Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
       

Cwestiynau Cyffredin

Lwfansau’r Aelodau

Y System Cyhoeddi Lwfansau

 

 

 

Lwfansau’r Aelodau

Pwy yw Arweinwyr y Pleidiau?

Ar hyn o bryd, mae pedair prif blaid wleidyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, sef:

  • Plaid Geidwadol Cymru - Andrew RT Davies AC yw arweinydd y blaid

  • Plaid Lafur Cymru – Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, yw arweinydd y blaid

  • UKIP Cymru - Neil Hamilton AC yw arweinydd y blaid

  • Plaid Cymru –Leanne Wood AC yw arweinydd y blaid

 

 

 

Pam y mae angen lwfansau ar Aelodau’r Cynulliad?

Mae Aelodau’r Cynulliad yn cael cyflog i’w talu am eu rôl fel cynrychiolwyr a etholwyd yn ddemocrataidd, ond mae’n anochel y byddant hefyd yn mynd i gostau, a gallant hawlio ad-daliad am y rhain. Mae’r Cynulliad yn caniatáu iddynt ddefnyddio adnoddau i gyflogi staff ac i gynnal swyddfeydd yn eu hetholaethau, er mwyn iddynt ddelio â materion ac achosion sy’n peri pryder i’r bobl y maent yn eu cynrychioli. Gallant hefyd hawlio ad-daliad am y gost o deithio i’r Cynulliad yng Nghaerdydd yn ogystal â chostau aros dros nos tra byddant yn ymgymryd â busnes y Cynulliad.

 

 

Yn ôl i’r brig

 

 

Pwy sy’n penderfynu ar gyfradd y lwfansau?

Comisiwn y Cynulliad fyddai’n arfer cytuno ar derfyn cyflogau a lwfansau Aelodau’r Cynulliad, a byddent yn nodi’r rheolau hyn mewn dogfen o’r enw ‘Y Penderfyniad’.

Ar ôl penodi’r Bwrdd Taliadau ym mis Medi 2010, fodd bynnag, corff annibynnol sy’n penderfynu ar bob agwedd ar gymorth ariannol i’r Aelodau.

Caiff y Penderfyniad ei adolygu bob blwyddyn (weithiau ddwywaith y flwyddyn) a dyna pam y gwrthodir rhai hawliadau a ganiatawyd yn ystod blynyddoedd ariannol blaenorol.

 

 

Yn ôl i’r brig

 

 

Pam y sefydlwyd y Bwrdd Taliadau?

Yn ystod hydref 2007, penderfynodd Comisiwn Cynulliad Cymru sefydlu Panel o bedwar person annibynnol ac un aelod o Gomisiwn y Cynulliad (heb hawliau pleidleisio) i wneud argymhellion ar Gyflogau, Pensiynau a Lwfansau Aelodau’r Cynulliad.

Gwnaeth y Panel nifer o argymhellion, gan gynnwys cynnal archwiliad sylfaenol o daliadau a chymorth ariannol i’r Aelodau o dan y setliad datganoli a oedd yn datblygu. Byddai hyn yn caniatáu i’r Cynulliad seilio’i adolygiad ar effeithiau pwerau newydd y Cynulliad, wrth iddynt ddatblygu, gan fabwysiadu dulliau newydd o weithio, wedi’u haddasu ar gyfer y Cynulliad, a fyddai’n effeithlon, yn eglur, yn dryloyw ac yn syml.

Aeth y Comisiwn ati, felly, i sefydlu Panel Adolygu Annibynnol arall ym mis Awst 2008 er mwyn rhoi’r argymhelliad hwn ar waith. Cylch gwaith y Panel oedd archwilio pob agwedd ar gymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad, gan gynnwys tâl a lwfansau ar gyfer teithio, llety, swyddfeydd etholaethol a staff cymorth.

Ym mis Gorffennaf 2009, cyhoeddodd y Panel yr adroddiad Yn Gywir i Gymru a oedd yn cynnwys 108 o argymhellion yn ymwneud â thâl a lwfansau’r Aelodau, Penderfynodd Comisiwn y Cynulliad ar unwaith i gadarnhau’r argymhellion, ac un o’r rhain (Argymhelliad 12) oedd y dylid sefydlu Corff Adolygu Annibynnol statudol (Bwrdd Taliadau Cymru) i fod yn gyfrifol am benderfynu ar gymorth ariannol i’r Aelodau.

Pleidleisiodd y Cynulliad o blaid Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) ym mis Gorffennaf 2010.

 

 

Yn ôl i’r brig

 

 

 

 

Beth yw cylch gwaith y Bwrdd Taliadau?

Rôl y Bwrdd yw:

  • Penderfynu ar bob agwedd ar gymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad

  • Ystyried newidiadau yng nghyfrifoldebau Aelodau’r Cynulliad

  • Adolygu effeithiolrwydd ac effaith y broses uwchraddio

  • Ymdrin â materion ‘ad hoc’

 

 

Yn ôl i’r brig

 

 

Pwy sy’n penderfynu a yw hawliad yn ddilys?

