Y Cynulliad Cyntaf
Mae'r dudalen hon yn rhoi amlinelliad o'r dyddiadau allweddol wrth greu Cynulliad Ceneldaethol Cymru a datblygiad y sefydliad wedi hynny. Mae'n canolbwyntio ar ddigwyddiadau gweinyddol a threfniadaeth ond mae hefyd yn cyfeirio at rai datblygiadau gwleidyddol a pholisi nodweddiadol.
1999 | 2000 |
2001 |
2002 |
2003
2003
Ionawr |
Chwefror |
Mawrth |
Ebrill |
Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst | Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr
Mai
01.05.2003 - Etholiadau’r Cynulliad. (Canlyniadau’r etholiad)
Ebrill
03.04.2003 - Yr athletwr Colin Jackson yn annerch y Cynulliad. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 2 Ebrill 2003)
01.04.2003 - Rheol Sefydlog Dros Dro’n cael ei chreu er mwyn galluogi’r Ysgrifennydd Parhaol i greu is-ddeddfwriaeth gyffredinol yn y cyfnod rhwng etholiadau’r Cynulliad ac etholiad y Llywydd.
Mawrth
19.03.2003 - Rheol Sefydlog Dros Dro’n cael ei chreu i lywodraethu cyfarfodydd cyntaf yr Ail Gynulliad.
Chwefror
12.02.2003 - Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reol Sefydlog Rhif 6.9 er mwyn gwneud y weithdrefn ar gyfer dadleuon brys yn fwy eglur. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 12 Chwefror 2002)
2002
Ionawr |
Chwefror |
Mawrth | Ebrill |
Mai |
Mehefin | Gorffennaf | Awst |
Medi |
Hydref |
Tachwedd |
Rhagfyr
Rhagfyr
18.12.2002 - Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reol Sefydlog Rhif 36 fel bod modd ailgyfansoddi Pwyllgor y Ty. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 18 Rhagfyr 2002)
03.12.2002 - Arlywydd Iwerddon, Mary McAleese, yn annerch y Cynulliad. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 3 Rhagfyr 2002).
Tachwedd
26.11.2002 - Lansio delwedd gorfforaethol newydd y Cynulliad Cenedlaethol.
Datganiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar Araith y Frenhines. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 26 Tachwedd 2002)
19.11.2002 - Datganiad personol gan David Melding AC ar ei ymddeoliad fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 19 Tachwedd 2002)
05.11.2002 - Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reolau Sefydlog fel y gall ail gyfran argymhellion yr adolygiad o weithdrefn y Cynulliad gael ei rhoi ar waith (Cofnod y Trafodion ar gyfer 5 Tachwedd 2002)
Hydref
23.10.2002 - Penodi’r Gwir Anrh. Peter Hain AS yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
01.10.2002 - Lansio Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau, sy’n ymgorffori Llyfrgell yr Aelodau mewn gwasanaeth ymchwil ehangach ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a’r Pwyllgorau.
Medi
19.09.2002 - David Ian Jones AC yn cymryd lle Rod Richards AC fel Aelod Cynulliad ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru.
10.09.2002 - Rod Richards AC yn ymddiswyddo fel Aelod Cynulliad ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru.
Mehefin
18.06.2002 - Prif Weinidog Cymru’n cyhoeddi newidiadau i’r Cabinet:
Mike German AC (Democratiaid Rhyddfrydol) yn cael ei benodi’n Weinidog dros Ddatblygu Gwledig a Chymru Dramor;
Carwyn Jones AC (Llafur) yn cael ei benodi’n Weinidog dros Lywodraeth Agored. Bydd yn ymgymryd â’r swydd ochr yn ochr â’i ddyletswyddau fel Trefnydd.
(Cofnod y Trafodion ar gyfer 18 Mehefin 2002).
Ei Mawrhydi’r Frenhines yn annerch y Cynulliad ar achlysur ei Jiwbilî Aur. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 13 Mehefin 2002)
13.06.2002 - Mike German AC yn ailymuno â’r Cabinet gan ddod yn Ddirprwy Brif Weinidog unwaith eto.
11.06.2002 - Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reolau Sefydlog fel y gall y gyfran gyntaf o argymhellion yr adolygiad o weithdrefn y Cynulliad gael ei rhoi ar waith. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 11 Mehefin 2002)
Mai
09.05.2002 - Jan Olbricht, Marsial Silesia, Gwlad Pwyl yn annerch y Cynulliad (Cofnod y Trafodion ar gyfer 9 Mai 2002)
Ebrill
18.04.2002 - Comisiwn annibynnol yn cael ei sefydlu dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Richard er mwyn ystyried pwerau a threfniadau etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol.
Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reolau Sefydlog Rhifau 6 a 36 er mwyn dileu’r ddarpariaeth ar gyfer gofyn cwestiynau llafar i Bwyllgor y Ty. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 18 Ebrill 2002)
Mawrth
19.03.2002 - Yr Anrhydeddus Peter Caruana QC, Prif Weinidog Gibraltar, yn annerch y Cynulliad (Cofnod y Trafodion ar gyfer 19 Mawrth 2002)
Chwefror
26.02.2002 - Andrew Davies AC (Llafur) yn dod yn Weinidog dros Ddatblygu Economaidd. Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Carwyn Jones AC (Llafur), yn ymgymryd â dyletswyddau’r Trefnydd
14.02.2002 - Argymhellion yr adolygiad o weithdrefn y Cynulliad yn cael eu mabwysiadu yn y Cyfarfod Llawn. Pleidleisiodd y Cynulliad Cenedlaethol yn unfrydol y dylid ‘mabwysiadu’r egwyddor y dylid sicrhau’r rhaniad cliriaf posibl a ganiateir gan y ddeddfwriaeth bresennol rhwng y Llywodraeth a’r Cynulliad’
. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 14 Chwefror 2002)
05.02.2002 - Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reol Sefydlog Rhif 4 ynglyn â chofrestru buddiannau’r Aelodau. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 5 Chwefror 2002)
2001
Ionawr |
Chwefror |
Mawrth | Ebrill |
Mai |
Mehefin |
Gorffennaf | Awst |
Medi |
Hydref | Tachwedd | Rhagfyr
Tachwedd
27.11.2001 - Prif Weinidog Cymru’n datgan yn y Cyfarfod Llawn y bydd y term ‘Welsh Assembly Government / Llywodraeth Cynulliad Cymru’ yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol i ddisgrifio polisïau a gweithredoedd y Cabinet, gan wahaniaethu rhwng rhannau gweithredol a deddfwriaethol y Cynulliad. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 27 Tachwedd 2001)
13.11.2001 - Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reol Sefydlog Rhif 6.2 sy’n galluogi’r Cynulliad i gyfarfod am amser penodol yn hytrach nag ar ddiwrnod penodol. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 13 Thachwedd 2001)
Hydref
30.10.2001 - Prif Weinidog y DU, y Gwir Anrh. Tony Blair AS, yn annerch y Cynulliad am y tro cyntaf.
Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reol Sefydlog Rhif 12, sy’n ymestyn yr amser sydd ar gael i’r Llywodraeth i ymateb i adroddiad gan y Pwyllgor Archwilio; Rheol Sefydlog Rhif 15, sy’n galluogi’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd i ystyried materion o fewn cylch gorchwyl pwyllgor pwnc unigol gyda chaniatâd y pwyllgor hwnnw, ac ychwanegu meithrin perthnasau y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd at ei gylch gorchwyl; a Rheol Sefydlog Rhif 23, sy’n ehangu’r weithdrefn weithredol er mwyn delio ag argyfwng clwy’r traed a’r genau. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 30 Hydref 2001)
16.10.2001 - Val Lloyd AC yn mynychu ei Chyfarfod Llawn cyntaf yn dilyn isetholiad Dwyrain Abertawe.
Medi
27.09.2001 - Val Lloyd AC yn cael ei hethol yn Nwyrain Abertawe yn isetholiad cyntaf y Cynulliad.
Gorffennaf
19.07.2001 - Telir teyrngedau yn y Cyfarfod Llawn i’r ddiweddar Val Feld, yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe, a fu farw ar 17 Gorffennaf 2001.
Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reol Sefydlog Rhif 22. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 19 Gorffennaf 2001)
17.07.2001 - Ymhellach i’r penderfyniad a wnaeth ar 21 Mehefin 2000, mae’r Cynulliad yn penderfynu: ceisio tendrau cystadleuol ar gyfer cwblhau adeilad y Cynulliad, yn seiliedig ar y dyluniad a baratowyd gan Bartneriaeth Richard Rogers; un ai ei brydlesu i’r Cynulliad neu ei werthu am un swm y cytunwyd arno; a gohirio gwaith ar yr adeilad nes i’r fath dendr gael ei dderbyn. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 17 Gorffennaf 2001)
12.07.2001 - Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reol Sefydlog Rhif 23 sy’n ei gwneud yn bosibl i’r weithdrefn weithredol gael ei chyflwyno. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 12 Gorffennaf 2001)
06.07.2001 - Mike German AC (Democratiaid Rhyddfrydol) yn sefyll o’r neilltu dros dro fel Dirprwy Prif Weinidog Cymru. Rhodri Morgan AC (Llafur) yn cymryd cyfrifoldeb am ddatblygu economaidd a Jenny Randerson AC (Democratiaid Rhyddfrydol) yn cael ei phenodi’n Ddirprwy Brif Weinidog dros dro.
