Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Hannah Blythyn AC

Hannah Blythyn AC

Plaid: Llafur Cymru

Etholaeth: Delyn

Gwybodaeth gyswllt

Cyfeiriad Swyddfa: 
38 Stryd Yr Eglwys
Y Fflint
Sir Y Fflint
CH6 5AE

Cyfeiriad Cynulliad: 
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1Na

Ffôn:  0300 200 7132

E-bost:  Hannah.Blythyn@cynulliad.cymru

Gwefan (y tu allan i'r Cynulliad) :  www.hannahblythyn.wales

Twitter :  twitter.com/HannahBlythyn

National Assembly for Wales is not responsible for the content of any external link

Aelodaeth

Tymor swydd

  • 06/05/2016 -

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Gwybodaeth ychwanegol

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae blaenoriaethau gwleidyddol Hannah yn cynnwys gwthio i greu rhagor o swyddi da, cyfleoedd da a buddsoddiad o’r tu allan i ogledd-ddwyrain Cymru, ochr yn ochr â sicrhau bod ein cymunedau lleol a’n gwasanaethau yn ffynnu.

 

Mae diddordebau polisi penodol gan Hannah mewn: cyflogaeth; yr economi; seilwaith; cydraddoldebau; addysg; pobl ifanc; tai; gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl.

 

Hanes personol

Mae Hannah yn ymfalchïo ei bod yn dod o’r Gogledd ac o Gei Connah. Aeth hi i ysgol Sant Richard Gwyn yn y Fflint a bellach mae’n byw yn yr Wyddgrug. Ar ôl gadael yr ysgol, astudiodd Hannah ym Mhrifysgol De Montfort yng Nghaerlŷr ac ers hynny mae wedi gweithio ledled Sir y Fflint, Cymru a’r DU.

 

Cefndir proffesiynol

Cyn cael ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Mai 2016, roedd Hannah yn gweithio i undeb llafur Unite am bron i ddegawd. Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, bu’n cyflawni gwaith o ran arweiniad polisi a gwaith gwleidyddol ar gyfer yr Undeb yng Nghymru, gan arwain ar nifer o ymgyrchoedd llwyddiannus gan gynnwys: gweithredu ar gosbrestru; gwell cyfiawnder i ddioddefwyr clefydau cysylltiedig ag asbestos; gwarchodaeth i weithwyr gwledig yng Nghymru; a chyflog byw i weithwyr y GIG yng Nghymru.

 

Yn y gorffennol, bu Hannah yn gweithio i elusen fach, ac mae hefyd wedi gweithio i Aelod Seneddol yn Sir y Fflint ac yn y sector lletygarwch yn y sir.

 

Hanes gwleidyddol

Mae Hannah wedi bod yn weithgar yn y mudiad llafur ac ym maes gwleidyddiaeth ddemocrataidd yng Nghymru am nifer o flynyddoedd, ac mae’n edrych ymlaen at ddatblygu’r cyfraniad hwn fel Aelod Cynulliad. Mae hi’n gyn-gadeirydd y gangen LGBT Llafur ac roedd yn weithgar yn yr ymgyrch am briodasau cyfartal.

 

Gwybodaeth gyswllt

 

E-bost: Hannah.Blythyn@cynulliad.cymru

Ffôn: 0300 200 7132

Twitter: @HannahBlythyn

Gwefan: http://www.hannahblythyn.wales

Etholiadau

Y Llywydd

Y Llywydd

Mae’r Llywydd yn Aelod Cynulliad sy'n cadeirio’r Cyfarfod Llawn. Darllen mwy
Aelodau'r Cynulliad

Aelodau'r Cynulliad

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnwys 60 Aelod Cynulliad. Darllen mwy
Ymgynghoriadau

Ymgynghoriadau

​Rhestr o’r materion y mae pwyllgorau’r Cynulliad yn ymgynghori arnynt ar hyn o bryd Darllen mwy
Ymchwil

Ymchwil

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn darparu cymorth ymchwil i bwyllgorau’r Cynulliad ac i’r holl Aelodau. Darllen mwy
Y Cynulliad yn eich ardal chi

Y Cynulliad yn eich ardal chi

Rydym yn annog unigolion a sefydliadau i gymryd rhan. Darllen mwy

Partners & Help