Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Adran 2.4 - Rheolau ynghylch gweithredu Grwpiau Trawsbleidiol

Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â pharagraff 10 o'r Cod Ymddygiad.

  • Diweddarwyd: Chwefror 2010

  • Perchennog: Comisiwn y Cynulliad

  • Cyswllt: Cymorth Busnes y Cynulliad

1. Cyflwyniad

1.   Mae gan grwpiau trawsbleidiol gydnabyddiaeth eang am fod yn rhan werthfawr o'r broses ddemocrataidd. Mae hi yr un mor bwysig bod grwpiau yn gweithredu mewn modd agored a thryloyw.

2.   Mae'r rheolau hyn ar y ffordd mae grwpiau trawsbleidiol yn gweithredu yn disodli Canllawiau'r Llywydd ar Ffurfio Grwpiau Trawsbleidiol, a wnaed ar 10 Mawrth 2004.

3.   Mae holl grwpiau trawsbleidiol presennol y Cynulliad yn ddarostyngedig i'r Rheolau newydd hyn o'r dyddiad y daw'r Rheolau i rym.

2. Diffiniad a Statws

4.   Diben grwpiau trawsbleidiol y Cynulliad yw cynnig fforwm i Aelodau'r Cynulliad o wahanol bleidiau i ddod ynghyd i drafod ac ystyried meysydd sydd o ddiddordeb cyffredinol iddynt.

5.   Nid yw grwpiau trawsbleidiol yn grwpiau ffurfiol o'r Cynulliad ac nid ydynt felly'n ddarostyngedig i Reolau Sefydlog y Cynulliad. Nid oes rôl ffurfiol ganddynt mewn datblygu polisi.

6.   Caiff Aelodau sefydlu grwpiau trawsbleidiol i ymdrin ag unrhyw faes sy'n berthnasol i'r Cynulliad, ond ni ddylai geisio dyblygu meysydd swyddogaeth pwyllgorau'r Cynulliad, ac nid oes ganddynt unrhyw bwerau fel sydd gan bwyllgorau'r Cynulliad (h.y. ni allant alw ar unrhyw dystion neu Weinidogion i ddod i'w cyfarfodydd neu i gyflwyno dogfennaeth, ac ni chânt ddefnyddio logo na brand Cynulliad Cenedlaethol Cymru).

3. Aelodau

7.   Rhaid i grŵp trawsbleidiol gynnwys Aelodau o dri grŵp plaid gwleidyddol o leiaf a gaiff eu cynrychioli yn y Cynulliad.

8.   Yn ogystal, gall grwpiau gynnwys aelodau o'r tu allan i'r Cynulliad. Y grŵp fydd yn cael penderfynu gwahodd unigolion o'r tu allan i'r Cynulliad i fod yn aelod.

4. Ethol deiliaid swyddi

9.   Dylai pob grŵp ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd.

10. Rhaid i Gadeirydd y grŵp fod yn Aelod Cynulliad. Gall Ysgrifennydd y grŵp fod naill ai'n Aelod Cynulliad, yn aelod o staff cymorth Aelodau'r Cynulliad neu'n unigolyn o'r tu allan i'r Cynulliad. Pan fydd grŵp yn penodi Ysgrifennydd nad yw'n Aelod Cynulliad, ni chaiff yr unigolyn hwnnw weithredu heb gael sêl bendith Cadeirydd y grŵp o flaen llaw. Rhaid i bob hysbysiad, gohebiaeth, dogfennaeth a threfniadau eraill ynghylch gweithgareddau'r grŵp gael eu cyhoeddi yn enw'r Cadeirydd.

11. Fel arfer, rhaid i grŵp gynnal cyfarfod i ethol ei ddeiliaid swyddi. I ddechrau, disgwylir i'r deiliaid swyddi gael eu hethol mewn cyfarfod cyffredinol blynyddol dechreuol. Fodd bynnag, gall deiliaid swyddi hefyd gael eu hethol yng nghyfarfodydd eraill y grŵp. Ar ôl ethol deiliad swydd, dylai Cadeirydd y grŵp roi hysbysiad ynghylch y newid hwn o fewn pedair wythnos gan ddefnyddio'r ffurflen gofrestru yn Atodiad A.

