Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Pecyn Gwybodaeth

Ffeithiau allweddol

Cafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei sefydlu gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn dilyn refferendwm ar ddatganoli a gynhaliwyd ar 18 Medi 1997. O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, cafodd y Cynulliad ragor o bwerau. Yn awr, gallai’r 60 aelod etholedig yn y Cynulliad (Aelodau’r Cynulliad) nid yn unig graffu ar waith Llywodraeth Cymru, ond gallasant hefyd wneud cyfreithiau i Gymru mewn meysydd datganoledig penodol, gyda chytundeb Senedd y DU ar sail pob pwnc penodol.

Yn dilyn y refferendwm a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2011 ar bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid rhoi rhagor o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol lunio cyfreithiau yng Nghymru.

Bellach, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu llunio cyfreithiau ar yr holl bynciau yn yr 21 maes datganoledig, a hynny heb orfod gofyn am gytundeb Senedd y DU yn gyntaf.

Nid yw canlyniad y refferendwm yn golygu y gall y Cynulliad lunio cyfreithiau mewn rhagor o feysydd nag o’r blaen.

Etholiadau

Caiff etholiadau’r Cynulliad eu cynnal bob pedair blynedd. Etholwyd y Cynulliad cyntaf ym 1999. Mae gan bob etholwr cofrestredig ddwy bleidlais i’w defnyddio ym mhob etholiad Cynulliad. Pleidlais ar gyfer Aelod yr etholaeth leol yw’r gyntaf. Caiff Aelod ei ethol i bob un o’r 40 etholaeth yng Nghymru drwy system 'y cyntaf i’r felin’, sef yr un system a ddefnyddir ar gyfer ethol Aelodau Seneddol i Dŷ’r Cyffredin - hy yr ymgeisydd sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau sy’n ennill y sedd.

Pleidlais i ethol Aelod Rhanbarthol yw’r ail. Caiff Aelodau Rhanbarthol eu hethol drwy ffurf ar gynrychiolaeth gyfrannol sef ‘y System Aelod Ychwanegol’, lle mae’r etholwyr yn pleidleisio dros blaid wleidyddol. Mae’r system hon yn mynd rhan o’r ffordd tuag at sicrhau bod nifer gyffredinol y seddau sydd gan bob plaid wleidyddol yn adlewyrchu cyfran y bleidlais a gafodd.

Ceir rhagor o fanylion am y system etholiadol yma.

Pwerau deddfu

Mae gan y Cynulliad y pŵer i graffu ar waith Llywodraeth Cymru ac i wneud ei ddeddfwriaeth ei hun o fewn yr 21 maes datganoledig fel iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a llywodraeth leol (ceir rhestr lawn o’r meysydd datganoledig isod). Dyma’r meysydd a nodir yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru.

Cyn 3 Mawrth 2011, roedd gan y Cynulliad Cenedlaethol bwerau i ddeddfu dros Gymru ar rai pynciau o fewn yr 21 maes datganoledig. Er mwyn llunio deddfau ar ragor o bynciau o fewn y meysydd datganoledig, roedd angen cytundeb Senedd y DU i wneud hynny fesul achos.

Ar 3 Mawrth 2011, cynhaliwyd refferendwm yn gofyn i bobl Cymru a ddylai’r Cynulliad allu pasio cyfreithiau ar yr holl bynciau yn yr 21 o feysydd datganoledig, a hynny heb orfod gofyn am gytundeb Senedd y DU yn gyntaf.

Mae pleidlais gadarnhaol yn golygu na fydd angen mwyach am drafodaethau rhwng Llywodraethau’r DU a Chymru ynghylch pa bwerau y dylid eu datganoli neu na ddylid eu datganoli i’r Cynulliad.

Mae’r bleidlais gadarnhaol hefyd yn cael gwared ar y gwaith craffu roedd Aelodau Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yn ei wneud ar y cynigion i roi pwerau deddfu i’r Cynulliad. Yn hytrach, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru ac Aelodau’r Cynulliad yw penderfynu sut i ddefnyddio pwerau deddfu’r Cynulliad.

