Gweithio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cymorth i’r 60 Aelod Cynulliad etholedig. Rydym yn cyflogi pobl ag amrywiaeth eang o dalentau mewn meysydd fel Gweinyddiaeth, Gwasanaeth Clercio, Cyfleusterau, Cyllid, Adnoddau Dynol, TG, Gwasanaethau Llyfrgell, Gwybodaeth i’r Cyhoedd ac Addysg, Ymchwil, Diogelwch a Chyfieithu.