Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol
Pan fydd Senedd y DU yn dymuno deddfu ar fater sydd eisioes wedi'i ddatganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae confensiwn yn ei gwneud yn ofynnol iddi gael cydsyniad y Cynulliad cyn y gall basio'r deddfwriaeth dan sylw. Rhoddir cydsyniad o'r fath gan y Cynulliad drwy gynigion cydsyniad deddfwriaethol (legislative consent motions).
Caiff manylion am sut y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ymdrin â chynigion cydsyniad deddfwriaethol eu hamlinellu yn rheol sefydlog 29.
Ystyriwyd Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Mesurau Seneddol isod gan y Cynulliad. Rhestrir y cynigion fesul blwyddyn. Cliciwch ar y lincs am ragor o wybodaeth.
Mae'n ofynnol i'r Cynulliad roi cysyniad mewn enghreifftiau ble mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn medru defnyddio pwerau gwneud gorchmynion mewn materion sydd wedi eu datganoli o ganlyniad i ddeddfwriaeth cynradd sydd yn bodoli eisioes. Rhoddir cydsyniad o'r fath gan y Cynulliad drwy Cynigion Cydsyniad. Maent yn wahanol i Gynigion Cydsyniad 'Deddfwriaethol' gan eu bod yn ymwneud â gorchmynion sydd yn deillio o ddeddfau'r DU sydd eisioes mewn grym yn hytrach na darpariaethau mewn Biliau sydd eto i dderbyn cydsyniad gan Senedd y DU.
Mae'r tablau isod yn cynnwys rhestr o'r Cynigion Cydsyniad deddfwriaethol sydd ynghlwm â Biliau Seneddol y Deyrnas Unedig a osodwyd gerbron y Cynulliad.
Pumed Cynulliad 2016-2021
2019
2018
2017
2016
Brig
Pedwerydd Cynulliad 2011-2016
2014, 2015 a 2016
Bil Mewnfudo | 5 Chwefror 2016 |
| |
Bil Mynediad at Driniaethau Meddygol (Arloesi) | 13 Ionawr 2016 |
| |
Bil Tai a Chynllunio | 9 Rhagfyr 2015, 22 Ionawr 2016* |
| |
Bil Undebau Llafur | 20 Tachwedd 2015* |
| |
Bil Diwygio Lles a Gwaith | 29 Hydref 2015 |
| |
Bil Menter [HL] | 1 Hydref 2015, 2 Hydref 2015, 4 Chwefror 2016, 5 Chwefror 2016, 16 Chwefror 2016, 3 Mawrth 2016 |
| |
Bil Arloesi Meddygol [HL] | 10 Rhagfyr 2014* |
| |
Bil Troseddu Difrifol [HL] | 11 Tachwedd 2014, 16 Ionawr 2015, 30 Ionawr 2015 |
| |
Bil Caethwasiaeth Fodern | 5 Tachwedd 2014 |
| |
Bil Hawliau Defnyddwyr | 21 Hydref 2014 |
| |
Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth | 17 Gorffennaf 2014, 7 Tachwedd 2014, 13 Tachwedd 2014, 8 Ionawr 2015 (diwygiad), 6 Mawrth 2015 |
| |
Bil Seilwaith | 18 Mehefin 2014 |
| |
Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd | 15 Mai 2014, 24 Mehefin 2014, 25 Mehefin 2014 (diwygiad) |
| |
Bil Cymru | 1 Mai 2014 |
| |
Y Bil Plant a Theuluoedd | 31 Ionawr 2014, 4 Chwefror 2014 |
| |
Y Bil Dadreoleiddio | 24 Chwefror 2014, 22 Ebrill 2014, 10 Mehefin 2014, 30 Mehefin 2014, 20 Tachwedd 2014, 30 Ionawr 2015 |
2013
| |
Y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio | 11 Ionawr 2013* |
| |
Y Bil Plant a Theuluoedd | 12 Chwefror 2013, 3 Rhagfyr 2013, 17 Rhagfyr 2013, 20 Rhagfyr 2013 |
| |
Y Bil Gofal [HL] | 23 Mai 2013, 22 Gorffennaf 2013 (diwygiad), 9 Hydref 2013 |
| |
Y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona | 23 Mai 2013, 23 Mai 2013, 24 Mai 2013, 24 Mai 2013, 17 Gorffennaf 2013 (diwygiad), 18 Hydref 2013* |
| |
Y Bil Eiddo Deallusol [HL] | 23 Mai 2013 |
| |
Y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol [HL] | 30 Mai 2013* |
| |
Y Bil Dwr | 18 Medi 2013 |
2012
2011
Trydydd Cynulliad 2007-2011