Bellach, ni fydd cyfreithiau’r Cynulliad yn cael eu galw’n ‘Mesurau Cynulliad’ - bydd cyfreithiau arfaethedig yn cael eu galw’n ‘Biliau’, a bydd cyfreithiau sydd wedi’u pasio yn cael eu galw’n ‘Deddfau’. Bydd y Mesurau a luniwyd ers 2007 yn dal i gael eu galw’n ‘Mesurau Cynulliad’ a bydd eu statws cyfreithiol yn parhau. Yr hyn fydd yn newid yw na fydd yn bosibl llunio rhagor o Fesurau, a bydd y cyfreithiau a lunnir gan y Cynulliad yn cael eu galw’n ‘Deddfau’.

Yn y meysydd lle mae ganddo gymhwysedd deddfwriaethol, gall y Cynulliad wneud ei ddeddfau ei hun, a gelwir y rhain yn ‘Deddfau’. Bydd Deddf yn cael effaith debyg i Ddeddf Seneddol. Gall Llywodraeth y Cynulliad, Pwyllgorau’r Cynulliad, Aelod Cynulliad neu Gomisiwn y Cynulliad gyflwyno Deddfau.

Is-ddeddfwriaeth

Un o swyddogaethau’r Cynulliad yw craffu ar Is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru. Mae is-ddeddfwriaeth yn atodol i Fesurau’r Cynulliad neu Ddeddfau Senedd y Deyrnas Unedig a gall gynnwys gorchmynion, rheoliadau, cynlluniau yn ogystal â chanllawiau statudol a gorchmynion lleol. Ewch i’r hysbysiad hwylus ar is-ddeddfwriaeth.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch yr hysbysiadau hwylus.

Materion datganoledig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru hawl i basio deddfau (sef Deddfau’r Cynulliad) ond dim ond yn y meysydd hynny y rhoddwyd pŵer iddo wneud hynny. Mae’r pwerau hyn wedi’u hamlinellu yn yr 21 Pwnc yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

  • Amaethyddiaeth, Coedwigaeth, Anifeiliaid, Planhigion a Datblygu Gwledig

  • Henebion ac Adeiladau Hanesyddol

  • Diwylliant

  • Datblygu Economaidd

  • Addysg a Hyfforddiant

  • Yr Amgylchedd

  • Y Gwasanaethau Tân ac Achub a Diogelwch Tân

  • Bwyd

  • Iechyd a’r Gwasanaethau Iechyd

  • Priffyrdd a Thrafnidiaeth

  • Tai

  • Llywodraeth Leol

  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru

  • Gweinyddiaeth Gyhoeddus

  • Lles Cymdeithasol

  • Chwaraeon a Hamdden

  • Twristiaeth

  • Trethi wedi'u datganoli

  • Cynllunio Gwlad a Thref

  • Dŵr ac Amddiffyn rhag Llifogydd

  • Y Gymraeg.

 

Comisiwn y Cynulliad

Comisiwn y Cynulliad yw’r enw ar gorff corfforaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Y Comisiwn sy’n gyfrifol am sicrhau bod eiddo, staff a gwasanaethau’n cael eu darparu i’r Cynulliad. Y Llywydd, Rosemary Butler AC, sy’n cadeirio Comisiwn y Cynulliad. Yr aelodau eraill yw Sandy Mewies, Angela Burns, Rhodri Glyn Thomas a Peter Black.

Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, sy’n arwain staff Comisiwn y Cynulliad.

Amcanion strategol y Comisiwn yw:

  • hyrwyddo datganoli ac annog rhagor o bobl i gymryd rhan yn y broses

  • dangos undod ac arweiniad ac ymateb yn feiddgar i newidiadau cyfansoddiadol

  • dangos parch, cywirdeb a llywodraethu da

  • gweithio’n gynaliadwy

  • gofalu bod gan y Cynulliad y gwasanaeth gorau, a gaiff ei ddarparu yn y ffordd fwyaf effeithiol

Hysbysiad Hwylus ar y Comisiwn

Y Senedd

Y Senedd yw cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a phrif ganolfan democratiaeth a datganoli yng Nghymru. Richard Rogers oedd y dylunydd a chafodd ei hagor yn swyddogol gan y Frenhines ar 1 Mawrth 2006. Cost yr adeilad, at ei gilydd, gan gynnwys gosodiadau, dodrefn, celf a chyfarpar TGCh a darlledu oedd £67 miliwn.

