Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Bil Cymru drafft wedi'i wneud ar gyfer Gymru, nid gyda Chymru, meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

04/12/2015

Gwnaed Bil Cymru drafft ar gyfer Cymru, ond nid gyda Chymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi bod yn edrych ar yr effaith y bydd y Bil drafft, sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn Llundain, yn ei chael ar y Cynulliad a Chymru gyfan.

Os caiff ei basio, byddai'r Bil yn darparu model cadw pwerau'n ôl ar gyfer Cymru, lle ystyrir bod popeth wedi'i ddatganoli oni bai ei fod wedi'i gadw yn ôl yn benodol. Y bwriad yw y byddai hyn yn rhoi terfyn ar yr ansicrwydd ynghylch pa bwerau sydd wedi'u datganoli i Gymru, gan ddarparu setliad cliriach.

Fodd bynnag, penderfynodd y Pwyllgor y gallai'r Bil drafft, mewn gwirionedd, leihau cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

Roedd y Pwyllgor o'r farn fod rhestr arfaethedig y Bil drafft o bwerau a fyddai'n cael eu cadw'n ôl gan San Steffan yn rhy hir ac y gallai hyn leihau gallu'r Cynulliad i ddeddfu mewn rhai meysydd.

Casgliad y Pwyllgor oedd y dylid diwygio'r Bil drafft er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni'r amcan a fwriedir, sef sefydlu setliad cyfansoddiadol parhaol i Gymru:

  • cael gwared ar y prawf angenrheidrwydd neu ei ddisodli gan brawf sy'n seiliedig ar briodoldeb;
  • cael system i'w gwneud yn ofynnol cael cydsyniad Gweinidogion y Goron, sy'n adlewyrchu'r model yn Neddf yr Alban 1998;
  • cael gostyngiad sylweddol yn nifer a maint y cymalau cadw a'r cyfyngiadau penodol; a
  • cael awdurdodaeth ar wahân lle byddai Deddfau Cymru yn gymwys i Gymru yn unig;  

Dylid defnyddio'r Bil hefyd i gydgrynhoi'r tair Deddf sy'n bodoli ar hyn o bryd mewn perthynas â phwerau sydd wedi'u datganoli i Gymru.

Byddai hyn yn golygu diddymu'r ddeddfwriaeth a basiwyd yn 1998, 2006 a 2014, ac y byddai cyfansoddiad Cymru yn eistedd o dan un Ddeddf. Byddai hyn yn sicrhau bod y sefyllfa'n gliriach ac yn fwy hygyrch.

Mae'r Pwyllgor o'r farn y dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wneud y paratoadau hyn ar y cyd, gyda chymorth Comisiwn y Gyfraith.

"Mae'r dystiolaeth lethol yr ydym wedi'i chael yn ystod yr ymchwiliad hwn yn dangos bod yna bryderon sylweddol ynghylch Bil Cymru drafft a'i allu i ddarparu setliad cyfansoddiadol parhaol i Gymru," meddai David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

"Mae'r Pwyllgor o'r farn fod hwn yn Fil drafft a wnaed ar gyfer Cymru, ond nid gyda Chymru. Mae'n Fil a fyddai wedi elwa ar gydweithio agosach rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol.

"Yn ogystal â newidiadau i'r profion angenrheidrwydd a'r rhestr o bwerau a gedwir yn ôl, a fyddai'n erydu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad fel y maent ar hyn o bryd, byddem hefyd am weld y Bil yn atgyfnerthu deddfwriaeth bresennol, gan ddiddymu Deddfau 1998, 2006 a 2014, a hynny er mwyn sicrhau bod y Ddeddf nesaf yn ffynhonnell glir a hygyrch o gyfansoddiad Cymru am genedlaethau i ddod.

"Mae yna deimlad bod y Bil drafft wedi bod yn ymateb i ddyfarniadau pwysig a wnaed yn erbyn Llywodraeth y DU gan y Goruchaf Lys yn hytrach nag yn ymgais i sefydlu setliad cyfansoddiadol parhaol."

Os na fydd Llywodraeth y DU yn penderfynu atgyfnerthu'r ddeddfwriaeth sy'n bodoli ar hyn o bryd, mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Bil Cymru gynnwys ymrwymiad i wneud hynny yn y dyfodol, naill ai yn ystod tymor presennol Senedd y DU, neu drwy gymal sy'n caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud hynny.

Bydd adroddiad y Pwyllgor yn cael ei drafod gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gyfanrwydd mewn Cyfarfod Llawn yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Rhagor o wybodaeth am Fil Cymru drafft.

Partners & Help