Y tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau sy’n prosesu’r holl hawliadau i ddechrau a byddant yn holi ynghylch unrhyw beth sydd i’w weld yn anghyson â’r Penderfyniad. Gellir cyfeirio unrhyw benderfyniad ynglyn â thalu lwfansau at Brif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac, yn y pen draw,  at y Bwrdd Taliadau, sef y corff sydd â’r gair olaf ar bopeth yn ymwneud â chymorth ariannol i’r Aelodau.

 

Wrth hawlio treuliau, rhaid i’r Aelodau gyflwyno derbynebau boddhaol a rhaid i’r treuliau fod yn gwbl hanfodol i ganiatáu iddynt gyflawni’u dyletswyddau fel Aelodau’r Cynulliad.

 

 

Yn ôl i’r brig

 

 

Pa lwfansau all Aelodau eu hawlio ar hyn o  bryd?

Mae gan yr Aelodau hawl i gael nifer o lwfansau, a nodir pob un yn fanwl yn y Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau. Rhaid cyflwyno derbynebau gyda phob cais. Mae’r enghreifftiau o lwfansau y caiff Aelodau eu hawlio yn cynnwys:

Lwfans Costau Swyddfa

Mae gan yr Aelodau hawl i wneud cais am lwfans i dalu costau am ddodrefnu a chynnal swyddfa, ar gyfer eu cynorthwyo yn eu gwaith fel Aelod Cynulliad.

Lwfans Llety Preswyl

Gall yr Aelodau hawlio lwfans i dalu treuliau a gaiff eu hysgwyddo tra byddant yn aros dros nos, i ffwrdd o’u prif gartref at ddibenion cyflawni eu dyletswyddau fel Aelodau Cynulliad.

  • Gall Aelodau y mae eu prif gartrefi yn yr ardal fewnol wneud cais i'r tîm Cymorth Busnes i'r Aelodau, mewn amgylchiadau eithriadol, am ad-daliad cost gwesty yng Nghaerdydd;

  • Mae gan yr Aelodau y mae eu prif gartrefi yn yr ardal ryngol hawl i wneud cais am hyd at £3,420 am aros dros nos yng Nghaerdydd ym mhob blwyddyn;

  • Mae gan yr Aelodau y mae eu prif gartrefi yn yr ardal allanol hawl i wneud cais am hyd at £775 y mis (£9,300 y flwyddyn) i dalu costau rhentu sy’n gysylltiedig â dod o hyd i lety addas, wedi’i ddodrefnu yng Nghaerdydd.

Caiff yr Aelodau y mae eu prif gartrefi yn yr ardal allanol eu had-dalu am gostau mewn perthynas â’r dreth gyngor (heb fod yn uwch na Band F), biliau cyfleustodau, tanysgrifiad band-eang, trwydded deledu, yswiriant a chost gosod camau diogelwch ychwanegol sy’n angenrheidiol i leihau risg i ddiogelwch yr Aelod i’r eithaf, yn ychwanegol at yr uchafswm o £775 o rent bob mis.

Lwfans Costau Teithio:

Gall yr Aelodau hawlio treuliau teithio a ysgwyddwyd tra oeddent ar fusnes y Cynulliad. Disgwylir i’r Aelodau deithio gan ddefnyddio’r dull teithio mwyaf cost-effeithiol, gan ystyried union gost y siwrnai a chostau yn sgîl aros dros nos.

Lwfans Gwariant Staffio:

Mae gan Aelodau’r Cynulliad hawl i wneud cais am lwfans staffio hefyd. Fodd bynnag, oherwydd bod y wybodaeth hon yn cynnwys manylion am gyflogau staff Aelodau’r Cynulliad, ni allwn gyhoeddi manylion fesul aelod o staff oherwydd rheolau Diogelu Data.

 

 

Yn ôl i’r brig

 

 

 

Ad-dalu costau teithio: Beth yw’r gwahaniaeth rhwng taith arferol a thaith anarferol?

Os yw Aelod yn teithio rhwng dau le’n aml yn ystod blwyddyn ariannol, bydd y daith honno’n daith arferol. Yn aml iawn, hon fydd y daith rhwng y Cynulliad yng Nghaerdydd ac etholaeth yr Aelod neu daith i ymgymryd â busnes y Cynulliad yn rhywle arall (e.e. taith yn etholaeth yr Aelod). Rydym wedi’n rhwymo’n gyfreithlon i beidio â rhyddhau’r wybodaeth hon oherwydd diogelwch.

Taith anarferol fydd pob math arall o daith ac, yn yr achosion hyn, caiff y manylion eu cyhoeddi.

 

 

Yn ôl i’r brig

 

 

 

Beth yw’r rheolau’n ymwneud ag ‘ail gartrefi’ŷ

Ers mis Mai 2011, mae gan yr Aelodau y mae eu prif gartrefi yn yr ardal allanol hawl i gael llety addas wedi’i ddodrefnu, yng Nghaerdydd, hyd at uchafswm cost o £775 o rent bob mis (£9,300 y flwyddyn).