Yn ôl briff dylunio’r Senedd, roedd yn rhaid i’r adeilad fodloni gofynion cyfansoddiadol y Cynulliad yng nghyswllt datblygu cynaliadwy ac arfer da a rhagori arnynt. O ran perfformiad amgylcheddol, llwyddodd y Senedd i gyrraedd safon 'Ardderchog’ (yr uchaf i’w ddyfarnu yng Nghymru erioed) o dan Ddull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil i Adeiladau (BREEAM). Yn ystod y broses asesu, ystyriwyd materion ehangach fel cludiant, swn, defnyddio defnyddiau cynaliadwy, rheoli’r adeilad ac egwyddorion gwyrdd eraill. Mae’r adeilad yn defnyddio systemau ynni adnewyddadwy ynghyd â systemau naturiol a goddefol i wresogi ac i oeri’r adeilad. Effaith gyffredinol hyn fydd lleihau costau rhedeg yr adeilad 30-50 y cant. 'Simnai’ y Senedd yw cwfl sy’n troi gyda chyfeiriad y gwynt, a ddefnyddir i awyru’r adeilad, a fentiau yn y to i helpu’r system awyru naturiol. Mae hyn yn lleihau’r ynni y mae’r adeilad yn ei ddefnyddio.

Yn y Senedd, mae Siambr drafod ac ystafelloedd pwyllgora i Aelodau’r Cynulliad ymgymryd â busnes y Cynulliad, ond, yn bwysicach na dim, adeilad cyhoeddus, tryloyw ydyw, a ddyluniwyd i fod yn adeilad i holl bobl Cymru, ac nid i wleidyddion yn unig. Y Neuadd yw man cyhoeddus y Senedd lle caiff ymwelwyr eu croesawu. Mae’r Oriel ar agor i’r cyhoedd hefyd ac, oddi yno, mae’n bosibl gwylio’r Aelodau wrth eu gwaith yn y Siambr neu’r ystafelloedd pwyllgora a cheir golygfeydd godidog o Fae Caerdydd a’r adeiladau cyfagos. Mae’r Siambr wedi’i chynllunio i ganiatáu i’r holl Aelodau weld ei gilydd ac i wneud y broses ddemocrataidd yn fwy agored a chynhwysol, gyda llai o wrthdaro. Gall y cyhoedd wylio’r Cyfarfod Llawn yn y Siambr o’r oriel gyhoeddus a gwylio y cyfarfodydd pwyllgor o oriel y pwyllgorau.

Comisiynwyd pedwar prosiect gan bedwar artist i sicrhau bod celf yn rhan annatod o’r adeilad. Canolbwynt y Siambr yw Calon Cymru, sef cromen o wahanol haenau o wydr sy’n codi o’r llawr derw. Rhesi o baneli gwydr yw Maes y Cynulliad, a gynlluniwyd er mwyn cysgodi ymwelwyr rhag gwyntoedd cryfion wrth iddynt ddringo’r grisiau i’r Senedd. Defnyddiwyd dros 40 tunnell o lechi Ffestiniog i greu cerflun y Man Cyfarfod sy’n estyn allan o blinth y Senedd. Y pedwerydd prosiect oedd y paneli acwstig sydd â diben ymarferol ond sydd hefyd yn cyflwyno lliw i’r Senedd.

Wrth ddatblygu’r gwaith dylunio, nod y Cynulliad oedd creu adeilad a oedd yn esiampl o adeilad sy’n agored i bawb. Sefydlwyd Grwp Cynghori ar Fynediad yn ystod y broses ddylunio ac adeiladu, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o grwpiau o bob rhan o Gymru a oedd â diddordeb mewn anabledd.  

Cyfarfodydd Llawn

Yn y Cyfarfod Llawn, bydd y 60 Aelod Cynulliad yn dod at ei gilydd. Bydd hyn yn digwydd bob dydd Mawrth a dydd Mercher yn y Siambr drafod. Bydd Prif Weinidog Cymru yn ateb cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn bob dydd Mawrth, a bydd Gweinidogion eraill yn ateb cwestiynau ar ddydd Mercher. Yn y Cyfarfod Llawn hefyd, ceir datganiadau gan y Llywodraeth, a dadleuon a gyflwynir naill ai gan yr wrthblaid neu’r Llywodraeth. Mae cofnod electronig llawn o drafodion pob Cyfarfod Llawn a holl gyfarfodydd y Pwyllgorau ar wefan y Cynulliad.

