Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

‘Gwallau sylfaenol’ yn y gwaith o weinyddu Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio wedi costio degau o filiynau i drethdalwyr Cymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

26/01/2016

 

Mae gwallau sylfaenol yn y ffordd y cafodd y Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio ei rheoli, ei goruchwylio a'i chynghori wedi costio degau o filiynau o bunnoedd i drethdalwyr Cymru, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cafodd y gronfa ei sefydlu yn gorff hyd braich gan Lywodraeth Cymru i werthu tir ledled Cymru, gan gynnwys yng ngogledd Cymru, Sir Fynwy a Chaerdydd a defnyddio'r arian, ar y cyd ag arian Ewropeaidd, i ail-fuddsoddi mewn ardaloedd sydd angen eu hadfywio.

Fodd bynnag, canfu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod y corff wedi'i reoli a'i oruchwylio'n wael gan y Llywodraeth, ac, oherwydd newid i gyfeiriad y Gronfa o ganolbwyntio ar adfywio i waredu asedau o ran eiddo, roedd rhai o aelodau'r Bwrdd yn teimlo nad oedd ganddynt y wybodaeth a'r arbenigedd angenrheidiol i gyflawni eu dyletswyddau.

Hefyd, clywodd y Pwyllgor nad oedd y Bwrdd wedi cael gwybodaeth allweddol am werth y tir yn ei bortffolio, neu am ymholiadau gan brynwyr posibl.

Cafodd 15 o asedau tir ac eiddo, yr oeddent i fod i gael eu gwerthu ar wahân yn wreiddiol, eu gwerthu fel un portffolio am bris nad oedd yn ystyried defnydd posibl o'r tir yn y dyfodol. Arweiniodd y penderfyniad hwn at drethdalwyr Cymru yn colli degau o filiynau o bunnoedd o gyllid.

Clywodd y Pwyllgor bod Lambert Smith Hampton Ltd, un o'r cyrff a oedd yn gyfrifol am gynnig cyngor arbenigol i'r Bwrdd, wedi gweithredu yn flaenorol ar ran un o gyfarwyddwyr prynwr y tir, South Wales Land Developments Ltd, ac wedi llofnodi cytundeb i wneud hynny eto ddiwrnod ar ôl y gwerthiant.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod Bwrdd y Gronfa wedi cael ei gynghori'n wael gan ei gynghorwyr arbenigol ei hun.

Hefyd, cytunodd yr Aelodau, o ystyried bod South Wales Land Developments Limited wedi gwerthu'r safleoedd yn ddiweddarach, nad oeddent wedi'u hargyhoeddi gan haeriad Llywodraeth Cymru nad oes modd dangos bod y pris a gafwyd yn rhy isel, gan dynnu sylw at y canlynol fel tystiolaeth (gorswm yw swm o arian a gytunwyd ymlaen llaw i'w adfachu ar ben y pris gwerthu os yw'r prynwr yn bodloni gofynion penodol):

  • prynodd SWLD safle'r Rhws gan y Gronfa am lai na £3 miliwn, heb orswm, a'i werthu am bron i £10.5 miliwn;
  • prynwyd safle Abergele gan y Gronfa am £0.1 miliwn, heb orswm, a chafodd ei werthu am £1.9 miliwn;
  • Llys-faen, ger Caerdydd, oedd / yw perl y portffolio a dylid bod wedi gwaredu'r safle drwy broses werthu agored a chystadleuol wedi'i marchnata'n briodol. Ym marn y Pwyllgor, mae'n annealladwy bod y safle hwn wedi'i werthu i SWLD am werth tir amaethyddol o £1.835 miliwn (hyd yn oed gyda gorswm) er y gallai ei werth posibl ar y farchnad agored ar gyfer adeiladu tai preswyl fod yn £39 miliwn o leiaf.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: "Mae Ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio wedi bod yn un o'r rhai mwyaf arwyddocaol i'r Pwyllgor ei gynnal, ac yn un o'r rhai sydd wedi peri'r pryder dyfnaf.

"Mae'n anfaddeuol y dylai un o'r gwerthiannau tir cyhoeddus mwyaf yng Nghymru fod wedi cynhyrchu degau o filiynau o bunnoedd yn fwy i'r trethdalwr.

"Er bod cysyniad y Gronfa yn arloesol ym marn y Pwyllgor, daethom i'r casgliad iddi gael ei rhoi ar waith yn wael oherwydd diffygion sylfaenol yn nhrefniadau goruchwylio a llywodraethu Llywodraeth Cymru, a thrwy esgeulustod gan y rhai a benodwyd ac yr ymddiriedwyd ynddynt i ddarparu cyngor ac arbenigedd proffesiynol i Fwrdd y Gronfa. 

"Mae'n anffodus bod nifer o'r diffygion a nodwyd gennym yn gyson â materion y mae'r Pwyllgor hwn wedi'u hystyried yn ystod ymchwiliadau blaenorol."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 18 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Rhaid i Lywodraeth Cymru gryfhau'r trefniadau ar gyfer monitro a goruchwylio ei chyrff hyd braich, a sicrhau yn benodol bod unrhyw bryderon yn cael eu nodi a'u symud i fyny'r gadwyn fewnol yn gyflym;
  • Rhoi mesurau ar waith i sicrhau bod gan Aelodau'r Bwrdd yr arbenigedd a'r gallu priodol i gyflawni eu dyletswyddau a'u bod yn derbyn hyfforddiant cynefino digonol a phriodol; a
  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau yr ystyrir trefniadau gorswm cadarn pryd bynnag y mae'n gwaredu asedau cyhoeddus y mae potensial i'w datblygu yn y dyfodol.

Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Cronfa Buddsodd Cymru mewn Adfywio (PDF, 734 KB)

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Partners & Help