Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Elin Jones AC

Elin Jones AC

Teitl: Y Llywydd

Plaid: Plaid Cymru

Etholaeth: Ceredigion

Gwybodaeth gyswllt

Cyfeiriad Swyddfa: 
Ty Goronwy
32 Heol y Wig
Aberystwyth
SY23 2LN

Ffôn:  01970 624516

Ffacs:  01970 624473

Cyfeiriad Cynulliad: 
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

E-bost:  Elin.Jones@cynulliad.cymru

Aelodaeth

Tymhorau swydd

  • 07/05/1999 - 30/04/2003
  • 02/05/2003 - 02/05/2007
  • 04/05/2007 - 31/03/2011
  • 06/05/2011 - 05/04/2016
  • 06/05/2016 -

Gwybodaeth ychwanegol

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Elin yn byw yn Aberystwyth ac yn mwynhau cerddoriaeth, ffilmiau a darllen. Mae'n aelod o gôr ABC Aberystwyth, ac mae hefyd wedi bod yn aelod o'r grŵp Cwlwm. Yn 2009, enillodd Elin wobr Pencampwr Ffermio Prydain y Farmers Weekly yn ogystal â gwobr Aelod Cynulliad y Flwyddyn.

 

Hanes personol

Ganed Elin ym 1966 ac fe’i magwyd ar fferm yn Llanwnnen, ger Llanbedr Pont Steffan.  Aeth i Ysgol Gynradd Llanwnnen ac Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan. Ar ôl derbyn gradd BSc mewn Economeg o Brifysgol Caerdydd, dyfarnwyd gradd MSc mewn Economeg Wledig iddi o Brifysgol Aberystwyth.

 

Cefndir proffesiynol

Mae Elin wedi gweithio fel Swyddog Datblygu Economaidd i Fwrdd Datblygu Cymru Wledig. Mae hefyd wedi bod yn gyfarwyddwr gyda Radio Ceredigion a chwmni cynhyrchu teledu Wes Glei Cyf.

Bu Elin ar Gyngor Tref Aberystwyth o 1992 tan 1999 a hi oedd Maer ieuangaf Aberystwyth yn nhymor 1997-98. Elin oedd Cadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru rhwng 2000 a 2002.

 

Hanes gwleidyddol

Elin yw Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Fe'i hetholwyd i'r Cynulliad ym mis Mai 1999 ac, yn nhymor cyntaf y Cynulliad, hi oedd Gweinidog yr Wrthblaid dros Ddatblygiad Economaidd.  Yn dilyn etholiad y Cynulliad yn 2003, llwyddodd i ddal gafael ar y portffolio hwn tan 2006, pan ddaeth hi’n Weinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad.  Ar 9 Gorffennaf 2007, ffurfiwyd Llywodraeth Cymru’n Un a phenodwyd Elin yn Weinidog dros Faterion Gwledig.

Etholiadau

Y Cofnod

Y Cofnod

Darganfyddwch bopeth Mae AC wedi dweud ar y Cofnod am y materion sy'n bwysig i chi. Chwilio'r Cofnod
Aelodau'r Cynulliad

Aelodau'r Cynulliad

Mae gan bawb yng Nghymru pump o Aelodau i'w cynrychioli. Dod o hyd i'ch Aelodau Cynulliad
Y Llywydd

Y Llywydd

Rôl y Llyw​ydd yw'r un bwysicaf yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru​.​ Darllen mwy
Ymgynghoriadau

Ymgynghoriadau

Mae angen eich mewnbwn ar bwyllgorau'r Cynulliad i helpu i lunio eu gwaith. Gweld ymgynghori cyfredol
Gwasanaeth Ymchwil

Gwasanaeth Ymchwil

Mae ein hymchwilwyr yn ysgrifennu darnau byr, amserol ac addysgiadol ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru.. Darllen mwy
Yn eich ardal chi

Yn eich ardal chi

Gall ein gwasanaethau Allgymorth ac Addysg ddod â'r Cynulliad i chi. Rhagor o wybodaeth

Partners & Help