Pwyllgorau

Rôl y Pwyllgorau

Grwp o Aelodau o bob plaid yw pwyllgor Cynulliad sy’n cyfarfod yn rheolaidd i ymgymryd â darnau o waith manwl a phenodol. Mae bron pob cyfarfod pwyllgor yn cael ei gynnal yn gyhoeddus.

Mae gan Bwyllgorau’r Cynulliad nifer o swyddogaethau: bydd rhai’n craffu ar bolisïau Llywodraeth Cymru ac yn dwyn Gweinidogion i gyfrif am yr hyn a wnânt ac am yr arian a wariant; bydd rhai’n archwilio deddfwriaeth arfaethedig; a bydd gan eraill swyddogaethau penodol a gaiff eu dyrannu iddynt gan y Cynulliad neu ei Reolau Sefydlog. Manylion cylch gwaith a chyfrifoldebau pob pwyllgor.

Er nad yw pob un o bwyllgorau’r Cynulliad yn cyd-fynd yn union â’r categorïau hyn, gellid dweud bod y rhan fwyaf naill ai’n ymwneud â 'chraffu’ (yng nghyswllt polisïau a gwariant Llywodraeth y Cynulliad) neu â 'deddfwriaeth’ (archwilio cynigion deddfwriaethol a osodir gerbron y Cynulliad).

Geirfa

(gweler yr Hysbysiad Hwylus ar Eirfa’r Cynulliad am ragor o wybodaeth)

Aelod Cynulliad (AC) - Person a gaiff ei ethol gan bobl Cymru i’w cynrychioli yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Caiff 60 o Aelodau’r Cynulliad eu hethol.

Bil – Gall y Cynulliad Cenedlaethol wneud cyfreithiau i Gymru mewn 20 maes pwnc penodol. Gelwir cyfreithiau arfaethedig y Cynulliad yn Filiau. Unwaith y bydd Bil wedi’i basio yn y Cynulliad ac wedi cael Cydsyniad Brenhinol, fe’i gelwir yn Ddeddf.

Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Y corff corfforaethol sy'n gyfrifol am gynnal Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r Comisiwn yn gyfrifol am gyflogi staff, dal eiddo, llunio contractau a sicrhau bod gwasanaethau cymorth yn cael eu darparu ar gyfer Aelodau'r Cynulliad. Mae’r Comisiwn yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod Cynulliad arall.

Craffu - Y broses o archwilio Biliau a gorchmynion deddfwriaethol a pherfformiad y Llywodraeth.

Cronfa Gyfunol Cymru - Cronfa o arian cyhoeddus a gaiff ei ddyrannu i Gymru gan Lywodraeth y DU, drwy gyfrwng Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ynghyd ag arian o ffynonellau eraill. Bydd Llywodraeth Cymru a Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu tynnu arian i lawr o Gronfa Gyfunol Cymru cyn belled ag y bônt yn cydymffurfio â chynigion y gyllideb a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd cyllidebau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ymddangos ar Gronfa Gyfunol Cymru.

Cwnsler Cyffredinol - Prif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r Cwnsler Cyffredinol yn aelod o Lywodraeth Cynulliad Cymru ond nid yw, o reidrwydd, yn Weinidog Cymru ac nid oes yn rhaid iddo fod yn Aelod Cynulliad.

Cydsyniad Brenhinol - Cymeradwyaeth ffurfiol gan y Frenhines a fydd yn gyfrwng i Fil Seneddol gael ei wneud yn Ddeddf. Bydd Biliau’r Cynulliad yn cael eu cymeradwyo gan y Frenhines yn y Cyfrin Gyngor.

Cyfrin Gyngor - Cyfarfod yn cynnwys y Frenhines a'i Chyfrin Gynghorwyr sy'n aelodau o'r Llywodraeth. Caiff Biliau’r Cynulliad eu cymeradwyo yn y Cyfrin Gyngor.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru (hefyd y Cynulliad Cenedlaethol neu’r Cynulliad) - Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Deddf – Gall y Cynulliad Cenedlaethol wneud cyfreithiau i Gymru mewn 20 maes pwnc penodol. Gelwir y cyfreithiau a wneir gan y Cynulliad yn Ddeddfau.

Deddf Seneddol - Cyfraith sydd wedi’i phasio gan Senedd y DU sydd wedi cael Cydsyniad Brenhinol, hy sydd wedi’i llofnodi gan y Frenhines. Caiff Deddfau eu galw’n ddeddfwriaeth sylfaenol yn aml.

