Wrth i Gymru baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol rôl bwysig i'w chwarae, gan ofyn cwestiynau am newidiadau a fydd yn effeithio ar fywydau pobl Cymru. Mae'r tudalennau hyn yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn y mae pwyllgorau'r Cynulliad yn ei wneud i graffu ar y newidiadau hyn, yn ogystal â chyhoeddiadau sy'n anelu i ateb y cwestiwn 'Sut fydd Brexit yn effeithio ar Gymru?'