Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Ymhlith diddordebau gwleidyddol David y mae plant
sy’n derbyn gofal, iechyd meddwl a materion
cyfansoddiadol.
Mae'n awdurdod cydnabyddedig ar gyfansoddiad Prydain,
ac mae wedi ysgrifennu dau lyfr dylanwadol: ‘Will Britain
Survive Beyond 2020?’ (2009), a ‘The Reformed Union:
The UK as a Federation’ (2013).
Hanes personol
Cafodd David, a aned yng Nghastell-nedd yn 1962, ei
addysg yn Ysgol Gyfun Dwr-y-Felin, Castell-nedd; Prifysgol Cymru
Caerdydd; a Choleg William a Mary yn Virginia, UDA.
Cefndir proffesiynol
Mae David yn gyn-reolwr Cymdeithas Genedlaethol y
Gofalwyr yng Nghymru ac yn gyn-ddirprwy gyfarwyddwr y Ganolfan
Gymreig ar Faterion Rhyngwladol.
Hanes gwleidyddol
Cafodd David ei ethol i’r Cynulliad am y tro
cyntaf ym mis Mai 1999.
Bu’n Llefarydd yr Wrthblaid ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac
ar yr Economi a Thrafnidiaeth, a hynny ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.
Rhwng 2000 a 2011, David oedd Cyfarwyddwr Polisi'r Ceidwadwyr
Cymreig, ac ysgrifennodd faniffestos y blaid ar gyfer
etholiadau’r Cynulliad yn 2003, 2007 a 2011.
Yn flaenorol, bu’n cadeirio Pwyllgor Archwilio
y Cynulliad; y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad; a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol.
David Melding oedd Dirprwy Lywydd y Pedwerydd
Cynulliad.