Rhodri Glyn Thomas AC (Plaid Cymru) yn cael ei ethol yn Gadeirydd Pwyllgor Rhanbarth y De-orllewin.
05.07.2001 - Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reol Sefydlog Rhif 3 fel y gellir gwneud taliadau i’r pleidiau ac fel y gellir gwneud taliadau ychwanegol i Gadeiryddion y pwyllgorau pwnc. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 5 Gorffennaf 2001)
Mehefin
26.06.2001 - Ni chynhelir Cyfarfod Llawn ar 7 Mehefin oherwydd yr etholiad cyffredinol; o ganlyniad, cynhelir tri Chyfarfod Llawn mewn un wythnos, ar 26, 27 a 28 Mehefin.
Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gwneud datganiad ar Araith y Frenhines yn y Siambr. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 26 Mehefin 2001)
07.06.2001 - Y Blaid Lafur yn ennill Etholiad Cyffredinol y DU gyda mwyafrif o 167 o seddi.
Mai
17.05.2001 - Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reolau Sefydlog Rhifau 6.3 a 6.26 sy’n galluogi Aelodau i gyflwyno cwestiynau i’r Trefnydd ar ei gyfrifoldebau nad ydynt yn ymwneud â busnes y Cynulliad. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 17 Mai 2001)
15.05.2001 - Y Cynulliad yn cymeradwyo Rheoliadau Addysg (Estyn Addysg Gyrfaoedd) (Cymru) 2001. Cyflwynwyd y Rheoliadau yn dilyn y cynnig llwyddiannus a wnaed gan Brian Hancock o dan Reol Sefydlog Rhif 29 ar 24 Hydref 2000. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 15 Mai 2001)
08.05.2001 - Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reol Sefydlog Rhif 23.3, sy’n creu gweithdrefn weithredol dros dro i ganiatáu i Weinidog y Cynulliad gymeradwyo is-ddeddfwriaeth a wnaed gan y Cynulliad ar y cyd â Gweinidog y DU, adran Llywodraeth y DU, Gweithrediaeth yr Alban neu Weithrediaeth Gogledd Iwerddon yn ystod argyfwng clwy’r traed a’r genau. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 8 Mai 2001)
03.05.2001 - Christine Gwyther AC (Llafur) yn cael ei hethol i olynu Val Feld AC (Llafur) fel Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Economaidd. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 3 Mai 2001)
01.05.2001 - Y Cynulliad yn gwrthod y cynnig o gerydd a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig yn erbyn y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Jane Hutt AC. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 1 Mai 2001)
Ebrill
05.04.2001 - Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reol Sefydlog Rhif 34 sy’n ei gwneud yn bosibl i Reolau Sefydlog gael eu diwygio dros dro. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 5 ebrill 2001)
03.04.2001 - Eleanor Burnham AC (Democratiaid Rhyddfrydol) yn mynychu ei Chyfarfod Llawn cyntaf ar ôl cymryd lle Christine Humphreys fel Aelod Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru.
Mawrth
31.03.2001 - Christine Humphreys AC (Democratiaid Rhyddfrydol) yn ymddiswyddo o’r Cynulliad.
Telir teyrngedau yn y Cyfarfod Llawn i Mr John Lloyd, Clerc y Cynulliad, ar ei ymddeoliad. Y Clerc newydd, Mr Paul Silk, yn dechrau ar ei swydd.
Y Taoiseach, Bertie Ahern TD, yn annerch y Cynulliad.
01.03.2001 - Cynhelir seremoni ‘torri’r dywarchen’ ar safle adeilad newydd y Cynulliad.
Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reol Sefydlog 12 sy’n galluogi’r Llywydd i gyhoeddi canllawiau ar osgoi gwrthdaro buddiannau wrth gymryd rhan yng ngweithgareddau’r Pwyllgor Archwilio. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 1 Mawrth 2001)
Chwefror
28.02.2001 - Lansio canolfan ymwelwyr y Cynulliad yn adeilad y Pierhead.
