Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
​​​

Senedd

Mannau ar gyfer cynnal digwyddiadau (PDF, 8.99MB)

Gellir cynnal digwyddiadau yn y Neuadd a’r Oriel. Mae’r ddwy lefel ar agor i’r cyhoedd yn ystod y dydd; maent felly yn lleoliadau gwych ar gyfer cynnal digwyddiadau sy’n targedu’r cyhoedd. Dim ond fin nos ac ar ôl i’r Cyfarfod Llawn orffen y gellir cynnal digwyddiadau ar gyfer gwesteion a wahoddwyd. Bryd hynny, mae’r Neuadd a’r Oriel yn lleoliadau gwych ar gyfer eich digwyddiad neu lansiad. Mae’r Neuadd yn lleoliad perffaith ar gyfer adloniant, ac o’r Oriel ceir golygfeydd gwych dros Fae Caerdydd, sef y cefndir perffaith i areithiau.

 

Lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal:

  • Derbyniadau;

  • Digwyddiadau rhyngweithio;

  • Stondinau gwybodaeth;

Capasiti:

Y Neuadd: 150

Yr Oriel: 100

Mae’r adeilad yn gallu dal: 200

Cyfleusterau:

  • System ar gyfer traddodi areithiau;

  • Tair sgrîn symudol, gellir eu defnyddio â gliniadur.

Gellir cynnal digwyddiadau yn y Senedd:

Dydd Llun a Dydd Gwener 09.30 –16.30

O Ddydd Mawrth i Ddydd Iau 08.00 –20.00

Mesuriadau y Senedd:

Y gofod sydd ar gael yn y Neuadd:

15 x 9 metr

Y gofod sydd ar gael yn yr Oriel:

9 x 6 metr

Mynediad

Mae pob llawr yn y Senedd yn gwbl hygyrch. I wneud cais

Am ymholiadau i gynnal digwyddiad yn y Senedd, anfonwch ebost i ein Tîm Lleoliadau neu ffôniwch ni yn uniongyrchol ar 0300 200 6218.​​

 

Partners & Help