5. Cofrestru

12. Ar ôl cynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol dechreuol neu ethol deiliaid swyddi drwy ddull arall, dylai grwpiau trawsbleidiol gael eu cofrestru drwy ddefnyddio'r ffurflen gofrestru briodol. Rhaid i'r ffurflen gofrestru gael ei llofnodi gan Gadeirydd y grŵp, a rhaid iddo gynnwys rhestr o'r aelodau, gan gynnwys enw o leiaf dau Aelod arall o ddau grŵp plaid arall yn y Cynulliad, ac enwau holl aelodau'r grŵp nad ydynt yn Aelodau Cynulliad.

13. Bydd y manylion ar y ffurflenni cofrestru yn cael eu cyhoeddi gan swyddogion Comisiwn y Cynulliad ar adran y grŵp trawsbleidiol perthnasol ar wefan y Cynulliad.

14. Bydd disgwyl i grwpiau trawsbleidiol sydd eisoes yn bodoli yn y Cynulliad gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol o fewn 12 mis i'r dyddiad y daeth y rheolau hyn i rym. Bydd disgwyl i unrhyw grwpiau a gaiff eu cofrestru ar ôl y dyddiad hwn gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol o fewn 12 mis i'r dyddiad y cawsant eu cofrestru.

6. Ailgofrestru Grwpiau Trawsbleidiol ar ôl cyfnod o ddiddymiad

15. Mae'n rhaid i grwpiau ailgofrestru ar ddechrau pob Cynulliad newydd ar ôl etholiad.

7. Cofnodi newidiadau

16. Cadeirydd y grŵp sy'n gyfrifol am roi gwybod am unrhyw newidiadau i fanylion grwpiau, gan gynnwys newidiadau i ddeiliaid swyddi, drwy gyflwyno ffurflen gofrestru ddiwygiedig. Dylid rhoi gwybod am unrhyw newidiadau o fewn pedair wythnos i'r dyddiad y daethant i rym, a byddant yn cael eu cyhoeddi ar adran y grŵp trawsbleidiol perthnasol ar wefan y Cynulliad.

Cynnal Cyfarfodydd

8. Defnyddio cyfleusterau ac adnoddau'r Cynulliad

17. Nid yw grwpiau trawsbleidiol yn cael blaenoriaeth dros fusnes swyddogol y Cynulliad, ac felly dim ond pan fydd cyfleusterau'r Cynulliad ar gael y cânt eu defnyddio.

18. Rhaid i Gadeirydd y grŵp wneud cais i neilltuo ystafell ar gyfer cynnal cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol. Yr Aelod hwnnw fydd hefyd yn gyfrifol am holl drefniadau'r cyfarfod gan gynnwys mynd i gwrdd ag aelodau allanol o'r grŵp a'u tywys o amgylch adeiladau'r Cynulliad.

19. Nid oes gan grwpiau trawsbleidiol hawl i ddefnyddio unrhyw rai o wasanaethau staffio Comisiwn y Cynulliad fel gwasanaethau'r pwyllgorau. Fodd bynnag, caiff cyfieithu ar y pryd, o'r Gymraeg i'r Saesneg, ei ddarparu ar gyfer cyfarfodydd a gynhelir ar ystad y Cynulliad os bydd Cadeirydd y grŵp yn gwneud cais am y gwasanaeth.

20. Rhaid i grwpiau trawsbleidiol barchu'r cyfyngiadau sydd ar eu defnydd o gyfleusterau ac adnoddau'r Cynulliad. Caiff Aelodau wneud defnydd rhesymol o gyfleusterau ffôn, ffacs, llungopïo a TG y Cynulliad ac offer swyddfa'r Cynulliad wrth ymgymryd â busnes grwpiau trawsbleidiol, neu er mwyn cyflawni gofynion y rheolau hyn, e.e. i ddarparu gwybodaeth i'w chyhoeddi ar wefan y Cynulliad.

21. Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y grŵp yn cydymffurfio â'r rheolau ar ddefnydd y grŵp o adnoddau a chyfleusterau'r Cynulliad. Nid oes gan sefydliadau nac unigolion allanol, sydd â chysylltiadau â grwpiau trawsbleidiol, hawl i ddefnyddio adnoddau'r Cynulliad.