06.02.2001 - Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i ddwy Reol Sefydlog: Rheol Sefydlog Rhif 3, er mwyn galluogi cynrychiolydd o Bwyllgor y Ty i gyflwyno a chynnig cynigion sy’n ymwneud â’i swyddogaethau; a Rheol Sefydlog Rhif 6, i adlewyrchu’r newidiadau i Reol Sefydlog Rhif 22 a wnaed ar 5 Rhagfyr 2000. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 6 Chwefror 2001)
Ionawr
18.01.2001 - Gofynnir y cwestiynau cyntaf i Bwyllgor y Ty yn y Cyfarfod Llawn. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 18 Ionawr 2001)
2000
Ionawr |
Chwefror |
Mawrth |
Ebrill |
Mai |
Mehefin |
Gorffennaf | Awst |
Medi |
Hydref |
Tachwedd |
Rhagfyr
Rhagfyr
12.12.2000 - Yr Athletwraig baralympaidd Tanni Grey-Thompson OBE yn annerch y Cynulliad, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gwneud datganiad ar Araith y Frenhines. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 12 Rhagfyr 2000)
07.12.2000 - Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reolau Sefydlog Rhifau 4 a 6.20, sy’n galluogi’r Llywydd i gymryd pleidlais drwy alw’r gofrestr neu drwy ofyn am ddangos dwylo. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 7 Rhagfyr 2000)
06.12.2000 - Cynhelir cyfarfod cyntaf grwp adolygu gweithdrefn y Cynulliad.
05.12.2000 - Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reol Sefydlog Rhif 22 (Is-ddeddfwriaeth) sy’n rhannu’r rheol yn adrannau ar wahân. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 5 Rhagfyr 2000)
Tachwedd
28.11.2000 - Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reol Sefydlog Rhif 6.3, a fyddai’n galluogi’r Gweinidog Cyllid i ateb cwestiynau ar ei chyfrifoldebau sy’n ymwneud â chyllid ar wahân i gwestiynau ar ei chyfrifoldebau eraill. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 28 Tachwedd 2000)
15.11.2000 - Cynhelir cyfarfodydd cyntaf y Pwyllgor Diwylliant a’r Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes.
10.11.2000 - Ail-enwi Swyddfa’r Llywydd yn y Saesneg. Yn lle ‘Office of the Presiding Officer’
mabwysiadir yr enw ‘Presiding Office’
.
09.11.2000 - Etholir aelodau’r pwyllgorau pwnc yn y Cyfarfod Llawn. Etholir y cadeiryddion fel a ganlyn:
Etholir Cynog Dafis AC AS (Plaid Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes.
Etholir Rhodri Glyn Thomas AC (Plaid Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant.
Etholir Glyn Davies AC (Ceidwadwyr) i gymryd lle Rhodri Glyn Thomas AC fel Cadeirydd y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig.
Etholir Mick Bates AC (Democrat Rhyddfrydol) yn lle Michael German AC (Democrat Rhyddfrydol) yn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfau.
(Cofnod y Trafodion ar gyfer 9 Tachwedd 2000)
Hydref
25.10.2000 - Cynhelir cyfarfodydd olaf y Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 a’r Pwyllgor Addysg Cyn-16.
24.10.2000 -Cynnig Brian Hancock AC (Plaid Cymru) i gyfarwyddo Ysgrifennydd Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 y Cynulliad i gyflwyno is-ddeddfwriaeth ddrafft o dan adran 46(3) Deddf Addysg 1997 yw’r cynnig llwyddiannus cyntaf a wnaed o dan Reol Sefydlog Rhif 29. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 24 Hydref 2000)
19.10.2000 - Etholir Dr John Marek AC AS (Llafur) i gymryd lle Jane Davidson AC fel Dirprwy Lywydd yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 1.13. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 19 Hydref 2000)
Y Prif Weinidog, y Gwir Anrh. Rhodri Morgan AC AS, a Michael German AC yn arwyddo’r cytundeb partneriaeth.
17.10.2000 - Prif Weinidog Cymru’n cyhoeddi newidiadau pellach i’w dîm gweinidogol, gan benodi’r Dirprwy Weinidogion canlynol:
Y Dirprwy Weinidog dros Ddatblygu Economaidd - Alun Pugh AC (Llafur)
Y Dirprwy Weinidog dros Lywodraeth Leol - Peter Black AC (Democrat Rhyddfrydol)
Y Dirprwy Weinidog dros Iechyd - Brian Gibbons AC (Llafur)
Y Dirprwy Weinidog dros Faterion Gwledig, Diwylliant a’r Amgylchedd - Delyth Evans AC (Llafur)
Y Dirprwy Weinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes - Huw Lewis AC (Llafur)
Cadeirydd Pwyllgor Monitro Amcan Un - Christine Chapman AC.