Noder bod trefniadau trosiannol yn gymwys ar gyfer yr Aelodau hynny a oedd â threfniadau llog morgais ail gartref cyn 2011.  

Ni chaiff Aelodau wneud cais am gost dodrefn a gosodiadau.

 

 

Yn ôl i’r brig

 

 

A gaiff Aelodau gyfnewid statws eu cartrefi?

Na allant. Er bod gan yr Aelodau hawl i wneud cais am gost gorfod cynnal ail gartref, rhaid i hwn fod o fewn pum milltir i’r Cynulliad. Ni chaiff yr Aelodau “newid” dynodiad yr ail gartref rhwng eu cartref yng Nghaerdydd a’u cartref yn eu hetholaeth.

 

 

Yn ôl i’r brig

 

 

A oes raid i’r Aelodau dalu treth ar eu lwfansau?

Sylwch fod gwahanol ddarpariaethau treth yn berthnasol i wahanol elfennau o lwfansau’r Aelodau. Yr Aelodau sy’n gyfrifol am sicrhau eu bod yn datgelu unrhyw lwfansau trethadwy.  

 

 

Yn ôl i’r brig

 

 

 

Y System Cyhoeddi Lwfansau

Am beth allaf fi chwilio ar y System Cyhoeddi Lwfansau?

Mae modd defnyddio’r system i chwilio am hawliadau’n ôl:

  • Blwyddyn a/neu fis (gadewch y mis yn wag os ydych am weld y cyfanswm ar gyfer y flwyddyn)

  • Aelod Cynulliad (peidiwch â nodi dewis os ydych am weld hawliadau holl Aelodau’r Cynulliad)

  • Math o lwfans (peidiwch â nodi dewis os ydych am weld yr holl lwfansau)

  • Math o wariant (peidiwch â nodi dewis os ydych am weld yr holl fathau o wariant)  

 

 

Yn ôl i’r brig

 

 

Pa flynyddoedd ariannol sydd wedi’u cynnwys ar y System?

Mae’r System Cyhoeddi Lwfansau’n cynnwys data o flwyddyn ariannol 2008/2009 ymlaen. Ar hyn y bryd, cyhoeddir treuliau dri mis wedi iddynt gael eu hawlio (h.y. bydd treuliau a hawliwyd ym mis Mai yn cael eu cyhoeddi ym mis Awst etc.)

 

Nid yw treuliau blynyddoedd ariannol 2006/2007 a 2007/2008 wedi’u harchifo ar y System Cyhoeddi Lwfansau ond gallwch eu gweld drwy glicio ar y lincs uchod.

 

 

Yn ôl i’r brig

 

 

Pam na allaf weld fanylion llawn pob hawliad?

Os bydd manylion hawliad yn golygu datgelu data personol sensitif, neu’n peryglu diogelwch (e.e. gwybodaeth am gyfeiriad cartref, manylion siwrnai arferol neu gyflwr meddygol) ni chaiff y manylion hynny eu cynnwys.

Dyma un o ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Rhyddid Gwybodaeth (Y Senedd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru) 2008.

 

 

Yn ôl i’r brig

 

 

A oes modd gweld derbynebau’n gysylltiedig â hawliadau?

Er bod yn rhaid i’r Aelodau gyflwyno prawf o’u gwariant wrth hawlio ad-daliad (ac ni chânt yr ad-daliad hebddynt), ni fydd y dystiolaeth yn cael ei chynnwys ar y System Cyhoeddi Lwfansau.

 

 

Yn ôl i’r brig

 

 

 

Pam mae’n ymddangos bod Aelodau’r Cynulliad wedi gwario mwy nag y cânt ei hawlio?

Cyn 2011 roedd yn bosibl i Aelodau’r Cynulliad drosglwyddo arian o un gyllideb i’r llall  – gelwir hyn yn ‘drosglwyddo arian’. Mae’r rheolau llym sy’n ymwneud â beth y gellir ei drosglwyddo i’w gweld mewn fersiynau cynharach o’r Penderfyniad.

 

 

 

 

 

 

Sut y caiff y ffigurau eu harchwilio?

Caiff y ffigurau eu harchwilio bob blwyddyn gan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae hyn yn sicrhau bod y broses, y dulliau o weithio a’r gweithdrefnau’n gywir. Caiff y ffigurau hefyd eu cysoni’n fewnol bob mis i sicrhau bod y data a’r trefniadau ariannol yn gywir.

 

 

 

 

 

Pwy ddylwn i gysylltu â nhw i gael rhagor o wybodaeth?

Gall Llinell Wybodaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymdrin â cheisiadau am ragor o wybodaeth a’u hanfon ymlaen at y timau perthnasol yn y Cynulliad. Gall aelodau’r wasg, fodd bynnag, gysylltu â Swyddog y Wasg ar 029 2089 8646.

 

 

 

 

Partners & Help