9. Darparu gwybodaeth yn Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad

22. Bydd unrhyw wybodaeth a gaiff ei darparu gan Gomisiwn y Cynulliad am grwpiau trawsbleidiol, ac sydd i'w chyhoeddi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y rheolau hyn, ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg yn unol â darpariaethau Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 a Chynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am aelodaeth, dyddiad a lleoliadau cyfarfodydd, cofnodion yr holl gyfarfodydd, gan gynnwys y cyfarfod cyffredinol blynyddol, a'r datganiad ariannol blynyddol.

23. Y grŵp trawsbleidiol ei hun fydd yn gyfrifol am wneud trefniadau i gyfieithu dogfennau sy'n gysylltiedig â'r grŵp trawsbleidiol nad oes angen eu cyhoeddi ar wefan y Cynulliad.

10. Cronfa Fynediad Cynulliad

24. Sefydlwyd y Gronfa Fynediad i sicrhau bod gan Aelodau'r Cynulliad y cymorth angenrheidiol i ymgysylltu ag etholwyr sydd ag anghenion amrywiol, ac i ddarparu cymorth ychwanegol i Aelodau anabl a staff cymorth anabl.

25. Ni cheir defnyddio'r Gronfa Fynediad i dalu am wasanaethau cyfieithu testun i Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad nac ar gyfer gwasanaethau cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg mewn digwyddiadau a noddir gan Aelodau a gaiff eu trefnu gan gyrff allanol.

26. Os yw'r Cadeirydd yn teimlo bod angen cymorth ychwanegol ar y grŵp trawsbleidiol er mwyn caniatáu iddo ymgysylltu ag etholwyr sydd ag anghenion amrywiol, er enghraifft i gyfieithu ar y pryd i iaith ar wahân i un o ieithoedd swyddogol y Cynulliad, ac na all y cymorth hwn gael ei ddarparu gan aelodaeth y grŵp, yna gallant gyflwyno achos busnes i'r tîm Cymorth Busnes i Aelodau er mwyn defnyddio'r Gronfa. Ceir canllawiau manylach ar y Gronfa Fynediad ar Fewnrwyd yr Aelodau. Wrth gyflwyno achos busnes am gymorth ariannol, dylai'r Cadeirydd ystyried statws grwpiau trawsbleidiol a chofio nad ydynt yn rhan o drafodion swyddogol y Cynulliad.

11. Rhoi gwybod am gyfarfodydd o flaen llaw

27. Fel arfer, cyfrifoldeb Cadeirydd y grŵp fydd cyhoeddi gwybodaeth am amseroedd a lleoliadau cyfarfodydd y grŵp. Os yw'r swyddogaeth honno wedi cael ei dirprwyo i Ysgrifennydd y grŵp, ni chaiff yr unigolyn hwnnw weithredu heb gael sêl bendith Cadeirydd y grŵp o flaen llaw. Rhaid i bob hysbysiad, gohebiaeth, dogfennaeth a threfniadau eraill ynghylch gweithgareddau'r grŵp gael eu cyhoeddi yn enw'r Cadeirydd..

28. Dylai Cadeirydd y grŵp ddarparu manylion am amseroedd a lleoliadau cyfarfodydd i swyddogion perthnasol Comisiwn y Cynulliad fel y gallant gyhoeddi'r wybodaeth ar adran y grŵp trawsbleidiol ar wefan y Cynulliad.

12. Rheolau Ariannol a Chofrestru Buddiannau

29. Nid oes gan y Cynulliad gyllideb i dalu am gostau rhedeg grwpiau trawsbleidiol, ac eithrio i dalu am yr adnoddau a nodir yn adrannau 8-10 uchod. Rhaid i aelodau'r grŵp dalu am unrhyw gostau eraill o'r fath eu hunain.

30. Mae'n rhaid i grwpiau trawsbleidiol gofio am uniondeb y Cynulliad wrth ystyried derbyn unrhyw symiau arian, rhoddion, lletygarwch ac ati gan gyrff allanol. Yn benodol, mae gofyn i Aelodau unigol gydymffurfio â'r rheolau ynghylch cofrestru a datgan buddiannau ariannol mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd y maent yn ymgymryd â hwy o fewn grwpiau trawsbleidiol neu ar ran y grŵp - fel y'i nodwyd yn Rheol Sefydlog 2.

