Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Senedd.tv

 

SeneddTV yw'r sianel ddarlledu ar-lein ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r wefan yn cynnwys darllediadau byw ac archif o holl drafodion y Cynulliad a gynhelir yn gyhoeddus, gan gynnwys dadleuon y Cyfarfod Llawn a chyfarfodydd pwyllgor. Gallwch hefyd weld digwyddiadau yn y Cynulliad ac ystod eang o fideos byr am y Cynulliad a'i waith yn yr adran Mwy o’r Senedd. 

 

Mae nodweddion allweddol yn cynnwys:

 

• dull o ffrydio sy'n ymaddasu er mwyn gwella safon y llun;
• y gallu i weithio ar ddyfeisiau symudol;
• y gallu i ddewis clip penodol o fusnes y Cynulliad a'i osod ar wefan trydydd parti;
• teclyn chwilio gwell sy'n ei gwneud yn haws i ddod o hyd i ddeunydd archif;
• nodwedd sy'n galluogi defnyddwyr i fynd yn ôl wrth wylio fideo byw a mynd yn syth i'r pwynt perthnasol mewn fideo archif yn rhwydd; ac 
• archifo fideo o fewn dwy eiliad gan olygu y gellir gwylio cynnwys hanesyddol bron ar unwaith.


 


 

Partners & Help