Tanysgrifio i gael y newyddion diweddaraf
Mae nifer o ffyrdd o allu tanysgrifio i gael y newyddion diweddaraf gan y Cynulliad.
Y Cyfryngau Cymdeithasol
Gallwch ddilyn gweithgarwch y Cynulliad ar y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a ganlyn.
Facebook
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Senedd
Twitter
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: beth am ddilyn ein llif o newyddion y Cynulliad, datganiadau gan y Llywydd, gwybodaeth am ein hadeiladau a chyhoeddiadau pwysig. @cynulliadcymru
Y Pwyllgor Deisebau: beth am ddilyn ein negeseuon trydar am ddeisebau cyfredol a deisebau newydd a gyflwynwyd i'r Cynulliad. @CCCDeiseb
Y Gwasanaeth Ymchwil: Beth am ddilyn ein negeseuon trydar am gyhoeddiadau ymchwil newydd a dogfennau eraill sy'n berthnasol i fusnes y Cynulliad a datganoli yng Nghymru. @SeneddYmchwil
Y Pierhead: Amserau agor, ayyb. @ypierhead
Hefyd....
Gweler ein lluniau ar Flickr
http://www.flickr.com/photos/nationalassemblyforwales
Gwylio Cyfarfod Llawn a Phwyllgorau'r Cynulliad ar Senedd.TV
http://www.senedd.tv/
Gwylio clipiau a fideos byr ar YouTube
http://www.youtube.com/user/AssemblyCynulliad
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am dudalennau unigol
Nid oes gennym wasanaeth diweddaru a fydd yn rhoi gwybod am newidiadau i dudalennau unigol ar hyn o bryd. Os byddwch am olrhain unrhyw newidiadau ar dudalen benodol, mae teclynnau sydd ar gael yn rhwydd i'ch helpu i wneud hyn.
Rhai enghreifftiau o wasanaethau o'r fath yw http://www.changedetection.com/ neu http://www.watchthatpage.com/
Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am gynnwys na dibynadwyaeth y gwefannau y mae eu lincs wedi'u cynnwys. Nid yw safleoedd o reidrwydd wedi'u cymeradwyo er eu bod wedi'u rhestru.
Diweddariadau SSI
Mae diweddariadau SSI (neu Syndicetiad Syml Iawn) yn dangos pan fydd cynnwys newydd wedi’i ychwanegu at dudalennau gwefan y Cynulliad. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael mewn un lleoliad, cyn gynted ag y caiff ei chyhoeddi, heb orfod ymweld â’r tudalennau yn uniongyrchol.
Gallwch danysgrifio i gael y diweddariadau hyn drwy nodau tudalen eich porwr gwe, neu drwy ddarllenydd. Mae sawl darllenydd gwahanol ar gael ar-lein.
Drwy glicio ar y botwm SSI ar y wefan, gallwch danysgrifio i gael diweddariadau mewn gwahanol ffyrdd. Maent yn cynnwys llusgo’r cyfeiriad URL, neu gopïo a gludo'r cyfeiriad URL, i’ch darllenydd.
Gallwch hefyd weld diweddariadau SSI yn uniongyrchol o dudalennau ar y wefan – bydd yr eicon SSI lliw oren yn ymddangos pan fydd cyflenwad ar gael.
Mae gan bob un o bwyllgorau'r Cynulliad lif SSI y mae modd tanysgrifio iddo. I ddod o hyd i'r llif, ewch i dudalen y pwyllgor a chwiliwch am y linc 'Tanysgrifiwch i'r llif SSI' sydd ag eicon lliw oren SSI bychan wrtho.