Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 

Cyflogau a treuliau Aelodau'r Cynulliad

Mae gan Aelodau’r Cynulliad yr hawl i ddefnyddio  adnoddau i gyflogi staff a rhedeg swyddfeydd yn eu hetholaethau er mwyn ymdrin â materion ac achosion sy’n peri pryder i’r bobl y maent yn eu cynrychioli. Gallant hefyd hawlio ad-daliad am unrhyw  gostau y byddant yn eu hysgwyddo pan fydd angen iddynt  aros dros nos o’u prif gartref wrth gyflawni  dyletswyddau swyddogol y Cynulliad.  

 

Mae’r rheolau’n gysylltiedig â’r hyn y cânt ei hawlio wedi’u nodi mewn ‘Penderfyniad’, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Bwrdd Taliadau Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau'r Aelodau, 2017-18 (PDF 11MB).  Yn gyffredinol, mae hawliadau’n cael eu rhannu’n dri phrif fath, sef:

  • Lwfans Costau Swyddfa (h.y. costau swyddfa’n ymwneud â’u dyletswyddau fel Aelodau’r Cynulliad)

  • Lwfans Costau Ychwanegol (h.y. costau’n ymwneud ag aros dros nos o’u prif gartref er mwyn cyflawni’u dyletswyddau fel Aelodau’r Cynulliad)

  • Lwfans Costau Teithio (h.y. costau teithio y byddant yn eu hysgwyddo wrth gyflawni’u dyletswyddau fel Aelodau’r Cynulliad )

Ers 2008, caiff yr hawliadau uchod eu cyhoeddi ar-lein a gellir chwilio drwyddynt drwy ddefnyddio’r System Cyhoeddi Lwfansau. Gellir chwilio’n ôl mis, math o lwfans, gwariant neu hyd yn oed yn ôl Aelod Cynulliad. Cânt eu rhestru’n ôl y mis yr hawliwyd y lwfans, nid y dyddiad yr ysgwyddwyd y gost, a chânt eu cyhoeddi dri mis wedyn.

Cyflog presennol Aelod Cynulliad yw £65,344 (Ebrill 2017). Pennwyd mai £64,000 ydoedd ar ddechrau’r Pumed Cynulliad ac mae wedi’i fynegeio i enillion cyfartalog yng Nghymru (gweler paragraff 3.9, tudalen 11 o’r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau). Gallai rhai Aelodau fod yn gymwys i gael cyflog arall os ydynt yn cyflawni un o’r swyddi ychwanegol, fel swydd Gweinidog neu Gadeirydd Pwyllgor, a restrir ym mharagraff 3.1.4 o’r Penderfyniad.

Ffigurau dros dro yw’r rhain a gallant newid yn dilyn archwiliad allanol. Hefyd, os yw manylion hawliad yn golygu y bydd yn rhaid datgelu data personol sensitif neu’n gallu peryglu diogelwch (e.e. gwybodaeth yn ymwneud â chyfeiriad cartref, manylion siwrnai arferol neu gyflwr meddygol) ni fydd y manylion hynny’n cael eu cynnwys. Mae hyn yn ofynnol o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Rhyddid Gwybodaeth (y Senedd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru) 2008.

Apeliadau Ffurfiol 2016-17

Er mwyn sicrhau cysondeb a sicrwydd wrth gymhwyso’r Penderfyniad, mae’n rhaid i dîm Cymorth Busnes yr Aelodau gynnal a chyhoeddi cofnod o unrhyw gwestiwn a gyfeiriwyd at y Prif Weithredwr a’r Clerc o dan baragraff 1.4.1 o’r penderfyniad y daethpwyd iddo a’r rhesymau dros y penderfyniad. Ni ddylai’r cofnod a gyhoeddwyd, cyn belled ag y bo modd, gynnwys unrhyw wybodaeth sy’n datgelu pwy yw’r Aelod unigol.


Ym mis Mawrth 2017, apeliodd Aelod yn erbyn penderfyniad a wnaed a oedd yn gwrthod cais i brynu offer a chyfarpar. Ystyriwyd yr apêl, ond cadwyd at y penderfyniad gwreiddiol gan yr ystyriwyd nad oedd yr offer a’r cyfarpar yn angenrheidiol er mwyn rhedeg swyddfa’r Aelodau a chyflawni eu swyddi.

 
|

 

Bwrdd Taliadau   

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi sefydlu Bwrdd Taliadau annibynnol. Mae’r Bwrdd yn sicrhau bod gan Aelodau’r Cynulliad adnoddau teg a phriodol i wneud eu gwaith hanfodol o gynrychioli pobl Cymru, dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a deddfu ar gyfer Cymru.

Sefydlwyd y Bwrdd drwy basio'r Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 a sefydlu’r Bwrdd hwn oedd un o 108 o argymhellion y Panel Adolygu Annibynnol ar Dâl a Lwfansau Aelodau’r Cynulliad yn ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2009.

 

 

Partners & Help