16.10.2000 - Y Gwir Anrh. Rhodri Morgan AC AS yn cyhoeddi manylion am y Cabinet Partneriaeth newydd:
Prif Weinidog Cymru – Y Gwir Anrh. Rhodri Morgan AC AS (Llafur)
Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd - Michael German AC (Democratiaid Rhyddfrydol)
Y Trefnydd - Andrew Davies AC (Llafur)
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau - Edwina Hart AC (Llafur)
Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes - Jane Davidson AC (Llafur)
Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg- Jenny Randerson AC (Democratiaid Rhyddfrydol)
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd - Sue Essex AC (Llafur)
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig - Carwyn Jones AC (Llafur)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Jane Hutt AC (Llafur)
O ganlyniad i’r ad-drefnu, mae Peter Law AC a Rosemary Butler AC yn gadael y Cabinet.
Y Cabinet yn mabwysiadu’r term 'Gweinidog' yn lle ‘Ysgrifennydd’.
12.10.2000 - Telir teyrnged i’r Gwir Anrh. Donald Dewar ASA AS, Prif Weinidog yr Alban, a fu farw ar 11 Hydref 2000.
10.10.2000 - Y Cynulliad yn pleidleisio i sefydlu Pwyllgor y Ty o dan Reol Sefydlog newydd Rhif 28, ac i greu cyllideb ar wahân ar gyfer Swyddfa’r Llywydd yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 19. Golyga hynny fod Swyddfa’r Llywydd yn gyfrifol am rai swyddogaethau yn annibynnol ar weddill y Cynulliad. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 10 Hydref 2000)
09.10.2000 - Tom Middlehurst AC yn ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 y Cynulliad.
06.10.2000 - Rhoi Cymru'n Gyntaf: Partneriaeth ar gyfer Pobl Cymru, sef y cytundeb partneriaeth rhwng Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn cael ei gyhoeddi.
05.10.2000 - Cyhoeddi’r bartneriaeth glymbleidiol newydd rhwng Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Medi
12.09.2000 - Cynhelir y Cyfarfod Llawn cyntaf ar ddydd Iau o ganlyniad i’r drefn newydd, sef y bydd y cyfarfodydd llawn yn cael eu cynnal ar fore Mawrth a phrynhawn Iau.
Dechreuir defnyddio clociau yn y Siambr i amseru cwestiynau a chyfraniadau siaradwyr yn ystod y dadleuon.
Y cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 8.1 i sefydlu Pwyllgor Ymgynghorol Penodi Comisiynydd Plant yn cael ei dderbyn yn y Cyfarfod Llawn. Yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 8.4 etholir Jane Hutt AC (Llafur) yn Gadeirydd y Pwyllgor. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 12 Medi 2000)
Awst
03.08.2000 - Ieuan Wyn Jones AC AS yn olynu’r Gwir Anrh. Dafydd Wigley AC AS fel Llywydd Plaid Cymru.
Gorffennaf
24.07.2000 - Penodi Delyth Evans AC (Llafur) yn Ddirprwy Ysgrifennydd Amaethyddiaeth, Llywodraeth Leol a’r Amgylchedd, gan gymryd lle Carwyn Jones AC.
23.07.2000 - Y Prif Ysgrifennydd yn cyhoeddi newid yn y Cabinet, sef y bydd Carwyn Jones AC yn dod yn Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, gan gymryd lle Christine Gwyther AC.
12.07.2000 - Y Prif Ysgrifennydd yn datgan yn y Cyfarfod Llawn y daethpwyd i gytundeb ar gynnal adolygiad trawsbleidiol o weithdrefnau’r Cynulliad gan weithio o fewn fframwaith Deddf Llywodraeth Cymru 1998. Bydd yn cael ei gyflawni gan grwp adolygu gweithdrefn Cynulliad. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 12 Gorffennaf 2000)
Mehefin
27.06.2000 - Syr David Steel KBE ASA, Llywydd Senedd yr Alban, yn annerch y Cynulliad. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 27 Mehefin 2000).
Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reolau Sefydlog Rhifau 12 a 22, a, thrwy hynny, yn sefydlu trefniadau ar gyfer dirprwyo ar ran aelodau o’r Pwyllgor Archwilio sydd wedi’u datgymhwyso, ac yn cyflwyno’r weithdrefn garlam. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 27 Mehefin 2000)
21.06.2000 - Y Cynulliad yn ailgadarnhau’r penderfyniad a wnaeth ar 26 Ionawr 2000 ynglyn ag adeilad newydd y Cynulliad, gan benderfynu bwrw ymlaen â Dewis B fel y’i disgrifiwyd yn y ddogfen ‘Gwybodaeth am Broject Adeilad Newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’
. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 21 Mehefin 2000)
Mai
23.05.2000 - Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reol Sefydlog Rhif 19 mewn perthynas â phenderfynu cyllideb y Cynulliad, ac i Reolau Sefydlog Rhifau 22.12 a 27, a fyddai’n caniatáu i femorandwm o gywiriadau gael ei gyflwyno ac i bwyllgor penderfyniadau cynllunio gyfarfod yn ystod y toriad. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 23 Mai 2000)
17.05.2000 - Y trydydd cynnig o gerydd yn erbyn Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig y Cynulliad, Christine Gwyther AC, a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr y tro hwn, yn cael ei wrthod gan y Cynulliad. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 17 Mai 2000)
09.05.2000 - Delyth Evans AC (Llafur), olynydd y Gwir Anrh. Alun Michael AS, yn mynychu ei Chyfarfod Llawn cyntaf fel Aelod Cynulliad dros etholaeth ranbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru.
01.05.2000 - Y Gwir Anrh. Alun Michael AC AS yn ymddiswyddo fel Aelod Cynulliad ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Ebrill
26.04.2000 - Cofnodion Cabinet y Cynulliad yn cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf, ac yn cael eu rhoi ar y we.
06.04.2000 - Cyfarfod cyntaf Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth.
Cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
05.04.2000 - Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i’r Rheolau Sefydlog i alluogi’r Llywydd i gyflawni swyddogaethau’r Dirprwy Lywydd, ac i alluogi Aelodau i gofrestru buddiannau drwy’r post. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 5 Ebrill 2000)
Mawrth
29.03.2000 - Etholir Richard Edwards AC (Llafur) yn Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth, a Gwenda Thomas AC (Llafur) yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 29 Mawrth 2000)
22.03.2000 - Yn dilyn cyfarfod grwp prosiect adeilad newydd y Cynulliad, caiff y prosiect ei ohirio.
15.03.2000 - Etholir Edwina Hart AC (Llafur) i olynu Jane Hutt AC (Llafur) fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 15 Mawrth 2000)
Datganiadau’r Prif Ysgrifennydd i’r wasg yn cael eu cyhoeddi am y tro Cyntaf.
14.03.2000 - Etholir Rhodri Glyn Thomas AC (Plaid Cymru) i gymryd lle Ieuan Wyn Jones AC AS (Plaid Cymru) fel Cadeirydd y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 14 Mawrth 2000)
08.03.2000 - Cyfarfod olaf y Pwyllgor Llywodraeth Leol a’r Amgylchedd.
Chwefror
29.02.2000 - Y Llywydd yn datgan yn y Cyfarfod Llawn fod David Lambert wedi’i benodi’n gynghorydd cyfreithiol annibynnol i Swyddfa’r Llywydd.
Etholir y Gwir Anrh. Rhodri Morgan AC AS (Llafur) i olynu’r Gwir Anrh. Alun Michael AC AS (Llafur) fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 29 Chwefror 2000)
23.02.2000 - Y Prif Ysgrifennydd yn cyhoeddi bod tri Dirprwy Ysgrifennydd wedi’u penodi i gynorthwyo Ysgrifenyddion Cabinet y Cynulliad gyda’u gwaith yn y meysydd canlynol:
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Alun Pugh AC (Llafur);
Amaethyddiaeth, Llywodraeth Leol a’r Amgylchedd - Carwyn Jones AC (Llafur);
Addysg a’r Economi - Christine Chapman AC (Llafur).
22.02.2000 - Y Gwir Anrh. Rhodri Morgan AC AS yn cyhoeddi penodiadau i’r Cabinet, ynghyd â newidiadau i’r portffolios:
Y Prif Ysgrifennydd a’r Ysgrifennydd Datblygu Economaidd – Y Gwir Anrh. Rhodri Morgan AC AS (Llafur);
Y Trefnydd - Andrew Davies AC (Llafur);
Yr Ysgrifennydd Cyllid - Edwina Hart AC (Llafur);
Yr Ysgrifennydd Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 - Tom Middlehurst AC (Llafur);
Yr Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Jane Hutt AC (Llafur);
Yr Ysgrifennydd Addysg a Phlant - Rosemary Butler AC (Llafur);
Yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig - Christine Gwyther AC (Llafur);
Yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Thai - Peter Law AC (Llafur);
Yr Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth - Sue Essex AC (Llafur).
16.02.2000 - Swyddogaethau’r trydydd Gorchymyn trosglwyddo swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo i’r Prif Ysgrifennydd.
