Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Alun Davies AC

Alun Davies AC

Teitl: Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Plaid: Llafur Cymru

Etholaeth: Blaenau Gwent

Gwybodaeth gyswllt

Cyfeiriad Swyddfa: 
23 Beaufort Street
Brynmawr
Blaenau Gwent
NP23 4AQ

Ffôn:  01495 311 160

Cyfeiriad Cynulliad: 
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Ffôn:  0300 200 7145

E-bost:  Alun.Davies@cynulliad.cymru

Twitter :  twitter.com/AlunDaviesAM

National Assembly for Wales is not responsible for the content of any external link

Aelodaeth

Tymhorau swydd

  • 04/05/2007 - 31/03/2011
  • 06/05/2011 - 05/04/2016
  • 06/05/2016 -

Gwybodaeth ychwanegol

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Alun Davies yn eu rôl fel Aelod Cynulliad, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Alun Davies yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru: http://llyw.cymru/about/cabinet/writingtoministers/?skip=1&lang=cy

 

Hanes personol

Etholwyd Alun i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2007. Mae'n dod o Dredegar a chafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar ôl graddio, cafodd Alun ei ethol yn Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ac yna bu'n gweithio fel ymgyrchydd dros y Gronfa Natur Fyd Eang (WWF) ac Oxfam. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys prosiectau rhyngwladol yn Rwanda a Gwledydd y Balcan.

 

Mae Alun hefyd wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus gyda Hyder Plc. fel rheolwr cysylltiadau cyhoeddus, cyn cael ei benodi'n Bennaeth Materion Cyhoeddus yn Awdurdod Ynni Atomig y DU ac S4C , fel Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol. Cyn cael ei ethol, roedd Alun yn gyfarwyddwr ar ei fusnes ei hun, Bute Communications. Mae wedi gweithio ar hyd a lled Ewrop a'r Dwyrain Canol ac mae wedi siarad yn rheolaidd mewn seminarau a chynadleddau rhyngwladol.

 

Cefndir proffesiynol

Ers cael ei hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol, mae Alun wedi bod yn aelod o nifer o wahanol bwyllgorau ac wedi cadeirio'r Pwyllgor Darlledu a’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig. Mae wedi ymgyrchu dros faterion lleol a chenedlaethol o broblemau band eang a mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus i dlodi, amddifadedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus.

 

Hanes gwleidyddol

Ar ôl ei ailethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2011, cafodd Alun ei benodi'n Ddirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd ac, ym mis Mawrth 2013, cafodd ei benodi’n Weinidog dros Adnoddau Naturiol a Bwyd

 

Ym mis Mai 2016 cafodd Alun ei ail-ethol yn Aelod Cynulliad dros Flaenau Gwent a’i benodi’n Weinidog dros Addysg Gydol Oes a'r Iaith Gymraeg.

Etholiadau

Y Cofnod

Y Cofnod

Darganfyddwch bopeth Mae AC wedi dweud ar y Cofnod am y materion sy'n bwysig i chi. Chwilio'r Cofnod
Aelodau'r Cynulliad

Aelodau'r Cynulliad

Mae gan bawb yng Nghymru pump o Aelodau i'w cynrychioli. Dod o hyd i'ch Aelodau Cynulliad
Y Llywydd

Y Llywydd

Rôl y Llyw​ydd yw'r un bwysicaf yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru​.​ Darllen mwy
Ymgynghoriadau

Ymgynghoriadau

Mae angen eich mewnbwn ar bwyllgorau'r Cynulliad i helpu i lunio eu gwaith. Gweld ymgynghori cyfredol
Gwasanaeth Ymchwil

Gwasanaeth Ymchwil

Mae ein hymchwilwyr yn ysgrifennu darnau byr, amserol ac addysgiadol ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru.. Darllen mwy
Yn eich ardal chi

Yn eich ardal chi

Gall ein gwasanaethau Allgymorth ac Addysg ddod â'r Cynulliad i chi. Rhagor o wybodaeth

Partners & Help