Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Cofio'r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

09/11/2015

Bydd arddangosfa sy'n cynnwys straeon am filwyr a'u teuluoedd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, wedi'u hadrodd gan eu disgynyddion, yn rhan o ddigwyddiadau coffa Cynulliad Cenedlaethol Cymru eleni.

Mae'r arddangosfa: Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Cofio  yn gasgliad o atgofion personol ac arteffactau gan Aelodau'r Cynulliad a staff Comisiwn y Cynulliad a oedd â hynafiaid a wasanaethodd yn y Rhyfel Mawr.

Mae'r straeon yn cynnwys rhai gan William Graham AC, am ei daid, a wasanaethodd yn Victoria Rifles y Frenhines, yn cael ei achub gan ei warbac pan wreiddiodd darn o shrapnel yn ei wasgod; a'r Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd, y cafodd ei hen-ewythr John William Peacey ei ladd mewn gwasanaeth gweithredol.

I agor yr arddangosfa'n ffurfiol ar 11 Tachwedd, bydd Syr Deian Hopkin, cynghorydd arbenigol ar gyfer Cymru'n Cofio / Wales Remembers 1914-1918, yn rhoi darlith a fydd yn ymchwilio i etifeddiaeth Keir Hardie cyn Aelod Seneddol Merthyr Tudful ac Aberdâr.

Mae dylanwad Hardie, eiriolwr dros hawliau menywod a beirniad gwleidyddiaeth gonfensiynol ei oes, yn cael ei gydnabod ledled y DU gyda ffyrdd, ysgolion a chanolfannau iechyd wedi eu henwi ar ei ôl.

"Mae'r arddangosfa: Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Cofio yn ein galluogi i gysylltu, mewn ffordd bersonol iawn, â'r Rhyfel Byd Cyntaf," meddai'r Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Mae gan lawer ohonom straeon am aelodau o'r teulu a wnaeth yr aberth eithaf, neu a oroesodd i drosglwyddo'u profiadau i genedlaethau'r dyfodol.

"Rwy'n gobeithio y bydd y straeon sy'n cael eu hadrodd yma yn y Senedd o gymorth i addysgu ac ysbrydoli'r rhai sy'n dod i'w gweld.

Bydd Llyfr Coffa Cymru hefyd yn cael ei arddangos yn ystod y dydd. Y gyfrol addurnedig sy'n cynnwys enwau'r holl filwyr Cymreig a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae'r llyfr yn cael ei ddigido ar hyn o bryd mewn prosiect ar y cyd rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Gymreig Materion Rhyngwladol o dan y rhaglen Cymru dros Heddwch. Y gobaith yw annog 100,000 o bobl yng Nghymru i helpu i drawsgrifio'r rhifyn digidol gan ddefnyddio meddalwedd sydd newydd ei ddatblygu. Bydd yn cael ei ddadorchuddio'n ffurfiol yn y Senedd am hanner dydd.

"Mae'r weithred o gofio yn agwedd bwysig wrth chwilio am heddwch. Felly, rydym yn gwahodd grwpiau cymunedol a phobl o bob rhan o Gymru i ymuno â ni i gofnodi enwau'r meirwon a restrir yn y Llyfr Coffa sy'n cael ei leoli yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd, "meddai Craig Owen, Pennaeth Cymru dros Heddwch.

"Gan ddechrau gydag Aelodau'r Cynulliad, gwahoddir grwpiau cymunedol o bob rhan o Gymru i helpu i deipio enwau a chyfeirnod tudalen pawb a fu farw tra'u bod yn gwasanaethu er mwyn darparu adnodd chwiliadwy ar gyfer teuluoedd ac ymchwilwyr."

Dywedodd y Fonesig Rosemary Butler AC:

"Gyda balchder mawr yr wyf yn croesawu Cymru dros Heddwch a'r Llyfr Coffa i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Ar ôl i enwau'r meirwon gael eu trawsgrifio'n ddigidol, gall disgynyddion Cymreig ledled y byd, yn ogystal â chenedlaethau'r dyfodol, chwilio am aelodau o'r teulu a anrhydeddwyd yn y Llyfr Coffa.

"Rwy'n edrych ymlaen at chwarae rhan yn yr ymdrech wych hon."

Yn olaf, am 10.45 fore dydd Llun 11 Tachwedd, bydd y Llywydd yn arwain yr anogiad a'r ddau funud o dawelwch, mewn partneriaeth â'r Lleng Brydeinig Frenhinol, yn y Senedd.

Cafodd yr arddangosfa:Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Cofio  ei threfnu mewn partneriaeth ag Amgueddfa Stori Caerdydd.

 

Rhaglen o ddigwyddiadau

 

11 Tachwedd 2015

 

10.45 - Anogiad gyda dau funud o dawelwch i ddilyn am 11.00 - Y Senedd

12.00 - Lansiad ffurfiol offeryn trawsgrifio Llyfr Coffa Cymru - Y Senedd

18.00 – Darlith Syr Deian Hopkin - Y Senedd

 

Mae'r arddangosfa: Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Cofio yn rhedeg o 5 Tachwedd 2015 tan 21 Chwefror  2016.

Mae'r Athro Syr Deian Hopkin yn Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn Gynghorydd Arbenigol i Brif Weinidog Cymru ar y digwyddiadau i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.  Mae'n hanesydd, a threuliodd 45 mlynedd yn addysgu mewn prifysgolion, gan gynnwys 25 mlynedd yn Aberystwyth. Roedd yn Is-ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol South Bank Llundain hyd ei ymddeoliad yn 2009.  Roedd yn sylfaenydd-olygydd Llafur, cyfnodolyn Hanes Pobl Cymru.

Mae Cymru dros Heddwch yn brosiect pedair blynedd a ariennir gan Fwrdd Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Fe'i cefnogir gan bartneriaid ymchwil allweddol fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru a phrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd, yn ogystal â sefydliadau fel yr Urdd a Chymdeithas y Cymod. Mae Cymru dros Heddwch yn brosiect treftadaeth sydd, drwy gynnwys y gymuned, yn ceisio ateb y cwestiwn: Yn y 100 mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu tuag at chwilio am heddwch? Mae'r prosiect hefyd yn flaengar o ran ysgogi trafodaeth ynghylch materion o heddwch er budd cenedlaethau'r dyfodol.

Partners & Help