Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 

Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016: Gwybodaeth i ymgeiswyr

Ar y dudalen hon mae gwybodaeth gefndir i ymgeiswyr yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016 ynghylch sefyll mewn etholiad. Hefyd, mae amlinelliad o'r cymorth a'r canllawiau a fydd ar gael iddynt os cânt eu hethol.

Cymhwyster i fod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru

I fod yn gymwys i fod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid ichi fodloni gofynion penodol o ran oedran a dinasyddiaeth, ac mae'n angenrheidiol nad oes dim yn eich gwneud yn anghymwys.

Mae ystod lawn y gwaharddiadau yn fater cymhleth—maent yn cynnwys, er enghraifft, deiliaid rhai swyddi, rhai pobl (ond nid pawb) a farnwyd yn fethdalwyr, a phobl a farnwyd yn euog o droseddau penodol neu sydd wedi'u dedfrydu i'r carchar am droseddau penodol. 

O ran y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag anghymhwyso, Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y'i diwygiwyd) a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015 sydd gyda'r mwyaf allweddol.

Nid yw'r ddeddfwriaeth uchod yn cynnwys popeth, a chanllaw yn unig yw'r wybodaeth a roddir yma. Cyfrifoldeb pob ymgeisydd yw sicrhau nad yw'n anghymwys i fod yn Aelod Cynulliad.

Mae'r Comisiwn Etholiadol yn llunio canllawiau i ymgeiswyr ac asiantau. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch bod yn gymwys neu'n anghymwys yn Rhan 1 o'r pecyn canllawiau. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw amheuaeth, dylech edrych yn yr holl ddeddfwriaeth berthnasol a/neu ddilyn cyngor cyfreithiol annibynnol.

Y Profiad o fod yn Aelod Cynulliad

Ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999, mae natur gyfansoddiadol y corff sy'n deddfu ar gyfer Cymru wedi newid yn ddramatig ac mae'n parhau i ddatblygu.

Yn y Pumed Cynulliad, bydd y Cynulliad yn cael y pŵer i ddeddfu i godi trethi datganoledig a bydd y Bil Cymru drafft, os caiff ei basio, yn newid y setliad datganoli yn sylfaenol.

Bydd gan Aelodau o'r Pumed Cynulliad rôl bwysig ac unigryw o ran cynrychioli pobl Cymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, a hynny ar adeg y bydd democratiaeth yng Nghymru yn esblygu o'u cwmpas.

Rôl Aelodau'r Cynulliad

Mae Aelodau'r Cynulliad yn cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, yn deddfu ar gyfer Cymru, ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Mae Aelodau yn cynrychioli buddiannau'r unigolion sy'n byw yn yr etholaethau neu'r rhanbarthau y cawsant eu hethol i'w cynrychioli. Maent yn dod i gysylltiad â'r cyhoedd yn rheolaidd drwy gyfarfodydd, galwadau ffôn, gohebiaeth neu gymorthfeydd.

Pan fydd y Cynulliad yn eistedd, bydd Aelodau'r Cynulliad yn cyfarfod yn y Senedd ym Mae Caerdydd i drafod y materion sydd o bwys i Gymru a'i phobl. Maent yn cyfarfod yn y Cyfarfod Llawn ddwywaith yr wythnos, ac yno mae Aelodau yn gofyn cwestiynau i Weinidogion Llywodraeth Cymru, yn cynnal dadleuon ar faterion megis polisïau'r Llywodraeth ac adroddiadau pwyllgorau, ac yn trafod cyfreithiau arfaethedig. Caiff gwrthbleidiau gynnal dadleuon ar faterion o'u dewis. Dyrennir y cyfleoedd i gynnig dadl yn ôl maint cymharol y pleidiau yn y Cynulliad.

Mae Aelodau'r Cynulliad hefyd yn cyfarfod mewn pwyllgorau y mae'r Cynulliad wedi eu sefydlu ar gyfer tasgau penodol. Mae'r rhain yn cynnwys archwilio deddfau, craffu ar bolisi, a rheoli busnes y Cynulliad.

Trwy'r pwyllgorau, mae'r Cynulliad yn gallu cyflawni gwaith craffu mwy manwl, a chaiff Aelodau arbenigo mewn pynciau penodol.

Cadarnhad neu lw teyrngarwch

Mae gofyn i Aelodau'r Cynulliad dyngu llw teyrngarwch neu roi cadarnhad cyfatebol yn fuan ar ôl iddynt gael eu hethol. Ni allant wneud eu gwaith yn llawn fel Aelodau Cynulliad hyd nes y tyngwyd y llw neu y rhoddwyd y cadarnhad.

Cymorth ar gyfer Aelodau

Mae Aelodau rhanbarthol ac Aelodau etholaethol yn cael yr un cymorth. Mae rhagor o wybodaeth am rolau a chyfrifoldebau Aelodau etholaethol ac Aelodau rhanbarthol yn y Rheolau Sefydlog, sef y rheolau sy'n rheoli gweithdrefnau'r Cynulliad.

