedd nesaf.

Pan agorodd y Pierhead ym mis Awst 1897, Caerdydd oedd porthladd allforio glo mwyaf y byd, a roedd poblogaeth y dref bron 100 gwaith yn fwy na phoblogaeth 1800.

Yng Nghyfnewidfa Lo Caerdydd y câi pris y glo a oedd i’w allforio’n fyd-eang ei bennu, ac yno y cafwyd cytundeb busnes cyntaf y byd am £1,000,000 ym 1907. Allforiwyd bron i 16 miliwn tunnell o lo ym 1896 a mwy na 26 miliwn tunnell ym 1914 o Borthladd Caerdydd (a oedd yn cynnwys y Barri a Phenarth yn ogystal â Dociau Bute Caerdydd).

Big Ben Cymru

Cafodd y Pierhead ei adeiladu fel swyddfeydd i Gwmni Dociau Bute, a ailenwyd yn Gwmni Rheilffordd Caerdydd ym 1897. Cymerodd bron i dair blynedd i’w adeiladu a chostiodd y cyfan ryw £30,000. Roedd arddull Adfywiad Gothig yr adeilad yn boblogaidd ar y pryd, ac yn destun cryn edmygedd.

Cafodd y Pierhead ei gynllunio gan y pensaer o Gymru, William Frame (1848-1906), a fu’n gweithio cyn hynny gyda William Burges (1821-1881) ar adfer Castell Caerdydd a Chastell Coch. Cymeriad go oriog oedd Frame, a bu’n gweithio ar ystadau’r teulu Bute yng Nghaerdydd a’r Alban tan ei farwolaeth gynnar.

Y gweithiwr caletaf yng Nghymru

Syr William Thomas Lewis (1837-1914), a ddaeth yn Arglwydd Merthyr o Senghenydd ym 1911, oedd rheolwr cyffredinol Dociau Caerdydd. Ef oedd yn gyfrifol am yr holl draffig i mewn ac allan o’r porthladd, ac am yr estyniadau sylweddol a’r gwelliannau a wnaed i’r dociau ar y pryd.

Roedd Lewis, a anwyd ym Merthyr, wedi’i hyfforddi fel peiriannwr mwyngloddio a pheiriannwr sifil, ac roedd yn berchen ar bwll glo. Siaradai Gymraeg, ac roedd yn allweddol yn y broses o reoli llafur dociau Caerdydd. Roedd ganddo enw hefyd am daro bargen galed. Ar ôl cloi’r glowyr allan ym 1898, fe’i disgrifiwyd fel ‘dyn mwyaf amhoblogaidd Cymru’.

Y Rheilffordd Wyliau

Ym 1922, daeth cwmni’r Great Western Railway i reoli Cwmni Rheilffordd Caerdydd, gyda’r Pierhead yn swyddfa bwysig i’w waith yn nociau’r de. Roedd y diwydiant glo wedi bod yn dirywio ers 1913, ac erbyn y 1930au, cwmni’r Great Western ei hun oedd y defnyddiwr unigol mwyaf o lo Cymreig.

Gadawodd y llwyth glo olaf o Ddoc Gorllewinol Bute ym 1964. Roedd ffordd gyfan o fyw, a oedd wedi’i seilio ar y diwydiant glo, yn dechrau diflannu, ac felly hefyd amryw o grefftau a galwedigaethau, gan gynnwys swyddi pwyswyr, cludwyr, arllwyswyr, naddwyr, clercod allforio, asiantau, seiri llongau, pen-gweithwyr a morwyr.

Y Pierhead: 1947-Heddiw

Cafodd y rheilffyrdd eu gwladoli ym 1947, a daeth y Pierhead yn swyddfa bwysig yn nociau De Cymru. Yn y 1970au, roedd yr adeilad yn gartref i amryw o adrannau Associated British Ports. Fe’i trosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol  Cymru ym 1998.

Mae’r Pierhead o bwys hanesyddol a diwylliannol i Gaerdydd a Chymru. Wrth ddefnyddio’r adeilad yn y dyfodol, byddwn yn gwerthfawrogi’r dreftadaeth hon a pharchu anghenion a dyheadau’r Cynulliad, Cymru a’i phobl.

Pierhead clock

Partners & Help