15.02.2000 - Etholir y Gwir Anrh. Rhodri Morgan AC AS yn Brif Ysgrifennydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 15 Chwefror 2000)
09.02.2000 - Y Gwir Anrh. Alun Michael AC AS, yn unol â’r Rheolau Sefydlog, yn ymddiswyddo fel Prif Ysgrifennydd.
O dan Reol Sefydlog Rhif 2.10, etholir y Gwir Anrh. Rhodri Morgan AC AS gan y Cabinet yn Brif Ysgrifennydd Gweithredol.(Cofnod y Trafodion ar gyfer 9 Chwefror 2000)
Ionawr
26.01.2000 - Y Cynulliad yn penderfynu bwrw ymlaen â chynllun adeilad newydd y Cynulliad, ar y sail ddiwygiedig a gyflwynwyd yn adroddiad cynnydd rhif 1/2000 ar brosiect adeilad newydd y Cynulliad.
25.01.2000 - Cymeradwyo’r trydydd Gorchymyn trosglwyddo swyddogaethau (SI 2000/253).
19.01.2000 - Y Cynulliad yn cymeradwyo newidiadau i Reol Sefydlog Rhif 27 ynghylch pwyllgorau penderfyniadau cynllunio. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 19 Ionawr 2000)
1999
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill |
Mai |
Mehefin |
Gorffennaf |
Awst |
Medi |
Hydref |
Tachwedd |
Rhagfyr
Rhagfyr
08.12.1999 - Is-Ysgrifennydd Seneddol Gwladol Cymru, David Hanson AS, yn annerch y Cynulliad. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 8 Rhagfyr 1999)
Tachwedd
30.11.1999 - Yr Anrhydeddus Roy MacLaren, Uchel Gomisiynydd Canada, yn annerch y Cynulliad.
Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gwneud datganiad ar Araith y Frenhines yn y Cyfarfod Llawm. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 30 Medi 1999)
24.11.1999 - Etholir David Melding AC (Ceidwadwyr) i gymryd lle Nicholas Bourne AC (Ceidwadwyr) fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 24 Medi 1999)
15..11.1999 - Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 1999 yn dod i rym. (SI 1999/2787).
09.11.1999 - Y Rheolau Sefydlog yn cael eu newid fel y bydd pob pleidlais yn digwydd yn electronig yn y dyfodol. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 9 Medi 1999)
02.11.1999 - Y Cynulliad yn gwrthod y cynnig o ddiffyg hyder yn y Prif Ysgrifennydd, y Gwir Anrh. Alun Michael AC AS, a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 2 Medi 1999)
Hydref
19.10.1999 - Y Cynulliad yn derbyn y cynnig o gerydd a gyflwynwyd gan aelodau’r tair gwrthblaid yn erbyn Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig y Cynulliad (Christine Gwyther AC. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 19 Hydref 1999)
12.10.1999 - Mr Bob Carr, Prif Weinidog De Cymru Newydd, yn annerch y Cynulliad. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 12 Hydref 1999)
05.10.1999 - Cyfarfod cyntaf Pwyllgor y Ty.
Medi
23.09.1999 - Cynhelir Cyfarfod Llawn drwy’r dydd am y tro cyntaf.
21.09.1999 - Cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Archwilio.
15.09.1999 - Y Cynulliad yn gwrthod y cynnig o gerydd a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig yn erbyn yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, Christine Gwyther AC. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 15 Medi 1999)
Awst
18.08.1999 - Etholir Nicholas Bourne AC AS yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
10.08.1999 - Rod Richards AC yn ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
Gorffennaf
29.07.1999 - Penodi Paul Murphy AS yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
22.07.1999 - Cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Safonau.
21.07.1999 - Newidiadau i Reolau Sefydlog Rhifau 6.35 a 6.36 ynglyn â’r Ddadl Fer. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 21 Gorffennaf 1999)
20.07.1999 - Y Cynulliad yn cytuno y dylid hysbysu Partneriaeth Richard Rogers y dylai barhau i ddatblygu prosiect adeilad newydd y Cynulliad yn ôl y paramedrau cost a bennwyd. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 20 Gorffennaf 1999)
13.07.1999 - Etholir Val Feld AC (Llafur) i gymryd lle’r Gwir Anrh. Ron Davies AC AS fel Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Economaidd. Daw’r etholiad i rym yn syth ar ôl cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Economaidd ar 14 Gorffennaf 1999. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 13 Gorffennaf 1999)
09.07.1999 - Cynhelir cyfarfodydd cyntaf Pwyllgor Rhanbarth y Canolbarth a Phwyllgor Rhanbarth y De-ddwyrain. Etholir Glyn Davies AC (Ceidwadwyr) yn Gadeirydd Pwyllgor Rhanbarth y Canolbarth a Jenny Randerson AC (Democratiaid Rhyddfrydol) yn Gadeirydd Pwyllgor Rhanbarth y De-ddwyrain.