Cymorth gan y Comisiwn

Comisiwn y Cynulliad yw'r corff corfforaethol sy'n gyfrifol am sicrhau bod eiddo, staff a gwasanaethau'n cael eu darparu ar gyfer y Cynulliad.  Mae Comisiwn y Cynulliad yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod o bleidiau gwleidyddol gwahanol.  

Mae staff y Comisiwn yn darparu gwahanol fathau o gymorth, gan gynnwys cyngor amhleidiol, arweiniad a chymorth ymarferol i Aelodau.

Mae gwasanaethau'r Comisiwn yn cynnwys:

  • Cymorth ar gyfer Busnes y Cynulliad, gan gynnwys y Cyfarfod Llawn a'r Pwyllgorau;

  • Gwasanaeth Ymchwil sy'n darparu papurau briffio a dadansoddiadau;

  • Gwasanaethau Cyfreithiol;

  • Cyfathrebu, gan gynnwys timau Allgymorth ac Addysg;

  • Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd;

  • TGCh; a

  • Gwasanaethau Aelodau megis datblygiad proffesiynol parhaus, cymorth ariannol ac arweiniad i'r Aelodau fel cyflogwyr.

Cyflogau a Lwfansau

Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r corff annibynnol sy'n gyfrifol am bennu cyflogau, pensiynau a lwfansau Aelodau'r Cynulliad a'u staff.  Mae'r Bwrdd yn annibynnol ar y Cynulliad Cenedlaethol ac Aelodau'r Cynulliad.

Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad

Caiff Aelodau gyflogi staff i'w cynorthwyo gyda'u dyletswyddau fel Aelodau Cynulliad yn unol â'r Penderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad gan y Bwrdd Taliadau. 

Mae cyngor a chymorth o ran recriwtio staff ar gael i Aelodau'r Cynulliad gan staff Comisiwn y Cynulliad.

Swyddfeydd

Ystâd y Cynulliad yw tri adeilad ym Mae Caerdydd (y Senedd, Tŷ Hywel a'r Pierhead), a swyddfa ym Mae Colwyn.

Darperir swyddfa i bob Aelod yn Nhŷ Hywel, sef yr adeilad ger y Senedd. Hefyd, darperir ar gyfer costau swyddfa yn yr etholaeth/rhanbarth. Yn gyffredinol, mae Aelodau'n dewis swyddfeydd sy'n hawdd i'w hetholwyr eu cyrraedd ac sy'n hygyrch ar gyfer staff ac etholwyr.

Diogelwch

Mae diogelwch yn flaenoriaeth gan y Cynulliad. Rhoddir pàs diogelwch i Aelodau a'u staff ar ôl i'r llw gael ei dyngu neu ar ôl i'r cadarnhad gael ei roi—rhaid i basys gael eu dangos bob amser ar ystâd y Cynulliad. Mae gan y Cynulliad Uned Heddlu benodol yn Nhŷ Hywel, a'i thasg hi, ar y cyd â'r Tîm Diogelwch, yw gwarchod ystâd y Cynulliad a sicrhau na therfir ar fusnes.

Ieithoedd swyddogol

Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Cynulliad, ac mae'r Cynulliad yn anelu at fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog. Mae'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn nodi'r hyn y mae'r Cynulliad yn ei ddarparu yn ddwyieithog ar hyn o bryd; mae hefyd yn nodi'r gwasanaethau y mae'n anelu at eu darparu. Mae'r Cynllun yn seiliedig ar Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 ac fe'i mabwysiadwyd gan y Cynulliad yn ffurfiol ym mis Gorffennaf 2013.

Cydraddoldeb

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal fel cyflogwr ac fel darparwr gwasanaethau. Mae Cynllun Cydraddoldeb 2012-16 y Cynulliad yn egluro sut y bydd y Cynulliad yn hyrwyddo cydraddoldeb, parchu amrywiaeth, a chanfod rhwystrau posibl i gydraddoldeb a'u dileu ar gyfer ein staff, Aelodau'r Cynulliad a'u staff, a'r cyhoedd. Caiff Cynllun Cydraddoldeb newydd ei ddatblygu ar gyfer y Pumed Cynulliad.

Fel cyflogwyr a darparwyr gwasanaethau, mae Aelodau'r Cynulliad yn ddarostyngedig i ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae cyngor ynghylch cyflawni'r dyletswyddau ar gael i Aelodau mewn ffeithlenni, neu fe'i ceir gan Dîm Cydraddoldeb y Comisiwn.

Gwasanaethau eraill a gwybodaeth bellach

Bydd Comisiwn y Cynulliad yn cyfeirio Aelodau'r Cynulliad at wasanaethau a chyfleusterau eraill, fel cymorth i Aelodau anabl, gofal plant, triniaeth feddygol pan na fyddant yn aros yn eu prif gartref, arlwyo, gwasanaethau post a rhwydweithiau cefnogi staff. 

Darperir gwybodaeth a chymorth pellach i Aelodau ar bob agwedd ar eu rôl fel Aelodau Cynulliad ar ôl iddynt dyngu'r llw neu roi'r cadarnhad.

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost atom: CyswlltAelodau@cynulliad.cymru

Partners & Help