Deddfwrfa - Dyma lle mae’r gwaith o drafod a chytuno ar ddeddfau newydd yn mynd rhagddo. Dyma hefyd lle mae’r gwaith craffu ar benderfyniadau’r Llywodraeth a’r gwaith o’i dwyn i gyfrif yn digwydd.

Deddfwriaeth Sylfaenol - Deddf Seneddol, i bob pwrpas.

Etholaeth - Ardal ddaearyddol benodol yw etholaeth a chaiff ei chynrychioli gan Aelod Cynulliad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan Aelod Seneddol (AS) yn San Steffan. Mae Cymru wedi’i rhannu’n 40 etholaeth sy’n ethol 40 o Aelodau Cynulliad o dan y system ‘cyntaf i’r felin’.

Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Etholiad i ddewis 60 o Aelodau Cynulliad i gynrychioli etholaethau a rhanbarthau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gweinidog Cymru - Aelod Cynulliad a benodir yn Weinidog Cymru gan Brif Weinidog Cymru, gyda chymeradwyaeth ei Mawrhydi, ac sy’n rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Gweithrediaeth - Term a ddefnyddir i ddisgrifio’r Llywodraeth ac i wahaniaethu rhyngddi a’r ddeddfwrfa

Is-ddeddfwriaeth - Cyfraith a wneir gan Weinidogion o dan bwerau a roddir iddynt gan Senedd y DU. Nid yw’r cyfreithiau hyn yn dilyn yr un broses seneddol ag a ddefnyddir ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol.

Llywodraeth Cymru - Corff ac iddo gyfrifoldebau llywodraethol/gweithredol a sefydlwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae Llywodraeth Cymru’n creu polisi ac yn ei roi ar waith a gall gynnig cyfreithiau yn y Cynulliad. Caiff ei dwyn i gyfrif gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe’i harweinir gan Weinidogion sydd hefyd yn Aelodau Cynulliad.

Y Llywydd - Mae’n cadeirio’r Cyfarfod Llawn ac yn gofalu bod busnes y Cynulliad yn cael ei gynnal yn briodol. Y Llywydd hefyd yw Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad a’r Pwyllgor Busnes.

Maes - Y meysydd polisi datganoledig y mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pwer i wneud cyfreithiau yn eu cylch.

Materion a gadwyd yn ôl - Y materion y bydd Senedd y DU yn penderfynu arnynt e.e. Amddiffyn, Materion Tramor, Cyfraith Cyflogaeth, Trethu a Nawdd Cymdeithasol.

Prif Weinidog Cymru - Aelod Cynulliad sy’n cael ei benodi gan y Frenhines i fod yn Brif Weinidog Cymru wedi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei enwebu. Pennaeth Llywodraeth Cymru.

Pwyllgor - Grwp o Aelodau’r Cynulliad o wahanol bleidiau sy’n dod at ei gilydd i drafod pwnc penodol neu i graffu ar ddarnau penodol o ddeddfwriaeth arfaethedig.

Refferendwm - Y drefn o gyfeirio cwestiwn at sylw'r etholwyr a fydd yn pleidleisio arno mewn modd a fydd yn debyg i etholiad cyffredinol.

Rhanbarth - Mae Cymru wedi’i rhannu’n bum rhanbarth etholiadol ar gyfer ethol Aelodau Ychwanegol drwy system Cynrychiolaeth Gyfrannol. Caiff pedwar o Aelodau’r Cynulliad eu hethol i gynrychioli pob un o’r rhanbarthau hyn; felly caiff 20 o Aelodau’r Cynulliad eu hethol i gynrychioli’r rhanbarthau.

Rheolau Sefydlog - Y rheolau sy'n sail i'r ffordd y caiff trafodion y Cynulliad eu rheoleiddio.

System Aelodau Ychwanegol - System o gynrychiolaeth gyfrannol a ddefnyddir yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol i ethol 20 o’r 60 o Aelodau Cynulliad. Etholir y 40 Aelod arall drwy’r system ‘y cyntaf i’r felin’.

System y cyntaf i'r felin - Y system a ddefnyddir i ethol 40 o’r 60 o Aelodau Cynulliad yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol. Etholir yr 20 Aelod arall dwy’r System Aelodau Ychwanegol

Partners & Help