Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Mark Reckless AC

Mark Reckless AC

Plaid: Grŵp Ceidwadwyr Cymreig

Rhanbarth: Dwyrain De Cymru

Gwybodaeth gyswllt

Cyfeiriad Swyddfa: 
20 Commercial Street
Pontypool
Torfaen
NP4 6JS

Cyfeiriad Cynulliad: 
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Ffôn:  0300 200 7204

E-bost:  Mark.Reckless@cynulliad.cymru

Gwefan (y tu allan i'r Cynulliad) :  www.markreckless.com

Twitter :  twitter.com/MarkReckless

National Assembly for Wales is not responsible for the content of any external link

Aelodaeth

Tymor swydd

  • 06/05/2016 -

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Gwybodaeth ychwanegol

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Mark Reckless wedi ymgyrchu ar hyd ei fywyd fel oedolyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ym mis Hydref 2012, trechodd Marc lywodraeth glymblaid y DU am y tro cyntaf mewn pleidlais seneddol, gyda chynnig yn gofyn am ostyngiad mewn termau real yng nghyllideb yr UE. Cyflawnwyd hyn, gan arbed biliynau o bunnoedd i drethdalwyr y DU, ac o fewn tri mis cytunodd y Prif Weinidog i gynnal refferendwm ar aelodaeth o'r UE.

Yn nhymor yr hydref 2014, gadawodd Mark y Blaid Geidwadol ac ymunodd ag UKIP. Ymddiswyddodd o'i sedd yn Senedd y DU i geisio cefnogaeth ei etholwyr, a chafodd ei ail-ethol mewn is-etholiad.

 

Hanes personol

Ganed Mark ar 6 Rhagfyr 1970, yn fab hynaf i John ac Anne Reckless, meddyg a nyrs. Bu ei dad-cu, Henry McDevitt, yn gwasanaethu fel aelod Fianna Fail yn Senedd Iwerddon, gan gynrychioli Dwyrain Donegal rhwng 1938 ac 1943.

Mae gan Mark radd mewn Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg o Brifysgol Rhydychen, gradd mewn Busnes o Brifysgol Columbia, a gradd yn y Gyfraith o Goleg y Gyfraith. Mae'n briod â Catriona ac mae ganddo ddau fab ifanc.

 

Cefndir proffesiynol

Cyn mentro i fyd gwleidyddiaeth, bu Mark yn gweithio fel economegydd y DU ar gyfer y banc buddsoddi S.G. Warburg (sydd bellach yn rhan o UBS). Cafodd ei gynnwys yn y tri uchaf gan gleientiaid yn arolygon Extel ac Institutional Investor. Yn ddiweddarach, bu Mark yn gweithio fel ymgynghorydd rheoli. Cafodd ei alw i'r Bar yn 2007. Yn 2009, enillodd gymhwyster fel cyfreithiwr gyda Herbert Smith LLP, ar ôl treulio amser fel Cynorthwy-ydd Barnwrol i Is-lywydd y Llys Apêl.

 

Hanes gwleidyddol

Ar ôl sefyll ar gyfer etholaeth Medway yn 2001 a 2005, cafodd Mark ei ethol fel yr AS Ceidwadol dros Rochester a Strood yn 2010. Bu’n gwasanaethu hefyd fel cynghorydd ar gyfer Medway ac aelod o Awdurdod Heddlu Swydd Gaint.

Ym mis Tachwedd 2014, ail-etholwyd Mark fel AS UKIP dros Rochester a Strood mewn is-etholiad, gan gadw’r sedd tan fis Mai 2015. Penodwyd Mark wedyn yn Gyfarwyddwr Datblygu Polisi UKIP ac yn Llefarydd dros yr Economi yn ddiweddarach.

 

Etholwyd Mark i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2016. Ym mis Ebrill 2017, gadawodd Mark UKIP a daeth yn Aelod Cynulliad Annibynnol gan ymuno â grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad.

Etholiadau

Y Llywydd

Y Llywydd

Mae’r Llywydd yn Aelod Cynulliad sy'n cadeirio’r Cyfarfod Llawn. Darllen mwy
Aelodau'r Cynulliad

Aelodau'r Cynulliad

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnwys 60 Aelod Cynulliad. Darllen mwy
Ymgynghoriadau

Ymgynghoriadau

​Rhestr o’r materion y mae pwyllgorau’r Cynulliad yn ymgynghori arnynt ar hyn o bryd Darllen mwy
Ymchwil

Ymchwil

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn darparu cymorth ymchwil i bwyllgorau’r Cynulliad ac i’r holl Aelodau. Darllen mwy
Y Cynulliad yn eich ardal chi

Y Cynulliad yn eich ardal chi

Rydym yn annog unigolion a sefydliadau i gymryd rhan. Darllen mwy

Partners & Help