Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 

Pierhead

Canllaw Mannau Digwyddiadau (PDF, 2.41MB)

Mae’r Pierhead yn adeilad rhestredig gradd 1 ar ystâd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd. Mae’n un o dirnodau mwyaf adnabyddus Caerdydd, ac fe’i hadeiladwyd ym 1897 yn bencadlys Cwmni Doc Bute. Mae’r Pierhead yn un o adeiladau mwyaf eiconig y ddinas, ac mae wedi’i leoli ym Mae Caerdydd, sydd bellach wedi ei adfywio. Mae nifer o ystafelloedd trawiadol yn yr adeilad y gellir cynnal digwyddiadau ynddynt.

 

Neuadd Fawr

Lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal:

  • Cynadleddau;

  • Derbyniadau;

  • Darlithoedd;

  • Ciniawau nos;

  • Digwyddiadau rhyngweithio.

Capasiti:

Derbyniad lle bydd pobl yn sefyll: 120

Eisteddle ar ffurf theatr : 100

Adloniant/stondinau: 100

I fwyta: 100

Cyfleusterau:

  • Chwe thaflunydd Panasonic PT-D4000E HD annibynnol, sy’n gallu taflunio lluniau, sioe sleidiau, cyflwyniadau a ffilmiau;

  • Consol cymysgu sain digidol Yamaha 01V96;

  • System seinydd stereo;

  • Is-gymysgwr sain Yamaha MG102C;

  • Pedwar meicroffon i’w clipio ar ddillad;

  • Pum meicroffon i’w rhoi ar ben bwrdd.

Gellir cynnal digwyddiadau yn y Pierhead:

Dydd Llun a Dydd Gwener 09.30 –16.30

O Ddydd Mawrth i Ddydd Iau 09.30 –20.00

Mesuriadau Prif Neuadd y Pierhead

15 x 13 Metr

 

Oriel y Dyfodol

Mae Oriel y Dyfodol yn y Pierhead yn ofod sydd wedi’i neilltuo ar gyfer arddangosfeydd, lansiadau bach a derbyniadau cyn cinio. Mae’r amser a ganiateir ar gyfer arddangosfa wedi’i gyfyngu i un mis.

 

Lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal:

  • Arddangosfeydd;

  • Derbyniadau;

  • Digwyddiadau rhyngweithio.

Mae Oriel y Dyfodol ar gael:

Dydd Llun a Dydd Gwener 09.30 –16.30

O Ddydd Mawrth i Ddydd Iau 09.30 –20.00

Mesuriadau Oriel y Dyfodol:

14 x 6 metr

Capasiti:

Mae’r ystafell yn gallu dal: 60

Mynediad

Mae pob llawr yn y Pierhead yn gwbl hygyrch. I wneud

cais i gynnal arddangosfa neu ddigwyddiad yn y Pierhead, cysylltwch â ni drwy ein switsffwrdd

 

Partners & Help