Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

​Adran 2.5 - Canllawiau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar lobïo a mynediad at Aelodau’r Cynulliad

Mae'r rheolau hyn yn ymwneud â pharagraffau 3 a 4 y Cod Ymddygiad.

  • Diweddarwyd: 23 Mehefin 2013

  • Perchennog: Y Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad

  • Cyswllt: Clerc y Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad

1. Bwriedir i'r canllawiau hyn gyd-fynd â gofynion Cod Ymddygiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, a'u hategu.

2. Ni ddylai Aelod Cynulliad, wrth ddod i gysylltiad ag unrhyw berson neu sefydliad sy'n lobïo, wneud unrhyw beth sy'n mynd yn groes i God Ymddygiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, nac unrhyw reol neu benderfyniad perthnasol arall gan y Cynulliad nac unrhyw ddarpariaeth statudol.

3. Ni ddylai Aelod, wrth ddod i gysylltiad ag unrhyw berson neu sefydliad sy'n lobïo, ymddwyn mewn unrhyw ffordd a allai ddwyn anfri ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru, neu ei Aelodau'n gyffredinol.

4. Rhaid sicrhau'r cyhoedd nad yw unrhyw berson neu sefydliad yn cael gwell mynediad at unrhyw Aelod, neu'n cael triniaeth ffafriol ganddo, o ganlyniad i gyflogi lobïwr proffesiynol, naill ai fel cynrychiolydd neu i ddarparu cyngor strategol. Yn benodol, ni ddylai Aelod gynnig na rhoi mynediad neu driniaeth ffafriol i lobïwyr proffesiynol neu eu cyflogwyr. Ni ddylid chwaith roi lobïwyr proffesiynol neu eu cyflogwyr ar ddeall y gellid cael mynediad neu driniaeth ffafriol gan Aelod Cynulliad arall neu grŵp neu berson yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru neu sy'n gysylltiedig â Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

5. Cyn cymryd unrhyw gamau o ganlyniad i gael ei lobïo, dylai Aelod fod yn sicr o enwau'r sawl sy'n ei lobïo a'r cymhelliant dros y lobïo. Caiff Aelod Cynulliad ddewis gweithredu mewn ymateb i lobïwr proffesiynol, ond mae'n bwysig bod yr Aelod yn gwybod ar ba sail y mae'n cael ei lobïo er mwyn sicrhau bod unrhyw gamau a gymerir ganddo yn cydymffurfio â'r safonau sydd wedi'u nodi yn y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad.

6. Ar hyn o bryd, nid oes cynllun gwirfoddol na statudol ar gyfer cofrestru lobïwyr proffesiynol yn weithredol yng Nghymru. Cyn cytuno i gyfarfod â pherson neu sefydliad y mae'r Aelod yn credu ei fod yn lobïwr proffesiynol, efallai y byddai'r Aelod am ddarganfod a yw'r lobïwr yn aelod o gorff proffesiynol sy'n cofrestru gwybodaeth am bwy y mae ei aelodau yn eu cynrychioli, ac sydd â chod ymddygiad proffesiynol ar gyfer ei aelodau. Byddai hyn yn cynnwys cyrff materion cyhoeddus fel Public Affairs Cymru a'r Gymdeithas Ymgynghorwyr Gwleidyddol Proffesiynol (APPC). Os nad yw'r lobïwr yn aelod o gorff proffesiynol o'r fath, rhaid i'r Aelod Cynulliad wneud penderfyniad ynghylch a yw am barhau i gyfarfod yr unigolyn hwnnw. [At ddibenion y canllawiau hyn, byddai 'lobïwr proffesiynol' yn cynnwys 'unrhyw un sy'n ymgymryd â gweithgarwch lobïo, h.y. gweithgarwch sydd wedi'i anelu at ddylanwadu Aelodau'r Cynulliad, ar sail broffesiynol neu mewn swydd gyflogedig'. Mae hyn yn cynnwys lobïwyr mewnol, elusennau, cymdeithasau masnachu a sefydliadau eraill sy'n cyflogi staff i wneud gwaith lobïo, a lobïwyr unigol, yn ogystal ag ymgynghorwyr ac asiantau sydd naill ai'n lobïo'n uniongyrchol, neu ar ran cleientiaid neu sy'n cynghori cleientiaid ynghylch ymgymryd â gwaith lobïo]

7. Yn ogystal, dylai Aelodau ystyried un neu fwy o'r camau a ganlyn:

  • cadw cofnod o'r holl gyfarfodydd y maent yn eu cael â phobl sydd, yn eu tyb hwy, yn gwneud gwaith lobïo;

  • cyn cytuno i'w gyfarfod, gofyn i'r person sy'n gwneud y gwaith lobïo gadw cofnod o'r cyfarfod a sicrhau y gall yr Aelod gael mynediad at y cofnod hwnnw, ar unrhyw adeg yn y dyfodol, pe bai galw amdano;

  • trefnu bod aelod o'u staff cymorth yn cymryd nodiadau mewn unrhyw gyfarfodydd y maent yn eu cael â phobl sydd, yn eu tyb hwy, yn gwneud gwaith lobïo.