31. Yn benodol, mae Adran 5 o'r Atodiad i Reol Sefydlog 2 yn nodi'r buddiannau cofrestradwy. Mae hyn yn cynnwys; "(iv) rhoddion, lletygarwch, buddion materol neu fantais faterol y mae eu gwerth yn uwch na'r hyn a ragnodir mewn unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad..." a "(v) unrhyw dâl neu fudd materol arall y mae'r Aelod [...] yn ei gael oddi wrth unrhyw gwmni preifat neu gyhoeddus neu unrhyw gorff arall sydd wedi tendro, neu sy'n tendro, am gontract gyda'r Cynulliad, neu sy'n meddu ar gontract o'r fath."

32. Ar 10 Mai 2006, penderfynodd y Cynulliad mai lefel y gwerth y mae'n rhaid cofrestru/datgan rhoddion, lletygarwch ac unrhyw fuddion eraill yw 0.5% o gyflog blynyddol crynswth sylfaenol y Cynulliad i Aelod Cynulliad. O dan y Penderfyniad presennol, mae hyn yn cynnwys unrhyw beth sydd werth mwy na £269.26 (0.5% o £53,852).

33. Mae Aelod Cynulliad sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad ond nad yw wedi cydymffurfio â'r rheolau ar gofrestru buddiannau yn cyflawni trosedd o dan adran 36 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

34. Yn ogystal â'r gofyniad i Aelodau unigol o grwpiau trawsbleidiol gofrestru unrhyw symiau arian, rhoddion, lletygarwch neu fuddion eraill gan gyrff allanol ar Gofrestr Buddiannau'r Cynulliad (yn unol â Rheol Sefydlog 2), dylai adroddiad blynyddol y grŵp trawsbleidiol restru'r holl fuddion a gafwyd gan y grŵp cyfan, neu gan aelodau unigol, gan gyrff allanol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gymorth gweinyddol neu gymorth arall neu wasanaethau a ddarparwyd i'r grŵp.

35. Caiff Aelodau eu hatgoffa hefyd am ddarpariaethau Rheol Sefydlog 2.8, sy'n gwahardd lobïo am dâl neu gydnabyddiaeth ac sy'n drosedd o dan adran 36 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Caiff lobïo am dâl neu gydnabyddiaeth ei ddiffinio yn y Rheolau Sefydlog fel cychwyn neu ddadlau o blaid "unrhyw achos neu fater ar ran unrhyw gorff neu unigolyn mewn unrhyw drafodion yn y Cynulliad, nac annog unrhyw Aelod arall i gychwyn neu ddadlau o blaid unrhyw achos neu fater mewn unrhyw drafodion o'r fath, yn gyfnewid am unrhyw dâl neu fudd mewn da, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, y mae'r Aelod, neu, hyd y gŵyr yr Aelod, ei bartner neu unrhyw blentyn dibynnol sydd gan yr Aelod, wedi' gael neu'n disgwyl ei gael."

13. Y cyfarfod cyffredinol blynyddol a'r adroddiad blynyddol a'r datganiad ariannol

36. Rhaid i Gadeirydd y grŵp trawsbleidiol alw am gyfarfod cyffredinol blynyddol bob 12 mis. Yn y cyfarfod hwnnw, rhaid i'r grŵp enwebu a phleidleisio dros y deiliaid swyddi (gweler yr adran 'Ethol deiliaid swyddi' uchod). Rhaid i'r deiliaid swyddi gael eu hethol yn swyddogol yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol hyd yn oed os yw'r deiliad swydd wedi cael ei benodi eisoes mewn cyfarfod diweddar.

