Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Sut mae gwasanaethau mabwysiadu wedi gwella yng Nghymru? – pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol yn holi

22/10/2015

 

I gyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu, mae un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn holi sut mae gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru wedi gwella ers cyhoeddi adroddiad ar y mater dair blynedd yn ôl.

Yn yr adroddiad hwnnw, galwodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy uchelgeisiol yn ei chynlluniau i lansio Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Hefyd, dywedodd y byddai angen i'r gwasanaeth wneud y newid sylweddol yr oedd ei angen wrth ddarparu gwasanaethau mabwysiadu.

Roedd y Pwyllgor eisiau bod y Gwasanaeth yn ysgwyddo nifer o'r cyfrifoldebau ar gyfer mabwysiadu, gan gynnwys recriwtio a pharatoi mabwysiadwyr a chyflogi ei staff ei hun yn genedlaethol ac yn rhanbarthol i sicrhau gwasanaeth o safon uchel a chyson.

Hefyd, roedd y Pwyllgor eisiau gweld Cofrestr Fabwysiadu Genedlaethol o'r holl ddarpar fabwysiadwyr a phlant er mwyn gwella'r broses baru, a phe bai hynny'n ymarferol bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am gymorth ar ôl mabwysiadu nes bod plentyn yn troi'n 18 oed.

Derbyniodd Llywodraeth bron bob un o argymhellion yr adroddiad, naill ai'n llawn neu mewn egwyddor.

Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, "Mae'n dair blynedd ers ein hadroddiad ar wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru.

"Mae'r Pwyllgor yn teimlo bod hyn wedi rhoi digon o amser ar gyfer rhoi ein hargymhellion ar waith a dechrau teimlo effaith y newidiadau hynny.

"Felly, hoffem glywed am brofiadau rhieni sydd newydd fabwysiadu, a phlant a phobl ifanc sydd wedi cael eu mabwysiadu yn ystod y cyfnod hwn.

"Mae'r Pwyllgor yn pwysleisio ei farn, lle nad yw'n bosibl i blentyn gael ei fagu gan ei deulu biolegol, y gall mabwysiadu fod yn brofiad cadarnhaol i bawb.

"Rydym eisiau gwybod a yw'r systemau ar gyfer recriwtio mabwysiadwyr a chefnogi plant cyn ac ar ôl mabwysiadu bellach yn fwy syml, yn fwy cefnogol ac yn fwy anogol i'r rheini sy'n ystyried mabwysiadu yn y dyfodol."

Hefyd, bydd y Pwyllgor yn casglu tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac asiantaethau perthnasol, grwpiau pwyso a sefydliadau anllywodraethol eraill.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad, ewch i dudalen y Pwyllgor ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad y Pwyllgor am fabwysiadu yng Nghymru.

Cliciwch yma i ddarllen ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad.

Llun: Thomas Fitzgerland (Flickr) dan drwydded Creative Commons.

Partners & Help