8. Mae'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad yn pennu'r safonau disgwyliedig ar gyfer derbyn lletygarwch, rhoddion a buddion. Yn ogystal â hyn, a darpariaethau statudol Deddf Llywodraeth Cymru 2006, mae gofyn i Aelodau:

  • wrthod unrhyw waith am dâl a fyddai'n golygu eu bod yn lobïo ar ran unrhyw berson neu sefydliad neu ar ran cleientiaid unrhyw berson neu sefydliad;

  • gwrthod unrhyw waith am dâl i ddarparu gwasanaethau fel strategydd, cynghorwr neu ymgynghorydd, er enghraifft cynghori ar faterion yn ymwneud â Chynulliad Cenedlaethol Cymru neu gynghori ynghylch sut i ddylanwadu ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i Aelodau. (Nid yw hyn yn rhwystro Aelod rhag cael ei dalu am waith a allai godi oherwydd ei fod yn aelod o'r Cynulliad, neu mewn perthynas â hynny, er enghraifft newyddiaduraeth neu ddarlledu, sy'n cynnwys gwneud sylwadau gwleidyddol neu fod yn rhan o waith cynrychioladol neu gyflwyniadol, er enghraifft bod yn rhan o ddirprwyaethau neu gymryd rhan mewn cynadleddau neu ddigwyddiadau eraill);

  • gwrthod pob lletygarwch, budd neu rodd, ar wahân i'r rhai mwyaf di-nod neu achlysurol, os yw'r Aelod yn ymwybodol mai lobïwr proffesiynol sy'n eu cynnig. Mae'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad yn amlinellu'r safonau ymddygiad personol a'r egwyddorion cyffredinol am ymddygiad a nodwyd gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus. Mae'r rhain yn cynnwys gofynion i "[b]eidio â derbyn unrhyw arian fel cymhelliant neu dâl am arfer dylanwad seneddol", y rheol ynghylch "dim adfocatiaeth â thâl", ac i beidio â "rhoi eu hunain o dan unrhyw rwymedigaeth ariannol neu rwymedigaeth arall i unigolion neu gyrff allanol a allai geisio dylanwadu arnynt wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau swyddogol." Gan fod nifer o bobl o'r farn bod lobïwyr proffesiynol yn gwerthu eu gwasanaethau drwy honni y gallant gynnig dylanwad i'w cleientiaid dros bobl sy'n gwneud penderfyniadau, gallai fod yn rhesymol meddwl y gallai derbyn budd o unrhyw fath ddylanwadu ar farn Aelodau i gyflawni eu swyddogaethau swyddogol. (Os daw Aelod yn ymwybodol o ffynhonnell y lletygarwch, budd neu rodd ar ôl ei dderbyn, dylai ystyried naill ai ad-dalu costau unrhyw letygarwch neu fudd neu ddychwelyd unrhyw rodd.)

9. Caiff Aelodau gymryd rhan mewn digwyddiadau lle codir tâl ar bobl eraill i fod yno. Er enghraifft, gall cymryd rhan mewn cynhadledd neu seminar lle codir tâl ar gynrychiolwyr fod yn ffordd ddefnyddiol i Aelod gasglu barn eang am bwnc penodol. Fodd bynnag, mae'n bosibl y gallai fod rhywfaint o bryder bod digwyddiadau sy'n syrthio i'r categori hwn yn ffordd o 'brynu' mynediad at Aelodau'r Cynulliad. Mae'n bwysig nad oes sail i unrhyw ganfyddiad o'r fath. Ni ddylid, felly, gynnig na rhoi unrhyw driniaeth ffafriol i unrhyw berson neu sefydliad ar ôl dod i gyswllt cychwynnol ag Aelod Cynulliad mewn digwyddiad o'r fath.

10. Ni ddylai Aelodau gymryd rhan mewn unrhyw ddigwyddiad os ydynt yn ymwybodol, neu'n dod yn ymwybodol, fod y trefnwyr yn hyrwyddo'r digwyddiad ar y sail bod y rhai sy'n talu i ddod i'r digwyddiad yn 'prynu' dylanwad Aelodau'r Cynulliad neu y gallant ddisgwyl cael mynediad gwell at Aelodau'r Cynulliad, neu driniaeth well gan Aelodau'r Cynulliad yn y dyfodol, na fyddai'n cael ei roi i berson neu sefydliad arall.

11. Wrth gytuno i noddi unrhyw ddigwyddiad, cyfarfod neu arddangosfa ar ystâd y Cynulliad, rhaid i Aelodau bob amser gydymffurfio â gofynion Canllawiau Digwyddiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Telerau ac Amodau ar gyfer digwyddiadau, a gaiff eu hanfon at drefnwyr digwyddiadau a'r Aelodau sy'n noddi'r digwyddiad. Rhaid i'r Aelod sy'n noddi'r digwyddiad, neu gynrychiolydd ar ei ran, fynd i'r digwyddiad, arddangosfa neu gyfarfod, a'r Aelod hwnnw sy'n gyfrifol am y digwyddiad.

12. Dylai Aelodau sicrhau bod staff sy'n gweithio iddynt fod yn ymwybodol o'r rheolau a'r canllawiau hyn, a'u bod yn cadw atynt wrth weithredu ar ran Aelod neu mewn unrhyw berthynas â Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cytunwyd ar y canllawiau drwy benderfyniad y Cynulliad ar 26 Mehefin 2013.

Partners & Help