37. Cyfarfod cyntaf y grŵp fydd ei gyfarfod cyffredinol blynyddol dechreuol. Ar ôl pob cyfarfod cyffredinol blynyddol wedi hynny, rhaid i Gadeirydd y grŵp trawsbleidiol, o fewn 6 wythnos, gyhoeddi adroddiad blynyddol a datganiad ariannol. Rhaid i'r adroddiad:

gynnwys aelodaeth y grŵp ac enwau deiliaid y swyddi;

nodi nifer y cyfarfodydd y mae'r grŵp wedi'u cynnal ers y cyfarfod cyffredinol blynyddol diwethaf, pwy fu'n bresennol, a chrynodeb o'r materion a drafodwyd;

nodi enwau'r holl lobïwyr proffesiynol a'r sefydliadau gwirfoddol ac elusennol y mae'r grŵp wedi cwrdd â nhw yn ystod y flwyddyn flaenorol; a

chynnwys datganiad ariannol blynyddol sy'n nodi gwariant y grŵp a pha fuddion a lletygarwch a gafodd y grŵp. Rhaid i'r datganiad gynnwys dadansoddiad o gostau'r holl nwyddau a gwasanaethau a ddarparwyd, a'r buddion a gafwyd, ac enwau'r darparwr/ darparwyr.

38. Bydd y cofnodion yn cael eu cyhoeddi ar adran y grŵp trawsbleidiol perthnasol ar wefan y Cynulliad.

14. Cofnodion Cyfarfodydd

39. Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol fydd yn gyfrifol am sicrhau bod cofnodion pob cyfarfod o'r grŵp yn cael eu rhoi i swyddog perthnasol Comisiwn y Cynulliad o fewn pedair wythnos i gynnal y cyfarfod. Rhaid i'r cofnodion gynnwys manylion am leoliad y cyfarfod, pwy oedd yn bresennol, gan gynnwys enwau a theitlau deiliaid swyddi'r grŵp fel y Cadeirydd a'r Ysgrifennydd, enwau Aelodau'r grŵp ac ymwelwyr neu westeion allanol, a disgrifiad cryno o'r materion a drafodwyd. Bydd y cofnodion yn cael eu cyhoeddi ar adran y grŵp trawsbleidiol perthnasol ar wefan y Cynulliad.

15. Cydymffurfio â'r rheolau

40. Er bod cyfrifoldeb ar holl Aelodau'r Cynulliad sy'n aelodau o grwpiau trawsbleidiol i sicrhau bod y grŵp yn cynnal ei fusnes mewn modd priodol, Cadeirydd y grŵp, fel y llofnodwr, fydd yn bennaf cyfrifol am sicrhau bod y grŵp yn cydymffurfio â'r rheolau.

41. Gall methu â chydymffurfio â'r rheolau, neu dorri'r rheolau, mewn perthynas â chofrestru grwpiau trawsbleidiol, ethol deiliaid swyddi, cynnal cyfarfodydd cyffredinol blynyddol neu ddarparu gwybodaeth sy'n ofynnol yn ôl y rheolau, arwain at y grŵp yn colli cydnabyddiaeth ar awdurdod y Llywydd (bydd y grŵp yn cael ei ddatgofrestru a bydd yr holl fanylion am y grŵp yn cael ei dynnu oddi ar wefan y Cynulliad).

42. Os oes gan unrhyw Aelod bryder ynghylch dehongli'r Rheolau, dylai gysylltu â swyddog/swyddogion Comisiwn y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros gofrestru grwpiau trawsbleidiol yn yr achos cyntaf.

43. Yn unol â Gweithdrefn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Ymdrin â Chwynion yn erbyn Aelodau'r Cynulliad, y Comisiynydd Safonau a'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad fydd yn ymdrin ag unrhyw gŵyn ynghylch safonau ymddygiad personol, defnydd priodol o adnoddau'r Cynulliad a/neu gofrestru buddiannau yn unol â Rheol Sefydlog 2, mewn perthynas â gweithgareddau Aelod sy'n gysylltiedig â grŵp trawsbleidiol. Gall hyn arwain at osod sancsiynau ar Aelod penodol.

44. O dro i dro, gall y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyried papur gan swyddogion y Comisiwn sy'n ymdrin â chofrestru gwybodaeth am weithgareddau grwpiau trawsbleidiol ac, os yw'n angenrheidiol, gwneud argymhellion i'r Llywydd ynghylch cydymffurfio â'r rheolau hyn.

Cytunwyd gan benderfyniad y Cynulliad ar 26 Mehefin 2013


 

Partners & Help