Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Huw Irranca-Davies AC

Huw Irranca-Davies AC

Teitl: Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant

Plaid: Llafur Cymru

Etholaeth: Ogwr

Gwybodaeth gyswllt

Cyfeiriad Swyddfa: 
Uned 2
112-113 Commercial Street
Maesteg
CF34 9DL

Cyfeiriad Cynulliad: 
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Ffôn:  0300 200 7105

E-bost:  Huw.Irranca-Davies@cynulliad.cymru

Gwefan (y tu allan i'r Cynulliad) :  www.huwirranca-davies.org.uk

National Assembly for Wales is not responsible for the content of any external link

Aelodaeth

Tymor swydd

  • 06/05/2016 -

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Gwybodaeth ychwanegol

Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Huw Irranca-Davies yn eu rôl fel Aelod Cynulliad, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Huw Irranca-Davies yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru: http://gov.wales/about/cabinet/writingtoministers/?skip=1&lang=cy

 

Hanes personol

Mae Huw yn briod â Joanna Irranca-Davies (gwnaethant gyfuno eu cyfenwau, sef Davies ac Irranca, ar ôl priodi). Mae ganddynt dri mab, ac maent i gyd yn falch o'u gwreiddiau teuluol yng Nghymru a'r Eidal. Magwyd Huw mewn teulu â chysylltiadau cryf â'r Blaid Lafur. Mae wedi ymgyrchu ar lawr gwlad a gweithredu ym maes adfywio cymunedol ers tro.

 

Mae Huw, a aned yn 1963, yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Tre-gŵyr, ac yn gyn-fyfyriwr Coleg Crewe ac Alsager (BA Anrh) ac Athrofa Addysg Uwch Abertawe (MSc).

 

Yn gerddwr brwd (fel Is-lywydd Ramblers Cymru) ac yn "seiclwr bob dydd ar feic cefn syth", mae hefyd yn ymlacio drwy wylio ei feibion yn chwarae rygbi neu drwy ddarllen nofelau hanesyddol (ond byth unrhyw beth gwleidyddol!)

 

Cefndir proffesiynol

Cyn ymuno â'r byd gwleidyddol, gweithiodd Huw Irranca-Davies fel rheolwr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac fel uwch ddarlithydd mewn addysg uwch. Mewn isetholiad seneddol a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2002, cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol y Blaid Lafur yn etholaeth Ogwr. Daliodd y sedd honno tan 2016, pan gafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad dros Ogwr.

 

Hanes gwleidyddol

Huw oedd yr Aelod Seneddol dros Ogwr rhwng 2002 a 2016, pan roddodd y gorau i'r sedd er mwyn bod yn ymgeisydd yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Yn ystod ei gyfnod fel Aelod Seneddol, bu Huw'n gwasanaethu fel Ysgrifennydd Preifat Seneddol (PPS) i Weinidogion yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, Adran Gogledd Iwerddon a'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS); fel Chwip y Llywodraeth ar gyfer Cymru a DCMS; fel Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru; ac fel Gweinidog yr Amgylchedd yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

 

Rhwng mis Hydref 2010 a 2015, bu'n gwasanaethu fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Ynni, ac yna fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Fwyd, Ffermio a Materion Gwledig. Yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai 2015, cafodd ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol. Daliodd y swydd honno hyd at 2016, pan roddodd y gorau i'r Senedd er mwyn bod yn ymgeisydd yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Ar hyn o bryd, mae'n aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sy'n craffu ar y Bil Cymru diweddaraf.

Etholiadau

Y Cofnod

Y Cofnod

Darganfyddwch bopeth Mae AC wedi dweud ar y Cofnod am y materion sy'n bwysig i chi. Chwilio'r Cofnod
Aelodau'r Cynulliad

Aelodau'r Cynulliad

Mae gan bawb yng Nghymru pump o Aelodau i'w cynrychioli. Dod o hyd i'ch Aelodau Cynulliad
Y Llywydd

Y Llywydd

Rôl y Llyw​ydd yw'r un bwysicaf yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru​.​ Darllen mwy
Ymgynghoriadau

Ymgynghoriadau

Mae angen eich mewnbwn ar bwyllgorau'r Cynulliad i helpu i lunio eu gwaith. Gweld ymgynghori cyfredol
Gwasanaeth Ymchwil

Gwasanaeth Ymchwil

Mae ein hymchwilwyr yn ysgrifennu darnau byr, amserol ac addysgiadol ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru.. Darllen mwy
Yn eich ardal chi

Yn eich ardal chi

Gall ein gwasanaethau Allgymorth ac Addysg ddod â'r Cynulliad i chi. Rhagor o wybodaeth

Partners & Help