06.07.1999 - Ei Ardderchowgrwydd Mr Philip Lader, Llysgennad Unol Daleithiau America, yn annerch y Cynulliad. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 6 Gorffennaf 1999)
02.07.1999 - Cynhelir cyfarfodydd cyntaf Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd a Phwyllgor Rhanbarth y De-orllewin. Etholir Gareth Jones AC (Plaid Cymru) yn Gadeirydd Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd a Peter Black AC (Democratiaid Rhyddfrydol) yn Gadeirydd Pwyllgor Rhanbarth y De-orllewin).
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 yn dod i rym, gan drosglwyddo pwerau Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. (SI 1999/672).
Cynhelir cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Materion Ewropeaidd.
01.07.1999 - Staff y Swyddfa Gymreig yn trosglwyddo i’r Cynulliad.
Y Swyddfa Gymreig yn dirwyn i ben.
Mehefin
29.06.1999 - Cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Deddfau. (Cofnodion)
Cynhelir cyfarfodydd cyntaf:
Y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Cofnodion),
Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a’r Amgylchedd (Cofnodion), ac
Y Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 (Cofnodion).
23.06.1999 - Derbyniwyd cynnig yn y Cyfarfod Llawn i ethol cadeiryddion y pwyllgorau, o dan adrannau 60(3) a (5)
Deddf Llywodraeth Cymru
1998:
Janet Davies AC (Plaid Cymru) - Archwilio;
Michael German AC (Democratiaid Rhyddfrydol) - Deddfau;
Nicholas Bourne AC (Ceidwadwyr) - Safonau;
Y Gwir Anrh. Alun Michael AC AS (Llafur) - Materion Ewropeaidd;
Jane Hutt AC (Llafur) - Cyfle Cyfartal.
Cynulliad yn dirprwyo ei swyddogaethau i’r Prif Ysgrifennydd yn unol ag Adran 62(1)b o
Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
. (Cofnod y Trafodion ar gyfer 16 Mehefin 1999)
16.06.1999 - Cynhelir cyfarfodydd cyntaf y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig; y Pwyllgor Datblygu Economaidd; a’r Pwyllgor Addysg Cyn 16 Oed, Ysgolion ac Addysg Gynnar.
Mai
26.05.1999 - Seremoni Agoriadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a fynychir gan Ei Mawrhydi’r Frenhines, Ei Fawrhydi Brenhinol Dug Caeredin a’i Fawrhydi Brenhinol Tywysog Cymru.
19.05.1999 - Ethol aelodau Panel Cadeiryddion y Pwyllgorau Pwnc:
Y Gwir Anrh. Ron Davies AC AS (Llafur) - Datblygu Economaidd;
Sue Essex AC (Llafur) - Cynllunio a’r Amgylchedd;
Ieuan Wyn Jones AC AS (Plaid Cymru) - Amaethyddiaeth a Materion Gwledig;
Cynog Dafis AC AS (Plaid Cymru) - Addysg Ôl-16 a Dysgu Gydol Oes;
William Graham AC (Ceidwadwyr) - Addysg Cyn-16, Ysgolion ac Addysg Gynnar;
Kirsty Williams AC (Democratiaid Rhyddfrydol) - Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cyfarfod Llawn cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Etholir yr Arglwydd Elis-Thomas AC (Plaid Cymru) yn Llywydd;
Etholir Jane Davidson AC (Llafur) yn Ddirprwy Lywydd;
Etholir y Gwir Anrh. Alun Michael AC AS (Llafur) yn Brif Ysgrifennydd.
12.05.1999 - Penodwyd aelodau Cabinet y Cynulliad:
Datblygu Economaidd – y Gwir Anrh. Rhodri Morgan AC AS (Llafur)
Addysg (hyd at 16) - Rosemary Butler AC (Llafur)
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Jane Hutt AC (Llafur)
Hyfforddiant ac Addysg ôl-16 - Tom Middlehurst AC (Llafur)
Amaethyddiaeth a’r Economi Wledig - Christine Gwyther AC (Llafur)
Amgylchedd (gan gynnwys llywodraeth leol a chynllunio) - Peter Law AC (Llafur)
Y Trefnydd - Andrew Davies AC (Llafur)
Cyllid - Edwina Hart AC (Llafur)
Etholiadau cyntaf y Cynulliad. (Canlyniadau’r etholiad)
06.05.1999 - Uned ddatganoli’r Swyddfa Gymreig yn dirwyn i ben.